YR EFENGYL YN ÔL LUC

Cyflwyniad i Theoffilus

1:1 Yn gymaint â bod llawer wedi ymgymryd ag ysgrifennu hanes y pethau a gyflawnwyd yn ein plith,
1:2 fel y traddodwyd hwy inni gan y rhai a fu o'r dechreuad yn llygad-dystion ac yn weision y gair,
1:3 penderfynais innau, gan fy mod wedi ymchwilio yn fanwl i bopeth o'r dechreuad, eu hysgrifennu i ti yn eu trefn, ardderchocaf Theoffilus,
1:4 er mwyn iti gael sicrwydd am y wybodaeth a dderbyniaist.

Rhagfynegi Genedigaeth Ioan Fedyddiwr

1:5 Yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, yr oedd offeiriad o adran Abeia, o'r enw Sachareias, a chanddo wraig o blith merched Aaron; ei henw hi oedd Elisabeth.
1:6 Yr oeddent ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn ymddwyn yn ddi-fai yn ôl holl orchmynion ac ordeiniadau'r Arglwydd.
1:7 Nid oedd ganddynt blant, oherwydd yr oedd Elisabeth yn ddiffrwyth, ac yr oeddent ill dau wedi cyrraedd oedran mawr.
1:8 Ond pan oedd Sachareias a'i adran, yn eu tro, yn gweinyddu fel offeiriaid gerbron Duw,
1:9 yn ôl arferiad y swydd, daeth i'w ran fynd i mewn i gysegr yr Arglwydd ac offrymu'r arogldarth;
1:10 ac ar awr yr offrymu yr oedd holl dyrfa'r bobl y tu allan yn gweddïo.
1:11 A dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo, yn sefyll ar yr ochr dde i allor yr arogldarth;
1:12 a phan welodd Sachareias ef, fe'i cythryblwyd a daeth ofn arno.
1:13 Ond dywedodd yr angel wrtho, "Paid ag ofni, Sachareias, oherwydd y mae dy ddeisyfiad wedi ei wrando; bydd dy wraig Elisabeth yn esgor ar fab i ti, a gelwi ef Ioan.
1:14 Fe gei lawenydd a gorfoledd, a bydd llawer yn llawenychu o achos ei enedigaeth ef;
1:15 oherwydd mawr fydd ef gerbron yr Arglwydd, ac nid yf win na diod gadarn byth; llenwir ef â'r Ysbryd Glân, ie, yng nghroth ei fam,
1:16 ac fe dry lawer o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw.
1:17 Bydd yn cerdded o flaen yr Arglwydd yn ysbryd a nerth Elias, i droi calonnau rhieni at eu plant, ac i droi'r anufudd i feddylfryd y cyfiawn, er mwyn darparu i'r Arglwydd bobl wedi eu paratoi."
1:18 Meddai Sachareias wrth yr angel, "Sut y caf sicrwydd o hyn? Oherwydd yr wyf fi yn hen, a'm gwraig wedi cyrraedd oedran mawr."
1:19 Atebodd yr angel ef, "Myfi yw Gabriel, sydd yn sefyll gerbron Duw, ac anfonwyd fi i lefaru wrthyt ac i gyhoeddi iti y newydd da hwn;
1:20 ac wele, byddi'n fud a heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd hyn, am iti beidio â chredu fy ngeiriau, geiriau a gyflawnir yn eu hamser priodol."
1:21 Yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias, ac yn synnu ei fod yn oedi yn y cysegr.
1:22 A phan ddaeth allan, ni allai lefaru wrthynt, a deallasant iddo gael gweledigaeth yn y cysegr; yr oedd yntau yn amneidio arnynt ac yn parhau yn fud.
1:23 Pan ddaeth dyddiau ei wasanaeth i ben, dychwelodd adref.
1:24 Ond wedi'r dyddiau hynny beichiogodd Elisabeth ei wraig; ac fe'i cuddiodd ei hun am bum mis, gan ddweud,
1:25 "Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynnu ymaith fy ngwarth yng ngolwg y cyhoedd."

Rhagfynegi Genedigaeth Iesu

1:26 Yn y chweched mis anfonwyd yr angel Gabriel gan Dduw i dref yng Ngalilea o'r enw Nasareth,
1:27 at wyryf oedd wedi ei dyweddïo i ŵr o'r enw Joseff, o dŷ Dafydd; Mair oedd enw'r wyryf.
1:28 Aeth yr angel ati a dweud, "Henffych well, tydi, yr un y rhoddodd Duw ei ffafr iddi! Y mae'r Arglwydd gyda thi."
1:29 Ond cythryblwyd hi drwyddi gan ei eiriau, a cheisiodd ddirnad pa fath gyfarchiad a allai hwn fod.
1:30 Meddai'r angel wrthi, "Paid ag ofni, Mair, oherwydd cefaist ffafr gyda Duw;
1:31 ac wele, byddi'n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu.
1:32 Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad,
1:33 ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd."
1:34 Meddai Mair wrth yr angel, "Sut y digwydd hyn, gan nad wyf yn cael cyfathrach â gŵr?"
1:35 Atebodd yr angel hi, "Daw'r Ysbryd Glân arnat, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi; am hynny, gelwir y plentyn a genhedlir yn sanctaidd, Mab Duw.
1:36 Ac wele, y mae Elisabeth dy berthynas hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint, a dyma'r chweched mis i'r hon a elwir yn ddiffrwyth;
1:37 oherwydd ni bydd dim yn amhosibl gyda Duw."
1:38 Dywedodd Mair, "Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di." Ac aeth yr angel i ffwrdd oddi wrthi.

Mair yn Ymweld ag Elisabeth

1:39 Ar hynny cychwynnodd Mair ac aeth ar frys i'r mynydd-dir, i un o drefi Jwda;
1:40 aeth i dŷ Sachareias a chyfarch Elisabeth.
1:41 Pan glywodd hi gyfarchiad Mair, llamodd y plentyn yn ei chroth a llanwyd Elisabeth â'r Ysbryd Glân;
1:42 a llefodd â llais uchel, "Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth.
1:43 Sut y daeth i'm rhan i fod mam fy Arglwydd yn dod ataf?
1:44 Pan glywais dy lais yn fy nghyfarch, dyma'r plentyn yn fy nghroth yn llamu o orfoledd.
1:45 Gwyn ei byd yr hon a gredodd y cyflawnid yr hyn a lefarwyd wrthi gan yr Arglwydd."

Emyn Mawl Mair

1:46 Ac meddai Mair: "Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd,
1:47 a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy Ngwaredwr,
1:48 am iddo ystyried distadledd ei lawforwyn. Oherwydd wele, o hyn allan fe'm gelwir yn wynfydedig gan yr holl genedlaethau,
1:49 oherwydd gwnaeth yr hwn sydd nerthol bethau mawr i mi, a sanctaidd yw ei enw ef;
1:50 y mae ei drugaredd o genhedlaeth i genhedlaeth i'r rhai sydd yn ei ofni ef.
1:51 Gwnaeth rymuster â'i fraich, gwasgarodd y rhai balch eu calon;
1:52 tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau, a dyrchafodd y rhai distadl;
1:53 llwythodd y newynog â rhoddion, ac anfonodd y cyfoethogion ymaith yn waglaw.
1:54 Cynorthwyodd ef Israel ei was, gan ddwyn i'w gof ei drugaredd —
1:55 fel y llefarodd wrth ein hynafiaid — ei drugaredd wrth Abraham a'i had yn dragywydd."
1:56 Ac arhosodd Mair gyda hi tua thri mis, ac yna dychwelodd adref.

Genedigaeth Ioan Fedyddiwr

1:57 Am Elisabeth, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, a ganwyd iddi fab.
1:58 Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau am drugaredd fawr yr Arglwydd iddi, ac yr oeddent yn llawenychu gyda hi.
1:59 A'r wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei enwi ar ôl ei dad, Sachareias.
1:60 Ond atebodd ei fam, "Nage, Ioan yw ei enw i fod."
1:61 Meddent wrthi, "Nid oes neb o'th deulu â'r enw hwnnw arno."
1:62 Yna gofynasant drwy arwyddion i'w dad sut y dymunai ef ei enwi.
1:63 Galwodd yntau am lechen fach ac ysgrifennodd, "Ioan yw ei enw." A synnodd pawb.
1:64 Ar unwaith rhyddhawyd ei enau a'i dafod, a dechreuodd lefaru a bendithio Duw.
1:65 Daeth ofn ar eu holl gymdogion, a bu trafod ar yr holl ddigwyddiadau hyn trwy fynydd-dir Jwdea i gyd;
1:66 a chadwyd hwy ar gof gan bawb a glywodd amdanynt. "Beth gan hynny fydd y plentyn hwn?" meddent. Ac yn wir yr oedd llaw'r Arglwydd gydag ef.

Proffwydoliaeth Sachareias

1:67 Llanwyd Sachareias ei dad ef â'r Ysbryd Glân, a phroffwydodd fel hyn:
1:68 "Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel am iddo ymweld â'i bobl a'u prynu i ryddid;
1:69 cododd waredigaeth gadarn i ni yn nhŷ Dafydd ei was —
1:70 fel y llefarodd trwy enau ei broffwydi sanctaidd yn yr oesoedd a fu —
1:71 gwaredigaeth rhag ein gelynion ac o afael pawb sydd yn ein casáu;
1:72 fel hyn y cymerodd drugaredd ar ein hynafiaid, a chofio ei gyfamod sanctaidd,
1:73 y llw a dyngodd wrth Abraham ein tad, y rhoddai inni
1:74 gael ein hachub o afael gelynion, a'i addoli yn ddi-ofn
1:75 mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd.
1:76 A thithau, fy mhlentyn, gelwir di yn broffwyd y Goruchaf, oherwydd byddi'n cerdded o flaen yr Arglwydd i baratoi ei lwybrau,
1:77 i roi i'w bobl wybodaeth am waredigaeth trwy faddeuant eu pechodau.
1:78 Hyn yw trugaredd calon ein Duw — fe ddaw â'r wawrddydd oddi uchod i'n plith,
1:79 i lewyrchu ar y rhai sy'n eistedd yn nhywyllwch cysgod angau, a chyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd."
1:80 Yr oedd y plentyn yn tyfu ac yn cryfhau yn ei ysbryd; a bu yn yr anialwch hyd y dydd y dangoswyd ef i Israel.

Genedigaeth Iesu, Mth. 1:18-25

2:1 Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru'r holl Ymerodraeth.
2:2 Digwyddodd y cofrestru cyntaf hwn pan oedd Cyrenius yn llywodraethu ar Syria.
2:3 Aeth pawb felly i'w gofrestru, pob un i'w dref ei hun.
2:4 Oherwydd ei fod yn perthyn i dŷ a theulu Dafydd, aeth Joseff i fyny o dref Nasareth yng Ngalilea i Jwdea, i dref Dafydd a elwir Bethlehem,
2:5 i ymgofrestru ynghyd â Mair ei ddyweddi; ac yr oedd hi'n feichiog.
2:6 Pan oeddent yno, cyflawnwyd yr amser iddi esgor,
2:7 ac esgorodd ar ei mab cyntafanedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a'i osod mewn preseb, am nad oedd lle iddynt yn y gwesty.

Y Bugeiliaid a'r Angylion

2:8 Yn yr un ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos.
2:9 A safodd angel yr Arglwydd yn eu hymyl a disgleiriodd gogoniant yr Arglwydd o'u hamgylch; a daeth arswyd arnynt.
2:10 Yna dywedodd yr angel wrthynt, "Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i'r holl bobl:
2:11 ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw'r Meseia, yr Arglwydd;
2:12 a dyma'r arwydd i chwi: cewch hyd i'r un bach wedi ei rwymo mewn dillad baban ac yn gorwedd mewn preseb."
2:13 Yn sydyn ymddangosodd gyda'r angel dyrfa o'r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud:
2:14 "Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd."
2:15 Wedi i'r angylion fynd ymaith oddi wrthynt i'r nef, dechreuodd y bugeiliaid ddweud wrth ei gilydd, "Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano."
2:16 Aethant ar frys, a chawsant hyd i Fair a Joseff, a'r baban yn gorwedd yn y preseb;
2:17 ac wedi ei weld mynegasant yr hyn oedd wedi ei lefaru wrthynt am y plentyn hwn.
2:18 Rhyfeddodd pawb a'u clywodd at y pethau a ddywedodd y bugeiliaid wrthynt;
2:19 ond yr oedd Mair yn cadw'r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt.
2:20 Dychwelodd y bugeiliaid gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant, yn union fel y llefarwyd wrthynt.
2:21 Pan ddaeth yr amser i enwaedu arno ymhen wyth diwrnod, galwyd ef Iesu, yr enw a roddwyd iddo gan yr angel cyn i'w fam feichiogi arno.

Cyflwyno Iesu yn y Deml

2:22 Pan ddaeth amser eu puredigaeth yn ôl Cyfraith Moses, cymerodd ei rieni ef i fyny i Jerwsalem i'w gyflwyno i'r Arglwydd,
2:23 yn unol â'r hyn sydd wedi ei ysgrifennu yng Nghyfraith yr Arglwydd: "Pob gwryw cyntafanedig, fe'i gelwir yn sanctaidd i'r Arglwydd";
2:24 ac i roi offrwm yn unol â'r hyn sydd wedi ei ddweud yng Nghyfraith yr Arglwydd: "Pâr o durturod neu ddau gyw colomen."
2:25 Yn awr yr oedd dyn yn Jerwsalem o'r enw Simeon; dyn cyfiawn a duwiol oedd hwn, yn disgwyl am ddiddanwch Israel; ac yr oedd yr Ysbryd Glân arno.
2:26 Yr oedd wedi cael datguddiad gan yr Ysbryd Glân na welai farwolaeth cyn gweld Meseia'r Arglwydd.
2:27 Daeth i'r deml dan arweiniad yr Ysbryd; a phan ddaeth y rhieni â'r plentyn Iesu i mewn, i wneud ynglŷn ag ef yn unol ag arfer y Gyfraith,
2:28 cymerodd Simeon ef i'w freichiau a bendithiodd Dduw gan ddweud:
2:29 "Yn awr yr wyt yn gollwng dy was yn rhydd, O Arglwydd, mewn tangnefedd yn unol â'th air;
2:30 oherwydd y mae fy llygaid wedi gweld dy iachawdwriaeth,
2:31 a ddarperaist yng ngŵydd yr holl bobloedd:
2:32 goleuni i fod yn ddatguddiad i'r Cenhedloedd ac yn ogoniant i'th bobl Israel."
2:33 Yr oedd ei dad a'i fam yn rhyfeddu at y pethau oedd yn cael eu dweud amdano.
2:34 Yna bendithiodd Simeon hwy, a dywedodd wrth Fair ei fam, "Wele, gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer yn Israel, ac i fod yn arwydd a wrthwynebir;
2:35 a thithau, trywenir dy enaid di gan gleddyf; felly y datguddir meddyliau calonnau lawer."
2:36 Yr oedd proffwydes hefyd, Anna merch Phanuel o lwyth Aser. Yr oedd hon yn oedrannus iawn, wedi byw saith mlynedd gyda'i gŵr ar ôl priodi,
2:37 ac wedi parhau'n weddw nes ei bod yn awr yn bedair a phedwar ugain oed. Ni byddai byth yn ymadael â'r deml, ond yn addoli gan ymprydio a gweddïo ddydd a nos.
2:38 A'r awr honno safodd hi gerllaw a moli Duw, a llefaru am y plentyn wrth bawb oedd yn disgwyl rhyddhad Jerwsalem.

Dychwelyd i Nasareth

2:39 Wedi iddynt gyflawni popeth yn unol â Chyfraith yr Arglwydd, dychwelsant i Galilea, i Nasareth eu tref eu hunain.
2:40 Yr oedd y plentyn yn tyfu yn gryf ac yn llawn doethineb; ac yr oedd ffafr Duw arno.

Y Bachgen Iesu yn y Deml

2:41 Byddai ei rieni yn teithio i Jerwsalem bob blwyddyn ar gyfer gŵyl y Pasg.
2:42 Pan oedd ef yn ddeuddeng mlwydd oed, aethant i fyny yn unol â'r arfer ar yr ŵyl,
2:43 a chadw ei dyddiau yn gyflawn. Ond pan oeddent yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem yn ddiarwybod i'w rieni.
2:44 Gan dybio ei fod gyda'u cyd-deithwyr, gwnaethant daith diwrnod cyn dechrau chwilio amdano ymhlith eu perthnasau a'u cydnabod.
2:45 Wedi methu cael hyd iddo, dychwelsant i Jerwsalem gan chwilio amdano.
2:46 Ymhen tridiau daethant o hyd iddo yn y deml, yn eistedd yng nghanol yr athrawon, yn gwrando arnynt ac yn eu holi;
2:47 ac yr oedd pawb a'i clywodd yn rhyfeddu mor ddeallus oedd ei atebion.
2:48 Pan welodd ei rieni ef, fe'u syfrdanwyd, ac meddai ei fam wrtho, "Fy mhlentyn, pam y gwnaethost hyn inni? Dyma dy dad a minnau yn llawn pryder wedi bod yn chwilio amdanat."
2:49 Meddai ef wrthynt, "Pam y buoch yn chwilio amdanaf? Onid oeddech yn gwybod mai yn nhŷ fy Nhad y mae'n rhaid i mi fod?"
2:50 Ond ni ddeallasant hwy y peth a ddywedodd wrthynt.
2:51 Yna aeth ef i lawr gyda hwy yn ôl i Nasareth, a bu'n ufudd iddynt. Cadwodd ei fam y cyfan yn ddiogel yn ei chalon.
2:52 Ac yr oedd Iesu yn cynyddu mewn doethineb, a maintioli, a ffafr gyda Duw a'r holl bobl.

Pregethu Ioan Fedyddiwr, Mth. 3:1-12; Mc. 1:1-8; In. 1:19-28

3:1 Yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Tiberius Cesar, pan oedd Pontius Pilat yn llywodraethu ar Jwdea, a Herod yn dywysog Galilea, a phan oedd Philip ei frawd yn dywysog tiriogaeth Itwrea a Trachonitis, a Lysanias yn dywysog Abilene,
3:2 ac yn amser archoffeiriadaeth Annas a Caiaffas, daeth gair Duw at Ioan fab Sachareias yn yr anialwch.
3:3 Aeth ef drwy'r holl wlad oddi amgylch yr Iorddonen gan gyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau,
3:4 fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr geiriau'r proffwyd Eseia: "Llais un yn galw yn yr anialwch, 'Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo.
3:5 Caiff pob ceulan ei llenwi, a phob mynydd a bryn ei lefelu; gwneir y llwybrau troellog yn union, a'r ffyrdd garw yn llyfn;
3:6 a bydd y ddynolryw oll yn gweld iachawdwriaeth Duw.'"
3:7 Dywedai wrth y tyrfaoedd oedd yn dod allan i'w bedyddio ganddo: "Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod?
3:8 Dygwch ffrwythau gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch. Peidiwch â dechrau dweud wrthych eich hunain, 'Y mae gennym Abraham yn dad', oherwydd rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn.
3:9 Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân."
3:10 Gofynnai'r tyrfaoedd iddo, "Beth a wnawn ni felly?"
3:11 Atebai yntau, "Rhaid i'r sawl sydd ganddo ddau grys eu rhannu ag unrhyw un sydd heb grys, a rhaid i'r sawl sydd ganddo fwyd wneud yr un peth."
3:12 Daeth casglwyr trethi hefyd i'w bedyddio, ac meddent wrtho, "Athro, beth a wnawn ni?"
3:13 Meddai yntau wrthynt, "Peidiwch â mynnu dim mwy na'r swm a bennwyd ichwi."
3:14 Byddai dynion ar wasanaeth milwrol hefyd yn gofyn iddo, "Beth a wnawn ninnau?" Meddai wrthynt, "Peidiwch ag ysbeilio neb trwy drais neu gamgyhuddiad, ond byddwch fodlon ar eich cyflog."
3:15 Gan fod y bobl yn disgwyl, a phawb yn ystyried yn ei galon tybed ai Ioan oedd y Meseia,
3:16 dywedodd ef wrth bawb: "Yr wyf fi yn eich bedyddio â dŵr; ond y mae un cryfach na mi yn dod. Nid wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandalau ef. Bydd ef yn eich bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân.
3:17 Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, i nithio'n lân yr hyn a ddyrnwyd, ac i gasglu'r grawn i'w ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw â thân anniffoddadwy."
3:18 Fel hyn, a chyda llawer anogaeth arall hefyd, yr oedd yn cyhoeddi'r newydd da i'r bobl.
3:19 Ond gan ei fod yn ceryddu'r Tywysog Herod ynglŷn â Herodias, gwraig ei frawd, ac ynglŷn â'i holl weithredoedd drygionus,
3:20 ychwan-egodd Herod y drygioni hwn at y cwbl, sef cloi Ioan yng ngharchar.

Bedydd Iesu, Mth. 3:13-17; Mc. 1:9-11

3:21 Pan oedd yr holl bobl yn cael eu bedyddio, yr oedd Iesu, ar ôl ei fedydd ef, yn gweddïo. Agorwyd y nef,
3:22 a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno mewn ffurf gorfforol fel colomen; a daeth llais o'r nef: "Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu."

Llinach Iesu, Mth. 1:1-17

3:23 Tua deng mlwydd ar hugain oed oedd Iesu ar ddechrau ei weinidogaeth. Yr oedd yn fab, yn ôl y dybiaeth gyffredin, i Joseff fab Eli,
3:24 fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Jannai, fab Joseff,
3:25 fab Matathias, fab Amos, fab Nahum, fab Esli, fab Nagai,
3:26 fab Maath, fab Matathias, fab Semein, fab Josech, fab Joda,
3:27 fab Joanan, fab Rhesa, fab Sorobabel, fab Salathiel, fab Neri,
3:28 fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmadam, fab Er,
3:29 fab Josua, fab Elieser, fab Jorim, fab Mathat, fab Lefi,
3:30 fab Simeon, fab Jwda, fab Joseff, fab Jonam, fab Eliacim,
3:31 fab Melea, fab Menna, fab Matatha, fab Nathan, fab Dafydd,
3:32 fab Jesse, fab Obed, fab Boas, fab Salmon, fab Nahson,
3:33 fab Amminadab, fab Admin, fab Arni, fab Hesron, fab Peres, fab Jwda,
3:34 fab Jacob, fab Isaac, fab Abraham, fab Tera, fab Nachor,
3:35 fab Serug, fab Reu, fab Peleg, fab Heber, fab Sela,
3:36 fab Cenan, fab Arffaxad, fab Sem, fab Noa, fab Lamech,
3:37 fab Methwsela, fab Enoch, fab Jered, fab Maleleel, fab Cenan,
3:38 fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw.

Temtiad Iesu, Mth. 4:1-11; Mc. 1:12-13

4:1 Dychwelodd Iesu, yn llawn o'r Ysbryd Glân, o'r Iorddonen, ac arweiniwyd ef gan yr Ysbryd yn yr anialwch
4:2 am ddeugain diwrnod, a'r diafol yn ei demtio. Ni fwytaodd ddim yn ystod y dyddiau hynny, ac ar eu diwedd daeth arno eisiau bwyd.
4:3 Meddai'r diafol wrtho, "Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y garreg hon am droi'n fara."
4:4 Atebodd Iesu ef, "Y mae'n ysgrifenedig: 'Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw.'"
4:5 Yna aeth y diafol ag ef i fyny a dangos iddo ar amrantiad holl deyrnasoedd y byd,
4:6 a dywedodd wrtho, "I ti y rhof yr holl awdurdod ar y rhain a'u gogoniant hwy; oherwydd i mi y mae wedi ei draddodi, ac yr wyf yn ei roi i bwy bynnag a fynnaf.
4:7 Felly, os addoli di fi, dy eiddo di fydd y cyfan."
4:8 Atebodd Iesu ef, "Y mae'n ysgrifenedig: 'Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.'"
4:9 Ond aeth y diafol ag ef i Jerwsalem, a'i osod ar dŵr uchaf y deml, a dweud wrtho, "Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr oddi yma;
4:10 oherwydd y mae'n ysgrifenedig: 'Rhydd orchymyn i'w angylion amdanat, i'th warchod di rhag pob perygl',
4:11 a hefyd: 'Byddant yn dy godi ar eu dwylo rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.'"
4:12 Yna atebodd Iesu ef, "Y mae'r Ysgrythur yn dweud: 'Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.'"
4:13 Ac ar ôl iddo ei demtio ym mhob modd, ymadawodd y diafol ag ef, gan aros ei gyfle.

Dechrau'r Weinidogaeth yng Ngalilea, Mth. 4:12-17; Mc. 1:14-15

4:14 Dychwelodd Iesu yn nerth yr Ysbryd i Galilea. Aeth y sôn amdano ar hyd a lled y gymdogaeth.
4:15 Yr oedd yn dysgu yn eu synagogau ac yn cael clod gan bawb.

Gwrthod Iesu yn Nasareth, Mth. 13:53-58; Mc. 6:1-6

4:16 Daeth i Nasareth, lle yr oedd wedi ei fagu. Yn ôl ei arfer aeth i'r synagog ar y dydd Saboth, a chododd i ddarllen.
4:17 Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac agorodd y sgrôl a chael y man lle'r oedd yn ysgrifenedig:
4:18 "Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f'eneinio i bregethu'r newydd da i dlodion. Y mae wedi f'anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i'r gorthrymedig gerdded yn rhydd,
4:19 i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd."
4:20 Wedi cau'r sgrôl a'i rhoi'n ôl i'r swyddog, fe eisteddodd; ac yr oedd llygaid pawb yn y synagog yn syllu arno.
4:21 A'i eiriau cyntaf wrthynt oedd: "Heddiw yn eich clyw chwi y mae'r Ysgrythur hon wedi ei chyflawni."
4:22 Yr oedd pawb yn ei gymeradwyo ac yn rhyfeddu at y geiriau grasusol oedd yn dod o'i enau ef, gan ddweud, "Onid mab Joseff yw hwn?"
4:23 Ac meddai wrthynt, "Diau yr adroddwch wrthyf y ddihareb, 'Feddyg, iachâ dy hun', a dweud, 'Yr holl bethau y clywsom iddynt ddigwydd yng Nghapernaum, gwna hwy yma hefyd ym mro dy febyd.'"
4:24 Ond meddai, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad oes dim croeso i'r un proffwyd ym mro ei febyd.
4:25 Ar fy ngwir rwy'n dweud wrthych, yr oedd llawer o wragedd gweddw yn Israel yn nyddiau Elias pan gaewyd y ffurfafen am dair blynedd a chwe mis, ac y bu newyn mawr ar yr holl wlad.
4:26 Ond nid at un ohonynt hwy yr anfonwyd Elias, ond yn hytrach at wraig weddw yn Sarepta yng ngwlad Sidon.
4:27 Ac yr oedd llawer o wahangleifion yn Israel yn amser y proffwyd Eliseus, ac ni lanhawyd yr un ohonynt hwy, ond yn hytrach Naaman y Syriad."
4:28 Wrth glywed hyn llanwyd pawb yn y synagog â dicter;
4:29 codasant, a bwriasant ef allan o'r dref a mynd ag ef hyd at ael y bryn yr oedd eu tref wedi ei hadeiladu arno, i'w luchio o'r clogwyn.
4:30 Ond aeth ef drwy eu canol hwy, ac ymaith ar ei daith.

Y Dyn ag Ysbryd Aflan ynddo, Mc. 1:21-28

4:31 Aeth i lawr i Gapernaum, tref yng Ngalilea, a bu'n dysgu'r bobl ar y Saboth.
4:32 Yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu, oherwydd yr oedd ei air yn llawn awdurdod.
4:33 Yn y synagog yr oedd dyn a chanddo ysbryd cythraul aflan. Gwaeddodd hwnnw â llais uchel,
4:34 "Och, beth sydd a fynni di â ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti — Sanct Duw."
4:35 Ceryddodd Iesu ef â'r geiriau, "Taw, a dos allan ohono." Lluchiodd y cythraul y dyn i'w canol ac aeth allan ohono heb niweidio dim arno.
4:36 Aeth pawb yn syn a dechreusant siarad â'i gilydd, gan ddweud, "Pa air yw hwn? Y mae ef yn gorchymyn yr ysbrydion aflan ag awdurdod ac â nerth, ac y maent yn mynd allan."
4:37 Yr oedd sôn amdano yn mynd ar hyd a lled y gymdogaeth.

Iacháu Llawer, Mth. 8:14-17; Mc. 1:29-34

4:38 Ymadawodd Iesu â'r synagog ac aeth i dŷ Simon. Yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn dioddef dan dwymyn lem, a deisyfasant ar Iesu ar ei rhan.
4:39 Safodd ef uwch ei phen a cheryddu'r dwymyn, a gadawodd y dwymyn hi; ac ar unwaith cododd a dechrau gweini arnynt.
4:40 Ac ar fachlud haul, pawb oedd â chleifion yn dioddef dan amrywiol afiechydon, daethant â hwy ato; a gosododd yntau ei ddwylo ar bob un ohonynt a'u hiacháu.
4:41 Yr oedd cythreuliaid yn ymadael â llawer o bobl gan floeddio, "Mab Duw wyt ti." Ond eu ceryddu a wnâi ef, a gwahardd iddynt ddweud gair, am eu bod yn gwybod mai'r Meseia oedd ef.

Taith Bregethu Mc. 1:35-39

4:42 Pan ddaeth hi'n ddydd aeth allan a theithio i le unig. Yr oedd y tyrfaoedd yn chwilio amdano, a daethant hyd ato a cheisio'i rwystro rhag mynd ymaith oddi wrthynt.
4:43 Ond dywedodd ef wrthynt, "Y mae'n rhaid imi gyhoeddi'r newydd da am deyrnas Dduw i'r trefi eraill yn ogystal, oherwydd i hynny y'm hanfonwyd i."
4:44 Ac yr oedd yn pregethu yn synagogau Jwdea.

Galw'r Disgyblion Cyntaf, Mth. 4:18-22; Mc. 1:16-20

5:1 Unwaith pan oedd y dyrfa'n gwasgu ato ac yn gwrando ar air Duw, ac ef ei hun yn sefyll ar lan Llyn Genesaret,
5:2 gwelodd ddau gwch yn sefyll wrth y lan. Yr oedd y pysgotwyr wedi dod allan ohonynt, ac yr oeddent yn golchi eu rhwydau.
5:3 Aeth ef i mewn i un o'r cychod, eiddo Simon, a gofyn iddo wthio allan ychydig o'r tir; yna eisteddodd, a dechrau dysgu'r tyrfaoedd o'r cwch.
5:4 Pan orffennodd lefaru dywedodd wrth Simon, "Dos allan i'r dŵr dwfn, a gollyngwch eich rhwydau am ddalfa."
5:5 Atebodd Simon, "Meistr, drwy gydol y nos buom yn llafurio heb ddal dim, ond ar dy air di mi ollyngaf y rhwydau."
5:6 Gwnaethant hyn, a daliasant nifer enfawr o bysgod, nes bod eu rhwydau bron â rhwygo.
5:7 Amneidiasant ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i'w cynorthwyo. Daethant hwy, a llwythasant y ddau gwch nes eu bod ar suddo.
5:8 Pan welodd Simon Pedr hyn syrthiodd wrth liniau Iesu gan ddweud, "Dos ymaith oddi wrthyf, oherwydd dyn pechadurus wyf fi, Arglwydd."
5:9 Yr oedd ef, a phawb oedd gydag ef, wedi eu syfrdanu o weld y llwyth pysgod yr oeddent wedi eu dal;
5:10 a'r un modd Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, a oedd yn bartneriaid i Simon. Ac meddai Iesu wrth Simon, "Paid ag ofni; o hyn allan dal dynion y byddi di."
5:11 Yna daethant â'r cychod yn ôl i'r lan, a gadael popeth, a'i ganlyn ef.

Glanhau Dyn Gwahanglwyfus, Mth. 8:1-4; Mc. 1:40-45

5:12 Pan oedd Iesu yn un o'r trefi, dyma ddyn yn llawn o'r gwahanglwyf yn ei weld ac yn syrthio ar ei wyneb ac yn ymbil arno, "Syr, os mynni, gelli fy nglanhau."
5:13 Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, "Yr wyf yn mynnu, glanhaer di." Ac ymadawodd y gwahanglwyf ag ef ar unwaith.
5:14 Gorchmynnodd Iesu iddo beidio â dweud wrth neb: "Dos ymaith," meddai, "a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad fel y gorchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus."
5:15 Ond yr oedd y sôn amdano yn ymledu fwyfwy, ac yr oedd tyrfaoedd lawer yn ymgynnull i wrando ac i gael eu hiacháu oddi wrth eu clefydau.
5:16 Ond byddai ef yn encilio i'r mannau unig ac yn gweddïo.

Iacháu Dyn wedi ei Barlysu, Mth. 9:1-8; Mc. 2:1-12

5:17 Un diwrnod yr oedd ef yn dysgu, ac yn eistedd yno yr oedd Phariseaid ac athrawon y Gyfraith oedd wedi dod o bob pentref yng Ngalilea ac o Jwdea ac o Jerwsalem; ac yr oedd nerth yr Arglwydd gydag ef i iacháu.
5:18 A dyma wŷr yn cario ar wely ddyn wedi ei barlysu; ceisio yr oeddent ddod ag ef i mewn a'i osod o flaen Iesu.
5:19 Wedi methu cael ffordd i ddod ag ef i mewn oherwydd y dyrfa, dringasant ar y to a'i ollwng drwy'r priddlechi, ynghyd â'i wely, i'r canol o flaen Iesu.
5:20 Wrth weld eu ffydd hwy dywedodd ef, "Ddyn, y mae dy bechodau wedi eu maddau iti."
5:21 A dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid feddwl, "Pwy yw hwn sy'n llefaru cabledd? Pwy ond Duw yn unig a all faddau pechodau?"
5:22 Ond synhwyrodd Iesu eu meddyliau, ac meddai wrthynt, "Pam yr ydych yn meddwl fel hyn ynoch eich hunain?
5:23 Prun sydd hawsaf, ai dweud, 'Y mae dy bechodau wedi eu maddau iti', ai ynteu dweud, 'Cod a cherdda'?
5:24 Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau" — meddai wrth y claf, "Dyma fi'n dweud wrthyt, cod a chymer dy wely a dos adref."
5:25 Ac ar unwaith cododd yntau yn eu gŵydd, cymryd y gwely y bu'n gorwedd arno, a mynd adref gan ogoneddu Duw.
5:26 Daeth syndod dros bawb a dechreusant ogoneddu Duw; llanwyd hwy ag ofn, ac meddent, "Yr ydym wedi gweld pethau anhygoel heddiw."

Galw Lefi Mth. 9:9-13; Mc. 2:13-17

5:27 Wedi hyn aeth allan ac edrychodd ar gasglwr trethi o'r enw Lefi, a oedd yn eistedd wrth y dollfa, ac meddai wrtho, "Canlyn fi."
5:28 A chan adael popeth cododd yntau a'i ganlyn.
5:29 Yna gwnaeth Lefi wledd fawr iddo yn ei dŷ; ac yr oedd tyrfa niferus o gasglwyr trethi ac eraill yn cydfwyta gyda hwy.
5:30 Yr oedd y Phariseaid a'u hysgrifenyddion yn grwgnach wrth ei ddisgyblion gan ddweud, "Pam yr ydych yn bwyta ac yn yfed gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?"
5:31 Atebodd Iesu hwy, "Nid ar rai iach, ond ar y cleifion y mae angen meddyg;
5:32 i alw pechaduriaid i edifeirwch, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod."

Holi ynglŷn ag Ymprydio, Mth. 9:14-17; Mc. 2:18-22

5:33 Ond meddent hwythau wrtho, "Y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn aml ac yn adrodd eu gweddïau, a rhai'r Phariseaid yr un modd, ond bwyta ac yfed y mae dy ddisgyblion di."
5:34 Meddai Iesu wrthynt, "A allwch wneud i westeion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy?
5:35 Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt; yna fe ymprydiant yn y dyddiau hynny."
5:36 Adroddodd hefyd ddameg wrthynt: "Ni fydd neb yn rhwygo clwt allan o ddilledyn newydd a'i roi ar hen ddilledyn; os gwna, nid yn unig fe fydd yn rhwygo'r newydd, ond ni fydd y clwt o'r newydd yn gweddu i'r hen.
5:37 Ac ni fydd neb yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwna, bydd y gwin newydd yn rhwygo'r crwyn, a heblaw colli'r gwin fe ddifethir y crwyn.
5:38 I grwyn newydd y mae tywallt gwin newydd.
5:39 Ac ni fydd neb sydd wedi yfed hen win yn dymuno gwin newydd; oherwydd y mae'n dweud, 'Yr hen sydd dda.'"

Tynnu Tywysennau ar y Saboth, Mth. 12:1-8; Mc. 2:23-28

6:1 Un Saboth yr oedd yn mynd trwy gaeau ŷd, ac yr oedd ei ddisgyblion yn tynnu tywysennau ac yn eu bwyta, gan eu rhwbio yn eu dwylo.
6:2 Ond dywedodd rhai o'r Phariseaid, "Pam yr ydych yn gwneud peth sy'n groes i'r Gyfraith ar y Saboth?"
6:3 Atebodd Iesu hwy, "Onid ydych wedi darllen am y peth hwnnw a wnaeth Dafydd pan oedd eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef?
6:4 Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw a chymryd y torthau cysegredig a'u bwyta a'u rhoi i'r rhai oedd gydag ef, torthau nad yw'n gyfreithlon i neb eu bwyta ond yr offeiriaid yn unig?"
6:5 Ac meddai wrthynt, "Y mae Mab y Dyn yn arglwydd ar y Saboth."

Y Dyn â'r Llaw Ddiffrwyth, Mth. 12:9-14; Mc. 3:1-6

6:6 Ar Saboth arall aeth i mewn i'r synagog a dysgu. Yr oedd yno ddyn â'i law dde yn ddiffrwyth.
6:7 Yr oedd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid â'u llygaid arno i weld a fyddai'n iacháu ar y Saboth, er mwyn cael hyd i gyhuddiad yn ei erbyn.
6:8 Ond yr oedd ef yn deall eu meddyliau, ac meddai wrth y dyn â'r llaw ddiffrwyth, "Cod a saf yn y canol"; a chododd yntau ar ei draed.
6:9 Meddai Iesu wrthynt, "Yr wyf yn gofyn i chwi, a yw'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth, ynteu gwneud drwg, achub bywyd, ynteu ei ddifetha?"
6:10 Yna edrychodd o gwmpas arnynt oll a dweud wrth y dyn, "Estyn dy law." Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn iach.
6:11 Ond llanwyd hwy â gorffwylledd, a dechreusant drafod â'i gilydd beth i'w wneud i Iesu.

Dewis y Deuddeg, Mth. 10:1-4; Mc. 3:13-19

6:12 Un o'r dyddiau hynny aeth allan i'r mynydd i weddïo, a bu ar hyd y nos yn gweddïo ar Dduw.
6:13 Pan ddaeth hi'n ddydd galwodd ei ddisgyblion ato. Dewisodd o'u plith ddeuddeg, a rhoi'r enw apostolion iddynt:
6:14 Simon, a enwodd hefyd yn Pedr; Andreas ei frawd; Iago, Ioan, Philip a Bartholomeus;
6:15 Mathew, Thomas, Iago fab Alffeus, a Simon, a elwid y Selot;
6:16 Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot, a droes yn fradwr.

Gweinidogaethu i Dyrfa Fawr, Mth. 4:23-25

6:17 Aeth i lawr gyda hwy a sefyll ar dir gwastad, gyda thyrfa fawr o'i ddisgyblion, a llu niferus o bobl o Jwdea gyfan a Jerwsalem ac o arfordir Tyrus a Sidon, a oedd wedi dod i wrando arno ac i'w hiacháu o'u clefydau;
6:18 yr oedd y rhai a flinid gan ysbrydion aflan hefyd yn cael eu gwella.
6:19 Ac yr oedd yr holl dyrfa'n ceisio cyffwrdd ag ef, oherwydd yr oedd nerth yn mynd allan ohono ac yn iacháu pawb.

Gwynfydau a Gwaeau, Mth. 5:1-12

6:20 Yna cododd ef ei lygaid ar ei ddisgyblion a dweud: "Gwyn eich byd chwi'r tlodion, oherwydd eiddoch chwi yw teyrnas Dduw.
6:21 Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn newynog, oherwydd cewch eich digoni. Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn wylo, oherwydd cewch chwerthin.
6:22 Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich casáu, yn eich ysgymuno a'ch gwaradwyddo, ac yn dirmygu eich enw fel peth drwg, o achos Mab y Dyn.
6:23 Byddwch lawen y dydd hwnnw a llamwch o orfoledd, oherwydd, ystyriwch, y mae eich gwobr yn fawr yn y nef. Oherwydd felly'n union y gwnaeth eu hynafiaid i'r proffwydi.
6:24 "Ond gwae chwi'r cyfoethogion, oherwydd yr ydych wedi cael eich diddanwch.
6:25 Gwae chwi sydd yn awr wedi eich llenwi, oherwydd daw arnoch newyn. Gwae chwi sydd yn awr yn chwerthin, oherwydd cewch ofid a dagrau.
6:26 Gwae chwi pan fydd pawb yn eich canmol, oherwydd felly'n union y gwnaeth eu hynafiaid i'r gau broffwydi.

Caru Gelynion, Mth. 5:38-48; 7:12a

6:27 "Ond wrthych chwi sy'n gwrando rwy'n dweud: carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i'r rhai sy'n eich casáu,
6:28 bendithiwch y rhai sy'n eich melltithio, gweddïwch dros y rhai sy'n eich cam-drin.
6:29 Pan fydd rhywun yn dy daro di ar dy foch, cynigia'r llall iddo hefyd; pan fydd un yn cymryd dy fantell, paid â'i rwystro rhag cymryd dy grys hefyd.
6:30 Rho i bawb sy'n gofyn gennyt, ac os bydd rhywun yn cymryd dy eiddo, paid â gofyn amdano'n ôl.
6:31 Fel y dymunwch i eraill wneud i chwi, gwnewch chwithau yr un fath iddynt hwy.
6:32 Os ydych yn caru'r rhai sy'n eich caru chwi, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn caru'r rhai sy'n eu caru hwy.
6:33 Ac os gwnewch ddaioni i'r rhai sy'n gwneud daioni i chwi, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn gwneud cymaint â hynny.
6:34 Os rhowch fenthyg i'r rhai yr ydych yn disgwyl derbyn ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed bechaduriaid yn rhoi benthyg i bechaduriaid dim ond iddynt gael yr un faint yn ôl.
6:35 Nage, carwch eich gelynion a gwnewch ddaioni a rhowch fenthyg heb ddisgwyl dim yn ôl. Bydd eich gwobr yn fawr a byddwch yn blant y Goruchaf, oherwydd y mae ef yn garedig wrth yr anniolchgar a'r drygionus.
6:36 Byddwch yn drugarog fel y mae eich Tad yn drugarog.

Barnu Eraill, Mth. 7:1-5

6:37 "Peidiwch â barnu, ac ni chewch eich barnu. Peidiwch â chondemnio, ac ni chewch eich condemnio. Maddeuwch, ac fe faddeuir i chwi.
6:38 Rhowch, ac fe roir i chwi; rhoir yn eich côl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a'i ysgwyd ynghyd nes gorlifo; oherwydd â'r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn ôl."
6:39 Adroddodd hefyd ddameg wrthynt: "A fedr y dall arwain y dall? Onid syrthio i bydew a wna'r ddau?
6:40 Nid yw disgybl yn well na'i athro; ond wedi ei lwyr gymhwyso bydd pob un fel ei athro.
6:41 Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun?
6:42 Sut y gelli ddweud wrth dy gyfaill, 'Gyfaill, gad imi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad di', a thi dy hun heb weld y trawst sydd yn dy lygad di? Ragrithiwr, yn gyntaf tyn y trawst allan o'th lygad dy hun, ac yna fe weli yn ddigon eglur i dynnu'r brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill.

Adnabod Coeden wrth ei Ffrwyth, Mth. 7:17-20; 12:34b-35

6:43 "Oherwydd nid yw coeden dda yn dwyn ffrwyth gwael, ac nid yw coeden wael chwaith yn dwyn ffrwyth da.
6:44 Wrth ei ffrwyth ei hun y mae pob coeden yn cael ei hadnabod; nid oddi ar ddrain y mae casglu ffigys, ac nid oddi ar lwyni mieri y mae tynnu grawnwin.
6:45 Y mae'r dyn da yn dwyn daioni o drysor daionus ei galon, a'r dyn drwg yn dwyn drygioni o'i ddrygioni; oherwydd yn ôl yr hyn sy'n llenwi ei galon y mae ei enau yn llefaru.

Y Ddwy Sylfaen, Mth. 7:24-27

6:46 "Pam yr ydych yn galw 'Arglwydd, Arglwydd' arnaf, a heb wneud yr hyn yr wyf yn ei ofyn?
6:47 Pob un sy'n dod ataf ac yn gwrando ar fy ngeiriau ac yn eu gwneud, dangosaf i chwi i bwy y mae'n debyg:
6:48 y mae'n debyg i ddyn a adeiladodd dŷ a chloddio'n ddwfn a gosod sylfaen ar y graig; a phan ddaeth llifogydd, ffrwydrodd yr afon yn erbyn y tŷ hwnnw, ond ni allodd ei syflyd, gan iddo gael ei adeiladu yn gadarn.
6:49 Ond y mae'r sawl sy'n clywed, ond heb wneud, yn debyg i rywun a adeiladodd dŷ ar bridd, heb sylfaen; ffrwydrodd yr afon yn ei erbyn a chwalodd y tŷ hwnnw ar unwaith, a dirfawr fu ei gwymp."

Iacháu Gwas Canwriad, Mth. 8:5-13; In. 4:43-54

7:1 Wedi iddo orffen llefaru'r holl eiriau hyn wrth y bobl, aeth i mewn i Gapernaum.
7:2 Yr oedd canwriad ac iddo was, gwerthfawr yn ei olwg, a oedd yn glaf ac ar fin marw.
7:3 Pan glywodd y canwriad am Iesu anfonodd ato henuriaid o Iddewon, i ofyn iddo ddod ac achub bywyd ei was.
7:4 Daethant hwy at Iesu ac ymbil yn daer arno: "Y mae'n haeddu iti wneud hyn drosto,
7:5 oherwydd y mae'n caru ein cenedl, ac ef a adeiladodd ein synagog i ni."
7:6 Pan oedd Iesu ar ei ffordd gyda hwy ac eisoes heb fod ymhell o'r tŷ, anfonodd y canwriad rai o'i gyfeillion i ddweud wrtho, "Paid â thrafferthu, syr, oherwydd nid wyf yn deilwng i ti ddod dan fy nho.
7:7 Am hynny bernais nad oeddwn i fy hun yn deilwng i ddod atat; ond dywed air, a chaffed fy ngwas ei iacháu.
7:8 Oherwydd dyn sy'n cael ei osod dan awdurdod wyf finnau, a chennyf filwyr danaf; byddaf yn dweud wrth hwn, 'Dos', ac fe â, ac wrth un arall, 'Tyrd', ac fe ddaw, ac wrth fy ngwas, 'Gwna hyn', ac fe'i gwna."
7:9 Pan glywodd Iesu hyn fe ryfeddodd at y dyn, a chan droi at y dyrfa oedd yn ei ddilyn meddai, "Rwy'n dweud wrthych, ni chefais hyd yn oed yn Israel ffydd mor fawr."
7:10 Ac wedi i'r rhai a anfonwyd ddychwelyd i'r tŷ, cawsant y gwas yn holliach.

Cyfodi Mab y Weddw yn Nain

7:11 Yn fuan wedyn aeth Iesu i dref a elwir Nain. Gydag ef ar y daith yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr.
7:12 Pan gyrhaeddodd yn agos at borth y dref, dyma gynhebrwng yn dod allan; unig fab ei fam oedd y marw, a hithau'n wraig weddw. Yr oedd tyrfa niferus o'r dref gyda hi.
7:13 Pan welodd yr Arglwydd hi, tosturiodd wrthi a dweud, "Paid ag wylo."
7:14 Yna aeth ymlaen a chyffwrdd â'r elor. Safodd y cludwyr, ac meddai ef, "Fy machgen, rwy'n dweud wrthyt, cod."
7:15 Cododd y marw ar ei eistedd a dechrau siarad, a rhoes Iesu ef i'w fam.
7:16 Cydiodd ofn ym mhawb a dech-reusant ogoneddu Duw, gan ddweud, "Y mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith", ac, "Y mae Duw wedi ymweld â'i bobl."
7:17 Ac aeth yr hanes hwn amdano drwy Jwdea gyfan a'r holl gymdogaeth.

Negesyddion Ioan Fedyddiwr, Mth. 11:2-19

7:18 Rhoes disgyblion Ioan adroddiad iddo ynglŷn â hyn oll.
7:19 Galwodd yntau ddau o'i ddisgyblion ato a'u hanfon at yr Arglwydd, gan ofyn, "Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?"
7:20 Daeth y ddau ato a dweud, "Anfonodd Ioan Fedyddiwr ni atat, gan ofyn, 'Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?'"
7:21 Y pryd hwnnw iachaodd ef lawer o afael afiechydon a phlâu ac ysbrydion drwg, a rhoes eu golwg i lawer o ddeillion.
7:22 Ac atebodd ef hwy, "Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych wedi ei weld ac wedi ei glywed. Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.
7:23 Gwyn ei fyd y sawl na ddaw cwymp iddo o'm hachos i."
7:24 Wedi i neges-yddion Ioan ymadael, dechreuodd Iesu sôn am Ioan wrth y tyrfaoedd. "Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?
7:25 Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai rhywun wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Ym mhlasau brenhinoedd y mae gweld dynion moethus mewn gwisgoedd ysblennydd.
7:26 Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd.
7:27 Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano: 'Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen, i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.'
7:28 Rwy'n dweud wrthych, nid oes ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas Dduw yn fwy nag ef."
7:29 (A chydnabod cyfiawnder Duw a wnaeth yr holl bobl a glywodd, a'r casglwyr trethi hefyd, oherwydd yr oeddent wedi derbyn bedydd Ioan;
7:30 ond troi heibio fwriad Duw ar eu cyfer a wnaeth y Phariseaid ac athrawon y Gyfraith, oherwydd yr oeddent hwy wedi gwrthod cael eu bedyddio ganddo.)
7:31 "Â phwy gan hynny y cymharaf bobl y genhedlaeth hon? I bwy y maent yn debyg?
7:32 Y maent yn debyg i'r plant sy'n eistedd yn y farchnad ac yn galw ar ei gilydd fel hyn: 'Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad, ac nid wylasoch.'
7:33 Oherwydd y mae Ioan Fedyddiwr wedi dod, un nad yw'n bwyta bara nac yn yfed gwin, ac yr ydych yn dweud, 'Y mae cythraul ynddo.'
7:34 Y mae Mab y Dyn wedi dod, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac yr ydych yn dweud, 'Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.'
7:35 Ac eto profir gan bawb o'i phlant fod doethineb Duw yn gywir."

Maddau i Wraig Bechadurus

7:36 Gwahoddodd un o'r Phariseaid Iesu i bryd o fwyd gydag ef. Aeth ef i dŷ'r Pharisead a chymryd ei le wrth y bwrdd.
7:37 A dyma wraig o'r dref oedd yn bechadures yn dod i wybod ei fod wrth bryd bwyd yn nhŷ'r Pharisead. Daeth â ffiol alabastr o ennaint,
7:38 a sefyll y tu ôl iddo wrth ei draed gan wylo. Yna dechreuodd wlychu ei draed â'i dagrau a'u sychu â gwallt ei phen; ac yr oedd yn cusanu ei draed ac yn eu hiro â'r ennaint.
7:39 Pan welodd hyn dywedodd y Pharisead oedd wedi ei wahodd wrtho'i hun, "Pe bai hwn yn broffwyd, byddai'n gwybod pwy yw'r wraig sy'n cyffwrdd ag ef, a sut un yw hi. Pechadures yw hi."
7:40 Atebodd Iesu ef, "Simon, y mae gennyf rywbeth i'w ddweud wrthyt." Meddai yntau, "Dywed, Athro."
7:41 "Yr oedd gan fenthyciwr arian ddau ddyledwr," meddai Iesu. "Pum cant o ddarnau arian oedd dyled un, a hanner cant oedd ar y llall.
7:42 Gan nad oeddent yn gallu talu'n ôl, diddymodd y benthyciwr eu dyled i'r ddau. Prun ohonynt, gan hynny, fydd yn ei garu fwyaf?"
7:43 Atebodd Simon, "Fe dybiwn i mai'r un y diddymwyd y ddyled fwyaf iddo." "Bernaist yn gywir," meddai ef wrtho.
7:44 A chan droi at y wraig, meddai wrth Simon, "A weli di'r wraig hon? Deuthum i mewn i'th dŷ, ac ni roddaist ddŵr imi at fy nhraed; ond hon, gwlychodd hi fy nhraed â'i dagrau a'u sychu â'i gwallt.
7:45 Ni roddaist gusan imi; ond nid yw hon wedi peidio â chusanu fy nhraed byth er pan ddeuthum i mewn.
7:46 Nid iraist fy mhen ag olew; ond irodd hon fy nhraed ag ennaint.
7:47 Am hynny rwy'n dweud wrthyt, y mae ei phechodau, er cynifer ydynt, wedi eu maddau; oherwydd y mae ei chariad yn fawr. Os mai ychydig a faddeuwyd i rywun, ychydig yw ei gariad."
7:48 Ac wrth y wraig meddai, "Y mae dy bechodau wedi eu maddau."
7:49 Yna dechreuodd y gwesteion eraill ddweud wrthynt eu hunain, "Pwy yw hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?"
7:50 Ac meddai ef wrth y wraig, "Y mae dy ffydd wedi dy achub di; dos mewn tangnefedd."

Gwragedd yn Cyd-deithio â Iesu

8:1 Wedi hynny bu ef yn teithio trwy dref a phentref gan bregethu a chyhoeddi'r newydd da am deyrnas Dduw. Yr oedd y Deuddeg gydag ef,
8:2 ynghyd â rhai gwragedd oedd wedi eu hiacháu oddi wrth ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair a elwid Magdalen, yr un yr oedd saith gythraul wedi dod allan ohoni;
8:3 Joanna gwraig Chwsa, goruchwyliwr Herod; Swsanna, a llawer eraill; yr oedd y rhain yn gweini arnynt o'u hadnoddau eu hunain.

Dameg yr Heuwr, Mth. 13:1-9; Mc. 4:1-9

8:4 Yr oedd tyrfa fawr yn ymgynnull, a phobl o bob tref yn dod ato. Dywedodd ef ar ddameg:
8:5 "Aeth heuwr allan i hau ei had. Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr; sathrwyd arno, a bwytaodd adar yr awyr ef.
8:6 Syrthiodd peth arall ar y graig; tyfodd, ond gwywodd am nad oedd iddo wlybaniaeth.
8:7 Syrthiodd peth arall i ganol y drain; tyfodd y drain gydag ef a'i dagu.
8:8 A syrthiodd peth arall ar dir da; tyfodd, a chnydiodd hyd ganwaith cymaint." Wrth ddweud hyn fe waeddodd, "Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed."

Pwrpas y Damhegion, Mth. 13:10-17; Mc. 4:10-12

8:9 Gofynnodd ei ddisgyblion iddo beth oedd ystyr y ddameg hon.
8:10 Meddai ef, "I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas Dduw wedi ei roi, ond i bawb arall y maent ar ddamhegion, fel 'er edrych, na welant, ac er clywed, na ddeallant'.

Egluro Dameg yr Heuwr, Mth. 13:18-23; Mc. 4:13-20

8:11 "Dyma ystyr y ddameg. Yr had yw gair Duw.
8:12 Y rhai ar hyd y llwybr yw'r sawl sy'n clywed, ac yna daw'r diafol a chipio'r gair o'u calonnau, rhag iddynt gredu a chael eu hachub.
8:13 Y rhai ar y graig yw'r sawl sydd, pan glywant, yn croesawu'r gair yn llawen. Ond gan y rhain nid oes gwreiddyn; dros dro y credant, ac mewn awr o brawf fe wrthgiliant.
8:14 Yr hyn a syrthiodd ymhlith y drain, dyma'r sawl sy'n clywed, ond wrth iddynt fynd ar eu hynt cânt eu tagu gan ofalon a golud a phleserau bywyd, ac ni ddygant eu ffrwyth i aeddfedrwydd.
8:15 Ond hwnnw yn y tir da, dyna'r sawl sy'n clywed y gair â chalon dda rinweddol, yn dal eu gafael ynddo ac yn dwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhad.

Goleuni dan Lestr, Mc. 4:21-25

8:16 "Ni bydd neb yn cynnau cannwyll ac yn ei chuddio â llestr neu'n ei dodi dan y gwely. Nage, ar ganhwyllbren y dodir hi, er mwyn i'r rhai sy'n dod i mewn weld ei goleuni.
8:17 Oherwydd nid oes dim yn guddiedig na ddaw'n amlwg, na dim dan gêl na cheir ei wybod ac na ddaw i'r amlwg.
8:18 Ystyriwch gan hynny sut yr ydych yn gwrando, oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny y mae ef yn tybio ei fod ganddo."

Mam a Brodyr Iesu, Mth. 12:46-50; Mc. 3:31-35

8:19 Daeth ei fam a'i frodyr i edrych amdano, ond ni allent gyrraedd ato o achos y dyrfa.
8:20 Hysbyswyd ef, "Y mae dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan ac yn dymuno dy weld."
8:21 Atebodd yntau hwy, "Fy mam a'm brodyr i yw'r rhain sy'n gwrando ar air Duw ac yn ei weithredu."

Gostegu Storm, Mth. 8:23-27; Mc. 4:35-41

8:22 Un diwrnod, aeth ef i mewn i gwch, a'i ddisgyblion hefyd, ac meddai wrthynt, "Awn drosodd i ochr draw'r llyn," a hwyliasant ymaith.
8:23 Tra oeddent ar y dŵr, aeth Iesu i gysgu. A disgynnodd tymestl o wynt ar y llyn; yr oedd y cwch yn llenwi, a hwythau mewn perygl.
8:24 Aethant ato a'i ddeffro, a dweud, "Meistr, meistr, mae hi ar ben arnom!" Deffrôdd ef, a cheryddodd y gwynt a'r dyfroedd tymhestlog; darfu'r dymestl a bu tawelwch.
8:25 Yna meddai ef wrthynt, "Ble mae eich ffydd?" Daeth ofn a syndod arnynt, ac meddent wrth ei gilydd, "Pwy ynteu yw hwn? Y mae'n gorchymyn hyd yn oed y gwyntoedd a'r dyfroedd, a hwythau'n ufuddhau iddo."

Iacháu'r Dyn oedd ym meddiant Cythreuliaid yn Gerasa, Mth. 8:28-34; Mc. 5:1-20

8:26 Daethant i'r lan i wlad y Geraseniaid, sydd gyferbyn â Galilea.
8:27 Pan laniodd ef, daeth i'w gyfarfod ddyn o'r dref â chythreuliaid ynddo. Ers amser maith nid oedd wedi gwisgo dilledyn, ac nid mewn tŷ yr oedd yn byw ond ymhlith y beddau.
8:28 Pan welodd ef Iesu, rhoes floedd a syrthio o'i flaen, gan weiddi â llais uchel, "Beth sydd a fynni di â mi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn erfyn arnat, paid â'm poenydio."
8:29 Oherwydd yr oedd ef wedi gorchymyn i'r ysbryd aflan fynd allan o'r dyn. Aml i dro yr oedd yr ysbryd wedi cydio ynddo, ac er ei rwymo â chadwynau a llyffetheiriau a'i warchod, byddai'n dryllio'r rhwymau, a'r cythraul yn ei yrru i'r unigeddau.
8:30 Yna gofynnodd Iesu iddo, "Beth yw dy enw?" "Lleng," meddai yntau, oherwydd yr oedd llawer o gythreuliaid wedi mynd i mewn iddo.
8:31 Dechreusant ymbil ar Iesu i beidio â gorchymyn iddynt fynd ymaith i'r dyfnder.
8:32 Yr oedd yno genfaint fawr o foch yn pori ar y mynydd. Ymbiliodd y cythreuliaid arno i ganiatáu iddynt fynd i mewn i'r moch; ac fe ganiataodd iddynt.
8:33 Aeth y cythreuliaid allan o'r dyn ac i mewn i'r moch, a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r llyn a boddi.
8:34 Pan welodd bugeiliaid y moch beth oedd wedi digwydd fe ffoesant, gan adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad.
8:35 Daeth pobl allan i weld beth oedd wedi digwydd. Daethant at Iesu, a chael y dyn yr oedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd wrth draed Iesu, â'i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn.
8:36 Adroddwyd yr hanes wrthynt gan y rhai oedd wedi gweld sut yr iachawyd y dyn oedd wedi bod ym meddiant cythreuliaid.
8:37 Yna gofynnodd holl boblogaeth gwlad y Geraseniaid iddo fynd ymaith oddi wrthynt, am fod ofn mawr wedi cydio ynddynt; ac aeth ef i mewn i'r cwch i ddychwelyd.
8:38 Yr oedd y dyn yr oedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn erfyn am gael bod gydag ef; ond anfonodd Iesu ef yn ei ôl, gan ddweud,
8:39 "Dychwel adref, ac adrodd gymaint y mae Duw wedi ei wneud drosot." Ac aeth ef ymaith trwy'r holl dref gan gyhoeddi gymaint yr oedd Iesu wedi ei wneud drosto.

Merch Jairus, a'r Wraig a Gyffyrddodd â Mantell Iesu, Mth. 9:18-26; Mc. 5:21-43

8:40 Pan ddychwelodd Iesu croesawyd ef gan y dyrfa, oherwydd yr oedd pawb yn disgwyl amdano.
8:41 A dyma ddyn o'r enw Jairus yn dod, ac yr oedd ef yn arweinydd yn y synagog; syrthiodd hwn wrth draed Iesu ac ymbil arno i ddod i'w gartref,
8:42 am fod ganddo unig ferch, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a'i bod hi'n marw. Tra oedd ef ar ei ffordd yr oedd y tyrfaoedd yn gwasgu arno.
8:43 Yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd. Er iddi wario ar feddygon y cwbl oedd ganddi i fyw arno, nid oedd wedi llwyddo i gael gwellhad gan neb.
8:44 Daeth hon ato o'r tu ôl a chyffwrdd ag ymyl ei fantell; ar unwaith peidiodd llif ei gwaed hi.
8:45 Ac meddai Iesu, "Pwy gyffyrddodd â mi?" Gwadodd pawb, ac meddai Pedr, "Meistr, y tyrfaoedd sy'n pwyso ac yn gwasgu arnat."
8:46 Ond meddai Iesu, "Fe gyffyrddodd rhywun â mi, oherwydd fe synhwyrais i fod nerth wedi mynd allan ohonof."
8:47 Pan ganfu'r wraig nad oedd hi ddim wedi osgoi sylw, daeth ymlaen dan grynu; syrthiodd wrth ei draed a mynegi gerbron yr holl bobl pam yr oedd hi wedi cyffwrdd ag ef, a sut yr oedd wedi gwella ar unwaith.
8:48 Ac meddai ef wrthi, "Fy merch, dy ffydd sydd wedi dy iacháu di; dos mewn tangnefedd."
8:49 Tra oedd ef yn llefaru, daeth rhywun o dŷ arweinydd y synagog a dweud, "Y mae dy ferch wedi marw; paid â phoeni'r Athro bellach."
8:50 Ond clywodd Iesu, ac meddai wrtho, "Paid ag ofni; dim ond credu, ac fe'i hachubir."
8:51 Pan gyrhaeddodd y tŷ, ni adawodd i neb fynd i mewn gydag ef ond Pedr ac Ioan ac Iago, ynghyd â thad y ferch a'i mam.
8:52 Yr oedd pawb yn wylo ac yn galaru drosti. Ond meddai ef, "Peidiwch ag wylo; nid yw hi wedi marw, cysgu y mae."
8:53 Dechreusant chwerthin am ei ben, am eu bod yn sicr ei bod wedi marw.
8:54 Gafaelodd ef yn ei llaw a dweud yn uchel, "Fy ngeneth, cod."
8:55 Yna dychwelodd ei hysbryd, a chododd ar unwaith. Gorchmynnodd ef roi iddi rywbeth i'w fwyta.
8:56 Syfrdanwyd ei rhieni, ond rhybuddiodd ef hwy i beidio â sôn gair wrth neb am yr hyn oedd wedi digwydd.

Cenhadaeth y Deuddeg, Mth. 10:5-15; Mc. 6:7-13

9:1 Galwodd Iesu y Deuddeg ynghyd a rhoddodd iddynt nerth ac awdurdod i fwrw allan gythreuliaid o bob math ac i wella clefydau.
9:2 Yna anfonodd hwy allan i gyhoeddi teyrnas Dduw ac i iacháu'r cleifion.
9:3 Meddai wrthynt, "Peidiwch â chymryd dim ar gyfer y daith, na ffon na chod na bara nac arian, na bod â dau grys yr un.
9:4 I ba dŷ bynnag yr ewch, arhoswch yno nes y byddwch yn ymadael â'r ardal;
9:5 a phwy bynnag fydd yn gwrthod eich derbyn, ewch allan o'r dref honno ac ysgwyd ymaith y llwch oddi ar eich traed, yn rhybudd iddynt."
9:6 Aethant allan a theithio o bentref i bentref, gan gyhoeddi'r newydd da ac iacháu ym mhob man.

Pryder Herod, Mth. 14:1-12; Mc. 6:14-29

9:7 Clywodd y Tywysog Herod am yr holl bethau oedd yn digwydd. Yr oedd mewn cyfyng-gyngor am fod rhai yn dweud fod Ioan wedi ei godi oddi wrth y meirw,
9:8 ac eraill fod Elias wedi ymddangos, ac eraill wedyn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi.
9:9 Ond meddai Herod, "Fe dorrais i ben Ioan; ond pwy yw hwn yr wyf yn clywed y fath bethau amdano?" Ac yr oedd yn ceisio cael ei weld ef.

Porthi'r Pum Mil, Mth. 14:13-21; Mc. 6:30-44; In. 6:1-14

9:10 Dychwelodd yr apostolion a dywedasant wrth Iesu yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud. Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida.
9:11 Ond pan glywodd y tyrfaoedd hyn aethant ar ei ôl. Croesawodd ef hwy, a dechrau llefaru wrthynt am deyrnas Dduw ac iacháu'r rhai ag angen gwellhad arnynt.
9:12 Yn awr yr oedd y dydd yn dechrau dirwyn i ben, a daeth y Deuddeg ato a dweud, "Gollwng y dyrfa, iddynt fynd i'r pentrefi a'r wlad o amgylch a chael llety a bwyd, oherwydd yr ydym mewn lle unig yma."
9:13 Meddai ef wrthynt, "Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt." Meddent hwy, "Nid oes gennym ddim ond pum torth a dau bysgodyn, heb inni fynd a phrynu bwyd i'r holl bobl hyn."
9:14 Yr oeddent ynghylch pum mil o wŷr. Ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, "Parwch iddynt eistedd yn gwmnïoedd o ryw hanner cant yr un."
9:15 Gwnaethant felly, a pheri i bawb eistedd.
9:16 Cymerodd yntau y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef fe'u bendithiodd, a'u torri, a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y dyrfa.
9:17 Bwytasant a chafodd pawb ddigon. A chodwyd deuddeg basgedaid o dameidiau o'r hyn oedd dros ben ganddynt.

Datganiad Pedr ynglŷn â Iesu, Mth. 16:13-19; Mc. 8:27-29

9:18 Pan oedd Iesu'n gweddïo o'r neilltu yng nghwmni'r disgyblion, gofynnodd iddynt, "Pwy y mae'r tyrfaoedd yn dweud ydwyf fi?"
9:19 Atebasant hwythau, "Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi."
9:20 "A chwithau," gofynnodd iddynt, "pwy meddwch chwi ydwyf fi?" Atebodd Pedr, "Meseia Duw."

Iesu'n Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad, Mth. 16:20-28; Mc. 8:30—9:1

9:21 Rhybuddiodd ef hwy, a'u gwahardd rhag dweud hyn wrth neb.
9:22 "Y mae'n rhaid i Fab y Dyn," meddai, "ddioddef llawer a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi."
9:23 A dywedodd wrth bawb, "Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes bob dydd a'm canlyn i.
9:24 Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i ceidw.
9:25 Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a'i ddifetha neu ei fforffedu ei hun?
9:26 Oherwydd pwy bynnag y bydd arnynt gywilydd ohonof fi ac o'm geiriau, bydd ar Fab y Dyn gywilydd ohonynt hwythau, pan ddaw yn ei ogoniant ef a'i Dad a'r angylion sanctaidd.
9:27 Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw."

Gweddnewidiad Iesu Mth. 17:1-8; Mc. 9:2-8

9:28 Ynghylch wyth diwrnod wedi iddo ddweud hyn, cymerodd Pedr ac Ioan ac Iago gydag ef a mynd i fyny'r mynydd i weddïo.
9:29  Tra oedd ef yn gweddïo, newidiodd gwedd ei wyneb a disgleiriodd ei wisg yn llachar wyn.
9:30 A dyma ddau ddyn yn ymddiddan ag ef; Moses ac Elias oeddent,
9:31 wedi ymddangos mewn gogoniant ac yn siarad am ei ymadawiad, y weithred yr oedd i'w chyflawni yn Jerwsalem.
9:32 Yr oedd Pedr a'r rhai oedd gydag ef wedi eu llethu gan gwsg; ond deffroesant a gweld ei ogoniant ef, a'r ddau ddyn oedd yn sefyll gydag ef.
9:33 Wrth i'r rheini ymadael â Iesu, dywedodd Pedr wrtho, "Meistr, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias." Ni wyddai beth yr oedd yn ei ddweud.
9:34 Tra oedd yn dweud hyn, daeth cwmwl a chysgodi drostynt, a chydiodd ofn ynddynt wrth iddynt fynd i mewn i'r cwmwl.
9:35 Yna daeth llais o'r cwmwl yn dweud, "Hwn yw fy Mab, yr Etholedig; gwrandewch arno."
9:36 Ac wedi i'r llais lefaru cafwyd Iesu wrtho'i hun. A bu'r disgyblion yn ddistaw, heb ddweud wrth neb y pryd hwnnw am yr hyn yr oeddent wedi ei weld.

Iacháu Bachgen ag Ysbryd Aflan ynddo, Mth. 17:14-18; Mc. 9:14-27

9:37 Trannoeth, wedi iddynt ddod i lawr o'r mynydd, daeth tyrfa fawr i'w gyfarfod.
9:38 A dyma ddyn yn gweiddi o'r dyrfa, "Athro, rwy'n erfyn arnat edrych ar fy mab, gan mai ef yw fy unig fab.
9:39 Y mae ysbryd yn gafael ynddo ac â bloedd sydyn yn ei gynhyrfu nes ei fod yn malu ewyn; ac y mae'n dal i'w ddirdynnu yn ddiollwng bron.
9:40 Erfyniais ar dy ddisgyblion ei fwrw allan, ac ni allasant."
9:41 Atebodd Iesu, "O genhedlaeth ddi-ffydd a gwyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi ac yn eich goddef? Tyrd â'th fab yma."
9:42 Wrth iddo ddod ymlaen bwriodd y cythraul ef ar lawr a'i gynhyrfu; ond ceryddodd Iesu yr ysbryd aflan, ac iacháu'r plentyn a'i roi yn ôl i'w dad.

9:43 Ac yr oedd pawb yn rhyfeddu at fawredd Duw. A thra oedd pawb yn synnu at ei holl weithredoedd, meddai ef wrth ei ddisgyblion,

Iesu Eilwaith yn Rhagfynegi ei Farwolaeth, Mth. 17:22-23; Mc. 9:30-32

9:44 "Clywch, a chofiwch chwi y geiriau hyn: y mae Mab y Dyn i'w draddodi i ddwylo pobl."
9:45 Ond nid oeddent yn deall yr ymadrodd hwn; yr oedd ei ystyr wedi ei guddio oddi wrthynt, fel nad oeddent yn ei ganfod, ac yr oedd arnynt ofn ei holi ynglŷn â'r ymadrodd hwn.

Pwy yw'r Mwyaf? Mth. 18:1-5; Mc. 9:33-37

9:46 Cododd trafodaeth yn eu plith, prun ohonynt oedd y mwyaf.
9:47 Ond gwyddai Iesu am feddyliau eu calonnau. Cymerodd blentyn, a'i osod wrth ei ochr,
9:48 ac meddai wrthynt, "Pwy bynnag sy'n derbyn y plentyn hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i; a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, y mae'n derbyn yr hwn a'm hanfonodd i. Oherwydd y lleiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw sydd fawr."

Y Sawl nad yw yn eich Erbyn, Drosoch Chwi y Mae, Mc. 9:38-40

9:49 Atebodd Ioan, "Meistr, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd am nad yw'n dy ddilyn gyda ni."
9:50 Ond meddai Iesu wrtho, "Peidiwch â gwahardd, oherwydd y sawl nad yw yn eich erbyn, drosoch chwi y mae."

Pentref yn Samaria yn Gwrthod Derbyn Iesu

9:51 Pan oedd y dyddiau cyn ei gymryd i fyny yn dirwyn i ben, troes ef ei wyneb i fynd i Jerwsalem,
9:52 ac anfonodd allan negesyddion o'i flaen. Cychwynasant, a mynd i mewn i bentref yn Samaria i baratoi ar ei gyfer.
9:53 Ond gwrthododd y bobl ei dderbyn am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem.
9:54 Pan welodd ei ddis-gyblion, Iago ac Ioan, hyn, meddent, "Arglwydd, a fynni di inni alw tân i lawr o'r nef a'u dinistrio?"
9:55 Ond troes ef a'u ceryddu.
9:56 Ac aethant i bentref arall.

Rhai yn Dymuno Canlyn Iesu Mth. 8:19-22

9:57 Pan oeddent ar y ffordd yn teithio, meddai rhywun wrtho, "Canlynaf di lle bynnag yr ei."
9:58 Meddai Iesu wrtho, "Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr."
9:59 Ac meddai wrth un arall, "Canlyn fi." Meddai yntau, "Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad."
9:60 Ond meddai ef wrtho, "Gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain; dos di a chyhoedda deyrnas Dduw."
9:61 Ac meddai un arall, "Canlynaf di, Arglwydd; ond yn gyntaf caniatâ imi ffarwelio â'm teulu."
9:62 Ond meddai Iesu wrtho, "Nid yw'r sawl a osododd ei law ar yr aradr, ac sy'n edrych yn ôl, yn addas i deyrnas Dduw."

Cenhadaeth y Deuddeg a Thrigain

10:1 Wedi hynny penododd yr Arglwydd ddeuddeg a thrigain arall, a'u hanfon allan o'i flaen, bob yn ddau, i bob tref a man yr oedd ef ei hun am fynd iddynt.
10:2 Dywedodd wrthynt, "Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar arglwydd y cynhaeaf i anfon gweithwyr i'w gynhaeaf.
10:3 Ewch; dyma fi'n eich anfon allan fel ŵyn i blith bleiddiaid.
10:4 Peidiwch â chario na phwrs na chod na sandalau, a pheidiwch â chyfarch neb ar y ffordd.
10:5 Pa dŷ bynnag yr ewch i mewn iddo, dywedwch yn gyntaf, 'Tangnefedd i'r teulu hwn.'
10:6 Os bydd yno rywun tangnefeddus, bydd eich tangnefedd yn gorffwys arno ef; onid e, bydd yn dychwelyd atoch chwi.
10:7 Arhoswch yn y tŷ hwnnw, a bwyta ac yfed yr hyn a gewch ganddynt, oherwydd y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog. Peidiwch â symud o dŷ i dŷ.
10:8 Ac i ba dref bynnag yr ewch, a chael derbyniad, bwytewch yr hyn a osodir o'ch blaen.
10:9 Iachewch y cleifion yno, a dywedwch wrthynt, 'Y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos atoch.'
10:10 Pa dref bynnag yr ewch iddi a chael eich gwrthod, ewch allan i'w strydoedd a dywedwch,
10:11 'Yn eich erbyn chwi, yr ydym yn sychu ymaith hyd yn oed y llwch o'ch tref a lynodd wrth ein traed. Eto gwybyddwch hyn: y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos.'
10:12 Rwy'n dweud wrthych y caiff Sodom ar y Dydd hwnnw lai i'w ddioddef na'r dref honno.

Gwae'r Trefi Diedifar, Mth. 11:20-24

10:13 "Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaethpwyd ynoch chwi wedi eu gwneud yn Tyrus a Sidon, buasent wedi edifarhau erstalwm, gan eistedd mewn sachliain a lludw.
10:14 Eto, caiff Tyrus a Sidon lai i'w ddioddef yn y Farn na chwi.
10:15 A thithau, Capernaum, 'A ddyrchefir di hyd nef? Byddi'n disgyn hyd Hades.'
10:16 Y mae'r sawl sy'n gwrando arnoch chwi yn gwrando arnaf fi, a'r sawl sy'n eich anwybyddu chwi yn f'anwybyddu i; ac y mae'r sawl sy'n f'anwybyddu i yn anwybyddu'r hwn a'm hanfonodd i."

Y Deuddeg a Thrigain yn Dychwelyd

10:17 Dychwelodd y deuddeg a thrigain yn llawen, gan ddweud, "Arglwydd, y mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ymddarostwng inni yn dy enw di."
10:18 Meddai wrthynt, "Yr oeddwn yn gweld Satan fel mellten yn syrthio o'r nef.
10:19 Dyma fi wedi rhoi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac i drechu holl nerth y gelyn; ac ni'ch niweidir chwi gan ddim.
10:20 Eto, peidiwch â llawenhau yn hyn, fod yr ysbrydion yn ymddarostwng i chwi; llawenhewch oherwydd fod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd."

Iesu'n Gorfoleddu Mth. 11:25-27; 13:16-17

10:21 Yr awr honno gorfoleddodd yn yr Ysbryd Glân, ac meddai, "Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio'r pethau hyn rhag y doethion a'r deallusion, a'u datguddio i rai bychain; ie, O Dad, oherwydd felly y rhyngodd dy fodd di.
10:22 Traddodwyd i mi bob peth gan fy Nhad. Ni ŵyr neb pwy yw'r Mab ond y Tad, na phwy yw'r Tad ond y Mab a'r rhai hynny y mae'r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt."
10:23 Yna troes at ei ddisgyblion ac meddai wrthynt o'r neilltu, "Gwyn eu byd y llygaid sy'n gweld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld.
10:24 Oherwydd rwy'n dweud wrthych fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi dymuno gweld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant."

Y Samariad Trugarog

10:25 Dyma un o athrawon y Gyfraith yn codi i roi prawf arno, gan ddweud, "Athro, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?"
10:26 Meddai ef wrtho, "Beth sy'n ysgrifenedig yn y Gyfraith? Beth a ddarlleni di yno?"
10:27 Atebodd yntau, "'Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth ac â'th holl feddwl, a châr dy gymydog fel ti dy hun.'"
10:28 Meddai ef wrtho, "Atebaist yn gywir; gwna hynny, a byw fyddi."
10:29 Ond yr oedd ef am ei gyfiawnhau ei hun, ac meddai wrth Iesu, "A phwy yw fy nghymydog?"
10:30 Atebodd Iesu, "Yr oedd rhyw ddyn yn mynd i lawr o Jerwsalem i Jericho, a syrthiodd i blith lladron. Wedi tynnu ei ddillad oddi amdano a'i guro, aethant ymaith, a'i adael yn hanner-marw.
10:31 Fel y digwyddodd, yr oedd offeiriad yn mynd i lawr ar hyd y ffordd honno; pan welodd ef, aeth heibio o'r ochr arall.
10:32 Yr un modd daeth Lefiad hefyd at y man; gwelodd ef, ac aeth heibio o'r ochr arall.
10:33 Ond daeth teithiwr o Samariad ato; pan welodd hwn ef, tosturiodd wrtho.
10:34 Aeth ato a rhwymo ei glwyfau, gan arllwys olew a gwin arnynt; gosododd ef ar ei anifail ei hun, a'i arwain i lety, a gofalu amdano.
10:35 Trannoeth tynnodd ddau ddarn arian allan a'u rhoi i'r gwesteiwr, gan ddweud, 'Gofala amdano. Os byddi wedi gwario rhywbeth dros ben, fe dalaf fi yn ôl iti pan ddychwelaf.'
10:36 Prun o'r tri hyn, dybi di, fu'n gymydog i'r dyn a syrthiodd i blith lladron?"
10:37 Meddai ef, "Yr un a gymerodd drugaredd arno." Ac meddai Iesu wrtho, "Dos, a gwna dithau yr un modd."

Ymweld â Martha a Mair

10:38 Pan oeddent ar daith, aeth Iesu i mewn i bentref, a chroesawyd ef i'w chartref gan wraig o'r enw Martha.
10:39 Yr oedd ganddi hi chwaer a elwid Mair; eisteddodd hi wrth draed yr Arglwydd a gwrando ar ei air.
10:40 Ond yr oedd Martha mewn dryswch oherwydd yr holl waith gweini, a daeth ato a dweud, "Arglwydd, a wyt ti heb hidio dim fod fy chwaer wedi fy ngadael i weini ar fy mhen fy hun? Dywed wrthi, felly, am fy nghynorthwyo."
10:41 Atebodd yr Arglwydd hi, "Martha, Martha, yr wyt yn pryderu ac yn trafferthu am lawer o bethau,
10:42 ond un peth sy'n angenrheidiol. Y mae Mair wedi dewis y rhan orau, ac nis dygir oddi arni."

Dysgeidiaeth ar Weddi, Mth. 6:9-15; 7:7-11

11:1 Yr oedd ef yn gweddïo mewn rhyw fan, ac wedi iddo orffen dywedodd un o'i ddisgyblion wrtho, "Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan yntau i'w ddisgyblion ef."
11:2 Ac meddai wrthynt, "Pan weddïwch, dywedwch: 'Dad, sancteiddier dy enw; deled dy deyrnas;
11:3 dyro inni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol;
11:4 a maddau inni ein pechodau, oherwydd yr ydym ninnau yn maddau i bob un sy'n troseddu yn ein herbyn; a phaid â'n dwyn i brawf.'"
11:5 Yna meddai wrthynt, "Pe bai un ohonoch yn mynd at gyfaill ganol nos ac yn dweud wrtho, 'Gyfaill, rho fenthyg tair torth imi,
11:6 oherwydd y mae cyfaill imi wedi cyrraedd acw ar ôl taith, ac nid oes gennyf ddim i'w osod o'i flaen';
11:7 a phe bai yntau yn ateb o'r tu mewn, 'Paid â'm blino; y mae'r drws erbyn hyn wedi ei folltio, a'm plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi i roi dim iti',
11:8 rwy'n dweud wrthych, hyd yn oed os gwrthyd ef godi a rhoi rhywbeth iddo o achos eu cyfeillgarwch, eto oherwydd ei daerni digywilydd fe fydd yn codi ac yn rhoi iddo gymaint ag sydd arno ei eisiau.
11:9 Ac yr wyf fi'n dweud wrthych: gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.
11:10 Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws.
11:11 Os bydd mab un ohonoch yn gofyn i'w dad am bysgodyn, a rydd ef iddo sarff yn lle pysgodyn?
11:12 Neu os bydd yn gofyn am wy, a rydd ef iddo ysgorpion?
11:13 Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd y Tad nefol yr Ysbryd Glân i'r rhai sy'n gofyn ganddo."

Iesu a Beelsebwl, Mth. 12:22-30; Mc. 3:20-27

11:14 Yr oedd yn bwrw allan gythraul, a hwnnw'n un mud. Ac wedi i'r cythraul fynd allan, llefarodd y mudan. Synnodd y tyrfaoedd,
11:15 ond meddai rhai ohonynt, "Trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid, y mae'n bwrw allan gythreuliaid."
11:16 Yr oedd eraill am ei brofi, a gofynasant am arwydd ganddo o'r nef.
11:17 Ond yr oedd ef yn deall eu meddyliau hwy, ac meddai wrthynt, "Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, a'r tai yn cwympo ar ben ei gilydd.
11:18 Ac os yw Satan yntau wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, sut y saif ei deyrnas? — gan eich bod chwi'n dweud mai trwy Beelsebwl yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid.
11:19 Ac os trwy Beelsebwl yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy fydd yn eich barnu.
11:20 Ond os trwy fys Duw yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, yna y mae teyrnas Dduw wedi cyrraedd atoch.
11:21 Pan fydd dyn cryf yn ei arfwisg yn gwarchod ei blasty ei hun, bydd ei eiddo yn cael llonydd;
11:22 ond pan fydd un cryfach nag ef yn ymosod arno ac yn ei drechu, bydd hwnnw'n cymryd yr arfwisg yr oedd ef wedi ymddiried ynddi, ac yn rhannu'r ysbail.
11:23 Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae, ac os nad yw'n casglu gyda mi, gwasgaru y mae.

Yr Ysbryd Aflan yn Dychwelyd, Mth. 12:43-45

11:24 "Pan fydd ysbryd aflan yn mynd allan o rywun, bydd yn rhodio trwy fannau sychion gan geisio gorffwysfa, ond heb ei gael. Yna y mae'n dweud, 'Mi ddychwelaf i'm cartref, y lle y deuthum ohono.'
11:25 Wedi cyrraedd, y mae'n ei gael wedi ei ysgubo a'i osod mewn trefn.
11:26 Yna y mae'n mynd ac yn cymryd ato saith ysbryd arall mwy drygionus nag ef ei hun; y maent yn mynd i mewn ac yn ymgartrefu yno; ac y mae cyflwr olaf y dyn hwnnw yn waeth na'r cyntaf."

Gwynfyd Gwirioneddol

11:27 Wrth iddo ddweud hyn, cododd gwraig o'r dyrfa ei llais ac meddai wrtho, "Gwyn eu byd y groth a'th gariodd di a'r bronnau a sugnaist."
11:28 "Nage," meddai ef, "gwyn eu byd y rhai sy'n clywed gair Duw ac yn ei gadw."

Ceisio Arwydd, Mth. 12:38-42; Mc. 8:12

11:29 Wrth i'r tyrfaoedd gynyddu, dechreuodd lefaru: "Y mae'r genhedlaeth hon yn genhedlaeth ddrygionus; y mae'n ceisio arwydd. Eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona.
11:30 Oherwydd fel y bu Jona yn arwydd i bobl Ninefe, felly y bydd Mab y Dyn yntau i'r genhedlaeth hon.
11:31 Bydd Brenhines y De yn codi yn y Farn gyda phobl y genhedlaeth hon, ac yn eu condemnio hwy; oherwydd daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Solomon.
11:32 Bydd pobl Ninefe yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon, ac yn ei chondemnio hi; oherwydd edifarhasant hwy dan genadwri Jona, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Jona.

Goleuni'r Corff, Mth. 5:15; 6:22-23

11:33 "Ni bydd neb yn cynnau cannwyll ac yn ei rhoi mewn man cudd neu dan lestr, ond ar ganhwyllbren, er mwyn i'r rhai sy'n dod i mewn weld ei goleuni.
11:34 Dy lygad yw cannwyll dy gorff. Pan fydd dy lygad yn iach, y mae dy gorff hefyd yn llawn goleuni; ond pan fydd yn sâl, y mae dy gorff hefyd yn llawn tywyllwch.
11:35 Ystyria gan hynny ai tywyllwch yw'r goleuni sydd ynot ti.
11:36 Felly, os yw dy gorff yn llawn goleuni, heb unrhyw ran ohono mewn tywyllwch, bydd yn llawn goleuni, fel pan fydd cannwyll yn dy oleuo â'i llewyrch."

Cyhuddo'r Phariseaid ac Athrawon y Gyfraith, Mth. 23:1-36; Mc. 12:38-40; Lc. 20:45-47

11:37 Pan orffennodd lefaru, gwahoddodd Pharisead ef i bryd o fwyd yn ei dŷ. Aeth i mewn a chymryd ei le wrth y bwrdd.
11:38 Pan welodd y Pharisead nad oedd wedi ymolchi yn gyntaf cyn bwyta, fe synnodd.
11:39 Ond meddai'r Arglwydd wrtho, "Yr ydych chwi'r Phariseaid yn wir yn glanhau tu allan y cwpan a'r ddysgl, ond o'ch mewn yr ydych yn llawn anrhaith a drygioni.
11:40 Ynfydion, onid yr hwn a wnaeth y tu allan a wnaeth y tu mewn hefyd?
11:41 Ond rhowch yn elusen y pethau sydd y tu mewn i'r cwpan, a dyna bopeth yn lân ichwi.
11:42 Ond gwae chwi'r Phariseaid, oherwydd yr ydych yn talu degwm o fintys a rhyw a phob llysieuyn, ond yn diystyru cyfiawnder a chariad Duw, yr union bethau y dylasech ofalu amdanynt, ond heb esgeuluso'r lleill.
11:43 Gwae chwi'r Phariseaid, oherwydd yr ydych yn caru'r prif gadeiriau yn y synagogau a'r cyfarchiadau yn y marchnadoedd.
11:44 Gwae chwi, oherwydd yr ydych fel beddau heb eu nodi, a phobl yn cerdded drostynt yn ddiarwybod."
11:45 Atebodd un o athrawon y Gyfraith ef, "Athro, wrth ddweud hyn yr wyt yn ein sarhau ninnau."
11:46 Meddai ef, "Gwae chwithau athrawon y Gyfraith, oherwydd yr ydych yn beichio pobl â beichiau anodd eu dwyn, beichiau nad yw un o'ch bysedd chwi byth yn cyffwrdd â hwy.
11:47 Gwae chwi, oherwydd yr ydych yn codi beddfeini i'r proffwydi, ond eich hynafiaid chwi a'u lladdodd.
11:48 Gan hynny, yn ôl eich tystiolaeth eich hunain, yr ydych yn cymeradwyo gweithredoedd eich hynafiaid, oherwydd hwy a'u lladdodd, a chwi sy'n codi'r beddfeini.
11:49 Am hynny hefyd y dywedodd Doethineb Duw, 'Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a byddant yn lladd ac yn erlid rhai ohonynt';
11:50 ac felly gelwir y genhedlaeth hon i gyfrif am waed yr holl broffwydi, a dywalltwyd er seiliad y byd,
11:51 o waed Abel hyd at waed Sechareia, a drengodd rhwng yr allor a'r cysegr. Ie, rwy'n dweud wrthych, fe elwir y genhedlaeth hon i gyfrif amdano.
11:52 Gwae chwi athrawon y Gyfraith, oherwydd ichwi gymryd ymaith allwedd gwybodaeth; nid aethoch i mewn eich hunain, a'r rhai oedd am fynd i mewn, eu rhwystro a wnaethoch."
11:53 Wedi iddo fynd allan oddi yno dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid fagu dig tuag ato, a'i holi yn fanwl ynghylch llawer o bethau,
11:54 gan aros fel helwyr i'w faglu ar ryw air o'i enau.

Rhybudd rhag Rhagrith

12:1 Yn y cyfamser yr oedd y dyrfa wedi ymgynnull yn ei miloedd, nes eu bod yn sathru ei gilydd dan draed. Dechreuodd ef ddweud wrth ei ddisgyblion yn gyntaf, "Gochelwch rhag surdoes y Phariseaid, hynny yw, eu rhagrith.
12:2 Nid oes dim wedi ei guddio nas datguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod.
12:3 Am hyn, popeth y buoch yn ei ddweud yn y tywyllwch, fe'i clywir yng ngolau dydd; a'r hyn y buoch yn ei sibrwd yn y glust mewn ystafelloedd o'r neilltu, fe'i cyhoeddir ar bennau'r tai.

Pwy i'w Ofni, Mth. 10:28-31

12:4 "Rwy'n dweud wrthych chwi fy nghyfeillion, peidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ac sydd wedi hynny heb allu i wneud dim pellach.
12:5 Ond dangosaf i chwi pwy i'w ofni: ofnwch yr hwn sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern wedi'r lladd; ie, rwy'n dweud wrthych, ofnwch hwnnw.
12:6 Oni werthir pump aderyn y to am ddwy geiniog? Eto nid yw un ohonynt yn angof gan Dduw.
12:7 Yn wir, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni; yr ydych yn werth mwy na llawer o adar y to.

Cyffesu Crist gerbron Eraill, Mth. 10:32-33; 12:32; 10:19-20

12:8 "Rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a'm harddel i gerbron eraill, bydd Mab y Dyn hefyd yn eu harddel hwy gerbron angylion Duw;
12:9 ond y sawl sydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, fe'i gwedir ef gerbron angylion Duw.
12:10 Caiff pwy bynnag a ddywed air yn erbyn Mab y Dyn, faddeuant; ond ni faddeuir i'r sawl sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd Glân.
12:11 Pan ddygant chwi gerbron y synagogau a'r ynadon a'r awdurdodau, peidiwch â phryderu am ddull nac am gynnwys eich amddiffyniad, nac am eich ymadrodd;
12:12 oherwydd bydd yr Ysbryd Glân yn eich dysgu chwi ar y pryd beth fydd yn rhaid ei ddweud."

Dameg yr Ynfytyn Cyfoethog

12:13 Meddai rhywun o'r dyrfa wrtho, "Athro, dywed wrth fy mrawd am roi i mi fy nghyfran o'n hetifeddiaeth."
12:14 Ond meddai ef wrtho, "Ddyn, pwy a'm penododd i yn farnwr neu yn gymrodeddwr rhyngoch?"
12:15 A dywedodd wrthynt, "Gofalwch ymgadw rhag trachwant o bob math, oherwydd, er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau."
12:16 Ac adroddodd ddameg wrthynt: "Yr oedd tir rhyw ŵr cyfoethog wedi dwyn cnwd da.
12:17 A dechreuodd feddwl a dweud wrtho'i hun, 'Beth a wnaf fi, oherwydd nid oes gennyf unman i gasglu fy nghnydau iddo?'
12:18 Ac meddai, 'Dyma beth a wnaf fi: tynnaf f'ysguboriau i lawr ac adeiladu rhai mwy, a chasglaf yno fy holl ŷd a'm heiddo.
12:19 Yna dywedaf wrthyf fy hun, "Ddyn, y mae gennyt stôr o lawer o bethau ar gyfer blynyddoedd lawer; gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen."'
12:20 Ond meddai Duw wrtho, 'Yr ynfytyn, heno y mynnir dy einioes yn ôl gennyt, a phwy gaiff y pethau a baratoaist?'
12:21 Felly y bydd hi ar y rhai sy'n casglu trysor iddynt eu hunain a heb fod yn gyfoethog gerbron Duw."

Gofal a Phryder, Mth. 6:25-34, 19-21

12:22 Meddai wrth ei ddisgyblion, "Am hynny rwy'n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd nac am eich corff, beth i'w fwyta na beth i'w wisgo.
12:23 Oherwydd y mae mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad.
12:24 Ystyriwch y brain: nid ydynt yn hau nac yn medi, nid oes ganddynt ystordy nac ysgubor, ac eto y mae Duw yn eu bwydo. Gymaint mwy gwerthfawr ydych chwi na'r adar!
12:25 A phrun ohonoch a all ychwanegu munud at ei oes trwy bryderu?
12:26 Felly os yw hyd yn oed y peth lleiaf y tu hwnt i'ch gallu, pam yr ydych yn pryderu am y gweddill?
12:27 Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu; ond rwy'n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i'w chymharu ag un o'r rhain.
12:28 Os yw Duw yn dilladu felly y glaswellt, sydd heddiw yn y meysydd ac yfory yn cael ei daflu i'r ffwrn, gymaint mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd!
12:29 A chwithau, peidiwch â rhoi eich bryd ar beth i'w fwyta a beth i'w yfed, a pheidiwch â byw mewn pryder;
12:30 oherwydd dyna'r holl bethau y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio, ond y mae gennych chwi Dad sy'n gwybod fod arnoch eu hangen.
12:31 Ceisiwch yn hytrach ei deyrnas ef, a rhoir y pethau hyn yn ychwaneg i chwi.
12:32 Peidiwch ag ofni, fy mhraidd bychan, oherwydd gwelodd eich Tad yn dda roi i chwi'r deyrnas.
12:33 Gwerthwch eich eiddo a rhowch ef yn elusen; gwnewch i chwi eich hunain byrsau nad ydynt yn treulio, trysor dihysbydd yn y nefoedd, lle nad yw lleidr yn dod ar y cyfyl, na gwyfyn yn difa.
12:34 Oherwydd lle mae eich trysor, yno hefyd y bydd eich calon.

Gweision Gwyliadwrus, Mth. 24:45-51

12:35 "Bydded eich gwisg wedi ei thorchi a'ch canhwyllau ynghynn.
12:36 Byddwch chwithau fel rhai yn disgwyl dychweliad eu meistr o briodas, i agor iddo cyn gynted ag y daw a churo.
12:37 Gwyn eu byd y gweision hynny a geir ar ddihun gan eu meistr pan ddaw; yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd ef yn torchi ei wisg, ac yn eu gosod wrth y bwrdd, ac yn dod ac yn gweini arnynt.
12:38 Ac os daw ef ar hanner nos neu yn yr oriau mân, a'u cael felly, gwyn eu byd.
12:39 A gwybyddwch hyn: pe buasai meistr y tŷ yn gwybod pa bryd y byddai'r lleidr yn dod, ni fuasai wedi gadael iddo dorri i mewn i'w dŷ.
12:40 Chwithau hefyd, byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn."
12:41 Meddai Pedr, "Arglwydd, ai i ni yr wyt yn adrodd y ddameg hon, ai i bawb yn ogystal?"
12:42 Dywedodd yr Arglwydd, "Pwy ynteu yw'r goruchwyliwr ffyddlon a chall a osodir gan ei feistr dros ei weision, i roi eu dogn bwyd iddynt yn ei bryd?
12:43 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw;
12:44 yn wir, rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo.
12:45 Ond os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, 'Y mae fy meistr yn oedi dod', a dechrau curo'r gweision a'r morynion, a bwyta ac yfed a meddwi,
12:46 yna bydd meistr y gwas hwnnw yn cyrraedd ar ddiwrnod annisgwyl iddo ef ac ar awr nas gŵyr; ac fe'i cosba yn llym, a gosod ei le gyda'r anffyddloniaid.
12:47 Bydd y gwas hwnnw sy'n gwybod ewyllys ei feistr, ac eto heb ddarparu na gwneud dim yn ôl ei ewyllys, yn cael curfa dost;
12:48 ond bydd y gwas nad yw'n gwybod, ond sydd wedi haeddu curfa, yn cael un ysgafn. Disgwylir llawer gan y sawl a dderbyniodd lawer; a gofynnir llawer mwy yn ôl gan yr un y mae llawer wedi ei ymddiried iddo.

Iesu'n Achos Ymraniad, Mth. 10:34-36

12:49 "Yr wyf fi wedi dod i fwrw tân ar y ddaear, ac O na fyddai eisoes wedi ei gynnau!
12:50 Y mae bedydd y mae'n rhaid fy medyddio ag ef, a chymaint yw fy nghyfyngder hyd nes y cyflawnir ef!
12:51 A ydych chwi'n tybio mai i roi heddwch i'r ddaear yr wyf fi wedi dod? Nage, meddaf wrthych, ond ymraniad.
12:52 Oherwydd o hyn allan bydd un teulu o bump wedi ymrannu, tri yn erbyn dau a dau yn erbyn tri:
12:53 'Ymranna'r tad yn erbyn y mab a'r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn ei merch a'r ferch yn erbyn ei mam, y fam-yng-nghyfraith yn erbyn y ferch-yng-nghyfraith a'r ferch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith.'"

Dehongli'r Amser, Mth. 16:2-3

12:54 Dywedodd wrth y tyrfaoedd hefyd, "Pan welwch gwmwl yn codi yn y gorllewin, yr ydych yn dweud ar unwaith, 'Daw yn law', ac felly y bydd;
12:55 a phan welwch wynt y de yn chwythu, yr ydych yn dweud, 'Daw yn wres', a hynny fydd.
12:56 Chwi ragrithwyr, medrwch ddehongli'r olwg ar y ddaear a'r ffurfafen, ond sut na fedrwch ddehongli'r amser hwn?

Cymodi â'th Wrthwynebwr, Mth. 5:25-26

12:57 "A pham nad ydych ohonoch eich hunain yn barnu beth sydd yn iawn?
12:58 Pan wyt yn mynd gyda'th wrth-wynebwr at yr ynad, gwna dy orau ar y ffordd yno i gymodi ag ef, rhag iddo dy lusgo gerbron y barnwr, ac i'r barnwr dy draddodi i'r cwnstabl, ac i'r cwnstabl dy fwrw i garchar.
12:59 Rwy'n dweud wrthyt, ni ddoi di byth allan oddi yno cyn talu'n ôl y geiniog olaf un."

Edifarhau neu Ddarfod Amdanoch

13:1 Yr un adeg, daeth rhywrai a mynegi iddo am y Galileaid y cymysgodd Pilat eu gwaed â'u hebyrth.
13:2 Atebodd ef hwy, "A ydych chwi'n tybio fod y rhain yn waeth pechaduriaid na'r holl Galileaid eraill, am iddynt ddioddef hyn?
13:3 Nac oeddent, meddaf wrthych; eto, os nad edifarhewch, fe dderfydd amdanoch oll yn yr un modd.
13:4 Neu'r deunaw hynny y syrthiodd y tŵr arnynt yn Siloam a'u lladd, a ydych chwi'n tybio fod y rhain yn waeth troseddwyr na holl drigolion eraill Jerwsalem?
13:5 Nac oeddent, meddaf wrthych; eto, os nad edifarhewch, fe dderfydd amdanoch oll yn yr un modd."

Dameg y Ffigysbren Diffrwyth

13:6 Adroddodd y ddameg hon: "Yr oedd gan rywun ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan. Daeth i chwilio am ffrwyth arno, ac ni chafodd ddim.
13:7 Ac meddai wrth y gwinllannwr, 'Ers tair blynedd bellach yr wyf wedi bod yn dod i geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, a heb gael dim. Am hynny tor ef i lawr; pam y caiff dynnu maeth o'r pridd?'
13:8 Ond atebodd ef, 'Meistr, gad iddo eleni eto, imi balu o'i gwmpas a'i wrteithio.
13:9 Ac os daw â ffrwyth y flwyddyn nesaf, popeth yn iawn; onid e, cei ei dorri i lawr.'"

Iacháu Gwraig Wargrwm ar y Saboth

13:10 Yr oedd yn dysgu yn un o'r synagogau ar y Saboth.
13:11 Yr oedd yno wraig oedd ers deunaw mlynedd yng ngafael ysbryd oedd wedi bod yn ei gwanychu nes ei bod yn wargrwm ac yn hollol analluog i sefyll yn syth.
13:12 Pan welodd Iesu hi galwodd arni, "Wraig, yr wyt wedi dy waredu o'th wendid."
13:13 Yna dododd ei ddwylo arni, ac ar unwaith ymunionodd drachefn, a dechrau gogoneddu Duw.
13:14 Ond yr oedd arweinydd y synagog yn ddig fod Iesu wedi iacháu ar y Saboth, ac meddai wrth y dyrfa, "Y mae chwe diwrnod gwaith; dewch i'ch iacháu ar y dyddiau hynny, ac nid ar y dydd Saboth."
13:15 Atebodd yr Arglwydd ef, "Chwi ragrithwyr, onid yw pob un ohonoch ar y Saboth yn gollwng ei ych neu ei asyn o'r preseb ac yn mynd ag ef allan i'r dŵr?
13:16 Ond dyma un o ferched Abraham, a fu yn rhwymau Satan ers deunaw mlynedd; a ddywedwch na ddylasid ei rhyddhau hi o'r rhwymyn hwn ar y dydd Saboth?"
13:17 Wrth iddo ddweud hyn, codwyd cywilydd ar ei holl wrthwynebwyr, a llawenychodd y dyrfa i gyd oherwydd ei holl weithredoedd gogoneddus.

Damhegion yr Hedyn Mwstard a'r Lefain, Mth. 13:31-33; Mc. 4:30-32

13:18 Meddai gan hynny, "I beth y mae teyrnas Dduw yn debyg, ac i beth y cyffelybaf hi?
13:19 Y mae'n debyg i hedyn mwstard; y mae rhywun yn ei gymryd ac yn ei fwrw i'w ardd, ac y mae'n tyfu ac yn dod yn goeden, ac y mae adar yr awyr yn nythu yn ei changhennau."
13:20 Ac meddai eto, "I beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?
13:21 Y mae'n debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu â thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl."

Y Drws Cul, Mth. 7:13-14; 21-23

13:22 Yr oedd yn mynd trwy'r trefi a'r pentrefi gan ddysgu, ar ei ffordd i Jerwsalem.
13:23 Meddai rhywun wrtho, "Arglwydd, ai ychydig yw'r rhai sy'n cael eu hachub?" Ac meddai ef wrthynt,
13:24 "Ymegnïwch i fynd i mewn trwy'r drws cul, oherwydd rwy'n dweud wrthych y bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ac yn methu.
13:25 Unwaith y bydd meistr y tŷ wedi codi a chau'r drws, gallwch chwithau sefyll y tu allan a churo ar y drws, gan ddweud, 'Arglwydd, agor inni'; ond bydd ef yn eich ateb, 'Ni wn o ble'r ydych.'
13:26 Yna dechreuwch ddweud, 'Buom yn bwyta ac yn yfed gyda thi, a buost ti yn dysgu yn ein strydoedd ni.'
13:27 A dywed ef wrthych, 'Ni wn o ble'r ydych. Ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr oll.'
13:28 Bydd yno wylo a rhincian dannedd, pan welwch Abraham ac Isaac a Jacob a'r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau'n cael eich bwrw allan.
13:29 A daw rhai o'r dwyrain a'r gorllewin ac o'r gogledd a'r de, a chymryd eu lle yn y wledd yn nheyrnas Dduw.
13:30 Ac yn wir, bydd rhai sy'n olaf yn flaenaf, a rhai sy'n flaenaf yn olaf."

Y Galarnad dros Jerwsalem, Mth. 23:37-39

13:31 Y pryd hwnnw, daeth rhai Phariseaid ato a dweud wrtho, "Dos i ffwrdd oddi yma, oherwydd y mae Herod â'i fryd ar dy ladd di."
13:32 Meddai ef wrthynt, "Ewch a dywedwch wrth y cadno hwnnw, 'Heddiw ac yfory byddaf yn bwrw allan gythreuliaid ac yn iacháu, a'r trydydd dydd cyrhaeddaf gyflawniad fy ngwaith.'
13:33 Eto, heddiw ac yfory a thrennydd y mae'n rhaid imi fynd ar fy nhaith, oherwydd ni ddichon i broffwyd farw y tu allan i Jerwsalem.
13:34 Jerwsalem, Jerwsalem, tydi sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r rhai a anfonwyd atat, mor aml y dymunais gasglu dy blant ynghyd, fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd, ond gwrthod a wnaethoch.
13:35 Wele, y mae eich tŷ yn cael ei adael yn anghyfannedd. Ac rwy'n dweud wrthych, ni chewch fy ngweld hyd y dydd pan ddywedwch, 'Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.'"

Iacháu'r Dyn â Dropsi arno

14:1 Aeth i mewn i dŷ un o arweinwyr y Phariseaid ar y Saboth am bryd o fwyd; ac yr oeddent hwy â'u llygaid arno.
14:2 Ac yno ger ei fron yr oedd dyn â'r dropsi arno.
14:3 A llefarodd Iesu wrth athrawon y Gyfraith a'r Phariseaid, gan ddweud, "A yw'n gyfreithlon iacháu ar y Saboth, ai nid yw?"
14:4 Ond ni ddywedasant hwy ddim. Yna cymerodd y claf a'i iacháu a'i anfon ymaith.
14:5 Ac meddai wrthynt, "Pe bai mab neu ych unrhyw un ohonoch yn syrthio i bydew, oni fyddech yn ei dynnu allan ar unwaith, hyd yn oed ar y dydd Saboth?"
14:6 Ni allent gynnig unrhyw ateb i hyn.

Gwers i'r Gwesteion ac i Wahoddwr

14:7 Yna adroddodd ddameg wrth y gwesteion, wrth iddo sylwi sut yr oeddent yn dewis y seddau anrhydedd:
14:8 "Pan wahoddir di gan rywun i wledd briodas, paid â chymryd y lle anrhydedd, rhag ofn ei fod wedi gwahodd rhywun amlycach na thi;
14:9 oherwydd os felly, daw'r sawl a'ch gwahoddodd chwi'ch dau a dweud wrthyt, 'Rho dy le i hwn', ac yna byddi dithau mewn cywilydd yn cymryd y lle isaf.
14:10 Yn hytrach, pan wahoddir di, dos a chymer y lle isaf, fel pan ddaw'r gwahoddwr y dywed wrthyt, 'Gyfaill, tyrd yn uwch'; yna dangosir parch iti yng ngŵydd dy holl gyd-westeion.
14:11 Oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun."
14:12 Meddai hefyd wrth ei wahoddwr, "Pan fyddi'n trefnu cinio neu swper, paid â gwahodd dy gyfeillion na'th frodyr na'th berthnasau na'th gymdogion cyfoethog, rhag ofn iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac iti gael dy ad-dalu.
14:13 Pan fyddi'n trefnu gwledd, gwahodd yn hytrach y tlodion, yr anafusion, y cloffion, a'r deillion;
14:14 a gwyn fydd dy fyd, am nad oes ganddynt fodd i dalu'n ôl iti; cei dy dalu'n ôl yn atgyfodiad y cyfiawn."

Dameg y Wledd Fawr, Mth. 22:1-10

14:15 Clywodd un o'i gyd-westeion hyn ac meddai wrtho, "Gwyn ei fyd pwy bynnag a gaiff gyfran yn y wledd yn nheyrnas Dduw."
14:16 Ond meddai ef wrtho, "Yr oedd dyn yn trefnu gwledd fawr. Gwahoddodd lawer o bobl,
14:17 ac anfonodd ei was ar awr y wledd i ddweud wrth y gwahoddedigion, 'Dewch, y mae popeth yn barod yn awr.'
14:18 Ond dechreuodd pawb ymesgusodi yn unfryd. Meddai'r cyntaf wrtho, 'Rwyf wedi prynu cae, ac y mae'n rhaid imi fynd allan i gael golwg arno; a wnei di fy esgusodi, os gweli di'n dda?'
14:19 Meddai un arall, 'Rwyf wedi prynu pum pâr o ychen, ac rwyf ar fy ffordd i roi prawf arnynt; a wnei di fy esgusodi, os gweli di'n dda?'
14:20 Ac meddai un arall, 'Rwyf newydd briodi, ac am hynny ni allaf ddod.'
14:21 Aeth y gwas at ei feistr a rhoi gwybod iddo. Yna digiodd meistr y tŷ, ac meddai wrth ei was, 'Dos allan ar unwaith i heolydd a strydoedd cefn y dref, a thyrd â'r tlodion a'r anafusion a'r deillion a'r cloffion i mewn yma.'
14:22 Pan ddywedodd y gwas, 'Meistr, y mae dy orchymyn wedi ei gyflawni, ond y mae lle o hyd',
14:23 meddai ei feistr wrtho, 'Dos allan i'r ffyrdd ac i'r cloddiau, a myn ganddynt hwy ddod i mewn, fel y llenwir fy nhŷ;
14:24 oherwydd rwy'n dweud wrthych na chaiff dim un o'r rheini oedd wedi eu gwahodd brofi fy ngwledd.'"

Cost Bod yn Ddisgybl

14:25 Yr oedd tyrfaoedd niferus yn teithio gydag ef, a throes a dweud wrthynt,
14:26 "Os daw rhywun ataf fi heb gasáu ei dad ei hun, a'i fam a'i wraig a'i blant a'i frodyr a'i chwiorydd, a hyd yn oed ei fywyd ei hun, ni all fod yn ddisgybl imi.
14:27 Pwy bynnag nad yw'n cario ei groes ei hun ac yn dod ar fy ôl i, ni all fod yn ddisgybl imi.
14:28 Oherwydd os bydd un ohonoch chwi yn dymuno adeiladu tŵr, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i gyfrif y gost, er mwyn gweld a oes ganddo ddigon i gwblhau'r gwaith?
14:29 Onid e, fe all ddigwydd iddo osod y sylfaen ac wedyn fethu gorffen, nes bod pawb sy'n gwylio yn mynd ati i'w watwar
14:30 gan ddweud, 'Dyma rywun a ddechreuodd adeiladu ac a fethodd orffen.'
14:31 Neu os bydd brenin ar ei ffordd i ryfela yn erbyn brenin arall, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i ystyried a all ef, â deng mil o filwyr, wrthsefyll un sy'n ymosod arno ag ugain mil?
14:32 Os na all, bydd yn anfon llysgenhadon i geisio telerau heddwch tra bo'r llall o hyd ymhell i ffwrdd.
14:33 Yr un modd, gan hynny, ni all neb ohonoch nad yw'n ymwrthod â'i holl feddiannau fod yn ddisgybl i mi.

Halen Di-flas, Mth. 5:13; Mc. 9:50

14:34 "Peth da yw halen. Ond os cyll yr halen ei hun ei flas, â pha beth y rhoddir blas arno?
14:35 Nid yw'n dda i'r pridd nac i'r domen; lluchir ef allan. Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed."

Dameg y Ddafad Golledig, Mth. 18:12-14

15:1 Yr oedd yr holl gasglwyr trethi a'r pechaduriaid yn nesáu ato i wrando arno.
15:2 Ond yr oedd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion yn grwgnach ymhlith ei gilydd, gan ddweud, "Y mae hwn yn croesawu pechaduriaid ac yn cydfwyta gyda hwy."
15:3 A dywedodd ef y ddameg hon wrthynt:
15:4 "Bwriwch fod gan un ohonoch chwi gant o ddefaid, a digwydd iddo golli un ohonynt; onid yw'n gadael y naw deg a naw yn yr anialdir ac yn mynd ar ôl y ddafad golledig nes dod o hyd iddi?
15:5 Wedi dod o hyd iddi y mae'n ei gosod ar ei ysgwyddau yn llawen,
15:6 yn mynd adref, ac yn gwahodd ei gyfeillion a'i gymdogion ynghyd, gan ddweud wrthynt, 'Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'm dafad golledig.'
15:7 Rwy'n dweud wrthych, yr un modd bydd mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy'n edifarhau nag am naw deg a naw o rai cyfiawn nad oes arnynt angen edifeirwch.

Dameg y Darn Arian Colledig

15:8 "Neu bwriwch fod gan wraig ddeg darn arian, a digwydd iddi golli un darn; onid yw hi'n cynnau cannwyll ac yn ysgubo'r tŷ ac yn chwilio'n ddyfal nes dod o hyd iddo?
15:9 Ac wedi dod o hyd iddo, y mae'n gwahodd ei chyfeillesau a'i chymdogion ynghyd, gan ddweud, 'Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'r darn arian a gollais.'
15:10 Yr un modd, rwy'n dweud wrthych, y mae llawenydd ymhlith angylion Duw am un pechadur sy'n edifarhau."

Dameg y Mab Colledig

15:11 Ac meddai, "Yr oedd dyn a chanddo ddau fab.
15:12 Dywedodd yr ieuengaf ohonynt wrth ei dad, 'Fy nhad, dyro imi'r gyfran o'th ystad sydd i ddod imi.' A rhannodd yntau ei eiddo rhyngddynt.
15:13 Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, wedi newid y cwbl am arian, ymfudodd y mab ieuengaf i wlad bell, ac yno gwastraffodd ei eiddo ar fyw'n afradlon.
15:14 Pan oedd wedi gwario'r cyfan, daeth newyn enbyd ar y wlad honno, a dechreuodd yntau fod mewn eisiau.
15:15 Aeth ac ymlynu wrth un o ddinasyddion y wlad, ac anfonodd hwnnw ef i'w gaeau i ofalu am y moch.
15:16 Buasai'n falch o wneud pryd o'r plisg yr oedd y moch yn eu bwyta; ond nid oedd neb yn cynnig dim iddo.
15:17 Yna daeth ato'i hun a dweud, 'Faint o weision cyflog sydd gan fy nhad, a phob un ohonynt yn cael mwy na digon o fara, a minnau yma yn marw o newyn?
15:18 Fe godaf, ac fe af at fy nhad a dweud wrtho, "Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di.
15:19 Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw'n fab iti; cymer fi fel un o'th weision cyflog."'
15:20 Yna cododd a mynd at ei dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes ei freichiau am ei wddf a'i gusanu.
15:21 Ac meddai ei fab wrtho, 'Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw'n fab iti.'
15:22 Ond meddai ei dad wrth ei weision, 'Brysiwch! Dewch â gwisg allan, yr orau, a'i gosod amdano. Rhowch fodrwy ar ei fys a sandalau am ei draed.
15:23 Dewch â'r llo sydd wedi ei besgi, a lladdwch ef. Gadewch inni wledda a llawenhau,
15:24 oherwydd yr oedd hwn, fy mab, wedi marw, a daeth yn fyw eto; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.' Yna dechreusant wledda yn llawen.
15:25 "Yr oedd ei fab hynaf yn y caeau. Pan nesaodd at y tŷ ar ei ffordd adref, clywodd sŵn cerddoriaeth a dawnsio.
15:26 Galwodd un o'r gweision ato a gofyn beth oedd ystyr hyn.
15:27 'Dy frawd sydd wedi dychwelyd,' meddai ef wrtho, 'ac am iddo ei gael yn ôl yn holliach, y mae dy dad wedi lladd y llo oedd wedi ei besgi.'
15:28 Digiodd ef, a gwrthod mynd i mewn. Daeth ei dad allan a'i gymell yn daer i'r tŷ,
15:29 ond atebodd ef, 'Yr holl flynyddoedd hyn bûm yn was bach iti, heb anufuddhau erioed i'th orchymyn. Ni roddaist erioed i mi gymaint â myn gafr, imi gael gwledda gyda'm cyfeillion.
15:30 Ond pan ddychwelodd hwn, dy fab sydd wedi difa dy eiddo gyda phuteiniaid, lleddaist iddo ef y llo oedd wedi ei besgi.'
15:31 'Fy mhlentyn,' meddai'r tad wrtho, 'yr wyt ti bob amser gyda mi, ac y mae'r cwbl sydd gennyf yn eiddo i ti.
15:32 Yr oedd yn rhaid gwledda a llawenhau, oherwydd yr oedd hwn, dy frawd, wedi marw, a daeth yn fyw; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.'"

Dameg y Goruchwyliwr Anonest

16:1 Dywedodd wrth ei ddisgyblion hefyd, "Yr oedd dyn cyfoethog a chanddo oruchwyliwr. Achwynwyd wrth ei feistr fod hwn yn gwastraffu ei eiddo ef.
16:2 Galwodd ef ato a dweud wrtho, 'Beth yw'r hanes hwn amdanat? Dyro imi gyfrifon dy oruchwyliaeth, oherwydd ni elli gadw dy swydd bellach.'
16:3 Yna meddai'r goruchwyliwr wrtho'i hun, 'Beth a wnaf fi? Y mae fy meistr yn cymryd fy swydd oddi arnaf. Nid oes gennyf mo'r nerth i labro, ac y mae arnaf gywilydd cardota.
16:4 Fe wn i beth a wnaf i gael croeso i gartrefi pobl pan ddiswyddir fi.'
16:5 Galwodd ato bob un o ddyledwyr ei feistr, ac meddai wrth y cyntaf, 'Faint sydd arnat i'm meistr?'
16:6 Atebodd yntau, 'Mil o fesurau o olew olewydd.' 'Cymer dy gyfrif,' meddai ef, 'eistedd i lawr, ac ysgrifenna ar unwaith "bum cant."'
16:7 Yna meddai wrth un arall, 'A thithau, faint sydd arnat ti?' Atebodd yntau, 'Mil o fesurau o rawn.' 'Cymer dy gyfrif,' meddai ef, 'ac ysgrifenna "wyth gant."'
16:8 Cymeradwyodd y meistr y goruchwyliwr anonest am iddo weithredu yn gall; oherwydd y mae plant y byd hwn yn gallach na phlant y goleuni yn eu hymwneud â'u tebyg.
16:9 Ac rwyf fi'n dweud wrthych, gwnewch gyfeillion i chwi eich hunain o'r Mamon anonest, er mwyn i chwi gael croeso i'r tragwyddol bebyll pan ddaw dydd Mamon i ben.
16:10 Y mae rhywun sy'n gywir yn y pethau lleiaf yn gywir yn y pethau mawr hefyd, a'r un sy'n anonest yn y pethau lleiaf yn anonest yn y pethau mawr hefyd.
16:11 Gan hynny, os na fuoch yn gywir wrth drin y Mamon anonest, pwy a ymddirieda i chwi y gwir olud?
16:12 Ac os na fuoch yn gywir wrth drin eiddo pobl eraill, pwy a rydd i chwi eich eiddo eich hunain?
16:13 Ni all unrhyw was wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casáu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon."

Y Gyfraith a Theyrnas Dduw

16:14 Yr oedd y Phariseaid, sy'n bobl ariangar, yn gwrando ar hyn oll ac yn ei watwar.
16:15 Ac meddai wrthynt, "Chwi yw'r rhai sy'n ceisio eu cyfiawnhau eu hunain yng ngolwg y cyhoedd, ond y mae Duw yn adnabod eich calonnau; oherwydd yr hyn sydd aruchel yng ngolwg y cyhoedd, ffieiddbeth yw yng ngolwg Duw.
16:16 Y Gyfraith a'r proffwydi oedd mewn grym hyd at Ioan; oddi ar hynny, y mae'r newydd da am deyrnas Dduw yn cael ei gyhoeddi, a phawb yn ceisio mynediad iddi trwy drais.
16:17 Ond byddai'n haws i'r nef a'r ddaear ddarfod nag i fanylyn lleiaf y Gyfraith golli ei rym.
16:18 Y mae pob un sy'n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall yn godinebu, ac y mae'r dyn sy'n priodi gwraig a ysgarwyd gan ei gŵr yn godinebu.

Y Dyn Cyfoethog a Lasarus

16:19 "Yr oedd dyn cyfoethog oedd yn arfer gwisgo porffor a lliain main, ac yn gwledda'n wych bob dydd.
16:20 Wrth ei ddrws gorweddai dyn tlawd, o'r enw Lasarus, yn llawn cornwydydd,
16:21 ac yn dyheu am wneud pryd o'r hyn a syrthiai oddi ar fwrdd y dyn cyfoethog; ac yn wir byddai'r cŵn yn dod i lyfu ei gornwydydd.
16:22 Bu farw'r dyn tlawd, a dygwyd ef ymaith gan yr angylion i wledda wrth ochr Abraham. Bu farw'r dyn cyfoethog yntau, a chladdwyd ef.
16:23 Yn Hades, ac yntau mewn poen arteithiol, cododd ei lygaid a gweld Abraham o bell, a Lasarus wrth ei ochr.
16:24 A galwodd, 'Abraham, fy nhad, trugarha wrthyf; anfon Lasarus i wlychu blaen ei fys mewn dŵr ac i oeri fy nhafod, oherwydd yr wyf mewn ingoedd yn y tân hwn.'
16:25 'Fy mhlentyn,' meddai Abraham, 'cofia iti dderbyn dy wynfyd yn ystod dy fywyd, a Lasarus yr un modd ei adfyd; yn awr y mae ef yma yn cael ei ddiddanu, a thithau yn dioddef mewn ingoedd.
16:26 Heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwi y mae agendor llydan wedi ei osod, rhag i neb a ddymunai hynny groesi oddi yma atoch chwi, neu gyrraedd oddi yna atom ni.'
16:27 Atebodd ef, 'Os felly, fy nhad, rwy'n erfyn arnat ei anfon ef i dŷ fy nhad,
16:28 at y pum brawd sydd gennyf, i'w rhybuddio am y cyfan, rhag iddynt hwythau ddod i'w harteithio yn y lle hwn.'
16:29 Ond dywedodd Abraham, 'Y mae Moses a'r proffwydi ganddynt; dylent wrando arnynt hwy.'
16:30 'Nage, Abraham, fy nhad,' atebodd ef, 'ond os â rhywun atynt oddi wrth y meirw, fe edifarhânt.'
16:31 Ond meddai ef wrtho, 'Os nad ydynt yn gwrando ar Moses a'r proffwydi, yna ni chânt eu hargyhoeddi hyd yn oed os atgyfoda rhywun o blith y meirw.'"

Rhai o Ddywediadau Iesu, Mth. 18:6-7, 21-22; Mc. 9:42

17:1 Dywedodd wrth ei ddisgyblion, "Y mae achosion cwymp yn rhwym o ddod, ond gwae'r sawl sy'n gyfrifol amdanynt;
17:2 byddai'n well iddo fod wedi ei daflu i'r môr â maen melin ynghrog am ei wddf, nag iddo fod yn achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn.
17:3 Cymerwch ofal. Os pecha dy gyfaill, cerydda ef; os edifarha, maddau iddo;
17:4 os pecha yn dy erbyn saith gwaith mewn diwrnod, ac eto troi'n ôl atat saith gwaith gan ddweud, 'Y mae'n edifar gennyf', maddau iddo."
17:5 Meddai'r apostolion wrth yr Arglwydd, "Cryfha ein ffydd."
17:6 Ac meddai'r Arglwydd, "Pe bai gennych ffydd gymaint â hedyn mwstard, fe allech ddweud wrth y forwydden hon, 'Coder dy wreiddiau a phlanner di yn y môr', a byddai'n ufuddhau i chwi.
17:7 "Os oes gan un ohonoch was sy'n aredig neu'n bugeilio, a fydd yn dweud wrtho pan ddaw i mewn o'r caeau, 'Tyrd yma ar unwaith a chymer dy le wrth y bwrdd'?
17:8 Na, yr hyn a ddywed fydd, 'Paratoa swper imi; torcha dy wisg a gweina arnaf nes imi orffen bwyta ac yfed; ac wedyn cei fwyta ac yfed dy hun.'
17:9 A yw'n diolch i'w was am gyflawni'r gorchmynion a gafodd?
17:10 Felly chwithau; pan fyddwch wedi cyflawni'r holl orchmynion a gawsoch, dywedwch, 'Gweision ydym, heb unrhyw deilyngdod; cyflawni ein dyletswydd a wnaethom.'"

Glanhau Deg o Wahangleifion

17:11 Yr oedd ef, ar ei ffordd i Jerwsalem, yn mynd trwy'r wlad rhwng Samaria a Galilea,
17:12 ac yn mynd i mewn i ryw bentref, pan ddaeth deg o ddynion gwahanglwyfus i gyfarfod ag ef. Safasant bellter oddi wrtho
17:13 a chodi eu lleisiau arno: "Iesu, feistr, trugarha wrthym."
17:14 Gwelodd ef hwy ac meddai wrthynt, "Ewch i'ch dangos eich hunain i'r offeiriaid." Ac ar eu ffordd yno, fe'u glanhawyd hwy.
17:15 Ac un ohonynt, pan welodd ei fod wedi ei iacháu, a ddychwelodd gan ogoneddu Duw â llais uchel.
17:16 Syrthiodd ar ei wyneb wrth draed Iesu gan ddiolch iddo; a Samariad oedd ef.
17:17 Atebodd Iesu, "Oni lanhawyd y deg? Ble mae'r naw?
17:18 Ai'r estron hwn yn unig a gafwyd i ddychwelyd ac i roi gogoniant i Dduw?"
17:19 Yna meddai wrtho, "Cod, a dos ar dy hynt; dy ffydd sydd wedi dy iacháu di."

Dyfodiad y Deyrnas, Mth. 24:23-28, 37-41

17:20 Gofynnwyd iddo gan y Phariseaid pryd y deuai teyrnas Dduw. Atebodd hwy, "Nid rhywbeth i wylio amdano yw dyfodiad teyrnas Dduw.
17:21 Ni bydd pobl yn dweud, 'Dyma hi', neu 'Dacw hi'; edrychwch, y mae teyrnas Dduw yn eich plith chwi."
17:22 Ac meddai wrth ei ddisgyblion, "Daw dyddiau pan fyddwch yn dyheu am gael gweld un o ddyddiau Mab y Dyn, ac ni welwch mohono.
17:23 Dywedant wrthych, 'Dacw ef', neu 'Dyma ef'; peidiwch â mynd, peidiwch â rhedeg ar eu hôl.
17:24 Oherwydd fel y fellten sy'n fflachio o'r naill gwr o'r nef hyd y llall, felly y bydd Mab y Dyn yn ei ddydd ef.
17:25 Ond yn gyntaf y mae'n rhaid iddo ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan y genhedlaeth hon.
17:26 Ac fel y bu hi yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd hi yn nyddiau Mab y Dyn:
17:27 yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn cymryd gwragedd, yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch ac y daeth y dilyw a difa pawb.
17:28 Fel y bu hi yn nyddiau Lot: yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu;
17:29 ond y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, fe lawiodd tân a brwmstan o'r nef a difa pawb.
17:30 Yn union felly y bydd hi yn y dydd y datguddir Mab y Dyn.
17:31 Y dydd hwnnw, os bydd rhywun ar y to, a'i bethau yn y tŷ, peidied â mynd i lawr i'w cipio; a'r un modd peidied neb fydd yn y cae â throi yn ei ôl.
17:32 Cofiwch wraig Lot.
17:33 Pwy bynnag a gais gadw ei fywyd ei hun, fe'i cyll, a phwy bynnag a'i cyll, fe'i ceidw yn fyw.
17:34 Rwy'n dweud wrthych, y nos honno bydd dau mewn un gwely; cymerir y naill a gadewir y llall.
17:35 Bydd dwy wraig yn malu yn yr un lle; cymerir y naill a gadewir y llall."
17:36 [Bydd dau yn y cae; cymerir y naill a gadewir y llall.]
17:37 Ac atebasant hwythau ef, "Ble, Arglwydd?" Meddai ef wrthynt, "Lle bydd y gelain, yno yr heidia'r fwlturiaid."

Dameg y Weddw a'r Barnwr

18:1 Dywedodd ddameg wrthynt i ddangos fod yn rhaid iddynt weddïo bob amser yn ddiflino:
18:2 "Mewn rhyw dref yr oedd barnwr. Nid oedd yn ofni Duw nac yn parchu eraill.
18:3 Yn y dref honno yr oedd hefyd wraig weddw a fyddai'n mynd ger ei fron ac yn dweud, 'Rho imi ddedfryd gyfiawn yn erbyn fy ngwrthwynebwr.'
18:4 Am hir amser daliodd i'w gwrthod, ond yn y diwedd meddai wrtho'i hun, 'Er nad wyf yn ofni Duw nac yn parchu eraill,
18:5 eto, am fod y wraig weddw yma yn fy mhoeni o hyd, fe roddaf iddi'r ddedfryd, rhag iddi ddal i ddod a'm plagio i farwolaeth.'"
18:6 Ac meddai'r Arglwydd, "Clywch eiriau'r barnwr anghyfiawn.
18:7 A fydd Duw yn gwrthod cyfiawnder i'w etholedigion, sy'n galw'n daer arno ddydd a nos? A fydd ef yn oedi yn eu hachos hwy?
18:8 Rwy'n dweud wrthych y rhydd ef gyfiawnder iddynt yn ebrwydd. Ond eto, pan ddaw Mab y Dyn, a gaiff ef ffydd ar y ddaear?"

Dameg y Pharisead a'r Casglwr Trethi

18:9 Dywedodd hefyd y ddameg hon wrth rai oedd yn sicr eu bod hwy eu hunain yn gyfiawn, ac yn dirmygu pawb arall:
18:10 "Aeth dau ddyn i fyny i'r deml i weddïo, y naill yn Pharisead a'r llall yn gasglwr trethi.
18:11 Safodd y Pharisead wrtho'i hun a gweddïo fel hyn: 'O Dduw, yr wyf yn diolch iti am nad wyf fi fel pawb arall, yn rheibus, yn anghyfiawn, yn odinebus, na chwaith fel y casglwr trethi yma.
18:12 Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yr wythnos, ac yn talu degwm ar bopeth a gaf.'
18:13 Ond yr oedd y casglwr trethi yn sefyll ymhell i ffwrdd, heb geisio cymaint â chodi ei lygaid tua'r nef; yr oedd yn curo ei fron gan ddweud, 'O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur.'
18:14 Rwy'n dweud wrthych, dyma'r un a aeth adref wedi ei gyfiawnhau, nid y llall; oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun."
18:15 Yr oeddent yn dod â'u babanod hefyd ato, iddo gyffwrdd â hwy, ond wrth weld hyn dechreuodd y disgyblion eu ceryddu.
18:16 Ond galwodd Iesu'r plant ato gan ddweud, "Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.
18:17 Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi."

Y Llywodraethwr Ifanc Cyfoethog, Mth. 19:16-30; Mc. 10:17-31

18:18 Gofynnodd rhyw lywodraethwr iddo, "Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?"
18:19 Dywedodd Iesu wrtho, "Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw.
18:20 Gwyddost y gorchmynion: 'Na odineba, na ladd, na ladrata, na chamdystiolaetha, anrhydedda dy dad a'th fam.'"
18:21 Meddai yntau, "Yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd o'm hieuenctid."
18:22 Pan glywodd Iesu hyn, dywedodd wrtho, "Un peth sydd ar ôl i ti ei wneud: gwerth y cwbl sydd gennyt, a rhanna ef ymhlith y tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi."
18:23 Ond pan glywodd ef hyn, aeth yn drist iawn, oherwydd yr oedd yn gyfoethog dros ben.
18:24 Pan welodd Iesu ef wedi tristáu, meddai, "Mor anodd yw hi i'r rhai goludog fynd i mewn i deyrnas Dduw!
18:25 Oherwydd y mae'n haws i gamel fynd i mewn trwy grau nodwydd nag i'r cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw."
18:26 Ac meddai'r gwrandawyr, "Pwy ynteu all gael ei achub?"
18:27 Atebodd yntau, "Y mae'r hyn sy'n amhosibl gyda dynion yn bosibl gyda Duw."
18:28 Yna dywedodd Pedr, "Dyma ni wedi gadael ein heiddo a'th ganlyn di."
18:29 Ond meddai ef wrthynt, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad oes neb a adawodd dŷ neu wraig neu frodyr neu rieni neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,
18:30 na chaiff dderbyn yn ôl lawer gwaith cymaint yn yr amser hwn, ac yn yr oes sy'n dod fywyd tragwyddol."

Iesu Unwaith Eto yn Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad, Mth. 20:17-19; Mc. 10:32-34

18:31 Cymerodd y Deuddeg gydag ef a dweud wrthynt, "Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem, a chyflawnir ar Fab y Dyn bob peth sydd wedi ei ysgrifennu trwy'r proffwydi;
18:32 oherwydd caiff ei drosglwyddo i'r Cenhedloedd, a'i watwar a'i gam-drin, a phoeri arno;
18:33 ac wedi ei fflangellu lladdant ef, a'r trydydd dydd fe atgyfoda." Nid oeddent hwy yn deall dim o hyn;
18:34 yr oedd y peth hwn wedi ei guddio rhagddynt, a'i eiriau y tu hwnt i'w hamgyffred.

Iacháu Cardotyn Dall ger Jericho, Mth. 20:29-34; Mc. 10:46-52

18:35 Wrth iddo nesáu at Jericho, yr oedd dyn dall yn eistedd ar fin y ffordd yn cardota.
18:36 Pan glywodd y dyrfa yn dod gofynnodd beth oedd hynny,
18:37 a mynegwyd iddo fod Iesu o Nasareth yn mynd heibio.
18:38 Bloeddiodd yntau, "Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf."
18:39 Yr oedd y rhai ar y blaen yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd ef yn gweiddi'n uwch fyth, "Fab Dafydd, trugarha wrthyf."
18:40 Safodd Iesu, a gorchymyn dod ag ef ato. Wedi i'r dyn nesáu gofynnodd Iesu iddo,
18:41 "Beth yr wyt ti am i mi ei wneud iti?" Meddai ef, "Syr, mae arnaf eisiau cael fy ngolwg yn ôl."
18:42 Dywedodd Iesu wrtho, "Derbyn dy olwg yn ôl; dy ffydd sydd wedi dy iacháu di."
18:43 Cafodd ei olwg yn ôl ar unwaith, a dechreuodd ei ganlyn ef gan ogoneddu Duw. Ac o weld hyn rhoddodd yr holl bobl foliant i Dduw.

Iesu a Sacheus

19:1 Yr oedd wedi dod i mewn i Jericho, ac yn mynd trwy'r dref.
19:2 Dyma ddyn o'r enw Sacheus, un oedd yn brif gasglwr trethi ac yn ŵr cyfoethog,
19:3 yn ceisio gweld prun oedd Iesu; ond yr oedd yno ormod o dyrfa, ac yntau'n ddyn byr.
19:4 Rhedodd ymlaen a dringo sycamorwydden er mwyn gweld Iesu, oherwydd yr oedd ar fynd heibio y ffordd honno.
19:5 Pan ddaeth Iesu at y fan, edrychodd i fyny a dweud wrtho, "Sacheus, tyrd i lawr ar dy union; y mae'n rhaid imi aros yn dy dŷ di heddiw."
19:6 Daeth ef i lawr ar ei union a'i groesawu yn llawen.
19:7 Pan welsant hyn, dechreuodd pawb rwgnach ymhlith ei gilydd gan ddweud, "Y mae wedi mynd i letya at ddyn pechadurus."
19:8 Ond safodd Sacheus yno, ac meddai wrth yr Arglwydd, "Dyma hanner fy eiddo, syr, yn rhodd i'r tlodion; os mynnais arian ar gam gan neb, fe'i talaf yn ôl bedair gwaith."
19:9 "Heddiw," meddai Iesu wrtho, "daeth iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, oherwydd mab i Abraham yw'r gŵr hwn yntau.
19:10 Daeth Mab y Dyn i geisio ac i achub y colledig."

Dameg y Deg Darn Aur, Mth. 25:14-30

19:11 Tra oeddent yn gwrando ar hyn, fe aeth ymlaen i ddweud dameg, am ei fod yn agos i Jerwsalem a hwythau'n tybied fod teyrnas Dduw i ymddangos ar unwaith.
19:12 Meddai gan hynny, "Aeth dyn o uchel dras i wlad bell i gael ei wneud yn frenin, ac yna dychwelyd i'w deyrnas.
19:13 Galwodd ato ddeg o'i weision a rhoi darn aur bob un iddynt, gan ddweud wrthynt, 'Ewch i fasnachu nes imi ddychwelyd.'
19:14 Ond yr oedd ei ddeiliaid yn ei gasáu, ac anfonasant lysgenhadon ar ei ôl i ddatgan: 'Ni fynnwn hwn yn frenin arnom.'
19:15 Ond dychwelodd ef wedi ei wneud yn frenin, a gorchmynnodd alw ato y gweision hynny yr oedd wedi rhoi'r arian iddynt, i gael gwybod pa lwyddiant yr oeddent wedi ei gael.
19:16 Daeth y cyntaf ato gan ddweud, 'Meistr, y mae dy ddarn aur wedi ennill ato ddeg darn arall.'
19:17 'Ardderchog, fy ngwas da,' meddai yntau wrtho. 'Am iti fod yn ffyddlon yn y pethau lleiaf, yr wyf yn dy benodi yn llywodraethwr ar ddeg tref.'
19:18 Daeth yr ail gan ddweud, 'Y mae dy ddarn aur, Meistr, wedi gwneud pum darn.'
19:19 'Tithau hefyd,' meddai wrth hwn yn ei dro, 'bydd yn bennaeth ar bum tref.'
19:20 Yna daeth y trydydd gan ddweud, 'Meistr, dyma dy ddarn aur. Fe'i cedwais yn ddiogel mewn cadach.
19:21 Yr oedd arnaf dy ofn di. Yr wyt yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill.'
19:22 'Â'th eiriau dy hun,' atebodd ef, 'y'th gondemniaf, y gwas drwg. Yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill.
19:23 Pam felly na roddaist fy arian mewn banc? Buasai wedi ennill llog erbyn imi ddod i'w godi.'
19:24 Yna meddai wrth y rhai oedd yno, 'Cymerwch y darn aur oddi arno a rhowch ef i'r un a chanddo ddeg darn.'
19:25 'Meistr,' meddent hwy wrtho, 'y mae ganddo ddeg darn yn barod.'
19:26 Rwy'n dweud wrthych, i bawb y mae ganddynt y rhoddir, ond oddi ar y rhai nad oes ganddynt fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddynt.
19:27 A'm gelynion, y rheini na fynnent fi yn frenin arnynt, dewch â hwy yma a lladdwch hwy yn fy ngŵydd."

Yr Ymdaith Fuddugoliaethus i mewn i Jerwsalem, Mth. 21:1-11; Mc. 11:1-11; In. 12:12-19

19:28 Wedi dweud hyn aeth rhagddo ar ei ffordd i fyny i Jerwsalem, gan gerdded ar y blaen.
19:29 Pan gyrhaeddodd yn agos i Bethffage a Bethania, ger y mynydd a elwir Olewydd, anfonodd ddau o'i ddisgyblion
19:30 gan ddweud, "Ewch i'r pentref gyferbyn. Wrth ichwi ddod i mewn iddo cewch yno ebol wedi ei rwymo, un nad oes neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma.
19:31 Ac os bydd rhywun yn gofyn i chwi, 'Pam yr ydych yn ei ollwng?', dywedwch fel hyn: 'Y mae ar y Meistr ei angen.'"
19:32 Aeth y rhai a anfonwyd, a chael yr ebol, fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt.
19:33 Pan oeddent yn gollwng yr ebol, meddai ei berchenogion wrthynt, "Pam yr ydych yn gollwng yr ebol?"
19:34 Atebasant hwythau, "Y mae ar y Meistr ei angen,"
19:35 a daethant ag ef at Iesu. Yna taflasant eu mentyll ar yr ebol, a gosod Iesu ar ei gefn.
19:36 Wrth iddo fynd yn ei flaen, yr oedd pobl yn taenu eu mentyll ar y ffordd.
19:37 Pan oedd yn nesáu at y ffordd sy'n disgyn o Fynydd yr Olewydd, dech-reuodd holl dyrfa ei ddisgyblion yn eu llawenydd foli Duw â llais uchel am yr holl wyrthiau yr oeddent wedi eu gweld,
19:38 gan ddweud: "Bendigedig yw'r un sy'n dod yn frenin yn enw'r Arglwydd; yn y nef, tangnefedd, a gogoniant yn y goruchaf."
19:39 Ac meddai rhai o'r Phariseaid wrtho o'r dyrfa, "Athro, cerydda dy ddisgyblion."
19:40 Atebodd yntau, "Rwy'n dweud wrthych, os bydd y rhain yn tewi, bydd y cerrig yn gweiddi."
19:41 Pan ddaeth yn agos a gweld y ddinas, wylodd drosti
19:42 gan ddweud, "Pe bait tithau, y dydd hwn, wedi adnabod ffordd tangnefedd — ond na, fe'i cuddiwyd rhag dy lygaid.
19:43 Oherwydd daw arnat ddyddiau pan fydd dy elynion yn codi clawdd yn dy erbyn, ac yn dy amgylchynu ac yn gwasgu arnat o bob tu.
19:44 Fe'th ddymchwelant hyd dy seiliau, ti a'th blant o'th fewn; ni adawant faen ar faen ynot ti, oherwydd dy fod heb adnabod yr amser pan ymwelwyd â thi."

Glanhau'r Deml, Mth. 21:12-17; Mc. 11:15-19; In. 2:13-22

19:45 Aeth i mewn i'r deml a dechrau bwrw allan y rhai oedd yn gwerthu,
19:46 gan ddweud wrthynt, "Y mae'n ysgrifenedig: 'A bydd fy nhŷ i yn dŷ gweddi, ond gwnaethoch chwi ef yn ogof lladron.'"
19:47 Yr oedd yn dysgu o ddydd i ddydd yn y deml. Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, ynghyd ag arweinwyr y bobl, yn ceisio modd i'w ladd,
19:48 ond heb daro ar ffordd i wneud hynny, oherwydd fod yr holl bobl yn gwrando arno ac yn dal ar ei eiriau.

Amau Awdurdod Iesu, Mth. 21:23-27; Mc. 11:27-33

20:1 Un o'r dyddiau pan oedd ef yn dysgu'r bobl yn y deml ac yn cyhoeddi'r newydd da, daeth y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, ynghyd â'r henuriaid, ato,
20:2 ac meddent wrtho, "Dywed wrthym trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn, neu pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn."
20:3 Atebodd ef hwy, "Fe ofynnaf finnau rywbeth i chwi. Dywedwch wrthyf:
20:4 bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o'r byd daearol?"
20:5 Dadleusant â'i gilydd gan ddweud, "Os dywedwn, 'o'r nef', fe ddywed, 'Pam na chredasoch ef?'
20:6 Ond os dywedwn, 'O'r byd daearol', bydd yr holl bobl yn ein llabyddio, oherwydd y maent yn argyhoeddedig fod Ioan yn broffwyd."
20:7 Ac atebasant nad oeddent yn gwybod o ble'r oedd.
20:8 Meddai Iesu wrthynt, "Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn."

Dameg y Winllan a'r Tenantiaid, Mth. 21:33-46; Mc. 12:1-12

20:9 Dechreuodd ddweud y ddameg hon wrth y bobl: "Fe blannodd rhywun winllan, ac wedi iddo ei gosod hi i denantiaid, aeth oddi cartref am amser hir.
20:10 Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid iddynt roi iddo gyfran o ffrwyth y winllan. Ond ei guro a wnaeth y tenantiaid, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.
20:11 Anfonodd ef was arall, ond curasant hwn hefyd a'i amharchu, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.
20:12 Anfonodd ef drachefn drydydd, ond clwyfasant hwn hefyd a'i fwrw allan.
20:13 Yna meddai perchen y winllan, 'Beth a wnaf fi? Fe anfonaf fy mab, yr anwylyd; efallai y parchant ef.'
20:14 Ond pan welodd y tenantiaid hwn, dechreusant drafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, 'Hwn yw'r etifedd; lladdwn ef, er mwyn i'r etifeddiaeth ddod yn eiddo i ni.'
20:15 A bwriasant ef allan o'r winllan a'i ladd. Beth ynteu a wna perchen y winllan iddynt?
20:16 Fe ddaw ac fe ddifetha'r tenantiaid hynny, ac fe rydd y winllan i eraill." Pan glywsant hyn meddent, "Na ato Duw!"
20:17 Edrychodd ef arnynt a dweud, "Beth felly yw ystyr yr Ysgrythur hon: 'Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl'?
20:18 Pawb sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria."
20:19 Ceisiodd yr ysgrifenyddion a'r prif offeiriaid osod dwylo arno y pryd hwnnw, ond yr oedd arnynt ofn y bobl, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg hon.

Talu Trethi i Gesar, Mth. 22:15-22; Mc. 12:13-17

20:20 Gwyliasant eu cyfle ac anfon ysbiwyr, yn rhith pobl onest, i'w ddal ef ar air, er mwyn ei draddodi i awdurdod brawdlys y rhaglaw.
20:21 Gofynasant iddo, "Athro, gwyddom fod dy eiriau a'th ddysgeidiaeth yn gywir; yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb, ac yn dysgu ffordd Duw yn gwbl ddiffuant.
20:22 A yw'n gyfreithlon inni dalu treth i Gesar, ai nid yw?"
20:23 Ond deallodd ef eu hystryw, ac meddai wrthynt,
20:24 "Dangoswch imi ddarn arian. Llun ac arysgrif pwy sydd arno?" "Cesar," meddent hwy.
20:25 Dywedodd ef wrthynt, "Gan hynny, talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw."
20:26 Yr oeddent wedi methu ei ddal ar air o flaen y bobl, a chan ryfeddu at ei ateb aethant yn fud.

Holi ynglŷn â'r Atgyfodiad, Mth. 22:23-33; Mc. 12:18-27

20:27 Daeth ato rai o'r Sadwceaid, y bobl sy'n dal nad oes dim atgyfodiad. Gofynasant iddo,
20:28 "Athro, ysgrifennodd Moses ar ein cyfer, os bydd rhywun farw yn ŵr priod, ond yn ddi-blant, fod ei frawd i gymryd y wraig ac i godi plant i'w frawd.
20:29 Yn awr, yr oedd saith o frodyr. Cymerodd y cyntaf wraig, a bu farw'n ddi-blant.
20:30 Cymerodd yr ail
20:31 a'r trydydd hi, ac yn yr un modd bu'r saith farw heb adael plant.
20:32 Yn ddiweddarach bu farw'r wraig hithau.
20:33 Beth am y wraig felly? Yn yr atgyfodiad, gwraig prun ohonynt fydd hi? Oherwydd cafodd y saith hi'n wraig."
20:34 Meddai Iesu wrthynt, "Y mae plant y byd hwn yn priodi ac yn cael eu priodi;
20:35 ond y rhai a gafwyd yn deilwng i gyrraedd y byd hwnnw a'r atgyfodiad oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy.
20:36 Ni allant farw mwyach, oherwydd y maent fel angylion. Plant Duw ydynt, am eu bod yn blant yr atgyfodiad.
20:37 Ond bod y meirw yn codi, y mae Moses yntau wedi dangos hynny yn hanes y Berth, pan ddywed, 'Arglwydd Dduw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob'.
20:38 Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw, oherwydd y mae pawb yn fyw iddo ef."
20:39 Atebodd rhai o'r ysgrifenyddion, "Athro, da y dywedaist",
20:40 oherwydd ni feiddient mwyach ei holi am ddim.

Holi ynglŷn â Mab Dafydd, Mth. 22:41-46; Mc. 12:35-37

20:41 A dywedodd wrthynt, "Sut y mae pobl yn gallu dweud fod y Meseia yn Fab Dafydd?
20:42 Oherwydd y mae Dafydd ei hun yn dweud yn llyfr y Salmau: 'Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, "Eistedd ar fy neheulaw
20:43 nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed."'
20:44 Yn awr, y mae Dafydd yn ei alw'n Arglwydd; sut felly y mae'n fab iddo?"

Cyhuddo'r Ysgrifenyddion, Mth. 23:1-36; Mc. 12:38-40; Lc. 11:37-54

20:45 A'r holl bobl yn gwrando, meddai wrth ei ddisgyblion,
20:46 "Gochelwch rhag yr ysgrifenyddion sy'n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, sy'n caru cael cyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd,
20:47 ac sy'n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; fe dderbyn y rhain drymach dedfryd."

Offrwm y Weddw, Mc. 12:41-44

21:1 Cododd ei lygaid a gweld pobl gyfoethog yn rhoi eu rhoddion i mewn yng nghist y drysorfa.
21:2 Yna gwelodd wraig weddw dlawd yn rhoi dau ddarn bychan o bres ynddi,
21:3 ac meddai, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb.
21:4 Oherwydd cyfrannodd y rhain i gyd o'r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno."

Rhagfynegi Dinistr y Deml, Mth. 24:1-2; Mc. 13:1-2

21:5 Wrth i rywrai sôn am y deml, ei bod wedi ei haddurno â meini gwych a rhoddion cysegredig, meddai ef,
21:6 "Am y pethau hyn yr ydych yn syllu arnynt, fe ddaw dyddiau pryd ni adewir maen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr."

Arwyddion ac Erledigaethau, Mth. 24:3-14; Mc. 13:3-13

21:7 Gofynasant iddo, "Athro, pa bryd y bydd hyn? Beth fydd yr arwydd pan fydd hyn ar ddigwydd?"
21:8 Meddai yntau, "Gwyliwch na chewch eich twyllo. Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, 'Myfi yw', ac, 'Y mae'r amser wedi dod yn agos'. Peidiwch â mynd i'w canlyn.
21:9 A phan glywch am ryfeloedd a gwrthryfeloedd, peidiwch â chymryd eich dychrynu. Rhaid i hyn ddigwydd yn gyntaf, ond nid yw'r diwedd i fod ar unwaith."
21:10 Y pryd hwnnw dywedodd wrthynt, "Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas.
21:11 Bydd daeargrynfâu dirfawr, a newyn a phlâu mewn mannau. Bydd argoelion arswydus ac arwyddion enfawr o'r nef.
21:12 Ond cyn hyn oll byddant yn gosod dwylo arnoch ac yn eich erlid. Fe'ch traddodir i'r synagogau ac i garchar, fe'ch dygir gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i;
21:13 hyn fydd eich cyfle i dystiolaethu.
21:14 Penderfynwch beidio â phryderu ymlaen llaw ynglŷn â'ch amddiffyniad;
21:15 fe roddaf fi i chwi huodledd, a doeth-ineb na all eich holl wrthwynebwyr ei wrthsefyll na'i wrth-ddweud.
21:16 Fe'ch bradychir gan eich rhieni a'ch ceraint a'ch perthnasau a'ch cyfeillion, a pharant ladd rhai ohonoch.
21:17 A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i.
21:18 Ond ni chollir yr un blewyn o wallt eich pen.
21:19 Trwy eich dyfalbarhad meddiannwch fywyd i chwi eich hunain.

Rhagfynegi Dinistr Jerwsalem, Mth. 24:15-21; Mc. 13:14-19

21:20 "Ond pan welwch Jerwsalem wedi ei hamgylchynu gan fyddinoedd, yna byddwch yn gwybod fod awr ei diffeithio wedi dod yn agos.
21:21 Y pryd hwnnw, ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd. Pob un sydd yng nghanol y ddinas, aed allan ohoni; a phob un sydd yn y wlad, peidied â mynd i mewn iddi.
21:22 Oherwydd dyddiau dial fydd y rhain, pan fydd pob peth sy'n ysgrifenedig yn cael ei gyflawni.
21:23 Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny! Daw cyfyngder dirfawr ar y wlad, a digofaint ar y bobl hon.
21:24 Byddant yn cwympo dan fin y cleddyf, ac fe'u dygir yn garcharorion i'r holl genhedloedd. Caiff Jerwsalem ei mathru dan draed y Cenhedloedd nes cyflawni eu hamserau hwy.

Dyfodiad Mab y Dyn, Mth. 24:29-31; Mc. 13:24-27

21:25 "Bydd arwyddion yn yr haul a'r lloer a'r sêr. Ar y ddaear bydd cenhedloedd mewn cyfyngder yn eu pryder rhag trymru ac ymchwydd y môr.
21:26 Bydd pobl yn llewygu gan ofn wrth ddisgwyl y pethau sy'n dod ar y byd; oherwydd ysgydwir nerthoedd y nefoedd.
21:27 A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda nerth a gogoniant mawr.
21:28 Pan ddechreua'r pethau hyn ddigwydd, ymunionwch a chodwch eich pennau, oherwydd y mae eich rhyddhad yn agosáu."

Gwers y Ffigysbren, Mth. 24:32-35; Mc. 13:28-31

21:29 Adroddodd ddameg wrthynt: "Edrychwch ar y ffigysbren a'r holl goed.
21:30 Pan fyddant yn dechrau deilio, fe wyddoch eich hunain o'u gweld fod yr haf bellach yn agos.
21:31 Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod fod teyrnas Dduw yn agos.
21:32 Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r cwbl ddigwydd.
21:33 Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim.

Anogaeth i Fod yn Effro

21:34 "Cymerwch ofal, rhag i'ch meddyliau gael eu pylu gan ddiota a meddwi a gofalon bydol, ac i'r dydd hwnnw ddod arnoch yn ddisymwth
21:35 fel magl; oherwydd fe ddaw ar bawb sy'n trigo ar wyneb y ddaear gyfan.
21:36 Byddwch effro bob amser, gan ddeisyf am nerth i ddianc rhag yr holl bethau hyn sydd ar ddigwydd, ac i sefyll yng ngŵydd Mab y Dyn."
21:37 Yn ystod y dydd byddai'n dysgu yn y deml, ond byddai'n mynd allan ac yn treulio'r nos ar y mynydd a elwir Olewydd.
21:38 Yn y bore bach deuai'r holl bobl ato yn y deml i wrando arno.

Y Cynllwyn i Ladd Iesu, Mth. 26:1-5, 14-16; Mc. 14:1-2, 10-11; In. 11:45-53

22:1 Yr oedd gŵyl y Bara Croyw, y Pasg fel y'i gelwir, yn agosáu.
22:2 Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yn ceisio modd i'w ladd, oherwydd yr oedd arnynt ofn y bobl.
22:3 Ac aeth Satan i mewn i Jwdas, a elwid Iscariot, hwnnw oedd yn un o'r Deuddeg.
22:4 Aeth ef a thrafod gyda'r prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu'r deml sut i fradychu Iesu iddynt.
22:5 Cytunasant yn llawen iawn i dalu arian iddo.
22:6 Cydsyniodd yntau, a dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef iddynt heb i'r dyrfa wybod.

Paratoi Gwledd y Pasg, Mth. 26:17-25; Mc. 14:12-21; In. 13:21-30

22:7 Daeth dydd gŵyl y Bara Croyw, pryd yr oedd yn rhaid lladd oen y Pasg.
22:8 Anfonodd ef Pedr ac Ioan gan ddweud, "Ewch a pharatowch inni gael bwyta gwledd y Pasg."
22:9 Meddent hwy wrtho, "Ble yr wyt ti am inni ei pharatoi?"
22:10 Atebodd hwy, "Wedi i chwi fynd i mewn i'r ddinas fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef i'r tŷ yr â i mewn iddo,
22:11 a dywedwch wrth ŵr y tŷ, 'Y mae'r Athro yn gofyn i ti, "Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?"'
22:12 Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu; yno paratowch."
22:13 Aethant ymaith, a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg.

Sefydlu Swper yr Arglwydd, Mth. 26:26-30; Mc. 14:22-26; 1Cor. 11:23-25

22:14 Pan ddaeth yr awr, cymerodd ei le wrth y bwrdd, a'r apostolion gydag ef.
22:15 Meddai wrthynt, "Mor daer y bûm yn dyheu am gael bwyta gwledd y Pasg hwn gyda chwi cyn imi ddioddef!
22:16 Oherwydd rwy'n dweud wrthych na fwytâf hi byth hyd nes y cyflawnir hi yn nheyrnas Dduw."
22:17 Derbyniodd gwpan, ac wedi diolch meddai, "Cymerwch hwn a rhannwch ef ymhlith eich gilydd.
22:18 Oherwydd rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o ffrwyth y winwydden hyd nes y daw teyrnas Dduw."
22:19 Cymerodd fara, ac wedi diolch fe'i torrodd a'i roi iddynt gan ddweud, "Hwn yw fy nghorff, sy'n cael ei roi er eich mwyn chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf."
22:20 Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan ar ôl swper gan ddweud, "Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt er eich mwyn chwi.
22:21 Ond dyma law fy mradychwr gyda'm llaw i ar y bwrdd.
22:22 Oherwydd y mae Mab y Dyn yn wir yn mynd ymaith, yn ôl yr hyn sydd wedi ei bennu, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir ef ganddo!"
22:23 A dechreusant ofyn ymhlith ei gilydd prun ohonynt oedd yr un oedd am wneud hynny.

Y Ddadl ynglŷn â Mawredd

22:24 Cododd cweryl hefyd yn eu plith: prun ohonynt oedd i'w gyfrif y mwyaf?
22:25 Meddai ef wrthynt, "Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai sydd ag awdurdod drostynt yn cael eu galw yn gymwynaswyr.
22:26 Ond peidiwch chwi â gwneud felly. Yn hytrach, bydded y mwyaf yn eich plith fel yr ieuengaf, a'r arweinydd fel un sy'n gweini.
22:27 Pwy sydd fwyaf, yr un sy'n eistedd wrth y bwrdd neu'r un sy'n gweini? Onid yr un sy'n eistedd? Ond yr wyf fi yn eich plith fel un sy'n gweini.
22:28 Chwi yw'r rhai sydd wedi dal gyda mi trwy gydol fy nhreialon.
22:29 Ac fel y cyflwynodd fy Nhad deyrnas i mi, yr wyf finnau yn cyflwyno un i chwi;
22:30 cewch fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i yn fy nheyrnas i, ac eistedd ar orseddau gan farnu deuddeg llwyth Israel.

Rhagfynegi Gwadiad Pedr, Mth. 26:31-35; Mc. 14:27-31; In. 13:36-38

22:31 "Simon, Simon, dyma Satan wedi eich hawlio chwi, i'ch gogrwn fel ŷd;
22:32 ond yr wyf fi wedi deisyf drosot ti na fydd dy ffydd yn pallu. A thithau, pan fyddi wedi dychwelyd ataf, cadarnha dy frodyr."
22:33 Meddai ef wrtho, "Arglwydd, gyda thi rwy'n barod i fynd i garchar ac i farwolaeth."
22:34 "Rwy'n dweud wrthyt, Pedr," atebodd ef, "ni chân y ceiliog heddiw cyn y byddi wedi gwadu deirgwaith dy fod yn fy adnabod i."

Pwrs, Cod a Chleddyf

22:35 Dywedodd wrthynt, "Pan anfonais chwi allan heb bwrs na chod na sandalau, a fuoch yn brin o ddim?" "Naddo," atebasant.
22:36 Meddai yntau, "Ond yn awr, os oes gennych bwrs, ewch ag ef gyda chwi, a'ch cod yr un modd; ac os nad oes gennych gleddyf, gwerthwch eich mantell a phrynu un.
22:37 Rwy'n dweud wrthych fod yn rhaid cyflawni ynof fi yr Ysgrythur sy'n dweud: 'A chyfrifwyd ef gyda throseddwyr.' Oherwydd y mae'r hyn a ragddywedwyd amdanaf fi yn dod i ben."
22:38 "Arglwydd," atebasant hwy, "dyma ddau gleddyf." Meddai yntau wrthynt, "Dyna ddigon."

Y Weddi ar Fynydd yr Olewydd, Mth. 26:36-46; Mc. 14:32-42

22:39 Yna aeth allan, a cherdded yn ôl ei arfer i Fynydd yr Olewydd, a'i ddisgyblion hefyd yn ei ddilyn.
22:40 Pan gyrhaeddodd y fan, meddai wrthynt, "Gweddïwch na ddewch i gael eich profi."
22:41 Yna ymneilltuodd Iesu oddi wrthynt tuag ergyd carreg, a chan benlinio dechreuodd weddïo
22:42 gan ddweud, "O Dad, os wyt ti'n fodlon, cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Ond gwneler dy ewyllys di, nid fy ewyllys i."
22:43 Ac ymddangosodd angel o'r nef iddo, a'i gyfnerthu.
22:44 Gan gymaint ei ing, yr oedd yn gweddïo'n ddwysach, ac yr oedd ei chwys fel dafnau o waed yn diferu ar y ddaear.
22:45 Cododd o'i weddi a mynd at ei ddisgyblion a'u cael yn cysgu o achos eu gofid.
22:46 Meddai wrthynt, "Pam yr ydych yn cysgu? Codwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi."

Bradychu a Dal Iesu, Mth. 26:47-56; Mc. 14:43-50; In. 18:3-11

22:47 Tra oedd yn dal i siarad, fe ymddangosodd tyrfa, a Jwdas, fel y'i gelwid, un o'r Deuddeg, ar ei blaen. Nesaodd ef at Iesu i'w gusanu.
22:48 Meddai Iesu wrtho, "Jwdas, ai â chusan yr wyt yn bradychu Mab y Dyn?"
22:49 Pan welodd ei ddilynwyr beth oedd ar ddigwydd, meddent, "Arglwydd, a gawn ni daro â'n cleddyfau?"
22:50 Trawodd un ohonynt was yr archoffeiriad a thorri ei glust dde i ffwrdd.
22:51 Atebodd Iesu, "Peidiwch! Dyna ddigon!" Cyffyrddodd â'r glust a'i hadfer.
22:52 Yna meddai Iesu wrth y rhai oedd wedi dod yn ei erbyn, y prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu'r deml a'r henuriaid, "Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan?
22:53 Er fy mod gyda chwi beunydd yn y deml, ni wnaethoch ddim i'm dal. Ond eich awr chwi yw hon, a'r tywyllwch biau'r awdurdod."

Pedr yn Gwadu Iesu, Mth. 26:57-58, 69-75; Mc. 14:53-54, 66-72; In. 18:12-18, 25-27

22:54 Daliasant ef, a mynd ag ef ymaith i mewn i dŷ'r archoffeiriad. Yr oedd Pedr yn canlyn o hirbell.
22:55 Cyneuodd rhai dân yng nghanol y cyntedd, ac eistedd gyda'i gilydd. Eisteddodd Pedr yn eu plith.
22:56 Gwelodd morwyn ef yn eistedd wrth y tân, ac wedi syllu arno meddai, "Yr oedd hwn hefyd gydag ef."
22:57 Ond gwadodd ef a dweud, "Nid wyf fi'n ei adnabod, ferch."
22:58 Yn fuan wedi hynny gwelodd un arall ef, ac meddai, "Yr wyt tithau yn un ohonynt." Ond meddai Pedr, "Nac ydwyf, ddyn."
22:59 Ymhen rhyw awr, dechreuodd un arall daeru, "Yn wir yr oedd hwn hefyd gydag ef, oherwydd Galilead ydyw."
22:60 Meddai Pedr, "Ddyn, nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn." Ac ar unwaith, tra oedd yn dal i siarad, canodd y ceiliog.
22:61 Troes yr Arglwydd ac edrych ar Pedr, a chofiodd ef air yr Arglwydd wrtho, "Cyn i'r ceiliog ganu heddiw, fe'm gwedi i deirgwaith."
22:62 Aeth allan ac wylo'n chwerw.

Gwatwar a Churo Iesu, Mth. 26:67-68; Mc. 14:65

22:63 Yr oedd gwarcheidwaid Iesu yn ei watwar a'i guro.
22:64 Rhoesant orchudd amdano, a dechrau ei holi gan ddweud, "Proffwyda! Pwy a'th drawodd?"
22:65  A dywedasant lawer o bethau cableddus eraill wrtho.

Iesu gerbron y Sanhedrin, Mth. 26:59-66; Mc. 14:55-64; In. 18:19-24

22:66 Pan ddaeth yn ddydd, cyfarfu Cyngor henuriaid y bobl, y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion. Daethant ag ef gerbron eu brawdlys
22:67 gan ddweud, "Os ti yw'r Meseia, dywed hynny wrthym." Meddai yntau wrthynt, "Os dywedaf hynny wrthych, fe wrthodwch gredu;
22:68 ac os holaf chwi, fe wrthodwch ateb.
22:69 O hyn allan bydd Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw Gallu Duw."
22:70 Meddent oll, "Ti felly yw Mab Duw?" Atebodd hwy, "Chwi sy'n dweud mai myfi yw."
22:71 Yna meddent, "Pa raid inni wrth dystiolaeth bellach? Oherwydd clywsom ein hunain y geiriau o'i enau ef."

Dod â Iesu gerbron Pilat, Mth. 27:1-2, 11-14; Mc. 15:1-5; In. 18:28-38

23:1  Codasant oll yn dyrfa a dod ag ef gerbron Pilat.
23:2 Dechreusant ei gyhuddo gan ddweud, "Cawsom y dyn hwn yn arwain ein cenedl ar gyfeiliorn, yn gwahardd talu trethi i Gesar, ac yn honni mai ef yw'r Meseia, sef y brenin."
23:3 Holodd Pilat ef: "Ai ti yw Brenin yr Iddewon?" Atebodd yntau ef, "Ti sy'n dweud hynny."
23:4 Ac meddai Pilat wrth y prif offeiriaid a'r tyrfaoedd, "Nid wyf yn cael dim trosedd yn achos y dyn hwn."
23:5 Ond dal i daeru yr oeddent: "Y mae'n cyffroi'r bobl â'i ddysgeidiaeth, trwy Jwdea gyfan. Dechreuodd yng Ngalilea, ac y mae wedi cyrraedd hyd yma."

Iesu gerbron Herod

23:6 Pan glywodd Pilat hyn, gofynnodd ai Galilead oedd y dyn;
23:7 ac wedi deall ei fod dan awdurdod Herod, cyfeiriodd yr achos ato, gan fod Herod yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.
23:8 Pan welodd Herod Iesu, mawr oedd ei lawenydd; bu'n awyddus ers amser hir i'w weld, gan iddo glywed amdano, ac yr oedd yn gobeithio ei weld yn cyflawni rhyw wyrth.
23:9 Bu'n ei holi'n faith, ond nid atebodd Iesu iddo yr un gair.
23:10 Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yno, yn ei gyhuddo yn ffyrnig.
23:11 A'i drin yn sarhaus a wnaeth Herod hefyd, ynghyd â'i filwyr. Fe'i gwatwarodd, a gosododd wisg ysblennydd amdano, cyn cyfeirio'r achos yn ôl at Pilat.
23:12 Daeth Herod a Philat yn gyfeillion i'w gilydd y dydd hwnnw; cyn hynny yr oedd gelyniaeth rhyngddynt.

Dedfrydu Iesu i Farwolaeth, Mth. 27:15-26; Mc. 15:6-15; In. 18:39—19:16

23:13 Galwodd Pilat y prif offeiriaid ac aelodau'r Cyngor a'r bobl ynghyd,
23:14 ac meddai wrthynt, "Daethoch â'r dyn hwn ger fy mron fel un sy'n arwain y bobl ar gyfeiliorn. Yn awr, yr wyf fi wedi holi'r dyn hwn yn eich gŵydd chwi, a heb gael ei fod yn euog o unrhyw un o'ch cyhuddiadau yn ei erbyn;
23:15 ac ni chafodd Herod chwaith, oherwydd cyfeiriodd ef ei achos yn ôl atom ni. Fe welwch nad yw wedi gwneud dim sy'n haeddu marwolaeth.
23:16 Gan hynny, mi ddysgaf wers iddo â'r chwip a'i ollwng yn rhydd."
23:17 [Yr oedd yn rhaid iddo ryddhau un carcharor iddynt ar y Pasg.]
23:18 Ond gwaeddasant ag un llais, "Ymaith â hwn, rhyddha Barabbas inni."
23:19 Dyn oedd hwnnw wedi ei fwrw i garchar o achos gwrthryfel a llofruddiaeth oedd wedi digwydd yn y ddinas.
23:20 Drachefn anerchodd Pilat hwy, yn ei awydd i ryddhau Iesu,
23:21 ond bloeddiasant hwy, "Croeshoelia ef, croeshoelia ef."
23:22 Y drydedd waith meddai wrthynt, "Ond pa ddrwg a wnaeth ef? Ni chefais unrhyw achos i'w ddedfrydu i farwolaeth. Gan hynny, mi ddysgaf wers iddo â'r chwip a'i ollwng yn rhydd."
23:23 Ond yr oeddent yn pwyso arno â'u crochlefain byddarol, gan fynnu ei groeshoelio ef, ac yr oedd eu bonllefau yn ennill y dydd.
23:24 Yna penderfynodd Pilat ganiatáu eu cais;
23:25 rhyddhaodd yr hwn yr oeddent yn gofyn amdano, y dyn oedd wedi ei fwrw i garchar am wrthryfela a llofruddio, a thraddododd Iesu i'w hewyllys hwy.

Croeshoelio Iesu, Mth. 27:32-44; Mc. 15:21-32; In. 19:17-27

23:26 Wedi mynd ag ef ymaith gafaelsant yn Simon, brodor o Cyrene, a oedd ar ei ffordd o'r wlad, a gosod y groes ar ei gefn, iddo ei chario y tu ôl i Iesu.
23:27 Yr oedd tyrfa fawr o'r bobl yn ei ddilyn, ac yn eu plith wragedd yn galaru ac yn wylofain drosto.
23:28 Troes Iesu atynt a dweud, "Ferched Jerwsalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi; wylwch yn hytrach amdanoch eich hunain ac am eich plant.
23:29 Oherwydd dyma ddyddiau yn dod pan fydd pobl yn dweud, 'Gwyn eu byd y gwragedd diffrwyth a'r crothau nad esgorasant a'r bronnau na roesant sugn.'
23:30 Y pryd hwnnw bydd pobl yn dechrau 'Dweud wrth y mynyddoedd, "Syrthiwch arnom", ac wrth y bryniau, "Gorchuddiwch ni."'
23:31 Oherwydd os gwneir hyn i'r pren glas, pa beth a ddigwydd i'r pren crin?"
23:32 Daethpwyd ag eraill hefyd, dau droseddwr, i'w dienyddio gydag ef.
23:33 Pan ddaethant i'r lle a elwir Y Benglog, yno croeshoeliwyd ef a'r troseddwyr, y naill ar y dde a'r llall ar y chwith iddo.
23:34 Ac meddai Iesu, "O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud." A bwriasant goelbrennau i rannu ei ddillad.
23:35 Yr oedd y bobl yn sefyll yno, yn gwylio. Yr oedd aelodau'r Cyngor hwythau yn ei wawdio gan ddweud, "Fe achubodd eraill; achubed ei hun, os ef yw Meseia Duw, yr Etholedig."
23:36 Daeth y milwyr hefyd ato a'i watwar, gan gynnig gwin sur iddo,
23:37 a chan ddweud, "Os ti yw Brenin yr Iddewon, achub dy hun."
23:38 Yr oedd hefyd arysgrif uwch ei ben: "Hwn yw Brenin yr Iddewon."
23:39 Yr oedd un o'r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, "Onid ti yw'r Meseia? Achub dy hun a ninnau."
23:40 Ond atebodd y llall, a'i geryddu: "Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd?
23:41 I ni, y mae hynny'n gyfiawn, oherwydd haeddiant ein gweithredoedd sy'n dod inni. Ond ni wnaeth hwn ddim o'i le."
23:42 Yna dywedodd, "Iesu, cofia fi pan ddoi i'th deyrnas."
23:43 Atebodd yntau, "Yn wir, rwy'n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys."

Marwolaeth Iesu, Mth. 27:45-56; Mc. 15:33-41; In. 19:28-30

23:44 Erbyn hyn yr oedd hi tua hanner dydd. Daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn,
23:45 a'r haul wedi diffodd. Rhwygwyd llen y deml yn ei chanol.
23:46 Llefodd Iesu â llef uchel, "O Dad, i'th ddwylo di yr wyf yn cyflwyno fy ysbryd." A chan ddweud hyn bu farw.
23:47 Pan welodd y canwriad yr hyn oedd wedi digwydd, dechreuodd ogoneddu Duw gan ddweud, "Yn wir, dyn cyfiawn oedd hwn."
23:48 Ac wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd, troes yr holl dyrfaoedd, a oedd wedi ymgynnull i wylio'r olygfa, tuag adref gan guro eu bronnau.
23:49 Yr oedd ei holl gyfeillion, ynghyd â'r gwragedd oedd wedi ei ddilyn ef o Galilea, yn sefyll yn y pellter ac yn gweld y pethau hyn.

Claddu Iesu, Mth. 27:57-61; Mc. 15:42-47; In. 19:38-42

23:50 Yr oedd dyn o'r enw Joseff, aelod o'r Cyngor a dyn da a chyfiawn,
23:51 nad oedd wedi cydsynio â'u penderfyniad a'u gweithred hwy. Yr oedd yn hanu o Arimathea, un o drefi'r Iddewon, ac yn disgwyl am deyrnas Dduw.
23:52 Aeth hwn at Pilat a gofyn am gorff Iesu.
23:53 Wedi ei dynnu ef i lawr a'i amdói mewn lliain, gosododd ef mewn bedd wedi ei naddu, lle nad oedd neb hyd hynny wedi gorwedd.
23:54 Dydd y Paratoad oedd hi, ac yr oedd y Saboth ar ddechrau.
23:55 Fe ddilynodd y gwragedd oedd wedi dod gyda Iesu o Galilea, a gwelsant y bedd a'r modd y gosodwyd ei gorff.
23:56 Yna aethant yn eu holau i baratoi peraroglau ac eneiniau. Ar y Saboth buont yn gorffwys yn ôl y gorchymyn.

Atgyfodiad Iesu, Mth. 28:1-10; Mc. 16:1-8; In. 20:1-10

24:1 Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ar doriad gwawr, daethant at y bedd gan ddwyn y peraroglau yr oeddent wedi eu paratoi.
24:2 Cawsant y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd oddi wrth y bedd,
24:3 ond pan aethant i mewn ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu.
24:4 Yna, a hwythau mewn penbleth yngl?n â hyn, dyma ddau ddyn yn ymddangos iddynt mewn gwisgoedd llachar.
24:5 Daeth ofn arnynt, a phlygasant eu hwynebau tua'r ddaear. Meddai'r dynion wrthynt, "Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw?
24:6 Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi. Cofiwch fel y llefarodd wrthych tra oedd eto yng Ngalilea,
24:7 gan ddweud ei bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylo pechaduriaid, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd atgyfodi."
24:8 A daeth ei eiriau ef i'w cof.
24:9 Dychwelsant o'r bedd, ac adrodd yr holl bethau hyn wrth yr un ar ddeg ac wrth y lleill i gyd.
24:10 Mair Magdalen a Joanna a Mair mam Iago oedd y gwragedd hyn; a'r un pethau a ddywedodd y gwragedd eraill hefyd, oedd gyda hwy, wrth yr apostolion.
24:11 Ond i'w tyb hwy, lol oedd yr hanesion hyn, a gwrthodasant gredu'r gwragedd.
24:12 Ond cododd Pedr a rhedeg at y bedd; plygodd i edrych, ac ni welodd ddim ond y llieiniau. Ac aeth ymaith, gan ryfeddu wrtho'i hun at yr hyn oedd wedi digwydd.

Cerdded i Emaus, Mc. 16:12-13

24:13 Yn awr, yr un dydd, yr oedd dau ohonynt ar eu ffordd i bentref, oddeutu un cilomedr ar ddeg o Jerwsalem, o'r enw Emaus.
24:14 Yr oeddent yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl ddigwyddiadau hyn.
24:15 Yn ystod yr ymddiddan a'r trafod, nesaodd Iesu ei hun atynt a dechrau cerdded gyda hwy,
24:16 ond rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef.
24:17 Meddai wrthynt, "Beth yw'r sylwadau hyn yr ydych yn eu cyfnewid wrth gerdded?" Safasant hwy, a'u digalondid yn eu hwynebau.
24:18 Atebodd yr un o'r enw Cleopas, "Rhaid mai ti yw'r unig ymwelydd â Jerwsalem nad yw'n gwybod am y pethau sydd wedi digwydd yno y dyddiau diwethaf hyn."
24:19 "Pa bethau?" meddai wrthynt. Atebasant hwythau, "Y pethau sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth, dyn oedd yn broffwyd nerthol ei weithredoedd a'i eiriau yng ng?ydd Duw a'r holl bobl.
24:20 Traddododd ein prif offeiriaid ac aelodau ein Cyngor ef i'w ddedfrydu i farwolaeth, ac fe'i croeshoeliasant.
24:21 Ein gobaith ni oedd mai ef oedd yr un oedd yn mynd i brynu Israel i ryddid, ond at hyn oll, heddiw yw'r trydydd dydd er pan ddigwyddodd y pethau hyn.
24:22 Er hynny, fe'n syfrdanwyd gan rai gwragedd o'n plith; aethant yn y bore bach at y bedd,
24:23 a methasant gael ei gorff, ond dychwelsant gan daeru eu bod wedi gweld angylion yn ymddangos, a bod y rheini'n dweud ei fod ef yn fyw.
24:24 Aeth rhai o'n cwmni allan at y bedd, a'i gael yn union fel y dywedodd y gwragedd, ond ni welsant mohono ef."
24:25 Meddai Iesu wrthynt, "Mor ddiddeall ydych, a mor araf yw eich calonnau i gredu'r cwbl a lefarodd y proffwydi!
24:26 Onid oedd yn rhaid i'r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i'w ogoniant?"
24:27 A chan ddechrau gyda Moses a'r holl broffwydi, dehonglodd iddynt y pethau a ysgrifennwyd amdano ef ei hun yn yr holl Ysgrythurau.
24:28 Wedi iddynt nesáu at y pentref yr oeddent ar eu ffordd iddo, cymerodd ef arno ei fod yn mynd ymhellach.
24:29 Ond meddent wrtho, gan bwyso arno, "Aros gyda ni, oherwydd y mae hi'n nosi, a'r dydd yn dirwyn i ben." Yna aeth i mewn i aros gyda hwy.
24:30 Wedi cymryd ei le wrth y bwrdd gyda hwy, cymerodd y bara a bendithio, a'i dorri a'i roi iddynt.
24:31 Agorwyd eu llygaid hwy, ac adnabuasant ef. A diflannodd ef o'u golwg.
24:32 Meddent wrth ei gilydd, "Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrth iddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro'r Ysgrythurau inni?"
24:33 Codasant ar unwaith a dychwelyd i Jerwsalem. Cawsant yr un ar ddeg a'u dilynwyr wedi ymgynnull ynghyd
24:34 ac yn dweud fod yr Arglwydd yn wir wedi ei gyfodi, ac wedi ymddangos i Simon.
24:35 Adroddasant hwythau yr hanes am eu taith, ac fel yr oeddent wedi ei adnabod ef ar doriad y bara.

Ymddangos i'r Disgyblion, Mth. 28:16-20; Mc. 16:14-18; In. 20:19-23; Act. 1:6-8

24:36 Wrth iddynt ddweud hyn, ym-ddangosodd ef yn eu plith, ac meddai wrthynt, "Tangnefedd i chwi."
24:37 Yn eu dychryn a'u hofn, yr oeddent yn tybied eu bod yn gweld ysbryd.
24:38 Gofynnodd iddynt, "Pam yr ydych wedi cynhyrfu? Pam y mae amheuon yn codi yn eich meddyliau?
24:39 Gwelwch fy nwylo a'm traed; myfi yw, myfi fy hun. Cyffyrddwch â mi a gwelwch, oherwydd nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn fel y canfyddwch fod gennyf fi."
24:40 Wrth ddweud hyn dangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed.
24:41 A chan eu bod yn eu llawenydd yn dal i wrthod credu ac yn rhyfeddu, meddai wrthynt, "A oes gennych rywbeth i'w fwyta yma?"
24:42 Rhoesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio.
24:43 Cymerodd ef, a bwyta yn eu g?ydd.
24:44 Dywedodd wrthynt, "Dyma ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi: ei bod yn rhaid i bob peth gael ei gyflawni sy'n ysgrifenedig amdanaf yng Nghyfraith Moses a'r proffwydi a'r salmau."
24:45 Yna agorodd eu meddyliau, iddynt ddeall yr Ysgrythurau.
24:46 Meddai wrthynt, "Fel hyn y mae'n ysgrifenedig: fod y Meseia i ddioddef, ac i atgyfodi oddi wrth y meirw ar y trydydd dydd,
24:47 a bod edifeirwch, yn foddion maddeuant pechodau, i'w gyhoeddi yn ei enw ef i'r holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem.
24:48 Chwi yw'r tystion i'r pethau hyn.
24:49 Ac yn awr yr wyf fi'n anfon arnoch yr hyn a addawodd fy Nhad; chwithau, arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth."

Esgyniad Iesu, Mc. 16:19-20; Act. 1:9-11

24:50 Aeth â hwy allan i gyffiniau Bethania. Yna cododd ei ddwylo a'u bendithio.
24:51 Wrth iddo'u bendithio, fe ymadawodd â hwy ac fe'i dygwyd i fyny i'r nef.
24:52 Wedi iddynt ei addoli ar eu gliniau, dychwelsant yn llawen iawn i Jerwsalem.
24:53 Ac yr oeddent yn y deml yn ddi-baid, yn bendithio Duw.