LLYTHYR PAUL AT Y RHUFEINIAID

Cyfarch

1:1 Paul, gwas Crist Iesu, sy'n ysgrifennu, apostol trwy alwad Duw, ac wedi ei neilltuo i wasanaeth Efengyl Duw.
1:2 Addawodd Duw yr Efengyl hon ymlaen llaw trwy ei broffwydi yn yr Ysgrythurau sanctaidd,
1:3 Efengyl am ei Fab: yn nhrefn y cnawd, ganwyd ef yn llinach Dafydd;
1:4 ond yn nhrefn sanctaidd yr Ysbryd, cyhoeddwyd ef yn Fab Duw, â mawr allu, trwy atgyfodiad o farwolaeth. Dyma Iesu Grist ein Harglwydd.
1:5 Trwyddo ef derbyniasom ras a swydd apostol, i ennill, ar ei ran, ffydd ac ufudd-dod ymhlith yr holl Genhedloedd.
1:6 Ymhlith y rhain yr ydych chwithau, yn rhai wedi eich galw ac yn eiddo i Iesu Grist.
1:7 Yr wyf yn cyfarch pawb yn Rhufain sydd yn annwyl gan Dduw, a thrwy ei alwad ef yn saint. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.

Paul yn Dymuno Ymweld â Rhufain

1:8 Yn gyntaf oll, yr wyf yn diolch i'm Duw, trwy Iesu Grist, amdanoch chwi oll, oherwydd y mae'r sôn am eich ffydd yn cerdded trwy'r holl fyd.
1:9 Y mae Duw, yr un y mae fy ysbryd yn ei wasanaethu yn Efengyl ei Fab, yn dyst i mi mor ddi-baid y byddaf bob amser yn eich galw i gof yn fy ngweddïau
1:10 wrth ofyn ganddo, os dyna'i ewyllys, a gaf fi yn awr o'r diwedd, rywsut neu'i gilydd, rwydd hynt i ddod atoch.
1:11 Oherwydd y mae hiraeth arnaf am eich gweld, er mwyn eich cynys-gaeddu â rhyw ddawn ysbrydol i'ch cadarnhau;
1:12 neu yn hytrach, os caf esbonio, i mi, yn eich cymdeithas, gael fy nghalonogi ynghyd â chwi trwy'r ffydd sy'n gyffredin i'r naill a'r llall ohonom.
1:13 Yr wyf am i chwi wybod, fy nghyfeillion, imi fwriadu lawer gwaith ddod atoch, er mwyn cael peth ffrwyth yn eich plith chwi fel y cefais ymhlith y rhelyw o'r Cenhedloedd, ond hyd yma yr wyf wedi fy rhwystro.
1:14 Groegiaid a barbariaid, doethion ac annoethion — yr wyf dan rwymedigaeth iddynt oll.
1:15 A dyma'r rheswm fy mod i mor eiddgar i bregethu'r Efengyl i chwithau sydd yn Rhufain.

Gallu'r Efengyl

1:16 Nid oes arnaf gywilydd o'r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy'n credu, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid.
1:17 Ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw, a hynny trwy ffydd o'r dechrau i'r diwedd, fel y mae'n ysgrifenedig: "Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw."

Euogrwydd y Ddynolryw

1:18 Y mae digofaint Duw yn cael ei ddatguddio o'r nef yn erbyn holl annuwioldeb ac anghyfiawnder pobl sydd, trwy eu hanghyfiawnder, yn atal y gwirionedd.
1:19 Oherwydd y mae'r hyn y gellir ei wybod am Dduw yn amlwg iddynt, a Duw sydd wedi ei amlygu iddynt.
1:20 Yn wir, er pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, ei dragwyddol allu a'i dduwdod, i'w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd. Am hynny, y maent yn ddiesgus.
1:21 Oherwydd, er iddynt wybod am Dduw, nid ydynt wedi rhoi gogoniant na diolch iddo fel Duw, ond yn hytrach wedi troi eu meddyliau at bethau cwbl ofer; ac y mae wedi mynd yn dywyllwch arnynt yn eu calon ddiddeall.
1:22 Er honni eu bod yn ddoeth, y maent wedi eu gwneud eu hunain yn ffyliaid.
1:23 Y maent wedi ffeirio gogoniant yr anfarwol Dduw am ddelw ar lun dyn marwol, neu adar neu anifeiliaid neu ymlusgiaid.
1:24 Am hynny, y mae Duw wedi eu traddodi, trwy chwantau eu calonnau, i gaethiwed aflendid, i'w cyrff gael eu hamharchu ganddynt hwy eu hunain.
1:25 Y maent wedi ffeirio gwirionedd Duw am anwiredd, ac addoli a gwasanaethu'r hyn a grewyd yn lle'r Creawdwr. Bendigedig yw ef am byth! Amen.
1:26 Felly y mae Duw wedi eu traddodi i nwydau gwarthus. Y mae eu merched wedi cefnu ar arfer naturiol eu rhyw, ac wedi troi at arferion annaturiol;
1:27 a'r dynion yr un modd, y maent wedi gadael heibio gyfathrach naturiol â merch, gan losgi yn eu blys am ei gilydd, dynion yn cyflawni bryntni ar ddynion, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y tâl anochel am eu camwedd.
1:28 Am iddynt wrthod cydnabod Duw, y mae Duw wedi eu traddodi i feddwl gwyrdroëdig, i wneud y pethau na ddylid eu gwneud,
1:29 a hwythau yn gyforiog o bob math o anghyfiawnder a drygioni a thrachwant ac anfadwaith. Y maent yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, cynllwyn a malais.
1:30 Clepgwn ydynt, a difenwyr, caseion Duw, pobl ryfygus a thrahaus ac ymffrostgar, dyfeiswyr drygioni, anufudd i'w rhieni,
1:31 heb ddeall, heb deyrngarwch, heb serch, heb dosturi.
1:32 Yr oedd gorchymyn cyfiawn Duw, fod y sawl sy'n cyflawni'r fath droseddau yn teilyngu marwolaeth, yn gwbl hysbys i'r rhai hyn; ond y maent nid yn unig yn dal i'w gwneud, ond hefyd yn cymeradwyo'r sawl sydd yn eu cyflawni.

Barn Gyfiawn Duw

2:1 Yn wyneb hyn, yr wyt ti sy'n eistedd mewn barn, pwy bynnag wyt, yn ddiesgus. Oherwydd, wrth farnu rhywun arall, yr wyt yn dy gollfarnu dy hun, gan dy fod ti, sy'n barnu, yn cyflawni'r un troseddau.
2:2 Fe wyddom fod barn Duw ar y sawl sy'n cyflawni'r fath droseddau yn gwbl gywir.
2:3 Ond a wyt ti, yr un sy'n eistedd mewn barn ar y rhai sy'n cyflawni'r fath droseddau, ac yn eu gwneud dy hun, a wyt ti'n tybied y cei di ddianc rhag barn Duw?
2:4 Neu, ai dibris gennyt yw cyfoeth ei diriondeb a'i ymatal a'i amynedd? A fynni di beidio â gweld mai amcan tiriondeb Duw yw dy ddwyn i edifeirwch?
2:5 Wrth ddilyn ystyfnigrwydd dy galon ddiedifar, yr wyt yn casglu i ti dy hunan stôr o ddigofaint yn Nydd digofaint, Dydd datguddio barn gyfiawn Duw.
2:6 Bydd ef yn talu i bawb yn ôl eu gweithredoedd:
2:7 bywyd tragwyddol i'r rhai sy'n dal ati i wneud daioni, gan geisio gogoniant, anrhydedd ac anfarwoldeb;
2:8 ond digofaint a dicter i'r rheini a ysgogir gan gymhellion hunanol i fod yn ufudd, nid i'r gwirionedd, ond i anghyfiawnder.
2:9 Gorthrymder ac ing fydd i bob bod dynol sy'n gwneud drygioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid;
2:10 ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd fydd i bob un sy'n gwneud daioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid.
2:11 Nid oes ffafriaeth gerbron Duw.
2:12 Caiff pawb a bechodd heb y Gyfraith drengi hefyd heb y Gyfraith, a chaiff pawb a bechodd dan y Gyfraith eu barnu trwy'r Gyfraith.
2:13 Nid y rhai sy'n gwrando'r Gyfraith a geir yn gyfiawn gerbron Duw. Na, y rhai sy'n cadw'r Gyfraith a ddyfernir yn gyfiawn ganddo ef.
2:14 Pan yw Cenhedloedd sydd heb y Gyfraith yn cadw gofynion y Gyfraith wrth reddf, y maent, gan eu bod heb y Gyfraith, yn gyfraith iddynt eu hunain.
2:15 Y maent yn dangos bod yr hyn a ofynnir gan y Gyfraith wedi ei ysgrifennu yn eu calonnau, gan fod eu cydwybod yn cyd-dystiolaethu â'r Gyfraith, ac felly y mae eu meddyliau weithiau'n eu cyhuddo, ac weithiau hefyd yn eu hamddiffyn.
2:16 Yn ôl yr Efengyl yr wyf fi'n ei phregethu, felly y bydd yn y Dydd pan fydd Duw yn barnu meddyliau cuddiedig pawb trwy Grist Iesu.

Yr Iddewon a'r Gyfraith

2:17 Amdanat ti, fe ddichon dy fod yn cario'r enw "Iddew", yn pwyso ar y Gyfraith, yn ymffrostio yn Nuw,
2:18 yn gwybod ei ewyllys, ac oherwydd dy hyfforddi yn y Gyfraith yn gallu canfod yr hyn sy'n rhagori.
2:19 Fe ddichon dy fod yn argyhoeddedig dy fod yn arweinydd i'r dall, yn oleuni i'r rhai sydd mewn tywyllwch,
2:20 yn disgyblu'r ffôl, yn dysgu'r ifanc, a hynny am fod gennyt yn y Gyfraith holl gynnwys gwybodaeth a gwirionedd.
2:21 Os felly, ti sy'n dysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? A wyt ti, sy'n pregethu yn erbyn lladrata, yn lleidr?
2:22 A wyt ti, sy'n llefaru yn erbyn godinebu, yn odinebus? A wyt ti, sy'n ffieiddio eilunod, yn ysbeilio temlau?
2:23 A wyt ti, sy'n ymffrostio yn y Gyfraith, yn dwyn gwarth ar Dduw trwy dorri ei Gyfraith?
2:24 Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud, "O'ch achos chwi, ceblir enw Duw ymhlith y Cenhedloedd."
2:25 Yn ddiau y mae gwerth i enwaediad, os wyt yn cadw'r Gyfraith. Ond os torri'r Gyfraith yr wyt ti, y mae dy enwaediad wedi mynd yn ddienwaediad.
2:26 Os yw'r sawl nad enwaedwyd arno yn cadw gorchmynion y Gyfraith, oni fydd Duw yn cyfrif ei ddienwaediad yn enwaediad?
2:27 Bydd y dienwaededig ei gorff, os yw'n cyflawni'r Gyfraith, yn farnwr arnat ti, sydd yn droseddwr y Gyfraith er bod gennyt gyfraith ysgrifenedig a'r enwaediad.
2:28 Nid Iddew mo'r Iddew sydd yn y golwg. Nid enwaediad chwaith mo'r enwaediad sydd yn y golwg yn y cnawd.
2:29 Y gwir Iddew yw'r Iddew cuddiedig, a'r gwir enwaediad yw enwaediad y galon, peth ysbrydol, nid llythrennol. Dyma'r un sy'n cael clod, nid gan bobl eraill, ond gan Dduw.
3:1 Yn wyneb hyn, pa ragorfraint sydd i'r Iddew? Pa werth sydd i'r enwaediad?
3:2 Y mae llawer, ym mhob modd. Yn y lle cyntaf, i'r Iddewon yr ymddiriedwyd oraclau Duw.
3:3 Ond beth os bu rhai yn anffyddlon? A all eu hanffyddlondeb hwy ddileu ffyddlondeb Duw?
3:4 Ddim ar unrhyw gyfrif! Rhaid bod Duw yn eirwir, er i bawb arall fod yn gelwyddog. Fel y mae'n ysgrifenedig: "Fel y'th geir yn gywir yn dy eiriau, a gorchfygu wrth gael dy farnu."
3:5 Ond os yw'n hanghyfiawnder ni yn dwyn i'r golau gyfiawnder Duw, beth a ddywedwn? Mai anghyfiawn yw'r Duw sy'n bwrw ei ddigofaint arnom? (Siarad fel dyn yr wyf.)
3:6 Ddim ar unrhyw gyfrif! Os nad yw Duw yn gyfiawn, sut y gall farnu'r byd?
3:7 Ie, ond os yw fy anwiredd i yn foddion i ddangos helaethrwydd gwirionedd Duw, a dwyn gogoniant iddo, pam yr wyf fi o hyd dan farn fel pechadur?
3:8 "Gadewch i ni wneud drygioni er mwyn i ddaioni ddilyn" — ai dyna yr ydym yn ei ddweud, fel y mae rhai sy'n ein henllibio yn mynnu? Y mae'r rheini'n llawn haeddu bod dan gondemniad.

Nid oes Neb Cyfiawn

3:9 Wel, ynteu, a ydym ni'r Iddewon yn rhagori? Ddim o gwbl! Yr ydym eisoes wedi cyhuddo Iddewon a Groegiaid fel ei gilydd o fod dan lywodraeth pechod.
3:10 Fel y mae'n ysgrifenedig: "Nid oes neb cyfiawn, nac oes un,
3:11 neb sydd yn deall, neb yn ceisio Duw.
3:12 Y mae pawb wedi gwyro, yn ddi-fudd ynghyd; nid oes un a wna ddaioni, nac oes, dim un.
3:13 Bedd agored yw eu llwnc, a'u tafodau'n traethu twyll; gwenwyn nadredd dan eu gwefusau,
3:14 a'u genau'n llawn melltith a chwerwedd.
3:15 Cyflym eu traed i dywallt gwaed,
3:16 distryw a thrallod sydd ar eu ffyrdd;
3:17 nid ydynt yn adnabod ffordd tangnefedd;
3:18 nid oes ofn Duw ar eu cyfyl."
3:19 Fe wyddom mai wrth y rhai sydd dan y Gyfraith y mae'r Gyfraith yn llefaru pob dim a ddywed. Felly dyna daw ar bob ceg, a'r byd i gyd wedi ei osod dan farn Duw.
3:20 Oherwydd, "gerbron Duw ni chyfiawnheir neb meidrol" trwy gadw gofynion cyfraith. Yr hyn a geir trwy'r Gyfraith yw ymwybyddiaeth o bechod.

Cyfiawnder Trwy Ffydd

3:21 Ond yn awr, yn annibynnol ar gyfraith, y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu. Y mae'r Gyfraith a'r proffwydi, yn wir, yn dwyn tystiolaeth iddo,
3:22 ond cyfiawnder sydd o Dduw ydyw, trwy ffydd yn Iesu Grist i bawb sy'n credu.
3:23 Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw.
3:24 Gan ras Duw, ac am ddim, y maent yn cael eu cyfiawnhau, trwy'r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu,
3:25 yr hwn a osododd Duw gerbron y byd, yn ei waed, yn aberth cymod trwy ffydd. Gwnaeth Duw hyn i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad, yn wyneb yr anwybyddu a fu ar bechodau'r gor-ffennol yn amser ymatal Duw;
3:26 ie, i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad yn yr amser presennol hwn, sef ei fod ef ei hun yn gyfiawn a hefyd yn cyfiawnhau'r sawl sy'n meddu ar ffydd yn Iesu.
3:27 A oes lle, felly, i'n hymffrost? Nac oes! Y mae wedi ei gau allan. Ar ba egwyddor? Ai egwyddor cadw gofynion cyfraith? Nage'n wir, ond ar egwyddor ffydd.
3:28 Ein dadl yw y cyfiawnheir rhywun trwy gyfrwng ffydd yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith.
3:29 Ai Duw'r Iddewon yn unig yw Duw? Onid yw'n Dduw'r Cenhedloedd hefyd?
3:30 Ydyw, yn wir, oherwydd un yw Duw, a bydd yn cyfiawnhau'r enwaededig trwy ffydd, a'r dienwaededig trwy'r un ffydd.
3:31 A ydym, ynteu, yn dileu'r Gyfraith trwy'r ffydd hon? Nac ydym, ddim o gwbl! Cadarnhau'r Gyfraith yr ydym.

Abraham yn Esiampl

4:1 Beth gan hynny a ddywedwn am Abraham, hendad ein llinach? Beth a ddarganfu ef?
4:2 Oherwydd os cafodd Abraham ei gyfiawnhau trwy ei weithredoedd, y mae ganddo rywbeth i ymffrostio o'i herwydd. Ond na, gerbron Duw nid oes ganddo ddim.
4:3 Oherwydd beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? "Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder."
4:4 Pan fydd rhywun yn gweithio, nid fel rhodd y cyfrifir y tâl, ond fel peth sy'n ddyledus.
4:5 Pan na fydd rhywun yn gweithio, ond yn rhoi ei ffydd yn yr hwn sy'n cyfiawnhau'r annuwiol, cyfrifir ei ffydd i un felly yn gyfiawnder.
4:6 Dyna ystyr yr hyn y mae Dafydd yn ei ddweud am wynfyd y rhai y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddynt, yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith:
4:7 "Gwyn eu byd y rhai y maddeuwyd eu troseddau, ac y cuddiwyd eu pechodau;
4:8 gwyn ei fyd y sawl na fydd yr Arglwydd yn cyfrif pechod yn ei erbyn."
4:9 Y gwynfyd hwn, ai braint yn dilyn ar enwaediad yw? Oni cheir ef heb enwaediad hefyd? Ceir yn wir, oherwydd ein hymadrodd yw, "cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder".
4:10 Ond sut y bu'r cyfrif? Ai ar ôl enwaedu arno, ynteu cyn hynny? Cyn yr enwaedu, nid ar ei ôl.
4:11 Ac wedyn derbyniodd arwydd yr enwaediad, yn sêl o'r cyfiawnder oedd eisoes yn eiddo iddo trwy ffydd, heb enwaediad. O achos hyn, y mae yn dad i bawb sy'n meddu ar ffydd, heb enwaediad, a chyfiawnder felly yn cael ei gyfrif iddynt.
4:12 Y mae yn dad hefyd i'r rhai enwaededig sydd nid yn unig yn enwaededig ond hefyd yn dilyn camre'r ffydd oedd yn eiddo i Abraham ein tad cyn enwaedu arno.

Cyflawni'r Addewid Trwy Ffydd

4:13 Y mae'r addewid i Abraham, neu i'w ddisgynyddion, y byddai yn etifedd y byd, wedi ei rhoi, nid trwy'r Gyfraith ond trwy'r cyfiawnder a geir trwy ffydd.
4:14 Oherwydd, os y rhai sy'n byw yn ôl y Gyfraith yw'r etifeddion, yna gwagedd yw ffydd, a diddim yw'r addewid.
4:15 Digofaint yw cynnyrch y Gyfraith, ond lle nad oes cyfraith, nid oes trosedd yn ei herbyn chwaith.
4:16 Am hynny, rhoddwyd yr addewid trwy ffydd er mwyn iddi fod yn ôl gras, fel y byddai yn ddilys i bawb o ddisgynyddion Abraham, nid yn unig i'r rhai sy'n byw yn ôl y Gyfraith, ond hefyd i'r rhai sy'n byw yn ôl ffydd Abraham. Y mae Abraham yn dad i ni i gyd;
4:17 fel y mae'n ysgrifenedig: "Yr wyf yn dy benodi yn dad cenhedloedd lawer." Yn y Duw a ddywedodd hyn y credodd Abraham, y Duw sy'n gwneud y meirw'n fyw, ac yn galw i fod yr hyn nad yw'n bod.
4:18 A'r credu hwn, â gobaith y tu hwnt i obaith, a'i gwnaeth yn dad cenhedloedd lawer, yn ôl yr hyn a lefarwyd: "Felly y bydd dy ddisgynyddion."
4:19 Er ei fod tua chant oed, ni wanychodd yn ei ffydd, wrth ystyried cyflwr marw ei gorff ei hun a marweidd-dra croth Sara.
4:20 Nid amheuodd ddim ynglŷn ag addewid Duw, na diffygio mewn ffydd, ond yn hytrach grymusodd yn ei ffydd a rhoi gogoniant i Dduw,
4:21 yn llawn hyder fod Duw yn abl i gyflawni'r hyn yr oedd wedi ei addo.
4:22 Dyma pam y cyfrifwyd ei ffydd iddo yn gyfiawnder.
4:23 Ond ysgrifennwyd y geiriau, "fe'i cyfrifwyd iddo", nid ar gyfer Abraham yn unig,
4:24 ond ar ein cyfer ni hefyd. Y mae cyfiawnder i'w gyfrif i ni, sydd â ffydd gennym yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd oddi wrth y meirw.
4:25 Cafodd ef ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau, a'i gyfodi i'n cyfiawnhau ni.

Canlyniadau Cyfiawnhad

5:1 Am hynny, oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch â Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
5:2 Trwyddo ef, yn wir, cawsom ffordd, trwy ffydd, i ddod i'r gras hwn yr ydym yn sefyll ynddo. Yr ydym hefyd yn gorfoleddu yn y gobaith y cawn gyfranogi yng ngogoniant Duw.
5:3 Heblaw hynny, yr ydym hyd yn oed yn gorfoleddu yn ein gorthrymderau, oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw'r gallu i ymddál,
5:4 ac o'r gallu i ymddál y daw rhuddin cymeriad, ac o gymeriad y daw gobaith.
5:5 A dyma obaith na chawn ein siomi ganddo, oherwydd y mae cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau trwy'r Ysbryd Glân y mae ef wedi ei roi i ni.
5:6 Oherwydd y mae Crist eisoes, yn yr amser priodol, a ninnau'n ddiymadferth, wedi marw dros yr annuwiol.
5:7 Go brin y bydd neb yn marw dros un cyfiawn. Efallai y ceir rhywun yn ddigon dewr i farw dros un da.
5:8 Ond prawf Duw o'r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid.
5:9 A ninnau yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y mae'n sicrach fyth y cawn ein hachub trwyddo ef rhag y digofaint.
5:10 Oherwydd os cymodwyd ni â Duw trwy farwolaeth ei Fab pan oeddem yn elynion, y mae'n sicrach fyth, ar ôl ein cymodi, y cawn ein hachub trwy ei fywyd.
5:11 Ond heblaw hynny, yr ydym hefyd yn gorfoleddu yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist; trwyddo ef yr ydym yn awr wedi derbyn y cymod.

Adda a Christ

5:12 Ein dadl yw hyn. Daeth pechod i'r byd trwy un dyn, a thrwy bechod farwolaeth, ac yn y modd hwn ymledodd marwolaeth i'r ddynolryw i gyd, yn gymaint ag i bawb bechu.
5:13 Y mae'n wir fod pechod yn y byd cyn bod y Gyfraith, ond yn niffyg cyfraith, nid yw pechod yn cael ei gyfrif.
5:14 Er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, hyd yn oed ar y rhai oedd heb bechu ar batrwm trosedd Adda; ac y mae Adda yn rhaglun o'r Dyn oedd i ddod.
5:15 Ond nid yw'r weithred sy'n drosedd yn cyfateb yn hollol i'r weithred sy'n ras. Y mae'n wir i drosedd yr un ddwyn y llawer i farwolaeth; ond gymaint mwy sydd ar yr ochr arall: helaethrwydd gras Duw a'i rodd raslon i'r llawer, o'r un dyn, Iesu Grist.
5:16 Ac ni ellir cymharu canlyniad pechod un dyn â chanlyniad rhodd Duw. Ar y naill law, yn dilyn ar un weithred o drosedd, y mae dedfryd gyfreithiol sy'n collfarnu; ar y llaw arall, yn dilyn ar droseddau lawer, y mae gweithred o ras sy'n dyfarnu'n gyfiawn.
5:17 Y mae'n wir i farwolaeth, trwy drosedd yr un, deyrnasu trwy'r un hwnnw; ond gymaint mwy sydd ar yr ochr arall: pobl sy'n derbyn helaethrwydd gras Duw, a'i gyfiawnder yn rhodd, yn cael byw a theyrnasu trwy un dyn, Iesu Grist.
5:18 Dyma'r gymhariaeth gan hynny: fel y daeth collfarn ar y ddynolryw i gyd trwy un weithred o drosedd, felly hefyd y daeth cyfiawnhad sy'n esgor ar fywyd i'r ddynolryw i gyd trwy un weithred o gyfiawnder.
5:19 Fel y gwnaethpwyd y llawer yn bechaduriaid trwy anufudd-dod un dyn, felly hefyd y gwneir y llawer yn gyfiawn trwy ufudd-dod un dyn.
5:20 Ond daeth y Gyfraith i mewn, er mwyn i drosedd amlhau; ond lle'r amlhaodd pechod, daeth gorlif helaethach o ras;
5:21 ac felly, fel y teyrnasodd pechod trwy farwolaeth, y mae gras i deyrnasu trwy gyfiawnder, gan ddwyn bywyd tragwyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Yn Farw i Bechod, ond yn Fyw yng Nghrist

6:1 Beth, ynteu, sydd i'w ddweud? A ydym i barhau mewn pechod, er mwyn i ras amlhau?
6:2 Ddim ar unrhyw gyfrif! Pobl ydym a fu farw i bechod; sut y gallwn ni, mwyach, fyw ynddo?
6:3 A ydych heb ddeall fod pawb ohonom a fedyddiwyd i Grist Iesu wedi ein bedyddio i'w farwolaeth?
6:4 Trwy'r bedydd hwn i farwolaeth fe'n claddwyd gydag ef, fel, megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw mewn amlygiad o ogoniant y Tad, y byddai i ninnau gael byw ar wastad bywyd newydd.
6:5 Oherwydd os daethom ni yn un ag ef trwy farwolaeth ar lun ei farwolaeth ef, fe'n ceir hefyd yn un ag ef trwy atgyfodiad ar lun ei atgyfodiad ef.
6:6 Fe wyddom fod yr hen ddynoliaeth oedd ynom wedi ei chroeshoelio gydag ef, er mwyn dirymu'r corff pechadurus, ac i'n cadw rhag bod, mwyach, yn gaethion i bechod.
6:7 Oherwydd y mae'r sawl sydd wedi marw wedi ei ryddhau oddi wrth bechod.
6:8 Ac os buom ni farw gyda Christ, yr ydym yn credu y cawn fyw gydag ef hefyd,
6:9 a ninnau'n gwybod na fydd Crist, sydd wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn marw mwyach. Collodd marwolaeth ei harglwyddiaeth arno ef.
6:10 Yn gymaint ag iddo farw, i bechod y bu farw, un waith am byth; yn gymaint â'i fod yn fyw, i Dduw y mae'n byw.
6:11 Felly, yr ydych chwithau i'ch cyfrif eich hunain fel rhai sy'n farw i bechod, ond sy'n fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu.
6:12 Felly, nid yw pechod i deyrnasu yn eich corff marwol a'ch gorfodi i ufuddhau i'w chwantau.
6:13 Peidiwch ag ildio eich cyneddfau corfforol i bechod, i'w defnyddio i amcanion drwg. Yn hytrach, ildiwch eich hunain i Dduw, yn rhai byw o blith y meirw, ac ildiwch eich cyneddfau iddo, i'w defnyddio i amcanion da.
6:14 Nid chaiff pechod arglwyddiaethu arnoch, oherwydd nid ydych mwyach dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras.

Caethweision Cyfiawnder

6:15 Ond beth sy'n dilyn? A ydym i ymroi i bechu, am nad ydym dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras? Ddim ar unrhyw gyfrif!
6:16 Onid ydych yn gwybod, os ydych yn eich ildio eich hunain ag ufudd-dod caethwas i rywun, mai caethion ydych i'r sawl sy'n cael eich ufudd-dod; prun bynnag a ydych yn gaethion i bechod, a marwolaeth yn dilyn, neu'n gaethion i ufudd-dod, a chyfiawnder yn dilyn?
6:17 Ond, diolch i Dduw, yr ydych chwi, a fu'n gaethion i bechod, yn awr wedi rhoi ufudd-dod calon i'r patrwm hwnnw o athrawiaeth y traddodwyd chwi iddo.
6:18 Cawsoch eich rhyddhau oddi wrth bechod, ac aethoch yn gaethion i gyfiawnder.
6:19 Yr wyf yn arfer ymadroddion cyfarwydd, o achos eich cyfyngiadau dynol chwi. Fel yr ildiasoch eich cyneddfau corfforol gynt i fod yn gaethion i aflendid ac anghyfraith, a phenrhyddid yn dilyn, felly ildiwch hwy yn awr i fod yn gaethion i gyfiawnder, a bywyd sanctaidd yn dilyn.
6:20 Pan oeddech yn gaeth i bechod, yr oeddech yn rhydd oddi wrth gyfiawnder.
6:21 Ond beth oedd ffrwyth y cyfnod hwnnw? Onid pethau sy'n codi cywilydd arnoch yn awr? Oherwydd diwedd y pethau hyn yw marwolaeth.
6:22 Ond yn awr yr ydych wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a'ch gwneud yn gaethion i Dduw, ac y mae ffrwyth hyn yn eich meddiant, sef bywyd sanctaidd, a'r diwedd fydd bywyd tragwyddol.
6:23 Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

Priodas yn Enghraifft

7:1 A ydych heb wybod, gyfeillion, — ac yr wyf yn siarad â rhai sy'n gwybod y Gyfraith — fod gan gyfraith awdurdod dros rywun cyhyd ag y bydd yn fyw?
7:2 Er enghraifft, y mae gwraig briod wedi ei rhwymo gan y gyfraith wrth ei gŵr tra bydd ef yn fyw. Ond os bydd y gŵr farw, y mae hi wedi ei rhyddhau o'i rhwymau cyfreithiol wrtho.
7:3 Felly, os bydd iddi, yn ystod bywyd ei gŵr, ddod yn eiddo i ddyn arall, godinebwraig fydd yr enw arni. Ond os bydd y gŵr farw, y mae hi'n rhydd o'r gyfraith hon, ac ni bydd yn odinebwraig wrth ddod yn eiddo i ddyn arall.
7:4 Ac felly, fy nghyfeillion, yr ydych chwi hefyd, trwy gorff Crist, wedi eich gwneud yn farw mewn perthynas â'r Gyfraith, er mwyn i chwi ddod yn eiddo i rywun arall, sef yr un a gyfodwyd oddi wrth y meirw, er mwyn i ni ddwyn ffrwyth i Dduw.
7:5 Pan oeddem yn byw ym myd y cnawd, yr oedd y nwydau pechadurus, a ysgogir gan y Gyfraith, ar waith yn ein cyneddfau corfforol, yn peri i ni ddwyn ffrwyth i farwolaeth.
7:6 Ond yn awr, gan ein bod wedi marw i'r Gyfraith oedd yn ein dal yn gaeth, fe'n rhyddhawyd o'i rhwymau, i wasanaethu ein Meistr yn ffordd newydd yr Ysbryd, ac nid yn hen ffordd cyfraith ysgrifenedig.

Problem y Pechod sy'n Cartrefu Ynom

7:7 Beth, ynteu, sydd i'w ddweud? Mai pechod yw'r Gyfraith? Ddim ar unrhyw gyfrif! I'r gwrthwyneb, ni buaswn wedi gwybod beth yw pechod ond trwy'r Gyfraith, ac ni buaswn yn gwybod beth yw chwant, oni bai fod y Gyfraith yn dweud, "Na chwennych."
7:8 A thrwy'r gorchymyn hwn cafodd pechod ei gyfle, a chyffroi ynof bob math o chwantau drwg.
7:9 Oherwydd, heb gyfraith, peth marw yw pechod. Yr oeddwn i'n fyw, un adeg, heb gyfraith;
7:10 yna daeth y gorchymyn, a daeth pechod yn fyw, a bûm innau farw. Y canlyniad i mi oedd i'r union orchymyn a fwriadwyd yn gyfrwng bywyd droi yn gyfrwng marwolaeth.
7:11 Oherwydd trwy'r gorchymyn cafodd pechod ei gyfle, twyllodd fi, a thrwy'r gorchymyn fe'm lladdodd.
7:12 Gan hynny, y mae'r Gyfraith yn sanctaidd, a'r gorchymyn yn sanctaidd a chyfiawn a da.
7:13 Os felly, a drodd y peth da hwn yn farwolaeth i mi? Naddo, ddim o gwbl! Yn hytrach, y mae pechod yn defnyddio'r peth da hwn, ac yn dwyn marwolaeth i mi, er mwyn i wir natur pechod ddod i'r golwg. Mewn gair, swydd y gorchymyn yw dwyn pechod i anterth ei bechadurusrwydd.
7:14 Gwyddom, yn wir, fod y Gyfraith yn perthyn i fyd yr Ysbryd. Ond perthyn i fyd y cnawd yr wyf fi, un sydd wedi ei werthu yn gaethwas i bechod.
7:15 Ni allaf ddeall fy ngweithredoedd, oherwydd yr wyf yn gwneud, nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio ond y peth yr wyf yn ei gasáu.
7:16 Ac os wyf yn gwneud yr union beth sy'n groes i'm hewyllys, yna yr wyf yn cytuno â'r Gyfraith, ac yn cydnabod ei bod yn dda.
7:17 Ond y gwir yw, nid myfi sy'n gweithredu mwyach, ond pechod, sy'n cartrefu ynof fi,
7:18 oherwydd mi wn nad oes dim da yn cartrefu ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd. Y mae'r ewyllys i wneud daioni gennyf; y peth nad yw gennyf yw'r gweithredu.
7:19 Yr wyf yn cyflawni, nid y daioni yr wyf yn ei ewyllysio ond yr union ddrygioni sy'n groes i'm hewyllys.
7:20 Ond os wyf yn gwneud yr union beth sy'n groes i'm hewyllys, yna nid myfi sy'n gweithredu mwyach, ond y pechod sy'n cartrefu ynof fi.
7:21 Yr wyf yn cael y ddeddf hon ar waith: pan wyf yn ewyllysio gwneud daioni, drygioni sy'n ei gynnig ei hun imi.
7:22 Y mae'r gwir ddyn sydd ynof yn ymhyfrydu yng Nghyfraith Duw.
7:23 Ond yr wyf yn canfod cyfraith arall yn fy nghyneddfau corfforol, yn brwydro yn erbyn y Gyfraith y mae fy neall yn ei chydnabod, ac yn fy ngwneud yn garcharor i'r gyfraith sydd yn fy nghyneddfau, sef cyfraith pechod.
7:24 Y dyn truan ag ydwyf! Pwy a'm gwared i o'r corff hwn a'i farwolaeth?
7:25 Duw, diolch iddo, trwy Iesu Grist ein Harglwydd! Dyma, felly, sut y mae hi arnaf: yr wyf fi, y gwir fi, â'm deall yn gwasanaethu Cyfraith Duw, ond â'm cnawd yn gwasanaethu cyfraith pechod.

Bywyd yn yr Ysbryd

8:1 Yn awr, felly, nid yw'r rhai sydd yng Nghrist Iesu dan gollfarn o unrhyw fath.
8:2 Oherwydd yng Nghrist Iesu y mae cyfraith yr Ysbryd, sy'n rhoi bywyd, wedi dy ryddhau o afael cyfraith pechod a marwolaeth.
8:3 Yr hyn oedd y tu hwnt i allu'r Gyfraith, yn ei gwendid dan gyfyngiadau'r cnawd, y mae Duw wedi ei gyflawni. Wrth anfon ei Fab ei hun, mewn ffurf debyg i'n cnawd pechadurus ni, i ddelio â phechod, y mae wedi collfarnu pechod yn y cnawd.
8:4 Gwnaeth hyn er mwyn i ofynion cyfiawn y Gyfraith gael eu cyflawni ynom ni, sy'n byw, nid ar wastad y cnawd, ond ar wastad yr Ysbryd.
8:5 Oherwydd y sawl sydd â'u bodolaeth ar wastad y cnawd, ar bethau'r cnawd y mae eu bryd; ond y sawl sydd ar wastad yr Ysbryd, ar bethau'r Ysbryd y mae eu bryd.
8:6 Yn wir, y mae bod â'n bryd ar y cnawd yn farwolaeth, ond y mae bod â'n bryd ar yr Ysbryd yn fywyd a heddwch.
8:7 Oherwydd y mae bod â'n bryd ar y cnawd yn elyniaeth tuag at Dduw; nid yw hynny, ac ni all fod, yn ddarostyngiad i Gyfraith Duw.
8:8 Ni all y sawl sy'n byw ym myd y cnawd foddhau Duw.
8:9 Ond nid ym myd y cnawd yr ydych chwi, ond yn yr Ysbryd, gan fod Ysbryd Duw yn cartrefu ynoch chwi. Pwy bynnag sydd heb Ysbryd Crist, nid eiddo Crist ydyw.
8:10 Ond os yw Crist ynoch chwi, y mae'r corff yn farw o achos pechod, ond y mae'r Ysbryd yn fywyd ichwi o achos eich cyfiawnhad.
8:11 Os yw Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu oddi wrth y meirw yn cartrefu ynoch, bydd yr hwn a gyfododd Grist oddi wrth y meirw yn rhoi bywyd newydd hefyd i'ch cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd, sy'n ymgartrefu ynoch chwi.
8:12 Am hynny, gyfeillion, yr ydym dan rwymedigaeth, ond nid i'r cnawd, i fyw ar wastad y cnawd.
8:13 Oherwydd, os ar wastad y cnawd yr ydych yn byw, yr ydych yn sicr o farw; ond os ydych, trwy'r Ysbryd, yn rhoi arferion drwg y corff i farwolaeth, byw fyddwch.
8:14 Y mae pawb sy'n cael eu harwain gan Ysbryd Duw yn blant Duw.
8:15 Oherwydd nid ysbryd caethiwed sydd unwaith eto'n peri ofn yr ydych wedi ei dderbyn, ond Ysbryd mabwysiad, yr ydym trwyddo yn llefain, "Abba! Dad!"
8:16 Y mae'r Ysbryd ei hun yn cyd-dystiolaethu â'n hysbryd ni, ein bod yn blant i Dduw.
8:17 Ac os plant, etifeddion hefyd, etifeddion Duw a chydetifeddion â Christ, os yn wir yr ydym yn cyfranogi o'i ddioddefaint ef er mwyn cyfranogi o'i ogoniant hefyd.

Y Gogoniant sydd i Ddod

8:18 Yr wyf fi'n cyfrif nad yw dioddef-iadau'r presennol i'w cymharu â'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio i ni.
8:19 Yn wir, y mae'r greadigaeth yn disgwyl yn daer am i blant Duw gael eu datguddio.
8:20 Oherwydd darostyngwyd y greadigaeth i oferedd, nid o'i dewis ei hun, ond trwy'r hwn a'i darostyngodd,
8:21 yn y gobaith y câi'r greadigaeth hithau ei rhyddhau o gaethiwed a llygredigaeth, a'i dwyn i ryddid a gogoniant plant Duw.
8:22 Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi, hyd heddiw.
8:23 Ac nid y greadigaeth yn unig, ond nyni sydd â blaenffrwyth yr Ysbryd gennym, yr ydym ninnau'n ochneidio ynom ein hunain wrth ddisgwyl ein mabwysiad yn blant Duw, sef rhyddhad ein corff o gaethiwed.
8:24 Oherwydd yn y gobaith hwn y cawsom ein hachub. Ond nid gobaith mo'r gobaith sy'n gweld. Pwy sy'n gobeithio am yr hyn y mae'n ei weld?
8:25 Yr hyn nad ydym yn ei weld yw gwrthrych gobaith, ac felly yr ydym yn dal i aros amdano mewn amynedd.
8:26 Yn yr un modd, y mae'r Ysbryd yn ein cynorthwyo yn ein gwendid. Oherwydd ni wyddom ni sut y dylem weddïo, ond y mae'r Ysbryd ei hun yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau,
8:27 ac y mae Duw, sy'n chwilio calonnau dynol, yn deall bwriad yr Ysbryd, mai ymbil y mae tros y saint yn ôl ewyllys Duw.
8:28 Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad.
8:29 Oherwydd, cyn eu bod hwy, fe'u hadnabu, a'u rhagordeinio i fod yn unffurf ac unwedd â'i Fab, fel mai cyntafanedig fyddai ef ymhlith pobl lawer.
8:30 A'r rhai a ragordeiniodd, fe'u galwodd hefyd; a'r rhai a alwodd, fe'u cyfiawnhaodd hefyd; a'r rhai a gyfiawnhaodd, fe'u gogoneddodd hefyd.

Cariad Duw

8:31 O ystyried hyn oll, beth a ddywedwn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn?
8:32 Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef?
8:33 Pwy sydd i ddwyn cyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw'r un sy'n dyfarnu'n gyfiawn.
8:34 Pwy sydd yn ein collfarnu? Crist Iesu yw'r un a fu farw, yn hytrach a gyfodwyd, yr un hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr un sydd yn ymbil trosom.
8:35 Pwy a'n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf?
8:36 Hyn yn wir yw ein rhan, fel y mae'n ysgrifenedig: "Er dy fwyn di fe'n rhoddir i farwolaeth drwy'r dydd, fe'n cyfrifir fel defaid i'w lladd."
8:37 Ond yn y pethau hyn i gyd y mae gennym fuddugoliaeth lwyr trwy'r hwn a'n carodd ni.
8:38 Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na'r presennol na'r dyfodol,
8:39 na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

Ethol Israel gan Dduw

9:1 Ar fy ngwir yng Nghrist, heb ddim anwiredd — ac y mae fy nghydwybod, dan arweiniad yr Ysbryd Glân, yn fy ategu —
9:2 y mae fy ngofid yn fawr, ac y mae gennyf loes ddi-baid yn fy nghalon.
9:3 Gallwn ddymuno i mi fy hunan fod dan felltith, ac yn ysgymun oddi wrth Grist, pe bai hynny o les iddynt hwy, fy nghyd-Iddewon i, fy mhobl i o ran cig a gwaed.
9:4 Israeliaid ydynt; eu heiddo hwy yw'r mabwysiad, y gogoniant, y cyfamodau, y Gyfraith, yr addoliad a'r addewidion.
9:5 Iddynt hwy y mae'r hynafiaid yn perthyn, ac oddi wrthynt hwy, yn ôl ei linach naturiol, y daeth y Meseia. I'r Duw sy'n llywodraethu'r cwbl boed bendith am byth. Amen.
9:6 Ond ni ellir dweud bod gair Duw wedi methu. Oherwydd nid yw pawb sydd o linach Israel yn wir Israel.
9:7 Ac ni ellir dweud bod pawb ohonynt, am eu bod yn ddisgynyddion Abraham, yn blant gwirioneddol iddo. Yn hytrach, yng ngeiriau'r Ysgrythur, "Trwy Isaac y gelwir dy ddisgynyddion."
9:8 Hynny yw, nid y plant o linach naturiol Abraham, nid y rheini sy'n blant i Dduw. Yn hytrach, plant yr addewid sy'n cael eu cyfrif yn ddisgynyddion.
9:9 Oherwydd dyma air yr addewid: "Mi ddof yn yr amser hwnnw, a chaiff Sara fab."
9:10 Ond y mae enghraifft arall hefyd. Beichiogodd Rebeca o gyfathrach ag un dyn, sef ein tad Isaac.
9:11 Eto i gyd, cyn geni'r plant a chyn iddynt wneud dim, na da na drwg (fel bod bwriad Duw, sy'n gweithredu trwy etholedigaeth, yn dal mewn grym, yn dibynnu nid ar weithredoedd dynol ond ar yr hwn sy'n galw),
9:12 fe ddywedwyd wrthi, "Bydd yr hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf."
9:13 Fel y mae'n ysgrifenedig: "Jacob, fe'i cerais, ond Esau, fe'i caseais."
9:14 Beth, ynteu, a atebwn i hyn? Bod Duw yn coleddu anghyfiawnder? Ddim ar unrhyw gyfrif!
9:15 Y mae'n dweud wrth Moses: "Trugarhaf wrth bwy bynnag y trugarhaf wrtho, a thosturiaf wrth bwy bynnag y tosturiaf wrtho."
9:16 Felly, nid mater o ewyllys neu o ymdrech ddynol ydyw, ond o drugaredd Duw.
9:17 Fel y dywedir wrth Pharo yn yr Ysgrythur, "Fy union amcan wrth dy godi di oedd dangos fy ngallu ynot ti, a chyhoeddi fy enw trwy'r holl ddaear."
9:18 Gwelir, felly, fod Duw yn trugarhau wrth unrhyw un a fyn, a'i fod yn gwneud unrhyw un a fyn yn wargaled.

Digofaint Duw, a'i Drugaredd

9:19 Ond fe ddywedi wrthyf, "Os felly, pam y mae Duw yn dal i feio pobl? Pwy a all wrthsefyll ei ewyllys?"
9:20 Ie, ond pwy wyt ti, feidrolyn, i ateb Duw yn ôl? A yw hi'n debyg y dywed yr hyn a luniwyd wrth yr un a'i lluniodd, "Pam y lluniaist fi fel hyn?"
9:21 Oni all y crochenydd lunio beth bynnag a fynno o'r clai? Onid oes hawl ganddo i wneud, o'r un telpyn, un llestr i gael parch a'r llall amarch?
9:22 Ond beth os yw Duw, yn ei awydd i ddangos ei ddigofaint ac i amlygu ei nerth, wedi dioddef â hir amynedd y llestri hynny sy'n wrthrychau digofaint ac yn barod i'w dinistrio?
9:23 Ei amcan yn hyn fyddai dwyn i'r golau y cyfoeth o ogoniant oedd ganddo ar gyfer y llestri sy'n wrthrychau trugaredd, y rheini yr oedd ef wedi eu paratoi ymlaen llaw i ogoniant.
9:24 A ni yw'r rhain, ni sydd wedi ein galw, nid yn unig o blith yr Iddewon, ond hefyd o blith y Cenhedloedd.
9:25 Fel y mae'n dweud yn llyfr Hosea hefyd: "Galwaf yn bobl i mi rai nad ydynt yn bobl i mi, a galwaf yn anwylyd un nad yw'n anwylyd;
9:26 ac yn y lle y dywedwyd wrthynt, 'Nid fy mhobl ydych', yno, fe'u gelwir yn blant y Duw byw."
9:27 Ac y mae Eseia yn datgan am Israel: "Er i bobl Israel fod mor niferus â thywod y môr, gweddill yn unig fydd yn cael eu hachub;
9:28 oherwydd llwyr a llym fydd dedfryd yr Arglwydd ar y ddaear."
9:29 A'r un yw neges gair blaenorol Eseia: "Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael i ni ddisgynyddion, byddem fel Sodom, ac yn debyg i Gomorra."

Israel a'r Efengyl

9:30 Beth, ynteu, a ddywedwn? Hyn, fod Cenhedloedd, nad oeddent â'u bryd ar gyfiawnder, wedi dod o hyd iddo, sef y cyfiawnder sydd trwy ffydd;
9:31 ond bod Israel, er iddi fod â'i bryd ar gyfraith a fyddai'n dod â chyfiawnder, heb ei gael.
9:32 Am ba reswm? Am iddynt weithredu, nid trwy ffydd ond ar y dybiaeth mai cadw gofynion cyfraith oedd y ffordd. Syrthiasant ar y "maen tramgwydd"
9:33 y mae'r Ysgrythur yn sôn amdano: "Wele, yr wyf yn gosod yn Seion faen tramgwydd, a chraig rhwystr, a'r rhai sy'n credu ynddo, ni chywilyddir mohonynt."
10:1 Fy nghyfeillion, ewyllys fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw dros fy mhobl, yw iddynt gael eu dwyn i iachawdwriaeth.
10:2 Gallaf dystio o'u plaid fod ganddynt sêl dros Dduw. Ond sêl heb ddeall ydyw.
10:3 Oherwydd, yn eu hanwybodaeth am gyfiawnder Duw, a'u hymgais i sefydlu eu cyfiawnder eu hunain, nid ydynt wedi ymostwng i gyfiawnder Duw.
10:4 Oherwydd Crist yw diwedd y Gyfraith, ac felly, i bob un sy'n credu y daw cyfiawnder Duw.

Iachawdwriaeth i Bawb

10:5 Ysgrifennodd Moses am y cyfiawnder trwy y Gyfraith: "Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt."
10:6 Ond fel hyn y dywed y cyfiawnder trwy ffydd: "Paid â dweud yn dy galon, 'Pwy a esgyn i'r nef?'" — hynny yw, i ddwyn Crist i lawr —
10:7 "neu, 'Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?'" — hynny yw, i ddwyn Crist i fyny oddi wrth y meirw.
10:8 Ond beth mae'n ei ddweud? "Y mae'r gair yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon." A dyma'r gair yr ydym ni yn ei bregethu, gair ffydd, sef:
10:9 "Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub."
10:10 Oherwydd credu â'r galon sy'n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu â'r genau sy'n esgor ar iachawdwriaeth.
10:11 Y mae'r Ysgrythur yn dweud: "Pob un sy'n credu ynddo, ni chywilyddir mohono."
10:12 Nid oes dim gwahaniaeth rhwng Iddewon a Groegiaid. Yr un Arglwydd sydd i bawb, sy'n rhoi o'i gyfoeth i bawb sy'n galw arno.
10:13 Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, "bydd pob un sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw."
10:14 Ond sut y mae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut y maent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut y maent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu?
10:15 Sut y maent i bregethu, heb gael eu hanfon? Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud: "Mor weddaidd yw traed y rhai sy'n cyhoeddi newyddion da."
10:16 Eto nid pawb a ufuddhaodd i'r newydd da. Oherwydd y mae Eseia'n dweud, "Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym?"
10:17 Felly, o'r hyn a glywir y daw ffydd, a daw'r clywed trwy air Crist.
10:18 Ond y mae'n rhaid gofyn, "A oedd dichon iddynt fethu clywed?" Nac oedd, yn wir, oherwydd: "Aeth eu lleferydd allan i'r holl ddaear, a'u geiriau hyd eithafoedd byd."
10:19 Ond i ofyn peth arall, "A oedd dichon i Israel fethu deall?" Ceir yr ateb yn gyntaf gan Moses: "Fe'ch gwnaf chwi'n eiddigeddus wrth genedl nad yw'n genedl, a'ch gwneud yn ddig wrth genedl ddiddeall."
10:20 Ac yna, y mae Eseia'n beiddio dweud: "Cafwyd fi gan rai nad oeddent yn fy ngheisio; gwelwyd fi gan rai nad oeddent yn holi amdanaf."
10:21 Ond am Israel y mae'n dweud: "Ar hyd y dydd bûm yn estyn fy nwylo at bobl anufudd a gwrthnysig."

Gweddill Israel

11:1 Yr wyf yn gofyn, felly, a yw'n bosibl fod Duw wedi gwrthod ei bobl ei hun? Nac ydyw, ddim o gwbl! Oherwydd yr wyf fi yn Israeliad, o linach Abraham, o lwyth Benjamin.
11:2 Nid yw Duw wedi gwrthod ei bobl, y bobl a adnabu cyn eu bod. Gwyddoch beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud wrth adrodd hanes Elias yn galw ar Dduw yn erbyn Israel:
11:3 "Arglwydd, y maent wedi lladd dy broffwydi a bwrw d'allorau i lawr; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau."
11:4 Ond yr atebiad dwyfol iddo oedd: "Gadewais i mi fy hun saith mil o bobl sydd heb blygu glin i Baal."
11:5 Felly hefyd yn yr amser presennol hwn, y mae gweddill ar gael, gweddill sydd wedi ei ethol gan ras Duw.
11:6 Ond os trwy ras y bu hyn, ni all fod yn tarddu o gadw gofynion cyfraith; petai felly, byddai gras yn peidio â bod yn ras.
11:7 Mewn gair, y peth y mae Israel yn ei geisio, nid Israel a'i cafodd, ond y rhai a etholodd Duw; caledwyd y lleill,
11:8 fel y mae'n ysgrifenedig: "Rhoddodd Duw iddynt ysbryd swrth, llygaid i beidio â gweld, a chlustiau i beidio â chlywed, hyd y dydd heddiw."
11:9 Ac y mae Dafydd yn dweud: "Bydded eu bwrdd yn fagl i'w rhwydo, ac yn groglath i'w cosbi;
11:10 tywyller eu llygaid iddynt beidio â gweld, a gwna hwy'n wargrwm dros byth."

Iachawdwriaeth y Cenhedloedd

11:11 Yr wyf yn gofyn, felly, a yw eu llithriad yn gwymp terfynol? Nac ydyw, ddim o gwbl! I'r gwrthwyneb, am iddynt hwy droseddu y mae iachawdwriaeth wedi dod i'r Cenhedloedd, i wneud yr Iddewon yn eiddigeddus.
11:12  Ond os yw eu trosedd yn gyfrwng i gyfoethogi'r byd, a'u diffyg yn gyfrwng i gyfoethogi'r Cenhedloedd, pa faint mwy fydd y cyfoethogi pan ddônt yn eu cyflawn rif?
11:13 Ond i droi atoch chwi y Cenhedloedd. Yr wyf fi'n apostol y Cenhedloedd, ac fel y cyfryw rhoi bri ar fy swydd yr wyf
11:14 wrth geisio gwneud fy mhobl yn eiddigeddus, ac achub rhai ohonynt.
11:15 Oherwydd os bu eu bwrw hwy allan yn gymod i'r byd, bydd eu derbyn i mewn, yn sicr, yn fywyd o blith y meirw.
11:16 Os yw'r tamaid toes a offrymir yn sanctaidd, yna y mae'r toes i gyd yn sanctaidd. Os yw'r gwreiddyn yn sanctaidd, y mae'r canghennau hefyd yn sanctaidd.
11:17 Os torrwyd rhai canghennau i ffwrdd, a'th impio di yn eu plith, er mai olewydden wyllt oeddit, ac os daethost felly i gael rhan o faeth gwreiddyn yr olewydden,
11:18 paid ag ymffrostio ar draul y canghennau a dorrwyd. Os wyt am ymffrostio, cofia nad tydi sy'n cynnal y gwreiddyn, ond y gwreiddyn sy'n dy gynnal di.
11:19 Ond fe ddywedi, "Ie, ond torrwyd y canghennau i ffwrdd er mwyn i mi gael fy impio i mewn."
11:20 Eithaf gwir; fe'u torrwyd hwy o achos anghrediniaeth, ac fe gefaist ti dy le trwy ffydd. Rho'r gorau i feddyliau mawreddog, a meithrin ofn Duw yn eu lle.
11:21  Oherwydd os nad arbedodd Duw y canghennau naturiol, nid arbeda dithau chwaith.
11:22 Am hynny, ystyria'r modd y mae Duw yn dangos ei diriondeb a'i erwinder: ei erwinder i'r rhai a gwympodd i fai, ond ei diriondeb i ti, cyhyd ag y cedwi dy hun o fewn cylch ei diriondeb. Os na wnei, cei dithau dy dorri allan o'r cyff.
11:23 Ond amdanynt hwy, os na fynnant aros yn eu hanghrediniaeth, cânt eu himpio i mewn i'r cyff, oherwydd y mae Duw yn abl i'w himpio'n ôl.
11:24 Oherwydd, os cefaist ti dy dorri o olewydden oedd yn wyllt wrth natur, a'th impio i mewn, yn groes i natur, i olewydden gardd, gymaint tebycach yw y cânt hwy, sydd wrth natur yn ganghennau olewydden gardd, eu himpio i mewn i'w holewydden hwy eu hunain!

Adfer Israel

11:25 Oherwydd yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, am y dirgelwch hwn (bydd hynny'n eich cadw rhag bod yn ddoeth yn eich tyb eich hunain), fod caledwch rhannol wedi syrthio ar Israel, hyd nes y daw'r Cenhedloedd i mewn yn eu cyflawn rif.
11:26 Pan ddigwydd hynny, caiff Israel i gyd ei hachub. Fel y mae'n ysgrifenedig: "Daw'r Gwaredydd o Seion, a throi pob annuwioldeb oddi wrth Jacob;
11:27 a dyma'r cyfamod a wnaf fi â hwy, pan gymeraf ymaith eu pechodau."
11:28 O safbwynt yr Efengyl, gelynion Duw ydynt, ond y mae hynny'n fantais i chwi. O safbwynt eu hethol gan Dduw, y maent yn annwyl ganddo, ond y maent felly o achos yr hynafiaid.
11:29 Oherwydd nid oes tynnu'n ôl ar roddion graslon Duw, a'i alwad ef.
11:30 Buoch chwi unwaith yn anufudd i Dduw, ond yn awr, o ganlyniad i'w hanufudd-dod hwy, yr ydych wedi cael trugaredd.
11:31 Yn yr un modd, o ganlyniad i'r drugaredd a gawsoch chwi, y maent hwy hefyd wedi anufuddhau yn awr, fel mai derbyn trugaredd a wnânt hwythau.
11:32 Y mae Duw wedi cloi pawb yng ngharchar anufudd-dod, er mwyn gwneud pawb yn wrthrychau ei drugaredd.
11:33 O ddyfnder cyfoeth Duw, a'i ddoethineb a'i wybodaeth! Mor anchwiliadwy ei farnedigaethau, mor anolrheiniadwy ei ffyrdd!
11:34 Oherwydd, "Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd? Pwy a fu'n ei gynghori ef?
11:35 Pwy a achubodd y blaen arno â rhodd, i gael rhodd yn ôl ganddo?"
11:36 Oherwydd ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth. Iddo ef y bo'r gogoniant am byth! Amen.

Y Bywyd Newydd yng Nghrist

12:1 Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol.
12:2 A pheidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.
12:3 Oherwydd, yn rhinwedd y gras y mae Duw wedi ei roi i mi, yr wyf yn dweud wrth bob un yn eich plith am beidio â'i gyfrif ei hun yn well nag y dylid ei gyfrif, ond bod yn gyfrifol yn ei gyfrif, ac yn gyson â'r mesur o ffydd y mae Duw wedi ei roi i bob un.
12:4 Yn union fel y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ond nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith,
12:5 felly hefyd yr ydym ni, sy'n llawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn aelodau bob un i'w gilydd.
12:6 A chan fod gennym ddoniau sy'n amrywio yn ôl y gras a roddwyd i ni, dylem eu harfer yn gyson â hynny. Os proffwydoliaeth yw dy ddawn, arfer hi yn gymesur â'th ffydd.
12:7 Os dawn gweini ydyw, arfer hi i weini. Os addysgu yw dy ddawn, arfer dy ddawn i addysgu, ac os cynghori, i gynghori.
12:8 Os wyt yn rhannu ag eraill, gwna hynny gyda haelioni; os wyt yn arweinydd, gwna'r gwaith gydag ymroddiad; os wyt yn dangos tosturi, gwna hynny gyda llawenydd.

Rheolau'r Bywyd Cristionogol

12:9 Bydded eich cariad yn ddiragrith. Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni.
12:10 Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch.
12:11 Yn ddiorffwys eich ymroddiad, yn frwd eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd.
12:12 Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddïo.
12:13 Cyfrannwch at reidiau'r saint, a byddwch barod eich lletygarwch.
12:14 Bendithiwch y rhai sy'n eich erlid, bendithiwch heb felltithio byth.
12:15 Llawenhewch gyda'r rhai sy'n llawenhau, ac wylwch gyda'r rhai sy'n wylo.
12:16 Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd. Gochelwch feddyliau mawr-eddog; yn hytrach, rhodiwch gyda'r distadl. Peidiwch â'ch cyfrif eich hunain yn ddoeth.
12:17 Peidiwch â thalu drwg am ddrwg i neb. Bydded eich amcanion yn anrhydeddus yng ngolwg pawb.
12:18 Os yw'n bosibl, ac os yw'n dibynnu arnoch chwi, daliwch mewn heddwch â phawb.
12:19 Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: "'Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,' medd yr Arglwydd."
12:20 Yn hytrach, os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i'w yfed. Os gwnei hyn, byddi'n pentyrru marwor poeth ar eu pennau.
12:21 Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni.

Ufuddhau i Lywodraethwyr

13:1 Y mae'n rhaid i bob un ymostwng i'r awdurdodau sy'n ben. Oherwydd nid oes awdurdod heb i Dduw ei sefydlu, ac y mae'r awdurdodau sydd ohoni wedi eu sefydlu gan Dduw.
13:2 Am hynny, y mae'r sawl sy'n gwrthsefyll y fath awdurdod yn gwrthwynebu sefydliad sydd o Dduw. Ac y mae'r cyfryw yn sicr o dynnu barn arnynt eu hunain.
13:3 Y mae'r llywodraethwyr yn ddychryn, nid i'r sawl sy'n gwneud daioni ond i'r sawl sy'n gwneud drygioni. A wyt ti am fyw heb ofni'r awdurdod? Gwna ddaioni, a chei glod ganddo.
13:4 Oherwydd gwas Duw ydyw, yn gweini arnat ti er dy les. Ond os drygioni a wnei, dylit ofni, oherwydd nid i ddim y mae'n gwisgo'r cleddyf. Gwas Duw ydyw, ie, dialydd i ddwyn digofaint dwyfol ar ddrwgweithredwyr.
13:5 Felly, y mae rheidrwydd arnom ymostwng, nid yn unig o achos y digofaint, ond hefyd o achos cydwybod.
13:6 Dyma pam hefyd yr ydych yn talu trethi, oherwydd gwasanaethu Duw y mae'r awdurdodau wrth fod yn ddyfal yn y gwaith hwn.
13:7 Talwch i bob un ohonynt beth bynnag sy'n ddyledus, boed dreth, boed doll, boed barch, boed anrhydedd.

Cariad Brawdol

13:8 Peidiwch â bod mewn dyled i neb, ar wahân i'r ddyled o garu eich gilydd. Y mae'r sawl sy'n caru pobl eraill wedi cyflawni holl ofynion y Gyfraith.
13:9 Oherwydd y mae'r gorchmynion, "Na odineba, na ladd, na ladrata, na chwennych", a phob gorchymyn arall, wedi eu crynhoi yn y gorchymyn hwn: "Câr dy gymydog fel ti dy hun."
13:10 Ni all cariad wneud cam â chymydog. Y mae cariad, felly, yn gyflawniad o holl ofynion y Gyfraith.

Dydd Crist yn Agosáu

13:11 Ie, gwnewch hyn oll fel rhai sy'n ymwybodol o'r amser, mai dyma'r awr ichwi i ddeffro o gwsg. Erbyn hyn, y mae ein hiachawdwriaeth yn nes atom nag oedd pan ddaethom i gredu.
13:12 Y mae'r nos ar ddod i ben, a'r dydd ar wawrio. Gadewch inni, felly, roi heibio weithredoedd y tywyllwch, a gwisgo arfau'r goleuni.
13:13 Gadewch inni fyw yn weddus, fel yng ngolau dydd, heb roi dim lle i loddest a meddwdod, i anniweirdeb ac anlladrwydd, i gynnen ac eiddigedd.
13:14 Gwisgwch yr Arglwydd Iesu Grist amdanoch; a pheidiwch â rhoi eich bryd ar foddhau chwantau'r cnawd.

Paid â Barnu dy Frawd

14:1 Derbyniwch i'ch plith unrhyw un sy'n wan ei ffydd, ond nid er mwyn codi dadleuon.
14:2 Y mae gan ambell un ddigon o ffydd i fwyta pob peth, ond y mae un arall, gan fod ei ffydd mor wan, yn bwyta llysiau yn unig.
14:3 Rhaid i'r sawl sy'n bwyta pob peth beidio â bychanu'r sawl sy'n ymwrthod, a rhaid i'r sawl sy'n ymwrthod beidio â barnu'r sawl sy'n bwyta, oherwydd y mae Duw wedi ei dderbyn.
14:4 Pwy wyt ti, i fod yn barnu gwas rhywun arall? Gan y Meistr y mae'r hawl i benderfynu a yw rhywun yn sefyll neu'n syrthio. A sefyll a wna, oherwydd y mae'r Meistr yn abl i beri i rywun sefyll.
14:5 Y mae ambell un yn ystyried un dydd yn well na'r llall, ac un arall yn eu hystyried i gyd yn gyfartal. Rhaid i'r naill a'r llall fod yn gwbl argyhoeddedig yn eu meddyliau eu hunain.
14:6 Y mae'r sawl sy'n cadw'r dydd yn ei gadw er gogoniant yr Arglwydd; a'r sawl sy'n bwyta pob peth yn gwneud hynny er gogoniant yr Arglwydd, oherwydd y mae'n rhoi diolch i Dduw. Ac y mae'r un sy'n ymwrthod yn ymwrthod er gogoniant yr Arglwydd; y mae'n rhoi diolch i Dduw.
14:7 Oherwydd nid oes neb ohonom yn byw nac yn marw i ni'n hunain.
14:8 Os byw yr ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i'r Arglwydd yr ydym yn marw. Prun bynnag ai byw ai marw yr ydym, eiddo'r Arglwydd ydym.
14:9 Oherwydd pwrpas Crist wrth farw a dod yn fyw oedd bod yn Arglwydd ar y meirw a'r byw.
14:10 Pam yr wyt ti yn barnu rhywun arall? A thithau, pam yr wyt yn bychanu rhywun arall? Oherwydd bydd rhaid inni bob un sefyll gerbron brawdle Duw.
14:11 Fel y mae'n ysgrifenedig: "Cyn wired â'm bod i yn fyw, medd yr Arglwydd, i mi y bydd pob glin yn plygu, a phob tafod yn moliannu Duw."
14:12 Am hynny, bydd rhaid i bob un ohonom roi cyfrif amdanom ni'n hunain i Dduw.

Paid â Bod yn Achos Cwymp i'th Frawd

14:13 Felly, peidiwn mwyach â barnu ein gilydd. Yn hytrach, dyfarnwch nad oes neb i roi achlysur i rywun arall gwympo neu faglu.
14:14 Mi wn i sicrwydd yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono'i hun. Ond i rywun sy'n ystyried rhywbeth yn aflan y mae'r peth hwnnw yn aflan.
14:15 Ac felly, os yw'r math o fwyd yr wyt ti'n ei fwyta yn achos gofid i arall, nid wyt ti mwyach yn ymddwyn yn ôl gofynion cariad. Paid â dwyn i ddistryw, â'th fwyd, unrhyw un y bu Crist farw drosto.
14:16 Peidiwch â gadael i'r peth sy'n dda yn eich golwg gael gair drwg.
14:17 Nid bwyta ac yfed yw teyrnas Dduw, ond cyfiawnder a heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Glân.
14:18 Y mae'r sawl sy'n gwasanaethu Crist yn y modd hwn yn dderbyniol gan Dduw ac yn gymeradwy gan bawb.
14:19 Felly gadewch inni geisio'r pethau sy'n arwain i heddwch, ac yn adeiladu perthynas gadarn â'n gilydd.
14:20 Peidiwch â thynnu i lawr, o achos bwyd, yr hyn a wnaeth Duw. Y mae pob bwyd yn lân, ond y mae'n beth drwg i rywun fwyta a thrwy hynny beri cwymp i rywun arall.
14:21 Y peth iawn yw peidio â bwyta cig nac yfed gwin, na gwneud dim a all beri i rywun arall gwympo.
14:22 Cadw dy ffydd, yn hyn o beth, rhyngot ti a Duw. Dedwydd yw'r sawl nad yw'n ei gollfarnu ei hun yn yr hyn y mae'n ei gymeradwyo.
14:23 Ond os bydd rhywun, er gwaethaf ei amheuon, yn bwyta pob peth, y mae wedi ei gollfarnu. Oherwydd nid o ffydd y bydd yn gweithredu. Ac y mae popeth nad yw'n tarddu o ffydd yn bechod.

Plesio dy Gymydog, nid dy Blesio dy Hun

15:1 Y mae'n ddyletswydd arnom ni, y rhai cryf, oddef gwendidau'r rhai sy'n eiddil eu cydwybod, a pheidio â'n plesio ein hunain.
15:2 Y mae pob un ohonom i blesio ein cymydog, gan anelu at yr hyn sydd dda er adeiladu ein gilydd.
15:3 Oherwydd nid ei blesio ei hun a wnaeth Crist. I'r gwrthwyneb, fel y mae'n ysgrifenedig: "Y mae gwaradwydd y rhai oedd yn dy waradwyddo di wedi syrthio arnaf fi."
15:4 Ac fe ysgrifennwyd yr Ysgrythurau gynt er mwyn ein dysgu ni, er mwyn i ni, trwy ddyfalbarhad a thrwy eu hanogaeth hwy, ddal ein gafael yn ein gobaith.
15:5 A rhodded Duw, ffynhonnell pob dyfalbarhad ac anogaeth, i chwi fod yn gytûn eich meddwl ymhlith eich gilydd, yn ôl ewyllys Crist Iesu,
15:6 er mwyn ichwi, yn unfryd ac yn unllais, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.

Yr Efengyl i'r Iddewon a'r Cenhedloedd fel ei Gilydd

15:7 Am hynny, derbyniwch eich gilydd, fel y derbyniodd Crist chwi, er gogoniant Duw.
15:8 Oherwydd yr wyf yn dweud bod Crist wedi dod yn was i'r Iddewon er mwyn dangos geirwiredd Duw, sef ei fod yn cadarnhau'r addewidion i'r hynafiaid,
15:9 a hefyd er mwyn i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd. Fel y mae'n ysgrifenedig: "Oherwydd hyn, clodforaf di ymysg y Cenhedloedd, a chanaf i'th enw."
15:10 Ac y mae'n dweud eilwaith: "Llawenhewch, Genhedloedd, ynghyd â'i bobl ef."
15:11 Ac eto: "Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd, a'r holl bobloedd yn dyblu'r mawl."
15:12 Y mae Eseia hefyd yn dweud: "Fe ddaw gwreiddyn Jesse, y gŵr sy'n codi i lywodraethu'r Cenhedloedd; arno ef y bydd y Cenhedloedd yn seilio'u gobaith."
15:13 A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.

Comisiwn Cenhadol Paul

15:14 Yr wyf fi, o'm rhan fy hun, yn gwbl sicr, fy nghyfeillion, eich bod chwithau yn llawn daioni, yn gyforiog o bob gwybodaeth, ac yn alluog i hyfforddi eich gilydd.
15:15 Bûm braidd yn hy arnoch mewn mannau yn fy llythyr, wrth geisio deffro eich cof. Ond gwneuthum hyn ar bwys y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras,
15:16 i fod yn weinidog Crist Iesu i'r Cenhedloedd, yn gweini fel offeiriad ar Efengyl Duw, er mwyn cyflwyno'r Cenhedloedd iddo yn offrwm cymeradwy, offrwm wedi ei gysegru gan yr Ysbryd Glân.
15:17 Yng Nghrist Iesu, felly, y mae gennyf le i ymffrostio yn fy ngwasanaeth i Dduw,
15:18 oherwydd nid wyf am feiddio sôn am ddim ond yr hyn a gyflawnodd Crist trwof fi, yn y dasg o ennill y Cenhedloedd i ufuddhau iddo, mewn gair a gweithred,
15:19 trwy rym arwyddion a rhyfeddodau, trwy nerth Ysbryd Duw. Ac felly, yr wyf fi wedi cwblhau cyhoeddi Efengyl Crist mewn cylch eang, o Jerwsalem cyn belled ag Ilyricum.
15:20 Yn hyn oll fe'i cedwais yn nod i bregethu'r Efengyl yn y mannau hynny yn unig oedd heb glywed sôn am enw Crist, rhag i mi fod yn adeiladu ar sylfaen rhywun arall;
15:21 fel y mae'n ysgrifenedig: "Bydd y rheini na chyhoeddwyd dim wrthynt amdano yn gweld, a'r rheini na chlywsant ddim amdano yn deall."

Bwriad Paul i Ymweld â Rhufain

15:22 Hwn oedd y rhwystr a'm cadwodd cyhyd o amser rhag dod atoch chwi.
15:23 Ond yn awr, a minnau heb faes cenhadol mwyach yn yr ardaloedd hyn, a'r awydd arnaf ers blynyddoedd lawer i ddod atoch chwi
15:24 pryd bynnag y byddaf ar fy ffordd i Sbaen, yr wyf yn gobeithio ymweld â chwi wrth fynd trwodd, a chael fy hebrwng gennych ar fy nhaith yno, ar ôl mwynhau eich cwmni am ychydig.
15:25 Ond ar hyn o bryd yr wyf ar fy ffordd i Jerwsalem, i fynd â chymorth i'r saint yno.
15:26 Oherwydd y mae Macedonia ac Achaia wedi gweld yn dda gyfrannu i gronfa ar ran y tlodion ymhlith y saint yn Jerwsalem.
15:27 Gwelsant yn dda, do, ond yr oeddent hefyd dan ddyled iddynt. Oherwydd os cafodd y Cenhedloedd gyfran o'u trysor ysbrydol hwy, y mae'n ddyled ar y Cenhedloedd weini arnynt mewn pethau tymhorol.
15:28 Felly, pan fyddaf wedi cyflawni'r gorchwyl hwn, a gosod y casgliad yn ddiogel yn eu dwylo, caf gychwyn ar y daith i Sbaen a galw heibio i chwi.
15:29 Gwn y bydd fy ymweliad â chwi dan fendith gyflawn Crist.
15:30 Yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy'r cariad sy'n ffrwyth yr Ysbryd: ymunwch â mi yn fy ymdrech, a gweddïo ar Dduw trosof,
15:31 ar i mi gael fy arbed rhag yr anghredinwyr yn Jwdea, ac i'r cymorth sydd gennyf i Jerwsalem fod yn dderbyniol gan y saint;
15:32 ac felly i mi gael dod atoch mewn llawenydd, trwy ewyllys Duw, a'm hatgyfnerthu yn eich cwmni.
15:33 A Duw yr heddwch fyddo gyda chwi oll! Amen.

Cyfarchion Personol

16:1 Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe, ein chwaer, sydd yn gwasanaethu'r eglwys yn Cenchreae.
16:2 Derbyniwch hi yn enw'r Arglwydd, mewn modd teilwng o'r saint, a byddwch yn gefn iddi ym mhob peth y gall fod arni angen eich cymorth, oherwydd y mae hithau wedi bod yn gefn i lawer, ac i mi yn bersonol.
16:3 Rhowch fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, fy nghydweithwyr yng Nghrist Iesu,
16:4 deuddyn a fentrodd eu heinioes i arbed fy mywyd i. Nid myfi yn unig sydd yn diolch iddynt, ond holl eglwysi'r Cenhedloedd.
16:5 Fy nghyfarchion hefyd i'r eglwys sy'n ymgynnull yn eu tŷ. Cyflwynwch fy nghyfarchion i'm cyfaill annwyl, Epainetus, y cyntaf yn Asia i ddod at Grist.
16:6 Cyfarchion i Fair, a fu'n ddiflin ei llafur ar eich rhan.
16:7 Cyfarchion i Andronicus a Jwnia, sydd o'r un genedl â mi, ac a fu'n gydgarcharorion â mi, yn amlwg ymhlith yr apostolion ac yn Gristionogion o'm blaen i.
16:8 Cyfarchion i Amplias, fy nghyfaill annwyl yn yr Arglwydd.
16:9 Cyfarchion i Wrbanus, ein cydweithiwr yng Nghrist, a'n cyfaill annwyl, Stachus.
16:10 Cyfarchwch Apeles, sy'n Gristion profedig. Cyfarchwch y rhai sydd o dŷ Aristobwlus.
16:11 Cyfarchwch Herodion, sydd o'r un genedl â mi. Cyfarchwch y Cristionogion sydd o dŷ Narcisus.
16:12 Cyfarchwch Tryffena a Tryffosa, chwiorydd sy'n llafurio yng ngwasanaeth yr Arglwydd. Cyfarchwch Persis, chwaer annwyl sydd wedi llafurio cymaint yn ei wasanaeth.
16:13 Cyfarchwch Rwffus, sy'n Gristion dethol, a'i fam, sy'n fam i minnau.
16:14 Cyfarchwch Asyncritus, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermas, a'r cyfeillion sydd gyda hwy.
16:15 Cyfarchwch Philologus a Jwlia, Nereus a'i chwaer, Olympas a'r holl saint sydd gyda hwy.
16:16 Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae holl eglwysi Crist yn eich cyfarch.
16:17 Yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, gwyliwch y rhai sydd yn peri rhwyg ac yn codi rhwystrau, yn groes i'r athrawiaeth a ddysgasoch chwi. Gochelwch rhagddynt,
16:18 oherwydd nid gwas-anaethu Crist ein Harglwydd y mae rhai fel hyn, ond eu chwantau eu hunain; pobl ydynt sydd, trwy eiriau teg a gweniaith, yn hudo meddyliau'r diniwed ar gyfeiliorn.
16:19 Ond y mae eich ufudd-dod chwi yn hysbys i bawb. Dyna pam yr wyf yn llawenhau o'ch plegid; ac eto yr wyf am i chwi barhau i fod yn ddoeth mewn daioni ond yn ddiniwed mewn drygioni.
16:20 Ac felly, buan y bydd Duw yr heddwch yn malu Satan dan eich traed. Gras ein Harglwydd Iesu fyddo gyda chwi!
16:21 Y mae Timotheus, fy nghydweithiwr, yn eich cyfarch, a hefyd Lwcius a Jason a Sosipater, gwŷr o'r un genedl â mi.
16:22 (Ac yr wyf finnau, Tertius, sydd wedi ysgrifennu'r llythyr hwn, yn eich cyfarch yn yr Arglwydd.)
16:23 Y mae Gaius, a roes ei gartref yn llety i mi ac i'r holl eglwys, yn eich cyfarch. Y mae Erastus, trysorydd y ddinas, yn eich cyfarch, a hefyd y brawd Cwartus.
16:24 [Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll! Amen.]

Mawlwers

16:25 Iddo ef sy'n abl i'ch gwneud yn gadarn, yn ôl yr Efengyl yr wyf fi'n ei phregethu, a'r genadwri am Iesu Grist, yn ôl y datguddiad o'r dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd maith,
16:26 ond sydd yn awr wedi ei amlygu trwy'r ysgrythurau proffwydol, ac wedi ei hysbysu ar orchymyn y Duw tragwyddol i'r holl Genhedloedd, i'w hennill i ffydd ac ufudd-dod;
16:27 i'r unig ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist — iddo ef y bo'r gogoniant am byth! Amen.