LLYFR DANIEL

Daniel a'i Gyfeillion yn Llys Nebuchadnesar

1:1 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon i Jerwsalem a gwarchae arni.
1:2 A rhoddodd yr Arglwydd Jehoiacim brenin Jwda yn ei law, a rhai o lestri tŷ Dduw, ac aeth yntau â hwy i wlad Sinar a'u cadw yn nhrysordy ei dduw.
1:3 Yna gorchmynnodd y brenin i Aspenas, ei brif swyddog, ddewis, o blith teulu brenhinol Israel a'r penaethiaid,
1:4 rai bechgyn golygus heb unrhyw nam corfforol arnynt, yn hyddysg ym mhob gwyddor, yn ddeallus a gwybodus, ac yn gymwys i wasanaethu llys y brenin, ac iddo'u trwytho yn llên ac iaith y Caldeaid.
1:5 Trefnodd y brenin iddynt dderbyn bwyd a gwin bob dydd o'i fwrdd ei hun, a chael eu hyfforddi am dair blynedd cyn mynd yn weision i'r llys.
1:6 Yn eu mysg yr oedd Jwdeaid, o'r enwau Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia;
1:7 ond galwodd y prif swyddog Daniel yn Beltesassar, Hananeia yn Sadrach, Misael yn Mesach, ac Asareia yn Abednego.
1:8 Penderfynodd Daniel beidio â'i halogi ei hun â bwyd a gwin o fwrdd y brenin, ac erfyniodd ar y prif swyddog i'w arbed rhag cael ei halogi.
1:9 Parodd Duw i'r prif swyddog ymddwyn yn ffafriol a charedig at Daniel,
1:10 ond dywedodd y prif swyddog wrth Daniel, "Rwy'n ofni f'arglwydd frenin; ef sydd wedi pennu'ch bwyd a'ch diod, a phe sylwai eich bod yn edrych yn fwy gwelw na'ch cyfeillion byddech yn peryglu fy mywyd."
1:11 Dywedodd Daniel wrth y swyddog a osododd y prif swyddog i ofalu am Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia,
1:12 "Rho brawf ar dy weision am ddeg diwrnod: rhodder inni lysiau i'w bwyta a dŵr i'w yfed,
1:13 ac wedyn cymharu'n gwedd ni a gwedd y bechgyn sy'n bwyta o fwyd y brenin. Yna gwna â'th weision fel y gweli'n dda."
1:14 Cydsyniodd yntau, a'u profi am ddeg diwrnod.
1:15 Ac ymhen y deg diwrnod yr oeddent yn edrych yn well ac yn fwy graenus na'r holl fechgyn oedd yn bwyta o fwyd y brenin.
1:16 Felly cadwodd y swyddog y bwyd a'r gwin, a rhoi llysiau iddynt.
1:17 Rhoddodd Duw i'r pedwar bachgen wybod a deall pob math o lenyddiaeth a gwyddor; a chafodd Daniel y gallu i ddatrys pob gweledigaeth a breuddwyd.
1:18 Pan ddaeth yr amser a benodwyd gan y brenin i'w dwyn i'r llys, cyflwynodd y prif swyddog hwy i Nebuchadnesar.
1:19 Ar ôl i'r brenin siarad â hwy, ni chafwyd neb yn eu mysg fel Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia; felly daethant hwy yn weision i'r brenin.
1:20 A phan fyddai'r brenin yn eu holi ar unrhyw fater o ddoethineb a deall, byddai'n eu cael ddengwaith yn well na holl ddewiniaid a swynwyr ei deyrnas.
1:21 A bu Daniel yno hyd flwyddyn gyntaf y Brenin Cyrus.

Breuddwyd Nebuchadnesar

2:1 Yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad, breuddwydiodd Nebuchadnesar; yr oedd ei feddwl yn gynhyrfus ac ni allai gysgu,
2:2 a pharodd y brenin iddynt alw'r dewiniaid a'r swynwyr a'r hudolwyr a'r Caldeaid i esbonio'r hyn yr oedd wedi ei freuddwydio. Pan ddaethant o flaen y brenin,
2:3 dywedodd wrthynt, "Cefais freuddwyd, ac yr wyf yn poeni ynghylch ei hystyr."
2:4 Atebodd y Caldeaid mewn Aramaeg, "O frenin, bydd fyw byth! Adrodd dy freuddwyd wrth dy weision, a rhown iti'r dehongliad."
2:5 Atebodd y brenin, "Dyma fy mhenderfyniad: os na fynegwch i mi'r freuddwyd a'i dehongliad, cewch eich rhwygo'n ddarnau, a chwelir eich tai.
2:6 Ond os mynegwch y freuddwyd a'i dehongliad, cewch anrhegion a chyfoeth ac anrhydedd mawr gennyf fi. Felly mynegwch imi'r freuddwyd a'i dehongliad."
2:7 Dywedasant yr ail waith, "Adrodded y brenin y freuddwyd wrth ei weision; yna rhoddwn ninnau ei dehongliad."
2:8 Atebodd y brenin, "Y mae'n amlwg eich bod yn oedi'n fwriadol, am ichwi sylweddoli fy mhenderfyniad;
2:9 un ddedfryd yn unig sy'n eich aros os na fynegwch y freuddwyd imi. Yr ydych wedi cytuno â'ch gilydd i ddweud celwydd i'm camarwain hyd nes y daw tro ar fyd. Dywedwch wrthyf beth oedd y freuddwyd, a chaf wybod y medrwch ei dehongli."
2:10 Atebodd y Caldeaid, "Nid oes neb ar wyneb daear a all fynegi'r hyn y mae'r brenin yn ei ofyn, oherwydd nid yw'r un brenin o fri ac awdurdod wedi gofyn cwestiwn fel hwn i ddewin na swynwr na Chaldead.
2:11 Y mae'r brenin wedi gofyn cwestiwn dyrys na all neb ei ateb ond y duwiau, nad ydynt yn byw ym myd y cnawd."
2:12 Yna llidiodd y brenin a chynddeiriogi, a gorchymyn difa holl ddoethion Babilon.
2:13 Cyhoeddwyd dedfryd fod y doethion i'w lladd; a chwiliwyd am Daniel a'i gyfeillion, i'w lladd hwythau.

Duw'n Datguddio Ystyr y Freuddwyd i Daniel

2:14 Ymresymodd Daniel yn ddoeth a phwyllog ag Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, pan ddaeth i ladd y doethion.
2:15 Dywedodd wrtho, "Ti, gennad y brenin, pam y mae dedfryd y brenin mor chwyrn?"
2:16 Eglurodd Arioch y cyfan i Daniel, ac aeth Daniel at y brenin a gofyn am amser, iddo gael cyfle i fynegi'r dehongliad iddo.
2:17 Yna aeth Daniel i'w dŷ ac adrodd yr hanes wrth ei gyfeillion, Hananeia, Misael ac Asareia,
2:18 a'u hannog hwy i erfyn am drugaredd gan Dduw'r nefoedd ynglŷn â'r dirgelwch hwn, rhag i Daniel a'i gyfeillion gael eu difa gyda'r gweddill o ddoethion Babilon.
2:19 Datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos. Bendithiodd Daniel Dduw'r nefoedd, a dyma'i eiriau:
2:20 "Bendigedig fyddo enw Duw yn oes oesoedd; eiddo ef yw doethineb a nerth.
2:21 Ef sy'n newid amserau a thymhorau, yn diorseddu brenhinoedd a'u hadfer, yn rhoi doethineb i'r doeth a gwybodaeth i'r deallus.
2:22 Ef sy'n datguddio pethau dwfn a chuddiedig, yn gwybod yr hyn sydd yn dywyll; gydag ef y trig goleuni.
2:23 Diolchaf a rhof fawl i ti, O Dduw fy hynafiaid, am i ti roi doethineb a nerth i mi. Dangosaist i mi yn awr yr hyn a ofynnwyd gennym, a rhoi gwybod inni beth sy'n poeni'r brenin."

Daniel yn Dehongli'r Freuddwyd i'r Brenin

2:24 Yna aeth Daniel at Arioch, a benodwyd gan y brenin i ladd doethion Babilon, a dweud wrtho, "Paid â difa doethion Babilon. Dos â fi at y brenin, a mynegaf y dehongliad iddo."
2:25 Brysiodd Arioch i fynd â Daniel at y brenin, a dweud wrtho, "Cefais ddyn ymhlith alltudion Jwda a all roi'r dehongliad i'r brenin."
2:26 Meddai'r brenin wrth Daniel, a alwyd yn Beltesassar, "A fedri di ddweud wrthyf beth oedd y freuddwyd a welais, a'i dehongli?"
2:27 Atebodd Daniel, "Nid oes doethion na swynwyr na dewiniaid na brudwyr a fedr ddehongli i'r brenin y dirgelwch y mae'n holi yn ei gylch;
2:28 ond y mae Duw yn y nefoedd sy'n datguddio dirgelion, ac ef sy'n dangos i'r Brenin Nebuchadnesar beth a ddigwydd yn y dyfodol. Dyma'r freuddwyd a'r gweledigaethau a gefaist yn dy wely:
2:29 Meddwl am y dyfodol yr oeddit ti, O frenin, yn dy wely; a mynegodd datguddiwr dirgelion iti beth sydd i ddod.
2:30 Ond rhoddwyd datguddiad o'r dirgelwch i mi, nid am fy mod yn ddoethach na neb arall, ond er mwyn mynegi'r dehongliad i'r brenin, a pheri iti ddeall dy feddyliau.
2:31 O frenin, delw fawr a welaist yn y weledigaeth, ac yr oedd yn sefyll o'th flaen yn fawr ac yn llachar, a'i golwg yn codi arswyd.
2:32 Yr oedd pen y ddelw yn aur coeth, ei bron a'i breichiau'n arian, ei bol a'i chluniau'n bres,
2:33 ei choesau'n haearn, a'i thraed yn gymysgedd o haearn a chlai.
2:34 Tra oeddit yn edrych, naddwyd carreg heb gymorth llaw; trawodd hon y ddelw yn ei thraed o haearn a chlai, a'u malurio.
2:35 Yna drylliwyd yr haearn, y clai, y pres, yr arian a'r aur gyda'i gilydd, nes eu bod fel us llawr dyrnu yn yr haf. Chwythodd y gwynt hwy i ffwrdd, ac nid oedd golwg ohonynt. Ond tyfodd y garreg a faluriodd y ddelw yn fynydd mawr, a llenwi'r holl ddaear.
2:36 "Dyna'r freuddwyd, ac yn awr fe rown y dehongliad i'r brenin.
2:37 Yr wyt ti, O frenin, yn frenin y brenhinoedd; rhoddodd Duw'r nefoedd i ti frenhiniaeth, awdurdod, nerth a gogoniant,
2:38 a'th ethol i lywodraethu ar bobl ac anifeiliaid y maes ac adar yr awyr ple bynnag y bônt. Ti yw'r pen aur.
2:39 Ar dy ôl daw brenhiniaeth arall, wannach na thi. Yna trydedd frenhiniaeth, un o bres, yn teyrnasu dros yr holl ddaear.
2:40 Wedyn pedwaredd frenhiniaeth, a fydd cyn gryfed â haearn. Ac fel y mae haearn yn malurio ac yn dryllio popeth, bydd hithau'n malurio ac yn dryllio'r rhain i gyd.
2:41 Fel y gwelaist y traed a'r bysedd yn gymysgedd o glai crochenydd a haearn, felly bydd brenhiniaeth ranedig; bydd peth ohoni'n gryf fel haearn, yn union fel y gwelaist yr haearn yn gymysg â'r pridd cleiog.
2:42 Ac fel yr oedd bysedd y traed yn gymysg o haearn ac o glai, felly y bydd rhan o'r frenhiniaeth yn gryf a rhan yn wan.
2:43 Fel y gwelaist yr haearn yn gymysg â'r pridd cleiog, felly y byddant hwy'n priodi trwy'i gilydd; ond ni lŷn y naill wrth y llall, fel nad yw haearn a phridd yn glynu.
2:44 Yn nyddiau'r brenhinoedd hynny bydd Duw'r nefoedd yn sefydlu brenhiniaeth nas difethir byth, brenhiniaeth na chaiff ei gadael i eraill. Bydd hon yn dryllio ac yn rhoi terfyn ar yr holl freniniaethau eraill, ond bydd hi ei hun yn para am byth,
2:45 fel y garreg a welaist yn cael ei naddu o'r mynydd heb gymorth llaw ac yn malurio'r haearn, y pres, y clai, yr arian, a'r aur. Dangosodd y Duw mawr i'r brenin beth sydd i ddigwydd ar ôl hyn. Y mae'r freuddwyd yn ddilys, a'i dehongliad yn sicr."

Y Brenin yn Gwobrwyo Daniel

2:46 Yna plygodd y Brenin Nebuchadnesar i lawr ac ymgrymu i Daniel, a gorchymyn offrymu iddo aberth ac arogldarth.
2:47 Dywedodd y brenin wrth Daniel, "Yn wir, Duw y duwiau ac Arglwydd y brenhinoedd yw eich Duw chwi, a datguddiwr dirgelion; oherwydd medraist ddatrys y dirgelwch hwn."
2:48 Yna dyrchafodd y brenin Daniel a rhoi llawer iawn o anrhegion iddo, a'i wneud yn ben ar holl dalaith Babilon ac yn bennaeth doethion Babilon.
2:49 Ar gais Daniel penododd y brenin Sadrach, Mesach ac Abednego yn llywodraethwyr yn nhalaith Babilon, ond arhosodd Daniel ei hun yn llys y brenin.

Nebuchadnesar yn Gorchymyn i Bawb Addoli'r Ddelw Aur

3:1 Gwnaeth y Brenin Nebuchadnesar ddelw aur drigain cufydd o uchder a chwe chufydd o led, a'i gosod yng ngwastadedd Dura yn nhalaith Babilon.
3:2 A gwysiodd y Brenin Nebuchadnesar y tywysogion, y penaethiaid, y pendefigion, y rhaglawiaid, y trysorwyr, y barnwyr, y cyfreithwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau i ddod ynghyd i gysegru'r ddelw a wnaeth y Brenin Nebuchadnesar.
3:3 Yna daeth y tywysogion, y penaethiaid, y pendefigion, y rhaglawiaid, y trysorwyr, y barnwyr, y cyfreithwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau at ei gilydd i gysegru'r ddelw a wnaeth Nebuchadnesar, a sefyll o'i blaen.
3:4 Gwaeddodd y cyhoeddwr yn uchel, "Dyma'r gorchymyn i chwi bobloedd, genhedloedd ac ieithoedd.
3:5 Pan glywch sŵn y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn, syrthiwch ac addoli'r ddelw aur a wnaeth y Brenin Nebuchadnesar.
3:6 Pwy bynnag sy'n gwrthod syrthio ac addoli, caiff ei daflu ar unwaith i ganol ffwrn o dân poeth."
3:7 Felly, cyn gynted ag y clywodd yr holl bobl sŵn y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn, syrthiodd y bobloedd a'r cenhedloedd a'r ieithoedd ac addoli'r ddelw aur a wnaeth Nebuchadnesar.

Y Ffwrnais o Dân Poeth

3:8 Dyna'r adeg y daeth rhai o'r Caldeaid â chyhuddiad yn erbyn yr Iddewon,
3:9 a dweud wrth y Brenin Nebuchadnesar, "O frenin, bydd fyw byth!
3:10 Rhoddaist orchymyn, O frenin, fod pawb a glywai sŵn y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn, i syrthio ac addoli'r ddelw aur,
3:11 a bod pob un sy'n gwrthod syrthio ac addoli i'w daflu i ganol ffwrnais o dân poeth.
3:12 Y mae rhyw Iddewon a benodaist yn llywodraethwyr yn nhalaith Babilon — Sadrach, Mesach ac Abednego — heb gymryd dim sylw ohonot, O frenin. Nid ydynt yn gwasanaethu dy dduwiau, nac yn addoli'r ddelw aur a wnaethost,"
3:13 Yna, mewn tymer wyllt, anfonodd Nebuchadnesar am Sadrach, Mesach ac Abednego. Pan ddygwyd hwy o flaen y brenin,
3:14 dywedodd, "Sadrach, Mesach ac Abednego, a yw'n wir nad ydych yn gwasanaethu fy nuwiau i nac yn addoli'r ddelw aur a wneuthum?
3:15 Yn awr, a ydych yn barod i syrthio ac addoli'r ddelw a wneuthum, pan glywch sŵn y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn? Os na wnewch, teflir chwi ar unwaith i ganol ffwrnais o dân poeth. Pa dduw a all eich gwaredu o'm gafael?"
3:16 Atebodd Sadrach, Mesach ac Abednego y brenin, "Nid oes angen i ni dy ateb ynglŷn â hyn.
3:17 Y mae'r Duw a addolwn ni yn alluog i'n hachub, ac fe'n hachub o ganol y ffwrnais danllyd ac o'th afael dithau, O frenin;
3:18 a hyd yn oed os na wna, yr ydym am i ti wybod, O frenin, na wasanaethwn ni dy dduwiau nac addoli'r ddelw aur a wnaethost."
3:19 Yna cynddeiriogodd Nebuchadnesar, a newid ei agwedd tuag at Sadrach, Mesach ac Abednego.
3:20 Gorchmynnodd dwymo'r ffwrnais yn seithwaith poethach nag arfer, ac i filwyr praff o'i fyddin rwymo Sadrach, Mesach ac Abednego a'u taflu i'r ffwrnais dân.
3:21 Felly rhwymwyd y tri yn eu dillad — cotiau, crysau a chapiau — a'u taflu i ganol y ffwrnais dân.
3:22 Yr oedd gorchymyn y brenin mor chwyrn, a'r ffwrnais mor boeth,
3:23 yswyd y dynion oedd yn cario Sadrach, Mesach ac Abednego gan fflamau'r tân, a syrthiodd y tri gwron, Sadrach, Mesach ac Abednego, yn eu rhwymau i ganol y ffwrnais dân.
3:24 Yna neidiodd Nebuchadnesar ar ei draed mewn syndod a dweud wrth ei gynghorwyr, "Onid tri dyn a daflwyd gennym yn rhwym i ganol y tân?" "Gwir, O frenin," oedd yr ateb.
3:25 "Ond," meddai yntau, "rwy'n gweld pedwar o ddynion yn cerdded yn rhydd ynghanol y tân, heb niwed, a'r pedwerydd yn debyg i un o feibion y duwiau."
3:26 Yna aeth Nebuchadnesar at geg y ffwrnais a dweud, "Sadrach, Mesach ac Abednego, gweision y Duw Goruchaf, dewch allan a dewch yma." A daeth Sadrach, Mesach ac Abednego allan o ganol y tân.
3:27 Pan ddaeth tywysogion, penaethiaid, pendefigion a chynghorwyr y brenin at ei gilydd, gwelsant nad oedd y tân wedi cyffwrdd â chyrff y tri. Nid oedd gwallt eu pen wedi ei ddeifio, na'u dillad wedi eu llosgi, ac nid oedd arogl tân arnynt.
3:28 A dywedodd Nebuchadnesar, "Bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach ac Abednego, a anfonodd ei angel i achub ei weision, a ymddiriedodd ynddo a herio gorchymyn y brenin, a rhoi eu cyrff i'r tân yn hytrach na gwasanaethu ac addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain.
3:29 Yr wyf yn gorchymyn fod unrhyw un, beth bynnag fo'i bobl, ei genedl, neu ei iaith, sy'n cablu Duw Sadrach, Mesach ac Abednego yn cael ei rwygo'n ddarnau, a bod ei dŷ i'w droi'n domen. Nid oes duw arall a all waredu fel hyn."
3:30 Yna parodd y brenin lwyddiant i Sadrach, Mesach ac Abednego yn nhalaith Babilon.

Ail Freuddwyd Nebuchadnesar

4:1 "Y Brenin Nebuchadnesar at yr holl bobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd trwy'r byd i gyd. Bydded heddwch i chwi!
4:2 Dewisais ddadlennu'r arwyddion a'r rhyfeddodau a wnaeth y Duw Goruchaf â mi.
4:3 Mor fawr yw ei arwyddion ef, mor nerthol ei ryfeddodau! Y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol, a'i arglwyddiaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
4:4 "Yr oeddwn i, Nebuchadnesar, yn mwynhau bywyd braf yn fy nhŷ a moethusrwydd yn fy llys.
4:5 Tra oeddwn ar fy ngwely, cefais freuddwyd a'm dychrynodd, a chynhyrfwyd fi gan fy nychmygion, a chododd fy ngweledigaethau arswyd arnaf.
4:6 Gorchmynnais ddwyn ataf holl ddoethion Babilon i ddehongli fy mreuddwyd.
4:7 Pan ddaeth y dewiniaid, y swynwyr, y Caldeaid, a'r hudolwyr, adroddais y freuddwyd wrthynt, ond ni fedrent ei dehongli.
4:8 Yna daeth un arall ataf, sef Daniel, a elwir Beltesassar ar ôl fy nuw i, dyn yn llawn o ysbryd y duwiau sanctaidd; ac adroddais fy mreuddwyd wrtho:
4:9 'Beltesassar fy mhrif ddewin, gwn fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ac nad oes dirgelwch sy'n rhy anodd i ti; gwrando ar y freuddwyd a welais, a mynega'i dehongliad.'
4:10 Dyma fy ngweledigaethau ar fy ngwely: Tra oeddwn yn edrych, gwelais goeden uchel iawn yng nghanol y ddaear.
4:11 Tyfodd y goeden yn fawr a chryf, a'i huchder yn cyrraedd i'r entrychion; yr oedd i'w gweld o bellteroedd byd.
4:12 Yr oedd ei dail yn brydferth a'i ffrwyth yn niferus, ac ymborth arni i bopeth byw. Oddi tani câi anifeiliaid loches, a thrigai adar yr awyr yn ei changhennau, a châi pob creadur byw fwyd ohoni.
4:13 "Tra oeddwn ar fy ngwely, yn edrych ar fy ngweledigaethau, gwelwn wyliwr sanctaidd yn dod i lawr o'r nefoedd,
4:14 ac yn gweiddi'n uchel, 'Torrwch y goeden, llifiwch ei changhennau; tynnwch ei dail a gwasgarwch ei ffrwyth. Gwnewch i'r anifeiliaid ffoi o'i chysgod a'r adar o'i changhennau.
4:15 Ond gadewch y boncyff a'i wraidd yn y ddaear, a chadwyn o haearn a phres amdano yng nghanol y maes. Bydd gwlith y nefoedd yn ei wlychu, a bydd ei le gyda'r anifeiliaid sy'n pori'r ddaear.
4:16 Newidir y galon ddynol sydd ganddo a rhoir calon anifail iddo yn ei lle. Bydd hyn dros saith cyfnod.
4:17 Dedfryd y gwylwyr yw hyn, a dyma ddatganiad y rhai sanctaidd, er mwyn i bawb byw wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn, ac yn gosod yr isaf yn ben arni.'

Daniel yn Dehongli'r Freuddwyd

4:18 "Dyma'r freuddwyd a welais i, y Brenin Nebuchadnesar. Dywed tithau, Beltesassar, beth yw'r dehongliad, oherwydd ni fedr yr un o ddoethion fy nheyrnas ei dehongli imi, ond medri di, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot."
4:19 Aeth Daniel, a enwyd Beltesassar, yn fud am funud, a'i feddwl mewn penbleth. Dywedodd y brenin, "Paid â gadael i'r freuddwyd a'r dehongliad dy boeni, Beltesassar." Atebodd yntau, "Boed hon yn freuddwyd i'th gaseion, a'i dehongliad i'th elynion.
4:20 Y goeden a welaist yn tyfu'n fawr a chryf, a'i huchder yn cyrraedd i'r entrychion ac i'w gweld o bellteroedd byd,
4:21 a'i dail yn brydferth, a'i ffrwyth yn niferus, ac ymborth arni i bopeth, a lloches i anifeiliaid oddi tani, a chartref i adar yr awyr yn ei changhennau —
4:22 ti, O frenin, yw'r goeden honno. Yr wyt wedi tyfu'n fawr a chryf, a'th fawredd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd i'r entrychion, a'th frenhiniaeth yn ymestyn i bellteroedd byd.
4:23 Fe welaist hefyd, O frenin, wyliwr sanctaidd yn dod i lawr ac yn dweud, 'Torrwch y goeden a difethwch hi, ond gadewch y boncyff a'i wraidd yn y ddaear, a chadwyn o haearn a phres amdano yng nghanol y maes; bydd gwlith y nefoedd yn ei wlychu, a bydd ei le gyda'r anifeiliaid, hyd nes i saith cyfnod fynd heibio.'
4:24 Dyma'r dehongliad, O frenin: Datganiad y Goruchaf ynglŷn â'm harglwydd frenin yw hwn.
4:25 Cei dy yrru o ŵydd pobl, a bydd dy gartref gyda'r anifeiliaid; byddi'n bwyta gwellt fel ych, a bydd gwlith y nefoedd yn dy wlychu. Bydd saith cyfnod yn mynd heibio, nes iti wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn.
4:26 Am y gorchymyn i adael boncyff y pren a'i wraidd, bydd dy frenhiniaeth yn sefydlog wedi iti ddeall mai'r nefoedd sy'n teyrnasu.
4:27 Derbyn fy nghyngor, O frenin: tro oddi wrth dy bechodau trwy wneud cyfiawnder, a'th droseddau trwy wneud trugaredd â'r tlodion, iti gael dyddiau hir o heddwch."
4:28 Digwyddodd hyn i gyd i'r Brenin Nebuchadnesar.
4:29 Ym mhen deuddeng mis, yr oedd y brenin yn cerdded ar do ei balas ym Mabilon,
4:30 ac meddai, "Onid hon yw Babilon fawr, a godais trwy rym fy nerth yn gartref i'r brenin ac er clod i'm mawrhydi?"
4:31 Cyn i'r brenin orffen siarad, daeth llais o'r nefoedd, "Dyma neges i ti, O Frenin Nebuchadnesar: Cymerwyd y frenhiniaeth oddi arnat.
4:32 Cei dy yrru o ŵydd pobl, a bydd dy gartref gyda'r anifeiliaid. Byddi'n bwyta gwellt fel ych, a bydd saith cyfnod yn mynd heibio, nes iti wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn."
4:33 Digwyddodd hyn ar unwaith i Nebuchadnesar. Cafodd ei yrru o ŵydd pobl; yr oedd yn bwyta gwellt fel ych, ei gorff yn wlyb gan wlith y nefoedd, ei wallt yn hir fel plu eryr, a'i ewinedd yn hir fel crafangau aderyn.

Nebuchadnesar yn Moli Duw

4:34 "Ymhen amser, codais i, Neb-uchadnesar, fy llygaid i'r nefoedd, ac adferwyd fy synnwyr. Yna bendithiais y Goruchaf, a moli a mawrhau'r un sy'n byw yn dragywydd. Y mae ei arglwyddiaeth yn arglwyddiaeth dragwyddol, a'i frenhiniaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
4:35 Nid yw neb o drigolion y ddaear yn cyfrif dim; y mae'n gwneud fel y mynno â llu'r nefoedd ac â thrigolion y ddaear. Ni fedr neb ei atal, a gofyn iddo, 'Beth wyt yn ei wneud?'
4:36 Y pryd hwnnw adferwyd fy synnwyr a dychwelodd fy mawrhydi a'm clod, er gogoniant fy mrenhiniaeth. Daeth fy nghynghorwyr a'm tywysogion ataf. Cadarnhawyd fi yn fy nheyrnas, a rhoddwyd llawer mwy o rym i mi.
4:37 Ac yn awr yr wyf fi, Nebuchadnesar, yn moli, yn mawrhau ac yn clodfori Brenin y Nefoedd, sydd â'i weithredoedd yn gywir a'i ffyrdd yn gyfiawn, ac yn gallu darostwng y balch."

Gwledd Belsassar

5:1 Gwnaeth y Brenin Belsassar wledd fawr i fil o'i dywysogion, ac yfodd win gyda hwy.
5:2 Wedi cael blas y gwin, gorchmynnodd Belsassar ddwyn y llestri aur ac arian a ladrataodd ei dad Nebuchadnesar o'r deml yn Jerwsalem, er mwyn i'r brenin a'i dywysogion a'i wragedd a'i ordderchwragedd yfed ohonynt.
5:3 Felly dygwyd y llestri aur a ladratawyd o'r deml yn Jerwsalem, ac yfodd y brenin a'i dywysogion a'i wragedd a'i ordderchwragedd ohonynt.
5:4 Wrth yfed y gwin, yr oeddent yn moliannu duwiau o aur ac arian, o bres a haearn, o bren a charreg.
5:5 Yn sydyn, ymddangosodd bysedd llaw ddynol yn ysgrifennu ar blastr y pared gyferbyn â'r canhwyllbren yn llys y brenin, a gwelai'r brenin y llaw ddynol yn ysgrifennu.
5:6 Yna gwelwodd y brenin mewn dychryn, ac aeth ei gymalau'n llipa a'i liniau'n grynedig.
5:7 Galwodd y brenin am y swynwyr a'r Caldeaid a'r sêr-ddewiniaid, ac meddai wrth ddoethion Babilon, "Os medr unrhyw un ddarllen yr ysgrifen hon a'i dehongli i mi, caiff hwnnw wisg borffor, a chadwyn aur am ei wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas."
5:8 Yna daeth doethion y brenin ato, ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen na'i dehongli i'r brenin.
5:9  Felly cynhyrfodd y Brenin Belsassar yn enbyd, a gwelwi, ac yr oedd ei dywysogion yn yr un dryswch.
5:10 Wrth glywed sŵn y brenin a'i dywysogion, daeth y frenhines i'r ystafell fwyta a dweud, "O frenin, bydd fyw byth! Paid ag edrych mor gynhyrfus a gwelw.
5:11 Y mae gŵr yn dy deyrnas sy'n llawn o ysbryd y duwiau sanctaidd, ac yn amser dy dad dangosodd oleuni a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau; a gwnaed ef gan dy dad, y Brenin Nebuchadnesar, yn ben ar y dewiniaid a'r swynwyr a'r Caldeaid a'r sêr-ddewiniaid.
5:12 Gan fod yn Daniel, a alwodd y brenin yn Beltesassar, ysbryd ardderchog, a deall a dirnadaeth, a'r gallu i ddehongli breuddwydion ac esbonio dirgelion a datrys problemau, anfon yn awr am Daniel; gall ef roi dehongliad."

Daniel yn Dehongli'r Ysgrifen

5:13 Yna daethpwyd â Daniel at y brenin, a gofynnodd y brenin iddo, "Ai ti yw Daniel, un o'r caethgludion a ddug fy nhad, y brenin, o Jwda?
5:14 Rwy'n clywed fod ysbryd y duwiau ynot a'th fod yn llawn o oleuni a deall a doethineb ragorol.
5:15 Er i'r doethion a'r swynwyr ddod yma i ddarllen yr ysgrifen hon a'i dehongli i mi, nid ydynt yn medru rhoi dehongliad ohoni.
5:16 Ond rwy'n clywed dy fod ti'n gallu rhoi deongliadau a datrys problemau. Yn awr os medri ddarllen yr ysgrifen a'i dehongli i mi, cei wisg borffor, a chadwyn aur am dy wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas."
5:17 Yna atebodd Daniel y brenin, "Cei gadw d'anrhegion, a rhoi dy wobrwyon i eraill, ond fe ddarllenaf yr ysgrifen a'i dehongli i'r brenin.
5:18 Rhoes y Duw Goruchaf frenhiniaeth a mawredd a gogoniant ac urddas i'th dad Nebuchadnesar.
5:19 Ac oherwydd y mawredd a roed iddo, yr oedd yr holl bobloedd, cenhedloedd ac ieithoedd yn crynu mewn ofn o'i flaen. Gallai ladd neu gadw'n fyw, dyrchafu neu ddarostwng y neb a fynnai.
5:20 Ond pan ymffrostiodd a mynd yn falch, fe'i diorseddwyd a chymerwyd ei ogoniant oddi arno.
5:21 Gyrrwyd ef o ŵydd pobl, rhoddwyd iddo galon anifail, ac yr oedd ei gartref gyda'r asynnod gwylltion. Yr oedd yn bwyta gwellt fel ych, ac yr oedd ei gorff yn wlyb gan wlith y nefoedd, nes iddo wybod mai'r Duw Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn.
5:22 Ond amdanat ti, ei fab Belsassar, er iti wybod hyn oll, ni ddarostyngaist dy hun.
5:23 Yr wyt wedi herio Arglwydd y Nefoedd trwy ddod â llestri ei dŷ ef o'th flaen, a thithau a'th dywysogion a'th wragedd a'th ordderchwragedd yn yfed gwin ohonynt. Yr wyt wedi moliannu duwiau o arian ac aur, o bres a haearn, o bren a charreg, nad ydynt yn clywed dim, nac yn gweld nac yn gwybod; ac nid wyt wedi mawrhau'r Duw y mae d'einioes a'th ffyrdd yn ei law.
5:24 Dyna pam yr anfonwyd y llaw i ysgrifennu'r geiriau hyn.
5:25 Fel hyn y mae'r ysgrifen yn darllen: 'Mene, Mene, Tecel, Wparsin.'
5:26 A dyma'r dehongliad. 'Mene': rhifodd Duw flynyddoedd dy deyrnasiad, a daeth ag ef i ben.
5:27 'Tecel': pwyswyd di yn y glorian, a'th gael yn brin.
5:28 'Peres': rhannwyd dy deyrnas, a'i rhoi i'r Mediaid a'r Persiaid."
5:29 Yna, ar orchymyn Belsassar, cafodd Daniel wisg borffor, a chadwyn o aur am ei wddf, a'i benodi yn drydydd llywodraethwr yn y deyrnas.
5:30 A'r noson honno lladdwyd Belsassar, brenin y Caldeaid.
5:31 A derbyniodd Dareius y Mediad y deyrnas, yn ŵr dwy a thrigain oed.

Daniel yn Ffau'r Llewod

6:1 Penderfynodd Dareius benodi cant ac ugain o lywodraethwyr, un i fod dros bob rhan o'r deyrnas,
6:2 a throstynt hwy dri rhaglaw, gan gynnwys Daniel; ac iddynt hwy yr oedd y llywodraethwyr yn gyfrifol, i warchod buddiannau'r brenin.
6:3 Yr oedd Daniel yn rhagori ar y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr am fod ganddo ddawn arbennig, a bwriadai'r brenin ei osod dros yr holl deyrnas.
6:4 Yna chwiliodd y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr am ryw achos ynglŷn â'r deyrnas y gallent ei ddwyn yn erbyn Daniel, ond ni fedrent gael achos na bai ynddo; am ei fod mor ddidwyll, ni chawsant unrhyw amryfusedd na bai ynddo.
6:5 Yna dywedodd y dynion hyn, "Ni fedrwn gael unrhyw achos yn erbyn y Daniel hwn os na chawn rywbeth ynglŷn â chyfraith ei Dduw."
6:6 Felly aeth y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr gyda'i gilydd at y brenin a dweud wrtho, "O Frenin Dareius, bydd fyw byth!
6:7 Y mae holl swyddogion y deyrnas, yn benaethiaid a llywodraethwyr, yn gynghorwyr a rhaglawiaid, yn unfryd â'i gilydd y dylai'r brenin wneud deddf a gorchymyn pendant fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn ymbil ar unrhyw dduw neu ddyn, ar wahân i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod.
6:8 Yn awr, O frenin, cadarnha'r gorchymyn ac arwydda'r ddogfen, fel na chaiff ei newid, yn ôl cyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid."
6:9 Felly arwyddodd y Brenin Dareius y ddogfen a'r gorchymyn.
6:10 Pan glywodd Daniel fod y ddogfen wedi ei harwyddo, aeth i'w dŷ. Yr oedd ffenestri ei lofft yn agor i gyfeiriad Jerwsalem, ac yntau'n parhau i benlinio deirgwaith y dydd, a gweddïo a thalu diolch i'w Dduw, yn ôl ei arfer.
6:11 Daeth y bobl hyn gyda'i gilydd a dal Daniel yn ymbil ac yn erfyn ar ei Dduw.
6:12 Yna aethant at y brenin a'i atgoffa am ei orchymyn: "Onid wyt wedi arwyddo gorchymyn fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn gweddïo ar unrhyw dduw neu ddyn ar wahân i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod?" Atebodd y brenin, "Dyna'r gorchymyn, yn unol â chyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid."
6:13 Dywedasant hwythau wrth y brenin, "Nid yw'r Daniel yma, o gaethglud Jwda, yn cymryd unrhyw sylw ohonot ti na'r gorchymyn a arwyddaist, O frenin, ond y mae'n gweddïo deirgwaith y dydd."
6:14 Pan glywodd y brenin hyn yr oedd yn drist iawn, a cheisiodd ffordd i achub Daniel, ac ymdrechu hyd fachlud haul i'w arbed.
6:15 Ond daeth y rhain gyda'i gilydd at y brenin a dweud wrtho, "Gwyddost, O frenin, fod pob gorchymyn a deddf o eiddo'r brenin yn ddigyfnewid yn ôl cyfraith y Mediaid a'r Persiaid."
6:16 Felly gorchmynnodd y brenin iddynt ddod â Daniel, a'i daflu i ffau'r llewod; ond dywedodd wrth Daniel, "Bydded i'th Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub."
6:17 Yna daethant â maen, a'i osod ar geg y ffau, a seliodd y brenin ef â'i sêl ei hun a sêl ei bendefigion, rhag bod unrhyw newid ar y dyfarniad yn erbyn Daniel.
6:18 Dychwelodd y brenin i'w balas a threulio'r noson mewn ympryd; ni ddaethpwyd â merched ato, ac ni allai gysgu.
6:19 Yn y bore, ar doriad gwawr, cododd y brenin a mynd ar frys at ffau'r llewod.
6:20 Wedi iddo gyrraedd y ffau, galwodd ar Daniel mewn llais pryderus a dweud, "Daniel, gwas y Duw byw, a fedrodd dy Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub rhag y llewod?"
6:21 Atebodd Daniel y brenin, "O frenin, bydd fyw byth!
6:22 Anfonodd fy Nuw ei angel, a chau safn y llewod fel na wnaethant niwed i mi, am fy mod yn ddieuog yn ei olwg; ni wneuthum niwed i tithau chwaith, O frenin."
6:23 Gorfoleddodd y brenin, a gorchymyn rhyddhau Daniel o'r ffau. A phan gafodd ei ryddhau, nid oedd unrhyw niwed i'w weld arno, am iddo ymddiried yn ei Dduw.
6:24 Ac ar orchymyn y brenin, daethant â'r rhai oedd wedi cyhuddo Daniel, a'u taflu i ffau'r llewod, hwy a'u plant a'u gwragedd, a chyn iddynt gyrraedd gwaelod y ffau yr oedd y llewod wedi eu llarpio ac wedi malu eu hesgyrn yn chwilfriw.
6:25 Yna ysgrifennodd y Brenin Dareius at yr holl bobloedd, o bob cenedl ac iaith trwy'r byd i gyd, "Heddwch fo i chwi!
6:26 Yr wyf yn gorchymyn fod pawb ym mhob talaith o'm teyrnas i ofni a pharchu Duw Daniel. Ef yw'r Duw byw, y tragwyddol; ni ddinistrir ei frenhiniaeth, a phery ei arglwyddiaeth byth.
6:27 Y mae'n achub ac yn gwaredu, yn gwneud arwyddion a rhyfeddodau yn y nefoedd ac ar y ddaear; ef a achubodd Daniel o afael y llewod."
6:28 A llwyddodd y Daniel hwn yn ystod teyrnasiad Dareius a theyrnasiad Cyrus y Persiad.

Gweledigaeth y Pedwar Bwystfil

7:1 Yn y flwyddyn gyntaf i Belsassar brenin Babilon, cafodd Daniel freuddwyd a gweledigaethau tra oedd yn gorwedd ar ei wely. Ysgrifennodd Daniel y freuddwyd, a dyma sylwedd yr hanes a adroddodd.
7:2 Yn fy ngweledigaeth yn y nos gwelais bedwar gwynt y nefoedd yn corddi'r môr mawr,
7:3 a phedwar bwystfil anferth yn codi o'r môr, pob un yn wahanol i'w gilydd.
7:4 Yr oedd y cyntaf fel llew a chanddo adenydd eryr; a thra oeddwn yn edrych, rhwygwyd ei adenydd a chodwyd ef oddi ar y ddaear a'i osod ar ei draed fel bod dynol, a rhoddwyd meddwl dynol iddo.
7:5 Yna gwelais fwystfil arall, yr ail, yn debyg i arth. Yr oedd yn hanner codi ar un ochr, ac yr oedd tair asen yn ei safn rhwng ei ddannedd, a dywedwyd wrtho, "Cyfod, bwyta lawer o gig."
7:6 Wedyn, a minnau'n dal i edrych, gwelais un arall, tebyg i lewpard, a phedair adain aderyn ar ei gefn; ac yr oedd gan y bwystfil bedwar pen, a rhoddwyd arglwyddiaeth iddo.
7:7 Yna, tra oeddwn yn edrych ar weledigaethau'r nos, gwelais bedwerydd bwystfil, un arswydus ac erchyll a chryf eithriadol, a chanddo ddannedd mawr o haearn; yr oedd yn bwyta ac yn malu ac yn sathru'r gweddill dan ei draed. Yr oedd hwn yn wahanol i'r holl fwystfilod eraill oedd o'i flaen, ac yr oedd ganddo ddeg o gyrn.
7:8 Fel yr oeddwn yn sylwi ar y cyrn, gwelais gorn arall, un bychan, yn codi o'u mysg, a thynnwyd tri o'r cyrn cyntaf o'u gwraidd i wneud lle iddo, ac yn y corn yma gwelais lygaid fel llygaid dynol a cheg yn traethu balchder.

Yr Hen Ddihenydd a'r Un fel Mab Dyn

7:9 Fel yr oeddwn yn edrych, gosodwyd y gorseddau yn eu lle ac eisteddodd Hen Ddihenydd; yr oedd ei wisg cyn wynned â'r eira, a gwallt ei ben fel gwlân pur; yr oedd ei orsedd yn fflamau o dân, a'i holwynion yn dân crasboeth.
7:10 Yr oedd afon danllyd yn llifo allan o'i flaen. Yr oedd mil o filoedd yn ei wasanaethu a myrdd o fyrddiynau'n sefyll ger ei fron. Eisteddodd y llys ac agorwyd y llyfrau.
7:11 Oherwydd sŵn geiriau balch y corn, daliais i edrych, ac fel yr oeddwn yn gwneud hynny lladdwyd y bwystfil a dinistrio'i gorff a'i daflu i ganol y tân.
7:12 Collodd y bwystfilod eraill eu harglwyddiaeth, ond cawsant fyw am gyfnod a thymor.
7:13 Ac fel yr oeddwn yn edrych ar weledigaethau'r nos, Gwelais un fel mab dyn yn dyfod ar gymylau'r nef; a daeth at yr Hen Ddihenydd a chael ei gyflwyno iddo.
7:14 Rhoddwyd iddo arglwyddiaeth a gogoniant a brenhiniaeth, i'r holl bobloedd o bob cenedl ac iaith ei wasanaethu. Y mae ei arglwyddiaeth yn dragwyddol a digyfnewid, a'i frenhiniaeth yn un na ddinistrir.

Dehongli'r Gweledigaethau

7:15 Yr oeddwn i, Daniel, wedi fy nghynhyrfu'n fawr, a brawychwyd fi gan fy ngweledigaethau.
7:16 Euthum at un o'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl, a gofynnais iddo beth oedd ystyr hyn i gyd. Atebodd yntau a rhoi dehongliad o'r cyfan imi:
7:17 "Pedwar brenin yn codi o'r ddaear yw'r pedwar bwystfil.
7:18 Ond bydd saint y Goruchaf yn derbyn y frenhiniaeth ac yn ei meddiannu'n oes oesoedd."
7:19 Yna dymunais wybod ystyr y pedwerydd bwystfil, a oedd yn wahanol i'r lleill i gyd, yn arswydus iawn, a chanddo ddannedd o haearn a chrafangau o bres, yn bwyta ac yn malu ac yn sathru'r gweddill dan ei draed;
7:20 a hefyd ystyr y deg corn ar ei ben, a'r corn arall a gododd, a thri yn syrthio o'i flaen — y corn ac iddo lygaid, a cheg yn traethu balchder ac yn gwneud mwy o ymffrost na'r lleill.
7:21 Dyma'r corn a welais yn rhyfela yn erbyn y saint ac yn eu trechu,
7:22 hyd nes i'r Hen Ddihenydd ddyfod a dyfarnu o blaid saint y Goruchaf, ac i'r saint feddiannu'r deyrnas.
7:23 Dyma'i ateb: "Pedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear yw'r pedwerydd bwystfil. Bydd hi'n wahanol i'r holl freniniaethau eraill; bydd yn ysu'r holl ddaear, ac yn ei sathru a'i malu.
7:24 Saif y deg corn dros ddeg brenin a fydd yn codi; daw un arall ar eu hôl, yn wahanol i'r lleill, ac yn darostwng tri brenin.
7:25 Bydd yn herio'r Goruchaf ac yn llethu saint y Goruchaf, ac yn cynllunio i newid y gwyliau a'r gyfraith; a chaiff awdurdod drostynt am dymor a thymhorau a hanner tymor.
7:26 Yna bydd y llys yn eistedd, a dygir ymaith ei arglwyddiaeth, i'w distrywio a'i difetha'n llwyr.
7:27 A rhoddir y frenhiniaeth a'r arglwyddiaeth, a gogoniant pob brenhiniaeth dan y nef, i bobl saint y Goruchaf. Brenhiniaeth dragwyddol fydd eu brenhiniaeth hwy, a bydd pob teyrnas yn eu gwasanaethu ac yn ufuddhau iddynt."
7:28 Dyma ddiwedd yr hanes; ac yr oeddwn i, Daniel, wedi fy nghynhyrfu'n fawr ac yn welw, ond cedwais y pethau hyn i mi fy hun.

Gweledigaeth yr Hwrdd a'r Bwch Gafr

8:1 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Belsassar cefais i, Daniel, weledigaeth arall at yr un gyntaf a gefais.
8:2 Yr oeddwn yn y palas yn Susan yn nhalaith Elam, a gwelais yn y weledigaeth fy mod wrth yr afon Ulai.
8:3 Edrychais i fyny a gwelais hwrdd yn sefyll ar lan yr afon. Yr oedd ganddo ddau gorn hir, gyda'r hiraf o'r ddau yn tyfu ar ôl y llall.
8:4 Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua'r gorllewin, y gogledd a'r de, ac ni allai'r un anifail ei wrthsefyll na neb achub o'i afael. Yr oedd yn gwneud fel y mynnai, ac yn cyflawni gorchestion.
8:5 Fel yr oeddwn yn ystyried hyn gwelais fwch gafr a chanddo gorn enfawr rhwng ei lygaid; yr oedd yn dod o'r gorllewin ar draws yr holl wlad heb gyffwrdd â'r ddaear.
8:6 Daeth at yr hwrdd deugorn a welais yn sefyll ar lan yr afon, a rhuthro arno â'i holl nerth.
8:7 Gwelais ef yn nesáu'n ffyrnig at yr hwrdd, yn ei daro ac yn torri ei ddau gorn, ac am nad oedd yr hwrdd yn ddigon cryf i'w wrthsefyll, bwriodd ef i'r llawr a'i fathru; ac nid oedd neb i achub yr hwrdd o'i afael.
8:8 Yna ymorchestodd y bwch gafr yn fwy byth, ond yn ei anterth torrwyd y corn mawr, a chododd pedwar corn amlwg yn ei le, yn wynebu tua phedwar gwynt y nefoedd.
8:9 Ac allan o un ohonynt daeth corn bychan a dyfodd yn gryf tua'r de a'r dwyrain a'r wlad hyfryd.
8:10 Dyrchafodd hwn at lu'r nef, a thaflu rhai o'r llu ac o'r sêr i'r llawr a'u mathru.
8:11 Ym-chwyddodd yn erbyn tywysog y llu, a diddymu'r offrwm dyddiol a difetha'i gysegr.
8:12 Mewn pechod gosodwyd llu yn erbyn yr offrwm dyddiol, a thaflu gwirionedd i'r llawr. Felly y llwyddodd yn y cwbl a wnaeth.
8:13 Clywais un o'r rhai sanctaidd yn siarad, ac un arall yn dweud wrth yr un a siaradai, "Am ba hyd y pery'r weledigaeth o'r offrwm dyddiol, a'r pechod anrheithiol, a sarnu'r cysegr a'r llu?"
8:14 Dywedodd wrtho, "Am ddwy fil tri chant o ddyddiau, hwyr a bore; yna fe adferir y cysegr."

Gabriel yn Esbonio'r Weledigaeth

8:15 Ac fel yr oeddwn i, Daniel, yn edrych ar y weledigaeth ac yn ceisio'i deall, gwelwn un tebyg i fod dynol yn sefyll o'm blaen,
8:16 a chlywais lais dynol yn galw dros afon Ulai ac yn dweud, "Gabriel, esbonia'r weledigaeth."
8:17 Yna daeth Gabriel at y man lle'r oeddwn yn sefyll, a phan ddaeth, crynais mewn ofn a syrthio ar fy wyneb. Dywedodd wrthyf, "Deall, fab dyn, mai ag amser y diwedd y mae a wnelo'r weledigaeth."
8:18 Wrth iddo siarad â mi, syrthiais ar fy hyd ar lawr mewn llewyg, ond cyffyrddodd ef â mi a'm gosod ar fy nhraed,
8:19 a dweud, "Yn wir rhof wybod iti beth a ddigwydd pan ddaw'r llid i ben, oherwydd y mae i'r diwedd ei amser penodedig.
8:20 Brenhinoedd Media a Persia yw'r hwrdd deugorn a welaist.
8:21 Brenin Groeg yw'r bwch blewog, a'r corn mawr rhwng ei lygaid yw'r brenin cyntaf.
8:22 A'r un a dorrwyd, a phedwar yn codi yn ei le, dyma bedair brenhiniaeth yn codi o'r un genedl, ond heb feddu'r un nerth ag ef.
8:23 Ac ar ddiwedd eu teyrnasiad, pan fydd y troseddwyr yn eu hanterth, fe gyfyd brenin creulon a chyfrwys.
8:24 Bydd ei nerth yn fawr, ac fe wna niwed anhygoel; fe lwydda yn yr hyn a wna, ac fe ddinistria'r cedyrn a phobl y saint.
8:25 Yn ei gyfrwystra fe wna i ddichell ffynnu; cynllunia orchestion yn ei galon, a heb rybudd fe ddinistria lawer. Heria dywysog y tywysogion, ond fe'i torrir i lawr heb gymorth llaw.
8:26 Y mae'r weledigaeth a roddwyd am yr hwyr a'r bore yn wir; ond cadw di'r weledigaeth dan sêl, am ei bod yn cyfeirio at y dyfodol pell."
8:27 Yr oeddwn i, Daniel, wedi diffygio, a bûm yn glaf am ddyddiau. Yna codais i wasanaethu'r brenin, wedi fy syfrdanu gan y weledigaeth a heb ei deall.

Gweddi Daniel

9:1 Daeth Dareius fab Ahasferus o linach y Mediaid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid.
9:2 Ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, yr oeddwn i, Daniel, yn chwilio'r llyfrau ynglŷn â'r hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia'r proffwyd am nifer y blynyddoedd hyd derfyn dinistr Jerwsalem, sef deng mlynedd a thrigain.
9:3 Yna trois at yr Arglwydd Dduw mewn gweddi daer ac ymbil, gydag ympryd a sachliain a lludw.
9:4 Gweddïais ar yr ARGLWYDD fy Nuw a chyffesu a dweud, "O Arglwydd, y Duw mawr ac ofnadwy, sy'n cadw cyfamod ac sy'n ffyddlon i'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion,
9:5 yr ydym wedi pechu a gwneud camwedd a drwg, ac wedi gwrthryfela ac anwybyddu d'orchmynion a'th ddeddfau.
9:6 Ni wrandawsom ar dy weision y proffwydi, a fu'n llefaru yn dy enw wrth ein brenhinoedd a'n tywysogion a'n hynafiaid, ac wrth holl bobl y wlad.
9:7 I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder; ond heddiw fel erioed, cywilydd sydd i ni, bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem a holl Israel, yn agos ac ymhell, ym mhob gwlad lle'r alltudiwyd hwy am iddynt dy fradychu.
9:8 O ARGLWYDD, cywilydd sydd i ni, i'n brenhinoedd a'n tywysogion a'n hynafiaid, am inni bechu yn dy erbyn.
9:9 Ond y mae trugaredd a maddeuant gan yr Arglwydd ein Duw, er inni wrthryfela yn ei erbyn
9:10 a gwrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD ein Duw i ddilyn ei gyfreithiau, a roddodd inni trwy ei weision y proffwydi.
9:11 Y mae holl Israel wedi torri dy gyfraith a gwrthod gwrando ar dy lais; ac am inni bechu yn ei erbyn tywalltwyd arnom y felltith a'r llw sy'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses gwas Duw.
9:12 Cyflawnodd yr hyn a ddywedodd amdanom ni ac am ein barnwyr trwy ddwyn dinistr mawr arnom, oherwydd ni ddigwyddodd yn unman ddim tebyg i'r hyn a ddigwyddodd yn Jerwsalem.
9:13 Daeth y dinistr hwn arnom, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses; eto nid ydym wedi ymbil ar yr ARGLWYDD ein Duw trwy droi oddi wrth ein camweddau ac ystyried dy wirionedd di.
9:14 Cadwodd yr ARGLWYDD olwg ar y dinistr hwn nes dod ag ef arnom, am fod yr ARGLWYDD ein Duw yn gyfiawn yn ei holl weithredoedd, a ninnau heb wrando ar ei lais.
9:15 "Ac yn awr, O Arglwydd ein Duw, sydd wedi achub dy bobl o wlad yr Aifft â llaw gref a gwneud enw i ti dy hun hyd heddiw, yr ydym ni wedi pechu a gwneud drygioni.
9:16 O Arglwydd, yn unol â'th holl weithredoedd cyfiawn, erfyniwn arnat i droi dy lid a'th ddigofaint oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd, oherwydd am ein pechodau ni ac am gamweddau ein hynafiaid y mae Jerwsalem a'th bobl yn wawd i bawb o'n cwmpas.
9:17 Ac yn awr, ein Duw, gwrando ar weddi ac ymbil dy was, ac er dy fwyn dy hun pâr i'th wyneb ddisgleirio ar dy gysegr anghyfannedd.
9:18 Fy Nuw, gostwng dy glust a gwrando; agor dy lygaid ac edrych ar ein hanrhaith ac ar y ddinas y gelwir dy enw arni; nid oherwydd ein cyfiawnder ein hunain yr ydym yn ymbil o'th flaen, ond oherwydd dy aml drugareddau di.
9:19 Gwrando, O Arglwydd! Trugarha, O Arglwydd! Gwrando, O Arglwydd, a gweithreda! Er dy fwyn dy hun, fy Nuw, paid ag oedi, oherwydd dy enw di sydd ar dy ddinas ac ar dy bobl."

Gabriel yn Esbonio'r Broffwydoliaeth

9:20 A thra oeddwn yn llefaru ac yn gweddïo, yn cyffesu fy mhechod a phechod fy mhobl Israel, ac yn ymbil o flaen yr ARGLWYDD fy Nuw dros fynydd sanctaidd fy Nuw,
9:21 ehedodd y gŵr Gabriel, a welais eisoes yn y weledigaeth, a chyffyrddodd â mi ar adeg yr offrwm hwyrol.
9:22 Esboniodd i mi a dweud, "Daniel, rwyf wedi dod yn awr i'th hyfforddi.
9:23 Pan ddechreuaist ymbil, cyhoeddwyd gair, a deuthum innau i'w fynegi, oherwydd cefaist ffafr. Ystyria'r gair a deall y weledigaeth.
9:24 "Nodwyd deg wythnos a thrigain i'th bobl ac i'th ddinas sanctaidd, i roi diwedd ar wrthryfel a therfyn ar bechodau, i wneud iawn am ddrygioni ac i adfer cyfiawnder tragwyddol; i roi sêl ar weledigaeth a phroffwydoliaeth, ac i eneinio'r lle sancteiddiolaf.
9:25 Deall hyn ac ystyria: bydd saith wythnos o'r amser y daeth gorchymyn i ailadeiladu Jerwsalem hyd ddyfodiad tywysog eneiniog; yna am ddwy wythnos a thrigain adnewyddir heol a ffos, ond bydd yn amser adfyd.
9:26 Ac ar ôl y ddwy wythnos a thrigain fe leddir yr un eneiniog heb neb o'i du, a difethir y ddinas a'r cysegr gan filwyr tywysog sydd i ddod. Bydd yn gorffen mewn llifeiriant, gyda rhyfel yn peri anghyfanedd-dra hyd y diwedd.
9:27 Fe wna gyfamod cadarn â llawer am un wythnos, ac am hanner yr wythnos rhydd derfyn ar aberth ac offrwm. Ac yn sgîl y ffieiddbeth daw anrheithiwr, a erys hyd y diwedd, pan dywelltir ar yr anrheithiwr yr hyn a ddywedwyd."

Y Weledigaeth ar Lan Afon Tigris

10:1 Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia rhoddwyd datguddiad i Daniel, a elwid Beltesassar. Yr oedd yn ddatguddiad gwir, er ei bod yn ymdrech fawr ei ddeall; ond rhoddwyd iddo ddeall trwy'r weledigaeth.
10:2 Yn y dyddiau hynny, yr oeddwn i, Daniel, mewn galar am dair wythnos.
10:3 Ni fwyteais ddanteithion ac ni chyffyrddais â chig na gwin, ac nid irais fy hun am y tair wythnos gyfan.
10:4 Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis cyntaf, a minnau'n eistedd ar lan yr afon fawr, afon Tigris,
10:5 codais fy ngolwg a gwelais ddyn wedi ei wisgo mewn lliain, a gwregys o aur Offir am ei ganol.
10:6 Yr oedd ei gorff fel maen beryl a'i wyneb fel mellt; yr oedd ei lygaid fel ffaglau tân, ei freichiau a'i draed fel pres gloyw, a'i lais fel sŵn tyrfa.
10:7 Myfi, Daniel, yn unig a welodd y weledigaeth; ni welodd y rhai oedd gyda mi mohoni, ond daeth arnynt ddychryn mawr a ffoesant i ymguddio.
10:8 Gadawyd fi ar fy mhen fy hun i edrych ar y weledigaeth fawr hon; pallodd fy nerth, newidiodd fy ngwedd yn arswydus, ac euthum yn wan.
10:9 Fe'i clywais yn siarad, ac wrth wrando ar sŵn ei eiriau syrthiais ar fy hyd ar lawr mewn llewyg.
10:10 Yna cyffyrddodd llaw â mi, a'm gosod yn sigledig ar fy ngliniau a'm dwylo,
10:11 a dywedodd wrthyf, "Daniel, cefaist ffafr; ystyria'r geiriau a lefaraf wrthyt, a saf ar dy draed, oherwydd anfonwyd fi atat." Pan lefarodd wrthyf, codais yn grynedig.
10:12 Yna dywedodd wrthyf, "Paid ag ofni, Daniel, oherwydd o'r dydd cyntaf y penderfynaist geisio deall ac ymostwng o flaen dy Dduw, clywyd dy eiriau; ac oherwydd hynny y deuthum i.
10:13 Am un diwrnod ar hugain bu tywysog teyrnas Persia yn sefyll yn f'erbyn; yna daeth Mihangel, un o'r prif dywysogion, i'm helpu, pan adawyd fi yno gyda thywysog brenhinoedd Persia.
10:14 Deuthum i roi gwybod i ti beth a ddigwydd i'th bobl yn niwedd y dyddiau, oherwydd gweledigaeth am y dyfodol yw hon hefyd."
10:15 Wedi iddo ddweud hyn wrthyf, ymgrymais hyd lawr heb ddweud dim.
10:16 Yna cyffyrddodd un tebyg i fod dynol â'm gwefusau, ac agorais fy ngenau i siarad, a dywedais wrth yr un oedd yn sefyll o'm blaen, "F'arglwydd, y mae fy ngofid yn fawr oherwydd y weledigaeth, a phallodd fy nerth.
10:17 Sut y gall gwas f'arglwydd ddweud dim wrth f'arglwydd, a minnau yn awr heb nerth nac anadl ynof?"
10:18 Unwaith eto cyffyrddodd yr un tebyg i fod dynol â mi a'm cryfhau,
10:19 a dweud, "Paid ag ofni, cefaist ffafr; heddwch i ti. Bydd wrol, bydd gryf." Ac fel yr oedd yn siarad â mi cefais nerth, a dywedais, "Llefara, f'arglwydd, oblegid rhoddaist nerth i mi."
10:20 Yna dywedodd, "A wyddost pam y deuthum atat? Dywedaf wrthyt beth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y gwirionedd. Rwy'n dychwelyd yn awr i ymladd â thywysog Persia, ac wedyn fe ddaw tywysog Groeg.
10:21 Ac nid oes neb yn fy nghynorthwyo yn erbyn y rhai hyn ar wahân i'ch tywysog Mihangel.

Yr Aifft a Syria

11:1 Ac ym mlwyddyn gyntaf Dareius y Mediad, sefais innau i'w gryfhau a'i nerthu.
11:2 "Yn awr dywedaf y gwir wrthyt: cyfyd tri brenin arall yn Persia, ac yna pedwerydd, a fydd yn gyfoethocach o lawer na hwy i gyd, ac fel yr ymgryfha trwy ei gyfoeth bydd yn cyffroi pawb yn erbyn brenhiniaeth Groeg.
11:3 Yna fe gyfyd brenin cryf a llywodraethu dros ymerodraeth fawr a gwneud fel y myn.
11:4 Ond, cyn gynted ag y bydd mewn awdurdod, rhwygir ei deyrnas a'i rhannu i bedwar gwynt y nefoedd, ac nid i'w ddisgynyddion; ni fydd yn ymerodraeth fel ei eiddo ef, oherwydd diwreiddir ei frenhiniaeth a'i rhoi i eraill ar wahân i'r rhain.
11:5 Bydd brenin y de yn gryf, ond bydd un o'i dywysogion yn gryfach nag ef ac yn llywodraethu ar ymerodraeth fwy na'r eiddo ef.
11:6 Ymhen rhai blynyddoedd gwnânt gytundeb â'i gilydd, a daw merch brenin y de yn wraig i frenin y gogledd, i selio'r cytundeb; ond ni fydd ei dylanwad yn aros na'i hil yn para. Fe'i bradychir hi a'i gosgordd, a hefyd ei phlentyn a'r un a'i cynhaliodd.
11:7 Yna fe dyf blaguryn o'i gwraidd, a sefyll yn ei lle, a dod yn erbyn y fyddin i gaer brenin y gogledd, a llwyddo i'w threchu.
11:8 Bydd yn cludo ymaith i'r Aifft eu duwiau a'u heilunod a'u celfi gwerthfawr o arian ac aur.
11:9 Ni fydd ymosod ar frenin y gogledd am rai blynyddoedd, ond fe ddaw hwnnw yn erbyn teyrnas brenin y de, a dychwelyd i'w wlad ei hun.
11:10 "Bydd ei feibion yn ymbaratoi i ryfel ac yn casglu mintai gref o filwyr; ac fe ddaw un ohonynt a rhuthro ymlaen fel llif a rhyfela hyd at y gaer.
11:11 Yna bydd brenin y de yn ffyrnigo ac yn ymladd yn erbyn brenin y gogledd; bydd hwnnw'n arwain llu mawr, ond rhoddir y llu yn llaw ei elyn.
11:12 Pan orchfygir y llu, bydd yn ymfalchïo ac yn lladd myrddiynau, ond heb ennill buddugoliaeth.
11:13 Yna bydd brenin y gogledd yn codi llu arall, mwy na'r cyntaf, ac ymhen amser fe ddaw â byddin fawr ac adnoddau lawer.
11:14 Y pryd hwnnw bydd llawer yn gwrthryfela yn erbyn brenin y de, a therfysgwyr o blith dy bobl di yn codi, ac felly'n cyflawni'r weledigaeth, ond methu a wnânt.
11:15 Yna daw brenin y gogledd a gwarchae ar ddinas gaerog a'i hennill. Ni fydd byddinoedd y de, na'r milwyr dewisol, yn medru ei wrthsefyll, am eu bod heb nerth.
11:16 Bydd ei wrthwynebydd yn gwneud fel y myn, ac ni saif neb o'i flaen; bydd yn ymsefydlu yn y wlad hyfryd, a fydd yn llwyr dan ei awdurdod.
11:17 Ei fwriad fydd dod â holl rym ei deyrnas, ac yna fe wna gytundeb ag ef a rhoi iddo ferch yn briod er mwyn distrywio'r deyrnas; ond ni fydd hynny'n tycio nac yn troi'n fantais iddo.
11:18 Yna fe dry at yr ynysoedd, ac ennill llawer ohonynt, ond fe rydd pennaeth estron derfyn ar ei ryfyg, a throi ei ryfyg yn ôl arno ef ei hun.
11:19 Yna fe gilia'n ôl at amddiffynfeydd ei wlad; ond methu a wna, a syrthio a diflannu o'r golwg.
11:20 Yn ei le daw un a fydd yn anfon allan swyddog i drethu golud y deyrnas; mewn ychydig ddyddiau fe'i torrir yntau i lawr, ond nid mewn cythrwfl nac mewn brwydr.

Brenin Dirmygus Syria

11:21 "Yn ei le ef cyfyd un dirmygus, ond ni roddir iddo ogoniant brenhinol. Yn ddirybudd y daw, a chymryd y frenhiniaeth trwy weniaith.
11:22 Ysgubir ymaith fyddinoedd nerthol o'i flaen, a'u dryllio hwy a thywysog y cyfamod hefyd.
11:23 Er iddo wneud cytundeb, bydd yn twyllo, ac yn para i gryfhau, er lleied yw ei genedl.
11:24 Heb rybudd meddianna rannau ffrwythlonaf y dalaith, a gwneud yr hyn na wnaeth yr un o'i hynafiaid, sef rhannu eu hysglyfaeth a'u hysbail a'u golud, a chynllwyn yn erbyn dinasoedd caerog, ond am gyfnod yn unig.
11:25 "Mewn nerth a balchder fe ymesyd â byddin fawr ar frenin y de, a daw yntau i ryfel â byddin fawr a chref iawn; ond ni fedr barhau, am fod rhai yn cynllwyn yn ei erbyn.
11:26 Y rhai sy'n bwyta wrth ei fwrdd a fydd yn ei ddifetha; ysgubir ymaith ei fyddin, a syrthia llawer yn gelain.
11:27 Bwriad drwg fydd gan y ddau frenin yma, ac er eu bod wrth yr un bwrdd, byddant yn dweud celwydd wrth ei gilydd; ond ni lwyddant, oherwydd ar yr amser penodedig fe ddaw'r diwedd.
11:28 Bydd brenin y gogledd yn dychwelyd i'w wlad ei hun a chanddo lawer o ysbail, ond â'i galon yn erbyn y cyfamod sanctaidd; ar ôl gweithredu, â'n ôl i'w wlad ei hun.
11:29 "Ar amser penodedig fe ddaw'n ôl eilwaith i'r de, ond ni fydd y tro hwn fel y tro cyntaf.
11:30 Daw llongau Chittim yn ei erbyn, a bydd yntau'n digalonni ac yn troi'n ôl; unwaith eto fe ddengys ei lid yn erbyn y cyfamod sanctaidd, a rhoi sylw i bawb sy'n ei dorri.
11:31 Daw rhai o'i filwyr a halogi'r cysegr a'r amddiffynfa, a dileu'r offrwm beunyddiol a gosod yno y ffieiddbeth diffeithiol.
11:32 Trwy ei weniaith fe ddena'r rhai sy'n torri'r cyfamod, ond bydd y bobl sy'n adnabod eu Duw yn gweithredu'n gadarn.
11:33 Bydd y deallus ymysg y bobl yn dysgu'r lliaws, ond am ryw hyd byddant yn syrthio trwy gleddyf a thân, trwy gaethiwed ac anrhaith.
11:34 Pan syrthiant, cânt rywfaint o gymorth, er y bydd llawer yn ymuno â hwy trwy weniaith.
11:35 Bydd rhai o'r deallus yn syrthio er mwyn cael eu puro a'u glanhau a'u cannu ar gyfer amser y diwedd, oherwydd y mae'r amser penodedig yn dod.
11:36 Bydd y brenin yn gwneud fel y myn, yn ymorchestu ac yn ymddyrchafu uwchlaw pob duw, ac yn cablu Duw y duwiau. Bydd yn llwyddo hyd ddiwedd y llid, oherwydd yr hyn a ordeiniwyd a fydd.
11:37 Nid ystyria dduwiau ei hynafiaid na'r duw a hoffir gan wragedd; nid ystyria'r un duw, ond ei osod ei hun yn uwch na hwy i gyd.
11:38 Yn eu lle fe anrhydedda dduw'r caerau; ag aur ac arian a meini gwerthfawr a phethau dymunol bydd yn anrhydeddu duw oedd yn ddieithr i'w hynafiaid.
11:39 Bydd yn gorfodi pobl duw dieithr i amddiffyn ei gaerau, yn rhoi anrhydedd i'r rhai sy'n ei gydnabod, yn gwneud iddynt lywodraethu dros y lliaws, ac yn rhannu tir iddynt am bris.
11:40 "Yn amser y diwedd daw brenin y de allan i ymladd, a daw brenin y gogledd fel corwynt yn ei erbyn â cherbydau a marchogion a llawer o longau; bydd hwnnw'n ymosod ar y gwledydd ac yn eu gorlifo.
11:41 Daw i'r wlad hyfryd, a chaiff llawer eu difa; ond bydd rhai, fel Edom a Moab a gweddill Ammon, yn dianc o'i afael.
11:42 Ymleda'i awdurdod dros y gwledydd, ac ni chaiff yr Aifft ei harbed.
11:43 Daw trysorau aur ac arian a holl bethau dymunol yr Aifft i'w feddiant, a bydd y Libyaid a'r Ethiopiaid yn ei ddilyn.
11:44 Ond daw newyddion o'r dwyrain a'r gogledd a'i gynhyrfu, ac fe â allan mewn cynddaredd i ladd a dinistrio llawer.
11:45 Gesyd bebyll ei bencadlys rhwng y môr a'r mynydd sanctaidd godidog; ond daw ei yrfa i ben heb neb yn ei helpu.

Yr Amser Diwethaf

12:1  "Ac yn yr amser hwnnw cyfyd Mihangel, y tywysog mawr, sy'n gwarchod dros dy bobl; a bydd cyfnod blin na fu erioed ei fath er pan ffurfiwyd cenedl hyd yr amser hwnnw. Ond yn yr amser hwnnw gwaredir dy bobl, pob un yr ysgrifennwyd ei enw yn y llyfr.
12:2 Bydd llawer o'r rhai sy'n cysgu yn llwch y ddaear yn deffro, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i waradwydd a dirmyg tragwyddol.
12:3 Disgleiria'r deallus fel y ffurfafen, a'r rhai sydd wedi troi llawer at gyfiawnder, byddant fel y sêr yn oes oesoedd.
12:4 Ond amdanat ti, Daniel, cadw'r geiriau'n ddiogel, a selia'r llyfr hyd amser y diwedd. Bydd llawer yn rhedeg yma ac acw, a bydd gofid yn cynyddu."
12:5 Yna edrychais i, Daniel, a gweld dau arall yn sefyll un bob ochr i'r afon.
12:6 A gofynnodd y naill i'r llall, sef y gŵr mewn gwisg liain a oedd uwchlaw dyfroedd yr afon, "Pa bryd y bydd terfyn ar y rhyfeddodau?"
12:7 Sylwais ar y gŵr mewn gwisg liain a oedd ar lan bellaf yr afon; cododd ei ddwy law i'r nef a thyngu, "Cyn wired â bod y Tragwyddol yn fyw, am gyfnod a chyfnodau a hanner cyfnod y bydd hyn, a daw'r cwbl i ben pan roddir terfyn ar ddiddymu nerth y bobl sanctaidd."
12:8 Yr oeddwn yn clywed heb ddeall, a gofynnais, "F'arglwydd, beth a ddaw o hyn?"
12:9 Dywedodd yntau, "Dos, Daniel, oherwydd y mae'r geiriau wedi eu cadw'n ddiogel a'u selio hyd amser y diwedd.
12:10 Bydd llawer yn ymlanhau ac yn eu cannu eu hunain ac yn cael eu puro; bydd yr holl rai drygionus yn gwneud drwg heb ddeall, heb neb ond y deallus yn amgyffred.
12:11 Ac o'r amser y diddymir yr aberth beunyddiol, a gosod yno y ffieiddbeth diffeithiol, bydd mil dau gant naw deg o ddyddiau.
12:12 Gwyn ei fyd yr un fydd yn disgwyl ac yn cyrraedd y mil tri chant tri deg a phump o ddyddiau.
12:13 Dos dithau ymlaen hyd y diwedd; yna cei orffwys, a sefyll i dderbyn dy ran yn niwedd y dyddiau."