LLYFR RUTH

PENNOD 1


1 Elimelech wedi ei yrru gan newyn i Moab, yn marw yno. 4 Mahlon a Chilion, wedi prïodi gwragedd o Moab, yn marw hefyd. 6 Naomi, wrth ddychwelyd adref, 8 yn ceisio gan ei dwy waudd na ddeuent gyd â hi. 14 Orpah yn ei gadael hi; a Ruth yn ddïanwadal yn ei dilyn hi. 19 Hwynt ill dwyoedd yn dyfod i Bethlehem, ac yn cael yno groesaw.

1:1 A BU, yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu, fod newyn yn y wlad: a gwr o Bethlehem Judah a aeth i ymdeithio y'ngwlad Moab, efe a'i wraig, a'i ddau fab.
1:2 Ac enw y gwr oedd Elimelech, ac enw ei wraig Naomi, ac enw ei ddau fab Mahlon a Chilion, Ephrateaid o Bethlehem Judah. A hwy a ddaethant i wlad Moab, ac a fuant yno.
1:3 Ac Elimelech gwr Naomi a fu farw; a hithau a'i dau fab a adawyd.
1:4 A hwy a gymmerasant iddynt wragedd o'r Moabëesau; enw y naill oedd Orpah, ac enw y llall, Ruth. A thrigasant yno ynghylch deng mlynedd.
1:5 A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau; a'r wraig a adawyd yn amddifad o'i dau fab, ac o'i gwr.
1:6 ¶ A hi a gyfododd, a'i merched y'nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai y'ngwlad Moab ddarfod i'r ARGLWYDD ymweled â'i bobl gan roddi iddynt fara.
1:7 A hi a aeth o'r lle yr oedd hi ynddo, a'i dwy waudd gyd â hi: a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlad Judah.
1:8 A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, Ewch, dychwelwch bob un i dŷ ei mam: gwneled yr ARGLWYDD drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi â'r meirw, ac â minnau.
1:9 Yr ARGLWYDD a ganiattao i chwi gael gorphwysdra bob un yn nhŷ ei gwr. Yna y cusanodd hi hwynt: a hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.
1:10 A hwy a ddywedasant wrthi, Dïau y dychwelwn ni gyd â thi at dy bobl di.
1:11 A dywedodd Naomi, Dychwelwch, fy merched: i ba beth y deuwch gyd â mi? a oes gennyf fi feibion eto yn fy nghroth, i fod yn wŷr i chwi?
1:12 Dychwelwch, fy merched, ewch ymaith: canys yr ydwyf fi yn rhy hen i brïodi gwr. Pe dywedwn, Y mae gennyf obaith, a bod heno gyd â gwr, ac ymddŵyn meibion hefyd;
1:13 A arhosech chwi amdanynt hwy, hyd oni chynnyddent hwy? a ymarhosech chwi am danynt hwy, heb ŵra? Nag ê, fy merched: canys y mae mawr dristwch i mi o'ch plegid chwi, am i law yr ARGLWYDD fyned i'm herbyn.
1:14 A hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant eilwaith: ac Orpah a gusanodd ei chwegr; ond Ruth a lynodd wrthi hi.
1:15 A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer y'nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithau ar ol dy chwaer yng nghyfraith.
1:16 A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fi ymadaw â thi, i gilio oddi ar dy ol di: canys pa le bynnag yr elych di, yr âf finnau; ac ym mha le bynnag y lletyech di, y lletyaf finnau: dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th DDUW di fy NUW innau:
1:17 Lle y byddych di marw, y byddaf finnau farw, ac yno y'm cleddir; fel hyn y gwnelo yr ARGLWYDD i mi, ac fel hyn y chwanego, os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau.
1:18 Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyd â hi, yna hi a beidiodd â dywedyd wrthi hi.
1:19 ¶ Felly hwynt ill dwy a aethant, nes iddynt ddyfod i Bethlehem. A phan ddaethant i Bethlehem, yr holl ddinas a gyffrôdd o'u herwydd hwynt; a dywedasant, Ai hon yw Naomi?
1:20 A hi a ddywedodd wrthynt hwy, Na elwch fi Naomi; gelwch fi Mara: canys yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn â mi.
1:21 Myfi a euthum allan yn gyflawn, a'r ARGLWYDD a'm dug i eilwaith yn wag: paham y gelwch chwi fi Naomi, gan i'r ARGLWYDD fy narostwng, ac i'r Hollalluog fy nrygu?
1:22 Felly y dychwelodd Naomi, a Ruth y Moabëes ei gwaudd gyd â hi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab: a hwy a ddaethant i Bethlehem yn nechreu cynhauaf yr heiddiau.

PENNOD 2

1 Ruth yn lloffa ym meusydd Boaz. 4 Boaz yn cymmeryd cydnabod arni, 8 ac yn dangos iddi garedigrwydd mawr; 18 a hithau yn dwyn at Naomi yr hyn a gawsai.

2:1 AC i wr Naomi yr ydoedd càr, o wr cadarn nerthol, o dylwyth Elimelech, a'i enw Boaz.
2:2 A Ruth y Moabëes a ddywedodd wrth Naomi, Gâd i mi fyned yn awr i'r maes, a lloffa tywysenau ar ol yr hwn y caffwyf ffafr yn ei olwg. Hithau a ddywedodd wrthi, Dos, fy merch.
2:3 A hi a aeth, ac a ddaeth, ac a loffodd yn y maes ar ol y medelwyr: a digwyddodd wrth ddamwain fod y rhan honno o'r maes yn eiddo Boaz, yr hwn oedd o dylwyth Elimelech.
2:4 ¶ Ac wele, Boaz a ddaeth o Bethlehem, ac a ddywedodd wrth y medelwyr, Yr ARGLWYDD a fyddo gyd â chwi. Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Yr ARGLWYDD a'th fendithio.
2:5 Yna y dywedodd Boaz wrth ei was yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medelwyr, Pwy bïau y llangces hon?
2:6 A'r gwas yr hwn oedd yn sefyll wrth y medelwyr a attebodd, ac a ddywedodd, Y llangces o Moab ydyw hi, yr hon a ddychwelodd gyd â Naomi o wlad Moab:
2:7 A hi a ddywedodd, Attolwg yr ydwyf gael lloffa, a chasglu ym mysg yr ysgubau ar ol y medelwyr: a hi a ddaeth, ac a arhosodd er y bore hyd yr awr hon, oddi eithr aros ohoni hi ychydig yn tŷ.
2:8 Yna y dywedodd Boaz wrth Ruth, Oni chlywi di, fy merch? Na ddos i loffa i faes arall, ac na cherdda oddi yma; eithr aros yma gyd â'm llangcesau i.
2:9 Bydded dy lygaid ar y maes y byddont hwy yn ei fedi; a dos ar eu hol hwynt: oni orchymynais i'r llangciau, na chyffyrddent â thi? A phan sychedych, dos at y llestri, ac ŷf o'r hwn a ollyngodd y llangciau.
2:10 Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymmodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg di, fel y cymmerit gydnabod arnaf, a minnau yn alltudes?
2:11 A Boaz a attebodd, ac a ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i'th chwegr ar ol marwolaeth dy wr; ac fel y gadewaist dy dad a'th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o'r blaen.
2:12 Yr ARGLWYDD a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd.
2:13 Yna hi a ddywedodd, Caffwyf ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd; gan i ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch, er nad ydwyf fel un o'th law-forwynion di.
2:14 A dywedodd Boaz wrthi hi, Yn amser bwyd tyred yma, a bwytta o'r bara, a gwlŷch dy dammaid yn y finegr. A hi a eisteddodd wrth ystlys y medelwyr: ac efe a estynodd iddi gras-ŷd; a hi a fwyttaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill.
2:15 A hi a gyfododd i loffa: a gorchmynodd Boaz i'w weision, gan ddywedyd, Lloffed hefyd ymysg yr ysgubau, ac na feiwch arni:
2:16 A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi beth o'r ysgubau; a gadêwch hwynt, fel y lloffo hi hwynt; ac na cheryddwch hi.
2:17 Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr hwyr: a hi a ddyrnodd yr hyn a loffasai, ac yr oedd ynghylch ephah o haidd.
2:18 ¶ A hi a'i cymmerth, ac a aeth i'r ddinas: a'i chwegr a ganfu yr hyn a gasglasai hi: hefyd hi a dynnodd allan, ac a roddodd iddi yr hyn a weddillasai hi, wedi cael digon.
2:19 A dywedodd ei chwegr wrthi hi, Pa le y lloffaist heddyw, a pha le y gweithiaist? bydded yr hwn a'th adnabu yn fendigedig. A hi a fynegodd i'w chwegr pwy y gweithiasai hi gyd âg ef; ac a ddywedodd, Enw y gwr y gweithiais gyd âg ef heddyw, yw Boaz.
2:20 A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd, Bendigedig fyddo efe gan yr ARGLWYDD, yr hwn ni pheidiodd â'i garedigrwydd tu a'r rhai byw a'r rhai meirw. Dywedodd Naomi hefyd wrthi hi, Agos i ni yw y gwr hwnnw, o'n cyfathrach ni y mae efe.
2:21 A Ruth y Moabëes a ddywedodd, Efe a ddywedodd hefyd wrthyf, Gyd â'm llangciau i yr arhosi, nes gorphen ohonynt fy holl gynhauaf i.
2:22 A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd, Da yw, fy merch, i ti fyned gyd â'i langcesi ef, fel na ruthront i'th erbyn mewn maes arall.
2:23 Felly hi a ddilynodd langcesau Boaz i loffa, nes darfod cynhauaf yr haidd a chynhauaf y gwenith: ac a drigodd gyd â'i chwegr.

PENNOD 3

1 Ruth, trwy addysg Naomi, 5 yn gorwedd wrth draed Boaz. 8 Boaz yn cydnabod rhan cyfathrachwr, 14 ac yn ei danfon hi ymaith â chwe mesur o haidd.

3:1 YNA Naomi ei chwegr a ddywedodd wrthi, Fy merch, oni cheisiaf fi orphwysdra i ti, fel y byddo da i ti?
3:2 Ac yn awr onid yw Boaz o'n cyfathrach ni, yr hwn y buost ti gyd â'i langcesi? Wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr-dyrnu.
3:3 Ymolch gan hynny, ac ymira, a gosod dy ddillad am danat, a dos i waered i'r llawr-dyrnu: na fydd gydnabyddus i'r gwr, nes darfod iddo fwytta ac yfed.
3:4 A phan orweddo efe, yna dal ar y fan y gorweddo efe ynddi; a dos, a dinoetha ei draed ef, a gorwedd; ac efe a fynega i ti yr hyn a wnelych.
3:5 A hi a ddywedodd wrthi, Gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi.
3:6 ¶ A hi a aeth i waered i'r llawr-dyrnu, ac a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchmynasai ei chwegr iddi.
3:7 Ac wedi i Boaz fwytta ac yfed, fel y llawenhaodd ei galon, efe a aeth i gysgu i gwrr yr ysgafn. Hithau a ddaeth yn ddistaw, ac a ddinoethodd ei draed, ac a orweddodd.
3:8 ¶ Ac y'nghanol y nos y gwr a ofnodd, ac a ymdrôdd: ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef.
3:9 Ac efe a ddywedodd, Pwy ydwyt ti? A hi a ddywedodd, Myfi yw Ruth dy law-forwyn: lleda gan hynny dy adain dros dy law-forwyn, canys fy nghyfathrachwr i ydwyt ti.
3:10 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddych, fy merch, gan yr ARGLWYDD; dangosaist fwy o garedigrwydd yn y diwedd, nag yn y dechrau; gan nad aethost ar ol gwŷr ieuaingc, na thlawd na chyfoethog.
3:11 Ac yn awr, fy merch, nac ofna; yr hyn oll a ddywedaist, a wnaf i ti: canys holl ddinas fy mhobl a ŵyr mai gwraig rinweddol ydwyt ti.
3:12 Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfathrachwr agos: er hynny y mae cyfathrachwr nes na myfi.
3:13 Aros heno; a'r bore, os efe a wna ran cyfathrachwr â thi, da; gwnaed ran i cyfathrachwr: ond os efe ni wna ran cyfathrachwr â thi, yna myfi a wnaf ran cyfathrachwr â thi, fel mai byw yr ARGLWYDD: cwsg hyd y bore.
3:14 ¶ A hi a orweddodd wrth ei draed ef hyd y bore: a hi a gyfododd cyn yr adwaenai neb ei gilydd. Ac efe a ddywedodd, Na chaffer gwybod dyfod gwraig i'r llawr-dyrnu.
3:15 Ac efe a ddywedodd, Moes dy fantell sydd amdanat, ac ymafael ynddi. A hi a ymaflodd ynddi; ac efe a fesurodd chwe mesur o haidd, ac a'i gosododd arni: a hi a aeth i'r ddinas.
3:16 A phan ddaeth hi at ei chwegr, hi a ddywedodd, Pwy ydwyt ti, fy merch? A hi a fynegodd iddi yr hyn oll a wnaethai y gwr iddi hi.
3:17 A hi a ddywedodd, Y chwe mesur hyn o haidd a roddodd efe i mi: canys dywedodd wrthyf, Nid âi yn waglaw at dy chwegr.
3:18 Yna y dywedodd hithau, Aros, fy merch, oni wypech pa fodd y digwyddo y peth hyn: canys ni orphwys y gwr, nes gorphen y peth hyn heddyw.

PENNOD 4

1 Boaz yn galw y cyfathrachwr nesaf ger bron, 6 Yntau yn gwrthod rhyddhâu yr etifeddiaeth, yn ol y ddefod yn Israel. 9 Boaz yn prynu yr etifeddiaeth; 10 ac yn prïodi Buth. 13 Hithau yn dwyn Ohed, taid Dafydd. 18 Cenhedlaeth Phares.

4:1 YNA Boaz a aeth i fyny i'r porth, ac a eisteddodd yno. Ac wele y cyfathrachwr yn myned heibio, am yr hwn y dywedasai Boaz. Ac efe a ddywedodd wrtho, Ho, hwn a hwn! tyred yn nês; eistedd yma. Ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd.
4:2 Ac efe a gymmerth ddengwr o henuriaid y ddinas, ac a ddywedodd, Eisteddwch yma. A hwy a eisteddasant.
4:3 Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr, Y rhan o'r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab.
4:4 A dywedais y mynegwn i ti, gan ddywedyd, Pryn ef ger bron y trigolion, a cher bron henuriaid fy mhobl. Os rhyddhêi, rhyddhâ ef; ac oni ryddhêi, mynega i mi, fel y gwypwyf: canys nid oes ond ti i'w ryddhâu, a minnau sydd ar dy ol di. Ac efe a ddywedodd, Myfi a'i rhyddhâf.
4:5 Yna y dywedodd Boaz, Y diwrnod y prynech di y maes o law Naomi, ti a'i pryni hefyd gan Ruth y Moabëes, gwraig y marw, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef.
4:6 ¶ A'r cyfathrachwr a ddywedodd, Ni allaf ei ryddhâu i mi, rhag colli fy etifeddiaeth fy hun: rhyddhâ di i ti dy hun fy rhan i; canys ni allaf fi ei ryddhâu.
4:7 A hyn oedd ddefod gynt yn Israel, am ryddhâd, ac am gyfnewid, i sicrhâu pob peth: gwr a ddïosgai ei esgid, ac a'i rhoddai i'w gymmydog: a hyn oedd dystiolaeth yn Israel.
4:8 Am hynny y dywedodd y cyfathrachwr wrth Boaz, Pryn i ti dy hun: ac efe a ddïosgodd ei esgid.
4:9 ¶ A dywedodd Boaz wrth yr henuriaid, ac wrth yr holl bobl, Tystion ydych chwi heddyw, i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech, a'r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon, o law Naomi.
4:10 Ruth hefyd y Moabëes, gwraig Mahlon, a brynais i mi yn wraig, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na thorrer ymaith enw y marw o blith ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre: tystion ydych chwi heddyw.
4:11 A'r holl bobl y rhai oedd yn y porth, a'r henuriaid, a ddywedasant, Yr ydym yn dystion: Yr ARGLWYDD a wnelo y wraig sydd yn dyfod i'th dŷ di fel Rahel, ac fel Leah, y rhai a adeiladasant ill dwy dŷ Israel; a gwna di rymmusdra yn Ephratah, bydd enwog yn Bethlehem:
4:12 Bydded hefyd dy dŷ di fel tŷ Phares, yr hwn a ymddûg Tamar i Judah, o'r had yr hwn a ddyry yr ARGLWYDD i ti o'r llangces hon.
4:13 ¶ Felly Boaz a gymmerodd Ruth; a hi a fu iddo yn wraig: ac efe a aeth i mewn ati hi; a'r ARGLWYDD a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddûg fab.
4:14 A'r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn ni'th adawodd di heb gyfathrachwr heddyw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel.
4:15 Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes, ac yn ymgeleddwr i'th benwynni: canys dy waudd, yr hon a'th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion.
4:16 A Naomi a gymmerth y plentyn, ac a'i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu fammaeth iddo.
4:17 A'i chymmydogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.
4:18 ¶ Dyma genhedlaethau Phares: Phares a genhedlodd Hesron,
4:19 A Hesron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab,
4:20 Ac Aminadab a genhedlodd Nahson a Nahson a genhedlodd Salmon,
4:21 A Salmon a genhedlodd Boaz, a Boaz a genhedlodd Obed,
4:22 Ac Obed a genhedlodd Jesse, a Jesse a genhedlodd Dafydd.