LLYFR MALACHI

PENNOD I


1 Malachi yn achwyn rhag angharedigrwydd Israel, 6 a'u hanghrefydd, 12 a'u halogrwydd.

1:1 BAICH gair yr ARGLWYDD at Israel trwy law Malachi.
1:2 Hoffais chwi, medd yr ARGLWYDD: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr hoffaist ni? Onid brawd oedd Esau i Jacob? medd yr ARGLWYDD: etto Jacob a hoffais,
1:3 Ac Esau a gaseais, ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffaethwch, a'i etifeddiaeth i ddreigiau yr anialwch.
1:4 Lle y dywed Edom, Tlodwyd ni, etto dychwelwn, ac adeiladwn yr anghyfannedd-leoedd; fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Hwy a adeiladant, ond minnau a fwriaf i lawr; a galwant hwynt yn Ardal drygioni, a'r Bobl wrth y rhai y llidiodd yr ARGLWYDD yn dragywydd.
1:5 Eich llygaid hefyd a welant, a chwithau a ddywedwch, Mawrygir yr ARGLWYDD oddi ar derfyn Israel.
1:6 ¶ Mab a anrhydedda ei dad, a gweinidog ei feistr: ac os ydwyf fi dad, pa le y mae fy anrhydedd? ac os ydwyf fi feistr, pa le y mae fy ofn? medd ARGLWYDD y lluoedd wrthych chwi yr offeiriaid, y rhai ydych yn dirmygu fy enw: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dirmygasom dy enw di?
1:7 Offrymmu yr ydych ar fy allor fara halogedig; a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr halogasom di? Am i chwi ddywedyd, Dirmygus yw bwrdd yr ARGLWYDD.
1:8 Ac os offrymmu yr ydych y dall yn aberth, onid drwg hynny? ac os ofirymmwch y cloff a'r clwyfus, onid drwg hynny? cynnyg ef yr awrhon i'th dywysog, a fydd efe boddlawn i ti? neu a dderbyn efe dy wyneb? medd ARGLWYDD y lluoedd.
1:9 Ac yn awr gweddïwch, attolwg, ger bron DUW, fel y trugarhao wrthym: o'ch llaw chwi y bu hyn: a dderbyn efe wyneb un o honoch? medd ARGLWYDD y lluoedd.
1:10 A phwy hefyd o honoch a gauai y dorau, neu a oleuai fy allor yn rhad? Nid oes gennyf foddlonrwydd ynoch chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd, ac ni dderbyniaf offrwm o'ch llaw.
1:11 Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawr fydd fy enw ym mysg y Cenhedloedd: ac ym mhob lle arogl-darth a offrymmir i'm henw, ac offrwm pur: canys mawr fydd fy enw ym mhlith y cenhedloedd, medd ARGLWYDD y lluoedd.
1:12 ¶ Ond chwi a'i halogasoch ef, pan ddywedasoch, Bwrdd yr ARGLWYDD sydd halogedig; a'i ffrwyth, sef ei fwyd, sydd ddirmygus.
1:13 Chwi hefyd a ddywedasoch, Wele, pa flinder yw! a ffroenasoch arno, medd ARGLWYDD y lluoedd; a dygasoch yr hyn a ysglyfaethwyd, a'r cloff, a'r clwyfus; fel hyn y dygasoch offrwm: a fyddaf fi foddlawn i hynny o'ch llaw chwi? medd yr ARGLWYDD.
1:14 Ond melldigedig yw y twyllodrus, yr hwn y mae yn ei ddïadell wrryw, ac a adduna ac a abertha un llygredig i'r ARGLWYDD: canys Brenhin mawr ydwf fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a'm henw sydd ofnadwy ym mhlith y cenhedloedd,

PENNOD II.

1 Y mae yn ceryddu yr offeiriaid yn dost, am esgeuluso eu cyfammod; 11 a'r bobl, am eu gau-dduwiaeth, 14 a'u godineb, 17 a'u hanffyddlondeb.

2:1 AC yr awr hon, chwi offeiriaid, i chwi y mae y gorchymyn hwn.
2:2 Oni wrandêwch, ac oni ystyriwch, i roddi anrhydedd i'm henw i, medd ARGLWYDD y lluoedd; yna mi a anfonaf felldith arnoch chwi, ac a felldithiaf eich bendithion chwi: ïe, myfi a'u melldithiais eisoes, am nad ydych yn ystyried.
2:3 Wele fi yn llygru eich had chwi, a thaenaf dom ar eich wynebau, sef tom eich uchel-wyliau; ac un a'ch cymmer chwi atto ef.
2:4 Hefyd cewch wybod mai myfi a anfonais attoch y gorchymyn hwn, fel y byddai fy nghyfammod â Lefi, medd ARGLWYDD y lluoedd.
2:5 Fy nghyfammod âg ef oedd am fywyd a heddwch; a mi a'u rhoddais hwynt iddo am yr ofn â'r hwn y'm hofnodd, ac yr arswydodd o flaen fy enw.
2:6 Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau: mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyd â mi, a llaweroedd a drodd efe oddi wrth anwiredd.
2:7 Canys gwefusau yr offeiriad a gadwant wybodaeth, a'r gyfraith a geisiant o'i enau ef: o herwydd cennad ARGLWYDD y lluoedd yw efe.
2:8 Ond chwi a giliasoch allan o'r ffordd, ac a barasoch i laweroedd dramgwyddo wrth y gyfraith; llygrasoch gyfammod Lefi, medd ARGLWYDD y lluoedd.
2:9 Am hynny minnau hefyd a'ch gwneuthum chwi yn ddirmygus ac yn ddïystyr gan yr holl bobl; megis na chadwasoch fy ffyrdd i, ond bod yn derbyn wynebau yn y gyfraith.
2:10 Onid un Tad sydd i ni oll? onid un DUW a'n creodd ni? paham y gwnawn yn anflfyddlawn bob un yn erbyn ei frawd, gan halogi cyfammod ein tadau?
2:11 ¶ Judah a wnaeth yn anffyddlawn, a ffieidd-dra a wnaethpwyd yn Israel ac yn Jerusalem: canys Judah a halogodd sancteiddrwydd yr ARGLWYDD, yr hwn a hoffasai, ac a brïododd ferch duw dïeithr.
2:12 Yr ARGLWYDD a dyrr ymaith y gwr a wnel hyn; yr athraw a'r disgybl o bebyll Jacob, ac offrymmydd offrwm i ARGLWYDD y lluoedd.
2:13 Hyn hefyd eilwaith a wnaethoch, gan orchuddio â dagrau allor yr ARGLWYDD trwy wylofain a gweiddi; fel nad edrych efe mwyach ar yr offrwm, ac na chymmer ef yn foddlawn o'ch llaw chwi.
2:14 ¶ Er hynny chwi a ddywedwch, Pa herwydd? herwydd mai yr ARGLWYDD a fu dyst rhyngot ti a rhwng gwraig dy ieuengctid, yr hon y buost anffyddlawn iddi; er ei bod yn gymmar i ti, ac yn wraig dy gyfammod.
2:15 Onid un a wnaeth efe? a'r yspryd y'ngweddill ganddo. A phaham un? I geisio had duwiol. Am hynny gwyliwch ar eich yspryd, ac na fydded neb anffyddlawn yn erbyn gwraig ei ieuengctid.
2:16 Pan gasâech di hi, gollwng hi ymaith, medd yr ARGLWYDD, DUW Israel: canys gorchuddio y mae efe drais â'i wisg, medd ARGLWYDD y lluoedd: gan hynny gwyliwch ar eich yspryd, na fyddoch anffyddlawn.
2:17 ¶ Blinasoch yr ARGLWYDD â'ch geiriau: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y blinasom ef? Am i chwi ddywedyd, Pob gwneuthurwr drwg sydd dda y'ngolwg yr ARGLWYDD, ac iddynt y mae efe yn foddlawn; neu, Pa le y mae DUW y farn?

PENNOD III.

1 Cennad, a mawrhydi, a gras Crist. 7 Anufudd-dod, 8 a chyssegr-ladrad, 13 ac anffyddlondeb y bobl. 16 Addaw bendith iddynt oddi wrth Dduw.

3:1 WELE fi yn anfon fy nghennad, ac efe a arloesa y ffordd o'm blaen i: ac yn ddisymmwth y daw yr ARGLWYDD, yr hwn yr ydych yn ei geisio, i'w deml; sef angel y cyfammod yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd ARGLWYDD y lluoedd.
3:2 Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a phwy a saif pan ymddangoso efe? canys y mae efe fel tân y toddydd, ac fel sebon y golchyddion.
3:3 Ac efe a eistedd fel purwr a glanhâwr arian: ac efe a bura feibion Lefi, ac a'u coetha hwynt fel aur ac fel arian, fel y byddont yn offrymmu i'r ARGLWYDD offrwm mewn cyfiawnder.
3:4 Yna y bydd melus gan yr ARGLWYDD offrwm Judah a Jerusalem, megis yn y dyddiau gynt, ac fel y blynyddoedd gynt.
3:5 A mi a nesâf attoch chwi i farn; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion, ac yn erbyn y godinebwyr, ac yn erbyn yr anudonwyr, ac yn erbyn cam-attalwyr cyflog y cyflogedig, a'r rhai sydd yn gorthrymmu y weddw, a'r amddifad, a'r dieithr, ac heb fy ofni i, medd ARGLWYDD y lluoedd.
3:6 Canys myfi yr ARGLWYDD ni'm newidir; am hynny ni ddifethwyd chwi, meibion Jacob.
3:7 ¶ Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddi wrth fy neddfau, ac ni chadwasoch hwynt: dychwelwch attaf fi, a mi a ddychwelaf attoch chwithau, medd ARGLWYDD y lluoedd: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dychwelwn?
3:8 ¶ A yspeilia dyn DDUW? etto chwi a'm hyspeiliasoch i: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y'th yspeiliasom? Yn y degwm a'r offrwm.
3:9 Melldigedig ydych trwy felldith: canys chwi a'm hyspeiliasoch i, sef yr holl genedl hon.
3:10 Dygwch yr holl ddegwm i'r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhŷ; a phrofwch fi yr awr hon yn hyn, medd ARGLWYDD y lluoedd, onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith, fel na byddo digon o le i'w derbyn.
3:11 Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: a'r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd.
3:12 A'r holl genhedloedd a'ch galwant chwi yn wýnfydedig: canys byddwch yn wlad hyfryd, medd ARGLWYDD y lluoedd.
3:13 ¶ Eich geiriau chwi a ymgryfhaodd i'm herbyn, medd yr ARGLWYDD: etto chwi a ddywedwch. Pa beth a ddywedasom ni yn dy erbyn di?
3:14 Dywedasoch, Oferedd yw gwasanaethu DUW: a pha lesiant sydd er i ni gadw ei orchymynion ef, ac er i ni rodio yn alarus ger bron ARGLWYDD y lluoedd?
3:15 Ac yr awr hon yr ydym yn galw y beilchion yn wýnfydedig: ïe, gweithredwyr drygioni a adeiladwyd; ïe, y rhai a demtiant DDUW, a waredwyd.
3:16 ¶ Yna y rhai oedd yn ofni yr ARGLWYDD a lefarasant bob un wrth ei gymmydog: a'r ARGLWYDD a wrandawodd, ac a glybu; ac ysgrifenwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i'r rhai oedd yn ofni yr ARGLWYDD, ac i'r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef.
3:17 A byddant eiddof fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, y dydd y gwnelwyf brïodoledd; arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gwr ei fab sydd yn ei wasanaethu.
3:18 Yna y dychwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a'r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho DDUW a'r hwn nis gwasanaetho ef.

PENNOD IV.

1 Barn Duw ar yr enwir, 2 a'i fendith ar y daionus. 4 Y mae yn eu hannog i fyfyrio ar y gyfraith; 5 ac yn adrodd iddynt ddyfodiad a swydd Elïas.

4:1 CANYS wele y dydd yn dyfod yn llosgi megis ffwrn; a'r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a'r dydd sydd yn dyfod a'u llysg hwynt, medd ARGLWYDD y lluoedd, fel nas gadawo iddynt na gwreiddyn na changen.
4:2 ¶ Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, â meddyginiaeth yn ei esgyll; a chwi a ewch allan, ac a gynnyddwch megis lloi pasgedig.
4:3 A chwi a fethrwch yr annuwiolion; canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi, yn y dydd y gwnelwyf hyn, medd ARGLWYDD y lluoedd.
4:4 ¶ Cofiwch gyfraith Moses fy ngwas, yr hon a orchymynais iddo ef yn Horeb i holl Israel, y deddfau a'r barnedigaethau.
4:5 ¶ Wele, mi a anfonaf i chwi Elïas y prophwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ofhadwy yr ARGLWYDD:
4:6 Ac efe a dry galon y tadau at y plant, a chalon y plant at eu tadau; rhag i mi ddyfod a tharo y ddaear â melldith.