LLYFR CYNTAF Y MACABEAID

Alexander Fawr

1:1 Ar ôl i Alexander y Macedoniad, mab Philip, ddod allan o wlad Chittim, a threchu Dareius brenin y Persiaid a'r Mediaid, teyrnasodd yn ei le; yr oedd eisoes yn frenin gwlad Groeg.
1:2 Ymladdodd frwydrau lawer, gan feddiannu ceyrydd a lladd brenhinoedd y ddaear.
1:3 Tramwyodd hyd eithafoedd y ddaear a chymryd ysbail oddi wrth lawer o genhedloedd. Ar ôl i'r byd dawelu dan ei lywodraeth, ymddyrchafodd ac aeth yn drahaus.
1:4 Casglodd fyddin eithriadol gref a llywodraethodd ar diroedd a chenhedloedd a thywysogion, a hwythau'n talu trethi iddo.
1:5 Ar ôl hyn trawyd ef yn glaf, a deallodd ei fod yn marw.
1:6 Felly galwodd ei gadfridogion, y rheini oedd wedi eu magu gydag ef o'i ieuenctid, a rhannodd ei deyrnas rhyngddynt tra oedd eto'n fyw.
1:7 Bu Alexander yn teyrnasu am ddeuddeng mlynedd cyn iddo farw.
1:8 Yna dechreuodd ei gadfridogion lywodraethu, pob un yn ei dalaith ei hun.
1:9 Ar ôl ei farwolaeth ef, mynnodd pob un goron brenin, ac felly hefyd eu meibion ar eu hôl hwy am flynyddoedd lawer, a daethant â mwy a mwy o drallodion i'r byd.
1:10 O'u plith hwy y daeth y gwreiddyn pechadurus Antiochus Epiffanes, mab i'r Brenin Antiochus, a fuasai'n wystl yn Rhufain. Daeth ef i'r orsedd yn y flwyddyn 137 o deyrnasiad y Groegiaid.

Yr Iddewon a Wrthgiliodd (2 Mac. 4:7-17)

1:11 Yn y dyddiau hynny cododd yn Israel rai oedd wedi gwrthgilio oddi wrth y gyfraith, a chawsant berswâd ar lawer trwy ddweud, “Gadewch i ni fynd a gwneud cyfamod â'r Cenhedloedd sydd o'n hamgylch, oherwydd o'r amser y bu i ni ymwahanu oddi wrthynt, daeth llawer o drallodion ar ein gwarthaf.”
1:12 Yr oedd y cyngor hwn yn dderbyniol yng ngolwg y bobl, ac aeth rhai ohonynt yn eiddgar at y brenin.
1:13 Rhoddodd ef ganiatâd iddynt i ddilyn arferion y Cenhedloedd,
1:14 ac adeiladasant yn Jerwsalem gampfa chwaraeon yn null y Cenhedloedd.
1:15 Cuddiasant eu cyflwr enwaededig, a gwrthgilio oddi wrth y cyfamod sanctaidd; ymunasant â'r Cenhedloedd, a'u gwerthu eu hunain i wneud drygioni.

Antiochus Epiffanes yn Ymosod ar yr Aifft

1:16 Pan farnodd Antiochus fod ei deyrnas yn ddiogel, penderfynodd ddod yn frenin ar wlad yr Aifft, er mwyn bod yn frenin ar y ddwy deyrnas.
1:17 Ymosododd ar yr Aifft gyda byddin enfawr, yn cynnwys cerbydau rhyfel ac eliffantod a gwŷr meirch a llynges fawr,
1:18 a dechrau rhyfela yn erbyn Ptolemeus brenin yr Aifft.Trodd Ptolemeus yn ôl oddi wrtho a ffoi, a lladdwyd llawer o'i filwyr.
1:19 Cymerwyd meddiant o'r trefi caerog yng ngwlad yr Aifft, ac ysbeiliodd Antiochus y wlad.

Erlid yr Iddewon

1:20 Wedi iddo oresgyn yr Aifft, yn y flwyddyn 143, dychwelodd Antiochus ac aeth i fyny yn erbyn Israel a mynd i Jerwsalem gyda byddin gref.
1:21 Yn ei ryfyg aeth i mewn i'r deml a dwyn ymaith yr allor aur, a'r ganhwyllbren gyda'i holl offer,
1:22 a bwrdd y bara cysegredig a'r cwpanau a'r cawgiau a'r thuserau aur a'r llen a'r coronau. Rhwygodd ymaith yr holl addurn aur oedd ar wyneb y deml.
1:23 Cymerodd hefyd yr arian a'r aur a'r llestri gwerthfawr, a hefyd y trysorau cuddiedig y daeth o hyd iddynt.
1:24 Gan gymryd y cyfan gydag ef, dychwelodd i'w wlad ei hun. Gwnaeth gyflafan fawr a llefarodd yn dra rhyfygus.
1:25 Bu galar mawr yn Israel ym mhobman;
1:26 griddfanodd llywodraethwyr a henuriaid, llesgaodd genethod a llanciau, gwywodd tegwch y gwragedd.
1:27 Ymunodd pob priodfab yn y galar, ac wylai'r briodferch yn yr ystafell briodas.
1:28 Crynodd y tir ei hun dros ei drigolion, a gwisgwyd holl dŷ Jacob â chywilydd.
1:29 Ar ôl dwy flynedd, anfonodd y brenin brif gasglwr trethi i drefi Jwda, a daeth ef i Jerwsalem gyda byddin gref.
1:30 Llefarodd ef eiriau heddychlon wrthynt yn ddichellgar, a chredodd y bobl ef. Yna yn ddisymwth ymosododd ar y ddinas a'i tharo ag ergyd galed, a lladdodd lawer o bobl Israel.
1:31 Ysbeiliodd y ddinas a'i rhoi ar dân, a thynnu i lawr ei thai a'r muriau o'i hamgylch.
1:32 Cymerasant y gwragedd a'r plant yn gaethion a meddiannu'r gwartheg.
1:33 Yna gwnaethant Ddinas Dafydd yn gaerog, gyda mur uchel a chryf a thyrau cedyrn, a daeth yn amddiffynfa iddynt.
1:34 Gosodasant yno bobl bechadurus, dynion digyfraith, a'i gwneud yn gadarnle.
1:35 Cynullasant stôr o arfau a bwyd, ac wedi casglu ynghyd ysbail Jerwsalem fe'i rhoesant yno, a daethant yn berygl enbyd.
1:36 Yr oedd y lle yn fan cynllwynio yn erbyn y cysegr ac yn fygythiad dieflig i Israel yn barhaus.
1:37 Tywalltasant waed y dieuog o amgylch y cysegr, a halogi'r cysegr ei hun.
1:38 O'u plegid hwy, ffodd trigolion Jerwsalem, a daeth y ddinas yn breswylfa i estroniaid; daeth yn ddieithr i'w hiliogaeth ei hun, a gadawyd hi gan ei phlant.
1:39 Gwnaethpwyd ei chysegr yn anghyfannedd fel anialwch; trowyd ei gwyliau yn alar a'i Sabothau yn waradwydd, a'i hanrhydedd yn ddirmyg.
1:40 Mawr y gogoniant a fu iddi gynt, a mawr yr amarch a ddaeth iddi yn awr; a throwyd ei gwychder yn dristwch.
1:41 Yna rhoddodd y brenin orchymyn i'w holl deyrnas fod pawb ohonynt i ddod yn un bobl, a phob un i ymwrthod â'i arferion crefyddol ei hun.
1:42 Cydymffurfiodd y Cenhedloedd i gyd â gorchymyn y brenin,
1:43 ac yr oedd llawer hyd yn oed yn Israel yn cytuno â'i grefydd ef, gan aberthu i eilunod a halogi'r Saboth.
1:44 Anfonodd y brenin lythyrau trwy ei negeswyr i Jerwsalem a threfi Jwda, yn eu gorchymyn i ddilyn arferion oedd yn ddieithr i'r wlad.
1:45 Yr oeddent i wahardd poethoffrymau ac aberthau a diodoffrwm yn y cysegr, ac i halogi'r Sabothau a'r gwyliau,
1:46 a digysegru'r deml a'r offeiriaid.
1:47 Yr oeddent i adeiladu allorau a chysegrleoedd a themlau i eilunod, ac i aberthu moch ac anifeiliaid halogedig, a gadael eu meibion yn ddienwaededig;
1:48 yr oeddent i'w halogi eu hunain â phob math o aflendid a llygredd,
1:49 ac felly i anghofio'r gyfraith a newid yr holl ddeddfau.
1:50 Cosb anufudd-dod i orchymyn y brenin fyddai marwolaeth.
1:51 Gyda'r gorchmynion hyn i gyd ysgrifennodd y brenin at ei holl deyrnas, a phenododd arolygwyr dros y bobl i gyd, gan orchymyn i drefi Jwda offrymu aberthau fesul un.
1:52 Ymunodd llawer o'r bobl â hwy, sef pawb oedd am ymwrthod â'r gyfraith, a chyflawni drygioni yn y wlad,
1:53 a gyrru Israel i guddio mewn lleoedd dirgel, ym mhob lloches oedd ganddynt.
1:54 Ar y pymthegfed dydd o fis Cislef, yn y flwyddyn 145, bu iddynt adeiladu ffieiddbeth diffeithiol ar yr allor, a chodi allorau i eilunod yn y trefi o amgylch Jwda,
1:55 ac arogldarthu wrth ddrysau'r tai ac yn yr heolydd.
1:56 Torrwyd yn ddarnau lyfrau'r gyfraith a ddarganfuwyd, a'u llosgi â thân.
1:57 A phan gaed llyfr y cyfamod ym meddiant rhywun, neu os byddai rhywun yn cydymffurfio â'r gyfraith, fe'i lleddid yn unol â gorchymyn y brenin.
1:58 Fis ar ôl mis yr oeddent yn defnyddio'u grym yn erbyn yr Israeliaid a gafwyd yn y trefi.
1:59 Ac ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, offrymasant aberthau ar yr allor yr oeddent wedi ei chodi ar ben allor yr Arglwydd.
1:60 Yn unol â'r gorchymyn, lladdasant y gwragedd oedd wedi enwaedu ar eu plant,
1:61 gan grogi'r babanod wrth yddfau eu mamau; lladdasant hefyd eu teuluoedd, a'r sawl oedd yn enwaededig.
1:62 Er hynny, safodd llawer yn Israel yn gadarn, yn gwbl benderfynol na fynnent fwyta dim halogedig.
1:63 Yr oedd yn well ganddynt farw yn hytrach na chael eu llygru â bwydydd a halogi'r cyfamod sanctaidd; a marw a wnaethant.
1:64 A bu digofaint mawr iawn ar Israel.

Teyrngarwch Matathias

2:1 Yn y dyddiau hynny, symudodd Matathias fab Ioan, fab Simeon, offeiriad o deulu Joarib, o Jerwsalem ac ymsefydlu yn Modin.
2:2 Yr oedd ganddo bump o feibion: Ioan a elwid Gadi,
2:3 Simon a elwid Thasi,
2:4 Jwdas a elwid Macabeus,
2:5 Eleasar a elwid Abaran, a Jonathan a elwid Apffws.
2:6 Pan welodd Matathias y pethau cableddus oedd yn digwydd yn Jwda ac yn Jerwsalem,
2:7 dywedodd: “Gwae fi! Pam y'm ganwyd i weld dinistr fy mhobl a dinistr y ddinas sanctaidd, ac i drigo yno pan roddwyd hi yn nwylo gelynion, a'i chysegr yn nwylo estroniaid?
2:8 Aeth ei theml fel rhywun a ddianrhydeddwyd,
2:9 a dygwyd ymaith ei llestri gogoneddus yn ysbail; lladdwyd ei babanod yn ei heolydd, a'i gwŷr ifainc gan gleddyf y gelyn.
2:10 Pa genedl na feddiannodd ei phalasau hi, ac na wnaeth hi'n ysbail?
2:11 Anrheithiwyd ei holl harddwch hi, ac o fod yn rhydd, aeth yn gaethferch.
2:12 Ac wele, ein cysegr a'n ceinder a'n gogoniant wedi eu troi'n ddiffeithwch; y Cenhedloedd a'u halogodd.
2:13 Pa fudd yw i ni bellach ddal yn fyw?”
2:14 A rhwygodd Matathias a'i feibion eu dillad; gwisgasant sachliain a galaru'n chwerw.
2:15 Yna daeth swyddogion y brenin, a oedd yn gorfodi'r bobl i gefnu ar eu crefydd, i dref Modin i beri iddynt aberthu.
2:16 Aeth llawer o bobl Israel atynt; a daeth Matathias a'i feibion ynghyd hefyd.
2:17 Dywedodd swyddogion y brenin wrth Matathias: “Yr wyt ti'n arweinydd ac yn ddyn o fri a dylanwad yn y dref hon, a'th feibion a'th frodyr yn gefn iti.
2:18 Yn awr, tyrd dithau yn gyntaf, ac ufuddha i orchymyn y brenin, fel y gwnaeth yr holl Genhedloedd, a thrigolion Jwda, a'r rhai a adawyd ar ôl yn Jerwsalem. Yna cei di a'th feibion eich cyfrif yn Gyfeillion y Brenin; cei di a'th feibion eich anrhydeddu ag arian ac aur a llawer o anrhegion.”
2:19 Ond atebodd Matathias â llais uchel: “Er bod yr holl genhedloedd sydd dan lywodraeth y brenin yn gwrando arno, ac yn cefnu bob un ar grefydd eu hynafiaid, ac yn cytuno â'i orchmynion,
2:20 eto yr wyf fi a'm brodyr am ddilyn llwybr cyfamod ein hynafiaid.
2:21 Na ato Duw i ni gefnu ar y gyfraith a'i hordeiniadau.
2:22 Nid ydym ni am ufuddhau i orchmynion y brenin, trwy wyro oddi wrth ein crefydd i'r dde nac i'r chwith.”
2:23 Cyn gynted ag y peidiodd â llefaru'r geiriau hyn, daeth rhyw Iddew ymlaen yng ngolwg pawb, i aberthu ar yr allor yn Modin, yn ôl gorchymyn y brenin.
2:24 Pan welodd Matathias ef, fe'i llanwyd â sl digllon a chynhyrfwyd ef drwyddo. Wedi ei danio gan ddicter cyfiawn fe redodd at y dyn a'i ladd ar yr allor,
2:25 a'r un pryd lladdodd swyddog y brenin a oedd yn gorfodi'r aberthu, a dymchwelodd yr allor.
2:26 Felly dangosodd ei sl dros y gyfraith, fel y gwnaeth Phinees pan laddodd Sambri fab Salom.
2:27 Yna gwaeddodd Matathias yn y dref â llais uchel: “Pob un sy'n selog dros y gyfraith ac sydd am gadw'r cyfamod, deued ar fy ôl i.”
2:28 A ffodd ef a'i feibion i'r mynyddoedd, gan adael eu meddiannau yn y dref.

Gwrthryfel Matathias

2:29 Yna aeth llawer oedd yn ceisio cyfiawnder a barn i lawr i'r anialwch i aros yno, gyda'u meibion a'u gwragedd a'u hanifeiliaid,
2:30 oherwydd bod trallodion wedi gwasgu'n galed arnynt.
2:31 Ac adroddwyd wrth swyddogion y brenin a'r lluoedd oedd yn Jerwsalem, dinas Dafydd, bod pobl a dorrodd orchymyn y brenin wedi mynd i lawr i'r llochesau yn yr anialwch.
2:32 Rhuthrodd llawer ohonynt ar eu hôl a'u goddiweddyd, a gwersyllu gyferbyn â hwy, a pharatoi cyrch yn eu herbyn ar y Saboth.
2:33 A dywedasant wrthynt: “Dyna ddigon! Dewch allan ac ufuddhewch i orchymyn y brenin, a chewch fyw.”
2:34 Ond atebasant: “Ni ddown ni allan, ac ni chyflawnwn orchymyn y brenin i halogi'r Saboth.”
2:35 Yna prysurodd y gelyn i ymosod arnynt.
2:36 Ond ni wnaethant hwy ddim mewn ymateb iddynt, na lluchio carreg atynt, na chau'r llochesau rhagddynt.
2:37 Dywedasant: “Gadewch i ni i gyd farw â chydwybod lân; y mae nef a daear yn tystiolaethu drosom mai'n anghyfiawn yr ydych yn ein lladd.”
2:38 A gwnaed cyrch ar yr Israeliaid ar y Saboth, a buont farw, ynghyd â'u gwragedd a'u plant a'u hanifeiliaid, hyd at fil o eneidiau.
2:39 Pan glywodd Matathias a'i gyfeillion am hyn, mawr fu eu galar drostynt.
2:40 A dywedodd pob un wrth ei gilydd: “Os gwnawn ni i gyd fel y gwnaeth ein brodyr, a gwrthod ymladd yn erbyn y Cenhedloedd dros ein bywydau a'n hordeiniadau, yna yn fuan byddant yn ein dileu oddi ar y ddaear.”
2:41 Felly, y diwrnod hwnnw, gwnaethant y penderfyniad hwn: “Os daw unrhyw un i ymosod arnom ar y Saboth, gadewch i ni ryfela yn ei erbyn; nid ydym ni am farw i gyd, fel y bu farw ein brodyr yn y llochesau.”
2:42 A'r pryd hwnnw daeth cwmni o Hasideaid i ymuno â hwy, gwŷr cadarn o Israeliaid, a phob un ohonynt wedi gwirfoddoli i amddiffyn y gyfraith.
2:43 Daeth pawb oedd wedi ffoi rhag yr erledigaethau i ymuno â hwy, a buont yn atgyfnerthiad iddynt.
2:44 Ffurfiasant fyddin, a tharo i lawr bechaduriaid yn eu dicter, a rhai digyfraith yn eu llid; yna ffodd y rhai oedd ar ôl at y Cenhedloedd, er mwyn bod yn ddiogel.
2:45 Aeth Matathias a'i gyfeillion oddi amgylch, gan dynnu'r allorau i lawr,
2:46 a gorfodi enwaediad ar y plant dienwaededig a gawsant o fewn ffiniau Israel.
2:47 Erlidiasant y rhai ffroenuchel, a llwyddodd y gwaith hwnnw yn eu dwylo.
2:48 Felly gwaredasant y gyfraith o law y Cenhedloedd a'u brenhinoedd, ac ni roesant gyfle i'r pechadur gael y trechaf.

Marw Matathias

2:49 Pan nesaodd y dyddiau i Matathias farw, dywedodd wrth ei feibion: “Yn awr aeth balchder a gwaradwydd yn gadarn; amser dinistr a dicter chwyrn yw hwn.
2:50 Felly, fy mhlant, byddwch selog dros y gyfraith a rhowch eich bywydau dros gyfamod ein hynafiaid.
2:51 Cofiwch weithredoedd ein hynafiaid, a gyflawnwyd ganddynt yn eu cenedlaethau, a derbyniwch ogoniant mawr a chlod tragwyddol.
2:52 Oni chafwyd Abraham yn ffyddlon dan ei brawf, ac oni chyfrifwyd hynny yn gyfiawnder iddo?
2:53 Cadwodd Joseff y gorchymyn yn amser ei gyfyngder, a daeth yn arglwydd ar yr Aifft.
2:54 Yn ei sl ysol derbyniodd Phinees ein cyndad gyfamod offeiriadaeth dragwyddol.
2:55 Wrth gyflawni'r gorchymyn, daeth Josua yn farnwr yn Israel.
2:56 Cafodd Caleb, am iddo ddwyn tystiolaeth yn y gynulleidfa, y tir yn etifeddiaeth.
2:57 Etifeddodd Dafydd, ar gyfrif ei drugaredd, orsedd teyrnas dragwyddol.
2:58 Oherwydd ei fawr sl dros y gyfraith cymerwyd Elias i fyny i'r nef.
2:59 Oherwydd eu ffydd, achubwyd Ananias, Asarias a Misael o'r tân.
2:60 Gwaredwyd Daniel, ar gyfrif ei unplygrwydd, o safn y llewod.
2:61 Ac felly ystyriwch, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, nad yw neb sy'n ymddiried ynddo ef yn diffygio.
2:62 Peidiwch ag ofni geiriau dyn pechadurus, oherwydd fe dry ei ogoniant yn dom ac yn bryfed.
2:63 Heddiw fe'i dyrchefir, ond yfory ni bydd sôn amdano, am iddo ddychwelyd i'r llwch, a'i gynlluniau wedi darfod.
2:64 Fy mhlant, ymwrolwch a byddwch gadarn dros y gyfraith, oherwydd trwyddi hi y'ch gogoneddir.
2:65 A dyma Simon eich brawd; gwn ei fod yn ŵr o gyngor. Gwrandewch arno ef bob amser, a bydd ef yn dad i chwi.
2:66 A Jwdas Macabeus yntau, a fu'n ŵr cadarn o'i ieuenctid, bydd ef yn gapten ar eich byddin ac yn arwain y frwydr yn erbyn y bobloedd.
2:67 A chwithau, casglwch o'ch amgylch bawb sy'n cadw'r gyfraith, a mynnwch ddial am gamwri eich pobl.
2:68 Talwch yn ôl i'r Cenhedloedd hyd yr eithaf, ac ufuddhewch i ordinhad y gyfraith.”
2:69 Yna bendithiodd Matathias hwy, a chasglwyd ef at ei hynafiaid.
2:70 Bu farw yn y flwyddyn 146, a chladdwyd ef ym medd ei hynafiaid yn Modin, a galarodd Israel gyfan yn ddirfawr amdano.

Buddugoliaethau Cyntaf Jwdas (2 Mac. 8:1-7)

3:1 Yna cododd ei fab Jwdas, a elwid Macabeus, yn lle ei dad.
3:2 Rhoddodd ei holl frodyr gymorth iddo, ac felly hefyd bawb a fu'n ganlynwyr i'w dad, a daliasant ati â llawenydd i ymladd y frwydr dros Israel.
3:3 Helaethodd ogoniant ei bobl. Gwisgodd ddwyfronneg fel cawr, ac ymwregysu â'i arfau rhyfel. Cynlluniodd frwydrau, gan amddiffyn ei fyddin â'i gleddyf.
3:4 Yr oedd fel llew yn ei gampau, fel cenau llew yn rhuo am ysglyfaeth.
3:5 Chwiliodd am y rhai digyfraith a'u herlid, a difa'r rhai a darfai ar ei bobl.
3:6 Ciliodd y digyfraith rhagddo mewn braw, a thrallodwyd holl weithredwyr drygioni. Ffynnodd achos gwaredigaeth dan ei law ef.
3:7 Parodd ddicter i frenhinoedd lawer ond rhoes lawenydd i Jacob drwy ei weithredoedd. Bendigedig fydd ei goffadwriaeth am byth.
3:8 Tramwyodd drwy drefi Jwda gan lwyr ddinistrio'r annuwiol o'r tir. Trodd ymaith y digofaint oddi wrth Israel.
3:9 Daeth yn enwog hyd at derfynau'r ddaear, a chasglodd ynghyd y rhai oedd ar ddarfod amdanynt.
3:10 Casglodd Apolonius rai o blith y Cenhedloedd, a byddin gref o Samaria, i ryfela yn erbyn Israel. Pan glywodd Jwdas am hyn, aeth allan i'w gyfarfod.
3:11 Trawodd ef a'i ladd; archollwyd a lladdwyd llawer o filwyr y gelyn, a ffodd y gweddill.
3:12 Cymerwyd eu hysbail hwy, a Jwdas yn cymryd cleddyf Apolonius; â hwnnw yr ymladdodd wedyn holl ddyddiau ei fywyd.
3:13 Pan glywodd Seron, capten byddin Syria, fod Jwdas wedi casglu ato lu mawr, a chwmni o ffyddloniaid ac o rai a arferai fynd i ryfel,
3:14 dywedodd, “Gwnaf enw i mi fy hun, ac enillaf ogoniant yn y deyrnas trwy ryfela yn erbyn Jwdas a'i ganlynwyr, sy'n diystyru gorchymyn y brenin.”
3:15 Aeth i fyny â chwmni cryf o ddynion annuwiol gydag ef yn gymorth, i ddial ar blant Israel.
3:16 Nesaodd at fwlch Beth-horon, lle daeth Jwdas i'w gyfarfod gyda chwmni bychan.
3:17 Pan welodd ei ganlynwyr y fyddin yn dod i'w cyfarfod, dywedasant wrth Jwdas, “Sut y gallwn ni, a ninnau'n gwmni bychan, frwydro yn erbyn y fath dyrfa gref â hon? Ac at hynny, yr ydym yn diffygio, gan na chawsom fwyd heddiw.”
3:18 Atebodd Jwdas, “Y mae'n ddigon hawdd i lawer gael eu cau i mewn gan ychydig, ac nid oes gwahaniaeth yng ngolwg y nef prun ai trwy lawer neu trwy ychydig y daw gwaredigaeth.
3:19 Nid yw buddugoliaeth mewn rhyfel yn dibynnu ar luosogrwydd byddin; o'r nef yn hytrach y daw nerth.
3:20 Y maent yn ymosod arnom, yn llawn traha ac anghyfraith, i'n dinistrio ni a'n gwragedd a'n plant, ac i'n hysbeilio,
3:21 ond yr ydym ninnau'n brwydro dros ein bywydau a'n cyfreithiau.
3:22 Bydd ef yn eu dryllio o flaen ein llygaid; felly peidiwch chwi â'u hofni.”
3:23 Wedi iddo orffen siarad, gwnaeth ymosodiad sydyn ar y gelyn, a drylliwyd Seron a'i fyddin o'i flaen.
3:24 Ymlidiasant Seron i lawr trwy fwlch Beth-horon hyd at y gwastadedd, a lladd tua wyth gant o'r gelyn; ffodd y gweddill i wlad y Philistiaid.
3:25 Yna dechreuwyd ofni Jwdas a'i frodyr, a syrthiodd braw ar y Cenhedloedd o'u hamgylch.
3:26 Daeth ei fri i glustiau'r brenin, ac yr oedd sôn ymhlith y cenhedloedd am frwydrau Jwdas.

Penodi Lysias yn Llywodraethwr

3:27 Pan glywodd y Brenin Antiochus y newydd yma, aeth yn ddig dros ben, a gorchmynnodd gasglu ynghyd holl luoedd ei deyrnas, yn fyddin gref iawn.
3:28 Agorodd ei drysorfa, a rhoi cyflog blwyddyn i'w filwyr, a gorchymyn iddynt fod yn barod ar gyfer unrhyw anghenraid.
3:29 Ond gwelodd fod yr arian yn ei drysorfa wedi pallu, am fod y trethi a gesglid o'r dalaith yn fach, ar gyfrif yr ymraniad a'r trychineb yr oedd ef wedi eu dwyn ar y wlad trwy ddiddymu'r cyfreithiau a oedd mewn bod er y dyddiau cynharaf.
3:30 Aeth i ofni hefyd na fyddai ganddo ddigon o arianfel y digwyddodd unwaith neu ddwy o'r blaenar gyfer ei dreuliau, ac ar gyfer yr anrhegion yr arferai eu rhoi mor hael, yn helaethach hyd yn oed na'r brenhinoedd a fu o'i flaen.
3:31 Yr oedd mewn penbleth mawr; yna penderfynodd fynd i Persia i gasglu trethi'r taleithiau a chodi swm mawr o arian.
3:32 Gadawodd ar ei ôl Lysias, gŵr enwog o linach brenhinol, i fod yn gyfrifol am fuddiannau'r brenin o Afon Ewffrates hyd at ffiniau'r Aifft,
3:33 ac i ofalu am Antiochus ei fab hyd nes y byddai ef ei hun yn dychwelyd.
3:34 Trosglwyddodd hanner ei fyddinoedd iddo, ynghyd â'r eliffantod, a rhoddodd gyfarwyddyd iddo ynglŷn â'r cwbl yr oedd am iddo'i wneud, yn enwedig ynglŷn â thrigolion Jwdea a Jerwsalem.
3:35 Yr oedd i anfon byddin yn erbyn y rhain, i ddryllio a dinistrio cryfder Israel a gweddill Jerwsalem, a dileu'r cof amdanynt o'r lle.
3:36 Yr oedd hefyd i osod estroniaid yn eu holl diriogaeth, a rhannu eu gwlad i'r rheini drwy goelbrennau.
3:37 Yna cymerodd y brenin yr hanner o'i fyddin a oedd yn weddill, ac ymadawodd o Antiochia, ei brif ddinas, yn y flwyddyn 147. Croesodd Afon Ewffrates ac aeth trwy daleithiau'r dwyrain.

Buddugoliaethau Pellach Jwdas (2 Mac. 8:8-29, 34-36)

3:38 Dewisodd Lysias ddynion cryf o blith Cyfeillion y Brenin, sef Ptolemeus fab Dorymenes, a Nicanor a Gorgias,
3:39 ac anfonodd gyda hwy ddeugain mil o wŷr traed a saith mil o wŷr meirch i fynd i wlad Jwda i'w dinistrio hi yn ôl gorchymyn y brenin.
3:40 Ymadawsant felly gyda'u holl lu, a daethant a gwersyllu ger Emaus, ar y gwastatir.
3:41 A phan glywodd masnachwyr y dalaith y sôn amdanynt, cymerasant swm enfawr o arian ac aur, ynghyd â llyffetheiriau, a daethant i'r gwersyll i brynu plant Israel yn gaethweision. Ymunodd byddin o Syria ac o wlad y Philistiaid â hwy.
3:42 Pan welodd Jwdas a'i frodyr fod pethau'n mynd o ddrwg i waeth, a bod byddinoedd yn gwersyllu y tu mewn i ffiniau eu gwlad, a hwythau'n gwybod am orchmynion y brenin i ddinistrio'r genedl yn llwyr,
3:43 dywedasant wrth ei gilydd, “Gadewch i ni ailgodi adfeilion ein pobl, ac ymladd dros ein pobl a'n cysegr.”
3:44 Daeth y gynulleidfa ynghyd i baratoi at ryfel ac i weddo a deisyf am drugaredd a thosturi.
3:45 Yr oedd Jerwsalem yn anghyfannedd fel anialwch, heb neb o'i phlant yn mynd i mewn nac allan, a'i chysegr yn cael ei sathru dan draed. Estroniaid oedd yn ei chaer, a hithau'n llety i'r Cenhedloedd. Amddifadwyd Jacob o'i lawenydd, a distawodd y ffliwt a'r delyn.
3:46 Daethant ynghyd i Mispa, gyferbyn â Jerwsalem, oherwydd yno bu lle gweddi gynt i Israel.
3:47 Y diwrnod hwnnw ymprydiodd y bobl, gan wisgo sachliain a rhoi lludw ar eu pennau a rhwygo'u dillad.
3:48 Agorasant sgrôl y gyfraith, i chwilio am yr hyn yr oedd y Cenhedloedd yn ei gael gan ddelwau eu duwiau.
3:49 Daethant â dillad yr offeiriaid hefyd, a'r blaenffrwythau a'r degymau, a chyflwyno'r Nasireaid a oedd wedi cyflawni eu haddunedau.
3:50 Gwaeddasant yn uchel i'r nefoedd gan ddweud, “Beth a wnawn â'r rhai hyn, ac i ble yr awn â hwy?
3:51 Y mae dy gysegr di wedi ei sathru a'i halogi, a'th offeiriaid mewn galar a darostyngiad.
3:52 A dyma'r Cenhedloedd wedi dod ynghyd yn ein herbyn i'n dinistrio, ac fe wyddost ti beth yw eu cynlluniau yn ein herbyn.
3:53 Sut y gallwn ni eu gwrthsefyll os na fydd i ti ein cynorthwyo?”
3:54 Yna canasant yr utgyrn, a gweiddi â llef uchel.
3:55 Wedi hyn, penododd Jwdas lywodraethwyr ar y bobl, swyddogion dros fil, dros gant, dros hanner cant a thros ddeg.
3:56 A dywedodd wrth y rhai oedd yn adeiladu tai, a'r rhai oedd wedi eu dyweddo, a'r rhai oedd yn plannu gwinllannoedd, a'r rhai ofnus, am ddychwelyd bob un i'w gartref, yn unol â'r gyfraith.
3:57 Ac ymadawodd y fyddin, a gwersyllu i'r de o Emaus.
3:58 Ac meddai Jwdas, “Ymwregyswch a byddwch yn filwyr gwrol, a byddwch yn barod ben bore yfory i ymladd y Cenhedloedd hyn sydd wedi ymgasglu yn ein herbyn i'n dinistrio ni a'n cysegr.
3:59 Oherwydd y mae'n well inni farw mewn brwydr na gwylio trychineb yn disgyn ar ein cenedl a'i chysegr.
3:60 Ond fel yr ewyllysir yn y nef, felly y bydd.”

4:1 Yna cymerodd Gorgias bum mil o wŷr traed a mil o wŷr meirch dethol, ac ymadawodd y fyddin liw nos
4:2 fel y gallai ymosod ar fyddin yr Iddewon a'u taro'n ddisymwth. Yr oedd ganddo ddynion o'r gaer i ddangos y ffordd iddo.
4:3 Ond clywodd Jwdas am hyn ac ymadawodd ef a'i wŷr arfog i daro llu'r brenin yn Emaus
4:4 tra oedd ei finteioedd eto ar wasgar allan o'u gwersyll.
4:5 Pan aeth Gorgias i mewn i wersyll Jwdas liw nos ni chafodd neb yno; aeth i chwilio amdanynt yn y mynyddoedd, gan ddweud wrtho'i hun, “Y mae'r gwŷr hyn ar ffo oddi wrthym.”
4:6 Gyda'r wawr gwelwyd Jwdas yn y gwastadedd gyda thair mil o wŷr; ond nid oedd ganddynt gymaint o arfwisgoedd a chleddyfau ag y dymunent.
4:7 Gwelsant wersyll y Cenhedloedd, yn gadarn yn ei gloddiau amddiffynnol, gyda gwŷr meirch yn gylch amdano, a'r rheini'n rhyfelwyr hyddysg.
4:8 Dywedodd Jwdas wrth y gwŷr oedd gydag ef, “Peidiwch ag ofni eu rhifedi nac arswydo rhag eu cyrch.
4:9 Cofiwch pa fodd yr achubwyd ein hynafiaid wrth y Môr Coch, pan oedd Pharo a'i lu yn eu hymlid.
4:10 Yn awr, felly, gadewch inni godi ein llef i'r nef, i weld a gymer Duw ein plaid a chofio'r cyfamod â'n hynafiaid, a dryllio'r fyddin hon o'n blaen heddiw.
4:11 Caiff yr holl Genhedloedd wybod wedyn fod yna un sy'n gwaredu ac yn achub Israel.”
4:12 Pan edrychodd yr estroniaid, a'u gweld yn dod yn eu herbyn,
4:13 aethant allan o'r gwersyll i'r frwydr. Canodd gwŷr Jwdas eu hutgyrn
4:14 a mynd i'r afael â hwy. Drylliwyd y Cenhedloedd a ffoesant i'r gwastadedd,
4:15 a syrthiodd y rhengoedd ôl i gyd wedi eu trywanu â'r cleddyf. Ymlidiasant hwy hyd at Gasara, a hyd at wastadeddau Idwmea, Asotus a Jamnia, a syrthiodd tua thair mil o'u gwŷr.
4:16 Dychwelodd Jwdas a'i lu o'u hymlid,
4:17 a dywedodd wrth y bobl, “Peidiwch â chwennych ysbail, oherwydd y mae rhagor o ryfela o'n blaen.
4:18 Y mae Gorgias a'i lu yn y mynydd gerllaw. Yn hytrach, dyma'r amser i wynebu ein gelynion ac ymladd; wedi hynny cewch gymryd yr ysbail yn hyderus.”
4:19 A Jwdas ar fin gorffen y geiriau hyn, gwelwyd mintai yn edrych allan o gyfeiriad y mynydd.
4:20 Gwelsant fod eu byddin ar ffo, a bod eu gwersyll ar dân, oherwydd yr oedd y mwg a welid yn dangos beth oedd wedi digwydd.
4:21 O ganfod hyn dychrynasant yn ddirfawr, a phan welsant hefyd fyddin Jwdas yn y gwastadedd yn barod i'r frwydr,
4:22 ffoesant oll i dir y Philistiaid.
4:23 Yna dychwelodd Jwdas i ysbeilio'r gwersyll, a chymerasant lawer o aur ac arian a sidan glas a phorffor o liw'r môr, a golud mawr.
4:24 Dychwelsant dan ganu mawl a bendithio'r nef, oherwydd ei fod yn dda a'i drugaredd dros byth.
4:25 A'r dydd hwnnw bu ymwared mawr i Israel.

Gorchfygu Lysias (2 Mac. 11:1-12)

4:26 A dyma'r rheini o'r estroniaid oedd wedi dianc yn mynd a mynegi i Lysias y cwbl oedd wedi digwydd.
4:27 Pan glywodd yntau, bwriwyd ef i ddryswch a digalondid, am nad oedd Israel wedi dioddef yn unol â'i fwriad ef, ac am iddo fethu dwyn i ben yr hyn yr oedd y brenin wedi ei orchymyn iddo.
4:28 Ond yn y flwyddyn ganlynol casglodd ynghyd drigain mil o wŷr traed dethol a phum mil o wŷr meirch, i barhau'r rhyfel yn erbyn yr Iddewon.
4:29 Daethant hyd at Idwmea a gwersyllu yn Bethswra, ac aeth Jwdas i'w cyfarfod â deng mil o wŷr.
4:30 Pan welodd y fyddin gref gweddodd fel hyn: “Bendigedig wyt ti, O Waredwr Israel, yr hwn a ddrylliodd gyrch y cawr nerthol trwy law Dafydd dy was, ac a draddododd fyddin y Philistiaid i ddwylo Jonathan fab Saul a'i gludydd arfau.
4:31 Yn yr un modd cau'r fyddin hon yn llaw dy bobl Israel, a bydded arnynt gywilydd o'u llu arfog ac o'u gwŷr meirch.
4:32 Gwna hwy'n llwfr a difa eu haerllugrwydd trahaus; pâr iddynt grynu yn eu dinistr.
4:33 Bwrw hwy i lawr â chleddyf y rhai sy'n dy garu, a boed i bawb sy'n adnabod dy enw dy glodfori ag emynau.”
4:34 Aethant i'r afael â'i gilydd, a syrthiodd tua phum mil o wŷr byddin Lysias yn y brwydro cls.
4:35 Pan welodd Lysias ei lu ar ffo, a dewrder milwyr Jwdas, ac mor barod oeddent i fyw neu i farw'n anrhydeddus, aeth ymaith i Antiochia, a chasglu ynghyd filwyr cyflog, er mwyn ymosod ar Jwdea â byddin gryfach fyth.

Puro'r Cysegr (2 Mac. 10:1-8)

4:36 Yna dywedodd Jwdas a'i frodyr, “Dyna'n gelynion wedi eu dryllio; awn i fyny i lanhau'r cysegr a'i ailgysegru.”
4:37 Felly ymgynullodd yr holl fyddin ac aethant i fyny i Fynydd Seion.
4:38 Gwelsant y cysegr wedi ei ddifrodi, yr allor wedi ei halogi, y pyrth wedi eu llosgi, a llwyni'n tyfu yn y cynteddau fel mewn cwm coediog neu ar ochr mynydd. Yr oedd ystafelloedd yr offeiriaid hefyd yn adfeilion.
4:39 Rhwygasant eu dillad, gan alaru'n ddwys, a thaenu lludw ar eu pennau;
4:40 ac yn sŵn utgyrn y defodau syrthiasant ar eu hwynebau ar y ddaear a chodi eu llef i'r nef.
4:41 Yna gosododd Jwdas wŷr i ymladd yn erbyn y rhai oedd yn y gaer, tra byddai ef yn glanhau'r cysegr.
4:42 Dewisodd offeiriaid dilychwin, ymroddedig i'r gyfraith,
4:43 i lanhau'r cysegr a symud y cerrig a'i halogai i le aflan.
4:44 Wedi ymgynghori beth i'w wneud ag allor y poethoffrwm a oedd wedi ei difwyno,
4:45 penderfynasant yn gwbl gywir ei thynnu i lawr rhag iddi ddwyn gwaradwydd arnynt, oherwydd yr oedd y Cenhedloedd wedi ei halogi. Felly tynasant yr allor i lawr,
4:46 a chasglu'r cerrig i'w cadw mewn man cyfleus yng nghyffiniau bryn y deml, hyd oni chyfodai proffwyd i ddyfarnu arnynt.
4:47 Yna cymerasant gerrig heb eu naddu, yn unol â gofynion y gyfraith, ac adeiladu allor newydd ar batrwm y gyntaf.
4:48 Adeiladasant y cysegr hefyd, o'r tu mewn a'r tu allan, a chysegru'r cynteddau.
4:49 Gwnaethant lestri sanctaidd newydd, a dwyn y ganhwyllbren ac allor yr arogldarth a'r bwrdd i mewn i'r deml.
4:50 Yna arogldarthasant ar yr allor a chynnau'r canhwyllau oedd ar y ganhwyllbren i oleuo yn y deml.
4:51 Gosodasant y torthau cysegredig ar y bwrdd, a lledu'r llenni. Felly cwblhasant yr holl orchwylion a oedd mewn llaw.
4:52 Ar y pumed dydd ar hugain o'r nawfed mis, sef y mis Cislef, yn y flwyddyn 148 codasant yn y bore bach
4:53 ac offrymu aberth yn unol â gofynion y gyfraith ar yr allor newydd yr oeddent wedi ei hadeiladu i'r poethoffrymau.
4:54 Ar yr union adeg a'r union ddydd yr oedd y Cenhedloedd wedi ei halogi hi, fe ailgysegrwyd yr allor â chaniadau, â thelynau a phibau a symbalau.
4:55 Syrthiodd yr holl bobl ar eu hwynebau gan addoli a bendithio'r nef, a barodd lwyddiant iddynt.
4:56 Buont yn dathlu ailgysegru'r allor am wyth diwrnod, ac yn offrymu poethoffrymau mewn llawenydd, ac yn aberthu aberth gwaredigaeth a mawl.
4:57 Addurnasant dalcen y deml â thorchau euraid ac â tharianau, ac adnewyddu'r pyrth ac ystafelloedd yr offeiriaid a rhoi drysau arnynt.
4:58 Bu llawenydd mawr iawn ymhlith y bobl, a dilwyd y gwaradwydd a ddygasai'r Cenhedloedd arnynt.
4:59 Ordeiniodd Jwdas a'i frodyr a holl gynulleidfa Israel fod dathlu dyddiau ailgysegru'r allor yn eu hamserau priod bob blwyddyn am wyth diwrnod â llawenydd a gorfoledd, gan ddechrau ar y pumed dydd ar hugain o'r mis Cislef.
4:60 Yn yr amser hwnnw amgylchynasant Fynydd Seion â muriau uchel ac â thyrau cadarn, rhag i'r Cenhedloedd ddod a'u sathru i lawr fel yr oeddent wedi gwneud o'r blaen.
4:61 Yna gosododd Jwdas lu arfog yno i'w warchod, a chadarnhaodd Bethswra fel y byddai gan y bobl gaer gadarn gyferbyn ag Idwmea.

Rhyfela yn erbyn y Cenhedloedd Oddi Amgylch (2 Mac. 10:14-33; 12:10-45)

5:1 Pan glywodd y Cenhedloedd oddi amgylch fod yr allor wedi ei hailgodi a'r deml wedi ei hailgysegru i fod fel yr oeddent o'r blaen, aethant yn gynddeiriog
5:2 a phenderfynu difodi pawb o hil Jacob a oedd yn eu plith. A dyna ddechrau lladd a dinistrio ymhlith y bobl.
5:3 Ar hyn aeth Jwdas i ryfel yn erbyn meibion Esau yn Idwmea, gan ymosod ar Acrabattene, oherwydd yr oeddent yn dal i warchae ar Israel. Trawodd hwy ag ergyd drom a'u darostwng a'u hysbeilio.
5:4 Cofiodd hefyd ddrygioni meibion Baian, iddynt fod yn rhwyd ac yn fagl i'r bobl wrth ymosod o'u cuddfannau arnynt ar y priffyrdd.
5:5 Wedi eu cau i mewn yn eu tyrau, gwersyllodd yn eu herbyn, a chan ymdynghedu i'w llwyr ddifetha llosgodd eu tyrau â thân ynghyd â phawb oedd o'u mewn.
5:6 Aeth drosodd hefyd at feibion Ammon a'u cael yn fintai gref ac yn bobl niferus, a Timotheus yn ben arnynt.
5:7 Ymladdodd yn eu herbyn frwydrau lawer; drylliodd hwy o'i flaen a'u difrodi.
5:8 Meddiannodd Jaser hefyd a'i phentrefi; yna dychwelodd i Jwdea.
5:9 A dyma'r Cenhedloedd a oedd yn Gilead yn ymgasglu yn erbyn yr Israeliaid a drigai yn eu tiroedd gyda'r bwriad o'u dinistrio. Ffoesant hwythau i gaer Dathema,
5:10 ac anfon y llythyr hwn at Jwdas a'i frodyr: “Y mae'r Cenhedloedd sydd o'n cwmpas wedi ymgasglu i'n dinistrio ni.
5:11 Y maent yn paratoi i ddod a meddiannu'r gaer y ffoesom iddi, a Timotheus sy'n arwain eu llu.
5:12 Tyrd gan hynny yn awr i'n gwaredu ni o'u dwylo, oherwydd y mae llawer ohonom wedi syrthio,
5:13 a'n holl gyd-Iddewon yn nhiroedd Twbias wedi eu lladd, eu gwragedd a'u plant a'u heiddo wedi eu cymryd yn ysbail ganddynt, a thua mil o wŷr wedi eu lladd yno.”
5:14 Yr oeddent wrthi'n darllen y llythyr hwn pan ddaeth negeswyr eraill o Galilea, a'u dillad wedi eu rhwygo, gan ddwyn y neges hon:
5:15 “Y mae gwŷr o Ptolemais a Tyrus a Sidon,” meddent, “a holl Galilea'r Cenhedloedd, wedi ymgasglu yn ein herbyn i'n difa ni'n llwyr.”
5:16 Pan glywodd Jwdas a'r bobl y geiriau hyn, galwyd cynulliad llawn i ystyried beth a allent ei wneud dros eu cydwladwyr a oedd mewn gorthrymder, dan bwys ymosodiad eu gelynion.
5:17 Yna dywedodd Jwdas wrth Simon ei frawd, “Dewis dy wŷr a dos, achub dy frodyr sydd yn Galilea; mi af fi a Jonathan fy mrawd i Gilead.”
5:18 Ond gadawodd ef Joseff fab Sacharias ac Asarias, llywodraethwr y bobl, ynghyd â gweddill y fyddin yn Jwdea i'w gwarchod hi;
5:19 a gorchmynnodd iddynt fel hyn: “Gwyliwch dros y bobl hyn, ond peidiwch â mynd i ryfel yn erbyn y Cenhedloedd hyd nes i ni ddychwelyd.”
5:20 Yna dosbarthwyd tair mil o wŷr i Simon i fynd i Galilea, ac wyth mil i Jwdas i fynd i Gilead.
5:21 Aeth Simon i Galilea ac ymladd brwydrau lawer yn erbyn y Cenhedloedd, a drylliwyd y Cenhedloedd o'i flaen.
5:22 Erlidiodd hwy hyd at borth Ptolemais, a syrthiodd ynghylch tair mil o wŷr y Cenhedloedd, ac fe'u hysbeiliwyd.
5:23 Yna cymerodd Iddewon Galilea ac Arbatta, ynghyd â'u gwragedd a'u plant a'u holl eiddo, a'u dwyn yn ôl i Jwdea â llawenydd mawr.
5:24 Croesodd Jwdas Macabeus a Jonathan ei frawd yr Iorddonen a mynd ar daith dridiau i'r anialwch.
5:25 Cyfarfuasant â'r Nabateaid, a ddaeth atynt yn heddychlon gan fynegi iddynt y cyfan a oedd wedi digwydd i'w cyd-genedl yn Gilead:
5:26 bod llawer ohonynt yn garcharorion yn Bosra a Bosor, yn Alema a Chasffo, Maced a Carnaimtrefi mawr caerog yw'r rhain i gyd—
5:27 a bod rhai'n garcharorion yn y gweddill o drefi Gilead; a bod y gelyn yn ymbaratoi i ymosod ar y ceyrydd drannoeth a'u meddiannu, a dinistrio mewn un diwrnod yr holl Iddewon oedd ynddynt.
5:28 Ar hyn troes Jwdas a'i fyddin yn ôl ar frys ar hyd ffordd yr anialwch tua Bosra; meddiannodd y dref, ac wedi lladd pob gwryw â min y cledd ysbeiliodd eu holl eiddo, a'i llosgi hi â thân.
5:29 Ciliodd oddi yno liw nos a dod hyd at gaer Dathema
5:30 Ar doriad gwawr edrychasant a gweld llu mawr na ellid ei rifo yn dwyn ysgolion a pheiriannau rhyfel i feddiannu'r gaer; ac yr oeddent ar ymosod ar y rhai o'i mewn.
5:31 Gwelodd Jwdas fod y frwydr wedi dechrau, a bod cri'r dref yn esgyn i'r nef â sain utgyrn a bloedd uchel.
5:32 Dywedodd wrth wŷr ei fyddin, “Ymladdwch heddiw dros ein brodyr.”
5:33 Yna cychwynasant yn dair mintai i ymosod arnynt o'r tu ôl. Seiniasant yr utgyrn a chodi llef mewn gweddi.
5:34 Pan wybu byddin Timotheus mai Macabeus ydoedd, ffoesant rhagddo; trawodd hwy ag ergyd drom, a syrthiodd y dydd hwnnw ynghylch wyth mil o'u gwŷr.
5:35 Troes wedyn o'r neilltu tuag Alema. Ymladdodd yn ei herbyn a'i meddiannu, a lladd pob gwryw ynddi. Ysbeiliodd hi a'i llosgi â thân.
5:36 Teithiodd oddi yno a meddiannu Chasffo, Maced, Bosor, a gweddill trefi Gilead.
5:37 Wedi'r digwyddiadau hyn casglodd Timotheus fyddin arall a gwersyllu gyferbyn â Raffon, yr ochr draw i'r nant.
5:38 Anfonodd Jwdas rai i ysbo'r gwersyll, a daethant â'r adroddiad hwn iddo: “Y mae'r holl Genhedloedd o'n cwmpas wedi ymgynnull ato, yn llu mawr iawn.
5:39 Y maent hefyd wedi cyflogi Arabiaid i'w cynorthwyo, ac y maent yn gwersyllu yr ochr draw i'r nant, yn barod i ddod i'th erbyn i ryfel.” Yna aeth Jwdas allan i'w cyfarfod.
5:40 Wrth i Jwdas a'i fyddin nesu at ddyfroedd y nant, meddai Timotheus wrth gapteiniaid ei lu, “Os daw ef drosodd yn gyntaf atom ni, ni fyddwn yn gallu ei wrthsefyll, oherwydd bydd ef yn drech o lawer na ni.
5:41 Ond os bydd yn ofnus a gwersyllu yr ochr draw i'r afon, fe awn ni drosodd ato ef a'i drechu.”
5:42 Pan nesaodd Jwdas at ddyfroedd y nant, gosododd swyddogion y fyddin ar lan y nant a gorchymyn iddynt fel hyn: “Peidiwch â chaniatu i neb wersyllu, ond eled pawb yn ei flaen i'r gad.”
5:43 Yna achubodd y blaen i groesi atynt hwy, a'r holl fyddin ar ei ôl. Drylliwyd yr holl Genhedloedd o'i flaen; taflasant ymaith eu harfau a ffoi i gysegrle Carnaim.
5:44 Yna meddiannodd y dref a llosgi'r cysegrle â thân, ynghyd â phawb a oedd ynddo. Felly dymchwelwyd Carnaim; ni allai mwyach wrthsefyll Jwdas.
5:45 Casglodd Jwdas ynghyd bawb o wŷr Israel a oedd yn Gilead, o'r lleiaf i'r mwyaf, gyda'u gwragedd a'u plant a'u heiddo, tyrfa luosog iawn, i ddod â hwy i wlad Jwda.
5:46 Daethant hyd at Effron, tref gaerog fawr iawn ar y briffordd. Nid oedd modd mynd heibio iddi i'r dde nac i'r chwith; rhaid oedd teithio drwy ei chanol.
5:47 Ond caeodd gwŷr y dref hwy allan a llenwi'r pyrth â cherrig.
5:48 Anfonodd Jwdas atynt neges heddychlon: “Yr ydym ar fynd drwy eich gwlad er mwyn cyrraedd ein gwlad ein hunain, ac ni wna neb ddrwg i chwi. Cerdded trwodd yn unig y byddwn.” Ond ni fynnent agor iddo.
5:49 Yna gorchmynnodd Jwdas gyhoeddi yn y fyddin fod pob un i wersyllu yn y man lle'r oedd.
5:50 Gwersyllodd gwŷr y llu, ac ymladdodd ef yn erbyn y dref y diwrnod hwnnw ar ei hyd, a'r nos hefyd, nes i'r dref ildio i'w ddwylo.
5:51 Lladdodd bob gwryw â min y cledd, a dymchwelyd y dref hyd at ei sylfeini, a'i hysbeilio. Yna tramwyodd drwyddi ar draws cyrff rhai a laddwyd.
5:52 Croesasant yr Iorddonen i mewn i'r gwastadedd eang gyferbyn â Bethsan,
5:53 a Jwdas yn cyrchu'r rhai oedd yn dilyn o hirbell ac yn calonogi'r bobl yr holl ffordd nes iddo ddod i wlad Jwda.
5:54 Aethant i fyny i Fynydd Seion â llawenydd a gorfoledd, ac offrymu poethoffrymau, am iddynt ddychwelyd mewn heddwch heb golli'r un o'u plith.
5:55 Yn ystod y dyddiau pan oedd Jwdas, ynghyd â Jonathan yng ngwlad Gilead, a Simon ei frawd yng Ngalilea gyferbyn â Ptolemais,
5:56 clywodd Joseff fab Sacharias ac Asarias, capteiniaid y llu arfog, am eu gorchestion arwrol mewn rhyfel.
5:57 Yna dywedasant, “Gadewch i ninnau hefyd wneud enw i ni'n hunain, a mynd i ryfela yn erbyn y Cenhedloedd o'n cwmpas.”
5:58 Rhoesant orchymyn i aelodau'r llu arfog a oedd gyda hwy, ac aethant i ymosod ar Jamnia.
5:59 Daeth Gorgias a'i wŷr allan o'r dref i'w hwynebu mewn brwydr.
5:60 Gyrrwyd Joseff ac Asarias ar ffo a'u hymlid hyd at gyrion Jwdea, a syrthiodd y dydd hwnnw ynghylch dwy fil o bobl Israel.
5:61 Daeth trychineb mawr i ran y bobl, am iddynt, yn eu bwriad i wneud gwrhydri, beidio â gwrando ar Jwdas a'i frodyr.
5:62 Nid oeddent hwy o linach y gwŷr hynny yr oedd gwaredu Israel wedi ei ymddiried i'w dwylo.
5:63 Mawr oedd clod y gŵr Jwdas a'i frodyr drwy holl Israel a thrwy'r holl Genhedloedd, ple bynnag y clywid eu henw.
5:64 Byddai pobl yn tyrru atynt a'u hanrhydeddu.
5:65 Yna aeth Jwdas a'i frodyr allan a dechrau rhyfela yn erbyn meibion Esau yn y diriogaeth tua'r de. Trawodd Hebron a'i phentrefi, a difrodi ei cheyrydd a llosgi y tyrau o'i hamgylch.
5:66 Ymadawodd wedyn i fynd i wlad y Philistiaid, a thramwyodd drwy Marisa.
5:67 Y dydd hwnnw syrthiodd nifer o offeiriaid mewn brwydr wrth iddynt yn eu byrbwylldra fentro i'r gad gan fwriadu gwneud gwrhydri.
5:68 Ond troes Jwdas o'r neilltu i Asotus yng ngwlad y Philistiaid; difrododd eu hallorau, a llosgi delwau cerfiedig eu duwiau â thân, ac ysbeilio'r trefi; yna dychwelodd i wlad Jwda.

Marw Antiochus IV (2 Mac. 1:11-17; 9:1-29; 10:9-11)

6:1 Wrth i'r Brenin Antiochus deithio drwy daleithiau'r dwyrain clywodd fod Elymais yn enwog am ei golud mewn arian ac aur.
6:2 Yr oedd ei theml yn oludog iawn, gyda'r llenni euraid, a'r llurigau, a'r arfau a adawyd ar ôl gan Alexander fab Philip, brenin Macedonia, y cyntaf i fod yn frenin ar y Groegiaid.
6:3 Daeth Antiochus yno, a cheisio meddiannu'r ddinas a'i hysbeilio, ond ni lwyddodd, am i'w gynllwyn ddod yn hysbys i'r dinasyddion.
6:4 Codasant i ryfela yn ei erbyn, a ffoes yntau ac ymadael oddi yno wedi ei siomi'n fawr, i ddychwelyd i Fabilon.
6:5 Daeth negesydd ato i Persia ac adrodd fod y byddinoedd a ddaethai i wlad Jwda wedi eu gyrru ar ffo.
6:6 Yr oedd Lysias, er iddo ymosod yn gyntaf â llu arfog cryf, wedi ei ymlid ymaith gan yr Iddewon, a hwythau wedi ymgryfhau trwy'r arfau a'r adnoddau a'r ysbail lawer a ddygasant oddi ar y byddinoedd yr oeddent wedi eu trechu.
6:7 Yr oeddent wedi dymchwelyd y ffieiddbeth yr oedd Antiochus wedi ei adeiladu ar yr allor yn Jerwsalem, ac wedi amgylchu'r cysegr â muriau uchel fel o'r blaen, a'r un modd Bethswra, ei ddinas ef.
6:8 Pan glywodd y brenin y geiriau hyn syfrdanwyd ef, a'i sigo gymaint nes iddo fynd a chadw i'w wely a chlafychu o'r gofid, o beidio â chael yr hyn y rhoes ei fryd arno.
6:9 Bu yno am ddyddiau lawer, oherwydd bod y gofid mawr yn dod yn donnau drosto o hyd ac o hyd, a barnodd ei fod ar fin marw.
6:10 Galwodd ei holl Gyfeillion a dweud wrthynt, “Y mae cwsg wedi cilio o'm llygaid, a'm calon wedi llesgu gan bryder.
6:11 A dyma fi'n fy holi fy hun, ‘Beth yw'r gorthrymder hwn y deuthum iddo, a'r don fawr yr wyf ynddi yn awr?’ Oherwydd caredig oeddwn yn nydd fy awdurdod, ac annwyl gan bawb.
6:12 Ond yn awr daw i'm cof y drygau a wneuthum yn Jerwsalem, sef dwyn ymaith yr holl lestri arian ac aur oedd ynddi, a gorchymyn distrywio trigolion Jwda heb achos.
6:13 Gwn mai ar gyfrif hynny y daeth y drygau hyn arnaf; a dyma fi'n trengi o ofid mawr mewn gwlad estron.”
6:14 Yna galwodd am Philip, un o'i Gyfeillion, a'i osod yn llywodraethwr ar ei holl deyrnas.
6:15 Rhoes iddo ei goron a'i fantell a'i fodrwy, fel y gallai hyfforddi ei fab Antiochus, a'i feithrin i fod yn frenin.
6:16 Felly bu farw'r Brenin Antiochus yno yn y flwyddyn 149.
6:17 Pan glywodd Lysias am farw'r brenin, gosododd Antiochus, y mab yr oedd wedi ei feithrin o'i fachgendod, i ddilyn ei dad ar yr orsedd, a galwodd ef Ewpator.

Ymgyrch Antiochus V a Lysias (2 Mac. 13:1-26; 11:22-26)

6:18 Yn y cyfamser yr oedd gwŷr y gaer yn cau i mewn ar Israel o amgylch y cysegr ac yn ceisio'u drygu ym mhob modd, ac atgyfnerthu'r Cenhedloedd.
6:19 Penderfynodd Jwdas eu distrywio, a chynullodd yr holl bobl i warchae arnynt.
6:20 Ymgasglasant ynghyd a gwarchae ar y gaer yn y flwyddyn 150. Cododd Jwdas lwyfannau-saethu ynghyd â'u peiriannau yn eu herbyn.
6:21 Dihangodd rhai o warchodlu'r gaer o'r gwarchae, ac ymunodd rhai o'r gwrthgilwyr o Israel â hwy.
6:22 Aethant at y brenin a dweud, “Pa hyd y byddi heb wneud barn a dial cam ein cenedl?
6:23 Yr oeddem ni'n fodlon gwasanaethu dy dad, gan ddilyn ei gyfarwyddiadau ac ufuddhau i'w orchmynion,
6:24 ac o achos hyn y mae ein pobl ein hunain wedi gwarchae ar y gaer a mynd yn elynion i ni; lladdasant hefyd gynifer ohonom ag a ddaliasant, a chymryd ein heiddo yn anrhaith.
6:25 Ac nid yn ein herbyn ni yn unig yr estynasant eu dwylo, ond hefyd yn erbyn eu holl gymdogion.
6:26 A dyma hwy heddiw wedi gwersyllu yn erbyn y gaer yn Jerwsalem, i'w meddiannu hi; y maent wedi cadarnhau'r cysegr a Bethswra hefyd;
6:27 ac oni achubi di y blaen arnynt ar fyrder, fe wnânt bethau gwaeth na hynny, ac ni fydd modd iti eu hatal.”
6:28 Aeth y brenin yn ddig pan glywodd hyn. Casglodd ynghyd ei holl Gyfeillion, capteiniaid ei lu a swyddogion ei wŷr meirch.
6:29 Daeth lluoedd o filwyr cyflog o deyrnasoedd eraill ac o ynysoedd y moroedd i ymuno ag ef.
6:30 A rhifedi ei luoedd oedd can mil o wŷr traed, ugain mil o wŷr meirch, a deuddeg ar hugain o eliffantod wedi arfer â rhyfel.
6:31 Daethant drwy Idwmea a gwersyllu yn erbyn Bethswra, ac ymladd dros ddyddiau lawer; codasant beiriannau rhyfel, ond gwnaeth yr Iddewon gyrch arnynt a'u llosgi â thân, ac ymladd yn wrol.
6:32 Ymadawodd Jwdas â'r gaer a gwersyllu yn Bethsacharia, gyferbyn â gwersyll y brenin.
6:33 Cododd y brenin yn fore iawn a dwyn ei fyddin ar garlam ar hyd ffordd Bethsacharia.
6:34 Ymbaratôdd ei luoedd i ryfel, a chanu'r utgyrn. Dangosasant i'r eliffantod sudd grawnwin a mwyar i'w cyffroi i ryfel.
6:35 Yna rhanasant yr anifeiliaid rhwng y minteioedd, gan osod i bob eliffant fil o wŷr traed, yn arfog mewn llurigau, a helmau pres ar eu pennau, ynghyd â phum cant o wŷr meirch dethol ar gyfer pob anifail.
6:36 Byddai'r rhain yno ymlaen llaw lle bynnag y byddai safle'r anifail, ac i ble bynnag y byddai'n mynd, byddent hwythau'n mynd gydag ef, heb ymadael ag ef.
6:37 Ar gefn pob eliffant yr oedd tŵr cadarn o bren i lochesu ynddo, wedi ei rwymo wrth bob anifail ag offer arbennig, ac ym mhob un ohonynt yr oedd pedwar o wŷr arfog parod i ryfel, ynghyd â'r Indiad o yrrwr.
6:38 Gosododd Lysias weddill y gwŷr meirch ar bob ochr, ar ddwy ystlys y fyddin, er mwyn iddynt aflonyddu ar y gelyn yng nghysgod y minteioedd.
6:39 Pan ddisgleiriai'r haul ar y tarianau aur a phres, fe ddisgleiriai'r mynyddoedd ganddynt, a goleuo fel ffaglau ar dân.
6:40 Yr oedd un rhan o fyddin y brenin wedi ei threfnu'n rhengoedd ar ben y mynyddoedd uchel, a'r rhan arall ar y gwastadeddau, ac yr oeddent yn symud ymlaen yn hyderus mewn trefn.
6:41 Crynai pawb a glywai drwst eu niferoedd ac ymdaith y dorf a chloncian yr arfau, oherwydd yr oedd y fyddin yn fawr iawn a chadarn.
6:42 Ond nesaodd Jwdas a'i fyddin i'r frwydr, a syrthiodd chwe chant o wŷr byddin y brenin.
6:43 Gwelodd Eleasar, a elwid Afaran, fod un o'r anifeiliaid wedi ei wisgo â'r llurig frenhinol, a'i fod yn dalach na'r holl anifeiliaid eraill, a thybiodd mai ar hwnnw yr oedd y brenin.
6:44 Felly rhoes ei fywyd i achub ei bobl ac i ennill iddo'i hun enw tragwyddol.
6:45 Rhedodd yn ddewr ato i ganol y fintai, gan ladd ar y dde ac ar y chwith, a'r gelyn yn ymrannu o'r ddeutu o'i flaen.
6:46 Aeth o dan yr eliffant a'i drywanu oddi yno a'i ladd; ond syrthiodd yr anifail i lawr ar ei ben yntau, a bu farw yno.
6:47 Pan welodd yr Iddewon gryfder byddin y brenin a rhuthr ei luoedd, ffoesant rhagddynt.
6:48 Teithiodd rhan o fyddin y brenin i fyny i Jerwsalem ar gyrch, a gwarchaeodd y brenin ar Jwdea ac ar Fynydd Seion.
6:49 Gwnaeth heddwch â thrigolion Bethswra; ymadawsant hwy â'r ddinas am nad oedd ganddynt luniaeth yno i wrthsefyll y gwarchae arni, oherwydd yr oedd yn flwyddyn sabothol i'r tir.
6:50 Meddiannodd y brenin Bethswra a gosod gwarchodlu yno i'w gwylio.
6:51 Yna gwarchaeodd ar y deml am ddyddiau lawer, gan osod yno lwyfannau-saethu, a pheiriannau rhyfel i boeri tân a cherrig, ac offer i saethu taflegrau, a chatapwltau.
6:52 Adeiladodd yr Iddewon hwythau beiriannau rhyfel i wynebu eu peiriannau hwy, ac ymladdasant am ddyddiau lawer.
6:53 Ond nid oedd ganddynt ymborth yn y stordai, am mai'r seithfed flwyddyn ydoedd; ac yr oedd y ffoaduriaid o blith y Cenhedloedd, a oedd wedi dod i Jwdea, wedi bwyta hynny oedd yn weddill o'r stôr.
6:54 Ychydig o wŷr a adawyd ar ôl yn y cysegr; yr oedd newyn wedi eu goddiweddyd, a phob un wedi mynd ar wasgar i'w le ei hun.
6:55 Clywodd Lysias fod Philip, hwnnw a benodwyd gan y Brenin Antiochus cyn ei farw i feithrin ei fab Antiochus i fod yn frenin,
6:56 wedi dychwelyd o Persia a Media, a chydag ef y lluoedd oedd wedi mynd ar ymgyrch gyda'r brenin, a'i fod yn ceisio cipio awenau'r llywodraeth.
6:57 Brysiodd Lysias i orchymyn iddynt ymadael, a dywedodd wrth y brenin ac arweinwyr y lluoedd a'r gwŷr, “Yr ydym yn mynd yn wannach bob dydd, yn brin o luniaeth, a'r lle yr ydym yn ymladd yn ei erbyn yn gadarn, ac y mae materion y deyrnas yn gwasgu arnom.
6:58 Yn awr, gan hynny, gadewch inni gynnig telerau i'r rhai hyn a gwneud heddwch â hwy ac â'u holl genedl,
6:59 a gadewch inni ganiatu iddynt rodio yn ôl eu cyfreithiau fel cynt; oherwydd ein gwaith ni yn diddymu eu cyfreithiau a barodd iddynt ddigio a gwneud yr holl bethau hyn.”
6:60 Bu'r cyngor hwn yn dderbyniol gan y brenin a'r capteiniaid; anfonwyd at yr Iddewon delerau heddwch, a derbyniasant hwythau hwy.
6:61 Tyngodd y brenin a'i gapteiniaid lw iddynt; ac ar hynny daethant allan o'r gaer.
6:62 Ond pan aeth y brenin i Fynydd Seion a gweld mor gadarn oedd y lle, torrodd y llw yr oedd wedi ei dyngu, a gorchmynnodd ddymchwel y mur o'i gwmpas.
6:63 Yna ymadawodd ar frys a dychwelyd i Antiochia. Cafodd Philip yn arglwyddiaethu ar y ddinas, ond ymladdodd yn ei erbyn a meddiannu'r ddinas trwy drais.

Yr Archoffeiriad Alcimus ac Ymgyrch Nicanor (2 Mac. 14:1-36; 15:1-36)

7:1 Yn y flwyddyn 151 ymadawodd Demetrius fab Selewcus â Rhufain a dod, ynghyd ag ychydig wŷr, i dref ar lan y môr, a theyrnasu yno.
7:2 Fel yr oedd ar ei ffordd i lys brenhinol ei hynafiaid daliodd ei fyddin Antiochus a Lysias, gyda'r bwriad o'u dwyn ger ei fron.
7:3 Ond pan glywodd am hyn dywedodd, “Peidiwch â dangos eu hwynebau i mi.”
7:4 Felly lladdodd ei fyddin hwy, ac eisteddodd Demetrius ar orsedd ei deyrnas.
7:5 Daeth ato holl wŷr digyfraith ac annuwiol Israel, ac Alcimus, gŵr oedd â'i fryd ar fod yn archoffeiriad, yn eu harwain.
7:6 Cyhuddasant y bobl gerbron y brenin fel hyn: “Y mae Jwdas a'i frodyr wedi lladd dy holl gyfeillion, ac wedi ein gyrru ninnau allan o'n gwlad.
7:7 Gan hynny anfon yn awr ŵr yr wyt yn ymddiried ynddo, i fynd a gweld yr holl ddifrod a wnaeth Jwdas i ni ac i diriogaeth y brenin, a boed iddo'u cosbi hwy a phawb sydd yn eu helpu.”
7:8 Dewisodd y brenin Bacchides, un o'i Gyfeillion, a oedd yn llywodraethu talaith Tu-hwnt-i'r-afon, gŵr mawr yn y deyrnas a theyrngar i'r brenin.
7:9 Anfonodd ef, ynghyd â'r annuwiol Alcimus yr oedd wedi ei benodi'n archoffeiriad, a gorchymyn iddo ddial ar feibion Israel.
7:10 Ymadawsant a dod i wlad Jwda gyda llu mawr. Anfonodd Bacchides negeswyr at Jwdas a'i frodyr â geiriau heddychlon ond dichellgar.
7:11 Ond ni wnaethant ddim sylw o'u geiriau, oherwydd gwelsant eu bod wedi dod gyda llu mawr.
7:12 Yna ymgasglodd nifer o ysgrifenyddion at Alcimus a Bacchides i geisio telerau cyfiawn.
7:13 Y rhai cyntaf o blith plant Israel i geisio heddwch ganddynt oedd yr Hasideaid;
7:14 oherwydd dywedasant, “Daeth offeiriad o linach Aaron gyda'r fyddin, ac ni wna ef ddim niwed i ni.”
7:15 A llefarodd Alcimus eiriau heddychlon wrthynt a thyngu llw: “Ni fwriadwn ni ddim niwed i chwi nac i'ch cyfeillion.”
7:16 Wedi ennill eu hymddiriedaeth, cymerodd ef drigain gŵr ohonynt a'u lladd mewn un diwrnod, yn unol â gair yr Ysgrythur:
7:17 “Cnawd dy saint a'u gwaed, fe'u taenaist o amgylch Jerwsalem, ac nid oedd neb i'w claddu.”
7:18 Dechreuodd yr holl bobl eu hofni ac arswydo rhagddynt, gan ddweud, “Nid oes na gwirionedd na barn ganddynt, oherwydd y maent wedi torri'r cytundeb a'r llw a dyngasant.”
7:19 Ymadawodd Bacchides â Jerwsalem a gwersyllu yn Bethsaith. Rhoes orchymyn i ddal llawer o'r gwŷr oedd wedi gwrthgilio ato, ynghyd â rhai o'r bobl, a'u lladd a'u taflu i'r bydew mawr.
7:20 Gosododd y diriogaeth yng ngofal Alcimus, a gadael byddin gydag ef i'w gynorthwyo. Yna dychwelodd Bacchides at y brenin.
7:21 Ymdrechodd Alcimus yn galed i sicrhau'r archoffeiriadaeth iddo'i hun,
7:22 a heidiodd holl aflonyddwyr y bobl ato. Darostyngasant wlad Jwda, a gwneud difrod mawr yn Israel.
7:23 Pan welodd Jwdas yr holl ddrygioni yr oedd Alcimus a'i ganlynwyr wedi ei ddwyn ar blant Israelyr oedd yn waeth na dim oddi ar law'r Cenhedloedd—
7:24 aeth ar gyrch o amgylch holl derfynau Jwdea, gan ddial ar y rhai oedd wedi gwrthgilio, a'u rhwystro rhag dianc i ardal wledig.
7:25 Pan welodd Alcimus fod Jwdas a'i ganlynwyr wedi magu cryfder, a sylweddoli na fedrai eu gwrthsefyll, dychwelodd at y brenin a'u cyhuddo o weithredoedd anfad.
7:26 Anfonodd y brenin un o'i gadfridogion enwocaf, Nicanor, gelyn cas i Israel, a gorchymyn iddo ddinistrio'r bobl.
7:27 Felly daeth Nicanor i Jerwsalem gyda byddin fawr, ac anfon yn ddichellgar at Jwdas a'i frodyr y neges heddychlon hon:
7:28 “Na fydded ymladd rhyngof fi a chwi; 'rwyf am ddod gydag ychydig wŷr i'ch gweld wyneb yn wyneb mewn heddwch.”
7:29 Daeth at Jwdas, a chyfarchodd y ddau ei gilydd yn heddychlon; yr oedd y gelynion, er hynny, yn barod i gipio Jwdas.
7:30 Pan fynegwyd i Jwdas mai dichell oedd bwriad Nicanor wrth ddod ato, dychrynodd rhagddo a gwrthod ei gyfarfod eto.
7:31 Pan ddeallodd Nicanor fod ei gynllwyn wedi ei ddinoethi, aeth ar gyrch i wynebu Jwdas gerllaw Caffarsalama.
7:32 Syrthiodd tua phum mil o wŷr byddin Nicanor, a ffoes y gweddill i Ddinas Dafydd.
7:33 Wedi'r pethau hyn aeth Nicanor i fyny i Fynydd Seion. Daeth rhai o'r offeiriaid allan o'r cysegr, a rhai o henuriaid y bobl, i'w gyfarch yn heddychlon ac i ddangos iddo y poethoffrwm oedd yn cael ei offrymu dros y brenin.
7:34 Ond gwawdiodd hwy a'u gwatwar a'u halogi, gan frolio
7:35 a thyngu llw yn ei ddicter: “Os na thraddodir Jwdas a'i fyddin i'm dwylo ar unwaith, yna pan ddychwelaf yn fuddugoliaethus, fe losgaf y tŷ yma.”
7:36 Ac ymaith ag ef mewn dicter mawr. Yna aeth yr offeiriaid i mewn a sefyll gerbron yr allor a'r cysegr, gan wylo a dweud:
7:37 “Dewisaist ti y tŷ hwn i ddwyn dy enw, i fod yn dŷ gweddi a deisyfiad i'th bobl.
7:38 Tâl ddialedd i'r dyn hwn a'i fyddin, a phâr iddynt syrthio gan gleddyf; cofia'u cableddau, a phaid â gadael iddynt fyw.”
7:39 Aeth Nicanor allan o Jerwsalem a gwersyllu yn Beth-horon, ac ymgynullodd byddin Syria ato.
7:40 Gwersyllodd Jwdas yn Adasa gyda thair mil o wŷr.
7:41 Yna gweddodd Jwdas fel hyn: “Pan gablodd y negeswyr a anfonodd y brenin, aeth dy angel i'r frwydr a tharo cant wyth deg a phump o filoedd o'r Asyriaid.
7:42 Maluria yn yr un modd y fyddin hon o'n blaen heddiw, a gwybydded pawb i Nicanor lefaru'n enllibus am dy gysegr, a barna ef yn ôl ei ddrygioni.”
7:43 Daeth y byddinoedd ynghyd i frwydr ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis Adar. Maluriwyd byddin Nicanor, ac ef ei hun oedd y cyntaf i syrthio yn y frwydr.
7:44 Pan welodd ei fyddin fod Nicanor wedi syrthio, taflasant eu harfau i ffwrdd a ffoi.
7:45 Ond erlidiodd yr Iddewon hwy daith diwrnod o Adasa hyd at Gasara, gan seinio'r alwad i'r gad ar eu hutgyrn o'r tu ôl iddynt.
7:46 Daeth gwŷr allan o holl bentrefi Jwdea yn y cylch, ac amgylchynu'r gelyn, a'u troi'n ôl at eu hymlidwyr. Syrthiodd pawb gan gleddyf, ac ni adawyd cymaint ag un ohonynt.
7:47 Cymerodd yr Iddewon yr ysbail a'r anrhaith, a thorasant i ffwrdd ben Nicanor a'i law dde, honno yr oedd wedi ei hestyn allan mor falch, a'u dwyn a'u harddangos ar gyrion Jerwsalem.
7:48 Gorfoleddodd y bobl yn fawr, a dathlu'r dydd hwnnw yn ddydd o orfoledd mawr.
7:49 Ordeiniasant gadw'r dydd hwnnw yn ŵyl flynyddol ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis Adar.
7:50 Felly cafodd gwlad Jwda heddwch dros ychydig ddyddiau.

Cynghrair â'r Rhufeiniaid

8:1 Clywodd Jwdas am fri'r Rhufeiniaid, eu bod yn gadarn a chryf, yn ffafriol tuag at bawb a ddôi i gynghrair â hwy, ac yn addunedu eu cyfeillgarwch i bwy bynnag a ymunai â hwy.
8:2 Ie, cadarn a chryf oeddent. Mynegwyd iddo am eu rhyfeloedd: y gwrhydri a ddangosent ymhlith y Galiaid iddynt eu concro a'u gorfodi i dalu treth;
8:3 a'r hyn a wnaethant yn Sbaen trwy feddiannu'r mwyngloddiau arian ac aur oedd yno—
8:4 yr oeddent, trwy eu penderfyniad a'u dyfalbarhad, wedi concro'r holl wlad, er bod y lle ymhell iawn oddi wrthynt. Felly hefyd y brenhinoedd a oedd wedi dod o eithaf y ddaear i ymosod arnyntyr oeddent wedi eu distrywio a'u taro â dinistr enfawr. Talai'r gweddill dreth flynyddol iddynt.
8:5 Philip, a Pherseus brenin y Macedoniaid, a'r rhai a gododd yn eu herbyndistrywiasant hwythau hefyd, a'u concro.
8:6 Yr oedd Antiochus Fawr brenin Asia, a oedd wedi mynd i ryfela yn eu herbyn gyda chant ac ugain o eliffantod a gwŷr meirch a cherbydau a llu mawr iawn, wedi ei ddryllio ganddynt hefyd.
8:7 Daliasant ef yn fyw, a gorchymyn iddo ef, ac i'r sawl a deyrnasai ar ei ôl, dalu treth drom, a rhoi gwystlon,
8:8 ac ildio gwlad India a Media a Lydia o blith eu tiriogaethau gorau. Cymerasant y rhain oddi wrtho a'u rhoi i'r Brenin Ewmenes.
8:9 Cynlluniodd y Groegiaid i ddod a'u difetha,
8:10 ond daeth hyn yn hysbys iddynt, ac anfonasant un cadfridog yn eu herbyn. Ymosodasant arnynt, a syrthiodd llawer o'r Groegiaid wedi eu clwyfo, a chaethgludodd y Rhufeiniaid eu gwragedd a'u plant. Ysbeiliasant hwy a meddiannu'r tir, dymchwel eu ceyrydd, a chaethiwo'u pobl hyd y dydd hwn.
8:11 Am y gweddill o'r teyrnasoedd a'r ynysoedd, cynifer ag a gododd yn eu herbyn erioed, difrodasant hwy a chaethiwo'u pobl.
8:12 Ond cadwasant gyfeillgarwch â'u cyfeillion ac â'r sawl oedd yn dibynnu arnynt. Felly gorchfygasant frenhinoedd agos a phell, ac yr oedd pawb a glywai am eu bri yn eu hofni.
8:13 Pwy bynnag y maent yn ewyllysio eu helpu i fod yn frenhinoedd, fe'u gwnânt yn frenhinoedd; a phwy bynnag y maent yn ewyllysio eu diorseddu, fe wnânt hynny. Y maent wedi eu dyrchafu'n uchel iawn.
8:14 Er hyn i gyd ni fyddai'r un ohonynt yn gwisgo coron nac yn ymddilladu â phorffor, i gael ei fawrhau trwy hynny;
8:15 ond adeiladasant senedd-dy iddynt eu hunain, a byddai tri chant ac ugain o seneddwyr beunydd yn ymgynghori'n gyson ynghylch y bobl, gyda golwg ar eu llywodraethu'n dda.
8:16 Y maent yn ymddiried bob blwyddyn mewn un dyn i reoli drostynt a bod yn feistr ar eu holl dir; y maent oll yn gwrando ar yr un dyn hwn, heb na chenfigen nac eiddigedd yn eu plith.
8:17 Felly dewisodd Jwdas Ewpolemus fab Ioan, fab Accos, a Jason fab Eleasar, a'u hanfon i Rufain er mwyn sefydlu cyfeillgarwch a chynghrair,
8:18 a'u cael i godi'r iau oddi arnynt; oherwydd gwelsant fod teyrnas y Groegiaid yn llwyr gaethiwo Israel.
8:19 Teithiasant i Rufain, taith bell iawn, a mynd i mewn i'r senedd-dy a llefaru fel hyn:
8:20 “Jwdas, a elwir hefyd Macabeus, a'i frodyr a phobl yr Iddewon a'n hanfonodd ni atoch i sefydlu cynghrair a heddwch gyda chwi, er mwyn cael ein cofrestru'n gynghreiriaid a chyfeillion ichwi.”
8:21 Yr oedd yr awgrym yn dderbyniol ganddynt,
8:22 a dyma gopi o'r llythyr a ysgrifenasant yn ateb, ar lechi pres, a'i anfon i Jerwsalem i fod gyda'r Iddewon yno yn goffâd o heddwch a chynghrair:
8:23 “Pob llwyddiant i'r Rhufeiniaid ac i genedl yr Iddewon ar fôr a thir yn dragywydd, a phell y bo cleddyf a gelyn oddi wrthynt.
8:24 Os daw rhyfel yn gyntaf i Rufain neu i un o'u cynghreiriaid o fewn eu holl ymerodraeth,
8:25 bydd cenedl yr Iddewon yn eu cefnogi fel cynghreiriaid o lwyrfryd calon, fel y bydd yr achlysur yn gofyn ganddynt.
8:26 Nid ydynt i roi na darparu ymborth, arfau, arian, na llongau i neb fydd yn mynd i ryfel yn eu herbyn; felly yr ordeiniodd Rhufain. Y maent i gadw rhwymedigaethau heb dderbyn unrhyw iawndal.
8:27 Yn yr un modd os digwydd rhyfel yn gyntaf yn erbyn cenedl yr Iddewon, y mae'r Rhufeiniaid i'w cefnogi fel cynghreiriaid yn ewyllysgar, fel y bydd yr achlysur yn gofyn ganddynt.
8:28 Ni roddir ymborth, arfau, arian, na llongau i'r gelynion; felly yr ordeiniodd Rhufain. Cedwir y rhwymedigaethau hyn heb ddim twyll.
8:29 “Ar yr amodau hyn felly y mae'r Rhufeiniaid wedi gwneud cytundeb â phobl yr Iddewon.
8:30 Ond heblaw'r amodau hyn, os bydd y naill neu'r llall yn dymuno ychwanegu neu ddirymu rhywbeth, cânt wneud hynny o'u gwirfodd; bydd unrhyw ychwanegiad neu ddirymiad yn ddilys.
8:31 “Ynglŷn â'r drygau y mae'r Brenin Demetrius yn eu gwneud i'r Iddewon, yr ydym wedi ysgrifennu ato fel hyn: ‘Pam y gosodaist dy iau mor drwm ar ein cyfeillion a'n cynghreiriaid yr Iddewon?
8:32 Yn awr, os achwynant arnat eto, byddwn ni'n achub eu cam, ac yn ymladd yn dy erbyn ar fôr a thir.’ ”

Marw Jwdas

9:1 Pan glywodd Demetrius fod Nicanor a'i lu wedi syrthio mewn brwydr, anfonodd Bacchides ac Alcimus eilwaith i wlad Jwda, ac asgell dde ei fyddin gyda hwy.
9:2 Teithiasant ar hyd y ffordd sy'n arwain i Gilgal a gwersyllu gyferbyn â Mesaloth yn Arbela. Cipiasant hi a lladd llawer o bobl.
9:3 Ym mis cyntaf y flwyddyn
9:152 gwersyllasant gyferbyn â Jerwsalem,
9:4 a mynd yn eu blaen oddi yno i Berea gydag ugain mil o wŷr traed a dwy fil o wŷr meirch.
9:5 Yr oedd Jwdas eisoes yn gwersyllu yn Elasa, a thair mil o wŷr dethol gydag ef.
9:6 Pan welsant fod rhifedi lluoedd y gelyn yn lluosog, dychrynasant yn ddirfawr; a gwrthgiliodd llawer o'r gwersyll, heb adael dim ond wyth cant ohonynt.
9:7 Pan welodd Jwdas fod ei fyddin wedi gwrthgilio, dan bwysau'r brwydro yn ei erbyn, torrodd ei galon, oherwydd nid oedd ganddo amser i'w hailgynnull.
9:8 Yn ei anobaith dywedodd wrth y rhai oedd ar ôl, “Gadewch inni godi a mynd i fyny yn erbyn ein gelynion; siawns na fedrwn ymladd â hwy.”
9:9 Ond yr oeddent am ei atal, gan ddweud, “Na fedrwn byth; yn hytrach gadewch inni achub ein bywydau ein hunain yn awr; yna dod yn ôl, a'n brodyr gyda ni, i ymladd â hwy. Ychydig ydym ni.”
9:10 Ond dywedodd Jwdas, “Na ato Duw inni wneud y fath beth â ffoi oddi wrthynt! Os yw ein hamser wedi dod, gadewch inni farw'n wrol dros ein brodyr, heb adael ar ein hôl unrhyw achos i amau ein hanrhydedd.”
9:11 Aeth llu Bacchides allan o'r gwersyll a chymryd eu safle i fynd i'r afael â'r Iddewon. Yr oedd y gwŷr meirch wedi eu rhannu'n ddwy adran, a'r ffon-daflwyr a'r saethwyr yn mynd o flaen y llu. Yr oedd gwŷr y rheng flaenaf oll yn rhai nerthol, ac yr oedd Bacchides ar yr asgell dde.
9:12 Nesaodd y fyddin yn ddwy adran gan seinio'r utgyrn. Canodd gwŷr Jwdas hwythau hefyd eu hutgyrn.
9:13 Ysgydwyd y ddaear gan sŵn y byddinoedd, a bu brwydro cls o fore hyd hwyr.
9:14 Gwelodd Jwdas fod Bacchides a grym ei fyddin ar y dde, ac ymgasglodd y dewr o galon i gyd ato.
9:15 Drylliwyd adran dde y gelyn ganddynt, ac erlidiodd Jwdas hwy hyd at Fynydd Asotus.
9:16 Pan welodd gwŷr yr asgell chwith fod yr asgell dde wedi ei dryllio, troesant i ymlid Jwdas a'i wŷr o'r tu ôl iddynt.
9:17 Poethodd y frwydr, a syrthiodd llawer wedi eu clwyfo o'r naill ochr a'r llall.
9:18 Syrthiodd Jwdas yntau, ond ffoes y lleill.
9:19 Cymerodd Jonathan a Simon eu brawd Jwdas a'i gladdu ym meddrod ei hynafiaid yn Modin.
9:20 Wylasant ar ei ôl; gwnaeth holl Israel alar mawr amdano, a buont yn galarnadu am ddyddiau lawer, gan ddweud,
9:21 “Pa fodd y cwympodd y cadarn, gwaredwr Israel!”
9:22 Am weddill gweithredoedd Jwdasy rhyfeloedd, a'r gorchestion a wnaeth, a'i fawreddni chroniclwyd mohonynt, oherwydd tra lluosog oeddent.

Jonathan yn Olynydd i Jwdas

9:23 Wedi marwolaeth Jwdas daeth y rhai digyfraith yn holl derfynau Israel allan i'r amlwg, ac ailymddangosodd yr holl weithredwyr anghyfiawnder.
9:24 Yn y dyddiau hynny bu newyn mawr iawn, a gwrthgiliodd y wlad gyda hwy.
9:25 Dewisodd Bacchides y rhai annuwiol a'u gosod i lywodraethu'r wlad.
9:26 Buont yn ceisio ac yn chwilio am gyfeillion Jwdas, a'u dwyn at Bacchides. Dialodd yntau arnynt a'u sarhau.
9:27 Daeth gorthrymder mawr ar Israel, y fath na fu er y dydd pan beidiodd proffwyd ag ymddangos yn eu plith.
9:28 Yna ymgasglodd holl gyfeillion Jwdas a dweud wrth Jonathan,
9:29 “Er pan fu farw dy frawd Jwdas ni fu gŵr tebyg iddo i fynd i mewn ac allan yn erbyn ein gelynion ac yn erbyn Bacchides, ac i ddelio â'r gelynion o blith ein cenedl ni.
9:30 Yn awr, gan hynny, yr ydym ni heddiw wedi dy ddewis di i fod yn llywodraethwr ac yn arweinydd i ni yn ei le ef, i ymladd ein rhyfel.”
9:31 A derbyniodd Jonathan yr adeg honno yr arweinyddiaeth, a chymryd lle Jwdas ei frawd.

Ymgyrchoedd Jonathan

9:32 Pan ddeallodd Bacchides hyn ceisiodd ei ladd.
9:33 Cafodd Jonathan a'i frawd Simon a phawb oedd gydag ef wybod am hyn, a ffoesant i anialwch Tecoa, a gwersyllu ar lan llyn Asffar.
9:34 Clywodd Bacchides am hyn ar y Saboth, ac aeth ef a'i holl fyddin dros yr Iorddonen.
9:35 Anfonodd Jonathan ei frawd yn arweinydd y dyrfa, i ddeisyf ar ei gyfeillion y Nabateaid am gael gadael yn eu gofal hwy yr eiddo sylweddol oedd ganddynt.
9:36 Ond dyma deulu Jambri, brodorion o Medaba, yn dod allan a chipio Ioan a'r cyfan oedd ganddo, a'i ddwyn i ffwrdd gyda hwy.
9:37 Wedi'r pethau hyn mynegwyd i Jonathan a'i frawd Simon, “Y mae teulu Jambri yn dathlu priodas fawr, ac yn hebrwng y briodferch, merch un o brif benaethiaid Canaan, allan o Nadabath gyda gosgordd fawr.”
9:38 Yna cofiasant am lofruddiaeth Ioan eu brawd, ac aethant i fyny ac ymguddio yng nghysgod y mynydd.
9:39 Codasant eu llygaid ac edrych, a dyna dyrfa drystiog a llawer o gelfi; a'r priodfab a'i gyfeillion a'i frodyr yn dod allan i'w cyfarfod, gyda thympanau ac offerynnau cerdd ac arfau lawer.
9:40 Rhuthrasant hwythau allan o'u cuddfan arnynt i'w lladd. Syrthiodd llawer wedi eu clwyfo, a ffoes y gweddill i'r mynydd; a dygwyd eu holl eiddo yn ysbail.
9:41 Trowyd y briodas yn alar, a sŵn yr offerynnau cerdd yn alarnad.
9:42 Wedi iddynt lwyr ddial gwaed eu brawd, dychwelsant at gors yr Iorddonen.
9:43 Clywodd Bacchides am hyn, a daeth â llu mawr ar y Saboth hyd at lannau'r Iorddonen.
9:44 Dywedodd Jonathan wrth ei wŷr, “Gadewch inni ymosod yn awr ac ymladd am ein bywydau, oherwydd nid yw arnom heddiw fel y bu o'r blaen.
9:45 Oherwydd edrychwch, mae hi'n frwydr arnom o'r tu blaen ac o'r tu ôl; y mae dyfroedd yr Iorddonen o boptu, a chors a drysni; nid oes ffordd allan.
9:46 Gan hynny llefwch yn awr ar y Nefoedd am gael eich achub o law ein gelynion.”
9:47 Dechreuodd y frwydr; estynnodd Jonathan ei law i daro Bacchides, ond camodd ef yn ôl oddi wrtho.
9:48 Yna neidiodd Jonathan a'i wŷr i'r Iorddonen a nofio i'r lan arall; ond ni chroesodd y gelyn yr Iorddonen ar eu hôl.
9:49 Syrthiodd tua mil o wŷr Bacchides y diwrnod hwnnw.
9:50 Dychwelodd Bacchides i Jerwsalem, ac adeiladodd drefi caerog, ac iddynt furiau uchel a phyrth a barrau, yn Jwdea: y gaer sydd yn Jericho, ynghyd ag Emaus, Beth-horon, Bethel, Timnath Pharathon a Teffon.
9:51 Gosododd warchodlu ynddynt i aflonyddu ar Israel.
9:52 Cadarnhaodd hefyd dref Bethswra a Gasara a'r gaer yn Jerwsalem, a gosod ynddynt luoedd a chyflenwad o fwyd.
9:53 Cymerodd feibion penaethiaid y wlad yn wystlon, a'u gosod dan warchodaeth yn y gaer.
9:54 Yn y flwyddyn 153, yn yr ail fis, gorchmynnodd Alcimus dynnu i lawr fur cyntedd mewnol y deml. Distrywiodd felly waith y proffwydi. Ond yr union adeg y dechreuodd ei dynnu i lawr,
9:55 cafodd Alcimus drawiad a rhwystrwyd ei weithgarwch. Amharwyd ar ei leferydd, aeth yn ddiffrwyth, ac ni fedrai mwy lefaru gair na rhoi gorchmynion ynghylch ei stâd.
9:56 A bu farw Alcimus y pryd hwnnw mewn poen dirdynnol.
9:57 Pan welodd Bacchides fod Alcimus wedi marw dychwelodd at y brenin, a chafodd gwlad Jwda lonydd am ddwy flynedd.
9:58 Yna ymgynghorodd yr holl rai digyfraith gan ddweud, “Edrychwch, y mae Jonathan a'i wŷr yn llawn hyder ac yn trigo mewn llonyddwch; yn awr felly gadewch i ni gael Bacchides yn ôl, ac fe'u deil ef hwy i gyd mewn un noson.”
9:59 Yna aethant a chydymgynghori ag ef.
9:60 Cychwynnodd yntau ar ei ffordd gyda llu mawr, a gyrrodd lythyrau yn ddirgel at ei holl gefnogwyr yn Jwdea, yn eu hannog i ddal Jonathan a'i wŷr. Ond ni lwyddasant, oherwydd daeth eu bwriad yn hysbys.
9:61 Daliwyd tua hanner cant o wŷr y wlad a fu'n flaenllaw yn yr anfadwaith, a lladdwyd hwy.
9:62 Enciliodd Jonathan a'i wŷr, ynghyd â Simon, i Bethbasi yn yr anialwch; ailgododd y rhannau adfeiliedig ohoni, a'i chadarnhau.
9:63 Pan ddeallodd Bacchides hyn cynullodd ei holl fyddin ynghyd ac anfonodd wŷs at wŷr Jwdea.
9:64 Yna daeth a gwersyllu gyferbyn â Bethbasi; ymladdodd yn ei herbyn am ddyddiau lawer, gan godi peiriannau rhyfel.
9:65 Ond gadawodd Jonathan ei frawd Simon yn y dref, a mynd allan i'r wlad, heb ond ychydig o wŷr i'w ganlyn.
9:66 Trawodd Odomera a'i frodyr a meibion Phasiron yn eu pabell, a dechreusant ymosod a mynd i'r gad gyda'u lluoedd.
9:67 Daeth Simon a'i wŷr hwythau allan o'r ddinas a rhoi'r peiriannau rhyfel ar dân. Ymladdasant yn erbyn Bacchides a'i orchfygu.
9:68 Buont yn achos gofid mawr iddo, oherwydd fod ei gynllun a'i gyrch bellach yn ofer.
9:69 Yn ei ddicter mawr tuag at y gwŷr digyfraith hynny a gawsai berswâd arno i ddod i'r wlad, lladdodd lawer ohonynt. Yna penderfynodd Bacchides ddychwelyd i'w wlad ei hun.
9:70 Pan ddeallodd Jonathan hyn anfonodd lysgenhadon ato i drefnu telerau heddwch ag ef, ac iddo roi'r carcharorion yn ôl iddynt. Cytunodd yntau, a gwnaeth yn unol â geiriau Jonathan.
9:71 Aeth ar ei lw hefyd na fyddai'n ceisio niwed iddo holl ddyddiau ei fywyd.
9:72 Rhoes yn ôl iddo y carcharorion hynny yr oedd wedi eu caethgludo o wlad Jwda o'r blaen; wedyn ymadawodd a dychwelyd i'w wlad ei hun, ac ni ddaeth i'w cyffiniau byth eto.
9:73 Felly peidiodd y cleddyf yn Israel. Aeth Jonathan i fyw yn Michmas, a dechrau llywodraethu'r bobl, gan beri i'r annuwiol ddiflannu allan o Israel.

10:1 Yn y flwyddyn 160 daeth Alexander Epiffanes, mab Antiochus, a meddiannu Ptolemais. Derbyniasant ef, ac fe'i gwnaeth ei hun yn frenin yno.
10:2 Pan glywodd y Brenin Demetrius am hyn casglodd ynghyd lu mawr iawn, ac aeth allan i'w gyfarfod ef mewn rhyfel.
10:3 Hefyd anfonodd Demetrius lythyrau at Jonathan yn ei gyfarch yn gymodlon a gwenieithus;
10:4 oherwydd dywedodd, “Gadewch inni achub y blaen i gymodi â hwy cyn i Jonathan gymodi ag Alexander yn ein herbyn ni.
10:5 Oherwydd bydd ef yn cofio'r holl ddrygau a wnaethom iddo, ac i'w frodyr, ac i'r genedl.”
10:6 Felly rhoes Demetrius awdurdod i Jonathan i gasglu byddin, i ddarparu arfau, ac i weithredu fel cynghreiriaid iddo. Gorchmynnodd hefyd drosglwyddo iddo y gwystlon oedd yn y gaer.
10:7 Daeth Jonathan i Jerwsalem a darllen y llythyrau yng nghlyw'r holl bobl a'r gwŷr o'r gaer.
10:8 Daeth ofn mawr arnynt pan glywsant fod y brenin wedi rhoi awdurdod iddo i gasglu llu.
10:9 Ond trosglwyddodd y gwŷr o'r gaer y gwystlon i Jonathan, a rhoes ef hwy i'w rhieni.
10:10 Gwnaeth Jonathan ei drigle yn Jerwsalem a dechrau adeiladu ac adnewyddu'r ddinas,
10:11 gan orchymyn i'r gweithwyr adeiladu muriau'r ddinas, ac amgylchu Mynydd Seion â cherrig sgwâr er mwyn ei gadarnhau; a gwnaethant felly.
10:12 Yna ffoes yr estroniaid a oedd yn y caerau yr oedd Bacchides wedi eu hadeiladu;
10:13 gadawodd pob un ei le a dychwelyd i'w wlad ei hun.
10:14 Eto gadawyd ar ôl yn Bethswra rai o'r sawl a oedd wedi ymwrthod â'r gyfraith ac â'r ordinhadau; oherwydd yr oedd yn ddinas noddfa iddynt.
10:15 Clywodd y Brenin Alexander am yr addewidion a anfonodd Demetrius at Jonathan, a mynegwyd iddo am y rhyfeloedd, a'r gwrhydri a wnaethai Jonathan a'i frodyr, ac am y caledi a ddioddefasant.
10:16 Dywedodd, “A gawn ni fyth un tebyg i hwn?
10:17 Gwnawn ef felly yn awr yn gyfaill a chynghreiriad inni.” Ysgrifennodd lythyrau a'u hanfon ato fel a ganlyn:
10:18 “Y Brenin Alexander at y brawd Jonathan, cyfarchion.
10:19 Clywsom amdanat, dy fod yn ŵr cadarn, nerthol; a theilwng wyt i fod yn gyfaill inni.
10:20 Yn awr, felly, yr ydym wedi dy benodi heddiw yn archoffeiriad dy genedl, ac yn un i gael dy alw yn Gyfaill y Brenin” (ac anfonodd iddo wisg borffor a choron aur) “ac yr wyt i gymryd ein plaid a meithrin cyfeillgarwch â ni.”
10:21 Gwisgodd Jonathan y wisg sanctaidd amdano yn y seithfed mis o'r flwyddyn 160, ar ŵyl y Pebyll; a chasglodd ynghyd luoedd a darparu arfau lawer.
10:22 Pan glywodd Demetrius am y pethau hyn bu'n ofid iddo,
10:23 a dywedodd, “Beth yw hyn a wnaethom, bod Alexander wedi achub y blaen arnom i ffurfio cyfeillgarwch â'r Iddewon, er mwyn ei gadarnhau ei hun?
10:24 Ysgrifennaf finnau hefyd atynt neges galonogol, ac addo iddynt anrhydeddau a rhoddion, er mwyn iddynt fod yn gymorth i mi.”
10:25 Anfonodd atynt y neges ganlynol: “Y Brenin Demetrius at genedl yr Iddewon, cyfarchion.
10:26 Gan i chwi gadw eich cytundebau â ni, ac aros mewn cyfeillgarwch â ni, heb fynd drosodd at ein gelynionclywsom am hyn, a llawenhau.
10:27 Bellach, arhoswch mwy mewn ffyddlondeb i ni, ac fe dalwn ni'n ôl i chwi ddaioni am yr hyn yr ydych yn ei wneud drosom.
10:28 Rhyddhawn chwi o lawer treth, a rhown anrhegion i chwi.
10:29 “Yn awr yr wyf yn eich gollwng yn rhydd, ac yn rhyddhau'r holl Iddewon o dollau, ac o dreth yr halen, ac o arian y goron;
10:30 ac yn lle casglu traean y grawn, a hanner ffrwyth y coed sydd yn ddyledus i mi, yr wyf yn eu rhyddhau o heddiw ymlaen. Ni chasglaf hwy o wlad Jwda nac o'r tair rhandir o Samaria a Galilea a ychwanegwyd ati, o heddiw ymlaen a hyd byth.
10:31 Bydded Jerwsalem a'i chyffiniau, ei degymau a'i thollau, yn sanctaidd a di-dreth.
10:32 Yr wyf yn gollwng fy ngafael a'm hawdurdod ar y gaer sydd yn Jerwsalem hefyd, ac yn ei rhoi i'r archoffeiriad, iddo ef osod ynddi wŷr o'i ddewis ei hun i'w gwarchod hi.
10:33 Yr holl Iddewon a gaethgludwyd o wlad Jwda i unrhyw ran o'm teyrnas, yr wyf yn eu rhyddhau am ddim; ac y mae fy holl swyddogion i ddiddymu'r tollau ar wartheg yr Iddewon.
10:34 Yr holl wyliau a'r Sabothau a'r newydd-loerau, a'r dyddiau penodedig eraill, a'r tridiau o flaen ac ar ôl gŵylbydded y cyfan yn ddyddiau rhyddhau a gollyngdod i'r holl Iddewon sydd yn fy nheyrnas.
10:35 Ni chaiff neb awdurdod i hawlio dim ganddynt nac i aflonyddu arnynt ar unrhyw fater.
10:36 “Bydded i tua deng mil ar hugain o Iddewon ymrestru yn lluoedd y brenin, a rhoddir iddynt y gynhaliaeth sy'n gweddu i holl luoedd y brenin.
10:37 Caiff rhai ohonynt eu gosod yng ngheyrydd cedyrn y brenin, ac eraill mewn swyddi o gyfrifoldeb yn y deyrnas. Bydd eu swyddogion a'u harweinwyr o'u plith hwy eu hunain, ac y maent i fyw yn ôl eu cyfreithiau eu hunain, fel y gorchmynnodd y brenin yng ngwlad Jwda.
10:38 “Am y tair rhandir a ychwanegwyd at Jwdea o wlad Samaria, boed iddynt gael eu hychwanegu at Jwdea mewn modd i'w hystyried o dan un llywodraethwr, heb orfod arnynt ufuddhau i unrhyw awdurdod ond yr archoffeiriad.
10:39 “Yr wyf yn rhoi Ptolemais a'r wlad o'i hamgylch yn rhodd i'r cysegr yn Jerwsalem, i gyfarfod â threuliau angenrheidiol y cysegr.
10:40 Yr wyf hefyd yn rhoi pymtheng mil o siclau arian yn flynyddol o gyllid y brenin allan o'r mannau priodol.
10:41 Am y gweddill, yr hyn na thalodd y swyddogion i mewn fel y gwnaethant yn y blynyddoedd cyntaf, o hyn ymlaen cânt ei roi at wasanaeth y deml.
10:42 Heblaw hyn y mae'r pum mil o siclau arian hynny a dderbynient yn flynyddol allan o gyfrifon angenrheidiau'r cysegr i'w maddau hefyd, oherwydd eiddo'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yno ydynt.
10:43 A phawb fydd yn ffoi i'r deml yn Jerwsalem, neu i unrhyw ran o'i chyffiniau, am fod arnynt ddyled i'r brenin, neu unrhyw ddyled arall, y maent i'w gollwng yn rhydd ynghyd â phob eiddo sydd ganddynt yn fy nheyrnas.
10:44 Y mae treuliau codi ac adnewyddu adeiladau'r cysegr i'w talu o gyfrif y brenin;
10:45 ac o gyfrif y brenin hefyd y mae talu treuliau adeiladu muriau Jerwsalem, ei chadarnhau hi o amgylch, ac adeiladu'r muriau yn Jwdea.”
10:46 Pan glywodd Jonathan a'r bobl y geiriau hyn, ni chredasant hwy na'u derbyn, oherwydd cofiasant y mawr ddrwg yr oedd Demetrius wedi ei gyflawni yn Israel, a'r modd yr oedd wedi eu gormesu'n ddirfawr.
10:47 Alexander a gafodd eu ffafr, oherwydd ef oedd y cyntaf i lefaru geiriau heddychlon wrthynt, a buont yn gynghreiriaid iddo dros ei holl ddyddiau.
10:48 Casglodd y Brenin Alexander lu mawr a gwersyllu gyferbyn â Demetrius.
10:49 Daeth y ddau frenin ynghyd i ryfel; ffoes byddin Demetrius ac ymlidiodd Alexander ef, a'i drechu.
10:50 Ymladdodd yn galed hyd fachlud haul, a syrthiodd Demetrius y dydd hwnnw.
10:51 Yna anfonodd Alexander lysgenhadon at Ptolemeus brenin yr Aifft gyda'r neges ganlynol:
10:52 “Gan i mi ddychwelyd i'm teyrnas i eistedd ar orsedd fy hynafiaid a chipio'r llywodraeth trwy orchfygu Demetrius ac adfeddiannu ein gwlad—
10:53 euthum i ryfel yn ei erbyn, a gorchfygwyd ef a'i fyddin gennym, ac eisteddasom ar orsedd ei deyrnas—
10:54 gan hynny gadewch inni yn awr wneud cynghrair â'n gilydd; rho di dy ferch yn awr yn wraig i mi, a byddaf finnau'n fab-yng-nghyfraith i ti, a rhoddaf i ti ac iddi hithau anrhegion teilwng ohonot.”
10:55 Atebodd y Brenin Ptolemeus fel hyn: “O ddedwydd ddydd pan ddychwelaist i wlad dy hynafiaid ac eistedd ar orsedd eu teyrnas!
10:56 Fe wnaf i ti yn awr yn unol â'r hyn a ysgrifennaist, ond tyrd i'm cyfarfod yn Ptolemais, er mwyn inni weld ein gilydd, ac imi ddod yn dad-yng-nghyfraith i ti, fel yr wyt wedi dweud.”
10:57 Ymadawodd Ptolemeus â'r Aifft, ef a'i ferch Cleopatra, a dod i Ptolemais yn y flwyddyn 162.
10:58 Cyfarfu'r Brenin Alexander ag ef; rhoddodd yntau ei ferch Cleopatra yn briod iddo, a dathlodd ei phriodas mewn rhwysg mawr, fel y mae arfer brenhinoedd.
10:59 Ysgrifennodd y Brenin Alexander at Jonathan iddo ddod i'w gyfarfod.
10:60 Aeth yntau mewn rhwysg i Ptolemais a chyfarfod y ddau frenin. Rhoes iddynt ac i'w Cyfeillion arian ac aur ac anrhegion lawer, a chafodd ffafr yn eu golwg.
10:61 Ond ymgasglodd gwŷr ysgeler o Israel yn ei erbyn, gwŷr digyfraith, i achwyn arno; ond ni chymerodd y brenin sylw ohonynt.
10:62 Gorchmynnodd y brenin ddiosg dillad Jonathan oddi amdano a'i wisgo â phorffor, a gwnaethant felly.
10:63 Gwnaeth y brenin iddo eistedd yn ei ymyl, a dweud wrth ei swyddogion: “Ewch gydag ef i ganol y ddinas, a chyhoeddwch nad oes neb i achwyn arno ynghylch unrhyw fater, nac i aflonyddu arno ynghylch unrhyw achos.”
10:64 Pan welodd y rhai oedd yn achwyn arno ei rwysg, ac yntau yn ei wisg borffor, yn unol â'r gorchymyn, ffoesant i gyd.
10:65 Felly yr anrhydeddodd y brenin ef: ei restru ymhlith ei Gyfeillion pennaf, a'i benodi'n gadlywydd ac yn llywodraethwr talaith.
10:66 A dychwelodd Jonathan i Jerwsalem mewn heddwch a gorfoledd.
10:67 Yn y flwyddyn 165 daeth Demetrius, mab Demetrius, o Creta i wlad ei hynafiaid.
10:68 Pan glywodd y Brenin Alexander am hyn, bu'n ofid mawr iddo, a dychwelodd i Antiochia.
10:69 Penododd Demetrius Apolonius, llywodraethwr Coele Syria, yn gadfridog, a chasglodd yntau lu mawr a gwersyllu ger Jamnia. Anfonodd y neges hon at Jonathan yr archoffeiriad:
10:70 “Ti yw'r unig un i godi yn ein herbyn; euthum innau yn gyff gwawd a gwatwar o'th achos di. Pam wyt ti yn honni awdurdod arnom yn y mynyddoedd?
10:71 Yn awr, gan hynny, os oes gennyt gymaint o hyder yn dy luoedd tyrd i lawr atom i'r gwastatir, a gadawer inni gystadlu â'n gilydd yno, oherwydd y mae llu'r dinasoedd o'm plaid i.
10:72 Hola, iti gael dysgu pwy wyf fi a phwy yw'r lleill sydd yn ein cynorthwyo; ac fe ddywedir wrthyt, ‘Nid oes i chwi led troed wyneb yn wyneb â ni’, oherwydd gyrrwyd dy hynafiaid ar ffo ddwywaith yn eu gwlad eu hunain.
10:73 Yn awr gan hynny ni fedri wrthsefyll y gwŷr meirch na'r fath lu yn y gwastatir, lle nid oes na chraig na charreg, nac unrhyw le i ffoi iddo.”
10:74 Pan glywodd Jonathan eiriau Apolonius cyffrowyd ei ysbryd. Dewisodd ddeng mil o wŷr, a chychwyn allan o Jerwsalem. Ymunodd ei frawd Simon ag ef i fod yn gymorth iddo.
10:75 Gwersyllodd ger Jopa, ond yr oedd y dinasyddion wedi cau'r pyrth yn ei erbyn, am fod gwarchodlu Apolonius yn Jopa.
10:76 Ymladdasant yn ei herbyn; ac yn eu dychryn agorodd y dinasyddion iddo, a daeth Jonathan yn arglwydd ar Jopa.
10:77 Pan glywodd Apolonius am hyn casglodd dair mil o wŷr meirch a llu mawr o wŷr traed, a theithio tuag Asotus, fel petai am fynd ymhellach. Yr un pryd, am fod ganddo liaws o wŷr meirch yr oedd yn ymddiried ynddynt, aeth rhagddo i'r gwastatir.
10:78 Ymlidiodd Jonathan ar ei ôl hyd Asotus, a daeth y byddinoedd ynghyd i ryfel.
10:79 Ond yr oedd Apolonius wedi gadael mil o wŷr meirch yn ddirgel y tu cefn iddynt,
10:80 a deallodd Jonathan fod cynllwyn y tu ôl iddo. Amgylchynasant ei fyddin a thaflu saethau at y bobl o fore bach hyd hwyr.
10:81 Ond daliodd y bobl eu tir, fel yr oedd Jonathan wedi gorchymyn, a diffygiodd gwŷr meirch y gelyn.
10:82 Yna arweiniodd Simon ei lu allan a dechrau ymladd 'r gatrawd o wŷr traed, gan fod y gwŷr meirch wedi llwyr flino. Drylliwyd hwy ganddo a ffoesant.
10:83 Gwasgarwyd y gwŷr meirch yn y gwastatir; ffoesant i Asotus a chyrraedd Bethdagon, teml eu heilun, am noddfa.
10:84 Llosgodd Jonathan Asotus a'r trefi o'i hamgylch, a'u hysbeilio, gan losgi teml Dagon hefyd, a'r ffoaduriaid o'i mewn.
10:85 Yr oedd y rhai a syrthiodd trwy gleddyf, ynghyd â'r rhai a losgwyd, yn rhifo tua wyth mil o wŷr.
10:86 Teithiodd Jonathan oddi yno a gwersyllu ger Ascalon, a daeth y dinasyddion allan i'w gyfarfod â rhwysg mawr.
10:87 Dychwelodd Jonathan a'i wŷr i Jerwsalem, a chanddynt lawer o ysbail.
10:88 Pan glywodd y Brenin Alexander am y pethau hyn aeth ati i anrhydeddu Jonathan fwyfwy eto.
10:89 Anfonodd iddo glespyn aur, fel y mae'n arfer ei roi i berthnasau brenhinoedd; rhoes yn feddiant iddo hefyd Accaron a'i holl gyffiniau.

Marw'r Brenin Alexander

11:1 Casglodd brenin yr Aifft luoedd mor niferus â'r tywod sydd ar lan y mr, a llongau lawer; a cheisiodd gipio teyrnas Alexander trwy ddichell, a'i hychwanegu at ei deyrnas ei hun.
11:2 Aeth i Syria â'i eiriau'n llawn heddwch, a dyma drigolion y trefi yn agor iddo a mynd allan i'w gyfarfod, oherwydd i'r Brenin Alexander orchymyn mynd i'w gyfarfod am mai ei dad-yng-nghyfraith oedd.
11:3 Fel yr oedd Ptolemeus yn mynd i mewn i'r trefi, gosododd warchodlu ym mhob tref.
11:4 Pan gyrhaeddwyd Asotus dangoswyd iddo deml Dagon wedi ei llosgi, Asotus a'i maestrefi yn adfeilion, y cyrff wedi eu gwasgaru ar hyd y lle, a'r rhai yr oedd Jonathan wedi eu llosgi yn y rhyfel wedi eu gadael yn bentyrrau ar hyd ei ffordd.
11:5 Mynegwyd i'r brenin beth yr oedd Jonathan wedi ei wneud, er mwyn bwrw'r bai arno; ond tewi a wnaeth y brenin.
11:6 Daeth Jonathan mewn rhwysg i gyfarfod y brenin yn Jopa; cyfarchodd y ddau ei gilydd, a chysgu yno.
11:7 Aeth Jonathan gyda'r brenin hyd at yr afon a elwir Elewtherus; yna dychwelodd i Jerwsalem.
11:8 Gwnaeth y Brenin Ptolemeus ei hun yn arglwydd ar drefi'r arfordir hyd at Selewcia ger y môr, gan fwriadu bwriadau drwg yn erbyn Alexander.
11:9 Anfonodd genhadau at y Brenin Demetrius a dweud: “Tyrd, gad inni wneud cyfamod â'n gilydd, a rhof i ti fy merch, gwraig Alexander, a chei deyrnasu ar deyrnas dy dad.
11:10 Oherwydd y mae'n edifar gennyf imi roi fy merch iddo ef, ac yntau wedi ceisio fy lladd.”
11:11 Cafodd fai ar Alexander fel hyn am ei fod yn chwenychu ei deyrnas.
11:12 Cymerodd ei ferch oddi arno a'i rhoi i Demetrius. Ymddieithriodd oddi wrth Alexander, a daeth yr elyniaeth rhyngddynt yn amlwg.
11:13 Aeth Ptolemeus i mewn i Antiochia a gwisgo coron Asia; felly daeth i wisgo dwy goron, un yr Aifft ac un Asia.
11:14 Yr adeg honno yr oedd y Brenin Alexander yn Cilicia, oherwydd bod trigolion y parthau hynny mewn gwrthryfel.
11:15 Pan glywodd Alexander, aeth i ryfel yn erbyn Ptolemeus, a daeth yntau allan i'w gyfarfod â llu mawr, a'i yrru ar ffo.
11:16 Ffoes Alexander i Arabia i geisio nodded yno, ac yr oedd y Brenin Ptolemeus uwchben ei ddigon.
11:17 Torrodd Sabdiel yr Arabiad ben Alexander i ffwrdd, a'i anfon at Ptolemeus.
11:18 Ond bu farw'r Brenin Ptolemeus yntau ymhen tridiau, a dinistriwyd gwarchodlu ei geyrydd gan eu trigolion.
11:19 Felly daeth Demetrius yn frenin yn y flwyddyn 167.

Jonathan yn Ennill Ffafr Demetrius II

11:20 Yn y dyddiau hynny casglodd Jonathan wŷr Jwdea ynghyd er mwyn ymosod ar y gaer oedd yn Jerwsalem, a chododd lawer o beiriannau rhyfel yn ei herbyn.
11:21 Yna aeth rhai digyfraith, a oedd yn casu eu cenedl eu hunain, at y brenin a dweud wrtho fod Jonathan yn gwarchae ar y gaer.
11:22 Pan glywodd yntau, enynnwyd ei ddicter; ac ar y gair aeth ymaith yn ddi-oed a dod i Ptolemais. Ysgrifennodd at Jonathan i godi'r gwarchae a dod i Ptolemais ar fyrder i'w gyfarfod ac i gydymgynghori ag ef.
11:23 Pan gafodd Jonathan y neges, gorchmynnodd barhau'r gwarchae. Dewisodd rai o blith henuriaid Israel ac o'r offeiriaid i fynd gydag ef, ac ymdaflodd i'r antur beryglus.
11:24 Cymerodd arian ac aur, a gwisgoedd, a llawer o anrhegion eraill, a mynd at y brenin i Ptolemais; a chafodd ffafr yn ei olwg.
11:25 Er i rai digyfraith o'r genedl achwyn arno,
11:26 gwnaeth y brenin ag ef fel y gwnaethai ei ragflaenwyr, gan ei anrhydeddu yng ngŵydd ei holl Gyfeillion.
11:27 Cadarnhaodd ef yn ei swydd fel archoffeiriad, ac ym mhob anrhydedd arall a oedd ganddo o'r blaen, a pheri ei godi i blith ei Gyfeillion pennaf.
11:28 Deisyfodd Jonathan ar y brenin ryddhau Jwdea, ynghyd â'r tair talaith a Samaria, o dreth, ac addawodd iddo dri chant o dalentau.
11:29 Bodlonodd y brenin, ac ysgrifennodd lythyrau at Jonathan ynghylch y pethau hyn oll fel a ganlyn:
11:30 “Y Brenin Demetrius at y brawd Jonathan, ac at genedl yr Iddewon, cyfarchion.
11:31 Dyma gopi o'r llythyr a ysgrifenasom at ein perthynas Lasthenes yn eich cylch, wedi ei gopo i'w anfon atoch chwithau hefyd, er gwybodaeth i chwi:
11:32 ‘Y Brenin Demetrius at ei dad Lasthenes, cyfarchion.
11:33 Penderfynasom wneud cymwynas â chenedl yr Iddewon, ein cyfeillion sydd yn cadw eu cytundebau â ni, ar bwys eu hewyllys da tuag atom.
11:34 Yn lle'r trethi y byddai'r brenin yn eu derbyn ganddynt o'r blaen bob blwyddyn, o gynnyrch y ddaear ac o'r coed ffrwythau, yr ydym wedi sicrhau iddynt gyffiniau Jwdea, ynghyd â'r tair rhandir Afferema, Lyda, a Ramathaim; y mae'r rhain, a phopeth sy'n perthyn iddynt, yn awr wedi eu trosglwyddo oddi ar Samaria i Jwdea. Bydd hyn er lles pawb sydd yn aberthu yn Jerwsalem.
11:35 Am y trethi eraill sy'n eiddo i ni, o'r degymau a'r tollau sy'n eiddo i ni, a'r pyllau halen ac arian y goron sy'n eiddo i ni, o hyn ymlaen byddwn yn eu rhyddhau o'r cwbl.
11:36 Nid yw'r un o'r trefniadau hyn i'w ddiddymu o hyn ymlaen hyd byth.
11:37 Yn awr, felly, gofalwch am wneud copi ohonynt i'w roi i Jonathan i'w osod mewn lle amlwg yn y mynydd sanctaidd.’ ”

Jonathan yn Cynorthwyo Demetrius II

11:38 Pan welodd y Brenin Demetrius fod y wlad wedi ymdawelu dano, ac nad oedd dim gwrthryfel yn ei erbyn, gollyngodd ymaith ei holl luoedd, pob un i'w le ei hun, ac eithrio lluoedd yr estroniaid hynny yr oedd wedi eu casglu'n filwyr cyflog o ynysoedd y Cenhedloedd. Am hynny cododd gelyniaeth tuag ato ymhlith yr holl luoedd a fu dan ei ragflaenwyr.
11:39 Pan welodd Tryffo, a oedd o'r blaen yn un o wŷr Alexander, fod yr holl luoedd yn grwgnach yn erbyn Demetrius, aeth at Imalcwe yr Arabiad, tad-maeth Antiochus, mab bychan Alexander,
11:40 a phwyso arno drosglwyddo'r bachgen iddo ef, i'w wneud yn frenin yn lle ei dad. Mynegodd i Imalcwe hefyd yr holl bethau a gyflawnodd Demetrius, a'r elyniaeth a oedd gan ei luoedd tuag ato. Arhosodd yno am ddyddiau lawer.
11:41 Anfonodd Jonathan at y Brenin Demetrius i ofyn iddo dynnu allan y gwŷr o'r gaer yn Jerwsalem a'r gwŷr oedd yn yr amddiffynfeydd, oherwydd yr oeddent yn rhyfela yn erbyn Israel.
11:42 Anfonodd Demetrius at Jonathan yr ateb hwn: “Nid y pethau hyn yn unig a wnaf er dy fwyn di a'th genedl, ond fe roddaf i ti ac i'th genedl yr anrhydedd uchaf, pan gaf amser cyfaddas.
11:43 Yn awr, gan hynny, byddi'n gwneud cymwynas â mi os anfoni ataf wŷr i ryfela wrth fy ochr, oherwydd y mae fy holl luoedd wedi cefnu arnaf.”
11:44 Yna anfonodd Jonathan ato i Antiochia dair mil ohonynt cyhyrog; daethant at y brenin, a pharodd eu dyfodiad lawenydd mawr i'r brenin.
11:45 Ymgasglodd y dinayddion i ganol y ddinas, tua chant ac ugain o filoedd o wŷr, â'u bryd ar ladd y brenin.
11:46 Ffoes y brenin i'r palas; meddiannodd y dinasyddion strydoedd y ddinas a dechrau ymladd.
11:47 Galwodd y brenin yr Iddewon i'w gynorthwyo; ymgasglasant i gyd ato ar unwaith, ac yna ymledu ar hyd y ddinas a lladd tua chan mil y dydd hwnnw.
11:48 Llosgodd yr Iddewon y ddinas a chymryd llawer o ysbail y dydd hwnnw, ac achub y brenin hefyd.
11:49 Pan welodd y dinasyddion fod yr Iddewon wedi dod yn feistri llwyr ar y ddinas, collasant eu hyder, ac ymbil ar y brenin, gan lefain fel hyn:
11:50 “Estyn inni dy ddeheulaw mewn heddwch, a gad i'r Iddewon roi heibio eu cyrch yn ein herbyn ni a'n dinas.”
11:51 Taflasant ymaith eu harfau, a gwneud heddwch. Anrhydeddwyd yr Iddewon yng ngŵydd y brenin ac yng ngŵydd pawb yn ei deyrnas. Dychwelsant i Jerwsalem a chanddynt lawer o ysbail.
11:52 Felly eisteddodd y Brenin Demetrius ar orsedd ei deyrnas, a bu'r wlad yn dawel dano.
11:53 Ond twyll fu ei holl addewidion; ymddieithriodd oddi wrth Jonathan, ac yn hytrach na thalu'n ôl y cymwynasau a wnaeth Jonathan ag ef, aeth rhagddo i aflonyddu'n fawr arno.

Jonathan yn Cefnogi Antiochus VI

11:54 Ar ôl hyn dychwelodd Tryffo, a'r bachgen ifanc Antiochus gydag ef, a choronwyd ef yn frenin.
11:55 Ymgasglodd ato yr holl luoedd yr oedd Demetrius wedi eu troi heibio, ac ymladdasant yn erbyn Demetrius. Enciliodd yntau, a gyrrwyd ef ar ffo.
11:56 Daeth yr eliffantod i feddiant Tryffo, a choncrodd Antiochia.
11:57 Ysgrifennodd Antiochus ifanc at Jonathan fel hyn: “Yr wyf yn dy gadarnhau yn dy swydd fel archoffeiriad, ac yn dy osod dros y pedair rhandir, ac yn dy wneud yn un o Gyfeillion y Brenin.”
11:58 Anfonodd iddo lestri aur at ei wasanaeth, a rhoes iddo'r hawl i yfed allan o lestri aur, i ymddilladu mewn porffor a gwisgo clespyn aur.
11:59 Gosododd ei frawd Simon yn llywodraethwr ar y parthau o Risiau Tyrus hyd at gyffiniau'r Aifft.
11:60 Aeth Jonathan allan a theithio trwy'r wlad yr ochr arall i'r afon, a'r trefi yno. Ymgasglodd ato holl luoedd Syria, i fod yn gynghreiriaid iddo. Cyrhaeddodd Ascalon, a daeth y dinasyddion allan i'w dderbyn yn anrhydeddus.
11:61 Oddi yno aeth i Gasa, ond caeodd pobl Gasa y pyrth yn ei erbyn. Gwarchaeodd yntau arni a llosgi ei maestrefi â thân, a'u hysbeilio.
11:62 Ymbiliodd pobl Gasa am heddwch, a gwnaeth Jonathan delerau â hwy. Cymerodd feibion eu harweinwyr yn wystlon, a'u hanfon i ffwrdd i Jerwsalem. Yna tramwyodd trwy'r wlad hyd at Ddamascus.
11:63 Clywodd Jonathan fod capteiniaid Demetrius wedi cyrraedd Cedes yng Ngalilea gyda llu mawr, gan fwriadu ei atal rhag cyflawni ei amcan.
11:64 Aeth i'w cyfarfod, ond gadawodd ei frawd Simon yn Jwdea.
11:65 Gwersyllodd Simon o flaen Bethswra, ac wedi ymladd yn ei herbyn dros ddyddiau lawer, gosododd hi dan warchae.
11:66 Ymbiliodd y trigolion am delerau heddwch, a chydsyniodd yntau. Taflodd hwy allan oddi yno, ac wedi meddiannu'r dref gosododd warchodlu o'i mewn.
11:67 Gwersyllodd Jonathan a'i fyddin wrth Lyn Genesaret, a chodasant yn y bore bach i deithio hyd wastatir Asor.
11:68 A dyma fyddin yr estroniaid yn dod i'w gyfarfod yn y gwastatir. Yr oeddent wedi gosod mintai guddiedig yn ei erbyn yn y mynyddoedd, ond daethant hwy eu hunain i'w gyfarfod wyneb yn wyneb.
11:69 Cododd y fintai guddiedig allan o'u cuddfannau ac ymuno yn yr ymladd.
11:70 Ffoes holl wŷr Jonathan; ni adawyd un ohonynt ond Matathias fab Absalom a Jwdas fab Chalffi, capteiniaid lluoedd y fyddin.
11:71 Rhwygodd Jonathan ei ddillad a rhoi pridd ar ei ben, a mynd i weddi.
11:72 Yna dychwelodd i ymladd â'r gelyn; gyrrodd hwy ar ffo, ac enciliasant.
11:73 Pan welodd ffoaduriaid ei fyddin ef hyn dychwelsant ato, ac ymlid y gelyn gydag ef, hyd at eu gwersyll yn Cedes; ac yno y gwersyllasant.
11:74 Syrthiodd tua thair mil o wŷr yr estroniaid y dydd hwnnw, a dychwelodd Jonathan i Jerwsalem.

Cynghrair â Rhufain ac â Sparta

12:1 Gwelodd Jonathan fod yr amser yn ffafriol iddo, a dewisodd wŷr a'u hanfon i Rufain i gadarnhau ac adnewyddu ei gyfeillgarwch â phobl y ddinas honno.
12:2 Anfonodd lythyrau hefyd i'r un perwyl at y Spartiaid ac i leoedd eraill.
12:3 Daeth y cenhadau i Rufain a mynd i mewn i'r senedd-dy a dweud: “Anfonodd yr archoffeiriad Jonathan a chenedl yr Iddewon ni i adnewyddu'r cynghrair cyfeillgar a fu gynt rhyngoch chwi a hwy.”
12:4 Rhoes y Rhufeiniaid lythyrau iddynt yn gorchymyn i'r awdurdodau ym mhobman eu hebrwng yn heddychlon i dir Jwda.
12:5 Dyma gopi o'r llythyr a ysgrifennodd Jonathan at y Spartiaid:
12:6 “Yr archoffeiriad Jonathan, a henuriaid y genedl a'r offeiriaid a gweddill pobl yr Iddewon, at ein brodyr y Spartiaid, cyfarchion.
12:7 Ar achlysur blaenorol anfonwyd llythyr at yr archoffeiriad Onias oddi wrth eich brenin Arius i'r perwyl eich bod yn frodyr i ni, fel y mae'r copi amgaedig yn tystio.
12:8 Croesawodd Onias y cennad yn anrhydeddus, a derbyn ganddo y llythyr, a oedd yn egluro telerau'r cynghrair cyfeillgar.
12:9 Gan hynny, er nad oes arnom ni angen cytundebau o'r fath, am fod gennym yn galondid y llyfrau sanctaidd sydd yn ein meddiant,
12:10 yr ydym wedi ymgymryd ag anfon i adnewyddu'r brawdgarwch a'r cyfeillgarwch rhyngom a chwi, rhag bod ymddieithrio rhyngom; oherwydd aeth cryn amser heibio er pan anfonasoch lythyr atom.
12:11 Yn wir, yr ydym ni bob amser, ar y gwyliau ac ar ddyddiau cyfaddas eraill, yn eich cofio yn ddi-baid yn yr aberthau a offrymwn ac mewn gweddau, fel y mae'n iawn a phriodol cofio brodyr.
12:12 Yr ydym yn llawenhau yn y bri sydd i chwi.
12:13 Buom yng nghanol llawer o orthrymderau, a rhyfeloedd lawer; bu'r brenhinoedd o'n cwmpas yn rhyfela yn ein herbyn.
12:14 Er hynny, nid oeddem yn ewyllysio, yn y rhyfeloedd hyn, eich trafferthu chwi na'n cynghreiriaid a'n cyfeillion eraill,
12:15 oherwydd y mae gennym gymorth y nef i'n cynorthwyo; a chawsom ein gwaredu oddi wrth ein gelynion, a chawsant hwythau eu darostwng.
12:16 Dewisasom felly Nwmenius fab Antiochus ac Antipater fab Jason, ac yr ydym wedi eu hanfon at y Rhufeiniaid i adnewyddu'r cynghrair cyfeillgar a oedd rhyngom a hwy gynt.
12:17 Am hynny rhoesom orchymyn iddynt ddod atoch chwithau, a'ch cyfarch, a rhoi i chwi y llythyr hwn gennym ynghylch adnewyddu ein brawdgarwch â chwi hefyd.
12:18 Yn awr, felly, a fyddwch cystal â rhoi ateb inni i'r neges hon?”
12:19 Dyma gopi o'r llythyr oedd wedi ei anfon at Onias:
12:20 “Arius brenin y Spartiaid at yr archoffeiriad Onias, cyfarchion.
12:21 Darganfuwyd mewn dogfen fod y Spartiaid a'r Iddewon yn frodyr, a'u bod fel ei gilydd o hil Abraham.
12:22 Gan inni ddod i wybod hyn, a fyddwch cystal yn awr ag ysgrifennu atom am eich hynt?
12:23 A dyma ninnau yn ein tro yn ysgrifennu atoch chwi i ddweud fod eich anifeiliaid a'r cwbl sydd gennych yn eiddo i ni, a'n heiddo ninnau'n eiddo i chwi. Yr ydym yn gorchymyn felly i'r cenhadau eich hysbysu am hyn.”

Ymgyrchoedd Jonathan a Simon

12:24 Clywodd Jonathan fod capteiniaid Demetrius wedi dychwelyd gyda llu mawr, mwy na'r tro cyntaf, i ryfela yn ei erbyn.
12:25 Ymadawodd â Jerwsalem a mynd i'w cyfarfod i wlad Hamath; felly ni roddodd iddynt gyfle i sengi o fewn ei wlad ei hun.
12:26 Anfonodd ysbwyr i'w gwersyll, a adroddodd ar ôl dychwelyd fod y gelyn yn ymfyddino i ymosod arnynt liw nos.
12:27 Wedi machlud haul gorchmynnodd Jonathan i'w wŷr fod ar wyliadwriaeth a chadw eu harfau ar hyd y nos, yn barod i ryfel; yna gosododd ragwylwyr o gwmpas y gwersyll.
12:28 Pan ddeallodd yr ymosodwyr fod Jonathan a'i wŷr yn barod i ryfel, yn eu hofn a'u llwfrdra cyneuasant danau yn eu gwersyll.
12:29 Ond ni ddaeth Jonathan a'i wŷr i wybod am hyn tan y bore, er iddynt weld golau'r tanau.
12:30 Ymlidiodd Jonathan ar eu hôl ond ni oddiweddodd hwy, oherwydd yr oeddent wedi croesi Afon Elewtherus.
12:31 Yna troes Jonathan o'r neilltu i ymosod ar yr Arabiaid, a elwir yn Sabadeaid, a'u trechu, a dwyn ysbail oddi arnynt.
12:32 Cododd ei wersyll a symud i Ddamascus, a thramwyo drwy'r holl wlad.
12:33 Cychwynnodd Simon allan a thramwyo hyd at Ascalon a'r ceyrydd cyfagos; yna troes o'r neilltu i Jopa a'i meddiannu hi,
12:34 oherwydd yr oedd wedi clywed bod ei thrigolion yn arfaethu trosglwyddo'r gaer i wŷr Demetrius. Felly gosododd warchodlu yno i'w chadw.
12:35 Dychwelodd Jonathan a chynnull henuriaid y bobl ynghyd, a dechrau ymgynghori â hwy ynghylch adeiladu ceyrydd yn Jwdea,
12:36 a chodi muriau Jerwsalem yn uwch, a chodi clawdd terfyn mawr rhwng y gaer a'r ddinas er mwyn ei gwahanu hi oddi wrth y ddinas, iddi fod ar ei phen ei hun, a'i gwneud yn amhosibl i'r gwarchodlu brynu a gwerthu.
12:37 Felly ymgasglasant ynghyd i adeiladu'r ddinas, oherwydd yr oedd rhan o'r mur ar hyd ochr y nant tua'r dwyrain wedi syrthio; ac atgyweiriwyd y rhan a elwir Chaffenatha.
12:38 Adeiladodd Simon hefyd Adida yn Seffela, a'i chadarnhau, a gosod pyrth a barrau.

Tryffo yn Dal Jonathan

12:39 Yr oedd Tryffo am ddod yn frenin dros Asia a gwisgo'r goron, a rhoes ei fryd ar wrthryfela yn erbyn y Brenin Antiochus.
12:40 Ond yn ei ofn na fyddai Jonathan yn cydsynio ag ef ac y byddai'n ymladd yn ei erbyn, ceisiodd fodd i ddal hwnnw a'i ladd. Cychwynnodd am Bethsan.
12:41 Aeth Jonathan allan i'w gyfarfod gyda deugain mil o filwyr dethol, a daeth ef hefyd i Bethsan.
12:42 Pan welodd Tryffo ei fod wedi dod gyda llu mawr ofnodd ymosod arno.
12:43 Yn hytrach croesawodd ef yn anrhydeddus, a'i ganmol wrth ei holl Gyfeillion, a rhoi iddo anrhegion, a gorchymyn i'w Gyfeillion ac i'w luoedd ufuddhau i Jonathan gymaint ag iddo ef ei hun.
12:44 Dywedodd wrth Jonathan: “I ba bwrpas y peraist flinder i'r holl bobl hyn, heb fod rhyfel rhyngom?
12:45 Yn awr, felly, anfon hwy adref, a dewis i ti dy hun ychydig wŷr i fod gyda thi, a thyrd gyda mi i Ptolemais, ac fe'i rhof hi iti, ynghyd â'r ceyrydd eraill, a gweddill y lluoedd, a'r holl swyddogion. Yna fe drof yn ôl a mynd oddi yma, oherwydd dyna pam y deuthum yma.”
12:46 Credodd Jonathan ef, a gwnaeth fel y dywedodd. Anfonodd ei luoedd i ffwrdd, a dychwelsant i wlad Jwda.
12:47 Cadwodd gydag ef dair mil o wŷr; gadawodd ddwy fil ohonynt yng Ngalilea, ac aeth mil i'w ganlyn ef.
12:48 Pan ddaeth Jonathan i mewn i Ptolemais, caeodd y Ptolemeaid y pyrth a'i ddal, a lladdasant â'r cleddyf bawb oedd wedi dod i mewn gydag ef.
12:49 Anfonodd Tryffo lu o wŷr traed a gwŷr meirch i Galilea, i'r gwastatir mawr, i ddileu holl wŷr Jonathan.
12:50 Ond pan ddeallodd y rheini fod Jonathan a'i wŷr wedi eu dal a'u lladd, dyma hwy'n calonogi ei gilydd, ac yn dechrau symud rhagddynt yn rhengoedd cls a pharod i ryfel.
12:51 Pan welodd yr ymlidwyr y byddai'n frwydr hyd angau, troesant yn eu holau.
12:52 Felly daeth yr Iddewon i gyd yn ddihangol i wlad Jwda, mewn galar mawr am Jonathan a'i wŷr, a chan ofni'n ddirfawr.
12:53 Bwriwyd Israel gyfan i alar mawr. Aeth yr holl Genhedloedd o'u hamgylch ati yn awr i'w difrodi, oherwydd dywedasant: “Nid oes ganddynt lywodraethwr na chynorthwywr. Dyma ein cyfle, felly, i fynd i ryfel yn eu herbyn, a dileu'r coffa amdanynt o blith dynion.”

Simon yn Arweinydd yr Iddewon

13:1 Clywodd Simon fod Tryffo wedi casglu llu mawr gyda'r bwriad o fynd i wlad Jwda i'w difrodi hi.
13:2 Pan welodd fod y bobl yn llawn ofn a dychryn, aeth i fyny i Jerwsalem a chynnull y bobl,
13:3 a'u calonogi â'r geiriau hyn: “Fe wyddoch chwi gynifer o bethau a wneuthum i, a'm brodyr, a thŷ fy nhad, dros y cyfreithiau a'r cysegr; a'r rhyfeloedd a'r cyfyngderau a welsom.
13:4 A dyma'r achos, achos Israel, y lladdwyd fy mrodyr oll er ei fwyn, a myfi yn unig a adawyd.
13:5 Yn awr, felly, na ato Duw imi arbed fy einioes mewn unrhyw adeg o orthrymder; oherwydd nid wyf fi'n well na'm brodyr.
13:6 Yn hytrach yr wyf am ddial cam fy nghenedl a'r cysegr, a'ch gwragedd a'ch plant; oherwydd y mae'r holl Genhedloedd yn eu gelyniaeth wedi ymgasglu ynghyd i'n difrodi ni.”
13:7 Adfywiodd ysbryd y bobl y foment y clywsant y geiriau hyn,
13:8 ac atebasant â llais uchel: “Ti yw ein harweinydd ni yn lle Jwdas a Jonathan dy frawd.
13:9 Ymladda di ein rhyfel, a pha beth bynnag a ddywedi wrthym, fe'i gwnawn.”
13:10 Casglodd yntau yr holl wŷr cymwys i ryfela, a brysiodd i orffen muriau Jerwsalem, a'i chadarnhau o bob tu.
13:11 Anfonodd Jonathan fab Absalom, a llu mawr gydag ef, i Jopa; taflodd hwnnw y trigolion allan ac ymsefydlu yno yn y dref.
13:12 Symudodd Tryffo o Ptolemais gyda llu mawr i oresgyn gwlad Jwda, gan ddwyn Jonathan gydag ef yn garcharor.
13:13 Gwersyllodd Simon yn Adidas gyferbyn â'r gwastatir.
13:14 Pan ddeallodd Tryffo fod Simon wedi olynu ei frawd Jonathan, a'i fod ar fedr mynd i'r afael ag ef mewn brwydr, anfonodd genhadau ato gyda'r neges hon:
13:15 “Yr ydym yn dal Jonathan dy frawd yn gaeth o achos y ddyled o arian oedd arno i'r trysordy brenhinol, ar gyfrif y swyddi a ddaliai.
13:16 Felly, os anfoni yn awr gan talent o arian a dau o'i feibion yn wystlon i sicrhau na fydd yn gwrthryfela yn ein herbyn ar ôl ei ryddhau, fe'i rhyddhawn.”
13:17 Er i Simon ddeall eu bod yn llefaru'n ddichellgar wrtho, eto anfonodd i nôl yr arian a'r bechgyn, rhag iddo ennyn casineb mawr o du'r bobl,
13:18 ac iddynt hwythau ddweud: “Am nad anfonodd Simon yr arian a'r bechgyn y llofruddiwyd Jonathan.”
13:19 Felly anfonodd y bechgyn a'r can talent; ond ei dwyllo a wnaeth Tryffo, ac ni ryddhaodd Jonathan.
13:20 Wedi hyn daeth Tryffo i oresgyn y wlad a'i difrodi. Aeth ar gylchdro i gyfeiriad Adora. Yr oedd Simon a'i fyddin yn tramwyo gyferbyn ag ef, i ble bynnag yr âi.
13:21 Ond yr oedd gwŷr y gaer yn anfon cenhadau at Tryffo i bwyso arno i frysio atynt drwy'r anialwch ac i anfon lluniaeth iddynt.
13:22 Paratôdd Tryffo ei holl wŷr meirch i fynd, ond y noson honno bu eira mawr iawn, ac nid aeth oherwydd yr eira. Ciliodd a mynd i Gilead.
13:23 Pan nesaodd at Bascana lladdodd Jonathan, a chladdwyd ef yno.
13:24 Wedyn troes Tryffo yn ôl a dychwelyd i'w wlad ei hun.
13:25 Trefnodd Simon i ddwyn esgyrn ei frawd Jonathan a'i gladdu yn Modin, tref ei hynafiaid.
13:26 Gwnaeth holl Israel alar mawr amdano; do, buont yn galarnadu amdano am ddyddiau lawer.
13:27 Ar feddrod ei dad a'i frodyr adeiladodd Simon gofadail y gallai pawb ei gweld, a'i hwyneb a'i chefn o gerrig nadd.
13:28 Cododd hefyd saith o byramidiau, un gyferbyn â'r llall, i'w dad a'i fam a'i bedwar brawd.
13:29 Cynlluniodd y rhain yn gelfydd, gan osod colofnau mawr o'u hamgylch, ac ar y colofnau lluniodd arfdlysau amrywiol i fod yn goffadwriaeth dragwyddol, a chydag ymyl yr arfdlysau longau cerfiedig y gellid eu gweld gan bawb oedd yn hwylio'r môr.
13:30 Y mae'r beddrod hwn a wnaeth ef yn Modin yn aros hyd y dydd hwn.
13:31 Bu Tryffo'n ddichellgar yn ei ymwneud â'r brenin ifanc Antiochus, a lladdodd ef.
13:32 Gwnaeth ei hun yn frenin yn ei le, a gwisgodd goron Asia, gan ddwyn trallod mawr ar y wlad.
13:33 Adeiladodd Simon geyrydd Jwdea a'u cadarnhau â thyrau uchel ac â muriau cadarn a phyrth a barrau, a gosododd luniaeth yn y ceyrydd.
13:34 Dewisodd Simon hefyd wŷr, a'u hanfon at y Brenin Demetrius i geisio gollyngdod i'r wlad, gan mai lladrad oedd holl drethi Tryffo.
13:35 Anfonodd y Brenin Demetrius neges fel a ganlyn ato; atebodd ef, a dyma'r llythyr a ysgrifennodd yn ateb i'w gais:
13:36 “Y Brenin Demetrius at Simon, archoffeiriad a chyfaill brenhinoedd, ac at henuriaid a chenedl yr Iddewon, cyfarchion.
13:37 Yr ydym wedi derbyn y goron aur a'r gangen balmwydden a anfonasoch, ac yr ydym yn barod i wneud heddwch parhaol â chwi, ac i ysgrifennu at ein swyddogion yn rhoi caniatâd i chwi beidio â thalu trethi.
13:38 Y mae'r holl gytundebau hynny a wnaethom â chwi wedi eu cadarnhau, ac y mae'r ceyrydd a adeiladasoch i fod yn eiddo i chwi.
13:39 Yr ydym yn maddau eich troseddau, bwriadol ac anfwriadol, hyd at y dydd hwn, ynghyd ag arian y goron a oedd yn ddyledus gennych; ac y mae unrhyw dreth arall a godid yn Jerwsalem i gael ei diddymu.
13:40 Os oes yn eich plith rai cymwys i gael eu cofrestru'n aelodau o'n gosgordd, fe gânt eu cofrestru. Boed heddwch rhyngom.”
13:41 Yn y flwyddyn 170 codwyd ymaith iau'r Cenhedloedd oddi ar war Israel.
13:42 Dechreuodd y bobl ysgrifennu yn eu cytundebau a'u cyfamodau: ‘Ym mlwyddyn gyntaf yr archoffeiriad mawr Simon, cadlywydd ac arweinydd yr Iddewon.’
13:43 Yn y dyddiau hynny gwersyllodd Simon yn erbyn Gasara, a'i hamgylchynu hi â'i fyddinoedd. Gwnaeth beiriant gwarchae, a'i ddwyn i fyny at y dref, a tharo un tŵr a'i feddiannu.
13:44 Neidiodd y gwŷr a oedd yn y peiriant gwarchae allan i'r dref, a bu cynnwrf mawr yn y dref—
13:45 gwŷr y dref gyda'u gwragedd a'u plant yn dringo i fyny ar y mur, a rhwygo'u dillad, a gweiddi â llef uchel a deisyf ar Simon estyn ei ddeheulaw iddynt mewn heddwch.
13:46 “Paid â'n trin yn ôl ein drygau,” meddent, “ond yn ôl dy drugaredd.”
13:47 Cynigiodd Simon delerau heddwch iddynt, a dwyn y rhyfel i ben. Ond taflodd hwy allan o'r dref, ac wedi puro'r tai yr oedd yr eilunod ynddynt, aeth i mewn iddi dan ganu a moliannu.
13:48 Taflodd allan ohoni bob aflendid, a gosododd i breswylio ynddi rai a fyddai'n cadw'r gyfraith. Cadarnhaodd y dref ac adeiladu ynddi breswylfod iddo'i hun.
13:49 Gan fod y rhai a oedd yn y gaer yn Jerwsalem yn cael eu hatal rhag mynd i mewn ac allan i'r wlad i brynu a gwerthu, daeth newyn enbyd arnynt, a threngodd llawer ohonynt o'r herwydd.
13:50 Gwaeddasant ar Simon i dderbyn deheulaw heddwch, a chydsyniodd yntau. Yna taflodd hwy allan oddi yno a phuro'r gaer o'i holl halogrwydd.
13:51 Aeth i mewn iddi ar y trydydd dydd ar hugain o'r ail fis yn y flwyddyn 171, dan foliannu a chwifio cangau palmwydd, yn sŵn telynau, symbalau, a nablau, a than ganu emynau a cherddi, i ddathlu goruchafiaeth Israel ar ei gelyn mawr.
13:52 Gorchmynnodd Simon fod y dydd hwn i'w ddathlu mewn llawenydd bob blwyddyn; cadarnhaodd fynydd y deml gyferbyn â'r gaer, a gwneud y lle hwnnw yn breswylfod iddo'i hun a'i wŷr.
13:53 Pan welodd Simon fod ei fab Ioan wedi tyfu'n ddyn, penododd ef yn arweinydd ar ei holl luoedd, a gwnaeth yntau ei breswylfod yn Gasara.

Clod Simon

14:1 Yn y flwyddyn 172 casglodd y Brenin Demetrius ei luoedd ynghyd a theithiodd i Media i geisio cymorth iddo'i hun, fel y gallai ryfela yn erbyn Tryffo.
14:2 Pan glywodd Arsaces, brenin Persia a Media, fod Demetrius wedi dod i'w gyffiniau, anfonodd un o'i gapteiniaid i'w ddal yn fyw.
14:3 Aeth hwnnw a tharo gwersyll Demetrius, a'i ddal a'i ddwyn at Arsaces; rhoddodd yntau ef yng ngharchar.
14:4 Cafodd gwlad Jwda heddwch holl ddyddiau Simon. Ceisiodd ef ddaioni i'w genedl, a bodlonwyd hwythau gan ei awdurdod a'i fri dros ei holl ddyddiau.
14:5 At yr holl fri oedd ganddo, cipiodd Jopa i fod yn borthladd, a'i wneud yn fynedfa i ynysoedd y môr.
14:6 Helaethodd derfynau ei genedl, a daeth y wlad dan ei awdurdod.
14:7 Casglodd ynghyd lawer o garcharorion rhyfel, a gwnaeth ei hun yn arglwydd dros Gasara a Bethswra, a'r gaer, a charthu allan ohoni ei holl aflendid. Nid oedd neb a'i gwrthwynebai.
14:8 Yr oedd y bobl yn trin eu tir mewn heddwch, a'r ddaear yn dwyn ei chnydau a choed y gwastadeddau eu ffrwyth.
14:9 Byddai'r hynafgwyr yn eistedd yn yr heolydd, yn ymgomio â'i gilydd am eu bendithion, a'r gwŷr ifainc yn ymwisgo'n ysblennydd yn eu lifrai milwrol.
14:10 Darparodd Simon gyflenwad bwyd i'r trefi, a gosod ynddynt arfau amddiffyn; ac ymledodd y sôn am ei enw anrhydeddus hyd eithaf y ddaear.
14:11 Sefydlodd heddwch yn y tir, a bu llawenydd Israel yn fawr dros ben.
14:12 Eisteddodd pob un dan ei winwydden a'i ffigysbren, heb neb i'w ddychrynu.
14:13 Yn y dyddiau hynny nid oedd neb ar ôl yn y wlad i ryfela yn erbyn yr Iddewon, gan fod y brenhinoedd wedi cael eu dinistrio.
14:14 Rhoddodd Simon nawdd i'r holl rai iselradd ymhlith ei bobl; rhoes sylw manwl i'r gyfraith, a bwriodd ymaith bob un digyfraith a drygionus.
14:15 Rhoes fri mawr ar y cysegr, ac amlhau ei lestri cysegredig.
14:16 Daeth y newydd am farw Jonathan i Rufain, ac i Sparta hefyd, a buont yn galaru'n fawr.
14:17 Pan glywsant am benodi ei frawd Simon yn archoffeiriad yn ei le, a bod y wlad a'i threfi dan ei awdurdod ef,
14:18 ysgrifenasant ato ar lechau pres i adnewyddu ag ef y cyfeillgarwch a'r cynghrair a wnaethant â'i frodyr Jwdas a Jonathan.
14:19 Darllenwyd hwn gerbron y gynulleidfa yn Jerwsalem.
14:20 Dyma gopi o'r llythyr a anfonodd y Spartiaid: “Llywodraethwyr a dinas y Spartiaid at yr archoffeiriad Simon, ac at yr henuriaid a'r offeiriaid a gweddill pobl yr Iddewon, ein brodyr, cyfarchion.
14:21 Mynegwyd wrthym am eich bri a'ch anrhydedd gan y cenhadau a anfonwyd at ein pobl, a pharodd eu hymweliad lawenydd mawr inni.
14:22 Ysgrifenasom eu hadroddiad yn y cofnodion cyhoeddus fel a ganlyn: ‘Daeth Nwmenius fab Antiochus ac Antipater fab Jason, cenhadau yr Iddewon, atom i adnewyddu cytundeb eu cyfeillgarwch â ni.
14:23 Bu'n dda gan y bobl groesawu'r gwŷr yn anrhydeddus, a gosod copi o'u hymadroddion yn yr archifau cyhoeddus, iddynt fod ar gof a chadw gan y Spartiaid. Ysgrifenasant hefyd gopi o'r pethau hyn i'r archoffeiriad Simon.’ ”
14:24 Wedi hyn anfonodd Simon Nwmenius i Rufain gyda tharian fawr o aur, gwerth mil o ddarnau arian, er mwyn cadarnhau'r cynghrair â hwy.
14:25 Pan glywodd y bobl y geiriau hyn dywedasant, “Pa ddiolch a rown i Simon ac i'w feibion?
14:26 Oherwydd safodd yn gadarn, ef a'i frodyr a thŷ ei dad, a gyrru ymaith elynion Israel oddi wrthynt, ac ennill ei rhyddid i'r genedl.” Felly gwnaethant arysgrif ar lechau pres, a gosod y rheini ar golofnau ar Fynydd Seion.
14:27 Dyma gopi o'r arysgrif: “Ar y deunawfed dydd o fis Elwl yn y flwyddyn 172, sef y drydedd flwyddyn i Simon fel archoffeiriad, yn Asaramel,
14:28 mewn cynulliad mawr o offeiriaid a phobl, o lywodraethwyr y genedl a henuriaid y wlad, gwnaethpwyd yn hysbys i ni yr hyn a ganlyn.
14:29 Yn gymaint â bod rhyfeloedd wedi eu hymladd yn aml yn y wlad, fe'u gosododd Simon fab Matathias, offeiriad o feibion Joarib, a'i frodyr, eu hunain mewn perygl, a sefyll yn erbyn gwrthwynebwyr eu cenedl, er mwyn diogelu eu cysegr a'r gyfraith, gan ddwyn bri mawr i'w cenedl.
14:30 Cynullodd Jonathan eu cenedl at ei gilydd, a bu'n archoffeiriad iddynt nes ei gasglu at ei bobl.
14:31 Cynllwyniodd eu gelynion i oresgyn eu gwlad ac i ymosod ar eu cysegr.
14:32 Yna cododd Simon ac ymladd dros ei genedl. Gwariodd lawer o'i arian ei hun ar arfogi rhyfelwyr ei genedl a rhoi cyflog iddynt.
14:33 Cadarnhaodd drefi Jwdea, a Bethswra yng nghyffiniau Jwdea, lle gynt yr oedd arfau'r gelynion, a gosododd warchodlu o Iddewon yno.
14:34 Cadarnhaodd hefyd Jopa ar lan y môr, a Gasara yng nghyffiniau Asotus, lle gynt y trigai'r gelynion. Rhoes Iddewon i drigo yno, a gosod yn y trefi bopeth angenrheidiol er eu hadfer.
14:35 Pan welodd y bobl deyrngarwch Simon, a'i fwriad i ennill bri i'w genedl, penodasant ef yn arweinydd ac yn archoffeiriad iddynt, i'w gydnabod am iddo wneud yr holl bethau hyn, am iddo ymddwyn yn gyfiawn, a pharhau'n deyrngar i'w genedl, ac am iddo ym mhob modd geisio dyrchafu ei bobl.
14:36 Yn ei ddyddiau ef bu cymaint o lwyddiant dan ei law fel y gyrrwyd y Cenhedloedd allan o'u gwlad, ynghyd â'r rhai yn ninas Dafydd yn Jerwsalem a oedd wedi codi caer iddynt eu hunain. Oddi yno byddent yn mynd allan ac yn halogi popeth o amgylch y cysegr, a gwneud niwed mawr i'w burdeb.
14:37 Rhoes Simon Iddewon i drigo yn y gaer, a'i chadarnhau er diogelwch y wlad a'r ddinas, a chodi muriau Jerwsalem yn uwch.
14:38 O ganlyniad cadarnhaodd y Brenin Demetrius ef yn swydd yr archoffeiriad,
14:39 a'i wneud yn un o'i Gyfeillion, gan roi anrhydedd mawr iddo.
14:40 Oherwydd yr oedd wedi clywed bod y Rhufeiniaid yn cydnabod yr Iddewon fel cyfeillion a chynghreiriaid a brodyr, a'u bod wedi mynd allan i dderbyn mewn rhwysg genhadau Simon.
14:41 “Gwelodd yr Iddewon a'r offeiriaid yn dda benodi Simon yn arweinydd ac archoffeiriad iddynt am byth, nes y byddai proffwyd ffyddlon yn codi.
14:42 Ef oedd i fod yn gadlywydd arnynt, ac yn gyfrifol am y cysegr, yn oruchwyliwr ar eu llafur, ar y wlad, ar yr arfau ac ar yr amddiffynfeydd.
14:43 Yr oedd i fod yn gyfrifol am y cysegr, ac yr oedd pawb i ufuddhau iddo, a phob cytundeb yn y wlad i gael ei ysgrifennu yn ei enw ef. Yr oedd i ymddilladu mewn porffor ac i wisgo aur.
14:44 “Ni fydd gan neb o'r bobl nac o'r offeiriaid hawl i ddiddymu un o'r gorchmynion hyn, na gwrth-ddweud ordeiniadau Simon, na chynnull cynulliad yn y wlad heb ei gydsyniad, nac ymddilladu mewn porffor na gwisgo clespyn aur.
14:45 Bydd pwy bynnag a wna'n groes i hyn, neu a ddiddyma un o'r gorchmynion hyn, yn agored i gosb.
14:46 Gwelodd yr holl bobl yn dda benodi Simon i weithredu yn unol â'r cyfarwyddiadau hyn.
14:47 Derbyniodd yntau, a gweld yn dda bod yn archoffeiriad, yn gadlywydd ac yn llywodraethwr ar yr Iddewon a'r offeiriaid, a bod yn amddiffynnwr pawb.”
14:48 Gorchmynnwyd cerfio'r arysgrif hon ar lechau pres, a gosod y rheini o fewn cylch y cysegr mewn lle amlwg,
14:49 a rhoi copi ohonynt yn y trysordy, at wasanaeth Simon a'i feibion.

Antiochus VII yn Ceisio Cefnogaeth Simon

15:1 Anfonodd Antiochus, mab y Brenin Demetrius, lythyr o ynysoedd y môr at Simon, offeiriad a llywodraethwr yr Iddewon, ac at yr holl genedl.
15:2 Yr oedd ei gynnwys fel a ganlyn: “Y Brenin Antiochus at Simon, archoffeiriad a llywodraethwr, ac at genedl yr Iddewon, cyfarchion.
15:3 Yn gymaint ag i ryw ddihirod drawsfeddiannu teyrnas ein hynafiaid, y mae yn fy mryd hawlio'r deyrnas yn ôl, er mwyn ei hadfer i'w chyflwr blaenorol. Cesglais fyddin luosog a darperais longau rhyfel.
15:4 Fy mwriad yw glanio yn y wlad, er mwyn ymosod ar y rheini a anrheithiodd ein gwlad a difrodi trefi lawer yn fy nheyrnas.
15:5 Gan hynny yr wyf yn awr yn cadarnhau i ti bob gollyngdod oddi wrth drethi a ganiatawyd iti gan y brehinoedd a fu o'm blaen i, ynghyd ag unrhyw daliadau eraill a ddilewyd ganddynt.
15:6 Yr wyf yn rhoi caniatâd i ti fathu dy arian priod dy hun, i fod yn arian cyfredol yn dy wlad.
15:7 Bydd Jerwsalem a'r deml yn rhydd. Caiff yr holl arfau a ddarperaist, a'r amddiffynfeydd a adeiledaist, sydd yn dy feddiant, barhau yn eiddo i ti.
15:8 Hefyd caiff pob dyled sydd, neu a fydd, yn ddyledus i'r drysorfa frenhinol ei dileu, yn awr a hyd byth.
15:9 Pan fyddwn wedi meddiannu ein teyrnas fe osodwn arnat ti a'th genedl a'r deml anrhydedd mawr iawn, fel yr amlygir eich bri dros yr holl ddaear.”
15:10 Yn y flwyddyn 174 aeth Antiochus i mewn i wlad ei hynafiaid, a daeth yr holl luoedd ynghyd ato ef, fel mai ychydig oedd gyda Tryffo.
15:11 Ymlidiodd Antiochus ef, a daeth yntau yn ffoadur i Dor, tref ar lan y môr.
15:12 Oherwydd gwyddai fod drygau wedi disgyn arno, a bod y lluoedd wedi cefnu arno.
15:13 Gwersyllodd Antiochus yn erbyn Dor, a chydag ef gant ac ugain o filoedd o ryfelwyr ac wyth mil o wŷr meirch.
15:14 Amgylchynodd y dref, ac ymunodd y llongau yn y gwarchae o'r môr. Felly gorthrymodd y dref o'r tir a'r môr, heb ganiatu i neb fynd i mewn nac allan.

Rhufain yn Cefnogi'r Iddewon

15:15 Daeth Nwmenius a'r gwŷr oedd gydag ef o Rufain, gan ddwyn llythyr at y brenhinoedd a'r gwledydd; a'r neges ganlynol wedi ei hysgrifennu ynddo:
15:16 “Lwcius, Conswl y Rhufeiniaid, at y Brenin Ptolemeus, cyfarchion.
15:17 Daeth cenhadau yr Iddewon atom, ein cyfeillion a'n cynghreiriaid, wedi eu hanfon oddi wrth Simon yr archoffeiriad ac oddi wrth bobl yr Iddewon, i adnewyddu'r cyfeillgarwch a'r cynghrair a fu rhyngom gynt.
15:18 Daethant â tharian o aur, gwerth mil o ddarnau arian.
15:19 Gwelsom yn dda felly ysgrifennu at y brenhinoedd a'r gwledydd ar iddynt beidio â cheisio niwed i'r Iddewon, na mynd i ryfel yn eu herbyn hwy na'u trefi na'u gwlad, na mynd i gynghrair â'r rhai fydd yn rhyfela yn eu herbyn.
15:20 Penderfynasom dderbyn y darian ganddynt.
15:21 Gan hynny, os bydd rhyw ddihirod wedi ffoi o'u gwlad atoch chwi, traddodwch hwy i Simon yr archoffeiriad, iddo ef ddial arnynt yn ôl cyfraith yr Iddewon.”
15:22 Ysgrifennwyd yr un neges at y Brenin Demetrius, ac at Attalus, Ariarathes, Arsaces,
15:23 at Sampsames ac at y Spartiaid, yn ogystal ag i'r holl leoedd canlynol: Delos, Myndos, Sicyon, Caria, Samos, Pamffylia, Lycia, Halicarnassus, Rhodos, Phaselis, Cos, Side, Aradus, Gortuna, Cnidus, Cyprus a Cyrene.
15:24 Ysgrifenasant hefyd gopi o'r pethau hyn i'r archoffeiriad Simon.

Rhwyg rhwng Antiochus VII a Simon

15:25 Gwersyllodd y Brenin Antiochus yn erbyn Dor yr ail waith, a dwyn cyrchoedd arni yn barhaus. A chan godi peiriannau rhyfel gwarchaeodd ar Tryffo, fel na ellid mynd i mewn nac allan.
15:26 Anfonodd Simon ddwy fil o wŷr dethol ato i'w gynorthwyo, gydag arian ac aur ac arfau lawer.
15:27 Ond ni fynnai eu derbyn. Diddymodd yr holl gytundebau blaenorol a wnaethai â Simon, ac ymddieithriodd oddi wrtho.
15:28 Anfonodd ato Athenobius, un o'i Gyfeillion, i ddadlau ag ef a dweud, “Yr ydych chwi'n meddiannu Jopa a Gasara a'r gaer yn Jerwsalem, dinasoedd sy'n perthyn i'm teyrnas i.
15:29 Gwnaethoch eu cyffiniau yn ddiffaith; gwnaethoch ddifrod mawr yn y tir, ac aethoch yn arglwyddi ar lawer lle yn fy nheyrnas.
15:30 Yn awr, felly, rhowch yn ôl y dinasoedd a gymerasoch, ynghyd â'ch hawl ar drethi'r lleoedd hynny y tu allan i derfynau Jwdea yr aethoch yn arglwyddi arnynt.
15:31 Onid e, rhowch bum can talent o arian yn eu lle; a phum can talent arall am y dinistr a wnaethoch, ac am drethi'r dinasoedd. Neu fe awn i ryfel yn eich erbyn.”
15:32 Pan ddaeth Athenobius, Cyfaill y Brenin, i Jerwsalem, a gweld rhwysg Simon, a chwpwrdd yn llawn o lestri aur ac arian, ac arlwy luosog, rhyfeddodd. Cyflwynodd iddo neges y brenin,
15:33 ac atebodd Simon ef: “Nid tir pobl eraill yr ydym wedi ei gipio, ac nid eiddo pobl eraill yr ydym wedi ei feddiannu, ond treftadaeth ein hynafiaid, a drawsfeddiannwyd yn anghyfiawn dros dro gan ein gelynion.
15:34 Manteisio ar ein cyfle yr ydym ni i gael gafael eto ar dreftadaeth ein hynafiaid.
15:35 Ynglŷn â Jopa a Gasara, y lleoedd yr wyt ti yn eu hawlio, yr oedd y rhain yn peri difrod mawr ymhlith ein pobl ac yn ein gwlad; eto fe rown gan talent amdanynt.”
15:36 Nid atebodd Athenobius un gair iddo. Dychwelodd at y brenin mewn dicter, ac adrodd iddo eiriau Simon, a disgrifio'i rwysg a'r cwbl a welodd. Digiodd y brenin yn gynddeiriog.

Ioan yn Trechu Cendebeus

15:37 Ffoes Tryffo mewn llong i Orthosia.
15:38 Penododd y brenin Cendebeus yn gadlywydd yr arfordir, a rhoi iddo lu o wŷr traed ac o wŷr meirch.
15:39 Gorchmynnodd iddo wersyllu yn erbyn Jwdea, ac adeiladu Cedron a chadarnhau ei phyrth, er mwyn ymladd yn erbyn y bobl. Ond parhau i ymlid Tryffo a wnaeth y brenin.
15:40 Cyrhaeddodd Cendebeus Jamnia a dechrau cythruddo'r bobl; goresgynnodd Jwdea, caethiwo'r bobl, a'u lladd.
15:41 Adeiladodd Cedron a gosod gwŷr meirch a byddin yno, er mwyn iddynt fynd allan a gwarchod ffyrdd Jwdea, yn unol â gorchymyn y brenin.

16:1 Aeth Ioan i fyny o Gasara ac adrodd i'w dad Simon beth a gyflawnodd Cendebeus.
16:2 Galwodd Simon ei ddau fab hynaf, Jwdas a Ioan, a dweud wrthynt, “Yr wyf fi a'm brodyr a thŷ fy nhad wedi ymladd brwydrau Israel o'n hieuenctid hyd y dydd hwn, a ffynnodd yr achos dan ein dwylo fel y gwaredwyd Israel lawer gwaith.
16:3 Bellach yr wyf fi wedi heneiddio, ond trwy drugaredd yr ydych chwi ym mlodau eich dyddiau. Cymerwch chwi fy lle i a'm brawd; ewch allan ac ymladd dros ein cenedl; a boed cymorth y nef gyda chwi.”
16:4 Detholodd o'r wlad ugain mil o ryfelwyr a gwŷr meirch, ac aethant yn erbyn Cendebeus, a bwrw'r nos yn Modin.
16:5 Codasant yn fore a symud i'r gwastatir; a dyma lu mawr, yn wŷr traed a gwŷr meirch, yn dod i'w cyfarfod. Yr oedd ceunant yn eu gwahanu,
16:6 a gwersyllodd Ioan a'i filwyr gyferbyn â'r gelyn. Pan welodd Ioan fod y milwyr yn ofni croesi'r ceunant, croesodd ef ei hun yn gyntaf. O'i weld, croesodd ei wŷr ar ei ôl.
16:7 Rhannodd Ioan ei filwyr, gyda'r gwŷr meirch yng nghanol y gwŷr traed; oherwydd yr oedd gwŷr meirch y gelyn yn lluosog iawn.
16:8 Canwyd yr utgyrn, a gyrrwyd Cendebeus a'i fyddin ar ffo; syrthiodd llawer ohonynt, wedi eu clwyfo'n angheuol, a ffoes y gweddill i'r amddiffynfa.
16:9 Dyna'r pryd y clwyfwyd Jwdas brawd Ioan. Ymlidiodd Ioan hwy, hyd nes i Cendebeus gyrraedd Cedron, y dref yr oedd wedi ei hadeiladu.
16:10 Ffodd y gelyn i'r tyrau sydd ym meysydd Asotus, a llosgodd yntau'r dref â thân. Syrthiodd tua dwy fil o wŷr y gelyn; yna dychwelodd Ioan i Jwdea mewn heddwch.

Llofruddio Simon a Dau o'i Feibion

16:11 Yr oedd Ptolemeus fab Abwbus wedi ei benodi'n llywodraethwr ar wastatir Jericho. Yr oedd ganddo lawer o arian ac aur,
16:12 oherwydd ef oedd mab-yng-nghyfraith yr archoffeiriad.
16:13 Ond aeth yn rhy uchelgeisiol, a chwennych meddiannu'r wlad. Cynllwyniodd yn ddichellgar yn erbyn Simon a'i feibion, i'w lladd.
16:14 Tra oedd Simon yn ymweld â threfi'r wlad i ofalu am eu buddiannau, daeth ef a'i feibion Matathias a Jwdas i lawr i Jericho yn y flwyddyn 177, yn yr unfed mis ar ddeg, sef mis Sabat.
16:15 Derbyniodd mab Abwbus hwy yn ddichellgar i'r amddiffynfa a elwir Doc, a oedd wedi ei hadeiladu ganddo, a gwnaeth wledd fawr iddynt. Cuddiodd wŷr yno,
16:16 a phan oedd Simon a'i feibion wedi yfed yn helaeth cododd Ptolemeus a'i wŷr ac ymarfogi a mynd i mewn i neuadd y wledd, a'i ladd ef a'i ddau fab a rhai o'i weision.
16:17 Gwnaeth anfadwaith mawr, gan dalu drwg am dda.
16:18 Ysgrifennodd Ptolemeus yr hanes hwn a'i anfon at y brenin, er mwyn iddo ef anfon byddin ato i'w gynorthwyo, a throsglwyddo'r wlad a'i threfi i'w ddwylo.
16:19 Anfonodd eraill o'i wŷr i Gasara i ladd Ioan, ac anfonodd lythyrau at swyddogion y fyddin yn eu hannog i ymuno ag ef, gan gynnig iddynt arian ac aur yn anrhegion.
16:20 Anfonodd eraill i feddiannu Jerwsalem a mynydd y deml.
16:21 Ond rhedodd rhywun ar y blaen i Gasara a dweud wrth Ioan am lofruddiaeth ei dad a'i frodyr, gan ychwanegu: “Y mae wedi anfon rhai i'th ladd dithau hefyd.”
16:22 Pan glywodd yntau aeth yn orffwyll. Daliodd y gwŷr a ddaeth i'w lofruddio, a'u lladd hwy, am ei fod yn gwybod eu bod yn ceisio'i lofruddio.
16:23 Am y gweddill o weithredoedd Ioan, ei ryfeloedd a'r gwrhydri a wnaeth, y muriau a adeiladodd, a'i orchestion,
16:24 y mae'r rhain wedi eu hysgrifennu yng nghofnodion ei archoffeiriadaeth, o'r amser y daeth yn archoffeiriad ar ôl ei dad.