JUDIT

Rhyfel rhwng Nebuchadnesar ac Arffaxad

1:1 Yr oedd y Brenin Nebuchadnesar yn neuddegfed flwyddyn ei deyrnasiad ar yr Asyriaid yn Ninefe, y ddinas fawr.
1:2 Yn y dyddiau hynny, Arffaxad oedd yn teyrnasu ar y Mediaid yn Ecbatana, a chododd hwn furiau o gerrig nadd o amgylch Ecbatana. Yr oedd y cerrig yn dri chufydd o led a chwe chufydd o hyd, ac uchder y muriau a gododd oedd deg cufydd a thrigain, a'u lled yn hanner can cufydd.
1:3 Gosododd wrth byrth y ddinas dyrau can cufydd o uchder, a'u sylfeini'n drigain cufydd o led;
1:4 gwnaeth byrth hefyd a oedd yn codi i uchder o ddeg cufydd a thrigain, ac yn ddeugain cufydd o led, er mwyn i'w holl luoedd gychwyn allan mewn nerth, gyda'i wŷr traed yn eu rhengoedd.
1:5 Yn y dyddiau hynny, rhyfelodd y Brenin Nebuchadnesar yn erbyn y Brenin Arffaxad yn y gwastatir mawr, sef yr un sydd ar ffiniau Ragau.
1:6 Daeth i'w gyfarfod holl drigolion yr ucheldiroedd a phawb a drigai ar lannau afonydd Ewffrates, Tigris a Hydaspes, ac yn y gwastatir oedd yn eiddo i Arioch brenin Elam; ac ymunodd llawer o lwythau o feibion Chelewd â'r rheng ymladd.
1:7 Anfonodd Nebuchadnesar brenin yr Asyriaid at holl drigolion Persia ac at holl drigolion y gorllewin: preswylwyr Cilicia a Damascus, Lebanon ac Antilibanon, holl drigolion yr arfordir;
1:8 pobloedd ardal Carmel a Gilead, Galilea Uchaf a gwastatir eang Esdraelon;
1:9 pawb yn Samaria a'i threfi, ac i'r gorllewin o'r Iorddonen cyn belled â Jerwsalem, Batane, Chelws, Cades ac afon yr Aifft; trigolion Taffnes, Rameses a holl wlad Gosen
1:10 cyn belled â Tanis a Memffis; a holl drigolion yr Aifft hyd at ffiniau Ethiopia.
1:11 Ond diystyrodd pawb o drigolion yr holl ranbarth neges Nebuchadnesar brenin Asyria, gan wrthod ymuno ag ef i ryfela. Nid oedd arnynt ei ofn; yn wir, nid oedd ef namyn un dyn yn eu golwg; anfonasant ei genhadau yn eu hôl yn waglaw ac yn waradwyddus.
1:12 Gwnaeth hyn Nebuchadnesar yn dra chynddeiriog tuag at yr holl ranbarth hwnnw, a thyngodd i'w orsedd a'i frenhiniaeth y byddai'n siŵr o ddial ar holl diriogaethau Cilicia, Damascus a Syria, a hefyd yn lladd â'r cleddyf holl drigolion gwlad Moab, yr Ammoniaid a holl Jwdea, a holl bobl yr Aifft hyd at derfynau'r ddau fôr.
1:13 Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg anfonodd ei fyddin i ryfela yn erbyn y Brenin Arffaxad; bu'n fuddugoliaethus yn y frwydr a gyrru byddin Arffaxad ar ffo, ynghyd â'i holl wŷr meirch a'i holl gerbydau.
1:14 Meddiannodd ei ddinasoedd, ac wedi cyrraedd Ecbatana, goresgynnodd ei thyrau ac ysbeilio'i heolydd llydan, gan droi ysblander y ddinas yn waradwydd llwyr.
1:15 Daliodd Arffaxad ym mynyddoedd Ragau, trywanodd ef â'i bicellau, a'i lwyr ddifodi unwaith ac am byth.
1:16 Yna, dychwelsant i Ninefe, ef a'i fintai gymysg, yn llu enfawr o filwyr. Yno bu'n gorffwys a gwledda gyda'i fyddin am gant ac ugain o ddyddiau.

Rhyfel yn erbyn y Rhanbarth Gorllewinol

2:1 Yn y ddeunawfed flwyddyn, ar yr ail ddydd ar hugain o'r mis cyntaf, yn nhŷ Nebuchadnesar brenin yr Asyriaid, bu sôn am ddial ar yr holl ranbarth, fel yr oedd ef wedi bygwth eisoes.
2:2 Galwodd ynghyd ei holl swyddogion a'i holl bendefigion, a thrafod gyda hwy ei gynllun cudd, a chyhoeddi â'i enau ei hun derfyn ar holl ddrygioni'r rhanbarth.
2:3 Gwnaethant benderfyniad i ddinistrio pawb nad oedd wedi ufuddhau i orchymyn y brenin.
2:4 Yna, wedi iddo orffen egluro'i gynllun, galwodd Nebuchadnesar brenin Asyria ar Holoffernes, prif gadfridog ei fyddin, a'i ddirprwy, a dywedodd wrtho,
2:5 “Dyma orchymyn y brenin mawr, Arglwydd yr holl ddaear: dos allan o'm gŵydd, a chymer gyda thi wŷr eofn a chadarn, chwech ugain mil o wŷr traed a deuddeng mil o wŷr meirch.
2:6 Yr wyt i ryfela yn erbyn yr holl ranbarth gorllewinol, am i'w drigolion anufuddhau i'm gorchymyn i.
2:7 Dywed wrthynt am baratoi offrwm o bridd a dŵr, oherwydd yr wyf yn dod allan yn fy llid yn eu herbyn. Gorchuddiaf holl wyneb eu tir â thraed fy myddin, ac fe'u rhoddaf hwy yn ysbail i'm milwyr.
2:8 Bydd eu clwyfedigion yn llenwi'r ceunentydd, a bydd pob ffos ac afon yn llifo a gorlifo â chyrff;
2:9 a chymeraf hwy yn gaethglud i eithafoedd y ddaear.
2:10 A thithau, brysia i feddiannu i mi eu holl diriogaeth;
2:11 os ildio a wnânt i ti, gwarchod hwy drosof hyd amser eu cosbi. Ond i'r rhai sy'n anufudd paid â dangos trugaredd; traddoda hwy i gael eu lladd a'u hysbeilio trwy'r holl ranbarth a berthyn iti.
2:12 Ar fy mywyd ac ar holl nerth fy mrenhiniaeth y tyngaf: yr hyn a leferais, fe'i cyflawnaf â'm llaw fy hun.
2:13 A thithau, paid ag anufuddhau i unrhyw un o orchmynion dy Arglwydd, ond cwbl gyflawna bopeth yn union fel y gorchmynnais iti. Gweithreda yn ddi-oed.”

Ymgyrch Holoffernes

2:14 Felly, wedi ymadael â llys ei Arglwydd, galwodd Holoffernes holl fawrion, cadfridogion a swyddogion byddin Asyria,
2:15 a chasglu milwyr dethol yn unol â gorchymyn ei Arglwydd, chwech ugain mil o filwyr traed a deuddeng mil o saethwyr ar feirch,
2:16 a threfnodd hwy yn y dull arferol ar gyfer brwydr.
2:17 Cymerodd nifer enfawr o gamelod, asynnod a mulod i gario eu cyfreidiau; defaid, ychen a geifr di-rif i sicrhau darpariaeth
2:18 a dogn ddigonol o fwyd i bob un; ac yn ychwanegol, swm enfawr o aur ac arian o blas y brenin.
2:19 Yna cychwynnodd, ef a'i holl fyddin, i arloesi'r ffordd i Nebuchadnesar a gorchuddio holl wyneb y rhanbarth gorllewinol a'u cerbydau, eu gwŷr meirch a'u gwŷr traed dethol.
2:20 Yr oedd y cwmni cymysgryw a'u dilynodd fel haid o locustiaid neu fel llwch y ddaear, yn llu dirifedi.
2:21 Aethant o Ninefe daith dridiau i ymyl gwastatir Bectileth, a gwersyllu gerllaw Bectileth yn agos i'r mynydd i'r gogledd o Cilicia Uchaf.
2:22 Oddi yno symudodd Holoffernes ymlaen i'r mynydd-dir gyda'i holl fyddin, ei wŷr traed a'i wŷr meirch a'i gerbydau.
2:23 Difrododd Phwd a Lwd, ac anrheithio holl drigolion Rassis a'r Ismaeliaid ar ffin yr anialwch i'r de o wlad y Cheliaid.
2:24 Dilynodd Afon Ewffrates, a thramwyo drwy Mesopotamia gan lwyr ddinistrio'r holl drefi caerog ar lannau Afon Abron hyd at y môr.
2:25 Meddiannodd diriogaeth Cilicia, a lladd pawb a'i gwrthwynebai. Yna aeth i'r de i gyffiniau Jaffeth, a oedd yn ffinio ar Arabia.
2:26 Amgylchynodd yr holl Fidianiaid, a llosgi eu pebyll ac ysbeilio'u corlannau.
2:27 Aeth i lawr i wastatir Damascus ar adeg y cynhaeaf gwenith, a llosgi eu holl gnydau, difrodi eu defaid a'u gwartheg, dinistrio'u trefi, dinoethi eu meysydd, a thrywanu eu holl wŷr ifainc â min y cledd.
2:28 Disgynnodd braw a dychryn rhagddo ar drigolion y glannau yn Sidon a Tyrus, ar drigolion Swr ac Ocina, ac ar holl drigolion Jamnia; yr oedd trigolion Asotus ac Ascalon hefyd yn ei ofni'n ddirfawr.

Ymbil am Heddwch

3:1 Anfonasant genhadau ato i ymbil am heddwch, a dweud:
3:2 “Gweision y brenin mawr Nebuchadnesar ydym ni; gorweddwn ar ein hyd o'th flaen; gwna â ni yr hyn a fynni.
3:3 Ein ffermydd, ein holl dir, ein holl feysydd gwenith, ein defaid a'n gwartheg a'n holl gorlannau a'n pebyll, eiddot ti ydynt; defnyddia hwy fel y mynni.
3:4 Ein trefi a'u trigolion, dy gaethweision di ydynt; tyrd a'u trin hwy fel y gweli'n dda.”
3:5 Dychwelodd y cenhadau at Holoffernes ac adrodd y geiriau hyn iddo.
3:6 Daeth i lawr i'r arfordir, ef a'i fyddin, a gosod gwarchodwyr ar y trefi caerog, gan gymryd gwŷr dethol o'u plith fel cynghreiriaid.
3:7 Rhoesant hwy a'r holl wlad oddi amgylch groeso iddo â thorchau, â dawnsiau ac â thabyrddau.
3:8 Dinistriodd yntau yn llwyr eu holl gysegrleoedd, a thorri i lawr eu llwyni cysegredig. Yr oedd wedi ei orchymyn i ddinistrio holl dduwiau'r rhanbarth, er mwyn i bob cenedl addoli Nebuchadnesar yn unig, ac i bob llwyth ac iaith alw arno ef fel ar dduw.
3:9 Daeth i gyfeiriad Esdraelon, yn agos i Dothan, lle sy'n wynebu crib fynyddig enfawr Jwdea,
3:10 a gwersyllu rhwng Geba a Scythopolis. Arhosodd yno am fis cyfan er mwyn casglu'r holl gyfreidiau i'w fyddin.

Cynllun Amddiffyn yr Israeliaid

4:1 Pan glywodd yr Israeliaid oedd yn preswylio yn Jwdea am y cwbl a wnaeth Holoffernes, prif gadfridog Nebuchadnesar brenin yr Asyriaid, i'r cenhedloedd hynny, a'r modd yr anrheithiodd eu holl demlau a'u llwyr ddifodi,
4:2 parodd hynny iddynt ei ofni'n ddirfawr, a phryderu'n enbyd am Jerwsalem a theml yr Arglwydd eu Duw.
4:3 Nid oeddent ond newydd ddychwelyd o'r gaethglud, a dim ond yn ddiweddar yr oedd holl bobl Jwdea wedi eu hailuno, a'r llestri sanctaidd, yr allor a'r deml wedi eu hailgysegru ar ôl eu halogi.
4:4 Anfonasant neges at bob ardal yn Samaria, Cona, Bethoron, Belmain a Jericho, ac i Choba, Aisora a dyffryn Salem.
4:5 Wedi meddiannu copaon yr holl fryniau uchel a chadarnhau'r pentrefi oedd arnynt, rhoesant ddigon o fwyd ynghadw ar gyfer rhyfel; newydd orffen medi'r meysydd yr oeddent.
4:6 Ysgrifennodd Joacim yr archoffeiriad, a oedd yr adeg honno yn Jerwsalem, at drigolion Bethulia a Betomesthaim, lle sy'n wynebu ar Esdraelon, gyferbyn â'r gwastatir ger Dothan.
4:7 Dywedodd wrthynt am feddiannu bylchau'r mynydd-dir, oherwydd trwyddynt hwy yr oedd cael ffordd i mewn i Jwdea; a chan fod y fynedfa'n rhy gul ar gyfer mwy na dau, gellid yn hawdd rwystro'r fyddin rhag symud ymlaen.
4:8 Felly y gweithredodd yr Israeliaid yn ôl gorchymyn Joacim yr archoffeiriad a senedd holl bobl Israel, a oedd yn eistedd yn Jerwsalem.
4:9 Â thaerineb mawr llefodd pob gŵr yn Israel ar Dduw, ac ymddarostwng â thaerineb mawr.
4:10 Rhoesant sachliain am eu llwynau, hwy a'u gwragedd, eu plant, eu hanifeiliaid, a phob preswylydd estron a gwas cyflog a chaethwas,
4:11 a syrthiodd pob gŵr o Israeliad a oedd yn byw yn Jerwsalem, ynghyd â'u gwragedd a'u plant, o flaen y deml; taenasant ludw ar eu pennau a lledu eu sachlieiniau o flaen yr Arglwydd.
4:12 Ar ôl gwisgo'r allor hefyd â sachliain, gwaeddasant yn daer ag un llais ar Dduw Israel, iddo beidio â gadael i'w babanod gael eu dwyn yn ysbail, i'w gwragedd fynd yn anrhaith, i'w dinasoedd treftadol gael eu difodi a'u teml ei halogi er llawenydd maleisus y Cenhedloedd.
4:13 Gwrandawodd yr Arglwydd ar eu cri a thosturio wrth eu gorthrymder. Ymroes y bobl yn holl Jwdea a Jerwsalem i ymprydio am lawer o ddyddiau o flaen teml yr Arglwydd Hollalluog.
4:14 Yr oedd Joacim yr archoffeiriad a'r holl offeiriaid a safai gerbron yr Arglwydd, a'r rhai oedd yn gweini ar yr Arglwydd, wedi gwregysu eu llwynau â sachlieiniau, ac yn offrymu'r poethoffrwm arferol, yr addunedau a rhoddion gwirfoddol y bobl.
4:15 Â lludw ar eu penwisg, dalient i lefain â'u holl egni ar i'r Arglwydd ymweld â holl dŷ Israel er daioni.

Cyngor Rhyfel yng Ngwersyll Holoffernes

5:1 Pan dderbyniodd Holoffernes, prif gadfridog byddin Asyria, y newydd fod yr Israeliaid wedi ymbaratoi at ryfel, eu bod wedi cau bylchau'r mynydd-dir ac wedi cadarnhau holl gopaon yr ucheldir, ac wedi gosod maglau ar y gwastadeddau, aeth yn gynddeiriog.
5:2 Galwodd ato holl lywodraethwyr Moab, cadfridogion Ammon, a holl benaethiaid yr arfordir,
5:3 a dweud wrthynt, “Dywedwch wrthyf yn awr, chwi Ganaaneaid, pwy yw'r bobl hyn sy'n trigo yn y mynydd-dir? Ym mha drefi y maent yn preswylio? Beth yw nifer eu byddin? O ble y daw eu grym a'u gallu? Pa frenin sy'n llywodraethu arnynt ac yn arwain eu byddinoedd?
5:4 Pam y bu iddynt hwy'n unig o holl drigolion y gorllewin wrthod dod i'm cyfarfod?”

Araith Achior ac Ymateb y Dyrfa

5:5 Atebodd Achior, arweinydd yr holl Ammoniaid, ef: “Gwrandawed f'arglwydd air o enau ei was, ac fe ddywedaf y gwir wrthyt am y bobl hyn, trigolion y mynydd-dir hwn sy'n gyfagos iti: ni ddaw un celwydd allan o enau dy was.
5:6 Disgynyddion y Caldeaid yw'r bobl hyn;
5:7 buont yn trigo gynt yn Mesopotamia, am iddynt wrthod dilyn duwiau eu hynafiaid, a fu'n byw yn Caldea.
5:8 Yr oeddent wedi cefnu ar arferion eu hynafiaid a throi i addoli Duw y Nefoedd, y Duw yr oeddent wedi dod i'w adnabod. Gyrrodd y Caldeaid hwy allan o ŵydd eu duwiau, a ffoesant hwythau i Mesopotamia, lle buont yn trigo am gyfnod hir.
5:9 Yna galwodd eu Duw arnynt i ymadael â'u trigfa yno a mynd i wlad Canaan. Yno bu iddynt ymgartrefu a chasglu cyfoeth mawr mewn aur, arian ac anifeiliaid lawer.
5:10 Aethant i lawr i'r Aifft pan ymledodd newyn dros wlad Canaan, a byw yno tra oedd cyflenwad o fwyd iddynt. Ac yno lluosogodd eu nifer gymaint fel na ellid rhifo'u poblogaeth,
5:11 a throes brenin yr Aifft yn eu herbyn, ac ymddwyn yn ddichellgar atynt drwy beri iddynt lafurio'n galed i wneud priddfeini, a'u darostwng i safle caethweision.
5:12 Llefasant hwythau ar eu Duw, a thrawodd ef holl wlad yr Aifft â phlâu nad oedd meddyginiaeth iddynt. Gyrrodd yr Eifftiaid hwy allan.
5:13 A sychodd Duw y Môr Coch o'u blaen,
5:14 a'u harwain i Fynydd Sinai a Cades-barnea. Bwriasant allan holl drigolion yr anialwch,
5:15 a thrigasant yng ngwlad yr Amoriaid, gan ddinistrio'n llwyr â'u llu nerthol holl bobl Hesbon. Yna, ar ôl croesi'r Iorddonen a meddiannu'r holl fynydd-dir,
5:16 gyrasant allan o'u blaen y Canaaneaid, y Peresiaid, y Jebusiaid, y Sichemiaid a'r holl Gergesiaid, ac ymgartrefu yno am gyfnod maith.
5:17 Cyhyd ag y peidient â phechu yn erbyn eu Duw, fe fyddai llwyddiant iddynt, gan mai Duw sy'n casáu drygioni yw eu Duw hwy.
5:18 Felly, pan wyrasant oddi ar y llwybr a osododd ef iddynt, dinistriwyd hwy'n llwyr mewn rhyfeloedd lawer, a'u cludo'n garcharorion i wlad arall. Dymchwelwyd i'r llawr deml eu Duw, a goresgynnwyd eu trefi gan eu gelynion.
5:19 Bellach troesant yn ôl at eu Duw, daethant i fyny o'r lleoedd y gwasgarwyd hwy iddynt, a meddiannu Jerwsalem, lle mae eu cysegr, ac ymgartrefu yn y mynydd-dir am ei fod yn anghyfannedd.
5:20 “Yn awr, f'arglwydd feistr, os yw'r bobl hyn yn cyfeiliorni ac yn pechu yn erbyn eu Duw, a ninnau'n dod i wybod iddynt gyflawni'r trosedd hwn, yna awn i fyny i ryfela yn eu herbyn;
5:21 ond os nad oes yn eu cenedl hwy unrhyw anghyfraith, gad lonydd iddynt, f'arglwydd, rhag ofn i'w Harglwydd a'u Duw eu hamddiffyn, ac i ninnau fynd yn gyff gwawd i'r holl fyd.”
5:22 Pan orffennodd Achior lefaru'r geiriau hyn, dechreuodd yr holl bobl oedd yn sefyll o amgylch y babell furmur yn ei erbyn; a galwodd swyddogion Holoffernes, a holl drigolion yr arfordir a Moab, am ei dorri'n ddarnau.
5:23 “Ni ddychrynir ni gan yr Israeliaid,” meddent, “oherwydd pobl ydynt heb na'r gallu na'r grym i ymfyddino'n effeithiol.
5:24 Awn i fyny felly, f'arglwydd Holoffernes, ac fe'u traflyncir gan dy fyddin fawr di.”

Araith Holoffernes

6:1 Pan ddistawodd dwndwr y bobl oedd o amgylch y cyngor, dywedodd Holoffernes, prif gadfridog byddin Asyria, wrth Achior yng ngŵydd yr holl estroniaid, ac wrth holl bobl Moab,
6:2 “A phwy wyt ti, Achior, ti a'th filwyr cyflog o Effraim, i broffwydo yn ein mysg fel y gwnaethost heddiw, a'n gwahardd rhag rhyfela yn erbyn cenedl Israel am y byddai eu Duw yn eu hamddiffyn? Pwy sydd Dduw ond Nebuchadnesar?
6:3 Pan enfyn ef ei lu nerthol, fe'u hysguba'n llwyr oddi ar wyneb y ddaear, ac ni chânt waredigaeth gan eu Duw. Ond nyni, gweision Nebuchadnesar ydym; fe'u darostyngwn hwy fel un gŵr, ac ni ddaliant eu tir o flaen ein gwŷr meirch;
6:4 byddwn yn eu difa'n llwyr. Bydd eu mynyddoedd yn feddw ar eu gwaed, a'u gwastadeddau yn llawn o'u cyrff. Ni allant sefyll yn ein herbyn, ond fe'u llwyr ddifethir, medd y Brenin Nebuchadnesar, arglwydd yr holl ddaear. Y mae ef wedi llefaru, ac ni phrofir yn ofer yr un o'r geiriau a lefarodd ef.
6:5 Ond amdanat ti, Achior, ti was cyflog Ammon, yn dy anwiredd y lleferaist ti y geiriau hyn heddiw; ni chei weld fy wyneb eto, o'r dydd hwn nes i mi ddial ar hiliogaeth y ffoaduriaid hynny o'r Ai fft.
6:6 Ond pan ddychwelaf, caiff cleddyfau fy milwyr a gwaywffyn fy ngosgordd dy drywanu drwy dy ystlysau, ac fe syrthi dithau ymhlith eu clwyfedigion.
6:7 Yn awr, caiff fy ngweision dy gymryd di i ffwrdd i'r mynydd-dir, a'th roi yn un o drefi'r bylchau,
6:8 ond ni chei di farw nes iti gael dy lwyr ddifetha gyda hwy.
6:9 Os wyt yn wir yn hyderus na chymerir hwy, paid ag edrych mor ddigalon. Lleferais, ac ni fydd un o'm geiriau nas cyflawnir.”

Mynd ag Achior i Bethulia

6:10 Gorchmynnodd Holoffernes i'r gweision hynny a oedd ganddo yn ei babell afael yn Achior, a mynd ag ef i Bethulia i'w drosglwyddo i'r Israeliaid.
6:11 Gafaelodd y gweision ynddo a'i ddwyn allan o'r gwersyll i'r gwastatir, a mynd oddi yno i'r mynydd-dir, nes cyrraedd y ffynhonnau islaw Bethulia.
6:12 Gwelodd trigolion y dref hwy; codasant eu harfau a mynd allan o'r dref i gopa'r mynydd, a'u ffon-daflwyr i gyd yn lluchio cerrig at y gelyn, i'w rhwystro rhag dringo i fyny.
6:13 Llithrasant hwy dan gysgod y mynydd, a chlymu Achior, ac wedi ei daflu i lawr, ei adael yn gorwedd wrth droed y mynydd, a dychwelyd at eu harglwydd.
6:14 Pan ddaeth yr Israeliaid i lawr o'u tref a'i ddarganfod yno, datodasant ei rwymau a mynd ag ef i Bethulia a'i osod gerbron y rhai oedd yn llywodraethwyr eu tref
6:15 yr adeg honno, sef Osias fab Micha, o lwyth Simeon, Chabris fab Gothoniel, a Charmis fab Melchiel.
6:16 A dyma hwy'n gwysio holl henuriaid y dref i gyfarfod, a brysiodd yr holl wŷr ifainc a'r gwragedd i'r cyfarfod. Dygwyd Achior gerbron yr holl bobl, a gofynnodd Osias iddo beth oedd wedi digwydd.
6:17 Atebodd yntau trwy adrodd hanes cyngor Holoffernes, yr holl bethau a ddywedodd ef ei hun gerbron llywodraethwyr Asyria, a phopeth a ddywedodd Holoffernes mewn bygwth ymffrostgar yn erbyn Israel.
6:18 Yna syrthiodd y bobl i lawr mewn addoliad, a gweiddi'n uchel ar Dduw,
6:19 “Arglwydd Dduw y nefoedd, gwêl eu balchder; tosturia wrth ddarostyngiad ein cenedl, a dangos heddiw dy ffafr i'th bobl sanctaidd.”
6:20 Yna rhoesant eu cymeradwyaeth i Achior, a'i ganmol yn fawr.
6:21 Cymerodd Osias ef o'r cyfarfod i'w dŷ ei hun, a gwnaeth wledd i'r henuriaid; a thrwy'r holl noson honno buont yn galw ar Dduw Israel am ei gymorth.

Gwarchae ar Bethulia

7:1 Trannoeth gorchmynnodd Holoffernes i'w holl fyddin, a phawb a ddaethai'n gynghreiriaid iddo, symud yn erbyn Bethulia, a meddiannu bylchau'r mynydd-dir, ac ymosod ar yr Israeliaid.
7:2 Y diwrnod hwnnw symudodd yr holl ryfelwyr eu gwersyll, yn dyrfa enfawr: eu lluoedd arfog yn gant saith deg o filoedd o wŷr traed a deuddeng mil o wŷr meirch, heb gyfrif y gwŷr traed a oedd yn cludo cyfreidiau'r fyddin.
7:3 Ar ôl iddynt wersyllu yn y dyffryn ger Bethulia, wrth y ffynnon, yr oedd eu gwersyll yn ymestyn i gyfeiriad Dothan mor bell â Belbaim yn ei led, ac yn ei hyd o Bethulia i Cyamon gogyfer ag Esdraelon.
7:4 Pan welodd yr Israeliaid y llu enfawr ohonynt, daeth ofn mawr arnynt, ac meddent bob un wrth ei gymydog, “Dinoethir yn awr holl wyneb y ddaear gan y rhai hyn; ni ddichon y mynyddoedd uchel na'r dyffrynnoedd na'r bryniau ddal eu pwysau.”
7:5 Cymerodd pob un ei arfau rhyfel, ac wedi cynnau coelcerthi ar eu tyrau, arosasant ar wyliadwriaeth ar hyd y noson honno.
7:6 Y diwrnod wedyn, arweiniodd Holoffernes ei holl wŷr meirch allan yng ngolwg yr Israeliaid oedd yn Bethulia.
7:7 Wedi chwilio'r ffyrdd i fyny i'w tref hwy, cafodd hyd i'w ffynhonnau dŵr a'u meddiannu, ac wedi gadael milwyr i'w gwarchod, dychwelodd at ei bobl.
7:8 Yna, daeth ato holl lywodraethwyr yr Edomiaid, arweinwyr y Moabiaid a phenaethiaid yr arfordir, a dweud,
7:9 “Gwrandawed ein harglwydd ar ein gair, rhag i'w fyddin ddioddef colled.
7:10 Nid yn eu gwaywffyn y mae'r bobl hyn, yr Israeliaid, yn ymddiried, ond yn uchder y mynyddoedd lle y maent yn preswylio, oherwydd nid yn hawdd y gellir cyrraedd copaon eu mynyddoedd hwy.
7:11 Felly, f'arglwydd, paid â rhyfela yn eu herbyn yn y dull arferol, ac ni chollir un gŵr o'th fyddin.
7:12 Aros yn dy wersyll a diogela bob un o'th filwyr; a goresgynned dy weision y ffynnon ddŵr sy'n llifo allan o odre'r mynydd,
7:13 oherwydd ohoni hi y caiff holl drigolion Bethulia eu dŵr. Fe'u difethir gan syched, ac fe ildiant eu tref. Yna fe awn ninnau a'n pobl i fyny i gopaon y mynyddoedd cyfagos a gwersyllu arnynt, i ofalu na all neb fynd allan o'r dref.
7:14 Dihoenant o newyn, hwy a'u gwragedd a'u plant, ac fe'u gwasgerir hwy'n gyrff ar heolydd eu trigle cyn i gleddyf ddod yn agos atynt.
7:15 Dyma'r ffordd iti dalu'r pwyth yn ôl, drwg am eu drwg hwy yn gwrthryfela a gwrthod dy gyfarfod mewn heddwch.”
7:16 Yr oedd eu geiriau wrth fodd Holoffernes a'i holl osgordd, a gorchmynnodd weithredu yn ôl eu cynllun.
7:17 Symudodd yr Ammoniaid, ynghyd â phum mil o Asyriaid, eu gwersyll a'i sefydlu yn y dyffryn, a goresgyn y ffynhonnau, cyflenwad dŵr yr Israeliaid.
7:18 Yna, aeth yr Edomiaid a'r Ammoniaid i fyny a gwersyllu yn y mynydd-dir gyferbyn ag Egrebel ger Chusi, ar lan ceunant Mochmur. Gwersyllodd gweddill byddin Asyria ar y gwastatir, gan orchuddio holl wyneb y tir; yr oedd eu pebyll a'u cyfreidiau yn wersyll enfawr, a hwythau'n dyrfa dra lluosog.
7:19 Gwaeddodd yr Israeliaid ar yr Arglwydd eu Duw; yr oeddent wedi digalonni am i'w holl elynion eu hamgylchynu, a hwythau heb fodd i ddianc rhagddynt.
7:20 Bu holl fyddin Asyria, yn wŷr traed, yn gerbydau, ac yn wŷr meirch, yn gwarchae arnynt am dri deg a phedwar o ddyddiau.
7:21 Yr oedd holl lestri dŵr trigolion Bethulia yn wag, y cronfeydd yn mynd yn sych, a chan fod dogni ar y dŵr yfed, nid oedd diwrnod pan gaent ddigon i'w diwallu.
7:22 Llesgaodd eu plant, llewygodd eu gwragedd a'u gwŷr ifainc o syched, a syrthio ar heolydd y dref ac ar fynedfeydd y pyrth; yr oeddent wedi llwyr ddiffygio.
7:23 Yna ymgynullodd yr holl bobl, yn wŷr ifainc, yn wragedd ac yn blant, o amgylch Osias ac arweinwyr y dref; gwaeddasant â llais uchel, a dweud gerbron yr holl henuriaid,
7:24 “Barned Duw rhyngoch chwi a ninnau. Oherwydd gwnaethoch gam mawr â ni drwy wrthod trafod heddwch gyda'r Asyriaid.
7:25 Yn awr, nid oes gennym neb i fod yn gefn inni, oherwydd y mae Duw wedi ein gwerthu i'w dwylo hwy, fel y'n ceir ganddynt wedi ein gwasgaru ar lawr mewn syched a diymadferthedd llwyr.
7:26 Am hynny, galw hwy i mewn, ac ildia'r holl dref yn ysbail i bobl Holoffernes ac i'w fyddin i gyd.
7:27 Bydd mynd yn anrhaith iddynt yn well i ni, oherwydd fel caethweision fe gawn gadw ein heinioes, a'n harbed rhag gweld ein babanod yn marw o flaen ein llygaid, a'n gwragedd a'n plant yn trengi.
7:28 Galwn yn dyst yn eich erbyn y nefoedd a'r ddaear, a'n Duw ni ac Arglwydd ein hynafiaid, yr hwn sy'n ein cosbi yn ôl ein pechodau ni ac yn ôl gweithredoedd pechadurus ein hynafiaid. Na foed iddo ef heddiw weithredu yn ôl y geiriau hyn.”
7:29 Yna bu wylofain mawr a chyffredinol ymhlith y gynulleidfa, a gwaeddasant yn uchel ar yr Arglwydd eu Duw.
7:30 Ond dywedodd Osias wrthynt, “Codwch eich calon, gyfeillion; gadewch inni ddal ati am bum diwrnod eto; erbyn hynny, bydd yr Arglwydd ein Duw wedi adfer ei drugaredd tuag atom, oherwydd ni bydd ef yn cefnu arnom yn y diwedd.
7:31 Ond os â'r dyddiau hyn heibio heb i gymorth ddod inni, gwnaf yn ôl eich dymuniad.”
7:32 Gollyngodd y bobl, a'u hanfon bob un i'w safle ei hun, ac aethant hwythau ymaith i furiau a thyrau eu tref, ac anfon eu gwragedd a'u plant i'w cartrefi; a thrwy'r dref yr oedd digalondid mawr.

y Weddw

8:1 Yn y dyddiau hynny, clywodd Judith am hyn. Merch oedd hi i Merari fab Ox, fab Joseff, fab Osiel, fab Helcias, fab Ananias, fab Gideon, fab Raffaim, fab Achitob, fab Elias, fab Chelciap, fab Eliab, fab Nathanael, fab Salamiel, fab Sarasadai, fab Israel.
8:2 Yr oedd ei gŵr Manasse o'r un llwyth a theulu â hithau; bu ef farw adeg y cynhaeaf barlys.
8:3 Tra oedd yn arolygu'r rhai oedd yn rhwymo'r ysgubau ar y maes, fe'i trawyd gan wres yr haul; aeth i'w wely a bu farw yn Bethulia, ei dref ei hun. Claddasant ef gyda'i hynafiaid yn y maes sydd rhwng Dothan a Balamon.
8:4 Am dair blynedd a phedwar mis bu Judith fyw yn ei thŷ ei hun yn weddw.
8:5 Yr oedd wedi gwneud pabell iddi ei hun ar do ei thŷ, a gosod sachliain am ei chanol, a dillad gweddwdod oedd amdani.
8:6 Byddai hi'n ymprydio bob dydd o'i gweddwdod ar wahân i'r dydd cyn y Saboth a'r Saboth, y noson cyn y newydd-loer a'r newydd-loer, a dyddiau gŵyl ac uchel wyliau Israel.
8:7 Gwraig brydferth a deniadol iawn oedd Judith. Gadawodd ei gŵr Manasse iddi aur ac arian, gweision a morynion a gwartheg a thiroedd, ac yr oedd hi'n dal i fyw ar ei hystad.
8:8 Nid oedd gan neb air drwg i'w ddweud amdani, am ei bod hi'n dduwiol iawn.

yn Cynghori Henuriaid y Dref

8:9 Clywodd Judith am eiriau cas y bobl yn erbyn y llywodraethwr Osias, a hwythau wedi gwangalonni oherwydd prinder dŵr, a chlywodd hefyd am bopeth a ddywedodd Osias yn ateb iddynt, a'i fod wedi tyngu iddynt yr ildiai'r dref i'r Asyriaid ymhen pum diwrnod.
8:10 Anfonodd y forwyn a ofalai am ei holl ystad i alw ati Osias. Chabris a Charmis, henuriaid ei thref.
8:11 Wedi iddynt gyrraedd dywedodd wrthynt: “Gwrandewch arnaf, lywodraethwyr trigolion Bethulia. Nid oedd yn iawn i chwi siarad fel y gwnaethoch heddiw gerbron y bobl, a thyngu'r llw hwn gerbron Duw, gan ddweud y byddech yn ildio'r dref i'n gelynion, os na byddai'r Arglwydd yn troi'n ôl i'ch gwaredu chwi cyn pen nifer o ddyddiau.
8:12 Pwy ydych chwi, ynteu, sydd wedi rhoi Duw ar ei brawf heddiw, a sefyll yn ei le ef ymhlith pobl?
8:13 Yn hyn o beth, onid yr Arglwydd Hollalluog a osodir ar brawf gennych? Ni ddeallwch chwi ddim am hyn byth bythoedd.
8:14 Ni threiddiwch byth i ddyfnder calon dyn, na dirnad ei feddyliau; sut, felly, y chwiliwch feddwl y Duw a wnaeth hyn oll, a dirnad ei feddwl a deall ei gynlluniau ef? Na, gyfeillion, peidiwch â digio'r Arglwydd ein Duw.
8:15 Os nad yw'n dewis ein cynorthwyo cyn pen y pum diwrnod, ganddo ef y mae'r hawl i'n hamddiffyn am gynifer o ddyddiau ag a fyn, neu i'n dinistrio gerbron ein gelynion.
8:16 Peidiwch â gosod amodau ar yr Arglwydd ein Duw; nid dyn mohono i'w fygwth, na mab dyn i ddwyn perswâd arno.
8:17 Gan hynny, wrth inni aros iddo'n hachub ni, galwn arno am ei gymorth, ac os gwêl yn dda fe wrendy ar ein cri.
8:18 Oherwydd ni fu yn ein hoes ni, ac ni cheir heddiw, na llwyth na theulu, na thref na dinas, ohonom ni sy'n addoli duwiau o waith llaw fel y bu yn y dyddiau gynt.
8:19 Dyna'r rheswm y rhoddwyd ein hynafiaid i fin y cleddyf ac i fod yn ysbail; mawr iawn fu eu cwymp o flaen ein gelynion.
8:20 Ond amdanom ni, nid ydym wedi cydnabod unrhyw Dduw arall ond ef; dyma sail ein gobaith na fydd iddo ein dirmygu ni na neb o'n cenedl.
8:21 Oherwydd o'n dal ni fel hyn, fe ddelir holl wlad Jwdea; anrheithir ein cysegrleoedd, a gelwir arnom i ateb dros eu halogi hwy â'n gwaed.
8:22 Lladd ein pobl, caethiwo'n gwlad, troi'n treftadaeth yn anialwch—ar ein pen ni y daw hyn oll ymhlith y cenhedloedd, lle bynnag y byddwn yn gaethion iddynt; byddwn yn wrthrych gwarth a dirmyg yng ngolwg ein perchnogion.
8:23 Nid ffafr fydd yn deillio o'n caethiwed; yn hytrach bydd yr Arglwydd ein Duw yn dwyn amarch ohono.
8:24 Ac yn awr, gyfeillion, rhown esiampl i'n cymrodyr, oherwydd arnom ni y mae eu heinioes yn dibynnu, ac yn ein llaw ni y saif tynged y cysegr, y deml a'r allor.
8:25 Ar ben hyn oll, rhown ddiolch i'r Arglwydd ein Duw, sy'n gosod prawf arnom fel y gwnaeth ar ein hynafiaid.
8:26 Cofiwch yr hyn a wnaeth i Abraham, y modd y profodd Isaac, a'r hyn a ddigwyddodd i Jacob yn rhanbarth Syria o Mesopotamia tra oedd yn bugeilio defaid Laban, brawd ei fam.
8:27 Ni phrofodd ni â thân fel y profodd hwy, i chwilio'u calonnau; nid yw ef wedi dial arnom ni; er mwyn eu disgyblu y mae'r Arglwydd yn cosbi'r rhai sy'n nesáu ato.”
8:28 “O galon ddiffuant,” meddai Osias wrthi, “yr wyt wedi llefaru'r cwbl a ddywedaist, ac nid oes neb a all wrthsefyll dy eiriau.
8:29 Oherwydd nid heddiw yw'r tro cyntaf iti amlygu doethineb; y mae pawb yn gwybod mor ddeallus wyt, ac mor ddibynadwy dy farn o'th blentyndod.
8:30 Ond, a'r bobl yn dioddef yn enbyd o syched, gorfodwyd ni ganddynt i gyflawni'n haddewid iddynt, a thyngu llw nad ydym i'w dorri.
8:31 Gwraig dduwiol wyt; gweddïa drosom felly, a bydd yr Arglwydd yn anfon glaw i lenwi ein llestri dŵr, fel na byddwn mwyach yn llewygu gan syched.”
8:32 Atebodd Judith hwy, “Gwrandewch arnaf, ac mi gyflawnaf weithred a gofir o genhedlaeth i genhedlaeth gan ein cenedl.
8:33 Safwch chwithau wrth y porth trwy'r nos heno; ac mi af fi allan gyda'm llawforwyn. Cyn y daw'r dydd yr addawsoch ildio'r ddinas i'n gelynion, bydd yr Arglwydd drwy fy llaw i wedi gwaredu Israel.
8:34 Peidiwch chwi â holi am fy nghynllun; ni ddywedaf ddim wrthych hyd nes i mi ei gyflawni.”
8:35 Ac meddai Osias a'r llywodraethwyr wrthi: “Dos mewn tangnefedd, a bydded yr Arglwydd Dduw o'th flaen di, i ddial ar ein gelynion.”
8:36 Yna aethant o'r babell a dychwelyd i'w rhengoedd.

Gweddi Judith

9:1 Yna syrthiodd Judith ar ei hwyneb, taenellodd ludw ar ei phen, a datgelu'r sachliain a wisgai. Ac ar adeg offrymu'r arogldarth hwyrol yn nhŷ Dduw yn Jerwsalem, galwodd Judith â llais uchel ar yr Arglwydd, a dweud:
9:2 “O Arglwydd, Duw fy nghyndad Simeon, rhoddaist yn ei law ef gleddyf i ddial ar yr estroniaid hynny a dreisiodd forwyn a'i difwyno; noethasant ei chluniau a'i chywilyddio, a halogi ei chroth a'i gwaradwyddo. Er iti ddweud, ‘Ni chaiff hyn fod’, fe'i gwnaethant.
9:3 Am hynny, traddodaist eu llywodraethwyr i'w lladd, a thraddodi i'r gwaed eu gwely, a wridai am y ferch a dwyllwyd; trewaist gaethweision ynghyd â'u harglwyddi, a'r arglwyddi ar eu gorseddau.
9:4 Traddodaist eu gwragedd i'w hysbeilio a'u merched i'w caethgludo, a'u holl anrhaith i'w rhannu rhwng y rhai a geraist, y rhai a fu mor fawr eu sêl drosot, ac a ffieiddiodd y gwaradwydd a fu ar eu gwaed. Galwasant arnat ti am gymorth. O Dduw, fy Nuw, gwrando yn awr arnaf fi, a minnau'n weddw.
9:5 Oherwydd ti a wnaeth y pethau hynny, a'r pethau a fu o'u blaen a'r pethau a'u dilynodd; ti a fwriadodd yr hyn sy'n digwydd yn awr a'r hyn sydd i ddod.
9:6 Y mae'r pethau a gynlluniaist ti yma wrth law yn dweud, ‘Dyma ni.’ Oherwydd parod yw dy holl ffyrdd, a rhagwybodaeth sy'n llywio dy farn.
9:7 Dyma'r Asyriaid wedi cynyddu yn eu nerth, yn ymfalchïo yn eu meirch a'u marchogion, yn ymffrostio yn nerth eu gwŷr traed, yn ymddiried mewn tarian a phicell, mewn bwa a ffon-dafl; ni wyddant mai ti yw'r Arglwydd sy'n rhoi terfyn ar ryfel. Yr Arglwydd yw dy enw.
9:8 Rhwyga di eu cryfder yn dy nerth, a dryllia eu cadernid yn dy lid. Oherwydd eu bwriad yw halogi dy deml, difwyno'r tabernacl sy'n drigfan i'th enw gogoneddus, a bwrw i lawr â chleddyf gorn dy allor.
9:9 Edrych ar eu balchder, tywallt dy lid ar eu pennau, a rho i mi sy'n weddw law nerthol i gyflawni fy mwriad.
9:10 Trwy dwyll fy ngwefusau taro'r caethwas gyda'r tywysog a'r tywysog gyda'i was; dryllia eu balchder trwy law benyw.
9:11 Oherwydd nid mewn lliaws y mae dy nerth di, na'th allu llywodraethol mewn rhai cedyrn; Duw'r gostyngedig ydwyt, cymorth yr isel, cynhaliwr y gwan, amddiffynnydd y diymadferth a gwaredwr y diobaith.
9:12 Yn awr, O Dduw fy hynafiaidd, a Duw treftadaeth Israel, llywodraethwr nefoedd a daear, creawdwr y dyfroedd a brenin yr holl greadigaeth, gwrando di fy ngweddi daer,
9:13 a rho imi eiriau twyllodrus i glwyfo ac anafu'r rhain sydd wedi cynllunio'r fath greulonder yn erbyn dy gyfamod, a'th deml sanctaidd, a Mynydd Seion, a'r tŷ sy'n eiddo dy blant.
9:14 A rho i bob cenedl o'r eiddot a phob llwyth amgyffrediad i wybod mai ti sydd Dduw, y Duw hollalluog a nerthol, ac nad oes neb arall ond tydi'n amddiffynfa i genedl Israel.”

yn Mynd i Wersyll Holoffernes

10:1 Ar ôl iddi beidio â'i llefain ar Dduw Israel, a gorffen yr holl eiriau hyn,
10:2 cododd Judith o'r fan lle y gorweddai ar ei hyd, galwodd ar ei morwyn, ac aeth i lawr i'r tŷ lle'r arferai dreulio'r Sabothau a'i dyddiau gŵyl.
10:3 Wedi tynnu'r sachliain a osodasai amdani, a diosg gwisg gweddwdod, ac ymolchi drosti i gyd, fe'i heneiniodd ei hun â pheraroglau drud, trin ei gwallt a rhoi penwisg ar ei phen. Rhoes amdani'r dillad yr arferai eu gwisgo yn y dyddiau llawen pan oedd ei gŵr Manasse yn fyw.
10:4 Wedi rhoi sandalau am ei thraed, gwisgodd yddfdorchau, breichledau, modrwyau, clustlysau a'i holl emau. Fe'i haddurnodd ei hun yn ddigon deniadol i hudo unrhyw ddyn a'i gwelai.
10:5 Yna, rhoddodd i'w morwyn gostrel o win a stên o olew, ac wedi llenwi cod â bara'r radell, cacenni ffigys a thorthau o fara peilliaid, a phacio'r llestri gyda'i gilydd, rhoes y rhain hefyd i'w gofal.
10:6 Aethant allan at borth tref Bethulia, a chael Osias a henuriaid y dref, Chabris a Charmis, yn sefyll yno.
10:7 Pan welsant Judith â'i hwyneb wedi ei weddnewid a'i dillad mor wahanol, synasant yn fawr iawn at ei phrydferthwch, a dweud wrthi:
10:8 “Bydded i Dduw ein hynafiaid ganiatáu o'i ffafr iti gyflawni dy fwriadau er gogoniant i blant Israel a dyrchafiad i Jerwsalem.” Yna addolodd Judith Dduw a dweud:
10:9 “Gorchmynnwch iddynt agor porth y dref, ac mi af allan i gyflawni'r pethau y buoch yn siarad â mi amdanynt.” Gorchmynasant i'r gwŷr ifainc agor iddi, yn unol â'i chais. Gwnaethant felly,
10:10 ac aeth Judith allan, a'i llawforwyn gyda hi. Yr oedd gwŷr y dref yn ei gwylio hi'n mynd i lawr y mynydd nes iddi groesi'r dyffryn a diflannu o'u golwg.
10:11 Aeth y ddwy yn syth ymlaen trwy'r dyffryn, a daeth nifer o wylwyr yr Asyriaid i'w chyfarfod.
10:12 Wedi ei dal hi, dyma'i holi: “I ba bobl yr wyt ti'n perthyn? O ble y daethost? I ble'r wyt ti'n mynd?” Atebodd hithau: “Merch i'r Hebreaid wyf fi, yn ffoi oddi wrthynt gan eu bod ar gael eu rhoi i'w traflyncu gennych chwi.
10:13 Yr wyf ar fy ffordd at Holoffernes, prif gadfridog eich byddin, er mwyn rhoi gwybodaeth gywir iddo. Hysbysaf ger ei fron y ffordd i fynd a meddiannu'r holl ucheldir, a hynny heb golli'r un o'i ddynion, na cholli bywyd neb.”
10:14 Pan glywodd y gwŷr ei geiriau edrychasant ar ei hwyneb; yn eu golwg hwy yr oedd ei phrydferthwch yn eithriadol. Meddent wrthi:
10:15 “Arbedaist dy fywyd wrth frysio i lawr at ein harglwydd. Yn awr, dos i'w babell, a daw rhai o'n plith i'th hebrwng a'th drosglwyddo i'w ddwylo.
10:16 Pan fyddi'n sefyll o'i flaen, paid ag ofni yn dy galon, ond dywed wrtho yr hyn a ddywedaist wrthym ni, a chei dy drin yn dda ganddo.”
10:17 Yna, wedi dewis cant o ddynion o'u plith, fe'u hanfonasant yn osgordd iddi hi a'i morwyn, a'u harwain i babell Holoffernes.
10:18 Yna bu cynnwrf drwy'r holl wersyll, wrth i'r newydd am ddyfodiad Judith ymledu o babell i babell. A hithau'n sefyll y tu allan i babell Holoffernes yn disgwyl iddynt ddweud wrtho amdani, fe'i hamgylchynwyd gan dyrfa fawr.
10:19 Yr oeddent yn synnu at ei phrydferthwch, ac o'i hachos hi yn synnu at yr Israeliaid, a'r naill yn dweud wrth y llall: “Pwy a all fychanu'r bobl hyn, a'r fath wragedd yn eu plith? Gwell fydd peidio â gadael yn fyw yr un ohonynt; os caiff y rhain fynd yn rhydd, byddant yn gallu hudo'r holl fyd.”
10:20 Aeth amddiffynwyr Holoffernes allan, ynghyd â'i holl weision, a'i harwain hi i mewn i'r babell.
10:21 Yr oedd Holoffernes yn gorffwys ar ei wely dan len a oedd wedi ei gweu â phorffor, aur, emrallt a meini gwerthfawr.
10:22 Wedi iddynt ddweud wrtho amdani, aeth ef allan i gyntedd y babell, a chludwyd lampau arian o'i flaen.
10:23 Pan ddaeth Judith wyneb yn wyneb ag ef a'i weision, synasant oll at brydferthwch ei gwedd. Syrthiodd hi ar ei hyd o'i flaen, a thalu gwrogaeth iddo, ond fe'i codwyd ar ei thraed gan ei weision.

11:1 Meddai Holoffernes wrthi: “Cod dy galon, wraig; paid ag ofni. Oherwydd ni wneuthum i niwed erioed i neb a welodd yn dda wasanaethu Nebuchadnesar, brenin yr holl ddaear.
11:2 Hyd yn oed yn awr, oni bai i'th bobl, trigolion yr ucheldir, fy niystyru, ni fyddwn wedi codi fy mhicell yn eu herbyn; hwy sydd wedi dwyn hyn arnynt eu hunain.
11:3 Ond yn awr, dywed wrthyf pam y ffoaist oddi wrthynt a dod atom ni? Oherwydd yr wyt wedi dod i le diogel. Cod dy galon; cei fyw y nos hon a rhag llaw,
11:4 oherwydd nid oes neb a wna niwed iti; yn hytrach, bydd pawb yn dy drin yn dda, yn union fel y maent yn trin holl weision f'arglwydd, y Brenin Nebuchadnesar.”
11:5 Meddai Judith wrtho: “Gwrando ar eiriau dy gaethferch; caniataer i'th lawforwyn lefaru o'th flaen; ni ddywedaf air o gelwydd wrth f'arglwydd y nos hon.
11:6 Os dilyni gyngor dy lawforwyn, bydd Duw yn gwarantu llwyddiant iti yn dy waith, ac ni fetha f'arglwydd yn ei amcanion.
11:7 Oherwydd tyngaf lw iti ar fywyd Nebuchadnesar, brenin yr holl ddaear, ac ar ei allu ef, yr hwn a'th anfonodd i osod trefn ar bob enaid byw; oherwydd nid pobl yn unig sydd yn ei wasanaethu ef o'th achos di, ond hefyd bydd bwystfilod y maes, anifeiliaid, ac adar yr awyr trwy dy nerth di yn byw tra pery Nebuchadnesar a'i holl dŷ.
11:8 Clywsom yn wir am dy ddoethineb a'th orchestion cyfrwys. Y mae'n hysbys i'r holl fyd mai ti'n unig yn yr holl deyrnas sydd dda, yn gyfoethog o ran gwybodaeth, ac yn rhyfeddol o ran medrau rhyfel.
11:9 Yn awr, clywsom am yr hyn a ddywedodd Achior yn ei araith yn dy gyngor di; gan i wŷr Bethulia ei arbed, fe'u hysbysodd am bopeth a ddywedodd wrthyt ti.
11:10 Paid, felly, f'arglwydd feistr, â diystyru ei neges; cadw hi yn dy feddwl, oherwydd y mae'n wir; oblegid ni chosbir ein cenedl, ac ni niweidir ei phobl gan y cleddyf oni fyddant yn pechu yn erbyn eu Duw.
11:11 Ond yn awr, nid oes rhaid i'm harglwydd wynebu rhwystr na methiant yn ei amcan, oherwydd y mae angau ar fin syrthio ar eu pennau, am i bechod eu meddiannu, a byddant felly yn cynddeiriogi eu Duw bob tro y troseddant.
11:12 Pan fethodd eu cyflenwad bwyd, a'r dŵr yn mynd yn brin, penderfynasant fwyta eu hanifeiliaid, a defnyddio'r holl bethau y gwaharddodd Duw yn ei gyfreithiau iddynt eu bwyta.
11:13 Er iddynt gysegru blaenffrwyth y gwenith a degymau'r gwin a'r olew, a'u neilltuo i'r offeiriaid sy'n gweini gerbron Duw yn Jerwsalem, ac er nad yw'n briodol i neb o'r bobl gymaint â chyffwrdd y pethau hyn â'u dwylo, y maent wedi penderfynu eu bwyta.
11:14 Y maent hefyd wedi anfon negeswyr i Jerwsalem, lle mae'r trigolion yn gweithredu yn yr un modd, i geisio caniatâd y senedd i wneud hyn. Yn awr dyma beth a ddigwydd:
11:15 pan ddaw'r caniatâd iddynt, a hwythau'n gweithredu arno, y dydd hwnnw fe'u traddodir iti i'w dinistrio.
11:16 Felly, pan glywais i, dy gaethferch, am hyn oll, ffoais oddi wrthynt; ac y mae Duw wedi f'anfon i gyflawni gyda thi bethau a fydd yn rhyfeddod i'r holl fyd, wedi i bawb glywed amdanynt.
11:17 Oherwydd y mae dy gaethferch yn wraig dduwiol, ac yn addoli Duw'r nef ddydd a nos. Ac yn awr, f'arglwydd, fe arhosaf gyda thi, ac fe â dy gaethferch allan bob nos i'r dyffryn a gweddïo ar Dduw, ac fe ddywed ef wrthyf pan fyddant wedi cyflawni eu pechodau.
11:18 Yna pan ddychwelaf a chyflwyno'r wybodaeth i ti, cei fynd allan gyda'th holl fyddin, ac nid oes neb ohonynt a all dy wrthsefyll.
11:19 Arweiniaf di drwy ganol Jwdea nes iti gyrraedd yn agos i Jerwsalem, a gosodaf dy orsedd yng nghanol y ddinas. Byddi yn eu harwain fel defaid heb fugail ganddynt, ac ni feiddia unrhyw gi gyfarth o'th flaen. Cefais ragwybodaeth am hyn; fe'i datguddiwyd imi, ac fe'm hanfonwyd i'w chyhoeddi i ti.”
11:20 Yr oedd geiriau Judith wrth fodd Holoffernes a'i holl weision. Synasant at ei doethineb hi,
11:21 ac meddent: “O naill gwr y ddaear i'r llall, nid oes gwraig debyg o ran prydferthwch ei gwedd nac o ran deallusrwydd ei geiriau.”
11:22 Meddai Holoffernes wrthi: “Gwnaeth Duw yn dda trwy dy anfon oddi wrth dy bobl er mwyn rhoi'r gallu yn ein dwylo ni, a pheri dinistr i'r rhai sydd wedi diystyru f'arglwydd.
11:23 Y mae dy ffurf yn brydferth a'th eiriau'n dda. Os gwnei yn ôl d'addewid, dy Dduw di fydd fy Nuw innau, a chei gymryd dy le yn nhŷ Nebuchadnesar, a dod yn enwog drwy'r holl ddaear.”

yn Glynu'n Ffyddlon wrth ei Chrefydd

12:1 Yna gorchmynnodd Holoffernes ei harwain hi i mewn i'r ystafell lle'r oedd ei lestri arian, ac arlwyo ger ei bron o'i ddanteithion, ac o'i win iddi ei yfed.
12:2 Dywedodd Judith, “Nid wyf am fwyta dim ohonynt, rhag ofn bod hynny'n drosedd; ond bydd peth o'r bwyd y deuthum ag ef gyda mi yn ddigon.”
12:3 Yna dywedodd Holoffernes wrthi, “Ond os palla'r hyn sydd gennyt, o ble y cawn ddim tebyg i'w roi iti? Oherwydd nid oes yn ein plith neb o'th genedl di.”
12:4 Atebodd Judith, “Cyn wired â'th fod yn fyw, f'arglwydd, ni fyddaf fi, dy gaethferch, wedi dibennu'r hyn sydd gennyf cyn i'r arglwydd drwy fy llaw i gyflawni ei fwriad.”
12:5 Arweiniodd gweision Holoffernes hi i'r babell, a chysgodd hyd ganol nos; yna cododd tua gwyliadwriaeth y bore.
12:6 Anfonodd neges at Holoffernes fel hyn: “Os gwêl f'arglwydd yn dda, gorchmynned ganiatáu i'th gaethferch fynd allan i weddïo.”
12:7 Gorchmynnodd Holoffernes nad oedd ei osgordd i'w rhwystro hi. Arhosodd hi yn y gwersyll am dri diwrnod, a phob nos byddai'n mynd allan i ddyffryn Bethula ac yn ymdrochi wrth y ffynnon ddŵr ger y gwersyll.
12:8 Wedi dod i fyny o'r dŵr byddai'n deisyf ar Arglwydd Dduw Israel i hyrwyddo'i chynllun i adfer plant ei bobl.
12:9 Byddai'n dychwelyd wedi ei phuro'i hun, ac yn aros yn y babell nes iddi gymryd pryd o fwyd gyda'r nos.

Gwledd Holoffernes

12:10 Ar y pedwerydd dydd, gwnaeth Holoffernes wledd i'w gaethweision ei hun, ond nid estynnodd wahoddiad i'r rhai oedd wrth eu dyletswydd.
12:11 Dywedodd wrth Bagoas, yr eunuch a ofalai am ei holl eiddo, “Dos yn awr a pherswadia'r Hebrëes sydd yn dy ofal i ddod atom i fwyta ac yfed gyda ni.
12:12 Yn wir byddai'n gywilydd inni pe baem yn caniatáu i'r fath wraig ymadael heb inni ymgyfeillachu â hi; os na allwn ei denu atom, bydd hi'n chwerthin am ein pen.”
12:13 Aeth Bagoas allan o ŵydd Holoffernes, a mynd at Judith a dweud: “Paid ti, ferch brydferth, â phetruso dod at f'arglwydd i'th anrhydeddu ger ei fron, i yfed gwin gyda ni mewn llawenydd, ac i fod heddiw fel un o ferched yr Asyriaid sy'n gweini yn nhŷ Nebuchadnesar.”
12:14 Meddai Judith wrtho: “Pwy wyf fi i wrthod f'arglwydd? Popeth fydd wrth ei fodd, fe'i gwnaf yn eiddgar, a hynny fydd fy ngorfoledd hyd ddydd fy marwolaeth.”
12:15 Cododd, a gwisgo amdani ei dillad gwych a holl addurniadau gwraig, ac aeth ei chaethferch a thaenu iddi ar y llawr o flaen Holoffernes y cnuau yr oedd wedi eu derbyn gan Bagoas at ei gwasanaeth bob dydd, iddi gael gorwedd arnynt i fwyta.
12:16 Daeth Judith i mewn a gorwedd yn ei lle. Collodd Holoffernes arno'i hun yn ei awydd amdani; cynhyrfwyd ei deimladau yn ei flys angerddol am gydorwedd â hi. Yn wir, o'r dydd cyntaf y gwelodd hi, yr oedd wedi bod yn aros ei gyfle i'w hudo.
12:17 Dywedodd Holoffernes wrthi, “Yf yn awr, rwy'n erfyn arnat, a bydd lawen gyda ni.”
12:18 Atebodd Judith: “Yn wir, f'arglwydd, mi yfaf, oherwydd heddiw yw'r diwrnod mwyaf gogoneddus yn fy mywyd er dydd fy ngeni.”
12:19 Cymerodd y bwyd yr oedd ei llawforwyn wedi ei baratoi, a bwyta ac yfed o'i flaen ef.
12:20 Llonnwyd Holoffernes ganddi, ac yfodd lawer gormod o win, mwy nag yr yfodd erioed mewn un diwrnod er dydd ei eni ef.

13:1 Ond yr oedd wedi hwyrhau, a brysiodd ei weision i ymadael. Caeodd Bagoas y babell o'r tu allan, gan gau allan y gwarchodwyr o ŵydd ei arglwydd, ac aeth y rheini ymaith i'w gwelyau; yr oedd pawb wedi blino'n lân gan i'r wledd barhau cyhyd.
13:2 Gadawyd Judith ar ei phen ei hun yn y babell, a Holoffernes wedi syrthio ar ei hyd ar ei wely; yr oedd yn frwysg gan win.
13:3 Dywedodd Judith wrth ei chaethferch am sefyll y tu allan i'w hystafell wely a disgwyl am ei hymadawiad, fel y byddai'n gwneud yn feunyddiol. Yr oedd wedi dweud wrthi y byddai'n mynd i'w man gweddi, ac wedi rhoi'r un neges i Bagoas.
13:4 Yr oedd pawb wedi mynd allan, ac nid oedd neb, neb pwysig na di-nod, ar ôl yn yr ystafell. Safodd Judith wrth wely Holoffernes, a gweddïo'n ddistaw: “O Arglwydd Dduw pob gallu, edrych yn awr ar waith fy nwylo er dyrchafu Jerwsalem,
13:5 oherwydd dyma'r awr i gynorthwyo dy dreftadaeth a chyflawni fy nghynllun i ddryllio'r gelynion a gododd yn ein herbyn.”
13:6 Aeth at erchwyn y gwely, wrth ymyl pen Holoffernes, a chymryd ei gleddyf i lawr.
13:7 Nesaodd at y gwely a gafael yng ngwallt ei ben, a dweud, “Nertha fi, O Arglwydd Dduw Israel, y dydd hwn.”
13:8 Â'i holl nerth, trawodd ei wddf ddwywaith a thorri ei ben i ffwrdd.
13:9 Treiglodd ei gorff oddi ar y gwely, a thynnu'r llen i lawr o'r pyst. Ar unwaith dyma hi'n mynd allan a rhoi pen Holoffernes i'w llawforwyn,
13:10 a dododd hithau ef yn ei chod bwyd. Aeth y ddwy allan gyda'i gilydd fel arfer i weddïo. Aethant trwy'r gwersyll ac o amgylch y dyffryn, a dringo Mynydd Bethulia nes cyrraedd pyrth y dref honno.

Judith yn Dychwelyd i Bethulia

13:11 Galwodd Judith o hirbell ar warchodwyr y pyrth: “Agorwch, da chwi, agorwch y porth. Y mae Duw, ein Duw ni, gyda ni i ddangos eto ei allu yn Israel a'i rym yn erbyn ein gelynion, yn union fel y gwnaeth heddiw.”
13:12 Pan glywodd gwŷr ei thref hi ei llais, aethant i lawr ar frys i borth eu tref a galw ynghyd yr henuriaid.
13:13 Rhedodd pawb ynghyd, y rhai pwysig a'r di-nod, gan mor annisgwyl oedd ei dyfodiad hi. Agorasant y porth a'u croesawu, ac wedi cynnau tân i gael golau, ymgasglasant o'u hamgylch ill dwy.
13:14 Yna dywedodd Judith wrthynt â llais uchel: “Molwch Dduw, molwch ef! Molwch Dduw, oherwydd ni thynnodd yn ôl ei drugaredd oddi wrth dŷ Israel, ond drwy fy llaw i dinistriodd ein gelynion y nos hon.”
13:15 Tynnodd y pen allan o'i chod a'i ddangos iddynt, a dweud: “Dyma ben Holoffernes, prif gadfridog byddin Asyria, a dyma'r llen a oedd drosto pan orweddai yn ei feddwdod. A thrwy law benyw y trawodd yr Arglwydd ef.
13:16 Cyn wired â bod byw yr Arglwydd a ofalodd trosof ar y llwybr a gymerais, fy wyneb i a hudodd Holoffernes i'w ddinistr, ac eto ni chyflawnodd ef bechod gyda mi, i'm halogi na'm cywilyddio.”
13:17 Synnwyd yr holl bobl yn ddirfawr, ac wedi ymgrymu, addolasant Dduw a dweud ag un llais: “Bendigedig wyt ti, ein Duw, a ddiddymodd elynion dy bobl heddiw.”
13:18 Yna meddai Osias wrthi, “Bendigedig wyt tithau, fy merch, goruwch holl wragedd y ddaear yng ngolwg y Duw goruchaf, a bendigedig yw'r Arglwydd Dduw, Creawdwr nefoedd a daear, a'th dywysodd i dorri pen cadfridog ein gelynion.
13:19 Oherwydd ni ddiflanna dy obaith di byth o galon neb, wrth iddo gofio am allu Duw.
13:20 Bydded i Dduw dy ddyrchafu am byth am y gweithredoedd hyn, ac ymweld â thi mewn daioni; ni cheisiaist arbed dy einioes yn wyneb darostyngiad dy bobl, ond aethost allan i ddial eu cwymp, a cherddaist yn union gerbron ein Duw.” Atebodd yr holl bobl: “Amen! Amen!”

Cynllun Judith

14:1 Dywedodd Judith wrthynt: “Gwrandewch arnaf yn awr, gyfeillion. Cymerwch y pen hwn a'i grogi ar fur uchaf eich amddiffynfa.
14:2 Pan wawria'r bore, a'r haul yn codi dros y ddaear, cymerwch bawb ohonoch eich arfau rhyfel a mynd, pob gŵr cadarn, allan o'r dref; a rhowch arweinydd arnynt, fel pe baech ar fynd i lawr i'r gwastatir yn erbyn gwersyll yr Asyriaid; ond peidiwch â mynd i lawr.
14:3 Fe gymer yr Asyriaid eu holl arfwisgoedd, a mynd i'w gwersyll a dihuno cadfridogion byddin Asyria; ac fe redant hwythau fel un gŵr i babell Holoffernes, ond ni ddônt o hyd iddo. Yna fe syrth ofn arnynt, a ffoant rhagoch.
14:4 Ond dilynwch hwy, chwi a holl drigolion ffiniau Israel, a dinistriwch hwy wrth iddynt ffoi.
14:5 Ond cyn i chwi wneud hyn, galwch ataf Achior yr Ammoniad, er mwyn iddo gael gweld ac adnabod y gŵr a fychanodd dŷ Israel ac a'i hanfonodd ef atom ni, fel y tybiai, i'w farwolaeth.”

Tröedigaeth Achior

14:6 Galwasant Achior o dŷ Osias; a phan ddaeth, a gweld pen Holoffernes yn llaw un o wŷr y gynulleidfa, syrthiodd ar ei wyneb fel un heb anadl.
14:7 Wedi iddynt ei godi, syrthiodd wrth draed Judith ac ymgrymu ger ei bron a dweud, “Bendigedig wyt ti trwy holl bebyll Jwda, ac ym mhob cenedl! Daw ofn dirfawr ar bawb a glywant dy enw.
14:8 Yn awr, adrodd imi hanes y cwbl a wnaethost yn ystod y dyddiau hyn.” A dyma Judith yn sefyll yng nghanol y bobl ac yn adrodd iddo'r cwbl yr oedd hi wedi ei wneud o'r dydd yr aeth allan hyd y foment yr oedd yn siarad â hwy.
14:9 Wedi iddi orffen, bloeddiodd y bobl â llais uchel, nes bod sŵn eu llawenydd yn atseinio trwy eu tref.
14:10 Pan welodd Achior y cwbl a wnaeth Duw Israel, credodd yn frwd yn Nuw; derbyniodd enwaediad a chael ei gorffori yn nhŷ Israel hyd y dydd hwn.

Arswyd yng Ngwersyll Holoffernes

14:11 Pan wawriodd y bore, crogasant ben Holoffernes ar y mur, a chymerodd pob un ei arfau a mynd allan yn gatrodau i fylchau'r mynydd-dir.
14:12 Gwelodd yr Asyriaid hwy, ac anfon neges at eu harweinwyr; aethant hwythau at y cadfridogion, capteiniaid y miloedd, a phob swyddog arall.
14:13 Aethant i babell Holoffernes a dweud wrth yr un a ofalai am ei holl eiddo: “Yn awr, deffro ein harglwydd, oherwydd meiddiodd y caethweision ddod i lawr i ryfela yn ein herbyn, ac felly i gael eu llwyr ddifetha.”
14:14 Aeth Bagoas i mewn a churo ar borth allanol y babell, am iddo dybio fod Holoffernes yn cysgu gyda Judith.
14:15 Pan nad atebodd neb, agorodd y porth allanol a mynd i mewn i'w ystafell wely, a'i gael wedi ei daflu i lawr yn gelain ar y trothwy, a'r pen wedi ei ddwyn ymaith.
14:16 Yna gwaeddodd â llef uchel, ac wylo, galarnadu, bloeddio a rhwygo'i ddillad.
14:17 Wedyn aeth i'r babell lle'r oedd Judith wedi bod yn aros, ond ni ddaeth o hyd iddi. Llamodd allan at y bobl a gweiddi:
14:18 “Y mae'r caethweision wedi'n twyllo! Y mae un wraig o blith yr Hebreaid wedi dwyn gwaradwydd ar dŷ'r Brenin Nebuchadnesar. Dyma Holoffernes ar lawr, a'i ben wedi mynd!”
14:19 Pan glywsant hyn, rhwygodd arweinwyr byddin Asyria eu dillad, a daeth ofn dirfawr arnynt. Bu bloeddio a gweiddi croch trwy'r holl wersyll.

Buddugoliaeth Israel

15:1 Pan glywodd y rhai a oedd yn eu pebyll, fe'u brawychwyd gan yr hyn oedd wedi digwydd.
15:2 Disgynnodd ofn a dychryn arnynt, ac nid arhosai neb yng nghwmni ei gymydog, ond wedi rhuthro allan fel un gŵr, ffoesant ar hyd pob llwybr dros y gwastatir a'r ucheldir.
15:3 Ffoi hefyd a wnaeth y rhai oedd yn gwersyllu yn yr ucheldir o amgylch Bethulia. Yna rhuthrodd yr Israeliaid, pob gŵr arfog o'u plith, arnynt.
15:4 Anfonodd Osias i Bethomasthaim, Bebai, Choba a Cola, ac i bob cwr o diriogaeth Israel, i ddweud wrthynt am yr hyn oedd wedi digwydd, er mwyn i bawb ruthro ar eu gelynion a'u difodi.
15:5 Clywodd yr Israeliaid y newydd, ac yna ymosod, bawb ohonynt, fel un gŵr ar eu gelynion, a'u torri i lawr ar hyd yr holl ffordd i Choba. Wedi iddynt glywed am yr hyn oedd wedi digwydd yng ngwersyll eu gelynion, ymunodd trigolion Jerwsalem a'r holl ucheldir â hwy. Ymosododd gwŷr Gilead a gwŷr Galilea hwythau ar ystlys y gelyn, a'u taro nes cyrraedd Damascus a'i chyffiniau.
15:6 Syrthiodd gweddill trigolion Bethulia ar wersyll Asyria, a chael cyfoeth enfawr o'i ysbeilio.
15:7 Dychwelodd yr Israeliaid o'r lladdfa a meddiannu'r gweddill, a chafodd y pentrefi a'r ffermydd ar yr ucheldir a'r gwastatir lawer o'r anrhaith, gan fod digonedd ohono.

Dathlu'r Fuddugoliaeth

15:8 Daeth Joacim yr archoffeiriad, a senedd yr Israeliaid a oedd yn trigo yn Jerwsalem, i syllu ar y daioni a wnaeth yr Arglwydd i Israel, ac i weld Judith a'i chyfarch hi.
15:9 Daethant ati a'i bendithio yn unfryd a dweud: “Ti yw dyrchafiad Jerwsalem, ti yw gogoniant mawr Israel, ti yw ymffrost balch ein cenedl!
15:10 Wrth wneud hyn oll â'th law dy hun, dygaist ddaioni i Israel, a chymeradwyodd Duw dy weithredoedd; bendigedig fyddi yng ngolwg yr Arglwydd Hollalluog yn dragywydd.” A dywedodd yr holl bobl, “Amen!”
15:11 Anrheithiodd pawb o'r bobl y gwersyll am ddeg diwrnod ar hugain. Rhoesant i Judith babell Holoffernes, ei holl lestri arian, ei welyau, ei gawgiau a'i holl ddodrefn. Cymerodd hithau hwy a llwytho ei mul, gan harneisio'i gwagenni a'u llenwi.
15:12 Brysiodd holl wragedd Israel i'w gweld, a dawnsiodd rhai ohonynt er anrhydedd iddi. Cymerodd Judith ganghennau yn ei dwylo, a'u dosbarthu i'r gwragedd oedd gyda hi.
15:13 Gwisgodd hi a'r rhai oedd gyda hi dorchau o ddail olewydd am eu pennau. Aeth o flaen yr holl bobl, gan arwain yr holl wragedd yn y ddawns. Dilynodd holl wŷr Israel, â'u harfwisg amdanynt a thorchau am eu pennau ac emyn ar eu gwefusau.

Emyn o Ddiolchgarwch

16:1 Ym mhresenoldeb holl Israel, dechreuodd Judith ganu emyn o ddiolchgarwch, a'r holl bobl yn codi eu lleisiau i ymuno yn y mawl. Dyma eiriau Judith:
16:2 “Dechreuwch foliannu fy Nuw i â thabyrddau; canwch i'r Arglwydd â symbalau; tiwniwch iddo salm ac emyn. Dyrchafwch ei enw a galwch arno.
16:3 Oherwydd Duw sy'n rhoi terfyn ar ryfel yw'r Arglwydd; i mewn i'w wersyll, yng nghanol ei bobl, y'm dygodd i ddiogelwch o law fy erlidwyr.
16:4 Daeth Asyria i lawr o fynyddoedd y gogledd; daeth â degau o filoedd o'i byddin; llanwodd eu llu enfawr y ceunentydd, a chuddiodd eu gwŷr meirch y bryniau.
16:5 Bygythiodd ddifa fy nhiriogaeth â thân, lladd fy ngwŷr ifainc â'r cleddyf, hyrddio fy mhlant sugno i'r ddaear, dwyn fy mabanod yn ysbail, a chymryd fy morynion yn ysglyfaeth.
16:6 Diddymodd yr Arglwydd Hollalluog hwy trwy law benyw.
16:7 Oherwydd nid trwy law gwŷr ifainc y syrthiodd eu harwr; nid meibion Titan a'i darostyngodd; nid cewri talgryf a ymosododd arno; ond Judith, merch Merari, a'i diarfogodd â thegwch ei gwedd.
16:8 Wedi diosg gwisg gweddwdod i ddyrchafu'r rhai gorthrymedig yn Israel, eneiniodd ei hwyneb ag ennaint, rhwymodd ei gwallt â phenwisg, a gwisgodd ŵn o liain main i'w hudo.
16:9 Daliodd ei sandal ei lygad, a chaethiwodd ei phrydferthwch ei galon; a dyna'r cleddyf yn syth drwy ei wddf.
16:10 Crynodd y Persiaid oherwydd ei beiddgarwch, a chyffrowyd y Mediaid gan ei hyfdra.
16:11 Yna bloeddiodd fy rhai distadl mewn buddugoliaeth, ac ofnodd y gelyn; gwaeddodd fy ngweiniaid, ac fe'u dychrynwyd; gwaeddasant hwy yn uwch, ac aeth ef ar ffo.
16:12 Plant morynion a'i trywanodd, a'i glwyfo fel ffoadur; fe'i dinistriwyd gan reng milwyr fy Arglwydd.
16:13 “Canaf i'm Duw gân newydd: Arglwydd, mawr ydwyt a gogoneddus, rhyfeddol dy nerth, ac anorchfygol.
16:14 Gwasanaethed dy holl greadigaeth di, oherwydd lleferaist, a daeth popeth i fod; anfonaist dy ysbryd, a chyfannwyd popeth. Ac nid oes neb a all wrthsefyll dy lais.
16:15 Y mynyddoedd ynghyd â'r moroedd, fe'u siglir i'w seiliau; toddir y creigiau fel cŵyr o'th flaen; eto i'r rhai sy'n dy ofni, trugaredd a ddangosi di.
16:16 Peth bychan yn wir yw perarogl pob offrwm, ac annigonol yw holl fraster y poethoffrymau, ond mawr dros byth yw'r sawl sy'n ofni'r Arglwydd.
16:17 Gwae'r cenhedloedd sy'n codi yn erbyn fy mhobl; yr Arglwydd Hollalluog a'u cosba yn Nydd y Farn, a rhoi eu cyrff i'r tân a'r pryfed; a byddant yn wylofain mewn poen am byth.”

Enwogrwydd Judith

16:18 Wedi cyrraedd Jerwsalem, syrthiodd y bobl i lawr mewn addoliad i Dduw, ac wedi eu puro, offrymasant eu poethoffrymau, eu hoffrymau gwirfoddol a'u rhoddion.
16:19 Cysegrodd Judith i Dduw holl eiddo Holoffernes, a roddodd y bobl iddi, ac offrymodd i Dduw y llen a gymerodd hi ei hun o'i ystafell wely.
16:20 Am dri mis, bu'r bobl yn gorfoleddu yn Jerwsalem gerbron y cysegr, ac arhosodd Judith gyda hwy.
16:21 Ar ôl hyn aeth pawb i'w gartref ei hun, a dychwelodd Judith i Bethulia a byw ar ei hystad. Ac yr oedd enw da iddi drwy'r wlad ar hyd ei hoes.
16:22 Bu llawer yn ei chwenychu, ond ni roddodd ei hun i un gŵr o'r dydd y bu farw ei phriod Manasse a'i gladdu gyda'i hynafiaid.
16:23 Cynyddodd ei henwogrwydd yn ddirfawr fel yr heneiddiai yn nhŷ ei gŵr, nes iddi gyrraedd yr oedran o gant a phump. Rhoddodd ei rhyddid i'w morwyn. Bu farw yn Bethulia, a chladdwyd hi yn yr ogof lle gorweddai ei gŵr Manasse.
16:24 Galarodd yr Israeliaid amdani am saith diwrnod. Cyn iddi farw, rhannodd ei heiddo rhwng perthnasau ei gŵr Manasse a'i theulu agosaf ei hun.
16:25 Ni fygythiodd neb Israel yn ystod bywyd Judith, nac yn wir am gyfnod maith wedi ei marwolaeth.