LLYFR JOB

Satan yn Profi Job

1:1 Yr oedd gŵr yng ngwlad Us o'r enw Job, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg.
1:2 Ganwyd iddo saith mab a thair merch,
1:3 ac yr oedd ganddo saith mil o ddefaid, tair mil o gamelod, pum can iau o ychen, pum cant o asennod, a llawer iawn o weision. Y gŵr hwn oedd y mwyaf o holl bobl y Dwyrain.
1:4 Arferai ei feibion fynd i gartrefi ei gilydd i gynnal gwledd, pob un yn ei dro, ac anfonent wahoddiad i'w tair chwaer i fwyta ac yfed gyda hwy.
1:5 Yna pan ddôi cylch y gwledda i ben, anfonai Job amdanynt i'w puro; codai'n fore i offrymu poethoffrymau, un dros bob un ohonynt, oherwydd meddyliai, "Efallai fod fy meibion wedi pechu a melltithio Duw yn eu calonnau." Fel hyn y gwnâi Job yn gyson.
1:6 Daeth y dydd i'r bodau nefol ymddangos o flaen yr ARGLWYDD, a daeth Satan hefyd gyda hwy.
1:7 Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, "O ble y daethost ti?" Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, "O fynd yma ac acw hyd y ddaear a thramwyo drosti."
1:8 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, "A sylwaist ar fy ngwas Job? Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg."
1:9 Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, "Ai'n ddiachos y mae Job yn ofni Duw?
1:10 Oni warchodaist drosto ef a'i deulu a'i holl eiddo? Bendithiaist ei waith, a chynyddodd ei dda yn y tir.
1:11 Ond estyn di dy law i gyffwrdd â dim o'i eiddo; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb."
1:12 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, "Wele'r cyfan sydd ganddo yn dy law di, ond iti beidio â chyffwrdd ag ef ei hun." Ac aeth Satan allan o ŵydd yr ARGLWYDD.

Job yn Colli ei Blant a'i Gyfoeth

1:13 Un diwrnod, pan oedd ei feibion a'i ferched yn bwyta ac yn yfed yn nhŷ eu brawd hynaf,
1:14 daeth cennad at Job a dweud, "Pan oedd yr ychen yn aredig a'r asennod yn pori gerllaw,
1:15 daeth y Sabeaid ar eu gwarthaf a'u cipio, a tharo'r gweision â chleddyf; a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti."
1:16 Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, "Disgynnodd tân mawr o'r nefoedd ac ysu'r defaid a'r gweision a'u difa'n llwyr, a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti."
1:17 Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, "Daeth y Caldeaid yn dair mintai, ac ymosod ar y camelod a'u cipio, a tharo'r gweision â chleddyf, a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti."
1:18 Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, "Yr oedd dy feibion a'th ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf,
1:19 a daeth gwynt nerthol dros yr anialwch a tharo pedair congl y tŷ, a syrthiodd ar y bobl ifainc, a buont farw; a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti."
1:20 Yna cododd Job a rhwygodd ei fantell, eilliodd ei ben, a syrthiodd ar y ddaear ac ymgrymu
1:21 a dweud, "Yn noeth y deuthum o groth fy mam, ac yn noeth y dychwelaf yno. Yr ARGLWYDD a roddodd, a'r ARGLWYDD a ddygodd ymaith. Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDD."
1:22 Yn hyn i gyd ni phechodd Job, na gweld bai ar Dduw.

Satan yn Profi Job Eto

2:1 Unwaith eto daeth y dydd i'r bodau nefol ymddangos o flaen yr ARGLWYDD, a daeth Satan hefyd gyda hwy.
2:2 Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, "O ble y daethost ti?" Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, "O fynd yma ac acw hyd y ddaear a thramwyo drosti."
2:3 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, "A sylwaist ti ar fy ngwas Job? Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg. Y mae'n dal i lynu wrth ei uniondeb, er i ti fy annog i'w ddifetha'n ddiachos."
2:4 Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, "Croen am groen! Fe rydd dyn y cyfan sydd ganddo am ei einioes.
2:5 Ond estyn di dy law a chyffwrdd â'i esgyrn a'i gnawd; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb."
2:6 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, "Wele ef yn dy law; yn unig arbed ei einioes."
2:7 Ac aeth Satan allan o ŵydd yr ARGLWYDD. Trawyd Job â chornwydydd blin o wadn ei droed i'w gorun,
2:8 a chymerodd ddarn o lestr pridd i'w grafu ei hun, ac eisteddodd ar y domen ludw.
2:9 Dywedodd ei wraig wrtho, "A wyt am barhau i lynu wrth d'uniondeb? Melltithia Dduw a bydd farw."
2:10 Ond dywedodd ef wrthi, "Yr wyt yn llefaru fel dynes ffôl; os derbyniwn dda gan Dduw, oni dderbyniwn ddrwg hefyd?" Yn hyn i gyd ni phechodd Job â gair o'i enau.

Cyfeillion Job yn Dod i'w Gysuro

2:11 Yna clywodd tri chyfaill Job am y cystudd trwm a ddaeth arno. Daeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, pob un o'i le ei hun, a chytuno â'i gilydd i ddod i gydymdeimlo ag ef a'i gysuro.
2:12 Pan welsant ef o'r pellter, nid oeddent yn ei adnabod; yna wylasant yn uchel a rhwygo'u dillad a thaflu llwch dros eu pennau i'r awyr.
2:13 Eisteddasant ar y llawr gydag ef am saith diwrnod a saith nos. Ni ddywedodd yr un ohonynt air wrtho, am eu bod yn gweld fod ei boen yn fawr.

Cwynfan Job

3:1 Wedi hyn dechreuodd Job siarad a melltithio dydd ei eni.
3:2 Meddai Job:
3:3 "Difoder y dydd y'm ganwyd, a'r nos y dywedwyd, 'Cenhedlwyd bachgen'.
3:4 Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch; na chyfrifer ef gan Dduw oddi uchod, ac na lewyrched goleuni arno.
3:5 Cuddier ef gan dywyllwch a'r fagddu; arhosed cwmwl arno a gorlether ef gan ddüwch y dydd.
3:6 Cymered y gwyll feddiant o'r nos honno; na chyfrifer hi ymhlith dyddiau'r flwyddyn, ac na ddoed i blith nifer y misoedd.
3:7 Wele'r nos honno, bydded ddiffrwyth, heb sŵn gorfoledd ynddi.
3:8 Melltithier hi gan y rhai sy'n melltithio'r dyddiau, y rhai sy'n medru cyffroi'r lefiathan.
3:9 Tywylled sêr ei chyfddydd, disgwylied am oleuni heb ei gael, ac na weled doriad gwawr,
3:10 am na chaeodd ddrysau croth fy mam, na chuddio gofid o'm golwg.
3:11 Pam na fûm farw yn y groth, neu drengi pan ddeuthum allan o'r bru?
3:12 Pam y derbyniodd gliniau fi, ac y rhoddodd bronnau sugn i mi?
3:13 Yna, byddwn yn awr yn gorwedd yn llonydd, yn cysgu'n dawel ac yn cael gorffwys,
3:14 gyda brenhinoedd a chynghorwyr daear, a fu'n adfer adfeilion iddynt eu hunain,
3:15 neu gyda thywysogion goludog, a lanwodd eu tai ag arian,
3:16 neu heb fyw, fel erthyl a guddiwyd, fel babanod na welsant oleuni.
3:17 Yno, peidia'r drygionus â therfysgu, a chaiff y lluddedig orffwys.
3:18 Hefyd caiff y carcharorion lonyddwch; ni chlywant lais y meistri gwaith.
3:19 Bychan a mawr sydd yno, a'r caethwas yn rhydd oddi wrth ei feistr.
3:20 Pam y rhoddir goleuni i'r gorthrymedig a bywyd i'r chwerw ei ysbryd,
3:21 sy'n dyheu am farwolaeth, heb iddi ddod, sy'n cloddio amdani yn fwy nag am drysor cudd,
3:22 sy'n llawenychu pan gaiff feddrod, ac yn gorfoleddu pan gaiff fedd?
3:23 "Ond am ddyn, cuddiwyd ei ffordd, a chaeodd Duw amdano.
3:24 Daw fy ochenaid o flaen fy mwyd, a thywelltir fy ngriddfan fel dyfroedd.
3:25 Y peth a ofnaf a ddaw arnaf, a'r hyn yr arswydaf rhagddo a ddaw imi.
3:26 Nid oes imi dawelwch na llonyddwch; ni chaf orffwys, canys daw dychryn."

Y Cylch Areithio Cyntaf 4:1—14:22

4:1 Yna atebodd Eliffas y Temaniad:
4:2 "Os mentra rhywun lefaru wrthyt, a golli di dy amynedd? Eto pwy a all atal geiriau?
4:3 Wele, buost yn cynghori llawer ac yn nerthu'r llesg eu dwylo;
4:4 cynhaliodd dy eiriau'r rhai sigledig, a chadarnhau'r gliniau gwan.
4:5 Ond yn awr daeth adfyd arnat ti, a chymeraist dramgwydd; cyffyrddodd â thi, ac yr wyt mewn helbul.
4:6 Onid yw dy dduwioldeb yn hyder i ti, ac uniondeb dy fywyd yn obaith?
4:7 Ystyria'n awr, pwy sydd wedi ei ddifetha ac yntau'n ddieuog, a phwy o'r uniawn sydd wedi ei dorri i lawr?
4:8 Fel hyn y gwelais i: y rhai sy'n aredig helbul ac yn hau gorthrymder, hwy sy'n ei fedi.
4:9 Difethir hwy gan anadl Duw, a darfyddant wrth chwythiad ei ffroenau.
4:10 Peidia rhu'r llew a llais y llew cryf; pydra dannedd y llewod ifanc.
4:11 Bydd farw'r hen lew o eisiau ysglyfaeth, a gwneir yn amddifad genawon y llewes.
4:12 "Daeth gair ataf fi yn ddirgel; daliodd fy nghlust sibrwd ohono
4:13 yn y cynnwrf a ddaw gyda gweledigaethau'r nos, pan ddaw trymgwsg ar bawb.
4:14 Daeth dychryn a chryndod arnaf, a chynhyrfu fy holl esgyrn.
4:15 Llithrodd awel heibio i'm hwyneb, a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.
4:16 Safodd yn llonydd, ond ni allwn ddirnad beth oedd; yr oedd ffurf o flaen fy llygaid; bu distawrwydd, yna clywais lais:
4:17 'A yw meidrol yn fwy cyfiawn na Duw, ac yn burach na'i Wneuthurwr?
4:18 Os nad yw Duw'n ymddiried yn ei weision, ac os yw'n cyhuddo'i angylion o gamwedd,
4:19 beth, ynteu, am y rhai sy'n trigo mewn tai o glai, a'u sylfeini mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?
4:20 Torrir hwy i lawr rhwng bore a hwyr, llwyr ddifethir hwy, heb neb yn sylwi.
4:21 Pan ddatodir llinyn eu pabell, oni fyddant farw heb ddoethineb?'
5:1 "Galw'n awr; a oes rhywun a'th etyb? At ba un o'r rhai sanctaidd y gelli droi?
5:2 Y mae dicter yn lladd yr ynfyd, a chenfigen yn dwyn angau i'r ffôl.
5:3 Gwelais yr ynfyd yn magu gwraidd, ond ar fyrder melltithiwyd ei drigfan;
5:4 ac aeth ei blant y tu hwnt i ymwared, wedi eu sathru yn y porth, heb neb i'w hachub.
5:5 Y mae'r newynog yn bwyta'i gynhaeaf ef, ac yn ei gymryd hyd yn oed o blith y drain; ac y mae'r sychedig yn dyheu am eu cyfoeth.
5:6 Canys nid o'r pridd y daw gofid, nac o'r ddaear orthrymder;
5:7 ond genir dynion i orthrymder, cyn sicred ag y tasga'r gwreichion.
5:8 "Ond myfi, ceisio Duw a wnawn i, a gosod fy achos o'i flaen ef,
5:9 yr un a gyflawna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy, rhyfeddodau dirifedi.
5:10 Ef sy'n tywallt y glaw ar y ddaear, a'r dyfroedd ar y meysydd.
5:11 Y mae'n codi'r rhai isel i fyny, a dyrchefir y galarwyr i ddiogelwch.
5:12 Y mae'n diddymu cynllwynion y cyfrwys; ni all eu dwylo wneud dim o fudd.
5:13 Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra, a buan y diflanna cynllun y dichellgar.
5:14 Brwydrant â thywyllwch hyd yn oed liw dydd, ac ymbalfalant ganol dydd fel yn y nos.
5:15 Ond gwared ef yr anghenus o'u gafael, a'r truan o afael y cryf.
5:16 Am hynny y mae gobaith i'r tlawd, ac anghyfiawnder yn cau ei safn.
5:17 "Dedwydd y sawl a gerydda Duw, ac na wrthyd ddisgyblaeth yr Hollalluog.
5:18 Ef a ddoluria, ac ef hefyd a rwyma'r dolur; ef a archolla, ond rhydd ei ddwylo feddyginiaeth.
5:19 Fe'th wared di rhag chwe chyfyngder; ac mewn saith, ni ddaw drwg arnat.
5:20 Fe'th achub di rhag marw mewn newyn, a rhag y cleddyf mewn brwydr.
5:21 Cei loches rhag ffrewyll y tafod, ac nid ofni'r dinistr pan ddaw.
5:22 Chwerddi ar ddinistr a newyn, ac ni'th ddychrynir gan fwystfil gwyllt.
5:23 Byddi mewn cynghrair â cherrig y tir, a bydd y bwystfil gwyllt mewn heddwch â thi.
5:24 Yna gweli fod dy babell yn ddiogel, a phan rifi dy ddiadell, ni bydd un ar goll.
5:25 Canfyddi hefyd mai niferus yw dy dylwyth, a'th epil fel gwellt y maes.
5:26 Ei i'r bedd mewn henaint teg, fel y cesglir ysgub yn ei phryd.
5:27  Chwiliasom hyn yn ddyfal, ac y mae'n wir; gwrando dithau arno, a deall drosot dy hun."
6:1 Atebodd Job:
6:2 "O na ellid pwyso fy nhrallod, a gosod fy aflwydd i gyd mewn clorian!
6:3 Yna byddai'n drymach na thywod y môr; am hyn y bu fy ngeiriau yn fyrbwyll.
6:4 Y mae saethau'r Hollalluog ynof; yfodd fy ysbryd eu gwenwyn; dychryn Duw sy'n gwarchae amdanaf.
6:5 A yw'r asyn gwyllt yn nadu uwchben glaswellt? A yw'r ych yn brefu uwchben ei borthiant?
6:6 A fwyteir yr hyn sydd ddi-flas heb halen? A oes blas ar sudd y malws?
6:7 Y mae fy stumog yn eu gwrthod; y maent fel pydredd fy nghnawd.
6:8 "O na ddôi fy nymuniad i ben, ac na chyflawnai Duw fy ngobaith!
6:9 O na ryngai fodd i Dduw fy nharo, ac estyn ei law i'm torri i lawr!
6:10 Byddai o hyd yn gysur imi, a llawenhawn yn yr ing diarbed (nid wyf yn gwadu geiriau'r Sanct).
6:11 Pa nerth sydd gennyf i obeithio, a beth fydd fy niwedd, fel y byddwn yn amyneddgar?
6:12 Ai nerth cerrig yw fy nerth? Ai pres yw fy nghnawd?
6:13 Wele, nid oes imi gymorth ynof, a gyrrwyd llwyddiant oddi wrthyf.
6:14 Daw teyrngarwch ei gyfaill i'r claf, er iddo gefnu ar ofn yr Hollalluog.
6:15 Twyllodd fy mrodyr fi fel ffrwd ysbeidiol; fel nentydd sy'n gorlifo,
6:16 yn dywyll gan rew, ac eira yn cuddio ynddynt.
6:17 Ond pan ddaw poethder fe beidiant, ac yn y gwres diflannant o'u lle.
6:18 Troella'r carafanau yn eu ffyrdd, crwydrant i'r diffeithle, a chollir hwy.
6:19 Y mae carafanau Tema yn edrych amdanynt, a marsiandïwyr Sheba yn disgwyl wrthynt.
6:20 Cywilyddir hwy yn eu hyder; dônt atynt, ac fe'u siomir.
6:21 Felly yr ydych chwithau i mi; gwelwch drychineb, a dychrynwch.
6:22 A ddywedais o gwbl, 'Rhowch imi, ac estynnwch rodd drosof o'ch cyfoeth;
6:23 achubwch fi o afael y gelyn, a rhyddhewch fi o afael gormeswyr'?
6:24 "Hyfforddwch fi, a thawaf; a dangoswch imi sut y cyfeiliornais.
6:25 Mor ddiflas yw geiriau uniawn! Pa gerydd sydd yng ngherydd un ohonoch chwi?
6:26 A ydych yn credu y gallwch geryddu geiriau, gan fod ymadroddion y diobaith yn wynt?
6:27 A fwriech goelbren am yr amddifad, a tharo bargen am un o'ch cyfeillion?
6:28 Ond yn awr, bodlonwch i droi ataf; ai celwydd a ddywedaf yn eich gŵydd?
6:29 Trowch; na foed anghyfiawnder. Trowch eto; ar hyn y saif fy nghyfiawnhad.
6:30 A oes anghyfiawnder ar fy nhafod? Onid yw taflod fy ngenau yn adnabod cam flas?
7:1 "Onid llafur caled sydd i ddyn ar y ddaear, a'i ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog?
7:2 Fel caethwas yn dyheu am gysgod, a gwas yn disgwyl am ei dâl,
7:3 felly y daeth misoedd ofer i'm rhan innau, a threfnwyd imi nosweithiau gofidus.
7:4 Pan orweddaf, dywedaf, 'Pa bryd y caf godi?' Y mae'r nos yn hir, a byddaf yn blino yn troi a throsi hyd doriad gwawr.
7:5 Gorchuddiwyd fy nghnawd gan bryfed a budreddi; crawniodd fy nghroen, ac yna torri allan.
7:6 Y mae fy nyddiau'n gyflymach na gwennol gwehydd; darfyddant fel edafedd yn dirwyn i ben.
7:7 "Cofia mai awel o wynt yw fy hoedl; ni wêl fy llygaid ddaioni eto.
7:8 Y llygad sy'n edrych arnaf, ni'm gwêl; ar amrantiad ni fyddaf ar gael iti.
7:9 Fel y cilia'r cwmwl a diflannu, felly'r sawl sy'n mynd i Sheol, ni ddychwel oddi yno;
7:10 ni ddaw eto i'w gartref, ac nid edwyn ei le mohono mwy.
7:11 "Ond myfi, nid ataliaf fy ngeiriau; llefaraf yng nghyfyngder fy ysbryd, cwynaf yn chwerwder fy enaid.
7:12 Ai'r môr ydwyf, neu'r ddraig, gan dy fod yn gosod gwyliwr arnaf?
7:13 "Pan ddywedaf, 'Fy ngwely a rydd gysur imi; fy ngorweddfa a liniara fy nghwyn',
7:14 yr wyt yn fy nychryn â breuddwydion, ac yn f'arswydo â gweledigaethau.
7:15 Gwell fyddai gennyf fy nhagu, a marw yn hytrach na goddef fy mhoen.
7:16 Rwy'n ddiobaith; ni ddymunaf fyw am amser maith. Gad lonydd imi, canys y mae fy nyddiau fel anadl.
7:17 Beth yw meidrolyn i ti ei ystyried, ac iti roi cymaint o sylw iddo?
7:18 Yr wyt yn ymweld ag ef bob bore, ac yn ei brofi bob eiliad.
7:19 Pa bryd y peidi ag edrych arnaf, ac y rhoi lonydd imi lyncu fy mhoeri?
7:20 Os pechais, beth a wneuthum i ti, O wyliwr dynolryw? Pam y cymeraist fi'n nod, nes fy mod yn faich i mi fy hun?
7:21 Pam na faddeui fy nhrosedd a symud fy mai? Yn awr rwy'n gorwedd yn y llwch, ac er i ti chwilio amdanaf, ni fyddaf ar gael."
8:1 Yna atebodd Bildad y Suhiad:
8:2 "Am ba hyd y lleferi fel hyn, a chymaint o ymffrost yn dy eiriau?
8:3 A yw Duw yn gwyrdroi barn? A yw'r Hollalluog yn gwyro cyfiawnder?
8:4 Pan bechodd dy feibion yn ei erbyn, fe'u trosglwyddodd i afael eu trosedd.
8:5 Os ceisi di Dduw yn ddyfal, ac ymbil ar yr Hollalluog,
8:6 ac os wyt yn bur ac uniawn, yna fe wylia ef drosot, a'th adfer i'th safle o gyfiawnder.
8:7 Pe byddai dy ddechreuad yn fychan, byddai dy ddiwedd yn fawr.
8:8 "Yn awr gofyn i'r oes a fu, ac ystyria'r hyn a ganfu'r hynafiaid.
8:9 Canys nid ydym ni ond er doe, ac anwybodus ŷm, a chysgod yw ein dyddiau ar y ddaear.
8:10 Oni fyddant hwy'n dy hyfforddi, a mynegi wrthyt, a rhoi atebion deallus?
8:11 A dyf brwyn lle nad oes cors? A ffynna hesg heb ddŵr?
8:12 Er eu bod yn ir a heb eu torri, eto gwywant yn gynt na'r holl blanhigion.
8:13 Felly y mae tynged yr holl rai sy'n anghofio Duw, ac y derfydd gobaith yr annuwiol.
8:14 Edau frau yw ei hyder, a'i ymffrost fel gwe'r pryf copyn.
8:15 Pwysa ar ei dŷ, ond ni saif; cydia ynddo, ond ni ddeil.
8:16 Bydd yn ir yn llygad yr haul, yn estyn ei frigau dros yr ardd;
8:17 ymbletha'i wraidd dros y pentwr cerrig, a daw i'r golwg rhwng y meini.
8:18 Ond os diwreiddir ef o'i le, fe'i gwedir: 'Ni welais di'.
8:19 Gwywo felly yw ei natur; ac yna tyf un arall o'r pridd.
8:20 "Wele, ni wrthyd Duw yr uniawn, ac ni chydia yn llaw y drygionus.
8:21 Lleinw eto dy enau â chwerthin, a'th wefusau â gorfoledd.
8:22 Gwisgir dy elynion â gwarth, a diflanna pabell y drygionus."
9:1 Atebodd Job:
9:2 "Gwn yn sicr fod hyn yn wir, na all neb ei gyfiawnhau ei hun gyda Duw.
9:3 Os myn ymryson ag ef, nid etyb ef unwaith mewn mil.
9:4 Y mae'n ddoeth a chryf; pwy a ystyfnigodd yn ei erbyn yn llwyddiannus?
9:5 Y mae'n symud mynyddoedd heb iddynt wybod, ac yn eu dymchwel yn ei lid.
9:6 Y mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle, a chryna'i cholofnau.
9:7 Y mae'n gorchymyn i'r haul beidio â chodi, ac yn gosod sêl ar y sêr.
9:8 Taenodd y nefoedd ei hunan, a sathrodd grib y môr.
9:9 Creodd yr Arth ac Orion, Pleiades a chylch Sêr y De.
9:10 Gwna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy, a rhyfeddodau dirifedi.
9:11 "Pan â heibio imi, nis gwelaf, a diflanna heb i mi ddirnad.
9:12 Os cipia, pwy a'i rhwystra? Pwy a ddywed wrtho, 'Beth a wnei?'?
9:13 Ni thry Duw ei lid ymaith; ymgreinia cynorthwywyr Rahab wrth ei draed.
9:14 Pa faint llai yr atebwn i ef, a dadlau gair am air ag ef?
9:15 Hyd yn oed pe byddwn gyfiawn, ni'm hatebid, dim ond ymbil am drugaredd gan fy marnwr.
9:16 Pe gwysiwn ef ac yntau'n ateb, ni chredwn y gwrandawai arnaf.
9:17 Canys heb reswm y mae'n fy nryllio, ac yn amlhau f'archollion yn ddiachos.
9:18 Nid yw'n rhoi cyfle imi gymryd fy anadl, ond y mae'n fy llenwi â chwerwder.
9:19 "Os cryfder a geisir, wele ef yn gryf; os barn, pwy a'i geilw i drefn?
9:20 Pe bawn gyfiawn, condemniai fi â'm geiriau fy hun; pe bawn ddi-fai, dangosai imi gyfeiliorni.
9:21 Di-fai wyf, ond nid wyf yn malio amdanaf fy hun; yr wyf yn ffieiddio fy mywyd.
9:22 Yr un dynged sydd i bawb; am hynny dywedaf ei fod ef yn difetha'r di-fai a'r drygionus.
9:23 Os dinistr a ladd yn ddisymwth, fe chwardd am drallod y diniwed.
9:24 Os rhoddir gwlad yng ngafael y drygionus, fe daena orchudd tros wyneb ei barnwyr. Os nad ef, pwy yw?
9:25 "Y mae fy nyddiau'n gyflymach na rhedwr; y maent yn diflannu heb weld daioni.
9:26 Y maent yn gwibio fel llongau o frwyn, fel eryr yn disgyn ar gelain.
9:27 Os dywedaf, 'Anghofiaf fy nghwyn, newidiaf fy mhryd a byddaf lawen',
9:28 eto arswydaf rhag fy holl ofidiau; gwn na'm hystyri'n ddieuog.
9:29 A bwrw fy mod yn euog, pam y llafuriaf yn ofer?
9:30 Os ymolchaf â sebon, a golchi fy nwylo â soda,
9:31 yna tefli fi i'r ffos, a gwna fy nillad fi'n ffiaidd.
9:32 "Nid dyn yw ef fel fi, fel y gallaf ei ateb, ac y gallwn ddod ynghyd i ymgyfreithio.
9:33 O na fyddai un i dorri'r ddadl rhyngom, ac i osod ei law arnom ein dau,
9:34 fel y symudai ei wialen oddi arnaf, ac fel na'm dychrynid gan ei arswyd!
9:35 Yna llefarwn yn eofn. Ond nid felly y caf fy hun.
10:1 "Yr wyf wedi alaru ar fy mywyd; rhoddaf ryddid i'm cwyn, llefaraf o chwerwedd fy ysbryd.
10:2 Dywedaf wrth Dduw, 'Paid â'm collfarnu i; dangos imi pam y dadleui â mi.
10:3 Ai da yw i ti orthrymu, a throi heibio lafur dy ddwylo, a ffafrio cyngor y drygionus?
10:4 Ai llygaid o gnawd sydd gennyt, neu a weli di fel y gwêl y meidrol?
10:5 A yw dy ddyddiau fel dyddiau dyn, a'th flynyddoedd fel blynyddoedd gŵr?
10:6 Oherwydd yr wyt ti'n ceisio fy nghamwedd, ac yn chwilio am fy mhechod,
10:7 a thithau'n gwybod nad wyf yn euog, ac nad oes a'm gwared o'th law.
10:8 "'Dy ddwylo a'm lluniodd ac a'm creodd, ond yn awr yr wyt yn troi i'm difetha.
10:9 Cofia iti fy llunio fel clai, ac eto i'r pridd y'm dychweli.
10:10 Oni thywelltaist fi fel llaeth, a'm ceulo fel caws?
10:11 Rhoist imi groen a chnawd, a phlethaist fi o esgyrn a gïau.
10:12 Rhoist imi fywyd a daioni, a diogelodd dy ofal fy einioes.
10:13 Ond cuddiaist y rhain yn dy galon; gwn mai dyna dy fwriad.
10:14 Os pechaf, byddi'n sylwi arnaf, ac ni'm rhyddhei o'm camwedd.
10:15 Os wyf yn euog, gwae fi, ac os wyf yn ddieuog, ni chaf godi fy mhen. Yr wyf yn llawn o warth ac yn llwythog gan flinder.
10:16 Os ymffrostiaf, yr wyt fel llew yn fy hela, ac yn parhau dy orchestion yn f'erbyn.
10:17 Yr wyt yn dwyn cyrch ar gyrch arnaf, ac yn cynyddu dy lid ataf, ac yn gosod dy luoedd yn f'erbyn.
10:18 "'Pam y dygaist fi allan o'r groth? O na fuaswn farw cyn i lygad fy ngweld!
10:19 O na fyddwn fel un heb fod, yn cael fy nwyn o'r groth i'r bedd!
10:20 Onid prin yw dyddiau fy rhawd? Tro oddi wrthyf, imi gael ychydig lawenydd
10:21 cyn imi fynd i'r lle na ddychwelaf ohono, i dir tywyllwch a'r fagddu,
10:22 tir y tywyllwch dudew, y gwyll a'r fagddu, goleuni fel y tywyllwch.'"
11:1 Atebodd Soffar y Naamathiad:
11:2 "Oni ddylid ateb y pentyrru hwn ar eiriau? A gyfiawnheir rhywun siaradus?
11:3 A wneir pawb yn fud gan dy faldorddi? A gei di watwar heb neb i'th geryddu?
11:4 Dywedaist, 'Y mae f'athrawiaeth yn bur, a dilychwin wyf yn d'olwg.'
11:5 O na lefarai Duw, ac agor ei wefusau i siarad â thi,
11:6 a hysbysu iti gyfrinachau doethineb, a bod dwy ochr i ddeall! Yna gwybydd fod Duw yn anghofio peth o'th gamwedd.
11:7 A elli di ddarganfod dirgelwch Duw, neu gyrraedd at gyflawnder yr Hollalluog?
11:8 Y mae'n uwch na'r nefoedd. Beth a wnei di? Y mae'n is na Sheol. Beth a wyddost ti?
11:9 Y mae ei fesur yn hwy na'r ddaear, ac yn ehangach na'r môr.
11:10 "Os daw ef heibio, i garcharu neu i alw llys barn, pwy a'i rhwystra?
11:11 Oherwydd y mae ef yn adnabod pobl dwyllodrus, a phan wêl ddrygioni, onid yw'n sylwi arno?
11:12 A ddaw'r dwl yn ddeallus — asyn gwyllt yn cael ei eni'n ddyn?
11:13 "Os cyfeiri dy feddwl yn iawn, fe estynni dy ddwylo tuag ato;
11:14 ac os oes drygioni ynot, bwrw ef ymhell oddi wrthyt, ac na thriged anghyfiawnder yn dy bebyll;
11:15 yna gelli godi dy olwg heb gywilydd, a byddi'n gadarn a di-ofn.
11:16 Fe anghofi orthrymder; fel dŵr a giliodd y cofi amdano.
11:17 Bydd gyrfa bywyd yn oleuach na chanol dydd, a'r gwyll fel boreddydd.
11:18 Byddi'n hyderus am fod gobaith, ac wedi edrych o'th gwmpas, fe orweddi'n ddiogel.
11:19 Fe orffwysi heb neb i'th ddychryn; a bydd llawer yn ceisio dy ffafr.
11:20 Palla llygaid y drygionus, diflanna ymwared oddi wrthynt, a'u gobaith yw'r anadl olaf."
12:1 Atebodd Job:
12:2 "Yn wir, chwi yw'r bobl, a chyda chwi y derfydd doethineb!
12:3 Ond y mae gennyf finnau ddeall fel chwithau, ac nid wyf yn salach na chwi; yn wir, pwy sydd heb wybod hyn?
12:4 "Yr wyf yn gyff gwawd i'm cyfeillion, er imi alw ar Dduw ac iddo yntau ateb; y cyfiawn a'r perffaith yn gyff gwawd!
12:5 Dirmygir dinistr gan y rhai sydd mewn esmwythyd, a sefydlogrwydd gan y rhai y mae eu traed yn llithro.
12:6 Llwyddiant sydd ym mhebyll yr anrheithwyr, a diogelwch i'r rhai sy'n blino Duw — rhai wedi cael Duw dan eu bawd!
12:7 "Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu, ac i adar y nefoedd fynegi i ti,
12:8 neu i blanhigion y tir dy hyfforddi, ac i bysgod y môr dy gyfarwyddo.
12:9 Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gyd mai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth?
12:10 Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw, ac anadl pob un meidrol.
12:11 Onid yw'r glust yn profi geiriau, fel y mae taflod y genau yn blasu bwyd?
12:12 "Ai ymhlith yr oedrannus y ceir doethineb, a deall gyda'r rhai sydd ymlaen mewn dyddiau?
12:13 Gan Dduw y mae doethineb a chryfder, a chyngor a deall sydd eiddo iddo.
12:14 Os dinistria, nid adeiledir: os carchara neb, nid oes rhyddhad.
12:15 Os atal ef y dyfroedd, yna y mae sychder; a phan ollwng hwy, yna gorlifant y ddaear.
12:16 Ganddo ef y mae nerth a gwir ddoethineb; ef biau'r sawl a dwyllir a'r sawl sy'n twyllo.
12:17 Gwna i gynghorwyr gerdded yn droednoeth, a gwawdia farnwyr.
12:18 Y mae'n datod gwregys brenhinoedd, ac yn rhwymo carpiau am eu llwynau.
12:19  Gwna i offeiriaid gerdded yn droednoeth, a lloria'r rhai sefydledig.
12:20 Diddyma ymadrodd y rhai y credir ynddynt, a chymer graffter yr henuriaid oddi wrthynt.
12:21 Fe dywallt ddirmyg ar bendefigion, a gwanhau nerth y cryfion.
12:22 Y mae'n datguddio cyfrinachau o'r tywyllwch, ac yn troi'r fagddu yn oleuni.
12:23 Fe amlha genhedloedd, ac yna fe'u dinistria; fe ehanga genhedloedd, ac yna fe'u dwg ymaith.
12:24 Diddyma farn penaethiaid y ddaear, a pheri iddynt grwydro mewn diffeithwch di-ffordd;
12:25 ymbalfalant yn y tywyllwch heb oleuni; fe wna iddynt simsanu fel meddwon.
13:1 "Gwelodd fy llygad hyn i gyd; clywodd fy nghlust ef, a'i ddeall.
13:2 Rwyf finnau'n deall gystal â chwithau; nid wyf yn ddim salach na chwi.
13:3 Eto â'r Hollalluog y dymunaf siarad, a dadlau fy achos gyda Duw;
13:4 ond yr ydych chwi'n palu celwydd, a'r cwbl ohonoch yn plethu anwiredd.
13:5 O na fyddech yn cadw'n ddistaw! Hynny a fyddai'n ddoeth i chwi.
13:6 Gwrandewch yn awr ar fy achos, a rhowch ystyriaeth i'm dadl.
13:7 A ddywedwch gelwydd dros Dduw, a thwyll er ei fwyn?
13:8 A gymerwch chwi ei blaid, a dadlau dros Dduw?
13:9 A fydd yn dda arnoch pan chwilia ef chwi? A ellwch ei dwyllo ef fel y twyllir meidrolyn?
13:10 Bydd ef yn sicr o'ch ceryddu os cymerwch ffafriaeth yn y dirgel.
13:11 Onid yw ei fawredd yn eich dychryn? Oni ddisgyn ei arswyd arnoch?
13:12 Geiriau lludw yw eich gwirebau, a chlai yw eich amddiffyniad.
13:13 "Byddwch ddistaw, a gadewch i mi lefaru, a doed a ddelo arnaf.
13:14 Cymeraf fy nghnawd rhwng fy nannedd, a'm heinioes yn fy nwylo.
13:15 Yn sicr, fe'm lladd; nid oes gobaith imi; eto amddiffynnaf fy muchedd o'i flaen.
13:16 A hyn sy'n rhoi hyder i mi, na all neb annuwiol fynd ato.
13:17 Gwrandewch yn astud ar fy ngeiriau, a rhowch glust i'm tystiolaeth.
13:18 Dyma fi wedi trefnu f'achos; gwn y caf fy nghyfiawnhau.
13:19 Pwy sydd i ddadlau â mi, i wneud imi dewi a rhoi i fyny'r ysbryd?
13:20 Gwna ddau beth yn unig imi, ac nid ymguddiaf oddi wrthyt:
13:21 symud dy law oddi arnaf, fel na'm dychryner gan dy arswyd;
13:22 yna galw arnaf ac atebaf finnau, neu gad i mi siarad a rho di ateb.
13:23 Beth yw nifer fy meiau a'm pechodau? Dangos imi fy nhrosedd a'm pechod.
13:24 Pam yr wyt yn cuddio dy wyneb, ac yn f'ystyried yn elyn iti?
13:25 A ddychryni di ddeilen grin, ac ymlid soflyn sych?
13:26 Oherwydd dygaist bethau chwerw yn f'erbyn, a gwneud imi etifeddu drygioni fy ieuenctid.
13:27 Gosodaist fy nhraed mewn cyffion (yr wyt yn gwylio fy holl ffyrdd), a rhoist nod ar wadnau fy nhraed.
13:28 Ond derfydd dyn fel costrel groen, fel dilledyn wedi ei ysu gan wyfyn.
14:1 "Y mae pob un a anwyd o wraig yn fyr ei oes ac yn llawn helbul.
14:2 Y mae fel blodeuyn yn tyfu ac yna'n gwywo; diflanna fel cysgod ac nid erys.
14:3 A roi di sylw i un fel hyn, a'i ddwyn ef i farn gyda thi?
14:4 Pwy a gaiff lendid allan o aflendid? Neb!
14:5 Gan fod terfyn i'w ddyddiau, a chan iti rifo'i fisoedd, a gosod iddo ffin nas croesir,
14:6 yna tro oddi wrtho fel y caiff lonydd, fel gwas cyflog yn mwynhau ei ddiwrnod gwaith.
14:7 "Er i goeden gael ei thorri, y mae gobaith iddi ailflaguro, ac ni pheidia ei blagur â thyfu.
14:8 Er i'w gwraidd heneiddio yn y ddaear, ac i'w boncyff farweiddio yn y pridd,
14:9 pan synhwyra ddŵr fe adfywia, ac fe flagura fel planhigyn ifanc.
14:10 Ond pan fydd rhywun farw, â'n ddi-nerth, a phan rydd ei anadl olaf, nid yw'n bod mwyach.
14:11 Derfydd y dŵr o'r llyn; disbyddir a sychir yr afon;
14:12 felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd, ni ddeffry tra pery'r nefoedd, ac nis cynhyrfir o'i gwsg.
14:13 O na bait yn fy nghuddio yn Sheol, ac yn fy nghadw o'r golwg nes i'th lid gilio, a phennu amser arbennig imi, a'm dwyn i gof!
14:14 (Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?) Yna fe obeithiwn holl ddyddiau fy llafur, hyd nes i'm rhyddhad ddod.
14:15 Gelwit arnaf, ac atebwn innau; hiraethit am waith dy ddwylo.
14:16 Yna cedwit gyfrif o'm camre, heb wylio fy mhechod;
14:17 selid fy nhrosedd mewn cod, a chuddid fy nghamwedd.
14:18 "Ond, fel y diflanna'r mynydd sy'n llithro, ac fel y symud y graig o'i lle,
14:19 ac fel y treulir y cerrig gan ddyfroedd, ac y golchir ymaith bridd y ddaear gan lifogydd, felly y gwnei i obaith meidrolyn ddiflannu.
14:20 Parhei i'w orthrymu nes derfydd; newidi ei wedd, a'i ollwng.
14:21 Pan anrhydeddir ei blant, ni ŵyr; pan ddarostyngir hwy, ni sylwa.
14:22 Ei gnawd ei hun yn unig sy'n ei boeni, a'i fywyd ei hun sy'n ei ofidio."

Yr Ail Gylch Areithio 15:1—21:34

15:1 Yna atebodd Eliffas y Temaniad:
15:2 "Ai ateb â gwybodaeth nad yw'n ddim ond gwynt a wna'r doeth, a llenwi ei fol â'r dwyreinwynt?
15:3 A ddadleua ef â gair di-fudd, ac â geiriau di-les?
15:4 Ond yr wyt ti'n diddymu duwioldeb, ac yn rhwystro defosiwn gerbron Duw.
15:5 Oherwydd dy gamwedd sy'n hyfforddi dy enau, ac ymadrodd y cyfrwys a ddewisi.
15:6 Dy enau dy hun sy'n dy gondemnio, nid myfi, a'th wefusau di sy'n tystio yn dy erbyn.
15:7 "Ai ti a anwyd y cyntaf o bawb? A ddygwyd di i'r byd cyn y bryniau?
15:8 A wyt ti'n gwrando ar gyfrinach Duw, ac yn cyfyngu doethineb i ti dy hun?
15:9 Beth a wyddost ti na wyddom ni? Pa grebwyll sydd gennyt nad yw gennym ninnau?
15:10 Y mae yn ein mysg rai penwyn a rhai oedrannus, rhai sy'n hŷn na'th dad.
15:11 Ai dibris yn d'olwg yw diddanwch Duw, a'r gair a ddaw'n ddistaw atat?
15:12 Beth a ddaeth dros dy feddwl? Pam y mae dy lygaid yn fflachio
15:13 fel yr wyt yn gosod dy ysbryd yn erbyn Duw, ac yn arllwys y geiriau hyn?
15:14 Sut y gall neb fod yn ddieuog, ac un a anwyd o wraig fod yn gyfiawn?
15:15 Os nad ymddiried Duw yn ei rai sanctaidd, os nad yw'r nefoedd yn lân yn ei olwg,
15:16 beth ynteu am feidrolyn, sy'n ffiaidd a llwgr, ac yn yfed anghyfiawnder fel dŵr?
15:17 "Dangosaf iti; gwrando dithau arnaf. Mynegaf i ti yr hyn a welais
15:18 (yr hyn y mae'r doethion wedi ei ddweud, ac nad yw wedi ei guddio oddi wrth eu hynafiaid;
15:19 iddynt hwy yn unig y rhoddwyd y ddaear, ac ni thramwyodd dieithryn yn eu plith):
15:20 bydd yr annuwiol mewn helbul holl ddyddiau ei oes, trwy gydol y blynyddoedd a bennwyd i'r creulon.
15:21 Sŵn dychryniadau sydd yn ei glustiau, a daw'r dinistriwr arno yn awr ei lwyddiant.
15:22 Nid oes iddo obaith dychwelyd o'r tywyllwch; y mae wedi ei dynghedu i'r cleddyf.
15:23 Crwydryn yw, ac ysglyfaeth i'r fwltur; gŵyr mai diwrnod tywyll sydd wedi ei bennu iddo.
15:24 Brawychir ef gan ofid a chyfyngder; llethir ef fel brenin parod i ymosod.
15:25 Oherwydd iddo estyn ei law yn erbyn Duw, ac ymffrostio yn erbyn yr Hollalluog,
15:26 a rhuthro arno'n haerllug, a both ei darian yn drwchus;
15:27 oherwydd i'w wyneb chwyddo gan fraster, ac i'w lwynau dewychu â bloneg,
15:28 fe drig mewn dinasoedd diffaith, mewn tai heb neb yn byw ynddynt, lleoedd sydd ar fin adfeilio.
15:29 Ni ddaw'n gyfoethog, ac ni phery ei gyfoeth, ac ni chynydda'i olud yn y tir.
15:30 Ni ddianc rhag y tywyllwch. Deifir ei frig gan y fflam, a syrth ei flagur yn y gwynt.
15:31 Peidied ag ymddiried mewn gwagedd a'i dwyllo'i hun, canys gwagedd fydd ei dâl.
15:32 Bydd yn gwywo cyn ei amser, ac ni lasa'i gangen.
15:33 Dihidla'i rawnwin anaeddfed fel gwinwydden, a bwrw ei flodau fel olewydden.
15:34 Diffrwyth yw cwmni'r annuwiol, ac fe ysa'r tân drigfannau breibwyr.
15:35 Beichiogant ar flinder ac ymddŵyn drwg, ac ar dwyll yr esgor eu croth."
16:1 Atebodd Job:
16:2 "Yr wyf wedi clywed llawer o bethau fel hyn; cysurwyr sy'n peri blinder ydych chwi i gyd.
16:3 A oes terfyn i eiriau gwyntog? Neu beth sy'n dy gythruddo i ddadlau?
16:4 Gallwn innau siarad fel chwithau, pe baech chwi yn fy safle i; gallwn blethu geiriau yn eich erbyn, ac ysgwyd fy mhen arnoch.
16:5 Gallwn eich calonogi â'm genau, a'ch esmwytháu â geiriau fy ngwefusau.
16:6 "Os llefaraf, ni phaid fy mhoen, ac os tawaf, ni chilia oddi wrthyf.
16:7 Ond yn awr gosodwyd blinder arnaf; anrheithiaist fy holl gydnabod.
16:8 Crychaist fy nghroen, a thystia hyn yn f'erbyn; saif fy nheneuwch i'm cyhuddo.
16:9 Yn ei gynddaredd rhwygodd fi mewn casineb, ac ysgyrnygu ei ddannedd arnaf; llygadrytha fy ngelynion arnaf.
16:10 Cegant yn wawdlyd arnaf, trawant fy ngrudd mewn dirmyg, unant yn dyrfa yn f'erbyn.
16:11 Rhydd Duw fi yng ngafael yr annuwiol, a'm taflu i ddwylo'r anwir.
16:12 Yr oeddwn mewn esmwythyd, ond drylliodd fi; cydiodd yn fy ngwar a'm llarpio; gosododd fi yn nod iddo anelu ato.
16:13 Yr oedd ei saethwyr o'm hamgylch; trywanodd i'm harennau'n ddidrugaredd, a thywalltwyd fy mustl ar y llawr.
16:14 Gwnaeth rwyg ar ôl rhwyg ynof; rhuthrodd arnaf fel ymladdwr.
16:15 "Gwnïais sachliain am fy nghroen, a chuddiais fy nghorun yn y llwch.
16:16 Cochodd fy wyneb gan ddagrau, daeth düwch ar fy amrannau,
16:17 er nad oes trais ar fy nwylo, ac er bod fy ngweddi'n ddilys.
16:18 "O ddaear, na chuddia fy ngwaed, ac na fydded gorffwys i'm cri.
16:19 Oherwydd wele, yn y nefoedd y mae fy nhyst, ac yn yr uchelder y mae'r Un a dystia drosof.
16:20 Er bod fy nghyfeillion yn fy ngwawdio, difera fy llygad ddagrau gerbron Duw,
16:21 fel y bo barn gyfiawn rhwng pob un a Duw, fel sydd rhwng rhywun a'i gymydog.
16:22 Ychydig flynyddoedd sydd i ddod cyn imi fynd ar hyd llwybr na ddychwelaf arno.
17:1 "Llesgaodd fy ysbryd, ciliodd fy nyddiau; beddrod fydd fy rhan.
17:2 Yn wir y mae gwatwarwyr o'm cwmpas; pyla fy llygaid wrth iddynt wawdio.
17:3 "Gosod dy hun yn feichiau drosof; pwy arall a rydd wystl ar fy rhan?
17:4 Oherwydd iti gadw eu calon rhag deall, ni fydd i ti eu dyrchafu.
17:5 Pan fydd rhywun yn gwenieithu ei gyfeillion, bydd llygaid ei blant yn pylu.
17:6 "Gwnaeth fi'n ddihareb i'r bobl; yr wyf yn un y maent yn poeri arno.
17:7 Pylodd fy llygaid o achos gofid; aeth fy nghorff i gyd fel cysgod.
17:8 Synna'r cyfiawn at y fath beth, a ffyrniga'r uniawn yn erbyn yr annuwiol.
17:9 Fe geidw'r cyfiawn at ei ffordd, a bydd y glân ei ddwylo yn ychwanegu nerth.
17:10 Pe baech i gyd yn rhoi ailgynnig, eto ni chawn neb doeth yn eich plith.
17:11 "Ciliodd fy nyddiau; methodd f'amcanion a dyhead fy nghalon.
17:12 Gwnânt y nos yn ddydd — dewisant weld goleuni er gwaethaf y tywyllwch.
17:13 Pa obaith sydd gennyf? Sheol fydd fy nghartref; cyweiriaf fy ngwely yn y tywyllwch;
17:14 dywedaf wrth y pwll, 'Ti yw fy nhad', ac wrth lyngyr, 'Fy mam a'm chwaer'.
17:15 Ble, felly, y mae fy ngobaith? A phwy a wêl obaith imi?
17:16 Oni ddisgyn y rhai hyn i Sheol? Onid awn i gyd i'r llwch?"
18:1 Yna atebodd Bildad y Suhiad:
18:2 "Pa bryd y rhowch derfyn ar eiriau? Ystyriwch yn bwyllog, yna gallwn siarad.
18:3 Pam yr ystyrir ni fel anifeiliaid, ac y cyfrifir ni'n hurt yn eich golwg?
18:4 Un yn ei rwygo'i hun yn ei lid! A wneir y ddaear yn ddiffaith er dy fwyn di? A symudir y graig o'i lle?
18:5 "Fe ddiffydd goleuni'r drygionus, ac ni chynnau fflam ei dân.
18:6 Fe dywylla'r goleuni yn ei babell, a diffydd ei lamp uwch ei ben.
18:7 Byrhau a wna'i gamau cryfion, a'i gyngor ei hun a wna iddo syrthio.
18:8 Fe'i gyrrir ef i'r rhwyd gan ei draed ei hun; y mae'n sangu ar y rhwydwaith.
18:9 Cydia'r trap yn ei sawdl, ac fe'i delir yn y groglath.
18:10 Cuddiwyd cortyn iddo ar y ddaear, ac y mae magl ar ei lwybr.
18:11 Y mae ofnau o bob tu yn ei ddychryn, ac yn ymlid ar ei ôl.
18:12 Pan ddaw pall ar ei gryfder, yna y mae dinistr yn barod am ei gwymp.
18:13 Ysir ei groen gan glefyd, a llyncir ei aelodau gan Gyntafanedig Angau;
18:14 yna cipir ef o'r babell yr ymddiriedai ef ynddi, a'i ddwyn at Frenin Braw.
18:15 Bydd estron yn trigo yn ei babell, a gwasgerir brwmstan ar ei annedd.
18:16 "Crina'i wraidd oddi tanodd, a gwywa'i ganghennau uwchben.
18:17 Derfydd y cof amdano o'r tir, ac nid erys ei enw yn y wlad.
18:18 Fe'i gwthir o oleuni i dywyllwch, ac erlidir ef o'r byd.
18:19 Ni bydd disgynnydd na hil iddo ymysg ei bobl, nac olynydd iddo yn ei drigfan.
18:20 Synnant yn y Gorllewin o achos ei dynged, ac arswydant yn y Dwyrain.
18:21 Yn wir dyma drigfannau'r anghyfiawn; hwn yw lle'r un nad yw'n adnabod Duw."
19:1 Atebodd Job:
19:2 "Am ba hyd y blinwch fi, a'm dryllio â geiriau?
19:3 Yr ydych wedi fy ngwawdio ddengwaith, ac nid oes arnoch gywilydd fy mhoeni.
19:4 Os yw'n wir imi gyfeiliorni, onid arnaf fi fy hun y mae'r bai?
19:5 Os ydych yn wir yn eich gwneud eich hunain yn well na mi, ac yn fy nghondemnio o achos fy ngwarth,
19:6 ystyriwch yn awr mai Duw sydd wedi gwneud cam â mi, ac wedi taflu ei rwyd o'm hamgylch.
19:7 Os gwaeddaf, 'Trais', ni chaf ateb; os ceisiaf help, ni chaf farn deg.
19:8 Caeodd fy ffordd fel na allaf ddianc, a gwnaeth fy llwybr yn dywyll o'm blaen.
19:9 Cipiodd f'anrhydedd oddi arnaf, a symudodd y goron oddi ar fy mhen.
19:10 Bwriodd fi i lawr yn llwyr, a darfu amdanaf; diwreiddiodd fy ngobaith fel coeden.
19:11 Enynnodd ei lid yn f'erbyn, ac fe'm cyfrif fel un o'i elynion.
19:12 Daeth ei fyddinoedd ynghyd; gosodasant sarn hyd ataf, ac yna gwersyllu o amgylch fy mhabell.
19:13 "Cadwodd fy mherthnasau draw oddi wrthyf, ac aeth fy nghyfeillion yn ddieithr.
19:14 Gwadwyd fi gan fy nghymdogion a'm cydnabod, ac anwybyddwyd fi gan fy ngweision.
19:15 Fel dieithryn y meddylia fy morynion amdanaf; estron wyf yn eu golwg.
19:16 Galwaf ar fy ngwas, ond nid yw'n fy ateb, er i mi erfyn yn daer arno.
19:17 Aeth fy anadl yn atgas i'm gwraig, ac yn ddrewdod i'm plant fy hun.
19:18 Dirmygir fi hyd yn oed gan blantos; pan godaf ar fy nhraed, y maent yn troi cefn arnaf.
19:19 Ffieiddir fi gan fy nghyfeillion pennaf; trodd fy ffrindiau agosaf yn f'erbyn.
19:20 Y mae fy nghnawd yn glynu wrth fy esgyrn, a dihengais â chroen fy nannedd.
19:21 "Cymerwch drugaredd arnaf, fy nghyfeillion, oherwydd cyffyrddodd llaw Duw â mi.
19:22 Pam yr erlidiwch fi fel y gwna Duw? Oni chawsoch ddigon ar ddifa fy nghnawd?
19:23 O na fyddai fy ngeiriau wedi eu hysgrifennu! O na chofnodid hwy mewn llyfr,
19:24 wedi eu hysgrifennu â phin haearn a phlwm, a'u naddu ar garreg am byth!
19:25 Oherwydd gwn fod fy amddiffynnwr yn fyw, ac y saif o'm plaid yn y diwedd;
19:26 ac wedi i'm croen ddifa fel hyn, eto o'm cnawd caf weld Duw.
19:27 Fe'i gwelaf ef o'm plaid; ie, fy llygaid fy hun a'i gwêl, ac nid yw'n ddieithr. Y mae fy nghalon yn dyheu o'm mewn.
19:28 "Os dywedwch, 'Y fath erlid a fydd arno, gan fod gwreiddyn y drwg ynddo,'
19:29 yna arswydwch rhag y cleddyf, oherwydd daw cynddaredd â chosb y cleddyf, ac yna y cewch wybod fod barn."
20:1 Yna atebodd Soffar y Naamathiad:
20:2 "Yn awr, fe'm cynhyrfir i ateb; am hynny atebaf ar frys.
20:3 Clywais gerydd sy'n fy nifrïo; y mae cynnwrf fy meddwl yn fy ngorfodi i ateb.
20:4 Onid wyt yn gwybod hyn? o'r dechrau, er pan osodwyd pobl ar y ddaear,
20:5 byr yw gorfoledd y drygionus, ac am gyfnod yn unig y pery llawenydd yr annuwiol.
20:6 Er i'w falchder esgyn i'r uchelder, ac i'w ben gyffwrdd â'r cymylau,
20:7 eto derfydd am byth fel ei dom ei hun, a dywed y rhai a'i gwelodd, 'Ple mae ef?'
20:8 Eheda ymaith fel breuddwyd, ac ni fydd yn bod; fe'i hymlidir fel gweledigaeth nos.
20:9 Y llygad a'i gwelodd, ni wêl mohono mwy, ac nid edrych arno yn ei le.
20:10 Cais ei blant ffafr y tlawd, a dychwel ei ddwylo ei gyfoeth.
20:11 Y mae ei esgyrn sy'n llawn egni yn gorwedd gydag ef yn y llwch.
20:12 "Er i ddrygioni droi'n felys yn ei enau, a'i fod yntau am ei gadw dan ei dafod,
20:13 ac yn anfodlon ei ollwng, ond yn ei ddal dan daflod ei enau,
20:14 eto y mae ei fwyd yn ei gylla yn troi'n wenwyn asb iddo.
20:15 Llynca gyfoeth, ac yna'i chwydu; bydd Duw'n ei dynnu allan o'i fol.
20:16 Sugna wenwyn yr asb, ac yna fe'i lleddir gan golyn gwiber.
20:17 Ni chaiff weld ffrydiau o olew, nac afonydd o fêl a llaeth.
20:18 Dychwel ffrwyth ei lafur heb iddo elwa arno; er cymaint ei enillion, ni chaiff eu mwynhau.
20:19 Oherwydd gorthrymodd y tlawd a'i adael yn ddiymgeledd; cipiodd dŷ nas adeiladodd.
20:20 Ni ŵyr sut i dawelu ei chwant, ac ni ddianc dim rhag ei wanc.
20:21 Nid oes gweddill iddo'i fwyta, ac felly nid oes parhad i'w ffyniant.
20:22 Wedi digoni ei chwant, â'n gyfyng arno; daw holl rym gofid arno.
20:23 Pan fydd ar fedr llenwi ei fol, gyrrir arno angerdd llid, a'i dywallt i lawr i'w berfedd.
20:24 "Fe ffy rhag arfau haearn, ond fe'i trywenir gan y saeth bres.
20:25 Tynnir hi allan o'i gorff, y blaen gloyw allan o'i fustl; daw dychrynfeydd arno.
20:26 Tywyllwch llwyr a gadwyd ar gyfer ei drysorau; ysir ef gan dân nad oes raid ei chwythu; difethir yr hyn a adawyd yn ei babell.
20:27 Dadlenna'r nefoedd ei gamwedd, a chyfyd y ddaear yn ei erbyn.
20:28 Bydd i'r dilyw ddwyn ymaith ei dŷ, a llifogydd, yn nydd ei lid.
20:29 Dyma dynged yr annuwiol oddi wrth Dduw, a'r etifeddiaeth a osododd iddo."
21:1 Atebodd Job:
21:2 "Gwrandewch eto ar fy ngeiriau; felly y rhowch gysur imi.
21:3 Goddefwch i mi lefaru, ac wedi imi lefaru, cewch watwar.
21:4 Oni chaf ddweud fy nghwyn wrth rywun? a pham na chaf fod yn ddiamynedd?
21:5 Edrychwch arnaf, a synnwch, a rhowch eich llaw ar eich genau.
21:6 Pan ystyriaf hyn, rwy'n arswydo, a daw cryndod i'm cnawd.
21:7 "Pam y caiff yr annuwiol fyw, a heneiddio'n gadarnach eu nerth?
21:8 Y mae eu plant yn byw o'u cwmpas, a'u teulu yn eu hymyl.
21:9 Y mae eu tylwyth yn ddiogel oddi wrth ddychryn, ac ni ddaw dyrnod Duw arnynt.
21:10 Y mae eu tarw'n cyfloi yn ddi-feth, a'u buwch yn bwrw lloi heb erthylu.
21:11 Caiff eu plantos grwydro'n rhydd fel defaid, a dawnsia'u plant yn hapus.
21:12 Canant gyda'r dympan a'r delyn, a byddant lawen wrth sŵn y pibau.
21:13 Treuliant eu dyddiau mewn esmwythyd, a disgynnant i Sheol mewn heddwch.
21:14 Dywedant wrth Dduw, 'Cilia oddi wrthym; ni fynnwn wybod dy ffyrdd.
21:15 Pwy yw'r Hollalluog i ni ei wasanaethu, a pha fantais sydd inni os gweddïwn arno?'
21:16 "Ai yn eu dwylo'u hunain y mae eu ffyniant? Pell yw cyngor y drygionus oddi wrth Dduw.
21:17 "Pa mor aml y diffoddir lamp yr annuwiol, ac y daw eu dinistr arnynt hwy, ac y tynghedir hwy i boen gan ei lid?
21:18 A ydynt hwy fel gwelltyn o flaen y gwynt, neu fel us a ddygir ymaith gan y storm?
21:19 A geidw Duw ddinistr rhiant i'w blant? Na, taled iddo ef ei hun, a'i ddarostwng.
21:20 Bydded i'w lygaid ei hun weld ei ddinistr, ac yfed o lid yr Hollalluog.
21:21 Pa ddiddordeb fydd ganddo yn ei deulu ar ei ôl, pan fydd nifer ei fisoedd wedi darfod?
21:22 "A ellir dysgu gwybodaeth i Dduw? Onid ef sy'n barnu'r beilchion?
21:23 "Bydd un farw yn ei lwyddiant, mewn llonyddwch a thawelwch,
21:24 ei lwynau yn llawn braster, a mêr ei esgyrn yn iraidd.
21:25 Bydd arall farw yn chwerw ei ysbryd, heb brofi daioni.
21:26 Ond gorweddant gyda'i gilydd yn y pridd, a'r pryfed yn amdo drostynt.
21:27 "Yn awr gwn eich meddyliau, a'r bwriadau sydd gennych i'm drygu;
21:28 oherwydd dywedwch, 'Ble'r aeth tŷ'r pendefig? a phle mae trigfannau'r annuwiol?'
21:29 Oni ofynnwch i'r rhai sy'n teithio'r ffordd? Onid ydych yn adnabod yr arwyddion,
21:30 yr arbedir y drygionus rhag dydd dinistr, ac y gwaredir ef rhag dydd digofaint?
21:31 Pwy a'i cyhudda yn ei wyneb? Pwy a dâl yn ôl iddo am yr hyn a wnaeth?
21:32 Pan ddygir ef i'r bedd, cedwir gwyliadwriaeth ar ei feddrod.
21:33 Y mae tywyrch y fynwent yn dyner arno; bydd gorymdaith yn dilyn ar ei ôl, a thyrfa niferus yn cerdded o'i flaen.
21:34 Sut, felly, y mae eich gwagedd yn gysur i mi? Nid oes ond twyll yn eich atebion."

Y Trydydd Cylch Areithio 22:1—27:23

22:1 Yna atebodd Eliffas y Temaniad:
22:2 "A yw unrhyw un o werth i Dduw? Onid iddo'i hun y mae'r doeth o werth?
22:3 A oes boddhad i'r Hollalluog pan wyt yn gyfiawn, neu elw iddo pan wyt yn rhodio'n gywir?
22:4 Ai am dy dduwioldeb y mae'n dy geryddu, ac yn dy ddwyn i farn?
22:5 Onid yw dy ddrygioni'n fawr, a'th gamwedd yn ddiderfyn?
22:6 Cymeri wystl gan dy gymrodyr yn ddiachos, a dygi ymaith ddillad y tlawd.
22:7 Ni roddi ddŵr i'r lluddedig i'w yfed, a gwrthodi fara i'r newynog.
22:8 Y cryf sy'n meddiannu'r tir, a'r ffefryn a drig ynddo.
22:9 Gyrri'r weddw ymaith yn waglaw, ac ysigi freichiau'r amddifad.
22:10 Am hyn y mae maglau o'th gwmpas, a daw ofn disymwth i'th lethu,
22:11 a thywyllwch fel na elli weld, a bydd dyfroedd yn dy orchuddio.
22:12 "Onid yw Duw yn uchder y nefoedd yn edrych i lawr ar y sêr sy mor uchel?
22:13 Felly dywedi, 'Beth a ŵyr Duw? A all ef farnu trwy'r tywyllwch?
22:14 Cymylau na wêl trwyddynt sy'n ei guddio, ac ar gylch y nefoedd y mae'n rhodio.'
22:15 A gedwi di at yr hen ffordd y rhodiodd y drygionus ynddi?
22:16 Cipiwyd hwy ymaith cyn pryd, pan ysgubwyd ymaith eu sylfaen gan lif afon.
22:17 Dyma'r rhai a ddywedodd wrth Dduw, 'Cilia oddi wrthym'. Beth a wnaeth yr Hollalluog iddynt hwy?
22:18 Er iddo lenwi eu tai â daioni, pell yw cyngor y drygionus oddi wrtho.
22:19 Gwêl y cyfiawn hyn, a llawenha; a gwatwerir hwy gan y dieuog.
22:20 Yn wir, dinistriwyd eu cynhaeaf, ac ysodd y tân eu llawnder.
22:21 "Cytuna ag ef, a chei lwyddiant; trwy hyn y daw daioni i ti.
22:22 Derbyn gyfarwyddyd o'i enau, a chadw ei eiriau yn dy galon.
22:23 Os dychweli at yr Hollalluog mewn gwirionedd, a gyrru anghyfiawnder ymhell o'th babell,
22:24 os ystyri aur fel pridd, aur Offir fel cerrig y nentydd,
22:25 yna bydd yr Hollalluog yn aur iti, ac yn arian pur.
22:26 Yna cei ymhyfrydu yn yr Hollalluog, a dyrchafu dy wyneb at Dduw.
22:27 Cei weddïo arno, ac fe'th wrendy, a byddi'n cyflawni dy addunedau.
22:28 Pan wnei gynllun, fe lwydda iti, a llewyrcha goleuni ar dy ffyrdd.
22:29 Fe ddarostyngir y rhai a ystyri'n falch; yr isel ei fryd a wareda ef.
22:30 Fe achub ef y dieuog; achubir ef am fod ei ddwylo'n lân."
23:1 Atebodd Job:
23:2 "Heddiw eto y mae fy nghwyn yn chwerw, a'i law sy'n drwm er gwaethaf f'ochenaid.
23:3 O na wyddwn ble y cawn ef, a pha fodd i ddod at ei drigfan!
23:4 Yna gosodwn fy achos o'i flaen, a llenwi fy ngenau â dadleuon.
23:5 Mynnwn wybod sut yr atebai fi, a deall beth a ddywedai wrthyf.
23:6 Ai gyda'i holl nerth y dadleuai â mi? Na, ond fe roddai sylw imi.
23:7 Sylwai mai un uniawn a ymresymai ag ef, a chawn fy rhyddhau am byth gan fy marnwr.
23:8 "Os af i'r dwyrain, nid yw ef yno; ac os i'r gorllewin, ni chanfyddaf ef.
23:9 Pan weithreda yn y gogledd, ni sylwaf; os try i'r de, nis gwelaf.
23:10 Ond y mae ef yn deall fy ffordd; wedi iddo fy mhrofi, dof allan fel aur.
23:11 Dilyn fy nhroed ei lwybr; cadwaf ei ffordd heb wyro.
23:12 Ni chiliaf oddi wrth orchmynion ei enau; cadwaf ei eiriau yn fy mynwes.
23:13 Erys ef yr un, a phwy a'i try? Fe wna beth bynnag a ddymuna.
23:14 Yn wir fe ddwg fy nedfryd i ben, fel llawer o rai eraill sydd ganddo.
23:15 Am hyn yr arswydaf rhagddo; pan ystyriaf, fe'i hofnaf.
23:16 Duw sy'n gwanychu fy nghalon; yr Hollalluog sy'n fy nychryn;
23:17 nid y tywyllwch sy'n cyfyngu arnaf, na'r fagddu'n fy nghuddio.
24:1 "Ni chedwir yr amseroedd gan yr Hollalluog, ond nid yw'r rhai sy'n ei adnabod yn eu gwybod.
24:2 Y mae'r annuwiol yn symud terfynau, ac yn lladrata'r praidd i'w bugeilio.
24:3 Dygant asyn yr amddifad i ffwrdd, a thywysant ymaith ych y weddw.
24:4 Gwthiant y tlawd o'r ffordd, a chwilia rhai anghenus y wlad am le i ymguddio.
24:5 Ânt i'w gorchwyl fel asynnod gwyllt yn yr anialwch; chwiliant am ysglyfaeth yn y diffeithwch, yn fwyd i'w plant.
24:6 Medant faes nad yw'n eiddo iddynt, a lloffant winllan yr anghyfiawn.
24:7 Gorweddant drwy'r nos yn noeth, heb ddillad, heb gysgod rhag yr oerni.
24:8 Fe'u gwlychir gan law trwm y mynyddoedd; am eu bod heb loches, ymwthiant at graig.
24:9 "Tynnir yr amddifad oddi ar y fron, a chymryd plentyn y tlawd yn wystl.
24:10 "Cerddant o gwmpas yn noeth heb ddillad, a newynant wrth gasglu ysgubau.
24:11 Gwasgant yr olew rhwng y meini; sathrant y cafnau gwin, ond y maent yn sychedig.
24:12 o'r ddinas clywir griddfan y rhai sy'n marw, ac ochain y rhai clwyfedig yn gweiddi am gymorth; ond ni rydd Duw sylw i'w cri.
24:13 "Dyma'r rhai sy'n gwrthryfela yn erbyn y goleuni, y rhai nad ydynt yn adnabod ei ffyrdd, nac yn aros yn ei lwybrau.
24:14 Cyn i'r dydd wawrio daw'r llofrudd i ladd yr anghenus a'r tlawd. Yn y nos y gweithia'r lleidr; y mae'n torri i mewn i dai yn y tywyllwch.
24:15 Y mae'r godinebwr yn gwylio'i gyfle yn y cyfnos, gan ddweud, 'Nid oes neb yn fy ngweld', ac yn gosod gorchudd ar ei wyneb.
24:16 Cuddiant eu hunain yn ystod y dydd — y rhain na wyddant beth yw goleuni.
24:17 Y mae'r bore yr un fath â'r fagddu iddynt; eu cynefin yw dychrynfeydd y fagddu.
24:18 "Llysnafedd ar wyneb dyfroedd ydynt; melltithiwyd eu cyfran yn y tir; ni thry neb i gyfeiriad eu gwinllannoedd.
24:19 Fel y mae sychder a gwres yn cipio'r dyfroedd ar ôl eira, felly y gwna Sheol i'r rhai a bechodd.
24:20 Anghofir hwy gan y groth, fe'u hysir gan y llyngyryn, ac ni chofir hwy mwyach; torrir ymaith anghyfiawnder fel coeden.
24:21 Drygant yr un na ddygodd blant, ac ni wnânt dda i'r weddw.
24:22 "Y mae ef yn meddiannu'r cryf trwy ei nerth, a phan gyfyd, nid oes gan neb hyder yn ei einioes.
24:23 Gwna iddynt gredu y cynhelir hwy; eto y mae ei lygaid ar eu ffyrdd.
24:24 Dyrchefir hwy dros dro, yna diflannant; gwywant a chiliant fel hocys; gwywant fel brig y dywysen.
24:25 Os nad felly y mae, pwy all fy ngwrthbrofi a gwneud fy ngeiriau'n ddim?"
25:1 Yna atebodd Bildad y Suhiad:
25:2 "Y mae awdurdod a dychryn gyda Duw sy'n peri heddwch yn yr uchelder.
25:3 A ellir rhifo ei fyddinoedd? Ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni?
25:4 Sut y gall unrhyw un fod yn gyfiawn gerbron Duw? A pha fodd y gwneir yn lân un a anwyd o wraig?
25:5 Gwêl, nid yw'r lleuad yn rhoi goleuni pur, ac nid yw'r sêr yn lân yn ei olwg.
25:6 Beth, ynteu, am feidrolyn, y llyngyryn, ac un dynol, y pryfyn?"
26:1 Yna atebodd Job:
26:2 "O fel yr wyt ti wedi cynorthwyo'r di-rym, a chynnal braich y di-nerth,
26:3 a rhoi cyngor i'r diddeall, a mynegi digonedd o wir ddoethineb!
26:4 I bwy yr oeddit yn traethu geiriau, a pha ysbryd a ddaeth allan ohonot?
26:5 Cryna'r cysgodion yn y dyfnder, a'r dyfroedd hefyd, a'r rhai sy'n trigo ynddynt.
26:6 Y mae Sheol yn noeth ger ei fron, ac nid oes gorchudd dros Abadon.
26:7 Taena'r gogledd ar y gwagle, a gesyd y ddaear ar ddim.
26:8 Rhwyma'r dyfroedd yn ei gymylau, ac ni rwygir y cwmwl odanynt.
26:9 Taena orchudd dros wyneb y lloer, a thyn ei gwmwl drosto.
26:10 Gesyd gylch ar wyneb y dyfroedd, yn derfyn rhwng goleuni a thywyllwch.
26:11 Sigla colofnau'r nefoedd, a dychrynant pan gerydda.
26:12 Tawelodd y môr â'i nerth, a thrawodd Rahab trwy ei ddoethineb.
26:13 Cliriodd y nefoedd â'i wynt; trywanodd ei law y sarff wibiog.
26:14 Eto nid yw hyn ond ymylon ei ffyrdd; prin sibrwd a glywsom am yr hyn a wnaeth. Ond pwy a ddirnad drawiad ei nerth?"
27:1 Aeth Job ymlaen â'i ddadl, gan ddweud:
27:2 "Cyn wired â bod Duw yn fyw, a droes o'r neilltu fy achos, a'r Hollalluog, a wnaeth fy einioes yn chwerw,
27:3 tra bydd anadl ynof, ac ysbryd Duw yn fy ffroenau,
27:4 ni chaiff fy ngenau lefaru twyll, na'm tafod ddweud celwydd!
27:5 Pell y bo imi ddweud eich bod chwi'n iawn! Ni chefnaf ar fy nghywirdeb hyd fy marw.
27:6 Daliaf yn ddiysgog at fy nghyfiawnder, ac nid yw fy nghalon yn fy ngheryddu am fy muchedd.
27:7 "Bydded fy ngelyn fel y drygionus, a'm gwrthwynebwr fel y twyllodrus.
27:8 Oherwydd pa obaith sydd i'r annuwiol pan dorrir ef i lawr, a phan gymer Duw ei einioes oddi arno?
27:9 A wrendy Duw ar ei gri pan ddaw gofid iddo?
27:10 A yw ef yn ymhyfrydu yn yr Hollalluog? A eilw ef ar Dduw yn gyson?
27:11 Dysgaf chwi am allu Duw, ac ni chuddiaf ddim o'r hyn sydd gan yr Hollalluog.
27:12 Yn wir yr ydych chwi i gyd wedi ei weld eich hunain; pam, felly, yr ydych mor gwbl ynfyd?
27:13 "Dyma dynged y drygionus oddi wrth Dduw, ac etifeddiaeth y gormeswr gan yr Hollalluog:
27:14 os yw ei blant yn niferus, y cleddyf fydd eu rhan, ac ni ddigonir ei hiliogaeth â bwyd.
27:15 Y rhai a edy ar ei ôl, fe'u cleddir o bla, ac ni wyla'u gweddwon amdanynt.
27:16 Er iddo bentyrru arian fel llwch a darparu dillad fel clai,
27:17 er iddo ef eu darparu, fe'u gwisgir gan y cyfiawn, a'r diniwed a ranna'r arian.
27:18 Y mae'n adeiladu ei dŷ fel y pryf copyn, ac fel y bwth a wna'r gwyliwr.
27:19 Pan â i gysgu, y mae ganddo gyfoeth, ond ni all ei gadw; pan yw'n agor ei lygaid, nid oes ganddo ddim.
27:20 Daw ofnau drosto fel llifogydd, a chipia'r storm ef ymaith yn y nos.
27:21 Cipia gwynt y dwyrain ef, a diflanna; fe'i hysguba o'i le.
27:22 Hyrddia arno'n ddidrugaredd, er iddo ymdrechu i ffoi o'i afael.
27:23 Cura'i ddwylo arno, a'i hysio o'i le."

Molawd i Ddoethineb

28:1 Y mae gwythïen i arian, a gwely i'r aur a burir.
28:2 Tynnir yr haearn o'r ddaear, a thoddir y garreg yn gopr.
28:3 Rhydd dyn derfyn ar dywyllwch, a chwilio hyd yr eithaf am y mwyn yn y tywyllwch dudew.
28:4 Agorir pyllau yn y cymoedd ymhell oddi wrth bawb; fe'u hanghofiwyd gan y teithwyr. Y maent yn hongian ymhell o olwg pobl, gan siglo'n ôl ac ymlaen.
28:5 Ceir bwyd o'r ddaear, eto oddi tani y mae wedi ei chynhyrfu fel gan dân.
28:6 Y mae ei cherrig yn ffynhonnell y saffir, a llwch aur sydd ynddi.
28:7 Y mae llwybr na ŵyr hebog amdano, ac nas gwelwyd gan lygad barcud,
28:8 ac nas troediwyd gan anifeiliaid rhodresgar, ac na theithiodd y llew arno.
28:9 Estyn dyn ei law am y gallestr, a thry'r mynyddoedd yn bendramwnwgl.
28:10 Egyr dwnelau yn y creigiau, a gwêl ei lygaid bopeth gwerthfawr.
28:11 Gesyd argae i rwystro lli'r afonydd, a dwg i oleuni yr hyn a guddiwyd ynddynt.
28:12 Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigfan deall?
28:13 Ni ŵyr neb ble mae ei chartref, ac nis ceir yn nhir y byw.
28:14 Dywed y dyfnder, "Nid yw gyda mi"; dywed y môr yntau, "Nid yw ynof fi."
28:15 Ni ellir rhoi aur yn dâl amdani, na phwyso'i gwerth mewn arian.
28:16 Ni ellir mesur ei gwerth ag aur Offir, nac ychwaith â'r onyx gwerthfawr na'r saffir.
28:17 Ni ellir cymharu ei gwerth ag aur neu risial, na'i chyfnewid am unrhyw lestr aur.
28:18 Ni bydd sôn am gwrel a grisial; y mae meddu doethineb yn well na gemau.
28:19 Ni ellir cymharu ei gwerth â'r topas o Ethiopia, ac nid ag aur coeth y prisir hi.
28:20 O ble y daw doethineb? a phle mae trigfan deall?
28:21 Cuddiwyd hi oddi wrth lygaid popeth byw, a hefyd oddi wrth adar y nefoedd.
28:22 Dywedodd Abadon a marwolaeth, "Clywsom â'n clustiau sôn amdani."
28:23 Duw sy'n deall ei ffordd; y mae ef yn gwybod ei lle.
28:24 Oherwydd gall ef edrych i derfynau'r ddaear, a gweld popeth sy dan y nefoedd.
28:25 Pan roddodd ef ei bwysau i'r gwynt, a rhannu'r dyfroedd â mesur,
28:26 a gosod terfyn i'r glaw, a ffordd i'r mellt a'r taranau,
28:27 yna fe'i gwelodd hi a'i mynegi, fe'i sefydlodd hi a'i chwilio allan.
28:28 A dywedodd wrth ddynolryw, "Ofn yr ARGLWYDD yw doethineb, a chilio oddi wrth ddrwg yw deall."

Datganiad Job

29:1 Aeth Job ymlaen â'i ddadl, gan ddweud:
29:2 "O na byddwn fel yn yr amser gynt, yn y dyddiau pan oedd Duw yn fy ngwarchod,
29:3 pan wnâi i'w lamp oleuo uwch fy mhen, a minnau'n rhodio wrth ei goleuni trwy'r tywyllwch;
29:4 pan oeddwn yn nyddiau f'anterth, a Duw'n cysgodi dros fy nhrigfan;
29:5 pan oedd yr Hollalluog yn parhau gyda mi, a'm plant o'm cwmpas.
29:6 Gallwn olchi fy nghamau mewn llaeth, ac yr oedd y graig yn tywallt ffrydiau o olew imi.
29:7 "Awn allan i borth y ddinas, ac eisteddwn yn fy sedd ar y sgwâr;
29:8 a phan welai'r llanciau fi, cilient, a chodai'r hynafgwyr ar eu traed;
29:9 peidiai'r arweinwyr â llefaru, a rhoddent eu llaw ar eu genau;
29:10 tawai siarad y pendefigion, a glynai eu tafod wrth daflod eu genau.
29:11 "Pan glywai clust, galwai fi'n ddedwydd, a phan welai llygad, canmolai fi;
29:12 oherwydd gwaredwn y tlawd a lefai, a'r amddifad a'r diymgeledd.
29:13 Bendith yr un ar ddarfod amdano a ddôi arnaf, a gwnawn i galon y weddw lawenhau.
29:14 Gwisgwn gyfiawnder fel dillad amdanaf; yr oedd fy marn fel mantell a thwrban.
29:15 Yr oeddwn yn llygaid i'r dall, ac yn draed i'r cloff.
29:16 Yr oeddwn yn dad i'r tlawd, a chwiliwn i achos y sawl nad adwaenwn.
29:17 Drylliwn gilddannedd yr anghyfiawn, a pheri iddo ollwng yr ysglyfaeth o'i enau.
29:18 Yna dywedais, 'Byddaf farw yn f'anterth, a'm dyddiau mor niferus â'r tywod,
29:19 a'm gwreiddiau yn ymestyn at y dyfroedd, a'r gwlith yn aros drwy'r nos ar fy mrigau,
29:20 a'm hanrhydedd o hyd yn iraidd, a'm bwa yn adnewyddu yn fy llaw.'
29:21 "Gwrandawai pobl arnaf, a disgwylient yn ddistaw am fy nghyngor.
29:22 Wedi imi lefaru, ni ddywedent air; diferai fy ngeiriau arnynt.
29:23 Disgwylient wrthyf fel am y glaw, ac agorent eu genau fel am law y gwanwyn.
29:24 Pan wenwn arnynt, oni chaent hyder? A phan lewyrchai fy wyneb, ni fyddent brudd.
29:25 Dewiswn eu ffordd iddynt, ac eistedd yn ben arnynt; eisteddwn fel brenin yng nghanol ei lu, fel un yn cysuro'r galarus.
30:1 "Ond yn awr y maent yn chwerthin am fy mhen, ie, rhai sy'n iau na mi, rhai na buaswn yn ystyried eu tadau i'w gosod gyda'm cŵn defaid.
30:2 Pa werth yw cryfder eu dwylo i mi, gan fod eu hegni wedi diflannu?
30:3 Yn amser angen a newyn y maent yn ddifywyd, yn crafu yn y tir sych a diffaith.
30:4 Casglant yr hocys a dail y prysglwyn a gwraidd y banadl i'w cadw eu hunain yn gynnes.
30:5 Erlidir hwy o blith pobl, a chodir llais yn eu herbyn fel yn erbyn lleidr.
30:6 Gwneir iddynt drigo yn agennau'r nentydd, ac mewn tyllau yn y ddaear a'r creigiau.
30:7 Y maent yn nadu o ganol y perthi; closiant at ei gilydd o dan y llwyni.
30:8 Pobl ynfyd a dienw ydynt; fe'u gyrrwyd allan o'r tir.
30:9 "Ond yn awr myfi yw testun eu gwatwargerdd; yr wyf yn destun gwawd iddynt.
30:10 Ffieiddiant fi a chadw draw oddi wrthyf, ac nid yw'n ddim ganddynt boeri yn fy wyneb.
30:11 Pan ryddha ef raff a'm cystuddio, taflant hwythau'r enfa yn fy ngŵydd.
30:12 Cyfyd y dihirod yn f'erbyn ar y dde; gorfodant fi i gerdded ymlaen, ac yna codant rwystrau imi ar y ffyrdd.
30:13 Maluriant fy llwybrau, ychwanegant at f'anffawd, ac nid oes neb yn eu rhwystro.
30:14 Dônt arnaf fel trwy fwlch llydan; rhuthrant trwy ganol y dinistr.
30:15 Daeth dychryniadau arnaf; gwasgerir fy urddas fel gan wynt; diflannodd fy llwyddiant fel cwmwl.
30:16 "Yn awr llewygodd fy ysbryd, cydiodd dyddiau cystudd ynof.
30:17 Dirboenir f'esgyrn drwy'r nos, ac ni lonydda fy nghnofeydd.
30:18 Cydiant yn nerthol yn fy nillad, a gafael ynof wrth goler fy mantell.
30:19 Taflwyd fi i'r llaid, ac ystyrir fi fel llwch a lludw.
30:20 Gwaeddaf arnat am gymorth, ond nid wyt yn f'ateb; safaf o'th flaen, ond ni chymeri sylw ohonof.
30:21 Yr wyt wedi troi'n greulon tuag ataf, ac yr wyt yn ymosod arnaf â'th holl nerth.
30:22 Fe'm codi i fyny i farchogaeth y gwynt, a'm bwrw yma ac acw i ddannedd y storm.
30:23 Gwn yn sicr mai i farwolaeth y'm dygi, i'r lle a dynghedwyd i bob un byw.
30:24 "Onid yw un dan adfeilion yn estyn allan ei law ac yn gweiddi am ymwared yn ei ddinistr?
30:25 Oni wylais dros yr un yr oedd yn galed arno, a gofidio dros y tlawd?
30:26 Eto pan obeithiais i am ddaioni, daeth drwg; pan ddisgwyliais am oleuni, dyna dywyllwch.
30:27 Y mae cyffro o'm mewn; ni chaf lonydd, daeth dyddiau gofid arnaf.
30:28 Af o gwmpas yn groenddu, ond nid gan wres haul; codaf i fyny yn y gynulleidfa i ymbil am gymorth.
30:29 Yr wyf yn frawd i'r siacal, ac yn gyfaill i'r estrys.
30:30 Duodd fy nghroen, a llosgodd f'esgyrn gan wres.
30:31 Aeth fy nhelyn i'r cywair lleddf, a'm ffliwt i seinio galar.
31:1 "Gwneuthum gytundeb â'm llygaid i beidio â llygadu merch.
31:2 Beth yw fy nhynged gan Dduw oddi uchod, a'm cyfran gan yr Hollalluog o'r uchelder?
31:3 Oni ddaw dinistr ar y twyllodrus, ac aflwydd i'r drygionus?
31:4 Onid yw ef yn sylwi ar fy ffyrdd, ac yn cyfrif fy nghamau?
31:5 A euthum ar ôl oferedd, a phrysuro fy ngherddediad i dwyllo?
31:6 Pwyser fi mewn cloriannau cywir i Dduw gael gweld fy nghywirdeb.
31:7 Os gwyrodd fy ngham oddi ar y ffordd, a'm calon yn dilyn fy llygaid, neu os glynodd unrhyw aflendid wrth fy nwylo,
31:8 yna caiff arall fwyta'r hyn a heuais, a diwreiddir yr hyn a blennais.
31:9 "Os denwyd fy nghalon gan ddynes, ac os bûm yn llercian wrth ddrws fy nghymydog,
31:10 yna caiff fy ngwraig innau falu blawd i arall, a chaiff dieithryn orwedd gyda hi.
31:11 Oherwydd byddai hynny'n anllad, ac yn drosedd i'r barnwyr;
31:12 byddai fel tân yn difa'n llwyr, ac yn dinistrio fy holl gynnyrch.
31:13 "Os diystyrais achos fy ngwas neu fy morwyn pan oedd ganddynt gŵyn yn fy erbyn,
31:14 beth a wnaf pan gyfyd Duw? Beth a atebaf pan ddaw i'm cyhuddo?
31:15 Onid ef a'n gwnaeth ni'n dau yn y groth, a'n creu yn y bru?
31:16 "Os rhwystrais y tlawd rhag cael ei ddymuniad, neu siomi disgwyliad y weddw;
31:17 os bwyteais fy mwyd ar fy mhen fy hun, a gwrthod ei rannu â'r amddifad —
31:18 yn wir bûm fel tad yn ei fagu o'i ieuenctid, ac yn ei arwain o adeg ei eni —
31:19 os gwelais grwydryn heb ddillad, neu dlotyn heb wisg,
31:20 a'i lwynau heb fy mendithio am na chynheswyd ef gan gnu fy ŵyn;
31:21 os codais fy llaw yn erbyn yr amddifad am fy mod yn gweld cefnogaeth imi yn y porth;
31:22 yna disgynned f'ysgwydd o'i lle, a thorrer fy mraich o'i chyswllt.
31:23 Yn wir y mae ofn dinistr Duw arnaf, ac ni allaf wynebu ei fawredd.
31:24 "Os rhoddais fy hyder ar aur, a meddwl am ddiogelwch mewn aur coeth;
31:25 os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr, a bod cymaint yn fy meddiant;
31:26 os edrychais ar yr haul yn tywynnu, a'r lleuad tra parhâi'n ddisglair,
31:27 ac os cafodd fy nghalon ei hudo'n ddirgel, a chusanu fy llaw mewn gwrogaeth;
31:28 byddai hyn hefyd yn drosedd i'm barnwr, oherwydd imi wadu Duw uchod.
31:29 "A lawenychais am drychineb fy ngelyn, ac ymffrostio pan ddaeth drwg arno?
31:30 Ni adewais i'm tafod bechu trwy osod ei einioes dan felltith.
31:31 Oni ddywedodd y dynion yn fy mhabell, 'Pwy sydd na ddigonwyd ganddo â bwyd?'?
31:32 Ni chafodd y dieithryn gysgu allan; agorais fy nrws i'r crwydryn.
31:33 A guddiais fy nhroseddau fel y gwna eraill, trwy gadw fy nghamwedd yn fy mynwes,
31:34 am fy mod yn ofni'r dyrfa, a bod dirmyg cymdeithas yn fy nychryn, a minnau'n cadw'n dawel heb fynd allan?
31:35 O na fyddai rhywun yn gwrando arnaf! Deuthum i'r terfyn; caiff yr Hollalluog yn awr fy ateb, a chaiff fy ngwrthwynebwr ysgrifennu'r wŷs.
31:36 Yn wir dygaf hi ar f'ysgwyddau, a'i gwisgo fel coron ar fy mhen.
31:37 Rhof gyfrif iddo o'm camau, a nesáu ato fel tywysog.
31:38 Os gwaeddodd fy nhir yn f'erbyn, a'i gwysi i gyd yn wylo;
31:39 os bwyteais ei gynnyrch heb dalu amdano, ac ennyn atgasedd ei berchenogion;
31:40 yna tyfed mieri yn lle gwenith, a chwyn yn lle haidd." Dyma derfyn geiriau Job.

Araith Elihu 32:1—37:24

32:1 Peidiodd y tri gŵr â dadlau rhagor â Job, am fod Job yn ei ystyried ei hun yn fwy cyfiawn na Duw.
32:2  Ond yr oedd Elihu fab Barachel y Busiad, o dylwyth Ram, wedi ei gythruddo yn erbyn Job. Yr oedd yn ddig am ei fod yn ei ystyried ei hun yn gyfiawn gerbron Duw,
32:3 a'r un mor ddig wrth ei dri chyfaill am eu bod yn methu ateb Job er iddynt ei gondemnio.
32:4 Tra oeddent hwy'n llefaru wrth Job, yr oedd Elihu wedi cadw'n dawel am eu bod yn hŷn nag ef.
32:5 Ond digiodd pan welodd nad oedd gan y tri gŵr ateb i Job.
32:6 Yna dywedodd Elihu fab Barachel y Busiad: "Dyn ifanc wyf fi, a chwithau'n hen; am hyn yr oeddwn yn ymatal, ac yn swil i ddweud fy marn wrthych.
32:7 Dywedais, 'Caiff profiad maith siarad, ac amlder blynyddoedd draethu doethineb.'
32:8 Ond yr ysbryd oddi mewn i rywun, ac anadl yr Hollalluog, sy'n ei wneud yn ddeallus.
32:9 Nid yr oedrannus yn unig sydd ddoeth, ac nid yr hen yn unig sy'n deall beth sydd iawn.
32:10 Am hyn yr wyf yn dweud, 'Gwrando arnaf; gad i minnau ddweud fy marn.'
32:11 "Bûm yn disgwyl am eich geiriau, ac yn gwrando am eich deallusrwydd; tra oeddech yn dewis eich geiriau,
32:12 sylwais yn fanwl arnoch, ond nid oedd yr un ohonoch yn gallu gwrthbrofi Job, nac ateb ei ddadleuon.
32:13 Peidiwch â dweud, 'Fe gawsom ni ddoethineb'; Duw ac nid dyn a'i trecha.
32:14 Nid yn f'erbyn i y trefnodd ei ddadleuon; ac nid â'ch geiriau chwi yr atebaf fi ef.
32:15 "Y maent hwy wedi eu syfrdanu, ac yn methu ateb mwyach; pallodd geiriau ganddynt.
32:16 A oedaf fi am na lefarant hwy, ac am eu bod hwy wedi peidio ag ateb?
32:17 Gwnaf finnau fy rhan trwy ateb, a dywedaf fy marn.
32:18 Yr wyf yn llawn o eiriau, ac ysbryd ynof sy'n fy nghymell.
32:19 O'm mewn yr wyf fel petai gwin yn methu arllwys allan, a minnau fel costrelau newydd ar fin rhwygo.
32:20 Rhaid i mi lefaru er mwyn cael gollyngdod, rhaid i mi agor fy ngenau i ateb.
32:21 Ni ddangosaf ffafr at neb, ac ni wenieithiaf i neb;
32:22 oherwydd ni wn i sut i wenieithio; pe gwnawn hynny, byddai fy nghreawdwr ar fyr dro yn fy symud.
33:1 "Ond yn awr, Job, gwrando arnaf, a chlustfeinia ar fy ngeiriau i gyd.
33:2 Dyma fi'n agor fy ngwefusau, a'm tafod yn llefaru yn fy ngenau.
33:3 Y mae fy ngeiriau'n mynegi fy meddwl yn onest, a'm gwefusau wybodaeth yn ddiffuant.
33:4 Ysbryd Duw a'm lluniodd, ac anadl yr Hollalluog a'm ceidw'n fyw.
33:5 Ateb fi, os medri; trefna dy achos, a saf o'm blaen.
33:6 Ystyria, o flaen Duw yr wyf finnau yr un fath â thithau; o glai y'm lluniwyd innau hefyd.
33:7 Ni ddylai arswyd rhagof fi dy barlysu; ni fyddaf yn llawdrwm arnat.
33:8 "Yn wir, dywedaist yn fy nghlyw, a chlywais innau dy eiriau'n glir:
33:9  'Rwy'n lân, heb drosedd; rwy'n bur heb gamwedd.
33:10 Ond y mae Duw yn codi cwynion yn fy erbyn, ac yn f'ystyried yn elyn iddo,
33:11 yn gosod fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylio fy holl ffyrdd.'
33:12 "Nid wyt yn iawn yn hyn, a dyma f'ateb iti: Y mae Duw yn fwy na meidrolyn.
33:13 Pam yr wyt yn ymgecru ag ef, oherwydd nid oes ateb i'r un o'i eiriau?
33:14 Mae Duw yn llefaru unwaith ac eilwaith, ond nid oes neb yn cymryd sylw.
33:15 Mewn breuddwyd, mewn gweledigaeth nos, pan ddaw trymgwsg ar bobl, pan gysgant yn eu gwelyau,
33:16 yna fe wna iddynt wrando, a'u dychryn â rhybuddion,
33:17 i droi rhywun oddi wrth ei weithred, a chymryd ymaith ei falchder oddi wrtho,
33:18 a gwaredu ei einioes rhag y pwll, a'i fywyd rhag croesi afon angau.
33:19 "Fe'i disgyblir ar ei orwedd â chryndod di-baid yn ei esgyrn;
33:20 y mae bwyd yn ffiaidd ganddo, ac nid oes arno chwant am damaid blasus;
33:21 nycha'i gnawd o flaen fy llygad, a daw'r esgyrn, na welid gynt, i'r amlwg;
33:22 y mae ei einioes ar ymyl y pwll, a'i fywyd ger mangre'r meirw.
33:23 Os oes angel i sefyll drosto — un o blith mil i gyfryngu ac i ddadlau ei hawl drosto,
33:24 a thrugarhau wrtho gan ddweud, 'Achub ef rhag mynd i'r pwll; y mae pris ei ryddid gennyf fi' —
33:25 yna bydd ei gnawd yn iachach nag erioed, wedi ei adfer fel yr oedd yn nyddiau ei ieuenctid.
33:26 Bydd yn gweddïo ar Dduw, ac yntau'n ei wrando; bydd yn edrych ar ei wyneb mewn llawenydd, gan ddweud wrth eraill am ei gyfiawnhad
33:27 a chanu yn eu gŵydd, a dweud, 'Pechais, gan droi oddi wrth uniondeb, ond ni chyfrifwyd hyn yn f'erbyn;
33:28 gwaredodd f'einioes rhag mynd i'r pwll, ac fe wêl fy mywyd oleuni.'
33:29 "Gwna Duw hyn i gyd i feidrolyn ddwywaith, ie deirgwaith;
33:30 fe adfer ei einioes o'r pwll, er mwyn iddo gael gweld goleuni bywyd.
33:31 Ystyria, Job, a gwrando arnaf; bydd dawel ac mi lefaraf.
33:32 Os oes gennyt ddadl, ateb fi; llefara, oherwydd fy nymuniad yw dy gyfiawnhau.
33:33 Ond os nad oes gennyt ddim i'w ddweud, gwrando arnaf; bydd dawel, a dysgaf ddoethineb i ti."
34:1 Dywedodd Elihu:
34:2 "Gwrandewch ar fy ngeiriau, chwi ddoethion; clustfeiniwch arnaf, chwi rai deallus.
34:3 Oherwydd y glust sydd yn profi geiriau, fel y profir bwyd gan daflod y genau.
34:4 Gadewch i ni ddewis yr hyn sy'n iawn, a phenderfynu gyda'n gilydd beth sy'n dda.
34:5 Dywedodd Job, 'Yr wyf yn gyfiawn, ond trodd Duw farn oddi wrthyf.
34:6 Er fy mod yn iawn, fe'm gwneir yn gelwyddog; y mae fy archoll yn ffyrnig, a minnau heb droseddu.'
34:7 Pwy sydd fel Job, yn drachtio dirmyg fel dŵr,
34:8 yn cadw cwmni â rhai ofer, ac yn gwag-symera gyda'r drygionus?
34:9 Oherwydd dywedodd, 'Nid yw o werth i neb ymhyfrydu yn Nuw.'
34:10 "Am hyn, chwi bobl ddeallus, gwrandewch arnaf. Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu'n anghyfiawn.
34:11 Oherwydd fe dâl ef i bob un yn ôl ei weithred, a'i wobrwyo yn ôl ei ffordd o fyw.
34:12 Yn wir, nid yw Duw byth yn gwneud drwg, ac nid yw'r Hollalluog yn gwyrdroi barn.
34:13 Pwy a'i gosododd ef mewn awdurdod ar y ddaear, a rhoi'r byd cyfan iddo?
34:14 Pe byddai ef yn rhoi ei fryd ar ddwyn ei ysbryd a'i anadl yn ôl ato'i hun,
34:15 yna byddai pob cnawd yn marw, a phawb yn dychwelyd i'r pridd.
34:16 "Os oes gennyt ti ddeall, gwrando hyn, a rho sylw i'm geiriau.
34:17 A all un sy'n casáu barn lywodraethu? A gondemni di'r un cyfiawn cadarn?
34:18 Gall ef ddweud wrth frenin, 'Y dihiryn', ac wrth lywodraethwyr, 'Y cnafon';
34:19 nid yw'n dangos ffafr at swyddogion, nac yn rhoi'r cyfoethog o flaen y tlawd, oherwydd gwaith ei ddwylo yw pob un ohonynt.
34:20 Mewn moment byddant farw, yng nghanol nos; trenga'r cyfoethog, a diflannu; symudir ymaith y cryf heb ymdrech.
34:21 "Y mae ei lygaid yn gwylio ffyrdd pob un, a gwêl ei holl gamau.
34:22 Nid oes tywyllwch na chaddug lle y gall drwgweithredwyr guddio.
34:23 Nid oes amser wedi ei drefnu i neb ddod i farn o flaen Duw;
34:24 y mae ef yn dryllio'r cryfion heb eu profi, ac yn gosod eraill yn eu lle.
34:25 Y mae'n adnabod eu gweithredoedd, ac yn eu dymchwel a'u dryllio mewn noson.
34:26 Y mae'n eu taro o achos eu drygioni, a hynny yng ngŵydd pawb,
34:27 am eu bod yn troi oddi wrtho, ac yn gwrthod ystyried yr un o'i ffyrdd.
34:28 Gwnânt i gri'r tlawd ddod ato, ac iddo glywed gwaedd yr anghenus.
34:29 Ond y mae ef yn dawel, pwy bynnag a wna ddrwg; y mae'n cuddio'i wyneb, pwy bynnag a'i cais — boed genedl neu unigolyn —
34:30 rhag i neb annuwiol lywodraethu, a maglu pobl.
34:31 "Os dywed un wrth Dduw, 'Euthum ar gyfeiliorn, ni wnaf ddrwg eto;
34:32 am na allaf fi weld, hyffordda di fi; os gwneuthum ddrygioni, ni chwanegaf ato' —
34:33 a wyt ti, sydd wedi ei wrthod, yn tybio y bydd ef yn fodlon ar hynny? Ti sydd i ddewis, nid fi; traetha yr hyn a wyddost.
34:34 Y mae pobl ddeallus yn siarad â mi, a rhai doeth yn gwrando arnaf.
34:35 Ond y mae Job yn llefaru heb ystyried, ac nid yw ei eiriau yn ddeallus.
34:36 O na phrofid Job i'r eithaf, gan fod ei atebion fel rhai pobl ddrwg!
34:37 Y mae'n ychwanegu gwrthryfel at ei bechod, yn codi amheuaeth ynghylch ei drosedd yn ein plith, ac yn amlhau geiriau yn erbyn Duw."
35:1 Dywedodd Elihu:
35:2 "A gredi di fod hyn yn iawn? A wyt ti'n honni bod yn gyfiawn o flaen Duw,
35:3 a thithau'n dweud, 'Pa werth ydyw i ti, neu pa fantais i mi fy hun fod heb bechu?'?
35:4 Fe roddaf fi'r ateb iti, a hefyd i'th gyfeillion.
35:5 Edrych ar yr awyr, ac ystyria, a sylwa ar y cymylau sydd uwch dy ben.
35:6 Os pechaist, pa wahaniaeth yw iddo ef? Ac os amlha dy droseddau, beth a wna hynny iddo ef?
35:7 Os wyt yn gyfiawn, beth yw'r fantais iddo ef, neu beth a dderbyn ef o'th law?
35:8 Â meidrolion fel ti y mae a wnelo dy ddrygioni, ac â phobl y mae a wnelo dy gyfiawnder.
35:9 "Pan waedda pobl dan faich gorthrwm, a llefain am waredigaeth o afael y mawrion,
35:10 ni ddywed neb, 'Ble mae Duw, fy ngwneuthurwr, a rydd destun cân yn y nos,
35:11 ac a'n gwna'n fwy deallus na'r anifeiliaid gwylltion, ac yn fwy doeth nag adar yr awyr?'
35:12 Felly, er iddynt weiddi, nid etyb ef, o achos balchder y drygionus.
35:13 Ofer yn wir! Nid yw Duw'n gwrando arno, ac nid yw'r Hollalluog yn cymryd sylw ohono.
35:14 nac ychwaith ohonot tithau pan ddywedi nad wyt yn ei weld, a bod yr achos o'i flaen, a'th fod yn dal i ddisgwyl wrtho.
35:15 Ond yn awr, am nad yw ef yn cosbi yn ei ddig, ac nad yw'n sylwi'n fanwl ar gamwedd,
35:16 fe lefarodd Job yn ynfyd, ac amlhau geiriau heb ddeall."
36:1 Aeth Elihu ymlaen i ddweud:
36:2 "Aros ychydig, imi gael dangos iti fod eto eiriau i'w dweud dros Dduw.
36:3 Yr wyf yn tynnu fy ngwybodaeth o bell, i dystio bod fy Ngwneuthurwr yn gyfiawn.
36:4 Yn wir nid yw fy ngeiriau'n gelwydd; un diogel ei wybodaeth sydd o'th flaen.
36:5 Edrych yma, Duw yw'r Un Cadarn; nid yw'n anystyriol, eithr mawr a chadarn yw mewn deall.
36:6 Nid yw'n gadael i'r drygionus gael byw, ond fe gynnal achos y gwan.
36:7 Ni thry ei olwg oddi ar y cyfiawn, ond gyda brenhinoedd ar orsedd cânt eistedd am byth, a llwyddo.
36:8 Os rhwymir hwy mewn cadwynau, a'u dal mewn gefynnau gofid,
36:9 yna fe ddengys iddynt eu gweithred a'u trosedd, am iddynt fod yn ffroenuchel.
36:10 Rhydd rybudd iddynt am ddisgyblaeth, a dywed wrthynt am droi oddi wrth eu drygioni.
36:11 Os gwrandawant, a bod yn ufudd, fe gânt dreulio'u dyddiau mewn llwyddiant, a'u blynyddoedd mewn hyfrydwch.
36:12 Os gwrthodant wrando, difethir hwy gan gleddyf, a darfyddant heb ddysgu dim.
36:13 "Y mae'r rhai annuwiol yn ennyn dig, ac ni cheisiant gymorth mewn caethiwed.
36:14 Y maent yn marw'n ifanc, wedi treulio'u bywyd gyda phuteinwyr cysegr.
36:15 Fe wareda ef y rhai trallodus trwy eu gofid, a'u dysgu trwy orthrymder.
36:16 "Er iddo geisio dy ddenu oddi wrth ofid, a'th ddwyn o le cyfyng i ehangder, a hulio dy fwrdd â phob braster,
36:17 yr wyt yn llawn o farn ar y drygionus, wedi dy feddiannu gan farn a chyfiawnder.
36:18 Gwylia rhag cael dy hudo gan ddigonedd, a phaid â gadael i faint y rhodd dy ddenu.
36:19 A fydd dy gyfoeth yn dy helpu mewn cyfyngder, neu holl adnoddau dy nerth?
36:20 Paid â dyheu am y nos, pan symudir pobloedd o'u lle.
36:21 Gwylia rhag troi at ddrygioni, oherwydd dewisi hyn yn hytrach na gofid.
36:22 Sylwa mor aruchel yw Duw yn ei nerth; pwy sydd yn dysgu fel y gwna ef?
36:23 Pwy a wylia arno yn ei ffordd? a phwy a ddywed, 'Yr wyt yn gwneud yn anghyfiawn'?
36:24 "Cofia di ganmol ei waith, y gwaith y canodd pobl amdano.
36:25 Y mae pawb yn edrych arno, ac yn ei weld o bell.
36:26 Cofia fod Duw yn fawr, y tu hwnt i ddeall, a'i flynyddoedd yn ddirifedi.
36:27 Y mae'n cronni'r defnynnau dŵr, ac yn eu dihidlo'n law mân fel tarth;
36:28 fe'u tywelltir o'r cymylau, i ddisgyn yn gawodydd ar bobl.
36:29 A ddeall neb daeniad y cwmwl, a'r tyrfau sydd yn ei babell?
36:30 Edrych fel y taena'i darth o'i gwmpas, ac y cuddia waelodion y môr.
36:31 Â'r rhain y diwalla ef y bobloedd, a rhoi iddynt ddigonedd o fwyd.
36:32 Deil y mellt yn ei ddwylo, a'u hanelu i gyrraedd eu nod.
36:33 Dywed ei drwst amdano, fod angerdd ei lid yn erbyn drygioni.
37:1 "Am hyn hefyd y mae fy nghalon yn cynhyrfu, ac yn llamu o'i lle.
37:2 Gwrandewch ar daran ei lais, a'r atsain a ddaw o'i enau.
37:3 Y mae'n ei yrru ar draws yr wybren, ac yn gyrru ei fellt i gilfachau'r byd.
37:4 Ar eu hôl fe rua; tarana â'i lais mawr, ac nid yw'n eu hatal pan glywir ei lais.
37:5 Tarana Duw yn rhyfeddol â'i lais; gwna wyrthiau, y tu hwnt i'n deall.
37:6 Fe ddywed wrth yr eira, 'Disgyn ar y ddaear', ac wrth y glaw a'r cawodydd, 'Trymhewch'.
37:7 Y mae pob un yn cael ei gau i mewn, a phopeth a wnânt yn cael ei atal.
37:8 Â'r anifeiliaid i'w ffeuau, ac aros yn eu gwâl.
37:9 Daw'r corwynt allan o'i ystafell, ac oerni o'r tymhestloedd.
37:10 Daw anadl Duw â'r rhew, a rhewa'r llynnoedd yn galed.
37:11 Lleinw'r cwmwl hefyd â gwlybaniaeth, a gwasgara'r cwmwl ei fellt.
37:12 Gwibiant yma ac acw ar ei orchymyn, i wneud y cyfan a ddywed wrthynt, dros wyneb daear gyfan.
37:13 "Gwna hyn naill ai fel cosb, neu er mwyn ei dir, neu mewn trugaredd.
37:14 "Gwrando ar hyn, Job; aros ac ystyria ryfeddodau Duw.
37:15 A wyt ti'n deall sut y mae Duw yn trefnu, ac yn gwneud i'r mellt fflachio yn ei gwmwl?
37:16 A wyt ti'n deall symudiadau'r cymylau, rhyfeddodau un perffaith ei wybodaeth?
37:17 Ti, sy'n chwysu yn dy ddillad pan fydd y ddaear yn swrth dan wynt y de,
37:18 a fedrit ti, fel ef, daenu'r wybren, sy'n galed fel drych o fetel tawdd?
37:19 Dywed wrthym beth i'w ddweud wrtho; oherwydd y tywyllwch ni allwn ni drefnu'n hachos.
37:20 A ellir dweud wrtho, 'Yr wyf fi am lefaru', neu fynegi iddo, 'Y mae hwn am siarad'?
37:21 "Ond yn awr, ni all neb edrych ar y goleuni pan yw'n ddisglair yn yr awyr, a'r gwynt wedi dod a'i chlirio.
37:22 Disgleiria o'r gogledd fel aur; o gwmpas Duw y mae ysblander ofnadwy.
37:23 Ni allwn ni ganfod yr Hollalluog, y mae'n fawr ei nerth; yn ei farn a'i gyfiawnder ni wna gam.
37:24 Am hyn, y mae pawb yn ei ofni, a phob un doeth yn edrych ato."

Yr Arglwydd yn Ateb Job

38:1 Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt:
38:2 "Pwy yw hwn sy'n tywyllu cyngor â geiriau diwybod?
38:3 Gwna dy hun yn barod i'r ornest; fe holaf fi di, a chei dithau ateb.
38:4 "Ble'r oeddit ti pan osodais i sylfaen i'r ddaear? Ateb, os gwyddost.
38:5 Pwy a benderfynodd ei mesurau? Mae'n siŵr dy fod yn gwybod! Pwy a estynnodd linyn mesur arni?
38:6 Ar beth y seiliwyd ei sylfeini, a phwy a osododd ei chonglfaen?
38:7 Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a'r holl angylion yn gorfoleddu,
38:8 pan gaewyd ar y môr â dorau, pan lamai allan o'r groth,
38:9 pan osodais gwmwl yn wisg amdano, a'r caddug yn rhwymyn iddo,
38:10 a phan drefnais derfyn iddo, a gosod barrau a dorau,
38:11 a dweud, 'Hyd yma yr ei, a dim pellach, ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau'?
38:12 "A wyt ti, yn ystod dy fywyd, wedi gorchymyn y bore a dangos ei lle i'r wawr,
38:13 er mwyn iddi gydio yng nghonglau'r ddaear, i ysgwyd y drygionus ohoni?
38:14 Y mae'n newid ffurf fel clai dan y sêl, ac yn sefyll allan fel plyg dilledyn.
38:15 Atelir eu goleuni oddi wrth y drygionus, a thorrir y fraich ddyrchafedig.
38:16 "A fedri di fynd at ffynhonnell y môr, neu gerdded yng nghuddfa'r dyfnder?
38:17 A agorwyd pyrth angau i ti, neu a welaist ti byrth y fagddu?
38:18 A fedri di ddirnad maint y ddaear? Dywed, os wyt ti'n deall hyn i gyd.
38:19 "Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni, ac i le tywyllwch,
38:20 fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn, a gwybod y llwybr i'w thŷ?
38:21 Fe wyddost, am dy fod wedi dy eni yr adeg honno, a bod nifer dy ddyddiau yn fawr!
38:22 "A fuost ti yn ystordai'r eira, neu'n gweld cistiau'r cesair?
38:23 Dyma'r pethau a gedwais at gyfnod trallod, at ddydd brwydr a rhyfel.
38:24 Prun yw'r ffordd i'r fan lle y rhennir goleuni, ac y gwasgerir gwynt y dwyrain ar y ddaear?
38:25 "Pwy a wnaeth sianel i'r cenllif glaw, a llwybr i'r daranfollt,
38:26 i lawio ar dir heb neb ynddo, a diffeithwch heb unrhyw un yn byw ynddo,
38:27 i ddigoni'r tir diffaith ac anial, a pheri i laswellt dyfu yno?
38:28 "A oes tad i'r glaw? Pwy a genhedlodd y defnynnau gwlith?
38:29 O groth pwy y daw'r rhew? A phwy a genhedlodd y llwydrew,
38:30 i galedu'r dyfroedd fel carreg, a rhewi wyneb y dyfnder?
38:31 A fedri di gau cadwynau Pleiades, neu ddatod rhwymau Orion?
38:32 A fedri di ddwyn Masaroth allan yn ei bryd, a thywys yr Arth gyda'i phlant?
38:33 A wyddost ti reolau'r awyr? A fedri di gymhwyso i'r ddaear ei threfn?
38:34 "A fedri di alw ar y cwmwl i beri i ddyfroedd lifo drosot?
38:35 A fedri di roi gorchymyn i'r mellt, iddynt ddod atat a dweud, 'Dyma ni'?
38:36 Pwy a rydd ddoethineb i'r cymylau, a deall i'r niwl?
38:37 Gan bwy y mae digon o ddoethineb i gyfrif y cymylau? A phwy a wna i gostrelau'r nefoedd arllwys,
38:38 nes bod llwch yn mynd yn llaid, a'r tywyrch yn glynu wrth ei gilydd?
38:39 "Ai ti sydd yn hela ysglyfaeth i'r llew, a diwallu angen y llewod ifanc,
38:40 pan grymant yn eu gwâl, ac aros dan lwyn am helfa?
38:41 Pwy sy'n trefnu bwyd i'r frân, pan waedda'r cywion ar Dduw, a hedfan o amgylch heb fwyd?
39:1 "A wyddost ti amser llydnu y geifr gwylltion? A fuost ti'n gwylio'r ewigod yn esgor,
39:2 yn cyfrif y misoedd a gyflawnant ac yn gwybod amser eu llydnu?
39:3 Y maent yn crymu i eni eu llydnod, ac yn bwrw eu brych.
39:4 Y mae eu llydnod yn cryfhau ac yn prifio yn y maes, yn mynd ymaith, ac ni ddônt yn ôl.
39:5 "Pwy sy'n rhoi ei ryddid i'r asyn gwyllt, ac yn datod rhwymau'r asyn cyflym
39:6 y rhoddais yr anialdir yn gynefin iddo, a thir diffaith yn lle iddo fyw?
39:7 Y mae'n gas ganddo sŵn y dref; y mae'n fyddar i floeddiadau gyrrwr.
39:8 Crwydra'r mynyddoedd am borfa, a chwilia am bob blewyn glas.
39:9 "A yw'r ych gwyllt yn fodlon bod yn dy wasanaeth, a threulio'r nos wrth dy breseb?
39:10 A wyt yn gallu ei rwymo i gerdded yn y rhych, neu a fydd iddo lyfnu'r dolydd ar dy ôl?
39:11 A wyt ti'n dibynnu arno am ei fod yn gryf? A adewi dy lafur iddo?
39:12 A ymddiriedi ynddo i ddod â'th rawn yn ôl, a'i gasglu i'th lawr dyrnu?
39:13 "Ysgwyd yn brysur a wna adenydd yr estrys, ond heb fedru hedfan fel adenydd y garan;
39:14 y mae'n gadael ei hwyau ar y ddaear, i ddeor yn y pridd,
39:15 gan anghofio y gellir eu sathru dan draed, neu y gall anifail gwyllt eu mathru.
39:16 Y mae'n esgeulus o'i chywion, ac yn eu trin fel pe na baent yn perthyn iddi, heb ofni y gallai ei llafur fod yn ofer.
39:17 Oherwydd gadawodd Duw hi heb ddoethineb, ac nid oes ganddi ronyn o ddeall.
39:18 Ond pan gyfyd a rhedeg, gall chwerthin am ben march a'i farchog.
39:19 "Ai ti sy'n rhoi nerth i'r march, ac yn gwisgo'i war â mwng?
39:20 Ai ti sy'n gwneud iddo ruglo fel locust, a gweryru nes creu dychryn?
39:21 Cura'r llawr â'i droed, ac ymffrostia yn ei nerth pan â allan i wynebu'r frwydr.
39:22 Y mae'n ddi-hid ac yn ddi-fraw; ni thry'n ôl rhag y cleddyf.
39:23 O'i gwmpas y mae clep y cawell saethau, fflach y cleddyf a'r waywffon.
39:24 Yn aflonydd a chynhyrfus y mae'n difa'r ddaear; ni all aros yn llonydd pan glyw sain utgorn.
39:25 Pan glyw'r utgorn, dywed, 'Aha !' Fe synhwyra frwydr o bell, trwst y capteiniaid a'u bloedd.
39:26 "Ai dy ddeall di sy'n gwneud i'r hebog hedfan a lledu ei adenydd tua'r De?
39:27 Ai d'orchymyn di a wna i'r eryr hedfan a gosod ei nyth yn uchel?
39:28 Fe drig ar y graig, ac aros yno yng nghilfach y graig a'i diogelwch.
39:29 Oddi yno y chwilia am fwyd, gan edrych i'r pellter.
39:30 Y mae ei gywion yn llowcio gwaed; a phle bynnag y ceir ysgerbwd, y mae ef yno."
40:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Job:
40:2 "A ddylai un sy'n dadlau â'r Hollalluog fod yn ystyfnig? Caiff yr un sy'n ymryson â Duw ateb am hynny."
40:3 Yna atebodd Job:
40:4 "Un dibwys wyf fi; beth allaf ei ddweud? Rhof fy llaw ar fy ngheg.
40:5 Yr wyf wedi llefaru unwaith, ac nid atebaf eto; do ddwywaith, ac ni chwanegaf."
40:6 Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt:
40:7 "Gwna dy hun yn barod i'r ornest; fe holaf fi di, a chei dithau ateb.
40:8 A wyt ti'n gwadu fy mod yn iawn, ac yn fy nghondemnio, i'th gyfiawnhau dy hun?
40:9 A oes gennyt nerth fel sydd gan Dduw? A fedri daranu â'th lais fel y gwna ef?
40:10 "Addurna dy hun â balchder ac urddas, a gwisga ogoniant a harddwch.
40:11 Gollwng yn rhydd angerdd dy ddig; edrych ar bob balch, i'w daflu i'r llawr.
40:12 Sylwa ar bob balchder, i'w ddiraddio; sathra'r rhai drygionus yn eu lle.
40:13 Cuddia hwy i gyd yn y llwch; cuddia'u hwynebau o'r golwg.
40:14 Yna fe'th ganmolaf am fod dy law dde'n dy waredu.
40:15 "Edrych ar Behemoth, a greais yr un adeg â thi; y mae'n bwyta glaswellt fel yr ych.
40:16 Y mae ei nerth yn ei lwynau, a'i gryfder yng nghyhyrau ei fol.
40:17 Y mae ei gynffon yn syth fel cedrwydden, a gewynnau ei gluniau wedi eu clymu i'w gilydd.
40:18 Y mae ei esgyrn fel pibellau pres, a'i goesau fel barrau haearn.
40:19 "Ef yw'r cyntaf o'r pethau a wnaeth Duw; gwnaed ef yn deyrn dros ei gymrodyr.
40:20 Y mae'r mynyddoedd yn darparu ysglyfaeth iddo; yr holl anifeiliaid sy'n chwarae yno.
40:21 Fe orwedd dan y lotus, a chuddio yn y brwyn a'r corsydd.
40:22 Y mae'r lotus yn gysgod drosto, a helyg yn y nant yn ei guddio.
40:23 Os cyfyd yr afon drosto, ni chynhyrfa; byddai'n ddifraw pe bai'r Iorddonen yn llifo i'w geg.
40:24 A ellir ei fachu yn ei lygaid, a gwthio tryfer i'w drwyn?
41:1 "A fedri di dynnu Lefiathan allan â bach, neu ddolennu rhaff am ei dafod?
41:2 A fedri di roi cortyn am ei drwyn, neu wthio bach i'w ên?
41:3 A wna ef ymbil yn daer arnat, neu siarad yn addfwyn â thi?
41:4 A wna gytundeb â thi, i'w gymryd yn was iti am byth?
41:5 A gei di chwarae ag ef fel ag aderyn, neu ei rwymo wrth dennyn i'th ferched?
41:6 A fydd masnachwyr yn bargeinio amdano, i'w rannu rhwng y gwerthwyr?
41:7 A osodi di bigau haearn yn ei groen, a bachau pysgota yn ei geg?
41:8 Os gosodi dy law arno, fe gofi am yr ysgarmes, ac ni wnei hyn eto.
41:9 Yn wir twyllodrus yw ei lonyddwch; onid yw ei olwg yn peri arswyd?
41:10 Nid oes neb yn ddigon eofn i'w gynhyrfu; a phwy a all sefyll o'i flaen?
41:11 Pwy a ddaw ag ef ataf, imi gael rhoi gwobr iddo o'r cyfan sydd gennyf dan y nef?
41:12 Ni pheidiaf â sôn am ei aelodau, ei gryfder a'i ffurf gytbwys.
41:13 Pwy a all agor ei wisg uchaf, neu drywanu ei groen dauddyblyg?
41:14 Pwy a all agor dorau ei geg, a'r dannedd o'i chwmpas yn codi arswyd?
41:15 Y mae ei gefn fel rhesi o darianau wedi eu cau'n dynn â sêl.
41:16 Y maent yn glòs wrth ei gilydd, heb fwlch o gwbl rhyngddynt.
41:17 Y mae'r naill yn cydio mor dynn wrth y llall, fel na ellir eu gwahanu.
41:18 Y mae ei disian yn gwasgaru mellt, a'i lygaid yn pefrio fel y wawr.
41:19 Daw fflachiadau allan o'i geg, a thasga gwreichion ohoni.
41:20 Daw mwg o'i ffroenau, fel o grochan yn berwi ar danllwyth.
41:21 Y mae ei anadl yn tanio cynnud, a daw fflam allan o'i geg.
41:22 Y mae cryfder yn ei wddf, ac arswyd yn rhedeg o'i flaen.
41:23 Y mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd, ac mor galed amdano fel na ellir eu symud.
41:24 Y mae ei galon yn gadarn fel craig, mor gadarn â maen melin.
41:25 Pan symuda, fe ofna'r cryfion; ânt o'u pwyll oherwydd sŵn y rhwygo.
41:26 Os ceisir ei drywanu â'r cleddyf, ni lwyddir, nac ychwaith â'r waywffon, dagr, na'r bicell.
41:27 Y mae'n trafod haearn fel gwellt, a phres fel pren wedi pydru.
41:28 Ni all saeth wneud iddo ffoi, ac y mae'n trafod cerrig-tafl fel us.
41:29 Fel sofl yr ystyria'r pastwn, ac y mae'n chwerthin pan chwibana'r bicell.
41:30 Oddi tano y mae fel darnau miniog o lestri, a gwna rychau fel og ar y llaid.
41:31 Gwna i'r dyfnder ferwi fel crochan; gwna'r môr fel eli wedi ei gymysgu.
41:32 Gedy lwybr gwyn ar ei ôl, a gwna i'r dyfnder ymddangos yn benwyn.
41:33 Nid oes tebyg iddo ar y ddaear, creadur heb ofn dim arno.
41:34 Y mae'n edrych i lawr ar bopeth uchel; ef yw brenin yr holl anifeiliaid balch."

Job yn Ateb yr Arglwydd

42:1 Dywedodd Job wrth yr ARGLWYDD:
42:2 "Gwn dy fod yn gallu gwneud popeth, ac nad oes dim yn amhosibl i ti.
42:3 Meddi, 'Pwy yw hwn sy'n cuddio deall â geiriau diwybod?' Yn wir, rwyf wedi mynegi pethau nad oeddwn yn eu deall, pethau rhyfeddol, tu hwnt i'm dirnad.
42:4 Yn awr gwrando, a gad i mi lefaru; fe holaf fi di, a chei dithau f'ateb.
42:5 Trwy glywed yn unig y gwyddwn amdanat, ond yn awr rwyf wedi dy weld â'm llygaid fy hun.
42:6 Am hynny rwyf yn fy ffieiddio fy hunan, ac yn edifarhau mewn llwch a lludw."
42:7 Ar ôl i'r ARGLWYDD lefaru'r geiriau hyn wrth Job, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eliffas y Temaniad, "Yr wyf yn ddig iawn wrthyt ti a'th ddau gyfaill am nad ydych wedi dweud yr hyn sy'n iawn amdanaf, fel y gwnaeth fy ngwas Job.

Diweddglo

42:8 Yn awr cymerwch saith ych a saith hwrdd, ac ewch at fy ngwas Job, i offrymu poethoffrwm drosoch eich hunain. Fe weddïa fy ngwas Job drosoch; gwrandawaf finnau arno, ac ni ddialaf arnoch am eich ffolineb, am ichwi beidio â llefaru yn iawn amdanaf, fel y gwnaeth fy ngwas Job."
42:9 Yna aeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad a Soffar y Naamathiad, a gwneud fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt; a gwrandawodd yr ARGLWYDD ar Job.
42:10 Wedi i Job weddïo dros ei gyfeillion, adferodd yr ARGLWYDD iddo ei lwyddiant, a rhoi'n ôl i Job ddwywaith yr hyn oedd ganddo o'r blaen.
42:11 Yna aeth ei frodyr a'i chwiorydd i gyd, a'r holl gyfeillion oedd ganddo gynt, i fwyta gydag ef yn ei dŷ, ac i'w gysuro a'i ddiddanu am y drwg a ddygodd yr ARGLWYDD arno. A rhoddodd pob un ohonynt ddarn arian a modrwy aur iddo.
42:12 Bendithiodd yr ARGLWYDD ddiwedd oes Job yn fwy na'i dechrau: yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, chwe mil o gamelod, mil o fustych a mil o asennod.
42:13 Hefyd yr oedd ganddo saith mab a thair merch.
42:14 Enwodd yr hynaf ohonynt yn Jemima, yr ail yn Cesia, a'r drydedd yn Cerenhapuch.
42:15 Nid oedd merched prydferthach na merched Job drwy'r holl wlad, a rhoes Job etifeddiaeth iddynt hwy yn ogystal ag i'w brodyr.
42:16 Bu Job fyw gant a deugain o flynyddoedd ar ôl hyn, a chafodd weld ei blant a phlant ei blant hyd at bedair cenhedlaeth.
42:17 Bu farw Job yn hen iawn, mewn gwth o oedran.