LLYFR RUTH

Elimelech a'i Deulu'n Ymfudo i Moab

1:1 Yn ystod y cyfnod pan oedd y barnwyr yn llywodraethu, bu newyn yn y wlad, ac aeth dyn o Fethlehem Jwda gyda'i wraig a'i ddau fab i fyw dros dro yng ngwlad Moab.
1:2 Elimelech oedd enw'r dyn, Naomi oedd enw ei wraig, a Mahlon a Chilion oedd enwau'r ddau fab. Effrateaid o Fethlehem Jwda oeddent, ac aethant i wlad Moab ac aros yno.
1:3 Ond bu farw Elimelech, gŵr Naomi, a gadawyd hi'n weddw gyda'i dau fab.
1:4 Priododd y ddau â merched o Moab; Orpa oedd enw'r naill a Ruth oedd enw'r llall. Wedi iddynt fod yno tua deng mlynedd,
1:5 bu farw Mahlon a Chilion ill dau; a gadawyd y wraig yn amddifad o'i dau blentyn yn ogystal ag o'i gŵr.

Naomi a Ruth yn Dychwelyd i Fethlehem

1:6 Penderfynodd hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith ddychwelyd o wlad Moab, oherwydd iddi glywed yno i'r ARGLWYDD ymweld â'i bobl a rhoi bwyd iddynt.
1:7 Gadawodd hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith y man lle'r oeddent, a chychwyn yn ôl am wlad Jwda.
1:8 Ac meddai Naomi wrth ei dwy ferch-yng-nghyfraith, "Ewch yn ôl adref, bob un at ei mam, y ddwy ohonoch; a bydded yr ARGLWYDD mor garedig wrthych chwi ag y buoch chwi wrth y rhai a fu farw ac wrthyf finnau,
1:9 a rhoi i'r ddwy ohonoch orffwysfa mewn cartref gyda gŵr." Yna fe'u cusanodd, a dechreuodd y ddwy wylo'n uchel,
1:10 a dweud wrthi, "Ond yr ydym ni am ddychwelyd gyda thi at dy bobl."
1:11 Dywedodd Naomi, "Ewch adref, fy merched. Pam y dewch gyda mi? A oes gennyf fi ragor o feibion yn fy nghroth, iddynt ddod yn wŷr i chwi?
1:12 Ewch yn ôl, fy merched, oherwydd yr wyf fi'n rhy hen i gael gŵr. Pe bawn i'n dweud bod gennyf obaith cael gŵr heno, ac yna geni plant,
1:13 a fyddech chwi'n disgwyl nes iddynt dyfu? A fyddech yn ymgadw rhag priodi? Na, fy merched; y mae'n llawer chwerwach i mi nag i chwi am fod llaw yr ARGLWYDD yn f'erbyn i."
1:14 Wylodd y ddwy yn uchel eto; yna ffarweliodd Orpa â'i mam-yng-nghyfraith, ond glynodd Ruth wrthi.
1:15 A dywedodd Naomi, "Edrych, y mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a'i duw; dychwel dithau ar ei hôl."
1:16 Ond meddai Ruth, "Paid â'm hannog i'th adael, na throi'n ôl oddi wrthyt, oherwydd i ble bynnag yr ei di, fe af finnau; ac ym mhle bynnag y byddi di'n aros, fe arhosaf finnau; dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw di fy Nuw innau.
1:17 Lle y byddi di farw, y byddaf finnau farw ac yno y'm cleddir. Fel hyn y gwnelo'r ARGLWYDD i mi, a rhagor, os bydd unrhyw beth ond angau yn ein gwahanu ni."
1:18 Gwelodd Naomi ei bod yn benderfynol o fynd gyda hi, ac fe beidiodd â'i hannog rhagor.
1:19 Aeth y ddwy ymlaen nes dod i Fethlehem; ac wedi iddynt gyrraedd, bu cyffro trwy'r holl dref o'u plegid, a'r merched yn gofyn, "Ai Naomi yw hon?"
1:20 Dywedodd hithau wrthynt, "Peidiwch â'm galw'n Naomi, galwch fi'n Mara; oherwydd bu'r Hollalluog yn chwerw iawn wrthyf.
1:21 Yr oeddwn yn llawn wrth fynd allan, ond daeth yr ARGLWYDD â mi'n ôl yn wag. Pam y galwch fi'n Naomi, a'r ARGLWYDD wedi tystio i'm herbyn, a'r Hollalluog wedi dod â drwg arnaf?"
1:22 Fel hyn y dychwelodd Naomi o wlad Moab, a'i merch-yng-nghyfraith, Ruth y Foabes, gyda hi. Daethant i Fethlehem yn nechrau'r cynhaeaf haidd.

Ruth yn Lloffa yng Nghae Boas

2:1 Yr oedd gan Naomi berthynas i'w gŵr, dyn cefnog o'r enw Boas o dylwyth Elimelech.
2:2 Dywedodd Ruth y Foabes wrth Naomi, "Gad imi fynd i'r caeau ŷd i loffa ar ôl pwy bynnag fydd yn caniatáu imi." Dywedodd Naomi wrthi, "Ie, dos, fy merch."
2:3 Felly fe aeth i'r caeau i loffa ar ôl y medelwyr, a digwyddodd iddi ddewis y rhandir oedd yn perthyn i Boas, y dyn oedd o dylwyth Elimelech.
2:4 A dyna Boas ei hun yn cyrraedd o Fethlehem ac yn cyfarch y medelwyr, "Yr ARGLWYDD fyddo gyda chwi," a hwythau'n ateb, "Bendithied yr ARGLWYDD dithau."
2:5 Yna gofynnodd Boas i'w was oedd yn gofalu am y medelwyr, "Geneth pwy yw hon?"
2:6 Atebodd y gwas, "Geneth o Moab ydyw; hi a ddaeth yn ôl gyda Naomi o wlad Moab.
2:7 Gofynnodd am ganiatâd i loffa a hel rhwng yr ysgubau ar ôl y medelwyr. Fe ddaeth, ac y mae wedi bod ar ei thraed o'r bore bach hyd yn awr, heb orffwys o gwbl."
2:8 Dywedodd Boas wrth Ruth, "Gwrando, fy merch, paid â mynd i loffa i faes arall na symud oddi yma, ond glŷn wrth fy llancesau i.
2:9 Cadw dy lygaid ar y maes y maent yn ei fedi, a dilyn hwy. Onid wyf fi wedi gorchymyn i'r gweision beidio ag ymyrryd â thi? Os bydd syched arnat, dos i yfed o'r llestri a lanwodd y gweision."
2:10 Moesymgrymodd hithau hyd y llawr a dweud wrtho, "Pam yr wyf yn cael y fath garedigrwydd gennyt fel dy fod yn cymryd sylw ohonof fi, a minnau'n estrones?"
2:11 Atebodd Boas hi a dweud, "Cefais wybod am y cwbl yr wyt ti wedi ei wneud i'th fam-yng-nghyfraith ar ôl marw dy ŵr, ac fel y gadewaist dy dad a'th fam a'th wlad enedigol, a dod at bobl nad oeddit yn eu hadnabod o'r blaen.
2:12 Bydded i'r ARGLWYDD dy wobrwyo am dy weithred, a bydded iti gael dy dalu'n llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, y daethost i geisio nodded dan ei adain."
2:13 Dywedodd hi, "Yr wyt yn garedig iawn, f'arglwydd, oherwydd yr wyt wedi cysuro a chalonogi dy forwyn, er nad wyf yn un o'th forynion di."
2:14 Dywedodd Boas wrthi, adeg bwyd, "Tyrd yma a bwyta o'r bara a gwlychu dy damaid yn y finegr." Wedi iddi eistedd wrth ochr y medelwyr, estynnodd yntau iddi ŷd wedi ei grasu, a bwytaodd ei gwala a gadael gweddill.
2:15 Yna, pan gododd hi i loffa, gorchmynnodd Boas i'w weision, "Gadewch iddi loffa hyd yn oed ymysg yr ysgubau, a pheidiwch â'i dwrdio;
2:16 yr wyf am i chwi hyd yn oed dynnu peth allan o'r dyrneidiau a'i adael iddi i'w loffa; a pheidiwch â'i cheryddu."
2:17 Bu'n lloffa yn y maes hyd yr hwyr, a phan ddyrnodd yr hyn yr oedd wedi ei loffa, cafodd tuag effa o haidd.
2:18 Fe'i cymerodd gyda hi i'r dref, a dangos i'w mam-yng-nghyfraith faint yr oedd wedi ei loffa; hefyd fe dynnodd allan y bwyd a gadwodd ar ôl cael digon, a'i roi iddi.
2:19 Gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith iddi, "Ple buost ti'n lloffa ac yn llafurio heddiw? Bendith ar y sawl a gymerodd sylw ohonot." Eglurodd hithau i'w mam-yng-nghyfraith gyda phwy y bu'n llafurio, a dweud, "Boas oedd enw'r dyn y bûm yn llafurio gydag ef heddiw."
2:20 Ac meddai Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith, "Bendith yr ARGLWYDD arno! Nid yw'r ARGLWYDD wedi atal ei drugaredd at y byw na'r meirw." Ac ychwanegodd Naomi, "Y mae'r dyn yn perthyn inni, ac yn un o'n perthnasau agosaf."
2:21 Yna dywedodd Ruth y Foabes, "Fe ddywedodd wrthyf hefyd am lynu wrth ei weision ef nes iddynt orffen ei gynhaeaf."
2:22 Ac meddai Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith Ruth, "Y mae'n well iti, fy merch, fynd allan gyda'i lancesau ef, rhag i rywrai ymosod arnat mewn rhyw faes arall."
2:23 A glynodd hithau wrth lancesau Boas i loffa hyd ddiwedd y cynhaeaf haidd a'r cynhaeaf gwenith, ond yr oedd yn byw gyda'i mam-yng-nghyfraith.

Ruth yn Cael Gŵr

3:1 Yna dywedodd ei mam-yng-nghyfraith Naomi wrthi, "Fy merch, oni ddylwn i chwilio am gartref iti, er dy les?
3:2 Yn awr, onid perthynas i ni yw Boas, y buost gyda'i lancesau?
3:3 Edrych, y mae ef yn mynd i nithio haidd yn y llawr dyrnu heno. Wedi iti ymolchi ac ymbincio a rhoi dy wisg orau amdanat, dos at y llawr dyrnu, ond paid â gadael iddo d'adnabod nes iddo orffen bwyta ac yfed.
3:4 Pan â i orwedd, sylwa ymhle y mae'n cysgu, yna dos a chodi'r dillad o gwmpas ei draed a gorwedd i lawr. Wedyn fe ddywed ef wrthyt beth i'w wneud."
3:5 Cytunodd hithau i wneud y cwbl a ddywedodd Naomi wrthi.
3:6 Aeth at y llawr dyrnu, a gwneud yn union fel yr oedd ei mam-yng-nghyfraith wedi gorchymyn iddi.
3:7 Wedi i Boas fwyta ac yfed, yr oedd yn teimlo'n hapus, ac aeth i gysgu yng nghwr y pentwr ŷd. Daeth hithau'n ddistaw a chodi'r dillad o gwmpas ei draed, a gorwedd i lawr.
3:8 Tua hanner nos cyffrôdd y dyn a throi, ac yno'n gorwedd wrth ei draed yr oedd merch.
3:9 "Pwy wyt ti?" gofynnodd. Atebodd hithau, "Dy forwyn Ruth; taena gwr dy fantell dros dy forwyn, oherwydd yr wyt ti'n berthynas agos."
3:10 Yna dywedodd wrthi, "Bendith yr ARGLWYDD arnat, fy merch; y mae'r teyrngarwch olaf hwn gennyt yn rhagori ar y cyntaf, am iti beidio â mynd ar ôl y dynion ifainc, boent dlawd neu gyfoethog.
3:11 Yn awr, fy merch, paid ag ofni; fe wnaf iti bopeth yr wyt yn ei ddweud, oherwydd y mae pawb o'm cymdogion yn gwybod dy fod yn ferch deilwng.
3:12 Yn awr, y mae'n hollol wir fy mod yn berthynas agos, ond y mae un arall sy'n nes na mi.
3:13 Aros yma heno; ac yfory, os bydd ef am weithredu fel perthynas, popeth yn iawn; gwnaed hynny. Ond os nad yw'n barod i wneud hynny, yna fe wnaf fi, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw. Cwsg tan y bore."
3:14 Cysgodd hithau wrth ei draed tan y bore; yna fe gododd, cyn y gallai neb adnabod ei gilydd. Yr oedd ef wedi gorchymyn nad oedd neb i wybod bod y ferch wedi dod i'r llawr dyrnu.
3:15 Ac meddai wrthi, "Estyn y fantell sydd amdanat, a dal hi." A thra oedd hi yn ei dal, mesurodd yntau iddi chwe mesur o haidd a'i osod ar ei hysgwydd, ac aeth hithau i'r dref.
3:16 Wedi iddi gyrraedd gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith, "Sut y bu hi gyda thi, fy merch?" Adroddodd hithau wrthi'r cwbl a wnaeth y dyn iddi.
3:17 Dywedodd, "Rhoddodd imi'r chwe mesur hyn o haidd oherwydd, meddai wrthyf, 'Ni chei fynd yn waglaw at dy fam-yng-nghyfraith'."
3:18 Yna dywedodd Naomi, "Aros, fy merch, nes y cei wybod sut y try pethau; oherwydd ni fydd y dyn yna'n gorffwys cyn gorffen y mater heddiw."

Boas yn Priodi Ruth

4:1 Aeth Boas i fyny i'r porth ac eistedd yno, a dyna'r perthynas yr oedd Boas wedi sôn amdano yn dod heibio. Galwodd Boas arno wrth ei enw a dweud, "Tyrd yma ac eistedd i lawr." Aeth yntau ac eistedd.
4:2 Yna fe ddewisodd ddeg o henuriaid y dref a dweud, "Eisteddwch yma"; ac eisteddodd y rheini.
4:3 Dywedodd wrth y perthynas, "Daeth Naomi yn ôl o wlad Moab ac y mae am werthu'r darn tir oedd yn perthyn i'n brawd Elimelech,
4:4 a meddyliais y byddwn yn gadael i ti wybod; felly pryn ef yng ngŵydd henuriaid fy mhobl, sy'n eistedd yma. Os wyt ti am ei brynu'n ôl, gwna hynny; ond os nad wyt am ei brynu, dywed wrthyf, imi gael gwybod; oherwydd gennyt ti y mae'r hawl i'w brynu, a chennyf finnau wedyn." Dywedodd yntau, "Fe'i prynaf."
4:5 Yna meddai Boas, "Y diwrnod y pryni di'r tir gan Naomi, yr wyt hefyd yn cymryd Ruth y Foabes, gwraig gŵr a fu farw, i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth."
4:6 Atebodd y perthynas, "Ni fedraf ei brynu heb ddifetha f'etifeddiaeth fy hun. Pryn di ef, oherwydd ni allaf fi."
4:7 Erstalwm dyma fyddai'r arfer yn Israel wrth brynu'n ôl a throsglwyddo eiddo: er mwyn cadarnhau unrhyw gytundeb byddai'r naill yn tynnu ei esgid ac yn ei rhoi i'r llall. Dyna oedd dull ardystio yn Israel.
4:8 Felly, pan ddywedodd y perthynas wrth Boas, "Pryn ef i ti dy hun", fe dynnodd ei esgid.
4:9 A dywedodd Boas wrth yr henuriaid a'r bobl i gyd, "Yr ydych chwi yn dystion fy mod i heddiw wedi prynu holl eiddo Elimelech a holl eiddo Chilion a Mahlon o law Naomi.
4:10 Yr wyf hefyd wedi prynu Ruth y Foabes, gweddw Mahlon, yn wraig imi i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth, rhag i'w enw gael ei ddiddymu o fysg ei dylwyth ac o'i fro. Yr ydych chwi heddiw yn dystion o hyn."
4:11 Dywedodd pawb oedd yn y porth, a'r henuriaid hefyd, "Yr ydym yn dystion; bydded i'r ARGLWYDD beri i'r wraig sy'n dod i'th dŷ fod fel Rachel a Lea, y ddwy a gododd dŷ Israel; bydded iti lwyddo yn Effrata, ac ennill enw ym Methlehem.
4:12 Trwy'r plant y bydd yr ARGLWYDD yn eu rhoi i ti o'r eneth hon, bydded dy deulu fel teulu Peres a ddygodd Tamar i Jwda."

Boas a'i Ddisgynyddion

4:13 Wedi i Boas gymryd Ruth yn wraig iddo, aeth i mewn ati a pharodd yr ARGLWYDD iddi feichiogi, ac esgorodd ar fab.
4:14 Ac meddai'r gwragedd wrth Naomi, "Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am iddo beidio â'th adael heddiw heb berthynas; bydded ef yn enwog yn Israel.
4:15 Bydd ef yn adnewyddu dy fywyd ac yn dy gynnal yn dy henaint, oherwydd dy ferch-yng-nghyfraith, sy'n dy garu, yw ei fam; ac y mae hi'n well na saith o feibion i ti."
4:16 Cymerodd Naomi y bachgen a'i ddodi yn ei chôl a'i fagu.
4:17 Rhoddodd y cymdogesau enw iddo a dweud, "Ganwyd mab i Naomi." Galwasant ef Obed; ef oedd tad Jesse, tad Dafydd.
4:18 Dyma achau Peres: Peres oedd tad Hesron,
4:19 Hesron oedd tad Ram, Ram oedd tad Amminadab,
4:20 Amminadab oedd tad Nahson, Nahson oedd tad Salmon,
4:21 Salmon oedd tad Boas, Boas oedd tad Obed,
4:22 Obed oedd tad Jesse, a Jesse oedd tad Dafydd.