LLYTHYR PAUL AT TITUS

Cyfarch

1:1 Paul, gwas Duw ac apostol Iesu Grist, sy'n ysgrifennu, yn unol â ffydd etholedigion Duw, a gwybodaeth o'r gwirionedd sy'n gyson â'n crefydd ni,
1:2 yn seiliedig yn y gobaith am fywyd tragwyddol. Dyma'r bywyd a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau'r oesoedd,
1:3 ac ef hefyd yn ei amser ei hun a ddatguddiodd ei air yn y neges a bregethir. Ymddiriedwyd y neges hon i mi ar orchymyn Duw, ein Gwaredwr.
1:4 Yr wyf yn cyfarch Titus, fy mhlentyn diledryw yn y ffydd sy'n gyffredin inni. Gras a thangnefedd i ti oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Gwaredwr.

Gwaith Titus yn Creta

1:5 Fy mwriad wrth dy adael ar ôl yn Creta oedd iti gael trefn ar y pethau oedd yn aros heb eu gwneud, a sefydlu henuriaid ym mhob tref yn ôl fy nghyfarwyddyd iti:
1:6 rhaid i henuriad fod yn ddi-fai, yn ŵr i un wraig, a'i blant yn gredinwyr, heb fod wedi eu cyhuddo o afradlonedd nac yn afreolus.
1:7 Oherwydd rhaid i arolygydd fod yn ddi-fai, ac yntau yn oruchwyliwr yng ngwasanaeth Duw. Rhaid iddo beidio â bod yn drahaus, nac yn fyr ei dymer, nac yn rhy hoff o win, nac yn rhy barod i daro, nac yn un sy'n chwennych elw anonest,
1:8 ond yn lletygar, ac yn caru daioni, yn ddisgybledig, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn feistr arno'i hun.
1:9 Dylai ddal ei afael yn dynn yn y gair sydd i'w gredu ac sy'n gyson â'r hyn a ddysgir, er mwyn iddo fedru annog eraill â'i athrawiaeth iach, a gwrthbrofi cyfeiliornad ei wrthwynebwyr.
1:10 Oherwydd y mae llawer, ac yn arbennig y credinwyr Iddewig, yn afreolus, ac yn twyllo dynion â'u dadleuon diffaith;
1:11 ac fe ddylid rhoi taw arnynt. Pobl ydynt sydd yn tanseilio teuluoedd cyfan drwy ddysgu iddynt bethau na ddylent eu dysgu, a hynny er mwyn elw anonest.
1:12 Dywedodd un ohonynt, un o'u proffwydi hwy eu hunain: "Celwyddgwn fu'r Cretiaid erioed, anifeiliaid anwar, bolrwth a diog."
1:13 Y mae'r dystiolaeth hon yn wir. Am hynny, cerydda hwy'n ddidostur, er mwyn eu cael yn iach yn y ffydd
1:14 yn lle bod â'u bryd ar chwedlau Iddewig a gorchmynion pobl sy'n troi cefn ar y gwirionedd.
1:15 I'r pur, y mae pob peth yn bur; ond i'r rhai llygredig a di-gred, nid oes dim yn bur; y mae eu deall a'u cydwybod wedi eu llygru.
1:16 Y maent yn proffesu eu bod yn adnabod Duw, ond ei wadu y maent â'u gweithredoedd. Y maent yn ffiaidd ac yn anufudd, ac yn anghymwys i unrhyw weithred dda.

Dysgu Athrawiaeth Iach

2:1 Ond yr wyt ti i lefaru'r hyn sy'n gweddu i'r athrawiaeth iach.
2:2 Dywed wrth yr hynafgwyr am fod yn sobr, yn weddus, yn ddisgybledig, yn iach mewn ffydd a chariad a dyfalbarhad.
2:3 Ac wrth y gwragedd hynaf yr un modd: am iddynt fod yn ddefosiynol eu hymarweddiad, yn ddiwenwyn, a heb fod yn gaeth i ormodedd o win;
2:4 dylent hyfforddi'r gwragedd ifainc yn y pethau gorau, a'u cymell i garu eu gwŷr a charu eu plant,
2:5 i fod yn ddisgybledig a diwair, i ofalu am eu cartrefi, ac i fod yn garedig, ac yn ddarostyngedig i'w gwŷr, fel na chaiff gair Duw enw drwg.
2:6 Yn yr un modd, cymell y dynion ifainc i arfer hunanddisgyblaeth.
2:7 Ym mhob peth dangos dy hun yn esiampl o weithredoedd da, ac wrth hyfforddi amlyga gywirdeb a gwedduster
2:8 a neges iachusol, a fydd uwchlaw beirniadaeth. Felly codir cywilydd ar dy wrthwynebwr, gan na fydd ganddo ddim drwg i'w ddweud amdanom.
2:9 Cymell y caethweision i fod yn ddarostyngedig i'w meistri ym mhob peth, i wneud eu dymuniad, i beidio â'u hateb yn ôl
2:10 na lladrata oddi arnynt, ond i'w dangos eu hunain yn gwbl ffyddlon a gonest, ac felly yn addurn ym mhob peth i athrawiaeth Duw, ein Gwaredwr.
2:11 Oherwydd amlygwyd gras Duw i ddwyn gwaredigaeth i bawb,
2:12 gan ein hyfforddi i ymwrthod ag annuwioldeb a chwantau bydol, a byw'n ddisgybledig a chyfiawn a duwiol yn y byd presennol,
2:13 a disgwyl cyflawni'r gobaith gwyn-fydedig yn ymddangosiad gogoniant ein Duw mawr a'n Gwaredwr, Iesu Grist.
2:14 Rhoddodd ef ei hun drosom ni i brynu rhyddid inni oddi wrth bob anghyfraith, a'n glanhau ni i fod yn bobl wedi eu neilltuo iddo ef ei hun ac yn llawn sêl dros weithredoedd da.
2:15 Dywed y pethau hyn, a chymell a cherydda â phob awdurdod. Peidied neb â'th anwybyddu.

Dal at Weithredoedd Da

3:1 Dwg ar gof iddynt eu bod i ymostwng i'r awdurdodau sy'n llywodraethu, i fod yn ufudd iddynt, a bod yn barod i wneud unrhyw weithred dda;
3:2 i beidio â bwrw anfri ar neb, ond i fod yn heddychol ac yn ystyriol, gan ddangos addfwynder yn gyson tuag at bawb.
3:3 Oherwydd fe fuom ninnau hefyd un amser yn ffôl, yn anufudd, ar gyfeiliorn, yn gaethweision i amryfal chwantau a phleserau, a'n bywyd yn llawn malais a chenfigen, yn atgas gan eraill ac yn casáu ein gilydd.
3:4 Ond pan amlygwyd daioni Duw, ein Gwaredwr, a'i gariad tuag at bobl,
3:5 fe'n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o'i drugaredd ei hun. Fe'n hachubodd ni trwy olchiad yr ailenedigaeth ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Glân,
3:6 a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth drwy Iesu Grist, ein Gwaredwr.
3:7 Ei ddiben oedd ein cyfiawnhau drwy ei ras, ac mewn gobaith, ein gwneud yn etifeddion bywyd tragwyddol.
3:8 Dyna air i'w gredu. Ac y mae'n ddymuniad gennyf i ti fynnu hyn: bod y rhai a ddaeth i gredu yn Nuw i ofalu eu bod yn ymroi i weithredoedd da. Dyma gyngor da a buddiol i bawb.
3:9 Ond gochel gwestiynau ffôl, ac achau, a chynhennau a chwerylon ynghylch y Gyfraith, oherwydd di-fudd ac ofer ydynt.
3:10 Am yr un a fyn greu rhaniadau, ar ôl iddo gael ei rybuddio, a'i ailrybuddio, paid â gwneud dim mwy ag ef;
3:11 fe wyddost fod un felly wedi ei wyrdroi, ei fod yn pechu, a thrwy hynny yn ei gollfarnu ei hun.

Cyfarwyddiadau Personol a Chyfarchion

3:12 Pan anfonaf Artemas neu Tychicus atat, gwna dy orau i ddod ataf i Nicopolis, oherwydd yr wyf wedi penderfynu bwrw'r gaeaf yno.
3:13 Gwna dy orau hefyd dros y cyfreithiwr, Zenas, ac Apolos, i'w hebrwng ar eu taith, gan ofalu na fyddant yn fyr o ddim.
3:14 Rhaid i'n pobl ni hefyd ddysgu ymroi i waith gonest i gyfarfod ag angenrheidiau bywyd; os na wnânt, byddant yn ddi-les.
3:15 Y mae pawb sydd gyda mi yn dy gyfarch. Rho fy nghyfarchion i'r rhai sydd yn ein caru yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll!