LLYFR JEREMEIA

Jeremeia

1:1 Geiriau Jeremeia fab Hilceia, un o'r offeiriaid oedd yn Anathoth, yn nhiriogaeth Benjamin.
1:2 Ato ef y daeth gair yr ARGLWYDD yn nyddiau Joseia fab Amon, brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o'i deyrnasiad.
1:3 Daeth hefyd yn ystod dyddiau Jehoiacim, mab Joseia brenin Jwda, a hyd ddiwedd yr un mlynedd ar ddeg o deyrnasiad Sedeceia, mab Joseia brenin Jwda, sef hyd at gaethgludiad Jerwsalem yn y pumed mis.

Galw Jeremeia

1:4 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
1:5 "Cyn i mi dy lunio yn y groth, fe'th adnabûm; a chyn dy eni, fe'th gysegrais; rhoddais di'n broffwyd i'r cenhedloedd."
1:6 Dywedais innau, "O Arglwydd DDUW, ni wn pa fodd i lefaru, oherwydd bachgen wyf fi."
1:7 Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Paid â dweud, 'Bachgen wyf fi'; oherwydd fe ei at bawb yr anfonaf di atynt, a llefaru pob peth a orchmynnaf i ti.
1:8 Paid ag ofni o'u hachos, oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu," medd yr ARGLWYDD.
1:9 Yna estynnodd yr ARGLWYDD ei law a chyffwrdd â'm genau; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau.
1:10 Edrych, fe'th osodais di heddiw dros y cenhedloedd a thros y teyrnasoedd, i ddiwreiddio ac i dynnu i lawr, i ddifetha ac i ddymchwelyd, i adeiladu ac i blannu."

Dwy Weledigaeth

1:11 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, "Jeremeia, beth a weli di?" Dywedais innau, "Yr wyf yn gweld gwialen almon."
1:12 Atebodd yr ARGLWYDD, "Gwelaist yn gywir, oherwydd yr wyf fi'n gwylio fy ngair i'w gyflawni."
1:13 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf yr eildro a dweud, "Beth a weli di?" Dywedais innau, "Yr wyf yn gweld crochan yn berwi, a'i ogwydd o'r gogledd."
1:14 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "o'r gogledd yr ymarllwys dinistr dros holl drigolion y tir.
1:15 Oherwydd dyma fi'n galw holl deuluoedd teyrnas y gogledd," medd yr ARGLWYDD, "a dônt a gosod bob un ei orsedd ar drothwy pyrth Jerwsalem, yn erbyn ei holl furiau o'u hamgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda;
1:16 a thraethaf fy marnedigaeth arnynt am eu holl gamwedd yn cefnu arnaf fi, gan arogldarthu i dduwiau eraill, ac addoli gwaith eu dwylo eu hunain.
1:17 "Torcha dithau dy wisg; cod a llefara wrthynt bob peth a orchmynnaf i ti. Paid ag arswydo o'u hachos, rhag i mi dy ddistrywio di o'u blaen.
1:18 A rhof finnau di heddiw yn ddinas gaerog, yn golofn haearn ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda a'i thywysogion, ei hoffeiriaid a phobl y wlad.
1:19 Ymladdant yn dy erbyn, ond ni'th orchfygant oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu," medd yr ARGLWYDD.

Gofal Duw dros Israel

2:1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2:2 "Dos, a chyhoedda yng nghlyw Jerwsalem, a dywed: 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Cofiaf di am dy deyrngarwch yn dy ieuenctid, ac am dy serch yn ddyweddi, ac am iti fy nghanlyn yn y diffeithwch, mewn tir heb ei hau.
2:3 Yr oedd Israel yn gysegredig i'r ARGLWYDD, ac yn flaenffrwyth ei gnwd. Euog oedd pwy bynnag a'i bwytaodd; daeth dinistr arno,'" medd yr ARGLWYDD.

Pechodau'r Hynafiaid

2:4 Clywch air yr ARGLWYDD, O dŷ Jacob, a holl deuluoedd tŷ Israel.
2:5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Pa fai a gafodd eich hynafiaid ynof, i ymbellhau oddi wrthyf, i rodio ar ôl oferedd, a mynd yn ofer?
2:6  Ni ddywedasant, 'Ple mae'r ARGLWYDD a'n dygodd i fyny o'r Aifft, a'n harwain yn y diffeithwch, mewn tir anial, llawn o dyllau, tir sychder a thywyllwch dudew, tir nas troediwyd erioed, ac na thrigodd neb ynddo?'
2:7 Dygais chwi i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a'i daioni; ond daethoch i mewn a halogi fy nhir, a gwneud fy etifeddiaeth yn ffieidd-dra.
2:8 Ni ddywedodd yr offeiriaid, 'Ple mae'r ARGLWYDD?' Ni fu i'r rhai oedd yn trin y gyfraith f'adnabod, a throseddodd y bugeiliaid yn f'erbyn; proffwydodd y proffwydi trwy Baal, gan ddilyn pethau dilesâd.

Yr Arglwydd yn Cyhuddo'i Bobl

2:9 "Am hyn, fe'ch cyhuddaf drachefn," medd yr ARGLWYDD, "gan gyhuddo hefyd blant eich plant.
2:10 Tramwywch drwy ynysoedd Chittim ac edrychwch; anfonwch i Cedar, ystyriwch a gwelwch a fu'r fath beth.
2:11 A fu i unrhyw genedl newid ei duwiau, a hwythau heb fod yn dduwiau? Ond rhoddodd fy mhobl eu gogoniant yn gyfnewid am bethau di-lesâd.
2:12 O nefoedd, rhyfeddwch at hyn; arswydwch, ac ewch yn gwbl ddiffaith," medd yr ARGLWYDD.
2:13 "Yn wir, gwnaeth fy mhobl ddau ddrwg: fe'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, a chloddio iddynt eu hunain bydewau, pydewau toredig, na allant ddal dŵr.

Canlyniadau Anffyddlondeb Israel

2:14 "Ai caethwas yw Israel? Neu a anwyd ef yn gaeth? Pam, ynteu, yr aeth yn ysbail?
2:15 Rhuodd y llewod a chodi eu llais yn ei erbyn. Gwnaethant ei dir yn ddiffaith, a'i ddinasoedd yn anghyfannedd heb drigiannydd.
2:16 Hefyd, torrodd meibion Noff a Tahpanhes dy gorun.
2:17 Oni ddygaist hyn arnat dy hun, trwy adael yr ARGLWYDD dy Dduw pan oedd yn d'arwain yn y ffordd?
2:18 Yn awr, beth a wnei di yn mynd i'r Aifft, i yfed dyfroedd y Neil, neu'n mynd i Asyria, i yfed dyfroedd yr Ewffrates?
2:19 Fe'th gosbir gan dy ddrygioni dy hun, a'th geryddu gan dy wrthgiliad. Ystyria a gwêl mai drwg a chwerw yw i ti adael yr ARGLWYDD dy Dduw, a pheidio â'm hofni," medd yr Arglwydd, DUW y Lluoedd.

Israel yn Gwrthod Addoli'r Arglwydd

2:20  "Erstalwm yr wyt wedi torri dy iau a dryllio dy rwymau, a dweud, 'Ni wasanaethaf'. Canys ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas, plygaist i buteinio.
2:21 Plennais di yn winwydden bêr, o had glân pur; sut ynteu y'th drowyd yn blanhigyn afrywiog i mi, yn winwydden estron?
2:22 Pe bait yn ymolchi â neitr, a chymryd llawer o sebon, byddai ôl dy gamwedd yn aros ger fy mron," medd yr ARGLWYDD.
2:23 "Sut y gelli ddweud, 'Nid wyf wedi fy halogi, na mynd ar ôl Baalim?' Gwêl dy ffordd yn y glyn; ystyria beth a wnaethost. Camel chwim ydwyt, yn gwibio'n ddi-drefn yn ei llwybrau;
2:24 asen wyllt, a'i chynefin yn yr anialwch, yn ei blys yn ffroeni'r gwynt. Pwy a atal ei nwyd? Ni flina'r un sy'n ei chwennych; fe'i cânt yn ei hamser.
2:25 Cadw dy droed rhag noethni, a'th lwnc rhag syched. Ond dywedaist, 'Nid oes gobaith. Mi gerais estroniaid ac ar eu hôl hwy yr af.'

Israel yn Haeddu ei Chosbi

2:26 "Fel cywilydd lleidr wedi ei ddal y cywilyddia tŷ Israel – hwy, eu brenhinoedd, a'u tywysogion, eu hoffeiriaid a'u proffwydi.
2:27 Dywedant wrth bren, 'Ti yw fy nhad', ac wrth garreg, 'Ti a'm cenhedlodd'. Troesant ataf wegil, ac nid wyneb; ond yn awr eu hadfyd dywedant, 'Cod, achub ni'.
2:28 Ple mae dy dduwiau, a wnaethost iti? Boed iddynt hwy godi os gallant dy achub yn awr dy adfyd. Oherwydd y mae dy dduwiau mor niferus â'th ddinasoedd, O Jwda.
2:29 Pam yr ydych yn dadlau â mi? Rydych wedi gwrthryfela yn f'erbyn, bawb ohonoch," medd yr ARGLWYDD.
2:30 "Yn ofer y trewais eich plant; ni dderbyniant gerydd. Y mae eich cleddyf wedi difa'ch proffwydi, fel llew yn rheibio.
2:31 Chwi genhedlaeth, ystyriwch air yr ARGLWYDD. Ai anialwch a fûm i Israel, neu wlad tywyllwch? Pam y dywed fy mhobl, 'Yr ydym ni'n rhydd; ni ddown mwyach atat ti'?
2:32 A anghofia geneth ei thlysau, neu briodferch ei rhubanau? Eto y mae fy mhobl wedi fy anghofio i, ddyddiau di-rif.
2:33 "Mor dda yr wyt yn dewis dy ffordd i geisio cariadon, gan ddysgu dy ffyrdd hyd yn oed i ferched drwg.
2:34 Cafwyd ym mhlygion dy wisg waed einioes tlodion diniwed – ac nid yn torri i mewn y deliaist hwy –
2:35 ond er hyn i gyd, yr wyt yn dweud, 'Rwy'n ddieuog; fe dry ei lid oddi wrthyf.' Ond wele, fe'th ddygaf i farn am iti ddweud, 'Ni phechais.'
2:36 Mor ddi-hid wyt yn newid dy ffordd; fe'th gywilyddir gan yr Aifft, fel y cywilyddiwyd di gan Asyria.
2:37 Doi allan oddi yno hefyd, a'th ddwylo ar dy ben, oherwydd gwrthoda'r ARGLWYDD y rhai yr ymddiriedi ynddynt, ac ni lwyddi drwyddynt.

Israel Anffyddlon

3:1 "Os bydd gŵr yn ysgaru ei wraig, a hithau'n ei adael ac yn mynd yn eiddo i arall, a ddychwel ef ati? Oni halogid y tir yn ddirfawr trwy hyn? Yr wyt wedi puteinio gyda chariadon lawer, ond a fyddi'n dychwelyd ataf?" medd yr ARGLWYDD.
3:2 "Cod dy olwg i'r moelydd, ac edrych am fan na phuteiniaist ynddo; disgwyliaist amdanynt ger y ffyrdd, fel Arab yn yr anialwch; halogaist y tir â'th buteindra, ac â'th ddrygioni.
3:3 Ataliwyd y glawogydd, ac ni ddaeth y cawodydd diweddar; ond talcen putain oedd gennyt, a gwrthodaist gywilyddio.
3:4 Ac onid wyt yn awr yn galw arnaf, 'Fy nhad, cyfaill fy ieuenctid wyt ti –
3:5 a fydd ef yn ddig hyd byth? a geidw ef lid bob amser?' Fel hyn y lleferaist, ond gwnaethost ddrygioni hyd y gellaist."

Rhaid i Israel a Jwda Edifarhau

3:6 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf yn nyddiau'r Brenin Joseia, "A welaist ti'r hyn a wnaeth Israel anffyddlon? Bu'n rhodianna ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas, a phuteinio yno.
3:7 Dywedais, 'Wedi iddi wneud hyn i gyd, fe ddychwel ataf.' Ond ni ddychwelodd, a gwelodd ei chwaer dwyllodrus Jwda hynny.
3:8 Gwelodd mai'n unig oherwydd i Israel anffyddlon odinebu y gollyngais hi, a rhoi iddi ei llythyr ysgar; er hynny nid ofnodd Jwda, ei chwaer dwyllodrus, ond aeth hithau hefyd a phuteinio.
3:9 Halogodd y tir trwy buteinio mor rhwydd, gan odinebu gyda maen a chyda phren.
3:10 Ac er hyn oll ni ddychwelodd ei chwaer dwyllodrus Jwda ataf fi â'i holl galon, ond mewn rhagrith," medd yr ARGLWYDD.
3:11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Fe'i cyfiawnhaodd Israel anffyddlon ei hun rhagor Jwda dwyllodrus.
3:12 Dos a chyhoedda'r geiriau hyn tua'r gogledd, a dywed: 'Dychwel, Israel anffyddlon,' medd yr ARGLWYDD. 'Ni fwriaf fy llid arnoch, canys ffyddlon wyf fi,' medd yr ARGLWYDD. 'Ni fyddaf ddig hyd byth.
3:13 Yn unig cydnebydd dy gamwedd, iti wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw, ac afradu dy ffafrau i ddieithriaid dan bob pren gwyrddlas, heb wrando ar fy llais,' medd yr ARGLWYDD.
3:14 "Dychwelwch, blant anffyddlon," medd yr ARGLWYDD, "oherwydd myfi a'ch piau chwi, ac fe'ch cymeraf bob yn un o ddinas a bob yn ddau o lwyth, a'ch dwyn i Seion.
3:15 Yno y rhof i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, a phorthant chwi â gwybodaeth a deall.
3:16 Wedi i chwi amlhau a chynyddu yn y wlad, fe ddaw amser," medd yr ARGLWYDD, "pan na ddywedir mwyach, 'Arch cyfamod yr ARGLWYDD', ac ni ddaw i feddwl neb gofio amdani nac ymweld â hi, ac ni wneir hynny mwyach.
3:17 Yr adeg honno galwant Jerwsalem yn orsedd yr ARGLWYDD, ac ymgasgla ati'r holl genhedloedd yno at enw'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; ac ni rodiant mwyach yn ôl ystyfnigrwydd eu calon ddrygionus.
3:18 Yn y dyddiau hynny fe â tŷ Jwda at dŷ Israel, a dônt ynghyd o dir y gogledd i'r tir y perais i'ch hynafiaid ei etifeddu.

Eilunaddoliaeth Pobl Dduw

3:19 "Dywedais, 'Sut y gosodaf di ymhlith y plant, i roi i ti dir dymunol, ac etifeddiaeth orau'r cenhedloedd?' A dywedais, 'Fe'm gelwi, "Fy nhad", ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl.'
3:20 Yn ddiau, fel y bydd gwraig yn anffyddlon i'w chymar, felly, dŷ Israel, y buoch yn anffyddlon i mi," medd yr ARGLWYDD.
3:21 Clyw! Ar y moelydd clywir wylofain ac ymbil tŷ Israel, am iddynt wyro eu ffordd ac anghofio'r ARGLWYDD eu Duw.
3:22 "Dychwelwch, blant anffyddlon; iachâf eich ysbryd anffyddlon." "Wele, fe ddown atat, oherwydd ti yw'r ARGLWYDD ein Duw.
3:23 Diau y daw oferedd o gyfeddach y bryniau a'r mynyddoedd, ond yn yr ARGLWYDD ein Duw y mae iachawdwriaeth Israel.
3:24 Y mae'r gwarth wedi ysu llafur ein hynafiaid o'n hieuenctid: eu defaid a'u gwartheg, eu meibion a'u merched.
3:25 Gorweddwn yn ein gwarth, a'n cywilydd wedi ein hamdói. Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw, nyni a'n hynafiaid, o'n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr ARGLWYDD ein Duw."

Galwad i Edifeirwch

4:1 "Os dychweli, Israel," medd yr ARGLWYDD, "os dychweli ataf fi, a rhoi heibio dy ffieidd-dra o'm gŵydd, a pheidio â simsanu,
4:2 ac os tyngi mewn gwirionedd, mewn barn a chyfiawnder, 'Byw yw yr ARGLWYDD', yna fe ymfendithia'r cenhedloedd ynddo, ac ymglodfori ynddo."
4:3 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth bobl Jwda a Jerwsalem: "Braenarwch i chwi fraenar, a pheidiwch â hau mewn drain.
4:4 Ymenwaedwch i'r ARGLWYDD, symudwch flaengroen eich calon, bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem, rhag i'm digofaint ddod allan fel tân a llosgi heb neb i'w ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd.

Gelyn o'r Gogledd

4:5 "Mynegwch yn Jwda, cyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch, 'Canwch utgorn yn y tir, bloeddiwch yn uchel.' A dywedwch, 'Ymgynullwch, ac awn i'r dinasoedd caerog.'
4:6 Codwch, ffowch tua Seion, ffowch heb sefyllian; oherwydd dygaf ddrygioni o'r gogledd, a dinistr mawr.
4:7 Daeth llew i fyny o'i loches, cychwynnodd difethwr y cenhedloedd, a daeth allan o'i drigle i wneud dy dir yn anrhaith, ac fe ddinistrir dy ddinasoedd heb breswyliwr.
4:8 Am hyn ymwregyswch â sachliain, galarwch ac udwch; oherwydd nid yw angerdd llid yr ARGLWYDD wedi troi oddi wrthym.
4:9 Ac yn y dydd hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "fe balla hyder y brenin a hyder y tywysogion; fe synna'r offeiriaid, ac fe ryfedda'r proffwydi."
4:10 Yna dywedais, "O ARGLWYDD Dduw, yr wyt wedi llwyr dwyllo'r bobl hyn a Jerwsalem, gan ddweud, 'Bydd heddwch i chwi'; ond trywanodd y cleddyf i'r byw."
4:11 Yn yr amser hwnnw fe ddywedir wrth y bobl hyn ac wrth Jerwsalem, "Bydd craswynt o'r moelydd uchel yn y diffeithwch yn troi i gyfeiriad merch fy mhobl,
4:12 nid i nithio nac i buro. Daw gwynt cryf ataf fi; yn awr myfi, ie myfi, a draethaf farn yn eu herbyn hwy."
4:13 Wele, bydd yn esgyn fel cymylau, a'i gerbydau fel corwynt, ei feirch yn gyflymach nag eryrod. Gwae ni! Anrheithiwyd ni.
4:14 Golch dy galon oddi wrth ddrygioni, Jerwsalem, iti gael dy achub. Pa hyd y lletya d'amcanion drygionus o'th fewn?
4:15 Clyw! Cennad o wlad Dan, ac un yn cyhoeddi gofid o Fynydd Effraim,
4:16 "Rhybuddiwch y cenhedloedd: 'Dyma ef!' Cyhoeddwch i Jerwsalem: 'Daw gwŷr i'ch gwarchae o wlad bell, a chodi eu llais yn erbyn dinasoedd Jwda.
4:17 Fel gwylwyr maes fe'i hamgylchynant, am iddi wrthryfela yn fy erbyn i,'" medd yr ARGLWYDD.

Gofid Jeremeia dros ei Bobl

4:18 "Dy ffordd a'th weithredoedd sydd wedi dod â hyn arnat. Dyma dy gosb, ac un chwerw yw; fe'th drawodd hyd at dy galon."
4:19 Fy ngwewyr! Fy ngwewyr! Rwy'n gwingo mewn poen. O, barwydydd fy nghalon! Y mae fy nghalon yn derfysg ynof; ni allaf dewi. Canys clywaf sain utgorn, twrf rhyfel.
4:20 Daw dinistr ar ddinistr, anrheithir yr holl dir. Yn ddisymwth anrheithir fy mhebyll, a'm llenni mewn eiliad.
4:21 Pa hyd yr edrychaf ar faner, ac y gwrandawaf ar sain utgorn?
4:22 Y mae fy mhobl yn ynfyd, nid ydynt yn fy adnabod i; plant angall ydynt, nid rhai deallus mohonynt. Y maent yn fedrus i wneud drygioni, ond ni wyddant sut i wneud daioni.
4:23 Edrychais tua'r ddaear – afluniaidd a gwag ydoedd; tua'r nefoedd – ond nid oedd yno oleuni.
4:24 Edrychais tua'r mynyddoedd, ac wele hwy'n crynu, a'r holl fryniau yn gwegian.
4:25 Edrychais, ac wele, nid oedd neb oll; ac yr oedd holl adar y nefoedd wedi cilio.
4:26 Edrychais, ac wele'r dolydd yn ddiffeithwch, a'r holl ddinasoedd yn ddinistr, o achos yr ARGLWYDD, o achos angerdd ei lid.
4:27 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Bydd yr holl wlad yn anrhaith, ond ni wnaf ddiwedd arni.
4:28 Am hyn fe alara'r ddaear, ac fe dywylla'r nefoedd fry, oherwydd imi fynegi fy mwriad; ac ni fydd yn edifar gennyf, ac ni throf yn ôl oddi wrtho."
4:29 Rhag trwst marchogion a phlygwyr bwa y mae'r holl ddinas yn ffoi, yn mynd i'r drysni ac yn dringo i'r creigiau. Gadewir yr holl ddinasoedd heb neb i drigo ynddynt.
4:30 A thithau'n anrheithiedig, beth wyt ti'n ei wneud wedi dy wisgo ag ysgarlad, ac wedi ymdrwsio â thlysau aur, a lliwio dy lygaid? Yn ofer yr wyt yn dy wneud dy hun yn deg. Bydd dy gariadon yn dy ddirmygu, ac yn ceisio dy einioes.
4:31 Ie, clywaf gri fel gwraig yn esgor, llef ingol fel un yn esgor ar ei chyntafanedig – cri merch Seion yn ochain, ac yn gwasgu ar ei dwylo: "Gwae fi! Rwy'n diffygio, a'r lleiddiaid am fy einioes."

Pechod Jerwsalem

5:1 "Rhedwch yma a thraw trwy heolydd Jerwsalem, edrychwch a sylwch; chwiliwch yn ei lleoedd llydain a oes un i'w gael sy'n gwneud barn ac yn ceisio gwirionedd, er mwyn i mi ei harbed hi.
5:2 Er iddynt ddweud, 'Byw yw'r ARGLWYDD', eto tyngu'n gelwyddog y maent."
5:3 O ARGLWYDD, onid ar wirionedd y mae dy lygaid di? Trewaist hwy, ond ni fu'n ofid iddynt; difethaist hwy, ond gwrthodasant dderbyn cerydd. Gwnaethant eu hwynebau'n galetach na charreg, a gwrthod dychwelyd.
5:4 Yna dywedais, "Nid yw'r rhai hyn ond tlodion; ynfydion ydynt, a heb wybod ffordd yr ARGLWYDD na gofynion eu Duw.
5:5 Mi af yn hytrach at y mawrion, i ymddiddan â hwy; fe wyddant hwy ffordd yr ARGLWYDD a gofynion eu Duw. Ond y maent hwythau'n ogystal wedi malurio'r iau, a dryllio'r tresi.
5:6 Am hyn, bydd llew o'r coed yn eu taro i lawr, a blaidd o'r anialwch yn eu distrywio; bydd llewpard yn gwylio'u dinasoedd ac yn llarpio pob un a ddaw allan ohonynt; oherwydd amlhaodd eu troseddau a chynyddodd eu gwrthgiliad.
5:7 "Sut y maddeuaf iti am hyn? Y mae dy blant wedi fy ngadael, ac wedi tyngu i'r rhai nad ydynt dduwiau. Diwellais hwy, eto gwnaethant odineb a heidio i dŷ'r butain.
5:8 Yr oeddent fel meirch nwydus a phorthiannus, pob un yn gweryru am gaseg ei gymydog.
5:9 Onid ymwelaf â chwi am hyn?" medd yr ARGLWYDD. "Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?
5:10 "Tramwywch trwy ei rhesi gwinwydd, a dinistriwch hwy, ond peidiwch â gwneud diwedd llwyr. Torrwch ymaith ei brigau, canys nid eiddo'r ARGLWYDD mohonynt.
5:11 Oherwydd bradychodd tŷ Israel a thŷ Jwda fi'n llwyr," medd yr ARGLWYDD.
5:12 Buont yn gelwyddog am yr ARGLWYDD a dweud, "Ni wna ef ddim. Ni ddaw drwg arnom, ni welwn gleddyf na newyn;
5:13 nid yw'r proffwydi ond gwynt, nid yw'r gair yn eu plith. Fel hyn y gwneir iddynt."
5:14 Am hynny, dyma air yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd: "Am i chwi siarad fel hyn, dyma fi'n rhoi fy ngeiriau yn dy enau fel tân, a'r bobl hyn yn gynnud, ac fe'u difa.
5:15 Wele, fe ddygaf yn eich erbyn, dŷ Israel, genedl o bell – hen genedl, cenedl o'r oesoedd gynt," medd yr ARGLWYDD, "cenedl nad wyt yn gwybod ei hiaith, nac yn deall yr hyn y mae'n ei ddweud.
5:16 Y mae ei chawell saethau fel bedd agored; gwŷr cedyrn ydynt oll.
5:17 Fe ysa dy gynhaeaf a'th fara; ysa dy feibion a'th ferched; ysa dy braidd a'th wartheg; ysa dy winwydd a'th ffigyswydd; distrywia â chleddyf dy ddinasoedd caerog, y dinasoedd yr wyt yn ymddiried ynddynt.
5:18 "Ac eto yn y dyddiau hynny," medd yr ARGLWYDD, "ni ddygaf ddiwedd llwyr arnoch.
5:19 Pan ddywedwch, 'Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD ein Duw yr holl bethau hyn i ni?', fe ddywedi wrthynt, 'Fel y bu i chwi fy ngwrthod i, a gwasanaethu duwiau estron yn eich tir, felly y gwasanaethwch bobl ddieithr mewn gwlad nad yw'n eiddo i chwi.'
5:20 "Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, cyhoeddwch hyn yn Jwda a dweud,
5:21 'Clywch hyn yn awr, bobl ynfyd, ddiddeall: y mae ganddynt lygaid, ond ni welant; clustiau, ond ni chlywant.
5:22 Onid oes arnoch fy ofn i?' medd yr ARGLWYDD. 'Oni chrynwch o'm blaen? Mi osodais y tywod yn derfyn i'r môr, yn derfyn sicr na all ei groesi; pan ymgasgla'r tonnau ni thyciant, pan rua'r dyfroedd nid ânt drosto.
5:23 Ond calon wrthnysig a gwrthryfelgar sydd gan y bobl hyn; y maent yn parhau i wrthgilio.
5:24 Ac ni ddywedant yn eu calon, "Bydded inni ofni'r ARGLWYDD ein Duw, sy'n rhoi'r glaw, a chawodydd y gwanwyn a'r hydref yn eu pryd, a sicrhau i ni wythnosau penodedig y cynhaeaf."
5:25 Ond y mae eich camweddau wedi rhwystro hyn, a'ch pechodau wedi atal daioni rhagoch.
5:26 Oherwydd cafwyd rhai drwg ymhlith fy mhobl; y maent yn gwylio fel un yn gosod magl, ac yn gosod offer dinistr i ddal pobl.
5:27 Fel y mae cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai yn llawn o dwyll.
5:28 Trwy hynny aethant yn fawr a chyfoethog, yn dew a bras. Aethant hefyd y tu hwnt i weithredoedd drwg; ni roddant ddedfryd deg i'r amddifad, i beri iddo lwyddo, ac nid ydynt yn iawn farnu achos y tlawd.
5:29 Onid ymwelaf â chwi am hyn?' medd yr ARGLWYDD. 'Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?
5:30 Peth aruthr ac erchyll a ddaeth i'r wlad.
5:31 Y mae'r proffwydi yn proffwydo celwydd, a'r offeiriaid yn cyfarwyddo'n unol â hynny, a'm pobl yn hoffi'r peth. Ond beth a wnewch yn y diwedd?'"

Gwarchae ar Jerwsalem

6:1 "Ffowch, blant Benjamin, o ganol Jerwsalem. Canwch utgorn yn Tecoa, a chodwch ffagl ar Beth-hacerem, oherwydd y mae drwg yn crynhoi o'r gogledd, a dinistr mawr.
6:2 Yr wyf am ddinistrio merch Seion, y ferch deg, foethus.
6:3 Fe ddaw bugeiliaid â'u praidd hyd ati, gosodant bebyll o'i chylch, a phorant bob un yn ei lain ei hun.
6:4 'Paratowch ryfel sanctaidd yn ei herbyn; codwch, awn i fyny ganol dydd. Gwae ni! Ciliodd y dydd ac y mae cysgodau'r hwyr yn ymestyn.
6:5 Codwch, awn i fyny liw nos a distrywiwn ei phalasau.'"
6:6 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Torrwch goed, a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem; hon yw'r ddinas i'w chosbi, nid oes dim ond gorthrymder o'i mewn.
6:7 Fel y mae dyfroedd yn tarddu mewn ffynnon, felly y mae ei drygioni ynddi hi. Am drais ac ysbail y clywir ynddi; gwaeledd a chleisiau sydd yn wastad ger fy mron.
6:8 Cymer wers, O Jerwsalem, rhag i mi dy adael yn llwyr, rhag i mi dy wneud yn anrhaith, yn dir anghyfannedd."

Israel Wrthryfelgar

6:9 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Lloffa weddill Israel yn lân, fel lloffa gwinwydd; fel casglwr grawnwin tyn dy law eilwaith dros y brigau."
6:10 Â phwy y llefaraf i'w rhybuddio, a pheri iddynt glywed? Wele, y mae eu clust yn gaeedig, ac ni allant ddal sylw. Wele, y mae gair yr ARGLWYDD yn ddirmyg iddynt; nid ydynt yn ei ddymuno.
6:11 Yr wyf finnau'n llawn o lid yr ARGLWYDD; yr wyf wedi blino ar ymatal. "Tywelltir ef ar y plant yn yr heol, ac ar gynulliadau'r ifainc hefyd; delir y gŵr a'r wraig fel ei gilydd, yr hynafgwr a'r aeddfed mewn dyddiau.
6:12  Trosglwyddir eu tai i eraill, a'u meysydd a'u gwragedd ynghyd; canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad," medd yr ARGLWYDD.
6:13 "o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt, y mae pob un yn awchu am elw; o'r proffwyd i'r offeiriad, y maent bob un yn gweithredu'n ffals.
6:14 Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw fy mhobl, gan ddweud, 'Heddwch! Heddwch!' – ac nid oes heddwch.
6:15 A oes arnynt gywilydd pan wnânt ffieidd-dra? Dim cywilydd o gwbl, ac ni allant wrido. Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig; yn nydd eu cosbi fe gwympant," medd yr ARGLWYDD.

Israel yn Gwrthod Ffordd Duw

6:16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Safwch ar y ffyrdd; edrychwch, ac ymofyn am yr hen lwybrau. Ple bynnag y cewch ffordd dda, rhodiwch ynddi, ac fe gewch le i orffwys." Ond dywedasant, "Ni rodiwn ni ddim ynddi."
6:17 "Gosodaf wylwyr drosoch," meddai, "gwrandewch ar sain yr utgorn." Ond dywedasant, "Ni wrandawn ni ddim."
6:18 "Am hynny clywch, genhedloedd, a gwybydd, gynulliad, beth a ddigwydd iddynt.
6:19 Clyw, wlad, rwyf am ddwyn drwg ar y bobl hyn, ffrwyth eu bwriadau hwy eu hunain. Ni wrandawsant ar fy ngeiriau, a gwrthodasant fy nghyfraith.
6:20 Pam y cludir i mi thus o Sheba, a chorsen bêr o wlad bell? Nid oes pleser i mi yn eich poethoffrwm, na boddhad yn eich aberth."
6:21 Am hynny fe ddywed yr ARGLWYDD, "Rwyf am osod i'r bobl hyn feini tramgwydd a'u dwg i lawr; tadau a phlant ynghyd, cymydog a chyfaill, fe'u difethir."
6:22 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Wele, y mae pobl yn dod o dir y gogledd; cenedl gref yn ymysgwyd o bellafoedd y ddaear.
6:23 Gafaelant mewn bwa a gwaywffon, y maent yn greulon a didostur; y mae eu twrf fel y môr yn rhuo, marchogant feirch, a dod yn rhengoedd, fel gwŷr yn mynd i ryfela, yn dy erbyn di, ferch Seion."
6:24 Clywsom y newydd amdanynt, a llaesodd ein dwylo; daliwyd ni gan ddychryn, gwewyr fel gwraig yn esgor.
6:25 Paid â mynd allan i'r maes, na rhodio ar y ffordd, oherwydd y mae gan y gelyn gleddyf, ac y mae dychryn ar bob llaw.
6:26 Merch fy mhobl, gwisga sachliain, ymdreigla yn y lludw; gwna alarnad fel am unig blentyn, galarnad chwerw; oherwydd yn ddisymwth y daw'r distrywiwr arnom.
6:27 "Gosodais di yn safonwr ac yn brofwr ymhlith fy mhobl, i wybod ac i brofi eu ffyrdd.
6:28 Y maent i gyd yn gyndyn ac ystyfnig, yn byw yn enllibus. Pres a haearn ydynt; y maent i gyd yn peri distryw.
6:29 Y mae'r fegin yn chwythu'n gryf, a'r plwm wedi darfod gan y tân; yn ofer y toddodd y toddydd, oherwydd ni symudwyd y drygioni.
6:30 Arian gwrthodedig y gelwir hwy, oherwydd gwrthododd yr ARGLWYDD hwy."

Jeremeia yn Pregethu yn y Deml

7:1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD.
7:2 "Saf ym mhorth tŷ'r ARGLWYDD, a chyhoedda yno y gair hwn: 'Clywch air yr ARGLWYDD, chwi holl Jwda sy'n dod i'r pyrth hyn i addoli'r ARGLWYDD.
7:3 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwnaf i chwi drigo yn y fan hon.
7:4 Peidiwch ag ymddiried mewn geiriau celwyddog, a dweud, "Teml yr ARGLWYDD, Teml yr ARGLWYDD, Teml yr ARGLWYDD yw hon."
7:5 Os gwir wellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, os gwnewch farn yn gyson rhyngoch a'ch gilydd,
7:6 a pheidio â gorthrymu'r dieithr, yr amddifad a'r weddw, na thywallt gwaed dieuog yn y fan hon, na rhodio ar ôl duwiau eraill i'ch niwed eich hun,
7:7 yna mi wnaf i chwi drigo yn y lle hwn, yn y wlad a roddais i'ch hynafiaid am byth.
7:8  "'Yr ydych yn ymddiried mewn geiriau celwyddog, heb fod ynddynt elw.
7:9 Onid ydych yn lladrata, yn lladd, yn godinebu, yn tyngu llw celwyddog, yn arogldarthu i Baal, yn dilyn duwiau eraill nad ydych yn eu hadnabod?
7:10 Eto yr ydych yn dod ac yn sefyll o'm blaen yn y tŷ hwn, y galwyd fy enw i arno, ac yn dweud, "Fe'n gwaredwyd er mwyn cyflawni'r holl ffieidd-dra hyn."
7:11 Ai lloches lladron yn eich golwg yw'r tŷ hwn, y gelwir fy enw i arno? Ond yr wyf finnau hefyd wedi gweld hyn, medd yr ARGLWYDD.
7:12 "'Ewch yn awr i'm cysegr yn Seilo, lle y gwneuthum i'm henw drigo ar y dechrau, ac edrychwch ar yr hyn a wneuthum yno oherwydd drygioni fy mhobl Israel.
7:13 Yn awr, gan i chwi wneud yr holl bethau hyn, medd yr ARGLWYDD, mi lefaraf finnau wrthych; mi lefaraf yn daer, ond ni chlywch; mi alwaf arnoch, ond nid atebwch.
7:14 Fel y gwneuthum i Seilo, felly y gwnaf i'r tŷ hwn y galwyd fy enw i arno ac yr ymddiriedwch chwithau ynddo; ie, y lle a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid.
7:15 Taflaf chwi o'm gŵydd fel y teflais eich holl frodyr, holl ddisgynyddion Effraim.'
7:16 "Paid tithau â gweddïo dros y bobl hyn, na chodi na llais na gweddi drostynt, a phaid ag eiriol arnaf, oherwydd ni wrandawaf arnat.
7:17 Oni weli'r hyn a wnânt yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem?
7:18 Y mae'r plant yn casglu cynnud, y tadau yn cynnau tân, a'r gwragedd yn tylino toes i wneud teisennau i frenhines y nef; y maent yn tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill, er mwyn fy nigio i.
7:19 Ai myfi y maent yn ei ddigio?" medd yr ARGLWYDD. "Onid hwy eu hunain, i'w cywilydd eu hunain?"
7:20 Am hyn fe ddywed yr ARGLWYDD Dduw, "Wele, tywelltir fy llid a'm dicter ar y lle hwn, ar ddyn ac ar anifail, ar bren y ddôl, ac ar ffrwyth y ddaear; bydd yn llosgi heb ddiffodd."
7:21 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: "Chwanegwch eich poethoffrwm at eich aberthau; yna bwytewch y cig.
7:22 Oherwydd ni ddywedais wrth eich hynafiaid, yn y dydd y dygais hwy o wlad yr Aifft, na'u gorchymyn, ynghylch materion poethoffrwm ac aberth.
7:23 Ond dyma'r gair a orchmynnais iddynt: 'Gwran-dewch ar fy llais, a byddaf yn Dduw i chwi, a byddwch chwithau'n bobl i mi; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnaf i chwi, iddi fod yn dda arnoch.'
7:24 Ond ni wrandawsant nac estyn clust, ond rhodio yn ôl eu barn eu hunain, ac yn ystyfnigrwydd eu calon ddrwg. Aethant yn ôl ac nid ymlaen.
7:25 o'r dydd y daeth eich hynafiaid o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn, mi anfonais atoch bob dydd fy ngweision y proffwydi; anfonais hwy yn gyson.
7:26 Ond ni wrandawsant arnaf nac estyn clust, ond caledu gwar a gwneud yn waeth na'u hynafiaid.
7:27 Lleferi wrthynt yr holl bethau hyn, ond ni wrandawant arnat; gelwi arnynt, ac ni'th atebant.
7:28 A dywedi wrthynt, 'Hon yw'r genedl a wrthododd wrando ar yr ARGLWYDD ei Duw, ac ni dderbyniodd gerydd. Darfu am wirionedd; fe'i torrwyd ymaith o'u genau.'
7:29 Cneifia dy wallt, bwrw ef ymaith. Cyfod gwynfan ar yr uchel-leoedd; gwrthododd yr ARGLWYDD y genhedlaeth y digiodd wrthi, a bwriodd hi ymaith.
7:30 Canys gwnaeth pobl Jwda ddrwg yn fy ngolwg," medd yr ARGLWYDD, "trwy osod eu ffieidd-dra yn y tŷ y gelwir fy enw i arno, a'i halogi.
7:31 Adeiladasant uchelfeydd i Toffet, sydd yn nyffryn Ben-hinnom, i losgi eu meibion a'u merched yn y tân. Ni orchmynnais hyn, ac ni ddaeth i'm meddwl.
7:32 Am hynny fe ddaw y dyddiau," medd yr ARGLWYDD, "nas gelwir mwyach yn Toffet nac yn ddyffryn Ben-hinnom, ond yn ddyffryn y lladdfa; a chleddir yn Toffet, o ddiffyg lle.
7:33 Bydd celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd ac i anifeiliaid y ddaear, ac ni bydd neb i'w gyrru i ffwrdd.
7:34 A pharaf i bob llais ddistewi yn ninasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem, llais llawen a llon, llais priodfab a phriodferch. Bydd y wlad yn ddiffeithwch.
8:1 "Yn yr amser hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "fe godir o'u beddau esgyrn brenhinoedd Jwda, esgyrn y tywysogion, esgyrn yr offeiriaid, esgyrn y proffwydi ac esgyrn trigolion Jerwsalem,
8:2 a'u taenu yn wyneb yr haul a'r lleuad a holl lu'r nefoedd y buont yn eu caru ac yn eu gwasanaethu, gan rodio ar eu hôl ac ymofyn ganddynt a'u haddoli. Byddant heb eu casglu a heb eu claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear.
8:3 Bydd angau yn well nag einioes gan yr holl weddill a adewir o'r teulu drwg hwn ym mhob man y gyrrais hwy iddo," medd ARGLWYDD y Lluoedd.

Pechod a Chosb

8:4 "Dywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Os cwympant, oni chyfodant? Os try un ymaith, oni ddychwel?
8:5 Pam, ynteu, y trodd y bobl hyn ymaith, ac y parhaodd Jerwsalem i encilio? Glynasant wrth dwyll, gan wrthod dychwelyd.
8:6 Cymerais sylw a gwrandewais, ond ni lefarodd neb yn uniawn; nid edifarhaodd neb am ei ddrygioni a dweud, "Beth a wneuthum?" Y mae pob un yn troi yn ei redfa, fel march cyn rhuthro i'r frwydr.
8:7 Y mae'r crëyr yn yr awyr yn adnabod ei dymor; y durtur a'r wennol a'r fronfraith yn cadw amser eu dyfod; ond nid yw fy mhobl yn gwybod trefn yr ARGLWYDD.
8:8 Sut y dywedwch, "Yr ydym yn ddoeth, y mae cyfraith yr ARGLWYDD gyda ni"? Yn sicr, gwnaeth ysgrifbin celwyddog yr ysgrifennydd gelwydd ohoni.
8:9 Cywilyddiwyd y doeth, fe'u dychrynwyd ac fe'u daliwyd. Dyma hwy wedi gwrthod gair yr ARGLWYDD; pa ddoethineb sydd ganddynt felly?
8:10 "'Am hynny, rhof eu gwragedd i eraill, a'u meysydd i'w concwerwyr. Oherwydd o'r lleiaf hyd y mwyaf y mae pawb yn awchu am elw; o'r proffwyd i'r offeiriad y maent bob un yn gweithredu'n ffals.
8:11 Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw merch fy mhobl, gan ddweud, "Heddwch! Heddwch!" – ac nid oes heddwch.
8:12 A oes cywilydd arnynt pan wnânt ffieidd-dra? Dim cywilydd o gwbl! Ni allant wrido. Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig; yn nydd eu cosbi fe gwympant,' medd yr ARGLWYDD.
8:13 "'Pan gasglwn hwy,' medd yr ARGLWYDD, 'nid oedd grawnwin ar y gwinwydd, na ffigys ar y ffigysbren; gwywodd y ddeilen, aeth heibio yr hyn a roddais iddynt.'"
8:14 Pam yr oedwn? Ymgasglwch ynghyd, inni fynd i'r dinasoedd caerog, a chael ein difetha yno. Canys yr ARGLWYDD ein Duw a barodd ein difetha; rhoes i ni ddŵr gwenwynig i'w yfed, oherwydd pechasom yn erbyn yr ARGLWYDD.
8:15 Disgwyl yr oeddem am heddwch, ond ni ddaeth daioni; am amser iachâd, ond dychryn a ddaeth.
8:16 Clywir ei feirch yn ffroeni o wlad Dan; crynodd yr holl ddaear gan drwst ei stalwyni'n gweryru. Daethant gan ysu'r tir a'i lawnder, y ddinas a'r rhai oedd yn trigo ynddi.
8:17 "Dyma fi'n anfon seirff i'ch mysg, gwiberod na ellir eu swyno, ac fe'ch brathant," medd yr ARGLWYDD.

Gofid Jeremeia dros ei Bobl

8:18 Y mae fy ngofid y tu hwnt i wellhad, a'm calon wedi clafychu.
8:19 Clyw! Cri merch fy mhobl o wlad bellennig: "Onid yw'r ARGLWYDD yn Seion? Onid yw ei brenin ynddi?" "Pam y maent yn fy nigio â'u delwau, â'u heilunod estron?"
8:20 "Aeth y cynhaeaf heibio, darfu'r haf, a ninnau heb ein hachub."
8:21 Oherwydd briw merch fy mhobl yr wyf finnau wedi fy mriwo, wedi galaru, ac wedi fy nal gan syndod.
8:22 Onid oes balm yn Gilead? Onid oes yno ffisigwr? Pam, ynteu, nad yw iechyd merch fy mhobl yn gwella?
9:1 O na bai fy mhen yn ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau! Wylwn ddydd a nos am laddedigion merch fy mhobl.
9:2 O na bai gennyf yn yr anialwch lety fforddolion! Gadawn fy mhobl, a mynd i ffwrdd oddi wrthynt. Canys y maent oll yn odinebwyr, ac yn gwmni o dwyllwyr.
9:3 "Plygasant eu tafod, fel bwa, i gelwydd; ac nid ar bwys gwirionedd yr aethant yn gryf yn y wlad. Aethant o un drwg i'r llall, ac nid ydynt yn fy adnabod i," medd yr ARGLWYDD.
9:4 "Gocheled pob un ei gymydog, ac na rodded neb goel ar ei berthynas; canys yn sicr disodlwr yw pob perthynas, ac enllibiwr yw pob cymydog.
9:5 Y mae pob un yn twyllo'i gymydog, heb ddweud y gwir; dysgodd i'w dafod ddweud celwydd, troseddodd, ac ymflino nes methu edifarhau.
9:6 Pentyrrant ormes ar ormes, twyll ar dwyll; gwrthodant fy adnabod i," medd yr ARGLWYDD.
9:7 Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Rwyf am eu toddi a'u puro hwy. Beth arall a wnaf o achos merch fy mhobl?
9:8 Saeth yn lladd yw eu tafod; y mae'n llefaru'n dwyllodrus. Y mae'n traethu heddwch wrth ei gymydog, ond yn ei galon yn gosod cynllwyn iddo.
9:9 Onid ymwelaf â hwy am y pethau hyn?" medd yr ARGLWYDD. "Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?
9:10 Codaf wylofain a chwynfan am y mynyddoedd, a galarnad am lanerchau'r anialwch; canys y maent wedi eu dinistrio fel nad â neb heibio, ac ni chlywant fref y gwartheg; y mae adar y nef a'r anifeiliaid hefyd wedi ffoi ymaith.
9:11 Gwnaf Jerwsalem yn garneddau ac yn drigfan bleiddiaid; a gwnaf ddinasoedd Jwda yn ddiffeithwch heb breswylydd."
9:12 Pwy sy'n ddigon doeth i ddeall hyn? Wrth bwy y traethodd genau yr ARGLWYDD, er mwyn iddo fynegi? Pam y dinistriwyd y tir, a'i ddifa fel anialwch heb neb yn ei dramwyo?
9:13 Dywedodd yr ARGLWYDD, "Am iddynt wrthod fy nghyfraith a roddais o'u blaen hwy, heb ei dilyn a heb wrando ar fy llais,
9:14 ond rhodio yn ôl ystyfnigrwydd eu calon, a dilyn Baalim, fel y dysgodd eu hynafiaid iddynt,
9:15 am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Wele, bwydaf y bobl hyn â wermod, a'u diodi â dŵr gwenwynig.
9:16 Gwasgaraf hwy ymysg cenhedloedd nad ydynt hwy na'u hynafiaid wedi eu hadnabod, ac anfonaf gleddyf ar eu hôl nes gorffen eu difetha."

Cwynfan yn Jerwsalem

9:17 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Ystyriwch! Galwch ar y galar-wragedd i ddod; anfonwch am y gwragedd medrus, iddynt hwythau ddod.
9:18 Bydded iddynt frysio, a chodi cwynfan amdanom, er mwyn i'n llygaid ollwng dagrau, a'n hamrannau ddiferu dŵr.
9:19 Canys clywyd sŵn cwynfan o Seion, 'Pa fodd yr aethom yn anrhaith, a'n gwaradwyddo yn llwyr? Gadawsom ein gwlad, bwriwyd i lawr ein trigfannau.'"
9:20 Clywch, wragedd, air yr ARGLWYDD, a derbynied eich clust air ei enau ef. Dysgwch gwynfan i'ch merched, a galargan bawb i'w gilydd.
9:21 Y mae angau wedi dringo trwy ein ffenestri, a dod i'n palasau, i ysgubo'r plant o'r heolydd a'r rhai ifainc o'r lleoedd agored.
9:22 Llefara, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Bydd celaneddau yn disgyn fel tom ar wyneb maes, fel ysgubau ar ôl y medelwr heb neb i'w cynnull.'"
9:23 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, na'r cryf yn ei gryfder, na'r cyfoethog yn ei gyfoeth.
9:24 Ond y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn hyn: ei fod yn fy neall ac yn fy adnabod i, mai myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n gweithredu'n ffyddlon, yn gwneud barn a chyfiawnder ar y ddaear, ac yn ymhyfrydu yn y pethau hyn," medd yr ARGLWYDD.
9:25 "Wele'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "pan gosbaf bob cenedl enwaededig,
9:26 sef yr Aifft, Jwda ac Edom, plant Ammon a Moab, a phawb o drigolion yr anialwch sydd â'u talcennau'n foel. Oherwydd y mae'r holl genhedloedd yn ddienwaededig, a holl dŷ Israel heb enwaedu arnynt yn eu calon."

Duw a'r Eilunod

10:1 Clywch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych, dŷ Israel.
10:2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Peidiwch â dysgu ffordd y cenhedloedd, na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd, fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt.
10:3 Y mae arferion y bobloedd fel eilun – pren wedi ei gymynu o'r goedwig, gwaith dwylo saer â bwyell;
10:4 ac wedi iddynt ei harddu ag arian ac aur, y maent yn ei sicrhau â morthwyl a hoelion, rhag iddo symud.
10:5 Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru; rhaid eu cludo am na allant gerdded. Peidiwch â'u hofni; ni allant wneud niwed, na gwneud da chwaith."
10:6 Nid oes neb fel tydi, ARGLWYDD; mawr wyt, mawr yw dy enw mewn nerth.
10:7 Pwy ni'th ofna, Frenin y cenhedloedd? Hyn sy'n gweddu i ti. Canys ymhlith holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd, nid oes neb fel tydi.
10:8 Y maent bob un yn ddwl ac ynfyd, wedi eu dysgu gan eilunod o bren!
10:9 Dygir arian gyr o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y saer a dwylo'r eurych; a'u gwisg o ddeunydd fioled a phorffor – gwaith crefftwyr ydyw i gyd.
10:10 Ond yr ARGLWYDD yw'r gwir Dduw; ef yw'r Duw byw a'r brenin tragwyddol; y mae'r ddaear yn crynu rhag ei lid, ac ni all y cenhedloedd ddioddef ei ddicter.
10:11 Fel hyn y dywedwch wrthynt: "Y duwiau na wnaethant y nefoedd a'r ddaear, fe gânt eu difa o'r ddaear ac oddi tan y nefoedd."

Emyn Mawl i Dduw

10:12 Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth, sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, estynnodd y nefoedd trwy ei ddeall.
10:13 Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd, fe bair godi tarth o eithafoedd y ddaear. Gwna fellt gyda'r glaw, a dwg allan wyntoedd o'i ystordai.
10:14 Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth. Cywilyddir pob eurych gan ei eilun, canys celwydd yw ei ddelwau tawdd, ac nid oes anadl ynddynt.
10:15 Oferedd ŷnt, a gwaith i'w wawdio; yn amser eu cosbi fe'u difethir.
10:16 Nid yw Duw Jacob fel y rhain, oherwydd ef yw lluniwr pob peth, ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

Y Gaethglud sy'n Dod

10:17 Casgla dy bwn a dos allan o'r wlad, ti, yr hon sy'n trigo dan warchae.
10:18 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Dyma fi'n taflu allan drigolion y wlad y tro hwn; dygaf arnynt gyfyngder, ac fe deimlant hynny."
10:19 Gwae fi am fy mriw! Y mae fy archoll yn ddwfn, ond dywedais, "Dyma ofid yn wir, a rhaid i mi ei oddef."
10:20 Drylliwyd fy mhabell, torrwyd fy rhaffau i gyd; aeth fy mhlant oddi wrthyf, nid oes neb ohonynt mwy; nid oes neb a estyn fy mhabell eto, na chodi fy llenni.
10:21 Aeth y bugeiliaid yn ynfyd; nid ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD; am hynny nid ydynt yn llwyddo, ac y mae eu holl braidd ar wasgar.
10:22 Clyw! Neges! Wele, y mae'n dod! Cynnwrf mawr o dir y gogledd, i wneud dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch ac yn drigfa bleiddiaid.
10:23 Gwn, O ARGLWYDD, nad eiddo neb ei ffordd; ni pherthyn i'r teithiwr drefnu ei gamre.
10:24 Cosba fi, ARGLWYDD, ond mewn barn, nid yn ôl dy lid, rhag iti fy niddymu.
10:25 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd nad ydynt yn dy adnabod, ac ar y teuluoedd nad ydynt yn galw ar dy enw. Canys y maent wedi bwyta Jacob, ei fwyta a'i ddifetha, ac wedi difodi ei drigfan.

Jeremeia a'r Cyfamod

11:1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:
11:2 "Clywch eiriau'r cyfamod hwn, a llefarwch wrth bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem,
11:3 a dweud wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Melltith ar y sawl na wrendy ar eiriau'r cyfamod hwn,
11:4 a orchmynnais i'ch hynafiaid y dydd y dygais hwy allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn, a dweud, "Gwrandewch arnaf, a gwnewch yn unol â'r hyn a orchmynnaf i chwi; a byddwch yn bobl i mi, a byddaf finnau'n Dduw i chwi."
11:5 Fel hyn y gwireddir y llw a dyngais i'ch hynafiaid, i roi iddynt wlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel y mae heddiw.'" Atebais innau, "Amen, ARGLWYDD."
11:6 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Cyhoedda'r holl eiriau hyn yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, a dywed, 'Clywch eiriau'r cyfamod hwn, a'u gwneud.
11:7 Oherwydd rhybuddiais eich hynafiaid o'r dydd y dygais hwy o'r Aifft hyd y dydd hwn; rhybuddiais hwy yn ddifrifol, a dweud, "Gwrandewch arnaf."
11:8 Ond ni wrandawsant, nac estyn clust i glywed, ond rhodiodd pob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus. Felly dygais arnynt holl eiriau'r cyfamod hwn y gorchmynnais iddynt ei wneud ond na wnaethant.'"
11:9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Cafwyd cynllwyn ymhlith pobl Jwda a thrigolion Jerwsalem.
11:10 Troesant yn ôl at ddrygioni eu hynafiaid gynt pan wrthodent wrando fy ngeiriau. Aethant ar ôl duwiau eraill i'w gwasanaethu, a thorrodd tŷ Israel a thŷ Jwda fy nghyfamod, a wneuthum â'u hynafiaid.
11:11 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Rwyf am ddwyn drwg arnynt na allant ei osgoi; a gwaeddant arnaf, ond ni wrandawaf.
11:12 Yna fe â dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem i weiddi ar y duwiau yr arferent arogldarthu iddynt, ond yn sicr ni allant hwy eu gwaredu yn amser eu drygfyd.
11:13 Yn wir, y mae dy dduwiau mor aml â'th ddinasoedd, O Jwda, ac wrth nifer heolydd Jerwsalem codasoch allorau er cywilydd, allorau i arogldarthu i Baal.
11:14 "Ond amdanat ti, paid â gweddïo dros y bobl hyn, na chodi cri na gweddi, oherwydd ni fynnaf wrando pan alwant arnaf yn ystod eu drygfyd.
11:15 "Beth sydd a wnelo f'anwylyd â'm tŷ, a hithau'n cyflawni gweithredoedd ysgeler? A all llwon, neu gig sanctaidd, droi dy ddinistr heibio, fel y gelli lawenychu?
11:16 Olewydden ddeiliog deg a ffrwythlon y galwodd yr ARGLWYDD di; ond â thrwst cynnwrf mawr fe gyneua dân ynddi, ac ysir ei changau.
11:17 ARGLWYDD y Lluoedd, yr un a'th blannodd, a draetha ddrwg yn dy erbyn, oherwydd y drygioni a wnaeth tŷ Israel a thŷ Jwda, gan fy nigio ac arogldarthu i Baal."
11:18 Yr ARGLWYDD a'm hysbysodd, a mi a'i gwn; dangosodd i mi eu gweith-redoedd.
11:19 Yr oeddwn innau fel oen tyner yn cael ei arwain i'w ladd, ac ni wyddwn mai ar fy nghyfer i y gosodent gynllwynion, gan ddweud, "Distrywiwn y pren a'i ffrwyth; torrwn ef ymaith o dir y rhai byw, fel na chofir ei enw mwy."
11:20 O ARGLWYDD y Lluoedd, barnwr cyfiawn, chwiliwr y galon a'r deall, rho i mi weld dy ddialedd arnynt, canys i ti y datguddiaf fy nghwyn.
11:21 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am bobl Anathoth, sydd yn ceisio fy einioes ac yn dweud, "Paid â phroffwydo mwyach yn enw yr ARGLWYDD, ac ni fyddi farw trwy ein dwylo ni."
11:22 Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Rwyf am ddial arnynt; bydd eu gwŷr ifainc farw trwy'r cleddyf, a'u meibion a'u merched o newyn;
11:23 ac ni bydd gweddill ohonynt. Dygaf ddrygfyd ar bobl Anathoth ym mlwyddyn eu cosbi."

Jeremeia'n Holi'r Arglwydd

12:1 Cyfiawn wyt, ARGLWYDD, pan ddadleuaf â thi; er hynny, gosodaf fy achos o'th flaen: Pam y llwydda ffordd y drygionus, ac y ffynna pob twyllwr?
12:2 Plennaist hwy, a gwreiddiasant; tyfant a dwyn ffrwyth. Yr wyt ar flaen eu tafod, ond ymhell o'u calon.
12:3 Ond yr wyt yn f'adnabod i, ARGLWYDD, yn fy ngweld, ac yn profi fy meddyliau tuag atat. Didola hwy fel defaid i'r lladdfa, a'u corlannu erbyn diwrnod lladd.
12:4 Pa hyd y galara'r tir, ac y gwywa'r glaswellt ym mhob maes? O achos drygioni y rhai sy'n trigo yno, ysgubwyd ymaith anifail ac aderyn, er i'r bobl ddweud, "Ni wêl ef ein diwedd ni."

Ateb Duw

12:5 "Os wyt wedi rhedeg gyda'r gwŷr traed, a hwythau'n dy flino, pa fodd y cystedli â meirch? Ac os wyt yn baglu mewn gwlad rwydd, pa fodd y llwyddi yng ngwlad wyllt yr Iorddonen?
12:6 Oherwydd y mae hyd yn oed dy dylwyth a'th deulu dy hun wedi dy dwyllo; buont yn galw'n daer ar dy ôl; paid â'u coelio, er iddynt ddweud geiriau teg wrthyt.
12:7 Gadewais fy nhŷ, rhois heibio fy nhreftadaeth, rhois anwylyd fy nghalon yn llaw ei gelynion.
12:8 Aeth fy nhreftadaeth yn fy ngolwg fel llew yn y coed; y mae'n codi ei llais yn f'erbyn; am hynny yr wyf yn ei chasáu.
12:9 Onid yw fy nhreftadaeth i mi fel aderyn brith, a'r adar yn ymgasglu yn ei erbyn? Casglwch holl fwystfilod y maes, a'u dwyn i fwyta.
12:10 Y mae bugeiliaid lawer wedi distrywio fy ngwinllan, a sathru ar fy rhandir; gwnaethant fy rhandir dirion yn anial diffaith.
12:11 Gwnaethant hi'n anrhaith, ac fe alara'r anrheithiedig wrthyf; anrheithiwyd yr holl wlad, ac nid oes neb yn malio.
12:12 Daw dinistrwyr ar holl foelydd yr anialwch; y mae cleddyf yr ARGLWYDD yn difa'r wlad o'r naill ben i'r llall; nid oes heddwch i un cnawd.
12:13 Y maent yn hau gwenith ac yn medi drain, yn ymlâdd heb elwa dim; yn cael eu siomi yn eu cynhaeaf, oherwydd angerdd llid yr ARGLWYDD."
12:14 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am fy holl gymdogion drwg, sy'n ymyrryd â'r etifeddiaeth a roddais i'm pobl Israel i'w meddiannu: "Rwyf am eu diwreiddio o'u tir, a thynnu tŷ Jwda o'u plith.
12:15 Ac yna, wedi i mi eu diwreiddio, fe drugarhaf wrthynt drachefn, a'u hadfer bob un i'w etifeddiaeth a'i dir.
12:16 Os dysgant yn drwyadl ffyrdd fy mhobl, a thyngu i'm henw, 'Byw yw'r ARGLWYDD', fel y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal, yna sefydlir hwy yng nghanol fy mhobl.
12:17 Ond os na wrandawant, yna'n sicr fe ddiwreiddiaf a llwyr ddinistrio'r genedl honno," medd yr ARGLWYDD.

Y Gwregys Lliain

13:1 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: "Dos a phryn wregys lliain, a'i roi am dy lwynau; paid â'i ddodi mewn dŵr."
13:2 Prynais wregys ar air yr ARGLWYDD, a'i roi am fy llwynau.
13:3 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf eilwaith, a dweud,
13:4 "Cymer y gwregys a brynaist, ac sydd am dy lwynau, a dos i ymyl afon Ewffrates a'i guddio yno mewn hollt yn y graig."
13:5 Felly euthum a'i guddio wrth ymyl afon Ewffrates, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i mi.
13:6 Ar ôl dyddiau lawer dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Dos i ymyl afon Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys y gorchmynnais iti ei guddio yno."
13:7 Euthum innau yno, a chloddio a chymryd y gwregys o'r lle y cuddiais ef; ac wele, yr oedd y gwregys wedi ei ddifetha, ac nid oedd yn dda i ddim.
13:8 Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
13:9 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Felly y difethaf finnau falchder Jwda a balchder mawr Jerwsalem.
13:10 Fel y gwregys yma, nad yw'n dda i ddim, y bydd y bobl ddrygionus hyn, sy'n gwrthod gwrando ar fy ngeiriau, ond yn rhodio yn ystyfnigrwydd eu calon, ac yn dilyn duwiau eraill i'w gwasanaethu a'u haddoli.
13:11 Oherwydd fel y gafael gwregys am lwynau rhywun, felly y perais i holl dŷ Israel a holl dŷ Jwda afael ynof fi," medd yr ARGLWYDD, "i fod yn bobl i mi, ac yn enw, ac yn foliant ac yn ogoniant; ond ni wrandawsant.

Y Gostrel Win

13:12 "Dywed wrthynt y gair yma: 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Llenwir pob costrel â gwin.' A dywedant wrthyt, 'Oni wyddom ni'n iawn y llenwir pob costrel â gwin?'
13:13 Yna dywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n llenwi'n feddw holl drigolion y tir hwn, yn frenhinoedd sy'n eistedd ar orseddfainc Dafydd, yn offeiriaid ac yn broffwydi, a holl drigolion Jerwsalem.
13:14 Drylliaf hwy y naill yn erbyn y llall, rhieni a phlant ynghyd, medd yr ARGLWYDD; nid arbedaf ac ni thosturiaf ac ni thrugarhaf, eithr difethaf hwy.'"

Bygwth Caethglud

13:15 Clywch a gwrandewch; peidiwch ag ymfalchïo, canys llefarodd yr ARGLWYDD.
13:16 Rhowch ogoniant i'r ARGLWYDD eich Duw cyn iddo beri tywyllwch, a chyn i'ch traed faglu yn y gwyll ar y mynyddoedd; a thra byddwch yn disgwyl am olau, bydd yntau'n ei droi yn dywyllwch dudew, ac yn ei wneud yn nos ddu.
13:17 Ac os na wrandewch ar hyn, mi wylaf yn y dirgel am eich balchder; fe ffrydia fy llygaid ddagrau chwerw, oherwydd dwyn diadell yr ARGLWYDD i gaethiwed.
13:18 "Dywed wrth y brenin a'r fam frenhines, 'Eisteddwch yn ostyngedig, oherwydd syrthiodd eich coron anrhydeddus oddi ar eich pen.'
13:19 Caeir dinasoedd y Negef, heb neb i'w hagor; caethgludir Jwda gyfan, caethgludir hi yn llwyr."
13:20 Dyrchafwch eich llygaid, a gwelwch y rhai a ddaw o'r gogledd. Ple mae'r praidd a roddwyd i ti, dy ddiadell braf?
13:21 Beth a ddywedi pan roddir y rhai a ddysgaist yn feistri arnat, a'r rhai a fegaist yn ben arnat? Oni chydia ynot ofidiau, fel gwraig wrth esgor?
13:22 A phan feddyli, "Pam y digwyddodd hyn i mi?", yn ôl amlder dy gamwedd y codwyd godre dy wisg, ac y dinoethwyd dy gorff.
13:23 A newidia'r Ethiopiad ei groen, neu'r llewpard ei frychni? A allwch chwithau wneud daioni, chwi a fagwyd mewn drygioni?
13:24 "Fe'u chwalaf hwy fel us a chwythir gan wynt y diffeithwch.
13:25 Hyn fydd dy ran, yr hyn a fesurais i ti," medd yr ARGLWYDD, "am i ti fy anghofio, ac ymddiried mewn celwydd.
13:26 Mi godaf odre dy wisg dros dy wyneb, ac amlygir dy warth.
13:27 Gwelais dy anlladrwydd, dy odineb, dy weryriad nwydus, a budreddi dy buteindra ar fryn a maes. Gwae di, Jerwsalem! Ni fyddi'n lân! Pa hyd, eto, y pery hyn?"

Y Sychder Mawr

14:1 Dyma air yr ARGLWYDD at Jeremeia ynghylch y sychder:
14:2 "Y mae Jwda'n galaru, a'i phyrth yn llesg; y maent yn cwynfan ar lawr, a chri Jerwsalem yn esgyn fry.
14:3 Y mae'r pendefigion yn anfon y gweision i gyrchu dŵr; dônt at y ffosydd a'u cael yn sych, dychwelant a'u llestri'n wag; mewn cywilydd a dryswch fe guddiant eu hwynebau.
14:4 Oherwydd craciodd y pridd am na ddaeth glaw i'r wlad; mewn cywilydd cuddiodd yr amaethwyr eu hwynebau.
14:5 Y mae'r ewig yn bwrw llwdn yn y maes, ac yn ei adael am nad oes porfa;
14:6 y mae'r asynnod gwyllt yn sefyll ar y moelydd uchel, ac yn yfed gwynt fel bleiddiaid; pylodd eu llygaid am nad oes gwellt."
14:7 "Yn ddiau, er i'n drygioni dystio yn ein herbyn, O ARGLWYDD, gweithreda er mwyn dy enw. Y mae ein gwrthgilio'n aml, pechasom yn dy erbyn.
14:8 Gobaith Israel, a'i geidwad yn awr ei adfyd, pam y byddi fel dieithryn yn y tir, fel ymdeithydd yn lledu pabell i aros noson?
14:9 Pam y byddi fel un mewn syndod, fel un cryf yn methu achub? Ond eto yr wyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD; dy enw di a roddwyd arnom; paid â'n gadael."
14:10 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn: "Mor hoff ganddynt yw crwydro heb atal eu traed; am hynny, ni fyn yr ARGLWYDD mohonynt, fe gofia eu drygioni yn awr, a chosbi eu pechodau."
14:11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Paid â gweddïo dros les y bobl hyn.
14:12 Pan ymprydiant, ni wrandawaf ar eu cri; pan aberthant boethoffrwm a bwydoffrwm, ni fynnaf hwy; ond difethaf hwy â'r cleddyf a newyn a haint."
14:13 Dywedais innau, "O fy Arglwydd DDUW, wele'r proffwydi yn dweud wrthynt, 'Ni welwch gleddyf, ni ddaw newyn arnoch, ond fe rof i chwi wir heddwch yn y lle hwn.'"
14:14 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Proffwydo celwyddau yn fy enw i y mae'r proffwydi; nid anfonais hwy, na gorchymyn iddynt, na llefaru wrthynt. Proffwydant i chwi weledigaethau gau, a dewiniaeth ffôl, a thwyll eu dychymyg eu hunain.
14:15 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sy'n proffwydo yn fy enw er nad anfonais hwy, sy'n dweud na bydd cleddyf na newyn yn y wlad hon: 'Trwy'r cleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny.
14:16 Oherwydd y newyn a'r cleddyf, teflir allan i heolydd Jerwsalem y bobl y proffwydir iddynt, heb neb i'w claddu hwy eu hunain na'u gwragedd na'u meibion na'u merched. Tywalltaf eu drygioni arnynt.'
14:17 "A dywedi wrthynt y gair hwn: 'Difered fy llygaid ddagrau, nos a dydd heb beidio. Daeth briw enbyd i'r wyryf, merch fy mhobl; ergyd drom iawn.
14:18 Os af i'r maes, yno y mae'r cyrff a laddwyd â'r cleddyf. Os af i'r ddinas, yno y mae'r rhai a nychwyd gan y newyn. Y mae'r proffwyd hefyd a'r offeiriad yn crwydro'r wlad, a heb ddeall.'"

Y Bobl yn Ymbil ar yr Arglwydd

14:19 A wrthodaist ti Jwda yn llwyr? A ffieiddiaist ti Seion? Pam y trewaist ni heb fod inni iachâd? Disgwyl yr oeddem am heddwch, ond ni ddaeth daioni; am amser iachâd, ond dychryn a ddaeth.
14:20 Cydnabyddwn, ARGLWYDD, ein drygioni, a chamwedd ein hynafiaid; yn wir, yr ydym wedi pechu yn dy erbyn.
14:21 Ond oherwydd dy enw, paid â'n ffieiddio ni, na dirmygu dy orsedd ogoneddus; cofia dy gyfamod â ni, paid â'i dorri.
14:22 A oes neb ymhlith gau dduwiau'r cenhedloedd a rydd lawogydd? A rydd y nefoedd ei hun gawodydd? Na, ond ti, yr ARGLWYDD ein Duw, ynot ti yr hyderwn, ti yn unig a wnei'r pethau hyn oll.

Tynged Pobl Jwda

15:1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Pe safai Moses a Samuel o'm blaen, eto ni byddai gennyf serch at y bobl hyn. Bwrw hwy allan o'm golwg, a bydded iddynt fynd ymaith.
15:2 Ac os dywedant wrthyt, 'I ble'r awn?', dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Y sawl sydd i angau, i angau; y sawl sydd i gleddyf, i gleddyf; y sawl sydd i newyn, i newyn; y sawl sydd i gaethiwed, i gaethiwed.'
15:3 A chosbaf hwy mewn pedair ffordd, medd yr ARGLWYDD: cleddyf i ladd, y cŵn i larpio, adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt i ysu ac i ddifa.
15:4 Gwnaf hwy yn arswyd i holl deyrnasoedd y byd, oherwydd yr hyn a wnaeth Manasse fab Heseceia, brenin Jwda, yn Jerwsalem.
15:5 Pwy a drugarha wrthyt, O Jerwsalem? Pwy a gydymdeimla â thi? Pwy a ddaw heibio i ymofyn amdanat?
15:6 Gadewaist fi, medd yr ARGLWYDD, a throi dy gefn arnaf; ac estynnaf finnau fy llaw yn dy erbyn i'th ddifa; rwy'n blino ar drugarhau.
15:7 Gwyntyllaf hwy â gwyntyll ym mhyrth y wlad; di-blantaf, difethaf fy mhobl, am na ddychwelant o'u ffyrdd.
15:8 Gwnaf eu gweddwon yn amlach na thywod y môr; dygaf anrheithiwr ganol dydd yn erbyn mam y gŵr ifanc, paraf i ddychryn a braw ddod arni yn ddisymwth.
15:9 Llesgâ'r un a esgorodd ar saith o feibion; syrth mewn llesmair, machluda ei haul, a hi eto'n ddydd; fe'i dygir i gywilydd a gwaradwydd. Rhoddaf i'r cleddyf y rhai sy'n weddill, yng ngŵydd eu gelynion, medd yr ARGLWYDD."

Cwyn Jeremeia

15:10 Gwae fi, fy mam, iti fy nwyn i'r byd yn ŵr ymrafael, yn ŵr cynnen i'r holl wlad. Ni bûm nac echwynnwr na dyledwr, eto y mae pawb yn fy melltithio.
15:11 Dywedodd yr ARGLWYDD, "Yn ddiau gwaredaf di er daioni; gwnaf i'th elyn ymbil â thi yn amser adfyd ac yn amser gofid."
15:12 "A ellir torri haearn, haearn o'r gogledd, neu bres?
15:13 Gwnaf dy gyfoeth a'th drysorau yn anrhaith, nid am bris ond oherwydd dy holl bechod yn dy holl derfynau.
15:14 Gwnaf i ti wasanaethu d'elynion mewn gwlad nad adwaenost, canys yn fy nicter cyneuwyd tân, a lysg hyd byth."
15:15 Fe wyddost ti, O ARGLWYDD; cofia fi, ymwêl â mi, dial drosof ar f'erlidwyr. Yn dy amynedd, paid â'm dwyn ymaith; gwybydd i mi ddwyn gwarth er dy fwyn di.
15:16 Cafwyd geiriau gennyt, ac aethant yn ymborth i mi; daeth dy air yn llawenydd i mi, ac yn hyfrydwch fy nghalon; canys galwyd dy enw arnaf, O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd.
15:17 Nid eisteddais yng nghwmni'r gwamal, ac ni chefais hwyl gyda hwy; ond eisteddwn fy hunan, oherwydd dy afael di arnaf; llenwaist fi â llid.
15:18 Pam y mae fy mhoen yn ddi-baid, a'm clwy yn ffyrnig, ac yn gwrthod iachâd? A fyddi di i mi fel nant dwyllodrus, neu fel dyfroedd yn pallu?
15:19 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Os dychweli, fe'th adferaf ac fe sefi o'm blaen; os tynni allan y gwerthfawr oddi wrth y di-werth, byddi fel genau i mi; try'r bobl atat ti, ond ni throi di atynt hwy.
15:20 Fe'th wnaf i'r bobl hyn yn fagwyr o bres; ymladdant yn dy erbyn ond ni'th orchfygant, canys yr wyf gyda thi i'th achub ac i'th wared," medd yr ARGLWYDD.
15:21 "Gwaredaf di o afael y rhai drygionus, rhyddhaf di o law'r rhai creulon."

Dydd Cosb

16:1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf:
16:2 "Paid â chymryd iti wraig; na fydded i ti feibion na merched yn y lle hwn.
16:3 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y bechgyn a'r genethod a enir yn y lle hwn, ac am y mamau a'u dwg hwy a'r hynafiaid a'u cenhedla yn y wlad hon:
16:4 'Byddant farw o angau dychrynllyd. Ni fydd galaru ar eu hôl ac ni chleddir hwy; byddant fel tail ar wyneb y tir. Fe'u lleddir gan gleddyf a newyn, a bydd eu celanedd yn ymborth i adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt.'
16:5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Paid â mynd i dŷ galar, na mynd i alaru na chydymdeimlo, oherwydd cymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn,' medd yr ARGLWYDD, 'a hefyd fy nghariad a'm tosturi.
16:6 Byddant farw, yn fawr a bach, yn y wlad hon; ni chleddir mohonynt ac ni alerir amdanynt; ni fyddant yn anafu eu cyrff nac yn eillio'u pennau o'u plegid.
16:7 Ni rennir bara galar i roi cysur iddynt am y marw, ac nid estynnir cwpan cysur am na thad na mam.
16:8 Ac nid ei di i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwy i fwyta ac yfed.'
16:9 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Yn y lle hwn, o flaen eich llygaid ac yn eich dyddiau, rwyf yn rhoi taw ar seiniau llawenydd a hapusrwydd, ar lais priodfab a phriodferch.'
16:10 "Pan fynegi'r holl eiriau hyn i'r bobl, dywedant wrthyt, 'Pam y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl ddrwg mawr hwn yn ein herbyn? Beth yw ein trosedd? Pa bechod a wnaethom yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?'
16:11 Dywed dithau wrthynt, 'Oherwydd i'ch hynafiaid fy ngadael i,' medd yr ARGLWYDD, 'a rhodio ar ôl duwiau eraill, a'u gwasanaethu a'u haddoli, a'm gwrthod i, heb gadw fy nghyfraith.
16:12 A gwnaethoch chwi yn waeth na'ch hynafiaid, gan rodio bob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus, heb wrando arnaf fi.
16:13 Am hynny, fe'ch hyrddiaf chwi allan o'r wlad hon i wlad nad adwaenoch chwi na'ch hynafiaid; yno gwasanaethwch dduwiau eraill, ddydd a nos, oherwydd ni wnaf unrhyw ffafr â chwi.'

Dychwelyd o'r Gaethglud

16:14 "Am hynny, y mae'r dyddiau ar ddod," medd yr ARGLWYDD, "pryd na ddywedir mwyach, 'Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft',
16:15 ond, 'Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, o'r holl wledydd lle gyrrodd hwy.' Ac fe'u dychwelaf i'w gwlad, y wlad a roddais i'w hynafiaid.

Dal y Bobl am eu Pechod

16:16 "Yr wyf yn anfon am bysgotwyr lawer," medd yr ARGLWYDD, "ac fe'u daliant. Wedi hynny anfonaf am helwyr lawer, ac fe'u heliant oddi ar bob mynydd a phob bryn, ac o holltau'r creigiau.
16:17 Oherwydd y mae fy llygaid ar eu holl ffyrdd hwy; ni chuddiwyd hwy o'm gŵydd, ac nid yw eu drygioni wedi ei gelu o'm golwg.
16:18 Yn gyntaf, mi dalaf yn ddwbl am eu drygioni a'u pechod, am iddynt halogi fy nhir â chelanedd eu duwiau ffiaidd; llanwodd eu ffieidd-dra fy etifeddiaeth."

Hyder Jeremeia yn yr Arglwydd

16:19 O ARGLWYDD, fy nerth a'm cadernid, fy noddfa mewn dydd o flinder, atat ti y daw'r cenhedloedd, o gyrion pellaf byd, a dweud, "Diau i'n hynafiaid etifeddu celwydd, oferedd, a phethau di-les.
16:20 A wna rhywun dduw iddo'i hun? Nid yw'r rhain yn dduwiau."
16:21 "Am hynny, wele, paraf iddynt wybod; y waith hon mi ddangosaf iddynt fy nerth a'm grym. A deallant mai'r ARGLWYDD yw fy enw.

Pechod a Chosb Jwda

17:1 "Y mae pechod Jwda wedi ei ysgrifennu â phin haearn, a'i gerfio â blaen adamant ar lech eu calon,
17:2 ac ar gyrn eu hallorau i atgoffa eu plant. Y mae eu hallorau a'u pyst wrth ymyl prennau gwyrddlas ar fryniau uchel,
17:3 yn y mynydd-dir a'r meysydd. Gwnaf dy gyfoeth a'th drysorau yn anrhaith, yn bris am dy bechod trwy dy holl derfynau.
17:4 Gollyngi o'th afael yr etifeddiaeth a roddais i ti, a gwnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn gwlad nad adwaenost, canys yn fy nicter cyneuwyd tân a lysg hyd byth."
17:5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Melltigedig fo'r sawl sydd â'i hyder mewn meidrolyn, ac yn gwneud cnawd yn fraich iddo, ac yn gwyro oddi wrth yr ARGLWYDD.
17:6 Bydd fel prysgwydd yn y diffeithwch; ni fydd yn gweld daioni pan ddaw. Fe gyfanhedda fannau moelion yr anialwch, mewn tir hallt heb neb yn trigo ynddo.
17:7 Bendigedig yw'r sawl sy'n hyderu yn yr ARGLWYDD, a'r ARGLWYDD yn hyder iddo.
17:8 Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd, yn gwthio'i wreiddiau i'r afon, heb ofni gwres pan ddaw, a'i ddail yn ir; ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho.
17:9 "Y mae'r galon yn fwy ei thwyll na dim, a thu hwnt i iachâd; pwy sy'n ei deall hi?
17:10 Ond yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galon ac yn profi cymhellion, i roi i bawb yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl ffrwyth eu gweithredoedd."
17:11 Fel petrisen yn crynhoi cywion nas deorodd, y mae'r sawl sy'n casglu cyfoeth yn anghyfiawn; yng nghanol ei ddyddiau bydd yn ei adael ef, a bydd ei ddiwedd yn ei ddangos yn ynfyd.
17:12 Gorsedd ogoneddus, ddyrchafedig o'r dechreuad, dyna fan ein cysegr ni.
17:13 O ARGLWYDD, gobaith Israel, gwaradwyddir pawb a'th adawa; torrir ymaith oddi ar y ddaear y rhai sy'n troi oddi wrthyt, am iddynt adael yr ARGLWYDD, ffynnon y dyfroedd byw.

Ceisio Gwaredigaeth

17:14 Iachâ fi, O ARGLWYDD, ac fe'm hiacheir; achub fi, ac fe'm hachubir; canys ti yw fy moliant.
17:15 Ie, dywedant wrthyf, "Ple mae gair yr ARGLWYDD? Deued yn awr!"
17:16 Ond myfi, ni phwysais arnat i'w drygu, ac ni ddymunais iddynt y dydd blin. Gwyddost fod yr hyn a ddaeth o'm genau yn uniawn ger dy fron.
17:17 Paid â bod yn ddychryn i mi; fy nghysgod wyt ti yn nydd drygfyd.
17:18 Gwaradwydder f'erlidwyr, ac na'm gwaradwydder i; brawycher hwy, ac na'm brawycher i; dwg arnynt hwy ddydd drygfyd, dinistria hwy â dinistr deublyg.

Cadw'r Saboth

17:19 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: "Dos, a saf ym mhorth Benjamin, yr un y mae brenhinoedd Jwda yn mynd i mewn ac allan trwyddo, ac yn holl byrth Jerwsalem,
17:20 a dywed wrthynt, 'Clywch air yr ARGLWYDD, O frenhinoedd Jwda, a holl Jwda, a holl drigolion Jerwsalem sy'n dod trwy'r pyrth hyn.
17:21 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gwyliwch am eich einioes na ddygwch faich ar y dydd Saboth, na'i gludo trwy byrth Jerwsalem;
17:22 ac na ddygwch faich allan o'ch tai ar y dydd Saboth, na gwneud dim gwaith; ond sancteiddiwch y dydd Saboth, fel y gorchmynnais i'ch hynafiaid.
17:23 Ond ni wrandawsant hwy, na gogwyddo clust, ond ystyfnigo rhag gwrando, a rhag derbyn disgyblaeth.
17:24 Er hynny, os gwrandewch yn ddyfal arnaf, medd yr ARGLWYDD, a pheidio â dwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth, ond sancteiddio'r dydd Saboth trwy beidio â gwneud dim gwaith arno,
17:25 yna fe ddaw trwy byrth y ddinas hon frenhinoedd a thywysogion i eistedd ar orsedd Dafydd, ac i deithio mewn cerbydau a marchogaeth ar feirch – hwy a'u tywysogion, pobl Jwda a phres-wylwyr Jerwsalem – a chyfanheddir y ddinas hon hyd byth.
17:26 A daw pobloedd o ddinasoedd Jwda a chwmpasoedd Jerwsalem, a thiriogaeth Benjamin, o'r Seffela a'r mynydd-dir, a'r Negef, gan ddwyn poethoffrymau ac aberthau, bwydoffrwm a thus, ac offrwm diolch i dŷ'r ARGLWYDD.
17:27 Ac os na wrandewch arnaf a sancteiddio'r dydd Saboth, a pheidio â chludo baich wrth ddod i mewn i byrth Jerwsalem ar y dydd Saboth, yna mi gyneuaf dân yn y pyrth hynny, tân a lysg balasau Jerwsalem, heb neb i'w ddiffodd.'"

Jeremeia yn Nhŷ'r Crochenydd

18:1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:
18:2 "Cod a dos i lawr i dŷ'r crochenydd; yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau."
18:3 Euthum i lawr i dŷ'r crochenydd, a'i gael yn gweithio ar y droell.
18:4  A difwynwyd yn llaw'r crochenydd y llestr pridd yr oedd yn ei lunio, a gwnaeth ef yr eildro yn llestr gwahanol, fel y gwelai'n dda.
18:5 Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf,
18:6 "Oni allaf fi eich trafod chwi, tŷ Israel, fel y mae'r crochenydd hwn yn ei wneud â'r clai?" medd yr ARGLWYDD. "Fel clai yn llaw'r crochenydd, felly yr ydych chwi yn fy llaw i, tŷ Israel.
18:7 Ar unrhyw funud gallaf benderfynu diwreiddio a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu deyrnas.
18:8 Ac os bydd y genedl honno y lleferais yn ei herbyn yn troi oddi wrth ei drygioni, gallaf ailfeddwl am y drwg a fwriedais iddi.
18:9 Ar unrhyw funud gallaf benderfynu adeiladu a phlannu cenedl neu deyrnas,
18:10 ond os gwna'r genedl honno ddrygioni yn fy ngolwg, a gwrthod gwrando arnaf, gallaf ailfeddwl am y da a addewais iddi.
18:11 Yn awr dywed wrth bobl Jwda ac wrth breswylwyr Jerwsalem, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n llunio drwg yn eich erbyn, ac yn cynllunio yn eich erbyn. Dychwelwch, yn wir, bob un o'i ffordd ddrwg, a gwella'ch ffyrdd a'ch gweithredoedd.'
18:12 Ond dywedant hwy, 'Y mae pethau wedi mynd yn rhy bell. Dilynwn ein bwriadau ein hunain, a gweithredwn bob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus.'"
18:13 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Ymofynnwch ymhlith y cenhedloedd, pwy a glywodd ddim tebyg i hyn. Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn.
18:14 A gilia eira Lebanon oddi ar greigiau'r llethrau? A sychir dyfroedd yr ucheldir, sy'n ffrydiau oerion?
18:15 Ond mae fy mhobl wedi f'anghofio, ac wedi arogldarthu i dduwiau gau a barodd iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, yr hen rodfeydd, a cherdded llwybrau mewn ffyrdd heb eu trin.
18:16 Gwnaethant eu tir yn anghyfannedd, i rai chwibanu drosto hyd byth; bydd pob un sy'n mynd heibio iddo yn synnu, ac yn ysgwyd ei ben.
18:17 Fel gwynt y dwyrain y chwalaf hwy o flaen y gelyn; yn nydd eu trychineb dangosaf iddynt fy ngwegil, nid fy wyneb."

Cynllwyn yn erbyn Jeremeia

18:18 A dywedodd y bobl, "Dewch, gwnawn gynllwyn yn erbyn Jeremeia; ni chiliodd cyfarwyddyd oddi wrth yr offeiriad, na chyngor oddi wrth y doeth, na gair oddi wrth y proffwyd; dewch, gadewch inni ei faeddu â'r tafod, a pheidio ag ystyried yr un o'i eiriau."
18:19 Ystyria fi, O ARGLWYDD, a chlyw beth y mae f'achwynwyr yn ei ddweud.
18:20 A ad-delir drwg am dda? Cloddiasant bwll ar fy nghyfer. Cofia imi sefyll o'th flaen, i lefaru'n dda amdanynt ac i droi ymaith dy ddig oddi wrthynt.
18:21 Am hynny rho'u plant i'r newyn, lladder hwy trwy rym y cleddyf; bydded eu gwragedd yn weddwon di-blant, a'u gwŷr yn farw gelain, a'u gwŷr ifainc wedi eu taro â'r cleddyf mewn rhyfel.
18:22 Bydded i waedd godi o'u tai, am i'r ysbeiliwr ddod yn ddisymwth ar eu gwarthaf; canys cloddiasant bwll i'm dal, a chuddio maglau i'm traed.
18:23 Ond yr wyt ti, O ARGLWYDD, yn gwybod am eu holl gynllwyn yn f'erbyn, i'm lladd. Paid â maddau iddynt eu camwedd, na dileu eu pechod o'th ŵydd. Bydded iddynt faglu o'th flaen; delia â hwy yn awr dy ddigofaint.

Dryllio'r Ystên

19:1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Dos a phryn ystên bridd o waith crochenydd, a chymer rai o blith henuriaid y bobl a'r offeiriaid,
19:2 a dos allan i ddyffryn Ben-hinnom wrth fynedfa Porth Harsith, a chyhoedda yno y geiriau a fynegaf wrthyt,
19:3 a dweud, 'Clywch air yr ARGLWYDD, frenhinoedd Jwda a phreswylwyr Jerwsalem. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Byddaf yn dwyn y fath ddrwg ar y lle hwn nes bod clustiau pwy bynnag a glyw amdano yn merwino.
19:4 "'Am iddynt fy ngwrthod, a cham-ddefnyddio'r lle hwn ac arogldarthu ynddo i dduwiau eraill nad oeddent yn eu hadnabod, hwy na'u hynafiaid na brenhinoedd Jwda, a llenwi'r lle â gwaed y rhai dieuog,
19:5 ac adeiladu uchelfeydd i Baal, i losgi eu meibion yn y tân fel poethoffrwm i Baal, peth na orchmynnais, na'i lefaru, ac na ddaeth i'm meddwl –
19:6 am hynny, wele'r dyddiau'n dod, medd yr ARGLWYDD, pryd na elwir y lle hwn mwyach yn Toffet nac yn ddyffryn Ben-hinnom, ond yn ddyffryn y lladdfa.
19:7 "'Gwnaf gyngor Jwda a Jerwsalem yn ofer yn y lle hwn, a pharaf i'r bobl syrthio trwy'r cleddyf o flaen eu gelynion, a mynd i afael y rhai sy'n ceisio'u bywyd; rhof eu celanedd yn fwyd i adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt.
19:8 Gwnaf y ddinas hon yn arswyd ac yn syndod, a bydd pawb sy'n mynd heibio yn arswydo ac yn synnu at ei holl glwyfau.
19:9 Gwnaf iddynt fwyta cnawd eu meibion a chnawd eu merched; bwytânt gnawd ei gilydd yn y gwarchae ac yn y cyfyngder a ddygir arnynt gan eu gelynion a'r rhai sy'n ceisio'u bywyd.'
19:10 "Yna fe ddrylli'r ystên yng ngŵydd y gwŷr a aeth gyda thi,
19:11 a dweud wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Drylliaf y bobl hyn a'r ddinas hon, fel y dryllir llestr y crochenydd, ac ni ellir ei gyfannu mwyach. Fe gleddir cyrff yn Toffet o ddiffyg lle arall i'w claddu.
19:12 Felly y gwnaf i'r lle hwn a'i breswylwyr, medd yr ARGLWYDD, i beri i'r ddinas hon fod fel Toffet.
19:13 A bydd tai Jerwsalem a thai brenhinoedd Jwda fel mangre Toffet, yn halogedig – yr holl dai lle bu arogldarthu ar y to i holl lu'r nefoedd, a lle bu tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill.'"
19:14 Daeth Jeremeia o Toffet, lle'r oedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i broffwydo, a safodd yng nghyntedd tŷ'r ARGLWYDD, a llefarodd wrth yr holl bobl,
19:15 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Dyma fi'n dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefi, yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn, am iddynt ystyfnigo a gwrthod gwrando ar fy ngeiriau.'"

Jeremeia a Pasur yr Offeiriad

20:1 Yr oedd Pasur fab Immer, yr offeiriad, yn brif swyddog yn nhŷ'r ARGLWYDD, a phan glywodd fod Jeremeia yn proffwydo'r geiriau hyn,
20:2 trawodd Pasur y proffwyd Jeremeia, a'i roi yn y cyffion ym mhorth uchaf Benjamin yn nhŷ'r ARGLWYDD.
20:3 Trannoeth, pan ollyngodd Pasur ef o'r cyffion, dywedodd Jeremeia wrtho, "Nid Pasur y galwodd yr ARGLWYDD di ond Dychryn-ar-bob-llaw.
20:4 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Wele fi'n dy wneud yn ddychryn i ti dy hun ac i bawb o'th geraint. Syrthiant wrth gleddyf eu gelynion, a thithau'n gweld. Rhof hefyd holl Jwda yng ngafael brenin Babilon, i'w caethgludo i Fabilon a'u taro â'r cleddyf.
20:5 Rhof hefyd olud y ddinas hon, a'i holl gynnyrch, a phob dim gwerthfawr sydd ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda, yng ngafael eu gelynion, i'w hanrheithio a'u meddiannu a'u cludo i Fabilon.
20:6 A byddi di, Pasur, a holl breswylwyr dy dŷ, yn mynd i gaethiwed; i Fabilon yr ei, ac yno y byddi farw, a'th gladdu – ti a'th holl gyfeillion y proffwydaist gelwydd iddynt.'"

Cwynfan Jeremeia

20:7 Twyllaist fi, O ARGLWYDD, ac fe'm twyllwyd. Cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist fi. Cyff gwawd wyf ar hyd y dydd, a phawb yn fy ngwatwar.
20:8 Bob tro y llefaraf ac y gwaeddaf, "Trais! Anrhaith!" yw fy llef. Canys y mae gair yr ARGLWYDD i mi yn waradwydd ac yn ddirmyg ar hyd y dydd.
20:9 Os dywedaf, "Ni soniaf amdano, ac ni lefaraf mwyach yn ei enw", y mae yn fy nghalon yn llosgi fel tân wedi ei gau o fewn fy esgyrn. Blinaf yn ymatal; yn wir, ni allaf.
20:10 Clywais sibrwd gan lawer – dychryn-ar-bob-llaw: "Cyhuddwch ef! Fe'i cyhuddwn ni ef!" Y mae pawb a fu'n heddychlon â mi yn gwylio am gam gwag gennyf, ac yn dweud, "Efallai yr hudir ef, ac fe'i gorchfygwn, a dial arno."
20:11 Ond y mae'r ARGLWYDD gyda mi, fel rhyfelwr cadarn; am hynny fe dramgwydda'r rhai sy'n fy erlid, ac ni orchfygant; gwaradwyddir hwy'n fawr, canys ni lwyddant, ac nid anghofir fyth eu gwarth.
20:12 O ARGLWYDD y Lluoedd, yr wyt yn profi'r cyfiawn, ac yn gweld y galon a'r meddwl; rho imi weld dy ddialedd arnynt, canys dadlennais i ti fy nghwyn.
20:13 Canwch i'r ARGLWYDD. Moliannwch yr ARGLWYDD. Achubodd einioes y tlawd o afael y rhai drygionus.
20:14 Melltith ar y dydd y'm ganwyd; na fendiger y dydd yr esgorodd fy mam arnaf.
20:15 Melltith ar y gŵr aeth â'r neges i'm tad, "Ganwyd mab i ti", a rhoi llawenydd mawr iddo.
20:16 Bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedd a ddymchwelodd yr ARGLWYDD yn ddiarbed. Bydded iddo glywed gwaedd yn y bore, a bloedd am hanner dydd,
20:17 oherwydd na laddwyd mohonof yn y groth, ac na fu fy mam yn fedd i mi, a'i chroth yn feichiog arnaf byth.
20:18 Pam y deuthum allan o'r groth, i weld trafferth a gofid, a threulio fy nyddiau mewn gwarth?

Duw yn Gwrthod Sedeceia

21:1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD pan anfonodd y Brenin Sedeceia ato ef Pasur fab Malcheia a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia, a dweud,
21:2 "Ymofyn â'r ARGLWYDD drosom ni, oherwydd y mae Nebuchadnesar brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn. Tybed a wna yr ARGLWYDD â ni yn ôl ei holl ryfeddodau, a pheri iddo gilio ymaith oddi wrthym?"
21:3 Dywedodd Jeremeia wrthynt, "Dyma'r hyn a ddywedwch wrth Sedeceia:
21:4 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Wele fi'n troi arnoch chwi yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo i ymladd yn erbyn brenin Babilon a'r Caldeaid, sy'n gwarchae arnoch o'r tu allan i'r gaer; fe'u casglaf hwy i ganol y ddinas hon.
21:5 Byddaf fi fy hun yn rhyfela yn eich erbyn, a'm llaw wedi ei hestyn allan, a'm braich yn gref, mewn soriant a llid a digofaint mawr.
21:6 Trawaf drigolion y ddinas hon, yn ddyn ac yn anifail; byddant farw o haint mawr.
21:7 Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, rhof Sedeceia brenin Jwda a'i weision, a'r bobl a weddillir yn y ddinas hon wedi'r haint a'r cleddyf a'r newyn, yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yng ngafael eu gelynion a'r rhai a geisiai eu heinioes. Bydd ef yn eu taro â min y cleddyf, heb dosturio wrthynt nac arbed nac estyn trugaredd.'
21:8 "Wrth y bobl hyn hefyd dywed, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n gosod o'ch blaen ffordd bywyd a ffordd marwolaeth.
21:9 Bydd y sawl sy'n aros yn y ddinas hon yn marw drwy gleddyf neu newyn neu haint, a'r sawl sy'n mynd allan ac yn ildio i'r Caldeaid sy'n gwarchae arnoch yn byw; bydd yn arbed ei fywyd.
21:10 Gosodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg ac nid er da, medd yr ARGLWYDD; fe'i rhoddir yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei llosgi â thân.'

Barn ar Dŷ Brenin Jwda

21:11 "Wrth dŷ brenin Jwda dywed, 'Clyw air yr ARGLWYDD.
21:12 Tŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Barnwch yn uniawn yn y bore, achubwch yr ysbeiliedig o afael y gormeswr, rhag i'm llid fynd allan yn dân, a llosgi heb neb i'w ddiffodd, oherwydd eich gweithredoedd drwg.'
21:13 "Wele fi yn dy erbyn, ti breswylydd y dyffryn wrth graig y gwastadedd," medd yr ARGLWYDD. "Fe ddywedwch chwi, 'Pwy ddaw i waered yn ein herbyn? Pwy ddaw i mewn i'n gwâl?'
21:14 Talaf i chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd," medd yr ARGLWYDD. "Cyneuaf dân yn ei choedwig, ac ysa bob peth o'i hamgylch."

Neges Jeremeia i Dŷ Brenin Jwda

22:1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Dos i waered i dŷ brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn:
22:2 'Clyw air yr ARGLWYDD, frenin Jwda, sy'n eistedd ar orsedd Dafydd, tydi a'th weision a'th bobl sy'n tramwy trwy'r pyrth hyn.
22:3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gwnewch farn a chyfiawnder; achubwch yr ysbeiliedig o afael y gormeswr. Peidiwch â gwneud cam na niwed i'r dieithr, na'r amddifad na'r weddw, na thywallt gwaed dieuog yn y lle hwn.
22:4 Os yn wir y cyflawnwch y gair hwn, daw trwy byrth y tŷ hwn frenhinoedd yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn teithio mewn cerbydau ac yn marchogaeth ar feirch, pob un â'i weision a'i bobl.
22:5 Ond os na wrandewch ar y geiriau hyn, af ar fy llw, medd yr ARGLWYDD, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd.
22:6 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dŷ brenin Jwda: Rwyt i mi fel Gilead, a chopa Lebanon; ond fe'th wnaf yn ddiffeithwch ac yn ddinas anghyfannedd.
22:7 Neilltuaf ddinistrwyr yn dy erbyn, pob un â'i arfau; fe dorrant dy gedrwydd gorau, a'u bwrw i'r tân.
22:8 Bydd cenhedloedd lawer yn mynd heibio i'r ddinas hon, a phob un yn dweud wrth ei gilydd, "Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn â'r ddinas fawr hon?"
22:9 Ac atebant, "Oherwydd iddynt gefnu ar gyfamod yr ARGLWYDD eu Duw, ac addoli duwiau eraill, a'u gwasanaethu."'"

Neges Jeremeia ynglŷn â Salum

22:10 Peidiwch ag wylo dros y marw, na gofidio amdano; wylwch yn wir dros yr un sy'n mynd ymaith, oherwydd ni ddychwel mwyach, na gweld gwlad ei enedigaeth.
22:11 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Salum, mab Joseia brenin Jwda, a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad: "Aeth allan o'r lle hwn, ac ni ddychwel yma eto;
22:12 bydd farw yn y lle y caethgludwyd ef iddo, ac ni wêl y wlad hon eto."
22:13 Gwae'r sawl a adeilada'i dŷ heb gyfiawnder, a'i lofftydd heb farn, gan fynnu gwasanaeth ei gymydog yn rhad, heb roi iddo ddim am ei waith.

Neges Jeremeia ynglŷn â Jehoiacim

22:14 Gwae'r sawl a ddywed, "Adeiladaf i mi fy hun dŷ eang ac iddo lofftydd helaeth." Gwna iddo ffenestri, a phaneli o gedrwydd, a'i liwio â fermiliwn.
22:15 A wyt yn d'ystyried dy hun yn frenin oherwydd i ti gystadlu mewn cedrwydd? Oni fwytaodd dy dad, ac yfed, gan wneud cyfiawnder a barn, ac yna bu'n dda arno?
22:16 Barnodd ef achos y tlawd a'r anghenus, ac yna bu'n dda arno. "Onid hyn yw f'adnabod i?" medd yr ARGLWYDD.
22:17 Nid yw dy lygad na'th galon ond ar dy enillion anghyfiawn, i dywallt gwaed dieuog ac i dreisio a gwneud cam.
22:18 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda: "Ni alarant amdano, a dweud, 'O fy mrawd! O fy nghâr!' Ni alarant amdano, a dweud, 'O Arglwydd! O Fawrhydi!'
22:19 Fel claddu asyn y cleddir ef – ei lusgo a'i daflu y tu hwnt i byrth Jerwsalem."

Neges Jeremeia am Dynged Jerwsalem

22:20 Dring i Lebanon, a gwaedda; yn Basan cod dy lef; bloeddia o Abarim, "Dinistriwyd pawb sy'n dy garu."
22:21 Lleferais wrthyt yn dy wynfyd; dywedaist, "Ni wrandawaf." Dyma dy ffordd o'th ieuenctid, ac ni wrandewaist arnaf.
22:22 Bugeilia'r gwynt dy holl fugeiliaid, ac i gaethiwed yr â dy geraint; yna fe'th gywilyddir a'th waradwyddo am dy holl ddrygioni.
22:23 Ti, sy'n trigo yn Lebanon, ac a fagwyd rhwng y cedrwydd, O fel y llefi pan ddaw arnat wewyr, pangfeydd fel gwraig yn esgor!

Barn Duw ar Coneia

22:24 "Cyn wired â'm bod yn fyw," medd yr ARGLWYDD, "pe byddai Coneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, yn fodrwy ar fy llaw dde, fe'th dynnwn di oddi yno,
22:25 a'th roi yng ngafael y rhai sy'n ceisio dy einioes, ac yng ngafael y rhai yr wyt yn ofni rhagddynt, sef yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yn llaw y Caldeaid.
22:26 Fe'th fwriaf di, a'th fam a'th esgorodd, i wlad ddieithr lle ni'ch ganwyd, ac yno byddwch farw.
22:27 Ni ddychwelant i'r wlad yr hiraethant am ddychwelyd iddi."
22:28 Ai llestr dirmygus, drylliedig yw'r dyn hwn, Coneia, teclyn heb ddim hoffus ynddo? Pam y bwriwyd hwy ymaith, ef a'i had, a'u taflu i wlad nad adwaenant?
22:29 Wlad! Wlad! Wlad! Clyw air yr ARGLWYDD.
22:30 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Cofrestrwch y gŵr hwn yn ddi-blant, gŵr na lwydda ar hyd ei oes; canys ni lwydda neb o'i had ef i eistedd ar orsedd Dafydd, na llywodraethu eto yn Jwda."

Gobaith i'r Dyfodol

23:1 Gwae chwi fugeiliaid, sydd yn gwasgaru defaid fy mhorfa ac yn eu harwain ar grwydr," medd yr ARGLWYDD.
23:2 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, am y bugeiliaid sy'n bugeilio fy mhobl: "Gwasgarasoch fy mhraidd, a'u hymlid ymaith, heb wylio drostynt; ond yr wyf fi am ymweld â chwi am eich gwaith drygionus," medd yr ARGLWYDD.
23:3 "Yr wyf fi am gasglu ynghyd weddill fy mhraidd o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, a'u dwyn drachefn i'w corlan; ac fe amlhânt yn ffrwythlon.
23:4 Gosodaf arnynt fugeiliaid a'u bugeilia, ac nid ofnant mwyach, na chael braw; ac ni chosbir hwy," medd yr ARGLWYDD.
23:5 "Wele'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "y cyfodaf i Ddafydd Flaguryn cyfiawn, brenin a fydd yn llywodraethu'n ddoeth, yn gwneud barn a chyfiawnder yn y tir.
23:6 Yn ei ddyddiau ef fe achubir Jwda ac fe drig Israel mewn diogelwch; dyma'r enw a roddir iddo: 'Yr ARGLWYDD ein Cyfiawnder.'
23:7 "Am hynny, wele'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "pryd na ddywed neb mwyach, 'Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft',
23:8 ond, 'Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, a'u tywys o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, i drigo eto yn eu gwlad eu hunain.'"

Neges Jeremeia am y Proffwydi

23:9 Am y proffwydi: Torrodd fy nghalon, y mae fy esgyrn i gyd yn crynu; yr wyf fel dyn mewn diod, gŵr wedi ei orchfygu gan win, oherwydd yr ARGLWYDD ac oherwydd ei eiriau sanctaidd.
23:10 Y mae'r tir yn llawn o odinebwyr, ac o'u herwydd hwy y mae'r wlad wedi ei deifio, y mae porfeydd yr anialwch wedi crino; y mae eu hynt yn ddrwg a'u cadernid yn ddim.
23:11 "Aeth proffwyd ac offeiriad yn annuwiol; o fewn fy nhŷ y cefais eu drygioni," medd yr ARGLWYDD.
23:12 "Am hynny bydd eu ffyrdd fel mannau llithrig; gyrrir hwy i'r tywyllwch, a byddant yn syrthio yno. Canys dygaf ddrygioni arnynt ym mlwyddyn eu cosbi," medd yr ARGLWYDD.
23:13 "Ymhlith proffwydi Samaria gwelais beth anweddus: y maent yn proffwydo yn enw Baal, ac yn hudo fy mhobl Israel ar gyfeiliorn.
23:14 Ymhlith proffwydi Jerwsalem gwelais beth erchyll: godinebu a rhodio mewn anwiredd; y maent yn cynnal breichiau'r rhai drygionus, fel na thry neb oddi wrth ei ddrygioni. I mi aethant oll fel Sodom, a'u trigolion fel Gomorra."
23:15 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, am y proffwydi: "Wele, rhof wermod yn fwyd iddynt, a dŵr bustl yn ddiod, canys o blith proffwydi Jerwsalem aeth annuwioldeb allan trwy'r holl dir."
23:16 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Peidiwch â gwrando ar eiriau'r proffwydi sy'n proffwydo i chwi, gan addo i chwi bethau ffals; y maent yn llefaru gweledigaeth o'u dychymyg eu hunain, ac nid o enau yr ARGLWYDD.
23:17 Parhânt i ddweud wrth y rhai sy'n dirmygu gair yr ARGLWYDD, 'Heddwch fo i chwi'; ac wrth bob un sy'n rhodio yn ôl ystyfnigrwydd ei galon dywedant, 'Ni ddaw arnoch niwed.'
23:18 "Pwy a safodd yng nghyngor yr ARGLWYDD, a gweld a chlywed ei air? Pwy a ddaliodd ar ei air, a'i wrando?
23:19 Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig, gan chwyrlïo fel tymestl, a throelli uwchben yr annuwiol.
23:20 Ni phaid digofaint yr ARGLWYDD nes iddo gwblhau ei fwriadau a'u cyflawni. Yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn yn eglur.
23:21 Nid anfonais y proffwydi, ond eto fe redant; ni leferais wrthynt, ond eto fe broffwydant.
23:22 Pe baent wedi sefyll yn fy nghyngor, byddent wedi peri i'm pobl wrando ar fy ngeiriau, a'u troi o'u ffyrdd drygionus ac o'u gweithredoedd drwg.
23:23 "Onid Duw agos wyf fi," medd yr ARGLWYDD, "ac nid Duw pell?
23:24 A all unrhyw un lechu yn y dirgel fel na welaf mohono?" medd yr ARGLWYDD. "Onid wyf yn llenwi'r nefoedd a'r ddaear?" medd yr ARGLWYDD.
23:25 "Clywais yr hyn a ddywedodd y proffwydi sy'n proffwydo celwydd yn fy enw gan ddweud, 'Breuddwydiais, breuddwydiais!'
23:26 Pa hyd yr erys ym mwriad y proffwydi broffwydo celwydd – proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain?
23:27 Bwriadant beri i'm pobl anghofio fy enw trwy adrodd eu breuddwydion y naill wrth y llall, fel y bu i'w hynafiaid anghofio fy enw o achos Baal.
23:28 Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged ei freuddwyd, a'r hwn sydd â'm gair i ganddo, llefared fy ngair yn ffyddlon. Beth sy'n gyffredin rhwng gwellt a gwenith?" medd yr ARGLWYDD.
23:29 "Onid yw fy ngair fel tân," medd yr ARGLWYDD, "ac fel gordd sy'n dryllio'r graig?
23:30 Am hynny, wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n lladrata fy ngeiriau oddi ar ei gilydd," medd yr ARGLWYDD.
23:31 "Wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n llunio geiriau ac yn eu cyhoeddi fel oracl," medd yr ARGLWYDD.
23:32 "Wele fi yn erbyn y rhai sy'n proffwydo breuddwydion gau, yn eu hadrodd, ac yn hudo fy mhobl â'u hanwiredd a'u gwagedd," medd yr ARGLWYDD. "Nid anfonais i mohonynt, na rhoi gorchymyn iddynt; ni wnânt ddim lles i'r bobl hyn," medd yr ARGLWYDD.

Baich yr Arglwydd

23:33 "Pan ofynnir iti gan y bobl hyn, neu gan broffwyd neu offeiriad, 'Beth yw baich yr ARGLWYDD?' dywedi wrthynt, 'Chwi yw'r baich; ac fe'ch bwriaf ymaith, medd yr ARGLWYDD.'
23:34 Os dywed proffwyd neu offeiriad neu'r bobl, 'Baich yr ARGLWYDD', mi gosbaf hwnnw a'i dŷ.
23:35 Fel hyn y bydd pob un ohonoch yn dweud wrth siarad ymhlith eich gilydd: 'Beth a etyb yr ARGLWYDD?' neu, 'Beth a lefara'r ARGLWYDD?'
23:36 Ond ni fyddwch yn sôn eto am 'faich yr ARGLWYDD', oherwydd daeth 'baich' i olygu eich gair chwi eich hunain; yr ydych wedi gwyrdroi geiriau'r Duw byw, ARGLWYDD y Lluoedd, ein Duw ni.
23:37 Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd hwnnw: 'Pa ateb a roes yr ARGLWYDD iti?', neu, 'Beth a lefarodd wrthyt?'
23:38 Ac os dywedwch, 'Baich yr ARGLWYDD', yna, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Am i chwi ddefnyddio'r gair hwn, 'Baich yr ARGLWYDD', er i mi anfon atoch a dweud, 'Peidiwch â defnyddio "Baich yr ARGLWYDD",'
23:39 fe'ch codaf chwi fel baich a'ch taflu o'm gŵydd, chwi a'r ddinas a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid.
23:40 Rhof arnoch warth tragwyddol a gwaradwydd tragwyddol nas anghofir."

Dau Gawell o Ffigys

24:1 Dangosodd yr ARGLWYDD i mi, ac yno yr oedd dau gawell o ffigys wedi eu gosod o flaen teml yr ARGLWYDD. Yr oedd hyn ar ôl i Nebuchadnesar brenin Babilon gaethgludo Jechoneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, a'r crefftwyr a'r gofaint o Jerwsalem, a'u dwyn i Fabilon.
24:2 Yn un cawell yr oedd ffigys da iawn, fel ffigys blaenffrwyth, ac yn yr ail gawell ffigys drwg iawn, na ellid eu bwyta gan mor ddrwg oeddent.
24:3 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Beth a weli di, Jeremeia?" A dywedais, "Ffigys; y ffigys da yn dda iawn, a'r rhai drwg yn ddrwg iawn, na ellid eu bwyta gan mor ddrwg oeddent."
24:4 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf:
24:5 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Fel y ffigys da hyn yr ystyriaf y rhai a gaethgludwyd o Jwda, ac a yrrais o'r lle hwn er eu lles i wlad y Caldeaid.
24:6 Cadwaf fy ngolwg arnynt er daioni, a dygaf hwy'n ôl i'r wlad hon, a'u hadeiladu, ac nid eu tynnu i lawr; eu plannu ac nid eu diwreiddio.
24:7 Rhof iddynt galon i'm hadnabod, mai myfi yw'r ARGLWYDD; a byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy. Byddant yn troi ataf fi â'u holl galon.'
24:8 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Fel y ffigys drwg, na ellid eu bwyta gan mor ddrwg oeddent, yr ystyriaf Sedeceia brenin Jwda, a'i dywysogion, a gweddill Jerwsalem a adewir yn y wlad hon, a'r rhai sy'n trigo yng ngwlad yr Aifft.
24:9 Gwnaf hwy'n arswyd, yn gywilydd i holl deyrnasoedd y ddaear, ac yn ddihareb a gwatwar a melltith, ym mhob man lle'r alltudiaf hwy.
24:10 Gyrraf arnynt gleddyf a newyn a haint, nes eu difodi o'r tir a rois iddynt ac i'w hynafiaid.'"

Y Gelyn o'r Gogledd

25:1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda ym mhedwaredd flwyddyn Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, a blwyddyn gyntaf Nebuchadnesar brenin Babilon.
25:2 Llefarodd Jeremeia y proffwyd wrth holl bobl Jwda a holl breswylwyr Jerwsalem, gan ddweud,
25:3 "o'r drydedd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Joseia fab Amon, brenin Jwda, hyd heddiw, hynny yw, tair blynedd ar hugain, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a lleferais wrthych yn gyson, ond ni wrandawsoch.
25:4 Anfonodd yr ARGLWYDD ei holl weision y proffwydi atoch yn gyson; ond ni wrandawsoch, na gogwyddo clust i wrando,
25:5 pan ddywedwyd, 'Dychwelwch, yn awr, bob un o'i ffordd annuwiol, ac o'ch gweithredoedd drwg, a thrigwch yn y tir a roes yr ARGLWYDD i chwi ac i'ch hynafiaid byth ac yn dragywydd.
25:6 Peidiwch â mynd ar ôl duwiau eraill, i'w gwasanaethu a'u haddoli, a pheidiwch â'm digio â gwaith eich dwylo; yna ni wnaf niwed i chwi.'
25:7 Ond ni wrandawsoch arnaf," medd yr ARGLWYDD, "ond fy nigio â gwaith eich dwylo, er niwed i chwi.
25:8 "Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau,
25:9 yr wyf yn anfon am holl lwythau'r gogledd,' medd yr ARGLWYDD, 'ac am Nebuchadnesar brenin Babilon, fy ngwas, a'u dwyn yn erbyn y wlad hon a'i phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; a difrodaf hwy a'u gosod yn ddychryn ac yn syndod ac yn anghyfanedd-dra hyd byth.
25:10 Ataliaf o'u plith bob sain hyfryd a llawen, sain priodfab a phriodferch, sain meini melin yn malu, a golau llusern.
25:11 Bydd yr holl wlad hon yn ddiffaith ac yn ddychryn, a bydd y cenhedloedd hyn yn gwasanaethu brenin Babilon am ddeng mlynedd a thrigain.
25:12 Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain hyn cosbaf frenin Babilon a'r genedl honno am eu camwedd,' medd yr ARGLWYDD, 'a chosbaf wlad y Caldeaid, a gwnaf hi yn anghyfannedd hyd byth.
25:13 Dygaf ar y wlad honno yr holl eiriau a leferais yn ei herbyn, a phob peth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr hwn, pob peth a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd.
25:14 Canys fe'u caethiwir hwythau gan genhedloedd cryfion a brenhinoedd mawrion, ac felly y talaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd a gwaith eu dwylo.'"

Barn Duw ar y Cenhedloedd

25:15 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrthyf: "Cymer y cwpan hwn o win llidiog o'm llaw, a rho ef i'w yfed i'r holl genhedloedd yr anfonaf di atynt.
25:16 Byddant yn ei yfed, ac yn gwegian, ac yn gwallgofi oherwydd y cleddyf a anfonaf i'w plith."
25:17 Cymerais y cwpan o law yr ARGLWYDD, a diodais yr holl genhedloedd yr anfonodd yr ARGLWYDD fi atynt:
25:18 Jerwsalem a dinasoedd Jwda, ei brenhinoedd a'i thywysogion, i'w gwneud yn ddiffeithwch, yn ddychryn, yn syndod, ac yn felltith, fel y maent heddiw;
25:19 hefyd Pharo brenin yr Aifft, a'i weision a'i dywysogion a'i holl bobl,
25:20 a'u holl estroniaid; holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac Ascalon a Gasa ac Ecron a gweddill Asdod;
25:21 Edom a Moab a phobl Ammon;
25:22 holl frenhinoedd Tyrus a holl frenhinoedd Sidon, a brenhinoedd yr ynysoedd dros y môr;
25:23 Dedan a Tema a Bus; pawb sydd â'u talcennau'n foel;
25:24 holl frenhinoedd Arabia, a holl frenhinoedd y llwythau cymysg sy'n trigo yn yr anialwch;
25:25 holl frenhinoedd Simri, a holl frenhinoedd Elam, a holl frenhinoedd Media;
25:26 holl frenhinoedd y gogledd, yn agos ac ymhell, y naill ar ôl y llall, a holl deyrnasoedd byd ar wyneb y ddaear; brenin Sesach a gaiff yfed ar eu hôl hwy.
25:27 "Dywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Yfwch, a meddwi a chyfogi, a syrthio heb godi, oherwydd y cleddyf a anfonaf i'ch plith.'
25:28 Os gwrthodant gymryd y cwpan o'th law i'w yfed, yna dywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Y mae'n rhaid ei yfed.
25:29 Canys wele, yr wyf yn dechrau niweidio'r ddinas y galwyd fy enw arni; a ddihangwch chwi? Ni ddihangwch; canys yr wyf yn galw am gleddyf yn erbyn holl breswylwyr y wlad, medd ARGLWYDD y Lluoedd.'
25:30 Proffwydi dithau yn eu herbyn yr holl eiriau hyn a dweud, 'Y mae'r ARGLWYDD yn rhuo o'r uchelder; o'i drigfan sanctaidd fe gyfyd ei lef; rhua'n chwyrn yn erbyn ei drigle; gwaedda, fel gwaedd rhai yn sathru grawnwin, yn erbyn holl breswylwyr y tir.
25:31 Atseinia'r twrf hyd eithafoedd byd, canys bydd Duw'n dwyn achos yn erbyn y cenhedloedd, ac yn mynd i farn yn erbyn pob cnawd, ac yn rhoi'r drygionus i'r cleddyf, medd yr ARGLWYDD.'"
25:32 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Y mae dinistr ar gerdded allan o'r naill genedl i'r llall; cyfyd tymestl fawr o eithafoedd byd.
25:33 Y dydd hwnnw, bydd lladdedigion yr ARGLWYDD yn ymestyn o'r naill gwr i'r ddaear hyd y llall; ni fydd galaru amdanynt, ac nis cesglir na'u claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear."
25:34 Udwch, fugeiliaid, gwaeddwch; ymdreiglwch yn y lludw, chwi bendefigion y praidd; canys cyflawnwyd y dyddiau i'ch lladd a'ch gwasgaru, ac fe gwympwch fel llydnod dethol.
25:35 Collir lloches gan y bugeiliaid, a dihangfa gan bendefigion y praidd.
25:36 Clyw gri'r bugeiliaid, a nâd pendefigion y praidd! Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn difa'u porfa;
25:37 dryllir corlannau heddychlon gan lid digofaint yr ARGLWYDD.
25:38 Fel llew, gadawodd ei loches; aeth eu tir yn anghyfannedd gan lid gorthrymwr, a llid digofaint yr ARGLWYDD.

Gosod Jeremeia ar Brawf

26:1 Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, daeth y gair hwn oddi wrth yr ARGLWYDD:
26:2 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Saf yng nghyntedd tŷ'r ARGLWYDD a phan ddaw holl ddinasoedd Jwda i addoli yn nhŷ'r ARGLWYDD, llefara wrthynt yr holl eiriau a orchmynnaf, heb atal gair.
26:3 Efallai y gwrandawant, a dychwelyd, pob un o'i ffordd ddrwg, a minnau'n newid fy meddwl am y drwg a fwriedais iddynt oherwydd eu gweithredoedd drygionus.
26:4 Dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Os na wrandewch arnaf, a rhodio yn ôl fy nghyfraith a rois o'ch blaen,
26:5 a gwrando ar eiriau fy ngweision y proffwydi a anfonaf atoch – fel y gwnaed yn gyson, a chwithau heb wrando –
26:6 yna gwnaf y tŷ hwn fel Seilo, a'r ddinas hon yn felltith i holl genhedloedd y ddaear.'"
26:7 Clywodd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r holl bobl Jeremeia yn llefaru'r geiriau hyn yn nhŷ'r ARGLWYDD.
26:8 Pan orffennodd fynegi'r cyfan a orch-mynnodd yr ARGLWYDD wrth yr holl bobl, daliodd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r holl bobl ef, a dweud, "Rhaid iti farw;
26:9 pam y proffwydaist yn enw'r ARGLWYDD a dweud, 'Bydd y tŷ hwn fel Seilo, a gwneir y ddinas hon yn anghyfannedd, heb breswylydd'?" Yna ymgasglodd yr holl bobl o gwmpas Jeremeia yn nhŷ'r ARGLWYDD.
26:10 Pan glywodd tywysogion Jwda am hyn, daethant i fyny o dŷ'r brenin i dŷ'r ARGLWYDD, ac eistedd yn nrws porth newydd tŷ'r ARGLWYDD.
26:11 Dywedodd yr offeiriaid a'r proffwydi wrth y tywysogion ac wrth yr holl bobl, "Y mae'r gŵr hwn yn haeddu cosb marwolaeth, oherwydd proffwydodd yn erbyn y ddinas hon, fel y clywsoch chwi eich hunain."
26:12 Yna llefarodd Jeremeia wrth yr holl dywysogion a'r holl bobl, gan ddweud, "Yr ARGLWYDD a'm hanfonodd i broffwydo yn erbyn y tŷ hwn a'r ddinas hon yr holl eiriau a glywsoch.
26:13 Yn awr, gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe newidia'r ARGLWYDD ei feddwl am y drwg a lefarodd yn eich erbyn.
26:14 Amdanaf fi, dyma fi yn eich dwylo; gwnewch i mi fel y gwelwch yn dda ac uniawn.
26:15 Ond gwybyddwch yn sicr, os lladdwch fi, y byddwch yn dwyn arnoch eich hunain, ac ar y ddinas hon a'i thrigolion, waed dyn dieuog. Yn wir, yr ARGLWYDD sydd wedi fy anfon atoch i lefaru'r holl eiriau hyn yn eich clyw."
26:16 Dywedodd y tywysogion a'r holl bobl wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, "Nid yw'r gŵr hwn yn haeddu cosb marwolaeth, oherwydd yn enw'r ARGLWYDD ein Duw y llefarodd wrthym."
26:17 Yna cododd rhai o blith henuriaid y wlad a dweud wrth holl gynulleidfa'r bobl,
26:18 "Bu Micha o Moreseth yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, a dywedodd wrth holl bobl Jwda, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Bydd Seion yn faes wedi ei aredig, a Jerwsalem yn garneddau, a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.'
26:19 A laddwyd ef gan Heseceia brenin Jwda a holl Jwda? Onid ofnodd ef yr ARGLWYDD a cheisio ffafr yr ARGLWYDD, ac oni newidiodd yr ARGLWYDD ei feddwl am y drwg a lefarodd yn eu herbyn? Ond dyma ni am wneud drwg mawr i ni ein hunain."
26:20 A bu gŵr arall hefyd yn proffwydo yn enw'r ARGLWYDD, Ureia fab Semaia o Ciriath-jearim. Proffwydodd yn union yr un peth â Jeremeia yn erbyn y ddinas hon a'r wlad hon.
26:21 Clywodd y Brenin Jehoiacim a'i holl osgordd a'i dywysogion ei eiriau, a cheisiodd y brenin ei ladd. Pan glywodd Ureia, fe ofnodd a ffoi i'r Aifft.
26:22 Yna anfonodd Jehoiacim wŷr i'r Aifft, sef Elnathan fab Achbor a gwŷr eraill;
26:23 a daethant i'r Aifft, a chyrchu Ureia oddi yno a'i ddwyn at y Brenin Jehoiacim; lladdodd yntau ef â'r cleddyf, a thaflu ei gorff i fynwent y bobl gyffredin.
26:24 Yr oedd Ahicam fab Saffan o blaid Jeremeia, fel na roddwyd ef yng ngafael y bobl i'w ladd.

Jeremeia'n Gwisgo Iau

27:1 Yn nechrau teyrnasiad Sedeceia fab Joseia, brenin Jwda, daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD.
27:2 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD: "Gwna i ti rwymau a barrau iau, a'u gosod ar dy war;
27:3 ac anfon at frenhinoedd Edom, Moab, Ammon, Tyrus a Sidon, trwy law'r cenhadau a ddaw i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda.
27:4 Gorchmynna iddynt ddweud hyn wrth eu meistriaid, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Fel hyn y dywedwch wrth eich meistriaid:
27:5 "Â'm gallu mawr ac â'm braich estynedig gwneuthum y ddaear, a phobl, a'r anifeiliaid sydd ar wyneb y ddaear, a'u rhoi i'r sawl y gwelaf yn dda.
27:6 Yn awr, rhof y gwledydd hyn oll yn llaw fy ngwas Nebuchadnesar brenin Babilon, a rhof hyd yn oed yr holl anifeiliaid gwyllt iddo ef i'w wasanaethu.
27:7 Bydd yr holl genhedloedd yn ei wasanaethu ef a'i fab a mab ei fab, nes dod awr ei wlad yntau, a'i feistroli gan genhedloedd niferus a brenhinoedd mawrion.
27:8 Os bydd cenedl neu deyrnas heb wasanaethu Nebuchadnesar brenin Babilon, a heb roi ei gwar dan iau brenin Babilon, mi gosbaf y genedl honno â'r cleddyf a newyn a haint," medd yr ARGLWYDD, "nes imi ei dinistrio'n llwyr trwy ei law ef.
27:9 Peidiwch â gwrando ar eich proffwydi na'ch dewiniaid na'ch breuddwydwyr na'ch hudolion na'ch swynwyr, sy'n llefaru wrthych gan ddweud, 'Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.'
27:10 Oherwydd proffwydant gelwydd i chwi, er mwyn eich gyrru ymhell o'ch tir, ac i mi eich alltudio ac i chwi drengi.
27:11 Ond y genedl a rydd ei gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu, gadawaf honno yn ei thir," medd yr ARGLWYDD; "caiff ei drin a thrigo ynddo."'"
27:12 Lleferais wrth Sedeceia brenin Jwda hefyd yn unol â'r holl eiriau hyn, gan ddweud, "Rhowch eich gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu ef a'i bobl, er mwyn ichwi gael byw.
27:13 Pam y byddwch farw, ti a'th bobl, trwy'r cleddyf a newyn a haint, yn ôl yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD am y genedl na fydd yn gwasanaethu brenin Babilon?
27:14 Peidiwch â gwrando ar eiriau'r proffwydi sy'n dweud wrthych, 'Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.' Oherwydd y maent yn proffwydo celwydd i chwi.
27:15 Yn wir, nid myfi a'u hanfonodd," medd yr ARGLWYDD, "ond proffwydo'n gelwyddog y maent yn fy enw i, er mwyn i mi eich alltudio chwi ac i chwi drengi, chwi a'r proffwydi sy'n proffwydo i chwi."
27:16 Yna lleferais wrth yr offeiriaid a'r holl bobl hyn, gan ddweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Peidiwch â gwrando ar eiriau eich proffwydi sy'n proffwydo i chwi fod llestri tŷ'r ARGLWYDD i'w dwyn yn ôl o Fabilon yn awr ar fyrder. Y maent yn proffwydo celwydd i chwi;
27:17 peidiwch â gwrando arnynt, ond gwasanaethwch frenin Babilon, er mwyn ichwi gael byw. Pam y bydd y ddinas hon yn anghyfannedd?
27:18 Os proffwydi ydynt, ac os yw gair yr ARGLWYDD ganddynt, boed iddynt ymbil yn awr ar ARGLWYDD y Lluoedd rhag i'r llestri a adawyd yn nhŷ'r ARGLWYDD, ac yn nhŷ brenin Jwda ac yn Jerwsalem, fynd i Fabilon.'
27:19 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd ynghylch y colofnau, y môr a'r trolïau, ac ynghylch gweddill y llestri a adawyd yn y ddinas hon,
27:20 heb eu cymryd ymaith gan Nebuchadnesar brenin Babilon pan gaethgludodd Jechoneia fab Jehoiacim, brenin Jwda, o Jerwsalem i Fabilon, ynghyd â holl uchelwyr Jwda a Jerwsalem.
27:21 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, ynghylch y llestri a adawyd yn nhŷ'r ARGLWYDD a thŷ brenin Jwda a Jerwsalem:
27:22 'I Fabilon y dygir hwy, ac yno y byddant hyd y dydd y ceisiaf fi hwy,' medd yr ARGLWYDD; 'yna fe'u cyrchaf a'u hadfer i'r lle hwn.'"

Jeremeia a'r Proffwyd Hananeia

28:1 Yn yr un flwyddyn, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, sef y bedwaredd flwyddyn a'r pumed mis, llefarodd Hananeia fab Assur, y proffwyd o Gibeon, wrthyf yn nhŷ'r ARGLWYDD, yng ngŵydd yr offeiriaid a'r holl bobl, gan ddweud,
28:2 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Torraf iau brenin Babilon.
28:3 O fewn dwy flynedd adferaf i'r lle hwn holl lestri tŷ'r ARGLWYDD, a gymerodd Nebuchadnesar brenin Babilon o'r lle hwn a'u dwyn i Fabilon.
28:4 Adferaf hefyd i'r lle hwn Jechoneia fab Jehoiacim, brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda a aeth i Fabilon,' medd yr ARGLWYDD, 'canys torraf iau brenin Babilon.'"
28:5 Yna llefarodd y proffwyd Jeremeia wrth Hananeia y proffwyd, yng ngŵydd yr offeiriaid a'r holl bobl a safai yn nhŷ'r ARGLWYDD,
28:6 gan ddweud, "Amen, gwnaed yr ARGLWYDD felly; cadarnhaed yr ARGLWYDD y geiriau a broffwydaist, ac adfer o Fabilon i'r lle hwn lestri tŷ'r ARGLWYDD, a'r holl gaethglud.
28:7 Ond gwrando yn awr ar y gair hwn a lefaraf yn dy glyw, ac yng nghlyw'r holl bobl:
28:8 bu'r proffwydi a fu o'm blaen i ac o'th flaen di, o'r amser gynt, yn proffwydo rhyfeloedd a newyn a haint yn erbyn gwledydd lawer a theyrnasoedd mawrion.
28:9 Am y sawl sy'n proffwydo heddwch, gwyddys am y proffwyd hwnnw, mai'r ARGLWYDD yn wir a'i hanfonodd, os daw ei air i ben."
28:10 Yna cymerodd Hananeia y barrau oddi ar war y proffwyd Jeremeia, a'u torri.
28:11 Dywedodd Hananeia yng ngŵydd yr holl bobl, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Felly, o fewn dwy flynedd, torraf iau Nebuchadnesar brenin Babilon oddi ar war yr holl genhedloedd.'" Yna aeth y proffwyd Jeremeia ymaith.
28:12 Wedi i Hananeia y proffwyd dorri'r iau oddi ar war y proffwyd Jeremeia, daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia,
28:13 "Dos, a dywed wrth Hananeia, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Fe dorraist farrau pren; mi wnaf yn eu lle farrau haearn.
28:14 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Rhof iau haearn ar war yr holl genhedloedd hyn, i wasanaethu Nebuchadnesar brenin Babilon, ac fe'i gwasanaethant; a rhof iddo hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt.'"
28:15 Dywedodd y proffwyd Jeremeia wrth Hananeia y proffwyd, "Clyw yn awr, Hananeia! Nid anfonodd yr ARGLWYDD di; ond peraist i'r bobl hyn ymddiried mewn celwydd.
28:16 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Yr wyf yn dy yrru di oddi ar wyneb y ddaear; o fewn blwyddyn byddi farw, oherwydd dysgaist wrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.'"
28:17 Bu farw Hananeia y proffwyd y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.

Llythyr Jeremeia at yr Iddewon ym Mabilon

29:1 Dyma eiriau'r llythyr a anfonodd y proffwyd Jeremeia o Jerwsalem at weddill yr henuriaid yn y gaethglud, a'r offeiriaid a'r proffwydi, ac at yr holl bobl a gaethgludodd Nebuchadnesar o Jerwsalem i Fabilon.
29:2 Bu hyn wedi i'r Brenin Jechoneia, a'r fam frenhines a'r eunuchiaid, swyddogion Jwda a Jerwsalem, a'r seiri a'r gofaint, adael Jerwsalem.
29:3 Anfonodd y llythyr trwy law Elasa fab Saffan a Gemareia fab Hilceia, a anfonwyd gan Sedeceia brenin Jwda i Fabilon at Nebuchadnesar brenin Babilon.
29:4 Dyma ei eiriau: "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'At yr holl gaethglud a gaethgludais o Jerwsalem i Fabilon.
29:5 Codwch dai a thrigwch ynddynt; plannwch erddi a bwyta o'u ffrwyth;
29:6 priodwch wragedd, a magu meibion a merched; cymerwch wragedd i'ch meibion a rhoi gwŷr i'ch merched, i fagu meibion a merched; amlhewch yno, ac nid lleihau.
29:7 Ceisiwch heddwch y ddinas y caethgludais chwi iddi, a gweddïwch drosti ar yr ARGLWYDD, oherwydd yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwi.'
29:8 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eich proffwydi sydd yn eich mysg, na'ch dewiniaid, a pheidiwch â gwrando ar y breudd-wydion a freuddwydiant.
29:9 Proffwydant i chwi gelwydd yn f'enw i; nid anfonais hwy,' medd yr ARGLWYDD.
29:10 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Pan gyflawnir deng mlynedd a thrigain i Fabilon, ymwelaf â chwi a chyflawni fy mwriad daionus tuag atoch, i'ch adfer i'r lle hwn.
29:11 Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,' medd yr ARGLWYDD, 'bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol.
29:12 Yna galwch arnaf, a dewch i weddïo arnaf, a gwrandawaf arnoch.
29:13 Fe'm ceisiwch a'm cael; pan chwiliwch â'ch holl galon
29:14 fe'm cewch,' medd yr ARGLWYDD, 'ac adferaf ichwi lwyddiant, a'ch casglu o blith yr holl genhedloedd, ac o'r holl leoedd y gyrrais chwi iddynt,' medd yr ARGLWYDD; 'ac fe'ch dychwelaf i'r lle y caethgludwyd chwi ohono.'
29:15 "Yr ydych yn dweud, 'Cododd yr ARGLWYDD broffwydi i ni draw ym Mabilon.'
29:16 Ond dywed yr ARGLWYDD fel hyn am y brenin sy'n eistedd ar orsedd Dafydd, ac am yr holl bobl sy'n trigo yn y ddinas hon, a'r rhai nad aethant gyda chwi i'r gaethglud;
29:17 ie, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Dyma fi'n anfon arnynt y cleddyf a newyn a haint; a gwnaf hwy fel ffigys drwg, na ellir eu bwyta gan mor ddrwg ydynt.
29:18 Ymlidiaf hwy â'r cleddyf a newyn a haint, a gwnaf hwy'n arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear, yn felltith ac arswyd a syndod a chywilydd ymhlith yr holl genhedloedd y gyrraf hwy atynt.
29:19 Megis na wrandawsant ar fy ngeiriau, a anfonais atynt yn gyson trwy fy ngweision y proffwydi,' medd yr ARGLWYDD, 'felly ni wrandawsoch chwithau,' medd yr ARGLWYDD.
29:20 'Ond yn awr gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi yr holl gaethglud a yrrais o Jerwsalem i Fabilon.'
29:21 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, am Ahab fab Colaia, ac am Sedeceia fab Maaseia, sy'n proffwydo i chwi gelwydd yn fy enw i: 'Dyma fi'n eu rhoi yn llaw Neb-uchadnesar brenin Babilon, a bydd ef yn eu lladd yn eich gŵydd chwi.
29:22 Ac o'u hachos hwy fe gyfyd ymhlith holl gaethglud Jwda ym Mabilon y ffurf hon o felltith: "Boed i'r ARGLWYDD dy drin di fel Sedeceia ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon yn y tân."
29:23 Oherwydd gwnaethant yn ysgeler yn Israel, gan odinebu â gwragedd eu cymdogion, a dweud yn f'enw i gelwydd nas gorchmynnais iddynt. Myfi sy'n gwybod, ac yn tystio,' medd yr ARGLWYDD."

Llythyr Semaia

29:24 "Wrth Semaia y Nehelamiad fe ddywedi,
29:25 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Anfonaist lythyrau yn d'enw dy hun at holl bobl Jerwsalem, ac at yr offeiriad Seffaneia fab Maaseia ac at yr holl offeiriaid, gan ddweud:
29:26 Gosododd yr ARGLWYDD di yn offeiriad yn lle Jehoiada'r offeiriad, i arolygu yn nhŷ'r ARGLWYDD ar bob gŵr gorffwyll sy'n proffwydo, a'i osod mewn cyffion a rhigod.
29:27 Yn awr pam na cheryddaist Jeremeia o Anathoth, sy'n proffwydo i chwi?
29:28 Oherwydd anfonodd ef atom i Fabilon a dweud: Bydd y gaethglud hon yn hir; codwch dai a thrigwch ynddynt, a phlannwch erddi a bwyta'u ffrwyth.'"
29:29 Ac yr oedd yr offeiriad Seffaneia wedi darllen y llythyr hwn yng nghlyw y proffwyd Jeremeia.
29:30 A daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,
29:31 "Anfon at yr holl gaethglud a dweud, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth Semaia y Nehelamiad: Oherwydd i Semaia broffwydo i chwi, a minnau heb ei anfon, a pheri ichwi ymddiried mewn celwydd –
29:32 am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n ymweld â Semaia y Nehelamiad, ac â'i hil. Ni adewir yr un o'i eiddo ymhlith y bobl hyn, ac ni wêl y daioni yr wyf fi am ei roi i'm pobl, medd yr ARGLWYDD, oherwydd dysgodd wrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.'"

Addewidion yr Arglwydd i'w Bobl

30:1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:
30:2 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Ysgrifenna'r holl eiriau a leferais wrthyt mewn llyfr,
30:3 oherwydd y mae'r dyddiau yn dod,' medd yr ARGLWYDD, 'yr adferaf lwyddiant i'm pobl Israel a Jwda,' medd yr ARGLWYDD, 'a'u dychwelyd i'r wlad a roddais i'w hynafiaid; ac etifeddant hi.'"
30:4 Dyma'r geiriau a lefarodd yr ARGLWYDD am Israel ac am Jwda:
30:5 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Sŵn dychryn a glywsom; braw, ac nid heddwch.
30:6 Gofynnwch yn awr, ac ystyriwch. A all gwryw esgor? Pam, ynteu, y gwelaf bob gŵr â'i ddwylo am ei lwynau fel gwraig wrth esgor, a phob un yn newid gwedd ac yn gwelwi?
30:7 Canys dydd mawr yw hwnnw, heb ei debyg; dydd blin yw hwn i Jacob, ond gwaredir ef ohono.
30:8 Yn y dydd hwnnw,' medd ARGLWYDD y Lluoedd, 'torraf ei iau ef oddi ar eu gwar, a drylliaf eu rhwymau; ac ni chaiff dieithriaid wneud gwas ohonynt mwy.
30:9 Ond gwasanaethant yr ARGLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin, y byddaf yn ei sefydlu iddynt.
30:10 "'A thithau, fy ngwas Jacob, paid ag ofni,' medd yr ARGLWYDD, 'paid ag arswydo, Israel, canys achubaf di o bell, a'th epil o wlad eu caethiwed. Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd; bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.
30:11 Oherwydd yr wyf gyda thi i'th achub,' medd yr ARGLWYDD; 'gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gwasgerais di yn eu plith, ond ni wnaf ddiwedd arnat ti. Ond ceryddaf di yn ôl dy haeddiant; ni'th adawaf yn gwbl ddi-gosb.'"
30:12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Y mae dy glwy'n anwelladwy a'th archoll yn ddwfn;
30:13 nid oes neb i ddadlau dy achos; nid oes na moddion nac iachâd i'th ddolur.
30:14 Y mae dy holl gariadon wedi dy anghofio; nid ydynt yn dy geisio; trewais di â dyrnod gelyn, â chosb greulon, oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau.
30:15 Pam yr wyt yn llefain am dy glwy? Y mae dy ddolur yn anwelladwy. Oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau yr wyf wedi gwneud hyn i ti.
30:16 "Am hynny ysir pawb sy'n dy ysu di; ac fe â pawb sy'n dy ormesu i gyd i gaethiwed. Bydd dy anrheithwyr yn anrhaith, a gwnaf dy holl ysbeilwyr yn ysbail.
30:17 Oherwydd adferaf iechyd i ti, ac iachâf di o'th friwiau," medd yr ARGLWYDD, "am iddynt dy alw yn ysgymun, Seion, yr un nad yw neb yn ymofyn amdani."
30:18 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Dyma fi'n adfer llwyddiant i bebyll Jacob, yn tosturio wrth ei anheddau. Cyfodir y ddinas ar ei charnedd, a saif y llys yn ei le.
30:19 Daw allan ohonynt foliant a sain pobl yn gorfoleddu, amlhaf hwy, ac ni leihânt; anrhydeddaf hwy, ac nis bychenir.
30:20 Bydd eu plant fel y buont gynt, a sefydlir eu cynulliad yn fy ngŵydd; cosbaf bob un a'u gorthryma.
30:21 Bydd eu pendefig yn un o'u plith, a daw eu llywodraethwr allan o'u mysg; paraf iddo nesáu, ac fe ddaw ataf; canys pwy, o'i ewyllys ei hun, a faidd ddod ataf?" medd yr ARGLWYDD.
30:22 "A byddwch chwi'n bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi."
30:23 Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig, corwynt yn chwyrlïo, yn troi uwchben y drygionus.
30:24 Ni phaid digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes cwblhau ei gynlluniau a'u cyflawni; yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn.

Israel yn Dychwelyd Adref

31:1 "Yr adeg honno," medd yr ARGLWYDD, "byddaf fi'n Dduw i holl deuluoedd Israel, a byddant hwy'n bobl i mi."
31:2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Cafodd y bobl a osgôdd y cleddyf ffafr yn yr anialwch; tramwyodd Israel i gael llonydd iddo'i hun.
31:3 Erstalwm ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo. Cerais di â chariad diderfyn; am hynny parheais yn ffyddlon iti.
31:4 Adeiladaf di drachefn, y wyryf Israel, a chei dy adeiladu; cei ymdrwsio eto â'th dympanau, a mynd allan yn llawen i'r ddawns.
31:5 Cei blannu eto winllannoedd ar fryniau Samaria, a'r rhai sy'n plannu fydd yn cymryd y ffrwyth.
31:6 Oherwydd daw dydd pan fydd gwylwyr ym Mynydd Effraim yn galw, 'Codwch, dringwn i Seion at yr ARGLWYDD ein Duw.'"
31:7 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Canwch orfoledd i Jacob, a chodwch gân i'r bennaf o'r cenhedloedd; cyhoeddwch, molwch a dywedwch, 'Gwaredodd yr ARGLWYDD dy bobl, sef gweddill Israel.'
31:8 "Ie, dygaf hwy o dir y gogledd, casglaf hwy o bellafoedd byd; gyda hwy daw'r dall a'r cloff, y feichiog ynghyd â'r hon sy'n esgor; yn gynulliad mawr fe ddychwelant yma.
31:9 Dônt dan wylo, ond arweiniaf fi hwy â thosturi, tywysaf hwy wrth ffrydiau dyfroedd ar ffordd union na faglant ynddi. Yr wyf yn dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntafanedig.
31:10 "Clywch air yr ARGLWYDD, genhedloedd; cyhoeddwch yn yr ynysoedd pell, a dweud, 'Yr un a wasgarodd Israel fydd yn ei gasglu; bydd yn gwylio drosto fel bugail dros ei braidd.'
31:11 Canys yr ARGLWYDD a waredodd Jacob, a'i achub o afael un trech nag ef.
31:12 Dônt a chanu yn uchelder Seion; ymddisgleiriant gan ddaioni'r ARGLWYDD, oherwydd yr ŷd a'r gwin a'r olew, ac oherwydd epil y defaid a'r gwartheg. A bydd eu bywyd fel gardd ddyfradwy, heb ddim nychdod mwyach.
31:13 Yna fe lawenha'r ferch mewn dawns, a'r gwŷr ifainc a'r hen hefyd ynghyd; trof eu galar yn orfoledd a diddanaf hwy; gwnaf eu llawenydd yn fwy na'u gofid.
31:14 Diwallaf yr offeiriaid â braster, a digonir fy mhobl â'm daioni," medd yr ARGLWYDD.
31:15 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Clywir llef yn Rama, galarnad ac wylofain, Rachel yn wylo am ei phlant, yn gwrthod ei chysuro am ei phlant, oherwydd nad ydynt mwy."
31:16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Paid ag wylo, ymatal rhag dagrau, oherwydd y mae elw i'th lafur," medd yr ARGLWYDD; "dychwelant o wlad y gelyn.
31:17 Y mae gobaith iti yn y diwedd," medd yr ARGLWYDD; "fe ddychwel dy blant i'w bro eu hunain.
31:18 Gwrandewais yn astud ar Effraim yn cwyno, 'Disgyblaist fi fel llo heb ei ddofi, a chymerais fy nisgyblu; adfer fi, imi ddychwelyd, oherwydd ti yw'r ARGLWYDD fy Nuw.
31:19 Wedi imi droi, bu edifar gennyf; wedi i mi ddysgu, trewais fy nghlun; cefais fy nghywilyddio a'm gwaradwyddo, gan ddwyn gwarth fy ieuenctid.'
31:20 "A yw Effraim yn fab annwyl, ac yn blentyn hyfryd i mi? Bob tro y llefaraf yn ei erbyn, parhaf i'w gofio o hyd. Y mae fy enaid yn dyheu amdano, ni allaf beidio â thrugarhau wrtho," medd yr ARGLWYDD.
31:21 "Cyfod iti arwyddion, gosod iti fynegbyst, astudia'r ffordd yn fanwl, y briffordd a dramwyaist; dychwel, wyryf Israel, dychwel i'th ddinasoedd hyn.
31:22 Pa hyd y byddi'n ymdroi, ferch anwadal? Y mae'r ARGLWYDD wedi creu peth newydd ar y ddaear, benyw yn amddiffyn gŵr."

Dyfodol Ffyniannus Pobl Dduw

31:23 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: "Dywedir eto y gair hwn yn nhir Jwda a'i dinasoedd, pan adferaf ei llwyddiant: 'Bendithied yr ARGLWYDD di, gartref cyfiawnder, fynydd sanctaidd.'
31:24 Yno bydd Jwda a'i dinasoedd yn preswylio ynghyd, yr amaethwyr a bugeiliaid y praidd;
31:25 paraf wlychu llwnc y sychedig, a digoni pob un sydd yn nychu."
31:26 Ar hyn deffroais a sylwi, a melys oedd fy nghwsg imi.
31:27 "Y mae'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail.
31:28 Ac fel y gwyliais drostynt i ddiwreiddio a thynnu i lawr, i ddymchwel a dinistrio a pheri drwg, felly y gwyliaf drostynt i adeiladu a phlannu," medd yr ARGLWYDD.
31:29 "Yn y dyddiau hynny, ni ddywedir mwyach, 'Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion, ond ar ddannedd y plant y mae dincod.'
31:30 Oherwydd bydd pob un yn marw am ei gamwedd ei hun; y sawl fydd yn bwyta grawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.
31:31 "Y mae'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda.
31:32 Ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yn arglwydd arnynt," medd yr ARGLWYDD.
31:33 "Ond dyma'r cyfamod a wnaf â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny," medd yr ARGLWYDD; "rhof fy nghyfraith o'u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi'n Dduw iddynt a hwythau'n bobl i mi.
31:34 Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gymydog a phob un ei berthynas, gan ddweud, 'Adnebydd yr ARGLWYDD'; oblegid byddant i gyd yn f'adnabod, o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt," medd yr ARGLWYDD, "oherwydd maddeuaf iddynt eu drygioni, ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy."
31:35 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, sy'n rhoi'r haul yn oleuni'r dydd, a threfn y lleuad a'r sêr yn oleuni'r nos, sy'n cynhyrfu'r môr nes bod ei donnau'n rhuo (ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw):
31:36 "Os cilia'r drefn hon o'm gŵydd," medd yr ARGLWYDD, "yna bydd had Israel yn peidio hyd byth â bod yn genedl ger fy mron."
31:37 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Pe gellid mesur y nefoedd fry, a chwilio sylfeini'r ddaear isod, gwrthodwn innau hefyd holl had Israel am yr holl bethau a wnaethant," medd yr ARGLWYDD.
31:38 "Y mae'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "yr ailadeiledir y ddinas i'r ARGLWYDD, o dŵr Hananel hyd Borth y Gongl,
31:39 a gosodir y llinyn mesur eto gyferbyn â hi, dros fryn Gareb, a throi tua Goath.
31:40 A bydd holl ddyffryn y celanedd a'r lludw, a'r holl feysydd hyd nant Cidron, hyd gongl Porth y Meirch yn y dwyrain, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. Ni ddiwreiddir mo'r ddinas, ac ni ddymchwelir mohoni mwyach hyd byth."

Jeremeia'n Prynu Maes

32:1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD yn negfed flwyddyn Sedeceia brenin Jwda, a deunawfed flwyddyn Nebuchadnesar.
32:2 Y pryd hwnnw yr oedd llu brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem, a'r proffwyd Jeremeia wedi ei garcharu yng nghyntedd y gwarchodlu yn llys brenin Jwda.
32:3 Oherwydd yr oedd Sedeceia brenin Jwda wedi ei garcharu, a dweud, "Pam yr wyt yn proffwydo, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n rhoi'r ddinas hon yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei chymryd;
32:4 ac ni ddihanga Sedeceia brenin Jwda o afael y Caldeaid, ond fe'i rhoir yn gyfan gwbl yng ngafael brenin Babilon; a bydd yn ymddiddan ag ef wyneb yn wyneb, ac yn edrych arno lygad yn llygad.
32:5 Bydd yntau'n mynd â Sedeceia i Fabilon, ac yno yr erys nes imi ymweld ag ef,' medd yr ARGLWYDD. 'Er ichwi ymladd yn erbyn y Caldeaid, ni chewch lwyddiant'?"
32:6 Yna dywedodd Jeremeia, "Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
32:7 'Fe ddaw Hanamel, mab dy ewythr Salum, atat a dweud, "Pryn fy maes yn Anathoth, oherwydd gennyt ti y mae hawl perthynas agosaf i'w brynu."'
32:8 A daeth Hanamel, fy nghefnder, ataf i gyntedd y gwarchodlu, yn ôl gair yr ARGLWYDD, a dweud wrthyf, 'Pryn, yn awr, fy maes yn Anathoth, yn nhir Benjamin, oherwydd gennyt ti y mae'r hawl i etifeddu a'r hawl i brynu; pryn ef iti.' Gwyddwn wrth hyn mai gair yr ARGLWYDD ydoedd.
32:9 Yna prynais y maes yn Anathoth gan fy nghefnder Hanamel, a phwysais iddo yr arian, dau sicl ar bymtheg.
32:10 Arwyddais y gweithredoedd, a'u selio a chymryd tystion, a phwyso'r arian mewn cloriannau.
32:11 Yna cymerais weithredoedd y pryniant, yr un a seliwyd yn ôl deddf a defod, a'r copi agored,
32:12 a rhois weithredoedd y pryniant i Baruch fab Nereia, fab Maaseia, yng ngŵydd Hanamel fy nghefnder, ac yng ngŵydd y tystion a arwyddodd weithredoedd y pryniant, ac yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y gwarchodlu.
32:13 Gorchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwy,
32:14 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Cymer y gweithredoedd hyn, gweithredoedd y pryniant hwn, yr un a seliwyd a'r un agored, a'u dodi mewn llestr pridd, iddynt barhau dros gyfnod hir.'
32:15 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, 'Prynir eto dai a meysydd a gwinllannoedd yn y tir hwn.'

Gweddi Jeremeia

32:16 "Wedi imi roi gweithredoedd y pryniant i Baruch fab Nereia, gweddïais ar yr ARGLWYDD fel hyn:
32:17 'O ARGLWYDD Dduw, gwnaethost y nefoedd a'r ddaear â'th fawr allu a'th fraich estynedig; nid oes dim yn amhosibl i ti.
32:18 Yr wyt yn ffyddlon i filoedd, yn ad-dalu drygioni'r rhieni i'w plant ar eu hôl; Duw mawr, yr Un cadarn, ARGLWYDD y Lluoedd yw dy enw,
32:19 mawr yn dy gyngor, nerthol yn dy weithred. Y mae dy lygaid ar holl ffyrdd rhai meidrol, i dalu i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithred-oedd.
32:20 Gwnaethost arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft, a hyd y dydd hwn yn Israel ac ymhlith pobloedd; gwnaethost i ti'r enw sydd gennyt heddiw.
32:21 Daethost â'th bobl Israel allan o dir yr Aifft ag arwyddion a rhyfeddodau, ac â llaw gref a braich estynedig, a dychryn mawr;
32:22 rhoist iddynt y wlad hon, y tyngaist wrth eu hynafiaid i'w rhoi iddynt, yn wlad yn llifeirio o laeth a mêl.
32:23 Daethant hwy a'i meddiannu, ond ni fuont yn ufudd i'th lais, na rhodio yn dy gyfraith. Ni wnaethant ddim oll o'r hyn a orchmynnaist iddynt, a pheraist tithau i'r holl niwed hwn ddigwydd iddynt.
32:24 Y mae'r cloddiau gwarchae wedi cyrraedd at y ddinas i'w goresgyn; trwy'r cleddyf a newyn a haint rhoir y ddinas yng ngafael y Caldeaid sy'n ymladd yn ei herbyn. Y mae'r hyn a ddywedaist wedi digwydd, fel y gweli.
32:25 Ac yr wyt ti, O ARGLWYDD Dduw, wedi dweud wrthyf, "Pryn y maes ag arian a chymer dystion", er bod y ddinas i'w rhoi yng ngafael y Caldeaid.'"
32:26 Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,
32:27 "Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw pob cnawd. A oes dim yn rhy ryfeddol i mi?
32:28 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Yr wyf yn rhoi'r ddinas hon yng ngafael y Caldeaid ac yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, a bydd ef yn ei chymryd.
32:29 A daw'r Caldeaid i ymladd yn erbyn y ddinas hon, a'i rhoi ar dân, a'i llosgi ynghyd â'r tai y buont ar eu toeau yn arogldarthu i Baal, ac yn tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill, i'm digio i.
32:30 Oblegid o'u mebyd ni wnaeth pobl Israel a Jwda ddim ond yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg; ni wnaeth pobl Israel ddim ond fy nigio â gwaith eu dwylo,' medd yr ARGLWYDD.
32:31 'Oherwydd enynnodd y ddinas hon fy nigofaint a'm llid o'r dydd yr adeiladwyd hi hyd heddiw; symudaf hi o'm gŵydd,
32:32 o achos yr holl ddrygioni a wnaeth pobl Israel a phobl Jwda i'm digio – hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, eu proffwydi, pobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem.
32:33 Troesant wegil tuag ataf, ac nid wyneb; dysgais hwy yn gyson a thaer, ond ni fynnent wrando na derbyn gwers.
32:34 Rhoesant eu ffieidd-dra yn y tŷ a alwyd ar fy enw, a'i halogi.
32:35 Codasant uchelfeydd i Baal yn nyffryn Ben-hinnom, i aberthu eu meibion a'u merched i Moloch; ni orchmynnais hyn iddynt, ac ni ddaeth i'm meddwl iddynt wneud y fath ffieidd-dra, i beri i Jwda bechu.'

Addo Gobaith

32:36 "Yn awr, gan hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrth y ddinas hon, y dywedwch y rhoir hi yng ngafael brenin Babilon trwy'r cleddyf a newyn a haint:
32:37 'Casglaf hwy o'r holl wledydd y gyrrais hwy iddynt yn fy nig a'm llid a'm soriant mawr, a dychwelaf hwy i'r lle hwn, a gwnaf iddynt breswylio'n ddiogel.
32:38 Byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy.
32:39 A rhof iddynt un meddwl ac un ffordd, i'm hofni bob amser, er lles iddynt ac i'w plant ar eu hôl.
32:40 Gwnaf â hwy gyfamod tragwyddol, ac ni throf ef ymaith oddi wrthynt, ond gwneud yn dda iddynt; rhof fy ofn yn eu calon, rhag iddynt gilio oddi wrthyf.
32:41 Fy llawenydd fydd gwneud yn dda iddynt; yn wir â'm holl galon ac â'm holl enaid fe'u plannaf yn y tir hwn.'
32:42 "Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Megis y dygais ar y bobl hyn yr holl ddrwg mawr hwn, felly y dygaf arnynt yr holl ddaioni a addawaf iddynt.
32:43 Fe brynir meysydd yn y wlad hon y dywedwch amdani, "Anghyfannedd yw, heb ddyn nac anifail, ac wedi ei rhoi yng ngafael y Caldeaid."
32:44 Prynant feysydd am arian, ac arwyddo'r gweithredoedd, a'u selio a chael tystion, yn nhiriogaeth Benjamin, o amgylch Jerwsalem, yn ninasoedd Jwda, yn ninasoedd y mynydd-dir, yn ninasoedd y Seffela ac yn ninasoedd y Negef. Mi a adferaf eu llwyddiant,' medd yr ARGLWYDD."

Addo Gobaith Eto

33:1 Daeth gair yr ARGLWYDD yr ail waith at Jeremeia tra oedd yn dal wedi ei gaethiwo yng nghyntedd y gwarchodlu, a dweud,
33:2 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, a wnaeth y ddaear, a'i llunio i'w sefydlu (yr ARGLWYDD yw ei enw):
33:3 'Galw arnaf, ac atebaf di; mynegaf i ti bethau mawr a dirgel na wyddost amdanynt.'
33:4 Oblegid fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, am dai'r ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y tai a dynnir i lawr oherwydd y cloddiau gwarchae, ac oherwydd y cleddyf:
33:5 'Daw'r Caldeaid i ymladd, a'u llenwi â chelanedd y dynion a drawaf yn fy llid a'm digofaint; cuddiais fy wyneb oddi wrth y ddinas hon oherwydd eu holl ddrygioni.
33:6 Dygaf iddi yn awr wellhad a meddyginiaeth; iachâf hwy, a dangos iddynt dymor o heddwch a diogelwch.
33:7 Adferaf lwyddiant Jwda a llwyddiant Israel; adeiladaf hwy fel yn y dechreuad.
33:8 Glanhaf hwy o'r holl ddrygioni a wnaethant yn f'erbyn, a maddeuaf yr holl gamweddau a wnaethant yn f'erbyn.
33:9 Bydd y ddinas imi'n enw llawen, yn glod a gogoniant i holl genhedloedd y ddaear pan glywant am yr holl ddaioni a wnaf iddi; ac ofnant a chrynant oherwydd yr holl ddaioni a'r holl heddwch a wnaf iddi.'
33:10 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y lle hwn, y dywedwch amdano ei fod wedi ei ddifodi, heb ddyn nac anifail; ac am ddinasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem, sy'n ddiffeithle, heb bobl na phreswylwyr a heb anifail:
33:11 'Clywir eto ynddynt sŵn gorfoledd a llawenydd, sain priodfab a sain priodferch, llais rhai'n dweud, "Molwch ARGLWYDD y Lluoedd, oherwydd da yw'r ARGLWYDD, oherwydd y mae ei gariad hyd byth." A dygant offrwm diolch i dŷ'r ARGLWYDD; oherwydd adferaf eu llwyddiant yn y wlad fel yn y dechreuad,' medd yr ARGLWYDD.
33:12 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Bydd eto yn y lle hwn sydd wedi ei ddifrodi, heb ddyn nac anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, fannau gorffwys i'r bugeiliaid a chorlannau i'r praidd.
33:13 Yn ninasoedd y mynydd-dir a dinasoedd y Seffela a dinasoedd y Negef, yn nhiriogaeth Benjamin ac o amgylch Jerwsalem ac yn ninasoedd Jwda, bydd eto braidd yn symud trwy ddwylo'r sawl fydd yn rhifo,' medd yr ARGLWYDD.
33:14 "Y mae'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "y cyflawnaf y gair daionus a addewais i dŷ Israel ac i dŷ Jwda.
33:15 Yn y dyddiau hynny, yn yr adeg honno, paraf i flaguryn cyfiawnder flaguro i Ddafydd, ac fe wna ef farn a chyfiawnder yn y wlad.
33:16 Yn y dyddiau hynny achubir Jwda, a bydd Jerwsalem yn ddiogel, a dyma'r enw a roddir iddi: 'Yr ARGLWYDD yw ein cyfiawnder.'
33:17 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Ni fydd Dafydd byth heb ŵr yn eistedd ar orsedd tŷ Israel;
33:18 ac ni fydd yr offeiriaid o Lefiaid byth heb ŵr yn fy ngŵydd yn offrymu poethoffrwm, ac yn offrymu bwydoffrwm, ac yn aberthu.'"
33:19 Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,
33:20 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Os gallwch ddiddymu fy nghyfamod â'r dydd, a'm cyfamod â'r nos, fel na bydd dydd na nos yn eu pryd,
33:21 yna gellir diddymu fy nghyfamod â'm gwas Dafydd, fel na bydd iddo fab yn teyrnasu ar ei orsedd, a hefyd fy nghyfamod â'r offeiriaid o Lefiaid sy'n gweinyddu i mi.
33:22 Fel na ellir cyfrif llu'r nefoedd na mesur tywod y môr, felly yr amlhaf epil fy ngwas Dafydd, a'r Lefiaid sy'n gweinyddu i mi.'"
33:23 Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,
33:24 "Oni sylwaist beth y mae'r bobl hyn yn ei lefaru, gan ddweud, 'Y mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau dylwyth a ddewisodd'? Felly y dirmygant fy mhobl, ac nid ydynt mwyach yn genedl yn eu gŵydd.
33:25 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Pan fydd fy nghyfamod â'r dydd a'r nos yn peidio â sefyll, a threfn y nefoedd a'r ddaear,
33:26 yna gwrthodaf gymryd rhai o had Jacob, a'm gwas Dafydd, i lywodraethu ar had Abraham ac Isaac a Jacob. Adferaf hwy, a byddaf drugarog wrthynt.'"

Neges i Sedeceia

34:1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD pan oedd Nebuchadnesar brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem a'i holl faestrefi, gyda'i holl lu a holl deyrnasoedd y byd oedd dan ei lywodraeth, a'r holl bobloedd.
34:2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: "Dos a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dweud wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn rhoi'r ddinas hon yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei llosgi â thân.
34:3 Ac ni ddihengi dithau o'i afael, ond yr wyt yn sicr o gael dy ddal, a'th roi yn ei afael; byddi'n edrych arno lygad yn llygad, ac yntau'n ymddiddan â thi wyneb yn wyneb, a byddi'n mynd i Fabilon.
34:4 Ond clyw air yr ARGLWYDD, Sedeceia brenin Jwda. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD amdanat: Ni fyddi farw drwy'r cleddyf.
34:5 Mewn hedd y byddi farw, ac fel y llosgwyd peraroglau i'th ragflaenwyr, y bren-hinoedd gynt a fu o'th flaen, felly y llosgir hwy i ti; a bydd galar amdanat fel eu harglwydd. Dyma'r gair a leferais i,'" medd yr ARGLWYDD.
34:6 Llefarodd y proffwyd Jeremeia yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem wrth Sedeceia brenin Jwda,
34:7 pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda oedd yn weddill, sef Lachis ac Aseca; oherwydd hwy oedd yr unig ddinasoedd caerog a adawyd o blith dinasoedd Jwda.

Rhyddid i Gaethweision

34:8 Daeth gair at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, wedi i'r Brenin Sedeceia wneud cyfamod â'r holl bobl yn Jerwsalem i gyhoeddi rhyddhad,
34:9 sef bod pob un i ollwng ei gaethion o Hebreaid yn rhydd, boed wryw neu fenyw, rhag bod neb yn cadw Iddew arall yn gaeth.
34:10 Cytunodd pob un o'r tywysogion, a'r bobl a dderbyniodd y cyfamod, i ryddhau ei gaethwas a'i gaethferch, rhag iddynt fod yn gaeth mwyach; ac ar ôl cytuno, gollyngasant hwy yn rhydd.
34:11 Ond wedi hynny bu edifar ganddynt, a dygasant yn ôl y gweision a'r morynion a ollyngwyd yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.
34:12 A dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:
34:13 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Gwneuthum gyfamod â'ch hynafiaid, y dydd y dygais hwy o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed, a dweud,
34:14 "Cyn pen saith mlynedd yr ydych i ollwng yn rhydd bob un ei frawd o Hebrëwr a werthwyd iddo ac a'i gwasanaethodd am chwe blynedd, a'i ollwng yn rhydd oddi wrtho." Ond ni wrandawodd eich hynafiaid arnaf, na rhoi clust.
34:15 A heddiw bu edifar gennych chwi, a gwnaethoch yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg trwy gyhoeddi bod pob un i ryddhau ei gymydog, a gwneud cyfamod ger fy mron yn y tŷ y galwyd fy enw arno.
34:16 Ond wedyn bu edifar gennych am hyn, a halogasoch fy enw trwy i bob un ddwyn yn ôl ei was a'i forwyn y dymunai eu gollwng yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.
34:17 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni wrandawsoch arnaf fi i gyhoeddi diwrnod rhyddhad i'ch gilydd, yn berthnasau a chymdogion; yn awr dyma fi'n cyhoeddi diwrnod rhyddhad i'r cleddyf a haint a newyn!' medd yr ARGLWYDD. 'Fe'ch gwnaf yn arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear.
34:18 A'r rhai a dorrodd fy nghyfamod, heb gyflawni'r amodau a wnaethant yn fy ngŵydd, gwnaf hwy fel y llo a holltwyd yn ddau er mwyn iddynt gerdded rhwng y ddwy ran.
34:19 Am dywysogion Jwda a thywysogion Jerwsalem, y gweinyddwyr a'r offeiriaid a holl bobl y wlad a gerddodd rhwng dwy ran y llo a holltwyd,
34:20 fe'u rhof yn llaw eu gelynion ac yn llaw y rhai sy'n ceisio'u heinioes; bydd eu celanedd yn fwyd i adar y nefoedd ac i anifeiliaid gwyllt.
34:21 Rhof Sedeceia brenin Jwda, a'i holl dywysogion, yn llaw eu gelynion a'r rhai sy'n ceisio'u heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon sydd yn awr yn cilio oddi wrthych.
34:22 Dyma fi'n gorchymyn,' medd yr ARGLWYDD, 'iddynt droi'n ôl at y ddinas hon ac ymladd yn ei herbyn; byddant yn ei goresgyn ac yn ei llosgi â thân; ie, gwnaf ddinasoedd Jwda yn anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt.'"

Jeremeia a'r Rechabiaid

35:1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD yn nyddiau Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, a dweud,
35:2 "Dos i dŷ'r Rechabiaid, a siarad â hwy; pâr iddynt ddod i dŷ'r ARGLWYDD, i un o'r ystafelloedd yno, a chynnig iddynt win i'w yfed."
35:3 Yna cymerais Jaasaneia, mab Jeremeia fab Habasineia, a'i frodyr, a'i holl feibion, a holl deulu'r Rechabiaid.
35:4 Deuthum â hwy i dŷ'r ARGLWYDD, i ystafell meibion Hanan fab Igdaleia, gŵr Duw, sef yr ystafell sydd yn ymyl ystafell y tywysogion, ac uwchben ystafell Maaseia fab Salum, ceidwad y drws.
35:5 Rhois gerbron teulu'r Rechabiaid ffiolau llawn o win a chwpanau, a dywedais wrthynt, "Yfwch win."
35:6 Ond dywedasant, "Nid yfwn ni win, oherwydd gorchmynnodd Jonadab, mab Rechab ein tad, i ni, 'Peidiwch ag yfed gwin, chwi na'ch plant, byth;
35:7 peidiwch ag adeiladu tŷ, na hau had, na phlannu gwinllan, na meddiannu dim; ond lle bynnag y byddwch yn aros, trigwch mewn pebyll bob amser, er mwyn ichwi fyw am ddyddiau lawer yn y wlad lle'r ydych.'
35:8 A buom yn ufudd i lais Jonadab, mab Rechab ein tad, ym mhob peth a orchmynnodd i ni; nid ydym ni na'n gwragedd na'n meibion na'n merched erioed wedi yfed gwin,
35:9 nac adeiladu tai i fyw ynddynt, nac wedi cael na gwinllan na maes na had.
35:10 Yr ydym yn byw mewn pebyll, ac yn gwneud popeth fel y gorchmynnodd Jonadab ein tad inni.
35:11 Ond pan gododd Nebuchadnesar brenin Babilon yn erbyn y wlad, dywedasom, 'Dewch, awn i Jerwsalem i osgoi llu'r Caldeaid a llu Syria'; a dyna pam yr ydym yn byw yn Jerwsalem."
35:12 Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,
35:13 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Dos a llefara wrth bobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem. Oni chymerwch eich disgyblu i wrando fy ngeiriau?' medd yr ARGLWYDD.
35:14 'Fe gadwyd geiriau Jonadab fab Rechab pan orchmynnodd i'w blant nad yfent win, oherwydd nid ydynt yn ei yfed hyd heddiw, ond y maent yn ufuddhau i orchymyn eu tad. Ond er i mi lefaru'n daer wrthych, nid ydych chwi'n ufuddhau i mi.
35:15 Anfonais atoch fy holl weision, y proffwydi, a'u hanfon yn gyson gan ddweud: "Trowch yn wir bob un o'i ffordd ddrygionus, a gwella'ch gweithredoedd; peidiwch â mynd ar ôl duwiau eraill i'w gwasanaethu. Yna cewch fyw yn y tir a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid." Ond ni wrandawsoch arnaf fi nac ufuddhau.
35:16 Cadwodd meibion Jonadab fab Rechab orchymyn eu tad, ond nid ufuddhaodd y bobl hyn i mi.'
35:17 "Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, Duw Israel: 'Yr wyf am ddwyn ar Jwda a holl drigolion Jerwsalem yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn, oherwydd lleferais wrthynt ac ni wrandawsant, gelwais arnynt ac nid atebasant.'"
35:18 Ac wrth deulu'r Rechabiaid dywedodd Jeremeia, "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Oherwydd i chwi ufuddhau i orchymyn Jonadab eich tad, a chadw ei holl ddeddfau a gwneud pob peth a orchmynnodd i chwi,
35:19 am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Ni fydd Jonadab fab Rechab byth heb ŵr i sefyll yn fy ngŵydd.'"

Baruch yn Darllen y Sgrôl yn y Deml

36:1 Yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:
36:2 "Cymer sgrôl, ac ysgrifenna arni yr holl eiriau a leferais wrthyt yn erbyn Israel a Jwda a'r holl genhedloedd, o'r dydd y dechreuais lefaru wrthyt, o ddyddiau Joseia hyd heddiw.
36:3 Efallai y bydd tŷ Jwda, pan glywant am yr holl ddinistr y bwriadaf ei ddwyn arnynt, yn troi, pob un o'i ffordd annuwiol, a minnau'n maddau iddynt eu drygioni a'u pechod."
36:4 Yna galwodd Jeremeia ar Baruch fab Nereia, ac wrth i Jeremeia lefaru ysgrifennodd Baruch yn y sgrôl yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia.
36:5 Yna rhoes y gorchymyn hwn i Baruch: "Fe'm rhwystrwyd i rhag mynd i dŷ'r ARGLWYDD,
36:6 ond dos di, ac ar ddydd ympryd darllen o'r sgrôl, yng nghlyw'r bobl yn nhŷ'r ARGLWYDD, holl eiriau'r ARGLWYDD fel y lleferais hwy. Darllen hwy hefyd yng nghlyw holl bobl Jwda a ddaw o'u dinasoedd.
36:7 Efallai y derbynnir eu gweddi gan yr ARGLWYDD, ac y bydd pob un yn troi o'i ffordd ddrygionus, oherwydd y mae'r llid a'r digofaint a fynegodd yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl hyn yn fawr."
36:8 Gwnaeth Baruch fab Nereia bob peth a orchmynnodd y proffwyd Jeremeia iddo, a darllenodd yn nhŷ'r ARGLWYDD eiriau'r ARGLWYDD o'r llyfr.
36:9 Yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, yn y nawfed mis, cyhoeddwyd ympryd gerbron yr ARGLWYDD i drigolion Jerwsalem ac i'r holl bobl a ddaeth o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem.
36:10 Yna darllenodd Baruch holl eiriau Jeremeia o'r sgrôl yng nghlyw'r holl bobl yn nhŷ'r ARGLWYDD, yn ystafell Gemareia fab Saffan, yr ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf wrth y fynedfa i'r Porth Newydd yn nhŷ'r ARGLWYDD.
36:11 Pan glywodd Michaia fab Gemareia, fab Saffan, holl eiriau'r ARGLWYDD o'r llyfr,
36:12 aeth i lawr i dŷ'r brenin, i ystafell yr ysgrifennydd, ac yno yr oedd yr holl swyddogion yn eistedd: Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia fab Semaia, ac Elnathan fab Achbor, a Gemareia fab Saffan, a Sedeceia fab Hananeia, a'r holl swyddogion.
36:13 Mynegodd Michaia iddynt bob peth a glywodd pan ddarllenodd Baruch o'r sgrôl yng nghlyw'r bobl.
36:14 Yna anfonodd yr holl swyddogion Jehudi fab Nethaneia, fab Selemeia, fab Cushi, at Baruch a dweud, "Cymer yn dy law y sgrôl a ddarllenaist yng nghlyw'r bobl, a thyrd." Cymerodd Baruch fab Nereia y sgrôl yn ei law, ac aeth atynt.
36:15 Dywedasant hwythau wrtho, "Eistedd yma, a darllen hi inni." Darllenodd Baruch,
36:16 a phan glywsant y geiriau, troesant at ei gilydd mewn braw, a dweud wrth Baruch, "Rhaid inni fynegi hyn i gyd i'r brenin."
36:17 Gofynasant i Baruch, "Eglura inni yn awr sut y bu iti ysgrifennu'r holl eiriau hyn a ddywedodd."
36:18 Atebodd Baruch, "Ef ei hun oedd yn llefaru wrthyf yr holl eiriau hyn, a minnau'n eu hysgrifennu ag inc ar y sgrôl."
36:19 Yna dywedodd y swyddogion wrth Baruch, "Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia, a pheidiwch â gadael i neb wybod lle'r ydych."
36:20 Yna aethant at y brenin i'r llys, ar ôl iddynt gadw'r sgrôl yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd, a mynegwyd y cwbl yng nghlyw'r brenin.

Y Brenin yn Llosgi'r Sgrôl

36:21 Yna anfonwyd Jehudi gan y brenin i gyrchu'r sgrôl, a daeth yntau â hi o ystafell Elisama yr ysgrifennydd; a darllenodd Jehudi hi yng nghlyw'r brenin a'r holl swyddogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.
36:22 Y nawfed mis oedd hi, ac yr oedd y brenin yn eistedd yn y gaeafdy, a'r rhwyll dân wedi ei chynnau o'i flaen.
36:23 Pan fyddai Jehudi wedi darllen tair neu bedair colofn, torrai'r brenin hwy â chyllell yr ysgrifennydd, a'u taflu i'w llosgi yn y rhwyll dân, nes difa'r sgrôl gyfan yn y tân.
36:24 Ond nid oedd y brenin na'i weision yn arswydo nac yn rhwygo'u dillad, wrth wrando ar yr holl eiriau hyn.
36:25 Pan ymbiliodd Elnathan a Delaia a Gemareia ar y brenin i beidio â llosgi'r sgrôl, ni wrandawai arnynt.
36:26 Yna gorchmynnodd y brenin i Jerahmeel fab y brenin a Seraia fab Asriel a Selemeia fab Abdiel ddal Baruch yr ysgrifennydd a Jeremeia y proffwyd; ond cuddiodd yr ARGLWYDD hwy.

Jeremeia'n Ysgrifennu Sgrôl Arall

36:27 Wedi i'r brenin losgi'r sgrôl a'r holl eiriau a ysgrifennodd Baruch o enau Jeremeia, daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,
36:28 "Cymer sgrôl arall, ac ysgrifenna arni'r holl eiriau oedd yn y sgrôl gyntaf, yr un a losgodd Jehoiacim brenin Jwda.
36:29 A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Fe losgaist ti'r sgrôl hon, gan ddweud, "Pam yr ysgrifennaist arni fod brenin Babilon yn sicr o ddod ac anrheithio'r wlad hon, nes darfod dyn ac anifail oddi arni?"
36:30 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim brenin Jwda: Ni bydd iddo neb i eistedd ar orsedd Dafydd; teflir allan ei gelain i wres y dydd a rhew'r nos.
36:31 Ymwelaf ag ef ac â'i had a'i weision am eu drygioni, a dwyn arnynt hwy a thrigolion Jerwsalem a phobl Jwda yr holl ddinistr a leferais yn eu herbyn, a hwythau heb wrando.'"
36:32 Yna cymerodd Jeremeia sgrôl arall, a'i rhoi i Baruch fab Nereia, yr ysgrifennydd, ac ysgrifennodd ef ynddi o enau Jeremeia holl eiriau'r llyfr a losgodd Jehoiacim brenin Jwda. Ychwanegodd atynt hefyd lawer o eiriau tebyg.

Cais Sedeceia i Jeremeia

37:1 Gosodwyd Sedeceia fab Joseia yn frenin ar yr orsedd yng ngwlad Jwda gan Nebuchadnesar yn lle Coneia fab Jehoiacim;
37:2 ond ni wrandawodd ef, na'i weision na phobl y wlad, ar eiriau'r ARGLWYDD a lefarwyd trwy'r proffwyd Jeremeia.
37:3 Anfonodd y Brenin Sedeceia Jehucal fab Selemeia a Seffaneia fab Maaseia yr offeiriad at y proffwyd Jeremeia, a dweud, "Gweddïa yn awr drosom ar yr ARGLWYDD ein Duw."
37:4 Yr oedd Jeremeia'n rhodio'n rhydd ymhlith y bobl, oherwydd nid oedd eto wedi ei roi yng ngharchar.
37:5 Ac yr oedd llu Pharo wedi dod i fyny o'r Aifft, a phan glywodd y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem am hyn, ciliasant oddi wrth Jerwsalem.
37:6 Yna daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Jeremeia a dweud,
37:7 "Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Dywedwch fel hyn wrth frenin Jwda, sydd wedi eich anfon i ymofyn â mi: Bydd llu Pharo, a ddaeth atoch yn gymorth, yn dychwelyd i'w wlad ei hun, i'r Aifft.
37:8 Yna bydd y Caldeaid yn dychwelyd ac yn rhyfela yn erbyn y ddinas hon, yn ei hennill ac yn ei llosgi â thân.
37:9 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Peidiwch â'ch twyllo'ch hunain, gan ddweud, "Y mae'r Caldeaid yn siŵr o gilio oddi wrthym", oherwydd ni chiliant.
37:10 Oherwydd pe baech yn trechu holl lu'r Caldeaid sydd yn rhyfela yn eich erbyn, heb adael neb ond y rhai archolledig, eto byddent yn codi bob un o'i babell ac yn llosgi'r ddinas hon â thân.'"

Dal Jeremeia a'i Garcharu

37:11 Pan giliodd llu'r Caldeaid oddi wrth Jerwsalem o achos llu Pharo,
37:12 yr oedd Jeremeia'n gadael Jerwsalem i fynd i dir Benjamin i gymryd meddiant o'i dreftadaeth yno ymysg y bobl;
37:13 a phan gyrhaeddodd borth Benjamin, yr oedd swyddog y gwarchodlu yno, dyn o'r enw Ireia fab Selemeia, fab Hananeia; daliodd ef y proffwyd Jeremeia a dweud, "Troi at y Caldeaid yr wyt ti."
37:14 Atebodd Jeremeia ef, "Celwydd yw hynny; nid wyf yn troi at y Caldeaid." Ond ni wrandawai Ireia arno, ond fe'i daliodd a mynd ag ef at y swyddogion.
37:15 Ffyrnigodd y swyddogion at Jeremeia, a'i guro a'i garcharu yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd, y tŷ a wnaethpwyd yn garchardy.
37:16 Felly yr aeth Jeremeia i'r ddaeargell ac aros yno dros amryw o ddyddiau.
37:17 Yna anfonodd y Brenin Sedeceia, a'i dderbyn i'w ŵydd a'i holi'n gyfrinachol yn ei dŷ, a dweud, "A oes gair oddi wrth yr ARGLWYDD?" Atebodd Jeremeia, "Oes; fe'th roddir yn llaw brenin Babilon."
37:18 A dywedodd Jeremeia wrth y Brenin Sedeceia, "Pa ddrwg a wneuthum i ti neu i'th weision neu i'r bobl hyn, i beri i chwi fy rhoi yng ngharchar?
37:19 Ple mae eich proffwydi a broffwydodd i chwi a dweud na ddôi brenin Babilon yn eich erbyn, nac yn erbyn y wlad hon?
37:20 Yn awr, gwrando, f'arglwydd frenin, a doed fy nghais o'th flaen. Paid â'm hanfon yn ôl i dŷ Jonathan yr ysgrifennydd, rhag i mi farw yno."
37:21 Yna rhoes y Brenin Sedeceia orchymyn, a rhoddwyd Jeremeia yng ngofal llys y gwylwyr, a rhoddwyd iddo ddogn dyddiol o un dorth o fara o Stryd y Pobyddion, nes darfod yr holl fara yn y ddinas. Ac arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr.

Jeremeia mewn Pydew

38:1 Clywodd Seffateia fab Mattan, Gedaleia fab Pasur, Jucal fab Selemeia, a Pasur fab Malcheia y geiriau yr oedd Jeremeia'n eu llefaru wrth yr holl bobl, gan ddweud,
38:2 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Pwy bynnag fydd yn aros yn y ddinas hon, fe fydd farw trwy gleddyf, newyn a haint; ond pwy bynnag fydd yn mynd allan at y Caldeaid, bydd hwnnw fyw; bydd yn arbed ei fywyd ac yn byw.'
38:3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Yn ddiau rhoir y ddinas hon yng ngafael llu brenin Babilon, a bydd ef yn ei hennill.'"
38:4 Yna dywedodd y swyddogion wrth y brenin, "Atolwg, rhodder y dyn hwn i farwolaeth; oblegid y mae'n gwanhau dwylo gweddill y milwyr sydd yn y ddinas hon, a phawb o'r bobl, trwy lefaru fel hyn wrthynt. Nid yw'r dyn yn meddwl am les y bobl hyn, ond am eu niwed."
38:5 Atebodd y Brenin Sedeceia, "Y mae yn eich dwylo chwi; ni ddichon y brenin wneud dim i'ch gwrthwynebu yn y mater."
38:6 A chymerasant Jeremeia, a'i fwrw i bydew Malcheia, mab y brenin, yng nghyntedd y gwylwyr; gollyngasant Jeremeia i lawr wrth raffau. Nid oedd dŵr yn y pydew, dim ond llaid, a suddodd Jeremeia yn y llaid.
38:7 Clywodd Ebed-melech yr Ethiopiad, eunuch ym mhlasty'r brenin, eu bod wedi rhoi Jeremeia yn y pydew. Yr oedd y brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin,
38:8 ac aeth Ebed-melech allan o'r plasty at y brenin a dweud,
38:9 "F'arglwydd frenin, gwnaeth y gwŷr hyn ddrwg ym mhob peth a wnaethant i'r proffwyd Jeremeia, trwy ei fwrw i'r pydew; bydd farw yn y lle gan y newyn, am nad oes bara mwyach yn y ddinas."
38:10 Yna gorchmynnodd y brenin i Ebed-melech yr Ethiopiad, "Cymer gyda thi dri o wŷr, a chodi'r proffwyd Jeremeia o'r pydew cyn iddo farw."
38:11 Cymerodd Ebed-melech y gwŷr ac aeth i'r ystafell wisgo yn y plasty, a chymryd oddi yno hen garpiau a hen fratiau, a'u gollwng i lawr wrth raffau at Jeremeia yn y pydew.
38:12 A dywedodd Ebed-melech yr Ethiopiad wrth Jeremeia, "Gosod yr hen garpiau a'r bratiau dan dy geseiliau o dan y rhaffau." Gwnaeth Jeremeia felly.
38:13 A thynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, a'i godi o'r pydew. Wedi hyn arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr.

Sedeceia'n Ceisio Cyngor Jeremeia

38:14 Anfonodd y Brenin Sedeceia i gyrchu'r proffwyd Jeremeia ato yn y trydydd cyntedd i dŷ'r ARGLWYDD, a dywedodd wrth Jeremeia, "Yr wyf am ofyn rhywbeth i ti; paid â chelu dim oddi wrthyf."
38:15 Dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, "Os mynegaf i ti, oni roi fi i farwolaeth? Os rhof gyngor i ti, ni wrandewi arnaf."
38:16 Ond tyngodd y Brenin Sedeceia wrth Jeremeia yn gyfrinachol, "Cyn wired â bod yr ARGLWYDD, a roes einioes inni, yn fyw, ni'th rof i farwolaeth, na'th roi yng ngafael y rhai hyn sy'n ceisio dy einioes."
38:17 Yna dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, Duw Israel: 'Os ei allan ac ymostwng i swyddogion brenin Babilon, yna byddi fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; byddi fyw, ti a'th dylwyth.
38:18 Os nad ei allan at swyddogion brenin Babilon, rhoir y ddinas hon yng ngafael y Caldeaid, ac fe'i llosgant hi â thân, ac ni fyddi dithau'n dianc o'u gafael.'"
38:19 A dywedodd y Brenin Sedeceia wrth Jeremeia, "Y mae arnaf ofn yr Iddewon a drodd at y Caldeaid, rhag iddynt fy rhoi yn eu gafael ac iddynt fy ngham-drin."
38:20 Dywedodd Jeremeia, "Ni'th roddir yn eu gafael. Gwrando yn awr ar lais yr ARGLWYDD yn yr hyn yr wyf yn ei lefaru wrthyt, a bydd yn dda iti, a chedwir dy einioes.
38:21 Os gwrthodi fynd allan, dyma'r gair a ddatguddiodd yr ARGLWYDD i mi:
38:22 'Wele, caiff yr holl wragedd a adawyd yn nhŷ brenin Jwda eu dwyn allan at swyddogion brenin Babilon, ac fe ddywedant, "Hudodd dy gyfeillion di, a buont yn drech na thi; yn awr, a'th draed wedi glynu yn y llaid, troesant draw oddi wrthyt."'
38:23 Dygir allan dy holl wragedd a'th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o'u gafael, ond fe'th ddelir yng ngafael brenin Babilon, a llosgir y ddinas hon â thân."
38:24 Yna dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, "Paid â gadael i neb wybod am y geiriau hyn, ac ni fyddi farw.
38:25 Ond os clyw'r swyddogion i mi ymddiddan â thi, a dod atat a dweud wrthyt, 'Mynega i ni beth a draethodd y brenin wrthyt ti, a beth a ddywedaist wrth y brenin; paid â chelu dim oddi wrthym, ac ni'th roddwn i farwolaeth',
38:26 yna dywedi wrthynt, 'Yr oeddwn yn gwneud cais yn ostyngedig i'r brenin, ar iddo beidio â'm gyrru'n ôl i dŷ Jonathan i farw yno.'"
38:27 Pan ddaeth yr holl swyddogion at Jeremeia, a'i holi, mynegodd ef iddynt bob peth yn ôl gorchymyn y brenin. A pheidiasant â'i holi ragor, ac ni chlywyd am y neges.
38:28 Ac arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr hyd y dydd y syrthiodd Jerwsalem, ac yr oedd yno pan syrthiodd Jerwsalem.

Cwymp Jerwsalem

39:1 Yn y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, yn y degfed mis, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon a'i holl lu yn erbyn Jerwsalem a gwarchae arni;
39:2 ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Sedeceia, yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd torrwyd bwlch ym mur y ddinas.
39:3 Daeth holl swyddogion brenin Babilon i mewn a sefyll yn y Porth Canol, sef Nergal-sareser, Samgar-nebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergal-sareser, Rabmag, a holl swyddogion eraill brenin Babilon.
39:4 Pan welodd Sedeceia brenin Jwda a'i holl filwyr hwy, ffoesant a gadael y ddinas liw nos, gan ddilyn ffordd gardd y brenin i'r porth rhwng y ddau fur, ac allan i ffordd Araba.
39:5 Ond canlynodd llu'r Caldeaid hwy, a goddiweddyd Sedeceia yn rhosydd Jericho a'i ddal, a'i ddwyn at Nebuchadnesar brenin Babilon yn Ribla yng ngwlad Hamath; yno y dyfarnwyd arno.
39:6 A lladdodd brenin Babilon feibion Sedeceia o flaen ei lygaid yn Ribla; a lladdodd brenin Babilon hefyd holl uchelwyr Jwda.
39:7 Yna fe dynnodd lygaid Sedeceia, a'i rwymo mewn cadwynau pres i'w ddwyn i Fabilon.
39:8 Llosgodd y Caldeaid â thân blasty'r brenin a thai'r bobl, a dryllio muriau Jerwsalem.
39:9 Yna caethgludodd Nebusaradan, pennaeth y milwyr, weddill y bobl i Fabilon, sef y rhai oedd wedi eu gadael yn y ddinas, a'r rhai oedd wedi troi ato ef;
39:10 a gadawodd yng ngwlad Jwda rai pobl dlawd nad oedd ganddynt ddim, a rhoi iddynt yr adeg honno winllannoedd a meysydd.

Rhyddhau Jeremeia

39:11 Rhoddodd Nebuchadnesar brenin Babilon orchymyn ynghylch Jeremeia trwy law Nebusaradan, pennaeth y milwyr, a dweud,
39:12 "Cymer ef a gofala amdano; paid â gwneud dim niwed iddo, ond gwneud fel y dywed wrthyt."
39:13 Yna anfonodd Nebusaradan, pennaeth y milwyr, a Nebusasban, Rabsaris, Nergal-sareser, Rabmag a holl benaethiaid brenin Babilon,
39:14 a chymryd Jeremeia o gyntedd y gwylwyr, a'i roi i Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, i'w gyrchu adref; a thrigodd ymhlith y bobl.
39:15 Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia pan oedd yn garcharor yng nghyntedd y gwylwyr, a dweud,
39:16 "Dos a dywed wrth Ebed-melech yr Ethiopiad, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Yr wyf yn dwyn fy ngeiriau yn erbyn y ddinas hon er drwg ac nid er lles, a chyflawnir hwy yn dy ŵydd y dydd hwnnw.
39:17 Ond gwaredaf di y dydd hwnnw,' medd yr ARGLWYDD, 'ac ni'th roddir yng ngafael y dynion y mae arnat eu hofn.
39:18 Oherwydd rwy'n sicr o'th waredu, ac ni syrthi trwy'r cleddyf; byddi'n arbed dy fywyd am dy fod wedi ymddiried ynof fi,' medd yr ARGLWYDD."

Jeremeia'n Aros gyda Gedaleia

40:1 Dyma'r gair oddi wrth yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia wedi i Nebusaradan, pennaeth y milwyr, ei ollwng yn rhydd o Rama. Yr oedd wedi ei ddwyn yno mewn rhwymau yng nghanol yr holl garcharorion o Jerwsalem a Jwda oedd yn cael eu caethgludo i Fabilon.
40:2 Cymerodd pennaeth y milwyr Jeremeia a dweud wrtho, "Rhag-fynegodd yr ARGLWYDD dy Dduw y drwg hwn yn erbyn y lle hwn,
40:3 a chyflawnodd ei eiriau, oherwydd pechasoch yn erbyn yr ARGLWYDD; ni wrandawsoch arno, a daeth yr aflwydd hwn arnoch.
40:4 Edrych yn awr, yr wyf yn dy ryddhau di heddiw o'r cadwynau sydd arnat. Os wyt yn dewis dod gyda mi i Fabilon, tyrd, a gofalaf amdanat; os nad wyt yn dewis dod gyda mi, paid; edrych, y mae'r holl wlad o'th flaen, dos i'r fan sydd orau gennyt.
40:5 Os yw'n well gennyt aros, dychwel at Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, a osododd brenin Babilon yn arolygydd dros ddinasoedd Jwda, ac aros gydag ef ymhlith y bobl; neu dos i'r lle a fynni." Rhoddodd pennaeth y milwyr iddo ddogn o fwyd, a rhodd, a'i ollwng ymaith.
40:6 Aeth Jeremeia i Mispa at Gedaleia fab Ahicam, ac aros gydag ef ymhlith y bobl oedd wedi eu gadael yn y wlad.

Gedaleia yn Llywodraethwr Jwda

40:7 Pan glywodd holl swyddogion y lluoedd, a'r milwyr oedd ar hyd y wlad, fod brenin Babilon wedi gosod Gedaleia fab Ahicam i arolygu'r wlad, ac i fwrw golwg dros y rhai tlawd, yn wŷr, gwragedd a phlant, oedd heb eu caethgludo i Fabilon,
40:8 fe ddaethant at Gedaleia i Mispa. Daeth Ismael fab Nethaneia, Johanan a Jonathan, meibion Carea, a Seraia fab Tanhumeth, a meibion Effai o Netoffa, a Jesaneia mab y Maachathiad, y rhain i gyd a'u milwyr;
40:9 a thyngodd Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan wrthynt ac wrth eu milwyr, gan ddweud, "Peidiwch ag ofni gwasanaethu'r Caldeaid; cartrefwch yn y wlad, a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd yn dda arnoch.
40:10 Byddaf fi'n byw yn Mispa, i wasanaethu'r Caldeaid a fydd yn dod atom; cewch chwi gasglu'r gwin a'r ffrwythau haf a'r olew, a'u rhoi yn eich llestri, a thrigo yn y dinasoedd a feddiannwch."
40:11 Yna clywodd yr holl Iddewon oedd yn Moab, ac ymhlith Ammon ac yn Edom ac yn yr holl wledydd, fod brenin Babilon wedi gadael gweddill yn Jwda, a gosod Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan yn arolygydd arnynt;
40:12 a dychwelodd yr holl Iddewon o'r mannau lle gwasgarwyd hwy i Jwda, at Gedaleia yn Mispa, a chasglu stôr helaeth o win a ffrwythau haf.

Llofruddio Gedaleia

40:13 Daeth Johanan fab Carea, a holl swyddogion y lluoedd oedd ar hyd y wlad, at Gedaleia yn Mispa,
40:14 a dweud wrtho, "A wyddost ti fod Baalis brenin yr Ammoniaid wedi anfon Ismael fab Nethaneia i'th ladd di?" Ond ni chredai Gedaleia fab Ahicam hwy.
40:15 A dywedodd Johanan fab Carea yn gyfrinachol wrth Gedaleia yn Mispa, "Da ti, gad imi fynd, heb yn wybod i neb, a lladd Ismael fab Nethaneia. Pam y caiff ef dy ladd di, a gwasgaru'r holl Iddewon a ymgasglodd atat, a pheri i'r gweddill yn Jwda ddarfod?"
40:16 Ond dywedodd Gedaleia fab Ahicam wrth Johanan fab Carea, "Paid â gwneud hynny, oherwydd yr wyt yn dweud celwydd am Ismael."
41:1 Yn y seithfed mis daeth Ismael fab Nethaneia, fab Elisama, o deulu'r brenin, a chydag ef bendefigion y brenin, deg ohonynt, i Mispa at Gedaleia fab Ahicam; a thra oeddent yn bwyta pryd gyda'i gilydd yn Mispa,
41:2 cododd Ismael fab Nethaneia a'r dengwr, a tharo Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, â'r cleddyf, a lladd yr un oedd wedi ei osod gan frenin Babilon yn arolygydd dros y wlad.
41:3 Hefyd lladdodd Ismael yr holl Iddewon oedd gyda Gedaleia yn Mispa, a milwyr y Caldeaid a oedd yn digwydd bod yno.
41:4 Trannoeth wedi lladd Gedaleia, cyn bod neb yn gwybod,
41:5 daeth gwŷr o Sichem a Seilo a Samaria, pedwar ugain ohonynt, wedi eillio'u barfau a rhwygo'u dillad ac archolli eu cyrff, â bwyd-offrymau a thus yn eu dwylo i'w dwyn i deml yr ARGLWYDD.
41:6 Yna daeth Ismael fab Nethaneia allan o Mispa i gyfarfod â hwy, gan wylo wrth ddod. Pan gyfarfu â hwy dywedodd, "Dewch at Gedaleia fab Ahicam."
41:7 Wedi iddynt gyrraedd canol y ddinas, lladdwyd hwy gan Ismael fab Nethaneia a'r gwŷr oedd gydag ef, a'u bwrw i bydew.
41:8 Ond dywedodd deg o ddynion o'u plith wrth Ismael, "Paid â'n lladd ni, oherwydd y mae gennym yn y maes gronfa gudd o wenith a haidd ac olew a mêl." Felly ni laddwyd y rhain gyda'u cymdeithion.
41:9 Y pydew yr oedd y Brenin Asa wedi ei gloddio pan fygythiwyd ef gan Baasa brenin Israel oedd yr un y bwriodd Ismael iddo holl gelaneddau'r gwŷr yr oedd wedi eu lladd trwy eu twyllo ag enw Gedaleia. Llanwodd Ismael fab Nethaneia y pydew â'r lladdedigion.
41:10 Yna daliodd Ismael holl weddill y bobl oedd yn Mispa, sef merched y brenin a'r holl bobl oedd wedi eu gadael yn Mispa pan osododd Nebusaradan, pennaeth y gwylwyr, Gedaleia fab Ahicam yn arolygydd drostynt. Daliodd Ismael fab Nethaneia hwy, a chychwynnodd fynd drosodd at yr Ammoniaid.
41:11 Pan glywodd Johanan fab Carea, a holl swyddogion y lluoedd arfog oedd gydag ef, am yr holl ddrwg yr oedd Ismael fab Nethaneia wedi ei wneud,
41:12 cymerasant gyda hwy eu holl wŷr i ymladd yn erbyn Ismael fab Nethaneia, a daethant o hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon.
41:13 Llawenychodd yr holl bobl oedd gydag Ismael pan welsant Johanan fab Carea a holl swyddogion ei luoedd,
41:14 a dyna'r holl bobl yr oedd Ismael wedi eu dwyn yn gaeth o Mispa yn troi ac yn mynd drosodd at Johanan fab Carea.
41:15 Ond dihangodd Ismael fab Nethaneia, ac wyth o ddynion gydag ef, oddi wrth Johanan, a mynd drosodd at yr Ammoniaid.
41:16 Yna cymerodd Johanan fab Carea a swyddogion ei luoedd bawb oedd ar ôl o'r bobl yr oedd Ismael fab Nethaneia wedi eu dwyn o Mispa, ar ôl iddo ladd Gedaleia fab Ahicam. Dygodd ef yn ôl o Gibeon ddynion a gwŷr rhyfel, gwragedd a phlant ac eunuchiaid.
41:17 Aethant oddi yno ac aros yn llety Chimham, yn ymyl Bethlehem, ar eu ffordd wrth ffoi i'r Aifft
41:18 rhag y Caldeaid; oblegid yr oeddent yn eu hofni hwy am fod Ismael fab Nethaneia wedi lladd Gedaleia fab Ahicam, y gŵr a osododd brenin Babilon yn arolygydd dros y wlad.

Gweddi Jeremeia ac Ateb Duw

42:1 Nesaodd swyddogion y lluoedd, a Johanan fab Carea a Jesaneia fab Hosaia, a'r holl bobl yn fach a mawr,
42:2 a dweud wrth y proffwyd Jeremeia, "Os gweli'n dda, ystyria'n cais, a gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a thros yr holl weddill hyn, oherwydd gadawyd ni'n ychydig allan o nifer mawr, fel y gweli.
42:3 Dyweded yr ARGLWYDD dy Dduw wrthym y ffordd y dylem rodio a'r hyn y dylem ei wneud."
42:4 Atebodd y proffwyd Jeremeia hwy, "Gwnaf, mi weddïaf drosoch ar yr ARGLWYDD eich Duw yn ôl eich cais, a beth bynnag fydd ateb yr ARGLWYDD, fe'i mynegaf heb atal dim oddi wrthych."
42:5 Dywedasant hwythau wrth Jeremeia, "Bydded yr ARGLWYDD yn dyst cywir a ffyddlon yn ein herbyn os na wnawn yn ôl pob gair y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei orchymyn inni. Yn sicr, fe'i gwnawn.
42:6 Boed dda neu ddrwg, fe wrandawn ni ar yr ARGLWYDD ein Duw, yr anfonwn di ato, fel y byddo'n dda inni; gwrandawn ar yr ARGLWYDD ein Duw."
42:7 Ymhen deg diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia,
42:8 a galwodd ato Johanan fab Carea a swyddogion y lluoedd oedd gydag ef, a'r holl bobl yn fach a mawr,
42:9 a dweud wrthynt, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr anfonasoch fi ato i gyflwyno eich cais iddo:
42:10 'Os arhoswch yn y wlad hon, fe'ch adeiladaf, ac nid eich tynnu i lawr; fe'ch plannaf, ac nid eich diwreiddio, oherwydd rwy'n gofidio am y drwg a wneuthum i chwi.
42:11 Peidiwch ag ofni rhag brenin Babilon, yr un y mae arnoch ei ofn; peidiwch â'i ofni ef,' medd yr ARGLWYDD, 'canys byddaf gyda chwi i'ch achub a'ch gwaredu o'i afael.
42:12 Gwnaf drugaredd â chwi, a bydd ef yn trugarhau wrthych ac yn eich adfer i'ch gwlad eich hun.
42:13 Ond os dywedwch, "Nid arhoswn yn y wlad hon", gan wrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw,
42:14 a dweud, "Nage, ond fe awn i'r Aifft; ni welwn ryfel yno na chlywed sain utgorn na bod mewn newyn am fara, ac yno y trigwn",
42:15 yna, clywch air yr ARGLWYDD, chwi weddill Jwda. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Os mynnwch droi eich wyneb tua'r Aifft, a mynd yno i drigo,
42:16 yna bydd y cleddyf a ofnwch yma yn eich goddiweddyd yno yng ngwlad yr Aifft, a'r newyn sy'n peri pryder ichwi yn eich dilyn i'r Aifft. Ac yno y byddwch farw.
42:17 Trwy gleddyf a newyn a haint bydd farw pob un a dry ei wyneb tua'r Aifft i drigo yno; ni bydd un yn weddill nac yn ddihangol, oherwydd y dialedd a ddygaf arnynt.'
42:18 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Fel y tywalltwyd fy llid a'm digofaint ar drigolion Jerwsalem, felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau pan ewch i'r Aifft. Byddwch yn destun melltith ac arswyd, gwawd a gwarth; ac ni chewch weld y lle hwn byth eto.'
42:19 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthych, 'Chwi weddill Jwda, peidiwch â mynd i'r Aifft.' Bydded hysbys i chwi i mi eich rhybuddio heddiw.
42:20 Twyllo'ch hunain yr oeddech wrth fy anfon i at yr ARGLWYDD eich Duw, a dweud, 'Gweddïa drosom ar yr ARGLWYDD ein Duw, a mynega i ni bob peth a ddywed yr ARGLWYDD ein Duw; ac fe'i gwnawn.'
42:21 Mynegais ef i chwi heddiw, ond ni wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw mewn dim yr anfonodd fi atoch i'w ddweud.
42:22 Yn awr, bydded hysbys y byddwch farw trwy gleddyf a newyn a haint yn y lle yr ydych yn dewis mynd iddo i fyw."

Cymryd Jeremeia i'r Aifft

43:1 Pan orffennodd Jeremeia lefaru wrth y bobl yr holl eiriau a anfonodd yr ARGLWYDD eu Duw atynt drwyddo ef,
43:2 atebodd Asareia fab Hosaia a Johanan fab Carea a'r holl rai sarhaus, a dweud wrth Jeremeia, "Dweud celwydd yr wyt; ni orchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw iti ddweud, 'Peidiwch â mynd i fyw i'r Aifft.'
43:3 Baruch fab Nereia sydd wedi dy annog di yn ein herbyn, er mwyn ein rhoi yng ngafael y Caldeaid, iddynt hwy ein lladd neu ein caethgludo i Fabilon."
43:4 Ac ni wrandawodd Johanan fab Carea, a swyddogion y llu a'r bobl, ar lais yr ARGLWYDD, i aros yn nhir Jwda.
43:5 Ond cymerodd Johanan fab Carea a swyddogion y llu holl weddill Jwda, a oedd wedi dychwelyd i drigo yng ngwlad Jwda o blith yr holl genhedloedd y gwasgarwyd hwy yn eu plith –
43:6 y gwŷr, y gwragedd a'r plant, merched y brenin a phawb yr oedd Nebusaradan, pennaeth y gwylwyr, wedi eu gadael gyda Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan; a hefyd y proffwyd Jeremeia a Baruch fab Nereia.
43:7 Ac aethant i wlad yr Aifft, heb wrando ar lais yr ARGLWYDD, a chyrraedd Tahpanhes.
43:8 Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia yn Tahpanhes:
43:9 "Cymer gerrig mawr, ac yng ngŵydd pobl Jwda gosod hwy mewn morter yn y palmant wrth ddrws tŷ Pharo yn Tahpanhes,
43:10 a dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Dyma fi'n anfon i gyrchu fy ngwas, Nebuchadnesar brenin Babilon, a chodaf ei orsedd ar y cerrig hyn a osodais, ac fe daena ef ei ortho drostynt.
43:11 Yna fe ddaw a tharo gwlad yr Aifft, gan ladd y rhai sydd i'w lladd, a chaethiwo'r rhai sydd i fynd i gaethiwed, a rhoi i'r cleddyf y rhai sydd i'w rhoi i'r cleddyf.
43:12 Bydd yn cynnau tân yn nhemlau duwiau'r Aifft ac yn eu llosgi, a chario'r duwiau ymaith. A bydd yn glanhau gwlad yr Aifft fel y bydd bugail yn glanhau ei wisg o'r llau; ac yna'n mynd ymaith mewn heddwch.
43:13 Bydd yn malu'r colofnau yn Nheml yr Haul yng ngwlad yr Aifft, ac yn llosgi temlau duwiau'r Aifft â thân.'"

Neges yr Arglwydd i'r Iddewon yn yr Aifft

44:1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia am yr holl Iddewon oedd yn byw yng ngwlad yr Aifft, sef yn Migdol, Tahpanhes a Noff, ac ym mro Pathros:
44:2 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Gwelsoch yr holl ddinistr a ddygais ar Jerwsalem ac ar holl ddinasoedd Jwda; y maent heddiw yn anghyfannedd, heb neb yn byw ynddynt,
44:3 o achos y drygioni a wnaethant i'm digio, gan losgi arogldarth ac addoli duwiau eraill nad oeddent hwy na chwithau na'ch hynafiaid yn eu hadnabod.
44:4 Anfonais atoch fy holl weision y proffwydi, a'u hanfon yn gyson i ddweud, "Yn wir, peidiwch â chyflawni'r ffieidd-beth hwn sydd yn gas gennyf."
44:5 Ond ni wrandawsant, nac estyn clust i droi oddi wrth eu drygioni ac i beidio ag arogldarthu i dduwiau eraill.
44:6 Felly tywalltwyd fy llid a'm digofaint, a llosgi yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, a'u gwneud yn anghyfannedd a diffaith, fel y maent heddiw.'
44:7 Yn awr, fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, Duw Israel: 'Pam yr ydych yn gwneud y drwg mawr hwn yn eich erbyn eich hunain, a thorri ymaith o Jwda ŵr a gwraig, plentyn a baban, fel nad oes gennych weddill yn aros?
44:8 Pam yr ydych yn fy nigio i â gwaith eich dwylo, ac yn arogldarthu i dduwiau eraill yng ngwlad yr Aifft, lle y daethoch i fyw, gan eich difetha eich hunain, a bod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear?
44:9 A ydych wedi anghofio drygioni eich hynafiaid a drygioni brenhinoedd Jwda a drygioni eu gwragedd, a'ch drygioni chwi eich hunain a'ch gwragedd, a wnaed yn nhir Jwda ac yn heolydd Jerwsalem?
44:10 Hyd heddiw nid ydych wedi ymostwng, nac ofni, na rhodio yn fy nghyfraith a'm deddfau, a roddais o'ch blaen ac o flaen eich hynafiaid.'
44:11 "Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Yr wyf yn gosod fy wyneb yn eich erbyn er niwed, i ddifetha holl Jwda.
44:12 Cymeraf weddill Jwda, a ddewisodd fynd i wlad yr Aifft i aros yno, a difethir hwy oll. Yng ngwlad yr Aifft y syrthiant; trwy gleddyf a newyn y difethir hwy; yn fach a mawr, byddant farw trwy gleddyf a newyn, a byddant yn destun melltith ac arswyd, gwawd a gwarth.
44:13 Cosbaf y rhai sy'n byw yng ngwlad yr Aifft, fel y cosbais Jerwsalem drwy gleddyf a newyn a haint.
44:14 Ymysg gweddill Jwda, a ddaeth i aros yng ngwlad yr Aifft, ni fydd un yn dianc nac wedi ei adael i ddychwelyd i wlad Jwda, er iddynt ddyheu am gael dychwelyd i fyw yno. Ni ddychwelant yno, ar wahân i ffoaduriaid.'"
44:15 Yna atebwyd Jeremeia gan y gwŷr a wyddai fod eu gwragedd yn arogldarthu i dduwiau eraill, a chan yr holl wragedd oedd yn sefyll gerllaw yn gynulleidfa fawr, a'r holl bobl oedd yn trigo yn Pathros yn yr Aifft.
44:16 "Nid ydym am wrando arnat," meddent, "yn y mater y lleferaist amdano wrthym yn enw'r ARGLWYDD.
44:17 Yn hytrach, yr ydym am fynnu gwneud yn ôl pob addewid a wnaethom i ni ein hunain; yr ydym am arogldarthu i frenhines y nefoedd, a thywallt iddi ddiodoffrwm, fel y gwnaethom o'r blaen yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, ni a'n hynafiaid, ein brenhinoedd a'n tywysogion. Yr oeddem yn cael digon o fara, a bu'n dda arnom, ac ni welsom ddrwg.
44:18 Byth er yr adeg y peidiasom ag arogldarthu i frenhines y nefoedd a thywallt diodoffrwm iddi, bu arnom eisiau pob dim, ac fe'n dinistriwyd â'r cleddyf ac â newyn.
44:19 Pan oeddem yn arogldarthu i frenhines y nefoedd ac yn tywallt diodoffrwm iddi, ai heb i'n gwŷr hefyd gymeradwyo y gwnaethom iddi deisennau ar ei llun, neu dywallt diodoffrwm iddi?"
44:20 A dywedodd Jeremeia wrth yr holl bobl, yn wŷr ac yn wragedd, a oedd wedi rhoi iddo yr ateb hwn,
44:21 "Onid yr arogldarthu a wnaethoch chwi a'ch hynafiaid, eich brenhinoedd a'ch tywysogion, a phobl y wlad yn ninasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem yw'r peth a gofiodd yr ARGLWYDD? Oni ddaeth hyn i'w feddwl?
44:22 Ni allai'r ARGLWYDD oddef yn hwy eich gweithredoedd drwg, a'r ffieiddbeth a wnaethoch; a gwnaeth eich gwlad yn anghyfannedd, ac yn syndod ac yn felltith, heb breswylydd, fel y mae heddiw.
44:23 Oherwydd ichwi arogldarthu, a phechu felly yn erbyn yr ARGLWYDD, ac am na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD, na rhodio yn ei gyfraith ef, nac yn ei ddeddfau na'i dystiolaethau, oherwydd hynny y digwyddodd yr aflwydd hwn i chwi, fel y gwelir heddiw."
44:24 Dywedodd Jeremeia wrth yr holl bobl a'r holl wragedd, "Clywch air yr ARGLWYDD, chwi holl bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft.
44:25 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Gwnaethoch chwi a'ch gwragedd addewid â'ch genau, a'i chyflawni â'ch dwylo, gan ddweud, "Yr ydym am gyflawni'r addunedau a addunedwyd gennym i arogldarthu i frenhines y nef a thywallt diodoffrwm iddi." Cyflawnwch, ynteu, eich addunedau, a thalwch hwy.'
44:26 Ond gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi holl bobl Jwda sy'n byw yng ngwlad yr Aifft. 'Tyngais innau i'm henw mawr,' medd yr ARGLWYDD, 'na fydd f'enw mwyach ar wefus neb o bobl Jwda yn holl wlad yr Aifft, i ddweud, "Byw fyddo'r Arglwydd DDUW".
44:27 Dyma fi'n effro i ddwyn drygioni arnynt, ac nid daioni; difethir â'r cleddyf ac â newyn holl bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft, nes y bydd diwedd arnynt.
44:28 A'r rhai a ddihanga rhag y cleddyf, dychwelant o wlad yr Aifft i dir Jwda yn ychydig o nifer; a chaiff holl weddill Jwda, a ddaeth i wlad yr Aifft i aros yno, ystyried gair pwy a saif, fy ngair i ynteu eu gair hwy.'
44:29 "'Dyma'r arwydd i chwi,' medd yr ARGLWYDD: 'Cosbaf chwi yn y lle hwn er mwyn i chwi wybod fod fy ngeiriau'n sefyll yn gadarn yn eich erbyn er drwg.'
44:30 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Yr wyf fi'n rhoi Pharo Hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion, a'r rhai sy'n ceisio'i einioes, fel y rhoddais Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, ei elyn a oedd yn ceisio'i einioes.'"

Addewid Duw i Baruch

45:1 Dyma'r gair a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth Baruch fab Nereia, pan ysgrifennodd ef y geiriau hyn mewn llyfr, yn ôl cyfarwyddyd Jeremeia, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:
45:2 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel wrthyt ti, Baruch:
45:3 'Dywedaist, "Gwae fi, oherwydd ychwanegodd yr ARGLWYDD dristwch at fy ngofid; diffygiais gan fy ngriddfan, ac ni chefais orffwys."'
45:4 Fel hyn y dywedi wrth Baruch: 'Dyma air yr ARGLWYDD: Wele, fe dynnaf i lawr yr hyn a adeiledais, a diwreiddio'r hyn a blennais. Digwydd hyn i'r holl wlad.
45:5 A thithau, a geisi i ti dy hun bethau mawrion? Paid â'u ceisio, oherwydd dyma fi'n dod â drwg ar bob cnawd,' medd yr ARGLWYDD; 'ond gadawaf i ti arbed dy fywyd, ple bynnag yr ei.'"

Trechu'r Aifft yn Carchemis

46:1 Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynglŷn â'r cenhedloedd,
46:2 am yr Aifft, ynglŷn â lluoedd Pharo Necho brenin yr Aifft pan oeddent yn Carchemis yn ymyl yr Ewffrates, wedi i Nebuchadnesar brenin Babilon eu gorchfygu yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:
46:3 "Cymerwch fwcled a tharian, ewch yn eich blaen i'r frwydr.
46:4 Cenglwch y ceffylau, marchogwch y meirch, safwch yn barod, pawb â'i helm, gloywch eich gwaywffyn, gwisgwch eich llurigau.
46:5 Beth a welaf? Y maent mewn braw, ciliant yn ôl, lloriwyd eu cedyrn; ffoesant ar ffrwst, heb edrych yn ôl; dychryn ar bob llaw!" medd yr ARGLWYDD.
46:6 "Ni all y buan ffoi, na'r cadarn ddianc; tua'r gogledd ar lan yr Ewffrates y baglant ac y syrthiant.
46:7 "Pwy yw hon sy'n codi fel y Neil, fel afonydd â'u dyfroedd yn dygyfor?
46:8 Yr Aifft sy'n codi fel y Neil, fel afonydd â'u dyfroedd yn dygyfor. Ac meddai, 'Fe godaf a gorchuddio'r ddaear; dinistriaf bob dinas a'i thrigolion.'
46:9 Ymlaen, chwi feirch; rhuthrwch, chwi gerbydau rhyfel. Allan, chwi wŷr cedyrn – Ethiopiaid a gwŷr Put, sy'n dwyn tarian; gwŷr o Lydia, sy'n arfer tynnu bwa.
46:10 Hwn yw dydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, dydd dialedd i ddial ar ei elynion. Ysa'r cleddyf nes syrffedu; meddwa ar eu gwaed. Canys bydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd yn cynnal aberth yng ngwlad y gogledd, wrth afon Ewffrates.
46:11 Dos i fyny i Gilead, a chymer falm, O wyryf, ferch yr Aifft; yn ofer y cymeraist gyffuriau lawer, canys ni fydd gwellhad i ti.
46:12 Fe glyw'r cenhedloedd am dy waradwydd, ac y mae dy waedd yn llenwi'r ddaear; cadarn yn syrthio yn erbyn cadarn, a'r ddau'n cwympo gyda'i gilydd."

Dyfodiad Nebuchadnesar

46:13 Dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth y proffwyd Jeremeia pan oedd Nebuchadnesar brenin Babilon ar ddod i daro gwlad yr Aifft:
46:14 "Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch yn Migdol, hysbyswch yn Noff ac yn Tahpanhes; dywedwch, 'Saf, a bydd barod, canys y mae cleddyf yn ysu o'th amgylch.'
46:15 Pam yr ysgubwyd Apis ymaith, a pham na ddaliodd dy darw ei dir? Yr ARGLWYDD a'i bwriodd i lawr.
46:16 Parodd i luoedd faglu a syrthio y naill yn erbyn y llall. Dywedasant, 'Cyfodwch, dychwelwn at ein pobl, i wlad ein genedigaeth, rhag cleddyf y gorthrymwr.'
46:17 Rhowch yn enw ar Pharo brenin yr Aifft, 'Y Broliwr a gollodd ei gyfle'.
46:18 Cyn wired â'm bod yn fyw," medd y Brenin – ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw – "fe ddaw, fel Tabor ymhlith y mynyddoedd, a Charmel uwchlaw'r môr.
46:19 Casgla iti becyn ar gyfer caethglud, ti, drigiannydd yr Aifft; canys bydd Noff yn anghyfannedd; fe'i difethir, a bydd heb breswylydd.
46:20 "Heffer gyda'r brydferthaf yw'r Aifft, ond daeth cleren o'r gogledd arni.
46:21 Yr oedd ei milwyr cyflog yn ei chanol fel lloi pasgedig; a throesant hwythau hefyd ymaith, a ffoi ynghyd, heb oedi; canys daeth dydd eu gofid arnynt, ac awr eu cosbi.
46:22 Y mae ei sŵn fel sarff yn hisian, canys daeth y gelyn yn llu, daeth yn ei herbyn â bwyeill; fel rhai yn cymynu coed,
46:23 torrant i lawr ei choedydd," medd yr ARGLWYDD. "Canys ni ellir eu rhifo; y maent yn amlach eu rhif na locustiaid, heb rifedi arnynt.
46:24 Cywilyddir merch yr Aifft, a'i rhoi yng ngafael pobl y gogledd."

Yr Arglwydd yn Gwaredu ei Bobl

46:25 Dywedodd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, "Byddaf yn cosbi Thebes, a Pharo a'r Aifft, a'i duwiau a'i brenhinoedd, Pharo a'r rhai sy'n ymddiried ynddo.
46:26 Rhof hwy yng ngafael y rhai sy'n ceisio'u heinioes, yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yng ngafael ei weision; ac wedi hynny cyfanheddir hi fel o'r blaen," medd yr ARGLWYDD.
46:27 "Ond tydi, fy ngwas Jacob, paid ag ofni; paid ag arswydo, Israel; canys dyma fi'n dy achub o bell, a'th had o wlad eu caethiwed. Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd; bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.
46:28 Tydi, fy ngwas Jacob, paid ag ofni," medd yr ARGLWYDD, "canys yr wyf fi gyda thi; gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gyrrais di atynt; ond ni wnaf ddiwedd arnat ti. Disgyblaf di mewn barn, ni'th adawaf yn ddi-gosb."

Neges yr Arglwydd ynghylch Philistia

47:1 Dyma air yr ARGLWYDD a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynghylch y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa.
47:2 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Wele , y mae dyfroedd yn tarddu o'r gogledd, ac yn llifeirio'n ffrwd gref; llifant dros y wlad a'i chynnwys, ei dinasoedd a'u preswylwyr. Y mae'r bobl yn gweiddi a holl breswylwyr y wlad yn udo,
47:3 oherwydd sŵn carnau ei feirch yn curo, ac oherwydd trwst ei gerbydau a thwrf yr olwynion. Ni thry'r rhieni'n ôl i edrych am y plant; gwanychodd eu dwylo gymaint.
47:4 Daeth y dydd i ddinistrio yr holl Philistiaid, i dorri allan o Tyrus ac o Sidon bob un sy'n aros i'w cynorthwyo. Dinistria'r ARGLWYDD y Philistiaid, gweddill ynystir Cafftor.
47:5 Daeth moelni ar Gasa, a dinistriwyd Ascalon. Ti, weddill yr Anacim, pa hyd yr archolli dy hun?
47:6 O gleddyf yr ARGLWYDD, pa hyd y byddi heb ymlonyddu? Dychwel i'th wain; gorffwys, a bydd dawel.
47:7 Pa fodd yr ymlonydda, gan i'r ARGLWYDD ei orchymyn? Yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glan y môr y gosododd ef.'"

Dinistr Moab

48:1 Am Moab, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: "Gwae Nebo, canys fe'i hanrheithiwyd! Cywilyddiwyd a daliwyd Ciriathaim; cywilyddiwyd Misgab, a'i difetha.
48:2 Ni bydd gogoniant Moab mwyach; yn Hesbon cynlluniwyd drwg yn eu herbyn: 'Dewch, dinistriwn hi fel na bydd yn genedl!' Distewir dithau, Madmen, erlidia'r cleddyf di.
48:3 Clyw waedd o Horonaim, 'Anrhaith a dinistr mawr!'
48:4 Dinistriwyd Moab; clywir ei gwaedd hyd yn Soar.
48:5 Canys dringant riw Luhith dan wylo'n chwerw; ac ar lechwedd Horonaim clywir cri ddolefus dinistr.
48:6 Ffowch, dihangwch am eich einioes, fel y gwna'r asyn gwyllt yn yr anialwch.
48:7 "Am i ti ymddiried yn dy weithredoedd a'th drysorau dy hun, cei dithau hefyd dy ddal; â Cemos i ffwrdd i gaethglud, ynghyd â'i offeiriaid a'i benaethiaid.
48:8 Daw'r anrheithiwr i bob dinas, ni ddihanga un ohonynt; derfydd am y dyffryn, difwynir y gwastadedd, fel y dywed yr ARGLWYDD.
48:9 Rhowch garreg fedd ar Moab, canys difodwyd hi'n llwyr; gwnaed ei dinasoedd yn anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt.
48:10 Melltith ar y sawl sy'n gwneud gwaith yr ARGLWYDD yn ddi-sut, melltith ar bwy bynnag sy'n atal ei gleddyf rhag gwaed.
48:11 "Bu'n esmwyth ar Moab erioed; gorffwysodd fel gwin ar ei waddod; nis tywalltwyd o lestr i lestr; nid aeth hi i gaethiwed. Felly y cadwodd ei blas, ac ni newidiodd ei sawr.
48:12 "Am hynny, wele'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "yr anfonaf rai i'w hysgwyd; ac ysgydwant hi, a gwacáu ei llestri a dryllio'r costrelau.
48:13 A chywilyddir Moab o achos Cemos, fel y cywilyddiwyd Israel o achos Bethel, eu hyder hwy.
48:14 "Pa fodd y dywedwch, 'Cedyrn ŷm ni, a gwŷr nerthol i ryfel'?
48:15 Daeth anrheithiwr Moab a'i dinasoedd i fyny, a disgynnodd y gorau o'i hieuenctid i'r lladdfa," medd y Brenin – ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
48:16 "Daeth dinistr Moab yn agos, ac y mae ei thrychineb yn prysuro'n gyflym.
48:17 Galarwch drosti, bawb sydd o'i hamgylch, bawb sy'n adnabod ei henw. Gofynnwch, 'Pa fodd y torrwyd y ffon gref a'r wialen hardd?'
48:18 Disgyn o'th ogoniant, ac eistedd ar dir sychedig, ti, breswylferch Dibon; canys daeth anrheithiwr Moab yn dy erbyn, a dinistrio d'amddiffynfeydd.
48:19 Saf ar ymyl y ffordd, a gwêl, ti, breswylferch Aroer; gofyn i'r sawl sy'n ffoi ac yn dianc, a dywed, 'Beth a ddigwyddodd?'
48:20 Cywilyddiwyd Moab, a'i dinistrio; udwch, a llefwch. Mynegwch yn Arnon fod Moab yn anrhaith.
48:21 "Daeth barn ar y gwastadedd, ar Holon a Jahas a Meffaath,
48:22 ar Dibon a Nebo a Beth-diblathaim;
48:23 ar Ciriathaim a Beth-gamul a Beth-meon;
48:24 ar Cerioth a Bosra, a holl ddinasoedd gwlad Moab, ymhell ac yn agos.
48:25 Tynnwyd ymaith gorn Moab, a thorrwyd ei braich," medd yr ARGLWYDD.
48:26 "Gwnewch hi'n feddw, canys ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD; ymdrybaedded Moab yn ei chwydfa, a bydded felly'n gyff gwawd.
48:27 Oni bu Israel yn gyff gwawd i ti, er nad oedd ymysg lladron, fel yr ysgydwit dy ben wrth sôn amdani?
48:28 "Cefnwch ar y dinasoedd, a thrigwch yn y creigiau, chwi breswylwyr Moab; byddwch fel colomen yn nythu yn ystlysau'r graig uwch yr hafn.
48:29 Clywsom am falchder Moab, ac un falch iawn yw hi – balch, hy, ffroenuchel ac uchelgeisiol.
48:30 Mi wn," medd yr ARGLWYDD, "ei bod yn haerllug; y mae ei hymffrost yn gelwydd, a'i gweithredoedd yn ffals.
48:31 Am hynny fe udaf dros Moab; llefaf dros Moab i gyd, griddfanaf dros bobl Cir-heres.
48:32 Wylaf drosot yn fwy nag yr wylir dros Jaser, ti, winwydden Sibma; estynnodd dy gangau hyd y môr, yn cyrraedd hyd Jaser; ond rhuthrodd yr anrheithiwr ar dy ffrwythau ac ar dy gynhaeaf gwin.
48:33 Bydd diwedd ar lawenydd a gorfoledd yn y doldir ac yng ngwlad Moab; gwnaf i'r gwin ddarfod o'r cafnau, ac ni fydd neb yn sathru â bloddest – bloddest nad yw'n floddest.
48:34 "Daw cri o Hesbon ac Eleale; codant eu llef hyd Jahas, o Soar hyd Horonaim ac Eglath-Shalisheia, oherwydd aeth dyfroedd Nimrim yn ddiffaith.
48:35 Gwnaf ddiwedd yn Moab," medd yr ARGLWYDD, "ar y sawl sy'n offrymu mewn uchelfa, ac yn arogldarthu i'w dduwiau.
48:36 Am hynny bydd fy nghalon yn dolefain fel sain ffliwt dros Moab, ac yn dolefain fel sain ffliwt dros wŷr Cir-heres, oblegid darfu'r golud a gasglasant.
48:37 Bydd pob pen yn foel a phob barf wedi ei heillio, archollir pob llaw, a bydd sachliain am y llwynau.
48:38 Ar ben pob tŷ yn Moab, ac ym mhob heol, bydd galar, oherwydd drylliaf Moab fel llestr nad oes neb yn ei hoffi," medd yr ARGLWYDD.
48:39 "Pa fodd y malwyd hi? Udwch! Pa fodd y troes Moab ei gwegil o gywilydd? Felly y bydd Moab yn gyff gwawd ac yn achos arswyd i bawb o'i hamgylch."
48:40 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Wele, bydd un fel eryr yn ehedeg, ac yn lledu ei adenydd dros Moab;
48:41 gorchfygir y dinasoedd, ac enillir yr amddiffynfeydd, a bydd calon dewrion Moab, y diwrnod hwnnw, fel calon gwraig wrth esgor.
48:42 Difethir Moab o fod yn bobl, canys ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD.
48:43 Dychryn, ffos a magl sydd yn dy erbyn, ti breswylydd Moab," medd yr ARGLWYDD.
48:44 "Y sawl a ffy rhag y dychryn, fe syrth i'r ffos; a'r sawl a gyfyd o'r ffos, fe'i delir yn y fagl. Dygaf yr holl bethau hyn arni, ar Moab, ym mlwyddyn ei chosb," medd yr ARGLWYDD.
48:45 "Gerllaw Hesbon y safant, yn ffoaduriaid heb nerth; canys aeth tân allan o Hesbon, a fflam o blas Sihon, ac yswyd talcen Moab a chorun plant y cythrwfl.
48:46 Gwae di, Moab! Darfu am bobl Cemos; cymerwyd dy feibion ymaith i gaethglud, a'th ferched i gaethiwed.
48:47 Eto byddaf yn adfer llwyddiant Moab yn y dyddiau diwethaf," medd yr ARGLWYDD. Dyna ddiwedd barnedigaeth Moab.

Barn yr Arglwydd ar Ammon

49:1 Am yr Ammoniaid, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Onid oes meibion gan Israel? Onid oes etifedd iddo? Pam, ynteu, yr etifeddodd Milcom diriogaeth Gad, a pham y mae ei bobl yn preswylio yn ninasoedd Israel?
49:2 Am hynny, y mae'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "y paraf glywed utgorn rhyfel yn erbyn Rabba'r Ammoniaid, a bydd yn garnedd anghyfannedd, a llosgir ei phentrefi â thân; yna difreinia Israel y rhai a'i difreiniodd hi," medd yr ARGLWYDD.
49:3 "Uda, Hesbon, oherwydd anrheithiwyd Ai; gwaeddwch, ferched Rabba, gwisgwch wregys o sachliain, galarwch, rhedwch gan rwygo eich cyrff; canys â Milcom i gaethglud ynghyd â'i offeiriaid a'i benaethiaid.
49:4 Pam yr ymffrosti yn dy ddyffrynnoedd? O ferch anffyddlon, sy'n ymddiried yn ei thrysorau cudd, ac yn dweud, 'Pwy a ddaw yn fy erbyn?'
49:5 Yr wyf yn dwyn arswyd arnat," medd ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, "rhag pawb sydd o'th amgylch; fe'ch gyrrir allan, bob un ar ei gyfer, ac ni bydd neb i gynnull y ffoaduriaid.
49:6 Ac wedi hynny adferaf lwyddiant yr Ammoniaid," medd yr ARGLWYDD.

Barn yr Arglwydd ar Edom

49:7 Am Edom, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Onid oes doethineb mwyach yn Teman? A ddifethwyd cyngor o blith y deallus, ac a fethodd eu doethineb hwy?
49:8 Ffowch, trowch eich cefn, trigwch mewn cilfachau, chwi breswylwyr Dedan; canys dygaf drychineb Esau arno pan gosbaf ef.
49:9 Pe dôi cynaeafwyr gwin atat, yn ddiau gadawent loffion grawn; pe dôi lladron liw nos, nid ysbeilient ond yr hyn a'u digonai.
49:10 Ond yr wyf fi wedi llwyr ddinoethi Esau; datguddiais ei fannau cudd, ac nid oes ganddo unman i ymguddio. Difethwyd ei blant a'i dylwyth a'i gymdogion, ac nid ydynt mwyach.
49:11 Gad dy rai amddifaid; fe'u cadwaf yn fyw; bydded i'th weddwon ymddiried ynof fi."
49:12 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; "Wele, y rhai ni ddyfarnwyd iddynt yfed o'r cwpan, bu raid iddynt yfed. A ddihengi di yn ddigerydd? Na wnei, ond bydd raid i tithau yfed.
49:13 Canys tyngais i mi fy hun," medd yr ARGLWYDD, "y bydd Bosra yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch ac yn felltith, a'i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch oesol."
49:14 Clywais genadwri gan yr ARGLWYDD; anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd: "Ymgasglwch, dewch yn ei herbyn, codwch i'r frwydr.
49:15 Canys wele, gwnaf di'n fach ymysg y cenhedloedd, yn ddirmygedig ymhlith pobloedd.
49:16 Y mae'r arswyd a beraist wedi dy dwyllo; gwnaeth dy galon yn falch. Tydi sy'n trigo yn holltau'r graig ac yn glynu wrth grib y bryniau, er i ti osod dy nyth cyn uched â'r eryr, fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno," medd yr ARGLWYDD.
49:17 "Bydd Edom yn anghyfannedd, a phawb sy'n mynd heibio yn arswydo, gan synnu oherwydd ei holl glwyfau.
49:18 Fel pan ddinistriwyd Sodom a Gomorra a'u cymdogion," medd yr ARGLWYDD, "ni fydd neb yn aros nac yn ymweld â hi.
49:19 Wele, fel llew'n dod i fyny o wlad wyllt yr Iorddonen i'r borfa barhaol, ymlidiaf hwy ymaith yn ddisymwth oddi wrthi. Pwy a ddewisaf i'w osod drosti? Oherwydd pwy sydd fel myfi? Pwy a'm geilw i i gyfrif? Pwy yw'r bugail a saif o'm blaen i?
49:20 Am hynny, clywch yr hyn a fwriadodd yr ARGLWYDD yn erbyn Edom, a'i gynlluniau yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau, fe lusgir ymaith hyd yn oed y lleiaf o'r praidd; yn ddiau, bydd eu porfeydd yn arswydo o'u plegid.
49:21 Fe gryn y ddaear gan sŵn eu cwymp; clywir eu cri wrth y Môr Coch.
49:22 Ie, bydd un yn codi, yn ehedeg fel eryr, ac yn lledu ei adenydd yn erbyn Bosra; a bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor."

Barn yr Arglwydd ar Ddamascus

49:23 Am Ddamascus. "Gwaradwyddwyd Hamath ac Arpad, canys clywsant newydd drwg; cynhyrfir hwy gan bryder, fel y môr na ellir ei dawelu.
49:24 Llesgaodd Damascus, a throdd i ffoi; goddiweddodd dychryn hi, a gafaelodd cryndod a gwasgfa ynddi fel mewn gwraig wrth esgor.
49:25 Mor wrthodedig yw dinas moliant, caer llawenydd!
49:26 Am hynny fe syrth ei gwŷr ifainc yn ei heolydd, a dinistrir ei holl filwyr y dydd hwnnw," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
49:27 "Mi gyneuaf dân ym mur Damascus, ac fe ddifa lysoedd Ben-hadad."

Barn ar Dylwyth Cedar a Dinas Hasor

49:28 Am Cedar, a theyrnasoedd Hasor, y rhai a drawyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Codwch, esgynnwch yn erbyn Cedar; anrheithiwch bobl y dwyrain.
49:29 Cymerir ymaith eu pebyll a'u diadellau, llenni eu pebyll, a'u celfi i gyd; dygir eu camelod oddi arnynt, a bloeddir wrthynt, 'Dychryn ar bob llaw!'
49:30 Ffowch, rhedwch ymhell; trigwch mewn cilfachau, chwi breswylwyr Hasor," medd yr ARGLWYDD; "oherwydd gwnaeth Nebuchadnesar brenin Babilon gynllwyn, a lluniodd gynllun yn eich erbyn.
49:31 Codwch, esgynnwch yn erbyn y genedl ddiofal, sy'n byw'n ddiogel," medd yr ARGLWYDD, "heb ddorau na barrau iddi, a'i phobl yn byw iddynt eu hunain.
49:32 Bydd eu camelod yn anrhaith, a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail; gwasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd â'u talcennau'n foel; o bob cyfeiriad dygaf arnynt eu dinistr," medd yr ARGLWYDD.
49:33 "Bydd Hasor yn gynefin siacaliaid, ac yn anghyfannedd byth; ni fydd neb yn byw ynddi, nac unrhyw un yn aros yno."

Barn yr Arglwydd ar Elam

49:34 Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia am Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda:
49:35 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Yr wyf am dorri bwa Elam, eu cadernid pennaf hwy.
49:36 Dygaf ar Elam bedwar gwynt, o bedwar cwr y nefoedd; gwasgaraf hwy tua'r holl wyntoedd hyn; ni bydd cenedl na ddaw ffoaduriaid Elam ati.
49:37 Canys gyrraf ar Elam ofn o flaen eu gelynion ac o flaen y rhai sy'n ceisio'u heinioes; dygaf arnynt ddinistr, sef angerdd fy nigofaint,' medd yr ARGLWYDD. 'Gyrraf y cleddyf ar eu hôl, nes i mi eu llwyr ddifetha.
49:38 A gosodaf fy ngorseddfainc yn Elam, a difa oddi yno y brenin a'r swyddogion,' medd yr ARGLWYDD.
49:39 "Ond yn y dyddiau diwethaf mi adferaf lwyddiant Elam," medd yr ARGLWYDD.

Goresgyn Babilon

50:1 Dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD am Fabilon, gwlad y Caldeaid, trwy'r proffwyd Jeremeia:
50:2 "Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch; codwch faner a chyhoeddwch; peidiwch â chelu ond dywedwch, 'Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd Bel, brawychwyd Merodach. Daeth cywilydd dros ei heilunod a drylliwyd ei delwau.'
50:3 Canys daeth cenedl yn ei herbyn o'r gogledd; gwna ei gwlad yn anghyfannedd, ac ni thrig ynddi na dyn nac anifail. Ffoesant ac aethant ymaith."
50:4 "Yn y dyddiau hynny a'r amser hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "daw pobl Israel a phobl Jwda ynghyd gan wylo, i ymofyn am yr ARGLWYDD eu Duw.
50:5 Holant am Seion, i droi eu hwyneb tuag yno, a dweud, 'Dewch, glynwn wrth yr ARGLWYDD mewn cyfamod tragwyddol nas anghofir.'
50:6 "Praidd ar ddisberod oedd fy mhobl; gyrrodd eu bugeiliaid hwy ar gyfeiliorn, a'u troi ymaith ar y mynyddoedd; crwydrasant o fynydd i fryn, gan anghofio'u corlan.
50:7 Yr oedd pob un a ddôi o hyd iddynt yn eu difa, a'u gelynion yn dweud, 'Nid oes dim bai arnom ni, oherwydd y maent wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, eu gwir gynefin – yr ARGLWYDD, gobaith eu hynafiaid.'
50:8 "Ffowch o ganol Babilon, ewch allan o wlad y Caldeaid, a safwch fel y bychod o flaen y praidd;
50:9 canys wele fi'n cynhyrfu ac yn arwain yn erbyn Babilon dyrfa o genhedloedd mawrion o dir y gogledd; safant yn rhengoedd yn ei herbyn; ac oddi yno y goresgynnir hi. Y mae eu saethau fel rhai milwr cyfarwydd na ddychwel yn waglaw.
50:10 Ysbail fydd Caldea, a chaiff ei holl ysbeilwyr eu gwala," medd yr ARGLWYDD.
50:11 "Chwi, y rhai sy'n mathru f'etifeddiaeth, er ichwi lawenhau, er ichwi orfoleddu, er ichwi brancio fel llo mewn porfa, er ichwi weryru fel meirch,
50:12 caiff eich mam ei chywilyddio'n ddirfawr, a gwaradwyddir yr un a roes enedigaeth ichwi. Ie, bydd yn wehilion y cenhedloedd, yn anialwch, yn grastir ac yn ddiffeithwch.
50:13 Oherwydd digofaint yr ARGLWYDD, ni phreswylir hi, ond bydd yn anghyfannedd i gyd; bydd pawb sy'n mynd heibio i Fabilon yn arswydo ac yn synnu at ei holl glwyfau.
50:14 "Trefnwch eich rhengoedd yn gylch yn erbyn Babilon, bawb sy'n tynnu bwa; ergydiwch ati, heb arbed saethau, canys yn erbyn yr ARGLWYDD y pechodd.
50:15 Bloeddiwch yn ei herbyn mewn goruchafiaeth, o bob cyfeiriad: 'Gwnaeth arwydd o ymostyngiad, cwympodd ei hamddiffynfeydd, bwriwyd ei muriau i lawr.' Gan mai dial yr ARGLWYDD yw hyn, dialwch arni; megis y gwnaeth hi, gwnewch iddi hithau.
50:16 Torrwch ymaith o Fabilon yr heuwr, a'r sawl sy'n trin cryman ar adeg medi. Rhag cleddyf y gorthrymwr bydd pob un yn troi at ei bobl ei hun, a phob un yn ffoi i'w wlad.
50:17 "Praidd ar wasgar yw Israel, a'r llewod yn eu hymlid. Brenin Asyria a'u hysodd gyntaf, yna Nebuchadnesar brenin Babilon yn olaf oll a gnodd eu hesgyrn.
50:18 Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Yr wyf am gosbi brenin Babilon, a'i wlad, fel y cosbais frenin Asyria.
50:19 Ac adferaf Israel i'w borfa, ac fe bora ar Garmel ac yn Basan; digonir ei chwant ar fynydd-dir Effraim a Gilead.
50:20 Yn y dyddiau hynny a'r amser hwnnw,' medd yr ARGLWYDD, 'yn ofer y ceisir drygioni Israel, ac ni cheir pechod Jwda; oherwydd maddeuaf i'r rhai a adawaf yn weddill.'
50:21 "Dos i fyny yn erbyn gwlad Merathaim, ac yn erbyn trigolion Pecod; anrheithia hi, difetha hi'n llwyr," medd yr ARGLWYDD. "Gwna yn ôl yr hyn oll a orchmynnaf i ti.
50:22 Clyw! Rhyfel yn y wlad! Dinistr mawr!
50:23 Gwêl fel y drylliwyd gordd yr holl ddaear, ac y torrwyd hi'n dipiau. Gwêl fel yr aeth Babilon yn syndod ymhlith y cenhedloedd.
50:24 Gosodais fagl i ti, Babilon, a daliwyd di heb yn wybod iti; fe'th gafwyd ac fe'th ddaliwyd am iti ymryson yn erbyn yr ARGLWYDD.
50:25 Agorodd yr ARGLWYDD ei ystordy, a dwyn allan arfau ei ddigofaint; oherwydd gwaith ARGLWYDD Dduw y Lluoedd yw hyn yng ngwlad y Caldeaid.
50:26 Dewch yn ei herbyn o'r cwr eithaf, ac agorwch ei hysguboriau hi; gwnewch bentwr ohoni fel pentwr ŷd, a'i difetha'n llwyr, heb weddill iddi.
50:27 Lladdwch ei holl fustych hi, a gadael iddynt ddisgyn i'r lladdfa. Gwae hwy! Daeth eu dydd, ac amser eu cosbi.
50:28 Clyw! Y maent yn ffoi ac yn dianc o wlad Babilon, i gyhoeddi yn Seion ddial yr ARGLWYDD ein Duw, ei ddial am ei deml.
50:29 "Galwch y saethwyr yn erbyn Babilon, pob un sy'n tynnu bwa; gwersyllwch yn ei herbyn o amgylch, rhag i neb ddianc ohoni. Talwch iddi yn ôl ei gweithred, ac yn ôl y cwbl a wnaeth gwnewch iddi hithau; canys bu'n drahaus yn erbyn yr ARGLWYDD, yn erbyn Sanct Israel.
50:30 Am hynny fe syrth ei gwŷr ifainc yn ei heolydd, a dinistrir ei holl filwyr y dydd hwnnw," medd yr ARGLWYDD.
50:31 "Dyma fi yn dy erbyn di, yr un balch," medd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, "canys daeth dy ddydd, a'r awr i mi dy gosbi.
50:32 Tramgwydda'r balch a syrth heb neb i'w godi; cyneuaf yn ei ddinasoedd dân fydd yn difa'i holl amgylchedd."
50:33 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Gorthrymwyd pobl Israel, a phobl Jwda gyda hwy; daliwyd hwy'n dynn gan bawb a'u caethiwodd, a gwrthod eu gollwng.
50:34 Ond y mae eu Gwaredwr yn gryf; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw. Bydd ef yn dadlau eu hachos yn gadarn, ac yn dwyn llonydd i'w wlad, ond aflonyddwch i breswylwyr Babilon.
50:35 "Cleddyf ar y Caldeaid," medd yr ARGLWYDD, "ar breswylwyr Babilon, ar ei swyddogion a'i gwŷr doeth!
50:36 Cleddyf ar ei dewiniaid, iddynt fynd yn ynfydion! Cleddyf ar ei gwŷr cedyrn, iddynt gael eu difetha!
50:37 Cleddyf ar ei meirch a'i cherbydau, ac ar y milwyr cyflog yn ei chanol, iddynt fod fel merched! Cleddyf ar ei holl drysorau, iddynt gael eu hysbeilio!
50:38 Cleddyf ar ei dyfroedd, iddynt sychu! Oherwydd gwlad delwau yw hi, wedi ynfydu ar eilunod.
50:39 "Am hynny bydd anifeiliaid yr anialdir a'r hiena yn trigo yno, a'r estrys yn cael cartref yno; ni fydd neb yn preswylio yno mwyach, ac nis cyfanheddir o genhedlaeth i genhedlaeth.
50:40 Fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra a'u cymdogaeth," medd yr ARGLWYDD, "felly ni fydd neb yn byw yno, nac unrhyw un yn tramwyo ynddi.
50:41 "Wele, y mae pobl yn dod o'r gogledd – cenedl fawr a brenhinoedd lawer yn ymysgwyd o bellteroedd byd.
50:42 Gafaelant yn y bwa a'r waywffon; y maent yn greulon a didostur; y mae eu twrf fel y môr yn rhuo; marchogant ar feirch, a dod yn rhengoedd fel gwŷr i ryfel yn dy erbyn di, ferch Babilon.
50:43 Clywodd brenin Babilon sôn amdanynt, ac aeth ei ddwylo'n llesg; daliwyd ef gan wasgfa, a gwewyr fel eiddo gwraig wrth esgor.
50:44 "Wele, fel llew'n dod i fyny o wlad wyllt yr Iorddonen i'r borfa barhaol, fe'u hymlidiaf ymaith yn ddisymwth oddi wrthi. Pwy a ddewisaf i'w osod drosti? Oherwydd pwy sydd fel myfi? Pwy a'm geilw i i gyfrif? Pwy yw'r bugail a saif o'm blaen i?
50:45 Am hynny, clywch yr hyn a fwriadodd yr ARGLWYDD yn erbyn Babilon, a'i gynlluniau yn erbyn gwlad y Caldeaid. Yn ddiau fe lusgir ymaith hyd yn oed y lleiaf o'r praidd; yn wir bydd eu porfeydd yn arswydo o'u plegid.
50:46 Bydd y ddaear yn crynu gan sŵn dal Babilon; clywir ei chri ymhlith y cenhedloedd."

Barn Bellach ar Fabilon

51:1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Wele, mi godaf wynt dinistriol yn erbyn Babilon a phreswylwyr Caldea.
51:2 Anfonaf nithwyr i Fabilon; fe'i nithiant, a gwacáu ei thir; canys dônt yn ei herbyn o bob tu yn nydd ei blinder.
51:3 Na thynned y saethwr ei fwa, na gwisgo'i lurig. Peidiwch ag arbed ei gwŷr ifainc, difethwch yn llwyr ei holl lu.
51:4 Syrthiant yn farw yn nhir y Caldeaid, wedi eu trywanu yn ei heolydd hi.
51:5 Canys ni adewir Israel na Jwda yn weddw gan eu Duw, gan ARGLWYDD y Lluoedd; ond y mae gwlad y Caldeaid yn llawn euogrwydd yn erbyn Sanct Israel.
51:6 Ffowch o ganol Babilon, achubed pob un ei hunan. Peidiwch â chymryd eich difetha gan ei drygioni hi, canys amser dial yw hwn i'r ARGLWYDD; y mae ef yn talu'r pwyth iddi hi.
51:7 Cwpan aur oedd Babilon yn llaw'r ARGLWYDD, yn meddwi'r holl ddaear; byddai'r cenhedloedd yn yfed o'i gwin, a'r cenhedloedd felly'n mynd yn ynfyd.
51:8 Yn ddisymwth syrthiodd Babilon, a drylliwyd hi; udwch drosti! Cymerwch falm i'w dolur, i edrych a gaiff hi ei hiacháu.
51:9 Ceisiem iacháu Babilon, ond ni chafodd ei hiacháu; gadewch hi, ac awn bawb i'w wlad. Canys cyrhaeddodd ei barnedigaeth i'r nefoedd, a dyrchafwyd hi hyd yr wybren.
51:10 Bu i'r ARGLWYDD ein cyfiawnhau. Dewch, traethwn yn Seion waith yr ARGLWYDD ein Duw.
51:11 "Hogwch y saethau. Llanwch y cewyll. Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd brenhinoedd Media; canys y mae ei fwriad yn erbyn Babilon, i'w dinistrio. Dial yr ARGLWYDD yw hyn, dial am ei deml.
51:12 Codwch faner yn erbyn muriau Babilon; cryfhewch y wyliadwriaeth, a darparu gwylwyr a gosod cynllwynwyr; oherwydd bwriadodd a chwblhaodd yr ARGLWYDD yr hyn a lefarodd am drigolion Babilon.
51:13 Ti, ddinas aml dy drysorau, sy'n trigo gerllaw dyfroedd lawer, daeth diwedd arnat ac ar dy gribddeilio.
51:14 Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd iddo'i hun, 'Diau imi dy lenwi â phobl mor niferus â'r locustiaid; ond cenir cân floddest yn dy erbyn.'"

Emyn o Fawl i Dduw

51:15 Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth, sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, a thrwy ei ddeall estynnodd y nefoedd.
51:16 Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd, bydd yn peri i darth godi o eithafoedd y ddaear, yn gwneud mellt â'r glaw, ac yn dwyn allan wyntoedd o'i ystordai.
51:17 Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth. Cywilyddir pob eurych gan ei eilun, canys celwydd yw ei ddelwau tawdd, ac nid oes anadl ynddynt.
51:18 Oferedd ŷnt, a gwaith i'w wawdio; yn amser eu cosbi fe'u difethir.
51:19 Nid yw Duw Jacob fel y rhain, canys ef yw lluniwr pob peth, ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

Bwyell yr Arglwydd

51:20 "Bwyell cad wyt ti i mi, ac erfyn rhyfel. Â thi y drylliaf y cenhedloedd, ac y dinistriaf deyrnasoedd;
51:21 â thi y drylliaf y march a'i farchog, â thi y drylliaf y cerbyd a'r cerbydwr;
51:22 â thi y drylliaf ŵr a gwraig, â thi y drylliaf henwr a llanc, â thi y drylliaf ŵr ifanc a morwyn;
51:23 â thi y drylliaf y bugail a'i braidd, â thi y drylliaf yr amaethwr a'i wedd, â thi y drylliaf lywodraethwyr a'u swyddogion.

Cosb Babilon

51:24 "Talaf yn ôl i Fabilon ac i holl breswylwyr Caldea yn eich golwg chwi am yr holl ddrwg a wnaethant i Seion," medd yr ARGLWYDD.
51:25 "Dyma fi yn dy erbyn di, fynydd dinistr," medd yr ARGLWYDD, "dinistrydd yr holl ddaear. Estynnaf fy llaw yn dy erbyn, a'th dreiglo i lawr o'r creigiau, a'th wneud yn fynydd llosgedig.
51:26 Ni cheir ohonot faen congl na charreg sylfaen, ond byddi'n anialwch parhaol," medd yr ARGLWYDD.
51:27 "Codwch faner yn y tir, canwch utgorn ymysg y cenhedloedd, neilltuwch genhedloedd i ryfela yn ei herbyn; galwch yn ei herbyn y teyrnasoedd, Ararat, Minni ac Ascenas. Gosodwch gadlywydd yn ei herbyn, dygwch ymlaen feirch, mor niferus â'r locustiaid heidiog.
51:28 Neilltuwch genhedloedd yn ei herbyn, brenhinoedd Media a'i llywodraethwyr a'i swyddogion, a holl wledydd eu hymerodraeth.
51:29 Bydd y ddaear yn crynu ac yn gwingo mewn poen, oherwydd fe saif bwriadau'r ARGLWYDD yn erbyn Babilon, i wneud gwlad Babilon yn anialdir, heb neb yn trigo ynddo.
51:30 Peidiodd cedyrn Babilon ag ymladd; llechant yn eu hamddiffynfeydd; pallodd eu nerth, aethant fel gwragedd; llosgwyd eu tai, a thorrwyd barrau'r pyrth.
51:31 Rhed negesydd i gyfarfod negesydd, a chennad i gyfarfod cennad, i fynegi i frenin Babilon fod ei ddinas wedi ei goresgyn o'i chwr.
51:32 Enillwyd y rhydau, llosgwyd y corsydd â thân, a daeth braw ar wŷr y gwarchodlu.
51:33 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Y mae merch Babilon fel llawr dyrnu adeg ei fathru; ar fyrder daw amser ei chynhaeaf.'"

Yr Arglwydd yn Cynorthwyo Israel

51:34 "Fe'm hyswyd ac fe'm hysigwyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon; bwriodd fi heibio fel llestr gwag; fel draig fe'm llyncodd; llanwodd ei fol â'm rhannau danteithiol, a'm chwydu allan."
51:35 Dyweded preswylydd Seion, "Bydded ar Fabilon y trais a wnaed arnaf fi ac ar fy nghnawd!" Dyweded Jerwsalem, "Bydded fy ngwaed ar drigolion Caldea!"
51:36 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Dyma fi'n dadlau dy achos, ac yn dial drosot; disbyddaf ei môr hi, a sychaf ei ffynhonnau.
51:37 Bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa i siacaliaid; yn arswyd ac yn syndod, heb neb i breswylio ynddi.
51:38 "Rhuant ynghyd fel llewod, a chwyrnu fel cenawon llew.
51:39 Paraf i'w llymeitian ddarfod mewn twymyn, meddwaf hwy nes y byddant yn chwil, ac yn syrthio i drymgwsg diderfyn, diddeffro," medd yr ARGLWYDD.
51:40 "Dygaf hwy i waered, fel ŵyn i'r lladdfa, fel hyrddod neu fychod geifr.
51:41 "O fel y goresgynnwyd Babilon ac yr enillwyd balchder yr holl ddaear! O fel yr aeth Babilon yn syndod i'r cenhedloedd!
51:42 Ymchwyddodd y môr yn erbyn Babilon, a'i gorchuddio â'i donnau terfysglyd.
51:43 Aeth ei dinasoedd yn ddiffaith, yn grastir ac anialdir, heb neb yn trigo ynddynt nac unrhyw un yn ymdaith trwyddynt.
51:44 Cosbaf Bel ym Mabilon, a thynnaf o'i safn yr hyn a lyncodd; ni ddylifa'r cenhedloedd ato ef mwyach, canys syrthiodd muriau Babilon.
51:45 Ewch allan ohoni, fy mhobl; achubed pob un ei hunan rhag angerdd llid yr ARGLWYDD.
51:46 "Gochelwch rhag i'ch calon lwfrhau, a pheidiwch ag ofni rhag chwedlau a daenir drwy'r wlad. Clywir si un flwyddyn, a si drachefn y flwyddyn wedyn; ceir trais yn y wlad a llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr.
51:47 Oherwydd y mae'r dyddiau'n dod y cosbaf ddelwau Babilon; bydd yr holl wlad yn waradwydd, a'i lladdedigion i gyd yn syrthio yn ei chanol.
51:48 Yna fe orfoledda'r nefoedd a'r ddaear, a phob peth sydd ynddynt, yn erbyn Babilon, oherwydd daw anrheithwyr o'r gogledd yn ei herbyn," medd yr ARGLWYDD.
51:49 "Rhaid i Fabilon syrthio oherwydd lladdedigion Israel, fel y syrthiodd lladdedigion yr holl ddaear oherwydd Babilon.
51:50 Ewch heb oedi, chwi y rhai a ddihangodd rhag y cleddyf; cofiwch yr ARGLWYDD yn y pellteroedd, galwch Jerwsalem i gof.
51:51 'Gwaradwyddwyd ni,' meddwch, 'pan glywsom gerydd, gorchuddiwyd ein hwyneb â gwarth, canys daeth estroniaid i gynteddoedd sanctaidd tŷ'r ARGLWYDD.'
51:52 "Am hynny, dyma'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "y cosbaf ei delwau ac y griddfana'r rhai clwyfedig trwy'r holl wlad.
51:53 Er i Fabilon ddyrchafu i'r nefoedd, a diogelu ei hamddiffynfa uchel, daw ati anrheithwyr oddi wrthyf fi," medd yr ARGLWYDD.
51:54 "Clyw! Daw gwaedd o Fabilon, dinistr mawr o wlad y Caldeaid.
51:55 Oherwydd anrheithia'r ARGLWYDD Fabilon, a distewi ei sŵn mawr. Bydd ei thonnau'n rhuo fel dyfroedd yn dygyfor, a'i thwrf yn codi.
51:56 Oblegid daw anrheithiwr yn ei herbyn, yn erbyn Babilon; delir ei chedyrn, dryllir eu bwa, oherwydd bydd yr ARGLWYDD, Duw dial, yn talu iddynt yn llawn.
51:57 Meddwaf ei thywysogion a'i doethion, ei llywodraethwyr a'i swyddogion, a'i gwŷr cedyrn; cysgant hun ddiderfyn, ddiddeffro," medd y Brenin – ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
51:58 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Dryllir i'r llawr furiau llydan Babilon; llosgir ei phyrth uchel â thân; yn ofer y llafuriodd y bobloedd, a bydd ymdrech y cenhedloedd yn gorffen mewn tân."

Anfon Neges Jeremeia i Fabilon

51:59 Dyma hanes gorchymyn y proffwyd Jeremeia i Seraia fab Nereia, fab Maaseia, pan aeth i Fabilon gyda Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad. Swyddog cyflenwi oedd Seraia.
51:60 Ysgrifennodd Jeremeia mewn llyfr yr holl aflwydd oedd i ddod ar Fabilon, yr holl eiriau hyn a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon.
51:61 A dywedodd Jeremeia wrth Seraia, "Pan ddoi i Fabilon, edrych ar hwn, a darllen yr holl eiriau hyn,
51:62 ac yna dywed, 'O ARGLWYDD, lleferaist yn erbyn y lle hwn i'w ddinistrio, fel na byddai ynddo na dyn nac anifail yn byw, ond iddo fod yn anghyfannedd tragwyddol.'
51:63 Pan orffenni ddarllen y llyfr, rhwyma garreg wrtho a'i fwrw i ganol afon Ewffrates,
51:64 a dywed, 'Fel hyn y suddir Babilon; ni fydd yn codi mwyach wedi'r dinistr a ddygaf arni; a diffygiant.'" Dyma ddiwedd geiriau Jeremeia.

Cwymp Jerwsalem, 2 Bren. 24:18—5:7

52:1 Un ar hugain oed oedd Sedeceia pan ddechreuodd deyrnasu, a theyrnasodd yn Jerwsalem am un mlynedd ar ddeg; enw ei fam oedd Hamutal merch Jeremeia o Libna.
52:2 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel yr oedd Jehoiacim wedi gwneud;
52:3 ac oherwydd digofaint yr ARGLWYDD cafodd Jerwsalem a Jwda eu bwrw allan o'i ŵydd. Gwrthryfelodd Sedeceia yn erbyn brenin Babilon,
52:4 ac yn nawfed flwyddyn ei deyrnasiad, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, daeth Neb-uchadnesar brenin Babilon, gyda'i holl fyddin, yn erbyn Jerwsalem, a chodi gwarchae yn ei herbyn ac adeiladu tyrau gwarchae o'i hamgylch.
52:5 Bu'r ddinas dan warchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Sedeceia.
52:6 Yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd o'r mis, yr oedd y newyn yn drwm yn y ddinas, ac nid oedd bwyd i'r werin.
52:7 Yna bylchwyd y muriau, a ffodd yr holl ryfelwyr allan o'r ddinas yn y nos drwy'r porth rhwng y ddau fur, gerllaw gardd y brenin, er bod y Caldeaid o amgylch y ddinas. Aethant i gyfeiriad yr Araba.
52:8 Aeth llu'r Caldeaid i ymlid y brenin, a goddiweddyd Sedeceia yn rhosydd Jericho, a'i holl lu ar wasgar oddi wrtho.
52:9 Daliwyd y brenin, a'i ddwyn o flaen brenin Babilon yn Ribla, yng ngwlad Hamath; a barnwyd ei achos ef.
52:10 Lladdodd brenin Babilon feibion Sedeceia o flaen ei lygaid; lladdodd hefyd holl benaethiaid Jwda yn Ribla.
52:11 Yna fe dynnodd lygaid Sedeceia, a'i rwymo â chadwyni, a dygodd brenin Babilon ef i Fabilon, a'i roi mewn carchar hyd ddydd ei farw.

Dinistrio'r Deml, 2 Bren. 25:8–17

52:12 Yn y pumed mis, ar y degfed dydd o'r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r Brenin Nebuchadnesar, brenin Babilon, daeth Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu oedd yn gwasanaethu'r brenin, i Jerwsalem,
52:13 a llosgi â thân dŷ'r ARGLWYDD, a thŷ'r brenin, a'r holl dai yn Jerwsalem, sef holl dai y bobl fawr.
52:14 Drylliodd llu y Caldeaid, a oedd gyda phennaeth y gosgorddlu, yr holl furiau oedd yn amgylchu Jerwsalem.
52:15 Caethgludodd Nebusaradan, capten y gwarchodlu, weddill y bobl dlawd a adawyd ar ôl yn y ddinas, a hefyd y rhai a giliodd at frenin Babilon, ynghyd â gweddill y crefftwyr.
52:16 Ond gadawodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, rai o dlodion y wlad i fod yn winllanwyr ac amaethwyr.
52:17 Drylliodd y Caldeaid y colofnau pres oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD, a'r trolïau a'r môr pres yn nhŷ'r ARGLWYDD, a chymryd y pres i Fabilon;
52:18 cymerasant hefyd y crochanau, y rhawiau, y sisyrnau, y cawgiau, y thuserau, a'r holl lestri pres a oedd yng ngwasanaeth y deml.
52:19 Cymerodd pennaeth y gosgorddlu y celfi o fetel gwerthfawr, yn aur ac yn arian – ffiolau, pedyll tân, cawgiau, crochanau, canwyllbrennau, thuserau, a chwpanau diodoffrwm.
52:20 Nid oedd terfyn ar bwysau'r pres yn yr holl lestri hyn, sef y ddwy golofn, y môr a'r deuddeg ych pres oddi tano, a'r trolïau yr oedd Solomon wedi eu gwneud i dŷ'r ARGLWYDD.
52:21 Ynglŷn â'r colofnau: yr oedd y naill yn ddeunaw cufydd o uchder, a'i hamgylchedd yn ddeuddeg cufydd; yr oedd yn wag o'i mewn, a thrwch y metel yn bedair modfedd.
52:22 Ar ei phen yr oedd cnap pres, a'i uchder yn bum cufydd, a rhwydwaith a phomgranadau o amgylch y cnap, y cwbl o bres. Ac yr oedd y golofn arall, gyda'i phom-granadau, yr un fath.
52:23 Yr oedd naw deg a chwech o'r pomgranadau yn y golwg, a chant o bomgranadau i gyd, ar y rhwydwaith o amgylch.

Cymryd Pobl Jwda i Fabilon, 2 Bren. 25:18–21, 27–30

52:24 Cymerodd pennaeth y gosgorddlu Seraia y prif offeiriad, a Seffaneia yr ail offeiriad, a thri cheidwad y drws;
52:25 a chymerodd o'r ddinas y swyddog oedd yn gofalu am y gwŷr rhyfel, a saith o ddynion o blith cynghorwyr y brenin oedd yn parhau yn y ddinas, ac ysgrifennydd pennaeth y fyddin, a fyddai'n galw'r bobl i'r fyddin, a thrigain o'r werin a gafwyd yn y ddinas.
52:26 Cymerodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, y rhai hyn, a mynd at frenin Babilon yn Ribla.
52:27 Fflangellodd brenin Babilon hwy i farwolaeth yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o'i gwlad ei hun.
52:28 Dyma'r bobl a gaethgludwyd gan Nebuchadnesar: yn y seithfed flwyddyn, tair mil a thri ar hugain o Iddewon;
52:29 yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchadnesar, caethgludwyd o Jerwsalem wyth gant tri deg a dau o bobl;
52:30 yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nebuchadnesar, caethgludodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, saith gant pedwar deg a phump o Iddewon. Yr oedd y cyfanswm yn bedair mil chwe chant.
52:31 Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethgludiad Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, gwnaeth Efil-merodach brenin Babilon, ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, ffafr â Jehoiachin brenin Jwda, a'i ddwyn allan o'r carchar,
52:32 a dweud yn deg wrtho, a pheri iddo eistedd ar sedd uwch na seddau'r brenhinoedd eraill oedd gydag ef ym Mabilon.
52:33 Felly diosgodd ei ddillad carchar, a bu'n westai i'r brenin weddill ei ddyddiau.
52:34 Ei gynhaliaeth oedd y dogn dyddiol a roddid iddo gan frenin Babilon, yn ôl gofyn pob dydd, holl ddyddiau ei einioes hyd ddydd ei farw.