SWSANNA

NODIAD. Stori yw hon a ychwanegwyd at Fersiwn Groeg Llyfr Daniel.

Prydferthwch Swsanna yn Denu'r Ddau Henuriad

1:1 Yr oedd gŵr yn byw ym Mabilon o'r enw Joacim.
1:2 Priododd wraig o'r enw Swsanna, merch i Hilceia, gwraig brydferth iawn, ac un oedd yn ofni'r Arglwydd.
1:3 Pobl gyfiawn oedd ei rhieni, ac wedi dysgu eu merch yn ôl cyfraith Moses.
1:4 Yr oedd Joacim yn gyfoethog iawn, a chanddo ardd ysblennydd yn ffinio â'i dŷ, ac arferai'r Iddewon fynd ato am ei fod yn uwch ei fri na neb.
1:5 Y flwyddyn honno fe benodwyd dau henuriad o blith y bobl i fod yn farnwyr—dau y cyfeiriodd yr Arglwydd atynt pan ddywedodd: “Daeth camwedd allan o Fabilon, o blith yr henuriaid oedd yn farnwyr, rhai y tybid eu bod yn arwain y bobl.”
1:6 Byddai'r rhain yn treulio'u hamser yn nhŷ Joacim, ac atynt y deuai pawb oedd ag achos i'w farnu.
1:7 Wedi i'r bobl ymadael ganol dydd, byddai Swsanna yn mynd am dro yng ngardd ei gŵr.
1:8 Bob dydd byddai'r ddau henuriad yn ei gwylio hi'n mynd am dro, a daeth blys amdani arnynt.
1:9 Wedi gwyrdroi eu synnwyr a throi eu llygaid rhag edrych i gyfeiriad y nefoedd a rhag dwyn i gof gyfiawnder barn,
1:10 yr oedd y ddau wedi gwirioni arni; ond ni chyfaddefodd y naill ei wewyr wrth y llall,
1:11 am fod arnynt gywilydd cyfaddef eu blys a'u chwant am orwedd gyda hi.
1:12 Ddydd ar ôl dydd disgwylient yn awchus am gyfle i'w gweld.

Yr Henuriaid yn Ceisio Hudo Swsanna

1:13 “Gadewch inni fynd adref,” meddai un wrth y llall, “y mae'n amser cinio.”
1:14 Aethant i ffwrdd ac ymwahanu, ond troesant yn ôl a dod i'r un lle eto. Wrth groesholi ei gilydd, daethant i gyfaddef eu blys. Yna trefnasant gyda'i gilydd ar amser cyfleus i allu ei chael hi ar ei phen ei hun.
1:15 A hwythau'n disgwyl am ddydd ffafriol, dyma hithau'n mynd, yn ôl ei harfer beunyddiol, i'r ardd gyda dwy forwyn yn unig, a daeth arni awydd ymdrochi yno, gan fod yr hin yn boeth.
1:16 Nid oedd neb yno ond y ddau henuriad, yn ei gwylio o'u cuddfan.
1:17 “Dewch ag olew a sebon imi,” meddai hi wrth y morynion, “a chaewch ddrysau'r ardd, imi gael ymdrochi.”
1:18 Gwnaethant fel y gorchmynnodd, a chau drysau'r ardd a mynd allan trwy ddrysau'r ochr i nôl y pethau a orchmynnwyd, heb weld yr henuriaid yn eu cuddfan.
1:19 Wedi i'r morynion fynd allan, cododd y ddau henuriad a rhedeg ati.
1:20 “Edrych,” meddent, “y mae drysau'r ardd wedi eu cau ac ni all neb ein gweld, ac yr ydym yn llawn blys amdanat; felly cytuna i orwedd gyda ni.
1:21 Os na wnei, fe rown dystiolaeth yn dy erbyn fod dyn ifanc gyda thi, ac mai dyna pam yr anfonaist y morynion oddi wrthyt.”
1:22 Dywedodd Swsanna ag ochenaid, “Y mae'n gyfyng arnaf o bob tu. Oherwydd os gwnaf hyn, bydd yn angau i mi, ac os na wnaf, ni allaf ddianc o'ch dwylo.
1:23 Gwell gennyf wrthod, a syrthio i'ch dwylo chwi, na phechu yn erbyn yr Arglwydd.”
1:24 Yna gwaeddodd Swsanna â llef uchel, a'r un pryd gwaeddodd y ddau henuriad yn uwch na hi.
1:25 Rhedodd un ohonynt ac agorodd ddrysau'r ardd.
1:26 Pan glywsant y gweiddi yn yr ardd, rhuthrodd gweision y tŷ i mewn trwy ddrws yr ochr i weld beth oedd wedi digwydd iddi.
1:27 Ar ôl i'r henuriaid adrodd eu stori, cododd cywilydd mawr ar y gweision, oherwydd ni chlywyd erioed o'r blaen y fath beth am Swsanna.

Yr Henuriaid yn Tystio yn erbyn Swsanna

1:28 Trannoeth, pan ddaeth y bobl ynghyd i dŷ Joacim, ei gŵr, daeth y ddau henuriad, yn llawn o'u bwriad cam-weddus i roi Swsanna i farwolaeth.
1:29 Dywedasant gerbron y bobl: “Anfon-wch am Swsanna ferch Hilceia, sy'n wraig i Joacim.” Anfonwyd amdani.
1:30 Daeth hithau gyda'i rhieni a'i phlant a'i holl berthnasau.
1:31 Yr oedd Swsanna yn wraig hynod o lednais a phrydferth ei golwg.
1:32 Yr oedd ei hwyneb wedi ei orchuddio, a gorchmynnodd y dihirod dynnu ymaith ei gorchudd, er mwyn iddynt wledda ar ei phrydferthwch.
1:33 Dechreuodd ei theulu wylo, a phawb a'i gwelodd.
1:34 Yna cododd y ddau henuriad yng nghanol y bobl, a gosod eu dwylo ar ei phen.
1:35 Edrychodd hithau, gan wylo, tua'r nefoedd, am fod ei chalon yn ymddiried yn yr Arglwydd.
1:36 Meddai'r henuriaid: “Yr oeddem yn cerdded yn yr ardd wrthym ein hunain, pan ddaeth hon i mewn gyda dwy forwyn. Fe gaeodd hi ddrysau'r ardd ac anfon y morynion i ffwrdd.
1:37 Yna daeth ati ddyn ifanc oedd wedi bod yn ymguddio, a gorweddodd gyda hi.
1:38 Yr oeddem ni mewn congl o'r ardd, a phan welsom y camwedd hwn rhedasom atynt.
1:39 Gwelsom hwy'n cydorwedd, ond ni allem gael y trechaf ar y dyn—yr oedd yn gryfach na ni, ac agorodd y drysau a neidio allan.
1:40 Ond cawsom afael ynddi hi a'i holi pwy oedd y dyn ifanc,
1:41 ond gwrthododd ein hateb. Yr ydym yn tystio i hyn.”

Daniel yn Arbed Bywyd Swsanna

1:42 Yna gwaeddodd Swsanna â llef uchel: “O Dduw tragwyddol, sydd yn gwybod dirgelion ac yn gweld pob peth cyn iddo ddigwydd,
1:43 fe wyddost ti mai celwydd yw eu tystiolaeth yn fy erbyn. A dyma fi'n mynd i farw er nad wyf wedi gwneud dim o'r pethau y mae'r dynion hyn wedi eu cynllwynio yn fy erbyn.”
1:44 A gwrandawodd yr Arglwydd ar ei chri.
1:45 Wrth iddi gael ei harwain i ffwrdd i'w lladd, cyffrôdd Duw ysbryd sanctaidd llanc ifanc o'r enw Daniel i weiddi â llef uchel:
1:46 “Dieuog wyf fi o waed y wraig hon.”
1:47 Troes y bobl i gyd ato a gofyn, “Beth wyt ti'n ei feddwl wrth ddweud hyn?”
1:48 Safodd yn eu canol a dweud, “A ydych chwi mor ffôl, blant Israel, â chondemnio un o ferched Israel heb ymchwilio'n ofalus a dod o hyd i'r gwir? Trowch yn ôl i'r llys barn,
1:49 oherwydd celwydd yw tystiolaeth y dynion hyn yn ei herbyn.”
1:50 Troes y bobl i gyd yn ôl ar frys, a dywedodd yr henuriaid eraill wrtho, “Tyrd i eistedd yn ein plith ni, ac esbonia'r mater inni, oherwydd y mae Duw wedi rhoi i ti safle henuriad.”
1:51 Atebodd Daniel: “Gosodwch y ddau ar wahân, ymhell oddi wrth ei gilydd, ac yna fe'u holaf.”
1:52 Wedi eu gosod ar wahân, galwodd Daniel un ohonynt a dweud wrtho, “Ti sydd yn hen law mewn drygioni, y mae'r pechodau a wnaethost gynt bellach wedi dod i olau dydd:
1:53 barnu'n anghyfiawn, condemnio'r dieuog, gollwng yn rhydd yr euog, er i'r Arglwydd ddweud, ‘Na ladd y dieuog a'r cyfiawn.’
1:54 Yn awr, os yn wir y gwelaist y wraig hon, dywed o dan ba goeden y gwelaist hwy'n cydorwedd.” Atebodd yntau, “O dan gollen.”
1:55 “Yn hollol,” meddai Daniel, “dywedaist gelwydd yn dy erbyn dy hun, oherwydd y mae angel Duw eisoes wedi derbyn collfarn Duw i'th hollti'n ddau.”
1:56 Troes ef o'r neilltu, a gorchymyn dwyn yr henuriad arall gerbron. Meddai wrth hwnnw, “Nid had Jwda mohonot, tydi epil Canaan; y mae prydferthwch wedi dy hudo, a blys wedi gwyrdroi dy galon.
1:57 Dyna eich dull o drin merched Israel, a'u cael i gydorwedd â chwi trwy ofn. Ond ni oddefodd merch Jwda eich camwedd.
1:58 Yn awr, dywed wrthyf, o dan ba goeden y deliaist hwy'n cydorwedd?” Atebodd yntau, “O dan goeden dderw.”
1:59 “Yn hollol,” meddai Daniel wrtho, “dywedaist tithau gelwydd yn dy erbyn dy hun, oherwydd y mae angel Duw yn aros â'i gledd yn ei law, ac fe'th dery yn dy ganol, ac fe'ch llwyr ddifetha chwi.”
1:60 Yna gwaeddodd yr holl gynulliad â llef uchel a bendithio Duw, gwaredwr y rhai sy'n gobeithio ynddo.
1:61 Codasant yn erbyn y ddau henuriad, oherwydd yr oedd Daniel wedi profi drwy eu geiriau eu hunain fod eu tystiolaeth yn gelwydd. Gwnaethant iddynt hwy yr un modd ag yr oeddent hwy wedi cynllwynio yn erbyn eu cymydog.
1:62 Gan weithredu yn ôl cyfraith Moses, lladdasant hwy. Felly arbedwyd bywyd y dieuog y dydd hwnnw.
1:63 Am hynny, moli Duw a wnaeth Hilceia a'i wraig am eu merch Swsanna. Felly hefyd y gwnaeth Joacim ei gŵr, a'i holl berthnasau, am na chafwyd ynddi ddim anweddus.
1:64 O'r dydd hwnnw ymlaen, daeth Daniel yn ŵr mawr ei fri yng ngolwg y bobl.