LLYFR Y BARNWYR

Llwythau Jwda a Simeon yn Dal Adoni Besec

1:1 Wedi marw Josua, gofynnodd yr Israeliaid i'r ARGLWYDD, "Pwy ohonom sydd i fynd yn gyntaf yn erbyn y Canaaneaid i ymladd â hwy?"
1:2 Atebodd yr ARGLWYDD, "Jwda sydd i fynd; yr wyf yn rhoi'r wlad yn ei law ef."
1:3 Dywedodd Jwda wrth ei frawd Simeon, "Tyrd gyda mi i'm tiriogaeth, er mwyn inni ymladd yn erbyn y Canaaneaid; ac mi ddof finnau gyda thi i'th diriogaeth di." Ac fe aeth Simeon gydag ef.
1:4 Wedi i Jwda fynd i fyny, rhoddodd yr ARGLWYDD y Canaaneaid a'r Peresiaid yn eu llaw, a lladdasant ddeng mil ohonynt yn Besec.
1:5 Yno cawsant Adoni Besec ac ymladd ag ef, a lladd y Canaaneaid a'r Peresiaid.
1:6 Ffodd Adoni Besec, ac erlidiasant ar ei ôl a'i ddal, a thorri bodiau ei ddwylo a'i draed i ffwrdd.
1:7 Ac meddai Adoni Besec, "Bu deg a thrigain o frenhinoedd â bodiau eu dwylo a'u traed wedi eu torri i ffwrdd yn lloffa am fwyd dan fy mwrdd; fel y gwneuthum i, felly y talodd Duw imi." Daethant ag ef i Jerwsalem, a bu farw yno.

Llwyth Jwda yn Ennill Jerwsalem a Hebron

1:8 Ymladdodd y Jwdeaid yn erbyn Jerwsalem a'i hennill, ac yna lladd y trigolion â'r cleddyf a llosgi'r ddinas.
1:9 Wedyn aeth y Jwdeaid i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn byw yn y mynydd-dir a hefyd yn y Negef a'r Seffela.
1:10 Aeth y Jwdeaid i ymladd â'r Canaaneaid oedd yn byw yn Hebron — Ciriath-arba oedd enw Hebron gynt — a lladdasant Sesai, Ahiman a Talmai.
1:11 Oddi yno aethant yn erbyn trigolion Debir — Ciriath-seffer oedd enw Debir gynt.

Othniel yn Ennill Debir, Jos. 15:13-19

1:12 Dywedodd Caleb, "Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer a'i hennill, fe roddaf fy merch Achsa yn wraig iddo."
1:13 Othniel fab Cenas, brawd iau Caleb, a'i henillodd; rhoddodd yntau ei ferch Achsa yn wraig iddo.
1:14 Pan ddaeth hi ato, fe'i hanogodd i geisio tir amaeth gan ei thad. Wedi iddi ddisgyn oddi ar yr asyn, gofynnodd Caleb iddi, "Beth a fynni?"
1:15 Atebodd hithau, "Rho imi anrheg; yr wyt wedi rhoi imi dir yn y Negef; rho imi hefyd ffynhonnau dŵr." Felly fe roddodd Caleb iddi'r Ffynhonnau Uchaf a'r Ffynhonnau Isaf.

Buddugoliaethau Llwythau Jwda a Benjamin

1:16 Yr oedd disgynyddion y Cenead, tad-yng-nghyfraith Moses, wedi dod i fyny gyda'r Jwdeaid o Ddinas y Palmwydd i anialwch Jwda, sydd yn Negef Arad, ac wedi mynd i fyw ymysg y bobl.
1:17 Aeth Jwda gyda'i frawd Simeon a tharo'r Canaaneaid oedd yn byw yn Seffath, a difrodi'r ddinas a'i galw'n Horma.
1:18 Enillodd Jwda Gasa, Ascalon ac Ecron, a'r diriogaeth o amgylch pob un.
1:19 Yr oedd yr ARGLWYDD gyda Jwda, a meddiannodd y mynydd-dir, ond ni allodd ddisodli trigolion y gwastadedd am fod ganddynt gerbydau haearn.
1:20 Rhoesant Hebron i Caleb fel yr oedd Moses wedi addo, a gyrrodd ef oddi yno dri o'r Anaciaid.
1:21 Ond am y Jebusiaid oedd yn byw yn Jerwsalem, ni yrrodd y Benjaminiaid hwy allan; ac y mae'r Jebusiaid wedi byw gyda'r Ben-jaminiaid yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.

Llwythau Effraim a Manasse yn Ennill Bethel

1:22 Aeth tylwyth Joseff i fyny yn erbyn Bethel, a bu'r ARGLWYDD gyda hwy.
1:23 Anfonodd tylwyth Joseff rai i wylio Bethel — Lus oedd enw'r ddinas gynt.
1:24 Pan welodd y gwylwyr ddyn yn dod allan o'r ddinas, dywedasant wrtho, "Dangos inni sut i fynd i mewn i'r ddinas, a byddwn yn garedig wrthyt."
1:25 Dangosodd iddynt fynedfa i'r ddinas; trawsant hwythau'r ddinas â'r cleddyf, ond gollwng y gŵr a'i holl deulu yn rhydd.
1:26 Aeth yntau i wlad yr Hethiaid ac adeiladu tref yno, a'i henwi'n Lus; a dyna'i henw hyd heddiw.

Pobl nas Disodlwyd gan yr Israeliaid

1:27 Ni feddiannodd Manasse Beth-sean na Taanach a'u maestrefi, na disodli trigolion Dor, Ibleam, na Megido a'u maestrefi; daliodd y Canaaneaid eu tir yn y rhan honno o'r wlad.
1:28 Ond pan gryfhaodd Israel, rhoesant y Canaaneaid dan lafur gorfod, heb eu disodli'n llwyr.
1:29 Ni ddisodlodd Effraim y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser; bu'r Canaaneaid yn byw yn eu mysg yn Geser.
1:30 Ni ddisodlodd Sabulon drigolion Citron na thrigolion Nahalol. Bu'r Canaaneaid yn byw yn eu mysg a than lafur gorfod.
1:31 Ni ddisodlodd Aser drigolion Acco na thrigolion Sidon, nac Ahlab, Achsib, Helba, Affec na Rehob.
1:32 Bu'r Aseriaid yn byw ymysg y Canaaneaid oedd yn trigo yn y wlad am nad oeddent wedi eu disodli.
1:33 Ni ddisodlodd Nafftali drigolion Beth-semes na thrigolion Beth-anath; buont yn byw ymysg y Canaaneaid oedd yn trigo yn y wlad, a bu trigolion Beth-semes a Beth-anath dan lafur gorfod iddynt.
1:34 Gwasgodd yr Amoriaid y Daniaid tua'r mynydd-dir oherwydd nid oeddent yn caniatáu iddynt ddod i lawr i'r gwastatir.
1:35 Daliodd yr Amoriaid eu tir ym Mynydd Heres ac Ajalon a Saalbim, ond pwysodd tylwyth Joseff yn drymach arnynt ac aethant dan lafur gorfod.
1:36 Yr oedd terfyn yr Amoriaid o riw Acrabbim, o Sela i fyny.

Angel yr Arglwydd yn Bochim

2:1 Aeth angel yr ARGLWYDD i fyny o Gilgal i Bochim, a dywedodd, "Dygais chwi allan o'r Aifft, a dod â chwi i'r wlad a addewais i'ch hynafiaid. Dywedais hefyd, 'Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth;
2:2 peidiwch chwithau â gwneud cyfamod â thrigolion y wlad hon, ond bwriwch i lawr eu hallorau.' Eto nid ydych wedi gwrando arnaf. Pam y gwnaethoch hyn?
2:3 Yr wyf wedi penderfynu na yrraf hwy allan o'ch blaen, ond byddant yn ddrain yn eich ystlysau, a'u duwiau yn fagl ichwi."
2:4 Pan lefarodd angel yr ARGLWYDD y geiriau hyn wrth yr holl Israeliaid, torrodd y bobl allan i wylo'n uchel.
2:5 Am hynny enwyd y lle hwnnw Bochim; ac offrymasant yno aberth i'r ARGLWYDD.

Marwolaeth Josua

2:6 Gollyngodd Josua y bobl ac aeth pob un o'r Israeliaid i'w etifeddiaeth i gymryd meddiant o'r wlad.
2:7 Addolodd y bobl yr ARGLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau'r henuriaid oedd wedi goroesi Josua ac wedi gweld yr holl waith mawr a wnaeth yr ARGLWYDD dros Israel.
2:8 Bu farw Josua fab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn gant a deg oed,
2:9 a chladdwyd ef o fewn terfynau ei etifeddiaeth, yn Timnath-heres ym mynydd-dir Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaas.
2:10 Casglwyd yr holl genhedlaeth honno at eu hynafiaid, a chododd cenhedlaeth arall ar eu hôl, nad oedd yn adnabod yr ARGLWYDD na chwaith yn gwybod am yr hyn a wnaeth dros Israel.

Israel yn Peidio ag Addoli'r Arglwydd

2:11 Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; aethant i addoli'r Baalim,
2:12 gan adael yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a'u dygodd allan o wlad yr Aifft, a mynd ar ôl duwiau estron o blith duwiau'r cenhedloedd oedd o'u cwmpas, ac ymgrymu iddynt hwy, a digio'r ARGLWYDD.
2:13 Gadawsant yr ARGLWYDD ac addoli Baal ac Astaroth.
2:14 Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a rhoddodd hwy yn llaw rhai a fu'n eu hanrheithio, a gwerthodd hwy i law eu gelynion oddi amgylch, fel nad oeddent bellach yn medru gwrthsefyll eu gelynion.
2:15 I ble bynnag yr aent, yr oedd llaw yr ARGLWYDD yn eu herbyn er drwg, fel yr oedd wedi addo a thyngu iddynt. Ac aeth yn gyfyng iawn arnynt.
2:16 Yna fe gododd yr ARGLWYDD farnwyr a'u hachubodd o law eu hanrheithwyr.
2:17 Eto nid oeddent yn gwrando hyd yn oed ar eu barnwyr, ond yn hytrach yn puteinio ar ôl duwiau estron ac yn ymgrymu iddynt, gan gefnu'n fuan ar y ffordd a gerddodd eu hynafiaid mewn ufudd-dod i orchmynion yr ARGLWYDD; ni wnaent hwy felly.
2:18 Pan fyddai'r ARGLWYDD yn codi barnwr iddynt, byddai ef gyda'r barnwr ac yn eu gwaredu o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr hwnnw; oherwydd byddai'r ARGLWYDD yn tosturio wrthynt yn eu griddfan o achos eu gormeswyr a'u cystuddwyr.
2:19 Eto, pan fyddai farw'r barnwr, yn ôl yr aent ac ymddwyn yn fwy llygredig na'u hynafiaid, gan fynd ar ôl duwiau estron i'w haddoli ac ymgrymu iddynt, heb roi heibio yr un o'u harferion na'u ffyrdd gwrthnysig.
2:20 Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a dywedodd, "Am i'r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i'w hynafiaid, heb wrando ar fy llais,
2:21 nid wyf finnau am ddisodli o'u blaen yr un o'r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw."
2:22 Gadawyd hwy i brofi'r Israeliaid, i weld a fyddent yn cadw ffordd yr ARGLWYDD ai peidio, ac yn rhodio ynddi fel y gwnaeth eu hynafiaid.
2:23 Gadawodd yr ARGLWYDD y cenhedloedd hyn heb eu disodli ar unwaith, na'u rhoi yn llaw Josua.

Y Cenhedloedd a Adawyd yn y Wlad

3:1 Gadawodd yr ARGLWYDD y cenhedloedd hyn i brofi'r Israeliaid oedd heb gael unrhyw brofiad o ryfeloedd Canaan, a hynny er mwyn i genedlaethau Israel gael profiad,
3:2 ac er mwyn dysgu'r rhai nad oedd ganddynt brofiad blaenorol sut i ryfela.
3:3  Gadawyd pum arglwydd y Philistiaid, y Canaaneaid oll, y Sidoniaid, a'r Hefiaid oedd yn byw ar fynydd-dir Lebanon o Fynydd Baal-hermon hyd Lebo-hamath.
3:4 Yr oeddent yno i'r ARGLWYDD brofi Israel drwyddynt, a chael gwybod a fyddent yn ufuddhau i'r gorchmynion a roddodd ef i'w hynafiaid trwy Moses.
3:5 Ymgartrefodd yr Israeliaid ymysg y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid;
3:6 a chymerasant eu merched hwy yn wragedd, a rhoi eu merched eu hunain i'w meibion hwy, ac addoli eu duwiau.

Othniel

3:7 Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac anghofio'r ARGLWYDD eu Duw ac addoli'r duwiau Baal ac Asera.
3:8 Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel a gwerthodd hwy i law Cusan-risathaim, brenin Aram-naharaim, a bu'r Israeliaid yn gwasanaethu Cusan-risathaim am wyth mlynedd.
3:9 Yna gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a chododd yr ARGLWYDD achubwr i'r Israeliaid, sef Othniel fab Cenas, brawd iau Caleb, ac fe'u gwaredodd.
3:10 Daeth ysbryd yr ARGLWYDD arno, a barnodd Israel a mynd allan i ryfela, a rhoddodd yr ARGLWYDD yn ei law Cusan-risathaim, brenin Aram, ac fe'i trechodd.
3:11 Yna cafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd, nes i Othniel fab Cenas farw.

Ehud

3:12 Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a nerthodd ef Eglon brenin Moab yn eu herbyn am iddynt wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
3:13 Casglodd Eglon yr Ammoniaid a'r Amaleciaid ato, ac ymosododd ar Israel a meddiannu Dinas y Palmwydd.
3:14 Bu'r Israeliaid yn gwasanaethu Eglon brenin Moab am ddeunaw mlynedd.
3:15 Yna gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a chododd ef achubwr iddynt, sef Ehud fab Gera, Benjaminiad a dyn llawchwith; ac anfonodd yr Israeliaid gydag ef deyrnged i Eglon brenin Moab.
3:16 Yr oedd Ehud wedi gwneud cleddyf daufiniog, cufydd o hyd, a'i wregysu ar ei glun dde, o dan ei ddillad.
3:17 Cyflwynodd y deyrnged i Eglon brenin Moab, a oedd yn ddyn tew iawn.
3:18 Ar ôl gorffen cyflwyno'r deyrnged, anfonodd ymaith y bobl a fu'n cario'r deyrnged,
3:19 ond dychwelodd Ehud ei hun oddi wrth y colofnau ger Gilgal a dweud, "Y mae gennyf neges gyfrinachol iti, O frenin."
3:20 Galwodd yntau am dawelwch, ac aeth pawb oedd yn sefyll o'i gwmpas allan. Yna nesaodd Ehud ato, ac yntau'n eistedd wrtho'i hunan mewn ystafell haf oedd ganddo ar y to, a dywedodd, "Gair gan Dduw sydd gennyf iti." Cododd yntau oddi ar ei sedd.
3:21 Yna estynnodd Ehud ei law chwith, cydiodd yn y cleddyf oedd ar ei glun dde, a'i daro i fol Eglon,
3:22 nes bod y carn yn mynd i mewn ar ôl y llafn, a'r braster yn cau amdano. Ni thynnodd y cleddyf o'i fol, a daeth allan y tu cefn.
3:23 Yna aeth Ehud allan trwy'r cyntedd a chau drysau'r ystafell arno a'u cloi.
3:24 Wedi iddo fynd i ffwrdd, daeth gweision Eglon, ac wedi edrych a gweld drysau'r ystafell ynghlo, dywedasant, "Rhaid mai esmwytháu ei gorff y mae yn yr ystafell haf."
3:25 Wedi iddynt ddisgwyl nes bod cywilydd arnynt, ac yntau heb agor drysau'r ystafell, cymerasant allwedd a'u hagor, a dyna lle'r oedd eu meistr wedi syrthio i'r llawr yn farw.
3:26 Yr oedd Ehud wedi dianc tra oeddent hwy'n oedi; aeth heibio i'r colofnau a dianc i Seira.
3:27 Pan gyrhaeddodd, fe ganodd yr utgorn ym mynydd-dir Effraim, a daeth yr Israeliaid i lawr gydag ef o'r mynydd-dir, ac yntau'n eu harwain.
3:28 Dywedodd wrthynt, "Dilynwch fi, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi eich gelyn Moab yn eich llaw." Aethant hwythau ar ei ôl a dal rhydau'r Iorddonen yn erbyn Moab, a rhwystro pawb rhag croesi.
3:29 Lladdasant y pryd hwnnw tua deng mil o'r Moabiaid, pob un yn heini a grymus; ni ddihangodd neb.
3:30 Darostyngwyd y Moabiaid y diwrnod hwnnw dan law Israel, a chafodd y wlad lonydd am bedwar ugain mlynedd.

Samgar

3:31 Ar ei ôl ef bu Samgar fab Anath. Lladdodd ef chwe chant o Philistiaid â swmbwl gyrru ychen. Fe waredodd yntau Israel.

Debora a Barac

4:1 Ar ôl i Ehud farw, gwnaeth yr Israeliaid unwaith eto yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
4:2 Felly gwerthodd yr ARGLWYDD hwy i law Jabin brenin Canaan, a oedd yn teyrnasu yn Hasor. Capten ei fyddin oedd Sisera, a oedd yn byw yn Haroseth y Cenhedloedd.
4:3 Yr oedd ganddo naw cant o gerbydau haearn, a bu'n gorthrymu'r Israeliaid yn galed am ugain mlynedd; am hynny gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD.
4:4 Proffwydes o'r enw Debora gwraig Lappidoth oedd yn barnu Israel yr adeg honno.
4:5 Byddai'n eistedd dan balmwydden Debora, rhwng Rama a Bethel ym mynydd-dir Effraim, a byddai'r Israeliaid yn mynd ati am farn.
4:6 Anfonodd hi am Barac fab Abinoam o Cedes Nafftali, a dweud wrtho, "Onid yw'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn gorchymyn iti? Dos, cynnull ddeng mil o ddynion o lwythau Nafftali a Sabulon ar Fynydd Tabor, a chymer hwy gyda thi.
4:7 Denaf finnau, i'th gyfarfod wrth nant Cison, Sisera, capten byddin Jabin, gyda'i gerbydau a'i lu; ac fe'u rhoddaf yn dy law."
4:8 Ond dywedodd Barac wrthi, "Os doi di gyda mi, yna mi af; ac os na ddoi di gyda mi, nid af."
4:9 Meddai hithau, "Dof, mi ddof gyda thi; eto ni ddaw gogoniant i ti ar y llwybr a gerddi, oherwydd i law gwraig y mae'r ARGLWYDD am werthu Sisera." Yna cododd Debora a mynd gyda Barac i Cedes.
4:10 Cynullodd Barac lwythau Sabulon a Nafftali i Cedes, a dilynodd deng mil o ddynion ar ei ôl; aeth Debora hefyd gydag ef.
4:11 Yr oedd Heber y Cenead wedi ymwahanu oddi wrth y Ceneaid eraill oedd yn ddisgynyddion Hobab, tad-yng-nghyfraith Moses, ac wedi gosod ei babell cyn belled â'r dderwen yn Saanannim ger Cedes.
4:12 Pan ddywedwyd wrth Sisera fod Barac fab Abinoam wedi mynd i fyny i Fynydd Tabor,
4:13 galwodd Sisera ei holl gerbydau — naw cant o gerbydau haearn — a'i holl filwyr, o Haroseth y Cenhedloedd at nant Cison.
4:14 Yna dywedodd Debora wrth Barac, "Dos! Oherwydd dyma'r dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi Sisera yn dy law. Onid yw'r ARGLWYDD wedi mynd o'th flaen?" Aeth Barac i lawr o Fynydd Tabor gyda deng mil o wŷr ar ei ôl.
4:15 Gyrrodd yr ARGLWYDD Sisera a'r cerbydau i gyd, a'r holl fyddin, ar chwâl o flaen cleddyf Barac. Disgynnodd Sisera o'i gerbyd a ffoi ar ei draed.
4:16 Ymlidiodd Barac y cerbydau a'r fyddin cyn belled â Haroseth y Cenhedloedd, a chwympodd holl fyddin Sisera o flaen y cleddyf, heb adael cymaint ag un.
4:17 Ffodd Sisera ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead, oherwydd yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a theulu Heber y Cenead.
4:18 Daeth Jael allan i gyfarfod Sisera a dywedodd wrtho, "Tro i mewn, f'arglwydd, tro i mewn ataf, paid ag ofni." Felly troes i mewn ati i'r babell, a thaenodd hithau gwrlid drosto.
4:19 Gofynnodd iddi am lymaid o ddŵr i'w yfed, gan fod syched arno, ond agorodd hi botel o laeth a rhoi diod iddo, ac yna ei orchuddio eto.
4:20 Dywedodd wrthi, "Saf yn nrws y babell, ac os daw rhywun a gofyn iti a oes unrhyw un yma, dywed, 'Nac oes'."
4:21 Cymerodd Jael, gwraig Heber, hoelen pabell, cydiodd mewn morthwyl, ac aeth ato'n ddistaw a phwyo'r hoelen trwy ei arlais i'r llawr; yr oedd ef mewn trymgwsg ar ôl ei ludded, a bu farw.
4:22 Yna cyrhaeddodd Barac, yn ymlid Sisera; aeth Jael allan i'w gyfarfod, a dywedodd wrtho, "Tyrd, fe ddangosaf iti'r dyn yr wyt yn chwilio amdano." Aeth yntau i mewn, a dyna lle'r oedd Sisera yn gorwedd yn farw, a'r hoelen yn ei arlais.
4:23 Y diwrnod hwnnw darostyngodd Duw Jabin brenin Canaan gerbron yr Israeliaid.
4:24 Pwysodd yr Israeliaid yn drymach, drymach arno, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.

Cân Debora a Barac

5:1 Y diwrnod hwnnw canodd Debora a Barac fab Abinoam fel hyn:
5:2 "Am i'r arweinwyr roi arweiniad yn Israel, am i'r bobl ymroi o'u gwirfodd, bendithiwch yr ARGLWYDD.
5:3 Clywch, frenhinoedd! Gwrandewch, dywysogion! Canaf finnau i'r ARGLWYDD, a moliannu ARGLWYDD Dduw Israel.
5:4 "O ARGLWYDD, pan aethost allan o Seir, ac ymdeithio o Faes Edom, fe grynodd y ddaear, glawiodd y nefoedd, ac yr oedd y cymylau hefyd yn diferu dŵr.
5:5 Siglodd y mynyddoedd o flaen yr ARGLWYDD, Duw Sinai, o flaen ARGLWYDD Dduw Israel.
5:6 "Yn nyddiau Samgar fab Anath, ac yn nyddiau Jael, peidiodd y carafanau; aeth y teithwyr ar hyd llwybrau troellog.
5:7 Darfu am drigolion pentrefi, darfu amdanynt yn Israel nes i mi, Debora, gyfodi, nes i mi godi yn fam yn Israel.
5:8 Pan ddewiswyd duwiau newydd, yna daeth brwydro i'r pyrth, ac ni welwyd na tharian na gwaywffon ymhlith deugain mil yn Israel.
5:9 Mae fy nghalon o blaid llywiawdwyr Israel, y rhai ymysg y bobl a aeth o'u gwirfodd. Bendithiwch yr ARGLWYDD.
5:10 "Ystyriwch, chwi sy'n marchogaeth asynnod melyngoch, chwi sy'n eistedd ar gyfrwyau, chwi sy'n cerdded y ffordd.
5:11 Clywch y rhai sy'n disgwyl eu tro ger y ffynhonnau, ac yno'n adrodd buddugoliaethau'r ARGLWYDD, buddugoliaethau ei bentrefwyr yn Israel, pan aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr i'r pyrth.
5:12 "Deffro, deffro, Debora! Deffro, deffro, lleisia gân! Cyfod, Barac! Cymer lu o garcharorion, ti fab Abinoam!
5:13 "Yna fe aeth y gweddill i lawr at y pendefigion, do, fe aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr ymysg y cedyrn.
5:14 Daeth rhai o Effraim a lledu drwy'r dyffryn, a gweiddi, 'Ar dy ôl di, Benjamin, gyda'th geraint!' Aeth llywiawdwyr i lawr o Machir; ac o Sabulon, rhai'n cario gwialen swyddog.
5:15 Yr oedd tywysogion Issachar gyda Debora; bu Issachar yn ffyddlon i Barac, yn rhuthro i'r dyffryn ar ei ôl. Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.
5:16 Pam yr arhosaist rhwng y corlannau i wrando ar chwiban bugeiliaid? Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.
5:17 Arhosodd Gilead y tu hwnt i'r Iorddonen; a pham yr oedd Dan yn oedi ger y llongau? Arhosodd Aser ar lan y môr, ac oedi gerllaw ei gilfachau.
5:18 Pobl a fentrodd eu heinioes hyd angau oedd Sabulon a Nafftali hefyd, ar uchelfannau maes y gad.
5:19 "Daeth brenhinoedd ac ymladd; fe ymladdodd brenhinoedd Canaan yn Taanach ger dyfroedd Megido, ond heb gymryd ysbail o arian.
5:20 o'r nef ymladdodd y sêr, ymladd o'u cylchoedd yn erbyn Sisera.
5:21 "Ysgubodd nant Cison hwy ymaith, cododd llif nant Cison yn eu herbyn. Fy enaid, cerdda ymlaen mewn nerth.
5:22 Yna'r oedd carnau'r ceffylau'n diasbedain gan garlam gwyllt eu meirch cryfion.
5:23 "'Melltigwch Meros,' medd angel yr ARGLWYDD, 'melltigwch yn llwyr ei thrigolion, am na ddaethant i gynorthwyo'r ARGLWYDD, i gynorthwyo'r ARGLWYDD gyda'r gwroniaid.'
5:24 Bendigedig goruwch gwragedd fyddo Jael, gwraig Heber y Cenead; bendithier hi uwch gwragedd y babell.
5:25 Am ddŵr y gofynnodd ef, estynnodd hithau laeth; mewn llestr pendefigaidd cynigiodd iddo enwyn.
5:26 Estynnodd ei llaw at yr hoelen, a'i deheulaw at ordd y llafurwyr; yna fe bwyodd Sisera a dryllio'i ben, fe'i trawodd a thrywanu ei arlais.
5:27 Rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd, gorweddodd; rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd; lle crymodd, yno fe syrthiodd yn gelain.
5:28 "Edrychai mam Sisera trwy'r ffenestr a llefain trwy'r dellt: 'Pam y mae ei gerbyd yn oedi? Pam y mae twrf ei gerbydau mor hir yn dod?'
5:29 Atebodd y ddoethaf o'i thywysogesau, ie, rhoes hithau'r ateb iddi ei hun,
5:30 'Onid ydynt yn cael ysbail ac yn ei rannu — llances neu ddwy i bob un o'r dynion, ysbail o frethyn lliw i Sisera, ie, ysbail o frethyn lliw, darn neu ddau o frodwaith am yddfau'r ysbeilwyr?'
5:31 "Felly bydded i'th holl elynion ddarfod, O ARGLWYDD, ond bydded y rhai sy'n dy garu fel yr haul yn codi yn ei rym." Yna cafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd.

Gideon

6:1 Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Midian am saith mlynedd.
6:2 Am fod Midian yn drech nag Israel paratôdd yr Israeliaid lochesau iddynt eu hunain yn y mynyddoedd, a hefyd ogofeydd a chaerau.
6:3 Bob tro y byddai'r Israeliaid wedi hau, byddai Midian ac Amalec a'r dwyreinwyr yn dod ac yn ymosod arnynt;
6:4 byddent yn gwersyllu yn eu herbyn ac yn distrywio cnwd y ddaear cyn belled â Gasa, heb adael unrhyw beth byw yn Israel, na dafad nac ych nac asyn.
6:5 Pan ddoent hwy a'u hanifeiliaid a'u pebyll, yr oeddent mor niferus â locustiaid; nid oedd rhifo arnynt hwy na'u camelod pan ddoent i'r wlad i'w difrodi.
6:6 Felly aeth Israel yn dlawd iawn o achos Midian; yna galwodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD.
6:7 Wedi iddynt alw ar yr ARGLWYDD o achos Midian,
6:8 anfonodd yr ARGLWYDD broffwyd at yr Israeliaid, a dywedodd hwnnw wrthynt, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Myfi a ddaeth â chwi i fyny o'r Aifft, a'ch rhyddhau o dŷ'r caethiwed;
6:9 achubais chwi o law'r Eifftiaid a phawb oedd yn eich gormesu, a'u gyrru allan o'ch blaen, a rhoi eu tir ichwi.
6:10 Dywedais wrthych: Myfi yw'r ARGLWYDD, eich Duw; peidiwch ag ofni duwiau'r Amoriaid yr ydych yn byw yn eu gwlad. Ond ni wrandawsoch arnaf.'"
6:11 Daeth angel yr ARGLWYDD ac eistedd dan y dderwen yn Offra, a oedd yn perthyn i Joas yr Abiesriad. Yr oedd ei fab, Gideon, yn dyrnu gwenith mewn gwinwryf, i'w guddio rhag Midian.
6:12 Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, "Y mae'r ARGLWYDD gyda thi, ŵr dewr."
6:13 Ateb-odd Gideon ef, "Ond, syr, os yw'r ARGLWYDD gyda ni, pam y mae hyn i gyd wedi digwydd inni? A phle mae ei holl ryfeddodau y soniodd ein hynafiaid amdanynt, a dweud wrthym, 'Oni ddygodd yr ARGLWYDD ni i fyny o'r Aifft?'
6:14 Erbyn hyn y mae'r ARGLWYDD wedi'n gadael, a'n rhoi yng ngafael Midian." Trodd angel yr ARGLWYDD ato a dweud, "Dos, gyda'r nerth hwn sydd gennyt, a gwared Israel o afael Midian; onid wyf fi yn dy anfon?"
6:15 Atebodd yntau, "Ond, syr, sut y gwaredaf fi Israel? Edrych, fy nhylwyth i yw'r gwannaf yn Manasse, a minnau yw'r distatlaf o'm teulu."
6:16 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Yn sicr byddaf fi gyda thi, a byddi'n taro'r Midianiaid fel pe baent un gŵr."
6:17 Atebodd yntau, "Os cefais ffafr yn d'olwg, yna rho arwydd imi mai ti sy'n siarad â mi.
6:18 Paid â mynd oddi yma cyn imi ddychwelyd atat a chyflwyno fy offrwm a'i osod o'th flaen." Atebodd yntau, "Fe arhosaf nes iti ddod yn ôl."
6:19 Aeth Gideon a pharatoi myn gafr a phobi bara croyw o beilliaid. Gosododd y cig ar ddysgl a rhoi'r cawl mewn padell, a'u dwyn ato dan y dderwen, a'u cyflwyno.
6:20 Yna dywedodd angel Duw wrtho, "Cymer y cig a'r bara croyw a'u rhoi ar y graig acw, a thywallt y cawl." Gwnaeth hynny.
6:21 Estynnodd angel yr ARGLWYDD flaen y ffon oedd yn ei law, a phan gyffyrddodd â'r cig a'r bara croyw, cododd tân o'r graig a'u llosgi; a diflannodd angel yr ARGLWYDD o'i olwg.
6:22 Yna fe sylweddolodd Gideon mai angel yr ARGLWYDD oedd, a dywedodd, "Gwae fi, f'Arglwydd DDUW, am imi weld angel yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb."
6:23 Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Heddwch iti; paid ag ofni, ni byddi farw."
6:24 Adeiladodd Gideon allor i'r ARGLWYDD yno a'i henwi Jehofa-shalom. Y mae yn Offra Abieser hyd y dydd hwn.
6:25 Y noson honno dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Cymer ych o eiddo dy dad, yr ail ych, yr un seithmlwydd, a thyn i lawr yr allor i Baal sydd gan dy dad, a thor i lawr y pren Asera sydd yn ei hymyl.
6:26 Adeilada allor briodol i'r ARGLWYDD dy Dduw ar ben y fangre hon; yna cymer yr ail ych a'i offrymu'n boethoffrwm ar goed yr Asera a dorraist i lawr."
6:27 Cymerodd Gideon ddeg o'i weision a gwnaeth fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho, ond gan fod arno ofn gwneud hynny liw dydd oherwydd ei deulu a phobl y ddinas, fe'i gwnaeth liw nos.
6:28 Pan gododd pobl y ddinas yn gynnar yn y bore a gweld allor Baal wedi ei bwrw i lawr a'r pren Asera oedd yn ei hymyl wedi ei thorri, a'r ail ych wedi ei offrymu ar yr allor oedd wedi ei chodi,
6:29 yna gofynnodd pawb i'w gilydd, "Pwy a wnaeth hyn?" Ar ôl chwilio a holi, dywedasant, "Gideon fab Joas sydd wedi gwneud hyn."
6:30 Yna dywedodd pobl y ddinas wrth Joas, "Tyrd â'th fab allan iddo gael marw, oherwydd y mae wedi bwrw i lawr allor Baal a thorri'r pren Asera oedd yn ei hymyl."
6:31 Ond meddai Joas wrth bawb oedd yn sefyll o'i gwmpas, "A ydych chwi am ddadlau achos Baal? A ydych chwi am ei achub ef? Rhoir pwy bynnag sy'n dadlau drosto i farwolaeth erbyn y bore. Os yw'n dduw, dadleued drosto'i hun am i rywun fwrw ei allor i lawr."
6:32 A'r diwrnod hwnnw galwyd Gideon yn Jerwbbaal — hynny yw, "Bydded i Baal ddadlau ag ef" — am iddo fwrw ei allor i lawr.
6:33 Daeth yr holl Midianiaid a'r Amaleciaid a'r dwyreinwyr ynghyd, a chroesi a gwersyllu yn nyffryn Jesreel.
6:34 Disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Gideon; chwythodd yntau'r utgorn a galw ar yr Abiesriaid i'w ddilyn.
6:35 Anfonodd negeswyr drwy Manasse gyfan a galw arnynt hwythau hefyd i'w ddilyn. Yna anfonodd negeswyr drwy Aser, Sabulon a Nafftali, a daethant hwythau i'w cyfarfod.
6:36 Dywedodd Gideon wrth Dduw, "Os wyt am waredu Israel drwy fy llaw i, fel yr addewaist,
6:37 dyma fi'n gosod cnu o wlân ar y llawr dyrnu; os bydd gwlith ar y cnu yn unig, a'r llawr i gyd yn sych, yna byddaf yn gwybod y gwaredi Israel drwof fi, fel y dywedaist."
6:38 Felly y bu. Pan gododd fore trannoeth a hel y cnu at ei gilydd, gwasgodd ddigon o wlith ohono i lenwi ffiol â'r dŵr.
6:39 Ond meddai Gideon wrth Dduw, "Paid â digio wrthyf os gofynnaf un peth arall; yr wyf am wneud un prawf arall â'r cnu: bydded y cnu'n unig yn sych, a gwlith ar y llawr i gyd."
6:40 Gwnaeth Duw hynny y noson honno, y cnu'n unig yn sych, a gwlith ar y llawr i gyd.

Gideon yn Gorchfygu Midian

7:1 Cododd Jerwbbaal, sef Gideon, a'r holl bobl oedd gydag ef yn gynnar a gwersyllu ger ffynnon Harod. Yr oedd gwersyll Midian yn y dyffryn i'r gogledd o fryn More.
7:2 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, "Y mae gennyt ormod o bobl gyda thi imi roi Midian yn eu llaw, rhag i Israel ymfalchïo yn f'erbyn a dweud, 'Fy llaw fy hun sydd wedi f'achub.'
7:3 Felly, cyhoedda yng nghlyw'r bobl, 'Pwy bynnag sydd mewn ofn a dychryn, aed adref.'" Profodd Gideon hwy, a dychwelodd dwy fil ar hugain o'r bobl, gan adael deng mil ar ôl.
7:4 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, "Y mae gormod o bobl eto. Dos â hwy i lawr at y dŵr, a phrofaf hwy iti yno. Pan ddywedaf wrthyt, 'Y mae hwn i fynd gyda thi', bydd hwnnw'n mynd gyda thi; a phan ddywedaf, 'Nid yw hwn i fynd gyda thi', ni fydd yn mynd."
7:5 Aeth Gideon â'r bobl i lawr at y dŵr, a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Pob un sy'n llepian y dŵr â'i dafod fel y bydd ci'n llepian, gosod hwnnw ar wahân i'r rhai sy'n penlinio ac yn yfed trwy ddod â'u llaw at eu genau."
7:6 Tri chant oedd nifer y rhai oedd yn llepian, a phawb arall yn penlinio i yfed dŵr.
7:7 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, "Trwy'r tri chant sy'n llepian y byddaf yn eich achub, ac yn rhoi Midian yn dy law; caiff pawb arall fynd adref."
7:8 Cymerodd Gideon biserau'r bobl a'r utgyrn oedd ganddynt, ac anfon yr Israeliaid i gyd adref, ond cadw'r tri chant. Yr oedd gwersyll Midian islaw iddo yn y dyffryn.
7:9 Y noson honno dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, "Cod, dos i lawr i'r gwersyll, oherwydd yr wyf yn ei roi yn dy law.
7:10 Os oes arnat ofn mynd, dos â Pura dy lanc gyda thi at y gwersyll,
7:11 a gwrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud; yna fe gryfheir dy law wedi iti fod i lawr yn y gwersyll." Felly fe aeth ef a Pura ei lanc at ymyl y milwyr arfog yn y gwersyll.
7:12 Yr oedd y Midianiaid a'r Amaleciaid a'r holl ddwyreinwyr wedi disgyn ar y dyffryn fel haid o locustiaid; yr oedd eu camelod mor ddirifedi â thywod glan y môr.
7:13 Pan gyrhaeddodd Gideon, dyna lle'r oedd rhyw ddyn yn adrodd breuddwyd wrth ei gyfaill ac yn dweud, "Dyma'r freuddwyd a gefais. Yr oeddwn yn gweld torth o fara haidd yn rhowlio trwy wersyll Midian, a phan ddôi at babell, yr oedd yn ei tharo a'i thaflu a'i dymchwel nes bod y babell yn disgyn."
7:14 Atebodd ei gyfaill, "Nid yw hyn yn ddim amgen na chleddyf Gideon fab Joas yr Israeliad; y mae Duw wedi rhoi Midian a'r holl wersyll yn ei law."
7:15 Pan glywodd Gideon adrodd y freuddwyd a'i dehongli, ymgrymodd i'r llawr; yna dychwelodd at wersyll Israel a dweud, "Codwch, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi gwersyll Midian yn eich llaw."
7:16 Rhannodd y tri chant yn dair mintai, a rhoi yn eu llaw utgyrn, a phiserau gwag gyda ffaglau o'u mewn. Dywedodd wrthynt, "Edrychwch arnaf fi, a gwnewch yr un fath.
7:17 Pan ddof fi at gwr y gwersyll, yna gwnewch yr un fath â mi.
7:18 Pan fyddaf fi a phawb sydd gyda mi yn seinio'r utgorn, seiniwch chwithau eich utgyrn o bob tu i'r gwersyll, a dweud, 'Yr ARGLWYDD a Gideon!'"
7:19 Cyrhaeddodd Gideon a'r cant o ddynion oedd gydag ef at gwr y gwersyll ar ddechrau'r wyliadwriaeth ganol, a'r gwylwyr newydd eu gosod. Seiniasant yr utgyrn, a dryllio'r piserau oedd yn eu llaw.
7:20 A dyma'r tair mintai yn seinio'r utgyrn ac yn dryllio'r piserau, gan ddal y ffaglau yn eu llaw chwith a'r utgyrn i'w seinio yn eu llaw dde; ac yr oeddent yn gweiddi, "Cleddyf yr ARGLWYDD a Gideon!"
7:21 Tra oedd pob un yn sefyll yn ei le o gwmpas y gwersyll, rhuthrodd yr holl wersyll o gwmpas gan weiddi a ffoi.
7:22 Tra oedd y tri chant yn seinio'r utgyrn, trodd yr ARGLWYDD gleddyf pob un yn y gwersyll yn erbyn ei gymydog, a ffoesant cyn belled â Beth-sitta yn Serera, ac i gyffiniau Abel-mehola a Tabbath.
7:23 Galwyd ar yr Israeliaid o Nafftali, Aser a Manasse gyfan, a buont yn erlid ar ôl y Midianiaid.
7:24 Yr oedd Gideon wedi anfon negeswyr drwy holl ucheldir Effraim a dweud, "Dewch i lawr yn erbyn Midian a chymryd rhydau'r Iorddonen o'u blaen hyd Beth-bara." Casglwyd holl wŷr Effraim a daliasant rydau'r Iorddonen cyn belled â Beth-bara.
7:25 Daliasant Oreb a Seeb, dau arweinydd Midian, a lladd Oreb wrth graig Oreb, a Seeb wrth winwryf Seeb; yna, wedi iddynt erlid Midian, daethant â phen Oreb a phen Seeb at Gideon y tu hwnt i'r Iorddonen.

Buddugoliaeth Derfynol dros Midian

8:1 Dywedodd gwŷr Effraim wrtho, "Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i ni, drwy beidio â'n galw pan aethost i ymladd yn erbyn Midian?" A buont yn dadlau'n chwyrn ag ef.
8:2 Ond dywedodd ef wrthynt, "Yn awr, beth a wneuthum i o'i gymharu â'r hyn a wnaethoch chwi? Onid yw lloffion Effraim yn well na chynhaeaf Abieser?
8:3 Yn eich dwylo chwi y rhoddodd Duw Oreb a Seeb, arweinwyr Midian. Beth a fedrais i ei wneud o'i gymharu â'r hyn a wnaethoch chwi?" Wedi iddo ddweud hyn, fe dawelodd eu dig tuag ato.
8:4 Aeth Gideon tua'r Iorddonen a'i chroesi gyda'r tri chant, yn lluddedig ond yn para i erlid.
8:5 Dywedodd wrth bobl Succoth, "Os gwelwch yn dda, rhowch dipyn o fara i'r fyddin sy'n fy nilyn, oherwydd maent yn lluddedig, ac yr wyf finnau'n erlid ar ôl Seba a Salmunna, brenhinoedd Midian."
8:6 Ond dywedodd arweinwyr Succoth, "A wyt eisoes yn cydio yn sodlau Seba a Salmunna, fel ein bod i roi bwyd i'th fintai?"
8:7 Ac meddai Gideon, "Am hynny, pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi Seba a Salmunna yn fy llaw, fe ffustiaf eich cyrff â drain a mieri'r anialwch."
8:8 Wedyn aeth oddi yno i Penuel, a gofyn yr un fath iddynt hwy; ac atebodd pobl Penuel ef yn yr un modd â phobl Succoth.
8:9 Felly dywedodd wrth bobl Penuel, "Pan ddof yn ôl yn llwyddiannus, fe dynnaf i lawr y tŵr hwn."
8:10 Yr oedd Seba a Salmunna wedi cyrraedd Carcor, ac yr oedd eu byddin gyda hwy, tua phymtheng mil, sef pawb a adawyd o fyddin y dwyreinwyr, oherwydd yr oedd cant ac ugain o filoedd o wŷr arfog wedi syrthio.
8:11 Aeth Gideon ar hyd llwybr y preswylwyr pebyll, o'r tu dwyrain i Noba a Jogbeha, a tharo'r fyddin yn annisgwyl.
8:12 Ffodd Seba a Salmunna, ond aeth Gideon ar eu hôl, a dal dau frenin Midian a gwasgaru'r holl fyddin mewn braw.
8:13 Fel yr oedd Gideon fab Joas yn dychwelyd o'r frwydr heibio i allt Heres,
8:14 daliodd un o fechgyn Succoth; wedi iddo'i holi, ysgrifennodd hwnnw iddo restr yn cynnwys saith deg a saith o arweinwyr a henuriaid Succoth.
8:15 Pan ddaeth at bobl Succoth, dywedodd, "Dyma Seba a Salmunna, y buoch yn eu dannod imi, gan ofyn, 'A wyt eisoes yn cydio yn sodlau Seba a Salmunna, fel ein bod i roi bwyd i'th ddynion lluddedig?'"
8:16 Yna cymerodd henuriaid y dref, a dysgodd wers i bobl Succoth â drain a mieri'r anialwch.
8:17 Tynnodd i lawr dŵr Penuel, a lladdodd bobl y dref.
8:18 Pan holodd ef Seba a Salmunna, "Sut rai oedd y dynion a laddasoch yn Tabor?", eu hateb oedd: "Yr oedd pob un ohonynt yr un ffunud â thi, yn edrych fel plant brenin."
8:19 Ac meddai Gideon, "Fy mrodyr i oeddent, meibion fy mam. Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, pe byddech wedi eu harbed, ni fyddwn yn eich lladd."
8:20 Yna dywedodd wrth Jether ei gyntafanedig, "Dos, lladd hwy." Ond ni thynnodd y llanc ei gleddyf oherwydd yr oedd arno ofn, gan nad oedd ond llanc.
8:21 Yna dywedodd Seba a Salmunna, "Tyrd, taro ni dy hun, oherwydd fel y mae dyn y mae ei nerth." Felly cododd Gideon a lladd Seba a Salmunna, a chymryd y tlysau oedd am yddfau eu camelod.
8:22 Yna dywedodd yr Israeliaid wrth Gideon, "Llywodraetha di arnom, ti a'th fab a mab dy fab, am iti ein gwaredu o law Midian."
8:23 Dywedodd Gideon wrthynt, "Nid myfi na'm mab fydd yn llywodraethu arnoch; yr ARGLWYDD fydd yn llywodraethu arnoch."
8:24 Yna meddai Gideon, "Gadewch imi ofyn un peth gennych, sef bod pob un yn rhoi imi glustlws o'i ysbail." Yr oedd ganddynt glustlysau aur am mai Ismaeliaid oeddent.
8:25 Dywedasant hwythau, "Fe'u rhown â chroeso." Ac wedi iddynt daenu clogyn, taflodd pob un arno glustlws a gafodd yn ysbail.
8:26 Yr oedd y clustlysau aur y gofynnodd amdanynt yn pwyso mil a saith gant o siclau aur, heb gyfrif y tlysau a'r torchau a'r gwisgoedd porffor oedd gan frenhinoedd Midian, a'r coleri oedd am yddfau'r camelod.
8:27 Gwnaeth Gideon effod ohonynt a'i osod yn ei dref ei hun, Offra. Aeth Israel gyfan i buteinio ar ei ôl yno, a bu'n dramgwydd i Gideon ac i'w deulu.
8:28 Felly cafodd Midian ei darostwng gan yr Israeliaid, fel na allai godi ei phen rhagor; a chafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd yn nyddiau Gideon.
8:29 Aeth Jerwbbaal fab Joas yn ôl i fyw gartref.
8:30 Yr oedd gan Gideon ddeg a thrigain o feibion; ei blant ei hun oeddent, oherwydd yr oedd llawer o wragedd ganddo.
8:31 Hefyd cafodd fab o'i ordderch oedd yn Sichem, ac enwodd ef Abimelech.

Marwolaeth Gideon

8:32 Bu farw Gideon fab Joas mewn gwth o oedran, a chladdwyd ef ym medd ei dad Joas yn Offra'r Abiesriaid.
8:33 Wedi marw Gideon aeth yr Israeliaid unwaith eto i buteinio ar ôl y Baalim, a chymryd Baal-berith yn dduw iddynt.
8:34 Ni chofiodd yr Israeliaid yr ARGLWYDD eu Duw, a'u gwaredodd o afael yr holl elynion o'u hamgylch,
8:35 na dangos teyrngarwch i deulu Jerwbbaal, sef Gideon, am yr holl ddaioni a wnaeth i Israel.

Abimelech

9:1 Aeth Abimelech fab Jerwbbaal i Sichem at frodyr ei fam, a dweud wrthynt hwy ac wrth holl dylwyth ei fam,
9:2 "Yr wyf am i chwi ofyn i holl ben-aethiaid Sichem, 'Prun sydd orau gennych, cael eich llywodraethu gan yr holl ddeg a thrigain o feibion Jerwbbaal, ynteu cael eich llywodraethu gan un dyn? Cofiwch hefyd fy mod i o'r un asgwrn a chnawd â chwi.'"
9:3 Fe siaradodd brodyr ei fam amdano yng nghlyw holl benaethiaid Sichem, a dweud yr holl bethau hyn, ac yr oedd eu calon yn tueddu tuag at Abimelech am eu bod yn meddwl, "Y mae'n frawd i ni."
9:4 Rhoesant iddo ddeg a thrigain o ddarnau arian o deml Baal-berith, ac â hwy fe gyflogodd Abimelech ddynion ofer a gwyllt i'w ddilyn.
9:5 Aeth i dŷ ei dad yn Offra, a lladd ar yr un maen bob un o'i frodyr, sef deng mab a thrigain Jerwbbaal. Ond arbedwyd Jotham, mab ieuengaf Jerwbbaal, am iddo ymguddio.
9:6 Yna daeth holl benaethiaid Sichem a phawb o Beth-milo ynghyd, a mynd a gwneud Abimelech yn frenin, ger y dderwen a osodwyd i fyny yn Sichem.
9:7 Pan ddywedwyd hyn wrth Jotham, fe aeth ef a sefyll ar gopa Mynydd Garisim a gweiddi'n uchel. Meddai wrthynt, "Gwrandewch arnaf fi, chwi benaethiaid Sichem, er mwyn i Dduw wrando arnoch chwithau.
9:8 Daeth y coed at ei gilydd i eneinio un o'u plith yn frenin.
9:9 Dywedasant wrth yr olewydden, 'Bydd di yn frenin arnom.' Ond atebodd yr olewydden, 'A adawaf fi fy mraster, yr anrhydeddir Duw a dynion trwyddo, a mynd i lywodraethu ar y coed?'
9:10 Yna dywedodd y coed wrth y ffigysbren, 'Tyrd di; bydd yn frenin arnom.'
9:11 Atebodd y ffigysbren, 'A adawaf fi fy melystra a'm ffrwyth hyfryd, a mynd i lywodraethu ar y coed?'
9:12 Dywedodd y coed wrth y winwydden, 'Tyrd di; bydd yn frenin arnom.'
9:13 Ond atebodd y winwydden, 'A adawaf fi fy ngwin melys, sy'n llonni Duw a dyn, a mynd i lywodraethu ar y coed?'
9:14 Yna dywedodd yr holl goed wrth y fiaren, 'Tyrd di; bydd yn frenin arnom.'
9:15 Ac meddai'r fiaren wrth y coed, 'Os ydych o ddifrif am f'eneinio i yn frenin arnoch, dewch a llochesu yn fy nghysgod. Onid e, fe ddaw tân allan o'r fiaren a difa cedrwydd Lebanon.'
9:16 "Yn awr, a ydych wedi gweithredu'n onest a chydwybodol wrth wneud Abimelech yn frenin? A ydych wedi delio'n deg â Jerwbbaal a'i deulu? Ai'r hyn a haeddai a wnaethoch iddo?
9:17 Oherwydd brwydrodd fy nhad drosoch, a mentro'i einioes a'ch achub o law Midian;
9:18 ond heddiw yr ydych wedi codi yn erbyn tŷ fy nhad a lladd ei feibion, deg a thrigain o wŷr, ar un maen. Yr ydych wedi gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin ar benaethiaid Sichem, am ei fod yn frawd i chwi.
9:19 Os ydych wedi delio'n onest a chydwybodol â Jerwbbaal a'i deulu heddiw, llawenhewch yn Abimelech, a bydded iddo yntau lawenhau ynoch chwi.
9:20 Onid e, aed tân allan o Abimelech a difa penaethiaid Sichem a Beth-milo; hefyd aed tân allan o benaethiaid Sichem a Beth-milo a difa Abimelech."
9:21 Yna ciliodd Jotham, a ffoi i Beer ac aros yno, o gyrraedd ei frawd Abimelech.
9:22 Wedi i Abimelech deyrnasu am dair blynedd ar Israel,
9:23 anfonodd Duw ysbryd cynnen rhwng Abimelech a phenaethiaid Sichem, a throesant yn annheyrngar iddo.
9:24 Digwyddodd hyn er mwyn i'r trais a wnaed ar ddeng mab a thrigain Jerwbbaal, a'r tywallt gwaed, ddisgyn ar eu brawd Abimelech, a'u lladdodd, ac ar benaethiaid Sichem, a fu'n ei gynorthwyo i ladd ei frodyr.
9:25 Gosododd penaethiaid Sichem rai ar bennau'r mynyddoedd i wylio amdano; yr oeddent hwy'n ysbeilio pawb a ddôi heibio iddynt ar y ffyrdd, a dywedwyd am hyn wrth Abimelech.
9:26 Pan ddaeth Gaal fab Ebed a'i gymrodyr drosodd i Sichem, enillodd ymddiriedaeth penaethiaid Sichem.
9:27 Wedi iddynt fod allan yn y maes yn cynaeafu eu gwinllannoedd ac yn sathru'r grawnwin, cadwasant ŵyl o lawenydd a mynd i deml eu duw gan fwyta ac yfed, ac yna difenwi Abimelech.
9:28 Ac meddai Gaal fab Ebed, "Pwy yw Abimelech a phwy yw pobl Sichem, fel ein bod ni yn ei wasanaethu ef? Oni ddylai mab Jerwbbaal a'i oruchwyliwr Sebul wasanaethu gwŷr Hemor tad Sichem? Pam y dylem ni ei wasanaethu ef?
9:29 O na fyddai'r bobl yma dan fy awdurdod i! Mi symudwn i Abimelech. Dywedwn wrtho, 'Cynydda dy fyddin a thyrd allan.'"
9:30 Pan glywodd Sebul, goruchwyliwr y ddinas, eiriau Gaal fab Ebed, fe wylltiodd.
9:31 Anfonodd negeswyr at Abimelech i Aruma a dweud, "Edrych, y mae Gaal fab Ebed a'i gymrodyr wedi dod i Sichem, ac yn troi'r dref yn d'erbyn.
9:32 Yn awr, cychwyn di liw nos gyda'r bobl sydd gennyt, ac ymguddia allan yn y wlad;
9:33 yna, yfory ar godiad haul, gwna gyrch cynnar ar y dref, a phan ddaw ef a'r bobl sydd gydag ef allan i'th gyfarfod, gwna dithau iddo orau y medri."
9:34 Cych-wynnodd Abimelech a'r holl bobl oedd gydag ef liw nos, ac ymguddio yn bedair mintai yn erbyn Sichem.
9:35 Pan aeth Gaal fab Ebed allan a sefyll ym mynediad porth y dref, cododd Abimelech a'r dynion oedd gydag ef o'u cuddfan.
9:36 Gwelodd Gaal y bobl a dywedodd wrth Sebul, "Edrych, y mae pobl yn dod i lawr o gopaon y mynyddoedd." Ond dywedodd Sebul wrtho, "Gweld cysgod y mynyddoedd fel pobl yr wyt."
9:37 Yna dywedodd Gaal eto, "Y mae yna bobl yn dod i lawr o ganol y wlad, ac un fintai'n dod o gyfeiriad Derwen y Swynwyr."
9:38 Atebodd Sebul, "Ple'n awr, ynteu, y mae dy geg fawr oedd yn dweud, 'Pwy yw Abimelech, fel ein bod ni yn ei wasanaethu?' Onid dyma'r fyddin y buost yn ei dilorni? Allan â thi yn awr i ymladd â hi!"
9:39 Arweiniodd Gaal benaethiaid Sichem allan, ac ymladd ag Abimelech.
9:40 Aeth Abimelech ar ei ôl, a ffodd yntau; ond cwympodd llawer yn glwyfedig hyd at fynediad y porth.
9:41 Arhosodd Abimelech yn Aruma, a gyrrwyd Gaal a'i gymrodyr ymaith gan Sebul rhag iddynt aros yn Sichem.
9:42 Trannoeth aeth pobl Sichem allan i'r maes, a hysbyswyd Abimelech.
9:43 Cymerodd yntau fyddin, a'i rhannu'n dair mintai ac ymguddio yn y maes, a phan welodd y bobl yn dod allan o'r dref, cododd yn eu herbyn a'u taro.
9:44 Ymosododd Abimelech a'r fintai oedd gydag ef, a sefyll ym mynediad porth y dref, ac yr oedd dwy fintai yn ymosod ar bawb oedd yn y maes ac yn eu taro.
9:45 Brwydrodd Abimelech yn erbyn y dref ar hyd y diwrnod hwnnw, a chipiodd hi a lladd y bobl oedd ynddi. Distrywiodd y dref a'i hau â halen.
9:46 Pan glywodd holl benaethiaid Tŵr Sichem, aethant i ddaeargell teml El-berith.
9:47 Dywedwyd wrth Abimelech fod penaethiaid Tŵr Sichem i gyd wedi ymgasglu,
9:48 ac aeth ef a phawb o'r fyddin oedd gydag ef i Fynydd Salmon. Cymerodd Abimelech un o'r bwyeill yn ei law, a thorri cangen o'r coed, a'i chodi a'i gosod ar ei ysgwydd. Yna dywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, "Brysiwch, gwnewch yr un fath â mi."
9:49 Felly torrodd pob un o'r bobl ei gangen a dilyn Abimelech; rhoesant hwy dros y ddaeargell, a'i llosgi uwch eu pennau. Bu farw pawb oedd yn Nhŵr Sichem, oddeutu mil o wŷr a gwragedd.
9:50 Yna aeth Abimelech i Thebes a gwersyllu yn ei herbyn a'i hennill.
9:51 Yr oedd tŵr cadarn yng nghanol y dref, a ffodd y gwŷr a'r gwragedd i gyd yno, a holl benaethiaid y dref, a chloi arnynt ac esgyn i do'r tŵr.
9:52 Daeth Abimelech at y tŵr, ac ymladd yn ei erbyn; ac wrth iddo agosáu at fynediad y tŵr i'w losgi,
9:53 taflodd rhyw wraig faen melin i lawr ar ben Abimelech a dryllio'i benglog.
9:54 Ar unwaith galwodd ei lanc, a oedd yn cludo'i arfau, a dweud wrtho, "Tyn dy gleddyf a lladd fi, rhag iddynt ddweud amdanaf mai gwraig a'm lladdodd." Felly trywanodd ei lanc ef, a bu farw.
9:55 Pan welodd yr Israeliaid fod Abimelech wedi marw, aeth pawb adref.
9:56 Felly y talodd Duw i Abimelech am y drygioni a wnaeth i'w dad trwy ladd ei ddeg brawd a thrigain.
9:57 Hefyd talodd Duw yn ôl holl ddrygioni pobl Sichem, a disgynnodd arnynt felltith Jotham fab Jerwbbaal.

Tola

10:1 Ar ôl Abimelech, yr un a gododd i waredu Israel oedd Tola fab Pua, fab Dodo, dyn o Issachar a oedd yn byw yn Samir ym mynydd-dir Effraim.
10:2 Bu'n farnwr ar Israel am dair blynedd ar hugain; a phan fu farw, claddwyd ef yn Samir.

Jair

10:3 Ar ei ôl cododd Jair, brodor o Gilead. Bu'n farnwr ar Israel am ddwy flynedd ar hugain.
10:4 Yr oedd ganddo ddeg ar hugain o feibion a arferai farchogaeth ar ddeg ar hugain o asynnod; ac yr oedd ganddynt ddeg dinas ar hugain yn nhir Gilead; gelwir y rhain yn Hafoth-jair hyd heddiw.
10:5 Pan fu farw Jair, claddwyd ef yn Camon.

Jefftha

10:6 Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac addoli'r Baalim a'r Astaroth, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a'r Philistiaid; gwrthodasant yr ARGLWYDD a pheidio â'i wasanaethu.
10:7 Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a gwerthodd hwy i law'r Philistiaid a'r Ammoniaid.
10:8  Ysigodd y rheini'r Israeliaid a'u gormesu y flwyddyn honno; ac am ddeunaw mlynedd buont yn gormesu'r holl Israeliaid y tu hwnt i'r Iorddonen, yn Gilead yng ngwlad yr Amoriaid.
10:9 Wedyn croesodd yr Ammoniaid dros yr Iorddonen i ryfela yn erbyn Jwda a Benjamin a thylwyth Effraim, a bu'n gyfyng iawn ar Israel.
10:10 Yna galwodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a dweud, "Yr ydym wedi pechu yn d'erbyn; yr ydym wedi gadael ein Duw ac addoli'r Baalim."
10:11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid, "Pan ormeswyd chwi gan yr Eifftiaid, Amoriaid, Ammoniaid, Philistiaid,
10:12 Sidoniaid, Amaleciaid, a Midianiaid, galwasoch arnaf fi, a gwaredais chwi o'u gafael.
10:13 Ond yr ydych wedi fy ngadael i a gwasanaethu duwiau eraill, ac am hynny nid wyf am eich gwaredu rhagor.
10:14 Ewch a galwch ar y duwiau yr ydych wedi eu dewis; bydded iddynt hwy eich gwaredu chwi yn awr eich cyfyngdra."
10:15 Yna dywedodd yr Israeliaid wrth yr ARGLWYDD, "Yr ydym wedi pechu; gwna inni beth bynnag a weli'n dda, ond eto gwared ni y tro hwn."
10:16 Bwriasant y duwiau dieithr allan o'u plith, a gwasanaethu'r ARGLWYDD, ac ni allai yntau oddef adfyd Israel yn hwy.
10:17 Pan alwodd yr Ammoniaid eu milwyr ynghyd a gwersyllu yn Gilead, ymgasglodd yr Israeliaid hefyd a gwersyllu yn Mispa.
10:18 Dywedodd swyddogion byddin Gilead wrth ei gilydd, "Pwy bynnag fydd yn dechrau'r ymladd â'r Ammoniaid, ef fydd yn ben ar holl drigolion Gilead."
11:1 Yr oedd Jefftha, brodor o Gilead, yn ŵr dewr; yr oedd yn fab i butain, a Gilead oedd ei dad.
11:2 Yr oedd gan wraig Gilead hefyd feibion, ac wedi iddynt dyfu, gyrasant Jefftha allan a dweud wrtho, "Ni chei di etifeddiaeth yn nhŷ ein tad, oherwydd mab i wraig estron wyt ti."
11:3 Ciliodd Jefftha oddi wrth ei frodyr, a mynd i fyw i wlad Tob, lle casglodd ato nifer o wŷr ofer a oedd yn ei ddilyn.
11:4 Ymhen amser aeth yr Ammoniaid i ryfela yn erbyn yr Israeliaid.
11:5 A phan ddechreuodd y brwydro rhwng yr Ammoniaid ac Israel, aeth henuriaid Gilead i gyrchu Jefftha o wlad Tob,
11:6 a dweud wrtho, "Tyrd, bydd di'n arweinydd inni, er mwyn inni ymladd â'r Ammoniaid."
11:7 Ond dywedodd Jefftha wrth henuriaid Gilead, "Onid chwi oedd yn fy nghasáu ac yn fy ngyrru o dŷ fy nhad? Pam y dewch ataf fi yn awr pan yw'n gyfyng arnoch?"
11:8 Ac meddent hwythau wrtho, "Dyna pam y daethom atat yn awr. Tyrd yn ôl gyda ni ac ymladd â'r Ammoniaid, a chei fod yn ben ar holl drigolion Gilead."
11:9 Dywedodd Jefftha wrth henuriaid Gilead, "Os byddwch yn fy nghymryd yn ôl i ymladd â'r Ammoniaid, a'r ARGLWYDD yn eu rhoi yn fy llaw, yna byddaf yn ben arnoch."
11:10 Dywedodd henuriaid Gilead wrth Jefftha, "Bydd yr ARGLWYDD yn dyst rhyngom y gwnawn yn ôl dy air."
11:11 Aeth Jefftha gyda henuriaid Gilead, a gwnaeth y fyddin ef yn ben ac yn arweinydd arnynt, ac adroddodd Jefftha gerbron yr ARGLWYDD yn Mispa bopeth yr oedd wedi ei gytuno.
11:12 Anfonodd Jefftha negeswyr at frenin yr Ammoniaid a dweud, "Beth sydd gennyt yn f'erbyn, dy fod wedi dod i ymosod ar fy ngwlad?"
11:13 Dywedodd brenin yr Ammoniaid wrth negeswyr Jefftha, "Pan ddaeth Israel i fyny o'r Aifft, meddiannodd fy ngwlad rhwng nentydd Arnon a Jabboc, hyd at yr Iorddonen; felly dyro hi'n ôl yn awr yn heddychol."
11:14 Anfonodd Jefftha negeswyr eto at frenin yr Ammoniaid
11:15 i ddweud wrtho, "Dyma a ddywed Jefftha: 'Ni chymerodd Israel dir Moab na thir yr Ammoniaid;
11:16 oherwydd pan ddaethant i fyny o'r Aifft, fe aeth Israel trwy'r anialwch hyd at y Môr Coch nes dod i Cades.
11:17 Yna fe anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom a dweud, "Gad imi fynd trwy dy dir di"; ond ni wrandawai brenin Edom. Wedyn anfonwyd at frenin Moab, ac nid oedd ef yn fodlon; felly arhosodd Israel yn Cades.
11:18 Yna aethant drwy'r anialwch i fynd heibio i dir Edom a thir Moab o'r tu dwyrain i wlad Moab, a gwersyllu y tu hwnt i nant Arnon, heb groesi terfyn Moab, oherwydd nant Arnon yw terfyn Moab.
11:19 Anfonodd Israel negeswyr hefyd at frenin yr Amoriaid, Sihon brenin Hesbon, a dweud wrtho, "Gad imi groesi dy dir i'm lle fy hun."
11:20 Eto nid ymddiriedai Sihon yn Israel, iddi groesi ei ffin, ond casglodd ei holl fyddin a gwersyllu yn Jahas ac ymladd yn erbyn Israel.
11:21 Rhoddodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, Sihon a'i holl fyddin yn llaw Israel, ac fe'u lladdwyd; a meddiannodd Israel holl dir yr Amoriaid oedd yn byw yn yr ardal honno.
11:22 Daethant i feddiannu holl derfynau'r Amoriaid o nant Arnon hyd nant Jabboc, ac o'r anialwch hyd yr Iorddonen.
11:23 Yr ARGLWYDD, Duw Israel, a yrrodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel. A wyt ti'n awr am ei feddiannu?
11:24 Onid yr hyn y bydd dy dduw Cemos yn ei roi'n feddiant iti yr wyt ti i'w feddiannu? Yn yr un modd meddiannwn ninnau'r cyfan y bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ei roi'n feddiant i ninnau.
11:25 Ac yn awr, a wyt ti rywfaint gwell na Balac fab Sippor, brenin Moab? A fu ef yn ymryson o gwbl ag Israel, neu'n ymladd erioed yn eu herbyn?
11:26 Bu Israel yn byw yn Hesbon ac Aroer a'u maestrefi, ac yn yr holl drefi sydd ar lannau'r afon, am dri chan mlynedd; pam na fyddech wedi eu hadennill yn ystod y cyfnod hwnnw?
11:27 Nid myfi sydd wedi pechu yn d'erbyn, ond ti sy'n gwneud cam â mi wrth ddod i ryfela yn f'erbyn. Y mae'r ARGLWYDD yn farnwr; barned ef heddiw rhwng Israel a'r Ammoniaid.'"
11:28 Ond ni wrandawodd brenin yr Ammoniaid ar y neges a anfonodd Jefftha ato.

Merch Jefftha

11:29 Daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Jefftha, ac aeth trwy Gilead a Manasse a thrwy Mispe Gilead, ac oddi yno drosodd at yr Ammoniaid.
11:30 A gwnaeth Jefftha adduned i'r ARGLWYDD a dweud, "Os rhoi di'r Ammoniaid yn fy llaw,
11:31 beth bynnag a ddaw allan o ddrws fy nhŷ i'm cyfarfod wrth imi ddychwelyd yn ddiogel oddi wrth yr Ammoniaid, bydd yn eiddo i'r ARGLWYDD, ac offrymaf ef yn boethoffrwm."
11:32 A phan aeth Jefftha i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid, fe roddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Jefftha,
11:33 a goresgynnodd hwy'n llwyr, o Aroer hyd gyffiniau Minnith — ugain tref, gan gynnwys Abel-ceramim; felly darostyngwyd yr Ammoniaid gan yr Israeliaid.
11:34 Pan gyrhaeddodd Jefftha ei gartref yn Mispa, daeth ei ferch allan i'w gyfarfod â thympanau a dawnsiau. Hi oedd ei unig blentyn; nid oedd ganddo fab na merch ar wahân iddi hi.
11:35 A phan welodd ef hi, rhwygodd ei wisg, a dweud, "Gwae fi, fy merch! Yr wyt ti wedi fy nryllio'n llwyr, a thi yw achos fy nhrallod. Gwneuthum addewid i'r ARGLWYDD, ac ni allaf ei thorri."
11:36 Ac meddai hithau wrtho, "Fy nhad, yr wyt wedi gwneud addewid i'r ARGLWYDD; gwna imi fel yr addewaist, wedi i'r ARGLWYDD sicrhau iti ddialedd ar dy elynion, yr Ammoniaid."
11:37 Ychwanegodd, "Caniatâ un peth i mi; rho imi ysbaid o ddeufis i grwydro'r mynyddoedd ac i wylo am fy morwyndod gyda'm ffrindiau."
11:38 Dywedodd yntau, "Ie, dos." Gadawodd iddi fynd am ddeufis; ac aeth hithau a'i ffrindiau i wylo am ei morwyndod ar y mynyddoedd.
11:39 Ar derfyn y deufis, daeth yn ôl at ei thad, a gwnaeth yntau iddi yn ôl yr adduned a dyngodd. Nid oedd hi wedi cael cyfathrach â gŵr. A daeth hyn yn ddefod yn Israel,
11:40 bod merched Israel yn mynd allan bob blwyddyn i alaru am ferch Jefftha o Gilead am bedwar diwrnod yn y flwyddyn.

Jefftha a Gwŷr Effraim

12:1 Galwodd gwŷr Effraim eu milwyr ynghyd a chroesi i Saffon, a dweud wrth Jefftha, "Pam yr aethost i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid heb ein gwahodd ni i fynd gyda thi? Fe losgwn dy dŷ am dy ben."
12:2 Dywedodd Jefftha, "Yr oedd gennyf fi a'm pobl achos chwerw yn erbyn yr Ammoniaid, ond pe byddwn wedi galw arnoch chwi, ni fyddech wedi fy achub o'u llaw.
12:3 Pan welais na fyddech yn fy achub, mentrais fynd yn erbyn yr Ammoniaid; ac fe roddodd yr ARGLWYDD hwy yn fy llaw. Pam yr ydych wedi dod ataf heddiw i ymladd â mi?"
12:4 Yna casglodd Jefftha holl filwyr Gilead at ei gilydd ac ymladd ag Effraim; a threchodd milwyr Gilead bobl Effraim, am iddynt ddweud, "Fföedigion o Effraim ydych chwi, bobl Gilead, ymysg pobl Effraim a Manasse."
12:5 Meddiannodd Gilead y rhydau dros yr Iorddonen i gyfeiriad Effraim, a phan fyddai ffoadur o Effraim yn crefu am gael croesi, byddai dynion Gilead yn gofyn iddo, "Ai un o Effraim wyt ti?" Pe byddai hwnnw'n ateb, "Nage",
12:6 yna byddent yn dweud wrtho, "Dywed, 'Shibboleth'." Byddai yntau'n dweud, "Sibboleth", gan na fedrai ynganu'n gywir. Ac wedi iddynt ei ddal, byddent yn ei ladd ger rhydau'r Iorddonen. Bu farw dwy fil a deugain o wŷr Effraim y pryd hwnnw.
12:7 Bu Jefftha o Gilead yn farnwr ar Israel am chwe blynedd; a phan fu farw, claddwyd ef yn ei dref yn Gilead.

Ibsan, Elon ac Abdon

12:8 Ar ei ôl ef bu Ibsan o Fethlehem yn farnwr ar Israel.
12:9 Yr oedd ganddo ddeg ar hugain o feibion a deg ar hugain o ferched. Rhoddodd ei ferched ei hun mewn priodas i rai o'r tu allan, a chyrchodd ddeg ar hugain o ferched o'r tu allan yn wragedd i'w feibion. Bu'n farnwr ar Israel am saith mlynedd.
12:10 Pan fu Ibsan farw, claddwyd ef ym Methlehem.
12:11 Ar ei ôl ef bu Elon o Sabulon yn farnwr ar Israel am ddeng mlynedd.
12:12 Pan fu Elon o Sabulon farw, claddwyd ef yn Ajalon yn nhir Sabulon.
12:13 Ar ei ôl ef bu Abdon fab Hilel o Pirathon yn farnwr ar Israel.
12:14 Yr oedd ganddo ef ddeugain mab a deg ar hugain o wyrion yn marchogaeth ar ddeg asyn a thrigain. Bu'n farnwr ar Israel am wyth mlynedd.
12:15 Pan fu Abdon fab Hilel o Pirathon farw, claddwyd ef yn Pirathon yn nhir Effraim, ym mynydd yr Amaleciaid.

Genedigaeth Samson

13:1 Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw'r Philistiaid am ddeugain mlynedd.
13:2 Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Manoa o Sora, o lwyth Dan, ac yr oedd ei wraig yn ddi-blant, heb eni yr un plentyn.
13:3 Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD i'r wraig a dweud wrthi, "Dyma ti yn ddi-blant, heb eni plentyn, ond byddi'n beichiogi ac yn geni mab.
13:4 Felly, gwylia rhag yfed gwin na diod gadarn, a phaid â bwyta dim aflan,
13:5 gan dy fod yn mynd i feichiogi a geni mab; ac nid yw ellyn i gyffwrdd â'i ben, oherwydd y mae'r bachgen i fod yn Nasaread i Dduw o'r groth. Ef fydd yn dechrau gwaredu Israel o law'r Philistiaid."
13:6 Aeth y wraig at ei gŵr a dweud, "Daeth gŵr Duw ataf, a'i wedd fel angel Duw, yn frawychus iawn; ni ofynnais iddo o ble'r oedd, ac ni ddywedodd ei enw wrthyf.
13:7 Fe ddywedodd wrthyf, 'Byddi'n beichiogi ac yn geni mab; felly paid ag yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan, oherwydd bydd y bachgen yn Nasaread i Dduw o'r groth hyd ddydd ei farw.'"
13:8 Gweddïodd Manoa ar yr ARGLWYDD a dweud, "O Arglwydd, os gweli'n dda, gad i'r gŵr Duw a anfonaist ddod yn ôl atom i'n cyfarwyddo beth i'w wneud i'r bachgen a enir."
13:9 Gwrandawodd Duw ar gais Manoa, a daeth angel Duw eto at y wraig, pan oedd hi'n eistedd allan yn y maes, a'i gŵr Manoa heb fod gyda hi.
13:10 Rhedodd hithau ar unwaith a dweud wrth ei gŵr, "Y mae'r dyn a ddaeth ataf y diwrnod hwnnw wedi ymddangos eto."
13:11 Cododd Manoa a dilynodd ei wraig at y dyn a gofyn iddo, "Ai ti yw'r gŵr a fu'n siarad gyda'm gwraig?" Ac meddai yntau, "Ie."
13:12 Gofynnodd Manoa iddo, "Pan wireddir dy air, sut fachgen fydd ef, a beth fydd ei waith?"
13:13 Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Manoa, "Rhaid i'th wraig ofalu am bopeth a ddywedais wrthi;
13:14 nid yw hi i fwyta dim a ddaw o'r winwydden, nac i yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan.
13:15 Y mae i gadw'r cwbl a orchmynnais iddi." Yna dywedodd Manoa wrth angel yr ARGLWYDD, "Yr ydym am dy gadw yma nes y byddwn wedi paratoi myn gafr ar dy gyfer."
13:16 Ond atebodd angel yr ARGLWYDD ef, "Pe bait yn fy nghadw yma, ni fyddwn yn bwyta dy fwyd, ond os wyt am offrymu poethoffrwm, offryma ef i'r ARGLWYDD." Ni wyddai Manoa mai angel yr ARGLWYDD ydoedd,
13:17 a gofynnodd iddo, "Beth yw d'enw, inni gael dy anrhydeddu pan wireddir dy air?"
13:18 Atebodd angel yr ARGLWYDD, "Pam yr wyt ti'n holi fel hyn ynghylch fy enw? Y mae'n rhyfeddol!"
13:19 Yna cymerodd Manoa'r myn gafr a'r bwydoffrwm, a'u hoffrymu i'r ARGLWYDD ar y graig, a digwyddodd rhyfeddod tra oedd Manoa a'i wraig yn edrych.
13:20 Fel yr oedd y fflam yn codi oddi ar yr allor i'r awyr, esgynnodd angel yr ARGLWYDD yn fflam yr allor. Yr oedd Manoa a'i wraig yn edrych, a syrthiasant ar eu hwynebau ar lawr.
13:21 Nid ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddynt mwyach, a sylweddolodd Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd.
13:22 Yna dywedodd Manoa wrth ei wraig, "Yr ydym yn sicr o farw am inni weld Duw."
13:23 Ond meddai hi wrtho, "Pe byddai'r ARGLWYDD wedi dymuno ein lladd, ni fyddai wedi derbyn poethoffrwm a bwydoffrwm o'n llaw, na dangos yr holl bethau hyn i ni, na pheri inni glywed pethau fel hyn yn awr."
13:24 Wedi i'r wraig eni mab, galwodd ef Samson; tyfodd y bachgen dan fendith yr ARGLWYDD,
13:25 a dechreuodd ysbryd yr ARGLWYDD ei gynhyrfu yn Mahane-dan, rhwng Sora ac Estaol.

Samson yn Priodi Merch o Timna

14:1 Aeth Samson i Timna, ac yno sylwodd ar un o ferched y Philistiaid.
14:2 Pan ddychwelodd, dywedodd wrth ei dad a'i fam, "Yr wyf wedi gweld un o ferched y Philistiaid yn Timna; cymerwch honno'n wraig imi."
14:3 Ac meddai ei dad a'i fam wrtho, "Onid oes gwraig iti ymhlith merched dy gymrodyr a'th holl geraint? Pam yr ei i geisio gwraig o blith y Philistiaid dienwaededig?" Ond dywedodd Samson wrth ei dad, "Cymer honno imi, oherwydd hi sydd wrth fy modd."
14:4 Ni wyddai ei dad a'i fam mai oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd hyn, ac mai ceisio achos yn erbyn y Philistiaid yr oedd ef. Yr adeg honno y Philistiaid oedd yn arglwyddiaethu ar Israel.
14:5 Aeth Samson i lawr gyda'i dad a'i fam i Timna, a phan gyrhaeddodd winllannoedd Timna, daeth llew ifanc i'w gyfarfod dan ruo.
14:6 Disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Samson, a holltodd y llew ifanc fel hollti myn, heb ddim yn ei law; ond ni ddywedodd wrth ei rieni beth a wnaeth.
14:7 Yna aeth Samson yn ei flaen i siarad gyda'r ferch, a'i chael wrth ei fodd.
14:8 Pan ddych-welodd ymhen amser i'w phriodi, trodd i edrych ar ysgerbwd y llew, a dyna lle'r oedd haid o wenyn a mêl y tu mewn i'r corff.
14:9 Cymerodd beth o'r mêl yn ei law, ac aeth yn ei flaen dan fwyta, nes dod at ei dad a'i fam; rhoddodd beth hefyd iddynt hwy i'w fwyta, heb ddweud wrthynt mai o gorff y llew y daeth y mêl.
14:10 Aeth ei dad i lawr at y ferch, a gwnaeth Samson wledd yno yn ôl arfer y gwŷr ifainc.
14:11 Pan welsant ef, dewiswyd deg ar hugain o gyfeillion i gadw cwmni iddo.
14:12 Ac meddai Samson wrthynt, "Yr wyf am osod pos i chwi; os llwyddwch i'w ateb yn gywir yn ystod saith diwrnod y wledd, rhof i chwi ddeg darn ar hugain o frethyn a deg siwt ar hugain o ddillad.
14:13 Ond os methwch roi'r ateb imi, rhaid i chwi roi i mi ddeg darn ar hugain o frethyn a deg siwt ar hugain o ddillad."
14:14 Dywedasant wrtho, "Mynega dy bos, inni ei glywed." A dywedodd wrthynt: "o'r bwytawr fe ddaeth bwyd, ac o'r cryf fe ddaeth melystra." Am dridiau buont yn methu ateb y pos.
14:15 Ar y pedwerydd dydd dywedasant wrth wraig Samson, "Huda dy ŵr i ddatgelu'r pos inni, neu fe'th losgwn di a'th deulu. Ai er mwyn ein tlodi y rhoesoch wahoddiad inni yma?"
14:16 Aeth gwraig Samson ato yn ei dagrau a dweud, "Fy nghasáu yr wyt ti, nid fy ngharu; rwyt wedi gosod pos i lanciau fy mhobl heb ei egluro i mi." Ac meddai yntau, "Nid wyf wedi ei egluro i'm tad a'm mam; pam yr eglurwn ef i ti?"
14:17 Bu'n wylo wrtho trwy gydol y saith diwrnod y cynhaliwyd y wledd, ac ar y seithfed dydd fe'i heglurodd iddi, am ei bod wedi ei flino. Eglurodd hithau'r pos i lanciau ei phobl.
14:18 A dywedodd dynion y dref wrtho ar y seithfed diwrnod, cyn i'r haul fachlud: "Beth sy'n felysach na mêl, a beth sy'n gryfach na llew?" Dywedodd yntau wrthynt: "Oni bai i chwi aredig â'm heffer, ni fyddech wedi datrys fy mhos."
14:19 Yna disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD arno, aeth i lawr i Ascalon a lladdodd ddeg ar hugain o ddynion. Cymerodd eu gwisgoedd a rhoi'r siwtiau i'r rhai a atebodd y pos, ond yr oedd wedi digio'n enbyd ac aeth yn ei ôl adref.
14:20 Rhoddwyd gwraig Samson i'w gyfaill, a fu'n was priodas iddo.
15:1 Ymhen amser, ar adeg y cynhaeaf gwenith, ymwelodd Samson â'i wraig gyda myn gafr, a dweud, "Yr wyf am gael mynd at fy ngwraig i'r siambr." Ond ni chaniataodd ei thad iddo fynd,
15:2 a dywedodd wrtho, "Yr oeddwn yn meddwl yn sicr ei bod hi'n llwyr atgas gennyt; felly rhoddais hi i'th was priodas. Y mae ei chwaer iau yn dlysach na hi; cymer hi yn ei lle."
15:3 Ond dywedodd Samson wrthynt, "Y tro hwn fe dalaf y pwyth i'r Philistiaid; fe achosaf niwed difrifol iddynt."
15:4 Aeth Samson a dal tri chant o lwynogod; ac wedi iddo gael ffaglau, fe'u clymodd hwy gynffon wrth gynffon, a gosod ffagl yn y canol rhwng y ddwy gynffon.
15:5 Yna wedi iddo gynnau'r ffaglau, gyrrodd hwy drwy gnydau'r Philistiaid, a llosgi'r styciau a'r ŷd oedd heb ei dorri a'r gerddi olewydd.
15:6 Pan ofynnodd y Philistiaid pwy oedd wedi gwneud hyn, dywedwyd, "Samson, mab-yng-nghyfraith y dyn o Timna, am fod hwnnw wedi cymryd ei wraig ef a'i rhoi i'w was priodas."
15:7 Aeth y Philistiaid a'i llosgi hi a'i thad; a dywedodd Samson, "Os ydych chwi'n ymddwyn fel hyn, nid ymataliaf finnau nes dial arnoch."
15:8 Trawodd hwy'n bendramwnwgl â difrod mawr, cyn mynd ymaith ac aros mewn hafn yng nghraig Etam.

Samson yn Gorchfygu'r Philistiaid

15:9 Daeth y Philistiaid i fyny a gwersyllu yn Jwda, ac ymledu trwy Lehi.
15:10 Gofynnodd gwŷr Jwda, "Pam y daethoch yn ein herbyn?" Ac meddent, "Daethom i ddal Samson, a gwneud iddo ef fel y gwnaeth ef i ni."
15:11 Yna aeth tair mil o wŷr o Jwda i hafn craig Etam a dweud wrth Samson, "Fe wyddost yn iawn mai'r Philistiaid sy'n ein llywodraethu; beth yw hyn a wnaethost inni?" Atebodd yntau, "Gwneuthum iddynt hwy fel y gwnaethant hwy i mi."
15:12 Yna dywedasant, "Yr ydym ni wedi dod yma i'th rwymo a'th roi yn llaw'r Philistiaid." Dywedodd Samson wrthynt, "Ewch ar eich llw na wnewch chwi niwed imi."
15:13 Dywedodd y gwŷr, "Na, dim ond dy rwymo a wnawn, a'th drosglwyddo iddynt hwy; yn sicr, nid ydym am dy ladd." Yna rhwymasant ef â dwy raff newydd, a mynd ag ef o'r graig.
15:14 Pan gyrhaeddodd Lehi, a'r Philistiaid yn bloeddio wrth ei gyfarfod, dis-gynnodd ysbryd yr ARGLWYDD arno, aeth y rhaffau oedd am ei freichiau fel llinyn wedi ei ddeifio gan dân, a syrthiodd ei rwymau oddi am ei ddwylo.
15:15 Cafodd ên asyn, a honno heb sychu; gafaelodd ynddi â'i law, a lladd mil o ddynion.
15:16 Ac meddai Samson: "Â gên asyn rhois iddynt gurfa asyn; â gên asyn lleddais fil o ddynion."
15:17 Wedi iddo orffen dweud hyn, taflodd yr ên o'i law, a galwyd y lle hwnnw Ramath-lehi.
15:18 Yr oedd syched mawr arno, a galwodd ar yr ARGLWYDD a dweud, "Ti a roddodd y fuddugoliaeth fawr hon i'th was, ond a wyf yn awr i drengi o syched, a syrthio i afael y rhai dienwaededig?"
15:19 Holltodd Duw y ceubwll sydd yn Lehi, a ffrydiodd dŵr ohono; wedi iddo yfed, adferwyd ei ysbryd ac adfywiodd. Am hynny enwodd y ffynnon En-haccore; y mae yn Lehi hyd heddiw.
15:20 Bu Samson yn farnwr ar Israel am ugain mlynedd yng nghyfnod y Philistiaid.

Samson yn Gasa

16:1 Pan aeth Samson i Gasa, gwelodd yno butain ac aeth i mewn ati.
16:2 Clywodd pobl Gasa fod Samson yno, a daethant at ei gilydd a disgwyl amdano drwy'r nos wrth borth y dref heb wneud unrhyw symudiad, gan feddwl, "Pan ddaw'n olau ddydd, fe'i lladdwn."
16:3 Gorweddodd Samson hyd hanner nos; yna cododd a gafael yn nwy ddôr a dau gilbost porth y dref, a'u codi o'u lle, ynghyd â'r bar. Ac wedi eu gosod ar ei ysgwyddau, fe'u cariodd i gopa'r mynydd gyferbyn â Hebron.

Samson a Delila

16:4 Ar ôl hyn, syrthiodd mewn cariad â dynes yn nyffryn Sorec, o'r enw Delila.
16:5 Daeth arglwyddi'r Philistiaid ati a dweud wrthi, "Huda ef, i gael gweld ymhle y mae ei nerth mawr, a pha fodd y gallwn ei drechu a'i rwymo a'i gadw'n gaeth. Yna fe rydd pob un ohonom iti un cant ar ddeg o ddarnau arian."
16:6 Dywedodd Delila wrth Samson, "Dywed i mi ymhle y mae dy nerth mawr, a sut y gellir dy rwymo i'th gadw'n gaeth?"
16:7 Dywedodd Samson wrthi, "Petaent yn fy rhwymo â saith llinyn bwa ir heb sychu, yna mi awn cyn wanned â dyn cyffredin."
16:8 Daeth arglwyddi'r Philistiaid â saith llinyn bwa ir heb sychu iddi, a rhwymodd hithau ef â hwy.
16:9 Tra oedd gwylwyr cudd yn disgwyl mewn ystafell fewnol, dywedodd hi wrtho, "Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!" Torrodd yntau y llinynnau, fel y torrir edau garth pan ddaw'n agos at dân. Ni ddatgelwyd cyfrinach ei gryfder.
16:10 Ac meddai Delila wrth Samson, "Dyma ti wedi gwneud ffŵl ohonof a dweud celwydd wrthyf; yn awr dywed wrthyf yn iawn sut y rhwymir di."
16:11 Dywedodd yntau, "Pe rhwyment fi â rhaffau newydd heb fod erioed ar waith, yna mi awn cyn wanned â dyn cyffredin."
16:12 Felly cymerodd Delila raffau newydd a'i rwymo â hwy, a dweud, "Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!" A thra oedd y gwylwyr yn parhau yn yr ystafell fewnol, torrodd ef y rhaffau oddi ar ei freichiau fel edau.
16:13 Ac meddai Delila wrth Samson, "Hyd yn hyn yr wyt wedi gwneud ffŵl ohonof a dweud celwydd wrthyf; dywed wrthyf yn iawn sut y rhwymir di." Dywedodd wrthi, "Pe baet yn gwau saith cudyn fy mhen i'r we, ac yn ei thynhau â'r hoelen, yna mi awn cyn wanned â dyn cyffredin."
16:14 Felly suodd Delila ef i gysgu, a gweodd saith cudyn ei ben i mewn i'r we, a'i thynhau â'r hoelen. Yna dywedodd wrtho, "Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!" Deffrôdd yntau o'i gwsg, a thynnodd yn rhydd yr hoelen, y garfan a'r we.
16:15 Ac meddai hi wrtho, "Sut y medri di ddweud, 'Rwy'n dy garu', a thithau heb ymddiried ynof? Y tair gwaith hyn yr wyt wedi gwneud ffŵl ohonof, a heb ddweud wrthyf yn iawn ymhle y mae dy nerth mawr."
16:16 Ac oherwydd ei bod yn ei flino â'i geiriau, ddydd ar ôl dydd, ac yn dal i'w boeni nes ei fod wedi ymlâdd,
16:17 fe ddywedodd ei gyfrinach yn llawn wrthi. Dywedodd, "Nid yw ellyn erioed wedi cyffwrdd â'm pen, oherwydd bûm yn Nasaread i Dduw o groth fy mam. Petaent yn fy eillio, yna byddai fy nerth yn pallu ac mi awn cyn wanned â dyn cyffredin."
16:18 Gwelodd Delila ei fod wedi dweud ei gyfrinach yn llawn wrthi, ac anfonodd am arglwyddi'r Philistiaid a dweud, "Dewch ar unwaith; y mae wedi dweud ei gyfrinach yn llawn wrthyf." Daeth arglwyddi'r Philistiaid ati â'r arian yn eu llaw.
16:19 Suodd hi Samson i gysgu ar ei gliniau, ac yna galwodd am ddyn i eillio saith cudyn ei ben. Dechreuodd ei gystwyo, ac yr oedd ei nerth wedi cilio rhagddo.
16:20 Dywedodd, "Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!" Deffrôdd ef o'i gwsg gan feddwl, "Af allan fel o'r blaen ac ymryddhau." Ni wyddai fod yr ARGLWYDD wedi cefnu arno.
16:21 Daliodd y Philistiaid ef, a thynnu ei lygaid, a mynd ag ef i lawr i Gasa a'i rwymo mewn gefynnau; a bu'n malu blawd yn y carchardy.
16:22 Ond dechreuodd ei wallt dyfu eto ar ôl ei eillio.

Marwolaeth Samson

16:23 Daeth arglwyddi'r Philistiaid ynghyd mewn llawenydd i offrymu aberth mawr i'w duw Dagon a dweud: "Rhoddodd ein duw yn ein dwylo ein gelyn Samson."
16:24 A phan welodd y bobl ef, rhoesant foliant i'w duw a dweud: "Rhoddodd ein duw yn ein dwylo ein gelyn ac anrheithiwr ein gwlad, a amlhaodd ein celaneddau."
16:25 Pan oeddent yn llawn hwyliau dywedasant, "Galwch Samson i'n difyrru." Galwyd Samson o'r carchardy, a gwnaeth hwyl iddynt; a rhoddwyd ef i sefyll rhwng y colofnau.
16:26 Dywedodd Samson wrth y bachgen oedd yn gafael yn ei law, "Rho fi lle y gallaf deimlo'r colofnau sy'n cynnal y deml, imi gael pwyso arnynt."
16:27 Yr oedd y deml yn llawn o ddynion a merched; yr oedd holl arglwyddi'r Philistiaid yno hefyd, a thua thair mil o bobl ar y to yn edrych ar Samson yn eu difyrru.
16:28 Yna galwodd Samson ar yr ARGLWYDD a dweud, "O Arglwydd DDUW, cofia fi, a nertha fi'r tro hwn yn unig, O Dduw, er mwyn imi gael dial unwaith am byth ar y Philistiaid am fy nau lygad."
16:29 Ymestynnodd Samson at y ddwy golofn ganol oedd yn cynnal y deml, a phwyso arnynt, ei law dde ar un a'i law chwith ar y llall.
16:30 Yna dywedodd, "Bydded i minnau farw gyda'r Philistiaid!" Gwthiodd yn nerthol, a chwympodd y deml ar yr arglwyddi a'r holl bobl oedd ynddi, ac felly lladdodd Samson fwy wrth farw nag a laddodd yn ystod ei fywyd.
16:31 Aeth ei frodyr a'i holl deulu i lawr i'w gymryd ef a'i gludo oddi yno, a'i gladdu rhwng Sora ac Estaol ym medd ei dad Manoa. Bu'n farnwr ar Israel am ugain mlynedd.

Eilunod Mica

17:1 Yr oedd dyn o fynydd-dir Effraim o'r enw Mica.
17:2 Dywedodd wrth ei fam, "Ynglŷn â'r un cant ar ddeg o ddarnau arian a ddygwyd oddi arnat, ac y clywais di'n cyhoeddi melltith arnynt — dyma'r arian gennyf fi; myfi a'u cymerodd." Ac meddai ei fam, "Bendith yr ARGLWYDD fo ar fy mab!"
17:3 Rhoddodd yr un cant ar ddeg o ddarnau arian yn ôl i'w fam; a dywedodd hithau, "Yr wyf am lwyr gysegru'r arian hwn i'r ARGLWYDD, a'i roi i'm mab i wneud cerfddelw a delw dawdd; felly dyma fi'n ei roi yn ôl iti."
17:4 Ond dychwelodd ef yr arian i'w fam, ac yna cymerodd hi ddau gant o'r darnau a'u rhoi i'r eurych, a gwnaeth yntau gerfddelw a delw dawdd i fod yn nhŷ Mica.
17:5 Yr oedd gan y dyn hwn, Mica, gysegr, a gwnaeth effod a teraffim, ac urddo un o'i feibion i fod yn offeiriad iddo.
17:6 Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel; yr oedd pob un yn gwneud yr hyn oedd yn iawn yn ei olwg ei hun.
17:7 Yr oedd llanc o Lefiad o Fethlehem Jwda yn crwydro ymysg tylwyth Jwda,
17:8 ac wedi iddo adael tref Bethlehem Jwda i fyw ymhle bynnag y câi le, digwyddodd ddod ar ei daith i fynydd-dir Effraim ac i dŷ Mica.
17:9 Gofynnodd Mica iddo, "O ble'r wyt ti'n dod?" Atebodd yntau, "Lefiad wyf fi o Fethlehem Jwda, ac rwyf am aros ymhle bynnag y caf le."
17:10 Ac meddai Mica wrtho, "Aros gyda mi, a bydd yn dad ac yn offeiriad i mi. Rhoddaf finnau iti ddeg darn arian y flwyddyn, dy ddillad a'th fwyd."
17:11 Cytunodd y llanc o Lefiad i fyw gyda'r dyn, a bu fel un o'i feibion.
17:12 Urddodd Mica y Lefiad ifanc, a bu'n offeiriad iddo ac yn aros yn nhŷ Mica.
17:13  A dywedodd Mica, "Gwn yn awr y bydd yr ARGLWYDD yn fy llwyddo, oherwydd daeth y Lefiad yn offeiriad imi."

Mica a Llwyth Dan

18:1 Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr adeg honno yr oedd llwyth Dan yn chwilio am randir i fyw ynddo, oherwydd hyd hynny nid oeddent wedi cael rhandir ymhlith llwythau Israel.
18:2 Anfonodd y Daniaid bump o ddynion teilwng ar ran y llwyth cyfan, i fynd o Sora ac Estaol i ysbïo'r wlad a'i chwilio. Wedi iddynt dderbyn y gorchymyn i fynd i chwilio'r wlad, aethant cyn belled â thŷ Mica ym mynydd-dir Effraim, a threulio'r nos yno.
18:3 Pan oeddent gerllaw tŷ Mica, dyma hwy'n adnabod llais y llanc o Lefiad; troesant i mewn a gofyn iddo, "Pwy ddaeth â thi yma? Beth wyt ti'n ei wneud yn y fan hon? Pa fusnes sydd gennyt yma?"
18:4 Eglurodd sut yr oedd Mica wedi gweithredu gydag ef: "Y mae wedi fy nghyflogi, ac yr wyf finnau wedi dod yn offeiriad iddo."
18:5 Dywedasant wrtho, "Gofyn i Dduw, inni gael gwybod a lwyddwn ar ein taith."
18:6 Dywedodd yr offeiriad wrthynt, "Ewch mewn heddwch; y mae'ch taith dan ofal yr ARGLWYDD."
18:7 Aeth y pump i ffwrdd, a chyrraedd Lais. Yno gwelsant fod y bobl yn byw'n ddiogel, yr un fath â'r Sidoniaid, yn dawel a dibryder, heb fod yn brin o ddim ar y ddaear, ond yn berchnogion ar gyfoeth. Yr oeddent yn bell oddi wrth y Sidoniaid, heb gysylltiad rhyngddynt a neb.
18:8 Wedi iddynt ddychwelyd at eu pobl i Sora ac Estaol, gofynnodd eu pobl, "Beth yw'ch barn?"
18:9 Ac meddent hwy, "Dewch, awn i fyny yn eu herbyn, oherwydd gwelsom fod y wlad yn ffrwythlon iawn. Pam yr ydych yn sefyllian? Peidiwch ag oedi mynd yno i gymryd meddiant o'r wlad.
18:10 Pan ddewch yno, byddwch yn dod at bobl ddibryder ac i wlad eang; yn wir y mae Duw wedi rhoi i chwi le heb ynddo brinder o ddim ar y ddaear."
18:11 Felly cychwynnodd chwe chant o wŷr arfog yn perthyn i lwyth Dan o Sora ac Estaol.
18:12 Aethant a gwersyllu yn Ciriath-jearim yn Jwda, a dyna pam yr enwyd y lle hwnnw Mahane-dan hyd heddiw; y mae i'r gorllewin o Ciriath-jearim.
18:13 Oddi yno aethant ymlaen i fynydd-dir Effraim nes dod at dŷ Mica.
18:14 Yna dywedodd y pump, a oedd wedi mynd i ysbïo'r wlad cyn belled â Lais, wrth eu brodyr, "A wyddoch chwi fod effod, teraffim, cerfddelw a delw dawdd yn un o'r tai hyn? Gwyddoch beth i'w wneud yn awr."
18:15 Troesant am y lle, a dod at dŷ Mica, cartref y llanc o Lefiad, a'i gyfarch.
18:16 Safodd y chwe channwr arfog o lwyth Dan wrth y drws,
18:17 tra aeth y pum dyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad i mewn i gymryd y gerfddelw, yr effod, y teraffim a'r ddelw dawdd. Safai'r offeiriad wrth y drws gyda'r chwe channwr arfog.
18:18 Wedi i'r rhain fynd i mewn i dŷ Mica a chymryd y gerfddelw, yr effod, y teraffim a'r ddelw dawdd, dywedodd yr offeiriad wrthynt, "Beth ydych yn ei wneud?"
18:19 Dywedasant hwythau wrtho, "Taw di, a phaid â dweud dim. Tyrd gyda ni, a bydd yn dad ac yn offeiriad i ni. Prun sydd orau, ai bod yn offeiriad i un teulu, ynteu'n offeiriad i lwyth a thylwyth yn Israel?"
18:20 Bodlonodd yr offeiriad a chymerodd yr effod, y teraffim a'r gerfddelw, ac ymuno â'r fintai.
18:21 Wedi iddynt ailgychwyn, gosodasant y rhai bychain a'r preiddiau a'r meddiannau ar y blaen.
18:22 Yr oeddent wedi mynd gryn bellter o dŷ Mica cyn i'r dynion yn y tai gerllaw ei gartref gael eu galw ynghyd i ymlid y Daniaid.
18:23 Wedi iddynt oddiweddyd y Daniaid, troesant hwythau i'w hwynebu, ac meddent wrth Mica, "Beth sy'n bod, i beri iti ddod â'r fath fintai?"
18:24 Atebodd Mica, "Yr ydych wedi cymryd y duwiau a wneuthum, ac wedi mynd â'm hoffeiriad; a beth arall sydd gennyf? Sut felly y gallwch ofyn imi, 'Beth sy'n bod arnat?'"
18:25 Ac meddai'r Daniaid wrtho, "Paid â chodi dy lais arnom, rhag i ddynion gwyllt eu tymer ruthro arnoch, ac i ti a'th deulu golli'ch bywyd."
18:26 Yna aeth y Daniaid ar eu ffordd, a gwelodd Mica eu bod yn gryfach nag ef, a throes yn ôl a mynd adref.
18:27 Cymerodd y Daniaid y pethau yr oedd Mica wedi eu gwneud, a'i offeiriad, ac aethant i Lais, at bobl dawel a dibryder, a'u lladd â'r cleddyf a llosgi'r dref.
18:28 Nid oedd neb i'w harbed, oherwydd yr oedd yn rhy bell o Sidon, ac nid oedd ganddynt gysylltiad â neb. Yr oedd y dref mewn dyffryn yn perthyn i Beth-rehob, ac ailgododd y Daniaid y dref a byw ynddi,
18:29 a'i galw'n Dan ar ôl eu tad Dan, a aned i Israel. Ond Lais oedd enw'r dref ar y cyntaf.
18:30 Gosododd y Daniaid y gerfddelw i fyny, a bu Jonathan fab Gersom, fab Manasse, ac yna'i feibion, yn offeiriaid i lwyth Dan hyd y dydd y caethgludwyd y wlad.
18:31 Yr oeddent yn defnyddio'r gerfddelw a wnaeth Mica yr holl adeg y bu tŷ Dduw yn Seilo.

Y Lefiad a'i Ordderchwraig

19:1 Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr oedd rhyw Lefiad yn byw yng nghyffiniau mynydd-dir Effraim, ac fe gymerodd iddo ordderchwraig o Fethlehem Jwda.
19:2 Ond bu'r ordderchwraig yn anffyddlon iddo; gadawodd ef a dianc adref i Fethlehem Jwda. Wedi iddi fod yno ryw bedwar mis,
19:3 cychwynnodd ei gŵr ar ei hôl gyda'i was a dau asyn, i'w denu hi'n ôl. Daeth hi ag ef i'w chartref, a phan welodd ei thad ef yr oedd yn falch o'i gyfarfod.
19:4 Mynnodd ei dad-yng-nghyfraith, sef tad yr eneth, iddo aros yno am dridiau, a buont yn bwyta ac yn yfed ac yn cysgu yno.
19:5 Ar y pedwerydd dydd, wedi iddynt godi'n fore a pharatoi i gychwyn, dywedodd tad yr eneth wrth ei fab-yng-nghyfraith, "Atgyfnertha dy hun â thamaid o fara cyn cychwyn."
19:6 Felly dyna'r ddau'n eistedd i lawr gyda'i gilydd i fwyta ac yfed; ac meddai tad yr eneth wrth y gŵr, "Bodlona aros noson eto a'th fwynhau dy hun."
19:7 Er i'r gŵr godi i fynd, bu ei dad-yng-nghyfraith mor daer fel yr arhosodd yno noson arall.
19:8 A phan gododd i gychwyn fore'r pumed diwrnod, dywedodd tad yr eneth, "Atgyfnertha dy hun."
19:9 A buont yn hamddena hyd hwyr y dydd ac yn bwyta gyda'i gilydd. Yna, pan oedd y dyn a'i ordderch a'i lanc yn paratoi i gychwyn, dywedodd tad yr eneth wrtho, "Edrych, y mae'n hwyrhau, arhoswch heno; mae'r dydd ar ddarfod. Os arhosi yma heno a'th fwynhau dy hun, fe gewch godi'n gynnar yfory i'ch taith, a mynd adref."
19:10 Ond ni fynnai'r dyn aros; cododd, a mynd gyda'i ddau asyn llwythog, a'i ordderch, a'i was, nes dod gyferbyn â Jebus, hynny yw Jerwsalem.
19:11 A phan oeddent yn ymyl Jebus, a'r dydd yn darfod, dywedodd y gwas wrth ei feistr, "Tyrd yn awr, gad inni droi i mewn yma i ddinas y Jebusiaid, a threulio'r nos ynddi."
19:12 Ond atebodd ei feistr, "Nid awn i mewn i ddinas estron lle nad oes Israeliaid; fe awn cyn belled â Gibea."
19:13 Ac meddai wedyn wrth ei was, "Tyrd, fe awn cyn belled â Gibea neu Rama, a threulio'r nos yn un ohonynt."
19:14 Felly ymlaen â hwy nes i'r haul fachlud arnynt yn ymyl Gibea Benjamin.
19:15 Troesant i mewn yno i dreulio'r nos yn Gibea; ond er iddynt fynd ac eistedd ar sgwâr y dref, nid oedd neb am eu cymryd i mewn i letya.
19:16 Ar hynny, dyma hen ŵr yn dod o'i waith yn y maes gyda'r hwyr. Un o fynydd-dir Effraim oedd ef, ond yn cartrefu dros dro yn Gibea; Benjaminiaid oedd pobl y lle.
19:17 Wrth godi ei olwg, gwelodd y teithiwr ar sgwâr y dref, ac meddai'r hen ŵr, "I ble rwyt ti'n mynd, ac o ble y daethost?"
19:18 Dywedodd yntau wrtho, "Ar daith o Fethlehem Jwda i gyffiniau mynydd-dir Effraim yr ydym ni. Un oddi yno wyf fi, yn dychwelyd adref ar ôl bod ym Methlehem Jwda; ond nid oes neb wedi fy nghymryd i'w dŷ.
19:19 Y mae gennym wellt ac ebran i'n hasynnod, hefyd fara a gwin i mi a'th lawforwyn a'r gwas; nid oes ar dy weision angen un dim."
19:20 Dywedodd yr hen ŵr, "Croeso i chwi. Fe ofalaf fi am eich anghenion i gyd; rhaid ichwi beidio â threulio'r nos ar y sgwâr."
19:21 Aeth â hwy i'w dŷ a phorthi'r asynnod; cawsant hwythau olchi eu traed a bwyta ac yfed.
19:22 Tra oeddent yn eu mwynhau eu hunain, daeth rhai o ddihirod y dref i ymgasglu o gwmpas y tŷ, a churo ar y drws a dweud wrth yr hen ŵr oedd yn berchen y tŷ, "Tyrd â'r dyn a ddaeth i'th dŷ allan, i ni gael cyfathrach ag ef."
19:23 Aeth perchennog y tŷ allan atynt a dweud wrthynt, "Nage, frodyr, peidiwch â chamymddwyn; gan fod y dyn wedi dod i'm tŷ, peidiwch â gwneud y fath anlladrwydd.
19:24 Dyma fy merch i, sy'n wyryf, a'i ordderch ef; dof â hwy allan i chwi eu treisio, neu wneud fel y mynnoch iddynt, ond peidiwch â gwneud y fath anlladrwydd gyda'r dyn."
19:25 Ond ni fynnai'r dynion wrando arno. Felly cydiodd y dyn yn ei ordderch a'i gwthio allan atynt, a buont yn ei threisio a'i cham-drin drwy'r nos, hyd y bore, ac yna gadael iddi fynd ar doriad y wawr.
19:26 Yn y bore, daeth y ddynes a disgyn wrth ddrws y tŷ lle'r oedd ei meistr.
19:27 Pan gododd ei meistr yn y bore ac agor drws y tŷ i fynd allan i gychwyn ar ei daith, dyna lle'r oedd ei ordderch wedi disgyn wrth ddrws y tŷ, a'i dwy law ar y rhiniog.
19:28 Dywedodd wrthi, "Cod, inni gael mynd." Ond nid oedd ateb. Cododd hi ar yr asyn ac aeth adref.
19:29 Pan gyrhaeddodd ei gartref, cymerodd gyllell, a gafael yn ei ordderch a'i darnio bob yn gymal yn ddeuddeg darn, a'u hanfon drwy holl derfynau Israel.
19:30 Yr oedd pawb a'i gwelodd yn dweud, "Ni wnaed ac ni welwyd y fath beth, o'r dydd y daeth yr Israeliaid i fyny o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn. Edrychwch arni ac ystyried; yna mynegwch eich barn."

Israel yn Paratoi at Ryfel

20:1 Daeth Israel gyfan allan fel un, o Dan hyd Beerseba a thir Gilead, a galw cynulleidfa Israel at yr ARGLWYDD i Mispa.
20:2 Ymgasglodd arweinwyr byddin holl lwythau Israel yn gynulliad o bobl yr ARGLWYDD, pedwar can mil o wŷr traed yn dwyn cleddyf.
20:3 Clywodd y Benjaminiaid fod yr Israeliaid wedi mynd i fyny i Mispa. Gofynnodd yr Israeliaid, "Dywedwch sut y dig-wyddodd y fath gamwri."
20:4 Atebodd y Lefiad, sef gŵr y ddynes a lofruddiwyd, "Yr oeddwn i a'm gordderch wedi mynd i Gibea Benjamin i letya;
20:5 yna cododd dinasyddion Gibea yn f'erbyn ac amgylchynu'r tŷ liw nos, gan fwriadu fy lladd; treisiwyd fy ngordderch, a bu hi farw o'r herwydd.
20:6 Cymerais innau hi a'i thorri'n ddarnau a'u hanfon drwy bob rhan o diriogaeth Israel, oherwydd y mae'r treiswyr hyn wedi gwneud anlladrwydd ffiaidd yn Israel.
20:7 Chwi oll, bobl Israel, mynegwch eich barn a'ch cyngor yma'n awr."
20:8 Cododd yr holl bobl fel un gŵr a dweud, "Ni ddychwel neb ohonom i'w babell na mynd yn ôl adref.
20:9 Dyma'r hyn a wnawn i Gibea: awn yn ei herbyn trwy fwrw coelbren;
20:10 a dewiswn ddeg dyn o bob cant, cant o bob mil, a mil o bob myrddiwn trwy holl lwythau Israel, i gasglu lluniaeth i'r fyddin fydd yn mynd yn erbyn Gibea Benjamin o achos yr holl anlladrwydd a wnaethant yn Israel."

Y Rhyfel yn Erbyn y Benjaminiaid

20:11 Felly daeth yr holl Israeliaid at ei gilydd fel un yn erbyn y dref.
20:12 Anfonodd llwythau Israel ddynion drwy holl lwyth Benjamin gan ddweud, "Pa gamwri yw hwn a ddigwyddodd yn eich mysg?
20:13 Ildiwch y dihirod hyn sydd yn Gibea, inni eu rhoi i farwolaeth, a dileu'r drwg o Israel." Ond ni fynnai'r Benjaminiaid wrando ar eu perthnasau yr Israeliaid.
20:14 Ymgasglodd y Ben-jaminiaid o'u trefi i Gibea er mwyn mynd i ryfel yn erbyn yr Israeliaid.
20:15 Ar y dydd hwnnw rhestrwyd o drefi'r Benjaminiaid chwe mil ar hugain o ddynion yn dwyn cleddyf, ar wahân i drigolion Gibea, a oedd yn rhestru saith gant o wŷr dethol.
20:16 Yn yr holl fyddin hon yr oedd pob un o'r saith gant o wŷr dethol yn llawchwith, ac yn medru anelu carreg i drwch y blewyn heb fethu.
20:17 Yr oedd gwŷr Israel, ar wahân i Benjamin, yn rhestru pedwar can mil o ddynion yn dwyn cleddyf, pob un yn rhyfelwr.
20:18 Aeth yr Israeliaid yn eu blaen i Fethel, a gofyn i Dduw, "Pwy ohonom sydd i arwain yn y frwydr yn erbyn y Benjaminiaid?" Atebodd yr ARGLWYDD, "Jwda sydd i arwain."
20:19 Cychwynnodd yr Israeliaid ben bore a gwersyllu gyferbyn â Gibea.
20:20 Aeth yr Israeliaid i ymosod ar y Benjaminiaid, a gosod eu rhengoedd ar gyfer brwydr o flaen Gibea.
20:21 Ond ymosododd y Ben-jaminiaid allan o Gibea, a gadael dwy fil ar hugain o blith byddin Israel yn farw ar y maes y diwrnod hwnnw.
20:22 Cyn i fyddin pobl Israel atgyfnerthu ac ailymgynnull i ryfel yn yr un fan â'r diwrnod cynt,
20:23 aeth yr Israeliaid i fyny i Fethel ac wylo gerbron yr ARGLWYDD hyd yr hwyr, a gofyn i'r ARGLWYDD, "A awn ni eto i ymladd â'n brodyr y Benjaminiaid?" Atebodd yr ARGLWYDD, "Ewch!"
20:24 Felly fe aeth yr Israeliaid i ryfela â'r Benjaminiaid yr ail ddiwrnod.
20:25 Gwnaeth y Benjaminiaid gyrch arnynt eilwaith o Gibea, a'r tro hwn gadael deunaw mil o blith byddin Israel yn farw ar y maes, a'r rheini bob un yn dwyn cleddyf.
20:26 Felly fe aeth yr Israeliaid i gyd, a'r holl fyddin, i fyny i Fethel, ac wylo ac eistedd yno gerbron yr ARGLWYDD gan ymprydio drwy'r dydd hyd yr hwyr, ac offrymu poethoffrymau a heddoffrymau gerbron yr ARGLWYDD.
20:27 Yr adeg honno, ym Methel yr oedd arch cyfamod Duw,
20:28 a Phinees fab Eleasar, fab Aaron oedd yn gofalu amdani ar y pryd. Pan ofynnodd yr Israeliaid i'r ARGLWYDD, "A awn ni allan i ymladd eto â'n perthnasau y Ben-jaminiaid, ai peidio?" atebodd yr ARGLWYDD, "Ewch, oherwydd yfory fe'u rhoddaf hwy yn eich llaw."
20:29 Gosododd Israel filwyr cudd o amgylch Gibea,
20:30 cyn mynd i fyny'r trydydd dydd yn erbyn y Benjaminiaid ac ymgynnull yn eu rhengoedd o flaen Gibea fel cynt.
20:31 Gwnaeth y Benjamin-iaid gyrch yn erbyn y fyddin, a denwyd hwy oddi wrth y dref; dechreusant wneud lladdfa ymysg y fyddin fel cynt, ac archolli tua deg ar hugain o'r Israeliaid yn y tir agored ger y priffyrdd i Fethel ac i Gibea.
20:32 Yr oedd y Benjaminiaid yn dweud, "Yr ydym yn eu trechu fel o'r blaen"; a'r Israeliaid yn dweud, "Fe giliwn er mwyn eu denu o'r dref i'r priffyrdd."
20:33 Yna safodd yr Israeliaid a ffurfio'u rhengoedd ger Baal-tamar, a dyma'r Israeliaid oedd wedi ymguddio yn rhuthro o'u cuddfeydd i'r gorllewin o Gibea.
20:34 Daeth deng mil o filwyr dethol o Israel gyfan yn erbyn y Gibeaid o'r dwyrain; ond am fod brwydr chwyrn ar y pryd, ni wyddai'r Benjaminiaid fod trychineb yn dod arnynt.
20:35 Trawodd yr ARGLWYDD wŷr Benjamin o flaen yr Israeliaid, a'r diwrnod hwnnw lladdodd yr Israeliaid o blith Benjamin bum mil ar hugain ac un cant o wŷr yn dwyn cleddyf.

Buddugoliaeth i Israel

20:36 Gwelodd y Benjaminiaid eu bod wedi colli'r dydd. Yr oedd byddin Israel wedi ildio tir i'r Benjaminiaid am eu bod yn ymddiried yn y milwyr cudd a osodwyd ger Gibea.
20:37 Brysiodd y milwyr cudd i ruthro ar Gibea, gan adael eu cuddfannau a tharo'r holl dref â'r cleddyf.
20:38 Yr arwydd i fyddin Israel oddi wrth y rhai ynghudd fyddai colofn o fwg yn mynd i fyny o'r dref;
20:39 yna byddai byddin Israel yn troi yn y frwydr. Ar y dechrau yr oedd y Benjaminiaid wedi anafu tua deg ar hugain o fyddin Israel, a meddwl yn sicr eu bod yn eu concro fel yn y frwydr flaenorol.
20:40 Ond pan ddechreuodd y golofn fwg esgyn o'r dref i'r awyr, trodd y Benjaminiaid a gweld y dref gyfan yn wenfflam.
20:41 Pan drodd byddin Israel arnynt, brawychwyd y Benjaminiaid o sylweddoli bod trychineb wedi eu goddiweddyd.
20:42 Troesant i ffwrdd o flaen byddin Israel i gyfeiriad yr anialwch, ond parhaodd yr ymladd; ac yr oedd yr Israeliaid, a oedd wedi dod i'r dref, bellach yn eu mysg yn eu difa.
20:43 Buont yn erlid y Benjaminiaid o bob tu yn ddiatal, a'u goddiweddyd i'r dwyrain o Gibea.
20:44 Syrthiodd deunaw mil o wŷr Benjamin, y cwbl ohonynt yn rhyfelwyr dewr.
20:45 Trodd y gweddill a ffoi tua'r anialwch i graig Rimmon, a daliodd yr Israeliaid bum mil ohonynt ar y priffyrdd; yna buont yn ymlid yn galed ar ôl y Benjaminiaid hyd at Gidom, a lladd dwy fil ohonynt.
20:46 Cyfanswm y rhai o Benjamin a syrthiodd y diwrnod hwnnw oedd pum mil ar hugain o wŷr yn dwyn cleddyf, a'r cwbl ohonynt yn rhyfelwyr dewr.
20:47 o'r rhai a drodd a ffoi tua'r anialwch i graig Rimmon, cyrhaeddodd chwe chant o wŷr, a buont yn byw yng nghraig Rimmon am bedwar mis.
20:48 Wedi i fyddin Israel droi yn ei hôl yn erbyn y Benjaminiaid, lladdasant â'r cleddyf bawb yn y dref, gan gynnwys anifeiliaid, a llosgi hefyd bob tref a ddaeth i'w meddiant.

Gwragedd ar gyfer Llwyth Benjamin

21:1 Yr oedd yr Israeliaid wedi tyngu yn Mispa na fyddai neb ohonynt yn rhoi ei ferch yn wraig i Benjaminiad.
21:2 Wedi i'r bobl ddod i Fethel ac eistedd yno gerbron Duw hyd yr hwyr, dechreusant wylo'n hidl,
21:3 a dweud, "Pam, O ARGLWYDD Dduw Israel, y digwyddodd hyn i Israel, bod un llwyth heddiw yn eisiau?"
21:4 Trannoeth, wedi i'r bobl godi'n fore, codasant yno allor ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau.
21:5 Yna dywedodd yr Israeliaid, "Pwy o holl lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i'r cynulliad?" Oherwydd yr oedd llw difrifol wedi ei dyngu y byddai'r sawl na ddôi i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa yn sicr o gael ei roi i farwolaeth.
21:6 Gofidiodd yr Israeliaid am eu perthynas Benjamin, a dweud, "Y mae un llwyth wedi ei dorri allan o Israel heddiw.
21:7 Beth a wnawn ni dros y dynion sydd ar ôl, a ninnau wedi tyngu i'r ARGLWYDD na roddem iddynt yr un o'n merched yn wraig?"
21:8 Ac meddent, "Prun o lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa?" Nid oedd neb o Jabes-gilead wedi dod i'r gwersyll i'r cynulliad.
21:9 Pan gyfrifwyd y bobl, nid oedd yno neb o drigolion Jabes-gilead.
21:10 Felly anfonodd y cynulliad ddeuddeng mil o wŷr rhyfel yno, a gorchymyn iddynt, "Ewch a lladdwch drigolion Jabes-gilead â'r cleddyf, yn cynnwys y gwragedd a'r plant.
21:11 A dyma'r hyn a wnewch: dinistriwch yn llwyr bob dyn, a phob dynes nad yw'n wyryf."
21:12 Cawsant ymhlith Jabes-gilead bedwar cant o wyryfon nad oeddent wedi gorwedd gyda dyn; a daethant â hwy i'r gwersyll i Seilo yng ngwlad Canaan.
21:13 Anfonodd y cynulliad cyfan neges at y Benjaminiaid oedd yng nghraig Rimmon, a chynnig heddwch iddynt.
21:14 Yna, wedi iddynt ddychwelyd, rhoesant iddynt y merched o Jabes-gilead yr oeddent wedi eu harbed. Eto nid oedd hynny'n ddigon ar eu cyfer.
21:15 A chan fod y bobl yn gofidio am Benjamin, am i'r ARGLWYDD wneud bwlch yn llwythau Israel,
21:16 dywedodd henuriaid y cynulliad, "Beth a wnawn am wragedd i'r gweddill, gan fod y merched wedi eu difa o blith Benjamin?"
21:17 Ac meddent, "Rhaid cael etifeddion i'r rhai o Benjamin a arbedwyd, rhag dileu llwyth o Israel.
21:18 Ni allwn roi iddynt wragedd o blith ein merched ni, am fod yr Israeliaid wedi tyngu, 'Melltigedig fyddo'r hwn a roddo wraig i Benjamin.'"
21:19 A dyna hwy'n dweud, "Y mae gŵyl i'r ARGLWYDD bob blwyddyn yn Seilo, o du'r gogledd i Fethel, ac i'r dwyrain o'r briffordd sy'n arwain o Fethel i Sichem, i'r de o Lebona."
21:20 A rhoesant orchymyn i'r Benjaminiaid, "Ewch ac ymguddiwch yn y gwinllannoedd,
21:21 a gwyliwch. A phan ddaw merched Seilo allan i ddawnsio, rhuthrwch allan o'r gwinllannoedd a chipiwch bob un wraig o'u plith, ac yna dewch yn ôl i dir Benjamin.
21:22 Ac os daw eu hynafiaid neu eu brodyr atom i achwyn, fe ddywedwn wrthynt, 'Byddwch yn rasol wrthynt, oherwydd ni chawsom wragedd iddynt trwy ryfel; ac nid chwi sydd wedi eu rhoi hwy iddynt, felly rydych chwi'n ddieuog.'"
21:23 Gwnaeth y Benjaminiaid hyn, ac wedi i bob un gael gwraig o blith y dawnswyr yr oeddent wedi eu cipio, aethant yn ôl i'w tiriogaeth ac ailadeiladu'r trefi a byw ynddynt.
21:24 Dychwelodd yr Israeliaid hefyd yr un pryd i'w tiriogaeth, a phob un yn mynd yn ôl at ei lwyth a'i deulu ei hun.
21:25 Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr oedd pob un yn gwneud yr hyn oedd yn iawn yn ei olwg ei hun.