TOBIT

Rhagair

1:1 Dyma hanes Tobit fab Tobiel, fab Ananiel, fab Adwel, fab Gabael, fab Raffael, fab Ragwel, o linach Asiel ac o lwyth Nafftali.
1:2 Yn ystod teyrnasiad Salmaneser yn Asyria, fe'i cipiwyd yn gaeth o Thisbe, lle yng Ngalilea Uchaf i'r de o Cedes Nafftali ac i'r gogledd o Hasor, neu o gyfeiriad ffordd y gorllewin, i'r gogledd o Peor.

Boere Oes Tobit

1:3 Yr oeddwn i, Tobit, wedi dilyn llwybrau'r gwirionedd a gweithredoedd da ar hyd fy mywyd, gan fod yn hael iawn fy nghymwynas i'm tylwyth ac i'm cyd-genedl a aeth gyda mi mewn caethiwed i Ninefe yng ngwlad yr Asyriaid.
1:4 Yn wir, pan oeddwn yn ŵr ifanc, a minnau'n dal i fyw ar dir Israel, fy mamwlad, cefnodd holl lwyth Nafftali, fy nghyndad, ar dŷ Dafydd ac ar Jerwsalem, y ddinas a ddewiswyd o holl lwythau Israel iddynt offrymu aberthau ynddi. Yno y codwyd y deml, preswylfa Duw, a'i chysegru i'r holl genedlaethau am byth.
1:5 Yr oedd fy nhylwyth oll, sef teulu Nafftali fy nghyndad, yn offrymu aberthau ar holl fryniau Galilea i'r llo a osododd Jeroboam brenin Israel yn Dan.
1:6 Ar fy mhen fy hun yn unig, felly, yr euthum droeon i Jerwsalem ar gyfer y gwyliau, fel y gorchmynnwyd i holl Israel mewn ordinhad oesol. Byddwn yn prysuro i Jerwsalem gan gymryd gyda mi y blaenffrwyth a'r cyntaf-anedig, degwm y gwartheg a chneifiad cyntaf y defaid, a'u rhoi i feibion Aaron, yr offeiriaid, o flaen yr allor;
1:7 ac yn yr un modd rhoddwn i feibion Lefi, y cynorthwywyr yn Jerwsalem, ddegwm yr ŷd, y gwin a'r olew, y pomgranadau a'r ffigys a'r ffrwythau eraill. Byddwn yn cyfrannu ail ddegwm mewn arian am y chwe blynedd,
1:8 ac yn mynd a'i wario yn Jerwsalem bob blwyddyn, gan ddosbarthu'r arian i'r amddifaid ac i'r gweddwon yn ogystal ag i'r proselytiaid oedd wedi eu cysylltu eu hunain â phlant Israel. Byddwn yn mynd i fyny a'i ddosbarthu iddynt bob trydedd flwyddyn. Byddem yn ei fwyta yn unol â'r ordinhad a ordeiniwyd am y pethau hyn yng Nghyfraith Moses, ac yn unol â'r gorchmynion a orchmynnodd Debora, mam Ananiel ein taid; oherwydd fe'm gadawyd yn amddifad ar ôl marwolaeth fy nhad.

Tobit yn y Gaethglud

1:9 Wedi i mi dyfu'n ddyn, cymerais wraig o linach ein teulu. Cefais fab ganddi a rhoi'r enw Tobias arno.
1:10 Pan gipiwyd fi'n gaeth i Asyria, a minnau'n un o'r gaethglud, deuthum i Ninefe. Yr oedd fy nhylwyth oll a'm cyd-genedl yn cymryd o fwyd y Cenhedloedd,
1:11 ond ymgedwais i rhag bwyta mymryn o fwyd y Cenhedloedd.
1:12 A chan i mi ddal yn ffyddlon i'm Duw â'm holl fryd,
1:13 rhoddodd y Goruchaf imi wedd a enillodd ffafr gerbron Salmaneser; myfi fyddai'n prynu pob peth at ei ddefnydd.
1:14 Byddwn yn teithio i Media i brynu iddo yno, hyd ei farw. Gadewais godau o arian, gwerth deg talent, yng ngwlad Media yng ngofal Gabael, brawd Gabri.
1:15 Pan fu farw Salmaneser, daeth ei fab Senacherib yn frenin yn ei le, ac fe ataliwyd yr hawl i deithio i Media, fel na ellais deithio yno mwyach.
1:16 Yng nghyfnod Salmaneser bûm yn hael iawn fy nghymwynas i'm tylwyth o'm cyd-genedl:
1:17 byddwn yn rhannu fy mwyd â'r newynog, ac yn rhoi dillad i'r noeth; a phan ddigwyddwn daro ar un o'm cyd-genedl yn farw, a'i gorff wedi ei daflu dros furiau Ninefe, byddwn yn ei gladdu.
1:18 Cleddais hefyd bwy bynnag a laddwyd gan Senacherib wedi iddo ffoi yn ôl o Jwdea ar adeg y farnedigaeth a ddug Brenin y Nef arno ar gyfrif ei holl gableddau. Oherwydd yn ei ddicter fe laddodd lawer o blant Israel, ond byddwn yn dwyn eu cyrff ac yn eu claddu; ac er i Senacherib chwilio amdanynt, ni ddaeth o hyd iddynt.
1:19 Ond aeth rhywun o blith gwŷr Ninefe a hysbysu'r brenin mai myfi oedd yn eu claddu. Ymguddiais, a phan sylwedd-olais fod y brenin yn gwybod amdanaf a bod chwilio amdanaf i'm lladd, cododd arswyd arnaf, a rhedais i ffwrdd.
1:20 Yna cipiwyd fy holl eiddo. Ni adawyd dim imi nas cymerwyd i drysorfa'r brenin, ar wahân i Anna fy ngwraig a Tobias fy mab.
1:21 Ond cyn pen deugain diwrnod llofruddiwyd y brenin gan ddau o'i feibion. Ffoesant hwy am loches i fynydd-dir Ararat, ac felly daeth ei fab Esarhadon yn frenin ar ei ôl. Penododd yntau Achicar fab Anael, mab fy mrawd, yn oruchwyliwr ar holl drysorlys ei deyrnas; yn wir, cafodd awdurdod dros y weinyddiaeth gyfan.
1:22 Yna, wedi i Achicar eiriol ar fy rhan, dychwelais i Ninefe. Oherwydd yn ystod teyrnasiad Senacherib ar yr Asyriaid, Achicar oedd â gofal cwpan a sêl y brenin; ef hefyd oedd y prif weinidog a'r trysorydd. Ailbenodwyd ef i'r swyddi hyn gan Esarhadon. Yr oedd yn nai i mi, o'r un dras yn union â mi.

Tobit yn Ddall

2:1 Ac Esarhadon bellach yn frenin, dychwelais adref a chael Anna fy ngwraig a Tobias fy mab yn ôl. Adeg y Pentecost, ein gŵyl sy'n ŵyl sanctaidd yr Wythnosau, darparwyd cinio ardderchog ar fy nghyfer ac eisteddais i fwyta.
2:2 Yr oedd y bwrdd wedi ei osod, a danteithion lawer arno ar fy nghyfer, a dywedais wrth Tobias fy mab, “Fy machgen, dos am dro, ac os digwydd iti ddod ar draws rhywun tlawd o blith ein tylwyth, y gaethglud yn Ninefe, ac yntau'n ffyddlon â'i holl galon, tyrd ag ef, ac fe gaiff gydfwyta â mi. A chofia, fy machgen, byddaf yn aros amdanat nes i ti ddod yn ôl.”
2:3 Aeth Tobias allan i chwilio am rywun tlawd o blith ein tylwyth. Daeth yn ôl ac meddai, “'Nhad.” “Dyma fi, fy machgen,” meddwn wrtho. “Gwrando, 'nhad,” atebodd yntau, “y mae un o'n pobl wedi ei ladd, a'i gorff yn gorwedd yn y farchnadfa; cafodd ei daflu yno, wedi ei dagu, ychydig funudau yn ôl.”
2:4 Neidiais ar fy nhraed a gadael y cinio heb ei flasu; cymerais y corff oddi ar y briffordd a'i osod yn un o'm hystafelloedd hyd fachlud haul, er mwyn imi gael ei gladdu.
2:5 Yna dychwelais ac ymolchi, a bwyta fy mwyd mewn galar,
2:6 gan gofio geiriau'r proffwyd, y geiriau a lefarodd Amos yn erbyn Bethel, pan ddywedodd: “Troir eich gwyliau yn alar, a'ch holl ganeuon yn wylofain.” Wylais innau hefyd.
2:7 Wedi machlud haul, euthum allan a thorri bedd a chladdu'r corff.
2:8 Yr oedd fy nghym-dogion yn chwerthin am fy mhen a dweud, “Onid oes ofn arno bellach? Oherwydd pan geisiwyd ef i'w roi i farwolaeth am y weithred hon o'r blaen, fe redodd i ffwrdd, ond dyma fe unwaith eto'n claddu'r meirw.”
2:9 Y noson honno, wedi imi ymolchi, euthum allan i'm cyntedd a chysgu wrth wal y cyntedd, heb orchudd ar fy wyneb o achos y gwres.
2:10 Ni wyddwn fod adar y to ar y wal uwch fy mhen; syrthiodd diferion o'u baw yn dwym i mewn i'm llygaid, gan ymdaenu'n smotiau gwyn drostynt. Euthum at y meddygon am driniaeth, ond po fwyaf o ennaint a roddent ar fy llygaid, llwyraf oll y collwn fy ngolwg dan y smotiau gwyn, nes i mi fynd yn gwbl ddall. Bûm heb ddefnydd fy llygaid am bedair blynedd. Yr oedd fy nhylwyth oll yn gofidio amdanaf, ac am y ddwy flynedd cyn iddo ymfudo i Elymais bu Achicar yn gofalu amdanaf.

Dadl ynghylch Myn

2:11 Yn ystod y cyfnod hwn bu Anna fy ngwraig yn ennill cyflog wrth waith merched.
2:12 Byddai'n mynd â'i gwaith at ei chyflogwyr ac yn derbyn tâl amdano. Ar y seithfed dydd o fis Dystrus, torrodd y brethyn o'r ffrâm a mynd ag ef at ei chyflogwyr. Talasant ei chyflog yn llawn a rhoi iddi yn ogystal fyn o'r praidd i fynd ag ef adref.
2:13 Pan ddaeth i mewn ataf, dechreuodd y myn frefu. Gelwais ar y wraig a gofyn, “O ble y daeth y myn yma? Wedi ei ddwyn y mae, onid e? Dos ag ef yn ôl i'w berchnogion. Nid oes gennym hawl i fwyta dim sydd wedi ei ddwyn.”
2:14 “Fe'i rhoddwyd imi'n anrheg ar ben fy nghyflog,” oedd ei hateb imi. Er hynny, ni allwn ei chredu, a dywedais wrthi am ei roi'n ôl i'w berchnogion. Gwridais o'i blaen o achos hyn. Yna atebodd fi fel hyn: “Beth a ddaeth o'th gymwynasau di? Beth a ddaeth o'th weithredoedd da? Gwrando, y mae dy hanes di'n hysbys i bawb.”

Gweddi Tobit

3:1 Daeth trallod mawr arnaf, gan beri imi ochneidio ac wylo, ac yn fy nghyfyngder dechreuais weddïo fel hyn:
3:2 “Cyfiawn wyt ti, Arglwydd, a chyfiawn yw dy holl weithredoedd; trugarog wyt, a chywir yn dy holl ffyrdd; ti sy'n barnu'r byd.
3:3 Cofia fi yn awr, Arglwydd, ac edrych arnaf. Paid â'm cosbi am y pechodau ac am y camweddau diarwybod yr wyf fi a'm hynafiaid yn euog ohonynt.
3:4 Yr wyf wedi pechu ger dy fron ac wedi anwybyddu dy orchmynion. Traddodaist ni, felly, i anrhaith a chaethiwed a marwolaeth, ac i fod yn ddihareb ac yn destun siarad a chyff gwawd i'r holl genhedloedd y gwasgeraist ni i'w plith.
3:5 Yn wir, cywir yw dy aml farnedigaethau wrth fynnu rhoi cosb arnaf am fy mhechodau, oherwydd nid ydym wedi cadw dy orchmynion na rhodio'n gywir yn dy olwg di.
3:6 Yn awr, felly, gwna â mi yn ôl dy ddymuniad. Gorchymyn gymryd fy ysbryd oddi wrthyf, imi gael fy ngollwng yn rhydd oddi ar wyneb y ddaear a'm troi yn bridd; oherwydd marw sydd fuddiol i mi, nid byw, am i mi glywed geiriau o sen celwyddog, er mawr ofid imi. Arglwydd, rho orchymyn i mi gael rhyddhad o'r cyfyngder hwn; gad imi ddianc i'r orffwysfa dragwyddol, a phaid â throi dy wyneb oddi wrthyf, Arglwydd. Oherwydd gwell i mi farw na chael bywyd o flinder mawr a gwrando ar y fath sen.”

Gofid Sara, a'i Gweddi

3:7 Y diwrnod hwnnw digwyddodd i Sara, merch Ragwel, o Ecbatana yn Media orfod gwrando ar sen gan un o forynion ei thad.
3:8 Yn awr yr oedd hi wedi ei rhoi mewn priodas i saith gŵr yn eu tro, ond fe'u lladdwyd bob un gan Asmodeus, yr ysbryd drwg, cyn iddynt gael cydorwedd â hi fel sy'n briodol i ŵr a gwraig. Ond dywedodd y forwyn wrthi, “Ti yw llofrudd dy wŷr. Er gwaethaf dy roi mewn priodas i saith o wŷr bellach, ni chefaist enw'r un ohonynt.
3:9 Pam yr wyt ti'n ein cosbi ni am fod dy wŷr wedi marw? Dos i gadw cwmni â hwy. Gobeithio na welwn na mab na merch i ti byth.”
3:10 Bu hyn yn ofid calon iddi y diwrnod hwnnw. Yn ei dagrau aeth i fyny i oruwch-ystafell ei thad gyda'r bwriad o'i chrogi ei hun. Ond dechreuodd ailfeddwl a dweud, “Ni chânt fyth fwrw sen ar fy nhad a dweud wrtho, ‘Un ferch, a honno'n annwyl, oedd i ti, ond fe'i crogodd ei hun o achos ei helbulon.’ Byddai'r fath weithred yn ddigon i ddwyn fy nhad oedrannus i'r bedd o dristwch. Mwy buddiol i mi fydd peidio â'm crogi fy hun, ond gweddïo ar i'r Arglwydd ganiatáu imi farw, rhag imi ddioddef sen byth eto yn ystod fy mywyd.”
3:11 Aeth ar unwaith at y ffenestr, â'i dwylo ar led, a gweddïo fel hyn: “Bendigedig wyt ti, Dduw trugarog, a bendigedig fydd dy enw yn oes oesoedd; bydded i'th holl greadigaeth dy fendithio am byth.
3:12 Dyma fi wedi codi fy ngolwg a'm llygaid tuag atat;
3:13 gorchymyn fy ngollwng o'r ddaear, imi beidio â dioddef y fath sen byth eto.
3:14 Gwyddost, Arglwydd, fy mod yn lân o unrhyw aflendid gyda gŵr;
3:15 nid wyf wedi halogi fy enw i nac enw fy nhad yn nhir fy nghaethiwed. Myfi yw unig ferch fy nhad; nid oes ganddo blentyn arall i fod yn etifedd iddo, na brawd wrth law, na pherthynas i mi fy nghadw fy hun i fod yn wraig iddo. Eisoes yr wyf wedi colli saith gŵr; pa bwrpas, felly, sydd i mi ddal i fyw? Ond, os nad yw'n rhyngu bodd i ti ganiatáu i mi farw, Arglwydd, tro dy sylw trugarog at y sen a fwriwyd arnaf.”

Duw yn Gwrando Gweddiau Tobit a sara

3:16 Ar yr union adeg honno, fe glywyd gweddi'r ddau gan Dduw yn ei ogoniant,
3:17 ac anfonwyd Raffael i adfer y ddau: adfer Tobit, trwy symud y smotiau gwyn oddi ar ei lygaid, iddo gael gweld goleuni Duw â'i lygaid; ac adfer Sara, merch Ragwel, trwy ei rhoi hi'n wraig i Tobias fab Tobit, a'i rhyddhau o afael Asmodeus, yr ysbryd drwg, oherwydd Tobias oedd biau'r hawl arni o flaen pawb arall a oedd am ei phriodi. Aeth Tobit yn ôl i'w dŷ o'r cyntedd, ac ar yr un pryd yn union daeth Sara, merch Ragwel, hithau i lawr o'r oruwch-ystafell.

Cyngor Tobit i Tobias

4:1 Dyna'r diwrnod y cofiodd Tobit am yr arian yr oedd wedi ei adael yng ngofal Gabael yn Rhages yn Media,
4:2 a myfyriodd ynddo'i hun fel hyn: “Gan imi weddïo am gael marw, oni ddylwn alw Tobias fy mab ac esbonio wrtho am yr arian hwn cyn imi farw?”
4:3 Felly, galwodd ei fab Tobias a dweud wrtho pan ddaeth ato, “Rho angladd parchus i mi, ac anrhydedda dy fam; paid â'i gadael hi'n ddigymorth tra bydd hi byw. Gwna'r hyn a fydd wrth fodd ei chalon, a phaid â pheri gofid iddi ag unrhyw weithred.
4:4 Cofia, fy machgen, iddi wynebu peryglon lawer wrth dy gario di yn ei chroth. Pan fydd hi farw, rho hi i orwedd wrth fy ochr yn yr un bedd.
4:5 Bydd yn ffyddlon i'r Arglwydd holl ddyddiau dy fywyd, fy machgen, heb bechu o'th ewyllys na throseddu yn erbyn ei orchmynion. Gwna weithred-oedd da holl ddyddiau dy fywyd, a phaid â cherdded llwybrau drygioni;
4:6 oherwydd caiff y rhai cywir eu gweithredoedd lwyddiant yn eu gwaith,
4:7 ac i'r cyfiawn eu gweithredoedd
4:19 fe rydd yr Arglwydd gyngor da, ond y mae'n darostwng i ddyfnder Hades unrhyw un a fyn. Cofia'r gorchmynion hyn yn awr, fy machgen, heb adael i'r un ohonynt gael ei ddileu o'th feddwl.
4:20 “Ac yn awr, fy machgen, rwyf am i ti wybod bod gennyf ddeg darn arian ynghadw yng ngofal Gabael, brawd Gabri, yn Rhages yn Media.
4:21 Ac felly, os ydym wedi mynd yn dlawd, paid â phryderu, fy machgen. Mawr fydd dy gyfoeth os bydd iti ddal i ofni Duw, gan gilio oddi wrth bob pechod a gwneud yr hyn sydd dda yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.”

Paratoi ar gyfer y Daith

5:1 Yna atebodd Tobias ei dad Tobit fel hyn: “Gwnaf bob peth yr wyt wedi ei orchymyn imi, fy nhad;
5:2 ond sut y bydd hi'n bosibl i mi gael yr arian ganddo, ac yntau heb f'adnabod i a minnau heb ei adnabod ef? Pa arwydd a roddaf iddo, er mwyn iddo f'adnabod ac ymddiried ynof a rhoi'r arian imi? Nid wyf yn gyfarwydd â'r ffyrdd i Media, chwaith, i fynd yno.”
5:3 Yna atebodd Tobit ei fab Tobias, “Rhoddodd ei lofnod ar bapur i mi, a rhoddais innau fy llofnod iddo yntau, a thorri'r papur yn ei hanner, inni gael hanner yr un. Gadewais fy narn i gyda'r arian. Aeth ugain mlynedd heibio bellach er pan adewais yr arian yma ynghadw ganddo. Ond yn awr, fy machgen, chwilia am rywun y gellir dibynnu arno, i fynd ar y daith gyda thi. Fe dalwn gyflog iddo hyd at amser dy ddychweliad. Ac felly dos i dderbyn yr arian hwn yn ôl gan Gabael.”

Tobias yn Cyfarfod Raffael

5:4 Aeth Tobias allan i chwilio am rywun i fynd gydag ef i Media, un a fyddai'n gyfarwydd â'r ffordd. Wedi mynd allan, fe'i cafodd ei hun wyneb yn wyneb â Raffael, yr angel,
5:5 ond ni wyddai mai angel Duw oedd ef. Gofynnodd iddo, “O ble rwyt ti'n dod, ŵr ifanc?” “O blith meibion Israel, dy frodyr,” meddai wrtho, “ac 'rwyf wedi dod yma i gael gwaith.” A dyma'i holi ymhellach, “A wyt ti'n gyfarwydd â'r ffordd i fynd i Media?”
5:6 “Ydwyf,” oedd ei ateb, “bûm yno droeon. Rwy'n gyfarwydd o brofiad â phob cam o'r ffordd. Bûm ar deithiau mynych i Media, a lletya yn nhŷ Gabael, ein brawd, sy'n byw yn Rhages yn Media. Fe'i cyfrifir yn daith dau ddiwrnod cyfan o Ecbatana i Rhages, oherwydd y mae'n gorwedd yn y mynydd-dir.”
5:7 “Aros amdanaf, ŵr ifanc,” meddai wrtho, “rwyf am fynd i'r tŷ a rhoi gwybod i'm tad, oherwydd y mae arnaf dy angen i deithio gyda mi, ac mi ofalaf fi am dalu dy gyflog.”
5:8 “O'r gorau,” atebodd yntau, “disgwyliaf amdanat, ond paid â bod yn rhy hir.”

Tobit yn Cyfarfod Raffael

5:9 Aeth Tobias allan a galw arno. “Y mae 'nhad am dy weld di, ŵr ifanc,” meddai wrtho. Pan ddaeth i'r tŷ ato, Tobit oedd gyntaf â'i gyfarchiad. Ymatebodd yntau fel hyn: “A phob dymuniad da i tithau!” Ond ateb Tobit oedd: “Pa dda y gellir ei ddymuno i mi, bellach, a minnau heb ddefnydd fy llygaid? Ni allaf weld golau dydd; yr wyf wedi fy ngosod mewn tywyllwch, fel y meirw nad ydynt mwyach yn gweld y golau. Er yn fyw, rwyf yng nghwmni'r meirw; rwy'n clywed lleisiau pobl, ond ni allaf eu gweld.” “Cod dy galon,” meddai Raffael wrtho, “y mae ym mwriad Duw dy iacháu gyda hyn; cod dy galon!” Yna esboniodd Tobit iddo fel hyn: “Y mae Tobias fy mab am deithio i Media. A elli di fynd gydag ef a'i arwain yno? Fe ofalaf fi y cei di dy gyflog, fy mrawd.” Atebodd yntau, “Gallaf, mi af gydag ef. Rwy'n gyfarwydd â'r ffyrdd i gyd, am i mi fod droeon yn Media a thramwyo'i holl diroedd gwastad yn ogystal â'i mynyddoedd. Rwy'n adnabod ei ffyrdd i gyd.”
5:10 Yna gofynnodd Tobit iddo, “Fy mrawd, i ba deulu ac i ba lwyth yr wyt ti'n perthyn? Dywed wrthyf, fy mrawd.” “Pa angen sydd i ti wybod am fy llwyth?” gofynnodd yntau.
5:11 “Yr wyf am wybod y gwir am dy achau, fy mrawd,” meddai Tobit. “Beth yw dy enw?”
5:12 Yna dywedodd wrtho, “Asarias wyf fi, mab Ananias yr hynaf, o blith dy frodyr.”
5:13 Ymatebodd yntau, “Bendith arnat! Duw a'th gadwo ar y daith, fy mrawd! Paid â dal dig yn fy erbyn, fy mrawd, am i mi fynnu gwybod y gwir am dy deulu. Fel y digwydd, rwyt ti'n un o'n brodyr ac yn barchus a theilwng dy linach. Yr oeddwn yn adnabod Ananias a Nathan, dau fab Semelias yr hynaf. Yr oeddent yn arfer mynd ar bererindod i Jerwsalem gyda mi, ac yn addoli gyda mi yno. Nid aethant ar gyfeiliorn. Yr oedd dy frodyr yn ddynion da. Yr wyt ti'n tarddu o dras enwog. Ac felly bendith ar dy siwrnai!”
5:14 Ychwanegodd, “Rhof iti ddrachma y dydd yn gyflog, a'th dreuliau angenrheidiol, yr un fath ag i'm mab;
5:15 ac os cedwi di wrth ochr fy mab ar hyd y daith, yna fe ychwanegaf at dy gyflog.”
5:16 “Af gydag ef,” atebodd, “a phaid ag ofni. Yn iach yr ymadawn â thi, ac yn iach y dychwelwn atat, oherwydd y mae'r ffordd yn ddiogel.” “Bendith arnat, fy mrawd,” meddai Tobit wrtho. Yna galwodd ei fab a dweud wrtho, “Fy machgen, gwna dy baratoadau ar gyfer y daith, a dos gyda'th frawd. Boed i Dduw, sydd yn y nefoedd, eich cadw'n ddiogel ar y ffordd yno, a dod â chwi'n ôl ataf yn holliach. A boed i'w angel fod gyda chwi ar y ffordd, fy machgen, er diogelwch.” Wrth ymadael i gychwyn ar ei daith, cusanodd ei dad a'i fam, a chanodd Tobit yn iach iddo.
5:17 Ond dyma'i fam yn torri i wylo a chwyno wrth Tobit fel hyn: “Pam yr wyt ti wedi anfon fy machgen i ffwrdd? Onid ef yw'r ffon, megis, y pwyswn arni, ac yntau'n mynd a dod yn ein gwasanaeth?
5:18 Paid â phrysuro i hel arian at arian, ond er mwyn ein bachgen, cymer fod yr arian wedi ei golli.
5:19 Digon i ni yw'r math o fywyd sydd wedi ei roi inni gan yr Arglwydd.”
5:20 “Paid â hel meddyliau,” meddai wrthi, “yn holliach y mae ein bachgen yn dechrau ar ei daith, ac yn holliach y daw'n ôl atom. Caiff dy lygaid di ei weld yn fyw ac yn iach ar y dydd y daw'n ôl atat.
5:21 Paid â hel meddyliau, na phoeni amdanynt, fy chwaer, oherwydd bydd angel da yn gydymaith iddo, i hyrwyddo'i ffordd a dod ag ef yn ôl yn holliach.”
5:22 Yna distawodd hithau, a pheidio ag wylo.

Tobias yn Dal Pysgodyn

6:1 Cychwynnodd y bachgen ar ei daith, a'r angel gydag ef; aeth y ci hefyd yn gydymaith iddynt. Aethant yn eu blaen ill dau nes i'r nos eu dal, a threuliasant y noson gyntaf honno ar lan Afon Tigris.
6:2 Aeth y bachgen i lawr i olchi ei draed yn Afon Tigris, a dyma bysgodyn mawr yn neidio allan o'r dŵr gan geisio llyncu troed y bachgen.
6:3 Gwaeddodd y bachgen, ond meddai'r angel wrtho, “Gafael yn y pysgodyn a chydia'n dynn ynddo.” Cafodd y bachgen y trechaf ar y pysgodyn a'i dynnu i'r lan.
6:4 “Hollta'r pysgodyn,” meddai'r angel wrtho, “a thyn allan ei fustl, ei galon a'i afu, a'u cadw gyda thi, ond tafla'r perfedd i ffwrdd; oherwydd y mae i'r bustl, y galon a'r afu eu defnydd fel meddyginiaeth.”
6:5 Holltodd y bachgen y pysgodyn, felly, a chasglu'r bustl, y galon a'r afu. Yna ffriodd ddarn o'r pysgodyn a'i fwyta, a chadw'r gweddill wedi ei halltu. Teithiodd y ddau ymlaen gyda'i gilydd nes iddynt ddod yn agos i Media.
6:6 Yna holodd y bachgen yr angel: “Asarias, fy mrawd,” meddai wrtho, “beth yw'r feddyginiaeth sydd gan galon y pysgodyn, a'i afu a'i fustl?”
6:7 Atebodd yntau, “Os llosgi di galon ac afu pysgodyn o flaen gŵr neu wraig a flinir gan gythraul neu ysbryd drwg, bydd y mwg yn peri i bob blinder gilio oddi wrthynt, ac ni chaiff y cythreuliaid feddiant arnynt byth mwy.
6:8 A'r bustl, os eneini lygaid unrhyw un ag ef pan fydd smotiau gwyn wedi ymdaenu drostynt, ac os chwythi ar y smotiau gwyn, daw'r llygaid yn holliach.”

Cyrraedd Media

6:9 Wedi iddo fynd i mewn i Media, ac yntau erbyn hyn ar fin cyrraedd Ecbatana,
6:10 dywedodd Raffael wrth y bachgen, “Tobias, fy mrawd.” “Dyma fi,” atebodd yntau. “Rhaid inni letya heno yn nhŷ Ragwel, sy'n berthynas iti,” meddai wrtho. “Y mae ganddo ferch o'r enw Sara. Nid oes ganddo blentyn, na mab na merch, ar wahân i Sara yn unig,
6:11 a thi yw ei pherthynas agosaf, ac yn meddu'r hawl i'w chael yn etifeddiaeth rhagor undyn arall, a'r hawl hefyd i etifeddu holl eiddo ei thad.
6:12 Y mae hi'n ferch gall a dewr ac eithriadol brydferth, a'i thad yn ddyn nobl.” Ychwanegodd, “Y mae'n iawn i ti ei chael hi'n wraig. Gwrando arnaf, felly, fy mrawd. Siaradaf â'i thad heno am y ferch, er mwyn inni ei chael hi'n ddyweddi iti. A phan ddychwelwn o Rhages cawn ddathlu ei phriodas. Y mae gennyf wybodaeth sicr na all Ragwel ei gwrthod i ti, na'i dyweddïo i neb arall, gan y byddai felly yn haeddu marwolaeth yn ôl dyfarniad llyfr Moses, oherwydd y mae'n gwybod mai braint i ti rhagor undyn arall yw etifeddu ei ferch yn wraig. Gwrando arnaf yn awr, fy mrawd. Cawn siarad am y ferch heno, a'i dyweddïo i ti, a phan ddychwelwn o Rhages fe'i cymerwn hi'n wraig iti a mynd â hi'n ôl gyda ni i'th gartref.”
6:13 Ond atebodd Tobias Raffael fel hyn: “Asarias, fy mrawd, clywais ei bod hi wedi ei rhoi mewn priodas i saith gŵr yn barod, a'u bod wedi marw yn yr ystafell briodas, bob un. Y noson yr aent i mewn i gydorwedd â hi byddent farw.
6:14 Clywais sôn mai cythraul oedd yn eu lladd. Y mae arnaf ofn rhag i minnau farw. Er nad yw'r cythraul yn gwneud dim niwed iddi hi, y mae'n lladd unrhyw un a gais ddod yn agos ati. A minnau'n unig blentyn fy nhad, y mae arnaf ofn dwyn bywyd fy nhad a'm mam i'r bedd o alar amdanaf, a hwythau heb fab arall i'w claddu.”
6:15 Ond dyma Raffael yn gofyn iddo, “Onid wyt ti'n cofio gorchmynion dy dad, pan ddywedodd wrthyt am briodi gwraig o blith teulu dy dad? Gwrando yn awr, felly, fy mrawd, a phaid â phryderu ynghylch y cythraul hwn. Prioda hi. Rwy'n gwybod y bydd hi heno yn cael ei rhoi'n wraig iti.
6:16 Ond pan ei di i mewn i'r ystafell briodas, cymer ddarn o afu'r pysgodyn a'i galon, a'u taenu ar farwor offrwm yr arogldarth.
6:17 Bydd yr arogl yn codi a'r cythraul yn ei glywed ac yn ffoi. Ni ddaw llun ohono ar ei chyfyl hi byth mwy. A phan fyddi di ar glosio ati yn y gwely, codwch eich dau yn gyntaf a gweddïwch. Deisyfwch ar Arglwydd y nef ar iddo fod yn drugarog wrthych a'ch gwaredu. Paid ag ofni. Y mae hi wedi ei harfaethu i ti cyn dechrau'r byd. Ti sydd i'w hachub hi, er mwyn iddi fod yn gydymaith iti. Diau y cei blant ohoni hi, a byddant fel brodyr iti. Paid â phryderu.” Ar ôl i Tobias glywed geiriau Raffael, ei bod hi'n berthynas iddo, yn hanu o deulu ei dad, ymserchodd yn ddwfn ynddi a rhoi ei galon yn llwyr iddi.

Cyrraedd Tŷ Ragwel

7:1 Ar ôl cyrraedd Ecbatana, dywedodd Tobias wrtho, “Asarias, fy mrawd, dos â mi ar f'union at Ragwel ein perthynas.” Daeth ag ef, felly, i dŷ Ragwel, lle cawsant ef yn eistedd wrth borth y cyntedd. Hwy oedd gyntaf â'u cyfarchiad, ac yntau'n ateb, “Croeso cynnes i chwi, frodyr. Y mae'n dda gennyf eich bod wedi cyrraedd yn ddiogel.”
7:2 Aeth â hwy i mewn i'r tŷ, ac meddai wrth Edna ei wraig, “Onid yw'r gŵr ifanc yma'n debyg i'm perthynas Tobit?”
7:3 A dyma Edna yn eu holi: “O ble'r ydych chwi'n dod, frodyr?” “Yr ydym ni,” atebasant, “yn perthyn i feibion Nafftali, y rheini sydd mewn caethiwed yn Ninefe.”
7:4 Holodd ymhellach: “A ydych chwi'n adnabod Tobit ein perthynas?” “Ydym,” meddent, “yr ydym yn ei adnabod.” “A yw ef yn iach?” gofynnodd hi.
7:5 “Y mae'n fyw ac yn iach,” meddent, a Tobias yn ychwanegu, “Ef yw fy nhad.”
7:6 Neidiodd Ragwel ar ei draed a'i gusanu. Â dagrau yn ei lygaid llefarodd y geiriau hyn wrtho: “Bendith arnat, fy machgen! Rwyt ti'n fab i dad nobl a chywir.
7:7 Y mae'n drueni o'r mwyaf fod dyn mor gyfiawn ac aml ei gymwynasau wedi colli ei olwg.” Rhoes ei freichiau am wddf Tobias ei berthynas, ac wylo.
7:8 Torrodd Edna ei wraig i wylo o achos Tobit, a'r un modd Sara eu merch. Lladdodd Ragwel fyharen o'r praidd yn arwydd o'i groeso brwd iddynt. Wedi iddynt ymolchi drostynt a golchi eu dwylo, cymerasant eu lle wrth y bwrdd cinio. Yna gofynnodd Tobias i Raffael, “Asarias, fy mrawd, dywed wrth Ragwel am roi Sara fy mherthynas imi.”
7:9 Digwyddodd Ragwel glywed ei eiriau, a dywedodd wrth y llanc, “Bwyta, yf a bydd lawen y nos hon,
7:10 oherwydd nid eiddo neb ond ti, fy mrawd, yw'r fraint o gael Sara fy merch yn wraig iddo. Yn yr un modd hefyd nid oes hawl gennyf finnau i'w rhoi hi i'r un gŵr arall ond ti, oherwydd ti yw fy mherthynas agosaf. Ond ni allaf beidio â datgelu'r caswir iti, fy machgen.
7:11 Rwyf wedi ei rhoi hi'n wraig i saith gŵr o blith ein brodyr, ond bu farw pob un ohonynt yr union noson yr aent i mewn i gydorwedd â hi. Ond bellach bwyta ac yf, fy machgen. Bydd yr Arglwydd yn drugarog wrthych.” Ond atebodd Tobias, “Nid wyf am fwyta nac yfed dim oll yma cyn iti ddyfarnu ynglŷn â'm cais.”
7:12 “O'r gorau,” meddai Ragwel wrtho, “fe'i rhoddir hi iti yn unol ag ordinhad llyfr Moses, oherwydd o'r nef y daeth y dyfarniad ei bod i'w rhoi iti. Cymer dy berthynas. O hyn ymlaen rwyt ti'n frawd iddi hi a hithau'n chwaer i ti. Y mae hi wedi ei rhoi iti o'r dydd heddiw ac am byth. Bydded i Arglwydd y nef eich llwyddo chwi y nos hon, fy machgen, a chaniatáu i chwi drugaredd a thangnefedd.”

Priodas Tobias a Sara

7:13 Yna galwodd Ragwel Sara ei ferch. Pan ddaeth ato, gafaelodd yn ei llaw a'i chyflwyno hi i Tobias, gan ddweud, “Cymer hi yn unol â'r gyfraith ac â'r ordinhad sydd wedi ei hysgrifennu yn llyfr Moses, sef fy mod i'w rhoi yn wraig i ti. Cadw hi a dos â hi adref at dy dad yn ddiogel. Bydded i Dduw'r nef sicrhau llwyddiant a thangnefedd i chwi.”
7:14 Galwodd Ragwel ar ei mam hi a dweud wrthi am ddod â sgrôl, ac ysgrifennodd arni eu cyfamod priodasol, gan egluro hefyd iddo ei rhoi yn wraig i Tobias yn unol ag ordinhad cyfraith Moses.
7:15 Wedi hynny dechreu-sant fwyta ac yfed.
7:16 Yna galwodd Ragwel ar Edna ei wraig a dweud wrthi, “Fy chwaer, gwna'r ystafell arbennig yn barod, a chymer hi yno.”
7:17 Aeth hithau a chyweirio gwely yn yr ystafell, fel y dywedodd wrthi. Aeth â'r ferch yno, ond torrodd i wylo o'i hachos. Yna sychodd ei dagrau a dweud wrthi,
7:18 “Bydd ddewr, fy merch. Rhodded Arglwydd y nef iti lawenydd yn lle galar. Bydd ddewr, fy merch.” Yna aeth allan.

Bwrw Allan y Cythraul

8:1 Wedi iddynt orffen bwyta ac yfed, ac yn dymuno mynd i orwedd, cymerasant y gŵr ifanc a'i hebrwng i'r ystafell briodas.
8:2 Cofiodd Tobias gyfarwyddyd Raffael; cymerodd afu a chalon y pysgodyn o'r god oedd ganddo, a'u taenu ar farwor offrwm yr arogldarth.
8:3 Ataliwyd y cythraul gan arogl y pysgodyn, a rhedodd i ffwrdd i barthau pellaf yr Aifft. Ac i ffwrdd â Raffael ar ei ôl, a'i rwymo draed a dwylo yno'n ddiymdroi.

Gweddi Tobias

8:4 Aeth y cwmni allan a chloi drws yr ystafell briodas. Yna cododd Tobias o'r gwely a dweud wrthi, “Cod, fy chwaer. Gad inni weddïo ac erfyn ar ein Harglwydd ar iddo drugarhau wrthym a'n harbed.”
8:5 Cododd hithau, a dechreusant weddïo, gan erfyn am gael eu harbed. Fel hyn y dechreuodd Tobias weddïo: “Bendigedig wyt ti, Dduw ein hynafiaid, a bendigedig fydd dy enw o genhedlaeth i genhedlaeth am byth. Bendithied y nefoedd a'th holl gread-igaeth dydi yn oes oesoedd!
8:6 Tydi a wnaeth Adda, a gwnaethost Efa ei wraig hefyd i fod yn gymorth ac yn gefn iddo, ac o'r ddeuddyn yma y deilliodd yr hil ddynol. Tydi a ddywedodd, ‘Nid da i'r dyn fod ar ei ben ei hun; gwnawn iddo gymar yn gymorth iddo.’
8:7 Yn awr, felly, nid mewn puteindra yr wyf yn cymryd fy chwaer hon, ond mewn gwir briodas. Caniatâ dy drugaredd arnaf fi ac arni hithau, er mwyn inni fyw yn hen yng nghwmni'n gilydd.”
8:8 Ac meddai'r ddau gyda'i gilydd, “Amen, Amen.”
8:9 Yna aethant i orwedd am y nos.

Pryder y Rhieni

8:10 “Rhag ofn,” meddai, “i Tobias farw, ac i ninnau fynd yn gyff gwawd a dirmyg.”
8:11 Wedi iddynt orffen torri'r bedd, daeth Ragwel yn ôl i'r tŷ a galw ar ei wraig.
8:12 “Anfon un o'r morynion i'r ystafell,” meddai, “i fynd a gweld a yw'n dal yn fyw. Os yw wedi marw, yr ydym am ei gladdu rhag i neb wybod.”
8:13 Anfonasant y forwyn felly. Wedi iddynt gynnau lamp ac agor y drws, aeth hi i mewn a chael y ddau yn gorwedd gyda'i gilydd ac yn cysgu'n drwm.
8:14 Daeth y forwyn allan a dweud wrthynt, “Y mae'n fyw. Ni ddaeth unrhyw niwed iddo.”

Gweddi Ragwel

8:15 Yna bendithio Duw'r nef a wnaethant, gan ddweud, “Bendithier di, O Dduw, â phob bendith ddiffuant! Bendithied pobl di yn oes oesoedd!
8:16 Bendigedig wyt am iti lonni fy nghalon, oherwydd nid yr hyn a ofnwn a fu, ond yn hytrach gwnaethost â ni yn ôl dy fawr drugaredd.
8:17 Bendigedig wyt am iti drugarhau wrth y ddau unig blentyn yma. Dangos dy drugaredd wrthynt, Arglwydd, a'u cadw'n ddiogel, a chaniatâ iddynt hir oes o lawenydd yn dy drugaredd.”
8:18 Yna dywedodd wrth ei weision am lenwi'r bedd cyn iddi wawrio.Y Wledd Briodas
8:19 Dywedodd Ragwel ymhellach wrth ei wraig am grasu digon o fara, ac aeth yntau allan at yr anifeiliaid a dod â dau ych a phedwar maharen, a rhoi gorchymyn i'w rhostio. Dyma gychwyn felly ar y paratoadau.
8:20 Yna galwodd ar Tobias a dweud wrtho, “Ni chei symud oddi yma am bythefnos; ond yr wyt i aros yma i fwyta ac yfed yn fy nghartref, i lonni ysbryd cystuddiedig fy merch.
8:21 A pha bethau bynnag sy'n eiddo i mi, cymer hanner ohonynt i'th feddiant yn awr, a dos yn ôl yn ddiogel at dy dad; ac ar ôl inni farw, myfi a'm gwraig, bydd yr hanner arall yn eiddo i chwi. Bydd lawen, fy machgen. Yr wyf fi'n dad iti ac Edna'n fam iti; o hyn allan ac am byth, yr wyt ti mor agos atom ni ag yw dy chwaer. Bydd lawen, fy machgen.”

Y Daith i Rhages

9:1 Yna galwodd Tobias Raffael a dweud wrtho,
9:2 “Asarias, fy mrawd, cymer gyda thi bedwar gwas a dau gamel, a dos ar daith i Rhages. Ar ôl cyrraedd tŷ Gabael, rho iddo'r papur a lofnodwyd. Cymer yr arian yn ôl, ac yna tyrd â Gabael gyda thi i'r wledd briodas.
9:3-4 Fel y gwyddost, bydd fy nhad yn cyfrif y dyddiau, ac ni allaf oedi un diwrnod heb achosi gofid mawr iawn iddo. Ond yr wyt ti'n sylwi hefyd sut lw a dyngodd Ragwel; ni allaf fynd yn groes i'w lw ef.”
9:5 Teithiodd Raffael, felly, ynghyd â'r pedwar gwas a'r ddau gamel i Rhages yn Media, a lletya yn nhŷ Gabael. Rhoddodd y papur i Gabael a'i hysbysu fod Tobias fab Tobit wedi cymryd gwraig, a'i fod yn estyn gwahoddiad iddo i'r briodas. A dyma Gabael ar ei union yn cyfrif iddo y codau a oedd yn dal dan sêl, a chasglwyd hwy at ei gilydd.
9:6 Cododd y ddau gyda'r wawr i fynd i'r briodas. Daethant i dŷ Ragwel a chael Tobias yn eistedd wrth y bwrdd. Neidiodd yntau ar ei draed a chyfarch Gabael. Torrodd Gabael i wylo a bendithiodd Tobias â'r geiriau hyn: “Yr wyt ti'n ŵr nobl a chywir, ac yn fab i ŵr nobl a chywir, dyn cyfiawn ac aml ei gymwynasau. Rhodded yr Arglwydd fendith y nef i ti ac i'th wraig, i'th dad ac i'th fam-yng-nghyfraith! Bendigedig fyddo Duw am adael imi weld Tobias fy mherthynas, ac yntau mor debyg i'w dad.”

Pryder Tobit ac Anna

10:1 Yr oedd Tobit, bob dydd ar ôl ei gilydd, yn cadw cyfrif o'r dyddiau, sawl un oedd cyn i Tobias gyrraedd Rhages a sawl un cyn iddo ddychwelyd. A phan ddaeth y dyddiau i ben a'i fab heb ddod yn ei ôl,
10:2 dechreuodd ddyfalu, “Tybed a gafodd ei ddal yno? Efallai fod Gabael wedi marw, ac nad oes neb i drosglwyddo'r arian iddo.”
10:3 Ac yntau'n dechrau gofidio,
10:4 dywedodd Anna ei wraig, “Y mae hi ar ben ar fy machgen; nid yw bellach ar dir y rhai byw.” Torrodd i wylo a galaru am ei mab, a dweud,
10:5 “Gwae fi, fy mhlentyn, imi adael iti fynd, ti oleuni fy llygaid.”
10:6 Ond meddai Tobit wrthi, “Bydd dawel, fy chwaer, a phaid â phoeni. Y mae'n holliach. Y tebyg yw i ryw rwystr ddod ar ei ffordd. Gallwn ymddiried yn y gŵr sy'n gydymaith iddo, ac yntau'n un o'n tylwyth. Paid â gofidio amdano, fy chwaer; bydd yma cyn pen dim.”

Gadael Ecbatana

10:7 Ond atebodd hithau, “Gad lonydd imi, a phaid â'm twyllo. Y mae hi ar ben ar fy machgen.” A daeth yn arfer ganddi ruthro allan gyda dyfodiad pob dydd i gadw llygad ar y ffordd yr aeth ei mab ar hyd-ddi. Ni fyddai'n cymryd sylw o neb. Yna wedi machlud haul byddai'n dod i'r tŷ ac yn galaru ac wylo ar hyd y nos, heb gysgu dim.Gadael Ecbatana
10:8 Ond atebodd Ragwel Tobias fel hyn: “Aros, fy machgen, aros gyda mi; fe anfonaf genhadon at Tobit dy dad i roi gwybodaeth iddo amdanat.”
10:9 “Ddim ar unrhyw gyfrif,” meddai yntau. “Rwy'n ymbil arnat adael imi fynd oddi yma at fy nhad fy hun.”
10:10 Ar unwaith trosglwyddodd Ragwel i Tobias Sara ei briodferch ynghyd â hanner ei holl eiddo, yn gaethweision a chaethforyn-ion, yn wartheg a defaid, yn asynnod a chamelod, yn ddillad ac arian a llestri.
10:11 Felly ffarweliodd â hwy, gan gusanu Tobias. “Yn iach iti, fy machgen,” meddai wrtho, “bendith ar dy siwrnai! Bydded i Arglwydd y nef dy lwyddo di a Sara dy wraig! Rwyf am weld geni plant ichwi cyn imi farw.”
10:12 Yna dywedodd wrth Sara ei ferch, “Dos at dy dad-yng-nghyfraith, oherwydd o hyn ymlaen byddant hwy'n dad a mam iti, fel y tad a'r fam a'th genhedlodd. Dos mewn tangnefedd, fy merch. Rwyf am glywed gair da amdanat, tra byddaf byw.” Fe'u cusanodd a'u hanfon ar eu ffordd. A dywedodd Edna wrth Tobias, “Fy machgen, a'm brawd annwyl, doed yr Arglwydd â thi'n ôl, fel y caf fyw i weld dy blant di a Sara fy merch cyn imi farw. Yng ngŵydd yr Arglwydd yr wyf yn rhoi fy merch yn dy ofal di; paid ag achosi poen iddi holl ddyddiau dy fywyd. Dos mewn tangnefedd, fy machgen; o hyn ymlaen byddaf fi'n fam iti, a Sara'n chwaer iti. Doed llwyddiant i ni i gyd holl ddyddiau ein bywyd.” Cusanodd y ddau ohonynt, a'u hanfon ymaith yn holliach.

11:1 Ymadawodd Tobias â Ragwel gan ganu'n iach iddo a chlodfori Arglwydd nef a daear, brenin yr holl greadigaeth, am iddo ei lwyddo ef ar ei daith. A dywedodd Ragwel wrtho, “Rhwydd hynt i ti wrth iti anrhydeddu dy rieni holl ddyddiau eu bywyd.”

Cyrraedd Adref

11:2 “Fe wyddost am gyflwr dy dad pan ymadawsom ag ef;
11:3 gadewch inni frysio o'u blaen i gael y tŷ yn barod, tra bydd dy wraig a'r cwmni ar eu ffordd.”
11:4 Aeth y ddau ymlaen gyda'i gilydd. Yna dywedodd Raffael wrtho, “Cymer y bustl yn dy ddwylo.” Yr oedd y ci hefyd yn dilyn y tu ôl iddo ef a Tobias.
11:5 Yn y cyfamser yr oedd Anna'n eistedd, yn cadw llygad ar y ffordd yr aeth ei mab;
11:6 gwelodd ef yn dod, a dyma hi'n dweud wrth ei dad, “Y mae dy fab ar y ffordd, a'i gydymaith gydag ef.”
11:7 Cyn i Tobias ddod yn agos at ei dad, meddai Raffael wrtho, “Rwy'n berffaith siŵr y caiff ei olwg yn ôl.
11:8 Taena fustl y pysgodyn ar ei lygaid; bydd yr eli'n achosi i'r smotiau gwyn grebachu a syrthio i ffwrdd oddi ar ei lygaid. Yna caiff dy dad ei olwg yn ôl, a gweld golau dydd.”
11:9 A dyma Anna'n rhedeg at ei mab ac yn ei gofleidio. “Cefais dy weld, fy machgen,” meddai wrtho. “Rwy'n barod i farw yn awr.” A thorrodd i wylo.

Iacháu Tobit

11:10 Ar hynny cododd Tobit ar ei draed, a baglodd allan trwy ddrws y cyntedd.
11:11 Cerddodd Tobias ato â bustl y pysgodyn yn ei law; chwythodd ar ei lygaid, a chan afael yn dynn ynddo dywedodd, “Paid ag ofni, fy nhad.”
11:12 Rhoes yr eli ar ei lygaid a'i daenu drostynt.
11:13 Yna, â'i ddwy law fe dynnodd y bilen wen oddi ar gil llygaid ei dad. Cofleidiodd Tobit ei fab; torrodd i wylo a dweud,
11:14 “Rwy'n gallu dy weld, fy mhlentyn, goleuni fy llygaid.” Ychwanegodd, “Bendigedig fyddo Duw! Bendigedig fyddo'i enw mawr! Bendigedig fyddo'i holl angylion sanctaidd! Boed ei enw mawr arnom, a bendith ar ei holl angylion sanctaidd yn oes oesoedd!
11:15 Oherwydd cosbodd fi â'i ffrewyll, ond yn awr dyma fi'n gallu gweld Tobias fy mab.”

Sara yn Cyrraedd Tŷ Tobit

11:16 Yna aeth Tobit allan i borth Ninefe yn llawen i gyfarfod ei ferch-yng-nghyfraith, gan fendithio Duw. Daeth syndod ar drigolion Ninefe o weld Tobit yn cerdded a rhodio'n llawn egni heb neb i'w dywys,
11:17 a thystiodd Tobit ger eu bron sut y trugarhaodd Duw wrtho ac agor ei lygaid. Pan ddaeth Tobit at Sara, gwraig Tobias ei fab, bendithiodd hi â'r geiriau hyn: “Croeso cynnes iti, fy merch! Bendigedig fyddo Duw, sydd wedi dod â thi atom, fy merch! Boed bendith ar dy dad, bendith ar Tobias fy mab, a bendith arnat ti, fy merch! Croeso i'th gartref newydd, a bendith a llawenydd iti! Croeso, fy merch!” A'r diwrnod hwnnw bu dathlu llawen ymhlith yr holl Iddewon oedd yn Ninefe.
11:18 A daeth Achicar a Nabad, ei gefndyr, at Tobit i ddathlu.

Yr Angel Raffael

12:1 Wedi i'r dathlu ddod i ben, galwodd Tobit Tobias ei fab ato a dweud, “Fy machgen, cofia dalu ei gyflog i'r gŵr a fu'n gydymaith iti, a rho rywbeth ar ben ei gyflog iddo.”
12:2 “Fy nhad,” gofynnodd yntau, “pa faint o gyflog yr wyf i'w roi iddo? Ni welwn eu heisiau pe rhown iddo hanner y meddiannau y bu'n gymorth imi ddod â hwy adref.
12:3 Fe'm cadwodd yn ddiogel, rhoes iachâd i'm gwraig; bu'n gymorth imi ddod â'r arian, a rhoes iachâd i tithau. Pa faint o gyflog ychwanegol a roddaf iddo?”
12:4 Atebodd Tobit fel hyn: “Y mae'n deg iddo gael hanner y cwbl a ddygodd yn ôl, fy machgen.”
12:5 Galwodd ef ato, felly, a dweud, “Cymer hanner y cwbl a ddygaist yn ôl. Dyna dy gyflog, a dos mewn tangnefedd.”
12:6 Yna galwodd Raffael y ddau o'r neilltu a dweud wrthynt, “Bendithiwch Dduw, ac am y daioni a gawsoch ganddo clodforwch ef gerbron pob un byw, er mwyn iddynt ei fendithio a moliannu ei enw. Cyhoeddwch weithredoedd Duw i bawb gyda phob dyledus glod, a pheidiwch ag ymatal rhag ei glodfori.
12:7 Da yw cadw cyfrinach brenin, ond rhaid datguddio gweithredoedd Duw a'u canmol, gyda phob dyledus glod. Gwnewch ddaioni, ac ni ddaw drygioni ar eich cyfyl.
12:8 Gwell gweddi ddiffuant ac elusen gyfiawn na chyfoeth anghyfiawn; gwell rhoi elusen na phentyrru cyfoeth,
12:9 oherwydd y mae elusen yn achub rhag marwolaeth ac yn glanhau pob pechod.
12:10 Bydd y rhai sy'n rhoi elusen yn mwynhau bywyd yn ei gyflawnder, ond gelynion iddynt hwy eu hunain yw'r rheini sy'n euog o bechod ac anghyfiawnder.
12:11 “Mynegaf y gwir cyfan i chwi, heb guddio dim oddi wrthych. Yr wyf eisoes wedi ei fynegi i chwi pan ddywedais: ‘Da yw cadw cyfrinach brenin, ond rhaid datguddio gweithredoedd Duw a'u clodfori.’
12:12 Yn awr, pan weddïaist ti, Tobit, a Sara hithau, myfi a gyflwynodd eich gweddïau gerbron gogoniant yr Arglwydd; a'r un modd wrth iti gladdu'r meirw:
12:13 y noson y codaist o'r bwrdd swper yn ddibetrus i fynd i gladdu'r corff marw, yr adeg honno fe'm hanfonwyd atat i'th roi di ar brawf.
12:14 Dyna'r adeg hefyd yr anfonodd Duw fi i ddwyn iachâd i ti ac i Sara, dy ferch-yng-nghyfraith.
12:15 Myfi yw Raffael, un o'r saith angel sy'n sefyll wrth ymyl yr Arglwydd ac yn cael mynd i mewn gerbron ei ogoniant.”
12:16 Syfrdanwyd y ddau, a syrthiasant ar eu hwynebau mewn dychryn,
12:17 ond dywedodd ef wrthynt, “Peidiwch ag ofni. Tangnefedd i chwi! Bendithiwch Dduw am byth.
12:18 I mi fod yn eich plith, nid i mi y mae'r diolch am hynny, ond i ewyllys Duw; ef, gan hynny, sydd i gael eich clod holl ddyddiau eich bywyd; ef sydd i gael eich mawl.
12:19 Sylwch ar hyn amdanaf, na chymerais ddim i'w fwyta; ni welsoch chwi namyn rhith.
12:20 Yn awr, felly, bendithiwch yr Arglwydd ar y ddaear, a chlodforwch Dduw. Ond yr wyf fi'n esgyn at yr hwn a'm hanfonodd. Rhowch mewn ysgrifen yr holl bethau hyn a ddigwyddodd i chwi.”
12:21 Yna fe esgynnodd. Codasant ar eu traed, ond ni allent ei weld ef mwyach.
12:22 A dechreusant fendithio Duw a chanu mawl iddo a'i glodfori am y gweithredoedd mawr hyn o'i eiddo, pan ymddangosodd angel Duw iddynt.

Cân Tobit

13:1 Dyma gân Tobit: “Bendigedig fo'r Duw bytholfyw a'i deyrnas ef!
13:2 Oherwydd ef sy'n cosbi, ac yn trugarhau. Ef sy'n bwrw pobl i lawr hyd ddyfnder eithaf y bedd, ac ef hefyd sy'n eu codi i fyny o'r dinistr mawr. Nid oes dim a all ddianc rhag ei law.
13:3 Clodforwch ef gerbron y Cenhedloedd, blant Israel, oherwydd ef a'ch gwasgarodd yn eu plith hwy;
13:4 ac yno dangosodd ei fawredd i chwi. Dyrchafwch ef, felly, gerbron pob un byw, oherwydd ef yw ein Harglwydd; ef yw ein Duw;
13:5 Fe'ch cosba chwi am eich anghyfiawnderau, ac eto fe drugarha wrthych chwi oll, a'ch cynnull o blith yr holl genhedloedd, lle bynnag y'ch gwasgarwyd chwi yn eu plith.
13:6 Os dychwelwch ato â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, a gweithredu'n gywir ger ei fron, yna fe ddychwel atoch chwi, ac ni chuddia'i wyneb oddi wrthych ddim mwy. Ystyriwch yn awr y pethau a wnaeth yn eich plith, a chlodforwch ef ar uchaf eich llais. Bendithiwch yr Arglwydd cyfiawn a dyrchafwch y Brenin tragwyddol.
13:10 “Fe ailadeiledir dy babell iti mewn llawenydd i fod yn achos gorfoledd ynot i'r holl rai a alltudiwyd, ac yn arwydd o gariad ynot i'r holl drueiniaid ym mhob cenhedlaeth am byth.
13:11 Llewyrcha disgleirdeb dy oleuni i holl derfynau'r ddaear; daw cenhedloedd lawer atat o bell, a thrigolion holl eithafoedd y ddaear at dy enw sanctaidd, a'u rhoddion yn eu dwylo i'w cyflwyno i Frenin y Nef. Bydd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn gorfoleddu ynot, ac fe bery enw'r ddinas etholedig am byth.
13:12 Bydd melltith ar bawb a ddywed ddrygair wrthyt, a melltith ar bawb a gais dy ddifrodi a thynnu dy furiau i lawr, ar bawb a gais ddymchwel dy dyrau a rhoi dy drigfannau ar dân; ond bydd bendith am byth ar bawb sy'n dy barchu di.
13:13 Tyrd, felly, ac ymlawenha ym mhlant y cfiawn, am y byddant oll wedi eu casglu ynghyd ac yn bendithio'r Arglwydd tragwyddol. Gwyn eu byd y rhai sy'n dy garu; gwyn eu byd y rhai sy'n llawenhau yn dy lwyddiant.
13:14 Gwyn eu byd pawb sy'n gofidio amdanat ar gyfrif dy holl gystuddiau, oherwydd fe gânt lawenhau ynot ac edrych ar dy holl lawenydd am byth.
13:15 Fy enaid, bendithia'r Arglwydd, y Brenin mawr,
13:16 oherwydd fe adeiledir Jerwsalem yn ddinas iddo breswylio ynddi yn oes oesoedd. “Gwyn fy myd, pan ddaw gweddill fy hiliogaeth i weld dy ogoniant ac i glodfori Brenin y Nef. Fe adeiledir pyrth Jerwsalem â saffir ac emrallt, a'th holl furiau â meini gwerthfawr; adeiledir tyrau Jerwsalem ag aur, a'u hamddiffynfeydd ag aur pur;
13:17 palmentir heolydd Jerwsalem â rhuddemau a gemau Offir.
13:18 Bydd caneuon o orfoledd yn atseinio o byrth Jerwsalem, ac o'i holl breswylfeydd y llef, ‘Haleliwia! Bendigedig fyddo Duw Israel!’ Dan ei fendith ef, bendithiant hwy ei enw sanctaidd byth bythoedd.”

Cyngor Olaf Tobit

14:1 Â'r geiriau hyn gorffennodd Tobit ei emyn o fawl. Bu farw mewn tangnefedd, ac yntau'n gant a deuddeng mlwydd oed, a chladdwyd ef yn llawn clod yn Ninefe.
14:2 Yr oedd yn ddwy a thrigain oed pan ddaeth yr anaf ar ei lygaid, ond wedi iddo gael ei olwg yn ôl bu'n byw yn dda ei fyd. Bu'n hael ei gymwynasau, gan fendithio Duw a chlodfori ei fawredd yn gyson.
14:3 Ar ei wely angau galwodd ato ei fab Tobias a rhoi'r gorchymyn hwn iddo:
14:4 “Fy machgen, cymer dy blant a ffo i Media, oherwydd yr wyf fi'n credu gair Duw, y gair a lefarodd Nahum yn erbyn Ninefe. Fe gyflawnir y cyfan. Fe ddigwydd pob peth i Asyria a Ninefe yn union fel y llefarodd cenhadon Duw, proffwydi Israel; ni fydd yr un o'u holl eiriau yn methu. Fe ddigwydd pob peth yn ei amser priodol. Yn Media, felly, y cewch ddiogelwch, nid yn Asyria a Babilon, oherwydd y mae'n gred sicr gennyf y cyflawnir pob gair a lefarodd Duw. Dyma a fydd—ni fydd yr un gair o'r proffwyd-oliaethau yn methu. Fe wasgerir ein holl berthnasau sy'n preswylio yng ngwlad Israel, a'u dwyn yn gaeth o'u tir da. Bydd y cwbl o dir Israel yn anghy-fannedd; a bydd Samaria a Jerwsalem yn anghy-fannedd, ac am gyfnod bydd tŷ Dduw mewn galar, wedi ei ddifetha drwy dân.
14:5 “Ond eto fe drugarha Duw wrthynt, ac fe ddaw Duw â hwy yn ôl i dir Israel. Ailgodant ei dŷ, er na fydd yn debyg i'r tŷ cyntaf, nid nes y daw'r cyfnod penodedig o amser i ben. Wedi hynny, daw pob un yn ôl o'u caethglud ac adeiladu Jerwsalem yn ei holl ogoniant. Fe godir tŷ Dduw ynddi, fel y llefarodd proffwydi Israel amdani.
14:6 Bydd pob cenedl ar draws y byd, pob un ohonynt, yn troi'n ôl at Dduw mewn parchedig ofn diffuant; ymwrthodant oll â'u heilunod, a fu'n eu harwain ar gyfeiliorn i ffordd anwiredd,
14:7 a bendithiant y Duw tragwyddol mewn cyfiawnder. Ac fe gesglir ynghyd holl blant Israel a achubir yn y dyddiau hynny ac sy'n wir deyrngar i Dduw. Dychwelant i Jerwsalem a phreswylio yn ddiogel am byth yn nhir Abraham, a roddir iddynt i'w feddiannu. Bydd y rhai sy'n caru Duw mewn gwirionedd yn llawenhau, ond diflannu y bydd y pechaduriaid a'r drwgweithredwyr oddi ar wyneb y ddaear.
14:8 Ac yn awr, fy mhlant, dyma fy ngorchymyn i chwi: gwasanaethwch Dduw mewn gwirionedd, a gwnewch yr hyn sy'n gymeradwy yn ei olwg ef;
14:9 a chyfarwyddwch eich plant i wneud yr hyn sy'n iawn, ac i roi elusen, ac i fod yn deyrngar i Dduw a bendithio'i enw bob amser mewn gwirionedd ac â'u holl nerth.
14:10 “A thithau, fy machgen, dos allan o Ninefe. Paid ag aros yma. Y dydd y byddi'n claddu dy fam wrth fy ochr, ymfuda heb dreulio noson o fewn cyffiniau'r ddinas, oherwydd yr wyf yn gweld bod anghyfiawnder yn rhemp ac anffyddlondeb digywilydd yn uchel ei ben ynddi. Ystyria, fy machgen, yr holl bethau a wnaeth Nadab i Achicar, yr un a'i magodd. Oni orfodwyd ef i ymguddio yn y pridd, ac yntau'n fyw? Ond troes Duw y weithred gywilyddus yn fantais iddo: daeth Achicar allan i olau dydd, tra syrthiodd Nadab i fagl farwol, ac fe'i lladdodd. Am iddo roi elusen, fe ddihangodd Achicar o'r fagl farwol a osododd Nadab iddo, ond syrthiodd Nadab i'r fagl farwol, ac fe'i lladdodd.
14:11 Ystyriwch, felly, fy mhlant, beth yw ffrwyth elusengarwch, a beth yw ffrwyth anghyfiawnder, oherwydd lladd y mae hwnnw. Ond yn awr y mae fy einioes yn dod i ben.” Rhoesant ef i orwedd ar ei wely, a bu farw. Claddwyd ef yn llawn clod.
14:12 Wedi marw ei fam, claddodd Tobias hithau wrth ochr ei dad. Yna aeth Tobias a'i wraig i Media, ac ymsefydlu yn Ecbatana yn nhŷ Ragwel ei dad-yng-nghyfraith.
14:13 Gofalodd Tobias amdanynt yn eu henaint â phob parch, a'u claddu yn Ecbatana yn Media. Etifeddodd Tobias holl eiddo Ragwel yn ogystal ag eiddo Tobit ei dad.
14:14 Bu farw'n uchel ei barch, ac yntau'n gant a dwy ar bymtheng mlwydd oed.
14:15 Cyn iddo farw cafodd wybod am ddinistr Ninefe, gan weld ei chaethglud i Media, a gyflawnwyd gan Achiacharus brenin Media. Bendithiodd Dduw am yr holl bethau a wnaeth i bobl Ninefe ac Asyria. Cyn iddo farw, felly, cafodd lawenhau dros Ninefe, a bendithiodd yr Arglwydd Dduw yn oes oesoedd.