BEL A'R DDRAIG

NODIAD. Dwy stori yw'r rhain a ychwanegwyd at Fersiwn Groeg Llyfr Daniel.

Daniel ac Offeiriaid Bel

1:1 Daniel yn byw gyda'r brenin, ac yn uwch ei anrhydedd na neb arall o Gyfeillion y Brenin.
1:3 Yr oedd gan y Babiloniaid eilun o'r enw Bel, a byddent yn darparu iddo bob dydd ddeuddeng mesur o beilliaid, deugain dafad, a chwe mesur o win.
1:4 Byddai'r brenin yn ei addoli, ac yn mynd bob dydd i ymgrymu iddo. Ond i'w Dduw ei hun y byddai Daniel yn ymgrymu.
1:5 Gofynnodd y brenin iddo, “Pam nad wyt yn ymgrymu i Bel?” Dywedodd yntau, “Nid eilunod o waith dwylo dynol yr wyf fi'n eu haddoli ond y Duw byw, Creawdwr nef a daear, ac Arglwydd pob peth byw.”
1:6 Meddai'r brenin, “Onid wyt yn credu bod Bel yn dduw byw? Oni weli di gymaint y mae'n ei fwyta ac yfed bob dydd?”
1:7 Atebodd Daniel dan chwerthin, “Paid â chymryd dy dwyllo, frenin. Clai yw hwn oddi mewn, a phres oddi allan; nid yw wedi bwyta nac yfed erioed.”
1:8 Yna, yn llawn dicter, galwodd y brenin ei offeiriaid a dweud wrthynt: “Os na ddywedwch wrthyf pwy sydd yn bwyta'r bwyd hwn, byddwch farw. Ond os gallwch ddangos mai Bel sydd yn ei fwyta, caiff Daniel farw am ddweud cabledd yn erbyn Bel.”
1:9 Yna dywedodd Daniel wrth y brenin, “Boed felly.”
1:10 Yr oedd gan Bel ddeg a thrigain o offeiriaid, heblaw eu gwragedd a'u plant. Aeth y brenin gyda Daniel i deml Bel.
1:11 Dywedodd offeiriaid Bel, “Fe awn ni allan yn awr. Fe gei di, frenin, osod y bwydydd yn eu lle, a chymysgu'r gwin a gosod hwnnw. Cau'r drws wedyn, a'i selio â'th fodrwy dy hun. Tyrd yn ôl yn y bore, ac os na fyddi'n gweld bod Bel wedi bwyta'r cwbl, fe gei ein lladd. Onid e, caiff Daniel ei ladd, am iddo ddweud celwydd yn ein herbyn ni.”
1:12 Ond siarad yn ddirmygus yr oeddent, gan eu bod wedi gwneud ffordd gudd dan y bwrdd; byddent yn mynd yn ôl a blaen ar hyd-ddi, ac yn bwyta'r cwbl.
1:13 Wedi i'r offeiriaid fynd allan, gosododd y brenin y bwyd gerbron Bel.
1:14 Gorchmynnodd Daniel i'w weision ddod â lludw a'i daenu dros yr holl deml yng ngŵydd y brenin yn unig. Ac aethant allan a chloi'r drws a'i selio â modrwy'r brenin, a mynd i ffwrdd.
1:15 Aeth yr offeiriaid liw nos, yn ôl eu harfer, gyda'u gwragedd a'u plant, a bwyta ac yfed y cwbl.
1:16 Cododd y brenin yn fore iawn, a daeth â Daniel gydag ef.
1:17 Dyma'r brenin yn gofyn, “A yw'r seliau'n gyfan, Daniel?” “Ydynt, frenin,” atebodd ef.
1:18 A chyn gynted ag yr agorwyd y drws, edrychodd y brenin tua'r bwrdd, a gwaeddodd â llais uchel, “Mawr wyt ti, Bel. Nid oes dim twyll ynot, dim o gwbl.”
1:19 Ond chwerthin a wnaeth Daniel, ac atal y brenin rhag mynd i mewn. “Edrych ar y llawr,” meddai, “ac ystyria. Ôl traed pwy yw'r rhain?”
1:20 “Gwelaf ôl traed dynion a gwragedd a phlant,” atebodd y brenin.
1:21 Yn ei gynddaredd galwodd y brenin yr offeiriaid a'u gwragedd a'u plant ynghyd. A dyma hwythau'n dangos iddo'r drysau cudd y daethant i mewn drwyddynt i fwyta'r pethau oedd ar y bwrdd.
1:22 Yna lladdodd y brenin hwy, a rhoi Bel yn llaw Daniel. Dinistriodd yntau y duw a'i deml.

Daniel yn Lladd y Ddraig

1:23 Yr oedd hefyd ddraig fawr a addolid gan y Babiloniaid.
1:24 Dywedodd y brenin wrth Daniel, “Ni fedri wadu nad yw hon yn dduw byw. Felly ymgryma iddi.”
1:25 Atebodd Daniel, “I'r Arglwydd fy Nuw yr ymgrymaf. Duw byw yw ef.
1:26 Ond dyro i mi awdurdod, frenin, ac mi laddaf y ddraig heb na chleddyf na ffon.” Dywedodd y brenin, “Yr wyf yn ei roi iti.”
1:27 Cymerodd Daniel byg a saim a blew, a'u berwi gyda'i gilydd a gwneud teisennau ohonynt; ac fe'u gosododd yng ngheg y ddraig. Bwytaodd hithau hwy, ac fe ffrwydrodd.
1:28 Dywedodd Daniel, “Edrychwch ar y pethau yr ydych yn eu haddoli.” Pan glywodd y Babiloniaid hyn, aethant yn ddig, a throi yn erbyn y brenin a dweud, “Y mae'r brenin wedi troi'n Iddew. Y mae wedi distrywio Bel, a lladd y ddraig, a rhoi'r offeiriaid i farwolaeth.”
1:29 Daethant at y brenin a dweud, “Traddoda Daniel i ni. Os na wnei, fe'th laddwn di a'th deulu.”
1:30 Pan welodd y brenin eu bod yn gwasgu'n daer arno, a'i fod mewn argyfwng, traddododd Daniel iddynt.
1:31 Taflasant hwythau ef i ffau'r llewod, ac yno y bu am chwe diwrnod.
1:32 Yr oedd saith llew yn y ffau, a rhoddid iddynt bob dydd ddau ddyn a dwy ddafad. Ond y tro hwn ni roddwyd dim iddynt, er mwyn sicrhau eu bod yn traflyncu Daniel.
1:33 Yr oedd y proffwyd Habacuc yn Jwdea. Yr oedd wedi berwi cawl, a malu briwsion bara yn y cawg, ac yr oedd ar ei ffordd i'r maes i'w ddwyn i'r medelwyr.
1:34 Dywedodd angel yr Arglwydd wrth Habacuc, “Dos â'r bwyd sydd gennyt i Fabilon, at Daniel yn ffau'r llewod.”
1:35 “F'arglwydd,” meddai Habacuc, “ni welais i Fabilon erioed, ac ni wn ble mae'r ffau.”
1:36 Ond cymerodd angel yr Arglwydd ef gerfydd ei gorun, gan afael yng ngwallt ei ben, a thrwy nerth ei anadl gosododd ef ym Mabilon uwchben y ffau.
1:37 “Daniel, Daniel,” gwaeddodd Habacuc, “cymer y bwyd a anfonodd Duw iti.”
1:38 Atebodd Daniel, “Cofiaist amdanaf, O Dduw. Ni chefnaist ar y sawl sy'n dy garu.”
1:39 Cododd Daniel a bwyta. Yna aeth angel yr Arglwydd â Habacuc yn ôl ar unwaith i'w le ei hun.
1:40 Daeth y brenin ar y seithfed dydd i alaru am Daniel. Wedi dod at y ffau ac edrych i mewn, dyna lle'r oedd Daniel yn eistedd.
1:41 Gwaeddodd y brenin â llais uchel, “Mawr wyt ti, O Arglwydd Dduw Daniel! Nid oes Duw arall ond tydi.”
1:42 Yna tynnodd ef i fyny, a thaflodd i'r ffau y rhai oedd wedi ceisio achos i'w ladd. Ac ar unwaith fe'u traflyncwyd hwy o flaen ei lygaid.