LLYFR GENESIS

Hanes y Creu

1:1  Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a'r ddaear.
1:2  Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd.
1:3  A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni.
1:4  Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch.
1:5  Galwodd Duw y goleuni yn ddydd a'r tywyllwch yn nos. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf.
1:6  Yna dywedodd Duw, "Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd yn gwahanu dyfroedd oddi wrth ddyfroedd."
1:7  A gwnaeth Duw y ffurfafen, a gwahanodd y dyfroedd odani oddi wrth y dyfroedd uwchlaw iddi. A bu felly.
1:8  Galwodd Duw y ffurfafen yn nefoedd. A bu hwyr a bu bore, yr ail ddydd.
1:9  Yna dywedodd Duw, "Casgler ynghyd y dyfroedd dan y nefoedd i un lle, ac ymddangosed tir sych." A bu felly.
1:10  Galwodd Duw y tir sych yn ddaear, a chronfa'r dyfroedd yn foroedd. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
1:11  Dywedodd Duw, "Dyged y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had, a choed ir ar y ddaear yn dwyn ffrwyth â had ynddo, yn ôl eu rhywogaeth." A bu felly.
1:12  Dygodd y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had yn ôl eu rhywogaeth, a choed yn dwyn ffrwyth â had ynddo, yn ôl eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
1:13  A bu hwyr a bu bore, y trydydd dydd.
1:14  Yna dywedodd Duw, "Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd i wahanu'r dydd oddi wrth y nos, ac i fod yn arwyddion i'r tymhorau, a hefyd i'r dyddiau a'r blynyddoedd.
1:15  Bydded iddynt fod yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear." A bu felly.
1:16  Gwnaeth Duw y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli'r dydd, a'r golau lleiaf y nos; a gwnaeth y sêr hefyd.
1:17  A gosododd Duw hwy yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear,
1:18  i reoli'r dydd a'r nos ac i wahanu'r goleuni oddi wrth y tywyllwch. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
1:19  A bu hwyr a bu bore, y pedwerydd dydd.
1:20  Yna dywedodd Duw, "Heigied y dyfroedd o greaduriaid byw, ac uwchlaw'r ddaear eheded adar ar draws ffurfafen y nefoedd."
1:21  A chreodd Duw y morfilod mawr, a'r holl greaduriaid byw sy'n heigio yn y dyfroedd yn ôl eu rhywogaeth, a phob aderyn asgellog yn ôl ei rywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
1:22  Bendithiodd Duw hwy a dweud, "Byddwch ffrwythlon ac amlhewch a llanwch ddyfroedd y moroedd, a lluosoged yr adar ar y ddaear."
1:23  A bu hwyr a bu bore, y pumed dydd.
1:24  Yna dywedodd Duw, "Dyged y ddaear greaduriaid byw yn ôl eu rhywogaeth: anifeiliaid, ymlusgiaid a bwystfilod gwyllt yn ôl eu rhywogaeth." A bu felly.
1:25  Gwnaeth Duw y bwystfilod gwyllt yn ôl eu rhywogaeth, a'r anifeiliaid yn ôl eu rhywogaeth, a holl ymlusgiaid y tir yn ôl eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
1:26  Dywedodd Duw, "Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni, i lywodraethu ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ar yr anifeiliaid gwyllt, ar yr holl ddaear, ac ar bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear."
1:27  Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy.
1:28  Bendithiodd Duw hwy a dweud, "Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear."
1:29  A dywedodd Duw, "Yr wyf yn rhoi i chwi bob llysieuyn sy'n dwyn had ar wyneb y ddaear, a phob coeden â had yn ei ffrwyth; byddant yn fwyd i chwi.
1:30  Ac i bob bwystfil gwyllt, i holl adar yr awyr, ac i bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear, popeth ag anadl einioes ynddo, bydd pob llysieuyn glas yn fwyd." A bu felly.
1:31  Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn. A bu hwyr a bu bore, y chweched dydd.

2:1  Felly gorffennwyd y nefoedd a'r ddaear a'u holl luoedd.
2:2  Ac erbyn y seithfed dydd yr oedd Duw wedi gorffen y gwaith a wnaeth, a gorffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith.
2:3  Am hynny bendithiodd Duw y seithfed dydd a'i sancteiddio, am mai ar hwnnw y gorffwysodd Duw oddi wrth ei holl waith yn creu.
2:4  Dyma hanes cenhedlu'r nefoedd a'r ddaear pan grewyd hwy.

Gardd Eden

Yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd,
2:5  nid oedd un o blanhigion y maes wedi dod ar y tir, nac un o lysiau'r maes wedi blaguro, am nad oedd yr ARGLWYDD Dduw eto wedi peri iddi lawio ar y ddaear, ac nad oedd yno ddyn i drin y tir;
2:6  ond yr oedd tarth yn esgyn o'r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y tir.
2:7  Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw.
2:8  A phlannodd yr ARGLWYDD Dduw ardd yn Eden, tua'r dwyrain; a gosododd yno y dyn yr oedd wedi ei lunio.
2:9  A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i bob coeden ddymunol i'r golwg, a da i fwyta ohoni, dyfu o'r tir; ac yr oedd pren y bywyd yng nghanol yr ardd, a phren gwybodaeth da a drwg.
2:10  Yr oedd afon yn llifo allan o Eden i ddyfrhau'r ardd, ac oddi yno yr oedd yn ymrannu'n bedair.
2:11  Enw'r afon gyntaf yw Pison; hon sy'n amgylchu holl wlad Hafila, lle y ceir aur;
2:12  y mae aur y wlad honno'n dda, ac yno ceir bdeliwm a'r maen onyx.
2:13  Enw'r ail yw Gihon; hon sy'n amgylchu holl wlad Ethiopia.
2:14  Ac enw'r drydedd yw Tigris; hon sy'n llifo o'r tu dwyrain i Asyria. A'r bedwaredd afon yw Ewffrates.
2:15  Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a'i osod yng ngardd Eden, i'w thrin a'i chadw.
2:16  Rhoddodd yr ARGLWYDD Dduw orchymyn i'r dyn, a dweud, "Cei fwyta'n rhydd o bob coeden yn yr ardd,
2:17  ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono ef, byddi'n sicr o farw."
2:18  Dywedodd yr ARGLWYDD Dduw hefyd, "Nid da bod y dyn ar ei ben ei hun; gwnaf iddo ymgeledd cymwys."
2:19  Felly fe luniodd yr ARGLWYDD Dduw o'r ddaear yr holl fwystfilod gwyllt a holl adar yr awyr, a daeth â hwy at y dyn i weld pa enw a roddai arnynt; a pha enw bynnag a roes y dyn ar unrhyw greadur, dyna fu ei enw.
2:20  Rhoes y dyn enw ar yr holl anifeiliaid, ar adar yr awyr, ac ar yr holl fwystfilod gwyllt; ond ni chafodd ymgeledd cymwys iddo'i hun.
2:21  Yna parodd yr ARGLWYDD Dduw i drymgwsg syrthio ar y dyn, a thra oedd yn cysgu, cymerodd un o'i asennau a chau ei lle â chnawd;
2:22  ac o'r asen a gymerodd gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw wraig, a daeth â hi at y dyn.
2:23  A dywedodd y dyn, "Dyma hi! Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd. Gelwir hi yn wraig, am mai o ŵr y cymerwyd hi."
2:24  Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd.
2:25  Yr oedd y dyn a'i wraig ill dau yn noeth, ac nid oedd arnynt gywilydd.

Anufudd-dod Dyn

3:1  Yr oedd y sarff yn fwy cyfrwys na'r holl fwystfilod gwyllt a wnaed gan yr ARGLWYDD Dduw. A dywedodd wrth y wraig, "A yw Duw yn wir wedi dweud, 'Ni chewch fwyta o'r un o goed yr ardd'?"
3:2  Dywedodd y wraig wrth y sarff, "Cawn fwyta o ffrwyth coed yr ardd,
3:3  ond am ffrwyth y goeden sydd yng nghanol yr ardd dywedodd Duw, 'Peidiwch â bwyta ohono, na chyffwrdd ag ef, rhag ichwi farw.'"
3:4  Ond dywedodd y sarff wrth y wraig, "Na! ni fyddwch farw;
3:5  ond fe ŵyr Duw yr agorir eich llygaid y dydd y bwytewch ohono, a byddwch fel Duw yn gwybod da a drwg."
3:6  A phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a'i fod yn deg i'r golwg ac yn bren i'w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o'i ffrwyth a'i fwyta, a'i roi hefyd i'w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau.
3:7  Yna agorwyd eu llygaid hwy ill dau i wybod eu bod yn noeth, a gwnïasant ddail ffigysbren i wneud ffedogau iddynt eu hunain.
3:8  A chlywsant sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn rhodio yn yr ardd gyda hwyr y dydd, ac ymguddiodd y dyn a'i wraig o olwg yr ARGLWYDD Dduw ymysg coed yr ardd.
3:9  Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a dweud wrtho, "Ble'r wyt ti?"
3:10  Atebodd yntau, "Clywais dy sŵn yn yr ardd, ac ofnais oherwydd fy mod yn noeth, ac ymguddiais."
3:11  Dywedodd yntau, "Pwy a ddywedodd wrthyt dy fod yn noeth? A wyt ti wedi bwyta o'r pren y gorchmynnais iti beidio â bwyta ohono?"
3:12  A dywedodd y dyn, "Y wraig a roddaist i fod gyda mi a roes i mi o ffrwyth y pren, a bwyteais innau."
3:13  Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y wraig, "Pam y gwnaethost hyn?" A dywedodd y wraig, "Y sarff a'm twyllodd, a bwyteais innau."
3:14  Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y sarff: "Am iti wneud hyn, yr wyt yn fwy melltigedig na'r holl anifeiliaid, ac na'r holl fwystfilod gwyllt; byddi'n ymlusgo ar dy dor, ac yn bwyta llwch holl ddyddiau dy fywyd.

Dedfryd Duw

3:15  Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau'n ysigo'i sawdl ef."
3:16  Dywedodd wrth y wraig: "Byddaf yn amlhau yn ddirfawr dy boen a'th wewyr; mewn poen y byddi'n geni plant. Eto bydd dy ddyhead am dy ŵr, a bydd ef yn llywodraethu arnat."
3:17  Dywedodd wrth Adda: "Am iti wrando ar lais dy wraig, a bwyta o'r pren y gorchmynnais i ti beidio â bwyta ohono, melltigedig yw'r ddaear o'th achos; trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy fywyd.
3:18  Bydd yn rhoi iti ddrain ac ysgall, a byddi'n bwyta llysiau gwyllt.
3:19  Trwy chwys dy wyneb y byddi'n bwyta bara hyd oni ddychweli i'r pridd, oherwydd ohono y'th gymerwyd; llwch wyt ti, ac i'r llwch y dychweli."
3:20  Rhoddodd y dyn i'w wraig yr enw Efa, am mai hi oedd mam pob un byw.
3:21  A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw beisiau crwyn i Adda a'i wraig, a'u gwisgo amdanynt.
3:22  Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw, "Edrychwch, y mae'r dyn fel un ohonom ni, yn gwybod da a drwg. Yn awr, rhaid iddo beidio ag estyn ei law a chymryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw hyd byth."
3:23  Am hynny anfonodd yr ARGLWYDD Dduw ef allan o ardd Eden, i drin y tir y cymerwyd ef ohono.
3:24  Gyrrodd y dyn allan; a gosododd gerwbiaid i'r dwyrain o ardd Eden, a chleddyf fflamllyd yn chwyrlïo, i warchod y ffordd at bren y bywyd.

Cain ac Abel

4:1  Cafodd Adda gyfathrach â'i wraig Efa, a beichiogodd ac esgor ar Cain, a dywedodd, "Dygais ŵr trwy yr ARGLWYDD."
4:2  Esgorodd wedyn ar ei frawd Abel. Bugail defaid oedd Abel, a Cain yn trin y tir.
4:3  Ymhen amser daeth Cain ag offrwm o gynnyrch y tir i'r ARGLWYDD,
4:4  a daeth Abel yntau â blaenffrwyth ei ddefaid, sef eu braster.
4:5  Edrychodd yr ARGLWYDD yn ffafriol ar Abel a'i offrwm, ond nid felly ar Cain a'i offrwm. Digiodd Cain yn ddirfawr, a bu'n wynepdrist.
4:6  Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Cain, "Pam yr wyt wedi digio? Pam yr wyt yn wynepdrist?
4:7  Os gwnei yn dda, oni fyddi'n gymeradwy? Ac oni wnei yn dda, y mae pechod yn llercian wrth y drws; y mae ei wanc amdanat, ond rhaid i ti ei drechu."
4:8  A dywedodd Cain wrth Abel ei frawd, "Gad inni fynd i'r maes." A phan oeddent yn y maes, troes Cain ar Abel ei frawd, a'i ladd.
4:9  Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Cain, "Ble mae dy frawd Abel?" Meddai yntau, "Ni wn i. Ai fi yw ceidwad fy mrawd?"
4:10  A dywedodd Duw, "Beth wyt wedi ei wneud? Y mae llef gwaed dy frawd yn gweiddi arnaf o'r pridd.
4:11  Yn awr, melltigedig fyddi gan y pridd a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law.
4:12  Pan fyddi'n trin y pridd, ni fydd mwyach yn rhoi ei ffrwyth iti; ffoadur a chrwydryn fyddi ar y ddaear."
4:13  Yna meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, "Y mae fy nghosb yn ormod i'w dwyn.
4:14  Dyma ti heddiw yn fy ngyrru ymaith o'r tir, ac fe'm cuddir o'th ŵydd; ffoadur a chrwydryn fyddaf ar y ddaear, a bydd pwy bynnag a ddaw ar fy nhraws yn fy lladd."
4:15  Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Nid felly; os bydd i rywun ladd Cain, dielir arno seithwaith." A gosododd yr ARGLWYDD nod ar Cain, rhag i neb a ddôi ar ei draws ei ladd.
4:16  Yna aeth Cain ymaith o ŵydd yr ARGLWYDD, a phreswylio yn nhir Nod, i'r dwyrain o Eden.

Disgynyddion Cain

4:17  Cafodd Cain gyfathrach â'i wraig, a beichiogodd ac esgor ar Enoch; ac adeiladodd ddinas, a'i galw ar ôl ei fab, Enoch.
4:18  Ac i Enoch ganwyd Irad; Irad oedd tad Mehwiael, Mehwiael oedd tad Methwsael, a Methwsael oedd tad Lamech.
4:19  Cymerodd Lamech ddwy wraig; Ada oedd enw'r gyntaf, a Sila oedd enw'r ail.
4:20  Esgorodd Ada ar Jabal; ef oedd tad pob preswylydd pabell a pherchen anifail.
4:21  Enw ei frawd oedd Jwbal; ef oedd tad pob canwr telyn a phib.
4:22  Esgorodd Sila, y wraig arall, ar Twbal-Cain, cyfarwyddwr pob un sy'n gwneud cywreinwaith pres a haearn. Naama oedd chwaer Twbal-Cain.
4:23  A dywedodd Lamech wrth ei wragedd: "Ada a Sila, clywch fy llais; chwi wragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd; lleddais ŵr am fy archolli, a llanc am fy nghleisio.
4:24  Os dielir am Cain seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith."
4:25  Cafodd Adda gyfathrach â'i wraig eto, ac esgorodd ar fab, a'i alw'n Seth, a dweud, "Darparodd Duw i mi fab arall yn lle Abel, am i Cain ei ladd."

Seth ac Enos

4:26  I Seth hefyd fe anwyd mab, a galwodd ef yn Enos. Yr amser hwnnw y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.

Disgynyddion Adda (1 Cron. 1:1-4)

5:1  Dyma lyfr cenedlaethau Adda. Pan greodd Duw bobl, gwnaeth hwy ar lun Duw.
5:2  Fe'u creodd yn wryw ac yn fenyw, a bendithiodd hwy; ac ar ddydd eu creu fe'u galwodd yn ddyn.
5:3  Bu Adda fyw am gant tri deg o flynyddoedd cyn geni mab iddo, ar ei lun a'i ddelw; a galwodd ef yn Seth.
5:4  Wedi geni Seth, bu Adda fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
5:5  Felly yr oedd oes gyfan Adda yn naw cant tri deg o flynyddoedd; yna bu farw.
5:6  Bu Seth fyw am gant a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Enos.
5:7  Ac wedi geni Enos, bu Seth fyw am wyth gant a saith o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
5:8  Felly yr oedd oes gyfan Seth yn naw cant a deuddeg o flynyddoedd; yna bu farw.
5:9  Bu Enos fyw am naw deg o flynyddoedd cyn geni iddo Cenan.
5:10  Ac wedi geni Cenan, bu Enos fyw am wyth gant a phymtheg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
5:11  Felly yr oedd oes gyfan Enos yn naw cant a phump o flynyddoedd; yna bu farw.
5:12  Bu Cenan fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Mahalalel.
5:13  Ac wedi geni Mahalalel, bu Cenan fyw am wyth gant pedwar deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
5:14  Felly yr oedd oes gyfan Cenan yn naw cant a deg o flynyddoedd; yna bu farw.
5:15  Bu Mahalalel fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Jered.
5:16  Ac wedi geni Jered, bu Mahalalel fyw am wyth gant tri deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
5:17  Felly yr oedd oes gyfan Mahalalel yn wyth gant naw deg a phump o flynyddoedd; yna bu farw.
5:18  Bu Jered fyw am gant chwe deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Enoch.
5:19  Ac wedi geni Enoch, bu Jered fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
5:20  Felly yr oedd oes gyfan Jered yn naw cant chwe deg a dwy o flynyddoedd; yna bu farw.
5:21  Bu Enoch fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Methwsela.
5:22  Wedi geni Methwsela, rhodiodd Enoch gyda Duw am dri chan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
5:23  Felly yr oedd oes gyfan Enoch yn dri chant chwe deg a phump o flynyddoedd.
5:24  Rhodiodd Enoch gyda Duw, ac yna nid oedd mwyach, oherwydd cymerodd Duw ef.
5:25  Bu Methwsela fyw am gant wyth deg a saith o flynyddoedd cyn geni iddo Lamech.
5:26  Ac wedi geni Lamech, bu Methwsela fyw am saith gant wyth deg a dwy o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
5:27  Felly yr oedd oes gyfan Methwsela yn naw cant chwe deg a naw o flynyddoedd; yna bu farw.
5:28  Bu Lamech fyw am gant wyth deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo fab;
5:29  a galwodd ef yn Noa, a dweud, "Fe ddaw hwn â chysur i ni o waith a llafur ein dwylo yn y pridd a felltithiodd yr ARGLWYDD."
5:30  Ac wedi geni Noa, bu Lamech fyw am bum cant naw deg a phump o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
5:31  Felly yr oedd oes gyfan Lamech yn saith gant saith deg a saith o flynyddoedd; yna bu farw.
5:32  Bu Noa fyw am bum can mlynedd cyn geni iddo Sem, Cham a Jaffeth.

Drygioni'r Bobl

6:1  Dechreuodd y bobl amlhau ar wyneb y ddaear, a ganwyd merched iddynt;
6:2  yna gwelodd meibion Duw fod y merched yn hardd, a chymerasant wragedd o'u plith yn ôl eu dewis.
6:3  A dywedodd yr ARGLWYDD, "Ni fydd fy ysbryd yn aros am byth mewn meidrolyn, oherwydd cnawd yw; ond cant ac ugain o flynyddoedd fydd hyd ei oes."
6:4  Y Neffilim oedd ar y ddaear yr amser hwnnw, ac wedi hynny hefyd, pan oedd meibion Duw yn cyfathrachu â'r merched, a hwythau'n geni plant iddynt. Dyma'r cedyrn gynt, gwŷr enwog.
6:5  Pan welodd yr ARGLWYDD fod drygioni'r bobl yn fawr ar y ddaear, a bod holl ogwydd eu bwriadau bob amser yn ddrwg,
6:6  bu edifar gan yr ARGLWYDD iddo wneud dyn ar y ddaear, a gofidiodd yn fawr.
6:7  Yna dywedodd yr ARGLWYDD, "Dileaf oddi ar wyneb y ddaear y bobl a greais, ie, dyn ac anifail, ymlusgiaid ac adar yr awyr, oherwydd y mae'n edifar gennyf imi eu gwneud."
6:8  Ond cafodd Noa ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD.

Noa

6:9  Dyma genedlaethau Noa. Gŵr cyfiawn oedd Noa, perffaith yn ei oes; a rhodiodd Noa gyda Duw.
6:10  Yr oedd Noa'n dad i dri o feibion: Sem, Cham a Jaffeth.
6:11  Aeth y ddaear yn llygredig gerbron Duw, ac yn llawn trais.
6:12  A gwelodd Duw fod y ddaear yn llygredig, am fod bywyd pob peth byw ar y ddaear wedi ei lygru.
6:13  Yna dywedodd Duw wrth Noa, "Yr wyf wedi penderfynu difodi pob cnawd, oherwydd llanwyd y ddaear â thrais ganddynt; yr wyf am eu difetha o'r ddaear.
6:14  Gwna i ti arch o bren goffer; gwna gelloedd ynddi a rho drwch o byg arni, oddi mewn ac oddi allan.
6:15  Dyma'i chynllun: hyd yr arch, tri chan cufydd; ei lled, hanner can cufydd; ei huchder, deg cufydd ar hugain.
6:16  Gwna do hefyd i'r arch, a gorffen ei grib gufydd yn uwch; gosod ddrws yr arch yn ei hochr, a gwna hi'n dri llawr, yr isaf, y canol a'r uchaf.
6:17  Edrych, yr wyf ar fin dwyn dyfroedd y dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd dan y nef ag anadl einioes ynddo; bydd popeth ar y ddaear yn trengi.
6:18  Ond sefydlaf fy nghyfamod â thi; fe ei di i'r arch, ti a'th feibion a'th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi.
6:19  Yr wyt i fynd â dau o bob math o'r holl greaduriaid byw i mewn i'r arch i'w cadw'n fyw gyda thi, sef gwryw a benyw.
6:20  Daw atat ddau o bob math o'r adar yn ôl eu rhywogaeth, o'r anifeiliaid yn ôl eu rhywogaeth, ac o holl ymlusgiaid y tir yn ôl eu rhywogaeth, i'w cadw'n fyw.
6:21  Cymer hefyd o bob bwyd sy'n cael ei fwyta, a chasgla ef ynghyd; bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau."
6:22  Felly y gwnaeth Noa; gwnaeth bopeth fel y gorchmynnodd Duw iddo.

Y Dilyw

7:1  Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Noa, "Dos i mewn i'r arch, ti a'th holl deulu, oherwydd gwelais dy fod di yn gyfiawn ger fy mron yn y genhedlaeth hon.
7:2  Cymer gyda thi saith bâr o'r holl anifeiliaid glân, y gwryw a'i gymar; a phâr o'r anifeiliaid nad ydynt lân, y gwryw a'i gymar;
7:3  a phob yn saith bâr hefyd o adar yr awyr, y gwryw a'r fenyw, i gadw eu hil yn fyw ar wyneb yr holl ddaear.
7:4  Oherwydd ymhen saith diwrnod paraf iddi lawio ar y ddaear am ddeugain diwrnod a deugain nos, a byddaf yn dileu oddi ar wyneb y ddaear bopeth byw a wneuthum."
7:5  Gwnaeth Noa bopeth fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo.
7:6  Chwe chant oed oedd Noa pan ddaeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear.
7:7  Aeth Noa i mewn i'r arch, a'i feibion a'i wraig a gwragedd ei feibion gydag ef, rhag dyfroedd y dilyw.
7:8  Cymerodd o'r anifeiliaid glân a'r anifeiliaid nad oeddent lân, o'r adar a phopeth oedd yn ymlusgo ar y tir,
7:9  a daethant i mewn ato i'r arch bob yn ddau, yn wryw a benyw, fel y gorchmynnodd Duw i Noa.
7:10  Ymhen saith diwrnod daeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear.
7:11  Yn y chwe chanfed flwyddyn o oes Noa, yn yr ail fis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, y diwrnod hwnnw rhwygwyd holl ffynhonnau'r dyfnder mawr ac agorwyd ffenestri'r nefoedd,
7:12  fel y bu'n glawio ar y ddaear am ddeugain diwrnod a deugain nos.
7:13  Y diwrnod hwnnw aeth Noa a'i feibion Sem, Cham a Jaffeth, gwraig Noa a thair gwraig ei feibion hefyd gyda hwy i mewn i'r arch,
7:14  hwy a phob bwystfil yn ôl ei rywogaeth, a phob anifail yn ôl ei rywogaeth, a phob peth sy'n ymlusgo ar y ddaear yn ôl ei rywogaeth, a'r holl adar yn ôl eu rhywogaeth, pob aderyn asgellog.
7:15  Daethant at Noa i'r arch bob yn ddau, o bob creadur ag anadl einioes ynddo.
7:16  Yr oeddent yn dod yn wryw ac yn fenyw o bob creadur, ac aethant i mewn fel y gorchmynnodd Duw iddo; a chaeodd yr ARGLWYDD arno.
7:17  Am ddeugain diwrnod y bu'r dilyw yn dod ar y ddaear; amlhaodd y dyfroedd, gan gludo'r arch a'i chodi oddi ar y ddaear.
7:18  Cryfhaodd y dyfroedd ac amlhau'n ddirfawr ar y ddaear, a moriodd yr arch ar wyneb y dyfroedd.
7:19  Cryfhaodd y dyfroedd gymaint ar y ddaear nes gorchuddio'r holl fynyddoedd uchel ym mhob man dan y nefoedd;
7:20  cododd y dyfroedd dros y mynyddoedd a'u gorchuddio dan ddyfnder o bymtheg cufydd.
7:21  Trengodd pob cnawd oedd yn symud ar y ddaear, yn adar, anifeiliaid, bwystfilod, popeth oedd yn heigio ar y ddaear, a phobl hefyd;
7:22  bu farw popeth ar y tir sych oedd ag anadl einioes yn ei ffroenau.
7:23  Dilewyd popeth byw oedd ar wyneb y tir, yn ddyn ac anifail, yn ymlusgiaid ac adar yr awyr; fe'u dilewyd o'r ddaear. Noa yn unig a adawyd, a'r rhai oedd gydag ef yn yr arch.
7:24  Parhaodd y dyfroedd ar y ddaear am gant a hanner o ddyddiau.

Diwedd y Dilyw

8:1  Cofiodd Duw am Noa a'r holl fwystfilod a'r holl anifeiliaid oedd gydag ef yn yr arch. Parodd Duw i wynt chwythu dros y ddaear, a gostyngodd y dyfroedd;
8:2  caewyd ffynhonnau'r dyfnder a ffenestri'r nefoedd, ac ataliwyd y glaw o'r nef.
8:3  Ciliodd y dyfroedd yn raddol oddi ar y ddaear, ac wedi cant a hanner o ddyddiau aeth y dyfroedd ar drai.
8:4  Yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
8:5  Ciliodd y dyfroedd yn raddol hyd y degfed mis; ac yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, daeth pennau'r mynyddoedd i'r golwg.
8:6  Ymhen deugain diwrnod agorodd Noa y ffenestr yr oedd wedi ei gwneud yn yr arch,
8:7  ac anfon allan gigfran i weld a oedd y dyfroedd wedi treio, ac aeth hithau yma ac acw nes i'r dyfroedd sychu oddi ar y ddaear.
8:8  Yna gollyngodd golomen i weld a oedd y dyfroedd wedi treio oddi ar wyneb y tir;
8:9  ond ni chafodd y golomen le i roi ei throed i lawr, a dychwelodd ato i'r arch am fod dŵr dros wyneb yr holl ddaear. Estynnodd yntau ei law i'w derbyn, a'i chymryd ato i'r arch.
8:10  Arhosodd eto saith diwrnod, ac anfonodd y golomen eilwaith o'r arch.
8:11  Pan ddychwelodd y golomen ato gyda'r hwyr, yr oedd yn ei phig ddeilen olewydd newydd ei thynnu; a deallodd Noa fod y dyfroedd wedi treio oddi ar y ddaear.
8:12  Arhosodd eto saith diwrnod; anfonodd allan y golomen, ond ni ddaeth yn ôl ato y tro hwn.
8:13  Yn y flwyddyn chwe chant ac un o oed Noa, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear; a symudodd Noa gaead yr arch, a phan edrychodd allan, gwelodd wyneb y tir yn sychu.
8:14  Erbyn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, yr oedd y ddaear wedi sychu.
8:15  Yna llefarodd Duw wrth Noa, a dweud,
8:16  "Dos allan o'r arch, ti a'th wraig a'th feibion a gwragedd dy feibion gyda thi;
8:17  a dwg allan gyda thi bob creadur byw o bob cnawd, yn adar ac anifeiliaid a phopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear, er mwyn iddynt epilio ar y ddaear, a ffrwytho ac amlhau ynddi."
8:18  Felly aeth Noa allan gyda'i feibion a'i wraig a gwragedd ei feibion;
8:19  hefyd aeth allan o'r arch bob bwystfil, pob ymlusgiad, pob aderyn a phob peth sy'n ymlusgo ar y ddaear, yn ôl eu rhywogaeth.

Noa'n Aberthu

8:20  Yna adeiladodd Noa allor i'r ARGLWYDD, a chymryd rhai o bob math o'r anifeiliaid glân ac o'r adar glân, ac offrymu poethoffrymau ar yr allor.
8:21  A phan glywodd yr ARGLWYDD yr arogl hyfryd, dywedodd yr ARGLWYDD ynddo'i hun, "Ni felltithiaf y ddaear mwyach o achos dyn, er bod gogwydd ei feddwl yn ddrwg o'i ieuenctid; ni ddifethaf eto bopeth byw fel y gwneuthum.
8:22  Tra pery'r ddaear, ni pheidia pryd hau a medi, oerni a gwres, haf a gaeaf, dydd a nos."

Cyfamod Duw â Noa

9:1  Bendithiodd Duw Noa a'i feibion a dweud, "Byddwch ffrwythlon, amlhewch a llanwch y ddaear.
9:2  Bydd eich ofn a'ch arswyd ar yr holl fwystfilod gwyllt, ar holl adar yr awyr, ar holl ymlusgiaid y tir ac ar holl bysgod y môr; gosodwyd hwy dan eich awdurdod.
9:3  Bydd popeth byw sy'n symud yn fwyd i chwi; fel y rhoddais eisoes lysiau gleision i chwi, rhoddaf i chwi bopeth.
9:4  Ond peidiwch â bwyta cig â'i einioes, sef ei waed, ynddo.
9:5  Yn wir, mynnaf iawn am waed eich einioes; mynnaf ef gan bob bwystfil a chan bobl; ie, mynnaf iawn am fywyd y sawl a leddir gan arall.
9:6  A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau; oherwydd gwnaeth Duw ddyn ar ei ddelw ei hun.
9:7  Chwithau, byddwch ffrwythlon ac amlhewch, epiliwch ar y ddaear ac amlhewch ynddi."
9:8  Llefarodd Duw wrth Noa a'i feibion, a dweud,
9:9  "Dyma fi'n sefydlu fy nghyfamod â chwi ac â'ch had ar eich ôl,
9:10  ac â phob creadur byw gyda chwi, yn adar ac anifeiliaid, a'r holl fwystfilod gwyllt sydd gyda chwi, y cwbl a ddaeth allan o'r arch.
9:11  Sefydlaf fy nghyfamod â chwi, rhag torri ymaith eto bob cnawd trwy ddyfroedd dilyw, na bod dilyw arall i ddifa'r ddaear."
9:12  A dywedodd Duw, "Dyma a osodaf yn arwydd o'r cyfamod yr wyf yn ei wneud â chwi ac â phopeth byw gyda chwi tros oesoedd di-rif:
9:13  gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear.
9:14  Pan godaf gwmwl ar y ddaear bydd bwa yn ymddangos yn y cwmwl,
9:15  a chofiaf fy nghyfamod rhyngof a chwi a phob creadur byw o bob math, ac ni ddaw'r dyfroedd eto yn ddilyw i ddifa pob cnawd.
9:16  Pan fydd y bwa yn y cwmwl, byddaf yn edrych arno ac yn cofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob creadur byw o bob math ar y ddaear."
9:17  Dywedodd Duw wrth Noa, "Dyma arwydd y cyfamod yr wyf wedi ei sefydlu rhyngof a phob cnawd ar y ddaear."

Noa a'i Feibion

9:18  Sem, Cham a Jaffeth oedd meibion Noa a ddaeth allan o'r arch. Cham oedd tad Canaan.
9:19  Dyma dri mab Noa, ac ohonynt y poblogwyd yr holl ddaear.
9:20  Dechreuodd Noa fod yn amaethwr. Plannodd winllan,
9:21  ac yna yfodd o'r gwin nes meddwi, a gorwedd yn noeth yn ei babell.
9:22  Gwelodd Cham, tad Canaan, ei dad yn noeth, a dywedodd wrth ei ddau frawd y tu allan;
9:23  ond cymerodd Sem a Jaffeth fantell a'i gosod ar eu hysgwyddau, a cherdded yn wysg eu cefnau a gorchuddio noethni eu tad, gan droi eu hwynebau i ffwrdd rhag gweld noethni eu tad.
9:24  Pan ddeffrôdd Noa o'i win, a gwybod beth yr oedd ei fab ieuengaf wedi ei wneud iddo,
9:25  dywedodd, "Melltigedig fyddo Canaan; gwas i weision ei frodyr fydd."
9:26  Dywedodd hefyd, "Bendigedig gan yr ARGLWYDD fy Nuw fyddo Sem; bydded Canaan yn was iddo.
9:27  Helaethed Duw Jaffeth, iddo breswylio ym mhebyll Sem; bydded Canaan yn was iddo."
9:28  Bu Noa fyw wedi'r dilyw am dri chant a hanner o flynyddoedd.
9:29  Felly yr oedd oes gyfan Noa yn naw cant a hanner o flynyddoedd; yna bu farw.

Disgynyddion Meibion Noa (1 Cron. 1:5-23)

10:1  Dyma genedlaethau meibion Noa, sef Sem, Cham a Jaffeth. Ganwyd iddynt feibion wedi'r dilyw.
10:2  Meibion Jaffeth oedd Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, a Tiras.
10:3  Meibion Gomer: Ascenas, Riffath, a Togarma.
10:4  Meibion Jafan: Elisa, Tarsis, Cittim, a Dodanim;
10:5  o'r rhain yr ymrannodd pobl yr ynysoedd. Dyna feibion Jaffeth yn eu gwledydd, pob un yn ôl ei iaith a'i lwyth, ac yn eu cenhedloedd.
10:6  Meibion Cham oedd Cus, Misraim, Put, a Canaan.
10:7  Meibion Cus: Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabteca. Meibion Raama: Seba a Dedan.
10:8  Cus oedd tad Nimrod; hwn oedd y cyntaf o gedyrn y ddaear.
10:9  Yr oedd yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD; dyna pam y dywedir, "Fel Nimrod, yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD."
10:10  Dechreuodd ei frenhiniaeth gyda Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Sinar.
10:11  Aeth allan o'r wlad honno i Asyria ac adeiladu Ninefe, Rehoboth-ir, Cala,
10:12  a Resen, dinas fawr rhwng Ninefe a Cala.
10:13  Yr oedd Misraim yn dad i Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim,
10:14  Pathrusim, Casluhim a Cafftorim, y daeth y Philistiaid ohonynt.
10:15  Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth;
10:16  hefyd y Jebusiaid, Amoriaid, Girgasiaid,
10:17  Hefiaid, Arciaid, Siniaid,
10:18  Arfadiaid, Semariaid, a Hamathiaid. Wedi hynny gwasgarwyd teuluoedd y Canaaneaid,
10:19  ac estyn eu ffin o Sidon i gyfeiriad Gerar, hyd Gasa; ac i gyfeiriad Sodom, Gomorra, Adma, a Seboim, hyd Lesa.
10:20  Dyna feibion Cham, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.
10:21  I Sem hefyd, tad holl feibion Heber, brawd hynaf Jaffeth, ganwyd plant.
10:22  Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffaxad, Lud, ac Aram.
10:23  Meibion Aram: Us, Hul, Gether, a Mas.
10:24  Arffaxad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber.
10:25  I Heber ganwyd dau fab; enw un oedd Peleg, oherwydd yn ei ddyddiau ef rhannwyd y ddaear, a Joctan oedd enw ei frawd.
10:26  Joctan oedd tad Almodad, Saleff, Hasar-mafeth, Jera,
10:27  Hadoram, Usal, Dicla,
10:28  Obal, Abimael, Seba,
10:29  Offir, Hafila, a Jobab; yr oeddent oll yn feibion Joctan.
10:30  Yr oedd eu tir yn ymestyn o Mesa i gyfeiriad Seffar, i fynydd-dir y dwyrain.
10:31  Dyna feibion Sem, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.
10:32  Dyma lwythau meibion Noa, yn ôl eu hachau, yn eu cenhedloedd; ac o'r rhain yr ymrannodd y cenhedloedd dros y ddaear wedi'r dilyw.

Tŵr Babel

11:1  Un iaith ac un ymadrodd oedd i'r holl fyd.
11:2  Wrth ymdeithio yn y dwyrain, cafodd y bobl wastadedd yng ngwlad Sinar a thrigo yno.
11:3  A dywedasant wrth ei gilydd, "Dewch, gwnawn briddfeini a'u crasu'n galed." Priddfeini oedd ganddynt yn lle cerrig, a phyg yn lle calch.
11:4  Yna dywedasant, "Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a'i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear."
11:5  Disgynnodd yr ARGLWYDD i weld y ddinas a'r tŵr yr oedd y bobl wedi eu hadeiladu,
11:6  a dywedodd, "Y maent yn un bobl a chanddynt un iaith; y maent wedi dechrau gwneud hyn, a bellach ni rwystrir hwy mewn dim y bwriadant ei wneud.
11:7  Dewch, disgynnwn, a chymysgu eu hiaith hwy yno, rhag iddynt ddeall ei gilydd yn siarad."
11:8  Felly gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear, a pheidiasant ag adeiladu'r ddinas.
11:9  Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear.

Disgynyddion Sem (1 Cron. 1:24-27)

11:10  Dyma genedlaethau Sem. Bu Sem fyw am gan mlynedd cyn geni iddo Arffaxad ddwy flynedd wedi'r dilyw.
11:11  Wedi geni Arffaxad, bu Sem fyw am bum can mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill.
11:12  Bu Arffaxad fyw am dri deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Sela.
11:13  Wedi geni Sela, bu Arffaxad fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
11:14  Bu Sela fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Heber.
11:15  Wedi geni Heber, bu Sela fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
11:16  Bu Heber fyw am dri deg a phedair o flynyddoedd cyn geni iddo Peleg.
11:17  Wedi geni Peleg, bu Heber fyw am bedwar cant tri deg o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
11:18  Bu Peleg fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Reu.
11:19  Wedi geni Reu, bu Peleg fyw am ddau gant a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
11:20  Bu Reu fyw am dri deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Serug.
11:21  Wedi geni Serug, bu Reu fyw am ddau gant a saith o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
11:22  Bu Serug fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Nachor.
11:23  Wedi geni Nachor, bu Serug fyw am ddau gan mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill.
11:24  Bu Nachor fyw am ddau ddeg a naw o flynyddoedd cyn geni iddo Tera.
11:25  Wedi geni Tera, bu Nachor fyw am gant un deg a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
11:26  Bu Tera fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Abram, Nachor a Haran.

Disgynyddion Tera

11:27  Dyma genedlaethau Tera. Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran; a Haran oedd tad Lot.
11:28  Bu Haran farw cyn ei dad Tera yng ngwlad ei enedigaeth, yn Ur y Caldeaid.
11:29  Yna cymerodd Abram a Nachor wragedd iddynt eu hunain; enw gwraig Abram oedd Sarai, ac enw gwraig Nachor oedd Milca, merch Haran, tad Milca ac Isca.
11:30  Yr oedd Sarai yn ddi-blant, heb eni plentyn.
11:31  Cymerodd Tera ei fab Abram, a'i ŵyr Lot fab Haran, a Sarai ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig ei fab Abram; ac aethant allan gyda'i gilydd o Ur y Caldeaid i fynd i wlad Canaan, a daethant i Haran a thrigo yno.
11:32  Dau gant a phump o flynyddoedd oedd oes Tera; a bu farw Tera yn Haran.

Galw Abram

12:1  Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, "Dos o'th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth a'th deulu, i'r wlad a ddangosaf i ti.
12:2  Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi'n fendith.
12:3  Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear."
12:4  Aeth Abram fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, ac aeth Lot gydag ef. Saith deg a phump oedd oed Abram pan aeth allan o Haran.
12:5  A chymerodd Abram ei wraig Sarai, a Lot mab ei frawd, a'r holl feddiannau a gasglwyd ganddynt, a'r tylwyth a gawsant yn Haran, a chychwyn i wlad Canaan. Wedi iddynt ddod i wlad Canaan,
12:6  tramwyodd Abram trwy'r tir hyd safle Sichem, at dderwen More. Y Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw,
12:7  ond ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abram a dweud, "I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon." Adeiladodd yntau allor yno i'r ARGLWYDD, a oedd wedi ymddangos iddo.
12:8  Yna symudodd oddi yno i'r mynydd-dir tua'r dwyrain o Fethel a gosod ei babell, gyda Bethel o'i ôl ac Ai o'i flaen; adeiladodd yno allor i'r ARGLWYDD, a galw ar enw'r ARGLWYDD.
12:9  A pharhaodd Abram i symud yn raddol tua'r Negef.

Abram yn yr Aifft

12:10  Yr oedd newyn yn y tir, ac aeth Abram i lawr i'r Aifft i aros yno dros dro, am fod y newyn yn fawr yn y tir.
12:11  A phan oedd ar gyrraedd yr Aifft, dywedodd wrth Sarai ei wraig, "Gwn yn dda dy fod yn wraig brydferth;
12:12  a phan wêl yr Eifftiaid di, fe ddywedant, 'Dyma ei wraig.' A lladdant fi, a'th gadw di'n fyw.
12:13  Dywed mai fy chwaer wyt, fel y bydd yn dda i mi o'th herwydd ac yr arbedir fy mywyd o'th achos."
12:14  Pan gyrhaeddodd Abram yr Aifft, gwelodd yr Eifftiaid fod y wraig yn brydferth iawn.
12:15  A gwelodd tywysogion Pharo hi a'i chanmol wrth Pharo, a chymerwyd y wraig i dŷ Pharo.
12:16  Bu yntau'n dda wrth Abram er ei mwyn hi; a chafodd Abram ganddo ddefaid, ychen, asynnod, gweision, morynion, asennod a chamelod.
12:17  Ond trawodd yr ARGLWYDD Pharo a'i dŷ â phlâu mawr, o achos Sarai gwraig Abram.
12:18  A galwodd Pharo ar Abram a dweud, "Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i mi? Pam na ddywedaist wrthyf mai dy wraig oedd hi?
12:19  Pam y dywedaist, 'Fy chwaer yw hi', fel fy mod wedi ei chymryd yn wraig imi? Dyma dy wraig; cymer hi a dos ymaith."
12:20  A rhoes Pharo orchymyn i'w wŷr amdano, ac anfonasant ef a'i wraig a'i holl eiddo ymaith.

Abram a Lot yn Ymwahanu

13:1  Yna aeth Abram i fyny o'r Aifft i'r Negef, ef a'i wraig a'i holl eiddo, a hefyd Lot.
13:2  Yr oedd Abram yn gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian ac aur.
13:3  Teithiodd ymlaen o'r Negef hyd Bethel, i'r man rhwng Bethel ac Ai lle'r oedd ei babell ar y dechrau,
13:4  y man lle'r oedd wedi gwneud allor ar y cychwyn; ac yno galwodd Abram ar enw'r ARGLWYDD.
13:5  Yr oedd gan Lot, a oedd yn teithio gydag Abram, hefyd ddefaid ac ychen a phebyll;
13:6  ac ni allai'r tir eu cynnal ill dau gyda'i gilydd. Am fod eu meddiannau mor helaeth, ni allent drigo ynghyd;
13:7  a bu cynnen rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a rhai Lot. Y Canaaneaid a'r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad yr amser hwnnw.
13:8  Yna dywedodd Abram wrth Lot, "Peidied â bod cynnen rhyngom, na rhwng fy mugeiliaid i a'th rai di, oherwydd perthnasau ydym.
13:9  Onid yw'r holl wlad o'th flaen? Ymwahana oddi wrthyf. Os troi di i'r chwith, fe drof finnau i'r dde; ac os i'r dde, trof finnau i'r chwith."
13:10  Cododd Lot ei olwg, a gwelodd fod holl wastadedd yr Iorddonen i gyfeiriad Soar i gyd yn ddyfradwy, fel gardd yr ARGLWYDD, neu wlad yr Aifft. Yr oedd hyn cyn i'r ARGLWYDD ddinistrio Sodom a Gomorra.
13:11  A dewisodd Lot iddo'i hun holl wastadedd yr Iorddonen, a theithio tua'r dwyrain; felly yr ymwahanodd y naill oddi wrth y llall.
13:12  Yr oedd Abram yn byw yng ngwlad Canaan, a Lot yn ninasoedd y gwastadedd, gan symud ei babell hyd at Sodom.
13:13  Yr oedd gwŷr Sodom yn ddrygionus, yn pechu'n fawr yn erbyn yr ARGLWYDD.
13:14  Wedi i Lot ymwahanu oddi wrtho, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, "Cod dy olwg o'r lle'r wyt, ac edrych tua'r gogledd a'r de a'r dwyrain a'r gorllewin;
13:15  oherwydd yr holl dir yr wyt yn ei weld, fe'i rhoddaf i ti ac i'th ddisgynyddion hyd byth.
13:16  Gwnaf dy had fel llwch y ddaear; os dichon neb rifo llwch y ddaear, yna fe rifir dy had di.
13:17  Cod, rhodia ar hyd a lled y wlad, oherwydd i ti yr wyf yn ei rhoi."
13:18  Yna symudodd Abram ei babell a mynd i fyw wrth dderw Mamre, sydd yn Hebron; ac adeiladodd allor yno i'r ARGLWYDD.

Abram yn Arbed Lot

14:1  Yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Tidal brenin Goim,
14:2  rhyfelodd y rhain yn erbyn Bera brenin Sodom, Birsa brenin Gomorra, Sinab brenin Adma, Semeber brenin Seboim, a brenin Bela, sef Soar.
14:3  Cyfarfu'r rhain i gyd yn nyffryn Sidim, sef y Môr Heli.
14:4  Am ddeuddeng mlynedd y buont yn gwasanaethu Cedorlaomer, nes iddynt wrthryfela yn y drydedd flwyddyn ar ddeg.
14:5  Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg daeth Cedorlaomer a'r brenhinoedd oedd gydag ef a tharo'r Reffaimiaid yn Asteroth-carnaim, y Susiaid yn Ham, yr Emiaid yn Safe-ciriathaim,
14:6  yr Horiaid ym mynydd-dir Seir, hyd El-paran ar fin y diffeithwch.
14:7  Yna troesant a dod i En-mispat, sef Cades, a tharo holl dir yr Amaleciaid, a hefyd yr Amoriaid, a oedd yn trigo yn Hasason-Tamar.
14:8  Yna aeth brenin Sodom, brenin Gomorra, brenin Adma, brenin Seboim a brenin Bela, sef Soar, i ryfela yn nyffryn Sidim yn erbyn
14:9  Cedorlaomer brenin Elam, Tidal brenin Goim, Amraffel brenin Sinar ac Arioch brenin Elasar, pedwar brenin yn erbyn pump.
14:10  Yr oedd dyffryn Sidim yn llawn o byllau pyg; ac wrth i frenhinoedd Sodom a Gomorra ffoi, syrthiasant i mewn iddynt, ond ffodd y lleill i'r mynydd.
14:11  Yna cipiodd y pedwar holl eiddo Sodom a Gomorra, a'u holl luniaeth, a mynd ymaith.
14:12  Cymerasant hefyd Lot, mab i frawd Abram, a oedd yn byw yn Sodom, a'i eiddo, ac aethant ymaith.
14:13  A daeth un oedd wedi dianc, a dweud am hyn wrth Abram yr Hebread, a oedd yn byw wrth dderw Mamre yr Amoriad, brawd Escol ac Aner, rhai oedd mewn cynghrair ag Abram.
14:14  Pan glywodd Abram am gaethgludo'i frawd, casglodd ei wŷr arfog oedd yn perthyn i'w dŷ, tri chant a deunaw ohonynt, ac ymlidiodd hyd Dan.
14:15  Aeth ef a'i weision yn finteioedd yn eu herbyn liw nos, a'u taro a'u hymlid hyd Hoba, i'r gogledd o Ddamascus.
14:16  A daeth â'r holl eiddo yn ôl, a dwyn yn ôl hefyd ei frawd Lot a'i eiddo, a'r gwragedd a'r bobl.

Melchisedec yn Bendithio Abram

14:17  Wedi i Abram ddychwelyd o daro Cedorlaomer a'r brenhinoedd oedd gydag ef, aeth brenin Sodom allan i'w gyfarfod i ddyffryn Safe, sef Dyffryn y Brenin.
14:18  A daeth Melchisedec brenin Salem â bara a gwin iddo; yr oedd ef yn offeiriad i'r Duw Goruchaf,
14:19  a bendithiodd ef a dweud: "Bendigedig fyddo Abram gan y Duw Goruchaf, perchen nef a daear;
14:20  a bendigedig fyddo'r Duw Goruchaf, a roes dy elynion yn dy law." A rhoddodd Abram iddo ddegwm o'r cwbl.
14:21  Dywedodd brenin Sodom wrth Abram, "Rho'r bobl i mi, a chymer di'r eiddo."
14:22  Ond dywedodd Abram wrth frenin Sodom, "Tyngais i'r ARGLWYDD Dduw Goruchaf, perchen nef a daear,
14:23  na chymerwn nac edau na charrai esgid, na dim oll sy'n eiddo i ti, rhag i ti ddweud, 'Yr wyf wedi cyfoethogi Abram.'
14:24  Ni chymeraf ond yr hyn a fwytaodd y llanciau, a chyfran y gwŷr a ddaeth gyda mi, sef Aner, Escol a Mamre; cânt hwy gymryd eu cyfran."

Cyfamod Duw ag Abram

15:1  Wedi'r pethau hyn, daeth gair yr ARGLWYDD at Abram mewn gweledigaeth, a dweud, "Nac ofna, Abram, myfi yw dy darian; bydd dy wobr yn fawr iawn."
15:2  Ond dywedodd Abram, "O Arglwydd DDUW, beth a roddi i mi, oherwydd rwy'n para'n ddi-blant, ac etifedd fy nhŷ yw Eleasar o Ddamascus?"
15:3  Dywedodd Abram hefyd, "Edrych, nid wyt wedi rhoi epil i mi; a chaethwas o'm tŷ yw f'etifedd."
15:4  Yna daeth gair yr ARGLWYDD ato a dweud, "Nid hwn fydd d'etifedd; o'th gnawd dy hun y daw d'etifedd."
15:5  Aeth ag ef allan a dywedodd, "Edrych tua'r nefoedd, a rhifa'r sêr os gelli." Yna dywedodd wrtho, "Felly y bydd dy ddisgynyddion."
15:6  Credodd Abram yn yr ARGLWYDD, a chyfrifodd yntau hyn yn gyfiawnder iddo.
15:7  Yna dywedodd wrtho, "Myfi yw'r ARGLWYDD, a ddaeth â thi o Ur y Caldeaid, i roi'r wlad hon i ti i'w hetifeddu."
15:8  Ond dywedodd ef, "O Arglwydd DDUW, sut y caf wybod yr etifeddaf hi?"
15:9  Dywedodd yntau wrtho, "Dwg imi heffer deirblwydd, gafr deirblwydd, hwrdd teirblwydd, turtur a chyw colomen."
15:10  Daeth â'r rhain i gyd ato, a'u hollti'n ddau a gosod y naill ddarn gyferbyn â'r llall; ond ni holltodd yr adar.
15:11  A phan fyddai adar yn disgyn ar y cyrff byddai Abram yn eu hel i ffwrdd.
15:12  Fel yr oedd yr haul yn machlud, syrthiodd trymgwsg ar Abram; a dyna ddychryn a thywyllwch dudew yn dod arno.
15:13  Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, "Deall di i sicrwydd y bydd dy ddisgynyddion yn ddieithriaid mewn gwlad nad yw'n eiddo iddynt, ac yn gaethweision, ac fe'u cystuddir am bedwar can mlynedd;
15:14  ond dof â barn ar y genedl y byddant yn ei gwasanaethu, ac wedi hynny dônt allan gyda meddiannau lawer.
15:15  Ond byddi di dy hun farw mewn tangnefedd, ac fe'th gleddir mewn oedran teg.
15:16  A dychwelant hwy yma yn y bedwaredd genhedlaeth; oherwydd ni chwblheir hyd hynny ddrygioni'r Amoriaid."
15:17  Yna wedi i'r haul fachlud, ac iddi dywyllu, ymddangosodd ffwrn yn mygu a ffagl fflamllyd yn symud rhwng y darnau hynny.
15:18  Y dydd hwnnw, gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram a dweud: "I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates."
15:19  Dyna wlad y Ceneaid, y Cenesiaid, y Cadmoniaid,
15:20  yr Hethiaid, y Peresiaid, y Reffaimiaid,
15:21  yr Amoriaid, y Canaaneaid, y Girgasiaid, a'r Jebusiaid.

Hagar ac Ismael

16:1  Nid oedd plant gan Sarai gwraig Abram, ond yr oedd ganddi forwyn o Eifftes, o'r enw Hagar.
16:2  Dywedodd Sarai wrth Abram, "Edrych yn awr, y mae'r ARGLWYDD wedi rhwystro imi ddwyn plant. Dos at fy morwyn; efallai y caf blant ohoni hi." Gwrandawodd Abram ar Sarai.
16:3  Wedi i Abram fyw am ddeng mlynedd yng ngwlad Canaan, cymerodd Sarai gwraig Abram ei morwyn Hagar yr Eifftes, a'i rhoi'n wraig i'w gŵr Abram.
16:4  Cafodd ef gyfathrach â Hagar, a beichiogodd hithau; a phan ddeallodd ei bod yn feichiog, aeth ei meistres yn ddibris yn ei golwg.
16:5  Yna dywedodd Sarai wrth Abram, "Bydded fy ngham arnat ti! Rhoddais fy morwyn yn dy fynwes, a phan ddeallodd ei bod yn feichiog, euthum yn ddibris yn ei golwg. Bydded i'r ARGLWYDD farnu rhyngom."
16:6  Dywedodd Abram wrth Sarai, "Edrych, y mae dy forwyn dan dy ofal; gwna iddi fel y gweli'n dda." Yna bu Sarai yn gas wrthi, nes iddi ffoi oddi wrthi.
16:7  Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd i Hagar wrth ffynnon ddŵr yn y diffeithwch, wrth y ffynnon sydd ar y ffordd i Sur.
16:8  A dywedodd wrthi, "Hagar forwyn Sarai, o ble y daethost, ac i ble'r wyt yn mynd?" Dywedodd hithau, "Ffoi yr wyf oddi wrth fy meistres Sarai."
16:9  A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi, "Dychwel at dy feistres, ac ymostwng iddi."
16:10  Dywedodd angel yr ARGLWYDD hefyd wrthi, "Amlhaf dy ddisgynyddion yn ddirfawr, a byddant yn rhy luosog i'w rhifo."
16:11  A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi: "Yr wyt yn feichiog, ac fe esgori ar fab; byddi'n ei alw yn Ismael, oherwydd clywodd yr ARGLWYDD am dy gystudd.
16:12  Asyn gwyllt o ddyn a fydd, a'i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn ef, un yn byw'n groes i'w holl gymrodyr."
16:13  A galwodd hi enw'r ARGLWYDD oedd yn llefaru wrthi yn "Tydi yw El-roi", oherwydd dywedodd, "A wyf yn wir wedi gweld Duw, a byw ar ôl ei weld?".
16:14  Am hynny galwyd y pydew Beer-lahai-roi; y mae rhwng Cades a Bered.
16:15  Ac esgorodd Hagar ar fab i Abram; ac enwodd Abram y mab a anwyd i Hagar yn Ismael.
16:16  Yr oedd Abram yn wyth deg a chwech oed pan anwyd iddo Ismael o Hagar.

Enwaediad yn Arwydd y Cyfamod

17:1  Pan oedd Abram yn naw deg a naw mlwydd oed ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, "Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron a bydd berffaith.
17:2  Gwnaf fy nghyfamod â thi, ac amlhaf di'n ddirfawr."
17:3  Syrthiodd Abram ar ei wyneb, a llefarodd Duw wrtho a dweud,
17:4  "Dyma fy nghyfamod i â thi: byddi'n dad i lu o genhedloedd,
17:5  ac ni'th enwir di mwyach yn Abram, ond yn Abraham, gan imi dy wneud yn dad i lu o genhedloedd.
17:6  Gwnaf di'n ffrwythlon iawn; a gwnaf genhedloedd ohonot, a daw bren-hinoedd allan ohonot.
17:7  Sefydlaf fy nghyfamod yn gyfamod tragwyddol â thi, ac â'th ddisgynyddion ar dy ôl dros eu cenedlaethau, i fod yn Dduw i ti ac i'th ddisgynyddion ar dy ôl.
17:8  A rhoddaf y wlad yr wyt yn crwydro ynddi, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddol i ti ac i'th ddisgynyddion ar dy ôl, a byddaf yn Dduw iddynt."
17:9  Dywedodd Duw wrth Abraham, "Cadw di fy nghyfamod, ti a'th ddisgynyddion ar dy ôl dros eu cenedlaethau.
17:10  Dyma fy nghyfamod rhyngof fi a chwi, yr ydych i'w gadw, ti a'th ddisgynyddion ar dy ôl: y mae pob gwryw ohonoch i'w enwaedu.
17:11  Enwaedir chwi yng nghnawd eich blaengrwyn, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngom.
17:12  Dros eich cenedlaethau, fe enwaedir pob gwryw ohonoch sydd yn wyth diwrnod oed, boed wedi ei eni i'r teulu, neu'n ddieithryn heb fod yn un o'th ddisgynyddion, ond a brynwyd ag arian.
17:13  Rhaid enwaedu'r sawl a enir i'r teulu, a'r sawl a brynir â'th arian; a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd yn gyfamod tragwyddol.
17:14  Y mae unrhyw wryw dienwaededig nad enwaedwyd cnawd ei flaengroen, i'w dorri ymaith o blith ei bobl; y mae wedi torri fy nghyfamod."
17:15  Dywedodd Duw wrth Abraham, "Ynglŷn â'th wraig Sarai: nid Sarai y gelwir hi, ond Sara fydd ei henw.
17:16  Bendithiaf hi, a rhoddaf i ti fab ohoni; ie, bendithiaf hi, a bydd yn fam i genhedloedd, a daw brenhinoedd pobloedd ohoni."
17:17  Ymgrymodd Abraham, ond chwarddodd ynddo'i hun, a dweud, "A enir plentyn i ŵr canmlwydd oed? A fydd Sara'n geni plentyn yn naw deg oed?"
17:18  A dywedodd Abraham wrth Dduw, "O na byddai Ismael fyw ger dy fron!"
17:19  Ond dywedodd Duw, "Na, bydd dy wraig Sara yn geni iti fab, a gelwi ef Isaac. Sefydlaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol i'w ddisgynyddion ar ei ôl.
17:20  Ynglŷn ag Ismael: yr wyf wedi gwrando arnat, a bendithiaf yntau a'i wneud yn ffrwythlon a'i amlhau'n ddirfawr; bydd yn dad i ddeuddeg tywysog, a gwnaf ef yn genedl fawr.
17:21  Ond byddaf yn sefydlu fy nghyfamod ag Isaac, y mab y bydd Sara yn ei eni iti erbyn yr amser yma'r flwyddyn nesaf."
17:22  Wedi iddo orffen llefaru, aeth Duw oddi wrth Abraham.
17:23  Yna cymerodd Abraham ei fab Ismael, a phawb a anwyd yn ei dŷ neu a brynwyd â'i arian, pob gwryw o deulu Abraham, ac enwaedodd gnawd eu blaengrwyn y diwrnod hwnnw, fel yr oedd Duw wedi dweud wrtho.
17:24  Yr oedd Abraham yn naw deg a naw mlwydd oed pan enwaedwyd cnawd ei flaengroen,
17:25  a'i fab Ismael yn dair ar ddeg oed pan enwaedwyd cnawd ei flaengroen yntau.
17:26  Y diwrnod hwnnw enwaedwyd Abraham a'i fab Ismael;
17:27  ac enwaedwyd gydag ef holl ddynion ei dŷ, y rhai a anwyd i'r teulu a phob dieithryn a brynwyd ag arian.

Addo Mab i Abraham

18:1  Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abraham wrth dderw Mamre, pan oedd yn eistedd wrth ddrws y babell yng ngwres y dydd.
18:2  Cododd ei olwg a gwelodd dri gŵr yn sefyll o'i flaen. Pan welodd hwy, rhedodd o ddrws y babell i'w cyfarfod, ac ymgrymu i'r llawr,
18:3  a dweud, "F'arglwydd, os cefais ffafr yn d'olwg, paid â mynd heibio i'th was.
18:4  Dyger ychydig ddŵr, a golchwch eich traed a gorffwyso dan y goeden,
18:5  a dof finnau â thamaid o fara i'ch cynnal, ac wedyn cewch fynd ymaith; dyna pam yr ydych wedi dod at eich gwas." Ac meddant, "Gwna fel y dywedaist."
18:6  Brysiodd Abraham i'r babell at Sara, a dweud, "Brysia i estyn tri mesur o flawd peilliaid, tylina ef, a gwna deisennau."
18:7  Yna rhedodd Abraham at y gwartheg, a chymryd llo tyner a da a'i roi i'w was; a brysiodd yntau i'w baratoi.
18:8  Cymerodd gaws a llaeth a'r llo yr oedd wedi ei baratoi, a'u gosod o'u blaenau; yna safodd gerllaw o dan y goeden tra oeddent yn bwyta.
18:9  Gofynasant iddo, "Ble mae dy wraig Sara?" Atebodd yntau, "Dyna hi yn y babell."
18:10  Yna dywedodd yr ARGLWYDD, "Dof yn ôl atat yn sicr yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara dy wraig fab." Yr oedd Sara yn gwrando wrth ddrws y babell y tu ôl iddo.
18:11  Yr oedd Abraham a Sara yn hen, mewn gwth o oedran, ac yr oedd arfer gwragedd wedi peidio i Sara.
18:12  Am hynny, chwarddodd Sara ynddi ei hun, a dweud, "Ai wedi imi heneiddio, a'm gŵr hefyd yn hen, y caf hyfrydwch?"
18:13  A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abraham, "Pam y chwarddodd Sara a dweud, 'A fyddaf fi'n wir yn planta, a minnau'n hen?'
18:14  A oes dim yn rhy anodd i'r ARGLWYDD? Dof yn ôl atat ar yr amser penodedig, yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara fab."
18:15  Gwadodd Sara iddi chwerthin, oherwydd yr oedd arni ofn. Ond dywedodd ef, "Do, fe chwerddaist."

Abraham yn Erfyn dros Sodom

18:16  Pan aeth y gwŷr ymlaen oddi yno, ac edrych i lawr tua Sodom, aeth Abraham gyda hwy i'w hebrwng.
18:17  A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho'i hun, "A gelaf fi rhag Abraham yr hyn yr wyf am ei wneud,
18:18  oherwydd yn ddiau daw Abraham yn genedl fawr a chref, a bendithir holl genhedloedd y ddaear ynddo?
18:19  Na, fe'i hysbysaf, er mwyn iddo orchymyn i'w blant a'i dylwyth ar ei ôl gadw ffordd yr ARGLWYDD a gwneud cyfiawnder a barn, fel y bydd i'r ARGLWYDD gyflawni ei air i Abraham."
18:20  Yna dywedodd yr ARGLWYDD, "Am fod y gŵyn yn erbyn Sodom a Gomorra yn fawr, a'u pechod yn ddrwg iawn,
18:21  disgynnaf i weld a wnaethant yn hollol yn ôl y gŵyn a ddaeth ataf; os na wnaethant, caf wybod."
18:22  Pan drodd y gwŷr oddi yno a mynd i gyfeiriad Sodom, yr oedd Abraham yn dal i sefyll gerbron yr ARGLWYDD.
18:23  A nesaodd Abraham a dweud, "A wyt yn wir am ddifa'r cyfiawn gyda'r drygionus?
18:24  Os ceir hanner cant o rai cyfiawn yn y ddinas, a wyt yn wir am ei dinistrio a pheidio ag arbed y lle er mwyn yr hanner cant cyfiawn sydd yno?
18:25  Na foed iti wneud y fath beth, a lladd y cyfiawn gyda'r drygionus, nes bod y cyfiawn yr un fath â'r drygionus. Na ato Duw! Oni wna Barnwr yr holl ddaear farn?"
18:26  A dywedodd yr ARGLWYDD, "Os caf yn ninas Sodom hanner cant o rai cyfiawn, arbedaf yr holl le er eu mwyn."
18:27  Atebodd Abraham a dweud, "Dyma fi wedi beiddio llefaru wrth yr ARGLWYDD, a minnau'n ddim ond llwch a lludw.
18:28  Os bydd pump yn eisiau o'r hanner cant o rai cyfiawn, a ddinistri di'r holl ddinas oherwydd pump?" Dywedodd yntau, "Os caf yno bump a deugain, ni ddinistriaf hi."
18:29  Llefarodd eto wrtho a dweud, "Beth os ceir deugain yno?" Dywedodd yntau, "Nis gwnaf er mwyn y deugain."
18:30  Yna dywedodd, "Na ddigied yr ARGLWYDD os llefaraf. Ond beth os ceir yno ddeg ar hugain?" Dywedodd yntau, "Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain."
18:31  Yna dywedodd, "Dyma fi wedi beiddio llefaru wrth yr ARGLWYDD. Beth os ceir yno ugain?" Dywedodd yntau, "Ni ddinistriaf hi er mwyn yr ugain."
18:32  Yna dywedodd, "Peidied yr ARGLWYDD â digio wrthyf am lefaru y tro hwn yn unig. Beth os ceir yno ddeg?" Dywedodd yntau, "Ni ddinistriaf hi er mwyn y deg."
18:33  Aeth yr ARGLWYDD ymaith wedi iddo orffen llefaru wrth Abraham, a dychwelodd Abraham i'w le.

Pechod Sodom

19:1  Daeth y ddau angel i Sodom gyda'r hwyr, tra oedd Lot yn eistedd ym mhorth Sodom. Pan welodd Lot hwy, cododd i'w cyfarfod, ac ymgrymu i'r llawr,
19:2  a dweud, "F'arglwyddi, trowch i mewn i dŷ eich gwas dros nos, a golchwch eich traed; yna cewch godi'n fore a mynd ar eich taith." Dywedasant hwy, "Na, arhoswn heno yn yr heol."
19:3  Ond am iddo erfyn yn daer arnynt, troesant i mewn i'w dŷ; gwnaeth yntau wledd iddynt a phobi bara croyw, a bwytasant.
19:4  Ond cyn iddynt fynd i orwedd, amgylchwyd y tŷ gan ddynion Sodom, pawb o bob cwr o'r ddinas, yn hen ac ifanc;
19:5  ac yr oeddent yn galw ar Lot, ac yn dweud wrtho, "Ble mae'r gwŷr a ddaeth atat heno? Tyrd â hwy allan atom, inni gael cyfathrach â hwy."
19:6  Aeth Lot i'r drws atynt, a chau'r drws ar ei ôl,
19:7  a dywedodd, "Fy mrodyr, peidiwch â gwneud y drwg hwn.
19:8  Edrychwch, y mae gennyf ddwy ferch heb gael cyfathrach â gŵr; dof â hwy allan atoch. Cewch wneud iddynt hwy fel y dymunwch, ond peidiwch â gwneud dim i'r gwŷr hyn, gan eu bod wedi dod dan gysgod fy nghronglwyd."
19:9  Ond meddant hwy, "Saf yn ôl! Ai un a ddaeth yma i fyw dros dro sydd i ddatgan barn? Yn awr, gwnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy." Yr oedd y dynion yn gwasgu mor drwm ar Lot fel y bu bron iddynt dorri'r drws.
19:10  Ond estynnodd y gwŷr eu dwylo, a thynnu Lot atynt i'r tŷ a chau'r drws.
19:11  A thrawsant yn ddall y dynion oedd wrth ddrws y tŷ, yn fawr a bach, nes iddynt flino chwilio am y drws.

Lot yn Ymadael â Sodom

19:12  Yna dywedodd y gwŷr wrth Lot, "Pwy arall sydd gennyt yma? Dos â'th feibion-yng-nghyfraith, dy feibion a'th ferched, a phwy bynnag sydd gennyt yn y ddinas, allan o'r lle hwn,
19:13  oherwydd yr ydym ar fin ei ddinistrio. Am fod y gŵyn yn fawr yn eu herbyn gerbron yr ARGLWYDD, fe anfonodd yr ARGLWYDD ni i ddinistrio'r lle hwn."
19:14  Felly aeth Lot allan a dweud wrth ei feibion-yng-nghyfraith, a oedd am briodi ei ferched, "Codwch, ewch allan o'r lle hwn; y mae'r ARGLWYDD ar fin dinistrio'r ddinas." Ond yng ngolwg ei feibion-yng-nghyfraith yr oedd Lot fel un yn cellwair.
19:15  Ar doriad gwawr, bu'r angylion yn erfyn ar Lot, gan ddweud, "Cod, cymer dy wraig a'r ddwy ferch sydd gyda thi, rhag dy ddifa pan gosbir y ddinas."
19:16  Yr oedd yntau'n oedi, ond gan fod yr ARGLWYDD yn tosturio wrtho, cydiodd y gwŷr yn ei law ac yn llaw ei wraig a'i ddwy ferch, a'u harwain a'u gosod y tu allan i'r ddinas.
19:17  Wedi iddynt eu dwyn allan, dywedodd un, "Dianc am dy einioes; paid ag edrych yn ôl, na sefyllian yn y gwastadedd; dianc i'r mynydd rhag dy ddifa."
19:18  Ac meddai Lot, "Na! Nid felly, f'arglwydd;
19:19  dyma dy was wedi cael ffafr yn d'olwg, a gwnaethost drugaredd fawr â mi yn arbed fy einioes; ond ni allaf ddianc i'r mynydd, rhag i'r niwed hwn fy ngoddiweddyd ac imi farw.
19:20  Dacw ddinas agos i ffoi iddi, ac un fechan ydyw. Gad imi ddianc yno, imi gael byw; onid un fach yw hi?"
19:21  Atebodd yntau, "o'r gorau, caniatâf y dymuniad hwn hefyd, ac ni ddinistriaf y ddinas a grybwyllaist.
19:22  Dianc yno ar frys; oherwydd ni allaf wneud dim nes i ti gyrraedd yno." Am hynny, galwyd y ddinas Soar.

Dinistr Sodom a Gomorra

19:23  Erbyn i Lot gyrraedd Soar, yr oedd yr haul wedi codi dros y tir;
19:24  yna glawiodd yr ARGLWYDD frwmstan a thân dwyfol o'r nefoedd ar Sodom a Gomorra.
19:25  Dinistriodd y dinasoedd hynny a'r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chynnyrch y pridd.
19:26  Ond yr oedd gwraig Lot wedi edrych yn ei hôl, a throdd yn golofn halen.
19:27  Aeth Abraham yn y bore bach i'r fan lle'r oedd wedi sefyll gerbron yr ARGLWYDD;
19:28  ac edrychodd i lawr ar Sodom a Gomorra ac ar holl dir y gwastadedd, a gwelodd fwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrn.
19:29  Felly pan oedd Duw'n dinistrio dinasoedd y gwastadedd, yr oedd wedi cofio am Abraham, a phan oedd yn dinistrio'r dinasoedd y bu Lot yn trigo ynddynt, gyrrodd Lot allan o ganol y dinistr.

Tarddiad Moab ac Ammon

19:30  Yna aeth Lot i fyny o Soar i fyw yn y mynydd-dir gyda'i ddwy ferch, oherwydd yr oedd arno ofn aros yn Soar; a bu'n byw mewn ogof gyda'i ddwy ferch.
19:31  Dywedodd yr hynaf wrth yr ieuengaf, "Y mae ein tad yn hen, ac nid oes ŵr yn y byd i ddod atom yn ôl arfer yr holl ddaear.
19:32  Tyrd, rhown win i'n tad i'w yfed, a gorweddwn gydag ef, er mwyn inni gael epil o'n tad."
19:33  Felly y noson honno rhoesant win i'w tad i'w yfed; a daeth yr hynaf a gorwedd gyda'i thad, ac ni wyddai ef ddim pryd y gorweddodd hi, na phryd y cododd.
19:34  Trannoeth dywedodd yr hynaf wrth yr ieuengaf, "Dyna fi wedi gorwedd gyda'm tad neithiwr; gad inni roi gwin iddo i'w yfed eto heno, a dos dithau i orwedd gydag ef, er mwyn inni gael epil o'n tad."
19:35  Felly rhoesant win i'w tad i'w yfed y noson honno hefyd; ac aeth yr ieuengaf i orwedd gydag ef, ac ni wyddai ef ddim pryd y gorweddodd hi, na phryd y cododd.
19:36  Felly y beichiogodd dwy ferch Lot o'u tad.
19:37  Esgorodd yr hynaf ar fab, a'i enwi Moab; ef yw tad y Moabiaid presennol.
19:38  Esgorodd yr ieuengaf hefyd ar fab, a'i enwi Ben-ammi; ef yw tad yr Ammoniaid presennol.

Abraham ac Abimelech

20:1  Ymdeithiodd Abraham oddi yno i ardal y Negef, a byw rhwng Cades a Sur. Arhosodd dros dro yn Gerar,
20:2  ac yno dywedodd Abraham am ei wraig Sara, "Fy chwaer yw hi"; ac anfonodd Abimelech brenin Gerar am Sara, a'i chymryd.
20:3  Ond daeth Duw at Abimelech mewn breuddwyd nos, a dweud wrtho, "Fe fyddi farw o achos y wraig a gymeraist, oherwydd gwraig briod yw hi."
20:4  Ond nid oedd Abimelech wedi nesáu ati; a dywedodd, "ARGLWYDD, a leddi di bobl ddiniwed?
20:5  Oni ddywedodd ef wrthyf, 'Fy chwaer yw hi', a hithau, 'Fy mrawd yw ef'? Gwneuthum hyn â chydwybod dawel a dwylo glân."
20:6  Yna dywedodd Duw wrtho yn y freuddwyd, "Mi wn iti wneud hyn â chydwybod dawel; cedwais innau di rhag pechu yn f'erbyn, a dyna pam na adewais iti ei chyffwrdd.
20:7  Yn awr, rho'r wraig yn ôl i'w gŵr, oherwydd proffwyd yw ac fe weddïa trosot, fel y byddi fyw. Ond os na roi hi'n ôl, deall di y byddi'n siŵr o farw, ti a'th dylwyth."
20:8  Cododd Abimelech yn fore, a galw ei holl weision a dweud wrthynt am yr holl bethau hyn; a chafodd y dynion fraw mawr.
20:9  Yna galwodd Abimelech am Abraham a dweud wrtho, "Beth a wnaethost i ni? Sut yr wyf fi wedi pechu yn dy erbyn, i beri iti ddwyn pechod mawr arnaf fi a'm teyrnas? Yr wyt wedi gwneud pethau i mi na ddylid eu gwneud."
20:10  Dywedodd Abimelech ymhellach wrth Abraham, "Beth oedd yn dy feddwl wrth wneud y peth hwn?"
20:11  Atebodd Abraham, "Mi feddyliais nad oedd neb yn ofni Duw yn y lle hwn, ac y byddent yn fy lladd o achos fy ngwraig.
20:12  Ac yn wir, fy chwaer yw hi, merch fy nhad, ond nid merch fy mam; a daeth yn wraig i mi.
20:13  A phan barodd Duw imi adael tŷ fy nhad, dywedais wrthi, 'Mynnaf y gymwynas hon gennyt: i ble bynnag yr awn, dywed amdanaf, "Fy mrawd yw ef".'"
20:14  Yna cymerodd Abimelech ddefaid, ychen, gweision a morynion, a'u rhoi i Abraham, a rhoes ei wraig Sara yn ôl iddo.
20:15  A dywedodd Abimelech, "Dyma fy ngwlad o'th flaen; cei fyw lle bynnag y dymuni."
20:16  A dywedodd wrth Sara, "Dyma fi wedi rhoi i'th frawd fil o ddarnau arian; bydd hyn yn dy glirio ac yn dy gyfiawnhau'n llwyr yng ngŵydd pawb sydd gyda thi."
20:17  Yna gweddïodd Abraham ar Dduw, ac iachaodd Duw Abimelech a'i wraig a'i forynion; a chawsant blant.
20:18  Oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi llwyr atal bob planta yn nheulu Abimelech, o achos Sara gwraig Abraham.

Geni Isaac

21:1  Ymwelodd yr ARGLWYDD â Sara yn ôl ei air, a gwnaeth iddi fel yr addawodd.
21:2  Beichiogodd Sara a geni mab i Abraham yn ei henaint, ar yr union adeg a ddywedodd Duw wrtho.
21:3  Rhoes Abraham i'r mab a anwyd iddo o Sara yr enw Isaac;
21:4  ac enwaedodd Abraham ei fab Isaac yn wyth diwrnod oed, fel yr oedd Duw wedi gorchymyn iddo.
21:5  Yr oedd Abraham yn gant oed pan anwyd iddo ei fab Isaac.
21:6  A dywedodd Sara, "Parodd Duw imi chwerthin; fe fydd pawb a glyw am hyn yn chwerthin gyda mi."
21:7  Dywedodd hefyd, "Pwy fuasai wedi dweud wrth Abraham y rhoddai Sara sugn i blant? Eto mi enais fab iddo yn ei henaint."
21:8  Tyfodd y bachgen, a diddyfnwyd ef; ac ar ddiwrnod diddyfnu Isaac, gwnaeth Abraham wledd fawr.
21:9  Ond gwelodd Sara y mab a ddygodd Hagar yr Eifftes i Abraham yn chwarae gyda'i mab Isaac.
21:10  A dywedodd wrth Abraham, "Gyrr allan y gaethferch hon a'i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethferch hon gydetifeddu â'm mab i, Isaac."
21:11  Yr oedd hyn yn atgas iawn gan Abraham o achos ei fab;
21:12  ond dywedodd Duw wrth Abraham, "Paid â phoeni am y llanc a'th gaethferch; gwna bopeth a ddywed Sara wrthyt, oherwydd trwy Isaac y cedwir dy linach.
21:13  Gwnaf fab y gaethferch hefyd yn genedl, am ei fod yn blentyn i ti."
21:14  Yna cododd Abraham yn fore, a chymerodd fara a chostrel o ddŵr a'u rhoi i Hagar, a'u gosod hwy a'r bachgen ar ei hysgwydd, a'i hanfon ymaith. Aeth hithau i grwydro yn niffeithwch Beerseba.
21:15  Pan oedd y dŵr yn y gostrel wedi darfod, gosododd y bachgen i lawr dan un o'r llwyni,
21:16  ac aeth i eistedd bellter ergyd bwa oddi wrtho, gan ddweud, "Ni allaf edrych ar y bachgen yn marw." Fel yr oedd yn eistedd bellter oddi wrtho, cododd y bachgen ei lais ac wylo.
21:17  Clywodd Duw lais y plentyn, a galwodd angel Duw o'r nef ar Hagar a dweud wrthi, "Beth sy'n dy boeni, Hagar? Paid ag ofni, oherwydd y mae Duw wedi clywed llais y plentyn o'r lle y mae.
21:18  Cod, cymer y plentyn a gafael amdano, oherwydd gwnaf ef yn genedl fawr."
21:19  Yna agorodd Duw ei llygaid, a gwelodd bydew dŵr; aeth hithau i lenwi'r gostrel â dŵr a rhoi diod i'r plentyn.
21:20  Bu Duw gyda'r plentyn, a thyfodd; bu'n byw yn y diffeithwch, a daeth yn saethwr bwa.
21:21  Yr oedd yn byw yn niffeithwch Paran, a chymerodd ei fam wraig iddo o wlad yr Aifft.

Cytundeb rhwng Abraham ac Abimelech

21:22  Yr amser hwnnw, dywedodd Abimelech a Phichol pennaeth ei fyddin wrth Abraham, "Y mae Duw gyda thi ym mhopeth yr wyt yn ei wneud;
21:23  yn awr, dos ar dy lw yn enw Duw i mi yma, na fyddi'n anffyddlon i mi, nac i'm plant, nac i'm hwyrion; ond fel yr wyf fi wedi bod yn deyrngar i ti, bydd dithau i minnau ac i'r wlad yr wyt wedi ymdeithio ynddi."
21:24  A dywedodd Abraham, "Mi af ar fy llw."
21:25  Pan geryddodd Abraham Abimelech am y pydew dŵr yr oedd gweision Abimelech wedi ei gymryd trwy drais,
21:26  dywedodd Abimelech, "Ni wn i ddim pwy a wnaeth hyn; ni ddywedaist wrthyf, ac ni chlywais i sôn am y peth cyn heddiw."
21:27  Yna cymerodd Abraham ddefaid ac ychen, a'u rhoi i Abimelech, a gwnaethant ill dau gyfamod.
21:28  Gosododd Abraham o'r neilltu saith hesbin o'r praidd.
21:29  A gofynnodd Abimelech i Abraham, "Beth yw'r saith hesbin hyn yr wyt wedi eu gosod o'r neilltu?"
21:30  Dywedodd yntau, "Wrth gymryd y saith hesbin gennyf, byddi'n cydnabod mai myfi a gloddiodd y pydew hwn."
21:31  Am hynny galwyd y lle hwnnw Beerseba, oherwydd yno yr aeth y ddau ar eu llw.
21:32  Wedi iddynt wneud cyfamod yn Beerseba, cododd Abimelech a Phichol pennaeth ei fyddin, a dychwelyd i wlad y Philistiaid.
21:33  Plannodd Abraham goeden tamarisg yn Beerseba, a galwodd yno ar enw'r ARGLWYDD, y Duw tragwyddol.
21:34  A bu Abraham yn aros am amser hir yng ngwlad y Philistiaid.

Aberthu Isaac

22:1  Wedi'r pethau hyn, rhoddodd Duw brawf ar Abraham.
22:2  "Abraham," meddai wrtho, ac atebodd yntau, "Dyma fi." Yna dywedodd, "Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy'n annwyl gennyt, a dos i wlad Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar y mynydd a ddangosaf iti."
22:3  Felly cododd Abraham yn fore, cyfrwyodd ei asyn, a chymryd dau lanc gydag ef, a'i fab Isaac; a holltodd goed i'r poethoffrwm, a chychwynnodd i'r lle y dywedodd Duw wrtho.
22:4  Ar y trydydd dydd cododd Abraham ei olwg, a gwelodd y lle o hirbell.
22:5  Yna dywedodd Abraham wrth ei lanciau, "Arhoswch chwi yma gyda'r asyn; mi af finnau a'r bachgen draw ac addoli, ac yna dychwelwn atoch."
22:6  Cymerodd goed y poethoffrwm a'u gosod ar ei fab Isaac; a chymerodd y tân a'r gyllell yn ei law ei hun. Ac felly yr aethant ill dau ynghyd.
22:7  Yna dywedodd Isaac wrth ei dad Abraham, "Fy nhad." Atebodd yntau, "Ie, fy mab?" Ac meddai Isaac, "Dyma'r tân a'r coed; ond ble mae oen y poethoffrwm?"
22:8  Dywedodd Abraham, "Duw ei hun fydd yn darparu oen y poethoffrwm, fy mab." Ac felly aethant ill dau gyda'i gilydd.
22:9  Wedi iddynt gyrraedd i'r lle'r oedd Duw wedi dweud wrtho, adeiladodd Abraham allor, trefnodd y coed, a rhwymodd ei fab Isaac a'i osod ar yr allor, ar ben y coed.
22:10  Yna estynnodd Abraham ei law, a chymryd y gyllell i ladd ei fab.
22:11  Ond galwodd angel yr ARGLWYDD arno o'r nef, a dweud, "Abraham! Abraham!" Dywedodd yntau, "Dyma fi."
22:12  A dywedodd, "Paid â gosod dy law ar y bachgen, na gwneud dim iddo; oherwydd gwn yn awr dy fod yn ofni Duw, gan nad wyt wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, i mi."
22:13  Cododd Abraham ei olwg ac edrych, a dyna lle'r oedd hwrdd y tu ôl iddo wedi ei ddal gerfydd ei gyrn mewn drysni; aeth Abraham a chymryd yr hwrdd a'i offrymu yn boethoffrwm yn lle ei fab.
22:14  Ac enwodd Abraham y lle hwnnw, "Yr ARGLWYDD sy'n darparu"; fel y dywedir hyd heddiw, "Ar fynydd yr ARGLWYDD fe ddarperir."
22:15  Galwodd angel yr ARGLWYDD eilwaith o'r nef ar Abraham,
22:16  a dweud, "Tyngais i mi fy hun," medd yr ARGLWYDD, "oherwydd iti wneud hyn, heb wrthod rhoi dy fab, dy unig fab,
22:17  bendithiaf di yn fawr, ac amlhau dy ddisgynyddion yn ddirfawr, fel sêr y nefoedd ac fel y tywod ar lan y môr. Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu pyrth eu gelynion,
22:18  a thrwyddynt bendithir holl genhedloedd y ddaear, am iti ufuddhau i'm llais."
22:19  Yna dychwelodd Abraham at ei lanciau ac aethant gyda'i gilydd i Beerseba; ac arhosodd Abraham yn Beerseba.

Disgynyddion Nachor

22:20  Wedi'r pethau hyn, mynegwyd i Abraham, "Y mae Milca wedi geni plant i'th frawd Nachor:
22:21  Hus ei gyntaf-anedig, a'i frawd Bus, Cemuel tad Aram,
22:22  Cesed, Haso, Pildas, Idlaff, a Bethuel."
22:23  Bethuel oedd tad Rebeca. Ganwyd yr wyth hyn o Milca i Nachor, brawd Abraham.
22:24  Hefyd esgorodd Reuma, ei ordderch, ar Teba, Gaham, Tahas a Maacha.

Marw Sara

23:1  Bu Sara fyw am gant dau ddeg a saith o flynyddoedd; dyna hyd ei hoes.
23:2  Bu farw Sara yn Ciriath-arba, hynny yw Hebron, yng ngwlad Canaan; ac aeth Abraham i alaru am Sara, ac wylodd amdani.
23:3  Wedi hynny cododd Abraham o ŵydd y marw, a dywedodd wrth yr Hethiaid,
23:4  "Dieithryn ac ymdeithydd wyf yn eich mysg; rhowch i mi hawl ar fedd yn eich plith, er mwyn imi gael claddu fy marw."
23:5  Atebodd yr Hethiaid Abraham, a dweud wrtho,
23:6  "Clyw ni, f'arglwydd; tywysog nerthol wyt ti yn ein plith. Cladda dy farw yn y gorau o'n beddau; ni wrthyd neb ohonom ei fedd iti i gladdu dy farw."
23:7  Yna cododd Abraham ac ymgrymu i'r Hethiaid, pobl y wlad,
23:8  a dweud wrthynt, "Os ydych yn fodlon imi gladdu fy marw, gwrandewch arnaf, a deisyfwch trosof ar Effron fab Sohar
23:9  iddo roi imi ogof Machpela, sy'n eiddo iddo ac yng nghwr ei faes. Rhodded hi i mi am y pris llawn, imi gael hawl ar fedd yn eich plith."
23:10  Yr oedd Effron yn eistedd gyda'r Hethiaid, a dywedodd wrth Abraham yng nghlyw'r Hethiaid a phawb oedd yn dod i mewn trwy borth ei ddinas,
23:11  "Na, f'arglwydd, gwrando arnaf; rhof y maes i ti yn ogystal â'r ogof sydd ynddo; yr wyf yn ei rhoi i ti yng ngŵydd fy mhobl; cladda dy farw."
23:12  Yna ymgrymodd Abraham o flaen pobl y wlad,
23:13  a dywedodd wrth Effron yn eu clyw, "Os felly, gwrando arnaf; yr wyf am roi i ti bris y maes; cymer hyn gennyf, er mwyn imi gael claddu fy marw yno."
23:14  Atebodd Effron Abraham a dweud wrtho,
23:15  "Gwrando arnaf, f'arglwydd; darn o dir gwerth pedwar can sicl o arian, beth yw hynny rhyngom ni? Cladda dy farw."
23:16  Cytunodd Abraham ag Effron, a phwysodd iddo yr arian a grybwyllodd yng nghlyw'r Hethiaid, pedwar can sicl o arian, yn ôl pwysau'r marchnatwyr.
23:17-18  Felly y sicrhawyd i Abraham, yng ngŵydd yr Hethiaid a phawb oedd yn dod i mewn trwy borth y ddinas, feddiant ar faes Effron yn Machpela, i'r dwyrain o Mamre. Cafodd ef y maes a'r ogof ynddo a phob coeden o fewn holl derfynau'r maes.
23:19  Wedi hynny, claddodd Abraham ei wraig Sara yn yr ogof ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, hynny yw Hebron, yng ngwlad Canaan.
23:20  Sicrhawyd gan yr Hethiaid y maes a'r ogof oedd ynddo yn gladdfa i Abraham.

Sicrhau Gwraig i Isaac

24:1  Yr oedd Abraham yn hen ac oedrannus, ac yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei fendithio ef ym mhob dim.
24:2  Yna dywedodd Abraham wrth y gwas hynaf yn ei dŷ, yr un oedd yn gofalu am ei holl eiddo, "Gosod dy law dan fy nghlun,
24:3  a pharaf iti dyngu i'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd a'r ddaear, na chymeri wraig i'm mab o ferched y Canaaneaid yr wyf yn byw yn eu plith,
24:4  ond yr ei i'm gwlad ac at fy nhylwyth, i gymryd gwraig i'm mab Isaac."
24:5  Dywedodd y gwas wrtho, "Efallai na fydd y wraig am ddod ar fy ôl i'r wlad hon; a fydd raid i mi fynd â'th fab yn ôl i'r wlad y daethost allan ohoni?"
24:6  Dywedodd Abraham wrtho, "Gofala nad ei â'm mab yn ôl yno.
24:7  Yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, yr un a'm cymerodd o dŷ fy nhad ac o wlad fy ngeni, ac a lefarodd a thyngu wrthyf, a dweud, 'Rhof y wlad hon i'th ddisgynyddion', bydd ef yn anfon ei angel o'th flaen, ac fe gymeri wraig i'm mab oddi yno.
24:8  Os na fydd y wraig am ddod ar dy ôl, yna byddi'n rhydd oddi wrth y llw hwn; ond paid â mynd â'm mab yn ôl yno."
24:9  Felly gosododd y gwas ei law dan glun ei feistr Abraham, a thyngu iddo am y mater hwn.
24:10  Yna cymerodd y gwas ddeg o gamelod ei feistr, a mynd ymaith a holl anrhegion ei feistr dan ei ofal, ac aeth i Aram-naharaim, i ddinas Nachor.
24:11  Parodd i'r camelod orwedd y tu allan i'r ddinas, wrth y pydew dŵr, gyda'r hwyr, sef yr amser y byddai'r merched yn dod i godi dŵr.
24:12  A dywedodd, "O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, rho lwyddiant i mi heddiw, a gwna garedigrwydd â'm meistr Abraham.
24:13  Dyma fi'n sefyll wrth y ffynnon ddŵr, a merched y ddinas yn dod i godi dŵr.
24:14  Y ferch y dywedaf wrthi, 'Gostwng dy stên, er mwyn i mi gael yfed', a hithau'n ateb, 'Yf, ac mi rof ddiod i'th gamelod hefyd', bydded mai honno fydd yr un a ddarperaist i'th was Isaac. Wrth hyn y caf wybod iti wneud caredigrwydd â'm meistr."
24:15  Cyn iddo orffen siarad, dyma Rebeca, a anwyd i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham, yn dod allan â'i stên ar ei hysgwydd.
24:16  Yr oedd y ferch yn hardd odiaeth, yn wyryf, heb orwedd gyda gŵr. Aeth i lawr at y ffynnon, llanwodd ei stên, a daeth i fyny.
24:17  Rhedodd y gwas i'w chyfarfod, a dweud, "Gad imi yfed ychydig ddŵr o'th stên."
24:18  Dywedodd hithau, "Yf, f'arglwydd," a brysio i ostwng ei stên ar ei llaw, a rhoi diod iddo.
24:19  Pan orffennodd roi diod iddo, dywedodd hi, "Codaf ddŵr i'th gamelod hefyd, nes iddynt gael digon."
24:20  Brysiodd i dywallt ei stên i'r cafn, a rhedeg eilwaith i'r ffynnon, a chodi dŵr i'w holl gamelod.
24:21  Syllodd y gŵr arni, heb ddweud dim, i wybod a oedd yr ARGLWYDD wedi llwyddo'i daith ai peidio.
24:22  Pan orffennodd y camelod yfed, cymerodd y gŵr fodrwy aur yn pwyso hanner sicl, a dwy freichled yn pwyso deg sicl o aur i'w garddyrnau,
24:23  ac meddai, "Dywed wrthyf, merch pwy wyt ti? A oes lle i ni aros noson yn nhŷ dy dad?"
24:24  Dywedodd hithau wrtho, "Merch Bethuel fab Milca a Nachor."
24:25  Ac ychwanegodd, "Y mae gennym ddigon o wellt a phorthiant, a lle i letya."
24:26  Ymgrymodd y gŵr i addoli'r ARGLWYDD,
24:27  a dweud, "Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am nad ataliodd ei garedigrwydd a'i ffyddlondeb oddi wrth fy meistr. Arweiniodd yr ARGLWYDD fi ar fy nhaith i dŷ brodyr fy meistr."
24:28  Rhedodd y ferch a mynegi'r pethau hyn i dylwyth ei mam.
24:29  Ac yr oedd gan Rebeca frawd o'r enw Laban, a rhedodd ef allan at y gŵr wrth y ffynnon.
24:30  Pan welodd y fodrwy, a'r breichledau ar arddyrnau ei chwaer, a chlywed geiriau ei chwaer Rebeca am yr hyn a ddywedodd y gŵr wrthi, aeth at y gŵr oedd yn sefyll gyda'r camelod wrth y ffynnon.
24:31  Dywedodd, "Tyrd i'r tŷ, fendigedig yr ARGLWYDD; pam yr wyt yn sefyll y tu allan, a minnau wedi paratoi'r tŷ, a lle i'r camelod?"
24:32  Pan ddaeth y gŵr at y tŷ, gollyngodd Laban y camelod, ac estyn gwellt a phorthiant iddynt, a rhoi dŵr i'r gŵr a'r dynion oedd gydag ef i olchi eu traed.
24:33  Pan osodwyd bwyd o'i flaen, dywedodd y gŵr, "Nid wyf am fwyta nes imi ddweud fy neges." Ac meddai Laban, "Traetha."
24:34  Dywedodd, "Gwas Abraham wyf fi.
24:35  Y mae'r ARGLWYDD wedi bendithio fy meistr yn helaeth, ac y mae yntau wedi llwyddo; y mae wedi rhoi iddo ddefaid ac ychen, arian ac aur, gweision a morynion, camelod ac asynnod.
24:36  Ac y mae Sara gwraig fy meistr wedi geni mab iddo yn ei henaint; ac y mae fy meistr wedi rhoi ei holl eiddo i hwnnw.
24:37  Parodd fy meistr i mi fynd ar fy llw, a dywedodd, 'Paid â chymryd gwraig i'm mab o blith merched y Canaaneaid yr wyf yn byw yn eu gwlad;
24:38  ond dos i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, i gymryd gwraig i'm mab.'
24:39  Dywedais wrth fy meistr, 'Efallai na ddaw'r wraig ar fy ôl.'
24:40  Ond dywedodd yntau wrthyf, 'Bydd yr ARGLWYDD, yr wyf yn rhodio ger ei fron, yn anfon ei angel gyda thi ac yn llwyddo dy daith. Os cymeri wraig i'm mab o'm tylwyth ac o dŷ fy nhad,
24:41  yna byddi'n rhydd oddi wrth fy llw; os doi at fy nhylwyth, a hwythau'n gwrthod ei rhoi iti, byddi hefyd yn rhydd oddi wrth fy llw.'
24:42  Pan ddeuthum heddiw at y ffynnon, dywedais, 'O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, os wyt am lwyddo fy nhaith yn awr,
24:43  tra wyf yn sefyll wrth y ffynnon ddŵr, bydded mai'r ferch ifanc a ddaw allan i godi dŵr ac yna, pan ddywedaf wrthi, "Rho i mi ychydig ddŵr i'w yfed o'th stên",
24:44  fydd yn ateb, "Yf, a chodaf ddŵr i'th gamelod hefyd", bydded mai honno fydd y wraig y mae'r ARGLWYDD wedi ei darparu i fab fy meistr.'
24:45  Cyn i mi orffen gwneud fy nghais, dyma Rebeca yn dod allan â'i stên ar ei hysgwydd; aeth i lawr at y ffynnon a chodi dŵr. Dywedais wrthi, 'Gad imi yfed.'
24:46  Brysiodd hithau i ostwng ei stên oddi ar ei hysgwydd, a dywedodd, 'Yf, a rhof ddiod i'th gamelod hefyd.' Yfais, a rhoes hithau ddiod i'r camelod.
24:47  Yna gofynnais iddi, 'Merch pwy wyt ti?' Ac meddai hithau, 'Merch Bethuel fab Nachor a Milca.' Yna gosodais y fodrwy yn ei thrwyn, a'r breichledau am ei garddyrnau.
24:48  Ymgrymais i addoli'r ARGLWYDD, a bendithiais yr ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, a arweiniodd fi yn y ffordd iawn i gymryd merch brawd fy meistr i'w fab.
24:49  Yn awr, os ydych am wneud caredigrwydd a ffyddlondeb i'm meistr, dywedwch wrthyf; ac onid e, dywedwch wrthyf, fel y gallaf droi ar y llaw dde neu'r chwith."
24:50  Yna atebodd Laban a Bethuel, a dweud, "Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth hyn; ni allwn ni ddweud dim wrthyt, na drwg na da.
24:51  Dyma Rebeca o'th flaen; cymer hi a dos. A bydded yn wraig i fab dy feistr, fel y dywedodd yr ARGLWYDD."
24:52  Pan glywodd gwas Abraham eu geiriau, ymgrymodd i'r llawr gerbron yr ARGLWYDD,
24:53  ac estynnodd dlysau o arian ac aur, a gwisgoedd, a'u rhoi i Rebeca; rhoddodd hefyd anrhegion gwerthfawr i'w brawd ac i'w mam.
24:54  A bwytaodd ac yfodd, ef a'r dynion oedd gydag ef, ac aros yno noson. Pan godasant yn y bore, dywedodd, "Gadewch imi fynd at fy meistr."
24:55  Ac meddai ei brawd a'i mam, "Gad i'r ferch aros gyda ni am o leiaf ddeg diwrnod; wedi hynny caiff fynd."
24:56  Ond dywedodd ef wrthynt, "Peidiwch â'm rhwystro, gan i'r ARGLWYDD lwyddo fy nhaith; gadewch imi fynd at fy meistr."
24:57  Yna dywedasant, "Galwn ar y ferch, a gofynnwn iddi hi."
24:58  A galwasant ar Rebeca, a dweud wrthi, "A ei di gyda'r gŵr hwn?" Atebodd hithau, "Af."
24:59  Felly gollyngasant eu chwaer Rebeca a'i mamaeth, a gwas Abraham a'i ddynion,
24:60  a bendithio Rebeca, a dweud wrthi, "Tydi, ein chwaer, boed iti fynd yn filoedd o fyrddiynau, a bydded i'th ddisgynyddion etifeddu porth eu gelynion."
24:61  Yna cododd Rebeca a'i morynion, a marchogaeth ar y camelod gan ddilyn y gŵr; felly cymerodd y gwas Rebeca a mynd ymaith.
24:62  Yr oedd Isaac wedi dod o Beer-lahai-roi ac yn byw yn ardal y Negef.
24:63  Pan oedd Isaac allan yn myfyrio yn y maes fin nos, cododd ei olygon i edrych, a gwelodd gamelod yn dod.
24:64  Cododd Rebeca hefyd ei golygon, a phan welodd Isaac, disgynnodd oddi ar y camel,
24:65  a gofyn i'r gwas, "Pwy yw'r gŵr acw sy'n cerdded yn y maes tuag atom?" Atebodd y gwas, "Dyna fy meistr." Cymerodd hithau orchudd a'i wisgo.
24:66  Ac adroddodd y gwas wrth Isaac am bopeth yr oedd wedi ei wneud.
24:67  Yna daeth Isaac â Rebeca i mewn i babell ei fam Sara, a'i chymryd yn wraig iddo. Carodd Isaac Rebeca, ac felly cafodd gysur ar ôl marw ei fam.

Disgynyddion Eraill Abraham

25:1  Cymerodd Abraham wraig arall o'r enw Cetura.
25:2  Ohoni hi ganwyd iddo Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac a Sua.
25:3  Jocsan oedd tad Seba a Dedan; a meibion Dedan oedd Assurim, Letusim a Lewmmim.
25:4  Meibion Midian oedd Effa, Effer, Hanoch, Abida ac Eldaa. Yr oedd y rhain i gyd yn blant Cetura.
25:5  Rhoddodd Abraham ei holl eiddo i Isaac.
25:6  Ond tra oedd eto'n fyw, yr oedd Abraham wedi rhoi anrhegion i feibion ei wragedd gordderch, ac wedi eu hanfon ymaith oddi wrth ei fab Isaac, draw i wlad ddwyreiniol.

Marw Abraham a'i Gladdu

25:7  Yr oedd oes gyfan Abraham yn gant saith deg a phump o flynyddoedd.
25:8  Anadlodd Abraham ei anadl olaf, a bu farw wedi oes hir, yn hen ac oedrannus; a chladdwyd ef gyda'i dylwyth.
25:9  Claddwyd ef gan ei feibion Isaac ac Ismael yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, i'r dwyrain o Mamre,
25:10  y maes yr oedd Abraham wedi ei brynu gan yr Hethiaid. Yno y claddwyd Abraham gyda'i wraig Sara.
25:11  Wedi marw Abraham bendithiodd Duw ei fab Isaac, ac arhosodd Isaac ger Beer-lahai-roi.

Disgynyddion Ismael, 1 Cron. 1:28-31

25:12  Dyma genedlaethau Ismael fab Abraham, a anwyd iddo o Hagar yr Eifftes, morwyn Sara.
25:13  Dyma enwau meibion Ismael, yn nhrefn eu geni: Nebaioth, cyntafanedig Ismael, a Cedar, Adbeel, Mibsam,
25:14  Misma, Duma, Massa,
25:15  Hadad, Tema, Jetur, Naffis a Cedema.
25:16  Dyna feibion Ismael, a dyna enwau deuddeg tywysog y llwythau yn ôl eu trefi a'u gwersylloedd.
25:17  Hyd oes Ismael oedd cant tri deg a saith o flynyddoedd; anadlodd ei anadl olaf, a chladdwyd ef gyda'i dylwyth.
25:18  Yr oeddent yn trigo o Hafila hyd Sur, i'r dwyrain o'r Aifft, i gyfeiriad Asyria; yr oeddent yn erbyn eu holl frodyr.

Geni Esau a Jacob

25:19  Dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: tad Isaac oedd Abraham,
25:20  ac yr oedd Isaac yn ddeugain mlwydd oed pan gymerodd yn wraig Rebeca ferch Bethuel yr Aramead o Padan Aram, chwaer Laban yr Aramead.
25:21  A gweddïodd Isaac ar yr ARGLWYDD dros ei wraig, am ei bod heb eni plentyn. Atebodd yr ARGLWYDD ei weddi, a beichiogodd ei wraig Rebeca.
25:22  Aflonyddodd y plant ar ei gilydd yn ei chroth, a dywedodd hithau, "Pam y mae fel hyn arnaf?" Aeth i ymofyn â'r ARGLWYDD,
25:23  a dywedodd yr ARGLWYDD wrthi, "Dwy genedl sydd yn dy groth, a gwahenir dau lwyth o'th fru, bydd y naill yn gryfach na'r llall, a'r hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf."
25:24  Pan ddaeth ei dyddiau i esgor, yr oedd gefeilliaid yn ei chroth.
25:25  Daeth y cyntaf allan yn goch, a'i holl gorff fel mantell flewog; am hynny galwyd ef Esau.
25:26  Wedyn daeth ei frawd allan, a'i law yn gafael yn sawdl Esau; am hynny galwyd ef Jacob. Yr oedd Isaac yn drigain oed pan anwyd hwy.

Esau'n Gwerthu ei Enedigaeth-fraint

25:27  Tyfodd y bechgyn, a daeth Esau yn heliwr medrus, yn ŵr y maes; ond yr oedd Jacob yn ŵr tawel, yn byw mewn pebyll.
25:28  Yr oedd Isaac yn hoffi Esau, am ei fod yn bwyta o'i helfa; ond yr oedd Rebeca yn hoffi Jacob.
25:29  Un tro pan oedd Jacob yn berwi cawl, daeth Esau o'r maes ar ddiffygio.
25:30  A dywedodd Esau wrth Jacob, "Gad imi fwyta o'r cawl coch yma, oherwydd yr wyf ar ddiffygio." Dyna pam y galwyd ef Edom.
25:31  Dywedodd Jacob, "Gwertha imi'n awr dy enedigaeth-fraint."
25:32  A dywedodd Esau, "Pa les yw genedigaeth-fraint i mi, a minnau ar fin marw?"
25:33  Dywedodd Jacob, "Dos ar dy lw i mi yn awr." Felly aeth ar ei lw, a gwerthu ei enedigaeth-fraint i Jacob.
25:34  Yna rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau; bwytaodd ac yfodd, ac yna codi a mynd ymaith. Fel hyn y diystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.

Isaac yn Ymfudo i Gerar

26:1  Bu newyn yn y wlad, heblaw'r newyn a fu gynt yn nyddiau Abraham, ac aeth Isaac i Gerar at Abimelech brenin y Philistiaid.
26:2  Yr oedd yr ARGLWYDD wedi ymddangos iddo, a dweud, "Paid â mynd i lawr i'r Aifft; aros yn y wlad a ddywedaf fi wrthyt.
26:3  Ymdeithia yn y wlad hon, a byddaf gyda thi i'th fendithio; oherwydd rhoddaf yr holl wledydd hyn i ti ac i'th ddisgynyddion, a chadarnhaf y llw a dyngais wrth dy dad Abraham.
26:4  Amlhaf dy ddisgynyddion fel sêr y nefoedd, a rhoi iddynt yr holl wledydd hyn. Bendithir holl genhedloedd y ddaear trwy dy ddisgynyddion.
26:5  Bydd hyn am i Abraham wrando ar fy llais, a chadw fy ngofynion, fy ngorchmynion, fy neddfau a'm cyfreithiau."
26:6  Felly arhosodd Isaac yn Gerar.
26:7  Pan ofynnodd gwŷr y lle ynghylch ei wraig, dywedodd, "Fy chwaer yw hi", am fod arno ofn dweud, "Fy ngwraig yw hi", rhag i wŷr y lle ei ladd o achos Rebeca; oherwydd yr oedd hi'n brydferth.
26:8  Wedi iddo fod yno am ysbaid, edrychodd Abimelech brenin y Philistiaid trwy'r ffenestr a chanfod Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca.
26:9  Yna galwodd Abimelech ar Isaac, a dweud, "Y mae'n amlwg mai dy wraig yw hi; pam y dywedaist, 'Fy chwaer yw hi'?" Dywedodd Isaac wrtho, "Am imi feddwl y byddwn farw o'i hachos hi."
26:10  Dywedodd Abimelech, "Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i ni? Hawdd y gallasai un o'r bobl orwedd gyda'th wraig, ac i ti ddwyn euogrwydd arnom."
26:11  Felly rhybuddiodd Abimelech yr holl bobl a dweud, "Lleddir y sawl a gyffyrdda â'r gŵr hwn neu â'i wraig."
26:12  Heuodd Isaac yn y tir hwnnw, a medi'r flwyddyn honno ar ei ganfed, a bendithiodd yr ARGLWYDD ef.
26:13  Llwyddodd y gŵr, a chynyddodd nes dod yn gyfoethog iawn.
26:14  Yr oedd yn berchen defaid ac ychen, a llawer o weision, fel bod y Philistiaid yn cenfigennu wrtho.
26:15  Caeodd y Philistiaid yr holl bydewau a gloddiodd y gweision yn nyddiau ei dad Abraham a'u llenwi â phridd,
26:16  a dywedodd Abimelech wrth Isaac, "Dos oddi wrthym, oherwydd aethost yn gryfach o lawer na ni."
26:17  Felly ymadawodd Isaac oddi yno, a gwersyllodd yn nyffryn Gerar ac aros yno.
26:18  Ac ailgloddiodd Isaac y pydewau dŵr a gloddiwyd yn nyddiau ei dad Abraham, ac a gaewyd gan y Philistiaid ar ôl marw Abraham; a galwodd hwy wrth yr un enwau â'i dad.
26:19  Ond pan gloddiodd gweision Isaac yn y dyffryn, a chael yno ffynnon o ddŵr yn tarddu,
26:20  bu cynnen rhwng bugeiliaid Gerar a bugeiliaid Isaac, a dywedasant, "Ni biau'r dŵr." Felly enwodd y ffynnon Esec, am iddynt godi cynnen ag ef.
26:21  Yna cloddiasant bydew arall, a bu cynnen ynglŷn â hwnnw hefyd; felly enwodd ef Sitna.
26:22  Symudodd oddi yno a chloddio pydew arall, ac ni bu cynnen ynglŷn â hwnnw; felly enwodd ef Rehoboth, a dweud, "Rhoes yr ARGLWYDD le helaeth i ni, a byddwn ffrwythlon yn y wlad."

Cytundeb rhwng Abimelech ac Isaac

26:23  Aeth Isaac oddi yno i Beerseba.
26:24  Ac un noson ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo, a dweud, "Myfi yw Duw Abraham dy dad; paid ag ofni, oherwydd yr wyf fi gyda thi. Bendithiaf di ac amlhaf dy ddisgynyddion er mwyn fy ngwas Abraham."
26:25  Felly adeiladodd yno allor, a galw ar enw'r ARGLWYDD; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno.
26:26  Yna daeth Abimelech ato o Gerar, gydag Ahussath ei gynghorwr a Phichol pennaeth ei fyddin.
26:27  Gofynnodd Isaac iddynt, "Pam yr ydych wedi dod ataf, gan i chwi fy nghasáu a'm gyrru oddi wrthych?"
26:28  Atebasant hwythau, "Gwelsom yn eglur fod yr ARGLWYDD gyda thi; am hynny fe ddywedwn, 'Bydded llw rhyngom', a gwnawn gyfamod â thi,
26:29  na wnei di ddim drwg i ni, yn union fel na fu i ni gyffwrdd â thi, na gwneud dim ond daioni iti a'th anfon ymaith mewn heddwch. Yn awr, ti yw bendigedig yr ARGLWYDD."
26:30  Yna, gwnaeth wledd iddynt, a bwytasant ac yfed.
26:31  Yn y bore codasant yn gynnar a thyngu llw i'w gilydd; ac anfonodd Isaac hwy ymaith, ac aethant mewn heddwch.
26:32  Daeth gweision Isaac y diwrnod hwnnw a mynegi iddo am y pydew yr oeddent wedi ei gloddio, a dweud wrtho, "Cawsom ddŵr."
26:33 Galwodd yntau ef Seba; am hynny Beerseba yw enw'r ddinas hyd heddiw.

Gwragedd Esau

26:34  Pan oedd Esau'n ddeugain mlwydd oed, priododd Judith ferch Beeri yr Hethiad, a hefyd Basemath ferch Elon yr Hethiad;
26:35  a buont yn achos gofid i Isaac a Rebeca.

Isaac yn Bendithio Jacob

27:1  Pan oedd Isaac yn hen a'i lygaid wedi pylu fel nad oedd yn gweld, galwodd ar Esau ei fab hynaf, a dweud wrtho, "Fy mab." Atebodd yntau, "Dyma fi."
27:2  A dywedodd Isaac, "Yr wyf wedi mynd yn hen, ac ni wn pa ddiwrnod y byddaf farw.
27:3  Cymer yn awr dy arfau, dy gawell saethau a'th fwa, a dos i'r maes i hela bwyd i mi,
27:4  a gwna i mi y lluniaeth blasus sy'n hoff gennyf, a thyrd ag ef imi i'w fwyta; yna bendithiaf di cyn imi farw."
27:5  Yr oedd Rebeca yn gwrando ar Isaac yn siarad â'i fab Esau. A phan aeth Esau i'r maes i hela bwyd i ddod ag ef i'w dad,
27:6  dywedodd Rebeca wrth ei mab Jacob, "Clywais dy dad yn siarad â'th frawd Esau ac yn dweud,
27:7  'Tyrd â helfa imi, a gwna luniaeth blasus imi i'w fwyta; yna bendithiaf di gerbron yr ARGLWYDD cyn imi farw.'
27:8  Gwrando'n awr, fy mab, ar yr hyn a orchmynnaf i ti.
27:9  Dos i blith y praidd, a thyrd â dau fyn gafr da i mi, a gwnaf finnau hwy yn lluniaeth blasus i'th dad, o'r math y mae'n ei hoffi,
27:10  a chei dithau fynd ag ef i'th dad i'w fwyta, er mwyn iddo dy fendithio di cyn iddo farw."
27:11  Ond dywedodd Jacob wrth ei fam Rebeca, "Ond y mae Esau yn ŵr blewog, a minnau'n ŵr llyfn.
27:12  Efallai y bydd fy nhad yn fy nheimlo, a byddaf fel twyllwr yn ei olwg, a dof â melltith arnaf fy hun yn lle bendith."
27:13  Meddai ei fam wrtho, "Arnaf fi y bo dy felltith, fy mab; gwrando arnaf, dos a thyrd â'r geifr ataf."
27:14  Felly aeth, a dod â hwy at ei fam; a gwnaeth ei fam luniaeth blasus, o'r math yr oedd ei dad yn ei hoffi.
27:15  Yna cymerodd Rebeca ddillad gorau ei mab hynaf Esau, dillad oedd gyda hi yn y tŷ, a'u gwisgo am Jacob ei mab ieuengaf;
27:16  a gwisgodd hefyd grwyn y geifr am ei ddwylo ac am ei wegil llyfn;
27:17  yna rhoddodd i'w mab Jacob y lluniaeth blasus a'r bara yr oedd wedi eu paratoi.
27:18  Aeth yntau i mewn at ei dad a dweud, "Fy nhad." Atebodd yntau, "Dyma fi, fy mab, pwy wyt ti?"
27:19  Dywedodd Jacob wrth ei dad, "Esau dy gyntafanedig wyf fi. Gwneuthum fel y dywedaist wrthyf; cod ar dy eistedd a bwyta o'm helfa, a bendithia fi."
27:20  A dywedodd Isaac wrth ei fab, "Sut y cefaist hyd iddo mor fuan, fy mab?" Atebodd yntau, "Yr ARGLWYDD dy Dduw a'i trefnodd ar fy nghyfer."
27:21  Yna dywedodd Isaac wrth Jacob, "Tyrd yn nes, er mwyn imi dy deimlo, fy mab, a gwybod ai ti yw fy mab Esau ai peidio."
27:22  Nesaodd Jacob at Isaac ei dad, a theimlodd yntau ef a dweud, "Llais Jacob yw'r llais, ond dwylo Esau yw'r dwylo."
27:23  Ond nid adnabu mohono, am fod ei ddwylo'n flewog fel dwylo Esau ei frawd; felly bendithiodd ef.
27:24  A dywedodd, "Ai ti yn wir yw fy mab Esau?" Atebodd yntau, "Myfi yw."
27:25  Dywedodd yntau, "Tyrd â'r helfa ataf, fy mab, imi gael bwyta a'th fendithio." Daeth ag ef ato, a bwytaodd yntau; a daeth â gwin iddo, ac yfodd.
27:26  A dywedodd ei dad Isaac wrtho, "Tyrd yn nes a chusana fi, fy mab."
27:27  Felly nesaodd a chusanodd ef; clywodd yntau arogl ei wisgoedd, a bendithiodd ef, a dweud: "Dyma arogl fy mab, fel arogl maes a fendithiodd yr ARGLWYDD.
27:28  Rhodded Duw iti o wlith y nefoedd, o fraster y ddaear, a digon o ŷd a gwin.
27:29  Bydded i bobloedd dy wasanaethu di, ac i genhedloedd ymgrymu o'th flaen; bydd yn Arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymed meibion dy fam iti. Bydded melltith ar y rhai sy'n dy felltithio, a bendith ar y rhai sy'n dy fendithio."
27:30  Wedi i Isaac orffen bendithio Jacob, a Jacob ond prin wedi mynd allan o ŵydd ei dad Isaac, daeth ei frawd Esau i mewn o'i hela.
27:31  Gwnaeth yntau luniaeth blasus, a mynd ag ef i'w dad, a dweud wrtho, "Cod, fy nhad, a bwyta o helfa dy fab, a bendithia fi."
27:32  Gofynnodd ei dad Isaac iddo, "Pwy wyt ti?" Atebodd yntau, "Dy fab Esau, dy gyntafanedig, wyf fi."
27:33  Yna cyffrôdd Isaac yn ddirfawr, a dywedodd, "Pwy ynteu a heliodd fwyd a'i ddwyn ataf, a minnau'n bwyta'r cwbl cyn iti ddod, ac yn rhoi'r fendith iddo ef? Ac yn wir, bendigedig fydd ef."
27:34  Pan glywodd Esau eiriau ei dad, gwaeddodd yn uchel a chwerw, a dweud wrth ei dad, "Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad."
27:35  Ond dywedodd ef, "Y mae dy frawd wedi dod trwy dwyll, a chymryd dy fendith."
27:36  Ac meddai Esau, "Onid Jacob yw'r enw priodol arno? Y mae wedi fy nisodli ddwywaith: dygodd fy ngenedigaeth-fraint, a dyma ef yn awr wedi dwyn fy mendith." Yna dywedodd, "Onid oes gennyt fendith ar ôl i minnau?"
27:37  Atebodd Isaac a dweud wrth Esau, "Yr wyf wedi ei wneud ef yn arglwydd arnat, a rhoi ei holl berthnasau yn weision iddo, ac ŷd a gwin i'w gynnal. Beth, felly, a allaf ei wneud i ti, fy mab?"
27:38  A dywedodd Esau wrth ei dad, "Ai yr un fendith hon yn unig sydd gennyt, fy nhad? Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad." A chododd Esau ei lais ac wylo.
27:39  Yna atebodd ei dad Isaac a dweud wrtho: "Wele, bydd dy gartref heb fraster daear, a heb wlith y nef oddi uchod.
27:40  Wrth dy gleddyf y byddi fyw, ac fe wasanaethi dy frawd; ond pan ddoi'n rhydd, fe dorri ei iau oddi ar dy wddf."
27:41  A chasaodd Esau Jacob o achos y fendith yr oedd ei dad wedi ei rhoi iddo, a dywedodd Esau wrtho'i hun, "Daw yn amser i alaru am fy nhad cyn hir; yna lladdaf fy mrawd Jacob."
27:42  Ond cafodd Rebeca wybod am eiriau Esau ei mab hynaf; anfonodd hithau a galw am Jacob ei mab ieuengaf, a dweud wrtho, "Edrych, y mae dy frawd Esau yn ei gysuro ei hun wrth feddwl am dy ladd.
27:43  Yn awr, fy mab, gwrando arnaf; cod, a ffo i Haran at fy mrawd Laban,
27:44  ac aros dros dro gydag ef, nes bod llid dy frawd wedi cilio.
27:45  Yna pan fydd dicter dy frawd wedi cilio, ac yntau wedi anghofio'r hyn a wnaethost, mi anfonaf i'th gyrchu oddi yno. Pam y caf fy amddifadu ohonoch eich dau mewn un diwrnod?"

Anfon Jacob at Laban

27:46  Dywedodd Rebeca wrth Isaac, "Yr wyf wedi blino byw o achos merched yr Hethiaid. Os prioda Jacob wraig o blith merched yr Hethiaid fel un o'r rhain, sef un o ferched y wlad, i beth y byddaf fyw?"
28:1  Yna galwodd Isaac ar Jacob, a bendithiodd ef. Gorchmynnodd iddo, "Paid â phriodi gwraig o blith merched Canaan.
28:2  Cod, dos i Padan Aram, i dŷ Bethuel tad dy fam; a chymer iti yno wraig o blith merched Laban brawd dy fam.
28:3  Boed i Dduw Hollalluog dy fendithio, a'th wneud yn ffrwythlon a lluosog fel y byddi'n gynulliad o bobloedd.
28:4  Rhodded ef fendith Abraham i ti ac i'th hil hefyd, fel y cei etifeddu'r wlad yr wyt yn ymdeithio ynddi, yr un a roddodd Duw i Abraham."
28:5  Felly, anfonodd Isaac Jacob ymaith; ac aeth yntau i Padan Aram at Laban fab Bethuel yr Aramead, brawd Rebeca mam Jacob ac Esau.

Esau'n Priodi Eto

28:6  Deallodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a'i anfon ymaith i Padan Aram i gymryd gwraig oddi yno, ac iddo orchymyn iddo wrth ei fendithio, "Paid â phriodi gwraig o blith merched Canaan",
28:7  a bod Jacob wedi gwrando ar ei rieni a mynd i Padan Aram.
28:8  Pan welodd Esau nad oedd merched Canaan wrth fodd Isaac ei dad,
28:9  aeth at Ismael a chymryd yn wraig, at ei wragedd eraill, Mahalath ferch Ismael, fab Abraham, chwaer Nebaioth.

Breuddwyd Jacob

28:10  Ymadawodd Jacob â Beerseba a theithio tua Haran.
28:11  A daeth i ryw fan ac aros noson yno, gan fod yr haul wedi machlud. Cymerodd un o gerrig y lle a'i gosod dan ei ben, a gorweddodd i gysgu yn y fan honno.
28:12  Breuddwydiodd ei fod yn gweld ysgol wedi ei gosod ar y ddaear, a'i phen yn cyrraedd i'r nefoedd, ac angylion Duw yn dringo a disgyn ar hyd-ddi.
28:13  A safodd yr ARGLWYDD gerllaw iddo a dweud, "Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Abraham dy dad, a Duw Isaac; rhoddaf y tir yr wyt yn gorwedd arno i ti ac i'th ddisgynyddion;
28:14  bydd dy hil fel llwch y ddaear, a byddi'n ymestyn i'r gorllewin a'r dwyrain ac i'r gogledd a'r de; a bendithir holl deuluoedd y ddaear ynot ti ac yn dy ddisgynyddion.
28:15  Wele, yr wyf fi gyda thi, a chadwaf di ple bynnag yr ei, a dof â thi'n ôl i'r wlad hon; oherwydd ni'th adawaf nes imi wneud yr hyn a ddywedais."
28:16  Pan ddeffrôdd Jacob o'i gwsg, dywedodd, "Y mae'n sicr fod yr ARGLWYDD yn y lle hwn, ac ni wyddwn i."
28:17  A daeth arno ofn, ac meddai, "Mor ofnadwy yw'r lle hwn! Nid yw'n ddim amgen na thŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd."
28:18  Cododd Jacob yn fore, a chymerodd y garreg a fu dan ei ben, a gosododd hi'n golofn, a thywallt olew drosti.
28:19  Galwodd y lle, Bethel, ond enw'r ddinas ar y dechrau oedd Lus.
28:20  Yna gwnaeth Jacob adduned, a dweud, "Os bydd Duw gyda mi, ac yn fy nghadw'n ddiogel ar fy nhaith, a rhoi imi fara i'w fwyta a dillad i'w gwisgo,
28:21  a minnau'n dychwelyd mewn heddwch i dŷ fy nhad, yna bydd yr ARGLWYDD yn Dduw i mi,
28:22  a bydd y garreg hon a osodais yn golofn yn dŷ i Dduw; ac o bob peth a roi i mi, mi rof ddegwm i ti."

Jacob yn Cyrraedd Tŷ Laban

29:1  Yna aeth Jacob ymlaen ar ei daith, a dod i wlad pobl y dwyrain.
29:2  Wrth edrych, gwelodd bydew yn y maes, a thair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho, gan mai o'r pydew hwnnw y rhoid dŵr i'r diadelloedd. Yr oedd carreg fawr ar geg y pydew,
29:3  a phan fyddai'r holl ddiadelloedd wedi eu casglu yno, byddai'r bugeiliaid yn symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i'r defaid, ac yna'n gosod y garreg yn ôl yn ei lle ar geg y pydew.
29:4  Dywedodd Jacob wrthynt, "Frodyr, o ble'r ydych yn dod?" Atebasant, "Rhai o Haran ydym ni."
29:5  Yna gofynnodd iddynt, "A ydych yn adnabod Laban fab Nachor?" Atebasant hwythau, "Ydym."
29:6  Wedyn meddai wrthynt, "A yw'n iawn?" Atebasant, "Ydyw; dacw ei ferch Rachel yn dod â'r defaid."
29:7  "Nid yw eto ond canol dydd," meddai yntau, "nid yw'n bryd casglu'r anifeiliaid; rhowch ddŵr i'r defaid, ac ewch i'w bugeilio."
29:8  Ond atebasant, "Ni allwn nes casglu'r holl ddiadelloedd, a symud y garreg oddi ar geg y pydew; yna rhown ddŵr i'r defaid."
29:9  Tra oedd yn siarad â hwy, daeth Rachel gyda defaid ei thad; oherwydd hi oedd yn eu bugeilio.
29:10  A phan welodd Jacob Rachel ferch Laban brawd ei fam, a defaid Laban brawd ei fam, nesaodd Jacob a symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i braidd Laban brawd ei fam.
29:11  Cusanodd Jacob Rachel ac wylodd yn uchel.
29:12  Yna dywedodd Jacob wrth Rachel ei fod yn nai i'w thad, ac yn fab i Rebeca; rhedodd hithau i ddweud wrth ei thad.
29:13  Pan glywodd Laban am Jacob, mab ei chwaer, rhedodd i'w gyfarfod, a'i gofleidio a'i gusanu, ac aeth ag ef i'w dŷ. Adroddodd yntau'r cwbl wrth Laban,
29:14  a dywedodd Laban wrtho, "Yn sicr, fy asgwrn a'm cnawd wyt ti." Ac arhosodd gydag ef am fis.

Jacob yn Gwasanaethu Laban am Rachel a Lea

29:15  Yna dywedodd Laban wrth Jacob, "Pam y dylit weithio imi am ddim, yn unig am dy fod yn nai imi? Dywed i mi beth fydd dy gyflog?"
29:16  Yr oedd gan Laban ddwy ferch; enw'r hynaf oedd Lea, ac enw'r ieuengaf Rachel.
29:17  Yr oedd llygaid Lea yn bŵl, ond yr oedd Rachel yn osgeiddig a phrydferth.
29:18  Hoffodd Jacob Rachel, a dywedodd, "Fe weithiaf i ti am saith mlynedd am Rachel, dy ferch ieuengaf."
29:19  Dywedodd Laban, "Gwell gennyf ei rhoi i ti nag i neb arall; aros gyda mi."
29:20  Felly gweithiodd Jacob saith mlynedd am Rachel, ac yr oeddent fel ychydig ddyddiau yn ei olwg am ei fod yn ei charu.
29:21  Yna dywedodd Jacob wrth Laban, "Daeth fy nhymor i ben; rho fy ngwraig imi, er mwyn imi gael cyfathrach â hi."
29:22  Casglodd Laban holl bobl y lle at ei gilydd, a gwnaeth wledd.
29:23  Ond gyda'r hwyr cymerodd ei ferch Lea a mynd â hi at Jacob; cafodd yntau gyfathrach â hi.
29:24  Ac yr oedd Laban wedi rhoi ei forwyn Silpa i'w ferch Lea yn forwyn.
29:25  Pan ddaeth y bore, gwelodd Jacob mai Lea oedd gydag ef; a dywedodd wrth Laban, "Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud â mi? Onid am Rachel y gweithiais? Pam y twyllaist fi?"
29:26  Dywedodd Laban, "Nid yw'n arfer yn ein gwlad ni roi'r ferch ieuengaf o flaen yr hynaf.
29:27  Gorffen yr wythnos wledd gyda hon, a rhoir y llall hefyd iti am weithio imi am dymor o saith mlynedd arall."
29:28  Gwnaeth Jacob felly, a gorffennodd y saith diwrnod. Yna rhoddodd Laban ei ferch Rachel yn wraig iddo,
29:29  a rhoi ei forwyn Bilha i'w ferch Rachel yn forwyn.
29:30  Cafodd Jacob gyfathrach â Rachel hefyd, a hoffodd Rachel yn fwy na Lea, a gweithiodd i Laban am saith mlynedd arall.

Enwau Plant Jacob

29:31  Pan welodd yr ARGLWYDD fod Lea'n cael ei chasáu, agorodd ei chroth; ond yr oedd Rachel yn ddi-blant.
29:32  Beichiogodd Lea ac esgor ar fab, a galwodd ef Reuben; oherwydd dywedodd, "Y mae'r ARGLWYDD wedi gweld fy ngwaradwydd, ac yn awr bydd fy ngŵr yn fy ngharu."
29:33  Beichiogodd eilwaith ac esgor ar fab, a dywedodd, "Y mae'r ARGLWYDD wedi clywed fy mod yn cael fy nghasáu, a rhoddodd hwn i mi hefyd." A galwodd ef Simeon.
29:34  Beichiogodd drachefn ac esgor ar fab, a dywedodd, "Yn awr, o'r diwedd fe unir fy ngŵr â mi, oherwydd rhoddais iddo dri mab." Am hynny galwodd ef Lefi.
29:35  A beichiogodd drachefn ac esgor ar fab, a dywedodd, "Y tro hwn moliannaf yr ARGLWYDD." Am hynny galwodd ef Jwda. Yna peidiodd â geni plant.
30:1  Pan welodd Rachel nad oedd hi yn geni plant i Jacob, cenfigennodd wrth ei chwaer; a dywedodd wrth Jacob, "Rho blant i mi, neu byddaf farw."
30:2  Teimlodd Jacob yn ddig wrth Rachel, ac meddai, "A wyf fi yn safle Duw, yr hwn sydd wedi atal ffrwyth dy groth?"
30:3  Dywedodd hithau, "Dyma fy morwyn Bilha; dos i gael cyfathrach â hi er mwyn iddi ddwyn plant ar fy ngliniau, ac i minnau gael teulu ohoni."
30:4  Felly rhoddodd ei morwyn Bilha yn wraig iddo; a chafodd Jacob gyfathrach â hi.
30:5  Beichiogodd Bilha ac esgor ar fab i Jacob.
30:6  Yna dywedodd Rachel, "Y mae Duw wedi fy marnu; y mae hefyd wedi gwrando arnaf a rhoi imi fab." Am hynny galwodd ef Dan.
30:7  Beichiogodd Bilha morwyn Rachel eilwaith, ac esgor ar ail fab i Jacob.
30:8  Yna dywedodd Rachel, "Yr wyf wedi ymdrechu'n galed yn erbyn fy chwaer, a llwyddo." Felly galwodd ef Nafftali.
30:9  Pan welodd Lea ei bod wedi peidio â geni plant, cymerodd ei morwyn Silpa a'i rhoi'n wraig i Jacob.
30:10  Yna esgorodd Silpa morwyn Lea ar fab i Jacob,
30:11  a dywedodd Lea, "Ffawd dda." Felly galwodd ef Gad.
30:12  Esgorodd Silpa morwyn Lea ar ail fab i Jacob,
30:13  a dywedodd Lea, "Dedwydd wyf! Bydd y merched yn fy ngalw yn ddedwydd." Felly galwodd ef Aser.
30:14  Yn nyddiau'r cynhaeaf gwenith aeth Reuben allan a chael mandragorau yn y maes, a'u rhoi i Lea ei fam. Yna dywedodd Rachel wrth Lea, "Rho imi rai o fandragorau dy fab."
30:15  Ond dywedodd hithau wrthi, "Ai peth dibwys yw dy fod wedi cymryd fy ngŵr? A wyt hefyd am gymryd mandragorau fy mab?" Dywedodd Rachel, "o'r gorau, caiff Jacob gysgu gyda thi heno yn dâl am fandragorau dy fab."
30:16  Pan oedd Jacob yn dod o'r maes gyda'r nos, aeth Lea i'w gyfarfod a dweud, "Gyda mi yr wyt i gysgu, oherwydd yr wyf wedi talu am dy gael â mandragorau fy mab." Felly cysgodd gyda hi y noson honno.
30:17  A gwrandawodd Duw ar Lea, a beichiogodd ac esgor ar y pumed mab i Jacob.
30:18  Dywedodd Lea, "Y mae Duw wedi rhoi fy nhâl am imi roi fy morwyn i'm gŵr." Felly galwodd ef Issachar.
30:19  Beichiogodd Lea eto, ac esgor ar y chweched mab i Jacob.
30:20  Yna dywedodd Lea, "Y mae Duw wedi rhoi imi waddol da; yn awr, bydd fy ngŵr yn fy mharchu, am imi esgor ar chwech o feibion iddo." Felly galwodd ef Sabulon.
30:21  Wedi hynny esgorodd ar ferch, a galwodd hi Dina.
30:22  A chofiodd Duw Rachel, a gwrandawodd arni ac agor ei chroth.
30:23  Beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a dywedodd, "Y mae Duw wedi tynnu ymaith fy ngwarth."
30:24  A galwodd ef Joseff, gan ddweud, "Bydded i'r ARGLWYDD ychwanegu i mi fab arall."

Tâl Laban i Jacob

30:25  Wedi i Rachel esgor ar Joseff, dywedodd Jacob wrth Laban, "Gad imi ymadael, er mwyn imi fynd i'm cartref fy hun ac i'm gwlad.
30:26  Rho imi fy ngwragedd a'm plant yr wyf wedi gweithio amdanynt, a gad imi fynd; oherwydd gwyddost fel yr wyf wedi gweithio iti."
30:27  Ond dywedodd Laban wrtho, "Os caf ddweud, yr wyf wedi dod i weld mai o'th achos di y mae'r ARGLWYDD wedi fy mendithio i;
30:28  noda dy gyflog, ac fe'i talaf."
30:29  Atebodd yntau, "Gwyddost sut yr wyf wedi gweithio iti, a sut y bu ar dy anifeiliaid gyda mi;
30:30  ychydig oedd gennyt cyn i mi ddod, ond cynyddodd yn helaeth, a ben-dithiodd yr ARGLWYDD di bob cam. Yn awr, onid yw'n bryd i mi ddarparu ar gyfer fy nheulu fy hun?"
30:31  Dywedodd Laban, "Beth a rof i ti?" Atebodd Jacob, "Nid wyt i roi dim i mi. Ond fe fugeiliaf dy braidd eto a'u gwylio, os gwnei hyn imi:
30:32  gad imi fynd heddiw trwy dy holl braidd a didoli pob dafad frith a broc a phob oen du, a'r geifr brith a broc; a'r rhain fydd fy nghyflog.
30:33  A chei dystiolaeth i'm gonestrwydd yn y dyfodol pan ddoi i weld fy nghyflog. Pob un o'r geifr nad yw'n frith a broc, ac o'r ŵyn nad yw'n ddu, bydd hwnnw wedi ei ladrata gennyf."
30:34  "o'r gorau," meddai Laban, "bydded yn ôl dy air."
30:35  Ond y diwrnod hwnnw didolodd Laban y bychod brith a broc, a'r holl eifr brith a broc, pob un â gwyn arno, a phob oen du, a'u rhoi yng ngofal ei feibion,
30:36  a'u gosod bellter taith tridiau oddi wrth Jacob; a bugeiliodd Jacob y gweddill o braidd Laban.
30:37  Yna cymerodd Jacob wiail gleision o boplys ac almon a ffawydd, a thynnu oddi arnynt ddarnau o'r rhisgl, gan ddangos gwyn ar y gwiail.
30:38  Gosododd y gwiail yr oedd wedi eu rhisglo yn y ffosydd o flaen y praidd, wrth y cafnau dŵr lle byddai'r praidd yn dod i yfed. Gan eu bod yn beichiogi pan fyddent yn dod i yfed,
30:39  beichiogodd y praidd gyferbyn â'r gwiail, a bwrw ŵyn wedi eu marcio'n frith a broc.
30:40  Byddai Jacob yn didol yr ŵyn, ond yn troi wynebau'r defaid tuag at y rhai brith a'r holl rai duon ymysg praidd Laban; gosodai ei braidd ei hun ar wahân, heb fod gyda phraidd Laban.
30:41  Bob tro yr oedd y defaid cryfaf yn beichiogi, yr oedd Jacob yn gosod y gwiail yn y ffosydd gyferbyn â'r praidd, er mwyn iddynt feichiogi o flaen y gwiail,
30:42  ond nid oedd yn eu gosod ar gyfer defaid gwan y praidd; felly daeth y gwannaf yn eiddo Laban, a'r cryfaf yn eiddo Jacob.
30:43  Fel hyn cynyddodd ei gyfoeth ef yn fawr, ac yr oedd ganddo breiddiau niferus, morynion a gweision, camelod ac asynnod.

Jacob yn Ffoi oddi wrth Laban

31:1  Clywodd Jacob fod meibion Laban yn dweud, "Y mae Jacob wedi cymryd holl eiddo ein tad, ac o'r hyn oedd yn perthyn i'n tad y mae ef wedi ennill yr holl gyfoeth hwn."
31:2  A gwelodd Jacob nad oedd agwedd Laban ato fel y bu o'r blaen.
31:3  Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Jacob, "Dos yn ôl i wlad dy dadau ac at dy dylwyth, a byddaf gyda thi."
31:4  Felly anfonodd Jacob a galw Rachel a Lea i'r maes lle'r oedd ei braidd;
31:5  a dywedodd wrthynt, "Gwelaf nad yw agwedd eich tad ataf fel y bu o'r blaen, ond bu Duw fy nhad gyda mi.
31:6  Gwyddoch fy mod wedi gweithio i'ch tad â'm holl egni;
31:7  ond twyllodd eich tad fi, a newid fy nghyflog ddengwaith; eto ni adawodd Duw iddo fy niweidio.
31:8  Pan ddywedai ef, 'Y brithion fydd dy gyflog', yna yr oedd yr holl braidd yn epilio ar frithion; a phan ddywedai ef, 'Y broc fydd dy gyflog', yna yr oedd yr holl braidd yn epilio ar rai broc.
31:9  Felly cymerodd Duw anifeiliaid eich tad a'u rhoi i mi.
31:10  Yn nhymor beichiogi'r praidd codais fy ngolwg a gweld mewn breuddwyd fod yr hyrddod oedd yn llamu'r praidd wedi eu marcio'n frith a broc.
31:11  Yna dywedodd angel Duw wrthyf yn fy mreuddwyd, 'Jacob.' Atebais innau, 'Dyma fi.'
31:12  Yna dywedodd, 'Cod dy olwg ac edrych; y mae'r holl hyrddod sy'n llamu'r praidd wedi eu marcio'n frith a broc; yr wyf wedi gweld popeth y mae Laban yn ei wneud i ti.
31:13  Myfi yw Duw Bethel, lle'r eneiniaist golofn a gwneud adduned i mi. Yn awr cod, dos o'r wlad hon a dychwel i wlad dy enedigaeth.'"
31:14  Yna atebodd Rachel a Lea ef, "A oes i ni bellach ran neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad?
31:15  Onid ydym ni'n cael ein cyfrif ganddo yn estroniaid? Oherwydd y mae wedi'n gwerthu, ac wedi gwario'r arian.
31:16  Yr holl gyfoeth y mae Duw wedi ei gymryd oddi ar ein tad, ein heiddo ni a'n plant ydyw; yn awr, felly, gwna bopeth a ddywedodd Duw wrthyt."
31:17  Yna cododd Jacob a gosod ei blant a'i wragedd ar gamelod;
31:18  a thywysodd ei holl anifeiliaid a'i holl eiddo, a gafodd yn Padan Aram, i fynd i wlad Canaan at ei dad Isaac.
31:19  Yr oedd Laban wedi mynd i gneifio'i ddefaid, a lladrataodd Rachel ddelwau'r teulu oedd yn perthyn i'w thad.
31:20  Felly bu i Jacob dwyllo Laban yr Aramead trwy ffoi heb ddweud wrtho.
31:21  Ffodd gyda'i holl eiddo, a chroesi'r Ewffrates, a mynd i gyfeiriad mynydd-dir Gilead.

Laban yn Ymlid Jacob

31:22  Ymhen tridiau rhoed gwybod i Laban fod Jacob wedi ffoi.
31:23  Cymerodd yntau ei berthnasau gydag ef, a'i ymlid am saith diwrnod a'i ganlyn hyd fynydd-dir Gilead.
31:24  Ond daeth Duw at Laban yr Aramead mewn breuddwyd nos, a dweud wrtho, "Gofala na ddywedi air wrth Jacob, na da na drwg."
31:25  Pan oddiweddodd Laban Jacob, yr oedd Jacob wedi lledu ei babell yn y mynydd-dir; ac felly, gwersyllodd Laban gyda'i frodyr ym mynydd-dir Gilead.
31:26  A dywedodd Laban wrth Jacob, "Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud? Yr wyt wedi fy nhwyllo, a dwyn ymaith fy merched fel caethion rhyfel.
31:27  Pam y ffoaist yn ddirgel a'm twyllo? Pam na roist wybod i mi, er mwyn imi gael dy hebrwng yn llawen â chaniadau a thympan a thelyn?
31:28  Ni adewaist imi gusanu fy meibion a'm merched; yr wyt wedi gwneud peth ffôl.
31:29  Gallwn wneud niwed i chwi, ond llefarodd Duw dy dad wrthyf neithiwr, a dweud, 'Gofala na ddywedi air wrth Jacob, na da na drwg.'
31:30  Diau mai am iti hiraethu am dŷ dy dad yr aethost ymaith, ond pam y lladrateaist fy nuwiau?"
31:31  Yna atebodd Jacob Laban, "Ffoais am fod arnaf ofn, gan imi feddwl y byddit yn dwyn dy ferched oddi arnaf trwy drais.
31:32  Ond y sawl sy'n cadw dy dduwiau, na chaffed fyw! Yng ngŵydd ein brodyr myn wybod beth o'th eiddo sydd gyda mi, a chymer ef." Ni wyddai Jacob mai Rachel oedd wedi eu lladrata.
31:33  Felly aeth Laban i mewn i babell Jacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy forwyn, ond heb gael y duwiau. Daeth allan o babell Lea a mynd i mewn i babell Rachel.
31:34  Yr oedd Rachel wedi cymryd delwau'r teulu a'u gosod yng nghyfrwy'r camel, ac yr oedd yn eistedd arnynt. Chwiliodd Laban trwy'r babell heb eu cael.
31:35  A dywedodd Rachel wrth ei thad, "Peidied f'arglwydd â digio am na fedraf godi o'th flaen, oherwydd y mae arfer gwragedd arnaf." Er iddo chwilio, ni chafodd hyd i ddelwau'r teulu.
31:36  Yna digiodd Jacob ac edliw i Laban, a dweud wrtho, "Beth yw fy nhrosedd? Beth yw fy mhechod, dy fod wedi fy erlid?
31:37  Er iti chwilio fy holl eiddo, beth a gefaist sy'n perthyn i ti? Gosod ef yma yng ngŵydd fy mrodyr i a'th frodyr dithau, er mwyn iddynt farnu rhyngom ein dau.
31:38  Yr wyf bellach wedi bod ugain mlynedd gyda thi; nid yw dy ddefaid na'th eifr wedi erthylu, ac nid wyf wedi bwyta hyrddod dy braidd.
31:39  Pan fyddai anifail wedi ei ysglyfaethu, ni ddygais mohono erioed atat ti, ond derbyniais y golled fy hun; o'm llaw i y gofynnaist iawn am ladrad, prun ai yn y dydd neu yn y nos.
31:40  Dyma sut yr oeddwn i: yr oedd gwres y dydd ac oerni'r nos yn fy llethu, a chiliodd fy nghwsg oddi wrthyf;
31:41  bûm am ugain mlynedd yn dy dŷ; gweithiais iti am bedair blynedd ar ddeg am dy ddwy ferch, ac am chwe blynedd am dy braidd, a newidiaist fy nghyflog ddengwaith.
31:42  Oni bai fod Duw fy nhad, Duw Abraham ac Arswyd Isaac o'm plaid, diau y buasit wedi fy ngyrru i ffwrdd yn waglaw. Gwelodd Duw fy nghystudd a llafur fy nwylo, a neithiwr ceryddodd di."
31:43  Atebodd Laban a dweud wrth Jacob, "Fy merched i yw'r merched, a'm plant i yw'r plant, a'm praidd i yw'r praidd, ac y mae'r cwbl a weli yn eiddo i mi. Ond beth a wnaf heddiw ynghylch fy merched hyn, a'r plant a anwyd iddynt?
31:44  Tyrd, gwnawn gyfamod, ti a minnau; a bydd yn dystiolaeth rhyngom."
31:45  Felly cymerodd Jacob garreg a'i gosod i fyny'n golofn.
31:46  Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, "Casglwch gerrig," a chymerasant gerrig a'u gwneud yn garnedd; a bwytasant yno wrth y garnedd.
31:47  Enwodd Laban hi Jegar-sahadwtha, ond galwodd Jacob hi Galeed.
31:48  Dywedodd Laban, "Y mae'r garnedd hon yn dystiolaeth rhyngom heddiw." Am hynny, enwodd hi Galeed,
31:49  a hefyd Mispa, oherwydd dywedodd, "Gwylied yr ARGLWYDD rhyngom, pan fyddwn o olwg ein gilydd.
31:50)  Os bydd iti gam-drin fy merched, neu gymryd gwragedd heblaw fy merched, heb i neb ohonom ni wybod, y mae Duw yn dyst rhyngom."
31:51  A dywedodd Laban wrth Jacob, "Dyma'r garnedd hon a'r golofn yr wyf wedi ei gosod rhyngom.
31:52  Y mae'r garnedd hon yn dystiolaeth, ac y mae'r golofn hon yn dystiolaeth, na ddof heibio'r garnedd hon atat ti, ac na ddoi dithau heibio'r garnedd hon a'r golofn hon ataf fi, i wneud niwed.
31:53  Boed i Dduw Abraham a Duw Nachor, Duw eu tadau, farnu rhyngom." A thyngodd Jacob lw i Arswyd Isaac, ei dad,
31:54  ac offrymodd Jacob aberth ar y mynydd, a galw ar ei berthnasau i fwyta bara; a bwytasant fara ac aros dros nos ar y mynydd.

Laban a Jacob yn Ymwahanu

31:55  Cododd Laban yn gynnar drannoeth a chusanodd ei blant a'i ferched a'u bendithio; yna aeth ymaith a dychwelyd i'w fro ei hun.
32:1  Aeth Jacob i'w daith, a chyfarfu angylion Duw ag ef;
32:2  a phan welodd hwy, dywedodd Jacob, "Dyma wersyll Duw." Felly enwodd y lle hwnnw Mahanaim.

Jacob yn Paratoi i Gyfarfod ag Esau

32:3  Yna anfonodd Jacob negeswyr o'i flaen at ei frawd Esau i wlad Seir yn nhir Edom,
32:4  a gorchymyn iddynt, "Dywedwch fel hyn wrth f'arglwydd Esau: 'Fel hyn y mae dy was Jacob yn dweud: Bûm yn aros gyda Laban, ac yno y bûm hyd yn awr;
32:5  y mae gennyf ychen, asynnod, defaid, gweision a morynion, ac anfonais i fynegi i'm harglwydd, er mwyn imi gael ffafr yn dy olwg.'"
32:6  Dychwelodd y negeswyr at Jacob a dweud, "Daethom at dy frawd Esau, ac y mae ef yn dod i'th gyfarfod gyda phedwar cant o ddynion."
32:7  Yna daeth ofn mawr ar Jacob, ac yr oedd mewn cyfyngder; rhannodd y bobl oedd gydag ef, a'r defaid, ychen a chamelod, yn ddau wersyll,
32:8  gan feddwl, "Os daw Esau at y naill wersyll a'i daro, yna caiff y llall ddianc."
32:9  A dywedodd Jacob, "O Dduw fy nhadau, Duw Abraham a Duw Isaac, O ARGLWYDD, dywedaist wrthyf, 'Dos yn ôl i'th wlad ac at dy dylwyth, a gwnaf i ti ddaioni.'
32:10  Nid wyf yn deilwng o gwbl o'r holl ymlyniad a'r holl ffyddlondeb a ddangosaist tuag at dy was; oherwydd deuthum dros yr Iorddonen hon heb ddim ond fy ffon, ond yn awr yr wyf yn ddau wersyll.
32:11  Achub fi o law fy mrawd, o law Esau; y mae arnaf ei ofn, rhag iddo ddod a'n lladd, yn famau a phlant.
32:12  Yr wyt ti wedi addo, 'Yn ddiau gwnaf ddaioni i ti, a bydd dy hil fel tywod y môr, sy'n rhy niferus i'w rifo.'"
32:13  Arhosodd yno y noson honno, a chymerodd o'r hyn oedd ganddo anrheg i'w frawd Esau:
32:14  dau gant o eifr ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid ac ugain o hyrddod,
32:15  deg ar hugain o gamelod magu a'u llydnod, deugain o wartheg a deg o deirw, ugain o asennod a deg asyn.
32:16  Rhoes hwy yng ngofal ei weision, bob gyr ar ei phen ei hun, a dywedodd wrth ei weision, "Ewch o'm blaen, a gadewch fwlch rhwng pob gyr a'r nesaf."
32:17  Gorchmynnodd i'r cyntaf, "Pan ddaw fy mrawd Esau i'th gyfarfod a gofyn, 'I bwy yr wyt yn perthyn? I ble'r wyt ti'n mynd? A phwy biau'r rhain sydd dan dy ofal?'
32:18  yna dywed, 'Dy was Jacob biau'r rhain; anfonwyd hwy'n anrheg i'm harglwydd Esau, ac y mae Jacob ei hun yn ein dilyn.'"
32:19  Rhoes yr un gorchymyn i'r ail a'r trydydd, ac i bob un oedd yn canlyn y gyrroedd, a dweud, "Yr un peth a ddywedwch chwithau wrth Esau pan ddewch i'w gyfarfod,
32:20  'Y mae dy was Jacob yn ein dilyn.'" Hyn oedd yn ei feddwl: "Enillaf ei ffafr â'r anrheg sy'n mynd o'm blaen; wedyn, pan ddof i'w gyfarfod, efallai y bydd yn fy nerbyn."
32:21  Felly anfonodd yr anrheg o'i flaen, ond treuliodd ef y noson honno yn y gwersyll.

Jacob yn Ymgodymu yn Penuel

32:22  Yn ystod y noson honno cododd Jacob a chymryd ei ddwy wraig, ei ddwy forwyn a'i un mab ar ddeg, a chroesi rhyd Jabboc.
32:23  Wedi iddo'u cymryd a'u hanfon dros yr afon, anfonodd ei eiddo drosodd hefyd.
32:24  Gadawyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gŵr ag ef hyd doriad y wawr.
32:25  Pan welodd y gŵr nad oedd yn cael y trechaf arno, trawodd wasg ei glun, a datgysylltwyd clun Jacob wrth iddo ymgodymu ag ef.
32:26  Yna dywedodd y gŵr, "Gollwng fi, oherwydd y mae'n gwawrio." Ond atebodd yntau, "Ni'th ollyngaf heb iti fy mendithio."
32:27  "Beth yw d'enw?" meddai ef. Ac atebodd yntau, "Jacob."
32:28  Yna dywedodd, "Ni'th elwir Jacob mwyach, ond Israel, oherwydd yr wyt wedi ymdrechu â Duw a dynion, ac wedi gorchfygu."
32:29  A gofynnodd Jacob iddo, "Dywed imi dy enw." Ond dywedodd yntau, "Pam yr wyt yn gofyn fy enw?" A bendithiodd ef yno.
32:30  Felly enwodd Jacob y lle Penuel, a dweud, "Gwelais Dduw wyneb yn wyneb, ond arbedwyd fy mywyd."
32:31  Cododd yr haul arno fel yr oedd yn mynd heibio i Penuel, ac yr oedd yn gloff o'i glun.
32:32  Dyna pam nad yw plant Israel yn bwyta giewyn gwasg y glun hyd heddiw, oherwydd trawo gwasg clun Jacob i fyw y giewyn.

Jacob ac Esau yn Cyfarfod

33:1  Cododd Jacob ei olwg ac edrych, a dyna lle'r oedd Esau yn dod, a phedwar cant o ddynion gydag ef. Rhannodd Jacob y plant rhwng Lea a Rachel a'r ddwy forwyn,
33:2  a gosododd y morynion a'u plant ar y blaen, yna Lea a'i phlant y tu ôl iddynt, a Rachel a Joseff yn olaf.
33:3  Cerddodd yntau o'u blaen ac ymgrymu i'r llawr seithwaith wrth nesáu at ei frawd.
33:4  Ond rhedodd Esau i'w gyfarfod, a'i gofleidio a rhoi ei freichiau am ei wddf a'i gusanu, ac wylodd y ddau.
33:5  Yna cododd Esau ei olwg a gweld y gwragedd a'r plant, a gofynnodd, "Pwy yw'r rhain sydd gyda thi?" Atebodd yntau, "Dyma'r plant y mae Duw o'i ffafr wedi eu rhoi i'th was."
33:6  Yna nesaodd y morynion a'u plant, ac ymgrymu;
33:7  nesaodd Lea hefyd a'i phlant, ac ymgrymu; ac yn olaf daeth Joseff a Rachel, ac ymgrymu.
33:8  Dywedodd Esau, "Beth a fwriedi gyda'r holl fintai hon a gyfarfûm?" Atebodd yntau, "Ennill ffafr yng ngolwg f'arglwydd."
33:9  Ond dywedodd Esau, "Y mae gennyf ddigon, fy mrawd; cadw'r hyn sydd gennyt i ti dy hun."
33:10  Yna dywedodd Jacob, "Na, os cefais ffafr yn d'olwg, cymer fy anrheg o'm llaw; y mae gweld dy wyneb fel gweld wyneb Duw, gan dy fod wedi fy nerbyn.
33:11  Cymer yn awr fy rhodd a ddygwyd i ti, oherwydd bu Duw yn raslon i mi, ac y mae gennyf ddigon." Ac am ei fod yn erfyn arno, cymerodd yntau'r rhodd.
33:12  Yna dywedodd Esau, "Cychwynnwn ar ein taith, ac af finnau o'th flaen."
33:13  Ond dywedodd Jacob wrtho, "Y mae f'arglwydd yn gwybod fod y plant yn eiddil, a bod y defaid a'r gwartheg magu yn fy ngofal. Os cânt eu gyrru yn rhy galed un diwrnod, bydd yr holl braidd farw.
33:14  Aed f'arglwydd o flaen ei was, a dilynaf finnau'n araf, yn ôl gallu'r anifeiliaid sydd o'm blaen a'r plant, nes dod at f'arglwydd i Seir."
33:15  A dywedodd Esau, "Gad imi drefnu i rai o'm dynion fynd gyda thi." Ond atebodd yntau, "Pam, os wyf yn cael ffafr yng ngolwg f'arglwydd?"
33:16  Yna dychwelodd Esau y diwrnod hwnnw ar ei ffordd i Seir.
33:17  A theithiodd Jacob i Succoth, ac adeiladodd dŷ iddo'i hun a gwneud cytiau i'w anifeiliaid; am hynny enwodd y lle Succoth.
33:18  Ar ei daith o Padan Aram, daeth Jacob yn ddiogel i ddinas Sichem yng ngwlad Canaan, a gwersyllodd ger y ddinas.
33:19  Prynodd ddarn o dir gan feibion Hamor tad Sichem, am gant o ddarnau arian,
33:20  ac wedi gosod ei babell yno, cododd allor a'i henwi El-elohe-israel.

Sichem yn Treisio Dina

34:1  Aeth Dina, y ferch yr oedd Lea wedi ei geni i Jacob, allan i ymweld â gwragedd y wlad.
34:2  Pan welwyd hi gan Sichem fab Hamor yr Hefiad, tywysog y wlad, fe'i cymerodd a gorwedd gyda hi a'i threisio.
34:3  Rhoddodd ei holl serch ar Dina merch Jacob; hoffodd y ferch, a siaradodd yn gariadus wrthi.
34:4  Yna dywedodd Sichem wrth ei dad Hamor, "Cymer y ferch hon yn wraig i mi."
34:5  Pan glywodd Jacob iddo halogi ei ferch Dina, yr oedd ei feibion gyda'i anifeiliaid yn y maes; ac felly ni ddywedodd ddim cyn iddynt ddod adref.
34:6  Yna daeth Hamor tad Sichem allan i siarad â Jacob.
34:7  Wedi i feibion Jacob gyrraedd o'r maes a chlywed am y peth, cynhyrfodd y gwŷr a ffromi'n fawr am i Sichem wneud tro ysgeler yn Israel trwy orwedd gyda merch Jacob, gan na ddylid gwneud felly.
34:8  Ond erfyniodd Hamor arnynt, a dweud, "Y mae fy mab Sichem wedi rhoi ei fryd ar gael y ferch; rhowch hi'n wraig iddo.
34:9  Trefnwch briodasau â ni; rhowch eich merched i ni, a chymerwch chwithau ein merched ninnau.
34:10  Dewch i gyd-fyw â ni, a bydd y wlad yn rhydd ichwi; dewch i fyw ynddi, a marchnata a cheisio meddiant ynddi."
34:11  Dywedodd Sichem hefyd wrth ei thad a'i brodyr, "Os caf ffafr yn eich golwg, yna rhof ichwi beth bynnag a ofynnwch gennyf.
34:12  Cynyddwch yn sylweddol y gwaddol a'r rhodd, ac fe rof yn ôl eich gofyn, dim ond ichwi roi'r ferch yn wraig i mi."
34:13  Am i'w chwaer Dina gael ei halogi, rhoddodd meibion Jacob ateb dichellgar i Sichem a'i dad Hamor.
34:14  Dywedasant wrthynt, "Ni allwn wneud y fath beth, a rhoi ein chwaer i ŵr heb ei enwaedu; byddai hynny'n warth i ni.
34:15  Ar yr amod hwn yn unig y cytunwn â chwi, sef eich bod chwi, fel ni, yn enwaedu pob gwryw.
34:16  Yna rhown ein merched i chwi, a chymerwn ninnau eich merched chwithau; a down i fyw gyda chwi a dod yn un bobl.
34:17  Os na wrandewch arnom a chymryd eich enwaedu, yna cymerwn ein merch a mynd ymaith."
34:18  Yr oedd eu geiriau'n dderbyniol gan Hamor a Sichem ei fab;
34:19  nid oedodd y llanc wneud hyn, oherwydd yr oedd wedi rhoi ei serch ar ferch Jacob, ac ef oedd y mwyaf anrhydeddus o'i holl deulu.
34:20  A daeth Hamor a'i fab Sichem at borth y ddinas a llefaru wrth wŷr y ddinas a dweud,
34:21  "Y mae'r gwŷr hyn yn gyfeillgar â ni; gadewch iddynt fyw yn y wlad a marchnata ynddi, oherwydd y mae'r wlad yn ddigon eang iddynt; cymerwn eu merched yn wragedd, a rhown ninnau ein merched iddynt hwythau.
34:22  Ond ar yr amod hwn yn unig y cytuna'r gwŷr i fyw gyda ni a bod yn un bobl: sef ein bod yn enwaedu pob gwryw yn ein plith, fel y maent hwy wedi eu henwaedu.
34:23  Oni fydd eu gwartheg a'u meddiannau a'u holl anifeiliaid yn eiddo i ni? Gadewch inni gytuno â hwy fel y gallant gyd-fyw â ni."
34:24  Gwrandawodd pob un oedd yn mynd trwy borth y ddinas ar Hamor a'i fab Sichem, ac enwaedwyd pob gwryw yn y ddinas.
34:25  Ar y trydydd dydd, pan oedd y dynion yn ddolurus, cymerodd dau o feibion Jacob, sef Simeon a Lefi brodyr Dina, eu cleddyfau a mynd yn rhwydd i mewn i'r ddinas a lladd pob gwryw.
34:26  Lladdasant Hamor a'i fab Sichem â min y cleddyf, a chymryd Dina o dŷ Sichem a mynd ymaith.
34:27  Rheibiodd meibion Jacob y lladdedigion, ac ysbeilio'r ddinas, am iddynt halogi eu chwaer.
34:28  Cymerasant y defaid a'r ychen a'r asynnod, a phob peth oedd yn y ddinas ac yn y maes;
34:29  cipiasant eu holl gyfoeth, a'r plant bychain a'r gwragedd, ac ysbeilio pob dim oedd yn y tai.
34:30  Yna dywedodd Jacob wrth Simeon a Lefi, "Yr ydych wedi dwyn helbul ar fy mhen a'm gwneud yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, y Canaaneaid a'r Peresiaid; y mae nifer fy mhobl yn fach, ac os ymgasglant yn fy erbyn ac ymosod arnaf, yna difethir fi a'm teulu."
34:31  Ond dywedasant hwythau, "A oedd i gael trin ein chwaer fel putain?"

Duw'n Bendithio Jacob ym Methel

35:1  Dywedodd Duw wrth Jacob, "Cod, dos i fyny i Fethel, ac aros yno; a gwna yno allor i'r Duw a ymddangosodd iti pan oeddit yn ffoi rhag dy frawd Esau."
35:2  Yna dywedodd Jacob wrth ei deulu a phawb oedd gydag ef, "Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, ac ymlanhau, a newid eich dillad.
35:3  Codwn ac awn i fyny i Fethel, er mwyn imi wneud allor yno i'r Duw a'm gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda mi ar fy nhaith."
35:4  Felly rhoesant i Jacob yr holl dduwiau dieithr oedd yn eu meddiant a'r modrwyau oedd yn eu clustiau, a chuddiodd Jacob hwy dan y dderwen ger Sichem.
35:5  Fel yr oeddent yn teithio, daeth arswyd mawr ar y dinasoedd o amgylch, fel na fu iddynt ymlid meibion Jacob.
35:6  A daeth Jacob a'r holl bobl oedd gydag ef i Lus, hynny yw Bethel, yng ngwlad Canaan,
35:7  ac adeiladodd allor yno, ac enwi'r lle El-bethel, am mai yno yr ymddangosodd Duw iddo pan oedd yn ffoi rhag ei frawd.
35:8  A bu farw Debora, mamaeth Rebeca, a chladdwyd hi dan dderwen islaw Bethel; ac enwyd honno Alon-bacuth.
35:9  Ymddangosodd Duw eto i Jacob, ar ôl iddo ddod o Padan Aram, a'i fendithio.
35:10  Dywedodd Duw wrtho, "Jacob yw dy enw, ond nid Jacob y gelwir di o hyn allan; Israel fydd dy enw." Ac enwyd ef Israel.
35:11  A dywedodd Duw wrtho, "Myfi yw Duw Hollalluog. Bydd ffrwythlon ac amlha; daw ohonot genedl a chynulliad o genhedloedd, a daw brenhinoedd o'th lwynau.
35:12  Rhof i ti y wlad a roddais i Abraham ac Isaac, a bydd y wlad i'th hil ar dy ôl."
35:13  Yna aeth Duw i fyny o'r man lle bu'n llefaru wrtho.
35:14  A gosododd Jacob golofn, sef colofn garreg, yn y lle y llefarodd wrtho; tywalltodd arni ddiodoffrwm, ac arllwys olew arni.
35:15  Felly enwodd Jacob y lle y llefarodd Duw wrtho, Bethel.

Rachel yn Marw wrth Esgor

35:16  Yna aethant o Fethel. Pan oedd eto beth ffordd o Effrath, esgorodd Rachel, a bu'n galed arni wrth esgor.
35:17  A phan oedd yn ei gwewyr, dywedodd y fydwraig wrthi, "Paid ag ofni, oherwydd mab arall sydd gennyt."
35:18  Ac fel yr oedd yn gwanychu wrth farw, rhoes iddo'r enw Ben-oni; ond galwodd ei dad ef Benjamin.
35:19  Yna bu farw Rachel, a chladdwyd hi ar y ffordd i Effrath, hynny yw Bethlehem,
35:20  a gosododd Jacob golofn ar ei bedd; hon yw colofn bedd Rachel, sydd yno hyd heddiw.
35:21  Teithiodd Israel yn ei flaen, a gosod ei babell y tu draw i Migdal-eder.
35:22  Tra oedd Israel yn byw yn y wlad honno, aeth Reuben a gorwedd gyda Bilha gwraig ordderch ei dad; a chlywodd Israel am hyn.

Meibion Jacob, 1 Cron. 2:1-2

Yr oedd deuddeg o feibion gan Jacob.
35:23  Meibion Lea: Reuben cyntafanedig Jacob, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.
35:24  Meibion Rachel: Joseff a Benjamin.
35:25  Meibion Bilha morwyn Rachel: Dan a Nafftali.
35:26  Meibion Silpa morwyn Lea: Gad ac Aser. Dyma'r meibion a anwyd iddo yn Padan Aram.

Marw Isaac

35:27  Daeth Jacob at ei dad Isaac i Mamre, neu Ciriath-arba, hynny yw Hebron, lle bu Abraham ac Isaac yn aros dros dro.
35:28  Cant a phedwar ugain oedd oed Isaac.
35:29  Yna anadlodd Isaac ei anadl olaf, a bu farw, a'i gasglu at ei bobl yn hen ac oedrannus. Claddwyd ef gan ei feibion Esau a Jacob.

Disgynyddion Esau 1 Cron. 1:34-37

36:1  Dyma genedlaethau Esau, hynny yw Edom.
36:2  Priododd Esau wragedd o blith merched Canaan, sef Ada merch Elon yr Hethiad, Oholibama merch Ana fab Sibeon yr Hefiad,
36:3  a Basemath merch Ismael a chwaer Nebaioth.
36:4  Ac i Esau esgorodd Ada ar Eliffas; esgorodd Basemath ar Reuel;
36:5  ac esgorodd Oholibama ar Jeus, Jalam a Cora. Dyma feibion Esau a anwyd iddo yng ngwlad Canaan.
36:6  Cymerodd Esau ei wragedd, ei feibion a'i ferched, a phob aelod o'i deulu, ei wartheg a'i holl anifeiliaid, a'r holl feddiant a gafodd yng ngwlad Canaan, ac aeth draw i wlad Seir oddi wrth ei frawd Jacob.
36:7  Yr oedd eu cyfoeth mor fawr fel na allent gyd-fyw, ac ni allai'r wlad lle'r oeddent yn byw eu cynnal o achos eu hanifeiliaid.
36:8  Felly arhosodd Esau, hynny yw Edom, ym mynydd-dir Seir.
36:9  Dyma genedlaethau Esau, tad yr Edomiaid ym mynydd-dir Seir.
36:10  Dyma enwau meibion Esau: Eliffas fab Ada gwraig Esau, Reuel fab Basemath gwraig Esau.
36:11  A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, Gatam a Cenas.
36:12  Yr oedd Timna yn wraig ordderch i Eliffas fab Esau, ac i Eliffas esgorodd ar Amalec. Dyna ddisgynyddion Ada gwraig Esau.
36:13  Meibion Reuel oedd Nahath, Sera, Samma a Missa. Dyna ddisgynyddion Basemath gwraig Esau.
36:14  Dyma feibion Oholibama, merch Ana fab Sibeon, gwraig Esau: i Esau esgorodd ar Jeus, Jalam a Cora.
36:15  Dyma benaethiaid disgynyddion Esau: meibion Eliffas, mab hynaf Esau, y penaethiaid Teman, Omar, Seffo, Cenas,
36:16  Cora, Gatam ac Amalec. Dyna benaethiaid Eliffas yng ngwlad Edom; meibion Ada oeddent.
36:17  Yna meibion Reuel fab Esau: y penaethiaid Nahath, Sera, Samma a Missa. Dyna benaethiaid Reuel yng ngwlad Edom; meibion Basemath gwraig Esau oeddent.
36:18  Yna meibion Oholibama gwraig Esau: y penaethiaid Jeus, Jalam a Cora. Dyna'r penaethiaid a anwyd i Oholibama merch Ana, gwraig Esau.
36:19  Dyna ddisgynyddion Esau, hynny yw Edom, a dyna'u penaethiaid.

Disgynyddion Seir 1 Cron. 1:38-42

36:20  Dyma feibion Seir yr Horiad, preswylwyr y wlad: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana,
36:21  Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid, meibion Seir yng ngwlad Edom.
36:22  Hori a Hemam oedd meibion Lotan, a Timna oedd ei chwaer.
36:23  Dyma feibion Sobal: Alfan, Manahath, Ebal, Seffo ac Onam.
36:24  Dyma feibion Sibeon: Aia ac Ana. Hwn yw'r Ana a ddaeth o hyd i ddŵr yn y diffeithwch wrth wylio asynnod ei dad Sibeon.
36:25  Dyma blant Ana: Dison ac Oholibama ferch Ana.
36:26  Dyma feibion Dison: Hemdan, Esban, Ithran a Ceran.
36:27  Dyma feibion Eser: Bilhan, Saafan ac Acan.
36:28  Dyma feibion Disan: Us ac Aran.
36:29  Dyma benaethiaid yr Horiaid: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana,
36:30  Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid yn ôl eu tylwythau yng ngwlad Seir.

Brenhinoedd Edom

36:31  Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom, cyn i'r Israeliaid gael brenin.
36:32  Teyrnasodd Bela fab Beor yn Edom, a Dinhaba oedd enw ei ddinas.
36:33  Pan fu farw Bela, teyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le.
36:34  Pan fu farw Jobab, teyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le.
36:35  Pan fu farw Husam, teyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le, ac ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab; Afith oedd enw ei ddinas.
36:36  Pan fu farw Hadad, teyrnasodd Samla o Masreca yn ei le.
36:37  Pan fu farw Samla, teyrnasodd Saul o Rehoboth-ger-Ewffrates yn ei le.
36:38  Pan fu farw Saul, teyrnasodd Baal-hanan fab Achbor yn ei le.
36:39  Pan fu farw Baal-hanan fab Achbor, teyrnasodd Hadar yn ei le; Pau oedd enw ei ddinas. Mehetabel merch Matred, merch Mesahab, oedd enw ei wraig.
36:40  Dyma enwau penaethiaid Esau, yn ôl eu llwythau a'u hardaloedd, wrth eu henwau: Timna, Alfa, Jetheth,
36:41  Oholibama, Ela, Pinon,
36:42  Cenas, Teman, Mibsar,
36:43  Magdiel ac Iram. Dyna benaethiaid Edom, hynny yw Esau tad yr Edomiaid, yn ôl lle'r oeddent yn byw yn y wlad yr oeddent yn ei meddiannu.

Joseff a'i Freuddwydion

37:1  Preswyliodd Jacob yng ngwlad Canaan, y wlad yr ymdeithiodd ei dad ynddi.
37:2  Dyma hanes tylwyth Jacob. Yr oedd Joseff yn ddwy ar bymtheg oed, ac yn bugeilio'r praidd gyda'i frodyr, gan helpu meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad; a chariodd Joseff straeon drwg amdanynt i'w tad.
37:3  Yr oedd Israel yn caru Joseff yn fwy na'i holl blant, gan mai mab ei henaint ydoedd; a gwnaeth wisg laes iddo.
37:4  Pan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu yn fwy na'r un ohonynt, rhoesant eu cas arno fel na fedrent ddweud gair caredig wrtho.
37:5  Cafodd Joseff freuddwyd, a phan ddywedodd wrth ei frodyr amdani, aethant i'w gasáu yn fwy fyth.
37:6  Dywedodd wrthynt, "Gwrandewch, dyma'r freuddwyd a gefais:
37:7  yr oeddem yn rhwymo ysgubau yn y maes, a dyma f'ysgub i yn codi ar ei sefyll, a daeth eich ysgubau chwi yn gylch o'i chwmpas ac ymgrymu i'm hysgub i."
37:8  Yna gofynnodd ei frodyr iddo, "Ai ti sydd i deyrnasu arnom? A fyddi di'n arglwydd arnom ni?" Ac aethant i'w gasáu ef yn fwy eto o achos ei freuddwydion a'i eiriau.
37:9  Yna cafodd freuddwyd arall, ac adroddodd amdani wrth ei frodyr a dweud, "Cefais freuddwyd arall: dyna lle'r oedd yr haul a'r lleuad ac un seren ar ddeg yn ymgrymu i mi."
37:10  Wedi iddo ei hadrodd wrth ei dad a'i frodyr, ceryddodd ei dad ef, a dweud, "Beth yw'r freuddwyd hon a gefaist? A ddown ni, myfi a'th fam a'th frodyr, i ymgrymu i'r llawr i ti?"
37:11  A chenfigennodd ei frodyr wrtho, ond cadwodd ei dad y peth yn ei gof.

Gwerthu Joseff a'i Gymryd i'r Aifft

37:12  Yr oedd ei frodyr wedi mynd i fugeilio praidd eu tad ger Sichem.
37:13  A dywedodd Israel wrth Joseff, "Onid yw dy frodyr yn bugeilio ger Sichem? Tyrd, fe'th anfonaf di atynt." Atebodd yntau, "o'r gorau."
37:14  Yna dywedodd wrtho, "Dos i weld sut y mae dy frodyr a'r praidd, a thyrd â gair yn ôl i mi." Felly anfonodd ef o ddyffryn Hebron, ac aeth tua Sichem.
37:15  Cyfarfu gŵr ag ef pan oedd yn crwydro yn y fro, a gofyn iddo, "Beth wyt ti'n ei geisio?"
37:16  Atebodd yntau, "Rwy'n ceisio fy mrodyr; dywed wrthyf ble maent yn bugeilio."
37:17  A dywedodd y gŵr, "Y maent wedi mynd oddi yma, oherwydd clywais hwy'n dweud, 'Awn i Dothan.'" Felly aeth Joseff ar ôl ei frodyr, a chafodd hyd iddynt yn Dothan.
37:18  Gwelsant ef o bell, a chyn iddo gyrraedd atynt gwnaethant gynllwyn i'w ladd,
37:19  a dweud wrth ei gilydd, "Dacw'r breuddwydiwr hwnnw'n dod.
37:20  Dewch, gadewch inni ei ladd a'i daflu i ryw bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ddifa; yna cawn weld beth a ddaw o'i freuddwydion."
37:21  Ond pan glywodd Reuben, achubodd ef o'u gafael a dweud, "Peidiwn â'i ladd."
37:22  Dywedodd Reuben wrthynt, "Peidiwch â thywallt gwaed; taflwch ef i'r pydew hwn sydd yn y diffeithwch, ond peidiwch â gwneud niwed iddo." Dywedodd hyn er mwyn ei achub o'u gafael a'i ddwyn yn ôl at ei dad.
37:23  A phan ddaeth Joseff at ei frodyr, tynasant ei wisg oddi arno, y wisg laes yr oedd yn ei gwisgo,
37:24  a'i gymryd a'i daflu i'r pydew. Yr oedd y pydew yn wag, heb ddŵr ynddo.
37:25  Tra oeddent yn eistedd i fwyta, codasant eu golwg a gweld cwmni o Ismaeliaid yn dod ar eu taith o Gilead, a'u camelod yn dwyn glud pêr, balm a myrr, i'w cludo i lawr i'r Aifft.
37:26  A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, "Faint gwell fyddwn o ladd ein brawd a chelu ei waed?
37:27  Dewch, gadewch inni ei werthu i'r Ismaeliaid; peidiwn â gwneud niwed iddo, oherwydd ein brawd ni a'n cnawd ydyw." Cytunodd ei frodyr.
37:28  Yna, pan ddaeth marchnatwyr o Midian heibio, codasant Joseff o'r pydew, a'i werthu i'r Ismaeliaid am ugain sicl o arian. Aethant hwythau â Joseff i'r Aifft.
37:29  Pan aeth Reuben yn ôl at y pydew a gweld nad oedd Joseff ynddo, rhwygodd ei ddillad
37:30  a mynd at ei frodyr a dweud, "Nid yw'r bachgen yno; a minnau, i ble'r af?"
37:31  Cymerasant wisg Joseff, a lladd gafr, a throchi'r wisg yn y gwaed.
37:32  Yna aethant â'r wisg laes yn ôl at eu tad, a dweud, "Daethom o hyd i hon; edrych di ai gwisg dy fab ydyw."
37:33  Fe'i hadnabu a dywedodd, "Gwisg fy mab yw hi; anifail gwyllt sydd wedi ei ddifa. Yn wir, y mae Joseff wedi ei larpio."
37:34  Yna rhwygodd Jacob ei ddillad a gwisgo sachliain am ei lwynau, a galarodd am ei fab am amser hir.
37:35  A daeth pob un o'i feibion a'i ferched i'w gysuro, ond gwrthododd dderbyn cysur, a dywedodd, "Mewn galar yr af finnau i lawr i'r bedd at fy mab." Ac wylodd ei dad amdano.
37:36  Gwerthodd y Midianiaid ef yn yr Aifft i Potiffar, swyddog Pharo, pennaeth y gwarchodwyr.

Jwda a Tamar

38:1  Yr adeg honno gadawodd Jwda ei frodyr a throi at ŵr o Adulam o'r enw Hira.
38:2  Ac yno gwelodd Jwda ferch rhyw Ganaanead o'r enw Sua, a chymerodd hi'n wraig iddo a chafodd gyfathrach â hi;
38:3  beichiogodd hithau ac esgor ar fab, ac enwodd yntau ef yn Er.
38:4  Beichiogodd eilwaith ac esgor ar fab, ac enwodd ef Onan.
38:5  Esgorodd eto ar fab, ac enwodd ef Sela; yn Chesib yr oedd pan esgorodd arno.
38:6  Cymerodd Jwda wraig o'r enw Tamar i Er ei fab hynaf.
38:7  Ond dyn drygionus yng ngolwg yr ARGLWYDD oedd Er, mab hynaf Jwda; a pharodd yr ARGLWYDD iddo farw.
38:8  Yna dywedodd Jwda wrth Onan, "Dos at wraig dy frawd, ac fel brawd ei gŵr cod deulu i'th frawd."
38:9  Ond gwyddai Onan nad ei eiddo ef fyddai'r teulu; ac felly, pan âi at wraig ei frawd, collai ei had ar lawr, rhag rhoi plant i'w frawd.
38:10  Yr oedd yr hyn a wnaeth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, a pharodd iddo yntau farw.
38:11  Yna dywedodd Jwda wrth ei ferch-yng-nghyfraith Tamar, "Aros yn weddw yn nhŷ dy dad nes i'm mab Sela dyfu"; oherwydd yr oedd arno ofn iddo yntau hefyd farw fel ei frodyr. Felly aeth Tamar i fyw yn nhŷ ei thad.
38:12  Ymhen amser, bu farw gwraig Jwda, merch Sua; ac wedi ei dymor galar aeth Jwda a'i gyfaill Hira yr Adulamiad i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid.
38:13  Pan fynegwyd i Tamar fod ei thad-yng-nghyfraith wedi mynd i Timnath i gneifio,
38:14  tynnodd wisg ei gweddwdod oddi amdani, a gwisgo gorchudd a'i lapio amdani. Yna aeth i eistedd wrth borth Enaim ar y ffordd i Timnath; oherwydd yr oedd yn gweld bod Sela wedi dod i oed ac nad oedd hi wedi ei rhoi'n wraig iddo.
38:15  Gwelodd Jwda hi a thybiodd mai putain ydoedd, gan ei bod wedi cuddio'i hwyneb.
38:16  Trodd ati ar y ffordd a dweud, "Tyrd, gad i mi gael cyfathrach â thi." Ond ni wyddai mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi. Atebodd hithau, "Beth a roi di imi, os cei gyfathrach â mi?"
38:17  Dywedodd, "Anfonaf i ti fyn gafr o'r praidd." Atebodd hithau, "A roi di wystl imi nes iti ei anfon?"
38:18  Gofynnodd yntau, "Beth a rof iti'n wystl?" Atebodd hithau, "Dy sêl a'r llinyn, a'th ffon sydd yn dy law." Wedi iddo eu rhoi iddi, cafodd gyfathrach â hi, a beichiogodd hithau.
38:19  Yna, wedi iddi godi a mynd ymaith, tynnodd ei gorchudd a rhoi amdani wisg ei gweddwdod.
38:20  Anfonodd Jwda y myn gafr yng ngofal ei gyfaill yr Adulamiad, er mwyn cael y gwystl yn ôl gan y wraig, ond ni allai ddod o hyd iddi.
38:21  Holodd ddynion y lle a dweud, "Ble mae'r butain y cysegr oedd ar y ffordd yn Enaim?" Ac atebasant, "Nid oes putain y cysegr yma."
38:22  Felly dychwelodd at Jwda a dweud, "Ni chefais hyd iddi; a dywedodd dynion y lle nad oedd putain y cysegr yno."
38:23  Yna dywedodd Jwda, "Bydded iddi eu cadw, neu byddwn yn destun cywilydd; anfonais i y myn hwn, ond methaist gael hyd iddi."
38:24  Ymhen tri mis dywedwyd wrth Jwda, "Bu Tamar dy ferch-yng-nghyfraith yn puteinio, ac y mae wedi beichiogi hefyd mewn godineb." Dywedodd Jwda, "Dewch â hi allan, a llosger hi."
38:25  A phan ddaethant â hi allan, anfonodd at ei thad-yng-nghyfraith i ddweud, "Yr wyf yn feichiog o'r gŵr biau'r rhain." A dywedodd hefyd, "Edrych, yn awr, eiddo pwy yw'r rhain, y sêl a'r llinyn a'r ffon."
38:26  Adnabu Jwda hwy a dywedodd, "Y mae hi'n fwy cyfiawn na mi, oherwydd na rois hi i'm mab Sela." Ni orweddodd gyda hi ar ôl hynny.
38:27  Pan ddaeth yr amser iddi esgor, yr oedd gefeilliaid yn ei chroth,
38:28  ac wrth iddi esgor rhoes un ei law allan; a chymerodd y fydwraig edau goch a'i rhwymo am ei law, a dweud, "Hwn a ddaeth allan yn gyntaf."
38:29  Ond tynnodd ei law yn ôl, a daeth ei frawd allan; a dywedodd hi, "Dyma doriad yr wyt wedi ei wneud i ti dy hun!" Ac enwyd ef Peres.
38:30  Daeth ei frawd allan wedyn â'r edau goch am ei law, ac enwyd ef Sera.

Joseff a Gwraig Potiffar

39:1  Cymerwyd Joseff i lawr i'r Aifft, a phrynwyd ef o law yr Ismaeliaid, a oedd wedi mynd ag ef yno, gan Potiffar, Eifftiwr oedd yn swyddog i Pharo ac yn bennaeth y gwarchodwyr.
39:2  Bu'r ARGLWYDD gyda Joseff, a daeth yn ŵr llwyddiannus. Yr oedd yn byw yn nhŷ ei feistr yr Eifftiwr,
39:3  a gwelodd ei feistr fod yr ARGLWYDD gydag ef, a bod yr ARGLWYDD yn llwyddo popeth yr oedd yn ei wneud.
39:4  Cafodd Joseff ffafr yn ei olwg, a bu'n gweini arno; gwnaeth yntau ef yn arolygydd ar ei dŷ a rhoi ei holl eiddo dan ei ofal.
39:5  Ac o'r amser y gwnaeth ef yn arolygydd ar ei dŷ ac ar ei holl eiddo, bendithiodd yr ARGLWYDD dŷ'r Eifftiwr er mwyn Joseff; yr oedd bendith yr ARGLWYDD ar ei holl eiddo, yn y tŷ ac yn y maes.
39:6  Gadawodd ei holl eiddo yng ngofal Joseff, ac nid oedd gofal arno am ddim ond y bwyd yr oedd yn ei fwyta. Yr oedd Joseff yn olygus a glân,
39:7  ac ymhen amser rhoddodd gwraig ei feistr ei bryd ar Joseff a dweud, "Gorwedd gyda mi."
39:8  Ond gwrthododd, a dweud wrth wraig ei feistr, "Nid oes gofal ar fy meistr am ddim yn y tŷ; y mae wedi rhoi ei holl eiddo yn fy ngofal i.
39:9  Nid oes neb yn fwy na mi yn y tŷ hwn, ac nid yw wedi cadw dim oddi wrthyf ond tydi, am mai ei wraig wyt. Sut felly y gwnawn i y drwg mawr hwn, a phechu yn erbyn Duw?"
39:10  Ac er iddi grefu ar Joseff beunydd, ni wrandawodd arni; ni orweddodd gyda hi na chymdeithasu â hi.
39:11  Ond un diwrnod, pan aeth i'r tŷ ynglŷn â'i waith, heb fod neb o weision y tŷ yno,
39:12  fe'i daliodd ef gerfydd ei wisg, a dweud, "Gorwedd gyda mi." Ond gadawodd ef ei wisg yn ei llaw a ffoi allan.
39:13  Pan welodd hi ei fod wedi gadael ei wisg yn ei llaw, a ffoi allan,
39:14  galwodd ar weision ei thŷ a dweud wrthynt, "Gwelwch, y mae wedi dod â Hebrëwr atom i'n gwaradwyddo; daeth ataf i orwedd gyda mi, a gwaeddais innau yn uchel.
39:15  Pan glywodd fi'n codi fy llais a gweiddi, gadawodd ei wisg yn f'ymyl a ffoi allan."
39:16  Yna cadwodd wisg Joseff yn ei hymyl nes i'w feistr ddod adref,
39:17  ac adroddodd yr un stori wrtho ef, a dweud, "Daeth y gwas o Hebrëwr, a ddygaist i'n plith, i mewn ataf i'm gwaradwyddo;
39:18  ond pan godais fy llais a gweiddi, gadawodd ei wisg yn f'ymyl a ffoi allan."
39:19  Pan glywodd meistr Joseff ei wraig yn dweud wrtho am yr hyn a wnaeth ei was iddi, enynnodd ei lid.
39:20  Cymerodd Joseff a'i roi yn y carchar, lle'r oedd carcharorion y brenin yn gaeth; ac yno y bu yn y carchar.
39:21  Ond yr oedd yr ARGLWYDD gyda Joseff, a bu'n drugarog wrtho a rhoi ffafr iddo yng ngolwg ceidwad y carchar.
39:22  Rhoes ceidwad y carchar yr holl garcharorion yng ngofal Joseff, ac ef fyddai'n gwneud beth bynnag oedd i'w wneud yno.
39:23  Nid oedd ceidwad y carchar yn pryderu am ddim a oedd dan ofal Joseff, am fod yr ARGLWYDD gydag ef ac yn ei lwyddo ym mha beth bynnag y byddai'n ei wneud.

Dehongli Breuddwydion yn y Carchar

40:1  Wedi'r pethau hyn, troseddodd trulliad a phobydd brenin yr Aifft yn erbyn eu meistr, brenin yr Aifft.
40:2  Ffromodd Pharo wrth ei ddau swyddog, y pen-trulliad a'r pen-pobydd,
40:3  a'u rhoi yn y ddalfa yn nhŷ pennaeth y gwarchodwyr, sef y carchar lle'r oedd Joseff yn gaeth.
40:4  Trefnodd pennaeth y gwarchodwyr i Joseff ofalu amdanynt a gweini arnynt. Wedi iddynt fod yn y ddalfa am ysbaid,
40:5  cafodd trulliad a phobydd brenin yr Aifft, a oedd yn gaeth yn y carchar, freuddwyd yr un noson, pob un ei freuddwyd ei hun, ac i bob breuddwyd ei hystyr ei hun.
40:6  Pan ddaeth Joseff atynt yn y bore, ac edrych arnynt a'u gweld yn ddi-hwyl,
40:7  gofynnodd i swyddogion Pharo a oedd gydag ef yn y ddalfa yn nhŷ ei feistr, "Pam y mae golwg ddigalon arnoch heddiw?"
40:8  Atebasant, "Cawsom freuddwydion, ac nid oes neb i'w dehongli." Yna dywedodd Joseff wrthynt, "Onid i Dduw y perthyn dehongli? Dywedwch yn awr i mi."
40:9  Felly adroddodd y pen-trulliad ei freuddwyd i Joseff, a dweud wrtho, "Yn fy mreuddwyd yr oedd gwinwydden o'm blaen,
40:10  ac ar y winwydden dair cangen; yna blagurodd, blodeuodd, ac aeddfedodd ei grawnsypiau yn rawnwin.
40:11  Yn fy llaw yr oedd cwpan Pharo; cymerais y grawnwin, eu gwasgu i gwpan Pharo, a rhoi'r cwpan yn ei law."
40:12  Dywedodd Joseff wrtho, "Dyma'r dehongliad: y tair cangen, tri diwrnod ydynt;
40:13  ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben ac yn dy adfer i'th swydd, a byddi dithau'n rhoi cwpan Pharo yn ei law, yn ôl yr arfer gynt pan oeddit yn drulliad iddo.
40:14  Os bydd iti gofio amdanaf pan fydd yn dda arnat, fe wnei gymwynas â mi trwy grybwyll amdanaf wrth Pharo, a'm cael allan o'r tŷ hwn.
40:15  Oherwydd cefais fy nghipio o wlad yr Hebreaid; ac nid wyf wedi gwneud dim yma chwaith i haeddu fy ngosod mewn cell."
40:16  Pan welodd y pen-pobydd fod y dehongliad yn un ffafriol, dywedodd wrth Joseff, "Cefais innau hefyd freuddwyd: yr oedd tri chawell o fara gwyn ar fy mhen.
40:17  Yn y cawell uchaf yr oedd pob math o fwyd wedi ei bobi ar gyfer Pharo, ac adar yn ei fwyta o'r cawell ar fy mhen."
40:18  Atebodd Joseff, "Dyma'r dehongliad: y tri chawell, tri diwrnod ydynt;
40:19  ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben — oddi arnat! — ac yn dy grogi ar bren; a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd."
40:20  Ar y trydydd dydd yr oedd pen-blwydd Pharo, a gwnaeth wledd i'w holl weision, a dod â'r pen-trulliad a'r pen-pobydd i fyny yng ngŵydd ei weision.
40:21  Adferodd y pen-trulliad i'w swydd, a rhoddodd yntau'r cwpan yn llaw Pharo;
40:22  ond crogodd y pen-pobydd, fel yr oedd Joseff wedi dehongli iddynt.
40:23  Eto ni chofiodd y pen-trulliad am Joseff, ond anghofio'n llwyr amdano.

Dehongli Breuddwydion Pharo

41:1  Ymhen dwy flynedd union breuddwydiodd Pharo ei fod yn sefyll ar lan y Neil.
41:2  A dyma saith o wartheg porthiannus a thew yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd;
41:3  ac yna saith o wartheg eraill, nychlyd a thenau, yn esgyn ar eu hôl ac yn sefyll ar lan yr afon yn ymyl y gwartheg eraill.
41:4  Bwytaodd y gwartheg nychlyd a thenau y saith buwch borthiannus a thew. Yna deffrôdd Pharo.
41:5  Aeth yn ôl i gysgu a breuddwydio eilwaith, a gwelodd saith dywysen fras a da yn tyfu ar un gwelltyn;
41:6  yna saith dywysen denau, wedi eu deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu ar eu hôl.
41:7  Llyncodd y tywysennau tenau y saith dywysen fras a llawn. Yna deffrôdd Pharo a deall mai breuddwyd ydoedd.
41:8  Pan ddaeth y bore, yr oedd wedi cynhyrfu ac anfonodd am holl ddewiniaid a doethion yr Aifft; dywedodd Pharo ei freuddwyd wrthynt, ond ni allai neb ei dehongli iddo.
41:9  Yna dywedodd y pen-trulliad wrth Pharo, "Rwy'n cofio heddiw imi fod ar fai.
41:10  Pan ffromodd Pharo wrth ei weision a'm rhoi i a'r pen-pobydd yn y ddalfa yn nhŷ pennaeth y gwarchodwyr,
41:11  cawsom ein dau freuddwyd yr un noson, pob un ei freuddwyd ei hun, ac i bob breuddwyd ei hystyr ei hun.
41:12  Ac yno gyda ni yr oedd llanc o Hebrëwr, gwas pennaeth y gwarchodwyr; wedi inni eu hadrodd iddo, dehonglodd ein breuddwydion i'r naill a'r llall ohonom.
41:13  Fel y dehonglodd inni, felly y bu; adferwyd fi i'm swydd, a chrogwyd y llall."
41:14  Yna anfonodd Pharo am Joseff, a daethant ag ef ar frys o'r gell; eilliodd yntau a newid ei ddillad, a daeth at Pharo.
41:15  A dywedodd Pharo wrth Joseff, "Cefais freuddwyd, ac ni all neb ei dehongli, ond clywais amdanat ti dy fod yn gallu gwrando breuddwyd a'i dehongli."
41:16  Atebodd Joseff Pharo a dweud, "Nid myfi; Duw a rydd ateb ffafriol i Pharo."
41:17  Dywedodd Pharo wrth Joseff, "Yn fy mreuddwyd yr oeddwn yn sefyll ar lan y Neil,
41:18  a dyma saith o wartheg tew a phorthiannus yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd;
41:19  ac yna saith o wartheg eraill truenus a nychlyd a thenau iawn, yn dod ar eu hôl; ni welais rai cynddrwg yn holl dir yr Aifft.
41:20  Bwytaodd y gwartheg tenau a nychlyd y saith o wartheg tewion cyntaf,
41:21  ond er iddynt eu bwyta nid oedd ôl hynny arnynt, gan eu bod mor denau â chynt. Yna deffroais.
41:22  Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd saith o dywysennau llawn a da yn tyfu ar un gwelltyn;
41:23  a dyma saith dywysen fain a thenau, wedi eu deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu ar eu hôl.
41:24  Llyncodd y tywysennau tenau y saith dywysen dda. Adroddais hyn wrth y dewiniaid, ond ni allai neb ei egluro i mi."
41:25  Yna dywedodd Joseff wrth Pharo, "Un ystyr sydd i freuddwyd Pharo; y mae Duw wedi mynegi i Pharo yr hyn y mae am ei wneud.
41:26  Y saith o wartheg da, saith mlynedd ydynt, a'r saith dywysen dda, saith mlynedd ydynt; un freuddwyd sydd yma.
41:27  Saith mlynedd hefyd yw'r saith o wartheg tenau a nychlyd a esgynnodd ar eu hôl, a saith mlynedd o newyn yw'r saith dywysen wag wedi eu deifio gan wynt y dwyrain.
41:28  Fel y dywedais wrth Pharo, y mae Duw wedi dangos i Pharo yr hyn y mae am ei wneud.
41:29  Daw saith mlynedd o lawnder mawr trwy holl wlad yr Aifft,
41:30  ond ar eu hôl daw saith mlynedd o newyn, ac anghofir yr holl lawnder yng ngwlad yr Aifft; difethir y wlad gan y newyn,
41:31  ac ni fydd ôl y llawnder yn y wlad o achos y newyn hwnnw fydd yn ei ddilyn, gan mor drwm fydd.
41:32  Dyblwyd breuddwyd Pharo am fod y peth mor sicr gan Dduw, a bod Duw ar fin ei gyflawni.
41:33  Yn awr, dylai Pharo edrych am ŵr deallus a doeth i'w osod ar wlad yr Aifft.
41:34  Dyma a ddylai Pharo ei wneud: gosod arolygwyr dros y wlad, i gymryd y bumed ran o gnwd gwlad yr Aifft dros y saith mlynedd o lawnder.
41:35  Dylent gasglu holl fwyd y blynyddoedd da sydd ar ddod, a thrwy awdurdod Pharo, dylent gasglu ŷd yn ymborth i'w gadw yn y dinasoedd,
41:36  fel y bydd y bwyd ynghadw i'r wlad dros y saith mlynedd o newyn sydd i fod yng ngwlad yr Aifft, rhag i'r wlad gael ei difetha gan y newyn."

Joseff yn Rheolwr yr Aifft

41:37  Bu'r cyngor yn dderbyniol gan Pharo a'i holl weision.
41:38  A dywedodd Pharo wrth ei weision, "A fedrwn ni gael gŵr arall fel hwn ag ysbryd Duw ynddo?"
41:39  Felly dywedodd Pharo wrth Joseff, "Am i Dduw roi gwybod hyn oll i ti, nid oes neb mor ddeallus a doeth â thi;
41:40  ti fydd dros fy nhŷ, a bydd fy holl bobl yn ufudd i ti; yr orsedd yn unig a'm gwna i yn fwy na thi."
41:41  Yna dywedodd Pharo wrth Joseff, "Dyma fi wedi dy osod di'n ben ar holl wlad yr Aifft,"
41:42  a thynnodd ei fodrwy oddi ar ei law a'i gosod ar law Joseff, a gwisgo amdano ddillad o liain main, a rhoi cadwyn aur am ei wddf.
41:43  Parodd iddo deithio yn ei ail gerbyd, gyda rhai i weiddi o'i flaen, "Plygwch lin." Felly gosododd Pharo ef dros holl wlad yr Aifft.
41:44  A dywedodd Pharo wrth Joseff, "Myfi yw Pharo, ond heb dy ganiatâd di nid yw neb i godi na llaw na throed trwy holl wlad yr Aifft."
41:45  Enwodd Pharo ef Saffnath-panea, a rhoddodd yn wraig iddo Asnath, merch Potiffera offeiriad On. Yna aeth Joseff allan yn bennaeth dros wlad yr Aifft.
41:46  Deng mlwydd ar hugain oedd oed Joseff pan safodd gerbron Pharo brenin yr Aifft. Aeth allan o ŵydd Pharo, a thramwyodd trwy holl wlad yr Aifft.
41:47  Yn ystod y saith mlynedd o lawnder cnydiodd y ddaear yn doreithiog,
41:48  a chasglodd yntau yr holl fwyd a gaed yng ngwlad yr Aifft yn ystod y saith mlynedd, a chrynhoi ymborth yn y dinasoedd. Casglodd i bob dinas fwyd y meysydd o'i hamgylch.
41:49  Felly pentyrrodd Joseff ŷd fel tywod y môr, nes peidio â chadw cyfrif, am na ellid ei fesur.
41:50  Cyn dyfod blwyddyn y newyn, ganwyd i Joseff ddau fab o Asnath, merch Potiffera offeiriad On.
41:51  Enwodd Joseff ei gyntafanedig Manasse — "Am fod Duw wedi peri imi anghofio fy holl gyni a holl dylwyth fy nhad."
41:52  Enwodd yr ail Effraim — "Am fod Duw wedi fy ngwneud i'n ffrwythlon yng ngwlad fy ngorthrymder."
41:53  Darfu'r saith mlynedd o lawnder yng ngwlad yr Aifft;
41:54  a dechreuodd y saith mlynedd o newyn, fel yr oedd Joseff wedi dweud. Bu newyn yn yr holl wledydd, ond yr oedd bwyd yn holl wlad yr Aifft.
41:55  A phan ddaeth newyn ar holl wlad yr Aifft, galwodd y bobl ar Pharo am fwyd. Dywedodd Pharo wrth yr holl Eifftiaid, "Ewch at Joseff, a gwnewch yr hyn a ddywed ef wrthych."
41:56  Ac fel yr oedd y newyn yn ymledu dros wyneb yr holl dir, agorodd Joseff yr holl ystordai a gwerthodd ŷd i'r Eifftiaid, oherwydd yr oedd y newyn yn drwm yng ngwlad yr Aifft.
41:57  Daeth pobl o'r holl wledydd hefyd i'r Aifft at Joseff i brynu, oherwydd yr oedd y newyn yn drwm drwy'r byd i gyd.

Brodyr Joseff yn Mynd i'r Aifft

42:1  Pan ddeallodd Jacob fod ŷd yn yr Aifft, dywedodd wrth ei feibion, "Pam yr ydych yn edrych ar eich gilydd?
42:2  Clywais fod ŷd i'w gael yn yr Aifft; ewch i lawr yno a phrynwch i ni, er mwyn inni gael byw ac nid marw."
42:3  Felly aeth deg o frodyr Joseff i brynu ŷd yn yr Aifft;
42:4  ond nid anfonodd Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda'i frodyr, rhag ofn i niwed ddigwydd iddo.
42:5  Daeth meibion Israel ymhlith eraill i brynu ŷd, am fod newyn trwy wlad Canaan.
42:6  Joseff oedd yr arolygwr dros y wlad, ac ef oedd yn gwerthu ŷd i bawb. A daeth brodyr Joseff ac ymgrymu iddo i'r llawr.
42:7  Pan welodd Joseff ei frodyr, adnabu hwy, ond ymddygodd fel dieithryn a siarad yn hallt wrthynt. Gofynnodd iddynt, "O ble y daethoch?" Ac atebasant, "O wlad Canaan i brynu bwyd."
42:8  Yr oedd Joseff wedi adnabod ei frodyr, ond nid oeddent hwy'n ei adnabod ef.
42:9  Cofiodd Joseff y breuddwydion a gafodd amdanynt, a dywedodd wrthynt, "Ysbiwyr ydych; yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad."
42:10  Dywedasant hwythau wrtho, "Na, arglwydd, y mae dy weision wedi dod i brynu bwyd.
42:11  Meibion un gŵr ydym ni i gyd, a dynion gonest; nid ysbiwyr yw dy weision."
42:12  Meddai yntau wrthynt, "Na, yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad."
42:13  Atebasant, "Deuddeg brawd oedd dy weision, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan; y mae'r ieuengaf eto gyda'n tad, ond nid yw'r llall yn fyw."
42:14  Ond dywedodd Joseff wrthynt, "Y gwir amdani yw mai ysbiwyr ydych.
42:15  Fel hyn y rhoddir prawf arnoch: cyn wired â bod Pharo'n fyw, ni chewch ymadael oni ddaw eich brawd ieuengaf yma.
42:16  Anfonwch un o'ch plith i gyrchu eich brawd, tra byddwch chwi yng ngharchar; felly y profir eich geiriau, i wybod a ydynt yn wir. Os nad ydynt, cyn wired â bod Pharo'n fyw, ysbiwyr ydych."
42:17  A rhoddodd hwy i gyd yng ngharchar am dridiau.
42:18  Ar y trydydd diwrnod dywedodd Joseff wrthynt, "Fel hyn y gwnewch er mwyn ichwi gael byw, oherwydd yr wyf yn ofni Duw:
42:19  os ydych yn wŷr gonest, cadwer un brawd yng ngharchar, a chewch chwithau gludo ŷd at angen eich teuluoedd,
42:20  a dod â'ch brawd ieuengaf ataf. Felly y ceir gweld eich bod yn dweud y gwir, ac ni byddwch farw." Dyna a wnaed.
42:21  Yna dywedasant wrth ei gilydd, "Yn wir, yr ydym yn haeddu cosb o achos ein brawd, am inni weld ei ofid ef pan oedd yn ymbil arnom, a gwrthod gwrando; dyna pam y daeth y gofid hwn arnom."
42:22  Dywedodd Reuben, "Oni ddywedais wrthych, 'Peidiwch â gwneud cam â'r bachgen'? Ond ni wrandawsoch, ac yn awr rhaid ateb am ei waed."
42:23  Ni wyddent fod Joseff yn eu deall, am fod cyfieithydd rhyngddynt.
42:24  Troes yntau oddi wrthynt i wylo. Yna daeth yn ôl a siarad â hwy, a chymerodd Simeon o'u mysg a'i rwymo o flaen eu llygaid.

Brodyr Joseff yn Dychwelyd i Ganaan

42:25  Gorchmynnodd Joseff lenwi eu sachau ag ŷd, a rhoi arian pob un yn ôl yn ei sach, a rhoi bwyd iddynt at y daith. Felly y gwnaed iddynt.
42:26  Yna codasant yr ŷd ar eu hasynnod a mynd oddi yno.
42:27  Pan oedd un yn agor ei sach yn y llety, i roi bwyd i'w asyn, gwelodd ei arian yng ngenau'r sach,
42:28  a dywedodd wrth ei frodyr, "Rhoddwyd fy arian yn ôl; y maent yma yn fy sach." Yna daeth ofn arnynt a throesant yn grynedig at ei gilydd, a dweud, "Beth yw hyn y mae Duw wedi ei wneud i ni?"
42:29  Pan ddaethant at eu tad Jacob yng ngwlad Canaan, adroddasant eu holl helynt wrtho, a dweud,
42:30  "Siaradodd y gŵr oedd yn arglwydd y wlad yn hallt wrthym, a chymryd mai ysbiwyr oeddem.
42:31  Dywedasom ninnau wrtho, 'Gwŷr gonest ydym ni, ac nid ysbiwyr.
42:32  Yr oeddem yn ddeuddeg brawd, meibion ein tad; bu farw un, ac y mae'r ieuengaf eto gyda'n tad yng ngwlad Canaan.'
42:33  Yna dywedodd arglwydd y wlad wrthym, 'Fel hyn y caf wybod eich bod yn onest: gadewch un o'ch brodyr gyda mi, a chymerwch ŷd at angen eich teuluoedd, ac ewch ymaith.
42:34  Dewch â'ch brawd ieuengaf ataf, imi gael gwybod nad ysbiwyr ydych ond dynion gonest; yna rhof eich brawd ichwi, a chewch farchnata yn y wlad.'"
42:35  Pan aethant i wacáu eu sachau yr oedd cod arian pob un yn ei sach. A phan welsant hwy a'u tad y codau arian, daeth ofn arnynt,
42:36  a dywedodd eu tad Jacob wrthynt, "Yr ydych yn fy ngwneud yn ddi-blant; bu farw Joseff, nid yw Simeon yma, ac yr ydych am ddwyn Benjamin ymaith. Y mae pob peth yn fy erbyn."
42:37  Dywedodd Reuben wrth ei dad, "Cei ladd fy nau fab i os na ddof ag ef yn ôl atat; rho ef yn fy ngofal, ac mi ddof ag ef yn ôl atat."
42:38  Meddai yntau, "Ni chaiff fy mab fynd gyda chwi, oherwydd bu farw ei frawd, ac nid oes neb ond ef ar ôl. Os digwydd niwed iddo ar eich taith, fe wnewch i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch."

Mynd â Benjamin i'r Aifft

43:1  Trymhaodd y newyn yn y wlad.
43:2  Ac wedi iddynt fwyta'r ŷd a ddygwyd ganddynt o'r Aifft, dywedodd eu tad wrthynt, "Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni."
43:3  Ond atebodd Jwda, "Rhybuddiodd y dyn ni'n ddifrifol gan ddweud, 'Ni chewch weld fy wyneb os na fydd eich brawd gyda chwi.'
43:4  Os anfoni ein brawd gyda ni, fe awn i brynu bwyd i ti;
43:5  ond os nad anfoni ef, nid awn ni, oherwydd dywedodd y dyn wrthym, 'Ni chewch weld fy wyneb os na fydd eich brawd gyda chwi.'"
43:6  Dywedodd Israel, "Pam y gwnaethoch ddrwg i mi trwy ddweud wrth y dyn fod gennych frawd arall?"
43:7  Atebasant hwythau, "Holodd y dyn ni'n fanwl amdanom ein hunain a'n teulu, a gofyn, 'A yw eich tad eto'n fyw? A oes gennych frawd arall?' Wrth inni ei ateb, a allem ni ddirnad y dywedai ef, 'Dewch â'ch brawd yma'?"
43:8  Dywedodd Jwda wrth ei dad Israel, "Anfon y bachgen gyda mi, inni gael codi a mynd, er mwyn inni fyw ac nid marw, nyni a thithau a'n plant hefyd.
43:9  Mi af fi yn feichiau drosto; mi fyddaf fi'n gyfrifol amdano. Os na ddof ag ef yn ôl atat a'i osod o'th flaen, yna byddaf yn euog yn dy olwg am byth.
43:10  Pe baem heb oedi, byddem wedi dychwelyd ddwywaith erbyn hyn."
43:11  Dywedodd eu tad Israel wrthynt, "Os oes rhaid, gwnewch hyn: cymerwch rai o ffrwythau gorau'r wlad yn eich paciau, a dygwch yn anrheg i'r dyn ychydig o falm ac ychydig o fêl, glud pêr, myrr, cnau ac almonau.
43:12  Cymerwch ddwbl yr arian, a dychwelwch yr arian a roddwyd yng ngenau eich sachau. Efallai mai camgymeriad oedd hynny.
43:13  Cymerwch hefyd eich brawd, ac ewch eto at y dyn;
43:14  a rhodded Duw Hollalluog drugaredd i chwi gerbron y dyn, er mwyn iddo ollwng yn rhydd eich brawd arall a Benjamin. Os gwneir fi'n ddi-blant, derbyniaf hynny."
43:15  Felly cymerodd y dynion yr anrheg a dwbl yr arian, a Benjamin gyda hwy, ac aethant ar eu taith i lawr i'r Aifft, a sefyll gerbron Joseff.
43:16  Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda hwy, dywedodd wrth swyddog ei dŷ, "Dos â'r dynion i'r tŷ, a lladd anifail a gwna wledd, oherwydd bydd y dynion yn bwyta gyda mi ganol dydd."
43:17  Gwnaeth y swyddog fel y gorchmynnodd Joseff iddo, a daeth â'r dynion i dŷ Joseff.
43:18  Ond yr oedd ar y dynion ofn pan gymerwyd hwy i dŷ Joseff, ac meddent, "Y maent wedi dod â ni i mewn yma oherwydd yr arian a roddwyd yn ôl yn ein sachau y tro cyntaf. Byddant yn rhuthro ac yn ymosod arnom, a'n gwneud yn gaethion, a chipio ein hasynnod."
43:19  Aethant at swyddog tŷ Joseff a siarad ag ef wrth ddrws y tŷ,
43:20  a dweud, "Ein harglwydd, daethom i lawr o'r blaen i brynu bwyd;
43:21  wrth inni agor ein sachau yn y llety yr oedd arian pob un yn llawn yng ngenau ei sach. Yr ydym wedi dod â hwy'n ôl gyda ni,
43:22  ac y mae gennym arian eraill hefyd i brynu bwyd. Ni wyddom pwy a osododd ein harian yn ein sachau."
43:23  Atebodd yntau, "Byddwch dawel, peidiwch ag ofni; eich Duw a Duw eich tad a guddiodd drysor i chwi yn eich sachau; derbyniais i eich arian." Yna daeth â Simeon allan atynt.
43:24  Wedi i'r swyddog fynd â'r dynion i dŷ Joseff, rhoddodd ddŵr iddynt i olchi eu traed, a rhoddodd fwyd i'w hasynnod.
43:25  Gwnaethant eu hanrheg yn barod erbyn i Joseff ddod ganol dydd, am iddynt glywed mai yno y byddent yn cael bwyd.
43:26  Pan ddaeth Joseff i'r tŷ, dygasant ato yr anrheg oedd ganddynt, ac ymgrymu i'r llawr o'i flaen.
43:27  Holodd yntau hwy am eu hiechyd, a gofyn, "A yw eich tad yn iawn, yr hen ŵr y buoch yn sôn amdano? A yw'n dal yn fyw?"
43:28  Atebasant, "Y mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach." A phlygasant eu pennau ac ymgrymu.
43:29  Cododd yntau ei olwg a gweld ei frawd Benjamin, mab ei fam ef ei hun, a gofynnodd, "Ai dyma eich brawd ieuengaf, y buoch yn sôn amdano?" A dywedodd wrtho, "Bydded Duw yn rasol wrthyt, fy mab."
43:30  Yna brysiodd Joseff a chwilio am le i wylo, oherwydd cyffrowyd ei deimladau o achos ei frawd. Aeth i'w ystafell ac wylo yno.
43:31  Yna golchodd ei wyneb a daeth allan gan ymatal, a dywedodd, "Dewch â'r bwyd."
43:32  Gosodwyd bwyd iddo ef ar wahân, ac iddynt hwy ar wahân, ac i'r Eifftiaid oedd yn bwyta gydag ef ar wahân; oherwydd ni allai'r Eifftiaid gydfwyta gyda'r Hebreaid, am fod hynny'n ffieidd-dra ganddynt.
43:33  Yr oeddent yn eistedd o'i flaen, y cyntafanedig yn ôl ei flaenoriaeth a'r ieuengaf yn ôl ei ieuenctid; a rhyfeddodd y dynion ymysg ei gilydd.
43:34  Cododd Joseff seigiau iddynt o'i fwrdd ei hun, ac yr oedd cyfran Benjamin bum gwaith yn fwy na chyfran y lleill. Felly yfasant a bod yn llawen gydag ef.

Y Cwpan Coll

44:1  Gorchmynnodd Joseff i swyddog ei dŷ, "Llanw sachau'r dynion â chymaint ag y gallant ei gario o fwyd, a rho arian pob un yng ngenau ei sach.
44:2  A rho fy nghwpan i, y cwpan arian, yng ngenau sach yr ieuengaf, gyda'i arian am yr ŷd." Gwnaeth yntau fel y dywedodd Joseff.
44:3  Pan dorrodd y wawr, anfonwyd y dynion ymaith gyda'u hasynnod.
44:4  Wedi iddynt fynd ychydig bellter o'r ddinas dywedodd Joseff wrth swyddog ei dŷ, "I ffwrdd â thi ar ôl y dynion, a phan oddiweddi hwy dywed wrthynt, 'Pam yr ydych wedi talu drwg am dda? Pam yr ydych wedi lladrata fy nghwpan arian?
44:5  O hwn y byddai f'arglwydd yn yfed ac yn dewino. Yr ydych wedi gwneud peth drwg.'"
44:6  Pan oddiweddodd hwy dywedodd felly wrthynt.
44:7  Atebasant hwythau, "Pam y mae ein harglwydd yn dweud peth fel hyn? Ni fyddai dy weision byth yn gwneud y fath beth.
44:8  Cofia ein bod wedi dod â'r arian a gawsom yng ngenau ein sachau yn ôl atat o wlad Canaan. Pam felly y byddem yn lladrata arian neu aur o dŷ dy arglwydd?
44:9  Os ceir y cwpan gan un o'th weision, bydded hwnnw farw; a byddwn ninnau'n gaethion i'n harglwydd."
44:10  "o'r gorau," meddai yntau, "bydded fel y dywedwch chwi. Bydd yr un y ceir y cwpan ganddo yn gaethwas i mi, ond bydd y gweddill ohonoch yn rhydd."
44:11  Yna tynnodd pob un ei sach i lawr ar unwaith, a'i agor.
44:12  Chwiliodd yntau, gan ddechrau gyda'r hynaf a gorffen gyda'r ieuengaf, a chafwyd y cwpan yn sach Benjamin.
44:13  Rhwygasant eu dillad, a llwythodd pob un ei asyn a dychwelyd i'r ddinas.
44:14  Pan ddaeth Jwda a'i frodyr i'r tŷ, yr oedd Joseff yno o hyd, a syrthiasant i lawr o'i flaen.
44:15  Dywedodd Joseff wrthynt, "Beth yw hyn yr ydych wedi ei wneud? Oni wyddech fod dyn fel fi yn gallu dewino?"
44:16  Atebodd Jwda, "Beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? Beth a lefarwn? Sut y gallwn brofi ein diniweidrwydd? Y mae Duw wedi dangos twyll dy weision. Dyma ni, a'r un yr oedd y cwpan ganddo, yn gaethion i'n harglwydd."
44:17  Ond dywedodd Joseff, "Ni allaf wneud peth felly. Dim ond yr un yr oedd y cwpan ganddo a fydd yn gaethwas i mi. Cewch chwi fynd mewn heddwch at eich tad."
44:18  Yna nesaodd Jwda ato, a dweud, "O f'arglwydd, caniatâ i'th was lefaru yng nghlyw f'arglwydd, a phaid â digio wrth dy was; oherwydd yr wyt ti fel Pharo.
44:19  Holodd f'arglwydd ei weision, 'A oes gennych dad, neu frawd?'
44:20  Ac atebasom ein harglwydd, 'Y mae gennym dad sy'n hen ŵr, a brawd bach, plentyn ei henaint. Bu farw ei frawd, ac ef yn unig sy'n aros o blant ei fam, ac y mae ei dad yn ei garu.'
44:21  Yna dywedaist wrth dy weision, 'Dewch ag ef i lawr ataf imi gael ei weld.'
44:22  Dywedasom wrth f'arglwydd, 'Ni all y bachgen adael ei dad, oherwydd os gwna, bydd ei dad farw.'
44:23  Dywedaist tithau wrth dy weision, 'Os na ddaw eich brawd ieuengaf gyda chwi, ni chewch weld fy wyneb i eto.'
44:24  Aethom yn ôl at dy was ein tad, ac adrodd wrtho eiriau f'arglwydd.
44:25  A phan ddywedodd ein tad, 'Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni',
44:26  atebasom, 'Ni allwn fynd. Fe awn os daw ein brawd ieuengaf gyda ni, ond ni chawn weld wyneb y dyn os na fydd ef gyda ni.'
44:27  A dywedodd dy was ein tad wrthym, 'Gwyddoch i'm gwraig esgor ar ddau fab;
44:28  aeth un ymaith a dywedais, "Rhaid ei fod wedi ei larpio", ac ni welais ef wedyn.
44:29  Os cymerwch hwn hefyd ymaith a bod niwed yn digwydd iddo, yna fe wnewch i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.'
44:30  Ac yn awr os dof at dy was fy nhad heb y bachgen,
44:31  bydd farw pan wêl na ddaeth y bachgen yn ôl, am fod einioes y ddau ynghlwm wrth ei gilydd; a bydd dy weision yn peri i benwynni dy was ein tad ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.
44:32  Oherwydd aeth dy was yn feichiau am y bachgen i'm tad, gan ddweud, 'Os na ddychwelaf ef atat byddaf yn euog am byth yng ngolwg fy nhad.'
44:33  Yn awr felly, gad i'th was aros yn gaethwas i'm harglwydd yn lle'r bachgen; a gad iddo ef fynd gyda'i frodyr.
44:34  Oherwydd sut y gallaf fynd yn ôl at fy nhad heb y bachgen? Nid wyf am weld loes fy nhad."

Joseff yn ei Ddatgelu ei hun i'w Frodyr

45:1  Methodd Joseff ymatal yng ngŵydd ei weision, a gwaeddodd, "Gyrrwch bawb allan oddi wrthyf." Felly nid arhosodd neb gyda Joseff pan ddatgelodd i'w frodyr pwy ydoedd.
45:2  Wylodd yn uchel, nes bod yr Eifftiaid a theulu Pharo yn ei glywed,
45:3  a dywedodd wrth ei frodyr, "Joseff wyf fi. A yw fy nhad yn dal yn fyw?" Ond ni allai ei frodyr ei ateb, gan eu bod wedi eu cynhyrfu wrth ei weld.
45:4  Yna meddai Joseff wrth ei frodyr, "Dewch yn nes ataf." Wedi iddynt nesáu, dywedodd, "Myfi yw eich brawd Joseff, a werthwyd gennych i'r Aifft.
45:5  Yn awr, peidiwch â chyffroi na bod yn ddig wrthych eich hunain, am i chwi fy ngwerthu i'r lle hwn, oherwydd anfonodd Duw fi o'ch blaen er mwyn diogelu bywyd.
45:6  Bu newyn drwy'r wlad y ddwy flynedd hyn; a bydd eto bum mlynedd heb aredig na medi.
45:7  Anfonodd Duw fi o'ch blaen i sicrhau hil i chwi ar y ddaear, ac i gadw'n fyw o'ch plith nifer mawr o waredigion.
45:8  Felly nid chwi ond Duw a'm hanfonodd yma, a'm gwneud fel tad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dylwyth a llywodraethwr dros holl wlad yr Aifft.
45:9  Ewch ar frys at fy nhad a dywedwch wrtho, 'Dyma y mae dy fab Joseff yn ei ddweud: "Y mae Duw wedi fy ngwneud yn arglwydd ar yr Aifft i gyd. Tyrd i lawr ataf, paid ag oedi dim.
45:10  Cei fyw yn f'ymyl yng ngwlad Gosen gyda'th blant a'th wyrion, dy ddefaid a'th wartheg, a'th holl eiddo;
45:11  a chynhaliaf di yno, rhag i ti na neb o'th dylwyth fynd yn dlawd, oherwydd fe fydd eto bum mlynedd o newyn."'
45:12  Yn awr yr ydych chwi a'm brawd Benjamin yn llygad-dystion mai myfi'n wir sy'n siarad â chwi.
45:13  Rhaid ichwi ddweud wrth fy nhad am yr holl anrhydedd yr wyf wedi ei gael yn yr Aifft, ac am bopeth yr ydych wedi ei weld. Ewch ar unwaith, a dewch â'm tad i lawr yma."
45:14  Yna rhoes ei freichiau am wddf ei frawd Benjamin ac wylo; ac wylodd Benjamin ar ei ysgwydd yntau.
45:15  Cusanodd ei frodyr i gyd, gan wylo. Wedyn cafodd ei frodyr sgwrs ag ef.
45:16  Pan ddaeth y newydd i dŷ Pharo fod brodyr Joseff wedi cyrraedd, llawenhaodd Pharo a'i weision.
45:17  Dywedodd Pharo wrth Joseff, "Dywed wrth dy frodyr, 'Gwnewch fel hyn: llwythwch eich anifeiliaid a theithio'n ôl i wlad Canaan.
45:18  Yna dewch â'ch tad a'ch teuluoedd ataf, a rhof ichwi orau gwlad yr Aifft, a chewch fyw ar fraster y wlad.'
45:19  Yna gorchymyn iddynt, 'Gwnewch fel hyn: cymerwch wageni o wlad yr Aifft i'ch rhai bach ac i'ch gwragedd, a dewch â'ch tad yma.
45:20  Peidiwch â phryderu am eich celfi; y mae gorau holl wlad yr Aifft at eich galwad.'"
45:21  Gwnaeth meibion Israel felly; rhoddodd Joseff wageni iddynt, ar orchymyn Pharo, a bwyd at y daith.
45:22  Rhoddodd wisg newydd hefyd i bob un ohonynt, ond i Benjamin rhoddodd dri chant o ddarnau arian a phum gwisg newydd.
45:23  Dyma a anfonodd i'w dad: deg asyn yn llwythog o bethau gorau'r Aifft, a deg o asennod yn cario ŷd a bara, a bwyd i'w dad at y daith.
45:24  Yna anfonodd ei frodyr ymaith, ac wrth iddynt gychwyn dywedodd, "Peidiwch â chweryla ar y ffordd."
45:25  Felly aethant o'r Aifft a dod i wlad Canaan at eu tad Jacob.
45:26  Dywedasant wrtho, "Y mae Joseff yn dal yn fyw, ac ef yw llywodraethwr holl wlad yr Aifft." Aeth yntau yn wan drwyddo, oherwydd nid oedd yn eu credu.
45:27  Ond pan adroddasant iddo holl eiriau Joseff, fel y dywedodd ef wrthynt, a phan welodd y wageni yr oedd Joseff wedi eu hanfon i'w gludo, adfywiodd ysbryd eu tad Jacob.
45:28  A dywedodd Israel, "Dyma ddigon, y mae fy mab Joseff yn dal yn fyw. Af finnau i'w weld cyn marw."

Jacob a'i Deulu yn Mudo i'r Aifft

46:1  Felly aeth Israel ar ei daith gyda'i holl eiddo, a dod i Beerseba lle yr offrymodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac.
46:2  Llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaeth nos, a dweud, "Jacob, Jacob." Atebodd yntau, "Dyma fi."
46:3  Yna dywedodd, "Myfi yw Duw, Duw dy dad. Paid ag ofni mynd i lawr i'r Aifft, oherwydd fe'th wnaf di'n genedl fawr yno.
46:4  Af i lawr i'r Aifft gyda thi, a dof â thi yn ôl drachefn. A chaiff Joseff gau dy lygaid."
46:5  Yna cychwynnodd Jacob o Beerseba. Cludodd meibion Israel eu tad Jacob, eu rhai bach, a'u gwragedd, yn y wageni yr oedd Pharo wedi eu hanfon.
46:6  Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid a'u meddiannau a gasglwyd yng ngwlad Canaan, a dod i'r Aifft, Jacob a'i holl deulu gydag ef,
46:7  ei feibion a'i ferched a'i wyrion; daeth â'i deulu i gyd i'r Aifft.

Teulu Jacob

46:8  Dyma enwau'r Israeliaid a ddaeth i'r Aifft, sef Jacob, a'i feibion: Reuben cyntafanedig Jacob,
46:9  a meibion Reuben: Hanoch, Palu, Hesron a Charmi.
46:10  Meibion Simeon: Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar, a Saul mab gwraig o blith y Canaaneaid.
46:11  Meibion Lefi: Gerson, Cohath a Merari.
46:12  Meibion Jwda: Er, Onan, Sela, Peres a Sera (ond bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan); a meibion Peres: Hesron a Hamul.
46:13  Meibion Issachar: Tola, Pufa, Job a Simron.
46:14  Meibion Sabulon: Sered, Elon a Jahleel.
46:15  Dyna'r meibion a ddygodd Lea i Jacob yn Padan Aram, ac yr oedd hefyd ei ferch Dina. Tri deg a thri oedd rhif ei feibion a'i ferched.
46:16  Meibion Gad: Siffion, Haggi, Suni, Esbon, Eri, Arodi ac Areli.
46:17  Meibion Aser: Imna, Isfa, Isfi, Bereia, a'u chwaer Sera; a meibion Bereia, Heber a Malchiel.
46:18  Dyna feibion Silpa, a roddodd Laban i Lea ei ferch, un ar bymtheg i gyd, wedi eu geni i Jacob.
46:19  Meibion Rachel gwraig Jacob: Joseff a Benjamin.
46:20  Ac i Joseff yn yr Aifft ganwyd Manasse ac Effraim, meibion Asnath, merch Potiffera offeiriad On.
46:21  Meibion Benjamin: Bela, Becher, Asbel, Gera, Naaman, Ehi, Ros, Muppim, Huppim ac Ard.
46:22  Dyna feibion Rachel, pedwar ar ddeg i gyd, wedi eu geni i Jacob.
46:23  Mab Dan: Husim.
46:24  Meibion Nafftali: Jahseel, Guni, Jeser a Silem.
46:25  Dyma feibion Bilha, a roddodd Laban i Rachel ei ferch, saith i gyd, wedi eu geni i Jacob.
46:26  Chwe deg a chwech oedd nifer tylwyth Jacob ei hun, sef pawb a ddaeth gydag ef i'r Aifft, heb gyfrif gwragedd ei feibion.
46:27  Dau oedd nifer meibion Joseff a anwyd iddo yn yr Aifft; felly saith deg oedd nifer cyflawn teulu Jacob a ddaeth i'r Aifft.

Jacob a'i Deulu yn yr Aifft

46:28  Anfonwyd Jwda ar y blaen at Joseff i gael cyfarwyddyd am y ffordd i Gosen, ac felly daethant i wlad Gosen.
46:29  Gwnaeth Joseff ei gerbyd yn barod, ac aeth i gyfarfod â'i dad Israel yn Gosen, a phan ddaeth i'w ŵydd, rhoes ei freichiau am ei wddf gan wylo'n hidl.
46:30  Ac meddai Israel wrth Joseff, "Yr wyf yn barod i farw yn awr, wedi gweld dy wyneb a gwybod dy fod yn dal yn fyw."
46:31  Dywedodd Joseff wrth ei frodyr a theulu ei dad, "Mi af i ddweud wrth Pharo fod fy mrodyr a theulu fy nhad wedi dod ataf o wlad Canaan,
46:32  ac mai bugeiliaid a pherchenogion anifeiliaid ydynt, a'u bod wedi dod â'u preiddiau, eu gyrroedd a'u holl eiddo gyda hwy.
46:33  Felly pan fydd Pharo yn galw amdanoch i holi beth yw eich galwedigaeth,
46:34  atebwch chwithau, 'Bu dy weision o'u hieuenctid hyd heddiw yn berchenogion anifeiliaid, fel ein tadau.' Hyn er mwyn ichwi gael aros yng ngwlad Gosen, oherwydd y mae'r Eifftiaid yn ffieiddio pob bugail."
47:1  Yna aeth Joseff a dweud wrth Pharo, "Y mae fy nhad a'm brodyr wedi dod o wlad Canaan, gyda'u preiddiau, eu gyrroedd, a'u holl eiddo, ac y maent wedi cyrraedd gwlad Gosen."
47:2  Cymerodd bump o'i frodyr a'u cyflwyno i Pharo,
47:3  a gofynnodd Pharo i'r brodyr, "Beth yw eich galwedigaeth?" Atebasant, "Bugeiliaid yw dy weision, fel ein tadau."
47:4  Dywedasant hefyd wrth Pharo, "Yr ydym wedi dod i aros dros dro yn y wlad, gan nad oes borfa i anifeiliaid dy weision, oherwydd y mae'r newyn yn drwm yng ngwlad Canaan. Yn awr, caniatâ i'th weision gael aros yng ngwlad Gosen."
47:5  Yna dywedodd Pharo wrth Joseff, "Daeth dy dad a'th frodyr atat,
47:6  ac y mae gwlad yr Aifft o'th flaen. Rho gartref i'th dad a'th frodyr yn y man gorau, a gad iddynt fyw yng ngwlad Gosen. Os gwyddost am wŷr medrus yn eu mysg, gosod hwy yn benbugeiliaid ar fy anifeiliaid i."
47:7  Daeth Joseff â'i dad i'w gyflwyno gerbron Pharo, a bendithiodd Jacob Pharo.
47:8  Gofynnodd Pharo i Jacob, "Faint yw dy oed?"
47:9  Atebodd Jacob, "Yr wyf wedi cael ymdeithio ar y ddaear am gant tri deg o flynyddoedd. Byr a chaled fu fy ngyrfa, ac ni chyrhaeddais eto oed fy nhadau pan oeddent hwy yn fyw."
47:10  Wedi i Jacob fendithio Pharo, aeth allan o'i ŵydd.
47:11  Yna gwnaeth Joseff gartref i'w dad a'i frodyr, a rhoes iddynt feddiant yn y rhan orau o wlad yr Aifft, yn nhir Rameses, fel y gorchmynnodd Pharo.
47:12  Gofalodd Joseff am fwyd i'w dad a'i frodyr, ac i holl dylwyth ei dad yn ôl yr angen.

Y Newyn yn Gwaethygu

47:13  Darfu'r bwyd drwy'r wlad, am fod y newyn yn drwm iawn; a nychodd gwlad yr Aifft a gwlad Canaan o achos y newyn.
47:14  Casglodd Joseff bob darn o arian a oedd yn yr Aifft a Chanaan yn dâl am yr ŷd a brynwyd, a daeth â'r arian i dŷ Pharo.
47:15  Pan wariwyd yr holl arian yn yr Aifft a Chanaan, daeth yr holl Eifftiaid at Joseff a dweud, "Rho inni fwyd. Pam y byddwn farw o flaen dy lygaid? Y mae ein harian wedi darfod yn llwyr."
47:16  Atebodd Joseff, "Os darfu'r arian, dewch â'ch anifeiliaid, a rhoddaf fwyd i chwi yn gyfnewid amdanynt."
47:17  Felly daethant â'u hanifeiliaid at Joseff. Rhoddodd yntau fwyd iddynt yn gyfnewid am y meirch, y defaid, y gwartheg a'r asynnod. Cynhaliodd hwy dros y flwyddyn honno trwy gyfnewid bwyd am eu holl anifeiliaid.
47:18  Pan ddaeth y flwyddyn i ben, daethant ato y flwyddyn ddilynol a dweud, "Ni chelwn ddim oddi wrth ein harglwydd: y mae ein harian wedi darfod, aeth ein hanifeiliaid hefyd yn eiddo i'n harglwydd, ac nid oes yn aros i'n harglwydd ond ein cyrff a'n tir.
47:19  Pam y byddwn farw o flaen dy lygaid, ni a'n tir? Pryn ni a'n tir am fwyd, a byddwn ni a'n tir yn gaethion i Pharo; rho dithau had inni i'n cadw'n fyw, rhag inni farw ac i'r tir fynd yn ddiffaith."
47:20  Felly prynodd Joseff holl dir yr Aifft i Pharo. Gwerthodd pob un o'r Eifftiaid ei faes am fod y newyn yn drwm, ac aeth y wlad yn eiddo Pharo.
47:21  Ac am y bobl, fe'u gwnaeth i gyd yn gaethion, o naill gwr yr Aifft i'r llall.
47:22  Yr unig dir na phrynodd mohono oedd tir yr offeiriaid. Yr oedd gan yr offeiriaid gyfran wedi ei phennu gan Pharo, ac ar y gyfran a roddwyd iddynt gan Pharo yr oeddent yn byw; felly ni werthasant eu tir.
47:23  Yna dywedodd Joseff wrth y bobl, "Yr wyf heddiw wedi eich prynu chwi a'ch tir i Pharo. Dyma had ichwi; heuwch chwithau'r tir.
47:24  Pan ddaw'r cynhaeaf rhowch y bumed ran i Pharo. Cewch gadw pedair rhan o'r cnwd yn had i'r meysydd ac yn fwyd i chwi, eich teuluoedd a'ch rhai bach."
47:25  Meddent hwythau, "Yr wyt wedi arbed ein bywyd. Os yw'n dderbyniol gan ein harglwydd, byddwn yn gaethion i Pharo."
47:26  Felly gwnaeth Joseff hi'n ddeddf yng ngwlad yr Aifft, deddf sy'n sefyll hyd heddiw, fod y bumed ran yn eiddo i Pharo. Tir yr offeiriaid oedd yr unig dir na ddaeth yn eiddo i Pharo.

Dymuniad Olaf Jacob

47:27  Arhosodd yr Israeliaid yn yr Aifft, yng ngwlad Gosen. Cawsant feddiannau ynddi, a bu iddynt gynyddu ac amlhau yn ddirfawr.
47:28  Bu Jacob fyw ddwy flynedd ar bymtheg yng ngwlad yr Aifft. Felly yr oedd oed llawn Jacob yn gant pedwar deg a saith.
47:29  Pan nesaodd diwrnod marw Israel, galwodd ei fab Joseff, ac meddai wrtho, "Os cefais unrhyw ffafr yn dy olwg, rho dy law dan fy nghlun a thynga y byddi'n deyrngar a ffyddlon imi. Paid â'm claddu yn yr Aifft,
47:30  ond pan orweddaf gyda'm hynafiaid, cluda fi o'r Aifft a'm claddu yn eu beddrod hwy." Atebodd Joseff, "Mi wnaf fel yr wyt yn dymuno."
47:31  Ychwanegodd Jacob, "Dos ar dy lw wrthyf." Aeth yntau ar ei lw. Yna ymgrymodd Israel a'i bwys ar ei ffon.

Jacob yn Bendithio Effraim a Manasse

48:1  Ar ôl hyn dywedwyd wrth Joseff, "Y mae dy dad yn wael." Felly cymerodd gydag ef ei ddau fab, Manasse ac Effraim,
48:2  a phan ddywedwyd wrth Jacob, "Y mae dy fab Joseff wedi dod atat", cafodd Israel nerth i godi ar ei eistedd yn y gwely.
48:3  Yna dywedodd Jacob wrth Joseff, "Ymddangosodd Duw Hollalluog i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, a'm bendithio
48:4  a dweud wrthyf, 'Fe'th wnaf di'n ffrwythlon a lluosog, yn gynulliad o bobloedd, a rhof y wlad hon yn etifeddiaeth dragwyddol i'th ddisgynyddion ar dy ôl.'
48:5  Ac yn awr, fi piau dy ddau fab, a anwyd i ti yng ngwlad yr Aifft cyn i mi ddod atat i'r Aifft. Fi piau Effraim a Manasse; byddant fel Reuben a Simeon i mi.
48:6  Ti fydd piau'r plant a genhedli ar eu hôl, ond dan enw eu brodyr y byddant yn etifeddu.
48:7  Oherwydd fel yr oeddwn yn dod o Padan, bu Rachel farw ar y daith yng ngwlad Canaan pan oedd eto dipyn o ffordd i Effrath, a chleddais hi yno ar y ffordd i Effrath, hynny yw Bethlehem."
48:8  Pan welodd Israel feibion Joseff, gofynnodd, "Pwy yw'r rhain?"
48:9  Ac atebodd Joseff ei dad, "Dyma fy meibion a roddodd Duw imi yma." Dywedodd yntau, "Tyrd â hwy ataf i mi eu bendithio."
48:10  Yr oedd llygaid Israel wedi pylu gan henaint, ac ni allai weld. Felly aeth Joseff â hwy yn nes at ei dad, a chusanodd yntau hwy a'u cofleidio.
48:11  A dywedodd Israel wrth Joseff, "Ni feddyliais y cawn weld dy wyneb byth eto, a dyma Dduw wedi peri imi weld dy blant hefyd."
48:12  Derbyniodd Joseff hwy oddi ar lin Jacob, ac ymgrymodd i'r llawr.
48:13  Yna cymerodd Joseff y ddau ohonynt, Effraim yn ei law dde i fod ar law chwith Israel, a Manasse yn ei law chwith i fod ar law dde Israel, a daeth â hwy ato.
48:14  Estynnodd Israel ei law dde a'i gosod ar ben Effraim, yr ieuengaf, a'i law chwith ar ben Manasse, trwy groesi ei ddwylo, er mai Manasse oedd yr hynaf.
48:15  Yna bendithiodd Joseff a dweud: "Y Duw y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac o'i flaen, y Duw a fu'n fugail imi trwy fy mywyd hyd heddiw,
48:16  yr angel a'm gwaredodd rhag pob drwg, bydded iddo ef fendithio'r llanciau hyn. Bydded arnynt fy enw i ac enw fy nhadau, Abraham ac Isaac, a boed iddynt gynyddu yn niferus ar y ddaear."
48:17  Gwelodd Joseff fod ei dad wedi gosod ei law dde ar ben Effraim, ac nid oedd yn hoffi hynny. Gafaelodd yn llaw ei dad i'w symud oddi ar ben Effraim a'i gosod ar ben Manasse,
48:18  ac meddai Joseff wrth ei dad, "Nid fel yna, fy nhad; hwn yw'r cyntafanedig, gosod dy law dde ar ei ben ef."
48:19  Ond gwrthododd ei dad gan ddweud, "Mi wn i, fy mab, mi wn i. Bydd yntau hefyd yn bobl, a bydd yn fawr; ond bydd ei frawd ieuengaf yn fwy nag ef, a bydd ei ddisgynyddion yn lliaws o genhedloedd."
48:20  Felly bendithiodd hwy y dydd hwnnw a dweud: "Ynoch chwi bydd Israel yn bendithio ac yn dweud, 'Gwnaed Duw di fel Effraim a Manasse.'" Felly gosododd Effraim o flaen Manasse.
48:21  Yna dywedodd Israel wrth Joseff, "Yr wyf yn marw, ond bydd Duw gyda chwi, ac fe'ch dychwel i dir eich hynafiaid.
48:22  A rhoddaf i ti yn hytrach nag i'th frodyr gefnen o dir a gymerais oddi ar yr Amoriaid â'm cleddyf ac â'm bwa."

Bendith Jacob

49:1  Yna galwodd Jacob ar ei feibion, ac meddai, "Dewch ynghyd, imi ddweud wrthych beth fydd eich hynt yn y dyddiau sydd i ddod.
49:2  "Dewch yma a gwrandewch, feibion Jacob, gwrandewch ar Israel eich tad.
49:3  "Reuben, ti yw fy nghyntafanedig, fy ngrym a blaenffrwyth fy nerth, yn rhagori mewn balchder, yn rhagori mewn gallu,
49:4  yn aflonydd fel dŵr; ni ragori mwyach, oherwydd dringaist i wely dy dad, dringaist i'm gorweddfa a'i halogi.
49:5  "Y mae Simeon a Lefi yn frodyr; arfau creulon yw eu ceibiau.
49:6  Na fydded imi fynd i'w cyngor, na pherthyn i'w cwmni; oherwydd yn eu llid lladdasant wŷr, a thorri llinynnau gar yr ychen fel y mynnent.
49:7  Melltigedig fyddo eu llid am ei fod mor arw, a'u dicter am ei fod mor greulon; rhannaf hwy yn Jacob a'u gwasgaru yn Israel.
49:8  "Jwda, fe'th ganmolir gan dy frodyr; bydd dy law ar war dy elynion, a meibion dy dad yn ymgrymu iti.
49:9  Jwda, cenau llew ydwyt, yn codi oddi ar yr ysglyfaeth, fy mab; yn plygu a chrymu fel llew, ac fel llewes; pwy a'i cyfyd?
49:10  Ni fydd y deyrnwialen yn ymadael â Jwda, na ffon y deddfwr oddi rhwng ei draed, hyd oni ddaw i Seilo; iddo ef y bydd ufudd-dod y bobloedd.
49:11  Bydd yn rhwymo'i ebol wrth y winwydden, a'r llwdn asyn wrth y winwydden bêr; bydd yn golchi ei wisg mewn gwin, a'i ddillad yng ngwaed grawnwin.
49:12  Bydd ei lygaid yn dywyllach na gwin, a'i ddannedd yn wynnach na llaeth.
49:13  "Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr; bydd yn borthladd llongau, a bydd ei derfyn hyd Sidon.
49:14  "Y mae Issachar yn asyn cryf, yn gorweddian rhwng y corlannau;
49:15  pan fydd yn gweld lle da i orffwyso, ac mor hyfryd yw'r tir, fe blyga'i ysgwydd i'r baich, a dod yn gaethwas dan orfod.
49:16  "Bydd Dan yn barnu ei bobl fel un o lwythau Israel.
49:17  Bydd Dan yn sarff ar y ffordd, ac yn neidr ar y llwybr, yn brathu sodlau'r march nes i'r marchog syrthio yn wysg ei gefn.
49:18  "Disgwyliaf am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD!
49:19  "Gad, daw ysbeilwyr i'w ymlid, ond bydd ef yn eu hymlid hwy.
49:20  "Aser, bras fydd ei fwyd, ac fe rydd ddanteithion gweddus i frenin.
49:21  "Y mae Nafftali yn dderwen ganghennog, yn lledu brigau teg.
49:22  "Y mae Joseff yn gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, a'i cheinciau'n dringo dros y mur.
49:23  Bu'r saethwyr yn chwerw tuag ato, yn ei saethu yn llawn gelyniaeth;
49:24  ond parhaodd ei fwa yn gadarn, cryfhawyd ei freichiau trwy ddwylo Un Cadarn Jacob, trwy enw'r Bugail, Craig Israel;
49:25  trwy Dduw dy dad, sydd yn dy nerthu, trwy Dduw Hollalluog, sydd yn dy fendithio â bendithion y nefoedd uchod, bendithion y dyfnder sy'n gorwedd isod, bendithion y bronnau a'r groth.
49:26  Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion y mynyddoedd tragwyddol, ac ar haelioni'r bryniau oesol; byddant hwy ar ben Joseff, ac ar dalcen yr un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.
49:27  "Y mae Benjamin yn flaidd yn llarpio, yn bwyta ysglyfaeth yn y bore, ac yn rhannu'r ysbail yn yr hwyr."
49:28  Dyna ddeuddeg llwyth Israel, a dyna'r hyn a ddywedodd eu tad wrthynt wrth eu bendithio, a rhoi i bob un ei fendith.

Marw Jacob a'i Gladdu

49:29  Yna rhoes Jacob orchymyn iddynt a dweud, "Cesglir fi at fy mhobl. Claddwch fi gyda'm hynafiaid yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad,
49:30  yr ogof sydd ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yng ngwlad Canaan. Prynodd Abraham hi gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd.
49:31  Yno y claddwyd Abraham a'i wraig Sara; yno y claddwyd Isaac a'i wraig Rebeca, ac yno y cleddais i Lea.
49:32  Cafwyd hawl ar y maes a'r ogof sydd ynddo gan yr Hethiaid."
49:33  Wedi i Jacob orffen rhoi ei orchymyn i'w feibion, tynnodd ei draed ato i'r gwely, bu farw, a chasglwyd ef at ei bobl.
50:1  Yna fe'i taflodd Joseff ei hun ar gorff ei dad, ac wylo a'i gusanu.
50:2  Gorchmynnodd Joseff i'w weision, y meddygon, eneinio ei dad. Bu'r meddygon yn eneinio Israel
50:3  dros ddeugain diwrnod, sef yr amser angenrheidiol i eneinio, a galarodd yr Eifftiaid amdano am saith deg diwrnod.
50:4  Pan ddaeth y dyddiau i alaru amdano i ben, dywedodd Joseff wrth deulu Pharo, "Os cefais unrhyw ffafr yn eich golwg, siaradwch drosof wrth Pharo, a dywedwch,
50:5  'Gwnaeth fy nhad i mi gymryd llw. Dywedodd, "Yr wyf yn marw, ac yr wyf i'm claddu yn y bedd a dorrais i mi fy hun yng ngwlad Canaan." Yn awr gad i mi fynd i fyny i gladdu fy nhad; yna fe ddof yn ôl.'"
50:6  Atebodd Pharo, "Dos i fyny i gladdu dy dad, fel y gwnaeth iti dyngu."
50:7  Felly aeth Joseff i fyny i gladdu ei dad, a chydag ef aeth holl weision Pharo, henuriaid ei dŷ, a holl henuriaid gwlad yr Aifft,
50:8  holl dŷ Joseff, a'i frodyr, a thŷ ei dad. Dim ond y rhai bychain, a'r defaid a'r gwartheg, a adawsant yng ngwlad Gosen.
50:9  Aeth i fyny gydag ef gerbydau a marchogion, llu mawr ohonynt.
50:10  Wedi iddynt gyrraedd llawr dyrnu Atad, sydd y tu draw i'r Iorddonen, gwnaethant yno alarnad uchel a chwerw iawn. Galarnadodd Joseff am ei dad am saith diwrnod.
50:11  Pan welodd y Canaaneaid, preswylwyr y wlad, y galar ar lawr dyrnu Atad, dywedasant, "Dyma alar mawr gan yr Eifftiaid." Felly enwyd y lle y tu draw i'r Iorddonen yn Abel-misraim.
50:12  A gwnaeth ei feibion i Jacob fel yr oedd wedi gorchymyn iddynt;
50:13  oherwydd daeth ei feibion ag ef i wlad Canaan a'i gladdu ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yn yr ogof a brynodd Abraham gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd.
50:14  Ac wedi iddo gladdu ei dad, dychwelodd Joseff i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb oedd wedi mynd i fyny gydag ef i gladdu ei dad.

Joseff yn Tawelu Ofnau ei Frodyr

50:15  Wedi marw eu tad, daeth ofn ar frodyr Joseff, a dywedasant, "Efallai y bydd Joseff yn ein casáu ni, ac yn talu'n ôl yr holl ddrwg a wnaethom iddo."
50:16  A daethant at Joseff, a dweud, "Rhoddodd dy dad orchymyn fel hyn cyn marw,
50:17  'Dywedwch wrth Joseff, "Maddau yn awr ddrygioni a phechod dy frodyr, oherwydd gwnaethant ddrwg i ti."' Yn awr, maddau ddrygioni gweision Duw dy dad." Wylodd Joseff wrth iddynt siarad ag ef.
50:18  Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, "Yr ydym yn weision i ti."
50:19  Ond dywedodd Joseff wrthynt, "Peidiwch ag ofni. A wyf fi yn lle Duw?
50:20  Yr oeddech chwi yn bwriadu drwg yn f'erbyn; ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni, er mwyn gwneud yr hyn a welir heddiw, cadw'n fyw llawer o bobl.
50:21  Felly peidiwch ag ofni; fe'ch cynhaliaf chwi a'ch rhai bach." A chysurodd hwy, a siarad yn dyner wrthynt.

Marw Joseff

50:22  Arhosodd Joseff a theulu ei dad yn yr Aifft. Bu Joseff fyw am gant a deg o flynyddoedd,
50:23  a gwelodd blant Effraim hyd y drydedd genhedlaeth. Ar liniau Joseff hefyd y maethwyd plant Machir fab Manasse.
50:24  Yna dywedodd Joseff wrth ei frodyr, "Yr wyf yn marw; ond y mae Duw yn sicr o ymweld â chwi a'ch dwyn i fyny o'r wlad hon i'r wlad a addawodd trwy lw i Abraham, Isaac a Jacob."
50:25  A gwnaeth Joseff i feibion Israel dyngu llw. Dywedodd, "Y mae Duw yn sicr o ymweld â chwi; ewch chwithau â'm hesgyrn i fyny oddi yma."
50:26  Bu Joseff farw yn gant a deg oed, ac wedi iddynt ei eneinio, rhoesant ef mewn arch yn yr Aifft.