LLYFR CYNTAF Y BRENHINOEDD

Brenin Dafydd yn ei Henaint

1:1 Yr oedd y Brenin Dafydd yn hen, mewn gwth o oedran; ni chynhesai, er pentyrru dillad drosto.
1:2 A dywedodd ei weision wrtho, "Ceisier i'n harglwydd frenin forwyn ifanc i ofalu am y brenin, i'th ymgeleddu a gorwedd yn dy fynwes, fel y cynheso'r arglwydd frenin."
1:3 Yna ceisiwyd geneth deg trwy holl wlad Israel, a chafwyd Abisag y Sunamees a'i dwyn at y brenin.
1:4 Yr oedd yn eneth brydferth iawn, a bu'n ymgeledd i'r brenin ac yn gofalu amdano; ond ni chafodd y brenin gyfathrach â hi.

Adoneia yn Hawlio'r Orsedd

1:5 Ymddyrchafodd Adoneia fab Haggith gan ddweud, "Yr wyf fi am fod yn frenin." A darparodd iddo'i hun gerbyd a marchogion, a hanner cant o wŷr i redeg o'i flaen.
1:6 Nid oedd ei dad wedi gomedd dim iddo erioed na dweud, "Pam y gwnaethost fel hyn?"
1:7 Yr oedd yntau hefyd yn hynod deg ei bryd; a ganed ef ar ôl Absalom. Bu'n trafod gyda Joab fab Serfia, ac Abiathar yr offeiriad; a rhoesant eu cefnogaeth i Adoneia.
1:8 Ond nid oedd Sadoc yr offeiriad, Benaia fab Jehoiada, Nathan y proffwyd, Simei, Rei, na'r cedyrn oedd gan Ddafydd, o blaid Adoneia.
1:9 Yna lladdodd Adoneia ddefaid a gwartheg a phasgedigion wrth faen Soheleth sydd gerllaw En-rogel; a gwahoddodd i'w wledd ei holl frodyr, meibion y brenin, a holl wŷr Jwda a oedd yn weision i'r brenin.
1:10 Ond ni wahoddodd Nathan y proffwyd, na Benaia a'r cedyrn, na'i frawd Solomon.

Gwneud Solomon yn Frenin

1:11 Dywedodd Nathan wrth Bathseba, mam Solomon, "Oni chlywaist ti fod Adoneia fab Haggith yn frenin, heb i'n harglwydd Dafydd wybod?
1:12 Yn awr, felly, tyrd, rhoddaf iti gyngor fel y gwaredi dy fywyd dy hun a bywyd dy fab Solomon.
1:13 Dos i mewn ar unwaith at y Brenin Dafydd a dywed wrtho, 'Oni thyngaist, f'arglwydd frenin, wrth dy lawforwyn a dweud, "Solomon dy fab a deyrnasa ar fy ôl; ef sydd i eistedd ar fy ngorsedd"? Pam gan hynny y mae Adoneia yn frenin?'
1:14 Tra byddi yno'n siarad â'r brenin, dof finnau i mewn i gadarnhau dy eiriau."
1:15 Aeth Bathseba i mewn at y brenin i'r siambr. Yr oedd y brenin yn hen iawn, ac Abisag y Sunamees yn gofalu amdano.
1:16 Ymostyngodd Bathseba ac ymgrymu i'r brenin, a dywedodd y brenin, "Beth sy'n bod?"
1:17 Atebodd hithau, "F'arglwydd, ti dy hun a dyngodd trwy'r ARGLWYDD dy Dduw wrth dy lawforwyn: 'Solomon dy fab a deyrnasa ar fy ôl; ef sydd i eistedd ar fy ngorsedd.'
1:18 Ond yn awr, y mae Adoneia'n frenin, a thithau, f'arglwydd frenin, heb wybod.
1:19 Y mae wedi lladd llawer o fustych, pasgedigion a defaid, a gwahodd holl feibion y brenin, Abiathar yr offeiriad a Joab, tywysog y llu; ond ni wahoddodd dy was Solomon.
1:20 Yn awr y mae llygaid holl Israel arnat ti, f'arglwydd frenin, fel y mynegi iddynt pwy sydd i eistedd ar orsedd f'arglwydd frenin ar ei ôl.
1:21 Onid e, pan fydd f'arglwydd frenin farw, cyfrifir fi a'm mab yn droseddwyr."
1:22 Tra oedd hi'n siarad â'r brenin, cyrhaeddodd y proffwyd Nathan,
1:23 a hysbyswyd y brenin: "Dyma Nathan y proffwyd." Daeth yntau gerbron y brenin, ac ymgrymu i'r brenin â'i wyneb i'r llawr.
1:24 A dywedodd Nathan, "F'arglwydd frenin, a ddywedaist ti mai Adoneia sydd i deyrnasu ar dy ôl, ac i eistedd ar dy orsedd?
1:25 Oblegid aeth i lawr heddiw, a lladdodd lawer o fustych, pasgedigion a defaid, a gwahodd i'w wledd holl dylwyth y brenin, tywysog y llu ac Abiathar yr offeiriad. Y maent yn bwyta ac yn yfed yn ei ŵydd, ac yn ei gyfarch, 'Byw fyddo'r brenin Adoneia!'
1:26 Ond nid yw wedi fy ngwahodd i, sy'n was i ti, na Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, na Solomon dy was.
1:27 A wnaed y peth hwn trwy f'arglwydd frenin, heb i ti hysbysu dy was pwy sydd i eistedd ar orsedd f'arglwydd frenin ar ei ôl?"
1:28 Atebodd y Brenin Dafydd, "Galwch Bathseba." Daeth hithau i ŵydd y brenin a sefyll o'i flaen.
1:29 Yna tyngodd y brenin a dweud, "Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a waredodd fy mywyd o bob cyfyngder,
1:30 yn ddiau fel y tyngais i ti trwy'r ARGLWYDD, Duw Israel, mai Solomon dy fab a deyrnasai ar fy ôl, ac eistedd ar fy ngorsedd yn fy lle, felly yn ddiau y gwnaf y dydd hwn."
1:31 Ymostyngodd Bathseba â'i hwyneb i'r llawr ac ymgrymu i'r brenin, a dweud, "Boed i'm harglwydd, y Brenin Dafydd, fyw byth!"
1:32 Dywedodd y Brenin Dafydd, "Galwch Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada."
1:33 Daethant i ŵydd y brenin, a dywedodd y brenin wrthynt, "Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi, a pheri i'm mab Solomon farchogaeth ar fy mules, a dewch ag ef i lawr i Gihon.
1:34 Yno boed i Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ei eneinio ef yn frenin ar Israel; seiniwch yr utgorn a dywedwch, 'Byw fyddo'r Brenin Solomon!'
1:35 Dewch chwithau i fyny ar ei ôl, a boed iddo eistedd ar fy ngorsedd; ef sydd i deyrnasu yn fy lle, a gorchmynnaf iddo fod yn dywysog ar Israel a Jwda."
1:36 Yna atebodd Benaia fab Jehoiada y brenin, a dweud, "Amen! Felly hefyd y dywedo'r ARGLWYDD, Duw fy arglwydd frenin.
1:37 Fel y bu'r ARGLWYDD gyda'm harglwydd frenin, felly bydded gyda Solomon; a gwnaed ei orsedd yn uwch na gorsedd f'arglwydd, y Brenin Dafydd."
1:38 Aeth Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada, a'r Cerethiaid a'r Pelethiaid, i lawr, gan beri i Solomon farchogaeth ar fules y Brenin Dafydd, a dod ag ef i Gihon.
1:39 Cymerodd Sadoc yr offeiriad y corn olew o'r babell, ac eneiniodd Solomon; yna seiniwyd yr utgorn, a dywedodd yr holl bobl, "Byw fyddo'r brenin Solomon!"
1:40 Aeth yr holl bobl i fyny ar ei ôl dan ganu ffliwtiau a llawenhau'n orfoleddus, nes hollti'r ddaear â'u sŵn.
1:41 Tra oeddent yn gorffen bwyta, clywodd Adoneia hyn, a'r holl wahoddedigion oedd gydag ef. A phan glywodd Joab sain yr utgorn dywedodd, "Pam y mae sŵn cynnwrf yn y ddinas?"
1:42 Ar y gair, dyma Jonathan fab Abiathar yr offeiriad yn cyrraedd. Dywedodd Adoneia, "Tyrd i mewn; gŵr teilwng wyt ti, a newydd da sydd gennyt."
1:43 Ond atebodd Jonathan a dweud wrth Adoneia, "Nage'n wir! Y mae ein harglwydd, y Brenin Dafydd, wedi gwneud Solomon yn frenin,
1:44 ac wedi anfon gydag ef Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd, Benaia fab Jehoiada, y Cerethiaid a'r Pelethiaid, a pheri iddo farchogaeth ar fules y brenin.
1:45 Ac eneiniodd Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yn frenin yn Gihon, a daethant i fyny oddi yno dan lawenhau, a chynhyrfodd y ddinas. Dyna'r twrf a glywsoch.
1:46 A mwy na hynny, y mae Solomon yn eistedd ar orsedd y frenhiniaeth;
1:47 a daeth gweision y brenin ymlaen i gyfarch ein harglwydd, y Brenin Dafydd, a dweud, 'Gwneled dy Dduw enw Solomon yn well na'th enw di, a dyrchafed ei orsedd ef yn uwch na'th orsedd di!' Ac ymgrymodd y brenin ar ei wely.
1:48 Fel hyn y dywedodd y brenin: 'Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw Israel, a roes heddiw un i eistedd ar fy ngorsedd, a'm llygaid innau'n gweld hynny.'"
1:49 Cododd holl wahoddedigion Adoneia mewn dychryn a mynd bob un i'w ffordd.
1:50 A chan fod Adoneia'n ofni rhag Solomon, cododd ac aeth i ymaflyd yng nghyrn yr allor.
1:51 Mynegwyd i Solomon, "Edrych, y mae Adoneia'n ofni'r Brenin Solomon; ymaflodd yng nghyrn yr allor a dweud, 'Tynged y Brenin Solomon wrthyf yn awr na fydd iddo ladd ei was â'r cledd.'"
1:52 A dywedodd Solomon, "Os bydd yn ŵr teilwng, ni syrth un blewyn o'i wallt i lawr; ond os ceir drygioni ynddo, fe fydd farw."
1:53 Ac anfonodd y Brenin Solomon i'w gyrchu ef i lawr oddi wrth yr allor. Daeth yntau ac ymgrymu i'r Brenin Solomon; a dywedodd Solomon wrtho, "Dos i'th dŷ."

Gorchymyn Olaf Dafydd i Solomon

2:1 Pan nesaodd y dyddiau i Ddafydd farw, gorchmynnodd i'w fab Solomon, a dweud,
2:2 "Yr wyf fi ar fynd i ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd yn ddyn.
2:3 Cadw ofynion yr ARGLWYDD dy Dduw, gan rodio yn ei ffyrdd, ac ufuddhau i'w ddeddfau, ei orchmynion, ei farnedigaethau a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd hwy yng nghyfraith Moses. Yna fe lwyddi ym mhob peth a wnei ym mhle bynnag y byddi'n troi;
2:4 ac fe gyflawna'r ARGLWYDD ei air, a addawodd wrthyf pan ddywedodd, 'Os gwylia dy ddisgynyddion eu ffordd, a rhodio ger fy mron mewn gwirionedd, â'u holl galon ac â'u holl enaid, yna ni thorrir ymaith ŵr o'th dylwyth oddi ar orsedd Israel.'
2:5 "Gwyddost yr hyn a wnaeth Joab fab Serfia â mi, sef yr hyn a wnaeth i ddau gadfridog lluoedd Israel, Abner fab Ner ac Amasa fab Jether; fe'u lladdodd, a thywallt gwaed rhyfel ar adeg heddwch, a thaenu gwaed rhyfel ar y gwregys am ei lwynau a'r esgidiau am ei draed.
2:6 Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb; paid â gadael i'w benwynni ddisgyn i'r bedd mewn heddwch.
2:7 Ond bydd yn garedig wrth feibion Barsilai o Gilead; gad iddynt fod ymysg y rhai a fydd yn bwyta wrth dy fwrdd, oherwydd daethant ataf pan oeddwn yn ffoi rhag dy frawd Absalom.
2:8 Y mae hefyd gyda thi Simei fab Gera, y Benjaminiad o Bahurim; fe'm melltithiodd yn filain y dydd yr euthum i Mahanaim, ond daeth i'm cyfarfod at yr Iorddonen, a thyngais wrtho yn enw'r ARGLWYDD, 'Ni 'th laddaf â'r cleddyf.'
2:9 Ond yn awr, paid â'i adael yn ddi-gosb; yr wyt yn ŵr doeth, a gwyddost beth i'w wneud iddo; pâr i'w benwynni ddisgyn mewn gwaed i'r bedd."

Marwolaeth Dafydd

2:10 Bu farw Dafydd, a chladdwyd ef yn Ninas Dafydd.
2:11 Deugain mlynedd oedd y cyfnod y teyrnasodd Dafydd ar Israel; teyrnasodd yn Hebron am saith mlynedd, ac yn Jerwsalem am dri deg a thair o flynyddoedd.
2:12 Yna eisteddodd Solomon ar orsedd ei dad Dafydd, a sicrhawyd ei frenhiniaeth yn gadarn.

Marwolaeth Adoneia

2:13 Daeth Adoneia fab Haggith at Bathseba mam Solomon, a dywedodd hi, "Ai mewn heddwch yr wyt yn dod?" Atebodd yntau, "Mewn heddwch.
2:14 Hoffwn air â thi." Atebodd hithau, "Llefara."
2:15 Yna dywedodd ef, "Fe wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth, ac i holl Israel roi eu bryd ar fy ngwneud yn frenin; ond daeth tro ar fyd, ac aeth y frenhiniaeth i'm brawd; trwy'r ARGLWYDD y cafodd hi.
2:16 Yn awr y mae gennyf un cais i'w ofyn gennyt; paid â'm gwrthod." Dywedodd hithau, "Gofyn."
2:17 Ac meddai ef, "Gwna gais drosof at y Brenin Solomon am iddo roi Abisag y Sunamees yn wraig imi, oherwydd ni fydd yn dy wrthod di."
2:18 A dywedodd Bathseba, "o'r gorau, mi ofynnaf drosot i'r brenin."
2:19 Felly aeth Bathseba at y Brenin Solomon i ofyn iddo dros Adoneia. Cododd y brenin i'w chyfarch ac ymgrymodd iddi; yna eisteddodd ar ei orsedd, a gosodwyd gorsedd i fam y brenin eistedd ar ei law dde.
2:20 Dywedodd hi, "Yr wyf am ofyn un cais bach gennyt; paid â'm gwrthod." Atebodd y brenin hi, "Gofyn, fy mam, oherwydd ni'th wrthodaf di."
2:21 Dywedodd hi, "Rhodder Abisag y Sunamees i'th frawd Adoneia yn wraig."
2:22 Ond atebodd y Brenin Solomon ei fam, "A pham yr wyt ti'n gofyn am Abisag y Sunamees i Adoneia? Gofyn hefyd am y deyrnas iddo, oherwydd y mae'n frawd hŷn na mi; gofyn am y deyrnas iddo ef, a hefyd i Abiathar yr archoffeiriad, ac i Joab fab Serfia."
2:23 A thyngodd y Brenin Solomon i'r ARGLWYDD, "Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os nad ar draul ei einioes ei hun y llefarodd Adoneia fel hyn.
2:24 Yn awr, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a'm sicrhaodd ac a'm gosododd ar orsedd Dafydd fy nhad, ac a roes imi dylwyth yn ôl ei air, yn ddiau heddiw fe roir Adoneia i farwolaeth."
2:25 Yna gwysiodd y Brenin Solomon Benaia fab Jehoiada; ymosododd yntau ar Adoneia, a bu farw.

Diswyddo Abiathar a Lladd Joab

2:26 Ac wrth Abiathar yr archoffeiriad dywedodd y brenin, "Dos i Anathoth, i'th fro dy hun, oherwydd gŵr yn haeddu marw wyt ti, ond ni laddaf mohonot y tro hwn, am iti gludo arch yr Arglwydd DDUW o flaen fy nhad Dafydd, ac am iti ddioddef gyda'm tad yn ei holl gystuddiau."
2:27 Yna diswyddodd Solomon Abiathar o fod yn archoffeiriad i'r ARGLWYDD, er mwyn cyflawni gair yr ARGLWYDD a lefarodd yn erbyn tylwyth Eli yn Seilo.
2:28 Pan ddaeth y newydd at Joab, a fu'n cefnogi Adoneia — er na chefnogodd Absalom — fe ffodd i babell yr ARGLWYDD a chydiodd yng nghyrn yr allor.
2:29 Dywedwyd wrth y Brenin Solomon fod Joab wedi ffoi i babell yr ARGLWYDD a'i fod wrth yr allor. Yna anfonwyd Benaia fab Jehoiada gan Solomon â'r gorchymyn, "Dos ac ymosod arno."
2:30 Wedi i Benaia ddod i babell yr ARGLWYDD, dywedodd wrtho, "Fel hyn y dywedodd y brenin, 'Tyrd allan'." Atebodd yntau, "Na, yma y byddaf farw."
2:31 Pan ddygodd Benaia adroddiad yn ôl at y brenin, a mynegi beth oedd ateb Joab, dywedodd y brenin wrtho, "Gwna fel y dywedodd; lladd ef, a'i gladdu, a symud oddi wrthyf ac oddi wrth fy nhylwyth euogrwydd y gwaed a dywalltodd Joab yn ddiachos.
2:32 Fe ddial yr ARGLWYDD y gwaed arno ef am iddo ymosod, heb i'm tad Dafydd wybod, ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, a'u lladd â'r cleddyf, sef Abner fab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa fab Jether, tywysog llu Jwda.
2:33 Erys eu gwaed hwy ar ben Joab a'i ddisgynyddion yn dragywydd; ond i Ddafydd a'i ddisgynyddion a'i deulu a'i orsedd fe fydd llwydd oddi wrth yr ARGLWYDD yn dragywydd."
2:34 Aeth Benaia fab Jehoiada i fyny, ac ymosod ar Joab a'i ladd; a chladdwyd ef yn ei gartref yn yr anialwch.
2:35 Gosododd y brenin Benaia fab Jehoiada yn bennaeth y fyddin yn lle Joab, a Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar.

Marwolaeth Simei

2:36 Yna gwysiodd y brenin Simei a dweud wrtho, "Adeilada dŷ yn Jerwsalem a thrig yno. Paid â symud oddi yno i unman,
2:37 oherwydd, cymer rybudd, yn y dydd y byddi'n croesi nant Cidron byddi farw'n gelain; bydd dy waed arnat ti dy hun."
2:38 Dywedodd Simei wrth y brenin, "Purion! Fel y mae f'arglwydd frenin yn gorchymyn y gwna dy was."
2:39 Trigodd Simei am gyfnod yn Jerwsalem; ond ymhen tair blynedd, ffodd dau o gaethweision Simei at Achis fab Maacha, brenin Gath.
2:40 Hysbyswyd Simei fod ei weision yn Gath, a chyfrwyodd ei asyn a mynd i Gath at Achis i geisio'i weision; ac aeth a dod â'i weision yn ôl o Gath.
2:41 Pan hysbyswyd Solomon i Simei fynd o Jerwsalem i Gath a dychwelyd,
2:42 gwysiodd y brenin Simei a dweud wrtho, "Oni thynghedais di yn enw'r ARGLWYDD? Oni rybuddiais di y byddit farw'n gelain y dydd yr ait allan i unrhyw fan? A dywedaist wrthyf, 'Purion! Fe ufuddhaf.'
2:43 Pam na chedwaist lw yr ARGLWYDD a'r gorchymyn a roddais i ti?"
2:44 Yna dywedodd y brenin wrth Simei, "Fe wyddost yn dy galon yr holl ddrygioni a wnaethost i'm tad Dafydd.
2:45  Fe ddial yr ARGLWYDD dy ddrygioni arnat, ond bendithir y Brenin Solomon, a sicrheir gorsedd Dafydd gerbron yr ARGLWYDD yn dragywydd."
2:46 Yna rhoes y brenin orchymyn i Benaia fab Jehoiada; aeth yntau allan ac ymosod ar Simei, a bu ef farw. A sicrhawyd y frenhiniaeth yn llaw Solomon.

Solomon yn Gweddïo am Ddoethineb, 2 Cron. 1:3-12

3:1 Gwnaeth Solomon gynghrair â Pharo brenin yr Aifft trwy briodi ei ferch. Daeth â hi i Ddinas Dafydd i fyw nes iddo ddarfod adeiladu ei dŷ ei hun a thŷ'r ARGLWYDD, a'r mur o amgylch Jerwsalem.
3:2 Yr oedd y bobl yn dal i aberthu mewn uchelfeydd, am nad oedd tŷ i enw'r ARGLWYDD eto wedi ei adeiladu.
3:3 Yr oedd Solomon yn caru'r ARGLWYDD, gan rodio yn ôl deddfau ei dad Dafydd, ond yn aberthu ac yn arogldarthu mewn uchelfeydd.
3:4 Aeth y brenin i aberthu i Gibeon. Honno oedd y brif uchelfa; mil o boethoffrymau a offrymai Solomon ar yr allor yno.
3:5 Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon yn Gibeon mewn breuddwyd liw nos; a dywedodd DUW, "Gofyn beth bynnag a fynni gennyf."
3:6 Dywedodd Solomon, "Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, dy was, am iddo rodio gyda thi mewn gwirionedd a chyfiawnder a chywirdeb calon. Ie, parheaist yn ffyddlon iawn iddo, a rhoi iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc heddiw.
3:7 Yn awr, O ARGLWYDD fy Nuw, gwnaethost dy was yn frenin yn lle fy nhad Dafydd, a minnau'n llanc ifanc, dibrofiad.
3:8 Ac y mae dy was yng nghanol dy ddewis bobl, sy'n rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif.
3:9 Felly rho i'th was galon ddeallus i farnu dy bobl, i ddirnad da a drwg; oherwydd pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn?"
3:10 Bu'n dderbyniol yng ngolwg yr ARGLWYDD i Solomon ofyn y peth hwn,
3:11 a dywedodd Duw wrtho, "Oherwydd iti ofyn hyn, ac nid gofyn i ti dy hun flynyddoedd lawer, na chyfoeth, nac einioes dy elynion, ond gofyn deall wrth wrando achos,
3:12 gwnaf yn ôl dy eiriau. Rhoddaf iti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o'th flaen, ac na chyfyd chwaith ar dy ôl.
3:13 Rhoddaf hefyd iti yr hyn nis gofynnaist, sef cyfoeth a gogoniant, fel na bydd dy fath ymysg brenhinoedd, dy holl ddyddiau di.
3:14 Ac os bydd iti rodio yn fy ffyrdd, a chadw fy neddfau a'm gorchmynion, fel y rhodiodd dy dad Dafydd, estynnaf dy ddyddiau hefyd."
3:15 Deffrôdd Solomon, a sylweddoli mai breuddwyd oedd. Pan ddaeth yn ôl i Jerwsalem, safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD ac offrymodd boeth-offrymau a heddoffrymau, a gwnaeth wledd i'w holl weision.

Solomon yn Barnu Achos Anodd

3:16 Daeth dwy buteinwraig at y brenin a sefyll o'i flaen.
3:17 Dywedodd y naill, "O f'arglwydd, roeddwn i a'r wraig hon yn byw yn yr un tŷ, ac esgorais ar blentyn yn y tŷ, a hithau yno.
3:18 Tridiau wedi i mi esgor, esgorodd y wraig hon hefyd, heb neb ond ni'n dwy yn y tŷ.
3:19 Bu farw plentyn y wraig hon yn y nos, am iddi orwedd arno;
3:20 cododd hithau yn ystod y nos a chymryd fy mab o'm hymyl tra oeddwn i, dy lawforwyn, yn cysgu, a'i gymryd i'w chôl a gosod ei phlentyn marw yn fy nghôl i.
3:21 Pan godais yn y bore i roi sugn i'm mab, yr oedd yn farw; ond wedi imi graffu arno yn y bore, nid hwnnw oedd y mab yr esgorais i arno."
3:22 Meddai'r wraig arall, "Na, fy mab i yw'r un byw; dy fab di yw'r un marw." Yna, dyma'r gyntaf yn dweud, "Na, dy fab di yw'r marw; fy mab i yw'r byw." Taeru felly y buont gerbron y brenin.
3:23 Yna dywedodd y brenin, "Y mae'r naill yn dweud, 'Hwn yw fy mab i, y byw; yr un marw yw dy fab di.' Ac y mae'r llall yn dweud, 'Na, dy fab di yw'r marw; fy mab i yw'r byw.'"
3:24 Yna dywedodd y brenin, "Dewch â chleddyf imi."
3:25 Pan ddaethant â'r cleddyf gerbron y brenin, ebe'r brenin, "Rhannwch y bachgen byw yn ddau, a rhowch hanner i'r naill a hanner i'r llall."
3:26 Ond meddai'r wraig oedd piau'r plentyn byw wrth y brenin (oherwydd enynnodd ei thosturi tuag at ei baban), "O f'arglwydd, rhowch iddi hi y plentyn byw, a pheidiwch â'i ladd ar un cyfrif."
3:27 Ond dywedodd y llall, "Na foed yn eiddo i mi na thithau; rhannwch ef." Atebodd y brenin, "Peidiwch â'i ladd; rhowch y plentyn byw i'r gyntaf; honno yw ei fam."
3:28 Clywodd holl Israel ddyfarniad y brenin, ac ofnasant ef, am eu bod yn gweld ynddo ddoethineb ddwyfol i weinyddu barn.

Gweinidogion Solomon

4:1 Yr oedd Solomon yn frenin ar holl Israel.
4:2 Dyma weinidogion y goron: Asareia fab Sadoc yn offeiriad;
4:3 Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, yn ysgrifenyddion; Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur;
4:4 Benaia fab Jehoiada yn bennaeth y fyddin; Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid;
4:5 Asareia fab Nathan yn bennaeth y rhaglawiaid; Sabud fab Nathan, yr offeiriad, yn gyfaill y brenin;
4:6 Ahisar yn arolygwr y tŷ; Adoniram fab Abda yn swyddog llafur gorfod.
4:7 Yr oedd gan Solomon ddeuddeg rhaglaw yn holl Israel yn gofalu am ymborth y brenin a'i dŷ; am fis yn y flwyddyn y gofalai pob un am yr ymborth.
4:8 Dyma'u henwau: Ben-hur yn ucheldir Effraim;
4:9 Ben-decar yn Macas a Saalbim a Beth-semes ac Elon-beth-hanan;
4:10 Ben-hesed yn Aruboth (ganddo ef yr oedd Socho a holl diriogaeth Heffer);
4:11 Ben-abinadab yn holl Naffath-dor (Taffath, merch Solomon, oedd ei wraig);
4:12 Baana fab Ahilud yn Taanach a Megido a holl Beth-sean, sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Beth-sean hyd Abel-mehola a thu hwnt i Jocmeam;
4:13 Ben-geber yn Ramoth-gilead (ganddo ef yr oedd Hafoth-jair fab Manasse, sydd yn Gilead, a Hebel-argob, sydd yn Basan — trigain o ddinasoedd mawr â chaerau a barrau pres);
4:14 Ahinadab fab Ido yn Mahanaim;
4:15 Ahimaas yn Nafftali (cymerodd ef Basemath, merch Solomon, yn wraig);
4:16 Baana fab Jusai yn Aser ac Aloth;
4:17 Jehosaffat fab Parus yn Issachar;
4:18 Simei fab Ela yn Benjamin;
4:19 Geber fab Uri yn nhiriogaeth Gilead (gwlad Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Basan). Yr oedd un prif raglaw dros y wlad.

Teyrnasiad Llwyddiannus Solomon

4:20 Yr oedd Jwda ac Israel mor niferus â'r tywod ar lan y môr; yr oeddent yn bwyta ac yn yfed yn llawen.
4:21 Yr oedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd o afon Ewffrates drwy wlad Philistia at derfyn yr Aifft, a hwythau'n dwyn teyrnged ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei fywyd.
4:22 Ymborth beunyddiol Solomon oedd deg corus ar hugain o beilliaid a thrigain corus o flawd;
4:23 deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen o'r borfa, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, gafrewigod, ewigod, a dofednod breision.
4:24 Yr oedd yn llywodraethu'n frenin dros y gwledydd i'r gorllewin o'r Ewffrates, o Tiffsa hyd Gasa, dros yr holl frenhinoedd i'r gorllewin o'r afon.
4:25 Cafodd heddwch ar bob tu, ac yr oedd Jwda ac Israel yn trigo'n ddiogel, holl ddyddiau Solomon, pob un dan ei winwydden a'i ffigysbren, o Dan hyd Beerseba.
4:26 Yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau ar gyfer ei geffylau-cerbyd, a deuddeng mil o feirch.
4:27 Gofalai'r rhaglawiaid hynny, pob un yn ei fis, am ymborth ar gyfer y Brenin Solomon a phawb a ddôi at ei fwrdd; nid oedd dim yn eisiau.
4:28 Dygent hefyd haidd a gwellt i'r ceffylau a'r meirch cyflym, i'r man lle'r oedd i fod, pob un yn ôl a ddisgwylid ganddo.
4:29 Rhoddodd Duw i Solomon ddoeth-ineb a deall helaeth, ac amgyffrediad mor eang â thraeth y môr.
4:30 Rhagorodd doethineb Solomon ar ddoethineb holl bobl y Dwyrain a'r Aifft;
4:31 yr oedd yn ddoethach nag unrhyw un, hyd yn oed Ethan yr Esrahiad, neu Heman, Calcol a Darda, meibion Mahol; yr oedd ei fri wedi ymledu trwy'r holl genhedloedd oddi amgylch.
4:32 Llefarodd dair mil o ddiarhebion, ac yr oedd ei ganeuon yn rhifo mil a phump.
4:33 Traethodd am brennau, o'r cedrwydd sydd yn Lebanon hyd yr isop sy'n tyfu o'r pared; hefyd am anifeiliaid ac ehediaid, am ymlusgiaid a physgod.
4:34 Daethant o bob cenedl i wrando doethineb Solomon, ac o blith holl frenhinoedd y ddaear a glywodd am ei ddoethineb.

Solomon yn Paratoi i Adeiladu'r Deml, 2 Cron. 2:1-18

5:1 Pan glywodd Hiram brenin Tyrus mai Solomon oedd wedi ei eneinio yn frenin yn lle ei dad, anfonodd ei weision ato, oherwydd bu Dafydd yn hoff gan Hiram erioed.
5:2 Anfonodd Solomon yn ôl at Hiram a dweud,
5:3 "Gwyddost am fy nhad Dafydd, na allodd adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD ei Dduw o achos y rhyfeloedd o'i amgylch, nes i'r ARGLWYDD roi ei elynion dan wadnau ei draed.
5:4 Bellach, parodd yr ARGLWYDD fy Nuw imi gael llonydd oddi amgylch, heb na gwrthwynebydd na digwyddiad croes.
5:5 Y mae yn fy mwriad adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD fy Nuw fel yr addawodd yr ARGLWYDD wrth fy nhad Dafydd, gan ddweud, 'Dy fab, y byddaf yn ei roi ar dy orsedd yn dy le, a adeilada'r tŷ i'm henw.'
5:6 Felly rho orchymyn i dorri i mi gedrwydd o Lebanon; fe gaiff fy ngweision i fod gyda'th rai di, ac mi dalaf iti gyflog dy weision yn ôl yr hyn a ofynni; gwyddost nad oes gennym ni neb mor hyddysg â'r Sidoniaid mewn cymynu coed."
5:7 Llawenychodd Hiram yn fawr pan glywodd eiriau Solomon, a dywedodd, "Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD heddiw am iddo roi i Ddafydd fab doeth dros y bobl niferus hyn."
5:8 Anfonodd at Solomon, a dweud, "Rwy'n cydsynio â'r cais a wnaethost; gwnaf bopeth a ddymuni ynglŷn â'r cedrwydd a'r ffynidwydd.
5:9 Caiff fy ngweision eu dwyn i lawr o Lebanon at y môr, a byddaf fi'n eu gyrru'n rafftiau dros y môr i'r man a benni imi; byddaf yn eu datod yno, i ti eu cymryd. Cei dithau gyflawni fy nymuniad innau a rhoi ymborth ar gyfer fy mhalas."
5:10 Felly yr oedd Hiram yn rhoi i Solomon gymaint ag a fynnai o gedrwydd a ffynidwydd,
5:11 a Solomon yn rhoi i Hiram ugain mil o gorusau o wenith ac ugain corus o olew coeth yn gynhaliaeth i'w balas. Dyna beth yr oedd Solomon yn ei roi i Hiram yn flynyddol.
5:12 A rhoes yr ARGLWYDD ddoethineb i Solomon, yn ôl ei addewid iddo; felly bu heddwch rhwng Hiram a Solomon, a gwnaethant gyfamod â'i gilydd.
5:13 Cododd y Brenin Solomon dreth llafur ar holl Israel, sef deng mil ar hugain o ddynion.
5:14 Byddai'n eu hanfon i Lebanon fesul deng mil o wŷr am fis ar y tro; byddent am fis yn Lebanon, a deufis gartref. Adoniram oedd pennaeth y dreth llafur gorfod.
5:15 Yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain o wŷr hefyd yn gludwyr, a phedwar ugain mil yn chwarelwyr yn y mynydd;
5:16 heblaw y rhain yr oedd ganddo dair mil a thri chant o oruchwylwyr gwaith yn arolygu'r gweithwyr.
5:17 Ar orchymyn y brenin yr oeddent yn cloddio meini enfawr a drud i wneud sylfaen o feini nadd i'r tŷ.
5:18 Yr oedd gwŷr Gebal ac adeiladwyr Solomon a Hiram yn naddu ac yn paratoi'r coed a'r meini i adeiladu'r tŷ.
6:1 Yn y flwyddyn pedwar cant wyth deg ar ôl i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft, ym mhedwaredd flwyddyn ei deyrnasiad ar Israel, ym mis Sif, yr ail fis, dechreuodd Solomon adeiladu tŷ'r ARGLWYDD.
6:2 Yr oedd y tŷ a adeiladodd y Brenin Solomon i'r ARGLWYDD yn drigain cufydd ei hyd, yn ugain cufydd ei led ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder.
6:3 Yr oedd y cyntedd o flaen corff y tŷ yn ugain cufydd ei hyd, gyda lled y tŷ, a deg cufydd o led o flaen y tŷ.
6:4 A gwnaeth ffenestri i'r tŷ yn goleuo at i lawr trwy ddelltwaith.
6:5 Cododd adeilad yn erbyn mur y tŷ o gylch corff y tŷ a'r cysegr mewnol; a gwnaeth fwtresi o amgylch.
6:6 Yr oedd y celloedd isaf yn bum cufydd o led, y rhai canol yn chwe chufydd, a'r drydedd res yn saith gufydd, oherwydd gwnaeth rabadau oddi allan i'r tŷ o amgylch fel na rwymid y trawstiau ym muriau'r tŷ.
6:7 Adeiladwyd y tŷ o gerrig wedi eu cyweirio yn y chwarel, fel nad oedd sŵn morthwyl na neddau nac unrhyw erfyn haearn i'w glywed yn y tŷ wrth ei adeiladu.
6:8 Ar ochr dde'r tŷ yr oedd y mynediad i'r llawr isaf, gyda grisiau tro yn esgyn i'r llawr canol ac o'r un canol i'r trydydd.
6:9 Wedi iddo orffen ei adeiladu, coediodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd.
6:10 Cododd adeilad pum cufydd ei uchder yn erbyn yr holl dŷ, a'i gydio wrth y tŷ â chedrwydd.
6:11 Daeth gair yr ARGLWYDD at Solomon, gan ddweud,
6:12 "Ynglŷn â'r tŷ hwn yr wyt yn ei adeiladu, os bydd iti rodio yn fy neddfau a chyflawni fy marnedigaethau a chadw fy holl orchmynion a'u dilyn, yna cyflawnaf iti yr addewid a wneuthum i'th dad Dafydd;
6:13 a thrigaf ymysg plant Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel."

Tu Mewn y Deml, 2 Cron. 3:8-14

6:14 Adeiladodd Solomon y tŷ a'i orffen;
6:15 a byrddiodd barwydydd y tŷ ag ystyllod cedrwydd, a'u coedio o'r llawr hyd dulathau'r nenfwd, a llorio'r tŷ â phlanciau ffynidwydd.
6:16 Caeodd ugain cufydd yn nhalcen y tŷ ag ystyllod cedrwydd, o'r llawr hyd y tulathau, a'i neilltuo iddo'i hun yn gysegr mewnol, i fod yn gysegr sancteiddiaf.
6:17 Yr oedd y tŷ, sef corff y deml o flaen y cysegr mewnol, yn ddeugain cufydd o hyd.
6:18 Yr oedd y cedrwydd y tu mewn i'r tŷ wedi eu cerfio'n gnapiau ac yn flodau agored; yr oedd yn gedrwydd i gyd, heb garreg yn y golwg.
6:19 Darparodd y cysegr mewnol yn y man nesaf i mewn yn y tŷ i dderbyn arch cyfamod yr ARGLWYDD.
6:20 Yr oedd y cysegr mewnol yn ugain cufydd o hyd, ugain o led ac ugain o uchder, a goreurodd hi ag aur pur; gwnaeth hefyd allor gedrwydd.
6:21 Goreurodd Solomon y tŷ oddi mewn ag aur pur, a gosododd gadwyni aur ar draws, o flaen y cysegr mewnol a oreurwyd.
6:22 Gwisgodd yr holl dŷ o'i gwr ag aur, a'r allor i gyd, a oedd yn perthyn i'r cysegr mewnol.
6:23 Yn y cysegr mewnol gwnaeth ddau gerwb, deg cufydd o uchder, o bren olewydd.
6:24 Yr oedd dwy adain y naill gerwb yn bum cufydd yr un, sef deg cufydd o flaen un adain i flaen y llall.
6:25 Yr oedd yr ail gerwb yn ddeg cufydd hefyd, gyda'r un mesur a'r un ffurf i'r ddau.
6:26 Deg cufydd oedd uchder y naill a'r llall.
6:27 Gosododd y cerwbiaid yng nghanol y cysegr mewnol. Yr oedd eu hadenydd ar led, ac adain y naill yn cyffwrdd ag un pared ac adain y llall yn cyffwrdd â'r pared arall, a'u hadenydd yn cyffwrdd â'i gilydd yn y canol.
6:28 Yr oedd wedi goreuro'r cerwbiaid.
6:29 Cerfiodd holl barwydydd y cysegr mewnol o amgylch â lluniau cerwbiaid a phalmwydd a blodau agored, y tu mewn a'r tu allan;
6:30 a goreurodd lawr y cysegr mewnol oddi mewn ac oddi allan.
6:31 Gwnaeth ddorau o goed olewydd i fynedfa'r cysegr mewnol, a'r capan a'r cilbyst yn bumochrog.
6:32 Cerfiodd gerwbiaid a phalmwydd a blodau agored ar y ddwy ddôr o goed olewydd; wedyn goreurodd hwy, a rhedeg aur dros y cerwbiaid a'r palmwydd.
6:33 Yn yr un modd gwnaeth gilbyst sgwâr o goed palmwydd i fynedfa corff y deml.
6:34 Yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd, y naill a'r llall yn ddeuddarn yn plygu ar ei gilydd.
6:35 Cerfiodd gerwbiaid a phalmwydd a blodau agored arnynt, a'u goreuro'n gytbwys dros y cerfiad.
6:36 Adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thri chwrs o gerrig nadd ac â chwrs o drawstiau cedrwydd.
6:37 Gosodwyd sylfaen tŷ'r ARGLWYDD ym mis Sif o'r bedwaredd flwyddyn;
6:38 a gorffennwyd y tŷ yn ôl holl ofynion y cynllun ym mis Bul (dyna'r wythfed mis) o'r unfed flwyddyn ar ddeg. Felly saith mlynedd y bu'n ei adeiladu.

Palas Solomon

7:1 Tair blynedd ar ddeg y bu Solomon yn adeiladu ei dŷ ei hun cyn ei orffen yn llwyr.
7:2 Adeiladodd Dŷ Coedwig Lebanon, yn gan cufydd o hyd, yn hanner can cufydd o led, a deg cufydd ar hugain o uchder, ar dair rhes o golofnau cedrwydd, gyda thrawstiau cedrwydd ar ben y colofnau.
7:3 To o gedrwydd oedd uwchben y tulathau ar y pum colofn a deugain, a safai pymtheg ym mhob rhes.
7:4 Ac yr oedd tair rhes o ffenestri yn wynebu ei gilydd fesul tair.
7:5 Yr oedd fframiau sgwâr i'r holl ddrysau, ac i'r ffenestri oedd yn wynebu ei gilydd fesul tair.
7:6 Gwnaeth Neuadd y Colofnau hefyd, yn hanner can cufydd o hyd a deg cufydd ar hugain o led, a chyntedd o'i blaen gyda cholofnau, a chornis uwchben.
7:7 Gwnaeth Neuadd yr Orsedd, lle'r oedd yn gweinyddu barn, sef y Neuadd Barn, wedi ei phanelu â chedrwydd o'r llawr i'r distiau.
7:8 Ac yr oedd ei dŷ annedd ei hun ar y cwrt arall yn nes i mewn na'r neuadd, ond o'r un gwneuthuriad. Gwnaeth Solomon hefyd dŷ yr un fath â'r neuadd hon i'w briod, merch Pharo.
7:9 Yr oedd y rhai hyn i gyd, y tu mewn a'r tu allan, o feini trymion, wedi eu torri i fesur a'u llifio, o'r sylfaen i'r bondo, o gwrt tŷ'r ARGLWYDD, hyd y cwrt mawr.
7:10 Yr oedd y sylfeini o feini mawr, trymion, rhai o wyth a rhai o ddeg cufydd;
7:11 ac uwchben, meini trymion wedi eu torri i fesur, a chedrwydd.
7:12 Yr oedd gan y cwrt mawr dri chwrs o gerrig nadd a chwrs o drawstiau cedrwydd, a'r un modd cwrt mewnol tŷ'r ARGLWYDD hyd borth y tŷ.

Tasg Hiram

7:13 Anfonodd y Brenin Solomon i Tyrus i gyrchu Hiram,
7:14 mab i wraig weddw o lwyth Nafftali, a'i dad yn hanu o Tyrus. Gof pres cywrain a deallus oedd ef, yn gwybod sut i wneud pob math o waith pres; a daeth at y Brenin Solomon a gwneud ei holl waith.

Y Ddwy Golofn Bres, 2 Cron. 3:15-17

7:15 Bwriodd ddwy golofn bres, deunaw cufydd o uchder, gyda chylchlin o ddeuddeg cufydd yr un; yr oeddent yn wag o'r tu mewn, a'r deunydd yn bedair modfedd o drwch.
7:16 Gwnaeth ddau gnap o bres tawdd i'w gosod ar ben y colofnau, y naill a'r llall yn bum cufydd o uchder.
7:17 Yna gwnaeth rwydwaith a phlethiadau o gadwynwaith i'r naill a'r llall o'r cnapiau ar ben y colofnau.
7:18 Gwnaeth bomgranadau yn ddwy res ar y rhwydwaith o'i amgylch, i guddio'r cnapiau ar ben y naill golofn a'r llall.
7:19 Yr oedd y cnapiau ar ben y colofnau yn y porth yn waith lili am bedwar cufydd.
7:20 Yr oedd y cnapiau ar ben y colofnau yn codi o'r cylch crwn oedd gogyfer â'r rhwydwaith, ac yr oedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o gylch y ddau gnap.
7:21 Gosododd y colofnau ym mhorth y deml; cododd y golofn dde a'i galw'n Jachin, yna cododd y golofn chwith a'i galw'n Boas.
7:22 Ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili; ac fel hyn y gorffennwyd gwaith y colofnau.

Y Môr o Fetel Tawdd, 2 Cron. 4:2-5

7:23 Yna fe wnaeth y môr o fetel tawdd; yr oedd yn grwn ac yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, a phum cufydd o uchder, yn mesur deg cufydd ar hugain o gylch.
7:24 O amgylch y môr, yn ei gylchynu dan ei ymyl am ddeg cufydd ar hugain, yr oedd cnapiau; yr oeddent mewn dwy res ac wedi eu bwrw'n rhan ohono.
7:25 Safai'r môr ar gefn deuddeg ych, tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de, a thri tua'r dwyrain, a'u cynffonnau at i mewn.
7:26 Dyrnfedd oedd ei drwch, a'i ymyl wedi ei weithio fel ymyl cwpan neu flodyn lili; yr oedd yn dal dwy fil o bathau.

Y Trolïau Pres

7:27 Gwnaeth hefyd ddeg o drolïau pres, yn bedwar cufydd o hyd a phedwar cufydd o led a thri chufydd o uchder.
7:28 Yng ngwneuthuriad y trolïau yr oedd panelau rhwng fframiau, ac ar y panelau hyn yr oedd llewod ac ychen a cherwbiaid.
7:29 Ac yr oedd plethennau o riswaith ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a'r ychen.
7:30 Yr oedd gan bob troli bedair olwyn bres ac echelau pres, ac ysgwyddau dan eu pedair congl ar gyfer y noe, a'r ysgwyddau yn waith tawdd, a phlethennau wrth bob un.
7:31 Yr oedd ei genau oddi mewn i gorongylch, yn gufydd o uchder, a'r genau yn gylch cufydd a hanner, fel gwneuthuriad soced. Yr oedd cerfiadau o gwmpas y genau, a'r panelau yn sgwâr, nid yn grwn.
7:32 Yr oedd y pedair olwyn o dan y panelau, a phlatiau echel yr olwynion yn y ffrâm; cufydd a hanner oedd uchder pob olwyn.
7:33 Yr oedd yr olwynion wedi eu gwneud fel olwyn cerbyd, a'u hechelau a'u camegau a'u ffyn a'u bothau i gyd yn waith tawdd.
7:34 Ac yr oedd pedair ysgwydd ym mhedair congl pob troli, a'r ysgwyddau yn un darn â'r troli.
7:35 Ac ar ben y troli yr oedd cylch crwn hanner cufydd o uchder, a'r platiau echel a'r panelau yn un darn â hi.
7:36 Ar wyneb y platiau a'r panelau cerfiodd gerwbiaid, llewod a phalmwydd, a phlethennau o amgylch pob un.
7:37 Fel hyn y gwnaeth y deg troli, gyda'r un mold, yr un maint a'r un ffurf i bob un.
7:38 Hefyd fe wnaeth ddeg noe bres i ddal deugain bath yr un, pob noe yn bedwar cufydd. Gosododd hwy bob yn un ar y deg troli,
7:39 pum troli ar ochr dde y tŷ, a phump ar yr ochr chwith; a gosododd y môr ar ochr dde-ddwyrain y tŷ.

Offer y Deml, 2 Cron. 4:11—5:1

7:40 Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen yr holl waith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD:
7:41 y ddwy golofn, y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar ben y colofnau;
7:42 y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau; y deg troli;
7:43 y deg noe ar y trolïau;
7:44 y môr a'r deuddeg ych dano;
7:45 y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau. Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD o bres gloyw.
7:46 Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Sarethan yng ngwastadedd yr Iorddonen.
7:47 Peidiodd Solomon â phwyso'r holl lestri gan mor niferus oeddent, ac na ellid pwyso'r pres.
7:48 A gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i dŷ'r ARGLWYDD: yr allor aur a'r bwrdd aur i ddal y bara gosod;
7:49 y canwyllbrennau o aur pur, pump ar y dde a phump ar y chwith o flaen y cysegr mewnol; y blodau a'r llusernau a'r gefeiliau aur;
7:50 y ffiolau, y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau hefyd o aur pur; a'r socedau aur i'r dorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf ac i'r dorau o fewn y côr.
7:51 Wedi i'r Brenin Solomon orffen yr holl waith a wnaeth yn nhŷ'r ARGLWYDD, dygodd y pethau yr oedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru, yr arian a'r aur a'r offer, a'u gosod yn nhrysordai tŷ'r ARGLWYDD.

Cyrchu Arch y Cyfamod i'r Deml, 2 Cron. 5:2—6:2

8:1 Yna cynullodd y Brenin Solomon henuriaid Israel a holl benaethiaid y llwythau a phennau-teuluoedd Israel ato'i hun yn Jerwsalem, i gyrchu arch cyfamod yr ARGLWYDD o Ddinas Dafydd, sef Seion.
8:2 Daeth yr holl Israeliaid ynghyd at y Brenin Solomon ar yr ŵyl ym mis Ethanim, y seithfed mis.
8:3 Wedi i holl henuriaid Israel gyrraedd, cododd yr offeiriaid yr arch,
8:4 a chyrchodd yr offeiriaid a'r Lefiaid arch yr ARGLWYDD a phabell y cyfarfod a'r holl lestri cysegredig oedd yn y babell.
8:5 Ac yr oedd y Brenin Solomon, a phawb o gynulleidfa Israel oedd wedi ymgynnull ato, yno o flaen yr arch yn aberthu defaid a gwartheg rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif.
8:6 Felly y dygodd yr offeiriaid arch cyfamod yr ARGLWYDD a'i gosod yn ei lle yng nghysegr mewnol y tŷ, y cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y cerwbiaid,
8:7 oherwydd yr oedd y cerwbiaid yn estyn eu hadenydd dros le'r arch ac yn cysgodi dros yr arch a'i pholion.
8:8 Yr oedd y polion yn ymestyn allan oddi wrth yr arch, fel y gellid gweld eu blaenau o'r cysegr o flaen y cysegr mewnol, ond nid oeddent i'w gweld o'r tu allan. Ac yno y maent hyd y dydd hwn.
8:9 Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech garreg a osododd Moses ynddi yn Horeb, lle y gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod â'r Israeliaid pan oeddent yn dod allan o'r Aifft.
8:10 Fel yr oedd yr offeiriaid yn dod allan o'r cysegr, llanwyd tŷ'r ARGLWYDD gan y cwmwl; ni fedrai'r offeiriaid barhau i weinyddu o achos y cwmwl;
8:11 yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi tŷ'r ARGLWYDD.
8:12 Yna dywedodd Solomon: "Dywedodd yr ARGLWYDD y trigai yn y tywyllwch.
8:13 Gorffennais adeiladu i ti dŷ aruchel, lle iti breswylio ynddo dros byth."

Solomon yn Annerch y Bobl, 2 Cron. 6:3-11

8:14 Yna tra oeddent i gyd yn sefyll, trodd y brenin atynt a bendithio holl gynulleidfa Israel.
8:15 Dywedodd, "Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw Israel, a gyflawnodd â'i law yr hyn a addawodd â'i enau i'm tad Dafydd, pan ddywedodd,
8:16 'Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o'r Aifft, ni ddewisais ddinas ymhlith holl lwythau Israel i adeiladu ynddi dŷ i'm henw fod yno; ond dewisais Jerwsalem i'm henw fod yno, a dewisais Ddafydd i fod yn ben ar fy mhobl Israel.'
8:17 Yr oedd ym mryd fy nhad Dafydd adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD Dduw Israel,
8:18 ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, 'Yr oedd yn dy fryd adeiladu tŷ i'm henw, a da oedd dy fwriad,
8:19 ond nid tydi fydd yn adeiladu'r tŷ; dy fab, a enir iti, a adeilada'r tŷ i'm henw.'
8:20 Yn awr y mae'r ARGLWYDD wedi gwireddu'r addewid a wnaeth; yr wyf fi wedi dod i le fy nhad Dafydd i eistedd ar orsedd Israel, fel yr addawodd yr ARGLWYDD, ac wedi adeiladu'r tŷ i enw ARGLWYDD Dduw Israel.

Gweddi Solomon, 2 Cron. 6:12-42

8:21 Yr wyf hefyd wedi trefnu lle i'r arch sy'n cynnwys y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD â'n hynafiaid pan ddaeth â hwy allan o'r Aifft."
8:22 Yna safodd Solomon o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac estynnodd ei ddwylo tua'r nef,
8:23 a dweud: "O ARGLWYDD Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi yn y nef uwchben nac ar ddaear lawr, yn cadw cyfamod ac yn ffyddlon i'th bobl sy'n dy wasanaethu â'u holl galon.
8:24 Canys cedwaist d'addewid i'th was Dafydd, fy nhad; heddiw cyflawnaist â'th law yr hyn a addewaist â'th enau.
8:25 Yn awr, felly, O ARGLWYDD Dduw Israel, cadw'r addewid a wnaethost i'th was Dafydd fy nhad, pan ddywedaist, 'Gofalaf na fyddi heb etifedd i eistedd ar orsedd Israel, dim ond i'th blant wylio'u ffordd, a'm gwasanaethu fel y gwnaethost ti.'
8:26 Yn awr, felly, O Dduw Israel, safed y gair a leferaist wrth dy was Dafydd, fy nhad.
8:27 "Ai gwir yw y preswylia Duw ar y ddaear? Wele, ni all y nefoedd na nef y nefoedd dy gynnwys; pa faint llai y tŷ hwn a godais!
8:28 Eto cymer sylw o weddi dy was ac o'i ddeisyfiad, O ARGLWYDD fy Nuw; gwrando ar fy llef, a'r weddi y mae dy was yn ei gweddïo heddiw ger dy fron.
8:29 Bydded dy lygaid, nos a dydd, ar y tŷ y dywedaist amdano, 'Fy enw a fydd yno', a gwrando'r weddi y bydd dy was yn ei gweddïo tua'r lle hwn.
8:30 Gwrando hefyd ar ddeisyfiad dy was a'th bobl Israel pan fyddant yn gweddïo tua'r lle hwn. Gwrando yn y nef, lle'r wyt yn preswylio, ac o glywed, maddau.
8:31 "Os bydd rhywun wedi troseddu yn erbyn rhywun arall ac yn gorfod cymryd llw, a'i dyngu gerbron dy allor yn y tŷ hwn,
8:32 gwrando di o'r nef a gweithredu. Gweinydda farn i'th bobl drwy gondemnio'r drwgweithredwr yn ôl ei ymddygiad, ond llwydda achos y cyfiawn yn ôl ei gyfiawnder.
8:33 "Os trechir dy bobl Israel gan y gelyn am iddynt bechu yn dy erbyn, ac yna iddynt edifarhau a chyffesu dy enw, a gweddïo ac erfyn arnat yn y tŷ hwn,
8:34 gwrando di yn y nef a maddau bechod dy bobl Israel ac adfer hwy i'r tir a roddaist i'w hynafiaid.
8:35 "Os bydd y nefoedd wedi cau, a'r glaw yn pallu, am iddynt bechu yn d'erbyn, ac yna iddynt weddïo tua'r lle hwn a chyffesu dy enw ac edifarhau am eu pechod oherwydd i ti eu cosbi,
8:36 gwrando di yn y nef a maddau bechod dy weision a'th bobl Israel, a dysg iddynt y ffordd dda y dylent ei rhodio; ac anfon law ar dy wlad, a roddaist yn etifeddiaeth i'th bobl.
8:37 "Os bydd yn y wlad newyn, haint, deifiad, malltod, locustiaid neu lindys, neu os bydd gelyn yn gwarchae ar unrhyw un o'i dinasoedd — beth bynnag fo'r pla neu'r clefyd —
8:38 clyw bob gweddi, pob deisyfiad gan bawb o'th bobl Israel wrth i bob un sy'n ym-wybodol o'i glwy ei hun estyn ei ddwylo tua'r tŷ hwn;
8:39 gwrando hefyd yn y nef lle'r wyt yn preswylio, a maddau. Gweithreda a rho i bob un yn ôl ei ffyrdd, oherwydd yr wyt ti'n deall ei fwriad; canys ti yn unig sy'n adnabod calon pob un;
8:40 felly byddant yn dy ofni holl ddyddiau eu bywyd ar wyneb y tir a roddaist i'n hynafiaid.
8:41 "Os daw rhywun dieithr, nad yw'n un o'th bobl Israel, o wlad bell er mwyn dy enw —
8:42 canys clywant am dy enw mawr, ac am dy law gref a'th fraich estynedig — ac os gweddïa tua'r tŷ hwn,
8:43 gwrando di yn y nef lle'r wyt yn preswylio, a gweithreda yn ôl y cwbl y mae'r dieithryn yn ei ddeisyf arnat, er mwyn i holl bobloedd y byd adnabod dy enw a'th ofni yr un fath â'th bobl Israel, a sylweddoli mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i.
8:44 "Os bydd dy bobl yn mynd i ryfela â'u gelyn, pa ffordd bynnag yr anfoni hwy, ac yna iddynt weddïo ar yr ARGLWYDD tua'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw,
8:45 gwrando di yn y nef ar eu gweddi a'u hymbil, a chynnal eu hachos.
8:46 "Os pechant yn dy erbyn — oherwydd nid oes neb nad yw'n pechu — a thithau'n digio wrthynt ac yn eu darostwng i'w gelynion a'u caethgludo i wlad y gelyn, boed bell neu agos,
8:47 ac yna iddynt ystyried yn y wlad lle caethgludwyd hwy, ac edifarhau a deisyf arnat o wlad eu caethiwed â'r geiriau, 'Yr ydym wedi pechu a throseddu a gwneud drygioni',
8:48 ac yna dychwelyd atat â'u holl galon a'u holl enaid yng ngwlad y gelynion sydd wedi eu caethgludo, a gweddïo arnat i gyfeiriad eu gwlad, a roddaist i'w hynafiaid, a'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw,
8:49 gwrando di, yn y nef lle'r wyt yn preswylio, ar eu gweddi a'u deisyfiad, a chynnal eu hachos.
8:50 A maddau i'th bobl a bechodd yn d'erbyn am eu holl droseddu yn d'erbyn; rho iddynt ennyn trugaredd yng nghalon y rhai a'u caethgludodd.
8:51 Oherwydd dy bobl a'th etifeddiaeth ydynt, gan mai ti a ddaeth â hwy allan o'r Aifft o ganol y ffwrnais haearn.
8:52 Felly bydded dy lygaid yn sylwi ar ddeisyfiad dy was a'th bobl Israel, i wrando arnynt bob tro y galwant arnat;
8:53 oherwydd ti sydd wedi eu neilltuo yn etifeddiaeth i ti dy hun a'u didoli oddi wrth bobloedd y byd, fel y dywedaist, O Arglwydd DDUW, drwy dy was Moses pan ddaethost â'n hynafiaid allan o'r Aifft."

Y Weddi Derfynol

8:54 Wedi i Solomon orffen cyflwyno i'r ARGLWYDD yr holl weddi ac ymbil yma a'i ddwylo yn ymestyn tua'r nef, cododd o benlinio gerbron allor yr ARGLWYDD,
8:55 a sefyll i fendithio holl gynulleidfa Israel â llais uchel, a dweud:
8:56 "Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD a roddodd orffwystra i'w bobl Israel yn hollol fel y dywedodd. Ni fethodd yr un gair o'i holl addewid ddaionus a fynegodd trwy ei was Moses.
8:57 Bydded yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni fel y bu gyda'n hynafiaid ni; na fydded iddo'n gwrthod na'n gadael.
8:58 Bydded inni droi ein calonnau tuag ato, a cherdded yn ei holl ffyrdd a chadw ei orchmynion, ei ordinhadau a'i farnedigaethau, a orchmynnodd i'n hynafiaid.
8:59 Bydded fy ngeiriau hyn, a weddïais gerbron yr ARGLWYDD, yn agos at yr ARGLWYDD ein Duw ddydd a nos, fel y bo iddo gynnal achos ei was ac achos ei bobl Israel yn ôl yr angen,
8:60 er mwyn i holl bobloedd y byd wybod mai'r ARGLWYDD sydd Dduw ac nad oes arall.
8:61 Bydded eich calon yn llwyr ymroddedig i'r ARGLWYDD ein Duw, i rodio yn ei ordinhadau a chadw ei orchmynion fel heddiw."

Cysegru'r Deml, 2 Cron. 7:4-10

8:62 Yna bu'r brenin, a holl Israel gydag ef, yn aberthu gerbron yr ARGLWYDD.
8:63 Aberthodd Solomon i'r ARGLWYDD ddwy fil ar hugain o wartheg a chwe ugain mil o ddefaid yn heddoffrwm. Felly y cysegrodd y brenin a'r holl Israeliaid dŷ'r ARGLWYDD.
8:64 Ar y diwrnod hwnnw cysegrodd y brenin ganol y cwrt oedd o flaen tŷ'r ARGLWYDD, gan mai yno'r oedd yn offrymu'r poethoffrwm a'r bwydoffrwm a braster yr heddoffrwm, am fod yr allor bres oedd gerbron yr ARGLWYDD yn rhy fach i dderbyn y poethoffrwm a'r bwydoffrwm a braster yr heddoffrwm.
8:65 A'r pryd hwnnw cadwodd Solomon, a holl Israel gydag ef, ŵyl gerbron yr ARGLWYDD ein Duw am wythnos, yn gynulliad mawr, o Lebo-hamath hyd nant yr Aifft.
8:66 Ar yr wythfed dydd gollyngodd y bobl ymaith, ac wedi iddynt fendithio'r brenin, aethant adref yn llawen ac yn falch o galon am yr holl ddaioni a wnaeth yr ARGLWYDD i'w was Dafydd ac i'w bobl Israel.

Duw'n Ymddangos yr Eildro i Solomon

9:1 Wedi i Solomon orffen adeiladu tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin a'r cwbl a ddymunai ei wneud,
9:2 fe ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo'r eildro, fel yr oedd wedi ymddangos iddo yn Gibeon.
9:3 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Clywais dy weddi a'th ddeisyfiad a wnaethost ger fy mron; cysegrais y tŷ hwn a godaist, a gosod f'enw yno am byth, a bydd fy llygaid a'm calon tuag yno hyd byth.
9:4 Ac os byddi di'n rhodio ger fy mron fel y rhodiodd dy dad Dafydd, yn gywir ac uniawn, a gwneud popeth a orchmynnaf iti, a chadw fy neddfau a'm cyfreithiau,
9:5 yna sicrhaf dy orsedd frenhinol dros Israel am byth, fel y dywedais wrth dy dad Dafydd, 'Gofalaf na fyddi heb etifedd ar orsedd Israel.'
9:6 Ond os byddwch chwi a'ch plant yn gwrthgilio oddi wrthyf ac yn peidio â chadw fy ngorchmynion a'm hordinhadau, a osodais i chwi, ac os byddwch yn mynd a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli,
9:7 yna difodaf Israel o'r tir a rois iddynt, a bwriaf o'm golwg y tŷ a gysegrais i'm henw, a bydd Israel yn mynd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd.
9:8 Bydd y tŷ hwn yn adfail, a phob un sy'n mynd heibio iddo yn chwibanu mewn syndod, ac yn dweud, 'Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i'r wlad hon ac i'r tŷ hwn?'
9:9 A dywedir, 'Am iddynt wrthod yr ARGLWYDD eu Duw, a ddaeth â'u hynafiaid o'r Aifft, a glynu wrth dduwiau estron a'u haddoli a'u gwasanaethu; dyna pam y dygodd yr ARGLWYDD yr holl ddrwg yma arnynt.'"

Y Cytundeb rhwng Solomon a Hiram, 2 Cron. 8:1-2Gweithgarwch Pellach Solomon, 2 Cron. 8:3-18

9:10 Ar derfyn ugain mlynedd, wedi i Solomon adeiladu'r ddau dŷ, sef tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, fe roes y brenin ugain tref yng Ngalilea i Hiram,
9:11 am fod Hiram brenin Tyrus wedi cyflenwi coed cedrwydd a ffynidwydd ac aur, gymaint ag a ddymunai, i Solomon.
9:12 Ond pan ddaeth Hiram o Tyrus i edrych y trefi a roes Solomon iddo, nid oeddent wrth ei fodd,
9:13 a dywedodd, "Beth yw'r trefi hyn yr wyt wedi eu rhoi imi, fy mrawd?" A gelwir hwy Gwlad Cabwl hyd heddiw.
9:14 Chwe ugain talent o aur a anfonodd Hiram at y brenin.



9:15 Dyma gyfrif y llafur gorfod a bennodd y Brenin Solomon er mwyn adeiladu tŷ'r ARGLWYDD a'i dŷ ei hun, a'r Milo, a hefyd mur Jerwsalem a Hasor, Megido a Geser.
9:16 Yr oedd Pharo brenin yr Aifft wedi dod a chipio Geser, a'i llosgi, a lladd y Canaaneaid oedd yn byw yn y ddinas, ac yna wedi ei rhoi'n anrheg briodas i'w ferch, gwraig Solomon;
9:17 ac ailadeiladodd Solomon Geser. Hefyd adeiladodd Beth-horon Isaf,
9:18 Baalath a Tamar yn y diffeithwch yn nhir Jwda,
9:19 a'r holl ddinasoedd stôr oedd gan Solomon, a'r dinasoedd cerbydau a'r dinasoedd meirch, a phopeth arall a ddymunai Solomon ei adeiladu, prun ai yn Jerwsalem neu yn Lebanon neu drwy holl gyrrau ei deyrnas.
9:20 Gorfodwyd llafur oddi wrth holl weddill poblogaeth yr Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, nad oeddent yn perthyn i'r Israeliaid.
9:21 Yr oedd disgynyddion y rhain yn parhau yn y wlad am nad oedd yr Israeliaid wedi medru eu difa, ac arnynt hwy y gosododd Solomon lafur gorfod sy'n parhau hyd heddiw.
9:22 Ni wnaeth Solomon yr un o'r Israeliaid yn gaethwas; hwy oedd ei filwyr, ei swyddogion, ei gadfridogion a'i gapteiniaid a phenaethiaid ei gerbydau a'i feirch,
9:23 a hwy hefyd oedd prif arolygwyr gwaith Solomon — pum cant a hanner ohonynt, yn rheoli'r gweithwyr.
9:24 Yr adeg honno ymfudodd merch Pharo o Ddinas Dafydd i fyny i'r tŷ a gododd Solomon iddi; wedyn fe adeiladodd ef y Milo.
9:25 Byddai Solomon yn offrymu poethoffrymau a heddoffrymau dair gwaith yn y flwyddyn ar yr allor a gododd i'r ARGLWYDD, ac at hynny yn arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD. Felly y gorffennodd y tŷ.
9:26 Creodd y Brenin Solomon lynges yn Esion-geber sydd gerllaw Elath ar lan y Môr Coch yng ngwlad Edom;
9:27 ac anfonodd Hiram longwyr profiadol o blith ei weision yn y llongau gyda gweision Solomon.
9:28 Aethant i Offir a dod â phedwar cant ac ugain o dalentau aur oddi yno i'r Brenin Solomon.

Ymweliad Brenhines Sheba, 2 Cron. 9:1-12

10:1 Pan glywodd brenhines Sheba am fri Solomon, daeth i'w brofi â chwestiynau caled.
10:2 Daeth i Jerwsalem gyda gosgordd niferus iawn — camelod yn cludo peraroglau a stôr fawr o aur a gemau. Pan ddaeth hi at Solomon, dywedodd wrtho'r cwbl oedd ar ei meddwl,
10:3 ac atebodd yntau bob un o'i gofyniadau; nid oedd dim yn rhy dywyll i'r brenin ei esbonio iddi.
10:4 A phan welodd brenhines Sheba holl ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladodd,
10:5 ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'r poethoffrymau y byddai'n eu hoffrymu i'r ARGLWYDD, diffygiodd ei hysbryd.
10:6 Addefodd wrth y brenin, "Gwir oedd yr hyn a glywais yn fy ngwlad amdanat ac am dy ddoethineb.
10:7 Eto nid oeddwn yn credu'r hanes nes imi ddod a gweld â'm llygaid fy hun — ac wele, ni ddywedwyd mo'r hanner wrthyf! Y mae dy ddoethineb a'th gyfoeth yn rhagori ar yr hyn a glywais.
10:8 Gwyn fyd dy wŷr, y gweision hyn sy'n gweini'n feunyddiol arnat ac yn clywed dy ddoethineb.
10:9 Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a'th hoffodd di ddigon i'th osod ar orseddfainc Israel. Am i'r ARGLWYDD garu Israel am byth, y mae wedi dy roi di'n frenin, i weinyddu barn a chyfiawnder."
10:10 Yna rhoddodd hi i'r brenin chwe ugain talent o aur a llawer iawn o beraroglau a gemau. Ni chafwyd byth wedyn gymaint o beraroglau ag a roddodd brenhines Sheba i'r Brenin Solomon.
10:11 Byddai llynges Hiram yn dod ag aur o Offir; byddai hefyd yn cludo o Offir lawer iawn o goed almug a gemau.
10:12 Gwnaeth y brenin fracedau i dŷ'r ARGLWYDD ac i dŷ'r brenin o'r coed almug, a hefyd delynau a nablau i'r cantorion. Ni ddaeth ac ni welwyd cystal coed almug hyd heddiw.
10:13 Rhoddodd y Brenin Solomon i frenhines Sheba bopeth a chwen-ychodd, yn ychwaneg at yr hyn a roddodd iddi o'i haelioni brenhinol. Yna troes hi a'i gosgordd yn ôl i'w gwlad.

Cyfoeth y Brenin Solomon, 2 Cron. 9:13-28

10:14 Yr oedd pwysau'r aur a ddôi i Solomon mewn blwyddyn yn chwe chant chwe deg a chwech o dalentau,
10:15 heblaw yr hyn a gâi gan y march-nadwyr ac o enillion masnachwyr, ac oddi wrth holl frenhinoedd Arabia a'r rheolwyr talaith.
10:16 Gwnaeth y Brenin Solomon ddau gan tarian o aur gyr, a rhoi chwe chant o siclau aur ym mhob tarian.
10:17 Gwnaeth hefyd dri chan bwcled o aur gyr, gyda thri mina o aur ym mhob un; a rhoddodd y brenin hwy yn Nhŷ Coedwig Lebanon.
10:18 Gwnaeth y brenin orseddfainc fawr o ifori, a'i goreuro â'r aur coethaf.
10:19 Yr oedd chwe gris i'r orseddfainc, pen ych ar gefn yr orseddfainc, dwy fraich o boptu i'r sedd, a dau lew yn sefyll wrth y breichiau.
10:20 Yr oedd hefyd ddeuddeg llew yn sefyll, un bob pen i bob un o'r chwe gris.
10:21 Ni wnaed ei thebyg mewn unrhyw deyrnas. Yr oedd holl lestri gwledda'r Brenin Solomon o aur, a holl offer Tŷ Coedwig Lebanon yn aur pur. Nid oedd yr un ohonynt o arian, am nad oedd bri arno yn nyddiau Solomon.
10:22 Yr oedd gan y brenin ar y môr longau Tarsis gyda llynges Hiram, ac unwaith bob tair blynedd fe ddôi llongau Tarsis â'u llwyth o aur, arian, ifori, epaod a pheunod.
10:23 Rhagorodd y Brenin Solomon ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb.
10:24 Ac yr oedd y byd i gyd yn ymweld â Solomon i glywed y ddoethineb a roddodd Duw yn ei galon.
10:25 Bob blwyddyn dôi rhai â'u rhoddion — llestri arian ac aur, gwisgoedd, myrr, perlysiau, meirch a mulod.
10:26 Casglodd Solomon gerbydau a meirch; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau a deuddeng mil o feirch, a gedwid yn y dinasoedd cerbyd a chyda'r brenin yn Jerwsalem.
10:27 Parodd y brenin i arian fod mor aml yn Jerwsalem â cherrig, a chedrwydd mor gyffredin â sycamorwydd y Seffela.
10:28 o'r Aifft a Cŵe y dôi ceffylau Solomon, a byddai porthmyn y brenin yn eu cyrchu o Cŵe am bris penodedig.
10:29 Byddent yn mewnforio cerbyd o'r Aifft am chwe chant o siclau arian, a cheffyl am gant a hanner, ac yn eu hallforio i holl frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.

Solomon yn Troi oddi wrth Dduw

11:1 Carodd y Brenin Solomon lawer o ferched estron heblaw merch Pharo — merched o Moab, Ammon, Edom, Sidon a'r Hethiaid,
11:2 y cenhedloedd y dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid amdanynt, "Peidiwch â'u priodi, a pheidiwch â rhoi mewn priodas iddynt; byddant yn sicr o'ch hudo i ddilyn eu duwiau." Ond dal i'w caru a wnâi Solomon.
11:3 Yr oedd ganddo saith gant o brif wragedd a thri chant o ordderchwragedd; a hudodd ei wragedd ef.
11:4 Pan heneiddiodd Solomon, hudodd ei wragedd ef i ddilyn duwiau estron, ac nid oedd ei galon yn llwyr gyda'r ARGLWYDD ei Dduw, fel y bu calon ei dad Dafydd.
11:5 Aeth Solomon i addoli Astoreth duwies y Sidoniaid, a Milcom ffieiddbeth yr Ammoniaid;
11:6 a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb lwyr ddilyn yr ARGLWYDD fel y gwnaeth ei dad Dafydd.
11:7 Dyna'r pryd yr adeiladodd Solomon uchelfa i Cemos ffieiddbeth Moab, ac i Moloch ffieidd-beth yr Ammoniaid, ar y mynydd i'r dwyrain o Jerwsalem.
11:8 Gwnaeth yr un modd i'w holl wragedd estron oedd yn parhau i arogldarthu ac aberthu i'w duwiau.
11:9 Digiodd yr ARGLWYDD wrth Solomon am iddo droi oddi wrth ARGLWYDD Dduw Israel, ac yntau wedi ymddangos ddwywaith iddo,
11:10 a'i rybuddio ynglŷn â hyn, nad oedd i addoli duwiau eraill.
11:11 Ond ni chadwodd yr hyn a orch-mynnodd yr ARGLWYDD. Am hynny dywedodd yr ARGLWYDD wrth Solomon, "Gan mai dyma dy ddewis, ac nad wyt ti wedi cadw fy nghyfamod na'm deddfau a orchmynnais iti, yr wyf am rwygo'r deyrnas oddi wrthyt a'i rhoi i un o'th weision.
11:12 Eto, er mwyn dy dad Dafydd, nid yn dy oes di y gwnaf hyn chwaith, ond oddi wrth dy fab y rhwygaf hi.
11:13 Ond nid wyf am rwygo ymaith y deyrnas i gyd; gadawaf un llwyth i'th fab, er mwyn fy ngwas Dafydd ac er mwyn Jerwsalem, a ddewisais."

Gelynion Solomon

11:14 A chododd yr ARGLWYDD Hadad yr Edomiad o deulu brenhinol Edom yn wrthwynebydd i Solomon.
11:15 Yr oedd Dafydd wedi difa Edom pan aeth Joab capten y llu draw i gladdu'r lladdedigion, ac yr oedd wedi lladd pob gwryw yn Edom.
11:16 Arhosodd Joab a'r holl Israeliaid yno am chwe mis, nes difa pob gwryw yn Edom.
11:17 Ond yr oedd Hadad, a oedd yn llanc ifanc ar y pryd, wedi dianc i lawr i'r Aifft gyda'r rhai o'r Edomiaid a fu'n weision i'w dad.
11:18 Wedi gadael Midian a chyrraedd Paran, cymerasant rai gyda hwy o Paran a dod i'r Aifft at Pharo brenin yr Aifft; rhoddodd yntau lety i Hadad, a threfnu i'w gynnal a rhoi tir iddo.
11:19 Enillodd Hadad ffafr mawr yng ngolwg Pharo, a rhoddodd yntau chwaer ei wraig, sef chwaer y Frenhines Tachpenes, yn wraig iddo.
11:20 Pan roddodd chwaer Tachpenes enedigaeth i'w fab Genubath, magodd Tachpenes ef ar aelwyd Pharo, fel bod Genubath yng nghartref Pharo gyda phlant Pharo.
11:21 Ond pan glywodd Hadad yn yr Aifft fod Dafydd wedi marw, a bod Joab capten y llu hefyd wedi marw, dywedodd wrth Pharo, "Gad imi fynd i'm gwlad fy hun."
11:22 Gofynnodd Pharo, "Ond beth sy'n brin arnat gyda mi, dy fod am fynd adref?" Meddai yntau, "Dim, ond gad imi fynd."
11:23 Gwrthwynebydd arall a gododd Duw i Solomon oedd Reson fab Eliada. Yr oedd hwn wedi ffoi oddi wrth ei arglwydd, Hadadeser brenin Soba.
11:24 Casglodd rai o'i gwmpas a mynd yn gapten gwylliaid, ar ôl y lladdfa a wnaeth Dafydd arnynt, ac aethant i fyw i Ddamascus a'i rheoli.
11:25 Bu'n wrthwynebydd i Israel tra bu Solomon yn fyw, ac yn gwneud cymaint o ddrwg â Hadad, am ei fod yn ffieiddio Israel ac yn frenin ar Syria.

Addewid Duw i Jeroboam

11:26 Un arall a gododd mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin oedd Jeroboam fab Nebat, Effratead o Sereda, a swyddog i Solomon; gwraig weddw o'r enw Serfa oedd ei fam.
11:27 A dyma'r achos iddo wrthryfela yn erbyn y brenin: pan oedd Solomon yn codi'r Milo ac yn cau'r bwlch ym mur dinas ei dad Dafydd,
11:28 yr oedd Jeroboam yn ŵr medrus; a phan welodd Solomon sut yr oedd y llanc yn gwneud ei waith, gwnaeth ef yn arolygwr dros holl fintai llafur gorfod llwyth Joseff.
11:29 Y pryd hwnnw digwyddodd i Jeroboam fynd o Jerwsalem, ac ar y ffordd cyfarfu â'r proffwyd Aheia o Seilo mewn mantell newydd, heb neb ond hwy ill dau yn y fan.
11:30 Cydiodd Aheia yn y fantell newydd oedd amdano a'i rhwygo'n ddeuddeg darn,
11:31 a dweud wrth Jeroboam, "Cymer ddeg o'r darnau, oherwydd fel hyn y dywedodd ARGLWYDD Dduw Israel: 'Yr wyf ar rwygo'r deyrnas o afael Solomon, a rhoi i ti ddeg o'r llwythau.
11:32 Ond caiff ef un llwyth er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais allan o holl lwythau Israel.
11:33 Gwnaf hyn am ei fod wedi fy ngwadu i ac addoli Astoreth duwies y Sidoniaid, a Chemos duw Moab, a Milcom duw'r Ammoniaid, ac am nad yw wedi cerdded yn fy llwybrau i fel ei dad Dafydd, na gwneud yr hyn sy'n iawn gennyf fi, sef cadw fy ordeiniadau a'm barnedigaethau.
11:34 Eto nid wyf am gymryd y deyrnas i gyd o'i ddwylo; yn hytrach gadawaf ef yn bennaeth am ei oes, er mwyn fy ngwas Dafydd, a ddewisais ac a gadwodd fy ngorchmynion a'm deddfau.
11:35 Ond yr wyf am gymryd y deyrnas oddi ar ei fab a rhoi deg llwyth ohoni i ti.
11:36 Rhoddaf un llwyth i'w fab, fel y caiff fy ngwas Dafydd lamp ger fy mron am byth yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi fy hun i osod fy enw yno.
11:37 Dewisaf dithau i deyrnasu ar gymaint ag a ddymuni, a byddi'n frenin ar Israel.
11:38 Ac os gwrandewi ar bopeth a orchmynnaf, a rhodio yn fy ffyrdd, a gwneud yr hyn sy'n iawn gennyf, sef cadw fy neddfau a'm gorchmynion fel y gwnaeth fy ngwas Dafydd, byddaf gyda thi a chodaf iti dŷ sicr fel y gwneuthum i Ddafydd.
11:39 Rhoddaf Israel i ti er mwyn cosbi hil Dafydd oherwydd hyn; eto nid am byth chwaith.'"
11:40 A cheisiodd Solomon ladd Jeroboam, ond ffodd Jeroboam draw i'r Aifft at Sisac brenin yr Aifft, ac yno y bu hyd farwolaeth Solomon.

Marwolaeth Solomon, 2 Cron. 9:29-31

11:41 Am weddill hanes Solomon, popeth a gyflawnodd, a'i ddoethineb, onid yw ar gael yn llyfr gweithredoedd Solomon?
11:42 Deugain mlynedd oedd hyd yr amser y teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem dros Israel.
11:43 Pan fu farw Solomon, a'i gladdu yn ninas ei dad Dafydd, daeth ei fab Rehoboam yn frenin yn ei le.

Gwrthryfel Llwythau'r Gogledd, 2 Cron. 10:1-19

12:1 Aeth Rehoboam i Sichem, gan mai i Sichem y daethai holl Israel i'w urddo'n frenin.
12:2 Pan glywodd Jeroboam fab Nebat, a oedd o hyd yn yr Aifft, lle'r oedd wedi ffoi rhag y Brenin Solomon, arhosodd yn yr Aifft.
12:3 Ond galwasant amdano, a daeth Jeroboam a holl gynulliad Israel a dweud wrth Rehoboam,
12:4 "Trymhaodd dy dad ein hiau; os gwnei di'n awr ysgafnhau peth ar gaethiwed caled dy dad a'r iau drom a osododd arnom, yna fe'th wasanaethwn."
12:5 Dywedodd yntau wrthynt, "Ewch i ffwrdd am dridiau, ac yna dewch yn ôl ataf." Aeth y bobl.
12:6 Ymgynghorodd Rehoboam â'r henuriaid oedd yn llys ei dad Solomon pan oedd yn fyw, a gofynnodd, "Sut y byddech chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn?"
12:7 Eu hateb oedd, "Os byddi di heddiw yn was i'r bobl hyn, a'u gwasanaethu a'u hateb â geiriau teg, byddant yn weision i ti am byth."
12:8 Ond gwrthododd y cyngor a roes yr henuriaid, a cheisiodd gyngor y llanciau oedd yn gyfoed ag ef ac yn aelodau o'i lys.
12:9 Gofynnodd iddynt hwy, "Beth ydych chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn sy'n dweud wrthyf, 'Ysgafnha rywfaint ar yr iau a osododd dy dad arnom'? "
12:10 Atebodd y llanciau oedd yn gyfoed ag ef, "Fel hyn y dywedi wrth y bobl hyn sy'n dweud wrthyt: 'Gwnaeth dy dad ein hiau yn drwm; ysgafnha dithau arnom.' Ie, dyma a ddywedi wrthynt: 'Y mae fy mys bach i yn braffach na llwynau fy nhad!
12:11 Mae'n wir i'm tad osod iau drom arnoch, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach. Cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!'"
12:12 Pan ddaeth Jeroboam a'r holl bobl at Rehoboam ar y trydydd dydd, yn ôl gorchymyn y brenin, "Dewch yn ôl ataf ymhen tridiau",
12:13 atebodd y brenin hwy'n chwyrn. Diystyrodd gyngor yr henuriaid, a derbyn cyngor y llanciau.
12:14 Dywedodd wrthynt, "Trymhaodd fy nhad eich iau, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach; cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!"
12:15 Felly ni wrandawodd y brenin ar y bobl, oherwydd fel hyn y tynghedwyd gan yr ARGLWYDD, er mwyn i'r ARGLWYDD gyflawni'r gair a lefarodd drwy Aheia o Seilo wrth Jeroboam fab Nebat.
12:16 A phan welodd holl Israel nad oedd y brenin am wrando arnynt, daeth ateb oddi wrth y bobl at y brenin: "Pa ran sydd i ni yn Nafydd? Nid oes cyfran inni ym mab Jesse. Adref i'th bebyll, Israel! Edrych at dy dŷ dy hun, Ddafydd!" Yna aeth Israel adref.
12:17 Ond yr oedd rhai Israeliaid yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam yn frenin arnynt.
12:18 Pan anfonodd y brenin atynt Adoram, goruchwyliwr y llafur gorfod, llabyddiodd yr Israeliaid ef a'i ladd; ond llwyddodd y Brenin Rehoboam i gyrraedd ei gerbyd a ffoi i Jerwsalem.
12:19 Ac y mae Israel mewn gwrthryfel yn erbyn llinach Dafydd hyd heddiw.
12:20 Wedi i Israel gyfan glywed fod Jeroboam wedi dychwelyd, anfonasant i'w wahodd i'r gymanfa, a'i urddo'n frenin dros Israel gyfan. Nid oedd ond llwyth Jwda'n unig yn glynu wrth linach Dafydd.

Proffwydoliaeth Semaia, 2 Cron. 11:1-4

12:21 Pan ddychwelodd Rehoboam i Jerwsalem, galwodd ynghyd holl dylwyth Jwda a llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain o filoedd o ryfelwyr dethol, i ryfela yn erbyn Israel i adennill y frenhiniaeth i Rehoboam fab Solomon.
12:22 Ond daeth gair Duw at Semaia, gŵr Duw:
12:23 "Dywed wrth Rehoboam fab Solomon, brenin Jwda, ac wrth holl bobl Jwda a Benjamin a phawb arall,
12:24 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Peidiwch â mynd i ryfela yn erbyn eich brodyr yr Israeliaid; ewch yn ôl adref bob un, gan mai oddi wrthyf fi y daw hyn.'" A gwrandawsant ar air yr ARGLWYDD, a dychwelyd adref yn ôl gair yr ARGLWYDD.

Jeroboam yn Troi oddi wrth yr Arglwydd

12:25 Adeiladodd Jeroboam Sichem ym mynydd-dir Effraim i fyw yno, ond wedyn gadawodd y fan ac adeiladu Penuel.
12:26 Meddyliodd Jeroboam, "Yn awr, efallai y dychwel y frenhiniaeth at linach Dafydd.
12:27 Os â'r bobl hyn i offrymu yn nhŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem, yna fe fydd calon y bobl hyn yn troi'n ôl at eu meistr, Rehoboam brenin Jwda; fe'm lladdant i a dychwelyd at Rehoboam brenin Jwda."
12:28 Felly cymerodd y brenin gyngor a gwneud dau lo aur, a dweud wrth y bobl, "Y mae'n ormod i chwi fynd i fyny i Jerwsalem; dyma dy dduwiau, Israel, y rhai a ddaeth â chwi i fyny o'r Aifft."
12:29 Gosodwyd un eilun i fyny ym Methel, a rhoi'r llall yn Dan.
12:30 Ond bu hyn yn achos pechu, oherwydd yr oedd y bobl yn mynd i addoli'r naill i Fethel a'r llall i Dan.
12:31 Wedi iddo godi uchelfeydd, urddodd offeiriaid o blith y bobl i gyd, heb iddynt fod yn Lefiaid.
12:32 Sefydlodd Jeroboam ŵyl o bererindod ar y pymthegfed dydd o'r wythfed mis, fel yr ŵyl o bererindod oedd yn Jwda; ac yr oedd yntau yn offrymu ar yr allor. Dyna sut y gwnâi ym Methel, ac aberthu i'r lloi a luniodd; hefyd fe osododd ym Methel offeiriaid yr uchelfeydd a godwyd ganddo.
12:33 Fe offrymodd ar yr allor a wnaeth ym Methel ar y pymthegfed dydd o'r wythfed mis. Dyfeisiodd ddyddiad iddo'i hun, lluniodd ŵyl o bererindod i'r Israeliaid ac aeth ef ei hun at yr allor i offrymu.

Condemnio'r Addoliad ym Methel

13:1 Tra oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor i offrymu, daeth gŵr Duw o Jwda i Fethel yn ôl gair yr ARGLWYDD.
13:2 A chyhoeddodd yn erbyn yr allor drwy air yr ARGLWYDD: "Allor, allor, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Wele, fe enir mab i linach Dafydd o'r enw Joseia; bydd ef yn aberthu arnat offeiriaid yr uchelfeydd sy'n offrymu arnat, a llosgir arnat esgyrn dynol.'"
13:3 A rhoddodd argoel y dydd hwnnw, a dweud, "Dyma'r argoel a addawodd yr ARGLWYDD: bydd yr allor yn ddrylliau, a chwelir y lludw sydd arni."
13:4 Pan glywodd y Brenin Jeroboam y gair a gyhoeddodd gŵr Duw yn erbyn yr allor ym Methel, estynnodd ei law dros yr allor a dweud, "Cydiwch ynddo!" Ond gwywodd y llaw a estynnodd ato, ac ni fedrai ei thynnu'n ôl.
13:5 Yna drylliwyd yr allor a chwalwyd y lludw o'r allor, yn unol â'r argoel a roddodd gŵr Duw drwy air yr ARGLWYDD.
13:6 Yna dywedodd y brenin wrth ŵr Duw, "Ymbil â'r ARGLWYDD dy Dduw a gweddïa ar fy rhan fel y caiff fy llaw ei hadfer." Ymbiliodd gŵr Duw ar yr ARGLWYDD, ac adferwyd llaw'r brenin iddo fel yr oedd cynt.
13:7 A dywedodd y brenin wrth ŵr Duw, "Tyrd adref gyda mi am damaid, imi roi rhodd iti."
13:8 Ond dywedodd y proffwyd wrth y brenin, "Petait yn rhoi imi hanner dy dŷ, ni ddown gyda thi; nid wyf am fwyta tamaid nac yfed llymaid yn y lle hwn.
13:9 Fel hyn y gorchmynnwyd imi drwy air yr ARGLWYDD, i beidio â bwyta nac yfed dim, na dychwelyd y ffordd y deuthum."
13:10 Ac aeth ffordd arall, heb ddychwelyd ar y ffordd y daeth i Fethel.

Proffwyd Oedrannus Bethel

13:11 Yr oedd proffwyd oedrannus yn byw ym Methel, a daeth ei feibion a dweud wrtho am y cwbl a wnaeth gŵr Duw y dydd hwnnw ym Methel, ac adrodd wrth eu tad yr hyn a ddywedodd wrth y brenin.
13:12 Holodd eu tad hwy, "Pa ffordd yr aeth?" A dangosodd ei feibion y ffordd yr aeth gŵr Duw oedd wedi dod o Jwda.
13:13 Dywedodd yntau wrth ei feibion, "Cyfrwywch asyn imi." Ac wedi iddynt gyfrwyo'r asyn, marchogodd arno
13:14 a mynd ar ôl gŵr Duw, a'i gael yn eistedd tan dderwen. Gofynnodd iddo, "Ai ti yw'r gŵr Duw a ddaeth o Jwda?" Ac atebodd yntau, "Ie."
13:15 Yna dywedodd y proffwyd oedrannus, "Tyrd adref gyda mi am bryd o fwyd."
13:16 Atebodd y llall, "Ni fedraf ddychwelyd gyda thi, na bwyta nac yfed dim gyda thi yn y lle hwn.
13:17 Dyma'r neges a gefais drwy air yr ARGLWYDD: 'Paid â bwyta bara nac yfed dim yno, na dychwelyd y ffordd yr aethost.'"
13:18 Ond dywedodd y proffwyd oedrannus wrtho, "Yr wyf finnau'n broffwyd fel ti, ac y mae angel wedi dweud wrthyf drwy air yr ARGLWYDD, 'Dos ag ef yn ôl gyda thi adref i fwyta bara ac yfed dŵr.'" Ond dweud celwydd wrtho yr oedd.
13:19 Aeth yntau'n ôl gydag ef, a bwyta ac yfed yn ei gartref.
13:20 Tra oeddent yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd a'i dygodd yn ôl,
13:21 a chyhoeddodd wrth ŵr Duw a ddaeth o Jwda, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Am iti wrthod yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD, a pheidio â chadw gorchymyn yr ARGLWYDD dy Dduw,
13:22 ond yn hytrach dychwelyd a bwyta ac yfed yn y lle y dywedodd ef wrthyt am beidio â bwyta nac yfed, am hynny ni ddaw dy gorff i fedd dy hynafiaid.'"
13:23 Ac wedi iddo orffen bwyta ac yfed, cyfrwywyd iddo asyn o eiddo'r proffwyd a'i dygodd yn ôl.
13:24 Fel yr oedd yn mynd ar hyd y ffordd, daeth llew i'w gyfarfod a'i ladd; gadawyd ei gorff i orwedd ar y ffordd, gyda'r asyn a'r llew yn sefyll yn ei ymyl.
13:25 Digwyddodd rhywrai ddod heibio a gweld y corff ar y ffordd, gyda'r llew yn ei ymyl, ac aethant ac adrodd yr hanes yn y dref lle'r oedd y proffwyd oedrannus yn byw.
13:26 Pan glywodd y proffwyd a'i dygodd yn ôl o'i daith, dywedodd, "Dyna ŵr Duw a wrthododd neges yr ARGLWYDD; y mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i'r llew, a hwnnw wedi ei larpio a'i ladd yn ôl y gair a fynegodd yr ARGLWYDD."
13:27 A dywedodd wrth ei feibion, "Cyfrwywch asyn imi." Wedi iddynt ei gyfrwyo,
13:28 aeth y proffwyd, a chael y corff ar y ffordd, a'r llew a'r asyn yn sefyll yn ei ymyl. Nid oedd y llew wedi bwyta'r corff na llarpio'r asyn.
13:29 Cododd y proffwyd y corff a'i osod ar yr asyn, a'i gludo'n ôl, a'i ddwyn i dref y proffwyd oedrannus er mwyn galaru drosto a'i gladdu.
13:30 Ac wedi gosod y corff yn ei fedd ei hun, galarodd drosto a dweud, "O fy mrawd!"
13:31 Ar ôl ei gladdu, dywedodd wrth ei feibion, "Pan fyddaf farw, claddwch fi yn y bedd lle mae gŵr Duw wedi ei gladdu; gosodwch fy esgyrn wrth ei esgyrn ef.
13:32 Yn sicr fe ddigwydd yr hyn a gyhoeddodd drwy air yr ARGLWYDD yn erbyn yr allor ym Methel ac yn erbyn holl adeiladau'r uchelfeydd sydd yn nhrefi Samaria."

Drygioni Jeroboam

13:33 Ni throdd Jeroboam oddi wrth ei ffordd ddrygionus wedi'r digwyddiad hwn. Parhaodd i wneud offeiriaid uchelfeydd o'r bobl yn ddiwahân; byddai'n urddo pwy bynnag a ddymunai yn offeiriaid uchelfeydd.
13:34 Bu hyn yn dramgwydd i deulu Jeroboam ac yn achos eu difetha a'u difodi oddi ar wyneb y ddaear.

Marwolaeth Mab Jeroboam

14:1 Yr adeg honno clafychodd Abeia, mab Jeroboam.
14:2 A dywedodd Jeroboam wrth ei wraig, "Newid dy ddiwyg rhag i neb wybod mai gwraig Jeroboam ydwyt; yna dos i Seilo, lle mae'r proffwyd Aheia, a ddywedodd wrthyf y byddwn yn frenin ar y bobl hyn.
14:3 Cymer yn dy law ddeg torth, teisennau a phot o fêl, a dos ato; ac fe ddywed wrthyt sut y bydd hi ar y llanc."
14:4 Gwnaeth gwraig Jeroboam felly; aeth draw i Seilo a dod i dŷ Aheia. Yr oedd Aheia'n methu gweld, am fod ei lygaid wedi pylu gan henaint.
14:5 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aheia, "Y mae gwraig Jeroboam yn dod atat i geisio gair gennyt ynglŷn â'i mab sy'n glaf; y peth a'r peth a ddywedi wrthi. Ond pan ddaw, bydd yn cymryd arni fod yn rhywun arall."
14:6 Pan glywodd Aheia sŵn ei thraed yn cyrraedd y drws, dywedodd, "Tyrd i mewn, wraig Jeroboam; pam yr wyt ti'n cymryd arnat fod yn rhywun arall? Newydd drwg sydd gennyf i ti.
14:7 Dywed wrth Jeroboam, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Dyrchefais di o blith y bobl a'th osod yn dywysog ar fy mhobl Israel,
14:8 a rhwygais y deyrnas oddi ar linach Dafydd a'i rhoi i ti. Ond ni fuost fel fy ngwas Dafydd, yn cadw fy ngorchmynion ac yn fy nghanlyn â'i holl galon, i wneud yn unig yr hyn oedd yn uniawn yn fy ngolwg.
14:9 Yn hytrach gwnaethost fwy o ddrygioni na phawb o'th flaen. Buost yn gwneud duwiau estron a delwau tawdd er mwyn fy nghythruddo, a bwriaist fi heibio.
14:10 Felly dygaf ddrwg ar deulu Jeroboam, a difa pob gwryw, caeth neu rydd, sy'n perthyn iddo yn Israel; ysaf yn llwyr deulu Jeroboam, fel un yn llosgi gleuad, nes y bydd wedi llwyr ddarfod.
14:11 Bydd cŵn yn bwyta'r rhai o deulu Jeroboam a fydd farw yn y ddinas, ac adar rheibus yn bwyta'r rhai a fydd farw yn y wlad. Yr ARGLWYDD a'i dywedodd.'
14:12 "Dos dithau adref. Pan fyddi'n cyrraedd y dref, bydd farw'r bachgen.
14:13 Bydd holl Israel yn galaru amdano ac yn dod i'w angladd, oherwydd hwn yn unig o deulu Jeroboam a gaiff feddrod, gan mai ynddo ef o blith teulu Jeroboam y cafodd ARGLWYDD Dduw Israel ryw gymaint o ddaioni.
14:14 Fe gyfyd yr ARGLWYDD iddo'i hun frenin ar Israel a fydd yn difodi tylwyth Jeroboam y dydd hwn — yr awr hon, ond odid.
14:15 A bydd yr ARGLWYDD yn taro Israel nes y bydd yn siglo fel brwynen mewn llif, ac yn diwreiddio Israel o'r tir da hwn a roddodd i'w hynafiaid, a'u gwasgaru y tu hwnt i'r Ewffrates, am iddynt lunio'u delwau o Asera a chythruddo'r ARGLWYDD.
14:16 Bydd yn gwrthod Israel, o achos y pechod a wnaeth Jeroboam, a barodd i Israel bechu."
14:17 Aeth gwraig Jeroboam yn ôl i Tirsa, ac fel yr oedd hi'n cyrraedd trothwy'r tŷ, bu farw'r llanc.
14:18 Daeth holl Israel i'w gladdu ac i alaru ar ei ôl, fel y llefarodd yr ARGLWYDD drwy ei was, y proffwyd Aheia.

Marwolaeth Jeroboam

14:19 Y mae gweddill hanes Jeroboam, ei ryfeloedd a'i deyrnasiad, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.
14:20 Dwy flynedd ar hugain oedd hyd y cyfnod y bu Jeroboam yn frenin; yna bu farw, a daeth ei fab Nadab yn frenin yn ei le.

Rehoboam yn Frenin ar Jwda, 2 Cron. 11:5—12:15

14:21 Daeth Rehoboam fab Solomon yn frenin ar Jwda; un a deugain oed oedd ef pan ddechreuodd deyrnasu, a bu'n frenin am ddwy flynedd ar bymtheg yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisodd yr ARGLWYDD allan o holl lwythau Israel i osod ei enw yno. Naama yr Ammones oedd enw mam Rehoboam.
14:22 Gwnaeth Jwda ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i ddigio'n fwy â'u pechodau nag a wnaeth eu hynafiaid.
14:23 Buont hefyd yn codi uchelfeydd a cholofnau i Baal ac Asera ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas;
14:24 ac yr oedd puteinwyr y cysegr drwy'r wlad. Gwnaethant ffieidd-dra, yn hollol fel y cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.
14:25 Ym mhumed flwyddyn y Brenin Rehoboam, daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem,
14:26 a dwyn holl drysorau tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, a dwyn hefyd yr holl darianau aur a wnaeth Solomon.
14:27 Yn eu lle gwnaeth y Brenin Rehoboam darianau pres, a'u rhoi yng ngofal swyddogion y gwarchodlu oedd yn gwylio porth tŷ'r brenin.
14:28 Bob tro yr âi'r brenin i dŷ'r ARGLWYDD, gwisgai'r gwarchodlu hwy ac yna'u dychwelyd i'r wardws.
14:29 Ac onid yw gweddill hanes Rehoboam, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion bren-hinoedd Jwda?
14:30 Bu rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam trwy gydol yr amser.
14:31 Pan fu farw Rehoboam, claddwyd ef gyda hwy yn Ninas Dafydd. Naama yr Ammones oedd enw ei fam, a'i fab Abeiam a ddaeth yn frenin yn ei le.

Abeiam yn Frenin ar Jwda, 2 Cron. 13:1—14:1

15:1 Yn y ddeunawfed flwyddyn i'r Brenin Jeroboam fab Nebat, daeth Abeiam yn frenin ar Jwda.
15:2 Teyrnasodd am dair blynedd yn Jerwsalem, a Maacha merch Abisalom oedd enw ei fam.
15:3 Dilynodd yr holl bechodau a gyflawnodd ei dad o'i flaen, a'i galon heb fod yn berffaith gywir i'r ARGLWYDD ei Dduw fel yr oedd calon ei dad Dafydd.
15:4 Ond er mwyn Dafydd rhoddodd yr ARGLWYDD ei Dduw lamp iddo yn Jerwsalem, a sefydlu ei fab ar ei ôl a sicrhau Jerwsalem,
15:5 am fod Dafydd wedi gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb wyro oddi wrth ddim a orchmynnodd iddo drwy ei oes, ar wahân i achos Ureia'r Hethiad.
15:6 Ond bu rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam ar hyd ei oes.
15:7 Ac onid yw gweddill hanes Abeiam, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? Bu rhyfel hefyd rhwng Abeiam a Jeroboam.
15:8 Pan fu farw Abeiam, claddwyd ef yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Asa yn frenin yn ei le.

Asa yn Frenin ar Jwda, 2 Cron. 15:16—16:6

15:9 Yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel y daeth Asa yn frenin Jwda.
15:10 Teyrnasodd am un mlynedd a deugain yn Jerwsalem, a Maacha merch Abisalom oedd enw ei fam.
15:11 Gwnaeth Asa yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â'i dad Dafydd.
15:12 Trodd buteinwyr y cysegr allan o'r wlad a symud ymaith yr eilunod a wnaeth ei ragflaenwyr.
15:13 At hyn fe ddiswyddodd ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw a'i llosgi yn nant Cidron.
15:14 Ni symudwyd yr uchelfeydd; eto yr oedd calon Asa yn berffaith gywir i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes.
15:15 Dygodd i dŷ'r ARGLWYDD yr addunedau o arian, aur a llestri a addawodd ei dad ac yntau.
15:16 Bu rhyfel rhwng Asa a Baasa brenin Israel ar hyd eu hoes.
15:17 Aeth Baasa brenin Israel yn erbyn Jwda ac adeiladu Rama, rhag gadael i neb fynd a dod at Asa brenin Jwda.
15:18 Yna cymerodd Asa'r holl arian ac aur a adawyd yn nhrysorfeydd tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, a'u rhoi i'w weision a'u hanfon i Ben-hadad fab Tabrimon, fab Hesion, brenin Syria, a oedd yn byw yn Namascus, a dweud,
15:19 "Bydded cyfamod rhyngof fi a thi, fel yr oedd rhwng fy nhad a'th dad. Rwy'n anfon atat rodd o arian ac aur; tor dy gyfamod gyda Baasa brenin Israel er mwyn iddo gilio'n ôl oddi wrthyf."
15:20 Gwrandawodd Ben-hadad ar y Brenin Asa, ac anfon swyddogion ei gatrodau yn erbyn trefi Israel, ac ymosod ar Ijon a Dan ac Abel-beth-maacha a Cinneroth i gyd, a holl wlad Nafftali.
15:21 Pan glywodd Baasa, rhoddodd heibio adeiladu Rama ac ymsefydlodd yn Tirsa.
15:22 Yna gorch-mynnodd y Brenin Asa holl Jwda yn ddieithriad i gymryd meini a choed Rama, y bu Baasa yn ei hadeiladu; a defnyddiodd hwy i adeiladu Geba Benjamin a Mispa.
15:23 Ac onid yw gweddill hanes Asa, ei holl wrhydri, y cwbl a wnaeth, a'r dinasoedd a adeiladodd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda, oddieithr iddo yn ei henaint ddioddef o glefyd yn ei draed?
15:24 Pan fu farw, claddwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd; a daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le.

Nadab yn Frenin ar Israel

15:25 Daeth Nadab fab Jeroboam yn frenin ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Jwda, a theyrnasu am ddwy flynedd ar Israel.
15:26 Gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn llwybr a phechod ei dad, a barodd i Israel bechu.
15:27 Gwnaeth Baasa fab Aheia o lwyth Issachar gynllwyn yn ei erbyn, a'i daro i lawr ger Gibbethon, a oedd ym meddiant y Philistiaid, gan fod Nadab yn gwarchae ar Gibbethon gyda holl Israel.
15:28 Lladdodd Baasa ef yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda, a theyrnasodd yn ei le.
15:29 Pan ddaeth yn frenin, trawodd holl deulu Jeroboam a'u difa, heb adael un perchen anadl i Jeroboam, yn unol â gair yr ARGLWYDD drwy ei was Aheia o Seilo.
15:30 Digwyddodd hyn oherwydd y pechodau a wnaeth Jeroboam, a barodd i Israel bechu wrth ddigio yr ARGLWYDD, Duw Israel.
15:31 Ac onid yw gweddill hanes Nadab, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
15:32 Bu rhyfel rhwng Asa a Baasa brenin Israel ar hyd eu hoes.

Baasa yn Frenin ar Israel

15:33 Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda daeth Baasa fab Aheia yn frenin ar Israel yn Tirsa, a theyrnasu am bedair blynedd ar hugain.
15:34 Gwnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD a dilyn llwybr a phechod Jeroboam, a barodd i Israel bechu.
16:1 Daeth gair yr ARGLWYDD at Jehu fab Hanani yn erbyn Baasa, a dweud:
16:2 "Codais di o'r llwch, a'th wneud yn dywysog ar fy mhobl Israel, ond dilynaist lwybr Jeroboam a pheraist i'm pobl Israel bechu er mwyn fy nigio â'u pechodau.
16:3 Am hyn yr wyf yn difa olion Baasa a'i deulu a'u gwneud fel teulu Jeroboam fab Nebat.
16:4 Bydd cŵn yn bwyta'r rhai o deulu Baasa a fydd farw yn y ddinas, ac adar rheibus yn bwyta'r rhai a fydd farw yn y wlad."
16:5 Ac onid yw gweddill hanes Baasa, ei hynt a'i wrhydri, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
16:6 Pan fu farw Baasa, claddwyd ef yn Tirsa, a daeth ei fab Ela yn frenin yn ei le.
16:7 Ond yr oedd gair yr ARGLWYDD wedi dod at Baasa a'i deulu drwy'r proffwyd Jehu fab Hanani am y drygioni a wnaeth yng ngolwg yr ARGLWYDD trwy ei ddigio â'i weithredoedd, a dod yn debyg i deulu Jeroboam; a hefyd am iddo ddinistrio hwnnw.

Ela yn Frenin ar Israel

16:8 Yn y chweched flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda daeth Ela fab Baasa yn frenin ar Israel yn Tirsa, a theyrnasu am ddwy flynedd.
16:9 Yna gwnaeth ei was Simri, capten hanner y cerbydau, gynllwyn yn ei erbyn. Pan oedd y brenin yn Tirsa yn feddw chwil yn nhŷ Arsa rheolwr y tŷ yn Tirsa,
16:10 daeth Simri a'i daro'n farw; a daeth yn frenin yn ei le yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda.
16:11 Pan esgynnodd i'r orsedd ar ddechrau ei deyrnasiad, lladdodd bob un o deulu Baasa, heb adael ohonynt yr un gwryw, na châr na chyfaill.
16:12 Dinistriodd Simri holl dylwyth Baasa yn ôl gair yr ARGLWYDD wrth Baasa drwy'r proffwyd Jehu,
16:13 oherwydd i Baasa a'i fab Ela bechu cymaint eu hunain a pheri i Israel bechu a digio ARGLWYDD Dduw Israel â'u heilunod.
16:14 Ac onid yw gweddill hanes Ela, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

Simri yn Frenin ar Israel

16:15 Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda daeth Simri'n frenin am saith diwrnod yn Tirsa. Yr oedd y bobl yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon, a oedd ym meddiant y Philistiaid;
16:16 a phan glywsant fod Simri wedi cynllwyn a lladd y brenin, y diwrnod hwnnw yn y gwersyll gwnaeth holl Israel Omri, capten y llu, yn frenin ar Israel.
16:17 Yna aeth Omri i fyny o Gibbethon, a holl Israel gydag ef, a gwarchae ar Tirsa.
16:18 A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei chipio, aeth i gaer tŷ'r brenin a llosgi tŷ'r brenin am ei ben, a bu farw.
16:19 Digwyddodd hyn oherwydd y pechodau a gyflawnodd drwy wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD a dilyn llwybr Jeroboam, a'r pechod a wnaeth ef i beri i Israel bechu.
16:20 Ac onid yw gweddill hanes Simri a'i gynllwyn wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

Omri yn Frenin ar Israel

16:21 Yr adeg honno rhannwyd cenedl Israel yn ddwy, gyda hanner y genedl yn dilyn Tibni fab Ginath i'w godi'n frenin, a'r hanner arall yn dilyn Omri.
16:22 Trechodd y bobl oedd yn dilyn Omri ddilynwyr Tibni fab Ginath, a phan fu Tibni farw, Omri oedd yn frenin.
16:23 Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda daeth Omri yn frenin ar Israel, a theyrnasu am ddeuddeng mlynedd.
16:24 Wedi teyrnasu am chwe blynedd yn Tirsa, prynodd Fynydd Samaria gan Semer am ddwy dalent o arian, ac adeiladu ar y mynydd ddinas, a alwodd yn Samaria ar ôl Semer perchennog y mynydd.
16:25 Ond gwnaeth Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na phawb o'i flaen.
16:26 Dilynodd holl lwybr a phechod Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu a digio ARGLWYDD Dduw Israel â'u heilunod.
16:27 Ac onid yw gweddill hanes Omri, ei hynt a'r gwrhydri a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
16:28 Pan fu farw Omri, claddwyd ef yn Samaria, a daeth ei fab Ahab yn frenin yn ei le.

Ahab yn Frenin ar Israel

16:29 Daeth Ahab fab Omri yn frenin ar Israel yn y ddeunawfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda, a theyrnasodd Ahab fab Omri ar Israel yn Samaria am ddwy flynedd ar hugain.
16:30 Gwnaeth Ahab fab Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na phawb o'i flaen.
16:31 Ac fel petai'n ddibwys ganddo rodio ym mhechodau Jeroboam fab Nebat, fe gymerodd yn wraig Jesebel, merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac yna addoli Baal ac ymgrymu iddo.
16:32 Cododd Ahab allor i Baal yn nhŷ Baal, a adeiladodd yn Samaria, a hefyd fe wnaeth ddelw o Asera.
16:33 Gwnaeth fwy i ddigio ARGLWYDD Dduw Israel na holl frenhinoedd Israel o'i flaen.
16:34 Yn ei adeg ef ailadeiladwyd Jericho gan Hiel o Fethel. Yr oedd ei sylfaenu wedi costio iddo Abiram, ei gyntafanedig, a gosod ei dorau wedi costio iddo Segub ei fab ieuengaf — yn unol â gair yr ARGLWYDD drwy Josua fab Nun.

Elias a'r Weddw yn Sareffath

17:1 Dywedodd Elias y Thesbiad o Thisbe yn Gilead wrth Ahab, "Cyn wired â bod ARGLWYDD Dduw Israel yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, ni bydd na gwlith na glaw y blynyddoedd hyn ond yn ôl fy ngair i."
17:2 Wedyn daeth gair yr ARGLWYDD ato:
17:3 "Dos oddi yma a thro tua'r dwyrain ac ymguddia yn nant Cerith, sydd i'r dwyrain o'r Iorddonen.
17:4 Cei yfed o'r nant, a pharaf i gigfrain dy borthi yno."
17:5 Aeth yntau a gwneud yn ôl gair yr ARGLWYDD ac aros yn nant Cerith i'r dwyrain o'r Iorddonen.
17:6 Bore a hwyr dôi cigfrain â bara a chig iddo, ac yfai o'r nant.
17:7 Ond ymhen amser sychodd y nant o ddiffyg glaw yn y wlad,
17:8 a daeth gair yr ARGLWYDD ato:
17:9 "Cod a dos i Sareffath, sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno; wele, yr wyf yn peri i wraig weddw yno dy borthi."
17:10 Cododd a mynd i Sareffath, a phan gyrhaeddodd borth y dref, yno'r oedd gwraig weddw yn casglu priciau; galwodd arni a dweud, "Estyn imi gwpanaid bach o ddŵr, imi gael yfed."
17:11 Pan aeth i'w 'mofyn, galwodd ar ei hôl, "A thyrd â thamaid o fara imi yn dy law."
17:12 Ond meddai hi, "Cyn wired â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes gennyf yr un dorth, dim ond llond dwrn o flawd yn y celwrn a diferyn o olew yn y stên; casglu ychydig briciau yr oeddwn er mwyn eu paratoi i mi a'm mab i fwyta, ac yna trengi."
17:13 Dywedodd Elias wrthi, "Paid ag ofni; dos a gwna fel y dywedaist, ond gwna ohono yn gyntaf deisen fach i mi, a thyrd â hi ataf, a pharatoi i ti dy hun a'th fab wedyn.
17:14 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: 'Nid â'r celwrn blawd yn wag na'r stên olew yn sych hyd y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi glaw ar wyneb y tir.'"
17:15 Gwnaeth hithau yn ôl gair Elias, a chafodd ef a hi a'i theulu fwyd am amser.
17:16 Nid aeth y celwrn blawd yn wag na'r stên olew yn sych, yn ôl gair yr ARGLWYDD drwy Elias.
17:17 Ymhen ysbaid clafychodd mab y wraig oedd biau'r tŷ; aeth yn ddifrifol wael, fel nad oedd anadl ar ôl ynddo.
17:18 A dywedodd hi wrth Elias, "Beth sydd gennyt yn f'erbyn, ŵr Duw? Ai dod ataf a wnaethost i dynnu sylw at fy nghamwedd, a lladd fy mab?"
17:19 Meddai yntau wrthi, "Rho dy fab i mi." Cymerodd ef o'i mynwes a'i gludo i'r llofft lle'r oedd yn byw, a'i osod i orwedd ar ei wely.
17:20 Galwodd ar yr ARGLWYDD a dweud, "O ARGLWYDD, fy Nuw, a wyt yn dwyn drwg hyd yn oed ar y weddw y cefais lety ganddi, ac yn lladd ei mab?"
17:21 Yna ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, a galw ar yr ARGLWYDD a dweud, "O ARGLWYDD, fy Nuw, bydded i einioes y bachgen hwn ddod yn ôl iddo."
17:22 Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar lef Elias, a daeth einioes y bachgen yn ôl iddo, ac adfywiodd.
17:23 Cymerodd Elias y bachgen, a mynd ag ef i lawr o'r llofft i mewn i'r tŷ a'i roi i'w fam, a dweud, "Edrych, y mae dy fab yn fyw."
17:24 Dyw-edodd y wraig wrth Elias, "Gwn yn awr dy fod yn ŵr Duw, a bod gair yr ARGLWYDD yn wir yn dy enau."

Elias a Phroffwydi Baal Elias a'r Weddw yn Sareffath

18:1 Aeth cryn amser heibio, ac yn y drydedd flwyddyn daeth gair yr ARGLWYDD at Elias gan ddweud, "Dos, dangos dy hun i Ahab er mwyn imi roi glaw ar wyneb y tir."
18:2 Aeth Elias i'w ddangos ei hun i Ahab.
18:3 Gan fod y newyn yn drwm yn Samaria, galwodd Ahab ar Obadeia, goruchwyliwr ei dŷ.
18:4 Yr oedd Obadeia yn ofni'r ARGLWYDD yn fawr, a phan ddistrywiodd Jesebel broffwydi'r ARGLWYDD, fe gymerodd Obadeia gant o broffwydi a'u cuddio mewn ogof fesul hanner cant, a'u cynnal â bwyd a diod.
18:5 A dywedodd Ahab wrth Obadeia, "Cerdda drwy'r wlad i bob ffynnon a nant, ac efallai y down o hyd i laswellt, a chadw'r ceffylau a'r mulod yn fyw, rhag inni golli pob anifail."
18:6 Ac wedi rhannu'r wlad rhyngddynt i gerdded drwyddi, aeth Ahab ei hun un ffordd, ac Obadeia ffordd arall.
18:7 A phan oedd Obadeia ar ei ffordd, daeth Elias i'w gyfarfod; adnabu yntau ef, a syrthio ar ei wyneb a dweud, "Ai ti sydd yna, f'arglwydd Elias?"
18:8 "Ie," atebodd yntau, "dos a dywed wrth dy arglwydd fod Elias ar gael."
18:9 Ond meddai hwnnw, "Beth yw fy mai, dy fod yn rhoi dy was yn llaw Ahab i'm lladd?
18:10 Cyn wired â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes na chenedl na theyrnas nad yw f'arglwydd wedi anfon yno i'th geisio; a phan ddywedent, 'Nid yw yma', byddai'n mynnu i'r deyrnas neu'r genedl dyngu llw nad oeddent wedi dy weld.
18:11 A dyma ti'n dweud wrthyf, 'Dos a dywed wrth dy arglwydd fod Elias ar gael'!
18:12 Cyn gynted ag yr af oddi wrthyt, bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gipio, ni wn i ble. Ac os af i ddweud wrth Ahab, ac yntau'n methu dy gael, bydd yn fy lladd — ac y mae dy was wedi ofni'r ARGLWYDD er pan oedd yn fachgen.
18:13 Oni ddywedodd neb wrth f'arglwydd yr hyn a wneuthum pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD, fy mod wedi cuddio cant o broffwydi'r ARGLWYDD mewn ogof, fesul hanner cant, a'u cynnal â bwyd a diod?
18:14 A dyma ti'n dweud wrthyf, 'Dos a dywed wrth f'arglwydd fod Elias ar gael'! Y mae'n sicr o'm lladd."
18:15 Dywedodd Elias, "Cyn wired â bod ARGLWYDD y Lluoedd yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, yr wyf am ymddangos iddo heddiw."
18:16 Yna aeth Obadeia i gyfarfod Ahab a dweud wrtho; ac aeth Ahab i gyfarfod Elias.
18:17 Pan welodd Ahab ef, dywedodd wrtho, "Ai ti sydd yna, gythryblwr Israel?"
18:18 Atebodd yntau, "Nid myfi sydd wedi cythryblu Israel, ond tydi a'th deulu, drwy wrthod gorchmynion yr ARGLWYDD a dilyn y Baalim.
18:19 Anfon yn awr a chasgla ataf holl Israel i Fynydd Carmel, a hefyd y pedwar cant a hanner o broffwydi Baal a'r pedwar cant o broffwydi Asera y mae Jesebel yn eu cynnal."
18:20 Anfonodd Ahab at yr holl Israeliaid, a chasglu'r proffwydi i Fynydd Carmel.
18:21 Pan ddaeth Elias at yr holl bobl, gofynnodd, "Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl? Os yr ARGLWYDD sydd Dduw, dilynwch ef; ac os Baal, dilynwch hwnnw." Ond nid atebodd y bobl air iddo.
18:22 Yna meddai Elias wrth y bobl, "Myfi fy hunan a adawyd yn broffwyd i'r ARGLWYDD, tra mae proffwydi Baal yn bedwar cant a hanner.
18:23 Rhodder inni ddau fustach, hwy i ddewis un a'i ddatgymalu a'i osod ar y coed, ond heb roi tân dano; a gwnaf finnau'r llall yn barod a'i osod ar y coed, heb roi tân dano.
18:24 Yna galwch chwi ar eich duw chwi, a galwaf finnau ar yr ARGLWYDD, a'r duw a etyb drwy dân fydd Dduw."
18:25 Atebodd yr holl bobl, "Cynllun da!" Dywedodd Elias wrth broffwydi Baal, "Dewiswch chwi un bustach a'i baratoi'n gyntaf, gan eich bod yn niferus, a galwch ar eich duw, ond peidio â rhoi tân."
18:26 Ac wedi cymryd y bustach a roddwyd iddynt a'i baratoi, galwasant ar Baal o'r bore hyd hanner dydd, a dweud, "Baal, ateb ni!" Ond nid oedd llef nac ateb, er iddynt lamu o gylch yr allor.
18:27 Erbyn hanner dydd yr oedd Elias yn eu gwatwar ac yn dweud, "Galwch yn uwch, oherwydd duw ydyw; hwyrach ei fod yn synfyfyrio, neu wedi troi o'r neilltu, neu wedi mynd ar daith; neu efallai ei fod yn cysgu a bod yn rhaid ei ddeffro."
18:28 Galwasant yn uwch, a'u hanafu eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll a phicellau nes i'r gwaed lifo arnynt.
18:29 Ac wedi i hanner dydd fynd heibio, yr oeddent yn dal i broffwydo'n orffwyll hyd adeg offrymu'r hwyroffrwm; ond nid oedd llef nac ateb na sylw i'w gael.
18:30 Yna dywedodd Elias wrth yr holl bobl, "Dewch yn nes ataf"; a daeth yr holl bobl ato. Trwsiodd yntau allor yr ARGLWYDD a oedd wedi ei malurio;
18:31 a chymerodd ddeuddeg carreg, yn ôl nifer llwythau meibion Jacob (yr un y daeth gair yr ARGLWYDD ato yn dweud, "Israel fydd dy enw").
18:32 Yna adeiladodd y cerrig yn allor yn enw'r ARGLWYDD, ac o gylch yr allor gwneud ffos ddigon mawr i gymryd dau fesur o had.
18:33 Trefnodd y coed, a darnio'r bustach a'i osod ar y coed,
18:34 ac yna meddai, "Llanwch bedwar llestr â dŵr, a'i dywallt ar yr aberth a'r coed." Yna dywedodd, "Gwnewch eilwaith"; a gwnaethant yr eildro. Yna dywedodd, "Gwnewch y drydedd waith"; a gwnaethant y trydydd tro,
18:35 nes bod y dŵr yn llifo o amgylch yr allor ac yn llenwi'r ffos.
18:36 Pan ddaeth awr offrymu'r hwyroffrwm, nesaodd y proffwyd Elias a dweud, "O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, pâr wybod heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau'n was iti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum hyn i gyd.
18:37 Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i'r bobl hyn wybod mai tydi, O ARGLWYDD, sydd Dduw, ac mai ti sydd yn troi eu calon yn ôl drachefn."
18:38 Ar hynny disgynnodd tân yr ARGLWYDD ac ysu'r poethoffrwm, y coed, y cerrig, a'r llwch, a lleibio'r dŵr oedd yn y ffos.
18:39 Pan welsant, syrthiodd yr holl bobl ar eu hwyneb a dweud, "Yr ARGLWYDD sydd Dduw! Yr ARGLWYDD sydd Dduw!"
18:40 Yna dywedodd Elias wrthynt, "Daliwch broffwydi Baal; peidiwch â gadael i'r un ohonynt ddianc." Ac wedi iddynt eu dal, aeth Elias â hwy i lawr i nant Cison a'u lladd yno.

Diwedd y Sychder

18:41 Dywedodd Elias wrth Ahab, "Dos yn ôl, cymer fwyd a diod, oherwydd y mae sŵn glaw."
18:42 Felly aeth Ahab yn ei ôl i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i ben Carmel, a gwargrymu ar y ddaear nes bod ei wyneb rhwng ei liniau.
18:43 Yna dywedodd wrth ei lanc, "Dos di i fyny ac edrych tua'r môr." Ac wedi iddo fynd ac edrych dywedodd, "Nid oes dim i'w weld." A saith waith y dywedodd wrtho, "Dos eto."
18:44 A'r seithfed tro dywedodd y llanc, "Mae yna gwmwl bychan fel cledr llaw yn codi o'r môr." Yna dywedodd Elias wrtho, "Dos, dywed wrth Ahab, 'Gwna dy gerbyd yn barod a dos, rhag i'r glaw dy rwystro.'"
18:45 Ar fyr dro duodd yr awyr gan gymylau a gwynt, a bu glaw trwm; ond yr oedd Ahab wedi gyrru yn ei gerbyd a chyrraedd Jesreel.
18:46 Daeth llaw yr ARGLWYDD ar Elias, tynhaodd yntau rwymyn am ei lwynau, a rhedodd o flaen Ahab hyd at y fynedfa i Jesreel.

Elias ar Fynydd Horeb

19:1 Mynegodd Ahab i Jesebel y cwbl yr oedd Elias wedi ei wneud, a'i fod wedi lladd yr holl broffwydi â'r cleddyf.
19:2 Yna anfonodd Jesebel negesydd i ddweud wrth Elias, "Fel hyn y gwnelo'r duwiau i mi, a rhagor, os na fyddaf wedi gwneud dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy erbyn yr amser hwn yfory."
19:3 Ofnodd yntau a dianc am ei einioes nes dod i Beerseba, oedd yn perthyn i Jwda.
19:4 Gadawodd ei was yno, ond aeth ef yn ei flaen daith diwrnod i'r anialwch. Pan oedd yn cymryd seibiant dan ryw bren banadl, deisyfodd o'i galon am gael marw, a dywedodd, "Dyma ddigon bellach, O ARGLWYDD; cymer f'einioes, oherwydd nid wyf fi ddim gwell na'm hynafiaid."
19:5 Ond wedi iddo orwedd a chysgu dan ryw bren banadl, dyna angel yn ei gyffwrdd ac yn dweud wrtho, "Cod, bwyta."
19:6 A phan edrychodd, wrth ei ben yr oedd teisen radell a ffiolaid o ddŵr; a bwytaodd ac yfed ac ailgysgu.
19:7 Daeth yr angel yn ôl eilwaith a'i gyffwrdd a dweud, "Cod, bwyta, rhag i'r daith fod yn ormod iti."
19:8 Cododd yntau a bwyta ac yfed; a cherddodd yn nerth yr ymborth hwnnw am ddeugain diwrnod a deugain nos, hyd at Horeb, mynydd Duw.
19:9 Yno aeth i ogof i aros, a daeth gair yr ARGLWYDD ato gan ddweud, "Beth a wnei di yma, Elias?"
19:10 Dywedodd yntau, "Bûm i'n selog iawn dros ARGLWYDD Dduw y Lluoedd; cefnodd yr Israeliaid ar dy gyfamod, a bwrw d'allorau i lawr, a lladd dy broffwydi â'r cleddyf; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau."
19:11 Yna dywedwyd wrtho, "Dos allan a saf ar y mynydd o flaen yr ARGLWYDD." A dyma'r ARGLWYDD yn dod heibio. Bu gwynt cryf nerthol, yn rhwygo mynyddoedd a dryllio creigiau, o flaen yr ARGLWYDD; nid oedd yr ARGLWYDD yn y gwynt. Ar ôl y gwynt bu daeargryn; nid oedd yr ARGLWYDD yn y ddaeargryn. Ar ôl y ddaeargryn bu tân; nid oedd yr ARGLWYDD yn y tân.
19:12 Ar ôl y tân, distawrwydd llethol.
19:13 Pan glywodd Elias, lapiodd ei wyneb yn ei fantell a mynd i sefyll yng ngenau'r ogof; a daeth llais yn gofyn iddo, "Beth a wnei di yma, Elias?"
19:14 Atebodd yntau, "Bûm i'n selog iawn dros ARGLWYDD Dduw y Lluoedd; cefnodd yr Israeliaid ar dy gyfamod, a bwrw d'allorau i lawr, a lladd dy broffwydi â'r cleddyf; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau."
19:15 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Dos yn ôl i gyfeiriad anialwch Damascus, a phan gyrhaeddi, eneinia Hasael yn frenin ar Syria,
19:16 a Jehu fab Nimsi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Saffat o Abel-mehola yn broffwyd yn dy le.
19:17 Pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, bydd Jehu yn ei ladd; pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehu, bydd Eliseus yn ei ladd.
19:18 Ond gadawaf yn weddill yn Israel y saith mil sydd heb blygu glin i Baal, na'i gusanu."

Galw Eliseus

19:19 Wedi iddo ymadael oddi yno, cafodd Eliseus fab Saffat yn aredig, a deuddeg gwedd o'i flaen, ac yntau gyda'r ddeuddegfed. Wrth fynd heibio, taflodd Elias ei fantell drosto.
19:20 Gadawodd yntau'r ychen a rhedeg ar ôl Elias a dweud, "Gad imi ffarwelio â'm tad a'm mam, ac mi ddof ar dy ôl."
19:21 Dywedodd wrtho, "Dos yn ôl; beth a wneuthum i ti?" Aeth yntau'n ôl a chymryd y wedd ychen a'u lladd, a berwi'r cig â gêr yr ychen, a'i roi i'r bobl i'w fwyta. Yna fe ddilynodd Elias a gweini arno.

Rhyfel yn erbyn Syria

20:1 Casglodd Ben-hadad brenin Syria ei holl lu, gyda meirch a cherbydau, a deuddeg ar hugain o frenhinoedd gydag ef, ac aeth i warchae ar Samaria a brwydro yn ei herbyn.
20:2 Anfonodd negesyddion i'r ddinas at Ahab brenin Israel,
20:3 a dweud wrtho, "Fel hyn y dywed Ben-hadad: 'Fi piau dy arian a'th aur, a hefyd dy wragedd a'th blant tecaf.'"
20:4 Atebodd brenin Israel, "Fel y dywedi, f'arglwydd frenin; ti piau fi a phopeth a feddaf."
20:5 Ond daeth y negesyddion yn ôl drachefn a dweud, "Fel hyn y dywed Ben-hadad: 'Anfonais atat a dweud, "Dy arian a'th aur, a hefyd dy wragedd a'th blant a roddi imi";
20:6 ond yr adeg yma yfory byddaf yn anfon fy ngweision atat i chwilio dy dŷ a thai dy weision, a chipio popeth dymunol yn dy olwg a'i ddwyn ymaith.'"
20:7 Yna galwodd brenin Israel holl henuriaid y wlad a dweud, "Sylwch fel y mae hwn am fynnu helynt. Oherwydd pan anfonodd ataf am fy ngwragedd a'm plant, a'm harian a'm haur, nid oeddwn yn eu gomedd iddo."
20:8 Dywedodd yr henuriaid i gyd a'r holl bobl wrtho, "Paid â gwrando, a phaid â chytuno."
20:9 Yna dywedodd y brenin wrth negesyddion Ben-hadad, "Dywedwch wrth f'arglwydd frenin, 'Gwnaf bopeth a hawliaist gan dy was y tro cyntaf, ond ni allaf wneud y peth hwn.'" Ymadawodd y negesyddion a mynd â'r ateb i Ben-hadad.
20:10 Anfonodd hwnnw'n ôl a dweud, "Fel hyn y gwnelo'r duwiau i mi, a rhagor, os bydd llwch Samaria yn ddigon i wneud dyrnaid bob un i'r bobl sy'n fy nilyn."
20:11 Ond ateb brenin Israel oedd, "Dywedwch wrtho, 'Peidied yr un sy'n codi arfau ag ymffrostio fel yr un sy'n eu rhoi i lawr.'"
20:12 A phan glywodd Ben-hadad y dywediad hwn, ac yntau'n diota gyda'r brenhinoedd eraill yn y pebyll, dywedodd wrth ei weision, "Ymosodwch." Ac ymosodasant ar y ddinas.
20:13 Daeth rhyw broffwyd at Ahab brenin Israel a dweud wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'A weli di'r holl dyrfa fawr hon? Rhoddaf hi yn dy law heddiw, a chei wybod mai fi yw'r ARGLWYDD.'"
20:14  Gofynnodd Ahab, "Trwy bwy?" Ac atebodd, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Trwy filwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau.'" Yna gofynnodd, "Pwy sydd i gychwyn y frwydr?" Ac meddai'r proffwyd, "Tydi."
20:15 Pan rifodd filwyr ifainc llywod-raethwyr y taleithiau, yr oedd dau gant tri deg a dau ohonynt, ac yna rhifodd holl bobl Israel, ac yr oedd saith mil.
20:16 Ac aethant allan ganol dydd, pan oedd Ben-hadad yn meddwi yn y pebyll gyda'r deuddeg brenin ar hugain oedd yn ei gynorthwyo.
20:17 Daeth milwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau allan i ddechrau; ac anfonwyd neges at Ben-hadad fod dynion yn dod allan o Samaria.
20:18 Dywedodd, "Prun bynnag ai ceisio heddwch ai ceisio rhyfel y maent, daliwch hwy yn fyw."
20:19 Parhau i ddod allan o'r ddinas a wnaeth milwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau, gyda'r fyddin i'w canlyn.
20:20 Ac ymosododd pob un ar ei wrthwynebwr, nes i'r Syriaid ffoi, gyda'r Israeliaid ar eu gwarthaf; ond dihangodd Ben-hadad brenin Syria ar farch gyda gwŷr meirch.
20:21 Aeth brenin Israel allan a tharo'r meirch a'r cerbydau, a gwneud lladdfa fawr ymhlith y Syriaid.
20:22 Yna daeth y proffwyd at frenin Israel a dweud wrtho, "Dos i geisio ymgryfhau a phenderfynu'n ofalus beth a wnei, oherwydd gyda'r gwanwyn fe ddaw brenin Syria yn dy erbyn."

Syria yn Ailymosod

20:23 Dywedodd gweision brenin Syria wrtho, "Duwiau'r mynyddoedd yw eu duwiau hwy; dyna pam y buont yn drech na ni. Ond pe baem ni'n ymladd â hwy ar y gwastadedd, yn sicr fe'u trechem.
20:24 Dyma a wnei: diswydda bob un o'r brenhinoedd hyn, gosod raglawiaid yn eu lle,
20:25 a chasgl ynghyd fyddin debyg i'r un a gollaist, gyda march am farch a cherbyd am gerbyd. Gad inni ymladd â hwy ar y gwastadedd, ac yn sicr fe'u trechwn." Cytunodd y brenin i wneud hynny.
20:26 Yn y gwanwyn casglodd Ben-hadad y Syriaid i ryfela ag Israel, ac aeth i Affec.
20:27 Yna galwyd yr Israeliaid i fyny, a darparu bwyd ar eu cyfer, ac aethant i'w gwrthsefyll. Yr oedd yr Israeliaid yn eu gwersyll gyferbyn â hwy fel dwy ddiadell fach o eifr, a'r Syriaid yn llenwi'r wlad.
20:28 A daeth gŵr Duw at frenin Israel a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Am fod y Syriaid wedi dweud mai Duw mynydd-dir yw'r ARGLWYDD, ac nad yw'n Dduw gwastatir, yr wyf am roi'r holl dyrfa fawr hon yn dy law; a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'"
20:29 Bu'r naill yn gwersyllu gyferbyn â'r llall am wythnos; yna ar y seithfed dydd dechreuodd y frwydr, a thrawodd yr Israeliaid gan mil o wŷr traed y Syriaid mewn un dydd.
20:30 Ffodd y gweddill i ddinas Affec, a chwympodd y mur ar y saith mil ar hugain ohonynt.
20:31 Ffodd Ben-hadad hefyd i'r ddinas, a chyrraedd y gaer nesaf i mewn. Ac meddai ei weision wrtho, "Gwrando'n awr, clywsom fod brenhinoedd Israel yn frenhinoedd tirion. Gad inni wisgo sachliain a rhoi rhaffau am ein gyddfau, a mynd allan at frenin Israel; efallai yr arbed dy einioes."
20:32 A rhoesant sachliain am eu llwynau a rhaffau am eu gyddfau, a mynd at frenin Israel a dweud wrtho, "Mae dy was Ben-hadad yn dweud, 'Arbed fy mywyd.'" Meddai yntau, "A yw'n fyw o hyd? Fy mrawd ydyw."
20:33 Yr oedd y dynion yn gwylio am arwydd, a buont yn gyflym i ddal ar ei eiriau, a dweud, "Ie, dy frawd Ben-hadad." A dywedodd, "Ewch i'w nôl." Pan ddaeth Ben-hadad allan ato, derbyniodd ef i'w gerbyd,
20:34 a dywedodd Ben-hadad wrtho, "Dychwelaf y trefi a ddygodd fy nhad oddi ar dy dad; a chei osod marchnadau i ti dy hun yn Namascus, fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria; rhyddha fi ar yr amod hwn." A gwnaeth Ahab gytundeb ag ef a'i ollwng yn rhydd.

Proffwyd yn Condemnio Ahab

20:35 Yna dywedodd un o urdd y proffwydi wrth gyfaill iddo trwy air yr ARGLWYDD, "Taro fi'n awr." Ond gwrthododd ei gyfaill ei daro.
20:36 A dywedodd yntau wrtho, "Am iti wrthod ufuddhau i lais yr ARGLWYDD, bydd llew yn ymosod arnat pan ei oddi wrthyf." Ac wedi iddo fynd oddi wrtho, cyfarfu llew ag ef ac ymosod arno.
20:37 Yna cafodd y proffwyd ŵr arall a dweud, "Taro fi'n awr." A thrawodd y gŵr hwnnw ef a'i glwyfo.
20:38 Wedyn aeth y proffwyd a disgwyl am y brenin ar y ffordd, a chadach dros ei lygaid rhag iddo'i adnabod.
20:39 Pan ddaeth y brenin heibio, llefodd arno a dweud, "Aeth dy was i ganol y frwydr, a dyna rywun yn dod ac yn trosglwyddo dyn imi ac yn dweud, 'Edrych ar ôl y dyn yma; os bydd yn dianc, rhaid i ti gymryd ei le neu dalu talent o arian.'
20:40 Ond tra oedd dy was yn brysur hwnt ac yma, diflannodd y dyn." Yna meddai brenin Israel wrtho, "Felly boed dy ddedfryd; tydi dy hun sydd wedi ei phennu."
20:41 Heb oedi dim, tynnodd yntau'r cadach oddi ar ei lygaid, a gwelodd brenin Israel mai un o'r proffwydi oedd.
20:42 Dywedodd wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Am iti ollwng yn rhydd y gŵr oedd i'w ddifodi, rhaid i ti gymryd ei le, a'th bobl di le ei bobl ef.'"
20:43 Dychwelodd brenin Israel adref i Samaria yn ddigalon a dig.

Gwinllan Naboth

21:1 Ar ôl hyn digwyddodd fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliad yn Jesreel ar gwr palas Ahab brenin Samaria.
21:2 A dywedodd Ahab wrth Naboth, "Rho dy winllan i mi i fod yn ardd lysiau, gan ei bod mor agos i'm tŷ; a rhof iti'n gyfnewid winllan well na hi. Neu, os yw'n well gennyt, rhof iti ei gwerth mewn arian."
21:3 Dywedodd Naboth wrth Ahab, "Yr ARGLWYDD a'm gwaredo rhag rhoi i ti etifeddiaeth fy hynafiaid."
21:4 Dychwelodd Ahab i'w dŷ yn ddigalon a dig am i Naboth y Jesreeliad ateb, "Ni roddaf iti etifeddiaeth fy hynafiaid." Bwriodd ei hun ar ei wely, a throi ei wyneb draw a gwrthod bwyta.
21:5 Daeth ei wraig Jesebel ato a gofyn iddo, "Pam yr wyt yn ddi-hwyl dy ysbryd ac yn gwrthod bwyta?"
21:6 Atebodd yntau, "Dywedais wrth Naboth y Jesreeliad, 'Rho dy winllan i mi am arian; neu, os dewisi, rhof iti winllan yn ei lle.' Ac atebodd, 'Ni roddaf fy ngwinllan iti.'"
21:7 A dywedodd Jesebel wrtho, "Dangos yn awr mai ti yw'r brenin yn Israel. Cod, bwyta, cod dy galon, fe roddaf fi winllan Naboth y Jesreeliad iti."
21:8 Ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, a'u selio â'i sêl, a'u hanfon at yr henuriaid a'r uchelwyr oedd yn byw yn yr un ddinas â Naboth.
21:9 Yn y llythyrau yr oedd wedi ysgrifennu, "Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth i fyny o flaen y bobl,
21:10 a dau ddihiryn i dystio yn ei erbyn, 'Yr wyt ti wedi melltithio Duw a'r brenin.' Yna ewch ag ef allan a'i labyddio'n gelain."
21:11 A gwnaed â Naboth gan yr henuriaid a'r uchelwyr oedd yn byw yn yr un ddinas ag ef yn union fel y gorchmynnodd Jesebel yn y llythyrau a ysgrifennodd atynt.
21:12 Wedi cyhoeddi ympryd, gosodasant Naboth i fyny o flaen y bobl,
21:13 a daeth y ddau ddihiryn ac eistedd o'i flaen, a thystio yn erbyn Naboth gerbron y bobl a dweud, "Y mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin." Aed ag ef y tu allan i'r ddinas a'i labyddio â cherrig nes iddo farw.
21:14 Yna anfonasant neges at Jesebel: "Mae Naboth wedi ei labyddio ac wedi marw."
21:15 Cyn gynted ag y clywodd Jesebel fod Naboth wedi ei labyddio'n gelain, dywedodd wrth Ahab, "Cod, meddianna'r winllan y gwrthododd Naboth y Jesreeliad ei hildio iti am arian. Nid yw Naboth yn fyw; y mae wedi marw."
21:16 A phan glywodd Ahab fod Naboth wedi marw, aeth i lawr i winllan Naboth y Jesreeliad i'w meddiannu.
21:17 Daeth gair yr ARGLWYDD at Elias y Thesbiad a dweud,
21:18 "Cod, a dos i lawr i gyfarfod Ahab brenin Israel yn Samaria. Fe'i cei yng ngwinllan Naboth; y mae wedi mynd yno i'w meddiannu.
21:19 Dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Wedi llofruddio, a fynni di hefyd feddiannu?"' Dywed hefyd wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Lle y llyfodd y cŵn waed Naboth, fe lyfant dy waed dithau."'"
21:20 Dywedodd Ahab wrth Elias, "A ddaethost o hyd i mi, fy ngelyn?" Atebodd yntau, "Do; ac am dy fod wedi ymroi i wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD,
21:21 rwyf yn dwyn drwg arnat ti, ac yn dileu dy hiliogaeth; difodaf bob gwryw yn perthyn i Ahab yn Israel, caeth a rhydd.
21:22 Gwnaf dy dŷ fel tŷ Jeroboam fab Nebat a thŷ Baasa fab Aheia, oherwydd y dicter a achosaist wrth beri i Israel bechu.
21:23 Ac am Jesebel, fe ddywed yr ARGLWYDD, 'Y cŵn fydd yn bwyta Jesebel wrth fur Jesreel.'
21:24 Bydd y cŵn yn bwyta pob aelod o deulu Ahab a fydd farw yn y dref, ac adar rheibus yn bwyta pob un a fydd farw allan yn y wlad."
21:25 Eto ni bu neb cynddrwg ag Ahab mewn ymroi i wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, am fod Jesebel ei wraig yn ei annog.
21:26 Gwnaeth yn ffiaidd iawn trwy addoli eilunod, yn hollol fel y gwnâi'r Amoriaid a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid.
21:27 Cyn gynted ag y clywodd Ahab eiriau Elias, rhwygodd ei ddillad a gwisgo sachliain ar ei gnawd, ac ymprydio, a chysgu ar sachliain, a cherdded yn araf.
21:28 Daeth gair yr ARGLWYDD at Elias y Thesbiad yn dweud,
21:29 "A sylwaist ti fod Ahab wedi ymostwng ger fy mron? Gan ei fod wedi ymostwng ger fy mron, nid wyf am ddod â'r drwg yn ei ddyddiau ef; yn nyddiau ei fab y dygaf y drwg ar ei deulu."

Y Proffwyd Michea yn Rhybuddio Ahab, 2 Cron. 18:2-27

22:1 Bu Syria ac Israel am dair blynedd heb ryfela â'i gilydd.
22:2 Ond yn y drydedd flwyddyn, tra oedd Jehosaffat brenin Jwda draw yn ymweld â brenin Israel,
22:3 dywedodd brenin Israel wrth ei weision, "A wyddoch chwi mai ni piau Ramoth-gilead? A dyma ni'n dawel ddigon, yn lle ei chipio o law brenin Syria."
22:4 A gofynnodd brenin Israel i Jehosaffat, "A ddoi di gyda mi i ryfel i Ramoth-gilead?" Dywedodd Jehosaffat wrth frenin Israel, "Yr wyf fi fel tydi, fy mhobl i fel dy bobl di, fy meirch i fel dy feirch di."
22:5 Ond meddai Jehosaffat hefyd wrth frenin Israel, "Cais yn gyntaf hefyd air yr ARGLWYDD."
22:6 Yna casglodd brenin Israel y proffwydi, tua phedwar cant ohonynt, a dweud wrthynt, "A ddylwn fynd i fyny i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, ai peidio?" Dywedasant hwythau, "Dos i fyny, ac fe rydd yr ARGLWYDD hi yn llaw'r brenin."
22:7 Ond holodd Jehosaffat, "Onid oes yma broffwyd arall i'r ARGLWYDD, i ni ymgynghori ag ef?"
22:8 Ac meddai brenin Israel wrth Jehosaffat, "Oes, y mae un gŵr eto i geisio'r ARGLWYDD drwyddo, Michea fab Imla; ond y mae'n atgas gennyf, am nad yw'n proffwydo lles i mi, dim ond drwg." Dywedodd Jehosaffat, "Peidied y brenin â dweud fel yna."
22:9 Felly galwodd brenin Israel ar swyddog a dweud, "Tyrd â Michea fab Imla yma ar frys."
22:10 Yr oedd brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar eu gorseddau ar y llawr dyrnu wrth borth Samaria, gyda'r holl broffwydi'n proffwydo o'u blaen.
22:11 Gwnaeth Sedeceia fab Cenaana gyrn haearn, a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Â'r rhain byddi'n cornio'r Syriaid nes iti eu difa.'"
22:12 Ac yr oedd yr holl broffwydi'n proffwydo felly ac yn dweud, "Dos i fyny i Ramoth-gilead a llwydda; bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi yn llaw'r brenin."
22:13 Dywedodd y negesydd a aeth i'w alw wrth Michea, "Edrych yn awr, y mae'r proffwydi'n unfrydol yn proffwydo llwyddiant i'r brenin. Bydded dy air dithau fel gair un ohonynt hwy, a phroffwyda lwyddiant."
22:14 Atebodd Michea, "Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr hyn a ddywed yr ARGLWYDD wrthyf a lefaraf."
22:15 Daeth at y brenin, a dywedodd y brenin wrtho, "Michea, a awn ni i Ramoth-gilead i ryfel, ai peidio?" A dywedodd yntau wrtho, "Dos i fyny a llwydda, ac fe rydd yr ARGLWYDD hi yn llaw'r brenin."
22:16 Ond dywedodd y brenin wrtho, "Pa sawl gwaith yr wyf wedi dy dynghedu i beidio â dweud dim ond y gwir wrthyf yn enw'r ARGLWYDD?"
22:17 Yna dywedodd Michea: "Gwelais Israel oll wedi eu gwasgaru ar y bryniau fel defaid heb fugail ganddynt. A dywedodd yr ARGLWYDD, 'Nid oes feistr ar y rhain; felly bydded iddynt ddychwelyd adref mewn heddwch.'"
22:18 Dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, "Oni ddywedais wrthyt na fyddai'n proffwydo da i mi, ond yn hytrach drwg?"
22:19 A dywedodd Michea, "Am hynny, gwrando air yr ARGLWYDD; gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, gyda holl lu'r nef yn sefyll ar y dde ac ar y chwith iddo.
22:20 A dywedodd yr ARGLWYDD, 'Pwy a fedr hudo Ahab i frwydro a chwympo yn Ramoth-gilead?' Ac yr oedd un yn dweud fel hyn a'r llall fel arall;
22:21 ond dyma un ysbryd yn sefyll allan o flaen yr ARGLWYDD ac yn dweud, 'Fe'i hudaf fi ef.' Ac meddai'r ARGLWYDD, 'Sut?'
22:22 Dywedodd yntau, 'Af allan a bod yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei broffwydi i gyd.' Yna dywedodd wrtho, 'Fe lwyddi di i'w hudo; dos a gwna hyn.'
22:23 Yn awr, y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn; y mae'r ARGLWYDD wedi llunio drwg ar dy gyfer."
22:24 Nesaodd Sedeceia fab Cenaana a rhoi cernod i Michea, a dweud, "Sut yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i lefaru wrthyt ti?"
22:25 Dywedodd Michea, "Cei weld ar y dydd hwnnw pan fyddi'n ceisio ymguddio yn yr ystafell nesaf i mewn."
22:26 A dywedodd brenin Israel, "Dos â Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y dref, a Joas mab y brenin, a dywed wrthynt,
22:27 'Fel hyn y dywed y brenin: "Rhowch hwn yng ngharchar, a bwydwch ef â'r dogn prinnaf o fara a dŵr nes imi ddod yn ôl yn llwyddiannus".'"
22:28 Ac meddai Michea, "Os llwyddi i ddod yn ôl, ni lefarodd yr ARGLWYDD drwof; gwrandewch chwi bobl i gyd."

Marwolaeth Ahab, 2 Cron. 18:28-34

22:29 Aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead.
22:30 A dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, "Yr wyf fi am newid fy nillad cyn mynd i'r frwydr, ond gwisg di dy ddillad brenhinol." Newidiodd brenin Israel ei wisg a mynd i'r frwydr.
22:31 Yr oedd brenin Syria wedi gorchymyn i'r deuddeg capten ar hugain oedd ganddo ar y cerbydau, "Peidiwch ag ymladd â neb, bach na mawr, ond â brenin Israel yn unig."
22:32 A phan welodd capteiniaid y cerbydau Jehosaffat, dywedasant, "Hwn yn sicr yw brenin Israel." Yna troesant i ymladd ag ef; ond rhoddodd Jehosaffat waedd,
22:33 a phan welodd capteiniaid y cerbydau nad brenin Israel oedd, gadawsant lonydd iddo.
22:34 A thynnodd rhyw ddyn ei fwa ar antur, a tharo brenin Israel rhwng y darnau cyswllt a'r llurig. A dywedodd yntau wrth yrrwr ei gerbyd, "Tro'n ôl, a dwg fi allan o'r rhengoedd, oherwydd rwyf wedi fy nghlwyfo."
22:35 Ond ffyrnigodd y frwydr y diwrnod hwnnw, a bu raid i'r brenin aros yn ei gerbyd yn wynebu'r Syriaid hyd yr hwyr, pan fu farw; a llifodd gwaed yr archoll i waelod y cerbyd.
22:36 A phan fachludodd yr haul aeth y gri drwy'r gwersyll, "Adref, bawb i'w dref a'i fro; bu farw'r brenin!"
22:37 Aethant â'r brenin i Samaria a'i gladdu yno;
22:38 a phan olchwyd y cerbyd wrth lyn Samaria, lleibiodd y cŵn ei waed ac ymolchodd y puteiniaid ynddo, yn ôl y gair a lefarodd yr ARGLWYDD.
22:39 Onid yw gweddill hanes Ahab, a'r cwbl a wnaeth, a hanes y palas ifori a gododd, a'r holl drefi a adeiladodd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
22:40 A bu farw Ahab, a daeth ei fab Ahaseia i'r orsedd yn ei le.

Jehosaffat yn Frenin ar Jwda, 2 Cron. 20:31—21:1

22:41 Yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel daeth Jehosaffat fab Asa yn frenin ar Jwda.
22:42 Pymtheg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am bum mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Asuba merch Silhi oedd enw ei fam.
22:43 Dilynodd lwybr ei dad Asa yn hollol ddiwyro, a gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Er hynny, ni symudwyd yr uchelfeydd, ac yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.
22:44 Gwnaeth Jehosaffat heddwch â brenin Israel.
22:45 Ac onid yw gweddill hanes Jehosaffat, ei hynt a'i wrhydri a'i ryfela, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
22:46 Hefyd fe ddileodd o'r tir yr olaf o buteinwyr y cysegr a adawyd o ddyddiau ei dad Asa.
22:47 Nid oedd brenin yn Edom. Fe wnaeth rhaglaw'r brenin Jehosaffat
22:48 long Tarsis i fynd i Offir am aur. Ond nid aeth, oherwydd drylliwyd y llong yn Esion-geber.
22:49 Yna dywedodd Ahaseia fab Ahab wrth Jehosaffat, "Fe â fy ngweision i gyda'th weision di mewn llongau." Ond nid oedd Jehosaffat yn fodlon.
22:50 Bu farw Jehosaffat, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd, a daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.

Ahaseia yn Frenin ar Israel

22:51 Daeth Ahaseia fab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria yn yr ail flwyddyn ar bymtheg i Jehosaffat brenin Jwda. Teyrnasodd ar Israel am ddwy flynedd.
22:52 Gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilynodd lwybr ei dad a'i fam, a llwybr Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.
22:53 Gwasanaethodd ac addolodd Baal, a digio'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn hollol fel y gwnaeth ei dad.