LLYFR GALARNAD JEREMEIA

Galar Jerwsalem

1:1 O mor unig yw'r ddinas a fu'n llawn o bobl! Y mae'r un a fu'n fawr ymysg y cenhedloedd yn awr fel gweddw, a'r un a fu'n dywysoges y taleithiau dan lafur gorfod.
1:2 Y mae'n wylo'n chwerw yn y nos, a dagrau ar ei gruddiau; nid oes ganddi neb i'w chysuro o blith ei holl gariadon; y mae ei chyfeillion i gyd wedi ei bradychu, ac wedi troi'n elynion iddi.
1:3 Aeth Jwda i gaethglud mewn trallod ac mewn gorthrwm mawr; y mae'n byw ymysg y cenhedloedd, ond heb gael lle i orffwys; y mae ei holl erlidwyr wedi ei goddiweddyd yng nghanol ei gofidiau.
1:4 Y mae ffyrdd Seion mewn galar am nad oes neb yn dod i'r gwyliau; y mae ei holl byrth yn anghyfannedd, a'i hoffeiriaid yn griddfan; y mae ei merched ifainc yn drallodus, a hithau mewn chwerwder.
1:5 Daeth ei gwrthwynebwyr yn feistri arni, a llwyddodd ei gelynion, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dwyn trallod arni o achos amlder ei throseddau; y mae ei phlant wedi mynd ymaith yn gaethion o flaen y gelyn.
1:6 Diflannodd y cyfan o'i hanrhydedd oddi wrth ferch Seion; y mae ei thywysogion fel ewigod sy'n methu cael porfa; y maent wedi ffoi, heb nerth, o flaen yr erlidwyr.
1:7 Yn nydd ei thrallod a'i chyni y mae Jerwsalem yn cofio'r holl drysorau oedd ganddi yn y dyddiau gynt. Pan syrthiodd ei phobl i ddwylo'r gwrthwynebwyr, heb neb i'w chynorthwyo, edrychodd ei gwrthwynebwyr arni a chwerthin o achos ei dinistr.
1:8 Pechodd Jerwsalem yn erchyll; am hynny fe aeth yn ffieidd-dra. Y mae pawb oedd yn ei pharchu yn ei dirmygu am iddynt weld ei noethni; y mae hithau'n griddfan ac yn troi draw.
1:9 Yr oedd ei haflendid yng ngodre'i dillad; nid ystyriodd ei thynged. Yr oedd ei chwymp yn arswydus, ac nid oedd neb i'w chysuro. Edrych, O ARGLWYDD, ar fy nhrallod, oherwydd y mae'r gelyn wedi gorchfygu.
1:10 Estynnodd y gelyn ei law i gymryd ei holl drysorau; yn wir, gwelodd hi y cenhedloedd yn dod i'w chysegr — rhai yr oeddit ti wedi eu gwahardd yn dod i mewn i'th gynulliad!
1:11 Yr oedd ei phobl i gyd yn griddfan wrth iddynt chwilio am fara; yr oeddent yn cyfnewid eu trysorau am fwyd i'w cynnal eu hunain. Edrych, O ARGLWYDD, a gwêl, oherwydd euthum yn ddirmyg.
1:12 Onid yw hyn o bwys i chwi sy'n mynd heibio? Edrychwch a gwelwch; a oes gofid fel y gofid a osodwyd yn drwm arnaf, ac a ddygodd yr ARGLWYDD arnaf yn nydd ei lid angerddol?
1:13 Anfonodd dân o'r uchelder, a threiddiodd i'm hesgyrn; gosododd rwyd i'm traed, a'm troi'n ôl; gwnaeth fi yn ddiffaith ac yn gystuddiol trwy'r dydd.
1:14 Clymwyd fy nhroseddau amdanaf; plethwyd hwy â'i law ei hun; gosododd ei iau ar fy ngwddf, ac ysigodd fy nerth; rhoddodd yr Arglwydd fi yng ngafael rhai na allaf godi yn eu herbyn.
1:15 Diystyrodd yr Arglwydd yr holl ryfelwyr oedd ynof; galwodd ar fyddin i ddod yn f'erbyn, i ddifetha fy ngwŷr ifainc; fel y sethrir grawnwin y sathrodd yr Arglwydd y forwyn, merch Jwda.
1:16 O achos hyn yr wyf yn wylo, ac y mae fy llygad yn llifo gan ddagrau, oherwydd pellhaodd yr un sy'n fy nghysuro ac yn fy nghynnal; y mae fy mhlant wedi eu hanrheithio am fod y gelyn wedi gorchfygu.
1:17 Estynnodd Seion ei dwylo, ond nid oedd neb i'w chysuro; gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'r gelynion amgylchynu Jacob o bob cyfeiriad; yr oedd Jerwsalem wedi mynd yn ffieidd-dra yn eu mysg.
1:18 Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn, ond gwrthryfelais yn erbyn ei air. Gwrandewch yn awr, yr holl bobloedd, ac edrychwch ar fy nolur: aeth fy merched a'm dynion ifainc i gaethglud.
1:19 Gelwais ar fy nghariadon, ond y maent hwy wedi fy mradychu; trengodd f'offeiriaid a'm henuriaid yn y ddinas, wrth chwilio am fwyd i'w cynnal eu hunain.
1:20 Edrych, O ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf; y mae f'ymysgaroedd mewn poen, a'm calon wedi cyffroi, oherwydd yr wyf wedi gwrthryfela i'r eithaf. o'r tu allan, y mae'r cleddyf wedi gwneud rhai'n amddifad; yn y tŷ, nid oes dim ond marwolaeth.
1:21 Gwrandewch pan wyf yn griddfan, heb neb i'm cysuro. Clywodd fy holl elynion am fy nhrychineb, a llawenhau am iti wneud hyn; ond byddi di'n dwyn arnynt y dydd a benodaist, a byddant hwythau fel finnau.
1:22 Gad i'w holl ddrygioni ddod i'th sylw, a dwg gosb arnynt, fel y cosbaist fi am fy holl droseddau; oherwydd y mae fy ngriddfannau'n aml, a'm calon yn gystuddiol.

Cosb Jerwsalem

2:1 o'r fath dywyllwch a ddygodd yr Arglwydd ar ferch Seion yn ei ddig! Bwriodd ogoniant Israel o'r nefoedd i'r llawr, ac ni chofiodd am ei droedfainc yn nydd ei ddicter.
2:2 Difethodd yr Arglwydd yn ddiarbed holl drigfannau Jacob; yn ei ddigofaint dinistriodd amddiffynfeydd merch Jwda; taflodd i lawr a difwynodd y deyrnas a'i phenaethiaid.
2:3 Yn angerdd ei ddig torrodd gyrn Israel i gyd; tynnodd yn ôl ei ddeheulaw wrth i'r gelyn ymosod; llosgodd yn Jacob fel fflam dân yn difa popeth o'i hamgylch.
2:4 Fel gelyn paratôdd ei fwa, safodd â'i ddeheulaw'n barod, ac fel gwrthwynebwr fe laddodd y cyfan oedd yn ddymunol i'r llygad; tywalltodd ei lid fel tân ar babell merch Seion.
2:5 Y mae'r Arglwydd wedi troi'n elyn ac wedi difetha Israel; difethodd ei holl balasau, a dinistrio'i hamddiffynfeydd; gwnaeth i alar a gofid gynyddu i ferch Jwda.
2:6 Chwalodd ei babell fel chwalu gardd, a dinistrio'r man cyfarfod; gwnaeth yr ARGLWYDD i Seion anghofio ei gŵyl a'i Saboth; yn angerdd ei lid dirmygodd frenin ac offeiriad.
2:7 Gwrthododd yr Arglwydd ei allor, a ffieiddio'i gysegr; rhoddodd furiau ei phalasau yn llaw'r gelyn; gwaeddasant hwythau yn nhŷ'r ARGLWYDD fel ar ddydd gŵyl.
2:8 Yr oedd yr ARGLWYDD yn benderfynol o ddinistrio mur merch Seion; gosododd linyn mesur arni, ac ni thynnodd yn ôl ei law rhag difetha. Gwnaeth i wrthglawdd a mur alaru; aethant i gyd yn wan.
2:9 Suddodd ei phyrth i'r ddaear; torrodd a maluriodd ef ei barrau. Y mae ei brenin a'i phenaethiaid ymysg y cenhedloedd, ac nid oes cyfraith mwyach; ni chaiff ei phroffwydi weledigaeth gan yr ARGLWYDD.
2:10 Y mae henuriaid merch Seion yn eistedd yn fud ar y ddaear, wedi taflu llwch ar eu pennau a gwisgo sachliain; y mae merched ifainc Jerwsalem wedi crymu eu pennau i'r llawr.
2:11 Dallwyd fy llygaid gan ddagrau; y mae f'ymysgaroedd mewn poen. Yr wyf yn tywallt fy nghalon allan o achos dinistr merch fy mhobl, ac am fod plant a babanod yn llewygu yn strydoedd y ddinas.
2:12 Yr oeddent yn gweiddi ar eu mamau, "Ple cawn ni rawn a gwin?" — wrth iddynt lewygu fel rhai clwyfedig yn strydoedd y ddinas, ac wrth iddynt ymladd am eu bywyd ym mynwes eu mamau.
2:13 Beth allaf ei ddweud o'th blaid, a beth a ddychmygaf amdanat, ferch Jerwsalem? I bwy y gallaf dy gyffelybu er mwyn dy gysur, y forwyn, ferch Seion? Y mae dy ddolur mor ddwfn â'r môr, pwy a all dy iacháu?
2:14 Yr oedd gweledigaethau dy broffwydi yn gelwyddog a thwyllodrus; ni fu iddynt ddatgelu dy gamwedd er mwyn adfer dy lwyddiant; yr oedd yr oraclau a roddasant iti yn gelwyddog a chamarweiniol.
2:15 Y mae pob un sy'n mynd heibio yn curo'i ddwylo o'th achos; y maent yn chwibanu ac yn ysgwyd eu pennau ar ferch Jerwsalem: "Ai hon yw'r ddinas a gyfrifid yn goron prydferthwch, ac yn llawenydd yr holl ddaear?"
2:16 Y mae dy holl elynion yn gweiddi'n groch yn dy erbyn, yn chwibanu ac yn ysgyrnygu dannedd; dywedant, "Yr ydym wedi ei difetha; dyma'r dydd yr oeddem yn disgwyl amdano; yr ydym wedi cael ei weld!"
2:17 Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a gynlluniodd; cyflawnodd ei fwriad, a drefnodd ers amser maith, a dinistriodd yn ddiarbed; gwnaeth i'r gelyn lawenhau o'th achos, a dyrchafu corn dy wrthwynebwyr.
2:18 Gwaedda ar yr Arglwydd, O fur merch Seion; tywallt ddagrau'n genllif ddydd a nos; paid ag ymatal na rhoi gorffwys i'th lygaid.
2:19 Cod, a gwaedda liw nos, ar gychwyn pob gwyliadwriaeth; tywallt dy galon fel dŵr o flaen yr Arglwydd; estyn dy ddwylo tuag ato am fywyd dy blant, sy'n llewygu gan newyn ym mhen pob stryd.
2:20 Edrych, ARGLWYDD, a gwêl. I bwy y gwnaethost hyn? A yw'r gwragedd i fwyta'u hepil, y plant y maent yn eu hanwesu? A leddir offeiriad a phroffwyd yng nghysegr yr Arglwydd?
2:21 Gorwedd yr ifanc a'r hen yn y llwch ar y strydoedd; y mae fy merched a'm dynion ifainc wedi syrthio trwy'r cleddyf; lleddaist hwy yn nydd dy ddicter, a'u difa'n ddiarbed.
2:22 Gelwaist ar fy ymosodwyr o bob cyfeiriad, fel ar ddydd gŵyl; nid oedd un yn dianc nac yn cael ei arbed yn nydd dicter yr ARGLWYDD; lladdodd fy ngelyn bob un a anwesais ac a fegais.

Edifeirwch a Gobaith

3:1 Myfi yw'r gŵr a welodd ofid dan wialen ei ddicter.
3:2 Gyrrodd fi allan a gwneud imi gerdded trwy dywyllwch lle nad oedd goleuni.
3:3 Daliodd i droi ei law yn f'erbyn, a hynny ddydd ar ôl dydd.
3:4 Parodd i'm cnawd a'm croen ddihoeni, a maluriodd f'esgyrn.
3:5 Gwnaeth warchae o'm cwmpas, a'm hamgylchynu â chwerwder a blinder.
3:6 Gwnaeth i mi aros mewn tywyllwch, fel rhai wedi hen farw.
3:7 Caeodd arnaf fel na allwn ddianc, a gosododd rwymau trwm amdanaf.
3:8 Pan elwais, a gweiddi am gymorth, fe wrthododd fy ngweddi.
3:9 Caeodd fy ffyrdd â meini mawrion, a gwneud fy llwybrau'n gam.
3:10 Y mae'n gwylio amdanaf fel arth, fel llew yn ei guddfa.
3:11 Tynnodd fi oddi ar y ffordd a'm dryllio, ac yna fy ngadael yn ddiymgeledd.
3:12 Paratôdd ei fwa, a'm gosod yn nod i'w saeth.
3:13 Anelodd saethau ei gawell a'u trywanu i'm perfeddion.
3:14 Yr oeddwn yn gyff gwawd i'r holl bobloedd, yn destun caneuon gwatwarus drwy'r dydd.
3:15 Llanwodd fi â chwerwder, a'm meddwi â'r wermod.
3:16 Torrodd fy nannedd â cherrig, a gwneud imi grymu yn y lludw.
3:17 Yr wyf wedi f'amddifadu o heddwch; anghofiais beth yw daioni.
3:18 Yna dywedais, "Diflannodd fy nerth, a hefyd fy ngobaith oddi wrth yr ARGLWYDD."
3:19 Cofia fy nhrallod a'm crwydro, y wermod a'r bustl.
3:20 Yr wyf fi yn ei gofio'n wastad, ac wedi fy narostwng.
3:21 Meddyliaf yn wastad am hyn, ac felly disgwyliaf yn eiddgar.
3:22 Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.
3:23 Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb.
3:24 Dywedais, "Yr ARGLWYDD yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho."
3:25 Da yw'r ARGLWYDD i'r rhai sy'n gobeithio ynddo, i'r rhai sy'n ei geisio.
3:26 Y mae'n dda disgwyl yn dawel am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.
3:27 Da yw bod un yn cymryd yr iau arno yng nghyfnod ei ieuenctid.
3:28 Boed iddo eistedd ar ei ben ei hun, a bod yn dawel pan roddir hi arno;
3:29 boed iddo osod ei enau yn y llwch; hwyrach fod gobaith iddo.
3:30 Boed iddo droi ei rudd i'r un sy'n ei daro, a bod yn fodlon i dderbyn dirmyg.
3:31 Oherwydd nid yw'r Arglwydd yn gwrthod am byth;
3:32 er iddo gystuddio, bydd yn trugarhau yn ôl ei dosturi mawr,
3:33 gan nad o'i fodd y mae'n dwyn gofid ac yn cystuddio pobl.
3:34 Sathru dan draed holl garcharorion y ddaear,
3:35 a thaflu o'r neilltu hawl rhywun gerbron y Goruchaf,
3:36 a gwyrdroi achos — Onid yw'r Arglwydd yn sylwi ar hyn?
3:37 Pwy a all orchymyn i unrhyw beth ddigwydd heb i'r Arglwydd ei drefnu?
3:38 Onid o enau'r Goruchaf y daw drwg a da?
3:39 Sut y gall unrhyw un byw rwgnach, ie, unrhyw feidrolyn, yn erbyn ei gosb?
3:40 Bydded inni chwilio a phrofi ein ffyrdd, a dychwelyd at yr ARGLWYDD,
3:41 a dyrchafu'n calonnau a'n dwylo at Dduw yn y nefoedd.
3:42 Yr ydym ni wedi troseddu a gwrthryfela, ac nid wyt ti wedi maddau.
3:43 Yr wyt yn llawn dig ac yn ein herlid, yn lladd yn ddiarbed.
3:44 Ymguddiaist mewn cwmwl rhag i'n gweddi ddod atat.
3:45 Gwnaethost ni'n ysbwriel ac yn garthion ymysg y bobloedd.
3:46 Y mae'n holl elynion yn gweiddi'n groch yn ein herbyn.
3:47 Fe'n cawsom ein hunain mewn dychryn a magl, hefyd mewn difrod a dinistr.
3:48 Y mae fy llygad yn ffrydiau o ddŵr o achos dinistr merch fy mhobl;
3:49 y mae'n diferu'n ddi-baid, heb gael gorffwys,
3:50 hyd onid edrycha'r ARGLWYDD a gweld o'r nefoedd.
3:51 Y mae fy llygad yn flinder imi o achos dinistr holl ferched fy ninas.
3:52 Y mae'r rhai sy'n elynion imi heb achos yn fy erlid yn wastad fel aderyn.
3:53 Y maent yn fy mwrw'n fyw i'r pydew, ac yn taflu cerrig arnaf.
3:54 Llifodd y dyfroedd trosof, a dywedais, "Y mae ar ben arnaf."
3:55 Gelwais ar d'enw, O ARGLWYDD, o waelod y pydew.
3:56 Clywaist fy llef: "Paid â throi'n glustfyddar i'm cri am gymorth."
3:57 Daethost yn agos ataf y dydd y gelwais arnat; dywedaist, "Paid ag ofni."
3:58 Yr oeddit ti, O Arglwydd, yn dadlau f'achos, ac yn gwaredu fy mywyd.
3:59 Gwelaist, O ARGLWYDD, y cam a wnaethpwyd â mi, a dyfernaist o'm plaid.
3:60 Gwelaist eu holl ddial, a'u holl gynllwynio yn f'erbyn.
3:61 Clywaist, O ARGLWYDD, eu dirmyg, a'u holl gynllwynio yn f'erbyn —
3:62 geiriau a sibrydion fy ngwrthwynebwyr yn f'erbyn bob dydd.
3:63 Edrych arnynt — yn eistedd neu'n sefyll, fi yw testun eu gwawd.
3:64 O ARGLWYDD, tâl iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo.
3:65 Rho iddynt ofid calon, a bydded dy felltith arnynt.
3:66 O ARGLWYDD, erlid hwy yn dy lid, a dinistria hwy oddi tan y nefoedd.

Jerwsalem ar ôl ei Chwymp

4:1 O fel y pylodd yr aur, ac y newidiodd yr aur coeth! Gwasgarwyd meini'r cysegr ym mhen pob stryd.
4:2 Plant gwerthfawr Seion, a oedd yn werth eu pwysau mewn aur, yn awr yn cael eu hystyried fel llestri pridd, gwaith dwylo crochenydd!
4:3 Y mae hyd yn oed siacaliaid yn dinoethi'r fron i roi sugn i'w hepil, ond y mae merch fy mhobl wedi mynd yn greulon, fel estrys yn yr anialwch.
4:4 Y mae tafod y plentyn sugno yn glynu wrth ei daflod o syched; y mae'r plant yn cardota bara, heb neb yn ei roi iddynt.
4:5 Y mae'r rhai a arferai fwyta danteithion yn ddiymgeledd yn y strydoedd, a'r rhai a fagwyd mewn ysgarlad yn ymgreinio ar domennydd ysbwriel.
4:6 Y mae trosedd merch fy mhobl yn fwy na phechod Sodom, a ddymchwelwyd yn ddisymwth heb i neb godi llaw yn ei herbyn.
4:7 Yr oedd ei thywysogion yn lanach nag eira, yn wynnach na llaeth; yr oedd eu cyrff yn gochach na chwrel, a'u pryd fel saffir.
4:8 Ond aeth eu hwynepryd yn dduach na pharddu, ac nid oes neb yn eu hadnabod yn y strydoedd; crebachodd eu croen am eu hesgyrn, a sychodd fel pren.
4:9 Yr oedd y rhai a laddwyd â'r cleddyf yn fwy ffodus na'r rhai oedd yn marw o newyn, oherwydd yr oeddent hwy yn dihoeni, wedi eu hamddifadu o gynnyrch y meysydd.
4:10 Yr oedd gwragedd tynergalon â'u dwylo eu hunain yn berwi eu plant, i'w gwneud yn fwyd iddynt eu hunain, pan ddinistriwyd merch fy mhobl.
4:11 Bwriodd yr ARGLWYDD ei holl lid, a thywalltodd angerdd ei ddig; cyneuodd dân yn Seion, ac fe ysodd ei sylfeini.
4:12 Ni chredai brenhinoedd y ddaear, na'r un o drigolion y byd, y gallai ymosodwr neu elyn fynd i mewn trwy byrth Jerwsalem.
4:13 Ond fe ddigwyddodd hyn oherwydd pechodau ei phroffwydi a chamweddau ei hoffeiriaid, a dywalltodd waed y cyfiawn yn ei chanol hi.
4:14 Yr oeddent yn crwydro fel deillion yn y strydoedd, wedi eu halogi â gwaed, fel na feiddiai neb gyffwrdd â'u dillad.
4:15 "Cadwch draw, maent yn aflan," — dyna a waeddai pobl — "cadwch draw, cadwch draw, peidiwch â'u cyffwrdd!" Yn wir fe ffoesant a mynd ar grwydr, a dywedwyd ymysg y cenhedloedd, "Ni chânt aros yn ein plith mwyach."
4:16 Yr ARGLWYDD ei hun a'u gwasgarodd, heb edrych arnynt mwyach; ni roddwyd anrhydedd i'r offeiriaid, na ffafr i'r henuriaid.
4:17 Yr oedd ein llygaid yn pallu wrth edrych yn ofer am gymorth; buom yn disgwyl a disgwyl wrth genedl na allai achub.
4:18 Yr oeddent yn gwylio pob cam a gymerem, fel na allem fynd allan i'n strydoedd. Yr oedd ein diwedd yn agos, a'n dyddiau'n dod i ben; yn wir fe ddaeth ein diwedd.
4:19 Yr oedd ein herlidwyr yn gyflymach nag eryrod yr awyr; yr oeddent yn ein herlid ar y mynyddoedd, ac yn gwylio amdanom yn y diffeithwch.
4:20 Anadl ein bywyd, eneiniog yr ARGLWYDD, a ddaliwyd yn eu maglau, a ninnau wedi meddwl mai yn ei gysgod ef y byddem yn byw'n ddiogel ymysg y cenhedloedd.
4:21 Gorfoledda a bydd lawen, ferch Edom, sy'n preswylio yng ngwlad Us! Ond fe ddaw'r cwpan i tithau hefyd; byddi'n feddw ac yn dy ddinoethi dy hun.
4:22 Daeth terfyn ar dy gosb, ferch Seion; ni chei dy gaethgludo eto. Ond fe ddaw dy gosb arnat ti, ferch Edom; fe ddatgelir dy bechod.

Gweddïo am Drugaredd

5:1 Cofia, O ARGLWYDD, beth ddigwyddodd inni; edrych a gwêl ein gwarth.
5:2 Rhoddwyd ein hetifeddiaeth i estroniaid, a'n tai i ddieithriaid.
5:3 Yr ydym fel rhai amddifad, heb dadau, a'n mamau fel gweddwon.
5:4 Y mae'n rhaid inni dalu am y dŵr a yfwn, a phrynu'r coed a gawn.
5:5 Y mae iau ar ein gwarrau, ac fe'n gorthrymir; yr ydym wedi blino, ac ni chawn orffwys.
5:6 Gwnaethom gytundeb â'r Aifft, ac yna ag Asyria, i gael digon o fwyd.
5:7 Pechodd ein tadau, ond nid ydynt mwyach; ni sy'n dwyn y baich am eu camweddau.
5:8 Caethweision sy'n llywodraethu arnom, ac nid oes neb i'n hachub o'u gafael.
5:9 Yr ydym yn peryglu'n heinioes wrth gyrchu bwyd, oherwydd y cleddyf yn yr anialwch.
5:10 Y mae ein croen wedi duo fel ffwrn oherwydd y dwymyn a achosir gan newyn.
5:11 Treisir gwragedd yn Seion, a merched ifainc yn ninasoedd Jwda.
5:12 Crogir llywodraethwyr gerfydd eu dwylo, ac ni pherchir yr henuriaid.
5:13 Y mae'r dynion ifainc yn llafurio â'r maen melin, a'r llanciau'n baglu dan bwysau'r coed.
5:14 Gadawodd yr henuriaid y porth, a'r gwŷr ifainc eu cerddoriaeth.
5:15 Diflannodd llawenydd o'n calonnau, a throdd ein dawnsio yn alar.
5:16 Syrthiodd y goron oddi ar ein pen; gwae ni, oherwydd pechasom.
5:17 Dyma pam y mae ein calon yn gystuddiol, ac oherwydd hyn y pylodd ein llygaid:
5:18 am fod Mynydd Seion wedi mynd yn ddiffeithwch, a'r siacaliaid yn prowla yno am ysglyfaeth.
5:19 Yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth, ac y mae dy orsedd o genhedlaeth i genhedlaeth.
5:20 Pam yr wyt yn ein hanghofio o hyd, ac wedi'n gwrthod am amser mor faith?
5:21 ARGLWYDD, tyn ni'n ôl atat, ac fe ddychwelwn; adnewydda ein dyddiau fel yn yr amser a fu,
5:22 os nad wyt wedi'n gwrthod yn llwyr, ac yn ddig iawn wrthym.