DOETHINEB SOLOMON

Ceisio Duw ac Ymwrthod â Drygioni

1:1 Carwch gyfiawnder, chwi lywodraethwyr y ddaear; meddyliwch am yr Arglwydd ag ewyllys da, a cheisiwch ef o lwyrfryd calon.
1:2 Fe'i ceir gan y rhai na fynnant ei herio; y mae'n ymddangos i'r rhai na fynnant anghredu ynddo.
1:3 Oherwydd y mae cynlluniau gwyrgam yn ein gwahanu oddi wrth Dduw, ac o'i roi ar brawf y mae'r Hollalluog yn dinoethi'r ynfyd.
1:4 Ni chaiff doethineb ddod i mewn i'r enaid dichellgar nac ymgartrefu mewn corff sy'n wystl i bechod.
1:5 Bydd ysbryd sanctaidd addysg yn ffoi oddi wrth dwyll, ac yn cilio ymhell oddi wrth gynlluniau anneallus, ac yn cywilyddio pan ddaw anghyfiawnder i'r golwg.
1:6 Ysbryd dyngarol yw doethineb, ond ni all ddyfarnu'n ddieuog un sy'n cablu â'i wefusau, am fod Duw'n dyst o'i deimladau dyfnaf, yn archwiliwr cywir o'i feddyliau ac yn wrandawr ar ei eiriau.
1:7 Gan fod ysbryd yr Arglwydd wedi llenwi'r holl fyd, a'r ysbryd sy'n dal y cyfanfyd ynghyd yn adnabod pob llais,
1:8 am hynny ni fydd neb sy'n llefaru geiriau anghyfiawn yn dianc, ac ni fydd y farn byth yn mynd heibio iddo heb ei gondemnio.
1:9 Oherwydd archwilir cynllwynion yr annuwiol, ac adroddir ei eiriau wrth yr Arglwydd, i'w gondemnio am ei droseddau.
1:10 Oherwydd y mae clust eiddigus yn clywed popeth; nid oes na siw na miw a gollir.
1:11 Gochelwch, felly, rhag grwgnach anfuddiol, a chadwch eich tafod rhag athrod; oherwydd ni fydd gair llechwraidd heb ei ganlyniad, a lladd yr enaid y mae genau celwyddog.
1:12 Peidiwch â chwennych marwolaeth trwy fyw ar gyfeiliorn, na thynnu distryw ar eich pennau trwy weithredoedd eich dwylo.
1:13 Oherwydd nid gwaith Duw yw marwolaeth, ac nid yw'n hyfrydwch ganddo ef weld y byw yn darfod.
1:14 Pwrpas y creu oedd rhoi bod i bob peth, a phwerau creadigol y byd yw ei iechyd; nid oes ynddynt wenwyn marwol, na chyfle i angau deyrnasu ar y ddaear.
1:15 Y mae cyfiawnder yn anfarwol,
1:16 ond ar air a gweithred gwahoddodd yr annuwiol angau i'w plith; gan iddynt ei ystyried yn gyfaill, darfu amdanynt. Gwnaethant gyfamod ag ef, oherwydd teilwng ydynt o fod yn bartneriaid iddo.

Ymresymiad yr Annuwiol

2:1 Dywedasant wrthynt eu hunain, gan resymu ar gam: “Byr a blinderus yw ein bywyd; nid oes iachâd pan ddown i ddiwedd ein hoes, ac ni wyddom am neb a ddaeth yn ôl o'r bedd.
2:2 Ar hap y'n ganwyd ni, ac yn y fan byddwn fel pe baem heb fod; mwg yw'r anadl yn ein ffroenau, a gwreichionen yn tasgu o guriad y galon yw ein rheswm.
2:3 Pan ddiffoddir hi, lludw fydd y corff, a'r ysbryd yn diflannu fel tarth ysgafn.
2:4 Gollyngir ein henw i ebargofiant ymhen amser, ac angof fydd ein gweithredoedd gan bawb. Mynd heibio y bydd ein heinioes fel olion cwmwl, a'i gwasgaru fel niwl a erlidir gan belydrau'r haul ac a lethir gan drymder ei wres.
2:5 Oherwydd cysgod yn mynd heibio yw ein hoedl, ac nid oes dychwelyd oddi wrth ein diwedd; seliwyd ein tynged, ac ni all neb droi yn ei ôl.
2:6 Dewch, felly, mwynhawn bob difyrrwch sy'n bod; ymrown ag asbri ieuenctid i bleserau'r greadigaeth.
2:7 Mynnwn ein gwala o win drudfawr ac o beraroglau, a pheidied hoen y gwanwyn â mynd heibio inni.
2:8 Plethwn am ein pennau dorch o rosod yn eu blagur cyn iddynt wywo.
2:9 Peidied neb ohonom â bod heb ei gyfran o'n gloddesta; gadawn arwyddion ein rhialtwch ym mhobman, am mai dyma'n rhan a dyma'n cyfran.
2:10 Gorthrymwn y tlawd cyfiawn; peidiwn ag arbed y weddw; gwrthodwn barchu hirhoedledd penwyn yr henwr.
2:11 I ni boed grym yn gyfraith cyfiawnder, am inni brofi bod gwendid yn gwbl ddi-fudd.
2:12 Gosodwn fagl ar gyfer y cyfiawn, am iddo sefyll ar ein ffordd a rhwystro ein gweithgareddau; y mae'n edliw i ni ein troseddau yn erbyn y gyfraith, ac yn dannod i ni ein troseddau yn erbyn ein magwraeth.
2:13 Y mae'n honni bod ganddo wybodaeth o Dduw, ac yn ei alw ei hun yn blentyn yr Arglwydd.
2:14 Fe'i cawsom yn gerydd ar ein cynlluniau, a gwrthun i ni yw hyd yn oed edrych arno.
2:15 Oherwydd annhebyg yw yn ei fuchedd i bawb arall, a chwbl ar wahân yw ei lwybrau.
2:16 Cyfrifwyd ni ganddo yn arian gau, a'n rhodiad yn aflendid i ymochel rhagddo. Gwynfydedig y geilw ef ddiwedd y rhai cyfiawn, a'i ymffrost yw fod Duw yn dad iddo.
2:17 Gadewch inni weld ai gwir yw ei eiriau, a rhown brawf ar yr hyn a ddigwydd ar ei ymadawiad.
2:18 Oherwydd os yw'r cyfiawn yn blentyn i Dduw, caiff gymorth ganddo, a'i waredu o ddwylo'i elynion.
2:19 Holwn ef ag artaith a dirboen, inni gael mesur ei diriondeb a dyfarnu ar ei oddefgarwch.
2:20 Dedfrydwn ef i farwolaeth gywilyddus; oherwydd daw gwaredigaeth iddo, yn ôl ei eiriau ef.”

Cyfeiliorni'r Annuwiol

2:21 Dyna'u hymresymiad, ond aethant ar gyfeiliorn, am i'w drygioni eu dallu.
2:22 Nid oedd ganddynt wybodaeth am ddirgelion Duw, na gobaith am wobr sancteiddrwydd, nac amcan am fraint eneidiau di-fai;
2:23 oherwydd mewn anllygredigaeth y creodd Duw ddyn a'i wneud ar ddelw ei dragwyddoldeb ef ei hun.
2:24 Ond trwy genfigen y diafol y daeth angau i'r byd, ac y mae'r rhai sydd o'i blaid ef yn cael profiad ohono.

Tynged y Cyfiawn

3:1 Ond y mae eneidiau'r cyfiawn yn llaw Duw, ac ni ddaw poenedigaeth byth i'w rhan.
3:2 Yn llygaid y rhai ynfyd, y maent fel pe baent wedi marw; ystyriwyd eu hymadawiad yn drychineb,
3:3 a'u mynediad oddi wrthym yn ddistryw; ond y maent mewn hedd.
3:4 Oherwydd er i gosb ddod arnynt yng ngolwg pobl, digoll yw eu gobaith am anfarwoldeb;
3:5 ac er eu disgyblu ychydig, mawr fydd eu hennill, am fod Duw wedi eu profi a'u cael yn deilwng ohono ef ei hun.
3:6 Fel aur mewn tawddlestr y profodd hwy, ac fel poethoffrwm yr aberth y derbyniodd hwy.
3:7 Pan ddaw Duw i ymweld â hwy cyneuant yn wenfflam; fel gwreichion mewn sofl fe redant drwy'r byd.
3:8 Cânt lywodraethu ar genhedloedd a rheoli ar bobloedd, a'r Arglwydd fydd eu brenin am byth.
3:9 Bydd y rhai sy'n ymddiried ynddo ef yn deall y gwir, a'r ffyddloniaid yn gweini arno mewn cariad, oherwydd gras a thrugaredd yw rhan ei etholedigion.

Tynged yr Annuwiol

3:10 Ond bydd yr annuwiol yn derbyn eu haeddiant am eu cynlluniau, am iddynt anwybyddu'r cyfiawn ac ymbellhau oddi wrth yr Arglwydd.
3:11 Druan o'r sawl sy'n diystyru doethineb ac addysg; ofer yw eu gobaith, eu llafur yn ddi-fudd, eu gweithredoedd yn ddi-les,
3:12 eu gwragedd yn benchwiban, eu plant yn llawn drygioni, a'u hiliogaeth dan felltith.

Rhagoriaeth Rhinwedd

3:13 Gwyn ei byd y wraig ddi-blant, nas halogwyd, ac na fu'n cydorwedd â neb yn anghyfreithlon. Fe gaiff hi ffrwyth, pan ddaw Duw i farnu.
3:14 Gwyn ei fyd yr eunuch, na throseddodd mewn gweithred, ac na chynlluniodd ddrwg yn erbyn yr Arglwydd; oherwydd fe roddir iddo ddethol ras ei ffydd, a chyfran fwy dymunol yn nheml yr Arglwydd.
3:15 Oherwydd y mae ffrwyth ymdrech-ion gonest yn ogoneddus, a'r gwreiddyn, sef dealltwriaeth, yn ffynnu'n ddi-ffael.
3:16 Ond ni ddaw plant godinebwyr i'w llawn dwf; dilëir had cydorwedd anghyfreithlon.
3:17 Os digwydd iddynt fyw'n hir, fe'u hystyrir yn ddiddim, ac yn eu dyddiau olaf ni bydd parch i'w henaint.
3:18 Os yn gynnar y daw eu diwedd, ni bydd ganddynt obaith na chysur ar ddydd y ddedfryd,
3:19 oherwydd i genhedlaeth anghyfiawn caled fydd y diwedd.

4:1 Gwell bod heb blant a bod gennym rinwedd, oherwydd yn yr atgof amdani y daw anfarwoldeb, gan yr arddelir hi gan Dduw a hefyd gan bobl.
4:2 Yn ei gŵydd fe'i hefelychir, a hiraethir amdani yn ei habsen; ac yn yr oes a ddaw, bydd yn gorym-deithio â thorch am ei phen, wedi mynd â'r gamp ac ennill gwobr anllygredigaeth.
4:3 Ond ni bydd eu hepil toreithiog o les i'r annuwiol, am na all yr un eginyn bastardaidd fwrw gwreiddyn yn ddwfn na daearu'n gadarn.
4:4 Oherwydd er i'w ganghennau flaguro am dymor, gan nad oes iddo gadernid daear fe'i hysgydwir gan y storm a'i ddiwreiddio gan rym y gwyntoedd.
4:5 Rhwygir ei frigau i ffwrdd cyn dod i'w llawn dwf; bydd ei ffrwyth yn ddiwerth ac anaeddfed i'w fwyta, heb fod yn dda i ddim yn y byd.
4:6 Oherwydd bydd plant a genhedlir o gydorwedd anghyfreithlon yn dystiolaeth i bechod eu rhieni yn nydd yr archwiliad arnynt.

Marw Cynnar y Cyfiawn

4:7 Ond bydd y cyfiawn, er iddo farw'n gynnar, yn gorffwys mewn hedd.
4:8 Nid hirhoedledd sy'n rhoi ei werth i henaint, ac nid amlder blynyddoedd yw ei fesur.
4:9 Nage, dealltwriaeth sy'n rhoi urddas penwynni i bobl, a bywyd difrycheulyd a ddyry iddynt aeddfedrwydd henaint.
4:10 Yr oedd gŵr yr ymhyfrydodd Duw ynddo a'i garu; am ei fod yn byw ymhlith pechaduriaid, fe'i cymerodd ef ato'i hun.
4:11 Fe'i cipiodd ymaith rhag i ddrygioni wyrdroi ei ddeall neu i ddichell dwyllo'i enaid.
4:12 Oherwydd y mae hud oferedd yn bwrw daioni i'r cysgod, a chwirligwgan chwant yn troi pen y diniwed.
4:13 Yng nghyflawniad oes fer cwblhaodd hir flynyddoedd.
4:14 Yr oedd ei enaid wrth fodd yr Arglwydd; dyna pam y brysiodd ef i'w dynnu o ganol drygioni. Ond er iddynt weld, ni ddeallodd y cenhedloedd y fath ddigwyddiad, na dwyn i ystyriaeth
4:15 fod gras a thrugaredd gan Dduw i'w etholedigion, a chymorth amserol i'w saint.

Tynged yr Anghyfiawn

4:16 Bydd y cyfiawn a fu farw yn con-demnio'r annuwiol sy'n dal i fyw, a'r ifanc, a ddaeth i ddiwedd cynnar, yn condemnio hirhoedledd yr anghyfiawn.
4:17 Y mae'r rhieni'n gweld diwedd y doeth, heb fod ganddynt syniad am fwriadau'r Arglwydd amdano, a'i ddiben wrth ei ddwyn i ddiogelwch.
4:18 Fe'i gwelant ac fe'i dirmygant; ond bydd yr Arglwydd yn chwerthin am eu pen hwy. A'r peth nesaf fydd eu cael yn gelanedd di-barch, ac yn warth ymhlith y meirw am byth,
4:19 am y bydd ef yn eu lluchio ar eu hyd yn gyrff mud, a'u dymchwel yn llwyr, a'u llosgi'n llwch; poenedigaeth fydd eu rhan, a derfydd y cof amdanynt.
4:20 Ar ddydd cyfrif eu pechodau dynesant fel llyfrgwn, am y collfernir hwy yn eu hwyneb gan eu troseddau eu hunain.

Edifeirwch yr Anghyfiawn

5:1 Yna fe saif y cyfiawn yn llawn hyder, ac wynebu ei ormeswyr a'r rhai sy'n diystyru ei gur.
5:2 O'i weld, fe'u hysgydwir gan ofn a dychryn, a'u drysu gan mor annisgwyl oedd ei ymwared.
5:3 Yn llawn edifeirwch dywedant y naill wrth y llall, gan ochneidio o gyfyngder ysbryd:
5:4 “Dyma'r un a fu gynt yn gyff gwawd i ni, ac yn ddihareb gan ein dirmyg ohono. Dyna ffyliaid oeddem, yn ystyried ei fuchedd yn wallgofrwydd a'i ddiwedd yn warth!
5:5 Sut y cafodd ei gyfrif ymhlith plant Duw? Sut y mae cyfran iddo ymhlith y saint?
5:6 Dyma'r prawf inni fynd ar gyfeiliorn oddi ar ffordd y gwirionedd; ni thywynnodd goleuni cyfiawnder arnom ni, ac ni chododd yr haul arnom ni.
5:7 Cawsom ein gwala o rodio llwybrau digyfraith distryw, a theithio tiroedd diffaith, didramwy; ond ffordd yr Arglwydd, ni fynnem ei hadnabod.
5:8 Pa les i ni o'n balchder? Pa fudd o'n cyfoeth a'i rwysg?
5:9 Heibio yr aeth y rhain i gyd fel cysgod, fel negesydd ar frys yn rhuthro heibio;
5:10 fel llong ar ei ffordd trwy ymchwydd y môr, na ellir gweld ôl ei thramwy, na llwybr ei chilbren yn y tonnau;
5:11 neu fel aderyn, wedi iddo hedfan trwy'r awyr, nad oes yr un prawf o'i ehediad—y mae'n chwipio'r awyr denau â thrawiad ei esgyll, ac yn gwanu'r gwynt â grym ei gyrch, ac â gwth ei adenydd yn mynd ar ei daith, ond wedi hynny nid oes yno'r un arwydd o'i hynt.
5:12 Neu fel yr awyr—pan ollyngir saeth at nod— sy'n gwahanu a chau eilwaith, mor gyflym fel nad oes gwybod pa ffordd y tramwyodd y saeth.
5:13 Felly ninnau hefyd, dod a wnaethom, a darfod, ac nid oedd gennym yr un arwydd o rinwedd i'w ddangos; na, fe'n hafradwyd yn llwyr gan ein drygioni.”
5:14 Oherwydd y mae gobaith yr annuw-iol fel us a yrrir gan y gwynt, ac fel barrug ysgafn a erlidir gan gorwynt; fe'i gwasgarwyd fel mwg gan y gwynt; aeth heibio fel atgof am ymwelydd unnos.

Gwobr y Cyfiawn a Chosb yr Anghyfiawn

5:15 Ond y mae'r cyfiawn yn byw am byth; yng nghwmni'r Arglwydd bydd eu gwobr, a bydd gofal amdanynt gan y Goruchaf.
5:16 Dyna pam y derbyniant goron ysblennydd, dïadem hardd o law'r Arglwydd; ei ddeheulaw fydd yn eu gwarchod, a'i fraich fydd yn eu hamddiffyn.
5:17 Fe gymer ei eiddigedd yn arfwisg, a'r greadigaeth yn arfogaeth i fwrw ei elynion yn ôl.
5:18 Fe wisg gyfiawnder yn ddwyfronneg, a barn ddidwyll yn helm ar ei ben.
5:19 Fe gymer sancteiddrwydd yn darian anorchfygol,
5:20 a min ei ddicter llym yn gleddyf iddo. Daw'r bydysawd i'r frwydr gydag ef yn erbyn y rhai gwallgof.
5:21 Bydd bolltau'r mellt yn cyrchu'n ddi-feth at y nod; llamant ato fel saeth o fwa anelog y cymylau.
5:22 Lluchir cenllysg yn llawn dicter fel cerrig o daflydd. Bydd dŵr y môr yn ffyrnig yn eu herbyn, ac afonydd yn eu golchi ymaith yn ddidostur,
5:23 a gwynt nerthol yn codi yn eu herbyn ac yn eu chwythu ymaith fel corwynt. Diffeithir yr holl ddaear gan anhrefn, a dymchwelir gorseddau'r llywodraethwyr gan eu gweithredoedd drwg.

Cyfrifoldeb Brenhinoedd

6:1 Gwrandewch, felly, chwi frenhinoedd, a deallwch; dysgwch, chwi sy'n rheoli eithafoedd y ddaear.
6:2 Clustfeiniwch, chwi sy'n arglwydd-iaethu ar bobloedd lawer ac yn ymfalchïo yn nhyrfaoedd eich cenhedloedd.
6:3 Yn rhodd oddi wrth yr Arglwydd y daeth arglwyddiaeth ichwi, a sofraniaeth oddi wrth y Goruchaf, ac ef fydd yn archwilio'ch gweithredoedd ac yn arolygu'ch amcanion yn drwyadl.
6:4 Oherwydd, a chwi'n weinidogion ei deyrnas, nid ydych wedi rheoli'n uniawn; nid ydych wedi cadw'r gyfraith nac ymddwyn yn ôl ewyllys Duw.
6:5 Ofnadwy a buan fydd ei ymosodiad arnoch, oherwydd llym yw barn yn achos y mawrion.
6:6 Gall y lleiaf o bobl fod yn wrthrych trugaredd, ond cadarn fydd archwiliad y cedyrn.
6:7 Oherwydd ni fydd yr Hollalluog yn ymgreinio i neb, nac yn ymostwng i fawredd; oherwydd ef a wnaeth y bach a'r mawr, a'i ragluniaeth ef sy'n cynnal pawb yn ddiwahân.
6:8 Er hynny, llym fydd yr ymchwiliad a ddaw ar y cedyrn.
6:9 I'ch clustiau chwi sydd mewn awdurdod y mae fy ngeiriau, ichwi gael dysgu doethineb a pheidio â throseddu;
6:10 oherwydd fe sancteiddir y rhai a gadwodd bethau sanctaidd yn sanctaidd, a bydd y sawl a drwythwyd ynddynt â'u hamddiffyniad ganddynt.
6:11 Byddwch yn eiddgar, felly, am fy ngeiriau; blysiwch amdanynt, ac fe gewch eich addysgu.

Ceisio a Chael Doethineb

6:12 Disglair, ac anniflan ei thegwch, yw doethineb, yn hawdd ei chanfod gan y rhai sy'n ei charu, a'i chael gan y rhai sy'n ei cheisio.
6:13 Y mae'n achub y blaen ar y sawl sy'n ei chwennych trwy beri iddynt ei hadnabod.
6:14 Ni flina'r codwr-bore yn ei ymchwil amdani; daw o hyd iddi'n eistedd gydag ef yn ymyl ei byrth.
6:15 Oherwydd y mae ymroddiad iddi yn perffeithio'r deall; y sawl sy'n effro er ei mwyn, buan y cyll ei bryderon;
6:16 y mae hi ar gerdded o hyd yn chwilio am y rhai sy'n deilwng ohoni, ac o'i hynawsedd yn ymddangos iddynt ar eu llwybrau, ac yn dod i'w cyfarfod ym mhob rhyw amcan.
6:17 Gwir ddechreuad doethineb yw dyhead am addysg; gofal am addysg yw ei charu hi;
6:18 ei charu hi yw cadw ei chyfreithiau; parchu ei chyfreithiau yw gwarant anllygredigaeth,
6:19 ac y mae anllygredigaeth yn ein dwyn yn agos at Dduw.
6:20 Felly y mae dyheu am ddoethineb yn ein harwain i frenhiniaeth.
6:21 Am hynny, os ar orsedd a theyrnwialen y mae eich bryd, chwi deyrnedd y bobloedd, anrhydeddwch ddoethineb, ichwi gael teyrnasu am byth.
6:22 Beth yw doethineb, a sut y daeth i fod, hynny a fynegaf, heb guddio'r dirgelion oddi wrthych, ond dilyn ei llwybrau o'r dechrau cyntaf, a dwyn gwybodaeth amdani i'r amlwg; nid af heibio i'r gwir mewn unrhyw ffordd.
6:23 Yn sicr, ni chaiff cenfigen afiach gydgerdded â mi, gan na all gymdeithasu â doethineb.
6:24 Y mae lliaws o ddoethion yn iachawdwriaeth i'r byd, a brenin call yn ddiogelwch i'r werin.
6:25 Felly derbyniwch addysg o'm geiriau er eich lles eich hunain.

Cariad Solomon at Ddoethineb

7:1 Yr wyf finnau hefyd yn ddyn meidrol fel pawb arall, o hil y dyn cyntaf a luniwyd o bridd y ddaear; o fewn croth mam fe'm ffurfiwyd yn gnawd,
7:2 mewn deng mis wedi ceulo mewn gwaed, o had gŵr a'r pleser fu'n gydymaith cwsg.
7:3 Ac wedi fy ngeni anadlais innau yr awyr gyffredin, a chwympo ar y ddaear sy'n derbyn pawb fel ei gilydd; ac fel pawb arall, sŵn crio a ddaeth gyntaf o'm genau.
7:4 Fe'm rhwymwyd a'm magu â phob gofal.
7:5 Ni chafodd yr un brenin ddechrau gwahanol i'w fywyd.
7:6 Un ffordd i mewn i fywyd sydd i bawb, ac un ffordd allan.
7:7 Am hynny gweddïais, a rhoddwyd i mi ddeall; gelwais am gymorth, a daeth ysbryd doethineb ataf.
7:8 Dewisais ddoethineb o flaen teyrnwialen a gorsedd, heb ystyried cyfoeth yn ddim wrthi hi.
7:9 Ni chyfrifais unrhyw em amhrisiadwy yn debyg i ddoethineb, oherwydd nid yw holl aur y byd namyn tywodyn wrth ei hochr hi, ac fel clai yr ystyrir arian gyferbyn â hi.
7:10 Cerais hi'n fwy nag iechyd a phrydferthwch, a dewisais ei chael hi yn hytrach na goleuni, am nad yw ei llewyrch hi byth yn machlud.
7:11 Gyda hi y daeth i'm rhan bob peth da gyda'i gilydd, ac yn ei dwylo gyfoeth difesur.
7:12 Gorfoleddais ym mhob un o'i doniau am fod doethineb yn eu tywys; ni ddeallwn, er hynny, mai hi oedd mam y rhai hyn.
7:13 Yn ddidwyll derbyniais ddysg; yn ddiwarafun yr wyf yn ei rhannu; nid wyf yn darnguddio ei chyfoeth.
7:14 Oherwydd trysor diball yw hi i bawb, ac y mae'r sawl a'i meddiannodd yn ennill cyfeillgarwch Duw, am eu bod yn gymeradwy ganddo ar gyfrif y doniau a gawsant gan addysg.
7:15 Rhodded Duw i mi siarad yn ôl ei ewyllys, ac ymsynio yn deilwng o'i roddion, am mai ef ei hun yw hyfforddwr doethineb a chywirwr y doethion.
7:16 Oherwydd yn ei law ef yr ydym ni a'n geiriau hefyd, ynghyd â phob medr a gwybodaeth ymarferol.
7:17 Ie, ef ei hun a roes imi wybodaeth ddi-feth am y pethau sydd, imi ddeall cyfansoddiad y byd a gweithrediad yr elfennau:
7:18 dechrau a diwedd a chanol yr amserau, troadau'r rhod a threigl y tymhorau,
7:19 cylchdroeon y flwyddyn a safleoedd y sêr,
7:20 natur anifeiliaid a thymer bwystfilod, nerth ysbrydion a rhesymu dynion, rhywogaeth planhigion a rhinwedd gwreiddiau.
7:21 Yn wir, deuthum i wybod pob peth, dirgel ac amlwg, am fod doethineb, pensaer pob peth, wedi fy nysgu.
7:22 Oherwydd y mae ynddi ysbryd deallus, sanctaidd, unigryw, amryddawn, coeth, heini, eglur, dilychwin, disglair, dianaf, daionus, brwd,
7:23 dirwystr, haelionus, dyngarol, cadarn, diysgog, dibryder, hollalluog, holl-arolygol, sy'n treiddio pob ysbryd deallus, pur, gwir goeth.
7:24 Oherwydd cyflymach na phob cyflymder yw doethineb, yn gwanu ac yn treiddio pob peth o achos ei phurdeb;
7:25 hi yw tawch gallu Duw, a phelydriad diledryw gogoniant yr Hollalluog. Am hynny ni all dim halogedig gael ffordd i mewn iddi.
7:26 Adlewyrchiad yw hi o'r goleuni tragwyddol, drych dilychwin o allu gweithredol Duw, a delw o'i ddaioni ef.
7:27 Er nad yw ond un, eto y mae'n gallu gwneud pob dim, ac er aros ei hun yr un fath, y mae'n creu pob peth o'r newydd; ac ym mhob cenhedlaeth y mae'n ymweld ag eneidiau sanctaidd a'u gwneud yn gyfeillion i Dduw ac yn broffwydi.
7:28 Oherwydd nid yw Duw'n caru dim, ac eithrio'r sawl sy'n byw gyda doethineb.
7:29 Y mae hi'n ddisgleiriach na'r haul, ac yn rhagori ar bob clwm o sêr; o'i chymharu â goleuni, hi sydd ar y blaen,
7:30 am fod tywyllwch yn disodli hwnnw, ond ni all drygioni drechu doethineb.

8:1 Y mae'n ymestyn o naill eithaf y ddaear i'r llall yn llawn nerth, ac yn trefnu pob peth er daioni.
8:2 Cerais hon, a rhedais ar ei hôl hi o'm hieuenctid; ceisiais ei chymryd yn briod i mi fy hun, a rhois fy serch ar ei phrydferthwch.
8:3 Y mae'n mawrygu ei huchel dras drwy rannu ei bywyd gyda Duw, a charodd yr Hollalluog hi.
8:4 Y mae hi'n gyfrin am y wybodaeth a fedd Duw; hi sy'n pennu ei weithredoedd.
8:5 Ond os yw cyfoeth yn feddiant i'w chwenychu mewn bywyd, beth sy'n gyfoethocach na doethineb, sy'n ymelwa ar bob peth?
8:6 Ac os deall sy'n gweithredu, pwy ond hyhi yw pensaer y pethau sydd?
8:7 Ac os yw rhywun yn caru cyfiawnder, o'i hymdrechion hi y caiff rinweddau; oherwydd o'i hyfforddiant hi y daw pwyll a deall, cyfiawnder a dewrder, ac nid oes dim mewn bywyd yn fwy defnyddiol i bobl na'r rhain.
8:8 Ac os yw rhywun yn dyheu am brofiad eang, y mae hi'n gwybod yr hyn a fu, a sut i ddyfalu'r hyn a fydd; y mae'n medru deall ymadroddion trofaus a datrys posau dyrys; y mae'n rhagweld arwyddion a rhyfeddodau, a chanlyniadau tymhorau a chyfnodau.
8:9 Penderfynais felly ei chymryd hi i fyw gyda mi, gan wybod y cawn ei chyngor mewn hawddfyd, a'i chysur mewn pryder ac adfyd.
8:10 Caf trwyddi glod yng nghynulleidfa'r bobl, ac anrhydedd, er yn ifanc, ymhlith henuriaid.
8:11 Fe'm ceir yn graff yn y llys barn, ac fe'm hedmygir yng ngŵydd penaethiaid.
8:12 Os tewi a wnaf, disgwyliant wrthyf; os llefaru, fe ddaliant sylw; ac er imi draethu'n hir, fe wrandawant yn dawel.
8:13 O'i hachos caf anfarwoldeb yn eiddo imi, a gadawaf goffadwriaeth dragwyddol i'r rhai a ddaw ar fy ôl.
8:14 Byddaf yn llywodraethwr ar bobloedd, a bydd cenhedloedd dan fy awdurdod.
8:15 Bydd clywed amdanaf yn codi ar-swyd ar awdurdodau echryslon; ymhlith y bobl fe'm ceir yn dirion, ac yn wrol ar faes y gad.
8:16 Ar ôl dod adref, caf orffwys yn ei chwmni, am na cheir chwerwder yn ei chymdeithas hi, na phoen o gyd-fyw â hi, ond yn hytrach llonder a llawenydd.
8:17 Ymresymais fel hyn â mi fy hun, gan ystyried yn fy nghalon fod anfarwoldeb yn dod o gydberthynas â doethineb,
8:18 a hyfrydwch digymysg o'i chyfeillgarwch, a chyfoeth diball o lafur ei dwylo, a dealltwriaeth o gydymarfer yn ei chwmni, ac enwogrwydd o ymddiddan â hi. Ac felly euthum o gwmpas gan geisio modd i'w chymryd i mi fy hun.
8:19 Plentyn lluniaidd oeddwn, a daeth enaid da i'm rhan;
8:20 neu'n hytrach, fe ddeuthum i, a minnau'n dda, i mewn i gorff dihalog.
8:21 Eto, am imi ddeall na allwn feddiannu doethineb heb i Dduw ei rhoi— a pheth craff oedd deall rhodd pwy ydoedd— gweddïais ar yr Arglwydd ac ymbiliais arno â'm holl galon fel hyn:

Gweddi Solomon am Ddoethineb

9:1 “O Dduw ein hynafiaid ac Arglwydd trugarog, ti a greodd y cyfanfyd trwy dy air,
9:2 a llunio dyn trwy dy ddoethineb i fod yn feistr ar y creaduriaid a wnaethost,
9:3 ac i reoli'r byd mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder, ac i weinyddu barn mewn uniondeb.
9:4 Rho i mi'r ddoethineb sy'n gymar i ti ar dy orsedd, a phaid â'm diarddel o blith dy weision.
9:5 Oherwydd dy gaethwas wyf fi, a mab dy gaethferch, dyn gwan, byr ei ddyddiau, y lleiaf ei ddeall am farn a chyfreithiau.
9:6 Yn wir, pe bai rhywun yn berffaith ymhlith plant dynion, eto heb y ddoethineb a ddaw oddi wrthyt ti, nis cyfrifid yn ddim.
9:7 Ti a'm dewisodd yn frenin dy bobl ac yn rheolwr ar dy feibion a'th ferched.
9:8 Ti a'm gorchmynnodd i godi teml ar dy fynydd sanctaidd, ac allor yn ninas dy breswylfa, ar lun y babell sanctaidd a baratoaist ymlaen llaw o'r dechreuad.
9:9 Gyda thi y mae doethineb, sy'n deall dy weithredoedd; ac yr oedd gyda thi hefyd, pan oeddit yn creu'r byd; y mae hi'n gwybod beth sy'n gymeradwy yn dy olwg, a beth sy'n uniawn yn ôl dy orchmynion.
9:10 Gollwng hi o'r nefoedd sanctaidd, ac anfon hi o orsedd dy ogoniant, er mwyn iddi aros gyda mi, ac ymdrechu i'm cael i wybod beth sy'n gymeradwy gennyt ti.
9:11 Oherwydd y mae hi'n gwybod ac yn deall pob peth. Fe'm tywys yn bwyllog yn fy ngweithredoedd, a'm hamddiffyn â'i gogoniant.
9:12 Yna bydd fy ngweithredoedd yn dderbyniol, a rheolaf dy bobl yn gyfiawn; byddaf yn deilwng o orsedd fy nhad.
9:13 Pwy, felly, all wybod cyngor Duw? Neu pwy all synied beth yw ewyllys yr Arglwydd?
9:14 Gwan yw rhesymu meidrolion, a'n hamcanion yn debyg o fethu.
9:15 Oherwydd y mae'r corff llygredig yn faich ar enaid, a'r babell ddaearol yn gwasgu'n drwm ar feddwl yr ystyriol.
9:16 Prin y medrwn ddyfalu'r pethau sydd ar y ddaear; y mae'n ymdrech i ni ddod o hyd i'r pethau sydd wrth law. Pwy ynteu sydd wedi olrhain y pethau sydd yn y nefoedd?
9:17 Pwy erioed a ddaeth i wybod dy fwriad, oddieithr i ti roi doethineb ac anfon dy ysbryd sanctaidd oddi uchod?
9:18 Ac felly yr unionwyd llwybrau trigolion y ddaear, a dysgu i bobl yr hyn sy'n gymeradwy i ti, a'u hachub gan ddoethineb.”

a Hanes o Adda i Moses

10:1 Doethineb a fu'n gwarchod y dyn cyntaf a luniwyd, tad y ddynolryw, pan nad oedd neb wedi ei greu ond ef yn unig; hi a'i gwaredodd o'i gamwedd ef ei hun,
10:2 a rhoi nerth iddo fod yn feistr ar bob peth.
10:3 Ond cefnodd y dyn anghyfiawn arni yn ei lid, ac yn ei lofruddiog nwyd fe'i distrywiodd ei hun gyda'i frawd.
10:4 A phan lifodd dilyw dros y ddaear o'i achos, doethineb a'i hachubodd unwaith eto, a dwyn y dyn cyfiawn drwy'r dyfroedd â dernyn dibris o bren.
10:5 A phan ddaeth eu drygioni unfryd â therfysg i'r cenhedloedd, hi eto a gafodd hyd i'r dyn cyfiawn a'i warchod yn ddi-fai i Dduw, a'i gadw'n gadarn, er cymaint ei dosturi wrth ei blentyn.
10:6 Hi, pan oedd yr annuwiolion ar eu ffordd i ddistryw, a achubodd y dyn cyfiawn a ddihangodd o'r tân a ddisgynnodd ar y Pum Dinas.
10:7 Tyst hyd heddiw i'w drygioni hwy yw'r crastir sy'n dal i losgi'n fud, a'r planhigion na allant ddwyn ffrwyth i aeddfedrwydd, a'r golofn halen sy'n sefyll er cof am enaid anghredadun.
10:8 Oherwydd trwy anwybyddu doethineb fe'u rhwystrwyd rhag adnabod y da—ac nid hynny'n unig, ond gadawsant hefyd gofeb i'r byd o'u ffolineb, fel nad oedd modd iddynt hyd yn oed guddio'u camweddau.
10:9 Ond achubodd doethineb ei gwasanathyddion o'u helbulon.
10:10 Hi a dywysodd y dyn cyfiawn ar hyd llwybrau uniondeb— ac yntau'n ffoadur rhag dicter ei frawd; dangosodd iddo deyrnas Dduw, a rhoes iddo wybodaeth am fodau sanctaidd; daeth â llwyddiant iddo yn ei ymdrechion, a chynnydd yn ffrwyth ei lafur.
10:11 Bu'n gefn iddo yn erbyn rhaib ei dreiswyr, a'i wneud yn gyfoethog.
10:12 Amddiffynnodd ef rhag gelynion, a'i gadw'n ddiogel rhag cynllwynwyr; dyfarnodd yr ornest fawr iddo, er mwyn iddo wybod mai trech duwioldeb na dim.
10:13 Hithau, ni chefnodd ar y dyn cyfiawn a werthwyd yn gaethwas, ond ei achub o afael pechod.
10:14 Aeth i lawr gydag ef i'r dwnsiwn; ni adawodd ef yn ei gadwynau, cyn estyn iddo deyrnwialen y frenhiniaeth ac awdurdod dros ei ormeswyr; datguddiodd gelwydd ei gyhuddwyr, a sicrhaodd iddo enw anfarwol.

Yr Exodus

10:15 Hi a ddaeth at bobl sanctaidd a hil ddi-fai, a'u hachub o afael cenedl o ormeswyr.
10:16 Aeth i mewn i enaid gwasanaethwr yr Arglwydd, a safodd yntau yn erbyn brenhinoedd ofnadwy a'u trechu â rhyfeddodau ac arwyddion.
10:17 Gwobrwyodd y saint am eu llafur; arweiniodd hwy ar hyd ffordd ryfeddol; bu iddynt yn gysgod liw dydd ac yn fflam serennog liw nos.
10:18 Daeth â hwy trwy'r Môr Coch, a'u harwain trwy ddyfroedd dyfnion.
10:19 Ond gwnaeth i'r tonnau lyncu eu gelynion a'u taflu i fyny eto o'r dyfnder diwaelod.
10:20 Am hynny ysbeiliodd y cyfiawn yr annuwiol, gan glodfori dy enw sanctaidd, O Arglwydd, a moliannu'n unfryd dy law, a'u hamddiffynnodd.
10:21 Oherwydd agorodd doethineb enau'r rhai mud, ac i'r dilafar rhoes dafodau croyw.

Y Daith trwy'r Anialwch

11:1 Parodd hi i'w gweithredoedd lwy-ddo trwy law proffwyd sanctaidd.
11:2 Teithiasant ar draws anialwch anghyfannedd, a gosod eu pebyll mewn mannau didramwy.
11:3 Gwrthsafasant eu gelynion, gan fwrw eu gwrthwynebwyr yn ôl.
11:4 Pan ddaeth syched arnynt, galwasant arnat, a rhoddwyd dŵr iddynt o glogwyn creigiog, a modd i ddiwallu eu syched o faen caled.

Cosbi'r Gwrthwynebwyr

11:5 Oherwydd bu moddion cosb eu gwrthwynebwyr yn foddion budd iddynt hwy yn eu hangen.
11:6 Yn wir, yn cyfateb i'r afon ddiball ei tharddiad, sy'n gynnwrf i gyd gan waed halogedig
11:7 a cherydd am y gorchymyn i ladd plant bychain, rhoddaist iddynt hwy ddigonedd o ddŵr y tu hwnt i'w gobeithion;
11:8 a dangosaist trwy eu syched y pryd hwnnw pa fath o gosb a osodaist ar eu gwrthwynebwyr.
11:9 Ac er eu disgyblu hwy mewn trugaredd yn nydd eu prawf, deallasant sut boenedigaeth sydd i'r annuwiol a fernir mewn dicter;
11:10 oherwydd profaist y rhain, a'u rhybuddio fel tad, ond chwiliaist achos y lleill ag artaith, a'u condemnio fel brenin llym.
11:11 Ymhell neu'n agos, yr un oedd eu trallod,
11:12 oherwydd gafaelodd gofid deublyg ynddynt, a griddfan wrth gofio am yr hyn a aeth heibio.
11:13 Oherwydd pan glywsant fod yr hyn a fu'n gosb iddynt hwy wedi dod â budd i'r cyfiawn, gwelsant mai gwaith yr Arglwydd ydoedd.
11:14 Oherwydd er ei daflu allan gynt yn faban diymgeledd, ac yna ei wrthod â dirmyg, daethant i ryfeddu at ganlyniad ei gyflawniadau; am nad oedd eu syched hwy am yr un math o bethau â'r rhai cyfiawn.
11:15 Ac yn dâl am eu syniadau diddeall ac anghyfiawn, y rheini a'u harweiniodd ar gyfeiliorn i addoli ymlusgiaid direswm a phryfetach diwerth, anfonaist haid o greaduriaid direswm i ddial arnynt,
11:16 er mwyn iddynt ddeall mai moddion pechod rhywun yw moddion ei gosb.
11:17 Oherwydd nid oedd y tu hwnt i allu dy law hollalluog— a hithau wedi creu'r byd o ddeunydd afluniaidd— anfon arnynt lu o eirth, neu lewod rheibus,
11:18 neu fwystfilod ffyrnig newydd-greëdig ac anhysbys, rhai â'u chwyth yn chwa o dân, rhai'n bytheirio cymylau o fwg, rhai â'u llygaid yn pelydru braw.
11:19 Heblaw eu gallu i ddrygu pobl i ddistryw, yr oedd eu golwg yn codi arswyd hyd at angau.
11:20 Ac ar wahân i'r rhain, digon fyddai un chwythiad iddynt syrthio, pan fyddai dial yn eu herlid, a'th anadl nerthol yn eu chwalu; ond gosodaist bob peth mewn trefn yn ôl mesur a rhif a phwys.
11:21 Oherwydd y mae gallu aruthrol ar gael i ti bob amser; pwy all wrthsefyll nerth dy fraich?
11:22 I ti, yn wir, nid yw'r byd cyfan ond megis y gronyn llwch sy'n troi'r fantol, neu'r defnyn o wlith sy'n disgyn ar y ddaear gyda'r wawr.
11:23 Eto yr wyt yn trugarhau wrth bawb, gan fod popeth yn bosibl i ti; ac yn edrych heibio i bechodau pobl er mwyn iddynt edifarhau.
11:24 Yr wyt yn caru popeth sy'n bod; nid oes un dim a greaist yn ffiaidd gennyt; yn wir, ni fuasit wedi llunio dim sy'n atgas yn dy olwg.
11:25 Sut y gallai dim barhau, ond trwy dy ewyllys di? Neu gael ei gadw heb dy fod di wedi ei alw?
11:26 Ond yr wyt yn arbed pob peth am mai dy eiddo di yw, O Feistr sy'n caru'r byw.

12:1 Oherwydd y mae dy ysbryd anllygradwy ym mhob un.

Pechodau Trigolion Cyntefig Canaan

12:2 Am hynny, yn araf deg y byddi'n cywiro troseddwyr, ac yn eu hatgoffa am eu pechodau, a'u rhybuddio, er mwyn iddynt roi'r gorau i ddrygioni ac ymddiried ynot ti, O Arglwydd.
12:3 Yn wir, yr oedd trigolion cyntefig dy wlad sanctaidd
12:4 yn gas gennyt fel gweithredwyr pob ffieidd-dra— yn ddilynwyr dewiniaeth a defodau halogedig,
12:5 yn llofruddwyr didostur plant bach, ac yn loddestwyr ar gig a gwaed yr aberth dynol; yn addolwyr a chanlynwyr crefydd ddirgel,
12:6 yn rhieni a oedd yn lleiddiaid eu plant diymadferth eu hunain. Penderfynaist, felly, eu difetha hwy trwy law ein hynafiaid,
12:7 fel y gallai'r wlad sy'n werthfawr-ocach gennyt na'r holl wledydd dderbyn plant Duw yn wladychwyr teilwng.
12:8 Ond arbedaist hyd yn oed y rhain, am mai dynol oeddent, trwy anfon cacwn o flaen dy fyddin i'w difa yn araf deg.
12:9 Nid nad oedd gennyt allu i roi'r annuwiol yn nwylo'r cyfiawn ar faes y gad, neu i'w difa ar drawiad â bwystfilod dychrynllyd neu â gair llym,
12:10 ond yn araf deg y dygaist hwy i farn, i roi cyfle i edifeirwch, er iti wybod yn iawn eu bod yn ddrwg wrth natur, a'u drygioni'n gynhenid, ac na welid byth newid ar eu bwriadau,
12:11 oherwydd yr oedd eu hil dan felltith o'r dechreuad, ac nid rhag ofn neb y rhoddaist bardwn am eu pechodau.
12:12 Pwy yn wir all ddweud, “Beth wnaethost ti?” Neu pwy all wrthsefyll dy ddyfarniad? Pwy all dy ddwyn i gyfrif am anfon cenhedloedd i ddistryw, a thithau wedi eu creu? Neu pwy all ddod ger dy fron i hawlio iawn am rai anghyfiawn?
12:13 Oherwydd ar wahân i ti, sydd â gofal am bob un, nid oes yr un duw iti gael dangos iddo nad oedd dy ddyfarniad yn anghyfiawn;
12:14 nid oes ychwaith na brenin na theyrn a all dy herio am y rhai a gosbaist.
12:15 Ond, a thi dy hun yn gyfiawn, cyfiawn yw dy drefn ar bob peth, ac fe'i hystyrit yn gwbl groes i'th allu iti gollfarnu un nad yw'n teilyngu cosb.
12:16 Oherwydd y mae dy nerth di yn ffynhonnell cyfiawnder, a'th benarglwyddiaeth yn peri iti arbed pawb.
12:17 Pan amheuir cyflawnder dy allu, yna y byddi'n datguddio dy nerth; ymhlith y rhai sy'n gwybod, yr wyt yn condemnio haerllugrwydd;
12:18 ond yr wyt ti, yn dy benarglwydd-iaeth nerthol, yn barnu'n dirion ac yn ein rheoli ag ymatal mawr, am fod gallu ar gael iti pryd y mynni.
12:19 Dysgaist dy bobl trwy'r fath weithredoedd fod yn rhaid i'r cyfiawn garu ei gyd-ddyn; a pheraist i'th blant obeithio'n hyderus dy fod yn rhoi edifeirwch am bechodau.
12:20 Oherwydd os cafodd gelynion dy blant, a oedd yn haeddu marwolaeth, eu trin gennyt mor ystyriol a goddefgar, gan i ti roi amser a chyfle iddynt ymwrthod â drygioni,
12:21 pa mor fanwl oedd dy ofal wrth farnu dy blant, y rhoddaist addewid o ddaioni i'w hynafiaid dan lwon y cyfamodau?
12:22 Ac felly, er dy fod yn ein disgyblu ni, yr wyt yn fflangellu ein gelynion ddengmil gwaith mwy, er mwyn i ni ystyried dy diriondeb wrth farnu, ac wrth gael ein barnu allu disgwyl am drugaredd.

Y Ddedfryd Derfynol

12:23 Dyna pam y peraist fod y rhai a fu'n byw bywydau ffôl ac anghyfiawn i'w poenydio gan eu ffieidd-dra eu hunain,
12:24 gan iddynt gyfeiliorni y tu hwnt i ffyrdd pob cyfeiliorni, ac ystyried yn dduwiau anifeiliaid atgas a ffiaidd hyd yn oed, wedi eu twyllo'u hunain fel plant bach diddeall.
12:25 Fel plant direswm, felly, gweithredaist farn arnynt mewn dychan chwareus;
12:26 ond bydd y rhai a ddiystyrodd rybudd y dychan direidus yn sicr o gael eu haeddiant pan ddaw barn Duw arnynt.
12:27 Oherwydd wrth ddioddef eu hunain, ac ymgynddeiriogi yn erbyn y rhai y tybient eu bod yn dduwiau, o achos eu cosbi drwyddynt, daethant i weld a chydnabod yn wir Dduw yr un na fynnent gynt wybod dim amdano; am hynny traddodwyd y ddedfryd derfynol arnynt hwythau.

Ffolineb Addoli Natur

13:1 Mor ffôl wrth natur oedd pawb fel ei gilydd, yn amddifad o'r gallu i ganfod Duw; yn analluog, ar sail y daioni oedd yn weladwy iddynt, i ddirnad yr Un sy'n bod, a heb adnabod y Pensaer er cymaint eu sylw i'w waith.
13:2 Ond tân neu wynt neu awel dro neu gylchdro'r sêr neu ddŵr chwyrn neu oleuadau'r ffurfafen, rheolwyr y bydysawd—dyma eu duwiau.
13:3 Os ymhyfrydu yn eu tegwch a barodd iddynt eu cymryd fel duwiau, dylent wybod gymaint y mae Meistr y pethau hyn yn rhagori arnynt, oherwydd lluniwr cyntaf prydferthwch a'u creodd hwy.
13:4 Neu os eu syndod at eu gallu a'u grym a wnaeth hyn, dylent ddeall wrth hynny gymaint mwy galluog yw'r hwn a'u lluniodd.
13:5 Oherwydd ym mawredd a phrydferthwch y pethau a grewyd yr amlygir delwedd gyfatebol eu gwneuthurwr cyntaf.
13:6 Er hynny, ychydig o fai sydd ar y rhain, oherwydd cyfeiliorni y maent, efallai, wrth chwilio am Dduw a cheisio dod o hyd iddo.
13:7 Wrth fyw a bod ynghanol ei weithredoedd, a'u harchwilio'n fanwl, cânt eu hennill gan yr hyn a welir, gan mor deg yw'r olwg arnynt.
13:8 Ac eto, nid yw'r rhain i'w hesgusodi chwaith;
13:9 oherwydd os oedd y gallu ganddynt i wybod cymaint ac i ddyfalu ynghylch y bydysawd, sut na chawsant hyd yn gynt i Feistr y pethau hyn?

Ffolineb Eilunaddoliaeth

13:10 Ond druan ohonynt! Ar bethau meirwon y mae eu gobaith; rhoesant yr enw duwiau ar bethau o waith dynion, ar aur ac arian, deunydd crai y crefftwr; ar lun anifeiliaid, ar faen di-fudd, cerflun o'r amser gynt.
13:11 Bwriwch fod rhyw saer coed wedi llifio a chwympo coeden gyfleus, a'i rhisglo'n lân a chymen, a gweithio arni'n gelfydd a chain, i'w llunio'n llestr defnyddiol ar gyfer gorchwylion bywyd;
13:12 yna y mae'n gwneud tân o'r darnau a naddwyd i ffwrdd, i baratoi ei fwyd, ac yn cael ei wala;
13:13 a'r darn olaf, nad yw'n dda i ddim, pren crwca a chnotiog drwyddo— y mae'n cymryd hwnnw ac yn ei naddu i ddifyrru ei oriau segur, gan roi ffurf arno â medr hamddenol a'i lunio ar ddelw ddynol.
13:14 Neu y mae'n ei wneud yn debyg i ryw anifail diwerth, a'i liwio â fermilion a'i baentio'n goch drosto i gyd, i guddio â'r lliw bob nam sydd arno;
13:15 ac yna y mae'n darparu cartref addas ar ei gyfer, ac yn ei osod ar wal a'i hoelio'n ddiogel â haearn.
13:16 Felly y mae'n cynllunio ymlaen llaw i'w gadw rhag cwympo, gan wybod nad oes ganddo nerth i'w helpu ei hunan, am mai delw ydyw, a chymorth yn anghenraid iddo.
13:17 Ond y mae'n gweddïo arno dros ei eiddo a'i briodas a'i blant, heb gywilyddio dim wrth gyfarch y peth difywyd hwn; y mae'n ymbil am iechyd ar rywbeth nad oes iechyd ganddo;
13:18 yn disgwyl bywyd gan beth marw; yn deisyf cymorth gan beth cwbl ddiymadferth; a siwrnai dda gan rywbeth na all gerdded cam;
13:19 ac i sicrhau elw a busnes a llwydd yn ei grefft, y mae'n erfyn am nerth gan rywbeth nad oes nerth yn ei ddwylo.

14:1 Ymhellach, dyna'r sawl sy'n trefnu mordaith ac am hwylio trwy'r tonnau tymhestlog: bydd yn galw am gymorth ar ddernyn o bren mwy bregus na'r llong sy'n ei gludo.
14:2 Oherwydd awydd am elw a gymhellodd ddyfeisio'r llong, a doethineb oedd y saer a'i hadeiladodd.
14:3 Ond dy ragluniaeth di, O Dad, sy'n ei llywio, oherwydd ti a agorodd ffordd hyd yn oed trwy'r môr, a llwybr diogel ymhlith y tonnau,
14:4 gan ddangos dy allu i achub o bob perygl, fel y gall hyd yn oed yr anghyfarwydd hwylio ar y môr.
14:5 Ni fynni weld cynnyrch dy ddoethineb yn segur, ac felly bydd pobl yn eu hymddiried eu hunain i'r darn lleiaf o bren, ac yn dod i'r lan yn ddiogel trwy'r tonnau ar gludair.
14:6 Oherwydd hyd yn oed yn y dechreuad, pan oedd cewri balch ar dranc, dihangodd gobaith y byd ar gludair, ac o'i llywio gan dy law gadawodd had hiliogaeth newydd i'r oes oedd i ddilyn.
14:7 Bendigedig yw'r pren y mae cyfiawnder yn dod drwyddo.
14:8 Ond am yr eilun o waith llaw, melltigedig yw ef a'r sawl a'i gwnaeth; yr olaf am iddo'i gynhyrchu, a'r eilun llygradwy am iddo gael ei alw'n dduw.
14:9 Oherwydd y mae'r annuwiol yr un mor atgas gan Dduw â'i weithred annuwiol,
14:10 a chosbir y weithred ynghyd â'r gweithredwr.
14:11 Dyna pam y daw barn ar eilunod y Cenhedloedd hefyd, oherwydd er i Dduw eu creu, aethant yn ffieidd-beth, ac yn achos cwymp i eneidiau dynol, ac yn fagl i draed y ffôl.

Gwreiddiau Eilunaddoliaeth

14:12 Oherwydd dyfeisio eilunod yw gwreiddyn puteindra, a phla ar fywyd fu eu darganfod.
14:13 Nid oeddent o'r dechreuad, ac ni fyddant am byth.
14:14 Gwag-ogoniant pobl a ddaeth â hwy i'r byd, ac am hynny diwedd cwta sydd yn eu haros.
14:15 Dyna dad dan gystudd ei alar annhymig yn gwneud delw o'r plentyn a gipiwyd oddi arno mor fuan, ac yn awr yn anrhydeddu fel duw un nad oedd gynt yn ddim ond corff marw, ac yn traddodi i'w dylwyth arferion a defodau cyfrin.
14:16 Yna, gyda threigl amser, cadarnheir yr arfer annuwiol a'i gadw fel cyfraith.
14:17 Neu eto, dyna ddelwau cerfiedig a gafodd eu haddoli ar orchymyn teyrn; pan na allai pobl ei anrhydeddu wyneb yn wyneb, o achos pellter ei drigfan, tynasant lun o bell o'i wyneb, a gwneud delw weladwy o'r brenin oedd i'w anrhydeddu, er mwyn ymgreinio'n frwd i un nad oedd yno fel pe bai yno.
14:18 Ac âi'r addoliad ar gynnydd hyd yn oed ymhlith y rhai nad adwaenent mohono, dan anogaeth uchelgais y crefftwr,
14:19 gan iddo—hwyrach yn ei awydd i blesio'r teyrn— arfer ei gelfyddyd i ystumio'r tebygrwydd â cheinder na feddai,
14:20 er mwyn i'r werin, dan gyfaredd glendid y gwaith, dybio bod un, a anrhydeddwyd ychydig yn gynt fel bod dynol, bellach yn haeddu eu haddoliad.
14:21 Daeth hyn oll, felly, yn fagl ar lwybr pobl; dan orfod anffawd neu drais awdurdodau, cymerasant yr enw anghyfathrebol a'i drosglwyddo i gerrig a darnau o bren.

Canlyniadau Eilunaddoliaeth

14:22 Yna, heb fodloni ar gyfeiliorni yn eu canfyddiad o Dduw, y maent trwy gamganfod yn troi eu bywyd yn lladdfa fawr, ac yn galw'r fath ddrygioni hyll yn heddwch.
14:23 Oherwydd, a hwythau'n lladd eu plant mewn defod neu'n cynnal seremonïau cyfrin neu'n ymroi i loddesta gorffwyll eu crefydd annaturiol,
14:24 nid ydynt bellach yn diogelu glendid bywyd na phriodas, ond, yn hytrach, yn lladd ei gilydd â dichell, a thrallodi ei gilydd â godineb.
14:25 Aeth yn anhrefn ym mhob man: llofruddio a lladd, lladrad a thwyll, llygredd, brad, terfysg, camdystiolaeth,
14:26 sarhau pobl dda, anghofio cymwynasau, halogi personau, gwyrdroi arferion rhyw, torpriodas, godineb ac anniweirdeb.
14:27 Oherwydd addoli eilunod, na ddylid eu henwi, yw dechrau ac achos a diwedd pob drygioni,
14:28 gan fod pobl yn gwallgofi yn eu miri, neu'n proffwydo celwydd, neu'n byw'n anghyfiawn, neu'n rhuthro i gamdystiolaethu.
14:29 Ac wrth ymddiried mewn eilunod difywyd, nid ydynt yn disgwyl cosb am iddynt dyngu ar gam.
14:30 Ond fe'u goddiweddir gan farnedigaeth ddeublyg, am iddynt synied ar gam am Dduw, a throi at eilunod, ac am iddynt dyngu ar gam i dwyllo, a dirmygu duwioldeb.
14:31 Oherwydd nid unrhyw allu yn y pethau y tyngent iddynt, ond y dial sy'n goddiweddyd pechaduriaid sydd, bob amser, yn erlid trosedd yr anghyfiawn.

Israel yn Ymwrthod ag Eilunaddoliaeth

15:1 Ond graslon a chywir wyt ti, ein Duw; yn amyneddgar ac yn trefnu pob peth mewn trugaredd.
15:2 Hyd yn oed os byddwn yn pechu, eiddot ti ydym, gan ein bod yn cydnabod dy allu; ond ni phechwn, gan inni wybod ein cyfrif yn eiddo i ti.
15:3 Dy adnabod di, cyfiawnder perffaith yw, a gwreiddyn anfarwoldeb yw cydnabod dy allu.
15:4 Ni thwyllwyd ni gan ddyfeisgarwch cyfrwys pobl, na chan lafur diffrwyth yr arlunydd— gan ryw lun sy'n frith o liwiau amrywiol,
15:5 y bydd golwg arno'n codi chwant ar ffyliaid, a blys am ryw lun heb nac anadl na hoedl.
15:6 Ymserchu yn y drwg, heb haeddu dim gwell i obeithio ynddo, y mae gwneuthurwyr a chwenychwyr ac addolwyr y pethau hyn.

Ni All Neb Lunio Duw

15:7 Bydd crochenydd yn llafurus dylino clai hydrin ac yn moldio pob rhyw lestr at ein gwasanaeth; yn wir, o'r un clai y mae'n llunio y llestri sy'n ddefnyddiol at waith glân a'r rhai nad ydynt, pob un fel ei gilydd. Ond beth fydd priod ddefnydd y naill neu'r llall, y crochenydd sy'n pennu hynny.
15:8 Yna, o'r un clai, y mae'n llunio ffug-dduw trwy lafur di-fudd—ie, hwnnw a ddaeth ei hun o'r ddaear ychydig yn gynt, ac a ddychwel ar fyr i'r union le y cymerwyd ef ohono, pan hawlir yn ôl y bywyd a gafodd ar fenthyg.
15:9 Ond yr hyn sydd ar ei feddwl yw, nid bod ei nerth yn mynd i ballu, na bod diwedd buan i'r bywyd sydd ganddo; yn hytrach, cystadlu y mae â'r gofaint aur ac arian, ac efelychu'r gweithwyr pres, gan dybied y daw clod iddo am lunio pethau ffug.
15:10 Lludw yw ei galon, ei obaith yn werth llai na baw, a'i fywyd yn werth llai na chlai,
15:11 am nad adnabu'r hwn a'i lluniodd, hwnnw a anadlodd anadl einioes i roi nerth iddo, a'i gynysgaeddu ag ysbryd sy'n bywhau.
15:12 Na, rhyw chwarae, yn nhyb pobl, yw ein bywyd, a ffair i wneud elw ynddi yw ein bodolaeth; rhaid, meddir, i rywun ofalu amdano'i hun, waeth pa mor ddrwg y dull.
15:13 Fe ŵyr hwn yn well na neb ei fod yn pechu, ac yntau'n gweithio llestri brau a delwau cerfiedig o'r un deunydd priddlyd.
15:14 Ond y ffyliaid pennaf, a thruenusach na'r un baban, oedd holl elynion a gormeswyr dy bobl,
15:15 am iddynt ystyried yn dduwiau holl eilunod y Cenhedloedd, er na allant ddefnyddio'u llygaid i weld, na'u ffroenau i anadlu awyr, na'u clustiau i glywed, na bysedd eu dwylo i deimlo, a'u traed, hwythau, yn ddiwerth i gerdded.
15:16 Oherwydd meidrolyn a'u gwnaeth, ac un a gafodd ei anadl ar fenthyg a'u lluniodd; ac ni all rhywun meidrol lunio duw, hyd yn oed un tebyg iddo ef ei hun.
15:17 Marwol yw ef, ond marw yw gwaith ei ddwylo halogedig, ac felly y mae'n rhagori ar wrthrychau ei addoliad, oherwydd fe gafodd ef fywyd, peth na ddaw byth iddynt hwy.
15:18 Ymhellach, y mwyaf atgas o'r anifeiliaid yw gwrthrychau eu haddoliad; y rhai, o'u cymharu ag eraill, sy'n fwyaf direswm.
15:19 Hyd yn oed fel anifeiliaid, nid oes iddynt degwch gwedd i ddenu bryd neb; ond y maent wedi cefnu ar gymeradwyaeth Duw a'i fendith.

Cosbi'r Eilunaddolwyr ac Arbed Pobl Dduw

16:1 Am hynny gweinyddwyd cosb haeddiannol arnynt gan greaduriaid o'r un fath, a'u poenydio gan heidiau o bryfed.
16:2 Yn lle'r fath gosbedigaeth, buost yn hael wrth dy bobl dy hun, gan ddarparu soflieir i'w porthi, danteithfwyd na welwyd ei debyg i ddiwallu eu harchwaeth.
16:3 Dy fwriad oedd i'r gormeswyr, er cymaint eu gwanc am fwyd, golli eu harchwaeth naturiol hyd yn oed gan yr olwg oedd ar y creaduriaid a anfonwyd yn fwyd iddynt; ond dy fwriad i'th bobl oedd iddynt hwy, wedi ysbaid byr o brinder, gael mwynhau hyd yn oed ddanteithfwyd na welwyd ei debyg.
16:4 Oherwydd rhaid oedd i brinder diwrthdro oddiweddyd y gormeswyr hynny, ond i'th bobl gael cip yn unig ar y modd y câi eu gelynion eu poenydio.
16:5 Oherwydd hyd yn oed pan ymosododd creaduriaid gwyllt a chynddeiriog ar dy bobl, a'u difa â brathiadau seirff troellog, ni ddaliodd dy ddicter hyd yr eithaf;
16:6 yn wers iddynt fe'u trallodwyd am ychydig, a chawsant arwydd o achubiaeth i'w hatgoffa am orchymyn dy gyfraith.
16:7 Oherwydd nid y peth yr edrychid arno a achubai'r sawl a fyddai'n troi ato, ond ti, achubwr pob dim.
16:8 Yn wir, dyma sut y darbwyllaist ein gelynion mai ti sy'n gwaredu oddi wrth bob drwg.
16:9 Fe'u lladdwyd hwy gan frathiadau locustiaid a chlêr, ac ni chafwyd meddyginiaeth i achub eu bywydau, oherwydd eu bod yn haeddu eu cosbi gan y fath bethau.
16:10 Ond dy blant di, nis trechwyd hwy hyd yn oed gan ddannedd seirff gwenwynig, gan i'th drugaredd ddod i'w hymgeleddu a'u hiacháu.
16:11 Fe'u brathwyd, a'u hadfer yn ddiymdroi, i'w hatgoffa o'th oraclau ac i'w cadw rhag syrthio i anghofrwydd dwfn a pheidio ag ymateb i'th haelioni di.
16:12 Oherwydd nid llysieuyn na phowltis a ddaeth â gwellhad iddynt, ond dy air di, Arglwydd, sy'n iacháu pawb.
16:13 Gennyt ti y mae'r awdurdod dros fywyd a marwolaeth; ti sy'n dod â dyn hyd at byrth angau, ac yn dod ag ef yn ôl.
16:14 Fe ddichon i rywun, yn ei ddrygioni, ladd, ond ni all alw'n ôl yr ysbryd sydd wedi ymadael, na rhyddhau'r enaid sydd wedi ei ddal gan angau.
16:15 Ond rhag dy law di nid oes dianc;
16:16 oherwydd pan wrthododd yr annuwiol dy gydnabod di, fe'u fflangellwyd gan nerth dy fraich, a'u herlid gan lawogydd na welwyd eu tebyg, a chenllysg a llifogydd diwrthdro, a'u difa'n llwyr gan dân.
16:17 Oherwydd—rhyfeddod y rhyfeddodau—yn y dŵr sy'n diffodd pob peth roedd y tân yn mynd o nerth i nerth, gan fod y greadigaeth yn ymladd dros y cyfiawn.
16:18 Ar un adeg byddai'r fflam yn cael ei lleddfu, rhag iddi losgi'n ulw yr anifeiliaid a anfonwyd yn erbyn yr annuwiol, ac iddynt hwy gael gweld a deall mai barnedigaeth Duw oedd yn eu herlid.
16:19 Ond bryd arall, hyd yn oed dan y dŵr, byddai'n llosgi â grym ffyrnicach na thân, a difetha cynnyrch y tir anghyfiawn.
16:20 Nid felly dy bobl di; fe'u porthaist hwy ag ymborth angylion, a darperaist iddynt fara o'r nef, yn barod i'w fwyta, heb iddynt lafurio dim, yn llawn o bob melyster ac yn flasus i bob dant.
16:21 Dangosodd y lluniaeth a ddarperaist dy dynerwch tuag at dy blant, heblaw boddio chwaeth pob un a'i bwytaodd trwy ei droi i'r peth a ddymunai.
16:22 Aeth eira a rhew trwy dân heb doddi, er mwyn iddynt wybod mai'r tân a fflamiodd yn y cenllysg ac a daniodd yn y cawodydd glaw a ddifethodd gnydau eu gelynion,
16:23 a bod y tân hwnnw bellach wedi anghofio'i nerth ei hun, er mwyn i'r cyfiawn gael ymborth.
16:24 Oherwydd yn dy wasanaeth di, ei Gwneuthurwr, y mae'r greadigaeth yn ymegnïo er mwyn cosbi'r anghyfiawn, ac yn ymlacio er lles y rhai sy'n ymddiried ynot ti.
16:25 Ac felly y pryd hwnnw hefyd, fe ymaddasodd ym mhob rhyw ffordd wrth wasanaethu dy haelioni holl-gynhaliol di yn ôl dymuniad y rhai oedd mewn angen,
16:26 er mwyn i'th blant a geraist, O Arglwydd, ddysgu nad tyfu ffrwythau sy'n bwydo pobl, ond mai dy air di sy'n cadw y rhai sy'n ymddiried ynot.
16:27 Oherwydd fe doddodd y peth na chafodd ei ddistrywio gan dân ar unwaith dan wres pelydryn bach o'r haul,
16:28 er mwyn ein hysbysu bod rhaid talu diolch i ti cyn codiad yr haul, a gweddïo arnat ar doriad y wawr.
16:29 Oherwydd bydd gobaith yr anniolchgar yn dadmer fel llwydrew y gaeaf, ac yn llifo i ffwrdd fel dŵr wast.

17:1 Mawr yw dy farnedigaethau, ac anodd eu hesbonio; dyna pam yr aeth eneidiau diaddysg ar gyfeiliorn.
17:2 Tybiodd y digyfraith eu bod yn arglwyddiaethu ar genedl sanctaidd, ond gorwedd yr oeddent yn hualau'r tywyllwch a llyffetheiriau nos ddiddiwedd, carcharorion caeth yn llochesu rhag y rhagluniaeth dragwyddol.
17:3 Yn eu pechodau cudd, eu syniad oedd osgoi sylw dan orchudd tywyll ebargofiant, ond fe'u gwasgarwyd dan arswyd ofnadwy a dychryn drychiolaethau.
17:4 Ni allai'r gilfach a'u daliai eu hamddiffyn chwaith rhag ofn, gan fod dwndwr dychrynllyd yn ddadwrdd o'u cwmpas, ac ysbrydion prudd ac wynepdrist yn ymddangos iddynt.
17:5 Ni allai'r tân tanbeitiaf roi golau iddynt, ac ni fedrai fflamau disgleiriaf y sêr oleuo caddug y nos honno.
17:6 Yr unig beth y treiddiodd ei olau atynt oedd coelcerth echryslon a daniodd ohoni ei hun; a chan gymaint eu braw tybiasant fod yr hyn oedd o flaen eu llygaid yn waeth na'r pethau anweledig a welsent.
17:7 Bellach yr oedd celfyddyd swyn a'i hystrywiau ar dranc, a'i dealltwriaeth honedig wedi ei dinoethi â dirmyg.
17:8 Oherwydd yr oedd y rhai a addawai ymlid ofn a phenbleth o enaid claf eu hunain yn glaf gan ofnusrwydd chwerthinllyd.
17:9 Oherwydd, er nad oedd dim brawychus yno i godi ofn arnynt, eto gymaint oedd eu dychryn wrth i bryfed fynd heibio ac i seirff ddechrau hisian, buont farw o fraw, gan wrthod edrych i'r awyr er nad oedd achos o gwbl i'w ochel.
17:10 Oherwydd peth llwfr yw drygioni, fel y dengys y modd y mae'n ei gollfarnu ei hun, ac y mae bob amser yn mynd o ddrwg i waeth dan bwysau cydwybod.
17:11 Yn wir, nid yw ofn yn ddim ond troi cefn ar gymorth rheswm.
17:12 Ac i'r graddau y mae gobaith rhywun yn lleihau o'i fewn, dewisach yw ganddo fod mewn anwybod o'r hyn sy'n achos y boenedigaeth.
17:13 Ar hyd y nos honno, nad oedd i'w chaddug ddim gallu gwirioneddol gan mai o anallu perfeddion uffern y daeth, buont yn cysgu'r un cwsg;
17:14 weithiau yn cael eu herlid gan ddrychiolaethau erchyll, weithiau eu parlysu gan ddiymadferthwch eu heneidiau, yn sgîl yr arswyd disymwth ac annisgwyl a'u goddiweddodd.
17:15 O ganlyniad, felly, yr oedd pwy bynnag oedd yno yn cwympo, a chael ei gloi a'i gadw mewn carchar di-glo.
17:16 Yn amaethwr neu'n fugail, neu'n llafurwr wrth ei galedwaith yn y diffeithwch, daliwyd pob un i aros ei dynged anochel, am fod pawb wedi eu rhwymo gan yr un gadwyn o dywyllwch.
17:17 Chwiban y gwynt, sŵn seinber yr adar yn y coed canghennog, curiad cyson dŵr yn gyrru heibio, twrw trystfawr creigiau'n cwympo'n bendramwnwgl,
17:18 carnau yn carlamu heibio heb eu gweld, sŵn rhuo anifeiliaid gwyllt a mawr eu trwst, carreg ateb yn atseinio o agen y mynyddoedd— dyma'r pethau a'u parlysodd gan ofn.
17:19 Ond yr oedd y byd i gyd wedi ei oleuo â goleuni disglair, ac yn ymroi i'w orchwylion heb rwystr.
17:20 Arnynt hwy yn unig yr ymestynnodd trymder y nos, delwedd o'r tywyllwch oedd ar fin eu derbyn; ond trymach na'r tywyllwch oedd y baich oedd pob un iddo'i hun.

18:1 Ond llewyrchodd goleuni mawr ar dy bobl sanctaidd; a chan i'r lleill glywed eu sŵn heb weld eu gwedd, cyfrifasant hwy'n wynfydedig, am nad oeddent hwy wedi dioddef hefyd;
18:2 gan ddiolch am eu hymatal yn wyneb y cam a gawsant gynt, ac erfyn arnynt, o'u graslonrwydd, brysuro ymaith.
18:3 Darperaist, felly, golofn o dân gwynias i arwain dy bobl ar eu taith ddieithr ac i dywynnu fel haul tyner ar yr ymfudo yr oeddent wedi dyheu amdano.
18:4 Wrth golli'r goleuni, a'u carcharu gan y tywyllwch, eu haeddiant a gafodd y rheini a gadwodd dan glo dy blant di, a thithau drwyddynt ar fin cyflwyno goleuni anniffodd y gyfraith i'r byd.
18:5 Eu bwriad oedd lladd babanod dy bobl sanctaidd, ond wedi i un plentyn gael ei fwrw allan a'i achub, cymeraist, yn gosb arnynt, lu o'u plant hwythau, a'u boddi gyda'i gilydd yn y dyfroedd gwyllt.
18:6 Rhybuddiwyd ein hynafiaid am y noson honno ymlaen llaw, er mwyn iddynt gael gwybodaeth sicr ac ymwroli yn y llwon y buont yn ymddiried ynddynt.
18:7 Disgwyl yr oedd dy bobl am waredigaeth i'r cyfiawn, ond am ddinistr i'w gelynion.
18:8 Oherwydd yr hyn a fu'n gyfrwng dy ddial ar ein gwrthwynebwyr, trwy hwnnw y'n gelwaist ni atat dy hun a'n gogoneddu.
18:9 Yr oedd plant sanctaidd dy bobl dduwiol yn aberthu'n ddirgel, ac wedi cyfamodi'n unfryd i gadw'r gyfraith ddwyfol, fod y saint i gyfranogi'n unwedd o'r un bendithion a'r un peryglon; ac yr oeddent eisoes yn dechrau canu emynau mawl eu hynafiaid
18:10 pan atseiniodd gwaedd aflafar eu gelynion yn ateb iddynt, ac y treiddiodd eu galarnadau truenus am eu plant i bob man.
18:11 Â barn debyg fe gosbwyd caethwas a meistr ynghyd; gwreng a bonedd, yr un oedd eu tynged.
18:12 Yr oedd pawb yn ddiwahân yng ngafael yr un farwolaeth; a'u meirw'n ddirifedi, heb ddigon o'r byw i'w claddu, oherwydd ar un trawiad fe ddinistriwyd y gwerthfawrocaf o'u cenhedlaeth.
18:13 Yr oeddent wedi diystyru pob rhybudd, gan ymddiried mewn swynion, ond ar ddinistr y cyntaf-anedig cydnabuasant fod y bobl yn blant Duw.
18:14 Yr oedd popeth mewn hedd a thawelwch, a chwrs cyflym y nos ar ei hanner,
18:15 pan lamodd dy air hollalluog o'th orsedd frenhinol yn y nef, yn rhyfelwr llym i ganol y wlad yr oedd i'w dinistrio, â chleddyf miniog dy orchymyn dilys yn ei law.
18:16 Safodd â'i ben yn y nef a'i draed ar y ddaear, a llanwodd y byd â marwolaeth.
18:17 Yna'n ddisymwth daeth drychiolaethau hunllefus i'w haflonyddu, ac ofnau annisgwyl i ymosod arnynt;
18:18 fe'u trawyd yn hanner-marw i'r llawr, un yma, un draw, gan fynegi achos eu marwolaeth;
18:19 oherwydd yr oedd y breuddwydion a fu'n tarfu arnynt wedi eu rhagrybuddio, rhag iddynt farw heb wybod achos eu dioddefaint.
18:20 Daeth profiad marwolaeth i ran y cyfiawn hefyd, pan drawyd lliaws ohonynt yn yr anialwch, ond ni pharhaodd dy lid yn hir;
18:21 oherwydd brysiodd dyn di-fai i'w hamddiffyn, gan gludo tarian ei weinidogaeth sanctaidd ei hun— gweddi ac arogldarth y cymod; safodd yn erbyn y dicter a rhoddodd derfyn ar y trychineb, gan ei ddangos ei hun yn was i ti.
18:22 Gorchfygodd y trallod nid â nerth corfforol na thrwy rym arfau, ond darostyngodd y cosbwr â gair, trwy ddwyn ar gof lw'r cyfamodau a wnaethpwyd â'r hynafiaid.
18:23 Oherwydd, a'r meirw eisoes yn gorwedd yn bentwr ar ei gilydd, fe safodd yn y bwlch, a bwrw'r digofaint yn ei ôl a'i atal rhag cyrraedd at y byw.
18:24 Ar ei wisg laes fe welid y cyfanfyd, a gogoniannau'r hynafiaid yn gerfiedig ar bedair rhes o feini gwerthfawr, a'th fawrhydi di ar y diadem am ei ben.
18:25 Ildiodd y Dinistrydd i'r rhain, gan gymaint ei arswyd rhagddynt; oherwydd digon oedd iddynt brofi blas y digofaint yn unig.

19:1 Ond ymosododd dicter didrugaredd ar yr annuwiol hyd yr eithaf, oherwydd yr oedd Duw'n gwybod amdanynt, hyd yn oed am eu dyfodol:
19:2 sut y byddent yn caniatáu i'th bobl ymadael, a'u danfon ar eu ffordd yn frwd, ac yna'n edifarhau a chychwyn ar eu hôl.
19:3 Oherwydd, a hwythau ar ganol eu defodau galar, ac yn wylofain wrth feddau'r meirw, daeth syniad byrbwyll arall i'w pennau, i ymlid fel ffoaduriaid y rheini y buont yn ymbil am gael gwared arnynt.
19:4 Yr oedd eu tynged haeddiannol yn eu llusgo ymlaen i'r terfyn hwn, ac yn peri iddynt anghofio am yr hyn a fu, er mwyn iddynt ddioddef y poenau a oedd eto'n ôl i gwblhau eu cosb,
19:5 ac i'th bobl anturio ar y daith wyrthiol honno ond iddynt hwy syrthio i afael marwolaeth ddieithr.
19:6 Oherwydd fe ail-luniwyd o'r newydd bob creadur yn ôl ei ryw ei hun, i ufuddhau i'th orchmynion di, er mwyn cadw dy blant rhag niwed.
19:7 Yr oedd y gwersyll dan gysgod cwmwl, pan welwyd tir sych yn codi lle gynt y bu dŵr— ffordd ddirwystr lle bu'r Môr Coch, a gwastatir glas lle bu'r tonnau tymhestlog.
19:8 A throsto yr aeth y genedl gyfan dan nodded dy law, gan wylio'r arwyddion rhyfeddol.
19:9 Yr oeddent fel ceffylau ar borfa ac fel ŵyn yn prancio, wrth ganu mawl i ti, O Arglwydd, yr hwn a'u gwaredodd.
19:10 Dalient i gofio digwyddiadau eu preswyliad mewn gwlad ddieithr: y ddaear, yn lle magu gwartheg, yn heidio â llau, a'r afon, yn lle pysgod, yn chwydu brogaod yn lluoedd.
19:11 Ac yn ddiweddarach gwelsant fath newydd o adar hefyd, pan lithiwyd hwy gan eu chwant i ddeisyf am ddanteithion i'w bwyta;
19:12 oherwydd i'w diwallu cododd soflieir allan o'r môr.
19:13 Daeth cosbedigaethau i'r pechaduriaid, nid heb rybuddion trwst taranau ymlaen llaw; yr oeddent yn dioddef yn gyfiawn am eu drygioni eu hunain, am iddynt fynd i eithafion yn eu casineb tuag at ddieithriaid.
19:14 Y mae'n wir fod eraill wedi gwrthod derbyn ymwelwyr nad oeddent yn eu hadnabod, ond gwnaeth y rhain gaethweision o ddieithriaid oedd yn gymwynaswyr iddynt.
19:15 Ac ymhellach, yn wir, fe ddaw rhyw farn ar yr eraill hynny, gan mor gyndyn fuont i dderbyn estroniaid yn llawen;
19:16 ond am y rhain, ar ôl croesawu'r dieithriaid â gwleddoedd, a'u derbyn fel rhai oedd eisoes yn gyfrannog o'r un breintiau â hwy, troi a wnaethant, a'u gorthrymu â chaledwaith dirdynnol.
19:17 Ac felly fe'u trawyd yn ddall, fel y bu i'r rheini wrth ddrws y dyn cyfiawn: y tywyllwch a'i safn yn cau amdanynt, a phob un yn ceisio'r ffordd allan trwy ei ddrws ei hun.
19:18 Oherwydd fel ar y delyn yr arferir nodau mewn tonau gwahanol, ond yn cadw'r un sŵn bob amser, felly yr oedd yr elfennau'n newid eu lle ymhlith ei gilydd, fel y gwelir yn glir o ystyried yr hyn a ddigwyddodd.
19:19 Aeth creaduriaid y tir yn greaduriaid y dŵr, a chreaduriaid sy'n nofio yn cerdded ar dir sych.
19:20 Cadwodd y tân ei rym cynhenid dan y dŵr, ac anghofiodd y dŵr ei allu i ddiffodd y tân.
19:21 I'r gwrthwyneb, ni ddifethodd fflamau'r tân gnawd yr anifeiliaid hawdd eu difa a gerddodd trwy eu canol; ac ni fu toddi ar yr ymborth nefol er ei debyced i'r iâ sy'n hawdd ei doddi.
19:22 Ym mhob peth, felly, O Arglwydd, mawrheaist dy bobl a'u gogoneddu, ac nid oes lle nac amser yr esgeulusaist eu hymgeleddu.