LLYFR NUMERI

Cyfrifiad Cyntaf Israel

1:1 Ar y dydd cyntaf o'r ail fis yn yr ail flwyddyn wedi i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft, llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ym mhabell y cyfarfod yn anialwch Sinai, a dweud,
1:2 "Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, gan restru enw pob gwryw fesul un.
1:3 Yr wyt ti ac Aaron i gyfrif, fesul mintai, bawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
1:4 Gyda chwi bydd un dyn o bob llwyth, sef y penteulu.
1:5  Dyma enwau'r dynion a fydd gyda chwi. O Reuben: Elisur fab Sedeur;
1:6 o Simeon: Selumiel fab Surisadai;
1:7 o Jwda: Nahson fab Amminadab;
1:8 o Issachar: Nethanel fab Suar;
1:9 o Sabulon: Eliab fab Helon.
1:10 O feibion Joseff: o Effraim, Elisama fab Ammihud, ac o Manasse, Gamaliel fab Pedasur;
1:11 o Benjamin: Abidan fab Gideoni;
1:12 o Dan: Ahieser fab Ammisadai;
1:13 o Aser: Pagiel fab Ocran;
1:14 o Gad: Eliasaff fab Reuel;
1:15 o Nafftali: Ahira fab Enan."
1:16 Dyma'r rhai a ddewiswyd o'r cynulliad yn arweinwyr llwythau eu hynafiaid ac yn benaethiaid ar dylwythau Israel.
1:17 Cymerodd Moses ac Aaron y dynion hyn y rhoddwyd eu henwau,
1:18 ac ar y dydd cyntaf o'r ail fis casglwyd ynghyd yr holl gynulliad. Rhestrwyd y bobl yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, a rhifwyd fesul un bawb oedd yn ugain oed a throsodd.
1:19 Felly, cyfrifodd Moses hwy yn anialwch Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
1:20 O dylwyth Reuben, cyntafanedig Israel, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
1:21 Nifer llwyth Reuben oedd pedwar deg chwech o filoedd a phum cant.
1:22 O dylwyth Simeon, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
1:23 Nifer llwyth Simeon oedd pum deg naw o filoedd a thri chant.
1:24 O dylwyth Gad, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
1:25 Nifer llwyth Gad oedd pedwar deg pump o filoedd chwe chant a phum deg.
1:26 O dylwyth Jwda, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
1:27 Nifer llwyth Jwda oedd saith deg pedair o filoedd a chwe chant.
1:28 O dylwyth Issachar, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
1:29 Nifer llwyth Issachar oedd pum deg pedair o filoedd a phedwar cant.
1:30 O dylwyth Sabulon, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
1:31 Nifer llwyth Sabulon oedd pum deg saith o filoedd a phedwar cant.
1:32 O dylwyth Joseff, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
1:33 Nifer llwyth Effraim oedd pedwar deg o filoedd a phum cant.
1:34 O dylwyth Manasse, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
1:35 Nifer llwyth Manasse oedd tri deg dwy o filoedd a dau gant.
1:36 O dylwyth Benjamin, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
1:37 Nifer llwyth Benjamin oedd tri deg pump o filoedd a phedwar cant.
1:38 O dylwyth Dan, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
1:39 Nifer llwyth Dan oedd chwe deg dwy o filoedd a saith gant.
1:40 O dylwyth Aser, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
1:41 Nifer llwyth Aser oedd pedwar deg un o filoedd a phum cant.
1:42 O dylwyth Nafftali, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
1:43 Nifer llwyth Nafftali oedd pum deg tair o filoedd a phedwar cant.
1:44 Dyma'r rhai a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron gyda chymorth arweinwyr Israel, deuddeg ohonynt, pob un yn cynrychioli tŷ ei hynafiaid.
1:45 Gwnaed cyfrif o bobl Israel, yn ôl eu teuluoedd, gan gynnwys pawb oedd yn ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel;
1:46 y cyfanswm oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg.
1:47 Ond ni rifwyd y Lefiaid yn ôl llwythau eu hynafiaid ymysg pobl Israel,
1:48 oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses,
1:49 "Paid â chyfrif llwyth Lefi, na'u cynnwys mewn cyfrifiad o bobl Israel;
1:50 ond penoda'r Lefiaid i ofalu am babell y dystiolaeth, ei holl ddodrefn, a phopeth a berthyn iddi. Hwy sydd i gludo'r babell a'i holl ddodrefn, a hwy sydd i ofalu amdani a gwersyllu o'i hamgylch.
1:51 Pan fydd yn amser symud y babell, y Lefiaid fydd yn ei thynnu i lawr; a phan fydd yn amser i aros, y Lefiaid fydd yn ei chodi. Rhodder i farwolaeth unrhyw un arall a ddaw ar ei chyfyl.
1:52 Bydd pobl Israel yn gwersyllu yn ôl eu minteioedd, pob un yn ei wersyll ei hun a than ei faner ei hun.
1:53 Ond bydd y Lefiaid yn gwersyllu o amgylch pabell y dystiolaeth, rhag i ddigofaint ddod yn erbyn cynulliad pobl Israel; bydd pabell y dystiolaeth dan ofal y Lefiaid."
1:54 Gwnaeth pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

Trefnu'r Gwersylloedd

2:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
2:2 "Bydd pobl Israel yn gwersyllu o amgylch pabell y cyfarfod, ychydig oddi wrthi, pob un dan ei faner ei hun a than arwydd tŷ ei dad.
2:3 Ar ochr y dwyrain, tua chodiad haul, bydd minteioedd gwersyll Jwda yn gwersyllu o dan eu baner.
2:4 Nahson fab Amminadab fydd arweinydd pobl Jwda, a nifer ei lu yn saith deg pedair o filoedd a chwe chant.
2:5 Llwyth Issachar fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Nethanel fab Suar fydd arweinydd pobl Issachar,
2:6 a nifer ei lu yn bum deg pedair o filoedd a phedwar cant.
2:7 Yna llwyth Sabulon; Eliab fab Helon fydd arweinydd pobl Sabulon,
2:8 a nifer ei lu yn bum deg saith o filoedd a phedwar cant.
2:9 Cyfanswm gwersyll Jwda, yn ôl eu minteioedd, fydd cant wyth deg chwech o filoedd a phedwar cant. Hwy fydd y rhai cyntaf i gychwyn ar y daith.
2:10 "Ar ochr y de bydd minteioedd gwersyll Reuben o dan eu baner. Elisur fab Sedeur fydd arweinydd pobl Reuben,
2:11 a nifer ei lu yn bedwar deg chwech o filoedd a phum cant.
2:12 Llwyth Simeon fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Selumiel fab Suresadai fydd arweinydd pobl Simeon,
2:13 a nifer ei lu yn bum deg naw o filoedd a thri chant.
2:14 Yna llwyth Gad; Eliasaff fab Reuel fydd arweinydd pobl Gad,
2:15 a nifer ei lu yn bedwar deg pump o filoedd, chwe chant a phum deg.
2:16 Cyfanswm gwersyll Reuben, yn ôl eu minteioedd, fydd cant pum deg un o filoedd pedwar cant a phum deg. Hwy fydd yr ail i gychwyn allan.
2:17 "Yna bydd pabell y cyfarfod a gwersyll y Lefiaid yn cychwyn allan yng nghanol y gwersylloedd eraill. Byddant yn ymdeithio yn y drefn y byddant yn gwersyllu, pob un yn ei le a than ei faner ei hun.
2:18 "Ar ochr y gorllewin bydd minteioedd gwersyll Effraim o dan eu baner. Elisama fab Ammihud fydd arweinydd pobl Effraim,
2:19 a nifer ei lu yn bedwar deg o filoedd a phum cant.
2:20 Yn nesaf ato bydd llwyth Manasse. Gamaliel fab Pedasur fydd arweinydd pobl Manasse,
2:21 a nifer ei lu yn dri deg dwy o filoedd a dau gant.
2:22 Yna llwyth Benjamin; Abidan fab Gideoni fydd arweinydd pobl Benjamin,
2:23 a nifer ei lu yn dri deg pump o filoedd a phedwar cant.
2:24 Cyfanswm gwersyll Effraim, yn ôl eu minteioedd, fydd cant ac wyth o filoedd a chant. Hwy fydd y trydydd i gychwyn allan.
2:25 "Ar ochr y gogledd bydd minteioedd gwersyll Dan o dan eu baner. Ahieser fab Ammisadai fydd arweinydd pobl Dan,
2:26 a nifer ei lu yn chwe deg dwy o filoedd a saith gant.
2:27 Llwyth Aser fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Pagiel fab Ocran fydd arweinydd pobl Aser,
2:28 a nifer ei lu yn bedwar deg un o filoedd a phum cant.
2:29 Yna llwyth Nafftali; Ahira fab Enan fydd arweinydd pobl Nafftali,
2:30 a nifer ei lu yn bum deg tair o filoedd a phedwar cant.
2:31 Cyfanswm gwersyll Dan fydd cant pum deg saith o filoedd a chwe chant. Hwy fydd yr olaf i gychwyn allan, pob un dan ei faner ei hun."
2:32 Dyma bobl Israel a gyfrifwyd yn ôl eu teuluoedd. Cyfanswm y rhai a rifwyd yn eu gwersylloedd ac yn ôl eu minteioedd oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg.
2:33 Ond, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, ni rifwyd y Lefiaid ymysg pobl Israel.
2:34 Gwnaeth pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, gan wersyllu dan eu baneri a chychwyn allan, fesul tylwyth, yn ôl eu teuluoedd.

Meibion Aaron

3:1 Dyma ddisgynyddion Aaron a Moses yr adeg y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ar Fynydd Sinai.
3:2 Enwau meibion Aaron oedd: Nadab y cyntafanedig, Abihu, Eleasar ac Ithamar.
3:3 Dyma oedd enwau meibion Aaron a eneiniwyd ac a gysegrwyd i wasanaethu fel offeiriaid.
3:4 Bu farw Nadab ac Abihu wedi iddynt offrymu ar dân halogedig o flaen yr ARGLWYDD yn anialwch Sinai. Nid oedd gan y naill na'r llall ohonynt feibion; felly Eleasar ac Ithamar a fu'n gwasanaethu fel offeiriaid yng ngŵydd eu tad Aaron.

Y Lefiaid i Wasanaethu'r Offeiriaid

3:5 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
3:6 "Tyrd â llwyth Lefi yma, a'u penodi i wasanaethu Aaron yr offeiriad.
3:7 Byddant yn gweini arno ef a'r holl gynulliad o flaen pabell y cyfarfod, ac yn gwasanaethu yn y tabernacl.
3:8 Hwy fydd yn gofalu am ddodrefn pabell y cyfarfod ac yn gweini ar bobl Israel trwy wasanaethu yn y tabernacl.
3:9 Yr wyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion; hwy yn unig o blith pobl Israel a gyflwynir yn arbennig iddo ef.
3:10 Yr wyt i urddo Aaron a'i feibion i wasanaethu fel offeiriaid; ond rhodder i farwolaeth bwy bynnag arall a ddaw'n agos."
3:11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
3:12 "Edrych, yr wyf wedi neilltuo'r Lefiaid o blith pobl Israel yn lle pob cyntafanedig a ddaw allan o'r groth; bydd y Lefiaid yn eiddo i mi,
3:13 oherwydd eiddof fi yw pob cyntafanedig. Ar y dydd y trewais bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntafanedig yn Israel, yn ddyn ac anifail; eiddof fi ydynt. Myfi yw'r ARGLWYDD."

Cyfrifiad y Lefiaid

3:14 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn anialwch Sinai,
3:15 "Yr wyt i gyfrif meibion Lefi yn ôl eu teuluoedd a'u tylwythau; gwna gyfrif o bob gwryw mis oed a throsodd."
3:16 Felly cyfrifodd Moses hwy yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
3:17 Enwau meibion Lefi oedd: Gerson, Cohath a Merari.
3:18 Dyma enwau meibion Gerson yn ôl eu tylwythau: Libni a Simei.
3:19 Meibion Cohath yn ôl eu tylwythau: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel.
3:20 Meibion Merari yn ôl eu tylwythau: Mahli a Musi. Dyma dylwythau'r Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.
3:21 O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid a thylwyth y Simiaid; dyma dylwythau'r Gersoniaid.
3:22 Ar ôl rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd saith mil a phum cant.
3:23 Yr oedd teuluoedd y Gersoniaid i wersyllu i'r gorllewin, y tu ôl i'r tabernacl.
3:24 Eliasaff fab Lael oedd penteulu'r Gersoniaid.
3:25 Ym mhabell y cyfarfod yr oedd meibion Gerson yn gofalu am y tabernacl a'i babell, y llenni, y gorchudd dros ddrws pabell y cyfarfod,
3:26 llenni'r cyntedd, y gorchudd dros ddrws y cyntedd sydd o amgylch y tabernacl, yr allor a'r rhaffau, a phopeth ynglŷn â'u gwasanaeth.
3:27 O Cohath y daeth tylwythau'r Amramiaid, yr Ishariaid, yr Hebroniaid a'r Ussieliaid; dyma dylwythau'r Cohathiaid.
3:28 Ar ôl rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd wyth mil a chwe chant, a hwy oedd yn gofalu am wasanaeth y cysegr.
3:29 Yr oedd tylwythau'r Cohathiaid i wersyllu i'r de o'r tabernacl.
3:30 Elisaffan fab Ussiel oedd penteulu'r Cohathiaid.
3:31 Yr oeddent hwy i ofalu am yr arch, y bwrdd, y canhwyllbren, yr allorau, y llestri a ddefnyddid yn y cysegr, y gorchudd, a phopeth ynglŷn â'u gwasanaeth.
3:32 Prif arweinydd y Lefiaid oedd Eleasar fab Aaron yr offeiriad, ac ef oedd yn goruchwylio'r rhai oedd yn gofalu am y cysegr.
3:33 O Merari y daeth tylwythau'r Mahliaid a'r Musiaid; dyma dylwythau Merari.
3:34 Ar ôl cyfrif pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd chwe mil a dau gant.
3:35 Suriel fab Abihael oedd penteulu Merari; yr oeddent i wersyllu i'r gogledd o'r tabernacl.
3:36 Y Merariaid oedd i ofalu am fframiau'r tabernacl, y barrau, y colofnau, y traed, yr offer i gyd, a phopeth ynglŷn â'u gwasanaeth;
3:37 hefyd am golofnau'r cyntedd o amgylch, ynghyd â'r traed, yr hoelion a'r rhaffau.
3:38 Yr oedd Moses ac Aaron a'i feibion i wersyllu i'r dwyrain o'r tabernacl, tua chodiad haul, sef o flaen pabell y cyfarfod. Hwy oedd i ofalu am wasanaeth y cysegr a gweini ar bobl Israel; ond yr oedd pwy bynnag arall a ddôi'n agos i'w roi i farwolaeth.
3:39 Cyfanswm y Lefiaid a gyfrifodd Moses ac Aaron yn ôl eu tylwythau ar orchymyn yr ARGLWYDD, gan gynnwys pob gwryw mis oed a throsodd, oedd dwy fil ar hugain.

Neilltuo'r Lefiaid yn lle'r Cyntafanedig

3:40 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Yr wyt i gyfrif pob gwryw cyntafanedig o blith pobl Israel sy'n fis oed a throsodd, a'u rhestru yn ôl eu henwau.
3:41 Yna, neilltua'r Lefiaid i mi yn lle pob cyntafanedig o blith pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle'r cyntafanedig o'u hanifeiliaid hwy; myfi yw'r ARGLWYDD."
3:42 Felly cyfrifodd Moses bob cyntafanedig o blith pobl Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
3:43 Ar ôl cyfrif pob gwryw cyntafanedig mis oed a throsodd, a'u rhestru wrth eu henwau, yr oedd eu cyfanswm yn ddwy fil ar hugain dau gant saith deg a thri.
3:44 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
3:45 "Neilltua'r Lefiaid yn lle pob cyntafanedig o blith yr Israeliaid, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwy. Bydd y Lefiaid yn eiddo i mi; myfi yw'r ARGLWYDD.
3:46 Yn iawn am y plant cyntafanedig sy'n eiddo i bobl Israel, sef y dau gant saith deg a thri sy'n rhagor nag eiddo'r Lefiaid,
3:47 cymer am bob un ohonynt bum sicl, yn ôl sicl y cysegr sy'n pwyso ugain gera;
3:48 yna rho'r arian sy'n iawn drostynt i Aaron a'i feibion."
3:49 Felly cymerodd Moses yr arian oedd yn iawn dros y rhai oedd yn ychwanegol at y nifer a brynwyd trwy'r Lefiaid,
3:50 ac am blant cyntafanedig Israel cafodd fil tri chant chwe deg a phump o siclau, yn ôl sicl y cysegr.
3:51 Yna rhoddodd Moses i Aaron a'i feibion yr arian a gymerodd yn iawn, yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

Dyletswyddau Meibion Cohath

4:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
4:2 "Gwna gyfrifiad o'r rhai ymhlith y Lefiaid sy'n feibion Cohath, yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd,
4:3 a chynnwys bawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.
4:4 Dyma fydd gwaith meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod: gofalu am y pethau mwyaf cysegredig.
4:5 Pan fydd yn amser symud y gwersyll, bydd Aaron a'i feibion yn mynd i mewn a thynnu'r gorchudd, a'i daenu dros arch y dystiolaeth;
4:6 yna byddant yn rhoi gorchudd o grwyn morfuchod drosti, a thros hwnnw liain o sidan sy'n las drwyddo, a gosod y polion yn eu lle.
4:7 Yna y maent i gymryd lliain arall o sidan glas, a'i daenu dros fwrdd y bara gosod, a rhoi ar y bwrdd y platiau a'r dysglau, y ffiolau a'r costrelau i dywallt y diodoffrwm; bydd y bara yn aros bob amser ar y bwrdd.
4:8 Y maent i roi drostynt liain o ysgarlad, a thros hwnnw orchudd o grwyn morfuchod, ac yna gosod y polion yn eu lle.
4:9 Byddant hefyd yn cymryd lliain glas a gorchuddio'r canhwyllbren sy'n goleuo, ei lampau, ei efeiliau a'i gafnau, a'r holl lestri sy'n dal yr olew ar ei gyfer.
4:10 Yna rhoddant y canhwyllbren gyda'i holl lestri mewn gorchudd o grwyn morfuchod a'i osod ar y trosolion.
4:11 Wedyn byddant yn rhoi lliain glas dros yr allor aur, a thros hwnnw orchudd o grwyn morfuchod, ac yna gosod y polion yn eu lle.
4:12 Cymerant yr holl lestri a ddefnyddir yng ngwasanaeth y cysegr, a'u rhoi mewn lliain glas, a rhoi hwnnw mewn gorchudd o grwyn morfuchod a'u gosod ar y trosolion.
4:13 Y maent i dynnu'r lludw oddi ar yr allor a'i gorchuddio â lliain porffor,
4:14 cyn gosod arni'r holl lestri a ddefnyddir yn y gwasanaeth, sef y pedyll tân, y ffyrch, y rhawiau, y cawgiau, a holl lestri'r allor; yna rhoddant orchudd o grwyn morfuchod drosti, a gosod y polion yn eu lle.
4:15 Wedi i Aaron a'i feibion orffen rhoi'r gorchudd dros y cysegr a'i holl ddodrefn, a'r gwersyll yn barod i gychwyn, daw meibion Cohath i'w cludo, ond ni fyddant yn cyffwrdd â'r pethau cysegredig, rhag iddynt farw. Meibion Cohath sydd i gludo'r pethau yn ymwneud â phabell y cyfarfod.
4:16 "Eleasar fab Aaron yr offeiriad fydd yn gofalu am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth peraidd, y bwydoffrwm rheolaidd ac olew'r eneinio; ac ef fydd yn goruchwylio'r tabernacl cyfan a'i gynnwys, y cysegr a'i lestri."
4:17 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
4:18 "Peidiwch â gadael i lwyth teuluoedd y Cohathiaid gael eu torri ymaith o blith y Lefiaid.
4:19 Dyma a wnewch â hwy, os ydynt am fyw ac nid marw wrth ddynesu at y pethau mwyaf cysegredig: gadewch i Aaron a'i feibion fynd i mewn a rhoi i bob un ei waith a'i orchwyl;
4:20 ond nid yw'r Cohathiaid i edrych o gwbl ar y pethau cysegredig, rhag iddynt farw."

Dyletswyddau'r Gersoniaid

4:21 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
4:22 "Gwna gyfrifiad hefyd o feibion Gerson, yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd;
4:23 yr wyt i gyfrif pawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.
4:24 Dyma fydd dyletswydd a gorchwyl teuluoedd y Gersoniaid:
4:25 cludo llenni'r tabernacl, pabell y cyfarfod, ei len a'r gorchudd o grwyn morfuchod sydd drosto, y gorchudd sydd dros ddrws pabell y cyfarfod,
4:26 llenni'r cyntedd, y gorchudd dros ddrws porth y cyntedd sydd o amgylch y tabernacl a'r allor; hefyd eu rhaffau, yr holl offer ynglŷn â'u gwasanaeth, a'r holl waith sy'n gysylltiedig â hwy.
4:27 Bydd holl wasanaeth y Gersoniaid, boed yn gludo neu unrhyw orchwyl arall, dan awdurdod Aaron a'i feibion; eu cyfrifoldeb hwy fydd gofalu am yr holl gludo.
4:28 Dyma'r gwaith a wna teuluoedd y Gersoniaid ym mhabell y cyfarfod dan oruchwyliaeth Ithamar fab Aaron yr offeiriad.

Dyletswyddau'r Merariaid

4:29 "Yr wyt i gyfrif meibion Merari yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd,
4:30 yn cynnwys pawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.
4:31 Dyma fydd eu gwasanaeth hwy ym mhabell y cyfarfod: gofalu am gludo fframiau'r tabernacl, ei farrau, ei golofnau a'i draed,
4:32 a cholofnau'r cyntedd o amgylch gyda'u traed, eu hoelion a'u rhaffau, a'r holl offer ynglŷn â'u gwasanaeth; yr ydych i nodi wrth eu henwau y pethau y maent i'w cludo.
4:33 Fe wna teuluoedd y Merariaid y cyfan ym mhabell y cyfarfod dan oruchwyliaeth Ithamar fab Aaron yr offeiriad."

Cyfrifiad y Lefiaid

4:34 Felly cyfrifodd Moses, Aaron ac arweinwyr y cynulliad feibion y Cohathiaid yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd.
4:35 Cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod,
4:36 wedi eu cyfrif yn ôl eu tylwythau, oedd dwy fil saith gant a phum deg.
4:37 Dyma nifer yr holl rai o deuluoedd y Cohathiaid oedd yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod, ac a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Moses.
4:38 Dyma nifer y Gersoniaid yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd:
4:39 cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod,
4:40 wedi eu cyfrif yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, oedd dwy fil chwe chant a thri deg.
4:41 Dyma nifer y rhai o deuluoedd y Gersoniaid oedd yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod, ac a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD.
4:42 Dyma nifer teuluoedd y Merariaid yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd:
4:43 cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod,
4:44 wedi eu cyfrif yn ôl eu tylwythau, oedd tair mil a dau gant.
4:45 Dyma nifer y rhai o dylwythau'r Merariaid a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Moses.
4:46 Felly cyfrifodd Moses, Aaron ac arweinwyr Israel yr holl Lefiaid yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd.
4:47 Cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i wneud y gwaith a chludo'r pethau ym mhabell y cyfarfod
4:48 oedd wyth mil pum cant ac wyth deg.
4:49 Yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Moses, gosodwyd i bob un ei waith a'i orchwyl, a chyfrifwyd hwy ganddo.

Gorchymyn ynglŷn â Phobl Aflan

5:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
5:2 "Gorchymyn i bobl Israel anfon allan o'r gwersyll bob gwahanglwyfus, pob un ac arno waedlif, a phob un a halogwyd trwy gyffwrdd â chorff marw.
5:3 Anfonwch bob un allan, boed ŵr neu wraig, rhag iddo halogi'r gwersyll yr wyf yn preswylio yn ei ganol."
5:4 Gwnaeth pobl Israel hyn, a'u hanfon allan o'r gwersyll, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

Gwneud Iawn am Droseddau

5:5 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
5:6 "Dywed wrth bobl Israel, 'Os bydd gŵr neu wraig yn cyflawni unrhyw drosedd yn erbyn rhywun arall, ac yn anffyddlon i'r ARGLWYDD, yna y mae'n euog,
5:7 a dylai gyffesu'r trosedd a gyflawnodd; rhaid iddo wneud iawn amdano trwy dalu'n ôl y cyfan, ac ychwanegu ato'r bumed ran, a'u rhoi i'r sawl y troseddodd yn ei erbyn.
5:8 Os nad oes gan hwnnw berthynas y gellir talu'n ôl iddo am y trosedd, taler ef i'r ARGLWYDD, trwy'r offeiriad, gyda'r hwrdd a ddefnyddir i wneud cymod dros y troseddwr.
5:9 Bydd pob offrwm, a'r holl bethau cysegredig y bydd pobl Israel yn eu cyflwyno i'r offeiriad, yn eiddo iddo;
5:10 bydd y pethau cysegredig i gyd, a phopeth arall y bydd rhywun yn ei gyflwyno i'r offeiriad, yn eiddo iddo.'"

Gwragedd a Ddrwgdybir gan eu Gwŷr

5:11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
5:12 "Dywed wrth bobl Israel, 'Os bydd gan ddyn wraig yn cyfeiliorni ac yn anffyddlon iddo
5:13 trwy orwedd gyda dyn arall, a'i gŵr heb fod yn gwybod, a'i halogrwydd yn guddiedig am nad oedd tyst ac na chafodd ei dal,
5:14 yna, os daw ysbryd o eiddigedd dros ei gŵr oherwydd ei wraig, boed hi wedi ei halogi ei hun neu beidio,
5:15 deued â'i wraig at yr offeiriad, a chyflwyno offrwm drosti, sef degfed ran o effa o flawd haidd; nid yw i dywallt olew drosto na rhoi thus ynddo, oherwydd bwydoffrwm dros eiddigedd yw, a bwydoffrwm i goffáu camwedd.
5:16 "'Yna daw'r offeiriad â hi ymlaen a gwneud iddi sefyll gerbron yr ARGLWYDD,
5:17 a bydd yn cymryd dŵr cysegredig mewn llestr pridd, a chymysgu ag ef beth o'r llwch oddi ar lawr y tabernacl.
5:18 Wedi iddo ddod â'r wraig gerbron yr ARGLWYDD, bydd yr offeiriad yn cymryd y gorchudd oddi ar ei phen, ac yn rhoi yn ei dwylo y bwydoffrwm coffa, sef y bwydoffrwm dros eiddigedd. Bydd yntau'n cario'r dŵr chwerw sy'n achosi melltith.
5:19 Yna fe wna iddi dyngu llw, ac fe ddywed wrthi, "Os nad oes dyn wedi gorwedd gyda thi, ac os nad wyt wedi cyfeiliorni a'th halogi dy hun pan oeddit dan awdurdod dy ŵr, yna ni fydd y dŵr chwerw sy'n achosi melltith yn dy niweidio.
5:20 Ond os wyt wedi cyfeiliorni a'th halogi dy hun, a gadael i ddyn arall orwedd gyda thi tra oeddit dan awdurdod dy ŵr,"
5:21 (yna, wedi i'r offeiriad beri i'r wraig dyngu llw'r felltith, fe ddywed wrthi) "boed i'r ARGLWYDD dy wneud yn felltith ac yn llw ymhlith dy bobl trwy bydru dy glun a chwyddo dy groth;
5:22 bydd y dŵr hwn sy'n achosi melltith yn mynd i mewn i'th ymysgaroedd, ac yn peri i'th groth chwyddo ac i'th glun bydru." Yna bydd y wraig yn dweud, "Amen, Amen."
5:23 "'Yna bydd yr offeiriad yn ysgrifennu'r melltithion hyn mewn llyfr ac yn eu golchi ymaith i'r dŵr chwerw;
5:24 bydd yn peri i'r wraig yfed y dŵr chwerw sy'n achosi melltith, a bydd y dŵr, o'i yfed, yn peri artaith chwerw iddi.
5:25 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd y bwydoffrwm dros eiddigedd o ddwylo'r wraig, ac yn ei chwifio gerbron yr ARGLWYDD cyn dod ag ef at yr allor.
5:26 Bydd yr offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r bwydoffrwm fel offrwm coffa, ac yn ei losgi ar yr allor; yna fe wna i'r wraig yfed y dŵr.
5:27 Os bu i'r wraig ei halogi ei hun a bod yn anffyddlon i'w gŵr, bydd y dŵr, wedi iddi ei yfed, yn achosi melltith ac yn peri artaith chwerw iddi. Bydd ei chroth yn chwyddo a'i chlun yn pydru, a bydd y wraig yn felltith ymhlith ei phobl.
5:28 Ond os na fu i'r wraig ei halogi ei hun, ac os yw'n lân, yna bydd yn rhydd i esgor ar blant.
5:29 "'Dyma'r ddeddf mewn achosion o eiddigedd pan fo gwraig, a hithau dan awdurdod ei gŵr, yn cyfeiliorni ac yn ei halogi ei hun,
5:30 a phan fo ysbryd o eiddigedd yn dod dros y gŵr o achos ei wraig: y mae i wneud iddi sefyll gerbron yr ARGLWYDD, a bydd yr offeiriad yn ei thrin yn unol â'r holl ddeddf hon.
5:31 Bydd y gŵr yn ddieuog o gamwedd, ond bydd y wraig yn dwyn ei chamwedd arni hi ei hun.'"

Rheolau ynglŷn â'r Nasareaid

6:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
6:2 "Dywed wrth bobl Israel, 'Os bydd gŵr neu wraig yn gwneud adduned i ymgysegru i'r ARGLWYDD fel Nasaread,
6:3 y mae i gadw oddi wrth win a diod feddwol; nid yw i yfed ychwaith ddim a wnaed o rawnwin neu o ddiod feddwol, ac nid yw i fwyta'r grawnwin, boed yn ir neu'n sych.
6:4 Trwy gydol ei gyfnod fel Nasaread nid yw i fwyta dim a ddaw o'r winwydden, hyd yn oed yr egin na'r croen.
6:5 "'Trwy gydol cyfnod ei adduned i fod yn Nasaread, nid yw i eillio ei ben; bydd yn gadael i gudynnau ei wallt dyfu'n hir, a bydd yn sanctaidd nes iddo orffen ymgysegru i'r ARGLWYDD.
6:6 "'Trwy gydol dyddiau ei ym-gysegriad i'r ARGLWYDD, nid yw i gyffwrdd â chorff marw.
6:7 Hyd yn oed os bydd farw ei dad neu ei fam, ei frawd neu ei chwaer, nid yw i'w halogi ei hun o'u plegid, oherwydd ef ei hun sy'n gyfrifol am ei ymgysegriad i Dduw.
6:8 Trwy gydol ei gyfnod fel Nasaread bydd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.
6:9 "'Os bydd rhywun yn marw'n sydyn wrth ei ymyl, a phen y Nasaread yn cael ei halogi, yna y mae i eillio ei ben ar y dydd y glanheir ef, sef y seithfed dydd.
6:10 Ar yr wythfed dydd, y mae i ddod â dwy durtur neu ddau gyw colomen at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod,
6:11 a bydd yntau'n offrymu un yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm i wneud cymod drosto, am iddo bechu trwy gyffwrdd â'r corff marw. Ar y dydd hwnnw hefyd bydd yn sancteiddio ei ben,
6:12 ac yn ymgysegru i'r ARGLWYDD ar gyfer ei ddyddiau fel Nasaread, a daw ag oen gwryw yn offrwm dros gamwedd; diddymir ei ddyddiau blaenorol fel Nasaread oherwydd iddo gael ei halogi.
6:13 "'Dyma'r ddeddf ar gyfer y Nas-aread, pan ddaw cyfnod ei ymgysegriad i ben: deuer ag ef at ddrws pabell y cyfarfod
6:14 lle bydd yn cyflwyno offrymau i'r ARGLWYDD, sef oen gwryw di-nam yn boethoffrwm, hesbin ddi-nam yn aberth dros bechod, a hwrdd di-nam yn heddoffrwm,
6:15 ynghyd â basgedaid o fara croyw, teisennau peilliaid wedi eu cymysgu ag olew, bisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew, ynghyd â'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm.
6:16 Bydd yr offeiriad yn dod â hwy gerbron yr ARGLWYDD ac yn offrymu ei aberth dros bechod a'i boethoffrwm;
6:17 bydd hefyd yn offrymu'r hwrdd yn heddoffrwm i'r ARGLWYDD ynghyd â'r basgedaid o fara croyw, y bwydoffrwm a'r diodoffrwm.
6:18 Bydd y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod yn eillio ei ben, a gysegrwyd ganddo, a bydd yn cymryd y gwallt ac yn ei roi ar y tân a fydd dan aberth yr heddoffrwm.
6:19 Wedi i'r Nasaread eillio ei ben, a gysegrwyd ganddo, bydd yr offeiriad yn cymryd ysgwydd yr hwrdd ar ôl ei ferwi, a theisen a bisged heb furum o'r fasged, a'u rhoi yn nwylo'r Nasaread,
6:20 a bydd yr offeiriad yn eu chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD; bydd y rhain, ynghyd â'r frest a chwifir a'r glun a offrymir, yn gyfran sanctaidd ar gyfer yr offeiriad. Yna caiff y Nasaread yfed gwin.
6:21 "'Dyma'r ddeddf ar gyfer y Nas-aread sy'n gwneud adduned: bydd ei offrwm i'r ARGLWYDD yn unol â'i adduned, ac y mae i ychwanegu ato beth bynnag arall y gall ei fforddio. Y mae i weithredu yn ôl yr adduned a wnaeth ac yn ôl deddf ei ymgysegriad fel Nasaread.'"

Y Fendith Offeiriadol

6:22 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
6:23 "Dywed wrth Aaron a'i feibion, 'Yr ydych i fendithio pobl Israel a dweud wrthynt:
6:24 "Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio a'th gadw;
6:25 bydded i'r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt;
6:26 bydded i'r ARGLWYDD edrych arnat, a rhoi iti heddwch."'
6:27 Felly gosodant fy enw ar bobl Israel, a byddaf finnau'n eu bendithio."

Offrymau'r Arweinwyr

7:1 Ar y dydd y gorffennodd Moses godi'r tabernacl, fe'i heneiniodd a'i gysegru ynghyd â'i holl ddodrefn, yr allor a'i holl lestri.
7:2 Yna daeth arweinwyr Israel, sef y pennau-teuluoedd ac arweinwyr y llwythau oedd yn goruchwylio'r rhai a gyfrifwyd,
7:3 a chyflwyno'u hoffrwm gerbron yr ARGLWYDD; yr oedd ganddynt chwech o gerbydau a gorchudd drostynt, a deuddeg o ychen, un cerbyd ar gyfer pob dau arweinydd, ac ych ar gyfer pob un. Wedi iddynt ddod â'u hoffrymau o flaen y tabernacl,
7:4 dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
7:5 "Cymer y rhain ganddynt i'w defnyddio yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod, a rho hwy i'r Lefiaid, i bob un yn ôl gofynion ei waith."
7:6 Felly cymerodd Moses y cerbydau a'r ychen, a'u rhoi i'r Lefiaid.
7:7 Rhoddodd ddau gerbyd a phedwar ych i feibion Gerson, yn ôl gofynion eu gwaith,
7:8 a phedwar cerbyd ac wyth ych i feibion Merari, yn ôl gofynion eu gwaith; yr oeddent hwy dan awdurdod Ithamar fab Aaron yr offeiriad.
7:9 Ond ni roddodd yr un i feibion Cohath, oherwydd ar eu hysgwyddau yr oeddent hwy i gludo'r pethau cysegredig oedd dan eu gofal.
7:10 Ar y dydd yr eneiniwyd yr allor, daeth yr arweinwyr â'r aberthau a'u hoffrymu o flaen yr allor i'w chysegru.
7:11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Bydd un arweinydd bob dydd yn cyflwyno'i offrymau i gysegru'r allor."
7:12 Yr arweinydd a gyflwynodd ei offrwm ar y dydd cyntaf oedd Nahson fab Amminadab o lwyth Jwda.
7:13 Ei offrwm ef oedd: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
7:14 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
7:15 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
7:16 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
7:17 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Nahson fab Amminadab.
7:18 Ar yr ail ddydd, offrymodd Nethanel fab Suar, arweinydd Issachar, ei offrwm yntau:
7:19 plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
7:20 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
7:21 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
7:22 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
7:23 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Nethanel fab Suar.
7:24 Ar y trydydd dydd, offrymodd Eliab fab Helon, arweinydd pobl Sabulon, ei offrwm yntau:
7:25 plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
7:26 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
7:27 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
7:28 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
7:29 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Eliab fab Helon.
7:30 Ar y pedwerydd dydd, offrymodd Elisur fab Sedeur, arweinydd pobl Reuben, ei offrwm yntau:
7:31 plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
7:32 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
7:33 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
7:34 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
7:35 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Elisur fab Sedeur.
7:36 Ar y pumed dydd, offrymodd Selumiel fab Surisadai, arweinydd pobl Simeon, ei offrwm yntau:
7:37 plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
7:38 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
7:39 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
7:40 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
7:41 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Selumiel fab Surisadai.
7:42 Ar y chweched dydd, offrymodd Eliasaff fab Reuel, arweinydd pobl Gad, ei offrwm yntau:
7:43 plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
7:44 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
7:45 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
7:46 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
7:47 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Eliasaff fab Reuel.
7:48 Ar y seithfed dydd, offrymodd Elisama fab Ammihud, arweinydd pobl Effraim, ei offrwm yntau:
7:49 plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
7:50 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
7:51 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
7:52 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
7:53 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Elisama fab Ammihud.
7:54 Ar yr wythfed dydd, offrymodd Gamaliel fab Pedasur, arweinydd pobl Manasse, ei offrwm yntau:
7:55 plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
7:56 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
7:57 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
7:58 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
7:59 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Gamaliel fab Pedasur.
7:60 Ar y nawfed dydd, offrymodd Abidan fab Gideoni, arweinydd pobl Benjamin, ei offrwm yntau:
7:61 plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
7:62 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
7:63  bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
7:64 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
7:65 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Abidan fab Gideoni.
7:66 Ar y degfed dydd, offrymodd Ahieser fab Ammisadai, arweinydd pobl Dan, ei offrwm yntau:
7:67 plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
7:68 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
7:69 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
7:70 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
7:71 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Ahieser fab Ammisadai.
7:72 Ar yr unfed dydd ar ddeg, offrymodd Pagiel fab Ocran, arweinydd pobl Aser, ei offrwm yntau:
7:73 plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
7:74 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
7:75 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
7:76 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
7:77 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Pagiel fab Ocran.
7:78 Ar y deuddegfed dydd, offrymodd Ahira fab Enan, arweinydd pobl Nafftali, ei offrwm yntau:
7:79 plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
7:80 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
7:81 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
7:82 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
7:83 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Ahira fab Enan.
7:84 Dyma oedd yr offrwm gan arweinwyr Israel ar gyfer cysegru'r allor ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg plât arian, deuddeg cawg arian a deuddeg dysgl aur,
7:85 a phob plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, pob cawg arian yn pwyso saith deg o siclau, a'r holl lestri arian yn pwyso dwy fil pedwar cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr;
7:86 hefyd, deuddeg dysgl aur yn llawn o arogldarth, pob un yn pwyso deg sicl, yn ôl sicl y cysegr, a'r holl ddysglau aur yn pwyso cant ac ugain o siclau;
7:87 hefyd, gwartheg ar gyfer y poethoffrwm, yn gyfanswm o ddeuddeg bustach, deuddeg hwrdd, deuddeg oen gwryw gyda'r bwydoffrwm; yr oedd deuddeg bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
7:88 gwartheg ar gyfer aberth yr heddoffrwm, yn gyfanswm o bedwar ar hugain o fustych, trigain hwrdd, trigain bwch, a thrigain oen gwryw. Dyma oedd yr offrwm ar gyfer cysegru'r allor, wedi ei heneinio.
7:89 Pan aeth Moses i mewn i babell y cyfarfod i lefaru wrth yr ARGLWYDD, clywodd lais yn galw arno o'r drugareddfa oedd ar arch y dystiolaeth rhwng y ddau gerwb; ac yr oedd y llais yn siarad ag ef.

Gosod y Lampau

8:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
8:2 "Dywed wrth Aaron, 'Pan fyddwch yn gosod y lampau yn eu lle, bydd y saith ohonynt yn goleuo o'r tu blaen i'r canhwyllbren.'"
8:3 Gwnaeth Aaron hyn, a gosododd y lampau i oleuo o'r tu blaen i'r canhwyllbren, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
8:4 Yr oedd y canhwyllbren wedi ei wneud o aur gyr, o'i draed at ei flodau. Gwnaeth y canhwyllbren yn ôl y patrwm a ddangosodd yr ARGLWYDD i Moses.

Neilltuo'r Lefiaid i'r Arglwydd

8:5 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
8:6 "Cymer y Lefiaid o blith pobl Israel, a glanha hwy.
8:7 Dyma a wnei iddynt i'w glanhau: tywallt arnynt ddŵr puredigaeth, a gwna iddynt eillio pob rhan o'u corff, a golchi eu dillad a bod yn lân.
8:8 Yna gwna iddynt gymryd bustach ifanc gyda bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, a chymer dithau fustach ifanc arall yn aberth dros bechod.
8:9 Tyrd â'r Lefiaid o flaen pabell y cyfarfod, a chasgla ynghyd holl gynulliad pobl Israel.
8:10 Wrth iti ddod â'r Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD, bydd pobl Israel yn gosod eu dwylo arnynt,
8:11 a bydd Aaron yn cyflwyno'r Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan oddi wrth bobl Israel, er mwyn iddynt wasanaethu'r ARGLWYDD.
8:12 Yna bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar ben y bustych, a byddi dithau'n offrymu un bustach yn aberth dros bechod, a'r llall yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, i wneud cymod dros y Lefiaid.
8:13 Gwna i'r Lefiaid wasanaethu Aaron a'i feibion, a chyflwyna hwy yn offrwm cyhwfan i'r ARGLWYDD.
8:14 Fel hyn y byddi'n neilltuo'r Lefiaid o blith pobl Israel i fod yn eiddo i mi.
8:15 "Wedyn, bydd y Lefiaid yn mynd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a byddi dithau'n eu glanhau a'u cyflwyno'n offrwm cyhwfan.
8:16 Cyflwynwyd hwy imi'n rhodd arbennig o blith pobl Israel, ac fe'u cymerais i mi fy hun yn gyfnewid am y cyntaf i ddod allan o'r groth, y rhai cyntafanedig o'r holl Israeliaid.
8:17 Y mae pob cyntafanedig o blith yr Israeliaid, yn ddyn ac anifail, yn eiddo i mi; cysegrais hwy i mi fy hun ar y dydd y trewais bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft,
8:18 a chymerais y Lefiaid yn gyfnewid am bob cyntafanedig o blith pobl Israel.
8:19 Rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron a'i feibion o blith pobl Israel, i wasanaethu'r Israeliaid ym mhabell y cyfarfod, ac i wneud cymod drostynt, rhag i bla ddod ar bobl Israel wrth iddynt ddod yn agos at y cysegr."
8:20 Gwnaeth Moses, Aaron, a holl gynulliad pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ynglŷn â'r Lefiaid.
8:21 Purodd y Lefiaid eu hunain o'u pechod, a golchi eu dillad, a chyflwynodd Aaron hwy yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD, a gwnaeth gymod drostynt i'w glanhau.
8:22 Wedyn, aeth y Lefiaid i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a gweini ar Aaron a'i feibion. Gwnaethpwyd i'r Lefiaid fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
8:23 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
8:24 "Dyma'r drefn ynglŷn â'r Lefiaid: bydd y rhai sy'n bum mlwydd ar hugain a throsodd yn mynd i mewn i wneud y gwaith ym mhabell y cyfarfod;
8:25 ond yn hanner cant oed byddant yn gorffen gweithio ac yn peidio â'u gwasanaeth.
8:26 Cânt gynorthwyo'u brodyr i ofalu am babell y cyfarfod, ond y mae cyfnod eu gwasanaeth ar ben. Dyma a wnei ynglŷn â gorchwylion y Lefiaid."

Yr Ail Basg

9:1 Yn y mis cyntaf o'r ail flwyddyn wedi iddynt ddod allan o wlad yr Aifft, llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn anialwch Sinai, a dweud,
9:2 "Bydded i bobl Israel gadw'r Pasg ar yr adeg benodedig.
9:3 Cadwch ef yn y cyfnos ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn; cadwch y Pasg ar yr adeg benodedig gyda'r holl ddeddfau a'r defodau sy'n gysylltiedig ag ef."
9:4 Felly dywedodd Moses wrth bobl Israel am gadw'r Pasg,
9:5 a gwnaethant hynny yn anialwch Sinai yn y cyfnos ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf. Gwnaeth pobl Israel yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
9:6 Ond ni allai rhai gadw'r Pasg ar y diwrnod penodedig, am eu bod wedi eu halogi eu hunain trwy gyffwrdd â chorff marw; felly daethant at Moses ac Aaron y dydd hwnnw,
9:7 a dweud, "Yr ydym wedi ein halogi ein hunain trwy gyffwrdd â chorff marw; pam y gwaherddir ni rhag ymuno â phobl Israel i offrymu i'r ARGLWYDD ar yr adeg benodedig?"
9:8 Atebodd Moses hwy, "Arhoswch nes imi glywed beth y mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn amdanoch."
9:9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
9:10 "Dywed wrth bobl Israel, 'Os bydd unrhyw un ohonoch chwi neu o'ch disgynyddion yn ei halogi ei hun trwy gyffwrdd â chorff marw, neu os bydd ar daith bell, y mae er hynny i gadw'r Pasg i'r ARGLWYDD.
9:11 Cadwant ef yn y cyfnos ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis, ac y maent i fwyta'r Pasg gyda bara croyw a llysiau chwerw.
9:12 Nid ydynt i adael dim ohono'n weddill hyd y bore, na thorri asgwrn ohono; y maent i gadw'r holl ddeddf ynglŷn â'r Pasg.
9:13 Ond os bydd rhywun yn lân, a heb fod ar daith, ac eto'n gwrthod cadw'r Pasg, bydd yn cael ei dorri ymaith o blith ei bobl, am nad offrymodd i'r ARGLWYDD ar yr adeg benodedig, a bydd yn dioddef am ei bechod.
9:14 Os bydd dieithryn yn aros yn eich plith, ac yn dymuno cadw Pasg i'r ARGLWYDD, caiff wneud hynny yn ôl y ddeddf a'r ddefod sy'n gysylltiedig ag ef; yr un ddeddf fydd i'r dieithryn ac i'r brodor.'"

Y Cwmwl dros Babell y Cyfarfod, Ex. 40:34-38

9:15 Ar y dydd y codwyd y tabernacl daeth cwmwl a gorchuddio tabernacl pabell y cyfarfod; ymddangosai fel tân drosto, o'r hwyr hyd y bore.
9:16 Ac felly y parhaodd; yr oedd cwmwl yn ei orchuddio, ac yn y nos ymddangosai fel tân drosto.
9:17 Pan godai'r cwmwl oddi ar y babell, byddai pobl Israel yn cychwyn ar eu taith, a lle bynnag yr arhosai'r cwmwl, byddent yn gwersyllu.
9:18 Ar orchymyn yr ARGLWYDD byddai pobl Israel yn cychwyn ar eu taith, ac ar ei orchymyn ef byddent yn gwersyllu; pryd bynnag y byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl, byddent yn aros yn y gwersyll.
9:19 Hyd yn oed pan fyddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am lawer o ddyddiau, byddai pobl Israel yn cadw dymuniad yr ARGLWYDD, ac ni fyddent yn cychwyn ar eu taith.
9:20 Weithiau byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am ychydig ddyddiau, a byddent hwythau'n aros yn y gwersyll yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD, ac ar ei orchymyn ef byddent yn cychwyn ar eu taith.
9:21 Dro arall, byddai'r cwmwl yno o'r hwyr hyd y bore yn unig, ac yna pan godai, byddent yn cychwyn allan, ac os byddai yno trwy'r dydd a'r nos, ac yna'n codi, byddent yn cychwyn allan.
9:22 Os byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am ddeuddydd, neu fis neu flwyddyn, byddai pobl Israel yn aros yn eu pebyll heb gychwyn ar eu taith; ond pan godai'r cwmwl, byddent yn cychwyn.
9:23 Ar orchymyn yr ARGLWYDD byddent yn gwersyllu, ac ar ei orchymyn ef byddent yn cychwyn ar eu taith; yr oeddent yn cadw dymuniad yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

Yr Utgyrn Arian

10:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
10:2 "Gwna ddau drwmped o arian gyr, a defnyddia hwy i alw'r cynulliad ynghyd, er mwyn i'r gwersyll gychwyn ar ei daith.
10:3 Os cenir y ddau drwmped, bydd yr holl gynulliad yn ymgasglu atat wrth ddrws pabell y cyfarfod;
10:4 ond os un ohonynt a genir, yna yr arweinwyr yn unig, sef penaethiaid llwythau Israel, fydd yn ymgasglu atat.
10:5 Pan roddir bloedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y dwyrain yn cychwyn ar eu taith,
10:6 a phan roddir yr ail floedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y de yn cychwyn.
10:7 Fe roddir bloedd pryd bynnag y byddant yn cychwyn ar eu taith.
10:8 Pan yw'r cynulliad i ymgasglu ynghyd, fe genir y trwmped, ond ni roddir bloedd. Meibion Aaron, yr offeiriaid, sydd i ganu'r trwmpedau, a bydd hyn yn ddeddf i'w chadw gennych am byth, dros y cenedlaethau.
10:9 Pan fyddwch yn mynd i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y rhai sy'n eich gorthrymu, rhowch floedd a chanu'r trwmpedau, er mwyn i'r ARGLWYDD eich Duw gofio amdanoch, a'ch achub rhag eich gelynion.
10:10 Hefyd, ar ddydd o lawenydd, ar eich gwyliau penodedig, ac ar ddechrau pob mis, canwch y trwmpedau uwchben eich poethoffrymau a'ch heddoffrymau; byddant yn eich dwyn i gof gerbron eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw."

Yr Israeliaid yn Ailgychwyn ar eu Taith

10:11 Ar yr ugeinfed dydd o'r ail fis o'r ail flwyddyn, cododd y cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth,
10:12 a chychwynnodd pobl Israel yn gwmnïau ar eu taith o anialwch Sinai; yna arhosodd y cwmwl yn anialwch Paran.
10:13 Felly cychwynasant allan am y tro cyntaf ar orchymyn yr ARGLWYDD trwy Moses.
10:14 Minteioedd gwersyll Jwda oedd y rhai cyntaf i gychwyn dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Nahson fab Amminadab.
10:15 Dros lu llwyth pobl Issachar yr oedd Nethanel fab Suar,
10:16 a thros lu llwyth pobl Sabulon yr oedd Eliab fab Helon.
10:17 Wedi tynnu'r tabernacl i lawr, fe gychwynnodd meibion Gerson a meibion Merari, gan mai hwy oedd yn cario'r tabernacl.
10:18 Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll Reuben dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisur fab Sedeur.
10:19 Dros lu llwyth pobl Simeon yr oedd Selumiel fab Surisadai,
10:20 a thros lu llwyth pobl Gad yr oedd Eliasaff fab Reuel.
10:21 Yna cychwynnodd y Cohathiaid, gan gludo'r pethau cysegredig, a chodwyd y tabernacl cyn iddynt hwy gyrraedd.
10:22 Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Effraim dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisama fab Ammihud.
10:23 Dros lu llwyth pobl Manasse yr oedd Gamaliel fab Pedasur,
10:24 a thros lu llwyth pobl Benjamin yr oedd Abidan fab Gideoni.
10:25 Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Dan, y gwersyll olaf un, dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Ahieser fab Ammisadai.
10:26 Dros lu llwyth pobl Aser yr oedd Pagiel fab Ocran,
10:27 a thros lu llwyth pobl Nafftali yr oedd Ahira fab Enan.
10:28 Dyma drefn pobl Israel wrth iddynt gychwyn allan yn ôl eu lluoedd.
10:29 Dywedodd Moses wrth Hobab fab Reuel y Midianiad, tad-yng-nghyfraith Moses, "Yr ydym yn mynd i'r lle yr addawodd yr ARGLWYDD ei roi inni; tyrd gyda ni, a byddwn yn garedig wrthyt, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau da i Israel."
10:30 Ond atebodd ef, "Nid wyf am ddod; af yn hytrach i'm gwlad fy hun ac at fy mhobl fy hun."
10:31 Dywedodd Moses, "Paid â'n gadael, oherwydd fe wyddost ti lle cawn wersyllu yn yr anialwch, a gelli ein harwain.
10:32 Os doi gyda ni, fe gei ran yn y pethau da a wna'r ARGLWYDD drosom, a byddwn yn garedig wrthyt."

Y Bobl yn Cychwyn Allan

10:33 Felly cychwynasant o fynydd yr ARGLWYDD ar daith dridiau, ac yr oedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen ar hyd y daith i geisio lle iddynt orffwys.
10:34 Yr oedd cwmwl yr ARGLWYDD uwchben yn ystod y dydd wrth iddynt gychwyn o'r gwersyll.
10:35 Pan gychwynnai'r arch allan, byddai Moses yn dweud, "Cod, ARGLWYDD, gwasgar d'elynion, a boed i'r rhai sy'n dy gasáu ffoi o'th flaen."
10:36 A phan ddôi'r arch i orffwys, byddai'n dweud, "Dychwel, ARGLWYDD, at fyrddiynau Israel."

Tabera

11:1 Yr oedd y bobl yn cwyno am eu caledi yng nghlyw'r ARGLWYDD, a phan glywodd ef hwy, enynnodd ei lid, a llosgodd tân yr ARGLWYDD yn eu plith gan ddifa un cwr o'r gwersyll.
11:2 Galwodd y bobl ar Moses, a phan weddïodd ef ar yr ARGLWYDD, fe ddiffoddodd y tân.
11:3 Galwodd enw'r lle hwnnw yn Tabera, am i dân yr ARGLWYDD losgi yn eu plith.

Moses yn Dewis yr Arweinwyr

11:4 Dechreuodd y lliaws cymysg oedd yn eu mysg chwantu bwyd, ac wylodd pobl Israel eto, a dweud, "Pwy a rydd inni gig i'w fwyta?
11:5 Yr ydym yn cofio'r pysgod yr oeddem yn eu bwyta yn rhad yn yr Aifft, a'r cucumerau, y melonau, y cennin, y wynwyn a'r garlleg;
11:6 ond yn awr, darfu am ein harchwaeth, ac nid oes dim i'w weld ond manna."
11:7 Yr oedd y manna fel had coriander, ac o'r un lliw â grawnwin.
11:8 Âi'r bobl o amgylch i'w gasglu, ac wedi iddynt ei falu mewn melinau, ei guro mewn morter, a'i ferwi mewn crochanau, gwnaent deisennau ohono. Yr oedd ei flas fel petai wedi ei bobi ag olew.
11:9 Pan ddisgynnai'r gwlith ar y gwersyll gyda'r nos byddai'r manna yn disgyn hefyd.
11:10 Clywodd Moses y teuluoedd i gyd yn wylo, pob un yn nrws ei babell; enynnodd llid yr ARGLWYDD yn fawr, a bu'n ddrwg gan Moses.
11:11 Yna dywedodd wrth yr ARGLWYDD, "Pam y gwnaethost dro gwael â'th was? Pam na chefais ffafr yn dy olwg, fel dy fod wedi gosod baich yr holl bobl hyn arnaf?
11:12 Ai myfi a feichiogodd ar yr holl bobl hyn? Ai myfi a'u cenhedlodd? Pam y dywedi wrthyf, 'Cluda hwy yn dy fynwes, fel y bydd tadmaeth yn cludo plentyn sugno, a dos â hwy i'r wlad y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'w hynafiaid'?
11:13 O ble y caf fi gig i'w roi i'r holl bobl hyn? Y maent yn wylo ac yn dweud wrthyf, 'Rho inni gig i'w fwyta.'
11:14 Ni allaf gario'r holl bobl hyn fy hunan; y mae'r baich yn rhy drwm imi.
11:15 Os fel hyn yr wyt am wneud â mi, yna lladd fi yn awr, os wyf i gael ffafr yn dy olwg, rhag i mi weld fy nhrueni."
11:16 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Casgla i mi ddeg a thrigain o henuriaid Israel, rhai y gwyddost eu bod yn henuriaid y bobl ac yn swyddogion drostynt, a chymer hwy i babell y cyfarfod, a gwna iddynt sefyll yno gyda thi.
11:17 Fe ddof finnau i lawr a llefaru wrthyt yno, a chymeraf beth o'r ysbryd sydd arnat ti a'i roi arnynt hwy; byddant hwy gyda thi i gario baich y bobl, rhag iti ei gario dy hunan.
11:18 Dywed wrth y bobl, 'Ymgysegrwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig; oherwydd yr ydych wedi wylo yng nghlyw'r ARGLWYDD, a dweud, "Pwy a rydd inni gig i'w fwyta? Yr oeddem yn dda ein byd yn yr Aifft." Felly fe rydd yr ARGLWYDD i chwi gig, a chewch fwyta.
11:19 Byddwch yn ei fwyta nid am un diwrnod, na dau, na phump, na deg, nac ugain,
11:20 ond am fis cyfan, nes y bydd yn dod allan o'ch ffroenau, a chwithau'n ei gasáu; oherwydd yr ydych wedi gwrthod yr ARGLWYDD, sydd yn eich plith, trwy wylo yn ei glyw, a dweud, "Pam y daethom allan o'r Aifft?"'"
11:21 Ond dywedodd Moses, "Dyma fi yng nghanol chwe chan mil o wŷr traed, ac eto dywedi, 'Rhof iddynt gig i'w fwyta am fis cyfan!'
11:22 A leddir defaid a gwartheg er mwyn eu digoni? Neu a fydd holl bysgod y môr, wedi eu casglu ynghyd, yn ddigon ar eu cyfer?"
11:23 Atebodd yr ARGLWYDD ef, "A yw llaw yr ARGLWYDD yn rhy fyr? Cei weld yn y man a wireddir f'addewid iti ai peidio."
11:24 Aeth Moses ymaith a mynegi i'r bobl eiriau'r ARGLWYDD; yna casglodd ddeg a thrigain o henuriaid y bobl a'u gosod o amgylch y babell.
11:25 Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn cwmwl, a llefaru wrtho, a chymerodd yr ARGLWYDD beth o'r ysbryd oedd arno ef a'i roi ar yr henuriaid, y deg a thrigain ohonynt; pan orffwysai'r ysbryd arnynt, byddent yn proffwydo, ond ni wnaent ragor na hynny.
11:26 Arhosodd dau o'r dynion yn y gwersyll; eu henwau oedd Eldad a Medad, a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwythau. Yr oeddent hwy ymhlith y rhai a gofrestrwyd, ond am nad oedd-ent wedi mynd allan i'r babell, proffwydasant yn y gwersyll.
11:27 Pan redodd llanc ifanc a mynegi i Moses fod Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll,
11:28 dywedodd Josua fab Nun, a fu'n gweini ar Moses o'i ieuenctid, "Moses, f'arglwydd, rhwystra hwy."
11:29 Ond dywedodd Moses wrtho, "Ai o'm hachos i yr wyt yn eiddigeddus? O na byddai holl bobl yr ARGLWYDD yn broffwydi, ac y byddai ef yn rhoi ei ysbryd arnynt!"
11:30 Yna dychwelodd Moses a henuriaid Israel i'r gwersyll.

Y Soflieir

11:31 Anfonodd yr ARGLWYDD wynt a barodd i soflieir ddod o'r môr a disgyn o amgylch y gwersyll; yr oeddent tua dau gufydd uwchlaw wyneb y tir, ac yn ymestyn dros bellter o daith diwrnod o bob tu i'r gwersyll.
11:32 Cododd y bobl, a chasglu'r soflieir trwy gydol y dydd hwnnw, trwy'r nos, a thrwy'r dydd drannoeth nes bod yr un a gasglodd leiaf wedi casglu deg homer; yna rhannwyd hwy ymhlith ei gilydd o amgylch y gwersyll.
11:33 Pan oedd y cig rhwng eu dannedd yn barod i'w gnoi, enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl, a thrawodd hwy â phla mawr iawn.
11:34 Felly galwyd y lle hwnnw yn Cibroth-hattaafa, oherwydd yno y claddwyd y bobl oedd â chwant arnynt.
11:35 Yna aethant o Cibroth-hattaafa i Haseroth, ac aros yno.

Cosbi Miriam

12:1 Yr oedd gan Miriam ac Aaron gŵyn yn erbyn Moses oherwydd y wraig o Ethiopia yr oedd wedi ei phriodi,
12:2 a gofynasant, "Ai trwy Moses yn unig y llefarodd yr ARGLWYDD? Oni lefarodd hefyd trwom ni?" A chlywodd yr ARGLWYDD hwy.
12:3 Yr oedd Moses yn ddyn gostyngedig iawn, yn fwy felly na neb ar wyneb y ddaear.
12:4 Yn sydyn, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Aaron a Miriam, "Dewch allan eich tri at babell y cyfarfod," a daeth y tri ohonynt allan.
12:5 Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn colofn o gwmwl, a sefyll wrth ddrws y babell, a phan alwodd ar Aaron a Miriam, daeth y ddau ohonynt ymlaen.
12:6 Yna dywedodd, "Gwrandewch yn awr ar fy ngeiriau: Os oes proffwyd yr ARGLWYDD yn eich plith, datguddiaf fy hun iddo mewn gweledigaeth, a llefaraf wrtho mewn breuddwyd.
12:7 Ond nid felly y mae gyda'm gwas Moses; ef yn unig o'm holl dŷ sy'n ffyddlon.
12:8 Llefaraf ag ef wyneb yn wyneb, yn eglur, ac nid mewn posau; caiff ef weled ffurf yr ARGLWYDD. Pam, felly, nad oedd arnoch ofn cwyno yn erbyn fy ngwas Moses?"
12:9 Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn eu herbyn, ac aeth ymaith.
12:10 Pan gododd y cwmwl oddi ar y babell, yr oedd Miriam yn wahanglwyfus, ac yn wyn fel yr eira.
12:11 Trodd Aaron ati, a gwelodd ei bod yn wahanglwyfus. Yna dywedodd wrth Moses, "O f'arglwydd, paid â chyfrif yn ein herbyn y pechod hwn y buom mor ffôl â'i wneud.
12:12 Paid â gadael i Miriam fod fel erthyl yn dod allan o groth y fam, a'r cnawd wedi hanner ei ddifa."
12:13 Felly galwodd Moses ar yr ARGLWYDD, "O Dduw, yr wyf yn erfyn arnat ei hiacháu."
12:14 Atebodd yr ARGLWYDD ef, "Pe bai ei thad wedi poeri yn ei hwyneb, oni fyddai hi wedi cywilyddio am saith diwrnod? Caeer hi allan o'r gwersyll am saith diwrnod, ac yna caiff ddod i mewn eto."
12:15 Felly caewyd Miriam allan o'r gwersyll am saith diwrnod, ac ni chychwynnodd y bobl ar eu taith nes iddi ddychwelyd.
12:16 Yna aethant ymaith o Haseroth, a gwersyllu yn anialwch Paran.

Yr Ysbiwyr, Deut. 1:19-33

13:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
13:2 "Anfon ddynion i ysbïo Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i bobl Israel; yr wyt i anfon pennaeth o bob un o lwythau eu hynafiaid."
13:3 Felly, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD, anfonodd Moses hwy allan o anialwch Paran, pob un ohonynt yn flaenllaw ymhlith pobl Israel.
13:4 Dyma eu henwau: o lwyth Reuben: Sammua fab Saccur;
13:5 o lwyth Simeon: Saffat fab Hori;
13:6 o lwyth Jwda: Caleb fab Jeffunne;
13:7 o lwyth Issachar: Igal fab Joseff;
13:8 o lwyth Effraim: Hosea fab Nun;
13:9 o lwyth Benjamin: Palti fab Raffu;
13:10 o lwyth Sabulon: Gadiel fab Sodi;
13:11 o lwyth Joseff, sef o lwyth Manasse: Gadi fab Susi;
13:12 o lwyth Dan: Ammiel fab Gemali;
13:13 o lwyth Aser: Sethur fab Michael;
13:14 o lwyth Nafftali: Nahbi fab Foffsi;
13:15 o lwyth Gad: Geuel fab Maci.
13:16 Dyna enwau'r dynion a anfonodd Moses i ysbïo'r wlad. Rhoddodd Moses yr enw Josua i Hosea fab Nun.
13:17 Wrth i Moses eu hanfon i ysbïo gwlad Canaan, dywedodd wrthynt, "Ewch i fyny trwy'r Negef i'r mynydd-dir,
13:18 ac edrychwch pa fath wlad yw hi: prun ai cryf ynteu gwan, ychydig ynteu niferus yw'r bobl sy'n byw ynddi;
13:19 prun ai da ynteu drwg yw'r tir lle y maent yn byw; prun ai gwersylloedd ynteu amddiffynfeydd yw eu dinasoedd;
13:20 prun ai ffrwythlon ynteu llwm yw'r wlad; ac a oes coed ynddi ai peidio. Byddwch ddewr, a chymerwch beth o gynnyrch y tir." Adeg blaenffrwyth y grawnwin aeddfed oedd hi.
13:21 Felly, aethant i fyny i ysbïo'r wlad o anialwch Sin hyd Rehob, ger Lebo-hamath.
13:22 Aethant i fyny trwy'r Negef a chyrraedd Hebron; yno yr oedd Ahiman, Sesai a Talmai, disgynyddion Anac. (Adeiladwyd Hebron saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.)
13:23 Pan ddaethant i ddyffryn Escol, torasant gangen ac arni glwstwr o rawnwin, ac yr oedd dau yn ei chario ar drosol; daethant hefyd â phomgranadau a ffigys.
13:24 Galwyd y lle yn ddyffryn Escol oherwydd y clwstwr o rawnwin a dorrodd yr Israeliaid yno.
13:25 Ar ôl ysbïo'r wlad am ddeugain diwrnod, daethant yn ôl
13:26 i Cades yn anialwch Paran at Moses, Aaron a holl gynulliad pobl Israel. Adroddasant y newyddion wrthynt hwy a'r holl gynulliad, a dangos iddynt ffrwyth y tir.
13:27 Dywedasant wrth Moses, "Daethom i'r wlad yr anfonaist ni iddi, a'i chael yn llifeirio o laeth a mêl, a dyma beth o'i ffrwyth.
13:28 Ond y mae'r bobl sy'n byw yn y wlad yn gryf; y mae'r dinasoedd yn gaerog ac yn fawr iawn, a gwelsom yno ddisgynyddion Anac.
13:29 Y mae'r Amaleciaid yn byw yng ngwlad y Negef; yr Hethiaid, y Jebusiaid a'r Amoriaid yn byw yn y mynydd-dir; a'r Canaaneaid wrth y môr, a gerllaw'r Iorddonen."
13:30 Yna galwodd Caleb ar i'r bobl dawelu o flaen Moses, a dywedodd, "Gadewch inni fynd i fyny ar unwaith i feddiannu'r wlad, oherwydd yr ydym yn sicr o fedru ei gorchfygu."
13:31 Ond dywedodd y dynion oedd wedi mynd gydag ef, "Ni allwn fynd i fyny yn erbyn y bobl, oherwydd y maent yn gryfach na ni."
13:32 Felly rhoesant adroddiad gwael i'r Israeliaid am y wlad yr oeddent wedi ei hysbïo, a dweud, "Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysbïo yn difa ei thrigolion, ac y mae'r holl bobl a welsom ynddi yn anferth.
13:33 Gwelsom yno y Neffilim (y mae meibion Anac yn ddisgynyddion y Neffilim); nid oeddem yn ein gweld ein hunain yn ddim mwy na cheiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn ymddangos iddynt hwythau."

Y Bobl yn Grwgnach

14:1 Dechreuodd yr holl gynulliad weiddi'n uchel, a bu'r bobl yn wylo trwy'r noson honno.
14:2 Yr oedd yr Israeliaid i gyd yn grwgnach yn erbyn Moses ac Aaron, a dywedodd y cynulliad wrthynt, "O na buasem wedi marw yng ngwlad yr Aifft neu yn yr anialwch hwn!
14:3 Pam y mae'r ARGLWYDD yn mynd â ni i'r wlad hon lle byddwn yn syrthio trwy fin y cleddyf, a lle bydd ein gwragedd a'n plant yn ysbail? Oni fyddai'n well inni ddychwelyd i'r Aifft?"
14:4 Dywedasant wrth ei gilydd, "Dewiswn un yn ben arnom, a dychwelwn i'r Aifft."
14:5 Yna ymgrymodd Moses ac Aaron o flaen holl aelodau cynulliad pobl Israel.
14:6 Dechreuodd Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne, a fu'n ysbïo'r wlad, rwygo'u dillad,
14:7 a dweud wrth holl gynulliad pobl Israel, "Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysbïo yn wlad dda iawn.
14:8 Os bydd yr ARGLWYDD yn fodlon arnom, fe'n harwain i mewn i'r wlad hon sy'n llifeirio o laeth a mêl, a'i rhoi inni.
14:9 Ond peidiwch â gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, a pheidiwch ag ofni trigolion y wlad, oherwydd byddant yn ysglyfaeth i ni. Y mae'r ARGLWYDD gyda ni, ond y maent hwy yn ddiamddiffyn; felly peidiwch â'u hofni."
14:10 Tra oedd yr holl Israeliaid yn sôn am eu llabyddio, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD iddynt ym mhabell y cyfarfod.

Moses yn Gweddïo dros y Bobl

14:11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Am ba hyd y bydd y bobl hyn yn fy nilorni? Ac am ba hyd y byddant yn gwrthod credu ynof, er yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith?
14:12 Trawaf hwy â haint a'u gwasgaru, ond fe'th wnaf di'n genedl fwy a chryfach na hwy."
14:13 Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "Oni ddaw'r Eifftiaid i glywed am hyn, gan mai o'u plith hwy y daethost â'r bobl yma allan â'th nerth dy hun?
14:14 Ac oni ddywedant hwy wrth drigolion y wlad hon? Y maent wedi clywed dy fod di, ARGLWYDD, gyda'r bobl hyn, ac yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmwl yn aros drostynt, a'th fod yn eu harwain mewn colofn o niwl yn y dydd a cholofn o dân yn y nos.
14:15 Yn awr, os lleddi'r bobl hyn ag un ergyd, bydd y cenhedloedd sydd wedi clywed sôn amdanat yn dweud,
14:16 'Lladdodd yr ARGLWYDD y bobl hyn yn yr anialwch am na fedrai ddod â hwy i'r wlad y tyngodd lw ei rhoi iddynt.'
14:17 Felly erfyniaf ar i nerth yr ARGLWYDD gynyddu, fel yr addewaist pan ddywedaist,
14:18 'Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ac yn llawn o drugaredd, yn maddau drygioni a gwrthryfel; eto, heb adael yr euog yn ddi-gosb, y mae'n cosbi'r plant am droseddau'r tadau hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.'
14:19 Yn ôl dy drugaredd fawr, maddau ddrygioni'r bobl hyn, fel yr wyt wedi maddau iddynt o ddyddiau'r Aifft hyd yn awr."
14:20 Atebodd yr ARGLWYDD, "Yr wyf wedi maddau iddynt, yn ôl dy ddymuniad;
14:21 ond yn awr, cyn wired â'm bod yn fyw a bod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r holl ddaear,
14:22 ni fydd yr un o'r rhai a welodd fy ngogoniant a'r arwyddion a wneuthum yn yr Aifft ac yn yr anialwch, ond a wrthododd wrando arnaf a'm profi y dengwaith hyn,
14:23 yn cael gweld y wlad y tyngais ei rhoi i'w hynafiaid; ac ni fydd neb o'r rhai a fu'n fy nilorni yn ei gweld ychwaith.
14:24 Ond y mae ysbryd gwahanol yn fy ngwas Caleb, ac am iddo fy nilyn yn llwyr, arweiniaf ef i'r wlad y bu eisoes i mewn ynddi, a bydd ei ddisgynyddion yn ei meddiannu.
14:25 Yn awr, am fod yr Amaleciaid a'r Canaaneaid yn byw yn y dyffryn, yr ydych i ddychwelyd yfory i'r anialwch a cherdded ar hyd ffordd y Môr Coch."

Cosbi'r Bobl am Rwgnach

14:26 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
14:27 "Am ba hyd y bydd y cynulliad drygionus hwn yn grwgnach yn f'erbyn? Yr wyf wedi clywed grwgnach pobl Israel yn f'erbyn;
14:28 felly dywed wrthynt: 'Cyn wired â'm bod yn fyw,' medd yr ARGLWYDD, 'fe wnaf i chwi yr hyn a ddywedasoch yn fy nghlyw:
14:29 bydd pob un ugain oed a throsodd, a rifwyd yn y cyfrifiad ac sydd wedi grwgnach yn f'erbyn, yn syrthio'n farw yn yr anialwch hwn.
14:30 Ni chaiff yr un ohonoch ddod i mewn i'r wlad y tyngais lw y byddech yn byw ynddi, heblaw Caleb fab Jeffunne a Josua fab Nun.
14:31 Ond am eich plant, y dywedasoch chwi y byddent yn ysbail, dof â hwy i mewn i ddarostwng y wlad yr ydych chwi wedi ei dirmygu,
14:32 tra byddwch chwi'n syrthio'n farw yn yr anialwch.
14:33 Bydd eich plant yn crwydro'r anialwch am ddeugain mlynedd ac yn dioddef am eich anffyddlondeb chwi, nes i'r olaf ohonoch farw yn yr anialwch.
14:34 Am ddeugain mlynedd, sef blwyddyn am bob un o'r deugain diwrnod y buoch yn ysbïo'r wlad, byddwch yn dioddef am eich drygioni ac yn gwybod am fy nigofaint.'
14:35 Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd; byddaf yn sicr o wneud hyn i bob un o'r cynulliad drygionus hwn sydd wedi cynllwyn yn f'erbyn. Y mae'r diwedd ar eu gwarthaf, a byddant farw yn yr anialwch hwn."
14:36 Felly, am y dynion a anfonodd Moses i ysbïo'r wlad, sef y rhai a ddychwelodd â'r adroddiad gwael amdani, a pheri i'r holl gynulliad rwgnach yn ei erbyn,
14:37 eu tynged oedd marw trwy bla gerbron yr ARGLWYDD.
14:38 Ond o'r dynion hynny a aeth i ysbïo'r wlad, cafodd Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne fyw.

Yr Ymgais Gyntaf i Feddiannu'r Wlad Deut. 1:41-46

14:39 Pan ddywedodd Moses hyn wrth yr holl Israeliaid, dechreuodd y bobl alaru'n ddirfawr.
14:40 Codasant yn fore drannoeth a dringo i'r mynydd-dir, a dweud, "Edrychwch, awn i fyny i'r lle y dywedodd yr ARGLWYDD amdano; oherwydd yr ydym wedi pechu."
14:41 Ond dywedodd Moses, "Pam yr ydych yn troseddu yn erbyn gorchymyn yr ARGLWYDD? Ni fyddwch yn llwyddo.
14:42 Peidiwch â mynd i fyny rhag i'ch gelynion eich difa, oherwydd nid yw'r ARGLWYDD gyda chwi.
14:43 Y mae'r Amaleciaid a'r Canaaneaid o'ch blaen, a byddwch yn syrthio trwy fin y cleddyf; ni fydd yr ARGLWYDD gyda chwi, am eich bod wedi cefnu arno."
14:44 Eto, yr oeddent yn benderfynol o ddringo i'r mynydd-dir, er nad aeth Moses nac arch cyfamod yr ARGLWYDD allan o'r gwersyll.
14:45 Yna daeth yr Amaleciaid a'r Canaaneaid a oedd yn byw yn y mynydd-dir hwnnw i lawr yn eu herbyn, a'u herlid hyd Horma.

Deddfau ynglŷn ag Aberthau

15:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
15:2 "Dywed wrth bobl Israel, 'Pan ddewch i'r wlad yr wyf yn ei rhoi i chwi i fyw ynddi,
15:3 a phan fyddwch yn offrymu o'ch gwartheg neu o'ch defaid offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, boed yn boethoffrwm neu'n aberth cyffredin, boed yn offrwm i gyflawni adduned neu'n offrwm gwirfodd neu'n un a gyflwynir ar eich gwyliau penodedig,
15:4 yna y mae'r sawl sy'n offrymu i ddod â bwydoffrwm i'r ARGLWYDD, sef degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â chwarter hin o olew;
15:5 y mae hefyd i baratoi gyda'r poethoffrwm chwarter hin o win yn ddiodoffrwm a'i gyflwyno gyda phob oen a offrymir yn aberth.
15:6 Os offrymir hwrdd, deuer â bwydoffrwm o bumed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â thraean hin o olew,
15:7 ac ar gyfer y diodoffrwm deuer â thraean hin o win; byddant yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
15:8 Os offrymir bustach ifanc yn boethoffrwm neu'n aberth, boed i gyflawni adduned neu'n heddoffrwm i'r ARGLWYDD,
15:9 yna deuer â bwydoffrwm o dair degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â hanner hin o olew,
15:10 ac ar gyfer y diodoffrwm deuer â hanner hin o win; bydd yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
15:11 Felly y gwneir â phob ych, hwrdd, oen gwryw a gafr,
15:12 pa faint bynnag ohonynt y byddwch yn eu hoffrymu.
15:13 Dyma sut y mae'r holl frodorion i offrymu offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.'
15:14 "'Os bydd yn eich plith, dros eich cenedlaethau, ddieithriaid neu eraill yn dymuno offrymu offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, y maent i ddilyn yr hyn yr ydych chwi yn ei wneud.
15:15 Un ddeddf fydd i'r cynulliad ac i'r dieithryn yn eich plith, ac y mae'r ddeddf honno i'w chadw trwy eich cenedlaethau; yr ydych chwi a'r dieithryn yn un gerbron yr ARGLWYDD.
15:16 Un gyfraith ac un rheol fydd i chwi ac i'r dieithryn a fydd gyda chwi.'"
15:17 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
15:18 "Dywed wrth bobl Israel, 'Wedi ichwi ddod i mewn i'r wlad yr wyf yn eich arwain iddi,
15:19 a bwyta o gynnyrch y tir, yr ydych i gyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD.
15:20 Offrymwch deisen wedi ei gwneud o'r toes cyntaf y byddwch yn ei baratoi, a chyflwynwch hi'n offrwm o'r llawr dyrnu.
15:21 Yr ydych i offrymu i'r ARGLWYDD y cyntaf o'ch toes dros eich cenedlaethau.
15:22 "'Os byddwch, mewn camgymeriad, heb gadw'r holl orchmynion hyn a roddodd yr ARGLWYDD ichwi trwy Moses,
15:23 o'r dydd y rhoddodd yr ARGLWYDD y gorchymyn ymlaen trwy'r cenedlaethau,
15:24 ac os gwnaethoch hyn yn anfwriadol, a'r cynulliad heb fod yn gwybod amdano, yna y mae'r holl gynulliad i offrymu bustach ifanc yn boethoffrwm, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, gyda'i fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm, a hefyd bwch gafr yn aberth dros bechod, yn unol â'r ddeddf.
15:25 Yna bydd yr offeiriad yn gwneud cymod dros gynulliad pobl Israel, ac fe faddeuir iddynt am mai mewn camgymeriad y gwnaethant hyn, ac am iddynt ddwyn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD a chyflwyno iddo aberth dros bechod.
15:26 Fe faddeuir i holl gynulliad pobl Israel ac i'r dieithryn sy'n byw yn eu plith, gan fod pawb yn gyfrifol am y camgymeriad.
15:27 "'Os bydd unigolyn yn pechu'n anfwriadol, y mae i offrymu gafr flwydd yn aberth dros bechod.
15:28 Bydd yr offeiriad yn gwneud cymod gerbron yr ARGLWYDD dros yr un a bechodd yn anfwriadol mewn camgymeriad, ac fe faddeuir iddo.
15:29 Pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth yn anfwriadol, yna yr un gyfraith a weithredir prun bynnag a yw'n frodor o Israel neu'n ddieithryn sy'n byw yn eu plith.
15:30 Ond pan fydd rhywun yn gweithredu'n rhyfygus, boed yn frodor neu'n ddieithryn, y mae'n cablu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.
15:31 Am iddo ddiystyru gair yr ARGLWYDD a gwrthod cadw ei orchymyn, fe'i torrir ymaith yn llwyr a bydd yn dwyn ei gamwedd arno'i hun.'"

Y Dyn a Dorrodd y Saboth

15:32 Pan oedd yr Israeliaid yn yr anialwch, gwelsant ddyn yn casglu coed ar y Saboth,
15:33 ac wedi iddynt ddod ag ef at Moses ac Aaron a'r holl gynulliad,
15:34 rhoddwyd ef yn y ddalfa am nad oedd yn glir beth y dylid ei wneud ag ef.
15:35 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Rhodder y dyn i farwolaeth; y mae'r holl gynulliad i'w labyddio y tu allan i'r gwersyll."
15:36 Felly daeth yr holl gynulliad ag ef y tu allan i'r gwersyll a'i labyddio, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, a bu farw.

Rheolau ynglŷn â Thaselau

15:37 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
15:38 "Dywed wrth bobl Israel am iddynt, dros eu cenedlaethau, wneud taselau ar odre eu gwisg, a chlymu ruban glas ar y tasel ym mhob congl.
15:39 Pan fyddwch yn edrych ar y tasel, fe gofiwch gadw holl orchmynion yr ARGLWYDD, ac ni fyddwch yn puteinio trwy fynd ar ôl y pethau y mae eich calonnau a'ch llygaid yn chwantu amdanynt.
15:40 Felly fe gofiwch gadw fy holl orchmynion, a byddwch yn sanctaidd i'ch Duw.
15:41 Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft i fod yn Dduw i chwi; myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw."

Gwrthryfel Cora, Dathan ac Abiram

16:1 Aeth Cora fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, gyda'r Reubeniaid Dathan ac Abiram, feibion Eliab, ac On fab Peleth, i gynnull dynion
16:2 i godi yn erbyn Moses; gyda hwy yr oedd dau gant a hanner o bobl Israel, a'r rheini'n wŷr adnabyddus o blith penaethiaid ac arweinwyr y cynulliad.
16:3 Wedi iddynt ymgynnull yn erbyn Moses ac Aaron, dywedasant wrthynt, "Yr ydych wedi cymryd gormod arnoch eich hunain. Y mae pob un o'r holl gynulliad yn sanctaidd, ac y mae'r ARGLWYDD gyda hwy; pam felly yr ydych chwi yn eich dyrchafu eich hunain uwchlaw cynulliad yr ARGLWYDD?"
16:4 Pan glywodd Moses hyn, syrthiodd ar ei wyneb,
16:5 a dywedodd wrth Cora a'i holl gwmni, "Yn y bore bydd yr ARGLWYDD yn datguddio pwy sy'n eiddo iddo ef, pwy sy'n sanctaidd, a phwy sy'n cael dynesu ato; pwy bynnag y bydd ef yn ei ddewis fydd yn cael dynesu ato.
16:6 Dyma yr ydych i'w wneud: yr wyt ti, Cora, a'th holl gwmni i gymryd thuserau;
16:7 ac yfory, gerbron yr ARGLWYDD, rhowch dân ynddynt a gosodwch arogldarth arnynt, a'r un a ddewisa'r ARGLWYDD fydd yn sanctaidd. Yr ydych chwi, feibion Lefi, wedi cymryd gormod arnoch eich hunain."
16:8 Dywedodd Moses hefyd wrth Cora, "Gwrandewch, feibion Lefi.
16:9 Ai peth dibwys yn eich golwg yw fod Duw Israel wedi eich neilltuo chwi o blith cynulliad Israel, ichwi ddynesu ato a gwasanaethu yn nhabernacl yr ARGLWYDD a sefyll o flaen y cynulliad a gweini arnynt?
16:10 Y mae wedi caniatáu i ti a'th holl frodyr, meibion Lefi, ddynesu ato; a ydych am geisio bod yn offeiriaid hefyd?
16:11 Yr wyt ti a'th holl gwmni wedi ymgynnull yn erbyn yr ARGLWYDD; pam, felly, yr ydych yn grwgnach yn erbyn Aaron?"
16:12 Yna galwodd Moses am Dathan ac Abiram, feibion Eliab, ond dywedasant hwy, "Nid ydym am ddod.
16:13 Ai peth dibwys yw dy fod wedi dod â ni allan o wlad yn llifeirio o laeth a mêl, i'n lladd yn yr anialwch? A wyt hefyd am dy osod dy hun yn bennaeth arnom?
16:14 Yn wir, ni ddaethost â ni i wlad yn llifeirio o laeth a mêl, na rhoi inni faes na gwinllan yn feddiant. A wyt am ddallu'r dynion hyn? Nid ydym am ddod."
16:15 Yr oedd Moses yn ddig iawn, a dywedodd wrth yr ARGLWYDD, "Paid ag edrych ar eu hoffrwm. Ni chymerais gymaint ag un asyn oddi arnynt, ac nid wyf wedi gwneud cam â'r un ohonynt."
16:16 Dywedodd Moses wrth Cora, "Yr wyt ti a'th holl gwmni ac Aaron i fod yn bresennol gerbron yr ARGLWYDD yfory.
16:17 Y mae pob un i gymryd ei thuser a rhoi arogldarth ynddo, a dod ag ef gerbron yr ARGLWYDD; yr wyt ti, Aaron, a phob un arall i ddod â thuser, a bydd dau gant a hanner ohonynt."
16:18 Felly cymerodd pob un ei thuser a rhoi tân ynddynt a gosod arogldarth arnynt, a sefyll gyda Moses ac Aaron wrth ddrws pabell y cyfarfod;
16:19 ac ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD i'r holl gynulliad.
16:20 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
16:21 "Ymwahanwch oddi wrth y cynulliad hwn, oherwydd yr wyf am eu difa ar unwaith."
16:22 Ond syrthiasant hwy ar eu hwynebau, a dweud, "O Dduw, Duw ysbryd pob cnawd, a wyt am ddigio wrth yr holl gynulliad am fod un dyn wedi pechu?"
16:23 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
16:24 "Dywed wrth y cynulliad am fynd ymaith oddi wrth babell Cora, Dathan ac Abiram."
16:25 Cododd Moses ac aeth at Dathan ac Abiram, a dilynodd henuriaid Israel ef.
16:26 Yna dywedodd wrth y cynulliad, "Ewch allan o bebyll y dynion drwg hyn, a pheidiwch â chyffwrdd â dim o'u heiddo, rhag ichwi gael eich difa am eu holl bechodau hwy."
16:27 Felly aethant draw oddi wrth babell Cora, Dathan ac Abiram; a daeth Dathan ac Abiram allan gyda'u gwragedd, eu plant a'u rhai bychain, a sefyll wrth ddrws eu pebyll.
16:28 Dywedodd Moses, "Cewch wybod trwy hyn mai'r ARGLWYDD a'm hanfonodd i wneud yr holl bethau hyn, ac nad o'm dyfais fy hun y gwneuthum hwy.
16:29 Os bydd y dynion hyn farw'n naturiol, a phrofi'r un ffawd ag sy'n dod yn arferol i bobl, yna nid yw'r ARGLWYDD wedi fy anfon.
16:30 Ond os gwna'r ARGLWYDD rywbeth newydd, trwy beri i'r ddaear agor ei genau a'u llyncu hwy a phopeth a berthyn iddynt, fel eu bod yn disgyn yn fyw i Sheol, yna byddwch yn gwybod bod y dynion hyn wedi dirmygu'r ARGLWYDD."
16:31 Fel yr oedd yn gorffen dweud hyn i gyd, holltodd y tir odanynt,
16:32 ac agorodd y ddaear ei genau a'u llyncu hwy a'u tylwyth, a holl ddynion Cora a'u heiddo i gyd.
16:33 Felly disgynasant hwy, a phawb oedd gyda hwy, yn fyw i Sheol; yna caeodd y ddaear amdanynt, a difawyd hwy o blith y cynulliad.
16:34 Wrth iddynt weiddi, ffodd yr holl Israeliaid oedd o'u hamgylch, gan ddweud, "Rhag i'r ddaear ein llyncu ninnau!"
16:35 Yna daeth tân oddi wrth yr ARGLWYDD a difa'r ddau gant a hanner o ddynion oedd yn offrymu arogldarth.

Y Thuserau

16:36 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
16:37 "Dywed wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad am godi'r thuserau allan o'r goelcerth, am eu bod yn sanctaidd, a thaenu'r tân ar wasgar;
16:38 yna y mae thuserau'r rhai a bechodd, ac a fu farw, i'w curo'n blatiau i wneud caead ar yr allor, oherwydd y maent yn sanctaidd am iddynt gael eu hoffrymu gerbron yr ARGLWYDD; felly byddant yn arwydd i bobl Israel."
16:39 Yna cymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, a offrymwyd gan y rhai a gafodd eu llosgi, ac fe'u curwyd i wneud caead i'r allor,
16:40 i atgoffa pobl Israel nad oedd neb heblaw'r rhai oedd yn gymwys, sef disgynyddion Aaron, i ddynesu i losgi arogldarth gerbron yr ARGLWYDD, rhag iddo fod fel Cora a'i gwmni. Gwnaed hyn fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Eleasar trwy Moses.

Aaron yn Achub y Bobl

16:41 Trannoeth dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron, a dweud, "Yr ydych wedi lladd pobl yr ARGLWYDD."
16:42 Ac wedi i'r cynulliad ymgynnull yn erbyn Moses ac Aaron, troesant at babell y cyfarfod a gwelsant gwmwl yn ei gorchuddio a gogoniant yr ARGLWYDD yn ymddangos.
16:43 Yna daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod,
16:44 a dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
16:45 "Ewch ymaith o blith y cynulliad hwn, oherwydd yr wyf am eu difa ar unwaith." Syrthiasant ar eu hwynebau,
16:46 a dywedodd Moses wrth Aaron, "Cymer thuser, a rho ynddo dân oddi ar yr allor, a gosod arno arogldarth, a dos rhag blaen at y cynulliad, a gwna gymod drostynt; daeth digofaint oddi wrth yr ARGLWYDD, ac y mae'r pla wedi dechrau."
16:47 Gwnaeth Aaron fel yr oedd Moses wedi dweud, a rhedodd i ganol y cynulliad, ond gwelodd fod y pla eisoes wedi dechrau ymhlith y bobl. Rhoddodd arogldarth ar y thuser, a gwnaeth gymod dros y bobl.
16:48 Safodd rhwng y meirw a'r byw, ac fe beidiodd y pla.
16:49 Bu farw pedair mil ar ddeg a saith gant trwy'r pla, heblaw'r rhai a fu farw o achos Cora.
16:50 Yna, wedi i'r pla beidio, aeth Aaron yn ôl at Moses yn nrws pabell y cyfarfod.

Ffon Aaron

17:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
17:2 "Llefara wrth bobl Israel, a chymer wialen gan bob un o arweinwyr y tylwythau, deuddeg i gyd. Ysgrifenna enw pob dyn ar ei wialen,
17:3 ond ar wialen Lefi ysgrifenna enw Aaron. Felly bydd gan bob un o arweinwyr y tylwythau wialen.
17:4 Yna yr wyt i osod y gwiail ym mhabell y cyfarfod, o flaen y dystiolaeth, lle byddaf yn cwrdd â thi.
17:5 Bydd gwialen y dyn a ddewisaf fi yn blaguro; dyma sut y rhoddaf daw ar yr Israeliaid sy'n grwgnach yn dy erbyn."
17:6 Felly llefarodd Moses wrth bobl Israel, a rhoddodd pob un o arweinwyr y tylwythau wialen iddo, deuddeg i gyd; ac yr oedd gwialen Aaron ymhlith eu gwiail hwy.
17:7 Yna gosododd Moses y gwiail gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y dystiolaeth.
17:8 Trannoeth aeth Moses i mewn i babell y dystiolaeth, a gwelodd fod gwialen Aaron, a oedd yn cynrychioli tŷ Lefi, wedi blaguro a blodeuo a dwyn almonau aeddfed.
17:9 Yna daeth Moses â'r holl wiail oedd gerbron yr ARGLWYDD allan at holl bobl Israel, ac wedi iddynt eu gweld, cymerodd pob dyn ei wialen.
17:10 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Rho wialen Aaron yn ôl o flaen y dystiolaeth fel arwydd i'r rhai gwrthryfelgar; rhydd hyn daw ar eu grwgnach yn f'erbyn, rhag iddynt farw."
17:11 Gwnaeth Moses yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
17:12 Dywedodd pobl Israel wrth Moses, "Edrych, yr ydym yn trengi! Y mae wedi darfod amdanom! Y mae wedi darfod am bob un ohonom!
17:13 Bydd pob un sy'n nesáu at dabernacl yr ARGLWYDD yn marw. Ai trengi fydd tynged pob un ohonom?"

Dyletswyddau Offeiriaid a Lefiaid

18:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, "Byddi di, dy feibion a'th deulu yn atebol am y troseddau a wneir yn erbyn y cysegr, ond ti a'th feibion yn unig fydd yn atebol am y troseddau a wneir yn erbyn yr offeiriadaeth.
18:2 Gad i'th frodyr o dylwyth Lefi, sef tylwyth dy dad, ymuno â thi a gweini arnat pan fyddi di a'th feibion o flaen pabell y dystiolaeth.
18:3 Hwy fydd yn gofalu amdanat ac am holl waith y babell, ond nid ydynt i ddynesu at lestri'r cysegr nac at yr allor rhag iddynt hwy, a chwithau, farw.
18:4 Gad iddynt ymuno â thi i oruchwylio holl wasanaeth pabell y cyfarfod, ond paid â gadael i neb arall ddod yn agos atat.
18:5 Chwi eich hunain fydd yn gofalu am waith y cysegr a'r allor, rhag i ddigofaint ddod eto ar bobl Israel.
18:6 Edrych, yr wyf wedi dewis dy frodyr, y Lefiaid, o blith pobl Israel, a'u rhoi i ti; y maent wedi eu neilltuo i'r ARGLWYDD i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod.
18:7 Fel offeiriaid, yr wyt ti a'th feibion i ofalu am bopeth sy'n ymwneud â'r allor, a phopeth oddi mewn i'r llen; dyna fydd eich gwasanaeth chwi. Yr wyf yn rhoi'r gwasanaeth offeiriadol yn rhodd i chwi, a bydd farw pwy bynnag arall a ddaw'n agos."

Rhan yr Offeiriaid

18:8 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, "Edrych, yr wyf wedi rhoi yn dy ofal hefyd yr offrymau a gyflwynir imi; yr wyf yn rhoi holl bethau cysegredig pobl Israel i ti ac i'th feibion yn gyfran arbennig am byth.
18:9 Dyma fydd yn eiddo iti o'r pethau mwyaf cysegredig a arbedwyd rhag y tân: pob offrwm o eiddo'r Israeliaid a gyflwynir imi, yn fwydoffrwm, yn offrwm dros bechod neu'n aberth dros gamwedd; bydd yn gysegredig iawn gennyt ti a'th feibion.
18:10 Yr wyt i'w fwyta yn y lle mwyaf sanctaidd; caiff pob gwryw fwyta ohono, a bydd yn gysegredig gennyt.
18:11 Bydd hyn hefyd yn eiddo iti: y rhan a neilltuir o'r holl roddion a gyflwynir gan bobl Israel yn offrymau cyhwfan; fe'i rhoddais i ti ac i'th feibion a'th ferched am byth; caiff pob un sy'n lân yn dy dŷ fwyta ohoni.
18:12 Rhoddaf iti hefyd y gorau o'r holl olew, gwin ac ŷd a gyflwynir yn flaenffrwyth i'r ARGLWYDD.
18:13 Bydd holl flaenffrwyth eu tir a gyflwynir i'r ARGLWYDD yn eiddo iti, a chaiff pob un sy'n lân yn dy dŷ fwyta ohono.
18:14 Bydd yr holl bethau diofryd yn Israel hefyd yn eiddo i ti.
18:15 Bydd y cyntaf a ddaw allan o'r groth ac a offrymir i'r ARGLWYDD, yn ddyn neu anifail, yn eiddo i ti; ond yr wyt i brynu'n ôl y plentyn cyntafanedig o'r bobl, a'r cyntafanedig o bob anifail aflan.
18:16 Yr wyt i'w prynu'n ôl yn fis oed, a thalu'r tâl penodedig o bum sicl o arian, yn ôl sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera.
18:17 Ond nid wyt i brynu'n ôl y cyntafanedig o ych, na dafad na gafr, oherwydd y maent hwy'n gysegredig. Yr wyt i daenellu eu gwaed ar yr allor, a llosgi'r braster yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD;
18:18 ond bydd eu cig yn eiddo i ti, fel y mae'r frest a chwifir, a'r glun dde, yn eiddo i ti.
18:19 Rhoddaf i ti ac i'th feibion a'th ferched am byth yr holl offrymau sanctaidd a gyflwynir gan bobl Israel i'r ARGLWYDD; bydd hyn yn gyfamod halen am byth gerbron yr ARGLWYDD i ti a'th ddisgynyddion gyda thi."
18:20 Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Aaron, "Ni chei di etifeddiaeth yn eu tir na chyfran yn eu mysg; myfi yw dy gyfran di a'th etifeddiaeth ymysg pobl Israel.

Rhan y Lefiaid

18:21 "Yr wyf yn rhoi yn etifeddiaeth i'r Lefiaid bob degwm yn Israel, yn dâl am eu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
18:22 Nid yw'r Israeliaid mwyach i ddynesu at babell y cyfarfod, neu byddant yn atebol am eu pechod ac yn marw.
18:23 Ond y mae'r Lefiaid i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a byddant hwy'n atebol am eu camweddau; bydd hyn yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau. Ni fydd gan y Lefiaid etifeddiaeth ymhlith pobl Israel,
18:24 oherwydd fe roddaf yn etifeddiaeth iddynt hwy y degwm a gyflwynir gan bobl Israel yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dyna pam y dywedais wrthynt na fydd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith pobl Israel."

Degwm y Lefiaid

18:25 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
18:26 "Dywed hefyd wrth y Lefiaid, 'Pan gymerwch gan bobl Israel y degwm a roddais i chwi'n etifeddiaeth, yr ydych i gyflwyno ohono offrwm i'r ARGLWYDD, sef degwm o'r degwm.
18:27 Fe gyfrifir eich offrwm i chwi fel petai'n ŷd o'r llawr dyrnu neu'n sudd o'r gwinwryf.
18:28 Felly yr ydych chwithau hefyd i gyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD o'r holl ddegymau a dderbyniwch gan bobl Israel, ac y mae'r hyn sy'n offrwm i'r ARGLWYDD i'w roi i Aaron yr offeiriad.
18:29 Yr ydych i offrymu'n offrwm i'r ARGLWYDD y gorau a'r mwyaf sanctaidd o'r cyfan a dderbyniwch.'
18:30 Dywed wrthynt hefyd, 'Wedi ichwi offrymu'r gorau ohono, cyfrifir y gweddill i'r Lefiaid fel petai'n gynnyrch y llawr dyrnu a'r gwinwryf;
18:31 cewch chwi a'ch teulu ei fwyta mewn unrhyw le, oherwydd dyma eich tâl am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
18:32 Wedi ichwi offrymu'r gorau ohono, ni fyddwch yn atebol am unrhyw bechod o'i herwydd, ac ni fyddwch yn halogi pethau cysegredig pobl Israel. Felly, ni fyddwch farw.'"

Lludw'r Fuwch Goch

19:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
19:2 "Dyma'r ddeddf a'r gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 'Dywed wrth bobl Israel am ddod â buwch atat, un goch heb unrhyw ddiffyg na nam arni, ac na fu erioed dan iau.
19:3 Rhowch hi i Eleasar yr offeiriad, a deuer â hi y tu allan i'r gwersyll a'i lladd ger ei fron.
19:4 Yna fe gymer Eleasar yr offeiriad beth o'r gwaed a'i daenellu â'i fys saith gwaith ar du blaen pabell y cyfarfod.
19:5 Llosger y fuwch yn ei ŵydd, ynghyd â'i chroen, ei chig, ei gwaed a'i gweddillion.
19:6 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd coed cedrwydd, isop ac edau ysgarlad, ac yn eu taflu i ganol y tân sy'n llosgi'r fuwch.
19:7 Wedyn bydd yn golchi ei ddillad a'i gorff â dŵr, ac yn dod i mewn i'r gwersyll, ond ni fydd yn lân tan yr hwyr.
19:8 Y mae'r dyn a losgodd y fuwch hefyd i olchi ei ddillad a'i gorff â dŵr, ac ni fydd yntau ychwaith yn lân tan yr hwyr.
19:9 Yna bydd dyn sy'n lân yn casglu lludw'r fuwch ac yn ei roi mewn lle glân y tu allan i'r gwersyll, ac fe'i cedwir i gynulliad pobl Israel ei ddefnyddio ar gyfer dŵr puredigaeth; bydd y fuwch, felly, yn aberth dros bechod.
19:10 Y mae'r dyn sy'n casglu lludw'r fuwch hefyd i olchi ei ddillad, ac ni fydd yn lân tan yr hwyr. Bydd hyn yn ddeddf i'w chadw am byth gan bobl Israel a'r dieithriaid sy'n byw yn eu plith.

Cyffwrdd â Chorff Marw

19:11 "'Bydd y sawl sy'n cyffwrdd â chorff marw unrhyw un yn aflan am saith diwrnod;
19:12 y mae i'w olchi ei hun â dŵr ar y trydydd a'r seithfed dydd, a bydd yn lân, ond os na fydd yn ei olchi ei hun ar y trydydd a'r seithfed dydd, ni fydd yn lân.
19:13 Bydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd â chorff marw unrhyw un, a heb ei olchi ei hun, yn halogi tabernacl yr ARGLWYDD, a bydd yn cael ei ddiarddel o Israel; bydd yn aflan, ac yn parhau'n aflan, am nad yw wedi ei drochi mewn dŵr puredigaeth.
19:14 "'Dyma'r ddeddf pan fydd rhywun yn marw mewn pabell: bydd unrhyw un a ddaw i mewn i'r babell, ac unrhyw un a oedd ynddi'n barod, yn aflan am saith diwrnod.
19:15 Bydd pob llestr agored, heb gaead wedi ei gau arno, yn aflan.
19:16 Bydd pwy bynnag sydd allan yn y maes ac yn cyffwrdd ag un a fu farw trwy'r cleddyf, neu â chorff marw unrhyw un, neu asgwrn ohono, neu ei fedd, yn aflan am saith diwrnod.
19:17 Ar gyfer y rhai aflan fe gymerir peth o ludw'r aberth dros bechod, a thywallt dŵr glân drosto mewn llestr;
19:18 yna bydd rhywun sy'n lân yn cymryd isop, yn ei drochi mewn dŵr, ac yn ei daenellu ar y babell a'i holl ddodrefn, ac ar bawb oedd yno, ac ar y sawl a gyffyrddodd ag asgwrn neu fedd un a gafodd ei ladd neu a fu farw;
19:19 bydd y sawl sy'n lân yn ei daenellu dros yr aflan ar y trydydd a'r seithfed dydd, ac erbyn y seithfed dydd bydd wedi ei lanhau; yna bydd yn golchi ei ddillad ei hun a'i gorff â dŵr, ac erbyn yr hwyr bydd yntau'n lân.
19:20 "'Os yw rhywun yn aflan ac yn gwrthod ei olchi ei hun, fe'i torrir ymaith o blith y cynulliad am iddo halogi cysegr yr ARGLWYDD; bydd yn aflan am na throchwyd ef mewn dŵr puredigaeth.
19:21 Bydd hyn yn ddeddf iddynt am byth. Y mae'r sawl sy'n taenellu'r dŵr puredigaeth i olchi ei ddillad; bydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd â'r dŵr yn aflan tan yr hwyr.
19:22 Bydd beth bynnag y bydd rhywun aflan yn ei gyffwrdd yn troi'n aflan, ac os bydd rhywun yn cyffwrdd â'r peth aflan hwnnw, bydd yntau'n aflan tan yr hwyr.'"

Israel yn Cades, Ex. 17:1-7

20:1 Yn y mis cyntaf daeth holl gynulleidfa pobl Israel i anialwch Sin, ac arhosodd y bobl yn Cades; yno y bu Miriam farw, ac yno y claddwyd hi.
20:2 Nid oedd dŵr ar gyfer y gynulleidfa, ac felly ymgynullasant yn erbyn Moses ac Aaron.
20:3 Dechreuasant ymryson â Moses, a dweud, "O na fyddem ninnau wedi marw pan fu farw ein cymrodyr gerbron yr ARGLWYDD!
20:4 Pam y daethost â chynulleidfa'r ARGLWYDD i'r anialwch hwn i farw gyda'n hanifeiliaid?
20:5 Pam y daethost â ni allan o'r Aifft a'n harwain i'r lle drwg hwn? Nid oes yma rawn, na ffigys, na gwinwydd, na phomgranadau, na hyd yn oed ddŵr i'w yfed."
20:6 Yna aeth Moses ac Aaron o ŵydd y gynulleidfa at ddrws pabell y cyfarfod, ac ymgrymu. Ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD iddynt,
20:7 a dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
20:8 "Cymer y wialen, a chynnull y gynulleidfa gyda'th frawd Aaron, ac yn eu gŵydd dywed wrth y graig am ddiferu dŵr; yna byddi'n tynnu dŵr o'r graig ar eu cyfer ac yn ei roi i'r gynulleidfa a'i hanifeiliaid i'w yfed."
20:9 Felly cymerodd Moses y wialen oedd o flaen yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnwyd iddo.
20:10 Cynullodd Moses ac Aaron y gynulleidfa o flaen y graig, a dweud wrthynt, "Gwrandewch, yn awr, chwi wrthryfelwyr; a ydych am inni dynnu dŵr i chwi allan o'r graig hon?"
20:11 Yna cododd Moses ei law, ac wedi iddo daro'r graig ddwywaith â'i wialen, daeth llawer o ddŵr allan, a chafodd y gynulleidfa a'u hanifeiliaid yfed ohono.
20:12 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, "Am i chwi beidio â chredu ynof, na'm sancteiddio yng ngŵydd pobl Israel, ni fyddwch yn dod â'r gynulleidfa hon i mewn i'r wlad a roddais iddynt."
20:13 Dyma ddyfroedd Meriba, lle y bu'r Israeliaid yn ymryson â'r ARGLWYDD, a lle y datguddiodd ei hun yn sanctaidd iddynt.

Brenin Edom yn Rhwystro Israel

20:14 Anfonodd Moses genhadon o Cades at frenin Edom i ddweud, "Dyma a ddywed dy frawd Israel: 'Fe wyddost am yr holl helbulon a ddaeth i'n rhan,
20:15 sut yr aeth ein hynafiaid i lawr i'r Aifft, sut y buom yn byw yno am amser maith, a sut y cawsom ni a'n hynafiaid ein cam-drin gan yr Eifftiaid;
20:16 ond pan waeddasom ar yr ARGLWYDD, fe glywodd ein cri, ac anfonodd angel i'n harwain allan o'r Aifft.
20:17 A dyma ni yn Cades, dinas sydd yn ymyl dy diriogaeth di. Yn awr, gad inni fynd trwy dy wlad; nid ydym am fynd trwy dy gaeau a'th winllannoedd, nac am yfed dŵr o'r ffynhonnau, ond fe gadwn at briffordd y brenin, heb droi i'r dde na'r chwith, nes inni fynd trwy dy diriogaeth.'"
20:18 Ond dywedodd Edom wrtho, "Ni chei fynd trwodd, neu fe ddof yn dy erbyn â chleddyf."
20:19 Dywedodd pobl Israel wrtho, "Nid ydym am fynd ond ar hyd y briffordd, ac os byddwn ni a'n hanifeiliaid yn yfed dy ddŵr, fe dalwn amdano; ni wnawn ddim ond cerdded trwodd."
20:20 Ond dywedodd ef, "Ni chei di ddim mynd." Daeth Edom allan yn eu herbyn gyda byddin fawr o ddynion,
20:21 a gwrthododd adael i Israel fynd trwy ei dir; felly fe drodd Israel ymaith oddi wrtho.

Marw Aaron

20:22 Aeth holl gynulleidfa pobl Israel o Cades, a chyrraedd Mynydd Hor.
20:23 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron ym Mynydd Hor, a oedd ar derfyn gwlad Edom,
20:24 "Cesglir Aaron at ei bobl; ni chaiff fynd i mewn i'r wlad a roddais i bobl Israel, am i chwi wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn wrth ddyfroedd Meriba.
20:25 Felly tyrd ag Aaron a'i fab Eleasar i fyny Mynydd Hor,
20:26 a chymer y wisg oddi am Aaron a'i rhoi am ei fab Eleasar; yna bydd Aaron yn cael ei gasglu at ei bobl, ac yn marw yno."
20:27 Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, ac aethant i fyny Mynydd Hor, a'r holl gynulleidfa yn eu gwylio.
20:28 Cymerodd Moses y wisg oddi am Aaron a'i rhoi am ei fab Eleasar, a bu Aaron farw yno ar ben y mynydd.
20:29 Yna daeth Moses ac Eleasar i lawr o ben y mynydd, a phan sylweddolodd yr holl gynulleidfa fod Aaron wedi marw, wylodd holl dŷ Israel amdano am ddeg diwrnod ar hugain.

Buddugoliaeth dros Ganaan

21:1 Pan glywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef, fod yr Israeliaid yn dod ar hyd ffordd Atharaim, ymosododd arnynt a chymryd rhai ohonynt yn garcharorion.
21:2 Gwnaeth Israel adduned i'r ARGLWYDD, a dweud, "Os rhoddi di'r bobl hyn yn ein dwylo, yna fe ddinistriwn eu dinasoedd yn llwyr."
21:3 Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar gri Israel, a rhoddodd y Canaaneaid yn eu dwylo; dinistriodd yr Israeliaid hwy a'u dinasoedd, ac felly y galwyd y lle yn Horma.

Y Sarff Bres

21:4 Yna aeth yr Israeliaid o Fynydd Hor ar hyd ffordd y Môr Coch, ac o amgylch gwlad Edom. Dechreuodd y bobl fod yn anniddig ar y daith,
21:5 a siarad yn erbyn Duw a Moses, a dweud, "Pam y daethoch â ni o'r Aifft i farw yn yr anialwch? Nid oes yma na bwyd na diod, ac y mae'n gas gennym y bwyd gwael hwn."
21:6 Felly anfonodd yr ARGLWYDD seirff gwenwynig ymysg y bobl, a bu nifer o'r Israeliaid farw wedi iddynt gael eu brathu ganddynt.
21:7 Yna daeth y bobl at Moses, a dweud, "Yr ydym wedi pechu trwy siarad yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di; gweddïa ar i'r ARGLWYDD yrru'r seirff ymaith oddi wrthym." Felly gweddïodd Moses ar ran y bobl,
21:8 a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Gwna sarff a'i gosod ar bolyn, a bydd pawb a frathwyd, o edrych arni, yn cael byw."
21:9 Felly gwnaeth Moses sarff bres, a'i gosod ar bolyn, a phan fyddai rhywun yn cael ei frathu gan sarff, byddai'n edrych ar y sarff bres, ac yn byw.

Symud o Fynydd Hor i Ddyffryn ger Pisga

21:10 Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Oboth,
21:11 a mynd oddi yno a gwersyllu yn Ije-abarim, yn yr anialwch sydd gyferbyn â Moab, tua chodiad haul.
21:12 Wedi cychwyn oddi yno, a gwersyllu yn nyffryn Sared,
21:13 aethant ymlaen, a gwersyllu yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch sy'n ymestyn o derfyn yr Amoriaid; yr oedd Arnon ar y ffin rhwng Moab a'r Amoriaid.
21:14 Dyna pam y mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn sôn am "Waheb yn Suffa a'r dyffrynnoedd,
21:15 Arnon a llechweddau'r dyffrynnoedd sy'n ymestyn at safle Ar ac yn gorffwys ar derfyn Moab."
21:16 Oddi yno aethant i Beer, y ffynnon y soniodd yr ARGLWYDD amdani wrth Moses, pan ddywedodd, "Cynnull y bobl ynghyd, er mwyn i mi roi dŵr iddynt."
21:17 Yna canodd Israel y gân hon: "Tardda, ffynnon! Canwch iddi —
21:18 y ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a agorodd penaethiaid y bobl â'u gwiail a'u ffyn." Aethant ymlaen o'r anialwch i Mattana,
21:19 ac oddi yno i Nahaliel; yna i Bamoth,
21:20 ac ymlaen i'r dyffryn sydd yng ngwlad Moab, ger copa Pisga, sy'n edrych i lawr dros yr anialdir.

Goruchafiaeth ar Sihon ac Og, Deut. 2:16—3:11

21:21 Yna anfonodd Israel genhadon at Sihon brenin yr Amoriaid i ddweud,
21:22 "Gad inni fynd trwy dy wlad; nid ydym am droi i mewn i'th gaeau na'th winllannoedd, nac yfed dŵr o'r ffynhonnau; fe gadwn at briffordd y brenin, nes inni fynd trwy dy diriogaeth."
21:23 Ond nid oedd Sihon am adael i Israel fynd trwy ei diriogaeth; felly cynullodd ei holl fyddin, ac aeth allan i'r anialwch yn erbyn Israel, a phan ddaeth i Jahas, ymosododd arnynt.
21:24 Ond lladdodd yr Israeliaid ef â min y cleddyf, a chymryd meddiant o'i dir, o Arnon i Jabboc, a hyd at derfyn yr Amoriaid, er mor gadarn oedd hwnnw.
21:25 Meddiannodd Israel y dinasoedd hyn i gyd, ac ymsefydlu yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, ac yn Hesbon a'i holl bentrefi.
21:26 Hesbon oedd dinas Sihon brenin yr Amoriaid; yr oedd wedi ymladd yn erbyn brenin blaenorol Moab, a chipio'i holl dir hyd at Arnon.
21:27 Dyna pam y canodd y beirdd: "Dewch i Hesbon a'i hadeiladu! Gwnewch yn gadarn ddinas Sihon!
21:28 Oherwydd aeth tân allan o Hesbon, a fflam o ddinas Sihon, a difa Ar yn Moab a pherchnogion mynydd-dir Arnon.
21:29 Gwae di, Moab! Darfu amdanoch, chwi bobl Cemos! Gwnaeth ei feibion yn ffoaduriaid, a'i ferched yn gaethion i Sihon brenin yr Amoriaid.
21:30 Saethasom hwy, a darfu amdanynt o Hesbon hyd Dibon, ac yr ydym wedi eu dymchwel o Noffa hyd Medeba."
21:31 Felly y daeth Israel i fyw yng ngwlad yr Amoriaid.
21:32 Anfonodd Moses rai i ysbïo Jaser cyn meddiannu eu pentrefi, a gyrru allan yr Amoriaid a oedd yno.
21:33 Yna troesant a mynd ar hyd ffordd Basan; ond daeth Og brenin Basan a'i holl fyddin allan yn eu herbyn, ac ymladd â hwy yn Edrei.
21:34 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Paid â'i ofni, oherwydd yr wyf wedi ei roi ef a'i holl fyddin a'i dir yn dy law; gwna iddo ef yr hyn a wnaethost i Sihon brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Hesbon."
21:35 Felly lladdasant ef, ei feibion a'i holl fyddin, heb adael un yn weddill; yna meddianasant ei dir.

Brenin Moab yn Anfon am Balaam

22:1 Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Jericho yng ngwastadedd Moab, y tu draw i'r Iorddonen.
22:2 Yr oedd Balac fab Sippor wedi gweld y cyfan a wnaeth Israel i'r Amoriaid,
22:3 a daeth ofn mawr ar Moab am fod yr Israeliaid mor niferus. Yr oedd y Moabiaid yn arswydo rhagddynt,
22:4 a dywedasant wrth henuriaid Midian, "Bydd y cynulliad hwn yn awr yn llyncu popeth o'n cwmpas, fel y mae'r ych yn llyncu glaswellt y maes." Yr oedd Balac fab Sippor yn frenin Moab ar y pryd,
22:5 ac anfonodd ef genhadau at Balaam fab Beor yn Pethor, sydd yng ngwlad Amaw ac ar lan yr Ewffrates, a dweud, "Edrych, daeth pobl allan o'r Aifft, a chartrefu ar hyd a lled y wlad, ac y maent bellach gyferbyn â mi.
22:6 Tyrd, yn awr, a melltithia'r bobl hyn imi, oherwydd y maent yn gryfach na mi; yna, hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan o'r wlad, oherwydd gwn y daw bendith i'r sawl yr wyt ti'n ei fendithio, a melltith i'r sawl yr wyt ti'n ei felltithio."
22:7 Felly aeth henuriaid Moab a Midian at Balaam, gyda'r tâl am ddewino yn eu llaw, a rhoi iddo'r neges oddi wrth Balac.
22:8 Dywedodd Balaam wrthynt, "Arhoswch yma heno; dychwelaf â gair atoch, yn ôl fel y bydd yr ARGLWYDD wedi llefaru wrthyf." Felly arhosodd tywysogion Moab gyda Balaam. Yna daeth Duw at Balaam, a gofyn,
22:9 "Pwy yw'r dynion hyn sydd gyda thi?"
22:10 Atebodd Balaam ef, "Anfonodd Balac fab Sippor, brenin Moab, neges ataf yn dweud,
22:11 'Edrych, daeth pobl allan o'r Aifft, a chartrefu ar hyd a lled y wlad; tyrd, yn awr, a melltithia hwy imi; yna hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan.'"
22:12 Dywedodd Duw wrth Balaam, "Paid â mynd gyda hwy, na melltithio'r bobl, oherwydd y maent wedi eu bendithio."
22:13 Felly cododd Balaam drannoeth, a dweud wrth dywysogion Balac, "Ewch yn ôl i'ch gwlad, oherwydd gwrthododd yr ARGLWYDD i mi ddod gyda chwi."
22:14 Yna cododd tywysogion Moab a mynd at Balac a dweud, "Y mae Balaam yn gwrthod dod gyda ni."
22:15 Anfonodd Balac dywysogion eilwaith, ac yr oedd y rhain yn fwy niferus ac anrhydeddus na'r lleill.
22:16 Daethant at Balaam a dweud wrtho, "Dyma a ddywed Balac fab Sippor, 'Paid â gadael i ddim dy rwystro rhag dod ataf;
22:17 fe ddeliaf yn gwbl anrhydeddus â thi, ac fe wnaf y cyfan a ddywedi wrthyf; felly tyrd, a melltithia'r bobl hyn imi.'"
22:18 Ond dywedodd Balaam wrth weision Balac, "Pe bai Balac yn rhoi imi lond ei dŷ o arian ac aur, ni allaf wneud yn groes i'r hyn y bydd yr ARGLWYDD fy Nuw yn ei orchymyn.
22:19 Yn awr, arhoswch yma heno, er mwyn imi wybod beth arall a ddywed yr ARGLWYDD wrthyf."
22:20 Daeth Duw at Balaam liw nos, a dweud wrtho, "Os yw'r dynion wedi dod i'th gyrchu, yna dos gyda hwy; ond paid â gwneud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti."

Balaam a'i Asen

22:21 Cododd Balaam drannoeth, ac ar ôl cyfrwyo ei asen, aeth gyda thywysogion Moab.
22:22 Ond digiodd Duw wrtho am fynd, a safodd angel yr ARGLWYDD ar y ffordd i'w rwystro. Fel yr oedd yn marchogaeth ar ei asen, a'i ddau was gydag ef,
22:23 fe welodd yr asen angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a chleddyf yn barod yn ei law; felly trodd yr asen oddi ar y ffordd, ac aeth i mewn i gae. Yna trawodd Balaam hi er mwyn ei throi yn ôl i'r ffordd.
22:24 Safodd angel yr ARGLWYDD wedyn ar lwybr yn arwain trwy'r gwinllannoedd, a wal o boptu iddo.
22:25 Pan welodd yr asen angel yr ARGLWYDD, gwthiodd yn erbyn y wal, gan wasgu troed Balaam rhyngddi a'r wal.
22:26 Felly trawodd Balaam yr asen eilwaith. Yna aeth angel yr ARGLWYDD ymlaen a sefyll mewn lle mor gyfyng fel nad oedd modd troi i'r dde na'r chwith.
22:27 Pan welodd yr asen angel yr ARGLWYDD, gorweddodd dan Balaam; ond gwylltiodd yntau, a tharo'r asen â'i ffon.
22:28 Yna agorodd yr ARGLWYDD enau'r asen, a pheri iddi ddweud wrth Balaam, "Beth a wneuthum iti, dy fod wedi fy nharo deirgwaith?"
22:29 Atebodd Balaam hi, "Fe wnaethost ffŵl ohonof. Pe bai gennyf gleddyf yn fy llaw, byddwn yn dy ladd."
22:30 Yna gofynnodd yr asen i Balaam, "Onid myfi yw'r asen yr wyt wedi ei marchogaeth trwy gydol dy oes hyd heddiw? A wneuthum y fath beth â thi erioed o'r blaen?" Atebodd yntau, "Naddo."
22:31 Yna agorodd yr ARGLWYDD lygaid Balaam, a phan welodd ef angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf yn barod yn ei law, plygodd ei ben ac ymgrymu ar ei wyneb.
22:32 Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrtho, "Pam y trewaist dy asen y teirgwaith hyn? Fe ddeuthum i'th rwystro am dy fod yn rhuthro i fynd o'm blaen,
22:33 ond gwelodd dy asen fi, a throi oddi wrthyf deirgwaith. Pe na bai wedi troi oddi wrthyf, buaswn wedi dy ladd di ac arbed dy asen."
22:34 Dywedodd Balaam wrth angel yr ARGLWYDD, "Yr wyf wedi pechu; ni wyddwn dy fod yn sefyll ar y ffordd i'm rhwystro. Yn awr, os yw'r hyn a wneuthum yn ddrwg yn dy olwg, fe ddychwelaf adref."
22:35 Ond dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Balaam, "Dos gyda'r dynion; ond paid â dweud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti." Felly aeth Balaam yn ei flaen gyda thywysogion Balac.

Balac yn Croesawu Balaam

22:36 Pan glywodd Balac fod Balaam yn dod, aeth allan i'w gyfarfod yn Ar yn Moab, ar y ffin bellaf ger afon Arnon.
22:37 Dywedodd Balac wrtho, "Onid anfonais neges atat i'th alw? Pam na ddaethost ataf? Oni allaf ddelio'n anrhydeddus â thi?"
22:38 Atebodd Balaam ef, "Dyma fi wedi dod atat! Yn awr, a yw'r gallu gennyf i lefaru unrhyw beth ohonof fy hun? Ni allaf lefaru ond y gair a roddodd Duw yn fy ngenau."
22:39 Felly aeth Balaam gyda Balac, a chyrraedd Ciriath-husoth.
22:40  Yna aberthodd Balac wartheg a defaid, a'u hanfon at Balaam a'r tywysogion oedd gydag ef.
22:41 Trannoeth aeth Balac i gyrchu Balaam i fyny i Bamoth-baal, ac oddi yno fe ganfu fod y bobl yn cyrraedd cyn belled ag y gwelai.

Neges Gyntaf Balaam

23:1 Dywedodd Balaam wrth Balac, "Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd."
23:2 Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn, ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor.
23:3 Yna dywedodd Balaam wrth Balac, "Aros di wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw oddi yma; hwyrach y daw'r ARGLWYDD i gyfarfod â mi, ac fe ddywedaf wrthyt beth bynnag a ddatguddia imi." Felly aeth ymaith i fryn uchel.
23:4 Daeth Duw i gyfarfod â Balaam, a dywedodd Balaam wrtho, "Yr wyf wedi paratoi'r saith allor ac offrymu bustach a hwrdd ar bob un."
23:5 Rhoddodd yr ARGLWYDD air yng ngenau Balaam, a dweud, "Dos yn ôl at Balac, a llefara hyn wrtho."
23:6 Pan ddychwelodd yntau, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a holl dywysogion Moab gydag ef.
23:7 Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud, "Daeth Balac â mi o Syria, brenin Moab o fynyddoedd y dwyrain. 'Tyrd,' meddai, 'rho felltith ar Jacob imi; tyrd, cyhoedda wae ar Israel.'
23:8 Sut y gallaf felltithio neb heb i Dduw ei felltithio, neu gyhoeddi gwae ar neb heb i'r ARGLWYDD ei gyhoeddi?
23:9 Fe'u gwelaf o ben y creigiau, ac edrychaf arnynt o'r bryniau — pobl yn byw mewn unigedd, heb ystyried eu bod ymysg y cenhedloedd.
23:10 Pwy a all gyfrif Jacob mwy na llwch neu rifo chwarter Israel? Boed i minnau farw fel y bydd marw'r cyfiawn, a boed fy niwedd i fel eu diwedd hwy."
23:11 Dywedodd Balac wrth Balaam, "Beth a wnaethost imi? Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond y cyfan a wnaethost oedd eu bendithio."
23:12 Atebodd yntau, "Onid oes raid imi lefaru'r hyn y mae'r ARGLWYDD yn ei osod yn fy ngenau?"

Ail Neges Balaam

23:13 Dywedodd Balac wrtho, "Tyrd gyda mi i le arall er mwyn iti eu gweld oddi yno; ni weli di mo'r cyfan, dim ond un cwr ohonynt, ond oddi yno gelli eu melltithio imi."
23:14 Felly cymerodd ef i faes Soffim ar ben Pisga, ac adeiladodd saith allor ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob un.
23:15 Yna dywedodd Balaam wrth Balac, "Aros di yma wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw i gyfarfod â'r ARGLWYDD."
23:16 Daeth yr ARGLWYDD i gyfarfod â Balaam, a rhoi gair yn ei enau, a dweud, "Dos yn ôl at Balac, a llefara hyn wrtho."
23:17 Pan ddaeth ef ato, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. Gofynnodd Balac iddo, "Beth a ddywedodd yr ARGLWYDD?"
23:18 Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud: "Cod, Balac, a chlyw: gwrando arnaf, fab Sippor;
23:19 nid yw Duw fel meidrolyn yn dweud celwydd, neu fod meidrol yn edifarhau. Oni wna yr hyn a addawodd, a chyflawni'r hyn a ddywedodd?
23:20 Derbyniais orchymyn i fendithio, a phan fo ef yn bendithio, ni allaf ei atal.
23:21 Ni welodd ddrygioni yn Jacob, ac ni chanfu drosedd yn Israel. Y mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda hwy, a bloedd y brenin yn eu plith.
23:22 Daeth Duw â hwy allan o'r Aifft, ac yr oedd eu nerth fel nerth ych gwyllt.
23:23 Nid oes swyn yn erbyn Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel; yn awr fe ddywedir am Jacob ac Israel, 'Gwaith Duw yw hyn!'
23:24 Dyma bobl sy'n codi fel llewes, ac yn ymsythu fel llew; nid yw'n gorwedd nes bwyta'r ysglyfaeth ac yfed o waed yr hyn a larpiodd."
23:25 Dywedodd Balac wrth Balaam, "Paid â'u melltithio na'u bendithio mwyach."
23:26 Ond atebodd Balaam ef, "Oni ddywedais wrthyt fod yn rhaid imi wneud y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD?"

Trydedd Neges Balaam

23:27 Dywedodd Balac wrth Balaam, "Tyrd, fe af â thi i le arall; efallai y bydd Duw yn fodlon iti eu melltithio imi oddi yno."
23:28 Felly cymerodd Balac ef i ben Peor, sy'n edrych i lawr dros y diffeithwch,
23:29 a dywedodd Balaam wrtho, "Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd."
23:30 Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn iddo, ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.
24:1 Pan welodd Balaam fod yr ARGLWYDD yn dymuno bendithio Israel, nid aeth i arfer dewiniaeth, fel cynt; yn hytrach, trodd ei wyneb tua'r diffeithwch.
24:2 Cododd ei olwg a gweld yr Israeliaid yn gwersyllu yn ôl eu llwythau. Yna daeth ysbryd Duw arno,
24:3 a llefarodd ei oracl a dweud: "Gair Balaam fab Beor, gair y gŵr yr agorir ei lygaid
24:4 ac sy'n clywed geiriau Duw, yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog, ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:
24:5 Mor brydferth yw dy bebyll, O Jacob, a'th wersylloedd, O Israel!
24:6 Y maent yn ymestyn fel palmwydd, fel gerddi ar lan afon, fel aloewydd a blannodd yr ARGLWYDD, fel cedrwydd wrth ymyl dyfroedd.
24:7 Tywelltir dŵr o'i ystenau, a bydd digon o ddŵr i'w had. Bydd ei frenin yn uwch nag Agag, a dyrchefir ei frenhiniaeth.
24:8 Daeth Duw ag ef allan o'r Aifft, ac yr oedd ei nerth fel nerth ych gwyllt; bydd yn traflyncu'r cenhedloedd sy'n elynion iddo, gan ddryllio eu hesgyrn yn ddarnau, a'u gwanu â'i saethau.
24:9 Pan gryma, fe orwedd fel llew, neu lewes; pwy a'i deffry? Bydded bendith ar bawb a'th fendithia, a melltith ar bawb a'th felltithia."
24:10 Yna digiodd Balac wrth Balaam; curodd ei ddwylo, a dywedodd wrtho, "Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond yr wyt ti wedi eu bendithio'r teirgwaith hyn.
24:11 Felly ffo yn awr i'th le dy hun; addewais dy anrhydeddu, ond fe gadwodd yr ARGLWYDD yr anrhydedd oddi wrthyt."
24:12 Dywedodd Balaam wrth Balac, "Oni ddywedais wrth y negeswyr a anfonaist ataf,
24:13 'Pe rhoddai Balac imi lond ei dŷ o arian ac aur, ni allwn fynd yn groes i air yr ARGLWYDD a gwneud na da na drwg o'm hewyllys fy hun; rhaid imi lefaru'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD'?
24:14 Yn awr, fe af at fy mhobl fy hun; tyrd, ac fe ddywedaf wrthyt beth a wna'r bobl hyn i'th bobl di yn y dyfodol."

Pedwaredd Neges Balaam

24:15 Yna llefarodd ei oracl a dweud: "Gair Balaam fab Beor, gair y gŵr yr agorir ei lygaid
24:16 ac sy'n clywed geiriau Duw, yn gwybod meddwl y Goruchaf, yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog, ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:
24:17 Fe'i gwelaf ef, ond nid yn awr; edrychaf arno, ond nid yw'n agos. Daw seren allan o Jacob, a chyfyd teyrnwialen o Israel; fe ddryllia dalcen Moab, a difa holl feibion Seth.
24:18 Bydd Edom yn cael ei meddiannu, bydd Seir yn feddiant i'w gelynion, ond bydd Israel yn gweithredu'n rymus.
24:19 Daw llywodraethwr allan o Jacob a dinistrio'r rhai a adawyd yn y dinasoedd."

Negesau Olaf Balaam

24:20 Yna edrychodd ar Amalec, a llefarodd ei oracl a dweud: "Amalec oedd y blaenaf ymhlith y cenhedloedd, ond caiff yntau, yn y diwedd, ei ddinistrio."
24:21 Yna edrychodd ar y Cenead, a llefarodd ei oracl a dweud: "Y mae dy drigfan yn gadarn, a'th nyth yn ddiogel mewn craig;
24:22 eto bydd Cain yn cael ei anrheithio. Am ba hyd y bydd Assur yn dy gaethiwo?"
24:23 Llefarodd ei oracl a dweud: "Och! Pwy fydd byw pan wna Duw hyn?
24:24 Daw llongau o gyffiniau Chittim, gan orthrymu Assur ac Eber; cânt hwythau hefyd eu dinistrio."
24:25 Yna cododd Balaam a dychwelodd adref, ac aeth Balac hefyd ymaith.

Yr Israeliaid a Baal-peor

25:1 Pan oedd Israel yn aros yn Sittim, dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab.
25:2 Yr oedd y rhain yn eu gwahodd i'r aberthau i'w duwiau, a bu'r bobl yn bwyta ac yn ymgrymu i dduwiau Moab.
25:3 Dyma sut y daeth Israel i gyfathrach â Baal-peor. Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel,
25:4 a dywedodd wrth Moses am gymryd holl benaethiaid y bobl a'u crogi gerbron yr ARGLWYDD yn wyneb haul, er mwyn i'w lid droi oddi wrth Israel.
25:5 Yna dywedodd Moses wrth farnwyr Israel, "Y mae pob un ohonoch i ladd y rhai o'i lwyth a fu'n cyfathrachu â Baal-peor."
25:6 Yna daeth un o'r Israeliaid â merch o Midian at ei deulu, a hynny yng ngŵydd Moses a holl gynulliad pobl Israel, fel yr oeddent yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod.
25:7 Pan welodd Phinees fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad, hyn, fe gododd o ganol y cynulliad, a chymerodd waywffon yn ei law,
25:8 a dilyn yr Israeliad i mewn i'r babell; yna gwanodd hwy ill dau, sef y dyn a hefyd y ferch trwy ei chylla.
25:9 Felly yr ataliwyd y pla oddi wrth bobl Israel. Er hyn, bu farw pedair mil ar hugain trwy'r pla.
25:10 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
25:11 "Y mae Phinees fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad, wedi troi fy llid oddi wrth bobl Israel; ni ddistrywiais hwy yn fy eiddigedd, oherwydd bu ef yn eiddigeddus drosof fi ymhlith y bobl.
25:12 Felly dywed, 'Rhoddaf iddo fy nghyfamod heddwch,
25:13 a bydd ganddo ef a'i ddisgynyddion gyfamod am offeiriadaeth dragwyddol, am iddo fod yn eiddigeddus dros ei Dduw, a gwneud cymod dros bobl Israel.'"
25:14 Enw'r Israeliad a drywanwyd gyda'r ferch o Midian oedd Simri fab Salu, penteulu o lwyth Simeon.
25:15 Enw'r ferch o Midian a drywanwyd oedd Cosbi ferch Sur, a oedd yn bennaeth dros dylwyth o bobl Midian.
25:16 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
25:17 "Dos i boenydio'r Midianiaid a'u lladd,
25:18 oherwydd buont hwy'n eich poenydio chwi trwy eu dichell yn yr achos ynglŷn â Peor, ac yn yr achos ynglŷn â'u chwaer Cosbi, merch pennaeth o Midian, a drywanwyd yn nydd y pla o achos Peor."

Yr Ail Gyfrifiad

26:1 Ar ôl y pla dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad,
26:2 "Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn ôl eu tylwythau, gan restru pawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd, ac yn abl i fynd i ryfel."
26:3 Felly dywedodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrth y bobl yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen,
26:4 am restru'r rhai oedd yn ugain oed a throsodd, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma'r Israeliaid a ddaeth allan o wlad yr Aifft:
26:5 Reuben, cyntafanedig Israel; meibion Reuben: o Hanoch, teulu'r Hanochiaid; o Palu, teulu'r Paluiaid;
26:6 o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Carmi, teulu'r Carmiaid.
26:7 Dyma gyfanswm teuluoedd y Reubeniaid: pedwar deg tair o filoedd, saith gant a thri deg.
26:8 Mab Palu: Eliab.
26:9 Meibion Eliab: Nemuel, Dathan ac Abiram. Dyma'r Dathan a'r Abiram a anogodd y cynulliad i ymuno â chwmni Cora i gwyno yn erbyn Moses ac Aaron, ac yn erbyn yr ARGLWYDD;
26:10 agorodd y ddaear ei genau a'u llyncu hwy a Cora, a bu farw'r cwmni pan losgwyd dau gant a hanner ohonynt mewn tân, fel rhybudd.
26:11 Er hyn, ni fu farw meibion Cora.
26:12 Meibion Simeon yn ôl eu teuluoedd: o Nemuel, teulu'r Nemueliaid; o Jamin, teulu'r Jaminiaid; o Jachin, teulu'r Jachiniaid;
26:13 o Sera, teulu'r Serahiaid; o Saul, teulu'r Sauliaid.
26:14 Dyma deuluoedd y Simeoniaid, dau ddeg dwy o filoedd a dau gant.
26:15 Meibion Gad yn ôl eu teuluoedd: o Seffon, teulu'r Seffoniaid; o Haggi, teulu'r Haggiaid; o Suni, teulu'r Suniaid;
26:16 o Osni, teulu'r Osniaid; o Eri, teulu'r Eriaid;
26:17 o Arod, teulu'r Arodiaid; o Areli, teulu'r Areliaid.
26:18 Dyma deuluoedd meibion Gad, cyfanswm o ddeugain mil a phum cant.
26:19 Meibion Jwda: Er ac Onan; bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan.
26:20 Meibion Jwda yn ôl eu teuluoedd oedd: o Sela, teulu'r Selaniaid; o Peres, teulu'r Peresiaid; o Sera, teulu'r Serahiaid.
26:21 Meibion Peres oedd: o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Hamul, teulu'r Hamuliaid.
26:22 Dyma deuluoedd Jwda, cyfanswm o saith deg chwech o filoedd a phum cant.
26:23 Meibion Issachar yn ôl eu teuluoedd: o Tola, teulu'r Tolaiaid; o Pua, teulu'r Puhiaid;
26:24 o Jasub, teulu'r Jasubiaid; o Simron, teulu'r Simroniaid.
26:25 Dyma deuluoedd Issachar, cyfanswm o chwe deg pedair o filoedd a thri chant.
26:26 Meibion Sabulon yn ôl eu teuluoedd: o Sered, teulu'r Sardiaid; o Elon, teulu'r Eloniaid; o Jahleel, teulu'r Jahleeliaid.
26:27 Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, cyfanswm o drigain mil a phum cant.
26:28 Meibion Joseff, sef Manasse ac Effraim, yn ôl eu teuluoedd:
26:29 Meibion Manasse: o Machir, teulu'r Machiriaid; yr oedd Machir yn dad i Gilead; o Gilead, teulu'r Gileadiaid.
26:30 Dyma feibion Gilead: o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Helec, teulu'r Heleciaid;
26:31 o Asriel, teulu'r Asrieliaid; o Sechem, teulu'r Sechemiaid;
26:32 o Semida, teulu'r Semidiaid; o Heffer, teulu'r Hefferiaid.
26:33 Nid oedd gan Seloffehad fab Heffer feibion, dim ond merched; enwau merched Seloffehad oedd Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa.
26:34 Dyma deuluoedd Manasse, cyfanswm o bum deg dwy o filoedd a saith gant.
26:35 Dyma feibion Effraim yn ôl eu teuluoedd: o Suthela, teulu'r Sutheliaid; o Becher, teulu'r Becheriaid; o Tahan, teulu'r Tahaniaid.
26:36 Dyma feibion Suthela: o Eran, teulu'r Eraniaid.
26:37 Dyma deuluoedd meibion Effraim, cyfanswm o dri deg dwy o filoedd a phum cant. Dyma feibion Joseff yn ôl eu teuluoedd.
26:38 Meibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd: o Bela, teulu'r Belaiaid; o Asbel, teulu'r Asbeliaid; o Ahiram, teulu'r Ahiramiaid;
26:39 o Suffam, teulu'r Suffamiaid; o Huffam, teulu'r Huffamiaid.
26:40 Meibion Bela oedd Ard a Naaman; o Ard, teulu'r Ardiaid; o Naaman, teulu'r Naamaniaid.
26:41 Dyma feibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a chwe chant.
26:42 Dyma feibion Dan yn ôl eu teuluoedd: o Suham, teulu'r Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan yn ôl eu teuluoedd.
26:43 Cyfanswm holl deuluoedd y Suhamiaid oedd chwe deg pedair o filoedd a phedwar cant.
26:44 Meibion Aser yn ôl eu teuluoedd: o Jimna, teulu'r Jimniaid; o Jesui, teulu'r Jesuiaid; o Bereia, teulu'r Bereiaid.
26:45 O feibion Bereia: o Heber, teulu'r Heberiaid; o Malciel, teulu'r Malcieliaid.
26:46 Enw merch Aser oedd Sara.
26:47 Dyma deuluoedd meibion Aser, cyfanswm o bum deg tair o filoedd a phedwar cant.
26:48 Meibion Nafftali yn ôl eu teuluoedd: o Jahseel, teulu'r Jahseeliaid; o Guni, teulu'r Guniaid;
26:49 o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Silem, teulu'r Silemiaid.
26:50 Dyma dylwyth Nafftali yn ôl eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a phedwar cant.
26:51 Dyma gyfanswm yr Israeliaid: chwe chant ac un o filoedd saith gant a thri deg.
26:52 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
26:53 "I'r rhain, yn ôl nifer yr enwau, y rhennir y tir yn etifeddiaeth.
26:54 I'r llwythau mawr rho etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain rho etifeddiaeth fechan; rhanna'r etifeddiaeth i bob llwyth yn ôl y nifer sydd ynddo.
26:55 Yr wyt i rannu'r tir trwy goelbren, ac y maent i etifeddu yn ôl enwau llwythau eu hynafiaid.
26:56 Rhennir yr etifeddiaeth trwy'r coelbren rhwng y rhai mawr a'r rhai bychain."
26:57 Dyma'r Lefiaid a restrwyd yn ôl eu teuluoedd: o Gerson, teulu'r Gersoniaid; o Cohath, teulu'r Cohathiaid; o Merari, teulu'r Merariaid.
26:58 Dyma deuluoedd Lefi: y Libniaid, yr Hebroniaid, y Mahliaid, y Musiaid a'r Corahiaid. Yr oedd Cohath yn dad i Amram.
26:59 Enw gwraig Amram oedd Jochebed ferch Lefi, a anwyd iddo yn yr Aifft; ac i Amram fe anwyd ohoni hi Aaron, Moses a'u chwaer Miriam.
26:60 I Aaron fe anwyd Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar;
26:61 ond bu farw Nadab ac Abihu wrth iddynt offrymu tân halogedig gerbron yr ARGLWYDD.
26:62 Rhestrwyd dau ddeg tair o filoedd ohonynt, sef pob gwryw mis oed a throsodd; ni restrwyd hwy ymhlith pobl Israel, oherwydd nid oedd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid.
26:63 Dyma'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Eleasar yr offeiriad yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen.
26:64 Nid oedd ymhlith y rhain yr un o'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Aaron yr offeiriad yn anialwch Sinai,
26:65 oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddent hwy farw yn yr anialwch. Ni adawyd neb ohonynt, heblaw Caleb fab Jeffunne, a Josua fab Nun.

Merched Seloffehad

27:1 Yna daeth ynghyd ferched Seloffehad fab Heffer, fab Gilead, fab Machir, fab Manasse, o deuluoedd Manasse fab Joseff. Enwau ei ferched oedd Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa.
27:2 Safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod o flaen Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac o flaen yr arweinwyr a'r holl gynulliad, a dweud,
27:3 "Bu farw ein tad yn yr anialwch; nid oedd ef ymhlith y rhai o gwmni Cora a ymgasglodd yn erbyn yr ARGLWYDD, ond bu ef farw oherwydd ei bechod ei hun, heb adael mab ar ei ôl.
27:4 Pam y dylai enw ein tad gael ei ddileu o'i dylwyth am nad oedd ganddo fab? Rho inni etifeddiaeth ymhlith brodyr ein tad."
27:5 Cyflwynodd Moses eu hachos o flaen yr ARGLWYDD,
27:6 a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho:
27:7 "Y mae cais merched Seloffehad yn un cyfiawn; rho iddynt yr hawl i etifeddu ymhlith brodyr eu tad, a throsglwydda etifeddiaeth eu tad iddynt hwy.
27:8 Dywed wrth bobl Israel, 'Os bydd dyn farw heb fab, yr ydych i drosglwyddo ei etifeddiaeth i'w ferch.
27:9 Os na fydd ganddo ferch, rhowch ei etifeddiaeth i'w frodyr.
27:10 Os na fydd ganddo frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i frodyr ei dad.
27:11 Os na fydd gan ei dad frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i'w berthynas agosaf, er mwyn iddo ef gael meddiant ohono.'" Bu hyn yn ddeddf a chyfraith i bobl Israel, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

Josua i Olynu Moses, Deut. 31:1-8

27:12 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dringa'r mynydd hwn, sef Mynydd Abarim, ac edrych ar y wlad a roddais i bobl Israel.
27:13 Ar ôl iti ei gweld, fe'th gesglir dithau at dy bobl, fel y casglwyd dy frawd Aaron,
27:14 am i chwi wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn yn anialwch Sin, a gwrthod fy sancteiddio yng ngŵydd y cynulliad pan fu cynnen yn eu plith wrth y dyfroedd." Dyfroedd Meriba-cades yn anialwch Sin oedd y rhain.
27:15 Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD,
27:16 "Boed i'r ARGLWYDD, Duw ysbryd pob peth byw, benodi rhywun dros y cynulliad
27:17 i'w harwain a'u tywys wrth iddynt fynd a dod, rhag i gynulliad yr ARGLWYDD fod fel defaid heb fugail."
27:18 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cymer Josua fab Nun, dyn sydd â'r ysbryd ynddo, a gosod dy law arno;
27:19 pâr iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad ac o flaen yr holl gynulliad, a rho iddo siars yn eu gŵydd hwy.
27:20 Rho iddo gyfran o'th awdurdod di, er mwyn i holl gynulliad pobl Israel ufuddhau iddo.
27:21 Y mae i sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad, a bydd yntau'n ymgynghori ar ei ran gerbron yr ARGLWYDD trwy'r Wrim; ar ei orchymyn ef, bydd holl gynulliad pobl Israel yn mynd allan ac yn dod i mewn."
27:22 Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo; cymerodd Josua, a pheri iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad ac o flaen yr holl gynulliad,
27:23 a gosododd ei ddwylo arno, a rhoi iddo'r siars, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi cyfarwyddo Moses.

Yr Offrymau Dyddiol Ex. 29:38-46

28:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
28:2 "Gorchymyn i bobl Israel a dywed wrthynt, 'Gofalwch offrymu i mi ar yr adeg benodedig fy rhodd o fwyd ar gyfer fy offrymau trwy dân a'm harogl peraidd.'
28:3 Dywed wrthynt, 'Dyma'r offrwm yr ydych i'w offrymu trwy dân i'r ARGLWYDD: dau oen blwydd di-nam yn boethoffrwm rheolaidd bob dydd,
28:4 un oen i'w offrymu yn y bore, a'r llall yn yr hwyr;
28:5 ac yn fwydoffrwm: degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â chwarter hin o olew pur.
28:6 Bydd hwn yn boethoffrwm rheolaidd a ordeiniwyd ar Fynydd Sinai i fod yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
28:7 Yr wyt i dywallt diod gadarn yn ddiodoffrwm i'r ARGLWYDD yn y cysegr, chwarter hin ar gyfer pob oen.
28:8 Offryma'r oen arall yn yr hwyr yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, fel bwydoffrwm y bore a'i ddiodoffrwm.

Offrymau'r Saboth

28:9 "'Ar y dydd Saboth: dau oen blwydd di-nam a dwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
28:10 Hwn fydd poethoffrwm y Saboth, sy'n ychwanegol at y poeth-offrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.

Yr Offrymau Misol

28:11 "'Ar y cyntaf o bob mis yr ydych i offrymu'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD ddau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd di-nam;
28:12 hefyd, tair degfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer pob bustach; dwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer yr hwrdd;
28:13 a degfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer pob oen; bydd y poethoffrwm yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
28:14 Bydd hanner hin o win yn ddiodoffrwm ar gyfer bustach, traean hin ar gyfer hwrdd, a chwarter hin ar gyfer oen. Dyna fydd y poethoffrwm bob mis trwy gydol y flwyddyn.
28:15 Hefyd, un bwch gafr yn aberth dros bechod i'r ARGLWYDD; bydd hwn yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.

Offrymau'r Pasg a'r Bara Croyw, Lef. 23:5-14

28:16 "'Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf bydd Pasg yr ARGLWYDD.
28:17 Ar y pymthegfed dydd o'r mis hwn bydd gŵyl, ac am saith diwrnod bwyteir bara croyw.
28:18 Ar y dydd cyntaf bydd cymanfa sanctaidd; peidiwch â gwneud dim gwaith arferol,
28:19 ond cyflwynwch offrwm trwy dân yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, sef dau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd; gofalwch eu bod yn ddi-nam;
28:20 hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew; offrymwch dair degfed ran ar gyfer bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer hwrdd,
28:21 a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;
28:22 hefyd, un bwch gafr yn aberth dros bechod, i wneud cymod drosoch.
28:23 Offrymwch y rhain yn ychwanegol at boethoffrwm y bore, sy'n boethoffrwm rheolaidd.
28:24 Fel hyn yr ydych i offrymu'r bwyd sy'n offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, bob dydd am saith diwrnod; offrymer ef yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.
28:25 Ar y seithfed dydd yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd; peidiwch â gwneud dim gwaith arferol.

Offrymau Gŵyl y Cynhaeaf, Lef. 23:15-22

28:26 "'Ar ddydd blaenffrwyth y cynhaeaf, pan fyddwch yn dod â bwydoffrwm newydd i'r ARGLWYDD yn ystod gŵyl yr Wythnosau, yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd, a pheidio â gwneud dim gwaith arferol.
28:27 Offrymwch boethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef dau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd;
28:28 hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer pob bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,
28:29 a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;
28:30 hefyd un bwch gafr, i wneud cymod drosoch.
28:31 Yr ydych i offrymu'r rhain a'u diodoffrwm yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i fwydoffrwm. Gofalwch eu bod yn ddi-nam.

Offrymau Gŵyl yr Utgyrn, Lef. 23:23-25

29:1 Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd, a pheidio â gwneud dim gwaith arferol. Bydd yn ddiwrnod i chwi ganu'r utgyrn
29:2 ac offrymu poethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef un bustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd di-nam;
29:3 hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer y bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,
29:4 a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;
29:5 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, i wneud cymod drosoch.
29:6 Y mae hyn yn ychwanegol at y poethoffrwm misol a'i fwydoffrwm, y poethoffrwm rheolaidd a'i fwydoffrwm, a'u diodoffrwm, yn ôl y ddeddf ar eu cyfer; byddant yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.

Offrymau Dydd y Cymod, Lef. 23:26-32

29:7 "'Ar y degfed dydd o'r seithfed mis hwn, yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd; yr ydych i ymddarostwng, a pheidio â gwneud dim gwaith.
29:8 Offrymwch boethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef un bustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd; gofalwch eu bod yn ddi-nam;
29:9 hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer y bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,
29:10 a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;
29:11 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at yr aberth dros bechod er cymod, y poethoffrwm rheolaidd a'i fwydoffrwm, a'u diodoffrymau.

Offrymau Gŵyl y Pebyll, Lef. 23:33-44

29:12 "'Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd, a pheidio â gwneud dim gwaith arferol, ond cadwch ŵyl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod.
29:13 Offrymwch boethoffrwm yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef tri ar ddeg o fustych ifainc, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd; byddant yn ddi-nam;
29:14 hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer pob un o'r tri ar ddeg o fustych, dwy ddegfed ran ar gyfer pob un o'r ddau hwrdd,
29:15 a degfed ran ar gyfer pob un o'r pedwar ar ddeg o ŵyn;
29:16 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm a'i ddiodoffrwm.
29:17 "'Ar yr ail ddydd: deuddeg bustach ifanc, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,
29:18 gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r ŵyn yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;
29:19 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poeth-offrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'u diodoffrymau.
29:20 "'Ar y trydydd dydd: un ar ddeg o fustych, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,
29:21 gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r ŵyn, yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;
29:22 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poeth-offrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
29:23 "'Ar y pedwerydd dydd: deg bustach, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,
29:24 gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r ŵyn, yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;
29:25 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poeth-offrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
29:26 "'Ar y pumed dydd: naw bustach, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,
29:27 gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r ŵyn, yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;
29:28 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
29:29 "'Ar y chweched dydd: wyth bustach, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,
29:30 gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r ŵyn, yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;
29:31 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poeth-offrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
29:32 "'Ar y seithfed dydd: saith bustach, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,
29:33 gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r ŵyn, yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;
29:34 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
29:35 "'Ar yr wythfed dydd, yr ydych i gynnal cynulliad, a pheidio â gwneud dim gwaith arferol.
29:36 Offrymwch boethoffrwm yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef bustach, hwrdd, a saith oen blwydd di-nam,
29:37 gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustach, yr hwrdd, a'r ŵyn, yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;
29:38 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
29:39 "'Dyma'r hyn yr ydych i'w offrymu i'r ARGLWYDD ar eich gwyliau penodedig, yn ychwanegol at eich offrymau adduned a'ch offrymau gwirfodd, eich poethoffrymau, eich bwydoffrymau, eich diodoffrymau, a'ch heddoffrymau.'"
29:40 Dywedodd Moses wrth bobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo.

Addunedau

30:1 Dywedodd Moses wrth ben-aethiaid llwythau pobl Israel, "Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD:
30:2 Os bydd dyn yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, neu'n tyngu llw, ac yn ei roi ei hun dan ymrwymiad, nid yw i dorri ei air, ond y mae i wneud y cyfan a addawodd.
30:3 Os bydd gwraig yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, ac yn ei rhoi ei hun dan ymrwymiad, a hithau'n ifanc a heb adael cartref ei thad,
30:4 ac yntau'n clywed am ei hadduned a'i hymrwymiad, ond heb ddweud dim wrthi, yna bydd pob adduned a phob ymrwymiad o'i heiddo yn sefyll.
30:5 Ond os bydd ei thad yn gwahardd ei hadduned pan glyw amdani, ni fydd unrhyw adduned nac ymrwymiad o'i heiddo yn sefyll; bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi gan i'w thad ei gwahardd.
30:6 Os bydd gwraig briod yn gwneud adduned neu'n ei rhoi ei hun dan ymrwymiad yn fyrbwyll,
30:7 a'i gŵr yn clywed am hynny ond heb ddweud dim wrthi, yna bydd ei haddunedau a'i hymrwymiadau yn sefyll.
30:8 Ond os bydd ei gŵr yn gwahardd ei hadduned pan glyw amdani, y mae i ddiddymu ei hadduned a'i hymrwymiad byrbwyll, a bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.
30:9 Bydd pob adduned a wneir gan weddw neu gan un a gafodd ysgariad, a phob ymrwymiad o'i heiddo, yn sefyll.
30:10 Os gwnaeth adduned, neu dyngu llw i'w rhoi ei hun dan ymrwymiad, tra bu yn nhŷ ei gŵr,
30:11 ac yntau'n clywed am hynny ond heb ddweud dim wrthi i'w gwahardd, bydd pob adduned a phob ymrwymiad o'i heiddo yn sefyll.
30:12 Ond os bydd ei gŵr, pan glyw amdanynt, yn eu diddymu'n llwyr, yna ni fydd unrhyw adduned a wnaeth nac unrhyw ymrwymiad o'i heiddo yn sefyll; y mae ei gŵr wedi eu diddymu, a bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.
30:13 Gall y gŵr gadarnhau neu ddiddymu unrhyw adduned neu ymrwymiad o eiddo'i wraig i ymddarostwng.
30:14 Os bydd ei gŵr, o ddydd i ddydd, yn ymatal rhag dweud dim wrthi, yna bydd yn cadarnhau pob adduned a phob ymrwymiad o eiddo'i wraig; bydd yn eu cadarnhau am na ddywedodd ddim wrthi pan glywodd amdanynt.
30:15 Ond os bydd yn eu diddymu'n llwyr wedi iddo glywed amdanynt, bydd ef yn atebol am ei throsedd."
30:16 Dyma'r deddfau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ynglŷn â gŵr a'i wraig, a thad a'i ferch ifanc sydd heb adael cartref ei thad.

Dial ar Midian

31:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
31:2 "Yr wyt i ddial ar y Midianiaid ar ran pobl Israel; yna fe'th gesglir at dy bobl."
31:3 A dywedodd Moses wrth y bobl, "Arfogwch ddynion o'ch plith iddynt ryfela yn erbyn Midian, a dial arni ar ran yr ARGLWYDD.
31:4 Anfonwch fil o bob un o lwythau Israel i'r rhyfel."
31:5 Felly, o blith tylwythau Israel, penodwyd mil o bob llwyth, deuddeng mil i gyd, wedi eu harfogi ar gyfer rhyfel.
31:6 Anfonodd Moses hwy i'r frwydr, mil o bob llwyth, ynghyd â Phinees fab Eleasar yr offeiriad, i gludo llestri'r cysegr a'r trwmpedau i seinio rhybudd.
31:7 Aethant i ryfela yn erbyn Midian, gan ladd pob gwryw, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
31:8 Ymhlith y rhai a laddwyd yr oedd pum brenin Midian, sef Efi, Recem, Sur, Hur a Reba; lladdasant hefyd Balaam fab Beor â'r cleddyf.
31:9 Cymerodd yr Israeliaid wragedd Midian a'u plant yn garcharorion, a dwyn yn ysbail eu holl wartheg a'u defaid a'u heiddo i gyd.
31:10 Llosgwyd yr holl ddinasoedd y buont yn byw ynddynt, a'u holl wersylloedd,
31:11 a chymerwyd y cyfan o'r ysbail a'r anrhaith, yn ddyn ac anifail.
31:12 Yna daethant â'r carcharorion, yr ysbail a'r anrhaith at Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac at gynulliad pobl Israel oedd yn gwersyllu yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen.
31:13 Aeth Moses, Eleasar yr offeiriad, a holl arweinwyr y cynulliad i'w cyfarfod y tu allan i'r gwersyll.
31:14 Ond digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, sef capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a oedd wedi dychwelyd ar ôl brwydro yn y rhyfel,
31:15 a dywedodd wrthynt, "A ydych wedi arbed yr holl ferched?
31:16 Dyma'r rhai, ar orchymyn Balaam, a wnaeth i bobl Israel fod yn anffyddlon i'r ARGLWYDD yn yr achos ynglŷn â Peor, pan ddaeth pla i ganol cynulliad yr ARGLWYDD.
31:17 Yn awr, lladdwch bob bachgen ifanc, a phob merch sydd wedi cael cyfathrach rywiol gyda dyn,
31:18 ond arbedwch i chwi eich hunain bob geneth ifanc nad yw wedi bod gyda dyn.
31:19 Y mae pob un ohonoch sydd wedi lladd rhywun, neu wedi cyffwrdd â chorff rhywun a laddwyd, i aros y tu allan i'r gwersyll am saith diwrnod; ar y trydydd a'r seithfed dydd yr ydych i'ch glanhau eich hunain a'r carcharorion sydd gyda chwi.
31:20 Yr ydych hefyd i lanhau pob gwisg, a phopeth a wnaed o groen neu o flew gafr, a phob offer pren."
31:21 Dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr oedd wedi mynd i'r frwydr, "Dyma'r rheol yn ôl y gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses:
31:22 dim ond aur, arian, pres, haearn, alcam a phlwm,
31:23 sef popeth sy'n gallu gwrthsefyll tân, sydd i'w dynnu trwy dân er mwyn ei buro, a'i lanhau â dŵr puredigaeth; y mae popeth na all wrthsefyll tân i'w dynnu trwy'r dŵr yn unig.
31:24 Golchwch eich dillad ar y seithfed dydd, a byddwch lân; yna cewch ddod i mewn i'r gwersyll."

Rhannu'r Ysbail

31:25 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
31:26 "Yr wyt ti, Eleasar yr offeiriad, a phennau-teuluoedd y cynulliad, i gyfrif yr ysbail a gymerwyd, yn ddyn ac anifail,
31:27 a'i rannu'n ddau rhwng y rhyfelwyr a aeth i'r frwydr a'r holl gynulliad.
31:28 Oddi wrth y rhyfelwyr a aeth i'r frwydr, cymer yn dreth i'r ARGLWYDD un o bob pum cant, boed o ddynion, eidionau, asynnod, neu ddefaid.
31:29 Cymerwch hyn o'u hanner hwy, a'i roi i Eleasar yr offeiriad fel offrwm i'r ARGLWYDD.
31:30 Yna, o'r hanner sy'n eiddo i bobl Israel, cymer un o bob hanner cant, boed o ddynion, eidionau, asynnod, defaid neu anifeiliaid eraill, a'u rhoi i'r Lefiaid sy'n gofalu am dabernacl yr ARGLWYDD."
31:31 Gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
31:32 Dyma'r ysbail oedd yn weddill o'r hyn a gymerodd y rhyfelwyr: chwe chant saith deg pump o filoedd o ddefaid,
31:33 saith deg dwy o filoedd o eidionau,
31:34 chwe deg un o filoedd o asynnod,
31:35 a thri deg dwy o filoedd o bobl, sef pob merch nad oedd wedi cael cyfathrach rywiol â dyn.
31:36 Yr oedd cyfran y rhyfelwyr yn cynnwys tri chant tri deg saith o filoedd a phum cant o ddefaid,
31:37 ac yr oedd chwe chant saith deg a phump o'r defaid yn dreth i'r ARGLWYDD;
31:38 yr oedd tri deg chwech o filoedd o eidionau, a saith deg a dau ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD;
31:39 yr oedd tri deg o filoedd a phum cant o asynnod, a chwe deg ac un ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD;
31:40 yr oedd un fil ar bymtheg o bobl, a thri deg a dau ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD.
31:41 Rhoddodd Moses y dreth, sef yr offrwm i'r ARGLWYDD, i Eleasar yr offeiriad, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
31:42 Yr oedd y rhan nad oedd yn eiddo i'r rhyfelwyr (sef yr hanner a rannodd Moses i'r Israeliaid,
31:43 yn eiddo i'r cynulliad), yn cynnwys tri chant tri deg saith o filoedd a phum cant o ddefaid,
31:44 tri deg chwech o filoedd o eidionau,
31:45 tri deg o filoedd a phum cant o asynnod,
31:46 ac un fil ar bymtheg o bobl.
31:47 O gyfran yr Israeliaid, cymerodd Moses un o bob hanner cant o ddynion ac o anifeiliaid, a'u rhoi i'r Lefiaid oedd yn gofalu am dabernacl yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
31:48 Yna daeth y rhai oedd yn swyddogion dros filoedd y fyddin, sef capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, at Moses
31:49 a dweud wrtho, "Y mae dy weision wedi cyfrif y rhyfelwyr a roddaist dan ein hawdurdod, a chael nad ydym wedi colli'r un ohonynt.
31:50 Cyflwynodd pob un ohonom yr hyn a gafodd, addurniadau aur, cadwynau, breichledau, modrwyau, clustlysau, a thorchau, yn offrwm i'r ARGLWYDD, er mwyn gwneud cymod drosom ein hunain gerbron yr ARGLWYDD."
31:51 Yna cymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur a'r holl addurniadau cywrain oddi wrthynt.
31:52 Yr oedd yr holl aur a offrymwyd i'r ARGLWYDD gan gapteiniaid y miloedd a'r cannoedd yn pwyso un deg chwech o filoedd saith gant a phum deg o siclau,
31:53 gan fod pob un o'r rhyfelwyr wedi cymryd rhywfaint o'r ysbail.
31:54 Cymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur oddi wrth gapteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a daethant ag ef i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth i bobl Israel gerbron yr ARGLWYDD.

Y Llwythau tu hwnt i'r Iorddonen, Deut. 3:12-22

32:1 Yr oedd gan dylwyth Reuben a thylwyth Gad lawer iawn o wartheg; a phan welsant fod tir Jaser a thir Gilead yn dir pori da i anifeiliaid,
32:2 daethant at Moses, Eleasar yr offeiriad ac arweinwyr y cynulliad, a dweud,
32:3 "Y mae Ataroth, Dibon, Jaser, Nimra, Hesbon, Eleale, Sebam, Nebo a Beon,
32:4 sef y tir a orchfygodd yr ARGLWYDD o flaen cynulliad Israel, yn dir pori, ac y mae gan dy weision wartheg."
32:5 Yna dywedasant, "Os cawsom ffafr yn dy olwg, rho'r tir hwn yn feddiant i'th weision, a phaid â gwneud i ni groesi'r Iorddonen."
32:6 Ond dywedodd Moses wrth dylwyth Gad a thylwyth Reuben, "A yw eich brodyr i fynd i ryfel tra byddwch chwi'n eistedd yma?
32:7 Pam yr ydych am ddigalonni pobl Israel rhag mynd drosodd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt?
32:8 Dyma a wnaeth eich hynafiaid pan anfonais hwy o Cades-barnea i edrych y wlad,
32:9 oherwydd pan aethant i fyny i ddyffryn Escol a'i gweld, dechreusant hwythau ddigalonni pobl Israel rhag mynd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt.
32:10 Enynnodd llid yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw, a thyngodd a dweud,
32:11 'Am nad ydynt wedi fy nilyn yn ffyddlon, ni chaiff neb o'r rhai a ddaeth i fyny o'r Aifft, ac sy'n ugain oed a throsodd, weld y wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob,
32:12 ar wahân i Caleb fab Jeffunne y Cenesiad a Josua fab Nun, oherwydd darfu iddynt hwy ddilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon.'
32:13 Pan enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, gwnaeth iddynt grwydro'r anialwch am ddeugain mlynedd, nes darfod o'r cyfan o'r genhedlaeth a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
32:14 A dyma chwi'n awr yn dilyn eich hynafiaid, yn hil o bobl bechadurus sy'n cyffroi'n fwyfwy ddicter yr ARGLWYDD yn erbyn Israel.
32:15 Os gwrthodwch ei ddilyn, bydd yn gadael yr holl bobl hyn unwaith eto yn yr anialwch, a chwi fydd wedi eu difa."
32:16 Yna daethant ato a dweud, "Fe adeiladwn gorlannau yma i'n praidd, a dinasoedd i'n plant;
32:17 caiff ein plant fyw yn y dinasoedd caerog, yn ddiogel rhag trigolion y wlad, tra byddwn ninnau'n cymryd arfau, yn arwain pobl Israel, ac yn eu tywys i'w lle eu hunain.
32:18 Ni ddychwelwn adref nes i bob un o'r Israeliaid feddiannu ei etifeddiaeth.
32:19 Ond ni fyddwn ni'n cymryd etifeddiaeth gyda hwy yr ochr draw i'r Iorddonen, oherwydd rhoddwyd etifeddiaeth i ni yr ochr yma, o'r tu dwyrain i'r Iorddonen."
32:20 Dywedodd Moses wrthynt, "Os gwnewch hyn, a chymryd arfau a mynd i ryfel o flaen yr ARGLWYDD,
32:21 ac os â pob dyn arfog sydd yn eich plith dros yr Iorddonen o flaen yr ARGLWYDD, a gyrru ei elynion allan,
32:22 a darostwng y wlad o flaen yr ARGLWYDD, yna cewch ddychwelyd, a byddwch yn rhydd o'ch dyletswydd i'r ARGLWYDD ac i Israel, a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi gerbron yr ARGLWYDD.
32:23 Ond os na wnewch hyn, byddwch yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, a chewch wybod y bydd eich pechod yn eich dal.
32:24 Adeiladwch ddinasoedd i'ch plant, a chorlannau i'ch praidd, a gwnewch yr hyn a addawsoch."
32:25 Dywedodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben wrth Moses, "Fe wna dy weision fel y mae ein harglwydd yn gorchymyn.
32:26 Bydd ein plant a'n gwragedd, ein gwartheg a'n holl anifeiliaid, yn aros yma yn ninasoedd Gilead,
32:27 ond fe â dy weision drosodd o flaen yr ARGLWYDD, pob un yn arfog ar gyfer rhyfel, fel y mae ein harglwydd yn gorchymyn."
32:28 Rhoddodd Moses orchymyn ynglŷn â hwy i Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nun, ac i bennau-teuluoedd llwythau pobl Israel.
32:29 Dywedodd Moses wrthynt, "Os â tylwyth Gad a thylwyth Reuben gyda chwi dros yr Iorddonen o flaen yr ARGLWYDD, a phob un ohonynt yn arfog ar gyfer rhyfel, ac os byddant yn darostwng y wlad o'ch blaen, yna rhowch wlad Gilead iddynt yn etifeddiaeth;
32:30 ond os nad ânt drosodd yn arfog gyda chwi, yna cânt etifeddiaeth yn eich plith chwi yng ngwlad Canaan."
32:31 Atebodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben, "Fe wnawn fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'th weision.
32:32 Awn drosodd i wlad Canaan yn arfog o flaen yr ARGLWYDD, a chadwn ein hetifeddiaeth yr ochr yma i'r Iorddonen."
32:33 Rhoddodd Moses i dylwyth Gad a thylwyth Reuben, ac i hanner llwyth Manasse fab Joseff, deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a theyrnas Og brenin Basan, yn cynnwys holl ddinasoedd y wlad a'u tiriogaethau oddi amgylch.
32:34 Adeiladodd tylwyth Gad Dibon, Ataroth, Aroer,
32:35 Atroth-soffan, Jaser, Jogbeha,
32:36 Beth-nimra a Beth-haran yn ddinasoedd caerog, a chorlannau i'r praidd.
32:37 Adeiladodd tylwyth Reuben Hesbon, Eleale, Ciriathaim,
32:38 Nebo, Baal-meon, a Sibma, a rhoddwyd enwau newydd ar y dinasoedd a adeiladwyd ganddynt.
32:39 Aeth meibion Machir fab Manasse i Gilead, a'i meddiannu, a gyrrwyd ymaith yr Amoriaid oedd yno.
32:40 Rhoddodd Moses Gilead i Machir fab Manasse, ac fe ymsefydlodd ef yno.
32:41 Aeth Jair fab Manasse i gymryd meddiant o bentrefi Gilead, a rhoddodd iddynt yr enw Hafoth-jair.
32:42 Aeth Noba i gymryd meddiant o Cenath a'i phentrefi, a'i galw'n Noba, ar ôl ei enw ei hun.

O'r Aifft i Moab

33:1 Dyma'r siwrnai a gymerodd pobl Israel pan ddaethant allan o wlad yr Aifft yn eu lluoedd dan arweiniad Moses ac Aaron.
33:2 Croniclodd Moses enwau'r camau ar y siwrnai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Dyma'r camau ar eu siwrnai.
33:3 Cychwynnodd yr Israeliaid o Rameses ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf, sef y diwrnod ar ôl y Pasg, ac aethant allan yn fuddugoliaethus yng ngŵydd yr holl Eifftiaid,
33:4 tra oeddent hwy'n claddu pob cyntafanedig a laddwyd gan yr ARGLWYDD; fe gyhoeddodd yr ARGLWYDD farn ar eu duwiau hefyd.
33:5 Aeth yr Israeliaid o Rameses, a gwersyllu yn Succoth.
33:6 Aethant o Succoth a gwersyllu yn Etham, sydd ar gwr yr anialwch.
33:7 Aethant o Etham a throi'n ôl i Pihahiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-seffon, a gwersyllu o flaen Migdol.
33:8 Aethant o Pihahiroth a mynd trwy ganol y môr i'r anialwch, a buont yn cerdded am dridiau yn anialwch Etham cyn gwersyllu yn Mara.
33:9 Aethant o Mara a chyrraedd Elim, lle yr oedd deuddeg o ffynhonnau dŵr a saith deg o balmwydd, a buont yn gwersyllu yno.
33:10 Aethant o Elim a gwersyllu wrth y Môr Coch.
33:11 Aethant o'r Môr Coch a gwersyllu yn anialwch Sin.
33:12 Aethant o anialwch Sin a gwersyllu yn Doffca.
33:13 Aethant o Doffca a gwersyllu yn Alus.
33:14 Aethant o Alus a gwersyllu yn Reffidim, lle nad oedd dŵr i'r bobl i'w yfed.
33:15 Aethant o Reffidim a gwersyllu yn anialwch Sinai.
33:16 Aethant o anialwch Sinai a gwersyllu yn Cibroth-hattaafa.
33:17 Aethant o Cibroth-hattaafa a gwersyllu yn Haseroth.
33:18 Aethant o Haseroth a gwersyllu yn Rithma.
33:19 Aethant o Rithma a gwersyllu yn Rimmon-pares.
33:20 Aethant o Rimmon-pares a gwersyllu yn Libna.
33:21 Aethant o Libna a gwersyllu ym Mynydd Rissa.
33:22 Aethant o Rissa a gwersyllu yn Cehelatha.
33:23 Aethant o Cehelatha a gwersyllu ym Mynydd Saffer.
33:24 Aethant o Fynydd Saffer a gwersyllu yn Harada.
33:25 Aethant o Harada a gwersyllu yn Maceloth.
33:26 Aethant o Maceloth a gwersyllu yn Tahath.
33:27 Aethant o Tahath a gwersyllu yn Tara.
33:28 Aethant o Tara a gwersyllu yn Mithca.
33:29 Aethant o Mithca a gwersyllu yn Hasmona.
33:30 Aethant o Hasmona a gwersyllu yn Moseroth.
33:31 Aethant o Moseroth a gwersyllu yn Bene-jaacan.
33:32 Aethant o Bene-jaacan a gwersyllu yn Hor-haggidgad.
33:33 Aethant o Hor-haggidgad a gwersyllu yn Jotbatha.
33:34 Aethant o Jotbatha a gwersyllu yn Abrona.
33:35 Aethant o Abrona a gwersyllu yn Esion-geber.
33:36 Aethant o Esion-geber a gwersyllu yn anialwch Sin, sef Cades.
33:37 Aethant o Cades a gwersyllu ym Mynydd Hor, sydd ar gwr gwlad Edom.
33:38 Aeth Aaron yr offeiriad i fyny Mynydd Hor, ar orchymyn yr ARGLWYDD, a bu farw yno ar y dydd cyntaf o'r pumed mis yn y ddeugeinfed flwyddyn ar ôl i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft.
33:39 Yr oedd Aaron yn gant dau ddeg a thair oed pan fu farw ar Fynydd Hor.
33:40 Clywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef yng ngwlad Canaan, fod yr Israeliaid yn dod.
33:41 Aethant o Fynydd Hor a gwersyllu yn Salmona.
33:42 Aethant o Salmona a gwersyllu yn Punon.
33:43 Aethant o Punon a gwersyllu yn Oboth.
33:44 Aethant o Oboth a gwersyllu yn Ije-abarim ar derfyn Moab.
33:45 Aethant o Ijim a gwersyllu yn Dibon-gad.
33:46 Aethant o Dibon-gad a gwersyllu yn Almon-diblathaim.
33:47 Aethant o Almon-diblathaim a gwersyllu ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo.
33:48 Aethant o fynyddoedd Abarim a gwersyllu yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen;
33:49 yr oedd eu gwersyll ar lan yr Iorddonen yn ymestyn o Beth-jesimoth hyd Abel-sittim yng ngwastadedd Moab.

Rhannu'r Wlad

33:50 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen, a dweud,
33:51 "Dywed wrth bobl Israel, 'Wedi i chwi groesi'r Iorddonen i wlad Canaan,
33:52 yr ydych i yrru allan o'ch blaen holl drigolion y wlad, a dinistrio eu holl gerrig nadd a'u delwau tawdd, a difa eu holl uchelfeydd;
33:53 yna yr ydych i feddiannu'r wlad a thrigo yno, oherwydd yr wyf wedi rhoi'r wlad i chwi i'w meddiannu.
33:54 Yr ydych i rannu'r wlad yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd trwy goelbren: i'r llwythau mawr rhowch etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain etifeddiaeth fechan; lle bynnag y bydd y coelbren yn disgyn i unrhyw un, yno y bydd ei feddiant. Felly yr ydych i rannu'r etifeddiaeth yn ôl llwythau eich hynafiaid.
33:55 Os na fyddwch yn gyrru allan drigolion y wlad o'ch blaen, yna bydd y rhai a adawyd gennych yn bigau yn eich llygaid ac yn ddrain yn eich ystlys, a byddant yn eich poenydio yn y wlad y byddwch yn byw ynddi;
33:56 ac fe wnaf i chwi yr hyn a fwriedais ei wneud iddynt hwy.'"

Terfynau'r Wlad

34:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
34:2 "Gorchymyn bobl Israel, a dywed wrthynt, 'Pan fyddwch yn mynd i mewn i wlad Canaan, bydd terfynau'r wlad a gewch yn etifeddiaeth fel a ganlyn:
34:3 i'r de bydd yn ymestyn o anialwch Sin a heibio i Edom, ac yn y dwyrain bydd eich terfyn deheuol yn ymestyn o ben draw Môr yr Heli,
34:4 ac yn troi o lethrau Acrabbim a throsodd i Sin, ac yna i'r de o Cades-barnea; oddi yno â ymlaen i Hasar-adar a throsodd i Asmon;
34:5 yna fe dry'r terfyn o Asmon at nant yr Aifft, a gorffen wrth y môr.
34:6 "'I'r gorllewin, y terfyn fydd y Môr Mawr a'r arfordir; hwn fydd eich terfyn gorllewinol.
34:7 "'Dyma fydd eich terfyn i'r gogledd: tynnwch linell o'r Môr Mawr i Fynydd Hor,
34:8 ac o Fynydd Hor i Lebo-hamath; bydd y terfyn yn cyrraedd hyd Sedad,
34:9 yna'n ymestyn i Siffron, a gorffen yn Hasar-enan; dyma fydd eich terfyn gogleddol.
34:10 "'Ar ochr y dwyrain, tynnwch linell o Hasar-enan i Seffan;
34:11 fe â'r terfyn i lawr o Seffan i Ribla, i'r dwyrain o Ain, ac yna i lawr ymhellach ar hyd y llechweddau i'r dwyrain o Fôr Cinnereth;
34:12 yna fe â'r terfyn i lawr ar hyd yr Iorddonen, a gorffen wrth Fôr yr Heli. Hon fydd eich gwlad, a'r rhain fydd ei therfynau oddi amgylch.'"
34:13 Rhoddodd Moses orchymyn i bobl Israel, a dweud, "Dyma'r wlad yr ydych i'w rhannu'n etifeddiaeth trwy goelbren, a'i rhoi i'r naw llwyth a hanner, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD;
34:14 y mae llwythau teuluoedd meibion Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn eu hetifeddiaeth;
34:15 derbyniodd y ddau lwyth a hanner eu hetifeddiaeth hwy yr ochr draw i'r Iorddonen, i'r dwyrain o Jericho, tua chodiad haul."

Rhannu'r Etifeddiaeth

34:16 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
34:17 "Dyma enwau'r dynion sydd i rannu'r wlad yn etifeddiaeth i chwi: Eleasar yr offeiriad, a Josua fab Nun.
34:18 Cymerwch hefyd un pennaeth o bob llwyth i rannu'r wlad yn etifeddiaeth.
34:19 Dyma eu henwau: o lwyth Jwda, Caleb fab Jeffunne;
34:20 o lwyth meibion Simeon, Semuel fab Ammihud;
34:21 o lwyth Benjamin, Elidad fab Cislon;
34:22 o lwyth meibion Dan, y pennaeth fydd Bucci fab Jogli;
34:23 o feibion Joseff: o lwyth meibion Manasse, y pennaeth fydd Haniel fab Effad;
34:24 o lwyth meibion Effraim, y pennaeth fydd Cemuel fab Sifftan;
34:25 o lwyth meibion Sabulon, y pennaeth fydd Elisaffan fab Parnach;
34:26 o lwyth meibion Issachar, y pennaeth fydd Paltiel fab Assan;
34:27 o lwyth meibion Aser, y pennaeth fydd Ahihud fab Salomi;
34:28 o lwyth meibion Nafftali, y pennaeth fydd Pedahel fab Ammihud.
34:29 Dyma'r dynion y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt rannu'r etifeddiaeth i bobl Israel yng ngwlad Canaan."

Dinasoedd y Lefiaid

35:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen,
35:2 "Gorchymyn i bobl Israel roi o'r etifeddiaeth a gânt ddinasoedd i'r Lefiaid i fyw ynddynt, a phorfeydd o amgylch y dinasoedd.
35:3 Caiff y Lefiaid fyw yn y dinasoedd, a bydd y porfeydd ar gyfer eu gwartheg, eu praidd, a'u holl anifeiliaid.
35:4 Bydd porfeydd y dinasoedd a roddwch i'r Lefiaid yn ymestyn o fur y ddinas tuag allan am fil o gufyddau oddi amgylch.
35:5 Yr ydych i fesur, o'r tu allan i'r ddinas, ddwy fil o gufyddau ar yr ochr ddwyreiniol, dwy fil ar yr ochr ddeheuol, dwy fil ar yr ochr orllewinol, a dwy fil ar yr ochr ogleddol, a'r ddinas yn y canol; dyma borfeydd y dinasoedd fydd yn eiddo iddynt.
35:6 "O'r dinasoedd a rowch i'r Lefiaid, bydd chwech yn ddinasoedd noddfa, lle caiff y lleiddiaid ffoi; yn ychwanegol at y rhain, rhowch iddynt bedwar deg a dwy o ddinasoedd.
35:7 Felly byddwch yn rhoi i'r Lefiaid bedwar deg ac wyth o ddinasoedd i gyd, gyda'u porfeydd.
35:8 o'r dinasoedd sy'n feddiant i bobl Israel cymerwch lawer oddi wrth y llwythau mawr, ond llai oddi wrth y llwythau bychain; y mae pob llwyth i roi dinasoedd i'r Lefiaid yn ôl maint yr etifeddiaeth a gafodd."

Dinasoedd Noddfa. Deut. 19:1-13; Jos. 20:1-9

35:9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
35:10 "Dywed wrth bobl Israel, 'Pan fyddwch wedi mynd dros yr Iorddonen i mewn i wlad Canaan,
35:11 yr ydych i neilltuo i chwi eich hunain ddinasoedd i fod yn ddinasoedd noddfa, er mwyn i'r lleiddiad, a laddodd rywun yn anfwriadol, gael ffoi iddynt.
35:12 Bydd y dinasoedd yn noddfa rhag y dialydd, fel na chaiff y lleiddiad ei ladd cyn iddo sefyll ei brawf o flaen y cynulliad.
35:13 o'r chwe dinas a nodwch yn ddinasoedd noddfa,
35:14 bydd tair yr ochr yma i'r Iorddonen, a thair yng ngwlad Canaan.
35:15 Bydd y chwe dinas hyn yn noddfa i bobl Israel, ac i'r dieithryn a'r ymwelydd yn eu plith, a chaiff pwy bynnag a laddodd rywun yn anfwriadol ffoi iddynt.
35:16 "'Os bydd rhywun yn taro rhywun arall ag offeryn haearn, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.
35:17 Os bydd yn ei daro â charreg yn ei law, a'r garreg yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.
35:18 Os bydd yn ei daro ag arf pren yn ei law, a'r arf yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.
35:19 Caiff y sawl sy'n dial gwaed roi'r llofrudd i farwolaeth pan ddaw o hyd iddo.
35:20 Os bydd rhywun yn gwanu rhywun arall mewn casineb, neu'n ymosod arno'n fwriadol, ac yntau'n marw;
35:21 neu ynteu'n taro rhywun â'i law mewn atgasedd, ac yntau'n marw, yna rhodder y sawl a'i trawodd i farwolaeth; y mae'n llofrudd, a chaiff y sawl sy'n dial gwaed ei roi i farwolaeth pan ddaw o hyd iddo.
35:22 "'Os bydd rhywun yn gwanu rhywun arall yn sydyn, a heb atgasedd, neu os bydd yn taflu rhywbeth ato'n anfwriadol,
35:23 neu ynteu heb edrych yn ei daro â charreg a fyddai'n debyg o'i ladd, ac yntau'n marw, yna, gan na fu gelyniaeth rhyngddynt a chan na fwriadodd ei niweidio,
35:24 y mae'r cynulliad i farnu rhwng yr ymosodwr a'r dialydd gwaed, yn ôl y deddfau hyn;
35:25 a bydd y cynulliad yn arbed y lleiddiad rhag y dialydd gwaed ac yn ei roi'n ôl yn y ddinas noddfa y ffodd iddi, a chaiff fyw yno nes marw'r archoffeiriad a eneiniwyd â'r olew cysegredig.
35:26 Ond os â'r lleiddiad rywbryd y tu allan i derfynau'r ddinas noddfa y ffodd iddi,
35:27 a'r dialydd gwaed yn ei ganfod a'i ladd, ni fydd yn euog o'i waed.
35:28 Rhaid i'r lleiddiad aros tu mewn i'w ddinas noddfa nes marw'r archoffeiriad; ond ar ôl marw'r archoffeiriad, caiff ddychwelyd i'r tir sy'n feddiant iddo.
35:29 "'Bydd hyn yn ddeddf ac yn gyfraith i chwi trwy eich cenedlaethau lle bynnag y byddwch yn byw.
35:30 Os bydd rhywun yn lladd rhywun arall, rhodder ef i farwolaeth ar dystiolaeth tystion; ond na rodder neb i farwolaeth ar dystiolaeth un tyst.
35:31 Peidiwch â chymryd arian yn iawn am fywyd llofrudd a gafwyd yn euog o ladd; rhodder ef i farwolaeth.
35:32 Peidiwch â chymryd arian yn iawn gan y sawl a ffodd i'w ddinas noddfa, er mwyn iddo gael dychwelyd i fyw i'w dir ei hun cyn marw'r archoffeiriad.
35:33 Peidiwch â halogi'r wlad yr ydych yn byw ynddi; y mae gwaed yn halogi'r wlad, ac ni ellir gwneud iawn am y wlad y tywalltwyd gwaed ynddi ond trwy waed y sawl a'i tywalltodd.
35:34 Peidiwch â gwneud y wlad yr ydych yn byw ynddi yn aflan, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn preswylio yn ei chanol ac ymysg pobl Israel.'"

Etifeddiaeth Merched Seloffehad

36:1 Daeth pennau-teuluoedd tylwythau meibion Gilead fab Machir, fab Manasse, un o dylwythau meibion Joseff, ymlaen a siarad â Moses a'r arweinwyr, sef pennau-teuluoedd pobl Israel,
36:2 a dweud, "Gorchmynnodd yr ARGLWYDD iti roi'r wlad yn etifeddiaeth i bobl Israel trwy'r coelbren, a rhoi etifeddiaeth ein brawd Seloffehad i'w ferched.
36:3 Yn awr, os priodant hwy â dynion o lwythau eraill ymysg yr Israeliaid, yna bydd eu hetifeddiaeth yn cael ei cholli o lwyth ein hynafiaid, ac yn cael ei throsglwyddo at etifeddiaeth y llwythau y priodwyd hwy iddynt, a bydd ein hetifeddiaeth ni yn dlotach o'r herwydd.
36:4 Pan ddaw jwbili pobl Israel, fe drosglwyddir eu hetifeddiaeth hwy at etifeddiaeth y llwythau y priodwyd hwy iddynt; felly, bydd eu hetifeddiaeth yn cael ei cholli oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein hynafiaid."
36:5 Gorchmynnodd Moses i bobl Israel yn ôl gair yr ARGLWYDD, a dweud, "Y mae cais llwyth meibion Joseff yn un cyfiawn.
36:6 Dyma orchymyn yr ARGLWYDD ynglŷn â merched Seloffehad: cânt briodi â phwy bynnag a ddymunant, cyn belled â bod eu gwŷr yn perthyn i dylwyth eu tad.
36:7 Nid yw etifeddiaeth pobl Israel i'w throsglwyddo o'r naill lwyth i'r llall; yn hytrach, glyned pob un o bobl Israel wrth etifeddiaeth llwyth ei hynafiaid.
36:8 Y mae pob merch sy'n meddu ar etifeddiaeth, ni waeth i ba un o lwythau Israel y perthyn, i briodi â dyn o dylwyth ei thad, fel y caiff pob un o bobl Israel ran yn etifeddiaeth ei hynafiaid.
36:9 Felly, ni fydd yr etifeddiaeth yn cael ei throsglwyddo o'r naill lwyth i'r llall, ond bydd pob un o lwythau pobl Israel yn glynu wrth ei etifeddiaeth ei hun."
36:10 Gwnaeth merched Seloffehad fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses,
36:11 ac fe briododd Mala, Tirsa, Hogla, Milca a Noa, merched Seloffehad, â meibion brodyr eu tad.
36:12 Felly daethant yn wragedd i wŷr o dylwyth meibion Manasse fab Joseff, ac arhosodd eu hetifeddiaeth gyda thylwyth eu tad.
36:13 Dyma'r deddfau a'r gorchmynion a roddodd yr ARGLWYDD trwy Moses i bobl Israel yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen.