AIL LYFR Y MACABEAID

Y Llythyr Cyntaf at yr Iddewon yn yr Aifft

1:1 “At eu cyd-genedl, Iddewon yr Aifft, oddi wrth eu cyd-genedl, Iddewon Jerwsalem a gwlad Jwdea, cyfarchion a thangnefedd helaeth.
1:2 Bydded i Dduw eich llesáu chwi, a chadw mewn cof ei gyfamod â'i weision ffyddlon, Abraham, Isaac a Jacob;
1:3 a bydded iddo osod bryd pob un ohonoch ar ei addoli ac ar wneud ei ewyllys yn frwdfrydig ac o wirfodd calon.
1:4 Bydded iddo agor eich calonnau i'w gyfraith a'i orchmynion, a rhoi ichwi dangnefedd,
1:5 gan ateb eich deisyfiadau ac ymgymodi â chwi a pheidio â'ch gadael yn amddifad yn amser adfyd.
1:6 Yr awr hon, yn y lle hwn, yr ydym yn gweddïo drosoch chwi.
1:7 Yr ydym ni'r Iddewon eisoes wedi ysgrifennu atoch yn y flwyddyn 169, pan oedd Demetrius yn teyrnasu, yng nghyfnod anterth yr erledigaeth a ddaeth arnom yn y blynyddoedd hynny wedi i Jason a'i ddilynwyr gefnu ar achos y wlad sanctaidd a'r deyrnas,
1:8 a gosod cyntedd y deml ar dân a thywallt gwaed dieuog. Yna deisyfasom ar yr Arglwydd, ac atebwyd ein gweddi. Offrymasom aberth a blawd gwenith, a chynnau'r lampau a gosod y torthau cysegredig.
1:9 Ac yn awr yr ydych chwi i ddathlu dyddiau Gŵyl y Pebyll ym mis Cislef. Dyddiedig y flwyddyn 188.”

Yr Ail Lythyr, at Aristobwlus

1:10 “Pobl Jerwsalem a Jwdea, y senedd a Jwdas, at Aristobwlus, athro'r Brenin Ptolemeus ac aelod o linach yr offeiriaid eneiniog, ac at Iddewon yr Aifft, cyfarchion ac iechyd i chwi.
1:11 Mawr yw'r peryglon yr achubwyd ni rhagddynt gan Dduw, a mawr yw ein diolch iddo, fel byddin y mae ei rhengoedd yn barod i wrthsefyll y brenin.
1:12 Ef a fwriodd allan y fyddin oedd yn barod i ymosod ar y ddinas sanctaidd.
1:13 Oherwydd pan aeth eu cadfridog i Persia gyda byddin a oedd i bob golwg yn anorchfygol, fe'u torrwyd yn ddarnau yn nheml Nanaia trwy weithred ystrywgar offeiriaid Nanaia.
1:14 Daeth Antiochus gyda'i Gyfeillion i'r deml i briodi'r dduwies, er mwyn cymryd ei chyfoeth enfawr fel gwaddol.
1:15 Dangosodd offeiriaid teml Nanaia y trysor iddo, ac aeth ef gydag ychydig o ddilynwyr i mewn trwy'r mur oedd o amgylch y fangre. Cyn gynted ag y daeth Antiochus i mewn i'r cysegr, clodd yr offeiriaid y dorau
1:16 ac agor drws cudd yn un o baneli'r nenfwd, a bwrw arnynt gawod o gerrig. Wedi llorio'r cadfridog fel un a drawyd gan fellten, aethant ati i'w darnio a thorri eu pennau i ffwrdd a'u lluchio i'r bobl y tu allan.
1:17 Bendigedig fyddo ein Duw ym mhob peth, yr hwn a draddododd yr halogwyr i farwolaeth!
1:18 Gan ei bod yn fwriad gennym ddathlu puro'r deml ar y pumed dydd ar hugain o fis Cislef, barnasom mai priodol fyddai eich hysbysu, er mwyn i chwithau ddathlu Gŵyl y Pebyll a chofio'r tân a losgodd pan offrymwyd aberthau gan Nehemeia, adeiladydd y deml a'r allor hefyd.
1:19 Oherwydd pan ddygwyd ein hynafiaid ymaith i Persia, cymerodd offeiriaid duwiol y cyfnod hwnnw dân oddi ar yr allor a'i guddio'n ddirgel yng ngheudod ffynnon oedd wedi sychu. Fe'i cadwasant ef yno mor ddiogel fel na wyddai neb am y fan.
1:20 Flynyddoedd lawer wedyn, pan benderfynodd Duw hynny, anfonwyd Nehemeia'n ôl gan frenin Persia, a gyrrodd yntau ddisgynyddion yr offeiriaid oedd wedi cuddio'r tân i'w gyrchu'n ôl. Ac wedi iddynt hwy egluro inni nad tân y cawsant hyd iddo, ond hylif trwchus, gorchmynnodd ef iddynt godi peth ohono a'i ddwyn ato.
1:21 Wedi cyflwyno defnyddiau'r aberthau, gorchmynnodd Nehemeia i'r offeiriaid daenellu'r hylif dros y coed a'r hyn oedd yn gorwedd arno.
1:22 Gwnaethpwyd hyn, ac aeth peth amser heibio. Yna disgleiriodd yr haul, a fu dan gwmwl cynt, a ffaglodd tân anferth ar yr allor er rhyfeddod i bawb.
1:23 A thra oedd yr aberth yn llosgi'n ulw, aeth yr offeiriaid i weddi, yr offeiriaid ynghyd â phawb arall, gyda Jonathan yn arwain a'r gweddill yn ateb gan ddilyn Nehemeia.
1:24 A dyma ffurf y weddi: ‘O Arglwydd, Arglwydd Dduw, Creawdwr pob peth, yr hwn sydd yn ofnadwy a nerthol, yn gyfiawn a thrugarog, tydi yw'r unig frenin, yr unig un tirion,
1:25 yr unig ddarparwr; tydi'n unig sy'n gyfiawn a hollalluog a thragwyddol; tydi sy'n achub Israel rhag pob perygl; tydi a wnaeth ein hynafiad yn etholedig a'u cysegru.
1:26 Derbyn yr aberth hwn dros dy holl bobl Israel, gwarchod yr eiddot dy hun a chysegra hwy'n llwyr.
1:27 Cynnull ynghyd ein pobl ar wasgar, rhyddha'r rheini sy'n gaethweision ymhlith y Cenhedloedd, edrych yn dirion ar y rheini sy'n cael eu dirmygu a'u ffieiddio, fel y caiff y Cenhedloedd wybod mai tydi yw ein Duw.
1:28 Rho boenau arteithiol yn gosb ar y rhai sy'n ein gormesu a'n cam-drin yn drahaus.
1:29 Gwreiddia dy bobl yn dy fangre sanctaidd, fel y dywedodd Moses.’
1:30 “Yna canodd yr offeiriaid yr emynau.
1:31 Wedi llwyr losgi'r aberthau, gorchmynnodd Nehemeia fod yr hylif oedd yn weddill hefyd i'w arllwys dros gerrig mawr.
1:32 Pan wnaethpwyd hynny, dyma fflam yn ffaglu; ond aeth ei llewyrch yn ddim wrth ddisgleirdeb y goleuni oddi ar yr allor.
1:33 Daeth y digwyddiad hwn yn hysbys, ac mewn adroddiad i frenin y Persiaid dywedwyd i'r hylif ymddangos yn y man lle cuddiwyd y tân gan yr offeiriaid a gaethgludwyd, ac i Nehemeia a'i ddilynwyr ei ddefnyddio i buro'r aberthau.
1:34 Wedi iddo archwilio'r mater, cododd y brenin fur o amgylch y llecyn a'i gysegru.
1:35 Yr oedd y rhai a ffafriwyd ganddo â gofal y lle yn cael rhan o'r incwm helaeth a dderbyniai oddi yno.
1:36 Galwodd Nehemeia a'i ddilynwyr yr hylif yn ‘neffthar’, sy'n golygu ‘pured-igaeth’, ond ei enw cyffredin yw ‘nafftha’.

2:1 “Y mae'n cofnodion hanesyddol yn dangos mai'r proffwyd Jeremeia a orchmynnodd i'r alltudion gymryd y tân, fel y disgrifiwyd eisoes,
2:2 a hefyd fod y proffwyd, ar ôl cyflwyno'r gyfraith iddynt, wedi gorchymyn i'r alltudion beidio ag anghofio gorchmynion yr Arglwydd, na mynd ar gyfeiliorn yn eu meddyliau wrth syllu ar ddelwau o aur ac arian a'r gwisgoedd gwych amdanynt;
2:3 ac â geiriau eraill cyffelyb fe'u hanogodd i beidio â throi'r gyfraith allan o'u calonnau.
2:4 Yr oedd y ddogfen hefyd yn adrodd bod y proffwyd o achos oracl dwyfol wedi gorchymyn fod y babell a'r arch i'w ddilyn ef; a'i fod wedi mynd allan i'r mynydd y safai Moses ar ei ben pan welodd yr etifeddiaeth a addawyd gan Dduw.
2:5 Wedi cyrraedd yno darganfu Jeremeia ogof gyfannedd, a dygodd y babell a'r arch ac allor yr arogldarth i mewn iddi a chau'r fynedfa.
2:6 Daeth rhai o'i gymdeithion yno ar ei ôl i nodi'r ffordd, ond ni lwyddasant i'w darganfod.
2:7 Pan ddaeth Jeremeia i wybod am hyn, fe'u ceryddodd, gan ddweud, ‘Anhysbys fydd y man hyd at yr amser y cynnull Duw ei bobl ynghyd a thrugarhau wrthynt;
2:8 y pryd hwnnw daw'r Arglwydd â'r pethau hyn i'r golwg unwaith eto, ac fe welir gogoniant yr Arglwydd a'r cwmwl, fel yr amlygwyd ef yn amser Moses, a hefyd pan weddodd Solomon am i'r deml gael ei chysegru'n deilwng.”
2:9 Adroddwyd hefyd i Solomon, fel un a chanddo ddoethineb, offrymu aberth i ddathlu cysegru a chwblhau'r deml.
2:10 Yn union fel y gweddïodd Moses yntau ar yr Arglwydd, ac y disgynnodd tân o'r nef a llwyrlosgi'r aberthau yn ulw, felly hefyd y disgynnodd y tân a llwyrlosgi'r poethoffrymau wedi i Solomon weddio.
2:11 Yr oedd Moses wedi dweud, ‘Am na fwytawyd ef, llwyr losgwyd yr offrwm dros bechod.’
2:12 Yn yr un modd hefyd dathlodd Solomon yr wyth diwrnod.
2:13 Ceir yr un hanes hefyd yng nghofnodion ac atgofion Nehemeia, ynghyd ag adroddiad am y modd y sefydlodd lyfrgell trwy gasglu ynghyd y llyfrau ynglŷn â'r brenhinoedd, llyfrau'r proffwydi, gweithiau Dafydd, a llythyrau'r brenhinoedd ynghylch rhoddion cysegredig.
2:14 Yn yr un modd y mae Jwdas wedi casglu ynghyd yr holl lyfrau a wasgarwyd o achos y rhyfel a ddaeth arnom, ac y maent yn ein meddiant ni;
2:15 felly, os oes arnoch eu hangen, anfonwch rywrai i'w cyrchu.
2:16 “Yr ydym yn ysgrifennu atoch am ein bod yn bwriadu dathlu Gŵyl y Buredigaeth; da o beth, gan hynny, fydd i chwi gadw ei dyddiau.
2:17 Y Duw a achubodd ei holl bobl ac a roes y frenhiniaeth a'r offeiriadaeth a'r cysegriad yn etifeddiaeth i bawb,
2:18 fel yr addawodd trwy'r gyfraith, hwn yw'r Duw yr ydym yn gobeithio y bydd iddo drugarhau wrthym yn fuan, a'n casglu ynghyd o bob man dan y nef i'w deml sanctaidd; oherwydd fe'n hachubodd rhag drygau enbyd, ac fe burodd y deml.”

Rhagarweiniad yr Awdur i'r Talfyriad Presennol

2:19 Dyma weithredoedd Jwdas Macabeus a'i frodyr: puro'r deml fawr a chysegru'r allor;
2:20 y rhyfeloedd a ddilynodd yn erbyn Antiochus Epiffanes a'i fab Ewpator;
2:21 y gweledigaethau nefol a gafodd y rhai oedd yn ymladd am y dewraf dros Iddewiaeth nes anrheithio'r holl wlad, er lleied eu nifer, ac ymlid ymaith luoedd y barbariaid;
2:22 adennill y deml sy'n enwog trwy'r byd i gyd; rhyddhau'r ddinas, ac adfer y cyfreithiau oedd ar gael eu dirymu, trwy drugaredd a thiriondeb di-ball yr Arglwydd tuag atynt.
2:23 Y mae'r digwyddiadau hyn wedi cael eu disgrifio gan Jason y Cyreniad mewn pum cyfrol. Fy mwriad i yw ceisio crynhoi'r cwbl mewn un llyfr.
2:24 Oherwydd o ystyried y ffrwd o rifau, a'r rhwystr y mae swmp y deunydd yn ei osod ar ffordd pobl sy'n awyddus i gwmpasu storïau'r hanes,
2:25 ceisiais lunio gwaith a fyddai'n ddifyr i'r rhai sy'n dymuno darllen, yn hwylus i'r rhai sy'n mwynhau dysgu ar eu cof, ac yn fuddiol i bawb sy'n digwydd taro arno.
2:26 I mi sydd wedi ymgymryd â'r gwaith beichus hwn o grynhoi, gorchwyl anodd yw, yn gofyn chwys a cholli cwsg,
2:27 megis nad gorchwyl esmwyth yw paratoi gwledd a cheisio boddhau chwaeth pobl eraill. Er hynny, i ennill diolchgarwch y cyhoedd, byddaf yn dwyn y baich yn llawen.
2:28 Lle'r awdur gwreiddiol oedd manylu ar bob digwyddiad, ond ymdrechu y byddaf fi i ddilyn amlinelliad cryno.
2:29 Oherwydd yn union fel y mae'n rhaid i bensaer tŷ newydd ystyried yr holl adeiladwaith, tra mae'r dyn sy'n ceisio peintio â chwyr poeth yn gorfod chwilio a dewis yr hyn sy'n addas at addurno, felly y barnaf ei bod hi arnaf finnau.
2:30 Y mae'n briodol i awdur gwreiddiol yr hanes fynd dros y maes llafur, gan ei droedio o'r naill ben i'r llall a chwilota ymhlith y manion;
2:31 ond rhaid caniatáu i un sy'n gwneud aralleiriad geisio mynegiant cryno, heb unrhyw ymgais i ysgrifennu hanes cyflawn.
2:32 Yn awr, gan hynny, gadewch imi ddechrau adrodd yr hanes heb ychwanegu rhagor at yr hyn a ddywedwyd eisoes; oherwydd peth gwirion fyddai ymhelaethu cyn dechrau'r hanes, a thalfyrru'r hanes ei hun.

Cynnen rhwng Onias a Simon

3:1 Yr oedd perffaith hedd yn teyrnasu yn y ddinas sanctaidd, a'r cyfreithiau'n cael eu cadw'n ddi-fai dan ddylanwad duwioldeb Onias yr archoffeiriad a'i atgasedd at ddrygioni.
3:2 Ac yr oedd y brenhinoedd hwythau yn anrhydeddu'r cysegr a'r deml, ac yn eu gogoneddu â rhoddion ysblennydd iawn.
3:3 Yn wir, fe aeth Selewcus brenin Asia mor bell â thalu allan o'i gyllid personol holl dreuliau gweinyddu'r aberthau.
3:4 Ond cododd cynnen rhwng rhyw Simon, gŵr o lwyth Benjamin, goruchwyliwr y deml wrth ei swydd, a'r archoffeiriad ynghylch rheolaeth marchnadoedd y ddinas.
3:5 Pan fethodd Simon gael y trechaf ar Onias, aeth at Apolonius fab Tharseus, a oedd ar y pryd yn llywodraethwr ar Celo-Syria a Phenice.
3:6 Dywedodd wrtho fod y drysorfa yn Jerwsalem mor llawn o drysor annisgrifiadwy nes bod cyfanswm ei werth y tu hwnt i gyfrif; nid oedd yn cyfateb, meddai, i gyfrif yr aberthau, a gellid dod ag ef dan awdurdod y brenin.

Anfon Heliodorus i Jerwsalem

3:7 Cafodd Apolonius gyfarfod â'r brenin, a rhoes wybod iddo am yr honiadau a wnaethpwyd iddo ynghylch yr arian. Dewisodd y brenin Heliodorus, ei brif weinidog, a'i anfon dan orchymyn i drefnu symud ymaith yr arian dan sylw.
3:8 Cychwynnodd Heliodorus ar ei union dan esgus ymweld yn swyddogol â dinasoedd Celo-Syria a Phenice, ond ei wir amcan oedd cyflawni cynllun y brenin.
3:9 Wedi cyrraedd Jerwsalem a chael derbyniad croesawus gan archoffeiriad y ddinas, cyfeiriodd at yr hyn oedd wedi ei ddwyn i'r golwg, ac esboniodd bwrpas ei ymweliad, gan holi a oedd y stori'n wir.
3:10 Rhoes yr archoffeiriad ar ddeall mai arian wedi ei ymddiried ar gyfer gwragedd gweddw a phlant amddifad oedd yno,
3:11 heblaw rhywfaint o eiddo Hyrcanus fab Tobias, gŵr o gryn urddas; ac er gwaethaf ensyniadau'r Simon annuwiol hwnnw, pedwar can talent o arian a dau gan talent o aur oedd y cyfanswm;
3:12 ac ni ellid mewn modd yn y byd wneud cam â'r bobl oedd wedi rhoi eu hymddiriedaeth yng nghysegredigrwydd y fangre ac yn urddas seintwar a theml a berchid trwy'r byd i gyd.

Heliodorus yn y Deml

3:13 Ond mynnai Heliodorus, ar bwys ei orchmynion gan y brenin, fod rhaid atafaelu'r arian hwn i'r drysorfa frenhinol.

3:14 Ar y dydd a bennodd, aeth i mewn i'r deml i wneud arolwg o'r adneuon; a gwelwyd ing pryder nid bychan trwy'r ddinas gyfan.
3:15 Fe'u taflodd yr offeiriaid eu hunain yn eu gwisgoedd offeiriadol ar eu hyd o flaen yr allor, gan alw i'r nef ar i awdur deddf yr adneuon gadw'r cronfeydd yn ddiogel i'r adneuwyr.
3:16 Yr oedd yr olwg ar yr archoffeiriad yn loes i'r galon, a'r lliw a wibiai dros ei wyneb yn mynegi ing ei enaid;
3:17 oherwydd yr oedd corff y dyn, yng ngafael rhyw ofn a chryndod, yn dangos yn amlwg i'r gwylwyr y dolur oedd yn ei galon.
3:18 Ar ben hynny, yr oedd pobl yn rhuthro'n finteioedd allan o'u tai i wneud deisyfiadau cyhoeddus o achos y gwarth oedd ar ddod ar y deml.
3:19 Yr oedd y strydoedd yn llawn o wragedd mewn sachlieiniau wedi eu torchi dan eu bronnau; a'r merched ifainc a gedwid o'r neilltu, yr oedd rhai ohonynt yn rhedeg at byrth eu tai, rhai at y muriau allanol, ac eraill yn pwyso allan trwy'r ffenestri,
3:20 a phob un ohonynt â'i dwylo wedi eu hestyn tua'r nef mewn ymbil taer.
3:21 Golygfa druenus oedd gweld y dyrfa'n gorwedd blith draphlith, a'r archoffeiriad yn disgwyl yn ing mawr ei bryder.

Yr Arglwydd yn Gwarchod dros ei Deml

3:22 A hwythau felly'n galw ar yr Arglwydd hollalluog i gadw'r cronfeydd yn ddiogel i'w hadneuwyr,
3:23 dechreuodd Heliodorus ddwyn ei fwriad i ben.
3:24 Ond gydag iddo ef a'i osgordd arfog gyrraedd y man gerllaw'r drysorfa, dyma Benarglwydd yr ysbrydion a phob gallu yn peri gweledigaeth mor arswydus nes troi pawb a fentrodd yno gyda Heliodorus yn llipa gan ofn, wedi eu syfrdanu gan allu Duw.
3:25 Gwelsant farch ysblennydd iawn ei harnais, a marchog erchyll ei wedd ar ei gefn; rhuthrodd y march yn wyllt ar Heliodorus ac ymosod arno â'i garnau blaen. Yr oedd marchog y weledigaeth yn gwisgo arfwisg gyfan o aur.
3:26 A heblaw hwnnw, fe ymddangosodd dau ddyn ifanc arall eithriadol eu nerth a hardd iawn eu gwedd ac ardderchog eu gwisg. Safodd y ddau hyn o boptu i Heliodorus, gan ei fflangellu'n ddi-baid a bwrw arno ergydion lawer.
3:27 Cwympodd ef yn sydyn i'r llawr â thywyllwch dudew o'i amgylch. Fe'i codwyd yn ddiymdroi, a'i osod mewn cadair gludo.
3:28 A dyma'r dyn, a oedd ychydig ynghynt wedi dod i mewn i'r drysorfa honno gyda gosgordd niferus a'i holl warchodlu arfog, yn cael ei gludo allan yn ddiymadferth gan ddynion oedd yn cydnabod yn agored benarglwyddiaeth Duw.

Onias yn Gweddïo dros Adferiad Heliodorus

3:29 Tra oedd ef, o achos y weithred ddwyfol, yn gorwedd yn fud a heb unrhyw obaith am adferiad,
3:30 yr oedd yr Iddewon yn bendithio'r Arglwydd am iddo ogoneddu ei fangre gysegredig mewn ffordd mor wyrthiol. Yr oedd y deml, a fuasai ychydig ynghynt yn llawn ofn a chynnwrf, yn awr, o achos ymddangosiad yr Arglwydd hollalluog, yn gyforiog o lawenydd a gorfoledd.
3:31 Ac yn fuan ceisiodd rhai o gymdeithion Heliodorus gan Onias alw ar y Goruchaf, a rhoi o'i raslonrwydd ei fywyd i ddyn oedd yn ddiau ar dynnu ei anadl olaf.
3:32 Yr oedd yr archoffeiriad yn ofni y barnai'r brenin fod yr Iddewon wedi cyflawni rhyw ddichell yn achos Heliodorus, ac o ganlyniad fe offrymodd aberth dros adferiad y dyn.
3:33 Wrth iddo gyflawni'r aberth dyhuddol, ymddan-gosodd yr un dynion ifainc i Heliodorus drachefn, wedi eu dilladu yn yr un gwisgoedd, a sefyll yno a dweud, “Mawr y bo dy ddiolch i'r archoffeiriad Onias, oherwydd o'i achos ef y mae'r Arglwydd yn rasol wedi rhoi dy fywyd iti.
3:34 A thithau, a ddioddefodd fflangell y nef, rho wybod i bawb am rym nerth Duw.” Ac wedi dweud hynny diflanasant.

Heliodorus yn Moliannu Duwv

3:35 Offrymodd Heliodorus aberth i'r Arglwydd, a gwnaeth addunedau helaeth i'r un oedd wedi ei gadw'n fyw. Ac wedi ffarwelio ag Onias, arweiniodd ei fyddin yn ôl at y brenin.
3:36 Tystiai wrth bawb am y gweithredoedd o eiddo'r Duw Goruchaf a welsai â'i lygaid ei hun.
3:37 Pan ofynnodd y brenin i Heliodorus sut ddyn a fyddai'n addas i'w anfon i Jerwsalem mewn ymgais arall, dywedodd ef,
3:38 “Anfon yno unrhyw elyn neu gynllwyniwr yn erbyn y llywodraeth, ac fe gei di ef yn ôl wedi ei fflangellu, os yn wir yr achubir ei fywyd o gwbl, oherwydd yn ddiau y mae rhyw allu dwyfol o amgylch y fangre;
3:39 oherwydd y mae'r hwn sydd â'i drigfan yn y nef yn gwylio dros y fangre honno ac yn ei hamddiffyn, ac yn taro a rhoi diwedd ar bwy bynnag a ddaw yno er drygioni.”
3:40 A dyna'r hanes am Heliodorus a'r modd y cadwyd y drysorfa'n ddiogel.

Simon yn Cyhuddo Onias

4:1 Yr oedd y Simon y cyfeiriwyd ato uchod, hwnnw oedd wedi gwneud yr honiadau ynghylch yr arian er niwed i'w famwlad, wedi dechrau athrodi Onias, gan ddweud mai ef oedd wedi cyffroi Heliodorus ac achosi'r helyntion;
4:2 a beiddiodd ddweud fod hwn, cymwynaswr y ddinas, gwarcheidwad ei gyd-Iddewon a phleidiwr selog y cyfreithiau, yn cynllwynio yn erbyn y llywodraeth.
4:3 Aeth yr elyniaeth ar gynnydd hyd at gyflawni llofruddiaethau gan un o wŷr profedig Simon.
4:4 Gwelodd Onias fod y gynnen yn beryglus, a bod Apolonius fab Menestheus, llywod-raethwr Celo-Syria a Phenice, yn cefnogi anfadwaith Simon.
4:5 Gan hynny, aeth at y brenin, nid fel un yn cyhuddo'i gyd-ddinasyddion, ond fel un â'i olwg ar fudd ei holl bobl, yn gymdeithas ac yn unigolion.
4:6 Oherwydd, heb arweiniad gan y brenin, fe welai na cheid byth fywyd cyhoeddus heddychol, nac unrhyw ball ar ffolineb Simon.

Jason yn Hyrwyddo Ffordd Helenistaidd o Fyw

4:7 Wedi i Selewcus ymadael â'r fuchedd hon ac i Antiochus, a gyfenwid Epiffanes, ei olynu yn y frenhiniaeth, enillodd Jason, brawd Onias, yr archoffeir-iadaeth trwy lwgrwobrwyaeth.
4:8 Mewn cyfarfod â'r brenin addawodd iddo dri chant chwe deg o dalentau o arian, a phedwar ugain talent allan o ryw ffynhonnell arall.
4:9 Heblaw hynny, ymrwymodd, pe caniateid iddo sefydlu dan ei awdurdod ei hun gampfa ac ysgol hyfforddi llanciau, i dalu can talent a hanner yn ychwanegol ac i lunio cofrestr o Antiochiaid yn Jerwsalem.
4:10 Wedi i'r brenin roi ei ganiatâd, meddiannodd Jason ei swydd ac yn ddiymdroi gwnaeth i'w gydwladwyr droi i'r ffordd Helenistaidd o fyw.
4:11 Dirymodd y breintiau elusennol a roddwyd i'r Iddewon gan y brenhinoedd trwy waith Ioan, tad yr Ewpolemus hwnnw a aeth yn llysgennad i wneud cytundeb o gyfeillgarwch a chynghrair â'r Rhufeiniaid. Diddymodd y sefydliadau cyfreithlon a chreu arferion newydd anghyfreithlon.
4:12 Oherwydd gwelodd yn dda sefydlu campfa wrth droed caer y ddinas, a gwneud i'r goreuon o'r llanciau wisgo het athletwyr.
4:13 O achos anfadwaith diatal y ffug-archoffeiriad annuwiol Jason, cyrhaeddodd Helen-istiaeth a'r cynnydd mewn arferion estron y fath bwynt
4:14 fel y collodd yr offeiriaid eu sêl ynglŷn â gwasanaethau'r allor; aethant yn ddirmygus o'r deml ac yn ddi-hid am yr aberthau, ac ar sain y gong rhuthrent i gymryd rhan yn ymarferion anghyfreithlon yr ysgol ymgodymu.
4:15 Nid oedd y breintiau traddodiadol yn ddim yn eu golwg; yr anrhydeddau Helenistaidd oedd ardderchocaf yn eu tyb hwy.
4:16 Oherwydd hynny adfyd fu eu rhan, a chawsant fod yr union bobl y ceisient efelychu eu ffyrdd, ac y dymunent ymdebygu iddynt ym mhob peth, yn elynion dialgar.
4:17 Oherwydd nid peth dibwys yw amharchu cyfreithiau Duw, fel y dengys y cyfnod dilynol yn amlwg.

Jerwsalem dan Ddylanwad Syria

4:18 Pan oedd y chwaraeon pen-pum-mlynedd yn cael eu cynnal yn Tyrus gerbron y brenin,
4:19 anfonodd y Jason aflan hwn negeswyr i gynrychioli Jerwsalem. Antiochiaid oeddent, yn dwyn gyda hwy dri chan drachma o arian yn gyfraniad at yr aberth i Hercules. Ond mynnodd cludwyr yr arian eu hunain beidio â'u defnyddio at aberth, am nad oedd hynny'n weddus, ond eu neilltuo at ryw ddiben arall.
4:20 Felly, er i'r hwn a'i hanfonodd fwriadu'r arian fel cyfraniad at yr aberth i Hercules, o achos gweithred y cludwyr fe'i neilltuwyd at adeiladu llongau rhyfel teir-res.
4:21 Pan anfonwyd Apolonius fab Menestheus i'r Aifft ar gyfer gorseddiad y Brenin Philometor, cafodd Antiochus wybod fod y brenin hwnnw wedi troi yn erbyn ei bolisïau, a dechreuodd ystyried ei ddiogelwch ei hun; gan hynny, aeth i Jopa ac ymlaen i Jerwsalem.
4:22 Cafodd dderbyniad mawreddog gan Jason a'r ddinas, a'i dderbyn i mewn â ffaglau a banllefau. Wedi hynny, gwersyllodd ei fyddin yn Phenice.

Menelaus yn Meddiannu'r Archoffeiriadaeth

4:23 Tair blynedd yn ddiweddarach anfonodd Jason Menelaus, brawd y Simon y cyfeiriwyd ato uchod, i hebrwng yr arian at y brenin ac i weithredu penderfyniadau ynghylch materion o frys.
4:24 Cafodd Menelaus ei gymeradwyo i'r brenin, a gwenieithodd iddo â'i olwg awdurdodol; a llwyddodd i gael yr archoffeiriadaeth i'w afael ei hun trwy gynnig tri chan talent o arian yn fwy na Jason.
4:25 Wedi derbyn comisiwn y brenin, dychwelodd i Jerwsalem. Ni ddaeth ag unrhyw gymhwyster at yr archoffeiriadaeth gydag ef; yr oedd ei dymer yn ormesol a chreulon, a'i gynddaredd bwystfilaidd yn deilwng o farbariad.
4:26 Felly dyma Jason, dyn oedd wedi disodli ei frawd ei hun trwy lwgrwobrwyaeth, yntau wedi ei ddisodli yn yr un modd gan un arall, a'i yrru'n alltud i wlad Amon.
4:27 Ond am Menelaus, yr oedd ei afael yn y swydd, ond ni chadwodd at yr un o delerau ei addewid i'r brenin ynghylch yr arian, er i Sostratus, prif swyddog y gaer, fynnu'r taliad
4:28 yn rhinwedd ei gyfrifoldeb am gasglu'r symiau dyladwy. O ganlyniad, galwodd y brenin y ddau ato.
4:29 Gadawodd Menelaus Lysimachus, ei frawd ei hun, yn ddirprwy archoffeiriad; a dirprwy Sostratus oedd Crates, capten y Cypriaid.

Llofruddio Onias

4:30 Dyna oedd y sefyllfa pan wrthryfelodd pobl Tarsus a Malus oherwydd rhoi eu dinasoedd yn anrhegion i Antiochis, gordderch y brenin.
4:31 Gan hynny, aeth y brenin i ffwrdd ar frys i adfer trefn, gan adael yn ddirprwy Andronicus, un o'r uchel swyddogion.
4:32 Tybiodd Menelaus fod hwn yn gyfle da iddo, a lladrataodd rai o lestri aur y deml a'u rhoi'n anrheg i Andronicus; yr oedd wedi gwerthu rhai eraill i Tyrus a'r dinasoedd o amgylch.
4:33 Pan gafodd Onias wybodaeth sicr am y gweithredoedd hyn hefyd, fe'u cyhoeddodd ar led ar ôl cilio am seintwar i Daffne ger Antiochia.
4:34 O ganlyniad, aeth Menelaus yn ddirgel at Andronicus a phwyso arno i roi taw ar Onias. Aeth yntau at Onias yn hyderus y llwyddai trwy dwyll; fe'i cyfarchodd yn gyfeillgar a chynnig iddo ei law dde dan lw, a'i berswadio, er gwaethaf ei amheuon amdano, i ddod allan o'i seintwar. Ac fe'i llofruddiodd yn y fan a'r lle, heb unrhyw barch i ofynion cyfiawnder.
4:35 Bu'r lladd anghyfiawn hwn yn achos braw a dicter, nid yn unig ymhlith yr Iddewon ond hefyd ymhlith llawer o'r cenhedloedd eraill.
4:36 Pan ddychwelodd y brenin o ranbarthau Cilicia, anfonodd Iddewon y ddinas ato ynglŷn â llofruddio disynnwyr Onias, a hynny gyda chefnogaeth y Groegiaid, a oedd hefyd yn ffieiddio'r anfadwaith.
4:37 Trallodwyd Antiochus hyd waelod ei galon, a llanwyd ef â thosturi hyd at ddagrau wrth gofio am gallineb a sobrwydd yr ymadawedig.
4:38 Ar dân gan gynddaredd, fe ddihatrodd Andronicus ar unwaith o'i wisg borffor, a rhwygo'i ddillad oddi amdano. Arweiniodd ef trwy'r ddinas gyfan i'r man lle cyflawnodd ei weithred annuwiol yn erbyn Onias, ac yno fe waredodd y byd o'r llofrudd halogedig. Felly y rhoes yr Arglwydd ei gosb haeddiannol iddo.

Lladd Lysimachus a Gosod Menelaus ar Brawf

4:39 Yr oedd Lysimachus, â chydsyniad Menelaus, wedi ysbeilio llawer o wrthrychau cysegredig yn y ddinas. Aeth y sôn am hyn ar led, a chasglodd y bobl ynghyd yn erbyn Lysimachus, ond nid cyn i lawer o'r llestri aur gael eu gwasgaru.
4:40 Gan fod y torfeydd yn ymgynhyrfu ac yn ymgynddeiriogi, arfogodd Lysimachus agos i dair mil o ddynion, a chychwynnodd gyfres o ymosodiadau gwarthus dan arweiniad rhyw Awranus, dyn yr oedd ei ffolineb lawn cymaint â'i oedran.
4:41 Pan welodd y bobl ymosodiad Lysimachus, cipiodd rhai ohonynt gerrig, eraill flocynnau pren, ac eraill eto y lludw oedd ar lawr yno, lond eu dwylo, a'u lluchio'n wyllt ar Lysimachus a'i wŷr.
4:42 Felly, gan glwyfo llawer ohonynt, a tharo eraill i lawr, gyrasant bob un ohonynt ar ffo; ac am yr ysbeiliwr ei hun, lladdasant ef gerllaw'r drysorfa.
4:43 A dygwyd achos yn erbyn Menelaus ynglŷn â'r digwyddiadau hyn.
4:44 Daeth y brenin i lawr i Tyrus, a phlediwyd yr achos ger ei fron gan y tri dyn a anfonwyd gan y senedd.
4:45 Gwyddai Menelaus eisoes na allai ennill, ac addawodd swm sylweddol o arian i Ptolemeus fab Dorymenes, i'w gael i ennill y brenin i'w ochr ef.
4:46 O ganlyniad cymerodd Ptolemeus y brenin o'r neilltu i ryw gyntedd, fel petai am awyr iach, a chafodd ganddo newid ei feddwl.
4:47 Cyhoeddodd fod Menelaus, achos yr holl ddrwg, yn ddieuog o'r cyhuddiadau, a dedfrydodd i farwolaeth y cyhuddwyr druain, dynion y buasai hyd yn oed y Scythiaid, o'u clywed, wedi eu rhyddhau'n ddieuog.
4:48 Ond gweinyddwyd y gosb anghyfiawn yn ddiymdroi ar ddynion oedd wedi pledio achos y ddinas a'i phobl a'i llestri cysegredig.
4:49 Ffieiddiodd y Tyriaid hefyd yr anfadwaith, ac o'r herwydd darparasant yn helaeth ar gyfer eu hangladd.
4:50 Ond oherwydd gwanc y rhai oedd mewn grym, parhaodd Menelaus yn ei swydd, ac aeth ei ddrygioni ar gynnydd, nes iddo ddod yn archgynllwyniwr yn erbyn ei gyd-ddinasyddion.

Jason yn Ymosod ar Jerwsalem

5:1 Tua'r amser hwn paratôdd Antiochus ar gyfer ei ail ymosodiad ar yr Aifft.
5:2 Am yn agos i ddeugain diwrnod fe welwyd gweledigaethau uwchben y ddinas gyfan: marchogion mewn dillad o frodwaith aur yn carlamu trwy'r awyr, catrodau o waywffonwyr arfog, cleddyfau'n cael eu tynnu,
5:3 cwmnïoedd o filwyr meirch yn eu rhengoedd, dwy fyddin yn ymosod a gwrthymosod ar ei gilydd, yn ysgwyd tarianau, yn pentyrru gwaywffyn hir, yn gollwng saethau, a'u haddurniadau aur a'u llurigau gwahanol yn fflachio.
5:4 O ganlyniad, yr oedd pawb yn gweddïo am i'r weledigaeth fod yn argoel o rywbeth da.
5:5 A phan fu sôn, ar gam, fod Antiochus wedi ymadael â'r fuchedd hon, cymerodd Jason dros fil o wŷr ac ymosod yn ddirybudd ar y ddinas; ac o weld yr amddiffynwyr wedi eu hymlid oddi ar y muriau, a'r ddinas o'r diwedd ar gael ei llwyr feddiannu, fe ffodd Menelaus i'r gaer.
5:6 Ond dal ymlaen â'i laddfa ddidrugaredd ar ei gyd-ddinasyddion a wnaeth Jason, heb ystyried nad oes aflwydd tebyg i lwydd rhywun ar draul ei bobl ei hun; yn ei olwg ef, buddugoliaeth ar elynion, nid ar ei genedl ei hun, yr oedd yn ei dathlu.
5:7 Ond methodd ddod yn ben; a diwedd ei gynllwyn fu gwarth, a ffoi'n alltud unwaith eto i dir yr Amoniaid.
5:8 Yn wir, ymhen amser, daeth tro trychinebus ar ei fyd. Wedi ei gyhuddo gan Aretas, unben yr Arabiaid, bu'n ffoi o ddinas i ddinas, yn cael ei erlid gan bawb, yn atgas ganddynt fel gwrthgiliwr oddi wrth y cyfreithiau, ac yn ffiaidd ganddynt fel dienyddiwr ei wlad a'i gyd-ddinasyddion, nes o'r diwedd iddo lanio yn yr Aifft.
5:9 Y gŵr oedd wedi gyrru llaweroedd o'u gwlad yn alltudion, yn alltud y darfu amdano yntau yng ngwlad y Lacedaemoniaid; oherwydd yr oedd wedi hwylio yno yn y gobaith y câi loches ganddynt ar gyfrif eu tras gyffredin.
5:10 Ac yntau wedi lluchio llaweroedd allan i orwedd heb fedd, ni chafodd na galarwr nac angladd o unrhyw fath, na gorweddfan ym meddrod ei hynafiaid.

Antiochus yn Ymosod ar Jerwsalem (1 Mac. 1:20-63)

5:11 Pan ddaeth y newydd am y digwyddiadau hyn i glust y brenin, tybiodd ef fod Jwdea'n gwrthryfela. Gan hynny, ymadawodd â'i wersyll yn yr Aifft yn gynddeiriog ei lid.
5:12 Cymerodd y ddinas trwy rym arfau, gan orchymyn i'w filwyr ladd yn ddiarbed bawb o fewn eu cyrraedd a tharo'n gelain bawb a geisiai ddianc i'w tai.
5:13 Fe aed ati i lofruddio'r ifanc a'r hen, difa glaslanciau a gwragedd a phlant, a gwneud lladdfa o enethod dibriod a babanod.
5:14 Yn ystod y tridiau cyfan collwyd pedwar ugain mil: deugain mil yn y drin, a gwerthwyd i gaethiwed o leiaf gynifer ag a lofruddiwyd.
5:15 Ond ni fodlonodd y brenin ar hynny. Rhyfygodd fynd i mewn i'r deml sancteiddiaf yn yr holl fyd gyda Menelaus yn ei dywys, dyn oedd wedi troi'n fradwr i'r cyfreithiau ac i'w wlad.
5:16 Gosododd ei ddwylo halogedig ar y llestri cysegredig, ac â'r dwylo aflan hynny ysgubodd ynghyd y rhoddion a adawyd gan frenhinoedd eraill er cynnydd gogoniant y deml a'i bri.
5:17 Yn ymchwydd ei hunan-dyb diderfyn, ni ddeallai Antiochus mai pechodau trigolion y ddinas oedd wedi digio'r Arglwydd dros dro, ac mai hyn a barodd iddo anwybyddu'r deml.
5:18 Oni bai am eu hymddygiad tra phechadurus, buasai'r creadur hwn hefyd wedi ei fflangellu ar ei ddyfodiad, a'i gynllun rhyfygus wedi ei ddymchwel, yn union fel y digwyddodd i Heliodorus, y dyn a anfonwyd gan y Brenin Selewcus i wneud arolwg o'r drysorfa.
5:19 Ond nid dewis y genedl er mwyn y deml a wnaeth yr Arglwydd, ond yn hytrach y deml er mwyn y genedl.
5:20 Am hynny cafodd y deml ei hun ei rhan o aflwydd y genedl, ac yn ddiweddarach fe gyfranogodd o'i llwydd; wedi ei gadael yn amddifad yn nydd digofaint yr Hollalluog, fe'i hadferwyd drachefn â phob gogoniant yn nydd cymod yr Arglwydd mawr.

Ymosodiad Pellach ar Jerwsalem

5:21 Felly, wedi iddo gymryd deunaw can talent o'r deml, dychwelodd Antiochus ar frys i Antiochia, gan fwriadu yn ymchwydd trahaus ei galon wneud y tir yn fôr i hwylio arno a'r môr yn dir i gerdded arno.
5:22 Gadawodd ar ei ôl lywodraethwyr i ddrygu'r genedl: Philip yn Jerwsalem, Phrygiad o ran cenedl, ac o ran ei gymeriad barbariad gwaeth na'r un a'i penododd;
5:23 ac Andronicus yn Garisim. Heblaw'r ddau hyn gadawodd Menelaus, y mwyaf haerllug ohonynt tuag at y dinasyddion. Ac oherwydd ei agwedd elyniaethus tuag at y dinasyddion Iddewig,
5:24 anfonodd Antiochus Apolonius, cadfridog y Mysiaid, gyda byddin o ddwy fil ar hugain, a gorchymyn iddo ladd pob gŵr oedd yn ei lawn oed, a gwerthu'r gwragedd a'r bechgyn yn gaethweision.
5:25 Pan gyrhaeddodd hwn Jerwsalem cymerodd arno fod yn ddyn heddychlon. Disgwyliodd tan ddydd sanctaidd y Saboth. Pan gafodd fod yr Iddewon yn gorffwys o'u gwaith, gorchymynnodd i'w filwyr orymdeithio'n arfog.
5:26 Gwnaeth laddfa o bawb oedd wedi dod allan i wylio, ac yna rhuthrodd i mewn i'r ddinas gyda'i filwyr, a gadael llaweroedd yn gelain ar lawr.
5:27 Ymgiliodd Jwdas Macabeus gyda rhyw naw arall i'r anialwch, a byw fel anifeiliaid gwyllt yn y mynyddoedd gyda'i ddilynwyr. Ac ar hyd yr amser ymgadwent rhag bwyta dim ond llysiau, rhag ofn halogiad.

Yr Iddewon dan Erledigaeth

6:1 Ychydig wedi hynny, anfonodd y brenin henwr o Atheniad i orfodi'r Iddewon i gefnu ar gyfreithiau eu hynafiaid ac i beidio â threfnu eu bywyd yn ôl cyfreithiau Duw;
6:2 yr oedd i halogi'r deml yn Jerwsalem a'i henwi hi'n deml Zeus o Olympus, a honno yn Garisim yn deml Zeus Noddwr Dieithriaid, yn ôl arfer trigolion y fro.
6:3 Ergyd drom ac annioddefol gan bawb oedd y drwg pellach hwn.
6:4 Oherwydd fe lanwyd y deml ag anlladrwydd a rhialtwch cenedl-ddynion yn eu difyrru eu hunain gyda phuteiniaid ac yn cydorwedd â gwragedd oddi mewn i'r cylch sanctaidd, ac at hynny'n dwyn pethau gwaharddedig i mewn iddo.
6:5 Pentyrrwyd ar yr allor bethau amhur a gwaharddedig gan y cyfreithiau.
6:6 Ni chaniateid i neb na chadw'r Saboth na pharchu'r gwyliau traddodiadol na chymaint â chyfaddef ei fod yn Iddew.
6:7 Pob mis, ar ddydd dathlu geni'r brenin, yr oeddent dan orfod llym i fynd a bwyta cig yr aberth, ac ar ŵyl Dionysus fe'u gorfodid i orymdeithio ag eiddew ar eu pennau er anrhydedd i Dionysus.
6:8 Fe ddeddfwyd yn y dinasoedd Helenistaidd cyfagos, ar awgrym Ptolemeus, fod yr un drefn i'w gosod ar Iddewon y dinasoedd hynny: sef eu bod i fwyta cig yr aberth,
6:9 a bod y rhai a wrthodai newid i'r ffyrdd Helenistaidd i'w dienyddio. Yr oedd y trallod a ddaethai ar eu gwarthaf yn amlwg i bawb.
6:10 Er enghraifft, dygwyd gerbron llys barn ddwy wraig oedd wedi enwaedu ar eu plant. Crogwyd eu babanod wrth eu bronnau a mynd â hwy yn sioe o amgylch y ddinas, ac yna eu lluchio i farwolaeth oddi ar y mur.
6:11 Ac yr oedd eraill wedi ymgynnull yn ddirgel yn yr ogofâu gerllaw i gadw'r seithfed dydd. Fe'u bradychwyd i Philip, ac fe'u llosgwyd yn fyw i gyd gyda'i gilydd am iddynt wrthod ar egwyddor eu hamddiffyn eu hunain, o barch tuag at y dydd mwyaf cysegredig.

Yr Arglwydd yn Cosbi ac yn Trugarhau

6:12 Gan hynny, yr wyf yn annog darllenwyr y llyfr hwn i beidio â digalonni o achos y trychinebau, ond i'w cyfrif fel cosbau a fwriadwyd nid i ddifa'n cenedl ond i'w disgyblu;
6:13 ac yn wir, arwydd o garedigrwydd mawr yw'r ffaith nad yw'r annuwiolion yn cael rhwydd hynt am amser hir, ond bod eu haeddiant yn dod arnynt yn ddi-oed.
6:14 Oherwydd yn achos y cenhedloedd eraill y mae'r Arglwydd yn disgwyl yn amyneddgar nes i'w pechodau gyrraedd eu penllanw, ac wedyn y mae'n eu cosbi; ond nid felly y barnodd yn ein hachos ni,
6:15 rhag iddo ddial arnom ar ôl i'n pechodau gyrraedd eu hanterth.
6:16 Gan hynny, nid yw byth yn troi ei drugaredd oddi wrthym, ac wrth ddisgyblu ei bobl trwy drallod nid yw'n cefnu arnynt. Ond dylai hyn o eiriau gennyf fod yn ddigon i'ch atgoffa o hynny;
6:17 wedi'r ychydig grwydro hwn rhaid ailgydio yn yr hanes.

Eleasar yn Marw dros ei Ffydd

6:18 Yr oedd Eleasar yn un o'r ysgrifenyddion blaenllaw, yn ddyn oedd eisoes wedi cyrraedd oedran mawr, ac yn hardd iawn o ran pryd a gwedd. A dyma lle'r oedd yn cael ei orfodi i agor ei geg led ei ben ac i fwyta cig moch.
6:19 Ond dewisach ganddo ef oedd marw'n anrhydeddus na byw'n halogedig, a dechreuodd o'i wirfodd gerdded tuag at yr ystanc
6:20 gan boeri'r cig allan, fel y dylai pawb wneud sy'n ddigon dewr i ymwrthod â phethau nad yw'n gyfreithlon eu bwyta, pa faint bynnag y mae dyn yn caru byw.
6:21 Yr oedd y dynion oedd yn goruchwylio'r pryd anghyfreithlon hwn yn hen gyfarwydd ag Eleasar, ac am hynny cymerasant ef o'r neilltu a'i annog i ddarparu a pharatoi ei hun gig y byddai'n rhydd iddo ei fwyta, ac i ffugio ei fod yn bwyta cig yr aberth yn unol â gorchymyn y brenin.
6:22 Pe gwnâi hynny, byddai'n dianc rhag angau a manteisio ar gymwynas oedd yn ddyladwy i'w hen gyfeillgarwch â hwy.
6:23 Ond yr oedd ei ddewis ef yn un hardd, yn deilwng o'i oedran, o urddas ei henaint, o'r penwynni a ddaeth iddo o'i lafur nodedig, o'i fuchedd lân er ei febyd, ac yn anad dim o'r gyfraith sanctaidd a sefydlwyd gan Dduw. Yn gyson â hyn atebodd ar ei union, “Anfonwch fi i Hades.
6:24 Oherwydd nid yw ffugio yn deilwng i rywun o'n hoedran ni. Byddai llawer o'r bobl ifainc yn tybio fod Eleasar, yn ddeg a phedwar ugain oed, wedi troi at ffordd estron o fyw,
6:25 a chaent eu harwain ar gyfeiliorn o'm hachos i, drwy weithred a ffugiwyd gennyf fi i ennill ysbaid byr o fywyd; a'r hyn a gawn i fyddai henaint wedi ei halogi a'i lychwino.
6:26 Oherwydd hyd yn oed os achubaf fi fy hun am y tro rhag dialedd dynol, ni chaf ddianc byth o ddwylo'r Hollalluog, p'run ai byw ai marw fyddaf.
6:27 Gan hynny, os ildiaf fy mywyd yn ddewr yn awr, fe'm dangosaf fy hun yn deilwng o'm henaint,
6:28 a byddaf wedi gadael i'r bobl ifainc esiampl anrhydeddus o farwolaeth ewyllysgar ac anrhydeddus dros y cyfreithiau sanctaidd a chysegredig.”
6:29 Gyda'r geiriau hyn aeth ar ei union tuag at yr ystanc. Yr oedd yr ewyllys da a deimlai ei warcheidwaid tuag ato ychydig ynghynt wedi troi'n ewyllys drwg, am fod y geiriau yr oedd newydd eu llefaru yn wallgofrwydd yn eu golwg hwy.
6:30 A phan oedd ar drengi dan yr ergydion, meddai dan riddfan yn uchel, “Y mae'r Arglwydd yn ei wybodaeth sanctaidd yn gweld fy mod, er y gallwn ddianc rhag angau, yn dioddef yn fy nghorff boenau creulon y fflangell, ond yn fy enaid yn goddef hynny'n llawen o barchedig ofn tuag ato ef.”
6:31 A dyna'r modd yr ymadawodd ef â'r fuchedd hon, gan adael yn ei farwolaeth esiampl o anrhydedd a symbyliad i rinwedd, nid yn unig i'r ifainc ond i'r mwyafrif o'i gyd-genedl.

Mam a'i Meibion yn Marw dros eu Ffydd

7:1 Digwyddodd hyn hefyd: yr oedd saith brawd wedi cael eu cymryd i'r ddalfa gyda'u mam, ac yr oedd y brenin yn ceisio'u gorfodi i fwyta'r cig moch anghyfreithlon trwy eu poenydio â chwipiau a chortynnau.
7:2 A llefarodd un ohonynt ar eu rhan fel hyn: “Pam yr wyt ti am ein holi a chael ateb gennym? Yr ydym yn barod i farw yn hytrach na throseddu yn erbyn cyfreithiau ein hynafiaid.”
7:3 Ymgynddeiriogodd y brenin, a gorchmynnodd boethi pedyll a pheiriau, a gwnaethpwyd hynny'n ddi-oed.
7:4 Wedyn gorchmynnodd dorri allan dafod y llefarydd, a blingo'i ben a thorri i ffwrdd ei draed a'i ddwylo o flaen llygaid y brodyr eraill a'r fam.
7:5 A phan oedd yn gwbl ddiymadferth ond yn dal i anadlu, gorchmynnodd y brenin ei ddwyn at y tân a'i rostio ar y badell. Wrth i'r mwg o'r badell godi ar led, yr oedd y lleill ynghyd â'u mam yn annog ei gilydd i farw'n deilwng o'u tras, gan ddweud,
7:6 “Y mae'r Arglwydd ein Duw yn gwylio drosom ac yn sicr yn tosturio wrthym, yn union fel y mynegodd Moses i wynebau'r bobl yn y gân sy'n tystio yn eu herbyn: ‘A bydd ef yn tosturio wrth ei weision’.”
7:7 Wedi ymadawiad y cyntaf yn y dull hwn, daethpwyd â'r ail ymlaen, i wneud cyff gwawd ohono. Rhwygwyd croen ei ben i ffwrdd gyda'i wallt, a gofynnwyd iddo, “A wnei di fwyta cyn inni fwrw ein llid ar dy gorff, bob un aelod ohono?”
7:8 Atebodd ef yn ei famiaith, “Na wnaf.” O ganlyniad dioddefodd yntau yn ei dro yr un artaith â'r cyntaf.
7:9 Ac â'i anadl olaf meddai, “Yr wyt ti, y dihiryn, yn ein rhyddhau o'r bywyd presennol hwn, ond bydd Brenin y cyfanfyd yn ein hatgyfodi i fywyd newydd tragwyddol am inni farw dros ei gyfreithiau ef.”
7:10 Ar ôl hwn, aethpwyd ati i gam-drin y trydydd. Ar eu cais estynnodd ei dafod ar unwaith, a dal ei ddwylo o'i flaen yn eofn,
7:11 gan lefaru geiriau teilwng o'i dras: “Gan Dduw'r nef y cefais i'r rhain, ac er mwyn ei gyfreithiau ef yr wyf yn eu dibrisio, a chanddo ef y disgwyliaf eu derbyn yn ôl.”
7:12 Syfrdanwyd y brenin a'i gymdeithion gan ysbryd y llanc a'i ddifaterwch ynglŷn â'r poenau.
7:13 Wedi i hwnnw ymadael â'r fuchedd hon, fe boenydiwyd ac arteithiwyd y pedwerydd yn yr un modd.
7:14 Pan ddaeth yn agos at y diwedd meddai, “Nid oes dim rhagorach nag ymadael â'r fuchedd hon trwy ddwylo dynol, a disgwyl am ein hatgyfodi gan Dduw, gan obeithio yn ei addewidion; ond i ti ni bydd atgyfodiad i fywyd.”
7:15 Yn nesaf daethpwyd â'r pumed ymlaen a'i boenydio.
7:16 Edrychodd ef ar y brenin ac meddai, “Am fod gennyt awdurdod ymhlith dynion yr wyt yn gwneud fel y mynni, er mai meidrolyn wyt. Ond paid â meddwl fod Duw wedi gadael ein cenedl yn amddifad.
7:17 Dal di ati, a chei weld mawredd ei rym yn yr arteithiau a ddaw arnat ti ac ar dy ddisgynyddion.”
7:18 Ar ôl hwn daethpwyd â'r chweched ymlaen, a phan oedd ar farw meddai, “Paid â gwneud camsyniad ofer: nyni ein hunain, a'n pechodau yn erbyn ein Duw, yw achos y dioddef hwn a ddaeth arnom yn ei holl arswyd;
7:19 a phaid â meddwl y cei di fynd heb dy gosbi am dy gais i ymladd yn erbyn Duw.”
7:20 Ond tra rhyfeddol a theilwng o goffadwriaeth fendigedig oedd y fam. Er iddi weld colli ei saith mab yn ystod un diwrnod, fe ddaliodd y cwbl ag ysbryd dewr am fod ei gobaith yn yr Arglwydd.
7:21 Bu wrthi'n calonogi pob un ohonynt yn eu mamiaith, ac â phenderfyniad diysgog cwbl deilwng o'i thras, ac â'i meddwl benyw wedi ei gyffroi gan wrhydri tanbaid, dywedai wrthynt,
7:22 “Ni wn i sut y daethoch i'm croth; nid myfi a roes anadl ac einioes i chwi, ac nid myfi a osododd yn eu trefn elfennau corff neb ohonoch.
7:23 Er hynny, Creawdwr y byd, Lluniwr genedigaeth dynion a Dyfeisiwr dechrau pob peth, a rydd yn ôl i chwi yn ei drugaredd eich anadl a'ch einioes, am eich bod yn awr yn eich dibrisio'ch hunain er mwyn ei gyfreithiau ef.”
7:24 Yr oedd Antiochus yn tybio ei fod yn cael ei fychanu, ac yn amau cerydd yn ei llais. Gan fod y mab ieuengaf yn dal yn fyw, ceisiodd nid yn unig gael perswâd arno â geiriau, ond ymrwymodd â llw y gwnâi ef yn gyfoethog ac yn dda ei fyd unwaith y cefnai ar ffyrdd ei hynafiaid; fe'i gwnâi'n Gyfaill i'r brenin, ac ymddiried swyddi pwysig iddo.
7:25 Ond gan na chymerai'r dyn ifanc ddim sylw o gwbl ohono, galwodd y brenin y fam ato a'i chymell i gynghori'r llanc i achub ei fywyd.
7:26 Wedi hir gymell ganddo, cydsyniodd hi i berswadio'i mab;
7:27 pwysodd tuag ato, ac mewn dirmyg llwyr o'r teyrn creulon fe ddywedodd yn eu mamiaith, “Fy mab, tosturia wrthyf fi dy fam, a'th gariodd yn y groth am naw mis, a rhoi'r fron iti am dair blynedd, a'th fagu a'th ddwyn i'th oedran presennol, a'th gynnal.
7:28 Yr wyf yn deisyf arnat, fy mhlentyn, edrych ar y nef a'r ddaear a gwêl bopeth sydd ynddynt, ac ystyria mai o ddim y gwnaeth Duw hwy, a bod yr hil ddynol yn dod i fodolaeth yn yr un modd.
7:29 Paid ag ofni'r dienyddiwr hwn, ond bydd deilwng o'th frodyr. Derbyn dy farwolaeth, er mwyn i mi dy gael yn ôl gyda'th frodyr yn nydd trugaredd.”
7:30 Ond cyn iddi orffen siarad, meddai'r dyn ifanc, “Am beth yr ydych yn aros? Nid wyf yn ymddarostwng i orchymyn y brenin; yr wyf yn ymostwng yn hytrach i orchymyn y gyfraith a roddwyd i'n hynafiaid trwy Moses.
7:31 Ond tydi, sydd wedi dyfeisio pob math o ddrygioni yn erbyn yr Iddewon, nid oes dianc i ti o ddwylo Duw.
7:32 Oherwydd o achos ein pechodau ein hunain yr ydym ni'n dioddef.
7:33 Ac os yw ein Harglwydd, y Duw byw, wedi digio am ysbaid er mwyn ein ceryddu a'n disgyblu, fe fydd yn ymgymodi eto â'i weision ei hun.
7:34 Ond tydi, y creadur aflan a'r ffieiddiaf o fodau dynol, paid â'th ddyrchafu dy hun yn ofer â'th obeithion ansylweddol rhyfygus, wrth godi dy law yn erbyn gweision nef.
7:35 Nid wyt eto wedi dianc o gyrraedd barnedigaeth yr Hollalluog, Gwyliedydd pob peth.
7:36 Y mae ein brodyr yn awr, ar ôl dioddef ysbaid o boen er mwyn yfed o ddyfroedd y bywyd tragwyddol, wedi cwympo, dan gyfamod Duw; ond tydi, trwy farn Duw fe gei'r gosb yr wyt yn ei haeddu am dy draha.
7:37 Amdanaf fy hun, fel fy mrodyr yr wyf yn ildio fy nghorff a'm bywyd er mwyn cyfreithiau'n hynafiaid, ac yn galw ar Dduw am iddo dosturio'n fuan wrth ei genedl, ac am i ti gyfaddef dan artaith fflangellau mai ef yn unig sydd Dduw;
7:38 a bydded i lid yr Hollalluog, a ddaeth ar ein holl genedl yn unol â'i haeddiant, ddod i ben gyda mi a'm brodyr.”
7:39 Ymgynddeiriogodd y brenin, wedi ei glwyfo i'r byw gan y sen, a gwnaeth greulonach bethau iddo ef nag i'r lleill.
7:40 Ac yn ddihalog yr ymadawodd y brawd hwn hefyd â'r fuchedd hon, â'i hyder yn llwyr yn yr Arglwydd.
7:41 Yn olaf, gan ddilyn ei meibion, bu farw'r fam.
7:42 Boed hyn yn ddisgrifiad digonol o'r hyn a ddigwyddodd ynghylch bwyta'r cig aberthol, ac o enbydrwydd y trais.

Gwrthryfel Jwdas Macabeus (1 Mac. 1-26)

8:1 Dechreuodd Jwdas, a elwid hefyd Macabeus, a'i ddilynwyr lithro'n ddirgel i mewn i'r pentrefi a galw ar eu perthnasau i ymuno â hwy; a thrwy listio'r rheini oedd wedi parhau'n ffyddlon i Iddewiaeth, casglasant ynghyd tua chwe mil o wŷr.
8:2 Galwasant ar yr Arglwydd ar iddo edrych ar ei bobl yn eu gorthrwm dan draed pawb, a thosturio wrth y deml yn ei halogiad gan yr annuwiol;
8:3 ar iddo drugarhau wrth y ddinas yr oedd ei dinistr ar fedr ei lefelu i'r llawr, a gwrando ar y gwaed oedd yn galw arno'n daer;
8:4 ac ar iddo hefyd gofio'r modd y lladdwyd y plant diniwed yn groes i'r gyfraith, a'r cablu a fu ar ei enw ef ei hun, a dangos ei atgasedd o'r fath ddrygioni.
8:5 Unwaith y cafodd Macabeus fyddin o'i amgylch, ni allai'r Cenhedloedd ei wrthsefyll mwyach, am fod digofaint yr Arglwydd wedi troi'n drugaredd.
8:6 Ymosodai'n ddirybudd ar drefi a phentrefi a'u rhoi ar dân, a thrwy gymryd meddiant o'r safleoedd gorau gyrrodd laweroedd o'i elynion ar ffo.
8:7 Manteisiai'n arbennig ar gymorth oriau'r nos ar gyfer cyrchoedd o'r fath. Ac yr oedd sôn am ei wrhydri ym mhobman.

Ptolemeus yn Anfon Nicanor a Jwdas yn ei Orchfygu. (1 Mac. 3:38—4:27)

8:8 Pan sylweddolodd Philip fod y gwron yn cyrraedd ei nod fesul tipyn, a bod ei achos yn ffynnu fwyfwy oherwydd ei lwyddiannau, ysgrifennodd at Ptolemeus, llywodraethwr Celo-Syria a Phenice, gan ofyn iddo ddod i gynorthwyo achos y brenin.
8:9 Heb oedi dim dewisodd yntau Nicanor fab Patroclus, un o brif Gyfeillion y brenin, a'i anfon allan, yn ben ar fyddin o ugain mil o leiaf o ddynion o bob hil, i ddifa holl genedl yr Iddewon; a chydag ef fe benododd Gorgias, cadfridog a chanddo brofiad helaeth ar faes y gad.
8:10 A phenderfynodd Nicanor godi'r cyfan o dreth y brenin i'r Rhufeiniaid, swm o ddwy fil o dalentau, trwy werthu carcharorion Iddewig.
8:11 Anfonodd air ar ei union i drefi'r arfordir i'w gwahodd i werthiant o gaethweision Iddewig, gan addo'u trosglwyddo fesul naw deg y dalent. Ni ddisgwyliai'r gosb yr oedd yr Hollalluog am ei hanfon ar ei warthaf.
8:12 Daeth y newydd at Jwdas fod Nicanor yn dynesu, a rhoes yntau wybod i'w ddilynwyr fod byddin y gelyn gerllaw.
8:13 O ganlyniad ymwasgarodd y llyfrgwn a'r rhai heb ffydd yng nghyfiawnder Duw, a ffoi o'r fan.
8:14 Ond gwerthodd y lleill bopeth oedd ganddynt yn weddill, gan weddïo ag un llais ar yr Arglwydd ar iddo'u hachub rhag y Nicanor annuwiol hwn, a oedd wedi eu gwerthu cyn y frwydr;
8:15 ac ar iddo wneud hynny, os nad er eu mwyn hwy eu hunain, yna er mwyn y cyfamodau a wnaethai â'u hynafiaid, ac er mwyn ei enw sanctaidd a mawreddog, yr enw a roesai arnynt.
8:16 Casglodd Macabeus ei wŷr ynghyd, chwe mil ohonynt, a'u hannog i beidio â chymryd eu hysigo gan arswyd o'r gelyn, nac ofni'r llu mawr o'r Cenhedloedd oedd yn ymosod arnynt yn anghyfiawn, ond i ymladd yn deilwng o'u tras,
8:17 gan gadw o flaen eu llygaid y sarhad anghyfreithlon a ddygwyd gan y gelyn ar y deml sanctaidd, y trais gwatwarus a fu ar y ddinas, ac ar ben hynny yr ymdrechion i ddileu eu harferion traddodiadol.
8:18 “Y maent hwy,” meddai, “yn ymddiried mewn grym arfau ynghyd â gweithredoedd trahaus, a ninnau yn y Duw Hollalluog, a all fwrw i lawr ag un amnaid y rhai sy'n ymosod arnom, ac yn wir yr holl fyd.”
8:19 Aeth yn ei flaen i sôn wrthynt am y cymorth a gawsent yn amser eu hynafiaid: am hwnnw yn amser Senacherib, pan laddwyd cant a phedwar ugain a phump o filoedd;
8:20 ac am y frwydr a fu ym Mabilonia yn erbyn y Galatiaid, pryd y daeth cyfanswm o wyth mil i'r gad ynghyd â phedair mil o Facedoniaid. Fe'u cafodd y Macedoniaid eu hunain mewn anawsterau, ond fe laddodd yr wyth mil, trwy'r cymorth a ddaeth iddynt o'r nef, gant ac ugain o filoedd, ac ennill ysbail sylweddol.
8:21 Wedi iddo'u calonogi â'r geiriau hyn a'u gwneud yn barod i farw dros eu cyfreithiau a'u gwlad, rhannodd ei fyddin yn bedair adran.
8:22 Hefyd penododd ei frodyr, Simon, Joseff a Jonathan, i arwain adrannau, gyda mil a hanner o wŷr dan orchymyn pob un,
8:23 ac Eleasar hefyd. Wedi darllen y llyfr sanctaidd a rhoi'r arwyddair “Duw yw'n cymorth”, fe'i gosododd ei hun ar flaen y gatrawd gyntaf ac ymosod ar Nicanor.
8:24 A'r Hollalluog yn ymladd o'u plaid, lladdasant dros naw mil o'r gelyn a chlwyfo ac anafu'r rhan fwyaf o fyddin Nicanor, a'u gorfodi oll i ffoi.
8:25 Cymer-asant arian y bobl oedd wedi dod i'w prynu'n gaethweision; ac wedi eu hymlid gryn bellter rhoesant y gorau iddi am ei bod yn gyfyng arnynt o ran amser;
8:26 oherwydd y dydd cyn y Saboth oedd hi, ac felly nid oeddent am barhau i'w herlid.
8:27 Wedi casglu arfau'r gelyn ynghyd ac ysbeilio'u meirw, aethant ati i ddathlu'r Saboth, gan fendithio'r Arglwydd yn helaeth a diolch iddo am eu cadw hyd at y dydd hwnnw, a bennwyd ganddo yn ddechreuad ei dosturi tuag atynt.
8:28 Wedi'r Saboth, rhanasant beth o'r ysbail i'r rheini oedd wedi cael eu cam-drin, ac i'r gweddwon a'r plant amddifad, a'r gweddill iddynt hwy eu hunain a'u plant.
8:29 Ar ôl gwneud hynny, ymunodd pawb i ymbil ar yr Arglwydd trugarog, gan ofyn iddo ymgymodi'n llwyr â'i weision.

Jwdas yn Gorchfygu Timotheus a Bacchides

8:30 Yna aethant i'r afael â byddinoedd Timotheus a Bacchides. Lladdasant fwy nag ugain mil ohonynt ac ennill meddiant llwyr ar rai caerau uchel. Yr oedd yr anrhaith yn helaeth, a rhanasant ef yn gyfartal rhyngddynt hwy eu hunain, y rheini oedd wedi cael eu cam-drin, y plant amddifad a'r gweddwon, a'r hynafgwyr hefyd.
8:31 Casglasant ynghyd yn ofalus arfau'r gelyn, a'u storio oll mewn mannau cyfleus; cludasant weddill yr ysbail i Jerwsalem.
8:32 Lladdasant brif swyddog byddin Timotheus, dyn annuwiol iawn a oedd wedi peri llawer o drallod i'r Iddewon.
8:33 Wrth ddathlu'r fuddug-oliaeth yn ninas eu hynafiaid llosgasant yn fyw y dynion oedd wedi rhoi'r pyrth sanctaidd ar dân, ac yn eu plith Calisthenes, a oedd wedi ffoi am loches i ryw dŷ bychan; cafodd hwnnw'r tâl a haeddai ei annuwioldeb.
8:34 A chafodd Nicanor, a drwythwyd mewn pechod ac a ddaeth â'r mil o fasnachwyr i brynu'r Iddewon yn gaethweision,
8:35 ei ddaros-twng trwy gymorth yr Arglwydd gan y rhai oedd yn llai na neb yn ei olwg ef. Wedi tynnu ei wisg swyddogol oddi amdano fe ymlwybrodd trwy'r canolbarth allan o olwg pawb, fel caethwas ar ffo, nes cyrraedd Antiochia; ac yn hynny bu'n eithriadol o ffodus, o gofio i'w fyddin gael ei dinistrio.
8:36 Yr oedd wedi addo talu'r dreth ddyledus i'r Rhufeiniaid trwy wneud trigolion Jerwsalem yn garcharorion rhyfel, ond cyhoeddi i'r byd a wnaeth fod gan yr Iddewon noddwr i ymladd o'u plaid, a'u bod am y rheswm hwn yn anorchfygol, am eu bod yn dilyn y cyfreithiau a osododd ef arnynt.

Yr Arglwydd yn Cosbi Antiochus (1 Mac. 6:1-17; 2 Mac. 1:11-17)

9:1 Tua'r amser hwnnw digwyddai fod Antiochus wedi dychwelyd mewn anhrefn o barthau gwlad Persia.
9:2 Yr oedd wedi mynd i mewn i'r ddinas a elwir Persepolis a cheisio ysbeilio'i themlau a'i chymryd hi i'w feddiant. Parodd hyn i'r bobl ruthro i gymryd arfau i'w hamddiffyn, a'r canlyniad fu i Antiochus gael ei yrru ar ffo gan y trigolion a gorfod cilio mewn gwarth.
9:3 Pan oedd yn ardal Ecbatana daeth y newydd ato am helynt Nicanor ac am Timotheus a'i fyddin.
9:4 Yng nghynnwrf ei ddicter daeth i'w feddwl wneud i'r Iddewon dalu am y niwed a gafodd gan y rhai oedd wedi ei yrru ar ffo, a gorchmynnodd i yrrwr ei gerbyd fwrw ymlaen heb aros yn unman nes cyrraedd pen y daith. Ond yr oedd barnedigaeth y nef yn cyd-deithio ag ef oherwydd iddo ddweud yn ei draha, “Pan gyrhaeddaf yno, fe drof Jerwsalem yn gladdfa gyffredin i'r Iddewon.”
9:5 A dyma'r Arglwydd sy'n gweld popeth, Duw Israel, yn ei daro â chlefyd na ellid na'i wella na'i weld. Nid cynt y llefarodd y gair nag y cydiodd poen marwol yn ei goluddion, a chnofeydd mewnol dirdynnol,
9:6 fel y gweddai'n iawn i un oedd wedi dirdynnu coluddion pobl eraill ag arteithiau aml a dieithr.
9:7 Ond nid oedd dim pall ar ei haerllugrwydd; yn llawn traha, ac â'i ddicter yn erbyn yr Iddewon yn wenfflam, daliai ati i orchymyn brys. Ond wrth i'w gerbyd ruthro yn ei flaen, syrthiodd allan ohono. Yr oedd ei godwm mor drwm nes rhwygo'n dost bob aelod o'i gorff.
9:8 Ac felly, hwnnw a fu gynnau'n ei gyfrif ei hun gymaint yn uwch na dyn ag i fedru rhoi gorchmynion i donnau'r môr, ac yn tybio y gallai bwyso uchelderau'r mynyddoedd mewn clorian, dyma ef yn awr, wedi cael ei fwrw i lawr, yn cael ei gludo ar elor, yn amlygiad clir i bawb o allu Duw.
9:9 Yn wir, heidiodd pryfed allan o gorff y dyn annuwiol hwn, a dechreuodd ei gnawd ddadfeilio ac yntau'n dal yn fyw, gan beri poenau ingol. Llethwyd y fyddin gyfan gan ddrewdod ei gorff pydredig.
9:10 Ie, y dyn a oedd ychydig ynghynt yn tybio y gallai gyffwrdd â sêr y nefoedd, yn awr ni allai neb ei gludo o achos bwrn annioddefol y drewdod.
9:11 Y pryd hwnnw, felly, dechreuodd y brenin drylliedig roi'r gorau i'w holl draha, a dod i wir ddealltwriaeth wrth i frathiadau fflangell Duw ddwysáu o funud i funud.
9:12 Gan fethu goddef ei ddrewdod ei hun meddai, “Gweddus yw ymostwng i Dduw, a gweddus i fod meidrol yw peidio â'i gyfrif ei hun yn gydradd â Duw.”
9:13 Yna gweddïodd y dyn halogedig hwn ar yr Arglwydd, yr hwn na fyddai'n trugarhau wrtho mwyach, gan addo fel hyn:
9:14 byddai'n cyhoeddi rhyddid i'r ddinas sanctaidd, y bu'n brysio iddi i'w lefelu i'r llawr a'i throi'n gladdfa gyffredin;
9:15 byddai'n gwneud yr Iddewon yn gydradd bob un ohonynt â'r Atheniaid, er iddo benderfynu ynghynt nad oeddent yn deilwng o'u claddu, ond eu bod i'w lluchio allan, hwy a'u plant, yn fwyd i'r adar a'r bwystfilod;
9:16 byddai'n addurno â rhoddion gwych iawn y deml sanctaidd a ysbeiliwyd ganddo gynt, ac yn dychwelyd y llestri cysegredig bob un ar raddfa lawer helaethach; a byddai'n talu o'i gyllid personol y costau a gyfrifid i'r aberthau.
9:17 Ar ben hynny fe ddôi yntau'n Iddew, ac ymweld â phob rhan o'r byd cyfannedd i gyhoeddi gallu Duw.

Llythyr Antiochus at yr Iddewon

9:18 Ond ni bu dim pall ar ei boenau, oherwydd yr oedd barnedigaeth gyfiawn Duw wedi dod arno. Felly, mewn anobaith am ei gyflwr, ysgrifennodd at yr Iddewon y llythyr a welir isod. Natur ymbil sydd iddo, a dyma'i gynnwys:
9:19 “At yr Iddewon, fy ninasyddion teilwng, cyfarchion lawer ac iechyd a llwyddiant oddi wrth y brenin a'r cadfridog Antiochus.
9:20 Bydded i chwi a'ch plant ffynnu ac i'ch amgylchiadau fod wrth eich bodd.
9:21 A'm gobaith yn y nef, yr wyf yn galw i gof yn serchog eich parch a'ch ewyllys da. Pan oeddwn yn dychwelyd o barthau Persia, daeth gwaeledd beichus arnaf, a bernais mai rhaid oedd ystyried diogelwch cyffredinol pawb.
9:22 Nid wyf yn digalonni am fy nghyflwr; i'r gwrthwyneb, yr wyf yn llawn gobaith y caf ryddhad o'm gwaeledd.
9:23 Eto, yr wyf wedi ystyried y byddai fy nhad yntau, bob tro y byddai'n mynd â'i fyddin i'r taleithiau dwyreiniol, yn pennu ei olynydd,
9:24 er mwyn i drigolion y wlad, pe digwyddai rhywbeth annisgwyl neu pe cyrhaeddai rhyw adroddiad am ryw drafferth, beidio â chynhyrfu gan y byddent yn gwybod i bwy y byddai'r deyrnas wedi ei gadael.
9:25 Yr wyf hefyd wedi canfod bod rheolwyr y gwledydd cyfagos ar ffiniau fy nheyrnas yn disgwyl eu cyfle ac yn aros i weld beth a ddaw. Gan hynny, yr wyf wedi pennu fy mab Antiochus yn frenin. Yr wyf wedi ei ymddiried a'i gyflwyno fwy nag unwaith i'r rhan fwyaf ohonoch pan fyddwn yn ymweld â'r taleithiau dwyreiniol. Yr wyf yn anfon ato y llythyr a welir isod.
9:26 Gan hynny, yr wyf yn eich annog ac yn hawlio gennych ddwyn ar gof y cymwynasau a wneuthum â chwi yn gyffredinol ac yn unigol, a chadw, bob un ohonoch, yr ewyllys da sydd gennych tuag ataf fi ac at fy mab.
9:27 Oherwydd yr wyf yn argyhoeddedig y bydd ef yn dangos pob ystyriaeth i chwi, gan ddilyn fy mwriadau yn deg ac yn garedig.”
9:28 Felly y dioddefodd y llofrudd a'r cablwr hwn erchyllterau cynddrwg â'r rhai yr oedd ef wedi eu bwrw ar eraill; a daeth ei yrfa i'w therfyn mewn tranc truenus ar fynydd-dir gwlad estron.
9:29 Cludwyd ei gorff yn ôl gan Philip, ei gyfaill mynwesol; ond oherwydd fod arno ofn mab Antiochus, ciliodd hwn draw at Ptolemeus Philometor yn yr Aifft.

Puro'r Cysegr (1 Mac. 4:36-61)

10:1 Dan arweiniad yr Arglwydd adenillodd Macabeus a'i ddilynwyr y deml a'r ddinas,
10:2 a chwalasant yr allorau a godwyd ar y sgwâr gan yr estroniaid, ynghyd â'u llannau cysegredig.
10:3 Wedi puro'r cysegr codasant allor newydd, ac wedi taro gwreichion o gerrig a chymryd tân oddi wrthynt, offrymasant aberthau ar ôl bwlch o ddwy flynedd; llosgasant arogldarth, a chynnau'r lampau, a gosod allan y bara cysegredig.
10:4 Wedi gwneud hynny, aethant ar eu hyd ar lawr a gofyn gan yr Arglwydd am i'r fath ddrygau beidio â disgyn arnynt byth eto; ond am iddynt, petaent byth yn pechu, gael eu disgyblu'n gymesur ganddo ef yn hytrach na'u traddodi i ddwylo cenhedloedd cableddus ac anwar.
10:5 Purwyd y cysegr ar yr un dyddiad ag yr halogwyd ef gynt gan yr estroniaid, sef y pumed dydd ar hugain o'r un mis, mis Cislef,
10:6 ac mewn gorfoledd buont yn dathlu am wyth diwrnod yn null Gŵyl y Pebyll, gan gofio sut y buont ychydig ynghynt yn treulio cyfnod yr ŵyl honno, yn byw yn y mynyddoedd mewn ogofâu fel bwystfilod.
10:7 Felly, â gwiail wedi eu hamdorchi ag eiddew yn eu dwylo, a changhennau deiliog, ynghyd â brigau palmwydd, canent emynau i'r Un oedd wedi agor y ffordd iddynt buro'i deml ef ei hun.
10:8 Trwy ordinhad a phleidlais gyhoeddus deddfwyd bod holl genedl yr Iddewon i ddathlu'r dyddiau hyn yn flynyddol.
10:9 Ac felly y bu diwedd Antiochus, a elwid Epiffanes.

Hunanladdiad Ptolemeus Macron

10:10 Ac yn awr, trown at hanes Antiochus Ewpator, mab y dyn annuwiol hwnnw. Traethaf ef ar lun crynodeb o brif drychinebau'r rhyfeloedd.
10:11 Pan etifeddodd hwn y frenhiniaeth, fe benododd yn bennaeth ei lywodraeth ryw Lysias, llywodraethwr a phrif ynad Celo-Syria a Phenice.
10:12 Yr oedd Ptolemeus Macron, fel y gelwid ef, wedi cychwyn polisi o ddelio'n gyfiawn â'r Iddewon, ac wedi ceisio gweithredu'n heddychlon tuag atynt, o achos yr anghyfiawnder a wnaethpwyd â hwy.
10:13 Ond o ganlyniad dygwyd cyhudd-iadau yn ei erbyn at Ewpator gan Gyfeillion y Brenin, a chlywodd ei alw'n fradwr ar bob llaw am iddo gefnu ar Cyprus a chilio at Antiochus Epiffanes, er bod Philometor wedi ymddiried yr ynys i'w ofal. Am na lwyddodd i ennill y parch a berthynai i'w swydd, cymerodd wenwyn a diweddu ei fywyd.

Jwdas Macabeus yn Gorchfygu'r Idwmeaid (1 Mac. 5:1-8)

10:14 Pan ddaeth Gorgias yn llywodraethwr y rhanbarthau hynny, dechreuodd gyflogi milwyr tâl ac ymosod ar yr Iddewon bob cyfle a gâi.
10:15 Ar yr un pryd yr oedd yr Idwmeaid hefyd, o'r caerau cyfleus a oedd yn eu meddiant, yn plagio'r Iddewon; yr oeddent wedi derbyn atynt yr alltudion o Jerwsalem, a gwnaent eu gorau i barhau'r rhyfel.
10:16 Cynhaliodd Macabeus a'i wŷr wasanaeth ymbil, gan ofyn i Dduw ymladd o'u plaid; ac yna rhuthrasant ar gaerau'r Idwmeaid,
10:17 a thrwy ymosodiadau grymus eu meddiannu. Gyrasant ymaith holl amddiffynwyr y muriau, a lladd y rheini a gawsant ar eu ffordd, hyd at o leiaf ugain mil.
10:18 Dihangodd naw mil neu fwy i ddwy amddiffynfa gref iawn ag ynddynt bopeth ar gyfer gwrthsefyll gwarchae.
10:19 Aeth Macabeus ymaith i fannau lle'r oedd ei angen fwyaf, gan adael ar ei ôl Simon a Joseff, ynghyd â Sacheus a'i wŷr, a oedd yn ddigon niferus i warchae ar yr amddiffynfeydd.
10:20 Ond aeth gwŷr Simon yn ariangar, ac ildio i berswâd arian rhai o'r bobl yn yr amddiffynfeydd; am saith deng mil o ddrachmâu fe adawsant i rai ddianc.
10:21 Pan ddaeth adroddiad am y digwyddiad at Macabeus, fe gasglodd swyddogion y fyddin ynghyd, a chyhuddo'r dynion hyn o werthu eu brodyr am arian trwy ollwng eu gelynion yn rhydd i ymladd yn eu herbyn.
10:22 Ac felly dienyddiodd hwy am eu brad, ac yna goresgyn ar ei union y ddwy amddiffynfa.
10:23 Yn y frwydr bu llwyddiant ar bopeth oedd dan ei reolaeth, ac fe laddodd yn y ddwy amddiffynfa dros ugain mil o ddynion.

Jwdas yn Gorchfygu Timotheus

10:24 Er i Timotheus gael ei drechu o'r blaen gan yr Iddewon, fe gasglodd ynghyd lu enfawr o filwyr o wledydd estron, a nifer mawr o feirch o Asia. Ymosododd gyda'r bwriad o feddiannu Jwdea trwy rym arfau.
10:25 Wrth iddo nesáu, taenellodd Macabeus a'i wŷr bridd ar eu pennau a chlymu sachlieiniau am eu llwynau i ymbil ar Dduw.
10:26 Fe'u taflasant eu hunain ar eu hyd ar y llwyfan gerbron yr allor, a gofyn i Dduw o'i drugaredd tuag atynt “fod yn elyn i'w gelynion ac yn wrthwynebwr i'w gwrthwynebwyr”, fel y traethir yn y gyfraith.
10:27 Wedi gorffen eu gweddi, codasant eu harfau a mynd gryn bellter allan o'r ddinas nes dod gyferbyn â'r gelyn, ac ymsefydlu yno.
10:28 Cyn gynted ag y lledodd haul y bore ei oleuni, aeth y ddwy fyddin i'r afael â'i gilydd. Yr oedd gan yr Iddewon nid yn unig eu dewrder ond nodded yr Arglwydd yn warant o'u llwyddiant a'u buddugoliaeth; ond am y lleill, eu cynddaredd oedd ganddynt hwy i'w harwain yn y drin.
10:29 Yn anterth y frwydr ymddangosodd i'r gelyn bum dyn ysblennydd yn disgyn o'r nef ar gefn meirch a chanddynt ffrwynau aur. Fe'u gosodasant eu hunain ar flaen yr Iddewon,
10:30 gan amgylchynu Macabeus a'i gadw'n ddianaf dan gysgod eu harfwisgoedd. Aethant ati i anelu saethau a mellt at y gelyn nes iddynt, o'u drysu a'u dallu, dorri eu rhengoedd mewn anhrefn llwyr.
10:31 Lladdwyd ugain mil a phum cant, a chwe chant o wŷr meirch.
10:32 Ffodd Timotheus ei hun i gaer a elwid Gasara, amddiffynfa gref iawn lle'r oedd Chaireas yn ben.
10:33 Yn llawen am hyn, gwarchaeodd Macabeus a'i wŷr ar yr amddiffynfa am bedwar diwrnod.
10:34 Yn eu hyder yng nghadernid eu safle, dechreuodd y garsiwn gablu'n eithafol a gweiddi ymadroddion ffiaidd.
10:35 Ar doriad gwawr y pumed dydd, a'u dicter yn wenfflam o achos y cablu, ymosododd ugain dyn ifanc o fyddin Macabeus yn wrol ar y mur; mewn dicter cynddeiriog torasant i lawr bwy bynnag a gawsant ar eu ffordd.
10:36 Yn yr un modd dringodd eraill i fyny ac ymosod ar y garsiwn tra oedd sylw'r rheini ar y lleill. Rhoesant y tyrau ar dân a chynnau coelcerthi i losgi'r cablwyr yn fyw. Torrodd eraill y pyrth i lawr, a gollwng gweddill y fyddin i mewn; ac felly fe feddiannwyd y dref.
10:37 Yr oedd Timotheus wedi ymguddio mewn cronfa ddŵr danddaearol, ac fe'i lladdwyd ef ynghyd â'i frawd Chaireas ac Apoloffanes.
10:38 Wedi'r gorchestion hyn, bendithiasant ag emynau a gweddïau o ddiolchgarwch yr Arglwydd sy'n gwneud cymwynasau mor fawr ag Israel ac yn rhoi'r fuddugoliaeth iddynt.

Jwdas Macabeus yn Gorchfygu Lysias (1 Mac. 26-35)

11:1 Yr oedd Lysias, dirprwy a châr y brenin a phrif weinidog y llywodraeth, yn ddig iawn o achos y digwyddiadau hyn, ac yn fuan iawn wedyn
11:2 fe gasglodd ynghyd tua phedwar ugain mil o wŷr, a'r holl wŷr meirch, a chychwyn yn erbyn yr Iddewon. Ei fwriad oedd troi'r ddinas yn drigfan i Roegiaid,
11:3 trethu'r deml yn yr un modd â holl gysegrleoedd eraill y Cenhedloedd, a gwneud yr archoff-eiriadaeth yn swydd i'w gwerthu'n flynyddol.
11:4 Ni wnaeth unrhyw gyfrif o nerth Duw, gan gymaint ei falchder yn ei ddegau o filoedd o wŷr traed, ei filoedd o wŷr meirch, a'i bedwar ugain eliffant.
11:5 Daeth i mewn i Jwdea ac i gyffiniau Bethswra, lle caerog tua deg cilomedr ar hugain o Jerwsalem, a'i osod dan warchae cyfyng.
11:6 Pan glywodd Macabeus a'i wŷr fod Lysias yn gwarchae ar y caerau, dechreusant hwy a'r holl bobl alarnadu ac wylofain ac ymbil ar yr Arglwydd iddo anfon angel da i achub Israel.
11:7 Ond Macabeus ei hun a gododd ei arfau gyntaf, a chymell y lleill i fynd gydag ef i gynorthwyo'u brodyr, er gwaethaf y peryglon ofnadwy; ac fel un gŵr rhuthrasant allan yn frwd.
11:8 A hwythau'n dal yno, yng nghyffiniau Jerwsalem, fe welwyd marchog mewn gwisg wen yn eu harwain ac yn chwifio arfau aur.
11:9 Ag un llais bendithiodd pawb y Duw trugarog, ac ymwroli nes eu bod yn barod i ymosod, nid ar ddynion yn unig ond ar y bwystfilod ffyrnicaf ac ar furiau haearn.
11:10 Aethant yn eu blaenau yn arfog, gyda'r marchog nefol yr oedd yr Arglwydd o'i drugaredd wedi ei anfon i ymladd o'u plaid.
11:11 Fel llewod, llamasant ar y gelyn a gadael un fil ar ddeg ohonynt yn gelain, ynghyd â mil a chwe chant o'r gwŷr meirch. Gyrasant y lleill i gyd ar ffo,
11:12 y mwyafrif ohonynt wedi eu clwyfo ac yn dianc am eu bywydau heb eu harfau; a thrwy ffoi fel llwfrgi yr achubodd Lysias yntau ei groen.

Lysias yn Gwneud Cytundeb â'r Iddewon (1 Mac. 6:55-61)

11:13 Ond nid oedd yn ddyn ynfyd. Wedi pwyso a mesur wrtho'i hun y darostyngiad a gawsai, a dod i'r casgliad fod yr Hebreaid yn anorchfygol am fod y Duw nerthol yn ymladd o'u plaid,
11:14 anfonodd atynt a'u perswadio i wneud cytundeb ar delerau hollol gyfiawn; a dywedodd y byddai trwy ei berswâd yn gorfodi'r brenin i fod yn gyfaill iddynt.
11:15 Yn ei ofal am les y bobl, derbyniodd Macabeus bob un o argymhellion Lysias; oherwydd yr oedd y brenin wedi cydsynio â phopeth a fynnodd Macabeus ar ran yr Iddewon yn ei lythyrau at Lysias.

Llythyr Lysias at yr Iddewon

11:16 Yr oedd cynnwys y llythyrau a ysgrifennwyd gan Lysias at yr Iddewon fel a ganlyn: “Lysias at bobl yr Iddewon, cyfarchion.
11:17 Y mae eich cynrychiolwyr Ioan ac Absalom wedi cyflwyno imi y ddogfen a welwch isod ac wedi ceisio gennyf gymeradwyo'r hyn a fynegwyd ynddi.
11:18 Yr wyf wedi esbonio i'r brenin bopeth yr oedd yn rhaid ei gyfeirio ato ef; ac y mae ef wedi cydsynio â phopeth hyd y gallai.
11:19 Gan hynny, os pery eich ewyllys da tuag at y llywodraeth, fe geisiaf finnau hyrwyddo eich buddiannau yn y dyfodol hefyd.
11:20 Ynglŷn â'r materion hyn a'r manylion pellach: yr wyf wedi gorchymyn i'r dynion hyn a'm cynrych-iolwyr innau eu trafod gyda chwi.
11:21 Ffarwel. Y pedwerydd ar hugain o fis Dioscorus yn y flwyddyn 148.”

Llythyr y Brenin at Lysias

11:22 Dyma gynnwys llythyr y brenin: “Y Brenin Antiochus at Lysias ei frawd, cyfarchion.
11:23 Gan fod ein tad wedi mynd i blith y duwiau, ein dymuniad yw i ddeiliaid ein teyrnas gael dilyn eu dibenion eu hunain heb unrhyw darfu arnynt.
11:24 Yr ydym wedi clywed nad yw'r Iddewon yn dymuno newid i'r ffyrdd Helenistaidd o fyw fel y mynnai fy nhad, ond ei bod yn well ganddynt eu ffyrdd eu hunain, a'u bod yn gofyn caniatâd i ddilyn eu cyfreithiau eu hunain.
11:25 Gan hynny, yn unol â'n dewis nad oes tarfu i fod ar y genedl hon mwy na'r un arall, ein dyfarniad yw bod eu teml i gael ei hadfer iddynt a'u bod i fyw yn ôl arferion eu hynafiaid.
11:26 Bydd gystal, felly, ag anfon fy nyfarniad atynt a rhoi dy law dde iddynt, fel o wybod beth yw fy mwriad y gallant godi eu calonnau a byw'n ddedwydd yn eu gofal am eu dibenion eu hunain.”

Llythyr y Brenin at y Genedl

11:27 Yr oedd llythyr y brenin at y genedl fel a ganlyn: “Y Brenin Antiochus at senedd yr Iddewon ac at weddill yr Iddewon, cyfarchion.
11:28 Dymunwn ffyniant i chwi. Yr ydym ninnau'n iach.
11:29 Y mae Menelaus wedi ein hysbysu am eich dymuniad i ddychwelyd i'ch cartrefi eich hunain.
11:30 Gan hynny, bydd amnest i unrhyw un fydd wedi dychwelyd erbyn y degfed ar hugain o fis Xanthicus.
11:31 Y mae caniatâd i'r Iddewon arfer eu bwydydd a'u cyfreithiau eu hunain megis cynt, ac nid aflonyddir ar neb ohonynt mewn unrhyw fodd o achos dim a wnaethpwyd mewn anwybodaeth.
11:32 Yr wyf hefyd yn anfon Menelaus i'ch calonogi.
11:33 Ffarwel. Y pymthegfed o fis Xanthicus, yn y flwyddyn 148.”

Llythyr y Rhufeiniaid at yr Iddewon

11:34 Anfonodd y Rhufeiniaid hefyd y llythyr canlynol atynt: “Cwintus Memius a Titus Manius, llysgenhadon y Rhufeiniaid, at bobl yr Iddewon, cyfarchion.
11:35 Ynglŷn â'r cytundebau â chwi a wnaethpwyd gan Lysias, câr y brenin, yr ydym ninnau hefyd yn eu cymeradwyo.
11:36 Ond am y materion y barnodd ef fod yn rhaid eu cyfeirio at y brenin, ystyriwch hwy'n ofalus ac yna anfonwch rywun atom yn ddi-oed, fel y gallwn eu cyflwyno mewn modd a fydd yn fuddiol i chwi; oherwydd yr ydym yn cychwyn am Antiochia.
11:37 Brysiwch, gan hynny, i anfon rhywrai atom, i ninnau gael gwybod beth yw eich barn.
11:38 Ffarwel. Y pymthegfed o fis Xanthicus yn y flwyddyn 148.”

Llofruddio Iddewon Jopa

12:1 Wedi gwneud y cytundeb hwn, aeth Lysias ymaith at y brenin, ac aeth yr Iddewon ati i drin y tir.
12:2 Ond yr oedd rhai o'r llywodraethwyr yn y gwahanol ranbarthau, Timotheus ac Apolonius fab Geneus, a hefyd Hieronymus a Demoffon, yn ogystal â Nicanor, capten y Cypriaid, yn gwrthod gadael iddynt fyw'n dawel a dilyn eu gorchwylion yn heddychlon.
12:3 A dyma'r anfadwaith annuwiol a gyflawnodd trigolion Jopa: heb unrhyw arwydd o elyniaeth tuag atynt, gwahoddasant yr Iddewon oedd yn byw yn eu plith i fynd, ynghyd â'u gwragedd a'u plant, i mewn i gychod oedd yn barod ganddynt,
12:4 yn unol â phleidlais y dref i gyd; a chan eu bod yn awyddus i fyw mewn heddwch fe gydsyniodd yr Iddewon, heb ddrwgdybio dim. Pan oeddent allan ar y môr, fe'u bwriwyd i'r dyfnder, ddau gant neu fwy ohonynt.
12:5 Pan glywodd Jwdas am y weithred greulon a wnaethpwyd ar ei gyd-Iddewon, rhoddodd ei orchmynion i'w wŷr,
12:6 ac wedi galw ar Dduw, y Barnwr cyfiawn, fe ymosododd ar lofruddion ei frodyr. Gosododd eu porthladd ar dân yn ystod y nos a llosgi eu cychod yn ulw, a thrywanu'r rheini oedd wedi ffoi yno am loches.
12:7 Ond o gael pyrth y dref wedi eu cloi, aeth oddi yno, gan fwriadu dychwelyd a thynnu o'r gwraidd holl gymuned ddinesig Jopa.
12:8 A phan glywodd fod pobl Jamnia yn dymuno gwneud yr un peth i'r Iddewon oedd yn byw yn eu plith,
12:9 fe ymosododd arnynt hwythau liw nos a gosod eu porthladd a'u llongau ar dân, fel y gwelwyd llewyrch y fflamau o Jerwsalem, pellter o bedwar cilomedr a deugain.

Buddugoliaethau Jwdas yn Gilead (1 Mac. 5:9-54)

12:10 Wedi iddynt gilio tuag un cilomedr a hanner oddi yno yn eu cyrch yn erbyn Timotheus, ymosododd pum mil neu fwy o Arabiaid arno, ynghyd â phum cant o wŷr meirch.
12:11 Bu brwydr galed, ond trwy gymorth Duw, Jwdas a'i wŷr a orfu. Erfyniodd y nomadiaid gorchfyg-edig ar Jwdas iddo gynnig ei law iddynt mewn heddwch, gan addo rhoi da byw i'w bobl ef, a'u helpu mewn ffyrdd eraill.
12:12 Yr oedd Jwdas o'r farn y byddent yn wirioneddol ddefnyddiol mewn llawer ffordd, a chydsyniodd i fyw mewn heddwch â hwy; ac wedi cael cynghrair aethant ymaith i'w pebyll.
12:13 Ymosododd hefyd ar dref oedd wedi ei chryfhau â phontydd a'i hamddiffyn o boptu â muriau. Yr oedd ei thrigolion yn gymysgedd o bob cenedl, a'i henw oedd Caspin.
12:14 Yr oedd nerth y muriau a'r stôr o fwydydd oedd ganddynt wedi llenwi'r amddiffynwyr â hyder, a dechreusant ddifrïo a sarhau Jwdas a'i wŷr i'r eithaf; ond yn waeth na hynny, dechreusant gablu ac yngan pethau ffiaidd.
12:15 Ond galwodd Jwdas a'i wŷr ar Benarglwydd mawr y byd, yr Un yn amser Josua a chwalodd i'r llawr furiau Jericho heb na thrawst taro na pheiriant rhyfel, ac yna ymosodasant yn ffyrnig ar y mur.
12:16 Ac wedi iddynt, trwy ewyllys Duw, oresgyn y dref, gwnaethant gyflafan y tu hwnt i bob disgrifiad, nes bod y llyn gerllaw, a oedd yn bedwar can medr o led, i'w weld fel petai'n gorlifo â gwaed.

Jwdas yn Gorchfygu Byddin Timotheus (1 Mac. 5:37-44)

12:17 Wedi cilio tua chan cilomedr a hanner oddi yno, daethant i ben eu taith yn Charax, cartref yr Iddewon a elwir y Twbiaid.
12:18 Ond ni chawsant afael ar Timotheus yn yr ardal honno; yr oedd erbyn hynny wedi mynd oddi yno heb gyflawni dim, ond nid cyn gadael garsiwn mewn un man, a hwnnw'n un cryf iawn.
12:19 Ac aeth Dositheus a Sosipater, dau o gadfridogion Macabeus, ar gyrch a difa'r gwŷr a adawyd ar ôl yn y gaer gan Timotheus, dros ddeng mil ohonynt.
12:20 Trefnodd Macabeus y fyddin oedd gydag ef yn gatrodau, a phenodi capteiniaid arnynt. Yna cychwynnodd ar frys yn erbyn Timotheus, a oedd yn arwain byddin o gant ac ugain o filoedd o wŷr traed, a dwy fil a hanner o wŷr meirch.
12:21 Pan hysbyswyd iddo fod Jwdas yn ymosod, anfonodd Timotheus y gwragedd a'r plant, ynghyd â holl gyfreidiau'r fyddin, ymaith o'i flaen i le a elwir Carnaim, man anodd gwarchae arno ac anodd ei gyrraedd o achos culni'r holl fynedfeydd.
12:22 Ond pan ddaeth catrawd gyntaf Jwdas i'r golwg, daliwyd y gelyn gan fraw ac arswyd o achos ymddangosiad yr Un sy'n gweld popeth, a rhuthrasant ar ffo, pob un yn rhedeg i gyfeiriad gwahanol, nes clwyfo llawer ohonynt gan eu gwŷr eu hunain, a'u trywanu gan flaenau eu cleddyfau.
12:23 Aeth Jwdas ati i erlid y drwg-weithredwyr hynny'n galetach nag erioed, a'u gwanu'n ddi-ball, nes lladd hyd at ddeng mil ar hugain ohonynt.
12:24 Cwympodd Timotheus ei hun i afael gwŷr Dositheus a Sosipater, ond ymbiliodd yn ystrywgar iawn am gael ei arbed a'i ollwng yn rhydd am y rheswm ei fod yn dal rhieni llawer ohonynt, a brodyr rhai, ac na fyddai cyfrif amdanynt.
12:25 Gan iddo ymrwymo'n ddifrifol drosodd a thro yr anfonai hwy'n ôl yn ddianaf, fe'u gollyngasant yn rhydd er mwyn achub eu brodyr.

Buddugoliaethau Pellach Jwdas (1 Mac. 5:45-54)

12:26 Aeth Jwdas yn ei flaen i ymosod ar Carnaim a theml Atargatis, a gwnaeth laddfa ar bum mil ar hugain o bobl.
12:27 Wedi troi'r rhain yn eu hôl a'u difa, arweiniodd ei fyddin yn erbyn Effron, tref gaerog lle trigai Lysias ynghyd â lluoedd o bobl o bob hil. Ond o flaen y muriau yr oedd amddiffynwyr glew, dynion ifainc cryfion, a thu mewn yr oedd cyflenwad da o beiriannau rhyfel a thaflegrau.
12:28 Wedi galw ar y Penarglwydd sy'n chwilfriwio â'i rym holl nerth y gelyn, cawsant y trechaf ar y dref, a gadael yn gelanedd hyd at bum mil ar hugain o'r amddiffynwyr.
12:29 Oddi yno aethant i ymosod ar Scythopolis, tref sy'n gan cilomedr ac un ar ddeg o Jerwsalem.
12:30 Ond tystiodd yr Iddewon oedd wedi ymsefydlu yno fod pobl Scythopolis yn llawn ewyllys da tuag atynt, a'u bod yn eu trin yn garedig yn nyddiau adfyd.
12:31 Wedi diolch iddynt a'u hannog yn ogystal i fod yn gyfeillgar tuag at y genedl yn y dyfodol hefyd, dychwelsant i Jerwsalem ychydig cyn Gŵyl yr Wythnosau.

Jwdas yn Gorchfygu Gorgias

12:32 Wedi Gŵyl y Pentecost, fel y gelwir hi, gwnaethant gyrch ar Gorgias, llywod-raethwr Idwmea.
12:33 Daeth ef i'w cyfarfod gyda thair mil o wŷr traed a phedwar cant o wŷr meirch.
12:34 Cwympodd nifer bychan o'r Iddewon yn rhengoedd y frwydr.
12:35 Ond yr oedd dyn o'r enw Dositheus, un o wŷr Bacenor, march-filwr cryf, wedi cael gafael yn Gorgias; yr oedd yn ei ddal gerfydd ei fantell ac yn ei lusgo trwy nerth braich yn y bwriad o gymryd y dyn melltigedig hwnnw'n garcharor. Ond rhuthrodd un o'r gwŷr meirch o Thracia arno a thorri ei fraich gyfan i ffwrdd, a dihangodd Gorgias i Marisa.
12:36 Gan fod Esdris a'i wŷr wedi bod yn ymladd ers amser maith yn diffygio, galwodd Jwdas ar yr Arglwydd i ddangos yn amlwg ei fod yn ymladd gyda hwy ac yn eu tywys yn y rhyfel.
12:37 A chan dorri allan i floeddio emynau yn ei famiaith, ymosododd yn annisgwyl ar Gorgias a'i wŷr, a'u gyrru ar ffo.

Gweddïo dros y Gwŷr a Laddwyd yn y Frwydr

12:38 Wedi cael trefn ar ei fyddin unwaith eto, aeth Jwdas yn ei flaen nes cyrraedd tref Adulam; a chan fod y seithfed dydd ar eu gwarthaf, fe'u purasant eu hunain yn ôl eu harferiad a chadw'r Saboth yno.
12:39 Trannoeth, gan ei bod yn hen bryd gwneud hynny, aeth Jwdas a'i wŷr i ddwyn yn ôl gyrff y rhai oedd wedi cwympo, er mwyn eu claddu gyda'u perthnasau ym meddrodau eu hynafiaid.
12:40 A chawsant fod gan bob un o'r meirw dan ei grys amwletau cysegredig o'r delwau yn Jamnia, pethau y mae'r gyfraith yn eu gwahardd i Iddewon; a daeth yn amlwg i bawb mai dyna pam y cwympodd y dynion hyn.
12:41 Gan hynny, moliannodd pawb weithredoedd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, sy'n dod â phethau cudd i'r amlwg,
12:42 ac aethant i weddi, gan erfyn am olchi ymaith yn llwyr y pechod a gyflawnwyd. A chymhellodd Jwdas, y dyn anrhydeddus hwnnw, y llu i'w cadw eu hunain yn ddibechod, a hwythau wedi gweld â'u llygaid eu hunain ganlyniad pechod y rhai a gwympodd.
12:43 Wedi gwneud casgliad o ryw ddwy fil o ddrachmâu o arian trwy gyfraniad gan bob un o'i wŷr, anfonodd y cwbl i Jerwsalem er mwyn offrymu aberth dros bechod—gweithred hardd ac anrhydeddus gan un a wnâi gyfrif o'r atgyfodiad;
12:44 oherwydd os nad oedd yn disgwyl atgyfodiad y rhai a gwympodd, peth afraid a diystyr fyddai gweddïo dros gyrff meirw;
12:45 ond os oedd â'i olwg ar y wobr ddigymar a gedwir ar gyfer y rhai sy'n huno mewn duwioldeb, yr oedd ei fwriad yn sanctaidd a duwiol; a dyna pam yr offrymodd aberth puredigaeth dros y meirw fel y caent eu rhyddhau o'u pechod.

Dienyddio Menelaus

13:1 Yn y flwyddyn 149 daeth yn hysbys i Jwdas a'i wŷr fod Antiochus Ewpator yn dod gyda'i luoedd i ymosod ar Jwdea,
13:2 a bod Lysias, ei ddirprwy a phrif weinidog ei lywodraeth, gydag ef; yr oedd gan hwn yn ychwaneg fyddin Roegaidd yn cynnwys un cant ar ddeg o filoedd o wŷr traed, pum mil a thri chant o wŷr meirch, dau eliffant ar hugain a thri chant o gerbydau wedi eu harfogi â phladuriau.
13:3 Ymunodd Menelaus hefyd â hwy, ac aeth ati yn dra ffuantus i gymell Antiochus i fynd yn ei flaen; ond yr oedd ei fryd nid ar achub ei wlad ond ar gael ei gynnal yn ei swydd.
13:4 Ond cyffrôdd Brenin y brenhinoedd ddicter Antiochus yn erbyn y gŵr pechadurus hwnnw, ac wedi i Lysias ddod â thystiolaeth i ddangos mai ef oedd achos yr holl drafferthion, gorchmyn-nodd y brenin ei gymryd i Berea a'i ddienyddio yn null arferol y dref honno.
13:5 Y mae yno dŵr tua thri medr ar hugain o uchder, yn llawn lludw; ar y tŵr hwn yr oedd dyfais ar lun cylch yn disgyn ar ei ben o bob tu i mewn i'r lludw.
13:6 Yno y maent yn codi ac yn gwthio i ddinistr unrhyw un a gafwyd yn euog o ysbeilio temlau neu o ryw ddrwgweithred ysgeler arall.
13:7 Dyna'r dynged a oddiweddodd Menelaus, torrwr y gyfraith; bu farw ond ni chafodd fedd,
13:8 a hynny'n hollol gyfiawn; oherwydd am iddo bechu llawer ynghylch yr allor y mae ei thân a hyd yn oed ei lludw yn ddihalog, mewn lludw y daeth i'w dranc ei hun.

Brwydr ger Dinas Modin

13:9 Aeth y brenin yn ei flaen yn llawn traha barbaraidd, gan fwriadu dangos i'r Iddewon bethau gwaeth na dim a ddigwyddodd yn amser ei dad.
13:10 Pan hysbyswyd Jwdas o hyn, gorchmyn-nodd i'r bobl alw ar yr Arglwydd ddydd a nos ar iddo estyn ei gymorth, yn awr yn anad untro arall, i rai oedd ar gael eu hamddifadu o'u cyfraith, o'u gwlad ac o'u teml sanctaidd;
13:11 ac ar iddo beidio â gadael i'w bobl, ar ôl yr ysbaid a gawsai yn ddiweddar i gael ei hanadl ati, syrthio dan fawd y Cenhedloedd cableddus.
13:12 Yn unfryd ac ynghyd aethant ati i ymbil ar yr Arglwydd trugarog, gan wylofain ac ymprydio a gorwedd ar eu hyd am dridiau'n ddi-ball; ac yna calonogodd Jwdas hwy a'u cymell i sefyll gydag ef.
13:13 Ar ôl cydymgynghori ar ei ben ei hun â'r henuriaid, penderfynodd beidio ag aros nes i fyddin y brenin ddod i mewn i Jwdea a meddiannu'r ddinas, ond mynd allan yn hytrach a dwyn yr ymrafael i ben trwy gymorth Duw.
13:14 A chan ymddiried y dyfarniad i Greawdwr y bydysawd, anogodd ei wŷr i ymdrechu'n wrol hyd angau dros y cyfreithiau, y deml, y ddinas, eu gwlad a'u ffordd o fyw. Gwersyllodd yn ardal Modin.
13:15 Rhoddodd yr arwyddair “Duw biau'r fuddugoliaeth” i'w wŷr, ac wedi dethol y dynion ifainc dewraf, ymosododd liw nos ar bencadlys y brenin a lladd hyd at ddwy fil o'r milwyr yn y gwersyll. Yn ogystal, trywanodd i farwolaeth yr eliffant blaenaf, ynghyd â'i ofalwr.
13:16 Erbyn y diwedd yr oeddent wedi llenwi'r gwersyll â braw a chynnwrf, ac aethant oddi yno yn fuddugoliaethus.
13:17 Ar doriad dydd yr oedd y gwaith wedi ei gwblhau, trwy gymorth ac amddiffyniad yr Arglwydd.

Y Brenin yn Gwneud Cytundeb â'r Iddewon (1 Mac. 6:48-63)

13:18 Wedi'r profiad hwn o feiddgarwch yr Iddewon, rhoes y brenin gynnig ar gymryd eu hamddiffynfeydd trwy ystrywiau.
13:19 Aeth allan yn erbyn Bethswra, un o gaerau cryfaf yr Iddewon, ac fe'i bwriwyd yn ôl; ymosododd, ac fe'i trechwyd;
13:20 derbyniodd y garsiwn eu holl anghenion gan Jwdas.
13:21 Ond bradychodd Rhodocus, un o filwyr yr Iddewon, eu cyfrinachau i'r gelyn; chwiliwyd amdano, ei ddal a'i roi o'r neilltu.
13:22 Am yr ail waith bu trafod rhwng y brenin ac amddiffynwyr Bethswra; rhoddodd a derbyniodd ddeheulaw, ac aeth ymaith.
13:23 Ymosododd ar Jwdas a'i wŷr, a chael ei drechu. Daeth y newydd ato fod Philip, y dyn a adawsai yn Antiochia yn brif weinidog y llywodraeth, wedi gwrthryfela. Mewn dryswch llwyr galwodd yr Iddewon ato, ildiodd i'w gofynion, a mynd ar ei lw i barchu pob hawl gyfiawn; gwnaeth gytundeb â hwy ac offrymu aberth; anrhydeddodd y deml a chyflwyno rhoddion hael i'r fangre.
13:24 Derbyniodd Macabeus i'w bresenoldeb a gadael Hegemonides yn llywodraethwr o Ptolemais hyd at Gerra.
13:25 Yna daeth i Ptolemais. Yr oedd y cyfamod wedi digio trigolion y dref honno, ac yn eu cynnwrf yr oeddent o blaid dirymu'r amodau.
13:26 Dringodd Lysias i'r areithfa, amddiffynnodd y weithred gystal ag y medrai, darbwyllodd, lliniarodd, enillodd y bobl o'i blaid, ac aeth ymaith i Antiochia. Fel hyn y bu cwrs ymgyrch ac ymgiliad y brenin.

Alcimus yn Siarad yn erbyn Jwdas (1 Mac. 7:1-25)

14:1 Ymhen ysbaid o dair blynedd, daeth yn hysbys i Jwdas a'i wŷr fod Demetrius fab Selewcus wedi hwylio i mewn i borthladd Tripolis gyda byddin gref a llynges,
14:2 a'i fod wedi meddiannu'r wlad ar ôl lladd Antiochus a'i ddirprwy Lysias.
14:3 Yn awr yr oedd dyn o'r enw Alcimus, a fu gynt yn archoffeiriad ond a'i halogodd ei hun o'i wirfodd yn amser y gwrthryfel. Sylweddolodd hwn nad oedd ffordd yn y byd iddo'i achub ei hun na chyrchu'r allor sanctaidd bellach,
14:4 a thua'r flwyddyn 151 aeth at y Brenin Demetrius, gan ddwyn iddo goron aur a changen palmwydden, yn ogystal â rhai o'r canghennau olewydd arferol o'r deml. Bu'n ddistaw y dydd hwnnw,
14:5 ond cafodd gyfle i hybu ei amcan ynfyd ei hun pan alwyd ef gerbron ei gyngor gan Demetrius a'i holi am agwedd a bwriad yr Iddewon. Ei ateb oedd:
14:6 “Y mae'r Iddewon hynny a elwir yn Hasideaid, sydd dan arweiniad Jwdas Macabeus, yn porthi ysbryd rhyfel a therfysg ac yn gwrthod gadael i'r deyrnas gael llonyddwch.
14:7 O ganlyniad, a minnau wedi f'amddifadu o fraint fy nhras (yr wyf yn cyfeirio, wrth gwrs, at yr archoffeiriadaeth), yr wyf wedi dod yma'n awr,
14:8 yn gyntaf, fel un sy'n wir awyddus i amddiffyn hawliau'r brenin, ac yn ail, fel un sy'n amcanu at les ei gyd-ddinasyddion; oherwydd o ganlyniad i fyrbwylltra'r rheini y cyfeiriais atynt y mae ein hil gyfan yn dioddef yn enbyd.
14:9 Ystyria dithau, O frenin, bob un o'r pethau hyn yn fanwl, a gwna ddarpariaeth ar gyfer ein gwlad a'n hil warchaeëdig, yn unol â'r caredigrwydd a'r hynawsedd sydd ynot tuag at bawb;
14:10 oherwydd tra bydd Jwdas ar dir y byw, ni all fod heddwch yn y deyrnas.”
14:11 Wedi hyn o araith gan y dyn hwnnw, buan iawn y llwyddodd y Cyfeillion eraill, a oedd yn elynion i achos Jwdas, i chwythu dicter Demetrius yn wenfflam.
14:12 Ar ei union dewisodd Nicanor, cyn-gapten catrawd yr eliffantod, a'i benodi'n llywodraethwr Jwdea; anfonodd ef ymaith
14:13 dan orchymyn i ladd Jwdas ei hun, i wasgaru ei ddilynwyr ac i sefydlu Alcimus yn archoffeiriad yn y deml fawr.
14:14 Chwyddwyd byddin Nicanor gan heidiau o ffoaduriaid cenhedlig o Jwdea a oedd wedi dianc rhag Jwdas; tybient mai elw iddynt hwy fyddai trychinebau a thrallodion yr Iddewon.

Cytundeb rhwng Nicanor a Jwdas

14:15 Pan glywodd yr Iddewon am ymgyrch Nicanor ac ymosodiad y Cenhedloedd, aethant ati i daenellu pridd ar eu pennau eu hunain ac i ymbil ar yr Un a sefydlodd ei bobl am byth a sydd bob amser yn barod i'w amlygu ei hun er cymorth i'w genedl etholedig.
14:16 Ar orchymyn eu harweinydd cychwynasant oddi yno ar eu hunion a tharo ar y gelyn ger pentref Adasa.
14:17 Simon, brawd Jwdas, oedd yr un a aeth i'r afael â Nicanor, ond o achos dyfodiad disym-wth y gelyn fe gollodd dir o ryw gymaint;
14:18 er hynny, pan glywodd Nicanor am wrhydri Jwdas a'i wŷr, ac am eu dewrder wrth frwydro dros eu gwlad, dechreuodd ofni nad tywallt gwaed oedd y ffordd i ddwyn yr ymrafael i ben.
14:19 Gan hynny, anfonodd Posidonius, Theodotus a Matathias i roi a derbyn deheulaw mewn heddwch.
14:20 Fe astudiwyd eu cynigion yn fanwl, ac o'u hysbysu i'r bobl gan eu harweinydd a chael pleidlais unfrydol, derbyniwyd y cytundeb.
14:21 Yna pennwyd dydd i'r arweinwyr gyfarfod ar wahân; daeth cerbyd yn ei flaen o'r naill ochr ac o'r llall, a gosodwyd seddau.
14:22 Yr oedd Jwdas wedi gosod gwŷr arfog yn barod yn y mannau manteisiol, rhag ofn rhyw ddichell sydyn gan y gelyn; ond cawsant drafodaeth bwrpasol.
14:23 Bu Nicanor yn aros yn Jerwsalem, ac ni wnaeth ddim o'i le; yn wir, fe ollyngodd ymaith yr heidiau o bobl oedd wedi ymgynnull ato.
14:24 Cadwodd Jwdas wrth ei ochr yr holl amser; yr oedd wedi cymryd at y dyn.
14:25 Anogodd ef i briodi ac i fagu plant; priododd yntau, cafodd lonyddwch a phrofi bywyd cyffredin.

Nicanor yn Troi yn erbyn Jwdas

14:26 Pan welodd Alcimus y cyfeillgarwch oedd rhyngddynt, cymerodd gopi o'r cytundeb a wnaethpwyd, a mynd at Demetrius a haeru bod bwriadau Nicanor yn groes i rai'r llywodraeth; oherwydd yr oedd wedi penodi Jwdas yn ddarpar-Gyfaill, ac yntau'n gynllwyniwr yn erbyn y deyrnas.
14:27 Enynnwyd dicter y brenin, a chythruddwyd ef gymaint gan athrodau'r dyn cwbl ddrygionus hwnnw nes iddo ysgrifennu at Nicanor, gan ddweud ei fod yn anfodlon iawn ar y cytundeb, a'i orchymyn i anfon Macabeus yn garcharor i Antiochia ar unwaith.
14:28 Parodd y neges hon ddryswch i Nicanor; yr oedd yn wrthun ganddo ddiddymu cytundeb â dyn oedd heb wneud unrhyw gamwedd.
14:29 Ond gan na allai weithredu'n groes i'r brenin, gwyliodd am gyfle i gyflawni'r cyfar-wyddyd trwy ystryw.
14:30 Ond sylwodd Macabeus fod Nicanor yn fwy garw yn ei ymwneud ag ef a bod ei agwedd arferol yn llai cwrtais, a chan farnu nad oedd y garwedd hwn yn argoeli'n dda, casglodd nifer helaeth o'i ddilynwyr ynghyd ac ymguddio o olwg Nicanor.
14:31 Pan ddarganfu hwnnw fod Jwdas wedi cael y blaen yn deg arno, aeth i'r deml fawr a sanctaidd ar yr awr pan oedd yr offeiriaid yn offrymu'r aberthau arferol, a gorchymyn iddynt drosglwyddo'r dyn iddo.
14:32 Pan aethant hwy ar eu llw na wyddent lle'n y byd yr oedd y dyn a geisiai,
14:33 estynnodd ef ei law dde tua'r deml a thyngodd fel hyn: “Os na thros-glwyddwch Jwdas imi yn garcharor, fe dynnaf i'r llawr y cysegr yma o'r eiddo eich Duw, dymchwelaf yr allor a chodaf yn y man hwn deml i Dionysus a fydd yn tynnu llygaid pawb.”
14:34 Ac â'r geiriau hynny aeth ymaith; ond estynnodd yr offeiriaid eu dwylo i'r nef a galw â'r geiriau hyn ar yr Un sydd bob amser yn brwydro dros ein cenedl:
14:35 “Ti Arglwydd, nad wyt yn amddifad o ddim, gwelaist yn dda osod teml dy breswylfod yn ein plith ni;
14:36 yr awr hon hefyd, Arglwydd sanctaidd pob sancteiddrwydd, cadw'n ddihalog am byth y tŷ hwn a burwyd mor ddiweddar.”

Rasis yn Marw dros ei Wlad

14:37 Yn awr, dygwyd cyhuddiadau at Nicanor yn erbyn gŵr o'r enw Rasis, un o henuriaid Jerwsalem. Yr oedd yn wladgarwr, dyn â gair da iawn iddo ac a elwid yn “Dad yr Iddewon”, ar gyfrif ei gefnogaeth iddynt.
14:38 Oherwydd yn nyddiau cynnar y gwrthryfel yr oedd wedi cael ei gyhuddo o arfer Iddewiaeth, ac yr oedd wedi peryglu ei gorff a'i einioes trwy ei sêl ddiflino dros y grefydd honno.
14:39 Yn ei awydd i wneud ei elyniaeth tuag at yr Iddewon yn amlwg, anfonodd Nicanor dros bum cant o filwyr i'w gymryd i'r ddalfa;
14:40 oherwydd credai y byddai trwy ei gymryd yno yn taro ergyd galed yn erbyn yr Iddewon.
14:41 Yr oedd y fyddin hon ar fedr cipio'r tŵr ac wrthi'n ceisio gwthio'i ffordd trwy'r porth allanol, gan alw am ffaglau i danio'r drysau. Gan ei fod wedi ei amgylchynu, trodd Rasis ei gleddyf arno'i hun;
14:42 fel dyn o dras, dewisach oedd ganddo farw na chwympo i ddwylo'r pechaduriaid hynny, i'w sarhau a'i ddiraddio ganddynt.
14:43 Ond gwyrodd ei ergyd ym mrys yr ymdrech, ac wrth i'r milwyr dorri i mewn trwy'r pyrth rhedodd y dyn anrhydeddus hwn i ben mur y tŵr a'i luchio'i hun yn ddi-ofn i lawr i'w canol.
14:44 Ond camasant hwy'n ôl yn gyflym, a gadael bwlch, a disgynnodd ef i ganol y lle gwag.
14:45 Ond yr oedd yn dal yn fyw, ac â'i ysbryd ar dân fe gododd ar ei draed; ac er bod ei waed yn pistyllu allan a'i glwyfau'n erchyll, fe redodd heibio i'r milwyr a sefyll ar ben craig serth.
14:46 Yr oedd erbyn hyn wedi colli pob diferyn o waed, ond tynnodd ei goluddion allan, a chan gydio ynddynt â'i ddwy law, lluchiodd hwy at y milwyr. Yna, gan alw ar Benarglwydd einioes ac anadl i'w hadfer yn ôl iddo eto, ymadawodd â'r fuchedd hon yn y ffordd a ddisgrifiwyd.

Bwriad Anfad Nicanor

15:1 Rhoddwyd gwybod i Nicanor fod Jwdas a'i wŷr yng nghyffiniau Samaria, a gwnaeth ef gynllun i ymosod arnynt ar eu dydd gorffwys heb ddim perygl iddo'i hun.
15:2 Ond yr oedd yn ei fyddin Iddewon a oedd wedi eu gorfodi i'w ganlyn, a dywedodd y rhain wrtho, “Paid ar unrhyw gyfrif â chyflawni'r fath laddfa greulon ac anwar, ond anrhydedda'r dydd y rhoddwyd arno barch arbennig ynghyd â sancteiddrwydd yr Un sy'n gweld pob peth.”
15:3 Ond dyma'r dyn hwn a drwythwyd mewn pechod yn gofyn ai yn y nef yr oedd y Penarglwydd oedd wedi gorchymyn cadw dydd y Saboth.
15:4 Atebasant hwythau yn groyw, “Ie yn wir, hwnnw sydd yn y nef, yr Arglwydd byw, yw'r Penarglwydd a ordeiniodd barchu'r seithfed dydd.”
15:5 “A myfi,” meddai yntau, “yw'r penarglwydd ar y ddaear, sy'n gorchymyn cymryd arfau a chyflawni dyletswyddau i'r brenin.” Er hynny, ni lwyddodd i gyflawni ei fwriad anfad.

Jwdas yn Calonogi ei Wŷr

15:6 Yn ei ymffrost di-ben-draw a'i rodres, penderfynodd Nicanor wneud cofeb o'r holl ysbail o fyddin Jwdas.
15:7 Ond nid oedd pall ar argyhoeddiad Macabeus nac ar ei obaith y câi gymorth gan yr Arglwydd.
15:8 Daliai i annog ei wŷr i beidio ag ofni ymosodiad y Cenhedloedd, ond i gadw yn eu medd-yliau y cymorth a gawsent gynt o'r nef, ac i ddisgwyl y tro hwn hefyd am y fuddugoliaeth yr oedd yr Hollalluog am ei rhoi iddynt.
15:9 A thrwy eu calonogi â geiriau o'r gyfraith a'r proffwydi, a'u hatgoffa hefyd am y campau yr oeddent wedi eu cyflawni, fe'u cafodd i gyflwr mwy brwd.
15:10 Ac wedi deffro eu hysbryd, fe'u calonogodd trwy ddangos yn ogystal ffalster y Cenhedloedd a'u hanffydd-londeb i'w llwon.
15:11 Arfogodd bob un ohonynt, nid â diogelwch tarianau a gwaywffyn, ond â'r calondid sydd mewn geiriau dewr; ac fe'u llonnodd i gyd trwy adrodd breuddwyd gwbl argyhoedd-iadol a gawsai, math o weledigaeth ddilys.
15:12 Dyma'r profiad a gafodd: gwelodd Onias yr archoffeiriad gynt, dyn da a rhinweddol, gwylaidd ei ffordd, addfwyn ei gymeriad, gweddus ei air, dyn a oedd o'i blentyndod wedi ymarfer yn ddi-nam bopeth a berthyn i rinwedd. Gwelodd hwn yn estyn ei ddwylo ac yn gweddïo dros holl gorff yr Iddewon.
15:13 Wedyn yn yr un modd fe ymddan-gosodd dyn o oedran ac urddas nodedig, yn meddu ar ryw awdurdod rhyfeddol a mawreddog iawn.
15:14 Ac meddai Onias, “Dyma ddyn sy'n caru ei frodyr, dyn sy'n gweddïo llawer dros y bobl a'r ddinas sanctaidd. Jeremeia, proffwyd Duw, yw ef.”
15:15 Estynnodd Jeremeia ei law dde a chyflwyno i Jwdas gleddyf aur, ac wrth ei roi cyfarchodd ef fel hyn:
15:16 “Cymer y cleddyf sanctaidd yn rhodd gan Dduw, iti ddarnio'r gelyn yn gandryll ag ef.”
15:17 Codwyd eu calon gan araith odidog Jwdas. Yr oedd ynddi rym i symbylu eu dewrder ac i wroli ysbryd y dynion ifainc. Penderfynasant beidio â chynnal ymgyrch faith, ond ymosod yn deilwng o'u tras ac ymladd law wrth law â'u holl wroldeb nes dwyn yr ymrafael i ben; oherwydd yr oedd y ddinas, y mannau sanctaidd a'r deml mewn perygl.
15:18 Eilbeth ganddynt oedd eu hofn am eu gwragedd a'u plant, a hefyd am eu brodyr a'u perthnasau; yr oedd eu hofn mwyaf a blaenaf am y deml gysegredig.
15:19 Nid oedd ing y rheini a adawyd yn y ddinas yn ddim llai, yng nghynnwrf eu pryder am frwydr ar faes agored.
15:20 Yn awr yr oedd pawb yn disgwyl y dyfarniad a geid; yr oedd y gelyn eisoes wedi ymgasglu, a'u byddin wedi ei threfnu'n rhengoedd, yr eliffantod wedi eu gosod mewn safle manteisiol, a'r gwŷr meirch yn eu lle ar yr asgell.
15:21 Pan welodd Macabeus y lluoedd o'i flaen, a'r amrywiaeth o arfau a ddarparwyd iddynt, a ffyrnigrwydd yr eliffantod, estynnodd ei ddwylo tua'r nef a galw ar yr Arglwydd, gwneuthurwr rhyfeddodau; oherwydd gwyddai nad grym arfau, ond dyfarniad yr Arglwydd ei hun sy'n sicrhau'r fuddugoliaeth i'r rhai sy'n ei haeddu.
15:22 A galwodd arno â'r geiriau hyn: “Tydi Benarglwydd, anfonaist dy angel at Heseceia brenin Jwda, a lladdodd ef hyd at gant wyth deg a phump o filoedd o lu Senacherib.
15:23 Yr awr hon hefyd, Benarglwydd y nefoedd, anfon angel da o'n blaenau i daenu arswyd a braw;
15:24 bydded i'th fraich nerthol daro i lawr y cablwyr hyn sy'n ymosod ar dy bobl sanctaidd.” Ac â'r geiriau hynny fe dawodd.

Gorchfygu a Lladd Nicanor

15:25 Dechreuodd Nicanor a'i fyddin symud yn eu blaenau gyda sain utgyrn a chaneuon rhyfel.
15:26 Aeth Jwdas a'i fyddin i'r afael â'r gelyn dan alw ar Dduw a gweddïo.
15:27 Â'u dwylo yr oeddent yn ymladd, ond yn eu calonnau yr oeddent yn gweddïo ar Dduw; gadawsant yn gelanedd gymaint â phymtheng mil ar hugain, a mawr oedd eu llawenydd o weld Duw yn ei amlygu ei hun fel hyn.
15:28 Wedi'r brwydro, wrth iddynt ymadael yn eu llawenydd, daethant ar draws Nicanor, yn gorwedd yn farw a'i holl arfwisg amdano.
15:29 Â bloeddiadau cynhyrfus bendithiasant y Penarglwydd yn eu mamiaith.
15:30 A dyma'r gŵr a oedd wedi ymladd yn gyson yn y rheng flaenaf, gorff ac enaid, dros ei gyd-ddinasyddion, ac a oedd wedi cadw trwy'r blynyddoedd gariad ei ieuenctid tuag at ei genedl, yn gorchymyn iddynt dorri pen Nicanor i ffwrdd, a hefyd ei fraich gyfan, a'u dwyn i Jerwsalem.
15:31 Wedi cyrraedd yno, cynullodd ei gyd-genedl ynghyd, a chan osod yr offeiriaid gerbron yr allor, anfonodd am y garsiwn o gaer y ddinas.
15:32 Dangosodd iddynt ben y Nicanor halogedig hwnnw, a braich y cablwr hwnnw, y fraich yr oedd yn ei ymffrost wedi ei hestyn yn erbyn teml yr Hollalluog.
15:33 Torrodd allan dafod Nicanor, y dyn annuwiol hwnnw, a dywedodd ei fod am ei roi i'r adar fesul tamaid, a chrogi gwobr ei ynfydrwydd gyferbyn â'r cysegr.
15:34 Yna cododd pawb eu lleisiau tua'r nef i fendithio'r Arglwydd am iddo ei amlygu ei hun, gan ddweud, “Bendigedig fyddo'r hwn a gadwodd ei fangre'i hun yn ddihalog.”
15:35 Clymodd ben Nicanor wrth fur y gaer, yn arwydd eglur a gweladwy gan bawb o gymorth yr Arglwydd.
15:36 Trwy bleidlais gyhoeddus penderfynwyd yn unfrydol beidio ar unrhyw gyfrif â gadael i'r dydd hwn fod heb ei goffâd, ond cadw gŵyl ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis—Adar yn yr iaith Aramaeg—un dydd cyn Gŵyl Mordecai.

Diweddglo

15:37 Dyna, gan hynny, gwrs helynt Nicanor, a chan fod y ddinas er y dyddiau hynny wedi bod ym meddiant yr Iddewon, fe derfynaf finnau fy llyfr yma.
15:38 Os cyfansoddwyd ef yn goeth ac yn gymen, dyna oedd fy nymuniad i; ond os yn wael ac yn sathredig, dyna eithaf fy ngallu.
15:39 Oherwydd fel y mae yfed gwin ar ei ben ei hun yn atgas, ac yfed dŵr yr un modd hefyd, tra mae gwin yn gymysg â dŵr yn felys ac yn rhoi mwynhad hyfryd, felly hefyd y mae amrywiaeth grefftus yn yr ymadrodd yn hyfrydwch i glust y darllenydd. Ac ar hynny fe ddibennaf.