Molawd i Ddoethineb

1:1 Oddi wrth yr Arglwydd y daw pob doethineb, a chydag ef y mae am byth.
1:2 Tywod y môr, a dafnau'r glaw, a dyddiau tragwyddoldeb, pwy all eu rhifo?
1:3 Uchder y nef, a lled y ddaear, a'r dyfnder diwaelod, a doethineb, pwy all eu holrhain?
1:4 Y mae doethineb wedi ei chreu o flaen pob peth, a phwyll dealltwriaeth yn bod erioed.
1:6 I bwy y datguddiwyd gwreiddyn doethineb? Pwy sy'n deall ei dyfeisiau hi?
1:8 Y mae Un sy'n ddoeth, ac i'w ofni'n ddirfawr, Un sy'n eistedd ar ei orsedd—
1:9 ef yw'r Arglwydd, ac ef a greodd ddoethineb; ef a'i canfu hi, a'i dosrannu, a'i harllwys ar ei holl weithredoedd.
1:10 I bob un y mae cyfran ohoni, yn ôl ei roddiad ef, ond rhoddodd yn hael ohoni i'r rhai sy'n ei garu.
1:11 Y mae ofn yr Arglwydd yn achos anrhydedd ac ymffrost, llawenydd a thorch gorfoledd.
1:12 Bydd ofn yr Arglwydd yn llonni'r galon, yn rhoi llawenydd a dedwyddwch a hir ddyddiau.
1:13 Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd, da fydd ei ran yn y diwedd, ac yn nydd ei farwolaeth fe'i bendithir.
1:14 Ofni'r Arglwydd yw dechrau doethineb; crewyd hi gyda'r rhai ffyddlon yng nghroth eu mam.
1:15 Gyda phobl y gwnaeth ei chartref tragwyddol, a chyda'u plant fe'i ceir yn un i ymddiried ynddi.
1:16 Ofni'r Arglwydd yw cyflawnder doethineb; o'i ffrwythau fe rydd iddynt ddigonedd o win.
1:17 Fe leinw eu holl dŷ hwy â'i phethau dymunol, a'u hysguboriau â'i chnydau.
1:18 Ofn yr Arglwydd yw torch doethineb, a thangnefedd a hoen iechyd yn flodau arni.
1:19 Ef a'i canfu hi, a'i dosrannu; glawiodd fedrusrwydd a phwyll gwybodaeth, a dyrchafodd i ogoniant y rhai sy'n glynu wrthi.
1:20 Ofni'r Arglwydd yw gwreiddyn doethineb, a hir ddyddiau yw ei changhennau hi. Hunanddisgyblaeth

1:22 Ni ellir cyfiawnhau dicter anghyfiawn, oherwydd pan dry ei ddicter y dafol cwympo a wna dyn.
1:23 Bydd un da ei amynedd yn ymarhous nes dyfod ei awr, ac yna bydd llawenydd yn torri arno.
1:24 Bydd yn cadw ei feddyliau'n gudd nes dyfod ei awr, ac yna bydd gwefusau llaweroedd yn traethu ei synnwyr ef. Ofn yr Arglwydd

1:25 Yn ystordai doethineb mae dirgelion gwybodaeth, ond ffieiddbeth i'r pechadur yw duwioldeb.
1:26 Os wyt yn chwennych doethineb, cadw'r gorchmynion, a rhydd yr Arglwydd iti yn hael ohoni.
1:27 Oherwydd ofn yr Arglwydd yw doethineb ac addysg; a ffydd ac addfwynder sy'n rhyngu ei fodd ef.
1:28 Paid ag anwybyddu ofn yr Arglwydd, a phaid â nesáu ato â meddwl dauddyblyg.
1:29 Paid â rhagrithio o flaen pobl, a gwylia'n ofalus eiriau dy wefusau.
1:30 Paid â'th ddyrchafu dy hun, rhag iti syrthio a dwyn amarch arnat dy hun; fe ddatguddia'r Arglwydd dy gyfrinachau, a'th fwrw i lawr yng nghanol y gynulleidfa, am iti beidio â nesáu yn ofn yr Arglwydd, ac am fod dy galon yn llawn twyll.

Ffyddlondeb i Dduw yn Nydd Prawf

2:1 Fy mab, pan fyddi'n nesáu i wasanaethu'r Arglwydd, paratoa dy hun i gael dy brofi.
2:2 Uniona dy galon a saf yn gadarn, a phaid â bod yn fyrbwyll pan ddaw aflwydd arnat.
2:3 Glŷn wrtho ef, paid â chefnu arno, er mwyn iti ffynnu yn niwedd dy ddyddiau.
2:4 Beth bynnag a fwrir arnat, derbyn ef, a bydd yn amyneddgar pan ddaw tro ar fyd i'th ddarostwng;
2:5 oherwydd trwy dân y caiff aur ei brofi, ac yn ffwrnais darostyngiad y gwneir pobl yn gymeradwy.
2:6 Ymddiried ynddo ef, ac fe'th gynorthwya; uniona dy lwybrau a gobeithia ynddo.
2:7 Chwi sy'n ofni'r Arglwydd, disgwyliwch wrth ei drugaredd; peidiwch â throi oddi wrtho, rhag ichwi syrthio.
2:8 Chwi sy'n ofni'r Arglwydd, ymddiriedwch ynddo, ac ni phalla eich gwobr byth.
2:9 Chwi sy'n ofni'r Arglwydd, gobeithiwch am ddaioni, am lawenydd tragwyddol a thrugaredd.
2:10 Ystyriwch y cenedlaethau gynt a daliwch sylw: Pwy erioed a ymddiriedodd yn yr Arglwydd a chael ei siomi? Neu pwy erioed a arhosodd yn ei ofn ef a chael ei wrthod? Neu pwy erioed a alwodd arno a chael i'r Arglwydd ei ddiystyru?
2:11 Oherwydd y mae'r Arglwydd yn dosturiol a thrugarog; y mae'n maddau pechodau ac yn achub yn amser cyfyngder.
2:12 Gwae'r calonnau llwfr a'r dwylo llesg, a'r pechadur sy'n ceisio dilyn dau lwybr!
2:13 Gwae'r galon lesg, am nad yw'n credu! Dyna'r rheswm na chaiff gysgod drosti.
2:14 Gwae chwi sydd wedi colli'r gallu i ymddál! Beth a wnewch pan ddaw'r Arglwydd i ymweld â chwi?
2:15 Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, nid anufuddhânt byth i'w eiriau ef; a'r rhai sy'n ei garu ef, fe gadwant at ei lwybrau.
2:16 Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, fe geisiant ryngu ei fodd ef; a'r rhai sy'n ei garu ef, fe'u llenwir â'r gyfraith.
2:17 Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, fe baratoant eu calonnau, ac yn ei ŵydd ef fe'u darostyngant eu hunain.
2:18 “Syrthiwn,” meddant, “i ddwylo'r Arglwydd, ac nid i ddwylo dynol, oherwydd fel y mae ei fawrhydi, felly hefyd y mae ei drugaredd.”

Anrhydeddu Rhieni

3:1 Gwrandewch, blant, arnaf fi, eich tad, a gweithredwch ar fy ngeiriau, ichwi gael eich cadw'n ddiogel.
3:2 Oherwydd mynnodd yr Arglwydd anrhydedd i'r tad gan ei blant, a sicrhaodd barch i awdurdod y fam gan ei meibion.
3:3 Y mae'r hwn sy'n anrhydeddu ei dad yn sicrhau puredigaeth pechodau,
3:4 ac y mae'r hwn sy'n mawrhau ei fam fel un sy'n casglu trysor iddo'i hun.
3:5 Yr hwn sy'n anrhydeddu ei dad, caiff yntau lawenydd gan ei blant, a phan ddaw dydd iddo weddïo, gwrandewir arno.
3:6 Yr hwn sy'n anrhydeddu ei dad, fe wêl hir ddyddiau, a'r hwn sy'n ufuddhau i'r Arglwydd, rhydd orffwys i'w fam.
3:7 A bydd yn gweini ar ei rieni fel caethwas ar ei feistri.
3:8 Parcha dy dad ar weithred ac ar air, er mwyn i'w fendith ddisgyn arnat.
3:9 Oherwydd bendith tad sy'n rhoi cadernid i gartrefi'r plant, ond y mae melltith mam yn tanseilio'u sylfeini.
3:10 Paid â cheisio clod i ti dy hun ar draul anfri dy dad, canys nid clod i ti yw anfri dy dad.
3:11 Oherwydd daw clod i ddyn o'r bri a roddir i'w dad, a gwarth i blant yw anghlod eu mam.
3:12 Fy mab, cynorthwya dy dad yn ei henaint, a phaid â'i dristáu tra bydd ef byw.
3:13 A phan fydd ei synnwyr yn pallu, dylit gydymddwyn ag ef, a phaid â'i ddirmygu am dy fod ti yn dy lawn gryfder.
3:14 Oherwydd nid anghofir caredigrwydd i dad; fe'i codir yn gaer o'th gylch rhag cosb dy bechodau.
3:15 Yn nydd dy gyfyngder fe gofir amdano o'th blaid, a diflanna dy bechodau fel barrug dan heulwen.
3:16 Yr hwn sy'n cefnu ar ei dad, nid yw namyn cablwr, a'r hwn sy'n cythruddo'i fam, dan felltith yr Arglwydd y mae. Gostyngeiddrwydd

3:17 Fy mab, dos ymlaen â'th waith yn wylaidd, ac fe'th gerir gan y rhai sy'n gymeradwy gan Dduw.
3:18 Po fwyaf yr wyt, mwyaf y dylit dy ddarostwng dy hun; a chei ffafr gan yr Arglwydd.
3:20 Oherwydd mawr yw gallu'r Arglwydd, ac fe'i gogoneddir gan y rhai gostyngedig.
3:21 Paid ag ymhél â phethau sy'n rhy anodd iti, a phaid ag ymchwilio i bethau sydd uwchlaw dy allu.
3:22 Ystyria'r pethau hynny a orchmynnwyd iti, oherwydd nid oes arnat angen y pethau cudd.
3:23 Paid ag ymyrryd yn y pethau nad oes a wnelych di â hwy, oherwydd dangoswyd i ti fwy nag y gall ynrhyw un ei ddeall.
3:24 Oherwydd twyllwyd llawer gan eu dyfaliadau eu hunain, a pharodd dychmygion drwg i'w barn lithro.
3:26 Drwg fydd i'r meddwl ystyfnig yn y diwedd, a'r sawl sy'n hoffi perygl, fe'i dinistrir ganddo.
3:27 Ei lethu gan boenau a gaiff y meddwl ystyfnig, a llwytho pechod ar bechod a wna'r pechadur.
3:28 Nid oes iachâd pan ddaw aflwydd ar y balch, oherwydd y mae tyfiant drwg wedi gwreiddio o'i fewn.
3:29 Bydd meddwl y deallus yn myfyrio ar ddihareb, a dymuniad y doeth yw ennill clust y gwrandawr.
3:30 Bydd dŵr yn diffodd fflamau tân, a bydd elusen yn difa aflendid pechodau.
3:31 Y mae'r hwn a wna gymwynas yn ei dro yn edrych i'r dyfodol, ac yn nydd ei gwymp fe gaiff gynhaliaeth.

Rhoi i'r Tlawd

4:1 Fy mab, paid â dwyn ei fywoliaeth oddi ar y tlawd, na chadw llygaid yr anghenus i ddisgwyl.
4:2 Paid â thristáu'r sawl sy'n newynu, na chythruddo neb yn ei angen.
4:3 Paid â chyffroi mwy ar galon a gythruddwyd, na chadw'r cardotyn i ddisgwyl am dy rodd.
4:4 Paid â throi ymaith ymbiliwr yn ei gyfyngder, na throi dy wyneb oddi wrth y tlawd.
4:5 Paid â throi dy lygad oddi wrth un sy'n deisyf arnat, na rhoi lle i unrhyw un dy felltithio.
4:6 Oherwydd os bydd iddo, o chwerwder ei enaid, dy felltithio, bydd ei Greawdwr yn gwrando ar ei ddeisyfiad.
4:7 Gwna dy hun yn annwyl i'r gynulleidfa, a moesymgryma i'r mawrion.
4:8 Gostwng dy glust at y tlawd ac ateb ef â geiriau heddychlon a llednais.
4:9 Gwared y sawl sy'n cael cam o law ei gamdriniwr, a phaid â bod yn wangalon wrth weinyddu barn.
4:10 I'r plant amddifad, bydd fel tad, ac i'w mam, cymer le ei gŵr; byddi felly fel mab i'r Goruchaf, a chei dy garu ganddo'n fwy na chan dy fam dy hun. Doethineb yn Addysgu

4:11 Y mae doethineb yn dyrchafu ei phlant ac yn cynorthwyo'r rhai sy'n ei cheisio.
4:12 A'i câr hi a gâr fywyd; a ddaw ati yn fore a lenwir â llawenydd.
4:13 A lŷn wrthi a etifedda ogoniant, a lle bynnag yr â rhydd yr Arglwydd ei fendith.
4:14 A weinydda arni hi a wasanaetha'r Sanct; a'i câr hi a gerir gan yr Arglwydd.
4:15 A fydd yn ufudd iddi a farna'r cenhedloedd; a rydd sylw iddi a gaiff gartref diogel.
4:16 Os ymddirieda ynddi, fe'i caiff hi'n etifeddiaeth, a bydd cenedlaethau o'i blant yn ei meddu.
4:17 Ar y cyntaf bydd hi'n cydgerdded ag ef ar lwybrau troellog, ac yn codi ofn a dychryn arno, ac yn ei boenydio â'i disgyblaeth, nes iddi fedru ymddiried ynddo a'i roi ar brawf â'i gofynion cyfiawn.
4:18 Yna fe ddychwel ato ar ei hunion, a'i lonni a datguddio iddo ei chyfrinachau.
4:19 Os crwydra ef oddi wrthi, bydd hi'n ei adael a'i draddodi i'w gwymp ei hun. Cywilydd a Hunan-barch

4:20 Gwylia dy gyfle ac ymgadw rhag drwg, a phaid â chywilyddio amdanat dy hun;
4:21 oherwydd y mae cywilydd sy'n dwyn pechod a chywilydd sy'n anrhydeddus a graslon.
4:22 Paid â dangos ffafriaeth i neb er drwg i ti dy hun, nac ymgreinio i neb er niwed i ti dy hun.
4:23 Paid ag ymatal rhag siarad pan fydd angen hynny.
4:24 Oherwydd adwaenir doethineb wrth ei hymadrodd, ac addysg wrth y gair a lefara.
4:25 Paid â dweud dim yn erbyn y gwirionedd, a bydd yn wylaidd ar gyfrif dy ddiffyg addysg.
4:26 Paid â bod â chywilydd cyffesu dy bechodau, na cheisio atal llif yr afon.
4:27 Paid â gorwedd ar lawr i'r ffôl sathru arnat, na dangos ffafriaeth i lywodraethwr.
4:28 Ymegnïa hyd at farw dros y gwirionedd, ac fe frwydra'r Arglwydd Dduw drosot tithau.
4:29 Paid~â bod yn hy dy dafod ac yn ddiog a diofal dy weithredoedd.
4:30 Paid â bod fel llew yn dy dŷ, gan ladd ar dy weision o hyd.
4:31 Paid â dal dy law yn agored i dderbyn, a'i chau'n dynn ddydd talu'n ôl.

Peidio â Bod yn Eofn

5:1 Paid â rhoi dy fryd ar dy gyfoeth, na dweud, “Yr wyf ar ben fy nigon.”
5:2 Paid â dilyn trywydd dy ewyllys a'th gryfder dy hun, gan rodio yn ôl chwantau dy galon dy hun.
5:3 Paid â dweud, “Pwy gaiff fod yn feistr arnaf fi?” Oherwydd y mae'r Arglwydd yn siŵr o'th alw i gyfrif.
5:4 Paid â dweud, “Pechais, a beth a ddigwyddodd imi?” Oherwydd hirymarhous yw'r Arglwydd.
5:5 Paid â bod yn eofn ynglŷn â phuredigaeth dy bechod, nes pentyrru ohonot bechod ar bechod.
5:6 A phaid â dweud, “Mawr yw ei dosturi ef; fe faddeua fy aml bechodau.” Oherwydd gydag ef y mae trugaredd, a digofaint hefyd, ac ar bechaduriaid y gorffwys ei lid ef.
5:7 Paid ag oedi cyn troi at yr Arglwydd, na gohirio o ddydd i ddydd, oherwydd yn ddisymwth y daw digofaint yr Arglwydd, ac yn nydd ei ddial ef i ddistryw yr ei. Didwylledd a Hunanreolaeth

5:8 Paid â rhoi dy fryd ar gyfoeth anonest, oherwydd ni chei ddim budd ohono pan ddaw aflwydd arnat.
5:9 Paid â throi i nithio gyda phob gwynt, na chanlyn pob llwybr; ffordd y pechadur dauwynebog yw hynny.
5:10 Bydd yn gadarn dy argyhoeddiad ac yn gyson dy air.
5:11 Bydd yn gyflym i wrando ond yn bwyllog i roi dy ateb.
5:12 Ateb dy gymydog os yw'r deall gennyt; onid e, bydded dy law ar dy geg.
5:13 Yn lleferydd rhywun y mae ei fri a'i warth, ac yn ei dafod y mae achos cwymp iddo.
5:14 Paid ag ennill enw fel clepgi, na chynllwynio â'th dafod, oherwydd rhan y lleidr fydd cywilydd, a barnedigaeth lem fydd i'r dauwynebog.
5:15 Paid â chyfeiliorni mewn dim, boed fawr neu fach.

6:1 O fod yn gyfaill, paid â throi'n elyn, oherwydd bydd enw drwg yn etifeddu gwarth a gwaradwydd; ffordd y pechadur dauwynebog yw hynny.
6:2 Paid â'th ddyrchafu dy hun yn dy ewyllys hunanol, rhag iti fel tarw dy ddarnio dy hun.
6:3 Byddi'n difa dy ddail ac yn dinistrio dy ffrwythau, ac yn dy adael dy hun fel pren crin.
6:4 Bydd natur ddrygionus yn dinistrio'i pherchennog ac yn ei wneud yn gyff gwawd i'w elynion. Cyfeillgarwch

6:5 Y mae ymadroddion melys yn amlhau cyfeillion dyn, a geiriau mwyn yn amlhau moesgarwch.
6:6 Gad i lawer gyfarch gwell iti, ond i un o bob mil dy gynghori.
6:7 Wrth geisio cael cyfaill, cais ef drwy brawf, a phaid â brysio i ymddiried ynddo.
6:8 Oherwydd y mae ambell un sy'n gyfaill tra mae'n gyfleus iddo, ond ni fydd yn glynu pan ddaw'n gyfyng arnat.
6:9 Y mae ambell gyfaill sy'n troi yn elyn, ac yn dy waradwyddo trwy gyhoeddi'r ffrae i'r byd.
6:10 Y mae ambell un sy'n gyfaill tra bydd wrth dy fwrdd, ond ni fydd yn glynu pan ddaw'n gyfyng arnat.
6:11 Yn dy lwyddiant bydd hwn yn un â thi ac yn hy ar dy weision.
6:12 Os cei dy ddarostwng fe dry yn dy erbyn a'i guddio'i hun allan o'th olwg.
6:13 Cadw draw oddi wrth dy elynion, a gochel rhag dy gyfeillion.
6:14 Y mae cyfaill ffyddlon yn gysgod diogel; a'r sawl a gafodd un, fe gafodd drysor.
6:15 Nid oes dim y gellir ei gyfnewid am gyfaill ffyddlon, ac ni ellir pwyso ei werth ef.
6:16 Swyn i estyn bywyd yw cyfaill ffyddlon, a'r rhai sy'n ofni'r Arglwydd sy'n cael hyd iddo.
6:17 Y mae'r hwn sy'n ofni'r Arglwydd yn cadw ei gyfeillgarwch yn gywir, oherwydd y mae'n ymwneud â'i gymydog fel ag ef ei hun. Disgybl Doethineb

6:18 Fy mab, o'th ieuenctid casgla addysg, ac fe gei ddoethineb hyd at henoed.
6:19 Tyrd ati fel un sy'n aredig a hau, ac yna aros am ei ffrwythau da hi; oherwydd byr fydd dy lafur wrth drin ei thir, a buan y byddi'n bwyta o'i chnwd hi.
6:20 Llym iawn yw hi ar y rhai diaddysg, ac nid erys y diddeall yn ei chwmni.
6:21 Bydd yn gwasgu arno fel maen prawf trwm, ond ni bydd ef yn araf i'w bwrw hi oddi arno.
6:22 Oherwydd y mae doethineb gystal â'i henw, ac nid yw'n amlwg i lawer.
6:23 Gwrando, fy mab, derbyn fy marn a phaid â gwrthod fy nghyngor.
6:24 Rho dy draed yn llyffetheiriau doethineb, a'th wddf yn ei haerwy hi.
6:25 Rho dy ysgwydd dani i'w chario hi, a phaid â gwingo yn erbyn ei rhwymau.
6:26 Tyrd ati â'th holl fryd, ac â'th holl allu cadw i'w ffyrdd hi.
6:27 Dos ar ei thrywydd a chais hi, a chei ei hadnabod; ac wedi cael gafael arni, paid â'i gollwng.
6:28 Oherwydd yn y diwedd cei brofi ei gorffwystra hi, a throir hi yn llawenydd iti.
6:29 Daw ei llyffetheiriau yn gysgod cryf iti, a'i haerwyon yn wisg ysblennydd.
6:30 Oherwydd addurn aur yw ei hiau hi, a phleth o borffor yw ei rhwymau.
6:31 Fel gwisg ysblennydd y gwisgi hi, a'i gosod ar dy ben yn dorch gorfoledd.
6:32 Os mynni, fy mab, cei dy hyfforddi, ac os rhoddi dy fryd ar hynny, cei bob rhyw fedr.
6:33 Os byddi'n hoff o wrando, fe dderbynni addysg, ac os bydd dy glust yn agored, fe ddoi'n ddoeth.
6:34 Saf yng nghwmni'r henuriaid, a hola p'run sy'n ddoeth; glŷn wrth hwnnw.
6:35 Bydd fodlon i wrando ar bob traethiad duwiol, a phaid â cholli cyfle i glywed diarhebion deallus.
6:36 Os gweli rywun deallus, dos ato yn fore a threulia garreg ei ddrws â'th draed.
6:37 Meddylia am ordeiniadau'r Arglwydd, a myfyria'n wastadol ar ei orchmynion. Rhydd ef gadernid i'th galon, a rhoddir iti'r ddoethineb yr wyt yn ei chwennych.

Amrywiol Gynghorion

7:1 Paid â gwneud drwg, ac ni chaiff drwg afael ynot;
7:2 cilia oddi wrth anghyfiawnder, ac fe dry yntau oddi wrthyt ti.
7:3 Fy mab, paid â hau yng nghwysi anghyfiawnder, rhag i ti fedi cynhaeaf seithwaith cymaint.
7:4 Paid â cheisio gan yr Arglwydd swydd arweinydd, na chan y brenin sedd anrhydedd.
7:5 Paid â'th gyfiawnhau dy hun gerbron yr Arglwydd, na chymryd arnat fod yn ddoeth yng ngŵydd y brenin.
7:6 Paid â cheisio bod yn farnwr, rhag ofn na fyddi'n ddigon cryf i ddileu anghyfiawnder; fe ddichon y cait dy ddychryn gan lywodraethwr, a pheri cwymp i ti dy hun ar lwybr uniondeb.
7:7 Paid â phechu yn erbyn poblogaeth y ddinas, na'th waradwyddo dy hun yng nghanol y dyrfa.
7:8 Paid â rhwymo pechod wrth bechod, oherwydd y mae un yn ddigon i'th brofi'n euog.
7:9 Paid â dweud, “Fe sylwa Duw ar luosogrwydd fy rhoddion, ac fe dderbyn y Goruchaf yr offrwm a ddygaf iddo.”
7:10 Paid â bod yn wangalon yn dy weddi, nac esgeuluso rhoi elusen.
7:11 Paid â chwerthin am ben rhywun yng nghanol profiad chwerw, oherwydd yr Un sy'n darostwng sy'n dyrchafu hefyd.
7:12 Paid â phalu celwydd yn erbyn dy frawd, na gwneud dim tebyg i gyfaill chwaith.
7:13 Paid byth â dymuno dweud unrhyw gelwydd, oherwydd ni ddaw dim da o ddilyn arferiad felly.
7:14 Paid â bod yn dafodrydd yng nghwmni henuriaid, nac ailadrodd dy eiriau yn dy weddi.
7:15 Paid â chasáu gwaith llafurus na gwaith ar y tir; fe'u hordeiniwyd gan y Goruchaf.
7:16 Paid ag ymrestru yn rhengoedd y pechaduriaid; cofia na fydd oedi ar ddigofaint.
7:17 Darostwng dy hunan i'r eithaf, oherwydd tân a phryf fydd cosb yr annuwiol. Perthynas ag Eraill

7:18 Paid â chyfnewid cyfaill am elw, na brawd cywir am aur Offir.
7:19 Paid â'th amddifadu dy hun o wraig ddoeth a da, oherwydd gwell nag aur yw ei hawddgarwch hi.
7:20 Paid â cham-drin caethwas sy'n gweithio'n onest, na gwas cyflog sy'n ymroi i'th wasanaeth.
7:21 Boed iti garu gwas deallus; paid â gwrthod ei ryddid iddo.
7:22 Os oes gennyt anifeiliaid, gofala amdanynt, ac os ydynt yn fuddiol iti, cadw hwy yn dy feddiant.
7:23 Os oes gennyt feibion, hyffordda hwy, a phlyg hwy dan yr iau o'u hieuenctid.
7:24 Os oes gennyt ferched, gwylia bod eu cyrff yn bur, a phaid â bod yn rhy dirion dy agwedd atynt.
7:25 Rho dy ferch mewn priodas, a byddi wedi cyflawni camp fawr; ond rho hi i ŵr deallus.
7:26 Os oes gennyt wraig wrth dy fodd, paid â'i bwrw hi ymaith, ond paid â'th ymddiried dy hun i wraig sy'n atgas gennyt.
7:27 Anrhydedda dy dad â'th holl galon, a phaid ag anghofio gwewyr esgor dy fam.
7:28 Cofia mai ohonynt hwy y cefaist dy eni. Sut y gelli dalu'n ôl iddynt am a wnaethant hwy i ti?
7:29 Ofna'r Arglwydd â'th holl enaid, a pharcha'i offeiriaid ef.
7:30 Câr dy Greawdwr â'th holl allu, a phaid â chefnu ar ei weinidogion.
7:31 Ofna'r Arglwydd ac anrhydedda'r offeiriad; rho iddo ei gyfran, fel y gorchmynnwyd iti: y blaenffrwyth, a'r offrwm dros gamwedd, a'r offrwm dyrchafael, ac aberth y cysegru, a blaenffrwyth y pethau sanctaidd.
7:32 Estyn hefyd dy law i'r tlawd, er mwyn iti dderbyn cyflawnder bendith.
7:33 Y mae rhoi yn ennill cymeradwyaeth pob un byw; paid ag atal dy gymwynas hyd yn oed i'r marw.
7:34 Paid ag anwybyddu'r rhai sy'n wylo, a chydalara â'r rhai sy'n galaru.
7:35 Paid ag oedi ymweld â'r claf, oherwydd cei dy garu ar gyfrif ymweliadau felly.
7:36 Yn dy holl ymgymeriadau, cofia beth fydd dy ddiwedd, ac yna ni phechi byth.

Arfer Synnwyr Cyffredin

8:1 Paid ag ymryson â llywodraethwr, rhag iti syrthio i'w ddwylo.
8:2 Paid ag ymgiprys â'r cyfoethog, rhag iddo gynnig talu mwy na thi. Oherwydd bu aur yn ddinistr i laweroedd, ac yn achos i frenhinoedd fynd ar gyfeiliorn.
8:3 Paid â dadlau â rhywun sy'n dafod i gyd, na llwytho coed ar ei dân ef.
8:4 Paid â gwatwar y diaddysg, rhag i'th hynafiaid di gael eu hamharchu.
8:5 Paid ag edliw i neb y pechod y mae eisoes yn troi oddi wrtho; cofia fod pob un ohonom yn haeddu cosb.
8:6 Paid ag amharchu neb yn ei henaint, oherwydd heneiddio y mae llawer ohonom ninnau.
8:7 Paid ag ymfalchïo ym marwolaeth neb; cofia mai marw a wnawn ni i gyd.
8:8 Paid â diystyru'r hyn a draetha'r doeth, ond ymgydnabod â'u diarhebion; oherwydd ganddynt hwy y cei addysg a hyfforddiant i weini ar fawrion.
8:9 Paid â gwyro oddi wrth yr hyn a draetha 'r rhai sy'n llawn dyddiau, oherwydd gan eu hynafiaid y dysgasant hwythau; ganddynt hwy y dysgi di ddeall a rhoi ateb yn awr yr angen.
8:10 Paid â chynnau golosg pechadur, rhag iti gael dy losgi yn fflam ei dân.
8:11 Paid â gadael y rhyfygus o'th olwg, rhag iddo ymguddio i'th faglu ar dy air.
8:12 Paid â rhoi benthyg i rywun cryfach na thi, ac os gwnei, cyfrif dy hun yn golledwr.
8:13 Paid â mechnïo uwchlaw dy allu i dalu, ac os gwnei, cofia mai ti fydd y talwr.
8:14 Paid ag ymgyfreithio â barnwr, oherwydd o'i blaid ef y dyfernir, ar bwys ei safle.
8:15 Paid â chyd-deithio â rhywun beiddgar, rhag iddo dy lethu'n llwyr, oherwydd bydd ef yn gwneud fel y myn ef ei hun, a thrwy ei ffolineb fe drengi dithau gydag ef.
8:16 Paid ag ymladd â rhywun llidiog, na mynd am dro gydag ef ar ffordd anial, oherwydd nid yw tywallt gwaed yn ddim yn ei olwg ef, ac fe'th dery i lawr lle nad oes help wrth law.
8:17 Paid ag ymgynghori â ffŵl, oherwydd ni all ef gadw cyfrinach.
8:18 Paid â gwneud dim dirgel yng ngŵydd rhywun dieithr, oherwydd ni wyddost beth a wna ef o'r peth.
8:19 Paid â datgelu dy galon i bawb, na derbyn ffafriaeth gan neb.

Perthynas â Gwragedd

9:1 Paid â bod yn eiddigeddus wrth wraig dy fynwes, na'i hyfforddi i ymarfer drwg er niwed i ti dy hun.
9:2 Paid â'th roi dy hun i ferch, a gadael iddi ymosod ar dy gryfder di.
9:3 Paid â mynd i gyfarfod merch lac ei moesau, rhag iti syrthio i'w maglau hi.
9:4 Paid ag oedi yng nghwmni dawnsferch, rhag iti gael dy ddal gan ei hystrywiau hi.
9:5 Paid â chraffu ar wyryf, rhag iti gael dy rwydo a gorfod talu iawn amdani.
9:6 Paid â'th roi dy hun i buteiniaid, rhag iti golli dy etifeddiaeth.
9:7 Paid ag edrych o'th gwmpas yn heolydd y ddinas, nac ymdroi yn ei lleoedd anial.
9:8 Tro dy lygad oddi wrth wraig brydweddol, a phaid â chraffu ar brydferthwch gwraig dyn arall; o achos prydferthwch gwraig aeth llawer ar gyfeiliorn, a thrwyddo cyneuir serch fel tân.
9:9 Paid byth â chydeistedd â gwraig briod, nac ymuno â hi mewn gloddest a gwin, rhag iti osod dy fryd arni, a llithro ohonot i ddinistr llwyr. Perthynas ag Eraill

9:10 Paid â chefnu ar hen gyfaill, oherwydd nid yw un newydd cystal ag ef; y mae cyfaill newydd fel gwin newydd; wedi iddo heneiddio y cei fwynhad o'i yfed.
9:11 Paid â chenfigennu wrth bechadur yn ei lwyddiant, oherwydd ni wyddost beth fydd ei dynged ef.
9:12 Paid ag ymbleseru ym mhleserau yr annuwiol; cofia fod eu cosb yn sicr hyd at fedd.
9:13 Cadw'n ddigon pell oddi wrth un a chanddo awdurdod i ladd; yna ni ddaw ofn marwolaeth i darfu arnat. Ond os doi di ato, paid â chymryd cam gwag, rhag iddo gymryd dy einioes oddi wrthyt. Ystyria dy fod yn rhodio yng nghanol maglau ac yn cerdded ar dyrau uchaf y ddinas.
9:14 Hyd y gelli, amcana adnabod dy gymdogion, ac ymgynghora â doethion.
9:15 Bydded dy ymddiddan â'r deallus, a'th ymadrodd bob amser am gyfraith y Goruchaf.
9:16 Bydded y cwmni wrth dy fwrdd yn rai cyfiawn, a bydded dy ymffrost yn ofn yr Arglwydd.
9:17 Ar gyfrif eu dwylo y canmolir gwaith crefftwyr, a cheir llywodraethwr yn ddoeth ar gyfrif ei eiriau.
9:18 Un i'w ofni yn ei ddinas yw'r sawl sy'n dafod i gyd, a'i gasáu a gaiff y byrbwyll ei eiriau.

Rheolwyr

10:1 Bydd rheolwr doeth yn hyfforddi ei bobl, a bydd llywodraeth un deallus wedi ei threfnu'n drwyadl.
10:2 Fel y mae rheolwr y bobl, felly hefyd ei weinidogion; ac fel y mae llywodraethwr y ddinas, felly ei thrigolion oll.
10:3 Bydd brenin diaddysg yn ddinistr i'w bobl; ond cyfanheddir dinas trwy ddeall ei llywodraethwyr.
10:4 Yn llaw'r Arglwydd y mae awdurdod ar y ddaear, ac ef, yn yr amser priodol, fydd yn gosod un cymwys yn ben arni.
10:5 Yn llaw'r Arglwydd y mae ffyniant pawb, ac ef sy'n gosod ei anrhydedd ar berson y deddfwr. Balchder

10:6 Paid â digio wrth dy gymydog am bob rhyw gam, a phaid â gwneud dim trwy weithredoedd rhyfygus.
10:7 Casbeth yng ngolwg yr Arglwydd a phobl yw balchder, a gwrthun gan y naill a'r llall yw anghyfiawnder.
10:8 Symudir y frenhiniaeth o'r naill genedl i'r llall o achos anghyfiawnder a rhyfyg ac ariangarwch.
10:9 Pam yr ymfalchïa llwch a lludw? Oherwydd yswyd ei gorff gan bryfed, ac yntau'n fyw.
10:10 Y mae afiechyd hir yn gwawdio gallu'r meddyg; gall dyn fod yn frenin heddiw ac yn farw yfory.
10:11 Oherwydd pan fydd rhywun farw, ymlusgiaid a bwystfilod a phryfed fydd ei etifeddiaeth.
10:12 Dechrau balchder rhywun yw ymadael â'r Arglwydd, a'i galon wedi cefnu ar ei Greawdwr.
10:13 Oherwydd pechod yw dechrau balchder, ac y mae'r sawl sy'n glynu wrtho yn tywallt allan ffieidd-dra. Am hynny achosodd yr Arglwydd drallodion rhyfeddol, a llwyr ddinistrio'r rhai balch.
10:14 Dymchwelodd yr Arglwydd orseddau tywysogion, a gosod rhai addfwyn i eistedd yn eu lle.
10:15 Diwreiddiodd yr Arglwydd genhedloedd, a phlannu rhai gostyngedig yn eu lle.
10:16 Dinistriodd yr Arglwydd diroedd cenhedloedd, a'u difa hyd at seiliau'r ddaear.
10:17 Symudodd rai ohonynt o'u lle a'u difa, a pheri i'w coffadwriaeth ddarfod oddi ar y ddaear.
10:18 Ni chrewyd balchder ar gyfer dynion, na dicter llidiog ar gyfer plant gwragedd. Y Rhai Sydd i'w Parchu

10:19 Pa had sydd i'w barchu? Had dyn. Pa had sydd i'w barchu? Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd. Pa had nad yw i'w barchu? Had dyn. Pa had nad yw i'w barchu? Y rhai sy'n torri'r gorchmynion.
10:20 Yn y teulu, eu pennaeth sydd i'w barchu; ac yng ngolwg yr Arglwydd, y rhai sy'n ei ofni ef.
10:22 Y cyfoethog, yr anrhydeddus, a'r tlawd, ofn yr Arglwydd yw eu hymffrost bob un.
10:23 Nid yw'n gyfiawn amharchu'r tlawd sy'n ddeallus, ac nid yw'n weddus anrhydeddu'r pechadurus.
10:24 Anrhydeddir y gŵr mawr, y barnwr, a'r llywodraethwr; ond nid yw'r un ohonynt mor fawr â hwnnw sy'n ofni'r Arglwydd.
10:25 Caiff caethwas doeth rai rhydd i weini arno, ac ni bydd neb call yn cwyno. Gostyngeiddrwydd a Hunan-barch

10:26 Paid â bod yn rhy ddoeth i wneud dy waith, na'th fawrhau dy hun pan yw'n gyfyng arnat.
10:27 Gwell yw gweithio, a bod ar ben dy ddigon o bopeth, na'th fawrhau dy hun a bod heb fara.
10:28 Fy mab, gogonedda dy hun mewn gwyleidd-dra, ac anrhydedda dy hun yn ôl dy deilyngdod.
10:29 Pwy a gyfiawnha'r sawl sy'n pechu yn ei erbyn ei hun? A phwy a anrhydedda'r sawl sy'n ei amharchu ei hun?
10:30 Anrhydeddir y tlawd ar gyfrif ei wybodaeth, a'r cyfoethog ar gyfrif ei gyfoeth.
10:31 Os cafodd rhywun anrhydedd yn ei dlodi, pa faint mwy felly yn ei gyfoeth! Os bu heb anrhydedd yn ei gyfoeth, pa faint mwy felly yn ei dlodi!

11:1 Y mae doethineb y gostyngedig yn dyrchafu ei ben ac yn ei osod i eistedd yng nghanol mawrion. Peidio â Barnu wrth yr Olwg

11:2 Paid â chanmol neb ar gyfrif ei harddwch, na ffieiddio neb ar gyfrif ei wedd.
11:3 Ymhlith ehediaid un fechan yw'r wenynen, ond ei chynnyrch hi yw'r pennaf o bopeth melys.
11:4 Paid ag ymfalchïo yn y dillad a wisgi, nac ymddyrchafu pan ddaw anrhydedd i'th ran. Oherwydd rhyfeddol yw gweithredoedd yr Arglwydd; cuddiedig yw ei weithredoedd o olwg pobl.
11:5 Y mae llawer teyrn wedi gorfod eistedd ar y llawr, a rhywun disylw wedi gwisgo diadem.
11:6 Daeth llywodraethwyr lawer i waradwydd mawr, a thraddodwyd rhai o fri i ddwylo pobl eraill. Ymbwyllo

11:7 Paid â gweld bai cyn iti chwilio i'r achos; ystyria yn gyntaf, ac yna cerydda.
11:8 Paid ag ateb cyn iti wrando, a phaid â thorri ar draws neb ar ganol ei sgwrs.
11:9 Paid ag ymladd achos nad oes a wnelo â thi, a phaid ag eistedd i farnu gyda phechaduriaid.
11:10 Fy mab, paid â'th feichio dy hun â gofalon lawer; o'u hamlhau, ni fyddi'n ddi-gosb; o redeg ar eu hôl, ni elli eu dal; o redeg rhagddynt, ni elli ddianc.
11:11 Gall rhywun lafurio ac ymboeni a brysio, a bod yr un mor bell yn ôl wedi'r cyfan.
11:12 Gall rhywunn fod yn araf ac mewn angen am help llaw, yn ddiffygiol mewn nerth ac yn llawn tlodi; eto y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych arno er ei les, yn ei godi allan o'i ddistadledd,
11:13 ac yn dyrchafu ei ben ef, nes bod llawer yn rhyfeddu ato.
11:14 Llwydd ac aflwydd, bywyd a marwolaeth, tlodi a chyfoeth, oddi wrth yr Arglwydd y deuant i gyd.
11:17 Y mae rhodd yr Arglwydd yn para'n eiddo i'r rhai duwiol, a'i gymeradwyaeth yn hyrwyddo'u taith am byth.
11:18 Gall rhywun ymgyfoethogi trwy ofalu a chynilo, a dyna'r cwbl a gaiff yn gyflog.
11:19 Pan ddywed, “Yr wyf wedi ennill fy ngorffwys; bellach caf fyw ar fy meddiannau”, nid yw'n gwybod faint o amser sydd i'w dreulio cyn marw a gadael ei eiddo i eraill.
11:20 Saf wrth dy gyfamod a gweithreda'n unol ag ef; heneiddia wrth dy waith.
11:21 Paid â rhyfeddu at weithredoedd pechadur; cred yr Arglwydd a dal ati yn dy lafur, oherwydd peth hawdd yng ngolwg yr Arglwydd yw gwneud y tlawd yn gyfoethog yn ddisymwth ac yn ddiymdroi.
11:22 Bendith yr Arglwydd yw cyflog y duwiol; bendith a ddwg ef i flagur mewn munud awr.
11:23 Paid â dweud, “Pa angen sydd amdanaf fi? Pa lwydd a all ddod imi bellach?”
11:24 A phaid â dweud, “Yr wyf yn hunanddigonol; pa aflwydd a all ddod imi bellach?”
11:25 Yn nydd llwydd anghofir aflwydd, ac yn nydd aflwydd ni chofir am lwydd.
11:26 Peth hawdd i'r Arglwydd, pan fydd rhywun farw, yw talu iddo yn ôl ei ymddygiad.
11:27 Y mae awr o adfyd yn difa'r cof am foethusrwydd, a diwedd rhywun sy'n datguddio'i weithredoedd.
11:28 Paid â galw neb, cyn iddo farw, yn wynfydedig; wrth ei blant yr adwaenir rhywun. Gochel rhag Drwgweithredwyr

11:29 Paid â dod â phawb i'th dŷ, oherwydd aml yw cynllwynion y twyllodrus.
11:30 Fel petrisen hudo mewn cawell y mae calon y balch, neu fel gwyliwr cudd a'i fryd ar faglu.
11:31 Y mae'n cynllwynio i droi llwydd yn aflwydd, ac i ddangos diffyg yn y cyflawniadau gorau.
11:32 Gall gwreichionen fach gynnau llwyth o lo; ac y mae'r pechadurus yn cynllwynio i dywallt gwaed.
11:33 Gochel rhag drwgweithredwr sy'n dyfeisio drwg yn dy erbyn, rhag iddo dy gael i fai a bery am byth.
11:34 Derbyn ddieithryn i'th dŷ, a bydd yn tarfu arnat a'th gyffroi, a'th ddieithrio oddi wrth dy bobl dy hun.

Gwneud Da

12:1 Wrth wneud cymwynas, ystyria i bwy yr wyt yn ei gwneud, a chei ddiolch am dy gymwynasau.
12:2 Gwna dda i'r duwiol, ac fe gei dy dalu'n ôl, os nad ganddo ef, yna gan y Goruchaf.
12:3 Ni ddaw daioni i'r sawl sy'n dal ati i wneud drygioni, nac i'r sawl sy'n gwrthod rhoi elusen.
12:4 Rho i'r duwiol, ond paid â chynorthwyo'r pechadur.
12:5 Gwna dda i'r gostyngedig, a phaid â rhoi i'r annuwiol. Atal iddo ei fara, a phaid â rhoi iddo, rhag iddo drwyddo fynd yn feistr arnat. Oherwydd cei ganddo ddwywaith cymaint o ddrwg yn dâl am yr holl ddaioni a wnaethost iddo ef.
12:6 Y mae'r Goruchaf yntau'n casáu pechaduriaid, ac yn talu i'r annuwiol y gosb a haeddant.
12:7 Rho i'r da, ond paid â chynorthwyo'r pechadurus. Cyfeillion Gwir a Gau

12:8 Nid mewn hawddfyd y cosbir cyfaill; ac mewn adfyd ni fydd gelyn yn ymguddio.
12:9 Pan yw'n hawddfyd ar rywun mae ei elynion yn drist, a phan yw'n adfyd arno mae hyd yn oed ei gyfaill yn pellhau oddi wrtho.
12:10 Paid byth ag ymddiried yn dy elyn, oherwydd y mae ei ddrygioni'n difa fel rhwd ar bres.
12:11 Er iddo ymostwng a rhodio'n benisel, gwylia dy hun a gochel rhagddo; byddi iddo ef fel un sy'n gloywi drych, a chei wybod nad yw wedi gorffen rhydu.
12:12 Paid â'i osod i sefyll yn dy ymyl, rhag iddo dy ddisodli a sefyll yn dy le. Paid â'i roi i eistedd ar dy law dde, rhag iddo geisio cael dy gadair di; yn y diwedd fe weli ystyr fy ngeiriau, a chael dy ddwysbigo gan yr hyn a ddywedais.
12:13 Pwy sy'n tosturio wrth swynwr-nadredd a frathwyd, neu wrth bawb sy'n ymwneud ag anifeiliaid gwylltion?
12:14 Felly gyda'r sawl sy'n closio at bechadur ac yn ymgolli yn ei bechodau ef.
12:15 Am awr yr erys ef gyda thi, ac os llithro a wnei, ni lŷn wrthyt.
12:16 Y mae gwefusau'r gelyn yn diferu melyster, ond yn ei galon y mae'n cynllwynio i'th fwrw i bydew. Y mae llygaid y gelyn yn colli dagrau, ond os caiff gyfle, ni fydd tywallt gwaed yn ddigon ganddo.
12:17 Os daw drygfyd arnat, cei ei fod ef yno o'th flaen, yn cymryd arno dy helpu ond yn baglu dy droed.
12:18 Bydd yn ysgwyd ei ben ac yn curo'i ddwylo, yn clebran llawer ac yn newid ei wedd.

Cymdeithasu

13:1 Y sawl sy'n cyffwrdd â phyg, fe'i baeddir, a'r sawl sy'n cymdeithasu â'r balch, fe â'n debyg iddo.
13:2 Paid â chodi baich sy'n rhy drwm iti, a phaid â chymdeithasu â rhywun cryfach a chyfoethocach na thi. Sut y mae llestr pridd i gymdeithasu â chrochan haearn, ac yntau o daro'r crochan yn chwalu'n chwilfriw?
13:3 Bydd y cyfoethog yn gwneud cam, ac ef fydd uchaf ei gloch; bydd yn tlawd yn cael cam, ac ef fydd yn crefu am bardwn.
13:4 Os gelli fod o les iddo, bydd y cyfoethog yn dy ddefnyddio; ond os byddi mewn angen, dy anwybyddu y bydd.
13:5 Os bydd rhywbeth gennyt wrth gefn, fe ddaw i fyw gyda thi, a'th ddisbyddu'n llwyr heb boeni dim.
13:6 Pan fydd arno d'eisiau, dy dwyllo a wna, a gwenu arnat a meithrin gobaith ynot; fe sieryd yn deg â thi a gofyn, “Beth sydd arnat ei eisiau?”
13:7 Fe gwyd gywilydd arnat â'i fwydydd ei hun, nes dy ddisbyddu'n llwyr ddwywaith neu dair; ac yn y diwedd bydd yn chwerthin am dy ben. Ar ôl hyn oll, pan wêl di, fe'th anwybydda, ac ysgwyd ei ben arnat.
13:8 Gwylia rhag dy gamarwain na'th ddarostwng yn dy ffolineb.
13:9 Paid â bod yn rhy barod i dderbyn gwahoddiad gan lywodraethwr, a bydd yntau gymaint â hynny'n daerach ei wahoddiad.
13:10 Paid ag ymwthio arno, rhag iddo dy wthio ymaith; ond paid â sefyll yn rhy bell, rhag iddo dy anghofio.
13:11 Paid â beiddio siarad ag ef fel un cydradd, a phaid ag ymddiried yn amlder ei eiriau, oherwydd rhoi prawf arnat y bydd â'i siarad hir, a'th chwilio a gwên ar ei wyneb.
13:12 Didrugaredd yw'r sawl nad yw'n cadw dy gyfrinachau, ac ni'th arbed rhag drygfyd na charchar.
13:13 Cadw dy gyfrinach i ti dy hun a chymer ofal mawr, oherwydd cerdded yr wyt ar ymyl y dibyn.
13:15 Y mae pob anifail yn caru ei debyg, a phob un dynol ei gymydog.
13:16 Y mae'r holl greaduriaid yn ymgasglu yn ôl eu rhywogaeth, a'r dynol yn ymlynu wrth ei debyg.
13:17 Pa gymdeithas fydd rhwng blaidd ac oen? Felly y mae rhwng y pechadurus a'r duwiol.
13:18 Pa heddwch fydd rhwng udfil a chi? A pha heddwch rhwng cyfoethog a thlawd?
13:19 Helfa i lewod yw asynnod gwylltion yr anialwch; a phorfa i gyfoethogion yw'r tlodion yr un modd.
13:20 Ffieiddbeth i'r balch yw gostyngeiddrwydd, a ffieiddbeth hefyd yw'r tlawd i'r cyfoethog.
13:21 Pan fydd rhywun cyfoethog yn simsanu, bydd ei gyfeillion yn ei gynnal; ond pan fydd rhywun distadl yn cwympo, ei wthio ymhellach y bydd ei gyfeillion.
13:22 Pan fydd y cyfoethog yn llithro, daw llawer i'w gynorthwyo; er iddo lefaru geiriau anweddus, ei esgusodi a wnânt. Pan fydd y distadl yn llithro, ei geryddu y bydd pobl; er iddo siarad synnwyr, ni roddir cyfle iddo.
13:23 Pan fydd y cyfoethog yn llefaru, bydd pawb yn ddistaw, ac yn canmol ei araith hyd y cymylau. Pan fydd y tlawd yn llefaru, gofynnant, “Pwy yw hwn?” Ac os digwydd iddo faglu, rhônt help iddo i syrthio.
13:24 Da yw cyfoeth na chafodd pechod afael ynddo; ym marn yr annuwiol y mae tlodi yn ddrwg.
13:25 Y mae calon rhywun yn newid gwedd ei wyneb, naill ai i'w llonni neu i'w thristáu.
13:26 Y mae wyneb siriol yn arwydd o galon mewn hawddfyd, ond llafur poenus i'r meddwl yw llunio diarhebion.

14:1 Gwyn ei fyd y sawl na lithrodd yn ei ymadrodd ac na chafodd ei ddwysbigo gan ofid am ei bechodau.
14:2 Gwyn ei fyd y sawl na chafodd achos i'w gondemnio ei hun ac na chollodd ei afael yn ei obaith. Defnyddio Cyfoeth yn Gyfrifol

14:3 I rywun crintachlyd nid lles mo'i gyfoeth; ac i gybydd, pa fudd ei feddiannau?
14:4 A helia oddi arno ef ei hun a helia i eraill; eraill a gaiff fyw'n foethus ar ei gyfoeth ef.
14:5 A fo'n greulon wrtho ef ei hun, wrth bwy y bydd yn dirion? Ni chaiff lawenydd fyth yn ei feddiannau.
14:6 Nid oes neb creulonach na'r sawl sy'n gybyddlyd ag ef ei hun; dyna'i wobr am ei grintachrwydd.
14:7 Hyd yn oed os yw'n hael, nid yw felly o fwriad, ac yn y diwedd amlygir ei grintachrwydd.
14:8 Creulon yw'r sawl sydd â llygad cybydd ganddo; y mae'n troi ei wyneb ymaith ac yn diystyru pobl eraill.
14:9 Nid yw llygad y trachwantus yn fodlon ar ei gyfran, ac y mae ei anghyfiawnder creulon yn crebachu ei enaid.
14:10 Y mae llygad creulon yn eiddigeddus am ei fara, a llwm yw'r bwrdd a hulia.
14:11 Fy mab, yn ôl yr hyn sydd gennyt, bydd yn hael wrthyt ti dy hun; offryma hefyd ebyrth teilwng i'r Arglwydd.
14:12 Cofia nad yw marwolaeth yn oedi, ac na hysbyswyd iti pa bryd yr wyt i gadw dy oed â Thrigfan y Meirw.
14:13 Cyn iti farw, bydd yn hael wrth dy gyfaill; estyn dy law a rho iddo gymaint ag a elli.
14:14 Paid â'th amddifadu dy hun o ddiwrnod o fwynhad, na cholli un dim o'r hyfrydwch yr wyt yn ei chwennych.
14:15 Onid gadael ffrwyth dy lafur a'th ludded i arall y byddi, i'w rannu â choelbren?
14:16 Rho, a derbyn, a difyrra dy hun, oherwydd ofer yw ceisio moethau yn Nhrigfan y Meirw.
14:17 Y mae pob un yn heneiddio fel dilledyn; y mae wedi ei bennu o'r dechreuad: “Marw fyddi.”
14:18 Fel dail toreithiog yn drwch ar bren, rhai'n cwympo a rhai'n blaguro, felly y mae cenedlaethau cig a gwaed— y naill yn marw a'r llall yn cael ei eni.
14:19 Pydru y mae pob gwaith, a pheidio â bod, ac y mae'r gweithiwr yntau'n mynd i ganlyn ei waith. Gwynfyd Doethineb

14:20 Gwyn ei fyd y sawl a fyfyria ar ddoethineb ac a ddengys ei ddeall yn ei ymddiddan;
14:21 y sawl sy'n gosod ei fryd ar ei ffyrdd hi a gaiff amgyffred hefyd ei chyfrinachau.
14:22 Dos ar ei hôl hi fel heliwr, a gosod fagl i'w dal yn ei llwybrau.
14:23 Y sawl sy'n sbïo trwy ei ffenestri ac yn clustfeinio wrth ei drysau,
14:24 yn codi ei lety yn ymyl ei thŷ ac yn ei hoelio wrth ei muriau hi,
14:25 caiff hwnnw osod ei babell gerllaw iddi a lletya yn llety'r goreuon;
14:26 caiff osod ei blant dan ei chysgod a gorffwys dan ei changhennau.
14:27 Hi fydd ei gysgod rhag y gwres, a'i gogoniant hi fydd ei lety.

15:1 Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd a wna hyn oll, a'r sawl sy'n dal gafael ar y gyfraith a gaiff ddoethineb.
15:2 Daw hi i'w gyfarfod fel mam; rhydd groeso iddo fel priodasferch ifanc.
15:3 Rhydd fara dealltwriaeth iddo'n ymborth, a dŵr doethineb yn ddiod.
15:4 Ynddi hi y bydd ei gadernid, ac nis syflir; ynddi hi y bydd ei gynhaliaeth, ac nis siomir.
15:5 Fe'i dyrchefir ganddi yn uwch na'i gymdogion, a chaiff ganddi air i'w draethu yng nghanol y gynulleidfa.
15:6 Llawenydd a choron gorfoledd fydd ei ran, ac enw tragwyddol fydd ei etifeddiaeth.
15:7 Ni chaiff rhai diddeall afael ar ddoethineb, ac ni chaiff y pechadurus ei gweld hi.
15:8 Pell yw hi oddi wrth falchder, ac ni chofia dynion celwyddog ddim amdani.
15:9 Nid gweddus moliant yng ngenau pechadur, oherwydd nis anfonwyd gan yr Arglwydd.
15:10 Trwy ddoethineb y mynegir mawl, a'r Arglwydd sy'n ei hyrwyddo. Rhyddid Ewyllys

15:11 Paid â dweud, “Yr Arglwydd a barodd imi gwympo”, oherwydd ti sydd i beidio â gwneud yr hyn sy'n gas ganddo ef.
15:12 Paid â dweud, “Ef a'm harweiniodd ar gyfeiliorn”, oherwydd nid oes angen y pechadurus arno ef.
15:13 Y mae pob ffieiddbeth yn gas gan yr Arglwydd, ac nis cerir chwaith gan y rhai sy'n ei ofni ef.
15:14 Ef yn y dechreuad a wnaeth ddyn, a'i adael i'w dywys gan ei ewyllys ei hun.
15:15 Os mynni, cei gadw ei orchmynion; ti biau'r dewis i weithredu'n ffyddlon.
15:16 Gosodwyd o'th flaen ddŵr a thân; cei estyn dy law at b'run bynnag a fynni.
15:17 Gerbron pob un y mae bywyd a marwolaeth, a ph'run bynnag a ddewis a roddir iddo.
15:18 Oherwydd mawr yw doethineb yr Arglwydd; cryf a galluog yw, ac yn gweld pob peth.
15:19 Y mae ei lygaid ar y rhai a'i hofna, a hysbys iddo fydd holl weithredoedd pawb.
15:20 Ni orchmynnodd i neb ymddwyn yn annuwiol, na rhoi cennad iddo i bechu.

Cosbi Pechaduriaid

16:1 Paid â chwennych llond tŷ o blant da-i-ddim, nac ymhyfrydu mewn epil annuwiol.
16:2 Os bydd aelodau dy deulu yn amlhau, paid ag ymhyfrydu ynddynt oni fydd ofn yr Arglwydd ynddynt.
16:3 Paid ag ymddiried ym mywyd dy blant, na dibynnu ar eu rhif; oherwydd gwell un na miloedd, a marw'n ddi-blant na magu plant annuwiol.
16:4 Oherwydd gall dyn deallus godi dinas gyfanheddol, ond anialwch a grëir gan lwyth cyfan o bobl ddigyfraith.
16:5 Gwelais bethau felly'n aml â'm llygad fy hun, a chlywed â'm clust bethau gwaeth na'r rhain.
16:6 Lle'r ymgynnull pechaduriaid y cyneuir tân; mewn cenedl wrthryfelgar enynnir digofaint.
16:7 Nid oedd puredigaeth pechod i gewri'r amser gynt, a wrthgiliodd â'u holl nerth,
16:8 nac arbediad i'r bobl y trigai Lot yn eu plith, y rhai a ffieiddiwyd ar gyfrif eu balchder.
16:9 Nid oedd trugaredd i'r genedl a dynghedwyd i ddistryw, y bobl a ddilëwyd yn eu pechodau.
16:10 Yr un oedd tynged y chwe chan mil o wŷr traed a gasglwyd ynghyd yn llu herfeiddiol.
16:11 Pe na bai ond un gwargaled, rhyfeddod fyddai iddo fynd heb ei gosbi, oherwydd Duw biau trugaredd a digofaint, ac y mae'n nerthol i faddau, a hefyd i arllwys ei lid.
16:12 Fel y mae maint ei drugaredd, felly hefyd maint ei gerydd; caiff rhywun ei farnu ganddo yn ôl ei weithredoedd.
16:13 Ni chaiff pechadur ddianc gyda'i ysbail, ac ni phalla amynedd y duwiol.
16:14 Caiff pob gweithred o drugaredd ei chyfle, a phawb ei drin yn ôl ei weithredoedd.
16:17 Paid â dweud, “Ymguddiaf oddi wrth yr Arglwydd; pwy yn yr uchelder a gofia amdanaf? Ymhlith pobl mor lluosog ni sylwir arnaf fi; beth yw fy mywyd i mewn creadigaeth na ellir ei mesur?”
16:18 Wele'r nefoedd, a nef y nefoedd, y dyfnder diwaelod a'r ddaear, fe'u hysgydwir ar ei ymweliad ef.
16:19 Y mynyddoedd, ynghyd â seiliau'r ddaear, ysgydwant a chrynant dan ei edrychiad ef.
16:20 Ni all meddwl dynol ddirnad y pethau hyn; pwy all amgyffred ei ffyrdd ef?
16:21 Fel tymestl a ddaw heb i neb ei gweld, y mae ei weithredoedd ef gan amlaf yn y dirgel.
16:22 Pwy a draetha ofynion ei gyfiawnder? Pwy a ddisgwyl amdanynt? Oherwydd pell yw ei gyfamod.
16:23 Rhywun penwan sy'n dyfalu'r pethau hyn, ie, rhywun ffôl ar gyfeiliorn yn dyfalu ffolineb.
16:24 Gwrando arnaf, fy mab, a dysg wybodaeth; dal sylw gofalus ar fy ngeiriau.
16:25 Dangosaf yn gytbwys beth yw addysg, a mynegaf yn fanwl beth yw gwybodaeth. Doethineb Duw yn y Creu

26 Pan greodd yr Arglwydd ei weithredoedd yn y dechrau, a gosod i bob un ei derfynau o'i wneuthuriad,
27 rhoes i'w weithredoedd drefn dragwyddol, a blaenoriaeth iddynt ar hyd y cenedlaethau. Nid ydynt yn newynu nac yn blino, nac yn rhoi'r gorau i'w gwaith.
28 Nid yw'r un ohonynt yn gwasgu ar ei gymydog, ac ni fyddant byth yn anufudd i'w air ef.
29 Ar ôl hyn edrychodd yr Arglwydd ar y ddaear a'i llenwi â'i ddoniau da.
30 Gorchuddiodd wyneb y ddaear â phob math o greaduriaid byw, ac i'r ddaear y byddant oll yn dychwelyd.

17:1 Creodd yr Arglwydd bobl o'r ddaear, a'u hanfon yn ôl iddi hi drachefn.
17:2 Rhoddodd i bobl ddyddiau wrth rif, a thymor bywyd, a rhoes iddynt awdurdod dros bopeth ar y ddaear.
17:3 Gwisgodd hwy â nerth tebyg i'r eiddo'i hun; gwnaeth hwy ar ei ddelw ei hun.
17:4 Rhoes eu hofn ar bob creadur, a'u gwneud yn arglwyddi ar anifeiliaid ac adar.
17:6 Ewyllys, tafod a llygad, clust a meddwl, doniau Duw ydynt i roi dirnadaeth iddynt.
17:7 Llanwodd hwy â gwybodaeth a deall, a dangos iddynt dda a drwg.
17:8 Cadwodd ei olwg ar eu calonnau, i ddangos iddynt fawredd ei weithredoedd.
17:10 Clodforant hwy ei enw sanctaidd, gan fynegi mawredd ei weithredoedd.
17:11 Rhoddodd hefyd iddynt wybodaeth, a chyfraith bywyd yn etifeddiaeth.
17:12 Gwnaeth gyfamod tragwyddol â hwy, a dangos iddynt ei ddyfarniadau.
17:13 Gwelodd eu llygaid fawredd ei ogoniant, a chlywodd eu clust ogoniant ei lais.
17:14 Dywedodd wrthynt, “Gochelwch rhag pob anghyfiawnder,” a rhoes orchymyn i bob un ohonynt ynglŷn â'i gymydog. Duw'n Farnwr

17:15 Y mae eu ffyrdd ger ei fron ef bob amser; ni chuddir hwy o'i olwg.
17:17 I bob cenedl penododd lywodraethwr, ond cyfran yr Arglwydd yw Israel.
17:19 Y mae eu holl weithredoedd mor glir iddo â'r haul, ac y mae ei lygaid ar eu ffyrdd yn wastadol.
17:20 Ni chuddiwyd eu hanghyfiawnder rhagddo; y mae eu holl bechodau gerbron yr Arglwydd.
17:22 Y mae elusennau rhywun fel sêl-fodrwy yn ei olwg, ac y mae'n trysori graslonrwydd fel cannwyll ei lygad.
17:23 Yn y diwedd bydd yn codi ac yn talu'n ôl i'r drwgweithredwyr, gan fwrw ar eu pennau eu cosb haeddiannol.
17:24 Ond i'r edifeiriol y mae'n rhoi llwybr adferiad, ac yn calonogi'r diffygiol i ddyfalbarhau. Galwad i Edifeirwch

17:25 Tro at yr Arglwydd a chefna ar bechodau; gweddïa ger ei fron a lleiha dy gamwedd.
17:26 Dychwel at y Goruchaf a thro oddi wrth anghyfiawnder, a bydd fawr dy gasineb at y ffieiddbeth.
17:27 Pwy a glodfora'r Goruchaf yn Nhrigfan y Meirw, a chymryd lle'r byw i'w foliannu yn y côr?
17:28 Pan fydd rhywun farw, derfydd ei foliant fel petai ef wedi peidio â bod; y sawl sy'n fyw ac yn iach a glodfora'r Arglwydd.
17:29 Mor fawr yw trugaredd yr Arglwydd, a'i faddeuant i'r rhai sy'n troi ato!
17:30 Ni all pob peth fod yn bosibl i bobl oherwydd nid yw neb yn anfarwol.
17:31 A oes dim yn fwy golau na'r haul? Eto ceir diffyg ar hwnnw; felly bydd cig a gwaed yn dyfeisio drwg.
17:32 Y mae Duw'n goruchwylio llu'r nef oruchaf, ond pridd a lludw yw pob un.

Mawredd Duw

18:1 Yr hwn sy'n byw am byth a greodd bob peth fel ei gilydd;
18:2 yr Arglwydd yn unig sydd i'w gyfrif yn gyfiawn.
18:4 Ni roddodd gennad i neb i draethu ei weithredoedd; pwy a olrhain ei fawredd ef?
18:5 Pwy a fesur nerth ei fawrhydi, a phwy hefyd a all draethu'n llawn ei drugareddau ef?
18:6 Ni ellir cymryd dim oddi wrthynt nac ychwanegu dim atynt, ac ni ellir olrhain rhyfeddodau'r Arglwydd.
18:7 Pan ddaw rhywun i ben â'r gwaith, nid yw ond dechrau, a phan rydd y gorau iddo, caiff ei hun mewn penbleth. Distadledd y dynol

18:8 Beth yw'r dynol, ac i beth y mae'n dda? Beth yw ei lwydd, a beth yw ei aflwydd?
18:9 Nid yw hyd ei einioes namyn can mlynedd ar y mwyaf.
18:10 Fel diferyn o ddŵr y môr neu ronyn o dywod y mae ei ychydig flynyddoedd yn ymyl dydd tragwyddoldeb.
18:11 Dyna pam y mae'r Arglwydd yn ymarhous wrthynt ac yn tywallt ei drugaredd arnynt.
18:12 Gwelodd, a gwybu enbydrwydd eu hargyfwng; am hynny maddeuodd yn fwy helaeth iddynt.
18:13 Ei gymydog yw gwrthrych tosturi rhywun, ond y mae pawb yn wrthrych trugaredd yr Arglwydd; y mae'n ceryddu, yn hyfforddi, yn dysgu, ac yn eu dwyn yn ôl, fel bugail ei braidd.
18:14 Y mae'n trugarhau wrth y rhai sy'n derbyn disgyblaeth, ac wrth y rhai sy'n dyfal geisio ei ddyfarniadau. Cymwynasgarwch

18:15 Fy mab, paid â chlymu cerydd wrth dy gymwynas, na geiriau cas wrth yr un o'th roddion.
18:16 Onid yw'r gwlith yn lleddfu'r gwres tanbaid? Felly trech gair na rhodd.
18:17 Yn wir, onid rhagorach yw gair nag anrheg ddrud? Ceir y ddau gan rywun graslon.
18:18 Edliw'n ddi-ras y mae ynfytyn, ac y mae rhodd y crintachlyd yn achos dagrau. Hunanymholiad

18:19 Dysg cyn llefaru, a chymer ofal o'th iechyd cyn dod gwaeledd.
18:20 Chwilia dy hun cyn dod barn, a chei faddeuant yn nydd yr ymweliad.
18:21 Ymddarostwng cyn iti glafychu, a phan ddaw cyfle i bechu, dangos dy gefn iddo.
18:22 Paid â gadael i ddim dy rwystro rhag cyflawni adduned yn brydlon, a phaid ag oedi nes y byddi'n marw cyn cael gollyngdod oddi wrthi.
18:23 Cyn gwneud adduned paratoa dy hun, a phaid â bod fel rhywun yn gosod yr Arglwydd ar brawf.
18:24 Cofia'r digofaint a wynebi yn nyddiau dy ddiwedd, yn amser dial Duw, pan dry ymaith ei wyneb.
18:25 Yn amser digonedd, cofia amser newyn, ac yn nyddiau cyfoeth, cofia amser tlodi ac angen.
18:26 Gall dy ragolygon newid rhwng bore a hwyr; y mae popeth ar garlam, pan ewyllysia'r Arglwydd.
18:27 Bydd y doeth ar ei wyliadwriaeth bob amser; mewn dyddiau o bechod bydd yn ofalus rhag troseddu.
18:28 Y mae pob un deallus yn ymgydnabod â doethineb, a rhydd hi achos diolch i'r sawl a'i cafodd.
18:29 Y mae'r rhai sy'n fedrus ar eiriau hwythau'n ennill doethineb, ac yn llunio diarhebion cywrain yn llif. Hunanddisgyblaeth

18:30 Paid â dilyn dy chwantau, ond ymatal rhag porthi dy flysiau.
18:31 Os rhoddi i ti dy hun bopeth a fyn dy chwant, fe'th wna di'n gyff gwawd dy elynion.
18:32 Paid â gloddesta mewn moethusrwydd mawr, rhag iti gael dy dlodi gan gost y wledd.
18:33 Ymgadw rhag mynd yn dlawd trwy hel nwyddau gwledd ar goel, a thithau heb ddim yn dy bwrs.

19:1 Ni bydd meddwyn o weithiwr yn casglu cyfoeth, ac i lawr bob yn dipyn yr â'r sawl sy'n esgeulus o bethau bach.
19:2 Y mae gwin a mercheta yn arwain dynion call ar gyfeiliorn, a chynyddu mewn rhyfyg y bydd yr hwn sy'n ymlynu wrth buteiniaid.
19:3 Fe â'n ysglyfaeth i bydredd a phryfed; darfod amdano a wna'r rhyfygus. Mân Siarad

19:4 Penwan yw'r parod ei ymddiriedaeth, ac er niwed iddo'i hun y mae rhywun yn pechu.
19:5 Collfarn sy'n aros y sawl sy'n ymfalchïo yn ei feddwl,
19:6 ond llai fydd y niwed i'r sawl sy'n casáu clebran.
19:7 Paid byth ag ailadrodd gair a glywi, ac ni fyddi byth ar dy golled.
19:8 Paid ag adrodd hanes na chyfaill na gelyn, na datgelu ei gyfrinach, oni fydd tewi yn bechod ynot.
19:9 Oherwydd os bydd ef wedi dy glywed a chael achos i'th amau, bydd yntau yn ei dro yn dy gasáu di.
19:10 A glywaist ti hel straeon? Gad iddi farw gyda thi. Paid â phoeni, gelli eu chadw heb iti ffrwydro.
19:11 Y ffôl fydd mewn gwewyr am y straeon a daenir amdano, fel gwraig wrth esgor ar blentyn.
19:12 Fel saeth a lynodd ym morddwyd rhywun, felly y mae straeon ym mol y ffôl.
19:13 Hola gyfaill; dichon na wnaeth ddim, ac os gwnaeth, dichon nas gwna eto.
19:14 Hola dy gymydog; dichon na ddywedodd ddim, ac os dywedodd, dichon nas dywed eilwaith.
19:15 Hola gyfaill; oherwydd yn fynych enllib a gafodd; paid â choelio pob clep a glywi.
19:16 Gall rhywun lithro'n anfwriadol; pwy sydd na phechodd â'i dafod?
19:17 Hola dy gymydog cyn ei fygwth; rho ei chyfle i gyfraith y Goruchaf. Adnabod Gwir Ddoethineb

19:20 Ofn yr Arglwydd yw pob doethineb, a chynnwys pob doethineb yw cyflawni'r gyfraith.
19:22 Nid doethineb yw gwybodaeth o ddrygioni, ac nis ceir lle cyfrifir cyngor pechaduriaid yn synnwyr.
19:23 Y mae clyfrwch sydd eto'n ffiaidd, a cheir un ffôl nad yw ond yn brin o ddoethineb.
19:24 Gwell yw bod yn brin o ddeall, ac ofni Duw, na rhagori mewn synnwyr a throseddu'r gyfraith.
19:25 Y mae clyfrwch cywrain sydd eto'n anghyfiawn; a cheir rhywun sy'n ymwrthod â ffafr er mwyn amlygu cyfiawnder.
19:26 Y mae ambell adyn sy'n gwargrymu mewn dillad galar, a'i galon yn llawn twyll,
19:27 gan wyro'i wyneb tua'r llawr a chymryd arno bod yn fyddar; ac onid wyt wedi ei adnabod, fe gaiff y trechaf arnat.
19:28 Os diffyg gallu fydd yn rhwystro rhywun rhag pechu, fe wna ddrwg ar y cyfle cyntaf.
19:29 Yn ôl yr olwg a geir arno yr adnabyddir rhywun, ac o'i gyfarfod wyneb yn wyneb yr adnabyddir y call.
19:30 Dillad rhywun, a'i geg agored wrth chwerthin, a'i gerddediad, sy'n dweud y cwbl amdano.

Gwybod Pryd i Siarad

20:1 Y mae cerydd sydd heb fod yn ei bryd, ac y mae rhywun tawedog sydd eto'n ddeallus.
20:2 Cymaint gwell yw ceryddu na dal dig!
20:3 A gyffeso'i fai a gedwir rhag niwed.
20:4 Fel eunuch yn chwenychu treisio morwyn, felly y mae rhywun a gais wneud cyfiawnder trwy drais.
20:5 Y mae un tawedog sy'n cael ei brofi'n ddoeth, ac y mae un arall a gaseir am ei fod yn siarad gormod.
20:6 Y mae un yn dawedog am nad oes ganddo ateb, ac un arall yn dawedog am ei fod yn gwybod pryd i siarad.
20:7 Y mae'r doeth yn tewi nes dyfod yr amser priodol, ond y mae'r broliwr ynfyd yn siarad pryd na ddylai.
20:8 Ffieiddir y sawl sy'n pentyrru gair ar air, a chaseir y sawl sy'n honni mai ef yn unig biau'r hawl i siarad. Gwrthddywediadau

20:9 Gall rhywun gael elw o aflwydd, a gall ennill droi'n golled.
20:10 Y mae math o roi nad yw'n dwyn elw iti, a math arall sy'n talu'n ddauddyblyg.
20:11 Gellir ymleihau wrth ymfawrhau, ond ceir hefyd rai a gododd yn uchel o ddinodedd.
20:12 Gall rhywun brynu llawer am bris bychan, a gorfod talu seithwaith amdanynt.
20:13 Bydd y doeth trwy ei eiriau yn ei wneud ei hun yn ffefryn, ond yn ofer y tywelltir gweniaith ffyliaid.
20:14 Nid yw rhodd y dwl o unrhyw werth iti, oherwydd y mae ganddo fwy nag un peth mewn golwg.
20:15 Ychydig y mae'n ei roi, ond yn edliw llawer, ac yn agor ei geg fel cyhoeddwr; rhoi benthyg heddiw, a gofyn amdano'n ôl yfory; cas gan bawb yw un o'r fath.
20:16 Dywed y ffŵl, “Nid oes gennyf gyfaill, ac nid oes diolch am fy nghymwynasau.”
20:17 Y rhai sy'n bwyta'i fara, drygair sydd ganddynt iddo; chwerthin am ei ben y bydd pawb, a hynny'n aml.Siarad Anghyfaddas
20:18 Gwell llithro ar balmant na llithro â'r tafod; fodd bynnag, buan y daw cwymp y drygionus.
20:19 Y mae rhywun di-chwaeth fel chwedl anamserol sydd beunydd ar enau'r diaddysg.
20:20 Os daw dameg o enau ffŵl fe'i gwrthodir, oherwydd nid yw byth yn ei hadrodd yn ei hiawn bryd.
20:21 Cedwir ambell un rhag pechu gan dlodi, a chaiff orffwys â chydwybod dawel.
20:22 Y mae ambell un yn ei ddifetha'i hun â'i swildod, neu â'r olwg ynfyd a geir arno.
20:23 Y mae ambell un rhag cywilydd yn rhoi addewid i gyfaill ac yn ei droi'n elyn yn ddiachos. Celwydd

20:24 Bai drwg mewn rhywun yw celwydd: y mae beunydd ar enau'r diaddysg.
20:25 Dewisach lleidr na rhywun sy'n palu celwyddau, ond distryw fydd rhan y ddau.
20:26 Dygir anfri ar gymeriad rhywun celwyddog, a bydd ei gywilydd beunydd gydag ef. Ymarfer Doethineb

20:27 Bydd y doeth trwy ei eiriau yn ei ddyrchafu ei hun, a rhywun o synnwyr yn rhyngu bodd mawrion.
20:28 Bydd y sawl sy'n trin ei dir yn codi tas uchel, a'r sawl sy'n rhyngu bodd mawrion yn cael puredigaeth i'w gamwedd.
20:29 Y mae lletygarwch ac anrhegion yn dallu llygaid y doeth, ac fel rhwymyn ar safn yn atal cerydd.
20:30 Doethineb guddiedig a thrysor anweledig, pa fudd a geir o'r un o'r ddau?
20:31 Gwell rhywun sy'n cuddio'i ffolineb na rhywun sy'n cuddio'i ddoethineb.

Pechod

21:1 A bechaist, fy mab? Paid â phechu rhagor, ond deisyf faddeuant am dy bechodau blaenorol.
21:2 Ffo oddi wrth bechod fel o olwg sarff, oherwydd os ei'n agos ato, fe'th fratha. Y mae ei ddannedd fel dannedd llew, a gallant ddifa bywyd rhywun.
21:3 Y mae pob tor-cyfraith fel cleddyf daufiniog; nid oes iachâd o'i archoll.
21:4 Bydd dychryn a rhyfyg yn anrheithio cyfoeth; felly yr anrheithir tŷ'r balch.
21:5 Daw deisyfiad o enau'r tlawd i glustiau Duw, a daw ei ddyfarniad ef yn ôl yn ddi-oed.
21:6 Y mae rhywun sy'n casáu cerydd yn dilyn camre pechadur, ond y mae'r sawl sy'n ofni'r Arglwydd yn edifarhau o'i galon.
21:7 Adwaenir o bell yr un rhugl ei dafod, ond y mae'r call yn gwybod pan yw'n llithro.
21:8 Y mae'r sawl sy'n adeiladu ei dŷ ag arian pobl eraill fel un yn casglu iddo'i hun gerrig at y gaeaf.
21:9 Pentwr o danwydd yw cynulliad y digyfraith, a fflamau tân fydd eu diwedd hwy.
21:10 Y mae ffordd pechaduriaid wedi ei phalmantu â cherrig, ond ei therfyn yw pydew Trigfan y Meirw. Doethineb a Ffolineb

21:11 Y mae'r sawl sy'n cadw'r gyfraith yn feistr ar ei feddyliau ei hun, a chyflawni ofn yr Arglwydd y mae doethineb.
21:12 Y sawl nad yw'n glyfar, ni ellir ei hyfforddi, ond y mae yna glyfrwch sy'n lledu chwerwedd.
21:13 Y mae gwybodaeth y doeth yn ymledu fel llifddyfroedd, a'i gyngor fel dŵr bywiol y ffynnon.
21:14 Y mae meddwl y ffôl fel llestr a ddarniwyd fel na all ddal unrhyw wybodaeth.
21:15 Os clyw y deallus air doeth, bydd yn ei ganmol, ac yn ychwanegu ato; ond pan fydd y glwth yn ei glywed, nid yw'n ddiddanwch iddo ac fe'i teifl y tu ôl i'w gefn.
21:16 Y mae ymadrodd y ffôl fel baich ar gefn teithiwr, ond ar wefusau'r deallus ceir hyfrydwch.
21:17 Mewn cynulliad ceisir gair gan rywun call, a dwys ystyrir yr hyn a ddywed.
21:18 I'r ffŵl y mae doethineb fel tŷ a ddiflannodd, a geiriau diystyr yw gwybodaeth y diddeall.
21:19 Llyffetheiriau am ei draed yw addysg i'r anwybodus; y mae fel gefynnau ar ei law dde.
21:20 Y mae ffŵl yn chwerthin ar uchaf ei lais, ond lled-wenu'n dawel y mae'r call.
21:21 Y mae addysg i'r deallus fel tlws aur ac fel breichled ar ei fraich dde.
21:22 Y mae ffŵl yn brasgamu i dŷ, ond oedi'n wylaidd o'i flaen y mae'r profiadol.
21:23 Y mae ynfytyn yn sbïo i mewn i dŷ o drothwy'r drws, ond sefyll oddi allan y bydd y sawl a gafodd ei hyfforddi.
21:24 Diffyg addysg mewn rhywun yw gwrando wrth ddrws, a gwarth annioddefol fyddai i'r deallus.
21:25 Gwefusau pobl eraill fydd yn traethu'r pethau hyn, ond bydd geiriau'r deallus yn cael eu pwyso mewn clorian.
21:26 Y mae ffyliaid yn siarad yn lle meddwl, ond y mae meddwl y doeth yn eu siarad.
21:27 Pan fydd yr annuwiol yn melltithio'r gwrthwynebwr, y mae'n ei felltithio'i hunan.
21:28 Y mae clepgi'n pardduo'i gymeriad ei hun, ac fe'i caseir yn ei gymdogaeth.

Diogi a Ffolineb

22:1 Y mae'r diog yn debyg i garreg a faeddwyd, a bydd pawb yn ei hisian ymaith yn ei warth.
22:2 Y mae'r diog yn debyg i domen dail, a bydd pawb sy'n ei godi yn ei ysgwyd oddi ar ei law.
22:3 Cywilydd i'r tad a'i cenhedlodd yw mab heb ei hyfforddi, a cholled yw geni merch iddo.
22:4 Bydd merch gall yn cael gŵr yn etifeddiaeth iddi, ond gofid i'r tad a'i cenhedlodd yw merch sy'n ei waradwyddo.
22:5 Y mae merch ryfygus yn gwaradwyddo'i thad a'i gŵr, a chaiff ei dirmygu gan y naill a'r llall.
22:6 Y mae ymddiddan anamserol fel cerdd ar adeg galar, ond y mae ffrewyll bob amser yn ddisgyblaeth ddoeth.
22:7 Y mae dysgu ffŵl fel gludio darnau o lestr ynghyd, neu fel deffro cysgadur o'i drymgwsg.
22:8 Y mae ymresymu â ffŵl fel ymresymu â rhywun cysglyd; wedi iti orffen y mae'n gofyn, “Beth sy'n bod?”
22:11 Wyla dros un marw, oherwydd diffodd ei dân, ac wyla dros y ffôl, oherwydd diffodd ei synnwyr. Wyla'n llawen dros un marw, oherwydd cafodd ef orffwys, ond gwaeth nag angau yw bywyd y ffôl.
22:12 Saith diwrnod o alar sydd i'r marw, ond i'r ffŵl annuwiol, holl ddyddiau ei oes.
22:13 Paid ag amlhau geiriau gydag ynfytyn nac ymweld â rhywun diddeall. Gwylia rhagddo, rhag iti gael trafferth, a chael dy halogi, yn wir, pan fydd yn ysgwyd y baw oddi arno. Tro dy gefn arno, ac fe gei lonydd, a dianc rhag blinder ei orffwylltra ef.
22:14 Beth sy'n drymach na phlwm? Pa enw sydd arno ond Ffŵl?
22:15 Tywod, halen a thalp o haearn, maent i gyd yn llai o faich na rhywun diddeall.
22:16 Os bydd y trawsbren wedi ei osod yn ddiogel mewn adeilad, ni symudir ef o'i le gan ddaeargryn. Felly'r meddwl, pan fydd yn sefyll yn gadarn ar gyngor doeth, ni therfir arno mewn argyfwng.
22:17 Y mae'r meddwl a gadarnhawyd gan syniadau deallus fel pared llyfn wedi ei blastro'n gain.
22:18 Ffens wedi ei gosod ar dir uchel, ni saif yn hir yn nannedd y gwynt. Felly'r meddwl a wnaed yn ofnus gan ddychmygion ffôl, ni saif yn hir yn wyneb yr un dychryn a ddaw. Cyfeillgarwch

22:19 Y mae pigo'r llygad yn tynnu dagrau ohono, ac y mae pigo'r meddwl yn amlygu ei hydeimledd.
22:20 Y mae taflu carreg at adar yn tarfu arnynt, ac y mae edliw i gyfaill yn difa'r cyfeillgarwch.
22:21 Os tynnaist gleddyf ar gyfaill, paid ag anobeithio; y mae modd adfer y cyfeillgarwch.
22:22 Os ymosodaist ar gyfaill â'th dafod, paid â phoeni; y mae cymod yn bosibl. Ond edliw a balchder a bradychu cyfrinach a chernod dwyllodrus— o brofi'r rhain ffoi a wna pob cyfaill.
22:23 Ennill ymddiriedaeth dy gymydog yn ei dlodi, fel y cei gydgyfranogi ag ef yn ei lwyddiant; glŷn wrtho yn amser ei gyfyngder, fel y cei ran gydag ef yn ei etifeddiaeth.
22:24 Ceir tawch a mwg o'r ffwrnais cyn bod fflam, a'r un modd ddifenwi cyn tywallt gwaed.
22:25 Ni bydd arnaf gywilydd cysgodi cyfaill; nid ymguddiaf rhag iddo fy ngweld.
22:26 Os digwydd niwed i mi o'i achos ef, bydd pawb a glyw ar eu gwyliad-wriaeth rhagddo. Gwyliadwriaeth

22:27 Pwy a rydd wyliadwriaeth ar fy ngenau a sêl pwyll ar fy ngwefusau, i'm cadw rhag syrthio o'u hachos, a chael fy ninistrio gan fy nhafod?

23:1 O Arglwydd, fy Nhad a Meistr fy mywyd, paid â'm gadael ar drugaredd eu cyngor hwy, na pheri imi gwympo o'u hachos.
23:2 Pwy a rydd ei ffrewyll ar fy meddyliau, a disgyblaeth doethineb ar fy neall, fel na bydd arbed ar fy nghamsyniadau nac esgusodi ar fy mhechodau?
23:3 Ni fynnwn i'm camsyniadau fynd ar gynnydd nac i'm pechodau amlhau, nac i minnau syrthio o flaen fy ngwrthwynebwyr, nac i'm gelynion grechwen am fy mhen.
23:4 O Arglwydd, fy Nhad a Duw fy mywyd, paid â'm gwneud yn drahaus fy edrychiad,
23:5 ac ymlid oddi wrthyf bob trachwant.
23:6 Na foed i lythineb na blys gael gafael ynof, a phaid â'm traddodi i reolaeth nwyd digywilydd. Llwon

23:7 Gwrandewch, feibion, sut i ddisgyblu'r genau; ni rwydir neb sydd ar ei wyliadwriaeth.
23:8 Wrth ei wefusau y delir pechadur, a thrwyddynt hefyd y daw cwymp i'r difenwr a'r balch.
23:9 Paid ag arfer dy enau i dyngu llw, a phaid â chynefino â dweud enw'r Un sanctaidd.
23:10 Oherwydd fel na fydd gwas a ffangellir yn barhaus yn brin o gleisiau, felly ni chaiff y sawl sy'n tyngu o hyd yn enw Duw ei lanhau oddi wrth bechod.
23:11 Un aml ei lwon, un llawn o anghyfraith; ni bydd y fflangell ymhell o'i dŷ ef. Os trosedda, caiff ddwyn baich ei bechod; os bydd yn esgeulus, bydd wedi pechu'n ddauddyblyg; os tyngodd yn ofer, ni bydd cyfiawnhad iddo, oherwydd llenwir ei dŷ â thrallodion. Siarad Anllad

23:12 Y mae math o siarad s

y'n cyfateb i farwolaeth. Na foed lle iddo ymhlith etifeddion Jacob! Pell fydd hyn oll oddi wrth y rhai duwiol; nid ymdrybaeddu mewn pechodau a wnânt hwy.
23:13 Paid â chynefino dy enau â siarad anllad ac amrwd, oherwydd pechu â geiriau y byddi felly.
23:14 Cofia dy dad a'th fam pan fyddi'n eistedd ym mysg mawrion, rhag iti dy anghofio dy hun yn eu gŵydd ac ymroi i arferion ffôl. Byddai'n dda gennyt wedyn pe bait heb dy eni, a melltithio dydd dy eni y byddi.
23:15 Y sawl sy'n gynefin â geiriau ceryddgar, ni cheir disgyblaeth arno holl ddyddiau ei fywyd. Godineb

23:16 Y mae dau fath o bobl sy'n amlhau pechodau, a thrydydd math a ddwg ddigofaint arnynt eu hunain.
23:17 Y mae nwyd gwresog yn llosgi fel tân nas diffoddir nes ei ddifa'n llwyr. Dyn godinebus, yng nghnawdolrwydd ei gorff, nid yw'n ymatal nes i'r tân losgi'n llwyr. I ddyn godinebus melys yw pob bara, ac nid yw'n blino arno nes iddo farw.
23:18 Y mae'r dyn sy'n sleifio o'i wely ei hun yn dweud wrtho'i hun, “Pwy sy'n fy ngweld? Y mae'n dywyll o'm hamgylch, a'r muriau'n fy nghuddio, ac ni all neb fy ngweld. Beth sydd gennyf i'w ofni? Ni sylwa'r Goruchaf ar fy mhechodau.”
23:19 Llygaid dynol y mae'n eu hofni; nid yw'n sylweddoli bod llygaid yr Arglwydd yn ddengmil disgleiriach na'r haul, a'u bod yn canfod holl ffyrdd pobl ac yn treiddio i'w mannau dirgel.
23:20 Yr oedd y cyfanfyd yn hysbys iddo er cyn ei greu, fel y mae hefyd ar ôl ei gwblhau.
23:21 Bydd y dyn hwn yn dwyn ei gosb yn heolydd y ddinas, a chaiff ei ddal mewn man na ddisgwyliodd erioed.
23:22 Felly y bydd hefyd i'r wraig a adawodd ei gŵr ac a ddug etifedd o had dyn arall.
23:23 Oherwydd, yn gyntaf, bu'n anufudd i gyfraith y Goruchaf; yn ail, troseddodd yn erbyn ei gŵr; yn drydydd, godinebodd fel putain, gan ddwyn plant o had dyn arall.
23:24 Dygir y wraig hon allan gerbron y cynulliad, a bydd ymchwiliad ynglŷn â'i phlant hi.
23:25 Nid ymleda gwreiddiau ei phlant, ac ni ddwg ei changhennau ffrwyth.
23:26 Melltith fydd y goffadwriaeth y bydd hi'n ei gadael, ac ni ddileir ei gwaradwydd;
23:27 bydd y rhai a adewir ar ei hôl yn dysgu nad oes dim rhagorach nag ofn yr Arglwydd, na dim melysach na chadw gorchmynion yr Arglwydd.

Molawd i Ddoethineb

24:1 Dyma fydd molawd doethineb iddi ei hunan, a'i hymffrost ymhlith ei phobl;
24:2 dyma eiriau ei genau yng nghynulleidfa'r Goruchaf, a'i hymffrost yng ngŵydd ei lu nefol:
24:3 “Myfi yw'r gair o enau'r Goruchaf, a gorchuddiais y ddaear fel niwl.
24:4 Myfi a osodais fy mhabell yn yr uchelderau, ac y mae fy ngorsedd mewn colofn o gwmwl.
24:5 Amgylchais gylch y nefoedd fy hunan, a thramwyais y dyfnderau diwaelod.
24:6 Ar donnau'r môr ac ar yr holl ddaear, ac ar bob pobl a chenedl, enillais feddiant.
24:7 Ymhlith y rhain i gyd ceisiais orffwysfa; yn nhiriogaeth p'run ohonynt y gwnawn fy nhrigfan?
24:8 Yna rhoes Creawdwr y cyfanfyd orchymyn imi; gosododd fy Nghrëwr fy mhabell yn ei lle. ‘Gosod,’ meddai, ‘dy babell yn Jacob, a myn dy etifeddiaeth yn Israel.’
24:9 O'r dechreuad, cyn bod y byd, y creodd fi, a hyd y diwedd ni bydd darfod arnaf ddim.
24:10 Yn y tabernacl sanctaidd bûm yn gweini ger ei fron, ac felly fe'm sefydlwyd yn Seion.
24:11 Dyma sut y gwnaeth imi orffwys yn y ddinas sy'n annwyl ganddo, ac y daeth imi awdurdod yn Jerwsalem.
24:12 Bwriais fy ngwreiddiau ymhlith pobl freintiedig, pobl sy'n gyfran yr Arglwydd ac yn etifeddiaeth iddo.
24:13 Tyfais fel cedrwydden yn Lebanon ac fel cypreswydden ar lethrau Hermon;
24:14 tyfais fel palmwydden yn Engedi, ac fel prennau rhosod yn Jericho; fel olewydden hardd ar wastatir y tyfais, neu fel planwydden.
24:15 Fel sinamon ac aspalathus rhoddais sawr perlysiau, ac fel myrr dethol taenais fy mherarogl, fel galbanum ac onyx a stacte, ac fel arogldarth thus yn y tabernacl.
24:16 Estynnais i fy nghanghennau fel terebinth; canghennau llwythog o ogoniant a gras oedd fy rhai i.
24:17 Blagurais yn haelwych fel y winwydden; a daeth llawnder o ffrwyth gogoneddus o'm blodau.
24:19 Dewch ataf fi, chwi sy'n blysio amdanaf, a bwytewch eich gwala o'm ffrwythau.
24:20 Cofio amdanaf sy'n well na melyster mêl, a'm hetifeddu'n well na dil mêl.
24:21 Y rhai a ymborthant arnaf, newynu am fwy y byddant, a'r rhai a yfant ohonof, sychedu am fwy y byddant.
24:22 Ni bydd cywilydd ar neb a fydd yn ufudd i mi, ac ni phecha neb a fydd yn gweithio dan fy nghyfarwyddyd.” Doethineb a'r Gyfraith

24:23 Llyfr cyfamod y Duw Goruchaf yw hyn oll, y gyfraith a orchmynnodd Moses i ni, i fod yn etifeddiaeth i gynulleidfaoedd Jacob.
24:25 Y mae'n peri i ddoethineb orlifo fel Afon Phison, ac fel Afon Tigris yn nyddiau'r blaenffrwyth;
24:26 y mae'n chwyddo dealltwriaeth yn llifeiriant fel Afon Ewffrates, ac fel yr Iorddonen yn nyddiau'r cynhaeaf;
24:27 y mae'n peri i addysg ddisgleirio fel goleuni, ac fel Gihon yn nyddiau'r cynhaeaf gwin.
24:28 Ni lwyddodd y dyn cyntaf i'w llwyr amgyffred, na'r olaf chwaith i'w holrhain hi.
24:29 Llawnach na'r môr yw ei meddyliau hi, a'i chyngor na'r dyfnfor diwaelod.
24:30 Minnau, fel camlas yn llifo o afon y deuthum allan, fel ffrwd yn rhedeg i ardd.
24:31 “Dyfrhaf fy ngardd,” meddwn, “a diodaf ei gwelyau hi.” A dyna'r gamlas yn troi'n afon imi, a'm hafon yn troi'n fôr.
24:32 Paraf eto i addysg oleuo fel y wawr, ac i'w goleuni ddisgleirio ymhell.
24:33 Tywalltaf eto athrawiaeth fel proffwydoliaeth, a'i gadael ar fy ôl i genedlaethau'r dyfodol.
24:34 Gwelwch nad trosof fy hunan yn unig y llafuriais, ond dros bawb sy'n ceisio doethineb.

Pethau Gwynfydedig

25:1 Mewn tri pheth yr ymhyfrydaf, pethau sy'n brydferth yng ngolwg yr Arglwydd a'r ddynol ryw: cytundeb rhwng pobl, cyfeillgarwch rhwng cymdogion, a gŵr a gwraig yn cyd-dynnu â'i gilydd.
25:2 Y mae tri math o bobl sy'n gas gennyf, a'u buchedd yn ffiaidd iawn yn fy ngolwg: y tlawd bostfawr, y cyfoethog celwyddog, a'r henwr godinebus prin o synnwyr.
25:3 Oni chesglaist ddim yn dy ieuenctid, sut y cei afael ar ddim yn dy henaint?
25:4 Mor hardd yw barn mewn rhai penwyn, a chyngor a phwyll mewn hynafgwyr!
25:5 Mor hardd yw doethineb yr oedrannus, a deall a chyngor mewn rhai uchel eu parch!
25:6 Profiad helaeth yw coron yr oedrannus, ac ofn yr Arglwydd yw eu hymffrost.
25:7 Y mae naw peth sy'n wynfydedig yn fy meddwl, a'r degfed yr wyf am ei draethu ar lafar: dyn yn cael llawenydd yn ei blant; dyn yn byw i weld cwymp ei elynion;
25:8 gwyn ei fyd y gŵr a chanddo wraig ddeallus yn ei gartref, a'r sawl na lithrodd â'i dafod; a'r sawl na fu'n was i feistr annheilwng ohono;
25:9 gwyn ei fyd y sawl a gafodd hyd i ddealltwriaeth; a'r sawl sy'n traethu yng nghlyw rhai sy'n gwrando arno.
25:10 Mor fawr yw'r sawl a ddaeth o hyd i ddoethineb! Ond nid oes neb mwy na'r sawl sy'n ofni'r Arglwydd.
25:11 Y mae ofn yr Arglwydd yn rhagori ar bopeth; pwy sydd i'w gymharu â'r sawl sydd â'i afael arno? Gwragedd

25:13 Unrhyw glwyf ond clwyf i'r galon! Unrhyw falais ond malais gwraig!
25:14 Unrhyw aflwydd ond aflwydd o du caseion! Unrhyw ddial ond dial gelynion!
25:15 Nid oes gwenwyn gwaeth na gwenwyn sarff, na llid gwaeth na llid gelyn.
25:16 Dewisach gennyf gartrefu gyda llew neu ddraig na chartrefu gyda gwraig faleisus.
25:17 Y mae malais gwraig yn newid ei gwedd, a duo'i hwyneb fel wyneb arth.
25:18 Gyda'i gymdogion y bydd ei gŵr yn cymryd ei brydau, ac yn methu peidio ag ochneidio'n ddwys.
25:19 Bach yw pob drygioni yn ymyl drygioni gwraig; syrthied iddi gyfran pechadur!
25:20 Fel dringo twyn tywod i draed hynafgwr yw byw gyda gwraig dafotrydd i ŵr tawel.
25:21 Paid â syrthio'n ysglyfaeth i brydferthwch gwraig, na rhoi dy fryd ar feddiannu gwraig.
25:22 Dicter, hyfdra ac amarch mawr fydd rhan gŵr os ei wraig sy'n ei gynnal.
25:23 Iselder ysbryd, gwedd wynepdrist, a chalon glwyfus a rydd gwraig faleisus; dwylo llesg a gliniau gwan fydd i'r gŵr nad yw ei wraig yn achos gwynfyd iddo.
25:24 O wraig y tarddodd pechod, ac o'i hachos hi yr ydym oll yn marw.
25:25 Paid â rhoi cyfle i ddŵr ollwng, na chyfle i wraig faleisus siarad yn ddiatal.
25:26 Os na chymer ei harwain gennyt, tor bob cyfathrach â hi.

26:1 Gwraig dda yw gwynfyd ei gŵr, yn dyblu nifer ei ddyddiau.
26:2 Gwraig lew yw llawenydd ei gŵr, yn llenwi ei flynyddoedd â heddwch.
26:3 Gwraig dda, y mae'n gyfran dda, y gyfran a roddir i'r rhai sy'n ofni'r Arglwydd;
26:4 yn gyfoethog neu'n dlawd, bydd eu calon yn llon a'u hwyneb bob amser yn siriol.
26:5 Rhag tri pheth y brawychodd fy nghalon, ac y mae pedwerydd yr wyf yn dychryn rhag ei wedd enllib dinas, cynulliad torf, a gaudystiolaeth—pethau blin, gwaeth nag angau, bob un.
26:6 Gofid calon a thrallod yw cenfigen gwraig wrth wraig arall, a llach ei thafod ar bawb yn ddiwahân.
26:7 Y mae gwraig faleisus fel iau anesmwyth, a dal gafael ynddi fel cydio mewn ysgorpion.
26:8 Peri dicter mawr y mae gwraig feddw; ni all guddio'i gwarth ei hun.
26:9 Y mae puteindra gwraig i'w weld yn ehofndra'i llygaid, ac i'w ganfod yn ei hamrannau.
26:10 Cadw wyliadwriaeth gyson ar ferch anhydrin, rhag iddi fanteisio ar dy ddiofalwch er ei niwed ei hun.
26:11 Gwylia am ei hedrychiad digywilydd, a phaid â rhyfeddu os tramgwydda yn dy erbyn.
26:12 Bydd yn agor ei cheg fel teithiwr sychedig, ac yn yfed o bob rhyw ddŵr sydd wrth law; bydd yn eistedd gyferbyn â phob rhyw fachyn, ac yn agor ei chawell i bob rhyw saeth.
26:13 Y mae swyn gwraig yn llonni ei gŵr, a'i medr yn rhoi cnawd ar ei esgyrn.
26:14 Rhodd gan yr Arglwydd yw gwraig ddistaw, a'i henaid disgybledig yn amhrisiadwy.
26:15 Swyn ar ben swyn yw gwraig wylaidd, a'i henaid diwair yn ddifesur ei werth.
26:16 Fel haul yn codi yn uchelderau'r Arglwydd, y mae prydferthwch gwraig dda yn harddu ei thŷ;
26:17 fel lamp yn llewyrchu ar ganhwyllbren sanctaidd, y mae prydferthwch ei hwyneb ar gorff aeddfed.
26:18 Fel colofnau aur ar waelod arian, felly mae traed lluniaidd a'u sodlau cadarn. Pethau Trist

26:28 Dau beth sy'n peri loes i'm calon, a thrydydd peth yn codi fy ngwrychyn: milwr mewn angen o achos tlodi; rhai deallus yn cael eu trin fel baw; a rhywun yn cefnu ar gyfiawnder i ddilyn pechod— fe ddarpara'r Arglwydd i un felly gleddyf i'w ladd.
26:29 Go brin y gall masnachwr osgoi gwneud cam, ac ni cheir siopwr yn ddieuog o bechod.

27:1 Pechodd llawer er mwyn elw; y mae'r sawl a fyn ymgyfoethogi yn barod i gau ei lygad.
27:2 Fel hoelen wedi ei hoelio rhwng cydiad meini, y mae pechod yn ymwthio rhwng prynu a gwerthu.
27:3 Oni lŷn rhywun yn frwd wrth ofn yr Arglwydd, buan y dymchwelir ei dŷ. Geiriau yn Brawf

27:4 Wedi ysgwyd gogr, erys y gwehilion; felly y daw gwaethaf rhywun i'r wyneb wrth iddo ddadlau.
27:5 Y mae'r ffwrn yn profi llestri'r crochenydd, a cheir prawf ar rywun wrth iddo ymresymu.
27:6 Fel y mae ffrwyth pren yn dangos y driniaeth a gafodd, felly y mae mynegiant rhywun o'i feddyliau yn dangos ei ddiwylliant.
27:7 Paid â chanmol neb cyn ei glywed yn dadlau, oherwydd dyna'r prawf ar bawb.
27:8 O geisio cyfiawnder, fe'i cei, a'i wisgo fel gŵn ysblennydd.
27:9 Bydd adar yn nythu gyda'u tebyg, a bydd gwirionedd yn clwydo gyda'r rhai sy'n ei weithredu.
27:10 Fel y mae llew'n gwylio'i ysglyfaeth i'w ddal, felly y mae pechod yn gwylio drwgweithredwyr.
27:11 Traethu doethineb y bydd y duwiol bob amser, ond y mae'r ynfytyn mor gyfnewidiol â'r lleuad.
27:12 Gwylia dy gyfle i ddianc o gwmni'r diddeall, ond oeda'n hir yng nghwmni'r meddylgar.
27:13 Ffiaidd yw ymadroddion ffyliaid, a'u chwerthin yn faswedd pechadurus.
27:14 Y mae siarad un aml ei lwon yn codi gwallt y pen, a chweryla rhai felly'n cau clustiau.
27:15 Y mae cweryla'r beilchion yn peri tywallt gwaed, a'u difenwi ei gilydd yn merwino'r glust. Bradychu Cyfrinach

27:16 Y mae bradychwr cyfrinach wedi diddymu pob ymddiriedaeth ynddo, ac ni chaiff gyfaill mynwesol byth mwy.
27:17 Câr dy gyfaill a bydd yn ffyddlon iddo, ond os bradychi ei gyfrinach, paid â'i ganlyn mwy.
27:18 Oherwydd fel y dinistriodd rhywun ei elyn, felly y dinistriaist ti gyfeillgarwch dy gymydog;
27:19 ac fel y gollyngaist aderyn o'th law, felly y gadewaist i'th gymydog fynd, ac ni chei afael arno eto.
27:20 Paid â'i ganlyn, oherwydd ciliodd ymhell oddi wrthyt, dihangodd fel ewig o rwyd.
27:21 Oherwydd gellir rhwymo archoll, a chymodi ar ôl difenwi, ond nid oes gan fradychwr cyfrinach ddim i obeithio amdano. Rhagrith

27:22 Y mae'r sawl sy'n wincio yn dyfeisio drwg, ac nid oes neb a'i ceidw oddi wrtho.
27:23 Geiriau melys a draetha i'th wyneb, a bydd yn dotio at dy eiriau dithau, ond wedyn bydd yn newid ei dôn ac yn dy faglu â'th eiriau dy hun.
27:24 Rwy'n casáu llawer o bethau, ond hyn yn fwy na dim, a chas fydd hefyd gan yr Arglwydd.
27:25 A daflo garreg i'r awyr, fe'i teifl ar ei ben ef ei hun, ac y mae ergyd fradwrus yn clwyfo'r ergydiwr hefyd.
27:26 A gloddio ffos, fe syrth iddi; a osodo fagl, fe'i delir ynddi.
27:27 A wnelo ddrwg, arno ef ei hun y treigl yn ôl, ac yntau heb sylweddoli o ble y daeth.
27:28 Gwatwar a sarhad yw nodau'r balch, ond bydd dial fel llew yn ei wylio, i'w ddal.
27:29 Eu dal mewn magl a gaiff y rhai sy'n llawenhau yng nghwymp y duwiol, a'u hysu gan ing cyn eu marw. Dal Dig

27:30 Llid a dicter, ffiaidd yw'r rhain hefyd, ond dal ei afael arnynt y bydd y pechadurus.

28:1 A fyn ddial a wêl ddial gan yr Arglwydd, sy'n cadw cyfrif manwl o'i bechodau.
28:2 Maddau i'th gymydog ei gamwedd, ac yna cei faddeuant am dy bechodau di, pan ddeisyfi amdano.
28:3 Os deil rhywun ddig yn erbyn un arall, a all geisio iachâd gan yr Arglwydd?
28:4 Os na chymer drugaredd ar ei gyd-ddyn, a all ddeisyf maddeuant am ei bechodau ei hun?
28:5 Os yw ef, nad yw ond cnawd dynol, yn meithrin llid, pwy a rydd iddo buredigaeth ei bechodau?
28:6 Cofia'r diwedd sy'n dy aros, a gad lonydd i elyniaeth; cofia dy dranc a'th farwolaeth, a glŷn wrth y gorchmynion.
28:7 Cofia'r gorchmynion, a phaid â bwrw dy lid ar dy gymydog; cofia gyfamod y Goruchaf, ac edrych heibio i anwybodaeth. Cweryla

28:8 Ymgadw rhag cweryla, a byddi'n llai dy bechod, oherwydd bydd y gwyllt ei dymer yn ennyn cweryl,
28:9 a'r pechadurus yn creu helynt rhwng cyfeillion, ac yn tarfu ar bobl heddychlon â'i ensyniadau enllibus.
28:10 Yn ôl y tanwydd a roir arno y llosga'r tân, ac yn ôl poethder y cweryl y llosga'i fflam yntau; yn ôl ei nerth y bydd llidiogrwydd rhywun, ac yn ôl ei gyfoeth y cwyd ei ddicter.
28:11 Y mae ymryson sydyn yn cynnau tân, a chweryl sydyn yn peri tywallt gwaed. Chwytha ar wreichionen, a gloywi a wna; poera arni, ac fe ddiffydd; o'th enau di y daw'r ddeubeth. Siarad Maleisus

28:13 Melltithiwch y clepgi a'r dyblyg ei dafod, oherwydd dinistriodd ef lawer o bobl heddychlon.
28:14 Y mae trydydd tafod wedi tarfu ar lawer, a'u hymlid o genedl i genedl, gan ddifrodi dinasoedd caerog a dymchwelyd tai y mawrion.
28:15 Y mae trydydd tafod wedi gyrru gwragedd priod o'u cartrefi, a'u hamddifadu o ffrwyth eu llafur.
28:16 A rydd goel arno, ni bydd gorffwys iddo mwy, na thawelwch yn ei drigle.
28:17 Y mae llach ffrewyll yn gadael clais, ond y mae llach tafod yn torri esgyrn.
28:18 Cwympodd llawer gan fin y cleddyf, ond nid cynifer ag a gwympodd o achos y tafod.
28:19 Gwyn ei fyd y sawl a gafodd noddfa rhagddo, ac na phrofodd erwinder ei lid; y sawl na wingodd dan ei iau, na'i gael ei hun yn rhwymyn ei gadwyni.
28:20 Oherwydd iau'r tafod, iau o haearn yw, a chadwyni o bres yw ei gadwyni.
28:21 Marwolaeth erchyll yw'r farwolaeth a geir ganddo; dewisach yw Trigfan y Meirw na'r tafod.
28:22 Ni chaiff wastrodaeth ar y rhai duwiol, ac ni losgir hwy gan ei fflam.
28:23 Y rhai sy'n cefnu ar yr Arglwydd a fyddant yn ysglyfaeth y tafod; bydd yn llosgi'n anniffodd yn eu plith. Gollyngir ef arnynt fel llew, ac fe'u llarpia fel llewpart.
28:24 Gofala gau dy dir â gwrych o ddrain, a chlo dy arian a'th aur yn ddiogel;
28:25 gofala hefyd am glorian a phwysau i'th eiriau, a rho ddrws a bollt ar dy enau.
28:26 Gwylia rhag llithro o achos dy dafod, a syrthio'n ysglyfaeth i'r sawl sy'n aros ei gyfle i'th ddal.

Benthyca ac Ad-dalu

29:1 Y mae'r trugarog yn rhoi benthyg i'w gymydog, ac wrth estyn ei law i'w gynnal y mae'n cadw'r gorchmynion.
29:2 Rho fenthyg i'th gymydog yn awr ei angen, a thâl dithau'n ôl i'th gymydog yn ei iawn bryd.
29:3 Gwiredda dy air a chadw gyfamod ag ef, a chei ddigon bob amser at dy angen.
29:4 Y mae llawer yn ystyried cael ar fenthyg yn gael i gadw, ac yn peri blinder i'r rhai a wnaeth y gymwynas â hwy.
29:5 Hyd nes iddo gael, bydd rhywun yn cusanu llaw ei gymydog, ac yn sôn am arian hwnnw â goslef o barch; ond pan ddaw'n amser ad-dalu y mae'n oedi ac oedi, heb dalu dim yn ôl ond geiriau didaro, gan gwyno bod yr amser yn brin.
29:6 Er iddo wasgu, prin y caiff yr echwynnwr yr hanner yn ôl, a bydd yn cyfrif hynny yn gael ffodus; os amgen, bydd y benthyciwr wedi ei ysbeilio o'i arian, ac yntau wedi ennill gelyn heb achos; melltith a difenwad a gaiff yn ad-daliad, ac amarch yn hytrach nag anrhydedd.
29:7 Y mae llawer yn gwrthod rhoi ar fenthyg, er nad o falais; ofn cael eu colledu heb achos sydd arnynt. Elusengarwch

29:8 Er hynny, bydd yn amyneddgar wrth yr anghenus, a phaid ag oedi rhoi d'elusen iddo.
29:9 Er mwyn y gorchymyn cynorthwya'r tlawd, ac yn ei angen paid â'i droi ymaith yn waglaw.
29:10 Gwell yw colli dy arian er mwyn brawd neu gyfaill na'i golli trwy ei adael i rydu dan garreg.
29:11 Storia dy drysor yn ôl gorchmynion y Goruchaf, ac fe dâl i ti yn well nag aur.
29:12 Rho elusengarwch ynghadw yn d'ystordai, a bydd yn waredigaeth iti rhag pob aflwydd.
29:13 Cryfach na tharian, grymusach na phicell, fydd arfogaeth o'r fath iti i ymladd â'th elyn. Mechnïo

29:14 Rhywun da fydd yn mechnïo dros ei gymydog, ac un a gollodd bob cywilydd fydd yn cefnu arno.
29:15 Paid ag anghofio caredigrwydd dy fechnïwr, oherwydd fe roes ei fywyd er dy fwyn.
29:16 Y pechadurus fydd yn dymchwel llwyddiant ei fechnïwr, a'r diddiolch fydd yn gollwng dros gof y sawl a'i gwaredodd.
29:17 Dinistriodd mechnïaeth lawer a rai cefnog, a'u siglo fel y gwna tonnau'r môr;
29:18 gyrrodd rai nerthol o'u cartrefi i grwydro mewn gwledydd estron.
29:19 Pan fydd pechadur yn ymrwymo i fechnïaeth a'i fryd ar elw, ymrwymo y bydd i achosion llys.
29:20 Cynorthwya dy gymydog hyd eithaf dy allu, ond gwylia rhag i ti gael dy ddal gan d'ymrwymiad. Hel Tai

29:21 Hanfodion bywyd yw dŵr a bara a dillad, a thŷ fydd yn lloches rhag anwedduster.
29:22 Gwell yw byw'n dlawd mewn cwt o bren na chael danteithion moethus dan do dieithriaid.
29:23 Boed gennyt ychydig neu lawer, bydd fodlon arno, a phaid ag ennill enw fel un sy'n hel tai.
29:24 Bywyd gwael yw crwydro o dŷ i dŷ heb feiddio agor dy geg am mai dieithryn wyt yno.
29:25 Cei weini ar y lletywyr, a llenwi eu cwpanau, yn gwbl ddiddiolch, heb sôn am ufuddhau i'w galwadau croch:
29:26 “Tyrd yma, ddieithryn, gosod y bwrdd, gad imi flasu beth bynnag sydd yn dy law.”
29:27 “Ffwrdd â thi, ddyn dieithr, rho dy le i'th well; mae fy mrawd am gael llety; mae angen y tŷ arnaf.”
29:28 Profiad caled yw hwn i ddyn deallus: cael cerydd gan y teulu, a sarhad gan fenthyciwr arian.

Disgyblu Plant

30:1 Bydd dyn sy'n caru ei fab yn ei chwipio'n fynych, er mwyn cael llawenydd ynddo yn ddiweddarach.
30:2 Bydd dyn sy'n disgyblu ei fab yn cael budd ohono, a chaiff ymffrostio ynddo ymhlith ei gydnabod.
30:3 Bydd dyn a rydd addysg i'w fab yn deffro eiddigedd ei elyn, a chaiff ymfalchïo ynddo yng ngŵydd ei gyfeillion.
30:4 Pan fydd y tad wedi marw, bydd fel petai heb farw, gan iddo adael ei debyg ar ei ôl.
30:5 Yn ei fywyd fe'i gwelodd a llawenychu ynddo, ac yn ei farw ni phrofodd dristwch.
30:6 Gadawodd etifedd i ddial ar ei elynion ac i dalu'n ôl garedigrwydd ei gyfeillion.
30:7 Bydd dyn sy'n maldodi ei fab yn rhwymo'i friwiau i gyd, a bydd ei deimladau mewn cynnwrf wrth bob cri.
30:8 Y mae ebol heb ei ddofi yn tyfu'n geffyl anhydrin, a mab heb ei reoli yn tyfu'n ddyn anhywaith.
30:9 Rho fwythau i blentyn, a daw â braw iti; bydd chwareus gydag ef, a daw â thrallod iti.
30:10 Paid â chwerthin gydag ef, rhag iti ofidio gydag ef, a'th gael yn y diwedd yn rhincian dy ddannedd.
30:11 Paid â rhoi rhyddid iddo yn ei ieuenctid, a phaid ag anwybyddu ei gamgymeriadau.
30:12 Plyga'i war ef yn ei ieuenctid, a phwnio'i asennau pan yw'n blentyn, rhag iddo fynd yn anhydrin ac anufudd, a pheri gofid iti.
30:13 Disgybla dy fab, a chymer drafferth ag ef, rhag i'w ymddygiad anweddus fod yn dramgwydd iti. Iechyd

30:14 Gwell bod yn dlwad ac iach a chryf o gyfansoddiad na bod yn gyfoethog a chystuddiedig o gorff.
30:15 Y mae iechyd a chyfansoddiad cryf yn well na'r aur i gyd, a chorff nerthol na golud difesur.
30:16 Nid oes cyfoeth gwell na iechyd corff na llonder llawnach na llawenydd calon.
30:17 Gwell marwolaeth na bywyd o drueni, a gorffwys tragwyddol nag afiechyd sy'n parhau.
30:18 Y mae tywallt danteithion gerbron rhywun a'i geg wedi ei chau fel gosod offrymau o fwyd ar fedd.
30:19 Pa les yw offrwm i eilun, ac yntau heb allu blasu nac arogli dim? Dyna gyflwr y sawl a gystuddir gan yr Arglwydd.
30:20 Y mae'n gweld â'i lygaid ac yn griddfan, griddfan fel y bydd eunuch wrth gofleidio gwyryf. Tristwch a Llonder

30:21 Paid ag ymollwng i dristwch, nac ymgystuddio o'th wirfodd.
30:22 Y mae llonder calon yn fywyd i rywun, a gorfoledd rhywun yn estyn ei ddyddiau.
30:23 Difyrra dy hun a diddana dy galon, a chadw dristwch ymhell oddi wrthyt; oherwydd bu tristwch yn angau i lawer, ac ni ddaw unrhyw fudd ohono.
30:24 Y mae cenfigen a llid yn byrhau dyddiau rhywun, a phryder yn peri iddo heneiddio cyn pryd.
30:25 Y mae calon hael a siriol yn creu archwaeth ac yn rhoi blas ar ymborth rhywun.

Problemau Cyfoeth

31:1 Y mae anhunedd o achos cyfoeth yn bwyta'r cnawd, a phryder amdano'n cadw cwsg draw.
31:2 Y mae anhunedd pryderus yn rhwystro hepian, fel y mae afiechyd blin yn tarfu cwsg.
31:3 Y mae'r cyfoethog yn llafurio i gasglu golud, a phan beidia, bydd ganddo gyflawnder o foethau.
31:4 Y mae'r tlawd yn llafurio i grafu bywoliaeth brin, a phan beidia, bydd mewn angen.
31:5 A gâr aur, nis cyfrifir yn gyfiawn; a gais elw, nid union fydd ei lwybr.
31:6 Daeth llawer i'w cwymp o achos aur, a'u cael eu hunain wyneb yn wyneb â dinistr.
31:7 Magl ydyw i'r rhai a swynir ganddo, a chaiff pob ffŵl ei ddal ynddi.
31:8 Gwyn ei fyd y cyfoethog na chafwyd bai ynddo, ac na wnaeth aur yn ddiben ei fyw.
31:9 Pwy yw ef, i ni ei alw'n wynfydedig? Oherwydd gwnaeth ryfeddodau ymhlith ei bobl.
31:10 Pwy a brofwyd fel hyn a'i gael yn berffaith? Y mae gan hwnnw le i ymffrostio. Pwy, a'r gallu ganddo i droseddu, na throseddodd, na gwneud drwg pan allai ei wneud?
31:11 Bydd ei ffyniant ar seiliau cadarn, a'i elusengarwch yn destun mawl i'r gynulleidfa. Sut i Ymddwyn mewn Gwledd

31:12 Pan fyddi'n eistedd wrth fwrdd llwythog, paid â rhythu'n geg-agored arno, na dweud, “Dyma beth yw gwledd!”
31:13 Cofia mai peth pechadurus yw llygad gwancus. A oes dim gwaeth na'r llygad wedi ei greu? Dyna pam y mae ei ddagrau ar bob wyneb.
31:14 Paid ag estyn dy law at bopeth a lygadi, nac ymgiprys amdano wrth y ddysgl.
31:15 Barna angen dy gymydog wrth yr eiddot dy hun, a bydd yn ystyriol ohono ym mhob peth.
31:16 Bwyta'r hyn a osodir ger dy fron fel rhywun gwâr, a phaid â bwyta'n farus a'th wneud dy hun yn atgas.
31:17 Dangos dy foesau da trwy fod yn gyntaf i orffen, a phaid â bod yn anniwall, rhag iti beri tramgwydd.
31:18 Ac os byddi'n eistedd ymhlith cwmni niferus, paid ag estyn dy law at y bwyd o'u blaen hwy.
31:19 Y mae ychydig yn ddigon i rywun o fagwraeth dda, ac nid yw'n fyr ei wynt pan â i'w wely.
31:20 Iachus fydd cwsg y bwytawr cymedrol; bydd yn codi'n fore yn ei iawn bwyll. Ond baich o anhunedd, cyfog a bolwst a gaiff un anniwall ei chwant.
31:21 Os cefaist dy orfodi i orfwyta, gad y pryd ar ei ganol i geisio rhyddhad.
31:22 Gwrando arnaf, fy mab, a phaid â'm hanwybyddu; yn y diwedd cei wybod mai gwir yw fy ngeiriau. Bydd ymroddgar ym mhopeth a wnei, ac ni ddaw unrhyw afiechyd ar dy gyfyl.
31:23 Hael ei fwrdd, hael fydd ei glod, a'r dystiolaeth i'w ragoriaeth yn sicr.
31:24 Crintach ei fwrdd, bydd grwgnach trwy'r dref amdano, a'r dystiolaeth i'w grintachrwydd yn fanwl.
31:25 Paid ag ymwroli â gwin, oherwydd distryw fu gwin i lawer.
31:26 Fel y profir dur gan ffwrn a dŵr, felly y profir cymeriad gan win pan fydd beilchion yn ymryson.
31:27 Y mae gwin yn fywyd i rywun o'i yfed ym gymesur. Beth yw bywyd i rywun heb win? Onid er llawenychu pobl y crewyd ef?
31:28 Llonder calon a llawenydd ysbryd yw gwin, o'i yfed yn gymedrol ac yn ei bryd.
31:29 Ond o'i yfed yn ormodol ceir chwerwder ysbryd, a chythruddo a chynhennu.
31:30 Y mae medd-dod yn chwyddo dicter ffŵl i'w niwed ei hun, yn gwanychu ei nerth ac yn amlhau ei glwyfau.
31:31 Paid â cheryddu dy gymydog mewn cyfeddach, na'i fychanu yng nghanol ei lawenydd; paid â dweud gair gwawdlyd wrtho, na phwyso arno i dalu'n ôl ei ddyled.

32:1 Os cei dy benodi'n llywydd gwledd, paid ag ymddyrchafu; bydd yn eu plith fel un ohonynt hwy; gofala amdanynt hwy cyn eistedd dy hun.
32:2 Ar ôl cyflawni pob dyletswydd, yna cymer dy le wrth y bwrdd, ac felly cei lawenydd yn dy westeion, a thorch ar dy ben am drefnu'r wledd mor dda.
32:3 Os wyt yn hen, llefara—dyna dy fraint— ond yn fyr ac i bwynt, a heb darfu ar y gân.
32:4 Tra pery'r perfformiad, rho daw ar dy gleber, a phaid â doethinebu'n annhymig.
32:5 Insel o ruddem mewn tlws o aur yw cynghanedd cân yn y gyfeddach win;
32:6 insel o emrallt mewn addurn o aur yw nodau cân wrth flasu melyster y gwin.
32:7 Os ifanc wyt, llefara'n unig os bydd rhaid, a dwywaith ar y mwyaf, oni ofynnir cwestiwn iti.
32:8 Bydd yn gryno, gan ddweud llawer mewn ychydig; bydd fel un sy'n gwybod, ac eto'n gallu tewi.
32:9 Yng nghwmni mawrion, paid â chystadlu â hwy, a pharablu llawer pan fydd rhywun arall yn siarad.
32:10 Y mae mellt yn fflachio o flaen y daran, a chymeradwyaeth yn rhagflaenu rhywun gwylaidd.
32:11 Cod i ymadael yn brydlon; paid â bod yn olaf; brysia adref yn ddiymdroi.
32:12 Yno cei ymlacio a gwneud a fynni, heb bechu trwy siarad balch.
32:13 Ac at hyn oll, bendithia dy Greawdwr, a lanwodd dy gwpan â'i roddion daionus. Ofni'r Arglwydd

32:14 Bydd y sawl sy'n ofni'r Arglwydd yn derbyn ei ddisgyblaeth, a'r rhai sy'n codi'n fore i'w geisio yn ennill ei ffafr.
32:15 Bydd y sawl sy'n rhoi ei fryd ar y gyfraith yn cael boddhad ynddi, ond achos cwymp fydd hi i'r rhagrithiwr.
32:16 Bydd y rhai sy'n ofni'r Arglwydd yn gallu barnu'n deg, a bydd eu gweithredoedd cyfiawn yn llewyrchu fel goleuni.
32:17 Bydd y pechadurus yn gwrthod cerydd, ac yn darganfod cyfiawnhad dros wneud ei ewyllys ei hun.
32:18 Nid yw'r pwyllog byth yn diystyru awgrym; ni ŵyr y pagan balch beth yw gwargrymu mewn ofn.
32:19 Paid â gwneud dim heb ymbwyllo; yna, ar ôl ei wneud, ni fydd yn edifar gennyt.
32:20 Paid â theithio ar hyd ffordd lawn o rwystrau, i faglu ar draws yr holl gerrig sydd arni.
32:21 Paid â bod yn or-hyderus ar ffordd ddirwystr,
32:22 a gwylia lle'r wyt yn mynd.
32:23 Ym mhopeth a wnei, cred ynot ti dy hun, oherwydd dyna beth yw cadw'r gorchmynion.
32:24 Y mae'r sawl sy'n credu yn y gyfraith a gofal ganddo am y gorchmynion, ac ni bydd y sawl sy'n ymddiried yn yr Arglwydd yn ôl am ddim.

33:1 Ni ddaw niwed i ran y sawl sy'n ofni'r Arglwydd; mewn treialon fe'i gwaredir dro ar ôl tro.
33:2 Ni bydd y doeth yn casáu'r gyfraith, ac y mae'r sawl sy'n rhagrithio ynddi fel cwch mewn storm.
33:3 Bydd y deallus yn ymddiried yn y gyfraith, ac yn ei chael mor ddibynadwy ag oracl dwyfol.
33:4 O baratoi dy araith, cei wrandawiad; casgla dy ddysg yn becyn trefnus, ac yna rho dy ateb.
33:5 Troi fel olwyn trol y mae teimladau ffŵl, a'i feddyliau'n chwyldroi fel yr echel.
33:6 Y mae cyfaill coeglyd fel stalwyn, sy'n gweryru ni waeth pwy sydd ar ei gefn. Amrywiaeth o Bobl

33:7 Pam y mae un dydd yn well na'r llall, er mai o'r haul y daw golau pob dydd o'r flwyddyn?
33:8 Yr Arglwydd a wahaniaethodd rhyngddynt trwy ei wybodaeth; ef a drefnodd yr amrywiol dymhorau a gwyliau,
33:9 gan wneud rhai ohonynt yn uchel-wyliau sanctaidd, a gosod eraill ymhlith rhifedi'r dyddiau cyffredin.
33:10 O lawr y ddaear y daw'r ddynolryw gyfan, ac o'r pridd y crewyd Adda.
33:11 Yng nghyflawnder ei wybodaeth gwahaniaethodd yr Arglwydd rhyngddynt, a threfnu iddynt eu hamrywiol ffyrdd.
33:12 Bendithiodd rai ohonynt, a'u dyrchafu; sancteiddiodd rai, a'u dwyn yn agos ato'i hun. Ond melltithiodd eraill ohonynt, a'u darostwng, a'u symud o'u safleoedd.
33:13 Fel y mae'r clai yn llaw'r crochenydd, i'w foldio'n union fel y bydd ef yn dewis, felly y mae pobl yn llaw eu Creawdwr, i'w trin yn union fel y bydd ef yn barnu.
33:14 Yn wrthwyneb i'r drwg y mae'r da, ac yn wrthwyneb i farwolaeth y mae bywyd; felly yn wrthwyneb i'r duwiol y mae'r pechadur.
33:15 Dyma sut yr wyt i edrych ar holl weithredoedd y Goruchaf: yn ddau a dau, a'r naill yn wrthwyneb i'r llall.
33:16 Myfi oedd yr olaf i ddeffro; yr oeddwn fel lloffwr yn dilyn y cynaeafwyr. Dan fendith yr Arglwydd achubais y blaen, a llenwi fy ngwinwryf fel cynaeafwr grawnwin.
33:17 Cofiwch nad trosof fy hunan yn unig y llafuriais, ond dros bawb sy'n ceisio addysg.
33:18 Gwrandewch arnaf, bendefigion y bobl, a chwi lywodraethwyr y gynulleidfa, trowch eich clust ataf. Bod yn Annibynnol

33:19 Boed fab neu wraig, boed frawd neu gyfaill, paid â rhoi i neb awdurdod arnat tra byddi byw. A phaid â rhoi dy feddiannau i arall, rhag ofn iti edifarhau a gorfod ymbil amdanynt yn ôl.
33:20 Tra bydd bywyd ac anadl yn dal ynot, paid â newid dy le â neb byw.
33:21 Y mae'n well fod dy blant yn ymbil arnat ti na'th fod ti'n gorfod disgwyl wrthynt hwy.
33:22 Ym mhopeth a wnei, myn fod ar y blaen, a phaid â goddef anaf i'th anrhydedd.
33:23 Yn y dydd y daw i ben ddyddiau d'einioes, yn amser dy farwolaeth, rhanna'r etifeddiaeth. Trin Caethwas

33:24 Porthiant a ffon a phwn sydd i asyn; bara a disgyblaeth a gwaith sydd i gaethwas.
33:25 Gwna i'th was weithio, ac fe gei di orffwys; gad ei ddwylo'n segur, a bydd yn ceisio'i ryddid.
33:26 Bydd iau a thennyn yn crymu gwar anifail, ac i'r caethwas drygionus y mae'r glwyd a'i harteithiau.
33:27 Gyr ef at ei waith, i'w gadw rhag segura, oherwydd dysgodd segurdod lawer o gastiau drwg.
33:28 Gosod ef i weithio, i hynny y mae'n bod, ac os yw'n anufudd rho lyffetheiriau trymach arno.
33:29 Ond paid â gosod gormod o faich ar neb, na gwneud dim nad yw'n gyfiawn.
33:30 Os un caethwas sydd gennyt, bydded fel ti dy hun, oherwydd â gwaed y prynaist ef.
33:31 Os un caethwas sydd gennyt, trin ef fel brawd, oherwydd bydd rhaid iti wrtho ef fel wrthyt dy hun. Os byddi'n ei gam-drin, ac yntau'n codi a ffoi, pa ffordd yr ei di i chwilio amdano?

Breuddwydion

34:1 Gobeithion ofer a thwyllodrus sydd gan y diddeall, a breuddwydion yw adenydd ffŵl.
34:2 Fel un a gais ddal ei gysgod neu ymlid y gwynt y mae'r sawl a rydd goel ar freuddwydion.
34:3 Nid yw'r hyn a welir mewn breuddwyd yn ddim namyn llun, cyffelybrwydd o wyneb mewn drych.
34:4 Beth a lanheir ag aflendid? A beth a wireddir â chelwydd?
34:5 Ofer pob dewiniaeth ac argoelion a breuddwydion— dychmygion y meddwl, fel eiddo gwraig mewn gwewyr esgor.
34:6 Onis anfonwyd gan ymweliad y Goruchaf, paid â chymryd sylw ohonynt.
34:7 Oherwydd y mae breuddwydion wedi arwain llawer ar gyfeiliorn, a dymchwel y rhai a obeithiodd ynddynt.
34:8 Cyflawnir y gyfraith heb gymorth y fath gelwydd, a chyflawnir doethineb ar enau geirwir. Teithio

34:9 Y mae'r sawl sydd wedi teithio wedi dysgu llawer, a bydd yr helaeth ei brofiead yn traethu synnwyr.
34:10 Ychydig a ŵyr y prin ei brofiad, ond bydd y sawl sydd wedi teithio yn amlhau ei fedrau.
34:11 Rwyf wedi gweld llawer ar fy nheithiau, ac rwy'n amgyffred pethau sydd y tu hwnt i'm geiriau.
34:12 Yn fynych bûm mewn perygl am fy einioes, ond dihengais ar bwys y profiadau hyn. Ofni'r Arglwydd

34:13 Byw fydd ysbryd y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, oherwydd y mae eu gobaith ar un sy'n eu hachub.
34:14 Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd, ni bydd nac ofnus na llwfr, oherwydd yn yr Arglwydd y mae ei obaith.
34:15 Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r Arglwydd. Wrth bwy y mae'n disgwyl? Pwy yw ei gadernid ef?
34:16 Y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai sy'n ei garu, yn amddiffynfa gadarn ac yn gynhaliaeth gref, yn gysgod rhag gwres tanbaid a rhag haul canol dydd, yn ddiogelwch rhag baglu ac yn gymorth rhag cwympo.
34:17 Y mae'n codi eu hysbryd ac yn goleuo eu llygaid, gan roi iddynt iechyd a bywyd a bendith. Offrymau

34:18 Halogedig yw offrwm a wneir o fudrelw, ac anghymeradwy yw rhoddion digyfraith.
34:19 Nid yw'r Goruchaf yn ymhyfrydu yn offrymau'r annuwiol, ac nid yw'n puro'u pechodau ar bwys amlder eu haberthau.
34:20 Y mae dwyn eiddo'r tlodion, a'i gynnig yn offrwm, fel aberthu mab yng ngŵydd ei dad.
34:21 Y mae bara'n fywyd i'r tlodion yn eu hangen, a llofrudd yw'r sawl a'i cymer oddi wrthynt.
34:22 Lladd ei gymydog y mae'r sawl sy'n dwyn ei fywoliaeth, a thywallt gwaed y mae'r sawl sy'n atal ei gyflog i weithiwr.
34:23 Os bydd un yn adeiladu a'r llall yn tynnu i lawr, pa elw fydd iddynt heblaw poen eu llafur?
34:24 Os bydd un yn gweddïo a'r llall yn melltithio, ar lais p'run y gwrendy'r Meistr?
34:25 Os ymolcha rhywun ar ôl cyffwrdd celain, a'i chyffwrdd eilwaith, pa faint gwell fydd o'i ymolchi?
34:26 Felly hefyd os ymprydia rhywun am ei bechodau, a mynd eilwaith a gwneud yr un pethau, pwy a wrendy ar ei weddi, a pha faint gwell fydd o'i ymostyngiad?

35:1 Y mae'r sawl sy'n cadw'r gyfraith eisoes yn amlhau offrymau, a'r sawl sy'n glynu wrth y gorchmynion eisoes yn aberthu heddoffrwm.
35:2 Y mae'r sawl sy'n talu cymwynas yn ôl yn offrymu peilliaid, a'r sawl sy'n rhoi elusen yn offrymu aberth moliant.
35:3 Y mae cefnu ar ddrygioni yn rhyngu bodd yr Arglwydd, a chefnu ar anghyfiawnder yn ennill maddeuant ganddo.
35:4 Paid ag ymddangos gerbron yr Arglwydd yn waglaw;
35:5 oherwydd gwneir y pethau hyn oll er mwyn cadw'r gorchymyn.
35:6 Y mae offrwm y cyfiawn yn eneinio'r allor, a'i arogl pêr yn dod gerbron y Goruchaf.
35:7 Y mae aberth y cyfiawn yn dderbyniol, a'i goffadwriaeth yn ddigoll.
35:8 Rho ogoniant i'r Arglwydd yn hael, heb warafun iddo ddim o flaenffrwyth llafur dy ddwylo.
35:9 Bydd siriol dy wyneb ym mhob rhoi, a bydd lawen wrth gysegru dy ddegwm.
35:10 Rho i'r Goruchaf fel y rhoes ef i ti, yn hael, yn ôl yr ennill a gefaist.
35:11 Oherwydd un sy'n talu'n ôl yw'r Arglwydd, ac fe dâl yn ôl i ti seithwaith cymaint. Duw'n Barnu'n Gyfiawn

35:12 Paid â cheisio'i brynu â rhodd, oherwydd nis derbyn; a phaid ag ymddiried mewn aberth anghyfiawn; oherwydd barnwr yw'r Arglwydd nad yw'n ystyried safle neb.
35:13 Yn ddi-dderbyn-wyneb yn achos y tlawd, fe wrendy ar ei ble os cafodd gam.
35:14 Ni fydd byth yn ddiystyr o ddeisyfiad yr amddifad, nac o'r weddw sy'n tywallt ei chŵyn.
35:15 Onid yw dagrau'r weddw yn llif ar ei gruddiau, wrth iddi lefain yn erbyn y sawl a'u cyffrôdd?
35:16 Bydd y sawl sy'n gwasanaethu Duw ac yn rhyngu ei fodd yn gymeradwy, a bydd ei weddi yn esgyn hyd at y cymylau.
35:17 Y mae gweddi'r gostyngedig yn treiddio'r cymylau, ond nis bodlonir nes iddi gyrraedd ei nod. Ni fydd yn peidio, nes i'r Goruchaf ymweld ag ef i farnu o blaid y cyfiawn, a gweini cosb.
35:18 Ni fydd yr Arglwydd byth yn oedi, ac ni fydd yn ymarhous wrthynt, nes iddo ddryllio llwynau'r anhrugarog, a dial ar y cenhedloedd; nes iddo fwrw allan dyrfa'r rhyfygus a dryllio teyrnwialen yr anghyfiawn;
35:19 nes iddo dalu'n ôl i bob un yn ôl ei gyflawniadau, a barnu gweithredoedd pawb yn ôl eu hamcanion; nes iddo mewn barn achub cam ei bobl, a pheri llawenydd iddynt â'i drugaredd.
35:20 Y mae trugaredd yn nydd cyfyngder mor amserol â chymylau glaw yn nydd sychder.

Gweddi dros Israel

36:1 Trugarha wrthym, O Arglwydd Dduw pawb; edrych arnom
36:2 a phâr i'r holl genhedloedd dy ofni di.
36:3 Cod dy law yn erbyn cenhedloedd estron, iddynt gael edrych ar dy allu di.
36:4 Fel y gwelsant hwy dy sancteiddrwydd yn ein hanes ni, gad i ninnau weld dy fawredd yn eu hanes hwy.
36:5 A phâr iddynt hwy ddeall, fel y deallasom ninnau, nad oes Duw ond tydi, O Arglwydd.
36:6 Gwna arwyddion newydd a rhyfeddodau gwahanol, i ddangos gogoniant dy law a'th fraich dde.
36:7 Deffro dy lid a thywallt dy ddigofaint; difroda dy wrthwynebwyr a difa dy elyn.
36:8 Prysura'r dydd a chofia dy lw; a phâr i bobl draethu dy fawrion weithredoedd.
36:9 Gad i dân dy ddigofaint ysu'r neb a gais ddianc, ac i golledigaeth oddiweddyd gorthrymwyr dy bobl.
36:10 Dryllia bennau tywysogion ein gelynion, sy'n dweud, “Nid oes neb ond nyni.”
36:11 Cynnull ynghyd holl lwythau Jacob, a chymer hwy'n etifeddiaeth iti, fel y gwnaethost gynt.
36:12 Trugarha, Arglwydd, wrth y bobl a elwir wrth dy enw, wrth Israel, a gymeraist fel dy gyntaf-anedig.
36:13 Tosturia wrth ddinas dy gysegr, wrth Jerwsalem, dy orffwysfa.
36:14 Llanw Seion â'th foliant a'th bobl â'th ogoniant.
36:15 Arddel yn awr y rhai a greaist yn y dechreuad, a chyflawna'r proffwydoliaethau a gyhoeddwyd yn dy enw.
36:16 Gwobrwya'r rhai sy'n disgwyl wrthyt, a chaffer dy broffwydi yn eirwir.
36:17 Clyw, Arglwydd, weddi'r rhai sy'n ymbil arnat, yn ôl bendith Aaron i'th bobl. Yna caiff pawb sydd ar y ddaear wybod mai ti yw'r Arglwydd, y Duw tragwyddol. Dewis

36:18 Fe gymer y stumog bob math o fwyd, ond y mae rhagor rhwng bwyd a bwyd mewn blas.
36:19 Fel y mae'r genau'n blasu cig yr helfa, y mae meddwl deallus yn synhwyro geiriau celwyddog.
36:20 Y mae meddwl gwrthnysig yn peri gofid, ond gall y profiadol ei dalu'n ôl.
36:21 Fe gymer benyw bob math o ddyn yn ŵr, ond y mae rhagor rhwng merch a merch mewn gwerth.
36:22 Y mae prydferthwch benyw yn sirioli wyneb dyn, ac yn peri chwant dwysach na dim arall.
36:23 Os yw ei thafod yn garedig ac addfwyn, nid yw ei gŵr yn safle'r rhelyw o ddynion.
36:24 A gymero wraig a ddaw'n berchen golud, ymgeledd cymwys iddo a cholofn i bwyso arni.
36:25 Lle na bo clawdd, bydd anrhaith ar eiddo; a lle na bo gwraig, bydd crwydro ac ochain.
36:26 Pwy a ymddiried mewn gwylliad ysgafndroed sy'n gwibio o dref i dref? Pwy, felly, a ymddiried mewn dyn heb ganddo nyth, sy'n clwydo lle bynnag y daw hi'n nos arno.

Cyfeillion Gau

37:1 Dywed pob cyfaill, “Yr wyf finnau'n gyfaill iti”; ond ceir hefyd gyfaill nad yw'n gyfaill ond mewn enw'n unig.
37:2 Onid gofid marwol i rywun yw cyfaill a chymar a dry'n elyn?
37:3 O feddylfryd drygionus, o ble yr ymdreiglaist ti i orchuddio'r ddaear â thwyll?
37:4 Ceir cymar sy'n ymhyfrydu yn llawenydd ei gyfaill, ond yn troi yn ei erbyn yn nydd ei gyfyngder.
37:5 Ond ceir hefyd gymar a gydlafuria â'i gyfaill er mwyn ymborth yn unig, ac eto fe gymer darian i'w amddiffyn rhag ei elyn.
37:6 Paid ag anghofio cyfaill a frwydrodd drosot, na'i ollwng dros gof pan ddoi'n gyfoethog. Bod yn Wyliadwrus wrth Dderbyn Cyngor

37:7 Y mae pob cynghorwr yn canmol ei gyngor, ond ceir hefyd gynghorwr nad yw'n cynghori ond er ei fudd ei hun.
37:8 Bydd ar dy wyliadwriaeth rhag y dyn sy'n cynnig cyngor, a myn wybod yn gyntaf beth fydd ei fantais ef— oherwydd yn ddiau bydd yn cynghori er budd iddo'i hun— rhag iddo beri i'r coelbren syrthio yn dy erbyn.
37:9 Gall ddweud wrthyt, “Mae'r ffordd yn glir iti”, ac yna sefyll o'r neilltu i weld beth a ddaw ohonot.
37:10 Paid ag ymgynghori â neb sy'n dy amau, a chuddia dy fwriad rhag y sawl sy'n eiddigeddus ohonot.
37:11 Paid ag ymgynghori â gwraig ynglŷn â'i chystadleuydd, nac â llwfrgi ynglŷn â rhyfel, nac â masnachwr ynglŷn â'i brisiau, nac â phrynwr ynglŷn â gwerthu, nac â'r crintachlyd ynglŷn â diolchgarwch, nac â'r angharedig ynglŷn â chymwynasgarwch, nac â diogyn ynglŷn â gwaith o unrhyw fath, nac â gwas a gyflogir wrth yr awr am orffen y gwaith, nac â gwas diog ynglŷn ag unrhyw orchwyl mawr; paid â gwrando ar gyngor y rhain ar unrhyw fater.
37:12 Ond yn hytrach bydd ddyfal yn ceisio cyngor y duwiol y gwyddost ei fod yn cadw'r gorchmynion, un sydd o'r un anian â thydi dy hun. Cei gydymdeimlad hwnnw os digwydd iti faglu.
37:13 Glŷn wrth gyngor dy feddwl dy hun, gan na chei ddim y gelli ymddiried mwy ynddo.
37:14 Oherwydd gall ymwybyddiaeth rhywun weithiau ddweud mwy wrtho na saith o wylwyr yn eistedd fry mewn tŵr gwylio.
37:15 Uwchlaw'r cwbl deisyf ar y Goruchaf, iddo ef dy gyfarwyddo ar hyd ffordd gwirionedd. Y Doeth yn Ennill Ymddiriedaeth

37:16 Dechrau pob gwaith yw ei drafod, ac yn blaenori ar bob ymgymeriad y mae ymgynghori.
37:17 Y mae newid yn y meddwl
37:18 yn dilyn pedwar tro ar fyd— da a drwg, bywyd a marwolaeth— a'r tafod sy'n eu rheoli bob un yn wastadol.
37:19 Gall rhywun fod yn amryddawn ac yn athro i lawer, ac eto fod yn anfuddiol iddo ef ei hun.
37:20 Gall rhywun fod yn feistr ar eiriau, ond yn atgas gan bawb; caiff hwn weld prinder bwyd,
37:21 am na roddodd yr Arglwydd raslonrwydd iddo, gan mor amddifad yw o ddoethineb.
37:22 Gall rhywun fod yn ddoeth er ei les ei hun, ond geiriau i'w credu fydd ffrwyth ei ddeallusrwydd.
37:23 Ond y dyn doeth, bydd ef yn athro i'w bobl ei hun, a phethau i'w credu fydd ffrwyth ei ddeallusrwydd.
37:24 Bydd yr un doeth yn ddihysbydd ei glod, ac yn hapus yng ngolwg pawb a'i gwêl.
37:25 Gellir rhifo dyddiau einioes dyn, ond y mae dyddiau Israel yn ddi-rif.
37:26 Bydd y doeth yn ennill ymddiriedaeth ymhlith ei bobl, a bydd ei enw fyw byth. Gwylio rhag Glythineb

37:27 Fy mab, profa dy hun yn ystod dy fywyd, a gwêl beth sy'n ddrwg iti, a phaid ag ymroi iddo.
37:28 Oherwydd nid yw pob peth yn fuddiol i bawb, ac nid yw pawb yn cael pleser ym mhob peth.
37:29 Paid â bod yn lwth am bob rhyw ddanteithion, a phaid â rhoi ei ffordd i'th flys am fwydydd.
37:30 Oherwydd daw afiechyd o orfwyta, a chyfog o lythineb.
37:31 Bu llawer farw o lythineb; ond y mae'r sawl sy'n gwylio rhagddo'n estyn hyd ei einioes.

Afiechyd A Meddygaeth

38:1 Rho i'r meddyg yr anrhydedd sy'n ddyledus am ei wasanaeth, oherwydd yr Arglwydd a'i creodd yntau.
38:2 Oddi wrth y Goruchaf y daw ei ddawn i iacháu, a chan y brenin y bydd yn derbyn rhodd.
38:3 Rhydd ei wybodaeth i'r meddyg safle aruchel, ac ennill iddo edmygedd yng ngŵydd y mawrion.
38:4 Creodd yr Arglwydd o'r ddaear gyffuriau meddygol, ac ni ddirmyga neb call mohonynt.
38:5 Onid â phren y melyswyd y dŵr, i wneud yn hysbys y rhin oedd iddo?
38:6 Rhoes ef i bobl wybodaeth, er mwyn cael ei ogoneddu trwy ei ryfeddodau.
38:7 Trwyddynt hwy y mae meddyg yn iacháu a symud y boen,
38:8 a'r fferyllydd yr un modd yn cymysgu cyffuriau. Ni cheir diwedd ar weithredoedd yr Arglwydd; oddi wrtho ef y daw heddwch dros wyneb y ddaear.
38:9 Fy mab, mewn afiechyd, paid â'i ddiystyru, ond gweddïa ar yr Arglwydd, a daw ef i'th iacháu.
38:10 Ymwrthod â'th fai, uniona dy ddwylo, a glanha dy galon o bob pechod.
38:11 Offryma berarogl a pheilliaid yn offrwm coffadwriaeth, ac aberth bras, y gorau sydd gennyt.
38:12 Yna, rho gyfle i'r meddyg, oherwydd yr Arglwydd a'i creodd yntau; paid â'i anfon ymaith, oherwydd y mae ei angen arnat.
38:13 Gall amser ddod pan fydd dy adferiad yn nwylo'r meddygon.
38:14 Oherwydd fe ddeisyfant hwythau ar yr Arglwydd am lwyddiant i'w hymdrech i leddfu poen, i iacháu'r claf ac achub ei fywyd.
38:15 A becho yn erbyn ei Greawdwr, rhodder ef yn nwylo meddyg. Galar dros y Meirw

38:16 Fy mab, gollwng ddagrau dros y marw, ac ymrô i alar yn dy ddioddefaint poenus; amdoa ei gorff mewn modd gweddus, a phaid ag esgeuluso'i gladdedigaeth.
38:17 Gan wylo'n chwerw a galarnadu'n angerddol, gwna dy alar yn deilwng ohono, am un diwrnod, ac am ddau, rhag bod edliw iti; yna, ymgysura yn dy dristwch;
38:18 oherwydd gall tristwch arwain i farwolaeth, a chalon drist sigo nerth dyn.
38:19 Mewn aflwydd, y mae tristwch hefyd yn aros, ac y mae byw i rywun tlawd yn loes i'w galon.
38:20 Paid â gollwng dy galon i dristwch, ond bwrw ef ymaith, a chofia am dy ddiwedd.
38:21 Paid â'i anghofio, oherwydd nid oes dychwelyd; ni wnei ddim lles i'r marw, a byddi'n dy niweidio dy hun.
38:22 Cofia'r farn a ddaeth arnaf fi, mai felly y daw arnat tithau— arnaf fi ddoe, ac arnat tithau heddiw.
38:23 Pan roddir y marw i orffwys, pâr i'w goffadwriaeth hefyd orffwys, ac ymgysura amdano, fod ei ysbryd wedi dianc. Amrywiol Orchwylion

38:24 O'i gyfle i gael hamdden y daw doethineb i rywun o ddysg; y lleiaf ei orchwylion a ddaw'n ddoeth.
38:25 Sut y gall rhywun ddod yn ddoeth, ac yntau wrth gyrn yr aradr, a'i ymffrost i gyd yn ei fedr â'r wialen, a'i fryd yn llwyr ar ychen, ac ar eu gyrru yn eu gwaith, heb fod ganddo unrhyw sgwrs ond am loi teirw?
38:26 Ar droi cwysi y rhydd ei fryd, a chyll ei gwsg i roi porthiant i'r heffrod.
38:27 Felly hefyd y mae pob crefftwr a meistr crefft sydd wrth ei waith nos a dydd: y rhai sy'n ysgythru ar seliau, gan ddyfal amrywio'r patrymau; ar gael yr union debygrwydd yn y llun y rhoddant eu bryd, a chollant eu cwsg i orffen y gwaith.
38:28 Felly hefyd y gof: y mae'n eistedd wrth yr eingion, yn craffu ar yr haearn sydd i'w weithio; bydd mwg ei dân yn crychu ei gnawd wrth iddo frwydro yng ngwres y ffwrnais; bydd sŵn y morthwyl yn atseinio yn ei glustiau, a'i lygaid yn syllu ar ei batrwm; ar gwblhau'r gwaith y rhydd ei fryd, a chyll ei gwsg i'w orffen yn gelfydd.
38:29 Felly hefyd y crochenydd: y mae'n eistedd wrth ei waith ac yn troi'r dröell â'i draed, mewn pryder yn wastad am ei waith, i gwblhau'r nifer a osodwyd iddo.
38:30 Â'i fraich y mae'n moldio'r clai, gan blygu tua'r llawr o'i flaen i arfer ei nerth. Ar sgleinio'r gwaith yn berffaith y rhydd ef ei fryd, a chyll ei gwsg i garthu'r ffwrnais.
38:31 Y mae'r rhain oll a'u hyder yn eu dwylo'u hunain, ac y mae pob un yn feistr ar ei grefft.
38:32 Hebddynt ni chyfanheddir dinas; ni ddaw iddi na thrigolion na theithwyr.
38:33 Eto ni ofynnir amdanynt ar gyfer cyngor y bobl, ac ni chodant i safle uchel yn y cynulliad; nid eisteddant ar fainc yr ynadon, ac ni allant ddeall dyfarniadau cyfreithiol nac esbonio egwyddorion disgyblaeth a chosb; ac ni cheir mohonynt yn traethu gwirebau.
38:34 Ond hwy sydd yn cynnal adeiladwaith y byd, a dilyn eu crefft yw eu gweddi.

Y Deallus

39:1 Ond fel arall y mae'r sawl sydd â'i fryd a'i feddwl ar gyfraith y Goruchaf. Chwilio y bydd ef am ddoethineb holl bobl yr hen oesoedd, a rhoi ei amser i fyfyrio ar y proffwydoliaethau.
39:2 Ceidw ymadroddion enwogion, gan dreiddio plygion astrus eu damhegion.
39:3 Fe ddwg i'r golau ystyron cudd y diarhebion, a daw'n gyfarwydd â holl ddirgeleddau'r damhegion.
39:4 Ymhlith mawrion y bydd yn gwasanaethu, ac yng ngŵydd llywodraethwyr y gwelir ef. Teithia mewn gwledydd estron, oherwydd cafodd brofiad o ddaioni a drygioni pobl.
39:5 Rhydd ei fryd ar godi'n fore i droi at yr Arglwydd, ei Greawdwr, i ymbil ger bron y Goruchaf, gan agor ei enau mewn gweddi, ac erfyn am faddeuant ei bechodau.
39:6 Os ewyllysia'r Arglwydd mawr, llenwir ef ag ysbryd deallus; yna fe dywallt eiriau ei ddoethineb ac offrymu diolch i'r Arglwydd mewn gweddi.
39:7 Fe geidw ei gyngor a'i wybodaeth ar lwybr union, a myfyria ar y pethau cudd a ŵyr.
39:8 Fe amlyga ddisgyblaeth ei addysg, ac yng nghyfraith cyfamod yr Arglwydd y bydd ei ymffrost.
39:9 Bydd llawer yn canmol ei ddeallusrwydd, na ddileir mohono byth; ni ddiflanna'r coffadwriaeth amdano, a bydd byw ei enw o genhedlaeth i genhedlaeth.
39:10 Bydd cenhedloedd yn traethu ei ddoethineb, a'r gynulleidfa'n canu ei glod.
39:11 Os caiff oes hir, bydd yn gadael enw sy'n rhagori ar fil, ac os â i'w orffwys yn gynnar, bydd hynny'n ddigon iddo. Emyn Mawl i Dduw

39:12 Y mae gennyf eto fwy o feddyliau i'w traethu, oherwydd yr wyf mor llawn ohonynt â lleuad ganol mis.
39:13 Gwrandewch arnaf, chwi feibion sanctaidd, a blagurwch fel rhosyn a blannwyd ar lan afon,
39:14 yn perarogli fel thus, yn blodeuo fel y lili; taenwch eich persawr a chanwch fawl, bendithiwch yr Arglwydd am ei holl weithredoedd.
39:15 Mawrygwch ei enw ef, a diolchwch iddo, gan ei foliannu â chaneuon eich gwefusau ac â thelynau. Dyma a ddywedwch i leisio'ch diolchgarwch:
39:16 “Mor wych yw holl weithredoedd yr Arglwydd! Cyflawnir ei holl orchmynion yn eu pryd.” Ni ddylai neb ofyn, “Beth yw hyn?” neu, “Pam y mae hyn?” Oherwydd y mae pob gwybodaeth i'w cheisio yn ei hiawn bryd.
39:17 Wrth ei air ef safodd y dŵr yn bentwr, ac wrth orchymyn ei enau cronnodd y dyfroedd.
39:18 Ar ei archiad, fe gyflawnir y peth a fyn, ac ni all neb gyfyngu ar ei allu achubol ef.
39:19 Y mae gweithredoedd pob un yn hysbys iddo, ac nid oes modd cuddio dim rhag ei lygaid.
39:20 O dragwyddoldeb i dragwyddoldeb y mae ef yn gwylio, ac nid oes dim a all beri syndod iddo.
39:21 Ni ddylai neb ofyn, “Beth yw hyn?” neu, “Pam y mae hyn?” Oherwydd y mae popeth wedi ei greu at ei bwrpas ei hun.
39:22 Y mae ei fendith yn llifo fel afon, fel gorlif yn disychedu'r tir cras.
39:23 Felly y rhydd i'r cenhedloedd ei ddigofaint yn etifeddiaeth, fel pan droes y fro ddyfradwy yn anialdir hallt.
39:24 I'r duwiolfrydig y mae ei ffyrdd yn union, ond i'r drygionus yn llawn maglau.
39:25 Daioni i'r rhai da—dyna drefn y creu o'r dechrau— ond drygioni i bechaduriaid.
39:26 Y pennaf o holl reidiau pob un i fyw yw dŵr, a thân, a haearn, a halen, a blawd gwenith, a llaeth, a mêl, a sudd grawnwin, ac olew, a dillad.
39:27 Y mae'r pethau hyn oll er lles i'r rhai duwiol; ond fe'u troir yn bethau er niwed i bechaduriaid.
39:28 Y mae gwyntoedd a grewyd i ddibenion dial, a'u ffrewyll yn ddidostur yn ei ddicter ef; pan ddaw amser y cyflawniad fe dywalltant eu nerth a lleddfu dicter eu creawdwr.
39:29 Tân, a chenllysg, a newyn, a marwolaeth, crewyd y rhain i gyd i ddibenion dial;
39:30 dannedd bwystfilod hefyd, ac ysgorpionau, a gwiberod, a'r cleddyf sy'n dial ar yr annuwiol a'u lladd.
39:31 Llawenychu a wnânt yn ei orchymyn ef, yn barod ar y ddaear at ei alwad; a phan ddaw'r amser ni fyddant yn anufudd i'w air.
39:32 Dyna pam y bûm yn ddisyfl o'r dechrau; myfyriais ar y peth, ac ysgrifennu cofnod i'w adael:
39:33 Gweithredoedd yr Arglwydd sy'n dda bob un, ac fe ddiwalla ef bob angen yn ei bryd.
39:34 Ni ddylai neb ddweud, “Y mae hwn yn waeth na hwnyna.” Oherwydd fe brofir popeth yn dda yn ei bryd.
39:35 Ac yn awr, canwch â'ch holl galon ac â'ch holl lais, a bendithiwch enw'r Arglwydd.

Gofidiau Bywyd

40:1 Caledwaith yw rhan pob un, a iau drom sydd ar feibion Adda, o'r dydd y dônt allan o groth eu mam hyd y dydd y dychwelant at fam pob peth:
40:2 eu meddyliau'n anniddig, a braw yn eu calon wrth ddisgwyl yn bryderus am ddydd eu marwolaeth.
40:3 O'r brenin yn ei ogoniant ar ei orsedd hyd at y tlawd yn y llwch a'r lludw;
40:4 o'r porffor ei wisg, â'i ben coronog, hyd at y truan yn ei sachliain;
40:5 dicter a chenfigen, cynnwrf a helbul yw eu rhan bob un, ac ofn marwolaeth, a dicllonedd, a chynnen. Hyd yn oed pan yw'n gorffwys yn ei wely, nid yw cwsg y nos ond yn newid ei feddyliau er gwaeth.
40:6 Ni chaiff nemor ddim gorffwys, ac nid yw ei gwsg, pan ddaw, yn ddim gwell na bod yn effro y dydd; a'i galon ar garlam mewn hunllef, y mae fel un wedi ffoi o faes y gad,
40:7 ac ar foment ei ddihangfa, y mae'n deffro ac yn rhyfeddu mor ddi-sail oedd ei ofn.
40:8 Dyma hanes pob cnawd, yn ddyn ac anifail, a seithwaith gwaeth yn hanes pechaduriaid:
40:9 marwolaeth, a thywallt gwaed, a chynnen, a chleddyf, trallodion, newyn, cyfyngder, a phla.
40:10 Ar gyfer y drygionus y crewyd y rhain i gyd, ac o'u hachos hwy y daeth y dilyw.
40:11 Y mae popeth sydd o'r ddaear yn dychwelyd i'r ddaear, a phopeth sydd o'r dyfroedd yn troi'n ôl i'r môr. Amrywiol Ddywediadau

40:12 Dileir pob prynu á rhodd, a phob anghyfiawnder, ond fe saif ffyddlondeb am byth.
40:13 Fel ffrwd yn sychu y bydd cyfoeth yr anghyfiawn, yn darfod fel twrw taran fawr mewn cawod o law.
40:14 Wrth agor ei ddwylo caiff rhywun lawenydd; yn yr un modd daw troseddwyr i ddifodiant llwyr.
40:15 Ni thyf llawer o ganghennau o gyff yr annuwiol, a'u gwreiddiau pwdr wedi eu plannu ar greigle noeth.
40:16 Y mae'r hesg sy'n tyfu lle bynnag y mae dŵr neu afon yn rhedeg yn haws eu tynnu nag unrhyw dyfiant arall.
40:17 Y mae rhadlonrwydd yn baradwys o fendithion, ac elusengarwch yn dragwyddol ei barhad. Pleserau Bywyd

40:18 Melys yw gweithio a bod yn hunangynhaliol, ond gwell na'r ddau yw dod o hyd i drysor.
40:19 Y mae cael plant ac adeiladu dinas yn sicrhau enw i rywun, ond gwell na'r ddau mewn bri yw gwraig ddi-fai.
40:20 Y mae gwin a cherddoriaeth yn llawenhau'r galon, ond gwell na'r ddau yw cariad at ddoethineb.
40:21 Y mae pibell a thelyn yn bêr eu sain, ond gwell na'r ddwy yw llais swynol.
40:22 Tegwch a phrydferthwch sydd wrth fodd y llygad, ond gwell na'r ddau yw egin glas yr ŷd.
40:23 Hyfryd yw taro ar gâr a chyfaill, ond gwell na'r ddau yw bod yn ŵr a gwraig.
40:24 Hyfryd yn amser cyfyngder yw cael teulu a chefnogaeth, ond gwell na'r ddau i achub yw elusengarwch.
40:25 Rhydd aur ac arian droedle sefydlog i rywun, ond gwell na'r ddau mewn bri yw cyngor buddiol.
40:26 Y mae cyfoeth a nerth yn codi calon rhywun, ond gwell na'r ddau yw ofn yr Arglwydd. Ni bydd neb ar ei golled o ofni'r Arglwydd, ac ni bydd rhaid iddo chwilio am gymorth arall.
40:27 Y mae ofn yr Arglwydd yn baradwys o fendithion, ac yn cysgodi rhywun yn well na phob gogoniant bydol. Cardota

40:28 Fy mab, paid â threulio dy oes yn byw ar gardod; gwell marw na chardota.
40:29 Y sawl sydd â'i lygad ar fwrdd rhywun arall, treulio'i oes y mae, nid byw; y mae'n ei lygru ei hun â bwyd rhywun arall, ond bydd rhywun o ddysg a disgyb-laeth yn ochelgar rhag hynny.
40:30 Gall cardota fod yn felys ar wefusau'r digywilydd, ond yn ei fol y mae'n dân yn llosgi.

Marwolaeth

41:1 O farwolaeth, mor chwerw yw cofio amdanat ti i un sy'n byw'n esmwyth ymysg ei feddiannau, i un dibryder sy'n llwyddo ym mhob ymgymeriad ac yn dal yn ddigon cryf i fwynhau ei fwyd!
41:2 O farwolaeth, gweddus yw dy ddedfryd di ar un anghenus a'i nerth yn pallu, wedi ei sigo gan henaint, yn bryderus am bob peth, yn wrthnysig, a'i amynedd ar ben!
41:3 Paid ag ofni dedfryd marwolaeth; cofia'r rhai a fu o'th flaen a'r rhai a ddaw ar dy ôl.
41:4 Dyma'r ddedfryd a gyhoeddodd yr Arglwydd ar bawb; pa les i ti wrthsefyll ewyllys y Goruchaf? Boed blynyddoedd dy einioes yn ddeg, neu'n gant, neu'n fil, yn Nhrigfan y Meirw ni bydd holi amdani. Tynged yr Annuwiol

41:5 Plant ffiaidd yw plant pechaduriaid, yn ymdroi yn nhrigfannau'r annuwiol.
41:6 Plant pechaduriaid, fe dderfydd eu hetifeddiaeth, a gwaradwydd fydd rhan eu hiliogaeth am byth.
41:7 Bydd ei blant yn beio tad annuwiol am y gwaradwydd a ddaeth arnynt o'i achos ef.
41:8 Gwae chwi, rai annuwiol, a gefnodd ar gyfraith y Duw Goruchaf.
41:9 Pan gewch eich geni, i felltith y'ch genir, a phan fyddwch farw, melltith fydd eich rhan.
41:10 Y mae popeth sydd o'r ddaear i ddychwelyd i'r ddaear; felly yr â'r annuwiol o felltith i ddistryw.
41:11 Galaru am eu cyrff a wna pobl, ond dileir enw pechaduriaid am nad yw'n dda.
41:12 Cymer ofal o'th enw, oherwydd fe erys i'th glod yn hwy na mil o gronfeydd mawr o aur.
41:13 I fywyd da y mae nifer penodedig o ddyddiau, ond y mae enw da yn aros am byth. Cywilydd

41:14 Fy mhlant, daliwch afael ar eich addysg, i fyw mewn heddwch. Doethineb guddiedig a thrysor anweledig, pa fudd sydd yn y naill na'r llall?
41:15 Gwell yw rhywun sy'n cuddio'i ffolineb na'r un sy'n cuddio'i ddoethineb.
41:16 Gan hynny, byddwch yn barchus o'm gair i, oherwydd nid yw pob math o gywilydd yn beth da i'w goleddu, ac nid yw pob peth i'w gymeradwyo'n ffyddiog bob amser.
41:17 Bydded cywilydd arnoch o buteindra yng ngŵydd tad a mam, o gelwydd yng ngŵydd tywysog a llywodraethwr,
41:18 o drosedd yng ngŵydd barnwr ac ynad, o gamwedd yng ngŵydd y gynulleidfa a'r bobl, o anghyfiawnder yng ngŵydd cydymaith a chyfaill,
41:19 ac o ladrad yng ngŵydd dy gymdogaeth; ymgywilyddiwch yng ngŵydd gwirionedd a chyfamod Duw. Bydded cywilydd arnat o osod dy benelin ar y bwrdd, o dderbyn a rhoi mewn dirmyg,
41:20 o fod yn fud yng ngŵydd y rhai sy'n dy gyfarch, o lygadu gwraig sy'n butain,
41:21 o droi dy wyneb oddi wrth dy gâr, o ddwyn cyfran neu rodd oddi ar rywun, o roi sylw i wraig a chanddi ŵr,
41:22 ac o ymyrryd â chaethferch dyn—paid â mynd yn agos at ei gwely hi. Bydded cywilydd arnat o eiriau bychanus yng ngŵydd cyfeillion— paid ag edliw iddynt dy rodd ar ôl ei rhoi.
41:23 Bydded cywilydd arnat o ailadrodd stori a glywaist, ac o fradychu cyfrinachau.
41:24 Yna byddi'n dangos cywilydd o'r iawn ryw, a byddi'n gymeradwy yng ngolwg pawb.

42:1 Dyma'r pethau na ddylai fod arnat gywilydd ohonynt, rhag iti bechu wrth geisio plesio eraill:
42:2 o gyfraith a chyfamod y Goruchaf, a'r ddedfryd sy'n cyfiawnhau'r annuwiol;
42:3 o gadw cyfrif gyda chydymaith neu gyd-deithwyr, a derbyn rhodd dan ewyllys cyfeillion;
42:4 o fod yn fanwl gywir â chloriannau a phwysau, a phrynu pethau mawr a mân,
42:5 a gwneud elw trwy fargeinio â masnachwyr; o ddisgyblu mynych ar blant, a thynnu gwaed o ystlys caethwas drwg.
42:6 Peth da yw sêl lle bo gwraig ddidoreth, a chlo lle bo dwylo lawer.
42:7 Beth bynnag a roddi i'w gadw, cymer ofal i'w rifo a'i bwyso, ac ym mhob rhoi a derbyn, cadw gofnod ysgrifenedig.
42:8 Na foed cywilydd arnat o gywiro'r anwybodus a'r ynfyd, neu rywun oedrannus sy'n dadlau â phobl ifainc. Byddi felly yn dangos iti gael addysg wirioneddol, a byddi'n gymeradwy gan bawb. Tad a Merch

42:9 Y mae merch yn bryder dirgel i'w thad, a phoeni amdani'n cadw cwsg draw: yn ei hieuenctid, rhag iddi fynd heibio i oed priodi, ac wedi iddi briodi, rhag i'w gŵr ddechrau ei chasáu;
42:10 yn ei gwyryfdod, rhag iddi gael ei halogi a dod yn feichiog yn nhŷ ei thad, ac wedi iddi gael gŵr, rhag iddi droseddu, neu rhag iddi, yn wraig briod, fod yn ddi-blant.
42:11 Cadw ferch anhydrin dan warchodaeth lem, rhag iddi dy wneud yn gyff gwawd i'th elynion, yn destun siarad yn y ddinas, yn ddihareb ymhlith y bobl, a rhag iddi ddwyn gwaradwydd arnat ger bron lliaws y boblogaeth.
42:12 Paid â gadael iddi ddangos ei thegwch i unrhyw ddyn, na chymryd ei chynghori gan y gwragedd.
42:13 Oherwydd o ddillad y daw pryf, ac o wraig ddrygioni gwraig.
42:14 Gwell yw drygioni dyn na gwraig dda ei gweithredoedd nad yw ond yn pentyrru gwarth ar waradwydd. Gogoniant Duw mewn Natur

42:15 Cofiaf yn awr weithredoedd yr Arglwydd, a thraethaf yr hyn a welais; trwy eiriau'r Arglwydd y gwneir ei weithredoedd.
42:16 Fel y mae llewyrch yr haul yn treiddio i bob man, felly y mae gogoniant yr Arglwydd yn llenwi ei waith.
42:17 Ni roddodd yr Arglwydd i'w angylion sanctaidd draethu ei holl ryfeddodau, sef y rheini a lanwodd yr Arglwydd hollalluog â'i nerth i beri i'r cyfanfyd sefyll yn ddiysgog yn ei ogoniant ef.
42:18 Y mae'r dyfnder diwaelod, a'r galon, yn hysbys iddo, a'u holl droeau cudd yn wybyddus ganddo, oherwydd y mae'r Goruchaf yn meddu ar bob gwybodaeth, ac yn gweld arwyddion pob oes.
42:19 Y mae'n cyhoeddi'r pethau a fu, a'r pethau a fydd, ac yn datguddio llwybr pethau dirgel.
42:20 Ni ddihangodd unrhyw wybodaeth rhagddo, ac ni chuddiwyd dim un gair o'i olwg.
42:21 Rhoes drefn ar fawrion weithredoedd ei ddoethineb; y mae yn bod o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb, un nad oes ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho, a heb fod arno angen cyngor neb.
42:22 Mor ddymunol yw ei holl weithredoedd ef, fel y gwelir hyd yn oed mewn gwreichionen.
42:23 Y mae pob un ohonynt a bywyd ynddi, ac yn para am byth, ac yn ufudd ym mhob defnydd a wneir ohoni.
42:24 Y mae dau o bob peth, y naill yn wrthwyneb i'r llall; ni wnaeth ef ddim yn ddiffygiol.
42:25 Y mae'r naill yn cadarnhau gwerth y llall. Pwy a all gael digon o syllu ar ei ogoniant ef?

43:1 Godidowgrwydd yr uchelder yw gloywder y ffurfafen, a golwg ar y gogoniant yw ffurfiad y nefoedd.
43:2 Yr haul ar ei gyfodiad, ac yn ei ymdaith trwy'r nen, yn cyhoeddi rhyfeddod ei greadigaeth dan law'r Goruchaf,
43:3 ac yn crino'r holl wlad cyn canol dydd, pwy a saif yn wyneb ei wres tanbaid ef?
43:4 Y mae megino ffwrnais yn creu gwres tanbaid, ond teirgwaith tanbeitiach yw'r haul, sy'n troi'r mynyddoedd yn fflam, ei chwyth yn darth o dân, a disgleirdeb ei belydrau'n dallu pob llygad.
43:5 Mawr yw'r Arglwydd, creawdwr hwn; ef, â'i air, sy'n ei brysuro ar ei daith.
43:6 A'r lleuad wedyn, sy'n cadw ei hoed yn ddi-feth, hi sy'n datgan yr amserau ac yn nodi'r cyfnodau,
43:7 hi sy'n pennu dydd gŵyl— y goleuad sy'n gwanhau wrth ddod i ben ei rawd.
43:8 Wrthi hi yr enwir y mis, a hithau ar newydd wedd yn prifio'n rhyfeddol. Hi yw llusern lluoedd yr uchelder, yn rhoi ei goleuni yn ffurfafen y nef.
43:9 Y sêr yn eu gogoniant yw prydferthwch y nef, llu goleulon uchelderau'r Arglwydd.
43:10 Ar archiad yr Un Sanctaidd fe safant yn eu trefn, heb ddiffygio byth yn eu gwyliadwriaethau.
43:11 Edrych ar fwa'r enfys a folianna'i greawdwr; teg odiaeth yw ei lewyrch ef,
43:12 yn amgylchu'r nef â chylch o ysblander, wedi ei dynnu gan ddwylo'r Goruchaf.
43:13 Ei orchymyn ef sy'n prysuro'r eira, ac yn cyflymu mellt ei farnedigaethau.
43:14 Felly hefyd yr agorir yr ystordai i'r cymylau hedfan allan fel adar.
43:15 Â'i allu nerthol y crynhoir y cymylau ac y melir y cesair mân.
43:16 Ar ei ymddangosiad fe ysgydwir y mynyddoedd, ac wrth ei ewyllys y chwyth y deheuwynt;
43:17 wrth sŵn ei daran y gwinga'r ddaear, a daw tymestl o'r gogledd, a chorwynt. Y mae'n taenu'r plu eira fel adar yn disgyn; dônt i lawr fel haid o locustiaid yn glanio.
43:18 Rhyfeddod i'r llygad yw tegwch eu gwynder, a syndod i'r galon yw eu gweld yn disgyn.
43:19 A'r barrug, y mae'n ei dywallt ar y ddaear fel halen, a hwnnw wedyn yn rhewi'n ddrain pigog.
43:20 Y mae gwynt oer y gogledd yn chwythu ac yn caledu'r rhew ar wyneb y dŵr; ar bob cronfa o ddŵr fe ddaw'r rhew, a'r dŵr yn ei wisgo fel llurig.
43:21 Y mae'n difa'r mynyddoedd ac yn llosgi'r anialwch, ac yn crino'r borfa fel tân.
43:22 Yn sydyn daw niwlen i iacháu pob peth; ac wedi'r gwres, y gwlith yn disgyn i sirioli'r wlad.
43:23 Llonyddodd ef y dyfnfor â grym ei feddwl, a phlannodd ynysoedd ynddo.
43:24 Y mae'r rhai sy'n hwylio ar y môr yn traethu am ei beryglon, nes peri syndod i ni sy'n eu clywed.
43:25 Ynddo gwelir creaduriaid anhygoel a rhyfeddol, anifeiliaid o bob rhywogaeth ac angenfilod y môr.
43:26 O'i allu ei hun fe ddwg i ben ei holl amcanion, ac yn ei air ef y mae popeth yn cydsefyll.
43:27 Faint bynnag a ddywedwn, ni allwn byth ddod i ben. Swm a sylwedd yr hyn a draethwyd yw: ef yw'r cyfan.
43:28 O ble y cawn fedr i ganu ei glod? Oherwydd mwy yw ef na'i weithredoedd i gyd.
43:29 Ofnadwy yw'r Arglwydd, a mawr iawn, a rhyfeddol yw ei allu ef.
43:30 Gogoneddwch yr Arglwydd, dyrchafwch ef hyd eithaf eich gallu, oherwydd rhagorach lawer yw na'ch mawl; dyrchafwch ef, ymegnïwch yn fwyfwy heb ddiffygio dim, oherwydd ni ddewch byth i ben.
43:31 Pwy a'i gwelodd ef, i fedru traethu amdano? A phwy a all ei fawrhau yn deilwng o'r hyn ydyw?
43:32 Y mae llawer o ddirgelion mwy na'r rhai hyn yn aros, oherwydd ni welsom ond ychydig o'i weithredoedd ef.
43:33 Yr Arglwydd a wnaeth bob peth, ac ef a roes i'r rhai duwiol ddoethineb.

Mawl i'n Cyndadau

44:1 Canwn fawl, yn awr, i wŷr o fri, ie, i'n cyndadau, a'n cenhedlodd ni.
44:2 Eu mawr ogoniant, yr Arglwydd a'i sicrhaodd, yn amlygiad o'i fawrhydi o ddechrau'r byd.
44:3 Bu rhai yn llywodraethwyr ar eu teyrnasoedd, ac yn wŷr enwog yn eu gallu nerthol. Bu eraill yn gynghorwyr yn eu dealltwriaeth, ac yn traethu geiriau proffwydoliaeth.
44:4 Bu rhai'n cyfarwyddo'r bobl â'u cynghorion ac â'u dealltwriaeth o addysg y bobl, yn hyfforddi â geiriau doeth.
44:5 Yn eu plith yr oedd cyfansoddwyr cerddoriaeth ac awduron arwrgerddi ein llên.
44:6 Yr oedd rhai yn wŷr cyfoethog a chryf eu hadnoddau, yn byw'n heddychlon yn eu cartrefi.
44:7 Y rhain i gyd, cawsant glod yn eu cenedlaethau, a dod yn achos ymffrost yn eu hamserau.
44:8 Y mae rhai ohonynt a adawodd enw ar eu hôl, i bobl allu traethu eu clod yn llawn.
44:9 Ond y mae eraill nad oes iddynt goffadwriaeth; darfu amdanynt fel pe baent heb eu geni; aethant fel rhai na fuont erioed, a'u plant ar eu holau yr un modd.
44:10 Ond nid felly ein cyndadau; gwŷr teyrngar oeddent hwy, ac nid aeth eu gweithredoedd da yn angof.
44:11 Trwy eu had fe erys eu hiliogaeth yn etifeddiaeth deg.
44:12 Saif eu had oddi mewn i'r cyfamodau, a thrwyddynt hwy, eu plant hwythau.
44:13 Fe erys eu had am byth, ac ni ddileir y clod sydd iddynt.
44:14 Cleddir eu cyrff mewn heddwch, ond bydd eu henw'n fyw am genedlaethau.
44:15 Bydd pobloedd yn traethu eu doethineb, a'r gynulleidfa'n canu eu clod. Enoch a Noa

44:16 Rhyngodd Enoch fodd yr Arglwydd, a chymerwyd ef ymaith, yn batrwm o edifeirwch i bob cenhedlaeth.
44:17 Cafwyd Noa yn ŵr perffaith a chyfiawn, ac yn nydd digofaint fe ddaeth yn ddirprwy y byd. O'i achos ef gadawyd gweddill ar y ddaear pan ddaeth y dilyw.
44:18 Gwnaed cyfamod tragwyddol ag ef, na châi dim sy'n byw ei ddileu byth eto gan ddilyw. Abraham

44:19 Abraham oedd cyndad mawr llu o genhedloedd, ac ni chafwyd ei debyg mewn bri.
44:20 Cadwodd ef gyfraith y Goruchaf a dod i gyfamod ag ef, gan roi nod y cyfamod ar ei gnawd; ac yn y prawf fe'i cafwyd yn ffyddlon.
44:21 Am hynny rhoes yr Arglwydd sicrwydd iddo trwy lw y câi cenhedloedd fendith trwy ei had ef, y lluosogai hwy fel llwch y ddaear, a'u dyrchafu fel y sêr, ac y byddai eu hetifeddiaeth yn ymestyn o fôr i fôr, ac o'r Afon hyd eithafoedd y ddaear. Isaac a Jacob

44:22 Rhoes yr un sicrwydd i Isaac, er mwyn Abraham ei dad,
44:23 am fendith i'r ddynolryw gyfan, a chyfamod; a pharodd iddynt orffwys ar ben Jacob. Fe'i cydnabu â'i fendithion, a rhoi iddo dir yn etifeddiaeth, gan bennu ei randiroedd a'u dosbarthu rhwng y deuddeg llwyth.

Moses

45:1 O hil Jacob cododd Duw ŵr teyrngar iddo, a gafodd ffafr yng ngolwg pobun, a'i garu gan Dduw a phobl; Moses oedd ef, o fendigedig goffadwriaeth.
45:2 Lluniodd Duw ef yn un mewn gogoniant â'r angylion sanctaidd, a pheri i'w elynion ei ofni'n ddirfawr.
45:3 Trwy ei air ef rhoes Duw derfyn ar yr arwyddion; a rhoes iddo anrhydedd yng ngŵydd brenhinoedd. Rhoes iddo orchmynion ar gyfer ei bobl, a dangos iddo rywbeth o'i ogoniant ei hun.
45:4 Am ei ffydd a'i addfwynder, fe'i cysegrodd, a'i ddewis ef o blith pawb byw.
45:5 Caniataodd iddo glywed ei lais, a'i arwain i mewn i'r cwmwl tywyll; wyneb yn wyneb, rhoes iddo'r gorchmynion, cyfraith i roi bywyd a gwybodaeth, i ddysgu ei gyfamod i Jacob a'i farnedigaethau i Israel. Aaron

45:6 Dyrchafodd Aaron hefyd, gŵr sanctaidd fel Moses, a brawd iddo, o lwyth Lefi.
45:7 Gwnaeth gyfamod tragwyddol ag ef, a rhoi offeiriadaeth ei bobl iddo. Addurnodd ef â thlysau cain a'i arwisgo â mantell ogoneddus.
45:8 Gwisgodd ef ag ysblander cyflawn, a'i gadarnhau ag arwyddion awdurdod— y llodrau, y fantell laes a'r grysbas.
45:9 Gwregysodd ef â phomgranadau, a'i amgylchu ag amlder o glychau aur i ganu a seinio gyda phob cam o'i eiddo, nes bod eu sŵn i'w glywed yn y cysegr, yn alwad i'r bobl i'w gofio.
45:10 Rhoes iddo wisg sanctaidd o aur a sidan glas a phorffor, o waith brodiwr; dwyfronneg barn, ynghyd â'r Wrim a'r Twmim; y bleth o ysgarlad, o waith crefftwr;
45:11 y meini gwerthfawr, wedi eu hysgythru fel seliau a'u gosod mewn aur, o waith gemydd, yn dwyn arysgrifen gerfiedig yn goffadwriaeth, a'u rhif yn ôl llwythau Israel;
45:12 y goron aur ar ei benwisg, wedi ei hysgythru, fel sêl, â'r gair “Sancteiddrwydd”, yn anrhydedd i ymfalchïo ynddo, yn waith godidog, yn addurn i foddhau holl ddymuniant y llygaid.
45:13 Cyn ei amser ef, ni bu erioed y fath addurniadau gwych; ac nis gwisgwyd erioed gan neb nad oedd o'i deulu, neb ond ei feibion ef yn unig, a'i ddisgynyddion ym mhob cyfnod.
45:14 Llwyr losgir ei holl offrymau ef ddwywaith bob dydd yn wastadol.
45:15 Moses a'i cysegrodd ef, a'i eneinio ag olew sanctaidd; daeth hyn yn gyfamod tragwyddol iddo ef, ac i'w ddisgynyddion holl ddyddiau'r nef: ei fod i weinidogaethu i'r Arglwydd a gwasanaethu fel offeiriad, a bendithio'i bobl yn ei enw ef.
45:16 Dewisodd ef o blith pawb byw i offrymu aberth i'r Arglwydd, arogldarth peraidd yn goffadwriaeth, ac yn foddion puredigaeth pechodau dy bobl.
45:17 Rhoes iddo ef, gyda'i orchmynion, awdurdod i ddyfarnu ar amodau'r cyfamod, i ddysgu i Jacob ei ddatganiadau ac i oleuo Israel yn ei gyfraith.
45:18 Mewn cynllwyn yn tarddu o genfigen, cododd gwŷr nad oeddent o'i deulu yn ei erbyn yn yr anialwch, Dathan ac Abiram a'u gwŷr, a charfan Cora yn eu llid a'u dicter.
45:19 Gwelodd yr Arglwydd hyn, a'i gael yn anghymeradwy; fe'u llwyr ddinistriodd yn llid ei ddicter. Gwnaeth ryfeddodau yn eu herbyn i'w difa â fflam ei dân.
45:20 Ond ychwanegodd at ogoniant Aaron a rhoi iddo etifeddiaeth; rhannodd i'r offeiriaid flaenffrwyth ei gynnyrch gorau, a sicrhau iddynt hwy yn gyntaf ddigonedd o fara.
45:21 Oherwydd hwy a gaiff fwyta aberthau'r Arglwydd; y maent wedi eu rhoi i Aaron a'i ddisgynyddion.
45:22 Eto ni bydd iddo etifeddiaeth yn nhir ei bobl; nid oes iddo randir yn eu plith, oherwydd yr Arglwydd ei hun yw ei randir a'i etifeddiaeth ef. Phineas

45:23 Phineas fab Eleasar yw'r trydydd mewn bri, am ei sêl yn ofni'r Arglwydd, ac am iddo sefyll yn gadarn pan wrthryfelodd y bobl, yn hael ac eiddgar ei ysbryd, gan sicrhau puredigaeth pechodau i Israel.
45:24 Am hynny sefydlwyd cyfamod hedd ag ef, i'w osod yn ben ar y cysegr ac ar ei bobl, fel mai'r eiddo ef a'i ddisgynyddion fyddai braint yr offeiriadaeth yn oes oesoedd.
45:25 Fel y bu yn y cyfamod a wnaed â Dafydd, mab Jesse o lwyth Jwda, fod etifeddiaeth y brenin i fynd o fab i fab yn unig, felly hefyd yr oedd etifeddiaeth Aaron i fynd i'w ddisgynyddion ef.
45:26 Rhodded yr Arglwydd ichwi ddoethineb yn eich meddwl i farnu ei bobl mewn cyfiawnder, fel na bydd i rinweddau eich cyndadau ddiflannu, ac y cedwir eu gogoniant i genedlaethau o'u plant.

Josua

46:1 Gŵr nerthol mewn rhyfel oedd Josua fab Nun, olynydd Moses yn ei swydd broffwydol. Bu cystal â'i enw, yn rymus i roi gwaredigaeth i etholedigion yr Arglwydd, ac i ddial ar y gelynion a godai yn eu herbyn, er mwyn sicrhau ei hetifeddiaeth i Israel.
46:2 Mor ogoneddus ydoedd wrth godi ei ddwylo a chwifio'i gleddyf wrth ymosod ar ddinasoedd!
46:3 Pwy o'i flaen ef a safodd mor gadarn? Oherwydd ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd yr oedd ef.
46:4 Onid ei fraich ef a ataliodd yr haul, ac estyn un dydd dros ddau?
46:5 Galwodd ar y Goruchaf, y Duw nerthol, pan oedd ei elynion yn gwasgu arno ar bob tu, ac atebodd yr Arglwydd mawr ef â
46:6 grym nerthol storm o genllysg. Rhuthrodd ar y genedl mewn cyrch, a dinistrio'i wrthwynebwyr ar y goriwaered, i beri i'r cenhedloedd ddeall am ei arfogaeth lawn, fod ei filwriaeth dan ofal yr Arglwydd, oherwydd canlyn y Duw nerthol a wnaeth ef. Caleb

46:7 Yn nyddiau Moses hefyd fe brofodd ei deyrngarwch, ef a Chaleb fab Jeffune, trwy wrthwynebu'r cynulliad ac atal y bobl rhag pechu, a rhoi taw ar eu grwgnach drygionus.
46:8 A dyma'r unig ddau a ddihangodd yn fyw, o'r chwe chan mil o wŷr traed, i gael mynediad i mewn i'w hetifeddiaeth yn y wlad oedd yn llifeirio o laeth a mêl.
46:9 Rhoes yr Arglwydd i Caleb gryfder a barhaodd gydag ef hyd ei henaint, i'w alluogi i droedio ar uchelfannau'r wlad y mae ei ddisgynyddion wedi ei meddiannu'n etifeddiaeth.
46:10 Felly daeth holl blant Israel i weld mai da yw canlyn yr Arglwydd. Y Barnwyr

46:11 A'r barnwyr hefyd, y mae i bob un ohonynt ei enw da, ni bu neb ohonynt yn anffyddlon yn ei amcanion, ac ni chefnodd neb ohonynt ar yr Arglwydd. Bendigedig fo'u coffadwriaeth hwy!
46:12 Bydded i'w hesgyrn egino eto o'r ddaear lle'u claddwyd, a bydded i enwau'r rhai hyglod hyn ennill bri tebyg yn hanes eu plant. Samuel

46:13 Gŵr annwyl yng ngolwg ei Arglwydd oedd Samuel; fel proffwyd yr Arglwydd sefydlodd y frenhiniaeth ac eneinio llywodraethwyr ar ei bobl.
46:14 Barnodd y gynulleidfa wrth gyfraith yr Arglwydd, a daeth yr Arglwydd i warchod Jacob.
46:15 Trwy ei ffyddlondeb fe'i profwyd yn wir broffwyd, a thrwy ei eiriau daethpwyd i'w adnabod fel un cywir ei welediad.
46:16 Galwodd ar yr Arglwydd nerthol, pan oedd ei elynion yn gwasgu arno ar bob tu, ac offrymodd oen sugno yn aberth.
46:17 Yna taranodd yr Arglwydd o'r nef a pharodd glywed ei lais â sŵn mawr.
46:18 Difaodd arweinwyr y Tyriaid a holl lywodraethwyr y Philistiaid.
46:19 A chyn dyfod yr amser iddo fynd i'w hun dragwyddol, tystiolaethodd Samuel gerbron yr Arglwydd a'i eneiniog: “Ni ddygais ddim o'i eiddo oddi ar neb, naddo, ddim cymaint â'i sandalau.” Ac nid oedd neb a'i cyhuddodd.
46:20 Hyd yn oed ar ôl iddo huno, fe broffwydodd a rhybuddio'r brenin o'i farwolaeth, gan fwrw ei lais i fyny o'r ddaear mewn proffwydoliaeth, i ddileu camwedd y bobl.

Nathan

47:1 Ar ei ôl ef cododd Nathan i broffwydo yn nyddiau Dafydd. Dafydd

47:2 Fel braster wedi ei wahanu oddi wrth yr heddoffrwm, felly y neilltuwyd Dafydd oddi wrth blant Israel.
47:3 Chwaraeodd â llewod fel pe baent yn fynnod ac ag eirth fel pe baent yn ŵyn o'r praidd.
47:4 Yn ei ieuenctid oni laddodd ef gawr, a symud eu gwaradwydd oddi ar y bobl trwy godi ei law i fwrw carreg â'i ffon dafl a darostwng trahauster Goliath?
47:5 Oherwydd galwodd ar yr Arglwydd Goruchaf, a rhoes yntau nerth i'w ddeheulaw i daro i lawr y rhyfelwr cadarn hwnnw a chodi ei bobl i fuddugoliaeth.
47:6 Felly clodforwyd ef am y myrddiynau a drechodd, a'i ganmol am gael bendithion yr Arglwydd, pan wisgwyd ef â choron ogoneddus.
47:7 Oherwydd difaodd y gelynion ar bob tu, a diddymu'r Philistiaid a'i gwrthsafodd; drylliodd eu grym hyd y dydd hwn.
47:8 Yn ei holl weithgarwch rhoes ddiolch i'r Un Sanctaidd a Goruchel, a datgan ei ogoniant; â'i holl galon canodd fawl, a mynegi ei gariad at ei Greawdwr.
47:9 Gosododd gantorion gerbron yr allor i felysu'r gân â'i hyfrydlais.
47:10 Rhoes wedduster i'w gwyliau, a threfnu cylch cyflawn yr amserau i foliannu enw sanctaidd yr Arglwydd, a llenwi'r cysegr â sŵn mawl o'r bore bach.
47:11 Dileodd yr Arglwydd ei bechodau a'i ddyrchafu i awdurdod tragwyddol; gwnaeth gyfamod ag ef, i'w godi yn frenin a'i osod ar orsedd ogoneddus Israel. Solomon

47:12 Ar ei ôl ef cododd ei fab, gŵr doeth, a gafodd, trwy ymdrech ei dad, ehangder i drigo ynddo.
47:13 Teyrnasodd Solomon mewn dyddiau o heddwch, a rhoes Duw lonyddwch o'i amgylch ar bob tu, er mwyn iddo godi tŷ er gogoniant i'w enw ef, a darparu cysegr i bara am byth.
47:14 Mor ddoeth fuost, Solomon, yn dy ieuenctid, a'th ddealltwriaeth fel afon yn gorlifo!
47:15 Ymledodd dy ddylanwad dros y ddaear a'i llenwi â diarhebion a dirgelion.
47:16 Daeth dy enw'n hysbys yn yr ynysoedd pell, a daethpwyd i'th garu am heddwch dy deyrnasiad.
47:17 Daeth dy gerddi, dy gyffelybiaethau, dy ddiarhebion a'th ddehongliadau yn rhyfeddod yng ngolwg y gwledydd.
47:18 Yn enw'r Arglwydd Dduw, a adwaenir fel Duw Israel, cesglaist aur fel casglu alcam, a phentyrru arian fel petai'n blwm.
47:19 Gollyngaist dy hun i gydorwedd â gwragedd, a rhoi iddynt hawl ar dy gorff.
47:20 Difwynaist dy enw da a halogi dy hiliogaeth; dygaist ddigofaint ar dy blant, a gofid iddynt am dy ffolineb:
47:21 rhannwyd y frenhiniaeth; ac o Effraim cododd teyrnas wrthryfelgar.
47:22 Ond nid yw'r Arglwydd byth yn ymwadu â'i drugaredd nac yn torri'r un o'i addewidion; ac nid yw am ddileu llinach ei etholedig na difodi hiliogaeth yr un a'i carodd ef; felly rhoes weddill i Jacob, ac i Ddafydd un gwreiddyn o'i gyff. Rehoboam a Jeroboam

47:23 Yna gorffwysodd Solomon gyda'i hynafiaid, gan adael i'w olynu un o'i feibion, ynfytyn y genedl, a'r gwannaf ei ddeall, Rehoboam, y gyrrodd ei amcanion y bobl i wrthryfela. Wedyn daeth Jeroboam fab Nebat, a wnaeth i Israel bechu ac a osododd Effraim ar lwybr pechod.
47:24 Amlhaodd eu pechodau yn ddirfawr, nes eu gyrru'n alltud o'u gwlad.
47:25 Rhoesant gynnig ar bob math o ddrygioni, nes i'r farnedigaeth ddisgyn arnynt.

Elias

48:1 Yna cododd Elias, proffwyd a oedd fel tân, a'i air yn llosgi fel ffagl.
48:2 Daeth â newyn arnynt, a thrwy ei sêl fe'u gwnaeth yn ychydig.
48:3 Trwy air yr Arglwydd fe gaeodd y nefoedd, a'r un modd daeth â thân i lawr deirgwaith.
48:4 Mor ogoneddus fuost, Elias, yn dy weithredoedd rhyfeddol! Gan bwy y mae hawl i ymffrostio fel tydi?
48:5 Ti, yr hwn a gododd gelain o farwolaeth, ie, o Drigfan y Meirw, trwy air y Goruchaf;
48:6 a fwriodd frenhinoedd i ddistryw, a gwŷr o fri o'u gwelyau i'w tranc;
48:7 a glywodd geryddu yn Sinai a dyfarnu dial yn Horeb;
48:8 a eneiniodd frenhinoedd i dalu'r pwyth, a phroffwydi i fod yn olynwyr iddo;
48:9 a gymerwyd i fyny mewn corwynt o dân, mewn cerbyd a'i geffylau yn wenfflam;
48:10 ie, yr hwn yr ysgrifennwyd amdano y daw â'i geryddon yn eu priod amserau, i ostegu'r llid cyn dyfod y digofaint, i gymodi tad â'i fab ac i adfer llwythau Jacob.
48:11 Gwyn eu byd y rhai a'th welodd ac a hunodd yn dy gariad; oherwydd fe gawn ni fyw yn ddiau. Eliseus

48:12 Wedi i Elias ddiflannu yn y corwynt, llanwyd Eliseus â'i ysbryd ef. Trwy gydol ei ddyddiau ni tharfwyd arno gan lywodraethwr, ac ni allodd neb gael y trechaf arno.
48:13 Ni bu dim y tu hwnt iddo, ac wedi iddo huno, proffwydodd ei gorff.
48:14 Yn ei fywyd gwnaeth ryfeddodau, ac yn ei farwolaeth weithredoedd i synnu atynt. Cosbi'r Genedl Anffyddlon

48:15 Er hyn i gyd, nid edifarhaodd y bobl, na chefnu ar eu pechodau, nes eu dwyn yn ysbail o'u gwlad a'u gwasgaru ar hyd a lled y ddaear. Gadawyd y genedl yn fechan iawn dan lywodraethwr o dŷ Dafydd,
48:16 rhai ohonynt a'u gweithredoedd yn gymeradwy, ac eraill yn pentyrru pechodau. Heseceia

48:17 Gwnaeth Heseceia ei ddinas yn gadarnle, a dwyn dŵr i mewn i'w chanol hi; tyllodd drwy'r graig ag offer o haearn a llunio cronfeydd i'r dyfroedd.
48:18 Yn ei ddyddiau ef daeth Senacherib i ymosod ar y wlad, ac anfonodd Rabsace o Lachis; cododd ei law yn erbyn Seion, gan ymffrostio'n drahaus.
48:19 Yna, a'u calonnau a'u dwylo yn gryndod i gyd, ac mewn gwewyr fel gwragedd yn esgor,
48:20 galwasant ar yr Arglwydd trugarog, gan estyn eu dwylo tuag ato; a buan y gwrandawodd yr Un Sanctaidd o'r nef arnynt, a'u gwaredu trwy law Eseia.
48:21 Trawodd wersyll yr Asyriaid, a'u difa trwy ei angel. Eseia

48:22 Oherwydd gwnaeth Heseceia yr hyn a ryngai fodd yr Arglwydd, a chadw'n ddiysgog at ffyrdd Dafydd ei gyndad, yn unol â gorchymyn Eseia, y proffwyd mawr y gellid ymddiried yn ei weledigaeth.
48:23 Yn ei ddyddiau ef fe drowyd yr haul yn ei ôl, ac estynnodd ef einioes y brenin.
48:24 Trwy ysbrydoliaeth fawr rhagwelodd y pethau olaf, a rhoes gysur i'r galarwyr yn Seion.
48:25 Datguddiodd y pethau oedd i ddod hyd ddiwedd amser, a'r pethau dirgel, cyn iddynt ddigwydd.

Joseia

49:1 Y mae coffadwriaeth Joseia fel arogldarth wedi ei weithio'n fedrus a'i ddarparu gan beraroglydd; y mae ei felyster fel mêl i bob genau, neu fel cerddoriaeth mewn gwledd o win.
49:2 Gweithredodd ef yn uniawn er tröedigaeth y bobl, gan fwrw ymaith bob ffieiddbeth anghyfreithlon.
49:3 Cyfeiriodd ei galon yn union at yr Arglwydd, ac yn nyddiau gwrthod y gyfraith bu'n gadarn ei ymlyniad wrth wir grefydd. Jeremeia

49:4 Ac eithrio Dafydd a Heseceia a Joseia, pentyrru trosedd ar drosedd a wnaeth pob brenin; cefnasant ar gyfraith y Goruchaf. Ac felly y darfu am frenhinoedd Jwda,
49:5 oherwydd ildiasant eu gallu i eraill a'u gogoniant i genedl estron.
49:6 Llosgwyd y ddinas etholedig, cartref y cysegr, a gadael ei heolydd yn ddiffeithwch,
49:7 fel y proffwydodd Jeremeia, y gŵr hwnnw a gamdriniwyd, ac yntau wedi ei gysegru'n broffwyd yn y groth, i ddiwreiddio, i ddrygu ac i ddinistrio, a hefyd i adeiladu ac i blannu. Eseciel

49:8 Gwelodd Eseciel yntau weledigaeth o'r gogoniant a ddatguddiwyd iddo uwchlaw cerbyd y cerwbiaid.
49:9 Oherwydd cofiodd Duw am ei elynion â chawod ei ddigofaint, a'r rhai union eu llwybrau â'i fendithion. Y Deuddeg Proffwyd

49:10 Bydded i esgyrn y deuddeg proffwyd, felly, egino eto o'r ddaear lle'u claddwyd, oherwydd rhoesant gysur i Jacob a gwaredu'r bobl â'u gobaith ffyddiog. Sorobabel a Josua

49:11 Sut y mae datgan mawredd Sorobabel? Yr oedd ef fel sêl-fodrwy ar law dde'r Arglwydd.
49:12 A'r un modd Josua fab Josedec. Dyma'r ddau yn eu dydd a adeiladodd y tŷ a chodi i'r Arglwydd deml sanctaidd, wedi ei darparu i ogoniant tragwyddol. Nehemeia

49:13 Rhagorol hefyd yw coffadwriaeth Nehemeia, a gododd i ni y muriau a syrthiasai, ac atgyweirio'r pyrth a'r barrau ac ailadeiladu ein tai. Y Patriarchiaid

49:14 Ni chrewyd neb ar y ddaear i'w gymharu ag Enoch, oherwydd cymerwyd ef i fyny oddi ar y ddaear.
49:15 Ni anwyd chwaith neb tebyg i Joseff, llywodraethwr ei frodyr a chadernid ei bobl; y mae ei esgyrn ef wedi eu cadw'n ddiogel.
49:16 Cafodd Sem a Seth fri ymhlith y bobl, ond goruwch pob peth byw yn y greadigaeth y mae Adda.

Simon fab Onias

50:1 Yr archoffeiriad Simon fab Onias, dyma'r gŵr a atgyweiriodd y deml yn ystod ei fywyd, a chadarnhau'r cysegr yn ei ddydd.
50:2 Ganddo ef hefyd y gosodwyd sylfeini'r mur o ddau uchdwr, y mur uchel o amgylch mangre'r deml.
50:3 Yn ei ddydd ef y cloddiwyd y gronfa ddŵr, yn bwll tebyg i'r môr yn ei ehangder.
50:4 Dyma'r gŵr a roes ei fryd ar arbed ei bobl rhag cwympo, ac a gryfhaodd amddiffynfeydd y ddinas yn erbyn gwarchae.
50:5 Mor ogoneddus ydoedd, a'r bobl yn tyrru o'i gwmpas wrth iddo ddod allan trwy len y deml!
50:6 Yr oedd fel seren y bore yn disgleirio rhwng y cymylau, neu fel y lleuad ar ei hamserau llawn;
50:7 fel yr haul yn llewyrchu ar deml y Goruchaf, fel yr enfys yn pelydru'n amryliw yn y cymylau,
50:8 fel rhosyn yn blodeuo yn y gwanwyn, fel lili ger ffynnon o ddŵr, fel pren thus yn yr haf,
50:9 fel arogldarth yn llosgi mewn thuser, fel llestr o aur coeth wedi ei addurno â meini gwerthfawr o bob rhyw fath,
50:10 fel olewydden yn llwythog â ffrwyth, ac fel cypreswydden a'i phen yn y cymylau.
50:11 Pan roddai amdano ei fantell ogoneddus, ac ymwisgo yn ei gyflawn ysblander, wrth fynd i fyny at yr allor sanctaidd byddai'n tywynnu gogoniant ar fangre'r cysegr.
50:12 Wrth gymryd darnau'r aberth o ddwylo'r offeiriaid, ac yntau'n sefyll wrth le tân yr allor, a'i frodyr yn dorch o'i amgylch, yr oedd fel cedrwydden ifanc yn Lebanon yng nghanol coedlan o balmwydd.
50:13 A holl feibion Aaron yn eu gwychder, ac offrymau'r Arglwydd yn eu dwylo, yn sefyll o flaen cynulleidfa gyflawn Israel,
50:14 byddai yntau'n cwblhau defodau'r allorau, a rhoi trefn ar yr offrwm i'r Goruchaf a'r Hollalluog:
50:15 yn estyn ei law at gwpan y diodoffrwm ac yn arllwys ohono waed y grawnwin, gan ei dywallt wrth droed yr allor, yn berarogl i'r Goruchaf, Brenin pawb.
50:16 Yna gwaeddai meibion Aaron a chanu eu hutgyrn o fetel coeth, nes bod y sŵn yn atseinio'n hyglyw i'w hatgoffa gerbron y Goruchaf.
50:17 Ar hyn, yn ddiymdroi, byddai'r holl bobl gyda'i gilydd yn syrthio ar eu hwynebau ar y ddaear i addoli eu Harglwydd, yr Hollalluog, y Duw Goruchaf.
50:18 Codai'r cantorion eu lleisiau mewn mawl, gan felysu'r gân ag amryfal seiniau;
50:19 a'r bobl hwythau'n ymbil ar yr Arglwydd Hollalluog, mewn gweddi gerbron y Duw Trugarog, nes cwblhau trefn addoliad yr Arglwydd a dirwyn y gwasanaeth i ben.
50:20 Wedyn dôi Simon i lawr a chodi ei ddwylo dros gynulleidfa gyfan Israel, i gyhoeddi bendith yr Arglwydd â'i wefusau, gan orfoleddu yn ei enw ef.
50:21 A byddai'r bobl yn ymgrymu eilwaith mewn addoliad, i dderbyn y fendith gan y Goruchaf. Bendithio Duw

50:22 Ac yn awr, bendithiwch Dduw'r cyfanfyd, sy'n cyflawni ei fawrion weithredoedd ym mhobman, sy'n mawrhau ein dyddiau o'n geni, ac yn ymwneud â ni yn ôl ei drugaredd.
50:23 Rhoed ef inni lawenydd calon, a llenwi e dyddiau ni â heddwch, a dyddiau Israel hefyd am byth.
50:24 Rhoed inni sicrwydd o'i drugaredd a gwaredigaeth yn ein dyddiau. Cenhedloedd Atgas

50:25 Y mae dwy genedl sy'n gas gennyf, a thrydedd, nad yw'n genedl o gwbl:
50:26 preswylwyr Mynydd Seir, a'r Philistiaid, a'r bobl ynfyd sy'n trigo yn Sichem. Doethineb Iesu Fab Sirach

50:27 Hyfforddiant mewn deall a gwybodaeth a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn gennyf fi, Iesu fab Sirach, o Jerwsalem; ynddo yr arllwysais y ddoethineb a darddodd o'm meddwl.
50:28 Gwyn ei fyd y sawl sy'n ymdroi gyda'r pethau hyn; o'u trysori yn ei galon fe ddaw'n ddoeth; o'u gweithredu, caiff nerth at bob gofyn. Oherwydd bydd goleuni'r Arglwydd ar ei lwybr.

Emyn o Fawl

51:1 Diolchaf i ti, fy Arglwydd a'm Brenin, a moliannaf di, O Dduw, fy Ngwaredwr; diolchaf i'th enw di.
51:2 Oherwydd buost yn amddiffynnydd ac yn gynorthwywr imi, a gwaredaist fy nghorff rhag distryw, rhag y fagl a osododd tafod enllibus, a rhag y gwefusau sy'n taenu celwydd; yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr buost yn gynorthwywr imi; gwaredaist fi,
51:3 yn unol â mawredd dy drugaredd a'th enw, rhag ysgyrnygu'r dannedd oedd yn barod i'm bwyta, ac o law'r rhai oedd yn ceisio fy mywyd.
51:4 Gwaredaist fi o'r blinderau lawer a ddioddefais, o fwg taglyd y fflamau a'm hamgylchynai, o ganol y tân nad oeddwn wedi ei gynnau,
51:5 o ddyfnder crombil Trigfan y Meirw, a rhag tafod aflan a'i eiriau celwyddog—
51:6 y tafod anghyfiawn a'm henllibiodd wrth y brenin. Deuthum innau'n agos i farwolaeth, a disgynnais bron hyd at Drigfan y Meirw.
51:7 Yr oeddent yn f'amgylchu ar bob tu, ac nid oedd neb i'm helpu; yr oeddwn yn chwilio am gymorth gan eraill, ond nid oedd neb ar gael.
51:8 Yna cofiais am dy drugaredd di, Arglwydd, ac am dy weithredoedd o'r dechrau cyntaf: dy fod yn gwaredu'r rhai sy'n dal i ddisgwyl wrthyt, ac yn eu hachub o law eu gelynion.
51:9 Dyrchefais f'erfyniad o'r ddaear, a gweddïais am gael fy arbed rhag marw.
51:10 Gelwais ar yr Arglwydd, tad fy arglwydd, i beidio â chefnu arnaf mewn dyddiau o gyfyngder, a minnau'n ddiymgeledd yn amser traha. Moliannaf dy enw yn ddi-baid, a chanaf emynau mewn diolchgarwch.
51:11 Gwrandawyd fy ngweddi, oherwydd achubaist fi rhag marwolaeth a'm gwaredu o'r amser drwg.
51:12 Am hynny diolchaf iti a'th foliannu, a bendithiaf dy enw, O Arglwydd. Cais am Ddoethineb

51:13 Pan oeddwn eto'n ifanc, cyn cychwyn ar fy nheithiau, ar goedd yn fy ngweddi gwneuthum gais am ddoethineb.
51:14 Yng nghyntedd y cysegr fe'i hawliais imi, a daliaf i'w cheisio hyd y diwedd.
51:15 O'i blodau cyntaf hyd y grawnwin aeddfed, ynddi hi yr ymhyfrydodd fy nghalon. Cedwais fy nhroed ar lwybr union wrth imi ei chanlyn o'm hieuenctid.
51:16 Ar y gwrandawiad cyntaf, fe'i cefais, ac ennill i mi fy hun lawer o addysg;
51:17 cynnydd fu fy rhan trwyddi hi. I'r hwn a roes imi ddoethineb y rhof ogoniant.
51:18 Oherwydd penderfynais gyflawni ei gofynion, a bûm yn llawn sêl dros y da; felly ni chywilyddir mohonof.
51:19 Yr wyf fi wedi brwydro amdani hi, gan fod yn fanwl gywir wrth gadw'r gyfraith. Estynnais fy nwylo i fyny tua'r nef, gan alaru oblegid fy anwybodaeth ohoni.
51:20 Cyfeiriais fy mywyd tuag ati, ac ar gyfrif fy nglanhad, fe'i cefais; cydiais fy nghalon wrthi hi o'r cychwyn, ac am hynny ni'm gadewir yn amddifad byth.
51:21 Cynhyrfwyd ynof chwant i'w cheisio, ac am hynny enillais feddiant ar drysor da.
51:22 Rhoes yr Arglwydd imi dafod yn wobr, ac â hwnnw fe'i moliannaf ef.
51:23 Nesewch ataf, chwi'r rhai diaddysg, a cheisiwch le yn fy ysgol i.
51:24 Pam yr addefwch eich bod yn brin o'r pethau hyn, a chwithau'n sychedu gymaint amdanynt?
51:25 Agorais fy ngenau a llefaru: “Prynwch i chwi eich hunain heb arian.
51:26 Plygwch eich gwar dan yr iau, a derbyniwch addysg; y mae hi wrth law ac yn hawdd ei chael.
51:27 Gwelwch â'ch llygaid gyn lleied y llafuriais i ennill imi orffwystra mor fawr.
51:28 Gwariwch arian mawr ar gael addysg, a mawr fydd yr aur a gewch drwyddi.
51:29 Llawenhewch yn nhrugaredd yr Arglwydd, ac na fydded cywilydd arnoch ei foliannu ef.
51:30 Cyflawnwch eich gwaith mewn pryd, ac yn ei amser ei hun rhydd Duw ichwi eich gwobr.”