AIL LYFR Y CRONICL

Solomon yn Gweddïo am Ddoethineb, 1Bren. 3:1-15

1:1 Sicrhaodd Solomon fab Dafydd ei afael ar ei deyrnas, ac yr oedd yr ARGLWYDD ei Dduw gydag ef, yn ei ddyrchafu'n uchel iawn.
1:2 Cyfarchodd Solomon holl Israel, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, y barnwyr a phob tywysog a phenteulu trwy Israel gyfan.
1:3 Yna fe aeth ef a'r gynulleidfa i gyd i'r uchelfa yn Gibeon, oherwydd yno yr oedd pabell cyfarfod Duw, a wnaeth Moses gwas yr ARGLWYDD yn yr anialwch.
1:4 Ond yr oedd arch Duw wedi ei chludo gan Ddafydd o Ciriath-jearim i'r lle a ddarparodd ar ei chyfer, sef y babell a gododd yn Jerwsalem.
1:5 Yno, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD, yr oedd yr allor bres a wnaeth Besalel fab Uri, fab Hur; ac fe nesaodd Solomon a'r gynulleidfa ati.
1:6 Aeth Solomon i fyny at yr allor bres gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod, ac offrymodd arni fil o boethoffrymau.
1:7 Y noson honno ymddangosodd Duw i Solomon a dweud wrtho, "Gofyn beth bynnag a fynni gennyf."
1:8 Dywedodd Solomon wrth Dduw, "Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, a gwnaethost fi yn frenin yn ei le.
1:9 Yn awr, ARGLWYDD Dduw, cyflawner dy addewid i'm tad Dafydd, oherwydd gwnaethost fi'n frenin ar bobl mor aneirif â llwch y ddaear.
1:10 Yn awr, rho i mi ddoethineb a deall i arwain y bobl hyn, oherwydd pwy a all farnu dy bobl, sydd mor niferus?"
1:11 Meddai Duw wrth Solomon, "Gan mai dyma dy ddymuniad, ac na ofynnaist am gyfoeth na golud nac anrhydedd, nac einioes dy elynion, na hir oes i ti dy hun, ond yn hytrach am ddoethineb a deall i farnu fy mhobl y gwneuthum di'n frenin arnynt,
1:12 fe roddir doethineb a deall iti. Rhoddaf iti hefyd gyfoeth, golud ac anrhydedd na fu eu tebyg gan y brenhinoedd o'th flaen, ac na fydd gan y rhai ar dy ôl."
1:13 Yna dychwelodd Solomon o babell y cyfarfod yn yr uchelfa yn Gibeon, a daeth i Jerwsalem, lle y teyrnasodd ar Israel.

Gallu a Chyfoeth y Brenin Solomon, 1Bren. 10:26-29

1:14  Casglodd Solomon gerbydau a meirch; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau a deuddeng mil o feirch a gedwid yn y dinasoedd cerbyd a chyda'r brenin yn Jerwsalem.
1:15 Parodd y brenin i arian ac aur fod mor aml yn Jerwsalem â cherrig, a chedrwydd mor gyffredin â sycamorwydd y Seffela.
1:16 o'r Aifft a Cŵe y dôi ceffylau Solomon, a byddai porthmyn y brenin yn eu cyrchu o Cŵe am bris penodedig.
1:17 Byddent yn mewnforio cerbyd o'r Aifft am chwe chant o siclau arian, a cheffyl am gant a hanner, ac yn eu hallforio i holl frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.

Solomon yn Paratoi i Adeiladu'r Deml, 1Bren. 5:1-18

2:1 Penderfynodd Solomon adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD, a phalas iddo'i hun.
2:2 Dewisodd ddeng mil a thrigain o ddynion yn gludwyr, a phedwar ugain mil yn chwarelwyr yn y mynydd, a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr drostynt.
2:3 Yna fe anfonodd y neges hon at Hiram brenin Tyrus, "Gwna i mi yn union fel y gwnaethost i Ddafydd fy nhad pan anfonaist iddo gedrwydd er mwyn iddo adeiladu tŷ i fyw ynddo.
2:4 Yr wyf fi am adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD fy Nuw a'i gysegru iddo, er mwyn llosgi arogldarth peraidd a rhoi'r bara gosod o'i flaen yn rheolaidd, a gwneud poethoffrymau fore a hwyr, ar y Sabothau, y newydd-loerau a gwyliau penodedig yr ARGLWYDD ein Duw; oherwydd y mae hon yn ddeddf i'w chadw gan Israel am byth.
2:5 Bydd y tŷ a adeiladaf fi yn un mawr, am fod ein Duw ni yn fwy na'r holl dduwiau.
2:6 Ond pwy a all adeiladu tŷ iddo pan yw'r nefoedd a nef y nefoedd yn methu ei gynnwys? A phwy wyf fi i godi tŷ iddo, heblaw i arogldarthu o'i flaen?
2:7 Felly, anfon ataf grefftwr medrus i weithio mewn aur, arian, pres a haearn, ac mewn defnydd porffor ac ysgarlad, a sidan glas, un sydd hefyd yn gerfiwr cywrain, er mwyn iddo ymuno â'r crefftwyr a benododd fy nhad Dafydd, ac sydd gennyf yn Jwda a Jerwsalem.
2:8 Anfon ataf hefyd gedrwydd, ffynidwydd a choed almug o Lebanon, oherwydd gwn fod dy weision yn gyfarwydd â thorri coed Lebanon. Bydd fy ngweision yn cynorthwyo dy weision di
2:9 i ddarparu llawer o goed i mi, oherwydd fe fydd y tŷ yr wyf am ei adeiladu yn fawr a rhyfeddol.
2:10 Fe roddaf i'th weision, sef y coedwigwyr sy'n torri'r coed, ugain mil o corusau o wenith wedi ei falu, ugain mil o corusau o haidd, ugain mil o bathau o win ac ugain mil o bathau o olew."
2:11 Anfonodd Hiram brenin Tyrus yr ateb hwn i Solomon mewn llythyr: "Am i'r ARGLWYDD garu ei bobl, fe'th wnaeth di'n frenin arnynt.
2:12 Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, gwneuthurwr nef a daear, am iddo roi i'r Brenin Dafydd fab doeth, wedi ei ddonio â synnwyr a deall, i adeiladu tŷ i'r ARGLWYDD a phalas iddo'i hun.
2:13 Yr wyf yn anfon iti'n awr grefftwr medrus a fu'n gweithio i Hiram fy nhad;
2:14 mab ydyw i un o ferched Dan, a'i dad yn hanu o Tyrus. Y mae wedi ei hyfforddi i weithio mewn aur, arian, pres, haearn, cerrig a choed, yn ogystal â defnydd porffor ac ysgarlad, sidan glas, a lliain main; gŵyr hefyd sut i gerfio unrhyw beth, a sut i weithio yn ôl unrhyw batrwm a roddir iddo. Gad iddo ymuno â'th grefftwyr di a chrefftwyr f'arglwydd Dafydd, dy dad.
2:15 Felly, anfoner y gwenith, yr haidd, yr olew a'r gwin a addawodd fy arglwydd i'w was,
2:16 ac fe dorrwn ninnau hynny o goed a fynni o Lebanon, a'u gyrru'n rafftiau i ti dros y môr i Jopa; cei dithau eu cario i fyny i Jerwsalem."
2:17 Rhifodd Solomon yr holl ddieithriaid oedd yng ngwlad Israel, yn union fel y rhifodd Dafydd ei dad hwy, a'r cyfanswm oedd cant pum deg a thri o filoedd a chwe chant.
2:18 Fe wnaeth ddeng mil a thrigain ohonynt yn gludwyr a phedwar ugain mil yn chwarelwyr yn y mynydd, a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr i sicrhau fod y bobl yn gweithio.

Dechrau Adeiladu'r Deml, 1Bren. 6:1-38; 7:15-22

3:1 Dechreuodd Solomon adeiladu tŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem ar Fynydd Moreia, lle'r oedd yr ARGLWYDD wedi ymddangos i'w dad Dafydd. Yr oedd ar lawr dyrnu Ornan y Jebusiad, y lle a baratowyd gan Ddafydd.
3:2 Dechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o'r ail fis ym mhedwaredd flwyddyn ei deyrnasiad.
3:3 Dyma fesurau'r sylfeini a osododd Solomon wrth adeiladu tŷ Dduw: yr hyd, yn ôl yr hen fesur, yn drigain cufydd, a'r lled yn ugain cufydd.
3:4 Yr oedd y cyntedd o flaen y tŷ yr un hyd â lled y tŷ, ugain cufydd, a'i uchder yn ugain cufydd; ac fe'i goreurodd oddi mewn ag aur pur.
3:5 Byrddiodd y brif gafell â ffynidwydd, a'i thaenu ag aur coeth, gyda cherfiadau o balmwydd a chadwynau arno.
3:6 Addurnodd y gafell â meini gwerthfawr i'w harddu, gan ddefnyddio aur o Parfaim.
3:7 Taenodd drawstiau, rhiniogau, parwydydd a drysau'r gafell ag aur, a cherfio cerwbiaid ar y parwydydd.
3:8 Fe wnaeth gafell y cysegr sanc-teiddiaf yr un hyd â lled y tŷ, ugain cufydd, ac yn ugain cufydd o led, a'i thaenu â chwe chan talent o aur coeth.
3:9 Yr oedd yr hoelion aur yn pwyso hanner can sicl.
3:10 Taenodd y gor-uwchystafelloedd hefyd ag aur. Yng nghafell y cysegr sancteiddiaf fe wnaeth ddau gerwb pren a'u goreuro.
3:11 Ugain cufydd oedd hyd adenydd y cerwbiaid; yr oedd aden un ohonynt yn bum cufydd ac yn cyffwrdd pared y gafell, a'r aden arall yn bum cufydd ac yn cyffwrdd aden yr ail gerwb.
3:12 Yr oedd aden yr ail gerwb yn bum cufydd ac yn cyffwrdd pared y gafell, a'r aden arall yn bum cufydd ac yn cydio wrth aden y cerwb cyntaf.
3:13 Yr oedd adenydd y cerwbiaid hyn yn ymestyn ugain cufydd. Yr oedd y cerwbiaid hyn yn sefyll ar eu traed yn wynebu at i mewn.
3:14 Gwnaeth y llen o borffor ac ysgarlad, sidan glas a lliain main, gyda brodwaith o gerwbiaid arni.
3:15 O flaen y gafell gosododd ddwy golofn o bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a chnap o bum cufydd ar ben pob un.
3:16 Gwnaeth rwydwaith ar ffurf cadwyn a'i osod ar ben y colofnau, a chant o bomgranadau i'w addurno.
3:17 Gosododd y colofnau o flaen y deml, un ar y dde a'r llall ar y chwith; fe alwodd yr un ar y dde yn Jachin a'r un ar y chwith yn Boas.

Offer y Deml, 1Bren. 7:23-51

4:1 Gwnaeth allor bres, ugain cufydd o hyd, ugain cufydd o led a deg cufydd o uchder.
4:2 Yna fe wnaeth y môr o fetel tawdd; yr oedd yn grwn ac yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, a phum cufydd o uchder, yn mesur deg cufydd ar hugain o gylch.
4:3 O amgylch y môr, yn ei gylchynu dan ei ymyl am ddeg cufydd, yr oedd rhywbeth tebyg i ychen; yr oeddent mewn dwy res ac wedi eu bwrw'n rhan ohono.
4:4 Safai'r môr ar gefn deuddeg ych, tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain, a'u cynffonnau at i mewn.
4:5 Dyrnfedd oedd ei drwch, a'i ymyl wedi ei weithio fel ymyl cwpan neu flodyn lili. Yr oedd yn gallu dal tair mil o bathau.
4:6 Hefyd fe wnaeth ddeg noe i ymolchi ynddynt, pump ar y dde a phump ar y chwith, ac yn y rhain yr oeddent yn trochi offer y poethoffrwm; ond yn y môr yr oedd yr offeiriaid yn ymolchi.
4:7 Gwnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl y cynllun, a'u rhoi yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith.
4:8 Gwnaeth ddeg bwrdd a'u gosod yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith, a hefyd gant o gawgiau aur.
4:9 Gwnaeth gyntedd yr offeiriaid a'r cyntedd mawr gyda'i ddorau, a thaenodd y dorau â phres.
4:10 Gosododd y môr ar yr ochr dde-ddwyreiniol i'r tŷ.
4:11 Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen y gwaith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ Dduw:
4:12 y ddwy golofn; y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith drostynt;
4:13 y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau;
4:14 y deg troli; y deg noe ar y trolïau;
4:15 y môr a'r deuddeg ych dano; y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau.
4:16 Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD o bres gloyw.
4:17 Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Seredetha yng ngwastadedd yr Iorddonen.
4:18 Gwnaeth Solomon gymaint o'r holl lestri hyn fel na ellid pwyso'r pres.
4:19 Gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i dŷ Dduw: yr allor aur a'r byrddau i ddal y bara gosod;
4:20 y canwyllbrennau a'u lampau o aur pur, i oleuo o flaen y gafell yn ôl y ddefod;
4:21 y blodau, y llusernau, a'r gefeiliau aur, a hwnnw'n aur perffaith;
4:22 y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau o aur pur; o aur hefyd yr oedd drws y tŷ a'i ddorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf, a'r dorau o fewn y côr.
5:1 Wedi i Solomon orffen yr holl waith a wnaeth yn nhŷ'r ARGLWYDD, dygodd y pethau yr oedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru, yr arian a'r aur a'r holl offer, a'u gosod yn nhrysordai tŷ Dduw.

Cyrchu Arch y Cyfamod i'r Deml, 1Bren. 8:1-9

5:2 Yna cynullodd Solomon henuriaid Israel a holl benaethiaid y llwythau a phennau-teuluoedd Israel i Jerwsalem, i gyrchu arch cyfamod yr ARGLWYDD o Ddinas Dafydd, sef Seion.
5:3 Daeth holl wŷr Israel ynghyd at y brenin ar yr ŵyl yn y seithfed mis.
5:4 Wedi i holl henuriaid Israel gyrraedd, cododd y Lefiaid yr arch,
5:5 a chyrchodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yr arch a phabell y cyfarfod a'r holl lestri cysegredig oedd yn y babell.
5:6 Ac yr oedd y Brenin Solomon, a phawb o gynulleidfa Israel oedd wedi ym-gynnull ato, yno o flaen yr arch yn aberthu defaid a gwartheg rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif.
5:7 Felly y dygodd yr offeiriaid arch cyfamod yr ARGLWYDD a'i gosod yn ei lle yng nghafell y tŷ, y cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y cerwbiaid.
5:8 Yr oedd y cerwbiaid yn estyn eu hadenydd dros le'r arch ac yn cysgodi dros yr arch a'i pholion.
5:9 Yr oedd y polion yn ymestyn allan oddi wrth yr arch, fel y gellid gweld eu blaenau o flaen y gafell, ond nid oeddent i'w gweld o'r tu allan. Ac yno y maent hyd y dydd hwn.
5:10 Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech a osododd Moses ynddi yn Horeb, lle gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod â'r Israeliaid pan oeddent yn dod allan o'r Aifft. Yna daeth yr offeiriaid allan o'r cysegr.
5:11 Yr oedd pob offeiriad oedd yn bresennol, i ba ddosbarth bynnag y perthynai, wedi ei gysegru ei hun.
5:12 Yr oedd yr holl Lefiaid, sef y cantorion oedd yn perthyn i Asaff, Heman a Jeduthun, a'u meibion a'u brodyr, wedi eu gwisgo mewn lliain main ac yn sefyll i'r dwyrain o'r allor gyda symbalau, nablau a thelynau; ac yr oedd cant ac ugain o offeiriaid yn canu trwmpedau wrth eu hymyl.
5:13 Ac fel yr oedd yr utganwyr a'r cantorion yn uno mewn mawl a chlod i'r ARGLWYDD ac yn seinio trwmpedau, symbalau ac offer cerdd er moliant iddo, gan ddweud, "Yn wir da yw, ac y mae ei gariad hyd byth", llanwyd tŷ'r ARGLWYDD gan gwmwl.
5:14 Felly ni fedrai'r offeiriaid barhau i weinyddu o achos y cwmwl; yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi tŷ Dduw.

Solomon yn Annerch y Bobl, 1Bren. 8:14-21

6:1 Yna dywedodd Solomon: "Dywedodd yr ARGLWYDD y trigai yn y tywyllwch.
6:2 Adeiledais innau i ti dŷ aruchel, a lle iti breswylio ynddo dros byth."
6:3 Yna tra oeddent i gyd yn sefyll, troes y brenin atynt a bendithio holl gynulleidfa Israel.
6:4 Dywedodd: "Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw Israel, a gyflawnodd â'i law yr hyn a addawodd â'i enau wrth fy nhad Dafydd, pan ddywedodd,
6:5 'Er y dydd y dygais fy mhobl o wlad yr Aifft, ni ddewisais ddinas ymhlith holl lwythau Israel i adeiladu ynddi dŷ i'm henw fod yno, ac ni ddewisais neb i fod yn arweinydd i'm pobl Israel.
6:6 Ond dewisais Jerwsalem i'm henw fod yno, a dewisais Ddafydd i fod yn ben ar fy mhobl Israel.'
6:7 Yr oedd ym mryd fy nhad Dafydd adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD Dduw Israel,
6:8 ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, 'Yr oedd yn dy fryd adeiladu tŷ i'm henw, a da oedd dy fwriad,
6:9 ond nid tydi fydd yn adeiladu'r tŷ; dy fab, a enir iti, a adeilada'r tŷ i'm henw.'
6:10 Yn awr y mae'r ARGLWYDD wedi gwireddu'r addewid a wnaeth; yr wyf fi wedi dod i le fy nhad Dafydd i eistedd ar orsedd Israel, fel yr addawodd yr ARGLWYDD, ac wedi adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD Dduw Israel.
6:11 Yr wyf hefyd wedi gosod yno yr arch sy'n cynnwys y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD â phobl Israel."

Gweddi Solomon, 1Bren. 8:22-53

6:12 Yna safodd Solomon o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, a chodi ei ddwylo.
6:13 Yr oedd wedi gwneud llwyfan pres, pum cufydd o hyd, pum cufydd o led, a thri chufydd o uchder, a'i osod yng nghanol y cyntedd. Dringodd i fyny arno a phenlinio yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, gan estyn ei ddwylo tua'r nef
6:14 a dweud: "O ARGLWYDD Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi yn y nefoedd na'r ddaear, yn cadw cyfamod ac yn ffyddlon i'th weision sy'n dy wasanaethu â'u holl galon.
6:15 Canys cedwaist dy addewid i'th was Dafydd, fy nhad; heddiw cyflawnaist â'th law yr hyn a addewaist â'th enau.
6:16 Yn awr, felly, O ARGLWYDD Dduw Israel, cadw'r addewid a wnaethost i'th was Dafydd, fy nhad, pan ddywedaist wrtho, 'Gofalaf na fyddi heb ŵr i eistedd ar orsedd Israel, dim ond i'th blant wylio'u ffordd, a chadw fy nghyfraith fel y gwnaethost ti.'
6:17 Yn awr, felly, O ARGLWYDD Dduw Israel, safed y gair a leferaist wrth dy was Dafydd.
6:18 "Ai gwir yw y preswylia Duw ar y ddaear gyda meidrolion? Wele, ni all y nefoedd na nef y nefoedd dy gynnwys; pa faint llai y tŷ hwn a godais!
6:19 Eto cymer sylw o weddi dy was ac o'i ddeisyfiad, O ARGLWYDD fy Nuw; gwrando ar fy llef, a'r weddi y mae dy was yn ei gweddïo ger dy fron.
6:20 Bydded dy lygaid, nos a dydd, ar y tŷ y dywedaist amdano, 'Fy enw a fydd yno': a gwrando'r weddi y bydd dy was yn ei gweddïo tua'r lle hwn.
6:21 Gwrando hefyd ar ddeisyfiadau dy was a'th bobl Israel pan fyddant yn gweddïo tua'r lle hwn. Gwrando o'r nef lle'r wyt yn preswylio, ac o glywed, maddau.
6:22 "Os bydd rhywun wedi troseddu yn erbyn rhywun arall ac yn gorfod cymryd llw, a'i dyngu gerbron dy allor yn y tŷ hwn,
6:23 gwrando di o'r nef a gweithredu. Gweinydda farn i'th weision drwy gosbi'r drwgweithredwr yn ôl ei ymddygiad, ond llwydda achos y cyfiawn yn ôl ei gyfiawnder.
6:24 "Os trechir dy bobl Israel gan y gelyn am iddynt bechu yn dy erbyn, ac yna iddynt edifarhau a chyffesu dy enw, a gweddïo ac erfyn arnat yn y tŷ hwn,
6:25 gwrando di o'r nef a maddau bechod dy bobl Israel, ac adfer hwy i'r tir a roddaist iddynt hwy ac i'w hynafiaid.
6:26 "Os bydd y nefoedd wedi cau, heb ddim glaw, am iddynt bechu yn dy erbyn, ac yna iddynt weddïo tua'r lle hwn a chyffesu dy enw ac edifarhau am eu pechodau oherwydd iti eu cosbi,
6:27 gwrando di yn y nef a maddau bechod dy weision a'th bobl Israel, a dysg iddynt y ffordd dda y dylent ei rhodio; ac anfon law ar dy wlad, a roddaist yn etifeddiaeth i'th bobl.
6:28 "Os bydd yn y wlad newyn, haint, deifiad, malltod, locustiaid neu lindys, neu os bydd gelynion yn gwarchae ar unrhyw un o'i dinasoedd — beth bynnag fo'r pla neu'r clefyd —
6:29 clyw bob gweddi, pob deisyfiad gan unrhyw un a chan bob un o'th bobl Israel sy'n ymwybodol o'i glwy ei hun a'i boen, ac yn estyn ei ddwylo tua'r tŷ hwn;
6:30 gwrando hefyd o'r nef lle'r wyt yn preswylio, a maddau, a rho i bob un yn ôl ei ffyrdd, oherwydd yr wyt ti'n deall ei fwriad; canys ti yn unig sy'n adnabod pob calon ddynol;
6:31 felly byddant yn dy ofni ac yn rhodio yn dy ffyrdd holl ddyddiau eu bywyd ar wyneb y tir a roddaist i'n hynafiaid.
6:32 "Os daw rhywun dieithr, nad yw'n un o'th bobl Israel, o wlad bell er mwyn dy enw mawr a'th law gref a'th fraich estynedig, a gweddïo tua'r tŷ hwn,
6:33 gwrando di o'r nef lle'r wyt yn preswylio, a gweithreda yn ôl y cwbl y mae'r dieithryn yn ei ddeisyf arnat, er mwyn i holl bobloedd y byd adnabod dy enw a'th ofni yr un fath â'th bobl Israel, a sylweddoli mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i.
6:34 "Os bydd dy bobl yn mynd i ryfela â'u gelynion, pa ffordd bynnag yr anfoni hwy, ac yna iddynt weddïo arnat tua'r ddinas hon a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw,
6:35 gwrando di o'r nef ar eu gweddi a'u hymbil, a chynnal eu hachos.
6:36 "Os pechant yn d'erbyn — oherwydd nid oes neb nad yw'n pechu — a thithau'n digio wrthynt ac yn eu darostwng i'w gelynion a'u caethgludo i wlad bell neu agos,
6:37 ac yna iddynt ystyried yn y wlad lle caethgludwyd hwy, ac edifarhau a deisyf arnat yng ngwlad eu caethiwed â'r geiriau, 'Yr ydym wedi pechu a throseddu a gwneud drygioni',
6:38 ac yna dychwelyd atat â'u holl galon a'u holl enaid yng ngwlad eu caethiwed lle y cawsant eu caethgludo, a gweddïo arnat i gyfeiriad eu gwlad, a roddaist i'w hynafiaid, a'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw,
6:39 gwrando di o'r nef lle'r wyt yn preswylio ar eu gweddi a'u deisyfiad, a chynnal eu hachos a maddau i'th bobl a bechodd yn d'erbyn.
6:40 Felly, fy Nuw, bydded dy lygaid yn sylwi a'th glust yn gwrando ar y weddi a offrymir yn y lle hwn.
6:41 Cyfod, yn awr, O ARGLWYDD Dduw, a thyrd i'th orffwysfa, ti ac arch dy nerth. Bydded dy offeiriaid, O ARGLWYDD Dduw, wedi eu gwisgo ag iachawdwriaeth, a bydded i'th ffyddloniaid orfoleddu yn eu llwyddiant.
6:42 O ARGLWYDD Dduw, paid â throi oddi wrth wyneb dy eneiniog; cofia ffyddlondeb dy was Dafydd."

Cysegru'r Deml, 1Bren. 8:62-66

7:1 Wedi i Solomon orffen gweddïo, daeth tân i lawr o'r nefoedd ac ysu'r poethoffrwm a'r aberthau, a llanwyd y tŷ â gogoniant yr ARGLWYDD.
7:2 Ni allai'r offeiriaid fynd i mewn i dŷ'r ARGLWYDD am fod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tŷ.
7:3 Pan welodd yr holl Israeliaid y tân a gogoniant yr ARGLWYDD yn dod i lawr ar y tŷ, ymgrymasant yn isel â'u hwynebau i'r llawr, ac addoli a moliannu'r ARGLWYDD a dweud, "Da yw, oherwydd y mae ei gariad hyd byth."
7:4 Yna bu'r brenin a'r holl bobl yn aberthu gerbron yr ARGLWYDD.
7:5 Aberthodd y Brenin Solomon ddwy fil ar hugain o wartheg a chwe ugain mil o ddefaid. Felly y cysegrodd y brenin a'r holl bobl dŷ'r ARGLWYDD.
7:6 Yr oedd yr offeiriaid yn sefyll ar ddyletswydd, a'r Lefiaid hefyd, gyda'r offerynnau cerdd a wnaeth y Brenin Dafydd i foliannu'r ARGLWYDD pan fyddai'n canu mawl a dweud, "Oherwydd y mae ei gariad hyd byth." Gyferbyn â hwy yr oedd yr offeiriaid yn canu utgyrn, a'r holl Israeliaid yn sefyll.
7:7 Cysegrodd Solomon ganol y cwrt oedd o flaen tŷ'r ARGLWYDD, gan mai yno'r oedd yn offrymu'r poethoffrymau a braster yr heddoffrwm, am na allai'r allor bres a wnaeth dderbyn y poethoffrwm a'r bwydoffrwm a'r braster.
7:8 A'r pryd hwnnw cadwodd Solomon, a holl Israel gydag ef, ŵyl am wythnos, yn gynulliad mawr o Lebo-hamath hyd nant yr Aifft.
7:9 Ar yr wythfed dydd bu'r cynulliad terfynol, wedi iddynt gadw gŵyl cysegru'r allor a'r brif ŵyl am wythnos.
7:10 Ar y trydydd dydd ar hugain o'r seithfed mis anfonodd Solomon y bobl adref yn llawen ac yn falch o galon am y daioni a wnaeth yr ARGLWYDD i Ddafydd ac i Solomon ac i'w bobl Israel.

Duw'n Ymddangos yr Eildro i Solomon, 1Bren. 9:1-9

7:11 Wedi i Solomon orffen tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, a llwyddo i wneud iddynt y cwbl a fwriadai,
7:12 ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo liw nos a dweud wrtho, "Clywais dy weddi, ac yr wyf wedi dewis i mi y lle hwn fel man i aberthu.
7:13 Os byddaf wedi cau'r nefoedd fel na fydd glaw, neu orchymyn i'r locustiaid ddifa'r ddaear, neu anfon pla ar fy mhobl,
7:14 ac yna bod fy mhobl, a elwir wrth fy enw, yn ymostwng ac yn gweddïo, yn fy ngheisio ac yn dychwelyd o'u ffyrdd drygionus, yna fe wrandawaf o'r nef, a maddau eu pechod ac adfer eu gwlad.
7:15 Bydd fy llygaid yn sylwi a'm clustiau yn gwrando ar y weddi a offrymir yn y lle hwn.
7:16 Yr wyf wedi dewis a sancteiddio'r tŷ hwn, i'm henw fod yno am byth; yno hefyd y bydd fy llygaid a'm calon hyd byth.
7:17 Os byddi di'n rhodio ger fy mron fel y rhodiodd dy dad Dafydd, a gwneud popeth a orchmynnaf iti, a chadw fy neddfau a'm cyfreithiau,
7:18 yna sicrhaf dy orsedd frenhinol fel yr addewais i'th dad Dafydd gan ddweud, 'Ni fyddi heb ŵr i lywodraethu Israel.'
7:19 Ond os byddwch chwi'n gwrthgilio ac yn gwrthod fy ordinhadau a'm gorch-mynion, a osodais o'ch blaen, ac os byddwch yn mynd a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli,
7:20 yna fe ddiwreiddiaf Israel o'm gwlad, a roddais iddynt, a bwriaf o'm golwg y tŷ a gysegrais i'm henw, a'i wneud yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd.
7:21 Bydd y tŷ hwn yn adfail, a phob un sy'n mynd heibio iddo yn synnu ac yn dweud, 'Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i'r wlad hon ac i'r tŷ hwn?'
7:22 A dywedir, 'Am iddynt wrthod yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a ddaeth â hwy o wlad yr Aifft, a glynu wrth dduwiau estron a'u haddoli a'u gwasanaethu; dyna pam y dygodd ef yr holl ddrwg yma arnynt.'"

Gweithgarwch Solomon, 1Bren. 9:10-28

8:1 Ar derfyn yr ugain mlynedd a gymerodd Solomon i adeiladu tŷ'r ARGLWYDD a'i dŷ ei hun,
8:2 fe ail-adeiladodd y dinasoedd a roddodd Hiram iddo, a rhoi Israeliaid i fyw ynddynt.
8:3 Aeth Solomon i Hamath-soba a'i gorchfygu,
8:4 ac fe ailadeiladodd Tadmor yn y diffeithwch, a'r holl ddinasoedd stôr yr oedd wedi eu hadeiladu yn Hamath.
8:5 Fe adeiladodd Beth-horon Uchaf a Beth-horon Isaf yn ddinasoedd caerog â muriau, dorau a barrau,
8:6 hefyd Baalath a'r holl ddinasoedd stôr oedd gan Solomon, a'r holl ddinasoedd cerbydau a'r dinasoedd meirch, a phopeth arall y dymunai ei adeiladu, prun ai yn Jerwsalem neu yn Lebanon neu drwy holl gyrrau ei deyrnas.
8:7 Gorfodwyd llafur oddi wrth holl weddill poblogaeth yr Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, nad oeddent yn perthyn i'r Israeliaid.
8:8 Yr oedd disgynyddion y rhain wedi eu gadael ar ôl yn y wlad am nad oedd yr Israeliaid wedi medru eu difa; arnynt hwy y gosododd Solomon lafur gorfod sy'n parhau hyd heddiw.
8:9 Ni wnaeth Solomon yr un o'r Israeliaid yn gaethwas ar gyfer ei waith; hwy oedd ei filwyr, ei gapteiniaid a phenaethiaid ei gerbydau a'i feirch,
8:10 a hwy hefyd oedd prif arolygwyr y Brenin Solomon — dau gant a hanner ohonynt, yn rheoli'r bobl.
8:11 Daeth Solomon â merch Pharo i fyny o Ddinas Dafydd i'r tŷ a gododd iddi, oherwydd dywedodd, "Ni chaiff fy ngwraig i fyw yn nhŷ Dafydd brenin Israel, am fod pob man yr aeth arch yr ARGLWYDD iddo yn gysegredig."
8:12 Yna fe offrymodd Solomon boethoffrymau i'r ARGLWYDD ar allor yr ARGLWYDD, a gododd o flaen y porth.
8:13 Offrymai yn unol â'r gofynion dyddiol a orchmynnodd Moses ynglŷn â'r Sabothau, y newydd-loerau a'r tair gŵyl flynyddol arbennig, sef gŵyl y Bara Croyw, gŵyl yr Wythnosau a gŵyl y Pebyll.
8:14 Ac yn unol â threfn ei dad Dafydd, fe osododd yr offeiriaid mewn dosbarthiadau ar gyfer gwasanaethu, a'r Lefiaid ar ddyletswydd i ganu mawl ac i wasanaethu'r offeiriaid yn feunyddiol yn ôl y gofyn, a'r porthorion mewn dosbarthiadau wrth bob porth, oherwydd dyma orchymyn Dafydd, gŵr Duw.
8:15 Nid anghofiwyd gorchymyn y brenin i'r offeiriaid a'r Lefiaid ynglŷn â'r trysordai, na dim arall.
8:16 Felly cyflawnwyd holl waith Solomon, o'r dydd y gosodwyd sylfaen tŷ'r ARGLWYDD nes ei gwblhau; a gorffennwyd tŷ'r ARGLWYDD.
8:17 Yna aeth Solomon i Esion-geber ac i Elath, sydd ar lan y môr yng ngwlad Edom.
8:18 Anfonodd Hiram longau iddo gyda'i weision oedd yn forwyr profiadol, ac aethant gyda gweision Solomon i Offir, a dod â phedwar cant a hanner o dalentau aur oddi yno i'r Brenin Solomon.

Ymweliad Brenhines Sheba, 1Bren. 10:1-13

9:1 Pan glywodd brenhines Sheba am fri Solomon, daeth i Jerwsalem i'w brofi â chwestiynau caled. Cyrhaeddodd gyda gosgordd niferus iawn — camelod yn cludo peraroglau a stôr fawr o aur a gemau. Pan ddaeth hi at Solomon, dywedodd wrtho'r cwbl oedd ar ei meddwl,
9:2 ac atebodd yntau bob un o'i chwestiynau; nid oedd dim yn rhy dywyll i Solomon ei esbonio iddi.
9:3 A phan welodd brenhines Sheba ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladodd,
9:4 ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'i esgynfa i fyny i dŷ'r ARGLWYDD, diffygiodd ei hysbryd.
9:5 Addefodd wrth y brenin, "Gwir oedd yr hyn a glywais yn fy ngwlad amdanat ti a'th ddoethineb.
9:6 Eto nid oeddwn yn credu'r hanes nes imi ddod a gweld â'm llygaid fy hun — ac wele, ni ddywedwyd wrthyf mo'r hanner am dy ddoethineb enfawr; yr wyt yn tra rhagori ar yr hyn a glywais.
9:7 Gwyn fyd dy wŷr, y gweision hyn sy'n gweini'n feunyddiol arnat ac yn clywed dy ddoethineb.
9:8 Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a'th hoffodd di ddigon i'th osod ar ei orseddfainc yn frenin iddo. Am i'th Dduw garu Israel a'i sefydlu am byth, y mae wedi dy wneud di'n frenin arnynt, i weinyddu barn a chyfiawnder."
9:9 Yna rhoddodd hi i'r brenin chwe ugain talent o aur a llawer iawn o beraroglau a gemau. Ni fu erioed y fath beraroglau â'r rhai a roddodd brenhines Sheba i'r Brenin Solomon.
9:10 Byddai gweision Hiram a gweision Solomon yn dod ag aur o Offir; byddent hefyd yn cludo llawer iawn o goed almug a gemau.
9:11 Gwnaeth y brenin risiau ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD a'i dŷ ei hun allan o'r coed almug, a hefyd gwnaeth i'r cantorion delynau a nablau na welwyd eu bath o'r blaen yng ngwlad Jwda.
9:12 Rhoddodd y Brenin Solomon i frenhines Sheba bopeth a chwenychodd, mwy nag a ddug hi iddo ef. Yna troes hi a'i gosgordd yn ôl i'w gwlad.

Cyfoeth y Brenin Solomon, 1Bren. 10:14-25

9:13 Yr oedd pwysau'r aur a ddôi i Solomon mewn blwyddyn yn chwe chant chwe deg a chwech o dalentau,
9:14 heblaw yr hyn a gâi gan y march-nadwyr a'r masnachwyr; hefyd fe ddôi holl frenhinoedd Arabia a rheolwyr y taleithiau ag aur ac arian iddo.
9:15 Gwnaeth y Brenin Solomon ddau gan tarian o aur gyr, a rhoi chwe chan sicl o aur gyr ym mhob tarian.
9:16 Gwnaeth hefyd dri chan bwcled o aur gyr, gyda thri mina o aur ym mhob un;
9:17 a rhoddodd y brenin hwy yn Nhŷ Coedwig Lebanon. Gwnaeth y brenin orseddfainc fawr o ifori, a'i goreuro ag aur coeth.
9:18 Yr oedd i'r orseddfainc chwe gris a throedle aur; yr oedd dwy fraich o boptu i'r sedd a dau lew yn sefyll wrth y breichiau.
9:19 Yr oedd hefyd ddeuddeg llew yn sefyll, un bob pen i bob un o'r chwe gris. Ni wnaed ei thebyg mewn unrhyw deyrnas.
9:20 Yr oedd holl lestri gwledda'r Brenin Solomon o aur, a holl offer Tŷ Coedwig Lebanon yn aur pur. Nid oedd yr un ohonynt o arian, am nad oedd bri arno yn nyddiau Solomon.
9:21 Yr oedd gweision Hiram yn mynd â llongau'r brenin i Tarsis, ac unwaith bob tair blynedd fe ddôi llongau Tarsis â'u llwyth o aur, arian ac ifori, ac epaod a pheunod.
9:22 Rhagorodd y Brenin Solomon ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb.
9:23 Ac yr oedd holl frenhinoedd y ddaear yn ymweld â Solomon i glywed y ddoethineb a roes Duw yn ei galon.
9:24 Bob blwyddyn dôi rhai â'u rhoddion — llestri aur ac arian, gwisgoedd, myrr, perlysiau, meirch a mulod.
9:25 Yr oedd gan Solomon bedair mil o gorau ar gyfer meirch a cherbydau, a deuddeng mil o feirch, a gedwid yn y dinasoedd cerbyd a chydag ef yn Jerwsalem.
9:26 Ac yr oedd yn teyrnasu ar yr holl frenhinoedd o'r Ewffrates hyd at wlad y Philistiaid ar derfyn yr Aifft.
9:27 Parodd y brenin i arian fod mor aml yn Jerwsalem â cherrig, a chedrwydd mor gyffredin â sycamorwydd y Seffela.
9:28 A dôi ceffylau i Solomon o'r Aifft ac o'r holl wledydd.

Crynodeb o Deyrnasiad Solomon, 1Bren. 11:41-43

9:29 Am weddill hanes Solomon, o'r dechrau i'r diwedd, onid yw ar gael yn llyfr Nathan y proffwyd, ac ym mhroffwydoliaeth Aheia o Seilo, ac yng ngweledigaethau Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam fab Nebat?
9:30 Teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem dros Israel gyfan am ddeugain mlynedd.
9:31 Pan fu farw, a'i gladdu yn ninas ei dad Dafydd, daeth ei fab Rehoboam yn frenin yn ei le.

Gwrthryfel Llwythau'r Gogledd, 1Bren. 12:1-20

10:1 Aeth Rehoboam i Sichem, gan mai i Sichem y daethai holl Israel i'w urddo'n frenin.
10:2 Pan glywodd Jeroboam fab Nebat, ac yntau yn yr Aifft, lle'r oedd wedi ffoi rhag y Brenin Solomon, dychwelodd oddi yno.
10:3 Galwyd arno, ac fe ddaeth yntau a holl Israel a dweud wrth Rehoboam,
10:4 "Trymhaodd dy dad ein hiau; os gwnei di'n awr ysgafnhau peth ar gaethiwed caled dy dad, a'r iau drom a osododd arnom, yna fe'th wasanaethwn."
10:5 Dywedodd yntau wrthynt, "Ewch i ffwrdd am dridiau, ac yna dewch yn ôl ataf." Aeth y bobl.
10:6 Ymgynghorodd Rehoboam â'r henuriaid oedd yn llys ei dad Solomon pan oedd yn fyw, a gofynnodd, "Sut y byddech chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn?"
10:7 Eu hateb oedd, "Os byddi'n glên wrthynt, a'u bodloni a'u hateb â geiriau teg, byddant yn weision iti am byth."
10:8 Ond gwrthododd y cyngor a roes yr henuriaid, a cheisiodd gyngor y llanciau oedd yn gyfoedion iddo ac yn aelodau o'i lys.
10:9 Gofynnodd iddynt hwy, "Beth ydych chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn sy'n dweud wrthyf, 'Ysgafnha rywfaint ar yr iau a osododd dy dad arnom'?"
10:10 Atebodd y llanciau oedd yn gyfoed ag ef, "Fel hyn y dywedi wrth y bobl hyn sy'n dweud wrthyt, 'Gwnaeth dy dad ein hiau yn drwm; ysgafnha dithau arnom'. Ie, dyma a ddywedi wrthynt: 'Y mae fy mys bach i yn braffach na llwynau fy nhad!
10:11 Y mae'n wir i'm tad osod iau drom arnoch, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach. Cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!'"
10:12 Pan ddaeth Jeroboam a'r holl bobl at Rehoboam ar y trydydd dydd, yn ôl gorchymyn y brenin, "Dewch yn ôl ataf ymhen tridiau",
10:13 atebodd y brenin hwy'n chwyrn. Diystyrodd Rehoboam gyngor yr henuriaid, a derbyn cyngor y llanciau.
10:14 Dywedodd wrthynt, "Trymhaodd fy nhad eich iau, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach; cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!"
10:15 Felly ni wrandawodd y brenin ar y bobl, oherwydd fel hyn y tynghedwyd gan Dduw, er mwyn i'r ARGLWYDD gyflawni'r gair a lefarwyd drwy Aheia o Seilo wrth Jeroboam fab Nebat.
10:16 A phan welodd holl Israel nad oedd y brenin am wrando arnynt, daeth ateb oddi wrth y bobl at y brenin: "Pa ran sydd i ni yn Nafydd? Nid oes gyfran inni ym mab Jesse. Adref i'th bebyll, Israel! Edrych at dy dŷ dy hun, Ddafydd!"
10:17 Yna aeth Israel adref. Ond yr oedd rhai Israeliaid yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam yn frenin arnynt.
10:18 Pan anfonodd y brenin atynt Adoram, goruchwyliwr y llafur gorfod, llabyddiodd yr Israeliaid ef a'i ladd; ond llwyddodd y Brenin Rehoboam i gyrraedd ei gerbyd a ffoi i Jerwsalem.
10:19 Ac y mae Israel mewn gwrthryfel yn erbyn llinach Dafydd hyd heddiw.

Proffwydoliaeth Semaia, 1Bren. 12:21-24

11:1 Pan ddychwelodd Rehoboam i Jerwsalem, galwodd ynghyd dylwythau Jwda a Benjamin, cant a phedwar ugain o filoedd o ryfelwyr dethol, i ryfela yn erbyn Israel i adennill y frenhiniaeth i Rehoboam.
11:2 Ond daeth gair yr ARGLWYDD at Semeia, gŵr Duw:
11:3 "Dywed wrth Rehoboam fab Solomon, brenin Jwda, ac wrth holl Israel yn Jwda a Benjamin,
11:4 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Peidiwch â mynd i ryfela yn erbyn eich perthnasau; ewch yn ôl adref bob un, gan mai oddi wrthyf fi y daw hyn.'" A gwrandawsant ar eiriau'r ARGLWYDD, a pheidio â mynd yn erbyn Jeroboam.

Dinasoedd Caerog Rehoboam

11:5 Arhosodd Rehoboam yn Jerwsalem, ac adeiladu dinasoedd caerog yn Jwda.
11:6 Adeiladodd Bethlehem, Etam, Tecoa,
11:7 Beth-sur, Socho, Adulam,
11:8 Gath, Maresa, Siff,
11:9 Adoraim, Lachis, Aseca,
11:10 Sora, Ajalon a Hebron, sef dinasoedd caerog Jwda a Benjamin.
11:11 Cryfhaodd y caerau a rhoi rheolwyr ynddynt, a hefyd stôr o fwyd, olew a gwin.
11:12 Gwnaeth bob dinas yn amddiffynfa gadarn iawn ac yn lle i gadw tarianau a gwaywffyn. Felly daliodd ei afael ar Jwda a Benjamin.

Offeiriaid a Lefiaid yn Dod at Rehoboam

11:13 Daeth yr offeiriaid a'r Lefiaid ato o ble bynnag yr oeddent yn byw yn Israel gyfan;
11:14 oherwydd yr oedd y Lefiaid wedi gadael eu cytir a'u tiriogaeth a dod i Jwda a Jerwsalem, am fod Jeroboam a'i feibion wedi eu rhwystro rhag bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD,
11:15 ac wedi penodi ei offeiriaid ei hun ar gyfer yr uchelfeydd ac ar gyfer y bychod geifr a'r lloi a luniodd.
11:16 A daeth pawb o lwythau Israel, a oedd yn awyddus i geisio ARGLWYDD Dduw Israel, ar ôl y Lefiaid i Jerwsalem er mwyn aberthu i ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.
11:17  Felly cryfhasant frenhiniaeth Jwda, a chadarnhau Rehoboam fab Solomon am dair blynedd, gan ddilyn yn llwybrau Dafydd a Solomon trwy'r cyfnod hwn.

Teulu Rehoboam

11:18 Priododd Rehoboam â Mahalath; merch i Jerimoth fab Dafydd ac i Abihail ferch Eliab, fab Jesse oedd hi,
11:19 ac fe roes iddo feibion, sef Jeus, Samareia a Saham.
11:20 Ar ei hôl hi, fe gymerodd Maacha ferch Absalom, a rhoes hithau iddo Abeia, Attai, Sisa a Selomith.
11:21 Yr oedd Rehoboam yn caru Maacha ferch Absalom yn fwy na'i holl wragedd a'i ordderchwragedd. Yr oedd ganddo ddeunaw o wragedd a thrigain o ordderchwragedd, ac fe genhedlodd wyth ar hugain o feibion a thrigain o ferched.
11:22 Gosododd Rehoboam Abeia fab Maacha yn bennaeth ar ei frodyr, er mwyn ei wneud yn frenin.
11:23 Bu'n ddigon doeth i wasgaru ei feibion trwy'r holl ddinasoedd caerog yn nhiriogaeth Jwda a Benjamin. Darparodd yn hael ar eu cyfer a cheisiodd lawer o wragedd iddynt.

Yr Aifft yn Goresgyn Jerwsalem, 1Bren. 14:25-28

12:1 Ar ôl i Rehoboam wneud ei frenhiniaeth yn gadarn a sicr, fe gefnodd ef a holl Israel gydag ef ar gyfraith yr ARGLWYDD.
12:2 Am iddynt fod yn anffyddlon i'r ARGLWYDD, ym mhumed flwyddyn y Brenin Rehoboam, daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem
12:3 gyda mil a dau gant o gerbydau a thrigain mil o farchogion; daeth hefyd lu aneirif o Libyaid, Suciaid ac Ethiopiaid gydag ef o'r Aifft.
12:4 Cymerodd ddinasoedd caerog Jwda a chyrhaeddodd Jerwsalem.
12:5 Yna daeth y proffwyd Semaia at Rehoboam a thywysogion Jwda, a oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem o achos Sisac, a dywedodd wrthynt, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Yr ydych chwi wedi cefnu arnaf fi; felly yr wyf finnau wedi cefnu arnoch chwi a'ch rhoi yn llaw Sisac.'"
12:6 Yna fe ymostyngodd tywysogion Israel a'r brenin, a dweud, "Cyfiawn yw'r ARGLWYDD."
12:7 A phan welodd yr ARGLWYDD iddynt ymostwng, daeth gair yr ARGLWYDD at Semaia a dweud, "Am iddynt ymostwng ni ddifethaf hwy, ond rhoddaf gyfle iddynt ddianc, ac ni thywelltir fy llid ar Jerwsalem trwy law Sisac.
12:8 Er hynny, fe fyddant yn weision iddo, er mwyn iddynt wybod y gwahaniaeth rhwng fy ngwasanaethu i a gwasanaethu teyrnasoedd y byd."
12:9 Yna daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem a dwyn holl drysorau tŷ'r ARGLWYDD a thrysorau tŷ'r brenin, a dwyn hefyd y tarianau aur a wnaeth Solomon.
12:10 Yn eu lle gwnaeth y Brenin Rehoboam darianau pres, a'u rhoi yng ngofal swyddogion y gwarchodlu oedd yn gwylio porth tŷ'r brenin.
12:11 Bob tro yr âi'r brenin i dŷ'r ARGLWYDD, fe ddôi'r gwarchodlu a'u cyrchu, ac yna eu dychwelyd i'r wardws.
12:12 A phan ymostyngodd, fe drodd yr ARGLWYDD ei lid oddi wrtho, a pheidio â'i lwyr ddinistrio. Yna daeth ffyniant i Jwda.

Rhyfel rhwng Abeia a Jeroboam, 1Bren. 15:1-8

12:13 Sicrhaodd y Brenin Rehoboam ei afael ar Jerwsalem a theyrnasu yno. Yr oedd yn un a deugain oed pan ddechreuodd deyrnasu, a bu'n frenin am ddwy flynedd ar bymtheg yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisodd yr ARGLWYDD allan o holl lwythau Israel i osod ei enw yno. Naama yr Ammones oedd enw mam Rehoboam.
12:14 Ond fe wnaeth y brenin ddrwg trwy beidio â rhoi ei fryd ar geisio'r ARGLWYDD.
12:15 Ac onid yw hanes Rehoboam, o'r dechrau i'r diwedd, yn ysgrifenedig yng nghroniclau ac achau Semaia y proffwyd ac Ido y gweledydd? Bu rhyfeloedd rhwng Rehoboam a Jeroboam trwy gydol yr amser.
12:16 Pan fu farw Rehoboam, claddwyd ef yn Ninas Dafydd, a daeth Abeia ei fab yn frenin yn ei le.

Y Brenin Asa yn Gorchfygu'r Ethiopiaid

13:1 Yn y ddeunawfed flwyddyn i'r Brenin Jeroboam, daeth Abeia yn frenin ar Jwda.
13:2 Teyrnasodd am dair blynedd yn Jerwsalem, a Michaia ferch Uriel o Gibea oedd enw ei fam.
13:3  Bu rhyfel rhwng Abeia a Jeroboam; aeth Abeia i'r frwydr gyda byddin o filwyr dewr, pedwar can mil o wŷr dethol, a daeth Jeroboam i'w gyfarfod gydag wyth can mil o wroniaid dethol.
13:4 Safodd Abeia ar Fynydd Semaraim ym mynydd-dir Effraim a dweud, "Gwrandewch arnaf fi, Jeroboam a holl Israel.
13:5 Oni wyddoch fod ARGLWYDD Dduw Israel wedi rhoi i Ddafydd a'i feibion yr hawl i deyrnasu am byth ar Israel trwy gyfamod halen?
13:6 Ond gwrthryfelodd Jeroboam fab Nebat, gwas Solomon fab Dafydd, yn erbyn ei arglwydd,
13:7 a chasglu ato ddihirod ofer, a fu'n herio Rehoboam fab Solomon, pan oedd yn llanc ifanc ofnus a heb fod yn ddigon cryf i'w gwrthsefyll.
13:8 Yn awr, yr ydych chwi'n bwriadu gwrthsefyll teyrnas yr ARGLWYDD, sydd wedi ei rhoi i feibion Dafydd, am eich bod yn niferus iawn ac yn berchen ar y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi.
13:9 Onid ydych wedi diarddel offeiriaid yr ARGLWYDD, meibion Aaron, a'r Lefiaid, ac ethol eich offeiriaid eich hunain, fel y gwna pobl gwledydd eraill? Y mae pwy bynnag sy'n dod i'w gysegru ei hun â bustach ifanc a saith o hyrddod yn mynd yn offeiriad i'r un nad yw'n dduw.
13:10 Ond yr ARGLWYDD yw ein Duw ni, ac nid ydym wedi ei wrthod; meibion Aaron yw'r offeiriaid sydd gennym ni yn gwasanaethu'r ARGLWYDD, a'r Lefiaid yn eu cynorthwyo.
13:11 Y maent yn llosgi poethoffrymau ac arogldarth peraidd i'r ARGLWYDD bob bore a hwyr, ac yn trefnu'r bara gosod ar y bwrdd dihalog a chynnau'r lampau yn y canhwyllbren aur bob prynhawn. Oherwydd yr ydym ni'n dal i wasanaethu'r ARGLWYDD ein Duw; ond yr ydych chwi wedi ei wrthod.
13:12 Wele, y mae Duw gyda ni i'n harwain, a'i offeiriaid â thrwmpedau yn galw brwydr yn eich erbyn. Bobl Israel, peidiwch ag ymladd yn erbyn ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid, oherwydd ni fyddwch yn llwyddo."
13:13 Anfonodd Jeroboam rai o'u hamgylch i ymguddio ac ymosod arnynt o'r tu ôl; felly, tra oedd rhai o flaen Jwda, yr oedd y lleill mewn cuddfan y tu cefn iddynt.
13:14 Troes gwŷr Jwda, a gweld y byddai'n rhaid iddynt ymladd o'r tu blaen ac o'r tu ôl;
13:15 yna galwasant ar yr ARGLWYDD, ac fe ganodd yr offeiriaid y trwmpedau, a bloeddiodd gwŷr Jwda. Pan floeddiodd gwŷr Jwda, trawodd Duw Jeroboam a holl Israel o flaen Abeia a Jwda.
13:16 Ffodd yr Israeliaid o flaen gwŷr Jwda, ac fe roddodd Duw hwy yn eu llaw.
13:17 Lladdodd Abeia a'i filwyr lawer iawn ohonynt; syrthiodd yn gelain bum can mil o wŷr dethol Israel.
13:18 Darostyngwyd yr Israeliaid y pryd hwnnw, a chafodd byddin Jwda fuddugoliaeth am iddynt ymddiried yn ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.
13:19 Ymlidiodd Abeia ar ôl Jeroboam a chymryd oddi arno ddinasoedd Bethel, Jesana ac Effraim a'u pentrefi.
13:20 Ni lwyddodd Jeroboam i adennill ei nerth yn ystod teyrnasiad Abeia; trawyd ef gan yr ARGLWYDD, a bu farw.
13:21 Ond cryfhaodd Abeia; priododd bedair ar ddeg o wragedd, a chenhedlu dau fab ar hugain ac un ar bymtheg o ferched.
13:22 Y mae gweddill hanes Abeia, yr hyn a wnaeth ac a ddywedodd, yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Ido.

Y Brenin Asa yn Gorchfygu'r Ethiopiaid

14:1 Pan fu farw Abeia, a'i gladdu yn Ninas Dafydd, daeth ei fab Asa yn frenin yn ei le. Yn ystod ei deyrnasiad ef cafodd y wlad lonydd am ddeng mlynedd.
14:2 Gwnaeth Asa yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw.
14:3 Symudodd ymaith allorau'r duwiau dieithr a'r uchelfeydd, a dryllio'r colofnau a chwalu delwau Asera.
14:4 Anogodd Jwda i geisio ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid a chadw'r gyfraith a'r gorchmynion,
14:5 ac fe symudodd ymaith o holl ddinasoedd Jwda yr uchelfeydd a'r allorau. Cafodd y deyrnas lonydd yn ei oes ef.
14:6 Adeiladodd ddinasoedd caerog yn Jwda tra oedd y wlad yn cael llonydd, ac ni fu rhyfel yn ei erbyn yn ystod y blynyddoedd hynny am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddo.
14:7 Dywedodd wrth Jwda, "Gadewch i ni adeiladu'r dinasoedd hyn a'u hamgylchu â muriau gyda thyrau, a dorau a barrau. Y mae'r wlad yn dal yn agored o'n blaen am i ni geisio'r ARGLWYDD ein Duw. Yr ydym ni wedi ei geisio ef, ac y mae yntau wedi rhoi heddwch i ni oddi amgylch." Felly, adeiladodd y bobl a llwyddo.
14:8 Yr oedd gan Asa fyddin o dri chan mil o wŷr Jwda yn dwyn tarian a gwaywffon, a dau gant a phedwar ugain mil o wŷr Benjamin yn dwyn tarian a thynnu bwa; yr oeddent oll yn wroniaid.
14:9 Daeth Sera yr Ethiopiad yn eu herbyn gyda byddin o filiwn, a thri chant o gerbydau.
14:10 Pan gyrhaeddodd Maresa, daeth Asa allan yn ei erbyn, a pharatoesant i ymladd yn nyffryn Seffatha, yn ymyl Maresa.
14:11 Galwodd Asa ar yr ARGLWYDD ei Dduw a dweud, "O ARGLWYDD, nid oes neb fel ti i gynorthwyo'r gwan yn erbyn y cryf; cynorthwya ni, O ARGLWYDD ein Duw, oherwydd yr ydym yn ymddiried ynot, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dyrfa hon. O ARGLWYDD, ein Duw ni wyt ti; na fydded i neb gystadlu â thi."
14:12 Felly, gorchfygodd yr ARGLWYDD yr Ethiopiaid o flaen Asa a Jwda. Fe ffoesant,
14:13 gydag Asa a'i fyddin yn eu herlid, hyd at Gerar, lle syrthiodd cymaint ohonynt o flaen yr ARGLWYDD a'i fyddin fel na allent adennill eu nerth.
14:14 Casglodd gwŷr Jwda anrhaith mawr iawn, a choncro'r holl ddinasoedd o gwmpas Gerar, am fod ofn yr ARGLWYDD arnynt. Anrheithiasant yr holl ddinasoedd am fod ysbail mawr iawn ynddynt.
14:15 Ymosodasant hefyd ar gorlannau'r anifeiliaid a chario ymaith lawer o ddefaid a chamelod, ac yna dychwelyd i Jerwsalem.

Diwygiadau Asa

15:1 Daeth ysbryd Duw ar Asareia fab Oded,
15:2 ac fe aeth allan i gyfarfod Asa, a dweud wrtho, "O Asa, a holl Jwda a Benjamin, gwrandewch arnaf fi. Bydd yr ARGLWYDD gyda chwi os byddwch chwi gydag ef. Os ceisiwch ef, fe'i cewch; ond os cefnwch arno, bydd yntau yn cefnu arnoch chwithau.
15:3 Am amser maith bu Israel heb y gwir Dduw, heb offeiriad i'w dysgu a heb gyfraith.
15:4 Yn eu trybini dychwelsant at ARGLWYDD Dduw Israel, a'i geisio, ac amlygodd yntau ei hun iddynt.
15:5 Yn y cyfnod hwnnw nid oedd heddwch i neb yn ei fywyd beunyddiol, am fod trigolion y gwledydd mewn ymrafael parhaus;
15:6 dinistrid cenedl gan genedl, a dinas gan ddinas, am fod Duw yn eu poeni â phob aflwydd.
15:7 Ond byddwch chwi'n wrol! Peidiwch â llaesu dwylo, oherwydd fe gewch wobr am eich gwaith."
15:8 Pan glywodd Asa y geiriau hyn, sef y broffwydoliaeth gan Asareia fab Oded y proffwyd, fe ymwrolodd. Ysgubodd ymaith y pethau ffiaidd o holl wlad Jwda a Benjamin, ac o'r dinasoedd a enillodd ym mynydd-dir Effraim, ac ad-newyddodd allor yr ARGLWYDD a safai o flaen porth teml yr ARGLWYDD.
15:9 Casglodd ynghyd holl Jwda a Benjamin, a phob dieithryn o Effraim, Manasse a Simeon oedd yn byw gyda hwy, oherwydd yr oedd llawer iawn o Israeliaid wedi dod i lawr at Asa pan welsant fod yr ARGLWYDD ei Dduw gydag ef.
15:10 Daethant ynghyd i Jerwsalem yn y trydydd mis o'r bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Asa.
15:11 Y diwrnod hwnnw aberthasant i'r ARGLWYDD saith gant o wartheg a saith mil o ddefaid o'r anrhaith a ddygasant.
15:12 Gwnaethant gyfamod i geisio ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid â'u holl galon ac â'u holl enaid.
15:13 Yr oedd pwy bynnag a wrthodai geisio ARGLWYDD Dduw Israel i'w roi i farwolaeth, boed fach neu fawr, gŵr neu wraig.
15:14 Tyngasant i'r ARGLWYDD â llais uchel a bloedd, a thrwmpedau ac utgyrn.
15:15 Gorfoleddodd holl Jwda o achos y llw, am iddynt ei dyngu â'u holl galon; ceisiasant yr ARGLWYDD o'u gwirfodd, a datguddiodd yntau ei hun iddynt. Felly rhoes yr ARGLWYDD lonydd iddynt oddi amgylch.
15:16 Yna fe ddiswyddodd y Brenin Asa ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw yn ddarnau, a'i llosgi yn nant Cidron.
15:17 Ni symudwyd yr uchelfeydd o Israel; eto yr oedd calon Asa yn berffaith gywir ar hyd ei oes.
15:18 Dygodd i dŷ'r ARGLWYDD yr addunedau o arian, aur a llestri a addawodd ei dad ac yntau.
15:19 Ac ni bu rhyfel hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa.

Helynt rhwng Israel a Jwda, 1Bren. 15:17-22

16:1 Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, daeth Baasa brenin Israel yn erbyn Jwda ac adeiladu Rama, rhag gadael i neb fynd a dod at Asa brenin Jwda.
16:2 Cymerodd Asa arian ac aur allan o drysorfeydd tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, a'u hanfon i Ben-hadad brenin Syria, a oedd yn byw yn Namascus; a dywedodd wrtho,
16:3 "Bydded cyfamod rhyngof fi a thi, fel yr oedd rhwng fy nhad a'th dad. Rwy'n anfon atat arian ac aur; tor dy gyfamod gyda Baasa brenin Israel er mwyn iddo gilio'n ôl oddi wrthyf."
16:4 Gwrandawodd Ben-hadad ar y Brenin Asa, ac anfon swyddogion ei gatrodau yn erbyn trefi Israel, i ymosod ar Ijon, Dan ac Abel-maim, ac ar holl ddinasoedd stôr Nafftali.
16:5 Pan glywodd Baasa, rhoddodd heibio adeiladu Rama a gadawodd y gwaith.
16:6 Yna daeth y Brenin Asa â holl Jwda i gymryd y meini a'r coed oedd gan Baasa yn adeiladu Rama, a'u defnyddio i adeiladu Geba a Mispa.

Y Proffwyd Hanani

16:7 Y pryd hwnnw daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda, a dweud wrtho, "Am i ti ymddiried ym mrenin Syria, a gwrthod ymddiried yn yr ARGLWYDD dy Dduw, dihangodd byddin brenin Syria o'th afael.
16:8 Onid oedd yr Ethiopiaid a'r Libyaid yn llu aneirif a chanddynt lawer iawn o gerbydau a marchogion? Ond am i ti ymddiried yn yr ARGLWYDD, rhoddodd ef hwy yn dy law.
16:9 Oherwydd y mae llygaid yr ARGLWYDD yn tramwyo dros yr holl ddaear, i ddangos ei gryfder i'r sawl sy'n gwbl ymroddedig iddo. Buost yn ynfyd yn hyn o beth; felly, o hyn allan ymladd fydd dy ran."
16:10 Gwylltiodd Asa wrth y gweledydd a'i roi yn y carchar, oherwydd yr oedd yn ddig wrtho am ddweud hyn. A'r pryd hwnnw fe orthrymodd Asa rai o'r bobl.

Diwedd Teyrnasiad Asa, 1Bren. 15:23-24

16:11 Y mae hanes Asa, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.
16:12 Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o'i deyrnasiad dechreuodd Asa ddioddef yn enbyd o glefyd yn ei draed; ond yn ei waeledd fe geisiodd y meddygon yn hytrach na'r ARGLWYDD.
16:13 Bu Asa farw; yn yr unfed flwyddyn a deugain o'i deyrnasiad y bu farw.
16:14 Claddwyd ef yn y bedd a wnaeth iddo'i hun yn Ninas Dafydd, a'i roi i orwedd ar wely yn llawn peraroglau a phob math o ennaint wedi eu cymysgu'n ofalus gan y peraroglydd; a gwnaethant dân mawr iawn i'w anrhydeddu.

Jehosaffat yn Frenin

17:1 Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn lle Asa, ac fe benderfynodd ef wrthsefyll Israel.
17:2 Rhoddodd filwyr ym mhob un o ddinasoedd caerog Jwda, a gosod garsiynau yng ngwlad Jwda ac yn ninasoedd Effraim, sef y dinasoedd a gymerwyd gan ei dad Asa.
17:3 A bu'r ARGLWYDD gyda Jehosaffat am iddo ddilyn llwybrau cynnar ei dad Dafydd a gwrthod ymofyn â'r Baalim,
17:4 a throi yn hytrach at Dduw ei hynafiaid a chadw ei orchmynion, a pheidio â dilyn esiampl Israel.
17:5 Felly, sicrhaodd yr ARGLWYDD y frenhiniaeth yn llaw Jehosaffat, ac fe roddodd holl Jwda anrhegion iddo, nes bod ganddo olud a chyfoeth mawr iawn.
17:6 Dilynodd yr ARGLWYDD yn ffyddlon, a hefyd fe dynnodd ymaith o Jwda yr uchelfeydd a'r delwau o Asera.
17:7 Yn nhrydedd flwyddyn ei deyrnasiad anfonodd ei dywysogion Ben-hail, Obadeia, Sechareia, Nethaneel a Michaia i ddysgu yn ninasoedd Jwda.
17:8 Gyda hwy fe aeth y Lefiaid Semaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Semiramoth, Jehonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia, a hefyd yr offeiriaid Elisama a Jehoram.
17:9 Aeth y rhain i ddysgu yn Jwda, ac yr oedd llyfr cyfraith yr ARGLWYDD ganddynt; teithiasant trwy holl ddinasoedd Jwda gan hyfforddi'r bobl.
17:10 Daeth ofn yr ARGLWYDD ar holl deyrnasoedd y gwledydd o amgylch Jwda, ac ni ddaethant i ryfela yn erbyn Jehosaffat.
17:11 Daeth rhai o'r Philistiaid ag anrhegion ac arian teyrnged i Jehosaffat; a daeth yr Arabiaid â diadelloedd, sef saith mil saith gant o hyrddod a saith mil saith gant o fychod.
17:12 Aeth Jehosaffat o nerth i nerth. Adeiladodd gestyll a dinasoedd stôr yn Jwda, ac yr oedd yn gyfrifol am lawer o waith yn ninasoedd Jwda.
17:13 Yr oedd ganddo hefyd filwyr nerthol yn Jerwsalem,
17:14 wedi eu rhestru yn ôl eu tywythau fel hyn. O Jwda, swyddogion ar uned o fil: Adna yn ben, a chydag ef dri chan mil o wroniaid;
17:15 y nesaf ato ef, Jehohanan, y capten, gyda dau gant wyth deg o filoedd;
17:16 yna Amaseia fab Sichri, a oedd yn gwasanaethu'r ARGLWYDD o'i wirfodd, gyda dau gan mil o wroniaid.
17:17 O Benjamin: y gwron Eliada, gyda dau gan mil yn cario bwa a tharian;
17:18 yna Jehosabad, gyda chant wyth deg o filoedd yn barod i ryfel.
17:19 Dyma'r rhai oedd yn gwasanaethu'r brenin, ar wahân i'r rhai a osododd ef yn y dinasoedd caerog trwy holl Jwda.

Y Proffwyd Michea yn Rhybuddio Ahab, 1Bren. 22:1-28

18:1 Yr oedd gan Jehosaffat olud a chyfoeth mawr iawn, ac yr oedd yn perthyn i Ahab trwy briodas.
18:2 Ymhen rhai blynyddoedd fe aeth i lawr i Samaria at Ahab, a lladdodd yntau lawer o ddefaid a gwartheg iddo ef a'r bobl oedd gydag ef, a'i ddenu i ymosod ar Ramoth-gilead.
18:3 Meddai Ahab brenin Israel wrth Jehosaffat brenin Jwda, "A ddoi di gyda mi i Ramoth-gilead?" Atebodd yntau, "Yr wyf fi fel tydi, fy mhobl i fel dy bobl di; down gyda thi i ryfel."
18:4 Ond ychwanegodd Jehosaffat wrth frenin Israel, "Cais yn gyntaf air yr ARGLWYDD."
18:5 Yna casglodd brenin Israel y proffwydi, pedwar cant ohonynt, a dweud wrthynt, "A ddylem fynd i fyny i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, ai peidio?" Dywedasant hwythau, "Dos i fyny, ac fe rydd Duw hi yn llaw'r brenin."
18:6 Ond holodd Jehosaffat, "Onid oes yma broffwyd arall i'r ARGLWYDD, i ni ymgynghori ag ef?"
18:7 Ac meddai brenin Israel wrth Jehosaffat, "Oes, y mae un gŵr eto i geisio'r ARGLWYDD drwyddo, Michea fab Imla. Ond y mae ef yn atgas gennyf am nad yw byth yn proffwydo lles i mi, dim ond drwg." Dywedodd Jehosaffat, "Peidied y brenin â dweud fel yna."
18:8 Felly galwodd brenin Israel ar swyddog a dweud, "Tyrd â Michea fab Imla yma ar frys."
18:9 Yr oedd brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar eu gorseddau ar y llawr dyrnu wrth borth Samaria, gyda'r holl broffwydi'n proffwydo o'u blaen.
18:10 Gwnaeth Sedeceia fab Cenaana gyrn haearn, a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Gyda'r rhain byddi'n cornio'r Syriaid nes iti eu difa.'"
18:11 Ac yr oedd yr holl broffwydi'n proffwydo felly ac yn dweud, "Dos i fyny i Ramoth-gilead a llwydda; bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi yn llaw'r brenin."
18:12 Dywedodd y negesydd a aeth i'w alw wrth Michea, "Edrych yn awr, y mae'r proffwydi'n unfrydol yn proffwydo llwyddiant i'r brenin. Bydded dy air dithau fel gair un ohonynt hwy, a phroffwyda lwyddiant."
18:13 Atebodd Michea, "Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr hyn a ddywed fy Nuw wrthyf a lefaraf."
18:14 Daeth at y brenin, a dywedodd y brenin wrtho, "Michea, a awn ni i Ramoth-gilead i ryfel, ai peidio?" A dywedodd wrtho, "Ewch i fyny a llwyddo; fe'u rhoddir hwy yn eich llaw."
18:15 Ond dywedodd y brenin wrtho, "Pa sawl gwaith yr wyf wedi dy dynghedu i beidio â dweud dim ond y gwir wrthyf yn enw'r ARGLWYDD?"
18:16 Yna dywedodd Michea: "Gwelais Israel oll wedi eu gwasgaru ar y bryniau fel defaid heb fugail ganddynt. A dywedodd yr ARGLWYDD, 'Nid oes feistr ar y rhain; felly bydded iddynt ddychwelyd adref mewn heddwch.'"
18:17 Dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, "Oni ddywedais wrthyt na fyddai'n proffwydo da i mi, ond yn hytrach ddrwg?"
18:18 A dywedodd Michea, "Am hynny, gwrandewch air yr ARGLWYDD; gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, gyda holl lu'r nef yn sefyll ar y dde ac ar y chwith iddo.
18:19 A dywedodd yr ARGLWYDD, 'Pwy a fedr hudo Ahab i frwydro a chwympo yn Ramoth-gilead?' Ac yr oedd un yn dweud fel hyn, a'r llall fel arall;
18:20 ond dyma un ysbryd yn sefyll allan o flaen yr ARGLWYDD ac yn dweud, 'Fe'i hudaf fi ef'. Ac meddai'r ARGLWYDD, 'Sut?'
18:21 Dywedodd yntau, 'Af allan a bod yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei broffwydi i gyd.' Yna dywedodd wrtho, 'Fe lwyddi di i'w hudo; dos a gwna hyn.'
18:22 Yn awr, rhoddodd yr ARGLWYDD ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; y mae'r ARGLWYDD wedi llunio drwg ar dy gyfer."
18:23 Nesaodd Sedeceia fab Cenaana a rhoi cernod i Michea, a dweud, "Sut yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i lefaru wrthyt ti?"
18:24 Dywedodd Michea, "Cei weld ar y dydd hwnnw pan fyddi'n ceisio ymguddio yn yr ystafell nesaf i mewn."
18:25 A dywedodd brenin Israel, "Ewch â Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y dref, a Joas mab y brenin,
18:26 a dywedwch wrthynt, 'Fel hyn y dywed y brenin: Rhowch hwn yng ngharchar, a bwydwch ef â'r dogn prinnaf o fara a dŵr nes imi ddod yn ôl yn llwyddiannus.'"
18:27 Ac meddai Michea, "Os llwyddi i ddod yn ôl, ni lefarodd yr ARGLWYDD drwof; gwrandewch chwi bobl i gyd."

Marwolaeth Ahab, 1Bren. 22:29-35

18:28 Aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead.
18:29 A dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, "Yr wyf fi am newid fy nillad cyn mynd i'r frwydr, ond gwisg di dy ddillad brenhinol." Newidiodd brenin Israel ei wisg, ac aethant i'r frwydr.
18:30 Yr oedd brenin Syria wedi gorchymyn i gapteiniaid ei gerbydau, "Peidiwch ag ymladd â neb, bach na mawr, ond â brenin Israel yn unig."
18:31 A phan welodd capteiniaid y cerbydau Jehosaffat, dywedasant, "Hwn yn sicr yw brenin Israel." Yna troesant i ymladd ag ef; ond rhoddodd Jehosaffat waedd, a chynorthwyodd yr ARGLWYDD Dduw ef trwy eu hudo oddi wrtho.
18:32 A phan welodd capteiniaid y cerbydau nad brenin Israel oedd, gadawsant lonydd iddo.
18:33 A thynnodd rhywun ei fwa ar antur, a tharo brenin Israel rhwng y darnau cyswllt a'r llurig. A dywedodd yntau wrth yrrwr ei gerbyd, "Tro'n ôl, a dwg fi allan o'r rhengoedd, oherwydd rwyf wedi fy nghlwyfo."
18:34 Ond ffyrnigodd y frwydr y diwrnod hwnnw, a bu raid i frenin Israel aros yn ei gerbyd yn wynebu'r Syriaid hyd yr hwyr; yna ar fachlud haul bu farw.

Proffwyd yn Ceryddu Jehosaffat

19:1 Dychwelodd Jehosaffat brenin Jwda yn ddiogel i'w dŷ yn Jerwsalem.
19:2 A daeth Jehu fab Hanani y gweledydd allan i'w gyfarfod a dweud wrtho, "A wyt ti'n ymhyfrydu mewn cynorthwyo'r annuwiol a'r rhai sy'n casáu'r ARGLWYDD? Daw llid arnat am hyn.
19:3 Eto, y mae daioni ynot, oherwydd fe dynnaist ymaith ddelwau Asera o'r wlad, a rhoddaist dy fryd ar geisio Duw."

Diwygiadau Jehosaffat

19:4 Yr oedd Jehosaffat yn byw yn Jerwsalem, ond yn dal i fynd allan ymysg y bobl o Beerseba hyd fynydd-dir Effraim, a dod â hwy'n ôl at ARGLWYDD Dduw eu tadau.
19:5 Gosododd farnwyr ar y wlad, un ymhob un o ddinasoedd caerog Jwda,
19:6 a dweud wrthynt, "Gofalwch sut yr ydych yn ymddwyn, oherwydd nid yn enw neb meidrol ond yn enw'r ARGLWYDD yr ydych yn barnu, a bydd ef gyda chwi pan farnwch.
19:7 Yn awr, bydded arnoch ofn yr ARGLWYDD, a gweithredwch yn ofalus, oherwydd nid oes anghyfiawnder na ffafriaeth na llwgrwobr yn perthyn i'r ARGLWYDD ein Duw."
19:8 Hefyd, fe osododd Jehosaffat yn Jerwsalem rai o'r Lefiaid a'r offeiriaid, a phennau-teuluoedd yr Israeliaid, i weinyddu cyfraith yr ARGLWYDD ac i dorri dadleuon trigolion Jerwsalem.
19:9 Dyma ei orchymyn iddynt: "Yr ydych i weithredu'n ffyddlon a didwyll yn ofn yr ARGLWYDD.
19:10 Ym mhob achos a ddaw o'ch blaen oddi wrth eich cymrodyr sy'n byw yn eu dinasoedd, prun ai achosion o dywallt gwaed neu unrhyw achos arall o gyfraith, gorchymyn, deddfau a barnedigaethau, rhybuddiwch hwy i beidio â throseddu yn erbyn yr ARGLWYDD, neu fe ddaw ei lid arnoch chwi a'ch cymrodyr. Ond ichwi wneud hyn, ni fyddwch yn troseddu.
19:11 Amareia yr archoffeiriad fydd ag awdurdod drosoch ym mhob peth sy'n ymwneud â'r ARGLWYDD, a Sebadeia fab Ismael, llywodraethwr tŷ Jwda, ym mhob peth sy'n ymwneud â'r brenin; y Lefiaid fydd yn swyddogion i chwi. Ymwrolwch a gwnewch fel hyn; bydded yr ARGLWYDD gyda'r daionus."

Rhyfel yn erbyn Edom

20:1 Wedi hyn, dechreuodd y Moabiaid a'r Ammoniaid, gyda rhai o'r Meuniaid ryfela yn erbyn Jehosaffat.
20:2 Daeth rhywrai at Jehosaffat a dweud wrtho, "Y mae mintai fawr yn dod yn dy erbyn o Edom, o'r ochr draw i'r môr, ac y mae hi eisoes yn Hasason-tamar" (hynny yw, En-gedi).
20:3 Yn ei ddychryn penderfynodd Jehosaffat geisio'r ARGLWYDD, a chyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda.
20:4 Yna ymgasglodd pobl Jwda i ofyn am gymorth gan yr ARGLWYDD; daethant o bob un o'u dinasoedd i'w geisio ef.
20:5 Yn y cynulliad hwn o bobl Jwda a Jerwsalem yn nhŷ yr ARGLWYDD, fe safodd Jehosaffat o flaen y cyntedd newydd,
20:6 a dweud, "O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, onid ti sy'n Dduw yn y nefoedd? Ti sy'n llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd; yn dy law di y mae nerth a chadernid, fel na ddichon neb dy wrthsefyll.
20:7 Onid ti, ein Duw, a yrraist drigolion y wlad hon allan o flaen dy bobl Israel, a'i rhoi hi am byth i had Abraham, dy gyfaill?
20:8 Y maent hwy wedi byw ynddi ac wedi adeiladu cysegr i'th enw di, a dweud,
20:9 'Os daw unrhyw niwed i ni trwy gleddyf, llifeiriant, haint neu newyn, yna fe safwn o'th flaen di ac o flaen y tŷ hwn, oherwydd y mae dy enw arno. Gwaeddwn arnat yn ein trybini, ac fe wrandewi di arnom a'n gwaredu.'
20:10 Yn awr, dyma'r Ammoniaid, y Moabiaid a gwŷr Mynydd Seir, pobl na adewaist i Israel ymosod arnynt wrth ddod allan o'r Aifft, pobl y troes Israel i ffwrdd oddi wrthynt a pheidio â'u difetha;
20:11 gwêl sut y mae'r rhain yn talu'n ôl i ni trwy ddod i'n gyrru allan o'th etifeddiaeth, a roddaist i ni.
20:12 O ein Duw, oni wnei di gyhoeddi barn arnynt? Oherwydd nid ydym ni'n ddigon cryf i wrthsefyll y fintai fawr hon sy'n dod yn ein herbyn. Ni wyddom ni beth i'w wneud, ond dibynnwn arnat ti."
20:13 Yr oedd holl wŷr Jwda, gyda'u rhai bach, eu gwragedd a'u plant, yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
20:14 Yr oedd Jehasiel fab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mattaneia, Lefiad o dylwyth Asaff, yng nghanol y cynulliad; daeth ysbryd yr ARGLWYDD arno,
20:15 a dywedodd, "Gwrandewch, holl Jwda a thrigolion Jerwsalem ynghyd â'r brenin Jehosaffat. Y mae'r ARGLWYDD yn dweud wrthych am beidio ag ofni na digalonni o achos y fintai fawr yma, oherwydd brwydr Duw yw hon, nid eich brwydr chwi.
20:16 Ewch i lawr yn eu herbyn yfory, pan fyddant yn dringo rhiw Sis, ac fe'u cewch ym mhen draw'r dyffryn, yn ymyl anialwch Jerual.
20:17 Ni fydd raid i chwi ymladd yn y frwydr hon; safwch yn llonydd yn eich lle, ac fe welwch y fuddugoliaeth a rydd yr ARGLWYDD ichwi, O Jwda a Jerwsalem. Peidiwch ag ofni na digalonni; ewch allan yn eu herbyn yfory, a bydd yr ARGLWYDD gyda chwi."
20:18 Yna fe ymgrymodd Jehosaffat i'r llawr, a syrthiodd holl Jwda a thrigolion Jerwsalem o flaen yr ARGLWYDD a'i addoli.
20:19 Yna safodd y Lefiaid oedd yn perthyn i'r Cohathiaid a'r Corahiaid i foliannu'r ARGLWYDD, Duw Israel, â bloedd uchel.
20:20 Felly, codasant yn fore a mynd i anialwch Tecoa. Fel yr oeddent yn cychwyn, safodd Jehosaffat a dweud, "Gwrandewch arnaf fi, Jwda a thrigolion Jerwsalem. Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe fyddwch yn ddiogel; credwch yn ei broffwydi, ac fe lwyddwch."
20:21 Wedi ymgynghori â'r bobl, penododd gantorion i foli'r ARGLWYDD, ac i ganu mawl i brydferthwch ei sancteiddrwydd, wrth fynd allan ar flaen y fyddin. Dywedasant, "Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd y mae ei gariad hyd byth."
20:22 Fel yr oeddent yn dechrau canu a moli, gosododd yr ARGLWYDD gynllwyn yn erbyn yr Ammoniaid a'r Moabiaid a gwŷr Mynydd Seir, a oedd yn ymosod ar Jwda, a chawsant eu gorchfygu.
20:23 Trodd yr Ammoniaid a'r Moabiaid i ymosod ar drigolion Mynydd Seir, a'u difa'n llwyr; ac wedi iddynt eu difodi hwy aethant ymlaen i ddifetha'i gilydd.
20:24 Pan gyrhaeddodd Jwda wylfa ger yr anialwch, a throi i edrych ar y fintai, gwelsant gyrff y meirw ar y llawr ym mhobman; nid oedd neb wedi dianc.
20:25 Daeth Jehosaffat a'i filwyr i'w hysbeilio, a chawsant arnynt lawer o olud a gwisgoedd, ac eiddo gwerthfawr. Yr oedd ganddynt fwy o ysbail nag y gallent ei gario, ac am fod cymaint ohono buont am dridiau yn ei gludo.
20:26 Ar y pedwerydd dydd daethant ynghyd i ddyffryn Beracha; am iddynt fendithio'r ARGLWYDD yno, gelwir y lle yn ddyffryn Beracha hyd heddiw.
20:27 Yna dychwelodd holl filwyr Jwda a Jerwsalem dan arweiniad Jehosaffat i Jerwsalem mewn llawenydd, am i'r ARGLWYDD roi buddugoliaeth iddynt dros eu gelynion;
20:28 daethant i dŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem gyda nablau, telynau a thrwmpedau.
20:29 Daeth ofn Duw ar holl deyrnasoedd y gwledydd pan glywsant fod yr ARGLWYDD wedi ymladd yn erbyn gelynion Israel.
20:30 Felly cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch, a rhoddodd ei Dduw lonydd iddo oddi wrth bawb o'i amgylch.

Diwedd Teyrnasiad Jehosaffat, 1Bren. 22:41-50

20:31 Teyrnasodd Jehosaffat ar Jwda. Pymtheg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am bum mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Asuba ferch Silhi oedd enw ei fam.
20:32 Dilynodd lwybr ei dad Asa yn hollol ddiwyro, a gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
20:33 Er hynny, ni symudwyd yr uchelfeydd, ac nid oedd y bobl eto wedi gosod eu bryd ar Dduw eu hynafiaid.
20:34 Y mae gweddill hanes Jehosaffat, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu yng nghronicl Jehu fab Hanani, sydd wedi ei gynnwys yn Llyfr Brenhinoedd Israel.
20:35 Wedi hyn gwnaeth Jehosaffat brenin Jwda gynghrair â'r drwg-weithredwr, Ahaseia brenin Israel.
20:36 Cydweithiodd ag ef i wneud llongau i fynd i Tarsis, a'u hadeiladu yn Esion-Geber.
20:37 Ond proffwydodd Elieser fab Dodafa o Maresa yn erbyn Jehosaffat, a dweud, "Am i ti wneud cynghrair ag Ahaseia, fe ddryllia yr ARGLWYDD dy waith." Felly dinistriwyd y llongau, ac ni allent hwylio i Tarsis.
21:1 Bu farw Jehosaffat, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd, a daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.

Jehoram Brenin Jwda, 2 Bren. 8:17-24

21:2 Yr oedd gan Jehoram frodyr, meibion i Jehosaffat, sef Asareia, Jehiel, Sechareia, Asareia, Michael a Seffateia. Meibion i Jehosaffat brenin Jwda oeddent i gyd,
21:3 a rhoddodd eu tad iddynt lawer o anrhegion, arian ac aur a phethau gwerthfawr, yn ogystal â dinasoedd caerog yn Jwda; ond i Jehoram y rhoddodd y frenhiniaeth, am mai ef oedd y cyntafanedig.
21:4 Ar ôl i Jehoram ymsefydlu ar deyrnas ei dad, lladdodd bob un o'i frodyr a rhai o dywysogion Israel â'r cleddyf.
21:5 Deuddeg ar hugain oed oedd Jehoram pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am wyth mlynedd yn Jerwsalem.
21:6 Dilynodd lwybr brenhinoedd Israel, fel y gwnâi tŷ Ahab, gan mai merch Ahab oedd ei wraig, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
21:7 Eto, oherwydd y cyfamod a wnaeth â Dafydd, ni fynnai'r ARGLWYDD ddifetha tŷ Dafydd, am iddo addo rhoi lamp iddo ef a'i feibion am byth.
21:8 Yn ei gyfnod ef gwrthryfelodd Edom yn erbyn Jwda a gosod brenin arnynt eu hunain.
21:9 Croesodd Jehoram yno gyda'i gapteiniaid a'i holl gerbydau; cododd liw nos ac ymosod gyda'i gerbydwyr ar yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu.
21:10 Ac y mae Edom mewn gwrthryfel yn erbyn Jwda hyd y dydd hwn. Yr un pryd gwrthryfelodd Libna yn ei erbyn, am iddo droi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid.
21:11 Ef hefyd a adeiladodd uchelfeydd ym mynydd-dir Jwda, a gwneud i drigolion Jerwsalem buteinio, ac arwain Jwda ar gyfeiliorn.
21:12 Daeth llythyr at Jehoram oddi wrth y proffwyd Elias yn dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Dafydd dy dad: 'Ni ddilynaist ti lwybrau Jehosaffat dy dad ac Asa brenin Jwda,
21:13 ond dilynaist frenhinoedd Israel, a gwneud i Jwda a thrigolion Jerwsalem buteinio, fel y gwnaeth tŷ Ahab gydag Israel; yr wyt hefyd wedi lladd dy frodyr o dŷ dy dad, dynion gwell na thi.
21:14 Am hyn, fe ddaw'r ARGLWYDD â phla mawr ar dy bobl, dy feibion, dy wragedd a'th holl olud.
21:15 Fe fyddi di dy hun yn dioddef o glefyd enbyd yn dy goluddion, clefyd fydd ymhen amser yn gwneud i'r coluddion ddisgyn allan.'"
21:16 Yna cyffrôdd yr ARGLWYDD y Philistiaid, a'r Arabiaid oedd yn byw yn ymyl yr Ethiopiaid, yn erbyn Jehoram.
21:17 Daethant i fyny yn erbyn Jwda ac ymosod arni, a chludo ymaith yr holl olud oedd yn nhŷ'r brenin, yn ogystal â'i feibion a'i wragedd; ni adawyd neb ond Jehoahas, ei fab ieuengaf, ar ôl.
21:18 Ar ôl hyn i gyd trawodd yr ARGLWYDD ef â chlefyd marwol yn ei goluddion.
21:19 Ac yng nghwrs amser, wedi i ddwy flynedd ddod i ben, disgynnodd ei goluddion allan o achos y clefyd, a bu farw mewn poenau enbyd. Ni wnaeth y bobl dân er anrhydedd iddo, fel y gwnaethant i'w ragflaenwyr.
21:20 Deuddeg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am wyth mlynedd yn Jerwsalem. Bu farw heb neb yn galaru amdano, ac fe'i claddwyd yn Ninas Dafydd, ond nid ym meddau'r brenhinoedd.

Ahaseia Brenin Jwda, 2Bren. 8:25-29; 9:21-28

22:1 Gwnaeth trigolion Jerwsalem ei fab ieuengaf Ahaseia yn frenin yn lle Jehoram, oherwydd yr oedd yr ymosodwyr a ddaeth i'r gwersyll gyda'r Arabiaid wedi lladd pob un o'r meibion hynaf. Dyna sut y daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, i'r orsedd.
22:2 Dwy a deugain oed oedd Ahaseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am flwyddyn.
22:3 Athaleia oedd enw ei fam, wyres Omri. Dilynodd yntau hefyd yr un llwybr â thŷ Ahab, oherwydd yr oedd ei fam yn ei arwain i wneud drwg.
22:4 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth tŷ Ahab; oherwydd ar ôl marw ei dad hwy oedd yn ei gynghori, er mawr niwed iddo.
22:5 Fe gymerodd eu cyngor hwy, ac aeth gyda Joram fab Ahab, brenin Israel, i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria yn Ramoth-gilead.
22:6 Ond anafodd y Syriaid Joram a chiliodd yntau i Jesreel i geisio gwellhad o'r clwyfau a gafodd yn Rama yn y frwydr yn erbyn Hasael brenin Syria. A daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, i edrych am Joram fab Ahab yn Jesreel am ei fod yn glaf.
22:7 Penderfynodd Duw ddinistrio Ahaseia wrth iddo ymweld â Jehoram. Pan gyrhaeddodd Ahaseia, aeth allan gyda Jehoram yn erbyn Jehu fab Nimsi, a eneiniwyd gan yr ARGLWYDD i ddifodi tŷ Ahab.
22:8 Fel yr oedd Jehu yn cosbi tŷ Ahab, daeth o hyd i dywysogion Jwda a meibion brodyr Ahaseia, a fu'n gwasanaethu Ahaseia, ac fe'u lladdodd.
22:9 Yna aeth i chwilio am Ahaseia. Daliwyd Ahaseia yn cuddio yn Samaria, a chafodd ei ddwyn at Jehu a'i roi i farwolaeth. Claddwyd ef mewn bedd, oherwydd dywedasant, "Yr oedd yn ŵyr i Jehosaffat, a geisiodd yr ARGLWYDD â'i holl galon." Felly nid oedd neb o dŷ Ahaseia yn ddigon grymus i deyrnasu.

Athaleia Brenhines Jwda, 2 Bren. 11:1-3

22:10 Pan welodd Athaleia, mam Ahaseia, fod ei mab wedi marw, aeth ati i ddifodi holl linach frenhinol tŷ Jwda.
22:11 Ond cymerwyd Jehoas fab Ahaseia gan Jehoseba, merch y brenin, a'i ddwyn yn ddirgel o blith plant y brenin, a oedd i'w lladd, a'i roi ef a'i famaeth mewn ystafell wely. Felly y cuddiwyd ef rhag Athaleia, fel na allai ei ladd, gan Jehoseba, merch y Brenin Jehoram, gwraig Jehoiada yr offeiriad, oherwydd yr oedd hi'n chwaer i Ahaseia.
22:12 A bu ynghadw gyda hwy yn nhŷ Dduw am chwe blynedd, tra oedd Athaleia'n rheoli'r wlad.
23:1 Yn y seithfed flwyddyn ymwrolodd Jehoiada, a gwnaeth gynghrair â'r capteiniaid, Asareia fab Jeroham, Ismael fab Jehohanan, Asareia fab Obed, Maaseia fab Adaia, ac Elisaffat fab Sichri.
23:2 Aethant hwythau trwy Jwda a chasglu'r Lefiaid o bob dinas, a phennau-teuluoedd Israel, i ddod i Jerwsalem.
23:3 Yna gwnaeth y gynulleidfa gyfan gyfamod â'r brenin yn nhŷ Dduw. Dywedodd Jehoiada wrthynt, "Dyma fab y brenin! Bydded iddo deyrnasu, fel y dywedodd yr ARGLWYDD y gwnâi meibion Dafydd.
23:4 Dyma'r hyn a wnewch: y mae traean ohonoch chwi'r offeiriaid a'r Lefiaid, sy'n dod ar ddyletswydd ar y Saboth, i wylio'r pyrth;
23:5 traean arall i aros yn nhŷ'r brenin, a thraean i fod wrth Borth y Sylfaen. Bydded i'r holl bobl aros yng nghynteddau tŷ'r ARGLWYDD.
23:6 Nid oes neb i fynd i mewn i dŷ'r ARGLWYDD ond yr offeiriaid a'r Lefiaid sydd ar ddyletswydd; cânt hwy fynd am eu bod yn sanctaidd; rhaid i bawb arall gadw gorchymyn yr ARGLWYDD.
23:7 Y mae'r Lefiaid i sefyll o amgylch y brenin, pob un â'i arfau yn ei law, a lladder pwy bynnag a ddaw i mewn i'r tŷ; byddant gyda'r brenin lle bynnag yr â."
23:8 Gwnaeth y Lefiaid a holl Jwda bopeth a orchmynnodd yr offeiriad Jehoiada, pob un yn cymryd ei gwmni, y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth, a'r rhai oedd yn rhydd, oherwydd nid oedd yr offeiriad Jehoiada wedi rhyddhau yr un o'r adrannau.
23:9 Yna rhoddodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid y gwaywffyn, y tarianau a'r bwcledi a fu gan Ddafydd ac a oedd yn nhŷ Dduw.
23:10 Gwnaeth i'r holl bobl sefyll i amgylchu'r brenin, pob un â'i arf yn ei law, ar draws y tŷ o'r ochr dde i'r ochr chwith, o gwmpas yr allor a'r tŷ.
23:11 Yna dygwyd mab y brenin gerbron, a rhoi'r goron a'r warant iddo. Urddodd Jehoiada a'i feibion ef, a'i eneinio, a dweud, "Byw fyddo'r brenin!"
23:12 Clywodd Athaleia drwst y bobl yn rhedeg ac yn clodfori'r brenin, a daeth atynt i dŷ'r ARGLWYDD.
23:13 Pan welodd hi y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y fynedfa, gyda'r capteiniaid a'r trwmpedau o amgylch y brenin, a holl bobl y wlad yn llawenhau ac yn canu trwmpedau, a'r cantorion gydag offerynnau yn arwain y moliant, rhwygodd ei dillad a gweiddi, "Brad! brad!"
23:14 Gorchmynnodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid, swyddogion y fyddin, "Ewch â hi y tu allan i gyffiniau'r tŷ, a lladder â'r cleddyf unrhyw un sy'n ei dilyn; ond peidier," meddai'r offeiriad, "â'i lladd yn nhŷ'r ARGLWYDD."
23:15 Felly daliasant hi fel yr oedd yn cyrraedd mynedfa Porth y Meirch i'r palas, a'i lladd yno.

Diwygiadau Jehoiada, 2 Bren. 11:17-20

23:16 Gwnaeth Jehoiada gyfamod y byddai ef ei hun a'r holl bobl a'r brenin yn bobl i'r ARGLWYDD.
23:17 Aeth yr holl bobl at deml Baal a'i thynnu i lawr, a dryllio'i hallorau a'i delwau'n chwilfriw, a lladd Mattan, offeiriad Baal, o flaen yr allorau.
23:18 Yna rhoddodd Jehoiada y cyfrifoldeb o edrych ar ôl tŷ'r ARGLWYDD i'r offeiriaid oedd yn Lefiaid, ac a osodwyd gan Ddafydd dros dŷ'r ARGLWYDD i offrymu poethoffrymau i'r ARGLWYDD, fel y mae'n ysgrifenedig yn neddf Moses, ac i wneud hynny gyda llawenydd a chân yn ôl trefn Dafydd.
23:19 Gosododd y porthorion wrth byrth tŷ'r ARGLWYDD i sicrhau na fyddai neb oedd yn aflan mewn unrhyw ffordd yn mynd i mewn.
23:20 Yna daeth Jehoiada â'r capteiniaid, y pendefigion, llywodraethwyr y bobl a holl bobl y wlad, i hebrwng y brenin o dŷ'r ARGLWYDD. Daethant trwy'r porth uchaf i'r palas, a gosod y brenin ar yr orsedd frenhinol.
23:21 Llawenhaodd holl bobl y wlad, a daeth llonyddwch i'r ddinas wedi lladd Athaleia â'r cleddyf.

Jehoas Brenin Jwda, 2 Bren. 12:1-16

24:1 Saith oed oedd Jehoas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am ddeugain mlynedd. Sibia o Beerseba oedd enw ei fam.
24:2 Gwnaeth Jehoas yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD trwy gydol cyfnod Jehoiada'r offeiriad.
24:3 Dewisodd Jehoiada ddwy wraig iddo, a chafodd ganddynt feibion a merched.
24:4 Wedi hyn, rhoddodd Jehoas ei fryd ar adnewyddu tŷ'r ARGLWYDD.
24:5 Cynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a dweud wrthynt, "Ewch ar frys trwy holl ddinasoedd Jwda i gasglu'r dreth flynyddol gan Israel gyfan, er mwyn atgyweirio tŷ eich Duw." Ond ni frysiodd y Lefiaid.
24:6 Galwodd y brenin ar Jehoiada, yr archoffeiriad, a dweud wrtho, "Pam na fynnaist fod y Lefiaid yn casglu o Jwda a Jerwsalem y dreth a osododd Moses gwas yr ARGLWYDD ar gynulleidfa Israel ar gyfer pabell y dystiolaeth?
24:7 Oherwydd y mae meibion y wraig ddrwg Athaleia wedi malurio tŷ Dduw, ac wedi rhoi pob un o'i bethau cysegredig i'r Baalim."
24:8 Ar orchymyn y brenin gwnaethant gist a'i gosod y tu allan i borth tŷ'r ARGLWYDD.
24:9 Yna cyhoeddwyd trwy Jwda a Jerwsalem fod pawb i roi i'r ARGLWYDD y dreth a osododd Moses gwas Duw ar Israel yn yr anialwch.
24:10 Dygodd yr holl dywysogion a'r bobl yr arian yn llawen, a'i roi yn y gist nes ei bod yn llawn.
24:11 Bob tro y byddai'r Lefiaid yn dod â'r gist at swyddogion y brenin, a hwythau'n gweld fod ynddi swm mawr o arian, byddai ysgrifennydd y brenin a swyddog yr archoffeiriad yn dod ac yn gwagio'r gist, ac yna'n mynd â hi'n ôl i'w lle. Gwnaent hyn yn gyson, a chasglu llawer o arian.
24:12 Rhoddai'r brenin a Jehoiada yr arian i'r rhai a benodwyd i ofalu am y gwaith yn nhŷ'r ARGLWYDD; yr oeddent hwythau yn cyflogi seiri maen a seiri coed i adnewyddu tŷ'r ARGLWYDD, a gweithwyr mewn haearn a phres i'w atgyweirio.
24:13 Yr oedd y rhai a benodwyd yn gweithio'n ddyfal, a bu'r atgyweirio'n llwyddiant dan eu gofal; gwnaethant dŷ Dduw yn gadarn, a'i adfer i'w gyflwr gwreiddiol.
24:14 Wedi iddynt orffen, daethant â gweddill yr arian i'r brenin ac i Jehoiada, ac fe'i defnyddiwyd i wneud llestri i dŷ'r ARGLWYDD, sef llestri ar gyfer y gwasanaeth a'r poethoffrymau, llwyau a llestri aur ac arian. Buont yn offrymu poethoffrymau yn barhaus yn nhŷ'r ARGLWYDD holl ddyddiau Jehoiada.
24:15 Aeth Jehoiada'n hen, a bu farw mewn oedran teg. Yr oedd yn gant tri deg pan fu farw,
24:16 a chafodd ei gladdu gyda'r brenhinoedd yn Ninas Dafydd, am iddo wneud daioni yn Israel a gwasanaethu Duw a'i dŷ.

Newid Polisïau Jehoiada

24:17 Wedi marw Jehoiada, daeth tyw-ysogion Jwda i dalu gwrogaeth i'r brenin, a gwrandawodd yntau arnynt.
24:18 Yna troesant eu cefn ar dŷ'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a gwasanaethu'r pyst Asera a'r delwau. Daeth llid Duw ar Jwda a Jerwsalem am iddynt droseddu fel hyn.
24:19 Ac er i'r ARGLWYDD anfon proffwydi atynt i'w harwain yn ôl ato ac i'w hargyhoeddi, ni wrandawsant arnynt.
24:20 Yna daeth ysbryd Duw ar Sechareia fab Jehoiada yr offeiriad, ac fe safodd gerbron y bobl a dweud, "Fel hyn y dywed Duw: 'Pam yr ydych yn torri gorchmynion yr ARGLWYDD? Ni fyddwch yn ffynnu. Am i chwi droi cefn ar yr ARGLWYDD, y mae yntau wedi troi ei gefn arnoch chwi.'"
24:21 Ond gwnaethant gynllwyn yn ei erbyn, ac ar orchymyn y brenin fe'i llabyddiwyd yng nghyntedd tŷ'r ARGLWYDD.
24:22 Anghofiodd y Brenin Jehoas am y caredigrwydd a gafodd gan Jehoiada tad Sechareia, a lladdodd ei fab. Fel yr oedd Sechareia'n marw, dywedodd, "Bydded i'r ARGLWYDD weld, a'th alw i gyfrif."

Diwedd Teyrnasiad Jehoas

24:23 Ar ddiwedd y flwyddyn daeth byddin Syria i ryfela yn erbyn Jehoas. Daethant i Jwda a Jerwsalem, a lladd pob un o dywysogion y bobl, ac anfon eu hysbail i gyd i frenin Damascus.
24:24 Er i'r Syriaid ddod gyda byddin fechan, rhoddodd yr ARGLWYDD lu mawr iawn yn eu dwylo, am i'r bobl droi eu cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Felly daethant â barn ar Jehoas.
24:25 Ar ôl i'r Syriaid fynd ymaith, a'i adael wedi ei glwyfo'n ddrwg, cynllwyniodd ei weision ei hun yn ei erbyn i ddial am farwolaeth mab Jehoiada yr offeiriad, a lladdasant Jehoas ar ei wely. Felly bu farw, ac fe'i claddwyd yn Ninas Dafydd, ond nid ym meddau'r brenhinoedd.
24:26 Y rhai a gynllwyniodd yn ei erbyn oedd Sabad fab Simeath yr Ammones, a Jehosabad fab Simrith y Foabes.
24:27 Y mae hanes ei feibion, y llu oraclau a draddodwyd yn ei erbyn, a hanes ei waith yn atgyweirio tŷ Dduw, i gyd wedi eu hysgrifennu yn yr esboniad ar Lyfr y Brenhinoedd. Daeth ei fab Amaseia yn frenin yn ei le.

Amaseia Brenin Jwda, 2 Bren. 14:2-6

25:1 Pump ar hugain oed oedd Amaseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Jehoadan o Jerwsalem oedd enw ei fam.
25:2 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond nid â chalon berffaith.
25:3 Wedi iddo sicrhau ei afael ar y deyrnas, lladdodd y gweision oedd wedi llofruddio'r brenin, ei dad.
25:4 Ond ni roddodd eu plant i farwolaeth, yn unol â'r hyn sy'n ysgrifenedig yn y gyfraith, yn llyfr Moses, lle mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn, "Nid yw rhieni i'w rhoi i farwolaeth o achos eu plant, na phlant o achos eu rhieni; am ei bechod ei hun y rhoddir rhywun i farwolaeth."

Rhyfel yn erbyn Edom, 2 Bren. 14:7

25:5 Yna fe gasglodd Amaseia wŷr Jwda a'u gosod fesul teuluoedd o dan gapteiniaid miloedd a chapteiniaid cannoedd trwy holl Jwda a Benjamin. Rhifodd y rhai oedd yn ugain mlwydd oed a throsodd, a'u cael yn dri chan mil o wŷr dethol, parod i fynd allan i ryfel ac yn medru trin gwaywffon a tharian.
25:6 Cyflogodd hefyd gan mil o wroniaid o Israel am gan talent o arian.
25:7 Ond daeth gŵr Duw ato a dweud, "O frenin, paid â gadael i fyddin Israel fynd gyda thi, oherwydd nid yw'r ARGLWYDD gydag Israel, sef holl dylwyth Effraim.
25:8 Ond os ei ac ymgryfhau ar gyfer brwydr, bydd Duw yn dy ddymchwel o flaen y gelyn; oherwydd y mae gan Dduw y gallu i gynorthwyo neu i ddymchwel."
25:9 Meddai Amaseia wrth ŵr Duw, "Ond beth a wnawn am y can talent a roddais i'r fintai o Israel?" Dywedodd gŵr Duw, "Gall yr ARGLWYDD roi llawer mwy na hynny iti."
25:10 Felly rhyddhaodd Amaseia y fintai a ddaeth ato o Effraim, a'i hanfon adref. Yr oeddent hwy yn flin iawn gyda Jwda, ac aethant adref yn ddicllon.
25:11 Ond ymgryfhaodd Amaseia, ac arweiniodd ei filwyr i Ddyffryn yr Halen, lle lladdodd ddeng mil o filwyr Seir.
25:12 Daliodd milwyr Jwda ddeng mil arall ohonynt yn fyw, a mynd â hwy i ben craig a'u taflu oddi arni, nes darnio pob un ohonynt.
25:13 Ond yr oedd y fintai a waharddodd Amaseia rhag dod gydag ef i'r frwydr wedi anrheithio dinasoedd Jwda, o Samaria i Beth-horon, a lladd tair mil o'u trigolion a chymryd llawer iawn o ysbail.
25:14 Pan ddychwelodd Amaseia ar ôl gorchfygu'r Edomiaid, daeth â duwiau pobl Seir a'u gosod yn dduwiau iddo'i hun; addolodd hwy ac arogldarthu iddynt.
25:15 Am hynny digiodd yr ARGLWYDD wrth Amaseia ac anfonodd broffwyd ato. Dywedodd hwnnw wrtho, "Pam yr wyt wedi troi at dduwiau na fedrent achub eu pobl eu hunain rhagot?"
25:16 Fel yr oedd yn siarad, dywedodd y brenin, "A ydym wedi dy benodi'n gynghorwr i'r brenin? Taw! Pam y perygli dy fywyd?" Tawodd y proffwyd, ond nid cyn dweud, "Gwn fod Duw wedi penderfynu dy ddinistrio am iti wneud hyn a gwrthod gwrando ar fy nghyngor."

Rhyfel yn erbyn Israel, 2 Bren. 14:8-20

25:17 Wedi ymgynghori, anfonodd Amaseia brenin Jwda neges at Joas fab Jehoahas, fab Jehu, brenin Israel, a dweud, "Tyrd, gad inni ddod wyneb yn wyneb."
25:18 Anfonodd Joas brenin Israel yn ôl at Amaseia brenin Jwda a dweud, "Gyrrodd ysgellyn oedd yn Lebanon at gedrwydden Lebanon, a dweud, 'Rho dy ferch yn wraig i'm mab'. Ond daeth rhyw fwystfil oedd yn Lebanon heibio a mathru'r ysgellyn.
25:19 Y mae'n wir iti daro Edom, ond aethost yn ffroenuchel a balch. Yn awr, aros gartref; pam y codi helynt, ac yna cwympo a thynnu Jwda i lawr gyda thi?"
25:20 Ond ni fynnai Amaseia wrando, oherwydd gwaith Duw oedd hyn er mwyn eu rhoi yn llaw Joas am iddynt droi at dduwiau Edom.
25:21 Felly daeth Joas brenin Israel ac Amaseia brenin Jwda wyneb yn wyneb ger Beth-semes yn Jwda.
25:22 Gorchfygwyd Jwda gan Israel, a ffodd pawb adref.
25:23 Wedi i Joas brenin Israel ddal brenin Jwda, sef Amaseia fab Joas, fab Jehoahas, yn Beth-semes, daeth ag ef i Jerwsalem, a thorrodd i lawr fur Jerwsalem o Borth Effraim hyd Borth y Gongl, sef pedwar can cufydd.
25:24 Hefyd aeth â'r holl aur, arian a chelfi a gafwyd yn nhŷ Dduw dan ofal Obed-edom, ynghyd â thrysorau'r palas a gwystlon, a dychwelodd i Samaria.
25:25 Bu Amaseia fab Jehoas, brenin Jwda, fyw am bymtheng mlynedd ar ôl marw Joas fab Jehoahas, brenin Israel.
25:26 Am weddill hanes Amaseia, o'r dechrau i'r diwedd, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel?
25:27 o'r amser y gwrthododd Amaseia ddilyn yr ARGLWYDD, cynllwyniwyd brad yn ei erbyn yn Jerwsalem. Ffodd yntau i Lachis, ond anfonwyd ar ei ôl i Lachis a'i ladd yno.
25:28 Yna cludwyd ef ar feirch, a'i gladdu gyda'i dadau yn Ninas Dafydd.

Usseia Brenin Jwda, 2 Bren. 14:21-22; 15:1-7

26:1 Pan oedd Usseia yn un ar bymtheg oed, cymerodd holl bobl Jwda ef a'i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia.
26:2 Ef a ailadeiladodd Elath a'i hadfer i Jwda wedi i'r brenin farw.
26:3 Un ar bymtheg oed oedd Usseia pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am hanner cant a dwy o flynyddoedd yn Jerwsalem. Jecholeia o Jerwsalem oedd enw ei fam.
26:4 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Amaseia.
26:5 Ceisiodd Dduw yn nyddiau Sechareia; ef a'i dysgodd i ofni Duw, a thra oedd yn ceisio'r ARGLWYDD, rhoddodd Duw lwyddiant iddo.
26:6 Aeth allan i ryfela yn erbyn y Philistiaid, a chwalu muriau Gath, Jabne ac Asdod; yna fe adeiladodd ddinasoedd yng nghyffiniau Asdod ac ymysg y Philistiaid.
26:7 Cynorthwyodd Duw ef yn erbyn y Philistiaid, yr Arabiaid oedd yn byw yn Gur-baal, a'r Meuniaid.
26:8 Rhoddodd yr Ammoniaid deyrnged i Usseia, ac yr oedd yn enwog hyd at derfyn yr Aifft am ei fod mor rymus.
26:9 Adeiladodd Usseia dyrau yn Jerwsalem wrth Borth y Gongl, Porth y Glyn a Thro'r Mur, a'u hatgyfnerthu.
26:10 Adeiladodd dyrau hefyd yn yr anialwch, a chloddio llawer o bydewau, am fod ganddo lawer o anifeiliaid yn y Seffela ac ar y gwastadedd; yr oedd ganddo hefyd lafurwyr a gwinllanwyr yn y mynydd-dir ac yng Ngharmel, oherwydd yr oedd yn hoff o'r tir.
26:11 Yr oedd gan Usseia fyddin o filwyr yn barod i'r gad, wedi eu trefnu'n rhengoedd gan Jeiel yr ysgrifennydd a Maaseia y swyddog, yn ôl cyfarwyddyd Hananeia, un o swyddogion y brenin.
26:12 Cyfanswm pennau-teuluoedd y gwroniaid oedd dwy fil chwe chant.
26:13 Dan eu gofal hwy yr oedd byddin o dri chant a saith o filoedd a phum cant o ryfelwyr nerthol i gynorthwyo'r brenin yn erbyn y gelyn.
26:14 Ar gyfer yr holl fyddin paratôdd Usseia darianau, gwaywffyn, helmau, llurigau, bwâu a cherrig ffyn tafl.
26:15 Yn Jerwsalem, gyda chymorth gweithwyr medrus, gwnaeth beiriannau ar gyfer y tyrau a'r conglau, i daflu saethau a cherrig mawr. Yr oedd yn enwog ymhell ac agos, am ei fod yn cael ei gynorthwyo'n rhyfeddol nes iddo ddod yn rymus.

Cosbi Usseia am ei Falchder

26:16 Ond wedi iddo fynd yn rymus aeth ei falchder yn drech nag ef; troseddodd yn erbyn yr ARGLWYDD ei Dduw trwy fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD i arogldarthu ar allor yr arogldarth.
26:17 Aeth Asareia yr offeiriad i mewn ar ei ôl gyda phedwar ugain o wŷr dewr a oedd yn offeiriaid yr ARGLWYDD.
26:18 Safasant o flaen y Brenin Usseia a dweud wrtho, "Nid gennyt ti, Usseia, y mae'r hawl i arogldarthu i'r ARGLWYDD, ond gan yr offeiriaid, meibion Aaron, y rhai a gysegrwyd i arogldarthu. Dos allan o'r cysegr, oherwydd troseddaist; ni chei anrhydedd gan yr ARGLWYDD Dduw."
26:19 Ffromodd Usseia. Yn ei law yr oedd thuser i arogldarthu, ac fel yr oedd yn ffromi wrth yr offeiriaid fe dorrodd gwahanglwyf allan ar ei dalcen, yn ngŵydd yr offeiriaid yn nhŷ'r ARGLWYDD yn ymyl allor yr arogldarth.
26:20 Edrychodd Asareia yr archoffeiriad a'r holl offeiriaid arno a gweld y gwahanglwyf ar ei dalcen, a gwnaethant iddo frysio oddi yno.
26:21 Aeth yntau allan ar frys, oherwydd i'r ARGLWYDD ei daro. A bu'r Brenin Usseia yn wahanglwyfus hyd ddydd ei farw, yn byw o'r neilltu yn ei dŷ o achos y gwahanglwyf, ac wedi ei dorri allan o dŷ'r ARGLWYDD. Daeth Jotham ei fab i oruchwylio'r palas ac i reoli pobl y wlad.
26:22 Am weddill hanes Usseia, o'r dechrau i'r diwedd, fe'i hysgrifennwyd gan y proffwyd Eseia fab Amos.
26:23 Bu farw Usseia, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr mewn man claddu yn perthyn i'r brenhinoedd, oherwydd dywedasant, "Yr oedd yn wahan-glwyfus." A daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.

Jotham Brenin Jwda, 2 Bren. 15:32-38

27:1 Pump ar hugain oed oedd Jotham pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem. Jerusa ferch Sadoc oedd enw ei fam.
27:2 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Usseia, ar wahân i fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD;
27:3 eto yr oedd y bobl yn dal i fyw yn llygredig. Ef a adeiladodd Borth Uchaf tŷ'r ARGLWYDD, ac atgyweirio rhan fawr o fur yr Offel.
27:4 Adeiladodd ddinasoedd hefyd ym mynydd-dir Jwda, a chaerau a thyrau ar y bryniau coediog.
27:5 Brwydrodd yn erbyn yr Ammoniaid a'u brenin, a'u trechu. Y flwyddyn honno rhoddodd yr Ammoniaid iddo gan talent o arian, deng mil corus o wenith a deng mil corus o haidd; rhoesant yr un faint iddo yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.
27:6 Ymgryfhaodd Jotham am iddo drefnu ei fywyd yn ôl ewyllys yr ARGLWYDD ei Dduw.
27:7 Am weddill hanes Jotham, ei holl ryfeloedd a'i arferion, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.
27:8 Pump ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem.
27:9 Bu farw Jotham, a chladdwyd ef yn Ninas Dafydd, a theyrnasodd ei fab Ahas yn ei le.

Ahas Brenin Jwda, 2 Bren. 16:1-4

28:1 Ugain oed oedd Ahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem. Ni wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel y gwnaeth ei dad Dafydd,
28:2 ond dilynodd esiampl brenhinoedd Israel. Gwnaeth ddelwau i'r Baalim,
28:3 arogldarthodd yn nyffryn Ben-hinnom, ac fe barodd i'w feibion fynd trwy dân yn ôl arfer ffiaidd y cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.
28:4 Yr oedd yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd, ar y bryniau a than bob pren gwyrddlas.

Rhyfel yn erbyn Syria ac Israel, 2 Bren. 16:5

28:5 Am hynny rhoddodd yr ARGLWYDD ei Dduw ef yn llaw brenin Syria; gorchfygodd yntau ef a chaethgludo llawer iawn o'i bobl a mynd â hwy i Ddamascus. Rhoddwyd ef hefyd yn llaw brenin Israel, a gorchfygwyd ef ganddo mewn lladdfa fawr.
28:6 Yn wir, lladdodd Pecach fab Remaleia chwe ugain mil o wŷr grymus yn Jwda mewn un diwrnod, am iddynt gefnu ar ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.
28:7 Lladdwyd Maaseia mab y brenin, Asricam llywodraethwr y palas, ac Elcana y nesaf at y brenin, gan Sichri, un o wroniaid Effraim.
28:8 Caethgludodd yr Israeliaid ddau gan mil o'u pobl, yn wragedd, meibion a merched, a chymryd llawer iawn o ysbail oddi arnynt a'i gludo i Samaria.

Y Proffwyd Oded

28:9 Ond yr oedd yno broffwyd yr ARGLWYDD o'r enw Oded; aeth ef allan i gyfarfod â'r fyddin oedd yn dychwelyd i Samaria, a dweud wrthynt, "Gwrandewch! Am fod ARGLWYDD Dduw eich tadau yn ddig wrth Jwda y rhoddodd hwy yn eich llaw; ond yr ydych chwi wedi eu lladd mewn cynddaredd sy'n ymestyn hyd y nefoedd.
28:10 Eich bwriad yn awr yw gorfodi pobl Jwda a Jerwsalem i fod yn weision a morynion i chwi. Onid ydych chwithau hefyd yn troseddu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw?
28:11 Yn awr gwrandewch arnaf fi. Anfonwch adref eich brodyr a gaethgludwyd gennych, oherwydd y mae llid tanbaid yr ARGLWYDD yn eich erbyn."
28:12 Yna daeth rhai o benaethiaid pobl Effraim allan, sef Asareia fab Johanan, Berecheia fab Mesilemoth, Jehisceia fab Salum ac Amasa fab Hadlai, a gwrthwynebu y rhai oedd yn dod o'r frwydr.
28:13 Dywedasant wrthynt, "Ni chewch ddod â'r caethgludion yma, oherwydd byddai'r hyn y bwriadwch chwi ei wneud yn ein harwain i droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn ychwanegu at ein pechodau a'n troseddau. Y mae ein trosedd eisoes yn fawr ac y mae llid tanbaid yn erbyn Israel."
28:14 Felly gadawodd y milwyr y caethgludion a'r ysbail o flaen y swyddogion a'r holl gynulliad.
28:15 Aeth y gwŷr a enwyd eisoes i ofalu am y caethgludion: rhoesant ddillad ac esgidiau o'r ysbail i bawb oedd heb ddim, gofalu bod ganddynt fwyd a diod, rhoi ennaint iddynt, rhoi pob un oedd yn llesg ar asynnod a'u hanfon at eu brodyr i Jericho, dinas y palmwydd; ac yna dychwelyd i Samaria.

Ahas yn Gofyn am Gymorth Asyria, 2 Bren. 16:7-9

28:16 Yr adeg honno anfonodd y Brenin Ahas neges at frenin Asyria i ofyn am gymorth.
28:17 Yr oedd yr Edomiaid wedi ymosod ar Jwda unwaith eto a chymryd caethgludion;
28:18 yr oedd y Philistiaid hefyd wedi anrheithio dinasoedd y Seffela a de Jwda a chymryd Beth-semes, Ajalon a Gederoth, a hefyd Socho, Timna a Gimso a'u pentrefi, ac wedi mynd i fyw ynddynt.
28:19 Yr oedd yr ARGLWYDD wedi darostwng Jwda o achos Ahas brenin Israel am iddo golli pob rheolaeth yn Jwda a throseddu'n enbyd yn erbyn yr ARGLWYDD.
28:20 Daeth Tiglath-pileser brenin Asyria ato, ond yn lle ei gynorthwyo fe wasgodd arno.
28:21 Er i Ahas ysbeilio trysor tŷ'r ARGLWYDD, palas y brenin a thai'r swyddogion, a'i roi i frenin Asyria, ni fu hynny o gymorth iddo.

Pechodau Ahas

28:22 Fel yr âi'n gyfyng arno, troseddai'r Brenin Ahas fwyfwy yn erbyn yr ARGLWYDD.
28:23 Aberthodd i dduwiau Damascus a oedd wedi ei orchfygu, a dweud, "Am fod duwiau brenhinoedd y Syriaid wedi eu cynorthwyo hwy, fe aberthaf fi iddynt er mwyn iddynt fy nghynorthwyo innau." Ond buont yn dramgwydd iddo ef ac i holl Israel.
28:24 Casglodd Ahas lestri tŷ Dduw a'u malu'n chwilfriw; caeodd ddrysau tŷ'r ARGLWYDD a gwneud allorau iddo'i hun ym mhob congl o Jerwsalem.
28:25 Gwnaeth uchelfeydd i arogldarthu i dduwiau dieithr ym mhob un o ddinasoedd Jwda, ac fe gythruddodd ARGLWYDD Dduw ei dadau.
28:26 Am weddill ei hanes, a'i holl arferion o'r dechrau i'r diwedd, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.
28:27 Bu farw Ahas, a chladdwyd ef yn ninas Jerwsalem, ond ni roesant ef ym mynwent brenhinoedd Israel; yna teyrnasodd ei fab Heseceia yn ei le.

Heseceia Brenin Jwda, 2 Bren. 18:1-3

29:1 Pump ar hugain oed oedd Heseceia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Abeia ferch Sechareia oedd enw ei fam.
29:2 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Dafydd.

Sancteiddio ac Ailgysegru'r Deml

29:3 Yn y mis cyntaf o'r flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad agorodd ddrysau tŷ'r ARGLWYDD a'u hatgyweirio.
29:4 Cynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn y sgwâr ar yr ochr ddwyreiniol,
29:5 a dweud wrthynt, "Lefiaid, gwrandewch arnaf fi. Ym-gysegrwch yn awr, a chysegrwch dŷ'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, a dewch â phob aflendid allan o'r cysegr.
29:6 Oherwydd troseddodd ein hynafiaid, a gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ein Duw, ei wrthod, a throi oddi wrth babell yr ARGLWYDD a chefnu arni.
29:7 Hefyd caeasant ddrysau'r cyntedd a diffodd y lampau; peidiasant ag arogldarthu ac offrymu poethoffrymau yn y cysegr i Dduw Israel.
29:8 Felly daeth llid yr ARGLWYDD ar Jwda a Jerwsalem a'u gwneud yn destun arswyd, syndod a gwatwar, fel y gwelwch â'ch llygaid eich hun.
29:9 Ystyriwch fel y syrthiodd ein hynafiaid trwy fin y cleddyf, ac fel yr aeth ein meibion, ein merched a'n gwragedd i gaethiwed o achos hyn.
29:10 Yn awr, yr wyf â'm bryd ar wneud cyfamod â'r ARGLWYDD, Duw Israel, er mwyn troi ei lid tanbaid oddi wrthym.
29:11 Felly, gymrodyr, peidiwch â bod yn esgeulus, oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD chwi i sefyll ger ei fron er mwyn gweini arno ac arogldarthu iddo."
29:12 Yna cododd y Lefiaid, sef Mahath fab Amasai a Joel fab Asareia o deulu'r Cohathiaid, Cis fab Abdi ac Asareia fab Jehaleleel o deulu Merari, Joa fab Simma ac Eden fab Joa o deulu'r Gersoniaid,
29:13 Simri a Jeiel o deulu Elisaffan, Sechareia a Mattaneia o deulu Asaff,
29:14 Jehiel a Simei o deulu Heman, a Semaia ac Ussiel o deulu Jeduthun.
29:15 Cynullasant eu cymrodyr ac ymgysegru; yna aethant i buro tŷ'r ARGLWYDD yn ôl gorchymyn y brenin trwy air yr ARGLWYDD.
29:16 Aeth yr offeiriaid i mewn i dŷ'r ARGLWYDD i'w buro; daethant â phopeth halogedig a oedd yn y deml allan i gwrt tŷ'r ARGLWYDD. Oddi yno aeth y Lefiaid â hwy allan i nant Cidron.
29:17 Dechreusant sancteiddio ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, ac erbyn yr wythfed dydd o'r mis yr oeddent wedi cyrraedd cyntedd yr ARGLWYDD. Am wyth diwrnod buont yn sancteiddio tŷ'r ARGLWYDD, a gorffen ar yr unfed dydd ar bymtheg o'r mis cyntaf.
29:18 Yna aethant i'r palas at y Brenin Heseceia, a dweud, "Yr ydym wedi puro tŷ'r ARGLWYDD drwyddo, a hefyd allor y poethoffrwm a bwrdd y bara gosod a'u holl lestri.
29:19 Yr ydym hefyd wedi paratoi a chysegru'r holl lestri a daflwyd allan gan y Brenin Ahas yn ystod ei deyrnasiad, pan oedd yn anffyddlon; y maent yn awr o flaen allor yr ARGLWYDD."
29:20 Yna cododd y Brenin Heseceia yn fore, a chynnull swyddogion y ddinas a mynd i fyny i dŷ'r ARGLWYDD.
29:21 Daethant â saith bustach, saith hwrdd, saith oen a saith bwch gafr yn aberth dros bechod ar ran y frenhiniaeth, y cysegr, a Jwda; a gorchmynnodd y brenin i'r offeiriaid, meibion Aaron, eu hoffrymu ar allor yr ARGLWYDD.
29:22 Felly lladdwyd y bustych, a derbyniodd yr offeiriaid eu gwaed a'i luchio yn erbyn yr allor; wedyn lladdwyd yr hyrddod a'r ŵyn, a lluchio'r gwaed yn erbyn yr allor.
29:23 Daethant â bychod yr aberth dros bechod o flaen y brenin a'r gynulleidfa, a gosod eu dwylo arnynt;
29:24 yna lladdodd yr offeiriaid hwy a chyflwyno'u gwaed yn aberth dros bechod ar yr allor, i wneud cymod dros holl Israel. Oherwydd gorchmynnodd y brenin y dylid offrymu poethoffrwm ac aberth dros bechod ar ran Israel gyfan.
29:25 Gosododd Heseceia y Lefiaid yn nhŷ'r ARGLWYDD gyda symbalau, nablau a thelynau yn ôl gorchymyn Dafydd, a Gad gweledydd y brenin, a Nathan y proffwyd; gorchymyn oedd hwn a ddaeth oddi wrth yr ARGLWYDD trwy ei broffwydi.
29:26 Safodd y Lefiaid gydag offerynnau Dafydd, a'r offeiriaid gyda'r trwmpedau.
29:27 Rhoddodd Heseceia orchymyn i offrymu'r poethoffrwm ar yr allor; a phan ddechreuodd y poethoffrwm, fe ddechreuodd cân i'r ARGLWYDD gyda'r trwmpedau ac offerynnau Dafydd brenin Israel.
29:28 Yr oedd yr holl gynulleidfa yn ymgrymu, y cantorion yn canu a'r trwmpedau yn seinio; parhaodd y cwbl nes gorffen y poethoffrwm.
29:29 Wedi gorffen offrymu, plygodd y brenin, a phawb oedd gydag ef, ac ymgrymu.
29:30  Gorchmynnodd y Brenin Heseceia a'r swyddogion i'r Lefiaid foliannu'r ARGLWYDD yng ngeiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly canasant fawl yn llawen, ac ymostwng ac ymgrymu.
29:31 Dywedodd Heseceia, "Yr ydych yn awr wedi ymgysegru i'r ARGLWYDD; dewch i'w dŷ gydag aberthau ac offrymau diolch." Felly dygodd y gynulleidfa aberthau ac offrymau diolch, a daeth pob un ewyllysgar â phoethoffrymau.
29:32 Nifer y poeth-offrymau a ddygodd y gynulleidfa oedd deg a thrigain o fustych, cant o hyrddod a dau gant o ŵyn, pob un yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD;
29:33 nifer yr offrymau cysegredig oedd chwe chant o fustych a thair mil o ddefaid.
29:34 Ond nid oedd digon o offeiriaid i flingo'r holl boethoffrymau; felly cynorthwyodd eu brodyr y Lefiaid hwy i orffen y gwaith, nes i fwy o offeiriaid ymgysegru, oherwydd yr oedd y Lefiaid yn cymryd mwy o ofal wrth ymgysegru na'r offeiriaid.
29:35 Yn ogystal â llawer iawn o boethoffrymau, yr oedd yno fraster yr heddoffrymau a diodoffrymau ar gyfer y poethoffrymau. Fel hyn yr ail-drefnwyd gwasanaeth tŷ'r ARGLWYDD.
29:36 Llawenhaodd Heseceia a'r holl bobl am yr hyn a wnaeth Duw iddynt, oherwydd fe ddigwyddodd y peth mor ddisymwth.

Paratoi at Gadw'r Pasg

30:1 Anfonodd Heseceia negeswyr trwy holl Israel a Jwda, ac ysgrifennu llythyrau at Effraim a Manasse i'w gwahodd i ddod i gadw Pasg yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn nhŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.
30:2 Yr oedd y brenin a'i swyddogion a'r holl gynulleidfa yn Jerwsalem wedi cytuno i gadw'r Pasg yn yr ail fis,
30:3 oherwydd ni allent ei gadw ar yr amser priodol am nad oedd digon o offeiriaid wedi ymgysegru, ac am nad oedd y bobl wedi ymgasglu yn Jerwsalem.
30:4 Yr oedd y brenin a'r holl gynulleidfa yn gweld y cynllun yn un da.
30:5 Felly gorchmynasant gyhoeddi trwy Israel gyfan, o Beerseba i Dan, fod pawb i ddod i Jerwsalem i gadw Pasg yr ARGLWYDD, Duw Israel; oherwydd nid oeddent wedi ei gadw yn ôl y drefn ysgrifenedig ers amser maith.
30:6 Aeth negeswyr trwy holl Israel a Jwda, ar orchymyn y brenin, gyda llythyrau oddi wrtho ef a'i swyddogion, yn dweud, "Bobl Israel, dychwelwch at yr ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, ac fe ddychwel yntau at y gweddill ohonoch chwi a ddihangodd o law brenhinoedd Asyria.
30:7 Peidiwch â bod fel eich hynafiaid a'ch tylwyth, a droseddodd yn erbyn yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid; oherwydd cawsant hwy eu hanrheithio, fel y gwelwch.
30:8 Yn awr, peidiwch â bod yn ystyfnig fel eich hynafiaid, ond ymostyngwch i'r ARGLWYDD, a dewch i'w gysegr a gysegrodd ef yn dragywydd; gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich Duw er mwyn iddo droi ei lid tanbaid oddi wrthych.
30:9 Oherwydd os dychwelwch at yr ARGLWYDD, caiff eich pobl a'ch plant drugaredd gan eu caethgludwyr, a dychwelyd i'r wlad hon; oblegid y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rasol a thrugarog, ac ni thry ei wyneb oddi wrthych os dychwelwch ato."
30:10 Aeth y negeswyr o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse hyd at Sabulon, ond cawsant eu gwatwar a'u gwawdio.
30:11 Er hynny, cytunodd rhai o Aser, Manasse a Sabulon i ddod i Jerwsalem.
30:12 Bu llaw Duw ar Jwda hefyd yn annog y bobl i ufuddhau'n unfryd i orchymyn y brenin a'r swyddogion, yn unol â gair yr ARGLWYDD.

Cadw'r Pasg

30:13 Daeth llawer iawn o bobl ynghyd i Jerwsalem yn yr ail fis i gadw gŵyl y Bara Croyw; yr oedd yn gynulliad enfawr.
30:14 Dechreusant symud ymaith yr allorau oedd yn Jerwsalem, ac aethant â'r holl allorau arogldarth a'u taflu i nant Cidron.
30:15 Yna, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis, lladdasant oen y Pasg. Cywilyddiodd yr offeiriaid a'r Lefiaid am hyn; ac wedi iddynt ymgysegru, daethant â phoethoffrymau i dŷ'r ARGLWYDD.
30:16 Safasant yn eu lle arferol yn ôl cyfraith Moses gŵr Duw, a lluchiodd yr offeiriaid y gwaed a gawsant gan y Lefiaid.
30:17 Am fod llawer yn y gynulleidfa heb ymgysegru, yr oedd y Lefiaid yn lladd oen y Pasg dros bawb halogedig, er mwyn eu cysegru i'r ARGLWYDD.
30:18 Oherwydd yr oedd nifer mawr o bobl, llawer ohonynt o Effraim, Manasse, Issachar a Sabulon, heb ymgysegru, ac felly'n bwyta'r Pasg yn groes i'r rheol. Ond gweddïodd Heseceia drostynt a dweud,
30:19 "Bydded i'r ARGLWYDD da faddau i bob un a roes ei fryd ar geisio Duw, sef ARGLWYDD Dduw ei dadau, er nad yw wedi gwneud hynny yn ôl defod puredigaeth y cysegr."
30:20 Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar Heseceia, ac fe iachaodd y bobl.
30:21 Cadwodd yr Israeliaid oedd yn Jerwsalem ŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod â llawenydd mawr, ac yr oedd y Lefiaid a'r offeiriaid yn moliannu'r ARGLWYDD yn feunyddiol ag offer soniarus yn perthyn i'r ARGLWYDD.
30:22 Calonogodd Heseceia bob un o'r Lefiaid oedd yn gyfrifol am ddysgu ffyrdd daionus yr ARGLWYDD. Yna, am saith diwrnod yr ŵyl bu pawb yn gwledda, yn aberthu heddoffrymau ac yn diolch i ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.

Estyn Cyfnod y Pasg

30:23 Cytunodd yr holl gynulleidfa i gadw'r ŵyl am saith diwrnod arall, ac fe wnaethant hynny'n llawen.
30:24 Darparodd Heseceia brenin Jwda fil o fustych a saith mil o ddefaid i'r gynulleidfa, a rhoddodd y swyddogion fil o fustych a deng mil o ddefaid iddynt. Yna ymgysegrodd llawer iawn o'r offeiriaid.
30:25 Llawenhaodd holl gynulleidfa Jwda, gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, a'r holl gynulleidfa a ddaeth o Israel, gan gynnwys y dieithriaid oedd wedi dod o wlad Israel, a thrigolion Jwda.
30:26 Felly bu llawenydd mawr yn Jerwsalem, na fu ei debyg yno er dyddiau Solomon fab Dafydd, brenin Israel.
30:27 Yna safodd yr offeiriaid a'r Lefiaid i fendithio'r bobl; gwrandawodd Duw ar eu llef, ac esgynnodd eu gweddi i'w breswylfa sanctaidd yn y nefoedd.

Diwygiadau Heseceia

31:1 Pan ddaeth hyn i ben, aeth yr holl Israeliaid oedd yn bresennol allan i ddinasoedd Jwda i ddryllio'r colofnau, torri'r prennau Asera, a distrywio'r uchelfeydd a'r allorau trwy holl Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse. Ar ôl eu difa'n llwyr dychwelodd yr holl Israeliaid i'w dinasoedd, pob un i'w gartref ei hun.
31:2 Trefnodd Heseceia yr offeiriaid a'r Lefiaid yn ddosbarthiadau ar gyfer eu gwasanaeth; yr oedd pob offeiriad a Lefiad yn gyfrifol am y poethoffrwm a'r heddoffrymau, ac yr oeddent i weini a rhoi diolch a moliannu ym mhyrth gwersylloedd yr ARGLWYDD.
31:3 Cyfrannodd y brenin o'i olud ei hun tuag at y poethoffrymau, sef at boethoffrymau'r bore a'r hwyr a phoethoffrymau'r Sabothau, y newydd-loerau a'r gwyliau penodedig, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD.
31:4 Gorchmynnodd i'r bobl oedd yn byw yn Jerwsalem roi i'r offeiriaid a'r Lefiaid eu cyfran, er mwyn iddynt gadw cyfraith yr ARGLWYDD yn well.
31:5 Pan gyhoeddwyd hyn, daeth yr Israeliaid â llawer o flaenffrwyth ŷd, gwin, olew, mêl a holl gnwd y maes; daethant â degwm llawn o bopeth.
31:6 Daeth pobl Israel a Jwda oedd yn byw yn ninasoedd Jwda â degwm o wartheg a defaid, ac o'r pethau cysegredig a gysegrwyd i'r ARGLWYDD eu Duw, a'u gosod yn bentyrrau.
31:7 Dechreusant godi'r pentyrrau yn y trydydd mis, a'u gorffen yn y seithfed mis.
31:8 Pan ddaeth Heseceia a'i swyddogion a gweld y pentyrrau, bendithiasant yr ARGLWYDD a'i bobl Israel.
31:9 Pan ofynnodd Heseceia i'r offeiriaid a'r Lefiaid ynglŷn â'r pentyrrau,
31:10 dywedodd Asareia yr archoffeiriad o dŷ Sadoc wrtho, "Er pan ddechreuodd y bobl ddod â chyfraniadau i dŷ'r ARGLWYDD, bwytasom a chawsom ein digoni, ac y mae llawer yn weddill, oherwydd bendithiodd yr ARGLWYDD ei bobl; dyna pam y mae cymaint ar ôl fel hyn."
31:11 Gorchmynnodd Heseceia baratoi ystordai yn nhŷ'r ARGLWYDD; gwnaethant felly,
31:12 a daeth y bobl â'r blaenffrwyth, y degwm a'r pethau cysegredig i mewn yn ffyddlon. Y pennaeth oedd Conaneia y Lefiad, a'i frawd Simei oedd y nesaf ato.
31:13 Yn ôl gorchymyn y Brenin Heseceia ac Asareia pennaeth tŷ Dduw, yr oedd Conaneia a'i frawd Simei yn cael eu cynorthwyo gan oruchwylwyr, sef Jehiel, Ahaseia, Nahath, Asahel, Jerimoth, Josabad, Eliel, Ismachëa, Mahath a Benaia.
31:14 Core fab Imna y Lefiad, y porthor wrth borth y dwyrain, oedd yn gofalu am yr offrymau gwirfoddol i Dduw, ac yn dosbarthu'r cyfraniadau a wnaed i'r ARGLWYDD a'r offrymau mwyaf sanctaidd.
31:15 Yr oedd Eden, Miniamin, Jesua, Semaia, Amareia a Sechaneia yn ei gynorthwyo yn ninasoedd yr offeiriaid i rannu'n deg i'w brodyr, yn fach a mawr, fesul dosbarth.
31:16 Yn ychwanegol, rhoddwyd ar y rhestr bob gwryw tair oed a throsodd a oedd yn dod yn ei dro i dŷ'r ARGLWYDD i wasanaethu trwy gadw dyletswyddau yn ôl eu dosbarthiadau.
31:17 Rhoddwyd ar y rhestr hefyd yr offeiriaid, yn ôl eu teuluoedd, a'r Lefiaid oedd yn ugain oed a throsodd, yn ôl eu dyletswyddau a'u dosbarthiadau.
31:18 Rhoddwyd hwy ar y rhestr gyda'u holl blant, gwragedd, meibion a merched, y cwmni i gyd, am iddynt ymgysegru'n ffyddlon.
31:19 Ar gyfer meibion Aaron, yr offeiriaid, a oedd yn byw yng nghytir eu dinasoedd, penodwyd dynion ym mhob dinas i roi cyfraniadau i bob gwryw yn eu plith ac i bob un o'r Lefiaid oedd ar y rhestr.
31:20 Dyma a wnaeth Heseceia trwy holl Jwda; gwnaeth yr hyn oedd dda, uniawn a ffyddlon gerbron yr ARGLWYDD ei Dduw.
31:21 Pa beth bynnag a wnâi i geisio ei Dduw yng ngwasanaeth tŷ Dduw, yn ôl gofynion y gyfraith a'r gorchmynion, fe'i gwnâi â'i holl galon, a llwyddo.

Senacherib yn Bygwth Jerwsalem, 2 Bren. 18:13-37; 19:14-19, 35-37; Eseia 36:1-22; 37:8-38

32:1 Yn fuan ar ôl yr enghreifftiau hyn o ffyddlondeb, daeth Senacherib brenin Asyria yn erbyn Jwda.
32:2 Gwersyllodd o gwmpas y dinasoedd caerog gan feddwl eu hennill drosodd. Pan welodd Heseceia fod Senacherib wedi cyrraedd a'i fod yn bwriadu ymosod ar Jerwsalem,
32:3 ymgynghorodd â'i gapteiniaid a'i wroniaid ynglŷn â chau'r ffynhonnau oedd y tu allan i'r ddinas,
32:4 a chafodd eu cefnogaeth. Yna daeth llawer iawn o bobl ynghyd, a chaewyd yr holl ffynhonnau a'r nant oedd yn llifo trwy ganol y wlad. "Pam," meddent, "y dylai brenhinoedd Asyria gael digon o ddŵr pan ddônt yma?"
32:5 Ymroes y brenin i ailadeiladu pob rhan o'r mur oedd wedi ei ddryllio, a chodi ar y tyrau ac adeiladu mur arall ar yr ochr allan. Cryfhaodd y Milo yn Ninas Dafydd a gwneud llawer o arfau a tharianau.
32:6 Gosododd gapteiniaid milwrol dros y bobl, a'u casglu ato i'r sgwâr wrth borth y ddinas. Fe'u calonogodd gan ddweud,
32:7 "Byddwch yn gryf a dewr. Peidiwch ag ofni na digalonni o flaen brenin Asyria a'i holl fintai. Y mae gennym ni fwy nag sydd ganddo ef.
32:8 Gallu dynol sydd ganddo ef, ond y mae yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni i'n cynorthwyo ac i ymladd ein brwydrau." Ac fe ymddiriedodd y bobl yng ngeiriau Heseceia brenin Jwda.
32:9 Yn ddiweddarach, pan oedd Senacherib brenin Asyria a'i holl fyddin yn gwarchae ar Lachis, anfonodd ei weision i Jerwsalem gyda'r neges hon i Heseceia brenin Jwda a phawb o Jwda oedd yn Jerwsalem:
32:10 "Fel hyn y dywed Senacherib brenin Asyria: Ym mha beth yr ydych yn ymddiried, fel eich bod yn aros dan warchae yn Jerwsalem?
32:11 Onid yw Heseceia yn eich twyllo ac yn eich condemnio i farw o newyn a syched trwy ddweud, 'Yr Arglwydd ein Duw a'n gwared ni o law brenin Asyria'?
32:12 Onid yr Heseceia hwn a dynnodd ymaith ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, 'O flaen un allor yr addolwch ac arni hi yn unig yr arogldarthwch'?
32:13 Oni wyddoch beth a wneuthum i a'm rhagflaenwyr i holl bobloedd y gwledydd?
32:14 Prun o holl dduwiau'r cenhedloedd hyn, a ddinistriwyd gan fy rhagflaenwyr, a allodd waredu ei bobl o'm gafael? Sut felly y gall eich Duw chwi eich gwaredu o'm gafael?
32:15 Yn awr, peidiwch â gadael i Heseceia eich twyllo a'ch hudo fel hyn. Peidiwch ag ymddiried ynddo, oherwydd ni allodd duw unrhyw genedl na theyrnas waredu ei bobl o'm gafael i nac o afael fy rhagflaenwyr. Yn sicr ni all eich Duw chwi eich gwaredu o'm gafael!"
32:16 Dywedodd gweision Senacherib lawer mwy yn erbyn yr ARGLWYDD Dduw a'i was Heseceia.
32:17 Ysgrifennodd lythyrau hefyd yn gwatwar yr ARGLWYDD, Duw Israel, fel hyn: "Fel y methodd duwiau cenhedloedd y gwledydd waredu eu pobl o'm gafael, ni fydd Duw Heseceia chwaith yn gwaredu ei bobl o'm gafael."
32:18 A gwaeddasant yn uchel mewn Hebraeg ar bobl Jerwsalem oedd ar y mur, i godi arswyd arnynt er mwyn cymryd y ddinas.
32:19 Dywedasant fod Duw Jerwsalem yr un fath â duwiau pobloedd y ddaear, sef gwaith dwylo dynol.
32:20 Oherwydd hyn gweddïodd y Brenin Heseceia a'r proffwyd Eseia fab Amos â llef uchel tua'r nefoedd.
32:21 Ac anfonodd yr ARGLWYDD angel a lladd pob gwron, arweinydd a chapten yng ngwersyll brenin Asyria. Dychwelodd yntau mewn cywilydd i'w wlad. A phan aeth i dŷ ei dduw, lladdwyd ef yno â'r cleddyf gan rai o'i blant ei hun.
32:22 Felly gwaredodd yr ARGLWYDD Heseceia a thrigolion Jerwsalem o afael Senacherib brenin Asyria ac o afael eu holl elynion; amddiffynnodd hwy rhag pawb o'u hamgylch.
32:23 Daeth llawer i Jerwsalem gydag offrymau i'r ARGLWYDD ac anrhegion gwerthfawr i Heseceia brenin Jwda. Ac ar ôl hynny cafodd y brenin ei barchu gan yr holl genhedloedd.

Heseceia—ei Falchder, ei Lwyddiant a'i Farw, 2 Bren. 20:1-3, 12-21; Eseia 38:1-3; 39:1-8

32:24 Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD. Atebodd yntau ef trwy roi arwydd iddo.
32:25 Ond am ei fod yn falch, ni werthfawrogodd Heseceia yr hyn a wnaed iddo, a daeth llid Duw arno ef ac ar Jwda a Jerwsalem.
32:26 Yna, edifarhaodd Heseceia am ei falchder, a phobl Jerwsalem gydag ef, ac ni ddaeth llid yr ARGLWYDD arnynt wedyn yng nghyfnod Heseceia.
32:27 Yr oedd gan Heseceia olud a chyfoeth mawr iawn, a gwnaeth iddo'i hun drysordai ar gyfer arian ac aur, meini gwerthfawr, peraroglau, tarianau a phob math o bethau godidog.
32:28 Gwnaeth ysguboriau i'r cynhaeaf gwenith, gwin ac olew, a hefyd stablau i bob math o anifail, a chorlannau i ddiadellau.
32:29 Adeiladodd ddinasoedd iddo'i hun, a phrynodd lawer o ddefaid a gwartheg, oherwydd rhoddodd Duw olud mawr iawn iddo.
32:30 Heseceia oedd yr un a gaeodd darddiad uchaf dyfroedd Gihon, a'u cyfeirio i lawr tua'r gorllewin i Ddinas Dafydd. Bu Heseceia'n llwyddiannus ym mhopeth a wnaeth.
32:31 Hyd yn oed pan anfonwyd negeswyr ato gan swyddogion Babilon i holi ynghylch yr arwydd a welwyd yn y wlad, gadawodd Duw lonydd iddo er mwyn ei brofi a gwybod y cwbl oedd yn ei galon.
32:32 Am weddill hanes Heseceia, a'i deyrngarwch, y mae wedi ei ysgrifennu yng ngweledigaeth y proffwyd Eseia fab Amos, yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.
32:33 Bu farw Heseceia, ac fe'i claddwyd ar y bryn lle mae beddau disgynyddion Dafydd. Pan fu farw, talodd holl Jwda a thrigolion Jerwsalem deyrnged iddo, a daeth ei fab Manasse yn frenin yn ei le.

Manasse Brenin Jwda, 2 Bren. 21:1-9, 17-18

33:1 Deuddeng mlwydd oed oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am hanner cant a phump o flynyddoedd yn Jerwsalem.
33:2 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-dra'r cenhedloedd a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid.
33:3 Ailadeiladodd yr uchelfeydd a ddinistriodd ei dad Heseceia, a chododd allorau i'r Baalim a gwneud delwau o Asera, ac ymgrymodd i holl lu'r nef a'u haddoli.
33:4 Adeiladodd allorau yn y deml y dywedodd yr ARGLWYDD amdani, "Yn Jerwsalem y bydd fy enw am byth."
33:5 Cododd allorau i holl lu'r nef yn nau gyntedd y deml.
33:6 Ef oedd yr un a barodd i'w feibion fynd trwy dân yn nyffryn Ben-hinnom, arferodd hudoliaeth, swynion a chyfaredd, ac ymhél ag ysbrydion a dewiniaeth. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.
33:7 Gwnaeth ddelw gerfiedig a'i gosod yn y deml y dywedodd Duw amdani wrth Ddafydd a'i fab Solomon, "Yn y tŷ hwn ac yn Jerwsalem, y lle a ddewisais allan o holl lwythau Israel, yr wyf am osod fy enw'n dragwyddol.
33:8 Ni throf Israel allan mwyach o'r tir a roddais i'ch hynafiaid, ond iddynt ofalu gwneud y cwbl a orchmynnais iddynt yn y gyfraith, y deddfau a'r cyfreithiau a gawsant gan Moses."
33:9 Ond arweiniodd Manasse Jwda a thrigolion Jerwsalem ar gyfeiliorn, i wneud yn waeth na'r cenhedloedd a ddinistriodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.
33:10 Er i'r ARGLWYDD lefaru wrth Manasse a'i bobl, ni wrandawsant.
33:11 Yna anfonodd yr ARGLWYDD swyddogion byddin brenin Asyria yn eu herbyn; daliasant hwy Manasse â bachau a'i roi mewn gefynnau pres a mynd ag ef i Fabilon.
33:12 Yn ei gyfyngder gweddïodd Manasse ar yr ARGLWYDD ei Dduw, a'i ddarostwng ei hun o flaen Duw ei hynafiaid.
33:13 Pan weddïodd arno, trugarhaodd Duw wrtho; gwrandawodd ar ei weddi a dod ag ef yn ôl i Jerwsalem i'w frenhiniaeth. Yna gwybu Manasse mai'r ARGLWYDD oedd Dduw.
33:14 Ar ôl hyn adeiladodd fur allanol i Ddinas Dafydd yn y dyffryn i'r gorllewin o Gihon hyd at fynedfa Porth y Pysgod, ac amgylchu Offel a'i wneud yn uchel iawn. Gosododd hefyd swyddogion milwrol yn holl ddinasoedd caerog Jwda.
33:15 Tynnodd ymaith y duwiau dieithr a'r ddelw o dŷ'r ARGLWYDD, a'r holl allorau a adeiladodd ym mynydd tŷ'r ARGLWYDD ac yn Jerwsalem, a'u taflu allan o'r ddinas.
33:16 Atgyweiriodd allor yr ARGLWYDD, ac offrymodd arni heddoffrymau ac offrymau diolch a gorchymyn Jwda i wasanaethu'r ARGLWYDD, Duw Israel.
33:17 Er hynny, yr oedd y bobl yn dal i aberthu ar yr uchelfeydd, ond i'r ARGLWYDD eu Duw yn unig.
33:18 Am weddill hanes Manasse, ei weddi ar ei Dduw, a geiriau'r gweledyddion a fu'n siarad ag ef yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, y maent yng nghronicl brenhinoedd Israel.
33:19 Y mae ei weddi a'r ateb ffafriol a gafodd, a hanes ei holl bechod a'i gamwedd, a'r lleoedd yr adeiladodd uchelfeydd a gosod pyst Asera a cherfddelwau ynddynt cyn iddo ymostwng, wedi eu hysgrifennu yng nghronicl y gweledyddion.
33:20 A bu farw Manasse, a'i gladdu yn ei balas; a daeth ei fab Amon yn frenin yn ei le.

Amon Brenin Jwda, 2 Bren. 21:19-26

33:21 Dwy ar hugain oed oedd Amon pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddwy flynedd yn Jerwsalem.
33:22 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaeth ei dad Manasse. Aberthodd Amon i'r holl gerfddelwau a wnaeth ei dad, ac fe'u gwasanaethodd.
33:23 Ond nid ym-ostyngodd o flaen yr ARGLWYDD fel y gwnaeth ei dad Manasse; yr oedd ef, Amon, yn troseddu'n waeth.
33:24 Cynllwynodd ei weision yn ei erbyn, a'i ladd yn ei dŷ;
33:25 ond yna, lladdwyd pawb a fu'n cynllwyn yn erbyn y Brenin Amon gan bobl y wlad, a gwnaethant ei fab Joseia yn frenin yn ei le.

Joseia a'i Ddiwygiad, 2 Bren. 22:1-2

34:1 Wyth mlwydd oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri deg ac un o flynyddoedd yn Jerwsalem.
34:2 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn llwybrau ei dad Dafydd yn gwbl ddiwyro.
34:3 Yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ac yntau'n dal yn llanc ifanc, dechreuodd geisio Duw ei dad Dafydd. Yn y ddeuddegfed flwyddyn, dechreuodd buro Jwda a Jerwsalem o'r uchelfeydd, y pyst Asera, y cerfddelwau a'r delwau tawdd.
34:4 Gorchmynnodd ddinistrio allorau'r Baalim, a thorrodd i lawr yr allorau arogldarth a oedd uwch eu pen; drylliodd yn chwilfriw y pyst Asera, y cerfddelwau a'r delwau tawdd; malodd hwy'n yfflon a thaenu eu llwch hyd wyneb beddau y rhai a fu'n aberthu iddynt.
34:5 Llosgodd esgyrn yr offeiriaid ar eu hallorau, a phurodd Jwda a Jerwsalem.
34:6 Gwnaeth yr un peth yn ninasoedd Manasse, Effraim a Simeon, hyd at Nafftali, ac yn yr adfeilion o'u cwmpas,
34:7 sef dryllio'r allorau a'r pyst Asera, a malu'r cerfluniau'n yfflon a dinistrio'r holl arogldarth trwy Israel gyfan; yna dychwelodd i Jerwsalem.

Darganfod Llyfr y Gyfraith, 2 Bren. 22:3-20

34:8 Yn y ddeunawfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ar ôl puro'r wlad a'r deml, anfonodd Saffan fab Asaleia, Maaseia rheolwr y ddinas a Joa fab Joahas y cofiadur i atgyweirio tŷ'r ARGLWYDD ei Dduw.
34:9 Pan ddaethant at Hilceia yr archoffeiriad rhoesant iddo'r arian a ddygwyd i dŷ Dduw ac a gasglodd y Lefiaid, ceidwaid y drws, oddi wrth Manasse ac Effraim a gweddill Israel, ac o holl Jwda, Benjamin a thrigolion Jerwsalem.
34:10 Yna rhoddwyd ef i'r goruchwylwyr oedd yn gofalu am dŷ'r ARGLWYDD; rhoddasant hwythau ef i'r gweithwyr oedd yn gweithio yn nhŷ'r ARGLWYDD ac yn atgyweirio'i agennau.
34:11 Fe'i rhoesant hefyd i'r seiri a'r adeiladwyr i brynu cerrig nadd a choed ar gyfer distiau a thrawstiau i'r adeiladau yr oedd brenhinoedd Jwda wedi eu hesgeuluso.
34:12 Yr oedd y dynion yn gweithio'n ddiwyd dan oruchwyliaeth y Lefiaid oedd yn eu hannog, sef Jahath ac Obadeia o feibion Merari, a Sechareia a Mesulam o feibion y Cohathiaid. Ac yr oedd y Lefiaid, pob un a fedrai ganu offeryn cerdd,
34:13 hefyd yn gofalu am y cludwyr ac yn arolygu pob gweithiwr, beth bynnag oedd ei waith. Yr oedd rhai o'r Lefiaid hefyd yn ysgrifenyddion, swyddogion a phorthorion.
34:14 Wrth iddynt ddwyn allan yr arian a ddygwyd i dŷ'r ARGLWYDD, darganfu Hilceia'r offeiriad lyfr cyfraith yr ARGLWYDD, a roddwyd trwy Moses.
34:15 Dywedodd Hilceia wrth Saffan yr ysgrifennydd, "Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ'r ARGLWYDD." A rhoddodd y llyfr i Saffan.
34:16 Aeth Saffan â'r llyfr at y brenin a'r un pryd rhoi adroddiad iddo a dweud, "Y mae dy weision yn gwneud y cwbl a orchmynnwyd iddynt.
34:17 Y maent wedi cyfrif yr arian oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD ac wedi ei drosglwyddo i'r ymgymerwyr a'r gweithwyr."
34:18 Ac ychwanegodd Saffan yr ysgrifennydd wrth y brenin, "Rhoddodd Hilceia'r offeiriad lyfr imi"; a darllenodd Saffan ef i'r brenin.
34:19 Pan glywodd y brenin gynnwys y gyfraith, rhwygodd ei ddillad,
34:20 a gorchmynnodd i Hilceia ac i Ahicam fab Saffan, ac i Abdon fab Nicha, ac i Saffan yr ysgrifennydd ac i Asaia gwas y brenin,
34:21 "Ewch i ymgynghori â'r ARGLWYDD ar fy rhan, ac ar ran pawb sydd ar ôl yn Israel a Jwda, ynglŷn â chynnwys y llyfr a ddaeth i'r golwg; oherwydd y mae llid yr ARGLWYDD yn fawr, ac wedi ei ennyn yn ein herbyn am na chadwodd ein hynafiaid air yr ARGLWYDD na gwneud yr hyn a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn."
34:22 Yna aeth Hilceia, a'r rhai a orchmynnodd y brenin, at y broffwydes Hulda, gwraig Salum fab Ticfa, fab Hasra, ceidwad y gwisgoedd. Yr oedd hi'n byw yn yr Ail Barth yn Jerwsalem; ac wedi iddynt ddweud eu neges,
34:23 dywedodd hi wrthynt, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dywedwch wrth y gŵr a'ch anfonodd ataf,
34:24 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn dwyn drwg ar y lle hwn a'i drigolion, sef yr holl felltithion sy'n ysgrifenedig yn y llyfr a ddarllenwyd yng ngŵydd brenin Jwda,
34:25 am eu bod wedi fy ngwrthod ac wedi arogldarthu i dduwiau eraill, i'm digio ym mhopeth a wnânt; y mae fy nig wedi ei ennyn yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir.'
34:26 Dyma a ddywedwch wrth frenin Jwda, a'ch anfonodd i ymgynghori â'r ARGLWYDD: 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, ynglŷn â'r geiriau a glywaist:
34:27 Am i'th galon dyneru ac iti ymostwng o flaen Duw pan glywaist ei eiriau am y lle hwn a'i drigolion, am iti ymostwng ac wylo o'i flaen, a rhwygo dy ddillad, yr wyf finnau wedi gwrando, medd yr ARGLWYDD.
34:28 Am hynny pan fyddi farw, dygir di i'r bedd mewn heddwch, ac ni wêl dy lygaid yr holl ddrwg a ddygaf ar y lle hwn a'i drigolion.'" Dygasant hwythau'r ateb i'r brenin.

Cyfamod Joseia, 2 Bren. 23:1-20

34:29 Yna anfonodd y brenin a chasglu ynghyd holl henuriaid Jwda a Jerwsalem;
34:30 ac aeth i fyny i dŷ'r ARGLWYDD, a holl bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem gydag ef, a hefyd yr offeiriaid a'r Lefiaid a phawb o'r bobl, o'r lleiaf hyd y mwyaf. Yna darllenodd yn eu clyw holl gynnwys y llyfr cyfamod a gaed yn nhŷ'r ARGLWYDD.
34:31 Safodd y brenin wrth ei golofn, a gwnaeth gyfamod o flaen yr ARGLWYDD i ddilyn yr ARGLWYDD ac i gadw ei orchmynion a'i dystiolaethau a'i ddeddfau â'i holl galon ac â'i holl enaid, ac i gyflawni geiriau'r cyfamod a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn.
34:32 Gwnaeth i bawb oedd yn byw yn Jerwsalem a Benjamin gadw'r cyfamod. Yna cadwodd trigolion Jerwsalem gyfamod Duw, Duw eu hynafiaid.
34:33 Felly tynnodd Joseia ymaith bob ffieidd–dra o'r holl diriogaeth oedd yn perthyn i'r Israeliaid, a gwnaeth i bawb oedd yn byw yn Israel wasanaethu'r ARGLWYDD eu Duw. Yn ei gyfnod ef ni throesant oddi ar ôl yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.

Joseia'n Cadw'r Pasg, 2 Bren. 23:21-23

35:1 Cadwodd Joseia Basg i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; lladdasant oen y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
35:2 Gosododd yr offeiriaid ar ddyletswydd, a'u hannog i wasanaethu yn nhŷ yr ARGLWYDD.
35:3 Dywedodd wrth y Lefiaid oedd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD ac yn dysgu holl Israel, "Rhowch yr arch sanctaidd yn y tŷ a adeiladodd Solomon fab Dafydd, brenin Israel; nid ydych i'w chario ar eich ysgwyddau. Yn awr, gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich Duw a'i bobl Israel.
35:4 Paratowch eich hunain fesul teulu yn ôl eich dosbarthiadau, fel yr ysgrifennodd Dafydd brenin Israel a'i fab Solomon.
35:5 Safwch yn y cysegr dros eich pobl leyg fesul teulu yn ôl eich dosbarthiadau; y mae gan y Lefiaid gyfran ym mhob teulu.
35:6 Lladdwch oen y Pasg; ymgysegrwch a pharatoi, er mwyn i'ch pobl wneud yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy Moses."
35:7 Rhoddodd Joseia i'r holl bobl oedd yn bresennol ddeng mil ar hugain o ddefaid, sef ŵyn a mynnod, a thair mil o ychen ar gyfer y Pasg; daeth y cwbl o'r drysorfa frenhinol.
35:8 Hefyd, rhoddodd ei swyddogion o'u gwirfodd i'r bobl, a'r offeiriaid a'r Lefiaid. Rhoddodd Hilceia, Sechareia a Jehiel, prif swyddogion tŷ Dduw, ddwy fil a chwe chant o ddefaid a thri chant o ychen i'r offeiriaid ar gyfer y Pasg.
35:9 A rhoddodd Cononeia a'i frodyr Semaia a Nethaneel, a Hasabeia, Jehiel a Josabad, swyddogion y Lefiaid, bum mil o ddefaid a phum cant o ychen ar gyfer y Pasg.
35:10 Felly paratowyd y gwasanaeth, a safodd yr offeiriaid yn eu lle a'r Lefiaid yn eu dosbarthiadau, yn ôl gorchymyn y brenin.
35:11 Lladdasant oen y Pasg, a lluchiodd yr offeiriaid beth o'r gwaed ar yr allor tra oedd y Lefiaid yn blingo'r anifeiliaid.
35:12 Yna aethant â'r poethoffrymau ymaith i'w dosbarthu yn ôl rhaniadau teuluoedd y bobl, er mwyn iddynt offrymu i'r ARGLWYDD fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr Moses; felly hefyd y gwnaethant â'r ychen.
35:13 Rhostiwyd oen y Pasg ar y tân, yn ôl y ddefod, a berwi'r pethau cysegredig mewn crochanau, peiriau a phedyll, a'u rhannu ar frys i'r holl bobl.
35:14 Yna paratoesant ar eu cyfer eu hunain ac ar gyfer yr offeiriaid, oherwydd yr oedd yr offeiriaid, meibion Aaron, wedi bod yn aberthu'r poethoffrwm a'r offrymau o fraster hyd yr hwyr. Fel hyn y paratôdd y Lefiaid ar eu cyfer eu hunain a'r offeiriaid, meibion Aaron.
35:15 Yr oedd y cantorion, meibion Asaff, yn eu lle yn ôl gorchymyn Dafydd: Asaff, Heman a Jeduthun, gweledydd y brenin; ac yr oedd pob un o'r porthorion wrth ei borth. Nid oedd raid iddynt adael eu gwaith, oherwydd yr oedd eu brodyr y Lefiaid yn paratoi ar eu cyfer.
35:16 Fel hyn y paratowyd holl wasanaeth yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw, er mwyn cadw'r Pasg ac offrymu poethoffrymau ar allor yr ARGLWYDD yn ôl gorchymyn y Brenin Joseia.
35:17 Yr adeg honno cadwodd yr Israeliaid oedd yn bresennol y Pasg a gŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod.
35:18 Ni chadwyd Pasg fel hwn yn Israel er dyddiau Samuel y proffwyd, ac ni chadwodd yr un o frenhinoedd Israel y Pasg fel y cadwodd Joseia ef gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, pawb oedd yn bresennol o Jwda ac Israel, a thrigolion Jerwsalem.
35:19 Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia y cadwyd y Pasg hwn.

Marw Joseia, 2 Bren. 23:28-30

35:20 Ar ôl hyn oll, pan oedd Joseia wedi paratoi'r deml, daeth Necho brenin yr Aifft i fyny i ymladd yn Carchemis ar lan afon Ewffrates, ac aeth Joseia allan i'w gyfarfod.
35:21 Ond anfonodd Necho negeswyr ato i ddweud, "Beth sydd a wnelwyf fi â thi, brenin Jwda? Nid yn dy erbyn di yr wyf fi wedi dod yma heddiw, ond i ymladd yn erbyn teyrnas arall. Dywedodd Duw wrthyf am frysio, a phaid ti â rhwystro'r Duw sydd gyda mi, rhag iddo dy ddifa."
35:22 Ond ni throdd Joseia oddi wrtho, oherwydd yr oedd yn benderfynol o ymladd ag ef; gwrthododd wrando ar eiriau Necho, a ddaeth oddi wrth Dduw, ac aeth i ymladd yn nyffryn Megido.
35:23 Saethwyd y Brenin Joseia gan y saethyddion, a dywedodd wrth ei weision, "Ewch â mi ymaith, oherwydd cefais fy nghlwyfo'n ddrwg."
35:24 Tynnodd ei weision ef allan o'r cerbyd, a'i roi yn ei ail gerbyd a mynd ag ef i Jerwsalem. Bu farw yno ac fe'i claddwyd ym meddrod ei hynafiaid, a galarodd holl Jwda a Jerwsalem amdano.
35:25 Gwnaeth Jeremeia alarnad am Joseia, a hyd heddiw y mae pob canwr a chantores yn sôn amdano yn eu galarnadau. Y mae caniadau o'r fath yn ddefod yn Israel, ac y maent wedi eu hysgrifennu yn y Galarnadau.
35:26 Am weddill hanes Joseia, ei ddaioni yn gwneud yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd yng nghyfraith yr ARGLWYDD,
35:27 a'i weithredoedd o'r dechrau i'r diwedd, y maent wedi eu hysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.

Jehoahas Brenin Jwda, 2 Bren. 23:30-35

36:1 Dewisodd pobl y wlad Jehoahas fab Joseia, a'i wneud yn frenin yn lle ei dad yn Jerwsalem.
36:2 Tair ar hugain oed oedd Jehoahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis yn Jerwsalem.
36:3 Ond diorseddodd Necho brenin yr Aifft ef yn Jerwsalem, a gosododd ar y wlad dreth o gan talent o arian a thalent o aur.
36:4 Hefyd gwnaeth Eliacim ei frawd yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, a newid ei enw i Jehoiacim, a chymerodd Jehoahas brawd y brenin i lawr i'r Aifft.

Jehoiacim Brenin Jwda, 2 Bren. 23:36—24:7

36:5 Pump ar hugain oed oedd Jehoiacim pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am un mlynedd ar ddeg. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw.
36:6 Daeth Nebuchadnesar brenin Babilon yn ei erbyn, a'i garcharu mewn gefynnau pres a mynd ag ef i Fabilon.
36:7 Aeth â rhai o lestri tŷ'r ARGLWYDD hefyd i Fabilon a'u gosod yn ei balas yno.
36:8 Am weddill hanes Jehoiacim, y ffieidd-dra a wnaeth a'r cyhuddiadau yn ei erbyn, y maent wedi eu hysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda. Daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le.

Jehoiachin Brenin Jwda, 2 Bren. 24:2-17

36:9 Deunaw mlwydd oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis a deg diwrnod yn Jerwsalem. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
36:10 Ar droad y flwyddyn, anfonodd y Brenin Nebuchadnesar i'w gyrchu i Fabilon gyda'r llestri gorau o dŷ'r ARGLWYDD, a gwnaeth ei frawd Sedeceia yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.



36:11 Un ar hugain oed oedd Sedeceia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar ddeg yn Jerwsalem.
36:12 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw. Gwrthododd ymostwng o flaen y proffwyd Jeremeia, a oedd yn llefaru dros yr ARGLWYDD.
36:13 Gwrthryfelodd hefyd yn erbyn y Brenin Nebuchadnesar, a oedd wedi gwneud iddo dyngu i Dduw. Ystyfnigodd a chaledodd ei galon rhag dychwelyd at yr ARGLWYDD, Duw Israel.
36:14 Aeth swyddogion yr offeiriaid a'r bobl yn fwy anffyddlon fyth, gan ddilyn holl ffieidd-dra'r cenhedloedd a halogi tŷ'r ARGLWYDD a gysegrodd ef yn Jerwsalem.
36:15 Anfonodd yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, atynt yn barhaus trwy law ei negeswyr, am ei fod yn tosturio wrth ei bobl a'i drigfan.
36:16 Ond yr oeddent hwy yn gwatwar ei negeswyr, yn gwawdio ei eiriau ac yn dirmygu ei broffwydi, nes y daeth llid yr ARGLWYDD ar ei bobl heb arbed.
36:17 Anfonodd frenin y Caldeaid i fyny yn eu herbyn, a lladdodd hwnnw eu gwŷr ifainc â'r cleddyf yn eu cysegrle, heb arbed na llanc na morwyn, na'r hen na'r oedrannus; rhoddodd bob un ohonynt yn ei afael.
36:18 Dygodd i Fabilon holl lestri tŷ Dduw, bach a mawr, trysorau tŷ'r ARGLWYDD a thrysorau'r brenin a'i swyddogion.
36:19 Llosgasant dŷ Dduw a dinistrio mur Jerwsalem, a llosgi hefyd ei holl balasau â thân, a distrywio'i holl lestri godidog.
36:20 Caethgludodd i Fabilon bawb a achubwyd rhag y cleddyf, a buont yn weision iddo ef a'i feibion nes y dechreuodd y Persiaid deyrnasu.
36:21 Mwynhaodd y wlad ei Sabothau; trwy'r holl amser y bu'n anghyfannedd fe orffwysodd, nes cwblhau deng mlynedd a thrigain, a chyflawni gair yr ARGLWYDD trwy Jeremeia'r proffwyd.

Cyrus a Dychweliad yr Iddewon, Esra 1:1-4

36:22 Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, er mwyn cyflawni gair yr ARGLWYDD trwy Jeremeia, cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus, a chyhoeddodd yntau ddatganiad trwy ei holl deyrnas, ac ysgrifennu:
36:23 "Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia: Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, wedi rhoi holl deyrnasoedd y byd i mi, ac wedi gorchymyn i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem yn Jwda. Pob un o'ch plith sy'n perthyn i'w bobl, bydded yr ARGLWYDD ei Dduw gydag ef, ac aed i fyny."