LLYFR EXODUS

Gormesu'r Israeliaid yn yr Aifft

1:1 Dyma enwau meibion Israel a aeth i'r Aifft gyda Jacob, pob un gyda'i deulu:
1:2 Reuben, Simeon, Lefi a Jwda,
1:3 Issachar, Sabulon a Benjamin,
1:4 Dan a Nafftali, Gad ac Aser.
1:5 Yr oedd gan Jacob ddeg a thrigain o ddisgynyddion; yr oedd Joseff eisoes yn yr Aifft.
1:6 Yna bu farw Joseff a phob un o'i frodyr a'r holl genhedlaeth honno.
1:7 Ond yr oedd plant Israel yn ffrwythlon ac yn amlhau'n ddirfawr, ac aethant mor gryf a niferus nes bod y wlad yn llawn ohonynt.
1:8 Yna daeth brenin newydd i deyrnasu ar yr Aifft, un nad oedd yn gwybod am Joseff.
1:9 Dywedodd ef wrth ei bobl, "Edrychwch, y mae pobl Israel yn fwy niferus ac yn gryfach na ni.
1:10 Rhaid inni fod yn ddoeth wrth eu trin, rhag iddynt gynyddu, a phe deuai rhyfel, iddynt ymuno â'n gelynion i ymladd yn ein herbyn, a dianc o'r wlad."
1:11 Felly, gosodwyd meistri gwaith i oruchwylio'r bobl ac i'w llethu â beichiau trymion. Hwy fu'n adeiladu Pithom a Rameses, dinasoedd ar gyfer ystordai Pharo.
1:12 Ond po fwyaf y caent eu gorthrymu, mwyaf yn y byd yr oeddent yn amlhau ac yn cynyddu; a daeth yr Eifftiaid i'w hofni.
1:13 Am hynny, gorfodwyd i'r Israeliaid weithio dan ormes,
1:14 a gwnaeth yr Eifftiaid eu bywyd yn chwerw trwy eu gosod i lafurio'n galed â chlai a phriddfeini, a gwneud pob math o waith yn y meysydd. Yr oedd y cwbl yn cael ei wneud dan ormes.
1:15 Yna dywedodd brenin yr Aifft wrth Siffra a Pua, dwy fydwraig yr Hebreaid,
1:16 "Pan fyddwch yn gweini ar wragedd yr Hebreaid, sylwch ar y plentyn a enir: os mab fydd, lladdwch ef; os merch, gadewch iddi fyw."
1:17 Ond yr oedd y bydwragedd yn parchu Duw; ac ni wnaethant yr hyn a orchmynnodd brenin yr Aifft, ond gadawsant i'r bechgyn fyw.
1:18 Galwodd brenin yr Aifft y bydwragedd ato a gofyn, "Pam y gwnaethoch hyn, a gadael i'r bechgyn fyw?"
1:19 Dywedasant hwythau wrth Pharo, "Nid yw gwragedd yr Hebreaid yn debyg i wragedd yr Eifftiaid, oherwydd y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn i'r fydwraig gyrraedd."
1:20 Am hynny bu Duw yn dda wrth y bydwragedd; a chynyddodd y bobl a dod yn rymus iawn.
1:21 Am fod y bydwragedd yn parchu Duw, cawsant hwy eu hunain deuluoedd.
1:22 Yna rhoddodd Pharo orchymyn i'r holl bobl a dweud, "Taflwch i'r Neil bob mab a enir i'r Hebreaid, ond gadewch i bob merch gael byw."

Genedigaeth Moses

2:1 Priododd gŵr o dylwyth Lefi ag un o ferched Lefi.
2:2 Beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a phan welodd ei fod yn dlws, fe'i cuddiodd am dri mis.
2:3 Ond gan na allai ei guddio'n hwy, cymerodd gawell wedi ei wneud o lafrwyn a'i ddwbio â chlai a phyg; rhoddodd y plentyn ynddo a'i osod ymysg yr hesg ar lan y Neil.
2:4 Yr oedd chwaer y plentyn yn sefyll nid nepell oddi wrtho er mwyn cael gwybod beth a ddigwyddai iddo.
2:5 Daeth merch Pharo i ymdrochi yn yr afon tra oedd ei morynion yn cerdded ar y lan, a phan welodd y cawell yng nghanol yr hesg, anfonodd un ohonynt i'w nôl.
2:6 Wedi iddi ei agor, fe welodd y plentyn, ac yr oedd y bachgen yn wylo. Tosturiodd hithau wrtho a dweud, "Un o blant yr Hebreaid yw hwn."
2:7 Yna gofynnodd chwaer y plentyn i ferch Pharo, "A gaf fi fynd i chwilio am famaeth o blith gwragedd yr Hebreaid, iddi fagu'r plentyn iti?"
2:8 Atebodd merch Pharo, "Dos." Felly aeth y ferch ymaith a galw mam y plentyn.
2:9 Dywedodd merch Pharo wrth honno, "Cymer y plentyn hwn a'i fagu imi, ac fe roddaf finnau dâl iti." Felly cymerodd y wraig y plentyn a'i fagu.
2:10 Wedi i'r plentyn dyfu i fyny, aeth ag ef yn ôl at ferch Pharo. Mabwysiadodd hithau ef a'i enwi'n Moses, oherwydd iddi ddweud, "Tynnais ef allan o'r dŵr."

Moses yn Ffoi i Midian

2:11 Un diwrnod, wedi i Moses dyfu i fyny, aeth allan at ei bobl ac edrych ar eu beichiau. Gwelodd Eifftiwr yn taro Hebrëwr, un o'i frodyr,
2:12 ac wedi edrych o'i amgylch a gweld nad oedd neb yno, lladdodd Moses yr Eifftiwr a'i guddio yn y tywod.
2:13 Pan aeth allan drannoeth a gweld dau Hebrëwr yn ymladd â'i gilydd, gofynnodd i'r un oedd ar fai, "Pam yr wyt yn taro dy gyfaill?"
2:14 Atebodd yntau, "Pwy a'th benododd di yn bennaeth ac yn farnwr arnom? A wyt am fy lladd i fel y lleddaist yr Eifftiwr?" Daeth ofn ar Moses o sylweddoli fod y peth yn hysbys.
2:15 Pan glywodd Pharo am hyn, ceisiodd ladd Moses, ond ffodd ef oddi wrtho a mynd i fyw i wlad Midian; ac yno eisteddodd i lawr yn ymyl pydew.
2:16 Yr oedd gan offeiriad Midian saith o ferched, a daethant i godi dŵr er mwyn llenwi'r cafnau a dyfrhau defaid eu tad.
2:17 Daeth bugeiliaid heibio a'u gyrru oddi yno, ond cododd Moses ar ei draed a'u cynorthwyo i ddyfrhau eu praidd.
2:18 Pan ddaeth y merched at Reuel eu tad, gofynnodd, "Sut y daethoch yn ôl mor fuan heddiw?"
2:19 Dywedasant hwythau, "Eifftiwr a ddaeth i'n hamddiffyn rhag y bugeiliaid, a chodi dŵr i ddyfrhau'r praidd."
2:20 Yna gofynnodd yntau iddynt, "Ple mae'r dyn? Pam yr ydych wedi ei adael ar ôl? Galwch arno, iddo gael tamaid i'w fwyta."
2:21 Cytunodd Moses i aros gyda'r gŵr, a rhoddodd yntau ei ferch Seffora yn wraig iddo.
2:22 Esgorodd hithau ar fab, a galwodd Moses ef yn Gersom, oherwydd dywedodd, "Dieithryn ydwyf mewn gwlad ddieithr."
2:23 Yn ystod yr amser maith hwn, bu farw brenin yr Aifft. Ond yr oedd pobl Israel yn dal i riddfan oherwydd eu caethiwed, ac yn gweiddi am gymorth, a daeth eu gwaedd o achos eu caethiwed at Dduw.
2:24 Clywodd Duw eu cwynfan, a chofiodd ei gyfamod ag Abraham, Isaac a Jacob;
2:25 edrychodd ar bobl Israel ac ystyriodd eu cyflwr.

Duw yn Galw Moses

3:1 Yr oedd Moses yn bugeilio defaid ei dad-yng-nghyfraith Jethro, offeiriad Midian, ac wrth iddo arwain y praidd ar hyd cyrion yr anialwch, daeth i Horeb, mynydd Duw.
3:2 Yno ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo mewn fflam dân o ganol perth. Edrychodd yntau a gweld y berth ar dân ond heb ei difa.
3:3 Dywedodd Moses, "Yr wyf am droi i edrych ar yr olygfa ryfedd hon, pam nad yw'r berth wedi llosgi."
3:4 Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod wedi troi i edrych, galwodd Duw arno o ganol y berth, "Moses, Moses." Atebodd yntau, "Dyma fi."
3:5 Yna dywedodd Duw, "Paid â dod ddim nes; tyn dy esgidiau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r llecyn yr wyt yn sefyll arno yn dir sanctaidd."
3:6 Dywedodd hefyd, "Duw dy dadau wyf fi, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob." Cuddiodd Moses ei wyneb, oherwydd yr oedd arno ofn edrych ar Dduw.
3:7 Yna dywedodd yr ARGLWYDD, "Yr wyf wedi gweld adfyd fy mhobl yn yr Aifft a chlywed eu gwaedd o achos eu meistri gwaith, a gwn am eu doluriau.
3:8 Yr wyf wedi dod i'w gwaredu o law'r Eifftiaid, a'u harwain o'r wlad honno i wlad ffrwythlon ac eang, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, cartref y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.
3:9 Yn awr y mae gwaedd pobl Israel wedi dod ataf, ac yr wyf wedi gweld fel y bu'r Eifftiaid yn eu gorthrymu.
3:10 Tyrd, yr wyf yn dy anfon at Pharo er mwyn iti arwain fy mhobl, yr Israeliaid, allan o'r Aifft."
3:11 Ond gofynnodd Moses i Dduw, "Pwy wyf fi i fynd at Pharo ac arwain pobl Israel allan o'r Aifft?"
3:12 Dywedodd yntau, "Byddaf fi gyda thi; a dyma fydd yr arwydd mai myfi sydd wedi dy anfon: wedi iti arwain y bobl allan o'r Aifft, byddwch yn addoli Duw ar y mynydd hwn."
3:13 Yna dywedodd Moses wrth Dduw, "Os af at bobl Israel a dweud wrthynt, 'Y mae Duw eich hynafiaid wedi fy anfon atoch', beth a ddywedaf wrthynt os gofynnant am ei enw?"
3:14 Dywedodd Duw wrth Moses, "Ydwyf yr hyn ydwyf. Dywed hyn wrth bobl Israel, 'Ydwyf sydd wedi fy anfon atoch.'"
3:15 Dywedodd Duw eto wrth Moses, "Dywed hyn wrth bobl Israel, 'Yr ARGLWYDD, Duw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob sydd wedi fy anfon atoch.' Dyma fydd fy enw am byth, ac fel hyn y cofir amdanaf gan bob cenhedlaeth.
3:16 Dos, a chynnull ynghyd henuriaid Israel, a dywed wrthynt, 'Y mae'r ARGLWYDD, Duw eich tadau, Duw Abraham, Isaac a Jacob, wedi ymddangos i mi a dweud: Yr wyf wedi ymweld â chwi ac edrych ar yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft,
3:17 ac yr wyf wedi penderfynu eich arwain allan o adfyd yr Aifft i wlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.'
3:18 Bydd henuriaid Israel yn gwrando arnat; dos dithau gyda hwy at frenin yr Aifft a dweud wrtho, 'Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid, wedi ymweld â ni; yn awr gad inni fynd daith dridiau i'r anialwch er mwyn inni aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw.'
3:19 Ond yr wyf yn gwybod na fydd brenin yr Aifft yn caniatáu i chwi fynd oni orfodir ef â llaw gadarn.
3:20 Felly, estynnaf fy llaw a tharo'r Eifftiaid â'r holl ryfeddodau a wnaf yn eu plith; wedi hynny, bydd yn eich gollwng yn rhydd.
3:21 Gwnaf i'r Eifftiaid edrych yn ffafriol ar y bobl hyn, a phan fyddwch yn ymadael, nid ewch yn waglaw,
3:22 oherwydd bydd pob gwraig yn gofyn i'w chymdoges neu i unrhyw un yn ei thŷ am dlysau o arian ac o aur, a dillad. Gwisgwch hwy am eich meibion a'ch merched, ac ysbeiliwch yr Aifft."

Duw yn Rhoi Gallu i Moses

4:1 Yna atebodd Moses, "Ni fyddant yn fy nghredu nac yn gwrando arnaf, ond byddant yn dweud, 'Nid yw'r ARGLWYDD wedi ymddangos i ti.'"
4:2 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Beth sydd gennyt yn dy law?" Atebodd yntau, "Gwialen."
4:3 Yna dywedodd yr ARGLWYDD, "Tafl hi ar lawr." Pan daflodd hi ar lawr, trodd yn sarff, a chiliodd Moses oddi wrthi.
4:4 Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Estyn dy law a gafael yn ei chynffon." Estynnodd yntau ei law a gafael ynddi, a throdd yn wialen yn ei law.
4:5 "Gwna hyn," meddai, "er mwyn iddynt gredu bod yr ARGLWYDD, Duw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob wedi ymddangos iti."
4:6 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Rho dy law yn dy fynwes." Rhoes yntau ei law yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd ei law yn wahanglwyfus ac yn wyn fel yr eira.
4:7 Yna dywedodd Duw, "Rho hi'n ôl yn dy fynwes." Rhoes yntau ei law yn ôl yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd mor iach â gweddill ei gorff.
4:8 "Os na fyddant yn dy gredu nac yn ymateb i'r arwydd cyntaf," meddai'r ARGLWYDD, "hwyrach y byddant yn ymateb i'r ail arwydd.
4:9 Ond os na fyddant yn ymateb i'r naill arwydd na'r llall, nac yn gwrando arnat, cymer ddŵr o'r Neil a'i dywallt ar y sychdir, a bydd y dŵr a gymeri o'r afon Neil yn troi'n waed ar y tir sych."
4:10 Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "O f'Arglwydd, ni fûm erioed yn ŵr huawdl, nac yn y gorffennol nac er pan ddechreuaist lefaru wrth dy was; y mae fy lleferydd yn araf a'm tafod yn drwm."
4:11 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Pwy a roes enau i feidrolyn? Pwy a'i gwna yn fud neu'n fyddar? Pwy a rydd iddo olwg, neu ei wneud yn ddall? Onid myfi, yr ARGLWYDD?
4:12 Yn awr, dos, rhof help iti i lefaru, a'th ddysgu beth i'w ddweud."
4:13 Ond dywedodd ef, "O f'Arglwydd, anfon pwy bynnag arall a fynni."
4:14 Digiodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dywedodd, "Onid Aaron y Lefiad yw dy frawd? Gwn y gall ef siarad yn huawdl; y mae ar ei ffordd i'th gyfarfod, a bydd yn falch o'th weld.
4:15 Llefara di wrtho a gosod y geiriau yn ei enau, a rhof finnau help i'r ddau ohonoch i lefaru, a'ch dysgu beth i'w wneud.
4:16 Bydd ef yn llefaru wrth y bobl ar dy ran; bydd ef fel genau iti, a byddi dithau fel Duw iddo yntau.
4:17 Cymer y wialen hon yn dy law, oherwydd trwyddi hi y byddi'n gwneud yr arwyddion."

Moses yn Dychwelyd i'r Aifft

4:18 Dychwelodd Moses at Jethro ei dad-yng-nghyfraith a dweud wrtho, "Gad imi fynd yn ôl at fy mhobl sydd yn yr Aifft i weld a ydynt yn dal yn fyw." Dywedodd Jethro wrtho, "Rhwydd hynt iti."
4:19 Yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses yn Midian, "Dos yn ôl i'r Aifft, oherwydd y mae pawb oedd yn ceisio dy ladd bellach wedi marw."
4:20 Felly, cymerodd Moses ei wraig a'i feibion, a'u gosod ar asyn a mynd yn ôl i wlad yr Aifft, â gwialen Duw yn ei law.
4:21 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Wedi iti ddychwelyd i'r Aifft, rhaid iti wneud o flaen Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy allu; ond byddaf yn caledu ei galon ac ni fydd yn gollwng y bobl yn rhydd.
4:22 Llefara wrth Pharo, 'Dyma a ddywed yr ARGLWYDD: Israel yw fy mab cyntafanedig,
4:23 ac yr wyf yn dweud wrthyt am ollwng fy mab yn rhydd er mwyn iddo f'addoli, ond gwrthodaist ei ollwng yn rhydd, felly fe laddaf dy fab cyntafanedig di.'"
4:24 Mewn llety ar y ffordd, cyfarfu'r ARGLWYDD â Moses a cheisio'i ladd.
4:25 Ond cymerodd Seffora gyllell finiog a thorri blaengroen ei mab a'i fwrw i gyffwrdd â thraed Moses, a dweud, "Yr wyt yn briod imi trwy waed."
4:26 Yna gadawodd yr ARGLWYDD lonydd iddo. Dyna'r adeg y dywedodd hi, "Yr wyt yn briod trwy waed oherwydd yr enwaedu."
4:27 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, "Dos i'r anialwch i gyfarfod â Moses." Aeth yntau, a chyfarfod ag ef wrth fynydd Duw a'i gusanu.
4:28 Adroddodd Moses wrth Aaron y cyfan yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i'w ddweud, a'r holl arwyddion yr oedd wedi gorchymyn iddo eu gwneud.
4:29 Yna aeth Moses ac Aaron i gynnull ynghyd holl henuriaid pobl Israel,
4:30 a dywedodd Aaron wrthynt y cyfan yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses; a gwnaeth yr arwyddion yng ngŵydd y bobl.
4:31 Credodd y bobl, a phan glywsant fod yr ARGLWYDD wedi ymweld â phobl Israel a'i fod wedi edrych ar eu hadfyd, bu iddynt ymgrymu i lawr ac addoli.

Moses ac Aaron gerbron Pharo

5:1 Yna aeth Moses ac Aaron at Pharo a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Gollwng fy mhobl yn rhydd er mwyn iddynt gadw gŵyl i mi yn yr anialwch.'"
5:2 Dywedodd Pharo, "Pwy yw yr ARGLWYDD? Pam y dylwn i ufuddhau iddo a gollwng Israel yn rhydd? Nid wyf yn adnabod yr ARGLWYDD, ac felly nid wyf am ollwng Israel yn rhydd."
5:3 Yna dywedasant, "Y mae Duw'r Hebreaid wedi cyfarfod â ni. Gad inni fynd daith dridiau i'r anialwch i aberthu i'r ARGLWYDD, ein Duw, rhag iddo ein taro â haint neu â chleddyf."
5:4 Ond dywedodd brenin yr Aifft wrthynt, "Moses ac Aaron, pam yr ydych yn denu'r bobl oddi wrth eu gwaith? Ewch yn ôl at eich gorchwylion."
5:5 Dywedodd Pharo hefyd, "Edrychwch, y maent erbyn hyn yn fwy niferus na thrigolion y wlad, ac yr ydych chwi am atal eu gorchwylion!"
5:6 Y diwrnod hwnnw, rhoddodd Pharo orchymyn i feistri gwaith y bobl a'u swyddogion,
5:7 "Peidiwch â rhoi gwellt mwyach i'r bobl i wneud priddfeini; gadewch iddynt fynd a chasglu gwellt iddynt eu hunain.
5:8 Ond gofalwch eu bod yn cynhyrchu'r un nifer o briddfeini â chynt, a pheidiwch â lleihau'r nifer iddynt. Y maent yn ddiog, a dyna pam y maent yn gweiddi am gael mynd i aberthu i'w Duw.
5:9 Gwnewch y gwaith yn drymach i'r bobl er mwyn iddynt ddal ati i weithio, a pheidiwch â gwrando ar eu celwydd."
5:10 Aeth meistri gwaith a swyddogion y bobl allan a dweud wrthynt, "Fel hyn y dywed Pharo:
5:11 'Nid wyf am roi gwellt i chwi mwyach, ond rhaid i chwi eich hunain fynd i geisio gwellt ym mha le bynnag y gallwch ei gael; er hynny, ni fydd dim cwtogi ar eich cynnyrch.'"
5:12 Felly, bu raid i'r bobl grwydro trwy holl wlad yr Aifft a chasglu sofl yn lle gwellt.
5:13 Yr oedd y meistri gwaith yn pwyso arnynt gan ddweud, "Gorffennwch y gwaith ar gyfer pob dydd, yn union fel yr oeddech pan oedd gennych wellt."
5:14 Cafodd y swyddogion a benodwyd gan feistri gwaith Pharo i oruchwylio'r Israeliaid eu curo a'u holi, "Pam na wnaethoch eich dogn o briddfeini heddiw fel cynt?"
5:15 Yna daeth swyddogion yr Israeliaid â'u cwyn at Pharo, a dweud, "Pam yr wyt yn trin dy weision fel hyn?
5:16 Nid oes dim gwellt yn cael ei roi i'th weision, ac eto maent yn dweud wrthym am wneud priddfeini! Y mae dy weision yn cael eu curo, ond ar dy bobl di y mae'r bai."
5:17 Dywedodd yntau, "Am eich bod mor ddiog yr ydych yn dweud, 'Gad inni fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.'
5:18 Yn awr, ewch ymlaen â'ch gwaith; ac er na roddir gwellt i chwi mwyach, bydd raid i chwi gynhyrchu'r un nifer o briddfeini â chynt."
5:19 Pan ddywedwyd nad oeddent i leihau'r nifer o briddfeini oedd i'w cynhyrchu mewn diwrnod, gwelodd swyddogion yr Israeliaid eu bod mewn helynt.
5:20 Wedi iddynt ymadael â Pharo, daeth Moses ac Aaron i'w cyfarfod,
5:21 a dywedodd y swyddogion wrthynt, "Boed i'r ARGLWYDD edrych arnoch a'ch barnu, am ichwi ein gwneud yn ffiaidd yng ngolwg Pharo a'i weision, a rhoi cleddyf iddynt i'n lladd."

Moses yn Cwyno gerbron yr Arglwydd

5:22 Aeth Moses yn ôl at yr ARGLWYDD a dweud, "O ARGLWYDD, pam yr wyt wedi peri'r fath helynt i'r bobl hyn? A pham yr anfonaist fi?
5:23 Oherwydd er pan ddeuthum at Pharo a llefaru yn dy enw, y mae wedi gwneud drwg i'r bobl hyn, ac nid wyt ti wedi gwneud dim o gwbl i achub eu cam."
6:1 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cei weld yn awr beth a wnaf i Pharo; â llaw nerthol bydd yn gollwng y bobl yn rhydd, a'u gyrru ymaith o'i wlad."

Duw yn Galw Moses

6:2 Dywedodd Duw hefyd wrth Moses, "Myfi yw'r ARGLWYDD.
6:3 Ymddangosais i Abraham, Isaac a Jacob fel Duw Hollalluog, ac nid oeddent yn fy adnabod wrth fy enw, ARGLWYDD.
6:4 Hefyd, gwneuthum gyfamod â hwy i roi iddynt wlad Canaan, lle buont yn byw fel estroniaid;
6:5 a phan glywais riddfan yr Israeliaid oedd dan orthrwm yr Eifftiaid, cofiais fy nghyfamod.
6:6 Felly, dywed wrth yr Israeliaid, 'Myfi yw'r ARGLWYDD, ac fe'ch rhyddhaf o orthrwm yr Eifftiaid a'ch gwaredu o'ch caethiwed, a'ch achub â braich estynedig ac â gweithredoedd nerthol o farn.
6:7 Fe'ch cymeraf yn bobl i mi, a byddaf finnau yn Dduw i chwi; a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch rhyddhaodd o orthrwm yr Eifftiaid.
6:8 Fe'ch dygaf i'r wlad yr addewais ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob, ac fe'i rhoddaf yn eiddo i chwi. Myfi yw'r ARGLWYDD.'"
6:9 Mynegodd Moses hyn wrth bobl Israel, ond nid oeddent hwy'n barod i wrando arno oherwydd eu digalondid a'u caethiwed caled.
6:10 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
6:11 "Dos i ddweud wrth Pharo brenin yr Aifft am ryddhau'r Israeliaid o'i wlad."
6:12 Ond dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "Nid yw pobl Israel wedi gwrando arnaf; sut, felly, y bydd Pharo yn gwrando arnaf, a minnau â nam ar fy lleferydd?"
6:13 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, a rhoi gorchymyn iddynt ynglŷn â phobl Israel a Pharo brenin yr Aifft, er mwyn rhyddhau'r Israeliaid o wlad yr Aifft.

Achau Moses ac Aaron

6:14 Y rhain oedd y pennau-teuluoedd yn nhylwythau eu tadau. Meibion Reuben, cyntafanedig Israel: Hanoch, Palu, Hesron a Charmi; dyna deuluoedd Reuben.
6:15 Meibion Simeon: Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar a Saul, mab i wraig o Ganaan; dyna deuluoedd Simeon.
6:16 Dyma enwau meibion Lefi yn ôl eu cenedlaethau: Gerson, Cohath a Merari; bu Lefi fyw am gant tri deg a saith o flynyddoedd.
6:17 Meibion Gerson: Libni a Simei, yn ôl eu teuluoedd.
6:18 Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel; bu Cohath fyw am gant tri deg a thair o flynyddoedd.
6:19 Meibion Merari: Mahli a Musi; dyna deuluoedd Lefi yn ôl eu cenedlaethau.
6:20 Priododd Amram â Jochebed, chwaer ei dad, ac esgorodd hi ar Aaron a Moses; bu Amram fyw am gant tri deg a saith o flynyddoedd.
6:21 Meibion Ishar: Cora, Neffeg a Sicri.
6:22 Meibion Ussiel: Misael, Elsaffan a Sithri.
6:23 Priododd Aaron ag Eliseba, merch i Aminadab a chwaer i Nahason; esgorodd hi ar Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar.
6:24 Meibion Cora: Assir, Elcana, ac Abiasaff; dyna deuluoedd y Corahiaid.
6:25 Priododd Eleasar, mab Aaron, ag un o ferched Putiel, ac esgorodd hi ar Phineas. Y rhain oedd y pennau-teuluoedd yn nhylwyth y Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.
6:26 Dyma'r Aaron a'r Moses y dywedodd yr ARGLWYDD wrthynt, "Dygwch yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft, yn ôl eu lluoedd."
6:27 Dyma hefyd y Moses a'r Aaron a ddywedodd wrth Pharo brenin yr Aifft am ryddhau'r Israeliaid o'r Aifft.

Gorchymyn yr Arglwydd i Moses ac Aaron

6:28 Pan lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwlad yr Aifft,
6:29 dywedodd wrtho, "Myfi yw'r ARGLWYDD; dywed wrth Pharo brenin yr Aifft y cyfan yr wyf yn ei ddweud wrthyt."
6:30 Ond dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "Y mae nam ar fy lleferydd; sut, felly, y bydd Pharo yn gwrando arnaf?"
7:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Edrych, yr wyf yn dy wneud fel Duw i Pharo, a bydd Aaron dy frawd yn broffwyd iti.
7:2 Yr wyt i fynegi'r cyfan yr wyf yn ei orchymyn i ti, a bydd Aaron dy frawd yn dweud wrth Pharo am ryddhau'r Israeliaid o'i wlad.
7:3 Byddaf finnau'n caledu calon Pharo; ac er imi amlhau fy arwyddion a'm rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft,
7:4 ni fydd ef yn gwrando arnoch. Yna byddaf yn gosod fy llaw ar yr Aifft ac yn rhyddhau fy mhobl Israel yn lluoedd o wlad yr Aifft, trwy weithredoedd nerthol o farn.
7:5 Bydd yr Eifftiaid yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan estynnaf fy llaw yn erbyn yr Aifft a rhyddhau'r Israeliaid o'u plith."
7:6 Gwnaeth Moses ac Aaron yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt.
7:7 Pan lefarodd Moses ac Aaron wrth Pharo, yr oedd Moses yn bedwar ugain oed ac Aaron yn dair a phedwar ugain.

Gwialen Aaron

7:8 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
7:9 "Os bydd Pharo'n dweud wrthych am wneud rhyfeddod, yr wyt ti, Moses, i ddweud wrth Aaron, 'Cymer dy wialen a'i thaflu ar lawr o flaen Pharo, ac fe dry'n sarff.'"
7:10 Felly, aeth Moses ac Aaron at Pharo a gwneud fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt.
7:11 Taflodd Aaron ei wialen o flaen Pharo a'i weision, ac fe drodd yn sarff. Yna anfonodd Pharo am y gwŷr doeth a'r dewiniaid, ac yr oeddent hwythau, swynwyr yr Aifft, hefyd yn medru gwneud hyn trwy eu gallu cyfrin.
7:12 Taflodd pob un ei wialen, a throdd pob gwialen yn sarff; ond llyncodd gwialen Aaron eu gwiail hwy.
7:13 Er hynny, caledodd calon Pharo ac ni wrandawodd arnynt, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

Plâu'r Aifft: Gwaed

7:14 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Y mae calon Pharo wedi caledu, ac y mae'n gwrthod rhyddhau'r bobl.
7:15 Dos at Pharo yn y bore, wrth iddo fynd tua'r afon; aros amdano ar lan y Neil, a chymer yn dy law y wialen a drodd yn sarff.
7:16 Dywed wrtho, 'Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid, wedi fy anfon atat i ddweud, "Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli yn yr anialwch"; ond hyd yn hyn nid wyt wedi ufuddhau iddo.'
7:17 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma sut y cei wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD: â'r wialen sydd yn fy llaw byddaf yn taro dŵr y Neil, ac fe dry'n waed.
7:18 Bydd y pysgod ynddi yn marw, a'r afon yn drewi, a bydd yn ffiaidd i'r Eifftiaid yfed dŵr ohoni."
7:19 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dywed wrth Aaron, 'Cymer dy wialen ac estyn dy law dros ddyfroedd yr Aifft, dros ei ffrydiau a'i hafonydd, dros ei llynnoedd a'i chronfeydd dŵr, er mwyn iddynt droi'n waed.' Bydd gwaed trwy holl wlad yr Aifft, hyd yn oed yn y cawgiau o bren a charreg."
7:20 Gwnaeth Moses ac Aaron fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt. Yng ngŵydd Pharo a'i weision, cododd Aaron y wialen a tharo dŵr y Neil, ac fe droes yr holl ddŵr oedd ynddi yn waed.
7:21 Bu farw'r pysgod oedd ynddi, ac yr oedd yr afon yn drewi cymaint fel na allai'r Eifftiaid yfed dŵr ohoni; ac yr oedd gwaed trwy holl wlad yr Aifft.
7:22 Ond yr oedd swynwyr yr Aifft hefyd yn medru gwneud hyn trwy eu gallu cyfrin; felly caledodd calon Pharo, ac ni fynnai wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
7:23 Troes Pharo a mynd i mewn i'w dŷ, heb ystyried y peth ymhellach.
7:24 Am nad oeddent yn medru yfed y dŵr o'r Neil, bu'r holl Eifftiaid yn cloddio gerllaw'r afon am ddŵr i'w yfed.
7:25 Parhaodd hyn am saith diwrnod wedi i'r ARGLWYDD daro'r Neil.

Llyffaint

8:1 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses: "Dos at Pharo a dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gollwng fy mhobl yn rhydd er mwyn iddynt fy addoli;
8:2 os gwrthodi eu rhyddhau, byddaf yn taro dy holl dir â phla o lyffaint.
8:3 Bydd y Neil yn heigio o lyffaint, a byddant yn dringo i fyny i'th dŷ ac i'th ystafell wely; byddant yn dringo ar dy wely ac i gartrefi dy weision a'th bobl, i'th boptai ac i'th gafnau tylino.
8:4 Bydd y llyffaint yn dringo drosot ti a thros dy bobl a'th weision i gyd.'"
8:5 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dywed wrth Aaron, 'Estyn dy law a'th wialen dros y ffrydiau, yr afonydd a'r llynnoedd, a gwna i lyffaint ddringo i fyny dros dir yr Aifft.'"
8:6 Felly estynnodd Aaron ei law dros ddyfroedd yr Aifft, a dringodd y llyffaint i fyny nes gorchuddio'r tir.
8:7 Ond trwy eu gallu cyfrin yr oedd y swynwyr hefyd yn medru gwneud i lyffaint ddringo i fyny dros dir yr Aifft.
8:8 Yna galwodd Pharo am Moses ac Aaron, a dweud, "Gweddïwch ar i'r ARGLWYDD gymryd y llyffaint ymaith oddi wrthyf fi a'm pobl, ac fe ryddhaf finnau eich pobl er mwyn iddynt aberthu i'r ARGLWYDD."
8:9 Dywedodd Moses wrth Pharo, "Gad imi wybod pryd yr wyf i weddïo drosot ti a'th weision a'th bobl er mwyn symud y llyffaint oddi wrthyt ti ac o'th dai, a'u gadael yn y Neil yn unig." Meddai yntau, "Yfory."
8:10 Dywedodd Moses, "Fel y mynni di; cei wybod wedyn nad oes neb fel yr ARGLWYDD ein Duw ni.
8:11 Bydd y llyffaint yn ymadael â thi a'th dai, ac â'th weision a'th bobl, ac ni cheir hwy yn unman ond yn y Neil."
8:12 Yna aeth Moses ac Aaron allan oddi wrth Pharo, a galwodd Moses ar yr ARGLWYDD ynglŷn â'r llyffaint a ddygodd ar Pharo.
8:13 Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn yr oedd Moses yn ei ddymuno, a bu farw'r llyffaint yn y tai a'r ffermydd a'r meysydd.
8:14 Yna casglwyd hwy ynghyd yn bentyrrau, nes bod y wlad yn drewi.
8:15 Pan welodd Pharo ei fod wedi cael ymwared ohonynt, caledodd ei galon a gwrthododd wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

Llau

8:16 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dywed wrth Aaron, 'Estyn dy wialen a tharo llwch y ddaear, ac fe dry'n llau trwy holl wlad yr Aifft.'"
8:17 Gwnaethant hynny; estynnodd Aaron ei law allan, a tharo llwch y ddaear â'i wialen, a throes y llwch yn llau ar ddyn ac anifail; trodd holl lwch y ddaear yn llau trwy wlad yr Aifft i gyd.
8:18 Ceisiodd y swynwyr hefyd ddwyn llau allan trwy eu gallu cyfrin, ond nid oeddent yn medru. Yr oedd y llau ar ddyn ac anifail.
8:19 Dywedodd y swynwyr wrth Pharo, "Trwy fys Duw y digwyddodd hyn." Ond yr oedd calon Pharo wedi caledu, ac nid oedd am wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

Pryfed

8:20 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cod yn gynnar yn y bore i gyfarfod â Pharo wrth iddo fynd tua'r afon, a dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli;
8:21 oherwydd, os gwrthodi eu rhyddhau, byddaf yn anfon haid o bryfed arnat ti, dy weision, dy bobl a'th dai. Bydd tai'r Eifftiaid a'r tir danynt yn orlawn o bryfed.
8:22 Ond ar y dydd hwnnw byddaf yn neilltuo gwlad Gosen, lle mae fy mhobl yn byw, ac ni fydd haid o bryfed yno; felly, byddi'n gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, yma yn y wlad.
8:23 Gan hynny, byddaf yn gwahaniaethu rhwng fy mhobl i a'th bobl di. Bydd yr arwydd hwn yn ymddangos yfory.'"
8:24 Gwnaeth yr ARGLWYDD hynny; daeth haid enfawr o bryfed i dŷ Pharo ac i dai ei weision, a difethwyd holl dir gwlad yr Aifft gan y pryfed.
8:25 Yna galwodd Pharo am Moses ac Aaron a dweud, "Ewch i aberthu i'ch Duw yma yn y wlad."
8:26 Ond dywedodd Moses, "Ni fyddai'n briodol inni wneud hynny, oherwydd byddwn yn aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw bethau sy'n ffiaidd i'r Eifftiaid; ac os aberthwn yn eu gŵydd bethau sy'n ffiaidd i'r Eifftiaid, oni fyddant yn ein llabyddio?
8:27 Rhaid inni fynd daith dridiau i'r anialwch i aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw, fel y mae ef yn gorchymyn inni."
8:28 Atebodd Pharo, "Fe adawaf i chwi fynd i aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn yr anialwch, ond peidiwch â mynd yn rhy bell. Yn awr, gweddïwch drosof."
8:29 Yna dywedodd Moses, "Fe af allan oddi wrthyt a gweddïo ar yr ARGLWYDD i'r haid o bryfed symud yfory oddi wrth Pharo a'i weision a'i bobl; ond peidied Pharo â cheisio twyllo eto trwy wrthod rhyddhau'r bobl i aberthu i'r ARGLWYDD."
8:30 Felly aeth Moses ymaith o ŵydd Pharo i weddïo ar yr ARGLWYDD.
8:31 Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn yr oedd Moses yn ei ddymuno, a symudodd yr haid o bryfed oddi wrth Pharo ac oddi wrth ei weision a'i bobl; ni adawyd yr un ar ôl.
8:32 Ond caledodd Pharo ei galon y tro hwn eto, ac ni ollyngodd y bobl yn rhydd.

Marw'r Anifeiliaid

9:1 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dos at Pharo a dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid: Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli.
9:2 Oherwydd os gwrthodi, a pharhau i ddal dy afael ynddynt,
9:3 bydd llaw'r ARGLWYDD yn dwyn pla trwm ar dy anifeiliaid yn y maes, ar y meirch, yr asynnod, y camelod, y gwartheg a'r defaid.
9:4 Ond bydd yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng anifeiliaid Israel a rhai'r Eifftiaid, fel na bydd farw dim sy'n eiddo i'r Israeliaid.
9:5 Pennodd yr ARGLWYDD amser arbennig, a dweud, Yfory y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud hyn yn y wlad.'"
9:6 A thrannoeth, fe'i gwnaeth; bu farw holl anifeiliaid yr Eifftiaid, ond ni bu farw yr un o anifeiliaid yr Israeliaid.
9:7 Pan anfonodd Pharo, gwelodd nad oedd yr un o anifeiliaid yr Israeliaid wedi marw. Ond yr oedd calon Pharo wedi caledu, ac nid oedd am ryddhau'r bobl.

Cornwydydd

9:8 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, "Cymerwch ddyrneidiau o huddygl o ffwrn, a bydded i Moses ei daflu i'r awyr yng ngŵydd Pharo.
9:9 Fe dry'n llwch mân dros holl dir yr Aifft, gan achosi cornwydydd poenus ar ddyn ac anifail trwy holl wlad yr Aifft."
9:10 Felly cymerasant yr huddygl o'r ffwrn, a sefyll o flaen Pharo, a thaflodd Moses y lludw i'r awyr. Achosodd gornwydydd poenus ar ddyn ac anifail.
9:11 Ni allai'r swynwyr sefyll o flaen Moses o achos y cornwydydd, oherwydd yr oeddent arnynt hwythau yn ogystal â'r Eifftiaid.
9:12 Ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo, ac ni wrandawodd ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

Cenllysg

9:13 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cod yn gynnar yn y bore a saf o flaen Pharo, a dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid: Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli;
9:14 oherwydd y tro hwn yr wyf am anfon fy holl blâu arnat ti ac ar dy weision a'th bobl, er mwyn i chwi wybod nad oes neb tebyg i mi yn yr holl ddaear.
9:15 Erbyn hyn, gallaswn fod wedi estyn allan fy llaw a'th daro di a'th bobl â haint, a'th dorri ymaith oddi ar y ddaear;
9:16 ond gadewais iti fyw er mwyn dangos iti fy nerth a chyhoeddi fy enw trwy'r holl ddaear.
9:17 Ond yr wyt ti'n dal i wrthsefyll fy mhobl, ac yn gwrthod eu rhyddhau.
9:18 Felly, tua'r adeg yma yfory, byddaf yn peri iddi fwrw cenllysg trwm, na welwyd ei debyg yn yr Aifft o ddydd ei sylfaenu hyd heddiw.
9:19 Anfon rywun ar unwaith i gasglu ynghyd dy anifeiliaid a'r cyfan sydd gennyt yn y maes, oherwydd fe ddisgyn y cenllysg ar bob dyn ac anifail a fydd yn dal allan yn y maes heb ei ddwyn i loches, a byddant farw.'"
9:20 Yr oedd y sawl o blith gweision Pharo oedd yn parchu gair yr ARGLWYDD yn brysio i ddod â'i weision a'i anifeiliaid i loches,
9:21 ond gadawodd y sawl oedd yn diystyru gair yr ARGLWYDD ei weision a'i anifeiliaid allan yn y maes.
9:22 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Estyn allan dy law tua'r nefoedd, i ddod â chenllysg ar holl wlad yr Aifft, ar ddyn ac anifail ac ar bopeth sy'n tyfu yn y maes trwy wlad yr Aifft."
9:23 Estynnodd Moses ei wialen tua'r nefoedd, ac anfonodd yr ARGLWYDD daranau a chenllysg, a mellt yn gwibio i lawr i'r ddaear, a pheri iddi fwrw cenllysg ar dir yr Aifft.
9:24 Yr oedd cenllysg yn disgyn a mellt yn fflachio yn ei ganol; yr oedd y cenllysg yn drymach na dim a welwyd yn holl wlad yr Aifft er pan sylfaenwyd hi yn genedl.
9:25 Trawodd y cenllysg bopeth oedd yn y maes, yn ddyn ac anifail, trwy holl wlad yr Aifft; curodd ar yr holl lysiau a drylliodd bob coeden.
9:26 Yr unig fan lle nad oedd cenllysg oedd gwlad Gosen, lle'r oedd yr Israeliaid.
9:27 Anfonodd Pharo am Moses ac Aaron, a dweud wrthynt, "Yr wyf fi wedi pechu y tro hwn; yr ARGLWYDD sy'n iawn, a minnau a'm pobl ar fai.
9:28 Gweddïwch ar yr ARGLWYDD, oherwydd cawsom ddigon ar y taranau hyn a'r cenllysg; fe'ch rhyddhaf, ac nid oes rhaid i chwi aros yma'n hwy."
9:29 Dywedodd Moses wrtho, "Pan af allan o'r ddinas, estynnaf fy nwylo at yr ARGLWYDD; bydd diwedd ar y taranau, ac ni bydd rhagor o genllysg, er mwyn iti wybod mai eiddo'r ARGLWYDD yw'r ddaear.
9:30 Ond gwn nad wyt ti na'th weision eto yn parchu'r ARGLWYDD Dduw."
9:31 (Yr oedd y llin a'r haidd wedi eu difetha, oherwydd bod yr haidd wedi hedeg a'r llin wedi hadu.
9:32 Ond ni ddifethwyd y gwenith na'r ceirch, am eu bod yn fwy diweddar yn blaguro.)
9:33 Aeth Moses allan o'r ddinas, o ŵydd Pharo, ac estynnodd ei ddwylo at yr ARGLWYDD; bu diwedd ar y taranau a'r cenllysg, ac ni ddaeth rhagor o law ar y ddaear.
9:34 Ond pan welodd Pharo fod y glaw, y cenllysg a'r taranau wedi peidio, fe bechodd eto, a chaledodd ei galon, ef a'i weision.
9:35 Felly caledwyd calon Pharo, ac ni ryddhaodd yr Israeliaid, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud trwy Moses.

Locustiaid

10:1 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dos at Pharo, oherwydd yr wyf wedi caledu ei galon a chalon ei weision, er mwyn i mi ddangos yr arwyddion hyn o'm heiddo yn eu plith,
10:2 ac er mwyn i tithau ddweud wrth dy blant a phlant dy blant, fel y bûm yn trin yr Eifftiaid a gwneud arwyddion yn eu plith; felly, byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD."
10:3 Yna daeth Moses ac Aaron at Pharo a dweud wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid: Am ba hyd yr wyt am wrthod ymostwng o'm blaen? Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli.
10:4 Os gwrthodi eu rhyddhau, fe ddof â locustiaid i mewn i'th wlad yfory;
10:5 byddant yn gorchuddio wyneb y tir fel na ellir ei weld, yn bwyta'r ychydig a adawyd i chwi ar ôl y cenllysg, ac yn bwyta pob coeden o'ch eiddo sy'n tyfu yn y maes.
10:6 Byddant yn llenwi dy dai, a thai dy weision i gyd, a thai'r holl Eifftiaid, mewn modd na welwyd ei debyg gan dy dadau na'th deidiau, o'r dydd y buont ar y ddaear hyd heddiw." Yna trodd ac aeth allan o ŵydd Pharo.
10:7 Dywedodd gweision Pharo wrtho, "Am ba hyd y mae'r dyn hwn yn mynd i fod yn fagl inni? Gollwng y bobl yn rhydd, er mwyn iddynt addoli'r ARGLWYDD eu Duw; onid wyt ti eto'n deall bod yr Aifft wedi ei difetha?"
10:8 Felly daethpwyd â Moses ac Aaron yn ôl at Pharo, a dywedodd wrthynt, "Cewch fynd i addoli'r ARGLWYDD eich Duw; ond pa rai ohonoch sydd am fynd?"
10:9 Dywedodd Moses, "Byddwn yn mynd gyda'r ifainc a'r hen, gyda'n meibion a'n merched, gyda'n defaid a'n gwartheg, oherwydd rhaid inni gadw gŵyl i'r ARGLWYDD."
10:10 Dywedodd yntau wrthynt, "Yr ARGLWYDD fyddo gyda chwi os byth y rhyddhaf chwi a'ch rhai bychain! Edrychwch, rhyw ddrwg sydd gennych mewn golwg.
10:11 Na, y gwŷr yn unig a gaiff fynd i addoli'r ARGLWYDD, oherwydd dyna oedd eich dymuniad." Yna fe'u gyrrwyd allan o ŵydd Pharo.
10:12 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Estyn allan dy law dros wlad yr Aifft er mwyn i'r locustiaid ddisgyn ar dir yr Aifft, a bwyta holl lysiau'r ddaear a'r cyfan a adawyd ar ôl y cenllysg."
10:13 Felly estynnodd Moses ei wialen dros wlad yr Aifft, ac achosodd yr ARGLWYDD i'r dwyreinwynt chwythu ar y wlad trwy gydol y diwrnod hwnnw a thrwy'r nos; erbyn y bore yr oedd y dwyreinwynt wedi dod â'r locustiaid.
10:14 Daeth y locustiaid i fyny dros yr holl wlad a disgyn ym mhob ardal yn yr Aifft. Ni welwyd y fath bla trwm o locustiaid erioed o'r blaen, ac ni welir ei debyg eto.
10:15 Yr oeddent yn gorchuddio wyneb y tir nes bod y wlad i gyd yn ddu, ac yr oeddent yn bwyta holl lysiau'r ddaear a holl ffrwythau'r coed oedd wedi eu gadael ar ôl y cenllysg; nid oedd dim gwyrdd ar ôl ar y coed na'r planhigion trwy holl wlad yr Aifft.
10:16 Brysiodd Pharo i anfon am Moses ac Aaron a dweud, "Yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw ac yn eich erbyn chwithau.
10:17 Yn awr, maddau fy mhechod am y tro hwn yn unig, a gweddïwch ar i'r ARGLWYDD eich Duw symud ymaith y pla marwol hwn oddi wrthyf."
10:18 Felly aeth Moses allan o ŵydd Pharo, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD.
10:19 Gyrrodd yr ARGLWYDD wynt cryf iawn o'r gorllewin, a chododd hwnnw'r locustiaid a'u cludo i'r Môr Coch; ni adawyd yr un o'r locustiaid ar ôl yn unman yn yr Aifft.
10:20 Ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo, a gwrthododd ryddhau'r Israeliaid.

Tywyllwch

10:21 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Estyn allan dy law tua'r nefoedd, a bydd tywyllwch dros wlad yr Aifft, tywyllwch y gellir ei deimlo."
10:22 Felly estynnodd Moses ei law tua'r nefoedd, a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft am dridiau.
10:23 Ni allai'r bobl weld ei gilydd, ac ni symudodd neb o'i le am dri diwrnod, ond yr oedd gan yr Israeliaid oleuni yn y lle'r oeddent yn byw.
10:24 Galwodd Pharo am Moses a dweud, "Ewch i addoli'r ARGLWYDD; caiff eich plant hefyd fynd gyda chwi, ond rhaid i'ch defaid a'ch gwartheg aros ar ôl."
10:25 Ond dywedodd Moses, "Rhaid iti hefyd adael inni gael ebyrth a phoethoffrymau i'w haberthu i'r ARGLWYDD ein Duw;
10:26 a rhaid i'n hanifeiliaid hefyd fynd gyda ni; ni adawn yr un carn ar ôl, oherwydd byddwn yn defnyddio rhai ohonynt at wasanaeth yr ARGLWYDD ein Duw, ac ni fyddwn yn gwybod â pha beth yr ydym i'w wasanaethu nes inni gyrraedd yno."
10:27 Ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo, a gwrthododd eu rhyddhau.
10:28 Dywedodd Pharo wrtho, "Dos ymaith oddi wrthyf, a gofala na fyddi'n gweld fy wyneb eto, oherwydd ar y dydd y byddi'n fy ngweld, byddi farw."
10:29 Atebodd Moses, "Fel y mynni di; ni welaf dy wyneb byth mwy."

Darogan Marwolaeth y Cyntafanedig

11:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Yr wyf am ddwyn un pla arall ar Pharo ac ar yr Aifft; ar ôl hynny, bydd yn eich gollwng yn rhydd; a phan fydd yn eich rhyddhau, bydd yn eich gyrru oddi yma'n llwyr.
11:2 Dywed wrth y bobl am i bob gŵr a gwraig ohonynt gymryd benthyg tlysau arian a thlysau aur gan ei gymydog."
11:3 Gwnaeth yr ARGLWYDD i'r bobl gael ffafr gan yr Eifftiaid. Yr oedd Moses yn ddyn pwysig iawn yng ngwlad yr Aifft, yng ngolwg gweision Pharo ac yng ngolwg y bobl.
11:4 Yna dywedodd Moses, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Tua hanner nos, byddaf yn mynd allan trwy ganol yr Eifftiaid,
11:5 a bydd farw pob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntafanedig Pharo, sy'n eistedd ar ei orsedd, hyd gyntafanedig y forwyn sydd wrth y felin, a chyntafanedig pob anifail hefyd.
11:6 Bydd llefain mawr trwy holl wlad yr Aifft, mwy nag a fu o'r blaen nac a welir eto.
11:7 Ond ymhlith yr Israeliaid, ni bydd hyd yn oed gi yn ysgyrnygu ei ddannedd ar ddyn nac anifail; trwy hynny fe fyddwch yn gwybod bod yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng yr Aifft ac Israel.
11:8 Fe ddaw pob un o'th weision i lawr ataf ac ymgrymu o'm blaen a dweud, 'Dos allan, ti a phawb sy'n dy ganlyn.' Yna fe af finnau allan." Aeth o ŵydd Pharo wedi ei gythruddo.
11:9 Yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, "Ni fydd Pharo'n gwrando arnoch; felly byddaf yn amlhau fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft."
11:10 Gwnaeth Moses ac Aaron yr holl ryfeddodau hyn yng ngŵydd Pharo, ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo fel na fynnai ryddhau'r Israeliaid o'i wlad.

Y Pasg

12:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron yng ngwlad yr Aifft,
12:2 "Bydd y mis hwn i chwi yn gyntaf o'r misoedd; hwn fydd y mis cyntaf o'ch blwyddyn.
12:3 Dywedwch wrth holl gynulleidfa Israel fod pob dyn, ar y degfed dydd o'r mis hwn, i gymryd oen ar gyfer ei deulu, un i bob teulu.
12:4 Os bydd un oen yn ormod i'r teulu, gallant ei rannu â'r cymdogion agosaf, yn ôl eu nifer, a rhannu cost yr oen yn ôl yr hyn y mae pob un yn ei fwyta.
12:5 Rhaid i bob oen fod yn wryw blwydd heb nam, wedi ei gymryd o blith y defaid neu o blith y geifr.
12:6 Yr ydych i'w cadw hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn, ac yna bydd pob aelod o gynulleidfa Israel yn eu lladd fin nos.
12:7 Yna byddant yn cymryd peth o'r gwaed a'i daenu ar ddau bost a chapan drws y tai lle y bwyteir hwy.
12:8 Y maent i fwyta'r cig y noson honno wedi ei rostio wrth dân, a'i fwyta gyda bara croyw a llysiau chwerw.
12:9 Peidiwch â bwyta dim ohono'n amrwd nac wedi ei ferwi mewn dŵr, ond wedi ei rostio wrth dân, yn ben, coesau a pherfedd.
12:10 Peidiwch â gadael dim ohono ar ôl hyd y bore; os bydd peth ohono ar ôl yn y bore, llosgwch ef yn y tân.
12:11 "Dyma sut yr ydych i'w fwyta: yr ydych i'w fwyta ar frys â'ch gwisg wedi ei thorchi, eich esgidiau am eich traed, a'ch ffon yn eich llaw. Pasg yr ARGLWYDD ydyw.
12:12 Y noson honno, byddaf yn tramwyo trwy wlad yr Aifft ac yn lladd pob cyntafanedig sydd ynddi, yn ddyn ac anifail, a byddaf yn dod â barn ar dduwiau'r Aifft; myfi yw'r ARGLWYDD.
12:13 Bydd y gwaed yn arwydd ar y tai y byddwch chwi ynddynt; pan welaf y gwaed byddaf yn mynd heibio i chwi, ac ni fydd y pla yn eich difetha pan drawaf wlad yr Aifft.

Gŵyl y Bara Croyw

12:14 "Bydd y dydd hwn yn ddydd i'w gofio i chwi, ac yr ydych i'w gadw yn ŵyl i'r ARGLWYDD; cadwch yr ŵyl yn ddeddf am byth dros y cenedlaethau.
12:15 Am saith diwrnod yr ydych i fwyta bara croyw; ar y dydd cyntaf bwriwch y surdoes allan o'ch tai, oherwydd bydd pwy bynnag sy'n bwyta bara lefeinllyd o'r dydd cyntaf hyd y seithfed yn cael ei ddiarddel o Israel.
12:16 Ar y dydd cyntaf ac ar y seithfed, bydd cyfarfod cysegredig; ni wneir dim gwaith yn ystod y dyddiau hynny, heblaw paratoi bwyd i bawb i'w fwyta; dyna'r cyfan.
12:17 Cadwch hefyd ŵyl y Bara Croyw, am mai ar y dydd hwn y deuthum â'ch lluoedd allan o wlad yr Aifft; am hynny y mae'r dydd hwn i'w gadw'n ddeddf am byth dros y cenedlaethau.
12:18 Yr ydych i fwyta bara croyw o hwyrddydd y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf hyd yr hwyr ar yr unfed dydd ar hugain.
12:19 Am saith diwrnod nid ydych i gadw surdoes yn eich tai, oherwydd bydd pwy bynnag sy'n bwyta bara lefeinllyd yn cael ei ddiarddel o gynulleidfa Israel, boed yn estron neu'n frodor.
12:20 Peidiwch â bwyta dim sydd wedi ei lefeinio, ond ym mha le bynnag yr ydych yn byw, bwytewch fara croyw."

Y Pasg Cyntaf

12:21 Yna galwodd Moses ynghyd holl henuriaid Israel, a dweud wrthynt, "Dewiswch yr ŵyn ar gyfer eich teuluoedd, a lladdwch oen y Pasg.
12:22 Yna cymerwch dusw o isop a'i drochi yn y gwaed fydd yn y cawg, a thaenwch y gwaed ar gapan a dau bost y drws; nid oes neb ohonoch i fynd allan trwy ddrws ei dŷ hyd y bore.
12:23 Bydd yr ARGLWYDD yn tramwyo drwy'r Aifft ac yn taro'r wlad, ond pan wêl y gwaed ar gapan a dau bost y drws, bydd yn mynd heibio iddo, ac ni fydd yn gadael i'r Dinistrydd ddod i mewn i'ch tai i'ch difa.
12:24 Cadwch y ddefod hon yn ddeddf i chwi a'ch plant am byth.
12:25 Yr ydych i gadw'r ddefod hon pan ddewch i'r wlad y bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi i chwi yn ôl ei addewid.
12:26 Pan fydd eich plant yn gofyn i chwi, 'Beth yw'r ddefod hon sydd gennych?'
12:27 yr ydych i ateb, 'Aberth Pasg yr ARGLWYDD ydyw, oherwydd pan drawodd ef yr Eifftiaid, aeth heibio i dai'r Israeliaid oedd yn yr Aifft a'u harbed.'" Ymgrymodd y bobl mewn addoliad.
12:28 Aeth yr Israeliaid ymaith a gwneud yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses ac Aaron.

Marwolaeth Pob Cyntafanedig

12:29 Ar hanner nos trawodd yr ARGLWYDD bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntafanedig Pharo ar ei orsedd hyd gyntafanedig y carcharor yn ei gell, a chyntafanedig yr anifeiliaid hefyd.
12:30 Yn ystod y nos cododd Pharo a'i holl weision a'r holl Eifftiaid, a bu llefain mawr yn yr Aifft, oherwydd nid oedd tŷ heb gorff marw ynddo.
12:31 Felly galwodd ar Moses ac Aaron yn y nos a dweud, "Codwch, ewch ymaith o fysg fy mhobl, chwi a'r Israeliaid, ac ewch i wasanaethu'r ARGLWYDD yn ôl eich dymuniad.
12:32 Cymerwch eich defaid a'ch gwartheg hefyd, yn ôl eich dymuniad, ac ewch; bendithiwch finnau."
12:33 Yr oedd yr Eifftiaid yn crefu ar y bobl i adael y wlad ar frys, oherwydd yr oeddent yn dweud, "Byddwn i gyd yn farw."
12:34 Felly, cymerodd y bobl y toes cyn ei lefeinio, gan fod eu llestri tylino ar eu hysgwyddau wedi eu rhwymo gyda'u dillad.
12:35 Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn a ddywedodd Moses wrthynt, a gofyn i'r Eifftiaid am dlysau arian a thlysau aur a dillad;
12:36 am i'r ARGLWYDD beri i'r Eifftiaid edrych arnynt â ffafr, gadawsant i'r Israeliaid gael yr hyn yr oeddent yn gofyn amdano. Felly yr ysbeiliwyd yr Eifftiaid.

Yr Israeliaid yn Gadael yr Aifft

12:37 Yna teithiodd yr Israeliaid o Rameses i Succoth; yr oedd tua chwe chan mil o wŷr traed, heblaw gwragedd a phlant.
12:38 Aeth tyrfa gymysg gyda hwy, ynghyd â llawer iawn o anifeiliaid, yn ddefaid a gwartheg.
12:39 Yr oedd yn rhaid iddynt bobi'r toes yr oeddent wedi ei gario o'r Aifft yn deisennau croyw am nad oedd wedi ei lefeinio, oherwydd cawsant eu gyrru allan o'r Aifft heb gyfle i oedi nac i baratoi bwyd iddynt eu hunain.
12:40 Bu'r Israeliaid yn byw yn yr Aifft am bedwar cant tri deg o flynyddoedd.
12:41 Ar ddiwedd y pedwar cant tri deg o flynyddoedd, i'r diwrnod, aeth holl luoedd yr ARGLWYDD allan o wlad yr Aifft.
12:42 Am i'r ARGLWYDD y noson honno gadw gwyliadwriaeth i'w dwyn allan o'r Aifft, bydd holl blant Israel ar y noson hon yn cadw gwyliadwriaeth i'r ARGLWYDD dros y cenedlaethau.

Rheolau ynglŷn â'r Pasg

12:43 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, "Dyma ddeddf y Pasg: nid yw'r un estron i fwyta ohono,
12:44 ond caiff pob caethwas a brynwyd ag arian ei fwyta, os yw wedi ei enwaedu;
12:45 ni chaiff yr estron na'r gwas cyflog ei fwyta.
12:46 Rhaid ei fwyta mewn un tŷ; nid ydych i fynd â dim o'r cig allan o'r tŷ, ac nid ydych i dorri'r un asgwrn ohono.
12:47 Y mae holl gynulleidfa Israel i wneud hyn.
12:48 Os yw dieithryn sy'n byw gyda thi yn dymuno cadw Pasg i'r ARGLWYDD, caiff wneud hynny ar yr amod fod pob gwryw sydd gydag ef yn cael ei enwaedu; fe fydd, felly, fel brodor.
12:49 Ond ni chaiff yr un gwryw heb ei enwaedu fwyta ohono. Yr un gyfraith fydd i'r brodor ac i'r dieithryn sy'n byw yn eich plith."
12:50 Gwnaeth yr Israeliaid yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses ac Aaron,
12:51 ac ar y dydd hwnnw aeth yr ARGLWYDD â lluoedd Israel allan o wlad yr Aifft.

Cysegru'r Cyntafanedig

13:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
13:2 "Cysegra i mi bob cyntafanedig; eiddof fi yw'r cyntaf a ddaw o'r groth ymysg yr Israeliaid, yn ddyn ac anifail."

Gŵyl y Bara Croyw

13:3 Yna dywedodd Moses wrth y bobl, "Cofiwch y dydd hwn, sef y dydd y daethoch allan o'r Aifft, o dŷ caethiwed, oherwydd â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â chwi oddi yno; hefyd, peidiwch â bwyta bara lefeinllyd.
13:4 Ar y dydd hwn ym mis Abib yr ewch allan.
13:5 Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â thi i wlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Hefiaid a Jebusiaid, sef y wlad yr addawodd i'th hynafiaid y byddai'n ei rhoi i ti, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, yr wyt i gadw'r ddefod hon yn ystod y mis hwn.
13:6 Am saith diwrnod byddi'n bwyta bara croyw, ac ar y seithfed dydd bydd gŵyl i'r ARGLWYDD.
13:7 Bara croyw a fwyteir am saith diwrnod, ac ni fydd bara lefeinllyd na surdoes i'w weld yn unman o fewn dy dir.
13:8 Ar y dydd hwnnw, fe ddywedir wrth dy blentyn, 'Gwneir hyn oherwydd y peth a wnaeth yr ARGLWYDD i mi pan ddeuthum allan o'r Aifft.'
13:9 Bydd hyn i ti yn arwydd ar dy law a rhwng dy lygaid, i'th atgoffa y dylai cyfraith yr ARGLWYDD fod yn dy enau; oherwydd â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â thi allan o'r Aifft.
13:10 Yr wyt i gadw'r ddeddf hon yn ei hamser penodedig o flwyddyn i flwyddyn.

Y Cyntafanedig

13:11 "Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â thi i wlad y Canaaneaid a'i rhoi iti, fel y tyngodd i ti ac i'th hynafiaid,
13:12 yr wyt i neilltuo pob cyntafanedig iddo ef; bydd pob gwryw cyntafanedig o blith dy anifeiliaid yn eiddo i'r ARGLWYDD.
13:13 Ond yr wyt i roi oen yn gyfnewid am bob asyn cyntafanedig, ac os nad wyt am ei gyfnewid, yr wyt i dorri ei wddf. Yr wyt hefyd i gyfnewid pob cyntafanedig o blith dy feibion.
13:14 Yna pan fydd dy blentyn ymhen amser yn gofyn, 'Beth yw ystyr hyn?' dywed wrtho, 'Â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â ni o'r Aifft, o dŷ caethiwed;
13:15 oherwydd pan wrthododd Pharo ein gollwng yn rhydd, lladdodd yr ARGLWYDD bob cyntafanedig, yn ddyn ac anifail, yng ngwlad yr Aifft. Dyna pam yr wyf yn aberthu i'r ARGLWYDD bob gwryw cyntafanedig, ond yn cyfnewid pob cyntafanedig o blith fy meibion.'
13:16 Bydd hyn yn arwydd ar dy law ac yn rhactalau rhwng dy lygaid; oherwydd â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â ni allan o'r Aifft."

Y Golofn Niwl a'r Golofn Dân

13:17 Pan ollyngodd Pharo y bobl yn rhydd, nid arweiniodd Duw hwy ar hyd ffordd gwlad y Philistiaid, er bod honno'n agos. "Oherwydd," meddai, "gallai'r bobl newid eu meddwl pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft."
13:18 Felly arweiniodd hwy ar hyd ffordd yr anialwch i gyfeiriad y Môr Coch, ac aeth yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft gan ddwyn eu harfau rhyfel.
13:19 Cymerodd Moses esgyrn Joseff gydag ef, oherwydd yr oedd Joseff wedi gosod yr Israeliaid dan lw, drwy ddweud, "Bydd Duw yn sicr o ymweld â chwi, a'r pryd hwnnw yr ydych i ddwyn fy esgyrn oddi yma gyda chwi."
13:20 Aethant ymaith o Succoth a gwersyllu yn Etham, ar gwr yr anialwch.
13:21 Yr oedd yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen mewn colofn o niwl yn ystod y dydd i'w harwain ar y ffordd, ac mewn colofn o dân yn ystod y nos i'w goleuo; felly gallent deithio ddydd a nos.
13:22 Ni symudwyd y golofn niwl oedd o flaen y bobl yn ystod y dydd na'r golofn dân oedd o'u blaen yn ystod y nos.

Croesi'r Môr Coch

14:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
14:2 "Dywed wrth yr Israeliaid am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a'r môr; yr ydych i wersyllu wrth y môr gyferbyn â Baal-seffon.
14:3 Bydd Pharo'n meddwl bod yr Israeliaid wedi eu dal yn y wlad a'u cau i mewn gan yr anialwch.
14:4 Yna, byddaf fi'n caledu ei galon, a bydd ef yn eu herlid; felly, fe enillaf ogoniant i mi fy hun ar draul Pharo a'i holl fyddin, a chaiff yr Eifftiaid wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD." Gwnaeth yr Israeliaid fel y gorchmynnwyd iddynt.
14:5 Pan ddywedwyd wrth frenin yr Aifft fod y bobl wedi ffoi, newidiodd agwedd Pharo a'i weision tuag atynt, ac meddent, "Beth yw hyn a wnaethom? Yr ydym wedi rhyddhau'r Israeliaid o'n gwasanaeth!"
14:6 Felly paratôdd Pharo ei gerbyd ac aeth â'i fyddin gydag ef;
14:7 cymerodd hefyd chwe chant o gerbydau dethol, a'r holl gerbydau eraill oedd yn yr Aifft, a chapten ar bob un.
14:8 Caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo brenin yr Aifft, ac erlidiodd hwnnw'r Israeliaid wrth iddynt fynd ymaith yn fuddugoliaethus.
14:9 Aeth yr Eifftiaid ar eu hôl gyda holl feirch Pharo a'i gerbydau, ei farchogion a'i fyddin, a'u goddiweddyd tra oeddent yn gwersyllu wrth y môr gerllaw Pihahiroth, gyferbyn â Baal-seffon.
14:10 Wrth i Pharo nesáu, edrychodd yr Israeliaid i fyny a gweld yr Eifftiaid yn dod ar eu holau, ac yn eu dychryn gwaeddodd pobl Israel ar yr ARGLWYDD.
14:11 Dywedasant wrth Moses, "Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft y dygaist ni i'r anialwch i farw? Pam y gwnaethost hyn i ni, a dod â ni allan o'r Aifft?
14:12 Onid oeddem wedi dweud wrthyt yn yr Aifft am adael llonydd inni wasanaethu'r Eifftiaid? Byddai'n well inni eu gwasanaethu hwy na marw yn yr anialwch."
14:13 Dywedodd Moses wrth y bobl, "Peidiwch ag ofni; byddwch gadarn ac edrychwch ar y waredigaeth y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chwi heddiw, oherwydd ni fyddwch yn gweld yr Eifftiaid a welsoch heddiw byth mwy.
14:14 Bydd yr ARGLWYDD yn ymladd drosoch; am hynny, byddwch dawel."
14:15 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Pam yr wyt yn gweiddi arnaf? Dywed wrth yr Israeliaid am fynd ymlaen.
14:16 Cod dithau dy wialen, ac estyn dy law allan dros y môr i'w rannu, er mwyn i'r Israeliaid fynd trwy ei ganol ar dir sych.
14:17 Byddaf finnau'n caledu calonnau'r Eifftiaid er mwyn iddynt eu dilyn, ac enillaf ogoniant ar draul Pharo a'i holl fyddin, ei gerbydau a'i farchogion.
14:18 Caiff yr Eifftiaid wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan enillaf ogoniant ar draul Pharo a'i gerbydau a'i farchogion."
14:19 Symudodd angel Duw, a fu'n mynd o flaen byddin Israel, ac aeth y tu ôl iddynt; a symudodd y golofn niwl a fu o'u blaen, a safodd y tu ôl iddynt,
14:20 gan aros rhwng byddin yr Aifft a byddin Israel. Yr oedd y cwmwl yn dywyllwch, ond yn goleuo trwy'r nos i'r Israeliaid; ac ni ddaeth y naill ar gyfyl y llall trwy'r nos.
14:21 Estynnodd Moses ei law dros y môr, a thrwy'r nos gyrrodd yr ARGLWYDD y môr yn ei ôl â gwynt cryf o'r dwyrain. Gwnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.
14:22 Aeth yr Israeliaid trwy ganol y môr ar dir sych, ac yr oedd y dyfroedd fel mur ar y naill ochr a'r llall.
14:23 Erlidiodd yr Eifftiaid hwy, ac aeth holl feirch Pharo, ei gerbydau a'i farchogion, ar eu holau i ganol y môr.
14:24 Yn ystod gwyliadwriaeth y bore, edrychodd yr ARGLWYDD ar fyddin yr Eifftiaid trwy'r golofn dân a'r cwmwl, a daliodd hwy
14:25 trwy gloi olwynion eu cerbydau a'i gwneud yn anodd iddynt yrru ymlaen. Yna dywedodd yr Eifftiaid, "Gadewch inni ffoi oddi wrth Israel, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Aifft."
14:26 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Estyn dy law allan dros y môr er mwyn i'r dyfroedd lifo'n ôl dros yr Eifftiaid a'u cerbydau a'u marchogion."
14:27 Felly estynnodd Moses ei law dros y môr, ac erbyn y bore yr oedd y môr wedi dychwelyd i'w le. Ceisiodd yr Eifftiaid ffoi rhagddo, ond bwriodd yr ARGLWYDD hwy i ganol y môr.
14:28 Dychwelodd y dyfroedd a gorchuddio'r cerbydau a'r marchogion, a holl fyddin Pharo oedd wedi dilyn yr Israeliaid i'r môr, heb adael yr un ohonynt ar ôl.
14:29 Ond cerddodd yr Israeliaid trwy ganol y môr ar dir sych, ac yr oedd y dyfroedd fel mur ar y naill ochr a'r llall.
14:30 Felly achubodd yr ARGLWYDD Israel o law'r Eifftiaid y diwrnod hwnnw, a gwelsant yr Eifftiaid yn gorwedd yn farw ar lan y môr.
14:31 Pan welodd Israel y weithred fawr a wnaeth yr ARGLWYDD yn erbyn yr Eifftiaid, daethant i'w ofni ac i ymddiried ynddo ef ac yn ei was Moses.

Cân Moses

15:1 Yna canodd Moses a'r Israeliaid y gân hon i'r ARGLWYDD: "Canaf i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus; bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r môr.
15:2 Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân, ac ef yw'r un a'm hachubodd; ef yw fy Nuw, ac fe'i gogoneddaf, Duw fy nhad, ac fe'i dyrchafaf.
15:3 Y mae'r ARGLWYDD yn rhyfelwr; yr ARGLWYDD yw ei enw.
15:4 Taflodd gerbydau Pharo a'i fyddin i'r môr, a boddwyd ei gapteiniaid dethol yn y Môr Coch.
15:5 Daeth llifogydd i'w gorchuddio, a disgynasant i'r dyfnderoedd fel carreg.
15:6 Y mae nerth dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, yn ogoneddus; dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, a ddryllia'r gelyn.
15:7 Trwy dy fawrhydi aruchel darostyngaist dy wrthwynebwyr; gollyngaist dy ddigofaint, ac fe'u difaodd hwy fel sofl.
15:8 Trwy chwythiad dy ffroenau casglwyd y dyfroedd ynghyd; safodd y ffrydiau yn bentwr, a cheulodd y dyfnderoedd yng nghanol y môr.
15:9 Dywedodd y gelyn, 'Byddaf yn erlid ac yn goddiweddyd; rhannaf yr ysbail, a chaf fy nigoni ganddo; tynnaf fy nghleddyf, a'u dinistrio â'm llaw.'
15:10 Ond pan chwythaist ti â'th anadl, gorchuddiodd y môr hwy, nes iddynt suddo fel plwm i'r dyfroedd mawrion.
15:11 Pwy ymhlith y duwiau sy'n debyg i ti, O ARGLWYDD? Pwy sydd fel tydi, yn ogoneddus ei sancteiddrwydd, yn teilyngu parch a mawl, ac yn gwneud rhyfeddodau?
15:12 Pan estynnaist dy ddeheulaw, llyncodd y ddaear hwy.
15:13 "Yn dy drugaredd, arweini'r bobl a waredaist, a thrwy dy nerth eu tywys i'th drigfan sanctaidd.
15:14 Fe glyw y bobloedd, a dychryn, a daw gwewyr ar drigolion Philistia.
15:15 Bydd penaethiaid Edom yn brawychu, ac arweinwyr Moab yn arswydo, a holl drigolion Canaan yn toddi.
15:16 Daw ofn a braw arnynt; oherwydd mawredd dy fraich byddant mor llonydd â charreg, nes i'th bobl di, O ARGLWYDD, fynd heibio, nes i'r bobl a brynaist ti fynd heibio.
15:17 Fe'u dygi i mewn a'u plannu ar y mynydd sy'n eiddo i ti, y man, O ARGLWYDD, a wnei yn drigfan i ti dy hun, y cysegr, O ARGLWYDD, a godi â'th ddwylo.
15:18 Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu byth bythoedd."

Cân Miriam

15:19 Pan aeth meirch Pharo a'i gerbydau a'i farchogion i mewn i'r môr, gwnaeth yr ARGLWYDD i ddyfroedd y môr ddychwelyd drostynt; ond cerddodd yr Israeliaid trwy ganol y môr ar dir sych.
15:20 Yna cymerodd Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, dympan yn ei llaw, ac aeth yr holl wragedd allan ar ei hôl a dawnsio gyda thympanau.
15:21 Canodd Miriam gân iddynt: "Canwch i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus; bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r môr."

Iacháu'r Dŵr Chwerw

15:22 Yna arweiniodd Moses yr Israeliaid oddi wrth y Môr Coch, ac aethant ymaith i anialwch Sur; buont yn teithio'r anialwch am dridiau heb gael dŵr.
15:23 Pan ddaethant i Mara, ni allent yfed y dŵr yno am ei fod yn chwerw; dyna pam y galwyd y lle yn Mara.
15:24 Dechreuodd y bobl rwgnach yn erbyn Moses, a gofyn, "Beth ydym i'w yfed?"
15:25 Galwodd yntau ar yr ARGLWYDD, a dangosodd yr ARGLWYDD iddo bren; pan daflodd Moses y pren i'r dŵr, trodd y dŵr yn felys. Yno y sefydlodd yr ARGLWYDD ddeddf a chyfraith, ac yno hefyd y profodd hwy,
15:26 a dweud, "Os gwrandewi'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, a gwneud yr hyn sy'n iawn yn ei olwg, gan wrando ar ei orchmynion a chadw ei holl ddeddfau, ni rof arnat yr un o'r clefydau a rois ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n dy iacháu."
15:27 Yna daethant i Elim, lle'r oedd deuddeg ffynnon ddŵr, a deg a thrigain o balmwydd; a buont yn gwersyllu yno wrth y dŵr.

Y Manna a'r Soflieir

16:1 Aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith o Elim, ac ar y pymthegfed dydd o'r ail fis wedi iddynt adael gwlad yr Aifft, daethant i anialwch Sin, sydd rhwng Elim a Sinai.
16:2 Dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch,
16:3 a dweud wrthynt, "O na fyddai'r ARGLWYDD wedi gadael inni farw yng ngwlad yr Aifft, lle'r oeddem yn cael eistedd wrth y crochanau cig a bwyta ein gwala o fwyd; ond yr ydych chwi wedi ein harwain allan yma i'r anialwch er mwyn lladd y dyrfa hon i gyd â newyn."
16:4 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Byddaf yn glawio arnoch fara o'r nefoedd, a bydd y bobl yn mynd allan a chasglu bob dydd ddogn diwrnod, er mwyn i mi eu profi a gweld a ydynt am ddilyn fy nghyfraith ai peidio.
16:5 Ond ar y chweched dydd y maent i baratoi dwywaith cymaint ag y byddent yn ei gasglu ar ddiwrnod arall."
16:6 Yna dywedodd Moses ac Aaron wrth yr holl Israeliaid, "Yn yr hwyr cewch wybod mai'r ARGLWYDD a'ch arweiniodd allan o wlad yr Aifft,
16:7 ac yn y bore cewch weld ei ogoniant, oherwydd y mae wedi clywed eich grwgnach yn ei erbyn. Pwy ydym ni, eich bod yn grwgnach yn ein herbyn?"
16:8 Dywedodd Moses hefyd, "Fe rydd yr ARGLWYDD i chwi gig i'w fwyta yn yr hwyr, a'ch gwala o fara yn y bore, oherwydd y mae wedi clywed eich grwgnach yn ei erbyn. Felly, pwy ydym ni? Nid yn ein herbyn ni y mae eich grwgnach, ond yn erbyn yr ARGLWYDD."
16:9 Dywedodd Moses wrth Aaron, "Dywed wrth holl gynulliad pobl Israel, 'Dewch yn agos at yr ARGLWYDD, oherwydd y mae ef wedi clywed eich grwgnach.'"
16:10 A thra oedd Aaron yn siarad â hwy, a hwythau'n edrych tua'r anialwch, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD mewn cwmwl.
16:11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
16:12 "Yr wyf wedi clywed grwgnach yr Israeliaid; dywed wrthynt, 'Yn y cyfnos cewch fwyta cig, ac yn y bore cewch eich gwala o fara; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"
16:13 Yn yr hwyr daeth soflieir a gorchuddio'r gwersyll, ac yn y bore yr oedd haen o wlith o'i amgylch.
16:14 Pan gododd y gwlith, yr oedd caenen denau ar hyd wyneb yr anialwch, mor denau â llwydrew ar y ddaear.
16:15 Gwelodd yr Israeliaid ef, a dweud wrth ei gilydd, "Beth yw hwn?" Oherwydd nid oeddent yn gwybod beth ydoedd. Dywedodd Moses wrthynt, "Hwn yw'r bara a roddodd yr ARGLWYDD i chwi i'w fwyta.
16:16 Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 'Y mae pob un i gasglu ohono gymaint ag a all ei fwyta; cymerwch omer yr un ar gyfer pawb sydd yn eich pabell.'"
16:17 Gwnaeth yr Israeliaid hyn; yr oedd rhai'n casglu llawer, eraill ychydig,
16:18 ac wedi iddynt ei fesur wrth yr omer, nid oedd gormod gan y sawl a gasglodd lawer, na phrinder gan y sawl a gasglodd ychydig. Yr oedd pob un yn casglu cymaint ag a allai ei fwyta.
16:19 Dywedodd Moses wrthynt, "Peidied neb â chadw dim ohono'n weddill hyd drannoeth."
16:20 Ond ni wrandawsant arno, a chadwodd rhai beth ohono'n weddill hyd drannoeth; magodd bryfed, a dechreuodd ddrewi, ac yr oedd Moses yn ddig wrthynt.
16:21 Casglasant bob bore gymaint ag a allent ei fwyta, ond pan boethai'r haul, fe doddai.
16:22 Ar y chweched dydd casglasant ddwywaith cymaint o fara, dau omer yr un, a daeth holl swyddogion y cynulliad at Moses i fynegi hyn iddo.
16:23 Dywedodd yntau wrthynt, "Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 'Bydd yfory yn ddydd o orffwys, ac yn Saboth wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD.' Felly pobwch yr hyn y bydd ei angen arnoch, a berwi'r hyn y bydd arnoch ei eisiau; yna rhowch o'r neilltu bopeth sydd yn weddill, a chadwch ef hyd y bore."
16:24 Fe'i cadwasant hyd y bore, fel yr oedd Moses wedi gorchymyn, ac ni ddrewodd na magu pryfed.
16:25 Yna dywedodd Moses, "Bwytewch ef heddiw, oherwydd y mae'r dydd hwn yn Saboth i'r ARGLWYDD; ni chewch mohono yn y maes heddiw.
16:26 Am chwe diwrnod y casglwch ef, ond ar y seithfed dydd, sef y Saboth, ni bydd dim ohono ar gael."
16:27 Aeth rhai o'r bobl allan ar y seithfed dydd i'w gasglu, ond ni chawsant ddim.
16:28 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Am ba hyd yr ydych am wrthod cadw fy ngorchmynion a'm cyfreithiau?
16:29 Edrychwch, yr ARGLWYDD a roddodd y Saboth i chwi; am hynny, fe rydd i chwi ar y chweched dydd fara am ddau ddiwrnod. Arhoswch gartref, bawb ohonoch, a pheidied neb â symud oddi yno ar y seithfed dydd."
16:30 Felly gorffwysodd y bobl ar y seithfed dydd.
16:31 Rhoddodd tŷ Israel yr enw manna arno; yr oedd fel had coriander, yn wyn, a'i flas fel afrlladen wedi ei gwneud o fêl.
16:32 Dywedodd Moses, "Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 'Llanwer omer ohono i'w gadw ar gyfer y cenedlaethau a ddaw, er mwyn iddynt weld y bara a rois i chwi i'w fwyta yn yr anialwch pan ddygais chwi allan o wlad yr Aifft.'"
16:33 Dywedodd Moses wrth Aaron, "Cymer grochan, a rho ynddo omer lawn o'r manna, a'i osod o flaen yr ARGLWYDD, i'w gadw ar gyfer y cenedlaethau a ddaw."
16:34 Gosododd Aaron ef o flaen y dystiolaeth i'w gadw, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
16:35 Bu'r Israeliaid yn bwyta manna am ddeugain mlynedd, nes iddynt ddod i wlad gyfannedd ar gyrion gwlad Canaan.
16:36 (Degfed ran o effa yw omer.)

Dŵr o'r Graig, Num. 20:1-13

17:1 Aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith o anialwch Sin a symud o le i le fel yr oedd yr ARGLWYDD yn gorchymyn, a gwersyllu yn Reffidim; ond nid oedd yno ddŵr i'w yfed.
17:2 Felly dechreuodd y bobl ymryson â Moses, a dweud, "Rho inni ddŵr i'w yfed." Ond dywedodd Moses wrthynt, "Pam yr ydych yn ymryson â mi ac yn herio'r ARGLWYDD?"
17:3 Yr oedd y bobl yn sychedu yno am ddŵr, a dechreuasant rwgnach yn erbyn Moses, a dweud, "Pam y daethost â ni i fyny o'r Aifft? Ai er mwyn ein lladd ni a'n plant a'n hanifeiliaid â syched?"
17:4 Felly galwodd Moses ar yr ARGLWYDD a dweud, "Beth a wnaf â'r bobl hyn? Y maent bron â'm llabyddio!"
17:5 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Cerdda o flaen y bobl gyda rhai o henuriaid Israel, a chymer yn dy law y wialen y trewaist y Neil â hi, a dos ymlaen.
17:6 Pan weli fi'n sefyll o'th flaen ar graig yn Horeb, taro'r graig, a daw dŵr allan ohoni, a chaiff y bobl yfed." Gwnaeth Moses hyn ym mhresenoldeb henuriaid Israel.
17:7 Galwodd enw'r lle yn Massa a Meriba, oherwydd ymryson yr Israeliaid ac am iddynt herio'r ARGLWYDD trwy ofyn, "A yw'r ARGLWYDD yn ein plith, ai nac ydyw?"

Rhyfel yn erbyn Amalec

17:8 Pan ddaeth Amalec i ymladd yn erbyn Israel yn Reffidim,
17:9 dywedodd Moses wrth Josua, "Dewis dy wŷr, a dos ymaith i ymladd yn erbyn Amalec; yfory, fe gymeraf finnau fy lle ar ben y bryn, â gwialen Duw yn fy llaw."
17:10 Gwnaeth Josua fel yr oedd Moses wedi dweud wrtho, ac ymladdodd yn erbyn Amalec; yna aeth Moses, Aaron a Hur i fyny i ben y bryn.
17:11 Pan godai Moses ei law, byddai Israel yn trechu; a phan ostyngai ei law, byddai Amalec yn trechu.
17:12 Pan aeth ei ddwylo'n flinedig, cymerwyd carreg a'i gosod dano, ac eisteddodd Moses arni, gydag Aaron ar y naill ochr iddo a Hur ar y llall, yn cynnal ei ddwylo, fel eu bod yn gadarn hyd fachlud haul.
17:13 Felly, gorchfygodd Josua Amalec a'i bobl â min y cleddyf.
17:14 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Ysgrifenna hyn mewn llyfr yn goffadwriaeth, a mynega'r peth yng nghlyw Josua, sef fy mod am ddileu yn llwyr oddi tan y nefoedd bob atgof am Amalec."
17:15 Yna adeiladodd Moses allor a'i henwi'n Jehofa-nissi,
17:16 a dweud, "Llaw ar faner yr ARGLWYDD! Bydd rhyfel rhwng yr ARGLWYDD ac Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth."

Jethro'n Ymweld â Moses

18:1 Clywodd Jethro, offeiriad yn Midian a thad-yng-nghyfraith Moses, am y cyfan a wnaeth Duw i Moses ac i'w bobl Israel, ac fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi eu harwain allan o'r Aifft.
18:2 Wedi i Moses yrru ymaith ei wraig Seffora, rhoddodd Jethro, ei dad-yng-nghyfraith, gartref iddi hi
18:3 a'i dau fab. Gersom oedd enw'r naill: "Oherwydd," meddai, "bûm yn ddieithryn mewn gwlad ddieithr."
18:4 Ac Elieser oedd enw'r llall: "Oherwydd," meddai, "bu Duw fy nhad yn gymorth imi, ac fe'm hachubodd rhag cleddyf Pharo."
18:5 Daeth Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, â meibion Moses a'i wraig ato i'r anialwch lle'r oedd yn gwersyllu wrth fynydd Duw,
18:6 a dweud wrth Moses, "Yr wyf fi, Jethro dy dad-yng-nghyfraith, wedi dod atat gyda'th wraig a'i dau fab."
18:7 Aeth yntau allan i'w gyfarch, ac ymgrymu a'i gusanu; yna ar ôl iddynt gyfarch ei gilydd, aethant i mewn i'r babell.
18:8 Adroddodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith y cyfan a wnaeth yr ARGLWYDD i Pharo a'r Eifftiaid er mwyn Israel, a'r holl helbul a gawsant ar y ffordd, ac fel yr achubodd yr ARGLWYDD hwy.
18:9 Llawenychodd Jethro oherwydd yr holl bethau da a wnaeth yr ARGLWYDD i Israel trwy eu hachub o law'r Eifftiaid,
18:10 a dywedodd, "Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD a'ch achubodd o law'r Eifftiaid ac o law Pharo.
18:11 Gwn yn awr fod yr ARGLWYDD yn fwy na'r holl dduwiau, oherwydd fe achubodd y bobl o law'r Eifftiaid a fu'n eu trin yn drahaus."
18:12 Yna cyflwynodd Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, boethoffrwm ac ebyrth i Dduw, a daeth Aaron a holl henuriaid Israel i fwyta bara gydag ef ym mhresenoldeb Duw.

Penodi Barnwyr, Deut. 1:9-18

18:13 Eisteddodd Moses drannoeth i farnu'r bobl, a hwythau'n sefyll o'i flaen o'r bore hyd yr hwyr.
18:14 Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith y cwbl yr oedd Moses yn ei wneud er mwyn y bobl, dywedodd, "Beth yw hyn yr wyt yn ei wneud drostynt? Pam yr wyt yn eistedd ar dy ben dy hun, a'r holl bobl yn sefyll o'th flaen o fore hyd hwyr?"
18:15 Atebodd Moses ef, "Am fod y bobl yn dod ataf i ymgynghori â Duw.
18:16 Pan fydd achos yn codi, fe ddônt ataf fi i mi farnu rhwng pobl a'i gilydd, a datgan deddfau Duw a'i gyfreithiau."
18:17 Dywedodd tad-yng-nghyfraith Moses wrtho, "Nid dyma'r ffordd orau iti weithredu.
18:18 Byddi di a'r bobl sydd gyda thi wedi diffygio'n llwyr; y mae'r gwaith yn rhy drwm iti, ac ni elli ei gyflawni dy hun.
18:19 Gwrando'n awr arnaf fi, ac fe'th gynghoraf, a bydded Duw gyda thi. Ti sydd i gynrychioli'r bobl o flaen Duw, a dod â'u hachosion ato ef.
18:20 Ti hefyd sydd i ddysgu i'r bobl y deddfau a'r cyfreithiau, a rhoi gwybod iddynt sut y dylent ymddwyn a beth y dylent ei wneud.
18:21 Ond ethol o blith yr holl bobl wŷr galluog a gonest, sy'n parchu Duw ac yn casáu llwgrwobrwyo, a'u penodi dros y bobl yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg.
18:22 Boed iddynt hwy farnu'r bobl ar bob achlysur; gallent ddod â phob achos anodd atat ti, ond hwy eu hunain sydd i farnu pob achos syml. Bydd yn ysgafnach arnat os byddant hwy'n rhannu'r baich â thi.
18:23 Os gwnei hyn, a hynny ar orchymyn Duw, gelli ddal ati; ac fe â'r bobl hyn i gyd adref yn fodlon."
18:24 Gwrandawodd Moses ar ei dad-yng-nghyfraith, a gwnaeth bopeth a orchmynnodd ef.
18:25 Dewisodd wŷr galluog o blith yr holl Israeliaid a'u gwneud yn benaethiaid ar y bobl, ac yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg.
18:26 Hwy oedd yn barnu'r bobl ar bob achlysur; deuent â'r achosion dyrys at Moses, ond hwy eu hunain oedd yn barnu'r holl achosion syml.
18:27 Ffarweliodd Moses â'i dad-yng-nghyfraith, ac aeth Jethro adref i'w wlad ei hun.

Yr Israeliaid ym Mynydd Sinai

19:1 Ar ddiwrnod cyntaf y trydydd mis wedi i'r Israeliaid adael gwlad yr Aifft, daethant i anialwch Sinai.
19:2 Wedi iddynt ymadael â Reffidim a chyrraedd anialwch Sinai, cododd Israel wersyll yno gyferbyn â'r mynydd.
19:3 Aeth Moses i fyny at fynydd Duw, a galwodd yr ARGLWYDD arno o'r mynydd a dweud, "Fel hyn y dywedi wrth dylwyth Jacob ac wrth bobl Israel:
19:4 'Fe welsoch yr hyn a wneuthum i'r Eifftiaid, ac fel y codais chwi ar adenydd eryrod a'ch cludo ataf fy hun.
19:5 Yn awr, os gwrandewch yn ofalus arnaf a chadw fy nghyfamod, byddwch yn eiddo arbennig i mi ymhlith yr holl bobloedd, oherwydd eiddof fi'r ddaear i gyd.
19:6 Byddwch hefyd yn deyrnas o offeiriaid i mi, ac yn genedl sanctaidd.' Dyma'r geiriau yr wyt i'w llefaru wrth bobl Israel."
19:7 Felly aeth Moses i alw henuriaid y bobl, a gosod o'u blaen yr holl eiriau hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo.
19:8 Atebodd y bobl i gyd yn unfryd, "Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD." Yna adroddodd Moses eiriau'r bobl wrth yr ARGLWYDD.
19:9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Edrych, fe ddof atat mewn cwmwl tew er mwyn i'r bobl fy nghlywed yn llefaru wrthyt ac ymddiried ynot am byth."
19:10 Pan fynegodd Moses eiriau'r bobl wrth yr ARGLWYDD, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho hefyd, "Dos at y bobl, a chysegra hwy heddiw ac yfory; boed iddynt olchi eu dillad,
19:11 a bod yn barod erbyn y trydydd dydd, oherwydd ar y trydydd dydd fe ddaw'r ARGLWYDD i lawr ar Fynydd Sinai yng ngolwg yr holl bobl.
19:12 Gosod ffin o amgylch y mynydd, a dywed, 'Gwyliwch rhag i chwi fynd i fyny i'r mynydd na chyffwrdd â'i ffin; oherwydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd â'r mynydd, fe'i rhoddir i farwolaeth
19:13 trwy ei labyddio neu ei saethu, ond peidied neb â'i gyffwrdd â'i law. Prun bynnag ai dyn ai anifail ydyw, ni chaiff fyw.' Nid ydynt i ddod i fyny i'r mynydd nes y cenir yn hir ar y corn hwrdd."
19:14 Yna aeth Moses i lawr o'r mynydd at y bobl, a'u cysegru; a golchasant eu dillad.
19:15 Dywedodd wrthynt, "Byddwch barod erbyn y trydydd dydd, a pheidiwch â mynd yn agos at wraig."
19:16 Ar fore'r trydydd dydd, daeth taranau a mellt a chwmwl tew ar y mynydd, ac yr oedd sŵn yr utgorn mor gryf nes i'r holl bobl oedd yn y gwersyll ddychryn.
19:17 Yna daeth Moses â'r bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod â Duw, ac aethant i sefyll wrth odre'r mynydd.
19:18 Yr oedd Mynydd Sinai yn fwg i gyd, oherwydd i'r ARGLWYDD ddod i lawr arno mewn tân; yr oedd y mwg yn codi fel mwg ffwrn, a'r mynydd i gyd yn crynu drwyddo.
19:19 Wrth i sŵn yr utgorn gryfhau, llefarodd Moses, ac atebodd Duw ef yn y daran.
19:20 Yna disgynnodd yr ARGLWYDD ar ben Mynydd Sinai; galwodd Moses i ben y mynydd, ac aeth yntau i fyny.
19:21 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Dos i lawr a rhybuddia'r bobl, rhag iddynt frysio i rythu ar yr ARGLWYDD ac i lawer ohonynt farw.
19:22 Rhaid i'r offeiriaid sy'n nesáu at yr ARGLWYDD hefyd eu cysegru eu hunain, rhag i'r ARGLWYDD eu taro."
19:23 Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "Ni all y bobl ddod i fyny i Fynydd Sinai, oherwydd iti ein rhybuddio i osod ffin o amgylch y mynydd a'i gysegru."
19:24 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Dos i lawr, a thyrd ag Aaron i fyny gyda thi, ond paid â gadael i'r offeiriaid a'r bobl ruthro i fyny at yr ARGLWYDD, rhag iddo eu taro."
19:25 Felly aeth Moses i lawr at y bobl a dweud hyn wrthynt.

Y Deg Gorchymyn, Deut. 5:1-21

20:1 Llefarodd Duw yr holl eiriau hyn, a dweud:
20:2 "Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.
20:3 "Na chymer dduwiau eraill ar wahân i mi.
20:4 "Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr dan y ddaear;
20:5 nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu,
20:6 ond yn dangos trugaredd i filoedd o'r rhai sy'n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion.
20:7 "Na chymer enw'r ARGLWYDD dy Dduw yn ofer, oherwydd ni fydd yr ARGLWYDD yn ystyried yn ddieuog y sawl sy'n cymryd ei enw'n ofer.
20:8 "Cofia'r dydd Saboth, i'w gadw'n gysegredig.
20:9 Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith,
20:10 ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th anifail, na'r estron sydd o fewn dy byrth;
20:11 oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r cyfan sydd ynddo; ac ar y seithfed dydd fe orffwysodd; am hynny, bendithiodd yr ARGLWYDD y dydd Saboth a'i gysegru.
20:12 "Anrhydedda dy dad a'th fam, er mwyn amlhau dy ddyddiau yn y wlad y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi iti.
20:13 "Na ladd.
20:14 "Na odineba.
20:15 "Na ladrata.
20:16 "Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog.
20:17 "Na chwennych dŷ dy gymydog, na'i wraig, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim sy'n eiddo i'th gymydog."

Y Bobl yn Ofni

20:18 Pan welodd yr holl bobl y taranau a'r mellt, yr utgorn yn seinio a'r mynydd yn mygu, safasant o hirbell mewn petruster,
20:19 a dweud wrth Moses, "Llefara di wrthym, ac fe wrandawn; ond paid â gadael i Dduw lefaru wrthym, rhag inni farw."
20:20 Dywedodd Moses wrthynt, "Peidiwch ag ofni, oherwydd fe ddaeth Duw i'ch profi, er mwyn ichwi ddal i'w barchu ef, a pheidio â phechu."

Sut Allor i'w Chodi

20:21 Safodd y bobl o bell, ond nesaodd Moses at y tywyllwch lle'r oedd Duw.
20:22 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Fel hyn y dywedi wrth bobl Israel: 'Gwelsoch i mi lefaru wrthych o'r nefoedd.
20:23 Peidiwch â gwneud duwiau o arian nac o aur i'w haddoli gyda mi.
20:24 Gwna imi allor o bridd, ac abertha arni dy boethoffrymau a'th heddoffrymau, dy ddefaid a'th ychen; yna mi ddof atat i'th fendithio ym mha le bynnag y coffeir fy enw.
20:25 Ond os gwnei imi allor o gerrig, paid â'i gwneud o gerrig nadd; oherwydd wrth iti ei thrin â'th forthwyl, yr wyt yn ei halogi.
20:26 Hefyd, paid â mynd i fyny i'm hallor ar risiau, rhag iti amlygu dy noethni.'

Caethweision Hebreig, Deut. 15:12-18

21:1 "Dyma'r deddfau yr wyt i'w gosod o flaen y bobl:
21:2 "Pan bryni Hebrëwr yn gaethwas, y mae i roi chwe blynedd o wasanaeth, ac yn y seithfed caiff fynd yn rhydd heb dalu.
21:3 Os daeth i mewn ei hun, caiff fynd ymaith ei hun, ond os oedd yn briod, caiff ei wraig fynd ymaith gydag ef.
21:4 Os rhydd ei feistr wraig iddo, a hithau'n esgor ar feibion neu ferched iddo, bydd y wraig a'i phlant yn eiddo i'r meistr, ac y mae'r caethwas i fynd ymaith ei hun.
21:5 Ond os dywed y caethwas, 'Yr wyf yn caru fy meistr a'm gwraig a'm plant, ac nid wyf am fynd ymaith',
21:6 yna y mae ei feistr i ddod ag ef at Dduw, a'i ddwyn at y drws neu'r cilbost, a thyllu trwy ei glust â mynawyd; wedyn, bydd y caethwas yn ei wasanaethu am byth.
21:7 "Pan yw gŵr yn gwerthu ei ferch i gaethiwed, ni chaiff hi fynd yn rhydd fel y gweision caeth.
21:8 Os nad yw'n boddhau ei meistr, ac yntau wedi ei neilltuo iddo'i hun, gadawer iddi gael ei phrynu'n ôl; ond nid oes ganddo'r hawl i'w gwerthu i estroniaid, gan ei fod wedi torri cytundeb â hi.
21:9 Os yw wedi ei neilltuo ar gyfer ei fab, y mae i'w thrin fel ei ferch ei hun.
21:10 Os yw'r meistr yn priodi gwraig arall, nid yw i leihau dim ar fwyd y gaethferch na'i dillad na'i hawliau priodasol.
21:11 Os yw'n methu yn un o'r tri pheth hyn, caiff y gaethferch fynd ymaith heb dalu dim arian.

Niweidiau Personol

21:12 "Pwy bynnag sy'n taro rhywun a'i ladd, rhodder ef i farwolaeth.
21:13 Os na chynlluniodd hynny, ond bod Duw wedi ei roi yn ei afael, caiff ffoi i'r lle a neilltuaf iti.
21:14 Os bydd rhywun yn ymosod yn fwriadol ar ei gymydog a'i ladd trwy frad, dos ag ef ymaith oddi wrth fy allor a'i roi i farwolaeth.
21:15 "Pwy bynnag sy'n taro'i dad neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.
21:16 "Pwy bynnag sy'n cipio rhywun i'w werthu neu i'w gadw yn ei feddiant, rhodder ef i farwolaeth.
21:17 "Pwy bynnag sy'n melltithio'i dad neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.
21:18 "Pan yw rhai'n cweryla, ac un yn taro'r llall â charreg neu â'i ddwrn, a hwnnw'n gaeth i'w wely, ond heb farw,
21:19 ac yna'n codi ac yn cerdded oddi amgylch â'i ffon, ystyrier y sawl a'i trawodd yn ddieuog; nid oes rhaid iddo ond ei ddigolledu am ei waith, a gofalu ei fod yn holliach.
21:20 "Pan yw rhywun yn taro'i gaethwas neu ei gaethferch â ffon, a'r caeth yn marw yn y fan, cosber y sawl a'i tarodd.
21:21 Ond os yw'r caeth yn byw am ddiwrnod neu ddau, na fydded cosbi, oherwydd ei eiddo ef ydyw.
21:22 "Pan yw dynion wrth ymladd â'i gilydd yn taro gwraig feichiog, a hithau'n colli ei phlentyn, ond heb gael niwed pellach, y mae'r dyn i dalu'r ddirwy sy'n ddyledus i'w gŵr ac a bennwyd gan y barnwyr.
21:23 Ond os bu niwed pellach, yr wyt i hawlio bywyd am fywyd,
21:24 llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,
21:25 llosgiad am losgiad, clwyf am glwyf, a chlais am glais.
21:26 "Pan yw rhywun yn taro llygad ei gaethwas neu ei gaethferch, a'i ddifetha, y mae i ollwng y caeth yn rhydd o achos y llygad.
21:27 Os yw'n taro allan ddant ei gaethwas neu ei gaethferch, y mae i ollwng y caeth yn rhydd o achos y dant.

Cyfrifoldeb Perchnogion

21:28 "Pan yw ych yn cornio gŵr neu wraig i farwolaeth, llabyddier yr ych, ac nid yw ei gig i'w fwyta; ond ystyrier y perchennog yn ddieuog.
21:29 Ond os bu'r ych yn cornio yn y gorffennol, a'r perchennog wedi ei rybuddio ond eto heb gadw'r ych dan reolaeth, a hwnnw'n lladd gŵr neu wraig, llabyddier yr ych a rhoi ei berchennog i farwolaeth.
21:30 Os pennir pridwerth, y mae i dalu am ei fywyd yn llawn yn ôl y pridwerth a bennir.
21:31 Os yw'r ych yn cornio mab neu ferch, y mae'r un rheol yn dal.
21:32 Os yw'r ych yn cornio caethwas neu gaethferch, y mae ei berchennog i dalu i'r meistr ddeg sicl ar hugain o arian, ac y mae'r ych i'w labyddio.
21:33 "Pan yw rhywun yn gadael pydew ar agor, neu'n cloddio pydew a heb ei gau, ac ych neu asyn yn syrthio iddo,
21:34 y mae perchen y pydew i wneud iawn amdano trwy dalu arian i berchen yr anifail; ond ei eiddo ef fydd yr anifail marw.
21:35 "Pan yw ych rhywun yn cornio ac yn lladd ych ei gymydog, yna y maent i werthu'r ych byw, a rhannu'r arian a geir amdano; y maent hefyd i rannu'r ych marw.
21:36 Ond os yw'n hysbys fod yr ych wedi cornio yn y gorffennol, a'i berchennog heb ei gadw dan reolaeth, y mae ef i dalu'n ôl yn llawn, a rhoi ych am ych; ond ei eiddo ef fydd yr anifail marw.

Iawn am Eiddo

22:1 "Os yw rhywun yn lladrata ych neu ddafad ac yn ei ladd neu ei werthu, y mae i dalu'n ôl bum ych am yr ych, a phedair dafad am y ddafad.
22:2 "Os bydd rhywun yn dal lleidr yn torri i mewn, ac yn ei daro a'i ladd, ni fydd yn euog o'i waed;
22:3  ond os yw'n ei ddal ar ôl i'r haul godi, fe fydd yn euog o'i waed. "Y mae lleidr i dalu'n ôl yn llawn, ac os nad oes dim ganddo, y mae ef ei hun i'w werthu am ei ladrad.
22:4 "Os ceir yn fyw ym meddiant lleidr anifail wedi ei ddwyn, boed yn ych neu'n asyn neu'n ddafad, y mae'r lleidr i dalu'n ôl ddwbl ei werth.
22:5 "Pan yw rhywun yn gadael ei faes neu ei winllan i'w pori, ac yna'n gyrru ei anifail i bori ym maes rhywun arall, y mae i dalu'n ôl o'r pethau gorau sydd yn ei faes a'i winllan ei hun.
22:6 "Pan yw tân yn torri allan ac yn cydio mewn drain ac yn difa ysgubau ŷd, neu ŷd heb ei fedi, neu faes, y mae'r sawl a gyneuodd y tân i dalu'n ôl yn llawn.
22:7 "Pan yw rhywun yn rhoi i'w gymydog arian neu ddodrefn i'w cadw iddo, a'r rheini'n cael eu lladrata o'i dŷ, y mae'r lleidr, os delir ef, i dalu'n ôl yn ddwbl.
22:8 Os na ddelir y lleidr, dyger perchennog y tŷ o flaen Duw i weld a estynnodd ei law at eiddo'i gymydog ai peidio.
22:9 "Mewn unrhyw achos o drosedd ynglŷn ag ych, asyn, dafad, dilledyn, neu unrhyw beth coll y mae rhywun yn dweud mai ei eiddo ef ydyw, dyger achos y ddau o flaen Duw; ac y mae'r sawl y bydd Duw yn ei gael yn euog i dalu'n ôl yn ddwbl i'w gymydog.
22:10 "Pan yw rhywun yn rhoi asyn, ych, dafad, neu unrhyw anifail i'w gymydog i'w gadw iddo, a'r anifail yn marw, neu'n cael ei niweidio, neu ei gipio ymaith, heb i neb ei weld,
22:11 y mae'r naill i dyngu i'r llall yn enw'r ARGLWYDD nad yw wedi estyn ei law at eiddo'i gymydog; y mae'r perchennog i dderbyn hyn, ac nid yw'r llall i dalu'n ôl.
22:12 Ond os cafodd ei ladrata oddi arno, y mae i dalu'n ôl i'r perchennog.
22:13 Os cafodd ei larpio, y mae i ddod â'r corff yn dystiolaeth, ac nid yw i dalu'n ôl am yr hyn a larpiwyd.
22:14 "Pan yw rhywun yn benthyca anifail gan ei gymydog, a hwnnw'n cael ei niweidio, neu'n marw heb i'w berchennog fod gydag ef, y mae'r sawl a'i benthyciodd i dalu'n ôl yn llawn.
22:15 Ond os oedd ei berchennog gydag ef, nid yw i dalu'n ôl; os oedd ar log, yna'r llog sy'n ddyledus.

Deddfau Moesol a Chrefyddol

22:16 "Pan yw rhywun yn hudo gwyryf nad yw wedi ei dyweddïo, ac yn gorwedd gyda hi, y mae i roi gwaddol amdani, a'i chymryd yn wraig.
22:17 Ond os yw ei thad yn gwrthod yn llwyr ei rhoi iddo, y mae i dalu arian sy'n gyfwerth â'r gwaddol am wyryf.
22:18 "Paid â gadael i ddewines fyw.
22:19 "Pwy bynnag sy'n gorwedd gydag anifail, rhodder ef i farwolaeth.
22:20 "Pwy bynnag sy'n aberthu i unrhyw dduw heblaw'r ARGLWYDD yn unig, distrywier ef yn llwyr.
22:21 "Paid â gwneud cam â'r estron, na'i orthrymu, oherwydd estroniaid fuoch chwi yng ngwlad yr Aifft.
22:22 Peidiwch â cham-drin y weddw na'r amddifad.
22:23 Os byddwch yn eu cam-drin a hwythau'n galw arnaf, byddaf yn sicr o glywed eu cri.
22:24 Bydd fy nicter yn cael ei gyffroi, ac fe'ch lladdaf â'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon a'ch plant yn amddifaid.
22:25 "Pan fenthyci arian i unrhyw un o'm pobl sy'n dlawd yn eich plith, paid ag ymddwyn tuag ato fel y gwna'r echwynnwr, a phaid â mynnu llog ganddo.
22:26 Os cymeri fantell dy gymydog yn wystl, yr wyt i'w rhoi'n ôl iddo cyn machlud haul,
22:27 oherwydd dyna'r unig orchudd sydd ganddo, a dyna'r wisg sydd am ei gorff; beth arall sydd ganddo i gysgu ynddo? Os bydd yn galw arnaf fi, fe wrandawaf arno am fy mod yn drugarog.
22:28 "Paid â chablu Duw, na melltithio pennaeth o blith dy bobl.
22:29 "Paid ag oedi offrymu o'th ffrwythau aeddfed neu o gynnyrch dy winwryf. "Yr wyt i gyflwyno i mi dy fab cyntafanedig.
22:30 Yr wyt i wneud yr un modd gyda'th ychen a'th ddefaid; bydded pob un gyda'i fam am saith diwrnod, ac ar yr wythfed dydd cyflwyner ef i mi.
22:31 "Byddwch yn ddynion wedi eu cysegru i mi, a pheidiwch â bwyta cig dim sydd wedi ei ysglyfaethu yn y maes; yn hytrach, taflwch ef i'r cŵn.

Cyfiawnder a Thegwch

23:1 "Paid â lledaenu straeon ofer. Paid ag ymuno â'r drygionus i fod yn dyst celwyddog.
23:2 Paid â dilyn y lliaws i wneud drwg, nac ochri gyda'r mwyafrif i wyrdroi barn wrth dystio mewn achos cyfreithiol.
23:3 Paid â dangos ffafr tuag at y tlawd yn ei achos.
23:4 "Pan ddoi ar draws ych dy elyn neu ei asyn yn crwydro, dychwel ef iddo.
23:5 Os gweli asyn y sawl sy'n dy gasáu yn crymu dan ei lwyth, paid â'i adael fel y mae, ond dos i estyn cymorth iddo.
23:6 "Paid â gwyro barn i'r tlawd yn ei achos.
23:7 Ymgadw oddi wrth eiriau celwyddog, a phaid â difa'r dieuog na'r cyfiawn, oherwydd ni byddaf fi'n cyfiawnhau'r drygionus.
23:8 Paid â derbyn llwgrwobr, oherwydd y mae'n dallu'r un mwyaf craff ac yn gwyro geiriau'r cyfiawn.
23:9 "Paid â gorthrymu'r estron, oherwydd fe wyddoch chwi beth yw bod yn estron am mai estroniaid fuoch yng ngwlad yr Aifft.

Y Seithfed Flwyddyn a'r Seithfed Dydd

23:10 "Am chwe blynedd yr wyt i hau dy dir a chasglu ei gynnyrch,
23:11 ond yn y seithfed flwyddyn yr wyt i'w adael heb ei drin, er mwyn i'r rhai tlawd ymysg dy bobl gael bwyta, ac i'r anifeiliaid gwyllt gael bwydo ar yr hyn a adewir yn weddill. Yr wyt i wneud yr un modd gyda'th winllan a'th goed olewydd.
23:12 "Am chwe diwrnod yr wyt i weithio, ond ar y seithfed dydd yr wyt i orffwys, er mwyn i'th ych a'th asyn gael gorffwys, ac i fab dy gaethferch ac i'r estron gael dadflino.
23:13 Gofalwch gadw'r holl bethau a ddywedais wrthych, a pheidiwch ag enwi duwiau eraill na sôn amdanynt.

Y Tair Gŵyl Fawr, Ex. 34:18-26; Deut. 16:1-17

23:14 "Yr wyt i gadw gŵyl i mi deirgwaith y flwyddyn.
23:15 Yr wyt i gadw gŵyl y Bara Croyw; fel y gorchmynnais iti, yr wyt i fwyta bara croyw am saith diwrnod ar yr amser penodedig ym mis Abib, oherwydd yn ystod y mis hwnnw y daethost allan o'r Aifft. Nid oes neb i ymddangos o'm blaen yn waglaw.
23:16 Yr wyt i gadw gŵyl y Cynhaeaf â blaenffrwyth yr hyn a heuaist yn y maes. Yr wyt i gadw gŵyl y Cynnull ar ddiwedd y flwyddyn, pan wyt yn casglu o'r maes ffrwyth dy lafur.
23:17 Y mae pob gwryw yn eich plith i ymddangos o flaen yr ARGLWYDD Dduw deirgwaith y flwyddyn.
23:18 "Paid ag offrymu gwaed fy aberth gyda bara lefeinllyd, a phaid â gadael braster fy ngwledd yn weddill hyd y bore.
23:19 "Yr wyt i ddod â'r cyntaf o flaenffrwyth dy dir i dŷ'r ARGLWYDD dy Dduw. "Paid â berwi myn yn llaeth ei fam.

Addewidion a Chyfarwyddiadau

23:20 "Edrych, yr wyf yn anfon angel o'th flaen, i'th warchod ar hyd y ffordd a'th arwain i'r man yr wyf wedi ei baratoi.
23:21 Bydd ufudd iddo a gwrando arno; paid â'i wrthwynebu, oherwydd fy awdurdod i sydd ganddo, ac ni fydd yn maddau eich pechodau.
23:22 "Os gwrandewi'n ofalus arno, a gwneud y cwbl a ddywedaf, byddaf yn elyn i'th elynion, ac fe wrthwynebaf dy wrthwynebwyr.
23:23 "Bydd fy angel yn mynd o'th flaen ac yn dy arwain at yr Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hefiaid, a Jebusiaid, a byddaf yn eu difodi.
23:24 Paid ag ymgrymu i'w duwiau, na'u gwasanaethu, a phaid â gwneud fel y maent hwy yn gwneud; yr wyt i'w dinistrio'n llwyr a dryllio'u colofnau'n ddarnau.
23:25 Yr ydych i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw; bydd ef yn bendithio dy fara a'th ddŵr ac yn cymryd ymaith bob clefyd o'ch plith.
23:26 Ni bydd dim o fewn dy dir yn erthylu nac yn ddiffrwyth; rhoddaf i ti nifer llawn o ddyddiau.
23:27 Byddaf yn anfon fy arswyd o'th flaen, ac yn drysu'r holl bobl y byddi'n dod yn eu herbyn, a gwnaf i'th holl elynion droi'n ôl.
23:28 Byddaf yn anfon cacwn o'th flaen i yrru ymaith yr Hefiaid, y Canaaneaid, a'r Hethiaid o'th olwg.
23:29 Ond ni fyddaf yn eu gyrru hwy i gyd allan o'th flaen yr un flwyddyn, rhag i'r wlad fynd yn anghyfannedd ac i'r anifeiliaid gwyllt amlhau yn dy erbyn.
23:30 Fe'u gyrraf allan o'th flaen fesul tipyn, nes iti gynyddu digon i feddiannu'r wlad.
23:31 Gosodaf dy derfynau o'r Môr Coch hyd fôr y Philistiaid, ac o'r anialwch hyd afon Ewffrates; byddaf yn rhoi trigolion y wlad yn eich dwylo, a byddi'n eu gyrru allan o'th flaen.
23:32 Paid â gwneud cyfamod â hwy nac â'u duwiau.
23:33 Ni fyddant yn aros yn y wlad, rhag iddynt wneud i ti bechu yn f'erbyn; os byddi'n gwasanaethu eu duwiau, bydd hynny'n dramgwydd i ti."

Selio'r Cyfamod

24:1 Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Tyrd i fyny at yr ARGLWYDD, ti ac Aaron, Nadab, Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel, ac addolwch o bell.
24:2 Moses yn unig sydd i nesáu at yr ARGLWYDD; nid yw'r lleill i ddod yn agos, ac nid yw'r bobl i fynd i fyny gydag ef."
24:3 Pan ddaeth Moses, a mynegi i'r bobl holl eiriau'r ARGLWYDD a'r holl ddeddfau, atebodd y bobl i gyd yn unfryd, "Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD."
24:4 Yna ysgrifennodd Moses holl eiriau'r ARGLWYDD. Cododd yn gynnar yn y bore, ac wrth droed y mynydd adeiladodd allor a deuddeg colofn yn cyfateb i ddeuddeg llwyth Israel.
24:5 Anfonodd lanciau o blith yr Israeliaid i offrymu poethoffrymau ac aberthu bustych yn heddoffrymau i'r ARGLWYDD.
24:6 Yna cymerodd Moses hanner y gwaed a'i roi mewn cawgiau, a thywallt yr hanner arall dros yr allor.
24:7 Cymerodd lyfr y cyfamod, ac ar ôl iddo'i ddarllen yng nghlyw'r bobl, dywedasant,
24:8 "Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD, a byddwn yn ufudd iddo." Yna cymerodd Moses y gwaed a'i daenellu dros y bobl, a dweud, "Dyma waed y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD â chwi yn unol â'r holl eiriau hyn."
24:9 Yna aeth Moses i fyny gydag Aaron, Nadab, Abihu a'r deg a thrigain o henuriaid Israel,
24:10 a gwelsant Dduw Israel; o dan ei draed yr oedd rhywbeth tebyg i balmant o faen saffir, yn ddisglair fel y nefoedd ei hun.
24:11 Ni osododd ei law ar benaethiaid pobl Israel; ond cawsant weld Duw a bwyta ac yfed.

Moses ar Fynydd Sinai

24:12 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Tyrd i fyny ataf i'r mynydd, ac aros yno; yna fe roddaf iti lechau o garreg, gyda'r gyfraith a'r gorchymyn a ysgrifennais ar eu cyfer i'w hyfforddi."
24:13 Felly cododd Moses a'i was, Josua, ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw.
24:14 Dywedodd wrth yr henuriaid, "Arhoswch yma amdanom nes inni ddod yn ôl atoch; bydd Aaron a Hur gyda chwi, ac os bydd gan rywun gŵyn, aed atynt hwy."
24:15 Aeth Moses i fyny i'r mynydd, a gorchuddiwyd y mynydd gan gwmwl.
24:16 Arhosodd gogoniant yr ARGLWYDD ar Fynydd Sinai, a gorchuddiodd y cwmwl y mynydd am chwe diwrnod; yna ar y seithfed dydd, galwodd Duw ar Moses o ganol y cwmwl.
24:17 Yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn ymddangos yng ngolwg pobl Israel fel tân yn difa ar ben y mynydd.
24:18 Aeth Moses i ganol y cwmwl, a dringodd i fyny'r mynydd, a bu yno am ddeugain diwrnod a deugain nos.

Rhoddion ar gyfer y Cysegr, Ex. 35:4-9

25:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
25:2 "Dywed wrth bobl Israel am ddod ag offrwm i mi, a derbyniwch oddi wrth bob un yr offrwm y mae'n ei roi o'i wirfodd.
25:3 Dyma'r offrwm yr ydych i'w dderbyn ganddynt: aur, arian ac efydd;
25:4 sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,
25:5 crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,
25:6 olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;
25:7 meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.
25:8 Y maent hefyd i wneud cysegr, er mwyn i mi drigo yn eu plith.
25:9 Yr ydych i'w wneud yn unol â'r cynllun o'r tabernacl, a'i holl ddodrefn, yr wyf yn ei ddangos i ti.

Arch y Cyfamod, Ex. 37:1-9

25:10 "Y maent i wneud arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.
25:11 Yr wyt i'w goreuro ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, ac yr wyt i wneud ymyl aur o'i hamgylch.
25:12 Yna yr wyt i lunio pedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.
25:13 Gwna bolion o goed acasia a'u goreuro,
25:14 a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.
25:15 Y mae'r polion i aros yn nolennau'r arch heb eu symud oddi yno;
25:16 yr wyt i roi yn yr arch y dystiolaeth yr wyf yn ei rhoi iti.
25:17 Gwna drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led;
25:18 gwna hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro.
25:19 Gwna un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.
25:20 Y mae dwy adain y cerwbiaid i fod ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; y mae'r cerwbiaid i wynebu ei gilydd, â'u hwynebau tua'r drugareddfa.
25:21 Yr wyt i roi'r drugareddfa ar ben yr arch, a rhoi yn yr arch y dystiolaeth y byddaf yn ei rhoi i ti.
25:22 Yno byddaf yn cyfarfod â thi, ac oddi ar y drugareddfa, rhwng y ddau gerwb sydd ar arch y dystiolaeth, y byddaf yn mynegi iti yr holl bethau yr wyf yn eu gorchymyn i bobl Israel.

Bwrdd y Bara Gosod, Ex. 37:10-16

25:23 "Yr wyt i wneud bwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder,
25:24 a'i oreuro ag aur pur drosto, a gwneud ymyl aur o'i amgylch.
25:25 Gwna ffrâm o led llaw o'i gwmpas, a chylch aur o amgylch y ffrâm.
25:26 Yr wyt hefyd i wneud ar ei gyfer bedair dolen aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.
25:27 Bydd y dolennau sydd ar ymyl y ffrâm yn dal y polion sy'n cludo'r bwrdd.
25:28 Yr wyt i wneud y polion a fydd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.
25:29 Gwna lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; yr wyt i'w gwneud o aur pur.
25:30 Yr wyt i roi'r bara gosod ar y bwrdd o'm blaen yn wastadol.

Y Canhwyllbren, Ex. 37:17-24

25:31 "Gwna ganhwyllbren o aur pur. Y mae gwaelod y canhwyllbren a'i baladr i'w gwneud o ddeunydd gyr, ac y mae'r pedyll, y cnapiau a'r blodau i fod yn rhan o'r cyfanwaith.
25:32 Bydd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall.
25:33 Ar un gainc bydd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyma fydd ar y chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren.
25:34 Ar y canhwyllbren ei hun, bydd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt,
25:35 a bydd un o'r cnapiau dan bob pâr o'r chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren.
25:36 Bydd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, a bydd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.
25:37 Yr wyt i wneud ar ei gyfer saith llusern, a'u gosod fel eu bod yn goleuo'r gwagle o gwmpas.
25:38 Bydd ei efeiliau a'i gafnau o aur pur.
25:39 Yr wyt i wneud y canhwyllbren a'r holl lestri hyn o un dalent o aur pur.
25:40 Ond gofala dy fod yn eu gwneud yn ôl y patrwm a ddangoswyd i ti ar y mynydd.

Y Tabernacl, Ex. 36:8-38

26:1 "Gwna'r tabernacl o ddeg llen o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arnynt.
26:2 Bydd pob llen yn wyth cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.
26:3 Bydd pump o'r llenni wedi eu cydio wrth ei gilydd, a'r pump arall hefyd wedi eu cydio wrth ei gilydd.
26:4 Gwna ddolennau glas ar hyd ymyl y llen sydd ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.
26:5 Gwna hanner cant o ddolennau ar un llen, a hanner cant ar hyd ymyl y llen ar ben yr ail gydiad, gyda'r dolennau gyferbyn â'i gilydd.
26:6 Gwna hefyd hanner cant o fachau aur, a chydia'r llenni wrth ei gilydd â'r bachau er mwyn i'r tabernacl fod yn gyfanwaith.
26:7 "Gwna un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl.
26:8 Bydd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.
26:9 Cydia hwy wrth ei gilydd yn bum llen ac yn chwe llen, a gwna'r chweched yn ddwbl dros wyneb y babell.
26:10 Gwna hanner cant o ddolennau ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.
26:11 "Gwna hanner cant o fachau pres a'u rhoi yn y dolennau i ddal y babell wrth ei gilydd yn gyfanwaith.
26:12 Bydd yr hyn sydd dros ben o lenni'r babell, sef yr hanner llen, yn hongian y tu ôl i'r tabernacl.
26:13 Ar y ddwy ochr bydd y cufydd o lenni'r babell sydd dros ben yn hongian dros y tabernacl i'w orchuddio.
26:14 Gwna do i'r babell o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod.
26:15 "Gwna hefyd ar gyfer y tabernacl fframiau syth o goed acasia,
26:16 pob un ohonynt yn ddeg cufydd o hyd a chufydd a hanner o led,
26:17 a dau denon ym mhob ffrâm i'w cysylltu â'i gilydd; gwna hyn i holl fframiau'r tabernacl.
26:18 Yr wyt i wneud y fframiau ar gyfer y tabernacl fel hyn: ugain ffrâm ar yr ochr ddeheuol,
26:19 a deugain troed arian oddi tanynt, dau i bob ffrâm ar gyfer ei dau denon;
26:20 ar yr ail ochr i'r tabernacl, sef yr ochr ogleddol, bydd ugain ffrâm
26:21 a deugain troed arian, dau dan bob ffrâm;
26:22 yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol, gwna chwe ffrâm,
26:23 a dwy arall ar gyfer conglau cefn y tabernacl,
26:24 wedi eu cysylltu yn y pen a'r gwaelod â bach; bydd y ddwy ffrâm yr un fath, ac yn ffurfio'r ddwy gongl.
26:25 Felly bydd wyth ffrâm ac un ar bymtheg o draed arian, dau droed dan bob ffrâm.
26:26 "Gwna hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl,
26:27 pump ar gyfer fframiau'r ochr arall, a phump ar gyfer y fframiau yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol.
26:28 Bydd y bar sydd ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i'r llall.
26:29 Yr wyt i oreuro'r fframiau, a gwneud bachau aur i osod y barrau trwyddynt; yr wyt hefyd i oreuro'r barrau.
26:30  Yr wyt i adeiladu'r tabernacl yn ôl y cynllun a ddangoswyd iti ar y mynydd.
26:31 "Gwna orchudd o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arno.
26:32 Gosod ef â bachau aur ar bedair colofn o goed acasia, wedi eu goreuro ac yn sefyll ar bedwar troed arian.
26:33 Rho'r gorchudd ar y bachau, a chludo arch y dystiolaeth oddi tano; bydd y gorchudd yn gwahanu rhwng y cysegr a'r cysegr sancteiddiaf.
26:34 Rho'r drugareddfa ar arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiaf.
26:35 Gosod y bwrdd y tu allan i'r gorchudd, ar ochr ogleddol y tabernacl, a'r canhwyllbren gyferbyn â'r bwrdd, ar yr ochr ddeheuol.
26:36 "Ar gyfer drws y babell gwna len o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio.
26:37 Ar gyfer y llen gwna bum colofn o goed acasia wedi eu goreuro, a bachau aur, a llunia o bres bum troed ar eu cyfer.

Yr Allor, Ex. 38:1-7

27:1 "Gwna allor sgwâr o goed acasia, pum cufydd o hyd a phum cufydd o led a thri chufydd o uchder.
27:2 Gwna gyrn yn rhan o'r allor yn ei phedair congl, a rho haen o bres drosti.
27:3 Gwna ar ei chyfer lestri i dderbyn y lludw, a rhawiau, cawgiau, ffyrch a phedyll tân, pob un ohonynt o bres.
27:4 Gwna hefyd ar ei chyfer rwyll o rwydwaith pres, a phedwar bach pres ar bedair congl y rhwydwaith.
27:5 Gosod hi dan ymyl yr allor fel bod y rhwydwaith yn ymestyn at hanner yr allor.
27:6 Gwna hefyd ar gyfer yr allor bolion o goed acasia, a rho haen o bres drostynt.
27:7 Rhoir y polion drwy'r bachau ar ochrau'r allor i'w chludo.
27:8 Gwna'r allor ag astellau, yn wag oddi mewn. Gwna hi fel y dangoswyd iti ar y mynydd.

Cyntedd y Tabernacl, Ex. 38:9-10

27:9 "Gwna gyntedd ar gyfer y tabernacl. Ar un ochr, yr ochr ddeheuol i'r cyntedd, bydd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd;
27:10 bydd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.
27:11 Yr un modd, bydd ar yr ochr ogleddol lenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.
27:12 Ar draws y cyntedd, ar yr ochr orllewinol, bydd llenni hanner can cufydd o hyd, â deg colofn a deg troed.
27:13 Ar yr ochr ddwyreiniol, tua chodiad haul, bydd lled y cyntedd yn hanner can cufydd.
27:14 Bydd y llenni ar y naill ochr i'r porth yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed,
27:15 a'r llenni ar yr ochr arall hefyd yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed.
27:16 Ym mhorth y cyntedd bydd llen ugain cufydd o hyd, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio; bydd iddi bedair colofn a phedwar troed.
27:17 Bydd cylchau arian ar yr holl golofnau o amgylch y cyntedd, a bydd eu bachau o aur a'u traed o bres.
27:18 Bydd y cyntedd yn gan cufydd o hyd a hanner can cufydd o led a phum cufydd o uchder, â llenni o liain main wedi ei nyddu, a thraed o bres.
27:19 Pres hefyd fydd pob un o'r llestri ar gyfer holl wasanaeth y tabernacl, a phob un o'r hoelion a fydd yn y tabernacl a'r cyntedd.

Gofal y Lamp, Lef. 24:1-4

27:20 "Gorchymyn i bobl Israel ddod ag olew pur wedi ei wasgu o'r olifiau ar gyfer y lamp, er mwyn iddi losgi'n ddi-baid.
27:21 Bydd Aaron a'i feibion yn cadw golwg ar y lamp o'r hwyr hyd y bore gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod y tu allan i'r gorchudd sydd o flaen y dystiolaeth. Bydd yn ddeddf i'w chadw am byth gan bobl Israel dros y cenedlaethau.

Gwisgoedd i'r Offeiriaid, Ex. 39:1-7

28:1 "Galw atat o blith pobl Israel dy frawd Aaron a'i feibion er mwyn iddynt fy ngwasanaethu fel offeiriaid: Aaron a'i feibion, Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar.
28:2 Gwna wisgoedd cysegredig ar gyfer dy frawd Aaron, er gogoniant a harddwch.
28:3 Dywed wrth bawb sy'n fedrus, pob un yr wyf wedi ei ddonio â gallu, am wneud dillad i Aaron er mwyn ei gysegru'n offeiriad i mi.
28:4 Dyma'r dillad y maent i'w gwneud: dwyfronneg, effod, mantell, siaced wau, penwisg a gwregys; y maent i wneud y gwisgoedd cysegredig i'th frawd Aaron ac i'w feibion, iddynt fy ngwasanaethu fel offeiriaid.
28:5 "Y maent i gymryd aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main,
28:6 a gwneud yr effod o'r aur, y sidan glas, porffor ac ysgarlad, a'r lliain main wedi ei nyddu a'i wnïo'n gywrain.
28:7 Bydd iddi ddwy ysgwydd wedi eu cydio ynghyd ar y ddwy ochr er mwyn ei chau.
28:8 Bydd y gwregys arni wedi ei wnïo'n gywrain, ac o'r un deunydd â'r effod, sef aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main wedi ei nyddu.
28:9 Cymer ddau faen onyx a naddu arnynt enwau meibion Israel
28:10 yn nhrefn eu geni, chwe enw ar un maen, a chwech ar y llall.
28:11 Yr wyt i naddu enwau meibion Israel ar y ddau faen fel y bydd gemydd yn naddu sêl, ac yna eu gosod mewn edafwaith o aur.
28:12 Rho'r ddau faen ar ysgwyddau'r effod, iddynt fod yn feini coffadwriaeth i feibion Israel, a bod Aaron yn dwyn eu henwau ar ei ysgwyddau yn goffadwriaeth gerbron yr ARGLWYDD.
28:13 Gwna edafwaith o aur,
28:14 a dwy gadwyn o aur pur wedi eu plethu ynghyd; gosod y cadwynau wedi eu plethu yn yr edafwaith.

Dwyfronneg yr Archoffeiriad, Ex. 39:8-21

28:15 "Gwna ddwyfronneg o grefftwaith cywrain ar gyfer barnu; gwna hi, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad ac o liain main wedi ei nyddu.
28:16 Bydd yn sgwâr ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led.
28:17 Gosod ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl;
28:18 yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;
28:19 yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst;
28:20 yn y bedwaredd res, beryl, onyx a iasbis; byddant i gyd wedi eu gosod mewn edafwaith o aur.
28:21 Enwir y deuddeg maen ar ôl meibion Israel, a bydd pob un fel sêl ac enw un o'r deuddeg llwyth wedi ei argraffu arno.
28:22 Ar gyfer y ddwyfronneg gwna gadwynau o aur pur wedi eu plethu ynghyd,
28:23 a hefyd ddau fach aur i'w rhoi ar ddwy ochr y ddwyfronneg.
28:24 Rho'r ddwy gadwyn aur ar y ddau fach ar ochrau'r ddwyfronneg,
28:25 a dau ben arall y ddwy gadwyn ar y ddau edafwaith, a'u cysylltu ag ysgwyddau'r effod o'r tu blaen.
28:26 Gwna hefyd ddau fach aur a'u gosod yn nau ben y ddwyfronneg ar yr ochr fewnol, nesaf at yr effod.
28:27 Yna, gwna ddau fach aur a'u gosod yn rhan isaf dwy ysgwydd yr effod ar y tu blaen, yn y cydiad uwchben y gwregys.
28:28 Y mae bachau'r ddwyfronneg i'w rhwymo wrth fachau'r effod â llinyn glas uwchben y gwregys, rhag i'r ddwyfronneg ymddatod oddi wrth yr effod.
28:29 Felly, pan fydd Aaron yn mynd i mewn i'r cysegr, bydd yn dwyn enwau meibion Israel ar ei galon yn y ddwyfronneg barn, yn goffadwriaeth wastadol gerbron yr ARGLWYDD.
28:30 Rho'r Wrim a'r Twmim yn y ddwyfronneg barn, iddynt fod ar galon Aaron pan fydd yn mynd gerbron yr ARGLWYDD; felly, bydd Aaron yn dwyn barnedigaeth pobl Israel ar ei galon gerbron yr ARGLWYDD yn wastadol.

Gwisgoedd Offeiriadol Eraill, Ex. 39:22-31

28:31 "Gwna fantell yr effod i gyd o sidan glas,
28:32 a thwll yn ei chanol ar gyfer y pen, a gwnïad o'i amgylch fel y twll a geir mewn llurig, rhag iddo rwygo.
28:33 O amgylch godre'r fantell gwna bomgranadau o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a chlychau aur rhyngddynt;
28:34 bydd clychau aur a phomgranadau bob yn ail o amgylch godre'r fantell.
28:35 Bydd Aaron yn ei gwisgo wrth wasanaethu, ac fe glywir sŵn y clychau pan â Aaron i mewn i'r cysegr gerbron yr ARGLWYDD, a phan ddaw allan; felly ni bydd farw.
28:36 "Gwna hefyd blât o aur pur, ac argraffa arno, fel ar sêl, 'Sanctaidd i'r ARGLWYDD',
28:37 a chlyma ef ar flaen y benwisg â llinyn glas.
28:38 Bydd ar dalcen Aaron, ac yntau'n cymryd arno'i hun euogrwydd pobl Israel wrth iddynt gysegru eu rhoddion sanctaidd; bydd ar ei dalcen bob amser, er mwyn iddynt gael ffafr gerbron yr ARGLWYDD.
28:39 "Yr wyt i wau siaced o liain main, a gwneud penwisg hefyd o liain main, a gwregys wedi ei wnïo.
28:40 Gwna hefyd siacedau, gwregysau a chapiau i feibion Aaron; gwna hwy er gogoniant a harddwch.
28:41 Yr wyt i'w gwisgo am Aaron dy frawd a'i feibion, a'u heneinio, eu hordeinio a'u cysegru, er mwyn iddynt fy ngwasanaethu fel offeiriaid.
28:42 Gwna iddynt hefyd lodrau o liain i guddio'u cnawd noeth, o'u llwynau at y glun.
28:43 Bydd Aaron a'i feibion yn eu gwisgo wrth iddynt fynd i mewn i babell y cyfarfod ac wrth iddynt agosáu at yr allor i wasanaethu yn y cysegr, rhag iddynt fod yn euog a marw. Bydd hyn yn ddeddf i'w chadw am byth ganddo ef a'i ddisgynyddion.

Cysegru Offeiriaid, Lef. 8:1-36

29:1 "Dyma'r hyn a wnei i'w cysegru'n offeiriaid i'm gwasanaethu: cymer un bustach ifanc a dau hwrdd di-nam;
29:2 cymer hefyd beilliaid gwenith heb furum, a gwna fara, cacennau wedi eu cymysgu ag olew, a theisennau ag olew wedi ei daenu arnynt.
29:3 Rho hwy mewn un fasged i'w cyflwyno gyda'r bustach a'r ddau hwrdd.
29:4 Yna tyrd ag Aaron a'i feibion at ddrws pabell y cyfarfod, a'u golchi â dŵr.
29:5 Cymer y dillad, a gwisgo Aaron â'r siaced, mantell yr effod, yr effod ei hun a'r ddwyfronneg, a gosod wregys yr effod am ei ganol.
29:6 Gosod y benwisg ar ei ben, a rho'r goron gysegredig ar y benwisg.
29:7 Cymer olew'r ennaint a'i dywallt ar ei ben, a'i eneinio.
29:8 Yna tyrd â'i feibion, a'u gwisgo â'r siacedau;
29:9 rho'r gwregys amdanynt hwy ac Aaron, a'u gwisgo â chapiau. Eu heiddo hwy fydd yr offeiriadaeth trwy ddeddf dragwyddol. Fel hyn yr wyt i ordeinio Aaron a'i feibion.
29:10 "Tyrd â'r bustach o flaen pabell y cyfarfod, a gwna i Aaron a'i feibion roi eu dwylo ar ei ben;
29:11 yna lladd di'r bustach gerbron yr ARGLWYDD wrth ddrws pabell y cyfarfod.
29:12 Cymer beth o waed y bustach, a'i daenu â'th fys ar gyrn yr allor; yna tywallt y gweddill ohono wrth droed yr allor.
29:13 Cymer yr holl fraster sydd am y perfedd, y croen am yr iau, a'r ddwy aren gyda'r braster, a'u llosgi ar yr allor.
29:14 Ond llosga gig y bustach, ei groen a'r gwehilion, â thân y tu allan i'r gwersyll; aberth dros bechod ydyw.
29:15 "Cymer un o'r hyrddod, a gwna i Aaron a'i feibion roi eu dwylo ar ei ben;
29:16 yna lladd di'r hwrdd a chymryd ei waed a'i daenu o amgylch yr allor.
29:17 Tor ef yn ddarnau, ac wedi golchi ei berfedd a'i goesau, gosod hwy gyda'r darnau a'r pen;
29:18 yna llosga'r hwrdd i gyd ar yr allor. Poethoffrwm i'r ARGLWYDD ydyw; y mae'n arogl peraidd ac yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
29:19 "Cymer yr hwrdd arall, a gwna i Aaron a'i feibion osod eu dwylo ar ei ben;
29:20 yna lladd di'r hwrdd a chymer beth o'i waed a'i roi ar gwr isaf clust dde Aaron a'i feibion, ac ar fodiau de eu dwylo a'u traed, a thaenella weddill y gwaed o amgylch yr allor.
29:21 Yna cymer beth o'r gwaed a fydd ar yr allor, a pheth o olew'r ennaint, a'u taenellu ar Aaron a'i feibion, ac ar eu dillad; byddant hwy a'u dillad yn gysegredig.
29:22 "Cymer o'r hwrdd y braster, y gloren, y braster am y perfedd, y croen am yr iau, y ddwy aren a'u braster, a'r glun dde; oherwydd hwrdd yr ordeinio ydyw.
29:23 O fasged y bara croyw sydd gerbron yr ARGLWYDD cymer un dorth, un gacen wedi ei gwneud ag olew, ac un deisen;
29:24 rho'r cyfan yn nwylo Aaron a'i feibion, a'i chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.
29:25 Yna cymer hwy o'u dwylo a'u llosgi ar yr allor gyda'r poethoffrwm yn arogl peraidd gerbron yr ARGLWYDD; offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD ydyw.
29:26 "Cymer frest hwrdd ordeinio Aaron, a'i chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD; dy eiddo di fydd y rhan hon.
29:27 Cysegra'r rhannau o'r hwrdd sy'n eiddo i Aaron a'i feibion, sef y frest a chwifir a'r glun a neilltuir.
29:28 Dyma gyfraniad pobl Israel i Aaron a'i feibion trwy ddeddf dragwyddol, oherwydd cyfran yr offeiriaid ydyw, a roddir gan bobl Israel o'u heddoffrymau; eu hoffrwm hwy i'r ARGLWYDD ydyw.
29:29 "Bydd dillad cysegredig Aaron yn eiddo i'w feibion ar ei ôl, er mwyn eu heneinio a'u hordeinio ynddynt.
29:30 Bydd y mab a fydd yn ei ddilyn fel offeiriad yn eu gwisgo am saith diwrnod pan ddaw i babell y cyfarfod i wasanaethu yn y cysegr.
29:31 "Cymer hwrdd yr ordeinio, a berwi ei gig mewn lle cysegredig;
29:32 yna bydd Aaron a'i feibion yn bwyta cig yr hwrdd, a'r bara sydd yn y fasged, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
29:33 Y maent i fwyta'r pethau y gwnaed cymod â hwy adeg eu hordeinio a'u cysegru; ni chaiff neb arall eu bwyta am eu bod yn gysegredig.
29:34 Os gadewir peth o gig yr ordeinio neu o'r bara yn weddill hyd y bore, yr wyt i'w losgi â thân; ni cheir ei fwyta, am ei fod yn gysegredig.
29:35 "Gwna i Aaron a'i feibion yn union fel y gorchmynnais iti, a chymer saith diwrnod i'w hordeinio.
29:36 Offryma bob dydd fustach yn aberth dros bechod, i wneud cymod; gwna hefyd gymod dros yr allor wrth iti offrymu aberth dros bechod, ac eneinia'r allor i'w chysegru.
29:37 Am saith diwrnod yr wyt i wneud cymod dros yr allor a'i chysegru; felly bydd yr allor yn gysegredig, a bydd beth bynnag a gyffyrdda â hi hefyd yn gysegredig.

Yr Offrymau Beunyddiol, Num. 28:1-8

29:38 "Dyma'r hyn yr wyt i'w offrymu ar yr allor yn gyson bob dydd:
29:39 dau oen blwydd, un i'w offrymu yn y bore, a'r llall yn yr hwyr.
29:40 Gyda'r oen cyntaf offryma ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu â chwarter hin o olew pur, a chwarter hin o win yn ddiodoffrwm.
29:41 Offryma'r oen arall yn yr hwyr, gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm, fel yn y bore, i fod yn arogl peraidd ac yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
29:42 Bydd hwn yn boethoffrwm gwastadol dros y cenedlaethau wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr ARGLWYDD; yno byddaf yn cyfarfod â chwi i lefaru wrthych.
29:43 Yn y lle hwnnw byddaf yn cyfarfod â phobl Israel, ac fe'i cysegrir trwy fy ngogoniant.
29:44 Cysegraf babell y cyfarfod a'r allor; cysegraf hefyd Aaron a'i feibion i'm gwasanaethu fel offeiriaid.
29:45 Byddaf yn preswylio ymhlith pobl Israel, a byddaf yn Dduw iddynt.
29:46 Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw, a ddaeth â hwy allan o wlad yr Aifft er mwyn i mi breswylio yn eu plith; myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw.

Allor yr Arogldarth, Ex. 37:25-28

30:1 "Gwna allor o goed acasia ar gyfer llosgi arogldarth.
30:2 Bydd yn sgwâr, yn gufydd o hyd a chufydd o led a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni.
30:3 Goreura hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwna ymyl aur o'i hamgylch.
30:4 Gwna hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor.
30:5 Gwna'r polion o goed acasia, a goreura hwy.
30:6 Gosod yr allor o flaen y gorchudd sydd wrth arch y dystiolaeth, ac o flaen y drugareddfa ar yr arch; yno byddaf yn cyfarfod â thi.
30:7 Bydd Aaron yn llosgi arogldarth peraidd arni bob bore wrth baratoi'r lampau,
30:8 ac eto wrth oleuo'r lampau gyda'r hwyr; bydd hwn yn arogldarth gwastadol gerbron yr ARGLWYDD dros y cenedlaethau.
30:9 Peidiwch ag offrymu arni arogldarth halogedig, na phoethoffrwm, na bwydoffrwm; a pheidiwch â thywallt diodoffrwm arni.
30:10 Bydd Aaron yn gwneud cymod ar ei chyrn unwaith y flwyddyn dros y cenedlaethau, a bydd yn ei wneud â gwaed yr aberth dros bechod a offrymir er cymod; y mae'n gysegredig iawn i'r ARGLWYDD."

Y Dreth at Wasanaeth y Tabernacl

30:11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
30:12 "Pan fyddwch yn gwneud cyfrifiad o bobl Israel, y mae pob un i roi iawn am ei fywyd i'r ARGLWYDD, rhag bod pla yn eu plith wrth wneud y cyfrifiad.
30:13 Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad i roi'n offrwm i'r ARGLWYDD hanner sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera.
30:14 Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad sy'n ugain oed neu'n hŷn i roi offrwm i'r ARGLWYDD.
30:15 Nid yw'r cyfoethog i roi mwy, na'r tlawd i roi llai, na hanner sicl, wrth i chwi roi offrwm i'r ARGLWYDD er cymod dros eich bywyd.
30:16 Cymer arian y cymod oddi wrth bobl Israel a'i roi at wasanaeth pabell y cyfarfod; bydd yn goffadwriaeth i bobl Israel gerbron yr ARGLWYDD, er mwyn i chwi wneud cymod dros eich bywyd."

Y Noe Bres

30:17 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
30:18 "Gwna noe bres, â throed pres iddi, i ymolchi; a gosod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi dŵr ynddi
30:19 i Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed.
30:20 Pan fyddant yn mynd i mewn i babell y cyfarfod, neu'n agosáu at yr allor i wasanaethu neu i losgi offrwm mewn tân i'r ARGLWYDD, y maent i ymolchi â'r dŵr, rhag iddynt farw.
30:21 Y maent i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddynt farw; bydd hon yn ddeddf i'w chadw am byth gan Aaron a'i ddisgynyddion dros y cenedlaethau."

Olew'r Ennaint

30:22 Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses,
30:23 "Cymer o'r perlysiau gorau bum can sicl o fyrr pur, a hanner hynny, sef dau gant pum deg sicl o sinamon peraidd, a dau gant pum deg sicl o galamus peraidd,
30:24 a phum can sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, o gasia, a hin o olew'r olewydden.
30:25 Gwna ohonynt olew cysegredig ar gyfer eneinio, a chymysga hwy fel y gwna'r peraroglydd; bydd yn olew cysegredig ar gyfer ei eneinio.
30:26 Eneinia ag ef babell y cyfarfod ac arch y dystiolaeth,
30:27 y bwrdd a'i holl lestri, y canhwyllbren a'i holl lestri, allor yr arogldarth,
30:28 allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed.
30:29 Cysegra hwy, a byddant yn gysegredig iawn; bydd beth bynnag a gyffyrdda â hwy hefyd yn gysegredig.
30:30 Eneinia Aaron a'i feibion, a chysegra hwy i'm gwasanaethu fel offeiriaid.
30:31 Yna dywed wrth bobl Israel, 'Bydd hwn yn olew cysegredig i mi dros y cenedlaethau.
30:32 Peidiwch ag eneinio corff neb ag ef, na gwneud dim sy'n debyg iddo o ran ei gynnwys. Y mae'n gysegredig; felly bydded yn gysegredig gennych.
30:33 Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, neu sy'n ei dywallt ar leygwr.'"

Yr Arogldarth

30:34 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cymer berlysiau, sef stacte, onycha a galbanum, ac ynghyd â'r llysiau hyn, thus pur; cymer yr un faint o bob un,
30:35 a gwna arogldarth a'i gymysgu fel y gwna'r peraroglydd, a'i dymheru â halen i'w wneud yn bur a chysegredig.
30:36 Cura beth ohono'n fân a'i roi o flaen y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod, lle byddaf yn cyfarfod â thi; bydd yn gysegredig iawn gennych.
30:37 Peidiwch â gwneud arogldarth fel hwn i chwi eich hunain; bydd yn gysegredig i'r ARGLWYDD.
30:38 Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, i fwynhau ei arogl."

Crefftwyr i'r Tabernacl, Ex. 35:30-36:1

31:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
31:2 "Edrych, yr wyf wedi dewis Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda,
31:3 a'i lenwi ag ysbryd Duw, â doethineb a deall, â gwybodaeth a phob rhyw ddawn,
31:4 er mwyn iddo ddyfeisio patrymau cywrain i'w gweithio mewn aur, arian a phres,
31:5 a thorri meini i'w gosod, a cherfio pren, a gwneud pob cywreinwaith.
31:6 Penodais hefyd Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan, i'w gynorthwyo. Rhoddais ddawn i bob crefftwr i wneud y cyfan a orchmynnais iti:
31:7 pabell y cyfarfod, arch y dystiolaeth a'r drugareddfa sydd arni, holl ddodrefn y babell,
31:8 y bwrdd a'i lestri, y canhwyllbren o aur pur a'i holl lestri, allor yr arogldarth,
31:9 allor y poeth-offrwm a'i holl lestri, y noe a'i throed,
31:10 y gwisgoedd wedi eu gwnïo'n wisgoedd cysegredig i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion, er mwyn iddynt hwythau wasanaethu fel offeiriaid,
31:11 olew yr eneinio, a'r arogldarth peraidd ar gyfer y cysegr. Y maent i'w gwneud yn union fel y gorchmynnais i ti."

Y Saboth

31:12 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
31:13 "Dywed wrth bobl Israel, 'Cadwch fy Sabothau, oherwydd bydd hyn yn arwydd rhyngof a chwi dros y cenedlaethau, er mwyn i chwi wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, sydd yn eich cysegru.
31:14 Cadwch y Saboth, oherwydd y mae'n gysegredig i chwi; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n ei halogi, a thorrir ymaith o blith ei bobl bwy bynnag sy'n gweithio ar y Saboth.
31:15 Am chwe diwrnod y gweithir, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth i orffwys, ac yn gysegredig i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd Saboth.
31:16 Am hynny, bydd pobl Israel yn dathlu'r Saboth ac yn ei gadw dros y cenedlaethau yn gyfamod tra-gwyddol.
31:17 Y mae'n arwydd tragwyddol rhyngof a phobl Israel mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, ac iddo ymatal a gorffwys ar y seithfed dydd.'"
31:18 Wedi iddo orffen llefaru wrth Moses ar Fynydd Sinai, rhoddodd yr ARGLWYDD iddo ddwy lech y dystiolaeth, llechau o gerrig, wedi eu hysgrifennu â bys Duw.

Y Llo Aur, Deut. 9:6-29

32:1 Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dod i lawr o'r mynydd, daethant ynghyd at Aaron a dweud wrtho, "Cod, gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen, oherwydd ni wyddom beth a ddig-wyddodd i'r Moses hwn a ddaeth â ni i fyny o wlad yr Aifft."
32:2 Dywedodd Aaron wrthynt, "Tynnwch y tlysau aur sydd ar glustiau eich gwragedd a'ch meibion a'ch merched, a dewch â hwy ataf fi."
32:3 Felly tynnodd yr holl bobl eu clustlysau aur, a daethant â hwy at Aaron.
32:4 Cymerodd yntau y tlysau ganddynt, ac wedi eu trin â chŷn, gwnaeth lo tawdd ohonynt. Dywedodd y bobl, "Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth â thi i fyny o wlad yr Aifft."
32:5 Pan welodd Aaron y llo tawdd, adeiladodd allor o'i flaen a chyhoeddodd, "Yfory bydd gŵyl i'r ARGLWYDD."
32:6 Trannoeth codasant yn gynnar ac offrymu poethoffrymau, a dod â heddoffrymau; yna eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed, ac ymroi i gyfeddach.
32:7 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dos i lawr, oherwydd y mae'r bobl y daethost â hwy i fyny o wlad yr Aifft wedi eu halogi eu hunain.
32:8 Y maent wedi cilio'n gyflym oddi wrth y ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hunain lo tawdd, ac y maent wedi ei addoli ac aberthu iddo, a dweud, 'Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth â thi i fyny o wlad yr Aifft.'"
32:9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Yr wyf wedi gweld mor wargaled yw'r bobl hyn;
32:10 yn awr, gad lonydd imi er mwyn i'm llid ennyn yn eu herbyn a'u difa; ond ohonot ti fe wnaf genedl fawr."
32:11 Ymbiliodd Moses â'r ARGLWYDD ei Dduw, a dweud, "O ARGLWYDD, pam y mae dy lid yn ennyn yn erbyn dy bobl a ddygaist allan o wlad yr Aifft â nerth mawr ac â llaw gadarn?
32:12 Pam y caiff yr Eifftiaid ddweud, 'Â malais yr aeth â hwy allan, er mwyn eu lladd yn y mynyddoedd a'u difa oddi ar wyneb y ddaear'? Tro oddi wrth dy lid angerddol, a bydd edifar am iti fwriadu drwg i'th bobl.
32:13 Cofia Abraham, Isaac ac Israel, dy weision y tyngaist iddynt yn d'enw dy hun a dweud, 'Amlhaf eich disgynyddion fel sêr y nefoedd, a rhoddaf yr holl wlad hon iddynt, fel yr addewais, yn etifeddiaeth am byth.'"
32:14 Yna bu'n edifar gan yr ARGLWYDD am iddo fwriadu drwg i'w bobl.
32:15 Trodd Moses, a mynd i lawr o'r mynydd â dwy lech y dystiolaeth yn ei law, llechau ag ysgrifen ar y ddau wyneb iddynt.
32:16 Yr oedd y llechau o waith Duw, ac ysgrifen Duw wedi ei cherfio arnynt.
32:17 Pan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio, dywedodd wrth Moses, "Y mae sŵn rhyfel yn y gwersyll."
32:18 Ond meddai yntau, "Nid sŵn gorchfygwyr yn bloeddio na rhai a drechwyd yn gweiddi a glywaf fi, ond sŵn canu."
32:19 Pan ddaeth yn agos at y gwersyll, a gweld y llo a'r dawnsio, gwylltiodd Moses, a thaflu'r llechau o'i ddwylo a'u torri'n deilchion wrth droed y mynydd.
32:20 Cymerodd y llo a wnaethant, a'i losgi â thân; fe'i malodd yn llwch a'i gymysgu â dŵr, a gwnaeth i bobl Israel ei yfed.
32:21 Dywedodd Moses wrth Aaron, "Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, i beri iti ddwyn arnynt y fath bechod?"
32:22 Atebodd Aaron ef: "Paid â digio, f'arglwydd; fe wyddost am y bobl, eu bod â'u bryd ar wneud drygioni.
32:23 Dywedasant wrthyf, 'Gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen, oherwydd ni wyddom beth a ddigwyddodd i'r Moses hwn a ddaeth â ni i fyny o wlad yr Aifft'.
32:24 Dywedais innau wrthynt, 'Y mae pawb sydd â thlysau aur ganddynt i'w tynnu i ffwrdd'. Rhoesant yr aur i mi, ac fe'i teflais yn y tân; yna daeth y llo hwn allan."
32:25 Gwelodd Moses fod y bobl yn afreolus, a bod Aaron wedi gadael iddynt fynd felly, a'u gwneud yn waradwydd ymysg eu gelynion.
32:26 Yna safodd Moses wrth borth y gwersyll, a dweud, "Pwy bynnag sydd o blaid yr ARGLWYDD, doed ataf fi." Ymgasglodd holl feibion Lefi ato,
32:27 a dywedodd wrthynt, "Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: 'Bydded i bob un ohonoch osod ei gleddyf ar ei glun a mynd yn ôl a blaen drwy'r gwersyll, o ddrws i ddrws, a lladded pob un ei frawd, ei gyfaill a'i gymydog.'"
32:28 Gwnaeth meibion Lefi yn ôl gorchymyn Moses, a'r diwrnod hwnnw syrthiodd tua thair mil o'r bobl.
32:29 Dywedodd Moses, "Heddiw yr ydych wedi'ch ordeinio i'r ARGLWYDD, pob un ar draul ei fab a'i frawd, er mwyn iddo ef eich bendithio'r dydd hwn."
32:30 Trannoeth dywedodd Moses wrth y bobl, "Yr ydych wedi pechu'n ddirfawr. Yr wyf am fynd, yn awr, i fyny at yr ARGLWYDD; efallai y caf wneud cymod dros eich pechod."
32:31 Dychwelodd Moses at yr ARGLWYDD a dweud, "Och! Y mae'r bobl hyn wedi pechu'n ddirfawr trwy wneud iddynt eu hunain dduwiau o aur.
32:32 Yn awr, os wyt am faddau eu pechod, maddau; ond os nad wyt, dilea fi o'r llyfr a ysgrifennaist."
32:33 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Y sawl a bechodd yn f'erbyn a ddileaf o'm llyfr.
32:34 Yn awr, dos, ac arwain y bobl i'r lle y dywedais wrthyt, a bydd fy angel yn mynd o'th flaen. Ond fe ddaw dydd pan ymwelaf â hwy am eu pechod."
32:35 Anfonodd yr ARGLWYDD bla ar y bobl am yr hyn a wnaethant â'r llo a luniodd Aaron.

Gorchymyn i Ymadael â Mynydd Sinai

33:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dos gyda'r bobl a ddygaist allan o wlad yr Aifft, ac ewch i fyny oddi yma i'r wlad y tyngais wrth Abraham, Isaac a Jacob ei rhoi i'th ddisgynyddion.
33:2 Anfonaf angel o'th flaen, a gyrraf allan y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.
33:3 Dos i wlad yn llifeirio o laeth a mêl, ond ni fyddaf fi'n mynd i fyny gyda thi, rhag i mi dy ddifa ar y ffordd; oherwydd pobl wargaled ydych."
33:4 Pan glywodd y bobl y newydd drwg hwn, dechreusant alaru, ac ni wisgodd neb ei dlysau,
33:5 oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, "Dywed wrth bobl Israel,
33:6 'Pobl wargaled ydych; pe bawn yn mynd i fyny gyda chwi, gallwn eich difa'n ddirybudd. Tyn dy dlysau oddi arnat, ac fe benderfynaf beth i'w wneud â thi.'" Felly tynnodd pobl Israel eu tlysau ger Mynydd Horeb.

Pabell y Cyfarfod

33:7 Arferai Moses gymryd pabell a'i gosod y tu allan i'r gwersyll, bellter oddi wrtho, ac fe'i galwodd yn babell y cyfarfod. Yr oedd pob un a fyddai'n ceisio'r ARGLWYDD yn mynd at babell y cyfarfod y tu allan i'r gwersyll.
33:8 Pan fyddai Moses yn mynd allan at y babell, byddai'r bobl i gyd yn codi a phob un yn sefyll wrth ddrws ei babell ei hun, ac yn gwylio Moses nes iddo fynd i mewn.
33:9 Pan fyddai Moses yn mynd i mewn i'r babell, byddai colofn o gwmwl yn disgyn ac yn aros wrth y drws, a byddai'r ARGLWYDD yn siarad â Moses.
33:10 Pan welai'r holl bobl y golofn o gwmwl yn aros wrth ddrws y babell, byddai pob un ohonynt yn codi ac yn addoli wrth ddrws ei babell ei hun.
33:11 Byddai'r ARGLWYDD yn siarad â Moses wyneb yn wyneb, fel y bydd rhywun yn siarad â'i gyfaill. Pan ddychwelai Moses i'r gwersyll, ni fyddai ei was ifanc, Josua fab Nun, yn symud o'r babell.

Addewid yr Arglwydd i fod gyda'i Bobl

33:12 Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "Edrych, yr wyt yn dweud wrthyf am ddod â'r bobl hyn i fyny, ond nid wyt wedi rhoi gwybod i mi pwy yr wyt am ei anfon gyda mi. Dywedaist, 'Yr wyf yn dy ddewis di, a chefaist ffafr yn fy ngolwg.'
33:13 Yn awr, os cefais ffafr yn dy olwg, dangos i mi dy ffyrdd, er mwyn i mi dy adnabod ac aros yn dy ffafr; oherwydd dy bobl di yw'r genedl hon."
33:14 Atebodd yntau, "Byddaf fi fy hun gyda thi, a rhoddaf iti orffwysfa."
33:15 Dywedodd Moses wrtho, "Os na fyddi di dy hun gyda mi, paid â'n harwain ni ymaith oddi yma.
33:16 Oherwydd sut y bydd neb yn gwybod fy mod i a'th bobl wedi cael ffafr yn dy olwg, os na fyddi'n mynd gyda ni? Dyna sy'n fy ngwneud i a'th bobl yn wahanol i bawb arall ar wyneb y ddaear."
33:17 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Fe wnaf yr hyn a ofynnaist, oherwydd cefaist ffafr yn fy ngolwg, ac yr wyf wedi dy ddewis."
33:18 Meddai Moses, "Dangos i mi dy ogoniant."
33:19 Dywedodd yntau, "Gwnaf i'm holl ddaioni fynd heibio o'th flaen, a chyhoeddaf fy enw, ARGLWYDD, yn dy glyw; a dangosaf drugaredd a thosturi tuag at y rhai yr wyf am drugarhau a thosturio wrthynt.
33:20 Ond," meddai, "ni chei weld fy wyneb, oherwydd ni chaiff neb fy ngweld a byw."
33:21 Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd, "Bydd lle yn fy ymyl; saf ar y graig,
33:22 a phan fydd fy ngogoniant yn mynd heibio, fe'th roddaf mewn hollt yn y graig a'th orchuddio â'm llaw nes imi fynd heibio;
33:23 yna tynnaf ymaith fy llaw, a chei weld fy nghefn, ond ni welir fy wyneb."

Y Ddwy Lech Garreg Newydd, Deut. 10:1-5

34:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Nadd ddwy lech garreg, fel y rhai cyntaf, ac fe ysgrifennaf arnynt y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, a dorraist.
34:2 Bydd barod erbyn y bore, a thyrd i fyny'n gynnar i Fynydd Sinai, ac aros amdanaf yno ar ben y mynydd.
34:3 Nid oes neb i ddod i fyny gyda thi, nac i ymddangos yn unman ar y mynydd; a phaid â gadael i ddefaid na gwartheg bori ar gyfyl y mynydd hwn."
34:4 Felly naddodd Moses ddwy lech garreg, fel y rhai cyntaf, a chododd yn fore ac aeth i fyny i Fynydd Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo, a chymerodd yn ei law y ddwy lech garreg.
34:5 Disgynnodd yr ARGLWYDD mewn cwmwl, a safodd yno gydag ef, a chyhoeddi ei enw, ARGLWYDD.
34:6 Aeth yr ARGLWYDD heibio o'i flaen, a chyhoeddi: "Yr ARGLWYDD, yr ARGLWYDD, Duw trugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb;
34:7 yn dangos cariad i filoedd, yn maddau drygioni a gwrthryfel a phechod, ond heb adael yr euog yn ddi-gosb, ac yn cosbi plant, a phlant eu plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth, am ddrygioni eu hynafiaid."
34:8 Brysiodd Moses i ymgrymu tua'r llawr ac addoli.
34:9 Yna dywedodd, "Os cefais yn awr ffafr yn d'olwg, O ARGLWYDD, boed i ti fynd gyda ni. Er bod y bobl yn wargaled, maddau ein gwrthryfel a'n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti."

Adnewyddu'r Cyfamod, Ex. 23:14-19; Deut. 7:1-15; 16:1-17

34:10 Dywedodd yr ARGLWYDD, "Edrych, yr wyf am wneud cyfamod. Yng ngŵydd dy holl bobl gwnaf ryfeddodau na wnaed eu tebyg ymhlith unrhyw genedl ar yr holl ddaear; yna bydd yr holl bobl yr wyt yn eu mysg yn gweld gwaith yr ARGLWYDD, oherwydd yr wyf am wneud â thi beth syfrdanol.
34:11 Cadw'r hyn yr wyf yn ei orchymyn iti heddiw, a gyrraf allan o'th flaen yr Amoriaid, Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.
34:12 Gwylia rhag iti wneud cyfamod â thrigolion y wlad yr ei iddi, rhag iddynt fod yn fagl iti.
34:13 Dinistriwch eu hallorau, drylliwch eu colofnau, a thorrwch i lawr eu pyst.
34:14 Paid ag ymgrymu i dduw arall, oherwydd
34:15 Eiddigeddus yw enw'r ARGLWYDD, a Duw eiddigeddus ydyw. Paid â gwneud cyfamod â thrigolion y wlad rhag iddynt, wrth buteinio ar ôl eu duwiau ac aberthu iddynt, dy wahodd dithau i fwyta o'u haberth,
34:16 ac i gymryd eu merched i'th feibion; a rhag i'w merched, wrth iddynt buteinio ar ôl eu duwiau, wneud i'th feibion buteinio ar ôl eu duwiau hwy.
34:17 "Paid â gwneud i ti ddelwau tawdd.
34:18 "Cadw ŵyl y Bara Croyw. Yr wyt i fwyta bara croyw am saith diwrnod ar yr amser penodedig ym mis Abib, fel y gorchmynnais iti, oherwydd ym mis Abib y daethost allan o'r Aifft.
34:19 "Eiddof fi yw'r cyntaf a ddaw o'r groth, y cyntafanedig o'th holl anifeiliaid gwryw, yn wartheg ac yn ddefaid.
34:20 Yr wyt i gyfnewid cyntafanedig asyn am oen, ac os na fyddi'n ei gyfnewid, tor ei wddf. Yr wyt i gyfnewid pob cyntafanedig o'th feibion. Nid oes neb i ymddangos o'm blaen yn waglaw.
34:21 "Am chwe diwrnod yr wyt i weithio, ond ar y seithfed dydd yr wyt i orffwys, boed yn amser aredig neu yn gynhaeaf.
34:22 "Cadw hefyd ŵyl yr Wythnosau, blaenffrwyth y cynhaeaf gwenith, a gŵyl y Cynnull ar ddiwedd y flwyddyn.
34:23 Y mae pob gwryw yn eich plith i ymddangos o flaen yr ARGLWYDD Dduw, Duw Israel, deirgwaith y flwyddyn.
34:24 Byddaf finnau'n gyrru cenhedloedd allan o'th flaen ac yn estyn dy derfynau, rhag i neb chwennych dy dir pan fyddi'n ymddangos deirgwaith y flwyddyn o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw.
34:25 "Paid ag offrymu gwaed fy aberth gyda bara lefeinllyd, a phaid â chadw aberth gŵyl y Pasg dros nos hyd y bore.
34:26 "Yr wyt i ddod â'r gorau o flaenffrwyth dy dir i dŷ'r ARGLWYDD dy Dduw. "Paid â berwi myn yn llaeth ei fam."
34:27 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Ysgrifenna'r geiriau hyn, oherwydd yn ôl y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod â thi ac ag Israel."
34:28 Bu Moses yno gyda'r ARGLWYDD am ddeugain diwrnod a deugain nos, heb fwyta bara nac yfed dŵr, ac ysgrifennodd ar y llechau eiriau'r cyfamod, sef y deg gorchymyn.
34:29 Pan ddaeth Moses i lawr o Fynydd Sinai gyda dwy lech y dystiolaeth yn ei law, ni wyddai fod croen ei wyneb yn disgleirio ar ôl iddo siarad â Duw.
34:30 Pan welodd Aaron a holl bobl Israel fod croen wyneb Moses yn disgleirio, yr oedd arnynt ofn dod yn agos ato.
34:31 Ond galwodd Moses arnynt, a throdd Aaron a holl arweinwyr cynulliad Israel ato, a siaradodd Moses â hwy.
34:32 Yna daeth holl bobl Israel ato, a gorchmynnodd iddynt yr holl bethau yr oedd yr ARGLWYDD wedi eu dweud wrtho ar Fynydd Sinai.
34:33 Pan orffennodd Moses siarad â hwy, rhoddodd orchudd ar ei wyneb,
34:34 ond pan fyddai'n mynd o flaen yr ARGLWYDD i siarad ag ef, byddai'n tynnu'r gorchudd nes iddo ddod allan, ac wedi dod allan, byddai'n dweud wrth bobl Israel yr hyn a orchmynnwyd iddo.
34:35 A phan welent hwy fod croen ei wyneb yn disgleirio, byddai Moses yn rhoi'r gorchudd yn ôl ar ei wyneb nes y byddai'n mynd i mewn eto i siarad â Duw.

Deddf y Saboth

35:1 Casglodd Moses ynghyd holl gynulliad pobl Israel a dweud wrthynt, "Dyma'r hyn y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i chwi ei wneud:
35:2 Chwe diwrnod y gweithiwch, ond bydd y seithfed dydd yn gysegredig, yn Saboth o orffwys i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd hwnnw.
35:3 Peidiwch hyd yn oed â chynnau tân yn eich cartrefi ar y dydd Saboth."

Rhoddion ar gyfer y Tabernacl, Ex. 25:1-9

35:4 Dywedodd Moses wrth holl gynulliad pobl Israel, "Dyma'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD:
35:5 Cymerwch o'r hyn sydd gennych yn offrwm i'r ARGLWYDD; y mae pob un sy'n dymuno rhoi offrwm i'r ARGLWYDD i roi aur, arian ac efydd;
35:6 sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,
35:7 crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,
35:8 olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;
35:9 meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.

Gwaith ar gyfer y Tabernacl, Ex. 39:32-43

35:10 "Y mae pob crefftwr yn eich plith i ddod a gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD:
35:11 y tabernacl, ei babell a'i len, ei fachau a'i fframiau, ei farrau, ei golofnau a'i draed;
35:12 yr arch a'i pholion, y drugareddfa, y gorchudd;
35:13 y bwrdd a'i bolion a'i holl lestri, a'r bara gosod;
35:14 y canhwyllbren ar gyfer y goleuni, ei lestri a'i lampau, a'r olew ar gyfer y golau;
35:15 allor yr arogldarth a'i pholion, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd, gorchudd drws y tabernacl;
35:16 allor y poethoffrwm a'r rhwyll bres, ei pholion a'i holl lestri, y noe a'i throed;
35:17 llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed, a gorchudd drws y cyntedd;
35:18 hoelion y tabernacl a'r cyntedd a'u rhaffau;
35:19 gwisgoedd wedi eu gwnïo'n gywrain ar gyfer gwasanaethau'r cysegr; gwisgoedd cysegredig i Aaron yr offeiriad ac i'w feibion, i wasanaethu fel offeiriaid."

Offrymau Gwirfoddol y Bobl

35:20 Yna aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith oddi wrth Moses,
35:21 a daeth pob un yr oedd ei galon yn ei gyffroi, a'i ysbryd yn ei ennyn, ag offrwm i'r ARGLWYDD i'w ddefnyddio ym mhabell y cyfarfod ar gyfer ei holl wasanaeth, ac ar gyfer y gwisgoedd cysegredig.
35:22 Felly daethant, yn wŷr a gwragedd, a chynnig o'u gwirfodd freichledau, clustlysau, modrwyau, cadwynau a thlysau aur o bob math; yr oedd pawb yn cyflwyno aur yn offrwm i'r ARGLWYDD.
35:23 Yr oedd pob un a chanddo sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod, yn dod â hwy.
35:24 Yr oedd pob un a allai gyflwyno offrwm o arian neu bres yn dod ag ef i'r ARGLWYDD; ac yr oedd pob un a chanddo goed acasia addas ar gyfer y gwaith yn dod â hwy.
35:25 Yr oedd pob gwraig fedrus yn nyddu â'i dwylo, ac yn dod â'i gwaith o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main.
35:26 Yr oedd pob gwraig a fedrai nyddu blew geifr yn gwneud hynny.
35:27 Daeth yr arweinwyr â meini onyx, meini i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg,
35:28 perlysiau ac olew ar gyfer y lamp ac ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd.
35:29 Pan fyddai gŵr neu wraig trwy holl Israel yn dymuno dod ag unrhyw beth ar gyfer y gwaith a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, byddai'n dod â'i offrwm i'r ARGLWYDD o'i wirfodd.

Crefftwyr y Tabernacl, Ex. 31:1-11

35:30 Dywedodd Moses wrth bobl Israel: "Edrychwch, y mae'r ARGLWYDD wedi dewis Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda,
35:31 ac wedi ei lenwi ag ysbryd Duw, ac â doethineb a deall, â gwybodaeth hefyd a phob rhyw ddawn,
35:32 er mwyn iddo ddyfeisio patrymau cywrain, a gweithio ag aur, arian a phres,
35:33 a thorri meini i'w gosod, a cherfio pren, a gwneud pob cywreinwaith.
35:34 Hefyd, ysbrydolodd yr ARGLWYDD ef ac Aholïab fab Achisamach o lwyth Dan i ddysgu eraill.
35:35 Llanwodd hwy â'r ddawn i wneud pob math o waith crefftus a chywrain a wneir gan saer neu grefftwr, neu gan un sy'n brodio sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, neu gan un sy'n gwau.
36:1 "Bydd Besalel, Aholïab, a phob un dawnus y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi iddo'r gallu a'r medr i wneud pob math o waith yng ngwasanaeth y cysegr, yn gweithio yn unol â'r cyfan y mae'r ARGLWYDD wedi ei orchymyn iddynt."

Haelioni'r Bobl

36:2 Galwodd Moses Besalel, Aholïab, a phob un dawnus yr oedd yr ARGLWYDD wedi rhoi iddo'r gallu, ac a oedd yn fodlon dod i wneud y gwaith,
36:3 a derbyniasant gan Moses bob offrwm a roesai pobl Israel o'u gwirfodd ar gyfer y gwaith yng ngwasanaeth y cysegr. Yr oedd y bobl yn dal i ddod ag offrwm ato o'u gwirfodd bob bore;
36:4 a bu'n rhaid i bob un dawnus a oedd yn gwneud y gwaith yn y cysegr adael ei orchwyl,
36:5 a dweud wrth Moses, "Y mae'r bobl yn dod â mwy na digon ar gyfer y gwaith a orchmynnodd yr ARGLWYDD inni ei wneud."
36:6 Felly rhoddodd Moses orchymyn, a chyhoeddwyd drwy'r gwersyll nad oedd na gŵr na gwraig i gyfrannu dim rhagor at offrwm y cysegr. Yna peidiodd y bobl â dod â rhagor,
36:7 oherwydd yr oedd y deunydd oedd ganddynt yn fwy na digon ar gyfer yr holl waith.

Gwneuthuriad y Tabernacl, Ex. 26:1-37

36:8 Yr oedd yr holl rai medrus ymhlith y gweithwyr wedi gwneud y tabernacl o ddeg llen o liain main wedi ei nyddu, ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arnynt.
36:9 Yr oedd pob llen yn wyth cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.
36:10 Cydiodd Besalel bum llen wrth ei gilydd, a'r pum llen arall hefyd wrth ei gilydd.
36:11 Gwnaeth ddolennau glas ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.
36:12 Gwnaeth hanner cant o ddolennau ar un llen, a hanner cant ar hyd ymyl y llen ar ben yr ail gydiad, a'r dolennau gyferbyn â'i gilydd.
36:13 Gwnaeth hefyd hanner cant o fachau aur, a chydiodd y llenni wrth ei gilydd â'r bachau, er mwyn i'r tabernacl fod yn gyfanwaith.
36:14 Gwnaeth hefyd un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl.
36:15 Yr oedd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.
36:16 Cydiodd hwy wrth ei gilydd yn bum llen ac yn chwe llen,
36:17 a gwnaeth hanner cant o ddolennau ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.
36:18 Gwnaeth hanner cant o fachau pres i gydio'r babell wrth ei gilydd yn gyfanwaith,
36:19 a gwnaeth orchudd i'r babell o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, ac o grwyn morfuchod.
36:20 Gwnaeth hefyd ar gyfer y tabernacl fframiau syth o goed acasia,
36:21 pob un yn ddeg cufydd o hyd a chufydd a hanner o led,
36:22 a dau denon ym mhob ffrâm i'w cysylltu â'i gilydd; gwnaeth hyn i holl fframiau'r tabernacl.
36:23 Dyma drefn fframiau'r tabernacl: ugain ffrâm ar yr ochr ddeheuol,
36:24 a deugain troed arian dan yr ugain ffrâm, dau droed i bob ffrâm ar gyfer ei dau denon.
36:25 Ar yr ail ochr i'r tabernacl, sef yr ochr ogleddol, gwnaeth ugain ffrâm
36:26 a'u deugain troed arian, dau droed dan bob ffrâm.
36:27 Yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol, gwnaeth chwe ffrâm,
36:28 a dwy arall ar gyfer conglau cefn y tabernacl,
36:29 wedi eu cysylltu'n ddwbl yn y pen a'r gwaelod â bach; yr oedd y ddwy ffrâm yr un fath, ac yn ffurfio'r ddwy gongl.
36:30 Yr oedd wyth ffrâm ac un ar bymtheg o draed arian, dau droed dan bob ffrâm.
36:31 Gwnaeth hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl,
36:32 a phump ar gyfer fframiau'r ochr arall, a phump ar gyfer y fframiau yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol.
36:33 Gwnaeth i'r bar a oedd ar ganol y fframiau ymestyn o un pen i'r llall.
36:34 Goreurodd y fframiau, a gwneud bachau aur i osod y barrau trwyddynt, a'u goreuro hwythau.
36:35 Gwnaeth orchudd o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arno.
36:36 Gwnaeth ar ei gyfer bedair colofn o goed acasia, a'u goreuro; yr oedd eu bachau o aur, a lluniodd ar eu cyfer bedwar troed arian.
36:37 Gwnaeth ar gyfer drws y babell len o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio;
36:38 gwnaeth hefyd bum colofn gyda bachau. Goreurodd ben uchaf y colofnau; ac aur oedd eu cylchau, ond pres oedd eu pum troed.

Arch y Cyfamod, Ex. 25:10-22

37:1 Gwnaeth Besalel arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.
37:2 Goreurodd hi ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.
37:3 Lluniodd bedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.
37:4 Gwnaeth bolion o goed acasia a'u goreuro,
37:5 a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.
37:6 Gwnaeth drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led.
37:7 Gwnaeth hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro,
37:8 a gosod un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.
37:9 Yr oedd dwy adain y cerwbiaid ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; yr oedd y cerwbiaid yn wynebu ei gilydd, â'u hwynebau tua'r drugareddfa.

Bwrdd y Bara Gosod, Ex. 25:23-30

37:10 Gwnaeth fwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder.
37:11 Goreurodd ef ag aur pur drosto, a gwnaeth ymyl aur o'i amgylch.
37:12 Gwnaeth ffrâm o led llaw o'i gwmpas, ac ymyl aur o amgylch y ffrâm.
37:13 Gwnaeth hefyd ar ei gyfer bedair o ddolennau aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.
37:14 Yr oedd y dolennau ar ymyl y ffrâm yn dal y polion oedd yn cludo'r bwrdd.
37:15 Gwnaeth y polion oedd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.
37:16 Gwnaeth lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; fe'u gwnaeth o aur pur.

Y Canhwyllbren, Ex. 25:31-40

37:17 Gwnaeth ganhwyllbren o aur pur. Yr oedd gwaelod y canhwyllbren a'i baladr o ddeunydd gyr, ac yr oedd y pedyll, y cnapiau a'r blodau yn rhan o'r cyfanwaith.
37:18 Yr oedd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall.
37:19 Ar un gainc yr oedd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyna oedd ar y chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.
37:20 Ar y canhwyllbren ei hun yr oedd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt;
37:21 ac yr oedd un o'r cnapiau dan bob pâr o'r chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.
37:22 Yr oedd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, ac yr oedd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.
37:23 Gwnaeth ar ei gyfer saith llusern, a gefeiliau a chafnau o aur pur.
37:24 Gwnaeth y canhwyllbren a'r holl lestri o un dalent o aur pur.

Allor yr Arogldarth, Ex. 30:1-5

37:25 Gwnaeth allor o goed acasia ar gyfer llosgi'r arogldarth; yr oedd yn sgwâr, yn gufydd o hyd, a chufydd o led, a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni.
37:26 Goreurodd hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.
37:27 Gwnaeth hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor.
37:28 Gwnaeth y polion o goed acasia, a'u goreuro.

Olew'r Ennaint a'r Arogldarth, Ex. 30:22-38

37:29 Gwnaeth hefyd olew cysegredig ar gyfer eneinio, ac arogldarth peraidd a phur, a chymysgodd hwy fel y gwna peraroglydd.

Allor y Poethoffrwm, Ex. 27:1-8

38:1 Gwnaeth allor y poethoffrwm hefyd o goed acasia; yr oedd yn sgwâr, yn bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led, a thri chufydd o uchder.
38:2 Gwnaeth gyrn yn rhan o'r allor yn ei phedair congl, a rhoddodd haen o bres drosti.
38:3 Gwnaeth ar ei chyfer lestri, rhawiau, cawgiau, ffyrch a phedyll tân, pob un ohonynt o bres.
38:4 Gwnaeth hefyd ar gyfer yr allor rwyll o rwydwaith pres, a'i gosod dan ymyl yr allor fel ei bod yn ymestyn at hanner yr allor.
38:5 Gwnaeth bedwar bach pres ar bedair congl y rhwydwaith, i gymryd y polion.
38:6 Gwnaeth y polion o goed acasia, a rhoi haen o bres drostynt; rhoddodd hwy drwy'r bachau ar ochrau'r allor i'w chludo.
38:7 Fe'i gwnaeth ag astellau, yn wag oddi mewn.

Y Noe Bres, Ex. 30:18

38:8 Gwnaeth noe, a throed iddi, o ddrychau pres y gwragedd a oedd yn gwasanaethu wrth ddrws pabell y cyfarfod.

Cyntedd y Tabernacl, Ex. 27:9-19

38:9 Yna gwnaeth y cyntedd. Ar yr ochr ddeheuol yr oedd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd;
38:10 yr oedd hefyd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond yr oedd bachau a chylchau'r colofnau o arian.
38:11 Yr un modd, ar yr ochr ogleddol yr oedd llenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond yr oedd bachau a chylchau'r colofnau o arian.
38:12 Ar yr ochr orllewinol yr oedd llenni hanner can cufydd o hyd, ynghyd â deg colofn a deg troed; yr oedd bachau'r colofnau a'u cylchau o arian.
38:13 Yr oedd yr ochr ddwyreiniol, tua chodiad haul, yn hanner can cufydd.
38:14 Yr oedd y llenni ar y naill ochr i'r porth yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed,
38:15 a'r llenni ar yr ochr arall hefyd yn bymtheg cufydd â thair colofn a thri throed.
38:16 Yr oedd yr holl lenni o amgylch y cyntedd o liain main wedi ei nyddu.
38:17 Yr oedd traed y colofnau o bres, ond yr oedd eu bachau a'u cylchau o arian; yr oedd pen uchaf y colofnau o arian, ac yr oedd holl golofnau'r cyntedd wedi eu cylchu ag arian.
38:18 Yr oedd y llen ym mhorth y cyntedd wedi ei brodio o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu; yr oedd yn ugain cufydd o hyd, a phum cufydd o led, ac yn cyfateb i lenni'r cyntedd.
38:19 Yr oedd y pedair colofn, a'u pedwar troed, o bres; y bachau, pen uchaf y colofnau, a'u cylchau, o arian.
38:20 Yr oedd holl hoelion y tabernacl a'r cyntedd oddi amgylch o bres.

Swm yr Aur, Arian a Phres ar gyfer y Tabernacl

38:21 Dyma'r holl bethau ar gyfer tabernacl y dystiolaeth a orchmynnodd Moses i'r Lefiaid eu gwneud dan gyfarwyddyd Ithamar fab Aaron yr offeiriad.
38:22-23 Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda, oedd yn gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses; gydag ef yr oedd Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan, saer a chrefftwr, ac un a allai wnïo sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main.
38:24 Cyfanswm yr aur a ddefnyddiwyd yn holl waith y cysegr, sef yr aur a offrymwyd, oedd naw ar hugain o dalentau, a saith gant tri deg sicl, yn ôl sicl y cysegr.
38:25 Cyfanswm yr arian a roddodd y rhai o'r cynulliad a gyfrifwyd oedd can talent, a mil saith gant saith deg a phum sicl, yn ôl sicl y cysegr,
38:26 sef beca yr un gan y rhai oedd yn ugain oed neu'n hŷn ac a rifwyd yn y cyfrifiad (hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr, yw beca). Nifer y dynion oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant pum deg.
38:27 o'r can talent o arian y lluniwyd y traed ar gyfer y cysegr a'r gorchudd, can troed o'r can talent, sef talent i bob troed.
38:28 o'r mil saith gant saith deg a phum sicl, gwnaeth fachau ar gyfer y colofnau, a goreurodd ben uchaf y colofnau a'u cylchau.
38:29 Cyfanswm y pres yn yr offrwm oedd saith deg o dalentau, a dwy fil pedwar can sicl;
38:30 o'r rhain gwnaeth draed ar gyfer drws pabell y cyfarfod, yr allor bres a'r rhwyll bres oedd ar ei chyfer, ynghyd â holl lestri'r allor,
38:31 y traed ar gyfer y cyntedd o amgylch, a'r porth, a holl hoelion y tabernacl a'r hoelion o amgylch y cyntedd.

Gwisgoedd i'r Offeiriaid, Ex. 28:1-14

39:1 Gwnaethant wisgoedd cywrain o sidan glas, porffor ac ysgarlad ar gyfer gwasanaethu yn y cysegr; gwnaethant y gwisgoedd cysegredig i Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
39:2 Gwnaeth yr effod o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu.
39:3 Curodd yr aur yn ddolennau tenau a'u torri'n stribedi i'w plethu'n gywrain i mewn i'r sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac i'r lliain main.
39:4 Gwnaethant ar gyfer yr effod ddwy ysgwydd wedi eu cydio ynghyd ar y ddwy ochr.
39:5 Yr oedd y gwregys arni wedi ei wnïo'n gywrain, ac o'r un deunydd â'r effod, sef aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main wedi ei nyddu; felly'r oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
39:6 Cymerasant feini onyx a'u trin, a'u gosod mewn edafwaith o aur, a naddu arnynt enwau meibion Israel, fel y bydd gemydd yn naddu sêl.
39:7 Gosododd hwy ar ysgwyddau'r effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

Y Ddwyfronneg, Ex. 28:15-30

39:8 Gwnaeth y ddwyfronneg o grefftwaith cywrain; fe'i gwnaeth, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu.
39:9 Yr oedd yn sgwâr ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led.
39:10 Gosodasant ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl;
39:11 yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;
39:12 yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst;
39:13 yn y bedwaredd res, beryl, onyx a iasbis; yr oeddent i gyd wedi eu gosod mewn edafwaith o aur.
39:14 Yr oedd deuddeg maen wedi eu henwi ar ôl meibion Israel; yr oedd pob un fel sêl ag enw un o'r deuddeg llwyth wedi ei argraffu arno.
39:15 Gwnaethant ar gyfer y ddwyfronneg gadwynau o aur pur wedi eu plethu ynghyd,
39:16 a hefyd ddau edafwaith aur, a dau fach aur i'w rhoi ar ddwy ochr y ddwyfronneg.
39:17 Rhoddwyd y ddwy gadwyn aur ar y ddau fach ar ochrau'r ddwyfronneg,
39:18 a dau ben arall y ddwy gadwyn ar y ddau edafwaith, a'u cysylltu ag ysgwyddau'r effod o'r tu blaen.
39:19 Yna gwnaethant ddau fach aur a'u gosod yn nau ben y ddwyfronneg ar yr ochr fewnol, nesaf at yr effod.
39:20 Gwnaethant hefyd ddau fach aur a'u gosod yn rhan isaf dwy ysgwydd yr effod, ar y tu blaen, yn y cydiad uwchben y gwregys.
39:21 Rhwymasant fachau'r ddwyfronneg wrth fachau'r effod â llinyn glas uwchben y gwregys, rhag i'r ddwyfronneg ymddatod oddi wrth yr effod; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

Gwisgoedd Offeiriadol Eraill, Ex. 28:31-43

39:22 Gwnaeth fantell yr effod i gyd yn frodwaith o sidan glas,
39:23 a thwll yn ei chanol, gyda gwnïad o'i amgylch, fel a geir mewn llurig, rhag iddo rwygo.
39:24 Gwnaethant o amgylch godre'r fantell bomgranadau o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain wedi ei nyddu.
39:25 Gwnaethant hefyd glychau o aur pur,
39:26 a'u gosod rhwng y pomgranadau o amgylch godre'r fantell ar gyfer y gwasanaeth; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
39:27 Gwnaethant siacedau wedi eu gwau o liain main ar gyfer Aaron a'i feibion;
39:28 gwnaethant hefyd benwisg a chapiau, llodrau
39:29 a gwregys, y cwbl o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad wedi ei frodio; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
39:30 Gwnaethant blât y goron gysegredig o aur pur, ac argraffu arno, fel ar sêl, "Sanctaidd i'r ARGLWYDD";
39:31 a chlymwyd ef ar flaen y benwisg â llinyn glas; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

Gorffen y Tabernacl, Ex. 35:10-19

39:32 Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod; ac yr oedd pobl Israel wedi gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
39:33 Daethant â'r tabernacl at Moses, sef y babell a'i holl lestri, y bachau, y fframiau, y barrau, y colofnau, y traed;
39:34 y to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod, a'r gorchudd;
39:35 arch y dystiolaeth a'i pholion a'r drugareddfa;
39:36 y bwrdd a'i holl lestri, a'r bara gosod;
39:37 y canhwyllbren o aur pur, ei lampau wedi eu goleuo, ynghyd â'u holl lestri, a'r olew ar gyfer y golau;
39:38 yr allor aur, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd; gorchudd drws y tabernacl;
39:39 yr allor bres, a'r rhwyll bres ar ei chyfer, a'i pholion a'i holl lestri; y noe a'i throed;
39:40 llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed; gorchudd porth y cyntedd, ei raffau a'i hoelion, a'r holl lestri ar gyfer gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod;
39:41 y gwisgoedd wedi eu gwnïo'n gywrain ar gyfer gwasanaethau'r cysegr; gwisgoedd cysegredig Aaron a'i feibion, iddynt wasanaethu fel offeiriaid.
39:42 Yr oedd pobl Israel wedi gwneud yr holl waith yn union fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
39:43 Gwelodd Moses eu bod wedi gwneud yr holl waith fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn, a bendithiodd Moses hwy.

Agor a Chysegru'r Tabernacl

40:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
40:2 "Yr wyt i godi'r tabernacl, pabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf.
40:3 Gosod arch y dystiolaeth ynddo, a'i gorchuddio â llen.
40:4 Cymer y bwrdd i mewn, a'i osod yn drefnus, a chymer y canhwyllbren, a goleua ei lampau.
40:5 Rho allor aur yr arogldarth o flaen arch y dystiolaeth, a gosod y llen ar ddrws y tabernacl.
40:6 Rho allor y poethoffrwm o flaen drws y tabernacl, pabell y cyfarfod,
40:7 a gosod y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi dŵr ynddi.
40:8 Gosod y cyntedd o'i amgylch, a llen ar gyfer porth y cyntedd.
40:9 Yna cymer olew'r ennaint, ac eneinio'r tabernacl a'r cyfan sydd ynddo, a chysegra ef a'i holl ddodrefn; a bydd yn gysegredig.
40:10 Eneinia hefyd allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a chysegra'r allor; a bydd yr allor yn gysegredig iawn.
40:11 Yna eneinia'r noe a'i throed, a chysegra hi.
40:12 Tyrd ag Aaron a'i feibion at ddrws pabell y cyfarfod, a'u golchi â dŵr,
40:13 a gwisg Aaron â'r gwisgoedd cysegredig; eneinia ef a'i gysegru i'm gwasanaethu fel offeiriad.
40:14 Tyrd â'i feibion hefyd, a'u gwisgo â'r siacedau;
40:15 eneinia hwy, fel yr eneiniaist eu tad, i'm gwasanaethu fel offeiriaid; trwy eu heneinio fe'u hurddir i offeiriadaeth dragwyddol, dros y cenedlaethau."
40:16 Felly gwnaeth Moses y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo;
40:17 ac ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf o'r ail flwyddyn fe godwyd y tabernacl.
40:18 Moses a gododd y tabernacl; gosododd ef ar ei draed, adeiladodd ei fframiau, rhoddodd ei bolion yn eu lle a chododd ei golofnau.
40:19 Lledodd y babell dros y tabernacl, a gosod to'r babell drosto, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
40:20 Cymerodd y dystiolaeth a'i rhoi yn yr arch; cysylltodd y polion wrth yr arch, a rhoi'r drugareddfa arni.
40:21 Yna daeth â'r arch i mewn i'r tabernacl, a gosod y gorchudd yn ei le dros arch y dystiolaeth, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
40:22 Rhoddodd y bwrdd ym mhabell y cyfarfod, ar ochr ogleddol y tabernacl, y tu allan i'r gorchudd,
40:23 a threfnodd y bara arno gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
40:24 Rhoddodd y canhwyllbren ym mhabell y cyfarfod, gyferbyn â'r bwrdd ar ochr ddeheuol y tabernacl,
40:25 a goleuodd y lampau gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
40:26 Rhoddodd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod o flaen y gorchudd,
40:27 ac offrymodd arogldarth peraidd arni, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
40:28 Rhoddodd y llen ar ddrws y tabernacl,
40:29 a gosododd allor y poethoffrwm wrth ddrws y tabernacl, pabell y cyfarfod, ac offrymodd arni boethoffrwm a bwydoffrwm, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
40:30 Gosododd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi ynddi ddŵr,
40:31 er mwyn i Moses, Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed.
40:32 Ymolchent wrth fynd i mewn i babell y cyfarfod ac wrth nesáu at yr allor, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
40:33 Cododd gyntedd o amgylch y tabernacl a'r allor, a rhoddodd y gorchudd dros borth y cyntedd. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.

Y Cwmwl dros Babell y Cyfarfod, Num. 9:15-23

40:34 Yna gorchuddiodd cwmwl babell y cyfarfod, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl.
40:35 Ni allai Moses fynd i mewn i babell y cyfarfod am fod y cwmwl yn ei gorchuddio, ac am fod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl.
40:36 Pan godai'r cwmwl oddi ar y tabernacl, fe gychwynnai pobl Israel ar eu taith;
40:37 ond os na chodai'r cwmwl ni chychwynnent.
40:38 Ar hyd y daith yr oedd holl dŷ Israel yn gallu gweld cwmwl yr ARGLWYDD uwchben y tabernacl yn ystod y dydd, a thân uwch ei ben yn ystod y nos.