YR YCHWANEGIADAU AT LYFR ESTHER

NODIAD. Y mae y Fersiwn Groeg Llyfr Esther yn bur wahanol i'r testun Hebraeg y ceir cyfieithiad ohono yn yr Hen Destament. Y mae'n cynnwys nifer o ddarnau nas cynhwysir yn yr Hebraeg. Gan hynny, cynhwysir yn yr Apocryffa gyfieithiad o'r darnau ychwanegol hyn. Yn y Fersiwn Cymraeg traddodiadol, trinir y darnau hyn fel parhad o'r testun a geir yn yr Hen Destament, sy'n terfynu yn 10:3; rhifir y darnau ychwanegol yn yr Apocryffa, felly, 10:4-16:24. Yn Y Fersiwn presennol, fodd bynnag, gosodir y darnau ychwanegol yn y drefn sydd iddynt yn Fersiwn Groeg y llyfr, fel y ceir ef yn y LXX; nodir yma, yn achos pob un o'r darnau, y man y dylid ei osod i mewn i'r testun a geir yn yr Hen Destament:
11:2-12:6 Dyma agoriad y llyfr yn y Fersiwn Groeg.
13:1-7 Y mae'r Groeg yn gosod hwn rhwng 3:13 a 3:14 yr Hebraeg.
13:8-14:19 Yn y Groeg y mae hwn yn dilyn pennod pennod 4 yr Hebraeg.
15:1-16 Ceir hwn yn y Groeg yn lle 5:1-2 yr Hebraeg.
16:1-24 Y mae'r Groeg yn gosod hwn rhwng 8:12 a 8:13 yr Hebraeg.
10:4-11:1 Yn y Groeg y mae hwn yn dilyn 10:3, sef diwedd y llyfr ar


Breuddwyd Mordecai

11:2 Yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Artaxerxes Fawr, ar y dydd cyntaf o fis Nisan, cafodd Mordecai fab Jairus, fab Semeius, fab Cisaius, o lwyth Benjamin, freuddwyd.
11:3 Iddew oedd ef, yn byw yn ninas Susan, gŵr blaenllaw a wasan-aethai yn llys y brenin. Yr oedd yn un o'r rhai a gaethgludodd Nebuchadnesar brenin Babilon o Jerwsalem gyda Jechoneia brenin Jwda.
11:4 A dyma gynnwys ei freuddwyd:
11:5 twrw a dwndwr, taranau a daeargryn, a therfysg ar y ddaear.
11:6 Yna daeth dwy ddraig fawr ymlaen, yn barod i ymladd â'i gilydd, a mawr oedd eu sŵn.
11:7 Yn sgîl eu sŵn ymbaratôdd pob cenedl i ryfel, er mwyn ymladd â chenedl y rhai cyfiawn.
11:8 Yr oedd yn ddydd tywyllwch a chaddug, gorthrymder a chyfyngder, drygfyd a therfysg mawr ar y ddaear.
11:9 Cynhyrfwyd yr holl genedl gyfiawn gan ofn y drygau oedd yn eu haros; ymbaratoesant i farw,
11:10 a galwasant ar Dduw. Yn sgîl eu cri, cododd fel pe bai o ffynnon fach afon fawr yn gorlifo â dŵr.
11:11 Daeth goleuni wedi i'r haul godi, a dyma'r distadl yn cael eu dyrchafu ac yn difa'r rhai o fri.
11:12 Pan ddeffrôdd Mordecai, wedi profi'r freuddwyd hon a gweld yr hyn y bwriadai Duw ei wneud, fe'i hystyriodd yn ei feddwl, a bu trwy'r dydd yn ceisio ym mhob ffordd ddeall y peth.

Mordecai yn Achub Bywyd y Brenin

12:1 Yr oedd Mordecai yn gorffwys yn y llys gyda Gabatha a Tharra, dau o eunuchiaid y brenin a oedd yn gwylio'r llys.
12:2 Clywodd eu cynlluniau, a holodd yn ddyfal beth oedd yn eu poeni, ac wedi darganfod eu bod yn paratoi i ymosod ar y Brenin Artaxerxes, rhybuddiodd y brenin amdanynt.
12:3 Holodd y brenin y ddau eunuch, ac wedi iddynt gyffesu fe'u dienyddiwyd.
12:4 Ysgrifennodd y brenin gronicl o'r digwyddiadau hyn, ac ysgrifennodd Mordecai hefyd amdanynt.
12:5 Rhoes y brenin orchymyn i Mordecai wasanaethu yn y llys, a'i wobrwyo am ei wasanaeth.
12:6 Ond yr oedd y Bwgead, Haman fab Hamadathus, yn ŵr o fri yng ngolwg y brenin. Ceisiodd ef, o achos dau eunuch y brenin, wneud drwg i Mordecai a'i bobl.

Llythyr Artaxerxes yn erbyn yr Iddewon

13:1 Dyma gopi o'r llythyr: “Y mae'r brenin mawr Artaxerxes yn ysgrifennu'r geiriau hyn at lywodraethwyr y cant dau ddeg a saith o daleithiau o'r India i Ethiopia, ac at y swyddogion sydd danynt.
13:2 Wedi imi ddod yn arglwydd ar lawer cenedl ac yn llywodraethwr ar yr holl fyd, penderfynais sicrhau i'm deiliaid fywyd tawel ar hyd yr amser, a hynny nid oherwydd i mi ymdd-yrchafu'n haerllug am awdurdod, ond am imi ymddwyn bob amser yn dirion ac yn addfwyn; ac er mwyn creu teyrnas wâr a diogel i'w thramwyo hyd ei ffiniau, yr wyf am adfer yr heddwch hwnnw y mae pawb yn ei ddeisyfu.
13:3 Pan ofynnais i'm cynghorwyr sut y gellid dwyn y bwriad hwn i ben, atebodd Haman, sy'n rhagori yn ein plith o ran barn gyfrifol, ac a gydnabyddir am ei ewyllys da cyson a'i ffyddlondeb diwyro, ac a gyrhaedd-odd yr ail safle yn y deyrnas.
13:4 Dangosodd i ni fod pobl wedi eu gwasgaru ymhlith holl genhedloedd y byd, sy'n elyniaethus a gwrthwynebus o ran eu cyfreithiau i bob cenedl arall, ac sy'n diystyru'n gyson ordeiniadau'r brenin. Gan hynny, ni ellir sefydlu'r undeb hwnnw sy'n fwriad di-fai gennym.
13:5 Sylweddolwn mai'r genedl hon, a hi'n unig, sy'n dal i wrthwynebu pawb; y mae'n dilyn llwybr cyfeiliornus ei chyfreithiau estron ei hun, sy'n elyniaethus i'n buddiannau ni, ac yn cyflawni pob drwg posibl er mwyn rhwystro sefydlogrwydd y deyrnas.
13:6 Gan hynny, ynglŷn â'r rhai a enwyd wrthych yn llythyrau Haman, gŵr sy'n gyfrifol am ein buddiannau ac sydd fel ail dad i ni, yr ydym wedi gorchymyn eu bod i gyd, gan gynnwys y gwragedd a'r plant, i'w difa'n llwyr, heb unrhyw drugaredd nac ymatal, gan gleddyfau eu gelynion ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar, o'r flwyddyn bresennol.
13:7 Bydd y rhai sydd yn awr, fel erioed, yn elyniaethus, mewn un diwrnod yn mynd i lawr i Drigfan y Meirw trwy drais, er mwyn sicrhau llywodraeth sefydlog a didrafferth i ni byth mwy.”

Gweddi Mordecai

13:8 Gweddïodd Mordecai ar yr Arglwydd, gan ddwyn i gof holl weithredoedd yr Arglwydd,
13:9 fel hyn: “Arglwydd, Arglwydd Frenin, llywodraethwr pob peth, y mae'r cyfanfyd dan dy awdurdod, ac nid oes neb a all dy wrthsefyll pan ddymuni waredu Israel.
13:10 Oherwydd ti a luniaist nef a daear, a phob rhyfeddod dan y nef.
13:11 Ti yw Arglwydd pob peth, ac nid oes neb a'th wrthwyneba di, yr Arglwydd.
13:12 Ti a wyddost bopeth; fe wyddost ti, Arglwydd, nad o ryfyg nac o falchder nac o chwant am glod yr wyf wedi gwneud hyn, sef gwrthod ymgrymu gerbron Haman falch,
13:13 oherwydd yr oeddwn yn fodlon cusanu gwadnau ei draed er mwyn achub Israel.
13:14 Ond rhag gosod gogoniant dynol uwchlaw gogoniant Duw y gwneuthum hyn; nid ymgrymaf gerbron neb ond tydi, f'Arglwydd. Ac nid o falchder y gwnaf hyn.
13:15 Ac yn awr, Arglwydd, Duw a Brenin, Duw Abraham, arbed y bobl, oherwydd y mae rhai yn chwilio am gyfle i'n difa, ac yn dymuno dinistrio'r hyn a fu'n etifeddiaeth i ti o'r cychwyn.
13:16 Paid â diystyru yr eiddot dy hun, a waredaist i ti dy hun o'r Aifft.
13:17 Clyw fy ngweddi a thrugarha wrth dy etifeddiaeth, a thro ein tristwch yn llawenydd, er mwyn inni fyw a chanu mawl i'th enw, O Arglwydd. Paid â rhoi taw ar y genau sy'n dy foli.”
13:18 Yna gwaeddodd Israel i gyd â'u holl nerth, oherwydd eu bod yn wynebu eu hangau.

Gweddi Esther

14:1 A hithau dan fygythiad marwol-aeth, ceisiodd y Frenhines Esther loches gyda'r Arglwydd.
14:2 Wedi diosg ei gwisg ysblennydd, ymwisgodd mewn dillad cyfyngder a galar, ac yn lle peraroglau costus gorchuddiodd ei phen â llwch a thom. Darostyngodd ei chorff yn llwyr, ac â'i gwallt aflêr gorchuddiodd bob rhan yr arferai ei haddurno'n llawen.
14:3 Gweddïodd ar Arglwydd Dduw Israel fel hyn:
14:4 “F'Arglwydd, ti'n unig yw ein brenin. Cymorth fi sy'n unig, nad oes imi gynorthwywr ond tydi, oherwydd yr wyf mewn perygl enbyd.
14:5 Er dydd fy ngeni clywais oddi mewn i lwyth fy nheulu dy fod ti, Arglwydd, wedi dewis Israel o blith yr holl genhedloedd, a'n tadau o blith eu holl hynafiaid, i fod yn etifeddiaeth dragwyddol; a deliaist â hwy yn union fel yr addewaist.
14:6 Ond yn awr pechasom yn dy erbyn, a thraddodaist ni i ddwylo ein gelynion,
14:7 am inni anrhydeddu eu duwiau hwy.
14:8 Cyfiawn wyt ti, Arglwydd. Ac eto, nid ydynt yn fodlon ein bod yn dioddef caethglud chwerw; tyngasant lw gerbron eu heilunod,
14:9 i ddiddymu gorchymyn dy enau, i ddileu dy etifeddiaeth, i ddistewi'r genau sy'n dy foli, i ddiffodd dy allor, gogoniant dy dŷ,
14:10 i agor genau'r cenhedloedd i fawrhau pethau ofer, ac anrhydeddu am byth frenin o gnawd.
14:11 Paid ag ildio dy deyrnwialen, Arglwydd, i dduwiau nad ydynt ddim, na gadael iddynt chwerthin am ben ein cwymp. Tro eu cynllwyn yn eu herbyn eu hunain a gwna esiampl o'r gŵr a ddechreuodd hyn yn ein herbyn.
14:12 Cofia ni, Arglwydd; datguddia dy hun yn amser ein gorthrymder. Rho ddewrder i mi, ti Frenin y duwiau ac Arglwydd pob gallu.
14:13 Rho i'm gwefusau ymadrodd cymwys o flaen y llew, a phâr i'w galon droi'n gasineb tuag at y sawl sy'n rhyfela yn ein herbyn, er mwyn ei ddinistrio ef a phob un sydd o'r un farn ag ef.
14:14 Gwared ni drwy dy nerth, a chymorth fi sy'n unig, nad oes gennyf neb ond tydi, Arglwydd.
14:15 Yr wyt yn amgyffred popeth, a gwyddost i mi gasáu clod y digyfraith, a'm bod yn ffieiddio gwely'r dienwaededig, a phob Cenedl-ddyn.
14:16 Gwyddost am fy nghyfyngder, a'm bod yn ffieiddio'r arwydd hwnnw o falchder sydd ar fy mhen pan ymddangosaf yn gyhoeddus; y mae mor ffiaidd gennyf â chadach misglwyf, ac nid wyf yn ei wisgo yn fy oriau hamdden.
14:17 Ni fwytaodd dy gaethferch wrth fwrdd Haman, ac nid anrhydeddais weld y brenin nac yfed gwin y diodoffrymau.
14:18 O'r dydd y'm dygwyd yma hyd yn awr nid ymhyfrydodd dy gaethferch mewn dim ond ynot ti, Arglwydd Dduw Abraham.
14:19 O Dduw cadarnach na phawb, gwrando lef y rhai diobaith, a gwared ni o ddwylo'r drygionus; gwared fi o'm hofn.”

Esther yn Mynd at y Brenin

15:1 Ar y trydydd dydd, wedi iddi orffen gweddïo, diosgodd y dillad a wisgai wrth ymbil, a rhoi amdani ei gwisg ysblennydd.
15:2 A hithau'n ymddangos yn urddasol, galwodd ar y Duw sy'n gweld popeth ac sy'n Waredwr, a chymerodd ddwy gaethferch,
15:3 gan bwyso'n ysgafn ar y naill,
15:4 a'r llall yn dilyn gan gludo godre'i gwisg.
15:5 Yr oedd gwrid hardd iawn ar ei gwedd, a'i hwyneb yn siriol fel cariadferch, ond ei chalon wedi fferru gan ofn.
15:6 Wedi mynd drwy'r holl ddrysau safai o flaen y brenin, ac eisteddai yntau ar ei orsedd frenhinol wedi ei wisgo yn ei holl ysblander, y cyfan o aur a meini gwerthfawr. Yr oedd yr olwg arno yn ennyn ofn.
15:7 Cododd ei olygon, a'i wyneb yn disgleirio gan ogoniant, ac edrychodd arni'n ddig dros ben. Syrthiodd y frenhines mewn llewyg, gan newid ei lliw a chwympo ar ben y gaethferch oedd yn mynd o'i blaen.
15:8 Gwnaeth Duw ysbryd y brenin yn addfwyn, ac yn ei bryder neidiodd i lawr oddi ar ei orsedd a'i chymryd yn ei freichiau hyd nes iddi ddod ati ei hun. Cysurodd hi â geiriau heddychlon, a dweud wrthi:
15:9 “Beth sy'n bod, Esther? Dy frawd wyf fi; cod dy galon.
15:10 Ni chei di farw; ar gyfer y bobl gyffredin y bwriadwyd ein gorchymyn. Tyrd ataf.”
15:11 Cododd y deyrnwialen aur a chyffwrdd â'i gwddf.
15:12 Cusanodd hi a dweud: “Siarad â mi.”
15:13 Dywedodd wrtho: “Gwelais di, f'arglwydd, fel angel Duw, a chynhyrfwyd fy nghalon gan ofn dy ogoniant,
15:14 oherwydd rhyfeddol wyt ti, f'arglwydd, a'th wyneb yn llawn graslonrwydd.”
15:15 A hithau'n dal i siarad, syrthiodd mewn llewyg,
15:16 a chynhyrfwyd y brenin, a cheisiodd yr holl lys ei chysuro.

Llythyr Artaxerxes o blaid yr Iddewon

16:1 Y mae'r canlynol yn gopi o'r llythyr: “Artaxerxes y brenin mawr at lywodraethwyr y cant dau ddeg a saith o daleithiau o'r India i Ethiopia, ac at y rhai sy'n deyrngar i ni, cyfarchion.
16:2 Wedi eu hanrhydeddu fwyfwy drwy haelioni mawr eu cymwynaswyr, aeth llawer yn fwy balch.
16:3 Ceisiant nid yn unig wneud drwg i'n deiliaid, ond gan nad ydynt yn gallu goddef digonedd y maent yn troi i gynllwynio yn erbyn eu cymwynaswyr eu hunain.
16:4 Nid yn unig y maent yn amddifadu pobl o ymdeimlad o ddiolchgarwch, ond gan eu bod wedi eu hudo gan ymffrost y rhai sydd heb brofiad o ddaioni, tybiant y gallant ffoi rhag barn y Duw sy'n gweld popeth yn wastad ac y mae'n gas ganddo ddrygioni.
16:5 Ac yn aml y mae perswâd y rhai yr ymddiriedwyd iddynt ofalu am fuddiannau eu cyfeillion wedi peri i lawer o'r rhai mewn awdurdod gynorthwyo mewn tywallt gwaed dieuog, ac wedi eu harwain i ganol trychinebau marwol,
16:6 am iddynt dwyllo â'u celwyddau maleisus y llywodraethwyr a ymddiriedai'n ddiffuant ynddynt.
16:7 Gellir gweld hyn, nid yn gymaint o'r hen gofnodion a drosglwyddwyd gennym, ond o archwilio'r pethau gwarthus a gyflawnwyd dan eich trwynau drwy y rhai sy'n llywodraethu'n annheilwng.
16:8 Yn y dyfodol bydd yn rhaid i ni ofalu bod y deyrnas yn ddigynnwrf ac yn heddychlon i bawb,
16:9 trwy wneud cyfnewidiadau a rhoi gwrandawiad tecach wrth farnu'r hyn a ddaw ger ein bron.
16:10 Felly derbyniwyd yn westai gennym y Macedoniad Haman fab Hamadathus, nad oedd mewn gwirionedd yn perthyn o ran gwaed i'r Persiaid ac a oedd yn gwbl amddifad o'n natur garedig ni.
16:11 Derbyniodd ef y caredigrwydd y byddwn yn ei ddangos i bob cenedl; yn wir cafodd ei gyhoeddi'n ‘dad’ i ni, a byddai pawb yn ymgrymu'n wastad iddo fel yr un nesaf at orsedd y brenin.
16:12 Ond ni allai ffrwyno ei falchder, a chynllwyniodd i'n hamddifadu o'n teyrnas ac o'n heinioes.
16:13 Trwy ddulliau cymhleth a thwyllodrus ceisiodd ddinistrio Mordecai, ein hachubydd a'n cymwynaswr cyson, ac Esther, ein cymar di-fai yn y deyrnas, ynghyd â'u holl genedl.
16:14 Trwy'r moddion hyn, tybiodd y gallai ein dal ni yn ddiamddiffyn, a throsglwyddo ymerodraeth y Persiaid i'r Macedoniaid.
16:15 Ond yr ydym ni'n barnu nad drwgweithredwyr mo'r Iddewon a draddodwyd i'w difa gan y dyn hwn a drwythwyd mewn pechod; pobl ydynt wedi eu llywodraethu gan gyfreithiau tra chyfiawn,
16:16 a meibion y Duw byw, y goruchaf a'r mwyaf, a lywiodd y deyrnas i ni a'n cyndadau yn y modd gorau posibl.
16:17 “Byddai'n dda i chwi beidio â gweithredu ar sail y llythyrau a anfonwyd gan Haman fab Hamadathus,
16:18 gan fod y sawl a gyflawnodd y pethau hyn wedi ei grogi wrth byrth Susan ynghyd â'i deulu i gyd, a bod Duw felly, sy'n tra-arglwyddiaethu ar bopeth, wedi talu iddo'n fuan y gosb a haeddai.
16:19 Rhodder copi o'r llythyr hwn ym mhob man cyhoeddus, a gadawer i'r Iddewon ymarfer eu harferion eu hunain,
16:20 a chael cymorth i'w hamddiffyn eu hunain rhag y rhai fydd yn ymosod arnynt pan ddaw'r amser a bennwyd ar gyfer eu herlid, sef yr union ddiwrnod hwnnw, y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar.
16:21 Felly y mae'r Duw sy'n rheoli pob peth wedi gwneud hwn yn ddydd o lawenydd i'w genedl etholedig yn hytrach nag yn ddydd o ddinistr iddynt.
16:22 A chwithau, dathlwch y dydd arbennig hwn ymhlith eich gwyliau penodedig â phob llawenydd,
16:23 er mwyn iddo fod, yn awr ac ar ôl hyn, i ni ac i'r Persiaid teyrngar, yn arwydd gwaredigaeth, ond i'r rhai sy'n cynllwynio yn ein herbyn yn goffadwriaeth dinistr.
16:24 Dinistrir yn ddidrugaredd â gwaywffyn a thân heb unrhyw eithriad, bob dinas a gwlad nad yw'n ymddwyn yn unol â'r cyfarwyddiadau hyn. Fe'u gwneir nid yn unig yn ddidramwy i bawb, ond yn ffiaidd am byth hyd yn oed i anifeiliaid gwyllt ac adar.”

Mordecai yn Cofio'i Freuddwyd

10:4 Dywedodd Mordecai: “Gwaith Duw oedd hyn.
10:5 Oherwydd cofiais am y freuddwyd a gefais ynglŷn â'r materion hyn. Nid yw'r un ohonynt heb ei gyflawni.
10:6 Tyfodd y ffynnon fach yn afon, ac yr oedd goleuni a haul a llawer o ddŵr. Y mae'r afon yn cynrychioli Esther, y priododd y brenin hi a'i gwneud yn frenhines.
10:7 Haman a minnau yw'r ddwy ddraig.
10:8 Y cenhedloedd yw'r rhai a ymgasglodd ynghyd i ddinistrio enw'r Iddewon.
10:9 A'm cenedl i, hi yw Israel, a alwodd ar Dduw ac a achubwyd. Achubodd yr Arglwydd ei bobl; gwaredodd yr Arglwydd ni o'r holl ddrygau hyn; gwnaeth Duw arwyddion a rhyfeddodau mawr nas cyflawnwyd ymhlith y cenhedloedd.
10:10 Felly gwnaeth ddau goelbren, un ar gyfer pobl Dduw a'r llall ar gyfer yr holl genhedloedd.
10:11 A daeth y ddau goelbren yma, erbyn awr ac amser a dydd barn, o flaen Duw yng ngŵydd yr holl genhedloedd.
10:12 Cofiodd Duw ei bobl ei hun, a dyfarnu o blaid ei etifeddiaeth.
10:13 Dethlir y dyddiau hyn ym mis Adar, ar y pedwerydd dydd ar ddeg ac ar y pymthegfed dydd o'r un mis, â chymanfa a llawenydd a gorfoledd o flaen Duw, o genhedlaeth i genhedlaeth am byth, ymysg ei bobl Israel.”

Diweddglo

11:1 Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Ptolomeus a Cleopatra, dyma Dositheus, a honnai fod yn offeiriad ac yn Lefiad, ynghyd â'i fab Ptolomeus, yn dod â'r llythyr sydd o'n blaen ynglŷn â'r Pwrim. Dywedasant ei fod yn ddilys, a'i fod wedi ei gyfieithu gan Lysimachus fab Ptolomeus, un o drigolion Jerwsalem.