LLYTHYR CYNTAF IOAN

Gair y Bywyd

1:1 Yr hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn yr ydym wedi ei glywed, yr hyn yr ydym wedi ei weld â'n llygaid, yr hyn yr edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo, ynglŷn â gair y bywyd, dyna'r hyn yr ydym yn ei gyhoeddi.
1:2 Amlygwyd y bywyd hwn; ac yr ydym wedi gweld, ac yr ydym yn tystiolaethu ac yn cyhoeddi i chwi y bywyd tragwyddol a oedd gyda'r Tad ac a amlygwyd i ni.
1:3 Yr hyn yr ydym wedi ei weld a'i glywed, yr ydym yn ei gyhoeddi i chwi hefyd, er mwyn i chwithau gael cymundeb â ni. Ac yn wir, y mae ein cymundeb ni gyda'r Tad a chyda'i Fab ef, Iesu Grist.
1:4 Ac yr ydym ni'n ysgrifennu hyn er mwyn i'n llawenydd fod yn gyflawn.

Goleuni yw Duw

1:5 Hon yw'r genadwri yr ydym wedi ei chlywed ganddo ef, ac yr ydym yn ei chyhoeddi i chwi: goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ef ddim tywyllwch.
1:6 Os dywedwn fod gennym gymundeb ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, yr ydym yn dweud celwydd, ac nid ydym yn gwneud y gwirionedd;
1:7 ond os rhodiwn yn y goleuni, fel y mae ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb â'n gilydd, ac y mae gwaed Iesu, ei Fab ef, yn ein glanhau ni o bob pechod.
1:8 Os dywedwn ein bod yn ddibechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, ac nid yw'r gwirionedd ynom.
1:9 Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a'n glanhau o bob anghyfiawnder.
1:10 Os dywedwn nad ydym wedi pechu, yr ydym yn ei wneud ef yn gelwyddog, ac nid yw ei air ef ynom ni.

Crist, Ein Heiriolwr

2:1 Fy mhlant, yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn atoch i'ch cadw rhag pechu. Ond os bydd i rywun bechu, y mae gennym Eiriolwr gyda'r Tad, sef Iesu Grist, y cyfiawn;
2:2 ac ef sy'n aberth cymod dros ein pechodau, ac nid dros ein pechodau ni yn unig, ond hefyd bechodau'r holl fyd.
2:3 Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn ei adnabod ef, sef ein bod yn cadw ei orchmynion.
2:4 Y sawl sy'n dweud, "Rwyf yn ei adnabod", a heb gadw ei orchmynion, y mae'n gelwyddog, ac nid yw'r gwirionedd ynddo;
2:5 ond pwy bynnag sy'n cadw ei air ef, yn hwnnw, yn wir, y mae cariad at Dduw wedi ei berffeithio. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod ynddo ef:
2:6 dylai'r sawl sy'n dweud ei fod yn aros ynddo ef rodio ei hun yn union fel y rhodiodd ef.

Y Gorchymyn Newydd

2:7 Gyfeillion annwyl, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, ond hen orchymyn, un sydd wedi bod gennych o'r dechrau; y gair a glywsoch yw'r hen orchymyn hwn.
2:8 Eto, yr wyf yn ysgrifennu atoch orchymyn newydd, rhywbeth sydd yn wir ynddo ef ac ynoch chwithau; oherwydd y mae'r tywyllwch yn mynd heibio, a'r gwir oleuni eisoes yn tywynnu.
2:9 Y sawl sy'n dweud ei fod yn y goleuni, ac yn casáu ei gydaelod, yn y tywyllwch y mae o hyd.
2:10 Y mae'r sawl sy'n caru ei gydaelod yn aros yn y goleuni, ac nid oes dim ynddo i faglu neb.
2:11 Ond y sawl sy'n casáu ei gydaelod, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae'n rhodio, ac nid yw'n gwybod lle y mae'n mynd, am fod y tywyllwch wedi dallu ei lygaid.
2:12 Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, blant, am fod eich pechodau wedi eu maddau drwy ei enw ef.
2:13 Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, dadau, am eich bod yn adnabod yr hwn sydd wedi bod o'r dechreuad. Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, wŷr ifainc, am eich bod wedi gorchfygu'r Un drwg. Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, blant, am eich bod yn adnabod y Tad.
2:14 Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, dadau, am eich bod yn adnabod yr hwn sydd wedi bod o'r dechreuad. Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, wŷr ifainc, am eich bod yn gryf, ac am fod gair Duw yn aros ynoch, a'ch bod wedi gorchfygu'r Un drwg.
2:15 Peidiwch â charu'r byd na'r pethau sydd yn y byd. Os yw rhywun yn caru'r byd, nid yw cariad y Tad ynddo,
2:16 oherwydd y cwbl sydd yn y byd — trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn medd-iannau — nid o'r Tad y mae, ond o'r byd.
2:17 Y mae'r byd a'i drachwant yn mynd heibio, ond y mae'r sawl sy'n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.

Yr Anghrist

2:18 Blant, dyma'r awr olaf, ac fel y clywsoch fod yr Anghrist yn dod, yn awr dyma anghristiau lawer wedi dod; wrth hyn yr ydym yn gwybod mai dyma'r awr olaf.
2:19 Aethant allan oddi wrthym ni, ond nid oeddent yn perthyn i ni, oherwydd pe byddent yn perthyn i ni, byddent wedi aros gyda ni; dangoswyd felly nad oedd neb ohonynt yn perthyn i ni.
2:20 Ond amdanoch chwi, y mae gennych eneiniad oddi wrth yr Un Sanctaidd, ac yr ydych bawb yn gwybod.
2:21 Nid am nad ydych yn gwybod y gwirionedd yr wyf yn ysgrifennu atoch, ond am eich bod yn ei wybod, ac yn gwybod hefyd am bob celwydd, nad yw o'r gwirionedd.
2:22 Pwy yw'r un celwyddog, ond y sawl sy'n gwadu mai Iesu yw'r Crist? Dyma'r Anghrist, sef yr un sy'n gwadu'r Tad a'r Mab.
2:23 Pob un sy'n gwadu'r Mab, nid yw'r Tad ganddo chwaith; y sawl sy'n cyffesu'r Mab, y mae'r Tad ganddo hefyd.
2:24 Chwithau, bydded i'r hyn a glywsoch o'r dechrau aros ynoch. Os bydd yr hyn a glywsoch o'r dechrau yn aros ynoch, byddwch chwithau hefyd yn aros yn y Mab ac yn y Tad.
2:25 Dyma'r hyn a addawodd ef i ni, sef bywyd tragwyddol.
2:26 Ysgrifennais hyn atoch ynglŷn â'r rhai sydd am eich arwain ar gyfeiliorn.
2:27 A chwithau, y mae'r eneiniad a gawsoch ganddo ef yn aros ynoch, ac nid oes arnoch angen neb i'ch dysgu; ond y mae'r eneiniad a roddodd ef yn eich dysgu am bopeth, a gwir yw, nid celwydd. Fel y dysgodd ef chwi, arhoswch ynddo ef.

Plant Duw

2:28 Ac yn awr, blant, arhoswch ynddo ef, er mwyn inni, pan fydd ef yn ymddangos, gael hyder a bod heb gywilydd arnom ger ei fron ef ar ei ddyfodiad.
2:29 Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, yna fe ddylech wybod bod pob un sy'n gwneud cyfiawnder wedi ei eni ohono ef.
3:1 Gwelwch pa fath gariad y mae'r Tad wedi ei ddangos tuag atom: cawsom ein galw yn blant Duw, a dyna ydym. Y rheswm nad yw'r byd yn ein hadnabod ni yw nad oedd yn ei adnabod ef.
3:2 Gyfeillion annwyl, yn awr yr ydym yn blant Duw, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Yr ydym yn gwybod, pan fydd ef yn ymddangos, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae.
3:3 Ac y mae pob un y mae'r gobaith hwn ganddo, yn ei buro ei hun, fel y mae Crist yn bur.
3:4 Y mae pob un sy'n cyflawni pechod yn gwneud anghyfraith hefyd; anghyfraith yw pechod.
3:5 Yr ydych yn gwybod bod Crist wedi ymddangos er mwyn cymryd ymaith bechodau; ac ynddo ef nid oes pechod.
3:6 Nid oes neb sy'n aros ynddo ef yn pechu; nid yw'r sawl sy'n pechu wedi ei weld ef na'i adnabod ef.
3:7 Blant, peidiwch â gadael i neb eich arwain ar gyfeiliorn. Y mae'r sawl sy'n gwneud cyfiawnder yn gyfiawn, fel y mae ef yn gyfiawn.
3:8 o'r diafol y mae'r sawl sy'n cyflawni pechod, oherwydd y mae'r diafol yn pechu o'r dechreuad. I ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw.
3:9 Nid oes neb sydd wedi ei eni o Dduw yn cyflawni pechod, oherwydd y mae had Duw yn aros ynddo; ac ni all bechu, oherwydd ei fod wedi ei eni o Dduw.
3:10 Dyma sut y mae'n amlwg pwy yw plant Duw a phwy yw plant y diafol: pob un nad yw'n gwneud cyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn nad yw'n caru ei gydaelod.

Carwch Eich Gilydd

3:11 Oherwydd hon yw'r genadwri a glywsoch chwi o'r dechrau: ein bod i garu ein gilydd.
3:12 Nid fel Cain, a oedd o'r Un drwg ac a laddodd ei frawd. A pham y lladdodd ef? Oherwydd fod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a gweithredoedd ei frawd yn gyfiawn.
3:13 Peidiwch â synnu, gyfeillion, os yw'r byd yn eich casáu chwi.
3:14 Yr ydym ni'n gwybod ein bod wedi croesi o farwolaeth i fywyd, am ein bod yn caru ein cydaelodau; y mae'r sawl nad yw'n caru yn aros mewn marwolaeth.
3:15 Llofrudd yw pob un sy'n casáu ei gydaelod, ac yr ydych yn gwybod nad oes gan unrhyw lofrudd fywyd tragwyddol yn aros ynddo.
3:16 Dyma sut yr ydym yn gwybod beth yw cariad: am iddo ef roi ei einioes drosom ni. Ac fe ddylem ninnau roi ein heinioes dros ein cydaelodau.
3:17 Pwy bynnag sydd â meddiannau'r byd ganddo, ac yn gweld ei gydaelod mewn angen, ac eto'n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo?
3:18 Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod ond mewn gweithred a gwirionedd.

Hyder gerbron Duw

3:19 Dyma sut y cawn wybod ein bod o'r gwirionedd, a sicrhau ein calonnau yn ei ŵydd ef
3:20 pryd bynnag y bydd ein calon yn ein condemnio; oherwydd y mae Duw yn fwy na'n calon, ac y mae'n gwybod pob peth.
3:21 Gyfeillion annwyl, os nad yw'n calon yn ein condemnio, y mae gennym hyder gerbron Duw,
3:22 ac yr ydym yn derbyn ganddo ef bob dim yr ydym yn gofyn amdano, am ein bod yn cadw ei orchmynion ac yn gwneud y pethau sydd wrth ei fodd.
3:23 Dyma ei orchymyn: ein bod i gredu yn enw ei Fab ef, Iesu Grist, a charu'n gilydd, yn union fel y rhoddodd ef orchymyn inni.
3:24 Y mae'r sawl sy'n cadw ei orchmynion ef yn aros ynddo ef, ac ef ynddo yntau. Dyma sut yr ydym yn gwybod ei fod ef yn aros ynom ni: trwy'r Ysbryd a roddodd ef inni.

Ysbryd Duw ac Ysbryd Anghrist

4:1 Gyfeillion annwyl, peidiwch â chredu pob ysbryd, ond profwch yr ysbrydion i gael gwybod a ydynt o Dduw, oherwydd y mae gau broffwydi lawer wedi mynd allan i'r byd.
4:2 Dyma sut yr ydych yn adnabod Ysbryd Duw: pob ysbryd sy'n cyffesu bod Iesu Grist wedi dod yn y cnawd, o Dduw y mae,
4:3 a phob ysbryd nad yw'n cyffesu Iesu, nid yw o Dduw. Ysbryd yr Anghrist yw hwn; clywsoch ei fod yn dod, ac yn awr y mae eisoes yn y byd.
4:4 Blant, yr ydych chwi o Dduw, ac yr ydych wedi eu gorchfygu hwy; oherwydd y mae'r hwn sydd ynoch chwi yn gryfach na'r hwn sydd yn y byd.
4:5 I'r byd y maent hwy'n perthyn, ac o'r byd, felly, y daw'r hyn y maent yn ei ddweud; ac y mae'r byd yn gwrando arnynt hwy.
4:6 O Dduw yr ydym ni; y mae'r hwn sy'n adnabod Duw yn gwrando arnom ni, a'r hwn nad yw o Dduw, nid yw'n gwrando arnom ni. Dyma sut yr ydym yn adnabod ysbryd y gwirionedd ac ysbryd cyfeiliornad.

Cariad yw Duw

4:7 Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy'n caru wedi ei eni o Dduw, ac yn adnabod Duw.
4:8 Y sawl nad yw'n caru, nid yw'n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw.
4:9 Yn hyn y dangoswyd cariad Duw tuag atom: bod Duw wedi anfon ei unig Fab i'r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo ef.
4:10 Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni'n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn aberth cymod dros ein pechodau.
4:11 Gyfeillion annwyl, os yw Duw wedi ein caru ni fel hyn, fe ddylem ninnau hefyd garu ein gilydd.
4:12 Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom ni.
4:13 Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn aros ynddo ef, ac ef ynom ninnau: am iddo ef roi inni o'i Ysbryd.
4:14 Yr ydym ni wedi gweld, ac yr ydym yn tystiolaethu bod y Tad wedi anfon ei Fab yn Waredwr y byd.
4:15 Pwy bynnag sy'n cyffesu mai Iesu yw Mab Duw, y mae Duw yn aros ynddo, ac yntau yn Nuw.
4:16 Felly yr ydym ni wedi dod i adnabod a chredu'r cariad sydd gan Dduw tuag atom. Cariad yw Duw, ac y mae'r sawl sy'n aros mewn cariad yn aros yn Nuw, a Duw yn aros ynddo yntau.
4:17 Yn hyn y mae cariad wedi cael ei berffeithio ynom: bod gennym hyder yn Nydd y Farn, oherwydd fel y mae ef, felly yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.
4:18 Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn; y mae a wnelo ofn â chosb, ac nid yw'r sawl sy'n ofni wedi ei berffeithio mewn cariad.
4:19 Yr ydym ni'n caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.
4:20 Os dywed rhywun, "Rwy'n caru Duw", ac yntau'n casáu ei gydaelod, y mae'n gelwyddog; oherwydd ni all neb nad yw'n caru cydaelod y mae wedi ei weld, garu Duw nad yw wedi ei weld.
4:21 A dyma'r gorchymyn sydd gennym oddi wrtho ef: bod i'r sawl sy'n caru Duw garu ei gydaelod hefyd.

Ffydd yn Gorchfygu'r Byd

5:1 Pob un sy'n credu mai Iesu yw'r Crist, y mae wedi ei eni o Dduw; ac y mae pawb sy'n caru tad yn caru ei blentyn hefyd.
5:2 Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn caru plant Duw: pan fyddwn yn caru Duw ac yn cadw ei orchmynion.
5:3 Oherwydd dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion ef yn feichus,
5:4 am fod pawb sydd wedi eu geni o Dduw yn gorchfygu'r byd. Hon yw'r oruchafiaeth a orchfygodd y byd: ein ffydd ni.
5:5 Pwy yw gorchfygwr y byd ond y sawl sy'n credu mai Iesu yw Mab Duw?

Tystiolaeth am y Mab

5:6 Dyma'r un a ddaeth drwy ddŵr a gwaed, Iesu Grist; nid trwy ddŵr yn unig, ond trwy'r dŵr a thrwy'r gwaed. Yr Ysbryd yw'r tyst, am mai'r Ysbryd yw'r gwirionedd.
5:7 Oherwydd y mae tri sy'n tystiolaethu,
5:8 yr Ysbryd, y dŵr, a'r gwaed, ac y mae'r tri yn gytûn.
5:9 Os ydym yn derbyn tystiolaeth pobl feidrol, y mae tystiolaeth Duw yn fwy. A hon yw tystiolaeth Duw: ei fod wedi tystio am ei Fab.
5:10 Y mae gan y sawl sy'n credu ym Mab Duw y dystiolaeth ynddo'i hun. Y mae'r sawl nad yw'n credu Duw yn ei wneud ef yn gelwyddog, am nad yw wedi credu'r dystiolaeth y mae Duw wedi ei rhoi.
5:11 A hon yw'r dystiolaeth: bod Duw wedi rhoi inni fywyd tragwyddol. Ac y mae'r bywyd hwn yn ei Fab.
5:12 Y sawl y mae'r Mab ganddo, y mae'r bywyd ganddo; y sawl nad yw Mab Duw ganddo, nid yw'r bywyd ganddo.

Gwybod am Fywyd Tragwyddol

5:13 Yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn atoch chwi, y rhai sydd yn credu yn enw Mab Duw, er mwyn ichwi wybod bod gennych fywyd tragwyddol.
5:14 A hwn yw'r hyder sydd gennym ger ei fron ef: y bydd ef yn gwrando arnom os gofynnwn am rywbeth yn unol â'i ewyllys ef.
5:15 Ac os ydym yn gwybod ei fod yn gwrando arnom, beth bynnag y byddwn yn gofyn amdano, yr ydym yn gwybod bod y pethau yr ydym wedi gofyn iddo amdanynt yn eiddo inni.
5:16 Os gwêl unrhyw un ei gydaelod yn cyflawni pechod nad yw'n bechod marwol, dylai ofyn, ac fe rydd Duw fywyd iddo — hynny yw, i'r rhai nad yw eu pechod yn farwol. Y mae pechod sy'n farwol; nid ynglŷn â hwn yr wyf yn dweud y dylai weddïo.
5:17 Y mae pob anghyfiawnder yn bechod; ond y mae hefyd bechod nad yw'n farwol.
5:18 Yr ydym yn gwybod nad yw'r sawl sydd wedi ei eni o Dduw yn dal i bechu, ond y mae'r Un a anwyd o Dduw yn ei gadw, ac nid yw'r Un drwg yn ei gyffwrdd.
5:19 Yr ydym yn gwybod ein bod ni o Dduw, a bod yr holl fyd yn gorwedd yng ngafael yr Un drwg.
5:20 Yr ydym yn gwybod bod Mab Duw wedi dod, ac wedi rhoi inni ddealltwriaeth, er mwyn inni adnabod yr Un gwir; ac yr ydym ni yn yr Un gwir, yn ei Fab ef, Iesu Grist. Hwn yw'r gwir Dduw a'r bywyd tragwyddol.
5:21 Blant, ymgadwch rhag eilunod.