YR EFENGYL YN ÔLMARC

Pregethu Ioan Fedyddiwr, Mth. 3:1-12; Lc. 3:1-9, 15-17; In. 1:19-28

1:1 Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw.
1:2 Fel y mae'n ysgrifenedig yn y proffwyd Eseia: "Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen i baratoi dy ffordd.
1:3 Llais un yn galw yn yr anialwch, 'Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo'" —
1:4 ymddangosodd Ioan Fedyddiwr yn yr anialwch, yn cyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau.
1:5 Ac yr oedd holl wlad Jwdea, a holl drigolion Jerwsalem, yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
1:6 Yr oedd Ioan wedi ei wisgo mewn dillad o flew camel a gwregys o groen am ei ganol, a locustiaid a mêl gwyllt oedd ei fwyd.
1:7 A dyma'i genadwri: "Y mae un cryfach na mi yn dod ar f'ôl i. Nid wyf fi'n deilwng i blygu a datod carrai ei sandalau ef.
1:8 Â dŵr y bedyddiais i chwi, ond â'r Ysbryd Glân y bydd ef yn eich bedyddio."

Bedydd Iesu, Mth. 3:13-17; Lc. 3:21-22

1:9 Yn y dyddiau hynny daeth Iesu o Nasareth Galilea, a bedyddiwyd ef yn afon Iorddonen gan Ioan.
1:10 Ac yna, wrth iddo godi allan o'r dŵr, gwelodd y nefoedd yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno.
1:11 A daeth llais o'r nefoedd: "Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu."

Temtiad Iesu Mth. 4:1-11; Lc. 4:1-13

1:12 Ac yna gyrrodd yr Ysbryd ef ymaith i'r anialwch,
1:13 a bu yn yr anialwch am ddeugain diwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a'r angylion oedd yn gweini arno.

Dechrau'r Weinidogaeth yng Ngalilea, Mth. 4:12-17; Lc. 4:14-15

1:14 Wedi i Ioan gael ei garcharu daeth Iesu i Galilea gan gyhoeddi Efengyl Duw a dweud:
1:15 "Y mae'r amser wedi ei gyflawni ac y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl."

Galw Pedwar Pysgotwr, Mth. 4:18-22; Lc. 5:1-11

1:16 Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu Simon a'i frawd Andreas yn bwrw rhwyd i'r môr; pysgotwyr oeddent.
1:17 Dywedodd Iesu wrthynt, "Dewch ar fy ôl i, ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion."
1:18 A gadawsant eu rhwydau ar unwaith a'i ganlyn ef.
1:19 Wedi iddo fynd ymlaen ychydig gwelodd Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd; yr oeddent wrthi'n cyweirio'r rhwydau yn y cwch.
1:20 Galwodd hwythau ar unwaith, a chan adael eu tad Sebedeus yn y cwch gyda'r gweision, aethant ymaith ar ei ôl ef.

Y Dyn ag Ysbryd Aflan ynddo, Lc. 4:31-37

1:21 Daethant i Gapernaum, ac yna, ar y Saboth, aeth ef i mewn i'r synagog a dechrau dysgu.
1:22 Yr oedd y bobl yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu, oherwydd yr oedd yn eu dysgu fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
1:23 Yn eu synagog yr oedd dyn ag ysbryd aflan ynddo. Gwaeddodd hwnnw,
1:24 gan ddweud, "Beth sydd a fynni di â ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti — Sanct Duw."
1:25 Ceryddodd Iesu ef â'r geiriau: "Taw, a dos allan ohono."
1:26 A chan ei ysgytian a rhoi bloedd uchel, aeth yr ysbryd aflan allan ohono.
1:27 Syfrdanwyd pawb, nes troi a holi ei gilydd, "Beth yw hyn? Dyma ddysgeidiaeth newydd ac iddi awdurdod! Y mae hwn yn gorchymyn hyd yn oed yr ysbrydion aflan, a hwythau'n ufuddhau iddo."
1:28 Ac aeth y sôn amdano ar led ar unwaith trwy holl gymdogaeth Galilea.

Iacháu Llawer, Mth. 8:14-17; Lc. 4:38-41

1:29 Ac yna, wedi dod allan o'r synagog, aethant i dŷ Simon ac Andreas gydag Iago ac Ioan.
1:30 Ac yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn gorwedd yn wael dan dwymyn. Dywedasant wrtho amdani yn ddi-oed;
1:31 aeth yntau ati a gafael yn ei llaw a'i chodi. Gadawodd y dwymyn hi, a dechreuodd hithau weini arnynt.
1:32 Gyda'r nos, a'r haul wedi machlud, yr oeddent yn dwyn ato yr holl gleifion a'r rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid.
1:33 Ac yr oedd yr holl dref wedi ymgynnull wrth y drws.
1:34 Iachaodd ef lawer oedd yn glaf dan amrywiol afiechydon, a bwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawai i'r cythreuliaid ddweud gair, oherwydd eu bod yn ei adnabod.

Taith Bregethu Lc. 4:42-44

1:35 Bore trannoeth yn gynnar iawn, cododd ef ac aeth allan. Aeth ymaith i le unig, ac yno yr oedd yn gweddïo.
1:36 Aeth Simon a'i gymdeithion i chwilio amdano;
1:37 ac wedi dod o hyd iddo dywedasant wrtho, "Y mae pawb yn dy geisio di."
1:38 Dywedodd yntau wrthynt, "Awn ymlaen i'r trefi nesaf, imi gael pregethu yno hefyd; oherwydd i hynny y deuthum allan."
1:39 Ac fe aeth drwy holl Galilea gan bregethu yn eu synagogau hwy a bwrw allan gythreuliaid.

Glanhau Dyn Gwahanglwyfus, Mth. 8:1-4; Lc. 5:12-16

1:40 Daeth dyn gwahanglwyfus ato ac erfyn arno ar ei liniau a dweud, "Os mynni, gelli fy nglanhau."
1:41 A chan dosturio estynnodd ef ei law a chyffwrdd ag ef a dweud wrtho, "Yr wyf yn mynnu, glanhaer di."
1:42 Ymadawodd y gwahanglwyf ag ef ar unwaith, a glanhawyd ef.
1:43 Ac wedi ei rybuddio'n llym gyrrodd Iesu ef ymaith ar ei union,
1:44  a dweud wrtho, "Gwylia na ddywedi ddim wrth neb, ond dos a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad yr hyn a orchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus."
1:45 Ond aeth yntau allan a dechrau rhoi'r hanes i gyd ar goedd a'i daenu ar led, fel na allai Iesu mwyach fynd i mewn yn agored i unrhyw dref. Yr oedd yn aros y tu allan, mewn lleoedd unig, ac eto yr oedd pobl yn dod ato o bob cyfeiriad.

Iacháu Dyn wedi ei Barlysu, Mth. 9:1-8; Lc. 5:17-26

2:1 Pan ddychwelodd i Gapernaum ymhen rhai dyddiau, aeth y newydd ar led ei fod gartref.
2:2 Daeth cynifer ynghyd fel nad oedd mwyach le i neb hyd yn oed wrth y drws. Ac yr oedd yn llefaru'r gair wrthynt.
2:3 Daethant â dyn wedi ei barlysu ato, a phedwar yn ei gario.
2:4 A chan eu bod yn methu dod â'r claf ato oherwydd y dyrfa, agorasant do'r tŷ lle'r oedd, ac wedi iddynt dorri trwodd dyma hwy'n gollwng i lawr y fatras yr oedd y claf yn gorwedd arni.
2:5 Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, "Fy mab, maddeuwyd dy bechodau."
2:6 Ac yr oedd rhai o'r ysgrifenyddion yn eistedd yno ac yn meddwl ynddynt eu hunain,
2:7 "Pam y mae hwn yn siarad fel hyn? Y mae'n cablu. Pwy ond Duw yn unig a all faddau pechodau?"
2:8 Deallodd Iesu ar unwaith yn ei ysbryd eu bod yn meddwl felly ynddynt eu hunain, ac meddai wrthynt, "Pam yr ydych yn meddwl pethau fel hyn ynoch eich hunain?

Galw Lefi, Mth. 9:9-13; Lc. 5:27-32

2:9 Prun sydd hawsaf, ai dweud wrth y claf, 'Maddeuwyd dy bechodau', ai ynteu dweud, 'Cod, a chymer dy fatras a cherdda'?
2:10 Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear" — meddai wrth y claf,
2:11 "Dyma fi'n dweud wrthyt, cod, a chymer dy fatras a dos adref."
2:12 A chododd y dyn, cymryd ei fatras ar ei union a mynd allan yn eu gŵydd hwy oll, nes bod pawb yn synnu ac yn gogoneddu Duw gan ddweud, "Ni welsom erioed y fath beth."
2:13 Aeth allan eto i lan y môr; ac yr oedd yr holl dyrfa'n dod ato, ac yntau'n eu dysgu hwy.
2:14 Ac wrth fynd heibio gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, "Canlyn fi." Cododd yntau a chanlynodd ef.
2:15 Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei dŷ, ac yr oedd llawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn cydfwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion — oherwydd yr oedd llawer ohonynt yn ei ganlyn ef.
2:16 A phan welodd yr ysgrifenyddion o blith y Phariseaid ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid a'r casglwyr trethi, dywedasant wrth ei ddisgyblion, "Pam y mae ef yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?"
2:17 Clywodd Iesu, a dywedodd wrthynt, "Nid ar y cryfion, ond ar y cleifion, y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod."

Holi ynglŷn ag Ymprydio, Mth. 9:14-17; Lc. 5:33-39

2:18 Yr oedd disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio. A daeth rhywrai ato a gofyn iddo, "Pam y mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?"
2:19 Dywedodd Iesu wrthynt, "A all gwesteion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy? Cyhyd ag y mae ganddynt y priodfab gyda hwy, ni allant ymprydio.
2:20 Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna fe ymprydiant y diwrnod hwnnw.
2:21 "Ni fydd neb yn gwnïo clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; os gwna, fe dynn y clwt wrth y dilledyn, y newydd wrth yr hen, ac fe â'r rhwyg yn waeth.
2:22 Ac ni fydd neb yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwna, fe rwyga'r gwin y crwyn ac fe gollir y gwin a'r crwyn hefyd. Ond y maent yn rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd."

Tynnu Tywysennau ar y Saboth, Mth. 12:1-8; Lc. 6:1-5

2:23 Un Saboth yr oedd yn mynd trwy'r caeau ŷd, a dechreuodd ei ddisgyblion dynnu'r tywysennau wrth fynd.
2:24 Ac meddai'r Phariseaid wrtho, "Edrych, pam y maent yn gwneud peth sy'n groes i'r Gyfraith ar y Saboth?"
2:25 Dywedodd yntau wrthynt, "Onid ydych chwi erioed wedi darllen beth a wnaeth Dafydd, pan oedd mewn angen, ac eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef?
2:26 Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw, yn amser Abiathar yr archoffeiriad, a bwyta'r torthau cysegredig nad yw'n gyfreithlon i neb eu bwyta ond yr offeiriaid; ac fe'u rhoddodd hefyd i'r rhai oedd gydag ef?"
2:27 Dywedodd wrthynt hefyd, "Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth.
2:28 Felly y mae Mab y Dyn yn arglwydd hyd yn oed ar y Saboth."

Y Dyn â'r Llaw Ddiffrwyth, Mth. 12:9-14; Lc. 6:6-11

3:1 Aeth i mewn eto i'r synagog, ac yno yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo.
3:2 Ac yr oeddent â'u llygaid arno i weld a fyddai'n iacháu'r dyn ar y Saboth, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn.
3:3 A dywedodd wrth y dyn â'r llaw ddiffrwyth, "Saf yn y canol."
3:4 Yna dywedodd wrthynt, "A yw'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth, ynteu gwneud drwg, achub bywyd, ynteu lladd?" Yr oeddent yn fud.
3:5 Yna edrychodd o gwmpas arnynt mewn dicter, yn drist oherwydd eu hystyfnigrwydd, a dywedodd wrth y dyn, "Estyn dy law." Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn iach.
3:6 Ac fe aeth y Phariseaid allan ar eu hunion a chynllwyn â'r Herodianiaid yn ei erbyn, sut i'w ladd.

Tyrfa ar Lan y Môr

3:7 Aeth Iesu ymaith gyda'i ddisgyblion i lan y môr, ac fe ddilynodd tyrfa fawr o Galilea.
3:8 Ac o Jwdea a Jerwsalem, o Idwmea a'r tu hwnt i'r Iorddonen a chylch Tyrus a Sidon, daeth tyrfa fawr ato, wedi iddynt glywed y fath bethau mawr yr oedd ef yn eu gwneud.
3:9 A dywedodd wrth ei ddisgyblion am gael cwch yn barod iddo rhag i'r dyrfa wasgu arno.
3:10 Oherwydd yr oedd wedi iacháu llawer, ac felly yr oedd yr holl gleifion yn ymwthio ato i gyffwrdd ag ef.
3:11 Pan fyddai'r ysbrydion aflan yn ei weld, byddent yn syrthio o'i flaen ac yn gweiddi, "Ti yw Mab Duw."
3:12 A byddai yntau yn eu rhybuddio hwy yn bendant i beidio â'i wneud yn hysbys.

Dewis y Deuddeg, Mth. 10:1-4; Lc. 6:12-16

3:13 Aeth i fyny i'r mynydd a galwodd ato y rhai a fynnai ef, ac aethant ato.
3:14 Penododd ddeuddeg er mwyn iddynt fod gydag ef, ac er mwyn eu hanfon hwy i bregethu
3:15 ac i feddu awdurdod i fwrw allan gythreuliaid.
3:16 Felly y penododd y Deuddeg, ac ar Simon rhoes yr enw Pedr;
3:17 yna Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, a rhoes arnynt hwy yr enw Boanerges, hynny yw, "Meibion y Daran";
3:18 ac Andreas a Philip a Bartholomeus a Mathew a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Selot,
3:19 a Jwdas Iscariot, yr un a'i bradychodd ef.

Iesu a Beelsebwl, Mth. 12:22-32; Lc. 11:14-23, 12:10

3:20 Daeth i'r tŷ; a dyma'r dyrfa'n ymgasglu unwaith eto, nes eu bod yn methu cymryd pryd o fwyd hyd yn oed.
3:21 A phan glywodd ei deulu, aethant allan i'w atal ef, oherwydd dweud yr oeddent, "Y mae wedi colli arno'i hun."
3:22 A'r ysgrifenyddion hefyd, a oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem, yr oeddent hwythau'n dweud, "Y mae Beelsebwl ynddo", a, "Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid."
3:23 Galwodd hwy ato ac meddai wrthynt ar ddamhegion: "Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?
3:24 Os bydd teyrnas yn ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni all y deyrnas honno sefyll.
3:25 Ac os bydd tŷ yn ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni all y tŷ hwnnw sefyll.
3:26 Ac os yw Satan wedi codi yn ei erbyn ei hun ac ymrannu, ni all yntau sefyll; y mae ar ben arno.
3:27 Eithr ni all neb fynd i mewn i dŷ'r un cryf ac ysbeilio'i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo'r un cryf; wedyn caiff ysbeilio'i dŷ ef.
3:28 Yn wir, rwy'n dweud wrthych, maddeuir popeth i blant y ddaear, eu pechodau a'u cableddau, beth bynnag fyddant;
3:29 ond pwy bynnag a gabla yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant byth; y mae'n euog o bechod tragwyddol."
3:30 Dywedodd hyn oherwydd iddynt ddweud, "Y mae ysbryd aflan ynddo."

Mam a Brodyr Iesu, Mth. 12:46-50; Lc. 8:19-21

3:31 A daeth ei fam ef a'i frodyr, a chan sefyll y tu allan anfonasant ato i'w alw.
3:32 Yr oedd tyrfa'n eistedd o'i amgylch, ac meddent wrtho, "Dacw dy fam a'th frodyr a'th chwiorydd y tu allan yn dy geisio."
3:33 Atebodd hwy, "Pwy yw fy mam i a'm brodyr?"
3:34 A chan edrych ar y rhai oedd yn eistedd yn gylch o'i gwmpas, dywedodd, "Dyma fy mam a'm brodyr i.
3:35 Pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam."

Dameg yr Heuwr, Mth. 13:1-9; Lc. 8:4-8

4:1 Dechreuodd ddysgu eto ar lan y môr. A daeth tyrfa mor fawr ynghyd ato nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch ar y môr; ac yr oedd yr holl dyrfa ar y tir wrth ymyl y môr.
4:2 Yr oedd yn dysgu llawer iddynt ar ddamhegion, ac wrth eu dysgu meddai:
4:3 "Gwrandewch! Aeth heuwr allan i hau.
4:4  Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta.
4:5 Syrthiodd peth arall ar dir creigiog, lle ni chafodd fawr o bridd, a thyfodd yn gyflym am nad oedd iddo ddyfnder daear;
4:6 a phan gododd yr haul fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd.
4:7 Syrthiodd peth arall ymhlith y drain, a thyfodd y drain a'i dagu, ac ni roddodd ffrwyth.
4:8 A syrthiodd hadau eraill ar dir da, a chan dyfu a chynyddu yr oeddent yn ffrwytho ac yn cnydio hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint."
4:9 Ac meddai, "Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed."

Pwrpas y Damhegion, Mth. 13:10-17; Lc. 8:9-10

4:10 Pan oedd wrtho'i hun, dechreuodd y rhai oedd o'i gwmpas gyda'r Deuddeg ei holi am y damhegion.
4:11 Ac meddai wrthynt, "I chwi y mae cyfrinach teyrnas Dduw wedi ei rhoi; ond i'r rheini sydd oddi allan y mae popeth ar ddamhegion,
4:12 fel 'er edrych ac edrych, na welant, ac er clywed a chlywed, na ddeallant, rhag iddynt droi'n ôl a derbyn maddeuant.'"

Egluro Dameg yr Heuwr, Mth. 13:18-23; Lc. 8:11-15

4:13 Ac meddai wrthynt, "Onid ydych yn deall y ddameg hon? Sut ynteu yr ydych yn mynd i ddeall yr holl ddamhegion?
4:14 Y mae'r heuwr yn hau y gair.
4:15 Dyma'r rhai ar hyd y llwybr lle'r heuir y gair: cyn gynted ag y clywant, daw Satan ar unwaith a chipio'r gair sydd wedi ei hau ynddynt.
4:16 A dyma'r rhai sy'n derbyn yr had ar dir creigiog: pan glywant hwy'r gair, derbyniant ef ar eu hunion yn llawen;
4:17 ond nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, a thros dro y maent yn para. Yna pan ddaw gorthrymder neu erlid o achos y gair, fe gwympant ar unwaith.
4:18 Ac y mae eraill sy'n derbyn yr had ymhlith y drain: dyma'r rhai sydd wedi clywed y gair,
4:19 ond y mae gofalon y byd hwn a hudoliaeth golud a chwantau am bopeth o'r fath yn dod i mewn ac yn tagu'r gair, ac y mae'n mynd yn ddiffrwyth.
4:20 A dyma'r rheini a dderbyniodd yr had ar dir da: y maent hwy'n clywed y gair ac yn ei groesawu, ac yn dwyn ffrwyth hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint."

Goleuni dan Lestr, Lc. 8:16-18

4:21 Dywedodd wrthynt, "A fydd rhywun yn dod â channwyll i'w dodi dan lestr neu dan wely? Onid yn hytrach i'w dodi ar ganhwyllbren?
4:22 Oherwydd nid oes dim yn guddiedig ond i gael ei amlygu, ac ni bu dim dan gêl ond i ddod i'r amlwg.
4:23 Os oes gan rywun glustiau i wrando, gwrandawed."
4:24 Dywedodd wrthynt hefyd, "Ystyriwch yr hyn a glywch. Â'r mesur y rhowch y rhoir i chwithau, a rhagor a roir ichwi.
4:25 Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo."

Dameg yr Had yn Tyfu

4:26 Ac meddai, "Fel hyn y mae teyrnas Dduw: bydd dyn yn bwrw'r had ar y ddaear
4:27 ac yna'n cysgu'r nos a chodi'r dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu mewn modd nas gŵyr ef.
4:28 Ohoni ei hun y mae'r ddaear yn dwyn ffrwyth, eginyn yn gyntaf, yna tywysen, yna ŷd llawn yn y dywysen.
4:29 A phan fydd y cnwd wedi aeddfedu, y mae'n bwrw iddi ar unwaith â'r cryman, gan fod y cynhaeaf wedi dod."

Dameg yr Hedyn Mwstard, Mth. 13:31-32; Lc. 13:18-19

4:30 Meddai eto, "Pa fodd y cyffelybwn deyrnas Dduw, neu ar ba ddameg y cyflwynwn hi?
4:31 Y mae'n debyg i hedyn mwstard; pan heuir ef ar y ddaear, hwn yw'r lleiaf o'r holl hadau sydd ar y ddaear,
4:32 ond wedi ei hau, y mae'n tyfu ac yn mynd yn fwy na'r holl lysiau, ac yn dwyn canghennau mor fawr nes bod adar yr awyr yn gallu nythu dan ei gysgod."

Arfer Damhegion, Mth. 13:34-35

4:33 Ar lawer o'r fath ddamhegion yr oedd ef yn llefaru'r gair wrthynt, yn ôl fel y gallent wrando;
4:34 heb ddameg ni fyddai'n llefaru dim wrthynt. Ond o'r neilltu byddai'n egluro popeth i'w ddisgyblion ei hun.

Gostegu Storm, Mth. 8:23-27; Lc. 8:22-25

4:35 A'r diwrnod hwnnw, gyda'r nos, dywedodd wrthynt, "Awn drosodd i'r ochr draw."
4:36 A gadawsant y dyrfa, a mynd ag ef yn y cwch fel yr oedd; yr oedd cychod eraill hefyd gydag ef.
4:37 Cododd tymestl fawr o wynt, ac yr oedd y tonnau'n ymdaflu i'r cwch, nes ei fod erbyn hyn yn llenwi.
4:38 Yr oedd ef yn starn y cwch yn cysgu ar glustog. Deffroesant ef a dweud wrtho, "Athro, a wyt ti'n hidio dim ei bod ar ben arnom?"
4:39 Ac fe ddeffrôdd a cheryddu'r gwynt a dweud wrth y môr, "Bydd ddistaw! Bydd dawel!" Gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr.
4:40 A dywedodd wrthynt, "Pam y mae arnoch ofn? Sut yr ydych heb ffydd o hyd?"
4:41 Daeth ofn dirfawr arnynt, ac meddent wrth ei gilydd, "Pwy ynteu yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo."

Iacháu'r Dyn oedd ym meddiant Cythreuliaid yn Gerasa, Mth. 8:28-34; Lc. 8:26-39

5:1 Daethant i'r ochr draw i'r môr i wlad y Geraseniaid.
5:2 A phan ddaeth allan o'r cwch, ar unwaith daeth i'w gyfarfod o blith y beddau ddyn ag ysbryd aflan ynddo.
5:3 Yr oedd hwn yn cartrefu ymhlith y beddau, ac ni allai neb mwyach ei rwymo hyd yn oed â chadwyn,
5:4 oherwydd yr oedd wedi cael ei rwymo'n fynych â llyffetheiriau ac â chadwynau, ond yr oedd y cadwynau wedi eu rhwygo ganddo a'r llyffetheiriau wedi eu dryllio; ac ni fedrai neb ei ddofi.
5:5 Ac yn wastad, nos a dydd, ymhlith y beddau ac ar y mynyddoedd, byddai'n gweiddi ac yn ei anafu ei hun â cherrig.
5:6 A phan welodd Iesu o bell, rhedodd a syrthio ar ei liniau o'i flaen,
5:7 a gwaeddodd â llais uchel, "Beth sydd a fynni di â mi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yn enw Duw, paid â'm poenydio."
5:8 Oherwydd yr oedd Iesu wedi dweud wrtho, "Dos allan, ysbryd aflan, o'r dyn."
5:9 A gofynnodd iddo, "Beth yw dy enw?" Meddai yntau wrtho, "Lleng yw fy enw, oherwydd y mae llawer ohonom."
5:10 Ac yr oedd yn ymbil yn daer arno beidio â'u gyrru allan o'r wlad.
5:11 Yr oedd yno ar lethr y mynydd genfaint fawr o foch yn pori.
5:12 Ac ymbiliodd yr ysbrydion aflan arno, "Anfon ni i'r moch; gad i ni fynd i mewn iddynt hwy."
5:13 Ac fe ganiataodd iddynt. Aeth yr ysbrydion aflan allan o'r dyn ac i mewn i'r moch; a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr, tua dwy fil ohonynt, a boddi yn y môr.
5:14 Ffodd bugeiliaid y moch ac adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad, a daeth y bobl i weld beth oedd wedi digwydd.
5:15 Daethant at Iesu a gweld y dyn, hwnnw yr oedd y lleng cythreuliaid wedi bod ynddo, yn eistedd â'i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn.
5:16 Adroddwyd wrthynt gan y rhai oedd wedi gweld beth oedd wedi digwydd i'r dyn ym meddiant cythreuliaid, a'r hanes am y moch hefyd.
5:17 A dechreusant erfyn arno fynd ymaith o'u gororau.
5:18 Ac wrth iddo fynd i mewn i'r cwch, yr oedd y dyn a oedd wedi bod ym meddiant y cythreuliaid yn erfyn arno am gael bod gydag ef.
5:19 Ni adawodd iddo, ond meddai wrtho, "Dos adref at dy bobl dy hun a mynega iddynt gymaint y mae'r Arglwydd wedi ei wneud drosot, a'r modd y tosturiodd wrthyt."
5:20 Aeth yntau ymaith a dechrau cyhoeddi yn y Decapolis gymaint yr oedd Iesu wedi ei wneud drosto; ac yr oedd pawb yn rhyfeddu.

Merch Jairus, a'r Wraig a Gyffyrddodd â Mantell Iesu, Mth. 9:18-26; Lc. 8:40-56

5:21 Wedi i Iesu groesi'n ôl yn y cwch i'r ochr arall, daeth tyrfa fawr ynghyd ato, ac yr oedd ar lan y môr.
5:22 Daeth un o arweinwyr y synagog, o'r enw Jairus, a phan welodd ef syrthiodd wrth ei draed
5:23 ac ymbil yn daer arno: "Y mae fy merch fach," meddai, "ar fin marw. Tyrd a rho dy ddwylo arni, iddi gael ei gwella a byw."
5:24 Ac aeth Iesu ymaith gydag ef. Yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn ac yn gwasgu arno.
5:25 Ac yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd.
5:26 Yr oedd wedi dioddef yn enbyd dan driniaeth llawer o feddygon, ac wedi gwario'r cwbl oedd ganddi, a heb gael dim lles ond yn hytrach mynd yn waeth.
5:27 Yr oedd hon wedi clywed am Iesu, a daeth o'r tu ôl iddo yn y dyrfa a chyffwrdd â'i fantell,
5:28 oherwydd yr oedd hi wedi dweud, "Os cyffyrddaf hyd yn oed â'i ddillad ef, fe gaf fy iacháu."
5:29 A sychodd llif ei gwaed hi yn y fan, a daeth hithau i wybod yn ei chorff ei bod wedi ei hiacháu o'i chlwyf.
5:30 Ac ar unwaith deallodd Iesu ynddo'i hun fod y nerth oedd yn tarddu ynddo wedi mynd allan, a throes yng nghanol y dyrfa, a gofyn, "Pwy gyffyrddodd â'm dillad?"
5:31 Meddai ei ddisgyblion wrtho, "Yr wyt yn gweld y dyrfa'n gwasgu arnat ac eto'n gofyn, 'Pwy gyffyrddodd â mi?'"
5:32 Ond daliodd ef i edrych o'i gwmpas i weld yr un oedd wedi gwneud hyn.
5:33 Daeth y wraig, dan grynu yn ei braw, yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddi, a syrthiodd o'i flaen ef a dweud wrtho'r holl wir.
5:34 Dywedodd yntau wrthi hi, "Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf."
5:35 Tra oedd ef yn llefaru, daeth rhywrai o dŷ arweinydd y synagog a dweud, "Y mae dy ferch wedi marw; pam yr wyt yn poeni'r Athro bellach?"
5:36 Ond anwybyddodd Iesu y neges, a dywedodd wrth arweinydd y synagog, "Paid ag ofni, dim ond credu."
5:37 Ac ni adawodd i neb ganlyn gydag ef ond Pedr ac Iago ac Ioan, brawd Iago.
5:38 Daethant i dŷ arweinydd y synagog, a gwelodd gynnwrf, a phobl yn wylo ac yn dolefain yn uchel.
5:39 Ac wedi mynd i mewn dywedodd wrthynt, "Pam yr ydych yn llawn cynnwrf ac yn wylo? Nid yw'r plentyn wedi marw, cysgu y mae."
5:40 Dechreusant chwerthin am ei ben. Gyrrodd yntau bawb allan, a chymryd tad y plentyn a'i mam a'r rhai oedd gydag ef, a mynd i mewn lle'r oedd y plentyn.
5:41 Ac wedi gafael yn llaw'r plentyn dyma fe'n dweud wrthi, "Talitha cŵm," sy'n golygu, "Fy ngeneth, rwy'n dweud wrthyt, cod."
5:42 Cododd yr eneth ar unwaith a dechrau cerdded, oherwydd yr oedd yn ddeuddeng mlwydd oed. A thrawyd hwy yn y fan â syndod mawr.
5:43 A rhoddodd ef orchymyn pendant iddynt nad oedd neb i gael gwybod hyn, a dywedodd am roi iddi rywbeth i'w fwyta.

Gwrthod Iesu yn Nasareth, Mth. 13:53-58; Lc. 4:16-30

6:1 Aeth oddi yno a daeth i fro ei febyd, a'i ddisgyblion yn ei ganlyn.
6:2 A phan ddaeth y Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Yr oedd llawer yn synnu wrth wrando, ac meddent, "O ble y cafodd hwn y pethau hyn? A beth yw'r ddoethineb a roed i hwn, a'r fath weithredoedd nerthol sy'n cael eu gwneud trwyddo ef?
6:3 Onid hwn yw'r saer, mab Mair a brawd Iago a Joses a Jwdas a Simon? Ac onid yw ei chwiorydd yma gyda ni?" Yr oedd ef yn peri tramgwydd iddynt.
6:4 Meddai Iesu wrthynt, "Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei fro ei hun ac ymhlith ei geraint ac yn ei gartref."
6:5 Ac ni allai wneud unrhyw wyrth yno, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion a'u hiacháu.
6:6 Rhyfeddodd at eu hanghrediniaeth. Yr oedd yn mynd o amgylch y pentrefi dan ddysgu.

Cenhadaeth y Deuddeg, Mth. 10:1, 5-15; Lc. 9:1-6

6:7 A galwodd y Deuddeg ato a dechrau eu hanfon allan bob yn ddau. Rhoddodd iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan,
6:8 a gorchmynnodd iddynt beidio â chymryd dim ar gyfer y daith ond ffon yn unig; dim bara, dim cod, dim pres yn eu gwregys;
6:9 sandalau am eu traed, ond heb wisgo ail grys.
6:10 Ac meddai wrthynt, "Lle bynnag yr ewch i mewn i dŷ, arhoswch yno nes y byddwch yn ymadael â'r ardal.
6:11 Ac os bydd unrhyw le yn gwrthod eich derbyn, a phobl yn gwrthod gwrando arnoch, ewch allan oddi yno ac ysgydwch ymaith y llwch fydd dan eich traed, yn rhybudd iddynt."
6:12 Felly aethant allan a phregethu ar i bobl edifarhau,
6:13 ac yr oeddent yn bwrw allan gythreuliaid lawer, ac yn eneinio llawer o gleifion ag olew ac yn eu hiacháu.

Marwolaeth Ioan Fedyddiwr, Mth. 14:1-12; Lc. 9:7-9

6:14 Clywodd y Brenin Herod am hyn, oherwydd yr oedd enw Iesu wedi dod yn hysbys. Yr oedd pobl yn dweud, "Ioan Fedyddiwr sydd wedi ei godi oddi wrth y meirw, a dyna pam y mae'r gweithredoedd nerthol ar waith ynddo ef."
6:15 Yr oedd eraill yn dweud, "Elias ydyw"; ac eraill wedyn, "Proffwyd yw, fel un o'r proffwydi gynt."
6:16 Ond pan glywodd Herod, dywedodd, "Ioan, yr un y torrais i ei ben, sydd wedi ei gyfodi."
6:17 Oherwydd yr oedd Herod wedi anfon a dal Ioan, a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, am ei fod wedi ei phriodi.
6:18 Yr oedd Ioan wedi dweud wrth Herod, "Nid yw'n gyfreithlon iti gael gwraig dy frawd."
6:19 Ac yr oedd Herodias yn dal dig wrtho ac yn dymuno ei ladd, ond ni allai,
6:20 oherwydd yr oedd ar Herod ofn Ioan, am ei fod yn gwybod mai gŵr cyfiawn a sanctaidd ydoedd. Yr oedd yn ei gadw dan warchodaeth; a byddai'n gwrando arno'n llawen, er ei fod, ar ôl gwrando, mewn penbleth fawr.
6:21 Daeth cyfle un diwrnod, pan wnaeth Herod wledd ar ei ben-blwydd i'w bendefigion a'i gadfridogion a gwŷr blaenllaw Galilea.
6:22 Daeth merch Herodias i mewn, a dawnsio a phlesio Herod a'i westeion. Dywedodd y brenin wrth yr eneth, "Gofyn imi am y peth a fynni, ac fe'i rhof iti."
6:23 A gwnaeth lw difrifol iddi, "Beth bynnag a ofynni gennyf, rhof ef iti, hyd at hanner fy nheyrnas."
6:24 Aeth allan a dywedodd wrth ei mam, "Am beth y caf ofyn?" Dywedodd hithau, "Pen Ioan Fedyddiwr."
6:25 A brysiodd yr eneth ar unwaith i mewn at y brenin a gofyn, "Yr wyf am iti roi imi, y munud yma, ben Ioan Fedyddiwr ar ddysgl."
6:26 Aeth y brenin yn drist iawn, ond oherwydd ei lw, ac oherwydd y gwesteion, penderfynodd beidio â thorri ei air iddi.
6:27 Ac yna anfonodd y brenin ddienyddiwr a gorchymyn iddo ddod â phen Ioan. Fe aeth hwnnw, a thorrodd ei ben ef yn y carchar,
6:28 a dod ag ef ar ddysgl a'i roi i'r eneth; a rhoddodd yr eneth ef i'w mam.
6:29 A phan glywodd ei ddisgyblion, daethant, a mynd â'i gorff ymaith a'i ddodi mewn bedd.

Porthi'r Pum Mil, Mth. 14:13-21; Lc. 9:10-17; In. 6:1-14

6:30 Daeth yr apostolion ynghyd at Iesu a dweud wrtho am yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud a'u dysgu.
6:31 A dywedodd wrthynt, "Dewch chwi eich hunain o'r neilltu i le unig a gorffwyswch am dipyn." Oherwydd yr oedd llawer yn mynd a dod, ac nid oedd cyfle iddynt hyd yn oed i fwyta.
6:32 Ac aethant ymaith yn y cwch i le unig o'r neilltu.
6:33 Gwelodd llawer hwy'n mynd, a'u hadnabod, a rhedasant ynghyd i'r fan, dros y tir o'r holl drefi, a chyrraedd o'u blaen.
6:34 Pan laniodd Iesu gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb fugail; a dechreuodd ddysgu llawer iddynt.
6:35 Pan oedd hi eisoes wedi mynd yn hwyr ar y dydd daeth ei ddisgyblion ato a dweud, "Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr.
6:36 Gollwng hwy, iddynt fynd i'r wlad a'r pentrefi o amgylch i brynu tipyn o fwyd iddynt eu hunain."
6:37 Atebodd yntau hwy, "Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt." Meddent wrtho, "A ydym i fynd i brynu bara gwerth dau gant o ddarnau arian, a'i roi iddynt i'w fwyta?"
6:38 Meddai yntau wrthynt, "Pa sawl torth sydd gennych? Ewch i edrych." Ac wedi cael gwybod dywedasant, "Pump, a dau bysgodyn."
6:39 Gorchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn gwmnïoedd ar y glaswellt.
6:40 Ac eisteddasant yn rhesi, bob yn gant a hanner cant.
6:41 Yna cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y bobl; rhannodd hefyd y ddau bysgodyn rhwng pawb.
6:42 Bwytasant oll a chael digon.
6:43 A chodasant ddeuddeg basgedaid o dameidiau bara, a pheth o'r pysgod.
6:44 Ac yr oedd y rhai oedd wedi bwyta'r torthau yn bum mil o wŷr.

Cerdded ar y Dŵr, Mth. 14:22-33; In. 6:15-21

6:45 Yna'n ddi-oed gwnaeth i'w ddisgyblion fynd i'r cwch a hwylio o'i flaen i'r ochr draw, i Bethsaida, tra byddai ef yn gollwng y dyrfa.
6:46 Ac wedi canu'n iach iddynt aeth ymaith i'r mynydd i weddïo.
6:47 Pan aeth hi'n hwyr yr oedd y cwch ar ganol y môr, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir.
6:48 A gwelodd hwy mewn helbul wrth rwyfo, oherwydd yr oedd y gwynt yn eu herbyn, a rhywbryd rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr. Yr oedd am fynd heibio iddynt;
6:49 ond pan welsant ef yn cerdded ar y môr, tybiasant mai drychiolaeth ydoedd, a gwaeddasant,
6:50 oherwydd gwelodd pawb ef, a dychrynwyd hwy. Siaradodd yntau â hwy ar unwaith a dweud wrthynt, "Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni."
6:51 Dringodd i'r cwch atynt, a gostegodd y gwynt. Yr oedd eu syndod yn fawr dros ben,
6:52 oblegid nid oeddent wedi deall ynglŷn â'r torthau; yr oedd eu meddwl wedi caledu.

Iacháu'r Cleifion yn Genesaret, Mth. 14:34-36

6:53 Wedi croesi at y tir daethant i Genesaret ac angori wrth y lan.
6:54 Pan ddaethant allan o'r cwch, adnabu'r bobl ef ar unwaith,
6:55 a dyma redeg o amgylch yr holl fro honno a dechrau cludo'r cleifion ar fatresi i ble bynnag y clywent ei fod ef.
6:56 A phle bynnag y byddai'n mynd, i bentrefi neu i drefi neu i'r wlad, yr oeddent yn gosod y rhai oedd yn wael yn y marchnadleoedd, ac yn erfyn arno am iddynt gael dim ond cyffwrdd ag ymyl ei fantell. A phawb a gyffyrddodd ag ef, iachawyd hwy.

Traddodiad yr Hynafiaid, Mth. 15:1-20

7:1 Ymgasglodd y Phariseaid ato, a rhai ysgrifenyddion oedd wedi dod o Jerwsalem.
7:2 A gwelsant fod rhai o'i ddisgyblion ef yn bwyta'u bwyd â dwylo halogedig, hynny yw, heb eu golchi.
7:3 (Oherwydd nid yw'r Phariseaid, na neb o'r Iddewon, yn bwyta heb olchi eu dwylo hyd yr arddwrn, gan lynu wrth draddodiad yr hynafiaid;
7:4 ac ni fyddant byth yn bwyta, ar ôl dod o'r farchnad, heb ymolchi; ac y mae llawer o bethau eraill a etifeddwyd ganddynt i'w cadw, megis golchi cwpanau ac ystenau a llestri pres.)
7:5 Gofynnodd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion iddo, "Pam nad yw dy ddisgyblion di'n dilyn traddodiad yr hynafiaid, ond yn bwyta'u bwyd â dwylo halogedig?"
7:6 Dywedodd yntau wrthynt, "Da y proffwydodd Eseia amdanoch chwi ragrithwyr, fel y mae'n ysgrifenedig: 'Y mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu â'u gwefusau, ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf;
7:7 yn ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu gorchmynion dynol fel athrawiaethau.'
7:8 Yr ydych yn anwybyddu gorchymyn Duw ac yn glynu wrth draddodiad dynol."
7:9 Meddai hefyd wrthynt, "Rhai da ydych chwi am wrthod gorchymyn Duw er mwyn cadarnhau eich traddodiad eich hunain.
7:10 Oherwydd dywedodd Moses, 'Anrhydedda dy dad a'th fam', a, 'Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.'
7:11 Ond yr ydych chwi'n dweud, 'Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, "Corban (hynny yw, Offrwm i Dduw) yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi",'
7:12 ni adewch iddo mwyach wneud dim i'w dad neu i'w fam.
7:13 Yr ydych yn dirymu gair Duw trwy'r traddodiad a drosglwyddir gennych. Ac yr ydych yn gwneud llawer o bethau cyffelyb i hynny."
7:14 Galwodd y dyrfa ato drachefn ac meddai wrthynt, "Gwrandewch arnaf bawb, a deallwch.
7:15 Nid oes dim sy'n mynd i mewn i rywun o'r tu allan iddo yn gallu ei halogi; ond y pethau sy'n dod allan o rywun, dyna sy'n ei halogi."
7:16 [Os oes gan rywun glustiau i wrando, gwrandawed.]
7:17 Ac wedi iddo fynd i'r tŷ oddi wrth y dyrfa, dechreuodd ei ddisgyblion ei holi am y ddameg.
7:18 Meddai yntau wrthynt, "A ydych chwithau hefyd yr un mor ddi-ddeall? Oni welwch na all dim sy'n mynd i mewn i rywun o'r tu allan ei halogi,
7:19 oherwydd nid yw'n mynd i'w galon ond i'w gylla, ac yna y mae'n mynd allan i'r geudy?" Felly y cyhoeddodd ef yr holl fwydydd yn lân.
7:20 Ac meddai, "Yr hyn sy'n dod allan o rywun, dyna sy'n ei halogi.
7:21 Oherwydd o'r tu mewn, o galon dynion, y daw allan feddyliau drwg, puteinio, lladrata, llofruddio,
7:22 godinebu, trachwantu, anfadwaith, twyll, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchder, ynfydrwydd;
7:23 o'r tu mewn y mae'r holl ddrygau hyn yn dod ac yn halogi rhywun."

Ffydd y Wraig o Syroffenicia, Mth. 15:21-28

7:24 Cychwynnodd oddi yno ac aeth ymaith i gyffiniau Tyrus. Aeth i dŷ, ac ni fynnai i neb wybod; ond ni lwyddodd i ymguddio.
7:25 Ar unwaith clywodd gwraig amdano, gwraig yr oedd gan ei merch fach ysbryd aflan, a daeth a syrthiodd wrth ei draed ef.
7:26 Groeges oedd y wraig, Syroffeniciad o genedl; ac yr oedd yn gofyn iddo fwrw'r cythraul allan o'i merch.
7:27 Meddai yntau wrthi, "Gad i'r plant gael digon yn gyntaf; nid yw'n deg cymryd bara'r plant a'i daflu i'r cŵn."
7:28 Atebodd hithau ef, "Syr, y mae hyd yn oed y cŵn o dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant."
7:29 "Am iti ddweud hynny," ebe yntau, "dos adref; y mae'r cythraul wedi mynd allan o'th ferch."
7:30 Aeth hithau adref a chafodd y plentyn yn gorwedd ar y gwely, a'r cythraul wedi mynd ymaith.

Iacháu Dyn Mud a Byddar

7:31 Dychwelodd drachefn o gyffiniau Tyrus, a daeth drwy Sidon at Fôr Galilea trwy ganol bro'r Decapolis.
7:32 Dygasant ato ddyn byddar oedd prin yn gallu siarad, a cheisio ganddo roi ei law arno.
7:33 Cymerodd yntau ef o'r neilltu oddi wrth y dyrfa ar ei ben ei hun; rhoes ei fysedd yn ei glustiau, poerodd, a chyffyrddodd â'i dafod;
7:34 a chan edrych i fyny i'r nef ochneidiodd a dweud wrtho, "Ephphatha", hynny yw, "Agorer di".
7:35 Agorwyd ei glustiau ar unwaith, a datodwyd rhwym ei dafod a dechreuodd lefaru'n eglur.
7:36 A gorchmynnodd iddynt beidio â dweud wrth neb; ond po fwyaf yr oedd ef yn gorchymyn iddynt, mwyaf yn y byd yr oeddent hwy'n cyhoeddi'r peth.
7:37 Yr oeddent yn synnu'n fawr dros ben, gan ddweud, "Da y gwnaeth ef bob peth; y mae'n gwneud hyd yn oed i fyddariaid glywed ac i fudion lefaru."

Porthi'r Pedair Mil, Mth. 15:32-39

8:1 Yn y dyddiau hynny, a'r dyrfa unwaith eto'n fawr a heb ddim i'w fwyta, galwodd ei ddisgyblion ato, ac meddai wrthynt,
8:2 "Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta.
8:3 Ac os anfonaf hwy adref ar eu cythlwng, llewygant ar y ffordd; y mae rhai ohonynt wedi dod o bell."
8:4 Atebodd ei ddisgyblion ef, "Sut y gall neb gael digon o fara i fwydo'r rhain mewn lle anial fel hyn?"
8:5 Gofynnodd iddynt, "Pa sawl torth sydd gennych?" "Saith," meddent hwythau.
8:6 Gorch-mynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear. Yna cymerodd y saith torth, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron; ac fe'u gosodasant gerbron y dyrfa.
8:7 Ac yr oedd ganddynt ychydig o bysgod bychain; ac wedi eu bendithio, dywedodd am osod y rhain hefyd ger eu bron.
8:8 Bwytasant a chael digon, a chodasant y tameidiau oedd yn weddill, lond saith cawell.
8:9 Yr oedd tua phedair mil ohonynt. Gollyngodd hwy ymaith.
8:10 Ac yna aeth i mewn i'r cwch gyda'i ddisgyblion, a daeth i ardal Dalmanwtha.

Ceisio Arwydd, Mth. 16:1-4

8:11 Daeth y Phariseaid allan a dechrau dadlau ag ef. Yr oeddent yn ceisio ganddo arwydd o'r nef, i roi prawf arno.
8:12 Ochneidiodd yn ddwys ynddo'i hun. "Pam," meddai, "y mae'r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni roddir arwydd i'r genhedlaeth hon."
8:13 A gadawodd hwy a mynd i'r cwch drachefn a hwylio ymaith i'r ochr draw.

Surdoes y Phariseaid a Herod, Mth. 16:5-12

8:14 Yr oeddent wedi anghofio dod â bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwy yn y cwch.
8:15 A dechreuodd eu siarsio, gan ddweud, "Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a surdoes Herod."
8:16 Ac yr oeddent yn trafod ymhlith ei gilydd y ffaith nad oedd ganddynt fara.
8:17 Deallodd yntau hyn, ac meddai wrthynt, "Pam yr ydych yn trafod nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld na deall? A yw eich meddwl wedi troi'n ystyfnig?
8:18 A llygaid gennych, onid ydych yn gweld, ac a chlustiau gennych, onid ydych yn clywed? Onid ydych yn cofio?
8:19 Pan dorrais y pum torth i'r pum mil, pa sawl basgedaid lawn o dameidiau a godasoch?" Meddent wrtho, "Deuddeg."
8:20 "Pan dorrais y saith i'r pedair mil, llond pa sawl cawell o dameidiau a godasoch?" "Saith," meddent.
8:21 Ac meddai ef wrthynt, "Onid ydych eto'n deall?"

Iacháu Dyn Dall yn Bethsaida

8:22 Daethant i Bethsaida. A dyma hwy'n dod â dyn dall ato, ac yn erfyn arno i gyffwrdd ag ef.
8:23 Gafaelodd yn llaw'r dyn dall a mynd ag ef allan o'r pentref, ac wedi poeri ar ei lygaid rhoes ei ddwylo arno a gofynnodd iddo, "A elli di weld rhywbeth?"
8:24 Edrychodd i fyny, ac meddai, "Yr wyf yn gweld pobl, maent yn edrych fel coed yn cerdded oddi amgylch."
8:25 Yna rhoes ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef. Craffodd yntau, ac adferwyd ef; yr oedd yn gweld popeth yn eglur o bell.
8:26 Anfonodd ef adref, gan ddweud, "Paid â mynd i mewn i'r pentref."

Datganiad Pedr ynglŷn â Iesu, Mth. 16:13-20; Lc. 9:18-21

8:27 Aeth Iesu a'i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philipi, ac ar y ffordd holodd ei ddisgyblion: "Pwy," meddai wrthynt, "y mae pobl yn dweud ydwyf fi?"
8:28 Dywedasant hwythau wrtho, "Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, un o'r proffwydi."
8:29 Gofynnodd ef iddynt, "A chwithau, pwy meddwch chwi ydwyf fi?" Atebodd Pedr ef, "Ti yw'r Meseia."
8:30 Rhybuddiodd hwy i beidio â dweud wrth neb amdano.

Iesu'n Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad, Mth. 16:21-28; Lc. 9:22-27

8:31 Yna dechreuodd eu dysgu bod yn rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, ac ymhen tridiau atgyfodi.
8:32 Yr oedd yn llefaru'r gair hwn yn gwbl agored. A chymerodd Pedr ef ato a dechrau ei geryddu.
8:33 Troes yntau, ac wedi edrych ar ei ddisgyblion ceryddodd Pedr. "Dos ymaith o'm golwg, Satan," meddai, "oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol."
8:34 Galwodd ato'r dyrfa ynghyd â'i ddisgyblion a dywedodd wrthynt, "Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i.
8:35 Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i a'r Efengyl, fe'i ceidw.
8:36 Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd?
8:37 Oherwydd beth a all rhywun ei roi'n gyfnewid am ei fywyd?
8:38 Pwy bynnag fydd â chywilydd ohonof fi ac o'm geiriau yn y genhedlaeth annuwiol a phechadurus hon, bydd ar Fab y Dyn hefyd gywilydd ohonynt hwy, pan ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda'r angylion sanctaidd."
9:1 Meddai hefyd wrthynt, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth."

Gweddnewidiad Iesu, Mth. 17:1-13; Lc. 9:28-36

9:2 Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu'n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ac yn mynd â hwy i fynydd uchel o'r neilltu ar eu pennau eu hunain. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwy,
9:3 ac aeth ei ddillad i ddisgleirio'n glaerwyn, y modd na allai unrhyw bannwr ar y ddaear eu gwynnu.
9:4 Ymddangosodd Elias iddynt ynghyd â Moses; ymddiddan yr oeddent â Iesu.
9:5 A dywedodd Pedr wrth Iesu, "Rabbi, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias."
9:6 Oherwydd ni wyddai beth i'w ddweud; yr oeddent wedi dychryn cymaint.
9:7 A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt; a dyma lais o'r cwmwl, "Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; gwrandewch arno."
9:8 Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach ond Iesu yn unig gyda hwy.
9:9 Wrth iddynt ddod i lawr o'r mynydd rhoddodd orchymyn iddynt beidio â dweud wrth neb am y pethau a welsant, nes y byddai Mab y Dyn wedi atgyfodi oddi wrth y meirw.
9:10 Daliasant ar y gair, gan holi yn eu plith eu hunain beth oedd ystyr atgyfodi oddi wrth y meirw.
9:11 A gofynasant iddo, "Pam y mae'r ysgrifenyddion yn dweud bod yn rhaid i Elias ddod yn gyntaf?"
9:12 Meddai yntau wrthynt, "Y mae Elias yn dod yn gyntaf ac yn adfer pob peth. Ond sut y mae'n ysgrifenedig am Fab y Dyn, ei fod i ddioddef llawer a chael ei ddirmygu?
9:13 Ond rwy'n dweud wrthych fod Elias eisoes wedi dod, a gwnaethant iddo beth bynnag a fynnent, fel y mae'n ysgrifenedig amdano."

Iacháu Bachgen ag Ysbryd Aflan ynddo, Mth. 17:14-20; Lc. 9:37-43a

9:14 Pan ddaethant at y disgyblion gwelsant dyrfa fawr o'u cwmpas, ac ysgrifenyddion yn dadlau â hwy.
9:15 Ac unwaith y gwelodd yr holl dyrfa ef fe'u syfrdanwyd, a rhedasant ato a'i gyfarch.
9:16 Gofynnodd yntau iddynt, "Am beth yr ydych yn dadlau â hwy?"
9:17 Atebodd un o'r dyrfa ef, "Athro, mi ddois i â'm mab atat; y mae wedi ei feddiannu gan ysbryd mud,
9:18 a pha bryd bynnag y mae hwnnw'n gafael ynddo y mae'n ei fwrw ar lawr, ac y mae yntau'n malu ewyn ac yn ysgyrnygu ei ddannedd ac yn mynd yn ddiymadferth. A dywedais wrth dy ddisgyblion am ei fwrw allan, ac ni allasant."
9:19 Atebodd Iesu hwy: "O genhedlaeth ddi-ffydd, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y goddefaf chwi? Dewch ag ef ataf fi."
9:20 A daethant â'r bachgen ato. Cyn gynted ag y gwelodd yr ysbryd ef, ysgytiodd y bachgen yn ffyrnig. Syrthiodd ar y llawr a rholio o gwmpas dan falu ewyn.
9:21 Gofynnodd Iesu i'w dad, "Faint sydd er pan ddaeth hyn arno?" Dywedodd yntau, "O'i blentyndod;
9:22 llawer gwaith fe'i taflodd i'r tân neu i'r dŵr, i geisio'i ladd. Os yw'n bosibl iti wneud rhywbeth, tosturia wrthym a helpa ni."
9:23 Dywedodd Iesu wrtho, "Os yw'n bosibl! Y mae popeth yn bosibl i'r sawl sydd â ffydd ganddo."
9:24 Ar unwaith gwaeddodd tad y plentyn, "Yr wyf yn credu; helpa fi yn fy niffyg ffydd."
9:25 A phan welodd Iesu fod tyrfa'n rhedeg ynghyd, ceryddodd yr ysbryd aflan. "Ysbryd mud a byddar," meddai wrtho, "yr wyf fi yn gorchymyn iti, tyrd allan ohono a phaid â mynd i mewn iddo eto."
9:26 A chan weiddi a'i ysgytian yn ffyrnig, aeth yr ysbryd allan. Aeth y bachgen fel corff, nes i lawer ddweud ei fod wedi marw.
9:27 Ond gafaelodd Iesu yn ei law ef a'i godi, a safodd ar ei draed.
9:28 Ac wedi iddo fynd i'r tŷ gofynnodd ei ddisgyblion iddo o'r neilltu, "Pam na allem ni ei fwrw ef allan?"
9:29 Ac meddai wrthynt, "Dim ond trwy weddi y gall y math hwn fynd allan."

Iesu Eilwaith yn Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad, Mth. 17:22-23; Lc. 9:43b-45

9:30 Wedi iddynt adael y lle hwnnw, yr oeddent yn teithio trwy Galilea. Ni fynnai Iesu i neb wybod hynny,
9:31 oherwydd yr oedd yn dysgu ei ddisgyblion ac yn dweud wrthynt, "Y mae Mab y Dyn yn cael ei draddodi i ddwylo pobl, ac fe'i lladdant ef, ac wedi cael ei ladd, ymhen tri diwrnod fe atgyfoda."
9:32 Ond nid oeddent hwy'n deall ei eiriau, ac yr oedd arnynt ofn ei holi.

Pwy yw'r Mwyaf? Mth. 18:1-5; Lc. 9:46-48

9:33 Daethant i Gapernaum, ac wedi cyrraedd y tŷ gofynnodd iddynt, "Beth oeddech chwi'n ei drafod ar y ffordd?"
9:34 Ond tewi a wnaethant, oherwydd ar y ffordd buont yn dadlau â'i gilydd pwy oedd y mwyaf.
9:35 Eisteddodd i lawr a galwodd y Deuddeg, a dweud wrthynt, "Pwy bynnag sydd am fod yn flaenaf, rhaid iddo fod yn olaf o bawb ac yn was i bawb."
9:36 A chymerodd blentyn, a'i osod yn eu canol hwy; cymerodd ef i'w freichiau, a dywedodd wrthynt,
9:37 "Pwy bynnag sy'n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, nid myfi y mae'n ei dderbyn, ond yr hwn a'm hanfonodd i."

Yr Hwn nid yw yn ein Herbyn, Drosom Ni y Mae, Lc. 9:49-50

9:38 Meddai Ioan wrtho, "Athro, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd, am nad oedd yn ein dilyn ni."
9:39 Ond dywedodd Iesu, "Peidiwch â'i wahardd, oherwydd ni all neb sy'n gwneud gwyrth yn fy enw i roi drygair imi yn fuan wedyn.
9:40 Y sawl nid yw yn ein herbyn, drosom ni y mae.
9:41 Oherwydd pwy bynnag a rydd gwpanaid o ddŵr i chwi i'w yfed o achos eich bod yn perthyn i'r Meseia, yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr.

Achosion Cwymp, Mth. 18:6-9; Lc. 17:1-2

9:42 "A phwy bynnag sy'n achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn sy'n credu ynof fi, byddai'n well iddo fod wedi ei daflu i'r môr â maen melin mawr ynghrog am ei wddf.
9:43 Os bydd dy law yn achos cwymp iti, tor hi ymaith; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn anafus na mynd, a'r ddwy law gennyt, i uffern, i'r tân anniffoddadwy.
9:44 [lle nid yw eu pryf yn marw na'r tân yn diffodd.]
9:45 Ac os bydd dy droed yn achos cwymp iti, tor ef ymaith; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn gloff na chael dy daflu, a'r ddau droed gennyt, i uffern.
9:46 [lle nid yw eu pryf yn marw na'r tân yn diffodd.]
9:47 Ac os bydd dy lygad yn achos cwymp iti, tyn ef allan; y mae'n well iti fynd i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog na chael dy daflu, a dau lygad gennyt, i uffern,
9:48 lle nid yw eu pryf yn marw na'r tân yn diffodd.
9:49 Oblegid fe helltir pob un â thân.
9:50 Da yw'r halen, ond os paid yr halen â bod yn hallt, â pha beth y rhowch flas arno? Bydded gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlon tuag at eich gilydd."

Dysgeidiaeth ar Ysgariad, Mth. 19:1-12

10:1 Cychwynnodd oddi yno a daeth i diriogaeth Jwdea a'r tu hwnt i'r Iorddonen. Daeth tyrfaoedd ynghyd ato drachefn, a thrachefn yn ôl ei arfer dechreuodd eu dysgu.
10:2 A daeth Phariseaid ato a gofyn iddo a oedd yn gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig; rhoi prawf arno yr oeddent.
10:3 Atebodd yntau hwy gan ofyn, "Beth a orchmynnodd Moses i chwi?"
10:4 Dywedasant hwythau, "Rhoddodd Moses ganiatâd i ysgrifennu llythyr ysgar a'i hanfon ymaith."
10:5 Ond meddai Iesu wrthynt, "Oherwydd eich ystyfnigrwydd yr ysgrifennodd ef y gorchymyn hwn ichwi.
10:6 Ond o ddechreuad y greadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwy.
10:7 Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig,
10:8 a bydd y ddau yn un cnawd. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd.
10:9 Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, peidied neb ei wahanu."
10:10 Wedi mynd yn ôl i'r tŷ, holodd ei ddisgyblion ef ynghylch hyn.
10:11 Ac meddai wrthynt, "Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu yn ei herbyn hi;
10:12 ac os bydd iddi hithau ysgaru ei gŵr a phriodi un arall, y mae hi'n godinebu."

Bendithio Plant Bach, Mth. 19:13-15; Lc. 18:15-17

10:13 Yr oeddent yn dod â phlant ato, iddo gyffwrdd â hwy. Ceryddodd y disgyblion hwy,
10:14 ond pan welodd Iesu hyn aeth yn ddig, a dywedodd wrthynt, "Gadewch i'r plant ddod ataf fi; peidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.
10:15 Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi."
10:16 A chymerodd hwy yn ei freichiau a'u bendithio, gan roi ei ddwylo arnynt.

Y Dyn Cyfoethog, Mth. 19:16-30; Lc. 18:18-30

10:17 Wrth iddo fynd i'w daith, rhedodd rhyw ddyn ato a phenlinio o'i flaen a gofyn iddo, "Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?"
10:18 A dywedodd Iesu wrtho, "Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw.
10:19 Gwyddost y gorchmynion: 'Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha, na chamgolleda, anrhydedda dy dad a'th fam.'"
10:20 Meddai yntau wrtho, "Athro, yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd o'm hieuenctid."
10:21 Edrychodd Iesu arno ac fe'i hoffodd, a dywedodd wrtho, "Un peth sy'n eisiau ynot; dos, gwerth y cwbl sydd gennyt a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nef; a thyrd, canlyn fi."
10:22 Cymylodd ei wedd ar y gair, ac aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer.
10:23 Edrychodd Iesu o'i gwmpas ac meddai wrth ei ddisgyblion, "Mor anodd fydd hi i rai cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw!"
10:24 Syfrdanwyd y disgyblion gan ei eiriau, ond meddai Iesu wrthynt drachefn, "Blant, mor anodd yw mynd i mewn i deyrnas Dduw!
10:25 Y mae'n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw."
10:26 Synasant yn fwy byth, ac meddent wrth ei gilydd, "Pwy ynteu all gael ei achub?"
10:27 Edrychodd Iesu arnynt a dywedodd, "Gyda dynion y mae'n amhosibl, ond nid gyda Duw. Y mae pob peth yn bosibl gyda Duw."
10:28 Dechreuodd Pedr ddweud wrtho, "Dyma ni wedi gadael pob peth ac wedi dy ganlyn di."
10:29 Meddai Iesu, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid oes neb a adawodd dŷ neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu diroedd er fy mwyn i ac er mwyn yr Efengyl,
10:30 na chaiff dderbyn ganwaith cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn dai a brodyr a chwiorydd a mamau a phlant a thiroedd, ynghyd ag erledigaethau, ac yn yr oes sy'n dod fywyd tragwyddol.
10:31 Ond bydd llawer sy'n flaenaf yn olaf, a'r rhai olaf yn flaenaf."

Iesu y Drydedd Waith yn Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad, Mth. 20:17-19; Lc. 18:31-34

10:32 Yr oeddent ar y ffordd yn mynd i fyny i Jerwsalem, ac Iesu'n mynd o'u blaen. Yr oedd arswyd arnynt, ac ofn ar y rhai oedd yn canlyn. Cymerodd y Deuddeg ato drachefn a dechreuodd sôn wrthynt am yr hyn oedd i ddigwydd iddo:
10:33 "Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth, a'i drosglwyddo i'r Cenhedloedd;
10:34 a gwatwarant ef, a phoeri arno a'i fflangellu a'i ladd, ac wedi tridiau fe atgyfoda."

Cais Iago ac Ioan Mth. 20:20-28

10:35 Daeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, ato a dweud wrtho, "Athro, yr ydym am iti wneud i ni y peth a ofynnwn gennyt."
10:36 Meddai yntau wrthynt, "Beth yr ydych am imi ei wneud i chwi?"
10:37 A dywedasant wrtho, "Dyro i ni gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy ogoniant."
10:38 Ac meddai Iesu wrthynt, "Ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y cwpan yr wyf fi yn ei yfed, neu gael eich bedyddio â'r bedydd y bedyddir fi ag ef?"
10:39 Dywedasant hwythau wrtho, "Gallwn." Ac meddai Iesu wrthynt, "Cewch yfed y cwpan yr wyf fi yn ei yfed, a bedyddir chwi â'r bedydd y bedyddir fi ag ef,
10:40 ond eistedd ar fy llaw dde neu ar fy llaw chwith, nid gennyf fi y mae'r hawl i'w roi; y mae'n perthyn i'r rhai y mae wedi ei ddarparu ar eu cyfer."
10:41 Pan glywodd y deg, aethant yn ddig wrth Iago ac Ioan.
10:42 Galwodd Iesu hwy ato ac meddai wrthynt, " Gwyddoch fod y rhai a ystyrir yn llywodraethwyr ar y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'u gwŷr mawr hwy yn dangos eu hawdurdod drostynt.
10:43 Ond nid felly y mae yn eich plith chwi; yn hytrach, pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi,
10:44 a phwy bynnag sydd am fod yn flaenaf yn eich plith, rhaid iddo fod yn gaethwas i bawb.
10:45 Oherwydd Mab y Dyn, yntau, ni ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer."

Iacháu Bartimeus Ddall, Mth. 20:29-34; Lc. 18:35-43

10:46 Daethant i Jericho. Ac fel yr oedd yn mynd allan o Jericho gyda'i ddisgyblion a chryn dyrfa, yr oedd mab Timeus, Bartimeus, cardotyn dall, yn eistedd ar fin y ffordd.
10:47 A phan glywodd mai Iesu o Nasareth ydoedd, dechreuodd weiddi a dweud, "Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf."
10:48 Ac yr oedd llawer yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd yntau'n gweiddi'n uwch fyth, "Fab Dafydd, trugarha wrthyf."
10:49 Safodd Iesu, a dywedodd, "Galwch arno." A dyma hwy'n galw ar y dyn dall ac yn dweud wrtho, "Cod dy galon a saf ar dy draed; y mae'n galw arnat."
10:50 Taflodd yntau ei fantell oddi arno, llamu ar ei draed a dod at Iesu.
10:51 Cyfarchodd Iesu ef a dweud, "Beth yr wyt ti am i mi ei wneud iti?" Ac meddai'r dyn dall wrtho, "Rabbwni, y mae arnaf eisiau cael fy ngolwg yn ôl."
10:52 Dywedodd Iesu wrtho, "Dos, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di." A chafodd ei olwg yn ôl yn y fan, a dechreuodd ei ganlyn ef ar hyd y ffordd.

Yr Ymdaith Fuddugoliaethus i mewn i Jerwsalem, Mth. 21:1-11; Lc. 19:28-40; In. 12:12-19

11:1 Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem, at Bethffage a Bethania, ger Mynydd yr Olewydd, anfonodd ddau o'i ddisgyblion,
11:2 ac meddai wrthynt, "Ewch i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth wrth ichwi fynd i mewn iddo, cewch ebol wedi ei rwymo, un nad oes neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma.
11:3 Ac os dywed rhywun wrthych, 'Pam yr ydych yn gwneud hyn?' dywedwch, 'Y mae ar y Meistr ei angen, a bydd yn ei anfon yn ôl yma yn union deg.'"
11:4 Aethant ymaith a chawsant ebol wedi ei rwymo wrth ddrws y tu allan ar yr heol, a gollyngasant ef.
11:5 Ac meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno wrthynt, "Beth ydych yn ei wneud, yn gollwng yr ebol?"
11:6 Atebasant hwythau fel yr oedd Iesu wedi dweud, a gadawyd iddynt fynd.
11:7 Daethant â'r ebol at Iesu a bwrw eu mentyll arno, ac eisteddodd yntau ar ei gefn.
11:8 Taenodd llawer eu mentyll ar y ffordd, ac eraill ganghennau deiliog yr oeddent wedi eu torri o'r meysydd.
11:9 Ac yr oedd y rhai ar y blaen a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi: "Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.
11:10 Bendigedig yw'r deyrnas sy'n dod, teyrnas ein tad Dafydd; Hosanna yn y goruchaf!"
11:11 Aeth i mewn i Jerwsalem ac i'r deml, ac wedi edrych o'i gwmpas ar bopeth, gan ei bod eisoes yn hwyr, aeth allan i Fethania gyda'r Deuddeg.

Melltithio'r Ffigysbren, Mth. 21:18-19

11:12 Trannoeth, wedi iddynt ddod allan o Fethania, daeth chwant bwyd arno.
11:13 A phan welodd o bell ffigysbren ac arno ddail, aeth i edrych tybed a gâi rywbeth arno. A phan ddaeth ato ni chafodd ddim ond dail, oblegid nid oedd yn dymor ffigys.
11:14 Dywedodd wrtho, "Peidied neb â bwyta ffrwyth ohonot ti byth mwy!" Ac yr oedd ei ddisgyblion yn gwrando.

Glanhau'r Deml,Amau Awdurdod Iesu Mth. 21:23-27; Lc. 20:1-8 Mth. 21:12-17; Lc. 19:45-48; In. 2:13-22

11:15 Daethant i Jerwsalem. Aeth i mewn i'r deml a dechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a'r rhai oedd yn prynu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod,
11:16 ac ni adawai i neb gludo dim trwy'r deml.
11:17 A dechreuodd eu dysgu a dweud wrthynt, "Onid yw'n ysgrifenedig: 'Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd, ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron'?"
11:18 Clywodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion am hyn, a dechreusant geisio ffordd i'w ladd ef, achos yr oedd arnynt ei ofn, gan fod yr holl dyrfa wedi ei syfrdanu gan ei ddysgeidiaeth.
11:19 A phan aeth hi'n hwyr aethant allan o'r ddinas.



11:20 Yn y bore, wrth fynd heibio, gwelsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.
11:21 Cofiodd Pedr, a dywedodd wrtho, "Rabbi, edrych, y mae'r ffigysbren a felltithiaist wedi crino."
11:22 Atebodd Iesu hwy: "Bydded gennych ffydd yn Nuw;
11:23 yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a ddywed wrth y mynydd hwn, 'Coder di a bwrier di i'r môr', heb amau yn ei galon, ond credu y digwydd yr hyn a ddywed, fe'i rhoddir iddo.
11:24 Gan hynny rwy'n dweud wrthych, beth bynnag oll yr ydych yn gweddïo ac yn gofyn amdano, credwch eich bod wedi ei dderbyn, ac fe'i rhoddir i chwi.
11:25 A phan fyddwch ar eich traed yn gweddïo, os bydd gennych rywbeth yn erbyn unrhyw un, maddeuwch iddynt, er mwyn i'ch Tad sydd yn y nefoedd faddau i chwithau eich camweddau."
11:26 [Ond os na faddeuwch chwi, ni faddeua chwaith eich Tad sydd yn y nefoedd eich camweddau chwi.]
11:27 Daethant drachefn i Jerwsalem. Ac wrth ei fod yn cerdded yn y deml, dyma'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid yn dod ato,
11:28 ac meddent wrtho, "Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn i wneud y pethau hyn?"
11:29 Dywedodd Iesu wrthynt, "Fe ofynnaf un peth i chwi; atebwch fi, ac fe ddywedaf wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.
11:30 Bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o'r byd daearol? Atebwch fi."
11:31 Dechreusant ddadlau â'i gilydd a dweud, "Os dywedwn, 'o'r nef', fe ddywed, 'Pam, ynteu, na chredasoch ef?'
11:32 Eithr a ddywedwn, 'o'r byd daearol'?" — yr oedd arnynt ofn y dyrfa, oherwydd yr oedd pawb yn dal fod Ioan yn broffwyd mewn gwirionedd.
11:33 Atebasant Iesu, "Ni wyddom ni ddim." Ac meddai Iesu wrthynt, "Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn."

Dameg y Winllan a'r Tenantiaid, Mth. 21:33-46; Lc. 20:9-19

12:1 Dechreuodd lefaru wrthynt ar ddamhegion. "Fe blannodd rhywun winllan, a chododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref.
12:2 Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid i dderbyn ganddynt gyfran o ffrwyth y winllan.
12:3 Daliasant hwythau ef, a'i guro, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.
12:4 Anfonodd drachefn was arall atynt; trawsant hwnnw ar ei ben a'i amharchu.
12:5 Ac anfonodd un arall; lladdasant hwnnw. A llawer eraill yr un fath: curo rhai a lladd y lleill.
12:6 Yr oedd ganddo un eto, mab annwyl; anfonodd ef atynt yn olaf, gan ddweud, 'Fe barchant fy mab'.
12:7 Ond dywedodd y tenantiaid hynny wrth ei gilydd, 'Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a bydd yr etifeddiaeth yn eiddo i ni.'
12:8 A chymerasant ef, a'i ladd, a'i fwrw allan o'r winllan.
12:9 Beth ynteu a wna perchen y winllan? Fe ddaw ac fe ddifetha'r tenantiaid, ac fe rydd y winllan i eraill.
12:10 Onid ydych wedi darllen yr Ysgrythur hon: 'Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl;
12:11 gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni'?"
12:12 Ceisiasant ei ddal ef, ond yr oedd arnynt ofn y dyrfa, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg. A gadawsant ef a mynd ymaith.

Talu Trethi i Gesar, Mth. 22:15-22; Lc. 20:20-26

12:13 Anfonwyd ato rai o'r Phariseaid ac o'r Herodianiaid i'w faglu ar air.
12:14 Daethant, ac meddent wrtho, "Athro, gwyddom dy fod yn ddiffuant, ac na waeth gennyt am neb; yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb, ac yn dysgu ffordd Duw yn gwbl ddiffuant. A yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw? A ydym i dalu, neu beidio â thalu?"
12:15 Deallodd yntau eu rhagrith, ac meddai wrthynt, "Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf? Dewch â darn arian yma, imi gael golwg arno."
12:16 A daethant ag un, ac meddai ef wrthynt, "Llun ac arysgrif pwy sydd yma?" Dywedasant hwythau wrtho, "Cesar."
12:17 A dywedodd Iesu wrthynt, "Talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw." Ac yr oeddent yn rhyfeddu ato.

Holi ynglŷn â'r Atgyfodiad, Mth. 22:23-33; Lc. 20:27-40

12:18 Daeth ato Sadwceaid, y bobl sy'n dweud nad oes dim atgyfodiad, a dechreusant ei holi.
12:19 "Athro," meddent, "ysgrifennodd Moses ar ein cyfer, 'Os bydd rhywun farw, a gadael gwraig, ond heb adael plentyn, y mae ei frawd i gymryd y wraig ac i godi plant i'w frawd.'
12:20 Yr oedd saith o frodyr. Cymerodd y cyntaf wraig, a phan fu ef farw ni adawodd blant.
12:21 A chymerodd yr ail hi, a bu farw heb adael plant; a'r trydydd yr un modd.
12:22 Ac ni adawodd yr un o'r saith blant. Yn olaf oll bu farw'r wraig hithau.
12:23 Yn yr atgyfodiad, pan atgyfodant, gwraig prun ohonynt fydd hi? Oherwydd cafodd y saith hi'n wraig."
12:24 Meddai Iesu wrthynt, "Onid dyma achos eich cyfeiliorni, eich bod heb ddeall na'r Ysgrythurau na gallu Duw?
12:25 Oherwydd pan atgyfodant oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nefoedd.
12:26 Ond ynglŷn â bod y meirw yn codi, onid ydych wedi darllen yn llyfr Moses, yn hanes y Berth, sut y dywedodd Duw wrtho, 'Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf'?
12:27 Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw. Yr ydych ymhell ar gyfeiliorn."

Y Gorchymyn Mawr, Mth. 22:34-40; Lc. 10:25-28

12:28 Daeth un o'r ysgrifenyddion ato, wedi eu clywed yn dadlau, ac yn gweld ei fod wedi eu hateb yn dda, a gofynnodd iddo, "Prun yw'r gorchymyn cyntaf o'r cwbl?"
12:29 Atebodd Iesu, "Y cyntaf yw, 'Gwrando, O Israel, yr Arglwydd ein Duw yw'r unig Arglwydd,
12:30 a châr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl ac â'th holl nerth.'
12:31 Yr ail yw hwn, 'Câr dy gymydog fel ti dy hun.' Nid oes gorchymyn arall mwy na'r rhain."
12:32 Dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, "Da y dywedaist, Athro; gwir mai un ydyw ac nad oes Duw arall ond ef.
12:33 Ac y mae ei garu ef â'r holl galon ac â'r holl ddeall ac â'r holl nerth, a charu dy gymydog fel ti dy hun, yn rhagorach na'r holl boethoffrymau a'r aberthau."
12:34 A phan welodd Iesu ei fod wedi ateb yn feddylgar, dywedodd wrtho, "Nid wyt ymhell oddi wrth deyrnas Dduw." Ac ni feiddiai neb ei holi ddim mwy.

Holi ynglŷn â Mab Dafydd, Mth. 22:41-46; Lc. 20:41-44

12:35 Wrth ddysgu yn y deml dywedodd Iesu, "Sut y mae'r ysgrifenyddion yn gallu dweud bod y Meseia yn Fab Dafydd?
12:36 Dywedodd Dafydd ei hun, trwy'r Ysbryd Glân: 'Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, "Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion dan dy draed."'
12:37 Y mae Dafydd ei hun yn ei alw'n Arglwydd; sut felly y mae'n fab iddo?" Yr oedd y dyrfa fawr yn gwrando arno'n llawen.

Cyhuddo'r Ysgrifenyddion Mth. 23:1-36; Lc. 20:45-47

12:38 Ac wrth eu dysgu, meddai, "Ym-ogelwch rhag yr ysgrifenyddion sy'n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd,
12:39 a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd.
12:40 Dyma'r rhai sy'n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; fe dderbyn y rhain drymach dedfryd."

Offrwm y Weddw Lc. 21:1-4

12:41 Eisteddodd i lawr gyferbyn â chist y drysorfa, ac yr oedd yn sylwi ar y modd yr oedd y dyrfa yn rhoi arian i mewn yn y gist. Yr oedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi yn helaeth.
12:42 A daeth gweddw dlawd a rhoi dau ddarn bychan o bres, gwerth chwarter ceiniog.
12:43 Galwodd ei ddisgyblion ato a dywedodd wrthynt, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb arall sy'n rhoi i'r drysorfa.
12:44 Oherwydd rhoi a wnaethant hwy i gyd o'r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno."

Rhagfynegi Dinistr y Deml, Mth. 24:1-2; Lc. 21:5-6

13:1 Wrth iddo fynd allan o'r deml, dyma un o'i ddisgyblion yn dweud wrtho, "Edrych, Athro, y fath feini enfawr a'r fath adeiladau gwych!"
13:2 A dywedodd Iesu wrtho, "A weli di'r adeiladau mawr yma? Ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr."

Dechrau'r Gwewyr, Mth. 24:3-14; Lc. 21:7-19

13:3 Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd gyferbyn â'r deml, gofynnodd Pedr ac Iago ac Ioan ac Andreas iddo, o'r neilltu,
13:4 "Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd pan fydd hyn oll ar ddod i ben?"
13:5 A dechreuodd Iesu ddweud wrthynt, "Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo.
13:6 Fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, 'Myfi yw', ac fe dwyllant lawer.
13:7 A phan glywch am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd, peidiwch â chyffroi. Rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto.
13:8 Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. Bydd daeargrynfâu mewn mannau. Bydd adegau o newyn.
13:9 Dechrau'r gwewyr fydd hyn. A chwithau, gwyliwch eich hunain; fe'ch traddodir chwi i lysoedd, a chewch eich fflangellu mewn synagogau a'ch gosod i sefyll gerbron llywodraethwyr a brenhinoedd o'm hachos i, i ddwyn tystiolaeth yn eu gŵydd.
13:10 Ond yn gyntaf rhaid i'r Efengyl gael ei chyhoeddi i'r holl genhedloedd.
13:11 A phan ânt â chwi i'ch traddodi, peidiwch â phryderu ymlaen llaw beth i'w ddweud, ond pa beth bynnag a roddir i chwi y pryd hwnnw, dywedwch hynny; oblegid nid chwi sydd yn llefaru, ond yr Ysbryd Glân.
13:12 Bradycha brawd ei frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a chyfyd plant yn erbyn eu rhieni a pheri eu lladd.
13:13 A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.

Y Gorthrymder Mawr, Mth. 24:15-28; Lc. 21:20-24

13:14 "Ond pan welwch 'y ffieiddbeth diffeithiol' yn sefyll lle na ddylai fod" (dealled y darllenydd) "yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd.
13:15 Pwy bynnag sydd ar ben y tŷ, peidied â dod i lawr i fynd i mewn i gipio dim o'i dŷ;
13:16 a phwy bynnag sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell.
13:17 Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny!
13:18 A gweddïwch na ddigwydd hyn yn y gaeaf,
13:19 oblegid bydd y dyddiau hynny yn orthrymder na fu ei debyg o ddechrau'r greadigaeth a greodd Duw hyd yn awr, ac na fydd byth.
13:20 Ac oni bai fod yr Arglwydd wedi byrhau'r dyddiau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion a etholodd, fe fyrhaodd y dyddiau.
13:21 Ac yna, os dywed rhywun wrthych, 'Edrych, dyma'r Meseia', neu, 'Edrych, dacw ef', peidiwch â'i gredu.
13:22 Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion a rhyfeddodau i arwain ar gyfeiliorn yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.
13:23 Ond gwyliwch chwi; yr wyf wedi dweud y cwbl wrthych ymlaen llaw.

Dyfodiad Mab y Dyn, Mth. 24:29-31; Lc. 21:25-28

13:24 "Ond yn y dyddiau hynny, ar ôl y gorthrymder hwnnw, 'Tywyllir yr haul, ni rydd y lloer ei llewyrch,
13:25 syrth y sêr o'r nef, ac ysgydwir y nerthoedd sydd yn y nefoedd.'
13:26 A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod yn y cymylau gyda nerth mawr a gogoniant.
13:27 Ac yna'r anfona ei angylion a chynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd at eithaf y nef.

Gwers y Ffigysbren, Mth. 24:32-35; Lc. 21:29-33

13:28 "Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos.
13:29 Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws.
13:30 Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r holl bethau hyn ddigwydd.
13:31 Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim.

Y Dydd a'r Awr Anhysbys Mth. 24:36-44

13:32 "Ond am y dydd hwnnw neu'r awr ni ŵyr neb, na'r angylion yn y nef, na'r Mab, neb ond y Tad.
13:33 Gwyliwch, byddwch effro; oherwydd ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser.
13:34 Y mae fel dyn a aeth oddi cartref, gan adael ei dŷ a rhoi awdurdod i'w weision, i bob un ei waith, a gorchymyn i'r porthor wylio.
13:35 Byddwch wyliadwrus gan hynny — oherwydd ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, ai gyda'r hwyr, ai ar hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore —
13:36 rhag ofn iddo ddod yn ddisymwth a'ch cael chwi'n cysgu.
13:37 A'r hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych chwi, yr wyf yn ei ddweud wrth bawb: byddwch wyliadwrus."

Y Cynllwyn i Ladd Iesu, Mth. 26:1-5; Lc. 22:1-2; In. 11:45-53

14:1 Yr oedd y Pasg a gŵyl y Bara Croyw ymhen deuddydd. Ac yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yn ceisio modd i'w ddal trwy ddichell, a'i ladd.
14:2 Oherwydd dweud yr oeddent, "Nid yn ystod yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl."

Yr Eneinio ym Methania, Mth. 26:6-13; In. 12:1-8

14:3 A phan oedd ef ym Methania, wrth bryd bwyd yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, daeth gwraig a chanddi ffiol alabastr o ennaint drudfawr, nard pur; torrodd y ffiol a thywalltodd yr ennaint ar ei ben ef.
14:4 Ac yr oedd rhai yn ddig ac yn dweud wrth ei gilydd, "I ba beth y bu'r gwastraff hwn ar yr ennaint?
14:5 Oherwydd gallesid gwerthu'r ennaint hwn am fwy na thri chant o ddarnau arian a'i roi i'r tlodion." Ac yr oeddent yn ei cheryddu.
14:6 Ond dywedodd Iesu, "Gadewch iddi; pam yr ydych yn ei phoeni? Gweithred brydferth a wnaeth hi i mi.
14:7 Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, a gallwch wneud cymwynas â hwy pa bryd bynnag y mynnwch; ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser.
14:8 A allodd hi, fe'i gwnaeth; achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y gladdedigaeth.
14:9 Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yn yr holl fyd, adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon, er cof amdani."

Jwdas yn Cydsynio i Fradychu Iesu, Mth. 26:14-16; Lc. 22:3-6

14:10 Yna aeth Jwdas Iscariot, hwnnw oedd yn un o'r Deuddeg, at y prif offeiriaid i'w fradychu ef iddynt.
14:11 Pan glywsant, yr oeddent yn llawen, ac addawsant roi arian iddo. A dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef.

Gwledd y Pasg gyda'r Disgyblion, Mth. 26:17-25; Lc. 22:7-14, 21-23; In. 13:21-30

14:12 Ar ddydd cyntaf gŵyl y Bara Croyw, pan leddid oen y Pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, "I ble yr wyt ti am inni fynd i baratoi i ti, i fwyta gwledd y Pasg?"
14:13 Ac anfonodd ddau o'i ddisgyblion, ac meddai wrthynt, "Ewch i'r ddinas, ac fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef,
14:14 a dywedwch wrth ŵr y tŷ lle'r â i mewn, 'Y mae'r Athro'n gofyn, "Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?"'
14:15 Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu'n barod; yno paratowch i ni."
14:16 Aeth y disgyblion ymaith, a daethant i'r ddinas a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg.
14:17 Gyda'r nos daeth yno gyda'r Deuddeg.
14:18 Ac fel yr oeddent wrth y bwrdd yn bwyta, dywedodd Iesu, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i, un sy'n bwyta gyda mi."
14:19 Dechreusant dristáu a dweud wrtho y naill ar ôl y llall, "Nid myfi?"
14:20 Dywedodd yntau wrthynt, "Un o'r Deuddeg, un sy'n gwlychu ei fara gyda mi yn y ddysgl.
14:21 Y mae Mab y Dyn yn wir yn ymadael, fel y mae'n ysgrifenedig amdano, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir Mab y Dyn ganddo! Da fuasai i'r dyn hwnnw petai heb ei eni."

Sefydlu Swper yr Arglwydd, Mth. 26:26-30; Lc. 22:15-20; 1Cor. 11:23-25

14:22 Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd fara, ac wedi bendithio fe'i torrodd a'i roi iddynt, a dweud, "Cymerwch; hwn yw fy nghorff."
14:23 A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe'i rhoddodd iddynt, ac yfodd pawb ohono.
14:24 A dywedodd wrthynt, "Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, sy'n cael ei dywallt er mwyn llawer.
14:25 Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad yfaf byth mwy o ffrwyth y winwydden hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw."
14:26 Ac wedi iddynt ganu emyn, aethant allan i Fynydd yr Olewydd.

Rhagfynegi Gwadiad Pedr, Mth. 26:31-35; Lc. 22:31-34; In. 13:36-38

14:27 A dywedodd Iesu wrthynt, "Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig : 'Trawaf y bugail, a gwasgerir y defaid.'
14:28 Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea."
14:29 Meddai Pedr wrtho, "Er iddynt gwympo bob un, ni wnaf fi."
14:30 Ac meddai Iesu wrtho, "Yn wir, rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno nesaf, cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fy ngwadu i deirgwaith."
14:31 Ond taerai yntau'n fwy byth, "Petai'n rhaid imi farw gyda thi, ni'th wadaf byth." A'r un modd yr oeddent yn dweud i gyd.

Y Weddi yn Gethsemane, Mth. 26:36-46; Lc. 22:39-46

14:32 Daethant i le o'r enw Gethsemane, ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, "Eisteddwch yma tra byddaf yn gweddïo."
14:33 Ac fe gymerodd gydag ef Pedr ac Iago ac Ioan, a dechreuodd deimlo arswyd a thrallod dwys,
14:34 ac meddai wrthynt, "Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch."
14:35 Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar y ddaear a gweddïo ar i'r awr, petai'n bosibl, fynd heibio iddo.
14:36 "Abba! Dad!" meddai, "y mae pob peth yn bosibl i ti. Cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Eithr nid yr hyn a fynnaf fi, ond yr hyn a fynni di."
14:37 Daeth yn ôl a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, "Simon, ai cysgu yr wyt ti? Oni ellaist wylio am un awr?
14:38 Gwyliwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi. Y mae'r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan."
14:39 Aeth ymaith drachefn a gweddïo, gan lefaru'r un geiriau.
14:40 A phan ddaeth yn ôl fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm; ac ni wyddent beth i'w ddweud wrtho.
14:41 Daeth y drydedd waith, a dweud wrthynt, "A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyna ddigon. Daeth yr awr; dyma Fab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid.
14:42 Codwch ac awn. Dyma fy mradychwr yn agosáu."

Bradychu a Dal Iesu, Mth. 26:47-56; Lc. 22:47-53; In. 18:2-12

14:43 Ac yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn cyrraedd, a chydag ef dyrfa yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid.
14:44 Yr oedd ei fradychwr wedi rhoi arwydd iddynt gan ddweud, "Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef a mynd ag ef ymaith yn ddiogel."
14:45 Ac yn union wedi cyrraedd, aeth ato ef a dweud, "Rabbi," a chusanodd ef.
14:46 Rhoesant hwythau eu dwylo arno a'i ddal.
14:47 Tynnodd rhywun o blith y rhai oedd yn sefyll gerllaw gleddyf, a thrawodd was yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd.
14:48 A dywedodd Iesu wrthynt, "Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i'm dal i?
14:49 Yr oeddwn gyda chwi beunydd, yn dysgu yn y deml, ac ni ddaliasoch fi. Ond cyflawner yr Ysgrythurau."
14:50 A gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi.

Y Llanc a Ffodd

14:51 Ac yr oedd rhyw lanc yn ei ganlyn ef, yn gwisgo darn o liain dros ei gorff noeth. Cydiasant ynddo ef,
14:52 ond dihangodd, gan adael y lliain a ffoi'n noeth.

Iesu gerbron y Sanhedrin, Mth. 26:57-68; Lc. 22:54-55, 63-71; In. 18:12-14, 19-24

14:53 Aethant â Iesu ymaith at yr archoffeiriad, a daeth y prif offeiriaid oll a'r henuriaid a'r ysgrifenyddion ynghyd.
14:54 Canlynodd Pedr ef o hirbell, bob cam i mewn i gyntedd yr archoffeiriad, ac yr oedd yn eistedd gyda'r gwasanaethwyr, yn ymdwymo wrth y tân.
14:55 Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio tystiolaeth yn erbyn Iesu, i'w roi i farwolaeth, ond yn methu cael dim.
14:56 Oherwydd yr oedd llawer yn rhoi camdystiolaeth yn ei erbyn, ond nid oedd eu tystiolaeth yn gyson.
14:57 Cododd rhai a chamdystio yn ei erbyn,
14:58 "Clywsom ni ef yn dweud, 'Mi fwriaf i lawr y deml hon o waith llaw, ac mewn tridiau mi adeiladaf un arall heb fod o waith llaw.'"
14:59 Ond hyd yn oed felly nid oedd eu tystiolaeth yn gyson.
14:60 Yna cododd yr archoffeiriad ar ei draed yn y canol, a holodd Iesu: "Onid atebi ddim? Beth am dystiolaeth y rhain yn dy erbyn?"
14:61 Parhaodd yntau'n fud, heb ateb dim. Holodd yr archoffeiriad ef drachefn, ac meddai wrtho, "Ai ti yw'r Meseia, Mab y Bendigedig?"
14:62 Dywedodd Iesu, "Myfi yw, 'ac fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod gyda chymylau'r nef.'"
14:63 Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, "Pa raid i ni wrth dystion bellach?
14:64 Clywsoch ei gabledd; sut y barnwch chwi?" A'u dedfryd gytûn arno oedd ei fod yn haeddu marwolaeth.
14:65 A dechreuodd rhai boeri arno a rhoi gorchudd ar ei wyneb, a'i gernodio a dweud wrtho, "Proffwyda." Ac ymosododd y gwasanaethwyr arno â dyrnodiau.

Pedr yn Gwadu Iesu, Mth. 26:69-75; Lc. 22:56-62; In. 18:15-18, 25-27

14:66 Yr oedd Pedr islaw yn y cyntedd. Daeth un o forynion yr archoffeiriad,
14:67 a phan welodd Pedr yn ymdwymo edrychodd arno ac meddai, "Yr oeddit tithau hefyd gyda'r Nasaread, Iesu."
14:68 Ond gwadodd ef a dweud, "Nid wyf yn gwybod nac yn deall am beth yr wyt ti'n sôn." Ac aeth allan i'r porth.
14:69 Gwelodd y forwyn ef, a dechreuodd ddweud wedyn wrth y rhai oedd yn sefyll yn ymyl, "Y mae hwn yn un ohonynt."
14:70 Gwadodd yntau drachefn. Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl yn dweud wrth Pedr, "Yr wyt yn wir yn un ohonynt, achos Galilead wyt ti."
14:71 Dechreuodd yntau regi a thyngu: "Nid wyf yn adnabod y dyn hwn yr ydych yn sôn amdano."
14:72 Ac yna canodd y ceiliog yr ail waith. Cofiodd Pedr ymadrodd Iesu wrtho, fel y dywedodd, "Cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fe'm gwedi i deirgwaith." A thorrodd i wylo.

Iesu gerbron Pilat, Mth. 27:1-2, 11-14; Lc. 23:1-5; In. 18:28-38

15:1 Cyn gynted ag y daeth hi'n ddydd, ymgynghorodd y prif offeiriaid â'r henuriaid a'r ysgrifenyddion a'r holl Sanhedrin; yna rhwymasant Iesu a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat.
15:2 Holodd Pilat ef: "Ai ti yw Brenin yr Iddewon?" Atebodd yntau ef: "Ti sy'n dweud hynny."
15:3 Ac yr oedd y prif offeiriaid yn dwyn llawer o gyhuddiadau yn ei erbyn.
15:4 Holodd Pilat ef wedyn: "Onid atebi ddim? Edrych faint o gyhuddiadau y maent yn eu dwyn yn dy erbyn."
15:5 Ond nid atebodd Iesu ddim mwy, er syndod i Pilat.

Dedfrydu Iesu i Farwolaeth, Mth. 27:15-26; Lc. 23:13-25; In. 18:39—19:16

15:6  Ar yr ŵyl yr oedd Pilat yn arfer rhyddhau iddynt un carcharor y gofynnent amdano.
15:7 Ac yr oedd y dyn a elwid Barabbas yn y carchar gyda'r gwrthryfelwyr hynny oedd wedi llofruddio yn ystod y gwrthryfel.
15:8 Daeth y dyrfa i fyny a dechrau gofyn i Pilat wneud yn ôl ei arfer iddynt.
15:9 Atebodd Pilat hwy: "A fynnwch i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?"
15:10 Oherwydd gwyddai mai o genfigen yr oedd y prif offeiriaid wedi ei draddodi ef.
15:11 Ond cyffrôdd y prif offeiriaid y dyrfa i geisio ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt.
15:12 Atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, "Beth, ynteu, a wnaf â hwn yr ydych yn ei alw yn Frenin yr Iddewon?"
15:13 Gwaeddasant hwythau yn ôl, "Croeshoelia ef."
15:14 Meddai Pilat wrthynt, "Ond pa ddrwg a wnaeth ef?" Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, "Croeshoelia ef."
15:15 A chan ei fod yn awyddus i fodloni'r dyrfa, rhyddhaodd Pilat Barabbas iddynt, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio.

Y Milwyr yn Gwatwar Iesu, Mth. 27:27-31; In. 19:2-3

15:16 Aeth y milwyr ag ef ymaith i mewn i'r cyntedd, hynny yw, i'r Praetoriwm, a galw ynghyd yr holl fintai.
15:17 A gwisgasant ef â phorffor, a phlethu coron ddrain a'i gosod am ei ben.
15:18 A dechreusant ei gyfarch: "Henffych well, Frenin yr Iddewon!"
15:19 Curasant ei ben â gwialen, a phoeri arno, a phlygu eu gliniau ac ymgrymu iddo.
15:20 Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y porffor oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun. Yna aethant ag ef allan i'w groeshoelio.

Croeshoelio Iesu, Mth. 27:32-44; Lc. 23:26-43; In. 19:17-27

15:21 Gorfodasant un oedd yn mynd heibio ar ei ffordd o'r wlad, Simon o Cyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario ei groes ef.
15:22 Daethant ag ef i'r lle a elwir Golgotha, hynny yw, o'i gyfieithu, "Lle Penglog."
15:23 Cynigiasant iddo win â myrr ynddo, ond ni chymerodd ef.
15:24 A chroeshoeliasant ef, a rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt i benderfynu beth a gâi pob un.
15:25 Naw o'r gloch y bore oedd hi pan groeshoeliasant ef.
15:26 Ac yr oedd arysgrif y cyhuddiad yn ei erbyn yn dweud: "Brenin yr Iddewon."
15:27 A chydag ef croeshoeliasant ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith iddo.
15:28 [A chyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud, "A chyfrifwyd ef gyda'r troseddwyr."]
15:29 Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, gan ysgwyd eu pennau a dweud, "Oho, ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau,
15:30 disgyn oddi ar y groes ac achub dy hun."
15:31 A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd â'r ysgrifenyddion, yn ei watwar wrth ei gilydd, ac yn dweud, "Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun.
15:32 Disgynned y Meseia, Brenin Israel, yn awr oddi ar y groes, er mwyn inni weld a chredu." Yr oedd hyd yn oed y rhai a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio.

Marwolaeth Iesu, Mth. 27:45-56; Lc. 23:44-49; In. 19:28-30

15:33 A phan ddaeth yn hanner dydd, bu tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn.
15:34 Ac am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, "Eloï, Eloï, lema sabachthani", hynny yw, o'i gyfieithu, "Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?"
15:35 O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll gerllaw, "Clywch, y mae'n galw ar Elias."
15:36 Rhedodd rhywun a llenwi ysbwng â gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. "Gadewch inni weld," meddai, "a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr."
15:37 Ond rhoes Iesu lef uchel, a bu farw.
15:38 A rhwygwyd llen y deml yn ddwy o'r pen i'r gwaelod.
15:39 Pan welodd y canwriad, a oedd yn sefyll gyferbyn ag ef, mai gyda gwaedd felly y bu farw, dywedodd, "Yn wir, Mab Duw oedd y dyn hwn."
15:40 Yr oedd gwragedd hefyd yn edrych o hirbell; yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome,
15:41 gwragedd a fu'n ei ganlyn ac yn gweini arno pan oedd yng Ngalilea, a llawer o wragedd eraill oedd wedi dod i fyny gydag ef i Jerwsalem.

Claddu Iesu, Mth. 27:57-61; Lc. 23:50-56; In. 19:38-42

15:42 Yr oedd hi eisoes yn hwyr, a chan ei bod yn ddydd Paratoad, hynny yw, y dydd cyn y Saboth,
15:43 daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr uchel ei barch a oedd yntau'n disgwyl am deyrnas Dduw, a mentrodd fynd i mewn at Pilat a gofyn am gorff Iesu.
15:44 Rhyfeddodd Pilat ei fod eisoes wedi marw, a galwodd y canwriad ato a gofyn iddo a oedd wedi marw ers meitin.
15:45 Ac wedi cael gwybod gan y canwriad, rhoddodd y corff i Joseff.
15:46 Prynodd yntau liain, ac wedi ei dynnu ef i lawr, a'i amdói yn y lliain, gosododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o'r graig; a threiglodd faen ar ddrws y bedd.
15:47 Ac yr oedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yn edrych ym mhle y gosodwyd ef.

Atgyfodiad Iesu, Mth. 28:1-8; Lc. 24:1-12; In. 20:1-10

16:1 Wedi i'r Saboth fynd heibio, prynodd Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, beraroglau, er mwyn mynd i'w eneinio ef.
16:2 Ac yn fore iawn ar y dydd cyntaf o'r wythnos, a'r haul newydd godi, dyma hwy'n dod at y bedd.
16:3 Ac meddent wrth ei gilydd, "Pwy a dreigla'r maen i ffwrdd oddi wrth ddrws y bedd i ni?"
16:4 Ond wedi edrych i fyny, gwelsant fod y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd; oherwydd yr oedd yn un mawr iawn.
16:5 Aethant i mewn i'r bedd, a gwelsant ddyn ifanc yn eistedd ar yr ochr dde, a gwisg laes wen amdano, a daeth arswyd arnynt.
16:6 Meddai yntau wrthynt, "Peidiwch ag arswydo. Yr ydych yn ceisio Iesu, y gŵr o Nasareth a groeshoeliwyd. Y mae wedi ei gyfodi; nid yw yma; dyma'r man lle gosodasant ef.
16:7 Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr. 'Y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.'"
16:8 Daethant allan, a ffoi oddi wrth y bedd, oherwydd yr oeddent yn crynu o arswyd. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb, oherwydd yr oedd ofn arnynt.

Ymddangos i Fair Magdalen, Mth. 28:9-10; In. 20:11-18

16:9 Ar ôl atgyfodi yn fore ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ymddangosodd yn gyntaf i Fair Magdalen, gwraig yr oedd wedi bwrw saith gythraul ohoni.
16:10 Aeth hi a dweud y newydd wrth ei ganlynwyr yn eu galar a'u dagrau.
16:11 A'r rheini, pan glywsant ei fod yn fyw ac wedi ei weld ganddi hi, ni chredasant.

Ymddangos i Ddau Ddisgybl, Lc. 24:13-35

16:12 Ar ôl hynny, ymddangosodd mewn ffurf arall i ddau ohonynt fel yr oeddent yn cerdded ar eu ffordd i'r wlad;
16:13 ac aethant hwy ymaith a dweud y newydd wrth y lleill. Ond ni chredodd neb y rheini chwaith.

Rhoi Comisiwn i'r Disgyblion, Mth. 28:16-20; Lc. 24:36-49; In. 20:19-23; Act. 1:6-8

16:14 Yn ddiweddarach, ymddangosodd i'r un ar ddeg pan oeddent wrth bryd bwyd, ac edliw iddynt eu hanghrediniaeth a'u hystyfnigrwydd, am iddynt beidio â chredu y rhai oedd wedi ei weld ef ar ôl ei gyfodi.
16:15 A dywedodd wrthynt, "Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i'r greadigaeth i gyd.
16:16 Y sawl a gred ac a fedyddir, fe gaiff ei achub, ond y sawl ni chred, fe'i condemnir.
16:17 A bydd yr arwyddion hyn yn dilyn i'r sawl a gredodd: bwriant allan gythreuliaid yn fy enw i, llefarant â thafodau newydd,
16:18 gafaelant mewn seirff, ac os yfant wenwyn marwol ni wna ddim niwed iddynt; rhoddant eu dwylo ar gleifion, ac iach fyddant."

Esgyniad Iesu, Lc. 24:50-53; Act. 1:9-11

16:19 Felly, wedi iddo lefaru wrthynt, cymerwyd yr Arglwydd Iesu i fyny i'r nef ac eisteddodd ar ddeheulaw Duw.
16:20 Ac aethant hwy allan a phregethu ym mhob man, a'r Arglwydd yn cydweithio â hwy ac yn cadarnhau'r gair trwy'r arwyddion oedd yn dilyn.