LLYFR HABACUC

Cwyn Habacuc

1:1 Yr oracl a dderbyniodd Habacuc y proffwyd mewn gweledigaeth.
1:2 Am ba hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf am gymorth, a thithau heb wrando, ac y llefaf arnat, "Trais!" a thithau heb waredu?
1:3 Pam y peri imi edrych ar ddrygioni, a gwneud imi weld trallod? Anrhaith a thrais sydd o'm blaen, cynnen a therfysg yn codi.
1:4 Am hynny, â'r gyfraith yn ddi-rym, ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo; yn wir y mae'r drygionus yn amgylchu'r cyfiawn, a daw cyfiawnder allan yn wyrgam.

Ateb yr Arglwydd

1:5 "Edrychwch ymysg y cenhedloedd, a sylwch; rhyfeddwch, a byddwch wedi'ch syfrdanu; oherwydd yn eich dyddiau chwi yr wyf yn gwneud gwaith na choeliech, pe dywedid wrthych.
1:6 Oherwydd wele, yr wyf yn codi'r Caldeaid, y genedl greulon a gwyllt, sy'n ymdaith ledled y ddaear i feddiannu cartrefi nad ydynt yn eiddo iddynt.
1:7 Arswydus ac ofnadwy ydynt, yn dilyn eu rheolau a'u hawdurdod eu hunain.
1:8 Y mae eu meirch yn gyflymach na'r llewpard, yn ddycnach na bleiddiaid yr hwyr, ac yn ysu am fynd. Daw ei farchogion o bell, yn ehedeg fel fwltur yn brysio at ysglyfaeth.
1:9 Dônt i gyd i dreisio, a bydd dychryn o'u blaen; casglant gaethion rif y tywod;
1:10 gwawdiant frenhinoedd a dirmygant arweinwyr; dirmygant bob amddiffynfa, a gosod gwarchae i'w meddiannu.
1:11 Yna rhuthrant heibio fel gwynt — dynion euog, a wnaeth dduw o'u nerth."

Habacuc yn Cwyno Eto

1:12 Onid wyt ti erioed, O ARGLWYDD, fy Nuw sanctaidd na fyddi farw? O ARGLWYDD, ti a'u penododd i farn; O Graig, ti a'u dewisodd i ddwyn cerydd.
1:13 Ti, sydd â'th lygaid yn rhy bur i edrych ar ddrwg, ac na elli oddef camwri, pam y goddefi bobl dwyllodrus, a bod yn ddistaw pan fydd y drygionus yn traflyncu un mwy cyfiawn nag ef ei hun?
1:14 Pam y gwnei bobl fel pysgod y môr, fel ymlusgiaid heb neb i'w rheoli?
1:15 Coda hwy i fyny â bach, bob un ohonynt, a'u dal mewn rhwydau, a'u casglu â llusgrwydau; yna mae'n llawenhau ac yn gorfoleddu,
1:16 yn cyflwyno aberth i'w rhwydau ac yn arogldarthu i'r llusgrwydau, am mai trwyddynt hwy y caiff fyw'n fras a bwyta'n foethus.
1:17 A ydyw felly i wagio'r rhwydau'n ddiddiwedd, a lladd cenhedloedd yn ddidostur?

Yr Arglwydd yn Ateb Eto

2:1 Safaf ar fy nisgwylfa, a chymryd fy safle ar y tŵr; syllaf i weld beth a ddywed wrthyf, a beth fydd ei ateb i'm cwyn.
2:2 Atebodd yr ARGLWYDD fi: "Ysgrifenna'r weledigaeth, a gwna hi'n eglur ar lechen, fel y gellir ei darllen wrth redeg;
2:3 oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser — daw ar frys i'w chyflawni, a heb ball. Yn wir nid oeda; disgwyl amdani, oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu.
2:4 Yr un nad yw ei enaid yn uniawn sy'n ddi-hid, ond bydd y cyfiawn fyw trwy ei ffyddlondeb."

Gwaeau

2:5 Y mae cyfoeth yn dwyllodrus, yn gwneud rhywun yn falch a di-ddal; y mae yntau'n lledu ei safn fel Sheol, ac fel marwolaeth yn anniwall, yn casglu'r holl genhedloedd iddo'i hun ac yn cynnull ato'r holl bobloedd.
2:6 Oni fyddant i gyd yn adrodd dychan yn ei erbyn, ac yn ei watwar yn sbeitlyd a dweud, "Gwae'r sawl sy'n pentyrru'r hyn nad yw'n eiddo iddo, ac yn cadw iddo'i hun wystl y dyledwr."
2:7 Oni chyfyd dy echwynwyr yn sydyn, ac oni ddeffry'r rhai sy'n dy ddychryn, a thithau'n syrthio'n ysglyfaeth iddynt?
2:8 Am i ti dy hun ysbeilio cenhedloedd lawer, bydd gweddill pobloedd y byd yn dy ysbeilio di, o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tir a'r ddinas a'i holl drigolion.
2:9 Gwae'r sawl a gais enillion drygionus i'w feddiant, er mwyn gosod ei nyth yn uchel, a'i waredu ei hun o afael blinder.
2:10 Cynlluniaist warth i'th dŷ dy hun trwy dorri ymaith bobloedd lawer, a pheryglaist dy einioes dy hun.
2:11 Oherwydd gwaedda'r garreg o'r mur, ac etyb trawst o'r gwaith coed.
2:12 Gwae'r sawl sy'n adeiladu dinas trwy waed, ac yn sylfaenu dinas ar anghyfiawnder.
2:13 Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd y daw hyn: fod pobloedd yn llafurio i ddim ond tân, a chenhedloedd yn ymdrechu i ddim o gwbl?
2:14 Oherwydd llenwir y ddaear â gwybodaeth o ogoniant yr ARGLWYDD, fel y mae'r dyfroedd yn llenwi'r môr.
2:15 Gwae'r sawl sy'n gwneud i'w gymydog yfed o gwpan ei lid, ac yn ei feddwi er mwyn cael gweld ei noethni.
2:16 Byddi'n llawn o warth, ac nid o ogoniant. Yf dithau nes y byddi'n simsan. Atat ti y daw cwpan deheulaw'r ARGLWYDD, a bydd dy warth yn fwy na'th ogoniant.
2:17 Bydd y trais a wnaed yn Lebanon yn dy oresgyn, a dinistr yr anifeiliaid yn dy arswydo, o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tir a'r ddinas a'i holl drigolion.
2:18 Pa fudd i'w wneuthurwr yw'r eilun a luniodd? Nid yw ond delw dawdd a dysgwr celwydd. Er bod y gwneuthurwr yn ymddiried yn ei waith, nid yw'n gwneud ond delwau mud.
2:19 Gwae'r sawl a ddywed wrth bren, "Deffro", ac wrth garreg fud, "Ymysgwyd". Y mae wedi ei amgylchu ag aur ac arian, ond nid oes dim anadl ynddo.
2:20 Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd; bydded i'r holl ddaear ymdawelu ger ei fron.

Gweddi Habacuc

3:1 Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar Sigionoth.
3:2 O ARGLWYDD, clywais y sôn amdanat, a gwelais dy waith, O ARGLWYDD. Adnewydda ef yng nghanol y blynyddoedd, datguddia ef yng nghanol y blynyddoedd, ac yn dy lid cofia drugaredd.
3:3 Y mae Duw yn dyfod o Teman, a'r Sanctaidd o Fynydd Paran. Sela. Y mae ei ogoniant yn gorchuddio'r nefoedd, a'i fawl yn llenwi'r ddaear.
3:4 Y mae ei lewyrch fel y wawr, a phelydrau'n fflachio o'i law; ac yno y mae cuddfan ei nerth.
3:5 Â haint allan o'i flaen, a daw pla allan ar ei ôl.
3:6 Pan saif, y mae'r ddaear yn ysgwyd; pan edrycha, gwna i'r cenhedloedd grynu; rhwygir y mynyddoedd hen a siglir y bryniau oesol; llwybrau oesol sydd ganddo.
3:7 Gwelais bebyll Cusan mewn helbul a llenni tir Midian yn crynu.
3:8 A wyt yn ddig wrth y dyfroedd, ARGLWYDD? A yw dy lid yn erbyn yr afonydd, a'th ddicter at y môr? Pan wyt yn marchogaeth dy feirch a'th gerbydau i fuddugoliaeth,
3:9 y mae dy fwa wedi ei ddarparu a'r saethau'n barod i'r llinyn. Sela. Yr wyt yn hollti'r ddaear ag afonydd;
3:10 pan wêl y mynyddoedd di, fe'u dirdynnir. Ysguba'r llifddyfroedd ymlaen; tarana'r dyfnder a chodi ei ddwylo'n uchel.
3:11 Saif yr haul a'r lleuad yn eu lle, rhag fflachiau dy saethau cyflym, rhag llewyrch dy waywffon ddisglair.
3:12 Mewn llid yr wyt yn camu dros y ddaear, ac mewn dicter yn mathru cenhedloedd.
3:13 Ei allan i waredu dy bobl, i waredu dy eneiniog; drylli dŷ'r drygionus i'r llawr, a dinoethi'r sylfaen hyd at y graig. Sela.
3:14 Tryweni â'th waywffyn bennau'r rhyfelwyr a ddaeth fel corwynt i'n gwasgaru, fel rhai'n llawenhau i lyncu'r tlawd yn ddirgel.
3:15 Pan sethri'r môr â'th feirch, y mae'r dyfroedd mawrion yn ymchwyddo.
3:16 Clywais innau, a chynhyrfwyd fy ymysgaroedd, cryna fy ngwefusau gan y sŵn; daw pydredd i'm hesgyrn, a gollwng fy nhraed danaf; disgwyliaf am i'r dydd blin wawrio ar y bobl sy'n ymosod arnom.
3:17 Er nad yw'r ffigysbren yn blodeuo, ac er nad yw'r gwinwydd yn dwyn ffrwyth; er i'r cynhaeaf olew ballu, ac er nad yw'r meysydd yn rhoi bwyd; er i'r praidd ddarfod o'r gorlan, ac er nad oes gwartheg yn y beudai;
3:18 eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD, a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth.
3:19 Yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth; gwna fy nhraed yn ysgafn fel ewig, a phâr imi rodio uchelfannau. I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol.