LLYFR Y PREGETHWR

Oferedd Bywyd

1:1 Geiriau'r Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem:
1:2 "Gwagedd llwyr," meddai'r Pregethwr, "gwagedd llwyr yw'r cyfan."
1:3 Pa elw sydd i neb yn ei holl lafur, wrth iddo ymlafnio dan yr haul?
1:4 Y mae cenhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod, ond y mae'r ddaear yn aros am byth.
1:5 Y mae'r haul yn codi ac yn machlud, ac yn brysio'n ôl i'r lle y cododd.
1:6 Y mae'r gwynt yn chwythu i'r de, ac yna'n troi i'r gogledd; y mae'r gwynt yn troelli'n barhaus, ac yn dod yn ôl i'w gwrs.
1:7 Y mae'r holl nentydd yn rhedeg i'r môr, ond nid yw'r môr byth yn llenwi; y mae'r nentydd yn mynd yn ôl i'w tarddle, ac yna'n llifo allan eto.
1:8 Y mae pob peth mor flinderus fel na all neb ei fynegi; ni ddigonir y llygad trwy edrych, na'r glust trwy glywed.
1:9 Yr hyn a fu a fydd, a'r hyn a wnaed a wneir; nid oes dim newydd dan yr haul.
1:10 A oes unrhyw beth y gellir dweud amdano, "Edrych, dyma beth newydd"? Y mae'r cyfan yn bod ers amser maith, y mae'n bod o'n blaenau ni.
1:11 Ni chofir am y rhai a fu, nac ychwaith am y rhai a ddaw ar eu hôl; ni chofir amdanynt gan y rhai a fydd yn eu dilyn.

Profiad y Pregethwr

1:12 Yr oeddwn i, y Pregethwr, yn frenin ar Israel yn Jerwsalem.
1:13 Rhoddais fy mryd ar astudio a chwilio, trwy ddoethineb, y cyfan sy'n digwydd dan y nef. Gorchwyl diflas yw'r un a roddodd Duw i bobl ymboeni yn ei gylch.
1:14 Gwelais yr holl bethau a ddig-wyddodd dan yr haul, ac yn wir nid yw'r cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt.
1:15 Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ar goll.
1:16 Dywedais wrthyf fy hun, "Llwyddais i ennill mwy o ddoethineb nag unrhyw frenin o'm blaen yn Jerwsalem; cefais brofi llawer o ddoethineb a gwybodaeth."
1:17 Rhoddais fy mryd ar ddeall doethineb a gwybodaeth, ynfydrwydd a ffolineb, a chanfûm nad oedd hyn ond ymlid gwynt.
1:18 Oherwydd y mae cynyddu doethineb yn cynyddu gofid, ac ychwanegu gwybodaeth yn ychwanegu poen.
2:1 Dywedais wrthyf fy hun, "Tyrd yn awr, gad imi brofi pleser, a'm mwynhau fy hun,"
2:2 ond yr oedd hyn hefyd yn wagedd. Dywedais fod chwerthin yn ynfydrwydd, ac nad oedd pleser yn dda i ddim.
2:3 Ceisiais godi fy nghalon â gwin, gan ofalu fy mod yn ymddwyn yn ddoeth ac yn ffrwyno ffolineb, nes imi weld beth oedd yn dda i bobl ei wneud dan y nef yn ystod cyfnod byr eu hoes.
2:4 Gwneuthum bethau mawr: adeiledais dai i mi fy hun, a phlannu gwinllannoedd;
2:5 gwneuthum erddi a pherllannau, a phlannu pob math ar goed ffrwythau ynddynt;
2:6 gwneuthum hefyd lynnoedd i ddyfrhau ohonynt y llwyni coed oedd yn tyfu;
2:7 prynais gaethion, yn ddynion a merched, ac yr oedd gennyf weision wedi eu geni yn fy nhŷ; yr oedd gennyf fwy o wartheg a defaid nag unrhyw un a fu o'm blaen yn Jerwsalem;
2:8 cesglais arian ac aur, trysorau brenhinoedd a thaleithiau; yr oedd gennyf hefyd gantorion a chantoresau, a digonedd o ferched gordderch i ddifyrru dynion.
2:9 Deuthum yn enwog, ac yn fwy llwyddiannus nag unrhyw un a fu o'm blaen yn Jerwsalem; ac eto glynais wrth ddoethineb.
2:10 Nid oeddwn yn cadw draw oddi wrth unrhyw beth a chwenychai fy llygaid, nac yn troi ymaith oddi wrth unrhyw bleser. Yn wir yr oeddwn yn cael llawenydd yn fy holl lafur, a hyn oedd fy nhâl am fy holl waith.
2:11 Yna, pan drois i edrych ar y cyfan a wnaeth fy nwylo a'r llafur yr ymdrechais i'w gyflawni, gwelwn nad oedd y cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt, heb unrhyw elw dan yr haul.
2:12 Yna trois i edrych ar ddoethineb, ac ar ynfydrwydd a ffolineb. Beth rhagor y gall y sawl a ddaw ar ôl y brenin ei wneud nag sydd eisoes wedi ei wneud?
2:13 Yna gwelais fod doethineb yn werthfawrocach nag ynfydrwydd, fel y mae goleuni yn werthfawrocach na thywyllwch.
2:14 Y mae'r doeth â'i lygaid yn ei ben, ond y mae'r ffôl yn rhodio yn y tywyllwch; eto canfûm mai'r un peth yw tynged y ddau.
2:15  Yna dywedais wrthyf fy hun, "Yr un peth a ddigwydd i mi ac i'r ffôl. Pa elw a gaf o fod yn ddoeth?" Yna dywedais, "Y mae hyn hefyd yn wagedd."
2:16 Oherwydd ni chofir am byth am y doeth mwy na'r ffôl, ond fe anghofir am y naill a'r llall fel yr â'r dyddiau heibio; yn wir, marw y mae'r doeth fel y ffôl.
2:17 Yna deuthum i gasáu bywyd, gan fod y cyfan sy'n digwydd dan yr haul yn achosi blinder imi; yn wir y mae'r cyfan yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
2:18 Yr oeddwn yn casáu'r holl lafur a gyflawnais dan yr haul, gan y bydd yn rhaid imi ei adael i'r un a ddaw ar fy ôl;
2:19 a phwy sy'n gwybod ai doeth ynteu ffôl fydd hwnnw? Ac eto, ef fydd yn rheoli'r holl lafur a gyflawnais mewn doethineb dan yr haul. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
2:20  Yna euthum i anobeithio'n llwyr am yr holl lafur a gyflawnais dan yr haul.
2:21 Oherwydd y mae'r sawl a lafuriodd yn ddoeth a deallus a chyda medr yn gadael ei eiddo i un na lafuriodd amdano. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn flinder mawr.
2:22 Beth a gaiff neb am yr holl lafur a'r ymdrech a gyflawnodd dan yr haul?
2:23 Oherwydd y mae ei holl ddyddiau yn ofidus, a'i orchwyl yn boenus; a hyd yn oed yn y nos nid oes gorffwys i'w feddwl. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
2:24 Nid oes dim yn well i neb na bwyta ac yfed a chael mwynhad o'i lafur. Yn wir gwelais fod hyn yn dod oddi wrth Dduw;
2:25 oherwydd pwy all fwyta a chael mwynhad hebddo ef?
2:26 Yn wir, y mae Duw yn rhoi doethineb, deall a llawenydd i'r sawl sy'n dda yn ei olwg, ond i'r un sy'n pechu fe roddir y dasg o gasglu a chronni ar gyfer yr un sy'n dda yng ngolwg Duw. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.

Tymor i Bob Peth

3:1 Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:
3:2 amser i eni, ac amser i farw, amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio'r hyn a blannwyd;
3:3 amser i ladd, ac amser i iacháu, amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu;
3:4 amser i wylo, ac amser i chwerthin, amser i alaru, ac amser i ddawnsio;
3:5 amser i daflu cerrig, ac amser i'w casglu, amser i gofleidio, ac amser i ymatal;
3:6 amser i geisio, ac amser i golli, amser i gadw, ac amser i daflu ymaith;
3:7 amser i rwygo, ac amser i drwsio, amser i dewi, ac amser i siarad;
3:8 amser i garu, ac amser i gasáu, amser i ryfel, ac amser i heddwch.
3:9 Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio?
3:10 Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i'w chyflawni.
3:11 Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o'r dechrau i'r diwedd.
3:12 Yr wyf yn gwybod nad oes dim yn well i bobl mewn bywyd na bod yn llawen a gwneud da,
3:13 a gwn mai rhodd Duw yw fod pob un yn bwyta ac yn yfed ac yn cael mwynhad o'i holl lafur.
3:14 Yr wyf yn gwybod hefyd fod y cyfan a wna Duw yn aros byth; ni ellir ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho. Gweithreda Duw fel hyn er mwyn i bobl ei barchu.
3:15 Y mae'r hyn sy'n bod wedi bod eisoes, a'r hyn sydd i ddod hefyd wedi bod eisoes, ac y mae Duw yn chwilio am yr hyn a ddiflannodd.

Anghyfiawnder

3:16 Hefyd gwelais dan yr haul fod drygioni wedi cymryd lle barn a chyfiawnder.
3:17 Ond dywedais wrthyf fy hun, "Bydd Duw yn barnu'r cyfiawn a'r drygionus, oherwydd y mae wedi trefnu amser i bob gorchwyl a gwaith."
3:18 Dywedais wrthyf fy hun, "Y mae Duw yn profi pobl er mwyn iddynt weld eu bod fel yr anifeiliaid."
3:19 Oherwydd yr un peth a ddigwydd i bobl ac anifeiliaid, yr un yw eu tynged; y mae'r naill fel y llall yn marw. Yr un anadl sydd ynddynt i gyd; nid oes gan neb dynol fantais dros anifail. Y mae hyn i gyd yn wagedd.
3:20 Y maent i gyd yn mynd i'r un lle; daethant i gyd o'r llwch, ac i'r llwch y maent yn dychwelyd.
3:21 Pwy sy'n gwybod a yw ysbryd dynol yn mynd i fyny ac ysbryd anifail yn mynd i lawr i'r ddaear?
3:22 Yna gwelais nad oes dim yn well i rywun na'i fwynhau ei hun yn ei waith, oherwydd dyna yw ei dynged. Pwy all wneud iddo weld beth fydd ar ei ôl?
4:1 Unwaith eto ystyriais yr holl orthrymderau sy'n digwydd dan yr haul. Gwelais ddagrau y rhai a orthrymwyd, ac nid oedd neb i'w cysuro; yr oedd nerth o blaid eu gorthrymwyr, ac nid oedd neb i'w cysuro.
4:2 Yna deuthum i'r casgliad ei bod yn well ar y rhai sydd eisoes wedi marw na'r rhai sy'n dal yn fyw.
4:3 Ond gwell na'r ddau yw'r rhai sydd eto heb eu geni, ac sydd heb weld y drwg a wneir dan yr haul.
4:4 Hefyd sylwais ar yr holl lafur a medr mewn gwaith, ei fod yn codi o genfigen rhwng rhywun a'i gymydog. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
4:5 Y mae'r ffôl yn plethu ei ddwylo, ac yn ei ddifa'i hun.
4:6 Gwell yw llond un llaw mewn llonyddwch na llond dwy law mewn gofid ac ymlid gwynt.
4:7 Unwaith eto gwelais y gwagedd sydd dan yr haul:
4:8 rhywun unig heb fod ganddo na chyfaill, na mab na brawd; nid oes diwedd ar ei holl lafur, eto nid yw cyfoeth yn rhoi boddhad iddo. Nid yw'n gofyn, "I bwy yr wyf yn llafurio, ac yn fy amddifadu fy hun o bleser?" Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn orchwyl diflas.
4:9 Y mae dau yn well nag un, oherwydd y maent yn cael tâl da am eu llafur;
4:10 os bydd y naill yn syrthio, y mae'r llall yn gallu ei godi, ond gwae'r un sydd ar ei ben ei hun; pan yw'n syrthio, nid oes ganddo neb i'w godi.
4:11 Hefyd os bydd dau yn gorwedd gyda'i gilydd, y mae'r naill yn cadw'r llall yn gynnes; ond sut y gall un gadw'n gynnes ar ei ben ei hun?
4:12 Er y gellir trechu un, y mae dau yn gallu gwrthsefyll. Ni ellir torri rhaff deircainc ar frys.
4:13 Y mae bachgen tlawd, ond doeth, yn well na brenin hen a ffôl, nad yw bellach yn gwybod sut i dderbyn cyngor.
4:14 Yn wir, gall un ddod allan o garchar i fod yn frenin, er iddo gael ei eni'n dlawd yn ei deyrnas.
4:15 Gwelais bawb oedd yn byw ac yn rhodio dan yr haul yn dilyn y bachgen oedd yn lle'r brenin.
4:16 Nid oedd terfyn ar yr holl bobl, ac yr oedd ef yn ben arnynt i gyd; ond nid oedd y rhai a ddaeth ar ei ôl yn ymhyfrydu ynddo. Yn wir, y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.

Rhybudd rhag Llefaru'n Fyrbwyll

5:1 Gwylia dy droed pan fyddi'n mynd i dŷ Dduw. Y mae'n well nesáu i wrando nag offrymu aberth ffyliaid, oherwydd nid ydynt hwy'n gwybod eu bod yn gwneud drwg.
5:2 Paid â bod yn fyrbwyll â'th enau na bod ar frys o flaen Duw. Y mae Duw yn y nefoedd, ac yr wyt ti ar y ddaear, felly bydd yn fyr dy eiriau.
5:3 Yn wir, fe ddaw breuddwyd pan yw gorch-wylion yn cynyddu, a siarad ffôl pan bentyrrir geiriau.
5:4 Pan wnei adduned i Dduw, paid ag oedi ei chyflawni, oherwydd nid yw ef yn ymhyfrydu mewn ffyliaid. Cyflawna di'r hyn yr wyt wedi ei addunedu.
5:5 Y mae'n well iti beidio ag addunedu na pheidio â chyflawni'r hyn yr wyt wedi ei addunedu.
5:6 Paid â gadael i'th enau dy arwain i bechu, a phaid â dweud o flaen y cennad, "Camgymeriad oedd hyn." Pam y dylai Duw gasáu dy ymadrodd, a difa gwaith dy ddwylo?
5:7 Y mae llawer o freuddwydion ac amlder geiriau yn wagedd; ond ofna di Dduw.

Oferedd Bywyd

5:8 Os gweli'r tlawd yn cael ei orthrymu, a bod rhai yn atal barn a chyfiawnder mewn talaith, paid â synnu at yr hyn sy'n digwydd; oherwydd y mae un uwch yn gwylio pob swyddog, a rhai uwch eto drostynt ill dau.
5:9 Y mae cynnyrch y tir i bawb; y mae'r brenin yn cael y tir sydd wedi ei drin.
5:10 Ni ddigonir yr ariangar ag arian, na'r un sy'n caru cyfoeth ag elw. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
5:11 Pan yw cyfoeth yn cynyddu, y mae'r rhai sy'n byw arno yn amlhau; a pha fudd sydd i'w berchennog ond edrych arno?
5:12 Y mae cwsg y gweithiwr yn felys, boed wedi bwyta ychydig neu lawer; ond y mae digonedd y cyfoethog yn ei rwystro rhag cysgu'n dawel.
5:13 Gwelais ddrwg poenus dan yr haul: cyfoeth wedi ei gadw yn peri niwed i'w berchennog,
5:14 a'r cyfoeth yn diflannu trwy anffawd flin, ac yntau, pan gaiff fab, heb ddim i'w roi iddo.
5:15 Fel y daeth allan o groth ei fam, bydd yn dychwelyd yno yn noeth, yn union fel y daeth; ac ni chaiff ddim am ei lafur i'w gymryd gydag ef.
5:16 Y mae hyn hefyd yn ddrwg poenus: yn union fel y daeth, yr â pob un ymaith; a pha elw sydd iddo, ac yntau wedi llafurio am wynt?
5:17 Y mae wedi treulio'i ddyddiau mewn tywyllwch a gofid, mewn dicter mawr a gwaeledd a llid.
5:18 Dyma'r hyn a welais: y mae'n dda a gweddus i ddyn fwyta ac yfed, a chael mwynhad o'r holl lafur a gyflawna dan yr haul yn ystod dyddiau ei fywyd, a roddwyd iddo gan Dduw; dyna yw ei dynged.
5:19 Yn wir y mae pob un y rhoddodd Duw iddo gyfoeth a meddiannau a'r gallu i'w mwynhau, i dderbyn ei dynged, a bod yn llawen yn ei lafur; rhodd Duw yw hyn.
5:20 Yn wir ni fydd yn meddwl yn ormodol am ddyddiau ei fywyd, gan fod Duw yn ei gadw'n brysur â llawenydd yn ei galon.
6:1 Dyma ddrwg a welais dan yr haul, ac y mae'n flinder ar bobl:
6:2 un wedi cael cyfoeth, meddiannau ac anrhydedd gan Dduw, heb fod yn brin o ddim a ddymunai, ac eto heb gael gan Dduw y gallu i'w mwynhau, ond dieithryn yn hytrach yn cael mwynhad ohonynt. Y mae hyn yn wagedd ac yn gystudd blin.
6:3 Pe byddai rhywun yn rhiant i gant o blant, yn byw am flynyddoedd lawer ac yn cael oes hir, ond heb allu mwynhau daioni bywyd na chael ei gladdu, yna dywedaf ei bod yn well ar yr erthyl nag arno ef.
6:4 Oherwydd y mae'r erthyl yn dod mewn gwagedd ac yn mynd ymaith mewn tywyllwch, lle cuddir ei enw;
6:5 eto caiff hwn, er na welodd yr haul na gwybod am ddim, fwy o lonyddwch na'r llall,
6:6 hyd yn oed pe byddai hwnnw'n byw am fil o flynyddoedd ddwywaith drosodd, ond heb brofi daioni. Onid ydynt i gyd yn mynd i'r un lle?
6:7 Y mae holl lafur pobl ar gyfer eu genau, ond eto ni ddiwellir eu chwant.
6:8 Pa fantais sydd gan y doeth ar y ffôl, neu gan y tlawd a ŵyr sut i ymddwyn yng ngŵydd pobl?
6:9 Gwell gweld â'r llygaid na blys anniwall. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
6:10 Y mae'r hyn sydd eisoes yn bod yn hysbys, ac fe wyddys beth yw pobl; ni allant ddadlau ag un cryfach na hwy.
6:11 Y mae amlhau geiriau yn amlhau gwagedd; a pha fantais sydd i neb?
6:12 Pwy a ŵyr beth sydd dda i neb yng nghyfnod byr ei fywyd gwag, a dreulia fel cysgod? Pwy all ddweud wrtho beth dan yr haul a ddaw ar ei ôl?

Myfyrdodau

7:1 Y mae enw da yn well nag ennaint gwerthfawr, a dydd marw yn well na dydd geni.
7:2 Y mae'n well mynd i dŷ galar na mynd i dŷ gwledd; oherwydd marw yw tynged pawb, a dylai'r byw ystyried hyn.
7:3 Y mae tristwch yn well na chwerthin; er i'r wyneb fod yn drist, gall y galon fod yn llawen.
7:4 Y mae calon y doethion yn nhŷ galar, ond calon y ffyliaid yn nhŷ pleser.
7:5 Y mae'n well gwrando ar gerydd y doeth na gwrando ar gân ffyliaid.
7:6 Oherwydd y mae chwerthin y ffŵl fel clindarddach drain o dan grochan. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
7:7 Yn wir, y mae gormes yn gwneud y doeth yn ynfyd, ac y mae cil-dwrn yn llygru'r meddwl.
7:8 Y mae diwedd peth yn well na'i ddechrau, ac amynedd yn well nag ymffrost.
7:9 Paid â rhuthro i ddangos dig, oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros.
7:10 Paid â dweud, "Pam y mae'r dyddiau a fu yn well na'r rhai hyn?" Oherwydd ni ddangosir doethineb wrth ofyn hyn.
7:11 Y mae cael doethineb cystal ag etifeddiaeth, ac yn fantais i'r rhai sy'n gweld yr haul.
7:12 Y mae doethineb yn gystal amddiffyn ag arian; mantais deall yw bod doethineb yn rhoi bywyd i'w pherchennog.
7:13 Ystyria'r hyn a wnaeth Duw; pwy all unioni'r hyn a wyrodd ef?
7:14 Bydd lawen pan yw'n dda arnat, ond yn amser adfyd ystyria hyn: Duw a wnaeth y naill beth a'r llall, fel na all neb ganfod beth a fydd yn dilyn.
7:15 Yn ystod fy oes o wagedd gwelais y cyfan: un cyfiawn yn darfod yn ei gyfiawnder, ac un drygionus yn cael oes faith yn ei ddrygioni.
7:16 Paid â bod yn rhy gyfiawn, a phaid â bod yn or-ddoeth; pam y difethi dy hun?
7:17 Paid â bod yn rhy ddrwg, a phaid â bod yn ffŵl; pam y byddi farw cyn dy amser?
7:18 Y mae'n werth iti ddal dy afael ar y naill beth, a pheidio â gollwng y llall o'th law. Yn wir, y mae'r un sy'n ofni Duw yn eu dilyn ill dau.
7:19 Y mae doethineb yn rhoi mwy o gryfder i'r doeth nag sydd gan ddeg llywodraethwr mewn dinas.
7:20 Yn wir, nid oes neb cyfiawn ar y ddaear sydd bob amser yn gwneud daioni, heb bechu.
7:21 Paid â chymryd sylw o bob gair a ddywedir, rhag ofn iti glywed dy was yn dy felltithio;
7:22 yn wir fe wyddost dy fod ti dy hun wedi melltithio eraill lawer gwaith.
7:23 Yr wyf wedi rhoi prawf ar hyn i gyd trwy ddoethineb. Dywedais, "Yr wyf am fod yn ddoeth," ond yr oedd yn bell oddi wrthyf.
7:24 Y mae'r hyn sy'n digwydd yn bell ac yn ddwfn iawn; pwy a all ei ganfod?
7:25 Fe euthum ati i ddeall â'm meddwl, i chwilio a cheisio doethineb a rheswm, a deall drygioni ffolineb, a ffolineb ynfydrwydd.
7:26 A chanfûm rywbeth chwerwach na marwolaeth: gwraig sydd â'i chalon yn faglau a rhwydau, a'i dwylo'n rhwymau. Y mae'r un sy'n dda yng ngolwg Duw yn dianc oddi wrthi, ond fe ddelir y pechadur ganddi.
7:27 "Edrych, dyma'r peth a ganfûm," medd y Pregethwr, "trwy osod y naill beth wrth y llall i chwilio am ystyr,
7:28 oherwydd yr oeddwn yn chwilio amdano'n ddyfal ond yn methu ei gael; canfûm un dyn ymhlith mil, ond ni chefais yr un wraig ymhlith y cyfan ohonynt.
7:29 Edrych, hyn yn unig a ganfûm: bod Duw wedi creu pobl yn uniawn; ond y maent hwy wedi ceisio llawer o gynlluniau."
8:1 Pwy sydd fel y doeth? Pwy sy'n deall ystyr pethau? Y mae doethineb yn gwneud i wyneb rhywun ddisgleirio, ac yn newid caledwch ei drem.

Ufuddhau i'r Brenin

8:2 Cadw orchymyn y brenin, o achos y llw i Dduw.
8:3 Paid â rhuthro o'i ŵydd, na dyfalbarhau gyda'r hyn sydd ddrwg, oherwydd y mae ef yn gwneud yr hyn a ddymuna.
8:4 Y mae awdurdod yng ngair y brenin, a phwy a all ofyn iddo, "Beth wyt yn ei wneud?"
8:5 Ni ddaw niwed i'r un sy'n cadw gorchymyn, a gŵyr y doeth yr amser a'r ffordd i weithredu.
8:6 Yn wir, y mae amser a ffordd i bob gorchwyl, er bod trueni pobl yn drwm arnynt.
8:7 Nid oes neb sy'n gwybod beth a fydd; a phwy a all fynegi beth a ddigwydd?
8:8 Ni all neb reoli'r gwynt, ac nid oes gan neb awdurdod dros ddydd marwolaeth. Nid oes bwrw arfau mewn rhyfel, ac ni all drygioni waredu ei feistr.
8:9 Gwelais hyn i gyd wrth imi sylwi ar yr hyn a ddigwydd dan yr haul, pan fydd rhywun yn arglwyddiaethu ar ei gymrodyr i beri niwed iddynt.

Drygioni a Chyfiawnder

8:10 Yna gwelais bobl ddrwg yn cael eu claddu. Arferent fynd a dod o'r lle sanctaidd, a chael eu canmol yn y ddinas lle'r oeddent wedi gwneud y pethau hyn. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
8:11 Gan na roddir dedfryd fuan ar weithred ddrwg, y mae calonnau pobl yn ymroi'n llwyr i ddrygioni.
8:12 Gall pechadur wneud drwg ganwaith a byw'n hir; eto gwn y bydd daioni i'r rhai sy'n ofni Duw ac yn ei barchu.
8:13 Ni fydd daioni i'r drygionus, ac nid estynnir ei ddyddiau fel cysgod, am nad yw'n ofni Duw.
8:14 Dyma'r gwagedd a wneir ar y ddaear: pobl gyfiawn yn derbyn fel pe byddent wedi gweithredu'n anghyfiawn, a phobl ddrwg yn derbyn fel pe byddent wedi gweithredu'n gyfiawn. Dywedais fod hyn hefyd yn wagedd.
8:15 Yr wyf yn canmol llawenydd, gan mai'r unig beth da i bawb dan yr haul yw bwyta ac yfed a bod yn llawen; oherwydd fe erys hyn gyda hwy pan y maent yn llafurio yn ystod y dyddiau a rydd Duw iddynt dan yr haul.
8:16 Pan roddais fy mryd ar ddeall doethineb a sylwi ar yr hyn a ddigwydd ar y ddaear, a gweld pobl heb gael cwsg i'w llygaid na dydd na nos,
8:17 yna gwelais y cyfan a wnaeth Duw. Eto nid oes neb yn gallu dirnad yr hyn a wneir dan yr haul. Er iddo ymdrechu i chwilio, nid yw'n dirnad; ac er i'r doeth feddwl ei fod yn deall, nid yw yntau'n dirnad.
9:1 Ystyriais hyn i gyd, a chanfod bod y rhai cyfiawn a doeth â'u gweithredoedd yn llaw Duw, ac na ŵyr neb prun ai cariad ai casineb sy'n ei aros.
9:2 Yr un peth sy'n digwydd i bawb — i'r cyfiawn a'r drygionus, i'r da a'r drwg, i'r glân a'r aflan, i'r un sy'n aberthu a'r un nad yw'n aberthu. Y mae'r daionus a'r pechadur fel ei gilydd, a'r un sy'n tyngu llw fel yr un sy'n ofni gwneud hynny.
9:3 Dyma sy'n ddrwg yn y cyfan a ddigwydd dan yr haul: mai'r un peth yw tynged pawb. Y mae calon pobl yn llawn drygioni, a ffolineb yn eu calonnau ar hyd eu bywyd, ac yna y maent yn marw.
9:4 Y mae gobaith i'r un a gyfrifir ymysg y byw; oherwydd y mae ci byw yn well na llew marw.
9:5 Y mae'r byw yn gwybod y byddant farw, ond nid yw'r meirw yn gwybod dim; nid oes bellach wobr iddynt, oherwydd fe ddiflanna'r cof amdanynt.
9:6 Yn wir y mae eu cariad, a'u casineb a'u cenfigen eisoes wedi darfod, a bellach nid oes iddynt ran yn yr holl bethau a ddigwydd dan yr haul.
9:7 Dos, bwyta dy fwyd mewn llawenydd, ac yf dy win â chalon lawen, oherwydd y mae Duw eisoes yn fodlon ar dy weithredoedd.
9:8 Gofala fod gennyt ddillad gwyn bob amser, a chofia roi olew ar dy ben.
9:9 Mwynha fywyd gyda'r wraig yr wyt yn ei charu, a hynny yn ystod holl ddyddiau dy fywyd gwag a roddodd ef iti dan yr haul, oherwydd dyma yw dy dynged mewn bywyd, ac yn y llafur a gyflawni dan yr haul.
9:10 Beth bynnag yr wyt yn ei wneud, gwna â'th holl egni; oherwydd yn Sheol, lle'r wyt yn mynd, nid oes gwaith na gorchwyl, deall na doethineb.
9:11 Unwaith eto, dyma a sylwais dan yr haul: nid y cyflym sy'n ennill y ras, ac nid y cryf sy'n ennill y rhyfel; nid y doethion sy'n cael bwyd, nid y deallus sy'n cael cyfoeth, ac nid y rhai gwybodus sy'n cael ffafr. Hap a damwain sy'n digwydd iddynt i gyd.
9:12 Ni ŵyr neb pa bryd y daw ei amser; fel y delir pysgod mewn rhwyd ac adar mewn magl, felly y delir pobl gan amser adfyd sy'n dod arnynt yn ddisymwth.

Doethineb a Ffolineb

9:13 Dyma hefyd y ddoethineb a welais dan yr haul, ac yr oedd yn hynod yn fy ngolwg:
9:14 yr oedd dinas fechan, ac ychydig o bobl ynddi; ymosododd brenin nerthol arni a'i hamgylchynu ac adeiladu gwarchae cryf yn ei herbyn.
9:15 Yr oedd ynddi ddyn tlawd a doeth, ac fe waredodd ef y ddinas trwy ei ddoethineb; eto ni chofiodd neb am y dyn tlawd hwnnw.
9:16 Ond yr wyf yn dweud bod doethineb yn well na chryfder, er i ddoethineb y dyn tlawd gael ei dirmygu, a neb yn gwrando ar ei eiriau.
9:17 Y mae geiriau tawel y doethion yn well na bloedd llywodraethwr ymysg ffyliaid.
9:18 Y mae doethineb yn well nag arfau rhyfel, ond y mae un pechadur yn difetha llawer o ddaioni.
10:1 Fel y mae pryfed meirw yn gwneud i ennaint y peraroglydd ddrewi, felly y mae ychydig ffolineb yn tynnu oddi wrth ddoethineb ac anrhydedd.
10:2 Y mae calon y doeth yn ei arwain i'r dde, ond calon y ffôl yn ei droi i'r chwith.
10:3 Pan yw'r ffôl yn cerdded ar y ffordd, nid oes synnwyr ganddo, ac y mae'n dweud wrth bawb ei fod yn ynfyd.
10:4 Os enynnir llid y llywodraethwr yn dy erbyn, paid ag ymddiswyddo; y mae pwyll yn tymheru troseddau mawr.
10:5 Gwelais beth drwg dan yr haul, sef camgymeriad yn deillio oddi wrth y llywodraethwr:
10:6 ffŵl wedi ei osod mewn safleoedd pwysig, a'r cyfoethog wedi eu gosod yn israddol.
10:7 Gwelais weision ar geffylau, a thywysogion yn cerdded fel gweision.
10:8 Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo, a'r sawl sy'n chwalu clawdd yn cael ei frathu gan neidr.
10:9 Y mae'r un sy'n symud cerrig yn cael niwed ganddynt, a'r sawl sy'n hollti coed yn cael dolur ganddynt.
10:10 Os yw bwyell yn ddi-fin, a heb ei hogi, yna rhaid defnyddio mwy o nerth; ond y mae medr yn dod â llwyddiant.
10:11 Os na swynir neidr cyn iddi frathu, nid oes mantais o gael swynwr.
10:12 Y mae geiriau'r doeth yn ennill ffafr, ond geiriau'r ffôl yn ei ddinistrio.
10:13 Y mae ei eiriau'n dechrau yn ffôl, ac yn diweddu mewn ynfydrwydd llwyr,
10:14 a'r ffŵl yn amlhau geiriau. Nid oes neb yn gwybod beth a ddaw, a phwy a all ddweud wrth neb beth fydd ar ei ôl?
10:15 Y mae llafur y ffôl yn ei wneud yn lluddedig, ac ni ŵyr sut i fynd i'r ddinas.
10:16 Gwae di, wlad, pan fydd gwas yn frenin arnat, a'th dywysogion yn gwledda yn y bore!
10:17 Gwyn dy fyd, wlad, pan fydd dy frenin yn fab pendefig, a'th dywysogion yn gwledda ar yr amser priodol, a hynny i gryfhau ac nid i feddwi!
10:18  Y mae'r trawstiau'n dadfeilio o ganlyniad i ddiogi, a'r tŷ'n gollwng o achos llaesu dwylo.
10:19 I gael llawenydd y paratoir gwledd, ac y mae gwin yn llonni bywyd, ac arian yn ateb i bopeth.
10:20 Paid â melltithio'r brenin yn dy feddwl, na'r cyfoethog yn dy ystafell wely, oherwydd gall adar yr awyr gario dy lais, a pherchen adain fynegi'r hyn a ddywedi.
11:1 Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd, ac fe'i cei'n ôl ymhen dyddiau lawer.
11:2 Rhanna dy gyfran rhwng saith neu wyth, oherwydd ni wyddost pa drychineb a ddaw ar y ddaear.
11:3 Os yw'r cymylau yn llawn glaw, y maent yn ei arllwys ar y ddaear; os syrth coeden i'r de neu i'r gogledd, y mae'n aros lle y disgyn.
11:4 Ni fydd yr un sy'n dal sylw ar y gwynt yn hau, na'r un sy'n gwylio'r cymylau yn medi.
11:5 Megis nad wyt yn gwybod sut y daw bywyd i'r esgyrn yng nghroth y feichiog, felly nid wyt yn deall gwaith Duw, yr Un sy'n gwneud popeth.
11:6 Hau dy had yn y bore, a phaid â gorffwys cyn yr hwyr, oherwydd ni wyddost pa un a fydd yn llwyddo, neu a fydd y cyfan yn dda.
11:7 Y mae goleuni'n ddymunol, a phleser i'r llygaid yw gweld yr haul.
11:8 Os bydd rhywun fyw am flynyddoedd maith, bydded iddo fwynhau'r cyfan ohonynt; ond fe ddylai gofio y bydd dyddiau tywyllwch yn niferus. Y mae'r cyfan sy'n digwydd yn wagedd.

Cyngor i'r Ifanc

11:9 Ŵr ifanc, bydd lawen yn dy ieuenctid, a bydded iti fwynhad yn nyddiau dy lencyndod; rhodia yn ôl dymuniad dy galon a'r hyn a wêl dy lygaid, ond cofia y bydd Duw yn dy alw i farn am hyn i gyd.
11:10 Symud ddicter o'th galon, a thro flinder oddi wrthyt; y mae mebyd ac ieuenctid yn wagedd.
12:1 Cofia dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn i'r dyddiau blin ddod, ac i'r blynyddoedd nesáu pan fyddi'n dweud, "Ni chaf bleser ynddynt."
12:2 Cofia amdano cyn tywyllu'r haul a'r goleuni, y lloer a'r sêr, a chyn i'r cymylau ddychwelyd ar ôl y glaw.
12:3 Dyma'r dydd pan fydd ceidwaid y tŷ yn crynu, a dynion cryf yn gwargrymu; pan fydd y merched sy'n malu yn peidio â gweithio am eu bod yn ychydig, a phan fydd golwg y rhai sy'n edrych trwy'r ffenestri wedi pylu;
12:4 pan fydd y drysau i'r stryd wedi cau, a sŵn y felin yn distewi; pan fydd rhywun yn cael ei ddychryn gan gân aderyn, am fod yr holl adar a ganai wedi distewi;
12:5 pan fydd pobl yn ofni llecyn uchel a pheryglon ar y ffordd; pan fydd y pren almon yn gwynnu, a cheiliog rhedyn yn ymlusgo'n feichus, a'i chwant heb ei gyffroi; pan fydd rhywun ar fynd i'w gartref bythol, a'r galarwyr yn crynhoi yn y stryd.
12:6 Cofia amdano cyn torri'r llinyn arian a darnio'r llestr aur, cyn malurio'r piser wrth y ffynnon a thorri'r olwyn wrth y pydew,
12:7 cyn i'r llwch fynd yn ôl i'r ddaear lle bu ar y cychwyn, a chyn i'r ysbryd ddychwelyd at y Duw a'i rhoes.
12:8 "Gwagedd llwyr," meddai'r Pregethwr, "gwagedd yw'r cyfan."

Crynodeb

12:9 Yn ogystal â'i fod ef ei hun yn ddoeth, yr oedd y Pregethwr yn dysgu deall i'r bobl, yn pwyso a chwilio, ac yn gosod mewn trefn lawer o ddiarhebion.
12:10 Ceisiodd y Pregethwr gael geiriau dymunol ac ysgrifennu geiriau cywir mewn trefn.
12:11 Y mae geiriau'r doethion fel symbylau, a'r casgliad o'u geiriau fel hoelion wedi eu gosod yn eu lle; y maent wedi eu rhoi gan un bugail.
12:12 Cymer rybudd, fy mab, rhag ychwanegu atynt. Y mae cyfansoddi llyfrau yn waith diddiwedd, ac y mae astudio dyfal yn flinder i'r corff.
12:13 Wedi clywed y cyfan, dyma swm y mater: ofna Dduw a chadw ei orchmynion, oherwydd dyma ddyletswydd pob un.
12:14 Yn wir, y mae Duw yn barnu pob gweithred, hyd yn oed yr un guddiedig, boed dda neu ddrwg.