AIL LYFR SAMUEL

Dafydd yn Clywed am Farwolaeth Saul

1:1 Ar ôl marwolaeth Saul dychwelodd Dafydd o daro'r Amaleciaid, ac aros ddeuddydd yn Siclag.
1:2 Ar y trydydd dydd cyrhaeddodd dyn o wersyll Saul a'i ddillad wedi eu rhwygo a phridd ar ei ben. Daeth at Ddafydd, syrthiodd o'i flaen a moesymgrymu.
1:3 Gofynnodd Dafydd iddo, "O ble y daethost?" Atebodd yntau, "Wedi dianc o wersyll Israel yr wyf."
1:4 Dywedodd Dafydd wrtho, "Dywed wrthyf sut y bu pethau." Adroddodd yntau fel y bu i'r bobl ffoi o'r frwydr, a bod llawer ohonynt wedi syrthio a marw, a bod Saul a'i fab Jonathan hefyd wedi marw.
1:5 Gofynnodd Dafydd i'r llanc oedd yn adrodd yr hanes wrtho, "Sut y gwyddost ti fod Saul a'i fab Jonathan wedi marw?"
1:6 Ac meddai'r llanc oedd yn dweud yr hanes wrtho, "Yr oeddwn yn digwydd bod ar Fynydd Gilboa, a dyna lle'r oedd Saul yn pwyso ar ei waywffon, a'r cerbydau a'r marchogion yn cau amdano.
1:7 Wrth iddo droi fe'm gwelodd i, a galw arnaf. 'Dyma fi,' meddwn innau.
1:8 Gofynnodd i mi, 'Pwy wyt ti?' Atebais innau, 'Amaleciad.'
1:9 Yna dywedodd wrthyf, 'Tyrd yma a lladd fi, oherwydd y mae gwendid wedi cydio ynof, er bod bywyd yn dal ynof.'
1:10 Felly euthum ato a'i ladd, oherwydd gwyddwn na fyddai fyw wedi iddo gwympo. Cymerais y goron oedd ar ei ben a'r freichled oedd am ei fraich, a deuthum â hwy yma at f'arglwydd."
1:11 Gafaelodd Dafydd yn ei wisg a'i rhwygo, a gwnaeth yr holl ddynion oedd gydag ef yr un modd;
1:12 a buont yn galaru, yn wylo ac yn ymprydio hyd yr hwyr dros Saul a'i fab Jonathan, a hefyd dros bobl yr ARGLWYDD a thŷ Israel, am eu bod wedi syrthio drwy'r cleddyf.
1:13 Holodd Dafydd y llanc a ddaeth â'r newydd, "Un o ble wyt ti?" Atebodd yntau, "Mab i Amaleciad a ddaeth yma i fyw wyf fi."
1:14 Ac meddai Dafydd wrtho, "Sut na fyddai arnat ofn estyn dy law i ddistrywio eneiniog yr ARGLWYDD?"
1:15 Yna galwodd Dafydd ar un o'r llanciau a dweud, "Tyrd, rho ergyd iddo!" Trawodd yntau ef, a bu farw.
1:16 Yr oedd Dafydd wedi dweud wrtho, "Bydded dy waed ar dy ben di dy hun; tystiodd dy enau dy hun yn dy erbyn pan ddywedaist, 'Myfi a laddodd eneiniog yr ARGLWYDD'."

Galarnad Dafydd am Saul a Jonathan

1:17 Canodd Dafydd yr alarnad hon am Saul a'i fab Jonathan,
1:18 a gorchymyn ei dysgu i'r Jwdeaid. Y mae wedi ei hysgrifennu yn Llyfr Jasar:
1:19 "O ardderchowgrwydd Israel, a drywanwyd ar dy uchelfannau! O fel y cwympodd y cedyrn!
1:20 "Peidiwch â'i adrodd yn Gath, na'i gyhoeddi ar strydoedd Ascalon, rhag i ferched y Philistiaid lawenhau, rhag i ferched y dienwaededig orfoleddu.
1:21 "O fynyddoedd Gilboa, na foed gwlith na glaw arnoch, chwi feysydd marwolaeth. Canys yno yr halogwyd tarian y cedyrn, tarian Saul heb ei hiro ag olew.
1:22 "Oddi wrth waed lladdedigion, oddi wrth fraster rhai cedyrn, ni throdd bwa Jonathan erioed yn ôl; a chleddyf Saul ni ddychwelai'n wag.
1:23 "Saul a Jonathan, yr anwylaf a'r hyfrytaf o wŷr, yn eu bywyd ac yn eu hangau ni wahanwyd hwy; cyflymach nag eryrod oeddent, a chryfach na llewod.
1:24 "O ferched Israel, wylwch am Saul, a fyddai'n eich gwisgo'n foethus mewn ysgarlad, ac yn rhoi gemau aur ar eich gwisg.
1:25 "O fel y cwympodd y cedyrn yng nghanol y frwydr! lladdwyd Jonathan ar dy uchelfannau.
1:26 "Gofidus wyf amdanat, fy mrawd Jonathan; buost yn annwyl iawn gennyf; yr oedd dy gariad tuag ataf yn rhyfeddol, y tu hwnt i gariad gwragedd.
1:27 "O fel y cwympodd y cedyrn, ac y difethwyd arfau rhyfel!"

Gwneud Dafydd yn Frenin Jwda

2:1 Wedi hyn ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD a gofyn, "A af i fyny i un o drefi Jwda?" Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Dos." Gofynnodd Dafydd, "I ba un?" Atebodd yr ARGLWYDD, "I Hebron."
2:2 Felly fe aeth Dafydd i fyny yno, a'i ddwy wraig, Ahinoam o Jesreel ac Abigail, gwraig Nabal, o Garmel;
2:3 hefyd fe aeth Dafydd â'r gwŷr oedd ganddo, bob un â'i deulu, a thrigo yn nhref Hebron.
2:4 Yna daeth gwŷr Jwda, ac eneinio Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda. Dywedwyd wrth Ddafydd mai gwŷr Jabes-gilead oedd wedi claddu Saul,
2:5 ac anfonodd Dafydd negeswyr atynt a dweud wrthynt, "Bendith yr ARGLWYDD arnoch am ichwi wneud y gymwynas hon â'ch arglwydd Saul, a'i gladdu.
2:6 Ac yn awr bydded i'r ARGLWYDD ddangos caredigrwydd a ffyddlondeb atoch chwithau; a gwnaf finnau ddaioni i chwi, am ichwi wneud y peth hwn.
2:7 Byddwch gryf a dewr yn awr; y mae eich arglwydd Saul wedi marw, ond y mae tŷ Jwda wedi f'eneinio i yn frenin arnynt."

Gwneud Isboseth yn Frenin Israel

2:8 Yr oedd Abner fab Ner, cadfridog Saul, wedi cymryd Isboseth fab Saul ac wedi mynd ag ef drosodd i Mahanaim.
2:9 Gwnaeth ef yn frenin dros Gilead, pobl Aser, Jesreel, Effraim a Benjamin, a thros Israel gyfan.
2:10 Deugain oed oedd Isboseth fab Saul pan ddaeth yn frenin ar Israel, a theyrnasodd am ddwy flynedd; ond yr oedd tŷ Jwda yn dilyn Dafydd.
2:11 Saith mlynedd a chwe mis oedd hyd y cyfnod y bu Dafydd yn frenin ar dŷ Jwda yn Hebron.

Rhyfel rhwng Israel a Jwda

2:12 Aeth Abner fab Ner gyda dilynwyr Isboseth allan o Mahanaim tua Gibeon.
2:13 Aeth Joab fab Serfia a dilynwyr Dafydd allan hefyd; a chyfarfu'r ddau wrth bwll Gibeon, gyda'r naill fintai ar un ochr i'r pwll, a'r llall yr ochr arall.
2:14 Ac meddai Abner wrth Joab, "Gad i'r llanciau ddod a chynnal gornest o'n blaenau." Cytunodd Joab.
2:15 Yna daethant ymlaen, a chyfrifwyd deuddeg o lwyth Benjamin ar ochr Isboseth fab Saul, a deuddeg o blith dilynwyr Dafydd.
2:16 Cydiodd pob un ym mhen ei wrthwynebydd a thrywanu ei gleddyf i'w ystlys, a syrthiodd y cwbl gyda'i gilydd; am hynny galwyd y lle hwnnw sydd yn Gibeon yn Helcath-hasurim.
2:17 Bu brwydr galed iawn y diwrnod hwnnw, a threchwyd Abner fab Ner a'r Israeliaid gan ddilynwyr Dafydd.
2:18 Yr oedd tri mab Serfia yno, Joab, Abisai ac Asahel; ac yr oedd Asahel cyn gyflymed ei draed ag unrhyw ewig ar y ddôl.
2:19 Rhedodd Asahel ar ôl Abner heb wyro i'r dde na'r chwith oddi ar ei ôl.
2:20 Edrychodd Abner o'i ôl a dywedodd, "Ai ti sydd yna, Asahel?" Atebodd yntau, "Ie."
2:21 Dywedodd Abner wrtho, "Tro draw i'r dde neu i'r chwith, a dal un o'r llanciau, a chymer ei arfau ef." Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl.
2:22 Dywedodd Abner eto wrth Asahel, "Tro draw oddi wrthyf; pam y mae'n rhaid imi dy daro i'r llawr? Sut y gallwn wynebu dy frawd Joab?"
2:23 Ond gwrthododd droi draw, a thrawodd Abner ef yn ei fol â bôn ei waywffon, nes iddi ddod allan trwy ei gefn. Syrthiodd i lawr, ac yno y bu farw. Ac wrth ddod heibio'r fan y bu i Asahel syrthio a marw, safai pawb yn ei unfan.
2:24 Ond daliodd Joab ac Abisai i ymlid ar ôl Abner, ac fel yr oedd yr haul yn machlud, daethant at fryn Amma sydd gyferbyn â Gia, i gyfeiriad anialwch Gibeon.
2:25 Ymgasglodd y Benjaminiaid at Abner, ac ymffurfio'n un fintai a sefyll ar gopa bryn Amma.
2:26 Yna gwaeddodd Abner ar Joab a dweud, "A yw'r cleddyf i ddifa am byth? Oni wyddost mai chwerw fydd diwedd hyn? Am ba hyd y gwrthodi ddweud wrth y milwyr am beidio ag erlid eu perthnasau?"
2:27 Atebodd Joab, "Cyn wired â bod Duw yn fyw, oni bai dy fod wedi siarad, ni fyddai'r milwyr wedi peidio ag ymlid eu perthnasau tan y bore."
2:28 Yna seiniodd Joab yr utgorn, a pheidiodd yr holl bobl ag ymlid yr Israeliaid, na brwydro rhagor.
2:29 Aeth Abner a'i ddynion ar draws yr Araba drwy'r nos, a chroesi'r Iorddonen, a dal ymlaen drwy gydol y bore nes dod i Mahanaim.
2:30 A phan ddaeth Joab yn ei ôl o ddilyn Abner, fe gasglodd y bobl ynghyd, ac yr oedd pedwar ar bymtheg o ddilynwyr Dafydd yn eisiau, yn ogystal ag Asahel.
2:31 Yr oedd dilynwyr Dafydd wedi lladd o blith Benjamin dri chant a thrigain o filwyr Abner. Cymerwyd Asahel a'i gladdu ym medd ei dad ym Methlehem.
2:32 Yna cerddodd Joab a'i ddynion drwy'r nos, a chyrraedd Hebron fel yr oedd yn dyddio.
3:1 Parhaodd y rhyfel rhwng teulu Saul a theulu Dafydd yn hir, gyda Dafydd yn mynd yn gryfach, a theulu Saul yn mynd yn wannach.

Meibion Dafydd

3:2 Ganwyd meibion i Ddafydd yn Hebron. Ei gyntafanedig oedd Amnon, plentyn Ahinoam o Jesreel.
3:3 Yr ail oedd Chileab, plentyn Abigail, gwraig Nabal, o Garmel; y trydydd oedd Absalom, mab Maacha merch Talmai brenin Gesur.
3:4 Y pedwerydd oedd Adoneia mab Haggith; y pumed oedd Seffatia mab Abital;
3:5 a'r chweched, Ithream, plentyn Egla gwraig Dafydd. Dyma'r rhai a anwyd i Ddafydd yn Hebron.

Abner yn Ymuno â Dafydd

3:6 Tra oedd rhyfel rhwng teulu Saul a theulu Dafydd, yr oedd Abner yn ennill mwy a mwy o ddylanwad gyda theulu Saul.
3:7 Bu gan Saul ordderch o'r enw Rispa ferch Aia; a phan ddywedodd Isboseth wrth Abner, "Pam yr aethost i mewn at ordderch fy nhad?"
3:8 fe lidiodd Abner yn fawr oherwydd geiriau Isboseth, ac atebodd, "Ai penci ar ochr Jwda wyf fi? Hyd yma bûm yn deyrngar i deulu dy dad Saul, ac i'w berthnasau a'i gyfeillion; ac ni adewais i ti syrthio i ddwylo Dafydd, a dyma ti heddiw yn edliw imi drosedd gyda benyw.
3:9 Gwnaed Duw fel hyn i mi, Abner, a rhagor hefyd, os na wnaf dros Ddafydd yr hyn a addawodd yr ARGLWYDD iddo,
3:10 a thynnu'r frenhiniaeth oddi ar deulu Saul a sefydlu Dafydd ar orsedd Israel a Jwda, o Dan hyd Beerseba."
3:11 Ni fedrai Isboseth yngan yr un gair wrth Abner wedi hyn, oherwydd bod arno ei ofn.
3:12 Anfonodd Abner negeswyr ar ei ran at Ddafydd i ddweud, "Pwy biau'r wlad? Gwna di gyfamod â mi, ac yna bydd fy llaw o'th blaid i droi Israel gyfan atat."
3:13 Atebodd yntau, "Ardderchog! Fe wnaf fi gyfamod â thi; ond yr wyf am hawlio un peth gennyt: ni chei weld fy wyneb, heb iti ddod â Michal ferch Saul gyda thi, pan ddoi i'm gweld."
3:14 Yna anfonodd Dafydd negeswyr at Isboseth fab Saul, a dweud, "Rho imi fy ngwraig Michal, a ddyweddïais imi am gant o flaengrwyn Philistiaid."
3:15 Anfonodd Isboseth a'i chymryd oddi wrth ei gŵr Paltiel fab Lais.
3:16 Dilynodd ei gŵr yn wylofus ar ei hôl hyd Bahurim, ond wedi i Abner ddweud wrtho, "Dos yn d'ôl", fe ddychwelodd adref.
3:17 Anfonodd Abner air at henuriaid Israel a dweud, "Ers tro byd buoch yn ceisio cael Dafydd yn frenin arnoch.
3:18 Yn awr, gweithredwch; oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dweud am Ddafydd, 'Trwy law fy ngwas Dafydd y gwaredaf fy mhobl Israel oddi wrth y Philistiaid a'u gelynion i gyd.'"
3:19 Siaradodd Abner hefyd â llwyth Benjamin. Yna aeth Abner i Hebron i ddweud wrth Ddafydd y cwbl yr oedd Israel a llwyth Benjamin wedi cytuno arno.

Llofruddio Abner

3:20 Daeth Abner at Ddafydd i Hebron gydag ugain o ddynion, a gwnaeth Dafydd wledd i Abner a'i ddynion.
3:21 Yna dywedodd Abner wrth Ddafydd, "Yr wyf am fynd yn awr i gasglu Israel gyfan ynghyd at f'arglwydd frenin, er mwyn iddynt wneud cyfamod â thi; yna byddi'n frenin ar y cyfan yr wyt yn ei chwenychu." Gadawodd Dafydd i Abner fynd ymaith, ac aeth yntau mewn heddwch.
3:22 Ar hynny, cyrhaeddodd dilynwyr Dafydd gyda Joab; yr oeddent wedi bod ar gyrch, ac yn dwyn llawer o ysbail gyda hwy. Nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron, oherwydd bod Dafydd wedi gadael iddo fynd mewn heddwch.
3:23 Pan gyrhaeddodd Joab a'r holl lu oedd gydag ef, clywodd fod Abner fab Ner wedi bod gyda'r brenin, a'i fod yntau wedi gadael iddo fynd mewn heddwch.
3:24 Aeth Joab at y brenin a dweud, "Beth wyt ti wedi ei wneud? Fe ddaeth Abner yma atat; pam y gadewaist iddo fynd ymaith?
3:25 Yr wyt yn adnabod Abner fab Ner; i'th dwyllo di y daeth, ac i gael gwybod dy holl symudiadau a phopeth yr wyt yn ei wneud."
3:26 Pan aeth Joab allan oddi wrth Ddafydd, anfonodd negeswyr ar ôl Abner, a daethant ag ef yn ôl o ffynnon Sira heb yn wybod i Ddafydd.
3:27 Pan ddychwelodd Abner i Hebron, cymerodd Joab ef o'r neilltu yng nghanol y porth, fel pe bai am siarad yn gyfrinachol ag ef. Ond trawodd ef yn ei fol o achos gwaed ei frawd Asahel, a bu farw yno.

Claddu Abner

3:28 Wedi i'r peth ddigwydd y clywodd Dafydd, a dywedodd, "Dieuog wyf fi a'm teyrnas am byth gerbron yr ARGLWYDD ynglŷn â gwaed Abner fab Ner;
3:29 bydded ei waed ar Joab a'i holl deulu! Na fydded teulu Joab heb aelod diferllyd, neu wahanglwyfus, neu ar ei faglau, neu glwyfedig gan gleddyf, neu brin o fwyd!"
3:30 Yr oedd Joab a'i frawd Abisai wedi llofruddio Abner oherwydd iddo ef ladd eu brawd Asahel yn y frwydr yn Gibeon.
3:31 Dywedodd Dafydd wrth Joab a'r holl bobl oedd gydag ef, "Rhwygwch eich dillad a gwisgwch sachliain a gwnewch alar o flaen Abner." Cerddodd y Brenin Dafydd ar ôl yr elor,
3:32 a chladdwyd Abner yn Hebron. Wylodd y brenin yn uchel uwchben bedd Abner ac yr oedd yr holl bobl yn wylo hefyd.
3:33 Yna canodd y brenin yr alarnad hon am Abner:
3:34 "A oedd raid i Abner farw fel ynfytyn? Nid oedd dy ddwylo wedi eu rhwymo, na'th draed ynghlwm mewn cyffion. Syrthiaist fel un yn syrthio o flaen rhai twyllodrus." Ac yr oedd yr holl bobl yn parhau i wylo drosto.
3:35 Daeth y bobl i gyd i gymell Dafydd i fwyta tra oedd yn olau dydd; ond aeth Dafydd ar ei lw, "Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os cyffyrddaf â bara neu ddim oll cyn machlud haul."
3:36 Cymerodd pawb sylw o hyn, ac yr oedd yn dda ganddynt, fel yr oedd y cwbl a wnâi'r brenin yn dda yng ngolwg yr holl bobl.
3:37 Yr oedd yr holl bobl ac Israel gyfan yn sylweddoli y diwrnod hwnnw nad oedd a wnelo'r brenin ddim â lladd Abner fab Ner.
3:38 Dywedodd y brenin wrth ei ddilynwyr, "Onid ydych yn sylweddoli fod pendefig a gŵr mawr wedi syrthio heddiw yn Israel?
3:39 Er imi gael f'eneinio'n frenin, yr wyf heddiw yn wan, ac y mae'r dynion hyn, meibion Serfia, yn rhy arw i mi; bydded i'r ARGLWYDD dalu i'r sawl sy'n gwneud drwg, yn ôl ei ddrygioni."

Llofruddio Isboseth

4:1 Pan glywodd mab Saul fod Abner wedi marw yn Hebron, digalonnodd, ac yr oedd Israel gyfan mewn dryswch.
4:2 Yr oedd gan fab Saul ddau ddyn yn benaethiaid ar finteioedd; Baana oedd enw un a Rechab oedd enw'r llall. Meibion i Rimmon o Beeroth oeddent, ac aelodau o lwyth Benjamin.
4:3 Ystyrid bod Beeroth yn perthyn i Benjamin, er bod trigolion Beeroth wedi ffoi i Gittaim ac wedi aros yno hyd heddiw fel dyfodiaid.
4:4 Yr oedd mab gan Jonathan fab Saul oedd yn gloff yn ei draed. Pum mlwydd oed ydoedd pan ddaeth y newydd o Jesreel am Saul a Jonathan; cododd ei famaeth ef a ffoi, ond wrth iddi frysio i ffoi, fe syrthiodd ef a chael ei gloffi. Meffiboseth oedd ei enw.
4:5 Aeth Rechab a Baana, meibion Rimmon o Beeroth, i dŷ Isboseth yng ngwres y dydd, tra oedd ef yn gorffwys ganol dydd.
4:6 Yr oedd y wraig a oedd yn cadw drws y tŷ wedi bod yn glanhau gwenith, ond yr oedd wedi hepian a chysgu, a llithrodd Rechab a'i frawd heibio iddi.
4:7 Pan ddaethant i'r tŷ, yr oedd ef yn gorwedd ar ei wely yn ei ystafell gysgu, a thrawsant ef yn farw a thorri ei ben i ffwrdd, ac yna cymryd ei ben a mynd drwy'r nos ar hyd ffordd yr Araba.
4:8 Daethant â phen Isboseth at Ddafydd i Hebron, a dweud wrth y brenin, "Dyma ben Isboseth, mab Saul, dy elyn oedd yn ceisio dy fywyd. Rhoddodd yr ARGLWYDD ddial heddiw i'n harglwydd frenin ar Saul a'i blant."
4:9 Ond atebodd Dafydd Rechab a'i frawd Baana, meibion Rimmon o Beeroth, a dweud, "Cyn wired â bod yr ARGLWYDD, a'm gwaredodd o bob cyfyngdra, yn fyw,
4:10 pan ddaeth un i'm hysbysu fod Saul wedi marw, gan dybio'i fod yn dwyn newydd da, fe gydiais ynddo a'i ladd yn Siclag; dyna a roddais i hwnnw am ei newyddion!
4:11 Pa faint mwy pan fo dynion drwg wedi lladd dyn cyfiawn yn ei gartref, ar ei wely? Oni fyddaf yn awr yn ceisio iawn am ei waed oddi ar eich llaw chwi, a'ch difa oddi ar y ddaear?"
4:12 Rhoddodd Dafydd orchymyn i'w lanciau, a lladdasant hwy, a thorri eu dwylo a'u traed i ffwrdd, a'u crogi wrth y pwll yn Hebron. Yna cymerwyd pen Isboseth a'i gladdu ym meddrod Abner yn Hebron.

Dafydd yn Frenin ar Israel Gyfan, 1Cron. 11:1-9; 14:1-7

5:1 Daeth holl lwythau Israel at Ddafydd i Hebron a dweud wrtho, "Edrych, dy asgwrn a'th gnawd di ydym ni.
5:2 Gynt, pan oedd Saul yn frenin arnom, ti oedd yn arwain Israel allan i ryfel ac yn ôl wedyn; ac fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyt, 'Ti sydd i fugeilio fy mhobl Israel; ti sydd i fod yn dywysog Israel'."
5:3 Yna daeth holl henuriaid Israel i Hebron at y brenin, a gwnaeth y Brenin Dafydd gyfamod â hwy yn Hebron gerbron yr ARGLWYDD, ac eneiniwyd Dafydd yn frenin ar Israel.
5:4 Deng mlwydd ar hugain oed oedd Dafydd pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddeugain mlynedd.
5:5 Yn Hebron teyrnasodd dros Jwda am saith mlynedd a chwe mis; yna yn Jerwsalem fe deyrnasodd dros Israel a Jwda gyfan am dair ar ddeg ar hugain o flynyddoedd.
5:6 Pan aeth Dafydd a'i ddynion i Jerwsalem yn erbyn y Jebusiaid oedd yn byw yn y wlad, dywedasant wrth Ddafydd, "Ni ddoi i mewn yma; bydd deillion a chloffion yn dy droi di'n ôl" — gan dybio nad âi Dafydd i mewn yno.
5:7 Eto fe enillodd Dafydd gaer Seion, sef Dinas Dafydd.
5:8 Y diwrnod hwnnw fe ddywedodd Dafydd, "Pob un sydd am daro'r Jebusiaid, aed i fyny trwy'r siafft ddŵr at y cloffion a'r deillion sy'n gas gan enaid Dafydd." Dyna pam y dywedir, "Ni chaiff y dall na'r cloff ddod i'r deml."
5:9 Pan ymsefydlodd Dafydd yn y gaer, galwodd hi yn Ddinas Dafydd, ac adeiladodd fur o'i chwmpas, o'r Milo at y deml.
5:10 Cynyddodd Dafydd fwyfwy, ac yr oedd ARGLWYDD Dduw y Lluoedd o'i blaid.
5:11 Anfonodd Hiram brenin Tyrus negeswyr at Ddafydd, a hefyd goed cedrwydd a seiri coed a seiri maen, ac adeiladodd y rhain dŷ ar gyfer Dafydd.
5:12 Sylweddolodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ei gadarnhau yn frenin ar Israel, a'i fod wedi dyrchafu ei frenhiniaeth er mwyn ei bobl Israel.
5:13 Wedi iddo ddod o Hebron, cymerodd Dafydd ragor o ordderch-wragedd ac o wragedd o Jerwsalem; a ganed rhagor o feibion ac o ferched iddo.
5:14 Dyma enwau'r rhai a aned iddo yn Jerwsalem: Samua, Sobab, Nathan, Solomon,
5:15 Ibhar, Elisua, Neffeg, Jaffia,
5:16 Elisama, Eliada ac Eliffelet.

Buddugoliaeth dros y Philistiaid, 1Cron. 14:8-17

5:17 Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar Israel, aethant oll i chwilio amdano, ond clywodd ef am hyn ac aeth i lawr i'r gaer.
5:18 Wedi i'r Philistiaid ddod ac ymledu dros ddyffryn Reffaim,
5:19 ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD a dweud, "A af i fyny yn erbyn y Philistiaid? A roi di hwy yn fy llaw?" Atebodd yr ARGLWYDD, "Dos i fyny, oherwydd yn sicr fe roddaf y Philistiaid yn dy law."
5:20 Felly aeth Dafydd i Baal-perasim, a'u taro yno. Ac meddai Dafydd, "Torrodd yr ARGLWYDD drwy fy ngelynion o'm blaen fel toriad dyfroedd." Dyna pam yr enwodd y lle hwnnw, Baal-perasim.
5:21 Yr oedd y Philistiaid wedi gadael eu delwau ar ôl yno, felly dygodd Dafydd a'i wŷr hwy i ffwrdd.
5:22 Ymosododd y Philistiaid unwaith eto, ac ymledu dros ddyffryn Reffaim.
5:23 Ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD a chael yr ateb, "Paid â mynd i fyny, dos ar gylch i'r tu cefn iddynt, a thyrd atynt gyferbyn â'r morwydd.
5:24 Yna, pan glywi sŵn cerdded ym mrig y morwydd, dos yn dy flaen, oherwydd yr adeg honno bydd yr ARGLWYDD yn mynd allan o'th flaen i daro gwersyll y Philistiaid."
5:25 Gwnaeth Dafydd hynny, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, a tharo'r Philistiaid o Geba hyd gyrion Geser.

Dafydd yn Frenin ar Israel Gyfan, 1Cron. 11:1-9; 14:1-7; Dod ag Arch y Cyfamod i Jerwsalem, 1Cron. 13:1-14; 15:25—16:6, 43

6:1 Unwaith eto casglodd Dafydd yr holl wŷr dethol oedd yn Israel, sef deng mil ar hugain,
6:2 ac aeth â'r holl bobl oedd gydag ef i Baalath-jwda, i gyrchu oddi yno arch Duw, a enwir ar ôl ARGLWYDD y Lluoedd sydd â'i orsedd ar y cerwbiaid.
6:3 Rhoesant arch Duw ar fen newydd, a'i chymryd o dŷ Abinadab sydd ar y bryn, ac yr oedd Ussa ac Ahïo, meibion Abinadab, yn tywys y fen newydd.
6:4 Wedi cychwyn gydag arch Duw o dŷ Abinadab sydd ar y bryn, yr oedd Ahïo yn cerdded o flaen yr arch,
6:5 ac yr oedd Dafydd a holl dŷ Israel yn gorfoleddu o flaen yr ARGLWYDD â'u holl ynni, dan ganu â thelynau, nablau, tympanau, sistrymau a symbalau.
6:6 Pan ddaethant at lawr dyrnu Nachon, estynnodd Ussa ei law at arch Duw a gafael ynddi, am fod yr ychen yn ei hysgwyd.
6:7 Enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn Ussa, trawodd Duw ef am yr amarch, a bu farw yno wrth arch Duw.
6:8 Cynhyrfodd Dafydd am fod llid yr ARGLWYDD wedi torri allan yn erbyn Ussa, a galwodd y lle hwnnw Peres Ussa; a dyna'i enw hyd y dydd hwn.
6:9 Yr oedd ofn yr ARGLWYDD ar Ddafydd y diwrnod hwnnw, a dywedodd, "Sut y deuai arch yr ARGLWYDD ataf fi?"
6:10 Ni fynnai Dafydd symud arch yr ARGLWYDD ato i Ddinas Dafydd, ac fe'i trodd i dŷ Obed-edom o Gath.
6:11 Arhosodd arch yr ARGLWYDD yn nhŷ Obed-edom o Gath am dri mis, a bendithiodd yr ARGLWYDD Obed-edom a'i deulu i gyd.
6:12 Pan ddywedwyd wrth y Brenin Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi bendithio teulu Obed-edom a'r cwbl oedd ganddo, o achos arch Duw, fe aeth Dafydd a chymryd arch Duw yn llawen o dŷ Obed-edom i Ddinas Dafydd.
6:13 Pan oedd cludwyr arch yr ARGLWYDD wedi cerdded chwe cham, aberthodd Dafydd ych ac anifail pasgedig.
6:14 Yr oedd Dafydd yn gwisgo effod liain a dawnsiai â'i holl egni o flaen yr ARGLWYDD,
6:15 wrth iddo ef a holl dŷ Israel hebrwng arch yr ARGLWYDD â banllefau a sain utgorn.
6:16 Pan gyrhaeddodd arch yr ARGLWYDD Ddinas Dafydd, yr oedd Michal merch Saul yn edrych drwy'r ffenestr, a gwelodd y Brenin Dafydd yn neidio ac yn dawnsio o flaen yr ARGLWYDD, a dirmygodd ef yn ei chalon.
6:17 Daethant ag arch yr ARGLWYDD a'i gosod yn ei lle yng nghanol y babell a gododd Dafydd iddi, ac offrymodd Dafydd boeth-offrymau a heddoffrymau o flaen yr ARGLWYDD.
6:18 Wedi iddo orffen off-rymu'r poethoffrwm a'r heddoffrymau, bendithiodd y bobl yn enw ARGLWYDD y Lluoedd;
6:19 yna rhannodd fwyd i bawb, torth o fara, darn o gig, a swp o rawnwin i bob gŵr a gwraig o holl dyrfa Israel. Yna aeth pawb adref.
6:20 Pan ddaeth Dafydd yn ôl i gyfarch ei deulu, daeth Michal merch Saul i'w gyfarfod a dweud, "O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yn ei ddinoethi ei hun yng ngolwg morynion ei ddilynwyr, fel rhyw hurtyn yn dangos popeth!"
6:21 Ond meddai Dafydd wrthi, "Yr oedd hyn o flaen yr ARGLWYDD, a'm dewisodd i yn hytrach na'th dad na'r un o'i deulu, a gorchymyn imi fod yn arweinydd i Israel, pobl yr ARGLWYDD; yr wyf am ddangos llawenydd o flaen yr ARGLWYDD.
6:22 Ie, gwnaf fy hun yn fwy dirmygus, ac yn is na hyn yn dy olwg; ond am y morynion hynny y soniaist amdanynt, byddaf yn anrhydeddus ganddynt hwy."
6:23 Bu Michal merch Saul yn ddiblentyn hyd ddydd ei marw.

Neges Nathan i Ddafydd, 1Cron. 17:1-15

7:1 Wedi i'r brenin fynd i fyw i'w dŷ ei hun, ac i'r ARGLWYDD roi llonyddwch iddo oddi wrth ei holl elynion o'i amgylch,
7:2 dywedodd y brenin wrth y proffwyd Nathan, "Edrych yn awr, yr wyf fi'n trigo mewn tŷ o gedrwydd, tra mae arch Duw yn aros mewn pabell."
7:3 Ac meddai Nathan wrth y brenin, "Dos, a gwna bopeth sydd yn dy galon, oherwydd y mae'r ARGLWYDD gyda thi."
7:4 Ond y noson honno daeth gair yr ARGLWYDD at Nathan, gan ddweud,
7:5 "Dos, dywed wrth fy ngwas Dafydd, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: A wyt ti am adeiladu i mi dŷ i breswylio ynddo?
7:6 Yn wir, nid wyf wedi preswylio mewn tŷ o'r diwrnod y dygais yr Israeliaid allan o'r Aifft hyd heddiw; yr oeddwn yn mynd o le i le mewn pabell a thabernacl.
7:7 Ple bynnag y bûm yn teithio gyda'r holl Israeliaid, a fu imi yngan gair wrth unrhyw un o farnwyr Israel, a benodais i fugeilio fy mhobl Israel, a gofyn, "Pam na fyddech wedi adeiladu tŷ o gedrwydd i mi?"'
7:8 Felly, dywed fel hyn wrth fy ngwas Dafydd, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Myfi a'th gymerodd di o'r maes, o ganlyn defaid, i fod yn arweinydd i'm pobl Israel.
7:9 Yr oeddwn gyda thi ple bynnag yr aethost, a dinistriais dy holl elynion o'th flaen, a gwneud iti enw mawr fel eiddo'r mawrion a fu ar y ddaear.
7:10 Ac yr wyf am baratoi lle i'm pobl Israel, a'u plannu, iddynt gael ymsefydlu heb eu tarfu rhagor; ac ni fydd treiswyr yn eu cystuddio eto, fel yn yr adeg gynt,
7:11 pan benodais farnwyr dros fy mhobl Israel; rhoddaf iti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion. Y mae'r ARGLWYDD yn dy hysbysu mai ef, yr ARGLWYDD, fydd yn gwneud tŷ i ti.
7:12 Pan ddaw dy ddyddiau i ben, a thithau'n gorwedd gyda'th hynafiaid, codaf blentyn iti ar dy ôl, un yn hanu ohonot, a gwnaf ei deyrnas yn gadarn.
7:13 Ef fydd yn adeiladu tŷ i'm henw, a gwnaf innau orsedd ei deyrnas yn gadarn am byth.
7:14 Byddaf fi'n dad iddo ef, a bydd yntau'n fab i mi. Pan fydd yn troseddu, ceryddaf ef â gwialen fel y gwna rhywun, ac â chernodiau dynol,
7:15 ond ni chymeraf fy nhrugaredd oddi wrtho, fel y cymerais hi oddi wrth Saul pan symudais ef o'r ffordd o'th flaen.
7:16 Sicrheir dy deulu a'th deyrnas am byth o'm blaen; erys dy orsedd yn gadarn hyd byth.'"
7:17 Dywedodd Nathan wrth Ddafydd y cwbl a ddywedwyd ac a ddangoswyd iddo ef.

Dafydd yn Datgan ei Ddiolch mewn Gweddi, 1Cron. 17:16-27

7:18 Yna aeth y Brenin Dafydd i mewn ac eistedd o flaen yr ARGLWYDD a dweud, "Pwy wyf fi, O Arglwydd DDUW, a phwy yw fy nheulu, dy fod wedi dod â mi hyd yma?
7:19 Ac fel pe byddai hyn eto'n beth bychan yn d'olwg, O Arglwydd DDUW, yr wyt hefyd wedi llefaru ynglŷn â theulu dy was ar gyfer y dyfodol pell, a gwneud hyn yn drefn dragwyddol, O Arglwydd DDUW.
7:20 Beth yn rhagor y medraf fi, Dafydd, ei ddweud wrthyt, a thithau yn adnabod dy was, O Arglwydd DDUW?
7:21 Oherwydd dy addewid, ac yn ôl dy ewyllys, y gwnaethost yr holl fawredd hwn, a'i hysbysu i'th was.
7:22 Mawr wyt ti, O Arglwydd DDUW, oblegid ni chlywodd ein clustiau am neb tebyg i ti, nac am un duw ar wahân i ti.
7:23 A phwy sydd fel dy bobl Israel, cenedl unigryw ar y ddaear? Aeth Duw ei hun i'w phrynu iddo'n bobl, ac i ennill bri iddo'i hun, a gwneud pethau mawr ac ofnadwy er ei mwyn, trwy fwrw allan genhedloedd a'u duwiau o flaen dy bobl, y rhai a brynaist i ti dy hun o'r Aifft.
7:24 Sicrheaist ti dy bobl Israel i fod yn bobl i ti hyd byth; a daethost tithau, O ARGLWYDD, yn Dduw iddynt hwy.
7:25 Yn awr, O ARGLWYDD Dduw, cadarnha hyd byth yr addewid a wnaethost ynglŷn â'th was a'i deulu, a gwna fel y dywedaist.
7:26 Yna, fe fawrheir dy enw hyd byth, a dywedir, 'ARGLWYDD y Lluoedd sydd Dduw ar Israel'; a bydd tŷ dy was Dafydd yn sicr ger dy fron.
7:27 Am i ti, ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, ddatgelu hyn i'th was a dweud, 'Adeiladaf i ti dŷ', fe fentrodd dy was weddïo fel hyn arnat.
7:28 Yn awr, O Arglwydd DDUW, ti sydd Dduw; y mae d'eiriau di yn wir, ac fe addewaist y daioni hwn i'th was.
7:29 Felly'n awr, gwêl yn dda fendithio tŷ dy was, fel y caiff barhau am byth yn dy ŵydd; yn wir, yr wyt ti, O Arglwydd DDUW, wedi addo, a thrwy dy fendith di y bendithir tŷ dy was hyd byth."

Buddugoliaethau Milwrol Dafydd, 1Cron. 18:1-17

8:1 Wedi hyn gorchfygodd Dafydd y Philistiaid a'u darostwng, a chipiodd Metheg-amma oddi arnynt.
8:2 Yna gorchfygodd y Moabiaid, ac wedi gwneud iddynt orwedd ar lawr, fe'u mesurodd â llinyn; mesurodd ddau hyd llinyn i'w lladd, ac un hyd llinyn i'w cadw'n fyw. Felly daeth y Moabiaid yn ddeiliaid i Ddafydd a thalu treth iddo.
8:3 Gorchfygodd Dafydd hefyd Hadadeser fab Rehob, brenin Soba, pan oedd hwnnw ar ei ffordd i ailsefydlu ei awdurdod ar lan afon Ewffrates.
8:4 Cipiodd Dafydd oddi arno fil a saith gant o farchogion ac ugain mil o wŷr traed. Cadwodd Dafydd gant o feirch cerbyd, ond torrodd linynnau gar y lleill i gyd.
8:5 Pan ddaeth Syriaid Damascus i helpu Hadadeser brenin Soba, trawodd Dafydd ddwy fil ar hugain ohonynt.
8:6 Yna gosododd Dafydd garsiynau ymhlith Syriaid Damascus, a daeth y Syriaid yn weision i Ddafydd a thalu treth iddo. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Ddafydd ple bynnag yr âi.
8:7 Cymerodd Dafydd y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, a dygodd hwy i Jerwsalem.
8:8 Hefyd cymerodd y Brenin Dafydd lawer iawn o bres o Beta a Berothai, trefi Hadadeser.
8:9 Pan glywodd Toi brenin Hamath fod Dafydd wedi gorchfygu holl fyddin Hadadeser,
8:10 fe anfonodd ei fab Joram i ddymuno'n dda i'r Brenin Dafydd a'i longyfarch am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser a'i orchfygu; oherwydd bu Hadadeser yn rhyfela'n gyson yn erbyn Toi. Dygodd Joram gydag ef lestri o arian ac o aur ac o bres,
8:11 a chysegrodd y Brenin Dafydd hwy i'r ARGLWYDD, yn ogystal â'r arian a'r aur oddi wrth yr holl genhedloedd yr oedd wedi eu goresgyn —
8:12 Syria, Moab, yr Ammoniaid, y Philistiaid a'r Amaleciaid — a hefyd ysbail Hadadeser fab Rehob, brenin Soba.
8:13 Enillodd Dafydd fri pan ddych-welodd ar ôl gorchfygu deunaw mil o Edomiaid yn Nyffryn yr Halen.
8:14 Gosododd garsiynau yn Edom, a daeth holl Edom yn ddeiliaid i Ddafydd. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugol-iaeth i Ddafydd ple bynnag yr âi.
8:15 Yr oedd Dafydd yn teyrnasu dros Israel gyfan, ac yn gweinyddu barn a chyfiawnder i'w holl bobl.
8:16 Joab fab Serfia oedd dros y fyddin, a Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur.
8:17 Sadoc fab Ahitub, ac Ahimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid, a Seraia yn ysgrifennydd.
8:18 Benaia fab Jehoiada oedd dros y Cerethiaid a'r Pelethiaid, ac yr oedd meibion Dafydd yn offeiriaid.

Dafydd a Meffiboseth

9:1 Meddyliodd Dafydd, "Tybed a oes unrhyw un ar ôl o deulu Saul erbyn hyn, imi wneud caredigrwydd ag ef er mwyn Jonathan?"
9:2 Yr oedd gan deulu Saul was o'r enw Siba, a galwyd ef at Ddafydd. Gofynnodd y brenin iddo, "Ai Siba wyt ti?" Atebodd yntau, "Ie, dyma dy was."
9:3 Yna gofynnodd y brenin, "A oes unrhyw un ar ôl o deulu Saul imi wneud caredigrwydd ag ef yn enw Duw?" Atebodd Siba, "Oes, y mae mab i Jonathan sydd yn gloff yn ei draed."
9:4 Gofynnodd y brenin, "Ple mae ef?" A dywedodd Siba, "Y mae yn Lo-debar, yng nghartref Machir fab Ammiel."
9:5 Anfonodd y Brenin Dafydd a'i gyrchu o Lo-debar, o gartref Machir fab Ammiel.
9:6 Pan gyrhaeddodd Meffiboseth fab Jonathan, fab Saul, syrthiodd ar ei wyneb o flaen Dafydd ac ymgreinio; gofynnodd Dafydd, "Meffiboseth?" ac atebodd yntau, "Ie, dyma dy was."
9:7 Dywedodd Dafydd wrtho, "Paid ag ofni, yr wyf wedi penderfynu gwneud caredigrwydd â thi er mwyn Jonathan dy dad; yr wyf am roi'n ôl i ti holl dir dy daid Saul, ac fe gei di dy fwyd bob dydd wrth fy mwrdd i."
9:8 Moesymgrymodd Meffiboseth a dweud, "Beth yw dy was, dy fod yn troi i edrych ar gi marw fel fi?"
9:9 Yna galwodd y brenin am Siba gwas Saul, a dweud wrtho, "Yr wyf yn rhoi i fab dy feistr bopeth oedd yn perthyn i Saul ac i unrhyw un o'i deulu.
9:10 Yr wyt ti i lafurio'r tir drosto — ti, a'th blant, a'th weision — a dod â'r cynnyrch yn fwyd i deulu dy feistr; ond caiff Meffiboseth, mab dy feistr, ei fwyd bob dydd wrth fy mwrdd i." Yr oedd gan Siba bymtheg o feibion ac ugain gwas.
9:11 Dywedodd Siba wrth y brenin, "Fe wna dy was yn union fel y mae f'arglwydd frenin yn gorchymyn iddo." Bu Meffiboseth yn bwyta wrth fwrdd Dafydd fel un o blant y brenin.
9:12 Yr oedd ganddo fab bach o'r enw Micha. Yr oedd pawb oedd yn byw yn nhŷ Siba yn weision i Meffiboseth.
9:13 Yr oedd Meffiboseth yn byw yn Jerwsalem am ei fod yn cael ei fwyd bob dydd wrth fwrdd y brenin. Yr oedd yn gloff yn ei ddeudroed.

Dafydd yn Gorchfygu'r Ammoniaid a'r Syriaid, 1Cron. 19:1-19

10:1 Wedi hyn bu farw brenin yr Ammoniaid, a daeth Hanun ei fab yn frenin yn ei le.
10:2 Dywedodd Dafydd, "Gwnaf garedigrwydd â Hanun fab Nahas, fel y gwnaeth ei dad â mi." Felly anfonodd neges ato gyda'i weision, i'w gysuro am ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad yr Ammoniaid,
10:3 dywedodd tywysogion yr Ammoniaid wrth eu harglwydd Hanun, "A wyt ti'n tybio mai anrhydeddu dy dad y mae Dafydd wrth anfon cysurwyr atat? Onid er mwyn chwilio'r ddinas a'i hysbïo a'i goresgyn yr anfonodd Dafydd ei weision atat?"
10:4 Yna cymerodd Hanun weision Dafydd, ac eillio hanner barf pob un ohonynt, a thorri gwisg pob un yn ei hanner hyd at ei gluniau, a'u hanfon ymaith.
10:5 Pan ddywedwyd hyn wrth Ddafydd, anfonodd rai i'w cyfarfod, am fod cywilydd mawr ar y dynion, a dweud wrthynt am aros yn Jericho a pheidio â dychwelyd nes y byddai eu barfau wedi tyfu.
10:6 Pan welsant eu bod yn ffiaidd gan Ddafydd, anfonodd yr Ammoniaid a chyflogi ugain mil o wŷr traed oddi wrth y Syriaid yn Beth-rehob a Soba, a hefyd mil o wŷr oddi wrth frenin Maacha a deuddeng mil o wŷr Tob.
10:7 Pan glywodd Dafydd, anfonodd Joab allan gyda'r holl fyddin a'r milwyr.
10:8 Daeth yr Ammoniaid allan a ffurfio rhengoedd ar gyfer y frwydr ger porth y ddinas, gyda Syriaid o Soba a Rehob, a gwŷr Tob a Maacha ar eu pennau eu hunain mewn tir agored.
10:9 Gwelodd Joab y byddai'n gorfod ymladd o'r tu blaen ac o'r tu ôl; felly dewisodd wŷr dethol o fyddin Israel, a'u trefnu'n rhengoedd i wynebu'r Syriaid.
10:10 Gosododd weddill y fyddin dan awdurdod ei frawd Abisai, a'u trefnu'n rhengoedd i wynebu'r Ammoniaid.
10:11 A dywedodd, "Os bydd y Syriaid yn drech na mi, tyrd di i'm cynorthwyo; ond os bydd yr Ammoniaid yn drech na thi, dof finnau i'th gynorthwyo di.
10:12 Bydd yn wrol! Byddwn ddewr dros ein pobl a dinasoedd ein Duw; a bydded i'r ARGLWYDD wneud yr hyn sy'n dda yn ei olwg."
10:13 Yna nesaodd Joab a'r milwyr oedd gydag ef i ryfel yn erbyn y Syriaid, a ffoesant o'i flaen.
10:14 Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid wedi ffoi, ffoesant hwythau o flaen Abisai, a mynd i'r ddinas. Gadawodd Joab ei gyrch yn erbyn yr Ammoniaid, a dychwelodd i Jerwsalem.
10:15 Pan welodd y Syriaid iddynt golli'r dydd o flaen Israel, daethant at ei gilydd eto,
10:16 ac anfonodd Hadadeser i gyrchu'r Syriaid o Tu-hwnt-i'r-Ewffrates hefyd. Daethant ynghyd i Helam, gyda Sobach, pencapten Hadadeser, yn eu harwain.
10:17 Pan ddywedwyd wrth Ddafydd, fe gasglodd ynghyd Israel gyfan, croesodd yr Iorddonen, a dod i Helam. Trefnodd y Syriaid eu rhengoedd yn erbyn Dafydd a rhyfela yn ei erbyn.
10:18 Ffodd y Syriaid o flaen Israel, a lladdodd Dafydd ohonynt saith gant o wŷr cerbyd a deugain mil o farchogion;
10:19 a hefyd fe drawodd Sobach, y pencapten, a bu yntau farw yno. Pan welodd yr holl frenhinoedd oedd dan awdurdod Hadadeser iddynt golli'r dydd o flaen Israel, gwnaethant heddwch ag Israel a phlygu i'w hawdurdod. Wedi hyn ofnai'r Syriaid roi rhagor o gymorth i'r Ammoniaid.

Dafydd a Bathseba Dafydd yn Gorchfygu'r Ammoniaid a'r Syriaid, 1Cron. 19:1-19

11:1 Tua throad y flwyddyn, yr adeg y byddai'r brenhinoedd yn mynd i ryfela, fe anfonodd Dafydd Joab, gyda'i weision ei hun a byddin Israel gyfan, a distrywiasant yr Ammoniaid, a gosod Rabba dan warchae. Ond fe arhosodd Dafydd yn Jerwsalem.
11:2 Un prynhawn yr oedd Dafydd wedi codi o'i wely ac yn cerdded ar do'r palas. Oddi yno gwelodd wraig yn ymolchi, a hithau'n un brydferth iawn.
11:3 Anfonodd Dafydd i holi pwy oedd y wraig, a chael yr ateb, "Onid Bathseba ferch Eliam, gwraig Ureia yr Hethiad, yw hi?"
11:4 Anfonodd Dafydd negeswyr i'w dwyn ato, ac wedi iddi ddod, gorweddodd yntau gyda hi. Yr oedd hi wedi ei glanhau o'i haflendid. Yna dychwelodd hi adref.
11:5 Beichiogodd y wraig, ac anfonodd i hysbysu Dafydd ei bod yn feichiog.
11:6 Anfonodd Dafydd at Joab, "Anfon ataf Ureia yr Hethiad."
11:7 Pan gyrhaeddodd Ureia, holodd Dafydd hynt Joab a hynt y fyddin a'r rhyfel.
11:8 Yna dywedodd Dafydd wrth Ureia, "Dos i lawr adref a golchi dy draed." Pan adawodd Ureia dŷ'r brenin anfonwyd rhodd o fwyd y brenin ar ei ôl.
11:9 Ond gorweddodd Ureia yn nrws y palas gyda gweision ei feistr, ac nid aeth i'w dŷ ei hun.
11:10 Pan fynegwyd wrth Ddafydd nad oedd Ureia wedi mynd adref, dywedodd Dafydd wrth Ureia, "Onid o daith y daethost ti? Pam nad aethost adref?"
11:11 Atebodd Ureia, "Y mae'r arch, ac Israel a Jwda hefyd, yn trigo mewn pebyll, ac y mae f'arglwydd Joab a gweision f'arglwydd yn gwersylla yn yr awyr agored. A wyf fi am fynd adref i fwyta ac yfed, ac i orwedd gyda'm gwraig? Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, ni wnaf y fath beth!"
11:12 Dywedodd Dafydd wrth Ureia, "Aros di yma heddiw eto, ac anfonaf di'n ôl yfory." Felly arhosodd Ureia yn Jerwsalem y diwrnod hwnnw.
11:13 A thrannoeth gwahoddodd Dafydd ef i fwyta ac yfed gydag ef, a gwnaeth ef yn feddw. Pan aeth allan gyda'r nos, gorweddodd ar ei wely gyda gweision ei feistr, ac nid aeth adref.
11:14 Felly yn y bore ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab a'i anfon gydag Ureia.
11:15 Ac yn y llythyr yr oedd wedi ysgrifennu, "Rhowch Ureia ar flaen y gad lle mae'r frwydr boethaf; yna ciliwch yn ôl oddi wrtho, er mwyn iddo gael ei daro'n farw."
11:16 Pan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, gosododd Ureia yn y lle y gwyddai fod ymladdwyr dewr.
11:17 A phan ddaeth milwyr y ddinas allan ac ymladd yn erbyn Joab, syrthiodd rhai o weision Dafydd yn y fyddin, a bu farw Ureia yr Hethiad hefyd.
11:18 Yna anfonodd Joab i hysbysu holl hanes y frwydr i Ddafydd.
11:19 Gorchmynnodd i'r negesydd, "Wedi iti orffen dweud holl hanes y frwydr wrth y brenin,
11:20 yna os bydd y brenin yn llidio ac yn dweud wrthyt: 'Pam yr aethoch mor agos at y ddinas i ryfela? Onid oeddech yn gwybod y byddent yn saethu oddi ar y mur?
11:21 Pwy laddodd Abimelech fab Jerwbbeseth? Onid gwraig yn gollwng maen melin arno oddi ar y mur yn Thebes, ac yntau'n marw? Pam yr aethoch mor agos at y mur?' — yna dywed tithau, 'Y mae dy was Ureia yr Hethiad hefyd wedi marw'."
11:22 Aeth y negesydd, a dod ac adrodd wrth Ddafydd y cwbl yr anfonodd Joab ef i'w ddweud.
11:23 Yna dywedodd y negesydd wrth Ddafydd, "Pan ymwrolodd y milwyr yn ein herbyn, a dod allan atom i'r maes agored, aethom ninnau yn eu herbyn hwy hyd at fynedfa'r porth,
11:24 a saethodd y saethwyr at dy weision oddi ar y mur, a bu farw rhai o weision y brenin, ac y mae dy was Ureia yr Hethiad hefyd wedi marw."
11:25 Yna dywedodd Dafydd wrth y negesydd, "Dywed fel hyn wrth Joab, 'Paid â gofidio am y peth hwn, oherwydd y mae'r cleddyf yn difa weithiau yma, weithiau acw; brwydra'n galetach yn erbyn y ddinas a distrywia hi'. Calonoga ef fel hyn."
11:26 Pan glywodd gwraig Ureia fod ei gŵr wedi marw, galarodd am ei phriod.
11:27 Ac wedi i'r cyfnod galaru fynd heibio, anfonodd Dafydd a'i chymryd i'w dŷ, a daeth hi'n wraig iddo ef, a geni mab iddo. Ond yr oedd yr hyn a wnaeth Dafydd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

Neges Nathan ac Edifeirwch Dafydd

12:1 Anfonodd yr ARGLWYDD y proffwyd Nathan at Ddafydd; a phan ddaeth, dywedodd wrtho: "Yr oedd dau ddyn mewn rhyw dref, un yn gyfoethog a'r llall yn dlawd.
12:2 Yr oedd gan yr un cyfoethog lawer iawn o ddefaid ac ychen;
12:3 ond nid oedd dim gan yr un tlawd, ar wahân i un oenig fechan yr oedd wedi ei phrynu a'i magu, a thyfodd i fyny ar ei aelwyd gyda'i blant, yn bwyta o'r un tamaid ag ef, yn yfed o'r un cwpan, ac yn cysgu yn ei gôl; yr oedd fel merch iddo.
12:4 Pan ddaeth ymwelydd at y dyn cyfoethog, gofalodd hwnnw beidio â chymryd yr un o'i ddefaid na'i ychen ei hun i wneud pryd i'r teithiwr oedd wedi cyrraedd, yn hytrach fe gymerodd oenig y dyn tlawd a'i pharatoi ar gyfer y sawl a ddaeth ato."
12:5 Enynnodd dig Dafydd yn fawr yn erbyn y dyn, a dywedodd wrth Nathan, "Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, y mae'r dyn a wnaeth hyn yn haeddu marw!
12:6 Rhaid iddo dalu'r oen yn ôl bedair gwaith am wneud y fath beth ac am beidio â dangos trugaredd."
12:7 Dywedodd Nathan wrth Ddafydd, "Ti yw'r dyn. Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel, 'Fe'th eneiniais di yn frenin ar Israel, ac fe'th waredais o law Saul;
12:8 rhois iti dŷ dy feistr a gwragedd dy feistr yn dy fynwes, a rhois iti hefyd dŷ Israel a Jwda. A phe buasai hynny'n rhy ychydig, buaswn wedi ychwanegu cymaint eto.
12:9 Pam yr wyt wedi dirmygu gair yr ARGLWYDD drwy wneud yr hyn sydd ddrwg yn ei olwg? Yr wyt wedi lladd Ureia yr Hethiad â'r cleddyf, a chymryd ei wraig yn wraig i ti, wedi iti ei lofruddio ef â chleddyf yr Ammoniaid.
12:10 Bellach ni thry'r cleddyf oddi wrth dy dŷ hyd byth, gan i ti fy nirmygu i a chymryd gwraig Ureia yr Hethiad yn wraig i ti.'
12:11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Wele fi'n codi yn dy erbyn ddrwg o blith dy deulu dy hun; o flaen dy lygad cymeraf dy wragedd a'u rhoi i'th gymydog, a bydd ef yn gorwedd gyda'th wragedd di yn llygad yr haul hwn.
12:12 Yn llechwraidd y gweithredaist ti, ond fe wnaf fi'r peth hwn yng ngŵydd Israel gyfan ac yn wyneb haul.'"
12:13 Yna dywedodd Dafydd wrth Nathan, "Yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD." Ac meddai Nathan wrth Ddafydd, "Y mae'r ARGLWYDD yntau wedi troi dy bechod heibio; ni fyddi farw.
12:14 Ond oherwydd iti lwyr ddiystyru'r ARGLWYDD yn y mater hwn, yn ddi-os bydd farw y bachgen a enir iti."

Marw Mebyn Dafydd, a Geni Solomon

12:15 Wedi i Nathan fynd adref, trawodd yr ARGLWYDD y plentyn a ymddûg gwraig Ureia i Ddafydd, a chlafychodd.
12:16 Ymbiliodd Dafydd â Duw dros y bachgen; ymprydiodd, a mynd a threulio'r nos yn gorwedd ar lawr.
12:17 Pan geisiodd henuriaid ei dŷ ei godi oddi ar lawr, ni fynnai godi ac ni fwytâi fara gyda hwy.
12:18 Ar y seithfed dydd bu farw'r plentyn, ond yr oedd gweision Dafydd yn ofni dweud wrtho ei fod wedi marw. "Gwelwch," meddent, "tra oedd y plentyn yn fyw, nid oedd yn gwrando arnom, er inni siarad ag ef; sut y dywedwn wrtho fod y plentyn wedi marw? Gallai wneud rhyw niwed iddo'i hun."
12:19 Pan welodd Dafydd fod ei weision yn sibrwd ymhlith ei gilydd, deallodd fod y plentyn wedi marw; felly dywedodd Dafydd wrth ei weision, "A yw'r plentyn wedi marw?" "Ydyw," meddent hwythau.
12:20 Yna cododd Dafydd oddi ar lawr, ac ymolchi a'i eneinio'i hun a newid ei ddillad; ac aeth i dŷ Dduw i addoli. Wedyn aeth i'w dŷ a gofyn am fwyd; ac wedi iddynt ei osod iddo, fe fwytaodd.
12:21 Gofynnodd ei weision iddo, "Beth yw hyn yr wyt yn ei wneud? Tra oedd y plentyn yn fyw, yr oeddit yn ymprydio ac yn wylo; ond wedi i'r plentyn farw, yr wyt wedi codi a bwyta."
12:22 Eglurodd yntau, "Tra oedd y plentyn yn dal yn fyw, yr oeddwn yn ymprydio ac yn wylo am fy mod yn meddwl, 'Pwy a ŵyr a fydd yr ARGLWYDD yn trugarhau wrthyf, ac y bydd y plentyn fyw?'
12:23 Ond erbyn hyn y mae wedi marw; pam felly y dylwn ymprydio? A fedraf fi ddod ag ef yn ôl? Byddaf fi'n mynd ato ef, ond ni ddaw ef yn ôl ataf fi."
12:24 Cysurodd Dafydd ei wraig Bathseba, ac aeth i mewn ati a gorwedd gyda hi; esgorodd hithau ar fab, a'i alw'n Solomon. Hoffodd yr ARGLWYDD ef,
12:25 ac anfonodd neges drwy law'r proffwyd Nathan i'w enwi yn Jedidia oblegid yr ARGLWYDD.

Dafydd yn Meddiannu Rabba, 1Cron. 20:1-3

12:26 Ymosododd Joab ar Rabba'r Ammoniaid, a chipiodd ddinas y brenin.
12:27 Anfonodd Joab negeswyr at Ddafydd a dweud, "Yr wyf wedi ymosod ar Rabba, ac wedi cipio'r gronfa ddŵr.
12:28 Yn awr, casgla weddill y fyddin a gwersylla yn erbyn y ddinas a'i hennill, rhag i mi gipio'r ddinas ac iddi gael ei galw ar f'enw i."
12:29 Casglodd Dafydd y fyddin gyfan, ac aeth i Rabba ac ymladd yn ei herbyn a'i hennill.
12:30 Cymerodd goron eu brenin oddi ar ei ben — yr oedd yn pwyso talent o aur, a gem gwerthfawr ynddi — a rhoed hi ar ben Dafydd. Dygodd o'r ddinas lawer o ysbail,
12:31 ac aeth â'r bobl oedd ynddi a'u gosod i lafurio â llifiau a cheibiau heyrn a bwyeill heyrn, a hefyd i weithio priddfeini. Gwnaeth Dafydd yr un modd â holl drefi'r Ammoniaid, ac yna dychwelodd ef a'r holl fyddin i Jerwsalem.

Amnon a Tamar

13:1 Yr oedd gan Absalom fab Dafydd chwaer brydferth o'r enw Tamar, a syrthiodd Amnon, un arall o feibion Dafydd, mewn cariad â hi.
13:2 Poenodd Amnon nes ei fod yn glaf o achos ei chwaer Tamar; oherwydd yr oedd hi yn wyryf, ac nid oedd yn bosibl yng ngolwg Amnon iddo wneud dim iddi.
13:3 Ond yr oedd ganddo gyfaill o'r enw Jonadab, mab Simea brawd Dafydd, ac yr oedd Jonadab yn ddyn cyfrwys iawn.
13:4 Gofynnodd hwn iddo, "Pam yr wyt ti'n nychu fel hyn o ddydd i ddydd, O fab y brenin? Oni ddywedi di wrthyf?" Atebodd Amnon, "Yr wyf mewn cariad â Tamar, chwaer fy mrawd Absalom."
13:5 Yna dywedodd Jonadab wrtho, "Gorwedd ar dy wely a chymer arnat dy fod yn glaf; a phan ddaw dy dad i'th weld, dywed wrtho, 'Gad i'm chwaer Tamar ddod i roi bwyd imi, a pharatoi'r bwyd yn fy ngolwg, er mwyn i mi gael gweld a bwyta o'i llaw hi.'"
13:6 Felly aeth Amnon i'w wely a chymryd arno ei fod yn glaf; a phan ddaeth y brenin i'w weld, dywedodd Amnon wrtho, "Gad i'm chwaer Tamar ddod a gwneud cwpl o deisennau bach o flaen fy llygaid, fel y caf fwyta o'i llaw."
13:7 Anfonodd Dafydd at Tamar i'r palas a dweud, "Dos yn awr i dŷ dy frawd Amnon a pharatoa fwyd iddo."
13:8 Fe aeth Tamar i dŷ ei brawd Amnon, ac yntau yn ei wely; cymerodd does, a'i dylino a gwneud teisennau bach o flaen ei lygaid, a'u crasu.
13:9 Yna cymerodd y badell a'u gosod o'i flaen. Ond gwrthododd Amnon fwyta, a gorchmynnodd iddynt anfon pawb allan.
13:10 Wedi i bawb fynd allan, dywedodd Amnon wrth Tamar, "Tyrd â'r bwyd i'r siambr imi gael bwyta o'th law." Felly cymerodd Tamar y teisennau a baratôdd, a mynd â hwy at Amnon ei brawd i'r siambr;
13:11 ond pan gynigiodd hwy iddo i'w bwyta, ymaflodd ynddi, a dweud wrthi, "Tyrd, fy chwaer, gorwedd gyda mi."
13:12 Dywedodd hithau wrtho, "Na, fy mrawd, paid â'm treisio, oherwydd ni wneir fel hyn yn Israel; paid â gwneud peth mor ffôl.
13:13 Amdanaf fi, i ble y gallwn fynd â'm gwarth? A byddit tithau fel un o'r ffyliaid yn Israel. Dos i ofyn i'r brenin, oherwydd ni fyddai'n gwrthod fy rhoi iti."
13:14 Ond gwrthododd wrando arni, a threchodd hi a'i threisio a gorwedd gyda hi.
13:15 Yna casaodd Amnon hi â chas perffaith; yn wir yr oedd ei gasineb tuag ati yn fwy na'r cariad a fu ganddo, a dywedodd wrthi, "Cod a dos."
13:16 Dywedodd hithau, "Na, oherwydd y mae fy ngyrru i ffwrdd yn waeth cam na'r llall a wnaethost â mi." Ni fynnai ef wrando arni,
13:17 ond galwodd am y llanc oedd yn gweini arno, a dweud, "Gyrrwch hon i ffwrdd oddi wrthyf, a chloi'r drws ar ei hôl."
13:18 Yr oedd ganddi fantell amryliw amdani, oherwydd dyna sut yr arferai tywysogesau dibriod wisgo. Pan drodd ei was hi allan a chloi'r drws ar ei hôl,
13:19 taflodd Tamar ludw drosti ei hun, rhwygo'i mantell amryliw, gosod ei llaw ar ei phen, a mynd allan gan lefain.
13:20 Gofynnodd ei brawd Absalom iddi, "Ai dy frawd Amnon a fu gyda thi? Taw, yn awr, fy chwaer; dy frawd yw ef, paid â phoeni'n ormodol am hyn." Ond arhosodd Tamar yn alarus yng nghartref ei brawd Absalom.
13:21 Pan glywodd y brenin Dafydd am hyn i gyd, bu'n ddig iawn, ond ni wastrododd ei fab Amnon, am ei fod yn ei garu, oherwydd ef oedd ei gyntafanedig.
13:22 Ni ddywedodd Absalom air wrth Amnon na drwg na da; ond yr oedd Absalom yn casáu Amnon am iddo dreisio ei chwaer Tamar.

Dial Absalom

13:23 Ymhen dwy flynedd yr oedd yn ddiwrnod cneifio gan Absalom yn Baal-hasor ger Effraim, ac fe estynnodd wahoddiad i holl feibion y brenin.
13:24 Aeth Absalom at y brenin hefyd, a dweud, "Edrych, y mae gan dy was ddiwrnod cneifio; doed y brenin a'i weision yno gyda'th was."
13:25 Ond meddai'r brenin wrth Absalom, "Na, na, fy mab, ni ddown i gyd, rhag bod yn ormod o faich arnat." Ac er iddo grefu, gwrthododd fynd; ond rhoes ei fendith iddo.
13:26 Yna dywedodd Absalom, "Os na ddoi di, gad i'm brawd Amnon ddod gyda ni." Gofynnodd y brenin, "Pam y dylai ef fynd gyda thi?"
13:27 Ond wedi i Absalom grefu arno, fe anfonodd gydag ef Amnon a holl feibion y brenin.
13:28 Yna huliodd Absalom wledd frenhinol, a gorchymyn i'w lanciau, "Edrychwch, pan fydd Amnon yn llawen gan win, a minnau'n dweud, 'Tarwch Amnon', yna lladdwch ef. Peidiwch ag ofni; onid wyf fi wedi gorchymyn i chwi? Byddwch yn wrol a dewr."
13:29 Gwnaeth y llanciau i Amnon yn ôl gorchymyn Absalom, a neidiodd holl feibion y brenin ar gefn eu mulod a ffoi.
13:30 Tra oeddent ar y ffordd, daeth si i glyw Dafydd fod Absalom wedi lladd holl feibion y brenin, heb adael yr un ohonynt.
13:31 Cododd y brenin a rhwygo'i ddillad; yna gorweddodd ar lawr, a'i holl weision yn sefyll o'i gwmpas â'u dillad wedi eu rhwygo.
13:32 Yna meddai Jonadab mab Simea brawd Dafydd, "Peidied f'arglwydd â meddwl eu bod wedi lladd y bechgyn, meibion y brenin, i gyd; Amnon yn unig sydd wedi marw. Y mae hyn wedi bod ym mwriad Absalom o'r dydd y treisiodd ei chwaer Tamar.
13:33 Peidied f'arglwydd yn awr â chymryd y peth at ei galon, fel petai holl feibion y brenin wedi marw; Amnon yn unig sy'n farw,
13:34 ac y mae Absalom wedi ffoi." Fel yr oedd y llanc oedd ar wyliadwriaeth yn edrych allan, gwelodd dwr o bobl yn dod i lawr o gyfeiriad Horonaim. Aeth y gwyliwr a dweud wrth y brenin ei fod wedi gweld dynion yn dod o gyfeiriad Horonaim ar hyd ochr y mynydd.
13:35 Dywedodd Jonadab wrth y brenin, "Dacw feibion y brenin yn dod. Y mae wedi digwydd fel y dywedodd dy was."
13:36 Ac fel yr oedd yn gorffen siarad, dyma feibion y brenin yn cyrraedd ac yn torri allan i wylo, nes bod y brenin hefyd a'i holl weision yn wylo'n chwerw.
13:37 Ffodd Absalom, a mynd at Talmai fab Ammihur brenin Gesur; ac yr oedd Dafydd yn parhau i alaru ar ôl ei fab.
13:38 Wedi i Absalom ffoi a chyrraedd Gesur, arhosodd yno am dair blynedd.
13:39 Yna cododd hiraeth ar y Brenin Dafydd am Absalom, unwaith yr oedd wedi ei gysuro am farwolaeth Amnon.

Joab yn Trefnu i Absalom Ddychwelyd

14:1 Yr oedd Joab fab Serfia yn gwybod fod calon Dafydd yn troi at Absalom.
14:2 Felly anfonodd Joab i Tecoa a chymryd oddi yno wraig ddoeth, a dywedodd wrthi, "Cymer arnat alaru a gwisg ddillad galar, a phaid â'th eneinio dy hun; bydd fel gwraig sydd ers amser maith yn galaru am y marw.
14:3 A dos at y brenin, a dywed fel hyn wrtho" — a gosododd Joab y geiriau yn ei genau.
14:4 Aeth y wraig o Tecoa at y brenin, a syrthiodd ar ei hwyneb i'r llawr a moesymgrymu; yna dywedodd, "Rho help, O frenin."
14:5 Gofynnodd y brenin iddi, "Beth sy'n dy boeni?" Dywedodd hithau, "Gwraig weddw wyf fi a'm gŵr wedi marw.
14:6 Yr oedd gan dy lawforwyn ddau fab, ond cwerylodd y ddau allan yn y wlad, heb neb i'w gwahanu; a thrawodd un ohonynt y llall, a'i ladd.
14:7 Ac yn awr y mae'r holl dylwyth wedi codi yn erbyn dy lawforwyn, a dweud, 'Rho inni'r hwn a laddodd ei frawd, er mwyn inni ei ladd am fywyd y brawd a lofruddiodd; a difethwn yr etifedd hefyd.' Felly byddant yn diffodd y marworyn sydd ar ôl gennyf, fel na adewir i'm gŵr nac enw nac epil ar wyneb daear."
14:8 Dywedodd y brenin wrth y wraig, "Dos di adref, ac fe roddaf orchymyn yn dy gylch."
14:9 Atebodd hithau, "Bydded yr euogrwydd arnaf fi, f'arglwydd frenin, ac ar fy nheulu i; a bydded y brenin a'i orsedd yn ddieuog."
14:10 Dywedodd y brenin, "Pwy bynnag fydd yn yngan gair wrthyt, tyrd ag ef ataf fi, ac ni fydd yn dy boeni di byth mwy."
14:11 Atebodd hithau, "Bydded i'r brenin ddwyn hyn i sylw'r ARGLWYDD dy Dduw, rhag i'r dialwr gwaed ddistrywio eto, a rhag iddynt ddifetha fy mab." A dywedodd y brenin, "Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff blewyn o wallt pen dy fab syrthio i'r llawr."
14:12 Yna dywedodd y wraig, "Gad i'th lawforwyn ddweud un gair eto wrth f'arglwydd frenin." Dywedodd yntau, "Dywed."
14:13 Ac meddai'r wraig, "Pam yr wyt wedi cynllunio fel hyn yn erbyn pobl Dduw? Wrth wneud y dyfarniad hwn y mae'r brenin fel un sy'n euog ei hun, am nad yw'n galw'n ôl yr un a alltudiodd.
14:14 Rhaid inni oll farw; yr ydym fel dŵr a dywelltir ar lawr ac ni ellir ei gasglu eto. Nid yw Duw yn adfer bywyd, ond y mae'n cynllunio ffordd rhag i'r alltud barhau'n alltud.
14:15 Yn awr, y rheswm y deuthum i ddweud y neges hon wrth f'arglwydd frenin oedd fod y bobl wedi codi ofn arnaf; a phenderfynodd dy lawforwyn, 'Fe siaradaf â'r brenin; efallai y bydd yn gwneud dymuniad ei forwyn.
14:16 Y mae'n siŵr y gwrendy'r brenin, ac y bydd yn achub ei lawforwyn o law'r sawl sydd am fy nistrywio i a'm mab hefyd o etifeddiaeth Dduw.'
14:17 Meddyliodd dy lawforwyn hefyd y byddai gair f'arglwydd frenin yn gysur, oherwydd y mae f'arglwydd frenin fel angel Duw, yn medru dirnad rhwng da a drwg. Bydded yr ARGLWYDD dy Dduw gyda thi."
14:18 Dywedodd y brenin wrth y wraig, "Paid â chelu oddi wrthyf un peth yr wyf am ei ofyn iti." Atebodd hithau, "Gofyn di, f'arglwydd frenin."
14:19 Yna gofynnodd y brenin, "A yw llaw Joab gyda thi yn hyn i gyd?" Atebodd y wraig, "Cyn wired â bod f'arglwydd frenin yn fyw, nid oes modd osgoi yr hyn a ddywedodd f'arglwydd frenin, ie, dy was Joab a roddodd orchymyn imi, ac ef a osododd y geiriau hyn i gyd yng ngenau dy lawforwyn.
14:20 Er mwyn rhoi agwedd wahanol ar y peth y gwnaeth dy was Joab hyn, ond y mae f'arglwydd cyn galled ag angel Duw i ddeall popeth ar wyneb daear."

Cymodi Dafydd ac Absalom

14:21 Dywedodd y brenin wrth Joab, "Edrych, yr wyf am wneud hyn; felly, dos a thyrd â'r llanc Absalom yn ôl."
14:22 Syrthiodd Joab ar ei wyneb i'r llawr, a moesymgrymodd a bendithio'r brenin, a dweud, "Fe ŵyr dy was heddiw imi ennill ffafr yn dy olwg, f'arglwydd frenin, am iti wneud dymuniad dy was."
14:23 Aeth Joab ar unwaith i Gesur, a dod ag Absalom yn ôl i Jerwsalem.
14:24 Ond dywedodd y brenin, "Aed i'w dŷ ei hun; ni chaiff weld fy wyneb i." Felly aeth Absalom i'w dŷ ac ni welodd wyneb y brenin.
14:25 Trwy Israel gyfan nid oedd neb y gellid ei ganmol am ei harddwch fel Absalom; nid oedd mefl arno o wadn ei droed hyd ei gorun.
14:26 Byddai'n eillio'i ben ar ddiwedd pob blwyddyn am fod ei wallt mor drwm, a phan bwysai'r gwallt oedd wedi ei eillio oddi ar ei ben, pwysai ddau can sicl yn ôl safon y brenin.
14:27 Ganwyd i Absalom dri mab, ac un ferch, o'r enw Tamar; yr oedd honno'n ferch brydferth.
14:28 Arhosodd Absalom yn Jerwsalem am ddwy flynedd gyfan heb weld wyneb y brenin.
14:29 Yna anfonodd am Joab, er mwyn iddo'i anfon at y brenin, ond nid oedd yn fodlon dod. Anfonodd eilwaith, ond yr oedd yn gwrthod dod.
14:30 Yna dywedodd wrth ei weision, "Edrychwch, y mae llain Joab yn ffinio ar f'un i, ac y mae haidd ganddo yno; ewch a rhowch hi ar dân." A dyna weision Absalom yn rhoi'r llain ar dân.
14:31 Aeth Joab ar unwaith at Absalom i'w dŷ, a gofyn iddo, "Pam y mae dy weision wedi rhoi fy llain i ar dân?"
14:32 Ac meddai Absalom wrth Joab, "Edrych, fe anfonais atat a dweud, 'Tyrd yma imi dy anfon di at y brenin i ofyn pam y deuthum yn ôl o Gesur; byddai'n well arnaf pe bawn wedi aros yno.' Yn awr yr wyf am weld wyneb y brenin, ac os oes camwedd ynof, lladded fi."
14:33 Yna daeth Joab at y brenin ac adrodd yr hanes wrtho, a galwodd yntau Absalom ato; ac wedi iddo ddod at y brenin, moesymgrymodd iddo â'i wyneb i'r llawr o flaen y brenin, a rhoddodd y brenin gusan i Absalom.

Absalom yn Cynllwynio Gwrthryfel

15:1 Wedi hyn darparodd Absalom iddo'i hun gerbyd a meirch, a hanner cant o ddynion i redeg o'i flaen.
15:2 Codai'n fore, a sefyll ar ochr y ffordd at borth y ddinas, a phan fyddai unrhyw un yn dod ag achos at y brenin am ddedfryd, byddai Absalom yn ei alw ato ac yn holi, "O ba dref yr wyt ti?" A byddai hwnnw'n ateb, "O un o lwythau Israel y mae dy was."
15:3 Yna byddai Absalom yn dweud, "Edrych, y mae dy achos yn un da a chryf, ond ni chei wrandawiad gan y brenin."
15:4 Ac ychwanegai Absalom, "O na fyddwn i yn cael fy ngosod yn farnwr dros y wlad! Yna byddai pob un â chŵyn neu achos ganddo yn dod ataf fi, a byddwn i yn sicrhau cyfiawnder iddo."
15:5 Pan fyddai unrhyw un yn agosáu i ymgrymu iddo, byddai ef yn estyn ei law, yn gafael ynddo ac yn ei gusanu.
15:6 Fel hyn y byddai Absalom yn ymddwyn tuag at bob Israeliad oedd yn dod at y brenin am ddedfryd, a denodd fryd pobl Israel.
15:7 Wedi pedair blynedd dywedodd Absalom wrth y brenin, "Gad imi fynd i Hebron a thalu'r adduned a wneuthum i'r ARGLWYDD;
15:8 oherwydd pan oeddwn yn byw yn Gesur yn Syria, gwnaeth dy was yr adduned hon, 'Os byth y daw'r ARGLWYDD â mi yn ôl i Jerwsalem, fe addolaf yr ARGLWYDD.'"
15:9 Dywedodd y brenin, "Dos mewn heddwch!" Aeth yntau i ffwrdd i Hebron.
15:10 Yr oedd Absalom wedi anfon negeswyr drwy holl lwythau Israel a dweud wrthynt, "Pan glywch sain yr utgorn, cyhoeddwch, 'Y mae Absalom wedi dod yn frenin yn Hebron.'"
15:11 Aeth deucant o wŷr gydag Absalom o Jerwsalem; yr oeddent wedi eu gwahodd, ac yn mynd yn gwbl ddiniwed, heb wybod dim byd.
15:12 Anfonodd Absalom hefyd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorydd Dafydd, i ddod o'i dref, Gilo, i fod gydag ef wrth offrymu'r ebyrth. Yr oedd y cynllwyn yn cynyddu, a'r bobl oedd o blaid Absalom yn dal i amlhau.

Dafydd yn Ffoi o Jerwsalem

15:13 Daeth rhywun a dweud wrth Ddafydd fod bryd pobl Israel ar Absalom,
15:14 a dywedodd Dafydd wrth ei holl weision oedd gydag ef yn Jerwsalem, "Codwch, inni gael ffoi; onid e, ni fydd modd inni ddianc rhag Absalom; brysiwch oddi yma rhag iddo ef ymosod yn sydyn arnom a pheri niwed inni, a tharo'r ddinas â'r cleddyf."
15:15  Dywedodd gweision y brenin wrtho, "Beth bynnag yw penderfyniad ein harglwydd frenin, y mae dy weision yn barod."
15:16 Yna ymadawodd y brenin, a'i deulu i gyd yn ei ganlyn, gan adael deg o'r gordderchwragedd i ofalu am y tŷ.
15:17 Wedi i'r brenin a'r holl fintai oedd yn ei ganlyn fynd allan, safodd ger y tŷ pellaf.
15:18 A safodd ei weision gerllaw iddo, tra oedd y Cerethiaid a'r Pelethiaid i gyd, a'r holl Gethiaid, sef y chwe chant o wŷr oedd wedi dod o Gath i'w ganlyn, yn croesi gerbron y brenin.
15:19 Gofynnodd y brenin i Itai y Gethiad, "Pam yr wyt ti'n dod gyda ni? Dos yn ôl ac aros gyda'r brenin newydd, oherwydd dieithryn wyt ti, ac alltud oddi cartref.
15:20 Ddoe y daethost ti; a wnaf fi iti grwydro heddiw gyda ni ar daith, a minnau heb wybod i ble'r wyf yn mynd? Dos yn ôl, a dos â'th gymrodyr gyda thi; a bydded i'r ARGLWYDD ddangos iti drugaredd a ffyddlondeb."
15:21 Atebodd Itai a dweud wrth y brenin, "Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, f'arglwydd frenin, ple bynnag yr â f'arglwydd frenin, i farw neu i fyw, yno'n sicr y bydd dy was hefyd."
15:22 Yna dywedodd Dafydd wrth Itai, "Dos ymlaen, ynteu." Felly aeth Itai y Gethiad yn ei flaen, a'i holl bobl a'r holl blant oedd gydag ef.
15:23 Yr oedd sŵn wylo mawr trwy'r holl wlad pan oedd y bobl yn croesi. Safodd y brenin wrth nant Cidron nes i'r bobl i gyd fynd drosodd i gyfeiriad yr anialwch.
15:24 Yr oedd Sadoc yno hefyd, a'r holl Lefiaid oedd gydag ef yn cario arch cyfamod Duw. Wedi iddynt osod arch Duw i lawr, bu Abiathar yn offrymu nes i'r bobl i gyd ymadael â'r ddinas.
15:25 Yna dywedodd y brenin wrth Sadoc, "Dos ag arch Duw yn ôl i'r ddinas; os caf ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD, fe ddaw â mi yn ôl, a gadael imi ei gweld hi a'i chartref.
15:26 Ond os dywed fel hyn, 'Nid oes arnaf d'eisiau,' dyma fi; caiff wneud fel y myn â mi."
15:27 Hefyd dywedodd y brenin wrth Sadoc yr offeiriad, "Edrych, fe elli di ac Abiathar ddychwelyd yn ddiogel i'r ddinas, a'ch dau fab gyda chwi, Ahimaas dy fab di a Jonathan, mab Abiathar.
15:28 Edrychwch, fe oedaf wrth rydau'r anialwch hyd nes y caf air oddi wrthych i'm hysbysu."
15:29 Felly dygodd Sadoc ac Abiathar arch Duw yn ôl i Jerwsalem, ac aros yno.
15:30 Dringodd Dafydd lethr Mynydd yr Olewydd dan wylo a chuddio'i ben a cherdded yn droednoeth. Yr oedd yr holl bobl oedd gydag ef hefyd yn dringo gan guddio'u pennau ac wylo.
15:31 Dywedwyd wrth Ddafydd fod Ahitoffel ymysg y cynllwynwyr gydag Absalom, a gweddïodd Dafydd, "O ARGLWYDD, tro gyngor Ahitoffel yn ffolineb."
15:32 Pan gyrhaeddodd Dafydd y copa, lle byddid yn addoli Duw, dyma Husai yr Arciad yn dod i'w gyfarfod â'i fantell wedi ei rhwygo a phridd ar ei ben.
15:33 Meddai Dafydd wrtho, "Os doi di gyda mi, byddi'n faich arnaf;
15:34 ond os ei di'n ôl i'r ddinas a dweud wrth Absalom, 'Dy was di wyf fi, f'arglwydd frenin; gwas dy dad oeddwn gynt, ond dy was di wyf yn awr', yna gelli ddrysu cyngor Ahitoffel drosof.
15:35 Bydd gennyt yr offeiriaid Sadoc ac Abiathar gyda thi yno; yr wyt i ddweud wrthynt hwy bob gair a glywi o dŷ'r brenin,
15:36 oherwydd y mae'r ddau fachgen, Ahimaas fab Sadoc a Jonathan fab Abiathar, yno gyda hwy, ac fe gewch anfon ataf trwyddynt hwy bob dim a glywch."
15:37 Daeth Husai, cyfaill Dafydd, i'r ddinas fel yr oedd Absalom yn cyrraedd Jerwsalem.

Dafydd a Siba

16:1 Wedi i Ddafydd fynd ychydig heibio i gopa'r mynydd, dyma Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod â chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo yn cario dau gan torth o fara, can swp o rawnwin, cant o ffrwythau haf a photel o win.
16:2 Dywedodd y brenin wrth Siba, "Beth yw'r rhain sydd gennyt?" Atebodd Siba, "Y mae'r asynnod ar gyfer teulu'r brenin i'w marchogaeth, y bara a'r ffrwythau i'r bechgyn i'w bwyta, a'r gwin i'w yfed gan unrhyw un fydd yn lluddedig yn yr anialwch."
16:3 Holodd y brenin, "Ond ymhle y mae ŵyr dy feistr?" Atebodd Siba, "Y mae ef wedi aros yn Jerwsalem, oblegid y mae'n meddwl y bydd yr Israeliaid yn awr yn dychwelyd teyrnas ei daid iddo."
16:4 Dywedodd y brenin wrth Siba, "Edrych, ti biau bopeth sydd gan Meffiboseth." Atebodd Siba, "Yr wyf yn ymostwng o'th flaen; bydded imi gael ffafr yn dy olwg, f'arglwydd frenin."

Dafydd a Simei

16:5 Pan gyrhaeddodd Dafydd Bahurim, dyma ddyn o dylwyth Saul, o'r enw Simei fab Gera, yn dod allan oddi yno dan felltithio.
16:6 Yr oedd yn taflu cerrig at Ddafydd a holl weision y brenin, er bod yr holl fintai a'r milwyr i gyd o boptu iddo.
16:7 Ac fel hyn yr oedd Simei yn dweud wrth felltithio: "Dos i ffwrdd, dos i ffwrdd, y llofrudd, y dihiryn;
16:8 y mae'r ARGLWYDD wedi talu iti am holl waed teulu Saul a ddisodlaist fel brenin; y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r deyrnas yn llaw dy fab Absalom. Dyma ti mewn adfyd oherwydd mai llofrudd wyt ti."
16:9 Dywedodd Abisai fab Serfia wrth y brenin, "Pam y dylai'r ci marw hwn gael melltithio f'arglwydd frenin? Gad imi fynd ato a thorri ei ben i ffwrdd."
16:10 Ond meddai'r brenin, "Beth sydd a wnelo hyn â mi neu â chwi, feibion Serfia? Y mae ef yn melltithio fel hyn am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho am felltithio Dafydd, a phwy sydd i ofyn, 'Pam y gwnaethost hyn?'"
16:11 Ychwanegodd Dafydd wrth Abisai a'i holl weision. "Edrychwch, y mae fy mab i fy hun yn ceisio fy mywyd; pa faint mwy y Benjaminiad hwn?
16:12 Gadewch iddo felltithio, oherwydd yr ARGLWYDD sydd wedi dweud wrtho. Efallai y bydd yr ARGLWYDD yn edrych ar fy nghyni, ac yn gwneud daioni imi yn lle ei felltith ef heddiw."
16:13 Yna, tra oedd Dafydd a'i filwyr yn mynd ar hyd y ffordd, yr oedd Simei yn mynd ar hyd ochr y mynydd gyferbyn ag ef, yn melltithio ac yn lluchio cerrig ac yn taflu pridd ato.
16:14 Erbyn iddynt gyrraedd yr Iorddonen yr oedd y brenin a'r holl bobl oedd gydag ef yn lluddedig, felly cymerasant seibiant yno.

Absalom yn Jerwsalem

16:15 Yr oedd Absalom a'r holl fyddin o Israeliaid wedi cyrraedd Jerwsalem, ac Ahitoffel gyda hwy.
16:16 Yna, pan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom a dweud wrtho, "Byw fyddo'r brenin, byw fyddo'r brenin!"
16:17 Gof-ynnodd Absalom i Husai, "Ai dyma dy deyrngarwch i'th gyfaill? Pam nad aethost ti gyda'th gyfaill?"
16:18 Ac meddai Husai wrth Absalom, "O na, yr wyf fi o blaid yr un a ddewiswyd gan yr ARGLWYDD, a'r bobl hyn a'r holl Israeliaid, a chydag ef yr arhosaf.
16:19 Ac at hynny, pwy a ddylwn i ei wasanaethu? Onid ei fab? Fel y bûm yn gwasanaethu dy dad, felly y byddaf gyda thi."
16:20 Yna dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, "Rho gyngor inni beth i'w wneud."
16:21 Atebodd Ahitoffel, "Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad a adawodd ef i ofalu am y tŷ; a phan fydd Israel gyfan yn clywed dy fod wedi dy ffieiddio gan dy dad, fe gryfheir dwylo pawb sydd gyda thi."
16:22 Taenwyd pabell i Absalom ar y to, ac aeth yntau i mewn at ordderchwragedd ei dad yng ngolwg Israel gyfan.
16:23 Yr oedd y cyngor a roddai Ahitoffel yn y dyddiau hynny fel pe bai rhywun yn ymofyn cyfarwyddyd gan Dduw; felly'r ystyrid ef gan Ddafydd ac Absalom hefyd.

Husai yn Camarwain Absalom

17:1 Yna dywedodd Ahitoffel wrth Absalom, "Gad imi ddewis deuddeng mil o ddynion a mynd ar ôl Dafydd heno.
17:2 Dof ar ei warthaf pan fydd yn lluddedig a diymadferth, a chodaf arswyd arno, nes bod pawb sydd gydag ef yn ffoi; ni laddaf neb ond y brenin,
17:3 a dof â'r holl bobl yn ôl atat fel priodferch yn dod adref at ei phriod. Bywyd un yn unig sydd arnat ei eisiau; caiff gweddill y bobl lonydd."
17:4 Yr oedd Absalom a holl henuriaid Israel yn gweld hwn yn gyngor da,
17:5 ond dywedodd Absalom, "Galwch Husai yr Arciad hefyd er mwyn inni glywed beth sydd ganddo yntau i'w ddweud."
17:6 Wedi i Husai gyrraedd, dywedodd Absalom wrtho, "Dyma sut y cynghorodd Ahitoffel. A ddylem dderbyn ei gyngor? Onid e, rho di dy gyngor."
17:7 Dywedodd Husai wrth Absalom, "Nid yw'r cyngor a roddodd Ahitoffel y tro hwn yn un da."
17:8 Aeth Husai ymlaen, "Yr wyt ti'n adnabod dy dad a'i ddynion: y maent yn filwyr profiadol, ac mor filain ag arth wyllt wedi ei hamddifadu o'i chenawon; hefyd, y mae dy dad yn gynefin â rhyfela, ni fydd ef yn treulio'r nos gyda'r fyddin, ac y mae eisoes wedi ymguddio mewn ogof neu ryw lecyn arall.
17:9 Pan leddir rhywrai o blith dy filwyr ar y dechrau, bydd pwy bynnag a fydd yn clywed y newydd yn meddwl bod cyflafan wedi digwydd ymysg y rhai sy'n dilyn Absalom.
17:10 Yna fe fydd ysbryd y cryfaf, yr un â chalon fel llew, yn darfod yn llwyr, oherwydd y mae Israel gyfan yn gwybod mai milwr dewr yw dy dad, a bod dynion grymus gydag ef.
17:11 Yr wyf fi am dy gynghori i gasglu atat Israel gyfan o Dan i Beerseba, mor niferus â thywod glan y môr, a bod i tithau'n bersonol fynd gyda hwy i'r frwydr.
17:12 Ac fe ddown ar ei warthaf, ym mha le bynnag y ceir ef; disgynnwn arno fel gwlith yn syrthio ar y ddaear, ac ni adewir dim un ohonynt, ef na'r dynion sydd gydag ef.
17:13 Ac os digwydd iddo ddianc i ryw ddinas, bydd Israel gyfan yn taflu rhaffau am y ddinas honno a byddwn yn ei llusgo i'r ceunant, heb adael y garreg leiaf ohoni ar ôl."
17:14 Dywedodd Absalom a'r holl Israeliaid, "Y mae cyngor Husai yr Arciad yn well na chyngor Ahitoffel." Yr ARGLWYDD oedd wedi peri drysu cyngor da Ahitoffel, er mwyn i'r ARGLWYDD ddwyn dinistr ar Absalom.

Rhybuddir Dafydd i Ffoi

17:15 Dywedodd Husai wrth yr offeiriaid Sadoc ac Abiathar, "Fel hyn ac fel hyn yr oedd cyngor Ahitoffel i Absalom a henuriaid Israel; ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau.
17:16 Anfonwch yn awr ar frys a dywedwch wrth Ddafydd, 'Paid ag aros y nos wrth rydau'r anialwch, ond dos drosodd ar unwaith, rhag i'r brenin a'r holl bobl sydd gydag ef gael eu difa.'"
17:17 Yr oedd Jonathan ac Ahimaas yn aros yn En-rogel, a morwyn yn mynd â'r neges iddynt hwy, a hwythau wedyn yn mynd â'r neges i'r Brenin Dafydd; oherwydd ni feiddient gael eu gweld yn mynd i'r ddinas.
17:18 Ond fe welodd bachgen hwy, a dweud wrth Absalom; felly aeth y ddau ar frys nes dod i dŷ rhyw ddyn yn Bahurim. Yr oedd gan hwnnw bydew yn ei fuarth ac aethant i lawr iddo.
17:19 Yna cymerodd ei wraig y caead a'i osod ar geg y pydew a thaenu grawn drosto, fel nad oedd neb yn gwybod.
17:20 Pan ddaeth gweision Absalom at y tŷ a gofyn i'r wraig, "Ple mae Ahimaas a Jonathan?" dywedodd hithau, "Y maent wedi mynd dros y ffrwd ddŵr." Ond er iddynt chwilio, ni chawsant mohonynt, ac aethant yn ôl i Jerwsalem.
17:21 Wedi iddynt fynd, daethant hwythau i fyny o'r pydew a mynd â'r neges i'r Brenin Dafydd, a dweud wrtho am groesi'r dŵr ar unwaith, oherwydd bod Ahitoffel wedi cynghori fel y gwnaeth yn eu herbyn.
17:22 Dechreuodd Dafydd, a'r holl bobl oedd gydag ef, groesi'r Iorddonen, ac erbyn toriad gwawr nid oedd neb ar ôl heb groesi'r Iorddonen.
17:23 Pan welodd Ahitoffel na chymerwyd ei gyngor ef, cyfrwyodd ei asyn a mynd adref i'w dref ei hun. Gosododd drefn ar ei dŷ, ac yna fe'i crogodd ei hun. Wedi iddo farw, fe'i claddwyd ym medd ei dad.
17:24 Yr oedd Dafydd wedi cyrraedd Mahanaim erbyn i Absalom a holl filwyr Israel gydag ef groesi'r Iorddonen.
17:25 Yr oedd Absalom wedi gosod Amasa dros y fyddin yn lle Joab. Yr oedd ef yn fab i ddyn o'r enw Ithra'r Ismaeliad, a oedd wedi priodi Abigal ferch Nahas, chwaer Serfia mam Joab.
17:26 Gwersyllodd Israel gydag Absalom yn nhir Gilead.
17:27 Wedi i Ddafydd gyrraedd Mahanaim, daeth Sobi fab Nahas o Rabba'r Ammoniaid, a Machir fab Ammiel o Lo-debar, a Barsilai y Gileadiad o Rogelim
17:28 â gwelyau, powlenni a llestri; hefyd gwenith, haidd, blawd, crasyd, ffa, ffacbys,
17:29 mêl, ceulion o laeth defaid a chaws o laeth gwartheg. Rhoesant hwy i Ddafydd a'r bobl oedd gydag ef i'w bwyta, oherwydd meddent, "Bydd y bobl yn newynog a lluddedig, ac yn sychedig yn yr anialwch."

Gorchfygu a Lladd Absalom

18:1 Rhestrodd Dafydd y bobl oedd gydag ef, a phenodi capteiniaid ar filoedd a chapteiniaid ar gannoedd.
18:2 Yna rhannodd y fyddin yn dair, traean o dan Joab, traean dan Abisai fab Serfia, brawd Joab, a thraean dan Itai y Gethiad; a dywedodd y brenin wrth y fyddin, "Mi ddof finnau hefyd gyda chwi."
18:3 Ond atebasant, "Ni chei di ddod. Petaem ni yn ffoi am ein heinioes, ni fyddai neb yn meddwl dim o'r peth; a phetai ein hanner yn marw, ni fyddai neb yn malio amdanom; ond yr wyt ti cystal â deng mil ohonom ni. Felly'n awr y mae'n well i ni dy fod yn aros i'n cynorthwyo o'r ddinas."
18:4 Dywedodd y brenin y gwnâi'r hyn a dybient hwy yn orau, a safodd yn ymyl y porth fel yr oedd y fyddin yn mynd allan yn ei channoedd a'i miloedd.
18:5 Gorch-mynnodd y brenin i Joab, Abisai ac Itai, "Er fy mwyn i byddwch yn dyner wrth y llanc Absalom." Yr oedd y fyddin i gyd yn clywed pan roes y brenin orchymyn i'r capteiniaid ynglŷn ag Absalom.
18:6 Aeth y fyddin i'r maes i gyfarfod ag Israel, a digwyddodd y frwydr yng nghoetir Effraim.
18:7 Gorchfygwyd byddin Israel yno gan ddilynwyr Dafydd, a bu colledion mawr yno — ugain mil o fewn y diwrnod hwnnw.
18:8 Lledodd yr ymladd dros y wlad i gyd, a difaodd y goedwig fwy o'r fyddin nag a wnaeth y cleddyf y diwrnod hwnnw.
18:9 Digwyddodd dilynwyr Dafydd daro ar Absalom. Fel yr oedd Absalom yn marchogaeth ar ei ful, aeth hwnnw dan gangen derwen fawr; daliwyd pen Absalom yn y dderwen, a'i adael rhwng nef a daear wrth i'r mul oedd dano fynd yn ei flaen.
18:10 Gwelodd rhywun ef, a dweud wrth Joab ei fod wedi gweld Absalom ynghrog mewn derwen.
18:11 Ac meddai Joab wrth y dyn oedd wedi dweud wrtho, "Os gwelaist ti ef, pam na fu iti ei daro i lawr yn y fan? Fe fyddwn wedi gofalu am roi iti ddeg darn arian a gwregys."
18:12 Ond dywedodd y dyn wrth Joab, "Petawn i'n cael mil o ddarnau arian ar gledr fy llaw, ni feiddiwn estyn llaw yn erbyn mab y brenin; oherwydd fe glywsom â'n clustiau ein hunain pan roddodd y brenin orchymyn i ti ac i Abisai ac i Itai, a dweud, 'Cymerwch ofal, bawb, o'r llanc Absalom.'
18:13 Pe bawn i wedi troseddu yn erbyn ei einioes, ni fyddai modd cuddio dim rhag y brenin; a byddit tithau wedi sefyll o'r naill ochr."
18:14 Atebodd Joab, "Nid wyf am wastraffu amser fel hyn gyda thi." Cymerodd dair picell yn ei law a thrywanu Absalom yn ei galon, ac yntau'n dal yn fyw yng nghanol y dderwen.
18:15 Yna tyrrodd deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab o gwmpas Absalom, a'i daro a'i ladd.
18:16 Ar hyn canodd Joab yr utgorn, a dychwelodd y fyddin o erlid yr Israeliaid am i Joab eu galw'n ôl.
18:17 Cymerwyd Absalom a'i fwrw i geubwll mawr oedd yn y goedwig, a chodi tomen enfawr o gerrig drosto. Ffodd yr Israeliaid i gyd adref.
18:18 Yn ystod ei fywyd yr oedd Absalom wedi cymryd colofn a'i gosod i sefyll yn Nyffryn y Brenin, "Oherwydd," meddai, "nid oes gennyf fab i gadw f'enw mewn cof." Galwodd y golofn ar ei enw ei hun, ac fe'i gelwir hi'n Gofeb Absalom hyd heddiw.

Hysbysu Dafydd am Farwolaeth Absalom

18:19 Dywedodd Ahimaas fab Sadoc, "Gad i mi redeg a rhoi'r newydd i'r brenin fod yr ARGLWYDD wedi achub ei gam oddi ar law ei elynion."
18:20 Ond dywedodd Joab wrtho, "Nid ti fydd y negesydd heddiw; cei fynd â'r neges rywdro arall, ond nid heddiw, oherwydd bod mab y brenin wedi marw."
18:21 Yna meddai Joab wrth ryw Ethiopiad, "Dos, dywed wrth y brenin yr hyn a welaist." Moes-ymgrymodd yr Ethiopiad i Joab a rhedodd ymaith.
18:22 Ond gwnaeth Ahimaas fab Sadoc gais arall, ac meddai wrth Joab, "Beth bynnag a ddigwydd, yr wyf finnau hefyd am gael rhedeg ar ôl yr Ethiopiad." Gofynnodd Joab, "Pam y mae arnat ti eisiau mynd, fy machgen? Ni chei wobr am ddwyn y neges."
18:23 Ond plediodd, "Sut bynnag y bydd, gad imi fynd." Felly dywedodd wrtho, "Dos, ynteu." Rhedodd Ahimaas ar hyd y gwastadedd, ac ennill y blaen ar yr Ethiopiad.
18:24 Yr oedd Dafydd yn eistedd rhwng y ddeuborth. Pan aeth gwyliwr i fyny uwchben y porth i ben y mur, a chodi ei lygaid ac edrych, dyna lle'r oedd dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun.
18:25 Galwodd y gwyliwr a hysbysu'r brenin. Atebodd y brenin, "Os yw ar ei ben ei hun, y mae'n dod â neges."
18:26 Fel yr oedd yn dal i agosáu, sylwodd y gwyliwr ar ddyn arall yn rhedeg, a galwodd i lawr at y porthor a dweud, "Dacw ddyn arall yn rhedeg ar ei ben ei hun." Dywedodd y brenin, "Negesydd yw hwn eto."
18:27 Yna dywedodd y gwyliwr, "Yr wyf yn gweld y cyntaf yn rhedeg yn debyg i Ahimaas fab Sadoc." Ac meddai'r brenin, "Dyn da yw hwnnw; daw ef â newyddion da,"
18:28 Pan gyrhaeddodd Ahimaas, dywedodd wrth y brenin, "Heddwch!" Yna moesymgrymodd i'r brenin â'i wyneb i'r llawr, a dweud, "Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD dy Dduw, sydd wedi cau am y dynion a gododd yn erbyn f'arglwydd frenin."
18:29 Gofynnodd y brenin, "A yw'r llanc Absalom yn iawn?" Ac meddai Ahimaas, "Yr oedd dy was yn gweld cynnwrf mawr pan anfonodd Joab, gwas y brenin, fi i ffwrdd, ond ni wn beth oedd."
18:30 Dywedodd y brenin, "Saf yma o'r neilltu." Felly safodd o'r neilltu.
18:31 Yna cyrhaeddodd yr Ethiopiad a dweud, "Newydd da, f'arglwydd frenin! Oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi achub dy gam heddiw yn erbyn yr holl rai oedd yn codi yn dy erbyn."
18:32 Gofynnodd y brenin i'r Ethiopiad, "A yw'r llanc Absalom yn iawn?" Atebodd yr Ethiopiad, "Bydded i elynion f'arglwydd frenin a phawb sy'n codi yn d'erbyn er drwg, fod fel y llanc."
18:33 Cynhyrfodd y brenin, ac aeth i fyny i'r llofft uwchben y porth ac wylo; ac wrth fynd, yr oedd yn dweud fel hyn, "O Absalom fy mab, fy mab Absalom! O na fyddwn i wedi cael marw yn dy le, O Absalom fy mab, fy mab!"

Joab yn Ceryddu Dafydd

19:1 Hysbyswyd Joab fod y brenin yn wylo ac yn galaru am Absalom.
19:2 Trodd buddugoliaeth y dydd yn alar i'r holl fyddin wedi iddynt glywed y diwrnod hwnnw fod y brenin yn gofidio am ei fab.
19:3 Sleifiodd y fyddin i mewn i'r ddinas y diwrnod hwnnw, fel y bydd byddin sydd wedi ei chywilyddio ar ôl ffoi mewn brwydr.
19:4 Yr oedd y brenin yn cuddio'i wyneb ac yn gweiddi'n uchel, "Fy mab Absalom, Absalom fy mab, fy mab!"
19:5 Yna aeth Joab i'r ystafell at y brenin a dweud, "Yr wyt ti heddiw yn gwaradwyddo dy ddilynwyr i gyd, sef y rhai sydd wedi achub dy fywyd di heddiw, a bywydau dy feibion a'th ferched, a bywydau dy wragedd a'th ordderchwragedd.
19:6 Trwy ddangos cariad tuag at dy gaseion a chas at dy garedigion, yr wyt ti'n cyhoeddi heddiw nad yw dy swyddogion na'th filwyr yn ddim gennyt. Yn wir fe welaf yn awr y byddit wrth dy fodd heddiw pe byddai Absalom wedi byw a ninnau i gyd wedi marw.
19:7 Felly cod, dos allan a dywed air o galondid wrth dy ddilynwyr, neu, onid ei di allan atynt, tyngaf i'r ARGLWYDD, erbyn heno ni fydd gennyt yr un dyn ar ôl; a byddi mewn gwaeth trybini na dim sydd wedi digwydd iti o'th febyd hyd yn awr."
19:8 Ar hynny cododd y brenin ac eistedd yn y porth; anfonwyd neges at yr holl fyddin fod y brenin yn eistedd yn y porth, a daeth y fyddin gyfan ynghyd gerbron y brenin. Yr oedd yr Israeliaid i gyd wedi ffoi i'w cartrefi.

Dafydd yn Troi'n ôl am Jerwsalem

19:9 Yna dechreuodd pawb trwy holl lwythau Israel ddadlau a dweud, "Achubodd y brenin ni o afael ein gelynion, ac yn arbennig fe'n gwaredodd ni rhag y Philistiaid. Yn awr y mae wedi ffoi o'r wlad o achos Absalom.
19:10 Ond y mae Absalom, a eneiniwyd gennym yn frenin, wedi marw yn y rhyfel; pam felly yr ydych yn oedi dod â'r brenin adref?"
19:11 Daeth dadleuon yr Israeliaid i gyd i glustiau'r brenin yn ei dŷ, ac anfonodd at Sadoc ac Abiathar, yr offeiriaid, iddynt ddweud wrth henuriaid Jwda, "Pam yr ydych chwi'n oedi dod â'r brenin adref?
19:12 Chwi yw fy nhylwyth, fy asgwrn i a'm cnawd; pam yr ydych yn oedi dod â'r brenin adref?
19:13 Dywedwch wrth Amasa, 'Onid fy asgwrn i a'm cnawd wyt tithau? Fel hyn y gwnelo Duw imi, a rhagor os nad ti o hyn ymlaen fydd capten y llu drosof yn lle Joab.'"
19:14 Enillodd galon holl wŷr Jwda'n unfryd, ac anfonasant neges at y brenin, "Tyrd yn ôl, ti a'th holl ddilynwyr."
19:15 Daeth y brenin yn ôl, a phan gyrhaeddodd yr Iorddonen, yr oedd y Jwdeaid wedi cyrraedd Gilgal ar eu ffordd i gyfarfod y brenin a'i hebrwng dros yr Iorddonen.
19:16 Brysiodd Simei, mab Gera y Benjaminiad o Bahurim, i fynd i lawr gyda gwŷr Jwda i gyfarfod y Brenin Dafydd.
19:17 Daeth mil o ddynion o Benjamin gydag ef. A rhuthrodd Siba gwas teulu Saul, gyda'i bymtheg mab ac ugain gwas, i lawr at yr Iorddonen o flaen y brenin,
19:18 a chroesi'r rhyd i gario teulu'r brenin drosodd, er mwyn ennill ffafr yn ei olwg. Wedi i'r brenin groesi, syrthiodd Simei fab Gera o'i flaen
19:19 a dweud wrtho, "O f'arglwydd, paid â'm hystyried yn euog, a phaid â chofio ymddygiad gwarthus dy was y diwrnod y gadawodd f'arglwydd frenin Jerwsalem, na'i gadw mewn cof.
19:20 Oherwydd y mae dy was yn sylweddoli iddo bechu, ac am hynny dyma fi wedi dod yma heddiw, yn gyntaf o holl dŷ Joseff i ddod i lawr i gyfarfod f'arglwydd frenin."
19:21 Ymateb Abisai fab Serfia oedd, "Oni ddylid rhoi Simei i farwolaeth am felltithio eneiniog yr ARGLWYDD?"
19:22 Ond dywedodd Dafydd, "Beth sydd a wneloch chwi â mi, O feibion Serfia, eich bod yn troi'n wrthwynebwyr imi heddiw? Ni chaiff neb yn Israel ei roi i farwolaeth heddiw, oherwydd oni wn i heddiw mai myfi sy'n frenin ar Israel?"
19:23 Dywedodd y brenin wrth Simei, "Ni fyddi farw." A thyngodd y brenin hynny wrtho.

Caredigrwydd Dafydd â Meffiboseth

19:24 Hefyd fe ddaeth Meffiboseth, ŵyr Saul, i lawr i gyfarfod y brenin. Nid oedd wedi trin ei draed na'i farf, na golchi ei ddillad o'r diwrnod yr ymadawodd y brenin hyd y dydd y dychwelodd yn ddiogel.
19:25 Pan gyrhaeddodd o Jerwsalem i gyfarfod y brenin, gofynnodd y brenin iddo, "Pam nad aethost ti gyda mi, Meffiboseth?"
19:26 Atebodd yntau, "O f'arglwydd frenin, fy ngwas a'm twyllodd i; yr oeddwn i wedi bwriadu cyfrwyo asyn a marchogaeth arno yng nghwmni'r brenin, am fy mod yn gloff.
19:27 Y mae fy ngwas wedi f'enllibio i wrth f'arglwydd frenin, ond y mae f'arglwydd frenin fel angel Duw; gwna fel y gweli'n dda.
19:28 I'm harglwydd frenin nid oedd y cyfan o dylwyth fy nhad ond meirwon, ac eto gosodaist ti dy was ymhlith y rhai oedd yn cael bwyta wrth dy fwrdd; pa hawl bellach sydd gennyf i apelio eto at y brenin?"
19:29 Dywedodd y brenin wrtho, "Pam y dywedi ragor? Penderfynais dy fod ti a Siba i rannu'r ystad."
19:30 Dywedodd Meffiboseth wrth y brenin, "Cymered ef y cwbl, gan fod f'arglwydd frenin wedi cyrraedd adref yn ddiogel."
19:31 Daeth Barsilai y Gileadiad i lawr o Rogelim a mynd cyn belled â'r Iorddonen i hebrwng y brenin.
19:32 Yr oedd Barsilai yn hen iawn, yn bedwar ugain oed, ac ef oedd wedi cynnal y brenin tra oedd yn aros ym Mahanaim, oherwydd yr oedd yn ŵr cefnog iawn.
19:33 Dywedodd y brenin wrth Barsilai, "Tyrd drosodd gyda mi, a chynhaliaf di tra byddi gyda mi yn Jerwsalem."
19:34 Ond meddai Barsilai wrth y brenin, "Pa faint rhagor sydd gennyf i fyw, fel y down i fyny i Jerwsalem gyda'r brenin?
19:35 Yr wyf yn bedwar ugain oed erbyn hyn; ni allaf ddweud y gwahaniaeth rhwng da a drwg; nid wyf yn medru blasu'r hyn yr wyf yn ei fwyta na'i yfed, na chlywed erbyn hyn leisiau cantorion a chantoresau. Pam y byddwn yn faich pellach ar f'arglwydd frenin?
19:36 Yn fuan iawn bydd dy was wedi hebrwng y brenin at yr Iorddonen; pam y dylai'r brenin roi'r fath dâl imi?
19:37 Gad i'th was ddychwelyd, fel y caf farw yn fy ninas fy hun, gerllaw bedd fy nhad a'm mam. Ond dyma dy was Cimham, gad iddo ef groesi gyda'm harglwydd frenin, a gwna iddo ef fel y gweli'n dda."
19:38 Dywedodd y brenin, "Fe gaiff Cimham fynd drosodd gyda mi, a gwnaf iddo fel y gweli di'n dda; a gwnaf i tithau beth bynnag a ddeisyfi gennyf."
19:39 Croesodd yr holl bobl dros yr Iorddonen, tra oedd y brenin yn aros; yna cusanodd y brenin Barsilai, a'i fendithio, ac aeth yntau adref.
19:40 Pan groesodd y brenin i Gilgal, aeth Cimham drosodd gydag ef; yr oedd holl filwyr Jwda a hanner milwyr Israel yn ei hebrwng drosodd.

Jwda ac Israel yn Cweryla dros y Brenin

19:41 Yna daeth yr holl Israeliaid a dweud wrth y brenin, "Pam y mae'n brodyr, pobl Jwda, wedi dwyn y brenin, a dod ag ef a'i deulu dros yr Iorddonen, a holl filwyr Dafydd gydag ef?"
19:42 Dywedodd holl wŷr Jwda wrth yr Israeliaid, "Y mae'r brenin yn perthyn yn nes i ni. Pam yr ydych mor ddig am hyn? A ydym ni wedi bwyta o gwbl ar ei draul, neu wedi derbyn unrhyw fantais ganddo?"
19:43 Ateb gwŷr Israel i wŷr Jwda ar hyn oedd: "Y mae gennym ni ddengwaith mwy o hawl ar y brenin na chwi, ac yr ydym ni yn hŷn na chwi hefyd. Pam yr ydych yn ein bychanu ni? Onid ni oedd y cyntaf i sôn am ddod â'n brenin yn ôl?" Ond dadleuodd gwŷr Jwda yn ffyrnicach na gwŷr Israel.

Gwrthryfel Seba

20:1 Yr oedd yn digwydd bod yno ddihiryn o'r enw Seba fab Bichri, o lwyth Benjamin. Canodd ef yr utgorn a chyhoeddi, "Nid oes i ni gyfran yn Nafydd, nac etifeddiaeth ym mab Jesse. Pob un i'w babell, O Israel!"
20:2 Yna ciliodd yr Israeliaid oddi wrth Ddafydd, a dilyn Seba fab Bichri; ond glynodd y Jwdeaid wrth eu brenin bob cam, o'r Iorddonen i Jerwsalem.
20:3 Wedi i'r Brenin Dafydd gyrraedd Jerwsalem, cymerodd y deg gor-dderchwraig a adawyd i ofalu am y tŷ, a'u rhoi dan warchod; yr oedd yn rhoi eu cynhaliaeth iddynt, ond heb fynd i mewn atynt. A buont dan glo hyd ddydd eu marwolaeth, yn byw fel gweddwon.
20:4 Yna dywedodd y brenin wrth Amasa, "Galw ynghyd ataf filwyr Jwda, a bydd yn ôl yma o fewn tridiau."
20:5 Aeth Amasa i alw Jwda ynghyd, ond oedodd yn hwy na'r amser penodedig.
20:6 Ac meddai Dafydd wrth Abisai, "Yn awr bydd Seba fab Bichri yn creu mwy o helynt inni nag Absalom; cymer fy ngweision ac erlid ar ei ôl, rhag iddo gyrraedd dinasoedd caerog a diflannu o'n golwg."
20:7 Dilynwyd Abisai gan Joab a'r Cerethiaid a'r Pelethiaid a'r holl filwyr profiadol, a gadawsant Jerwsalem i erlid ar ôl Seba fab Bichri. Pan oeddent wrth y maen mawr yn Gibeon, daeth Amasa i'w cyfarfod.
20:8 Yr oedd Joab wedi gwregysu'r fantell yr oedd yn ei gwisgo, a throsti yr oedd gwregys ei gleddyf a oedd mewn gwain wedi ei rhwymo ar ei lwynau; ac wrth iddo symud ymlaen, fe syrthiodd y cleddyf.
20:9 Wedi i Joab ddweud wrth Amasa, "Sut yr wyt ti, fy mrawd?" gafaelodd â'i law dde ym marf Amasa i'w gusanu.
20:10 Nid oedd Amasa wedi sylwi ar y cleddyf oedd yn llaw Joab, a thrawodd Joab ef yn ei fol nes i'w ymysgaroedd ddisgyn i'r llawr, a bu farw heb ail ergyd. Yna aeth Joab a'i frawd Abisai yn eu blaen ar ôl Seba fab Bichri.
20:11 Safodd un o lanciau Joab wrth y corff a dweud, "Pwy bynnag sy'n fodlon ar Joab, a phwy bynnag sydd o blaid Dafydd, canlynwch Joab."
20:12 Yr oedd Amasa'n gorwedd yn bentwr gwaedlyd ar ganol yr heol, a phan welodd y dyn fod y bobl i gyd yn sefyll, symudodd Amasa o'r heol i'r cae a bwrw dilledyn drosto.
20:13 Yr oedd pawb a ddôi heibio wedi bod yn sefyll wrth ei weld; ond wedi iddo gael ei symud o'r heol, yr oedd pawb yn dilyn Joab i erlid ar ôl Seba fab Bichri.
20:14 Aeth Seba trwy holl lwythau Israel nes cyrraedd Abel-beth-maacha, ac ymgasglodd yr holl Bichriaid a'i ddilyn.
20:15 Pan gyrhaeddodd holl fyddin Joab, rhoesant warchae arno yn Abel-beth-maacha a chodi gwarchglawdd yn erbyn y ddinas, a thurio i ddymchwel y mur.
20:16 Yna safodd gwraig ddoeth ar yr amddiffynfa a gweiddi o'r ddinas, "Gwrandewch, gwrandewch, a dywedwch wrth Joab am iddo ddod yma i mi gael siarad ag ef."
20:17  Daeth yntau ati, a gofynnodd y wraig, "Ai ti yw Joab?" "Ie," meddai yntau. Yna dywedodd hi wrtho, "Gwrando ar eiriau dy lawforwyn," ac atebodd yntau, "Rwy'n gwrando."
20:18 Ac meddai hi, "Byddent yn arfer dweud ers talwm, 'Dim ond iddynt geisio cyngor yn Abel, a dyna ben ar y peth.'
20:19 Un o rai heddychol a ffyddlon Israel wyf fi, ond yr wyt ti'n ceisio distrywio dinas sy'n fam yn Israel. Pam yr wyt am ddifetha etifeddiaeth yr ARGLWYDD?"
20:20 Atebodd Joab a dweud, "Pell y bo, pell y bo oddi wrthyf! Nid wyf am ddifetha na distrywio.
20:21 Nid felly y mae; ond dyn o fynydd-dir Effraim, o'r enw Seba fab Bichri, sydd wedi codi yn erbyn y Brenin Dafydd; dim ond i chwi ei roi ef imi, fe adawaf y ddinas." Dywedodd y wraig wrth Joab, "Fe deflir ei ben iti dros y mur."
20:22 Yna fe aeth y wraig yn ei doethineb at yr holl bobl; torrwyd pen Seba fab Bichri a'i daflu i Joab. Seiniodd yntau'r utgorn, gadawyd y ddinas, a gwasgarodd pawb i'w cartrefi. Dychwelodd Joab i Jerwsalem at y brenin.

Swyddogion Dafydd

20:23 Joab oedd dros holl fyddin Israel, a Benaia fab Jehoiada dros y Cerethiaid a'r Pelethiaid.
20:24 Adoram oedd dros y llafur gorfod, a Jehosaffat fab Ahilud oedd y cofiadur.
20:25 Sefa oedd yr ysgrifennydd, a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid.
20:26 Yr oedd Ira y Jairiad hefyd yn offeiriad i Ddafydd.

Rhoi Disgynyddion Saul i Farwolaeth

21:1 Bu newyn yn nyddiau Dafydd am dair blynedd yn olynol. Ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD, ac atebodd yr ARGLWYDD fod Saul a'i dylwyth yn euog o waed am iddo ladd trigolion Gibeon.
21:2 Galwodd y brenin drigolion Gibeon a'u holi. Nid Israeliaid oedd y Gibeoniaid, ond gweddill o'r Amoriaid, ac yr oedd yr Israeliaid wedi gwneud cytundeb heddwch â hwy; eto yr oedd Saul wedi ceisio'u difa yn ei sêl dros yr Israeliaid a'r Jwdeaid.
21:3 Gofynnodd Dafydd i'r Gibeoniaid, "Beth a gaf ei wneud ichwi? Sut y gwnaf iawn, er mwyn ichwi fendithio etifeddiaeth yr ARGLWYDD?"
21:4 Dywedodd trigolion Gibeon wrtho, "Nid mater o arian ac aur yw hi rhyngom ni a Saul a'i deulu, ac nid mater i ni yw lladd neb yn Israel." Dywedodd y brenin, "Beth bynnag a ofynnwch, fe'i gwnaf i chwi."
21:5 Dywedasant hwythau, "Am y dyn a'n difaodd ni ac a fwriadodd ein diddymu rhag cael lle o gwbl o fewn terfynau Israel,
21:6 rhodder inni saith dyn o'i ddisgynyddion, fel y gallwn eu crogi o flaen yr ARGLWYDD yn Gibea Saul ym mynydd yr ARGLWYDD." Cytunodd y brenin i'w rhoi.
21:7 Ond fe arbedodd Meffiboseth fab Jonathan, fab Saul oherwydd y llw yn enw'r ARGLWYDD a oedd rhyngddynt, sef rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul.
21:8 Cymerodd y brenin y ddau fab yr oedd Rispa ferch Aia wedi eu geni i Saul, sef Armoni a Meffiboseth, hefyd y pum mab yr oedd Merab ferch Saul wedi eu geni i Adriel fab Barsilai o Mehola.
21:9 Trosglwyddodd hwy i'r Gibeoniaid, a chrogasant hwythau hwy yn y mynydd o flaen yr ARGLWYDD; syrthiodd y saith ohonynt gyda'i gilydd. Lladdwyd hwy yn nyddiau cyntaf y cynhaeaf, ar ddechrau'r cynhaeaf haidd.
21:10 Cymerodd Rispa ferch Aia sachliain a'i daenu ar y graig iddi ei hun o ddechrau'r cynhaeaf hyd oni lawiodd diferion o'r awyr ar y cyrff. Ni adawodd i'r un aderyn rheibus ddisgyn arnynt liw dydd, nac anifail gwyllt liw nos.
21:11 Pan hysbyswyd i Ddafydd yr hyn a wnaeth Rispa ferch Aia, gordderchwraig Saul,
21:12 fe aeth a chymryd esgyrn Saul a'i fab Jonathan oddi wrth reolwyr Jabes-gilead. Yr oeddent hwy wedi eu lladrata o'r maes yn Beth-sean lle'r oedd y Philistiaid wedi eu crogi, y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa.
21:13 Cymerodd esgyrn Saul a'i fab Jonathan oddi yno, a chasglwyd ynghyd esgyrn y rhai a grogwyd,
21:14 a'u claddu gydag esgyrn Saul a'i fab Jonathan yn Sela yn nhir Benjamin, ym medd ei dad Cis. Gwnaed y cwbl a orchmynnodd y brenin, ac wedi hyn derbyniodd Duw ymbil ar ran y wlad.

Brwydrau yn erbyn Cewri'r Philistiaid, 1Cron. 20:4-8

21:15 Unwaith eto yr oedd rhyfel rhwng y Philistiaid ac Israel. Aeth Dafydd a'i weision i lawr, a rhyfela yn erbyn y Philistiaid nes bod Dafydd yn lluddedig.
21:16 Yr oedd Isbi-benob, un o dylwyth y Reffaim yno; ac yr oedd ei waywffon yn pwyso tri chan sicl o bres. Yr oedd ef wedi ei wregysu â chleddyf newydd, ac yn meddwl lladd Dafydd.
21:17 Ond fe ddaeth Abisai fab Serfia i'w helpu, a tharo'r Philistiad a'i ladd. Wedi hynny tyngodd milwyr Dafydd wrtho, "Ni chei fynd allan eto gyda ni i ryfel rhag diffodd lamp Israel."
21:18 Ar ôl hynny bu rhyfel arall yn erbyn y Philistiaid yn Gob. Y tro hwnnw lladdwyd Saff, un arall o dylwyth y Reffaim, gan Sibbechai yr Husathiad.
21:19 Bu rhyfel eilwaith yn Gob yn erbyn y Philistiaid, a lladdwyd Goliath o Gath gan Elhanan fab Jaare-oregim o Fethlehem; yr oedd coes gwaywffon Goliath fel carfan gwehydd.
21:20 Pan fu rhyfel eto yn Gath yr oedd yno gawr o ddyn â chwech o fysedd ar bob llaw a throed, pedwar ar hugain i gyd; ac yr oedd yntau yn hanu o'r Reffaim.
21:21 Bwriodd sen ar Israel, ond lladdwyd ef gan Jonathan mab Simei brawd Dafydd.
21:22 Yr oedd y pedwar hyn yn hanu o'r Reffaim yn Gath, a chwympasant trwy law Dafydd a'i weision.

Cân Buddugoliaeth Dafydd, Salm 18

22:1 Llefarodd Dafydd eiriau'r gerdd hon wrth yr ARGLWYDD y diwrnod y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion ac o law Saul,
22:2 a dywedodd: "Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd;
22:3 fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer, fy noddfa, a'm hachubwr sy'n fy achub rhag trais.
22:4 "Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl, ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion.
22:5 Pan oedd tonnau angau yn f'amgylchynu a llifeiriant distryw yn fy nal,
22:6 pan oedd clymau Sheol yn f'amgylchu a maglau angau o'm blaen,
22:7 gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo; clywodd fy llef o'i deml, a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.
22:8 "Crynodd y ddaear a gwegian, ysgydwodd sylfeini'r nefoedd, a siglo oherwydd ei ddicter ef.
22:9 Cododd mwg o'i ffroenau, yr oedd tân yn ysu o'i enau, a marwor yn cynnau o'i gwmpas.
22:10 Fe agorodd y ffurfafen a disgyn, ac yr oedd tywyllwch dan ei draed.
22:11 Marchogodd ar gerwb a hedfan, gwibiodd ar adenydd y gwynt.
22:12 Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn babell, a chymylau duon yn orchudd.
22:13 o'r disgleirdeb o'i flaen tasgodd cerrig tân.
22:14 Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd, a llefarodd llais y Goruchaf.
22:15 Bwriodd allan ei saethau yma ac acw, saethodd fellt a gwneud iddynt atsain.
22:16 Daeth gwaelodion y môr i'r golwg, a dinoethwyd sylfeini'r byd, oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD, a chwythiad anadl dy ffroenau.
22:17 "Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd, tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.
22:18 Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol, rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi.
22:19 Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng, ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.
22:20 Dygodd fi allan i le agored, a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.
22:21 "Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder, a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo.
22:22 Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;
22:23 yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen, ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.
22:24 Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg, a chedwais fy hun rhag troseddu.
22:25 Talodd yr ARGLWYDD imi yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl glendid fy nwylo yn ei olwg.
22:26 Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon, yn ddifeius i'r sawl sydd ddifeius,
22:27 ac yn bur i'r rhai pur; ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam.
22:28 Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig, ac yn darostwng y beilchion.
22:29 Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD; fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.
22:30 Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu; trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.
22:31 Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd, ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur; y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.
22:32 "Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD? A phwy sydd graig ond ein Duw ni?
22:33 Duw yw fy nghaer gadarn, sy'n gwneud fy ffordd yn ddifeius.
22:34 Gwna fy nhraed fel rhai ewig, a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd.
22:35 Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela, i'm breichiau dynnu bwa pres.
22:36 Rhoist imi dy darian i'm gwaredu, a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal.
22:37 Rhoist imi le llydan i'm camau, ac ni lithrodd fy nhraed.
22:38 Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu distrywio; ni ddychwelaf nes eu difetha.
22:39 Yr wyf yn eu difa a'u trywanu fel na allant godi, ac y maent yn syrthio dan fy nhraed.
22:40 Yr wyt wedi fy ngwregysu â nerth i'r frwydr, a darostwng fy ngelynion danaf.
22:41 Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf, a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghasáu.
22:42 Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd, yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb.
22:43 Fe'u maluriaf cyn faned â llwch y ddaear, a'u malu a'u sathru fel llaid ar y strydoedd.
22:44 Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl, a'm cadw yn ben ar y cenhedloedd; pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi.
22:45 Estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen, pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi.
22:46 Y mae estroniaid yn gwangalonni, ac yn dyfod dan grynu o'u lloches.
22:47 "Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig, dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu,
22:48 y Duw sy'n rhoi imi ddialedd, ac yn darostwng pobloedd danaf,
22:49 sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion, yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr, ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr.
22:50 Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd, a chanaf fawl i'th enw.
22:51 Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaeth ac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog, i Ddafydd ac i'w had am byth."

Geiriau Olaf Dafydd

23:1 Dyma eiriau olaf Dafydd: "Oracl Dafydd fab Jesse, ie, oracl y gŵr a godwyd yn uchel, eneiniog Duw Jacob, canwr caneuon Israel.
23:2 "Ysbryd yr ARGLWYDD a lefarodd drwof, a'i air ef oedd ar fy nhafod.
23:3 Llefarodd Duw Jacob, dywedodd craig Israel wrthyf: 'Y mae'r sawl sy'n llywodraethu pobl yn gyfiawn, yn llywodraethu yn ofn Duw,
23:4 fel goleuni bore pan gyfyd haul ar fore digwmwl, a pheri i'r gwellt ddisgleirio o'r ddaear ar ôl glaw.'
23:5 "Yn sicr, onid felly y mae fy nheulu gyda Duw? Oherwydd gwnaeth gyfamod tragwyddol â mi, un trefnus ym mhob cymal, a diogel. Ef yw fy nghymorth i gyd a'm dymuniad; oni rydd lwyddiant i mi?
23:6 "Y mae'r dihirod i gyd fel drain a dorrir i lawr, am na ellir eu casglu â llaw.
23:7 Nid oes neb yn eu cyffwrdd ond â haearn neu goes gwaywffon, a'u llosgi'n llwyr yn y man lle maent."

Milwyr Enwog Dafydd, 1Cron. 11:10-41

23:8 Dyma enwau'r gwroniaid oedd gan Ddafydd: Isbaal yr Hachmoniad oedd pen y Tri; chwifiodd ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben wyth gant o laddedigion ar un tro.
23:9 Y nesaf ato ef ymysg y Tri Gwron oedd Eleasar fab Dodo, fab Ahohi; yr oedd ef gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan ddaethant ynghyd i ryfel, a'r Israeliaid yn cilio o'u blaenau.
23:10 Safodd ei dir ac ymladd â'r Philistiaid nes i'w law ddiffygio a glynu yn ei gleddyf. Rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr y diwrnod hwnnw, a daeth y bobl yn ôl at Eleasar, ond i ysbeilio'r cyrff yn unig.
23:11 Y nesaf at hwnnw oedd Samma fab Age yr Harariad. Pan ddaeth y Philistiaid ynghyd yn Lehi, lle'r oedd rhandir yn llawn ffacbys, ffodd y bobl rhag y Philistiaid;
23:12 ond safodd Samma ei dir yng nghanol y llain a'i hachub, a lladd y Philistiaid; a rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr.
23:13 Aeth tri o'r Deg ar Hugain i lawr at Ddafydd i ogof Adulam, a chyrraedd adeg y cynhaeaf, pan oedd mintai o Philistiaid wedi gwersyllu yn nyffryn Reffaim.
23:14 Yr oedd Dafydd ar y pryd yn yr amddiffynfa, a garsiwn y Philistiaid ym Methlehem.
23:15 Cododd blys ar Ddafydd ac meddai, "O na chawn ddiod o ddŵr o bydew Bethlehem sydd ger y porth!"
23:16 Ar hynny rhuthrodd y Tri Gwron trwy wersyll y Philistiaid, codi dŵr o bydew Bethlehem gerllaw'r porth, a'i gludo'n ôl at Ddafydd. Eto ni fynnai ef ei yfed, a thywalltodd ef yn offrwm i'r ARGLWYDD,
23:17 a dweud, "Na ato'r ARGLWYDD i mi wneud hyn! A allaf fi yfed gwaed gwŷr a fentrodd eu heinioes?" A gwrthododd ei yfed. Dyma wrhydri y Tri Gwron.
23:18 Abisai brawd Joab fab Serfia oedd pennaeth y Deg ar Hugain. Chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben trichant o laddedigion; enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg ar Hugain.
23:19 Ef yn wir oedd yr enwocaf o'r Deg ar Hugain, a bu'n gapten arnynt; ond nid oedd ymysg y Tri.
23:20 Yr oedd Benaia fab Jehoiada o Cabseel yn ŵr dewr, aml ei orchestion. Ef a laddodd ddau bencampwr Moab; ef hefyd a aeth i lawr i bydew a lladd llew yno ar ddiwrnod o eira.
23:21 Lladdodd gawr o Eifftiwr, er bod gwaywffon yn llaw'r Eifftiwr, ac yntau'n ymosod heb ddim ond ffon. Cipiodd y waywffon o law'r Eifftiwr, a'i ladd â'i waywffon ei hun.
23:22 Dyma wrhydri Benaia fab Jehoiada, ac enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg Gwron ar Hugain.
23:23 Ef oedd yr enwocaf o'r Deg ar Hugain, ond nid oedd ymysg y Tri. Apwyntiodd Dafydd ef yn bennaeth ei warchodlu.
23:24 Yr oedd Asahel brawd Joab ymysg y Deg ar Hugain, hefyd Elhanan fab Dodo o Fethlehem,
23:25 Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad,
23:26 Heles y Paltiad, Ira fab Icces y Tecoiad,
23:27 Abieser yr Anathothiad, Mebunnai yr Husathiad,
23:28 Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad,
23:29 Heleb fab Baana y Netoffathiad, Itai fab Ribai o Gibea meibion Benjamin,
23:30 Benaia y Pirathoniad, Hidai o Nahale-gaas,
23:31 Abialbon yr Arbathiad, Asmafeth y Barhumiad,
23:32 Eliahba y Saalboniad, Jasen y Nuniad, Jonathan fab
23:33 Samma yr Harariad, Ahiam fab Sarar yr Harariad,
23:34 Eliffelet fab Ahasbai, mab y Naachathiad, Eliam fab Ahitoffel y Giloniad,
23:35 Hesrai y Carmeliad, Paarai yr Arbiad,
23:36 Igal fab Nathan o Soba, Bani y Gadiad,
23:37 Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad (cludydd arfau Joab fab Serfia),
23:38 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,
23:39 Ureia yr Hethiad. Tri deg a saith i gyd.

Dafydd yn Gwneud Cyfrifiad, 1Cron. 21:1-27

24:1 Unwaith eto enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn yr Israeliaid, ac anogodd Ddafydd yn eu herbyn trwy ddweud, "Dos, cyfrifa'r Israeliaid a'r Jwdeaid."
24:2 Felly fe ddywedodd y brenin wrth Joab, a swyddogion y fyddin oedd gydag ef, "Dos drwy holl lwythau Israel o Dan i Beerseba a chyfrifa'r bobl, er mwyn imi wybod eu nifer."
24:3 Dywedodd Joab wrth y brenin, "Bydded i'r ARGLWYDD dy Dduw luosogi'r bobl ganwaith yr hyn ydynt, ac i tithau, f'arglwydd frenin, ei weld â'th lygaid dy hun; ond pam y mae f'arglwydd frenin â'i fryd ar wneud hyn?"
24:4 Ond yr oedd gair y brenin yn drech na Joab a swyddogion y fyddin; felly fe aeth Joab a swyddogion y fyddin allan yn ôl gorchymyn y brenin i gyfrif pobl Israel.
24:5 Wedi croesi'r Iorddonen, dechreusant yn Aroer, i'r de o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, yna aethant i Gad, ac ymlaen i Jaser.
24:6 Yna daethant i Gilead a gwlad yr Hethiaid, cyn belled â Cades; ac i Dan a Jaan, a chwmpasu at Sidon.
24:7 Daethant wedyn at ddinas gaerog Tyrus, a holl drefi'r Hefiaid a'r Canaaneaid, a gorffen yn Negef Jwda, yn Beerseba.
24:8 Wedi iddynt deithio drwy'r wlad gyfan, daethant yn ôl i Jerwsalem ymhen naw mis ac ugain diwrnod.
24:9 Rhoddodd Joab swm cyfrifiad y bobl i'r brenin: yr oedd yn Israel wyth gan mil o wŷr abl i drin cleddyf, ac yr oedd milwyr Jwda yn bum can mil.
24:10 Wedi iddo gyfrif y bobl, pigodd cydwybod Dafydd ef; a dywedodd wrth yr ARGLWYDD, "Pechais yn fawr trwy wneud hyn; am hynny, O ARGLWYDD, maddau i'th was, oherwydd bûm yn ffôl iawn."
24:11 Wedi i Ddafydd godi fore trannoeth, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Gad, gweledydd Dafydd, gan ddweud,
24:12 "Dos a dywed wrth Ddafydd, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn cynnig tri pheth iti; dewis di un ohonynt, ac fe'i gwnaf iti'."
24:13 Daeth Gad at Ddafydd a'i hysbysu a dweud wrtho, "A fynni di dair blynedd o newyn yn dy wlad, ynteu tri mis o ffoi o flaen dy wrthwynebwyr tra byddant yn dy erlid, ynteu tridiau o haint yn dy wlad? Ystyria ac edrych pa ateb a roddaf i'r un a'm hanfonodd."
24:14 Dywedodd Dafydd wrth Gad, "Y mae'n gyfyng iawn arnaf, ond bydded inni syrthio i law'r ARGLWYDD, am fod ei drugareddau'n aml, yn hytrach nag imi syrthio i ddwylo pobl."
24:15 Felly dewisodd Dafydd yr haint. Yr oedd yn dymor y cynhaeaf gwenith, ac anfonodd yr ARGLWYDD haint ar Israel o'r bore hyd derfyn y cyfnod penodedig. Bu farw deng mil a thrigain o'r bobl o Dan i Beerseba.
24:16 Ond pan estynnodd yr angel ei law yn erbyn Jerwsalem i'w dinistrio, edifarhaodd yr ARGLWYDD am y niwed, a dywedodd wrth yr angel oedd yn distrywio'r bobl, "Digon bellach! Atal dy law." Yr oedd angel yr ARGLWYDD yn ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebusiad.
24:17 Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dywedodd wrth yr ARGLWYDD, "Myfi sydd wedi pechu, a myfi sydd wedi gwneud drwg; ond am y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? Bydded dy law yn f'erbyn i a'm teulu."
24:18 Daeth Gad at Ddafydd y diwrnod hwnnw a dweud wrtho, "Dos, a chyfod allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebusiad."
24:19 Felly, ar air Gad, fe aeth Dafydd fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.
24:20 Pan edrychodd Arafna a gweld y brenin a'i weision yn dod tuag ato, aeth allan a moesymgrymu i'r brenin â'i wyneb i'r llawr.
24:21 Ac meddai Arafna, "Pam y daeth f'arglwydd frenin at ei was?" Atebodd Dafydd, "I brynu gennyt y llawr dyrnu, i godi allor i'r ARGLWYDD er mwyn atal y pla sydd ar y bobl."
24:22 Yna dywedodd Arafna wrth Ddafydd, "Cymered f'arglwydd frenin ef ac offrymu'r hyn a fyn; edrych, dyma'r ychen ar gyfer y poethoffrwm, a'r sled ddyrnu ac iau'r ychen yn danwydd."
24:23 Rhoddodd Arafna'r cwbl i'r brenin, a dweud wrtho, "Bydded yr ARGLWYDD dy Dduw yn fodlon arnat."
24:24 Ond dywedodd y brenin wrth Arafna, "Na, rhaid imi ei brynu gennyt am bris. Nid wyf am aberthu i'r ARGLWYDD fy Nuw boethoffrwm di-gost." Felly prynodd Dafydd y llawr dyrnu a'r ychen am hanner can sicl o arian;
24:25 a chododd yno allor i'r ARGLWYDD, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau. Der-byniodd yr ARGLWYDD ymbil ar ran y wlad, ac ataliwyd y pla oddi ar Israel.