LLYFR LEFITICUS

Y Poethoffrwm

1:1 Galwodd yr ARGLWYDD ar Moses a llefaru wrtho o babell y cyfarfod a dweud:
1:2 "Llefara wrth bobl Israel a dywed wrthynt, 'Pan fydd unrhyw un ohonoch yn dod ag offrwm i'r ARGLWYDD, dewch ag anifail o'r gyr neu o'r praidd yn offrwm.
1:3 "'Os poethoffrwm o'r gyr fydd ei rodd, dylai ddod â gwryw di-nam; deued ag ef at ddrws pabell y cyfarfod, iddo fod yn dderbyniol gan yr ARGLWYDD.
1:4 Rhodded ei law ar ben y poethoffrwm, a bydd yn dderbyniol ganddo i wneud iawn drosto.
1:5 Y mae i ladd y bustach ifanc o flaen yr ARGLWYDD, ac yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn dod â'r gwaed ac yn ei luchio ar bob ochr i'r allor sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
1:6 Y mae i flingo'r poethoffrwm a'i dorri'n ddarnau.
1:7 Bydd meibion Aaron yr offeiriad yn gosod tân ar yr allor ac yn trefnu'r coed ar y tân.
1:8 Yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn trefnu'r darnau, yn cynnwys y pen a'r braster, ar y coed sy'n llosgi ar yr allor.
1:9 Y mae i olchi'r ymysgaroedd a'r coesau â dŵr, a bydd yr offeiriad yn llosgi'r cyfan ohono ar yr allor yn boethoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
1:10 "'Os poethoffrwm o'r praidd fydd ei rodd, boed o'r defaid neu o'r geifr, dylai ddod â gwryw di-nam.
1:11 Y mae i'w ladd ar ochr y gogledd i'r allor o flaen yr ARGLWYDD, a bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn lluchio'i waed ar bob ochr i'r allor.
1:12 Y mae i'w dorri'n ddarnau, yn cynnwys y pen a'r braster, a bydd yr offeiriad yn eu trefnu ar y coed sy'n llosgi ar yr allor.
1:13 Y mae i olchi'r ymysgaroedd a'r coesau â dŵr, a bydd yr offeiriad yn dod â'r cyfan ac yn ei losgi ar yr allor yn boethoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
1:14 "'Os poethoffrwm o adar fydd ei rodd i'r ARGLWYDD, dylai ddod â thurtur neu gyw colomen.
1:15 Y mae'r offeiriad i ddod ag ef at yr allor a thorri ei ben, a'i losgi ar yr allor; bydd yn gwasgu allan ei waed ar ochr yr allor,
1:16 yn tynnu ei grombil a'i blu, ac yn eu lluchio yn ymyl yr allor i'r dwyrain, lle mae'r lludw;
1:17 bydd yn ei agor allan gerfydd ei adenydd, ond heb ei ddarnio; yna bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, ar y coed sy'n llosgi, yn boethoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

Y Bwydoffrwm

2:1 "'Pan fydd rhywun yn dod â bwydoffrwm i'r ARGLWYDD, bydded ei offrwm o beilliaid ag olew wedi ei dywallt drosto a thus wedi ei roi arno.
2:2 Y mae i fynd ag ef at feibion Aaron, yr offeiriaid; yna bydd offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r peilliaid a'r olew, ynghyd â'r holl thus, ac yn ei losgi'n gyfran goffa ar yr allor, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
2:3 Bydd gweddill y bwydoffrwm yn eiddo i Aaron a'i feibion; bydd yn gyfran gwbl sanctaidd o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD.
2:4 "'Os byddi'n dod â bwydoffrwm wedi ei grasu mewn ffwrn, dylai fod yn deisennau heb furum o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, neu'n fisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew.
2:5 Os bwydoffrwm wedi ei grasu ar radell fydd dy rodd, dylai fod o beilliaid heb furum wedi ei gymysgu ag olew;
2:6 tor ef yn ddarnau a thywallt olew drosto; dyma fydd y bwydoffrwm.
2:7 Os bwydoffrwm wedi ei baratoi mewn padell fydd dy rodd, dylai fod o beilliaid wedi ei wneud ag olew.
2:8 Byddi'n cyflwyno i'r ARGLWYDD y bwydoffrwm wedi ei wneud o'r pethau hyn, ac yn dod ag ef at yr offeiriad; bydd yntau'n dod ag ef at yr allor.
2:9 Bydd ef yn cymryd o'r bwydoffrwm y gyfran goffa ac yn ei llosgi ar yr allor yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
2:10 Bydd gweddill y bwydoffrwm yn eiddo i Aaron a'i feibion; bydd yn gyfran gwbl sanctaidd o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD.
2:11 "'Ni wneir â lefain unrhyw fwyd-offrwm a ddygwch i'r ARGLWYDD, oherwydd nid ydych i losgi unrhyw furum na mêl yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
2:12 Gallwch eu cyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm blaenffrwyth, ond nid ydych i'w hoffrymu ar yr allor yn arogl peraidd.
2:13 Yr wyt i halltu â halen dy holl fwydoffrymau, a pheidio â chadw halen cyfamod dy Dduw o'th fwyd-offrymau; yr wyt i roi halen ar dy holl offrymau.
2:14 "'Os byddi'n dod â bwydoffrwm o'r blaenffrwyth i'r ARGLWYDD, dylai fod yn fwydoffrwm o dywysennau o rawn newydd wedi eu gwasgu a'u crasu yn y tân.
2:15 Rho olew a thus drosto; dyma fydd y bwydoffrwm.
2:16 Bydd yr offeiriad yn llosgi'r gyfran goffa o'r grawn ac o'r olew, ynghyd â'r holl thus, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.

Yr Heddoffrwm

3:1 "'Os heddoffrwm fydd ei rodd, ac yntau'n dod ag anifail o'r gyr, boed wryw neu fenyw, dylai gyflwyno i'r ARGLWYDD anifail di-nam.
3:2 Y mae i osod ei law ar ben yr offrwm a'i ladd wrth ddrws pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn lluchio'r gwaed ar bob ochr i'r allor.
3:3 o'r heddoffrwm y mae i ddod ag offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD: y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,
3:4 y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.
3:5 Bydd meibion Aaron yn ei losgi ar yr allor, ar ben y poethoffrwm sydd ar y coed sy'n llosgi, a bydd yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
3:6 "'Os rhodd o'r praidd fydd yr heddoffrwm i'r ARGLWYDD, dylai gyflwyno gwryw neu fenyw ddi-nam.
3:7 Os bydd yn offrymu oen yn rhodd, y mae i'w gyflwyno o flaen yr ARGLWYDD.
3:8 Y mae i osod ei law ar ben yr offrwm a'i ladd o flaen pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron yn lluchio'i waed ar bob ochr i'r allor.
3:9 o'r heddoffrwm y mae i ddod ag offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD: ei fraster, y gynffon fras yn gyfan ac wedi ei thynnu i ffwrdd yn agos at yr asgwrn cefn, y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,
3:10 y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.
3:11 Hyn fydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor yn fwyd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
3:12 "'Os gafr fydd y rhodd, dylai ei chyflwyno o flaen yr ARGLWYDD.
3:13 Y mae i osod ei law ar ei phen a'i lladd o flaen pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron yn lluchio'i gwaed ar bob ochr i'r allor.
3:14 Ohoni y mae i ddod ag offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD: y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,
3:15 y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.
3:16 Bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar yr allor yn fwyd, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd; bydd yr holl fraster yn eiddo i'r ARGLWYDD.
3:17 "'Bydd hon yn ddeddf barhaol dros yr holl genedlaethau lle bynnag y byddwch yn byw: nid ydych i fwyta braster na gwaed.'"

Yr Aberth dros Bechod Anfwriadol

4:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud,
4:2 "Dywed wrth bobl Israel, 'Os bydd unrhyw un yn pechu'n anfwriadol yn erbyn gorchmynion yr ARGLWYDD, ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud:
4:3 "'Os yr offeiriad eneiniog fydd yn pechu ac yn dwyn euogrwydd ar y bobl, dylai ddod â bustach ifanc di-nam i'r ARGLWYDD yn aberth dros y pechod a wnaeth.
4:4 Y mae i ddod â'r bustach at ddrws pabell y cyfarfod o flaen yr ARGLWYDD, a gosod ei law ar ben y bustach a'i ladd o flaen yr ARGLWYDD.
4:5 Bydd yr offeiriad eneiniog yn cymryd o waed y bustach ac yn dod ag ef i babell y cyfarfod;
4:6 yna bydd yr offeiriad yn trochi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith gerbron yr ARGLWYDD, o flaen llen y cysegr.
4:7 Bydd yr offeiriad hefyd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth peraidd, sydd gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod; a bydd yn tywallt gweddill gwaed y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
4:8 Y mae i dynnu'r holl fraster oddi ar fustach yr aberth dros bechod, sef y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,
4:9 y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau,
4:10 yn union fel y tynnir ef ymaith oddi ar fustach yr heddoffrwm; a bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar allor y poethoffrwm.
4:11 Ond am groen y bustach a'i holl gnawd, ei ben, ei goesau, ei ymysgaroedd a'i weddillion,
4:12 sef y cyfan o'r bustach, bydd yn mynd â hwy y tu allan i'r gwersyll i le dihalog, lle gellir tywallt y lludw, ac yn eu llosgi ar dân coed, lle tywelltir y lludw.
4:13 "'Os holl gymuned Israel fydd yn pechu'n anfwriadol, a hynny'n guddiedig o olwg y gynulleidfa, a hwythau'n gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn ôl gorchmynion yr ARGLWYDD, yna byddant yn euog.
4:14 Pan fyddant yn sylweddoli'r pechod a wnaethant, dylai'r gynulleidfa ddod â bustach ifanc yn aberth dros bechod a'i gyflwyno o flaen pabell y cyfarfod.
4:15 Y mae henuriaid y gymuned i osod eu dwylo ar ben y bustach a'i ladd o flaen yr ARGLWYDD;
4:16 yna bydd yr offeiriad eneiniog yn mynd â pheth o waed y bustach i babell y cyfarfod,
4:17 yn trochi ei fys yn y gwaed ac yn ei daenellu saith gwaith gerbron yr ARGLWYDD, o flaen y llen.
4:18 Bydd hefyd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod, a bydd yn tywallt y gweddill ohono wrth droed allor y poethoffrwm sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
4:19 Bydd yn tynnu'r holl fraster oddi ar y bustach ac yn ei losgi ar yr allor;
4:20 bydd yn gwneud i'r bustach hwn yn union fel y gwnaeth i fustach yr aberth dros bechod. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drostynt, ac fe faddeuir iddynt.
4:21 Yna bydd yn mynd â'r bustach y tu allan i'r gwersyll, ac yn ei losgi fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma fydd yr aberth dros bechod y gynulleidfa.
4:22 "'Os arweinydd fydd yn pechu'n anfwriadol, ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn ôl gorchmynion yr ARGLWYDD ei Dduw, yna bydd yn euog.
4:23 Pan wneir iddo sylweddoli'r pechod a wnaeth, dylai ddod â rhodd o fwch gafr ifanc di-nam.
4:24 Y mae i osod ei law ar ben y bwch a'i ladd o flaen yr ARGLWYDD yn y lle y lleddir y poethoffrwm; dyma fydd yr aberth dros bechod.
4:25 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr aberth dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor y poethoffrwm, ac yn tywallt y gweddill wrth droed allor y poethoffrwm.
4:26 Bydd yn llosgi holl fraster y bwch ar yr allor, fel y llosgodd fraster yr heddoffrwm. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod dros bechod yr arweinydd, ac fe faddeuir iddo.
4:27 "'Os un o'r bobl gyffredin fydd yn pechu'n anfwriadol, ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn ôl gorchmynion yr ARGLWYDD, yna bydd yn euog.
4:28 Pan wneir iddo sylweddoli'r pechod a wnaeth, dylai ddod â rhodd o fyn gafr, benyw ddi-nam, yn aberth dros y pechod a wnaeth.
4:29 Y mae i osod ei law ar ben yr aberth dros bechod a'i ladd yn yr un lle â'r poethoffrwm.
4:30 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr aberth dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor y poethoffrwm, ac yn tywallt y gweddill wrth droed yr allor.
4:31 Bydd yn tynnu ymaith yr holl fraster, fel y tynnir y braster oddi ar yr heddoffrwm, a bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto, ac fe faddeuir iddo.
4:32 "'Os bydd rhywun yn dod ag oen yn aberth dros bechod, dylai ddod ag oen benyw ddi-nam.
4:33 Y mae i osod ei law ar ben yr aberth dros bechod a'i ladd yn aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm.
4:34 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr aberth dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor y poethoffrwm, ac yn tywallt y gweddill wrth droed yr allor.
4:35 Bydd yn tynnu ymaith yr holl fraster, fel y tynnir y braster oddi ar oen yr heddoffrwm, a bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, ar ben yr offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth, ac fe faddeuir iddo.

Achosion yn gofyn Aberth dros Bechod

5:1 "'Os bydd unrhyw un yn pechu oherwydd iddo, ar ôl clywed cyhuddiad cyhoeddus, beidio â dweud dim, er ei fod yn dyst a'i fod wedi gweld, neu'n gwybod, bydd yn gyfrifol am ei drosedd.
5:2 Neu os bydd unrhyw un yn cyffwrdd ag unrhyw beth aflan, boed yn gorff bwystfil aflan, neu anifail aflan, neu ymlusgiad aflan, er iddo wneud hynny'n ddiarwybod, y mae'n aflan ac yn euog.
5:3 Neu os bydd yn cyffwrdd ag unrhyw aflendid dynol, sef unrhyw beth a fydd yn ei wneud yn aflan, er iddo wneud hynny'n ddiarwybod, pan fydd yn sylweddoli hynny bydd yn euog.
5:4 Neu os bydd rhywun yn tyngu llw yn ddifeddwl, boed i wneud drwg neu dda, mewn unrhyw beth y byddai rhywun yn tyngu llw difeddwl ynglŷn ag ef, er iddo wneud hynny'n ddiarwybod, pan fydd yn sylweddoli hynny bydd yn euog o un o'r pethau hyn.
5:5 Pan fydd rhywun yn euog o un o'r pethau hyn, dylai gyffesu ym mha fodd y pechodd,
5:6 ac yn iawn am y pechod a wnaeth y mae i ddod ag aberth dros bechod i'r ARGLWYDD, sef oen benyw neu afr o'r praidd; a bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am ei bechod.
5:7 "'Os na all fforddio oen, dylai ddod â dwy durtur neu ddau gyw colomen i'r ARGLWYDD yn iawn am ei bechod, y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm.
5:8 Y mae i ddod â hwy at yr offeiriad, a bydd yntau yn cyflwyno un yn aberth dros bechod, ac yn torri'r pen oddi wrth y corff heb eu gwahanu'n llwyr.
5:9 Yna bydd yn taenellu peth o waed yr aberth dros bechod ar ochr yr allor, ac yn gwasgu allan y gweddill wrth droed yr allor. Dyma fydd yr aberth dros bechod.
5:10 Bydd yn cyflwyno'r ail yn boethoffrwm yn y dull arferol. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth, ac fe faddeuir iddo.
5:11 "'Ond os na all fforddio dwy durtur neu ddau gyw colomen, dylai ddod â rhodd o ddegfed ran o effa o beilliaid yn aberth dros ei bechod; nid yw i roi olew na thus arno, am mai offrwm dros bechod ydyw.
5:12 Y mae i ddod ag ef at yr offeiriad, a bydd yntau'n cymryd dyrnaid ohono yn gyfran goffa, ac yn ei losgi ar yr allor ar ben yr offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; dyma fydd yr aberth dros bechod.
5:13 Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth ynglŷn ag un o'r pethau hyn, ac fe faddeuir iddo. Bydd y gweddill yn eiddo i'r offeiriad, fel gyda'r bwydoffrwm.'"

Offrwm dros Gamwedd

5:14 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
5:15 "Pan fydd unrhyw un yn gwneud camwedd ac yn pechu'n anfwriadol ynglŷn â phethau sanctaidd yr ARGLWYDD, dylai ddod â hwrdd o'r praidd yn iawn i'r ARGLWYDD, a hwnnw'n un di-nam ac o'r gwerth priodol mewn siclau o arian, yn ôl sicl y cysegr; dyma fydd yr offrwm dros gamwedd.
5:16 Y mae i dalu am y pechod a wnaeth ynglŷn â'r pethau sanctaidd, ac i ychwanegu pumed ran ato a'i roi i'r offeiriad; yna bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto gyda hwrdd yn offrwm dros gamwedd, ac fe faddeuir iddo.
5:17  "Os bydd unrhyw un yn pechu ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn ôl gorchmynion yr ARGLWYDD, er nad yw'n ymwybodol o hynny, y mae'n euog ac yn gyfrifol am ei drosedd.
5:18 Dylai ddod â hwrdd o'r praidd at yr offeiriad yn offrwm dros gamwedd, a hwnnw'n un di-nam ac o'r gwerth priodol. Yna bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y trosedd a gyflawnodd yn anfwriadol, ac fe faddeuir iddo.
5:19 Dyma fydd yr offrwm dros gamwedd, oherwydd iddo wneud camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD."
6:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
6:2 "Os bydd unrhyw un yn pechu ac yn anffyddlon i'r ARGLWYDD oherwydd iddo dwyllo ei gymydog ynglŷn â rhywbeth a ymddiriedwyd iddo, neu a adawyd yn ei ofal, neu a ladratawyd, neu oherwydd iddo dreisio ei gymydog,
6:3 neu oherwydd iddo ddarganfod peth a gollwyd, a thwyllo a thyngu'n dwyllodrus ynglŷn ag ef — yn wir, unrhyw un o'r pechodau a wneir gan bobl —
6:4 pan fydd wedi pechu ac felly'n euog, dylai ddychwelyd yr hyn a ladrataodd neu a gymerodd trwy drais, neu'r hyn a ymddiriedwyd iddo, neu'r peth coll a ddarganfu,
6:5 neu unrhyw beth y tyngodd yn dwyllodrus ynglŷn ag ef. Y mae i dalu'n llawn amdano, ac i ychwanegu pumed ran ato a'i roi i'r perchennog y diwrnod y bydd yn gwneud offrwm dros ei gamwedd.
6:6 Y mae i ddod â hwrdd o'r praidd at yr ARGLWYDD yn offrwm dros gamwedd, a hwnnw'n un di-nam ac o'r gwerth priodol.
6:7 Yna bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto gerbron yr ARGLWYDD, ac fe faddeuir iddo am unrhyw un o'r pethau a wnaeth i fod yn euog."

Deddf y Poethoffrwm

6:8 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
6:9 "Gorchymyn i Aaron a'i feibion a dweud, 'Dyma ddeddf y poethoffrwm: Y mae'r poethoffrwm i'w adael ar aelwyd yr allor trwy'r nos hyd y bore, a'r tân i'w gadw i losgi ar yr allor.
6:10 Yna bydd yr offeiriad yn gwisgo'i wisgoedd lliain, a dillad isaf o liain agosaf at ei gorff, a bydd yn codi lludw'r poethoffrwm, a yswyd gan dân ar yr allor, ac yn ei roi wrth ymyl yr allor.
6:11 Bydd yr offeiriad wedyn yn tynnu ei ddillad ac yn gwisgo dillad eraill, ac yn mynd â'r lludw y tu allan i'r gwersyll i le dihalog.
6:12 Rhaid cadw'r tân i losgi ar yr allor; nid yw i ddiffodd. Y mae'r offeiriad i roi coed arni bob bore, gosod y poethoffrwm arni a llosgi braster yr heddoffrwm.
6:13 Rhaid cadw'r tân i losgi'n barhaol ar yr allor; nid yw i ddiffodd.

Deddf y Bwydoffrwm

6:14 "'Dyma ddeddf y bwydoffrwm: Y mae meibion Aaron i ddod ag ef o flaen yr allor gerbron yr ARGLWYDD.
6:15 Bydd offeiriad yn cymryd ohono ddyrnaid o beilliaid, ynghyd â'r olew a'r holl thus a fydd dros y bwydoffrwm, ac yn ei losgi'n gyfran goffa ar yr allor, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
6:16 Bydd Aaron a'i feibion yn bwyta'r gweddill ohono, ond rhaid ei fwyta heb furum mewn lle sanctaidd; y maent i'w fwyta yng nghyntedd pabell y cyfarfod.
6:17 Ni ddylid ei bobi â lefain; fe'i rhoddais iddynt yn gyfran o'u hoffrymau i mi trwy dân. Fel yr aberth dros bechod a'r offrwm dros gamwedd y mae'n gwbl sanctaidd.
6:18 Caiff pob un o feibion Aaron ei fwyta, fel y deddfwyd am byth dros eich cenedlaethau ynglŷn â'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; fe sancteiddir pwy bynnag a'u cyffwrdd.'"
6:19 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
6:20 "Dyma'r offrwm y mae Aaron a'i feibion i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD ar y dydd yr eneinir ef: degfed ran o effa o beilliaid yn fwydoffrwm rheolaidd, hanner ohono yn y bore a hanner gyda'r nos.
6:21 Bydd wedi ei baratoi ag olew ar radell; dewch ag ef wedi ei gymysgu a'i gyflwyno'n fwydoffrwm wedi ei dorri'n ddarnau, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
6:22 Y mae i'w baratoi gan y mab sydd i ddilyn Aaron fel offeiriad eneiniog; llosgir ef yn llwyr i'r ARGLWYDD fel y deddfwyd am byth.
6:23 Y mae pob bwydoffrwm gan offeiriad i'w losgi'n llwyr; ni ddylid ei fwyta."

Deddf yr Aberth dros Bechod

6:24 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dywed wrth Aaron a'i feibion,
6:25 'Dyma ddeddf yr aberth dros bechod: Y mae'r aberth dros bechod i'w ladd o flaen yr ARGLWYDD yn y lle y lleddir y poethoffrwm; bydd yn gwbl sanctaidd.
6:26 Yr offeiriad a fydd yn ei gyflwyno'n aberth dros bechod fydd yn ei fwyta, a hynny mewn lle sanctaidd yng nghyntedd pabell y cyfarfod.
6:27 Bydd unrhyw beth sy'n cyffwrdd â'r cig yn sanctaidd, ac os collir peth o'i waed ar wisg, rhaid ei golchi mewn lle sanctaidd.
6:28 Rhaid torri'r llestr pridd y coginir y cig ynddo; ond os mewn llestr pres y coginir ef, rhaid ei sgwrio a'i olchi â dŵr.
6:29 Caiff pob gwryw o blith yr offeiriaid ei fwyta; y mae'n gwbl sanctaidd.
6:30 Ond ni ddylid bwyta unrhyw aberth dros bechod y dygir ei waed i babell y cyfarfod i wneud cymod yn y cysegr; rhaid ei losgi yn y tân.

Deddf yr Offrwm dros Gamwedd

7:1 "'Dyma ddeddf yr offrwm dros gamwedd sy'n gwbl sanctaidd:
7:2 Y mae'r offrwm dros gamwedd i'w ladd yn y lle y lleddir y poethoffrwm, a'i waed i'w luchio ar bob ochr i'r allor.
7:3 Y mae'r cyfan o'i fraster i'w offrymu, sef y gynffon fras a'r braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd,
7:4 y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.
7:5 Bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar yr allor yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD; dyma fydd yr offrwm dros gamwedd.
7:6 Caiff pob gwryw o blith yr offeiriaid ei fwyta, ond rhaid gwneud hynny mewn lle sanctaidd; y mae'n gwbl sanctaidd.
7:7 "'Yr un yw deddf yr aberth dros bechod â deddf yr offrwm dros gamwedd: y mae'r aberth yn perthyn i'r offeiriad sy'n gwneud cymod trwyddo.
7:8 Y mae'r offeiriad sy'n cyflwyno poethoffrwm dros unrhyw un i gadw iddo'i hun groen y poethoffrwm a gyflwynir.
7:9 Y mae unrhyw fwydoffrwm wedi ei grasu mewn ffwrn, neu wedi ei baratoi ar radell neu mewn padell, yn eiddo i'r offeiriad sy'n ei gyflwyno;
7:10 bydd pob bwydoffrwm, boed wedi ei gymysgu ag olew neu'n sych, yn eiddo i bob un o feibion Aaron fel ei gilydd.

Deddf yr Heddoffrwm

7:11 "'Dyma ddeddf yr heddoffrwm a gyflwynir i'r ARGLWYDD.
7:12 Os cyflwynir ef yn ddiolchgarwch, dylid cyflwyno gyda'r offrwm diolch deisennau heb furum wedi eu cymysgu ag olew, bisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew, a theisennau o beilliaid wedi eu tylino a'u cymysgu ag olew.
7:13 Gyda'r heddoffrwm o ddiolchgarwch dylid cyflwyno hefyd offrwm o deisennau o fara lefeinllyd.
7:14 Deuir ag un o bob math yn offrwm i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD; bydd yn eiddo i'r offeiriad sy'n lluchio gwaed yr heddoffrwm.
7:15 Rhaid bwyta cig yr heddoffrwm o ddiolchgarwch ar y dydd y cyflwynir ef; ni ddylid gadael dim ohono hyd y bore.
7:16 "'Os offrwm adduned neu offrwm gwirfodd fydd yr aberth, dylid ei fwyta ar y dydd y cyflwynir ef, ond gellir bwyta drannoeth unrhyw beth a fydd yn weddill.
7:17 Rhaid llosgi yn y tân unrhyw gig o'r offrwm a fydd yn weddill ar y trydydd dydd.
7:18 Os bwyteir rhywfaint o gig yr heddoffrwm ar y trydydd dydd, ni fydd yr un sy'n ei gyflwyno yn dderbyniol, ac ni chyfrifir yr offrwm iddo am ei fod yn amhur; a bydd y sawl sy'n ei fwyta yn euog oherwydd hynny.
7:19 "'Ni ddylid bwyta cig a fydd wedi cyffwrdd ag unrhyw beth aflan; rhaid ei losgi yn y tân. Ond am unrhyw gig arall, caiff unrhyw un glân ei fwyta.
7:20 Os bydd unrhyw un aflan yn bwyta o gig yr heddoffrwm sy'n eiddo i'r ARGLWYDD, rhaid torri hwnnw ymaith o blith ei bobl.
7:21 Ac os bydd unrhyw un yn cyffwrdd â rhywbeth aflan, boed yn aflendid dynol, neu'n anifail aflan, neu'n ffieiddbeth aflan, ac yna'n bwyta o gig yr heddoffrwm sy'n eiddo i'r ARGLWYDD, rhaid torri hwnnw ymaith o blith ei bobl.'"
7:22 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
7:23 "Dywed wrth bobl Israel, 'Peidiwch â bwyta dim o fraster gwartheg, defaid na geifr.
7:24 Gallwch ddefnyddio at unrhyw ddiben fraster anifail wedi marw neu wedi ei larpio, ond ni chewch ei fwyta.
7:25 Oherwydd torrir ymaith o blith ei bobl unrhyw un sy'n bwyta braster oddi ar anifail y gellir cyflwyno ohono offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
7:26 Lle bynnag y byddwch yn byw, nid ydych i fwyta dim o waed aderyn nac anifail.
7:27 Y mae pob un sy'n bwyta o'r gwaed i'w dorri ymaith o blith ei bobl.'"
7:28 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
7:29 "Dywed wrth bobl Israel, 'Y mae unrhyw un sy'n dod â heddoffrwm i'r ARGLWYDD i gyflwyno i'r ARGLWYDD rodd o'i heddoffrwm.
7:30 Ei ddwylo ei hun sydd i ddod ag offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD; y mae i ddod â'r braster yn ogystal â'r frest, ac i chwifio'r frest yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD.
7:31 Bydd yr offeiriad yn llosgi'r braster ar yr allor, ond bydd y frest yn eiddo i Aaron a'i feibion.
7:32 Rhoddwch glun dde eich heddoffrwm yn gyfraniad i'r offeiriad.
7:33 Y sawl o feibion Aaron a fydd yn cyflwyno gwaed yr heddoffrwm a'r braster fydd yn cael y glun dde yn gyfran.
7:34 Oherwydd cymerais frest yr offrwm cyhwfan a chlun y cyfraniad o heddoffrwm pobl Israel, a'u rhoi i Aaron yr offeiriad a'i feibion yn gyfran reolaidd gan blant Israel.
7:35 "'Dyma'r gyfran o'r offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD a neilltuwyd i Aaron a'i feibion y diwrnod y cyflwynwyd hwy yn offeiriaid i'r ARGLWYDD.
7:36 Y diwrnod y cysegrwyd hwy gorchmynnodd yr ARGLWYDD i bobl Israel roi iddynt gyfran reolaidd dros eu cenedlaethau.
7:37 "'Dyma felly ddeddf y poethoffrwm, y bwydoffrwm, yr aberth dros bechod, yr offrwm dros gamwedd, offrwm yr ordeiniad a'r heddoffrwm,
7:38 a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ym Mynydd Sinai y dydd y gorchmynnodd i bobl Israel gyflwyno'u hoffrymau i'r ARGLWYDD yn anialwch Sinai.'"

Ordeinio Aaron a'i Feibion, Ex. 29:1-37

8:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
8:2 "Cymer Aaron a'i feibion, a hefyd y dillad, yr olew eneinio, bustach yr aberth dros bechod, y ddau hwrdd a'r fasgedaid o fara croyw,
8:3 a chasgl yr holl gynulleidfa at ddrws pabell y cyfarfod."
8:4 Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, ac ymgasglodd y gynulleidfa wrth ddrws pabell y cyfarfod.
8:5 Dywedodd Moses wrth y gynulleidfa yr hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei wneud.
8:6 Yna gwnaeth i Aaron a'i feibion ddod ymlaen, a golchodd hwy â dŵr.
8:7 Rhoddodd y wisg am Aaron, clymu'r gwregys am ei ganol, ei wisgo â'r fantell a rhoi'r effod amdano; rhoes wregys cywrain yr effod amdano a'i gau.
8:8 Rhoddodd y ddwyfronneg amdano, a rhoi'r Wrim a'r Twmim yn y ddwyfronneg.
8:9 Yna rhoddodd dwrban ar ben Aaron, a gosod arno'r dorch aur, y goron sanctaidd, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
8:10 Yna cymerodd Moses yr olew eneinio, ac eneiniodd y babell a phopeth ynddi, a thrwy hynny eu cysegru.
8:11 Taenellodd beth o'r olew seithwaith ar yr allor, ac eneiniodd yr allor a'i holl offer, y noe hefyd a'i gwaelod, i'w cysegru.
8:12 Tywalltodd beth o'r olew eneinio ar ben Aaron, ac eneiniodd ef i'w gysegru.
8:13 Yna gwnaeth Moses i feibion Aaron ddod ymlaen, rhoddodd wisgoedd amdanynt, clymu gwregysau am eu canol, a gwisgo capiau am eu pennau, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
8:14 Yna daeth Moses â bustach yr aberth dros bechod, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben y bustach.
8:15 Lladdodd Moses y bustach a chymryd peth o'r gwaed a'i roi â'i fys ar y cyrn bob ochr i'r allor i'w chysegru; tywalltodd weddill y gwaed wrth droed yr allor. Felly y cysegrodd hi, gan wneud cymod drosti.
8:16 Cymerodd Moses hefyd y braster ar yr ymysgaroedd, gorchudd yr iau, y ddwy aren a'r braster arnynt, a'u llosgi ar yr allor.
8:17 Ond llosgodd y bustach, ei groen, ei gnawd a'r gweddillion y tu allan i'r gwersyll, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
8:18 Yna cyflwynodd hwrdd y poethoffrwm, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ei ben.
8:19 Lladdodd Moses yr hwrdd a lluchio'r gwaed ar bob ochr i'r allor.
8:20 Torrodd yr hwrdd yn ddarnau a llosgi'r pen, y darnau a'r braster.
8:21 Golchodd yr ymysgaroedd a'r coesau â dŵr, a llosgodd yr hwrdd i gyd ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
8:22 Yna cyflwynodd yr hwrdd arall, sef hwrdd yr ordeiniad, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ei ben.
8:23 Lladdodd Moses yr hwrdd a chymryd peth o'i waed a'i roi ar gwr isaf clust dde Aaron, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de.
8:24 Yna gwnaeth Moses i feibion Aaron ddod ymlaen, a rhoddodd beth o'r gwaed ar gwr isaf eu clustiau de, ar fodiau eu llaw dde ac ar fodiau eu troed de, a lluchiodd waed ar bob ochr i'r allor.
8:25 Cymerodd y braster, y gynffon fras, yr holl fraster ar yr ymysgaroedd, gorchudd yr iau, y ddwy aren a'u braster, a'r glun dde.
8:26 Yna o'r fasgedaid o'r bara croyw oedd gerbron yr ARGLWYDD cymerodd Moses deisen o fara croyw, ac un arall wedi ei chymysgu ag olew, ac un fisged, a'u gosod ar y braster ac ar y glun dde.
8:27 Rhoddodd y cyfan yn nwylo Aaron a'i feibion, a'u chwifio o flaen yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan.
8:28 Wedyn cymerodd Moses hwy o'u dwylo a'u llosgi ar yr allor ar ben y poethoffrwm yn offrwm ordeiniad, yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
8:29 Cymerodd Moses hefyd y frest, sef ei ran ef o hwrdd yr ordeinio, a'i chwifio o flaen yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
8:30 Yna cymerodd Moses beth o'r olew eneinio ac o'r gwaed oddi ar yr allor, a'u taenellu dros Aaron a'i ddillad, a thros ei feibion a'u dillad hefyd; felly y cysegrodd Aaron a'i ddillad, hefyd ei feibion a'u dillad.
8:31 Dywedodd Moses wrth Aaron a'i feibion, "Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod a'i fwyta yno gyda'r bara o fasged offrymau'r ordeinio, fel y gorchmynnais, a dweud mai Aaron a'i feibion oedd i'w fwyta.
8:32 Ond llosgwch yn y tân weddill y cig a'r bara.
8:33 Peidiwch â symud o ddrws pabell y cyfarfod am saith diwrnod, nes cwblhau dyddiau eich ordeiniad, oherwydd bydd yr ordeinio yn ymestyn dros saith diwrnod.
8:34 Gwnaed yr hyn a ddigwyddodd heddiw i wneud cymod drosoch, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.
8:35 Yr ydych i aros wrth ddrws pabell y cyfarfod ddydd a nos am saith diwrnod, a chadw'r hyn a ofyn yr ARGLWYDD, rhag ichwi farw; oherwydd dyma a orchmynnwyd i mi."
8:36 Felly gwnaeth Aaron a'i feibion bopeth a orchmynnodd yr ARGLWYDD trwy Moses.

Aaron yn Aberthu i'r Arglwydd

9:1 Ar yr wythfed dydd galwodd Moses am Aaron a'i feibion a henuriaid Israel.
9:2 A dywedodd wrth Aaron, "Cymer fustach ifanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, y naill a'r llall yn ddi-nam, a chyflwyna hwy o flaen yr ARGLWYDD.
9:3 Yna dywed wrth bobl Israel, 'Cymerwch fwch gafr yn aberth dros bechod, a llo ac oen yn boethoffrwm, y naill a'r llall yn flwydd oed ac yn ddi-nam,
9:4 a hefyd fustach a hwrdd yn heddoffrwm i'w haberthu o flaen yr ARGLWYDD, a bwydoffrwm wedi ei gymysgu ag olew; oherwydd heddiw bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos i chwi.'"
9:5 Dygasant y pethau a orchmynnodd Moses o flaen pabell y cyfarfod, a nesaodd yr holl gynulleidfa a sefyll gerbron yr ARGLWYDD.
9:6 Yna dywedodd Moses, "Dyma'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ichwi ei wneud er mwyn i ogoniant yr ARGLWYDD ymddangos ichwi."
9:7 Dywedodd Moses wrth Aaron, "Nesâ at yr allor ac offryma dy aberth dros bechod a'th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun a thros y bobl; abertha offrwm y bobl a gwna gymod drostynt, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD."
9:8 Felly daeth Aaron at yr allor a lladd llo yn aberth dros bechod ar ei ran ei hun.
9:9 Yna daeth ei feibion â'r gwaed ato, a throchodd yntau ei fys yn y gwaed a'i roi ar gyrn yr allor; tywalltodd weddill y gwaed wrth droed yr allor.
9:10 Llosgodd ar yr allor y braster, yr arennau a gorchudd yr iau o'r aberth dros bechod, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses;
9:11 llosgodd yn y tân y cnawd a'r croen y tu allan i'r gwersyll.
9:12 Yna lladdodd Aaron y poethoffrwm; daeth ei feibion â'r gwaed ato, a lluchiodd yntau ef ar bob ochr i'r allor.
9:13 Rhoddasant iddo'r poethoffrwm fesul darn, gan gynnwys y pen, ac fe'u llosgodd ar yr allor.
9:14 Golchodd yr ymysgaroedd a'r coesau a'u llosgi ar yr allor ar ben y poethoffrwm.
9:15 Yna daeth ag offrwm dros y bobl. Cymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, a'i ladd a'i gyflwyno'n aberth dros bechod, fel y gwnaethai gyda'r cyntaf.
9:16 Yna daeth â'r poethoffrwm a'i gyflwyno, yn ôl y drefn.
9:17 Daeth hefyd â'r bwydoffrwm a chymryd dyrnaid ohono, a'i losgi ar yr allor ynghyd â'r poethoffrymau boreol.
9:18 Lladdodd hefyd yr ych a'r hwrdd yn heddoffrwm dros y bobl; daeth ei feibion â'r gwaed ato, a lluchiodd yntau ef ar bob ochr i'r allor.
9:19 Ond am fraster yr ych a'r hwrdd, y gynffon fras, yr haen o fraster, yr arennau, a gorchudd yr iau,
9:20 gosodwyd hwy ar y frest, ac yna llosgodd Aaron y braster ar yr allor.
9:21 Chwifiodd y brestiau a'r glun dde yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd Moses.
9:22 Yna cododd Aaron ei ddwylo i gyfeiriad y bobl a'u bendithio; ac ar ôl cyflwyno'r aberth dros bechod, y poethoffrwm a'r heddoffrwm, daeth i lawr o'r allor.
9:23 Yna aeth Moses ac Aaron i babell y cyfarfod; a phan ddaethant allan a bendithio'r bobl, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD i'r holl bobl.
9:24 A daeth tân allan o ŵydd yr ARGLWYDD ac ysu'r poethoffrwm a'r braster ar yr allor. Pan welodd yr holl bobl hyn, gwaeddasant mewn llawenydd a syrthio ar eu hwynebau.

Marw Nadab ac Abihu

10:1 Cymerodd Nadab ac Abihu, meibion Aaron, bob un ei thuser a rhoi tân ynddynt a gosod arogldarth arno; yr oeddent felly'n cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD dân estron nad oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn.
10:2 Daeth tân allan o ŵydd yr ARGLWYDD a'u hysu, a buont farw gerbron yr ARGLWYDD.
10:3 A dywedodd Moses wrth Aaron, "Dyma'r hyn a lefarodd yr ARGLWYDD: 'Ymysg y rhai sy'n dynesu ataf fe'm sancteiddir, a cherbron yr holl bobl fe'm gogoneddir.'" Yr oedd Aaron yn fud.
10:4 Galwodd Moses ar Misael ac Elsaffan, meibion Ussiel ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, "Dewch yma, ac ewch â'ch cefndryd allan o'r gwersyll rhag iddynt fod o flaen y cysegr."
10:5 Daethant hwythau a mynd â hwy yn eu gwisgoedd y tu allan i'r gwersyll, fel y gorchmynnodd Moses.
10:6 Yna dywedodd Moses wrth Aaron a'i feibion Eleasar ac Ithamar, "Peidiwch â noethi eich pennau na rhwygo eich dillad, rhag ichwi farw, ac i Dduw fod yn ddig wrth yr holl gynulleidfa; ond bydded i'ch pobl, sef holl dŷ Israel, alaru am y rhai a losgodd yr ARGLWYDD â thân.
10:7 Peidiwch â gadael drws pabell y cyfarfod, neu byddwch farw, oherwydd y mae olew eneinio yr ARGLWYDD arnoch." Gwnaethant fel y dywedodd Moses.

Deddfau'r Offeiriaid

10:8 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron,
10:9 "Nid wyt ti na'th feibion i yfed gwin na diod gadarn pan fyddwch yn dod i babell y cyfarfod, rhag ichwi farw. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros eich cenedlaethau,
10:10 er mwyn ichwi wahaniaethu rhwng sanctaidd a chyffredin, a rhwng aflan a glân,
10:11 a dysgu i bobl Israel yr holl ddeddfau a roddodd yr ARGLWYDD iddynt trwy Moses."
10:12 Dywedodd Moses wrth Aaron ac wrth Eleasar ac Ithamar, y meibion a adawyd, "Cymerwch y bwydoffrwm sy'n weddill o'r offrymau trwy dân a wnaed i'r ARGLWYDD, a'i fwyta heb furum wrth ymyl yr allor, oherwydd y mae'n gwbl sanctaidd.
10:13 Bwytewch ef mewn lle sanctaidd, gan mai dyna dy gyfran di a chyfran dy feibion o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD, oherwydd fel hyn y gorchmynnais.
10:14 Yr wyt ti, dy feibion a'th ferched i fwyta brest yr offrwm cyhwfan a chlun y cyfraniad mewn lle dihalog, oherwydd fe'u rhoddwyd i ti a'th blant yn gyfran o heddoffrymau pobl Israel.
10:15 Deuer â chlun y cyfraniad a brest yr offrwm cyhwfan, gyda'r rhannau bras o'r offrymau trwy dân, i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan. Bydd hyn yn gyfran reolaidd i ti a'th blant, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD."
10:16 Pan ymholodd Moses am fwch yr aberth dros bechod, cafodd ei fod wedi ei losgi; a bu'n ddig iawn wrth Eleasar ac Ithamar, y meibion a adawyd i Aaron. Gofynnodd,
10:17 "Pam na fu ichwi fwyta'r aberth dros bechod yng nghyffiniau'r cysegr, gan ei fod yn gwbl sanctaidd ac iddo gael ei roi i chwi i ddwyn camwedd y gynulleidfa trwy wneud cymod drostynt gerbron yr ARGLWYDD?
10:18 Wele, ni ddygwyd ei waed i mewn i'r cysegr mewnol; yn sicr dylech fod wedi bwyta'r bwch yn y cysegr, fel y gorchmynnais."
10:19 Dywedodd Aaron wrth Moses, "Y maent heddiw wedi cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD eu haberth dros bechod a'u poethoffrwm, ac y mae'r fath bethau wedi digwydd i mi! A fyddai'n dderbyniol gan yr ARGLWYDD pe bawn wedi bwyta'r aberth dros bechod heddiw?"
10:20 Pan glywodd Moses hyn, bu'n fodlon.

Anifeiliaid Glân ac Aflan Deut. 14:3-21

11:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud wrthynt,
11:2 "Dywedwch wrth bobl Israel, 'O'r holl anifeiliaid sy'n byw ar y ddaear, dyma'r rhai y cewch eu bwyta:
11:3 unrhyw anifail sy'n hollti'r ewin ac yn ei fforchi i'r pen, a hefyd yn cnoi cil, cewch fwyta hwnnw.
11:4 Y mae ambell un yn cnoi cil yn unig, ac un arall yn hollti'r ewin yn unig, ond nid ydych i fwyta'r rheini. Y mae'r camel yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi.
11:5 Y mae'r broch yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi.
11:6 Y mae'r ysgyfarnog yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi.
11:7 Y mae'r mochyn yn hollti'r ewin ac yn ei fforchi i'r pen, ond heb gnoi cil, ac y mae'n aflan ichwi.
11:8 Nid ydych i fwyta eu cig na chyffwrdd â'u cyrff; y maent yn aflan ichwi.
11:9 "'O'r holl greaduriaid sy'n byw yn nŵr y môr neu'r afonydd, dyma'r rhai y cewch eu bwyta: pob un ac iddo esgyll neu gen, cewch fwyta hwnnw.
11:10 Ond popeth sydd yn y moroedd neu'r afonydd heb esgyll na chen, boed yn ymlusgiad neu greadur arall sy'n byw yn y dŵr, y mae'n ffiaidd ichwi.
11:11 Gan eu bod yn ffiaidd ichwi, ni chewch fwyta eu cig, ac yr ydych i ffieiddio eu cyrff.
11:12 Y mae unrhyw beth yn y dŵr sydd heb esgyll na chen yn ffiaidd ichwi.
11:13 "'Dyma'r adar sydd yn ffiaidd ichwi, ac na chewch eu bwyta am eu bod yn ffiaidd: yr eryr, y fwltur, eryr y môr,
11:14 y barcud, unrhyw fath o gudyll,
11:15 unrhyw fath o frân,
11:16 yr estrys, y frân nos, yr wylan, ac unrhyw fath o hebog,
11:17 y dylluan, y fulfran, y dylluan wen,
11:18 y gigfran, y pelican, y fwltur mawr,
11:19 y ciconia, unrhyw fath o grëyr, y gornchwiglen a'r ystlum.
11:20 "'Y mae unrhyw bryf adeiniog sy'n ymlusgo ar bedwar troed yn ffiaidd ichwi.
11:21 Ond y mae rhai pryfed adeiniog sy'n ymlusgo ar bedwar troed y cewch eu bwyta: y rhai sydd â chymalau yn eu coesau i sboncio ar y ddaear.
11:22 o'r rhain cewch fwyta unrhyw fath ar locust, ceiliog rhedyn, criciedyn neu sioncyn gwair.
11:23 Ond y mae pob pryf adeiniog arall sy'n ymlusgo ar bedwar troed yn ffiaidd ichwi.
11:24 "'Byddwch yn eich halogi eich hunain trwy'r rhain; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan hyd yr hwyr.
11:25 Rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn eu cyrff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr.
11:26 "'Y mae unrhyw anifail sydd heb hollti'r ewin a'i fforchi i'r pen, a heb gnoi cil, yn aflan ichwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan.
11:27 o'r holl greaduriaid sy'n cerdded ar eu pedwar, y mae'r rhai sy'n cerdded ar eu pawennau yn aflan i chwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan hyd yr hwyr.
11:28 Rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn eu cyrff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; y maent yn aflan ichwi.
11:29 "'O'r creaduriaid sy'n ymlusgo ar y ddaear, y mae'r rhain yn aflan ichwi: y wenci, y llygoden, pob math ar lysard,
11:30 y geco, y llyffant, y genau-goeg, y lysard melyn a'r fadfall.
11:31 o'r rhai sy'n ymlusgo ar y ddaear, dyna'r rhai sy'n aflan ichwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â hwy wedi iddynt farw yn aflan hyd yr hwyr.
11:32 A bydd unrhyw beth y syrth un ohonynt arno wedi iddo farw, yn aflan, boed o goed, brethyn, croen neu sachliain, i ba beth bynnag y defnyddir ef; rhaid ei roi mewn dŵr, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; yna bydd yn lân.
11:33 Os syrth un ohonynt i lestr pridd, bydd popeth sydd ynddo yn aflan a rhaid torri'r llestr.
11:34 Y mae unrhyw fwyd y gellir ei fwyta, ond sydd â dŵr o'r llestri arno, yn aflan; ac y mae unrhyw ddiod y gellir ei hyfed o'r llestr yn aflan.
11:35 Y mae unrhyw beth y syrth rhan o'u cyrff arno yn aflan, a rhaid ei ddryllio, boed ffwrn neu badell, gan ei fod yn aflan, ac yr ydych i'w ystyried yn aflan.
11:36 Eto y mae ffynnon neu bydew i gronni dŵr yn lân; y peth sy'n cyffwrdd â'u cyrff sy'n aflan.
11:37 Os bydd un o'r cyrff yn disgyn ar unrhyw had sydd i'w blannu, y mae'n lân;
11:38 ond os bydd dŵr ar yr had a'r corff yn disgyn arno, bydd yn aflan ichwi.
11:39 "'Os bydd un o'r anifeiliaid y cewch eu bwyta yn marw, bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'i gorff yn aflan hyd yr hwyr;
11:40 rhaid i unrhyw un sy'n bwyta peth o'r corff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn y corff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr.
11:41 "'Y mae unrhyw ymlusgiad sy'n ymlusgo ar y ddaear yn ffiaidd; ni ddylid ei fwyta.
11:42 Peidiwch â bwyta unrhyw ymlusgiad sy'n ymlusgo ar y ddaear, boed yn symud ar ei dor, neu'n cerdded ar bedwar troed neu ar amryw draed; y mae'n ffiaidd.
11:43 Peidiwch â'ch gwneud eich hunain yn ffiaidd trwy'r un o'r ymlusgiaid sy'n ymlusgo; a pheidiwch â'ch halogi eich hunain trwyddynt na'ch cael yn aflan o'u plegid.
11:44 Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw; ymgysegrwch a byddwch sanctaidd, oherwydd sanctaidd wyf fi. Peidiwch â'ch halogi eich hunain trwy'r un o'r ymlusgiaid sy'n ymlusgo ar y ddaear.
11:45 Myfi yw'r ARGLWYDD a ddaeth â chwi i fyny o'r Aifft i fod yn Dduw ichwi; byddwch sanctaidd, oherwydd sanctaidd wyf fi.
11:46 "'Dyma'r ddeddf ynglŷn â'r anifeiliaid, yr adar, y creaduriaid byw sy'n llusgo trwy'r dyfroedd a'r creaduriaid sy'n ymlusgo ar y ddaear,
11:47 er mwyn ichwi wahaniaethu rhwng yr aflan a'r glân, a rhwng y creaduriaid byw y gellir eu bwyta a'r rhai na ellir eu bwyta.'"

Puro Gwraig ar ôl Genedigaeth

12:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud,
12:2 "Dywed wrth bobl Israel, 'Bydd gwraig sy'n beichiogi ac yn geni mab yn aflan am saith diwrnod, yn union fel y mae'n aflan yn nyddiau ei misglwyf.
12:3 Ar yr wythfed dydd enwaeder ar y bachgen.
12:4 Yna bydd y wraig yn disgwyl tri ar ddeg ar hugain o ddyddiau am buro ei gwaed; nid yw i gyffwrdd â dim sanctaidd nac i fynd i'r cysegr nes y bydd dyddiau'r puro trosodd.
12:5 Os bydd yn geni merch, yna bydd yn aflan am bythefnos, fel y mae yn ei misglwyf; bydd yn disgwyl chwech a thrigain o ddyddiau am buro ei gwaed.
12:6 "'Pan fydd dyddiau'r puro am fab neu ferch trosodd, y mae i ddod at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod gydag oen gwryw yn boethoffrwm a chyw colomen neu durtur yn aberth dros bechod.
12:7 Bydd yntau'n eu cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD i wneud cymod drosti, ac yna bydd yn lân oddi wrth ei gwaedlif. Dyma'r ddeddf ynglŷn â gwraig yn geni mab neu ferch.
12:8 "'Os na all fforddio oen, gall ddod â dwy durtur neu ddau gyw colomen, y naill yn boethoffrwm a'r llall yn aberth dros bechod; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosti, a bydd yn lân.'"

Rheolau ynglŷn â Haint ar y Croen

13:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud,
13:2 "Pan fydd gan unrhyw un chwydd, brech neu smotyn ar ei groen a allai fod yn ddolur heintus ar y croen, dylid dod ag ef at Aaron yr offeiriad, neu at un o'i feibion, yr offeiriaid.
13:3 Bydd yr offeiriad yn archwilio'r dolur ar ei groen, ac os bydd y blew yn y dolur wedi troi'n wyn, a'r dolur yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, y mae'n ddolur heintus; wedi iddo ei archwilio, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan.
13:4 Os bydd y smotyn ar ei groen yn wyn, ond heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a'r blew ynddo heb droi'n wyn, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod.
13:5 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os gwêl yr offeiriad fod y dolur wedi aros yr un fath a heb ledu ar y croen, bydd yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod arall.
13:6 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn ei archwilio eilwaith, ac os bydd y dolur yn gwywo a heb ledu ar y croen, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân; nid yw ond brech. Y mae'r claf i olchi ei ddillad, ac yna bydd yn lân.
13:7 Ond os bydd y frech yn lledu ar ei groen ar ôl iddo'i ddangos ei hun i'r offeiriad i'w gyhoeddi'n lân, y mae i'w ddangos ei hun i'r offeiriad eilwaith.
13:8 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y frech wedi lledu ar y croen, bydd yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n ddolur heintus.
13:9 "Pan fydd gan unrhyw un ddolur heintus, dylid dod ag ef at yr offeiriad.
13:10 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd chwydd gwyn yn y croen a hwnnw wedi troi'r blew yn wyn, ac os bydd cig noeth yn y chwydd,
13:11 y mae'n hen ddolur yn y croen, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; ond ni fydd yn ei gadw o'r neilltu, gan ei fod eisoes yn aflan.
13:12 Os bydd y dolur yn torri allan dros y croen, a chyn belled ag y gwêl yr offeiriad yn gorchuddio'r claf o'i ben i'w draed,
13:13 bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur wedi gorchuddio'i holl gnawd, bydd yn ei gyhoeddi'n lân; oherwydd i'r cyfan ohono droi'n wyn, bydd yn lân.
13:14 Ond pa bryd bynnag yr ymddengys cig noeth arno, bydd yn aflan.
13:15 Pan fydd yr offeiriad yn gweld cig noeth, bydd yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae cig noeth yn aflan, gan ei fod yn ddolur heintus.
13:16 Os bydd cig noeth yn newid ac yn troi'n wyn, dylai'r claf fynd at yr offeiriad.
13:17 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur wedi troi'n wyn, bydd yr offeiriad yn cyhoeddi'r claf yn lân; yna bydd yn lân.
13:18 "Pan fydd gan rywun gornwyd ar ei groen, a hwnnw'n gwella,
13:19 a chwydd gwyn neu smotyn cochwyn yn dod yn lle'r cornwyd, dylai ei ddangos ei hun i'r offeiriad.
13:20 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a'r blew ynddo wedi troi'n wyn, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; dolur heintus wedi codi yn lle'r cornwyd ydyw.
13:21 Ond os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a'i gael heb flew gwyn ynddo, a heb fod yn ddyfnach na'r croen ac wedi gwywo, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod.
13:22 Os bydd yn lledu ar y croen, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n heintus.
13:23 Ond os bydd y smotyn yn aros yr un fath a heb ledu, craith y cornwyd ydyw, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân.
13:24 "Pan fydd gan rywun losg ar ei groen, a smotyn cochwyn neu wyn yng nghig noeth y llosg,
13:25 bydd yr offeiriad yn ei archwilio; ac os bydd y blew ynddo wedi troi'n wyn, a'r llosg yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, y mae dolur heintus wedi torri allan yn y llosg. Bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n ddolur heintus.
13:26 Ond os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a'i gael heb flew gwyn yn y smotyn, a hwnnw heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen ac wedi gwywo, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod.
13:27 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd wedi lledu ar y croen bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n ddolur heintus.
13:28 Ond os bydd y smotyn wedi aros yr un fath, a heb ledu ar y croen ac wedi gwywo, chwydd o'r llosg ydyw, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân; craith y llosg ydyw.
13:29 "Pan fydd gan ŵr neu wraig ddolur ar y pen neu'r wyneb, bydd yr offeiriad yn ei archwilio,
13:30 ac os bydd yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a blew melyn main ynddo, bydd yr offeiriad yn cyhoeddi'r claf yn aflan; clafr, dolur heintus, ar y pen neu'r wyneb ydyw.
13:31 Os bydd yr offeiriad yn archwilio'r math hwn o ddolur ac yn gweld nad yw'n ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a heb flew du ynddo, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod.
13:32 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn archwilio'r dolur, ac os bydd y clafr heb ledu, a heb flew melyn ynddo a heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen,
13:33 y mae'r claf i eillio, ac eithrio lle mae'r clafr, a bydd yr offeiriad yn ei gadw o'r neilltu am saith diwrnod arall. Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn archwilio'r clafr eilwaith,
13:34 ac os bydd heb ledu ar y croen a heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân. Y mae'r claf i olchi ei ddillad, ac yna bydd yn lân.
13:35 Ond os bydd y clafr yn lledu ar y croen ar ôl ei gyhoeddi'n lân,
13:36 bydd yr offeiriad yn ei archwilio; ac os bydd y clafr wedi lledu ar y croen, nid oes rhaid i'r offeiriad chwilio am flew melyn; y mae'n aflan.
13:37 Os gwêl yr offeiriad fod y clafr wedi aros yr un fath, a blew du yn tyfu ynddo, y mae'r clafr wedi gwella. Y mae'r claf yn lân, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân.
13:38 "Pan fydd gan ŵr neu wraig smotiau gwyn ar y croen,
13:39 bydd yr offeiriad yn eu harchwilio, ac os bydd y smotiau yn wyn gwelw, brech wedi torri allan ar y croen ydynt; y mae'r claf yn lân.
13:40 "Pan fydd dyn wedi colli gwallt ei ben ac yn foel, y mae'n lân.
13:41 Os bydd wedi colli ei wallt oddi ar ei dalcen, a'i dalcen yn foel, y mae'n lân.
13:42 Ond os bydd ganddo ddolur cochwyn ar ei ben moel neu ei dalcen, y mae dolur heintus yn torri allan ar ei ben neu ei dalcen.
13:43 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur chwyddedig ar ei ben neu ei dalcen yn gochwyn, fel y bydd dolur heintus yn ymddangos ar y croen,
13:44 y mae'r claf yn heintus; y mae'n aflan. Bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan oherwydd y dolur ar ei ben.
13:45 "Y mae'r sawl sy'n heintus o'r dolur hwn i wisgo dillad wedi eu rhwygo, gadael ei wallt yn rhydd, gorchuddio'i wefus uchaf a gweiddi, 'Af lan, aflan!'
13:46 Y mae'n aflan cyhyd ag y bydd y dolur arno; y mae i fyw ar ei ben ei hun, a hynny y tu allan i'r gwersyll.

Rheolau ynglŷn â Haint ar Ddillad

13:47 "Os bydd haint oddi wrth ddolur mewn dilledyn, boed o wlân neu o liain,
13:48 yn ystof neu'n anwe o wlân neu o liain, neu'n lledr neu'n ddeunydd wedi ei wneud o ledr,
13:49 a bod yr haint yn ymddangos yn wyrdd neu'n goch yn y dilledyn neu'r lledr, mewn ystof neu anwe, neu unrhyw beth a wnaed o ledr, y mae'n heintus oddi wrth ddolur, a dylid ei ddangos i'r offeiriad.
13:50 Bydd yr offeiriad yn archwilio'r haint, ac yn gosod y peth y mae'r haint ynddo o'r neilltu am saith diwrnod.
13:51 Ar y seithfed dydd bydd yn ei archwilio, ac os bydd yr haint wedi lledu yn y dilledyn, yn yr ystof neu yn yr anwe, neu yn y lledr, i ba beth bynnag y defnyddir ef, y mae'n haint dinistriol; y mae'n aflan.
13:52 Dylai losgi'r dilledyn, neu'r ystof neu'r anwe o wlân neu liain, neu'r peth lledr y mae'r haint ynddo; y mae'n haint dinistriol, a rhaid ei losgi yn y tân.
13:53 "Os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a chael nad yw'r haint wedi lledu trwy'r dilledyn, yr ystof neu'r anwe, neu'r deunydd lledr,
13:54 bydd yn gorchymyn golchi'r dilledyn y bu'r haint ynddo, ac yn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod arall.
13:55 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto ar ôl ei olchi, ac os na fydd yr haint wedi newid ei liw, hyd yn oed os na fydd wedi lledu, y mae'n aflan; bydd yn ei losgi yn y tân, boed y smotyn heintus y naill du neu'r llall.
13:56 Os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a chael bod yr haint wedi gwelwi ar ôl ei olchi, bydd yn torri'r rhan honno allan o'r dilledyn, y lledr, yr ystof neu'r anwe.
13:57 Os bydd yn ailymddangos yn y dilledyn, yr ystof neu'r anwe, neu unrhyw beth o ledr, y mae'n lledu, a rhaid llosgi yn y tân beth bynnag y mae'r haint ynddo.
13:58 Am y dilledyn, yr ystof neu'r anwe, neu unrhyw beth o ledr, y ciliodd yr haint ohono ar ôl ei olchi, rhaid ei olchi eilwaith, a bydd yn lân."
13:59 Dyma'r ddeddf ynglŷn â haint oddi wrth ddolur mewn dilledyn o wlân neu liain, yn yr ystof neu'r anwe, neu unrhyw beth o ledr, er mwyn penderfynu a ydynt yn lân neu'n aflan.

Puro ar ôl Haint

14:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud,
14:2 "Dyma fydd y gyfraith ynglŷn â'r heintus ar ddydd ei lanhau. Dyger ef at yr offeiriad,
14:3 a bydd yr offeiriad yn mynd y tu allan i'r gwersyll ac yn ei archwilio. Os bydd wedi gwella o'r haint,
14:4 bydd yr offeiriad yn gorchymyn dod â dau aderyn glân yn fyw, pren cedrwydd, edau ysgarlad ac isop ar ran yr un a lanheir.
14:5 Yna bydd yr offeiriad yn gorchymyn lladd un o'r adar uwchben dŵr croyw mewn llestr pridd.
14:6 Wedyn bydd yn cymryd yr aderyn byw ac yn ei drochi ef, ynghyd â'r pren cedrwydd, yr edau ysgarlad a'r isop, yng ngwaed yr aderyn a laddwyd uwchben y dŵr croyw,
14:7 ac yn ei daenellu seithwaith dros yr un a lanheir o'r haint. Yna bydd yn ei gyhoeddi'n lân ac yn gollwng yr aderyn byw yn rhydd.
14:8 "Y mae'r sawl a lanheir i olchi ei ddillad, eillio'i wallt i gyd ac ymolchi â dŵr, ac yna bydd yn lân; ar ôl hyn caiff ddod i mewn i'r gwersyll, ond y mae i aros y tu allan i'w babell am saith diwrnod.
14:9 Ar y seithfed dydd y mae i eillio'i wallt i gyd oddi ar ei ben, ei farf, ei aeliau a gweddill ei gorff; y mae i olchi ei ddillad ac ymolchi â dŵr. Yna bydd yn lân.
14:10 "Ar yr wythfed dydd y mae i ddod â dau oen di-nam ac un hesbin flwydd ddi-nam, ynghyd â thair degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, ac un log o olew.
14:11 Bydd yr offeiriad sy'n gyfrifol am lanhau yn dod â hwy, ynghyd â'r sawl a lanheir, o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod.
14:12 Bydd yr offeiriad yn cymryd un o'r ŵyn ac yn ei gyflwyno, ynghyd â'r log o olew, yn offrwm dros gamwedd ac yn ei chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.
14:13 Bydd yn lladd yr oen yn y man sanctaidd lle lleddir yr aberth dros bechod a'r poethoffrwm. Fel yr aberth dros bechod, y mae'r offrwm dros gamwedd yn eiddo i'r offeiriad; y mae'n gwbl sanctaidd.
14:14 Bydd yr offeiriad yn cymryd o waed yr offrwm dros gamwedd a'i roi ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de.
14:15 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o'r log o olew, yn ei dywallt ar gledr ei law chwith,
14:16 yn trochi ei fys de yn yr olew ar gledr ei law, ac â'i fys yn taenellu peth o'r olew seithwaith o flaen yr ARGLWYDD.
14:17 Bydd yr offeiriad yn rhoi peth o'r olew sy'n weddill yng nghledr ei law ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de, a hynny dros waed yr offrwm dros gamwedd.
14:18 Bydd yr offeiriad yn rhoi gweddill yr olew sydd yng nghledr ei law ar ben yr un a lanheir, ac yn gwneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD.
14:19 Yna bydd yr offeiriad yn offrymu'r aberth dros bechod ac yn gwneud cymod dros yr un a lanheir o'i aflendid. Ar ôl hynny bydd yn lladd y poethoffrwm,
14:20 ac yn ei gyflwyno ar yr allor gyda'r bwydoffrwm. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto, a bydd yn lân.
14:21 "Ond os yw'n dlawd a heb fedru fforddio cymaint, y mae i gymryd un oen yn offrwm dros gamwedd, yn offrwm cyhwfan i wneud cymod drosto, ynghyd â degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, log o olew,
14:22 a hefyd ddwy durtur neu ddau gyw colomen, fel y gall ei fforddio, y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm.
14:23 Ar yr wythfed dydd, er mwyn ei lanhau, y mae i ddod â hwy o flaen yr ARGLWYDD at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod.
14:24 Bydd yr offeiriad yn cymryd oen yr offrwm dros gamwedd, a'r log o olew, ac yn eu chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.
14:25 Bydd yn lladd oen yr offrwm dros gamwedd ac yn cymryd peth o'i waed a'i roi ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de.
14:26 Bydd yr offeiriad yn tywallt peth o'r olew ar gledr ei law chwith,
14:27 ac â'i fys de yn taenellu peth o'r olew o gledr ei law chwith seithwaith o flaen yr ARGLWYDD.
14:28 Bydd yn rhoi peth o'r olew yng nghledr ei law ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de, sef yn yr un lle â gwaed yr offrwm dros gamwedd.
14:29 Bydd yr offeiriad yn rhoi gweddill yr olew sydd yng nghledr ei law ar ben yr un a lanheir, i wneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD.
14:30 Yna bydd yn offrymu naill ai'r turturod neu'r cywion colomennod, fel y gall ei fforddio,
14:31 y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ynghyd â'r bwydoffrwm; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod o flaen yr ARGLWYDD dros yr un a lanheir."
14:32 Dyma'r gyfraith ynglŷn â'r sawl sydd â chlefyd heintus arno ac na all fforddio'r offrymau ar gyfer ei lanhau.

Malltod Mewn Tŷ

14:33 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud,
14:34 "Pan ddewch i mewn i wlad Canaan, a roddaf yn eiddo ichwi, a minnau'n rhoi malltod heintus mewn tŷ yn y wlad honno,
14:35 dylai perchennog y tŷ fynd at yr offeiriad a dweud wrtho fod rhywbeth tebyg i falltod wedi ymddangos yn y tŷ.
14:36 Bydd yr offeiriad yn gorchymyn gwagio'r tŷ cyn iddo ef fynd i mewn i archwilio'r malltod, rhag i bopeth sydd yn y tŷ gael ei gyhoeddi'n aflan; wedyn bydd yr offeiriad yn mynd i mewn i archwilio'r tŷ.
14:37 Bydd yn archwilio'r malltod ym muriau'r tŷ, ac os caiff agennau gwyrddion neu gochion sy'n ymddangos yn ddyfnach nag wyneb y mur,
14:38 bydd yr offeiriad yn mynd allan o'r tŷ at y drws ac yn cau'r tŷ am saith diwrnod.
14:39 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn dychwelyd i archwilio'r tŷ. Os bydd y malltod wedi lledu ar furiau'r tŷ,
14:40 bydd yr offeiriad yn gorchymyn tynnu allan y meini y mae'r malltod ynddynt, a'u lluchio i le aflan y tu allan i'r ddinas,
14:41 a hefyd crafu muriau'r tŷ oddi mewn, a lluchio'r plastr a dynnir i le aflan y tu allan i'r ddinas.
14:42 Yna byddant yn cymryd meini eraill ac yn eu rhoi yn lle'r rhai a dynnwyd, a hefyd plastr arall a phlastro'r tŷ.
14:43 "Os bydd y malltod yn torri allan eilwaith yn y tŷ ar ôl tynnu allan y meini a chrafu'r muriau a phlastro,
14:44 bydd yr offeiriad yn dod i'w archwilio, ac os bydd y malltod wedi lledu yn y tŷ, y mae'n falltod dinistriol; y mae'r tŷ yn aflan.
14:45 Rhaid tynnu'r tŷ i lawr, yn gerrig, coed a'r holl blastr, a mynd â hwy i le aflan y tu allan i'r ddinas.
14:46 Bydd unrhyw un sy'n mynd i'r tŷ tra bydd wedi ei gau yn aflan hyd yr hwyr.
14:47 Y mae unrhyw un sy'n cysgu neu'n bwyta yn y tŷ i olchi ei ddillad.
14:48 "Os bydd yr offeiriad yn dod i archwilio, a'r malltod heb ledu ar ôl plastro'r tŷ, bydd yn cyhoeddi'r tŷ yn lân oherwydd i'r malltod gilio.
14:49 I buro'r tŷ bydd yn cymryd dau aderyn, pren cedrwydd, edau ysgarlad ac isop.
14:50 Bydd yn lladd un o'r adar uwchben dŵr croyw mewn llestr pridd,
14:51 ac yna'n cymryd y pren cedrwydd, yr isop, yr edau ysgarlad a'r aderyn byw, ac yn eu trochi yng ngwaed yr aderyn a laddwyd ac yn y dŵr croyw, ac yn taenellu'r tŷ seithwaith.
14:52 Bydd yn puro'r tŷ â gwaed yr aderyn, y dŵr croyw, yr aderyn byw, y pren cedrwydd, yr isop a'r edau ysgarlad.
14:53 Yna bydd yn gollwng yr aderyn byw yn rhydd y tu allan i'r ddinas. Bydd yn gwneud cymod dros y tŷ, a bydd yn lân."
14:54 Dyma'r gyfraith ynglŷn ag unrhyw glefyd heintus, clafr,
14:55 haint mewn dillad neu dŷ,
14:56 chwydd, brech neu smotyn,
14:57 i benderfynu pryd y mae'n aflan a phryd y mae'n lân. Dyma'r gyfraith ynglŷn â haint.

Diferlif o'r Corff

15:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud,
15:2 "Dywedwch wrth bobl Israel, 'Pan fydd gan unrhyw un ddiferlif yn rhedeg o'i gorff, y mae'n aflan.
15:3 Dyma fydd y gyfraith ynglŷn â'i aflendid o achos diferlif. Pa un bynnag a yw'n parhau i redeg o'i gorff ynteu a yw wedi ei atal, y mae'n aflendid.
15:4 "'Y mae unrhyw wely y bu rhywun â diferlif yn gorwedd arno yn aflan, ac unrhyw beth y bu'n eistedd arno yn aflan.
15:5 Y mae unrhyw un a gyffyrddodd â'i wely i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
15:6 Y mae'r sawl sy'n eistedd ar unrhyw beth yr eisteddodd y sawl sydd â diferlif arno i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
15:7 Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd â chorff y sawl sydd â diferlif arno i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
15:8 Os bydd rhywun â diferlif arno yn poeri ar unrhyw un glân, y mae hwnnw i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
15:9 Y mae unrhyw beth y bu'n eistedd arno wrth farchogaeth yn aflan,
15:10 a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd ag un o'r pethau oedd dano yn aflan hyd yr hwyr; y mae unrhyw un sy'n eu codi i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
15:11 Y mae unrhyw un y cyffyrddodd y sawl sydd â diferlif ag ef, heb iddo olchi ei ddwylo mewn dŵr, i olchi ei ddillad, ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
15:12 Y mae llestr pridd y cyffyrddodd y dyn â diferlif ag ef i'w ddryllio, ac unrhyw declyn pren i'w olchi â dŵr.
15:13 "'Pan fydd rhywun yn cael ei lanhau o'i ddiferlif, y mae i gyfrif saith diwrnod ar gyfer ei lanhau; y mae i olchi ei ddillad, ac ymolchi â dŵr croyw, a bydd yn lân.
15:14 Ar yr wythfed dydd y mae i gymryd dwy durtur neu ddau gyw colomen, a dod o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod, a'u rhoi i'r offeiriad.
15:15 Bydd yr offeiriad yn offrymu'r naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ac yn gwneud cymod o flaen yr ARGLWYDD dros y sawl oedd â diferlif.
15:16 "'Pan fydd dyn yn gollwng ei had, y mae i olchi ei holl gorff â dŵr, a bod yn aflan hyd yr hwyr.
15:17 Y mae unrhyw ddilledyn neu ddeunydd lledr yr aeth yr had arno i'w olchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
15:18 Pan fydd dyn yn gorwedd gyda gwraig ac yn gollwng had, y maent i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
15:19 "'Pan fydd gan wraig ddiferlif gwaed, sef misglwyf rheolaidd ei chorff, y mae'n amhur am saith diwrnod, a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â hi yn aflan hyd yr hwyr.
15:20 Y mae unrhyw beth y mae'n gorwedd arno yn ystod ei misglwyf yn aflan, a hefyd unrhyw beth y mae'n eistedd arno.
15:21 Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd â'i gwely i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
15:22 Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd â'r hyn yr eistedd y wraig arno i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr;
15:23 boed yn wely neu'n unrhyw beth y mae'n eistedd arno, pan fydd unrhyw un yn ei gyffwrdd, bydd yn aflan hyd yr hwyr.
15:24 Os bydd dyn yn gorwedd gyda hi, a'i misglwyf yn cyffwrdd ag ef, y mae yntau'n aflan am saith diwrnod, ac y mae unrhyw wely y gorwedd arno yn aflan.
15:25 "'Pan fydd gan wraig ddiferlif gwaed am lawer o ddyddiau heblaw ar adeg ei misglwyf, neu pan fydd y diferlif yn parhau ar ôl ei misglwyf, bydd yn aflan cyhyd ag y pery'r diferlif, fel ar adeg ei misglwyf.
15:26 Y mae unrhyw wely y mae'n gorwedd arno tra pery ei diferlif yn aflan, fel y mae ei gwely yn ystod ei misglwyf, ac y mae unrhyw beth y mae'n eistedd arno yn aflan, fel y mae yn ystod ei misglwyf.
15:27 Y mae unrhyw un sy'n eu cyffwrdd yn aflan, ac y mae i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.
15:28 "'Pan fydd yn cael ei glanhau o'i diferlif, y mae i gyfrif saith diwrnod, ac ar ôl hynny bydd yn lân.
15:29 Ar yr wythfed dydd y mae i gymryd dwy durtur neu ddau gyw colomen, a dod â hwy at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod.
15:30 Bydd yr offeiriad yn offrymu'r naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ac yn gwneud cymod drosti o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd amhuredd ei diferlif.
15:31 "'Yr ydych i gadw pobl Israel oddi wrth eu haflendid, rhag iddynt farw yn eu haflendid am iddynt halogi fy nhabernacl sydd yn eu mysg.'"
15:32 Dyma'r gyfraith ynglŷn â diferlif, y dyn sy'n dod yn aflan trwy ollwng ei had,
15:33 a'r wraig sy'n dioddef o'i misglwyf, sef dyn neu wraig â diferlif, a hefyd dyn sy'n gorwedd gyda gwraig sy'n aflan.

Dydd y Cymod

16:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ar ôl marwolaeth dau fab Aaron, a fu farw pan ddaethant gerbron yr ARGLWYDD,
16:2 a dywedodd, "Dywed wrth dy frawd Aaron nad yw ar bob adeg i ddod y tu ôl i'r llen sydd o flaen y drugareddfa uwchben yr arch yn y cysegr, rhag iddo farw; oherwydd byddaf yn ymddangos yn y cwmwl uwchben y drugareddfa.
16:3 Fel hyn y mae Aaron i ddod i'r cysegr: â bustach ifanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm.
16:4 Bydd yn gwisgo mantell sanctaidd o liain, a dillad isaf o liain agosaf at ei gorff; bydd yn rhoi gwregys lliain am ei ganol a thwrban lliain am ei ben. Y mae'r rhain yn ddillad sanctaidd, a bydd yn ymolchi â dŵr cyn eu gwisgo.
16:5 Bydd yn cymryd oddi wrth gynulleidfa pobl Israel ddau fwch gafr yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm.
16:6 "Bydd Aaron yn cyflwyno bustach yr aberth dros ei bechod ei hun, er mwyn gwneud cymod drosto'i hun a thros ei dylwyth.
16:7 Yna bydd yn cymryd y ddau fwch gafr ac yn dod â hwy o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod.
16:8 Bydd Aaron yn bwrw coelbrennau am y ddau fwch, un coelbren am fwch i'r ARGLWYDD, a'r llall am y bwch dihangol.
16:9 Bydd Aaron yn dod â'r bwch y disgynnodd coelbren yr ARGLWYDD arno, ac yn ei offrymu'n aberth dros bechod.
16:10 Ond bydd yn cyflwyno'n fyw gerbron yr ARGLWYDD y bwch y disgynnodd coelbren y bwch dihangol arno, er mwyn gwneud iawn trwy ei ollwng i'r anialwch yn fwch dihangol.
16:11 "Bydd Aaron yn cyflwyno bustach yr aberth dros ei bechod ei hun, er mwyn gwneud cymod drosto'i hun a thros ei dylwyth, a bydd yn lladd y bustach yn aberth dros ei bechod.
16:12 Bydd yn cymryd thuser yn llawn o farwor llosg oddi ar yr allor o flaen yr ARGLWYDD, a dau ddyrnaid o arogldarth peraidd wedi ei falu, ac yn mynd â hwy y tu ôl i'r llen.
16:13 Bydd yn rhoi'r arogldarth ar y tân o flaen yr ARGLWYDD, er mwyn i fwg yr arogldarth orchuddio'r drugareddfa uwchben y dystiolaeth, rhag iddo farw.
16:14 Bydd yn cymryd peth o waed y bustach ac yn ei daenellu â'i fys ar wyneb dwyrain y drugareddfa; bydd yn taenellu peth o'r gwaed â'i fys seithwaith o flaen y drugareddfa.
16:15 "Yna bydd yn lladd bwch yr aberth dros bechod y bobl ac yn dod â'i waed y tu ôl i'r llen, ac yn gwneud â'i waed fel y gwnaeth â gwaed y bustach trwy ei daenellu ar y drugareddfa ac o'i blaen.
16:16  Fel hyn y bydd yn gwneud cymod dros y cysegr, oherwydd aflendid pobl Israel a'u troseddau o achos eu holl bechodau; bydd yn gwneud yr un fath dros babell y cyfarfod, sydd yn eu mysg yng nghanol eu holl aflendid.
16:17 Ni chaiff unrhyw un fynd i mewn i babell y cyfarfod, ar ôl i Aaron fynd i mewn i wneud cymod yn y cysegr, nes iddo ddod allan, wedi iddo orffen gwneud cymod drosto'i hun, ei dylwyth a holl gynulleidfa Israel.
16:18 Yna bydd yn dod allan at yr allor sydd o flaen yr ARGLWYDD, ac yn gwneud cymod drosti. Bydd yn cymryd peth o waed y bustach ac o waed y bwch, ac yn ei roi ar gyrn yr allor o'i hamgylch.
16:19 Bydd yn taenellu peth o'r gwaed arni â'i fys seithwaith i'w glanhau o aflendid pobl Israel, ac yn ei chysegru.

Y Bwch Dihangol

16:20 "Ar ôl i Aaron orffen gwneud cymod dros y cysegr, pabell y cyfarfod a'r allor, bydd yn cyflwyno'r bwch byw.
16:21 Bydd yn gosod ei ddwy law ar ben y bwch byw, ac yn cyffesu drosto holl ddrygioni a throseddau pobl Israel o achos eu holl bechodau, ac yn eu rhoi ar ben y bwch; yna bydd yn anfon y bwch i'r anialwch yng ngofal dyn a benodwyd i wneud hynny.
16:22 Y mae'r bwch i ddwyn eu holl ddrygioni arno'i hun i dir unig, a bydd y dyn yn ei ollwng yn rhydd yn yr anialwch.
16:23 "Yna bydd Aaron yn mynd i mewn i babell y cyfarfod, yn diosg y dillad lliain a wisgodd pan oedd yn mynd i'r cysegr, ac yn eu gadael yno.
16:24 Bydd yn ymolchi â dŵr mewn lle sanctaidd, ac yn gwisgo ei ddillad arferol. Wedyn bydd yn dod allan, ac yn offrymu ei boethoffrwm ei hun a phoethoffrwm y bobl, ac yn gwneud cymod drosto'i hun a thros y bobl.
16:25 Bydd hefyd yn llosgi ar yr allor fraster yr aberth dros bechod.
16:26 "Bydd y dyn sy'n gollwng y bwch dihangol yn rhydd yn golchi ei ddillad ac yn ymolchi â dŵr; ac wedi hynny caiff ddod i mewn i'r gwersyll.
16:27 Y mae bustach a bwch yr aberth dros bechod, y dygwyd eu gwaed i wneud cymod yn y cysegr, i'w dwyn allan o'r gwersyll; y mae eu crwyn, eu cyrff a'u gweddillion i'w llosgi yn y tân.
16:28 Y mae'r sawl sy'n eu llosgi i olchi ei ddillad ac ymolchi â dŵr; ar ôl hynny caiff ddod i mewn i'r gwersyll.

Cadw Dydd y Cymod

16:29 "Y mae hon yn ddeddf dragwyddol ichwi. Ar y degfed dydd o'r seithfed mis yr ydych i ymddarostwng, a pheidio â gwneud unrhyw waith, pa un bynnag ai brodor ai estron ydych,
16:30 oherwydd ar y dydd hwn gwneir cymod drosoch i'ch glanhau; a byddwch yn lân o'ch holl bechodau gerbron yr ARGLWYDD.
16:31 Saboth o orffwys ydyw, ac yr ydych i ymddarostwng; y mae'n ddeddf dragwyddol.
16:32 Yr offeiriad a eneiniwyd ac a gysegrwyd yn offeiriad yn lle ei dad fydd yn gwneud cymod; bydd yn gwisgo dillad sanctaidd o liain,
16:33 ac yn gwneud cymod dros y cysegr, pabell y cyfarfod a'r allor, a hefyd dros yr offeiriaid a holl bobl y gynulleidfa.
16:34 Bydd hon yn ddeddf dragwyddol ichwi. Gwneir cymod unwaith y flwyddyn dros bobl Israel oherwydd eu holl bechodau." Gwnaed fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

Gwahardd Cymryd Gwaed

17:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
17:2 "Dywed wrth Aaron a'i feibion a holl bobl Israel, 'Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD.
17:3 Os bydd unrhyw un o dŷ Israel a fydd yn lladd bustach, oen neu afr yn y gwersyll, neu'r tu allan iddo,
17:4 a heb ddod ag ef at ddrws pabell y cyfarfod i'w gyflwyno'n rhodd i'r ARGLWYDD o flaen y tabernacl, y mae hwnnw yn cael ei ystyried yn euog o waed; y mae hwnnw wedi tywallt gwaed, ac y mae i'w dorri ymaith o blith ei bobl.
17:5 Y mae hyn er mwyn i bobl Israel ddod â'r aberthau a offrymant yn awr yn y meysydd agored, a'u cyflwyno i'r ARGLWYDD trwy'r offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod; y maent i'w haberthu yn heddoffrymau i'r ARGLWYDD.
17:6 Bydd yr offeiriad yn lluchio'r gwaed ar allor yr ARGLWYDD wrth ddrws pabell y cyfarfod, ac yn llosgi'r braster yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
17:7 Nid ydynt i offrymu eu haberthau i'r gafr-ddelwau y buont yn puteinio ar eu holau. Y mae hyn yn ddeddf dragwyddol iddynt dros y cenedlaethau.'
17:8 "Dywed wrthynt, 'Bydd unrhyw un o dŷ Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn eu mysg, a fydd yn offrymu poethoffrwm neu aberth,
17:9 a heb ddod ag ef at ddrws pabell y cyfarfod i'w aberthu i'r ARGLWYDD, y mae hwnnw yn cael ei dorri ymaith o blith ei bobl.
17:10 "'Os bydd unrhyw un o dŷ Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn eu mysg, yn bwyta unrhyw waed, byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy'n bwyta gwaed, ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl.
17:11 Oherwydd y mae bywyd y corff yn y gwaed, ac fe'i rhoddais ichwi i wneud cymod drosoch eich hunain ar yr allor; y gwaed sy'n gwneud cymod dros fywyd.
17:12 Dyma pam y dywedais wrth bobl Israel, "Nid yw'r un ohonoch chwi, nac unrhyw estron sy'n byw yn eich mysg, i fwyta gwaed."
17:13 "'Y mae unrhyw un o bobl Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn eu mysg, sy'n hela anifail neu aderyn y gellir ei fwyta, i dywallt ei waed a'i orchuddio â phridd,
17:14 oherwydd y mae bywyd pob corff yn y gwaed. Dyna pam y dywedais wrth bobl Israel, "Nid ydych i fwyta gwaed unrhyw greadur", oherwydd y mae bywyd pob corff yn ei waed; y mae unrhyw un sy'n ei fwyta i'w dorri ymaith.
17:15 "'Y mae unrhyw un, boed frodor neu estron, sy'n bwyta rhywbeth wedi marw neu ei larpio gan anifail, i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr, a bod yn aflan hyd yr hwyr; yna bydd yn lân.
17:16 Os na fydd yn golchi ei ddillad nac yn ymolchi, bydd yn gyfrifol am ei drosedd.'"

Gwaharddiadau ynglŷn â Rhyw

18:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
18:2 "Dywed wrth bobl Israel, 'Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
18:3 Nid ydych i wneud fel y gwneir yng ngwlad yr Aifft, lle buoch yn byw, nac fel y gwneir yng ngwlad Canaan, lle'r wyf yn mynd â chwi. Peidiwch â dilyn eu harferion.
18:4 Yr ydych i ufuddhau i'm cyfreithiau ac i gadw fy neddfau; myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
18:5 Cadwch fy neddfau a'm cyfreithiau, oherwydd y mae'r sawl sy'n eu cadw yn byw trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.
18:6 "'Nid yw unrhyw un i ddynesu at berthynas agos iddo i gael cyfathrach rywiol. Myfi yw'r ARGLWYDD.
18:7 "'Nid wyt i amharchu dy dad trwy gael cyfathrach rywiol â'th fam; dy fam yw hi, ac nid wyt i gael cyfathrach â hi.
18:8 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â gwraig dy dad; byddai hynny'n amharchu dy dad.
18:9 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â'th chwaer, boed yn ferch i'th dad neu'n ferch i'th fam, ac wedi ei geni yn y cartref neu'r tu allan iddo.
18:10 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â merch dy fab neu ferch dy ferch; byddai hynny'n dy amharchu.
18:11 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â merch i wraig dy dad sydd wedi ei geni i'th dad; y mae'n chwaer iti, ac nid wyt i gael cyfathrach â hi.
18:12 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â chwaer dy dad; y mae'n berthynas agos i'th dad.
18:13 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â chwaer dy fam, gan ei bod yn berthynas agos i'th fam.
18:14 "'Nid wyt i amharchu brawd dy dad trwy ddynesu at ei wraig; y mae'n fodryb iti.
18:15 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â'th ferch-yng-nghyfraith; y mae'n wraig i'th fab, ac nid wyt i gael cyfathrach â hi.
18:16 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â gwraig dy frawd; byddai hynny'n amharchu dy frawd.
18:17 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â gwraig ac â'i merch, nac ychwaith â merch ei mab na merch ei merch; y maent yn perthyn yn agos iddi, a byddai hynny'n anlladrwydd.
18:18 "'Nid wyt i briodi chwaer dy wraig rhag iddi gystadlu â hi, na chael cyfathrach â hi tra bo dy wraig yn fyw.
18:19 "'Nid wyt i ddynesu at wraig i gael cyfathrach rywiol â hi yn ystod aflendid ei misglwyf.
18:20 "'Nid wyt i orwedd mewn cyfathrach gyda gwraig dy gymydog, i'th wneud dy hun yn aflan gyda hi.
18:21 "'Nid wyt i roi yr un o'th blant i'w aberthu i Moloch, a halogi enw dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
18:22 "'Nid wyt i orwedd gyda dyn fel gyda gwraig; y mae hynny'n ffieidd-dra.
18:23 "'Nid wyt i orwedd gydag unrhyw anifail, i'th wneud dy hun yn aflan, ac nid yw unrhyw wraig i'w rhoi ei hun mewn cyfathrach ag anifail; y mae hynny'n wyrni.
18:24 "'Peidiwch â'ch halogi eich hunain â'r un o'r pethau hyn, oherwydd trwy'r rhain y bu'r cenhedloedd yr wyf yn eu gyrru allan o'ch blaenau yn eu halogi eu hunain.
18:25 Halogwyd y tir, ac fe'i cosbais am ei ddrygioni, ac fe chwydodd y tir ei drigolion.
18:26 Ond cadwch chwi fy neddfau a'm cyfreithiau, a pheidiwch â gwneud yr un o'r pethau ffiaidd hyn, pa un bynnag ai brodor ai estron ydych;
18:27 oherwydd gwnaeth y bobl oedd yn y wlad o'ch blaen chwi yr holl bethau ffiaidd hyn, a halogwyd y tir.
18:28 Os byddwch chwi'n halogi'r tir, bydd yn eich chwydu chwithau fel y chwydodd y cenhedloedd oedd o'ch blaen chwi.
18:29 Pwy bynnag sy'n gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd hyn, fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.
18:30 Cadwch fy ngofynion, a pheidiwch â dilyn yr arferion ffiaidd a wnaed o'ch blaen, na chael eich halogi ganddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"

Amrywiol Ddeddfau

19:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
19:2 "Dywed wrth holl gynulleidfa pobl Israel, 'Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD eich Duw, yn sanctaidd.
19:3 Y mae pob un ohonoch i barchu ei fam a'i dad, ac yr ydych i gadw fy Sabothau. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
19:4 Peidiwch â throi at eilunod na gwneud ichwi eich hunain ddelwau tawdd. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
19:5 "'Pan fyddwch yn cyflwyno hedd-offrwm i'r ARGLWYDD, offrymwch ef mewn ffordd a fydd yn dderbyniol.
19:6 Y mae i'w fwyta ar y diwrnod y byddwch yn ei offrymu, neu drannoeth; y mae unrhyw beth a fydd yn weddill ar y trydydd dydd i'w losgi yn y tân.
19:7 Os bwyteir rhywfaint ohono ar y trydydd dydd, y mae'n amhur ac ni fydd yn dderbyniol.
19:8 Y mae'r sawl sy'n ei fwyta yn gyfrifol am ei drosedd; oherwydd iddo halogi'r hyn sy'n sanctaidd i'r ARGLWYDD, fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.
19:9 "'Pan fyddi'n medi cynhaeaf dy dir, nid wyt i fedi at ymylon y maes na chasglu lloffion dy gynhaeaf.
19:10 Nid wyt i ddinoethi dy winllan yn llwyr na chasglu'r grawnwin a syrthiodd; gad hwy i'r tlawd a'r estron. Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw.
19:11 "'Nid ydych i ladrata, na dweud celwydd, na thwyllo eich gilydd.
19:12 Nid ydych i dyngu'n dwyllodrus yn fy enw, a halogi enw eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
19:13 "'Nid wyt i wneud cam â'th gymydog na dwyn oddi arno. Nid wyt i ddal yn ôl hyd y bore gyflog dy weithiwr.
19:14 Nid wyt i felltithio'r byddar na rhoi rhwystr ar ffordd y dall; ond ofna dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
19:15 "'Nid wyt i wyro barn, na bod yn bleidiol tuag at y tlawd na dangos ffafriaeth at y mawr, ond yr wyt i farnu dy gymydog yn deg.
19:16 Nid wyt i fynd o amgylch yn enllibio ymysg dy bobl na pheryglu bywyd dy gymydog. Myfi yw'r ARGLWYDD.
19:17 "'Nid wyt i gasáu dy frawd a'th chwaer yn dy galon, ond yr wyt i geryddu dy gymydog rhag iti fod yn gyfrifol am ei drosedd.
19:18 Nid wyt i geisio dial ar un o'th bobl, na dal dig tuag ato, ond yr wyt i garu dy gymydog fel ti dy hun. Myfi yw'r ARGLWYDD.
19:19 "'Yr ydych i gadw fy neddfau. Nid wyt i groesi anifeiliaid gwahanol, hau dy faes â hadau gwahanol, na gwisgo dillad o ddeunydd cymysg.
19:20 "'Os bydd dyn yn gorwedd mewn cyfathrach â gwraig, a hithau'n gaethferch wedi ei dyweddïo i ŵr ond heb ei phrynu'n ôl na'i rhyddhau, bydd yn rhaid eu cosbi. Ond nid ydynt i'w rhoi i farwolaeth am nad oedd hi'n rhydd;
19:21 y mae ef i ddod ag offrwm dros ei gamwedd i'r ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod, sef hwrdd yr aberth dros gamwedd.
19:22 Oherwydd y pechod a wnaeth, bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; ac fe faddeuir iddo am y pechod a wnaeth.
19:23 "'Pan fyddwch yn mynd i mewn i'r wlad ac yn plannu unrhyw goeden ffrwythau, ystyriwch ei ffrwyth yn waharddedig; bydd wedi ei wahardd ichwi am dair blynedd, ac ni chewch ei fwyta.
19:24 Yn y bedwaredd flwyddyn bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd, yn offrwm mawl i'r ARGLWYDD.
19:25 Ond yn y bumed flwyddyn cewch fwyta'i ffrwyth, er mwyn iddi ffrwythloni rhagor. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
19:26 "'Nid ydych i fwyta dim gyda gwaed ynddo. Nid ydych i arfer dewiniaeth na swyngyfaredd.
19:27 Nid ydych i dorri'r gwallt ar ochr eich pennau, na thorri ymylon eich barf.
19:28 Nid ydych i wneud toriadau i'ch cnawd er mwyn y meirw, nac i ysgythru nodau arnoch eich hunain. Myfi yw'r ARGLWYDD.
19:29 "'Paid â halogi dy ferch trwy beri iddi buteinio, rhag i'r wlad buteinio a chael ei llenwi ag anlladrwydd.
19:30 "'Yr ydych i gadw fy Sabothau a pharchu fy nghysegr. Myfi yw'r ARGLWYDD.
19:31 "'Peidiwch â throi at ddewiniaid na cheisio swynwyr, oherwydd fe'ch halogir trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
19:32 "'Yr wyt i godi i'r oedrannus a pharchu'r hen, ac fe ofni dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
19:33 "'Pan fydd estron yn byw gyda thi yn dy wlad, nid wyt i'w gam-drin.
19:34 Y mae'r estron sy'n byw gyda thi i'w ystyried gennyt fel brodor o'ch plith; yr wyt i'w garu fel ti dy hun, oherwydd estroniaid fuoch chwi yng ngwlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
19:35 "'Nid ydych i dwyllo wrth fesur, boed hyd, pwysau neu nifer.
19:36 Yr ydych i ddefnyddio cloriannau cywir, pwysau cywir, effa gywir a hin gywir. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch dygodd allan o wlad yr Aifft.
19:37 "'Yr ydych i gadw fy holl ddeddfau a'm holl gyfreithiau a'u gwneud. Myfi yw'r ARGLWYDD.'"

Cosbau am Droseddu

20:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
20:2 "Dywed wrth bobl Israel, 'Os bydd unrhyw un o bobl Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn Israel, yn rhoi un o'i blant i Moloch, rhodder ef i farwolaeth. Y mae pobl y wlad i'w labyddio â cherrig.
20:3 Byddaf fi yn gosod fy wyneb yn erbyn hwnnw ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl, oherwydd trwy roi ei blant i Moloch gwnaeth fy nghysegr yn aflan a halogi fy enw sanctaidd.
20:4 Os bydd pobl y wlad yn cau eu llygaid ar hwnnw pan fydd yn rhoi un o'i blant i Moloch, ac yn peidio â'i roi i farwolaeth,
20:5 byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn hwnnw a'i deulu, ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl, a hefyd bawb sy'n ei ddilyn i buteinio ar ôl Moloch.
20:6 Byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy'n troi at ddewiniaid a swynwyr i buteinio ar eu holau, a byddaf yn ei dorri ymaith o blith ei bobl.
20:7 Ymgysegrwch a byddwch sanctaidd, oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
20:8 Yr ydych i gadw fy neddfau a'u gwneud. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eich sancteiddio.
20:9 "'Os bydd unrhyw un yn melltithio ei dad neu ei fam, y mae i'w roi i farwolaeth. Oherwydd iddo felltithio ei dad neu ei fam, y mae'n gyfrifol am ei waed ei hun.
20:10 "'Os bydd unrhyw un yn godinebu gyda gwraig ei gymydog, y mae'r godinebwr a'r odinebwraig i'w rhoi i farwolaeth.
20:11 Os bydd dyn yn gorwedd gyda gwraig ei dad, y mae wedi amharchu ei dad; y mae'r ddau ohonynt i'w rhoi i farwolaeth, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.
20:12 Os bydd dyn yn gorwedd gyda'i ferch-yng-nghyfraith, y mae'r ddau ohonynt i'w rhoi i farwolaeth; gwnaethant wyrni, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.
20:13 Os bydd dyn yn gorwedd gyda dyn fel gyda gwraig, y mae'r ddau wedi gwneud ffieidd-dra; y maent i'w rhoi i farwolaeth, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.
20:14 Os bydd dyn yn priodi gwraig a'i mam, y mae'n gwneud anlladrwydd. Y mae ef a hwythau i'w llosgi yn y tân, rhag i anlladrwydd fod yn eich mysg.
20:15 Os bydd dyn yn gorwedd gydag anifail, y mae i'w roi i farwolaeth, a rhaid lladd yr anifail.
20:16 Os bydd gwraig yn dynesu at unrhyw anifail i'w rhoi ei hun iddo, y mae'r wraig a'r anifail i'w lladd; y maent i'w rhoi i farwolaeth ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.
20:17 Os bydd dyn yn priodi ei chwaer, merch ei dad neu ei fam, ac yn cael cyfathrach rywiol â hi, y mae'n warth. Y maent i'w torri ymaith yng ngŵydd plant eu pobl; y mae ef wedi amharchu ei chwaer ac y mae'n gyfrifol am ei drosedd.
20:18 Os bydd dyn yn gorwedd gyda gwraig yn ei misglwyf, ac yn cael cyfathrach rywiol gyda hi, y mae wedi dinoethi tarddle ei diferlif gwaed ac y mae hithau wedi ei dinoethi. Y mae'r ddau ohonynt i'w torri ymaith o blith eu pobl.
20:19 Nid wyt i gael cyfathrach rywiol gyda chwaer dy fam na chwaer dy dad, gan y byddai hynny'n amharchu perthynas agos; y mae'r ddau'n gyfrifol am eu trosedd.
20:20 Os bydd dyn yn gorwedd gyda'i fodryb, y mae'n amharchu ei ewythr; y mae'r ddau'n gyfrifol am eu pechod, a byddant farw'n ddi-blant.
20:21 Os bydd dyn yn priodi gwraig ei frawd, y mae hynny'n aflan; amharchodd ei frawd, a byddant yn ddi-blant.
20:22 "'Yr ydych i gadw fy holl ddeddfau a'm holl gyfreithiau ac i'w gwneud, rhag i'r wlad, lle'r wyf yn mynd â chwi i fyw, eich chwydu allan.
20:23 Nid ydych i ddilyn arferion y cenhedloedd yr wyf yn eu hanfon allan o'ch blaenau; oherwydd iddynt hwy wneud yr holl bethau hyn, ffieiddiais hwy.
20:24 Ond dywedais wrthych chwi, "Byddwch yn etifeddu eu tir; byddaf fi yn ei roi ichwi'n etifeddiaeth, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl." Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch gosododd chwi ar wahân i'r bobloedd.
20:25 "'Yr ydych i wahaniaethu rhwng anifeiliaid glân ac aflan, a rhwng adar glân ac aflan. Nid ydych i'ch halogi eich hunain trwy unrhyw anifail, aderyn, nac unrhyw beth sy'n ymlusgo hyd y ddaear; dyma'r pethau a osodais ar wahân fel rhai aflan ichwi.
20:26 Yr ydych i fod yn sanctaidd i mi, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn sanctaidd; yr wyf wedi eich gosod ar wahân i'r bobloedd, i fod yn eiddo i mi.
20:27 "'Y mae unrhyw ŵr neu wraig yn eich plith sy'n ddewin neu'n swynwr i'w roi i farwolaeth; yr ydych i'w llabyddio â cherrig, a byddant hwy'n gyfrifol am eu gwaed eu hunain.'"

Deddfau'r Offeiriaid

21:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, 'Nid yw offeiriad i'w halogi ei hun am farw yr un o'i dylwyth,
21:2 ac eithrio ei deulu agosaf, megis ei fam, ei dad, ei fab, ei ferch, ei frawd,
21:3 neu ei chwaer ddi-briod, sy'n agos ato am nad oes ganddi ŵr.
21:4 Fel pennaeth ymysg ei dylwyth nid yw i'w halogi ei hun na'i wneud ei hun yn aflan.
21:5 "'Nid yw offeiriaid i eillio'r pen yn foel nac i dorri ymylon y farf nac i wneud toriadau ar y cnawd.
21:6 Byddant yn sanctaidd i'w Duw, ac nid ydynt i halogi ei enw; am eu bod yn cyflwyno offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD, sef bwyd eu Duw, fe fyddant yn sanctaidd.
21:7 Nid ydynt i briodi putain, nac un wedi colli ei gwyryfdod, na gwraig wedi ei hysgaru oddi wrth ei gŵr; oherwydd y maent yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.
21:8 Yr wyt i'w hystyried yn sanctaidd, oherwydd eu bod yn cyflwyno bwyd dy Dduw; byddant yn sanctaidd i ti, oherwydd sanctaidd ydwyf fi, yr ARGLWYDD, sy'n eich sancteiddio.
21:9 Os bydd merch i offeiriad yn ei halogi ei hun trwy fynd yn butain, y mae'n halogi ei thad; rhaid ei llosgi yn y tân.
21:10 "'Am yr archoffeiriad, yr un o blith ei frodyr y tywalltwyd olew'r eneinio ar ei ben ac a ordeiniwyd i wisgo'r dillad, nid yw ef i noethi ei ben na rhwygo'i ddillad.
21:11 Nid yw i fynd i mewn at gorff marw, na'i halogi ei hun hyd yn oed er mwyn ei dad na'i fam.
21:12 Nid yw i fynd allan o'r cysegr, rhag iddo halogi cysegr ei Dduw, oherwydd fe'i cysegrwyd ag olew eneinio ei Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
21:13 Y mae i briodi gwyryf yn wraig.
21:14 Nid yw i gymryd gweddw, un wedi ei hysgaru, nac un wedi ei halogi trwy buteindra, ond y mae i gymryd yn wraig wyryf o blith ei dylwyth,
21:15 rhag iddo halogi ei had ymysg ei bobl. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n ei sancteiddio.'"
21:16 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
21:17 "Dywed wrth Aaron, 'Dros y cenedlaethau i ddod nid oes yr un o'th ddisgynyddion sydd â nam arno i ddod a chyflwyno bwyd ei Dduw.
21:18 Nid oes neb ag unrhyw nam arno i ddynesu, boed yn ddall, yn gloff, wedi ei anffurfio neu ei hagru,
21:19 yn ddyn gydag anaf ar ei droed neu ei law,
21:20 yn wargam neu'n gorrach, gyda nam ar ei lygad, crach, doluriau neu geilliau briwedig.
21:21 Nid yw'r un o ddisgynyddion Aaron yr offeiriad sydd â nam arno i ddynesu i gyflwyno offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; am fod nam arno, nid yw i ddynesu i gyflwyno bwyd ei Dduw.
21:22 Caiff fwyta bwyd ei Dduw o'r offrymau sanctaidd a'r offrymau sancteiddiaf,
21:23 ond oherwydd bod nam arno ni chaiff fynd at y llen na dynesu at yr allor, rhag iddo halogi fy nghysegr. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eu sancteiddio.'"
21:24 Fel hyn y dywedodd Moses wrth Aaron a'i feibion ac wrth holl bobl Israel.

Yr Offrymau Sanctaidd

22:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
22:2 "Dywed wrth Aaron a'i feibion am iddynt barchu'r offrymau sanctaidd y mae pobl Israel yn eu cysegru i mi, rhag iddynt halogi fy enw sanctaidd. Myfi yw'r ARGLWYDD.
22:3 "Dywed wrthynt, 'Dros y cenedlaethau i ddod, os bydd unrhyw un o'ch disgynyddion, ac yntau'n aflan, yn dod at yr offrymau sanctaidd y mae pobl Israel yn eu cysegru i'r ARGLWYDD, rhaid ei dorri ymaith o'm gŵydd. Myfi yw'r ARGLWYDD.
22:4 "'Os bydd gan un o ddisgynyddion Aaron haint neu ddiferlif, ni chaiff fwyta'r offrymau sanctaidd nes ei lanhau. Bydd hefyd yn aflan os bydd yn cyffwrdd ag unrhyw beth sy'n aflan neu ag unrhyw un sy'n gollwng ei had,
22:5 neu os bydd yn cyffwrdd ag unrhyw ymlusgiad sy'n achosi aflendid, neu ag unrhyw berson sy'n achosi aflendid, beth bynnag fyddo'r aflendid.
22:6 Bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd ag un o'r rhain yn aflan hyd yr hwyr, ac nid yw i fwyta o'r offrymau sanctaidd os na fydd wedi golchi ei gorff â dŵr.
22:7 Wedi i'r haul fachlud, bydd yn lân, ac yna caiff fwyta o'r offrymau sanctaidd, oherwydd dyna'i fwyd.
22:8 Nid yw i'w halogi ei hun trwy fwyta unrhyw beth sydd wedi marw neu wedi ei larpio gan anifail. Myfi yw'r ARGLWYDD.
22:9 "'Y mae'r offeiriaid i gadw fy ngofynion rhag iddynt bechu, a marw am eu halogi. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eu sancteiddio.
22:10 "'Nid yw neb estron i fwyta'r offrymau sanctaidd, neb sy'n westai neu'n was cyflog i offeiriad.
22:11 Ond os bydd offeiriad yn prynu caethwas am arian, neu os bydd caethwas wedi ei eni yn ei dŷ, caiff y rheini fwyta'i fwyd.
22:12 Os bydd merch i offeiriad yn priodi unrhyw un heblaw offeiriad, ni chaiff hi fwyta dim o'r offrymau sanctaidd.
22:13 Ond os bydd merch i offeiriad yn weddw neu'n cael ei hysgaru, a hithau heb blant ac yn dychwelyd i fyw yn nhŷ ei thad fel pan oedd yn ifanc, yna caiff hi fwyta o fwyd ei thad. Nid yw neb arall i fwyta o'r bwyd.
22:14 "'Os bydd rhywun yn bwyta o'r offrwm sanctaidd yn anfwriadol, rhaid iddo wneud iawn am yr offrwm ac ychwanegu pumed ran at ei werth a'i roi i'r offeiriad.
22:15 Nid yw'r offeiriaid i halogi'r offrymau sanctaidd a ddygodd pobl Israel i'r ARGLWYDD,
22:16 trwy adael iddynt fwyta o'r offrymau, ac felly dwyn arnynt euogrwydd a chosb. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eu sancteiddio.'"

Offrymau Annerbyniol

22:17 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
22:18 "Dywed wrth Aaron a'i feibion ac wrth holl bobl Israel, 'Os bydd un ohonoch, boed o dŷ Israel neu o'r estroniaid sydd yn Israel, yn cyflwyno rhodd yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, boed yn offrwm adduned neu'n offrwm gwirfodd,
22:19 dylai ddod â gwryw di-nam o'r gwartheg, y defaid neu'r geifr, er mwyn bod yn dderbyniol ar eich rhan.
22:20 Peidiwch â chyflwyno unrhyw beth â nam arno, oherwydd ni fydd yn dderbyniol ar eich rhan.
22:21 Os bydd unrhyw un yn cyflwyno heddoffrwm i'r ARGLWYDD, i dalu adduned neu'n offrwm gwirfodd, boed o'r gyr neu o'r praidd, rhaid iddo fod yn berffaith a di-nam i fod yn dderbyniol.
22:22 Peidiwch â chyflwyno i'r ARGLWYDD ddim sy'n ddall, nac wedi ei archolli neu ei anafu, na dim â chornwyd, crach neu ddoluriau arno; peidiwch â gosod yr un o'r rhain ar yr allor yn offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD.
22:23 Gallwch ddod â bustach neu hwrdd sydd wedi ei hagru, neu sy'n anghyflawn, yn offrwm gwirfodd, ond nid yw'n dderbyniol yn offrwm adduned.
22:24 Nid ydych i'w offrymu i'r ARGLWYDD os bydd ei geilliau wedi eu briwo, eu gwasgu, eu rhwygo neu eu torri; nid ydych i wneud hyn yn eich gwlad,
22:25 ac nid ydych i gymryd gan estron unrhyw un o'r rhain i'w gyflwyno'n fwyd i'ch Duw; gan eu bod wedi eu hanffurfio ac arnynt nam, ni fyddant yn dderbyniol ar eich rhan.'"
22:26 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
22:27 "Pan enir llo, oen neu fyn, y mae i aros dan y fam am saith diwrnod; o'r wythfed dydd ymlaen bydd yn dderbyniol yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
22:28 Peidiwch â lladd buwch neu ddafad a'i llwdn yr un diwrnod.
22:29 Pan fyddwch yn cyflwyno offrwm diolch i'r ARGLWYDD, gwnewch hynny mewn modd y caiff ei dderbyn ar eich rhan;
22:30 rhaid ei fwyta yr un diwrnod; peidiwch â gadael dim ohono hyd y bore. Myfi yw'r ARGLWYDD.
22:31 "Cadwch fy ngorchmynion a'u gwneud; myfi yw'r ARGLWYDD.
22:32 Peidiwch â halogi fy enw sanctaidd; rhaid fy sancteiddio ymysg pobl Israel. Myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n eich sancteiddio,
22:33 ac a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft, i fod yn Dduw ichwi. Myfi yw'r ARGLWYDD."

Y Gwyliau Crefyddol

23:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
23:2 "Dywed wrth bobl Israel, 'Dyma fydd y gwyliau, sef gwyliau'r ARGLWYDD, a gyhoeddwch yn gym-anfaoedd sanctaidd:

Y Saboth

23:3 "'Ar chwe diwrnod y cewch weithio, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth o orffwys, yn gymanfa sanctaidd; nid ydych i wneud unrhyw waith, oherwydd ple bynnag yr ydych yn byw, Saboth i'r ARGLWYDD ydyw.

Y Pasg a'r Bara Croyw, Num. 28:16-25

23:4 "'Dyma wyliau'r ARGLWYDD, y cym-anfaoedd sanctaidd yr ydych i'w cyhoeddi yn eu prydau.
23:5 Yng nghyfnos y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf bydd Pasg yr ARGLWYDD,
23:6 ac ar y pymthegfed dydd o'r mis hwnnw bydd gŵyl y Bara Croyw i'r ARGLWYDD; am saith diwrnod yr ydych i fwyta bara heb furum.
23:7 Ar y dydd cyntaf bydd cymanfa sanctaidd, ac ni fyddwch yn gwneud unrhyw waith arferol.
23:8 Am saith diwrnod cyflwynwch offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; ar y seithfed dydd bydd cymanfa sanctaidd, ac ni fyddwch yn gwneud unrhyw waith arferol.'"

Blaenffrwyth y Cynhaeaf

23:9 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
23:10 "Dywed wrth bobl Israel, 'Pan ddewch i'r wlad yr wyf yn ei rhoi ichwi, a medi ei chynhaeaf, yr ydych i ddod ag ysgub o flaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad.
23:11 Bydd yntau'n chwifio'r ysgub o flaen yr ARGLWYDD, iddi fod yn dderbyniol drosoch; y mae'r offeiriad i'w chwifio drannoeth y Saboth.
23:12 Ar y diwrnod y chwifir yr ysgub yr ydych i offrymu'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD oen blwydd di-nam,
23:13 a chydag ef fwydoffrwm o bumed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, a hefyd ddiodoffrwm o chwarter hin o win.
23:14 Nid ydych i fwyta bara, grawn sych, na grawn ir cyn y diwrnod y byddwch yn dod â'ch rhodd i'ch Duw. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ple bynnag y byddwch yn byw.

Gŵyl y Cynhaeaf, Num. 28:26-31

23:15 "'O drannoeth y Saboth, sef y diwrnod y daethoch ag ysgub yr offrwm cyhwfan, cyfrifwch saith wythnos lawn.
23:16 Cyfrifwch hanner can diwrnod hyd drannoeth y seithfed Saboth, ac yna dewch â bwydoffrwm o rawn newydd i'r ARGLWYDD.
23:17 O ble bynnag y byddwch yn byw dewch â dwy dorth, wedi eu gwneud â phumed ran o effa o beilliaid a'u pobi â lefain, yn offrwm cyhwfan o'r blaenffrwyth i'r ARGLWYDD.
23:18 Cyflwynwch gyda'r bara hwn saith oen blwydd di-nam, un bustach ifanc a dau hwrdd; byddant hwy'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD, gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
23:19 Yna offrymwch un bwch gafr yn aberth dros bechod, a dau oen blwydd yn heddoffrwm.
23:20 Bydd yr offeiriad yn chwifio'r ddau oen a bara'r blaenffrwyth yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD; y maent yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, yn eiddo'r offeiriad.
23:21 Ar y diwrnod hwnnw yr ydych i gyhoeddi cymanfa sanctaidd, ac i beidio â gwneud unrhyw waith arferol. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ble bynnag y byddwch yn byw.
23:22 "'Pan fyddi'n medi cynhaeaf dy dir, paid â medi at ymylon dy faes, a phaid â lloffa dy gynhaeaf; gad hwy i'r tlawd a'r estron. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"

Gŵyl yr Utgyrn, Num. 29:1-6

23:23 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
23:24 "Dywed wrth bobl Israel, 'Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis yr ydych i gael diwrnod gorffwys; bydd yn gymanfa sanctaidd, i'w dathlu â chanu utgyrn.
23:25 Nid ydych i wneud unrhyw waith arferol, ond cyflwynwch aberth trwy dân i'r ARGLWYDD.'"

Dydd y Cymod, Num. 29:7-11

23:26 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
23:27 "Yn wir, ar y degfed dydd o'r seithfed mis cynhelir Dydd y Cymod; bydd yn gymanfa sanctaidd ichwi, a byddwch yn ymddarostwng ac yn cyflwyno aberth trwy dân i'r ARGLWYDD.
23:28 Nid ydych i wneud unrhyw waith y diwrnod hwnnw, am ei fod yn Ddydd y Cymod, pan wneir cymod drosoch gerbron yr ARGLWYDD eich Duw.
23:29 Bydd unrhyw un na fydd yn ymddarostwng y diwrnod hwnnw yn cael ei dorri ymaith o blith ei bobl.
23:30 Byddaf yn difa o blith ei bobl unrhyw un a fydd yn gweithio y diwrnod hwnnw.
23:31 Ni fyddwch yn gwneud unrhyw waith; y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ple bynnag y byddwch yn byw.
23:32 Y mae'n Saboth o orffwys ichwi, ac yr ydych i ymddarostwng. O gyfnos nawfed dydd y mis hyd y cyfnos drannoeth yr ydych i gadw eich Saboth yn orffwys."

Gûyl y Pebyll, Num. 29:12-40

23:33 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
23:34 "Dywed wrth bobl Israel, 'Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis cynhelir gŵyl y Pebyll i'r ARGLWYDD am saith diwrnod.
23:35 Bydd y diwrnod cyntaf yn gymanfa sanctaidd; nid ydych i wneud unrhyw waith arferol.
23:36 Am saith diwrnod yr ydych i gyflwyno offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD, ac ar yr wythfed diwrnod bydd gennych gynulliad sanctaidd, pan fyddwch yn cyflwyno aberth trwy dân i'r ARGLWYDD; dyma'r cynulliad terfynol, ac nid ydych i wneud unrhyw waith arferol.
23:37 "'Dyma'r gwyliau i'r ARGLWYDD a gyhoeddwch yn gymanfaoedd sanctaidd i gyflwyno offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD, sef y poethoffrymau, y bwydoffrymau, yr aberthau a'r diodoffrymau ar gyfer pob diwrnod.
23:38 Y mae'r rhain yn ychwanegol at offrymau Sabothau'r ARGLWYDD, eich rhoddion, eich holl addunedau a'ch holl offrymau gwirfodd a roddwch i'r ARGLWYDD.
23:39 "'Felly, ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, ar ôl ichwi gasglu cynnyrch y tir, cynhaliwch ŵyl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod; bydd y diwrnod cyntaf yn ddiwrnod gorffwys a'r wythfed diwrnod yn ddiwrnod gorffwys.
23:40 Ar y diwrnod cyntaf yr ydych i gymryd blaenffrwyth gorau'r coed, canghennau palmwydd, brigau deiliog a helyg yr afon, a llawenhau o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod.
23:41 Dathlwch yr ŵyl hon i'r ARGLWYDD am saith diwrnod bob blwyddyn. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau, eich bod i'w dathlu yn y seithfed mis.
23:42 Yr ydych i fyw mewn pebyll am saith diwrnod; y mae holl frodorion Israel i fyw mewn pebyll,
23:43 er mwyn i'ch disgynyddion wybod imi wneud i bobl Israel fyw mewn pebyll pan ddeuthum â hwy allan o wlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"
23:44 Cyhoeddodd Moses holl wyliau'r ARGLWYDD i bobl Israel.

Gofalu am y Lampau, Ex. 27:20-21

24:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
24:2 "Gorchymyn i bobl Israel ddod ag olew pur o olifiau wedi eu gwasgu, a'i roi iti ar gyfer y goleuni, er mwyn cadw'r lamp ynghynn bob amser.
24:3 Y tu allan i len y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod y mae Aaron i ofalu bob amser am lamp o flaen yr ARGLWYDD o'r cyfnos hyd y bore; y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau.
24:4 Y mae'n rhaid gofalu bob amser am y lampau yn y canhwyllbren aur o flaen yr ARGLWYDD.

Bara'r Arglwydd

24:5 "Cymer beilliaid a phobi deuddeg torth, a phob torth yn bumed ran o effa.
24:6 Gosod hwy'n ddwy res, chwech ymhob rhes, ar y bwrdd aur o flaen yr ARGLWYDD.
24:7 Rho thus pur ar y ddwy res, iddo fod ar y bara yn goffa ac yn aberth trwy dân i'r ARGLWYDD.
24:8 Rhaid gosod y bara hwn o flaen yr ARGLWYDD bob amser, Saboth ar ôl Saboth, yn gyfamod tragwyddol ar ran pobl Israel.
24:9 Bydd yn eiddo i Aaron a'i feibion, a byddant yn ei fwyta mewn lle sanctaidd, oherwydd dyma'r rhan sancteiddiaf o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD trwy ddeddf dragwyddol."

Llabyddio Cablwr

24:10 Yr oedd mab i wraig o Israel, a'i dad yn Eifftiwr, yn ymdeithio ymhlith pobl Israel, a chododd cynnen yn y gwersyll rhyngddo ef ac un o waed Israelig pur.
24:11 Cablodd mab y wraig o Israel enw Duw trwy felltithio, a daethant ag ef at Moses. Enw ei fam oedd Selomith ferch Dibri o lwyth Dan.
24:12 Rhoddwyd ef yng ngharchar nes iddynt gael gwybod ewyllys yr ARGLWYDD.
24:13 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
24:14 "Dos â'r sawl a gablodd y tu allan i'r gwersyll; y mae pob un a'i clywodd i roi ei law ar ei ben, ac y mae'r holl gynulliad i'w labyddio.
24:15 Dywed wrth bobl Israel, 'Y mae pob un sy'n melltithio ei Dduw yn gyfrifol am ei bechod;
24:16 y mae pob un sy'n cablu enw'r ARGLWYDD i'w roi i farwolaeth, a'r holl gynulliad i'w labyddio. Pwy bynnag sy'n cablu enw Duw, boed estron neu frodor, rhaid iddo farw.
24:17 "'Os bydd rhywun yn cymryd bywyd rhywun arall rhaid ei roi i farwolaeth.
24:18 Os bydd rhywun yn lladd anifail rhywun arall, rhaid iddo wneud iawn, einioes am einioes.
24:19 Os bydd rhywun yn niweidio'i gymydog, rhaid gwneud yr un peth iddo yntau,
24:20 briw am friw, llygad am lygad, dant am ddant. Fel y bu iddo ef achosi niwed, felly y gwneir iddo yntau.
24:21 Os bydd rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo wneud iawn; ond os bydd rhywun yn lladd rhywun arall, rhaid ei roi i farwolaeth.
24:22 Yr un fydd y rheol ar gyfer estron a brodor. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"
24:23 Llefarodd Moses wrth bobl Israel, ac yna aethant â'r sawl a gablodd y tu allan i'r gwersyll a'i labyddio â cherrig. Gwnaeth pobl Israel fel y gorch-mynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

Y Flwyddyn Sabothol

25:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ar Fynydd Sinai,
25:2 "Dywed wrth bobl Israel, 'Pan ewch i mewn i'r wlad yr wyf yn ei rhoi ichwi, y mae'r wlad i gadw Saboth i'r ARGLWYDD.
25:3 Am chwe blynedd byddwch yn hau eich meysydd, ac am chwe blynedd yn tocio eich gwinllannoedd ac yn casglu eu ffrwyth;
25:4 ond ar y seithfed flwyddyn bydd y wlad yn cael Saboth o orffwys, sef Saboth i'r ARGLWYDD, ac nid ydych i hau eich meysydd nac i docio eich gwinllannoedd.
25:5 Nid ydych ychwaith i fedi'r cynhaeaf a dyfodd ohono'i hun, nac i gasglu grawnwin oddi ar winwydd heb eu tocio; y mae'r wlad i gael blwyddyn o orffwys.
25:6 Ond bydd unrhyw beth a gynhyrcha'r ddaear yn ystod y flwyddyn o Saboth yn fwyd i ti dy hun, ac i'th was a'th forwyn, dy was cyflog a'r estron sy'n byw gyda thi,
25:7 a hefyd i'th anifail ac i'r bwystfil gwyllt fydd ar dy dir; bydd yr holl gynnyrch yn ymborth.
25:8 "'Cyfrif saith Saboth o flynyddoedd, sef saith mlynedd seithwaith; bydd saith Saboth o flynyddoedd yn naw a deugain o flynyddoedd.
25:9 Yna ar y degfed dydd o'r seithfed mis pâr ganu'r utgorn ym mhob man; ar Ddydd y Cymod pâr ganu'r utgorn trwy dy holl wlad.
25:10 Cysegra'r hanner canfed flwyddyn, a chyhoedda ryddid trwy'r wlad i'r holl drigolion; bydd hon yn flwyddyn jwbili ichwi, a bydd pob un ohonoch yn dychwelyd i'w dreftadaeth ac at ei dylwyth.
25:11 Bydd yr hanner canfed flwyddyn yn flwyddyn jwbili ichwi; peidiwch â hau, na medi'r hyn a dyfodd ohono'i hun, na chasglu oddi ar winwydd heb eu tocio.
25:12 Jwbili ydyw, ac y mae i fod yn sanctaidd ichwi; ond cewch fwyta'r cynnyrch a ddaw o'r tir.
25:13 "'Yn y flwyddyn jwbili hon y mae pob un ohonoch i ddychwelyd i'w dreftadaeth.
25:14 Felly, pan fyddwch yn gwerthu neu'n prynu tir ymysg eich gilydd, peidiwch â chymryd mantais ar eich gilydd.
25:15 Yr ydych i brynu oddi wrth eich gilydd yn ôl nifer y blynyddoedd oddi ar y jwbili, ac i werthu i'ch gilydd yn ôl nifer y blynyddoedd sydd ar gyfer cynnyrch.
25:16 Pan fydd y blynyddoedd yn niferus, yr ydych i godi'r pris, ond pan fydd y blynyddoedd yn ychydig, yr ydych i'w ostwng, oherwydd yr hyn a werthir yw nifer y cnydau.
25:17 Peidiwch â chymryd mantais ar eich gilydd, ond ofnwch eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
25:18 Ufuddhewch i'm deddfau, a chadwch fy ngorchmynion a'u gwneud, a chewch fyw'n ddiogel yn y wlad.
25:19 Bydd y wlad yn rhoi ei ffrwyth, a chewch fwyta i'ch digoni a byw yno'n ddiogel.
25:20 Os gofynnwch, "Beth a fwytawn yn y seithfed flwyddyn, gan na fyddwn yn hau nac yn medi ein cynhaeaf?"
25:21 fe drefnaf y fath fendith ar eich cyfer yn y chweched flwyddyn fel y rhoddir digon o gynnyrch ichwi am dair blynedd.
25:22 Pan fyddwch yn hau yn yr wythfed flwyddyn, byddwch yn bwyta o'r hen gnwd, ac yn parhau i fwyta ohono nes y daw cnwd yn y nawfed flwyddyn.
25:23 "'Ni ellir gwerthu tir yn barhaol, oherwydd eiddof fi yw'r tir, ac nid ydych chwi ond estroniaid a thenantiaid i mi.
25:24 Trwy holl wlad eich treftadaeth, byddwch barod i ryddhau tir a werthwyd.
25:25 Os bydd un ohonoch yn dlawd ac yn gwerthu rhan o'i dreftadaeth, caiff ei berthynas agosaf ddod a rhyddhau'r hyn a werthodd.
25:26 Os bydd heb berthynas i'w ryddhau, ac yntau wedyn yn llwyddo ac yn ennill digon i'w ryddhau,
25:27 y mae i gyfrif y blynyddoedd er pan werthodd ef, ac ad-dalu am hynny i'r gwerthwr, ac yna caiff ddychwelyd i'w dreftadaeth.
25:28 Os na fydd wedi ennill digon i ad-dalu iddo, bydd yr hyn a werthodd yn eiddo i'r prynwr hyd flwyddyn y jwbili; fe'i dychwelir ym mlwyddyn y jwbili a chaiff y gwerthwr ddychwelyd i'w dreftadaeth.
25:29 "'Os bydd rhywun yn gwerthu tŷ annedd mewn dinas gaerog, caiff ei ryddhau o fewn blwyddyn lawn ar ôl ei werthu; o fewn yr amser hwnnw caiff ei ryddhau.
25:30 Os na fydd wedi ei ryddhau cyn diwedd y flwyddyn lawn, bydd y tŷ yn y ddinas gaerog yn eiddo parhaol i'r sawl a'i prynodd ac i'w ddisgynyddion; nid yw i'w ddychwelyd ym mlwyddyn y jwbili.
25:31 Ond y mae tai mewn trefi heb furiau o'u hamgylch i'w hystyried fel rhai yng nghefn gwlad; fe ellir eu rhyddhau, ac y maent i'w dychwelyd ym mlwyddyn y jwbili.
25:32 Bydd gan y Lefiaid hawl parhaol i ryddhau tai eu treftadaeth yn y dinasoedd sy'n perthyn iddynt.
25:33 Gellir rhyddhau eiddo yn perthyn i'r Lefiaid, ac y mae tŷ a werthwyd yn un o ddinasoedd eu treftadaeth i'w ddychwelyd ym mlwyddyn y jwbili; y mae'r tai yn ninasoedd y Lefiaid yn dreftadaeth iddynt ymysg pobl Israel.
25:34 Ond ni cheir gwerthu'r tir pori o amgylch eu trefi, oherwydd y mae'n dreftadaeth barhaol iddynt.
25:35 "'Os bydd un ohonoch yn dlawd a heb fedru ei gynnal ei hun yn eich plith, cynorthwya ef, fel y gwnait i estron neu ymsefydlydd gyda thi, er mwyn iddo fyw yn eich mysg.
25:36 Paid â chymryd llog nac elw oddi wrtho, ond ofna dy Dduw, er mwyn iddo barhau i fyw yn eich mysg.
25:37 Nid wyt i fenthyca arian iddo ar log nac i werthu bwyd iddo am elw.
25:38 Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft i roi iti wlad Canaan, ac i fod yn Dduw iti.
25:39 "'Os bydd un ohonoch yn dlawd ac yn ei werthu ei hun iti, paid â'i orfodi i weithio iti fel caethwas.
25:40 Y mae i fod fel gwas cyflog neu ymsefydlydd gyda thi, ac i weithio gyda thi hyd flwyddyn y jwbili.
25:41 Yna y mae ef a'i deulu i'w rhyddhau, a bydd yn dychwelyd at ei lwyth ei hun ac i dreftadaeth ei hynafiaid.
25:42 Gan mai gweision i mi yw pobl Israel, a ddygais allan o wlad yr Aifft, ni ellir eu gwerthu yn gaethweision.
25:43 Paid â thra-awdurdodi drostynt, ond ofna dy Dduw.
25:44 Bydd dy gaethweision, yn wryw a benyw, o blith y cenhedloedd o'th amgylch; o'u plith hwy gelli brynu caethweision.
25:45 Cei hefyd brynu rhai o blith yr estroniaid sydd wedi ymsefydlu yn eich plith, a'r rhai o'u tylwyth sydd wedi eu geni yn eich gwlad, a byddant yn eiddo ichwi.
25:46 Gallwch hefyd eu gadael i'ch plant ar eich ôl, iddynt eu cymryd yn etifeddiaeth ac i fod yn gaethweision parhaol iddynt; ond nid ydych i dra-awdurdodi dros eich cyd-Israeliaid.
25:47 "'Os bydd estron neu ymsefydlydd gyda thi yn dod yn gyfoethog, ac un o'ch plith yn mynd yn dlawd ac yn ei werthu ei hun i'r estron sydd wedi ymsefydlu gyda thi, neu i un o dylwyth yr estron,
25:48 bydd ganddo'r hawl i gael ei ryddhau ar ôl ei werthu; gall un o'i deulu ei ryddhau.
25:49 Gall ewythr neu nai neu unrhyw berthynas arall yn y llwyth ei ryddhau; neu os caiff lwyddiant, gall ei ryddhau ei hun.
25:50 Y mae ef a'i brynwr i gyfrif o'r flwyddyn y gwerthodd ei hun at flwyddyn y jwbili; bydd arian ei bryniant yn unol â'r hyn a delir i was cyflog dros y nifer hwn o flynyddoedd.
25:51 Os oes llawer o flynyddoedd ar ôl, rhaid iddo dalu am ei ryddhau gyfran uchel o'r arian a roddwyd amdano;
25:52 ond os ychydig sydd ar ôl hyd flwyddyn y jwbili, y mae i wneud y cyfrif ac i dalu yn ôl hynny am ei ryddhau.
25:53 Y mae i'w ystyried fel un wedi ei gyflogi'n flynyddol; nid ydych i adael i'w berchennog dra-awdurdodi drosto.
25:54 Hyd yn oed os na fydd wedi ei ryddhau trwy un o'r ffyrdd hyn, caiff ef a'i blant eu rhyddhau ym mlwyddyn y jwbili;
25:55 oherwydd gweision i mi yw pobl Israel, gweision a ddygais allan o wlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

Bendithion Ufudd-dod, Deut. 7:12-24; 28:1-14

26:1 "'Peidiwch â gwneud ichwi eilunod, na chodi ichwi eich hunain ddelw na cholofn; na fydded o fewn eich tir faen cerfiedig i blygu iddo; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
26:2 Cadwch fy Sabothau a pharchwch fy nghysegr; myfi yw'r ARGLWYDD.
26:3 "'Os byddwch yn dilyn fy neddfau ac yn gofalu cadw fy ngorchmynion,
26:4 rhoddaf ichwi'r glaw yn ei dymor, a rhydd y tir ei gnwd a choed y maes eu ffrwyth.
26:5 Bydd dyrnu'n ymestyn hyd amser y cynhaeaf grawnwin, a'r cynhaeaf grawnwin hyd amser plannu, a byddwch yn bwyta i'ch digoni ac yn byw'n ddiogel yn eich gwlad.
26:6 Rhoddaf heddwch yn y wlad, a chewch orwedd i lawr heb neb i'ch dychryn; symudaf y bwystfilod peryglus o'r wlad, ac ni ddaw'r cleddyf trwy eich tir.
26:7 Byddwch yn ymlid eich gelynion, a byddant yn syrthio o'ch blaen trwy'r cleddyf.
26:8 Bydd pump ohonoch yn ymlid cant a chant ohonoch yn ymlid deng mil, a bydd eich gelynion yn syrthio o'ch blaen trwy'r cleddyf.
26:9 Byddaf yn edrych yn ffafriol arnoch, yn eich gwneud yn ffrwythlon ac yn eich cynyddu, a byddaf yn cadw fy nghyfamod â chwi.
26:10 Byddwch yn dal i fwyta'r hen gnwd, ac yn gorfod bwrw allan yr hen i wneud lle i'r newydd.
26:11 Byddaf yn gosod fy nhabernacl yn eich mysg, ac ni fyddaf yn eich ffieiddio.
26:12 Byddaf yn rhodio yn eich mysg; byddaf yn Dduw i chwi a chwithau'n bobl i minnau.
26:13 Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft rhag ichwi fod yn weision yno; torrais farrau eich iau a gwneud ichwi gerdded yn sythion.

Melltithion Anufudd-dod, Deut. 28:15-68

26:14 "'Ond os na fyddwch yn gwrando arnaf nac yn gwneud yr holl orchmynion hyn,
26:15 ac os byddwch yn gwrthod fy neddfau ac yn ffieiddio fy marnedigaethau, heb gadw fy ngorchmynion, ond yn torri fy nghyfamod,
26:16 yna fe wnaf hyn â chwi: byddaf yn dwyn dychryn arnoch, darfodedigaeth a thwymyn a fydd yn gwneud i'ch llygaid ballu ac i'ch enaid ddihoeni. Byddwch yn hau'n ofer, gan mai eich gelynion fydd yn ei fwyta.
26:17 Trof fy wyneb i'ch erbyn, a chewch eich gorchfygu gan eich gelynion; bydd y rhai sy'n eich casáu yn rheoli drosoch, a byddwch yn ffoi heb neb yn eich ymlid.
26:18 "'Os na fyddwch ar ôl hyn i gyd yn gwrando arnaf, byddaf yn eich cosbi seithwaith am eich pechodau.
26:19 Fe ddrylliaf eich balchder ystyfnig, a gwnaf y nefoedd uwch eich pen fel haearn a'r ddaear danoch fel pres.
26:20 Byddwch yn treulio'ch nerth yn ofer, oherwydd ni fydd eich tir yn rhoi ei gnwd na choed y maes eu ffrwyth.
26:21 "'Os byddwch yn parhau i'm gwrthwynebu, ac yn gwrthod gwrando arnaf, byddaf yn ychwanegu drygau arnoch seithwaith am eich pechodau.
26:22 Byddaf yn anfon bwystfilod gwyllt i'ch plith, a byddant yn eich amddifadu o'ch plant, yn difa eich anifeiliaid, ac yn eich gwneud mor fychan o rif fel y bydd eich ffyrdd yn anial.
26:23 "'Os na fyddwch ar ôl hyn i gyd yn derbyn disgyblaeth, ond yn parhau i'm gwrthwynebu,
26:24 byddaf finnau yn eich gwrthwynebu chwithau, a byddaf fi fy hun yn eich taro seithwaith am eich pechodau.
26:25 Byddaf yn dod â'r cleddyf yn eich erbyn i ddial am dorri'r cyfamod, a byddwch yn ymgasglu i'ch dinasoedd; yna fe anfonaf bla i'ch mysg, a'ch rhoi yn llaw'r gelyn.
26:26 Pan dorraf eich cynhaliaeth o fara, bydd deg gwraig yn medru pobi eich bara mewn un ffwrn, a byddant yn rhannu'r bara wrth bwysau; cewch fwyta, ond ni'ch digonir.
26:27 "'Os byddwch er gwaethaf hyn heb wrando arnaf, ond yn parhau i'm gwrthwynebu,
26:28 yna fe'ch gwrthwynebaf chwi yn fy nig, a byddaf fi fy hunan yn eich cosbi seithwaith am eich pechodau.
26:29 Byddwch yn bwyta cnawd eich meibion a'ch merched.
26:30 Byddaf yn dinistrio eich uchelfeydd, yn torri i lawr eich allorau arogldarthu, ac yn pentyrru eich cyrff ar weddillion eich eilunod, a byddaf yn eich ffieiddio.
26:31 Gwnaf eich dinasoedd yn adfeilion, dinistriaf eich cysegrleoedd, ac nid aroglaf eich arogl peraidd.
26:32 Byddaf yn gwneud y tir yn ddiffaith, a bydd eich gelynion sy'n byw yno wedi eu syfrdanu.
26:33 Fe'ch gwasgaraf ymysg y cenhedloedd, a byddaf yn dinoethi fy nghleddyf i'ch ymlid; bydd eich tir yn ddiffaith a'ch dinasoedd yn adfeilion.
26:34 Yna bydd y wlad yn mwynhau ei Sabothau dros yr holl amser y bydd yn ddiffaith; tra byddwch chwi yng ngwlad eich gelynion, bydd y tir yn cael gorffwys ac yn mwynhau ei Sabothau.
26:35 Dros yr holl amser y bydd yn ddiffaith, bydd y wlad yn cael y gorffwys nas cafodd ar y Sabothau pan oeddech chwi'n byw yno.
26:36 Ac am y rhai ohonoch a adewir, gwnaf eu calonnau mor ofnus yng ngwledydd eu gelynion fel y bydd siffrwd deilen yn ysgwyd yn peri iddynt ffoi. Byddant yn ffoi fel pe o flaen cleddyf, ac yn cwympo heb neb yn eu hymlid.
26:37 Byddant yn syrthio ar draws ei gilydd, fel pe'n dianc rhag cleddyf, heb neb yn eu hymlid. Felly ni fedrwch sefyll o flaen eich gelynion.
26:38 Byddwch yn trengi o flaen y cenhedloedd, a bydd gwlad eich gelynion yn eich llyncu.
26:39 Bydd y rhai ohonoch a adewir yn darfod yng ngwledydd eu gelynion oherwydd eu troseddau; a hefyd byddant yn dihoeni oherwydd eu troseddau a throseddau eu hynafiaid.
26:40 "'Ond os byddant yn cyffesu eu troseddau a throseddau eu hynafiaid, sef iddynt fod yn anffyddlon tuag ataf a'm gwrthwynebu,
26:41 a gwneud i minnau eu gwrthwynebu hwy a'u gyrru i wlad eu gelynion, yna, pan fydd eu calonnau dienwaededig wedi eu darostwng a hwythau wedi derbyn eu cosb,
26:42 fe gofiaf fy nghyfamod â Jacob ac ag Isaac ac ag Abraham, ac fe gofiaf am y tir.
26:43 Gadewir y tir ganddynt, ac fe fwynha ei Sabothau pan fydd yn ddiffeithwch hebddynt. Cosbir hwy am eu troseddau, oherwydd iddynt wrthod fy ngorchmynion a ffieiddio fy neddfau.
26:44 Er hynny, pan fyddant yng ngwlad eu gelynion, ni fyddaf yn eu gwrthod, nac yn eu ffieiddio i'w dinistrio'n llwyr, gan dorri fy nghyfamod â hwy. Myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw.
26:45 Er eu mwyn hwy fe gofiaf fy nghyfamod â'u hynafiaid, a ddygais allan o wlad yr Aifft yng ngŵydd y cenhedloedd, er mwyn bod yn Dduw iddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.'"
26:46 Dyma'r deddfau, y gorchmynion a'r cyfreithiau a osododd yr ARGLWYDD rhyngddo ef a phobl Israel ar Fynydd Sinai trwy law Moses.

Addunedau i'r Arglwydd

27:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
27:2 "Llefara wrth bobl Israel a dweud wrthynt, 'Os bydd rhywun yn gwneud adduned arbennig i roi cyfwerth am berson i'r ARGLWYDD,
27:3 bydd gwerth gwryw rhwng ugain a thrigain mlwydd oed yn hanner can sicl o arian, yn ôl sicl y cysegr.
27:4 Os benyw ydyw, bydd ei gwerth yn ddeg sicl ar hugain.
27:5 Os rhywun rhwng pump ac ugain mlwydd oed ydyw, bydd gwerth gwryw yn ugain sicl, a benyw yn ddeg sicl.
27:6 Os plentyn rhwng mis a phumlwydd oed ydyw, bydd gwerth gwryw yn bum sicl o arian a benyw yn dair sicl o arian.
27:7 Os rhywun trigain mlwydd oed neu drosodd ydyw, bydd gwerth gwryw yn bymtheg sicl a benyw yn ddeg sicl.
27:8 Os bydd unrhyw un yn rhy dlawd i dalu'r gwerth, y mae i ddod â'r person at yr offeiriad, a bydd yntau'n pennu ei werth yn ôl yr hyn y gall y sawl sy'n addunedu ei fforddio; yr offeiriad fydd yn pennu'r gwerth.
27:9 "'Os anifail sy'n dderbyniol fel offrwm i'r ARGLWYDD yw'r adduned, bydd y cyfan o'r anifail yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.
27:10 Nid yw i'w gyfnewid, na rhoi un da am un gwael nac un gwael am un da; os bydd yn cyfnewid un anifail am un arall, bydd y ddau ohonynt yn sanctaidd.
27:11 Os yw'r anifail yn un aflan, a heb fod yn dderbyniol fel offrwm i'r ARGLWYDD, y mae i ddod â'r anifail at yr offeiriad,
27:12 a bydd yntau yn pennu ei werth, pa un ai da ai drwg ydyw; beth bynnag a benna'r offeiriad, hynny fydd ei werth.
27:13 Os bydd y perchennog yn dymuno rhyddhau'r anifail, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth.
27:14 "'Os bydd rhywun yn cysegru ei dŷ yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, bydd yr offeiriad yn pennu ei werth, pa un ai da ai drwg ydyw; y gwerth a rydd yr offeiriad arno fydd yn sefyll.
27:15 Os bydd rhywun sy'n cysegru ei dŷ am ei ryddhau, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth, a bydd y tŷ'n eiddo iddo.
27:16 "'Os bydd rhywun am gysegru i'r ARGLWYDD ran o dir ei etifeddiaeth, mesurir ei werth yn ôl yr had ar ei gyfer, sef hanner can sicl o arian ar gyfer pob homer o haidd.
27:17 Os bydd yn cysegru'r tir yn ystod blwyddyn y jwbili, bydd ei werth yn sefyll.
27:18 Ond os bydd yn ei gysegru ar ôl y jwbili, bydd yr offeiriad yn amcangyfrif ei bris yn ôl y blynyddoedd sy'n weddill hyd y jwbili nesaf, a bydd ei werth yn gostwng.
27:19 Os bydd y sawl sy'n cysegru ei dir yn dymuno ei ryddhau, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth, a bydd yn eiddo iddo.
27:20 Os na fydd yn dymuno rhyddhau'r tir, neu os bydd wedi ei werthu i rywun arall, ni ellir byth ei ryddhau.
27:21 Pan ryddheir y tir ar y jwbili, bydd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, fel tir diofryd; bydd yn etifeddiaeth i'r offeiriad.
27:22 "'Os bydd dyn yn cysegru i'r ARGLWYDD dir a brynodd, a heb fod yn rhan o'i etifeddiaeth,
27:23 bydd yr offeiriad yn amcangyfrif ei werth hyd flwyddyn y jwbili, a bydd y sawl sy'n ei gysegru yn rhoi ei werth y diwrnod hwnnw, a bydd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.
27:24 Ym mlwyddyn y jwbili dychwelir y tir i'r sawl y prynwyd ef ganddo, sef yr un yr oedd y tir yn rhan o'i etifeddiaeth.
27:25 Y mae pob gwerth i'w bennu yn ôl sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera.
27:26 "'Er hynny, nid yw neb i gysegru cyntafanedig anifail sydd eisoes yn gyntafanedig i'r ARGLWYDD; boed fuwch neu ddafad, eiddo'r ARGLWYDD ydyw.
27:27 Os un o'r anifeiliaid aflan ydyw, caiff ei brynu am ei werth, ac ychwanegu pumed ran ato; os na ryddheir ef, y mae i'w werthu am ei werth.
27:28 Er hynny, ni ellir gwerthu na rhyddhau unrhyw eiddo, boed ddyn, anifail, neu dir sy'n etifeddiaeth, os yw wedi ei gyflwyno'n ddiofryd i'r ARGLWYDD; y mae unrhyw ddiofryd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.
27:29 Ni ellir rhyddhau neb sydd wedi ei gyflwyno'n ddiofryd i'r ARGLWYDD, ond rhaid iddo farw.
27:30 "'Y mae degwm unrhyw gynnyrch o'r tir, boed yn rawn o'r tir neu'n ffrwyth o'r coed, yn eiddo i'r ARGLWYDD.
27:31 Os bydd rhywun yn rhyddhau rhywfaint o'r degwm, y mae i ychwanegu pumed ran ato.
27:32 Y mae holl ddegwm gyr neu ddiadell, sef y degfed anifail sy'n croesi o dan y ffon, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.
27:33 Ni ddylid dewis rhwng da a drwg, na chyfnewid; ond os newidir un yn lle'r llall, bydd y ddau ohonynt yn sanctaidd, ac ni ellir eu rhyddhau.'"
27:34 Dyma'r gorchmynion a roddodd yr ARGLWYDD i Moses ar gyfer pobl Israel ar Fynydd Sinai.