GENESIS

PENNOD 1

1 Creadwriaeth nef a daear, 3 a'r goleuni, 6 a'r ffurfafen. 9 Neillduo y ddaear oddi wrth y dyfroedd, 11 a'i gwneuthur yn ffrwythlawn. 14 Yr haul, y lleuad, a'r sêr; 20 y pysgod a'r adar, 24 a'r anifeiliaid, 26 dyn ar lun Duw. 29 Ordeinio lluniaeth ac ymborth.

1:1 Yn y dechreuad y creodd DUW y nefoedd a'r ddaear.
1:2 A'r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd DUW yn ymsymmud ar wyneb y dyfroedd.
1:3 A DUW a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu.
1:4 A DUW a welodd y goleuni, mai da oedd: a DUW a wahanodd rhwng y goleuni a'r tywyllwch.
1:5 A DUW a alwodd y goleuni yn Ddydd, a'r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y dydd cyntaf.
1:6 ¶ DUW hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen y'nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a'r dyfroedd.
1:7 A DUW a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a'r dyfroedd oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu.
1:8 A'r ffurfafen a alwodd DUW yn Nefoedd: a'r hwyr a fu, a'r bore a fu, yr ail ddydd.
1:9 ¶ DUW hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i'r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu.
1:10 A'r sychdir a alwodd DUW yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a DUW a welodd mai da oedd.
1:11 A DUW a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had, a phrennau ffrwythlawn yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu.
1:12 A'r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a DUW a welodd mai da oedd.
1:13 A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y trydydd dydd.
1:14 ¶ DUW hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a'r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.
1:15 A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu.
1:16 A DUW a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu y dydd, a'r goleuad lleiaf i lywodraethu y nos: a'r sêr hefyd a wnaeth efe.
1:17 Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes DUW hwynt, i oleuo ar y ddaear,
1:18 Ac i lywodraethu y dydd a'r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a'r tywyllwch: a gwelodd DUW mai da oedd.
1:19 A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y pedwerydd dydd.
1:20 ¶ DUW hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd.
1:21 A DUW a greodd y môrfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd.
1:22 A DUW a'u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhêwch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a llïosoged yr ehediaid ar y ddaear,
1:23 A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y pummed dydd.
1:24 ¶ DUW hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a'r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu.
1:25 A DUW a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth, a'r anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd.
1:26 ¶ DUW hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
1:27 Felly DUW a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw DUW y creodd efe ef: yn wrryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt.
1:28 DUW hefyd a'u bendigodd hwynt, a DUW a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhêwch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymmudo ar y ddaear.
1:29 ¶ A DUW a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, i fod yn fwyd i chwi.
1:30 Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymmudo ar y ddaear, yr hwn y mae einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu.
1:31 A gwelodd DUW yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fu, a'r bore a fu, y chweched dydd.

PENNOD 2

1 Y dydd Sabbath. 4 Dull y creadwriaeth. 8 Plannu gardd Eden, 10 a'i hafon. 17 Gwahardd pren gwybodaeth yn unig. 19 Enwi y creaduriaid. 21 Gwneuthur gwraig, ac ordeinio prïodas.

2:1 Felly y gorphenwyd y nefoedd a'r ddaear, a'u holl lu hwynt.
2:2 Ac ar y seithfed dydd y gorphenodd DUW ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orphwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe.
2:3 A DUW a fendigodd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef: oblegid ynddo y gorphwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai DUW i'w wneuthur.
2:4 ¶ Dyma genhedlaethau y nefoedd a'r ddaear, pan grëwyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD DDUW ddaear a nefoedd,
2:5 A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear, a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr ARGLWYDD DDUW lawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio'r ddaear.
2:6 Ond tarth a esgynodd o'r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear.
2:7 A'r ARGLWYDD DDUW a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a'r dyn a aeth yn enaid byw.
2:8 ¶ Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a blannodd ardd yn Eden, o du y dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe.
2:9 A gwnaeth yr ARGLWYDD DDUW i bob pren dymunol i'r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd y'nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o'r ddaear.
2:10 Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhâu yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.
2:11 Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafilahh, lle y mae yr aur:
2:12 Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae Bdeliwm a'r maen Onix.
2:13 Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia.
2:14 Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du y dwyrain i Assyria: a'r bedwaredd afon yw Euphrates.
2:15 A'r ARGLWYDD DDUW a gymmerodd y dyn, ac a'i gosododd ef y'ngardd Eden, i'w llafurio ac i'w chadw hi.
2:16 A'r ARGLWYDD DDUW a orchmynnodd i'r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o'r ardd gan fwytta y gelli fwytta:
2:17 Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwytta o hono; oblegid yn y dydd y bwyttêi di o hono, gan farw y byddi farw.
2:18 ¶ Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymmwys iddo.
2:19 A'r ARGLWYDD DDUW a luniodd o'r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a'u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef.
2:20 Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymmwys iddo.
2:21 A'r ARGLWYDD DDUW a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymmerodd un o'i asennau ef, ac a gaeodd gig yn ei lle hi.
2:22 A'r ARGLWYDD DDUW a wnaeth yr asen a gymmerasai efe o'r dyn, yn wraig, ac a'i dug at y dyn.
2:23 Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o'm hesgyrn i, a chnawd o'm cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o wr y cymmerwyd hi.
2:24 O herwydd hyn yr ymedy gwr â'i dad, ac â'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.
2:25 Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a'i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.

PENNOD 3

1 Y sarph yn hudo Efa. 6 Cywilyddus gwymp dyn. 9 Duw yn eu holi ac yn eu barnu hwy. 14 Melidigo y sarph. 15 Addaw yr had. 16 Cospedigaeth dyn. 21 Ei wisgad cyntaf; 22 a'i fwrw allan o Baradwys.

3:1 A'r sarph oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr ARGLWYDD DDUW. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai dïau ddywedyd o DDUW, Ni chewch chwi fwytta o bob pren o'r ardd?
3:2 A'r wraig a ddywedodd wrth y sarph, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwytta:
3:3 Ond am ffrwyth y pren sydd y'nghanol yr ardd, DUW a ddywedodd, Na fwyttêwch o hono, ac na chyffyrddwch âg ef, rhag eich marw.
3:4 A'r sarph a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim.
3:5 Canys gwybod y mae DUW, mai yn y dydd y bwyttaoch o hono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg.
3:6 A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a'i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymmerth o'i ffrwyth ef, ac a fwyttaodd, ac a roddes i'w gwr hefyd gyd â hi, ac efe a fwyttaodd.
3:7 A'u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wnïasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau.
3:8 A hwy a glywsant lais yr ARGLWYDD DDUW yn rhodio yn yr ardd, gyd âg awel y dydd; ac ymguddiodd Adda a'i wraig o olwg yr ARGLWYDD DDUW, ymysg prennau yr ardd.
3:9 A'r ARGLWYDD DDUW a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti?
3:10 Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais.
3:11 A dywedodd DUW, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o'r pren y gorchymynaswn i ti na fwyttâit o hono, y bwytteaist?
3:12 Ac Adda a ddywedodd, Y wraig a roddaist gyd â mi, hi a roddodd i mi o'r pren, a mi a fwytteais.
3:13 A'r ARGLWYDD DDUW a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A'r wraig a ddywedodd, Y sarph a'm twyllodd, a bwytta a wneuthum.
3:14 A'r ARGLWYDD DDUW a ddywedodd wrth y sarph, Am wneuthur o honot hyn, melldigediccach wyt ti na'r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dorr y cerddi, a phridd a fwyttêi holl ddyddiau dy einioes.
3:15 Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau: efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.
3:16 Wrth y wraig y dywedodd, Gan amlhâu yr amlhâf dy boenau di a'th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a'th ddymuniad fydd at dy ŵr, ac efe a lywodraetha arnat ti.
3:17 Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrando o honot ar lais dy wraig, a bwytta o'r pren am yr hwn y gorchymynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwytta o hono; melldigedig fydd y ddaear o'th achos di: trwy lafur y bwyttêi o honi holl ddyddiau dy einioes.
3:18 Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti; a llysiau y maes a fwyttêi di.
3:19 Trwy chwys dy wyneb y bwyttêi fara, hyd pan ddychwelech i'r ddaear; oblegid o honi y'th gymmerwyd: canys pridd wyt ti, ac i'r pridd y dychweli.
3:20 A'r dyn a alwodd enw ei wraig Efa; oblegid hi oedd fam pob dyn byw.
3:21 A'r ARGLWYDD DDUW a wnaeth i Adda ac i'w wraig beisiau crwyn, ac a'u gwisgodd am danynt hwy.
3:22 ¶ Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a ddywedodd, Wele y dyn sydd megis un o honom ni, i wybod da a drwg. Ac weithian, rhag iddo estyn ei law, a chymmeryd hefyd o bren y bywyd, a bwytta, a byw yn dragwyddol:
3:23 Am hynny yr ARGLWYDD DDUW a'i hanfonodd ef allan o ardd Eden, i lafurio y ddaear, yr hon y cymmerasid ef o honi.
3:24 Felly efe a yrrodd allan y dyn, ac a osododd, o'r tu dwyrain i ardd Eden, y cerubiaid, a chleddyf tanllyd ysgyd-wedig, i gadw ffordd pren y bywyd.

PENNOD 4

1 Genedigaeth, celfyddyd, a chrefydd Cain ac Abel. 8 Lladd Abel, ll Melldigo Cain. 17 Enoch y ddinas gyntaf. 19 Lamech a'i ddwy wraig. 25 Genedigaeth Seth, 26 ac Enos.

4:1 Ac Adda a adnabu Efa ei wraig: a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, Cefais wr gan yr ARGLWYDD.
4:2 A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel; ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio y ddaear.
4:3 A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i'r ARGLWYDD.
4:4 Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac o'u braster hwynt. A'r ARGLWYDD a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm:
4:5 Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A digllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wynebpryd ef.
4:6 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Cain, Paham y llidiaist? a phaham y syrthiodd dy wynebpryd?
4:7 Os da y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn dda, pechod a orwedd wrth y drws: attat ti hefyd y mae ei ddymuniad ef, a thi a lywodraethi arno ef.
4:8 A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd: ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a'i lladdodd ef.
4:9 ¶ A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Cain, Mae Abel dy frawd di? Yntau a ddywedodd, Nis gwn; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?
4:10 A dywedodd DUW, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gwaeddi arnaf fi o'r ddaear.
4:11 Ac yr awr hon melldigedig wyt ti o'r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law di.
4:12 Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear.
4:13 Yna y dywedodd Cain wrth yr ARGLWYDD, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu.
4:14 Wele, gyrraist fi heddyw oddi ar wyneb y ddaear, ac o'th ŵydd di y'm cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a'm caffo a'm lladd.
4:15 A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Am hynny y dïelir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A'r ARGLWYDD a osododd nôd ar Cain, rhag i neb a'i caffai ei ladd ef.
4:16 ¶ A Chain a aeth allan o ŵydd yr ARGLWYDD, ac a drigodd yn nhir Nod, o'r tu dwyrain i Eden.
4:17 Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd enw y ddinas yn ol enw ei fab, Enoch.
4:18 Ac i Enoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehuiael, a Mehuiael a genhedlodd Methusael, a Methusael a genhedlodd Lamech.
4:19 ¶ A Lamech a gymmerodd iddo ddwy o wragedd: enw y gyntaf oedd Adah, ac enw yr ail Silah.
4:20 Ac Adah a esgorodd ar Jabal; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell, a pherchen anifail.
4:21 Ac enw ei frawd ef oedd Jubal; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ.
4:22 Silah hithau a esgorodd ar Tubal-Cain, gweithydd pob cywreinwaith pres a haiarn: a chwaer Tubal-Cain ydoedd Naamah.
4:23 A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Adah a Silah, Clywch fy llais, gwragedd Lamech, gwrandêwch fy lleferydd; canys mi a leddais wr i'm harcholl, a llanc i'm clais.
4:24 Os Cain a ddïelir seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.
4:25 ¶ Ac Adda a adnabu ei wraig drachefn; a hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Seth: O herwydd DUW, eb hi, a osododd i mi had arall yn lle Abel, am ladd o Cain ef.
4:26 I'r Seth hwn hefyd y ganwyd mab; ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.

PENNOD 5

1 Achau, oedran, a marwolaeth y patrieirch, o Adda hyd Noah, 24 DUWioldeb Enoch, a DUW yn ei gymmeryd ef ymaith.

5:1 Dyma lyfr cenhedlaethau Adda: yn y dydd y creodd DUW ddyn, ar lun DUW y gwnaeth efe ef.
5:2 Yn wrryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a'u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crëwyd hwynt.
5:3 Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a'i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth.
5:4 A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gàn mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched.
5:5 A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw càn mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw.
5:6 ¶ Seth hefyd a fu fyw bùm mlynedd a chân mlynedd, ac a genhedlodd Enos.
5:7 A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gân mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:8 A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw.
5:9 ¶ Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan.
5:10 Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlynedd ac wyth gân mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:11 A holl ddyddiau Enos oedd bùm mlynedd a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw.
5:12 ¶ Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thri ugain, ac a genhedlodd Mahalaleel.
5:13 A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gân mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:14 A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw.
5:15 ¶ A Mahalaleel a fu fyw bùm mlynedd a thri ugain mlynedd, ac a genhedlodd Jered.
5:16 A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gân mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:17 A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gân mlynedd; ac efe a fu farw.
5:18 ¶ A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thri ugain a chân mlynedd, ac a genhedlodd Enoch.
5:19 A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gân mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:20 A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thri ugain a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw.
5:21 ¶ Enoch hefyd a fu fyw bùm mlynedd a thri ugain, ac a genhedlodd Methuselah.
5:22 Ac Enoch a rodiodd gyd â DUW wedi iddo genhedlu Methuselah, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:23 A holl ddyddiau Enoch oedd bùm mlynedd a thri ugain a thri chant o flynyddoedd.
5:24 A rhodiodd Enoch gyd â DUW, ac ni welwyd ef; canys DUW a'i cymmerodd ef.
5:25 ¶ Methuselah hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech.
5:26 A Methuselah a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gân mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:27 A holl ddyddiau Methuselah oedd naw mlynedd a thri ugain a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw.
5:28 ¶ Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chân mlynedd, ac a genhedlodd fab;
5:29 Ac a alwodd ei enw ef Noah, gan ddywedyd, Hwn a'n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylaw, o herwydd y ddaear yr hon a felldigodd yr ARGLWYDD.
5:30 A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noah, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phùm càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:31 A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thri ugain a saith gân mlynedd; ac efe a fu farw.
5:32 A Noah ydoedd fab pùm càn mlwydd; a Noah a genhedlodd Sem, Cham, a Japheth.

PENNOD 6

1 Drygioni y byd, yr hwn a gyffrôdd ddigllonedd DUW, ac a barodd y diluw. 8 Noah yn cael ffafr. 14 Trefn a phortreiad, a'r achos y gwnaed yr arch.

6:1 YNA y bu, pan ddechreuodd dynion amlhâu ar wyneb y ddaear, a geni merched iddynt,
6:2 Weled o feibion DUW ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymmerasant iddynt wragedd o'r rhai oll a ddewisasant.
6:3 A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe: a'i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant.
6:4 Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd pan ddaeth meibion DUW at ferched dynion, a phlanta o'r rhai hynny iddynt: dyma'r cedyrn a fu wŷr enwog gynt.
6:5 ¶ A'r ARGLWYDD a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser.
6:6 Ac edifarhaodd ar yr ARGLWYDD wneuthur o hono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.
6:7 A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.
6:8 ¶ Ond Noah a gafodd ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD.
6:9 ¶ Dyma genhedlaethau Noah: Noah oedd wr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyd â DUW y rhodiodd Noah.
6:10 A Noah a genhedlodd dri o feibion, Sem, Cham, a Japheth.
6:11 A'r ddaear a lygrasid ger bron DUW; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd.
6:12 A DUW a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear.
6:13 A DUW a ddywedodd wrth Noah, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a'u difethaf hwynt gyd â'r ddaear.
6:14 ¶ Gwna i ti arch o goed Gopher; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi mewn ac oddi allan â phyg.
6:15 Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chàn cufydd fydd hŷd yr arch, deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder.
6:16 Gwna ffenestr i'r arch, a gorphen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys: o dri uchder y gwnei di hi.
6:17 Ac wele myfi, ië myfi, yn dwyn dyfroedd dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga.
6:18 Ond â thi y cadarnhâf fy nghyfammod; ac i'r arch yr âi di, tydi a'th feibion, a'th wraig, a gwragedd dy feibion gyd â thi.
6:19 Ac o bob peth byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i'r arch i'w cadw yn fyw gyd â thi; gwrryw a benyw fyddant.
6:20 O'r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o'r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth eu rhywogaeth; dau o bob rhywogaeth a ddaw attat i'w cadw yn fyw.
6:21 A chymmer i ti o bob bwyd a fwyttêir, a chasgl attat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau.
6:22 Felly y gwnaeth Noah, yn ol yr hyn oll a orchymynasai DUW iddo, felly y gwnaeth efe.

PENNOD 7

1 Noah a'i deulu a'r creaduriaid byw yn myned i'r arch. 11 Dechreuad, cynnydd, a pharhâd y diluw.

7:1 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Noah, Dos di, a'th holl dŷ i'r arch: canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i yn yr oes hon.
7:2 O bob anifail glân y cymmeri gyd â thi bob yn saith, y gwrryw a'i fenyw; a dau o'r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân, y gwrryw a'i fenyw:
7:3 O ehediaid y nefoedd hefyd, bob yn saith, yn wrryw ac yn fenyw, i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear.
7:4 Oblegid wedi saith niwrnod etto, mi a wlawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a'r a wneuthum i.
7:5 A Noah a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr ARGLWYDD iddo.
7:6 Noah hefyd oedd fab chwe chàn mlwydd pan fu'r dyfroedd dilyw ar y ddaear.
7:7 ¶ A Noah a aeth i mewn, a'i feibion, a'i wraig, a gwragedd ei feibion gyd âg ef, i'r arch, rhag y dwfr dilyw.
7:8 O anifeiliaid glân, ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân, o ehediaid hefyd, ac o'r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear,
7:9 Yr aeth i mewn at Noah i'r arch bob yn ddau, yn wrryw ac yn fenyw, fel y gorchymynasai DUW i Noah.
7:10 Ac wedi saith niwrnod y dwfr dilyw a ddaeth ar y ddaear.
7:11 ¶ Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noah, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o'r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri y nefoedd a agorwyd.
7:12 A'r gwlaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos.
7:13 O fewn corph y dydd hwnnw y daeth Noah, a Sem, a Cham, a Japheth, meibion Noah, a gwraig Noah, a thair gwraig ei feibion ef gyd â hwynt, i'r arch;
7:14 Hwynt, a phob bwysttil wrth ei rywogaeth, a phob anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth, a phob ehediad wrth ei rywogaeth, pob aderyn o bob rhyw.
7:15 A daethant at Noah i'r arch bob yn ddau, o bob cnawd a'r oedd ynddo anadl einioes.
7:16 A'r rhai a ddaethant, yn wrryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchymynasai DUW iddo. A'r ARGLWYDD a gauodd arno ef.
7:17 A'r dilyw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a'r dyfroedd a gynnyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear.
7:18 A'r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynnyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a'r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd.
7:19 A'r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear, a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd.
7:20 Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tu ag i fyny: a'r mynyddoedd a orchuddiwyd.
7:21 A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fwystfilod, ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear, a phob dyn hefyd.
7:22 Yr hyn oll yr oedd ffun anadl einioes yn ei ffroenau, o'r hyn oll oedd ar y sychdir, a fuant feirw.
7:23 Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a'r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ïe, dilëwyd hwynt o'r ddaear: a Noah a'r rhai oedd gyd âg ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw.
7:24 A'r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaear ddeng niwrnod a deugain a chant.

PENNOD 8

1 Y dyfroedd yn llonyddu. 4 Yr arch yn gorphwys ar fynyddoedd Ararat. 7 Y gigfran a'r golommen. 15 Noah, ar orchymyn DUW, 18 yn myned allan o'r arch. 20 Efe yn adeiladu allor, ac yn aberthu aberth: 21 yr hwn y mae DUW yn ei dderbyn, ac yn addaw na felldithiai y ddaear mwyach.

8:1 A DUW a gofiodd Noah, a phob peth byw, a phob anifail a'r a oedd gyd âg ef yn yr arch: a DUW a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a'r dyfroedd a lonyddasant.
8:2 Cauwyd hefyd ffynhonnau y dyfnder a ffenestri y nefoedd; a lluddiwyd y gwlaw o'r nefoedd.
8:3 A'r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ym mhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.
8:4 ¶ Ac yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, y gorphwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
8:5 A'r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y gwelwyd pennau'r mynyddoedd.
8:6 ¶ Ac ym mhen deugain niwrnod yr agorodd Noah ffenestr yr arch a wnaethai efe.
8:7 Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear.
8:8 Ac efe a anfonodd golommen oddi wrtho, i weled a dreiasai y dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear.
8:9 Ac ni chafodd y golommen orphwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd atto ef i'r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynodd ei law, ac a'i cymmerodd hi, ac a'i derbyniodd hi atto i'r arch.
8:10 Ac efe a arhosodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golommen allan o'r arch.
8:11 A'r golommen a ddaeth atto ef ar brydnawn; ac wele ddeilen olew-wydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noah dreio o'r dyfroedd oddi ar y ddaear.
8:12 Ac efe a arhosodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golommen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith atto ef mwy.
8:13 ¶ Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, y darfu i'r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noah a symmudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear.
8:14 Ac yn yr ail mis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, y ddaear a sychasai.
8:15 ¶ A llefarodd DUW wrth Noah, gan ddywedyd,
8:16 Dos allan o'r arch, ti, a'th wraig, a'th feibion, a gwragedd dy feibion, gyd â thi.
8:17 Pob peth byw a'r sydd gyd â thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyd â thi: heppiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear.
8:18 A Noah a aeth allan, a'i feibion, a'i wraig, a gwragedd ei feibion, gyd âg ef.
8:19 Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaear, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o'r arch.
8:20 ¶ A Noah a adeiladodd allor i'r ARGLWYDD, ac a gymmerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymodd boeth-offrymmau ar yr allor.
8:21 A'r ARGLWYDD a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr ARGLWYDD yn ei galon, Ni chwanegaf felldithio y ddaear mwy er mwyn dyn: o herwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o'i ieuengctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum.
8:22 Pryd hau, a chynhauaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gauaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.

PENNOD 9

1 DUW yn bendithio Noah; 4 yn gwahardd gwaed a llofruddiaeth. 9 Cyfammod DUW, 13 a arwyddoccâir trwy yr enfys. 18 Noah yn llenwi y byd, 20 yn plannu gwinllan, 21 yn meddwi, ac yn cael ei watwar gan ei fab: 25 yn melldigo Canaan, 26 yn bendithio Sem, 27 yn gweddïo dros Japheth, 29 ac yn marw.

9:1 DUW hefyd a fendithiodd Noah a'i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch a llïosogwch, a llenwch y ddaear.
9:2 Eich ofn hefyd a'ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a'r hyn oll a ymsymmudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.
9:3 Pob ymsymmudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim.
9:4 ¶ Er hynny na fwyttêwch gig ynghyd â'i einioes, sef ei waed.
9:5 Ac yn ddïau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynaf fi: o law pob bwystfil y gofynaf ef; ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynaf einioes dyn.
9:6 A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, o herwydd ar ddelw DUW y gwnaeth efe ddyn.
9:7 Ond chwychwi, ffrwythwch ac amlhêwch epiliwch ar y ddaear, a llïosogwch ynddi.
9:8 ¶ A DUW a lefarodd wrth Noah, ac wrth ei feibion gyd âg ef, gan ddywedyd,
9:9 Ac wele myfi, ië myfi, ydwyf yn cadarnhâu fy nghyfammod â chwi, ac â'ch had ar eich ôl chwi;
9:10 Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyd â chwi, â'r ehediaid, â'r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyd â chwi, o'r rhai oll sydd yn myned allan o'r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear.
9:11 A mi a gadarnhâf fy nghyfammod â chwi, ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr dilyw, ac ni bydd dilyw mwy i ddifetha'r ddaear.
9:12 A DUW a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfammod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac â phob peth byw a'r y sydd gyd â chwi, tros oesoedd tragwyddol:
9:13 Fy mwa a roddais yn y cwmmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfammod rhyngof fi a'r ddaear.
9:14 A bydd, pan godwyf gwmmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmmwl.
9:15 A mi a gofiaf fy nghyfammod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac â phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy, i ddifetha pob cnawd.
9:16 A'r bwa a fydd yn y cwmmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio y cyfammod tragwyddol rhwng DUW a phob peth byw, o bob cnawd a'r y sydd ar y ddaear.
9:17 A DUW a ddywedodd wrth Noah, Dyma arwydd y cyfammod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a'r y sydd ar y ddaear.
9:18 ¶ A meibion Noah y rhai a ddaeth allan o'r arch, oedd Sem, Cham, a Japheth; a Cham oedd dad Canaan.
9:19 Y tri hyn oedd feibion Noah: ac o'r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear.
9:20 A Noah a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan:
9:21 Ac a yfodd o'r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd y'nghanol ei babell.
9:22 A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i'w ddau frawd allan.
9:23 A chymmerodd Sem a Japheth ddilledyn, ac a'i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a'u hwynebau yn ol, fel na welent noethni eu tad.
9:24 A Noah a ddeffrôdd o'i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo.
9:25 Ac efe a ddywedodd, Melldigedig fyddo Canaan; gwas gweision i'w frodyr fydd.
9:26 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
9:27 DUW a helaetha ar Japheth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
9:28 ¶ A Noah a fu fyw wedi'r dilyw dri chàn mlynedd a deng mlynedd a deugain.
9:29 Felly holl ddyddiau Noah oedd naw càn mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.

PENNOD 10

1 Cenhedlaethau Noah. 2 Meibion Japheth. 6 Meibion Cham. 8 Nimrod y brenhin cyntaf. 21 Meibion Sem.

10:1 A DYMA genhedlaethau meibion Noah: Sem, Cham, a Japheth; ganwyd meibion hefyd i'r rhai hyn wedi'r dilyw.
10:2 ¶ Meibion Japheth oedd Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.
10:3 Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riphath, a Thogarmah.
10:4 A meibion Jafan; Elisah, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.
10:5 O'r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.
10:6 ¶ A meibion Cham oedd Cus, a Mizraim, a Phut, a Chanaan.
10:7 A meibion Cus; Seba, a Hafilahh, a Sabtah, a Raamah, a Sabteca: a meibion Raamah; Seba, a Dedan.
10:8 Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.
10:9 Efe oedd heliwr cadarn ger bron yr ARGLWYDD: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn ger bron yr ARGLWYDD.
10:10 A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalneh, y'ngwlad Sinar.
10:11 O'r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefeh, a dinas Rehoboth, a Chalah,
10:12 A Resen, rhwng Ninefeh a Chalah; honno sydd ddinas fawr.
10:13 Mizraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Naphtuhim,
10:14 Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o'r rhai y daeth Philistim,) a Chaphtorim.
10:15 ¶ Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf-anedig, a Heth,
10:16 A'r Jebusiad, a'r Amoriad, a'r Girgasiad,
10:17 A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r Siniad,
10:18 A'r Arfadiad, a'r Semariad, a'r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid.
10:19 Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gazah: y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorrah, ac Admah, a Seboim, hyd Lesah.
10:20 Dyma feibion Cham, yn ol eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.
10:21 ¶ I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Japheth yr hynaf.
10:22 Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arphaxad, a Lud, ac Aram.
10:23 A meibion Aram; Us, a Hul, a Gether, a Mas.
10:24 Ac Arphaxad a genhedlodd Selah, a Selah a genhedlodd Heber.
10:25 Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; o herwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan.
10:26 A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleph, a Hasarmafeth, a Jerah,
10:27 Hadoram hefyd, ac Usal, a Diclah,
10:28 Obal hefyd, ac Abinael, a Seba,
10:29 Ophir hefyd, a Hafilah, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan.
10:30 A'u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Sephar, mynydd y dwyrain.
10:31 Dyma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ol eu hieithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.
10:32 Dyma deuluoedd meibion Noah, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu cenhedloedd: ac o'r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi'r dilyw.