LLYTHYR JEREMEIA

NODIAD. Yn yr hen Fersiwn Cymraeg cysylltir y llythyr hwn â Llyfr Baruch, a'i rifo'n Bennod 6 yn y llyfr hwnnw.



1:1 Dyma gopi o lythyr a anfonodd Jeremeia at y carcharorion oedd i gael eu dwyn i Fabilon gan frenin y Babiloniaid, i fynegi iddynt neges a roddwyd iddo gan Dduw.
1:2 Oherwydd y pechodau a wnaethoch ger bron Duw, y mae Nebuchadnesar brenin y Babiloniaid yn eich dwyn yn garch-arorion i Fabilon.
1:3 Pan ddewch i Fabilon fe fyddwch yno am lawer o flynyddoedd, am amser maith, hyd at saith cenhedlaeth. Ar ôl hynny, fe'ch dygaf chwi allan oddi yno mewn heddwch.
1:4 Yn awr fe welwch ym Mabilon dduwiau arian ac aur a phren, yn cael eu cludo ar ysgwyddau dynion ac yn codi arswyd ar y cenhedloedd.
1:5 Byddwch yn ofalus felly rhag i chwithau efelychu'r cenhedloedd dieithr. Peidiwch â gadael i arswyd rhag eu duwiau afael ynoch chwi pan welwch, o'u blaen ac o'u hôl, dyrfa yn eu haddoli.
1:6 Ond dywedwch yn eich calon: “Ti, Arglwydd, sydd i'w addoli.”
1:7 Oherwydd y mae fy angel gyda chwi, a'i ofal ef am eich bywydau.
1:8 Tafod wedi ei naddu gan saer sydd gan y duwiau hyn, ac er eu gorchuddio ag aur ac arian, pethau gau ydynt, heb allu i siarad.
1:9 Y mae'r bobl yn cymryd aur a gwneud coronau i osod ar bennau eu duwiau, fel y gwneir i ferch sy'n hoff o dlysau.
1:10 Ac weithiau y mae'r offeiriaid yn dwyn aur ac arian oddi ar eu duwiau ac yn eu treulio i'w dibenion eu hunain,
1:11 gan roi ohonynt hyd yn oed i'r puteiniaid yn yr ystafell fewnol. Gwisgant â dillad pobl y duwiau hyn o arian ac aur a phren;
1:12 ond ni all y rheini eu hachub eu hunain rhag y rhwd a'r pryfed. Er eu gwisgo mewn porffor,
1:13 rhaid sychu eu hwynebau'n lân o achos llwch y tŷ, sy'n drwch drostynt.
1:14 Fel un yn barnu gwlad, y mae gan y duw deyrnwialen yn ei law, ond ni all ladd neb sy'n pechu yn ei erbyn.
1:15 Yn ei law dde y mae ganddo ddagr a bwyell, ond ni all ei waredu ei hun rhag rhyfel na lladron.
1:16 Y mae'n amlwg wrth hyn nad duwiau mohonynt. Felly peidiwch â'u hofni.
1:17 Fel y mae llestr wedi ei dorri yn ddiwerth i neb, felly y mae eu duwiau hwy, wedi iddynt gael eu gosod yn eu temlau. Llenwir eu llygaid â llwch o draed y rhai a ddaw i mewn.
1:18 Fel y caeir pyrth yn wyneb dyn sy'n euog o deyrnfradwriaeth, fel dyn dan ddedfryd marwolaeth, felly y mae'r offeiriaid yn diogelu temlau'r duwiau â drysau a bolltau a chloeau, rhag i ladron eu hysbeilio.
1:19 Y maent yn cynnau lampau o'u blaen, mwy hyd yn oed nag o'u blaen eu hunain, er na all y duwiau weld yr un ohonynt.
1:20 Y maent fel un o drawstiau'r deml, ac eto y maent yn cael eu llyfu, megis, o'r tu mewn, wrth i greaduriaid o'r ddaear eu difa hwy a'u gwisgoedd heb yn wybod iddynt.
1:21 Y mae mwg o'r deml wedi duo eu hwynebau.
1:22 Bydd ystlumod a gwenoliaid ac adar o bob math yn clwydo ar eu cyrff a'u pennau, a chathod hefyd yn dringo arnynt.
1:23 Wrth hyn bydd yn amlwg i chwi nad duwiau mohonynt. Felly peidiwch â'u hofni.
1:24 Er bod aur yn addurn amdanynt, ni ddisgleiriant byth heb i rywun eu sychu'n lân. Ni theimlasant ddim wrth gael eu toddi i'w llunio.
1:25 Er nad oes ynddynt anadl, fe'u prynwyd am bris mawr.
1:26 A hwythau heb draed, rhaid wrth ysgwyddau i'w cludo, a dengys hynny i bobl bethau mor wael ydynt.
1:27 Y mae cywilydd hyd yn oed ar y rhai sy'n eu gwasanaethu, oherwydd os digwydd i un o'u duwiau syrthio i'r llawr, ni all godi ohono'i hun. Ac o'i osod i sefyll yn syth, ni all symud ohono'i hun; neu o'i osod ar ogwydd, ni all ei unioni ei hun. Y mae offrymu iddynt fel offrymu i gyrff meirw.
1:28 Y mae'r offeiriaid yn gwerthu aberthau'r duwiau, ac yn defnyddio'r elw i'w dibenion eu hunain, a'u gwragedd yr un modd yn cymryd rhannau o'r aberthau ac yn eu halltu, heb roi dim i'r tlawd a'r methedig.
1:29 Cyffyrddir â'u haberthau gan wragedd misglwyfus a chan rai sydd newydd esgor. Gwybyddwch wrth hyn nad duwiau mohonynt, a pheidiwch â'u hofni.
1:30 Pa fodd y gellir eu galw'n dduwiau? Oherwydd gwragedd sy'n offrymu i'r duwiau hyn o arian ac aur a phren.
1:31 Y mae'r offeiriaid yn eistedd yn eu temlau â'u gwisgoedd wedi eu rhwygo, a'u pennau a'u barfau wedi eu heillio, a heb benwisg,
1:32 gan weiddi a bloeddio gerbron eu duwiau, fel rhai mewn gwledd angladd.
1:33 Y mae'r offeiriaid yn dwyn oddi ar y duwiau eu dillad, i wisgo eu gwragedd a'u plant eu hunain.
1:34 Os gwneir drwg neu dda i'r duwiau hyn, ni allant dalu'r pwyth. Ni allant osod brenin ar ei orsedd, na'i ddiorseddu chwaith. Yn yr un modd, ni allant roi cyfoeth nac arian.
1:35 Os adduneda rhywun iddynt a methu talu, ni hawliant dâl byth.
1:36 Ni allant waredu neb oddi wrth angau, na rhyddhau'r gwan o law'r cadarn.
1:37 Ni allant roi ei olwg i'r dall, na chymorth i'r anghenus.
1:38 Ni ddangosant drugaredd i'r weddw na gwneud daioni i'r amddifad.
1:39 Tebyg i gerrig o'r mynydd yw'r pethau pren hyn, gyda'u gorchudd o aur ac arian; a'u gwaradwyddo a gaiff y rhai sy'n eu gwasanaethu.
1:40 Pa fodd y gellir eu cyfrif neu eu galw yn dduwiau?
1:41 Oherwydd, pan welant fudan na all siarad, dônt ag ef at Bel a gwneud iddo alw arno, fel petai hwnnw'n meddu ar synhwyrau. Ac nid oes ganddynt hwythau ddigon o grebwyll i gefnu'n llwyr arnynt, gan mor ddisynnwyr ydynt.
1:42 Y mae'r gwragedd hefyd yn eistedd yn y strydoedd â rheffynnau amdanynt, yn llosgi eisin.
1:43 Ac os tynnir un ohonynt allan gan rywun sy'n mynd heibio, a hithau'n gorwedd gydag ef, y mae hi'n edliw i'w chymdoges na chafodd honno ei chyfrif mor ddeniadol â hi ei hunan, ac na thorrwyd ei rheffynnau hithau.
1:44 Y mae popeth sy'n ymwneud â'r delwau hyn yn gelwydd. Pa fodd y gellir eu cyfrif neu eu galw yn dduwiau?
1:45 Gwaith seiri a gofaint aur ydynt. Ni allant fod yn ddim amgen nag y dymuna'r crefftwyr iddynt fod.
1:46 Ni chaiff y rheini a'u lluniodd fyth fyw yn hir iawn.
1:47 Pa fodd, felly, y gellir disgwyl i'r pethau a luniwyd ganddynt fod yn dduwiau? Gadawsant i'w disgynyddion gelwydd a gwaradwydd.
1:48 Pan ddaw rhyfel a drygau ar eu gwarthaf, y mae'r offeiriaid yn ymgynghori am le i ymguddio gyda'u duwiau.
1:49 Pa fodd nad oes ganddynt synnwyr i weld nad duwiau yw'r rhai sydd heb allu i'w hachub eu hunain rhag rhyfel a drygau?
1:50 Gan mai pethau pren ydynt, wedi eu gorchuddio ag aur ac arian, gwybyddir wedi hynny mai ffug ydynt.
1:51 A bydd yn amlwg i'r holl genhedloedd a'r brenhinoedd nad duwiau mohonynt, ond gwaith dwylo dynol, heb ddim o waith Duw ynddynt o gwbl.
1:52 Pwy, felly, sydd heb wybod nad duwiau mohonynt?
1:53 Ni allant fyth osod brenin ar wlad, na rhoi glaw i bobl.
1:54 Ni allant fyth ddyfarnu mewn llys, nac achub neb dan gam. Y maent mor ddiymadferth â brain i fyny yn yr awyr.
1:55 Pan syrth tân ar deml y duwiau pren hyn, gyda'u gorchudd o aur neu arian, bydd eu hoffeiriaid yn ffoi i ddiogelwch, ond llosgir y duwiau eu hunain fel trawstiau yng nghanol y tân.
1:56 Ni allant fyth wrthsefyll na brenin na gelynion. Pa fodd y gellir derbyn neu gyfrif eu bod yn dduwiau?
1:57 Ni all y duwiau pren hyn, gyda'u gorchudd o arian ac aur, fyth eu diogelu eu hunain rhag lladron ac ysbeilwyr.
1:58 Bydd y cryfion yn dwyn oddi arnynt yr aur a'r arian a'r dillad sydd amdanynt, ac yn mynd â'r cwbl ymaith gyda hwy, heb iddynt fedru gwneud dim i'w diogelu eu hunain.
1:59 Gwell brenin yn dangos ei wrhydri, neu lestr mewn tŷ, y gall ei berchennog ei ddefnyddio fel y myn, na'r duwiau gau hyn. Gwell drws ar dŷ, sy'n cadw'n ddiogel y pethau o'i fewn, na'r duwiau gau hyn. Gwell colofn bren yn nhŷ'r brenin na'r duwiau gau hyn.
1:60 Y mae'r haul a'r lloer a'r sêr disglair wedi eu hanfon i bwrpas, ac y maent yn ufudd.
1:61 Felly hefyd y mae'r fellten, pan oleua, yn hawdd ei gweld.
1:62 A'r un modd y mae'r gwynt yn chwythu ym mhob gwlad. A phan fydd Duw yn gorchymyn i'r cymylau dramwyo dros yr holl fyd, byddant yn cyflawni'r hyn a orchmynnwyd iddynt.
1:63 Felly hefyd y tân, pan fydd Duw'n ei anfon i ddifa mynyddoedd a choed, bydd yntau'n gwneud yr hyn a orchmynnwyd. Ond nid yw'r delwau i'w cymharu â'r rhain o ran eu gwedd na'u grym.
1:64 Ni ellir felly eu cyfrif na'u galw yn dduwiau, gan na allant roi barn mewn llys na gwneud lles i neb.
1:65 Gwybyddwch, felly, nad duwiau mohonynt, a pheidiwch â'u hofni.
1:66 Ni allant fyth felltithio na bendithio brenhinoedd.
1:67 Ni allant ddangos arwyddion yn y nefoedd i'r cenhed-loedd, gan nad ydynt yn goleuo fel yr haul nac yn llewyrchu fel y lloer.
1:68 Y mae'r anifeiliaid gwyllt yn rhagori arnynt, gan eu bod yn medru ffoi a'u diogelu eu hunain mewn lloches.
1:69 Gan hynny, nid oes gennym unrhyw fath o dystiolaeth eu bod yn dduwiau. Felly peidiwch â'u hofni.
1:70 Fel bwgan brain nad yw'n amddiffyn dim mewn gardd lysiau, felly y mae'r duwiau pren hyn o'r eiddynt, gyda'u gorchudd o aur ac arian.
1:71 Tebyg i lwyn drain mewn gardd, a phob aderyn yn disgyn arno, a thebyg i gorff wedi ei daflu allan yn y tywyllwch, yw eu duwiau pren gyda'u gorchudd o aur ac arian.
1:72 Wrth y porffor a'r lliain main sy'n pydru arnynt gwybyddwch nad duwiau mohonynt. Fe'u hysir hwy eu hunain yn y diwedd, a byddant yn waradwydd yn y wlad.
1:73 Felly gwell yw'r cyfiawn nad oes ganddo ddelwau; pell fydd un felly oddi wrth waradwydd.