YR EFENGYL YN ÔL MATHEW

Llinach Iesu Grist, Lc. 3:23-38

1:1 Dyma restr achau Iesu Grist, Mab Dafydd, mab Abraham.
1:2 Yr oedd Abraham yn dad i Isaac, Isaac yn dad i Jacob, a Jacob yn dad i Jwda a'i frodyr.
1:3 Yr oedd Jwda yn dad i Peres a Sera, a Tamar yn fam iddynt; yr oedd Peres yn dad i Hesron, Hesron i Ram,
1:4 Ram i Amminadab, Amminadab i Nahson, Nahson i Salmon;
1:5 yr oedd Salmon yn dad i Boas, a Rahab yn fam iddo, Boas yn dad i Obed, a Ruth yn fam iddo, Obed yn dad i Jesse,
1:6 a Jesse yn dad i'r Brenin Dafydd. Yr oedd Dafydd yn dad i Solomon, a gwraig Ureia yn fam iddo,
1:7 yr oedd Solomon yn dad i Rehoboam, Rehoboam yn dad i Abeia, ac Abeia'n dad i Asa.
1:8 Yr oedd Asa'n dad i Jehosaffat, Jehosaffat i Joram, Joram i Usseia,
1:9 Usseia i Jotham, Jotham i Ahas, Ahas i Heseceia,
1:10 Heseceia i Manasse, Manasse i Amon, ac Amon i Joseia.
1:11 Yr oedd Joseia yn dad i Jechoneia a'i frodyr yng nghyfnod y gaethglud i Fabilon.
1:12 Ar ôl y gaethglud i Fabilon, yr oedd Jechoneia yn dad i Salathiel, Salathiel i Sorobabel,
1:13 Sorobabel i Abiwd, Abiwd i Eliacim, Eliacim i Asor,
1:14 Asor i Sadoc, Sadoc i Achim, Achim i Eliwd,
1:15 Eliwd i Eleasar, Eleasar i Mathan, a Mathan i Jacob.
1:16 Yr oedd Jacob yn dad i Joseff, gŵr Mair, a hi a roddodd enedigaeth i Iesu, a elwid y Meseia.
1:17 Felly, pedair ar ddeg yw cyfanrif y cenedlaethau o Abraham hyd Ddafydd, a phedair ar ddeg o Ddafydd hyd y gaethglud i Fabilon, a phedair ar ddeg hefyd o'r gaethglud i Fabilon hyd y Meseia.

Genedigaeth Iesu Grist, Lc. 2:1-7

1:18 Fel hyn y bu genedigaeth Iesu Grist. Pan oedd Mair ei fam wedi ei dyweddïo i Joseff, cyn iddynt ddod at ei gilydd fe gafwyd ei bod hi'n feichiog o'r Ysbryd Glân.
1:19 A chan ei fod yn ddyn cyfiawn, ond heb ddymuno ei chywilyddio'n gyhoeddus, penderfynodd Joseff, ei gŵr, ei gollwng ymaith yn ddirgel.
1:20 Ond wedi iddo gynllunio felly, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo mewn breuddwyd, a dweud, "Joseff fab Dafydd, paid ag ofni cymryd Mair yn wraig i ti, oherwydd y mae'r hyn a genhedlwyd ynddi yn deillio o'r Ysbryd Glân.
1:21 Bydd yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau."
1:22 A digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd:
1:23  "Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel", hynny yw, o'i gyfieithu, "Y mae Duw gyda ni".
1:24 A phan ddeffrôdd Joseff o'i gwsg, gwnaeth fel yr oedd angel yr Arglwydd wedi gorchymyn, a chymryd Mair yn wraig iddo.
1:25 Ond ni chafodd gyfathrach â hi hyd nes iddi esgor ar fab; a galwodd ef Iesu.

Ymweliad y Seryddion

2:1 Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn nyddiau'r Brenin Herod, daeth seryddion o'r dwyrain i Jerwsalem
2:2 a holi, "Ble mae'r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i'w addoli."
2:3 A phan glywodd y Brenin Herod hyn, cythruddwyd ef, a Jerwsalem i gyd gydag ef.
2:4 Galwodd ynghyd yr holl brif offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, a holi ganddynt ble yr oedd y Meseia i gael ei eni.
2:5 Eu hateb oedd, "Ym Methlehem Jwdea, oherwydd felly yr ysgrifennwyd gan y proffwyd:
2:6 'A thithau Bethlehem yng ngwlad Jwda, nid y lleiaf wyt ti o lawer ymysg tywysogion Jwda, canys ohonot ti y daw allan arweinydd a fydd yn fugail ar fy mhobl Israel.'"
2:7 Yna galwodd Herod y seryddion yn ddirgel ato, a holodd hwy'n fanwl pa bryd yr oedd y seren wedi ymddangos.
2:8 Anfonodd hwy i Fethlehem gan ddweud, "Ewch, a chwiliwch yn fanwl am y plentyn, a phan fyddwch wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd a'i addoli."
2:9 Wedi gwrando ar y brenin aethant ar eu taith, a dyma'r seren a welsent ar ei chyfodiad yn mynd o'u blaen hyd nes iddi ddod ac aros uwchlaw'r man lle'r oedd y plentyn.
2:10 A phan welsant y seren, yr oeddent yn llawen dros ben.
2:11 Daethant i'r tŷ a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a'i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr.
2:12 Yna, ar ôl cael eu rhybuddio mewn breuddwyd i beidio â dychwelyd at Herod, aethant yn ôl i'w gwlad ar hyd ffordd arall.

Ffoi i'r Aifft

2:13 Wedi iddynt ymadael, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, a dweud, "Cod, a chymer y plentyn a'i fam gyda thi, a ffo i'r Aifft, ac aros yno hyd nes y dywedaf wrthyt, oherwydd y mae Herod yn mynd i chwilio am y plentyn er mwyn ei ladd."
2:14 Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a'i fam gydag ef liw nos, ac ymadael i'r Aifft.
2:15 Arhosodd yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd: "O'r Aifft y gelwais fy mab."

Lladd y Bechgyn

2:16 Yna, pan ddeallodd Herod iddo gael ei dwyllo gan y seryddion, aeth yn gynddeiriog, a rhoddodd orchymyn i ladd pob bachgen ym Methlehem a'r holl gyffiniau oedd yn ddwyflwydd oed neu lai, gan gyfrif o'r amser yr holodd ef y seryddion.
2:17 Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd:
2:18 "Clywyd llef yn Rama, wylofain a galaru dwys; Rachel yn wylo am ei phlant, ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddent mwy."

Dychwelyd o'r Aifft

2:19 Ar ôl i Herod farw, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Joseff yn yr Aifft,
2:20 gan ddweud, "Cod, a chymer y plentyn a'i fam gyda thi, a dos i wlad Israel, oherwydd bu farw y rhai oedd yn ceisio bywyd y plentyn."
2:21 Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a'i fam gydag ef, a mynd i wlad Israel.
2:22 Ond wedi clywed bod Archelaus yn teyrnasu dros Jwdea yn lle ei dad Herod, daeth ofn ar Joseff fynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd, ac ymadawodd i barthau Galilea,
2:23 ac ymsefydlodd mewn tref a elwid Nasareth, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwydi: "Gelwir ef yn Nasaread."
3:1 Yn y dyddiau hynny daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu'r genadwri hon yn anialwch Jwdea:Pregethu Ioan Fedyddiwr, Mc. 1:1-8; Lc. 3:1-9, 15-17; In. 1:19-28 3:2 "Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos."
3:3 Dyma'r hwn y soniwyd amdano gan y proffwyd Eseia pan ddywedodd: "Llais un yn galw yn yr anialwch, 'Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo.'"
3:4 Yr oedd dillad Ioan o flew camel, a gwregys o groen am ei ganol, a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.
3:5 Yr oedd trigolion Jerwsalem a Jwdea i gyd, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen,
3:6 yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
3:7 A phan welodd Ioan lawer o'r Phariseaid a'r Sadwceaid yn dod i'w bedyddio ganddo, dywedodd wrthynt: "Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod?
3:8 Dygwch ffrwyth gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch.
3:9 A pheidiwch â meddwl dweud wrthych eich hunain, 'Y mae gennym Abraham yn dad', oherwydd 'rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn.
3:10 Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.
3:11 Yr wyf fi yn eich bedyddio â dŵr i edifeirwch; ond y mae'r hwn sydd yn dod ar f'ôl i yn gryfach na mi, un nad wyf fi'n deilwng i gario'i sandalau. Bydd ef yn eich bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân.
3:12 Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, a bydd yn nithio'n lân yr hyn a ddyrnwyd, ac yn casglu ei rawn i'r ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw â thân anniffoddadwy."

Bedydd Iesu, Mc. 1:9-11; Lc. 3:21-22

3:13 Yna daeth Iesu o Galilea i'r Iorddonen at Ioan i'w fedyddio ganddo.
3:14 Ceisiodd Ioan ei rwystro, gan ddweud, "Myfi sydd ag angen fy medyddio gennyt ti, ac a wyt ti yn dod ataf fi?"
3:15 Meddai Iesu wrtho, "Gad i hyn fod yn awr, oherwydd fel hyn y mae'n weddus i ni gyflawni popeth y mae cyfiawnder yn ei ofyn." Yna gadodd Ioan iddo ddod.
3:16 Bedyddiwyd Iesu, ac yna, pan gododd allan o'r dŵr, dyma'r nefoedd yn agor iddo, a gwelodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen ac yn dod arno.
3:17 A dyma lais o'r nefoedd yn dweud, "Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu."

Temtiad Iesu, Mc. 1:12-13; Lc. 4:1-13

4:1 Yna arweiniwyd Iesu i'r anialwch gan yr Ysbryd, i gael ei demtio gan y diafol.
4:2 Wedi iddo ymprydio am ddeugain dydd a deugain nos daeth arno eisiau bwyd.
4:3 A daeth y temtiwr a dweud wrtho, "Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y cerrig hyn am droi'n fara."
4:4 Ond atebodd Iesu ef, "Y mae'n ysgrifenedig: 'Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw, ond ar bob gair sy'n dod allan o enau Duw.'"
4:5 Yna cymerodd y diafol ef i'r ddinas sanctaidd, a'i osod ar dŵr uchaf y deml,
4:6 a dweud wrtho, "Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; oherwydd y mae'n ysgrifenedig: 'Rhydd orchymyn i'w angylion amdanat; byddant yn dy godi ar eu dwylo rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.'"
4:7 Dywedodd Iesu wrtho, "Y mae'n ysgrifenedig drachefn: 'Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.'"
4:8 Unwaith eto cymerodd y diafol ef i fynydd uchel iawn, a dangos iddo holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant,
4:9 a dweud wrtho, "Y rhain i gyd a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i."
4:10 Yna dywedodd Iesu wrtho, "Dos ymaith, Satan; oherwydd y mae'n ysgrifenedig: 'Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.'"
4:11 Yna gadawodd y diafol ef, a daeth angylion a gweini arno.

Dechrau'r Weinidogaeth yng Ngalilea, Mc. 1:14-15; Lc. 4:14-15

4:12 Ar ôl iddo glywed bod Ioan wedi ei garcharu, aeth Iesu ymaith i Galilea.
4:13 A chan adael Nasareth aeth i fyw i Gapernaum, tref ar lan y môr yng nghyffiniau Sabulon a Nafftali,
4:14 fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:
4:15 "Gwlad Sabulon a gwlad Nafftali, ar y ffordd i'r môr, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd;
4:16 y bobl oedd yn trigo mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr, ac ar drigolion tir cysgod angau y gwawriodd goleuni."
4:17 O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu bregethu'r genadwri hon: "Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos."

Galw Pedwar Pysgotwr, Mc. 1:16-20; Lc. 5:1-11

4:18 Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu ddau frawd, Simon, a elwid Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; pysgotwyr oeddent.
4:19 A dywedodd wrthynt, "Dewch ar fy ôl i, ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion."
4:20 Gadawsant eu rhwydau ar unwaith a'i ganlyn ef.
4:21 Ac wedi iddo fynd ymlaen oddi yno gwelodd ddau frawd arall, Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd, yn y cwch gyda Sebedeus eu tad yn cyweirio eu rhwydau. Galwodd hwythau,
4:22 ac ar unwaith, gan adael y cwch a'u tad, canlynasant ef.

Gweinidogaethu i Dyrfa Fawr Lc. 6:17-19

4:23 Yr oedd yn mynd o amgylch Galilea gyfan, dan ddysgu yn eu synagogau hwy a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob afiechyd a phob llesgedd ymhlith y bobl.
4:24 Aeth y sôn amdano trwy Syria gyfan; dygasant ato yr holl gleifion oedd yn dioddef dan amrywiol afiechydon, y rhai oedd yn cael eu llethu gan boenau, y rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, y rhai'n dioddef o ffitiau, a'r rhai oedd wedi eu parlysu; ac fe iachaodd ef hwy.
4:25 A dilynwyd ef gan dyrfaoedd mawr o Galilea a'r Decapolis, a Jerwsalem a Jwdea, a'r tu hwnt i'r Iorddonen.

Y Bregeth ar y Mynydd, Mth. 5—7

5:1 Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny'r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato.
5:2 Dechreuodd eu hannerch a'u dysgu fel hyn:

Y Gwynfydau, Lc. 6:20-23

5:3 "Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
5:4 Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro.
5:5 Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear.
5:6 Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd cânt hwy eu digon.
5:7 Gwyn eu byd y rhai trugarog, oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd.
5:8 Gwyn eu byd y rhai pur eu calon, oherwydd cânt hwy weld Duw.
5:9 Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw'n blant i Dduw.
5:10 Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
5:11 Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a'ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o'm hachos i.
5:12 Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o'ch blaen chwi.

Halen a Goleuni, Mc. 9:50; Lc. 4:34-35

5:13 "Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei flas, â pha beth yr helltir ef? Nid yw'n dda i ddim bellach ond i'w luchio allan a'i sathru dan draed pobl.
5:14 Chwi yw goleuni'r byd. Ni ellir cuddio dinas a osodir ar fryn.
5:15 Ac nid oes neb yn goleuo cannwyll a'i rhoi dan lestr, ond yn hytrach ar ganhwyllbren, a bydd yn rhoi golau i bawb sydd yn y tŷ.
5:16 Felly boed i'ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.

Dysgeidiaeth ar y Gyfraith

5:17 "Peidiwch â thybio i mi ddod i ddileu'r Gyfraith na'r proffwydi; ni ddeuthum i ddileu ond i gyflawni.
5:18 Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, hyd nes i nef a daear ddarfod, ni dderfydd yr un llythyren na'r un manylyn lleiaf o'r Gyfraith nes i'r cwbl ddigwydd.
5:19 Am hynny pwy bynnag fydd yn dirymu un o'r gorchmynion lleiaf hyn ac yn dysgu i eraill wneud felly, gelwir ef y lleiaf yn nheyrnas nefoedd. Ond pwy bynnag a'i ceidw ac a'i dysg i eraill, gelwir hwnnw'n fawr yn nheyrnas nefoedd.
5:20 'Rwy'n dweud wrthych, oni fydd eich cyfiawnder chwi yn rhagori llawer ar eiddo'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch byth i mewn i deyrnas nefoedd.

Dysgeidiaeth ar Ddicter

5:21 "Clywsoch fel y dywedwyd wrth y rhai gynt, 'Na ladd; pwy bynnag sy'n lladd, bydd yn atebol i farn.'
5:22 Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych y bydd pob un sy'n ddig wrth ei frawd yn atebol i farn. Pwy bynnag sy'n sarhau ei frawd, bydd yn atebol i'r llys, a phwy bynnag sy'n dweud wrtho, 'Y ffŵl', bydd yn ateb am hynny yn nhân uffern.
5:23 Felly os wyt yn cyflwyno dy offrwm wrth yr allor, ac yno'n cofio bod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn,
5:24 gad dy offrwm yno o flaen yr allor, a dos ymaith; myn gymod yn gyntaf â'th frawd, ac yna tyrd a chyflwyno dy offrwm.
5:25 Os bydd rhywun yn dy gymryd i'r llys, bydd barod i ddod i gytundeb buan tra byddwch ar y ffordd yno, rhag i'th wrthwynebydd dy draddodi i'r barnwr, ac i'r barnwr dy roi i'r swyddog, ac i ti gael dy fwrw i garchar.
5:26 Yn wir, 'rwy'n dweud wrthyt, ni ddoi di byth allan oddi yno cyn talu'n ôl y geiniog olaf.

Dysgeidiaeth ar Odineb

5:27 "Clywsoch fel y dywedwyd, 'Na odineba.'
5:28 Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n edrych mewn blys ar wraig eisoes wedi cyflawni godineb â hi yn ei galon.
5:29 Os yw dy lygad de yn achos cwymp iti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn cael ei daflu i uffern.
5:30 Ac os yw dy law dde yn achos cwymp iti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn mynd i uffern.

Dysgeidiaeth ar Ysgariad, Mth. 19:9; Mc. 10:11-12; Lc. 16:18

5:31 "Dywedwyd hefyd, 'Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, rhodded iddi lythyr ysgar.'
5:32 Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n ysgaru ei wraig, ar wahân i achos o anffyddlondeb, yn peri iddi hi odinebu, ac y mae'r sawl sy'n priodi gwraig a ysgarwyd yn godinebu.

Dysgeidiaeth ar Lwon

5:33 "Clywsoch hefyd fel y dywedwyd wrth y rhai gynt, 'Na thynga lw twyllodrus', a 'Rhaid iti gadw pob llw a roist i'r Arglwydd.'
5:34 Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch â thyngu llw o gwbl; nac i'r nef, gan mai gorsedd Duw ydyw;
5:35 nac i'r ddaear, gan mai ei droedfainc ef ydyw; nac i Jerwsalem, gan mai dinas y Brenin mawr ydyw.
5:36 Paid â thyngu chwaith i'th ben, oherwydd ni elli wneud un blewyn yn wyn nac yn ddu.
5:37 Ond boed eich 'ie' yn 'ie', a'ch 'nage' yn 'nage'; beth bynnag sy'n ychwanegol at hyn o'r Un drwg y mae.

Dysgeidiaeth ar Ddial, Lc. 6:29-30

5:38 "Clywsoch fel y dywedwyd, 'Llygad am lygad, a dant am ddant.'
5:39 Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch â gwrthsefyll y sawl sy'n gwneud drwg i chwi. Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro'r llall ato hefyd.
5:40 Ac os bydd rhywun am fynd â thi i gyfraith a chymryd dy grys, gad iddo gael dy fantell hefyd.
5:41 Ac os bydd rhywun yn dy orfodi i'w ddanfon am un cilomedr, dos gydag ef ddwy.
5:42 Rho i'r sawl sy'n gofyn gennyt, a phaid â throi i ffwrdd oddi wrth y sawl sydd am fenthyca gennyt.

Caru Gelynion, Lc. 6:27-28, 32-36

5:43 "Clywsoch fel y dywedwyd, 'Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.'
5:44 Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych: carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid;
5:45 felly fe fyddwch yn blant i'ch Tad sydd yn y nefoedd, oherwydd y mae ef yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r cyfiawn a'r anghyfiawn.
5:46 Os carwch y rhai sy'n eich caru chwi, pa wobr sydd i chwi? Onid yw hyd yn oed y casglwyr trethi yn gwneud cymaint â hynny?
5:47 Ac os cyfarchwch eich cydnabod yn unig, pa ragoriaeth sydd yn hynny? Onid yw'r Cenhedloedd hyd yn oed yn gwneud cymaint â hynny?
5:48 Felly byddwch chwi'n berffaith fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.

Dysgeidiaeth ar Elusennau

6:1 "Cymerwch ofal i beidio â chyflawni eich dyletswyddau crefyddol o flaen eraill, er mwyn cael eich gweld ganddynt; os gwnewch, nid oes gwobr i chwi gan eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
6:2 "Felly, pan fyddi'n rhoi elusen, paid â chanu utgorn o'th flaen, fel y mae'r rhagrithwyr yn gwneud yn y synagogau ac yn yr heolydd, er mwyn cael eu canmol gan eraill. Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes.
6:3 Ond pan fyddi di'n rhoi elusen, paid â gadael i'th law chwith wybod beth y mae dy law dde yn ei wneud.
6:4 Felly bydd dy elusen di yn y dirgel, a bydd dy Dad, sydd yn gweld yn y dirgel, yn dy wobrwyo.

Dysgeidiaeth ar Weddi, Lc. 11:2-4

6:5 "A phan fyddwch yn gweddïo, peidiwch â bod fel y rhagrithwyr; oherwydd y maent hwy'n hoffi gweddïo ar eu sefyll yn y synagogau ac ar gonglau'r heolydd, er mwyn cael eu gweld gan eraill. Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes.
6:6 Ond pan fyddi di'n gweddïo, dos i mewn i'th ystafell, ac wedi cau dy ddrws gweddïa ar dy Dad sydd yn y dirgel, a bydd dy Dad sydd yn gweld yn y dirgel yn dy wobrwyo.
6:7 Ac wrth weddïo, peidiwch â phentyrru geiriau fel y mae'r Cenhedloedd yn gwneud; y maent hwy'n tybied y cânt eu gwrando am eu haml eiriau.
6:8 Peidiwch felly â bod yn debyg iddynt hwy, oherwydd y mae eich Tad yn gwybod cyn i chwi ofyn iddo beth yw eich anghenion.
6:9 Felly, gweddïwch chwi fel hyn: 'Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw;
6:10 deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef.
6:11 Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol;
6:12 a maddau inni ein troseddau, fel yr ŷm ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
6:13 a phaid â'n dwyn i brawf, ond gwared ni rhag yr Un drwg.'
6:14 Oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi.
6:15 Ond os na faddeuwch i eraill eu camweddau, ni fydd eich Tad chwaith yn maddau eich camweddau chwi.

Dysgeidiaeth ar Ymprydio

6:16 "A phan fyddwch yn ymprydio, peidiwch â bod yn wynepdrist fel y rhagrithwyr; y maent hwy'n anffurfio eu hwynebau er mwyn i eraill gael gweld eu bod yn ymprydio. Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes.
6:17 Ond pan fyddi di'n ymprydio, eneinia dy ben a golch dy wyneb,
6:18 fel nad pobl a gaiff weld dy fod yn ymprydio, ond yn hytrach dy Dad sydd yn y dirgel; a bydd dy Dad, sydd yn gweld yn y dirgel, yn dy wobrwyo.

Trysor yn y Nef, Lc. 12:33-34

6:19 "Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata.
6:20 Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata.
6:21 Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon.

Goleuni'r Corff, Lc. 11:34-36

6:22 "Y llygad yw cannwyll y corff; felly os bydd dy lygad yn hael, bydd dy gorff yn llawn goleuni.
6:23 Ond os bydd dy lygad yn drachwantus, bydd dy gorff yn llawn tywyllwch. Ac os yw'r goleuni sydd ynot yn dywyllwch, mor fawr yw'r tywyllwch!

Duw a Mamon, Lc. 16:13

6:24 "Ni all neb wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casáu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon.

Gofal a Phryder Lc. 12:22-34

6:25 "Am hynny 'rwy'n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd, beth i'w fwyta na'i yfed, nac am eich corff, beth i'w wisgo; onid oes mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad?
6:26 Edrychwch ar adar yr awyr: nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu bwydo. Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy?
6:27 Prun ohonoch a all ychwanegu un funud at ei oes trwy bryderu?
6:28 A pham yr ydych yn pryderu am ddillad? Ystyriwch lili'r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu.
6:29 Ond 'rwy'n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i'w chymharu ag un o'r rhain.
6:30 Os yw Duw yn dilladu felly laswellt y maes, sydd yno heddiw ac yfory yn cael ei daflu i'r ffwrn, onid llawer mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd?
6:31 Peidiwch felly â phryderu a dweud, 'Beth yr ydym i'w fwyta?' neu 'Beth yr ydym i'w yfed?' neu 'Beth yr ydym i'w wisgo?'
6:32 Dyna'r holl bethau y mae'r Cenhedloedd yn eu ceisio; y mae eich Tad nefol yn gwybod fod arnoch angen y rhain i gyd.
6:33 Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi.
6:34 Peidiwch felly â phryderu am yfory, oherwydd bydd gan yfory ei bryder ei hun. Digon i'r diwrnod ei drafferth ei hun.

Barnu Eraill, Lc. 6:37-38, 41-42

7:1 "Peidiwch â barnu, rhag ichwi gael eich barnu;
7:2 oherwydd fel y byddwch chwi'n barnu y cewch chwithau eich barnu, ac â'r mesur a rowch y rhoir i chwithau.
7:3 Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun?
7:4 Neu sut y dywedi wrth dy gyfaill, 'Gad imi dynnu allan y brycheuyn o'th lygad di', a dyna drawst yn dy lygad dy hun?
7:5 Ragrithiwr, yn gyntaf tyn y trawst allan o'th lygad dy hun, ac yna fe weli yn ddigon eglur i dynnu'r brycheuyn o lygad dy gyfaill.
7:6 Peidiwch â rhoi'r hyn sy'n sanctaidd i'r cŵn, na thaflu eich perlau o flaen y moch, rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi arnoch a'ch rhwygo.

Gofynnwch, Chwiliwch, Curwch, Lc. 11:9-13

7:7 "Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.
7:8 Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws.
7:9 Pwy ohonoch, os bydd ei blentyn yn gofyn am fara, a rydd iddo garreg?
7:10 Neu os bydd yn gofyn am bysgodyn, a rydd iddo sarff?
7:11 Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y nefoedd bethau da i'r rhai sy'n gofyn ganddo!
7:12 Pa beth bynnag y dymunwch i eraill ei wneud i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; hyn yw'r Gyfraith a'r proffwydi.

Y Porth Cyfyng, Lc. 13:24

7:13 "Ewch i mewn trwy'r porth cyfyng; oherwydd llydan yw'r porth ac eang yw'r ffordd sy'n arwain i ddistryw, a llawer yw'r rhai sy'n mynd ar hyd-ddi.
7:14 Ond cyfyng yw'r porth a chul yw'r ffordd sy'n arwain i fywyd, ac ychydig yw'r rhai sy'n ei chael.

Adnabod Coeden wrth ei Ffrwyth, Lc. 6:43-44

7:15 "Gochelwch rhag gau-broffwydi, sy'n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o'u mewn yn fleiddiaid rheibus.
7:16 Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy. Ai oddi ar ddrain y mae casglu grawnwin neu oddi ar ysgall ffigys?
7:17 Felly y mae pob coeden dda yn dwyn ffrwyth da, a choeden wael yn dwyn ffrwyth drwg.
7:18 Ni all coeden dda ddwyn ffrwyth drwg, na choeden wael ffrwyth da.
7:19 Y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.
7:20 Felly, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy.

Nid Adnabûm Erioed Mohonoch, Lc. 13:25-27

7:21 "Nid pawb sy'n dweud wrthyf, 'Arglwydd, Arglwydd', fydd yn mynd i mewn i deyrnas nefoedd, ond y sawl sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
7:22 Bydd llawer yn dweud wrthyf yn y dydd hwnnw, 'Arglwydd, Arglwydd, oni fuom yn proffwydo yn dy enw di, ac yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn dy enw di yn cyflawni gwyrthiau lawer?'
7:23 Ac yna dywedaf wrthynt yn eu hwynebau, 'Nid adnabûm erioed mohonoch; ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr.'

Y Ddwy Sylfaen, Lc. 6:47-49

7:24 "Pob un felly sy'n gwrando ar y geiriau hyn o'r eiddof ac yn eu gwneud, fe'i cyffelybir i un call, a adeiladodd ei dŷ ar y graig.
7:25 Disgynnodd y glaw a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a tharo yn erbyn y tŷ hwnnw, ond ni syrthiodd, am ei fod wedi ei sylfaenu ar y graig.
7:26 A phob un sy'n gwrando ar y geiriau hyn o'r eiddof a heb eu gwneud, fe'i cyffelybir i un ffôl, a adeiladodd ei dŷ ar y tywod.
7:27 A disgynnodd y glaw a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a tharo yn erbyn y tŷ hwnnw, ac fe syrthiodd, a dirfawr oedd ei gwymp."
7:28 Pan orffennodd Iesu lefaru'r geiriau hyn, synnodd y tyrfaoedd at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu;
7:29 oherwydd yr oedd yn eu dysgu fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel eu hysgrifenyddion.

Glanhau Dyn Gwahanglwyfus, Mc. 1:40-45; Lc. 5:12-16

8:1 Wedi iddo ddod i lawr o'r mynydd dilynodd tyrfaoedd mawr ef.
8:2 A dyma ddyn gwahanglwyfus yn dod ato ac yn syrthio o'i flaen a dweud, "Syr, os mynni, gelli fy nglanhau."
8:3 Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, "Yr wyf yn mynnu, glanhaer di." Ac ar unwaith glanhawyd ei wahanglwyf.
8:4 Meddai Iesu wrtho, "Gwylia na ddywedi wrth neb, ond dos a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma'r rhodd a orchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus."

Iacháu Gwas Canwriad, Lc. 7:1-10; In. 4:43-54

8:5 Ar ôl iddo fynd i mewn i Gapernaum daeth canwriad ato ac erfyn arno:
8:6 "Syr, y mae fy ngwas yn gorwedd yn y tŷ wedi ei barlysu, mewn poenau enbyd."
8:7 Dywedodd Iesu wrtho, "Fe ddof fi i'w iacháu."
8:8 Atebodd y canwriad, "Syr, nid wyf yn deilwng i ti ddod dan fy nho; ond dywed air yn unig, a chaiff fy ngwas ei iacháu.
8:9 Oherwydd dyn sydd dan awdurdod wyf finnau, a chennyf filwyr danaf; byddaf yn dweud wrth hwn, 'Dos', ac fe â, ac wrth un arall, 'Tyrd', ac fe ddaw, ac wrth fy ngwas, 'Gwna hyn', ac fe'i gwna."
8:10 Pan glywodd Iesu hyn, fe ryfeddodd, a dywedodd wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ni chefais gan neb yn Israel ffydd mor fawr.
8:11 'Rwy'n dweud wrthych y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin a chymryd eu lle yn y wledd gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd.
8:12 Ond caiff plant y deyrnas eu bwrw allan i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd."
8:13 A dywedodd Iesu wrth y canwriad, "Dos ymaith; boed iti fel y credaist." Ac fe iachawyd ei was y munud hwnnw.

Iacháu Llawer, Mc. 1:29-34; Lc. 4:38-41

8:14 Pan ddaeth i dŷ Pedr, gwelodd Iesu ei fam-yng-nghyfraith ef yn gorwedd yn wael dan dwymyn.
8:15 Fe gyffyrddodd â'i llaw, a gadawodd y dwymyn hi, ac fe gododd a dechrau gweini arno.
8:16 Gyda'r nos daethant â llawer oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid ato, ac fe fwriodd allan yr ysbrydion â'i air, ac iacháu pawb oedd yn glaf;
8:17 fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd: "Ef a gymerodd ein gwendidau ac a ddug ymaith ein clefydau."

Rhai yn Dymuno Canlyn Iesu, Lc. 9:57-62

8:18 Pan welodd Iesu dyrfa o'i amgylch, rhoddodd orchymyn i groesi i'r ochr draw.
8:19 Daeth un o'r ysgrifenyddion a dweud wrtho, "Athro, canlynaf di lle bynnag yr ei."
8:20 Meddai Iesu wrtho, "Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr."
8:21 Dywedodd un arall o'i ddisgyblion wrtho, "Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad."

Gostegu Storm, Mc. 4:35-41; Lc. 8:22-25

8:22 Ond meddai Iesu wrtho, "Canlyn fi, a gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain."
Iacháu'r Dynion oedd ym meddiant Cythreuliaid yn Gadara Mc. 5:1-20; Lc. 8:26-39 8:23 Aeth Iesu i mewn i'r cwch, a chanlynodd ei ddisgyblion ef.
8:24 A dyma storm fawr yn codi ar y môr, nes bod y cwch yn cael ei guddio gan y tonnau; ond yr oedd ef yn cysgu.
8:25 Daethant ato a'i ddeffro a dweud, "Arglwydd, achub ni, y mae ar ben arnom."
8:26 A dywedodd wrthynt, "Pam y mae arnoch ofn, chwi o ychydig ffydd?" Yna cododd a cheryddodd y gwyntoedd a'r môr, a bu tawelwch mawr.
8:27 Synnodd y bobl a dweud, "Pa fath ddyn yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r môr yn ufuddhau iddo."

Iacháu'r Dynion oedd ym meddiant Cythreuliaid yn Gadara, Mc. 5:1-20; Lc. 8:26-39

8:28 Wedi iddo fynd i'r ochr draw, i wlad y Gadareniaid, daeth i'w gyfarfod ddau ddyn oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, yn dod allan o blith y beddau; yr oeddent mor ffyrnig fel na allai neb fynd heibio'r ffordd honno.
8:29 A dyma hwy'n gweiddi, "Beth sydd a fynni di â ni, Fab Duw? A ddaethost yma cyn yr amser i'n poenydio ni?"
8:30 Cryn bellter oddi wrthynt yr oedd cenfaint fawr o foch yn pori.
8:31 Ymbiliodd y cythreuliaid arno, "Os wyt yn ein bwrw ni allan, anfon ni i'r genfaint moch."
8:32 Meddai ef wrthynt, "Ewch." Ac fe aethant allan o'r dynion a mynd i mewn i'r moch. A dyma'r genfaint i gyd yn rhuthro dros y dibyn i'r môr, a threngi yn y dyfroedd.
8:33 Ffodd eu bugeiliaid, a mynd am y dref i adrodd yr holl hanes, a'r hyn oedd wedi digwydd i'r dynion a fu ym meddiant cythreuliaid.
8:34 A dyma'r holl dref yn mynd allan i gyfarfod â Iesu, ac wedi ei weld yn erfyn arno symud o'u gororau.

Iacháu Dyn wedi ei Barlysu, Mc. 2:1-12; Lc. 5:17-26

9:1 Aeth Iesu i mewn i gwch a chroesi'r môr a dod i'w dref ei hun.
9:2 A dyma hwy'n dod â dyn wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar wely. Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, "Cod dy galon, fy mab; maddeuwyd dy bechodau."
9:3 A dyma rai o'r ysgrifenyddion yn dweud ynddynt eu hunain, "Y mae hwn yn cablu."
9:4 Deallodd Iesu eu meddyliau ac meddai, "Pam yr ydych yn meddwl pethau drwg yn eich calonnau?
9:5 Oherwydd prun sydd hawsaf, ai dweud, 'Maddeuwyd dy bechodau', ai ynteu dweud, 'Cod a cherdda'?
9:6 Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear" — yna meddai wrth y claf, "Cod, a chymer dy wely a dos adref."
9:7 A chododd ac aeth ymaith i'w gartref.
9:8 Pan welodd y tyrfaoedd hyn daeth ofn arnynt a rhoesant ogoniant i Dduw, yr hwn a roddodd y fath awdurdod i ddynion.

Galw Mathew, Mc. 2:13-17; Lc. 5:27-32

9:9 Wrth fynd heibio oddi yno gwelodd Iesu ddyn a elwid Mathew yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, "Canlyn fi." Cododd yntau a chanlynodd ef.
9:10 Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei dŷ, a dyma lawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn dod a chydfwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion.
9:11 A phan welodd y Phariseaid, dywedasant wrth ei ddisgyblion, "Pam y mae eich athro yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?"
9:12 Clywodd Iesu, a dywedodd, "Nid ar y cryfion ond ar y cleifion y mae angen meddyg.
9:13 Ond ewch a dysgwch beth yw ystyr hyn, 'Trugaredd a ddymunaf, nid aberth'. Oherwydd i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod."

Holi ynglŷn ag Ymprydio, Mc. 2:18-22; Lc. 5:33-39

9:14 Yna daeth disgyblion Ioan ato a dweud, "Pam yr ydym ni a'r Phariseaid yn ymprydio llawer, ond dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?"
9:15 Dywedodd Iesu wrthynt, "A all gwesteion priodas alaru cyhyd ag y mae'r priodfab gyda hwy? Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant.
9:16 Ni fydd neb yn gwnïo clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; oherwydd fe dyn y clwt wrth y dilledyn, ac fe â'r rhwyg yn waeth.
9:17 Ni fydd pobl chwaith yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwnânt, fe rwygir y crwyn, fe gollir y gwin a difethir y crwyn. Ond byddant yn tywallt gwin newydd i grwyn newydd, ac fe gedwir y ddau."

Merch y Llywodraethwr, a'r Wraig a Gyffyrddodd â Mantell Iesu, Mc. 5:21-43; Lc. 8:40-56

9:18 Tra oedd ef yn siarad fel hyn â hwy, dyma ryw lywodraethwr yn dod ato ac ymgrymu iddo a dweud, "Y mae fy merch newydd farw; ond tyrd a rho dy law arni, ac fe fydd fyw."
9:19 A chododd Iesu a dilynodd ef gyda'i ddisgyblion.
9:20 A dyma wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd yn dod ato o'r tu ôl ac yn cyffwrdd ag ymyl ei fantell.
9:21 Oherwydd yr oedd hi wedi dweud ynddi ei hun, "Dim ond imi gyffwrdd â'i fantell, fe gaf fy iacháu."
9:22 A throes Iesu, a gwelodd hi, ac meddai, "Cod dy galon, fy merch; y mae dy ffydd wedi dy iacháu di." Ac iachawyd y wraig o'r munud hwnnw.
9:23 Pan ddaeth Iesu i dŷ'r llywodraethwr, a gweld y pibyddion a'r dyrfa mewn cynnwrf,
9:24 dywedodd, "Ewch ymaith, oherwydd nid yw'r eneth wedi marw; cysgu y mae." Dechreusant chwerthin am ei ben.
9:25 Ac wedi i'r dyrfa gael ei gyrru allan, aeth ef i mewn a gafael yn ei llaw, a chododd yr eneth.
9:26 Ac aeth yr hanes am hyn allan i'r holl ardal honno.

Iacháu Dau Ddyn Dall

9:27 Wrth i Iesu fynd oddi yno dilynodd dau ddyn dall ef gan weiddi, "Trugarha wrthym ni, Fab Dafydd."
9:28 Wedi iddo ddod i'r tŷ daeth y deillion ato, a gofynnodd Iesu iddynt, "A ydych yn credu y gallaf wneud hyn?" Dywedasant wrtho, "Ydym, syr."
9:29 Yna cyffyrddodd â'u llygaid a dweud, "Yn ôl eich ffydd boed i chwi."
9:30 Agorwyd eu llygaid, a rhybuddiodd Iesu hwy yn llym, "Gofalwch na chaiff neb wybod."
9:31 Ond aethant allan a thaenu'r hanes amdano yn yr holl ardal honno.

Iacháu Dyn Mud

9:32 Fel yr oeddent yn mynd ymaith, dyma rywrai'n dwyn ato ddyn mud wedi ei feddiannu gan gythraul.
9:33 Wedi i'r cythraul gael ei fwrw allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y tyrfaoedd gan ddweud, "Ni welwyd erioed y fath beth yn Israel."
9:34 Ond dywedodd y Phariseaid, "Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid."

Tosturi Iesu

9:35 Yr oedd Iesu'n mynd o amgylch yr holl drefi a'r pentrefi, dan ddysgu yn eu synagogau hwy, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob afiechyd a phob llesgedd.
9:36 A phan welodd ef y tyrfaoedd tosturiodd wrthynt am eu bod yn flinderus a diymadferth fel defaid heb fugail.
9:37 Yna meddai wrth ei ddisgyblion, "Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin;
9:38 deisyfwch felly ar Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i'w gynhaeaf."

Cenhadaeth y Deuddeg, Mc. 3:13-19; Lc. 6:12-16

10:1 Wedi galw ato ei ddeuddeg disgybl rhoddodd Iesu iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan, i'w bwrw allan, ac i iacháu pob afiechyd a phob llesgedd.
10:2 A dyma enwau'r deuddeg apostol: yn gyntaf Simon, a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd,
10:3 Philip a Bartholomeus, Thomas a Mathew'r casglwr trethi, Iago fab Alffeus, a Thadeus,
10:4 Simon y Selot, a Jwdas Iscariot, yr un a'i bradychodd ef.

Rhoi Comisiwn i'r Deuddeg, Mc. 6:7-13; Lc. 9:1-6

10:5 Y deuddeg hyn a anfonodd Iesu allan wedi rhoi'r gorchmynion yma iddynt: "Peidiwch â mynd i gyfeiriad y Cenhedloedd, a pheidiwch â mynd i mewn i un o drefi'r Samariaid.
10:6 Ewch yn hytrach at ddefaid colledig tŷ Israel.
10:7 Ac wrth fynd cyhoeddwch y genadwri: 'Y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.'
10:8 Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanhewch y gwahanglwyfus, bwriwch allan gythreuliaid; derbyniasoch heb dâl, rhowch heb dâl.
10:9 Peidiwch â chymryd aur nac arian na phres yn eich gwregys,
10:10 na chod i'r daith nac ail grys na sandalau na ffon. Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei fwyd.
10:11 I ba dref neu bentref bynnag yr ewch, holwch pwy sy'n deilwng yno, ac arhoswch yno hyd nes y byddwch yn ymadael â'r ardal.
10:12 A phan fyddwch yn mynd i mewn i dŷ, cyfarchwch y tŷ.
10:13 Ac os bydd y tŷ yn deilwng, doed eich tangnefedd arno. Ond os na fydd y tŷ yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch.
10:14 Ac os bydd rhywun yn gwrthod eich derbyn a gwrthod gwrando ar eich geiriau, ewch allan o'r tŷ hwnnw neu'r dref honno ac ysgydwch y llwch oddi ar eich traed.
10:15 Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych y caiff tir Sodom a Gomorra lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na'r dref honno.

Erledigaethau i Ddod, Mc. 6:7-13; Lc. 21:12-17

10:16 "Dyma fi yn eich anfon allan fel defaid i blith bleiddiaid; felly byddwch yn gall fel seirff ac yn ddiniwed fel colomennod.
10:17 Gochelwch rhag pobl; oherwydd fe'ch traddodant chwi i lysoedd, ac fe'ch fflangellant yn eu synagogau.
10:18 Cewch eich dwyn o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd o'm hachos i, i ddwyn tystiolaeth iddynt ac i'r Cenhedloedd.
10:19 Pan draddodant chwi, peidiwch â phryderu pa fodd na pha beth i lefaru, oherwydd fe roddir i chwi y pryd hwnnw eiriau i'w llefaru.
10:20 Nid chwi sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad sy'n llefaru ynoch chwi.
10:21 Bradycha brawd ei frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a chyfyd plant yn erbyn eu rhieni a pheri eu lladd.
10:22 A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.
10:23 Pan erlidiant chwi mewn un dref, ffowch i un arall. Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ni fyddwch wedi cwblhau trefi Israel cyn dyfod Mab y Dyn.
10:24 "Nid yw disgybl yn well na'i athro na gwas yn well na'i feistr.
10:25 Digon i'r disgybl yw bod fel ei athro, a'r gwas fel ei feistr. Os galwasant feistr y tŷ yn Beelsebwl, pa faint mwy ei deulu?

Pwy i'w Ofni Lc. 12:2-7

10:26 "Peidiwch â'u hofni hwy. Oherwydd nid oes dim wedi ei guddio na ddatguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod.
10:27 Yr hyn a ddywedaf wrthych yn y tywyllwch, dywedwch ef yng ngolau dydd; a'r hyn a sibrydir i'ch clust, cyhoeddwch ef ar bennau'r tai.
10:28 A pheidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ond na allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn sy'n gallu dinistrio'r enaid a'r corff yn uffern.
10:29 Oni werthir dau aderyn y to am geiniog? Eto nid oes un ohonynt yn syrthio i'r ddaear heb eich Tad.
10:30 Amdanoch chwi, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo.
10:31 Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi'n werth mwy na llawer o adar y to.

Cyffesu Crist gerbron Dynion, Lc. 12:8-9

10:32 "Pob un fydd yn fy arddel i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu harddel hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
10:33 Ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu gwadu hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.

Nid Heddwch, ond Cleddyf, Lc. 12:51-53; 14:26-27

10:34 "Peidiwch â meddwl mai i ddwyn heddwch i'r ddaear y deuthum; nid i ddwyn heddwch y deuthum ond cleddyf.
10:35 Oherwydd deuthum i rannu 'dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a merch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith;
10:36 a gelynion rhywun fydd ei deulu ei hun'.
10:37 Nid yw'r sawl sy'n caru tad neu fam yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi; ac nid yw'r sawl sy'n caru mab neu ferch yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi.
10:38 A'r sawl nad yw'n cymryd ei groes ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw'n deilwng ohonof fi.
10:39 Yr un sy'n ennill ei fywyd a'i cyll, a'r un sy'n colli ei fywyd er fy mwyn i a'i hennill.

Gwobrau Mc. 9:41

10:40 "Y mae'r sawl sy'n eich derbyn chwi yn fy nerbyn i, a'r sawl sy'n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i.
10:41 Pwy bynnag sy'n derbyn proffwyd am ei fod yn broffwyd, fe gaiff wobr proffwyd, a phwy bynnag sy'n derbyn un cyfiawn am ei fod yn un cyfiawn, fe gaiff wobr un cyfiawn.
10:42 A phwy bynnag a rydd gymaint â chwpanaid o ddŵr oer i un o'r rhai bychain hyn am ei fod yn ddisgybl, yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr."
11:1 Pan orffennodd Iesu ddysgu ei ddeuddeg disgybl, symudodd oddi yno er mwyn dysgu a phregethu yn eu trefi hwy.

Negesyddion Ioan Fedyddiwr Lc. 7:18-35

11:2 Pan glywodd Ioan yn y carchar am weithredoedd Crist, anfonodd trwy ei ddisgyblion
11:3 a gofyn iddo, "Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?"
11:4 Ac atebodd Iesu hwy, "Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych yn ei glywed ac yn ei weld.
11:5 Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.
11:6 Gwyn ei fyd y sawl na fydd yn cwympo o'm hachos i."
11:7 Wrth i ddisgyblion Ioan fynd ymaith, dechreuodd Iesu sôn am Ioan wrth y tyrfaoedd. "Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?
11:8 Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai un wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Yn nhai brenhinoedd y mae'r rhai sy'n gwisgo dillad esmwyth.
11:9 Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd.
11:10 Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano: 'Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen, i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.'
11:11 Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ni chododd ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan Fedyddiwr; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas nefoedd yn fwy nag ef.
11:12 O ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr y mae teyrnas nefoedd yn cael ei threisio, a threiswyr sy'n ei chipio hi.
11:13 Hyd at Ioan y proffwydodd yr holl broffwydi a'r Gyfraith;
11:14 ac os mynnwch dderbyn hynny, ef yw Elias sydd ar ddod.
11:15 Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.
11:16 "Â phwy y cymharaf y genhedlaeth hon? Y mae'n debyg i blant yn eistedd yn y marchnadoedd ac yn galw ar ei gilydd:
11:17 'Canasom ffliwt i chwi,ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad, ac nid wylasoch.'
11:18 Oherwydd daeth Ioan, un nad yw'n bwyta nac yn yfed, ac y maent yn dweud, 'Y mae cythraul ynddo.'
11:19 Daeth Mab y Dyn, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac y maent yn dweud, 'Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.' Ac eto profir gan ei gweithredoedd fod doethineb Duw yn iawn."

Gwae'r Trefi Diedifar, Lc. 10:13-15

11:20 Yna dechreuodd geryddu'r trefi lle y gwnaed y rhan fwyaf o'i wyrthiau, am nad oeddent wedi edifarhau.
11:21 "Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaed ynoch chwi wedi eu gwneud yn Tyrus a Sidon, buasent wedi edifarhau erstalwm mewn sachliain a lludw.
11:22 Ond 'rwy'n dweud wrthych, caiff Tyrus a Sidon lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na chwi.
11:23 A thithau, Capernaum, 'A ddyrchefir di hyd nef? Byddi'n disgyn hyd Hades.' Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaed ynot ti wedi eu gwneud yn Sodom, buasai'n sefyll hyd heddiw.
11:24 Ond 'rwy'n dweud wrthych y caiff tir Sodom lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na thi."

Dewch ataf Fi am Orffwystra, Lc. 10:21-22

11:25 Yr amser hwnnw dywedodd Iesu, "Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio'r pethau hyn rhag y doethion a'r deallusion, a'u datguddio i rai bychain;
11:26 ie, O Dad, oherwydd felly y rhyngodd dy fodd di.
11:27 Traddodwyd i mi bob peth gan fy Nhad. Nid oes neb yn adnabod y Mab, ond y Tad, ac nid oes neb yn adnabod y Tad, ond y Mab a'r rhai hynny y mae'r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt.
11:28 Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.
11:29 Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i'ch eneidiau.
11:30 Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a'm baich i yn ysgafn."

Tynnu Tywysennau ar y Saboth, Mc. 2:23-28; Lc. 6:1-5

12:1 Yr amser hwnnw aeth Iesu drwy'r caeau ŷd ar y Saboth; yr oedd eisiau bwyd ar ei ddisgyblion, a dechreusant dynnu tywysennau a'u bwyta.
12:2 Pan welodd y Phariseaid hynny, meddent wrtho, "Edrych, y mae dy ddisgyblion yn gwneud peth sy'n groes i'r Gyfraith ar y Saboth."
12:3 Dywedodd yntau wrthynt, "Onid ydych wedi darllen beth a wnaeth Dafydd, pan oedd eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef?
12:4 Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw a sut y bwytasant y torthau cysegredig, nad oedd yn gyfreithlon iddo ef na'r rhai oedd gydag ef eu bwyta, ond i'r offeiriaid yn unig?
12:5 Neu onid ydych wedi darllen yn y Gyfraith fod yr offeiriaid ar y Saboth yn y deml yn halogi'r Saboth ond eu bod yn ddieuog?
12:6 'Rwy'n dweud wrthych fod rhywbeth mwy na'r deml yma.
12:7 Pe buasech wedi deall beth yw ystyr y dywediad, 'Trugaredd a ddymunaf, nid aberth', ni fuasech wedi condemnio'r dieuog.
12:8 Oherwydd y mae Mab y Dyn yn arglwydd ar y Saboth."

Y Dyn â'r Llaw Ddiffrwyth, Mc. 3:1-6; Lc. 6:6-11

12:9 Symudodd oddi yno a daeth i'w synagog hwy.
12:10 Yno yr oedd dyn a chanddo law ddiffrwyth. Gofynasant i Iesu, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn, "A yw'n gyfreithlon iacháu ar y Saboth?"
12:11 Dywedodd yntau wrthynt, "Pwy ohonoch a chanddo un ddafad, os syrth honno i bydew ar y Saboth, na fydd yn gafael ynddi a'i chodi?
12:12 Gymaint mwy gwerthfawr yw dyn na dafad. Am hynny y mae'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth."
12:13 Yna dywedodd wrth y dyn, "Estyn dy law." Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn holliach fel y llall.
12:14 Ac fe aeth y Phariseaid allan a chynllwyn yn ei erbyn, sut i'w ladd.

Y Gwas Dewisedig

12:15 Ond daeth Iesu i wybod hyn, ac aeth ymaith oddi yno. Dilynodd llawer ef, ac fe iachaodd bawb ohonynt,
12:16 a rhybuddiodd hwy i beidio â'i wneud yn hysbys,
12:17 fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:
12:18 "Dyma fy ngwas, yr un a ddewisais, fy anwylyd, yr ymhyfrydodd fy enaid ynddo. Rhoddaf fy Ysbryd arno, a bydd yn cyhoeddi barn i'r Cenhedloedd.
12:19 Ni fydd yn ymrafael nac yn gweiddi, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.
12:20 Ni fydd yn mathru corsen doredig, nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu, nes iddo ddwyn barn i fuddugoliaeth.
12:21 Ac yn ei enw ef y bydd gobaith y Cenhedloedd."

Iesu a Beelsebwl, Mc. 3:20-30; Lc. 11:14-23; 12:10

12:22 Yna dygwyd ato ddyn â chythraul ynddo, yn ddall a mud; iachaodd Iesu ef, nes bod y mudan yn llefaru a gweld.
12:23 A synnodd yr holl dyrfaoedd a dweud, "A yw'n bosibl mai hwn yw Mab Dafydd?"
12:24 Ond pan glywodd y Phariseaid dywedasant, "Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid ond trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid."
12:25 Deallodd Iesu eu meddyliau a dywedodd wrthynt, "Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, ac ni bydd yr un dref na thŷ a ymrannodd yn ei erbyn ei hun yn sefyll.
12:26 Ac os yw Satan yn bwrw allan Satan, y mae wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun; sut felly y saif ei deyrnas?
12:27 Ac os trwy Beelsebwl yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy fydd yn eich barnu.
12:28 Ond os trwy Ysbryd Duw yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, yna y mae teyrnas Dduw wedi cyrraedd atoch.
12:29 Neu sut y gall rhywun fynd i mewn i dŷ un cryf ac ysbeilio'i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo'r un cryf? Wedyn caiff ysbeilio'i dŷ ef.
12:30 Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae, ac os nad yw'n casglu gyda mi, gwasgaru y mae.
12:31 Am hynny 'rwy'n dweud wrthych, maddeuir pob pechod a chabledd i bobl, ond y cabledd yn erbyn yr Ysbryd ni faddeuir mohono.
12:32 Caiff pwy bynnag a ddywed air yn erbyn Mab y Dyn, faddeuant; ond pwy bynnag a'i dywed yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant nac yn yr oes hon nac yn yr oes sydd i ddod.

Coeden a'i Ffrwyth, Lc. 6:43-45

12:33 "Naill ai cyfrifwch y goeden yn dda a'i ffrwyth yn dda, neu cyfrifwch y goeden yn wael a'i ffrwyth yn wael. Wrth ei ffrwyth y mae'r goeden yn cael ei hadnabod.
12:34 Chwi epil gwiberod, sut y gallwch lefaru pethau da, a chwi eich hunain yn ddrwg? Oherwydd yn ôl yr hyn sy'n llenwi'r galon y mae'r genau'n llefaru.
12:35 Y mae'r dyn da o'i drysor da yn dwyn allan bethau da, a'r dyn drwg o'i drysor drwg yn dwyn allan bethau drwg.
12:36 'Rwy'n dweud wrthych am bob gair di-fudd a lefara pobl, fe roddant gyfrif amdano yn Nydd y Farn.
12:37 Oherwydd wrth dy eiriau y cei dy gyfiawnhau, ac wrth dy eiriau y cei dy gondemnio."

Ceisio Arwydd, Mc. 8:11-12; Lc. 11:29-32

12:38 Yna dywedodd rhai o'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid wrtho, "Athro, fe garem weld arwydd gennyt."
12:39 Atebodd yntau, "Cenhedlaeth ddrygionus ac annuwiol sy'n ceisio arwydd, eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd y proffwyd Jona.
12:40 Oherwydd fel y bu Jona ym mol y morfil am dri diwrnod a thair nos, felly y bydd Mab y Dyn yn nyfnder y ddaear am dri diwrnod a thair nos.
12:41 Bydd pobl Ninefe yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio hi; oherwydd edifarhasant hwy dan genadwri Jona, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Jona.
12:42 Bydd Brenhines y De yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio; oherwydd daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Solomon.

Yr Ysbryd Aflan yn Dychwelyd, Lc. 11:24-26

12:43 "Pan fydd ysbryd aflan yn mynd allan o rywun, bydd yn rhodio trwy fannau sychion gan geisio gorffwysfa, ac nid yw yn ei gael.
12:44 Yna y mae'n dweud, 'Mi ddychwelaf i'm cartref, y lle y deuthum ohono.' Wedi cyrraedd, y mae'n ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i osod mewn trefn.
12:45 Yna y mae'n mynd ac yn cymryd gydag ef saith ysbryd arall mwy drygionus nag ef ei hun; y maent yn dod i mewn ac yn ymgartrefu yno; ac y mae cyflwr olaf y dyn hwnnw yn waeth na'r cyntaf. Felly hefyd y bydd i'r genhedlaeth ddrwg hon."

Mam a Brodyr Iesu, Mc. 3:31-35; Lc. 8:19-21

12:46 Tra oedd ef yn dal i siarad â'r tyrfaoedd, yr oedd ei fam a'i frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad ag ef.
12:47 Dywedodd rhywun wrtho, "Dacw dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad â thi."
12:48 Atebodd Iesu ef, "Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?"
12:49 A chan estyn ei law at ei ddisgyblion dywedodd, "Dyma fy mam a'm brodyr i.
12:50 Oherwydd pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam."

Dameg yr Heuwr, Mc. 4:1-9; Lc. 8:4-8

13:1 Y diwrnod hwnnw aeth Iesu allan o'r tŷ ac eisteddodd ar lan y môr.
13:2 Daeth tyrfaoedd mawr ynghyd ato, nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch, ac yr oedd yr holl dyrfa yn sefyll ar y lan.
13:3 Fe lefarodd lawer wrthynt ar ddamhegion, gan ddweud: "Aeth heuwr allan i hau.
13:4 Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta.
13:5 Syrthiodd peth arall ar leoedd creigiog, lle ni chafodd fawr o bridd, a thyfodd yn gyflym am nad oedd iddo ddyfnder daear.
13:6 Ond wedi i'r haul godi fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd.
13:7 Syrthiodd hadau eraill ymhlith y drain, a thyfodd y drain a'u tagu.
13:8 A syrthiodd eraill ar dir da a ffrwytho, peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain.
13:9 Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed."

Pwrpas y Damhegion, Mc. 4:10-12; Lc. 8:9-10

13:10 Daeth y disgyblion a dweud wrtho, "Pam yr wyt yn siarad wrthynt ar ddamhegion?"
13:11 Atebodd yntau, "I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas nefoedd wedi ei roi, ond iddynt hwy nis rhoddwyd.
13:12 Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, a bydd ganddo fwy na digon; ond oddi ar yr sawl nad oes ganddo y dygir hyd yn oed hynny sydd ganddo.
13:13 Am hynny yr wyf yn siarad wrthynt ar ddamhegion; oherwydd er iddynt edrych nid ydynt yn gweld, ac er iddynt wrando nid ydynt yn clywed nac yn deall.
13:14 A chyflawnir ynddynt hwy y broffwydoliaeth gan Eseia sy'n dweud: 'Er clywed a chlywed, ni ddeallwch ddim; er edrych ac edrych, ni welwch ddim.
13:15 Canys brasawyd calon y bobl yma, y mae eu clyw yn drwm, a'u llygaid wedi cau; rhag iddynt weld â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'u calon, a throi'n ôl, i mi eu hiacháu.'
13:16  Ond gwyn eu byd eich llygaid chwi am eu bod yn gweld, a'ch clustiau chwi am eu bod yn clywed.
13:17 Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych fod llawer o broffwydi a rhai cyfiawn wedi dyheu am weld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.

Egluro Dameg yr Heuwr, Mc. 4:13-20; Lc. 8:11-15

13:18 "Gwrandewch chwithau felly ar ddameg yr heuwr.
13:19 Pan fydd unrhyw un yn clywed gair y deyrnas heb ei ddeall, daw'r Un drwg a chipio'r hyn a heuwyd yn ei galon. Dyma'r un sy'n derbyn yr had ar hyd y llwybr.
13:20 A'r un sy'n derbyn yr had ar leoedd creigiog, dyma'r un sy'n clywed y gair ac yn ei dderbyn ar ei union yn llawen.
13:21 Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo'i hunan, a thros dro y mae'n para; pan ddaw gorthrymder neu erlid o achos y gair, fe gwymp ar unwaith.
13:22 Yr un sy'n derbyn yr had ymhlith y drain, dyma'r un sy'n clywed y gair, ond y mae gofal y byd hwn a hudoliaeth golud yn tagu'r gair, ac y mae'n mynd yn ddiffrwyth.
13:23 A'r un sy'n derbyn yr had ar dir da, dyma'r un sy'n clywed y gair ac yn ei ddeall, ac yn dwyn ffrwyth ac yn rhoi peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain."

Dameg yr Efrau ymysg yr Ŷd

13:24 Cyflwynodd Iesu ddameg arall iddynt: "Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i ddyn a heuodd had da yn ei faes.
13:25 Ond pan oedd pawb yn cysgu, daeth ei elyn a hau efrau ymysg yr ŷd a mynd ymaith.
13:26 Pan eginodd y cnwd a dwyn ffrwyth, yna ymddangosodd yr efrau hefyd.
13:27 Daeth gweision gŵr y tŷ a dweud wrtho, 'Syr, onid had da a heuaist yn dy faes? O ble felly y daeth efrau iddo?'
13:28 Atebodd yntau, 'Gelyn a wnaeth hyn.' Meddai'r gweision wrtho, 'A wyt am i ni fynd allan a chasglu'r efrau?'
13:29 'Na,' meddai ef, 'wrth gasglu'r efrau fe allwch ddiwreiddio'r ŷd gyda hwy.
13:30 Gadewch i'r ddau dyfu gyda'i gilydd hyd y cynhaeaf, ac yn amser y cynhaeaf dywedaf wrth y medelwyr, "Casglwch yr efrau yn gyntaf, a rhwymwch hwy'n sypynnau i'w llosgi, ond crynhowch yr ŷd i'm hysgubor."'"

Damhegion yr Hedyn Mwstard a'r Lefain, Mc. 4:30-32; Lc. 13:18-21

13:31 A dyma ddameg arall a gyflwynodd iddynt: "Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i hedyn mwstard, a gymerodd rhywun a'i hau yn ei faes.
13:32 Dyma'r lleiaf o'r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, ef yw'r mwyaf o'r holl lysiau, a daw yn goeden, fel bod adar yr awyr yn dod ac yn nythu yn ei changhennau."
13:33 Llefarodd ddameg arall wrthynt: "Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu â thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl."

Arfer Damhegion, Mc. 4:33-34

13:34 Dywedodd Iesu'r holl bethau hyn ar ddamhegion wrth y tyrfaoedd; heb ddameg ni fyddai'n llefaru dim wrthynt,
13:35 fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwyd: "Agoraf fy ngenau ar ddamhegion, traethaf bethau sy'n guddiedig er seiliad y byd."

Egluro Dameg yr Efrau

13:36 Yna, wedi gollwng y tyrfaoedd, daeth i'r tŷ. A daeth ei ddisgyblion ato a dweud, "Eglura i ni ddameg yr efrau yn y maes."
13:37 Dywedodd yntau, "Yr un sy'n hau'r had da yw Mab y Dyn.
13:38 Y maes yw'r byd. Yr had da yw plant y deyrnas; yr efrau yw plant yr Un drwg,
13:39 a'r gelyn a'u heuodd yw'r diafol; y cynhaeaf yw diwedd amser, a'r medelwyr yw'r angylion.
13:40 Yn union fel y cesglir yr efrau a'u llosgi yn y tân, felly y bydd yn niwedd amser.
13:41 Bydd Mab y Dyn yn anfon ei angylion, a byddant yn casglu allan o'i deyrnas ef bopeth sy'n peri tramgwydd, a'r rhai sy'n gwneud anghyfraith,
13:42 a byddant yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd.
13:43 Yna bydd y rhai cyfiawn yn disgleirio fel yr haul yn nheyrnas eu Tad. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.

Tair Dameg

13:44 "Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i drysor wedi ei guddio mewn maes; pan ddaeth rhywun o hyd iddo, fe'i cuddiodd, ac yn ei lawenydd y mae'n mynd ac yn gwerthu'r cwbl sydd ganddo, ac yn prynu'r maes hwnnw.
13:45 "Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy'n chwilio am berlau gwych.
13:46 Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu'r cwbl oedd ganddo, a'i brynu.
13:47 "Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i rwyd a fwriwyd i'r môr ac a ddaliodd bysgod o bob math.
13:48 Pan oedd yn llawn, tynnodd dynion hi i'r lan ac eistedd i lawr a chasglu'r rhai da i lestri a thaflu'r rhai gwael i ffwrdd.
13:49  Felly y bydd yn niwedd amser; bydd yr angylion yn mynd allan ac yn gwahanu'r drwg o blith y cyfiawn,
13:50 ac yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd.

Trysorau Newydd a Hen

13:51 "A ydych wedi deall yr holl bethau hyn?" Dywedasant wrtho, "Ydym."
13:52 "Am hynny," meddai ef wrthynt, "y mae pob ysgrifennydd a ddaeth yn ddisgybl yn nheyrnas nefoedd yn debyg i berchen tŷ sydd yn dwyn allan o'i drysorfa bethau newydd a hen."

Gwrthod Iesu yn Nasareth, Mc. 6:1-6; Lc. 4:16-30

13:53 Pan orffennodd Iesu'r damhegion hyn, aeth oddi yno.
13:54 Ac wedi dod i fro ei febyd, yr oedd yn dysgu yn eu synagog hwy, nes iddynt synnu a dweud, "O ble y cafodd hwn y ddoethineb hon a'r gweithredoedd nerthol hyn?
13:55 Onid mab y saer yw hwn? Onid Mair yw enw ei fam ef, ac Iago a Joseff a Simon a Jwdas yn frodyr iddo?
13:56 Ac onid yw ei chwiorydd i gyd yma gyda ni? O ble felly y cafodd hwn yr holl bethau hyn?"
13:57 Yr oedd ef yn peri tramgwydd iddynt. Dywedodd Iesu wrthynt, "Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei fro ei hun ac yn ei gartref."
13:58 Ac ni wnaeth lawer o wyrthiau yno o achos eu hanghrediniaeth.

Marwolaeth Ioan Fedyddiwr, Mc. 6:14-29; Lc. 9:7-9

14:1 Yr amser hwnnw clywodd Herod y tetrarch y sôn am Iesu,
14:2 a dywedodd wrth ei weision, "Ioan Fedyddiwr yw hwn; y mae ef wedi ei godi oddi wrth y meirw, a dyna pam y mae'r gweithredoedd nerthol ar waith ynddo ef."
14:3 Oherwydd yr oedd Herod wedi dal Ioan a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd.
14:4 Yr oedd Ioan wedi dweud wrtho, "Nid yw'n gyfreithlon i ti ei chael hi."
14:5 Ac er bod Herod yn dymuno ei ladd, yr oedd arno ofn y bobl, am eu bod yn ystyried Ioan yn broffwyd.
14:6 Pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd, dawnsiodd merch Herodias gerbron y cwmni a phlesio Herod
14:7 gymaint nes iddo addo ar ei lw roi iddi beth bynnag a ofynnai.
14:8 Ar gyfarwyddyd ei mam, dywedodd hi, "Rho i mi, yma ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr."
14:9 Aeth y brenin yn drist, ond oherwydd ei lw ac oherwydd ei westeion gorchmynnodd ei roi iddi,
14:10 ac anfonodd i dorri pen Ioan yn y carchar.
14:11 Daethpwyd â'i ben ef ar ddysgl a'i roi i'r eneth, ac aeth hi ag ef i'w mam.
14:12 Yna daeth ei ddisgyblion a mynd â'r corff ymaith a'i gladdu, ac aethant ac adrodd yr hanes wrth Iesu.

Porthi'r Pum Mil, Mc. 6:30-44; Lc. 9:10-17; In. 6:1-14

14:13 Pan glywodd Iesu, aeth oddi yno mewn cwch i le unig o'r neilltu. Ond clywodd y tyrfaoedd, a dilynasant ef dros y tir o'r trefi.
14:14 Pan laniodd Iesu, gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt ac iacháu eu cleifion hwy.
14:15 Fel yr oedd yn nosi daeth ei ddisgyblion ato a dweud, "Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr. Gollwng y tyrfaoedd, iddynt fynd i'r pentrefi i brynu bwyd iddynt eu hunain."
14:16 Meddai Iesu wrthynt, "Nid oes rhaid iddynt fynd ymaith. Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt."
14:17 Meddent hwy wrtho, "Nid oes gennym yma ond pum torth a dau bysgodyn."
14:18 Meddai yntau, "Dewch â hwy yma i mi."
14:19 Ac wedi gorchymyn i'r tyrfaoedd eistedd ar y glaswellt, cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a rhoddodd hwy i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd.
14:20 Bwytasant oll a chael digon, a chodasant ddeuddeg basgedaid lawn o'r tameidiau oedd dros ben.
14:21 Ac yr oedd y rhai oedd yn bwyta tua phum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.

Cerdded ar y Dŵr, Mc. 6:45-52; In. 6:15-21

14:22 Yna'n ddi-oed gwnaeth i'r disgyblion fynd i'r cwch a hwylio o'i flaen i'r ochr draw, tra byddai ef yn gollwng y tyrfaoedd.
14:23 Wedi eu gollwng aeth i fyny'r mynydd o'r neilltu i weddïo, a phan aeth hi'n hwyr yr oedd yno ar ei ben ei hun.
14:24 Yr oedd y cwch eisoes gryn bellter oddi wrth y tir, ac mewn helbul gan y tonnau, oherwydd yr oedd y gwynt yn ei erbyn.
14:25 Rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr.
14:26 Pan welodd y disgyblion ef yn cerdded ar y môr, dychrynwyd hwy nes dweud, "Drychiolaeth yw", a gweiddi gan ofn.
14:27 Ond ar unwaith siaradodd Iesu â hwy. "Codwch eich calon," meddai, "myfi yw; peidiwch ag ofni."
14:28 Atebodd Pedr ef, "Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau."
14:29 Meddai Iesu, "Tyrd." Disgynnodd Pedr o'r cwch a cherddodd ar y tonnau, a daeth at Iesu.
14:30 Ond pan welodd rym y gwynt brawychodd, ac wrth ddechrau suddo gwaeddodd, "Arglwydd, achub fi."
14:31 Estynnodd Iesu ei law ar unwaith a gafael ynddo gan ddweud, "Ti o ychydig ffydd, pam y petrusaist?"
14:32 Ac wedi iddynt ddringo i'r cwch, gostegodd y gwynt.
14:33 Yna addolodd y rhai oedd yn y cwch ef, gan ddweud, "Yn wir, Mab Duw wyt ti."

Iacháu'r Cleifion yn Genesaret, Mc. 6:53-56

14:34 Wedi croesi'r môr daethant i dir yn Genesaret.
14:35 Adnabu pobl y lle hwnnw ef, ac anfonasant i'r holl gymdogaeth honno, a daethant â'r cleifion i gyd ato,
14:36 ac erfyn arno am iddynt gael yn unig gyffwrdd ag ymyl ei fantell. A llwyr iachawyd pawb a gyffyrddodd ag ef.

Traddodiad yr Hynafiaid, Mc. 7:1-23

15:1 Yna daeth Phariseaid ac ysgrifenyddion o Jerwsalem at Iesu a dweud,
15:2 "Pam y mae dy ddisgyblion di yn troseddu yn erbyn traddodiad yr hynafiaid? Oherwydd nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fyddant yn bwyta'u bwyd."
15:3 Atebodd yntau hwy, "A pham yr ydych chwithau yn troseddu yn erbyn gorchymyn Duw er mwyn eich traddodiad?
15:4 Oherwydd dywedodd Duw, 'Anrhydedda dy dad a'th fam', a 'Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.'
15:5 Ond yr ydych chwi'n dweud, 'Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, "Offrwm i Dduw yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi", ni chaiff anrhydeddu ei dad.'
15:6 Ac yr ydych wedi dirymu gair Duw er mwyn eich traddodiad chwi.
15:7 Ragrithwyr, da y proffwydodd Eseia amdanoch:
15:8 'Y mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu â'u gwefusau, ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf;
15:9 yn ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu gorchmynion dynol fel athrawiaethau.'"
15:10 Galwodd y dyrfa ato a dywedodd wrthynt, "Gwrandewch a deallwch.
15:11 Nid yr hyn sy'n mynd i mewn i enau rhywun sy'n ei halogi, ond yr hyn sy'n dod allan o'i enau, dyna sy'n halogi rhywun."
15:12 Yna daeth ei ddisgyblion a dweud wrtho, "A wyddost fod y Phariseaid wedi eu tramgwyddo wrth glywed dy eiriau?"
15:13 Atebodd yntau, "Pob planhigyn na phlannodd fy Nhad nefol, fe'i diwreiddir.
15:14 Gadewch iddynt; arweinwyr dall i ddeillion ydynt. Os bydd rhywun dall yn arwain rhywun dall, bydd y ddau yn syrthio i bydew."
15:15 Dywedodd Pedr wrtho, "Eglura'r ddameg hon inni."
15:16 Meddai Iesu, "A ydych chwithau'n dal mor ddi-ddeall?
15:17 Oni welwch fod popeth sy'n mynd i mewn i'r genau yn mynd i'r cylla ac yn cael ei yrru allan i'r geudy?
15:18 Ond y mae'r pethau sy'n dod allan o'r genau yn dod o'r galon, a dyna'r pethau sy'n halogi rhywun.
15:19 Oherwydd o'r galon y daw cynllunio drygionus, llofruddio, godinebu, puteinio, lladrata, camdystiolaethu, a chablu.
15:20 Dyma'r pethau sy'n halogi rhywun; ond bwyta â dwylo heb eu golchi, nid yw hynny'n halogi neb."

Ffydd y Gananees, Mc. 7:24-30

15:21 Aeth Iesu allan oddi yno ac ymadawodd i barthau Tyrus a Sidon.
15:22 A dyma wraig oedd yn Ganaanëes o'r cyffiniau hynny yn dod ymlaen a gweiddi, "Syr, trugarha wrthyf, Fab Dafydd; y mae fy merch wedi ei meddiannu gan gythraul ac yn dioddef yn enbyd."
15:23 Ond nid atebodd ef un gair iddi. A daeth ei ddisgyblion ato a gofyn iddo, "Gyr hi i ffwrdd, oherwydd y mae'n gweiddi ar ein hôl."
15:24 Atebodd yntau, "Ni'm hanfonwyd at neb ond at ddefaid colledig tŷ Israel."
15:25 Ond daeth hithau ac ymgrymu iddo gan ddweud, "Syr, helpa fi."
15:26 Atebodd Iesu, "Nid yw'n deg cymryd bara'r plant a'i daflu i'r cŵn."
15:27 Dywedodd hithau, "Gwir, syr, ond y mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta o'r briwsion sy'n syrthio oddi ar fwrdd eu meistri."
15:28 Yna atebodd Iesu hi, "Wraig, mawr yw dy ffydd; boed iti fel y mynni." Ac fe iachawyd ei merch o'r munud hwnnw.

Iacháu Llawer

15:29 Symudodd Iesu oddi yno ac aeth gerllaw Môr Galilea, ac i fyny'r mynydd. Eisteddodd yno,
15:30 a daeth tyrfaoedd mawr ato yn dwyn gyda hwy y cloff a'r dall, yr anafus a'r mud, a llawer eraill; gosodasant hwy wrth ei draed, ac iachaodd ef hwy,
15:31 er syndod i'r dyrfa wrth weld y mud yn llefaru, yr anafus yn holliach, y cloff yn cerdded a'r dall yn gweld; a rhoesant ogoniant i Dduw Israel.

Porthi'r Pedair Mil, Mc. 8:1-10

15:32 Galwodd Iesu ei ddisgyblion ato, ac meddai, "Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta. Ac ni fynnaf eu hanfon ymaith ar eu cythlwng, rhag iddynt lewygu ar y ffordd."
15:33 Dywedodd y disgyblion wrtho, "O ble, mewn lle anial, y cawn ddigon o fara i fwydo tyrfa mor fawr?"
15:34 Gofynnodd Iesu iddynt, "Pa sawl torth sydd gennych?" "Saith," meddent hwythau, "ac ychydig bysgod bychain."
15:35 Gorchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear.
15:36 Yna cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd.
15:37 Bwytasant oll a chael digon, a chodasant lond saith cawell o'r tameidiau oedd dros ben.
15:38 Yr oedd y rhai oedd yn bwyta yn bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
15:39 Wedi gollwng y tyrfaoedd aeth Iesu i mewn i'r cwch a daeth i gyffiniau Magadan.

Ceisio Arwydd, Mc. 8:11-13; Lc. 12:54-56

16:1 Daeth y Phariseaid a'r Sadwceaid ato, ac i roi prawf arno gofynasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef.
16:2 Ond atebodd ef hwy, "Gyda'r nos fe ddywedwch, 'Bydd yn dywydd teg, oherwydd y mae'r wybren yn goch.'
16:3 Ac yn y bore, 'Bydd yn stormus heddiw, oherwydd y mae'r wybren yn goch ac yn gymylog.' Gwyddoch sut i ddehongli golwg y ffurfafen, ond ni allwch ddehongli arwyddion yr amserau.
16:4 Cenhedlaeth ddrygionus ac annuwiol sy'n ceisio arwydd, eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona." A gadawodd hwy a mynd ymaith.

Surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid, Mc. 8:14-21

16:5 Pan ddaeth y disgyblion i'r ochr draw yr oeddent wedi anghofio dod â bara.
16:6 Meddai Iesu wrthynt, "Gwyliwch a gochelwch rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid."
16:7 Ac yr oeddent hwy'n trafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, "Ni ddaethom â bara."
16:8 Deallodd Iesu a dywedodd, "Chwi o ychydig ffydd, pam yr ydych yn trafod ymhlith eich gilydd nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld?
16:9 Onid ydych yn cofio'r pum torth i'r pum mil a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny?
16:10 Nac ychwaith y saith torth i'r pedair mil a pha sawl llond cawell a gymerasoch?
16:11 Sut na welwch nad ynglŷn â bara y dywedais wrthych? Gochelwch, meddaf, rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid."
16:12 Yna y deallasant iddo lefaru nid am ochel rhag surdoes y torthau, ond rhag yr hyn a ddysgai'r Phariseaid a'r Sadwceaid.

Datganiad Pedr ynglŷn â Iesu, Mc. 8:27-30; Lc. 9:18-21

16:13 Daeth Iesu i barthau Cesarea Philipi, a holodd ei ddisgyblion: "Pwy y mae pobl yn dweud yw Mab y Dyn?"
16:14 Dywedasant hwythau, "Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, Jeremeia neu un o'r proffwydi."
16:15 "A chwithau," meddai wrthynt, "pwy meddwch chwi ydwyf fi?"
16:16 Atebodd Simon Pedr, "Ti yw'r Meseia, Mab y Duw byw."
16:17 Dywedodd Iesu wrtho, "Gwyn dy fyd, Simon fab Jona, oherwydd nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn iti ond fy Nhad, sydd yn y nefoedd.
16:18 Ac 'rwyf fi'n dweud wrthyt mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau Hades y trechaf arni.
16:19 Rhoddaf iti allweddau teyrnas nefoedd, a beth bynnag a waherddi ar y ddaear a waherddir yn y nefoedd, a beth bynnag a ganiatei ar y ddaear a ganiateir yn y nefoedd."
16:20 Yna gorchmynnodd i'w ddisgyblion beidio â dweud wrth neb mai ef oedd y Meseia.

Iesu'n Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad, Mc. 8:31-9:1; Lc. 9:22-27

16:21 O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.
16:22 A chymerodd Pedr ef a dechrau ei geryddu gan ddweud, "Na ato Duw, Arglwydd. Ni chaiff hyn ddigwydd i ti."
16:23 Troes yntau, a dywedodd wrth Pedr, "Dos ymaith o'm golwg, Satan; maen tramgwydd ydwyt imi, oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol."
16:24 Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, "Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i.
16:25 Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i caiff.
16:26 Pa elw a gaiff rhywun os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Neu beth a rydd rhywun yn gyfnewid am ei fywyd?
16:27 Oherwydd y mae Mab y Dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion, ac yna fe dâl i bob un yn ôl ei ymddygiad.
16:28  Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld Mab y Dyn yn dyfod yn ei deyrnas."

Gweddnewidiad Iesu, Mc. 9:2-13; Lc. 9:28-36

17:1 Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu'n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ei frawd a mynd â hwy i fynydd uchel o'r neilltu.
17:2 A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwy, a disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, ac aeth ei ddillad yn wyn fel y goleuni.
17:3 A dyma Moses ac Elias yn ymddangos iddynt, yn ymddiddan ag ef.
17:4 A dywedodd Pedr wrth Iesu, "Arglwydd, y mae'n dda ein bod ni yma; os mynni, gwnaf yma dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias."
17:5 Tra oedd ef yn dal i siarad, dyma gwmwl golau yn cysgodi drostynt, a llais o'r cwmwl yn dweud, "Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu; gwrandewch arno."
17:6 A phan glywodd y disgyblion hyn syrthiasant ar eu hwynebau a chydiodd ofn mawr ynddynt.
17:7 Daeth Iesu atynt a chyffwrdd â hwy gan ddweud, "Codwch, a pheidiwch ag ofni."
17:8 Ac wedi edrych i fyny ni welsant neb ond Iesu'n unig.
17:9 Wrth iddynt ddod i lawr o'r mynydd gorchmynnodd Iesu iddynt, "Peidiwch â dweud wrth neb am y weledigaeth nes y bydd Mab y Dyn wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw."
17:10 Gofynnodd y disgyblion iddo, "Pam y mae'r ysgrifenyddion yn dweud bod yn rhaid i Elias ddod yn gyntaf?"
17:11 Atebodd yntau, "Bydd Elias yn dod ac yn adfer pob peth.
17:12 Ond 'rwy'n dweud wrthych fod Elias eisoes wedi dod, ond iddynt fethu ei adnabod, a gwneud iddo beth bynnag a fynnent; felly hefyd y mae Mab y Dyn yn mynd i ddioddef ar eu llaw."
17:13 Yna deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y bu'n sôn wrthynt.

Iacháu Bachgen â Chythraul ynddo, Mc. 9:14-29; Lc. 9:37-43a

17:14 Pan ddaethant at y dyrfa, daeth dyn at Iesu gan benlinio o'i flaen a dweud,
17:15 "Syr, tosturia wrth fy mab, oherwydd y mae'n dioddef o ffitiau ac yn dioddef yn enbyd, yn cwympo'n aml i'r tân ac yn aml i'r dŵr.
17:16 Deuthum ag ef at dy ddisgyblion di, ac ni allasant hwy ei iacháu."
17:17 Atebodd Iesu, "O genhedlaeth ddi-ffydd a gwyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y goddefaf chwi? Dewch ag ef yma ataf fi."
17:18 Ceryddodd Iesu y cythraul, ac aeth allan ohono, ac fe iachawyd y bachgen o'r munud hwnnw.
17:19 Yna daeth y disgyblion at Iesu o'r neilltu a dweud, "Pam na allem ni ei fwrw ef allan?"
17:20 Meddai ef wrthynt, "Am fod eich ffydd chwi mor wan. Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, os bydd gennych ffydd gymaint â hedyn mwstard, fe ddywedwch wrth y mynydd hwn, 'Symud oddi yma draw', a symud a wna. Ac ni fydd dim yn amhosibl i chwi."
17:21 [Nid â'r math hwn allan ond trwy weddi ac ympryd.]

Iesu Eilwaith yn Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad, Mc. 9:30-32; Lc. 9:43b-45

17:22 Pan oeddent gyda'i gilydd yng Ngalilea dywedodd Iesu wrthynt, "Y mae Mab y Dyn i'w draddodi i ddwylo pobl,
17:23 ac fe'i lladdant ef, a'r trydydd dydd fe'i cyfodir." Ac aethant yn drist iawn.

Talu Treth y Deml

17:24 Wedi iddynt ddod i Gapernaum, daeth y rhai oedd yn casglu treth y deml at Pedr a gofyn, "Onid yw eich athro yn talu treth y deml?"
17:25 "Ydyw," meddai Pedr. Pan aeth i'r tŷ, achubodd Iesu'r blaen arno trwy ofyn, "Simon, beth yw dy farn di? Gan bwy y mae brenhinoedd y byd yn derbyn tollau a threthi? Ai gan eu dinasyddion eu hunain ynteu gan estroniaid?"
17:26 "Gan estroniaid," meddai Pedr. Dywedodd Iesu wrtho, "Felly y mae'r dinasyddion yn rhydd o'r dreth.
17:27 Ond rhag i ni beri tramgwydd iddynt, dos at y môr a bwrw fachyn iddo, a chymer y pysgodyn cyntaf a ddaw i fyny. Agor ei geg ac fe gei ddarn arian. Cymer hwnnw a rho ef iddynt drosof fi a thithau."

Y Mwyaf yn y Deyrnas, Mc. 9:33-37; Lc. 9:46-48

18:1 Yr amser hwnnw daeth y disgyblion at Iesu a gofyn, "Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?"
18:2 Galwodd Iesu blentyn ato, a'i osod yn eu canol hwy,
18:3 a dywedodd, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, heb gymryd eich troi a dod fel plant, nid ewch fyth i mewn i deyrnas nefoedd.
18:4 Pwy bynnag, felly, fydd yn ei ddarostwng ei hun i fod fel y plentyn hwn, dyma'r un sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd.
18:5 A phwy bynnag sy'n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i.

Achosion Cwymp, Mc. 9:42-48; Lc. 17:1-2

18:6 "Ond pwy bynnag sy'n achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn sy'n credu ynof fi, byddai'n well iddo pe crogid maen melin mawr am ei wddf a'i foddi yn eigion y môr.
18:7 Gwae'r byd oherwydd achosion cwymp; y maent yn rhwym o ddod, ond gwae'r sawl sy'n gyfrifol am achos cwymp.
18:8 Os yw dy law neu dy droed yn achos cwymp i ti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn anafus neu'n gloff, na chael dy daflu, a dwy law neu ddau droed gennyt, i'r tân tragwyddol.
18:9 Ac os yw dy lygad yn achos cwymp i ti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn unllygeidiog na chael dy daflu, a dau lygad gennyt, i dân uffern.

Dameg y Ddafad Golledig, Lc. 15:3-7

18:10 "Gwyliwch rhag i chwi ddirmygu un o'r rhai bychain hyn; oherwydd 'rwy'n dweud wrthych fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn edrych ar wyneb fy Nhad sydd yn y nefoedd.
18:11 [Oherwydd daeth Mab y Dyn i achub y colledig.]
18:12 Beth yw eich barn chwi? Os bydd gan rywun gant o ddefaid a bod un ohonynt yn mynd ar grwydr, oni fydd yn gadael y naw deg a naw ar y mynyddoedd ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar grwydr?
18:13 Ac os daw o hyd iddi, yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, y mae'n llawenhau mwy amdani nag am y naw deg a naw nad aethant ar grwydr.
18:14 Felly nid ewyllys eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd, yw bod un o'r rhai bychain hyn ar goll.

Cyfaill sy'n Pechu, Lc. 17:3

18:15 "Os pecha dy gyfaill yn dy erbyn, dos a dangos ei fai iddo, o'r neilltu rhyngot ti ac ef. Os bydd yn gwrando arnat, fe enillaist dy gyfaill.
18:16 Ond os na fydd yn gwrando, cymer gyda thi un neu ddau arall, er mwyn i bob peth sefyll ar air dau neu dri o dystion.
18:17 Os bydd yn gwrthod gwrando arnynt hwy, dywed wrth yr eglwys; ac os bydd yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, cyfrifa ef fel un o'r Cenhedloedd a'r casglwr trethi.
18:18 "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, pa bethau bynnag a waharddwch ar y ddaear, fe'u gwaherddir yn y nef, a pha bethau bynnag a ganiatewch ar y ddaear, fe'u caniateir yn y nef.
18:19 A thrachefn 'rwy'n dweud wrthych, os bydd dau ohonoch yn cytuno ar y ddaear i ofyn am unrhyw beth, fe'i rhoddir iddynt gan fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
18:20 Oherwydd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol."

Dameg y Gwas Anfaddeugar

18:21 Yna daeth Pedr a gofyn iddo, "Arglwydd, pa sawl gwaith y mae fy nghyfaill i bechu yn fy erbyn a minnau i faddau iddo? Ai hyd seithwaith?"
18:22 Meddai Iesu wrtho, "Nid hyd seithwaith a ddywedaf wrthyt, ond hyd saith deg seithwaith.
18:23 Am hynny y mae teyrnas nefoedd yn debyg i frenin a benderfynodd adolygu cyfrifon ei weision.
18:24 Dechreuodd ar y gwaith, a dygwyd ato was oedd yn ei ddyled o ddeng mil o godau o arian.
18:25 A chan na allai dalu gorchmynnodd ei feistr iddo gael ei werthu, ynghyd â'i wraig a'i blant a phopeth a feddai, er mwyn talu'r ddyled.
18:26 Syrthiodd y gwas ar ei liniau o flaen ei feistr a dweud, 'Bydd yn amyneddgar wrthyf, ac fe dalaf y cwbl iti.'
18:27 A thosturiodd meistr y gwas hwnnw wrtho; gollyngodd ef yn rhydd a maddau'r ddyled iddo.
18:28 Aeth y gwas hwnnw allan a daeth o hyd i un o'i gydweision a oedd yn ei ddyled ef o gant o ddarnau arian; ymaflodd ynddo gerfydd ei wddf gan ddweud, 'Tâl dy ddyled.'
18:29 Syrthiodd ei gydwas i lawr a chrefodd arno, 'Bydd yn amyneddgar wrthyf, ac fe dalaf iti.'
18:30 Ond gwrthododd; yn hytrach fe aeth a'i fwrw i garchar hyd nes y talai'r ddyled.
18:31 Pan welodd ei gydweision beth oedd wedi digwydd, fe'u blinwyd yn fawr iawn, ac aethant ac adrodd yr holl hanes wrth eu meistr.
18:32 Yna galwodd ei feistr ef ato, ac meddai, 'Y gwas drwg, fe faddeuais i yr holl ddyled honno i ti, am iti grefu arnaf.
18:33 Oni ddylit tithau fod wedi trugarhau wrth dy gydwas, fel y gwneuthum i wrthyt ti?'
18:34 Ac yn ei ddicter traddododd ei feistr ef i'r poenydwyr hyd nes y talai'r ddyled yn llawn.
18:35 Felly hefyd y gwna fy Nhad nefol i chwithau os na faddeuwch bob un i'w gyfaill o'ch calon."

Dysgeidiaeth ar Ysgariad, Mc. 10:1-12

19:1 Pan orffennodd Iesu lefaru'r geiriau hyn, ymadawodd â Galilea a daeth i diriogaeth Jwdea y tu hwnt i'r Iorddonen.
19:2 Dilynodd tyrfaoedd mawr ef, ac iachaodd hwy yno.
19:3 Daeth Phariseaid ato i roi prawf arno gan ofyn, "A yw'n gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig am unrhyw reswm a fyn?"
19:4 Atebodd yntau gan ofyn, "Onid ydych wedi darllen mai yn wryw a benyw y gwnaeth y Creawdwr hwy o'r dechreuad?"
19:5 A dywedodd, "Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd.
19:6 Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd. Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, ni ddylai neb ei wahanu."
19:7 Meddent hwy wrtho, "Pam felly y gorchmynnodd Moses roi llythyr ysgar iddi a'i hanfon ymaith?"
19:8 Atebodd ef hwy, "Oherwydd eich ystyfnigrwydd y rhoddodd Moses ganiatâd ichwi i ysgaru eich gwragedd, ond nid felly yr oedd o'r dechreuad.
19:9 'Rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, ond am anffyddlondeb, ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu."
19:10 Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, "Os dyma'r sefyllfa rhwng dyn a'i wraig, y mae'n well peidio â phriodi."
19:11 Atebodd yntau, "Nid peth i bawb yw derbyn y gair hwn, dim ond i'r rhai a ddoniwyd felly.
19:12 Y mae rhai eunuchiaid sydd felly o groth eu mam, rhai sydd wedi eu gwneud yn eunuchiaid gan eraill, a rhai eto sydd wedi eu gwneud eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Boed i'r sawl sy'n gallu derbyn hyn ei dderbyn."

Bendithio Plant Bach, Mc. 10:13-16; Lc. 18:15-17

19:13 Yna daethpwyd â phlant ato, iddo roi ei ddwylo arnynt a gweddïo. Ceryddodd y disgyblion hwy,
19:14 ond dywedodd Iesu, "Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn."
19:15 Ac wedi rhoi ei ddwylo arnynt, aeth oddi yno.

Y Dyn Ifanc Cyfoethog, Mc. 10:17-31; Lc. 18:18-30

19:16 Dyma ddyn yn dod ato ac yn gofyn, "Athro, pa beth da a wnaf i gael bywyd tragwyddol?"
19:17 A dywedodd Iesu wrtho, "Pam yr wyt yn fy holi am yr hyn sy'n dda? Un yn unig sy'n dda. Ond os mynni fynd i mewn i'r bywyd, cadw'r gorchmynion."
19:18 Meddai yntau wrtho, "Pa rai?" Atebodd Iesu, "'Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha,
19:19 anrhydedda dy dad a'th fam', a 'Câr dy gymydog fel ti dy hun.'"
19:20 Dywedodd y dyn ifanc wrtho, "Yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd. Beth arall sydd eisiau?"
19:21 Meddai Iesu wrtho, "Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi."
19:22 Ond pan glywodd y dyn ifanc y gair hwn, aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer.
19:23 Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych mai anodd fydd hi i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas nefoedd.
19:24 'Rwy'n dweud wrthych eto, y mae'n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw."
19:25 Pan glywodd y disgyblion hyn, synasant yn fawr ac meddent, "Pwy felly all gael ei achub?"
19:26 Edrychodd Iesu arnynt a dywedodd wrthynt, "Gyda dynion y mae hyn yn amhosibl, ond gyda Duw y mae pob peth yn bosibl."
19:27 Yna atebodd Pedr ef, "Dyma ni wedi gadael pob peth a'th ganlyn di. Beth felly a gawn ni?"
19:28 Dywedodd Iesu wrthynt, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, pan enir yr oes newydd, pan fydd Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd ogoneddus, byddwch chwi a'm canlynodd i hefyd yn eistedd ar ddeuddeg gorsedd gan farnu deuddeg llwyth Israel.
19:29 A phob un a adawodd dai neu frodyr neu chwiorydd neu dad neu fam neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i, caiff dderbyn ganwaith cymaint ac etifeddu bywyd tragwyddol.
19:30 Ond bydd llawer o'r rhai blaenaf yn olaf, ac o'r rhai olaf yn flaenaf.

Y Gweithwyr yn y Winllan

20:1 "Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i berchen tŷ a aeth allan gyda'r bore bach i gyflogi gweithwyr i'w winllan.
20:2 Cytunodd â'r gweithwyr am dâl o un darn arian y dydd ac anfonodd hwy i'w winllan.
20:3 Aeth allan eilwaith tua naw o'r gloch y bore, a gwelodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnad.
20:4 Dywedodd wrthynt hwythau, 'Ewch chwi hefyd i'r winllan, ac fe dalaf i chwi beth bynnag fydd yn deg';
20:5 ac aethant yno. Yna fe aeth allan eto tua chanol dydd, a thua thri o'r gloch y prynhawn, a gwneud fel o'r blaen.
20:6 Tua phump o'r gloch aeth allan a dod o hyd i eraill yn sefyll yno, ac meddai wrthynt, 'Pam yr ydych yn sefyll yma drwy'r dydd yn segur?'
20:7 'Am na chyflogodd neb ni,' oedd eu hateb. 'Ewch chwi hefyd i'r winllan,' meddai ef.
20:8 Gyda'r nos dyma berchen y winllan yn dweud wrth ei oruchwyliwr, 'Galw'r gweithwyr, a thâl eu cyflog iddynt, gan ddechrau gyda'r rhai diwethaf a dibennu gyda'r cyntaf.'
20:9 Daeth y rhai a gyflogwyd tua phump o'r gloch, a derbyniasant un darn arian yr un.
20:10 A phan ddaeth y rhai a gyflogwyd gyntaf, tybiasant y caent fwy, ond un darn arian yr un a gawsant hwythau hefyd.
20:11 Ac wedi eu cael dechreusant rwgnach yn erbyn y perchen tŷ
20:12 gan ddweud, 'Dim ond un awr y gweithiodd y rhai diwethaf yma, a gwnaethost hwy'n gyfartal â ni, sydd wedi llafurio drwy'r dydd yn y gwres tanbaid.'
20:13 Ond atebodd y meistr: 'Gyfaill,' meddai wrth un ohonynt, 'nid wyf yn gwneud cam â thi. Onid am un darn arian y cytunaist â mi?
20:14 Cymer yr hyn sydd i ti a dos ymaith. 'Rwy'n dewis rhoi i'r olaf yma fel i tithau.
20:15 Onid yw'n gyfreithlon imi wneud fel 'rwy'n dewis â'm heiddo fy hun? Neu ai cenfigen yw dy ymateb i'm haelioni?
20:16 Felly bydd y rhai olaf yn flaenaf a'r rhai blaenaf yn olaf.'"

Iesu y Drydedd Waith yn Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad, Mc. 10:32-34; Lc. 18:31-34

20:17 Wrth fynd i fyny i Jerwsalem cymerodd Iesu'r deuddeg disgybl ar wahân, ac ar y ffordd dywedodd wrthynt,
20:18 "Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth,
20:19 a'i drosglwyddo i'r Cenhedloedd i'w watwar a'i fflangellu a'i groeshoelio; ac ar y trydydd dydd fe'i cyfodir."

Cais Iago ac Ioan Mc. 10:35-45

20:20 Yna daeth mam meibion Sebedeus ato gyda'i meibion, gan ymgrymu a gofyn ffafr ganddo.
20:21 Meddai ef wrthi, "Beth a fynni?" Atebodd, "Gorchymyn fod i'm dau fab hyn gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy deyrnas."
20:22 Atebodd Iesu, "Ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y cwpan yr wyf fi i'w yfed?" "Gallwn," meddent.
20:23 Dywedodd wrthynt, "Cewch yfed fy nghwpan i, ond eistedd ar fy llaw dde ac ar fy llaw chwith, nid gennyf fi y mae'r hawl i roi hynny; y mae'n perthyn i'r rhai y mae wedi ei ddarparu ar eu cyfer gan fy Nhad."
20:24 Pan glywodd y deg, aethant yn ddig wrth y ddau frawd.
20:25 Galwodd Iesu hwy ato ac meddai, "Gwyddoch fod llywodraethwyr y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'u gwŷr mawr yn dangos eu hawdurdod drostynt.
20:26 Ond nid felly y mae i fod yn eich plith chwi; yn hytrach, pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi,
20:27 a phwy bynnag sydd am fod yn flaenaf yn eich plith, rhaid iddo fod yn gaethwas i chwi,
20:28 fel Mab y Dyn, na ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer."

Iacháu Dau Ddyn Dall, Mc. 10:46-52; Lc. 18:35-43

20:29 Fel yr oeddent yn mynd allan o Jericho, dilynodd tyrfa fawr ef.
20:30 Yr oedd dau ddyn dall yn eistedd ar fin y ffordd, a phan glywsant fod Iesu yn mynd heibio, gwaeddasant, "Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd."
20:31 Ceryddodd y dyrfa hwy a dweud wrthynt am dewi, ond gweiddi'n fwy byth a wnaethant, "Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd."
20:32 Safodd Iesu, a'u galw a dweud, "Beth yr ydych am i mi ei wneud i chwi?"
20:33 Meddent hwy wrtho, "Syr, mae arnom eisiau i'n llygaid gael eu hagor."
20:34 Tosturiodd Iesu wrthynt a chyffyrddodd â'u llygaid, a chawsant eu golwg yn ôl yn y fan, a chanlynasant ef.

Yr Ymdaith Fuddugoliaethus i mewn i Jerwsalem, Mc. 11:1-11; Lc. 19:28-40; In. 12:12-19

21:1 Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem a chyrraedd Bethffage a Mynydd yr Olewydd, yna anfonodd Iesu ddau ddisgybl
21:2 gan ddweud wrthynt, "Ewch i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth fe gewch asen wedi ei rhwymo, ac ebol gyda hi. Gollyngwch hwy a dewch â hwy ataf.
21:3 Ac os dywed rhywun rywbeth wrthych, dywedwch, 'Y mae ar y Meistr eu hangen'; a bydd yn eu rhoi ar unwaith."
21:4 Digwyddodd hyn fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwyd:
21:5 "Dywedwch wrth ferch Seion, 'Wele dy frenin yn dod atat, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol, llwdn anifail gwaith.'"
21:6 Aeth y disgyblion a gwneud fel y gorchmynnodd Iesu iddynt;
21:7 daethant â'r asen a'r ebol ato, a rhoesant eu mentyll ar eu cefn, ac eisteddodd Iesu arnynt.
21:8 Taenodd tyrfa fawr iawn eu mentyll ar y ffordd, ac yr oedd eraill yn torri canghennau o'r coed ac yn eu taenu ar y ffordd.
21:9 Ac yr oedd y tyrfaoedd ar y blaen iddo a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi: "Hosanna i Fab Dafydd! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd. Hosanna yn y goruchaf!"
21:10 Pan ddaeth ef i mewn i Jerwsalem cynhyrfwyd y ddinas drwyddi. Yr oedd pobl yn gofyn, "Pwy yw hwn?",
21:11 a'r tyrfaoedd yn ateb, "Y proffwyd Iesu yw hwn, o Nasareth yng Ngalilea."

Glanhau'r Deml, Mc. 11:15-19; Lc. 19:45-48; In. 2:13-22

21:12  Aeth Iesu i mewn i'r deml, a bwriodd allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod,
21:13 a dywedodd wrthynt, "Y mae'n ysgrifenedig: 'Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi, ond yr ydych chwi yn ei wneud yn ogof lladron.'"
21:14 A daeth deillion a chloffion ato yn y deml, ac iachaodd hwy.
21:15 Ond pan welodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaeth, a'r plant yn gweiddi yn y deml, "Hosanna i Fab Dafydd!", aethant yn ddig,
21:16 a dywedasant wrtho, "A wyt yn clywed beth y mae'r rhain yn ei ddweud?" Atebodd Iesu, "Ydwyf. Onid ydych erioed wedi darllen: 'O enau babanod a phlant sugno y darperaist fawl i ti dy hun'?"
21:17 Yna gadawodd Iesu hwy ac aeth allan o'r ddinas i Fethania, a threuliodd y nos yno.

Melltithio'r Ffigysbren, Mc. 11:12-14, 20-24

21:18 Yn y bore, wrth iddo ddychwelyd i'r ddinas, daeth chwant bwyd arno.
21:19 A phan welodd ffigysbren ar fin y ffordd aeth ato, ond ni chafodd ddim arno ond dail yn unig. Dywedodd wrtho, "Na fydded ffrwyth arnat ti byth mwy." Ac ar unwaith crinodd y ffigysbren.
21:20 Pan welodd y disgyblion hyn, fe ryfeddasant a dweud, "Sut y crinodd y ffigysbren ar unwaith?"
21:21 Atebodd Iesu hwy, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, os bydd gennych ffydd, heb amau dim, nid yn unig fe wnewch yr hyn a wnaed i'r ffigysbren, ond hyd yn oed os dywedwch wrth y mynydd hwn, 'Coder di a bwrier di i'r môr', hynny a fydd.
21:22 A beth bynnag oll y gofynnwch amdano mewn gweddi, os ydych yn credu, fe'i cewch."

Amau Awdurdod Iesu, Mc. 11:27-33; Lc. 20:1-8

21:23 Daeth Iesu i'r deml, a phan oedd yn dysgu yno daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ato a gofyn, "Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn?"
21:24 Atebodd Iesu hwy, "Fe ofynnaf finnau un peth i chwi, ac os atebwch hwnnw, fe ddywedaf finnau wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.
21:25 Bedydd Ioan, o ble yr oedd? Ai o'r nef ai o'r byd daearol?" Dechreusant ddadlau â'i gilydd a dweud, "Os dywedwn, 'O'r nef', fe ddywed wrthym, 'Pam, ynteu, na chredasoch ef?'
21:26 Ond os dywedwn, 'O'r byd daearol', y mae arnom ofn y dyrfa, oherwydd y mae pawb yn dal fod Ioan yn broffwyd."
21:27 Atebasant Iesu, "Ni wyddom ni ddim." Ac meddai yntau wrthynt, "Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.

Dameg y Ddau Fab

21:28 "Ond beth yw eich barn chwi ar hyn? Yr oedd dyn a chanddo ddau fab. Aeth at y cyntaf a dweud, 'Fy mab, dos heddiw a gweithia yn y winllan.'
21:29 Atebodd yntau, 'Na wnaf'; ond yn ddiweddarach newidiodd ei feddwl a mynd.
21:30 Yna fe aeth y tad at y mab arall a gofyn yr un modd. Atebodd hwnnw, 'Fe af fi, syr'; ond nid aeth.
21:31 Prun o'r ddau a gyflawnodd ewyllys y tad?" "Y cyntaf," meddent. Dywedodd Iesu wrthynt, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych fod y casglwyr trethi a'r puteiniaid yn mynd i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.
21:32 Oherwydd daeth Ioan atoch yn dangos ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef. Ond fe gredodd y casglwyr trethi a'r puteiniaid ef. A chwithau, ar ôl ichwi weld hynny, ni newidiasoch eich meddwl a dod i'w gredu.

Dameg y Winllan a'r Tenantiaid, Mc. 12:1-12; Lc. 20:9-19

21:33 "Gwrandewch ar ddameg arall. Yr oedd rhyw berchen tŷ a blannodd winllan; cododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf ynddi, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref.
21:34 A phan ddaeth amser y cynhaeaf yn agos, anfonodd ei weision at y tenantiaid i dderbyn ei ffrwythau.
21:35 Daliodd y tenantiaid ei weision; curasant un, a lladd un arall a llabyddio un arall.
21:36 Anfonodd drachefn weision eraill, mwy ohonynt na'r rhai cyntaf, a gwnaeth y tenantiaid yr un modd â hwy.
21:37 Yn y diwedd anfonodd atynt ei fab, gan ddweud, 'Fe barchant fy mab.'
21:38 Ond pan welodd y tenantiaid y mab dywedasant wrth ei gilydd, 'Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.'
21:39 A chymerasant ef, a'i fwrw allan o'r winllan, a'i ladd.
21:40 Felly pan ddaw perchen y winllan, beth a wna i'r tenantiaid hynny?"
21:41 "Fe lwyr ddifetha'r dyhirod," meddent wrtho, "a gosod y winllan i denantiaid eraill, rhai fydd yn rhoi'r ffrwythau iddo yn eu tymhorau."
21:42 Dywedodd Iesu wrthynt, "Onid ydych erioed wedi darllen yn yr Ysgrythurau: 'Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl; gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni'?
21:43 Am hynny 'rwy'n dweud wrthych y cymerir teyrnas Dduw oddi wrthych chwi, ac fe'i rhoddir i genedl sy'n dwyn ei ffrwythau hi.
21:44 A'r sawl sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria."
21:45 Pan glywodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid ei ddamhegion, gwyddent mai amdanynt hwy yr oedd yn sôn.
21:46 Yr oeddent yn ceisio ei ddal, ond yr oedd arnynt ofn y tyrfaoedd, am eu bod hwy yn ei gyfrif ef yn broffwyd.

Dameg y Wledd Briodas, Lc. 14:15-24

22:1 A llefarodd Iesu drachefn wrthynt ar ddamhegion.
22:2 "Y mae teyrnas nefoedd," meddai, "yn debyg i frenin, a drefnodd wledd briodas i'w fab.
22:3 Anfonodd ei weision i alw'r gwahoddedigion i'r neithior, ond nid oeddent am ddod.
22:4 Anfonodd eilwaith weision eraill gan ddweud, 'Dywedwch wrth y gwahoddedigion, "Dyma fi wedi paratoi fy ngwledd, y mae fy mustych a'm llydnod pasgedig wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dewch i'r neithior."'
22:5 Ond ni chymerodd y gwahoddedigion sylw, ac aethant ymaith, un i'w faes, ac un arall i'w fasnach.
22:6 A gafaelodd y lleill yn ei weision a'u cam-drin yn warthus a'u lladd.
22:7 Digiodd y brenin, ac anfonodd ei filwyr i ddifetha'r llofruddion hynny a llosgi eu tref.
22:8 Yna meddai wrth ei weision, 'Y mae'r wledd briodas yn barod, ond nid oedd y gwahoddedigion yn deilwng.
22:9 Ewch felly i bennau'r strydoedd, a gwahoddwch bwy bynnag a gewch yno i'r wledd briodas.'
22:10 Ac fe aeth y gweision hynny allan i'r ffyrdd a chasglu ynghyd bawb a gawsant yno, yn ddrwg a da. A llanwyd neuadd y wledd briodas gan westeion.
22:11 Aeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwesteion a gwelodd yno ddyn heb wisg briodas amdano.
22:12 Meddai wrtho, 'Gyfaill, sut y daethost i mewn yma heb wisg briodas?' A thrawyd y dyn yn fud.
22:13  Yna dywedodd y brenin wrth ei wasanaethyddion, 'Rhwymwch ei draed a'i ddwylo a bwriwch ef i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.'
22:14 Y mae llawer, yn wir, wedi eu gwahodd, ond ychydig wedi eu hethol."

alu Trethi i Gesar, Mc. 12:13-17; Lc. 20:20-26

22:15 Yna fe aeth y Phariseaid a chynllwynio sut i'w rwydo ar air.
22:16 A dyma hwy'n anfon eu disgyblion ato gyda'r Herodianiaid i ddweud, "Athro, gwyddom dy fod yn gwbl eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw yn unol â'r gwirionedd; ni waeth gennyt am neb, ac yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb.
22:17 Dywed wrthym, felly, beth yw dy farn: a yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw?"
22:18 Deallodd Iesu eu dichell a dywedodd, "Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf, ragrithwyr?
22:19 Dangoswch i mi ddarn arian y dreth." Daethant â darn arian iddo,
22:20 ac meddai ef wrthynt, "Llun ac arysgrif pwy sydd yma?"
22:21 Dywedasant wrtho, "Cesar." Yna meddai ef wrthynt, "Talwch felly bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw."
22:22 Pan glywsant hyn rhyfeddasant, a gadawsant ef a mynd ymaith.

Holi ynglŷn â'r Atgyfodiad, Mc. 12:18-27; Lc. 20:27-40

22:23 Yr un diwrnod daeth ato Sadwceaid yn dweud nad oes dim atgyfodiad.
22:24 Gofynasant iddo, "Athro, dywedodd Moses, 'Os bydd rhywun farw heb blant ganddo, y mae ei frawd i briodi'r wraig ac i godi plant i'w frawd.'
22:25 Yr oedd saith o frodyr yn ein plith; priododd y cyntaf, a bu farw, a chan nad oedd plant ganddo gadawodd ei wraig i'w frawd.
22:26 A'r un modd yr ail a'r trydydd, hyd at y seithfed.
22:27 Yn olaf oll bu farw'r wraig.
22:28 Yn yr atgyfodiad, felly, gwraig prun o'r saith fydd hi? Oherwydd cafodd pob un hi'n wraig."
22:29 Atebodd Iesu hwy, "Yr ydych yn cyfeiliorni am nad ydych yn deall na'r Ysgrythurau na gallu Duw.
22:30 Oherwydd yn yr atgyfodiad ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nef.
22:31 Ond ynglŷn ag atgyfodiad y meirw, onid ydych wedi darllen y gair a lefarwyd wrthych gan Dduw,
22:32 'Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf'? Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw."
22:33 A phan glywodd y tyrfaoedd yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu.

Y Gorchymyn Mawr, Mc. 12:28-34; Lc. 10:25-38

22:34 Clywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid, a daethant at ei gilydd.
22:35 Ac i roi prawf arno, gofynnodd un ohonynt, ac yntau'n athro'r Gyfraith,
22:36 "Athro, pa orchymyn yw'r mwyaf yn y Gyfraith?"
22:37 Dywedodd Iesu wrtho, "'Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.'
22:38 Dyma'r gorchymyn cyntaf a phwysicaf.
22:39 Ac y mae'r ail yn debyg iddo: 'Câr dy gymydog fel ti dy hun.'
22:40 Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl Gyfraith a'r proffwydi yn dibynnu."

Holi ynglŷn â Mab Dafydd Mc. 12:35-37; Lc. 20:41-44

22:41 Yr oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, a gofynnodd Iesu iddynt,
22:42 "Beth yw eich barn chwi ynglŷn â'r Meseia? Mab pwy ydyw?" "Mab Dafydd," meddent wrtho.
22:43 "Sut felly," gofynnodd Iesu, "y mae Dafydd trwy'r Ysbryd yn ei alw'n Arglwydd, pan ddywed:
22:44 'Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, "Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion dan dy draed "'?
22:45 Os yw Dafydd felly yn ei alw'n Arglwydd, sut y mae'n fab iddo?"
22:46 Ac nid oedd neb yn gallu ateb gair iddo, ac o'r diwrnod hwnnw ni feiddiodd neb ei holi ddim mwy.

Cyhuddo'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid, Mc. 12:38-40; Lc. 11:37-52, 20:45-47

23:1 Yna llefarodd Iesu wrth y tyrfaoedd a'i ddisgyblion.
23:2 Dywedodd: "Y mae'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn eistedd yng nghadair Moses.
23:3 Felly gwnewch a chadwch bopeth a ddywedant wrthych, ond peidiwch â dilyn eu hymddygiad, oherwydd siarad y maent, heb weithredu.
23:4 Y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, a'u gosod ar ysgwyddau pobl, ond nid ydynt hwy eu hunain yn fodlon codi bys i'w symud.
23:5 Cyflawnant eu holl weithredoedd er mwyn cael eu gweld gan eraill. Y maent yn gwneud eu phylacterau'n llydan ac ymylon eu mentyll yn llaes;
23:6 y maent yn hoffi cael y seddau anrhydedd mewn gwleddoedd a'r prif gadeiriau yn y synagogau,
23:7 a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd a'u galw gan bobl yn 'Rabbi'.
23:8 Ond peidiwch chwi â chymryd eich galw yn 'Rabbi', oherwydd un athro sydd gennych, a chymrodyr ydych chwi i gyd.
23:9 A pheidiwch â galw neb yn dad ichwi ar y ddaear, oherwydd un tad sydd gennych chwi, sef eich Tad nefol.
23:10 A pheidiwch â chymryd eich galw'n arweinwyr chwaith, oherwydd un arweinydd sydd gennych, sef y Meseia.
23:11 Rhaid i'r un mwyaf ohonoch fod yn was i chwi.
23:12 Darostyngir pwy bynnag fydd yn ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pwy bynnag fydd yn ei ddarostwng ei hun.
23:13 "Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn cau drws teyrnas nefoedd yn wyneb pobl; nid ydych yn mynd i mewn eich hunain, nac yn gadael i'r rhai sydd am fynd i mewn wneud hynny.
23:14 [Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; am hynny fe dderbyniwch drymach dedfryd.]
23:15 "Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn cwmpasu môr a thir i wneud un proselyt, ac wedi ei gael fe'i gwnewch yn ddwywaith cymaint o blentyn uffern ag yr ydych chwi.
23:16 "Gwae chwi, arweinwyr dall sy'n dweud, 'Os bydd rhywun yn tyngu llw i'r deml, nid yw hynny'n golygu dim; ond os bydd yn tyngu i'r aur sydd yn y deml, y mae rhwymedigaeth arno.'
23:17 Ffyliaid a deillion, prun sydd fwyaf, yr aur ynteu'r deml, sy'n gwneud yr aur yn gysegredig?
23:18 A thrachefn fe ddywedwch, 'Os bydd rhywun yn tyngu llw i'r allor, nid yw hynny'n golygu dim; ond os bydd yn tyngu i'r offrwm sydd ar yr allor, y mae rhwymedigaeth arno.'
23:19 Ddeillion, prun sydd fwyaf, yr offrwm ynteu'r allor, sy'n gwneud yr offrwm yn gysegredig?
23:20 Felly y mae'r sawl sy'n tyngu llw i'r allor yn tyngu iddi hi ac i bopeth sydd arni,
23:21 ac y mae'r sawl sy'n tyngu llw i'r deml yn tyngu iddi hi ac i'r hwn sy'n preswylio ynddi.
23:22 Ac y mae'r sawl sy'n tyngu llw i'r nef yn tyngu i orsedd Duw ac i'r hwn sy'n eistedd arni.
23:23 "Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn talu degwm o fintys ac anis a chwmin, ond gadawsoch heibio bethau trymach y Gyfraith, cyfiawnder a thrugaredd a ffyddlondeb, yr union bethau y dylasech ofalu amdanynt, heb adael heibio'r lleill.
23:24 Arweinwyr dall! Yr ydych yn hidlo'r gwybedyn ac yn llyncu'r camel.
23:25 "Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ond y tu mewn y maent yn llawn trachwant a hunan-foddhad.
23:26 Y Pharisead dall, glanha'n gyntaf y tu mewn i'r cwpan, fel y bydd y tu allan iddo hefyd yn lân.
23:27 "Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn debyg i feddau wedi eu gwyngalchu, sydd o'r tu allan yn ymddangos yn hardd, ond y tu mewn y maent yn llawn o esgyrn y meirw a phob aflendid.
23:28 Felly hefyd yn allanol yr ydych chwithau yn ymddangos i bobl yn gyfiawn, ond oddi mewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anghyfraith.
23:29 "Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn adeiladu beddau'r proffwydi ac yn addurno beddfeini'r rhai cyfiawn,
23:30 ac yn dweud, 'Pe baem ni'n byw yn nyddiau ein hynafiaid, ni fyddem wedi ymuno gyda hwy i dywallt gwaed y proffwydi.'
23:31 Felly yr ydych yn tystio yn eich erbyn eich hunain eich bod yn blant i'r rhai a lofruddiodd y proffwydi.
23:32 Ewch chwithau ymlaen i orffen yr hyn a ddechreuodd eich hynafiaid.
23:33 Chwi seirff ac epil gwiberod, sut y dihangwch rhag barn uffern?
23:34 Am hynny dyma fi'n anfon atoch broffwydi a rhai doeth a rhai dysgedig; byddwch yn lladd ac yn croeshoelio rhai ohonynt, ac yn fflangellu eraill yn eich synagogau, a'u herlid o un dref i'r llall.
23:35 Felly, ar eich pen chwi y bydd yr holl waed diniwed a dywalltwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd at waed Sechareia fab Beracheia, a lofruddiasoch rhwng y cysegr a'r allor.
23:36 Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ar ben y genhedlaeth hon y bydd yr holl bethau hyn.

Y Galarnad dros Jerwsalem, Lc. 13:34-35

23:37 "Jerwsalem, Jerwsalem, tydi sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r rhai a anfonwyd atat, mor aml y dymunais gasglu dy blant ynghyd, fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd, ond gwrthod a wnaethoch.
23:38 Wele, y mae eich tŷ yn cael ei adael yn anghyfannedd.
23:39 Oherwydd 'rwy'n dweud wrthych, ni chewch fy ngweld o hyn allan hyd y dydd pan ddywedwch, 'Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.'"

Rhagfynegi Dinistr y Deml, Mc. 13:1-2; Lc. 21:5-6

24:1 Aeth Iesu allan o'r deml, a phan oedd ar ei ffordd oddi yno daeth ei ddisgyblion ato i dynnu ei sylw at adeiladau'r deml.
24:2 Dywedodd yntau wrthynt, "Oni welwch yr holl bethau hyn? Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr."

Dechrau'r Gwewyr, Mc. 13:3-13; Lc. 21:7-19

24:3 Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd daeth y disgyblion ato o'r neilltu a gofyn, "Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd o'th ddyfodiad ac o ddiwedd amser?"
24:4 Atebodd Iesu hwy, "Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo.
24:5 Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, 'Myfi yw'r Meseia', ac fe dwyllant lawer.
24:6 Byddwch yn clywed am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd; gofalwch beidio â chyffroi, oherwydd rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto.
24:7 Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd adegau o newyn a daeargrynfâu mewn mannau.
24:8 Ond dechrau'r gwewyr fydd hyn oll.
24:9 Yna fe'ch traddodir i gael eich cosbi a'ch lladd, a chas fyddwch gan bob cenedl o achos fy enw i.
24:10 A'r pryd hwnnw bydd llawer yn cwympo ymaith; byddant yn bradychu ei gilydd a chasáu ei gilydd.
24:11 Fe gyfyd llawer o broffwydi gau a thwyllant lawer.
24:12 Ac am fod drygioni yn amlhau bydd cariad llawer iawn yn oeri.
24:13 Ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.
24:14 Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy'r byd i gyd fel tystiolaeth i'r holl genhedloedd, ac yna y daw'r diwedd.

Y Gorthrymder Mawr, Mc. 13:14-23; Lc. 21:20-24

24:15 "Felly, pan welwch 'y ffieiddbeth diffeithiol', y soniodd y proffwyd Daniel amdano, yn sefyll yn y lle sanctaidd" dealled y darllenydd
24:16 "yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd.
24:17 Y sawl sydd ar ben y tŷ, peidied â mynd i lawr i gipio'i bethau o'i dŷ;
24:18 a'r sawl sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell.
24:19 Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny!
24:20 A gweddïwch na fyddwch yn gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar y Saboth,
24:21 oblegid y pryd hwnnw bydd gorthrymder mawr na fu ei debyg o ddechrau'r byd hyd yn awr, ac na fydd byth chwaith.
24:22 Ac oni bai fod y dyddiau hynny wedi eu byrhau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.
24:23 Yna, os dywed rhywun wrthych, 'Edrych, dyma'r Meseia', neu 'Dacw ef', peidiwch â'i gredu.
24:24 Oherwydd fe gyfyd gau-feseiâu a gau-broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau nes arwain ar gyfeiliorn hyd yn oed yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.
24:25 Yn awr yr wyf wedi dweud wrthych ymlaen llaw.
24:26  Felly, os dywedant wrthych, 'Dyma ef yn yr anialwch', peidiwch â mynd allan; neu os dywedant, 'Dyma ef mewn ystafelloedd o'r neilltu', peidiwch â'u credu.
24:27 Oherwydd fel y mae'r fellten yn dod o'r dwyrain ac yn goleuo hyd at y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn.
24:28 Lle bynnag y bydd y gelain, yno yr heidia'r fwlturiaid.

Dyfodiad Mab y Dyn, Mc. 13:24-27; Lc. 21:25-28

24:29 "Yn union ar ôl gorthrymder y dyddiau hynny, 'Tywyllir yr haul, ni rydd y lloer ei llewyrch, syrth y sêr o'r nef, ac ysgydwir nerthoedd y nefoedd.'
24:30 A'r pryd hwnnw ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef; y pryd hwnnw bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru, a gwelant Fab y Dyn yn dyfod ar gymylau'r nef gyda nerth a gogoniant mawr.
24:31 Ac fe anfona ei angylion wrth sain utgorn mawr, a byddant yn cynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o un eithaf i'r nefoedd hyd at y llall.

Gwers y Ffigysbren, Mc. 13:28-31; Lc. 21:29-33

24:32 "Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos.
24:33 Felly chwithau, pan welwch yr holl bethau hyn, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws.
24:34 Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r holl bethau hyn ddigwydd.
24:35 Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim.

Y Dydd a'r Awr Anhysbys, Mc. 13:32-37; Lc. 17:26-30, 34-36

24:36 "Ond am y dydd hwnnw a'r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nef, na'r Mab, neb ond y Tad yn unig.
24:37 Fel y bu yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.
24:38 Fel yr oedd pobl yn y dyddiau cyn y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn cymryd gwragedd ac yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch,
24:39 ac ni wyddent ddim hyd nes y daeth y dilyw a'u hysgubo ymaith i gyd; felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.
24:40 Y pryd hwnnw bydd dau yn y cae; cymerir un a gadewir y llall.
24:41 Bydd dwy wraig yn malu yn y felin; cymerir un a gadewir y llall.
24:42 Byddwch wyliadwrus gan hynny; oherwydd ni wyddoch pa ddydd y daw eich Arglwydd.
24:43 Ond gwybyddwch hyn: pe buasai meistr y tŷ yn gwybod pa amser y byddai'r lleidr yn dod, buasai ar ei wyliadwriaeth ac ni fuasai wedi caniatáu iddo dorri i mewn i'w dŷ.
24:44 Am hynny chwithau hefyd, byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn.

Y Gwas Ffyddlon neu Anffyddlon, Lc. 12:41-48

24:45 "Pwy ynteu yw'r gwas ffyddlon a chall a osodwyd gan ei feistr dros weision y tŷ, i roi eu bwyd iddynt yn ei bryd?
24:46 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw;
24:47 yn wir, 'rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo.
24:48 Ond os yw'r gwas hwnnw'n ddrwg, ac os dywed yn ei galon, 'Y mae fy meistr yn oedi',
24:49 a dechrau curo'i gydweision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon,
24:50 yna bydd meistr y gwas hwnnw yn cyrraedd ar ddiwrnod annisgwyl iddo ef ac ar awr nas gŵyr;
24:51 ac fe'i cosba yn llym, a gosod ei le gyda'r rhagrithwyr; bydd yno wylo a rhincian dannedd.

Dameg y Deg Geneth

25:1 "Y pryd hwnnw bydd teyrnas nefoedd yn debyg i ddeg o enethod a gymerodd eu lampau a mynd allan i gyfarfod â'r priodfab.
25:2 Yr oedd pump ohonynt yn ffôl a phump yn gall.
25:3 Cymerodd y rhai ffôl eu lampau ond heb gymryd olew gyda hwy,
25:4 ond cymerodd y rhai call, gyda'u lampau, olew mewn llestri.
25:5 Gan fod y priodfab yn hwyr yn dod aethant i gyd i hepian a chysgu.
25:6 Ac ar ganol nos daeth gwaedd: 'Dyma'r priodfab, ewch allan i'w gyfarfod.'
25:7 Yna cododd y genethod hynny i gyd a pharatoi eu lampau.
25:8 Dywedodd y rhai ffôl wrth y rhai call, 'Rhowch i ni beth o'ch olew, oherwydd y mae'n lampau ni yn diffodd.'
25:9 Atebodd y rhai call, 'Na yn wir, ni fydd digon i ni ac i chwithau. Gwell i chwi fynd at y gwerthwyr a phrynu peth i chwi eich hunain.'
25:10 A thra oeddent yn mynd i brynu'r olew, cyrhaeddodd y priodfab, ac aeth y rhai oedd yn barod i mewn gydag ef i'r wledd briodas, a chlowyd y drws.
25:11 Yn ddiweddarach dyma'r genethod eraill yn dod ac yn dweud, 'Syr, syr, agor y drws i ni.'
25:12 Atebodd yntau, 'Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, nid wyf yn eich adnabod.'
25:13 Byddwch wyliadwrus gan hynny, oherwydd ni wyddoch na'r dydd na'r awr.

Dameg y Codau o Arian, Lc. 19:11-27

25:14 "Y mae fel dyn a oedd yn mynd oddi cartref ac a alwodd ei weision a rhoi ei eiddo yn eu gofal.
25:15 I un fe roddodd bum cod o arian, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn ôl ei allu, ac fe aeth oddi cartref.
25:16 Ar unwaith aeth yr un a dderbyniodd bum cod a masnachu â hwy, ac fe enillodd atynt bump arall.
25:17 Felly hefyd enillodd yr un a gafodd ddwy god ddwy arall atynt.
25:18 Ond y sawl a dderbyniodd un god, aeth ef ymaith a chloddio twll yn y ddaear a chuddio arian ei feistr.
25:19 Ymhen cryn dipyn o amser daeth meistr y gweision hynny yn ôl ac fe adolygodd eu cyfrifon hwy.
25:20 Daeth yr un a dderbyniodd bum cod a chyflwyno iddo bump arall. 'Meistr,' meddai, 'rhoddaist bum cod o arian yn fy ngofal; dyma bum cod arall a enillais i atynt.'
25:21 'Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon,' meddai ei feistr wrtho, 'buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.'
25:22 Yna daeth yr un â'r ddwy god, a dywedodd, 'Meistr, rhoddaist ddwy god o arian yn fy ngofal; dyma ddwy god arall a enillais i atynt.'
25:23 Meddai ei feistr wrtho, 'Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon; buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.'
25:24 Yna daeth yr un oedd wedi derbyn un god, a dywedodd, 'Meistr, gwyddwn dy fod yn ddyn caled, yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill.
25:25 Yn fy ofn euthum a chuddio dy god o arian yn y ddaear. Dyma i ti dy eiddo yn ôl.'
25:26 Atebodd ei feistr ef, 'Y gwas drwg a diog, yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill.
25:27 Dylit felly fod wedi gosod fy arian yn y banc, a buasai fy eiddo wedi ennill llog erbyn i mi ddod i'w hawlio.
25:28 Felly cymerwch y god o arian oddi arno a rhowch hi i'r un a chanddo ddeg cod.
25:29 Oherwydd i bawb y mae ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon, ond oddi ar yr hwn nad oes ganddo fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo.
25:30 A bwriwch y gwas diwerth i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.'

Barnu'r Cenhedloedd

25:31 "Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant.
25:32 Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr,
25:33 ac fe esyd y defaid ar ei law dde a'r geifr ar y chwith.
25:34 Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, 'Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd.
25:35 Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref;
25:36 bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi, bûm yng ngharchar a daethoch ataf.'
25:37 Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb: 'Arglwydd,' gofynnant, 'pryd y'th welsom di'n newynog a'th borthi, neu'n sychedig a rhoi diod iti?
25:38 A phryd y'th welsom di'n ddieithr a'th gymryd i'n cartref, neu'n noeth a rhoi dillad amdanat?
25:39 Pryd y'th welsom di'n glaf neu yng ngharchar ac ymweld â thi?'
25:40 A bydd y Brenin yn eu hateb, 'Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.'
25:41 "Yna fe ddywed wrth y rhai ar y chwith, 'Ewch oddi wrthyf, chwi sydd dan felltith, i'r tân tragwyddol a baratowyd i'r diafol a'i angylion.
25:42 Bûm yn newynog ac ni roesoch fwyd imi, bûm yn sychedig ac ni roesoch ddiod imi;
25:43 bûm yn ddieithr ac ni chymerasoch fi i'ch cartref, yn noeth ac ni roesoch ddillad amdanaf, yn glaf ac yng ngharchar ac nid ymwelsoch â mi.'
25:44 Yna atebant hwythau: 'Arglwydd,' gofynnant, 'pryd y'th welsom di'n newynog neu'n sychedig neu'n ddieithr neu'n noeth neu'n glaf neu yng ngharchar heb weini arnat?'
25:45 A bydd ef yn eu hateb, 'Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi beidio â'i wneud i un o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau chwaith.'
25:46 Ac fe â'r rhain ymaith i gosb dragwyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol."

Y Cynllwyn i Ladd Iesu, Mc. 14:1-2; Lc. 22:1-2; In. 11:45-53

26:1 Pan orffennodd Iesu lefaru'r holl eiriau hyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion,
26:2 "Gwyddoch fod y Pasg yn dod ymhen deuddydd, ac fe draddodir Mab y Dyn i'w groeshoelio."
26:3 Yna daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ynghyd yng nghyntedd yr archoffeiriad, a elwid Caiaffas,
26:4 a chynllwyn i ddal Iesu trwy ddichell a'i ladd.
26:5 Ond dweud yr oeddent, "Nid yn ystod yr ŵyl, rhag digwydd cynnwrf ymhlith y bobl."

Yr Eneinio ym Methania, Mc. 14:3-9; In. 12:1-8

26:6 Pan oedd Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus,
26:7 daeth gwraig ato a chanddi ffiol alabastr o ennaint gwerthfawr, a thywalltodd yr ennaint ar ei ben tra oedd ef wrth bryd bwyd.
26:8 Pan welodd y disgyblion hyn, aethant yn ddig a dweud, "I ba beth y bu'r gwastraff hwn?
26:9 Oherwydd gallesid gwerthu'r ennaint hwn am lawer o arian a'i roi i'r tlodion."
26:10 Sylwodd Iesu ar hyn a dywedodd wrthynt, "Pam yr ydych yn poeni'r wraig? Oherwydd gweithred brydferth a wnaeth hi i mi.
26:11 Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser.
26:12 Wrth dywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, fy mharatoi yr oedd hi ar gyfer fy nghladdu.
26:13 Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yma yn yr holl fyd, adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon, er cof amdani."

Jwdas yn Cydsynio i Fradychu, Iesu Mc. 14:10-11; Lc. 22:3-6

26:14 Yna aeth un o'r Deuddeg, hwnnw a elwid Jwdas Iscariot, at y prif offeiriaid
26:15 a dweud, "Beth a rowch imi os bradychaf ef i chwi?" Talasant iddo ddeg ar hugain o ddarnau arian;
26:16 ac o'r pryd hwnnw dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef.

Gwledd y Pasg gyda'r Disgyblion, Mc. 14:12-21; Lc. 22:7-14, 21-23; In. 13:21-30

26:17 Ar ddydd cyntaf gŵyl y Bara Croyw daeth y disgyblion at Iesu a gofyn, "Ble yr wyt ti am inni baratoi i ti fwyta gwledd y Pasg?".
26:18 Dywedodd yntau, "Ewch i'r ddinas at ddyn arbennig a dywedwch wrtho, 'Y mae'r Athro'n dweud, "Y mae fy amser i'n agos; yn dy dŷ di yr wyf am gadw'r Pasg gyda'm disgyblion."'"
26:19 A gwnaeth y disgyblion fel y gorchmynnodd Iesu iddynt, a pharatoesant wledd y Pasg.
26:20 Gyda'r nos yr oedd wrth y bwrdd gyda'r Deuddeg.
26:21 Ac fel yr oeddent yn bwyta, dywedodd Iesu, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i."
26:22 A chan dristáu yn fawr dechreusant ddweud wrtho, bob un ohonynt, "Nid myfi yw, Arglwydd?"
26:23 Atebodd yntau, "Un a wlychodd ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a'm bradycha i.
26:24 Y mae Mab y Dyn yn wir yn ymadael, fel y mae'n ysgrifenedig amdano, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir Mab y Dyn ganddo! Da fuasai i'r dyn hwnnw petai heb ei eni."
26:25 Dywedodd Jwdas ei fradychwr, "Nid myfi yw, Rabbi?" Meddai Iesu wrtho, "Ti a ddywedodd hynny."

Sefydlu Swper yr Arglwydd, Mc. 14:22-26; Lc. 22:15-20; 1 Cor. 11:23-25

26:26 Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd Iesu fara, ac wedi bendithio fe'i torrodd a'i roi i'r disgyblion, a dywedodd, "Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff."
26:27 A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe'i rhoddodd iddynt gan ddweud, "Yfwch ohono, bawb,
26:28 oherwydd hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau.
26:29 'Rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o hwn, ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd gyda chwi yn nheyrnas fy Nhad."
26:30 Ac wedi iddynt ganu emyn aethant allan i Fynydd yr Olewydd.

Rhagfynegi Gwadiad Pedr, Mc. 14:27-31; Lc. 22:31-34; In. 13:36-38

26:31 Yna dywedodd Iesu wrthynt, "Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch chwi o'm hachos i heno, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: 'Trawaf y bugail, a gwasgerir defaid y praidd.'
26:32 Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea."
26:33 Atebodd Pedr ef, "Er iddynt gwympo bob un o'th achos di, ni chwympaf fi byth."
26:34 Meddai Iesu wrtho, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno, cyn i'r ceiliog ganu, fy ngwadu i deirgwaith."
26:35 "Hyd yn oed petai'n rhaid imi farw gyda thi," meddai Pedr wrtho, "ni'th wadaf byth." Ac felly y dywedodd y disgyblion i gyd.

Y Weddi yn Gethsemane, Mc. 14:32-42; Lc. 22:39-46

26:36 Yna daeth Iesu gyda hwy i le a elwir Gethsemane, ac meddai wrth y disgyblion, "Eisteddwch yma tra byddaf fi'n mynd fan draw i weddïo."
26:37 Ac fe gymerodd gydag ef Pedr a dau fab Sebedeus; a dechreuodd deimlo tristwch a thrallod dwys.
26:38 Yna meddai wrthynt, "Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch gyda mi."
26:39 Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar ei wyneb gan weddïo, "Fy Nhad, os yw'n bosibl, boed i'r cwpan hwn fynd heibio i mi; ond nid fel y mynnaf fi, ond fel y mynni di."
26:40 Daeth yn ôl at y disgyblion a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, "Felly! Oni allech wylio am un awr gyda mi?
26:41 Gwyliwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi. Y mae'r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan."
26:42 Aeth ymaith drachefn yr ail waith a gweddïo, "Fy Nhad, os nad yw'n bosibl i'r cwpan hwn fynd heibio heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys di."
26:43 A phan ddaeth yn ôl fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm.
26:44 Ac fe'u gadawodd eto a mynd ymaith i weddïo y drydedd waith, gan lefaru'r un geiriau drachefn.
26:45 Yna daeth at y disgyblion a dweud wrthynt, "A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyma'r awr yn agos, a Mab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid.
26:46 Codwch ac awn. Dyma fy mradychwr yn agosáu."

Bradychu a Dal Iesu, Mc. 14:43-50; Lc. 22:47-53; In. 18:3-12

26:47 Yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn dod, a chydag ef dyrfa fawr yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a henuriaid y bobl.
26:48 Rhoddodd ei fradychwr arwydd iddynt gan ddweud, "Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef."
26:49 Ac yn union aeth at Iesu a dweud, "Henffych well, Rabbi", a chusanodd ef.
26:50 Dywedodd Iesu wrtho, "Gyfaill, gwna'r hyn yr wyt yma i'w wneud." Yna daethant a rhoi eu dwylo ar Iesu a'i ddal.
26:51 A dyma un o'r rhai oedd gyda Iesu yn estyn ei law ac yn tynnu ei gleddyf a tharo gwas yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd.
26:52 Yna dywedodd Iesu wrtho, "Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le, oherwydd bydd pawb sy'n cymryd y cleddyf yn marw trwy'r cleddyf.
26:53 A wyt yn tybio na allwn ddeisyf ar fy Nhad, ac na roddai i mi yn awr fwy na deuddeg lleng o angylion?
26:54 Ond sut felly y cyflawnid yr Ysgrythurau sy'n dweud mai fel hyn y mae'n rhaid iddi ddigwydd?"
26:55 A'r pryd hwnnw dywedodd Iesu wrth y dyrfa, "Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i'm dal i? Yr oeddwn yn eistedd beunydd yn y deml yn dysgu, ac ni ddaliasoch fi.
26:56 Ond digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid yr hyn a ysgrifennodd y proffwydi." Yna gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi.

Iesu gerbron y Sanhedrin, Mc. 14:53-65; Lc. 22:54-55, 63-71; In. 18:12-14, 19-24

26:57 Aeth y rhai oedd wedi dal Iesu ag ef ymaith i dŷ Caiaffas yr archoffeiriad, lle'r oedd yr ysgrifenyddion a'r henuriaid wedi dod ynghyd.
26:58 Canlynodd Pedr ef o hirbell hyd at gyntedd yr archoffeiriad, ac wedi mynd i mewn eisteddodd gyda'r gwasanaethwyr, i weld y diwedd.
26:59 Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio camdystiolaeth yn erbyn Iesu, er mwyn ei roi i farwolaeth,
26:60 ond ni chawsant ddim, er i lawer o dystion gau ddod ymlaen. Yn y diwedd daeth dau ymlaen
26:61 a dweud, "Dywedodd hwn, 'Gallaf fwrw i lawr deml Duw, ac ymhen tridiau ei hadeiladu.'"
26:62 Yna cododd yr archoffeiriad ar ei draed a dweud wrtho, "Onid atebi ddim? Beth am dystiolaeth y rhain yn dy erbyn?"
26:63 Parhaodd Iesu'n fud; a dywedodd yr archoffeiriad wrtho, "Yr wyf yn rhoi siars i ti dyngu yn enw'r Duw byw a dweud wrthym ai ti yw'r Meseia, Mab Duw."
26:64 Dywedodd Iesu wrtho, "Ti a ddywedodd hynny; ond 'rwy'n dweud wrthych: 'O hyn allan fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod ar gymylau'r nef.'"
26:65 Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, "Cabledd! Pa raid i ni wrth dystion bellach? Yr ydych newydd glywed ei gabledd.
26:66 Sut y barnwch chwi?" Atebasant, "Y mae'n haeddu marwolaeth."
26:67 Yna poerasant ar ei wyneb a'i gernodio; trawodd rhai ef
26:68 a dweud, "Proffwyda i ni, Feseia! Pwy a'th drawodd?"

Pedr yn Gwadu Iesu, Mc. 14:66-72; Lc. 22:56-62; In. 18:15-18, 25-27

26:69 Yr oedd Pedr yn eistedd y tu allan yn y cyntedd. A daeth un o'r morynion ato a dweud, "Yr oeddit tithau hefyd gyda Iesu'r Galilead."
26:70 Ond gwadodd ef o flaen pawb a dweud, "Nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn."
26:71 Ac wedi iddo fynd allan i'r porth, gwelodd morwyn arall ef a dweud wrth y rhai oedd yno, "Yr oedd hwn gyda Iesu'r Nasaread."
26:72 Gwadodd yntau drachefn â llw, "Nid wyf yn adnabod y dyn."
26:73 Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yno yn dod at Pedr a dweud wrtho, "Yn wir yr wyt ti hefyd yn un ohonynt, achos y mae dy acen yn dy fradychu."
26:74 Yna dechreuodd yntau regi a thyngu, "Nid wyf yn adnabod y dyn." Ac ar unwaith fe ganodd y ceiliog.
26:75 Cofiodd Pedr y gair a lefarodd Iesu, "Cyn i'r ceiliog ganu, fe'm gwedi i deirgwaith." Aeth allan ac wylo'n chwerw.

Dod â Iesu gerbron Pilat, Mc. 15:1; Lc. 23:1-2; In. 18:28-32

27:1 Pan ddaeth yn ddydd, cynllwyniodd yr holl brif offeiriaid a henuriaid y bobl yn erbyn Iesu i'w roi i farwolaeth.
27:2 Rhwymasant ef a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat, y rhaglaw.

Marwolaeth Jwdas, Act. 1:18-19

27:3 Yna pan welodd Jwdas, ei fradychwr, fod Iesu wedi ei gondemnio, bu'n edifar ganddo ac aeth â'r deg darn arian ar hugain yn ôl at y prif offeiriaid a'r henuriaid.
27:4 Dywedodd, "Pechais trwy fradychu dyn dieuog." "Beth yw hynny i ni?" meddent hwy, "rhyngot ti a hynny."
27:5 A thaflodd Jwdas yr arian i lawr yn y deml ac ymadael; aeth ymaith, ac fe'i crogodd ei hun.
27:6 Wedi iddynt dderbyn yr arian, dywedodd y prif offeiriaid, "Nid yw'n gyfreithlon ei roi yn nhrysorfa'r deml, gan mai pris gwaed ydyw."
27:7 Ac wedi ymgynghori, prynasant Faes y Crochenydd â'r arian, fel mynwent i ddieithriaid.
27:8 Dyna pam y gelwir y maes hwnnw hyd heddiw yn Faes y Gwaed.
27:9 Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd: "Cymerasant y deg darn arian ar hugain, pris y sawl y rhoddodd rhai o blant Israel bris arno,
27:10 a'u gwario i brynu maes y crochenydd, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi."

Pilat yn Holi Iesu, Mc. 15:2-5; Lc. 23:3-5; In. 18:33-38

27:11 Safodd Iesu gerbron y rhaglaw; a holodd y rhaglaw ef: "Ai ti yw Brenin yr Iddewon?" Atebodd Iesu, "Ti sy'n dweud hynny."
27:12 A phan gyhuddwyd ef gan y prif offeiriaid a'r henuriaid, nid atebodd ddim.
27:13 Yna meddai Pilat wrtho, "Onid wyt yn clywed faint o dystiolaeth y maent yn ei dwyn yn dy erbyn?"
27:14 Ond ni roes ef iddo ateb i gymaint ag un cyhuddiad, er syndod mawr i'r rhaglaw.

Dedfrydu Iesu i Farwolaeth, Mc. 15:6-15; Lc. 23:13-25; In. 18:39—19:16

27:15 Ar yr ŵyl yr oedd y rhaglaw yn arfer rhyddhau i'r dyrfa un carcharor o'u dewis hwy.
27:16 A'r pryd hwnnw yr oedd carcharor adnabyddus yn y ddalfa, o'r enw Iesu Barabbas.
27:17 Felly, wedi iddynt ymgynnull, gofynnodd Pilat iddynt, "Pwy a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi, Iesu Barabbas ynteu Iesu a elwir y Meseia?"
27:18 Oherwydd gwyddai mai o genfigen y traddodasant ef.
27:19 A thra oedd Pilat yn eistedd ar y brawdle anfonodd ei wraig neges ato, yn dweud, "Paid â chael dim i'w wneud â'r dyn cyfiawn yna, oherwydd cefais lawer o ofid mewn breuddwyd neithiwr o'i achos ef."
27:20 Ond perswadiodd y prif offeiriaid a'r henuriaid y tyrfaoedd i ofyn am ryddhau Barabbas a rhoi Iesu i farwolaeth.
27:21 Atebodd y rhaglaw gan ofyn iddynt, "Prun o'r ddau a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi?"
27:22 "Barabbas," meddent hwy. "Beth, ynteu, a wnaf â Iesu a elwir y Meseia?" gofynnodd Pilat iddynt. Atebasant i gyd, "Croeshoelier ef."
27:23 "Ond pa ddrwg a wnaeth ef?" meddai yntau. Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, "Croeshoelier ef."
27:24 Pan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, cymerodd ddŵr, a golchodd ei ddwylo o flaen y dyrfa, a dweud, "Yr wyf fi'n ddieuog o waed y dyn hwn; chwi fydd yn gyfrifol."
27:25 Ac atebodd yr holl bobl, "Boed ei waed arnom ni ac ar ein plant."
27:26 Yna rhyddhaodd Pilat iddynt Barabbas, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio.

Y Milwyr yn Gwatwar Iesu, Mc. 15:16-20; In. 19:2-3

27:27 Yna cymerodd milwyr y rhaglaw Iesu i'r Praetoriwm a chynnull yr holl fintai o'i gwmpas.
27:28 Wedi diosg ei ddillad, rhoesant glogyn ysgarlad amdano;
27:29 plethasant goron o ddrain a'i gosod ar ei ben, a gwialen yn ei law dde. Aethant ar eu gliniau o'i flaen a'i watwar: "Henffych well, Frenin yr Iddewon!"
27:30 Poerasant arno, a chymryd y wialen a'i guro ar ei ben.
27:31 Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y clogyn oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun, a mynd ag ef ymaith i'w groeshoelio.

Croeshoelio Iesu, Mc. 15:21-32; Lc. 23:26-43; In. 19:17-27

27:32 Wrth fynd allan daethant ar draws dyn o Cyrene o'r enw Simon, a gorfodi hwnnw i gario ei groes ef.
27:33 Daethant i le a elwir Golgotha, hynny yw, "Lle Penglog",
27:34 ac yno rhoesant iddo i'w yfed win wedi ei gymysgu â bustl, ond ar ôl iddo ei brofi, gwrthododd ei yfed.
27:35 Croeshoeliasant ef, ac yna rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren,
27:36 ac eisteddasant yno i'w wylio.
27:37 Uwch ei ben gosodwyd y cyhuddiad yn ei erbyn mewn ysgrifen: "Hwn yw Iesu, Brenin yr Iddewon."
27:38 Yna croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith.
27:39 Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, yn ysgwyd eu pennau
27:40 a dweud, "Ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau, achub dy hun, os Mab Duw wyt ti, a disgyn oddi ar y groes."
27:41 A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd â'r ysgrifenyddion a'r henuriaid, yn ei watwar ac yn dweud,
27:42 "Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun. Brenin Israel yn wir! Disgynned yn awr oddi ar y groes ac fe gredwn ynddo.
27:43 Ymddiriedodd yn Nuw; boed i Dduw ei waredu yn awr, os yw â'i fryd arno, oherwydd dywedodd, 'Mab Duw ydwyf.'"
27:44 Yr un modd, yr oedd hyd yn oed y lladron a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio.

Marwolaeth Iesu, Mc. 15:33-41; Lc. 23:44-49; In. 19:28-30

27:45 O ganol dydd, daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn.
27:46 A thua thri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, "Eli, Eli, lema sabachthani", hynny yw, "Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?"
27:47 O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, "Y mae hwn yn galw ar Elias."
27:48 Ac ar unwaith fe redodd un ohonynt a chymryd ysbwng a'i lenwi â gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed.
27:49 Ond yr oedd y lleill yn dweud, "Gadewch inni weld a ddaw Elias i'w achub."
27:50 Gwaeddodd Iesu drachefn â llef uchel, a bu farw.
27:51 A dyma len y deml yn cael ei rhwygo yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. Siglwyd y ddaear a holltwyd y creigiau;
27:52 agorwyd y beddau a chyfodwyd cyrff llawer o'r saint oedd wedi huno.
27:53 Ac ar ôl atgyfodiad Iesu, daethant allan o'u beddau a mynd i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac fe'u gwelwyd gan lawer.
27:54 Ond pan welodd y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylio Iesu, y daeargryn a'r cwbl oedd yn digwydd, daeth ofn mawr arnynt a dywedasant, "Yn wir, Mab Duw oedd hwn."
27:55 Yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, rhai oedd wedi canlyn Iesu o Galilea i weini arno;
27:56 yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, Mair mam Iago a Joseff, a mam meibion Sebedeus.

Claddu Iesu, Mc. 15:42-47; Lc. 23:50-56; In. 19:38-42

27:57 Pan aeth yn hwyr, daeth dyn cyfoethog o Arimathea o'r enw Joseff, a oedd yntau wedi dod yn ddisgybl i Iesu.
27:58 Aeth hwn at Pilat a gofyn am gorff Iesu; yna gorchmynnodd Pilat ei roi iddo.
27:59 Cymerodd Joseff y corff a'i amdoi mewn lliain glân,
27:60 a'i osod yn ei fedd newydd ef ei hun, yr oedd wedi ei naddu yn y graig. Yna treiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd ac aeth ymaith.
27:61 Ac yr oedd Mair Magdalen a'r Fair arall yno yn eistedd gyferbyn â'r bedd.

Y Gwarchodlu wrth y Bedd

27:62 Trannoeth, y dydd ar ôl y Paratoad, daeth y prif offeiriaid a'r Phariseaid ynghyd at Pilat
27:63 a dweud, "Syr, daeth i'n cof fod y twyllwr yna, pan oedd eto'n fyw, wedi dweud, 'Ar ôl tridiau fe'm cyfodir.'
27:64 Felly rho orchymyn i'r bedd gael ei warchod yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag i'w ddisgyblion ddod a'i ladrata a dweud wrth y bobl, 'Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw', ac felly bod y twyll olaf yn waeth na'r cyntaf."
27:65 Dywedodd Pilat wrthynt, "Cymerwch warchodlu; ewch a gwnewch y bedd mor ddiogel ag y gallwch."
27:66 Aethant hwythau a diogelu'r bedd trwy selio'r maen, a gosod y gwarchodlu wrth law.

Atgyfodiad Iesu, Mc. 16:1-8; Lc. 24:1-12; In. 20:1-10

28:1 Ar ôl y Saboth, a dydd cyntaf yr wythnos ar wawrio, daeth Mair Magdalen a'r Fair arall i edrych ar y bedd.
28:2 A bu daeargryn mawr; daeth angel yr Arglwydd i lawr o'r nef, ac aeth at y maen a'i dreiglo i ffwrdd ac eistedd arno.
28:3 Yr oedd ei wedd fel mellten a'i wisg yn wyn fel eira.
28:4 Yn eu dychryn o'i weld, crynodd y gwarchodwyr, ac aethant fel rhai marw.
28:5 Ond llefarodd yr angel wrth y gwragedd: "Peidiwch chwi ag ofni," meddai. "Gwn mai ceisio Iesu, a groeshoeliwyd, yr ydych.
28:6 Nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi, fel y dywedodd y byddai; dewch i weld y man lle y bu'n gorwedd.
28:7 Ac yna ewch ar frys i ddweud wrth ei ddisgyblion, 'Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, ac yn awr y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef.' Dyna fy neges i chwi."
28:8 Aethant ymaith ar frys oddi wrth y bedd, mewn ofn a llawenydd mawr, a rhedeg i ddweud wrth ei ddisgyblion.
28:9 A dyma Iesu'n cyfarfod â hwy a dweud, "Henffych well!" Aethant ato a gafael yn ei draed a'i addoli.
28:10 Yna meddai Iesu wrthynt, "Peidiwch ag ofni; ewch a dywedwch wrth fy mrodyr am fynd i Galilea, ac yno fe'm gwelant i."

Adroddiad y Gwarchodlu

28:11 Tra oedd y gwragedd ar eu ffordd, dyma rai o'r gwarchodlu yn mynd i'r ddinas ac yn dweud wrth y prif offeiriaid am yr holl bethau a ddigwyddodd.
28:12 Ac wedi iddynt ymgynnull gyda'r henuriaid ac ymgynghori, rhoesant swm sylweddol o arian i'r milwyr,
28:13 gan ddweud wrthynt, "Dywedwch fod ei ddisgyblion ef wedi dod yn y nos, a'i ladrata tra oeddech chwi'n cysgu.
28:14 Ac os daw hyn i glyw y rhaglaw, fe'i perswadiwn ni ef a sicrhau na fydd raid ichwi bryderu."
28:15 Cymerodd y milwyr yr arian a gwneud fel y cawsant eu cyfarwyddo. Taenwyd y stori hon ar led ymysg Iddewon hyd y dydd heddiw.

Rhoi Comisiwn i'r Disgyblion, Mc. 16:14-18; Lc. 24:36-49; In. 20:19-23; Act. 1:9-11

28:16 Aeth yr un disgybl ar ddeg i Galilea i'r mynydd lle y trefnodd Iesu iddynt fod;
28:17 a phan welsant ef addolasant ef, er bod rhai yn amau.
28:18 Daeth Iesu atynt a llefaru wrthynt: "Rhoddwyd i mi," meddai, "bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.
28:19 Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o'r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân,
28:20 a dysgu iddynt gadw'r holl orchmynion a roddais i chwi. Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd amser."