LLYFR CYNTAF ESDRAS

Joseia yn Dathlu'r Pasg (2 Bren. 23:21-23; 2 Cron. 35:1-19)

1:1 Cadwodd Joseia ŵyl y Pasg i'w Arglwydd yn Jerwsalem, ac offrymodd oen y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
1:2 Gosododd yr offeiriaid yn nheml yr Arglwydd, pob un yn ôl ei adran ac yn ei urddwisg.
1:3 Gorchmyn-nodd i'r Lefiaid, gwasanaethwyr teml Israel, eu sancteiddio'u hunain i'r Arglwydd er mwyn gosod arch sanc-taidd yr Arglwydd yn y tŷ a adeiladodd y Brenin Solomon, mab Dafydd.
1:4 Dywedodd Joseia wrthynt: “Nid oes rhaid ichwi mwyach ei dwyn ar eich ysgwyddau; yn awr gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw a gweini ar ei genedl, Israel, a gwnewch baratoadau fesul teulu a thylwyth yn unol â'r hyn a ysgrifennodd Dafydd brenin Israel, ac yn gweddu i wychder Solomon ei fab.
1:5 Safwch mewn trefn yn y deml, yn ôl dosbarthiad eich teulu, fel Lefiaid ym mhresenoldeb eich brodyr yr Israeliaid; offrymwch oen y Pasg a pharatowch yr aberthau dros eich brodyr.
1:6 Dathlwch ŵyl y Pasg yn ôl y gorchymyn a roddodd yr Arglwydd i Moses.”
1:7 Cyflwynodd Joseia i'r bobl oedd yn bresennol rodd o ddeng mil ar hugain o ŵyn a mynnod a thair mil o loi. Rhoddwyd y pethau hyn o stadau'r brenin yn unol â'i addewid i'r bobl ac i'r offeiriaid a'r Lefiaid.
1:8 Rhoddodd Chelcias, Sachareias ac Esuelus, goruchwylwyr y deml, ddwy fil chwe chant o ddefaid a thri chant o loi i'r offeiriaid ar gyfer y Pasg.
1:9 Rhoddodd yr uchel-swyddogion milwrol, Jechonias, Samaias, Nathanael ei frawd, Asabias, Ochielus a Joram, bum mil o ddefaid a saith gant o loi i'r Lefiaid ar gyfer y Pasg.
1:10 Dyma'r hyn a ddigwyddodd: safodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn drefnus, yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd ym mhresenoldeb y bobl, yn dwyn y bara croyw,
1:11 i offrymu i'r Arglwydd yn unol â'r hyn a ysgrifennwyd yn llyfr Moses. Digwyddodd hyn yn y bore.
1:12 Rhost-iasant oen y Pasg ar dân yn ôl y ddefod, a berwi'r aberthau mewn pedyll a chrochanau, gydag arogl pêr, ac yna eu rhannu i bawb o blith y bobl.
1:13 Ar ôl hyn gwnaethant baratoadau iddynt eu hunain ac i'w brodyr yr offeiriaid, meibion Aaron,
1:14 oherwydd parhaodd yr offeiriaid i offrymu'r braster hyd yr hwyr. Felly y gwnaeth y Lefiaid y paratoadau iddynt eu hunain ac i'w brodyr yr offeiriaid, meibion Aaron.
1:15 Arhosodd cantorion y deml, meibion Asaff, ynghyd ag Asaff, Sachareias, ac Edinws o lys y brenin,
1:16 a'r porthorion ar bob porth, yn eu lleoedd yn unol â gorchmynion Dafydd; nid oedd gan neb ohonynt hawl i esgeuluso ei adran ei hun, gan fod ei frodyr, y Lefiaid, wedi paratoi ar ei gyfer.
1:17 Cwblhawyd popeth ynglŷn â'r aberth i'r Arglwydd y diwrnod hwnnw:
1:18 dathlwyd y Pasg ac offrymwyd yr aberthau ar allor yr Arglwydd yn unol â gorchymyn y Brenin Joseia.
1:19 Cadwodd yr Israeliaid oedd yn bresennol yr adeg honno y Pasg a gŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod.
1:20 Ni ddathlwyd Pasg fel hwnnw yn Israel er dyddiau'r proffwyd Samuel;
1:21 ni chynhaliodd yr un o frenhinoedd Israel Basg tebyg i'r un a gynhaliodd Joseia a'r offeiriaid a'r Lefiaid, pobl Jwda ac Israel gyfan oedd yn digwydd preswylio yn Jerwsalem.
1:22 Dathlwyd y Pasg hwnnw yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia.

Diwedd Teyrnasiad Joseia (2 Bren. 23:28-30; 2 Cron. 35:20-27)

1:23 Gwnaeth Joseia bopeth yn gywir gerbron ei Arglwydd â chalon lawn duwioldeb.
1:24 Ysgrifennwyd eisoes ddigwyddiadau ei ddyddiau mewn adroddiadau am y rhai a bechodd yn fwy yn erbyn yr Arglwydd ac a fu'n fwy annuwiol nag unrhyw genedl neu deyrnas arall, ac a'i tristaodd yn fawr, nes i eiriau barn yr Arglwydd ddisgyn ar Israel.
1:25 Ar ôl yr holl weithgarwch hwn o eiddo Joseia, digwyddodd Pharo brenin yr Aifft ddod i ryfela yn Carchemis ar lan Afon Ewffrates, ac aeth Joseia allan i'w gyfarfod.
1:26 Anfonodd brenin yr Aifft neges ato i ofyn: “Pam yr wyt yn ymyrryd â mi, frenin Jwda?
1:27 Nid yn dy erbyn di y'm hanfonwyd gan yr Arglwydd Dduw, oherwydd yn ymyl Afon Ewffrates y mae fy mrwydr. Ac yn awr y mae'r Arglwydd gyda mi; ydyw, mae'r Arglwydd gyda mi, yn fy ngyrru ymlaen. Dos yn dy ôl, a phaid â gwrthwynebu'r Arglwydd.”
1:28 Ond ni throdd Joseia ei gerbyd rhyfel yn ôl, ond ceisiodd ymladd ag ef, gan anwybyddu geiriau'r Arglwydd drwy enau'r proffwyd Jeremeia.
1:29 Aeth i frwydr yn erbyn Pharo ar wastadedd Megido. Ymosododd tywysogion hwnnw ar y Brenin Joseia,
1:30 a dywedodd yntau wrth ei weision, “Ewch â mi allan o'r frwydr, oherwydd fe'm clwyfwyd yn arw.” Cludodd ei weision ef yn syth o faes y gad,
1:31 a'i godi i'w ail gerbyd. Yna, wedi iddo gael ei ddwyn yn ôl i Jerwsalem, bu farw ac fe'i claddwyd ym meddrod ei ragflaenwyr.
1:32 Bu galaru am Joseia trwy Jwda i gyd, a chanodd Jeremeia'r proffwyd alarnad amdano; a galarodd yr arweinwyr amdano, gyda'u gwrag-edd, hyd y dydd hwn. Gorchmynnwyd cadw'r arferiad hwn am byth drwy holl genedl Israel.
1:33 Y mae'r pethau hyn wedi eu hysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda; pob gweithred a gyflawnodd Joseia, ei enw da a'i ddealltwriaeth o gyfraith yr Arglwydd, ei weithredoedd gynt a'r rhai a adroddir yn awr, y mae'r hanes wedi ei gofnodi yn y gyfrol am frenhinoedd Israel a Jwda.

Y Brenin Jechoneia yn Jwda (2 Bren. 23:30-35; 2 Cron. 36:1-4)

1:34 Cymerodd rhai o'i gyd-genedl Jechoneia fab Joseia, a'i gyhoeddi'n frenin yn lle ei dad Joseia pan oedd yn dair ar hugain oed.
1:35 Teyrnasodd yn Jwda a Jerwsalem am dri mis, ac yna symudodd brenin yr Aifft ef o deyrnasu yn Jerwsalem,
1:36 a gosododd dreth ar y genedl o gan talent o arian ac un dalent o aur.
1:37 Yna cyhoeddodd brenin yr Aifft ei frawd Joacim yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
1:38 Carcharodd Joacim y pendefigion, a daliodd ei frawd Sarius a'i ddwyn yn ôl o'r Aifft.

Y Brenin Jehoiacim yn Jwda (2 Bren. 23:36—24:7; 2 Cron. 36:5-8)

1:39 Pump ar hugain oed oedd Jehoiacim pan ddaeth yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.
1:40 Daeth Nebuchadnesar brenin Babilon ar ymgyrch yn ei erbyn, ei rwymo mewn cadwyn bres, a'i ddwyn ymaith i Fabilon.
1:41 Cymerodd Nebuch-adnesar hefyd rai o lestri sanctaidd yr Arglwydd, gan eu cludo i ffwrdd a'u gosod yn ei deml ym Mabilon.
1:42 Y mae hanes Joacim a'i ymarweddiad amhur ac annuwiol wedi ei ysgrifennu yn llyfr croniclau'r brenhinoedd.

Y Brenin Jehoiachin yn Jwda (2 Bren. 24:8-17; 2 Cron. 36:9-10)

1:43 Daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le. Pan ddaeth i'r orsedd yr oedd yn ddeunaw oed.
1:44 Bu'n frenin am dri mis a deg diwrnod yn Jerwsalem, a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.
1:45 Ymhen blwyddyn anfonodd Nebuch-adnesar i'w ddwyn i Fabilon ynghyd â llestri sanctaidd yr Arglwydd.
1:46 Cyhoeddodd Sedeceia yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.

Y Brenin Sedeceia yn Jwda (2 Bren. 24:18-20; 2 Cron. 36:11-12; Jer. 52:1-3a)

1:47 Gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, heb ystyried y geiriau a lefarwyd gan yr Arglwydd drwy enau'r proffwyd Jeremeia.

Cwymp Jerwsalem (2 Bren. 25:1-21; 2 Cron. 36:13-21; Jer. 52:3b-11)

1:48 Wedi iddo dyngu llw o deyrngarwch i'r Brenin Nebuchadnesar yn enw'r Arglwydd, torrodd Sedeceia y llw a gwrthryfelodd. Aeth yn wargaled ac ystyfnig a throseddodd ddeddfau Arglwydd Dduw Israel.
1:49 Cyflawnodd arweinwyr y bobl a'r prif offeiriaid lawer o bethau annuwiol, a thorri'r gyfraith, gan ymddwyn yn waeth na'r cenhedloedd i gyd ym mhob math o amhurdeb, a halogi teml yr Arglwydd, a oedd wedi ei chysegru yn Jerwsalem.
1:50 Anfonodd Duw eu hynafiaid drwy ei negesydd i'w galw'n ôl, am fod ei fryd ar eu harbed hwy a'i dabernacl.
1:51 Ond gwatwarasant ei negeswyr, ac ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd yr oeddent yn gwawdio ei broffwydi,
1:52 nes iddo ddigio wrth ei genedl oherwydd eu gweithredoedd annuwiol, a threfnu i frenhinoedd y Caldeaid ymosod arnynt.
1:53 Lladdodd y rhain eu dynion ifainc â'r cleddyf o gwmpas eu teml sanctaidd, heb arbed na bachgen na merch, na hen nac ifanc;
1:54 ond traddodwyd hwy i gyd i'w dwylo. Cymerasant holl lestri sanctaidd yr Arglwydd, mawr a bach, ac addurniadau Arch yr Arglwydd, a thrysorau'r brenin, a'u cludo ymaith i Fabilon.
1:55 Llosgasant dŷ'r Arglwydd, dinistrio muriau Jerwsalem a difa ei thyrau â thân,
1:56 nes gorffen difodi ei holl wychder hi. Dug Nebuchadnesar y gweddill ymaith i Fabilon â chleddyf.
1:57 Buont yn weision iddo ac i'w feibion nes i'r Persiaid ddod i deyrnasu, er mwyn cyflawni gair yr Arglwydd drwy enau Jeremeia:
1:58 “Hyd nes y cyflawna'r wlad ei sabothau, bydd yn cadw saboth holl amser ei hanghyfanedd-dra hyd ddiwedd deng mlynedd a thrigain.”

Cyrus yn Gorchymyn bod yr Iddewon i Ddychwelyd (2 Cron. 36:22-23; Esra 1:1-11)

2:1 Ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Cyrus brenin Persia, er mwyn cyflawni gair yr Arglwydd drwy enau Jeremeia,
2:2 cynhyrfodd yr Arglwydd ysbryd Cyrus brenin Persia i gyhoeddi drwy ei deyrnas i gyd, yn llafar ac yn ysgrifenedig, fel hyn:
2:3 “Dyma a ddywed Cyrus brenin Persia: Arglwydd Israel, yr Arglwydd Goruchaf, a'm gwnaeth yn frenin ar yr holl fyd,
2:4 a rhoddodd gyfarwyddyd i mi i adeiladu iddo dŷ yn Jerwsalem yn Jwda.
2:5 Pwy bynnag ohonoch sy'n perthyn i'w genedl ef, bydded ei Arglwydd gydag ef, ac aed i fyny i Jerwsalem yn Jwda i adeiladu tŷ Arglwydd Israel—ef yw'r Arglwydd sy'n preswylio yn Jerwsalem.
2:6 Y rheini oll sy'n byw mewn gwahanol ardaloedd, bydded i bobl eu hardal hwy eu helpu â rhoddion o aur ac arian,
2:7 â cheffylau a gwartheg, yn ogystal â phethau eraill a gyflwynwyd trwy adduned i deml yr Arglwydd yn Jerwsalem.”
2:8 Yna cododd pennau-teuluoedd llwythau Jwda a Benjamin, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, a'r holl rai y cynhyrfodd yr Arglwydd eu hysbryd, i fynd i fyny i adeiladu tŷ i'r Arglwydd yn Jerwsalem,
2:9 a chynorthwyodd eu cymdogion hwy ym mhob peth, ag arian ac aur, ceffylau a gwartheg, a llawer iawn o'r rhoddion a gyflwynwyd trwy adduned gan lawer o bobl a roes eu bryd ar hynny.
2:10 Dug y Brenin Cyrus allan hefyd lestri sanctaidd yr Arglwydd, a gludodd Nebuchadnesar i ffwrdd o Jerwsalem a'u gosod yn nheml ei eilunod.
2:11 Wedi i Cyrus brenin Persia eu dwyn allan, fe'u rhoddodd i Mithridates ei drysorydd,
2:12 a thrwyddo ef fe'u trosglwyddwyd i Sanabassar llywod-raethwr Jwdea.
2:13 Dyma gyfrif ohonynt: mil o gwpanau aur, mil o gwpanau arian, dau ddeg a naw o thuserau arian, tri deg o ffiolau aur, dwy fil pedwar cant a deg o rai arian, a mil o lestri eraill.
2:14 Trosglwyddwyd felly yr holl lestri aur ac arian, pum mil pedwar cant chwe deg a naw i gyd,
2:15 ac fe'u cludwyd yn ôl gan Sanabassar gyda'r bobl a ddychwelodd o'r gaethglud ym Mabilon i Jerwsalem.

Gwrthwynebu Ailadeiladu Jerwsalem (Esra 4:7-24)

2:16 Ond yn amser Artaxerxes brenin Persia, dyma Beslemus, Mithridates, Tabelius, Rawmus, Beeltemus a Samsaius yr ysgrifennydd, a gweddill eu cyd-swyddogion, a oedd yn byw yn Samaria ac mewn mannau eraill, yn ysgrifennu ato y llythyr canlynol yn erbyn y rhai oedd yn byw yn Jwda a Jerwsalem: “I'r Brenin Artaxerxes, ein harglwydd,
2:17 oddi wrth dy weision, Rawmus y cofnodydd, a Samsaius yr ysgrifennydd, a gweddill y barnwyr o'u cyngor yn Celo-Syria a Phenice.
2:18 Bydded hysbys yn awr i'n harglwydd fod yr Iddewon a ddaeth i fyny oddi wrthych atom ni, ac a aeth i Jerwsalem, yn adeiladu'r ddinas wrthryfelgar a drwg honno, yn atgyweirio ei marchnadoedd a'i muriau, ac yn gosod sylfeini teml.
2:19 Yn awr os adeiledir y ddinas hon a gorffen ei muriau, byddant nid yn unig yn gwrthod talu teyrnged, ond hefyd yn gwrthryfela yn erbyn brenhinoedd.
2:20 Oherwydd bod y gwaith ar y deml yn mynd yn ei flaen, dyma ni'n meddwl y byddai'n well i ni beidio ag anwybyddu'r fath sefyllfa,
2:21 ond ei hysbysu i'n harglwydd y brenin, er mwyn i archwiliad gael ei wneud, os yw'n dda gennyt, yn llyfrau dy hynafiaid.
2:22 Byddi'n darganfod yn y cofnodion yr hyn a ysgrifennwyd amdanynt, a chei wybod i'r ddinas hon fod yn wrthry-felgar a blino brenhinoedd a dinasoedd,
2:23 ac i'r Iddewon hwythau fod yn wrthryfelgar a chodi terfysg ynddi ers amser maith. Yn wir, dyna pam y difrodwyd y ddinas hon.
2:24 Felly yr ydym yn awr yn dy hysbysu, arglwydd frenin, os adeiledir y ddinas hon ac os ailgodir ei muriau, na fydd modd i ti ddychwelyd i Celo-Syria nac i Phenice.”
2:25 Yna ysgrifennodd y brenin mewn ateb i Rawmus y cofnodydd, Beeltemus, Samsaius yr ysgrifennydd, a gweddill eu cyd-swyddogion, a oedd yn byw yn Samaria, Syria a Phenice, fel hyn:
2:26 “Darllenais y llythyr a anfonasoch ataf. Ac o ganlyniad gorchmynnais chwilio, a darganfuwyd bod y ddinas hon ers amser maith wedi bod yn ymladd yn erbyn brenhinoedd,
2:27 a bod ei thrigolion wedi achosi terfysgoedd a rhyfeloedd, a hefyd bod brenhinoedd cryf a chreulon yn Jerwsalem wedi arglwyddiaethu ar Celo-Syria a Phenice a chodi treth arnynt.
2:28 Felly gorchmynnais yn awr rwystro'r bobl hynny rhag adeiladu'r ddinas, a gofalu na wneir dim pellach,
2:29 na gyrru ymlaen â'r fath bethau drwg i flino brenhinoedd.”
2:30 Yna, wedi i lythyr y Brenin Artaxerxes gael ei ddarllen, cychwyn-nodd Rawmus a Samsaius yr ysgrifen-nydd a'u cyd-swyddogion ar frys i Jerwsalem gyda gwŷr meirch a mintai yn barod i ryfel, a dechrau rhwystro'r adeiladwyr. Peidiodd y gwaith o adeiladu'r deml yn Jerwsalem hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.

Dadl y Tri Llanc gerbron y Brenin

3:1 Gwnaeth y Brenin Dareius wledd fawr i'r holl rai oddi tano, i'w holl deulu, i holl arweinwyr Media a Persia,
3:2 i'r holl benaethiaid, y cadfridogion a'r swyddogion oedd oddi tano yn y cant dau ddeg a saith o daleithiau o'r India i Ethiopia.
3:3 Ar ôl iddynt fwyta ac yfed a chael eu digon ymadawsant, ac aeth y Brenin Dareius i'w ystafell wely a chysgu, ond yna deffrôdd.
3:4 Wedyn dywedodd y tri llanc oedd yn gwarchod y brenin, y naill wrth y llall,
3:5 “Gadewch i bob un ohonom enwi un peth, y peth cryfaf, ac fe rydd y Brenin Dareius roddion gwerthfawr a gwobrau gwych i'r sawl y bydd ei ddywediad yn ymddangos yn ddoethach na'r lleill.
3:6 Fe'i gwisgir mewn porffor, caiff yfed allan o lestri aur, cysgu ar wely aur, cael cerbyd â ffrwynau aur, penwisg o liain main, a chadwyn am ei wddf.
3:7 Caiff eistedd yn nesaf at Dareius oherwydd ei ddoethineb, a dwyn yr enw, ‘Câr Dareius’.”
3:8 Yna ysgrifennodd pob un ei ateb ei hun, ei selio a'i osod o dan obennydd y Brenin Dareius,
3:9 gan ddweud, “Pan fydd y brenin yn deffro, rhoddir iddo yr hyn a ysgrifennwyd. I'r un y bydd y brenin a thri arweinydd Persia yn barnu mai ei ateb yw'r doethaf y rhoddir y fuddugoliaeth yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd.”
3:10 Ysgrifennodd y cyntaf, “Gwin sydd gryfaf.”
3:11 Ysgrifennodd yr ail, “Y brenin sydd gryfaf.”
3:12 Ysgrifennodd y trydydd, “Gwragedd sydd gryfaf, ond y mae gwirionedd yn drech na phopeth.”
3:13 Pan ddeffrôdd y brenin, cymeras-ant yr hyn a ysgrifennwyd a'i roi iddo, ac fe'i darllenodd.
3:14 Yna anfonodd a galw ynghyd holl arweinwyr Persia a Media, y penaethiaid, y cadfridogion, y swyddog-ion a'r is-swyddogion.
3:15 Eisteddodd yn ystafell y cyngor, a darllenwyd yr hyn a ysgrifennwyd yng ngŵydd pawb.
3:16 Yna dywedodd, “Galwch y llanciau er mwyn iddynt gael egluro'u hatebion.” Fe'u galwyd i mewn,
3:17 a dywedwyd wrthynt, “Eglurwch inni'r hyn a ysgrifennwyd gennych.” Dechreuodd y cyntaf, yr un a soniai am gryfder gwin,
3:18 drwy ddweud, “Foneddigion, ym mha ffordd y mae gwin gryfaf? Mae'n drysu meddwl pob un sy'n ei yfed.
3:19 Mae'n effeithio ar feddwl y brenin a'r amddifad, y caeth a'r rhydd, y tlawd a'r cyfoethog, yn yr un ffordd.
3:20 Mae'n troi pob meddwl at gyfeddach a llawenydd, nes anghofio pob tristwch a phob dyled.
3:21 Gwna i bawb ymddwyn fel cyfoethogion, heb falio am na brenin na phennaeth, ond siarad am bopeth fel petai'n filiwnydd.
3:22 Wrth yfed, nid ydynt yn malio am gyfeillachu â ffrindiau a theulu, a chyn bo hir tynnant eu cleddyfau.
3:23 Wedi sobri, nid ydynt yn cofio beth a wnaethant.
3:24 Foneddigion, onid gwin sydd gryfaf, gan ei fod yn gorfodi pobl i ymddwyn fel hyn?” Tawodd ar ôl dweud hyn.

4:1 Yna dechreuodd yr ail lefaru, yr un a soniai am gryfder y brenin.
4:2 “Fonedd-igion,” meddai, “onid dynion sydd gryfaf, gan eu bod yn llywodraethu tir a môr a phopeth sydd ynddynt?
4:3 A'r brenin yw'r cryfaf, oherwydd y mae'n arglwydd ac yn feistr ar bawb; ufuddhânt i bopeth y mae'n ei orchymyn iddynt.
4:4 Os yw'n gorchymyn iddynt ryfela yn erbyn ei gilydd, gwnânt hynny. Os yw'n eu hanfon allan yn erbyn ei elynion, fe ânt a dymchwel mynydd-oedd, muriau a thyrau.
4:5 Er iddynt ladd a chael eu lladd, nid anufuddhânt i orchymyn y brenin. Os enillant fuddugoliaeth, i'r brenin y dygant bopeth, yr holl ysbail a phob dim arall.
4:6 Yn yr un modd y mae'r arddwyr, nad ydynt na milwyr na rhyfelwyr, yn trin y tir, ac at y brenin y dygant y cynnyrch wedi iddynt hau a medi. Mae pawb yn cymell ei gilydd i dalu trethi i'r brenin.
4:7 Ac eto, un yn unig yw ef. Os yw'n gorchymyn iddynt ladd, lladdant; os rhyddhau, rhyddhânt;
4:8 os taro, trawant; os difrodi, difrodant; os adeiladu, adeiladant;
4:9 os torri i lawr, torrant i lawr; os plannu, plannant.
4:10 Y mae ei holl bobl a'i luoedd yn ufuddhau iddo. At hyn oll, y mae'n cael eistedd i fwyta ac yfed, a syrthio i gysgu,
4:11 tra maent hwy'n gwylio o'i gwmpas. Ni chaiff un fynd i ymhĂ©l â'i orchwylion ei hun; nid ydynt yn anufuddhau iddo.
4:12 Foneddigion, rhaid mai'r brenin sydd gryfaf, gan ei fod yn derbyn y fath ufudd-dod.” A thawodd.
4:13 Yna dechreuodd y trydydd lefaru; Sorobabel oedd hwn, yr un a soniai am wragedd ac am wirionedd.
4:14 “Fonedd-igion,” meddai, “a yw'r brenin yn fawr, dynion yn niferus, a gwin yn gryf? Ydynt, ond pwy sy'n feistr ac yn arglwydd arnynt? Onid gwragedd?
4:15 Gwragedd a esgorodd ar y brenin a'i holl bobl, y rhai sy'n llywodraethu môr a thir.
4:16 O wragedd y daethant. Hwy hefyd a fagodd y rhai sy'n plannu'r gwinllannoedd y daw'r gwin ohonynt.
4:17 Hwy sy'n gwneud dillad i ddynion ac yn ennill clod iddynt; ni all dynion wneud heb wragedd.
4:18 Os yw dyn yn casglu aur ac arian a phopeth arall sy'n brydferth, ac yna'n canfod un wraig sy'n deg ei phryd a'i gwedd,
4:19 y mae'n gadael hynny i gyd er mwyn ei llygadu a syllu'n geg-agored arni. Byddai pob dyn yn ei dewis hi yn hytrach nag aur ac arian a phopeth arall sy'n brydferth.
4:20 Mae dyn yn gadael ei dad, a'i magodd, a hyd yn oed ei wlad ei hun, er mwyn glynu wrth ei wraig.
4:21 Gyda hi y treulia'i oes, gan anghofio tad a mam a gwlad.
4:22 Rhaid felly ichwi ddeall mai gwragedd sydd yn eich rheoli. Onid er mwyn rhoi a chludo popeth i'ch gwragedd yr ydych yn llafurio ac yn chwysu?
4:23 Y mae dyn yn cymryd ei gleddyf a mynd allan i deithio, ysbeilio, lladrata; y mae'n hwylio ar fôr ac ar afon;
4:24 y mae'n wynebu llewod ac yn cerdded yn y tywyllwch; y mae'n lladrata, ysbeilio a dwyn, a'r cyfan er mwyn cludo'r ysbail i'w anwylyd.
4:25 Mae dyn yn caru ei wraig ei hun yn fwy na'i dad a'i fam.
4:26 Gwragedd a barodd i lawer golli eu synnwyr a mynd yn gaethweision;
4:27 o achos gwragedd y bu farw llawer, neu lithro a phechu.
4:28 Nid ydych yn fy nghredu eto? A yw'r brenin yn fawr ei awdurdod? Ydyw. A phob gwlad yn ofni ymyrryd ag ef? Ydyw.
4:29 Eto gwelais ef gyda'i ordderch Apame, merch yr enwog Bartacus, pan eisteddai hi ar ei law dde
4:30 a chymryd y goron oddi ar ei ben a'i gosod ar ei phen ei hun, a tharo'r brenin â'i llaw chwith.
4:31 Edrychai'r brenin yn geg-agored arni. Pan fyddai hi'n gwenu arno, gwenai yntau; pan fyddai hi'n gas wrtho, byddai'n gwenieithio i'w chael i gymod ag ef.
4:32 Foneddigion, rhaid bod gwragedd yn gryf os ydynt yn ymddwyn fel hyn.”
4:33 Ar hynny, edrychodd y brenin a'r arweinwyr ar ei gilydd, ond dechreuodd y llanc siarad am wirionedd.
4:34 “Foneddigion, onid yw gwragedd yn gryf? Mae'r ddaear yn fawr, y nefoedd yn uchel, a'r haul yn gyflym yn ei gwrs wrth droi o amgylch y ffurfafen a dychwelyd i'w le ei hun mewn un diwrnod.
4:35 Onid mawr yw'r sawl sy'n gwneud y pethau hyn? Ond mawr hefyd yw gwirionedd; yn wir y mae'n gryfach na phopeth arall.
4:36 Mae'r holl ddaear yn apelio at wirionedd; mae'r nefoedd yn ei glodfori a'r holl greadigaeth yn ysgwyd ac yn crynu, ac nid oes dim anghyfiawnder ynddo.
4:37 Y mae anghyfiawnder mewn gwin; anghyfiawn yw'r brenin; anghyfiawn yw gwragedd; anghyfiawn yw 'r ddynolryw gyfan â'i holl weithred-oedd a phopeth tebyg. Nid oes ynddynt wirionedd, a darfod a wnânt yn eu hanghyfiawnder.
4:38 Erys gwirionedd yn gryf am byth; byw fydd, ac aros mewn grym yn oes oesoedd.
4:39 Gydag ef nid oes derbyn wyneb na ffafriaeth, ond y mae'n gwneud yr hyn sy'n gyfiawn yn hytrach na phopeth anghyfiawn a drwg. Mae pawb yn canmol ei weithredoedd,
4:40 ac yn ei farn nid oes dim anghyfiawnder. Iddo ef y mae'r nerth, y deyrnas, yr awdurdod a'r mawredd trwy'r holl oesoedd. Bendigedig fyddo Duw'r gwirionedd.”
4:41 Tawodd â sôn, a gwaeddodd yr holl bobl: “Mawr yw'r gwirionedd. Y mae'n gryfach na dim.”
4:42 Dywedodd y brenin wrtho: “Gofyn am yr hyn a ddymunit, hyd yn oed y tu hwnt i'r hyn a ysgrifennwyd, ac fe'i rhoddwn i ti, gan mai ti a gafwyd yn ddoethaf. Cei eistedd yn nesaf ataf a dwyn yr enw, ‘Câr i mi’.”
4:43 Dywedodd yntau wrth y brenin: “Cofia'r adduned a wnaethost, ar y dydd y derbyniaist y frenhiniaeth, i adeiladu Jerwsalem,
4:44 a chymryd ac anfon yn ôl yno yr holl lestri a ddygwyd o Jerwsalem ac a osododd Cyrus o'r neilltu. Pan addunedodd ef ddinistrio Babilon, addunedodd hefyd anfon y llestri yn ôl yno.
4:45 Addunedaist tithau hefyd adeiladu'r deml a losgodd yr Edomiaid pan ddifrodwyd Jwdea gan y Chaldeaid.
4:46 Yn awr, hyn yr wyf yn ei ofyn ac yn ei geisio gennyt, O arglwydd frenin, peth sy'n gwbl gyson â'th fawrfrydigrwydd; gofynnaf iti gyflawni'r adduned a wnaethost â'th enau dy hun i Frenin Nef.”
4:47 Cododd y Brenin Dareius a'i gusanu, ac ysgrifennu llythyrau ar ei ran i'r holl drysoryddion, swyddogion, cadfridogion a phenaethiaid, ar iddynt ei hebrwng ef yn ddiogel ynghyd â'r holl rai a fyddai'n mynd i fyny gydag ef i adeiladu Jerwsalem.
4:48 Hefyd ysgrifennodd lythyrau at yr holl swyddogion yn Celo-Syria a Phenice ac i'r rhai yn Libanus, yn gorchymyn iddynt gludo coed cedrwydd o Libanus i Jerwsalem, ac felly ei gynorthwyo i adeiladu'r ddinas.
4:49 Ysgrifennodd ar ran yr holl Iddewon a fyddai'n dod i fyny o'i deyrnas i Jwdea i'w sicrhau o'u rhyddid; ni fyddai'r un llywodraethwr, pennaeth, swyddog na thrysorydd yn torri i mewn drwy eu pyrth;
4:50 byddai'r holl wlad a feddiennid ganddynt yn ddi-dreth; byddai'r Edomiaid yn ildio pentrefi'r Iddewon a feddiannwyd ganddynt hwy;
4:51 byddai cyfraniad o ugain talent bob blwyddyn tuag at adeiladu'r deml nes i'r gwaith gael ei orffen,
4:52 a deg talent yn ychwanegol bob blwyddyn tuag at y poethoffrymau a offrymid yn ddyddiol ar yr allor yn unol â'r gorchymyn i offrymu un deg a saith;
4:53 câi pawb a ddôi o Fabilon i adeiladu'r ddinas ryddid iddynt eu hunain ac i'w plant yn ogystal ag i'r holl offeiriaid a fyddai'n dod.
4:54 Ysgrifennodd hefyd ynglŷn â'u treuliau, a'r gwisgoedd offeiriadol yr oeddent i'w defnyddio.
4:55 Gorchmyn-nodd roi eu treuliau i'r Lefiaid hyd nes cwblhau'r deml ac adeiladu Jerwsalem,
4:56 a rhoi tiroedd a chyflog i holl warchodwyr y ddinas.
4:57 Anfonodd yn ôl o Fabilon yr holl lestri a osododd Cyrus o'r neilltu; gorchmynnodd gyflawni holl orchmynion Cyrus ac anfon popeth yn ôl i Jerwsalem.
4:58 Pan aeth y llanc allan, dyrchafodd ei olwg tua'r nef, gan wynebu Jerwsalem a chanmol Brenin Nef fel hyn:
4:59 “Oddi wrthyt ti y daw buddugoliaeth, oddi wrthyt ti y daw doethineb, a thi biau'r gogoniant. Dy was di wyf fi.
4:60 Bendigedig wyt ti, a roddaist i mi ddoethineb. Clodforaf di, Arglwydd ein hynafiaid.”
4:61 Cymerodd y llythyrau, ac aeth i Fabilon a chyhoeddi hyn i'w gyd-Iddewon i gyd.
4:62 Canmolasant Dduw eu hynafiaid am iddo roi iddynt ryddid a chaniatâd
4:63 i fynd i fyny i adeiladu Jerwsalem a'r deml yr oedd ei enw ef arni. A buont yn dathlu am saith diwrnod â cherddoriaeth a llawenydd.

Rhestr y Rhai a Ddychwelodd o'r Gaethglud (Esra 2:1-70; Neh. 7:4-73)

5:1 Wedi'r pethau hyn dewiswyd y pennau-teuluoedd, bob yn llwyth, i fynd i fyny ynghyd â'u gwragedd, eu meibion a'u merched, eu caethweision yn wryw ac yn fenyw, a'u hanifeiliaid.
5:2 Anfonodd Dareius gyda hwy fil o farchogion i'w dwyn yn ôl i Jerwsalem yn ddiogel i gyfeiliant drymiau a phibau,
5:3 a'u holl gyd-Iddewon yn dawnsio. Felly y parodd iddynt fynd i fyny gyda'r osgordd hon.
5:4 Dyma enwau'r dynion a aeth i fyny yn ôl eu teuluoedd a'u llwythau yn eu trefn:
5:5 yr offeiriaid, meibion Phinees fab Aaron; Jesua fab Josedec, fab Saraias, a Joacim fab Sorobabel, fab Salathiel, o dŷ Dafydd o linach Phares o lwyth Jwda,
5:6 a lefarodd eiriau doeth gerbron Dareius brenin y Persiaid yn ail flwyddyn ei frenhiniaeth, yn y mis Nisan, y mis cyntaf.
5:7 Dyma'r rhai o Jwda a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud—y rhai a gludodd Nebuchadnesar brenin Babilon i Fabilon—
5:8 ac a ddychwelodd i Jerwsalem a gweddill Jwda, pob un i'w dref ei hun. Daethant gyda Sorobabel a Jesua, Nehemeia, Saraias, Resaias, Enenius, Mardochaius, Beelsarus, Asffarasus, Borolius, Roimus, a Baana, eu harweinwyr.
5:9 Dyma nifer aelodau'r genedl, ac enwau eu harweinwyr: teulu Phorus, dwy fil un cant saith deg a dau; teulu Saffat, pedwar cant saith deg a dau;
5:10 teulu Ares, saith gant pum deg a chwech;
5:11 teulu Phaath-Moab, hynny yw teuluoedd Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg;
5:12 teulu Elam, mil dau gant pum deg a phedwar; teulu Satus, naw cant pedwar deg a phump; teulu Chorbe, saith gant a phump; teulu Bani, chwe chant pedwar deg ac wyth;
5:13 teulu Bebai, chwe chant dau ddeg a thri; teulu Asgad, mil tri chant dau ddeg a dau;
5:14 teulu Adonicam, chwe chant chwe deg a saith; teulu Bagoi, dwy fil chwe deg a chwech; teulu Adinus, pedwar cant pum deg a phedwar;
5:15 teulu Ater, hynny yw Heseceia, naw deg a dau; teulu Cilan ac Asetas, chwe deg a saith; teulu Aswrus, pedwar cant tri deg a dau;
5:16 teulu Annias, cant ac un; teulu Arom; teulu Besai, tri chant dau ddeg a thri; teulu Hariff, cant a deuddeg;
5:17 teulu Baiterus, tair mil a phump; teulu Bethlomon, cant dau ddeg a thri;
5:18 y rhai o Neteba, pum deg a phump; y rhai o Enatos, cant pum deg ac wyth; y rhai o Beth Asmos, pedwar deg a dau;
5:19 y rhai o Cariathiarius, dau ddeg a phump; y rhai o Capira a Beroth, saith gant pedwar deg a thri;
5:20 y Chadiasiaid a'r Ammidiaid, pedwar cant dau ddeg a dau; y rhai o Cirama a Gabbes, chwe chant dau ddeg ac un;
5:21 y rhai o Macalon, cant dau ddeg a dau; y rhai o Betolio, pum deg a dau; teulu Niffis, cant pum deg a chwech;
5:22 teulu'r Elam arall ac Onus, saith gant dau ddeg a phump; teulu Jerechus, tri chant pedwar deg a phump;
5:23 teulu Senaa, tair mil tri chant tri deg.
5:24 Yr offeiriaid: teulu Jedu fab Jesua o linach Anasib, naw cant saith deg a dau; teulu Emmerus, mil pum deg a dau;
5:25 teulu Phasswrus, mil dau gant pedwar deg a saith; teulu Charme, mil un deg a saith.
5:26 Y Lefiaid: teuluoedd Jesua, Cadmielus, Bannus a Sudius, saith deg a phedwar.
5:27 Cantorion y deml: teulu Asaff, cant dau ddeg ac wyth.
5:28 Y porthorion: teuluoedd Salum, Atar, Tolman, Acoub, Ateta a Sobai, cant tri deg a naw i gyd.
5:29 Gweision y deml: teuluoedd Esau, Asiffa, Tabaoth, Ceras, Swa, Phadaius, Labana, Aggaba,
5:30 Acwd, Wta, Cetab, Agab, Subai, Anan, Cathwa, Gedwr,
5:31 Jairus, Daisan, Noeba, Chaseba, Gasera, Osius, Phinoe, Asara, Basthai, Asana, Maani, Naffis, Acwff, Achiba, Aswr, Pharacim, Basaloth,
5:32 Moeda, Cwtha, Charea, Barchus, Serar, Thomi, Nasi, ac Atiffa.
5:33 Disgynyddion gweision Solomon: teuluoedd Asaffioth, Pharida, Jeeli, Loson, Isdael, Saffuthi,
5:34 Agia, Phacareth o Sabie, Sarothie, Masias, Gas, Adus, Swbas, Afferra, Barodis, Saffat, Amon.
5:35 Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant saith deg a dau.
5:36 Daeth y rhai canlynol i fyny o Thermeleth a Thelersa dan arweiniad Charaath, Adan ac Amar,
5:37 ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras: teuluoedd Dalan fab Twba, a Necodan, chwe chant pum deg a dau.
5:38 Ac o blith yr offeiriaid honnodd y canlynol hawl i'r swydd, ond nid oedd cofnod o'u hachau: teuluoedd Obbia, Accos, Jodus, a briododd Augia, un o ferched Pharselaius,
5:39 a chymryd ei enw. Pan chwiliwyd yn aflwyddiannus am gofnod o'u hachau yn y rhestr, fe'u hataliwyd rhag gwasanaethu fel offeiriaid,
5:40 a gwaharddodd Nehemeia ac Attharias iddynt gyfranogi o'r pethau cysegredig nes y ceid archoffeir-iaid yn gwisgo'r Wrim a'r Twmim
5:41 Y cyfanswm oedd: Israeliaid deuddeg oed a mwy, heblaw eu gweision a'u morynion, yn bedwar deg dwy o filoedd tri chant chwe deg;
5:42 eu gweision a'u morynion yn saith mil tri chant tri deg a saith; a'r cantorion a'r cantoresau yn ddau gant pedwar deg a phump.
5:43 Yr oedd ganddynt bedwar cant tri deg a phump o gamelod, saith mil tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump a fulod, a phum mil pum cant dau ddeg a phump o asynnod.
5:44 Pan ddaethant i deml Duw yn Jerwsalem, ymrwymodd rhai o'r pennau-teuluoedd i godi'r tŷ ar ei hen sylfaen yn ôl eu gallu,
5:45 ac i roi i drysorfa'r deml ar gyfer y gwaith fil mina o aur a phum mil mina o arian a chant o wisgoedd offeiriadol.
5:46 Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a rhai o'r bobl yn Jerwsalem a'r cyffiniau, a'r cantorion, y porthorion a holl Israel yn eu trefi.

Ailddechrau Addoli (Esra 3:1-6)

5:47 Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu cartrefi, ymgasglasant fel un gŵr i'r sgwâr o flaen y porth cyntaf yn wynebu'r dwyrain.
5:48 Yna cododd Jesua fab Josedec a'i gyd-offeiriaid, a Sorobabel fab Salathiel a'i deulu, a pharatoi allor Duw Israel
5:49 er mwyn aberthu poethoffrymau arni, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, gŵr Duw.
5:50 Ymunodd rhai o bobloedd eraill y wlad â hwy. Codasant yr allor yn ei lle, er bod pobloedd y wlad yn gyffredinol yn elyniaethus iddynt ac yn gryfach na hwy, ac offrymasant aberthau yn eu priod amser a phoethoffrymau i'r Arglwydd fore a hwyr.
5:51 Cadwasant ŵyl y Pebyll fel y gorchmynnwyd yn y gyfraith, ac offrymu'r aberthau dyddiol fel yr oedd yn briodol,
5:52 ac ar ôl hyn yr aberthau cyson a'r rhai ar gyfer y sabothau a'r newydd-loerau a'r holl wyliau cysegredig.
5:53 Dechreuodd pob un a wnaethai lw i Dduw offrymu aberthau iddo o ddydd cyntaf y seithfed mis, er nad oedd teml Duw wedi ei hadeiladu eto.

Dechrau Ailadeiladu'r Deml (Esra 3:7-13)

5:54 Yna rhoesant arian i'r seiri meini a'r seiri coed, a bwyd a diod
5:55 a cherti i'r Sidoniaid a'r Tyriaid, i gyrchu cedrwydd o Libanus a dod â hwy ar wyneb y dŵr i borthladd Jopa yn unol â'r cennad a roddwyd iddynt gan Cyrus brenin Persia.
5:56 Yn ail fis yr ail flwyddyn wedi iddo ddychwelyd i deml Duw yn Jerwsalem, dechreuodd Sorobabel fab Salathiel ar y gwaith, ynghyd â Jesua fab Josedec a'u brodyr a'r offeiriaid Lefitaidd a phawb oedd wedi dychwelyd o'r gaethglud i Jerwsalem.
5:57 Gosod-asant sylfaen teml Duw ar ddydd cyntaf yr ail fis o'r ail flwyddyn wedi iddynt gyrraedd Jwdea a Jerwsalem.
5:58 Penodwyd y Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed i arolygu gwaith yr Arglwydd, ac fel un gŵr cododd Jesua a'i feibion a'i frodyr, Cadmiel ei frawd, meibion Jesua Emadabun a meibion Joda fab Iliadun ynghyd â'i feibion a'i frodyr, yr holl Lefiaid, a gyrru ymlaen â'r gwaith ar dŷ Dduw. Felly y cododd yr adeiladwyr deml yr Arglwydd.
5:59 Safodd yr offeiriaid yn eu gwisgoedd gydag offerynnau cerdd ac utgyrn, a'r Lefiaid, meibion Asaff, gyda symbalau,
5:60 i foliannu'r Arglwydd a'i fendithio yn ôl gorchymyn Dafydd brenin Israel.
5:61 Canasant emynau'n moliannu'r Arglwydd am fod ei ddaioni a'i ogoniant yn dragwyddol ar holl Israel.
5:62 Yna seiniodd yr holl bobl utgyrn, a bloeddio'n uchel mewn moliant i'r Arglwydd wrth i dŷ'r Arglwydd godi.
5:63 Daeth rhai o'r offeiriaid Lefitaidd a'r pennau-teuluoedd, a oedd yn ddigon hen i fod wedi gweld y tŷ cyntaf, at y gwaith adeiladu hwn â llefain ac wylofain mawr,
5:64 a daeth eraill lawer â'u hutgyrn a seinio'u llawenydd â sŵn mawr;
5:65 ond ni allai'r bobl glywed yr utgyrn oherwydd sŵn y bobl yn wylo, er bod y dyrfa'n seinio'r utgyrn mor uchel nes bod y sŵn i'w glywed o bell.

Gwrthwynebu Ailadeiladu'r Deml (Esra 4:1-5)

5:66 Pan glywodd gelynion llwyth Jwda a Benjamin, daethant i weld beth oedd ystyr sŵn yr utgyrn.
5:67 Wedi darganfod fod y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud yn adeiladu'r deml i Arglwydd Dduw Israel,
5:68 daethant at Sorobabel a Jesua a'r pennau-teuluoedd a dweud wrthynt: “Gadewch i ni adeiladu gyda chwi,
5:69 oherwydd yr ydym ni'n ufuddhau i'r Arglwydd fel chwithau, ac iddo ef hefyd yr ydym wedi aberthu er amser Asbasareth brenin Asyria, a ddaeth â ni yma.”
5:70 Ond dywedodd Sorobabel a Jesua a phennau-teuluoedd Israel wrthynt: “Nid oes a wneloch chwi ddim â ni i adeiladu tŷ i'r Arglwydd ein Duw;
5:71 ni yn unig sydd i adeiladu i Arglwydd Israel, fel y gorchmynnodd Cyrus brenin Persia i ni.”
5:72 Yna aflonyddodd pobloedd y wlad yn drwm ar drigolion Jwda, gan osod gwarchae arnynt a'u rhwystro rhag adeiladu,
5:73 a thrwy gynllwynion a chreu terfysg a chyffro eu hatal rhag cwblhau'r adeilad holl ddyddiau'r Brenin Cyrus. Fe'u rhwystrwyd rhag adeiladu am ddwy flynedd hyd at deyrnasiad y Brenin Dareius.

Ailddechrau'r Gwaith ar y Deml (Esra 5:1-17)

6:1 Yn ail flwyddyn brenhiniaeth Dareius, proffwydodd y proffwydi, Haggai a Sechareia fab Ido, yn enw'r Arglwydd, Duw Israel, i'r Iddewon yn Jwda a Jerwsalem.
6:2 Yna cododd Sorobabel fab Salathiel a Jesua fab Josedec a dechrau adeiladu tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem; ac yr oedd proffwydi'r Arglwydd gyda hwy yn eu cefnogi.
6:3 Yr un adeg daeth Sisinnes, llywodraethwr Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr atynt a gofyn iddynt,
6:4 “Pwy a roes ganiatâd i chwi i adeiladu'r tŷ hwn a rhoi to arno a'i gwblhau ym mhob dim arall? A phwy yw'r adeiladwyr sy'n cyflawni'r gwaith hwn?”
6:5 Ond cafodd henuriaid yr Iddewon ffafr gan yr Arglwydd, a fu'n gofalu amdanynt yn y gaethglud,
6:6 ac ni rwystrwyd hwy rhag adeiladu yn y cyfnod rhwng anfon adroddiad amdanynt at Dareius a chael ei ddyfarniad arno.
6:7 Dyma gopi o'r llythyr a ysgrifennodd ac a anfonodd Sisinnes, llywodraethwr Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr, y swyddogion yn Syria a Phenice, at Dareius: “I'r Brenin Dareius, cyfarchion!
6:8 Bydded hyn oll yn hysbys i'n harglwydd y brenin: inni ymweld â thalaith Jwda a mynd i mewn i ddinas Jerwsalem; yno cawsom henuriaid yr Iddewon, a ddychwelodd o'r gaethglud,
6:9 yn adeiladu yn ninas Jerwsalem dŷ mawr newydd i'r Arglwydd o gerrig nadd drud, gyda choed wedi eu gosod yn y muriau;
6:10 y mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym a'r adeiladu'n llwyddo dan eu llaw, ac fe'i cwblheir â phob ysblander a gofal.
6:11 Yna gofynasom i'r henuriaid hyn, ‘Pwy a roes gennad i chwi i adeiladu'r tŷ hwn a gosod y sylfeini hyn?’
6:12 Ein hamcan wrth eu holi oedd gallu cyflwyno i ti restr o'u gwŷr blaenllaw, ond pan ofynasom iddynt am restr o enwau eu harweinwyr,
6:13 eu hateb i ni oedd: ‘Gweision yr Arglwydd, creawdwr nef a daear, ydym ni.
6:14 Adeiladwyd y tŷ lawer o flynyddoedd yn ôl gan frenin mawr a nerthol yn Israel, a'i orffen ganddo.
6:15 Ond am i'n hynafiaid wrthryfela a phechu yn erbyn Arglwydd nefol Israel, rhoddodd ef hwy yn nwylo Nebuchadnesar brenin Babilon, brenin y Caldeaid.
6:16 Dym-chwelwyd y tŷ a'i losgi, a chaethgludwyd y bobl i Fabilon.
6:17 Ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Cyrus dros wlad Babilonia, rhoes y Brenin Cyrus gennad i adeiladu'r tŷ hwn.
6:18 Y llestri aur ac arian a ddygodd Nebuchadnesar o'r tŷ yn Jerwsalem a'u rhoi yn ei deml ei hun, cymerodd y Brenin Cyrus hwy drachefn o'r deml ym Mabilon a'u trosglwyddo i Sorobabel a Sanabassar y llywod-raethwr.
6:19 Gorchmynnodd iddo gymryd yr holl lestri yma a'u gosod yn y deml yn Jerwsalem, ac adeiladu'r deml hon o eiddo'r Arglwydd ar ei hen safle.
6:20 Yna daeth y Sanabassar hwn a gosod sylfeini tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem; a bu adeiladu o'r amser hwnnw hyd yn awr, ond nid yw wedi ei orffen.’
6:21 Felly, os dyna d'ewyllys, O frenin, chwilier yn archifau brenhinol ein harglwydd y brenin ym Mabilon,
6:22 ac os ceir bod tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem wedi ei adeiladu â chydsyniad y Brenin Cyrus, ac os dyna ewyllys ein harglwydd y brenin, anfoner ei ddyfarniad ar y mater i ni.”

Ailddarganfod Gorchymyn y Brenin Cyrus (Esra 6:1-5)

6:23 Yna gorchmynnodd y Brenin Dareius ymchwil yn yr archifau brenhinol a gedwid ym Mabilon. Ac yn Ecbatana, y gaer yn nhalaith Media, cafwyd un sgrôl, a dyma'r cofnod oedd wedi ei ysgrifennu arni:
6:24 “Ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Cyrus, gorchmynnodd y Brenin Cyrus fod tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem, lle'r aberthir â thân parhaus, i'w adeiladu:
6:25 ei uchder i fod yn drigain cufydd a'i led yn drigain cufydd, gyda thair rhes o gerrig nadd ac un rhes o goed newydd lleol, a'r gost i'w dwyn gan drysorfa'r Brenin Cyrus;
6:26 hefyd fod llestri sanctaidd tŷ'r Arglwydd, yn aur ac yn arian, y rheini a ddygodd Nebuchad-nesar o'r deml yn Jerwsalem a'u cludo i Fabilon, i'w dychwelyd i'r deml yn Jerwsalem a'u gosod yn y man lle'r oeddent o'r blaen.”Dareius yn Gorchymyn i'r Gwaith Barhau (Esra 6:6-12)
6:27 A gorchmynnodd Dareius i Sisinnes, llywodraethwr Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr, a'r swyddogion a benodwyd yn Syria a Phenice, ofalu cadw draw o'r lle gan adael i Sorobabel, gwas yr Arglwydd a llywodraethwr Jwda, a henuriaid yr Iddewon, adeiladu tŷ'r Arglwydd ar ei hen safle.
6:28 “Yr wyf fi hefyd wedi gorchymyn,” meddai, “iddo gael ei adeiladu'n gyfan gwbl, a bod cydweithredu ewyllysgar â'r rhai yn Jwda a ddychwelodd o'r gaethglud hyd nes y cwblheir tŷ'r Arglwydd.
6:29 O dreth Celo-Syria a Phenice taler yn ddi-feth i'r dynion hyn, trwy law Sorobabel y llywodraethwr, at aberthau i'r Arglwydd: teirw, hyrddod ac ŵyn,
6:30 ac yn yr un modd wenith, halen, gwin ac olew yn gyson bob blwyddyn ac yn ddirwgnach yn ôl amcangyfrifon yr offeiriaid yn Jerwsalem o'n gwariant beunyddiol,
6:31 er mwyn offrymu diodoffrymau i'r Duw Goruchaf ar ran y brenin a'i blant, a gweddïo dros eu bywyd.”
6:32 Gorchmynnodd hefyd, os byddai i unrhyw un dorri neu ddiystyru unrhyw orchymyn a draethwyd neu a ysgrifennwyd yma, fod trawst i'w dynnu o'i dŷ, a'i fod yntau i'w grogi arno, a bod ei eiddo i fynd i'r brenin.
6:33 “A bydded i'r Arglwydd,” meddai, “sydd wedi gosod ei enw yno, ddymchwel pob brenin a chenedl sy'n estyn llaw i beri rhwystr neu niwed i'r tŷ hwn o eiddo'r Arglwydd yn Jerwsalem.
6:34 Yr wyf fi, y Brenin Dareius, wedi rhoi'r gorchymyn mai fel hyn yn fanwl y mae i fod.”

Cysegru'r Deml (Esra 6:13-18)

7:1 Yna dilynodd Sisinnes, llywod-raethwr Celo-Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr gyfarwyddiadau'r Brenin Dareius,
7:2 a goruchwylio'r gwaith cysegredig yn fanwl gan gydweithredu â henuriaid yr Iddewon a swyddogion y deml.
7:3 Llwyddodd y gwaith cysegredig trwy gymorth proffwydoliaeth Haggai a Sechareia y proffwydi.
7:4 Ac felly, trwy orchymyn Arglwydd Dduw Israel, ac â chydsyniad Cyrus a Dareius ac Artaxerxes brenin Persia, daeth y gwaith i ben
7:5 a gorffennwyd y tŷ sanctaidd erbyn y trydydd dydd ar hugain o fis Adar, yn y chweched flwyddyn o deyrnasiad Dareius.
7:6 Gweithredodd yr Israeliaid, yr offeiriaid a'r Lefiaid a gweddill y caethgludion a ymunodd â hwy, yn unol â'r hyn a gynhwyswyd yn llyfr Moses.
7:7 Wrth gysegru teml yr Arglwydd offrymasant gant o deirw, dau gant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn,
7:8 a deuddeg gafr, yn ôl nifer penaethiaid llwythau Israel, yn bechaberth dros holl Israel.
7:9 Safodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn eu gwisgoedd fesul teulu i oruchwylio gwasanaethau Arglwydd Dduw Israel yn unol â llyfr Moses, tra safai'r porthorion wrth bob porth.

Y Pasg (Esra 6:19-22)

7:10 Felly cadwodd yr Israeliaid a ddaeth o'r gaethglud y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf. Cafodd yr offeiriaid eu puro, a'r Lefiaid gyda hwy.
7:11 Er na phurwyd y caethgludion i gyd, am fod pob un o'r Lefiaid wedi ei buro,
7:12 lladdasant oen y Pasg ar gyfer pawb a ddaeth o'r gaethglud, a'u brodyr yr offeiriaid, a hwy eu hunain.
7:13 Fe'i bwytawyd gan yr Israeliaid a ddychwelodd o'r gaethglud, gan bawb oedd wedi ymwahanu oddi wrth aflendid pobloedd y wlad, er mwyn ceisio'r Arglwydd.
7:14 Cadwyd gŵyl y Bara Croyw mewn llawenydd o flaen yr Arglwydd am saith diwrnod,
7:15 oherwydd iddo ddarbwyllo brenin Asyria i'w cynorthwyo yng ngwaith Arglwydd Dduw Israel.

Esra yn Cyrraedd Jerwsalem (Esra 7:1-10)

8:1 Wedi'r digwyddiadau hyn, yn nheyrnasiad Artaxerxes brenin Persia, cyrhaeddodd Esra fab Saraias, fab Eserias, fab Chelcias, fab Salemus,
8:2 fab Sadoc, fab Ahitob, fab Amarias, fab Osias, fab Bocca, fab Abiswa, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr archoffeiriad.
8:3 Daeth yr Esra hwn i fyny o Fabilon yn ysgrifennydd hyddysg yng nghyfraith Moses, a roddwyd gan Dduw Israel.
8:4 Rhoddodd y brenin anrhydedd iddo ac ymateb yn ffafriol i bob cais o'r eiddo.
8:5 Daeth rhai o'r Israeliaid, yn offeiriaid ac yn Lefiaid, ynghyd â chantorion, porthorion a gweision y deml, i fyny gydag ef i Jerwsalem
8:6 yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad Artaxerxes, yn y pumed mis (hon oedd seithfed flwyddyn y brenin). Gadawsant Fabilon ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, a chyrraedd Jerwsalem ar y dydd cyntaf o'r pumed mis, oherwydd i'r Arglwydd roi iddynt daith rwydd er ei fwyn.
8:7 Meddai Esra ar wybodaeth mor llwyr fel nad esgeulusai unrhyw ran o gyfraith yr Arglwydd na'i gorchmynion, a dysgai i Israel gyfan y deddfau a'r barnedig-aethau i gyd.

Gorchymyn Artaxerxes i Esra (Esra 7:11-26)

8:8 Dyma gopi o'r gorchymyn ysgrifenedig a ddaeth oddi wrth y Brenin Artaxerxes at Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd:
8:9 “Y Brenin Artaxerxes at Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd, cyfarchion.
8:10 Yn unol â'm penderfyniad tirion, gorchmynnais y caiff pwy bynnag o genedl yr Iddewon ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid, ac eraill yn ein teyrnas sy'n dymuno ac yn dewis gwneud hynny, fynd gyda thi i Jerwsalem.
8:11 Cynifer felly ag sy'n awyddus i fynd, cânt gychwyn gyda chwi, fel y penderfynais i a'm saith Cyfaill, fy nghynghorwyr,
8:12 i wneud arolwg o gyflwr Jwda a Jerwsalem yn unol â'r hyn sydd yng nghyfraith yr Arglwydd,
8:13 ac i gludo i Jerwsalem i Arglwydd Israel y rhoddion a addunedais i a'm cyfeillion, ac i ddwyn yr holl aur ac arian y gellir eu darganfod yng ngwlad Babilon, ynghyd â'r hyn a gyfrannwyd gan y genedl at deml eu Harglwydd yn Jerwsalem.
8:14 Gwarier yr aur a'r arian ar deirw, hyrddod ac ŵyn, a phethau cysylltiedig â hwy,
8:15 er mwyn offrymu aberthau ar allor yr Arglwydd yn Jerwsalem.
8:16 Beth bynnag y byddi di a'th deulu yn dymuno'i wneud â'r aur a'r arian, gwna hynny yn ôl ewyllys dy Dduw,
8:17 a'r un modd â'r llestri sanctaidd a roddir iti at wasanaeth teml dy Dduw yn Jerwsalem.
8:18 A beth bynnag arall y gweli fod ei angen at wasanaeth teml dy Dduw, fe gei ei roi o storfa'r brenin.
8:19 Ac yr wyf fi, y Brenin Artaxerxes, wedi gorchymyn bod trysoryddion Syria a Phenice i roi iddo yn ddiymdroi bob peth yr enfyn Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith y Duw Goruchaf amdano,
8:20 hyd at gan talent o arian, a'r un modd hyd at gan mesur yr un o wenith a gwin, a digonedd o halen.
8:21 Y mae holl ofynion cyfraith Duw i'w cyflawni'n ddiwyd er clod i'r Duw Goruchaf, rhag i'w ddigofaint ddisgyn ar deyrnas y brenin a'i feibion.
8:22 Rhoddir hefyd ar ddeall ichwi nad oes unrhyw dreth na tholl arall i'w gosod ar neb o'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, porthorion, gweision y deml na gweithwyr y deml hon; ac nad oes gan neb awdurdod i fynnu dim ganddynt.
8:23 Ac yr wyt tithau, Esra, yn unol â doethineb Duw, i benodi barnwyr ac ustusiaid i farnu pawb yn holl Syria a Phenice sy'n gwybod cyfraith dy Dduw; ac yr wyt i ddysgu'r rhai sydd heb ei gwybod.
8:24 Pob un sy'n troseddu cyfraith dy Dduw a chyfraith y brenin, y mae i'w ddedfrydu'n ddi-oed naill ai i farwolaeth neu i ryw gosb arall, boed ddirwy neu garchar.”

Esra yn Moliannu Duw (Esra 7:27-28)

8:25 Meddai Esra, “Bendigedig fyddo'r unig Arglwydd, a symbylodd y brenin i harddu ei dŷ yn Jerwsalem,
8:26 ac a barodd i mi gael ffafr gan y brenin a'i gynghorwyr a'i holl gyfeillion a'i bendefigion.
8:27 Am fod yr Arglwydd fy Nuw yn fy nghynorthwyo, ymwrolais a chasglu gwŷr o Israel i fynd i fyny gyda mi.

Y Rhai a Ddychwelodd o'r Gaethglud (Esra 8:1-14)

8:28 “Dyma'r arweinwyr, yn ôl eu teuluoedd a'u hadrannau, a ddaeth i fyny gyda mi o Fabilon yn nheyrnasiad y Brenin Artaxerxes:
8:29 o deulu Phinees, Gersom; o deulu Ithamar, Gamelus; o deulu Dafydd, Attus fab Sechenias.
8:30 O deulu Phoros, Sacharias, a chant a hanner o ddynion wedi eu rhestru gydag ef.
8:31 O deulu Phaath-Moab, Eliaonias fab Saraias, a dau gant o ddynion gydag ef.
8:32 O deulu Sathoe, Sechenias fab Jeselus, a thri chant o ddynion gydag ef; o deulu Adin, Obeth fab Jonathan, a dau gant a hanner o ddynion gydag ef.
8:33 O deulu Elam, Jesias fab Gotholias, a saith deg o ddynion gydag ef.
8:34 O deulu Saffatias, Saraias fab Michael, a saith deg o ddynion gydag ef.
8:35 O deulu Joab, Abadias fab Jeselus, a dau gant a deuddeg o ddynion gydag ef.
8:36 O deulu Bani, Assalimoth fab Josaffias, a chant chwe deg o ddynion gydag ef.
8:37 O deulu Babi, Sacharias fab Bebai, a dau ddeg wyth o ddynion gydag ef.
8:38 O deulu Asgath, Joanes fab Hacatan, a chant a deg o ddynion gydag ef.
8:39 O deulu Adonicam, y rhai olaf, a'u henwau yw: Eliffalatus, Jewel a Samaias, a saith deg o ddynion gyda hwy.
8:40 O deulu Bago, Wthi fab Istalcwrus, a saith deg o ddynion gydag ef.

Esra yn Ceisio Offeiriaid a Lefiaid i'r Deml (Esra 8:15-20)

8:41 “Cesglais hwy ynghyd wrth yr afon a elwir Theras, a buom yn gwersyllu yno dridiau, ac archwiliais hwy.
8:42 Ac wedi canfod nad oedd yno neb o linach yr offeiriaid na neb o'r Lefiaid,
8:43 anfonais at Eleasar, Idwelus, Maasmas,
8:44 Elnatan, Samaias, Joribus, Nathan, Enmatas, Sacharias a Mesolamus, a oedd yn wŷr blaenllaw a gwybodus,
8:45 a dywedais wrthynt am fynd at Adaius, y pennaeth yn y trysordy,
8:46 gan orchymyn iddynt ofyn i Adaius a'i frodyr a'r trysoryddion yno anfon atom rai i weinyddu fel offeiriaid yn nhŷ ein Harglwydd.
8:47 A thrwy law nerthol ein Harglwydd dygasant inni ddynion gwybodus o deulu Mooli fab Lefi, fab Israel, sef Asebebias a'i feibion a'i frodyr, deunaw ohonynt i gyd;
8:48 hefyd Asebias ac Annwnus a Mosaias ei frawd, o deulu Chanwnaius, a'u meibion, ugain ohonynt i gyd;
8:49 a dau gant ac ugain o weision y deml, a osodasai Dafydd a'r swyddogion i gynorthwyo'r Lefiaid. Gwnaethpwyd rhestr o'r enwau i gyd.

Esra yn Arwain y Bobl mewn Ympryd a Gweddi (Esra 8:21-23)

8:50 “Yno cyhoeddais ympryd i'r gwŷr ifainc o flaen ein Harglwydd, i geisio ganddo siwrnai ddiogel i ni, i'n plant a oedd gyda ni, ac i'n hanifeiliaid.
8:51 Yr oedd arnaf gywilydd gofyn i'r brenin am osgordd o filwyr traed a marchogion i'n cadw'n ddiogel rhag ein gelynion,
8:52 am ein bod wedi dweud wrth y brenin, ‘Bydd nerth ein Harglwydd gyda'r rhai sy'n ei geisio ac yn eu cynnal ymhob ffordd.’
8:53 Felly unwaith eto rhoesom hyn i gyd o flaen ein Harglwydd mewn gweddi, a'i gael yn raslon iawn.

Rhoddion i'r Deml (Esra 8:24-30)

8:54 “Yna neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebias ac Asabias a deg o'u brodyr gyda hwy,
8:55 a phwysais iddynt yr arian a'r aur a llestri sanctaidd tŷ ein Harglwydd, rhoddion gan y brenin ei hun a'i gynghorwyr a'i dywysogion a holl Israel.
8:56 Wedi ei bwyso trosglwyddais i'w gofal chwe chant a hanner o dalentau o arian, llestri arian gwerth can talent, a chan talent o aur,
8:57 ac ugain o lestri aur, a deuddeg llestr o bres, ie, o'r pres gorau sy'n disgleirio fel aur.
8:58 A dywedais wrthynt, ‘Yr ydych chwi'n gysegredig i'r Arglwydd, ac y mae'r llestri'n gysegredig, ac offrwm adduned i'r Arglwydd, Arglwydd ein hynafiaid, yw'r arian a'r aur.
8:59 Byddwch effro a gwyliwch drostynt hyd nes ichwi eu trosglwyddo i benaethiaid yr offeiriaid a'r Lefiaid a phennau-teuluoedd Israel yn Jerwsalem, yn ystafelloedd yr offeiriaid yn nhŷ ein Harglwydd.’
8:60 A chymerodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yr arian a'r aur a'r llestri a berthynai i Jerwsalem, a'u dwyn i deml yr Arglwydd.

Cyrraedd Jerwsalem (Esra 8:31-36)

8:61 “Gadawsom Afon Theras ar y deuddegfed dydd o'r mis cyntaf a chyrraedd Jerwsalem, oherwydd yr oedd llaw nerthol ein Harglwydd gyda ni. Gwaredodd ni oddi wrth bob gelyn ar y ffordd, ac felly y daethom i Jerwsalem.
8:62 Wedi inni fod yno dridiau, pwyswyd yr arian a'r aur a'u trosglwyddo yn nhŷ ein Harglwydd i Marmoth fab Wria yr offeiriad;
8:63 a chydag ef yr oedd Eleasar fab Phinees. Yr oedd y Lefiaid, Josabdus fab Jesua a Möeth fab Sabannus, hefyd gyda hwy. Gwnaed cyfrif o'r cwbl a'u pwyso;
8:64 cofnodwyd pwysau popeth yr un pryd.
8:65 Offrymodd y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud aberthau i'r Arglwydd, Duw Israel: deuddeg bustach dros holl Israel, naw deg a chwech o hyrddod,
8:66 saith deg a dau o ŵyn, a deuddeg bwch yn aberth hedd; yr oedd y cwbl yn offrwm i'r Arglwydd.
8:67 Hefyd rhoesant orchmynion y brenin i'r trysoryddion brenhinol a'r llywodraethwyr yn Celo-Syria a Phenice, a rhoes y rheini anrhydedd i'r genedl ac i deml yr Arglwydd.”

Esra yn Clywed am y Priodi â Merched Estron (Esra 9:1-15)

8:68 “Wedi cwblhau'r pethau hyn daeth y penaethiaid ataf a dweud,
8:69 ‘Nid yw pobl Israel, na'u llywodraethwyr, na'r offeiriaid na'r Lefiaid, wedi ymneilltuo oddi wrth frodorion cenhedlig y wlad a'u haflendid—y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, y Jebusiaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid a'r Edomiaid.
8:70 Y maent wedi cymryd merched y rheini yn wragedd iddynt hwy a'u meibion, a chymysgu'r hil sanctaidd â brodorion cenhedlig y wlad; bu gan yr arweinwyr a'r penaethiaid ran yn y camwedd hwn o'r cychwyn.’
8:71 Cyn gynted ag y clywais hyn, rhwygais fy nillad a'm mantell sanctaidd, tynnais wallt fy mhen a'm barf, ac eisteddais yn syn ac yn drist iawn.
8:72 Ymgasglodd ataf yr holl rai a gynhyrfwyd y pryd hynny gan air Arglwydd Israel wrth inni alaru dros y camwedd hwn, ac eisteddais yn drist iawn hyd amser yr offrwm hwyrol.
8:73 Yna codais o'm hympryd, a'm dillad a'm mantell sanctaidd amdanaf wedi eu rhwygo, a phenliniais a lledu fy nwylo o flaen yr Arglwydd
8:74 a dweud, ‘O Arglwydd, yr wyf mewn gwaradwydd a chywilydd ger dy fron,
8:75 oherwydd pentyrrodd ein pechodau yn uwch na'n pennau a chododd ein cyfeiliornadau hyd y nefoedd.
8:76 Felly y bu o ddyddiau ein hynafiaid, ac yr ydym yn dal mewn pechod mawr hyd y dydd hwn.
8:77 Ac oherwydd ein pechodau ni a phechodau ein hynafiaid fe'n traddodwyd ni, ynghyd â'n brodyr, ein brenhinoedd a'n hoffeiriaid, i afael brenhinoedd y ddaear, i'r cleddyf ac i gaethiwed, i anrhaith a gwarth hyd y dydd hwn.
8:78 Ac yn awr, mor fawr yw dy drugaredd tuag atom, O Arglwydd, gan iti adael gwreiddyn ac enw yn dy le sanctaidd,
8:79 ac ailgynnau ein goleuni yn nhŷ ein Harglwydd, a rhoi cynhaliaeth i ni yn amser ein caethiwed.
8:80 Hyd yn oed yn ein caethiwed ni'n gadawyd gan ein Harglwydd: parodd i frenhinoedd Persia edrych â ffafr arnom a rhoi bwyd inni,
8:81 ac anrhydeddu teml ein Harglwydd ac ailgodi adfeilion Seion er mwyn rhoi i ni droedle cadarn yn Jwda a Jerwsalem.
8:82 Ac yn awr, Arglwydd, a'r pethau hyn gennym, beth a ddywedwn ni? Oherwydd yr ydym wedi torri dy orchmynion, a roddaist trwy dy weision y proffwydi gan ddweud,
8:83 “Y mae'r wlad yr ydych yn mynd i'w hetifeddu yn wlad halogedig, wedi ei halogi gan y brodorion cenhedlig a'i llenwi ganddynt â'u hanifeiliaid.
8:84 Am hynny, peidiwch â rhoi eich merched mewn priodas i'w meibion na chymryd eu merched hwy i'ch meibion chwi,
8:85 a pheidiwch byth â cheisio heddwch â hwy; ac felly fe fyddwch yn gryf, a mwynhau braster y wlad a'i gadael yn etifeddiaeth i'ch meibion am byth.”
8:86 Daeth hyn i gyd i'n rhan drwy ein drwgweithredoedd a'n pechodau mawr. Er i ti, Arglwydd, ysgafnhau baich ein pechodau
8:87 a rhoi'r fath wreiddyn i ni, yr ydym ni unwaith eto wedi gwrthgilio a thorri dy gyfraith drwy ymgyfathrachu â chenhedloedd aflan y wlad.
8:88 Oni fuost ti'n ddigon dig wrthym i'n dinistrio a'n gadael heb na gwreiddyn na had nac enw?
8:89 Arglwydd Israel, ffyddlon wyt ti, gan iti ein cadw yn wreiddyn hyd heddiw. 8:90 Dyma ni, yn awr, yn dy ŵydd yn ein camweddau, oherwydd ni allwn hyd yn hyn sefyll o'th flaen yn ein heuogrwydd.’

Y Cynllun i Ddileu Priodi Merched Estron (Esra 10:1-17)

8:91 Tra oedd Esra'n gweddïo ac mewn dagrau yn cyffesu, ar ei hyd o flaen y deml, ymgasglodd tyrfa fawr iawn o Jerwsalem ato, yn wŷr, gwragedd a llanciau; ac yr oedd y gynulleidfa'n wylo'n hidl.
8:92 Yna galwodd Jechonias fab Jeelus, un o'r Israeliaid, a dweud wrth Esra, “Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr Arglwydd trwy briodi merched estron o blith y brodorion; ond hyd yn oed yn awr y mae gobaith i Israel.
8:93 Gadewch i ni dyngu llw i'r Arglwydd, i fwrw allan yr holl wragedd estron sydd yn ein plith, a'u plant,
8:94 yn unol â'th ddedfryd di a phawb sy'n ufudd i gyfraith yr Arglwydd.
8:95 Cod a gweithreda, oherwydd dy gyfrifoldeb di yw hyn, ond fe fyddwn ni gyda thi i'th gefnogi.”
8:96 Yna cododd Esra a pheri i arweinwyr offeiriaid a Lefiaid holl Israel dyngu llw i'r perwyl hwn; a thyngu a wnaethant.

9:1 Yna cododd Esra ac aeth o gyntedd y deml i ystafell Joanan fab Eliasibus,
9:2 ac aros yno heb fwyta bara nac yfed dŵr, am ei fod yn dal i alaru am gamweddau mawr y gynulleidfa.
9:3 Yna gwnaethpwyd cyhoeddiad yn holl Jwda a Jerwsalem fod pawb a ddychwelodd o'r gaethglud i ymgynnull yn Jerwsalem,
9:4 a bod pwy bynnag na ddôi i'r cyfarfod o fewn deuddydd neu dri, ar wŷs yr henuriaid llywodraethol, i fforffedu ei anifeiliaid at wasanaeth y deml, ac yntau ei hun i'w dorri allan o gynulleidfa'r gaethglud.
9:5 O fewn tridiau, ar yr ugeinfed dydd o'r nawfed mis, ymgasglodd pobl llwyth Jwda a Benjamin i Jerwsalem,
9:6 ac eisteddodd yr holl gynulleidfa ar y sgwâr o flaen y deml, yn rhynnu oherwydd ei bod bellach yn aeaf.
9:7 Cododd Esra a dweud wrthynt, “Yr ydych wedi torri'r gyfraith trwy briodi merched estron ac ychwanegu at bechod Israel.
9:8 Yn awr gwnewch gyffes, a rhowch ogoniant i Arglwydd Dduw ein hynafiaid;
9:9 gwnewch ei ewyllys ef ac ymwahanwch oddi wrth y brodorion a'ch gwragedd estron.”
9:10 Atebodd yr holl gynulleidfa â llais uchel, “Gwnawn yn union fel yr wyt ti wedi gorchymyn.
9:11 Ond y mae'r gynulleidfa'n niferus a'r tywydd yn aeafol, ac ni allwn sefyll yma yn yr awyr agored; y mae'n amhosibl. Nid gwaith diwrnod neu ddau yw hyn i ni, oherwydd y mae gormod ohonom wedi pechu yn hyn o beth.
9:12 Bydded i arweinwyr y gynulleidfa aros yma, ac i'r holl rai yn ein gwladfeydd sydd wedi priodi gwragedd estron ddod ar amser penodedig,
9:13 pob un gyda henuriaid a barnwyr ei le ei hun, nes inni gael gwared â dicter yr Arglwydd yn y mater hwn.”
9:14 Ymgymerodd Jonathan fab Asael a Jesias fab Thocanus â'r gwaith ar yr amodau hyn, gyda Mosolamus, Lefi a Sabbataius yn cydeistedd â hwy.
9:15 Gweithredodd y rhai a ddaeth o'r gaethglud yn ôl y trefniant hwn ym mhob peth.
9:16 Dewisodd Esra yr offeiriad iddo'i hun ddynion oedd yn bennau-teuluoedd, pob un wrth ei enw, ac ar y dydd cyntaf o'r degfed mis eisteddasant gyda'i gilydd i archwilio'r mater.
9:17 Daethpwyd i ben ag achos y gwŷr a fu'n cyd-fyw â gwragedd estron erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf.

Y Rhai oedd wedi Priodi Gwragedd Estron (Esra 10:18-44)

9:18 Ymysg yr offeiriaid a ddaeth ynghyd, darganfuwyd bod y canlynol wedi priodi gwragedd estron:
9:19 o deulu Jesua fab Josedec a'i frodyr: Maseas, Eleasar, Joribus a Jodanus.
9:20 Gwnaethant addewid i fwrw allan eu gwragedd ac offrymu hyrddod yn foddion puredigaeth am eu cyfeiliornad.
9:21 O feibion Emmer: Ananias, Sabdaius, Manes, Samaius, Jiel ac Asarias.
9:22 O feibion Phaiswr: Elionais, Massias, Ismael, Nathanael, Ocidelus a Salthas.
9:23 O'r Lefiaid: Josabdus, Semeïs, Colius (hynny yw Calitas), Pathaius, Jwda a Joanas.
9:24 O'r cantorion: Eliasibus, Bacchwrus.
9:25 O'r porthorion: Salwmus a Tolbanes.
9:26 O Israel, o feibion Phoros: Jermas, Jesias, Melchias, Miaminus, Eleasar, Asibias a Bannaias.
9:27 O feibion Elam: Matanias, Sacharias, Jesrielus, Obadius, Jeremoth ac Elias.
9:28 O feibion Samoth: Eliadas, Eliasimus, Othonias, Jarimoth, Sabathus a Serdaias.
9:29 O feibion Bebai: Joannes, Ananias, Sabdus ac Emathis.
9:30 O feibion Mani: Olamus, Mamwchus, Jedaius, Jaswbus, Asaelus a Jeremoth.
9:31 O feibion Adi: Naathus, Moossias, Laccwnus, Naïdus, Bescaspasmus, Sesthel, Balnwus a Manasseas.
9:32 O feibion Annas: Elionas, Asaias, Melchias, Sabbaias a Simon Chosamaius.
9:33 O feibion Asom: Maltannaius, Mattathias, Sabannaius, Eliffalat, Manasses a Semoï.
9:34 O feibion Baani: Jeremias, Momdius, Maerus, Jwel, Mamdai, Pedias, Anos, Cara-basion, Eliasibus, Mamnitanaimus, Eliasis, Bannus, Elialis, Someïs, Selemias a Nathanias. O feibion Esora: Sessis, Esril, Asaelus, Samatus, Sambris a Josepus.
9:35 O feibion Nooma: Masitias, Sabadaias, Edais, Jwel a Banaias.
9:36 Yr oedd y rhain i gyd wedi priodi gwragedd estron, a throesant hwy allan gyda'u plant.

Esra yn Darllen y Gyfraith i'r Bobl (Neh. 7:73-8:12)

9:37 Gwladychodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a'r Israeliaid yn Jerwsalem a'i chyffiniau. Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis, a'r Israeliaid yn awr yn eu gwladfeydd,
9:38 ymgasglodd yr holl gynulleidfa fel un gŵr ar y sgwâr o flaen porth dwyreiniol y deml,
9:39 a galw ar Esra yr archoffeiriad a'r darllenydd i ddod â chyfraith Moses, a roddwyd gan Arglwydd Dduw Israel.
9:40 Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis daeth Esra'r archoffeiriad â'r gyfraith o flaen yr holl gynulleidfa, yn wŷr a gwragedd, a'r holl offeiriaid, iddynt ei chlywed.
9:41 Darllen-odd ohoni ar y sgwâr o flaen porth y deml o doriad gwawr hyd hanner dydd yng ngŵydd y gwŷr a'r gwragedd, a gwrandawodd yr holl gynulleidfa'n astud ar y gyfraith.
9:42 Yr oedd Esra, yr offeiriad a darllenydd y gyfraith, ar lwyfan pren wedi ei ddarparu i'r diben.
9:43 Ar yr ochr dde iddo yr oedd Mattathias, Sammus, Ananias, Asarias, Wrias, Esecias a Baalsamus,
9:44 ac ar y chwith Phadaius, Misael, Melchias, Lothaswbus, Nabarias a Sacharias.
9:45 Cymerodd Esra lyfr y gyfraith yng ngolwg y gynulleidfa, oherwydd yr oedd yn eistedd yn y lle amlycaf o'u blaen i gyd,
9:46 a phan agorodd y gyfraith, safodd pawb ar eu traed. Bendithiodd Esra'r Arglwydd Dduw Goruchaf, Duw y lluoedd, yr Hollalluog,
9:47 a gwaeddodd yr holl gynulleidfa, “Amen”, gan godi eu dwylo a syrthio i'r llawr ac addoli'r Arglwydd.
9:48 Yr oedd Jesua, Anniwth, Sarabias, Jadinus, Jacwbus, Sabbataius, Autaias, Maiannas, Calitas, Asarias, Josabdus, Ananias a Phalias, y Lefiaid, yn dysgu cyfraith yr Arglwydd, yn ei darllen i'r gynulleidfa a goleuo'r darllen-iad yr un pryd.
9:49 Dywedodd y llywodraethwr wrth Esra, yr arch-offeiriad a darllenydd y gyfraith, ac wrth bob un o'r Lefiaid oedd yn dysgu'r gynulleidfa,
9:50 “Y mae'r dydd hwn yn sanctaidd i'r Arglwydd.” Ac yr oedd pawb yn wylo wrth wrando ar y gyfraith.
9:51 “Ewch,” meddai, “bwytewch fwyd bras ac yfwch win melys, ac anfonwch gyfran i'r rhai sydd heb ddim,
9:52 oherwydd y mae'n ddydd sanctaidd i'r Arglwydd. Peidiwch â galaru, oherwydd bydd yr Arglwydd yn eich gogoneddu.”
9:53 Rhoddodd y Lefiaid orchymyn i'r holl bobl: “Y mae'r dydd hwn yn sanctaidd, peidiwch â galaru.”
9:54 Yna aeth pawb i ffwrdd i fwyta ac yfed, i lawenhau ac i anfon cyfran i'r rhai oedd heb ddim, ac i orfoleddu'n fawr,
9:55 oherwydd yr oeddent wedi eu goleuo gan y geiriau a ddysgwyd iddynt. Ac ymgynullasant.