GWEDDI MANASSE

NODIAD. Priodolir y weddi hon i'r Brenin Manasse ar yr achlysur y ceir hanes amdano yn 2 Cron. 33:12-20.

1:1 Arglwydd hollalluog, Duw ein hynafiaid ni, Duw Abraham, Isaac a Jacob, a'u hiliogaeth gyfiawn hwy;
1:2 ti a wnaeth nef a daear a holl ysblander eu trefn,
1:3 ti a rwymodd y môr â gair dy orchymyn, ti a glodd y dyfnder a'i selio â'th enw ofnadwy a gogoneddus;
1:4 y mae pob peth yn crynu ac yn dychrynu gerbron dy allu di.
1:5 Oherwydd ni ellir goddef gorwychder dy ogoniant, nac ymddál dan ddicter dy fygwth ar bechaduriaid;
1:6 ond difesur a diamgyffred yw'r drugaredd a addewaist.
1:7 Ti yw'r Arglwydd goruchaf, tosturiol, hirymarhous, a mawr dy drugaredd, yn ymatal rhag cosbi drygioni pobl.
1:8 Tydi, felly, Arglwydd Dduw y cyfiawn, nid i rai cyfiawn yr ordeiniaist edifeirwch, nid i Abraham, Isaac a Jacob, na phechasant yn dy erbyn; ond ordeiniaist edifeirwch i mi, sy'n bechadur,
1:9 oherwydd lluosocach na thywod y môr yw nifer fy mhechodau i. Amlhaodd fy nhroseddau, O Arglwydd; amlhau a wnaethant, fel nad wyf deilwng i edrych i fyny a syllu ar uchder y nefoedd, gan mor niferus yw fy nghamweddau.
1:10 Rwy'n wargrwm dan gadwyn drom o haearn, fel na allaf godi fy mhen ar gyfrif fy mhechodau; nid oes imi ymwared, gan imi gyffroi dy ddicter di a gwneud yr hyn sy'n ddrwg yn dy olwg, trwy godi eilunod ffiaidd a phentyrru pethau atgas.
1:11 Ac yn awr rwy'n darostwng fy nghalon, gan ddeisyf dy diriondeb.
1:12 Pechadur wyf, O Arglwydd, pechadur, ac yr wyf yn cydnabod fy nhroseddau.
1:13 Gofyn yr wyf, a deisyf arnat, arbed fi, O Arglwydd, arbed fi. Paid â'm difetha i gyda'm troseddau; paid â llidio'n dragwyddol wrthyf, na chadw drygioni mewn stôr imi; paid â'm condemnio i barthau isaf y ddaear; oherwydd Duw yr edifeiriol wyt ti, O Arglwydd.
1:14 Ynof fi y dangosi dy ddaioni; er mor annheilwng wyf, fe'm hachubi yn ôl dy drugaredd fawr.
1:15 Clodforaf di yn wastad holl ddyddiau fy mywyd. Oherwydd y mae holl lu'r nefoedd yn dy foliannu di, ac eiddot ti yw'r gogoniant am byth. Amen.