BARUCH

Rhagarweiniad

1:1 Dyma eiriau'r llyfr a ysgrifennodd Baruch fab Nereia, fab Maaseia, fab Sedeceia, fab Asadeia, fab Chelcias, ym Mabilon
1:2 yn y bumed flwyddyn, a'r seithfed dydd o'r mis, yr adeg y goresgynnodd y Caldeaid Jerwsalem a'i llosgi.
1:3 Darllenodd Baruch eiriau'r llyfr hwn yng nghlyw Jechoneia, mab Joachim brenin Jwda, ac yng nghlyw pawb o'r bobl a ddaeth i'w glywed:
1:4 y rhai mawr, y rhai o linach frenhinol, yr henuriaid, a phawb o'r bobl, o'r lleiaf hyd y mwyaf—pawb yn wir oedd yn byw ar lan Afon Swd ym Mabilon.
1:5 Mewn galar ac ympryd, ymroesant i weddïo gerbron yr Arglwydd;
1:6 casglasant arian hefyd, pob un yn ôl ei allu,
1:7 a'i anfon i Jerwsalem at yr offeiriad Joachim fab Chelcias, fab Salum, ac at yr offeiriaid eraill, ac at yr holl bobl a gafwyd gydag ef yn Jerwsalem.
1:8 Dyma'r pryd y cymerodd Baruch lestri tŷ'r Arglwydd, a oedd wedi eu dwyn o'r deml, i'w dychwelyd i wlad Jwda, ar y degfed dydd o fis Sifan.
1:9 Y rhain oedd y llestri arian yr oedd Sedeceia fab Joseia brenin Jwda wedi eu gwneud ar ôl i Nebuchadnesar brenin Babilon gaeth-gludo Jechoneia, a'r tywysogion a'r carcharorion a'r mawrion a phobl y wlad, o Jerwsalem, a'u dwyn i Fabilon. Y Neges i Jerwsalem

1:10 Dywedasant: “Dyma ni'n anfon atoch arian. Prynwch â'r arian boethoffrymau ac aberthau dros bechod, ac arogldarth; darparwch offrwm o rawn a'i offrymu ar allor yr Arglwydd ein Duw ni.
1:11 A gweddïwch dros fywyd Nebuchadnesar brenin Babilon, a thros fywyd Belsassar ei fab ef, ar i'w dyddiau fod fel dyddiau'r nefoedd ar y ddaear.
1:12 Yna fe rydd yr Arglwydd i ni nerth, a golau i'n llygaid, a chawn fyw dan nawdd Nebuchadnesar brenin Babilon a than nawdd Belsassar ei fab. Rhown iddynt wasanaeth am gyfnod maith, a chael ffafr yn eu golwg.
1:13 Gweddïwch hefyd ar yr Arglwydd ein Duw drosom ni, oherwydd i ni bechu yn ei erbyn; ac nid yw llid yr Arglwydd a'i ddicter wedi troi ymaith oddi wrthym hyd y dydd hwn.
1:14 “Yr ydych i ddarllen y llyfr hwn a anfonwn atoch, a gwneud eich cyffes yn nhŷ'r Arglwydd ar ddydd gŵyl ac ar ddyddiau penodedig,
1:15 a dweud: ‘I'r Arglwydd ein Duw y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wyneb hyd y dydd hwn, i bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem,
1:16 i'n brenhinoedd a'n llywodraethwyr a'n hoffeiriaid a'n proffwydi, ac i'n hynafiaid.
1:17 Oherwydd pechasom yn erbyn yr Arglwydd,
1:18 a buom yn anufudd iddo; ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ôl y gorchmynion a osododd yr Arglwydd ger ein bron.
1:19 O'r dydd y dygodd yr Arglwydd ein hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw, buom yn anufudd i'r Arglwydd ein Duw ac yn esgeulus, heb wrando ar ei lais.
1:20 A glynodd wrthym hyd heddiw y drygau a'r felltith y gorchmynnodd yr Arglwydd i'w was Moses eu cyhoeddi ar y dydd y dygodd ein hynafiaid allan o'r Aifft er mwyn rhoi i ni wlad yn llifeirio o laeth a mêl.
1:21 Ni wrandawsom chwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw, a glywir yn holl eiriau'r proffwydi a anfonodd atom;
1:22 ond dilyn a wnaethom bob un ei ffordd ei hun, yn ôl mympwy ei galon ddrygionus, a gwasanaethu duwiau eraill, a gwneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ein Duw.
2:1 “ ‘Am hynny cadarnhaodd yr Arglwydd ei air, a lefarodd yn ein herbyn ac yn erbyn ein barnwyr a farnodd Israel, ac yn erbyn ein brenhinoedd a'n llywodraethwyr, ac yn erbyn pobl Israel a Jwda.
2:2 Ni wnaed yn unlle dan y nefoedd y fath bethau ag a wnaeth ef yn Jerwsalem, yn unol â'r geiriau a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses,
2:3 y byddem yn bwyta cnawd ein plant, un ei fab, ac un arall ei ferch.
2:4 Gosododd yr Arglwydd ein pobl dan lywodraeth yr holl deyrnasoedd sydd o'n hamgylch, i fod yn gyff gwawd, a'u gwlad yn anghyfannedd yng ngolwg yr holl bobloedd o'n hamgylch, lle y gwasgarodd yr Arglwydd hwy.
2:5 Eu darostwng a gawsant yn hytrach na'u dyrchafu, am bechod ein pobl yn erbyn yr Arglwydd ein Duw, yn gymaint ag i ni wrthod gwrando ar ei lais.
2:6 I'r Arglwydd ein Duw y perthyn cyfiawnder, ond i ni ac i'n hynafiaid gywilydd wyneb hyd y dydd hwn.
2:7 Y mae'r holl ddrygau hyn, a lefarodd yr Arglwydd yn ein herbyn, wedi disgyn arnom.
2:8 Eto ni weddïasom gerbron yr Arglwydd, ar i bob un droi oddi wrth feddyliau ei galon ddrygionus.
2:9 Cadwodd yr Arglwydd wyliadwriaeth arnom, a dwyn arnom y drygau hyn, oherwydd cyfiawn yw'r Arglwydd yn yr holl ofynion y gorchmynnodd i ni eu cadw.
2:10 Ond ni wrandawsom ar ei lais ef, i fyw yn ôl y gorchmynion a roes yr Arglwydd ger ein bron.
2:11 “ ‘Ac yn awr, Arglwydd Dduw Israel, a ddygodd dy bobl allan o'r Aifft â llaw gadarn, ag arwyddion a rhyfedd-odau a gallu mawr, ac â braich ddyrchafedig, ac a wnaeth enw mawr i ti dy hun, hyd y dydd hwn—
2:12 O Arglwydd ein Duw, pechasom a buom annuwiol ac anghyfiawn, yn groes i'th holl orchmynion di.
2:13 Troer dy lid oddi wrthym, oherwydd fe'n gadawyd yn ychydig ymysg y cenhedloedd lle y gwasgeraist ni.
2:14 Gwrando, Arglwydd, ar ein gweddi a'n deisyfiad, a gwared ni er dy fwyn dy hun, a phâr i ni ennill ffafr y rhai a'n caethgludodd,
2:15 er mwyn i'r holl ddaear wybod mai ti, Arglwydd, yw ein Duw ni, ac mai wrth dy enw di y gelwir Israel a'i genedl.
2:16 Arglwydd, edrych i lawr o'th breswylfod sanctaidd ac ystyria ni. Gostwng dy glust, Arglwydd, a gwrando;
2:17 agor dy lygaid, Arglwydd, a gwêl. Y meirwon yn Nhrigfan y Meirw, y rhai y mae eu hanadl wedi ei gymryd allan o'u cyrff, ni allant hwy gydnabod gogoniant a chyfiawnder yr Arglwydd.
2:18 Y byw, yn hytrach, y rhai sydd yn drist o golli eu mawredd, yn cerdded yn wargrwm a llesg, a'u llygaid yn pallu a'u henaid yn newynog—hwynt-hwy fydd yn cydnabod dy ogoniant a'th gyfiawnder, Arglwydd.
2:19 “ ‘Nid ar gyfrif gweithredoedd cyfiawn ein hynafiaid a'n brenhinoedd yr ydym yn tywallt ein hymbil am drugaredd ger dy fron di, O Arglwydd ein Duw.
2:20 Anfonaist arnom dy lid a'th ddigofaint, fel y lleferaist trwy dy weision y proffwydi:
2:21 “Fel hyn y dywed yr Arglwydd: plygwch eich ysgwyddau a gwasanaethwch frenin Babilon, ac fe gewch aros yn y wlad a roddais i'ch tadau.
2:22 Ond os na wrandewch ar lais yr Arglwydd a gwasanaethu brenin Babilon,
2:23 gwnaf i lais gorfoledd a llais llawenydd, llais priodfab a llais priodferch, dewi yn nhrefi Jwda ac yn Jerwsalem; bydd yr holl wlad yn ddiffeithwch anghyfannedd.”
2:24 Ond ni wrandawsom ar dy lais a gwasanaethu brenin Babilon. Felly cyflawnaist y geiriau a leferaist trwy dy weision y proffwydi: bod esgyrn ein brenhinoedd ac esgyrn ein hynafiaid i'w dwyn allan o'u beddau.
2:25 A dyna lle maent, wedi eu taflu allan i wres y dydd ac i rew y nos, ar ôl marw mewn poenau dygn, trwy newyn, trwy gleddyf a thrwy haint.
2:26 Ac ar gyfrif drygioni tŷ Israel a thŷ Jwda, peraist i'r tŷ a alwyd wrth dy enw fod fel y mae hyd y dydd hwn.
2:27 “ ‘Eto, O Arglwydd ein Duw, gweithredaist tuag atom yn ôl eithaf dy dynerwch ac yn ôl eithaf dy drugaredd fawr.
2:28 Fel y lleferaist trwy dy was Moses yn y dydd y gorchmynnaist iddo ysgrifennu dy gyfraith gerbron plant Israel:
2:29 “Os na wrandewch ar fy llais, fe droir yr haid enfawr a lluosog hon yn ddyrnaid bach ymhlith y cenhedloedd lle y gwasgaraf hwy.
2:30 Oherwydd gwn na wrandawant arnaf byth, gan mai pobl wargaled ydynt. Ond yng ngwlad eu caethglud fe ddônt atynt eu hunain,
2:31 a gwybod mai myfi yw'r Arglwydd eu Duw. A rhoddaf iddynt galon a chlustiau i wrando,
2:32 a byddant yn fy moliannu i yng ngwlad eu caethglud ac yn cofio fy enw.
2:33 Cefnant ar eu hystyfnigrwydd a'u gweithredoedd pechadurus, oherwydd fe gofiant ffordd eu hynafiaid, a bechodd gerbron yr Arglwydd.
2:34 Yna fe'u dygaf yn ôl i'r wlad a addewais trwy lw i'w hynafiaid, i Abraham ac Isaac a Jacob, a byddant yn benaethiaid arni.
2:35 Amlhaf eu rhifedi hwy, ac ni chânt eu lleihau byth mwy. Gwnaf â hwy gyfamod tragwyddol, y byddaf fi yn Dduw iddynt hwy, a hwythau yn bobl i mi. Ni symudaf byth eto fy mhobl Israel o'r wlad a roddais iddynt.”
3:1 “ ‘O Arglwydd hollalluog, Duw Israel, enaid trallodus ac ysbryd llesg sy'n galw arnat.
3:2 Gwrando, Arglwydd, a thrugarha, oherwydd pechasom yn dy erbyn.
3:3 Yr wyt ti ar dy orsedd dragwyddol, a ninnau ar lwybr distryw tragwyddol.
3:4 O Arglwydd hollalluog, Duw Israel, gwrando ar weddi meirwon Israel a phlant y rhai a bechodd yn dy erbyn heb wrando ar lais yr Arglwydd eu Duw. Dyna pam y glynodd y drygau hyn wrthym ni.
3:5 Paid â chofio troseddau ein hynafiaid, ond cofia yr awr hon dy allu a'th enw dy hun;
3:6 oherwydd ti yw'r Arglwydd ein Duw ni, a thydi, Arglwydd, a foliannwn.
3:7 Er mwyn hyn y gosodaist dy ofn yn ein calon, i beri inni alw ar dy enw. Moliannwn di yn ein halltudiaeth, am inni droi oddi wrthym holl droseddau ein hynafiaid, a bechodd yn dy erbyn.
3:8 Dyma ni heddiw yn ein halltudiaeth, lle y gwasgeraist ni, i fod yn gyff gwawd a melltith, ac i dderbyn y gosb am holl bechodau ein hynafiaid, a gefnodd ar yr Arglwydd ein Duw.’ ” Mawl i Ddoethineb

3:9 Gwrando, Israel, ar orchmynion y bywyd. Clyw, a dysg ddeall.
3:10 Pam, Israel, pam yr wyt ti yng ngwlad dy elynion, yn heneiddio mewn gwlad estron, wedi dy halogi gan y meirw,
3:11 a'th gyfrif gyda'r rhai sydd yn Nhrigfan y Meirw?
3:12 Am i ti gefnu ar ffynnon doethineb.
3:13 Pe bait wedi rhodio yn ffordd Duw, byddit yn byw mewn heddwch am byth.
3:14 Dysg pa le y mae deall, pa le y mae nerth, pa le y mae amgyffred, er mwyn dysgu hefyd pa le y mae hir oes a bywyd, pa le y mae goleuni i'r llygaid, a thangnefedd.
3:15 Pwy sydd wedi cael hyd i drigle doethineb? Pwy sydd wedi mynd i mewn i'w thrysorfa hi?
3:16 Pa le y mae llywodraethwyr y cenhedloedd, a'r rhai sy'n dofi anifeiliaid gwyllt y ddaear, a'r rhai sy'n hudo adar yr awyr?
3:17 Pa le y mae'r rhai sy'n pentyrru'r arian a'r aur y mae pobl yn ymddiried ynddynt, ac yn ymgiprys amdanynt yn ddiddiwedd?
3:18 Pa le y mae'r gofaint arian, a'u gofal mawr a chyfrinion eu crefft?
3:19 Y maent wedi diflannu a disgyn i Drigfan y Meirw, ac eraill wedi codi i gymryd eu lle.
3:20 Daeth cenhedlaeth newydd i weld golau dydd ac i breswylio ar y ddaear, ond heb ddysgu ffordd gwybodaeth,
3:21 na darganfod ei llwybrau na chael gafael arni; ac y mae eu plant hwythau wedi crwydro ymhell oddi ar eu ffordd.
3:22 Ni chlywyd sôn amdani yng Nghanaan, ac ni welwyd mohoni yn Teman.
3:23 Nid yw plant Hagar chwaith, sy'n chwilio am ddeall ar y ddaear, na masnachwyr Merran a Teman, na dyfeiswyr chwedlau na chwilotwyr am ddeall, wedi dysgu ffordd doethineb na chofio'i llwybrau hi.
3:24 O Israel, mor fawr yw tŷ Dduw, mor helaeth y fangre a fedd.
3:25 Mawr ydyw, a diderfyn, uchel a difesur.
3:26 Yno y ganed y cewri enwog gynt, mawr o gorff a medrus mewn rhyfel.
3:27 Ond nid y rhain a ddewisodd Duw, ac nid iddynt hwy y datguddiodd ffordd gwybodaeth.
3:28 Darfu amdanynt, felly, am nad oedd ganddynt ddeall; darfu amdanynt oherwydd eu diffyg synnwyr.
3:29 Pwy a ddringodd i'r nefoedd i gael gafael ynddi a'i dwyn i lawr o'r cymylau?
3:30 Pwy a groesodd y môr i gael hyd iddi, a'i phrynu ag aur pur?
3:31 Nid oes neb sy'n gwybod ei ffordd nac yn adnabod ei llwybr.
3:32 Ond yr Un sy'n gwybod pob peth, y mae ef yn ei hadnabod hi; darganfu ef hi trwy ei ddeall. Ef a sefydlodd y ddaear am byth, a'i llenwi â phedwarcarnolion.
3:33 Ef sy'n anfon allan y goleuni, ac y mae'n mynd; yn galw arno, ac y mae'n ufuddhau iddo mewn dychryn.
3:34 Llewyrchodd y sêr yn llawen yn eu gwyliadwriaethau; a phan alwodd ef arnynt, dywedasant, “Dyma ni”, a llewyrchu'n llawen i'w creawdwr.
3:35 Ef yw ein Duw ni, ac nid oes arall i'w gyffelybu iddo.
3:36 Darganfu holl ffordd gwybodaeth, a'i rhoi i Jacob ei was ac i Israel ei anwylyd.
3:37 Wedi hynny ymddangosodd doethineb ar y ddaear, a phreswyliodd ymhlith pobl.
4:1 Hi yw llyfr gorchmynion Duw, a'r gyfraith sy'n aros yn dragwyddol. Bywyd fydd rhan pawb sy'n glynu wrthi, ond marw a wna'r rhai a gefna arni.
4:2 Dychwel, Jacob, ac ymafael ynddi. Rhodia i gyfeiriad ei hysblander yn llygad ei goleuni hi.
4:3 Paid â rhoi dy ogoniant i arall, na'th freintiau i genedl estron.
4:4 Gwyn ein byd, Israel, am ein bod yn gwybod y pethau sydd wrth fodd Duw.

Cysur i Jerwsalem

4:5 Codwch eich calon, fy mhobl, chwi sy'n cadw coffadwriaeth Israel.
4:6 Nid i'ch difetha y gwerthwyd chwi i'r cenhedloedd, ond am i chwi gynhyrfu dicter Duw y'ch traddodwyd i ddwylo eich gelynion.
4:7 Cythruddo'ch Creawdwr a wnaethoch trwy offrymu i gythreuliaid ac nid i Dduw.
4:8 Anghofiasoch y Duw tragwyddol a'ch maethodd, a thristáu Jerwsalem, a'ch meithrinodd.
4:9 Oherwydd gwelodd hi'r dicter a ddaeth arnoch oddi wrth Dduw, a dywedodd, “Gwrandewch, chwi gymdogion Seion; dygodd Duw dristwch mawr arnaf.
4:10 Gwelais y caethiwed a ddug y Duw tragwyddol ar fy meibion a'm merched.
4:11 Meithrinais hwy mewn llawenydd, ond anfonais hwy i ffwrdd â dagrau a thristwch.
4:12 Peidied neb â llawenhau o'm gweld yn weddw ac yn amddifad o gymaint ohonynt. Gadawyd fi'n unig o achos pechodau fy mhlant, am iddynt droi oddi wrth gyfraith Duw.
4:13 Ni ddysgasant ei ddeddfau, na rhodio yn ffyrdd ei orchmynion, na throedio llwybrau dysg yn unol â'i gyfiawnder ef.”
4:14 Dewch, gymdogion Seion. Cofiwch y caethiwed a ddug y Duw tragwyddol ar fy meibion a'm merched.
4:15 Oherwydd fe gododd yn eu herbyn genedl o wlad bell, cenedl ddidostur ac anghyfiaith, heb na pharch at yr hen na thosturi at blant.
4:16 Dygasant ymaith blant annwyl y weddw, a'i gadael hi'n unig, yn amddifad o'i merched.
4:17 A myfi, pa gymorth a allaf ei roi i chwi?
4:18 Fe'ch gwaredir o ddwylo eich gelynion gan yr Un a ddug y drygau hyn arnoch.
4:19 Ewch ymaith, fy mhlant, ewch ymaith, oherwydd gadawyd fi'n amddifad.
4:20 Diosgais wisg tangnefedd, a rhoi amdanaf sachliain ymbiliwr. Galwaf ar yr Arglwydd tragwyddol tra byddaf byw.
4:21 Codwch eich calon, fy mhlant. Llefwch ar Dduw, ac fe'ch gwared o ormes ac o ddwylo'ch gelynion.
4:22 Oherwydd ar y Duw tragwyddol y seiliais fy ngobaith am eich gwaredigaeth, a daeth i mi lawenydd oddi wrth yr Un Sanctaidd ar gyfrif y drugaredd a ddaw yn fuan atoch oddi wrth eich gwaredwr tragwyddol.
4:23 Anfonais chwi allan â thristwch a dagrau, ond fe rydd Duw chwi'n ôl i mi â sirioldeb a llawenydd am byth.
4:24 Fel y mae cymdogion Seion yn awr wedi gweld eich caethiwed, yn fuan fe gânt weld y waredigaeth a ddaw arnoch oddi wrth eich Duw, y Duw tragwyddol, â gogoniant mawr ac ysblander.
4:25 Fy mhlant, dioddefwch yn amyneddgar y dicter a ddaeth arnoch oddi wrth Dduw. Y mae dy elyn wedi dy erlid, ond yn fuan cei weld ei ddinistr ef, a gosod dy droed ar ei wddf.
4:26 Y mae fy mhlant anwes wedi rhodio ar hyd llwybrau garw; fe'u cipiwyd i ffwrdd fel praidd a aeth yn ysglyfaeth gelynion.
4:27 Codwch eich calon, fy mhlant. Llefwch ar Dduw, oherwydd bydd yr Un a ddug y pethau hyn arnoch yn cofio amdanoch.
4:28 Fel y bu eich bryd ar fynd ar gyfeiliorn oddi wrth Dduw, trowch yr eich ôl a'i geisio ef ddengwaith mwy.
4:29 Bydd yr Un a ddug y drygau hyn arnoch yn dwyn ichwi lawenydd tragwyddol ynghyd â'ch iachawdwr-iaeth.

Addo Cymorth i Jerwsalem

4:30 Cod dy galon, Jerwsalem. Bydd yr Un a'th enwodd di yn dy gysuro.
4:31 Gwae y rhai a wnaeth niwed iti a llawenhau yn dy gwymp.
4:32 Gwae'r dinasoedd lle bu dy blant yn gaethweision; gwae'r ddinas a dderbyniodd dy epil.
4:33 Fel y bu lawen ganddi dy gwymp di, a hyfryd ganddi dy anffawd, felly y bydd yn athrist ganddi ei chyflwr diffaith ei hun.
4:34 Torraf ymaith y tyrfaoedd y gorfoleddai ynddynt, a throi ei balchder yn dristwch.
4:35 Fe ddaw tân arni oddi wrth y Tragwyddol dros lawer o ddyddiau, a bydd cythreuliaid yn preswylio ynddi am amser maith.
4:36 Edrych tua'r dwyrain, O Jerwsalem, a gwêl y llawenydd sy'n dod iti oddi wrth Dduw.
4:37 Dyma'r plant a anfonaist ymaith yn dod, wedi eu casglu ynghyd o'r dwyrain i'r gorllewin ar orchymyn yr Un Sanctaidd, ac yn llawenhau yng ngogoniant Duw.
5:1 Diosg, O Jerwsalem, wisg dy alar a'th adfyd, a gwisg am byth harddwch y gogoniant sy'n tarddu o Dduw.
5:2 Rho amdanat fantell y cyfiawnder sydd o Dduw, a gosod ar dy ben goron gogoniant y Tragwyddol.
5:3 Oherwydd fe ddengys Duw dy ddisgleirdeb i bob gwlad dan y nefoedd.
5:4 Derbynni oddi wrth Dduw am byth yr enw “Heddwch cyfiawn”, a “Gogoniant duwiol”.
5:5 Cod, Jerwsalem, a saf ar le uchel, ac edrych tua'r dwyrain, a gwêl dy blant wedi eu casglu ynghyd o'r gorllewin hyd at y dwyrain, ar orchymyn yr Un Sanctaidd, yn llawenhau am fod Duw wedi eu cofio.
5:6 Aethant i ffwrdd oddi wrthyt ar droed, a'u gelynion yn eu harwain ymaith. Ond y mae Duw yn eu harwain yn ôl atat mewn gogoniant, yn cael eu cludo fel brenin ar ei orsedd.
5:7 Gorchmynnodd Duw lefelu pob mynydd uchel a'r bryniau tragwyddol, a llenwi'r ceunentydd, i wneud y ddaear yn wastad, er mwyn i Israel rodio'n ddiogel yng ngogoniant Duw.
5:8 Ar orchymyn Duw, aeth y coedlannau a phob pren peraroglus yn gysgod i Israel.
5:9 Oherwydd bydd Duw'n arwain Israel mewn llawenydd yng ngoleuni ei ogoniant, ynghyd â'r drugaredd a'r cyfiawnder sy'n tarddu ohono ef.