LLYFR OBADIAH

1 Dinystr Edom, 3 am eu balchder, 10 ac am y cam a wnaethent i Jacob. 17 Iachawdwriaeth a buddugoliaeth Jacob.

1:1 GWELEDIGAETH Obadiah. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW am Edom; Clywsom sôn oddi wrth yr ARGLWYDD, a chennad a hebryngwyd ym mysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi.
1:2 Wele, mi a'th wneuthum yn fychan ym mysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt.
1:3 Balchder dy galon a'th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a'm tyn i'r llawr ?
1:4 Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ym mhlith y sêr, mi a'th ddisgynwn oddi yno, medd yr ARGLWYDD.
1:5 Pe deuai lladron attat, neu yspeilwyr nos, (pa fodd y'th dorrwyd ymaith !) oni ladrattasent hwy eu digon? pe daethai cynhullwyr grawnwin attat, oni weddillasent rawn?
1:6 Pa fodd y chwiliwyd Esau, ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef !
1:7 Yr holl wŷr y rhai yr oedd cyfammod rhyngot â hwynt, a'th yrrasant hyd y terfyn ; y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot â hwynt, a'th dwyllasant, ac a'th orfuant; bwyttâwyr dy fara a roddasant archoll danat : nid oes deall ynddo.
1:8 Oni ddinystriaf y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y doethion allan o Edom, a'r deall allan o fynydd Esau ?
1:9 Dy gedyrn di, Teman, a ofnant fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa.
1:10 Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob, gwarth a'th orchuddia, a thi a dorrir ymaith byth.
1:11 Y dydd y sefaist o'r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef, a myned o ddïeithriaid i'w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerusalem, tithau hefyd oeddit megis un o honynt.
1:12 Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dïeithriwvyd ef; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Judah, y dydd y difethwyd hwynt; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd.
1:13 Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd ell haflwydd; ïe, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt:
1:14 Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a ddïangai o hono; ac ni ddylesit roi i fynu y gweddill o hono ar ddydd yr adfyd.
1:15 Canys agos yw dydd yr ARGLWYDD ar yr holl genhedloedd: fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun.
1:16 Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad; ïe, yfant, a llyngcant, a byddant fel pe na buasent.
1:17 ir Ond ar fynydd Sïon y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd; a thŷ Jacob a berchennogant eu perchennogaeth hwynt
1:18 Yna y bydd tŷ Jacob yn dân, a thŷ Joseph yn fflam, a thŷ Esau yn sofl, a chynneuant ynddynt, a difânt hwynt; ac ni bydd un gweddill o dŷ Esau: canys yr ARGLWYDD a'i dywedodd.
1:19 Goresgyn y dehau hefyd fynydd Esau, a'r gwastadedd y Philistiaid; a pherchennogant feusydd Ephraim, a meusydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead;
1:20 A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sarephath; a chaethion Jerusalem, y rhai sydd yn Sepharad, a feddiannant ddinasoedd y dehau.
1:21 A gwaredwyr a ddeuant i fynu ar fynydd Sïon i farnu mynydd Esau: a'r frenhiniaeth fydd eiddo yr ARGLWYDD.