AIL LYFR ESDRAS

Gwrthod Israel

1:1 Ail lyfr y proffwyd Esra fab Saraias, fab Asarias, fab Helcias, fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitob,
1:2 fab Achias, fab Phinees, fab Heli, fab Amarias, fab Asias, fab Marimoth, fab Arna, fab Osias, fab Borith, fab Abiswa, fab Phinees, fab Eleasar,
1:3 fab Aaron, o lwyth Lefi. Yr oedd ef mewn caethiwed yn nhiriogaeth y Mediaid, yn ystod teyrnasiad Artaxerxes brenin y Persiaid.
1:4 Daeth gair yr Arglwydd ataf fi fel hyn:
1:5 “Dos at fy mhobl a chyhoedda wrthynt eu troseddau; dywed wrth eu plant am y camweddau y maent wedi eu cyflawni yn fy erbyn i, er mwyn iddynt hwythau gyhoeddi wrth blant eu plant
1:6 fod pechodau eu rhieni wedi cynyddu fwyfwy ynddynt hwy, am iddynt fy anghofio i ac aberthu i dduwiau dieithr.
1:7 Onid myfi a'u dug hwy allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed? Eto i gyd, y maent wedi ennyn fy nicter ac wedi diystyru fy nghynghorion.
1:8 Ond tydi, tyn allan wallt dy ben, a hyrddia bob drwg arnynt, am iddynt anufuddhau i'm cyfraith i. Y fath bobl ddiddisgyblaeth!
1:9 Pa hyd y goddefaf hwy, a minnau wedi rhoi cynifer o freintiau iddynt?
1:10 Yr wyf wedi dymchwelyd llawer o frenhinoedd er eu mwyn; trewais i lawr Pharo a'i weision, ynghyd â'i holl fyddin.
1:11 Difethais yr holl genhedloedd o'u blaen, ac yn y dwyrain gwasgerais bobl y ddwy dalaith, Tyrus a Sidon; lleddais bob un a'u gwrthwynebai.
1:12 “Llefara di wrthynt fel hyn. Dyma eiriau'r Arglwydd:
1:13 Fel y gŵyr pawb, myfi a'ch dug chwi trwy'r môr, a phalmantu ffyrdd eang ichwi lle na bu ffordd o'r blaen; rhoddais Moses yn arweinydd ichwi ac Aaron yn offeiriad;
1:14 darperais golofn o dân i roi goleuni ichwi, a gwneuthum ryfeddodau mawr yn eich plith. Ond chwithau, yr ydych wedi fy anghofio i, medd yr Arglwydd.
1:15 “Dyma eiriau'r Arglwydd Holl-alluog: Cawsoch soflieir yn arwydd ichwi, a rhoddais wersyll yn amddiffyn ichwi; ond grwgnach a wnaethoch yno,
1:16 nid gorfoleddu yn fy enw i am i'ch gelynion gael eu difetha; yn wir yr ydych yn parhau i rwgnach hyd y dydd heddiw.
1:17 Ble bellach y mae'r breintiau a ddarperais ar eich cyfer? Pan oedd newyn a syched arnoch yn yr anialwch, oni waeddasoch arnaf
1:18 fel hyn: ‘Pam yr wyt ti wedi ein dwyn ni i'r anialwch hwn i'n lladd? Buasai'n well i ni fod yn gaethweision i'r Eifftiaid na marw yn yr anialwch hwn.’
1:19 Yr oedd yn ofidus gennyf am eich cwynion, a rhoddais ichwi fanna yn ymborth; bwytasoch fara angylion. Pan oedd syched arnoch, oni holltais i'r graig, a dyna ddigonedd o ddŵr yn llifo allan?
1:20 Ac oherwydd y gwres rhoddais ddail y coed yn gysgod ichwi.
1:21 Rhennais diroedd ffrwythlon rhyngoch, gan fwrw allan y Canaaneaid, y Pheresiaid a'r Philistiaid o'ch blaen. Beth arall a allaf ei wneud er eich mwyn?” medd yr Arglwydd.
1:22 “Dyma eiriau'r Arglwydd Holl-alluog: Pan oeddech yn yr anialwch, yn sychedu wrth yr afon chwerw ac yn fy nghablu,
1:23 nid anfon tân arnoch am eich cableddau a wneuthum, ond bwrw pren i'r dŵr a melysu'r afon.
1:24 Beth a wnaf â thi, Jacob, â thi, Jwda, na fynnaist ufuddhau i mi? Fe drof at genhedloedd eraill, a rhoddaf fy enw iddynt, er mwyn iddynt hwy gael cadw fy neddfau.
1:25 Gan i chwi fy ngadael i, fe'ch gadawaf finnau chwithau; pan ymbiliwch arnaf am drugaredd, ni thrugarhaf wrthych.
1:26 Pan alwch arnaf, ni wrandawaf arnoch; oherwydd yr ydych wedi difwyno eich dwylo â gwaed, ac yr ydych yn chwim eich troed i gyflawni llofruddiaeth.
1:27 Nid arnaf fi, fel petai, ond arnoch chwi eich hunain yr ydych wedi cefnu,” medd yr Arglwydd.
1:28 “Dyma eiriau'r Arglwydd Holl-alluog: Onid wyf fi wedi ymhŵedd arnoch, fel tad ar ei feibion, neu fam ar ei merched, neu famaeth ar ei babanod,
1:29 ar i chwi fod yn bobl i mi, ac i minnau fod yn Dduw i chwithau; ar i chwi fod yn blant i mi, ac i minnau fod yn dad i chwithau?
1:30 Felly, fe'ch cesglais chwi ynghyd fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd. Ond beth a wnaf â chwi yn awr? Bwriaf chwi allan o'm gŵydd.
1:31 Pan ddygwch offrymau i mi, trof fy wyneb oddi wrthych; oherwydd yr wyf wedi gwrthod eich dyddiau gŵyl, eich newydd-loerau, a'ch enwaediadau ar y cnawd.
1:32 Anfonais atoch fy ngweision y proffwydi, ond yr hyn a wnaethoch chwi oedd eu cymryd hwy a'u lladd, a darnio eu cyrff; mynnaf gael cyfrif am eu gwaed hwy,” medd yr Arglwydd.
1:33 “Dyma eiriau'r Arglwydd Holl-alluog: Y mae eich tŷ chwi wedi ei adael yn anghyfannedd; fe'ch lluchiaf chwi ymaith, fel gwynt yn lluchio gwellt.
1:34 Ni chaiff eich plant genhedlu, am iddynt, fel chwithau, ddiystyru fy ngorchymyn a gwneud yr hyn sydd ddrwg yn fy ngolwg.
1:35 Trosglwyddaf eich tai chwi i bobl sydd i ddod, pobl a gred er na chlywsant fi, pobl a geidw fy ngorchmynion er na roddais arwyddion iddynt.
1:36 Er na welsant y proffwydi, eto i gyd fe gofiant eiriau proffwydi'r dyddiau gynt.
1:37 Yr wyf yn galw yn dyst ddiolchgarwch y bobl sydd i ddod ; bydd eu plant bychain yn neidio gan lawenydd, ac er na chânt fy ngweld â'u llygaid naturiol, eto trwy'r ysbryd fe gredant fy ngeiriau.
1:38 “Ac yn awr, dad, edrych â gorfoledd, a gwêl y bobl sydd i ddod o'r dwyrain.
1:39 Rhoddaf yn arweinwyr iddynt Abraham, Isaac a Jacob, Hosea ac Amos, Micha a Joel, Obadeia a Jona,
1:40 Nahum a Habacuc, Seffaneia, Haggai, Sechareia a Malachi, a alwyd hefyd yn Negesydd yr Arglwydd.

2:1 “Dyma eiriau'r Arglwydd: Dygais i'r bobl hyn allan o gaethiwed, a rhoddais orchmynion iddynt trwy fy ngweision y proffwydi; ond gwrthodasant wrando arnynt, gan wneud fy nghynghorion yn ddiddim.
2:2 Y mae'r fam a'u dug hwy yn dweud wrthynt: ‘Ewch, fy mhlant, oherwydd yr wyf fi'n weddw ac yn wrthodedig.
2:3 Llawenydd i mi oedd eich magu chwi, ond galar a thristwch fu eich colli, am i chwi bechu gerbron yr Arglwydd Dduw, a gwneud yr hyn sydd ddrwg yn fy ngolwg i.
2:4 Beth a allaf ei wneud er eich mwyn yn awr, a minnau'n weddw ac yn wrthodedig? Ewch, fy mhlant, a deisyfwch drugaredd gan yr Arglwydd.’
2:5 O'm rhan i, rwy'n galw arnat ti, dad, i ychwanegu dy dystiolaeth di at dystiolaeth mam y plant, eu bod wedi gwrthod cadw fy nghyfamod i.
2:6 Dwg felly derfysg arnynt hwy, ac anrhaith ar eu mam, rhag iddynt allu cenhedlu.
2:7 Gwasgarer hwy ymhlith y cenhedloedd, a dilëer eu henwau oddi ar y ddaear, am iddynt ddirmygu fy nghyfamod.
2:8 “Gwae di, Asyria, am roi lloches o'th fewn i'r rhai anghyfiawn! Y genedl ddrygionus, cofia di beth a wneuthum i Sodom a Gomorra.
2:9 Y mae eu tir yn gorwedd dan dywyrch pyglyd a thomennydd o ludw; felly y gwnaf â'r rhai a wrthododd wrando arnaf fi,” medd yr Arglwydd Hollalluog.

Y Gogoniant i Ddod

2:10 Dyma eiriau'r Arglwydd wrth Esra: “Cyhoedda wrth fy mhobl y rhoddaf iddynt hwy deyrnas Jerwsalem, yr oeddwn am ei rhoi i Israel.
2:11 Adfedd-iannaf ogoniant Israel; a'r tragwyddol bebyll yr oeddwn wedi eu darparu iddi hi, fe'u rhoddaf i'm pobl fy hun.
2:12 Eiddynt hwy fydd pren y bywyd a'i arogl pêr, ac ni ddaw llafur a lludded arnynt.
2:13 Ceisiwch, ac fe gewch; gofynnwch am i'r dyddiau fod yn ychydig i chwi, ac am eu byrhau; eisoes y mae'r deyrnas wedi ei pharatoi i chwi; byddwch yn wyliadwrus.
2:14 Galw'r nef yn dyst, galw'r ddaear yn dyst: yr wyf wedi dileu'r drwg a chreu'r da; oherwydd byw wyf fi,” medd yr Arglwydd.
2:15 “Fam, cofleidia dy blant; maetha hwy yn llawen, fel y gwna colomen; rho nerth i'w traed hwy. Oherwydd yr wyf fi wedi dy ddewis di,” medd yr Arglwydd.
2:16 “Atgyfodaf y meirw o'u lleoedd a'u dwyn allan o'u beddau, am fy mod yn cydnabod fy enw ynddynt hwy.
2:17 Paid ag ofni, fam y plant, oherwydd yr wyf fi wedi dy ddewis di,” medd yr Arglwydd.
2:18 “Anfonaf fy ngweision Eseia a Jeremeia i'th gynorthwyo; yn unol â'u proffwydoliaeth hwy yr wyf wedi cysegru a darparu ar dy gyfer ddeuddeg pren yn plygu dan bwysau eu gwahanol ffrwythau,
2:19 a deuddeg ffynnon yn llifeirio o laeth a mêl, a saith mynydd enfawr wedi eu gorchuddio â rhos a lili; â'r rhain fe lanwaf dy blant â gorfoledd.
2:20 Gwna gyfiawnder â'r weddw, barna dros y di-dad, rho i'r anghenus, gofala am yr amddifad, dillada'r noeth.
2:21 Cymer ofal o'r clwyfedig a'r gwan, paid â gwawdio'r cloff, gwarchod yr anafus, a dwg y dall i olwg fy nisgleirdeb i.
2:22 Cadw'r hen a'r ifanc yn ddiogel o fewn dy furiau.
2:23 Lle bynnag y doi o hyd i rai meirw, cladda hwy mewn bedd, gan osod nod arnynt; yna, pan atgyfodaf y meirw, rhoddaf i ti y lle blaenaf.
2:24 Ymlacia a bydd lonydd, fy mhobl; oherwydd fe ddaw dy orffwystra.
2:25 Di, famaeth dda, meithrin dy blant a rho nerth i'w traed hwy.
2:26 Ni chollir un o'r gweision a roddais i ti, oblegid fe'u ceisiaf o blith dy rifedi.
2:27 Paid â chynhyrfu, oherwydd pan ddaw dydd gorthrwm a chyfyngder, bydd eraill mewn galar a thristwch, ond byddi di'n llawen ac ar ben dy ddigon.
2:28 Bydd y cenhedloedd yn genfigennus, ond yn analluog i wneud dim yn dy erbyn di,” medd yr Arglwydd.
2:29 “Bydd fy nwylo'n dy warchod, rhag i'th blant weld Gehenna.
2:30 Gorfoledda, fam, ynghyd â'th blant, oherwydd arbedaf di,” medd yr Arglwydd.
2:31 “Cofia dy blant sydd yn huno, oblegid fe'u dygaf allan o leoedd dirgel y ddaear, a thrugarhaf wrthynt; oherwydd trugarog wyf fi,” medd yr Arglwydd Hollalluog.
2:32 “Cofleidia dy blant nes i mi ddod, a chyhoedda iddynt drugaredd, am fod fy ffynhonnau yn llifo trosodd, heb ddim pall ar fy ngras i.”

Esra ar Fynydd Horeb

2:33 Derbyniais i, Esra, orchymyn gan yr Arglwydd ar Fynydd Horeb, i fynd at Israel; ond pan ddeuthum atynt, fy nirmygu a wnaethant, a bwrw gorchymyn yr Arglwydd o'r neilltu.
2:34 Am hynny rwy'n dweud wrthych chwi, genhedloedd, chwi sydd yn clywed ac yn deall: “Disgwyliwch am eich bugail, ac fe rydd ichwi orffwys tragwyddol; oherwydd y mae'r un sydd i ddod ar ddiwedd y byd yn agos iawn.
2:35 Byddwch barod i dderbyn gwobrau'r deyrnas, oblegid bydd goleuni diddiwedd yn llewyrchu arnoch yn dragywydd.
2:36 Ffowch rhag cysgod y byd hwn, a derbyniwch orfoledd eich gogoniant. Yr wyf fi'n dwyn tystiolaeth agored i'm Gwaredwr
2:37 Derbyniwch y rhodd a ymddiriedwyd i chwi gan yr Arglwydd, ac mewn gorfoledd diolchwch i'r Un sydd wedi'ch galw chwi i deyrnasoedd nefol.
2:38 Codwch a safwch; gwelwch yng ngwledd yr Arglwydd nifer y rhai sydd wedi eu selio,
2:39 y rhai sydd wedi ymadael â chysgod y byd, ac wedi derbyn gwisgoedd disglair gan yr Arglwydd.
2:40 Derbyn, Seion, y rhifedi sydd i ti, a chwblha nifer y rhai mewn gwisgoedd gwynion sydd i ti, y rhai sydd wedi cadw cyfraith yr Arglwydd.
2:41 Y mae nifer dy blant, y buost yn hiraethu amdanynt, yn gyflawn; gofyn felly am deyrnasiad yr Arglwydd, ar i'th bobl, sydd wedi eu galw o'r dechreuad, gael eu sancteiddio.”

Esra ar Fynydd Seion

2:42 Gwelais i, Esra, ar Fynydd Seion dyrfa fawr na allwn ei rhifo, ac yr oeddent oll yn cydfoliannu'r Arglwydd ar gân.
2:43 Yn eu canol hwy yr oedd dyn ifanc o daldra mawr iawn, talach na phawb arall; yr oedd yn gosod coronau ar eu pennau hwy bob un, ac yr oedd ef yn dra dyrchafedig. Yr oeddwn i wedi fy nal gan ryfeddod,
2:44 ac yna gofynnais i'r angel, “Pwy yw'r rhain, f'arglwydd?”
2:45 Fe'm hatebodd fel hyn: “Dyma'r rhai sydd wedi rhoi heibio eu dillad marwol ac wedi gwisgo'r anfarwol, gan gyffesu enw Duw; yn awr coronir hwy, ac y maent yn derbyn palmwydd.”
2:46 Yna gofynnais i'r angel: “Pwy yw'r dyn ifanc acw sydd yn gosod coronau ar eu pennau a rhoi palmwydd yn eu dwylo?”
2:47 Fe'm hatebodd fel hyn: “Mab Duw yw ef, hwnnw y maent wedi ei gyffesu yn y byd hwn.” Dechreuais innau fawrygu'r rhai a safodd yn gadarn dros enw'r Arglwydd.
2:48 Yna dywedodd yr angel wrthyf: “Dos, a mynega i'm pobl natur a nifer y rhyfeddodau a welaist gan yr Arglwydd Dduw.”

Y Weledigaeth Gyntaf Cwynfan Esra

3:1 Yn y ddegfed flwyddyn ar hugain ar ôl cwymp y ddinas, yr oeddwn i ym Mabilon—myfi, Salathiel, a wyf hefyd Esra. Gorweddwn yn aflonydd ar fy ngwely, a'm meddyliau yn llethu fy nghalon,
3:2 am i mi weld anghyfanedd-dra Seion, ond digonedd y rhai oedd yn trigo ym Mabilon.
3:3 Cynhyrfwyd fy ysbryd yn fawr iawn, a dechreuais lefaru wrth y Goruchaf eiriau yn mynegi fy mhryder.
3:4 “Arglwydd Iôr,” meddwn, “onid ti a lefarodd yn y dechreuad, pan luniaist y ddaear, a hynny ar dy ben dy hun? Rhoddaist orchymyn i'r llwch,
3:5 a rhoddodd hwnnw i ti Adda yn gorff difywyd. Ond gwaith dy ddwylo di oedd y corff hwnnw hefyd; anedlaist i mewn iddo anadl einioes, a daeth ef yn greadur byw ger dy fron.
3:6 Dygaist ef i'r baradwys yr oedd dy ddeheulaw wedi ei phlannu cyn i'r ddaear erioed ymddangos;
3:7 gosodaist arno gadw un gorchymyn o'r eiddot; ond anwybyddu hwnnw a wnaeth ef, ac ar unwaith pennaist farwolaeth iddo ef a'i hiliogaeth. Ohono ef y ganwyd cenhedloedd a llwythau, pobloedd a theuluoedd, dirifedi.
3:8 Ond byw yn ôl ei hewyllys ei hun a wnaeth pob cenedl, gan ymddwyn yn annuwiol ac yn ddirmygus ger dy fron di; eto ni rwystraist hwy.
3:9 Ond yna, yn ei amser, fe ddygaist y dilyw ar ben trigolion y ddaear, a'u difetha.
3:10 Yr un oedd eu tynged hwy oll: fel y daeth marwolaeth ar Adda, felly hefyd y daeth y dilyw arnynt hwy.
3:11 Er hynny, arbedaist un ohonynt, Noa, ynghyd â'i deulu, a'r holl rai cyfiawn oedd yn ddisgynyddion iddo.
3:12 “Pan ddechreuodd trigolion y ddaear gynyddu, amlhawyd plant a phobloedd a chenhedloedd lawer, ac unwaith eto dechreusant wneud annuwioldeb, mwy hyd yn oed na'r cenedlaethau o'u blaen.
3:13 Felly, a hwythau yn gwneud drygioni ger dy fron, dewisaist i ti dy hun un ohonynt, o'r enw Abraham;
3:14 ceraist ef, ac iddo ef yn unig, yn ddirgel, liw nos, y datguddiaist ddiwedd yr amserau.
3:15 Gwnaethost gyfamod tragwyddol ag ef, gan addo iddo na fyddit byth yn ymadael â'i had ef; rhoddaist Isaac iddo, ac i Isaac rhoddaist Jacob ac Esau.
3:16 Neilltuaist Jacob i ti dy hun, ond bwrw Esau ymaith; ac aeth Jacob yn dyrfa fawr.
3:17 “Pan oeddit yn arwain ei ddisgyn-yddion allan o'r Aifft, fe'u dygaist at Fynydd Sinai;
3:18 yno gostyngaist yr wybren, ysgydwaist y ddaear, cynhyr-faist y byd, peraist i'r dyfnderoedd grynu, terfysgaist y cyfanfyd.
3:19 Daeth dy ogoniant drwy bedwar porth—tân, daeargryn, gwynt a rhew—er mwyn iti roi'r gyfraith i had Jacob a'r ddeddf i blant Israel.
3:20 Eto ni thynnaist eu calon ddrwg oddi wrthynt, er mwyn i'th gyfraith ddwyn ffrwyth ynddynt.
3:21 Oherwydd yr oedd yr Adda cyntaf wedi ei feichio â chalon ddrwg: cyflawnodd drosedd, ac fe'i gorchfyg-wyd; ac nid ef yn unig, ond ei holl ddisgynddion hefyd.
3:22 Felly aeth y gwendid yn beth parhaol, ac ynghyd â'r gyfraith yr oedd y drygioni gwreiddiol hefyd yng nghalonnau'r bobl; felly ymadawodd yr hyn sydd dda, ac arhosodd y drwg.
3:23 “Aeth cyfnodau heibio, a daeth y blynyddoedd i ben, ac yna codaist i ti dy hun was o'r enw Dafydd.
3:24 Gorch-mynnaist iddo adeiladu dinas i ddwyn dy enw, ac i gyflwyno iti yno offrymau o blith yr hyn sy'n eiddo iti.
3:25 Hynny a fu am flynyddoedd lawer; ond yna aeth trigolion y ddinas ar gyfeiliorn,
3:26 gan ymddwyn ym mhob dim fel Adda a'i holl ddisgynyddion ef; oherwydd yr oedd ganddynt hwythau hefyd galon ddrwg.
3:27 Felly traddodaist dy ddinas dy hun i ddwylo dy elynion.
3:28 “Yna dywedais wrthyf fy hun: ‘Tybed a yw trigolion Babilon yn ymddwyn yn well? Ai dyna pam y daethant i arglwyddiaethu ar Seion?’
3:29 Ond pan ddeuthum yma, gwelais weithredoedd annuwiol y dyrfa aneirif sydd yma; am ddeng mlynedd ar hugain bellach yr wyf wedi gweld eu drwgweithredwyr lu drosof fy hun.
3:30 Ymollyngodd fy nghalon, oherwydd gwelais fel yr wyt yn cydymddŵyn â hwy yn eu pechod, ac fel yr arbedaist y rhai annuwiol eu ffyrdd; difethaist dy bobl dy hun, ond cedwaist dy elynion yn ddiogel.
3:31 Nid wyt ychwaith wedi rhoi unrhyw arwydd i neb ynglŷn â'r modd y dylid dwyn y drefn hon i ben. Tybed a yw gweithredoedd Babilon yn well na rhai Seion?
3:32 A fu i unrhyw genedl arall heblaw Israel dy adnabod di? Pa lwythau sydd wedi ymddiried, fel llwythau Jacob, yn dy gyfamodau di?
3:33 Ond nid yw eu gwobr hwy wedi dod i'r amlwg, na'u llafur wedi dwyn ffrwyth. Yr wyf wedi teithio llawer ymhlith y cenhedloedd, a'u gweld uwchben eu digon, er eu bod yn diystyru dy ddeddfau di.
3:34 Yn awr, felly, pwysa mewn clorian ein drygioni ni a drygioni trigolion y byd; yna ceir gweld ar ba ochr y bydd y pwysau'n troi'r dafol.
3:35 A fu amser erioed pan na phechodd trigolion y ddaear yn dy olwg di? Pa genedl sydd wedi cadw dy ddeddfau fel Israel?
3:36 Y mae'n wir y cei hyd i unigolion sydd wedi cadw dy ddeddfau, ond ni chei genhedloedd a wnaeth hynny.”

Methu Deall Ffyrdd Duw

4:1 Yna fe'm hatebwyd gan yr angel a anfonwyd ataf. Enw'r angel oedd Uriel.
4:2 Meddai: “Cyfeiliornodd dy ddeall yn ddybryd yn y byd hwn, ac a wyt yn amcanu amgyffred ffordd y Goruchaf?”
4:3 “Ydwyf, f'arglwydd,” atebais innau. Atebodd yntau fi fel hyn: “Anfonwyd fi i ddangos iti dair ffordd, ac i osod tri phos o'th flaen di.
4:4 Os gelli di ddehongli un ohonynt hwy i mi, yna fe ddangosaf fi i ti y ffordd yr wyt yn dyheu am ei gweld, ac fe ddysgaf iti pam y mae'r galon yn ddrwg.”
4:5 Dywedais i: “Llefara, f'arglwydd.” Meddai yntau wrthyf: “Tyrd, pwysa i mi bwysau'r tân, mesura i mi fesur y gwynt, neu galw yn ôl i mi y dydd a aeth heibio.”
4:6 Atebais: “Gan nad oes neb byw a all wneud hynny, pam yr wyt yn fy holi ynglŷn â'r pethau hyn?”
4:7 Yna meddai wrthyf: “Beth pe bawn wedi gofyn i ti, ‘Pa nifer o drigfannau sydd yng nghanol y môr?’ Neu ‘Pa nifer o ffrydiau sydd yn nharddle'r dyfnder?’ Neu ‘Pa nifer o ffrydiau sydd uwchlaw'r ffurfafen?’ Neu ‘Pa le y mae'r ffyrdd allan o Baradwys?’
4:8 Hwyrach y byddit yn f'ateb i, ‘Nid wyf fi erioed wedi disgyn i'r dyfnder, nac i'r byd tanddaearol; nid wyf ychwaith erioed wedi esgyn i'r nefoedd.’
4:9 Ond ni ofynnais iti ond am y tân a'r gwynt a'r dydd, pethau yr wyt yn gyfarwydd â hwy ac na elli fyw hebddynt; ond hyd yn oed am y rhain, ni chefais ateb gennyt.”
4:10 Meddai ymhellach: “Nid yw'r gallu gennyt i ddeall y pethau hynny o'r eiddot yr wyt wedi tyfu yn eu cwmni.
4:11 Sut felly y dichon dy feddwl di amgyffred ffordd y Goruchaf? Sut y gall un sydd wedi ei ysu gan y byd llygredig ddeall anllygredig-aeth?”
4:12 Pan glywais hyn, syrthiais ar fy hyd, a dweud wrtho: “Buasai'n well i ni fod heb ein geni na dod i fyw yng nghanol annuwioldeb, a dioddef heb ddeall pam.”
4:13 Atebodd yntau fi fel hyn: “Euthum allan i goedwig, ac yno yr oedd prennau'r maes yn cynllwyn â'i gilydd.
4:14 ‘Dewch’, meddent, ‘awn i ryfel yn erbyn y môr, a pheri iddo gilio o'n blaen, inni gael gwneud rhagor o goedwigoedd inni ein hunain.’
4:15 Yn yr un modd cynllwyniodd tonnau'r môr hwythau â'i gilydd, a dweud, ‘Dewch, awn i fyny a threchu coed y maes, i ennill yno diriogaeth ychwanegol inni ein hunain.’
4:16 Ond ofer fu cynllwyn y coed, oherwydd daeth tân a'u difa hwy.
4:17 A'r un modd cynllwyn tonnau'r môr, oherwydd safodd y tywod yn ddiysgog a'u rhwystro hwy.
4:18 Yn awr, pe bait ti'n farnwr ar y rhain, p'run ohonynt y byddit ti am ei gyhoeddi'n ddieuog, a ph'run ei gondemnio?”
4:19 Atebais fel hyn: “Yn ofer y cynllwyniodd y naill a'r llall ohonynt; oherwydd pennwyd y tir i'r coed, a gwely'r môr i gario ei donnau ef.”
4:20 “Yr wyt wedi barnu'n gywir,” meddai yntau. “Pam, ynteu, na fernaist yn gywir yn dy achos dy hun?
4:21 Oherwydd yn yr un modd yn union ag y mae'r tir wedi ei roi i'r coed a'r môr i'r tonnau, felly pethau'r ddaear yn unig y gall trigolion y ddaear eu deall; trigolion y nefoedd sy'n deall pethau goruchel y nefoedd.”

Diwedd yr Oes

4:22 “Ond atolwg, f'arglwydd,” meddwn innau, “pam y rhoddwyd i mi gynneddf deall?
4:23 Oherwydd nid oedd yn fy mryd i holi am y ffyrdd sydd uchod, ond am y pethau hynny sydd yn digwydd bob dydd o flaen ein llygaid. Pam y rhoddwyd Israel yn destun gwawd i'r cenhedloedd? Pam yr ildiwyd y bobl a geraist ti i lwythau annuwiol? Pam y mae cyfraith ein tadau wedi ei gwneud yn ddiddim, a'r cyfamodau ysgrifenedig wedi eu colli?
4:24 Yr ydym yn diflannu o'r byd fel locustiaid, y mae ein heinioes fel tarth, ac nid ydym yn deilwng i dderbyn trugaredd.
4:25 Ond beth a wna ef er mwyn ei enw ei hun, yr enw y'n gelwir ni wrtho? Dyna fy nghwestiynau i.”
4:26 Atebodd ef fel hyn: “Os bydd iti oroesi, fe gei weld, ac os byddi byw, fe ryfeddi'n fynych, oherwydd y mae'r byd hwn yn prysur ddarfod.
4:27 Am ei fod yn llawn tristwch a llesgedd, ni all y byd hwn ddal y pethau a addawyd i'r rhai cyfiawn yn eu hiawn bryd.
4:28 Oherwydd y mae'r drwg yr wyt yn fy holi i amdano wedi ei hau, ond ni ddaeth amser ei fedi ef eto.
4:29 Hyd oni fedir yr hyn a heuwyd, a hyd oni ddiflanna'r lle yr heuwyd y drwg ynddo, nid ymddengys y maes lle'r heuwyd y da.
4:30 Heuwyd gronyn o had drwg yng nghalon Adda o'r dechreuad, a pha faint o annuwioldeb y mae eisoes wedi ei gynhyrchu, ac y bydd eto'n ei gynhyrchu hyd nes y daw amser dyrnu!
4:31 Cyfrif drosot dy hun gymaint o ffrwyth annuwioldeb y mae'r gronyn o had drwg wedi ei gynhyrchu.
4:32 Pan fydd hadau dirifedi o rawn da wedi eu hau, mor fawr y cynhaeaf a ddaw ohonynt hwy!”
4:33 Atebais innau: “Pa mor hir y mae'n rhaid aros? Pa bryd y digwydd hyn? Pam mai ychydig a drwg yw'n blynyddoedd ni?”
4:34 Meddai ef wrthyf: “Ni elli di brysuro mwy na'r Goruchaf; er dy fwyn dy hun yr wyt ti'n prysuro, ond mae'r Goruchaf yn prysuro er mwyn llawer.
4:35 Onid ynglŷn â'r pethau hyn y bu eneidiau'r cyfiawn yn holi yn eu hystafelloedd cudd, a dweud: ‘Pa mor hir yr wyf fi i barhau i obeithio fel hyn? Pa bryd y gwelir y cynnyrch ar y llawr dyrnu, ac y cawn ninnau dderbyn ein gwobr?’
4:36 A dyma'r ateb a gawsant gan yr archangel Jeremiel: ‘Pan fydd rhif y rhai tebyg i chwi yn gyflawn. Oherwydd y mae'r Arglwydd wedi pwyso'r byd mewn clorian,
4:37 y mae wedi mesur yr amserau yn sicr, a'u rhifo'n derfynol ; ni symuda ac ni chyffry mohonynt, hyd nes y bydd y rhif penodedig yn gyflawn.’ ”
4:38 “Ond edrych, f'arglwydd feistr,” meddwn i, “yr ydym ni oll llawn annuwioldeb.
4:39 Hwyrach mai o'n hachos ni, o achos pechodau trigolion y ddaear, y cedwir y cyfiawn rhag gweld dyfodiad amser dyrnu.”
4:40 Atebodd ef: “Dos a gofyn i wraig feichiog a all y groth ddal ei gafael ar y plentyn o'i mewn pan fydd ei naw mis hi yn gyflawn.”
4:41 “Amhosibl, f'arglwydd!” meddwn i. Atebodd yntau: “Yn y byd tanddaearol y mae'r ystafelloedd cudd sy'n dal eneidiau yn debyg i groth.
4:42 Oherwydd fel y mae gwraig wrth esgor yn prysuro i gael diwedd ar wewyr anorfod esgor, felly hefyd y mae'r ystafelloedd cudd yn prysuro i roi'n ôl yr hyn a ymddiriedwyd iddynt o'r dechreuad.
4:43 Yna fe esbonnir i ti y pethau yr wyt yn dymuno eu gweld.”
4:44 Atebais fel hyn: “Os wyf yn gymer-adwy yn dy olwg, ac os yw'n bosibl, ac os wyf yn gymwys,
4:45 eglura hyn i mi hefyd: a oes mwy i ddod nag a aeth heibio, neu a yw'r rhan fwyaf eisoes wedi mynd heibio i ni?
4:46 Oherwydd gwn beth sydd wedi mynd, ond ni wn beth sydd eto i ddod.”
4:47 Meddai yntau wrthyf: “Saf ar y llaw dde i mi; fe rof finnau ddehongliad iti o'r pos.”
4:48 Felly sefais a gwylio, a dyma ffwrn danllyd yn mynd heibio imi; ac ar ôl i'r fflamau fynd heibio, edrychais a gweld bod mwg yn aros.
4:49 Ar ôl hyn aeth heibio imi gwmwl yn llawn dŵr, ac arllwysodd law trwm yn genllif; ac wedi i'r cenllif fynd heibio, yr oedd rhai diferion yn aros yn y cwmwl.
4:50 Yna meddai'r angel wrthyf: “Ystyria hyn drosot dy hun: fel y mae'r glaw yn fwy na'r diferion, a'r tân yn fwy na'r mwg, felly hefyd y mae'r gorffennol yn fwy o lawer ei hyd na'r dyfodol; nid oes ond diferion a mwg yn aros.”

Arwyddion y Diwedd

4:51 Yna ymbiliais fel hyn: “A wyt ti'n tybio y caf fi fyw i weld y dyddiau hynny? Yn wir, pwy fydd yn bod yn y dyddiau hynny?”
4:52 Atebodd ef: “Gallaf ddweud rhywfaint wrthyt am yr arwyddion yr wyt yn fy holi amdanynt; ond ni chefais fy anfon i ddweud dim wrthyt am hyd dy einioes; nid yw'n hysbys imi.

5:1 “Am yr arwyddion, fodd bynnag: edrych, fe ddaw'r amser pan gaiff trigolion y ddaear eu dal gan fraw mawr; cuddir ffordd gwirionedd, a bydd y tir yn ddiffrwyth o ffydd.
5:2 Bydd anghyfiawnder ar gynnydd, y tu hwnt i'r hyn yr wyt ti dy hun yn ei weld yn awr neu y clywaist amdano erioed.
5:3 Anghyfannedd a di-lwybr fydd y wlad yr wyt yn awr yn ei gweld yn teyrnasu; diffeithwch fydd hi yng ngolwg pobl.
5:4 Os caniatâ'r Goruchaf i ti fyw, cei dithau weld ei therfysg ar ôl y trydydd cyfnod. Yn sydyn bydd yr haul yn cynnau liw nos, a'r lleuad liw dydd.
5:5 Bydd gwaed yn diferu o'r coed, y cerrig yn llefaru, y bobloedd mewn cynnwrf, a chwrs y sêr yn cael ei newid.
5:6 Daw yn frenin un nad yw trigolion y ddaear yn ei ddisgwyl, ac fe eheda'r holl adar ymaith.
5:7 Bydd y Môr Marw yn bwrw pysgod i fyny; clywir llef liw nos nad yw'r lliaws yn ei deall, er i bawb ei chlywed.
5:8 Bydd agennau yn ymddangos mewn llawer lle, a thân yn saethu allan ohonynt yn fynych. Bydd anifeiliaid gwylltion yn cefnu ar eu cynefin, a gwragedd misglwyfus yn esgor ar angenfilod.
5:9 Ceir dŵr hallt mewn ffynhonnau o ddŵr croyw, a bydd cyfeillion yn ymosod bob un ar ei gilydd; yna cuddir y synhwyrau, a chilia deall i'w guddfan;
5:10 bydd llawer yn ei geisio ac yn methu ei gael; bydd anghyfiawnder ac anlladrwydd ar gynnydd dros wyneb y ddaear.
5:11 Bydd y naill wlad yn holi'r llall fel hyn: ‘A yw cyfiawnder, sy'n gwneud yr hyn sydd iawn, wedi tramwy trwot ti?’ A'r ateb fydd, ‘Nac ydyw.’
5:12 Y pryd hwnnw bydd pobl yn gobeithio, ond ni welant gyflawni eu gobeithion; yn llafurio, ond ni bydd eu ffyrdd yn llwyddo.
5:13 Dyna'r arwyddion y caniatawyd i mi eu hadrodd wrthyt; ond os bydd iti weddïo eto, a pharhau i wylo ac ymprydio am saith diwrnod, yna cei glywed ymhellach bethau myw na'r rhain.”
5:14 Yna deffrois, a'm corff yn crynu drwyddo; yr oeddwn mor drallodus fy meddwl fel y llewygais.
5:15 Ond daeth yr angel a fu'n ymddiddan â mi i'm cynnal a'm nerthu i sefyll ar fy nhraed.
5:16 Y noson wedyn daeth Phaltiel, arweinydd y bobl, ataf a dweud: “Ble buost ti? A pham y mae golwg drist arnat?
5:17 A wyt yn anghofio bod Israel, yng ngwlad ei halltudiaeth, wedi ei hymddiried i ti?
5:18 Cod, felly, a bwyta ychydig fara; paid â'n gadael ni, fel bugail yn gadael ei braidd yng ngafael bleiddiaid milain.”
5:19 Dywedais innau wrtho: “Dos ymaith oddi wrthyf, ac am saith diwrnod paid â dod yn agos ataf; yna fe gei ddod ataf eto.” Ar ôl clywed fy ngeiriau aeth ef ymaith a'm gadael.

Yr Ail Weledigaeth, Gweddi Esra ac Ateb Uriel

5:20 Am saith diwrnod bûm yn ymprydio, yn galaru ac yn wylo, fel y gorchmynnodd yr angel Uriel i mi.
5:21 Ymhen y saith diwrnod yr oedd meddyliau fy nghalon yn peri blinder mawr i mi unwaith eto,
5:22 ond adfeddiannodd fy enaid ysbryd deall, a thrachefn dechreuais lefaru wrth y Goruchaf.
5:23 “Arglwydd Iôr,” meddwn, “o bob coedwig drwy'r ddaear, ac o blith ei holl brennau yr wyt ti wedi dewis un winwydden;
5:24 o'r holl diroedd drwy'r byd cyfan dewisaist i ti dy hun un man i'w phlannu ynddo; o'r holl flodau sydd yn y byd dewisaist un lili i ti dy hun;
5:25 o holl ddyfnderoedd y môr llenwaist un afon i ti, ac o'r holl ddinasoedd a adeiladwyd cysegraist Seion i ti dy hun;
5:26 o'r holl adar a grewyd penodaist un golomen i ti dy hun, ac o'r holl anifeiliaid a luniwyd darperaist un ddafad ar dy gyfer dy hun;
5:27 o'r holl bobloedd, yn eu lluosogrwydd, mabwysiedaist un bobl i ti dy hun, ac i'r bobl hynny yr ymserchaist ynddynt rhoddaist gyfraith gymeradwy gan bawb.
5:28 Pam ynteu, Arglwydd, yr wyt yn awr wedi traddodi'r un bobl hon i ddwylo llaweroedd? Pam y dirmygaist yr un gwreiddyn yn fwy na'r lleill i gyd, ac y gwasgeraist dy unig bobl ymhlith lliaws?
5:29 Y mae'r rhai a fu'n gwrthod dy addewidion wedi sathru â'u traed y rhai a fu'n ymddiried yn dy gyfamodau.
5:30 Os wyt yn wir yn casáu dy bobl gymaint, dylit eu cosbi â'th ddwylo dy hun.”
5:31 Ar ôl imi orffen llefaru'r geiriau hyn, anfonwyd ataf yr angel a ddaethai ataf y noson flaenorol honno.
5:32 “Gwrando arnaf fi,” meddai, “ac fe'th ddysgaf; dal sylw, ac fe ddywedaf fwy wrthyt.”
5:33 “Llefara, f'arglwydd,” atebais innau. Meddai'r angel wrthyf: “Yr wyt yn drallodus iawn dy feddwl ynglŷn ag Israel. A yw dy gariad di tuag at Israel yn fwy na chariad Gwneuthurwr Israel?”
5:34 “Nac ydyw, f'arglwydd,” atebais innau, “ond o wir ofid y lleferais i; oherwydd yr wyf yn cael fy mhoenydio o'm mewn bob awr o'r dydd, wrth imi geisio deall ffordd y Goruchaf a dirnad rhyw ran o'i farnedigaethau ef.”
5:35 “Ni elli wneud hynny,” meddai wrthyf. “Pam, f'arglwydd?” atebais innau. “I ba beth, felly, y'm ganwyd? Pam na throes croth fy mam yn fedd imi? Yna ni chawswn weld poen Jacob a blinder plant Israel.”
5:36 Meddai ef: “Cyfrif imi y rheini sydd hyd yma heb eu geni, casgl ynghyd imi ddiferion gwasgaredig y glaw, a phâr i'r blodau a wywodd lasu unwaith eto;
5:37 agor imi yr ystafelloedd caeëdig, a dwg allan y gwyntoedd sydd wedi eu cloi o'u mewn, neu dangos imi lun llais; yna fe ddangosaf i ti y rheswm am y caledi hwn yr wyt yn gofyn am gael ei ddeall.”
5:38 “Ond, f'arglwydd feistr,” atebais i, “pwy a all fod â gwybodaeth felly ganddo, ond yr Un nad yw ei drigfa ymhlith dynion?
5:39 Ond myfi, nid oes imi ddoethineb; sut felly y gallaf siarad am y pethau hyn y gofynnaist i mi amdanynt?”

O Genhedlaeth i Genhedlaeth

5:40 Meddai wrthyf: “Yn yr un modd ag yr wyt yn analluog i gyflawni unrhyw un o'r pethau a grybwyllwyd, felly hefyd ni elli ddarganfod fy marnedigaethau i, nac amcan y cariad a addewais i'm pobl.”
5:41 “Ond atolwg, f'arglwydd,” meddwn i, “yr wyt ti'n rhoi blaenoriaeth i'r rhai a fydd yn fyw yn y diwedd. Beth a wna'r rhai a fu byw o'n blaen ni, neu nyni ein hunain, neu'r rheini a ddaw ar ein hôl ni?”
5:42 Dywedodd yntau: “Cyffelybaf fy marnedigaeth i gylch crwn; ni bydd y rhai olaf yn rhy hwyr, na'r rhai cynharaf yn rhy fuan.”
5:43 Atebais innau fel hyn: “Onid oedd yn bosibl i ti lunio pawb—pobl y gorffennol, y presennol, a'r dyfodol—yn union yr un pryd? Byddit felly'n gallu cyhoeddi dy farnedigaeth gymaint yn gynt.”
5:44 Atebodd ef: “Ni all y greadigaeth brysuro mwy na'r Creawdwr, na'r byd gynnal yr un pryd bawb o'r rhai a grewyd i fyw ynddo.”
5:45 Meddwn innau: “Sut felly y dywedaist wrthyf y bywhei yn wir bob creadur a grewyd gennyt, a hynny'n union yr un pryd? Os ydynt hwy oll, yn y dyfodol, i fod yn fyw yr un pryd, ac os yw'r greadigaeth i'w cynnal, yna gallai'r greadigaeth wneud hynny yn awr, a'u dal oll yn bresennol gyda'i gilydd yr un pryd.”
5:46 Meddai yntau wrthyf: “Gofyn gwestiwn i groth gwraig, fel hyn: ‘Os wyt ti i esgor ar ddeg o blant, pam mai ar bob un yn ei dro y gwnei hynny?’ Gofyn iddi, gan hynny, esgor ar y deg yr un pryd.”
5:47 Meddwn innau: “Ni all wneud hynny; yn ei dro y digwydd pob esgor.”
5:48 “Felly hefyd,” atebodd ef, “i bob un yn ei dro y rhoddais i groth y ddaear i'r rheini a feichiogwyd ynddi.
5:49 Ni all plentyn roi genedigaeth, nac ychwaith wraig sydd bellach wedi mynd yn hen; yn yr un modd yr wyf finnau wedi trefnu ar gyfer y byd a grewyd gennyf.”
5:50 Yna gofynnais ymhellach fel hyn: “Gan dy fod wedi agor y ffordd imi yn awr, a gaf fi barhau i siarad â thi? A yw ein mam ni, y soniaist wrthyf amdani, yn dal yn ifanc, ynteu a yw hi eisoes yn heneiddio?”
5:51 Atebodd ef: “Gofyn gwestiwn fel hyn i wraig sy'n planta:
5:52 ‘Pam nad yw'r plant yr esgoraist arnynt yn ddiweddar yn debyg i'r rhai a anwyd yn gynharach? Pam y maent yn llai eu taldra?’
5:53 Ac fe ddywed hi wrthyt: ‘Ni ellir cymharu y rhai a anwyd yng nghryfder ieuenctid â'r rhai a anwyd yn amser henaint, pan yw'r groth yn llesgáu.’
5:54 Felly ystyria dithau hefyd: yr ydych chwi yn llai eich maint na'r rhai a fu o'ch blaen chwi,
5:55 a bydd y rhai a ddaw ar eich ôl yn llai hyd yn oed na chwi, oherwydd y mae'r greadigaeth eisoes yn heneiddio ac yn colli cryfder ieuenctid.”

Diwedd yr Oes Hon

5:56 Meddwn innau: “Os wyf yn gymer-adwy yn dy olwg di, Arglwydd, a gaf fi ofyn i ti ddangos imi trwy bwy yr ymweli â'th greadigaeth?”

6:1 Atebodd fi: “Ystyria ddechrau cyntaf y ddaear: nid oedd pyrth y byd yn sefyll eto; nid oedd gwyntoedd yn ymgasglu ac yn chwythu,
6:2 na thrwst taranau yn atseinio, na fflachiadau mellt yn disgleirio; nid oedd seiliau paradwys wedi eu gosod,
6:3 na blodau prydferth i'w gweld: nid oedd y grymoedd sy'n troi'r bydysawd wedi eu sefydlu, na lluoedd dirifedi'r angylion wedi eu casglu ynghyd.
6:4 Nid oedd uchelderau'r awyr wedi eu codi fry, na pharthau'r ffurfafen wedi eu henwi, na Seion wedi ei chyfrif yn droedfainc Duw;
6:5 nid oedd yr oes bresennol wedi ei chynllunio; nid oedd ystrywiau pechaduriaid yr oes hon wedi eu gwahardd, na sêl wedi ei gosod ar y rhai sydd wedi cadw ffydd yn drysor iddynt eu hunain.
6:6 Dyna'r pryd y meddyliais, a daeth y pethau hyn i fod trwof fi—trwof fi, nid trwy neb arall, fel y daw'r diwedd hefyd trwof fi, ac nid trwy neb arall.”
6:7 Yna atebais i fel hyn: “Beth fydd yn gwahanu'r amserau? Pa bryd y bydd diwedd yr oes gyntaf a dechrau'r nesaf?”
6:8 Meddai ef wrthyf: “Ni bydd y gwahaniad yn hwy na hwnnw rhwng Abraham ac Abraham; oherwydd ganed Jacob ac Esau yn ddisgynyddion iddo ef, ac yr oedd llaw Jacob yn cydio yn sawdl Esau o'r dechreuad.
6:9 Y mae Esau'n cynrychioli diwedd yr oes hon, a Jacob ddechrau'r oes nesaf.
6:10 Dechrau dyn yw ei law, a diwedd dyn yw ei sawdl~Paid â chwilio am ddim arall rhwng sawdl a llaw, Esra.”
6:11 “F'arglwydd feistr,” meddwn innau,
6:12 “os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, dangos i mi ddiwedd dy arwyddion, y dangosaist ran ohonynt imi y noson flaenorol honno.”

Arwyddion y Diwedd

6:13 Atebodd fi fel hyn: “Saf ar dy draed, a chei glywed llais cryf yn atseinio;
6:14 ac os bydd y lle y sefi arno yn siglo
6:15 pan lefara'r llais, paid â dychrynu; oherwydd ynglŷn â'r diwedd y bydd neges y llais, a bydd seiliau'r ddaear yn deall
6:16 mai amdanynt hwy y mae'n traethu. Crynant a siglant, oherwydd gwyddant am eu diwedd, bod newid llwyr i ddigwydd.”
6:17 Ar ôl imi glywed hyn, sefais ar fy nhraed a gwrando; a dyma lais yn llefaru, a'i sŵn fel sŵn dyfroedd lawer.
6:18 Meddai'r llais: “Y mae'r dyddiau yn wir yn dod pan ddof yn agos i farnu preswylwyr y ddaear,
6:19 pan fynnaf gyfrif gan ddrwgweithredwyr didostur am eu drygioni, pan fydd darostyngiad Seion wedi ei gwblhau,
6:20 a phan fydd sêl wedi ei gosod ar yr oes sydd ar ddarfod. Yna gwnaf yr arwyddion a ganlyn: agorir y llyfrau yng ngolwg y ffurfafen, a chaiff pawb eu gweld yr un pryd.
6:21 Bydd babanod blwydd oed yn medru siarad; bydd gwragedd beichiog yn esgor yn gynamserol, wedi tri neu bedwar mis, a bydd eu plant yn fyw ac yn llamu o gwmpas.
6:22 Yn sydyn ymddengys mannau a heuwyd fel rhai heb eu hau, a cheir stordai llawn yn sydyn yn wag;
6:23 bydd yr utgorn yn seinio'n uchel, a daw dychryn ar unwaith ar bawb a'i clyw.
6:24 Y pryd hwnnw bydd cyfeillion yn ymladd â chyfeillion fel petaent yn elynion, a daw ofn ar y ddaear ynghyd â'i thrigolion. Bydd dyfroedd y ffynhonnau yn sefyll, ac am dair awr fe beidiant â llifo.
6:25 “Pwy bynnag a adewir ar ôl wedi'r holl bethau hyn yr wyf wedi eu rhagfynegi i ti, caiff ef ei achub, a chaiff weld fy iachawdwriaeth i a diwedd fy myd hwn.
6:26 Yna cânt weld y rheini a dderbyniwyd i'r nefoedd heb iddynt erioed brofi marwolaeth. Newidir calon trigolion y ddaear, ac fe'u troir i ddeall pethau mewn ffordd newydd.
6:27 Oherwydd caiff drygioni ei lwyr ddiddymu, a thwyll ei ddileu;
6:28 ond bydd ffyddlondeb yn blodeuo, llygredd yn cael ei orchfygu, a'r gwirionedd, a fu'n ddiffrwyth cyhyd, yn dod i'r amlwg.”
6:29 Tra oedd y llais yn siarad â mi, dyma'r man yr oeddwn yn sefyll arno yn dechrau siglo
6:30 Yna meddai'r angel wrthyf: “Dyna'r pethau y deuthum i'w dangos iti y nos hon
6:31 Os bydd iti weddïo eto, ac ymprydio eto am saith diwrnod, yna fe ddychwelaf atat a mynegi iti bethau mwy hyd yn oed na'r rhain
6:32 oherwydd y mae dy lais yn sicr wedi ei glywed gan y Goruchaf, ac y mae'r Duw nerthol wedi gweld dy uniondeb ac wedi sylwi ar lendid dy fuchedd o'th ieuenctid.
6:33 Dyna pam yr anfonodd fi atat i ddangos yr holl bethau hyn iti ac i ddweud wrthyt: ‘Bydd ffyddiog, a phaid ag ofni.
6:34 Paid ychwaith â brysio, yn yr amserau sy'n blaenori'r diwedd, i ddyfalu pethau ofer; yna ni byddi'n gweithredu ar frys pan ddaw'r amserau diwethaf.’ ”

Y Drydedd Weledigaeth, Pam y Dioddefa Pobl Dduw

6:35 Ar ôl hynny, felly, bûm unwaith eto yn wylo ac yn ymprydio am saith diwrnod, yn union fel o'r blaen, er mwyn cyflawni'r tair wythnos a bennwyd imi.
6:36 A'r wythfed nos, yr oedd fy nghalon wedi ei chythryblu unwaith eto o'm mewn, a dechreuais lefaru wrth y Goruchaf;
6:37 oherwydd yr oedd fy ysbryd ar dân drwyddo, a'm henaid yn drallodus.
6:38 “Arglwydd,” meddwn, “o ddechrau'r greadigaeth fe fuost ti yn wir yn llefaru; y dydd cyntaf dywedaist, ‘Bydded nef a daear’, a chyflawnodd dy air y gwaith.
6:39 Yr amser hwnnw yr oedd yr Ysbryd ar ei adain, a thywyllwch a distawrwydd yn ymdaenu oddi amgylch, heb fod sŵn llais neb yno eto.
6:40 Yna gorchmynnaist ddwyn allan belydryn o oleuni o'th drysorfeydd, er mwyn i'th waith di ddod i'r golwg y pryd hwnnw.
6:41 Yr ail ddydd eto creaist ysbryd y ffurfafen, a gorch-mynnaist iddo rannu a gwneud gwahaniad rhwng y dyfroedd—un rhan i gilio i fyny, a'r llall i aros islaw.
6:42 Y trydydd dydd gorchmynnaist i'r dyfroedd ymgasglu yn seithfed ran y ddaear, ond sychaist y chwe rhan arall a'u cadw, fel y byddai rhai ohonynt yn cael eu hau a'u trin yn wasanaeth i ti.
6:43 A chyn gynted ag yr aeth dy air di allan, fe wnaed y gwaith.
6:44 Oherwydd ar unwaith daeth ffrwythau allan yn llu aneirif, a phob math o bethau dymunol i'w blasu, ynghyd â blodau digymar eu lliw ac arogleuon persawrus tu hwnt. Dyna'r hyn a wnaed y trydydd dydd.
6:45 Y pedwerydd dydd gorchmynnaist ddyfod ysblander yr haul, a llewyrch y lleuad, a'r sêr yn eu trefn;
6:46 a gorchmynnaist iddynt wasanaethu dyn, a oedd ar fin cael ei lunio.
6:47 Y pumed dydd dywedaist wrth y seithfed ran, lle'r oedd y dŵr wedi ymgasglu, am iddi eni i'r byd greaduriaid byw, adar a physgod.
6:48 Ac felly, yn unol â'th orchymyn, cynhyrchodd y dŵr mud, difywyd, greaduriaid byw, i'r cenhedloedd gael traethu dy ryfeddodau di oherwydd hynny.
6:49 Yna diogelaist ddau greadur; enwaist un ohonynt Behemoth, a'th enw ar yr ail oedd Lefiathan.
6:50 Neilltuaist y naill oddi wrth y llall, oherwydd ni allai'r seithfed ran, lle'r oedd y dŵr wedi ymgasglu, eu dal hwy.
6:51 I Behemoth rhoddaist un o'r rhannau a sychwyd ar y trydydd dydd, iddo gael trigo yno, lle mae mil o fynyddoedd; ond i Lefiathan rhoddaist y seithfed ran, yr un ddyfriog.
6:52 Ac yr wyt wedi eu cadw hwy i'w bwyta gan bwy bynnag a fynni, a phryd bynnag y mynni.
6:53 Y chweched dydd gorch-mynnaist i'r ddaear gynhyrchu ger dy fron anifeiliaid a bwystfilod ac ymlusgiaid.
6:54 A thros y rhain gosodaist Adda, a'i wneud yn ben ar bopeth a greaist; disgynyddion iddo ef ydym ni oll, dy bobl ddewisedig.
6:55 “Yr wyf wedi adrodd yr holl bethau hyn ger dy fron di, Arglwydd, am iti ddweud mai er ein mwyn ni y creaist y byd cyntaf hwn a wnaethost.
6:56 Ond am y cenhedloedd eraill, sy'n disgyn oddi wrth Adda, dywedaist nad ydynt hwy'n ddim, a'u bod yn debyg i boeryn, a chyffelybaist eu digonedd hwy i ddiferyn o ddŵr o lestr.
6:57 Eto, Arglwydd, wele yn awr y cenhedloedd hynny a gyfrifwyd yn ddim yn arglwyddiaethu arnom ni ac yn ein llyncu.
6:58 Ond yr ydym ni, dy bobl di—a elwaist dy gyntaf-anedig, dy unig-anedig, dy ffefryn a'th anwylyn—wedi ein traddodi i'w dwylo hwy.
6:59 Os er ein mwyn ni yn wir y crewyd y byd, pam nad yw'r etifeddiaeth, sef ein byd ni, yn ein meddiant? Pa hyd y bydd hyn yn parhau?”

7:1 Ar ôl imi orffen llefaru'r geiriau hyn, anfonwyd ataf yr angel a anfonasid ataf y nosweithiau blaenorol.
7:2 “Cod, Esra,” meddai wrthyf, “a gwrando ar y geiriau y deuthum i'w llefaru wrthyt.”
7:3 “Llefara, f'arglwydd,” atebais innau. Meddai'r angel wrthyf: “Dychmyga fôr wedi ei osod mewn lle eang, ac yn ymestyn ar led heb derfyn iddo,
7:4 ond bod y ffordd i mewn iddo yn lle mor gul nes ymddangos fel afon.
7:5 Pe bai rhywun yn dymuno o ddifrif gyrraedd y môr, naill ai i'w weld neu i gael rheolaeth arno, sut y gallai gyrraedd y lle eang heb iddo'n gyntaf fynd trwy'r lle cul?
7:6 Neu eto, dychmyga ddinas wedi ei hadeiladu a'i safle ar dir gwastad, a'i llond o bopeth da,
7:7 ond bod y ffordd i mewn iddi yn gul a serth, gyda thân ar y dde a dyfnder o ddŵr ar y chwith,
7:8 a'r llwybr hwn rhyngddynt, sef rhwng y tân a'r dŵr, yn unig lwybr ati, a'i led heb fod yn ddim mwy na lled troed dyn.
7:9 Pe bai'r ddinas honno wedi ei rhoi yn etifeddiaeth i ryw ddyn, sut y gallai'r etifedd hwnnw feddiannu ei etifeddiaeth heb iddo'n gyntaf fynd trwy'r perygl a osodwyd o'i flaen?”
7:10 “Felly'n union, f'arglwydd,” atebais innau. Meddai yntau wrthyf: “Hyn hefyd yw rhan Israel.
7:11 Oherwydd er mwyn Israel y gwneuthum y byd; ond pan dorrodd Adda fy neddfau, daeth yr hyn a wnaethpwyd dan farn.
7:12 Gwnaed y ffyrdd i mewn i'r byd hwn yn gul a phoenus a thrafferthus; ychydig ydynt a gwael, yn llawn peryglon ac wedi eu pentyrru ag anawsterau mawr.
7:13 Ond y mae'r ffyrdd i mewn i'r byd helaethach yn eang a diogel, ac yn dwyn ffrwyth anfarwoldeb.
7:14 Felly os na bydd y rhai byw wedi mynd yn ddiogel trwy'r mannau cul a thwyllodrus hyn, ni allant feddiannu'r hyn a roddwyd ynghadw iddynt.
7:15 Pam, ynteu, yr wyt ti yn awr yn aflonyddu, a thithau'n llygradwy? Pam yr wyt yn cynhyrfu, a thithau'n feidrol?
7:16 A pham na roddaist le yn dy feddwl i'r hyn sydd i ddod, yn hytrach nag i'r hyn sy'n digwydd yn y presennol?”
7:17 “Atolwg, Arglwydd Iôr,” atebais innau, “deddfaist yn dy gyfraith fod y cyfiawn i etifeddu'r bendithion hyn, ond bod yr annuwiol i ddarfod amdanynt.
7:18 Felly bydd y cyfiawn yn dioddef y mannau cul mewn gobaith am yr eangderau; ond y rhai annuwiol eu buchedd, er iddynt ddioddef y mannau cul, ni chânt weld yr eangderau.”

Y Deyrnas Feseianaidd a'r Farn Olaf

7:19 Meddai yntau wrthyf: “Nid wyt ti'n well barnwr na Duw, nac yn fwy deallus na'r Goruchaf.
7:20 Darfydded, felly, am lawer o'r rhai sy'n byw yn awr, yn hytrach na bod cyfraith Duw, a osodwyd o'u blaen hwy, yn cael ei diystyru.
7:21 Oherwydd rhoddodd Duw orchmynion clir i bawb pan ddaethant i mewn i'r byd, beth oedd yn rhaid iddynt ei wneud i gael byw, a beth i'w ddilyn i osgoi cosb.
7:22 Ond ni ddarbwyllwyd hwy, a'i wrthwynebu ef a wnaethant: llunio iddynt eu hunain feddyliau ofer,
7:23 a dyfeisio'u hystrywiau dichellgar eu hunain; mynnu nad oedd bodolaeth i'r Goruchaf, a nacáu cydnabod ei ffyrdd ef;
7:24 dirmygu ei gyfraith ef a gwadu ei addewidion; gwrthod gosod eu ffydd yn ei ddeddfau, a pheidio â chyflawni'r gweithredoedd y mae ef yn gofyn amdanynt.
7:25 Am hynny, Esra, gwacter i'r gweigion a llawnder i'r llawnion!
7:26 Oherwydd wele, fe ddaw'r amser pan ddigwydd yr arwyddion yr wyf wedi eu rhagfynegi iti; fe ddaw'r ddinas, sydd yn awr yn anweladwy, i'r golwg, a'r tir, sydd yn awr yn guddiedig, i'r amlwg.
7:27 Pob un a waredwyd oddi wrth y drygau a ragfynegais, caiff hwnnw weld fy ngweithredoedd rhyfeddol i.
7:28 Oher-wydd datguddir fy mab, y Meseia ynghyd â'r rhai sydd gydag ef, ac fe rydd ef lawenydd, yn parhau am bedwar can mlynedd, i'r rhai a adewir.
7:29 Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, bydd farw fy mab, y Meseia, ynghyd â phawb sydd ag anadl ynddynt.
7:30 Yna dychwelir y byd i'w ddistawrwydd cysefin am saith diwrnod, fel yn y dechreuad cyntaf, fel na adewir neb ar ôl.
7:31 Ac ar ôl saith diwrnod, deffroir yr oes nad yw hyd yma ar ddihun, a bydd farw yr oes lygradwy.
7:32 Bydd y ddaear yn rhoi'n ôl y rhai sy'n cysgu ynddi, a'r llwch y rhai sy'n trigo ynddo mewn distawrwydd; hefyd bydd yr ystafelloedd cudd yn rhoi'n ôl yr eneidiau a ymddiriedwyd iddynt hwy.
7:33 Datguddir y Goruchaf yn eistedd ar orseddfainc barn, ei dosturi ar ffo a'i hirymaros ar ben.
7:34 Barn yn unig fydd yn aros, gwirionedd fydd yn sefyll, a ffyddlondeb yn ymgryfhau.
7:35 Bydd tâl am waith yn dilyn, a'r wobr yn cael ei dangos; bydd gweithredoedd da ar ddihun, ac ni chaiff gweithredoedd drwg gysgu'n llonydd.
7:36 Yna daw pwll poenedigaeth i'r golwg, a chyferbyn ag ef bydd yr orffwysfa; amlygir ffwrnais Gehenna, a chyferbyn â hi baradwys llawenydd.
7:37 Yna fe ddywed y Goruchaf wrth y cenhedloedd a ddeffrowyd: ‘Edrychwch, a gwelwch pwy yr ydych wedi ei wadu, pwy yr ydych wedi gwrthod ei wasanaethu, gorchmynion pwy yr ydych wedi eu dirmygu.
7:38 Edrychwch yma, ac yna draw; yma y mae llawenydd a gorffwys, ond draw tân a phoenedigaeth.’
7:39 Dyna'r hyn a ddywed ef wrthynt ar Ddydd y Farn. Dydd tebyg i hyn fydd hwnnw: dydd heb na haul na lleuad na sêr;
7:40 heb na chwmwl na tharan na mellten; heb na gwynt na dŵr nac awyr; heb na thywyllwch na hwyr na bore;
7:41 heb na haf na gwanwyn na gwres; heb na gaeaf na rhew nac oerfel; heb na chenllysg na glaw na gwlith;
7:42 heb na chanol dydd na nos na gwawr; heb na disgleirdeb na llewyrch na goleuni; dim ond llewyrch ysblennydd y Goruchaf, y bydd pawb yn dechrau gweld wrtho beth a ragosodwyd iddynt.
7:43 Bydd y dydd yn parhau megis am wythnos o flynydd-oedd.
7:44 Dyna'r farn, a'r drefn a osodais ar ei chyfer. I ti yn unig y dangosais y pethau hyn.”

Ychydig a Achubir

7:45 “Fe'i dywedais o'r blaen, f'arglwydd,” atebais innau, “ac rwy'n ei ddweud eto: Gwyn eu byd y rhai sy'n byw yn awr ac yn cadw dy ddeddfau di.
7:46 Ond beth am y rhai y gweddïais drostynt? Oherwydd pwy o blith y rhai sy'n byw yn awr sydd heb bechu, neu pwy o blith plant dynion sydd heb anwybyddu dy addewid?
7:47 Gwelaf yn awr mai i ychydig y bydd y byd a ddaw yn dwyn llawenydd, ond arteithiau i'r lliaws.
7:48 Oherwydd mynd ar gynnydd a wnaeth ein calon ddrwg, a'n dieithrio oddi wrth ffyrdd Duw; arweiniodd ni i lygredigaeth a ffyrdd marwolaeth; dangosodd inni lwybrau distryw, a'n pellhau oddi wrth fywyd. Hyn a fu, nid i ychydig, ond i bron bawb a grewyd.”
7:49 Atebodd ef fi fel hyn: “Gwrando arnaf fi, ac fe'th ddysgaf; af ymlaen ymhellach i'th gywiro di.
7:50 Y mae'r rheswm pam y creodd y Goruchaf nid un byd ond dau fel a ganlyn:
7:51 yr wyt wedi addef nad llawer ond ychydig yw'r cyfiawn, a bod yr annuwiol, yn wir, ar gynnydd. Felly, gwrando di ar hyn:
7:52 bwrw fod gennyt ychydig bach o feini gwerthfawr; a fyddit am ychwanegu atynt drwy roi plwm a chlai gyda hwy?”
7:53 “F'arglwydd,” meddwn innau, “sut y byddai hynny'n bosibl?”
7:54 “Ac nid hynny'n unig,” atebodd ef, “ond gofyn i'r ddaear, ac fe ddywed hi wrthyt; deisyf arni, ac fe draetha wrthyt.
7:55 Dywed wrthi: ‘Yr wyt ti'n cynhyrchu aur ac arian a chopr, haearn hefyd a phlwm a chlai.
7:56 Ond ceir mwy o arian nag o aur, mwy o gopr nag o arian, mwy o haearn nag o gopr, mwy o blwm nag o haearn, a mwy o glai nag o blwm.’
7:57 Ystyria, felly, drosot dy hun beth sy'n werthfawr ac i'w ddymuno, ai'r peth y mae llawer ohono ar gael, ai'r peth sy'n brin.”
7:58 “F'ar-glwydd feistr,” meddwn i, “y mae'r cyffredin yn llai ei werth, oherwydd po brinnaf y peth, gwerthfawrocaf yw.”
7:59 Atebodd yntau fi fel hyn: “Rho sylw gofalus i ystyr yr hyn y buost yn myfyrio arno: sef bod mwy o achos llawenhau gan y sawl sy'n berchen ar rywbeth anodd ei gael na chan y sawl sy'n berchen ar rywbeth cyffredin.
7:60 Felly hefyd y bydd y farn a addewais i; gorfoleddaf am yr ychydig a achubir, oherwydd hwy yw'r rhai sydd eisoes wedi peri i rym fy ngogoniant i fynd ar led, ac y maent eisoes wedi gwneud fy enw yn hysbys.
7:61 Ni ofidiaf am lu'r rhai a gollwyd; oherwydd hwy yw'r rhai sydd bellach wedi mynd yn debyg i darth, yn gyffelyb i fflam neu fwg, yn cynnau a llosgi a diffodd.”
7:62 Atebais innau: “Di ddaear, ar beth yr wyt wedi esgor, os o'r llwch y daeth deall dyn, fel popeth arall a grewyd?
7:63 Byddai'n well petai'r llwch ei hun heb ei eni, a deall dyn, felly, heb ddod ohono.
7:64 Ond yn awr y mae'n deall yn cyd-dyfu â ni, a chawn ninnau ein harteithio o wybod ein bod yn trengi.
7:65 Galared yr hil ddynol, ond llawenyched yr anifeiliaid gwylltion; galared holl blant dynion, ond gorfoledded y gwartheg a'r diadelloedd.
7:66 Y mae'n llawer gwell arnynt hwy nag yw arnom ni; oherwydd nid ydynt yn disgwyl barn, nac yn gwybod am na phoenedigaeth nac iachawdwriaeth yn addewid iddynt ar ôl marw.
7:67 Ond nyni, pa fudd yw inni ein bod i'n cadw'n fyw, dim ond i ddioddef arteithiau?
7:68 Oherwydd y mae'r ddynolryw i gyd yn gymysgedd o gamweddau, yn llawn pechodau ac wedi ei llwytho â gweithredoedd drwg.
7:69 Felly hwyrach y buasai'n well i ni pe na baem i ddod i farn ar ôl marw.”
7:70 Atebodd ef fi fel hyn: “Pan oedd y Goruchaf wrthi'n creu y byd ac Adda a'i holl ddisgynyddion, yn gyntaf oll fe drefnodd y Farn a'r hyn sy'n gysylltiedig â hi.
7:71 Yn awr, gelli amgyffred hyn ar sail dy eiriau dy hun; oherwydd dywedaist fod y deall yn cyd-dyfu â ni.
7:72 Y rheswm pam y poenydir preswylwyr y ddaear yw hyn: iddynt gyflawni camwedd er bod ganddynt ddeall; iddynt wrthod cadw'r gorchmynion er iddynt eu cael; ac er iddynt gael y gyfraith, iddynt ddirmygu'r hyn a dderbyniasant.
7:73 Beth felly a fydd ganddynt i'w ddweud yn y Farn, neu pa ateb a roddant yn yr amserau diwethaf?
7:74 Cyhyd o amser y bu'r Goruchaf yn amyneddgar tuag at drigolion y byd! A hynny nid er eu mwyn hwy, ond oher-wydd yr amserau a ragordeiniodd ef.”

Ar ôl Marw

7:75 “Os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, f'arglwydd feistr,” atebais i, “gwna hyn hefyd yn eglur i'th was: ar ôl marw, pan fydd pob un ohonom o'r diwedd yn ildio'i enaid, a gawn ni ein cadw yn gorffwys nes dyfod yr amserau hynny pan fyddi'n dechrau adnewyddu'r greadigaeth, neu a yw ein poenedigaeth i ddechrau ar unwaith?”
7:76 Atebodd ef fi â'r geiriau hyn: “Dangosaf hynny hefyd iti; ond paid â'th gynnwys dy hun ymhlith y gwawdwyr, na'th gyfrif dy hun gyda'r rhai a boenydir.
7:77 Oherwydd y mae gennyt ti drysor o weithredoedd da wedi ei roi i gadw gyda'r Goruchaf, ond ni chaiff ei amlygu iti hyd at yr amserau diwethaf.
7:78 Ond dyma sydd i'w ddweud ynglŷn â marwolaeth: pan fydd y ddedfryd derfynol wedi mynd allan oddi wrth y Goruchaf bod rhywun i farw, y mae'r ysbryd yn ymadael â'r corff i ddychwelyd at yr Un a'i rhoes, ac y mae'n addoli gogoniant y Goruchaf yn gyntaf oll.
7:79 Ac os yw'n un o'r rheini a fu'n gwawdio ac yn gwrthod cadw ffordd y Goruchaf, yn dirmygu ei gyfraith ef ac yn casáu'r rhai sy'n ofni Duw,
7:80 ni chaiff ysbrydoedd felly fynd i mewn i'r trigfannau, ond o hynny ymlaen byddant yn crwydro mewn poened-igaethau, bob amser yn alarus a thrist, a hynny am saith rheswm.
7:81 Yn gyntaf, am iddynt ddiystyru ffordd y Goruchaf.
7:82 Yn ail, am na allant bellach wir edifarhau a chael byw.
7:83 Yn drydydd, fe welant y wobr sydd ynghadw ar gyfer y rhai a ymddiriedodd yng nghyfam-odau'r Goruchaf.
7:84 Yn bedwerydd, byddant yn meddwl am y boenedigaeth sydd ynghadw ar eu cyfer hwy yn yr amserau diwethaf.
7:85 Yn bumed, gwelant angylion yn gwarchod trigfannau ysbrydoedd eraill mewn tawelwch mawr.
7:86 Yn chweched, gwelant eu bod hwy yn fuan i fynd i'w poenydio.
7:87 Yn seithfed—ac y mae'r rheswm hwn yn bwysicach na'r holl rai y soniwyd amdanynt eisoes—am y byddant yn nychu mewn siom, yn cael eu difa mewn cywilydd ac yn dihoeni mewn ofnau, pan welant ogoniant y Goruchaf; oherwydd pechu ger ei fron ef a wnaethant yn ystod eu bywyd, a cher ei fron ef hefyd y maent i gael eu barnu yn yr amserau diwethaf.
7:88 “Ond ynglŷn â'r rhai a gadwodd ffyrdd y Goruchaf, dyma drefn pethau pan ddaw'r amser iddynt hwy gael eu gwahanu oddi wrth eu llestr llygradwy.
7:89 Yn ystod eu hamser ar y ddaear buont yn ddyfal yn gwasanaethu'r Goruchaf ac yn dioddef perygl bob awr, er mwyn cadw cyfraith y Deddfwr yn berffaith.
7:90 Ar gyfrif hynny, dyma sydd i'w ddweud amdanynt hwy:
7:91 yn gyntaf oll cânt weld, â gorfoledd mawr, ogoniant yr Un sydd yn eu derbyn; ac yna ânt i'w gorffwys, a hynny ar hyd saith gris o orfoledd.
7:92 Yn gyntaf, cânt orfoleddu am iddynt ymdrechu, â llafur mawr, i orchfygu'r meddwl drwg sy'n gynhenid ynddynt, heb adael iddo eu llithio oddi wrth fywyd i farwolaeth.
7:93 Yn ail, cânt weld y dryswch y mae eneidiau'r annuwiol yn crwydro ynddo, a'r gosb sy'n eu haros.
7:94 Yn drydydd, gwelant y dystiolaeth iddynt a ddygwyd gan yr Un a'u lluniodd, eu bod hwy yn ystod eu bywyd wedi cadw'r gyfraith a ymddiriedwyd iddynt.
7:95 Yn bedwerydd, deallant y gorffwys y maent i'w fwynhau yn awr, a hwythau wedi eu cynnull ynghyd yn eu hystafelloedd cudd a'u gwarchod mewn tawelwch mawr gan angylion, a hefyd cânt ddeall y gogoniant sydd yn eu haros yn yr amserau diwethaf.
7:96 Yn bumed, gorfoleddant yn y modd y bu iddynt yn awr ddianc rhag y llygradwy, a'r modd y cânt dderbyn yr hyn sydd i ddod yn etifeddiaeth; hefyd gwelant y bywyd cyfyng a phoenus y rhyddhawyd hwy ohono, a'r bywyd eang y maent ar fedr ei dderbyn, i'w fwynhau heb farw mwy.
7:97 Yn chweched dangosir iddynt y modd y mae eu hwynebau i ddisgleirio fel yr haul, a'r modd y maent i'w gwneud yn debyg i oleuni'r sêr, yn anllygredig mwyach.
7:98 Yn seithfed—ac y mae'r gris hwn yn bwysicach na'r holl rai y soniwyd amdanynt eisoes—gorfoleddant â hyder, ymddiriedant heb siom, a llawenychant heb ofn; oherwydd y maent yn prysuro i edrych ar wyneb yr Un y buont yn ei wasanaethu yn ystod eu bywyd, ac y maent ar fedr derbyn ganddo eu gwobr mewn gogoniant.
7:99 Dyna drefn pethau ar gyfer eneidiau'r cyfiawn, ac o hyn allan y mae'n hysbys; cyn hynny soniais am ffyrdd poenedigaeth, sydd i'w dioddef o hyn allan gan y rhai a fu'n ddifraw.”
7:100 Atebais i fel hyn: “Pan fydd yr eneidiau wedi eu gwahanu oddi wrth y cyrff, a roddir cyfle iddynt weld yr hyn y buost yn ei ddisgrifio imi?”
7:101 Meddai ef wrthyf: “Caniateir iddynt saith diwrnod; am saith diwrnod cânt weld y pethau y soniwyd amdanynt eisoes; ar ôl hynny fe'u cynullir ynghyd yn eu trigfannau.”

Dydd y Farn

7:102 “Os wyf yn gymeradwy yn dy olwg,” atebais innau, “dangos hyn hefyd i mi, dy was: ar Ddydd y Farn, a fydd yn bosibl i'r cyfiawn eiriol dros yr annuwiol, neu ymbil ar y Goruchaf am faddeuant iddynt?
7:103 A all rhieni eiriol dros eu plant, neu blant dros eu rhieni? A all brodyr eiriol dros frodyr, neu berthnasau dros geraint, neu gyfeillion dros y rhai sydd anwylaf ganddynt?”
7:104 Atebodd ef fi fel hyn: “Yr wyt yn gymeradwy yn fy ngolwg, ac am hynny fe ddangosaf hyn hefyd i ti. Y mae Dydd y Farn yn derfynol ac yn dangos i bawb y sêl a roir ar wirionedd. Yn yr oes bresennol ni all tad anfon ei fab, neu fab ei dad, neu feistr ei gaethwas, neu gyfaill yr un sydd anwylaf ganddo, i fod yn glaf ar ei ran, neu i gysgu, neu i fwyta, neu i gael ei iacháu ar ei ran.
7:105 Yn yr un modd, ni all neb fyth eiriol dros rywun arall; oherwydd, yn y dydd hwnnw, bydd yn rhaid i bob unigolyn ddwyn baich ei weithredoedd drwg ei hun, neu faich ei weithredoedd da.”
7:106 [36] Atebais innau: “Sut, ynteu, y mae gennym dystiolaeth fod rhai wedi eiriol felly dros eraill? Yn gyntaf, dyna Abraham yn eiriol dros y Sodomiaid, ac yna Moses dros ein hynafiaid a bechodd yn yr anialwch.
7:107 [37] Ar ei ôl ef, dyna Josua yn eiriol dros Israel yn amser Achan,
7:108 [38] a Samuel yn amser Saul. Eto, dyna Ddafydd yn eiriol oherwydd yr haint ddinistriol, a Solomon dros y rhai a fyddai'n dod i'r cysegr.
7:109 [39] Beth am Elias yn eiriol dros y rhai a dderbyniodd law, a thros ddyn marw, iddo gael byw?
7:110 [40] Beth am Heseceia yn eiriol dros y bobl yn amser Senacherib, a llawer o enghreifftiau eraill?
7:111 [41] Felly os gallai'r cyfiawn bledio dros yr annuwiol yn yr oes bresennol, pan yw llygredd wedi tyfu ac anghyfiawnder wedi cynyddu, pam na all hynny ddigwydd yn y dydd hwnnw?”
7:112 [42] “Nid y byd presennol hwn yw'r diwedd,” atebodd ef, “ac nid yw gogoniant Duw yn aros ynddo yn barhaol; dyna'r rheswm pam y gweddïai'r rhai cryf dros y rhai gwan.
7:113 [43] Ond bydd Dydd y Farn yn ddiwedd yr oes bresennol, ac yn ddechrau i'r oes anfarwol sydd i ddod: bydd llygredd wedi darfod,
7:114 [44] anghymedroldeb wedi ei ddileu, ac anghrediniaeth wedi ei thorri ymaith; ond bydd cyfiawnder wedi tyfu i'w lawn dwf, a haul gwirionedd wedi codi.
7:115 [45] Felly, ni bydd neb yn gallu tosturio wrth un a gafwyd yn euog yn y Farn, nac ychwaith ddarostwng un a gafwyd yn ddieuog.”
7:116 [46] Atebais innau fel hyn: “Dyma fy ngair cyntaf a'm gair olaf: y buasai'n well pe na bai'r ddaear wedi rhoi bod i Adda; neu, o roi bod iddo, pe bai wedi ei gadw fel na allai bechu.
7:117 [47] Oherwydd pa elw sydd i ni oll o fyw mewn tristwch yn y presennol, heb ddim ond cosb i ddisgwyl amdano ar ôl marw?
7:118 [48] O Adda, beth a wnaethost? Oherwydd os tydi a bechodd, nid i ti yn unig y bu'r cwymp, ond i ninnau hefyd sydd yn ddisgynyddion i ti.
7:119 [49] Pa elw yw i ni fod oes anfarwol wedi ei haddo inni, a ninnau wedi cyflawni gweithredoedd marwol;
7:120 [50] bod gobaith tragwyddol wedi ei ragfynegi ar ein cyfer, a ninnau wedi mynd yn wael a diwerth;
7:121 [51] bod trigfannau llawn iechyd a diogelwch wedi eu darparu, a ninnau wedi byw bywyd drwg;
7:122 [52] bod gogoniant y Goruchaf i amddiffyn y rhai sydd wedi byw bywyd glân, a ninnau wedi rhodio yn y ffyrdd bryntaf posibl;
7:123 [53] bod paradwys i gael ei datguddio, a'i ffrwyth sy'n parhau yn ddiddarfod ac yn dwyn llawnder ac iachâd,
7:124 [54] a ninnau heb fynediad iddi am ein bod wedi byw mewn lleoedd anfuddiol;
7:125 [55] bod wynebau'r rhai a fu'n arfer hunan-ddisgyblaeth i ddisgleirio'n oleuach na'r sêr, a'n hwynebau ninnau yn dduach na'r tywyllwch?
7:126 [56] Oherwydd, yn ystod oes o wneud drygioni, nid ydym wedi ystyried beth yr ydym i'w ddioddef ar ôl marw.”
7:127 [57] Atebodd ef fi a dweud: “Dyma resymeg yr ornest y mae pob~un a aned ar y ddaear yn bwrw iddi:
7:128 [58] os colli a wna, bydd yn dioddef fel y dywedaist ti; ond os ennill, caiff dderbyn yr hyn yr wyf fi'n ei ddweud.
7:129 [59] Oherwydd dyma'r ffordd y soniodd Moses amdani yn ei ddydd, pan ddywedodd wrth y bobl: ‘Dewis fywyd i ti dy hun, a bydd fyw!’
7:130 [60] Ond ni chredasant ef, na'r proffwydi ar ei ôl, na minnau chwaith, a fûm yn llefaru wrthynt.
7:131 [61] Felly ni all y tristwch am eu dinistr hwy gael ei gymharu â'r llawenydd am iachawdwriaeth y rhai a gredodd.”
7:132 [62] “Gwn, f'arglwydd,” atebais innau, “y gelwir y Goruchaf yn awr yn drugarog, am ei fod yn trugarhau wrth y rhai sydd hyd yma heb ddod i mewn i'r byd;
7:133 [63] ac yn dosturiol, am ei fod yn tosturio wrth y rhai sydd wedi troi a derbyn ei gyfraith ef;
7:134 [64] ac yn amyneddgar, am ei fod yn dangos amynedd tuag at y rhai a bechodd, yn gymaint â'u bod yn waith ei ddwylo'i hun;
7:135 [65] ac yn haelionus, am ei bod yn well ganddo roi yn hytrach na mynnu derbyn;
7:136 [66] ac yn fawr ei drugaredd, am ei fod yn amlhau ei drugareddau fwyfwy tuag at bobl y presennol, y gorffennol a'r dyfodol.
7:137 [67] Oherwydd pe na bai ef yn amlhau ei drugareddau, ni châi'r byd a'i drigolion eu cadw'n fyw.
7:138 [68] Fe'i gelwir hefyd yn gymwynaswr, oherwydd pe na bai ef, o'i ddaioni, mor fawr ei gymwynas ag i ryddhau o'u pechodau y rhai a bechodd, ni allai'r ddeg filfed ran o'r ddynol ryw gael eu cadw'n fyw;
7:139 [69] ac yn farnwr, oherwydd pe na bai ef yn maddau i'r rhai a grewyd gan ei air, ac yn dileu eu llu camweddau,
7:140 [70] hwyrach na adewid ar ôl ond ychydig iawn o'r lliaws aneirif.”

Ychydig a Gaiff eu Hachub

8:1 Atebodd yr angel fi fel hyn: “Gwnaeth y Goruchaf y byd hwn ar gyfer llawer, ond y byd sydd i ddod ar gyfer ychydig.
8:2 Ond gad imi roi eglureb iti, Esra. Hola'r ddaear, ac fe ddywed wrthyt y rhydd hi ddigonedd o glai i wneud llestri pridd, ond ychydig iawn o'r llwch y ceir aur ohono. Yr un yw ffordd y byd hwn:
8:3 y mae llawer, yn wir, wedi eu creu, ond ychydig a gaiff eu hachub.”

Esra'n Gweddïo dros Ei Bobl

8:4 Atebais innau: “Fy enaid, cymer ddeall i'w yfed a doethineb i'w fwyta.
8:5 Oherwydd nid o'th ddewis dy hun y daethost i'r byd, ac yn erbyn dy ewyllys yr wyt yn ymadael ag ef; oblegid am gyfnod byr yn unig y caniatawyd i ti fyw.”
8:6 Yna gweddïais: “O Arglwydd uwchben, os caniatéi i'th was ddynesu a gweddïo arnat, gosod had yn ein calon a gwrtaith i'n deall, er mwyn i ffrwyth ddod ohono a galluogi pob un llygredig i gael bywyd.
8:7 Oherwydd un wyt ti; ac un ffurfiad, gwaith dy ddwylo di, ydym ninnau, fel y dywedaist.
8:8 Gan mai ti sydd yn rhoi bywyd mewn corff a ffurfiwyd yn y groth, ac yn rhoi iddo aelodau, cedwir yr hyn a grëir gennyt yn ddiogel yng nghanol tân a dŵr, ac am naw mis y mae gwaith dy ddwylo yn goddef y creadur a greaist ynddo.
8:9 Ond caiff yr hyn sy'n diogelu a'r hyn a ddiogelir ill dau eu diogelu gan dy ddiogelwch di. A phan yw'r groth wedi rhoi i fyny'r hyn a grewyd o'i mewn,
8:10 yna, allan o aelodau'r corff, hynny yw o'r bronnau, gorchmynnaist gynhyrchu llaeth, ffrwyth y bronnau,
8:11 er mwyn maethu am beth amser yr hyn a luniwyd; ac fe fyddi'n parhau i'w gynnal ar ôl hynny yn dy drugaredd.
8:12 Yr wyt yn ei feithrin â'th gyfiawnder, yn ei hyfforddi yn dy gyfraith, ac yn ei ddisgyblu â'th ddoethineb.
8:13 Dy greadigaeth di, gwaith dy ddwylo, ydyw; gelli ei ladd, a gelli ei fywhau!
8:14 Ond os wyt yn distrywio mor swta un a luniwyd wrth dy orchymyn â chymaint o lafur, beth oedd pwrpas ei greu ef?
8:15 Yn awr yr wyf am ddweud hyn: ti sy'n gwybod orau am y ddynolryw gyfan; ond am dy bobl dy hun yr wyf fi'n poeni,
8:16 ac am dy etifeddiaeth yr wyf yn galaru; am Israel yr wyf fi'n drist, ac am had Jacob yr wyf yn drallodus.
8:17 Drosof fy hun, felly, a throstynt hwy, dymunwn weddïo ger dy fron, am fy mod yn gweld ein gwrthgiliadau ni, drigolion y tir;
8:18 clywais hefyd fod y Farn i ddilyn yn gyflym.
8:19 Am hynny gwrando ar fy llais, ac ystyria'r geiriau a lefaraf ger dy fron.”
8:20 Dyma ddechrau gweddi Esra, cyn iddo gael ei gymryd i fyny i'r nefoedd. Meddai: “Arglwydd, yr wyt ti'n preswylio yn nhragwyddoldeb, a'th lygaid wedi eu dyrchafu, a'r nefoedd uwchben yn eiddo iti;
8:21 y mae dy orsedd y tu hwnt i bob dychymyg, a'th ogoniant yn anchwiliadwy; ger dy fron saif llu'r angylion dan grynu,
8:22 yn cael eu troi'n wynt a thân i'th wasanaethu di; y mae dy air yn sicr a'th ymadroddion yn ddianwadal,
8:23 dy archiad yn gadarn a'th orchymyn yn ofnadwy; y mae dy drem yn sychu'r dyfnderau, dy ddicter yn peri i'r mynyddoedd doddi, a'th wirionedd yn para byth
8:24 Clyw, Arglwydd, weddi dy was; gwrando ar ddeisyfiad creadur a luniaist, a dal sylw ar fy ngeiriau.
8:25 Tra byddaf byw, gadawer imi lefaru; tra bydd synnwyr gennyf, gadawer imi ateb.
8:26 “Paid ag edrych ar gamweddau dy bobl, ond edrych ar y rheini sydd wedi dy wasanaethu'n onest.
8:27 Paid â sylwi ar bethau y mae'r annuwiol yn eu ceisio, ond sylwa ar y rhai a gadwodd dy gyfamodau yng nghanol eu trallodion.
8:28 Paid â meddwl am y rhai y bu eu hymddygiad yn dwyllodrus yn dy olwg, ond cofia'r rheini sydd o'u gwirfodd wedi cydnabod eu parch tuag atat.
8:29 Paid â mynnu difetha'r rhai sydd wedi byw fel anifeiliaid, ond ystyria'r rheini a fu'n hyfforddwyr disglair yn dy gyfraith.
8:30 Paid â bod yn ddig wrth y rhai a gyfrifir yn waeth na bwystfilod, ond rho dy fryd ar y rheini y bu eu hyder bob amser yn dy ogoniant di.
8:31 Oherwydd buom ni a'n hynafiaid yn dilyn arferion angheuol, ac eto o'n hachos ni bechaduriaid y gelwir di yn drugarog;
8:32 oblegid os wyt yn dymuno trugarhau wrthym ni, sydd heb unrhyw weithredoedd cyfiawn ar ein helw, yna fe'th elwir yn drugarog yn wir.
8:33 Oherwydd y mae'r cyfiawn, gan fod ganddynt lawer o weithredoedd da wedi eu rhoi ynghadw gyda thi, yn derbyn eu tâl ar sail eu gweithredoedd eu hunain.
8:34 “Beth yw dyn, i ti ddigio wrtho, neu'r hil lygradwy, i ti fod mor chwerw tuag ati?
8:35 Oherwydd y gwir yw na aned neb nad yw wedi ymddwyn yn annuwiol, ac nad oes neb byw nad yw wedi pechu.
8:36 Oblegid yn hyn, Arglwydd, y gwneir dy gyfiawnder a'th ddaioni di yn hysbys, sef iti fod yn drugarog tuag at y rhai nad oes ganddynt gyfalaf o weithredoedd da.”
8:37 Atebodd ef fi fel hyn: “Y mae llawer o'r hyn a ddywedaist yn gywir, ac yn unol â'th eiriau y bydd pethau'n digwydd.
8:38 Oherwydd, yn wir i ti, ni feddyliaf am y rhai a bechodd, am eu creu na'u marw, eu barn na'u colledigaeth;
8:39 ond gorfoleddaf yng nghreadigaeth y cyfiawn, eu pererindod hefyd, a'u hiachaw-dwriaeth, a'r tâl a dderbyniant.
8:40 Felly y dywedais, ac felly y mae.
8:41 Oherwydd fel y mae'r ffermwr yn hau llawer o had ar y ddaear ac yn plannu llu o blanhigion, ond nad yw'r cyfan a heuwyd yn tyfu'n ddiogel yn ei bryd, na'r cyfan a blannwyd yn bwrw gwraidd; felly hefyd ni waredir pawb a heuwyd yn y byd hwn.”
8:42 Meddwn innau: “Os wyf yn gymer-adwy yn dy olwg, gadawer imi lefaru.
8:43 Fe all had y ffermwr fethu tyfu am nad yw wedi derbyn glaw oddi wrthyt ti yn ei iawn bryd; neu fe all bydru am ei fod wedi ei ddifetha gan ormod o law.
8:44 Ond dyn, a luniwyd gan dy ddwylo, a elwir yn ddelw ohonot am ei fod wedi ei wneud yn debyg i ti, hwnnw y lluniaist bopeth er ei fwyn—a wyt ti yn ei gymharu ef â had y ffermwr?
8:45 Na, ein Harglwydd! Yn hytrach, arbed dy bobl, a chymer drug-aredd ar dy etifeddiaeth; oherwydd yr wyt yn trugarhau wrth dy greadigaeth.”
8:46 Atebodd ef fi: “Pethau'r presennol i bobl y presennol, a phethau'r dyfodol i bobl y dyfodol!
8:47 Yr wyt ti ymhell o allu caru fy nghreadigaeth yn fwy nag a wnaf fi fy hun. Er hynny, paid â'th gyplysu dy hun byth mwy â'r anghyfiawn, fel yr wyt wedi gwneud yn fynych.
8:48 Eto ar gyfrif hynny byddi'n fawr dy glod yng ngolwg y Goruchaf,
8:49 am iti dy ddarostwng dy hun, fel y mae'n gweddu iti, yn hytrach na'th gyfrif dy hun ymhlith y cyfiawn ac ymffrostio'n fawr yn hynny.
8:50 Oherwydd daw llawer o drallodion gresynus i ran trigolion y byd yn yr amserau diwethaf, am iddynt rodio mewn balchder mawr.
8:51 Ond tydi, meddylia amdanat dy hun, ac ymhola am y gogoniant sy'n aros i rai tebyg i ti.
8:52 Oherwydd ar eich cyfer chwi y mae Paradwys yn agored, pren y bywyd wedi ei blannu, yr oes i ddod wedi ei pharatoi, a digonedd wedi ei ddarparu; i chwi yr adeiladwyd dinas, y sicrhawyd gorffwys, ac y dygwyd daioni yn ogystal â doethineb i berffeithrwydd.
8:53 Y mae gwreiddyn drygioni wedi ei selio rhagoch, a gwendid wedi ei ddiddymu oddi wrthych; y mae angau wedi diflannu, uffern ar ffo, a llygredigaeth yn ebargofiant;
8:54 aeth trallodion heibio, ac yn ddiwedd ar bopeth datguddiwyd trysor anfarwoldeb.
8:55 Felly paid â holi rhagor ynglŷn â'r llu a gollir.
8:56 Oher-wydd cawsant hwythau eu rhyddid, ond yr hyn a wnaethant oedd dirmygu'r Goruchaf, diystyru ei gyfraith, a gadael ei ffyrdd ef.
8:57 Heblaw hynny, y maent wedi sathru ar ei weision cyfiawn ef,
8:58 a dweud ynddynt eu hunain, ‘Nid yw Duw yn bod’, er gwybod ohonynt yn iawn fod yn rhaid iddynt farw.
8:59 Fel y daw i'ch rhan chwi y pethau y soniwyd amdanynt eisoes, felly paratowyd syched a phoenedigaeth ar eu cyfer hwy. Oher-wydd nid ewyllysiodd y Goruchaf fod neb i'w ddifetha;
8:60 y rhai a grewyd ganddo sydd eu hunain wedi halogi enw eu gwneuthurwr, ac wedi ymddwyn yn anniolchgar tuag at yr un a ddarparodd iddynt fywyd.
8:61 Am hynny, y mae fy marn i yn awr yn nesáu,
8:62 ond nid wyf wedi gwneud hynny'n hysbys i bawb, dim ond i ti ac i ychydig o rai tebyg i ti.”

Arwyddion y Diwedd

8:63 “Edrych, f'arglwydd,” atebais innau, “yr wyt wedi dangos imi yr arwyddion lu y byddi'n eu gwneud yn yr amserau diwethaf, ond ni ddangosaist imi pa bryd y bydd hynny.”

9:1 Meddai'r angel wrthyf: “Cadw gyfrif gofalus dy hun, a phan weli fod cyfran arbennig o'r arwyddion y soniwyd amdanynt wedi digwydd,
9:2 yna byddi'n deall fod yr amser yn wir wedi dod pan yw'r Goruchaf ar fedr barnu'r byd a grewyd ganddo.
9:3 A phan fydd daear-grynfâu i'w gweld yn y byd, a chynnwrf ymhlith pobloedd, cenhedloedd yn cynllwyn, arweinwyr yn gwamalu a thywysogion yn cynhyrfu,
9:4 yna byddi'n deall mai dyma'r pethau y bu'r Goruchaf yn eu rhagfynegi o'r dyddiau cyntaf oll.
9:5 Oherwydd fel y mae i bopeth sy'n digwydd yn y byd ddechrau a diwedd, a'r rheini'n gwbl eglur
9:6 felly y mae hefyd gydag amserau'r Goruchaf: gwneir eu dechrau yn eglur gan ryfeddodau a gwyrthiau, a'u diwedd gan weithredoedd nerthol ac arwyddion.
9:7 Pob un a achubir, ac y caniateir iddo ddianc ar gyfrif ei weithredoedd neu'r ffydd a arddelwyd ganddo,
9:8 caiff hwnnw ei waredu rhag y peryglon a ragfynegwyd, a gweld fy iachawdwriaeth yn fy nhir, o fewn i'r terfynau a gysegrais i mi fy hun ers tragwyddoldeb.
9:9 Yna trewir â syndod y rhai a fu'n sarhau fy ffyrdd i; mewn poenedigaethau y pery'r rhai a fu'n eu gwrthod yn wawdlyd.
9:10 Pawb a fethodd f'adnabod yn ystod eu bywyd, er iddynt dderbyn bendithion gennyf;
9:11 pawb a wawdiodd fy nghyfraith pan oedd eu rhyddid yn dal ganddynt,
9:12 ac a wrthododd â dirmyg diddeall y cyfle i edifarhau pan oedd o hyd ar gael iddynt—rhaid i'r rhain ddod i'm hadna-bod trwy boenedigaeth ar ôl marw.
9:13 Felly paid â bod yn chwilfrydig mwyach ynglŷn â sut y poenydir yr annuwiol, ond yn hytrach hola sut y caiff y cyfiawn eu hachub, ac i bwy ac er mwyn pwy y mae'r oes newydd, a pha bryd y daw.”
9:14 Atebais innau: “Yr wyf wedi dweud hyn o'r blaen, rwy'n ei ddweud eto, ac fe af ymlaen i'w ddweud ar ôl hyn:
9:15 y mae'r rhai a gollir yn fwy eu nifer na'r rhai a achubir,
9:16 fel y mae ton yn fwy na diferyn o ddŵr.”
9:17 Atebodd ef fel hyn: “Yn ôl y tir y bydd ansawdd y grawn, yn ôl y blodau y bydd ansawdd eu lliwiau, yn ôl y llafur y bydd ansawdd y cynnyrch, ac yn ôl yr amaethwr y bydd ansawdd y cynhaeaf.
9:18 Fe fu amser, cyn i'r byd erioed gael ei greu i neb fyw ynddo, pan oeddwn i eisoes yn paratoi ar gyfer y rheini sy'n bod yn awr; ni wrthwynebodd neb fi y pryd hwnnw, oherwydd nid oedd neb yn bod.
9:19 Y mae'r rhai a greais, er darparu bwrdd dihysbydd a chyfraith anchwil-iadwy ar eu cyfer, wedi mynd yn llygredig eu moesau.
9:20 Yna ystyriais fy myd, a dyna lle'r oedd, wedi ei ddifetha; edrychais ar fy naear, a dyna lle'r oedd, mewn perygl oherwydd y cynllwynion a ddaethai i mewn iddi.
9:21 Wrth edrych, felly, o'r braidd y gallwn feddwl am arbed neb; eto achubais i mi fy hun un gronyn oddi ar y clwstwr grawnwin, ac un planhigyn o'r fforest fawr~
9:22 Darfydded felly am y llu pobl a anwyd i ddim pwrpas, ond cadwer fy ngronyn a'm planhigyn i; oherwydd â llafur mawr yr wyf wedi eu perffeithio hwy.
9:23 Yn awr, rhaid i ti aros am saith diwrnod eto. Paid ag ymprydio yn ystod yr amser hwnnw,
9:24 ond dos i mewn i faes â'i lond o flodau, heb dŷ wedi ei adeiladu yno; myn dy fwyd o blith blodau'r maes yn unig; paid â blasu cig nac yfed gwin, dim ond blodau; gweddïa hefyd ar y Goruchaf yn ddi-baid.
9:25 Yna fe ddof atat a siarad â thi.”

Y Bedwaredd Weledigaeth, Y Gyfraith yn Aros

9:26 Felly, yn unol â gair yr angel imi, euthum i faes a elwir Ardat, ac yno eisteddais ymysg y blodau; llysiau'r maes oedd fy mwyd, ac fe'u cefais yn ymborth digonol.
9:27 Ymhen y saith diwrnod yr oeddwn yn gorwedd ar y glaswellt, a'm calon wedi ei chythryblu eto fel o'r blaen.
9:28 Agorais fy ngenau, a dechreuais annerch y Goruchaf fel hyn:
9:29 “O Arglwydd, fe'th ddangosaist dy hun yn eglur yn ein plith, sef i'n hynafiaid yn yr anialwch; pan oeddent yn mynd allan o'r Aifft, ac yn teithio trwy'r anialwch disathr a diffrwyth, dywedaist wrthynt,
9:30 ‘Clyw fi, Israel; gwrando fy ngeiriau, had Jacob.
9:31 Canys wele, yr wyf yn hau fy nghyfraith ynoch chwi; bydd yn dwyn ffrwyth ynoch, a chewch eich gogon-eddu'n dragwyddol drwyddi.’ Ond er i'n hynafiaid dderbyn y gyfraith, ni chadwasant hi na pharchu'r deddfau.
9:32 Nid bod ffrwyth y gyfraith wedi darfod amdano; ni allai hynny ddigwydd, oherwydd eiddot ti oedd y ffrwyth;
9:33 ond darfu am y rhai a dderbyniodd y gyfraith, am na chadwent yn ddiogel yr hyn a heuwyd ynddynt.
9:34 Yn awr, pan fydd y ddaear yn derbyn had, neu'r môr long, neu lestr arall fwyd neu ddiod, os collir yr had, neu'r llong, neu gynnwys y llestr, yr arfer yw
9:35 mai eu cynnwys a gollir, ond bod y llestri a'u derbyniodd yn aros. Ond gyda ni, nid felly y mae.
9:36 Oherwydd derfydd amdanom ni, bechaduriaid, y rhai a dderbyniodd y gyfraith, a derfydd am ein calon, a fu'n llestr iddi.
9:37 Ond ni dderfydd am y gyfraith; y mae hi'n aros yn ei gogoniant.”

Y Wraig Drallodus

9:38 Pan oeddwn yn dweud y pethau hyn ynof fy hun, edrychais o'm cwmpas a gweld ar y dde imi wraig, a honno'n galaru ac yn wylofain â llais uchel, yn drallodus iawn ei hysbryd, ei dillad wedi eu rhwygo, a lludw ar ei phen.
9:39 Bwriais o'r neilltu y pethau a fu'n llenwi fy meddwl, a throi ati hi a dweud:
9:40 “Pam yr wyt ti'n wylo? A pham yr wyt yn drallodus?”
9:41 Atebodd hithau: “F'ar-glwydd, gad lonydd imi, i wylo drosof fy hun ac i ymollwng i'm galar, oherwydd yr wyf yn chwerw iawn fy ysbryd, a'm darostyngiad yn fawr.”
9:42 “Beth sydd wedi digwydd iti?” gofynnais. “Dywed wrthyf.”
9:43 Meddai hithau wrthyf: “Bûm i, dy wasanaethyddes, yn ddiffrwyth, ac er imi fod yn briod am ddeng mlynedd ar hugain nid oeddwn wedi dwyn plant.
9:44 A phob awr a phob diwrnod o'r deng mlynedd ar hugain hynny bûm yn gweddïo, nos a dydd, ar y Goruchaf.
9:45 Yna, ar ôl deng mlynedd ar hugain, gwrandawodd Duw arnaf fi, dy wasan-aethferch; sylwodd ar fy narostyngiad, ystyriodd fy nhrallod, a rhoddodd imi fab. Mawr iawn oedd y llawenydd a gawsom ynddo, myfi a'm gŵr a'n holl gymdogion, a mawr iawn oedd y gogoniant a roesom i'r Duw nerthol.
9:46 Meithrinais ef â phob gofal,
9:47 ac wedi iddo dyfu'n ddyn euthum ati i gael gwraig iddo, a threfnu dydd y wledd briodas.

10:1 “Ond pan aeth fy mab i mewn i'w ystafell briodas, syrthiodd yn farw.
10:2 Diffoddasom bawb ei lamp, a chododd fy nghymdogion oll i'm cysuro; arhosais innau'n dawel hyd nos drannoeth.
10:3 Wedi iddynt hwy oll roi'r gorau i'w cais i'm cysuro a'm cadw'n dawel, codais liw nos a ffoi, a dod, fel y gweli, i'r maes hwn.
10:4 A'm bwriad yw peidio â dychwelyd mwyach i'r ddinas, ond aros yma, heb fwyta nac yfed, a galaru ac ymprydio yn ddi-baid hyd angau.”
10:5 Yna torrais ar draws dilyniant fy myfyrdodau, ac atebais hi yn ddig fel hyn:
10:6 “Ti, y ffolaf o'r holl wragedd, onid wyt yn gweld ein galar ni, a'r pethau sydd wedi digwydd inni?
10:7 Y mae Seion, ein mam ni oll, yn llawn tristwch ac wedi ei llwyr ddarostwng; am hynny y dylid galaru'n ddwys.
10:8 Ond yn awr, a chennym ni oll reswm yn hyn i alaru a bod yn brudd a chennym ni oll reswm yn hyn i dristáu, dyma ti yn tristáu am un mab.
10:9 Gofyn i'r ddaear, ac fe ddywed hi wrthyt mai hi yw'r un a ddylai alaru, oherwydd y nifer mawr o bobl a enir arni hi.
10:10 Oddi wrthi hi y cafodd pawb oll eu dechreuad, ac y mae eraill eto i ddod; a dyma hwy i gyd bron yn cerdded i'w distryw, ac yn mynd yn llu i'w tranc.
10:11 Pwy, felly, a ddylai alaru fwyaf? Onid y ddaear, a gollodd liaws mor fawr, yn hytrach na thi, nad wyt yn galaru ond am un person?
10:12 Dichon y dywedi wrthyf, ‘Nid yw fy ngalarnad i yn debyg i alarnad y ddaear, oherwydd fe gollais i ffrwyth fy nghroth fy hun, a ddygais i'r byd mewn gwewyr ac yr esgorais arno â phoenau;
10:13 ond y mae'r ddaear yn gweithredu yn ôl ffordd y ddaear, a'r lliaws sy'n bresennol arni yn ymadael yn yr un modd ag y daethant.’ Fy ateb i yw hyn:
10:14 fel y bu i ti trwy boen roi genedigaeth, yn yr un modd y rhoes y ddaear o'r dechreuad ei ffrwyth, sef y ddynol ryw, i'w Chreawdwr.
10:15 Yn awr, felly, cadw dy ofid i ti dy hun, a dioddef yn wrol y trallodion a ddaeth arnat.
10:16 Oherwydd os derbynni di fod dyfarniad Duw yn gyfiawn, ymhen amser fe gei dy fab yn ôl, a bydd iti glod ymhlith gwragedd.
10:17 Dos, felly, i'r ddinas at dy ŵr.”
10:18 “Na wnaf,” atebodd hithau, “nid af i mewn i'r ddinas, ond byddaf farw yma.”
10:19 Ond deliais ati i siarad â hi, fel hyn:
10:20 “Paid â chyflawni'r bwriad hwn,” meddwn, “ond cymer dy ddarbwyllo o achos trallodion Seion, ac ymgysura o achos adfyd Jerwsalem.
10:21 Oherwydd yr wyt yn gweld fel y mae ein cysegr wedi ei anghyfanheddu, ein hallor wedi ei dymchwel, a'n teml wedi ei dinistrio.
10:22 Y mae ein telyn dan draed, ein hemyn yn fud, a'n llawenydd wedi darfod; diffoddwyd golau ein canhwyllbren, cipiwyd ymaith arch ein cyfamod, halogwyd ein llestri sanctaidd, a dygwyd gwarth ar yr enw y'n gelwir wrtho; y mae ein pendefigion wedi dioddef amarch, ein hoffeiriaid wedi eu llosgi, ein Lefiaid wedi ymadael mewn caethiwed, ein morynion wedi eu halogi a'n gwragedd wedi eu treisio, ein gwŷr cyfiawn wedi eu dwyn ymaith, ein plant wedi eu gadael, ein gwŷr ifainc wedi eu gwneud yn gaethweision, a'n dewrion wedi eu gwneud yn ddi-rym.
10:23 A gwaeth na dim yw'r hyn a ddigwyddodd i sêl gogoniant Seion, oherwydd bellach y mae wedi ei difreinio o'i gogoniant, a'i throsglwyddo i ddwylo'r rhai sydd yn ein casáu.
10:24 Tithau, felly, bwrw ymaith dy fawr dristwch, a rho o'r neilltu dy lu trallodion, er mwyn i'r Duw nerthol ddangos ei ffafr iti, ac i'r Goruchaf roi iti lonyddwch a gorffwys oddi wrth dy drafferthion.”
10:25 Yna'n sydyn hollol, wrth imi siarad â hi, dyma'i hwyneb yn fflachio a'i gwedd yn melltennu, fel y dychrynais rhagddi a'm holi fy hun beth oedd hyn.
10:26 Ac yn sydyn dyma hi'n gollwng gwaedd groch a brawychus, nes i'r ddaear grynu gan y sŵn.
10:27 Edrychais i fyny, ac nid y wraig a welwn mwyach, ond dinas yn cael ei hadeiladu ar sylfeini mawrion. Cefais fraw, a gwaeddais â llais uchel fel hyn:
10:28 “Ble mae'r angel Uriel, a ddaeth ataf yn y dechrau? Oherwydd ef a barodd imi yr holl ddryswch meddwl hwn. Gwnaethpwyd llygredigaeth yn ddiwedd imi, a throwyd fy ngweddi yn gerydd.”

Uriel yn Dehongli'r, Weledigaeth

10:29 A minnau'n llefaru'r geiriau hyn, dyma'r angel a ddaethai ataf yn y dechrau yn cyrraedd. Pan welodd fi'n
10:30 gorwedd fel dyn marw, a'm meddwl wedi ei ddrysu, gafaelodd yn fy llaw dde a'm cyfnerthu; cododd fi ar fy nhraed, a dweud:
10:31 “Beth sy'n bod arnat? Beth yw achos dy gynnwrf? Pam y mae dy ddeall, a theimladau dy galon, wedi eu cynhyrfu?”
10:32 “Am i ti fy llwyr adael i,” atebais innau. “Oherwydd yr wyf wedi gwneud yr hyn a ddywedaist wrthyf: deuthum allan i'r maes; ac ar fy ngwir, gwelais—a gwelaf o hyd—bethau na allaf eu hadrodd.” Meddai ef wrthyf:
10:33 “Saf ar dy draed fel dyn, ac fe egluraf hyn i ti.”
10:34 “Llefara, f'arglwydd,” atebais innau; “yn unig paid â'm gadael i farw yn ddibwrpas.
10:35 Oherwydd yr wyf wedi gweld pethau, ac yr wyf yn clywed pethau sydd y tu hwnt i'm dirnadaeth—
10:36 os nad yw fy synhwyrau'n methu a minnau'n breuddwydio.
10:37 Felly rwy'n crefu arnat yn awr egluro'r dryswch hwn i'th was.”
10:38 Atebodd ef fi: “Gwrando arnaf fi, ac fe'th ddysgaf, ac egluraf iti ynglŷn â'r pethau yr wyt yn eu hofni, oherwydd y mae'r Goruchaf wedi datguddio dirgelion lawer iti.
10:39 Oherwydd gwelodd dy ffordd uniawn, dy dristwch parhaus am dy bobl a'th fawr alar dros Seion.
10:40 Dyma, felly, yr esboniad ar y weledigaeth. Ychydig amser yn ôl ymddangosodd gwraig iti,
10:41 ac fe'i gwelaist hi'n galaru, a dechreuaist ei chysuro;
10:42 ond erbyn hyn nid ffurf y wraig yr wyt yn ei gweld, ond ymddangosodd iti ddinas yn cael ei hadeiladu.
10:43 Ac ynglŷn â'r hyn a ddywedodd hi wrthyt am dynged ei mab, dyma'r eglurhad.
10:44 Seion yw'r wraig hon a welaist, ac yr wyt yn ei chanfod yn awr fel dinas wedi ei hadeiladu.
10:45 Dywedodd hi wrthyt iddi fod yn ddiffrwyth am ddeng mlynedd ar hugain; yr eglurhad ar hynny yw i dair mil o flynyddoedd fynd heibio yn hanes y byd cyn bod offrymu yn Seion.
10:46 Yna, ar ôl y tair mil o flynyddoedd adeiladodd Solomon y ddinas ac offrymu offrymau: dyna'r amser pan roddodd y wraig ddiffrwyth enedigaeth i'w mab.
10:47 Ynglŷn â'r hyn a ddywedodd wrthyt, iddi ei feithrin ef yn ofalus, hwnnw oedd y cyfnod pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd.
10:48 Ac ynglŷn â'r hyn a ddywedodd wrthyt am farwolaeth ei mab, wrth iddo fynd i mewn i'w ystafell briodas, ac am y trallod a ddaeth arni, dyna'r dinistr a ddaeth ar Jerwsalem.
10:49 Dyma, ynteu, y gyffelybiaeth a welaist ti—y wraig yn galaru am ei mab, a thithau'n dechrau ei chysuro o achos yr hyn a ddigwyddodd iddi. Dyma'r pethau yr oedd yn rhaid eu datguddio i ti.
10:50 A chan fod y Goruchaf yn gweld dy dristwch enaid a'th ing calon drosti, y mae ef yn awr yn dangos i ti ei disgleirdeb gogoneddus a'i thegwch ysblennydd.
10:51 Dyna'r rheswm y gorchmynnais iti aros mewn maes lle nad oes tŷ wedi ei adeiladu,
10:52 oherwydd fod y Goruchaf ar fedr dangos y pethau hyn iti.
10:53 Felly dywedais wrthyt am ddod i faes lle nad oes sylfaen wedi ei gosod ar gyfer unrhyw adeilad.
10:54 Oherwydd ni allai unrhyw adeilad o waith dyn sefyll yn y fan lle'r oedd dinas y Goruchaf i gael ei datguddio.
10:55 Felly paid ag ofni na gadael i'th galon arswydo, ond dos i mewn, ac i'r graddau y gall dy lygaid eu gweld, gwêl wychder a maint yr adeiladau.
10:56 Ar ôl hynny, cei glywed cymaint ag y mae dy glustiau yn abl i'w glywed.
10:57 Oherwydd yr wyt ti yn uwch dy wynfyd na'r lliaws, a chennyt enw gyda'r Goruchaf nad oes gan fwy nag ychydig.
10:58 Ond aros yma hyd nos yfory,
10:59 ac mewn breuddwydion fe ddengys y Goruchaf iti weledigaethau o'r pethau y bydd ef yn eu gwneud i'r rhai fydd yn trigo ar y ddaear yn y dyddiau diwethaf.”
10:60 Felly, yn unol â'r gorchymyn a gefais ganddo, cysgais y nos honno a nos drannoeth.

Y Bumed Weledigaeth, Yr Eryr

11:1 Yr ail noson cefais freuddwyd, a gweld yn dod i fyny o'r môr eryr a chanddo ddeuddeg aden bluog a thri phen.
11:2 Edrychais, a dyma'r eryr yn lledu ei adenydd dros yr holl ddaear; chwythodd holl wyntoedd y nefoedd arno ef, ac ymgasglodd y cymylau o'i gwmpas.
11:3 Allan o'i adenydd ef gwelais wrth-adenydd yn tarddu, ond heb dyfu'n ddim ond adenydd bach a phitw.
11:4 Yr oedd ei bennau yn gorffwys yn llonydd; yr oedd hyd yn oed y pen canol, er ei fod yn fwy na'r pennau eraill, yn gorffwys yn llonydd gyda hwy.
11:5 Wrth imi edrych, dyma'r eryr yn hedfan ar ei adenydd i ennill arglwyddiaeth ar y ddaear a'i thrigolion.
11:6 Gwelais fel y gwnaed popeth dan y nefoedd yn ddarostyngedig iddo; ac ni chafodd ei wrthwynebu gan unrhyw greadur ar wyneb y ddaear, naddo gan un.
11:7 Edrychais, a dyma'r eryr yn sefyll ar ei ewinedd ac yn llefaru wrth ei adenydd fel hyn:
11:8 “Peidiwch oll â chadw gwyliadwriaeth yr un pryd; cysgwch bob un yn ei le, a gwylio yn ei dro;
11:9 ond y mae'r pennau i'w cadw hyd yn ddiwethaf.”
11:10 Sylwais hefyd nad allan o'i bennau ef yr oedd y llais yn dod, ond o ganol ei gorff.
11:11 Rhifais ei wrth-adenydd ef, a gweld bod wyth ohonynt.
11:12 Wrth imi edrych, dyma un o'r adenydd ar y llaw dde yn codi ac yn teyrnasu dros yr holl ddaear.
11:13 Ac yna daeth diwedd arni hi ac ar ei theyrn-asiad; a diflannodd o'r golwg, ac ni welwyd ei lle mwyach. Yna cododd y nesaf, a bu hithau'n teyrnasu am amser hir.
11:14 A phan oedd diwedd ei theyrn-asiad yn agosáu, a hithau ar fin diflannu fel y gyntaf,
11:15 dyma lais yn ei chlyw yn dweud:
11:16 “Gwrando di, ti a fu'n rheoli'r ddaear cyhyd; y mae gennyf y neges hon i'w rhoi cyn iti ddechrau mynd o'r golwg.
11:17 Ni chaiff neb o'th olynwyr deyrnasu am yr un hyd o amser â thi, nac yn wir am ei hanner.”
11:18 Yna cododd y drydedd aden, ac arglwyddiaethu fel ei rhagflaenwyr, a diflannodd hithau.
11:19 Felly bu pob un o'r adenydd yn arglwyddiaethu yn ei thro, ac yna eto aethant yn llwyr o'r golwg.
11:20 Yna edrychais, ac ymhen amser dyma'r adenydd eraill, ar y llaw chwith hwythau'n codi i gael arglwyddiaethu; yr oedd rhai ohonynt a gafodd wneud hynny, er nad heb ddiflannu ar unwaith o'r golwg,
11:21 ond yr oedd eraill a gododd na chawsant deyrnasu o gwbl.
11:22 A phan edrychais wedyn, nid oedd y deuddeg aden, na dwy o'r adenydd bychain, i'w gweld;
11:23 nid oedd dim ar ôl ar gorff yr eryr ond y tri phen yn gorffwys yn llonydd, a chwech aden fechan.
11:24 Wrth imi edrych, dyma ddwy o'r chwech aden fach yn ymddidoli oddi wrth y lleill ac yn aros o dan y pen ar y dde; arhosodd y pedair arall yn eu lle.
11:25 Yna gwelais yr is-adenydd hyn yn cynllunio i'w dyrchafu eu hunain i gael teyrnasu.
11:26 Dyma un ohonynt yn codi, ond diflannodd ar unwaith;
11:27 gwnaeth yr ail yr un modd, ond diflannodd hon yn gyflymach na'r un o'i blaen.
11:28 Yna, wrth imi edrych, gwelais y ddwy oedd ar ôl yn cyd-gynllunio i gael teyrnasu eu hunain.
11:29 Ac wrth iddynt gynllunio, dyma un o'r pennau oedd yn gorffwyso—yr un yn y canol, oedd yn fwy na'r ddau arall—yn dechrau dihuno.
11:30 Gwelais hefyd iddo uno'r ddau ben arall ag ef ei hun,
11:31 a throi, ynghyd â'r pennau oedd gydag ef, a bwyta'r ddwy is-aden oedd yn cynllunio i gael teyrnasu.
11:32 Darostyngodd y pen hwn yr holl ddaear iddo'i hun, ac arglwyddiaethu ar ei thrigolion â gormes mawr; ac yr oedd ei arglwyddiaeth fyd-eang ef yn rymusach nag eiddo'r holl adenydd a fu o'i flaen.
11:33 Ar ôl hynny edrychais eto, ac yn sydyn dyma'r pen oedd yn y canol yn diflannu, yn union fel yr adenydd.
11:34 Ond yr oedd dau ben yn aros, a buont hwythau'n teyrnasu dros y ddaear a'i thrigolion;
11:35 ac wrth imi edrych, dyma'r pen ar y dde yn llyncu'r un ar y chwith.
11:36 Yna clywais lais yn dweud wrthyf, “Edrych o'th flaen, ac ystyria'r hyn yr wyt yn ei weld.”
11:37 Edrychais, a dyma rywbeth fel llew, wedi ei darfu o'r coed, yn rhuo; ac fe'i clywais yn llefaru wrth yr eryr â llais dyn, a dweud:
11:38 “Gwrando, rwyf am siarad â thi.
11:39 Y mae'r Goruchaf yn dweud wrthyt: ‘Onid ti yw'r unig un sy'n aros o'r pedwar bwystfil y perais iddynt deyrnasu ar fy myd, er mwyn dirwyn fy amserau i ben drwyddynt?’
11:40 Ti yw'r pedwerydd i ddod, ac yr wyt wedi trechu'r holl fwystfilod a aeth o'r blaen, gan arglwyddiaethu ar y byd â braw mawr ac ar yr holl ddaear â'r gormes llymaf. Cyhyd o amser y buost fyw yn y byd trwy dwyll!
11:41 Ac nid â gwirionedd y bernaist y ddaear.
11:42 Buost yn gorthrymu'r addfwyn ac yn cam-drin yr heddychol; caseaist y rhai a ddywedai'r gwir, a charu celwyddwyr; dinistriaist gartrefi'r ffyniannus, a bwrw i lawr furiau rhai na wnaethant unrhyw ddrwg iti.
11:43 Ond y mae dy draha wedi codi i fyny at y Goruchaf, a'th falchder at yr Hollalluog.
11:44 Y mae'r Goruchaf wedi edrych yn ôl ar ei amserau; y maent wedi dod i ben, ac y mae ei oesoedd ef wedi eu cyflawni.
11:45 Felly rhaid i ti, yr eryr, ddiflannu o'r golwg yn llwyr, ynghyd â'th adenydd ofnadwy, a'th is-adenydd ysgeler, dy bennau atgas, dy ewinedd creulon, a'th holl gorff diwerth.
11:46 Felly, wedi ei gwaredu oddi wrth dy drais di, caiff yr holl ddaear adfywiad ac adnewyddiad; yna gall obeithio am farn ac am drugaredd yr Un a'i creodd.”

12:1 Tra oedd y llew yn llefaru'r geiriau hyn wrth yr eryr, edrychais;
12:2 ac wele, diflannodd yr un pen oedd ar ôl. Yna cododd y ddwy aden a aethai drosodd ato, a'u dyrchafu eu hunain i deyrnasu; ond tlawd a therfysglyd oedd eu teyrnasiad hwy.
12:3 Wrth imi edrych, dyma hwythau'n dechrau diflannu, a llosgwyd holl gorff yr eryr yn fflamau, a dychrynodd y ddaear yn fawr.

Dehongli'r Weledigaeth

12:4 “Edrych, ti dy hun a ddaeth â'r pethau hyn arnat, am dy fod yn chwilio ffyrdd y Goruchaf.
12:5 Rwy'n dal yn flinedig fy meddwl ac yn lluddedig iawn fy ysbryd, ac nid oes ynof nemor ddim nerth, oherwydd yr ofn mawr a fu arnaf y nos hon.
12:6 Am hynny, gweddïaf yn awr ar y Goruchaf i'm cynnal hyd y diwedd.”
12:7 Yna dywedais, “Arglwydd iôr, os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, os wyf wedi fy nghyfiawnhau ger dy fron yn fwy na'r lliaws, ac os yw fy ngweddi yn wir wedi codi i'th ŵydd,
12:8 yna nertha fi, a dangos i mi, dy was, ddehongliad manwl o'r weledigaeth arswydus hon, i ddwyn cysur llawn i'm henaid.
12:9 Oherwydd yr wyt wedi barnu fy mod yn deilwng i gael dangos imi ddiwedd yr amserau a'r dyddiau diwethaf.”
12:10 Meddai ef wrthyf: “Dyma ddehongliad y weledigaeth hon a gefaist.
12:11 Yr eryr a welaist yn esgyn o'r môr yw'r bedwaredd deyrnas a ymddangosodd mewn gweledigaeth i'th frawd Daniel.
12:12 Ond ni roddwyd iddo ef y dehongliad yr wyf yn ei roi i ti yn awr, neu a rois iti eisoes.
12:13 Ystyria, y mae'r dyddiau'n dod pan gyfyd ar y ddaear deyrnas a fydd yn fwy arswydlon na'r holl deyrnasoedd a fu o'i blaen.
12:14 Bydd deuddeg brenin yn olynol yn llywodraethu ar y deyrnas honno,
12:15 ac o'r deuddeg, yr ail i ddod i'r deyrnas a fydd yn teyrnasu hwyaf.
12:16 Dyna'r esboniad ar y deuddeg aden a welaist.
12:17 Ynglŷn â'r llais a glywaist yn dod allan, nid o bennau'r eryr ond o ganol ei gorff, ac yn llefaru,
12:18 dyma'r esboniad ar hwnnw: yn dilyn cyfnod teyrnasiad yr ail frenin, fe gyfyd ymrafaelion nid bychan, a bydd y deyrnas mewn perygl o gwympo; eto ni chwymp y pryd hwnnw, ond fe'i hadferir i'w chyflwr cychwynnol.
12:19 A dyma'r esboniad ar yr wyth is-aden a welaist yn glynu wrth ei adenydd ef:
12:20 fe gyfyd o fewn i'r deyrnas wyth brenin, y bydd eu hamserau yn ddibwys a'u blynyddoedd yn fyr; derfydd am ddau ohonynt
12:21 pan fydd cyfnod canol y deyrnas yn nesáu, ond cedwir pedwar hyd at yr amser pan fydd cyfnod olaf y deyrnas yn nesáu, a chedwir dau hyd y diwedd ei hun.
12:22 Ynglŷn â'r tri phen a welaist yn gorffwys yn llonydd,
12:23 dyma'r esboniad: ym mlynyddoedd olaf y deyrnas, fe gyfyd y Goruchaf dri brenin i ddwyn adferiad mawr iddi, a byddant hwy yn arglwyddiaethu ar y ddaear
12:24 a'i thrigolion â mwy o ormes na'r holl rai a fu o'u blaen. Felly fe'u gelwir hwy yn bennau'r eryr,
12:25 am mai hwy yw'r rhai a fydd yn gweithio'i weithredoedd annuwiol ef i'w pen, ac yn rhoi terfyn llwyr arno.
12:26 Ynglŷn â'r pen mwyaf a welaist yn diflannu, y mae hynny'n arwyddo y bydd farw un ohonynt yn ei wely, ond mewn arteithiau.
12:27 Caiff y ddau sy'n aros eu lladd â'r cleddyf;
12:28 oherwydd difethir un ohonynt gan gleddyf y llall, ond yn y diwedd bydd hwnnw hefyd yn syrthio gan gleddyf.
12:29 Ynglŷn â'r ddwy is-aden a welaist yn mynd drosodd at y pen ar y llaw dde,
12:30 dyma'r esboniad: hwy yw'r rhai a gadwodd y Goruchaf hyd y diwedd a bennodd; a thlawd a therfysglyd, fel y gwelaist, fu eu teyrnasiad.
12:31 A'r llew a welaist yn dod o'r coed, wedi ei ddeffro ac yn rhuo, ac a glywaist yn siarad â'r eryr a'i geryddu am ei weithredoedd anghyfiawn a'i holl eiriau,
12:32 hwnnw yw'r Eneiniog y mae'r Goruchaf wedi ei gadw hyd y diwedd. Bydd ef yn eu ceryddu hwy am eu hannuwioldeb a'u hanghyfiawnderau, ac yn gosod ger eu bron eu gweithredoedd sarhaus.
12:33 Oherwydd yn gyntaf bydd yn eu dwyn yn fyw i farn, ac yna, ar ôl eu profi'n euog, yn eu dinistrio.
12:34 Ond fe ddengys drugaredd tuag at weddill fy mhobl, pawb o fewn terfynau fy nhir a gadwyd yn ddiogel, a'u rhyddhau; bydd yn peri iddynt orfoleddu, hyd nes i'r diwedd ddod, sef y dydd barn y soniais wrthyt amdano ar y dechrau.
12:35 Dyna'r freuddwyd a welaist, a dyna'i dehongliad.
12:36 Ti'n unig, fodd bynnag, oedd yn deilwng i wybod y gyfrinach hon o eiddo'r Goruchaf.
12:37 Gan hynny, ysgrifenna mewn llyfr yr holl bethau hyn a welaist, a'u gosod mewn lle dirgel,
12:38 a dysg hwy i'r doethion hynny o blith dy bobl y gwyddost fod eu calonnau yn gallu derbyn y cyfrinachau hyn a'u cadw'n ddiogel.
12:39 Ond aros di yma am saith diwrnod eto, i gael pa ddatguddiad bynnag y bydd y Goruchaf yn gweld yn dda ei roi iti.” Yna gadawodd yr angel fi.

Y Bobl yn Dod at Esra

12:40 Pan glywodd yr holl bobl fod saith diwrnod wedi mynd heibio, a minnau heb ddychwelyd i'r ddinas, daethant hwy oll ynghyd, o'r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf, a dweud wrthyf:
12:41 “Pa ddrwg a wnaethom yn dy erbyn, a pha gam a wnaethom â thi, dy fod wedi'n llwyr adael ac ymsefydlu yn y lle hwn?
12:42 Oherwydd o'r holl broffwydi, ti yw'r unig un a adawyd i ni; yr wyt fel y sypyn olaf o rawnwin y cynhaeaf gwin, fel llusern mewn lle tywyll, ac fel hafan i long a arbedwyd rhag y storm.
12:43 Onid digon i ni y trallodion sydd wedi dod arnom?
12:44 Os bydd i ti ein gadael, byddai'n well o lawer pe baem ninnau hefyd wedi ein llosgi yn y tân a losgodd Seion;
12:45 oherwydd nid ydym ni'n well na'r rhai a fu farw yno.” Yna wylo a wnaethant yn uchel. Atebais innau hwy fel hyn:
12:46 “Ymwrola, Israel; a thithau, dŷ Jacob, gad dy dristwch.
12:47 Oherwydd y mae'r Goruchaf yn eich cofio, ac nid yw'r Hollalluog wedi eich gollwng dros gof am byth~
12:48 Nid wyf finnau wedi eich gadael na chefnu arnoch, ond deuthum i'r lle hwn i weddïo dros anghyfanedd-dra Seion ac i geisio trugaredd i'ch cysegr, a ddarostyngwyd.
12:49 Yn awr ewch adref, bob un ohonoch; ac ar ôl y dyddiau hyn fe ddof atoch.”

Y Chweched Weledigaeth, Y Dyn o'r Môr

12:50 Yna aeth y bobl ymaith i'r ddinas, fel y dywedais wrthynt.
12:51 Ond arhosais innau yn y maes am saith diwrnod, yn unol â'r gorchymyn a roddwyd imi. Blodau'r maes yn unig oedd fy mwyd; llysiau oedd fy ymborth y dyddiau hynny.

13:1 Ymhen y saith diwrnod cefais freuddwyd liw nos,
13:2 a gweld gwynt yn codi o'r môr ac yn cynhyrfu ei holl donnau ef.
13:3 Edrychais, a dyma'r gwynt hwnnw yn peri bod rhywbeth tebyg i ddyn yn dod i fyny o eigion y môr, a gwelais y dyn hwn yn ehedeg gyda chymylau'r nef. Ble bynnag y trôi ef ei wyneb i edrych, crynai popeth y syllai arno;
13:4 a phle bynnag yr â'i llais allan o'i enau ef, toddai pob un a'i clywai, fel cŵyr yn toddi ar gyffyrddiad tân.
13:5 Yna gwelais lu aneirif o ddynion yn ymgynnull, o bedwar gwynt y nefoedd, i ryfela yn erbyn y dyn oedd wedi codi o'r môr.
13:6 Ac wrth imi edrych, dyma yntau yn naddu iddo'i hun fynydd mawr, ac yn hedfan i fyny arno.
13:7 Ond pan geisiais weld y man neu'r lle y naddwyd y mynydd ohono, ni allwn.
13:8 Yna gwelais fod ofn mawr ar bawb oedd wedi ymgynnull i geisio'i drechu ef; er hynny, yr oeddent yn dal yn eu beiddgarwch i ymladd yn ei erbyn.
13:9 Pan welodd ef y llu yn dod i ymosod arno, ni wnaeth gymaint â chodi ei law, ac ni ddaliai na gwaywffon nac unrhyw arf rhyfel. Yn wir, yr unig beth a welais
13:10 oedd y modd y tywalltai rywbeth tebyg i lifeiriant o dân o'i enau, ac anadl fflamllyd o'i wefusau; ac o'i dafod tywalltai storm o wreichion. Cymysgwyd y rhain i gyd â'i gilydd—y llifeiriant tân, yr anadl fflam-llyd, a'r storm fawr—
13:11 a syrthiodd y crynswth hwnnw ar ben y llu ymosodwyr oedd yn barod i ymladd, a'u llosgi i gyd. Yn sydyn, nid oedd dim i'w weld o'r llu dirifedi ond lludw llychlyd ac arogl mwg. Edrychais, ac fe'm syfrdanwyd.
13:12 Wedyn gwelais y dyn hwnnw yn dod i lawr o'r mynydd ac yn galw ato'i hun dyrfa arall, un heddychlon.
13:13 Ato daeth llawer o bobl, a'u gwedd yn amrywio: rhai yn llawen, eraill yn drist; rhai yn wir mewn rhwymau, ac eraill yn dwyn ato offrymau o blith y rhai a aberthid.

Y Dehongliad

13:14 Dihunais innau mewn dychryn mawr, a gweddïo ar y Goruchaf fel hyn: “O'r dechrau yr wyt wedi dangos y rhyfeddodau hyn i'th was, a'm cyfrif yn un a deilyngai dderbyn ohonot ei weddi.
13:15 Yn awr dangos i mi beth yw ystyr y freuddwyd hon hefyd.
13:16 Oherwydd, yn ôl yr hyn yr wyf fi'n ei ddeall, gwae'r rhai a adewir yn y dyddiau hynny, ond gymaint mwy y gwae i'r rhai ni adewir!
13:17 Oblegid bydd y rhai ni adewir yn drist,
13:18 am eu bod yn gwybod beth sydd ynghadw yn y dyddiau diwethaf, a hwythau'n ei golli.
13:19 Ond gwae hefyd y rhai a adewir, oherwydd byddant hwy'n gweld peryglon mawr a chyfyngderau lawer, fel y mae'r breuddwydion hyn yn dangos.
13:20 Eto i gyd, gwell dioddef y perygl a chyrraedd y pethau hyn na diflannu fel cwmwl o'r byd, heb weld yr hyn a ddigwydd yn y diwedd.”
13:21 Atebodd fi fel hyn: “Fe ddehonglaf y weledigaeth iti, ac at hynny egluraf ynglŷn â'r pethau y buost yn siarad amdanynt.
13:22 Cyfeiriaist at y rhai a adewir, a dyma'r dehongliad:
13:23 yr un a fydd yn achos perygl yn yr amser hwnnw, ef ei hun hefyd fydd yn gwarchod yn eu perygl y rhai y mae ganddynt weithredoedd a ffydd yn yr Hollalluog.
13:24 Felly gwybydd mai mwy yw gwynfyd y rhai a adewir na'r eiddo y rhai a fu farw.
13:25 Dyma ddehongliad y weledigaeth: y dyn a welaist yn dod i fyny o eigion y môr
13:26 yw'r un y mae'r Goruchaf yn ei gadw'n barod drwy oesoedd lawer; bydd ef ei hun yn gwaredu ei greadigaeth ac yn pennu tynged y rhai a adewir.
13:27 Ynglŷn â'r anadl a'r tân a'r storm a welaist yn dod allan o'i enau,
13:28 ac yntau heb na gwaywffon nac arf rhyfel yn difetha ymosodiad y llu a ddaeth i ymladd yn ei erbyn, dyma'r dehongliad:
13:29 y mae'r dyddiau'n wir yn dod pan fydd y Goruchaf yn dechrau gwaredu'r rhai sydd ar y ddaear.
13:30 Daw dryswch meddwl ar drigolion y ddaear;
13:31 byddant yn cynllunio rhyfel yn erbyn ei gilydd, dinas yn erbyn dinas, ardal yn erbyn ardal, cenedl yn erbyn cenedl, teyrnas yn erbyn teyrnas.
13:32 A phan ddaw hyn i fod, a phan ddigwydd yr arwyddion a ddangosais iti o'r blaen, yna datguddir fy mab, sef y dyn a welaist ti yn codi o'r môr.
13:33 Yna, pan glyw yr holl genhedloedd ei lais ef, bydd pob un ohonynt yn gadael ei gwlad ei hun ac yn rhoi'r gorau i ryfela yn erbyn ei gilydd,
13:34 ac fe'u cesglir ynghyd yn un llu aneirif, fel y gwelaist, â'u bryd ar ddod a'i drechu ef.
13:35 Ond bydd ef yn sefyll ar ben Mynydd Seion;
13:36 a daw Seion yn amlwg i bawb, wedi ei chynllunio a'i hadeiladu, yn cyfateb i'r modd y gwelaist y mynydd yn cael ei naddu heb gymorth llaw dyn.
13:37 Bydd ef, fy mab, yn ceryddu am eu hannuwioldeb y cenhedloedd a ddaw yno; y mae hynny'n cyfateb i'r storm. Bydd hefyd yn edliw iddynt yn eu hwynebau eu bwriadau drwg a'r poenedigaethau y maent i'w dioddef;
13:38 hynny sy'n cyfateb i'r fflam. Ac yn ddiymdrech fe'u difetha hwy drwy'r gyfraith; hynny sy'n cyfateb i'r tân.
13:39 Ynglŷn â'th weledigaeth ohono'n casglu tyrfa arall, un heddychlon, ato'i hun,
13:40 dyna'r deg llwyth a gaeth-gludwyd allan o'u gwlad yn nyddiau'r Brenin Hosea~Dygodd Salmaneser brenin Asyria ef yn gaeth, ac alltudio'r llwythau y tu hwnt i'r Afon, a'u dwyn i wlad arall.
13:41 Ond gwnaethant hwy y penderfyniad hwn rhyngddynt a'i gilydd, sef gadael y llu cenhedloedd, a theithio ymlaen i wlad fwy pellennig, lle nad oedd yr hil ddynol erioed wedi trigo,
13:42 ac yno, o'r diwedd, gadw gofynion eu cyfraith nad oeddent wedi eu parchu yn eu gwlad eu hunain.
13:43 Wrth iddynt groesi ar draws mynedfeydd cyfyng Afon Ewffrates,
13:44 rhoddodd y Goruchaf iddynt arwyddion, gan atal ffrydiau'r afon hyd nes iddynt fynd trosodd.
13:45 Yr oedd eu taith drwy'r wlad honno, a elwir Arsareth, yn un hir, yn para blwyddyn a hanner.
13:46 Oddi ar hynny y maent wedi byw yno, hyd yr amser diwethaf hwn. Ac yn awr y maent ar fin dychwelyd,
13:47 ac unwaith eto bydd y Goruchaf yn atal ffrydiau'r afon iddynt gael croesi.
13:48 Dyna'r rheswm pam y gwelaist y dyrfa wedi ei chynnull mewn heddwch. Gyda hwy hefyd y mae'r rhai a adawyd yn weddill o'th bobl di, y rhai a geir o fewn fy nherfynau sanctaidd i.
13:49 Felly, pan fydd ef yn dechrau difetha'r llu cenhedloedd a gynullwyd, bydd yn gwarchod dros ei bobl a adawyd yn weddill,
13:50 a daw iddynt lawer o ryfeddodau mawr.”
13:51 Yna meddwn innau: “Arglwydd Iôr, eglura i mi pam y gwelais y dyn hwnnw yn codi o eigion y môr”. Atebodd ef fi:
13:52 “Fel y mae'n amhosibl i unrhyw un chwilio dyfnderoedd y môr a gwybod beth sydd yno, felly hefyd ni all neb ar y ddaear weld fy mab na'r rhai sydd gydag ef, hyd oni ddaw ei ddydd.
13:53 Dyna felly ddehongliad y freuddwyd a gefaist. Ti'n unig a oleuwyd yn y pethau hyn,
13:54 a hynny am dy fod wedi gadael dy ffyrdd dy hun ac wedi ymroi i'm rhai i, a chwilio fy nghyfraith yn fanwl.
13:55 Cyfeiriaist dy fywyd i ffordd doethineb, a gelwaist ddeall yn fam i ti.
13:56 Dangosais hyn oll i ti, am fod i ti wobr gyda'r Goruchaf; ymhen tri diwrnod eto bydd gennyf ragor i'w ddweud wrthyt, a mynegaf iti bethau pwysfawr a rhyfeddol.”

Y Seithfed Weledigaeth, Y Llais o'r Berth

13:57 Felly cychwynnais ar draws y maes, gan ogoneddu a chlodfori'r Goruchaf yn fawr am y rhyfeddodau a wnaeth ef yn eu pryd,
13:58 ac am ei fod yn llywodraethu'r amseroedd a phopeth sy'n digwydd ynddynt. Ac yno yr arhosais am dridiau.

14:1 Y trydydd dydd yr oeddwn yn eistedd dan dderwen,
14:2 a dyma lais yn dod allan o berth gyferbyn â mi, a dweud, “Esra, Esra!” Atebais innau, “Dyma fi, Arglwydd.” Codais ar fy nhraed, ac meddai ef wrthyf:
14:3 “Fe'm datguddiais fy hun yn eglur yn y berth, a bûm yn siarad â Moses, pan oedd fy mhobl yn gaethweision yn yr Aifft;
14:4 anfonais ef i arwain fy mhobl allan o'r Aifft, a dygais ef i fyny i Fynydd Sinai, a'i gadw yno gyda mi am ddyddiau lawer.
14:5 Mynegais iddo lawer o bethau rhyfeddol, gan ddangos iddo gyfrinachau'r oesau a diwedd yr amseroedd. Rhoddais orchymyn iddo fel hyn:
14:6 ‘Gwna'r geiriau hyn yn hysbys, a chadw'r lleill yn gyfrinach.’
14:7 Ac yn awr dyma fy ngorchymyn i ti:
14:8 cadw'n ddiogel yn dy galon yr arwyddion a ddangosais iti, y breuddwydion a gefaist, a'r dehongliadau a glywaist.
14:9 Oherwydd fe'th ddygir di ymaith o blith dynion, ac o hynny ymlaen byddi'n aros gyda'm mab i a chyda rhai tebyg i ti, hyd ddiwedd yr amseroedd.
14:10 Oherwydd y mae'r byd wedi colli ei ieuenctid, ac y mae'r amseroedd yn dechrau heneiddio.
14:11 Y mae oes y byd wedi ei rhannu'n ddeuddeg rhan, ac eisoes aeth naw o'r rhannau hynny heibio, a hanner y ddegfed ran;
14:12 nid oes ond dwy ran ohoni'n aros, ynghyd â hanner arall y ddegfed ran.
14:13 Yn awr, felly, gosod dy dŷ mewn trefn; rhybuddia dy bobl, rho gysur i'r rhai gostyngedig yn eu mysg, ac ymwâd bellach â'r bywyd llygradwy.
14:14 Bwrw ymaith oddi wrthyt feddyliau meidrol, a thafl i ffwrdd oddi wrthyt dy feichiau dynol;
14:15 yn awr diosg oddi amdanat dy natur wan, gosod o'r neilltu y pryderon sy'n pwyso drymaf arnat, a brysia i ffoi rhag yr amseroedd hyn.
14:16 Oherwydd er mor fawr y drygau a welaist eisoes, y mae rhai gwaeth i ddigwydd ar ôl hyn.
14:17 Oherwydd po fwyaf y bydd henaint yn gwanychu'r byd, amlaf y drygau a ddaw ar ei drigolion.
14:18 Bydd gwirionedd yn cilio draw, ac anwiredd yn agosáu. Oherwydd y mae'r eryr a welaist yn dy freuddwyd eisoes yn dod ar frys.”

Esra'n Ysgrifennu

14:19 Atebais innau fel hyn: “A gaf fi siarad yn dy wyddfod, Arglwydd? Dyma fi ar fin ymadael, yn unol â'th orchymyn; fe geryddaf fi y bobl sydd yn awr yn fyw, ond pwy sydd i rybuddio'r rhai a enir ar ôl hyn?
14:20 Y mae'r byd yn gorwedd mewn tywyllwch, ac y mae ei drigolion heb oleuni.
14:21 Oherwydd y mae dy gyfraith di wedi ei llosgi, ac felly ni ŵyr neb am y gweithredoedd a gyflawnwyd gennyt neu sydd eto i'w cyflawni.
14:22 Felly, os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, dyro ysbryd sanctaidd o'm mewn, ac ysgrifennaf holl hanes y byd o'r dechreuad, a'r pethau oedd yn ysgrifenedig yn dy gyfraith di; felly bydd yn bosibl i ddynion ddarganfod y llwybr, a chael byw, os dymunant hynny, yn yr amseroedd diwethaf.”
14:23 Atebodd ef fi fel hyn: “Dos, galw'r bobl ynghyd, a dywed wrthynt nad ydynt i chwilio amdanat am ddeugain diwrnod.
14:24 Ond darpara di lawer o dabledi ysgrifennu, a chymer gyda thi Sarea, Dabria, Selemia, Ethanus ac Asiel—pump a hyfforddwyd i ysgrifennu'n gyflym.
14:25 Wedyn tyrd yma, a chyneuaf yn dy feddwl lusern deall, ac ni ddiffoddir hi nes cwblhau'r cyfan yr wyt i'w ysgrifennu.
14:26 A phan fyddi wedi gorffen, gelli wneud rhai pethau'n hysbys i bawb, ond cyflwyno eraill yn gyfrinachol i'r doethion. Y pryd hwn yfory cei ddechrau ysgrifennu.”
14:27 Euthum allan, fel y gorchmynnodd ef imi, a galw'r holl bobl ynghyd, a dweud:
14:28 “Clyw, Israel, y geiriau hyn.
14:29 Estroniaid yn byw yn yr Aifft oedd ein hynafiaid ni yn wreiddiol. Gwaredwyd hwy oddi yno,
14:30 a derbyniasant gyfraith bywyd. Ond ni chadwasant hi, ac yr ydych chwi hefyd ar eu hôl wedi troseddu.
14:31 Yna rhoddwyd i chwi wlad yn etifeddiaeth, yn nhiriogaeth Seion; ond pechu a wnaethoch chwi a'ch hynafiaid, heb gadw'r ffyrdd a bennodd y Goruchaf ichwi.
14:32 Am ei fod ef yn farnwr cyfiawn, ymhen amser fe dynnodd yn ôl oddi wrthych yr hyn yr oedd wedi ei roi.
14:33 Ac yn awr yr ydych chwi yma, yn alltud, ac y mae'ch tylwyth ymhellach i ffwrdd na chwi
14:34 Felly, os cadwch reolaeth ar eich deall a disgyblu eich meddwl, fe'ch cedwir yn ddiogel yn ystod eich bywyd, ac fe dderbyniwch drugaredd ar ôl marw.
14:35 Oherwydd bydd y farn yn dilyn marwolaeth; byddwn ninnau'n dod yn fyw drachefn, ac yna daw enwau'r rhai cyfiawn yn eglur, a gweithredoedd yr annuwiol yn amlwg.
14:36 Ond peidied neb â dod ataf yn awr, na'm ceisio am y deugain diwrnod nesaf.”
14:37 Yna cymerais y pum dyn, fel y gorchmynnwyd imi, ac aethom allan i'r maes ac aros yno.
14:38 A'r dydd canlynol, dyma lais yn galw arnaf a dweud, “Esra, agor dy enau ac yf yr hyn yr wyf yn ei roi i ti i'w yfed.”
14:39 Felly agorais fy ngenau, a dyma estyn imi gwpan yn llawn o rywbeth tebyg i ddŵr, ond bod ei liw fel lliw tân.
14:40 Cymerais ef ac yfed, a chyn gynted ag y gwneuthum hynny dyma fy meddwl yn dylifo â dealltwriaeth, a doethineb yn mynd ar gynnydd o'm mewn; oherwydd ni chollodd cyneddfau fy ysbryd afael ar y cof.
14:41 Felly agorwyd fy ngenau, ac nis caewyd wedyn.
14:42 Hefyd rhoddodd y Goruchaf ddeall i'r pum dyn, ac ysgrifenasant hwy yn eu trefn y pethau a ddywedwyd, gan ddefnyddio llythrennau heb fod yn wybyddus iddynt; yno y buont am y deugain diwrnod, yn ysgrifennu trwy'r dydd,
14:43 ac yn bwyta bara gyda'r nos. A minnau, yr oeddwn yn llefaru y dydd, ac nid oeddwn yn ddistaw y nos.
14:44 Yn y deugain diwrnod fe ysgrifennwyd naw deg a phedwar o lyfrau.
14:45 A phan gwblhawyd y deugain diwrnod, siaradodd y Goruchaf â mi fel hyn: “Gwna'n hysbys y llyfrau cyntaf a ysgrifennaist, a gad i'r rhai teilwng a'r annheilwng fel ei gilydd eu darllen,
14:46 ond cadw'n ôl y saith deg olaf, i'w cyflwyno i'r doethion ymhlith dy bobl.
14:47 Oherwydd ynddynt hwy y mae ffrwd deall, ffynnon doethineb, ac afon gwybodaeth.”
14:48 A gwneuthum felly.

Proffwydoliaethau Pellach, Y Drygau i Ddod

15:1 “Llefara'n awr yng nghlyw fy mhobl y geiriau proffwydol a osodaf yn dy enau,” medd yr Arglwydd,
15:2 “a phâr eu hysgrifennu hwy ar bapur, oherwydd y maent yn eiriau ffyddlon a gwir.
15:3 Paid ag ofni unrhyw gynllwynion yn dy erbyn, na gadael i anghrediniaeth dy wrthwynebwyr darfu arnat.
15:4 Oherwydd bydd pob un nad yw'n credu yn marw yn ei anghrediniaeth.”
15:5 “Edrych,” medd yr Arglwydd, “yr wyf fi'n pentyrru drygau ar y byd—cleddyf a newyn, marwolaeth a dinistr—
15:6 oherwydd y mae anghyfiawnder wedi ymledu dros yr holl ddaear, a throseddau dynion wedi cyrraedd eu penllanw.”
15:7 Am hynny dywed yr Arglwydd:
15:8 “Nid wyf am gadw'n dawel bellach ynglŷn â'u pechodau a'u gweithredoedd annuwiol, na goddef eu harferion anghyfiawn. Gwêl fel y mae gwaed dieuog a chyfiawn yn galw arnaf fi, ac eneidiau'r cyfiawn yn galw'n ddi-baid.
15:9 Mi fynnaf ddial eu cam hwy,” medd yr Arglwydd, “a chymryd baich eu gwaed dieuog hwy i gyd arnaf fy hun.
15:10 Edrych, y mae fy mhobl yn cael eu harwain fel praidd i'r lladdfa; ni adawaf iddynt aros mwyach yng ngwlad yr Aifft,
15:11 ond dygaf hwy allan â llaw gadarn ac â braich ddyrchafedig, a thrawaf yr Aifft â phla, fel y gwneuthum o'r blaen, a difrodi ei holl dir.
15:12 Galared yr Aifft a'i holl sylfeini dan bla'r chwipio a'r cystwyo y mae'r Arglwydd yn ei ddwyn arni.
15:13 Galared yr amaethwyr sy'n trin y tir am fod eu had yn pallu, a'u coed yn cael eu difetha gan falltod a chenllysg, a chan dymestl ofnadwy.
15:14 Gwae'r byd a'i drigolion!
15:15 Oherwydd y mae'r cleddyf wedi nesáu i ddwyn dinistr arnynt hwy. Bydd un genedl yn codi i ymladd yn erbyn y llall, â chleddyfau yn eu dwylo.
15:16 Anhrefn fydd rhan y ddynol ryw: y naill garfan yn cael y trechaf ar y llall, ac yn eu rhwysg heb falio dim am na'r brenin na'r pennaf o'u gwŷr mawr.
15:17 Bydd rhywun am fynd i ddinas, ond yn methu,
15:18 oherwydd o achos eu balchder bydd eu dinasoedd mewn terfysg, eu tai ar lawr, a'u trigolion mewn ofn.
15:19 Oherwydd prinder bara a chystudd mawr, ni bydd trugaredd yn cadw neb rhag ymosod ar gartref cymydog â'r cleddyf, ac ysbeilio'i feddiannau.”
15:20 “Edrychwch,” medd Duw, “yr wyf yn galw ynghyd holl frenhinoedd y ddaear i'm hofni i, o godiad haul ac o'r de, o'r dwyrain ac o Lebanon; yr wyf yn eu galw i droi a dychwelyd yr hyn a roddwyd iddynt.
15:21 Fel y maent hwy wedi gwneud hyd y dydd heddiw i'm hetholedigion i, felly y gwnaf finnau iddynt hwy wrth dalu'r pwyth yn ôl.”
15:22 Dyma eiriau yr Arglwydd Dduw: “Ni bydd fy llaw dde yn arbed pechaduriaid, ac ni bydd y cleddyf yn ymatal rhag y rhai sy'n tywallt gwaed dieuog ar y ddaear.”
15:23 Torrodd ei ddicter ef allan yn dân, gan ddifa'r ddaear i'w sylfeini, a'r pechaduriaid fel gwellt yn llosgi.
15:24 “Gwae'r rhai sy'n pechu a heb gadw fy ngorchmynion,” medd yr Arglwydd;
15:25 “nid arbedaf hwy. Ymaith oddi wrthyf, chwi wrthgilwyr! Peidiwch â halogi fy sancteiddrwydd i.”
15:26 Y mae'r Arglwydd yn adnabod pawb sy'n ymwrthod ag ef, ac am hynny y mae wedi eu traddodi hwy i farwolaeth a distryw.
15:27 Oherwydd y mae drygau eisoes wedi dod ar y ddaear, ac ynddynt yr arhoswch; ni wareda Duw chwi, am ichwi bechu yn ei erbyn.

Gweledigaeth Erchyll

15:28 Dyma weledigaeth erchyll, yn ym-ddangos o gyfeiriad y dwyrain:
15:29 llu o ddreigiau Arabia yn dod allan mewn cerbydau lawer, ac o ddydd cyntaf eu taith eu hisian yn taenu dros yr holl ddaear, gan beri braw a dychryn i bawb o fewn clyw.
15:30 Yna y Carmoniaid, yn wallgof gan ddicter, yn rhuthro fel baeddod o'r goedwig, ac â'u holl rym yn bwrw i frwydr ddi-ildio â hwy, ac yn rhwygo rhandir yr Asyriaid â'u dannedd mawrion.
15:31 Wedyn bydd y dreigiau, o gofio'u hanian gynhenid, yn cael y trechaf, ac o droi yn cydymosod â'u holl nerth i erlid y Carmoniaid,
15:32 a hwythau wedi eu syfrdanu a'u distewi gan rym y dreigiau yn hel eu traed.
15:33 Ond bydd gelyn yn llercian i ymosod arnynt o diriogaeth yr Asyriaid, ac yn lladd un ohonynt; daw ofn ac arswyd ar eu byddin, ac ansicrwydd ar eu brenhinoedd.
15:34 Dyma gymylau yn ymestyn o'r dwyrain ac o'r gogledd hyd y de! Y mae eu golwg yn dra erchyll, yn llawn dicter a drycin.
15:35 Trawant yn erbyn ei gilydd, a gollwng dros y ddaear lu o dymhestloedd, heblaw eu tymestl eu hunain; bydd gwaed a dywelltir gan y cleddyf yn cyrraedd hyd at fol ceffyl,
15:36 at forddwyd dyn ac at esgair camel.
15:37 Bydd ofn a dychryn mawr dros y ddaear, a phawb a wêl y dicter hwnnw yn crynu, wedi eu dal gan ddychryn.
15:38 Yna cynullir llu o gymylau o'r de ac o'r gogledd, ac eraill o'r gorllewin.
15:39 Ond cryfach fydd y gwyntoedd o'r dwyrain, a threch na'r cwmwl a'r sawl a'i cyffrôdd yn ei ddicter; bydd ffyrnigrwydd y dwyreinwynt yn gyrru ar led i'r de a'r gorllewin y dymestl a oedd i ddwyn dinistr.
15:40 Bydd cymylau mawr a chryf, yn llawn dicter, yn esgyn, a thymestl yn eu canlyn, i ddifetha'r ddaear gyfan a'i thrigolion, ac i ollwng tymestl erchyll ar y mawrion a'r enwog,
15:41 a hefyd dân a chenllysg a chleddyfau hedegog; a bydd y dyfroedd yn llifo, nes llenwi'r holl feysydd a'r holl afonydd â'u llifeiriant helaeth.
15:42 Bwriant i lawr ddinasoedd a muriau, mynyddoedd a bryniau, coed y fforestydd a chnydau'r meysydd.
15:43 Daliant i fynd yn eu blaen hyd at Fabilon, a'i llwyr ddinistrio hi.
15:44 Pan ymgasglant yno, fe'i hamgylchant hi ac arllwys ar ei phen y dymestl a'i holl ddicter; bydd y llwch a'r mwg yn codi i'r nefoedd, a bydd pawb o'i hamgylch yn galaru am Fabilon.
15:45 A chaethweision i'w dinistrwyr hi fydd unrhyw rai a adewir.

Tynged Asia

15:46 A thithau Asia, a fu'n gyfrannog o brydferthwch Babilon a'i gogoniant hi,
15:47 gwae di, y druan! Oherwydd yr wyt wedi ymdebygu iddi hi, gan wisgo dy ferched â phuteindra, i foddhau, ac i ymffrostio yn y cariadon a fu bob amser yn dy chwenychu di.
15:48 Yr wyt wedi efelychu'r butain ffiaidd yn ei holl weithredoedd a'i hystrywiau. Am hynny y mae Duw yn dweud:
15:49 “Anfonaf ddrygau arnat: gweddwdod a thlodi, newyn a chleddyf a haint, i ddifrodi dy gartrefi a dwyn trais a marwolaeth yn eu sgil.
15:50 Bydd gogoniant dy nerth yn crino fel blodeuyn, pan gyfyd y gwres a anfonir arnat.
15:51 Byddi'n wan a thlawd gan wialenodiau, wedi dy gystwyo â chlwyfau, yn anabl mwyach i dderbyn dy gariadon nerthol.
15:52 A fyddwn i mor eiddgar yn dy erbyn,” medd yr Arglwydd,
15:53 “oni bai i ti bob amser ladd fy etholedigion i, gan lawenhau a churo dwylo a gwawdio'n feddw uwchben eu cyrff?
15:54 Ymbincia!
15:55 Cei dâl putain yn dy boced, ac felly fe dderbynni dy wobr.
15:56 Fel y gwnei di i'm hetholedigion i,” medd yr Arglwydd, “felly y gwna Duw i tithau, a'th fwrw i'r un drygau.
15:57 Bydd dy blant farw o newyn; byddi dithau'n syrthio drwy'r cleddyf, sethrir dy ddinasoedd i'r llawr, a lleddir dy holl bobl ar faes y gâd.
15:58 Trengi o newyn y bydd y rhai sydd yn y mynyddoedd, yn cnoi eu cnawd eu hunain ac yn yfed eu gwaed eu hunain, o eisiau bara a syched am ddŵr.
15:59 Ti a fydd flaenaf mewn trueni, a daw drygau pellach i'th ran.
15:60 Wrth i'r gorchfygwyr fynd heibio ar eu taith yn ôl wedi dymchweliad Babilon, chwalant dy ddinas lonydd, dinistriant dy randir helaeth, a rhoi diwedd ar dy gyfran o ogoniant.
15:61 Byddant fel tân arnat, yn dy ddifetha fel sofl o'u blaen.
15:62 Ysant di a'th ddinasoedd, dy dir a'th fynyddoedd, a llosgi'n ulw dy holl fforestydd a'th goed ffrwythlon.
15:63 Dygant ymaith dy feibion yn gaethweision, ysbeilio dy holl eiddo, a rhoi diwedd ar ogoniant dy wedd.”

16:1 Gwae di, Fabilon, ac Asia hefyd! Gwae di, yr Aifft, a Syria!
16:2 Ymwregyswch â sachliain a blew geifr, galarwch a thristewch dros eich plant, oherwydd y mae eich distryw gerllaw.
16:3 Y mae'r cleddyf wedi ei ollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w droi ymaith?
16:4 Y mae tân wedi ei ollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w ddiffodd?
16:5 Y mae drygau wedi eu gollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w gyrru yn eu hôl?
16:6 A all unrhyw un yrru llew newynog yn ei ôl mewn coedwig, neu ddiffodd tân mewn sofl unwaith y bydd wedi dechrau ffaglu?
16:7 A all unrhyw un droi yn ei ôl saeth a yrrwyd gan saethwr cryf?
16:8 Yr Arglwydd Dduw sy'n gyrru'r drygau, a phwy sydd i'w troi yn eu hôl?
16:9 Bydd tân yn mynd allan o'i lid ef, a phwy sydd i'w ddiffodd?
16:10 Bydd yn melltennu, a phwy nid ofna? Bydd yn taranu, a phwy nid arswyda?
16:11 Yr Arglwydd fydd yn bygwth, a phwy ni lethir yn llwyr yn ei ŵydd ef?
16:12 Crynodd y ddaear o'i sylfeini, a'r môr yn ymchwyddo o'i ddyfnderoedd, a'r tonnau a'r pysgod sydd ynddo yn gyffro i gyd yng ngŵydd yr Arglwydd a gogoniant ei nerth.
16:13 Oherwydd nerthol yw deheulaw yr hwn sy'n anelu'r bwa, a llym yw'r saethau a ollyngir ganddo, ac unwaith ar eu ffordd ni ddiffygiant nes cyrraedd terfynau eithaf y ddaear.
16:14 Wele ddrygau ar eu ffordd, ac ni bydd troi arnynt nes mynd ar hyd y ddaear.
16:15 Y mae'r tân yn cynnau, ac ni ddiffoddir ef nes iddo ddinistrio sylfeini'r ddaear.
16:16 Fel nad yw saeth a ollyngir gan saethwr cydnerth yn dychwelyd, felly hefyd ni bydd troi'n ôl ar y drygau a ollyngir ar y ddaear.
16:17 Gwae fi, gwae fi! Pwy a'm gwared yn y dyddiau hynny?
16:18 Dechrau gwaeau, a bydd ochneidio mawr; dechrau newyn, a bydd llawer yn marw; dechrau rhyfeloedd, a bydd pwerau yn ofni; dechrau drygau, a bydd pawb yn crynu. Beth a wna neb, felly, pan ddaw'r drygau yn eu grym?
16:19 Dyna newyn a phla, cystudd a chyni, wedi eu hanfon yn fflangellau i gywiro pobl.
16:20 Eto, ynghanol hyn i gyd, ni thrônt oddi wrth eu drygioni, na chadw'r fflangellau mewn cof yn hir.
16:21 Bydd bwydydd mor rhad ar y ddaear fel y cred y bobl fod eu ffyniant yn sicr, ond dyna'r union adeg y bydd drygau'n blaguro ar y ddaear—cleddyf, newyn a therfysg mawr.
16:22 Bydd mwyafrif trigolion y ddaear yn marw o newyn; a'r gweddill, y rhai a ddihangodd rhag y newyn, yn cael eu difa gan gleddyf.
16:23 A theflir allan y meirw fel tail, ac ni bydd neb i gynnig cysur; oherwydd gadewir y ddaear yn anghyfannedd a'i dinasoedd yn adfeilion.
16:24 Ni bydd neb ar ôl i drin y tir a'i hau.
16:25 Bydd y coed yn dwyn eu ffrwythau, ond pwy fydd i'w cynaeafu?
16:26 Bydd y grawnwin yn aeddfedu, ond pwy fydd i'w sathru? Oherwydd bydd y broydd yn anghyfannedd hollol;
16:27 bydd un dyn yn hiraethu am weld rhywun arall neu glywed ei lais.
16:28 Oherwydd o ddinas gyfan gadewir deg; yng nghefn gwlad dau fydd ar ôl, yn ymguddio yn y fforestydd trwchus ac yn agennau'r creigiau.
16:29 Fel y gadewir tri neu bedwar olif ar bob coeden mewn perllan olewydd,
16:30 neu fel y gadewir rhai sypiau o rawnwin ar ôl mewn gwinllan hyd yn oed ar ôl ei chwilio'n ofalus gan gasglwyr llygatgraff,
16:31 felly yn y dyddiau hynny gadewir tri neu bedwar ar ôl gan y rhai fydd yn chwilio'r tai i ladd eu trigolion â'r cleddyf.
16:32 Gadewir y ddaear yn anghyfannedd, a meddiennir y meysydd gan ddrysni; bydd drain yn tyfu ar ffyrdd a holl lwybrau'r ddaear, am na bydd defaid yn eu tramwyo.
16:33 Bydd morynion yn galaru am nad oes ganddynt ddarpar-wŷr, bydd gwragedd yn galaru am nad oes ganddynt wŷr, a'u merched yn galaru am nad oes iddynt neb i'w cynnal.
16:34 Lleddir darpar-wŷr y naill yn y rhyfel, a bydd gwŷr y lleill yn marw o newyn.

Pobl Dduw yn Paratoi ar gyfer y Diwedd

16:35 Ond gwrandewch y geiriau hyn, chwi wasanaethyddion yr Arglwydd, a'u hystyried yn fanwl.
16:36 Dyma air yr Arglwydd; derbyniwch ef, a pheidiwch ag amau yr hyn sydd gan yr Arglwydd i'w ddweud.
16:37 Yn wir, y mae'r drygau yn agos; nid oes dal yn ôl arnynt.
16:38 Pan yw gwraig feichiog yn ei nawfed mis, a'i hamser i esgor yn agos, bydd poenau arteithiol yn ei chroth am ddwy neu dair awr; ond yna, pan yw'r baban yn dod allan o'r groth, ni all hi ddal ei phlentyn yn ôl am un munudyn.
16:39 Felly y daw'r drygau allan dros y ddaear yn ddi-oed, a bydd y byd yn griddfan gan y poenau sy'n ei ddal o bob tu.
16:40 Gwrandewch ar y gair, fy mhobl; ymbaratowch ar gyfer y frwydr, ac ynghanol y drygau byddwch fel dieithriaid ar y ddaear.
16:41 Gwertha fel un ar ffo, a phryna fel un ar dranc;
16:42 masnacha fel un heb obaith am elw, ac adeilada dŷ fel un sydd heb obaith byw ynddo.
16:43 Heua fel un na chaiff fedi, a'r un modd tocia'r gwinwydd fel un na wêl y grawnwin.
16:44 Priodwch fel rhai na fydd iddynt blant, a byddwch heb briodi fel rhai a fydd yn weddwon.
16:45 Felly y mae'r rhai sy'n llafurio yn llafurio'n ofer;
16:46 estroniaid fydd yn medi eu ffrwyth hwy, gan ysbeilio eu cyfoeth a dymchwel eu tai, a chaethiwo'u meibion, oherwydd mewn caethiwed a newyn y maent yn cenhedlu plant.
16:47 Nid yw arian yr arianwyr yn ddim ond ysbail; po fwyaf yr addurnant eu dinasoedd, eu tai, eu meddiannau a'u cyrff eu hunain,
16:48 mwyaf oll y byddaf finnau'n ddig wrthynt am eu pechodau, medd yr Arglwydd.
16:49 Fel dicter gwraig barchus, rinweddol tuag at butain,
16:50 felly y bydd dicter cyfiawnder tuag at anghyfiawnder a'i holl addurniadau; fe'i cyhudda wyneb yn wyneb, pan ddaw pleidiwr yr un sy'n chwilio allan bob pechod ar y ddaear.
16:51 Felly peidiwch ag efelychu anghyfiawnder na'i weithredoedd.
16:52 Oherwydd mewn byr amser fe'i symudir oddi ar y ddaear, a chyfiawnder fydd yn llywodraethu arnom.
16:53 Peidied y pechadur â dweud nad yw wedi pechu, oherwydd llosgir marwor tanllyd ar ben yr un sy'n dweud, “Nid wyf fi wedi pechu gerbron Duw a'i ogoniant ef.”
16:54 Yn sicr y mae'r Arglwydd yn gwybod am holl weithredoedd dynion, eu cynlluniau, a'u bwriadau, a'u meddyliau dyfnaf.
16:55 Dywedodd ef, “Bydded daear,” a daeth i fod; a “Bydded nef,” a daeth hithau i fod.
16:56 Yn unol â'i air ef y gosodwyd y sêr yn eu lle, ac y mae eu nifer hwy yn hysbys iddo.
16:57 Y mae ef yn chwilio'r dyfnderoedd a'u trysorfeydd; y mae wedi mesur y môr a'i gynnwys.
16:58 Â'i air cyfyngodd ef y môr oddi mewn i derfynau'r dyfroedd, a gosod y ddaear ynghrog uwchben y dŵr.
16:59 Taenodd ef y nef fel cronglwyd, a'i sefydlu goruwch y dyfroedd.
16:60 Gosododd ffynhonnau dŵr yn yr anialwch, a llynnoedd ar ben y mynyddoedd i ollwng afonydd i lawr o'r ucheldir i ddyfrhau'r ddaear.
16:61 Lluniodd ef ddyn, a gosod calon yng nghanol ei gorff; rhoddodd ynddo ysbryd a bywyd a deall,
16:62 ynghyd ag anadl y Duw Hollalluog, a greodd bob peth ac sy'n chwilio pethau cuddiedig mewn mannau dirgel.
16:63 Yn ddiau y mae hwn yn gwybod am eich cynllun chwi, ac am fwriadau eich meddwl. Gwae'r pechaduriaid a'r rhai sy'n dymuno cuddio'u pechodau!
16:64 Am hynny bydd yr Arglwydd yn chwilio'n fanwl eu holl weithredoedd hwy, a pheri i chwi i gyd gywilyddio.
16:65 Gwaradwydd fydd i chwi pan ddaw eich pechodau allan yn agored gerbron pawb; bydd eich anghyfiawnderau yn sefyll i'ch cyhuddo yn y dydd hwnnw.
16:66 Beth a wnewch chwi? Sut y gallwch guddio'ch pechodau oddi wrth Dduw a'i angylion?
16:67 Duw yn wir yw'r barnwr; ofnwch ef! Rhowch y gorau i'ch pechu, a rhowch heibio eich anghyfiawnderau, i beidio â'u cyflawni byth mwy. Yna daw Duw â chwi allan, a'ch rhyddhau o'ch holl drallodion.
16:68 Oherwydd yn wir y mae llu mawr â'u hawch amdanoch ar dân; fe gipiant ymaith rai ohonoch, a'ch bwydo â bwyd a offrymwyd i eilunod.
16:69 Caiff y rhai sy'n ildio iddynt eu gwatwar ganddynt, a'u diystyru, a'u sathru dan draed.
16:70 Mewn lle ar ôl lle a thrwy'r dinasoedd cyfagos, cyfyd erledigaeth chwyrn ar y rhai sy'n ofni'r Arglwydd.
16:71 Fel dynion gorffwyll, ni fyddant yn arbed neb wrth anrheithio a difrodi'r rhai sy'n dal i ofni'r Arglwydd.
16:72 Oherwydd difrodant ac anrheithiant eu cyfoeth, a'u bwrw allan o'u cartrefi.
16:73 Yna bydd yn amlwg fod fy etholedigion wedi eu profi, fel aur sy'n cael ei brofi yn y tân.
16:74 “Gwrandewch, fy etholedigion,” medd yr Arglwydd, “dyma ddyddiau'r cyfyngder wedi dod, ond fe'ch gwaredaf chwi ohonynt.
16:75 Peidiwch ag ofni na phetruso, oherwydd Duw yw eich arweinydd chwi.
16:76 Chwi sy'n cadw fy neddfau a'm gorchmynion i,” medd yr Arglwydd Dduw, “peidiwch â gadael i'ch pechodau gael y gorau arnoch, nac i'ch anghyfiawnderau gael y trechaf arnoch.
16:77 Gwae'r rhai sydd yn rhwym gan eu pechodau ac wedi eu gorchuddio gan eu hanghyfiawnderau. Y maent fel maes wedi ei oresgyn gan lwyni, a'i lwybr wedi ei orchuddio gan ddrain, heb ffordd i ddyn fynd trwyddo;
16:78 fe'i caeir, a'i draddodi i'w ddifa â thân.”