LLYFR ESTHER

Diswyddo'r Frenhines Fasti

1:1 Digwyddodd y pethau a ganlyn yn amser Ahasferus, yr Ahasferus oedd yn teyrnasu ar gant dau ddeg a saith o daleithiau, o India i Ethiopia.
1:2 Yn ystod y cyfnod hwnnw, yn nhrydedd flwyddyn ei deyrnasiad, ac yntau'n teyrnasu ar ei orsedd yn Susan y brifddinas,
1:3 gwnaeth y Brenin Ahasferus wledd i'w holl dywysogion a'i weinidogion. Daeth byddin y Persiaid a'r Mediaid, y penaethiaid a thywysogion y taleithiau o'i flaen,
1:4 a threuliodd yntau amser maith, sef cant wyth deg o ddyddiau, yn dangos iddynt gyfoeth ei deyrnas odidog ac ysblander gogoneddus ei fawredd.
1:5 Pan ddaeth yr amser hwn i ben, gwnaeth y brenin wledd a barodd am saith diwrnod yn y cwrt yng ngardd ei dŷ i bawb, o'r lleiaf hyd y mwyaf, oedd yn byw yn Susan y brifddinas.
1:6 Yr oedd yno lenni gwyn a glas wedi eu rhwymo â llinynnau o sidan a phorffor wrth gadwynau arian ar golofnau marmor. Yr oedd yno welyau o aur ac arian ar lawr o risial, marmor, alabastr a glasfaen gwerthfawr.
1:7 Yr oedd cwpanau aur o wahanol fathau i yfed ohonynt, ac yr oedd digonedd o win trwy haelioni'r brenin.
1:8 Ynglŷn â'r yfed, nid oedd gorfodaeth ar neb, oherwydd gorchmynnodd y brenin i holl swyddogion ei balas wneud fel yr oedd pawb yn dymuno.
1:9 Gwnaeth y Frenhines Fasti hefyd wledd i'r gwragedd ym mhalas y Brenin Ahasferus.
1:10 Ar y seithfed dydd, pan oedd y Brenin Ahasferus yn llawen gan win, rhoddodd orchymyn i Mehuman, Bistha, Harbona, Bigtha, Abagtha, Sethar a Carcas, y saith eunuch oedd yn gweini arno,
1:11 i ddod â'r Frenhines Fasti ato yn gwisgo ei choron frenhinol, er mwyn dangos ei phrydferthwch i'r bobl a'r tywysogion, oherwydd yr oedd yn brydferth iawn.
1:12 Ond gwrthododd y Frenhines Fasti ddod ar orchymyn y brenin trwy'r eunuchiaid. Felly gwylltiodd y brenin yn ddirfawr a chyneuodd ei lid.
1:13 Gan mai arfer y brenin oedd troi at y rhai oedd yn deall cyfraith a barn, fe ymgynghorodd â'r doethion oedd yn deall y gyfraith.
1:14 Ei gynghorwyr mwyaf blaenllaw oedd Carsena, Sethar, Admatha, Tarsis, Meres, Marsena a Memuchan, saith dywysog Persia a Media; hwy oedd agosaf at y brenin, a'r dynion mwyaf blaenllaw yn y deyrnas.
1:15 Gofynnodd iddynt, "Beth, yn ôl y gyfraith, sydd i'w wneud â'r Frenhines Fasti am iddi anufuddhau i orchymyn y Brenin Ahasferus trwy'r eunuchiaid?"
1:16 Atebodd Memuchan yng ngŵydd y brenin a'r tywysogion, "Nid â'r Brenin Ahasferus yn unig y mae'r Frenhines Fasti wedi gwneud cam, ond â'r holl dywysogion a'r bobl ym mhob un o daleithiau'r brenin.
1:17 Oherwydd daw pob gwraig i wybod am yr hyn a wnaeth y frenhines, ac o ganlyniad fe ddirmygant eu gwŷr a dweud, 'Gorchmynnodd y Brenin Ahasferus ddod â'r Frenhines Fasti ato, ond ni ddaeth hi.'
1:18 Heddiw bydd tywysogesau Persia a Media, sydd wedi clywed am weithred y frenhines, yn rhoi yr un ateb i holl dywysogion y brenin, ac yna bydd dirmyg a dicter diddiwedd.
1:19 Gyda chydsyniad y brenin, gwneler datganiad brenhinol, a'i ysgrifennu yn neddfau'r Persiaid a'r Mediaid fel na chaiff ei newid, nad yw Fasti i ddod mwyach i ŵydd y Brenin Ahasferus; a rhodded y brenin ei swydd frenhinol hi i un arall sy'n rhagori arni.
1:20 Pan glywir trwy'r holl deyrnas, er mor fawr ydyw, y gorchymyn a wnaeth y brenin, bydd pob gwraig, o'r leiaf hyd y fwyaf, yn parchu ei gŵr."
1:21 Yr oedd cyngor Memuchan yn dderbyniol gan y brenin a'r tywysogion, a gwnaeth y brenin fel yr awgrymodd.
1:22 Anfonwyd llythyrau i holl daleithiau'r brenin, i bob talaith yn ei hysgrifen ei hun a phob cenedl yn ei hiaith ei hun, er mwyn sicrhau bod pob dyn, beth bynnag ei iaith, yn feistr ar ei dŷ ei hun.

Esther yn Frenhines

2:1 Wedi'r pethau hyn, pan liniarodd llid y Brenin Ahasferus, fe gofiodd am Fasti a'r hyn a wnaeth, ac am yr hyn a ddyfarnwyd amdani.
2:2 Dywedodd y llanciau oedd yn gweini ar y brenin, "Chwilier am wyryfon ifainc hardd i'r brenin.
2:3 Bydded i'r brenin ethol swyddogion ym mhob talaith o'i deyrnas i gasglu pob gwyryf ifanc hardd i Susan y brifddinas; yna rhodder hwy yn nhŷ'r gwragedd o dan ofal Hegai, eunuch y brenin sy'n gofalu am y gwragedd, a rhodder iddynt eu hoffer coluro.
2:4 Bydded i'r ferch sy'n ennill ffafr y brenin ddod i'r orsedd yn lle Fasti." Yr oedd y syniad yn dderbyniol gan y brenin, ac fe wnaeth felly.
2:5 Yr oedd Iddew yn byw yn Susan y brifddinas o'r enw Mordecai fab Jair, fab Simei, fab Cis, gŵr o Benjamin.
2:6 Yr oedd wedi ei gymryd o Jerwsalem i'r gaethglud gyda Jechoneia brenin Jwda, a gaethgludwyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon.
2:7 Yr oedd ef wedi mabwysiadu ei gyfnither Hadassa, sef Esther, am ei bod yn amddifad. Yr oedd hi'n ferch deg a phrydferth; a phan fu farw ei thad a'i mam, mabwysiadodd Mordecai hi'n ferch iddo'i hun.
2:8 Pan gyhoeddwyd gair a gorchymyn y brenin a chasglu llawer o ferched ifainc i'r palas yn Susan o dan ofal Hegai, daethpwyd ag Esther i dŷ'r brenin a oedd yng ngofal Hegai, ceidwad y gwragedd.
2:9 Yr oedd y ferch yn dderbyniol yn ei olwg, a chafodd ffafr ganddo. Trefnodd iddi gael ar unwaith ei hoffer coluro a'i dogn bwyd, a rhoddodd iddi saith o forynion golygus o dŷ'r brenin, a'i symud hi a'i morynion i le gwell yn nhŷ'r gwragedd.
2:10 Nid oedd Esther wedi sôn am ei chenedl na'i thras, am i Mordecai orchymyn iddi beidio.
2:11 Bob dydd âi Mordecai heibio i gyntedd tŷ'r gwragedd er mwyn gwybod sut yr oedd Esther, a beth oedd yn digwydd iddi.
2:12 Ar ddiwedd deuddeg mis, sef y cyfnod o baratoi a osodwyd ar gyfer y gwragedd — chwe mis gydag olew a myrr, a chwe mis gyda pheraroglau ac offer coluro'r gwragedd — dôi tro pob merch i fynd at y Brenin Ahasferus.
2:13 Pan ddôi'r ferch at y brenin fel hyn, câi fynd â beth bynnag a fynnai gyda hi o dŷ'r gwragedd i balas y brenin.
2:14 Âi allan gyda'r hwyr, a dychwelyd yn y bore i ail dŷ'r gwragedd o dan ofal Saasgas, eunuch y brenin a ofalai am y gordderchwragedd; ni fyddai'n mynd eilwaith at y brenin oni bai iddo ef ei chwennych a galw amdani wrth ei henw.
2:15 Pan ddaeth tro Esther, y ferch a fabwysiadwyd gan Mordecai am ei bod yn ferch i'w ewythr Abihail, i fynd i mewn at y brenin, ni ofynnodd hi am ddim ond yr hyn a awgrymodd Hegai, eunuch y brenin a cheidwad y gwragedd; ac yr oedd Esther yn cael ffafr yng ngolwg pawb a'i gwelai.
2:16 Aethpwyd ag Esther i mewn i'r palas at y Brenin Ahasferus yn y degfed mis, sef Tebeth, yn y seithfed flwyddyn o'i deyrnasiad.
2:17 Carodd y brenin Esther yn fwy na'r holl wragedd, a dangosodd fwy o ffafr a charedigrwydd tuag ati hi na thuag at yr un o'r gwyryfon eraill; rhoddodd goron frenhinol ar ei phen a'i gwneud yn frenhines yn lle Fasti.
2:18 Yna gwnaeth y brenin wledd fawr i'w holl dywysogion a'i weision er mwyn anrhydeddu Esther; hefyd cyhoeddodd ŵyl ym mhob talaith, a rhannu anrhegion yn hael.
2:19 Pan ddaeth y gwyryfon at ei gilydd yr ail waith, yr oedd Mordecai'n eistedd ym mhorth llys y brenin.
2:20 Nid oedd Esther wedi sôn am ei thras na'i chenedl, fel y gorchmynnodd Mordecai iddi; yr oedd hi'n derbyn cynghorion Mordecai, fel y gwnâi pan oedd yn ei magu.
2:21 Yr adeg honno, pan oedd Mordecai'n eistedd ym mhorth y brenin, yr oedd Bigthan a Theres, dau eunuch i'r Brenin Ahasferus oedd yn gofalu am y porth, wedi digio ac yn cynllwyn i ymosod ar y brenin.
2:22 Daeth Mordecai i wybod am hyn, a dywedodd wrth y Frenhines Esther; dywedodd hithau wrth y brenin yn enw Mordecai.
2:23 Chwiliwyd yr achos a chafwyd ei fod yn wir; felly crogwyd y ddau ar bren. Ysgrifennwyd yr hanes yn llyfr y cronicl yng ngŵydd y brenin.

Haman yn Ceisio Difa'r Iddewon

3:1 Ar ôl hyn dyrchafodd y Brenin Ahasferus Haman fab Hammedatha yr Agagiad, a rhoi iddo le blaenllaw, gan ei osod yn uwch na'r holl dywysogion oedd gydag ef.
3:2 Ac yr oedd pob un o'r gweision ym mhorth llys y brenin yn ymgrymu ac yn ymostwng iddo, yn ôl gorchymyn y brenin. Ond nid oedd Mordecai yn ymostwng nac yn ymgrymu iddo.
3:3 Dywedodd gweision y brenin a oedd yn y porth wrth Mordecai. "Pam yr wyt yn torri gorchymyn y brenin?"
3:4 Ond er eu bod yn gofyn hyn iddo'n feunyddiol, ni wrandawai arnynt. Felly dywedasant wrth Haman, er mwyn gweld a fyddai Mordecai'n dal ei dir, oherwydd yr oedd wedi dweud wrthynt ei fod yn Iddew.
3:5 Pan welodd Haman nad oedd Mordecai am ymostwng nac ymgrymu iddo, gwylltiodd yn enbyd.
3:6 Wedi clywed i ba genedl yr oedd Mordecai yn perthyn, nid oedd yn fodlon ymosod ar Mordecai yn unig, ond yr oedd yn awyddus i ddifa cenedl Mordecai, sef yr holl Iddewon yn nheyrnas Ahasferus.
3:7 Yn neuddegfed flwyddyn y Brenin Ahasferus, yn y mis cyntaf, sef Nisan, bwriasant Pwr (hynny yw, coelbren) o flaen Haman i ddewis dydd a mis, ac fe syrthiodd y coelbren ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar.
3:8 Dywedodd Haman wrth y Brenin Ahasferus, "Y mae yna genedl, wedi ei chwalu a'i gwasgaru ymhlith y bobloedd yn holl daleithiau dy deyrnas, sy'n ei chadw ei hun ar wahân. Y mae eu cyfreithiau'n wahanol i rai pawb arall, ac nid ydynt yn cadw cyfreithiau'r brenin; nid yw er lles y brenin eu goddef.
3:9 Os cydsynia'r brenin i orchymyn eu difa, yna fe dalaf fi ddeng mil o dalentau arian i'r trysordy brenhinol ar gyfer y rhai sy'n gwneud hyn."
3:10 Yna tynnodd y brenin ei fodrwy oddi ar ei law a'i rhoi i Haman fab Hammedatha yr Agagiad, gelyn yr Iddewon,
3:11 a dweud wrtho, "Cadw'r arian, a gwna fel y mynni â'r bobl."
3:12 Yna ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf, galwyd ar ysgrifenyddion y brenin, ac ar orchymyn Haman ysgrifennwyd at bendefigion y brenin, rheolwyr pob talaith a thywysogion pob cenedl, i bob talaith yn ei hysgrifen ei hun a phob cenedl yn ei hiaith ei hun. Yr oedd y wŷs wedi ei hysgrifennu yn enw'r Brenin Ahasferus ac wedi ei selio â'r fodrwy frenhinol.
3:13 Yna anfonwyd negeswyr gyda llythyrau i holl daleithiau'r brenin yn gorchymyn dinistrio, lladd a difa pob Iddew, yn llanc a hynafgwr, plant a gwragedd, ac ysbeilio'u heiddo, ar yr un diwrnod, sef y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, hynny yw, Adar.
3:14 Yr oedd copi o'r wŷs i'w anfon yn gyfraith i bob talaith, a'i ddangos i'r holl bobl er mwyn iddynt fod yn barod erbyn y diwrnod hwnnw.
3:15 Aeth y negeswyr allan ar frys yn ôl gorchymyn y brenin, a chyhoeddwyd y gorchymyn yn Susan y brifddinas. Yna eisteddodd y brenin a Haman i yfed; ond yr oedd dinas Susan yn drist.

Mordecai'n Ceisio Cymorth Esther

4:1 Pan glywodd Mordecai am bopeth a ddigwyddodd, rhwygodd ei ddillad a gwisgo sachliain a lludw, a mynd allan i ganol y ddinas a gweiddi'n groch a chwerw.
4:2 Daeth i ymyl porth y brenin, oherwydd ni châi neb oedd yn gwisgo sachliain fynd i mewn i'r porth.
4:3 Ym mhob talaith lle y cyrhaeddodd gair a gorchymyn y brenin, yr oedd galar mawr ymysg yr Iddewon, ac yr oeddent yn ymprydio, yn wylo ac yn llefain; a gorweddodd llawer ohonynt mewn sachliain a lludw.
4:4 Pan ddaeth morynion ac eunuchiaid y Frenhines Esther a dweud wrthi, yr oedd yn ofidus iawn. Anfonodd ddillad i Mordecai eu gwisgo yn lle'r sachliain oedd amdano, ond gwrthododd ef hwy.
4:5 Yna galwodd Esther ar Hathach, un o eunuchiaid y brenin a ddewiswyd i weini arni, a'i orchymyn i fynd at Mordecai, i gael gwybod beth oedd ystyr hyn a pham y digwyddodd.
4:6 Aeth Hathach allan at Mordecai i sgwâr y ddinas o flaen porth y brenin,
4:7 a dywedodd Mordecai wrtho am y cwbl a ddigwyddodd iddo, ac am y swm o arian yr addawodd Haman ei dalu i drysorfa'r brenin er mwyn difa'r Iddewon.
4:8 Rhoddodd iddo hefyd gopi o'r wŷs a gyhoeddwyd yn Susan, yn gorchymyn eu dinistrio, er mwyn iddo yntau ei dangos a'i hegluro i Esther, a dweud wrthi am fynd at y brenin i ymbil ag ef ac erfyn arno dros ei phobl.
4:9 Aeth Hathach a dweud wrth Esther yr hyn a ddywedodd Mordecai,
4:10 a rhoddodd hithau iddo'r neges hon i Mordecai,
4:11 "Y mae holl weision y brenin a phobl ei daleithiau yn gwybod nad oes ond un ddedfryd yn aros unrhyw ŵr neu wraig sy'n mynd i'r cyntedd mewnol at y brenin heb wahoddiad, sef marwolaeth; ni chaiff fyw oni bai i'r brenin estyn ei deyrnwialen aur iddo. Nid wyf fi wedi fy ngalw at y brenin ers deg diwrnod ar hugain bellach."
4:12 Pan glywodd Mordecai neges Esther,
4:13 dywedodd wrthynt am ei hateb fel hyn, "Paid â meddwl y cei di yn unig o'r holl Iddewon dy arbed, am dy fod yn byw yn nhŷ'r brenin.
4:14 Os byddi'n gwrthod siarad yn awr, daw ymwared a chymorth i'r Iddewon o le arall, ond byddi di a thŷ dy dad yn trengi. Pwy a ŵyr nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost i'r frenhiniaeth?"
4:15 Dywedodd Esther wrthynt am roi'r ateb hwn i Mordecai:
4:16 "Dos i gasglu ynghyd yr holl Iddewon sy'n byw yn Susan, ac ymprydiwch drosof; peidiwch â bwyta nac yfed, ddydd na nos, am dridiau, ac fe wnaf finnau a'm morynion yr un fath. Yna af at y brenin, er fy mod yn torri'r gyfraith; ac os trengaf, mi drengaf."
4:17 Aeth Mordecai ymaith a gwneud popeth a orchmynnodd Esther iddo.

Cais Esther i'r Brenin

5:1 Ar y trydydd dydd, rhoddodd Esther ei gwisg frenhinol amdani a sefyll yng nghyntedd mewnol y palas gyferbyn ag ystafell y brenin. Yr oedd y brenin yn eistedd ar ei orsedd frenhinol yn y palas gyferbyn â'r fynedfa.
5:2 Pan welodd y brenin y Frenhines Esther yn sefyll yn y cyntedd, fe enillodd hi ei ffafr, ac estynnodd ati'r deyrnwialen aur oedd yn ei law; daeth hithau yn nes a chyffwrdd â blaen y deyrnwialen.
5:3 Yna dywedodd y brenin wrthi, "Beth sy'n bod, Frenhines Esther? Beth bynnag a geisi, hyd hanner fy nheyrnas, fe'i cei."
5:4 Atebodd Esther, "Os gwêl y brenin yn dda, hoffwn iddo ef a Haman ddod i'r wledd a baratoais iddo heddiw."
5:5 Gorchmynnodd y brenin gyrchu Haman ar frys, er mwyn gwneud fel y dymunai Esther; yna fe aeth y brenin a Haman i'r wledd a baratôdd Esther.
5:6 Wrth iddynt yfed gwin, dywedodd y brenin wrth Esther, "Fe gei di beth bynnag y gofynni amdano. Gwneir beth bynnag a fynni, hyd hanner y deyrnas."
5:7 Atebodd Esther, "Dyma fy nghais a'm dymuniad:
5:8 os cefais ffafr yng ngolwg y brenin, ac os gwêl ef yn dda roi fy neisyfiad a gwneud fy nymuniad, bydded i'r brenin a Haman ddod i'r wledd yr wyf fi am ei pharatoi iddynt; yna yfory gwnaf fel y mae'r brenin yn dweud."

Dicter Haman at Mordecai

5:9 Y diwrnod hwnnw aeth Haman allan yn llawen a hapus. Ond pan welodd ef Mordecai ym mhorth y brenin, ac yntau'n gwrthod codi na dangos parch tuag ato, gwylltiodd yn enbyd ag ef;
5:10 ond ymataliodd, ac aeth adref. Yna galwodd ar ei gyfeillion, a'i wraig Seres,
5:11 ac adroddodd wrthynt am ei olud mawr, am nifer ei feibion, ac am y modd y dyrchafodd y brenin ef trwy ei osod uwchlaw'r tywysogion a'r gweision.
5:12 Ac ychwanegodd, "Ni wahoddodd y Frenhines Esther neb ond myfi i fynd gyda'r brenin i'r wledd a wnaeth; ac fe'm gwahoddodd i fynd ati yfory eto gyda'r brenin.
5:13 Ond nid yw hyn oll yn rhoi unrhyw foddhad i mi tra gwelaf Mordecai yr Iddew yn eistedd ym mhorth y brenin."
5:14 Dywedodd Seres ei wraig a phob un o'i gyfeillion wrtho, "Gwneler crocbren hanner can cufydd o uchder, ac yn y bore dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno. Yna dos yn llawen i'r wledd gyda'r brenin." Yr oedd hyn wrth fodd Haman, ac fe wnaeth y crocbren.

Y Brenin yn Anrhydeddu Mordecai

6:1 Y noson honno yr oedd y brenin yn methu cysgu, a gorchmynnodd iddynt ddod â llyfr y cofiadur, sef y cronicl, ac fe'i darllenwyd iddo.
6:2 Ynddo cofnodwyd yr hyn a ddywedodd Mordecai am Bigthana a Theres, dau eunuch y brenin oedd yn gofalu am y porth ac oedd wedi cynllwyn i ymosod ar y brenin.
6:3 Dywedodd y brenin, "Pa glod ac anrhydedd a gafodd Mordecai am hyn?" Atebodd y llanciau oedd yn gweini ar y brenin nad oedd wedi derbyn dim.
6:4 Gofynnodd y brenin, "Pwy sydd yn y cyntedd?" Yr oedd Haman newydd ddod i gyntedd allanol tŷ'r brenin i ddweud wrtho am grogi Mordecai ar y crocbren yr oedd wedi ei baratoi ar ei gyfer.
6:5  Dywedodd gweision y brenin wrtho, "Haman sy'n sefyll yn y cyntedd." a galwodd y brenin ar Haman i ddod i mewn.
6:6 Daeth Haman ymlaen, ac meddai'r brenin wrtho, "Beth ddylid ei wneud i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu?" Ac meddai Haman wrtho'i hun, "Pwy fyddai'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu yn fwy na mi?"
6:7 Dywedodd wrth y brenin, "I'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu,
6:8 dylid dod â gwisg frenhinol a wisgir gan y brenin, a cheffyl y marchoga'r brenin arno, un y mae arfbais y brenin ar ei dalcen.
6:9 Rhodder y wisg a'r ceffyl i un o dywysogion pwysicaf y brenin, a gwisged yntau'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu, a'i arwain trwy sgwâr y ddinas ar gefn y ceffyl, a chyhoeddi o'i flaen fel hyn: 'Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu.'"
6:10 Yna dywedodd y brenin wrth Haman, "Dos ar frys i gael y wisg a'r ceffyl fel y dywedaist, a gwna hyn i Mordecai yr Iddew, sy'n eistedd ym mhorth y brenin. Gofala wneud popeth a ddywedaist."
6:11 Felly cymerodd Haman y wisg a'r ceffyl; gwisgodd Mordecai a'i arwain ar gefn y ceffyl trwy sgwâr y ddinas, a chyhoeddi o'i flaen: "Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu."
6:12 Yna dychwelodd Mordecai i borth y brenin, ond brysiodd Haman adref yn drist, â gorchudd am ei ben.
6:13 Dywedodd wrth ei wraig Seres a'i holl gyfeillion am y cyfan a ddigwyddodd iddo. Ac meddai ei wŷr doeth a'i wraig Seres wrtho, "Os yw Mordecai, yr wyt yn dechrau cwympo o'i flaen, yn Iddew, ni orchfygi di mohono; ond yr wyt ti'n sicr o gael dy drechu ganddo ef."
6:14 Tra oeddent yn siarad ag ef, daeth eunuchiaid y brenin a mynd â Haman ar frys i'r wledd a baratôdd Esther.

Crogi Haman

7:1 Felly aeth y brenin a Haman i wledda gyda'r Frenhines Esther.
7:2 Ac ar yr ail ddiwrnod, tra oeddent yn yfed gwin, dywedodd y brenin unwaith eto wrth Esther, "Frenhines Esther, beth yw dy ddymuniad? Fe'i cei. Beth bynnag a geisi, hyd hanner fy nheyrnas, fe'i cei."
7:3 Atebodd y Frenhines Esther, "Os cefais ffafr yn dy olwg, ac os gwêl y brenin yn dda, fy nghais a'm dymuniad yw fy mod i a'm pobl yn cael ein harbed.
7:4 Oherwydd yr wyf fi a'm pobl wedi ein gwerthu i'n dinistrio a'n lladd a'n difa. Pe baem wedi ein gwerthu'n gaethweision ac yn gaethferched, ni ddywedwn i ddim; oherwydd ni fyddai ein trafferthion ni i'w cymharu â cholled y brenin."
7:5 Dywedodd y Brenin Ahasferus wrth y Frenhines Esther, "Pwy yw'r un a feiddiodd wneud y fath beth, a pha le y mae?"
7:6 Meddai hithau, "Y gelyn a'r gwrthwynebwr yw'r Haman drwg hwn." Brawychwyd Haman yng ngŵydd y brenin a'r frenhines.
7:7 Cododd y brenin yn ei lid, a mynd o'r wledd i ardd y palas; ond arhosodd Haman i ymbil â'r Frenhines Esther am ei einioes, oherwydd gwelodd fod y brenin wedi penderfynu dial arno.
7:8 Pan ddych-welodd y brenin o'r ardd i'r lle yr oeddent yn gwledda, yr oedd Haman yn plygu wrth y gwely lle'r oedd Esther. Meddai'r brenin, "A yw hefyd am dreisio'r frenhines, a minnau yn y tŷ?" Cyn gynted ag y dywedodd y brenin hyn, gorchuddiwyd wyneb Haman.
7:9 Yna dywedodd Harbona, un o'r eunuchiaid oedd yn gweini ar y brenin, "Y mae'r crocbren hanner can cufydd o uchder, a wnaeth Haman ar gyfer Mordecai, y gŵr a achubodd y brenin â'i neges, yn sefyll ger tŷ Haman." Dywedodd y brenin, "Crogwch ef arno."
7:10 Felly crogwyd Haman ar y crocbren a baratôdd ar gyfer Mordecai. Yna lliniarodd llid y brenin.

Gwŷs y Brenin ynglŷn â'r Iddewon

8:1 Y diwrnod hwnnw rhoddodd y Brenin Ahasferus dŷ Haman, gelyn yr Iddewon, i'r Frenhines Esther; a daeth Mordecai i ŵydd y brenin, oherwydd yr oedd Esther wedi dweud wrtho pa berthynas oedd ef iddi.
8:2 Yna tynnodd y brenin ei fodrwy, a gymerodd yn ôl oddi ar Haman, a'i rhoi i Mordecai. Rhoddodd Esther dŷ Haman yng ngofal Mordecai.
8:3 Unwaith eto apeliodd Esther at y brenin a syrthio wrth ei draed. Wylodd ac erfyn arno rwystro'r drygioni a gynllwynodd Haman yr Agagiad yn erbyn yr Iddewon.
8:4 Estynnodd y brenin ei deyrnwialen aur at Esther, a chododd hithau a sefyll o'i flaen a dweud,
8:5 "Os gwêl y brenin yn dda, ac os cefais ffafr ganddo, a bod y mater yn dderbyniol ganddo, a minnau yn ei foddhau, anfoned wŷs i alw'n ôl y llythyrau a ysgrifennodd Haman fab Hammedatha yr Agagiad gyda'r bwriad o ddifa'r Iddewon sydd ym mhob un o daleithiau'r brenin.
8:6 Sut y gallaf edrych ar y trybini sy'n dod ar fy mhobl? Sut y gallaf oddef gweld dinistr fy nghenedl?"
8:7 Yna dywedodd y Brenin Ahasferus wrth y Frenhines Esther a Mordecai'r Iddew, "Yr wyf wedi rhoi tŷ Haman i Esther, a chrogwyd yntau ar grocbren am iddo ymosod ar yr Iddewon.
8:8 Yn awr ysgrifennwch chwi fel y mynnoch ynglŷn â'r Iddewon yn fy enw i, a selio'r ddogfen â'r sêl frenhinol, oherwydd ni ellir newid gwŷs a ysgrifennwyd yn enw'r brenin ac a seliwyd â'r sêl frenhinol."
8:9 Yna, ar y trydydd dydd ar hugain o'r trydydd mis, sef Sifan, galwyd ynghyd ysgrifenyddion y brenin. Ysgrifennwyd, yn union fel y gorchmynnodd Mordecai, at yr Iddewon, at bendefigion, rheolwyr a thywysogion y taleithiau o India i Ethiopia, cant dau ddeg a saith o daleithiau, pob talaith yn ei hysgrifen ei hun a phob cenedl yn ei hiaith ei hun, ac at yr Iddewon yn eu hysgrifen a'u hiaith hwythau.
8:10 Ysgrifennwyd y wŷs yn enw'r Brenin Ahasferus, a'i selio â'r sêl frenhinol. Anfonwyd llythyrau gyda negeswyr yn marchogaeth ar feirch cyflym wedi eu magu yn stablau'r brenin.
8:11 Ynddynt rhoddodd y brenin hawl i'r Iddewon oedd ym mhob dinas i ymgasglu a'u hamddiffyn eu hunain, ac i ddifa, lladd a dinistrio byddin unrhyw genedl neu dalaith a ymosodai arnynt, a'u plant a'u gwragedd, ac ysbeilio'u heiddo.
8:12 Yr oeddent i wneud hyn trwy holl daleithiau'r Brenin Ahasferus ar ddiwrnod penodedig, y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar.
8:13 Yr oedd copi o'r wŷs i'w anfon yn gyfraith i bob talaith, a'i ddangos i'r holl bobloedd, fel y byddai'r Iddewon yn barod y diwrnod hwnnw i ddial ar eu gelynion.
8:14 Felly aeth y negeswyr allan yn ddiymdroi, yn marchogaeth ar feirch cyflym y brenin; yr oeddent yn mynd ar frys ar orchymyn y brenin. Cyhoeddwyd y wŷs hefyd yn Susan y brifddinas.
8:15 Yna aeth Mordecai allan o ŵydd y brenin mewn gwisg frenhinol o las a gwyn, a chyda choron fawr o aur, a mantell o liain main a phorffor; ac yr oedd dinas Susan yn orfoleddus.
8:16 Daeth goleuni, llawenydd, hapusrwydd ac anrhydedd i ran yr Iddewon.
8:17 Ym mhob talaith a dinas lle daeth gair a gorchymyn y brenin, yr oedd yr Iddewon yn gwledda ac yn cadw gŵyl yn llawen a hapus. Ac yr oedd llawer o bobl y wlad yn honni mai Iddewon oeddent, am fod arnynt ofn yr Iddewon.

Dialedd yr Iddewon ar eu Gelynion

9:1 Ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar, daeth yr amser i gyflawni gair a gorchymyn y brenin. Trowyd y diwrnod, y gobeithiai gelynion yr Iddewon eu trechu arno, yn ddiwrnod i'r Iddewon drechu eu caseion.
9:2 Unodd yr Iddewon yn eu dinasoedd ym mhob un o daleithiau'r Brenin Ahasferus i ymosod ar y rhai oedd yn ceisio'u niweidio. Ni wrthwynebodd neb hwy, oherwydd yr oedd ar yr holl bobl eu hofn.
9:3 Cawsant eu cynorthwyo gan dywysogion y taleithiau, y pendefigion, y rheolwyr a gweision y brenin, am fod arnynt ofn Mordecai.
9:4 Oherwydd yr oedd Mordecai yn flaenllaw yn y palas ac yn adnabyddus drwy'r holl daleithiau, ac yr oedd yn ennill mwy a mwy o rym.
9:5 Trawodd yr Iddewon eu holl elynion â'r cleddyf, a'u lladd a'u difa; a gwnaethant fel y mynnent â'u caseion.
9:6 Yn Susan y brifddinas yr oeddent wedi llofruddio a lladd pum cant o bobl,
9:7 yn cynnwys Parsandatha, Dalffon, Aspatha,
9:8 Poratha, Adaleia, Aridatha,
9:9 Parmasta, Arisai, Aridai, Bajesatha,
9:10 sef deg mab Haman fab Hammedatha, gelyn yr Iddewon. Lladdodd yr Iddewon y rhain, ond heb gyffwrdd â'r ysbail.
9:11 Y diwrnod hwnnw, pan glywodd y brenin faint a laddwyd yn Susan y brifddinas,
9:12 dywedodd wrth y Frenhines Esther, "Y mae'r Iddewon wedi lladd pum cant o bobl a deg mab Haman yn Susan y brifddinas. Beth a wnaethant yn y gweddill o daleithiau'r brenin? Yn awr, beth a fynni? Fe'i cei. Os oes gennyt unrhyw ddymuniad arall, fe'i gwneir."
9:13 Meddai Esther, "Os gwêl y brenin yn dda, rhodder caniatâd i'r Iddewon sydd yn Susan i weithredu yfory hefyd yn ôl y wŷs a gyhoeddir heddiw, a chroger deg mab Haman ar y crocbren."
9:14 Gorchmynnodd y brenin i hyn gael ei wneud, a chyhoeddwyd y wŷs yn Susan, a chrogwyd deg mab Haman.
9:15 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar ymunodd yr Iddewon oedd yn Susan i ladd tri chant o bobl yn Susan, ond heb gyffwrdd â'r ysbail.
9:16 Yr oedd yr Iddewon yn nhaleithiau'r brenin wedi ymuno i'w hamddiffyn eu hunain, er mwyn cael llonydd gan eu gelynion; yr oeddent wedi lladd saith deg a phump o filoedd o'u caseion, ond heb gyffwrdd â'r ysbail.
9:17 Digwyddodd hyn ar y trydydd dydd ar ddeg o fis Adar; peidiasant ar y pedwerydd dydd ar ddeg, a gwnaethant hwnnw'n ddydd o wledd a llawenydd.
9:18 Yr oedd Iddewon Susan wedi ymgasglu ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis, a'r pedwerydd ar ddeg, ac wedi peidio ar y pymthegfed dydd; felly cadwasant hwy hwnnw yn ddydd o wledd a llawenydd.
9:19 Dyna pam y mae'r Iddewon sy'n byw mewn pentrefi yn y wlad yn cadw'r pedwerydd ar ddeg o fis Adar yn ddydd o wledd a llawenydd a gŵyl, ac yn anfon anrhegion i'w gilydd.

Dathlu'r Pwrim

9:20 Rhoddodd Mordecai y pethau hyn ar gof a chadw, ac anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon ym mhob un o daleithiau'r Brenin Ahasferus, ymhell ac agos,
9:21 yn galw arnynt i gadw'r pedwerydd ar ddeg a'r pymthegfed o fis Adar bob blwyddyn
9:22 fel y dyddiau pan gafodd yr Iddewon lonydd gan eu gelynion, a'r mis pan drowyd eu tristwch yn llawenydd a'u galar yn ŵyl. Yr oeddent i'w cadw'n ddyddiau o wledd a llawenydd, a phawb yn anfon anrhegion i'w gilydd ac i'r tlodion.
9:23 Cytunodd yr Iddewon i wneud fel yr oeddent wedi dechrau, ac yn ôl yr hyn a ysgrifennodd Mordecai atynt.
9:24 Gwnaethant hyn am fod Haman fab Hammedatha yr Agagiad, gelyn yr Iddewon, wedi cynllwyn i'w dinistrio, ac wedi bwrw Pwr, hynny yw coelbren, i'w difa a'u dinistrio.
9:25 Ond pan ddaeth hyn i sylw'r brenin, gorchmynnodd mewn llythyr fod cynllwyn drwg Haman yn erbyn yr Iddewon i ddychwelyd ar ei ben ef ei hun; felly crogwyd ef a'i feibion ar grocbren.
9:26 Am hynny galwyd y dyddiau hyn yn Pwrim, o'r enw Pwr. Oherwydd yr holl eiriau a ysgrifennwyd yn y llythyr hwn, ac oherwydd yr hyn a welsant ac a glywsant ynglŷn â'r mater,
9:27 addawodd ac ymrwymodd yr Iddewon, ar eu rhan eu hunain, a'u plant a phawb oedd yn ymuno â hwy, i gadw'r ddau ddiwrnod hyn bob blwyddyn mewn modd arbennig ac ar amser penodedig.
9:28 Addawsant gofio a chadw'r dyddiau hynny ym mhob cenhedlaeth, teulu, talaith a dinas, fel na fyddai'r Iddewon yn anwybyddu dyddiau Pwrim, na'u plant yn anghofio amdanynt.
9:29 Yna ysgrifennodd y Frenhines Esther ferch Abihail, a Mordecai'r Iddew, ag awdurdod llawn i gadarnhau'r ail lythyr hwn ynglŷn â Pwrim.
9:30 Anfonwyd llythyrau i'r holl Iddewon yn y cant dau ddeg a saith o daleithiau teyrnas Ahasferus, yn dymuno iddynt heddwch a diogelwch,
9:31 ac yn eu cymell i gadw dyddiau Pwrim yn eu hamser priodol, yn ôl gorchymyn Mordecai'r Iddew a'r Frenhines Esther, ac fel yr oeddent hwy wedi ymrwymo ar eu rhan eu hunain a'u plant ynglŷn ag amserau ympryd a galar.
9:32 Cadarnhaodd gorchymyn Esther y rheolau hyn ar gyfer Pwrim, ac fe'u rhoddwyd ar gof a chadw.

Grym y Brenin a Mordecai

10:1 Gosododd y Brenin Ahasferus dreth ar yr ymerodraeth ac ar ynysoedd y môr.
10:2 Ac am weithredoedd nerthol a grymus y brenin, a'r modd yr anrhydeddodd Mordecai, onid yw'r hanes wedi ei ysgrifennu yn llyfr cronicl brenhinoedd Media a Persia?
10:3 Oherwydd Mordecai'r Iddew oedd y nesaf at y Brenin Ahasferus; yr oedd yn fawr ymysg yr Iddewon ac yn gymeradwy gan lawer iawn o'i frodyr, am ei fod yn ceisio gwneud lles i'w bobl ac yn hyrwyddo ffyniant ei holl genedl.