LLYFR ESEIA

Y Proffwyd

1:1 Dyma'r weledigaeth a ddaeth i Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem yn ystod teyrnasiad Usseia, Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda.

Pobl Wrthryfelgar

1:2 Clyw, nefoedd! Gwrando, ddaear! Oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD: "Megais blant a'u meithrin, ond codasant mewn gwrthryfel yn f'erbyn.
1:3 Y mae'r ych yn adnabod y sawl a'i piau, a'r asyn breseb ei berchennog; ond nid yw Israel yn adnabod, ac nid yw fy mhobl yn deall."
1:4 O genhedlaeth bechadurus, pobl dan faich o ddrygioni, epil drwgweithredwyr, plant anrheithwyr! Y maent wedi gadael yr ARGLWYDD, wedi dirmygu Sanct Israel, a throi cefn.
1:5 I ba ddiben y trewir chwi mwyach, gan eich bod yn parhau i wrthgilio? Y mae eich pen yn ddoluriau i gyd, a'ch holl galon yn ysig;
1:6 o'r corun i'r sawdl nid oes un man yn iach, dim ond archoll a chlais a dolur crawnllyd heb eu gwasgu na'u rhwymo na'u hesmwytho ag olew.
1:7 Y mae eich gwlad yn anrhaith, eich dinasoedd yn ulw, a dieithriaid yn ysu eich tir yn eich gŵydd; y mae'n ddiffaith fel Sodom ar ôl ei dinistrio.
1:8 Gadawyd Seion fel caban mewn gwinllan, fel cwt mewn gardd cucumerau, fel dinas dan warchae.
1:9 Oni bai i ARGLWYDD y Lluoedd adael i ni weddill bychan, byddem fel Sodom, a'r un ffunud â Gomorra.
1:10 Clywch air yr ARGLWYDD, chwi reolwyr Sodom, gwrandewch ar gyfraith ein Duw, chwi bobl Gomorra.
1:11 "Beth i mi yw eich aml aberthau?" medd yr ARGLWYDD. "Cefais syrffed ar boethoffrwm o hyrddod a braster anifeiliaid; ni chaf bleser o waed bustych nac o ŵyn na bychod.
1:12 Pan ddewch i ymddangos o'm blaen, pwy sy'n gofyn hyn gennych, sef mathru fy nghynteddau?
1:13 Peidiwch â chyflwyno rhagor o offrymau ofer; y mae arogldarth yn ffiaidd i mi. Gŵyl y newydd-loer, Sabothau a galw cymanfa – ni allaf oddef drygioni a chynulliad sanctaidd.
1:14 Y mae'n gas gan f'enaid eich newydd–loerau a'ch gwyliau sefydlog; aethant yn faich arnaf, a blinais eu dwyn.
1:15 Pan ledwch eich dwylo mewn gweddi, trof fy llygaid ymaith; er i chwi amlhau eich ymbil, ni fynnaf wrando arnoch. Y mae eich dwylo'n llawn gwaed;
1:16 ymolchwch, ymlanhewch. Ewch â'ch gweithredoedd drwg o'm golwg;
1:17 peidiwch â gwneud drwg, dysgwch wneud daioni. Ceisiwch farn, achubwch gam y gorthrymedig, amddiffynnwch yr amddifad, a chymerwch blaid y weddw.
1:18 "Yn awr, ynteu, ymresymwn â'n gilydd," medd yr ARGLWYDD. "Pe bai eich pechodau fel ysgarlad, fe fyddant cyn wynned â'r eira; pe baent cyn goched â phorffor, fe ânt fel gwlân.
1:19 Os bodlonwch i ufuddhau, cewch fwyta o ddaioni'r tir;
1:20 ond os gwrthodwch, a gwrthryfela, fe'ch ysir â chleddyf." Genau'r ARGLWYDD a'i llefarodd.

Y Ddinas Bechadurus

1:21 O fel yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain! Bu'n llawn o farn, a thrigai cyfiawnder ynddi, ond bellach llofruddion.
1:22 Aeth dy arian yn sorod, a'th win yn gymysg â dŵr.
1:23 Y mae dy arweinwyr yn wrthryfelwyr ac yn bartneriaid lladron; y maent i gyd yn caru cil-dwrn ac yn chwilio am wobrau; nid ydynt yn amddiffyn yr amddifad, ac ni roddant sylw i gŵyn y weddw.
1:24 Am hynny, medd yr ARGLWYDD, ARGLWYDD y Lluoedd, Cadernid Israel, "Aha! Caf fwrw fy llid ar y rhai sy'n fy mlino, a dialaf ar fy ngelynion.
1:25 Trof fy llaw yn dy erbyn, puraf dy sorod â thrwyth, a symudaf dy holl amhuredd.
1:26 Trof dy farnwyr i fod fel cynt, a'th gynghorwyr fel yn y dechrau. Ac wedi hynny fe'th elwir yn ddinas gyfiawn, yn dref ffyddlon."
1:27 Gwaredir Seion trwy farn, a'i rhai edifeiriol trwy gyfiawnder.
1:28 Ond daw dinistr i'r gwrthryfelwyr a'r pechaduriaid ynghyd, a diddymir y rhai a gefna ar Dduw.
1:29 Bydd arnoch gywilydd o'r deri a oedd yn hoff gennych, a gwridwch dros eich gerddi dethol;
1:30 byddwch fel coeden dderw a'i dail wedi gwywo, ac fel gardd heb ddŵr ynddi.
1:31 Bydd y cadarn fel cynnud, a'i orchest fel gwreichionen; fe losgant ill dau ynghyd, ac ni all neb eu diffodd.

Heddwch i'r Cenhedloedd Micha 4:1–3

2:1 Y gair a welodd Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem:
2:2 Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDD wedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd ac yn uwch na'r bryniau. Dylifa'r holl genhedloedd ato,
2:3 a daw pobloedd lawer, a dweud, "Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i deml Duw Jacob; bydd yn dysgu i ni ei ffyrdd, a byddwn ninnau'n rhodio yn ei lwybrau." Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
2:4 Barna ef rhwng cenhedloedd, a thorri'r ddadl i bobloedd lawer; curant eu cleddyfau'n geibiau, a'u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
2:5 Tŷ Jacob, dewch, rhodiwn yng ngoleuni'r ARGLWYDD.

Darostwng Balchder

2:6 Gwrthodaist dŷ Jacob, dy bobl, oherwydd y maent yn llawn dewiniaid o'r dwyrain, a swynwyr fel y Philistiaid, ac y maent yn gwneud cyfeillion o estroniaid.
2:7 Y mae eu gwlad yn llawn o arian ac aur, ac nid oes terfyn ar eu trysorau; y mae eu gwlad yn llawn o feirch, ac nid oes terfyn ar eu cerbydau;
2:8 y mae eu gwlad yn llawn o eilunod; ymgrymant i waith eu dwylo, i'r hyn a wnaeth eu bysedd.
2:9 Am hynny y gostyngir y ddynoliaeth, ac y syrth pob un – paid â maddau iddynt.
2:10 Ewch i'r graig, ymguddiwch yn y llwch rhag ofn yr ARGWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef.
2:11 Fe syrth uchel drem y ddynoliaeth, a gostyngir balchder pob un; yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
2:12 Canys y mae gan ARGLWYDD y Lluoedd ddydd yn erbyn pob un balch ac uchel, yn erbyn pob un dyrchafedig ac uchel,
2:13 yn erbyn holl gedrwydd Lebanon, sy'n uchel a dyrchafedig; yn erbyn holl dderi Basan,
2:14 yn erbyn yr holl fynyddoedd uchel ac yn erbyn pob bryn dyrchafedig;
2:15 yn erbyn pob tŵr uchel ac yn erbyn pob magwyr gadarn;
2:16 yn erbyn holl longau Tarsis ac yn erbyn yr holl gychod pleser.
2:17 Yna fe ddarostyngir uchel drem y ddynoliaeth, ac fe syrth balchder y natur ddynol. Yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
2:18 Â'r eilunod heibio i gyd.
2:19 Â pawb i holltau yn y creigiau ac i dyllau yn y ddaear, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef, pan gyfyd i ysgwyd y ddaear.
2:20 Yn y dydd hwnnw bydd pobl yn taflu eu heilunod arian a'r eilunod aur a wnaethant i'w haddoli, yn eu taflu i'r tyrchod daear a'r ystlumod;
2:21 ac yn mynd i ogofeydd yn y creigiau ac i holltau yn y clogwyni, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef, pan gyfyd i ysgwyd y ddaear.
2:22 Peidiwch â gwneud dim â meidrolyn sydd ag anadl yn ei ffroenau, canys pa werth sydd iddo?

Barn ar Jerwsalem a Jwda

3:1 Wele, y mae'r Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, yn symud ymaith o Jerwsalem a Jwda y gynhaliaeth a'r ffon – yr holl gynhaliaeth o fara ac o ddŵr –
3:2 y gŵr cadarn, y rhyfelwr, y barnwr a'r proffwyd, y dewinwr a'r henadur,
3:3 y capten a'r swyddog, y cynghorwr a'r swynwr celfydd, a'r sawl sy'n deall hudoliaeth.
3:4 Gosodaf fechgyn yn swyddogion arnynt a phlantos i'w rheoli;
3:5 a bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd, a phob un ei gymydog; bydd y llanc yn drahaus yn erbyn yr henwr, yn y parchus.
3:6 Pan gaiff rhywun afael ar ei frawd yn nhŷ ei dad, fe ddywed, "Y mae gennyt ti glogyn; bydd di'n bennaeth arnom; bydded y pentwr hwn o garnedd dan dy awdurdod di."
3:7 Ond yn y dydd hwnnw fe etyb, "Na, ni allaf fod yn arweinydd arnoch. Nid oes bara yn fy nhŷ, na chlogyn ychwaith; ni chewch fy ngosod i yn bennaeth y tylwyth."
3:8 Cwympodd Jerwsalem, syrthiodd Jwda; y mae eu geiriau a'u gweithredoedd yn erbyn yr ARGLWYDD, yn herio ei fawrhydi.
3:9 Y mae'r olwg ar eu hwynebau yn tystio yn eu herbyn, ac y maent yn cyhoeddi eu pechodau fel Sodom. Gwae hwy! Y maent yn dwyn drwg arnynt eu hunain.
3:10 Dywedwch y bydd yn dda ar y cyfiawn, canys cânt fwyta ffrwyth eu gweithredoedd.
3:11 Gwae'r anwir! Bydd yn ddrwg arno, canys fe gaiff yr hyn a haedda.
3:12 Plant sy'n gorthrymu fy mhobl, a gwragedd sy'n eu rheoli. O fy mhobl, y mae dy arweinwyr yn dy gamarwain, ac yn drysu trywydd dy lwybrau.

Duw yn Barnu

3:13 Y mae'r ARGLWYDD yn sefyll i ddadlau ei achos, ac yn barod i farnu ei bobl.
3:14 Y mae'r ARGLWYDD yn dod i farn yn erbyn henuriaid y bobl a'u swyddogion: "Yr ydych wedi lloffa'r winllan yn llwyr; y mae cyfran y tlawd yn eich tai.
3:15 Beth yw eich meddwl, yn ysigo fy mhobl ac yn mathru wyneb y tlawd?" medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.

Rhybuddio Merched Jerwsalem

3:16 Dywedodd yr ARGLWYDD, "Oherwydd i ferched Seion dorsythu, a cherdded o amgylch â'u gyddfau'n ymestyn allan, a'u llygaid yn cilwenu, a'u camau'n fursennaidd, a rhodio â fferledau am eu traed,
3:17 bydd yr ARGLWYDD yn rhoi clafr ar gorun merched Seion, bydd yr ARGLWYDD yn dinoethi eu gwarthle hwy."
3:18 Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn symud ymaith bob addurn – y fferledau, y coronigau, y cilgantiau,
3:19 y clustlysau, y breichledau, y gorchuddion,
3:20 y penwisgoedd, y cadwyni, y gwregys, y blychau perarogl, y mân swyndlysau;
3:21 y fodrwy-sêl, y fodrwy trwyn;
3:22 y gwisgoedd hardd, y fantell, y glog a'r pyrsau;
3:23 y gwisgoedd sidan a'r gwisgoedd lliain, y twrban a'r gorchudd wyneb.
3:24 Yn lle perarogl bydd drewdod, yn lle gwregys bydd rhaff; yn lle tresi o wallt bydd moelni, yn lle mantell bydd sachliain, yn lle prydferthwch bydd marc llosg.
3:25 Syrth dy wŷr gan gleddyf, a'th wŷr nerthol mewn rhyfel;
3:26 bydd pyrth y ddinas yn gofidio a galaru, a hithau wedi ei gadael yn unig, yn eistedd ar y llawr.
4:1 Yn y dydd hwnnw, bydd saith o fenywod yn ymaflyd mewn un gŵr, a dweud, "Bwytawn ein bara ein hunain, a gwisgo ein dillad ein hunain; yn unig galwer ni wrth dy enw di, a symud ymaith ein gwaradwydd."

Blaguryn yr Arglwydd

4:2 Yn y dydd hwnnw, bydd blaguryn yr ARGLWYDD yn brydferthwch ac yn ogoniant; a bydd ffrwyth y tir yn falchder ac yn brydferthwch i'r rhai dihangol yn Israel.
4:3 Yna gelwir yn sanctaidd bob un sydd ar ôl yn Seion ac wedi ei adael yn Jerwsalem, pob un y cofnodir ei fod yn fyw yn Jerwsalem.
4:4 Pan fydd yr ARGLWYDD wedi golchi ymaith fudreddi merched Seion, a charthu gwaed Jerwsalem o'i chanol trwy ysbryd barn ac ysbryd tanllyd,
4:5 yna fe grea'r ARGLWYDD gwmwl yn y dydd, a llewyrch tân fflamllyd yn y nos, uwchben pob adeilad ar Fynydd Seion a phob man ymgynnull. Canys bydd y gogoniant yn ortho dros bopeth,
4:6 ac yn bafiliwn i gysgodi yn y dydd rhag gwres, ac yn noddfa a lloches rhag tymestl a glaw.

Cân y Winllan

5:1 Mi ganaf i'm hanwylyd ganig serch am ei winllan. Yr oedd gan f'anwylyd winllan ar fryncyn tra ffrwythlon;
5:2 fe'i cloddiodd, a'i digaregu; fe'i plannodd â'r gwinwydd gorau; cododd dŵr yn ei chanol, a naddu gwinwryf ynddi. Disgwyliodd iddi ddwyn grawnwin, ond fe ddygodd rawn drwg.
5:3 Yn awr, breswylwyr Jerwsalem, a chwi, bobl Jwda, barnwch rhyngof fi a'm gwinllan.
5:4 Beth oedd i'w wneud i'm gwinllan, yn fwy nag a wneuthum? Pam, ynteu, pan ddisgwyliwn iddi ddwyn grawnwin, y dygodd rawn drwg?
5:5 Yn awr, mi ddywedaf wrthych beth a wnaf i'm gwinllan. Tynnaf ymaith ei chlawdd, ac fe'i difethir; chwalaf ei mur, ac fe'i sethrir dan draed;
5:6 gadawaf hi wedi ei difrodi; ni chaiff ei thocio na'i hofio; fe dyf ynddi fieri a drain, a gorchmynnaf i'r cymylau beidio â glawio arni.
5:7 Yn wir, gwinllan ARGLWYDD y Lluoedd yw tŷ Israel, a phobl Jwda yw ei blanhigyn dethol; disgwyliodd gael barn, ond cafodd drais; yn lle cyfiawnder fe gafodd gri.

Barn ar Bechodau'r Dydd

5:8 Gwae'r rhai sy'n cydio tŷ wrth dŷ, sy'n chwanegu cae at gae nes llyncu pob man, a'ch gadael chwi'n unig yng nghanol y tir.
5:9 Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd yn fy nghlyw, "Bydd plastai yn anghyfannedd, a thai helaeth a theg heb drigiannydd.
5:10 Bydd deg cyfair o winllan yn dwyn un bath, a homer o had heb gynhyrchu dim ond un effa."
5:11 Gwae'r rhai sy'n codi'n fore i ddilyn diod gadarn, ac sy'n oedi hyd yr hwyr nes i'r gwin eu cynhyrfu.
5:12 Yn eu gwleddoedd fe geir y delyn a'r nabl, y tabwrdd a'r ffliwt a'r gwin; ond nid ystyriant waith yr ARGLWYDD nac edrych ar yr hyn a wnaeth.
5:13 Am hynny, caethgludir fy mhobl o ddiffyg gwybodaeth; bydd eu bonedd yn trengi o newyn a'u gwerin yn gwywo gan syched.
5:14 Am hynny, lledodd Sheol ei llwnc, ac agor ei cheg yn ddiderfyn; fe lyncir y bonedd a'r werin, ei thyrfa a'r sawl a ymffrostia ynddi.
5:15 Darostyngir gwreng a bonedd, a syrth llygad y balch;
5:16 ond dyrchefir ARGLWYDD y Lluoedd mewn barn, a sancteiddir y Duw sanctaidd mewn cyfiawnder.
5:17 Yna bydd ŵyn yn pori fel yn eu cynefin, a'r mynnod geifr yn bwyta ymysg yr adfeilion.
5:18 Gwae'r rhai sy'n tynnu drygioni â rheffynnau oferedd, a phechod megis â rhaffau men,
5:19 y rhai sy'n dweud, "Brysied, prysured gyda'i orchwyl, inni gael gweld; doed pwrpas Sanct Israel i'r golwg, inni wybod beth yw."
5:20 Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda, a da yn ddrwg, sy'n gwneud tywyllwch yn oleuni, a goleuni yn dywyllwch, sy'n gwneud chwerw yn felys a melys yn chwerw.
5:21 Gwae'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain, ac yn gall yn eu tyb eu hunain.
5:22 Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin, ac yn gryfion wrth gymysgu diod gadarn,
5:23 y rhai sy'n cyfiawnhau'r euog am wobr, ac yn gwrthod cyfiawnder i'r cyfiawn.
5:24 Am hynny, fel yr ysir y sofl gan dafod o dân ac y diflanna'r mân us yn y fflam, felly y pydra eu gwreiddyn ac y diflanna eu blagur fel llwch; am iddynt wrthod cyfraith ARGLWYDD y Lluoedd, a dirmygu gair Sanct Israel.
5:25 Am hynny enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, ac estynnodd ei law yn eu herbyn, a'u taro; fe grynodd y mynyddoedd, a gorweddai'r celanedd fel ysgarthion ar y strydoedd. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
5:26 Fe gyfyd faner i genhedloedd pell, a chwibana arnynt o eithaf y ddaear, ac wele, fe ddônt yn fuan a chwim.
5:27 Nid oes neb yn blino nac yn baglu, nid oes neb yn huno na chysgu, nid oes neb a'i wregys wedi ei ddatod, nac a charrai ei esgidiau wedi ei thorri.
5:28 Y mae eu saethau'n llym a'u bwâu i gyd yn dynn; y mae carnau eu meirch fel callestr, ac olwynion eu cerbydau fel corwynt.
5:29 Y mae eu rhuad fel llew; rhuant fel llewod ifanc, sy'n chwyrnu wrth afael yn yr ysglyfaeth a'i dwyn ymaith, heb neb yn ei harbed.
5:30 Rhuant arni yn y dydd hwnnw, fel rhuad y môr; ac os edrychir tua'r tir, wele dywyllwch a chyfyngdra, a'r goleuni yn tywyllu gan ei gymylau.

Galwad Eseia

6:1 Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Usseia, gwelais yr ARGLWYDD. Yr oedd yn eistedd ar orsedd uchel, ddyrchafedig, a godre'i wisg yn llenwi'r deml.
6:2 Uwchlaw yr oedd seraffiaid i weini arno, pob un â chwech adain, dwy i guddio'r wyneb, dwy i guddio'r traed, a dwy i ehedeg.
6:3 Yr oedd y naill yn datgan wrth y llall, "Sanct, Sanct, Sanct yw ARGLWYDD y Lluoedd; y mae'r holl ddaear yn llawn o'i ogoniant."
6:4 Ac fel yr oeddent yn galw, yr oedd sylfeini'r rhiniogau'n ysgwyd, a llanwyd y tŷ gan fwg.
6:5 Yna dywedais, "Gwae fi! Y mae wedi darfod amdanaf! Dyn a'i wefusau'n aflan ydwyf, ac ymysg pobl a'u gwefusau'n aflan yr wyf yn byw; ac eto, yr wyf â'm llygaid fy hun wedi edrych ar y brenin, ARGLWYDD y Lluoedd."
6:6 Ond ehedodd un o'r seraffiaid ataf, a dwyn yn ei law farworyn a gymerodd mewn gefel oddi ar yr allor;
6:7 ac fe'i rhoes i gyffwrdd â'm genau, a dweud, "Wele, y mae hwn wedi cyffwrdd â'th enau; symudwyd dy ddrygioni, a maddeuwyd dy bechod."
6:8 Yna clywais yr ARGLWYDD yn dweud, "Pwy a anfonaf? Pwy a â drosom ni?" Atebais innau, "Dyma fi, anfon fi."
6:9 Dywedodd, "Dos, dywed wrth y bobl hyn, 'Clywch yn wir, ond peidiwch â deall; edrychwch yn wir, ond peidiwch â dirnad.'
6:10 Brasâ galon y bobl, trymha eu clustiau, cau eu llygaid; rhag iddynt weld â'u llygaid, clywed â'u clustiau, deall â'u calon, a dychwelyd i'w hiacháu."
6:11 Gofynnais innau, "Pa hyd, ARGLWYDD?" Atebodd, "Nes y bydd dinasoedd wedi eu hanrheithio heb drigiannydd, a'r tai heb bobl, a'r wlad yn anrhaith anghyfannedd;
6:12 nes y bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru pawb ymhell, a difrod mawr yng nghanol y wlad.
6:13 Ac os erys y ddegfed ran ar ôl ynddi, fe'i llosgir drachefn; fel llwyfen neu dderwen fe'i teflir ymaith, fel boncyff o'r uchelfa. Had sanctaidd yw ei boncyff."

Neges i Ahas

7:1 Yn ystod dyddiau Ahas fab Jotham, fab Usseia, brenin Jwda, daeth Resin brenin Syria, a Pheca fab Remaleia, brenin Israel, i ryfela yn erbyn Jerwsalem, ond methu ei gorchfygu.
7:2 Yr oedd tŷ Dafydd wedi ei rybuddio bod Syria mewn cytundeb ag Effraim; ac yr oedd ei galon ef a'i bobl wedi cynhyrfu fel prennau coedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt.
7:3 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, "Dos allan, a'th fab Sear–jasub gyda thi, i gyfarfod Ahas wrth derfyn pistyll y llyn uchaf ar ffordd Maes y Pannwr,
7:4 a dywed wrtho, 'Bydd ofalus, cadw'n dawel a phaid ag ofni; paid â digalonni o achos y ddau stwmp hyn o bentewynion myglyd, am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia yn llosgi gan lid.
7:5 Oherwydd i Syria ac Effraim a mab Remaleia wneud cynllwyn drwg yn d'erbyn, a dweud,
7:6 "Gadewch inni ymosod ar Jwda, a'i dychryn, a'i throi o'n plaid, a gosod brenin arni, sef mab Tabeal,"
7:7 dyma y mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud: Ni saif hyn, ac ni ddigwydd.
7:8 Pen Syria yw Damascus, a phen Damascus yw Resin. Cyn diwedd pum mlynedd a thrigain bydd Effraim wedi ei dryllio a pheidio â bod yn bobl.
7:9 Pen Effraim yw Samaria, a phen Samaria yw mab Remaleia. Oni fyddwch yn sefydlog, ni'ch sefydlogir.'"

Arwydd i Ahas

7:10 Llefarodd yr ARGLWYDD eto wrth Ahas, a dweud,
7:11 "Gofyn am arwydd gan yr ARGLWYDD dy Dduw, arwydd o ddyfnder Sheol neu o uchder nefoedd."
7:12 Ond atebodd Ahas, "Ni ofynnaf, ac nid wyf am osod yr ARGLWYDD ar brawf."
7:13 Dywedodd yntau, "Gwrandewch yn awr, tŷ Dafydd. Ai peth bach yn eich golwg yw trethu amynedd pobl, a'ch bod am drethu amynedd fy Nuw hefyd?
7:14 Am hynny, y mae'r ARGLWYDD ei hun yn rhoi arwydd i chwi: Wele ferch ifanc yn feichiog, a phan esgor ar fab, fe'i geilw'n Immanuel.
7:15 Bydd yn bwyta menyn a mêl pan ddaw i wybod sut i wrthod y drwg a dewis y da.
7:16 Cyn i'r plentyn wybod sut i wrthod y drwg a dewis y da, fe ddifrodir tir y ddau frenin yr wyt yn eu hofni.
7:17 Bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnat ti ac ar dy bobl ac ar dŷ dy dad ddyddiau na fu eu tebyg er pan dorrodd Effraim oddi wrth Jwda – brenin Asyria."
7:18 Yn y dydd hwnnw chwibana'r ARGLWYDD am y gwybedyn o afonydd pell yr Aifft, ac am y wenynen o wlad Asyria;
7:19 fe ddônt ac ymsefydlu i gyd yn yr hafnau serth ac yn agennau'r creigiau, ar yr holl goed drain ac ar yr holl borfeydd.
7:20 Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD, ag ellyn a logwyd y tu hwnt i'r Ewffrates, brenin Asyria, yn eillio'r holl ben a blew'r traed, a thorri ymaith y farf hefyd.
7:21 Yn y dydd hwnnw bydd rhywun yn cadw'n fyw heffer a dwy ddafad;
7:22 a chaiff ganddynt ddigon o laeth i fedru bwyta menyn; canys bwyteir menyn a mêl gan bob un a adewir yn y wlad.
7:23 Yn y dydd hwnnw bydd pob man lle bu mil o winwydd, gwerth mil o ddarnau arian, yn fieri ac yn ddrain.
7:24 Daw dynion yno â saethau a bwâu, canys bydd mieri a drain ym mhobman.
7:25 Ni ddaw neb i'r llechweddau lle bu'r gaib unwaith yn trin, rhag ofn y mieri a'r drain; byddant yn lle i ollwng gwartheg iddo, ac yn gynefin defaid.

Arwydd i'r Bobl

8:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Cymer sgrôl fawr ac ysgrifenna arni mewn llythrennau eglur, 'I Maher-shalal–has-bas';
8:2 a galw yn dystion cywir i mi Ureia yr offeiriad a Sechareia fab Jeberecheia."
8:3 Yna euthum at y broffwydes; beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Galw ei enw Maher–shalal-has-bas,
8:4 oherwydd cyn i'r bachgen fedru galw, 'Fy nhad' neu 'Fy mam', bydd golud Damascus ac ysbail Samaria yn cael eu dwyn ymaith o flaen brenin Asyria."

Dinistr Brenin Asyria

8:5 Llefarodd yr ARGLWYDD wrthyf drachefn,
8:6 "Oherwydd i'r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloa, sy'n llifo'n dawel, a chrynu gan ofn o flaen Resin a mab Remaleia,
8:7 am hynny, bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnynt ddyfroedd yr Ewffrates, yn gryf ac yn fawr, brenin Asyria a'i holl ogoniant. Fe lifa dros ei holl sianelau, a thorri dros ei holl gamlesydd;
8:8 fe ysguba trwy Jwda fel dilyw, a gorlifo nes cyrraedd at y gwddf. Bydd cysgod ei adenydd yn llenwi holl led dy dir, O Immanuel."
8:9 Ystyriwch, bobloedd, fe'ch dryllir; gwrandewch, chwi bellafion byd; ymwregyswch, ac fe'ch dryllir; ymwregyswch, ac fe'ch dryllir.
8:10 Lluniwch gyngor, ac fe'i diddymir; dywedwch air, ac ni saif, Oherwydd y mae Duw gyda ni.

Ofni Duw

8:11 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, pan oedd yn gafael yn dynn ynof ac yn fy rhybuddio rhag rhodio yn llwybrau'r bobl hyn:
8:12 "Peidiwch â dweud 'Cynllwyn!' am bob peth a elwir yn gynllwyn gan y bobl hyn; a pheidiwch ag ofni'r hyn y maent hwy yn ei ofni, nac arswydo rhagddo.
8:13 Ond ystyriwch yn sanctaidd ARGLWYDD y Lluoedd; ofnwch ef, ac arswydwch rhagddo ef.
8:14 Bydd ef yn fagl, ac i ddau dŷ Israel bydd yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr; bydd yn rhwyd ac yn fagl i drigolion Jerwsalem.
8:15 A bydd llawer yn baglu drostynt; syrthiant, ac fe'u dryllir; cânt eu baglu a'u dal."
8:16 Rhwyma'r dystiolaeth, selia'r gyfraith ymhlith fy nisgyblion.
8:17 Disgwyliaf finnau am yr ARGLWYDD, sy'n cuddio'i wyneb rhag tŷ Jacob; arhosaf yn eiddgar amdano.
8:18 Wele fi a'r meibion a roes yr ARGLWDD i mi yn arwyddion ac yn argoelion yn Israel oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd, sy'n trigo ym Mynydd Seion.
8:19 A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, "Ewch i ymofyn â'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd", onid yw'r bobl yn ymhél â'r duwiau, ac yn ymofyn â'r meirw dros y byw
8:20 am gyfarwyddyd a thystiolaeth? Dyma'r gair a ddywedant, ac nid oes oleuni ynddo.
8:21 Bydd yn tramwy trwy'r wlad mewn caledi a newyn; a phan newyna bydd yn chwerwi, ac yn melltithio ei frenin a'i Dduw.
8:22 A phan fydd yn troi ei olwg tuag i fyny neu'n edrych tua'r ddaear, wele drallod a thywyllwch, caddug cyfyngder; bydd wedi ei fwrw i dywyllwch du.

Geni Bachgen

9:1 Ond ni fydd tywyllwch eto i'r sawl a fu mewn cyfyngder. Yn yr amser gynt bu cam–drin ar wlad Sabulon a gwlad Nafftali, ond ar ôl hyn bydd yn anrhydeddu Galilea'r cenhedloedd, ar ffordd y môr, dros yr Iorddonen.
9:2 Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; y rhai a fu'n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau.
9:3 Amlheaist orfoledd iddynt, chwanegaist lawenydd; llawenhânt o'th flaen fel yn adeg y cynhaeaf, ac fel y byddant yn gorfoleddu wrth rannu'r ysbail.
9:4 Oherwydd drylliaist yr iau oedd yn faich iddynt, a'r croesfar oedd ar eu hysgwydd, a'r ffon oedd gan eu gyrrwr, fel yn nydd Midian.
9:5 Pob esgid ar droed rhyfelwr mewn ysgarmes, a phob dilledyn wedi ei drybaeddu mewn gwaed, fe'u llosgir fel tanwydd.
9:6 Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. Fe'i gelwir, "Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon".
9:7 Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a'i frenhiniaeth, i'w sefydlu'n gadarn â barn a chyfiawnder, o hyn a hyd byth. Bydd sêl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.

Digofaint Duw yn Erbyn Israel

9:8 Anfonodd yr ARGLWYDD air yn erbyn Jacob, ac fe ddisgyn ar Israel.
9:9 Gostyngir yr holl bobl – Effraim a thrigolion Samaria – sy'n dweud mewn balchder a thraha,
9:10 "Syrthiodd y priddfeini, ond fe adeiladwn ni â cherrig nadd; torrwyd y prennau sycamor, ond fe rown ni gedrwydd yn eu lle."
9:11 Y mae'r ARGLWYDD yn codi gwrthwynebwyr yn eu herbyn; y mae'n cyffroi eu gelynion.
9:12 Y mae Syriaid o'r dwyrain a Philistiaid o'r gorllewin yn ysu Israel a'u safnau'n agored. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
9:13 Ond ni throdd y bobl at yr un a'u trawodd, na cheisio ARGLWYDD y Lluoedd;
9:14 am hynny tyr yr ARGLWYDD ymaith o Israel y pen a'r gynffon, y gangen balmwydd a'r frwynen mewn un dydd;
9:15 yr hynafgwr a'r anrhydeddus yw'r pen, y proffwyd sy'n dysgu celwydd yw'r gynffon.
9:16 Y rhai sy'n arwain y bobl hyn sy'n peri iddynt gyfeiliorni; a'r rhai a arweiniwyd sy'n cael eu drysu.
9:17 Am hynny nid arbed yr ARGLWYDD eu gwŷr ifainc, ac ni thosturia wrth eu hamddifaid na'u gweddwon. Y mae pob un ohonynt yn annuwiol a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
9:18 Oherwydd y mae drygioni yn llosgi fel tân, yn ysu'r mieri a'r drain, yn cynnau yn nrysni'r coed, ac yn codi'n golofnau o fwg.
9:19 Gan ddigofaint ARGLWYDD y Lluoedd y mae'r wlad ar dân; y mae'r bobl fel tanwydd, ac nid arbedant ei gilydd.
9:20 Cipia un o'r dde, ond fe newyna; bwyta'r llall o'r chwith, ond nis digonir. Bydd pob un yn bwyta cnawd ei blant –
9:21 Manasse Effraim, ac Effraim Manasse, ac ill dau yn erbyn Jwda. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
10:1 Gwae'r rhai a wnânt ddeddfau anghyfiawn a deddfu gormes yn ddi-baid;
10:2 i droi'r tlodion oddi wrth farn, ac amddifadu'r anghenus o blith fy mhobl o'u hawliau; i wneud gweddwon yn ysbail iddynt a'r rhai amddifad yn anrhaith.
10:3 Beth a wnewch yn nydd y dial, yn y dinistr a ddaw o bell? At bwy y ffowch am help? Ple y gadewch eich cyfoeth,
10:4 i osgoi crymu ymhlith y carcharorion a syrthio ymhlith y lladdedigion? Er hynny, ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.

Asyria yn Llaw Duw

10:5 "Gwae Asyria, gwialen fy llid; hi yw ffon fy nigofaint.
10:6 Anfonaf hi yn erbyn cenedl annuwiol, a rhof orchymyn iddi yn erbyn pobl fy nicter, i gymryd ysbail ac i anrheithio, a'u mathru dan draed fel baw'r heolydd.
10:7 Ond nid yw hi'n amcanu fel hyn, ac nid yw'n bwriadu felly; canys y mae ei bryd ar ddifetha a thorri ymaith genhedloedd lawer.
10:8 Fe ddywed, 'Onid yw fy swyddogion i gyd yn frenhinoedd?
10:9 Onid yw Calno fel Carchemis, a Hamath fel Arpad, a Samaria fel Damascus?'
10:10 Fel yr estynnais fy llaw hyd at deyrnasoedd eilunod, a oedd â'u delwau'n amlach na rhai Jerwsalem a Samaria,
10:11 ac fel y gwneuthum i Samaria ac i'w delwau hi, oni wnaf felly hefyd i Jerwsalem a'i heilunod?"
10:12 Pan orffen yr ARGLWYDD ei holl waith ar Fynydd Seion a Jerwsalem, fe gosba ymffrost trahaus brenin Asyria a hunanhyder ei ysbryd am iddo ddweud,
10:13 "Yn fy nerth fy hun y gwneuthum hyn, a thrwy fy noethineb, pan oeddwn yn cynllunio. Symudais ffiniau cenhedloedd, ysbeiliais eu trysorau; fel tarw bwriais i lawr y trigolion.
10:14 Cefais hyd i gyfoeth y bobl fel nyth; ac fel y bydd dyn yn casglu wyau wedi eu gadael, felly y cesglais innau bob gwlad ynghyd; nid oedd adain yn symud na phig yn agor i glochdar."
10:15 A ymffrostia'r fwyell yn erbyn y cymynwr? A ymfawryga'r llif yn erbyn yr hwn a'i tyn? Fel pe bai gwialen yn ysgwyd yr un sy'n ei chwifio, neu ffon yn trin un nad yw'n bren!
10:16 Am hynny bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, yn anfon clefyd i nychu ei ryfelwyr praff, a than ei ogoniant fe gyfyd twymyn fel llosgiad tân.
10:17 Bydd Goleuni Israel yn dân a'i Un Sanctaidd yn fflam; fe lysg ac fe ysa ei ddrain a'i fieri mewn un dydd.
10:18 Fe ddifoda ogoniant ei goedwig a'i ddoldir, fel claf yn nychu, yn enaid a chorff.
10:19 A bydd gweddill prennau ei goedwig mor brin nes y bydd plentyn yn gallu eu cyfrif.

Gweddill Israel

10:20 Yn y dydd hwnnw ni fydd gweddill Israel, a'r rhai a ddihangodd yn nhŷ Jacob, yn pwyso bellach ar yr un a'u trawodd; ond pwysant yn llwyr ar yr ARGLWYDD, Sanct Israel.
10:21 Bydd gweddill yn dychwel, gweddill Jacob, at Dduw sydd yn gadarn.
10:22 Canys, er i'th bobl Israel fod fel tywod y môr, gweddill yn unig fydd yn dychwel. Cyhoeddwyd dinistr, yn gorlifo mewn cyfiawnder.
10:23 Canys bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, yn gwneud dinistr terfynol yng nghanol yr holl ddaear.

Darostwng Asyria

10:24 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd: "Fy mhobl, sy'n preswylio yn Seion, paid ag ofni rhag yr Asyriaid, er iddynt dy guro â gwialen, a chodi eu ffon yn dy erbyn fel y gwnaeth yr Eifftiaid.
10:25 Canys ymhen ychydig bach fe dderfydd fy llid, a bydd fy nigofaint yn troi i'w difetha hwy.
10:26 A bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ysgwyd chwip yn eu herbyn, fel y gwnaeth yn lladdfa Midian wrth garreg Oreb, ac yn codi ei wialen dros y môr fel y cododd hi dros yr Aifft."
10:27 Yn y dydd hwnnw symudir ei faich oddi ar dy ysgwydd, a dryllio'i iau oddi ar dy war. Esgynnodd o Rimmon,
10:28 daeth at Aiath, tramwyodd drwy Migron, rhoddodd ei gelfi i'w cadw yn Michmas;
10:29 aethant dros Maabara ac aros dros nos yn Geba. Dychrynodd Rama, arswydodd Gibea Saul.
10:30 Bloeddia'n groch, Bath–galim; gwrando arni, Lais; ateb hi, Anathoth.
10:31 Y mae Madmena ar ffo, a phobl Gebim yn chwilio am nodded.
10:32 Heddiw y mae'n sefyll yn Nob, ac yn cau ei ddwrn yn erbyn mynydd merch Seion, bryn Jerwsalem.
10:33 Wele yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, yn cymynu'r prennau yn frawychus; torrir ymaith y rhai talgryf, a chwympir y rhai uchel.
10:34 Tyr â bwyell lwyni'r goedwig, a syrth Lebanon a'i choed cadarn.

Cangen o Jesse

11:1 o'r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o'i wraidd ef;
11:2 bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno, yn ysbryd doethineb a deall, yn ysbryd cyngor a grym, yn ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD;
11:3 ymhyfryda yn ofn yr ARGLWYDD. Nid wrth yr hyn a wêl y barna, ac nid wrth yr hyn a glyw y dyfarna,
11:4 ond fe farna'r tlawd yn gyfiawn a dyfarnu'n uniawn i rai anghenus y ddaear. Fe dery'r ddaear â gwialen ei enau, ac â gwynt ei wefusau fe ladd y rhai drygionus.
11:5 Cyfiawnder fydd gwregys ei lwynau a ffyddlondeb yn rhwymyn am ei ganol.
11:6 Fe drig y blaidd gyda'r oen, fe orwedd y llewpard gyda'r myn; bydd y llo a'r llew yn cydbori, a bachgen bychan yn eu harwain.
11:7 Bydd y fuwch yn pori gyda'r arth, a'u llydnod yn cydorwedd; bydd y llew yn bwyta gwair fel ych.
11:8 Bydd plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb, a baban yn estyn ei law dros ffau'r wiber.
11:9 Ni wnânt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd, canys fel y lleinw'r dyfroedd y môr i'w ymylon, felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD.
11:10 Ac yn y dydd hwnnw bydd gwreiddyn Jesse yn sefyll fel baner i'r bobloedd; bydd y cenhedloedd yn ymofyn ag ef, a bydd ei drigfan yn ogoneddus.
11:11 Ac yn y dydd hwnnw fe estyn yr ARGLWYDD ei law drachefn i adennill gweddill ei bobl a adewir, o Asyria a'r Aifft, o Pathros ac Ethiopia ac Elam, o Sinar a Hamath ac o ynysoedd y môr.
11:12 Fe gyfyd faner i'r cenhedloedd, a chasglu alltudion Israel; fe gynnull rai gwasgar Jwda o bedwar ban y byd.
11:13 Diflanna cenfigen Effraim, a thorrir ymaith elynion Jwda. Ni chenfigenna Effraim wrth Jwda, ac ni fydd Jwda'n gwrthwynebu Effraim.
11:14 Ond disgynnant ar lethrau'r Philistiaid yn y gorllewin, ac ynghyd fe ysbeiliant y dwyreinwyr; bydd Edom a Moab o fewn eu gafael, a phlant Ammon yn ufudd iddynt.
11:15 Gwna'r ARGLWYDD yn sychdir dafod môr yr Aifft; chwifia'i law dros yr Ewffrates, ac â'i wynt deifiol fe'i hollta yn saith o ffrydiau, i'w throedio yn droetsych.
11:16 A bydd priffordd i weddill ei bobl, i'r gweddill a adewir o Asyria, megis y bu i Israel pan ddaeth i fyny o wlad yr Aifft.

Caneuon Moliant

12:1 Yn y dydd hwnnw fe ddywedi, "Molaf di, O ARGLWYDD; er iti ddigio wrthyf, trodd dy lid, a rhoist gysur imi.
12:2 Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; 'rwy'n hyderus, ac nid ofnaf; canys yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth a'm cân, ac ef yw fy iachawdwr."
12:3 Mewn llawenydd fe dynnwch ddŵr o ffynhonnau iachawdwriaeth.
12:4 Yn y dydd hwnnw fe ddywedi, "Diolchwch i'r ARGLWYDD, galwch ar ei enw; hysbyswch ei weithredoedd ymhlith y cenhedloedd, cyhoeddwch fod ei enw'n oruchaf.
12:5 Canwch salmau i'r ARGLWYDD, canys enillodd fuddugoliaeth; hysbyser hyn yn yr holl dir.
12:6 Bloeddia, llefa'n llawen, ti sy'n preswylio yn Seion; canys y mae Sanct Israel yn fawr yn eich plith."

Yn Erbyn Babilon

13:1 Yr oracl am Fabilon; yr hyn a welodd Eseia fab Amos.
13:2 Dyrchafwch faner ar fynydd moel, codwch lef tuag atynt; amneidiwch â'ch dwylo iddynt ddod i mewn i byrth y pendefigion.
13:3 Gorchmynnais i'r rhai a gysegrais; ie, gelwais ar fy ngwŷr cedyrn i weithredu fy nicter, y rhai sy'n falch o'm gorchest.
13:4 Clywch, sŵn tyrfa ar y mynyddoedd, fel pobloedd heb rifedi! Clywch, dwndwr teyrnasoedd, fel cenhedloedd wedi eu crynhoi. ARGLWYDD y Lluoedd sydd yn cynnull y llu ar gyfer brwydr.
13:5 Dônt o wlad bell, o eithaf y nefoedd – offer llid yr ARGLWYDD – i ddifa'r holl dir.
13:6 Udwch, y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog.
13:7 Am hynny fe laesa'r holl ddwylo, a bydd pob calon yn toddi gan fraw.
13:8 Bydd poen ac artaith yn cydio ynddynt; byddant mewn gwewyr fel gwraig wrth esgor. Edrychant yn syn ar ei gilydd, a'u hwynebau'n gwrido fel fflam.
13:9 Wele, daw dydd yr ARGLWYDD, yn greulon gan ddigofaint a llid, i wneud y ddaear yn ddiffaith a dileu ei phechaduriaid ohoni.
13:10 Bydd sêr y nefoedd a'u planedau yn atal eu goleuni; tywylla'r haul ar ei godiad, ac ni oleua'r lloer â'i llewyrch.
13:11 Cosbaf y byd am ei bechod, a'r drygionus am eu camwedd; gwnaf i falchder y beiddgar beidio, gostyngaf ymffrost y trahaus.
13:12 Gwnaf bobl yn brinnach nag aur coeth, a'r ddynoliaeth nag aur Offir.
13:13 Am hynny fe gryna'r nefoedd ac ysgydwir y ddaear o'i lle, oherwydd digofaint ARGLWYDD y Lluoedd yn nydd angerdd ei lid.
13:14 Fel ewig wedi ei tharfu, fel praidd heb neb i'w corlannu, bydd pawb yn troi at ei dylwyth, a phob un yn ffoi i'w gynefin.
13:15 Trywenir pob un a geir, a lleddir â'r cleddyf bob un a ddelir.
13:16 Dryllir eu plant o flaen eu llygaid, ysbeilir eu tai, treisir eu gwragedd.
13:17 Wele, yr wyf yn cyffroi yn eu herbyn y Mediaid, rhai nad yw arian yn cyfrif ganddynt, ac na roddant bris ar aur.
13:18 Dryllia'u bwâu y gwŷr ifanc; ni thosturiant wrth ffrwyth y groth, nac edrych yn drugarog ar blant.
13:19 A bydd Babilon, yr odidocaf o'r teyrnasoedd, a gogoniant ysblennydd y Caldeaid, fel Sodom a Gomorra wedi i Dduw eu dinistrio.
13:20 Ni chyfanheddir hi o gwbl, na phreswylio ynddi dros y cenedlaethau; ni phabella'r Arab o'i mewn, ac ni chorlanna'r bugail ynddi.
13:21 Ond bydd anifeiliaid gwyllt yn gorwedd yno; llenwir hi gan ffeuau i greaduriaid swnllyd; bydd yr estrys yn trigo yno, a bychod yn llamu yno;
13:22 bydd y siacal yn cyfarth yn ei thyrau, a'r hiena yn ei phlastai hyfryd. Y mae ei hamser wrth law, ac nid estynnir ei dyddiau.

Adfer Israel

14:1 Tosturia'r ARGLWYDD wrth Jacob, ac fe ddewis Israel drachefn iddo'i hun. Fe'u gesyd yn eu tir eu hunain, a daw estroniaid i ymgysylltu â hwy ac i lynu wrth deulu Jacob.
14:2 Bydd pobloedd yn eu hebrwng i'w lle, a defnyddia teulu Jacob hwy yn weision a morynion yn nhir yr ARGLWYDD; byddant yn caethiwo'r rhai a'u gwnaeth hwy'n gaeth, ac yn llywodraethu ar y rhai a'u gorthrymodd hwy.

Yn Erbyn Brenin Babilon

14:3 Yn y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi llonydd i ti oddi wrth dy boen a'th lafur a'r gaethwasiaeth greulon y buost ynddi,
14:4 fe gei ddatgan y dychan hwn yn erbyn brenin Babilon: O fel y darfu'r gorthrymwr ac y peidiodd ei orffwylltra!
14:5 Drylliodd yr ARGLWYDD ffon yr annuwiol a gwialen y llywiawdwyr,
14:6 a fu'n taro'r bobloedd mewn dig, heb atal eu hergyd, ac yn sathru'r bobloedd mewn llid a'u herlid yn ddi-baid.
14:7 Daeth llonyddwch i'r holl ddaear, a thawelwch; ac y maent yn gorfoleddu ar gân.
14:8 Y mae hyd yn oed y ffynidwydd yn ymffrostio yn dy erbyn, a chedrwydd Lebanon hefyd, gan ddweud, "Er pan fwriwyd di ar dy orwedd ni chododd neb i'n torri ni i lawr."
14:9 Bydd Sheol isod yn cynhyrfu drwyddi i'th dderbyn pan gyrhaeddi; bydd yn cyffroi'r cysgodion i'th gyfarfod, pob un a fu'n arweinydd ar y ddaear; gwneir i bob un godi oddi ar ei orsedd, sef pob un a fu'n frenin ar y cenhedloedd.
14:10 Bydd pob un ohonynt yn ymateb, ac yn dy gyfarch fel hyn: "Aethost tithau'n wan fel ninnau; yr wyt yr un ffunud â ni."
14:11 Dygwyd dy falchder i lawr yn Sheol, yn sŵn miwsig dy nablau; oddi tanat fe daenir y llyngyr, a throsot y mae'r pryfed yn gwrlid.
14:12 O fel y syrthiaist o'r nefoedd, ti, seren ddydd, fab y wawr! Fe'th dorrwyd i'r llawr, ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd.
14:13 Dywedaist ynot dy hun, "Dringaf fry i'r nefoedd, dyrchafaf fy ngorsedd yn uwch na'r sêr uchaf; eisteddaf ar y mynydd cynnull ym mhellterau'r Gogledd.
14:14 Dringaf yn uwch na'r cymylau; fe'm gwnaf fy hun fel y Goruchaf."
14:15 Ond i lawr i Sheol y'th ddygwyd, i lawr i ddyfnderau'r pwll.
14:16 Bydd y rhai a'th wêl yn synnu a phendroni drosot, a dweud, "Ai dyma'r un a wnaeth i'r ddaear grynu, ac a ysgytiodd deyrnasoedd?
14:17 Ai hwn a droes y byd yn anialwch, a dinistrio'i ddinasoedd heb ryddhau ei garcharorion i fynd adref?"
14:18 Gorwedd holl frenhinoedd y cenhedloedd mewn anrhydedd, pob un yn ei le ei hun;
14:19 ond fe'th fwriwyd di allan heb fedd, fel erthyl a ffieiddir; fe'th orchuddiwyd â chelanedd wedi eu trywanu â chleddyf, ac yn disgyn i waelodion y pwll, fel cyrff wedi eu sathru dan draed.
14:20 Ni chei dy gladdu mewn bedd fel hwy, oherwydd difethaist dy dir a lleddaist dy bobl. Nac enwer byth mwy hil yr annuwiol;
14:21 darparwch laddfa i'w blant, oherwydd drygioni eu hynafiaid, rhag iddynt godi ac etifeddu'r tir a gorchuddio'r byd â dinasoedd.

Dinistrio Babilon

14:22 "Codaf yn eu herbyn," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "a dinistrio enw Babilon a'r gweddill sydd ynddi, yn blant a phlant i blant," medd yr ARGLWYDD.
14:23 "A gwnaf hi'n gynefin i aderyn y bwn, yn gors ddiffaith, ac ysgubaf hi ag ysgubell distryw," medd ARGLWYDD y Lluoedd.

Dinistrio Asyria

14:24 Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd, "Fel y cynlluniais y bydd, ac fel y bwriedais y digwydd;
14:25 drylliaf Asyria yn fy nhir, mathraf hi ar fy mynyddoedd; symudir ei hiau oddi arnat a'i phwn oddi ar dy gefn.
14:26 Hwn yw'r cynllun a drefnwyd i'r holl ddaear, a hon yw'r llaw a estynnwyd dros yr holl genhedloedd.
14:27 Oherwydd ARGLWYDD y Lluoedd a gynlluniodd; pwy a'i diddyma? Ei law ef a estynnwyd; pwy a'i try'n ôl?"

Yn Erbyn Philistia

14:28 Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Ahas daeth yr oracl hwn:
14:29 Paid â llawenychu, Philistia gyfan, am dorri'r wialen a'th drawodd; oherwydd o wreiddyn y sarff fe gyfyd gwiber, a bydd ei hepil yn sarff wenwynig wibiog.
14:30 Caiff y tlawd bori yn fy nolydd a'r anghenus orwedd yn dawel; ond lladdaf dy wreiddyn â newyn, a dinistriaf y rhai sy'n weddill ohonot.
14:31 Uda, borth! Gwaedda, ddinas! Y mae Philistia gyfan mewn gwewyr. Y mae mwg yn dod o'r gogledd, ac nid oes neb yn ei rengoedd yn llusgo.
14:32 Beth yw'r ateb i gennad y bobl? "Gwnaeth yr ARGLWYDD Seion yn ddiogel, ac ynddi y caiff trueiniaid ei bobl loches."

Yn Erbyn Moab

15:1 Yr oracl am Moab: Y noson y dinistrir Ar, fe dderfydd am Moab; y noson y dinistrir Cir, fe dderfydd am Moab.
15:2 Dringa merch Dibon i'r uchelfa i wylo; dros Nebo a thros Medeba fe uda Moab. Bydd moelni ar bob pen, a phob barf wedi ei heillio;
15:3 gwisgir sachliain yn yr heolydd; ar bennau'r tai, ac yn sgwâr y dref, bydd pawb yn udo ac yn beichio wylo.
15:4 Bydd Hesbon ac Eleale yn llefain, a chlywir eu cri hyd Jahas; am hynny bydd lwynau Moab yn crynu, ac yntau yn ysgwyd drwyddo.
15:5 Y mae fy nghalon yn llefain dros Moab. Bydd ei ffoaduriaid yn mynd mor bell â Soar, hyd Eglath–shalisheia; dringant riw Luhith dan wylo, a thorri calon ar ffordd Horonaim.
15:6 Bydd dyfroedd Nimrim yn sychdir; gwywa'r llysiau, metha'r egin, diflanna'r glesni.
15:7 Am hynny cludant dros nant Arabim yr eiddo a'r enillion a gasglwyd ganddynt.
15:8 Aeth y gri o amgylch terfynau Moab, nes bod udo yn Eglaim, ac udo yn Beer-elim.
15:9 Y mae dyfroedd Dimon yn llawn o waed, ond dygaf waeth eto ar Dimon – llew ar warthaf ffoaduriaid Moab, ac ar warthaf y gweddill yn y tir.
16:1 Anfonodd llywodraethwr y wlad ŵyn o Sela yn yr anialwch i fynydd merch Seion.
16:2 Y mae merched Moab wrth rydau Arnon fel adar aflonydd wedi eu troi o'u nythod.
16:3 "Dwg gyngor, gwna dy fwriad yn glir; bydded dy gysgod fel nos drosom, hyd yn oed ar ganol dydd; cuddia'r ffoaduriaid, paid â bradychu'r crwydriaid.
16:4 Bydded i ffoaduriaid Moab aros gyda thi; bydd di yn lloches iddynt rhag y dinistrydd." Pan ddaw diwedd ar drais, a pheidio o'r ysbeilio, a darfod o'r mathrwyr o'r tir,
16:5 yna sefydlir gorsedd trwy deyrngarwch, ac arni fe eistedd un ffyddlon ym mhabell Dafydd, barnwr yn ceisio barn deg ac yn barod i fod yn gyfiawn.
16:6 Clywsom am falchder Moab – mor falch ydoedd – ac am ei thraha, ei malais a'i haerllugrwydd, heb sail i'w hymffrost.
16:7 Am hynny fe uda Moab; uded Moab i gyd. Fe riddfana mewn dryswch llwyr am deisennau grawnwin Cir–hareseth.
16:8 Oherwydd pallodd erwau Hesbon a gwinwydd Sibma; drylliodd arglwyddi'r cenhedloedd ei grawnwin cochion; buont yn cyrraedd hyd at Jaser, ac yn ymestyn trwy'r anialwch. Yr oedd ei blagur yn gwthio allan, ac yn cyrraedd ar draws y môr.
16:9 Am hynny wylaf dros winwydd Sibma fel yr wylais dros Jaser; dyfrhaf di â'm dagrau, Hesbon ac Eleale; canys ar dy ffrwythau haf ac ar dy gynhaeaf daeth gwaedd.
16:10 Ysgubwyd ymaith y llawenydd a'r gorfoledd o'r dolydd; mwyach ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd, ni sathra'r sathrwr win yn y cafnau, a rhoddais daw ar weiddi'r cynaeafwyr.
16:11 Am hynny fe alara f'ymysgaroedd fel tannau telyn dros Moab, a'm hymysgaroedd dros Cir-hareseth.
16:12 Pan ddaw Moab i addoli, ni wna ond ei flino'i hun yn yr uchelfa; pan ddaw i'r cysegr i weddïo, ni thycia ddim.
16:13 Dyna'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moab gynt.
16:14 Yn awr fe ddywed yr ARGLWYDD, "Ymhen tair blynedd, yn ôl tymor gwas cyflog, bydd gogoniant Moab yn ddirmyg er cymaint ei rhifedi; bydd y rhai sy'n weddill yn ychydig ac yn ddibwys."

Yn Erbyn Damascus

17:1 Yr oracl am Ddamascus: "Wele fe beidia Damascus â bod yn ddinas; bydd yn bentwr o adfeilion.
17:2 Gwrthodir ei dinasoedd am byth, a byddant yn lle i ddiadelloedd orwedd ynddo heb neb i'w cyffroi.
17:3 Derfydd am y gaer yn Effraim, ac am y frenhiniaeth yn Namascus; bydd gweddill Syria fel gogoniant Israel," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
17:4 "Ac yn y dydd hwnnw, bydd gogoniant Jacob yn cilio a braster ei gig yn darfod.
17:5 Pan fydd medelwr yn casglu'r cnwd ŷd, ac yn medi'r tywysennau â'i fraich, bydd fel lloffa tywysennau yn nyffryn Reffaim.
17:6 Ac ni chaiff ond gweddillion wrth guro'r olewydd, dim ond dau ffrwyth neu dri ar flaen y brigau, pedwar neu bump o ffrwythau ar ganghennau'r coed," medd yr ARGLWYDD, Duw Israel.
17:7 Yn y dydd hwnnw fe edrych pobl at eu Gwneuthurwr, a throi eu golwg at Sanct Israel.
17:8 Nid edrychant at yr allorau, gwaith eu dwylo, nac ychwaith at yr hyn a wnaeth eu bysedd – y pyst cysegredig a'r allorau arogldarthu.
17:9 Yn y dydd hwnnw y gadewir eu dinasoedd cadarn fel adfeilion dinasoedd yr Hefiaid a'r Amoriaid, a adawyd o achos yr Israeliaid; a byddant yn ddiffaith.
17:10 Oherwydd anghofiaist y Duw a'th achubodd; ni chofiaist graig dy gadernid; am hynny, er i ti blannu planhigion hyfryd a gosod impyn estron,
17:11 a'u cael i dyfu ar y dydd y plennaist hwy ac i flodeuo yn y bore yr heuaist hwy, bydd y cnwd wedi crino mewn dydd o ofid a gwendid nychlyd.
17:12 Och! Twrf pobloedd lawer yn taranu fel tonnau'r môr; y mae rhuad y bobloedd fel rhuad dyfroedd cryfion.
17:13 Er bod y bobloedd yn rhuo fel rhuad dyfroedd mawrion, pan geryddir hwy, fe ffoant ymhell; erlidir hwy fel peiswyn ar fynydd o flaen y gwynt, fel plu ysgall o flaen corwynt.
17:14 Tua'r hwyrddydd wele drallod; cyn y bore aeth y cyfan. Dyma dynged ein hysbeilwyr, dyma ran ein rheibwyr.

Yn Erbyn Ethiopia

18:1 Gwae wlad yr adenydd chwim, sydd tu draw i afonydd Ethiopia,
18:2 ac yn anfon cenhadau dros y môr mewn cychod o bapurfrwyn ar wyneb y dyfroedd. Ewch, chwi negeswyr cyflym, at genedl sy'n dal ac yn llyfn, at bobl a ofnir ymhell ac agos, cenedl gref sy'n mathru eraill, a'i thir wedi ei rannu gan afonydd.
18:3 Chwi, holl drigolion byd a phobl y ddaear, edrychwch pan godir baner ar y mynyddoedd, gwrandewch pan gân yr utgorn.
18:4 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: "Gwyliaf yn llonydd o'm trigfan, yr un fath â thes yr haul a chwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf."
18:5 Canys cyn y cynhaeaf, pan dderfydd y blodau, a'r tusw blodau yn troi'n rawnwin aeddfed, torrir ymaith y brigau â chyllell finiog, a thynnir i ffwrdd y cangau sydd ar led.
18:6 Fe'u gadewir i gyd i adar rheibus y mynydd ac i anifeiliaid gwylltion. Yno bydd yr adar rheibus yn treulio'r haf, a'r anifeiliaid gwylltion yn gaeafu.
18:7 Yn yr amser hwnnw dygir rhoddion i ARGLWYDD y Lluoedd gan bobl dal a llyfn, pobl a ofnir ymhell ac agos, cenedl gref sy'n mathru eraill, a'i thir wedi ei rannu gan afonydd, i'r lle sy'n dwyn enw ARGLWYDD y Lluoedd, Mynydd Seion.

Yn Erbyn yr Aifft

19:1 Yr oracl am yr Aifft: Wele'r ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl buan, ac yn dod i'r Aifft; bydd eilunod yr Aifft yn crynu o'i flaen, a chalon yr Eifftiaid yn toddi o'u mewn.
19:2 "Gyrraf Eifftiwr yn erbyn Eifftiwr; ymladd brawd yn erbyn brawd, a chymydog yn erbyn cymydog, dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas.
19:3 Palla ysbryd yr Eifftiaid o'u mewn, a drysaf eu cynlluniau; ânt i ymofyn â'u heilunod a'u swynwyr, â'u dewiniaid a'u dynion hysbys.
19:4 Trosglwyddaf yr Aifft i feistr caled, a theyrnasa brenin creulon arnynt," medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.
19:5 Sychir dyfroedd y Neil, bydd yr afon yn hesb a sych,
19:6 y ffosydd yn drewi, ffrydiau y Neil yn edwino gan sychder, a'r brwyn a'r helyg yn gwywo;
19:7 bydd lleiniau o dir moel wrth y Neil, a bydd popeth a heuir gyda glan yr afon yn crino ac yn diflannu'n llwyr.
19:8 Bydd y pysgotwyr yn tristáu ac yn cwynfan, pob un sy'n taflu bach yn y Neil; bydd y rhai sy'n bwrw rhwydi ar y dyfroedd yn dihoeni.
19:9 Bydd gweithwyr llin mewn trallod, a'r cribwragedd a'r gwehyddion yn gwelwi.
19:10 Bydd y rhai sy'n nyddu yn benisel a phob crefftwr yn torri ei galon.
19:11 o'r fath ffyliaid, chwi dywysogion Soan, y doethion sy'n cynghori Pharo â chyngor hurt! Sut y gallwch ddweud wrth Pharo, "Mab y doethion wyf fi, o hil yr hen frenhinoedd"?
19:12 Ble mae dy ddoethion? Bydded iddynt lefaru'n awr, a'th ddysgu beth a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd ynglŷn â'r Aifft.
19:13 Gwnaed tywysogion Soan yn ffyliaid, a thwyllwyd tywysogion Noff; aeth penaethiaid ei llwythau â'r Aifft ar gyfeiliorn.
19:14 Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd drygioni o'i mewn, a gwneud i'r Aifft gyfeiliorni ym mhopeth a wna, fel y bydd meddwyn yn ymdroi yn ei gyfog.
19:15 Ni bydd dim y gellir ei wneud i'r Aifft gan neb, na phen na chynffon, na changen na brwynen.
19:16 Yn y dydd hwnnw bydd yr Eifftiaid fel gwragedd yn crynu gan ofn o flaen y llaw y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei hysgwyd yn eu herbyn.
19:17 Bydd tir Jwda yn arswyd i'r Aifft, a phob sôn amdano yn codi ofn arni, oherwydd y cynllun a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei herbyn.
19:18 Yn y dydd hwnnw bydd pump o ddinasoedd yr Aifft yn siarad iaith Canaan, ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i ARGLWYDD y Lluoedd. Enw un ohonynt fydd Dinas yr Haul.
19:19 Yn y dydd hwnnw bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol yr Aifft, a cholofn i'r ARGLWYDD ar ei goror.
19:20 Bydd yn arwydd ac yn dystiolaeth i ARGLWYDD y Lluoedd yng ngwlad yr Aifft; pan lefant ar yr ARGLWYDD oherwydd eu gorthrymwyr, bydd yntau yn anfon gwaredydd iddynt i'w hamddiffyn a'u hachub.
19:21 Bydd yr ARGLWYDD yn ei wneud ei hun yn adnabyddus i'r Eifftiaid, a byddant hwythau'n cydnabod yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn ei addoli ag aberth a bwydoffrwm, ac yn addunedu i'r ARGLWYDD ac yn talu eu haddunedau iddo.
19:22 Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r Aifft, yn ei tharo ac yn ei gwella; pan ddychwelant at yr ARGLWYDD bydd yntau'n gwrando arnynt ac yn eu hiacháu.
19:23 Yn y dydd hwnnw bydd priffordd o'r Aifft i Asyria; fe â'r Asyriaid i'r Aifft a'r Eifftiaid i Asyria, a bydd yr Eifftiaid yn addoli gyda'r Asyriaid.
19:24 Yn y dydd hwnnw bydd Israel yn un o dri, gyda'r Aifft ac Asyria, ac yn gyfrwng bendith yng nghanol y byd.
19:25 Bendith ARGLWYDD y Lluoedd fydd, "Bendith ar yr Aifft, fy mhobl, ac ar Asyria, gwaith fy nwylo, ac ar Israel, f'etifeddiaeth."

Neges y Proffwyd Noeth

20:1 Yn y flwyddyn pan ddaeth y cadfridog, a anfonwyd gan Sargon brenin Asyria, i Asdod ac ymladd yn ei herbyn a'i hennill,
20:2 dyna'r pryd y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia fab Amos, "Dos, datod y sachliain oddi am dy lwynau, a thyn dy sandalau oddi am dy draed." Fe wnaeth hynny, a cherddodd o amgylch heb ddillad ac yn droednoeth.
20:3 Dywedodd yr ARGLWYDD, "Fel y mae fy ngwas Eseia wedi bod yn cerdded heb ddillad ac yn droednoeth am dair blynedd, yn arwydd a rhybudd yn erbyn yr Aifft ac Ethiopia,
20:4 felly y bydd brenin Asyria yn arwain yr Eifftiaid yn gaeth ac Ethiopia i gaethglud, yn ifanc a hen, heb ddillad, yn droednoeth ac yn dinnoeth, yn gywilydd i'r Aifft.
20:5 Bydd pawb mewn arswyd a dryswch o achos Ethiopia, eu gobaith, a'r Aifft, eu balchder.
20:6 Bydd pawb sy'n trigo ar y traethau hyn yn y dydd hwnnw yn dweud, 'Dyma sydd wedi digwydd i'r rhai yr oeddem ni'n gobeithio ynddynt ac yn dibynnu arnynt am help a gwaredigaeth o afael brenin Asyria. Sut felly y dihangwn?'"

Yn Erbyn Babilon

21:1 Yr oracl am anialwch y môr: Fel corwynt yn chwyrlïo dros y Negef, felly y daw dinistr o'r anialwch, o wlad ofnadwy.
21:2 Mynegwyd gweledigaeth greulon i mi: bradwr yn bradychu, anrheithiwr yn anrheithio. Cod, Elam! I'r gwarchae, Fediaid! Rhof daw ar bob griddfan a achoswyd.
21:3 Am hynny llanwyd fy lwynau â gofid, cydiwyd ynof gan wewyr, fel gwraig wrth esgor; cythryblwyd fi wrth ei glywed, brawychais wrth ei weld.
21:4 Y mae fy meddwl yn drysu, a braw yn fy nirdynnu; trodd yr hwyrddydd a ddymunais yn ddychryn imi.
21:5 Huliant fwrdd, taenant y lliain, y maent yn bwyta ac yfed. Codwch, chwi dywysogion, gloywch eich tarian.
21:6 Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf: "Dos, gosod wyliwr i fynegi'r hyn a wêl.
21:7 Os bydd yn gweld cerbyd gyda phâr o feirch, marchog ar asyn neu farchog ar gamel, y mae i sylwi'n ddyfal, ddyfal."
21:8 Yna fe lefodd y gwyliwr, "'Rwyf wedi sefyll ar y tŵr ar hyd y dydd, O Arglwydd, ac 'rwyf wedi cadw gwyliadwriaeth am nosau cyfan;
21:9 a dyma a ddaeth – gŵr mewn cerbyd gyda phâr o feirch, yn dweud, 'Y mae wedi syrthio! Y mae Babilon wedi syrthio, a holl ddelwau ei duwiau wedi eu dryllio i'r llawr.'"
21:10 Chwi, fy eiddo a fu dan y dyrnwr ac a nithiwyd, mynegais i chwi yr hyn a glywais gan ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel.

Yn Erbyn Edom

21:11 Yr oracl am Duma: Geilw un arnaf o Seir, "O wyliwr, beth am y nos? O wyliwr, beth am y nos?"
21:12 Atebodd y gwyliwr, "Daw bore, a nos hefyd. Os ydych am ofyn, gofynnwch, a dewch yn ôl eto."

Yn Erbyn Arabia

21:13 Yr oracl am Arabia: Yn llwyni Arabia y lletywch, chwi garafanau Dedanim;
21:14 dewch â diod i gyfarfod y rhai sychedig. Chwi drigolion Tema, ewch i gyfarfod y fföedigion â bara;
21:15 oherwydd ffoesant rhag y cleddyf, rhag y cleddyf noeth a'r bwa anelog, a rhag pwys y frwydr.
21:16 Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf: "O fewn blwyddyn, yn ôl tymor gwas cyflog, daw diwedd ar holl ogoniant Cedar;
21:17 ychydig o saethwyr bwa o blith gwŷr grymus Cedar a fydd yn weddill." Llefarodd yr ARGLWYDD, Duw Israel.

Yn Erbyn Jerwsalem

22:1 Yr oracl am ddyffryn y weledigaeth: Beth sy'n bod? Pam y mae pawb ohonoch wedi dringo i bennau'r tai?
22:2 Dinas yn llawn cynnwrf, un mewn terfysg, tref mewn berw! Ni laddwyd dy laddedigion â'r cleddyf, na'th feirwon mewn brwydr.
22:3 Ffodd dy arweinwyr i gyd gyda'i gilydd, fe'u daliwyd heb blygu bwa; daliwyd dy filwyr praffaf i gyd gyda'i gilydd, er iddynt ffoi ymhell i ffwrdd.
22:4 Am hynny dywedais, "Trowch eich golwg oddi wrthyf, gadewch i mi wylo'n chwerw; peidiwch â cheisio fy niddanu am ddinistr merch fy mhobl."
22:5 Oherwydd y mae gan yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, ddiwrnod o derfysg, o fathru ac o ddryswch yn nyffryn y weledigaeth, diwrnod o falurio ceyrydd ac o weiddi yn y mynyddoedd.
22:6 Cododd Elam ei gawell saethau, bachwyd meirch wrth gerbydau Aram, dinoethodd Cir ei tharian.
22:7 Aeth eich dyffrynnoedd dethol yn llawn cerbydau, a'r gwŷr meirch yn gwarchae ar y pyrth;
22:8 dinoethwyd amddiffynfa Jwda. Yn y dydd hwnnw buoch yn archwilio'r arfogaeth yn Nhŷ'r Goedwig,
22:9 yn edrych y bylchau yn Ninas Dafydd am eu bod yn niferus, ac yn cronni dyfroedd y Llyn Isaf.
22:10 Buoch hefyd yn rhifo tai Jerwsalem a thynnu rhai i lawr i ddiogelu'r mur;
22:11 gwnaethoch gronfa rhwng y ddau fur i ddal y dyfroedd o'r Hen Lyn. Ond ni roesoch sylw i'r un a'i gwnaeth, nac ystyried yr hwn a'i lluniodd erstalwm.
22:12 Yn y dydd hwnnw, fe alwodd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, am wylofain a galaru, am eillio pen a gwregysu â sachliain;
22:13 ond dyma lawenydd a gorfoledd, lladd gwartheg a lladd defaid, bwyta cig ac yfed gwin, a dweud, "Gadewch inni fwyta ac yfed, oherwydd yfory byddwn farw."
22:14 Datguddiodd ARGLWYDD y Lluoedd hyn yn fy nghlyw, a dweud, "Yn wir, ni lanheir yr drygioni hwn nes i chwi farw." Dyna a ddywedodd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.
22:15 Dyma'r hyn a ddywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd: "Dos, a gofyn i'r swyddog hwn, Sebna, arolygydd y tŷ,
22:16 'Beth a wnei di yma, pwy sydd gennyt yma, dy fod wedi torri bedd yma i ti dy hun, gan dorri dy fedd ar le uchel a naddu claddfa i ti dy hun mewn craig?
22:17 Wele, bydd yr ARGLWYDD yn gafael yn dynn ynot ac yn dy hyrddio i lawr, ŵr cryf;
22:18 bydd yn dy chwyrlïo amgylch ogylch, ac yn dy daflu fel pêl ar faes agored, llydan. Yno y byddi farw, ac yno yr erys dy gerbydau mawreddog, yn warth i dŷ dy feistr.
22:19 Fe'th yrraf o'th swydd, ac fe'th fwrir o'th safle.'"
22:20 "Yn y dydd hwnnw byddaf yn galw am fy ngwas Eliacim fab Hilceia,
22:21 ac yn ei wisgo â'th fantell di, ac yn rhwymo dy wregys amdano, ac yn rhoi d'awdurdod di yn ei law. Bydd ef yn dad i drigolion Jerwsalem ac i bobl Jwda.
22:22 Gosodaf allwedd tŷ Dafydd ar ei ysgwydd; beth bynnag y bydd yn ei agor, ni fydd neb yn gallu ei gau, a beth bynnag y bydd yn ei gau, ni fydd neb yn gallu ei agor.
22:23 Byddaf yn ei osod yn sicr, fel hoelen yn ei lle; bydd yn orsedd ogoneddus yn nhŷ ei dad.
22:24 Ef fydd yn cynnal holl bwys y teulu, yr hil a'r epil, sef yr holl lestri mân, yn gwpanau ac yn gawgiau.
22:25 Yn y dydd hwnnw," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "fe symudir yr hoelen a osodwyd yn sicr yn ei lle; fe'i torrir ac fe syrthia; dryllir hefyd y llwyth a oedd arni." Llefarodd yr ARGLWYDD.

Yn Erbyn Tyrus

23:1 Yr oracl am Tyrus: Udwch, longau Tarsis, oherwydd anrheithiwyd y porthladd; wrth groesi o dir Chittim fe welir hynny.
23:2 Wylwch, drigolion y glannau, masnachwyr Sidon, sy'n tramwyo'r môr,
23:3 a'th weision ar y dyfroedd mawrion; cnwd Sihor, cynhaeaf y Neil, oedd dy gyllid, a masnachwr y cenhedloedd oeddit ti.
23:4 Cywilydd arnat, Sidon, canys llefarodd y môr, caer y môr, a dweud, "Nid wyf mewn gwewyr nac yn esgor, nac yn magu llanciau nac yn meithrin morynion."
23:5 Pan ddaw'r newydd i'r Aifft, gwingant wrth glywed am Tyrus.
23:6 Ewch drosodd i Tarsis; udwch, drigolion y glannau.
23:7 Ai hon yw eich dinas brysur, sydd â'i hanes mor hen, a'i theithio wedi mynd â hi i ymsefydlu mor bell?
23:8 Pwy a gynlluniodd hyn yn erbyn Tyrus goronog, oedd â'i masnachwyr yn dywysogion a'i marchnatwyr yn fawrion y ddaear?
23:9 ARGLWYDD y Lluoedd a'i cynlluniodd, i ddifwyno pob gogoniant balch, i ddiraddio holl fawrion y ddaear.
23:10 Dos trwy dy dir, fel y gwna'r Neil, ferch Tarsis; nid oes atalfa mwyach.
23:11 Estynnodd yr ARGLWYDD ei law dros y môr, ysgydwodd deyrnasoedd; rhoes orchymyn ynghylch Canaan, i ddinistrio ei cheyrydd.
23:12 A dywedodd, "Ni chei ymffrostio ddim mwy, ti forwyn a orthrymwyd, ferch Sidon; cod, dos drosodd i Chittim, ond ni chei orffwys yno chwaith."
23:13 Edrych ar wlad y Caldeaid. Y rhain – nid yr Asyriaid – yw'r bobl a bennodd Tyrus i'r anifeiliaid gwylltion. Hwy a gododd warchae, a dryllio'i phalasau, a'i thynnu i lawr yn adfeilion.
23:14 Udwch, chwi longau Tarsis, oherwydd anrheithiwyd eich amddiffynfa.
23:15 Yn yr amser hwnnw fe anghofir Tyrus am ddeng mlynedd a thrigain, sef hyd einioes un brenin; ac ymhen deng mlynedd a thrigain bydd cyflwr Tyrus fel y butain yn y gân:
23:16 "Cymer dy delyn, rhodianna trwy'r ddinas, di butain a anghofiwyd; tyn yn dyner ar y tannau, cân dy ganeuon yn aml, fel y cofir di drachefn."
23:17 Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain, bydd yr ARGLWYDD yn ymweld eto â Tyrus; fe â hithau'n ôl at ei masnach a'i llogi ei hun i bob teyrnas ar y ddaear.
23:18 Ond bydd ei helw a'i henillion wedi eu neilltuo i'r ARGLWYDD; ni chronnir hwy na'u cuddio, ond bydd ei masnach yn darparu llawnder o fwyd a gwisgoedd hardd i'r rhai sy'n byw yng ngŵydd yr ARGLWYDD.

Dinistr ar y Ddaear

24:1 Wele, y mae'r ARGLWYDD yn gwacáu'r ddaear, yn ei difrodi, yn ei throi â'i hwyneb i waered, ac yn gyrru ei thrigolion ar wasgar.
24:2 Bydd yr un ffunud i bobl ac i offeiriad, i was ac i feistr, i lawforwyn ac i feistres, i brynwr ac i werthwr, i echwynnwr ac i fenthyciwr, i'r un sy'n derbyn llog ac i'r un sy'n ei dalu.
24:3 Gwneir y ddaear yn gwbl wag, a'i hysbeilio'n llwyr. Oherwydd yr ARGLWYDD a lefarodd y gair hwn.
24:4 Gwywodd y ddaear a chrino, dihoenodd y byd ac edwino, dihoenodd uchelfeydd y ddaear.
24:5 Halogwyd y ddaear gan ei phreswylwyr, am iddynt dorri'r cyfreithiau, newid y deddfau a diddymu'r cyfamod tragwyddol.
24:6 Am hynny fe ysir y wlad gan felltith, a chosbir ei thrigolion; am hynny hefyd fe â'r trigolion yn llai a llai, ac ychydig fydd yn weddill.
24:7 Fe â'r gwin newydd yn wan, dihoena'r winwydden, a thry'r gorfoleddwyr i riddfan.
24:8 Bydd sŵn llawen y tympanau yn peidio, a thrwst y gyfeddach yn distewi, a'r delyn hyfryd yn dawel.
24:9 Ni fydd yfed gwin yn sŵn canu; bydd y ddiod yn chwerw i'r yfwr.
24:10 Bydd dinas anhrefn wedi ei dryllio, a phob tŷ ar glo rhag i neb fynd iddo.
24:11 Er galw am win yn yr heolydd, bydd diwedd ar bob cyfeddach, a diflanna llawenydd o'r wlad.
24:12 Anghyfanhedd–dra yn unig a adewir yn y ddinas, a bydd ei phyrth wedi eu dryllio'n gandryll.
24:13 Felly y bydd dros y byd i gyd ymhlith y bobloedd, fel ar adeg ysgwyd yr olewydd a lloffa'r gwinwydd ar ôl y cynhaeaf.
24:14 Byddant yn codi llef a llawenhau, datganant glod yr ARGLWYDD o'r gorllewin.
24:15 Am hynny taler parch i'r ARGLWYDD yn y dwyrain, i enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ynysoedd y gorllewin.
24:16 O eithafoedd y ddaear fe glywn orfoledd: "Gogoniant i'r Un Cyfiawn." Ond fe ddywedaf fi, "Nychdod! Nychdod! Gwae fi! y twyllwyr a dwyllodd, twyllwyr a dwyllodd â'u twyll."
24:17 Dychryn, pwll, magl sydd ar dy gyfer, breswylydd y tir;
24:18 y sawl a ffy o drwst y dychryn a syrth i'r pwll, a'r sawl a gyfyd o ganol y pwll a ddelir yn y fagl. Oherwydd agorir ffenestri'r uchelder, ac fe gryna seiliau'r ddaear;
24:19 dryllir y ddaear yn deilchion, ei rhwygo drwyddi a'i hysgwyd yn ffyrnig;
24:20 bydd y ddaear yn gwegian yn ôl a blaen fel meddwyn, yn siglo fel caban gwyliwr; bydd pwysau ei chamwedd mor drwm arni, fel y bydd yn syrthio heb godi byth mwy.
24:21 Yn y dydd hwnnw fe gosba'r ARGLWYDD lu'r nef yn y nef, a brenhinoedd y ddaear ar y ddaear.
24:22 Fe'u cesglir ynghyd, yn glos fel carcharorion mewn cell; caeir arnynt yng ngharchar, a'u cosbi ymhen amser hir.
24:23 Gwaradwyddir y lloer, a chywilyddia'r haul, oherwydd teyrnasa ARGLWYDD y Lluoedd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem, a'i ogoniant yn amlwg gerbron ei henuriaid.

Moliant i Dduw

25:1 O ARGLWYDD, fy Nuw ydwyt ti; mawrygaf di a chlodforaf dy enw am iti gyflawni bwriad rhyfeddol, sy'n sicr a chadarn ers oesoedd.
25:2 Gwnaethost ddinas yn bentwr, a thref gaerog yn garnedd; ysgubwyd ymaith y plasty o'r ddinas, ac nis adeiledir byth eto.
25:3 Am hynny y mae pobl nerthol yn dy ogoneddu, a dinasoedd cenhedloedd trahaus yn dy barchu.
25:4 Canys buost yn noddfa i'r tlawd, yn noddfa i'r anghenus yn ei gyfyngder, yn lloches rhag y storm ac yn gysgod rhag y gwres. Oherwydd y mae anadl y rhai trahaus fel gwynt oer,
25:5 neu fel gwres ar dir sych. 'Rwyt yn tawelu twrf y dieithriaid; fel y bydd gwres yn oeri dan gwmwl, felly y bydd cân y trahaus yn distewi.

Gwledd ar Fynydd Seion

25:6 Ar y mynydd hwn bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn paratoi gwledd o basgedigion i'r bobl i gyd, gwledd o win wedi aeddfedu, o basgedigion breision a hen win wedi ei hidlo'n lân.
25:7 Ac ar y mynydd hwn fe ddifa'r gorchudd a daenwyd dros yr holl bobloedd, llen galar sy'n cuddio pob cenedl;
25:8 llyncir angau am byth, a bydd yr ARGLWYDD Dduw yn sychu ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb, ac yn symud ymaith warth ei bobl o'r holl ddaear. Yr ARGLWYDD a lefarodd hyn.
25:9 Yn y dydd hwnnw fe ddywedir, "Wele, dyma ein Duw ni. Buom yn disgwyl amdano i'n gwaredu; dyma'r ARGLWYDD y buom yn disgwyl amdano, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth."
25:10 Oherwydd bydd llaw yr ARGLWYDD yn gorffwys dros y mynydd hwn, ond fe sethrir Moab dan ei draed fel sathru gwellt mewn tomen;
25:11 bydd Moab yn estyn ei dwylo allan yn ei chanol, fel nofiwr yn eu hestyn i nofio, ond fe suddir ei balchder gyda phob symudiad dwylo.
25:12 Bydd yr ARGLWYDD yn bwrw'r amddiffynfa i lawr, ac yn gwneud eich muriau yn gydwastad â'r pridd, a'u taflu i lawr i'r llwch.

Cân o Foliant

26:1 Yn y dydd hwnnw cenir y gân hon yng ngwlad Jwda: Y mae gennym ddinas gadarn; y mae'n gosod iachawdwriaeth yn furiau a chaerau iddi.
26:2 Agorwch y pyrth i'r genedl gyfiawn ddod i mewn, y genedl sy'n cadw'r ffydd.
26:3 Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaith y sawl sydd â'i feddylfryd arnat, am ei fod yn ymddiried ynot.
26:4 Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD o hyd, canys craig dragwyddol yw'r ARGLWYDD Dduw.
26:5 Y mae'n tynnu i lawr breswylwyr yr uchelder a'r ddinas ddyrchafedig; fe'i gwna'n wastad, yn gydwastad â'r llawr, a'i bwrw i'r llwch;
26:6 fe'i sethrir dan draed, traed y rhai truenus, a than sang y rhai tlawd.
26:7 Y mae'r llwybr yn wastad i'r rhai cyfiawn; gwnei ffordd y cyfiawn yn llyfn;
26:8 edrychwn ninnau atat ti, O ARGLWYDD, am lwybr dy farnedigaethau; d'enw di a'th goffa di yw ein dyhead dwfn.
26:9 Deisyfaf di â'm holl galon drwy'r nos, a cheisiaf di'n daer gyda'r wawr; oherwydd pan fydd dy farnedigaethau yn y wlad, bydd trigolion byd yn dysgu cyfiawnder.
26:10 Er gwneud cymwynas â'r annuwiol, ni ddysg gyfiawnder; fe wna gam hyd yn oed mewn gwlad gyfiawn, ac ni wêl fawredd yr ARGLWYDD.
26:11 O ARGLWYDD, dyrchafwyd dy law, ond nis gwelant; gad iddynt weld dy sêl dros dy bobl, a chywilyddio; a bydded i dân d'elyniaeth eu hysu.
26:12 ARGLWYDD, ti sy'n trefnu heddwch i ni, oherwydd ti a wnaeth ein holl weithredoedd trosom.
26:13 O ARGLWYDD ein Duw, er i arglwyddi eraill reoli trosom, dy enw di yn unig a gydnabyddwn.
26:14 Y maent yn feirw, heb fedru byw, yn gysgodion, heb fedru codi mwyach. I hynny y cosbaist hwy a'u difetha, a diddymu pob atgof amdanynt.
26:15 Ond cynyddaist y genedl, O ARGLWYDD, cynyddaist y genedl, a'th ogoneddu dy hun; estynnaist holl derfynau'r wlad.
26:16 Mewn adfyd, O ARGLWYDD, 'roeddym yn dy geisio, ac yn tywallt allan ein gweddi pan oeddet yn ein ceryddu.
26:17 Fel y bydd gwraig ar fin esgor yn gwingo a gweiddi gan boen, felly y'n ceir ni yn dy ŵydd, O ARGLWYDD;
26:18 yr oeddem yn feichiog, ac fel pe baem ar fin esgor, a heb eni dim ond gwynt. Ni chawsom waredigaeth i'r wlad, nac epilio ar rai i drigiannu'r byd.
26:19 Ond bydd dy feirw di yn byw, a'u cyrff marw yn codi. Chwi sy'n trigo yn y llwch, deffrowch a chanwch; oherwydd y mae dy wlith fel gwlith goleuni, a thithau'n peri iddo ddisgyn ar fro'r cysgodion.
26:20 Dewch, fy mhobl, ewch i'ch ystafell, caewch y drws, ac ymguddiwch am ennyd, nes i'r llid gilio.
26:21 Canys wele, y mae'r ARGLWYDD yn dod allan o'i fangre i gosbi trigolion y ddaear am eu drygioni; yna fe ddatgela'r ddaear y gwaed a dywalltwyd, ac ni chuddia ei lladdedigion byth mwy.

Gwaredigaeth i Israel

27:1 Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD â'i gleddyf creulon, mawr a nerthol yn cosbi Lefiathan, y sarff wibiog, Lefiathan, y sarff gordeddog, ac yn lladd y ddraig sydd yn y môr.
27:2 Yn y dydd hwnnw y canwch gân y winllan ddymunol:
27:3 "Myfi, yr ARGLWYDD, fydd yn ei chadw, ei dyfrhau bob munud, a'i gwylio nos a dydd, rhag i neb ei cham-drin.
27:4 Nid oes gennyf lid yn ei herbyn; os drain a mieri a rydd imi, rhyfelaf yn ei herbyn, a'u llosgi i gyd;
27:5 ond os yw am afael ynof am sicrwydd, gwnaed heddwch â mi, gwnaed heddwch â mi."
27:6 Fe ddaw'r adeg i Jacob fwrw gwraidd, ac i Israel flodeuo a blaguro, a llenwi'r ddaear i gyd â chnwd.
27:7 A drawodd Duw ef fel y trawodd ef yr un a'i trawodd? A laddwyd ef fel y lladdodd ef yr un a'i lladdodd?
27:8 Trwy symud ymaith a bwrw allan, yr wyt yn ei barnu, ac yn ei hymlid â gwynt creulon pan gyfyd o'r dwyrain.
27:9 Am hynny, fel hyn y mae glanhau drygioni Jacob, a hyn fydd yn symud ymaith ei gamwedd – gwneud holl feini'r allor fel cerrig calch wedi eu malu, heb bost nac allor yn sefyll.
27:10 Oherwydd y mae'r ddinas gadarn yn unig, yn fangre wedi ei gadael a'i gwrthod, fel diffeithdir, lle y mae'r llo yn pori a gorwedd, ac yn cnoi pob blaguryn sy'n tyfu.
27:11 Pan wywa'i changau, fe'u torrir, a daw'r gwragedd a chynnau tân â hwy. Am mai pobl heb ddeall ydynt, ni fydd eu Gwneuthurwr yn dangos dim trugaredd, na'u Creawdwr yn gwneud dim ffafr â hwy.
27:12 Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn dyrnu ŷd o'r afon Ewffrates hyd nant yr Aifft, ac fe gewch chwi, blant Israel, eich lloffa bob yn un ac un.
27:13 Yn y dydd hwnnw fe genir ag utgorn mawr; ac fe ddaw'r rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria, a'r rhai oedd ar chwâl yn yr Aifft, ac addoli'r ARGLWYDD yn y mynydd sanctaidd, yn Jerwsalem.

Gwae ar Effraim

28:1 Gwae goronau balch meddwon Effraim, blodau gwyw eu haddurn gogoneddus ar ben y beilchion bras a orchfygwyd gan win.
28:2 Wele, y mae gan yr ARGLWYDD un nerthol a chryf; fel storm o genllysg, fel tymestl ddinistriol, fel cenllif o ddyfroedd yn gorlifo'n ddilyw, fe ymesyd yn ddidostur ar y ddaear.
28:3 Bydd coronau balch meddwon Effraim wedi eu mathru dan draed;
28:4 a bydd blodau gwyw eu haddurn gogoneddus ar ben y beilchion bras fel ffigysen gynnar cyn yr haf; pan wêl rhywun hi fe'i llynca gyda'i bod yn ei law.
28:5 Yn y dydd hwnnw bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn goron odidog, yn dorch brydferth i weddill ei bobl,
28:6 yn ysbryd tegwch i'r sawl sy'n eistedd mewn barn, ac yn gadernid i'r sawl sy'n troi'r rhyfel draw o'r porth.
28:7 Ond y mae eraill sy'n simsan gan win, ac yn gwegian yn eu diod; y mae'r offeiriad a'r proffwyd yn simsan yn eu diod, ac wedi drysu gan win; y maent yn gwegian mewn diod, yn simsan yn eu gweledigaeth, ac yn baglu yn eu dyfarniad.
28:8 Y mae pob bwrdd yn un chwydfa; nid oes unman heb fudreddi.
28:9 "Pwy y mae'n ceisio'i ddysgu, ac i bwy y mae am roi gwers? Ai rhai newydd eu diddyfnu a'u tynnu oddi wrth y fron?
28:10 Y mae fel dysgu sillafu: 'o s' am 'os', 'o s' am 'os'; 'a c' am 'ac', 'a c' am 'ac' – gair bach yma, gair bach draw."
28:11 Yn wir, trwy iaith estron a thafod dieithr y lleferir wrth y bobl hyn,
28:12 y rhai y dywedodd wrthynt, "Dyma'r orffwysfa, rhowch orffwys i'r lluddedig, dyma'r esmwythfa" – ond ni fynnent wrando.
28:13 Ond dyma air yr ARGLWYDD iddynt: "Mater o ddysgu sillafu yw hi: 'o s' am 'os', 'o s' am 'os'; 'a c' am 'ac', 'a c' am 'ac' – gair bach yma, gair bach draw." Felly, wrth fynd ymlaen, fe syrthiant yn ôl, a'u clwyfo, a'u baglu a'u dal.
28:14 Am hynny, gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi wŷr gwatwarus, penaethiaid y bobl hyn sydd yn Jerwsalem.
28:15 Yr ydych chwi'n dweud, "Gwnaethom gyfamod ag angau a chynghrair â Sheol: pan fydd y ffrewyll lethol yn mynd heibio, ni fydd yn cyffwrdd â ni, am inni wneud celwydd yn noddfa inni a cheisio lloches mewn twyll."
28:16 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw: "Wele fi'n gosod carreg sylfaen yn Seion, maen a brofwyd, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia'r sawl sy'n credu.
28:17 Gwnaf farn yn llinyn mesur, a chyfiawnder yn blymen; bydd y cenllysg yn ysgubo ymaith eich noddfa celwydd, a'r dyfroedd yn boddi eich lloches;
28:18 diddymir eich cyfamod ag angau, ac ni saif eich cynghrair â Sheol. Pan â'r ffrewyll lethol heibio cewch eich mathru dani.
28:19 Bob tro y daw heibio, fe'ch tery; y naill fore ar ôl y llall fe ddaw, liw dydd a liw nos." Ni fydd namyn dychryn i'r sawl a ddeall y wers.
28:20 Y mae'r gwely'n rhy fyr i rywun ymestyn ynddo, a'r cwrlid yn rhy gul i'w blygu amdano.
28:21 Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel ar Fynydd Perasim, ac yn bwrw ei ddicter fel yn nyffryn Gibeon, i orffen ei waith, ei ddieithr waith, ac i gyflawni ei orchwyl, ei estron orchwyl.
28:22 Yn awr, peidiwch â'ch gwatwar, rhag i'r rhwymau dynhau amdanoch, canys clywais gyhoeddi diwedd a therfyn ar yr holl wlad gan Arglwydd DDUW y Lluoedd.
28:23 Clywch, gwrandewch arnaf, rhowch sylw, a gwrandewch ar fy ngeiriau.
28:24 A fydd yr arddwr yn aredig trwy'r dydd ar gyfer hau, trwy'r dydd yn torri'r tir ac yn ei lyfnu?
28:25 Oni fydd, ar ôl lefelu'r wyneb, yn taenu ffenigl ac yn gwasgaru cwmin, yn hau gwenith a haidd, a cheirch ar y dalar?
28:26 Y mae ei Dduw yn ei hyfforddi ac yn ei ddysgu'n iawn.
28:27 Nid â llusgen y dyrnir ffenigl, ac ni throir olwyn men ar gwmin; ond dyrnir ffenigl â ffon, a'r cwmin â gwialen.
28:28 Fe felir ŷd i gael bara, ac nid yw'r dyrnwr yn ei falu'n ddi–ddiwedd; er gyrru olwyn men drosto, ni chaiff y meirch ei fathru.
28:29 Daw hyn hefyd oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd; y mae ei gyngor yn rhyfeddol a'i allu'n fawr.

Gwae ar Ddinas Dafydd

29:1 Gwae Ariel, Ariel, y ddinas lle gwersyllodd Dafydd. Gadewch i'r blynyddoedd fynd heibio, aed y gwyliau yn eu cylch;
29:2 yna dygaf gyfyngder ar Ariel, a bydd galar a chwynfan; bydd yn Ariel mewn gwirionedd i mi.
29:3 Gwersyllaf o'th gwmpas fel cylch, gwarchaeaf o'th amgylch â thyrau, codaf offer gwarchae yn dy erbyn.
29:4 Fe'th ddarostyngir, a byddi'n llefaru o'r pridd, ac yn sisial dy eiriau o'r llwch; daw dy lais fel llais ysbryd o'r pridd, daw sibrwd dy eiriau o'r llwch.
29:5 Ond bydd tyrfa dy elynion fel llwch mân, a thyrfa dy gaseion fel us yn mynd heibio; yna'n sydyn, ar amrantiad,
29:6 fe'th gosbir gan ARGLWYDD y Lluoedd â tharan a daeargryn a sŵn mawr, â storm a thymestl a fflam dân ysol.
29:7 Bydd holl dyrfa'r cenhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Ariel, yn erbyn ei holl amddiffynfa a'i chadernid, ac yn ei gormesu, fel breuddwyd, fel gweledigaeth nos –
29:8 fel y bydd y newynog yn breuddwydio ei fod yn bwyta, ac yn deffro a'i gael ei hun yn wag, fel y bydd y sychedig yn breuddwydio ei fod yn yfed, ac yn deffro a'i gael ei hun yn wan a sychedig. Felly y bydd gyda thyrfa'r holl genhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.
29:9 Safwch yn syn a syfrdan, yn ddall a hurt; ewch yn feddw, ond nid ar win, yn chwil, ond nid ar ddiod gadarn.
29:10 Canys tywalltodd yr ARGLWYDD arnoch ysbryd trwmgwsg; caeodd eich llygaid, sef y proffwydi, a gorchuddiodd eich pennau, sef y gweledyddion.
29:11 Aeth y broffwydoliaeth i gyd fel geiriau llyfr dan sêl. Os rhoddir ef i un a all ddarllen, a dweud, "Darllen hwn i mi", fe etyb, "Ni allaf, oherwydd y mae wedi ei selio."
29:12 Ac os rhoddir ef i un na all ddarllen, a dweud, "Darllen hwn i mi", fe etyb, "Ni fedraf ddarllen."
29:13 Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD, "Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf a thalu gwrogaeth i mi â geiriau yn unig, ond eu calon ymhell oddi wrthyf, a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof,
29:14 am hynny wele fi'n gwneud rhyfeddod eto, ac yn syfrdanu'r bobl hyn; difethir doethineb eu doethion a chuddir deall y rhai deallus."
29:15 Gwae y rhai sy'n cloddio'n ddwfn i gadw eu cynllwyn yn gudd rhag yr ARGLWYDD; am fod eu gwaith yn y tywyllwch, dywedant, "Pwy sy'n ein gweld? Pwy sy'n gwybod?"
29:16 Troi popeth o chwith yr ydych. A yw'r crochenydd i'w ystyried fel clai? A ddywed y peth a wnaethpwyd am ei wneuthurwr, "Nid ef a'm gwnaeth"? A ddywed y llestr am ei luniwr, "Nid yw'n deall"?
29:17 Onid ychydig bach fydd eto nes troi Lebanon yn ddoldir, a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir?
29:18 Yn y dydd hwnnw bydd y rhai byddar yn clywed geiriau o lyfr, a llygaid y deillion yn gweld allan o'r tywyllwch dudew.
29:19 Caiff y rhai llariaidd eto lawenychu yn yr ARGLWYDD, a'r tlotaf o bobl ymffrostio yn Sanct Israel.
29:20 Darfu am y rhai creulon, peidiodd y rhai trahaus, torrir ymaith bob un sy'n barod i wneud drygioni,
29:21 a phawb sy'n cyhuddo dyn o gamwedd, yn gosod magl i'r un sy'n erlyn yn y porth, ac yn atal barn trwy dwyllo'r cyfiawn.
29:22 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dŷ Jacob, y Duw a waredodd Abraham: "Nid yw'n amser i Jacob gywilyddio, nac yn awr i'w wyneb welwi;
29:23 pan wêl ef ei blant, gwaith fy nwylo o'i fewn, fe sancteiddiant fy enw, sancteiddiant Sanct Jacob, ac ofnant Dduw Israel;
29:24 a bydd y rhai cyfeiliornus o ysbryd yn dysgu deall, a'r rhai gwrthnysig yn derbyn gwers."

Gwae ar y Genedl Wrthryfelgar

30:1 "Gwae chwi, blant gwrthryfelgar," medd yr ARGLWYDD, "sy'n gweithio cynllun na ddaeth oddi wrthyf fi, ac yn dyfeisio planiau nad ysbrydolwyd gennyf fi, ac yn pentyrru pechod ar bechod.
30:2 Ânt i lawr i'r Aifft, heb ofyn fy marn, i geisio help gan Pharo, a lloches yng nghysgod yr Aifft.
30:3 Ond bydd help Pharo yn dwyn gwarth arnoch, a lloches yng nghysgod yr Aifft yn waradwydd.
30:4 Canys, er bod ei swyddogion yn Soan a'i genhadau mor bell â Hanes,
30:5 fe ddaw pob un i gywilydd oherwydd pobl ddi-fudd, nad ydynt yn help na llesâd, ond yn warth a gwaradwydd."
30:6 Oracl am anifeiliaid y Negef: Trwy wlad caledi a loes, gwlad y llewes a'r llew, y wiber a'r sarff hedegog, fe gludant eu cyfoeth ar gefn asynnod a'u trysorau ar grwmp camelod, at bobl ddi–fudd.
30:7 Canys y mae help yr Aifft yn ofer a gwag; am hynny galwaf hi, Rahab segur.
30:8 Yn awr dos ac ysgrifenna ar lech, a nodi hyn mewn llyfr, iddo fod mewn dyddiau a ddaw yn dystiolaeth barhaol.
30:9 Pobl wrthryfelgar yw'r rhain, plant celwyddog, plant na fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD,
30:10 ond sy'n dweud wrth y gweledyddion, "Peidiwch ag edrych", ac wrth y proffwydi, "Peidiwch â phroffwydo i ni bethau uniawn, ond llefarwch weniaith a gweledigaethau hudolus.
30:11 Trowch o'r ffordd, gadewch y llwybr uniawn, parwch i Sanct Israel adael llonydd i ni."
30:12 Am hynny, fe ddywed Sanct Israel fel hyn: "Am i chwi wrthod y gair hwn ac ymddiried mewn twyll a cham, a phwyso arnynt,
30:13 bydd y drygioni hwn yn eich golwg fel mur uchel a hollt yn rhedeg i lawr ar ei hyd, ac yn sydyn, mewn eiliad, yn chwalu;
30:14 bydd yn torri fel llestr crochenydd, yn chwilfriw ulw mân; ni cheir ymysg ei ddarnau gragen i godi tân oddi ar aelwyd, neu i godi dŵr o ffos."
30:15 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel: "Wrth ddychwelyd a bod yn dawel y byddwch gadwedig, wrth lonyddu a bod yn hyderus y byddwch gadarn. Ni fynnwch chwi hyn, ond dweud,
30:16 'Nid felly, fe ffown ni ar feirch.' Felly bydd yn rhaid i chwi ffoi. 'Fe farchogwn ni feirch cyflym,' meddwch. Felly bydd eich erlidwyr yn gyflym.
30:17 Bydd mil yn ffoi ar fygythiad un; ar fygythiad pump, fe ffowch nes eich gadael fel lluman ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn."
30:18 Er hynny, y mae'r ARGLWYDD yn disgwyl i gael trugarhau wrthych, ac yn barod i ddangos tosturi. Canys Duw cyfiawnder yw'r ARGLWYDD; gwyn ei fyd pob un sy'n disgwyl wrtho.
30:19 Chwi bobl Seion, trigolion Jerwsalem, peidiwch ag wylo mwyach. Bydd ef yn rasol wrth sŵn dy gri; pan glyw di, fe'th etyb.
30:20 Er i'r Arglwydd roi iti fara adfyd a dŵr cystudd, ni chuddir dy athrawon mwyach, ond caiff dy lygaid eu gweld.
30:21 Pan fyddwch am droi i'r dde neu i'r chwith, fe glywch â'ch clustiau lais o'ch ôl yn dweud, "Dyma'r ffordd, rhodiwch ynddi."
30:22 Fe ffieiddiwch eich delwau arian cerfiedig a'ch eilunod euraid. Gwrthodi hwy fel budreddi; dywedi wrthynt, "Bawiach."
30:23 Ac fe rydd ef iti law i'r had a heui yn y pridd, a bydd cynnyrch y ddaear yn rawn bras a llawn; bydd dy anifeiliaid yn pori mewn porfa eang yn y dydd hwnnw,
30:24  a chaiff yr ychen a'r asynnod sy'n llafurio'r tir eu bwydo â phorthiant blasus, wedi ei nithio â fforch a rhaw.
30:25 Ar bob mynydd uchel a bryn dyrchafedig bydd afonydd a ffrydiau o ddŵr, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrth y tyrau.
30:26 A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul yn seithwaith mwy, fel llewyrch saith diwrnod, ar y dydd pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briw ei bobl, ac yn iacháu'r archoll ar ôl eu taro.

Dinistr Asyria

30:27 Wele, daw enw'r ARGLWYDD o bell; bydd ei ddigofaint yn llosgi a'i gynddaredd yn llym, ei wefusau'n llawn o ddicter a'i dafod fel tân ysol,
30:28 ei anadl fel llifeiriant yn rhuthro ac yn cyrraedd at y gwddf; bydd yn hidlo'r cenhedloedd â gogr dinistriol, ac yn gosod ffrwyn ym mhennau'r bobloedd i'w harwain ar gyfeiliorn.
30:29 Ond i chwi fe fydd cân, fel ar noson o ŵyl sanctaidd; a bydd eich calon yn llawen, fel llawenydd rhai'n dawnsio i sŵn ffliwt wrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, at Graig Israel.
30:30 Bydd yr ARGLWYDD yn peri clywed ei lais mawreddog, ac yn dangos ei fraich yn taro mewn dicter llidiog a fflamau tân ysol, mewn torgwmwl a thymestl a chenllysg.
30:31 Bydd Asyria yn brawychu rhag sŵn yr ARGLWYDD, pan fydd ef yn taro â'i wialen.
30:32 Wrth iddo'i chosbi, bydd pob curiad o'i wialen, pan fydd yr ARGLWYDD yn ei gosod arni, yn cadw'r amser i dympanau a thelynau, yn y rhyfeloedd pan gyfyd ei fraich i ymladd yn eu herbyn.
30:33 Oherwydd darparwyd Toffet erstalwm, a'i baratoi i'r brenin, a'i wneud yn ddwfn ac yn eang, a'i bwll tân yn llawn o goed, ac anadl yr ARGLWYDD fel ffrwd o frwmstan yn cynnau'r tân.

Ni Ddaw Cymorth o'r Aifft

31:1 Gwae'r rhai sy'n mynd i lawr i'r Aifft am gymorth, ac yn ymddiried mewn meirch, a'u hyder mewn rhifedi cerbydau a chryfder gwŷr meirch, ond sydd heb edrych at Sanct Israel, na cheisio'r ARGLWYDD.
31:2 Ond y mae ef yn fedrus i ddwyn dinistr, ac nid yw'n galw ei air yn ôl; fe gyfyd yn erbyn tŷ'r rhai drygionus ac yn erbyn swcwr y rhai ofer.
31:3 Meidrolion yw'r Eifftiaid, nid Duw; a chnawd yw eu meirch, nid ysbryd; pan fydd yr ARGLWYDD yn estyn ei law, fe fagla'r cynorthwywr ac fe syrthia'r sawl a gynorthwyir, a darfyddant oll gyda'i gilydd.
31:4 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: "Fel y rhua llew neu lew ifanc uwchben ei ysglyfaeth – ac er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn nid yw'n dychryn rhag eu gwaedd, nac yn ofni rhag eu twrf – felly y daw ARGLWYDD y Lluoedd i lawr i frwydro dros Fynydd Seion a'i bryn.
31:5 Fel yr adar yn hofran uwchben, felly y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn Jerwsalem; bydd yn amddiffyn a gwaredu, yn arbed ac achub."
31:6 Dychwelwch at yr un a adawsoch yn llwyr, blant Israel.
31:7 Oherwydd yn y dydd hwnnw bydd pob un ohonoch yn dirmygu'r eilun arian a'r eilun aur a wnaeth eich dwylo mewn pechod.
31:8 "Syrth Asyria drwy gleddyf, ond nid un dynol, a chleddyf nad yw'n eiddo meidrolyn fydd yn ei ddifa; os gallant ffoi rhag y cleddyf, bydd y gwŷr ifainc yn gwneud llafur gorfod;
31:9 bydd ei gadernid yn pallu gan fraw, a'i swyddogion yn rhy ofnus i ffoi," medd yr ARGLWYDD, sydd â'i dân yn llosgi yn Seion a'i ffwrn yn Jerwsalem.

Teyrnas Cyfiawnder

32:1 Wele, bydd brenin yn teyrnasu mewn cyfiawnder, a'i dywysogion yn llywodraethu mewn barn,
32:2 pob un yn gysgod rhag y gwynt ac yn lloches rhag y dymestl, fel afonydd dyfroedd mewn sychdir, fel cysgod craig fawr mewn tir blinedig.
32:3 Ni chaeir llygaid y rhai sy'n gweld, ac fe glyw clustiau'r rhai sy'n gwrando;
32:4 bydd calon y difeddwl yn synied ac yn deall, a thafod y bloesg yn siarad yn llithrig a chlir.
32:5 Ni elwir mwyach y ffŵl yn fonheddig, ac ni ddywedir bod y cnaf yn llednais.
32:6 Oherwydd y mae'r ffŵl yn traethu ffolineb, a'i galon yn dyfeisio drygioni, i weithio annuwioldeb, i draethu celwydd am yr ARGLWYDD; y mae'n atal bwyd rhag y newynog, ac yn gwrthod diod i'r sychedig.
32:7 Y mae cynllwyn y cnaf yn faleisus; y mae'n dyfeisio camwri i ddifetha'r tlawd trwy dwyll, a gwadu cyfiawnder i'r anghenus.
32:8 Ond y mae'r anrhydeddus yn gweithredu anrhydedd, ac yn ei anrhydedd y saif.
32:9 Safwch, chwi wragedd moethus, a chlywch; gwrandewch fy ymadroddion, chwi ferched hyderus.
32:10 Ymhen ychydig dros flwyddyn cewch eich ysgwyd o'ch difrawder, oherwydd derfydd y cynhaeaf gwin, a chwithau heb gasglu ffrwyth.
32:11 Chwi sy'n ddiofal, pryderwch, ymysgydwch o'ch difrawder. Tynnwch eich dillad ac ymnoethi; rhowch sachliain am eich lwynau.
32:12 Curwch eich bronnau am y meysydd braf a'r gwinwydd ffrwythlon,
32:13 am dir fy mhobl, sy'n tyfu drain a mieri, ac am yr holl dai diddan yn y ddinas lon.
32:14 Canys cefnwyd ar y palas, a gwacawyd y ddinas boblog. Aeth y gaer a'r tŵr yn ogofeydd am byth, yn hyfrydwch i'r asynnod gwyllt ac yn borfa i'r preiddiau.
32:15 Pan dywelltir arnom ysbryd oddi fry, a'r anialwch yn mynd yn ddoldir, a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir,
32:16 yna caiff barn drigo yn yr anialwch a chyfiawnder gartrefu yn y doldir;
32:17 bydd cyfiawnder yn creu heddwch, a'i effeithiau yn llonyddwch a diogelwch hyd byth.
32:18 Yna bydd fy mhobl yn trigo mewn bro heddychlon, mewn anheddau diogel, a chartrefi tawel,
32:19 a'r goedwig wedi ei thorri i lawr, a'r ddinas yn gydwastad â'r pridd.
32:20 Gwyn eich byd chwi sy'n hau wrth lan pob afon, ac yn gollwng yr ych a'r asyn yn rhydd.

Cymorth mewn Argyfwng

33:1 Gwae di, anrheithiwr na chefaist dy anrheithio, ti dwyllwr na chefaist dy dwyllo; pan beidi ag anrheithio, fe'th anrheithir, pan beidi â thwyllo, fe'th dwyllir di.
33:2 O ARGLWYDD, trugarha wrthym, yr ydym yn disgwyl amdant; bydd yn nerth i ni bob bore, ac yn iachawdwriaeth i ni ar awr gyfyng.
33:3 Gan sŵn terfysg fe ffy pobloedd, gan dy daranu di fe wasgerir cenhedloedd.
33:4 Cesglir eich ysbail fel petai lindys yn ei gasglu; fel haid o locustiaid fe heidir o'i gylch.
33:5 Dyrchafwyd yr ARGLWYDD, fe drig yn yr uchelder; fe leinw Seion â barn a chyfiawnder,
33:6 ac ef fydd sicrwydd dy amserau. Doethineb a gwybodaeth fydd cyfoeth dy iachawdwriaeth, ac ofn yr ARGLWYDD fydd dy drysor.
33:7 Clyw! Y mae'r glewion yn galw o'r tu allan, a chenhadau heddwch yn wylo'n chwerw.
33:8 Y mae'r priffyrdd yn ddiffaith, heb neb yn troedio'r ffordd; diddymwyd cyfamodau, diystyrwyd cytundebau, nid yw neb yn cyfrif dim.
33:9 Y mae'r wlad mewn galar a gofid, Lebanon wedi drysu a gwywo; aeth Saron yn anialwch, a Basan a Charmel heb ddail.
33:10 "Ond yn awr mi godaf," medd yr ARGLWYDD, "yn awr mi ymddyrchafaf, yn awr byddaf yn uchel.
33:11 Yr ydych yn feichiog o us ac yn esgor ar sofl; tân yn eich ysu fydd eich anadl;
33:12 bydd y bobl fel llwch calch, fel drain wedi eu torri a'u llosgi yn y tân."
33:13 Chwi rai pell, gwrandewch beth a wneuthum, ac ystyriwch fy nerth, chwi rai agos.
33:14 Mae'r pechaduriaid yn Seion yn ofni, a'r annuwiol yn crynu gan ddychryn: "Pwy ohonom a all fyw gyda thân ysol, a phwy a breswylia mewn llosgfa dragwyddol?"
33:15 Y sawl sy'n rhodio'n gyfiawn ac yn dweud y gwir, sy'n gwrthod elw trawster, sy'n cau ei ddwrn rhag derbyn llwgrwobr, sy'n cau ei glustiau rhag clywed am lofruddio, sy'n cau ei lygaid rhag edrych ar anfadwaith.
33:16 Y mae ef yn trigo yn yr uchelder, a'i loches yn amddiffynfeydd y creigiau, a'i fara'n dod iddo, a'i ddŵr yn sicr.
33:17 Fe wêl dy lygaid frenin yn ei degwch, a gwelant dir yn ymestyn ymhell;
33:18 byddi'n dwyn i gof yr ofnau: "Ble mae'r un fu'n cofnodi? Ble mae'r un fu'n pwyso? Ble mae'r un fu'n cyfri'r tyrau?"
33:19 Ni chei weld pobl farbaraidd, pobl a'u hiaith yn rhy ddieithr i'w dirnad, a'u tafod yn rhy floesg i'w ddeall.
33:20 Edrych ar Seion, dinas ein huchelwyliau; bydded dy lygaid yn gweld Jerwsalem, bro diddanwch, pabell na symudir; ni thynnir un o'i phegiau byth, ac ni thorrir un o'i rhaffau.
33:21 Yno, yn wir, y mae gennym yr ARGLWYDD yn ei fawredd, a mangre afonydd a ffrydiau llydain; ni fydd llong rwyfau'n tramwy yno, na llong fawr yn hwylio heibio.
33:22 Yr ARGLWYDD yw ein barnwr, yr ARGLWYDD yw ein deddfwr; yr ARGLWYDD yw ein brenin, ac ef fydd yn ein gwaredu.
33:23 Y mae dy raffau'n llac, heb ddal yr hwylbren yn gadarn yn ei le, ac nid yw'r hwyliau wedi eu lledu. Yna fe rennir ysbail ac anrhaith mawr, a bydd y cloff yn rheibio ysglyfaeth.
33:24 Ni ddywed neb o'r preswylwyr, "'Rwy'n glaf", a maddeuir i'r trigolion eu camweddau.

Barn ar y Cenhedloedd

34:1 Nesewch i wrando, chwi genhedloedd; clywch, chwi bobloedd. Gwrandawed y ddaear a'i llawnder, y byd a'i holl gynnyrch.
34:2 Canys y mae dicter yr ARGLWYDD yn erbyn yr holl bobl, a'i lid ar eu holl luoedd; difroda hwy a'u rhoi i'w lladd.
34:3 Bwrir allan eu lladdedigion, cyfyd drewdod o'u celanedd, a throchir y mynyddoedd â'u gwaed.
34:4 Malurir holl lu'r nefoedd, plygir yr wybren fel sgrôl, a chwymp ei holl lu, fel cwympo dail oddi ar winwydden a ffrwyth aeddfed oddi ar ffigysbren.
34:5 Canys ymddengys cleddyf yr ARGLWYDD yn y nef; wele, fe ddisgyn ar Edom, ar y bobl a ddedfryda i farn.
34:6 Y mae gan yr ARGLWYDD gleddyf wedi ei drochi mewn gwaed a'i besgi ar fraster, ar waed ŵyn a bychod a braster arennau hyrddod. Y mae gan yr ARGLWYDD aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom.
34:7 Daw ychen gwyllt i lawr gyda hwy, a bustych gyda theirw; mwydir eu tir gan waed, a bydd eu pridd yn doreithiog gan y braster.
34:8 Canys y mae gan yr ARGLWYDD ddydd dial, a chan amddiffynnydd Seion flwyddyn talu'r pwyth.
34:9 Troir afonydd Edom yn byg, a'i phridd yn frwmstan; bydd ei gwlad yn byg yn llosgi;
34:10 nis diffoddir na nos na dydd, a bydd ei mwg yn esgyn am byth. O genhedlaeth i genhedlaeth bydd yn ddiffaith, ac ni fydd neb yn ei thramwyo byth eto.
34:11 Fe'i meddiennir gan y pelican ac aderyn y bwn, a bydd y dylluan wen a'r gigfran yn trigo yno; bydd ef yn estyn drosti linyn anhrefn, a phlymen tryblith dros ei dewrion.
34:12 Fe'i gelwir yn lle heb deyrn, a bydd ei holl dywysogion yn ddiddim.
34:13 Bydd drain yn tyfu yn ei phalasau, danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd; bydd yn drigfan i fleiddiaid, yn gyrchfan i estrys.
34:14 Bydd yr anifeiliaid gwyllt a'r siacal yn cydgrynhoi, a'r bwch-gafr yn galw ar ei gymar; yno hefyd y clwyda'r frân nos ac y daw o hyd i'w gorffwysfa.
34:15 Yno y nytha'r dylluan, a dodwy ei hwyau a'u deor, a chasglu ei chywion dan ei hadain; yno hefyd y bydd y barcutiaid yn ymgasglu, pob un gyda'i gymar.
34:16 Chwiliwch yn llyfr yr ARGLWYDD, darllenwch ef; ni chollir dim un o'r rhain, ni fydd un ohonynt heb ei gymar; canys genau'r ARGLWYDD a orchmynnodd, a'i ysbryd ef a'u casglodd ynghyd.
34:17 Ef hefyd a drefnodd eu cyfran, a'i law a rannodd iddynt â llinyn mesur; cânt ei meddiannu hyd byth, a phreswylio ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.

Llawenydd wrth Ddychwelyd

35:1 Llawenyched yr anial a'r sychdir, gorfoledded y diffeithwch, a blodeuo.
35:2 Blodeued fel maes o saffrwn, a gorfoleddu â llawenydd a chân. Rhodder gogoniant Lebanon iddo, mawrhydi Carmel a Saron; cânt weld gogoniant yr ARGLWYDD, a mawrhydi ein Duw ni.
35:3 Cadarnhewch y dwylo llesg, cryfhewch y gliniau gwan;
35:4 dywedwch wrth y pryderus, "Ymgryfhewch, nac ofnwch. wele, fe ddisgyn ar Edom, ar y bobl a ddedfryda i farn.
35:5 Yna fe agorir llygaid y deillion a chlustiau'r byddariaid;
35:6 fe lama'r cloff fel hydd, fe gân tafod y mudan; tyr dyfroedd allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch;
35:7 bydd y crastir yn llyn, a'r tir sych yn ffynhonnau byw; yn y tir garw, lle cyrcha'r siacal, bydd gweirglodd o gorsennau a brwyn.
35:8 Yno bydd priffordd a ffordd, a gelwir hi yn ffordd sanctaidd; ni bydd yr halogedig yn mynd ar hyd–ddi; bydd yn ffordd i'r pererin, ac nid i'r cyfeiliorn, i grwydro ar hyd-ddi.
35:9 Ni ddaw llew yno, ni ddring bwystfil rheibus iddi – ni cheir y rheini yno. Ond y rhai a ryddhawyd fydd yn rhodio arni,
35:10 a gwaredigion yr ARGLWYDD fydd yn dychwelyd. Dônt i Seion dan ganu, bob un gyda llawenydd tragwyddol; hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd, a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.

Asyria yn Erbyn Jerwsalem, 2 Bren. 18:13–27; 2 Cron. 32:1–19

36:1 Yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Heseceia, ymosododd Senacherib brenin Asyria ar holl ddinasoedd caerog Jwda a'u goresgyn.
36:2 Ac anfonodd brenin Asyria y prif swyddog â byddin gref o Lachis i Jerwsalem at y Brenin Heseceia; ac fe safodd wrth bistyll y Llyn Uchaf, sydd gerllaw priffordd Maes y Pannwr.
36:3 Daeth Eliacim fab Hilceia, arolygwr y palas, ato i'r fan honno, a chydag ef Sebna yr ysgrifennydd a Joa fab Asaff, y cofiadur.
36:4 Dywedodd y prif swyddog wrthynt, "Dywedwch wrth Heseceia mai dyma neges yr ymerawdwr, brenin Asyria: 'Beth yw sail yr hyder hwn sydd gennyt?
36:5  A wyt ti'n meddwl bod geiriau yn gwneud y tro ar gyfer rhyfel, yn lle cynllun a nerth? Ar bwy, ynteu, yr wyt yn dibynnu wrth godi gwrthryfel yn f'erbyn?
36:6 Ai'r Aifft – ffon o gorsen wedi ei hysigo, sy'n rhwygo ac anafu llaw y sawl sy'n pwyso arni? Un felly yw Pharo brenin yr Aifft i bwy bynnag sy'n dibynnu arno.
36:7 Neu os dywedi wrthyf, "Yr ydym yn dibynnu ar yr ARGLWYDD ein Duw", onid ef yw'r un y tynnodd Heseceia ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, "O flaen yr allor hon yr addolwch"?
36:8 Yn awr, beth am daro bargen gyda'm meistr, brenin Asyria? Rhof ddwy fil o feirch iti, os gelli di gael marchogion iddynt.
36:9 Neu sut y gelli wrthod un capten o blith gweision lleiaf fy meistr, a dibynnu ar yr Aifft am gerbydau a marchogion?
36:10 Heblaw hyn, ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y wlad hon i'w dinistrio? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, "Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi".'"
36:11 Dywedodd Eliacim a Sebna a Joa wrth y prif swyddog, "Gwell gennym iti siarad â ni yn Aramaeg, oherwydd yr ydym yn ei deall, a pheidio â siarad yn Hebraeg yng nghlyw'r bobl sydd ar y mur."
36:12 Ond atebodd y prif swyddog, "Ai at dy feistr a thithau yr anfonodd fy meistr fi i ddweud fy neges, yn hytrach nag at y bobl sydd ar y mur, a fydd, fel chwithau, yn bwyta eu tom ac yn yfed eu dŵr eu hunain?"
36:13 Yna fe safodd y prif swyddog a gweiddi'n uchel mewn Hebraeg, "Clywch eiriau'r ymerawdwr, brenin Asyria;
36:14 dyma y mae'n ei ddweud: 'Peidiwch â gadael i Heseceia eich twyllo; ni all ef eich gwaredu.
36:15 Peidiwch â chymryd eich perswadio ganddo i ddibynnu ar yr ARGLWYDD pan yw'n dweud, "Bydd yr ARGLWYDD yn siŵr o'n gwaredu, ac ni roddir y ddinas hon i afael brenin Asyria."
36:16 Peidiwch â gwrando ar Heseceia.' Dyma eiriau brenin Asyria: 'Gwnewch delerau heddwch â mi; dewch allan ataf; ac yna caiff pob un fwyta o'i winwydden ac o'i ffigysbren, ac yfed dŵr o'i ffynnon ei hun,
36:17 nes i mi ddod i'ch dwyn i wlad debyg i'ch gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd.
36:18 Cymerwch ofal rhag i Heseceia eich hudo chwi trwy ddweud, "Bydd yr ARGLWYDD yn ein gwaredu." A yw duw unrhyw un o'r cenhedloedd wedi gwaredu ei wlad o afael brenin Asyria?
36:19 Ple mae duwiau Hamath ac Arpad? Ple mae duwiau Seffarfaim? A wnaethant hwy waredu Samaria o'm gafael?
36:20 Prun o holl dduwiau'r gwledydd hyn sydd wedi gwaredu ei wlad o'm gafael? Sut, ynteu, y mae'r ARGLWYDD yn mynd i waredu Jerwsalem o'm gafael?'"
36:21 Cadw'n ddistaw a wnaeth y bobl, heb ateb gair, oherwydd yr oedd y brenin wedi rhoi gorchymyn nad oeddent i'w ateb.
36:22 Yna daeth Eliacim fab Hilceia, arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd a Joa fab Asaff, y cofiadur, at Heseceia, a'u dillad wedi eu rhwygo, ac adrodd wrtho yr hyn yr oedd y prif swyddog wedi ei ddweud.

Addo Gwaredigaeth i Jerwsalem, 2 Bren. 19:1–19

37:1 Pan glywodd y Brenin Heseceia yr hanes, rhwygodd yntau ei ddillad a rhoi sachliain amdano a mynd i dŷ'r ARGLWYDD,
37:2 ac anfon Eliacim arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd, a'r rhai hynaf o'r offeiriaid, i gyd mewn sachliain, at y proffwyd Eseia fab Amos,
37:3 i ddweud wrtho, "Fel hyn y dywed Heseceia: 'Y mae heddiw'n ddydd o gyfyngder a cherydd a gwarth; y mae fel pe bai plant ar fin cael eu geni, a'r fam heb nerth i esgor arnynt.
37:4 O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gwrando ar eiriau'r prif swyddog a anfonwyd gan ei feistr, brenin Asyria, i gablu'r Duw byw, a hefyd yn ei geryddu am y geiriau a glywodd yr ARGLWYDD dy Dduw! Dos i weddi dros y gweddill sydd ar ôl.'"
37:5 Pan ddaeth gweision y Brenin Heseceia at Eseia,
37:6 dywedodd Eseia wrthynt, "Dywedwch wrth eich meistr, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Paid ag ofni'r pethau a glywaist pan oedd llanciau brenin Asyria yn fy nghablu.
37:7 Edrych, 'rwy'n rhoi ysbryd ynddo, ac fe glyw si fydd yn peri iddo ddychwelyd i'w wlad; hefyd, gwnaf iddo syrthio gan y cleddyf yn y wlad honno.'"
37:8 Pan ddychwelodd y prif swyddog, cafodd ar ddeall fod brenin Asyria wedi gadael Lachis, a'i fod yn rhyfela yn erbyn Libna.
37:9 Ond pan ddeallodd fod Tirhaca brenin Ethiopia ar ei ffordd i ryfela yn ei erbyn, fe anfonodd genhadau eilwaith at Heseceia a dweud,
37:10 "Dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, 'Paid â chymryd dy dwyllo gan dy Dduw, yr wyt yn ymddiried ynddo, ac sy'n dweud na roddir Jerwsalem i afael brenin Asyria.
37:11 Y mae'n siŵr dy fod wedi clywed am yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, a'u bod wedi eu difrodi; a gei di dy arbed?
37:12 A waredodd duwiau'r cenhedloedd hwy – y cenhedloedd a ddinistriodd fy hynafiaid, fel Gosan a Haran a Reseff, a pobl Eden a drigai yn Telassar?
37:13 Ple mae brenhinoedd Hamath, Arpad, Lahir, Seffarfaim, Hena ac Ifa?'"

Gweddi Heseceia

37:14 Cymerodd Heseceia'r neges gan y cenhadau a'i darllen. Yna aeth i fyny i dŷ'r ARGLWYDD, a'i hagor yng ngŵydd yr ARGLWYDD,
37:15 a gweddïo fel hyn:
37:16 "O ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, sydd wedi ei orseddu ar y cerwbiaid, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd; tydi a wnaeth y nefoedd a'r ddaear.
37:17 O ARGLWYDD, gogwydda dy glust a chlyw; O ARGLWYDD, agor dy lygaid a gwêl; gwrando'r neges a anfonodd Senacherib i watwar y Duw byw.
37:18 Y mae'n wir, O ARGLWYDD, fod brenhinoedd Asyria wedi difa'r holl genhedloedd a'r gwledydd,
37:19 a thaflu eu duwiau i'r tân; cawsant eu dinistrio am nad duwiau mohonynt, eithr gwaith dwylo dynol, o goed a charreg.
37:20 Yn awr, O ARGLWYDD ein Duw, gwared ni o'i afael ef, ac yna caiff holl deyrnasoedd y ddaear wybod mai ti yw'r ARGLWYDD, tydi yn unig."

Neges Eseia, 2 Bren. 19:20–37

37:21 Anfonodd Eseia fab Amos at Heseceia a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Oherwydd i ti weddïo arnaf ynghylch Senacherib brenin Asyria,
37:22 dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn ei erbyn ef: 'Y mae'r forwyn, merch Seion, yn dy ddirmygu, yn chwerthin am dy ben; y mae merch Jerwsalem yn ysgwyd ei phen ar dy ôl.
37:23 Pwy wyt ti yn ei ddifenwi ac yn ei gablu? Yn erbyn pwy yr wyt yn codi dy lais? Yr wyt yn gwneud ystum dirmygus yn erbyn Sanct Israel.
37:24 Trwy dy weision fe geblaist yr ARGLWYDD, a dweud, "Gyda lliaws fy ngherbydau dringais yn uchel i gopa'r mynyddoedd, i bellterau Lebanon; torrais y praffaf o'i gedrwydd, a'r dewisaf o'i ffynidwydd; euthum i'w gwr uchaf, ei lechweddau coediog;
37:25 cloddiais ffynhonnau ac yfed eu dyfroedd; â gwadn fy nhroed sychais holl ffrydiau'r Neil."
37:26 "'Oni chlywaist i mi wneud hyn erstalwm, ac i mi lunio hyn yn y dyddiau gynt? Bellach 'rwy'n ei ddwyn i ben; bydd dinasoedd caerog yn syrthio yn garneddau wedi eu dinistrio;
37:27 bydd y trigolion, a'u nerth yn pallu, yn ddigalon ac mewn gwarth, fel gwellt y maes, llysiau gwyrdd a glaswellt pen to wedi eu deifio gan wynt y dwyrain.
37:28 'Rwy'n gwybod pryd yr wyt yn codi ac yn eistedd, yn mynd allan ac yn dod i mewn, a'r modd yr wyt yn cynddeiriogi yn f'erbyn.
37:29 Oherwydd dy fod yn gynddeiriog yn f'erbyn, a bod sŵn dy draha yn fy nghlustiau, fe osodaf fy mach yn dy ffroen a'm ffrwyn yn dy weflau, a'th yrru'n ôl ar hyd y ffordd y daethost.'
37:30 "Bydd hyn yn arwydd i ti, Heseceia. Eleni bwyteir yr hyn sy'n tyfu ohono'i hun, a'r flwyddyn nesaf yr hyn sydd wedi ei hau ohono'i hun; ac yn y drydedd flwyddyn cewch hau a medi, a phlannu gwinllannoedd hefyd a bwyta'u ffrwyth.
37:31 Bydd y dihangol a adewir yn nhŷ Jwda yn gwreiddio at i lawr ac yn ffrwytho at i fyny;
37:32 oherwydd allan o Jerwsalem fe ddaw gweddill, a rhai dihangol allan o Fynydd Seion. Sêl ARGLWYDD y Lluoedd a wna hyn.
37:33 "Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am frenin Asyria: 'Ni ddaw ef i mewn i'r ddinas hon, nac anfon saeth i mewn iddi; nid ymosoda arni â tharian, na chodi clawdd yn ei herbyn.
37:34 Ar hyd y ffordd y daeth fe ddychwel, ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon,' medd yr ARGLWYDD.
37:35 'Amddiffynnaf y ddinas hon i'w gwaredu, er fy mwyn fy hun ac er mwyn fy ngwas Dafydd.'"
37:36 Yna aeth angel yr ARGLWYDD i wersyll yr Asyriaid a tharo i lawr gant wyth deg a phump o filoedd; pan ddaeth y bore, cafwyd hwy i gyd yn gelanedd meirwon.
37:37 Yna aeth Senacherib brenin Asyria i ffwrdd a dychwelyd i Ninefe ac aros yno.
37:38  Pan oedd yn addoli yn nheml ei dduw Nisroch, daeth ei feibion Adram–melech a Sareser a'i ladd â'r cleddyf, ac yna dianc i wlad Ararat. Daeth ei fab Esarhadon i'r orsedd yn ei le.

Gwaeledd Heseceia, 2 Bren. 20:1–11; 2 Cron. 32:24–26

38:1 Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Trefna dy dŷ, oherwydd 'Rwyt ar fin marw; ni fyddi fyw.'"
38:2 Troes Heseceia ei wyneb at y pared a gweddïo ar yr ARGLWYDD,
38:3 a dweud, "O ARGLWYDD, cofia fel yr oeddwn yn rhodio ger dy fron di â chywirdeb a chalon berffaith, ac yn gwneud yr hyn oedd dda yn dy olwg." Ac fe wylodd Heseceia'n chwerw.
38:4 Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Eseia a dweud,
38:5 "Dos, dywed wrth Heseceia, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; yn awr 'rwyf am ychwanegu pymtheng mlynedd at dy ddyddiau.
38:6 A gwaredaf di a'r ddinas hon o afael brenin Asyria, a byddaf yn gysgod dros y ddinas hon.
38:7 Dyma arwydd i ti oddi wrth yr ARGLWYDD, y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr hyn a ddywedodd.
38:8 Edrych, yr wyf yn peri i'r cysgod deflir ar risiau Ahas gan yr haul fynd yn ei ôl ddeg o risiau.'" Ac aeth yr haul yn ei ôl ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi mynd i lawr drostynt.
38:9 Cerdd Heseceia brenin Jwda, pan fu'n glaf ac yna gwella o'i glefyd:
38:10 Dywedais, "Yn anterth fy nyddiau rhaid i mi fynd, a chael fy symud i byrth y bedd weddill fy mlynyddoedd";
38:11 dywedais, "Ni chaf weld yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw, ac ni chaf edrych eto ar neb o drigolion y byd.
38:12 Dygwyd fy nhrigfan oddi arnaf a'i symud i ffwrdd fel pabell bugail; fel gwehydd 'rwy'n dirwyn fy nyddiau i ben, i'w torri ymaith o'r gwŷdd. O fore hyd nos 'Rwyt yn fy narostwng.
38:13 O fel 'rwy'n dyheu am y bore! Maluriwyd fy esgyrn fel gan lew; o fore hyd nos 'Rwyt yn fy narostwng.
38:14 'Rwy'n trydar fel gwennol neu fronfraith, 'rwy'n cwynfan fel colomen. Blinodd fy llygaid ar edrych i fyny; O ARGLWYDD, pledia ar fy rhan a bydd yn feichiau drosof."
38:15 Beth allaf fi ei ddweud? Llefarodd ef wrthyf ac fe'i gwnaeth. Ciliodd fy nghwsg i gyd, am ei bod mor chwerw arnaf.
38:16 ARGLWYDD, trwy'r pethau hyn y bydd rhywun fyw, ac yn yr holl bethau hyn y mae hoen fy ysbryd. Adfer fi, gwna i mi fyw.
38:17 Wele, er lles y bu'r holl chwerwder hwn i mi; yn dy gariad dygaist fi o bwll distryw, a thaflu fy holl bechodau y tu ôl i'th gefn.
38:18 Canys ni fydd y bedd yn diolch i ti, nac angau yn dy glodfori; ni all y rhai sydd wedi disgyn i'r pwll obeithio am dy ffyddlondeb.
38:19 Ond y byw, y byw yn unig fydd yn diolch i ti, fel y gwnaf finnau heddiw; gwna tad i'w blant wybod am dy ffyddlondeb.
38:20 Yr ARGLWYDD a'm gwared i; am hynny canwn â'n hofferynnau llinynnol holl ddyddiau ein bywyd yn nhŷ'r ARGLWYDD.
38:21 Yr oedd Eseia wedi dweud, "Gadewch iddynt gymryd swp o ffigys, a'i osod ar y cornwyd, ac fe fydd byw."
38:22 A dywedodd Heseceia, "Beth yw'r prawf y caf fynd i fyny i dŷ'r ARGLWYDD?"

Negeswyr o Fabilon, 2 Bren. 20:12–19

39:1 Yr adeg honno anfonodd Merodach Baladan, mab Baladan brenin Babilon, genhadau gydag anrheg i Heseceia, oherwydd clywsai fod Heseceia wedi bod yn wael ac wedi gwella.
39:2 Croesawodd Heseceia hwy, a dangos iddynt ei drysordy, yr arian a'r aur a'r perlysiau a'r olew persawrus, a hefyd yr holl arfdy a phob peth oedd yn ei storfeydd; nid oedd dim yn ei dŷ nac yn ei holl deyrnas nas dangosodd Heseceia iddynt.
39:3 Yna daeth y proffwyd Eseia at y Brenin Heseceia a gofyn, "Beth a ddywedodd y dynion hyn, ac o ble y daethant?" Atebodd Heseceia, "Daethant ataf o wlad bell, o Fabilon."
39:4 Yna holodd, "Beth a welsant yn dy dŷ?" Dywedodd Heseceia, "Gwelsant y cwbl sydd yn fy nhŷ; nid oes dim yn fy nhrysordy nad wyf wedi ei ddangos iddynt."
39:5 Yna dywedodd Eseia wrth Heseceia, "Gwrando air ARGLWYDD y Lluoedd:
39:6 'Wele 'r dyddiau'n dyfod pan ddygir pob peth sydd yn dy dŷ di, a phob peth a grynhôdd dy ragflaenwyr hyd y dydd hwn, i Fabilon, ac ni adewir dim,' medd yr ARGLWYDD.
39:7 'Dygir oddi arnat rai o'r meibion a genhedli, a byddant yn weision ystafell yn llys brenin Babilon.'"
39:8 Yna dywedodd Heseceia wrth Eseia, "o'r gorau; gair yr ARGLWYDD yr wyt yn ei lefaru." Meddyliai, "Bydd heddwch a sicrwydd dros fy nghyfnod i o leiaf."

Neges o Gysur

40:1 Cysurwch, cysurwch fy mhobl – dyna a ddywed eich Duw.
40:2 Siaradwch yn dyner wrth Jerwsalem, a dywedwch wrthi ei bod wedi cwblhau ei thymor gwasanaeth a bod ei chosb wedi ei thalu, ei bod wedi derbyn yn ddwbl oddi ar law'r ARGLWYDD am ei holl bechodau.
40:3 Llais un yn galw, "Paratowch yn yr anialwch ffordd yr ARGLWYDD, unionwch yn y diffeithwch briffordd i'n Duw ni.
40:4 Caiff pob pant ei godi, pob mynydd a bryn ei ostwng; gwneir y tir ysgythrog yn llyfn, a'r tir anwastad yn wastadedd.
40:5 Datguddir gogoniant yr ARGLWYDD, a phawb ynghyd yn ei weld. Genau'r ARGLWYDD a lefarodd."
40:6 Llais un yn dweud, "Galw"; a daw'r ateb, "Beth a alwaf? Y mae pob un meidrol fel glaswellt, a'i holl nerth fel blodeuyn y maes.
40:7 Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo pan chwyth anadl yr ARGLWYDD arno. Yn wir, glaswellt yw'r bobl.
40:8 Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo; ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth."
40:9 Dring i fynydd uchel; ti, Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da, cod dy lais yn gryf; ti, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da, gwaedda, paid ag ofni. Dywed wrth ddinasoedd Jwda, "Dyma eich Duw chwi."
40:10 Wele'r Arglwydd DDUW yn dod mewn nerth, yn rheoli â'i fraich. Wele, y mae ei wobr ganddo, a'i dâl gydag ef.
40:11 Y mae'n porthi ei braidd fel bugail, ac â'i fraich yn eu casglu ynghyd; y mae'n cludo'r ŵyn yn ei gôl, ac yn coleddu'r mamogiaid.
40:12 Pwy a fesurodd y dyfroedd yng nghledr ei law, a gosod terfyn y nefoedd â'i rychwant? Pwy a roes holl bridd y ddaear mewn mantol, a phwyso'r mynyddoedd mewn tafol, a'r bryniau mewn clorian?
40:13 Pwy a gyfarwydda ysbryd yr ARGLWYDD, a bod yn gynghorwr i'w ddysgu?
40:14 Â phwy yr ymgynghora ef i ennill deall, a phwy a ddysg iddo lwybrau barn? Pwy a ddysg iddo wybodaeth, a'i gyfarwyddo yn llwybrau deall?
40:15 Y mae'r cenhedloedd fel defnyn allan o gelwrn, i'w hystyried fel mân lwch y cloriannau; y mae'r ynysoedd mor ddibwys â'r llwch ar y llawr.
40:16 Nid oes yn Lebanon ddigon o goed i roi tanwydd, na digon o anifeiliaid ar gyfer poethoffrwm.
40:17 Nid yw'r holl genhedloedd yn ddim ger ei fron ef; y maent yn llai na dim, ac i'w hystyried yn ddiddim.
40:18 I bwy, ynteu, y cyffelybwch Dduw? Pa lun a dynnwch ohono?
40:19 Ai delw? Crefftwr sy'n llunio honno, ac eurych yn ei goreuro ac yn gwneud cadwyni arian iddi.
40:20 Y mae un sy'n rhy dlawd i wneud hynny yn dewis darn o bren na phydra, ac yn ceisio crefftwr cywrain i'w osod i fyny'n ddelw na ellir ei syflyd.
40:21 Oni wyddoch? Oni chlywsoch? Oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad? Onid ydych wedi amgyffred er sylfaenu'r ddaear?
40:22 Y mae ef yn eistedd ar gromen y ddaear, a'i thrigolion yn ymddangos fel locustiaid. Y mae'n taenu'r nefoedd fel llen, ac yn ei lledu fel pabell i drigo ynddi.
40:23 Y mae'n gwneud y mawrion yn ddiddim, a rheolwyr y ddaear yn dryblith.
40:24 Prin eu bod wedi eu plannu na'u hau, prin bod eu gwraidd wedi cydio yn y pridd, nag y bydd ef yn chwythu arnynt, a hwythau'n gwywo, a chorwynt yn eu dwyn ymaith fel us.
40:25 "I bwy, ynteu, y cyffelybwch fi? Tebyg i bwy?" meddai'r Sanct.
40:26 Codwch eich llygaid i fyny; edrychwch, pwy a fu'n creu'r pethau hyn? Pwy a fu'n galw allan eu llu fesul un ac yn rhoi enw i bob un ohonynt? Gan faint ei nerth, a'i fod mor eithriadol gryf, nid oes yr un ar ôl.
40:27 Pam y dywedi, O Jacob, ac y lleferi, O Israel, "Cuddiwyd fy nghyflwr oddi wrth yr ARGLWYDD, ac aeth fy hawliau o olwg fy Nuw"?
40:28 Oni wyddost, oni chlywaist? Duw tragwyddol yw'r ARGLWYDD a greodd gyrrau'r ddaear; ni ddiffygia ac ni flina, ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy.
40:29 Y mae'n rhoi nerth i'r diffygiol, ac yn ychwanegu cryfder i'r di–rym.
40:30 Y mae'r ifainc yn diffygio ac yn blino, a'r cryfion yn syrthio'n llipa;
40:31 ond y mae'r rhai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD yn adennill eu nerth; y maent yn magu adenydd fel eryr, yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio.

Cymorth i Israel

41:1 "Rhowch sylw astud i mi, chwi ynysoedd, bydded i'r bobl nesáu; bydded iddynt nesáu a llefaru; down ynghyd i farn.
41:2 "Pwy sy'n codi un o'r dwyrain, a buddugoliaeth yn ei gyfarfod bob cam? Y mae'n bwrw cenhedloedd i lawr o'i flaen, ac yn darostwng brenhinoedd. Y mae'n eu gwneud fel llwch â'i gleddyf, fel us yn chwyrlïo â'i fwa.
41:3 Y mae'n eu hymlid, ac yn tramwyo'n ddiogel ar hyd llwybr na throediodd o'r blaen.
41:4 Pwy a wnaeth ac a gyflawnodd hyn, a galw'r cenedlaethau o'r dechreuad? Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r dechrau, a myfi sydd yno yn y diwedd hefyd."
41:5 Gwelodd yr ynysoedd, ac ofni; daeth cryndod ar eithafion byd; daethant, a nesáu.
41:6 Y mae pawb yn helpu ei gilydd, a'r naill yn dweud wrth y llall, "Ymgryfha."
41:7 Y mae'r crefftwr yn annog yr eurych, a'r un sy'n llyfnhau â'r morthwyl yn annog yr un sy'n taro ar yr eingion; y mae'n dyfarnu bod y sodro'n iawn, ac yn sicrhau'r ddelw â hoelion rhag iddi symud.
41:8 "Ti, Israel, yw fy ngwas; ti, Jacob, a ddewisais, had Abraham, f'anwylyd.
41:9 Dygais di o bellteroedd byd, a'th alw o'i eithafion, a dweud wrthyt, 'Fy ngwas wyt ti; 'rwyf wedi dy ddewis ac nid dy wrthod.'
41:10 Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.
41:11 Yn awr cywilyddir a gwaradwyddir pob un sy'n digio wrthyt; bydd pob un sy'n ymrafael â thi yn mynd yn ddim ac yn diflannu.
41:12 Byddi'n chwilio am y rhai sy'n ymosod arnat, ond heb eu cael; bydd pob un sy'n rhyfela yn dy erbyn yn mynd yn ddim, ac yn llai na dim.
41:13 Canys myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, sy'n gafael yn dy law dde, ac yn dweud wrthyt, 'Paid ag ofni, yr wyf fi'n dy gynorthwyo.'
41:14 "Paid ag ofni, ti'r pryfyn Jacob, na thithau'r lleuen Israel; byddaf fi'n dy gynorthwyo," medd yr ARGLWYDD, Sanct Israel, dy Waredydd.
41:15 "Yn awr, fe'th wnaf yn fen-ddyrnu – un newydd, ddanheddog a miniog; byddi'n dyrnu'r mynyddoedd a'u malu, ac yn gwneud y bryniau fel us.
41:16 Byddi'n eu nithio, a'r gwynt yn eu chwythu i ffwrdd, a'r dymestl yn eu gwasgaru. Ond byddi di'n llawenychu yn yr ARGLWYDD ac yn ymhyfrydu yn Sanct Israel.
41:17 "Pan fydd y tlawd a'r anghenus yn chwilio am ddŵr, heb ei gael, a'u tafodau'n gras gan syched, byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn eu hateb; ni fyddaf fi, Duw Israel, yn eu gadael.
41:18 Agoraf afonydd ar ben y moelydd, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd; gwnaf y diffeithwch yn llynnoedd, a'r crastir yn ffrydiau dyfroedd.
41:19 Plannaf yn yr anialwch gedrwydd, acasia, myrtwydd ac olewydd; gosodaf ynghyd yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd a phren bocs.
41:20 Felly cânt weld a gwybod, ystyried ac amgyffred mai llaw'r ARGLWYDD a wnaeth hyn, ac mai Sanct Israel a'i creodd."

Duw yn Herio'r Eilunod

41:21 "Gosodwch eich achos gerbron," medd yr ARGLWYDD. "Cyflwynwch eich dadleuon," medd brenin Jacob.
41:22 "Bydded iddynt ddod a hysbysu i ni beth sydd i ddigwydd. Beth oedd y pethau cyntaf? Dywedwch, er mwyn inni eu hystyried, a gwybod eu canlyniadau; neu dywedwch wrthym y pethau sydd i ddod.
41:23 Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn, inni gael gwybod mai duwiau ydych; gwnewch rywbeth, da neu ddrwg, er mwyn i ni gael braw ac ofni trwom.
41:24 Yn wir, nid ydych chwi'n ddim, ac nid yw'ch gwaith ond diddim. Ffieiddbeth yw'r un sy'n eich dewis.
41:25 "Codais un o'r gogledd, ac fe ddaeth, un o'r dwyrain, ac fe eilw ar f'enw; y mae'n sathru rhaglawiaid fel pridd, ac fel crochenydd yn sathru clai.
41:26 Pwy a fynegodd hyn o'r dechreuad, inni gael gwybod, neu ei ddweud ymlaen llaw, inni gael ei ategu? Nid oes neb wedi dweud na mynegi dim, ac ni chlywodd neb eich ymadrodd.
41:27 Gosodaf un i lefaru'n gyntaf wrth Seion, ac i gyhoeddi newyddion da i Jerwsalem.
41:28 Pan edrychaf, nid oes neb yno; nid oes cynghorwr yn eu plith a all ateb pan ofynnaf.
41:29 Yn wir, nid ydynt i gyd ond dim; llai na dim yw eu gwaith, gwynt a gwagedd yw eu delwau."

Gwas yr Arglwydd

42:1 "Dyma fy ngwas, yr wyf yn ei gynnal, f'etholedig, yr wyf yn ymhyfrydu ynddo. Rhoddais fy ysbryd ynddo, i gyhoeddi barn i'r cenhedloedd.
42:2 Ni fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais, na pheri ei glywed yn yr heol.
42:3 Ni fydd yn dryllio corsen ysig, nac yn diffodd llin yn mygu; bydd yn cyhoeddi barn gywir.
42:4 Ni fydd yn diffodd, ac ni chaiff ei ddryllio, nes iddo osod barn ar y ddaear; y mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei gyfraith."
42:5 Fel hyn y dywed Duw, yr ARGLWYDD, a greodd y nefoedd a'i thaenu allan, a luniodd y ddaear a'i chynnyrch, a roddodd anadl i'r bobl sydd arni, ac ysbryd i'r rhai sy'n rhodio ynddi:
42:6 "Myfi yw'r ARGLWYDD; gelwais di mewn cyfiawnder, a gafael yn dy law; lluniais di a'th osod yn gyfamod pobl, yn oleuni cenhedloedd;
42:7 i agor llygaid y deillion, i arwain caethion allan o'r carchar, a'r rhai sy'n byw mewn tywyllwch o'u cell.
42:8 Myfi yw'r ARGLWYDD, dyna fy enw; ni roddaf fy ngogoniant i neb arall, na'm clod i ddelwau cerfiedig.
42:9 Wele, y mae'r pethau cyntaf wedi digwydd, a mynegaf yn awr bethau newydd; cyn iddynt darddu 'rwy'n eu hysbysu ichwi."

Moliant i'r Arglwydd

42:10 Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd, canwch ei glod o eithaf y ddaear; bydded i'r môr a'i gyflawnder ei ganmol, yr ynysoedd a'r rhai sy'n trigo ynddynt.
42:11 Bydded i'r diffeithwch a'i ddinasoedd godi llef, y pentrefi lle mae Cedar yn trigo; bydded i drigolion Sela ganu a bloeddio o ben y mynyddoedd.
42:12 Bydded iddynt roi clod i'r ARGLWYDD, a mynegi ei fawl yn yr ynysoedd.
42:13 Y mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel arwr, fel rhyfelwr yn cyffroi mewn llid; y mae'n bloeddio, yn codi ei lais, ac yn trechu ei elynion.
42:14 "Bûm dawel dros amser hir, yn ddistaw, ac yn ymatal; yn awr llefaf fel gwraig yn esgor, a gwingo a griddfan.
42:15 Gwnaf fynyddoedd a bryniau yn ddiffaith, a pheri i'w holl lysiau gleision wywo; gwnaf afonydd yn ynysoedd, a llynnau yn sychdir.
42:16 Yna arweiniaf y deillion ar hyd ffordd ddieithr, a'u tywys mewn llwybrau nad adnabuant; paraf i'r tywyllwch fod yn oleuni o'u blaen, ac unionaf ffyrdd troellog. Dyma a wnaf iddynt, ac ni adawaf hwy.
42:17 Ond cilio mewn cywilydd a wna'r rhai sy'n ymddiried mewn eilunod ac yn dweud wrth ddelwau tawdd, 'Chwi yw ein duwiau ni.'

Israel yn Fyddar a Dall

42:18 "Chwi sy'n fyddar, clywch; chwi sy'n ddall, edrychwch a gwelwch.
42:19 'Does neb mor ddall â'm gwas, nac mor fyddar â'r negesydd a anfonaf; 'does neb mor ddall â'r un ymroddedig, mor ddall â gwas yr ARGLWYDD.
42:20 Er iddo weld llawer, nid yw'n eu hystyried; er bod ei glustiau'n agored, nid yw'n gwrando."
42:21 Dymunodd yr ARGLWYDD, er mwyn ei gyfiawnder, fawrhau'r gyfraith, a'i gwneud yn anrhydeddus;
42:22 ond ysbeiliwyd ac anrheithiwyd y bobl hyn; cawsant bawb eu dal mewn tyllau, a'u cuddio mewn celloedd, yn ysbail heb waredydd, yn anrhaith heb neb i ddweud, "Rho'n ôl."
42:23 Pwy ohonoch a all wrando ar hyn, ac ystyried a gwrando i'r diwedd?
42:24 Pwy a wnaeth Jacob yn anrhaith, a rhoi Israel i'r ysbeilwyr? Onid yr ARGLWYDD, y pechasom yn ei erbyn? Nid oeddent am rodio yn ei ffyrdd na gwrando ar ei gyfraith;
42:25 felly tywalltodd ei lid a'i ddicter arnynt, a chynddaredd y frwydr. Caeodd y fflam amdano, ond ni ddysgodd ei wers; llosgodd, ond nid ystyriodd.

Gwir Waredydd Israel

43:1 Yn awr, dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD a'th greodd, Jacob, ac a'th luniodd, Israel: "Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di; galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt.
43:2 Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi; a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi'n rhodio trwy'r tân, ni'th ddeifir, a thrwy'r fflamau, ni losgant di.
43:3 Oherwydd myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel, yw dy waredydd; rhof yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba yn gyfnewid amdanat.
43:4 Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg, yn ogoneddus, a minnau'n dy garu, rhof eraill yn gyfnewid amdanat, a phobloedd am dy einioes.
43:5 Paid ag ofni; yr wyf fi gyda thi. Dygaf dy had o'r dwyrain, casglaf di o'r gorllewin;
43:6 gorchmynnaf i'r gogledd, 'Rho', ac i'r de, 'Paid â dal yn ôl; tyrd â'm meibion o bell, a'm merched o eithafoedd byd –
43:7 pob un sydd â'm henw arno, ac a greais i'm gogoniant, ac a luniais, ac a wneuthum.'"

Tystion i Dduw

43:8 Dygwch allan y bobl sy'n ddall, er bod llygaid ganddynt, y rhai sy'n fyddar, er bod clustiau ganddynt.
43:9 Y mae'r holl bobl wedi eu casglu ynghyd, a'r bobloedd wedi eu cynnull. Pwy yn eu plith a fynega hyn, a chyhoeddi i ni y pethau gynt? Gadewch iddynt alw tystion i brofi'r achos, a gwrando, a dyfarnu ei fod yn wir.
43:10 "Chwi yw fy nhystion," medd yr ARGLWYDD, "fy ngwas, a etholais er mwyn ichwi gael gwybod, a chredu ynof, a deall mai myfi yw Duw. Nid oedd duw wedi ei greu o'm blaen, ac ni fydd yr un ar fy ôl.
43:11 Myfi, myfi yw'r ARGLWYDD; nid oes waredydd ond myfi.
43:12 Myfi a fu'n mynegi, yn achub ac yn cyhoeddi, pan nad oedd duw dieithr yn eich plith; ac yr ydych chwi'n dystion i mi," medd yr ARGLWYDD, "mai myfi yw Duw.
43:13 o'r dydd hwn, myfi yw Duw; ni all neb waredu o'm llaw. Beth bynnag a wnaf, ni all neb ei ddadwneud."
43:14 Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, eich Gwaredydd, Sanct Israel: "Er eich mwyn chwi byddaf yn anfon i Fabilon, ac yn dryllio'r barrau i gyd, a throi cân y Caldeaid yn wylofain.
43:15 Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct; creawdwr Israel yw eich brenin."
43:16 Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, a agorodd ffordd yn y môr a llwybr yn y dyfroedd enbyd;
43:17 a ddug allan gerbyd a march, byddin a dewrion, a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi, yn darfod ac yn diffodd fel llin:
43:18 "Peidiwch â meddwl am y pethau gynt, peidiwch ag aros gyda'r hen hanes.
43:19 Edrychwch, 'rwyf yn gwneud peth newydd; y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod? Yn wir, 'rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.
43:20 Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu, y bleiddiaid a'r estrys, am imi roi dŵr yn yr anialwch ac afonydd yn y diffeithwch, er mwyn rhoi dŵr i'm pobl, f'etholedig,
43:21 sef y bobl a luniais i mi fy hun, iddynt fynegi fy nghlod.
43:22 "Jacob, ni elwaist arnaf fi, ond blinaist arnaf, Israel.
43:23 Ni ddygaist i mi ddafad yn boethoffrwm, na'm hanrhydeddu â'th ebyrth; ni roddais faich bwydoffrwm arnat, na'th flino am arogldarth.
43:24 Ni phrynaist i mi galamus ag arian, na'm llenwi â'th ebyrth breision; ond rhoddaist dy bechodau yn faich arnaf, blinaist fi â'th gamweddau.
43:25 "Myfi, myfi yw Duw, sy'n dileu dy droseddau er fy mwyn fy hun, heb alw i gof dy bechodau.
43:26 Cyhudda fi, dadleuwn â'n gilydd; gosod dy achos gerbron, iti gael dyfarniad.
43:27 Pechodd dy dad cyntaf, a chododd d'arweinwyr yn f'erbyn,
43:28 a halogodd dy dywysogion fy nghysegr; felly rhoddais Jacob i'w ddinistrio, ac Israel yn waradwydd."

Israel Etholedig

44:1 "Yn awr, gwrando, fy ngwas Jacob, Israel, yr hwn a ddewisais;
44:2 dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD a'th wnaeth, a'th luniodd o'r groth ac a'th gynorthwya: Paid ag ofni, fy ngwas Jacob, Jesurun, yr hwn a ddewisais.
44:3 Tywalltaf ddyfroedd ar y tir sychedig a ffrydiau ar y sychdir; tywalltaf fy ysbryd ar dy had a'm bendith ar dy hiliogaeth.
44:4 Tarddant allan fel glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd.
44:5 Dywed un, ''Rwyf fi'n perthyn i'r ARGLWYDD'; bydd un arall yn cymryd enw Jacob, ac un arall drachefn yn ei arwyddo'i hun, 'Eiddo'r ARGLWYDD', ac yn ei gyfenwi ei hun, 'Israel'."
44:6 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, brenin Israel, ARGLWYDD y Lluoedd, ei waredydd: "Myfi yw'r cyntaf, a myfi yw'r olaf; nid oes duw ond myfi.
44:7 Pwy sy'n debyg i mi? Bydded iddo ddatgan, a mynegi a gosod ei achos ger fy mron. Pwy a gyhoeddodd erstalwm y pethau sydd i ddod? Dyweded wrthym beth sydd i ddigwydd.
44:8  Peidiwch ag ofni na dychryn; oni ddywedais wrthych erstalwm? Fe fynegais, a chwi yw fy nhystion. A oes duw ond myfi? Nid oes craig. Ni wn i am un."
44:9 Y mae pawb sy'n gwneud eilunod yn ddiddim, ac nid oes lles yng ngwrthrych eu serch; y mae eu tystion heb weld a heb wybod, ac o'r herwydd fe'u cywilyddir.
44:10 Pwy sy'n gwneud duw neu'n cerfio delw os nad yw'n elw iddo?
44:11 Gwelwch, cywilyddir pawb sy'n gweithio arno, ac nid yw'r crefftwyr yn ddim ond pobl. Pan gasglant ynghyd a dod at ei gilydd, daw ofn a chywilydd arnynt i gyd.
44:12 Y mae'r gof yn hogi cŷn ac yn gweithio'r haearn yn y tân; y mae'n ei ffurfio â morthwylion, ac yn gweithio arno â nerth ei fraich. Yna bydd arno angen bwyd, a'i nerth yn pallu, ac eisiau diod arno, ac yntau'n diffygio.
44:13 Y mae'r saer coed yn estyn llinyn, ac yn marcio â phensil; yna y mae'n llyfnhau'r pren â'r plaen, ac yn ei fesur â chwmpas, ac yn ei gerfio ar ffurf meidrolyn, mor lluniaidd â ffurf ddynol – i fyw mewn tŷ.
44:14 Y mae rhywun yn torri iddo'i hun gedrwydden, neu'n dewis cypreswydden neu dderwen wedi tyfu'n gryf yng nghanol y goedwig – cedrwydden wedi ei phlannu, a'r glaw wedi ei chryfhau.
44:15 Bydd peth ohoni'n danwydd i rywun i ymdwymo wrtho; bydd hefyd yn cynnau tân i grasu bara; a hefyd yn gwneud duw i'w addoli; fe'i gwna'n ddelw gerfiedig ac ymgrymu iddi.
44:16 Ie, y mae'n llosgi'r hanner yn dân, ac yn rhostio cig arno, ac yn bwyta'i wala; y mae hefyd yn ymdwymo a dweud, "Y mae blas ar dân; peth braf yw gweld y fflam."
44:17 o'r gweddill y mae'n gwneud delw i fod yn dduw, ac yn ymgrymu iddo a'i addoli; y mae'n gweddïo arno a dweud, "Gwared fi; fy nuw ydwyt."
44:18 Nid yw'r bobl yn gwybod nac yn deall; aeth eu llygaid yn ddall rhag gweld, a'u deall rhag amgyffred.
44:19 Nid yw neb wedi troi'r peth yn ei feddwl, nac yn gwybod nac yn deall, i ddweud, "Llosgais hanner yn dân, a chrasu bara yn y marwor; rhostiais gig a'i fwyta; ac o'r gweddill 'rwy'n gwneud ffieiddbeth, ac yn ymgrymu i ddarn o bren."
44:20 Yn wir y mae'n ymborthi ar ludw, a'i feddwl crwydredig wedi ei yrru ar gyfeiliorn; ni all ei waredu ei hun a dweud, "Onid twyll yw'r hyn sydd yn fy llaw?"
44:21 "Ystyria hyn, Jacob, oherwydd fy ngwas wyt ti, Israel. Lluniais di, gwas i mi wyt ti; O Israel, paid â'm hanghofio.
44:22 Dileais dy gamweddau fel cwmwl, a'th bechodau fel niwl; dychwel ataf, canys yr wyf wedi dy waredu."
44:23 Canwch, nefoedd, oherwydd yr ARGLWYDD a wnaeth hyn; gwaeddwch, ddyfnderoedd daear; bloeddiwch, O fynyddoedd, a'r goedwig a phob coeden o'i mewn; y mae'r ARGLWYDD wedi gwaredu Jacob, a chael gogoniant yn Israel.

Adfer Jerwsalem

44:24 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, dy waredydd, a'r hwn a'th luniodd o'r groth: "Myfi, yr ARGLWYDD, a wnaeth y cyfan – estyn y nefoedd fy hunan, a lledu'r ddaear heb neb gyda mi;
44:25 diddymu arwyddion celwyddog, gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n dewino; troi doethion yn eu hôl, a gwneud eu gwybodaeth yn ynfydrwydd;
44:26 cadarnhau gair ei was, a chyflawni cyngor ei genhadon; dweud wrth Jerwsalem, 'Fe'th breswylir', ac wrth ddinasoedd Jwda, 'Fe'ch adeiledir cyfodaf drachefn eich adfeilion';
44:27 dweud wrth y dyfnder, 'Bydd sych, 'rwy'n sychu hefyd d'afonydd';
44:28 dweud wrth Cyrus, 'Fy Mugail', ac fe gyflawna fy holl fwriad; dweud wrth Jerwsalem, 'Fe'th adeiledir', ac wrth y deml, 'Fe'th sylfaenir'."

Galw Cyrus

45:1 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD wrth Cyrus ei eneiniog, yr un y gafaelais yn ei law i ddarostwng cenhedloedd o'i flaen, i ddiarfogi brenhinoedd, i agor dorau o'i flaen, ac ni chaeir pyrth rhagddo:
45:2 "Mi af o'th flaen di i lefelu'r mynyddoedd; torraf y dorau pres, a dryllio'r barrau haearn.
45:3 Rhof iti drysorau o leoedd tywyll, wedi eu cronni mewn mannau dirgel, er mwyn iti wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Israel, sy'n dy gyfarch wrth dy enw.
45:4 Er mwyn fy ngwas Jacob, a'm hetholedig Israel, gelwais di wrth dy enw, a'th gyfenwi, er na'm hadwaenit.
45:5 Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall; ar wahân i mi nid oes Duw. Gwregysais di, er na'm hadwaenit,
45:6 er mwyn iddynt wybod, o godiad haul hyd ei fachlud, nad oes neb ond myfi. Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall,
45:7 yn llunio goleuni ac yn creu tywyllwch, yn peri llwyddiant ac yn achosi methiant; myfi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cyfan.
45:8 "Defnynnwch oddi fry, O nefoedd; tywallted yr wybren gyfiawnder. Agored y ddaear, er mwyn i iachawdwriaeth egino ac i gyfiawnder flaguro. Myfi, yr ARGLWYDD, a'i gwnaeth.
45:9 "Gwae'r sawl sy'n ymryson â'i luniwr, darn o lestr yn erbyn y crochenydd. A ddywed y clai wrth ei luniwr, 'Beth wnei di?' neu, 'Nid oes graen ar dy waith'?
45:10 Gwae'r sawl sy'n dweud wrth dad, 'Beth genhedli di?' neu wrth wraig, 'Ar beth yr esgori?'"
45:11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sanct Israel a'i luniwr: "A ydych yn fy holi i am fy mhlant, ac yn gorchymyn imi am waith fy nwylo?
45:12 Myfi a wnaeth y ddaear, a chreu pobl arni; fy llaw i a estynnodd y nefoedd, a threfnu ei holl lu.
45:13 Myfi a gododd Cyrus i fuddugoliaeth, ac unioni ei holl lwybrau. Ef fydd yn codi fy ninas, ac yn gollwng fy nghaethion yn rhydd, ond nid am bris nac am wobr," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
45:14 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD: "Bydd llafurwyr yr Aifft, masnachwyr Ethiopia a'r Sabeaid tal yn croesi atat ac yn eiddo i ti; dônt ar dy ôl mewn cadwyni, ymgrymant i ti a chyffesu, 'Yn sicr y mae Duw yn eich plith, ac nid oes neb ond ef yn Dduw.'"
45:15 Yn wir, Duw cuddiedig wyt ti, Dduw Israel, y gwaredydd.
45:16 Cywilyddir a gwaradwyddir hwy i gyd; â'r seiri delwau oll yn waradwydd,
45:17 ond gwaredir Israel gan yr ARGLWYDD â gwaredigaeth dragwyddol; ni'ch cywilyddir ac ni'ch gwaradwyddir byth bythoedd.
45:18 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, creawdwr y nefoedd, yr un sy'n Dduw, lluniwr y ddaear a'i gwneuthurwr, yr un a'i sefydlodd, yr un a'i creodd, nid i fod yn afluniaidd, ond a'i ffurfiodd i'w phreswylio: "Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;
45:19 nid mewn dirgelwch y lleferais, nid mewn man tywyll o'r ddaear; ni ddywedais wrth feibion Jacob, 'Ceisiwch fi mewn anhrefn.' Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r un sy'n llefaru cyfiawnder, ac yn mynegi uniondeb.
45:20 "Ymgasglwch, dewch yma, nesewch gyda'ch gilydd, rai dihangol y cenhedloedd. Nid oes gwybodaeth gan gludwyr delwau pren a'r rhai sy'n gweddïo ar dduw na all eu hachub.
45:21 Dewch ymlaen, cyflwynwch eich achos; boed iddynt gymryd cyngor ynghyd. Pwy a fynegodd hyn o'r blaen? Pwy a'i dywedodd o'r dechrau? Onid myfi, yr ARGLWYDD? Nid oes Duw ond myfi, Duw cyfiawn, a gwaredydd. Nid oes neb ond myfi.
45:22 Chwi, holl gyrrau'r ddaear, edrychwch ataf i'ch gwaredu, canys myfi wyf Dduw, ac nid oes arall.
45:23 Ar fy llw y tyngais; gwir a ddaeth allan o'm genau, gair na ddychwel: i mi bydd pob glin yn plygu a phob tafod yn tyngu.
45:24 Fe ddywedir amdanaf, 'Yn ddiau, yn yr ARGLWYDD y mae cyfiawnder a nerth'." Bydd pob un a ddigiodd wrtho yn dod ato ef mewn cywilydd.
45:25 Cyfiawnheir holl deulu Israel, ac ymhyfrydant yn yr ARGLWYDD.

Duwiau Babilon

46:1 Crymodd Bel, plygodd Nebo; ar gefn anifail ac ych y mae eu delwau, ac aeth y rhain, a fu'n ddyrchafedig, yn faich ar anifeiliaid blinedig.
46:2 Plygant a chrymant gyda'i gilydd, ni allant arbed y llwyth, ond ânt eu hunain i gaethglud.
46:3 "Gwrandewch arnaf fi, dŷ Jacob, a phawb sy'n weddill o dŷ Israel; buoch yn faich i mi o'r groth, ac yn llwyth i mi o'r bru;
46:4 hyd eich henaint, myfi yw Duw, hyd eich penwynni, mi a'ch cariaf. Myfi sy'n gwneud, myfi sy'n cludo, myfi sy'n cario, a myfi sy'n arbed.
46:5 I bwy y'm cyffelybwch? Â phwy y gwnewch fi'n gyfartal? I bwy y'm cymharwch? Pwy sy'n debyg i mi?
46:6 Y mae'r rhai sy'n gwastraffu aur o'r pwrs, ac yn arllwys eu harian i glorian, yn llogi eurych ac yn gwneud duw i'w addoli ac ymgrymu iddo.
46:7 Codant ef ar eu hysgwydd a'i gario, gosodant ef yn ei le, ac yno y saif heb symud; os llefa neb arno, nid yw'n ei ateb, nac yn ei achub o'i gyfyngder.
46:8 "Cofiwch hyn, ac ystyriwch; galwch i gof, chwi wrthryfelwyr.
46:9 Cofiwch y pethau gynt, ymhell yn ôl; oherwydd myfi sydd Dduw, ac nid arall, yn Dduw heb neb yn debyg i mi.
46:10 'Rwyf o'r dechreuad yn mynegi'r diwedd, ac o'r cychwyn yr hyn oedd heb ei wneud. Dywedaf, 'Fe saif fy nghyngor, a chyflawnaf fy holl fwriad.'
46:11 Galwaf ar aderyn ysglyfaethus o'r dwyrain, a gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell. Yn wir, lleferais ac fe'i dygaf i ben, fe'i lluniais ac fe'i gwnaf.
46:12 Gwrandewch arnaf fi, chwi bobl ystyfnig, chwi sy'n bell oddi wrth gyfiawnder.
46:13 Paraf i'm cyfiawnder nesáu; nid yw'n bell, ac nid oeda fy iachawdwriaeth. Rhof iachawdwriaeth yn Seion, a'm gogoniant i Israel.

Cwymp Babilon

47:1 "Disgyn, ac eistedd yn y lludw, ti, ferch wyry Babilon. Eistedd ar y llawr yn ddiorsedd, ti, ferch y Caldeaid; ni'th elwir byth eto yn dyner a moethus.
47:2 Cymer y meini melin i falu blawd, tyn dy orchudd, rhwyga dy sgert, dangos dy gluniau, rhodia trwy ddyfroedd.
47:3 Dangoser dy noethni, a gweler dy warth. Dygaf ddial, ac nid arbedaf neb."
47:4 Ein gwaredydd yw Sanct Israel; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
47:5 "Eistedd yn fud, dos i'r tywyllwch, ti, ferch y Caldeaid; ni'th elwir byth eto yn arglwyddes y teyrnasoedd.
47:6 Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, rhoddais hwy yn dy law; ond ni chymeraist drugaredd arnynt, gwnaethost yr iau yn drwm ar yr oedrannus.
47:7 Dywedaist, 'Byddaf yn arglwyddes hyd byth', ond nid oeddit yn ystyried hyn, nac yn cofio sut y gallai ddiweddu.
47:8 Yn awr, ynteu, gwrando ar hyn, y foethus, sy'n eistedd mor gyfforddus, sy'n dweud wrthi ei hun, 'Myfi, 'does neb ond myfi. Ni fyddaf fi'n eistedd yn weddw, nac yn gwybod beth yw colli plant.'
47:9 Fe ddaw'r ddau beth hyn arnat ar unwaith, yr un diwrnod – colli plant a gweddwdod, a'r ddau'n dod arnat yn llawn, er bod dy hudoliaeth yn aml a'th swynion yn nerthol.
47:10 "Pan oeddit yn ymddiried yn dy ddrygioni, dywedaist, ''Does neb yn fy ngweld.' 'Roedd dy ddoethineb a'th wybodaeth yn dy gamarwain, a dywedaist, 'Myfi, 'does neb ond myfi.'
47:11 Ond fe ddaw arnat ti ddinistr na wyddost sut i'w swyno; fe ddisgyn arnat ddistryw na elli mo'i ochelyd. Daw trychineb arnat yn sydyn, heb yn wybod iti.
47:12 "Glŷn wrth dy swynion a'th hudoliaethau aml y buost yn ymflino â hwy o'th ieuenctid – efallai y cei help ganddynt; efallai y medri godi arswyd drwyddynt.
47:13 'Rwyt wedi dy lethu gan nifer dy gynghorwyr; bydded iddynt sefyll yn awr a'th achub – dewiniaid y nefoedd a gwylwyr y sêr, sy'n proffwydo bob mis yr hyn a ddigwydd iti.
47:14 Edrych, y maent fel us, a'r tân yn eu hysu; ni fedrant eu harbed eu hunain rhag y fflam. Nid glo i dwymo wrtho yw hwn, nid tân i eistedd o'i flaen.
47:15 Fel hyn y bydd y rhai y buost yn ymflino â hwy ac yn ymhél â hwy o'th ieuenctid; trônt ymaith bob un i'w ffordd ei hun, heb allu dy waredu."

Israel Ystyfnig

48:1 "Gwrandewch hyn, dŷ Jacob, y rhai a elwir ar enw Israel, sy'n tarddu o had Jwda, sy'n tyngu yn enw'r ARGLWYDD ac yn galw ar Dduw Israel, heb fod yn onest na didwyll.
48:2 Galwant eu hunain yn bobl y ddinas sanctaidd, a phwyso ar Dduw Israel; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
48:3 "Mynegais y pethau cyntaf erstalwm, eu cyhoeddi â'm genau fy hun a'u gwneud yn hysbys; ar drawiad gweithredais, a pheri iddynt ddigwydd.
48:4 Gwyddwn dy fod yn ystyfnig, a'th war fel gewyn haearn, a'th dalcen fel pres;
48:5 am hynny rhois wybod i ti erstalwm, a'th hysbysu cyn iddynt ddigwydd, rhag i ti ddweud, 'Fy nelw a'u gwnaeth, fy eilun a'm cerfddelw a'u trefnodd.'
48:6 Clywaist a gwelaist hyn i gyd; onid ydych am ei gydnabod? Ac yn awr 'rwyf am fynegi i chwi bethau newydd, pethau cudd na wyddoch ddim amdanynt.
48:7 Yn awr y crëwyd hwy, ac nid erstalwm, ac ni chlywaist ddim amdanynt cyn heddiw, rhag i ti ddweud, ''Roeddwn i'n gwybod.'
48:8 Nid oeddit wedi clywed na gwybod; erstalwm 'roedd dy glust heb agor; oherwydd gwyddwn dy fod yn dwyllodrus i'r eithaf, ac iti o'r bru gael yr enw o fod yn droseddwr.
48:9 "Er mwyn fy enw ateliais fy llid, er mewn fy moliant ymateliais rhag dy ddifa.
48:10 Purais di, ond nid fel arian; profais di ym mhair cystudd.
48:11 Er fy mwyn fy hun y gwneuthum hyn; a gânt halogi fy enw? Ni roddaf fy anrhydedd i arall.

Rhyddhau Israel

48:12 "Clyw fi, Jacob, ac Israel, yr un a elwais: Myfi yw; myfi yw'r cyntaf, a'r olaf hefyd.
48:13 Fy llaw a sylfaenodd y ddaear, a'm deheulaw a daenodd y nefoedd; pan alwaf arnynt, ufuddhânt ar unwaith.
48:14 "Dewch bawb at eich gilydd a gwrando; pwy ohonynt a fynegodd hyn? Yr un y mae'r ARGLWYDD yn ei hoffi fydd yn cyflawni ei fwriad ar Fabilon ac ar had y Caldeaid.
48:15 Myfi fy hun a lefarodd, myfi a'i galwodd; dygais ef allan, a llwyddo ei ffordd.
48:16 Dewch ataf, clywch hyn: o'r dechrau ni leferais yn ddirgel; o'r amser y digwyddodd, yr oeddwn i yno." Ac yn awr ysbryd yr Arglwydd DDUW a'm hanfonodd i.
48:17 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, dy Waredydd, Sanct Israel: "Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, sy'n dy ddysgu er dy les, ac yn dy arwain yn y ffordd y dylit ei cherdded.
48:18 Pe bait wedi gwrando ar fy ngorchymyn, byddai dy heddwch fel yr afon, a'th gyfiawnder fel tonnau'r môr;
48:19 a byddai dy had fel y tywod, a'th epil fel ei raean, a'u henw heb ei dorri ymaith na'i ddileu o'm gŵydd."
48:20 Ewch allan o Fabilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid; mynegwch hyn gyda bloedd gorfoledd, cyhoeddwch ef, a'i hysbysu hyd gyrrau'r ddaear; dywedwch, "Yr ARGLWYDD a waredodd ei was Jacob."
48:21 Nid oedd arnynt syched pan arweiniodd hwy yn y lleoedd anial; gwnaeth i ddŵr lifo iddynt o'r graig; holltodd y graig a phistyllodd y dŵr.
48:22 "Nid oes llwyddiant i'r annuwiol," medd yr ARGLWYDD.

Gwas yr Arglwydd

49:1 Gwrandewch arnaf, chwi ynysoedd, rhowch sylw, chwi bobl o bell. Galwodd yr ARGLWYDD fi o'r groth; o fru fy mam fe'm henwodd.
49:2 Gwnaeth fy ngenau fel cleddyf llym, a'm cadw yng nghysgod ei law; gwnaeth fi yn saeth loyw, a'm cuddio yng nghawell ei saethau.
49:3 Dywedodd wrthyf, "Fy ngwas wyt ti; ynot ti, Israel, y caf ogoniant."
49:4 Dywedais innau, "Llafuriais yn ofer, a threuliais fy nerth i ddim; er hynny y mae fy achos gyda'r ARGLWYDD a'm gwobr gyda'm Duw."
49:5 Ac yn awr, llefarodd yr ARGLWYDD, a'm lluniodd o'r groth yn was iddo, i adfer Jacob iddo a chasglu Israel ato, i'm gogoneddu yng ngŵydd yr ARGLWYDD, am fod fy Nuw yn gadernid i mi.
49:6 Dywedodd, "Peth bychan yw i ti fod yn was i mi, i godi llwythau Jacob ar eu traed, ac adfer rhai cadwedig Israel; fe'th wnaf di yn oleuni i'r cenhedloedd, i'm hiachawdwriaeth gyrraedd hyd eithaf y ddaear."
49:7 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gwaredydd Israel, a'i Sanct, wrth yr un a ddirmygir ac a ffieiddir gan bobloedd, wrth gaethwas y trahaus: "Bydd brenhinoedd yn sefyll pan welant, a'r tywysogion yn ymgrymu, o achos yr ARGLWYDD, sy'n ffyddlon, a Sanct Israel, a'th ddewisodd di."

Adfer Jerwsalem

49:8 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Atebaf di yn adeg ffafr, a'th gynorthwyo ar ddydd iachawdwriaeth; cadwaf di, a'th osod yn gyfamod i'r bobl; adferaf y tir a rhannu'r tiroedd anrhaith yn etifeddiaeth;
49:9 a dywedaf wrth y carcharorion, 'Ewch allan', ac wrth y rhai mewn tywyllwch, 'Dewch i'r golau'. Cânt bori ar fin y ffyrdd a chael porfa ar y moelydd.
49:10 Ni newynant ac ni sychedant, ni fydd gwres na haul yn eu taro, oherwydd un sy'n tosturio wrthynt sy'n eu harwain, ac yn eu tywys at ffynhonnau o ddŵr.
49:11 Gwnaf bob mynydd yn ffordd, a llenwi o dan fy llwybrau.
49:12 Y mae rhai yn dod o bell, a rhai o'r gogledd a'r gorllewin, ac eraill o wlad Sinim."
49:13 Cân, nefoedd; gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, fynyddoedd. Canys y mae'r ARGLWYDD yn cysuro ei bobl, ac yn tosturio wrth ei drueiniaid.
49:14 Dywedodd Seion, "Gwrthododd yr ARGLWYDD fi, ac anghofiodd fy Arglwydd fi."
49:15 "A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, neu fam blentyn ei chroth? Fe allant hwy anghofio, ond nid anghofiaf fi di.
49:16 Edrych, 'rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo; y mae dy furiau bob amser o flaen fy llygaid;
49:17 y mae dy adeiladwyr yn gyflymach na'r rhai sy'n dy ddinistrio, ac y mae dy anrheithwyr wedi mynd ymaith.
49:18 Edrych o'th amgylch, a gwêl; y mae pawb yn ymgasglu ac yn dod atat. Cyn wired â'm bod yn fyw," medd yr ARGLWYDD, "byddi'n eu gwisgo i gyd fel addurn, ac yn eu rhwymo amdanat fel y gwna priodferch.
49:19 Bydd dy ddiffeithwch a'th anialwch a'th dir anrhaith yn rhy gyfyng bellach i'th breswylwyr, gan fod dy ddifodwyr ymhell i ffwrdd.
49:20 Bydd y plant a anwyd yn nydd dy alar yn dweud eto'n hyglyw, 'Nid oes digon o le i mi; symud draw, i mi gael lle i fyw.'
49:21 "Yna y dywedi ynot dy hun, 'Pwy a genhedlodd y rhain i mi, a minnau'n weddw ac yn ddi-blant? Yr oeddwn i mewn caethglud ac yn ddigartref; pwy a'u magodd hwy? Yn wir, 'roeddwn i wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun; o ble, ynteu, y daeth y rhain?'"
49:22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: "Rhof arwydd â'm llaw i'r cenhedloedd, a chodaf fy maner i'r bobloedd, a dygant dy feibion yn eu mynwes, a chludo dy ferched ar eu hysgwydd.
49:23 Bydd brenhinoedd yn dadau maeth iti, a'u tywysogesau yn famau maeth iti; plygant i'r llawr o'th flaen a llyfu llwch dy draed; yna y cei wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, ac na siomir neb sy'n disgwyl wrthyf."
49:24 A ddygir ysbail oddi ar y cadarn? A ryddheir carcharor o law'r gormeswr?
49:25 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Fe ddygir carcharor o law'r cadarn, ac fe ryddheir ysbail o law'r gormeswr; myfi fydd yn dadlau â'th gyhuddwr, ac yn gwaredu dy blant.
49:26 Gwnaf i'th orthrymwyr fwyta'u cnawd eu hunain, a meddwaf hwy â'u gwaed eu hunain fel â gwin; yna caiff pawb wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw dy Waredydd, ac mai Un Cadarn Jacob yw dy Achubydd."

Pechod Israel ac Ufudd-dod y Gwas

50:1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Ple, felly, mae llythyr ysgar eich mam, a roddais i'w gyrru ymaith? Neu, i ba echwynnwr y gwerthais chwi? O achos eich camweddau y gwerthwyd chwi, ac oherwydd eich troseddau y gyrrwyd eich mam ymaith.
50:2 Pam nad oedd neb yma pan ddeuthum, na neb yn ateb pan elwais? A yw fy llaw yn rhy fyr i achub, neu a wyf yn rhy wan i waredu? Gwelwch, 'rwy'n sychu'r môr â'm dicter, ac yn troi afonydd yn ddiffeithwch; y mae eu pysgod yn drewi o ddiffyg dŵr, ac yn trengi o sychder.
50:3 'Rwy'n gwisgo'r nefoedd â galarwisg, ac yn rhoi sachliain yn amdo iddynt."
50:4 Rhoes yr ARGLWYDD Dduw i mi dafod un yn dysgu, i wybod sut i gynnal y diffygiol â gair; bob bore y mae'n agor fy nghlust i wrando fel un yn dysgu.
50:5 Agorodd yr ARGLWYDD Dduw fy nghlust, ac ni wrthwynebais innau, na chilio'n ôl.
50:6 Rhoddais fy nghefn i'r curwyr, a'm cernau i'r rhai a dynnai'r farf; ni chuddiais fy wyneb rhag gwaradwydd na phoer.
50:7 Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal, am hynny ni chaf fy sarhau; felly gosodaf fy wyneb fel callestr, a gwn na'm cywilyddir.
50:8 Y mae'r hwn sy'n fy nghyfiawnhau wrth law. Pwy a ddadlau i'm herbyn? Gadewch i ni wynebu'n gilydd; pwy a'm gwrthwyneba? Gadewch iddo nesáu ataf.
50:9 Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal: pwy a'm condemnia? Byddant i gyd yn treulio fel dilledyn a ysir gan wyfyn.
50:10 Pwy bynnag ohonoch sy'n ofni'r ARGLWYDD, gwrandawed ar lais ei was. Yr un sy'n rhodio mewn tywyllwch heb olau ganddo, ymddirieded yn enw'r ARGLWYDD, a phwyso ar ei Dduw.
50:11 Ond chwi i gyd, sy'n cynnau tân ac yn goleuo tewynion, rhodiwch wrth lewyrch eich tân, a'r tewynion a oleuwyd gennych. Dyma'r hyn a ddaw i chwi o'm llaw: byddwch yn gorwedd mewn dioddefaint.

Gwaredigaeth i Seion

51:1 "Gwrandewch arnaf, chwi sy'n dilyn cyfiawnder, sy'n ceisio'r ARGLWYDD. Edrychwch ar y graig y'ch naddwyd ohoni, ac ar y chwarel lle'ch cloddiwyd;
51:2 edrychwch at Abraham eich tad, ac at Sara, a'ch dygodd i'r byd; un ydoedd pan elwais ef, ond fe'i bendithiais a'i amlhau.
51:3 Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, yn cysuro ei holl fannau anghyfannedd; bydd yn gwneud ei hanialwch yn Eden, a'i diffeithwch yn ardd yr ARGLWYDD; ceir o'i mewn lawenydd a gorfoledd, emyn diolch a sain cân.
51:4 "Gwrandewch arnaf, fy mhobl; clywch fi, fy nghenedl; oherwydd daw cyfraith allan oddi wrthyf, a bydd fy marn yn goleuo pobloedd.
51:5 Y mae fy muddugoliaeth gerllaw, a'm hiachawdwriaeth ar ddod; bydd fy mraich yn rheoli'r bobloedd; bydd yr ynysoedd yn disgwyl wrthyf, ac yn ymddiried yn fy mraich.
51:6 Codwch eich golwg i'r nefoedd, edrychwch ar y ddaear islaw; y mae'r nefoedd yn diflannu fel mwg, a'r ddaear yn treulio fel dilledyn, a'i thrigolion yn marw fel gwybed; ond bydd fy iachawdwriaeth yn parhau byth, ac ni phalla fy muddugoliaeth.
51:7 "Gwrandewch arnaf, chwi sy'n adnabod cyfiawnder, rhai sydd â'm cyfraith yn eu calon: Peidiwch ag ofni gwaradwydd pobl, nac arswydo rhag eu gwatwar;
51:8 oherwydd bydd y pryf yn eu hysu fel dilledyn, a'r gwyfyn yn eu bwyta fel gwlân; ond bydd fy muddugoliaeth yn parhau byth, a'm hiachawdwriaeth i bob cenhedlaeth."
51:9 Deffro, deffro, gwisg dy nerth, O fraich yr ARGLWYDD; deffro, fel yn y dyddiau gynt, a'r oesoedd o'r blaen. Onid ti a ddrylliodd Rahab, a thrywanu'r ddraig?
51:10 Onid ti a sychodd y môr, dyfroedd y dyfnder mawr? Onid ti a wnaeth ddyfnderau'r môr yn ffordd i'r gwaredigion groesi?
51:11 Fe ddychwel gwaredigion yr ARGLWYDD; dônt i Seion dan ganu, a llawenydd tragwyddol ar bob un. Hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd, a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.
51:12 "Myfi, myfi sy'n eich diddanu; pam, ynteu, yr ofnwch neb meidrol, neu rywun sydd fel glaswelltyn?
51:13 Pam yr ydych yn anghofio'r ARGLWYDD, eich creawdwr, yr un a ledodd y nefoedd, ac a sylfaenodd y ddaear? Pam yr ofnwch o hyd, drwy'r dydd, rhag llid gorthrymwr sy'n barod i ddistrywio? Ond ple mae llid y gorthrymwr?
51:14 Caiff y caeth ei ryddhau yn y man; ni fydd yn marw yn y gell, ac ni fydd pall ar ei fara.
51:15 Myfi yw'r ARGLWYDD, dy Dduw, sy'n cynhyrfu'r môr nes i'r tonnau ruo; ARGLWYDD y Lluoedd yw fy enw.
51:16 Gosodais fy ngeiriau yn dy enau, cysgodais di yng nghledr fy llaw; taenais y nefoedd a sylfaenais y ddaear, a dweud wrth Seion, 'Fy mhobl wyt ti.'"

Cwpan Digofaint Duw

51:17 Deffro, deffro, cod, Jerwsalem; yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lid, yfaist bob dafn o waddod y cwpan meddwol.
51:18 O blith yr holl blant yr esgorodd arnynt, nid oes un a all ei thywys; o'r holl rai a fagodd, nid oes un a afael yn ei llaw.
51:19 Daeth dau drychineb i'th gyfarfod – pwy a'th ddiddana? Dinistr a distryw, newyn a chleddyf – pwy a'th gysura?
51:20 Gorwedd dy blant yn llesg ym mhen pob heol, fel gafrewig mewn magl; y maent yn llawn o lid yr ARGLWYDD, a cherydd dy Dduw.
51:21 Am hynny, gwrando'n awr, y druan, sy'n feddw, er nad trwy win.
51:22 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, dy Arglwydd a'th Dduw di, yr un sy'n dadlau achos ei bobl: "Cymerais o'th law y cwpan meddwol, ac nid yfi mwyach waddod cwpan fy llid;
51:23 ond rhof hi yn llaw dy ormeswyr, a ddywedodd wrthyt, 'Plyga i lawr i ni gerdded trosot.' Ac fe roist dy gefn fel llawr, ac fel heol iddynt gerdded trosti."

Gwaredigaeth Seion Gerllaw

52:1 Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion; ymwisga yn dy ddillad godidog, O Jerwsalem, y ddinas sanctaidd; oherwydd ni ddaw i mewn iti mwyach neb dienwaededig nac aflan.
52:2 Cod, ymysgwyd o'r llwch, ti Jerwsalem gaeth; tyn y rhwymau oddi ar dy war, ti gaethferch Seion.
52:3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Gwerthwyd chwi am ddim, ac fe'ch gwaredir heb arian."
52:4 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: "Yn y dechrau, i'r Aifft yr aeth fy mhobl i ymdeithio, ac yna bu Asyria'n eu gormesu'n ddiachos.
52:5 Ond yn awr, beth a gaf yma?" medd yr ARGLWYDD. "Y mae fy mhobl wedi eu dwyn ymaith am ddim, eu gorthrymwyr yn llawn ymffrost," medd yr ARGLWYDD, "a'm henw'n cael ei ddilorni o hyd, drwy'r dydd.
52:6 Am hynny, fe gaiff fy mhobl adnabod fy enw; y dydd hwnnw cânt wybod mai myfi yw Duw, sy'n dweud, 'Dyma fi.'"
52:7 Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y negesydd sy'n cyhoeddi heddwch, yn datgan daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; sy'n dweud wrth Seion, "Dy Dduw sy'n teyrnasu."
52:8 Clyw, y mae dy wylwyr yn codi eu llais ac yn bloeddio'n llawen gyda'i gilydd; â'u llygaid eu hunain y gwelant yr ARGLWYDD yn dychwelyd i Seion.
52:9 Bloeddiwch, cydganwch, chwi adfeilion Jerwsalem, oherwydd tosturiodd yr ARGLWYDD wrth ei bobl, a gwaredodd Jerwsalem.
52:10 Dinoethodd yr ARGLWYDD ei fraich sanctaidd yng ngŵydd yr holl genhedloedd, ac fe wêl holl gyrrau'r ddaear iachawdwriaeth ein Duw ni.
52:11 Allan! Allan! Ymaith â chwi! Peidiwch â chyffwrdd â dim aflan. Ewch allan o'i chanol, glanhewch eich hunain, chwi sy'n cludo llestri'r ARGLWYDD.
52:12 Nid ar ffrwst yr ewch allan, ac nid fel ffoaduriaid y byddwch yn ymadael, oherwydd bydd yr ARGLWYDD ar y blaen, a Duw Israel y tu cefn i chwi.

Y Gwas Dioddefus

52:13 Yn awr, bydd fy ngwas yn llwyddo; fe'i codir, a'i ddyrchafu, a bydd yn uchel iawn.
52:14 Ar y pryd 'roedd llawer yn synnu ato – 'roedd ei wedd yn rhy hagr i ddyn, a'i bryd yn hyllach na neb dynol,
52:15 a phobloedd lawer yn troi i ffwrdd rhag ei weld, a brenhinoedd yn fud o'i blegid. Ond byddant yn gweld peth nas eglurwyd iddynt, ac yn deall yr hyn na chlywsant amdano.
53:1 Pwy a gredai'r hyn a glywsom? I bwy y datguddiwyd braich yr ARGLWYDD?
53:2 Fe dyfodd o'i flaen fel blaguryn, ac fel gwreiddyn mewn tir sych; nid oedd na phryd na thegwch iddo, na harddwch i'w hoffi wrth inni ei weld.
53:3 'Roedd wedi ei ddirmygu a'i wrthod gan eraill, yn ŵr clwyfedig, cyfarwydd â dolur; yr oeddem fel pe'n cuddio'n hwynebau oddi wrtho, yn ei ddirmygu ac yn ei anwybyddu.
53:4 Eto, ein dolur ni a gymerodd, a'n gwaeledd ni a ddygodd – a ninnau'n ei gyfrif wedi ei glwyfo a'i daro gan Dduw, a'i ddarostwng.
53:5 Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a'i ddryllio am ein camweddau ni; 'roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd.
53:6 'Rydym ni i gyd wedi crwydro fel defaid, pob un yn troi i'w ffordd ei hun; a rhoes yr ARGLWYDD arno ef ein beiau ni i gyd.
53:7 Fe'i gorthrymwyd a'i ddarostwng, ond nid agorai ei enau; arweiniwyd ef fel oen i'r lladdfa, ac fel y bydd dafad yn ddistaw yn llaw'r cneifiwr, felly nid agorai yntau ei enau.
53:8 Cymerwyd ef ymaith heb ei roi ar brawf na'i farnu – pwy oedd yn malio am ei dynged? Fe'i torrwyd o dir y rhai byw, a'i daro am drosedd fy mhobl.
53:9 Rhoddwyd iddo fedd gyda'r rhai drygionus, a beddrod gyda'r troseddwyr, er na wnaethai niwed i neb ac nad oedd twyll yn ei enau.
53:10 Yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllio a gwneud iddo ddioddef. Pan rydd ei fywyd yn aberth dros bechod, fe wêl ei had, fe estyn ei ddyddiau, ac fe lwydda ewyllys yr ARGLWYDD yn ei law ef.
53:11 Wedi helbulon ei fywyd fe wêl oleuni, a chael ei fodloni yn ei wybodaeth; bydd fy ngwas yn cyfiawnhau llawer, ac yn dwyn eu camweddau.
53:12 Am hynny rhof iddo ran gyda'r mawrion ac fe ranna'r ysbail gyda'r cedyrn, oherwydd iddo dywallt ei fywyd i farwolaeth, a chael ei gyfrif gyda throseddwyr, a dwyn pechodau llaweroedd, ac eiriol dros y troseddwyr.

Gogoniant Seion

54:1 "Cân di, y wraig ddi-blant na chafodd esgor; dyro gân, bloeddia ganu, ti na phrofaist wewyr esgor; oherwydd y mae plant y wraig a adawyd yn lluosocach na phlant y wraig briod," medd yr ARGLWYDD.
54:2 "Helaetha faint dy babell, estyn allan lenni dy drigfannau; gollwng y rhaffau allan i'r pen, a sicrha'r hoelion.
54:3 Oherwydd byddi'n ymestyn i'r dde ac i'r chwith; bydd dy had yn disodli'r cenhedloedd, ac yn cyfanheddu dinasoedd anrheithiedig.
54:4 Paid ag ofni, oherwydd ni chywilyddir di, ni ddaw gwaradwydd na gwarth arnat; oherwydd fe anghofi gywilydd dy ieuenctid, ac ni chofi bellach am warth dy weddwdod.
54:5 Oherwydd yr un a'th greodd yw dy ŵr – ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw; Sanct Israel yw dy waredydd, a Duw yr holl ddaear y gelwir ef.
54:6 Fel gwraig wedi ei gadael, a'i hysbryd yn gystuddiol, y galwodd yr ARGLWYDD di – gwraig ifanc wedi ei gwrthod," medd dy Dduw.
54:7 "Am ennyd fechan y'th adewais, ond fe'th ddygaf yn ôl â thosturi mawr.
54:8 Am ychydig, mewn dicter moment, cuddiais fy wyneb rhagot; ond â chariad di–baid y tosturiaf wrthyt," medd yr ARGLWYDD, dy waredydd.
54:9 "Y mae hyn i mi fel dyddiau Noa, pan dyngais nad âi dyfroedd Noa byth mwyach dros y ddaear; felly tyngaf na ddigiaf wrthyt ti byth mwy, na'th geryddu ychwaith.
54:10 Er i'r mynyddoedd symud, ac i'r bryniau siglo, ni symuda fy ffyddlondeb oddi wrthyt, a bydd fy nghyfamod heddwch yn ddi-sigl," medd yr ARGLWYDD, sy'n tosturio wrthyt.
54:11 "Y druan helbulus, ddigysur! 'Rwyf am osod dy feini mewn morter, a'th sylfeini mewn saffir.
54:12 Gwnaf dy dyrau o ruddem, a'th byrth o risial; bydd dy fur i gyd yn feini dethol,
54:13 a'th adeiladwyr oll wedi eu dysgu gan yr ARGLWYDD. Daw llwyddiant mawr i'th blant,
54:14 a byddi wedi dy sylfaenu ar gyfiawnder; byddi'n bell oddi wrth orthrymder, heb ofn arnat, ac oddi wrth ddychryn, na ddaw'n agos atat.
54:15 Os bydd rhai yn ymosod arnat, nid oddi wrthyf fi y daw hyn; bydd pwy bynnag sy'n ymosod arnat yn cwympo o'th achos.
54:16 Edrych, myfi a greodd y gof, sy'n chwythu'r marwor yn dân, ac yn llunio arf at ei waith; myfi hefyd a greodd y dinistrydd i ddistrywio.
54:17 Ond ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn; gwrthbrofir pob tafod a'th gyhudda mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, ac oddi wrthyf fi y daw eu goruchafiaeth," medd yr ARGLWYDD.

Gwahoddiad i'r Sychedig

55:1 "Dewch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno; dewch, er eich bod heb arian; prynwch a bwytewch. Dewch, prynwch win a llaeth, heb arian a heb dâl.
55:2 Pam y gwariwch arian am yr hyn nad yw'n fara, a llafurio am yr hyn nad yw'n digoni? Gwrandewch arnaf yn astud, a chewch fwyta'r hyn sydd dda, a mwynhau danteithion.
55:3 Gwrandewch arnaf, dewch ataf; clywch, a byddwch fyw. Gwnaf â chwi gyfamod tragwyddol, fy ffyddlondeb sicr i Ddafydd.
55:4 Edrych, rhois ef yn dyst i'r bobl, yn arweinydd a chyfarwyddwr i'r bobl.
55:5 Edrych, byddi'n galw ar genedl nid adweini, a bydd cenedl nad yw'n dy adnabod yn rhedeg atat; oherwydd yr ARGLWYDD dy Dduw, o achos Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu."
55:6 Ceisiwch yr ARGLWYDD tra gellir ei gael, galwch arno tra bydd yn agos.
55:7 Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r un ofer ei fwriadau, a dychwelyd at yr ARGLWYDD, iddo drugarhau wrtho, ac at ein Duw ni, oherwydd fe faddau'n helaeth.
55:8 "Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i," medd yr ARGLWYDD.
55:9 "Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear, y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi.
55:10 Fel y mae'r glaw a'r eira yn disgyn o'r nefoedd, a heb ddychwelyd yno nes dyfrhau'r ddaear, a gwneud iddi darddu a ffrwythloni, a rhoi had i'w hau a bara i'w fwyta,
55:11 felly y mae fy ngair sy'n dod o'm genau; ni ddychwel ataf yn ofer, ond fe wna'r hyn a ddymunaf, a llwyddo â'm neges.
55:12 "Mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn heddwch y'ch arweinir; bydd y mynyddoedd a'r bryniau'n bloeddio canu o'ch blaen, a holl goed y maes yn curo dwylo.
55:13 Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain, a myrtwydd yn lle mieri; bydd hyn yn glod i'r ARGLWYDD, yn arwydd tragwyddol na ddileir mohono."

Duw a'r Cenhedloedd

56:1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Cadwch farn, gwnewch gyfiawnder; oherwydd y mae fy iachawdwriaeth ar ddod, a'm goruchafiaeth ar gael ei datguddio.
56:2 Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwneud felly, a'r un sy'n glynu wrth hyn, yn cadw'r Saboth heb ei halogi, ac yn ymgadw rhag gwneud unrhyw ddrwg."
56:3 Na ddyweded y dieithryn a lynodd wrth yr ARGLWYDD, "Yn wir y mae'r ARGLWYDD yn fy ngwahanu oddi wrth ei bobl." Na ddyweded yr eunuch, "Pren crin wyf fi."
56:4 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "I'r eunuchiaid sy'n cadw fy Sabothau ac yn dewis y pethau a hoffaf ac yn glynu wrth fy nghyfamod,
56:5 y rhof yn fy nhŷ ac oddi mewn i'm muriau gofgolofn ac enw a fydd yn well na meibion a merched; rhof iddynt enw parhaol nas torrir ymaith.
56:6 A'r dieithriaid sy'n glynu wrth yr ARGLWYDD, yn ei wasanaethu ac yn caru ei enw, sy'n dod yn weision iddo ef, yn cadw'r Saboth heb ei halogi ac yn glynu wrth fy nghyfamod –
56:7 dygaf y rhain i'm mynydd sanctaidd, a rhof iddynt lawenydd yn fy nhŷ gweddi, a derbyn eu poethoffrwm a'u haberth ar fy allor; oherwydd gelwir fy nhŷ yn dŷ gweddi i'r holl bobloedd,"
56:8 medd yr Arglwydd DDUW, sy'n casglu alltudion Israel. "Casglaf ragor eto at y rhai sydd wedi eu casglu."

Cyhuddo'r Drygionus

56:9 Dewch i ddifa, chwi fwystfilod gwyllt, holl anifeiliaid y coed.
56:10 Y mae'r gwylwyr i gyd yn ddall a heb ddeall; y maent i gyd yn gŵn mud heb fedru cyfarth, yn breuddwydio, yn gorweddian, yn hoffi hepian,
56:11 yn gŵn barus na wyddant beth yw digon. Y maent hefyd yn fugeiliaid heb fedru deall, pob un yn troi i'w ffordd ei hun, a phob un yn edrych am elw iddo'i hun,
56:12 ac yn dweud, "Dewch, af i gyrchu gwin; gadewch i ni feddwi ar ddiod gadarn; bydd yfory'n union fel heddiw, ond yn llawer gwell."

Eilunaddoliaeth Israel

57:1 Y mae'r cyfiawn yn darfod amdano heb neb yn malio; cymerir ymaith bobl deyryngar heb neb yn malio. Ond cyn dyfod drygfyd cymerir ymaith y cyfiawn,
57:2 ac fe â i dangnefedd; a gorffwyso yn ei wely y bydd y sawl sy'n rhodio'n gywir.
57:3 "Dewch yma, chwi blant hudoles, epil y godinebwr a'r butain.
57:4 Pwy yr ydych yn ei wawdio? Ar bwy yr ydych yn gwneud ystumiau ac yn tynnu tafod? Onid plant gwrthryfelgar ydych, ac epil twyll,
57:5 chwi sy'n llosgi gan nwyd dan bob pren derw, dan bob pren gwyrddlas, ac yn aberthu plant yn y glynnoedd, yn holltau'r clogwyni?
57:6 Ymhlith cerrig llyfn y dyffryn y mae dy ddewis; yno y mae dy ran. Iddynt hwy y tywelltaist ddiodoffrwm, ac y dygaist fwydoffrwm. A gaf fi fy nhawelu am hyn?
57:7 Gwnaethost dy wely ar fryn uchel a dyrchafedig, a mynd yno i offrymu aberth.
57:8 Gosodaist dy arwydd ar gefn y drws a'r pyst, a'm gadael i a'th ddinoethi dy hun; aethost i fyny yno i daenu dy wely ac i daro bargen â hwy. 'Rwyt wrth dy fodd yn gorwedd gyda hwy, a gweld eu noethni.
57:9 Ymwelaist â Molech gydag olew, ac amlhau dy beraroglau; anfonaist dy negeswyr i bob cyfeiriad, a'u gyrru hyd yn oed i Sheol.
57:10 Blinaist gan amlder dy deithio, ond ni ddywedaist, 'Dyna ddigon.' Enillaist dy gynhaliaeth, ac am hynny ni ddiffygiaist.
57:11 "Pwy a wnaeth iti arswydo ac ofni, a gwneud iti fod yn dwyllodrus, a'm hanghofio, a pheidio â meddwl amdanaf? Oni fûm ddistaw, a hynny'n hir, a thithau heb fy ofni?
57:12 Cyhoeddaf dy gyfiawnder a'th weithredoedd. Ni fydd dy eilunod o unrhyw les iti;
57:13 pan weiddi, ni fyddant yn dy waredu. Bydd y gwynt yn eu dwyn ymaith i gyd, ac awel yn eu chwythu i ffwrdd. Ond bydd y sawl a ymddiried ynof fi yn meddiannu'r ddaear, ac yn etifeddu fy mynydd sanctaidd."

Cysur i'r Edifeiriol

57:14 Fe ddywedir, "Gosodwch sylfaen, paratowch ffordd; symudwch bob rhwystr oddi ar ffordd fy mhobl."
57:15 Oherwydd fel hyn y dywed yr uchel a dyrchafedig, sydd â'i drigfan yn nhragwyddoldeb, a'i enw'n Sanctaidd: "Er fy mod yn trigo mewn uchelder sanctaidd, 'rwyf gyda'r cystuddiol ac isel ei ysbryd, i adfywio'r rhai isel eu hysbryd, a bywhau calon y rhai cystuddiol.
57:16 Ni fyddaf yn ymryson am byth nac yn dal dig yn dragywydd, rhag i'w hysbryd ballu o'm blaen; oherwydd myfi a greodd eu hanadl.
57:17 Digiais wrtho am ei wanc pechadurus, a'i daro, a throi mewn dicter oddi wrtho; aeth yntau rhagddo'n gyndyn yn ei ffordd ei hun,
57:18 ond gwelais y ffordd yr aeth. Iachâf ef, a rhoi gorffwys iddo;
57:19 cysuraf ef, a rhoi geiriau cysur i'w alarwyr. Heddwch i'r pell ac i'r agos," medd yr ARGLWYDD, "a mi a'i hiachâf ef."
57:20 Ond y mae'r drygionus fel môr tonnog na fedr ymdawelu, a'i ddyfroedd yn corddi llaid a baw.
57:21 "Nid oes heddwch i'r drygionus," medd fy Nuw.

Cysur i'r Edifeiriol

58:1 "Gwaedda'n uchel, paid ag arbed, cod dy lais fel utgorn; mynega eu gwrthryfel i'm pobl, a'u pechod i dŷ Jacob.
58:2 Y maent yn fy ngheisio'n feunyddiol, ac yn deisyfu gwybod fy ffordd; ac fel cenedl sy'n gweithredu cyfiawnder, heb droi cefn ar farn eu Duw, dônt i ofyn barn gyfiawn gennyf, ac y maent yn deisyfu nesáu at Dduw.
58:3 "'Pam y gwnawn ympryd, a thithau heb edrych? Pam y'n cystuddiwn ein hunain, a thithau heb sylwi?' meddant. Yn wir, wrth ymprydio, ceisio'ch lles eich hunain yr ydych, a gyrru ar eich gweision yn galetach.
58:4 Y mae eich ympryd yn arwain i gynnen a chweryl, a tharo â dyrnod maleisus; nid yw'r fath ddiwrnod o ympryd yn dwyn eich llais i fyny uchod.
58:5 Ai dyma'r math o ympryd a ddewisais – diwrnod i rywun ei gystuddio'i hun? A yw i grymu ei ben fel brwynen, a gwneud ei wely mewn sachliain a lludw? Ai hyn a elwi yn ympryd, yn ddiwrnod i ryngu bodd i'r ARGLWYDD?
58:6 "Onid dyma'r dydd ympryd a ddewisais: tynnu ymaith rwymau anghyfiawn, a llacio clymau'r iau, gollwng yn rhydd y rhai a orthrymwyd, a dryllio pob iau?
58:7 Onid rhannu dy fara gyda'r newynog, a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ, dilladu'r noeth pan y'i gweli, a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun?
58:8 Yna fe ddisgleiria d'oleuni fel y wawr, a byddi'n ffynnu mewn iechyd yn fuan; bydd dy gyfiawnder yn mynd o'th flaen, a gogoniant yr ARGLWYDD yn dy ddilyn.
58:9 Pan elwi, bydd yr ARGLWYDD yn ateb, a phan waeddi, fe ddywed, 'Dyma fi.' "Os symudi'r gorthrwm ymaith, os peidi â chodi bys i gyhuddo ar gam,
58:10 os rhoddi o'th fodd i'r anghenus, a diwallu angen y cystuddiol, yna cyfyd goleuni i ti o'r tywyllwch, a bydd y caddug fel canol dydd.
58:11 Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser, yn diwallu dy angen mewn cyfnod sych, ac yn cryfhau dy esgyrn; yna byddi fel gardd ddyfradwy, ac fel ffynnon ddŵr a'i dyfroedd heb ballu.
58:12 Byddi rhai ohonoch yn adeiladu'r hen furddunnod ac yn codi ar yr hen sylfeini; fe'th elwir yn gaewr bylchau, ac yn adferwr tai adfeiliedig.
58:13 "Os peidi â sathru'r Saboth dan draed, a pheidio â cheisio dy les dy hun ar fy nydd sanctaidd, ond galw'r Saboth yn hyfrydwch, a dydd sanctaidd yr ARGLWYDD yn ogoneddus; os anrhydeddi ef, trwy beidio â theithio, na cheisio dy les na thrafod dy faterion dy hun;
58:14 yna cei foddhad yn yr ARGLWYDD. Cei farchogaeth ar uchelfannau'r ddaear, a phorthaf di ag etifeddiaeth dy dad Jacob." Y mae genau'r ARGLWYDD wedi llefaru.

Pechod, Cyffes ac Adferiad y Bobl

59:1 Nid aeth llaw'r ARGLWYDD yn rhy fyr i achub, na'i glust yn rhy drwm i glywed;
59:2 ond eich camweddau chwi a ysgarodd rhyngoch a'ch Duw, a'ch pechodau chwi a barodd iddo guddio'i wyneb fel nad yw'n eich clywed.
59:3 Y mae'ch dwylo'n halogedig gan waed, a'ch bysedd gan gamwedd; y mae'ch gwefusau'n dweud celwydd, a'ch tafod yn sibrwd twyll.
59:4 Nid oes erlynydd teg na diffynnydd gonest, ond y maent yn ymddiried mewn gwegi ac yn llefaru twyll, yn feichiog o niwed ac yn esgor ar ddrygioni.
59:5 Y maent yn deor wyau gwiberod, ac yn nyddu gwe pryf' copyn; os bwyti o'r wyau, byddi farw; os torri un, daw neidr allan.
59:6 Nid yw gwe pryf' copyn yn gwneud dillad; nid oes neb yn gwneud gwisg ohoni; ofer yw eu gweithredoedd i gyd, a'u dwylo'n llunio trais.
59:7 Y mae eu traed yn rhuthro at gamwedd, ac yn brysio i dywallt gwaed diniwed; bwriadau maleisus yw eu bwriadau, distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd;
59:8 ni wyddant am ffordd heddwch, nid oes cyfiawnder ar eu llwybrau; y mae eu ffyrdd i gyd yn gam, ac nid oes heddwch i neb sy'n eu cerdded.
59:9 Am hynny, ciliodd barn oddi wrthym, ac nid yw cyfiawnder yn cyrraedd atom; edrychwn am oleuni, ond tywyllwch a gawn, am ddisgleirdeb, ond mewn caddug y cerddwn;
59:10 'rydym yn ymbalfalu ar y pared fel deillion, yn ymbalfalu fel rhai heb lygaid; 'rydym yn baglu ganol dydd fel pe bai'n gyfnos, fel y meirw yn y cysgodion.
59:11 'Rydym i gyd yn chwyrnu fel eirth, yn cwyno ac yn cwyno fel colomennod; 'rydym yn disgwyl am gyfiawnder, ond nis cawn, am iachawdwriaeth, ond ciliodd oddi wrthym.
59:12 Y mae ein troseddau yn niferus ger dy fron, a'n pechodau yn tystio yn ein herbyn; y mae'n troseddau'n amlwg inni, ac yr ydym yn cydnabod ein camweddau:
59:13 gwrthryfela a gwadu'r ARGLWYDD, troi ymaith oddi wrth ein Duw, llefaru trawster a gwrthgilio, myfyrio a dychmygu geiriau celwyddog.
59:14 Gwthir barn o'r neilltu, ac y mae cyfiawnder yn cadw draw, oherwydd cwympodd gwirionedd ar faes y dref, ac ni all uniondeb ddod i mewn.
59:15 Y mae gwirionedd yn eisiau, ac ysbeilir yr un sy'n ymwrthod â drygioni. Gwelodd yr ARGLWYDD hyn, ac yr oedd yn ddrwg yn ei olwg nad oedd barn i'w chael.
59:16 Gwelodd nad oedd neb yn malio, rhyfeddodd nad oedd neb yn ymyrryd; yna daeth ei fraich ei hun â buddugoliaeth iddo, a chynhaliodd ei gyfiawnder ef.
59:17 Gwisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; gwisgodd ddillad dialedd, a rhoi eiddigedd fel mantell amdano.
59:18 Bydd yn talu i bawb yn ôl ei haeddiant – llid i'w wrthwynebwyr, cosb i'w elynion; bydd yn rhoi eu haeddiant i'r ynysoedd.
59:19 Felly, ofnant enw'r ARGLWYDD yn y gorllewin, a'i ogoniant yn y dwyrain; oherwydd fe ddaw fel afon mewn llif yn cael ei gyrru gan ysbryd yr ARGLWYDD.
59:20 "Fe ddaw gwaredydd i Seion, at y rhai yn Jacob sy'n cefnu ar wrthryfel," medd yr ARGLWYDD.
59:21 "Dyma," medd yr ARGLWYDD, "fy nghyfamod â hwy. Bydd fy ysbryd i arnat, a gosodaf fy ngeiriau yn dy enau; nid ymadawant oddi wrthyt nac oddi wrth dy blant, na phlant dy blant, o'r pryd hwn hyd byth," medd yr ARGLWYDD.

Gogoniant Seion

60:1 "Cod, llewyrcha, oherwydd daeth dy oleuni; llewyrchodd gogoniant yr ARGLWYDD arnat.
60:2 Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear, a'r fagddu dros y bobloedd, bydd yr ARGLWYDD yn llewyrchu arnat ti, a gwelir ei ogoniant arnat.
60:3 Fe ddaw'r cenhedloedd at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy wawr.
60:4 "Cod dy lygaid ac edrych o'th gwmpas; y maent i gyd yn ymgasglu i ddod atat, yn dwyn dy feibion a'th ferched o bell, ac yn eu cludo ar eu hystlys;
60:5 pan weli, bydd dy wyneb yn gloywi, bydd dy galon yn llawn cyffro a llawenydd; troir atat gyflawnder y môr, a daw golud y cenhedloedd yn eiddo iti.
60:6 Bydd gyrroedd o gamelod yn dy orchuddio, daw camelod masnach o Midian, Effa a Sheba; byddant i gyd yn cludo aur a thus, ac yn mynegi moliant yr ARGLWYDD.
60:7 Cesglir holl ddefaid Cedar atat, a bydd hyrddod Nebaioth at dy wasanaeth; offrymir hwy'n aberthau derbyniol ar fy allor, ac ychwanegaf at ogoniant fy nhŷ gogoneddus.
60:8 "Pwy yw'r rhain sy'n ehedeg fel cwmwl, ac fel colomennod i'w nythle?
60:9 Y mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu, a llongau Tarsis ar y blaen, i ddod â'th blant o bell, a'u harian a'u haur gyda hwy, er anrhydedd i'r ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel; oherwydd y mae wedi dy ogoneddu.
60:10 "Dieithriaid fydd yn codi dy furiau, a'u brenhinoedd yn dy wasanaethu, oherwydd, er i mi yn fy nig dy daro, penderfynais dosturio wrthyt.
60:11 Bydd dy byrth yn agored bob amser, heb eu cau ddydd na nos, er mwyn dwyn golud y cenhedloedd atat, gyda'u brenhinoedd yn osgordd.
60:12 Oherwydd difethir y genedl a'r deyrnas sy'n gwrthod dy wasanaethu; dinistrir y cenhedloedd hynny'n llwyr.
60:13 Daw gogoniant Lebanon atat – y ffynidwydd, y ffawydd a'r pren bocs – i harddu man fy nghysegr, ac anrhydeddu'r lle y gosodaf fy nhraed.
60:14 Daw plant dy ormeswyr atat yn ostyngedig; bydd pob un a'th ddiystyrodd yn ymostwng wrth dy draed; galwant di yn Ddinas yr ARGLWYDD, Seion Sanct Israel.
60:15 "Yn lle dy fod yn wrthodedig ac yn atgas, heb neb yn tramwyo trwot, fe'th wnaf yn ogoniant tragwyddol, ac yn llawenydd o oes i oes.
60:16 Cei sugno llaeth cenhedloedd, a'th fagu ar fronnau brenhinoedd, a chei wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw dy achubydd, ac mai Duw cadarn Jacob yw dy waredydd.
60:17 "Yn lle pres dygaf aur, yn lle haearn dygaf arian, ac yn lle coed, bres, yn lle cerrig, haearn; gwnaf dy lywodraethwyr yn heddychol a'th feistradoedd yn gyfiawn.
60:18 Ni chlywir mwyach am drais yn dy wlad, nac am ddistryw na dinistr o fewn dy derfynau, ond gelwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a'th byrth yn Foliant.
60:19 "Nid yr haul fydd mwyach yn goleuo i ti yn y dydd, ac nid y lleuad fydd yn llewyrchu i ti yn y nos; ond yr ARGLWYDD fydd yn oleuni di–baid i ti, a'th Dduw fydd yn ddisgleirdeb i ti.
60:20 Ni fachluda dy haul mwyach, ac ni phalla dy leuad; oherwydd yr ARGLWYDD fydd yn oleuni di-baid i ti, a daw diwedd ar ddyddiau dy alar.
60:21 Bydd dy bobl i gyd yn gyfiawn, yn gwreiddio yn y tir am byth, yn flaguryn a blennais – fy ngwaith fy hun i'm gogoneddu.
60:22 Daw'r lleiaf yn llwyth, a'r ychydig yn genedl gref. Myfi yw'r ARGLWYDD; brysiaf i wneud hyn yn ei amser."

Blwyddyn Ffafr Duw

61:1 Y mae ysbryd yr Arglwydd DDUW arnaf, oherwydd i'r ARGLWYDD fy eneinio i gyhoeddi newyddion da i'r tlodion, a chysuro'r toredig o galon; i gyhoeddi rhyddid i'r caethion, a rhoi gollyngdod i'r carcharorion;
61:2 i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD a dydd dial ein Duw ni; i ddiddanu pawb sy'n galaru,
61:3 a gofalu am alarwyr Seion; a rhoi iddynt goron yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, mantell moliant yn lle digalondid. Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant.
61:4 Ailadeiladant hen adfeilion, cyfodant fannau a fu'n anghyfannedd; atgyweiriant ddinasoedd diffaith ac anghyfanhedd–dra llawer oes.
61:5 Bydd dieithriaid yn gweini fel bugeiliaid i'ch praidd, ac estroniaid fydd eich garddwyr a'ch gwinllanwyr.
61:6 Gelwir chwi'n offeiriaid yr ARGLWYDD, a'ch enwi'n weinidogion ein Duw ni; cewch fwyta o olud y cenhedloedd ac ymffrostio yn eu cyfoeth.
61:7 Yn lle'r rhan ddwbl o gywilydd, yn lle'r gwarth a'r cwynfan a ddaeth i'w rhan, fe etifeddant ran ddwbl yn eu gwlad, a chael llawenydd di-baid.
61:8 "Oherwydd 'rwyf fi, yr ARGLWYDD, yn hoffi cyfiawnder, ac yn casáu trais a chamwri; rhof iddynt eu gwobr yn ddi–feth, a gwnaf gyfamod tragwyddol â hwy.
61:9 Bydd eu plant yn adnabyddus ymysg y cenhedloedd, a'u hil ymhlith y bobloedd; bydd pawb fydd yn eu gweld yn eu cydnabod yn genedl a fendithiodd yr ARGLWYDD."
61:10 Llawenychaf yn fawr yn yr ARGLWYDD, gorfoleddaf yn fy Nuw; canys gwisgodd amdanaf wisgoedd iachawdwriaeth, taenodd fantell cyfiawnder drosof, fel y bydd priodfab yn gwisgo'i dorch, a phriodferch yn ei haddurno'i hun â'i thlysau.
61:11 Fel y gwna'r ddaear i'r blagur dyfu, a'r ardd i'r hadau egino, felly y gwna'r ARGLWYDD Dduw i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd.

Enw Newydd i Seion

62:1 Er mwyn Seion ni thawaf, er mwyn Jerwsalem ni fyddaf ddistaw, hyd oni ddisgleiria'i chyfiawnder yn llachar, a'i hiachawdwriaeth fel ffagl yn llosgi.
62:2 Bydd y cenhedloedd yn gweld dy gyfiawnder, a'r holl frenhinoedd dy ogoniant; gelwir arnat enw newydd, a roddir i ti o enau'r ARGLWYDD.
62:3 Byddi'n goron odidog yn llaw'r ARGLWYDD, ac yn dorch frenhinol yn llaw dy Dduw.
62:4 Ni'th enwir mwyach, Gwrthodedig, ac ni ddywedir drachefn am dy wlad, Anghyfannedd; eithr enwir di, Heffsiba, a'th wlad, Beula, oherwydd ymhyfryda'r ARGLWYDD ynot, a phriodir dy wlad.
62:5 Fel y bydd llanc yn priodi merch ifanc, bydd dy adeiladydd yn dy briodi di; fel y bydd priodfab yn llawen yn ei briod, felly y bydd dy Dduw yn llawen ynot ti.
62:6 Ar dy furiau di, O Jerwsalem, gosodais wylwyr nad ydynt yn tewi ddydd na nos; chwi sy'n galw ar yr ARGLWYDD, peidiwch â distewi,
62:7 na rhoi llonydd iddo, nes iddo sefydlu Jerwsalem, a'i gwneud yn destun moliant trwy'r byd.
62:8 Tyngodd yr ARGLWYDD i'w ddeheulaw ac i'w fraich nerthol, "Ni roddaf dy ŷd byth eto'n ymborth i'th elyn, ac ni chaiff dieithriaid yfed y gwin y llafuriaist amdano;
62:9 ond y rhai a'i casgla fydd yn bwyta, ac yn diolch i'r ARGLWYDD amdano; y rhai a'i cynnull fydd yn yfed oddi mewn i gynteddau fy nghysegr."
62:10 Ewch i mewn, ewch i mewn drwy'r pyrth, paratowch ffordd i'r bobloedd; codwch briffordd a symudwch y cerrig, dyrchafwch arwydd i'r bobloedd.
62:11 Clywch, cyhoeddodd yr ARGLWYDD i bellafoedd y ddaear, "Dywedwch wrth ferch Seion, 'Y mae dy achubydd yn dyfod; y mae ei wobr yn ei law, ac y mae ei dâl ganddo.'"
62:12 Fe'u gelwir hwy yn Bobl Sanctaidd, Gwaredigion yr ARGLWYDD, ac fe'th elwir di, Yr un a geisiwyd, Dinas nas gwrthodwyd.

Dydd Dial a Gwaredigaeth

63:1 Pwy yw hwn sy'n dod o Edom, yn dod o Bosra, a'i ddillad yn goch; y mae ei wisg yn hardd, a'i gerddediad yn llawn o nerth? "Myfi yw, yn cyhoeddi cyfiawnder, ac yn abl i waredu."
63:2 Pam y mae dy wisg yn goch, a'th ddillad fel un yn sathru mewn gwinwryf?
63:3 "Bûm yn sathru'r grawnwin fy hunan, ac nid oedd neb o'r bobl gyda mi; sethrais hwy yn fy llid, a'u mathru yn fy nicter. Ymdaenodd eu gwaed dros fy nillad nes cochi fy ngwisgoedd i gyd;
63:4 oherwydd 'roedd fy mryd ar ddydd dial, a daeth fy mlwyddyn i waredu.
63:5 Edrychais, ond nid oedd neb i'm helpu, a synnais nad oedd neb i'm cynnal; fy mraich fy hun a'm gwaredodd, a chynhaliwyd fi gan fy nicter.
63:6 Sethrais y bobl yn fy llid, a'u meddwi yn fy nicter, a thywallt eu gwaed ar lawr."

Mawl a Gweddi

63:7 Mynegaf ffyddlondeb yr ARGLWYDD, a chanu ei glodydd am y cyfan a roddodd yr ARGLWYDD i ni, a'i ddaioni mawr i dŷ Israel, am y cyfan a roddodd iddynt o'i drugaredd, ac o lawnder ei gariad di-sigl.
63:8 Fe ddywedodd, "Yn awr, fy mhobl i ydynt, plant nad ydynt yn twyllo", a daeth yn waredydd iddynt yn eu holl gystuddiau.
63:9 Nid cennad nac angel, ond ef ei hun a'u hachubodd; yn ei gariad ac yn ei dosturi y gwaredodd hwy, a'u codi a'u cario drwy'r dyddiau gynt.
63:10 Ond buont yn wrthryfelgar, a gofidio'i ysbryd sanctaidd; troes yntau'n elyn iddynt, ac ymladd yn eu herbyn.
63:11 Yna fe gofiwyd am y dyddiau gynt, am Moses a'i bobl. Ple mae'r un a ddygodd allan o'r môr fugail ei braidd? Ple mae'r un a roes yn eu canol hwy ei ysbryd sanctaidd,
63:12 a pheri i'w fraich ogoneddus arwain deheulaw Moses, a hollti'r dyfroedd o'u blaen, i wneud iddo'i hun enw tragwyddol?
63:13 Arweiniodd hwy trwy'r dyfnderoedd, fel arwain march yn yr anialwch;
63:14 mor sicr eu troed ag ych yn mynd i lawr i'r dyffryn y tywysodd ysbryd yr ARGLWYDD hwy. Felly yr arweiniaist dy bobl, a gwneud iti enw ardderchog.
63:15 Edrych i lawr o'r nefoedd, o'th annedd sanctaidd, ardderchog, a gwêl. Ple mae dy angerdd a'th nerth, tynerwch dy galon a'th dosturi? Paid ag ymatal rhagom,
63:16 oherwydd ti yw ein tad. Er nad yw Abraham yn ein hadnabod, nac Israel yn ein cydnabod, tydi, yr ARGLWYDD, yw ein tad, Ein Gwaredydd yw dy enw erioed.
63:17 Pam, ARGLWYDD, y gadewaist i ni grwydro oddi ar dy ffyrdd, a chaledu ein calonnau rhag dy ofni? Dychwel, er mwyn dy weision, llwythau dy etifeddiaeth.
63:18 Pam y sathrodd annuwiolion dy gysegr, ac y sarnodd ein gelynion dy le sanctaidd?
63:19 Eiddot ti ydym ni erioed; ond ni fuost yn rheoli drostynt hwy, ac ni alwyd dy enw arnynt.
64:1 O na fuaset wedi rhwygo'r nefoedd, a dod i lawr, a'r mynyddoedd yn toddi o'th flaen,
64:2 fel tân yn llosgi prysgwydd, fel dŵr yn berwi ar dân, er mwyn i'th enw ddod yn hysbys i'th gaseion, ac i'r cenhedloedd grynu yn dy ŵydd!
64:3 Pan wnaethost bethau ofnadwy heb i ni eu disgwyl, daethost i lawr, a thoddodd y mynyddoedd o'th flaen.
64:4 Ni chlywodd neb erioed, ni ddaliodd clust, ni chanfu llygad unrhyw Dduw ond tydi, a wnâi ddim dros y rhai sy'n disgwyl wrtho.
64:5 'Rwyt yn cyfarfod â'r rhai sy'n hoffi gwneud cyfiawnder, y rhai sy'n cofio am dy ffyrdd. Er dy fod yn digio pan oeddem ni'n pechu, eto 'roeddem yn dal i droseddu yn dy erbyn.
64:6 Aethom i gyd fel peth aflan, a'n holl gyfiawnderau fel clytiau budron; yr ydym i gyd wedi crino fel deilen, a'n camweddau yn ein chwythu i ffwrdd fel y gwynt.
64:7 Ac nid oes neb yn galw ar dy enw, nac yn trafferthu i afael ynot; cuddiaist dy wyneb oddi wrthym, a'n traddodi i afael ein camweddau.
64:8 Ond tydi, O ARGLWYDD, yw ein tad; ni yw'r clai a thi yw'r crochenydd; gwaith dy ddwylo ydym i gyd.
64:9 Paid â digio'n llwyr, ARGLWYDD, na chofio camwedd am byth. Edrych, yn awr, dy bobl ydym ni i gyd.
64:10 Aeth dy ddinasoedd sanctaidd yn anialwch; y mae Seion yn anialwch a Jerwsalem yn anghyfannedd.
64:11 Y mae ein tŷ sanctaidd a hardd, lle y byddai'n hynafiaid yn dy foliannu, wedi mynd yn lludw, a phob peth annwyl gennym yn anrhaith.
64:12 A ymateli di, ARGLWYDD, oherwydd y pethau hyn? A dewi di, a'n cystuddio'n llwyr?

Barn ac Iachawdwriaeth

65:1 "Yr oeddwn yno i'm ceisio gan rai nad oeddent yn holi amdanaf, yno i'm cael gan rai na chwilient amdanaf. Dywedais, 'Edrychwch, dyma fi', wrth genedl na alwai ar fy enw.
65:2 Estynnais fy nwylo'n feunyddiol at bobl wrthryfelgar, rhai oedd yn rhodio ffordd drygioni, ac yn dilyn eu mympwy eu hunain,
65:3 rhai oedd yn fy mhryfocio'n ddi–baid yn fy wyneb, yn aberthu mewn gerddi ac arogldarthu ar briddfeini,
65:4 yn eistedd ymhlith y beddau, ac yn treulio'r nos mewn mynwentydd, yn bwyta cig moch, a'u llestri'n llawn o gawl aflan.
65:5 Dywedant, 'Cadw draw, paid â'm cyffwrdd, 'rwy'n rhy sanctaidd i ti.' Y mae'r bobl hyn yn fwg yn fy ffroenau, yn dân sy'n mygu drwy'r dydd.
65:6 Ond y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu o'm blaen; ni thawaf, ond fe dalaf yn ôl; i'r byw y talaf yn ôl
65:7 eich camweddau chwi a'ch hynafiaid," medd yr ARGLWYDD. "Am iddynt arogldarthu ar y mynyddoedd, a'm cablu ar y bryniau, mesuraf eu tâl iddynt i'r byw."
65:8 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Fel pan geir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, 'Paid â'i ddinistrio, oherwydd y mae bendith ynddo', felly y gwnaf finnau er mwyn fy ngweision; ni ddinistriaf yr un ohonynt.
65:9 Ond paraf i epil ddod o Jacob, a rhai i etifeddu fy mynyddoedd o Jwda; bydd y rhai a ddewisaf yn eu hetifeddu, a'm gweision yn trigo yno.
65:10 Bydd Saron yn borfa defaid, a dyffryn Achor yn orweddfa gwartheg, ar gyfer fy mhobl sy'n fy ngheisio.
65:11 "Ond chwi sy'n gwrthod yr ARGLWYDD, sy'n diystyru fy mynydd sanctaidd, sy'n gosod bwrdd i'r duw Ffawd ac yn llenwi cwpanau o win cymysg i Hap,
65:12 dedfrydaf chwi i'r cleddyf, a'ch darostwng i gyd i'ch lladd; canys gelwais, ond ni roesoch ateb, lleferais, ond ni wrandawsoch. Gwnaethoch bethau sy'n atgas gennyf, a dewis yr hyn nad yw wrth fy modd."
65:13 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: "Edrychwch, bydd fy ngweision yn bwyta a chwithau'n newynu; bydd fy ngweision yn yfed a chwithau'n sychedu; bydd fy ngweision yn llawenhau a chwithau'n cywilyddio;
65:14 bydd fy ngweision yn canu o lawenydd a chwithau'n griddfan mewn gofid calon, ac yn galaru mewn ing.
65:15 Erys eich enw yn felltith gan f'etholedigion; bydd yr Arglwydd DDUW yn dy ddifa, ond fe rydd enw gwahanol ar ei weision.
65:16 Bydd pawb ar y ddaear sy'n ceisio bendith yn ceisio'i fendith yn enw Duw gwirionedd, a phawb ar y ddaear sy'n tyngu llw yn tyngu ei lw yn enw Duw gwirionedd." "Anghofir y treialon gynt, ac fe'u cuddir o'm golwg.

Nefoedd Newydd a Daear Newydd

65:17 Yr wyf fi'n creu nefoedd newydd a daear newydd; ni chofir y pethau gynt na meddwl amdanynt.
65:18 Byddwch lawen, gorfoleddwch yn ddi-baid am fy mod i yn creu, ie, yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a'i phobl yn llawenydd.
65:19 Gorfoleddaf yn Jerwsalem, llawenychaf yn fy mhobl; ni chlywir ynddi mwyach na sŵn wylofain na chri trallod.
65:20 Ni bydd yno byth eto blentyn yn dihoeni, na henwr heb gyflawni nifer ei flynyddoedd; llanc fydd yr un sy'n marw'n ganmlwydd, a dilornir y sawl nad yw'n cyrraedd ei gant.
65:21 Byddant yn adeiladu tai ac yn byw ynddynt, yn plannu gwinllannoedd ac yn bwyta'u ffrwyth;
65:22 ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu, nac yn plannu ac arall yn bwyta. Bydd fy mhobl yn byw cyhyd â choeden, a'm hetholedig yn llwyr fwynhau gwaith eu dwylo.
65:23 Ni fyddant yn llafurio'n ofer, nac yn magu plant i drallod; cenhedlaeth a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD ydynt, hwy a'u hepil hefyd.
65:24 Byddaf yn eu hateb cyn iddynt alw, ac yn eu gwrando wrth iddynt lefaru.
65:25 Bydd y blaidd a'r oen yn cydbori, a'r llew yn bwyta gwair fel ych; a llwch fydd bwyd y sarff. Ni wnânt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd," medd yr ARGLWYDD.

Gobaith yn Nuw

66:1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Y nefoedd yw fy ngorsedd, a'r ddaear fy nhroedfainc; ple, felly, y codwch dŷ i mi, a phle y caf fan i orffwys?
66:2 Fy llaw i a wnaeth y pethau hyn i gyd, a'r eiddof fi yw pob peth," medd yr ARGLWYDD. "Ond fe edrychaf ar y truan, yr un o ysbryd gostyngedig, ac sy'n parchu fy ngair.
66:3 "Prun ai lladd ych ai lladd dyn, ai aberthu oen ai tagu ci, ai offrymu bwydoffrwm ai aberthu gwaed moch, ai arogldarthu thus ai bendithio eilun, dewis eu ffordd eu hunain y maent, ac ymhyfrydu yn eu ffeidd–dra
66:4 Ond dewisaf fi ofid iddynt, a dwyn arnynt yr hyn a ofnant; oherwydd pan elwais, ni chefais ateb, pan leferais, ni wrandawsant; gwnaethant bethau sydd yn atgas gennyf, a dewis yr hyn nad yw wrth fy modd."
66:5 Clywch air yr ARGLWYDD, chwi sy'n parchu ei air: "Dywedodd eich tylwyth sy'n eich casáu, ac sy'n eich gwrthod oherwydd fy enw, 'Bydded i'r ARGLWYDD gael ei ogoneddu, er mwyn i ni weld eich llawenydd.' Ond cywilyddir hwy.
66:6 Clywch! Gwaedd o'r ddinas, llef o'r deml, sŵn yr ARGLWYDD yn talu'r pwyth i'w elynion.
66:7 "A fydd gwraig yn esgor cyn dechrau ei phoenau? A yw'n geni plentyn cyn i'w gwewyr ddod arni?
66:8 A glywodd rhywun am y fath beth? A welodd rhywun rywbeth tebyg? A ddaw gwlad i fod mewn un dydd? A enir cenedl ar unwaith? Ond gyda bod Seion yn clafychu, bydd yn esgor ar ei phlant.
66:9 A ddygaf fi at y geni heb beri esgor?" medd yr ARGLWYDD. "A baraf fi esgor ac yna'i rwystro?" medd dy Dduw.
66:10 "Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch yn falch o'i herwydd, bawb sy'n ei charu; llawenhewch gyda hi â'ch holl galon, bawb a fu'n galaru o'i phlegid,
66:11 er mwyn ichwi fedru sugno a chael eich diwallu o'i bronnau diddanus, er mwyn ichwi fedru tynnu arni a chael eich diddanu gan ddigonedd ei gogoniant."
66:12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Edrychwch, 'rwy'n estyn iddi heddwch fel afon, a golud y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol. Cewch sugno, cewch eich cludo ar ei hystlys, a'ch siglo ar ei gliniau.
66:13 Fel y cysurir plentyn gan ei fam byddaf fi'n eich cysuro chwi; ac yn Jerwsalem y'ch cysurir.
66:14 Cewch weld hyn, a bydd yn llawenydd i'ch calon, bydd eich holl gorff yn ffynnu fel llysieuyn; dangosir bod llaw yr ARGLWYDD gyda'i weision, a'i lid yn erbyn ei elynion.
66:15 Edrychwch, y mae'r ARGLWYDD yn dod â thân, a'i gerbydau fel corwynt, i dalu'r pwyth mewn llid dicllon, ac i geryddu â fflamau tân.
66:16 Oherwydd trwy dân y bydd yr ARGLWYDD yn barnu, a thrwy gleddyf yn erbyn pob cnawd; a lleddir llawer gan yr ARGLWYDD.
66:17 "Pawb sy'n ymgysegru ac yn eu puro eu hunain ar gyfer y gerddi, ac yn gorymdeithio trwyddynt, ac yn bwyta cig moch, ymlusgiaid, a llygod – daw diwedd ar eu gwaith a'u bwriad," medd yr ARGLWYDD.
66:18 "'Rwyf fi'n dod i gasglu ynghyd bob cenedl ac iaith; a dônt i weld fy ngogoniant.
66:19 Gosodaf arwydd yn eu mysg, ac anfonaf rai o'u gwaredigion at y cenhedloedd, i Tarsis, Put, Lydia, Mesech, Tubal a Jafan, ac ynysoedd pell, na chlywsant sôn amdanaf na gweld fy ngogoniant; a chyhoeddant hwy fy ngogoniant i'r cenhedloedd.
66:20 Dygant eich tylwyth i gyd o blith yr holl genhedloedd yn fwydoffrwm i'r ARGLWYDD; ar feirch, mewn cerbydau a gwageni, ar fulod a chamelod y dônt i'm mynydd sanctaidd, Jerwsalem," medd yr ARGLWYDD, "yn union fel y bydd plant Israel yn dwyn y bwydoffrwm mewn llestr glân i dŷ'r ARGLWYDD.
66:21 A byddaf yn dewis rhai ohonynt yn offeiriaid ac yn Lefiaid," medd yr ARGLWYDD.
66:22 "Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydd, yr wyf fi yn eu creu, yn parhau ger fy mron," medd yr ARGLWYDD, "felly y parha eich had a'ch enw chwi.
66:23 O fis i fis, o Saboth i Saboth, daw pob cnawd i ymgrymu o'm blaen," medd yr ARGLWYDD.
66:24 "Ac ânt allan a gweld celanedd y rhai a bechodd yn f'erbyn; ni bydd eu pryf yn marw, na'u tân yn diffodd; a byddant yn ffiaidd gan bawb."